Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Ac wrth inni gychwyn ar ein gwaith yr wythnos yma, eto dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cadw mewn cof pobl Wcráin ar y foment yma, a heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod ni'n cofio yn benodol y menywod a'r merched hynny sydd ar hyn o bryd yn Wcráin yn ceisio ffoi eu gwlad, neu'n ceisio osgoi a chuddio oddi wrth y bomio ar eu gwlad. Felly, cadwn ni nhw i gyd yn ein cof a'n calonnau.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol yng ngogledd Cymru? OQ57754
Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn yna, Llywydd. Darparwyd cysylltedd band eang ffeibr llawn i 9,200 o gartrefi a busnesau ledled y gogledd drwy ein buddsoddiad presennol o £56 miliwn. Mae cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a'r gronfa band eang lleol hefyd ar gael i wella cysylltedd band eang.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Ni fu cysylltedd digidol erioed yn bwysicach, ac mae angen gweithredu ar frys i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl. Er mwyn i seilwaith band eang fod yn gost-effeithiol, bydd angen ei gynllunio yn gynhwysfawr gyda manteision hirdymor mewn golwg sy'n gwasanaethu pawb. Mae cymunedau ar draws y gogledd, gan gynnwys Cymru wledig, yn cael gwasanaeth annigonol gan ddarparwyr corfforaethol gan eu bod nhw'n cynnig llai o elw. Byddai gosod rhwydwaith o'r fath yn helpu i liniaru allgáu digidol, yn creu swyddi medrus ac yn denu diwydiannau uwch-dechnoleg. Yn Lerpwl, hyrwyddwyd prosiect menter ar y cyd gan faer metro dinas Lerpwl, Steve Rotheram, ac mae'r bartneriaeth hon yn golygu bod buddsoddiad cyhoeddus yn rhoi cyfran i'r awdurdod yn y sefydliad, ac, yn sgil hynny, yn hytrach na chael elw fel yr unig ystyriaeth, gall budd cymdeithasol, a'r cyhoedd barhau i elwa am flynyddoedd i ddod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai prosiect menter ar y cyd o'r fath o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru, ac a fyddai swyddogion yn fodlon ymchwilio i ddewis o'r fath i fwrw ymlaen yn ddynamig â chysylltedd digidol yn y gogledd, sy'n digwydd ar sail dameidiog ac araf iawn ar hyn o bryd? Diolch.
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Rwy'n falch o allu dweud wrthi fod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â'r cwmni sy'n gweithio gyda'n cydweithiwr Steve Rotheram, yn ninas-ranbarth Lerpwl ac yn datblygu'r ateb arloesol iawn hwnnw ar gyfer y ddinas honno. Byddwn yn parhau i weithio drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd wedi gwneud cysylltedd digidol yn un o'u meysydd blaenoriaeth. Mae £25 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer cysylltedd digidol, ac fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, ceir pedair elfen wahanol i'r cynllun y mae bargen twf y gogledd wedi ei ddatblygu: campysau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc fynediad at fand eang; coridorau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod busnesau yn gysylltiedig; safleoedd allweddol, cyhoeddus a phreifat; ac yna cyrraedd yr ychydig y cant olaf o bobl sydd ar y pen caletaf, mwyaf pell o gysylltedd digidol. Gellid gwasanaethu tri o'r pedwar diben hynny drwy drefniant o'r math a ddatblygwyd yn ninas-ranbarth Lerpwl, a byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'r bwrdd uchelgais economaidd i weld a ellid trosglwyddo'r syniad a ddatblygwyd yn Lerpwl ac agweddau ar hwnnw, yn llwyddiannus yn rhan o'r ymdrech sy'n cael ei gwneud yn y gogledd.
Prif Weinidog, er bod BT wedi cael tua £220 miliwn i ddod â band eang cyflym iawn i tua 96 y cant o adeiladau rhwng 2014 a 2018, a bod y sefydliad yn rhedeg cynllun olynol ar hyn o bryd i gysylltu 39,000 o adeiladau, mae'n dal i fod yn ffaith bod safleoedd ledled Cymru sydd â rhyngrwyd annibynadwy. Ac yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae gen i bobl nad ydyn nhw'n gallu dderbyn unrhyw wasanaeth. Felly, yn ôl Busnes Cymru, gall band eang cyflym iawn gael effaith gadarnhaol ar elw, costau cynhyrchiant staff, a llawer mwy. Nawr, o gofio'r budd na ellir ei wadu, un cam yr wyf i'n teimlo y gallech chi fel ein Prif Weinidog ei gymryd ar unwaith i ddarparu canolfan rhyngrwyd cyflym iawn i fusnesau yn Aberconwy yw addasu o leiaf ran o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio yng Nghyffordd Llandudno—adeilad Llywodraeth Cymru—i ddod yn ganolfan gweithio digidol hyblyg. Nawr, fe wnaethoch chi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r syniad hwn ar 9 Tachwedd, felly byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn wych, oherwydd, dywedaf wrthych chi nawr, rwyf i wedi cael ymholiadau gan fusnesau a hoffai fynd i mewn i'r adeilad hwnnw. Ysgrifennais atoch chi ar 21 Ionawr, ac nid wyf i wedi cael ateb eto, felly byddai diweddariad yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod. Mae'n dda ei gweld hi'n gwneud ei rhan ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar feinciau'r Torïaid yn y Siambr hon. Bydd yn gwybod nad yw cysylltedd digidol a thelathrebu wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae pob ceiniog y mae'r Llywodraeth hon yn ei gwario yn y maes hwn yn geiniog yr ydym ni'n ei gwario oherwydd methiant ei Llywodraeth hi i fuddsoddi yn iawn yng Nghymru. Ac rwy'n cofio, Llywydd, fel y bydd pobl eraill, bod ei phlaid hi wedi mynd i etholiadau diwethaf y Senedd, ym mis Mai y llynedd, ag ymrwymiad maniffesto i beidio â gwario mewn meysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, er ei bod hi'n fy annog i wneud mwy, pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod mewn grym, nid yw'n debygol wrth gwrs, ond pe bai hynny wedi digwydd yma, ni fyddai unrhyw wariant o gwbl ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, oherwydd dyna'r polisi a roddodd ei phlaid o flaen pobl Cymru, i gael ei wrthod, wrth gwrs, mor gynhwysfawr, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn band eang cyflym iawn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys swyddfa Cyffordd Llandudno.
Fe wnes i ymateb yn gadarnhaol i'r Aelod. Rydym ni'n awyddus iawn i gael canolfannau gweithio o bell, lle gall pobl ddod, lle nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio'r pellteroedd y bu'n rhaid iddyn nhw eu teithio yn y gorffennol, i ddysgu gwersi'r pandemig, ac i ddefnyddio adeiladau at fwy nag un diben—boed hynny yng nghyd-destun Cyffordd Llandudno, defnydd Llywodraeth Cymru ohono, ond efallai y bydd yn bosibl i'r adeilad gael ei ddefnyddio at ddibenion ehangach, gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector, partneriaid yn y sector preifat mewn nifer o'r canolfannau rydym ni wedi eu datblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, mae hon yn rhaglen sy'n datblygu yn barhaus. Mae'n anochel, fel y gwn y bydd yr Aelod yn deall, bod rhai materion diogelwch ychwanegol y mae'n rhaid meddwl amdanyn nhw pan fyddwch chi'n caniatáu mynediad ehangach i adeilad lle mae gwybodaeth sensitif yn cael ei dosbarthu, a diogelwch staff a defnyddwyr eraill. Ond gallaf ei sicrhau bod y syniad sylfaenol yn un yr ydym ni'n parhau i feddwl amdano yn gadarnhaol ac yn dymuno bwrw ymlaen ag ef.
Rwy'n datgan buddiant fel aelod o gonsortiwm prosiect 5G y Pwyllgor Datblygu Economaidd—aelod di-dâl, Llywydd. Rydym ni wedi clywed am fanteision cymdeithasol sylfaen ffeibr llawn yn y gogledd, Prif Weinidog, ond mantais arall o gael y rhwydwaith hwnnw yn y gogledd yw'r gallu i fynd ymlaen a datblygu technoleg 5G ar gyfer y dyfodol, mewn cymunedau gwledig sydd efallai yn anodd eu cyrraedd gyda dulliau traddodiadol. Hoffwn weld y gogledd yn arweinydd byd-eang yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed eto lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi siomi'r gogledd o ran technoleg ffeibr llawn yn y maes hwn. Prif Weinidog, gwn fod swyddogion eisoes wedi cael sgyrsiau, ond a wnewch chi eu cyfarwyddo nhw i gael sgyrsiau pellach gyda Phrifysgol Bangor a'u partneriaid i ddatblygu'r math hwn o dechnoleg fel y gallwn ni ddod yn arweinydd byd-eang? A sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi ymhellach, wrth ariannu'r mathau hyn o brosiectau, lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU, a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn methu â gwneud hynny?
Llywydd, mae honna yn enghraifft dda iawn y mae Jack Sargeant yn cyfeirio ati o'r union bwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn gynharach, am y ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i wneud iawn am y diffyg buddsoddiad—nid dim ond diffyg buddsoddiad, ond diffyg diddordeb, Llywydd—i wneud yn siŵr bod gan rannau o'r gogledd y buddsoddiad sydd ei angen. Mae Jack Sargeant yn iawn, Llywydd—mae ein swyddogion eisoes wedi cael trafodaethau gyda'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Mae'n brosiect arall lle mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o ddatblygiad y ganolfan, gan gynnwys rhai miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad ymarferol. Mae cais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei weld, ac y bydd yn ei ystyried, i ariannu gwaith ymchwil i 5G ac i ddarparu prosiectau band eang 5G, yn enwedig ar Ynys Môn, a bydd fy swyddogion, yn wir, yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda'r ganolfan.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru? OQ57734
Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn, Llywydd. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid cyfiawnder drwy fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol yn mynd i’r afael â gwahaniaethu yn y system gyfiawnder. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cadeirio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, lle bydd y materion hyn yn cael eu trafod.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, a diolch yn fawr am waith y Llywodraeth yma o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru sydd, drwy ryw ryfedd wyrth, heb gael ei ddatganoli i Gymru.
Nawr, rydym ni'n gwybod ers degawdau am y rhagfarnau a wynebir gan bobl o leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder yn fyd-eang. Yr hyn nad oeddem ni'n ei wybod, tan y blynyddoedd diwethaf, yw ei bod yn ymddangos bod rhagfarn hiliol yn y system gyfiawnder yng Nghymru yn waeth yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Trwy waith Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, rydym ni bellach yn gwybod bod troseddwyr du yn cael yr hyd dedfryd o garchar cyfartalog uchaf yng Nghymru, tra bod troseddwyr gwyn yn cael yr hyd dedfryd o garchar cyfartalog isaf. Mae data stopio a chwilio newydd gan y ganolfan llywodraethiant yn dangos bod pethau yng Nghymru yn llawer gwaeth nag yn Lloegr. O bob 1,000 o bobl wyn sy'n byw yng Nghymru, stopiwyd a chwiliwyd wyth ohonyn nhw, ac mae hyn yn cymharu â 56 o bob 1,000 o bobl yn y gymuned bobl ddu yng Nghymru. Roedd unigolion o gefndiroedd du, ethnig yng Nghymru wedi'u gorgynrychioli saith gwaith yn nefnydd yr heddlu o ataliaeth, wedi'u gorgynrychioli chwe gwaith yn nefnydd yr heddlu o arfau, fel tasers. Nawr, mae'r rhain yn ffigurau gwarthus, a ddylai beri pryder i bob un ohonom ni yn y Siambr hon. Rwy'n falch bod Cymru yn cael ei galw yn genedl o loches, ond ni ellir ei galw yn genedl wirioneddol o loches os yw pobl yn y boblogaeth ddu yn llawer mwy tebygol o gael eu llusgo i mewn i'r system cyfiawnder troseddol na'u cymheiriaid gwyn. Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog sefydlu ymchwiliad i ddadansoddi graddau'r rhagfarn hiliol yn ein system gyfiawnder fel y gallwn ni ddeall pam y mae'n digwydd a mynd i'r afael â hynny yn llawn? Diolch yn fawr.
Wel, diolch i Rhys ab Owen am hynna, ac rwy'n llongyfarch Canolfan Llywodraethiant Cymru ar y gwaith parhaus y maen nhw'n ei wneud a'r wybodaeth bwysig ond llwm iawn y maen nhw'n ei rhoi i ni drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o ran stopio a chwilio yn amlwg yn peri pryder mawr yn wir, ond maen nhw'n dod ar ben y gwaith yr ydym ni eisoes wedi ei weld o'r ganolfan. Mae'n ffigur brawychus, ac rwy'n siŵr y bydd yn frawychus i bobl o amgylch y Siambr gyfan pan fydd y gwaith ymchwil hwnnw yn datgelu'r ffaith, er bod 14 o bobl wyn yng Nghymru yn cael eu carcharu o bob 100,000 o bobl yn y boblogaeth, bod 91 o bobl ddu yn cael eu carcharu, ac mae hwnnw yn ddadansoddiad brawychus. Dyna pam, yn y cydweithrediad rhwng ein dwy blaid, y mae gennym ni ymrwymiad penodol i sicrhau bod elfennau cyfiawnder y cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol yn gadarn ac yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd, a dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â'r ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â'r ffigurau yr ydym ni wedi eu trafod y prynhawn yma.
Heb os nac oni bai yr ateb hirdymor, Llywydd, yw datganoli plismona a chyfiawnder. A'm cred i yw nad yw hynny'n fater o ba un a fydd yn digwydd, mae'n fater o ba bryd y bydd yn digwydd. Dylai ddigwydd ac fe fydd yn digwydd, ac mae hynny oherwydd bod y ddadl dros wneud hynny mor eglur ac yn cael ei hatgyfnerthu gan yr union wybodaeth y mae Rhys ab Owen wedi tynnu sylw ati y prynhawn yma. Lle'r ydym ni wedi gallu cael dylanwad cryf, Llywydd, yna rydym ni'n dangos y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud. Mae'n debyg bod ein dylanwad wedi bod ar ei gryfaf ym maes cyfiawnder ieuenctid. Ddegawd yn ôl, yn 2011, daethpwyd â dros 3,000 o bobl ifanc i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf y flwyddyn honno. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, y llynedd, roedd y ffigur hwnnw yn llai na 400. Eto, yn ôl yn 2011, cafodd 109 o bobl ifanc yng Nghymru eu dedfrydu i'r ddalfa y flwyddyn honno. Y llynedd, 17 oedd y nifer, y ffigur isaf erioed ar gofnod. A dyna pam yr wyf i'n teimlo'n ffyddiog y byddwn ni'n gweld plismona a chyfiawnder yn cael ei ddatganoli, oherwydd gallwn ddangos, pan gawn ni'r cyfle, ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol. Oherwydd pan fyddan nhw'n cael eu darparu yn lleol gellir eu teilwra, eu blaenoriaethu a'u gweithredu yn unol â'r gwerthoedd a'r dull yr hoffem ni eu gweld ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, canfu adroddiad 'Children in Custody' Arolygiaeth Carchardai EM bod nifer anghymesur o uchel o blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y system cyfiawnder troseddol. Yn nodweddiadol, mae 11 y cant o blant mewn canolfannau hyfforddi diogel a 6 y cant o blant mewn sefydliadau troseddau ieuenctid yn dod o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr, o'i gymharu â 0.1 y cant o'r boblogaeth gyfan. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith bod plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael mwy o anhawster yn ymgysylltu â thimau troseddau ieuenctid a darpariaeth addysg pan fyddan nhw yn y ddalfa. Mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth iawn, ond mae'n ymddangos bod cysylltiad â phryd y caiff plant eu cymryd i'r ddalfa am y tro cyntaf a'u profiad a'u canlyniadau cyffredinol. Canfuwyd nad yw teulu a ffrindiau sy'n gweithredu fel oedolion priodol bob amser yn deall y prosesau dan sylw, ac yn ogystal, gall y plant yn y ddalfa hefyd deimlo eu bod wedi'u llethu. Mae hyn wedyn yn arwain at deimladau o ddrwgdybiaeth ac ynysigrwydd gan blant pan fyddan nhw yn y ddalfa. Prif Weinidog, a allech chi egluro pa gamau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd o ran gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i nodi anghenion penodol plant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru pan fyddan nhw'n mynd i'r system cyfiawnder troseddol? Pa gymorth ychwanegol sydd ei angen yn eich barn chi ar blant o'r cymunedau hyn? Diolch.
Mae'r rheini i gyd yn bwyntiau pwysig iawn y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Yr un ffordd fwyaf yr ydym ni wedi gallu mynd i'r afael â'r her honno yng Nghymru, fel y dywedais yn gynharach, yw lleihau cyfanswm nifer y plant o Gymru sy'n cael eu hunain yn y ddalfa o flwyddyn i flwyddyn, i'r ffigur isaf erioed y llynedd. Bydd hynny yn golygu ein bod ni wedi gallu cael budd i'r bobl ifanc hynny o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ond, mae angen gwneud mwy, rydym ni'n gwybod, oherwydd y gwahaniaethu a'r anfantais y mae plant o'r cefndiroedd hynny yn eu hwynebu. Mae gennym ni fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn darparu gwasanaethau penodol i helpu i ddiwallu anghenion y cymunedau hynny ac mae'r arbenigedd hwnnw ar gael i bobl sy'n gweithio yn ein system cyfiawnder ieuenctid. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n annheg i mi, Llywydd, hyd yn oed gyda'r hyn a oedd yn gwestiwn adeiladol iawn, dynnu sylw at y ffaith bod deddfwriaeth yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, a gyflwynwyd gan y Blaid Geidwadol, a fydd yn arwain at droseddoli mwy o bobl o'r gymuned honno, deddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad iddi.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Prif Weinidog—Llywydd, mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Dydych chi ddim wedi cael y dyrchafiad eto. Prif Weinidog, mae Rwsia a Wcráin yn cynhyrchu tua thraean o allforion gwenith y byd. Mae Wcráin, yn hanesyddol, wedi cael ei hadnabod fel basged fara Ewrop, ond oherwydd y digwyddiadau ofnadwy yr ydym ni'n eu gweld yn datblygu yn y rhan hon o'r byd, mae cost gwenith, er enghraifft, wedi cynyddu traean, ac mae blaen-farchnadoedd yn dangos pris gwenith yn dyblu. Nid yw'n fater o wenith yn unig, ond gwrtaith a llawer o agweddau sylfaenol eraill ar gynhyrchu bwyd sy'n mynd drwy'r to o ran eu prisiau, ac nid oes digon ar gael. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddeall yr effaith ar gynhyrchu bwyd yma yng Nghymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gall eu cymryd i leddfu rhai o'r pwysau hyn yr ydym ni'n eu gweld ar farchnad fyd-eang?
Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am effeithiau ehangach y gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin. Mae Rwsia a Wcráin, rhyngddyn nhw, yn darparu tua 30 y cant o allforion gwenith byd-eang. Nid ydym ni mor agored yn uniongyrchol i hynny yn y Deyrnas Unedig â rhannau eraill o'r byd. Yn wir, y rhannau tlotach o'r byd sy'n cael eu hamlygu yn fwy uniongyrchol—daw 90 y cant, er enghraifft, o wenith a ddefnyddir yn Lebanon o Rwsia, tra ein bod ni 88 y cant yn hunangynhaliol o ran gwenith. Ond, bydd prisiau byd-eang yn codi yn y ffordd y nododd yr Aelod gyda'r effaith ar gynhyrchu yn effeithio arnom ni yma yn y Deyrnas Unedig. Daw pedwar deg y cant o gyflenwad potash y byd o Belarws a Rwsia, a daw allforion sylweddol o amonia, a ddefnyddir hefyd wrth gynhyrchu gwrtaith, o'r un rhan o'r byd.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o'r graddau y bydd Cymru yn agored, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd ond pethau eraill hefyd. Mae pris nicel wedi dyblu yr wythnos hon ar farchnad y byd ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn diwydiannau sy'n bwysig yma yng Nghymru—sglodion lled-ddargludyddion, ffonau clyfar, cerbydau trydan ac yn y blaen, ac amrywiaeth o bethau eraill. Felly, ein gwaith ni, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, yw cynnal yr asesiad gorau y gallwn ni o'r effaith yma yng Nghymru ac yna defnyddio'r cyfleoedd sydd gennym ni i fwydo'r wybodaeth honno i'r asesiad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Oherwydd y penderfyniadau allweddol y gellir eu gwneud er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r canlyniadau hyn fydd y cyfrifoldeb a fydd yn cael ei gyflawni orau ar lefel y DU. Rydym ni'n parhau i gael cyfleoedd lle gallwn ni wneud yn siŵr bod y wybodaeth a'r dadansoddiad gorau sydd ar gael y gallwn ni eu darparu o safbwynt Cymru yn cael eu bwydo i'r broses barhaus honno.
Prif Weinidog, dywedodd prif weithredwr Yara, sef cynhyrchydd gwrtaith mwyaf y byd, nad yw'n fater o ba un a fyddwn ni'n dioddef prinder bwyd, mae'n fwy o achos o faint y prinder bwyd hwnnw oherwydd digwyddiadau yn Wcráin. Mae gennym ni Fil amaethyddiaeth yn dod gerbron y Senedd, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gweinidog ym mis Ebrill. Newidiodd y ddynameg yn sylfaenol bythefnos yn ôl pan ymosododd Putin ar fasged fara Ewrop. A ydych chi'n gweld o'ch dealltwriaeth o'r sefyllfa bod angen gwneud newidiadau yn y Bil amaethyddiaeth hwnnw? Mae'n Fil amaethyddiaeth a fydd y Bil amaethyddiaeth cyntaf ers 75 mlynedd, a bydd yn llywio cyfeiriad polisi a chymhellion a allai fod ar gael i'r diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru i wneud iawn am y gwahaniaeth, er mewn capasiti cyfyngedig oherwydd y màs tir y mae Cymru yn ei ffurfio yn rhan o fàs tir ehangach y gadwyn cyflenwi bwyd fyd-eang. Ond mae'n gyfle pwysig i ystyried y byd newydd yr ydym ni'n byw ynddo heddiw, a bydd y Bil hwnnw yn elfen sylfaenol i wneud iawn am rai o'r gwahaniaethau hyn.
Bydd y Bil amaethyddiaeth, wrth gwrs, yn cefnogi cynhyrchu bwyd gan ffermwyr Cymru, ac mae angen, mae'r Aelod yn iawn, ystyried natur newidiol y farchnad yn hynny o beth. Ond, bydd y Bil amaethyddiaeth hefyd yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cynhyrchu nwyddau cyhoeddus y mae'r cyhoedd yn barod i dalu amdanyn nhw. Bydd y ddwy agwedd hynny ar y Bil yn parhau i fod yn bwysig. Lle gall ffermwyr gynhyrchu bwyd y mae marchnad ar ei gyfer, bydd y Bil yn darparu'r mecanweithiau ar gyfer cefnogi hynny, ond mae pethau pwysig iawn eraill y mae ffermwyr yn eu gwneud yr ydym ni'n credu fod gan y cyhoedd ddiddordeb yn eu cefnogi, a bydd y Bil yn darparu ar gyfer yr agweddau hynny hefyd.
Prif Weinidog, mae digwyddiadau bythefnos yn ôl wedi symud diogelwch bwyd i fod yn ystyriaeth flaenllaw, byddwn yn awgrymu, ac mae holl gyfrifoldeb polisi amaethyddol yn perthyn i feinciau eich Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ystyried yr elfennau newydd sy'n ein hwynebu a'r heriau a'r cyfleoedd newydd sy'n ein hwynebu pan gaiff y Bil hwnnw ei gyflwyno i ni yma ym mis Ebrill. Lluniodd Llywodraeth Iwerddon, rai blynyddoedd yn ôl, ddogfen bolisi o'r enw 'Food Harvest 2020'. Yn y ddogfen honno, daethant â'r ffermwyr, y proseswyr a'r manwerthwyr at ei gilydd i greu consensws ynghylch sut i ymateb i'r her o gynhyrchu mwy o fwyd yng Ngweriniaeth Iwerddon. A wnewch chi, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin, drefnu uwchgynhadledd fwyd o ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gallan nhw lywio gwaith datblygu polisi a chanlyniadau Llywodraeth Cymru fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd, a chwarae ein rhan yn nodau diogelwch bwyd cyffredinol y wlad hon?
Bydd grŵp rhyngweinidogol, sy'n dod â Gweinidogion o bob rhan o'r Deyrnas Unedig at ei gilydd, ar 21 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ddiogelwch bwyd gael ei roi ar agenda'r grŵp rhyngweinidogol hwnnw. Byddaf yn gofyn i fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths drafod gyda'i chysylltiadau yn niwydiant amaethyddol Cymru, y mae hi mewn cysylltiad â nhw drwy'r amser, pan fydd y cyfarfod hwnnw wedi'i gynnal, i archwilio gyda nhw a fyddai cyfarfod o'r math y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei awgrymu o werth iddyn nhw. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru bob amser raddnodi ein cynigion yng ngoleuni amgylchiadau sy'n newid. Bydd gan y Bil amaethyddiaeth gyd-destun newydd yn sgil y digwyddiadau yn Wcráin, ond mae wedi cael cyd-destun newydd o ganlyniad i gytundebau masnach a drawyd gydag Awstralia a Seland Newydd hefyd—cytundebau masnach sy'n elyniaethus i fuddiannau amaethyddiaeth Cymru, ac sydd hefyd yn rhan o'r cyd-destun y mae'n rhaid i'r Bil hwnnw gael ei gyflwyno ynddo.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n amhosibl peidio â meddwl am y nifer fawr o fenywod hynny o Wcráin, llawer ohonyn nhw â phlant, wedi blino, wedi'u trawmateiddio, yn anobeithiol, ar ôl teithio allan o ardal ryfel ac ar draws cyfandir Ewrop dim ond i gael eu troi i ffwrdd yn Calais gan swyddogion Llywodraeth y DU a chael clywed bod yn rhaid iddyn nhw fynd i Baris neu i Frwsel i wneud cais am fisa. Ble mae dyngarwch Llywodraeth Prydain pan fo'n gwneud rhywbeth mor ofnadwy o oergalon â hynny? Cymharwch hynny â'r carpedi coch a gyflwynwyd a'r fisâu euraid a roddwyd i ffrindiau oligarch Rwsiaidd Prif Weinidog y DU. Cymharwch hynny â'r sefyllfa yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd eisoes wedi croesawu dros 1,800 o ffoaduriaid heb fisâu, chwe gwaith y nifer sydd wedi cael fisâu gan y DU hyd yn hyn, gwladwriaeth 10 gwaith maint Gweriniaeth Iwerddon. Onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU ddangos y synnwyr o frys moesol y mae sefyllfa o'r difrifoldeb hwn, yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd, yn deilwng ohono?
Bob tro y byddaf i'n cyfarfod â Gweinidogion y DU yng nghyswllt digwyddiadau yn Wcráin, maen nhw'n fy sicrhau bod Llywodraeth y DU eisiau gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu ar gyfer pobl a fydd eisiau teithio i'r wlad hon oherwydd y sefyllfa enbyd y maen nhw'n ei hwynebu yno. Yr hyn y mae arnom ni ei angen yn ddirfawr yw gweld y bwriadau hynny yn cael eu troi'n wasanaethau ar lawr gwlad y gall y bobl hynny eu defnyddio a'u defnyddio mewn ffordd sy'n cydnabod yr amgylchiadau y maen nhw'n eu hwynebu bellach. Mae'r adroddiadau o'r hyn sydd wedi digwydd yn Calais wedi niweidio enw da'r wlad hon ledled y byd. Pan ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn anfon 'tîm ymchwydd' i Calais i helpu pobl, canfuwyd mai tri o bobl oedd hwn â bocs o KitKats a chreision. Sut gall Llywodraeth y DU feddwl o bosibl y bydd pobl o dan yr amgylchiadau hynny yn gallu gwneud eu ffordd ar draws cyfandir Ewrop i brifddinasoedd pellach eto? Os byddan nhw'n cyrraedd Brwsel, nid yn unig y mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno, ond mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno ar y diwrnod iawn, oherwydd dim ond am hanner yr wythnos y mae'r gwasanaeth sydd ar gael ar agor. Nid dyma'r hyn y mae pobl yn y wlad hon yn disgwyl i'w Llywodraeth ei wneud o gwbl. Mae lefel yr haelioni a ddangoswyd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig tuag at bobl sydd angen ein cymorth nawr yn gwbl drawiadol, onid yw? Maen nhw'n disgwyl i'w Llywodraeth ymateb yn yr un modd. Dydyn nhw ddim yn disgwyl i bobl sy'n byw yn y wlad hon eisoes, sy'n ddinasyddion Prydain eisoes, gael eu troi i ffwrdd yn Calais a chael clywed nad yw'r darn cywir o bapur ganddyn nhw a bod yn rhaid iddyn nhw ganfod eu ffordd nawr i rywle arall. Rwyf i wir yn credu mai dyma'r diwrnod lle mae'n rhaid troi'r pethau y mae Gweinidogion y DU yn eu dweud yn gamau gweithredu effeithiol sydd eu hangen i wneud yn siŵr y gall y bobl hynny sydd angen ein cymorth fod yn ffyddiog y byddan nhw'n ei gael.
Prif Weinidog, ym mis Mai 1937, croesawyd cannoedd o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi rhag ffasgaeth i Gymru yn rhan o ymdrech ar y cyd a drefnwyd yn wirfoddol—eto, yn wyneb diffyg gweithredu gan Lywodraeth Prydain ar y pryd. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei efelychu nawr, nid yn y cannoedd, ond yn y miloedd? Mae Llywodraeth y DU yn sôn am lwybr dyngarol sy'n cynnwys nawdd gan awdurdodau lleol neu unigolion neu gwmnïau preifat—rhwystr biwrocrataidd cwbl ddiangen yn ein barn ni. Ond o ystyried eu bod nhw wedi gosod y rhwystr hwnnw yno, a allem ni helpu i'w leihau drwy greu cynllun nawdd i Gymru wedi'i gydgysylltu yn genedlaethol, ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau cadarnhaol iawn posibl sy'n parhau ynghylch defnyddio ein maes awyr cenedlaethol fel pwynt mynediad i ffoaduriaid o Wcráin?
Diolch i Adam Price am hynna. Rwyf i eisoes wedi codi gyda Gweinidogion y DU ffyrdd y gallem ni wneud pethau yn wahanol yma yng Nghymru, gan ddefnyddio'r profiad sydd gennym ni o weithio gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'n sefydliadau trydydd sector, fel bod gennym ni lwybr syml, cyflym, diogel a chyfreithlon i bobl sydd eisiau teithio i'r wlad hon. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon, a'r hyn yr wyf i wedi gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yw rhoi'r hyblygrwydd i ni y byddai ei angen arnom ni yma yng Nghymru i allu gwneud pethau yn y ffordd fwyaf effeithiol, oherwydd rydym ni mewn gwell sefyllfa i allu gwneud hynny yn nes at le mae angen gwneud y penderfyniadau hynny na rhywun sy'n eistedd yn Whitehall yn ceisio dyfeisio ateb biwrocrataidd pellach i'r argyfwng dyngarol.
Ac os gallwn ni chwarae rhan drwy'r cynnig y mae Wizz Air wedi ei wneud, a bydd Aelodau yma yn gwybod amdano—mae Wizz Air yn cynnig hedfan, ar ei draul ei hun, 100,000 o bobl i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig o'r gwledydd hynny sydd eisoes wedi amsugno cannoedd a channoedd o filoedd o bobl i'w cymunedau tra ein bod ni yn ei chael hi'n anodd cael llond llaw o bobl i'r Deyrnas Unedig. Felly, mae Wizz Air wedi gwneud y cynnig hwnnw. Gallai Maes Awyr Caerdydd fod yn rhan bwysig o wneud i hynny ddigwydd. Wrth gwrs, rydym ni mewn sgyrsiau gyda'r prif weithredwr ac eraill yn y tîm yn y maes awyr. Maen nhw'n barod drwy'r amser i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau pellach. Bydd mwy o gyfarfodydd yn ddiweddarach yr wythnos hon i weld a allai chwarae rhan yn y ffordd honno ddod yn rhan o'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn cyflawni ein rhwymedigaeth foesol, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru—ein rhwymedigaeth foesol i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu.
Gan droi, Prif Weinidog, at y sefyllfa sy'n wynebu menywod yma yng Nghymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dangosodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, sydd eisoes yn sylweddol, wedi cynyddu ymhellach yn 2021. Mae menywod yn dal i fod bedair gwaith yn fwy tebygol o nodi gofalu am y teulu neu'r cartref fel y rheswm am beidio â chymryd rhan yn yr economi gyflogedig ffurfiol, ac rydym ni'n gweld bylchau mwy rhwng y rhywiau yn dod i'r amlwg o ran cyflog, cyflogaeth ac oriau cyfartalog i fenywod hŷn sy'n fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu. Dim ond pan fydd menywod yn gallu mynd i mewn i waith a gwneud cynnydd mewn gwaith yn yr un modd â dynion y bydd anghydraddoldeb yn yr economi yn cael ei ddileu. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n cytuno y dylai gofal plant cyffredinol am ddim i bob plentyn, o leiaf dros 1 oed, fod yn nod polisi y dylem ni ei osod yng Nghymru yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau cyfiawnder gwirioneddol rhwng y rhywiau?
Wel, Llywydd, mae'n amlwg bod gwasanaethau gofal plant yn rhan sylfaenol o sicrhau y gellir cael cyfranogiad cyfartal yn y gweithle, a chyflog cyfartal yn rhan o'r fargen honno hefyd. Rydym ni wedi ymrwymo drwy ein cytundeb cydweithredu i ymestyn gofal plant am ddim i blant o 2 oed ymlaen. Mae hwnnw yn ymrwymiad ariannol sylweddol, ond fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod hefyd, nid yw'n fater o arian yn unig—mae'n rhaid i chi sefydlu'r gweithlu hyfforddedig, mae'n rhaid i chi sefydlu'r safle sydd ei angen arnoch chi, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael yr holl elfennau hynny ar waith i gymryd y cam pellach, nesaf a phwysig hwnnw ar y daith honno.
Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a gwn y bydd ganddi fwy i'w ddweud am ofal plant, am drais yn erbyn menywod, am ddarparu'r cyflog byw go iawn ym maes gofal cymdeithasol, ac amrywiaeth o fentrau polisi eraill y mae'r Llywodraeth hon yn eu mabwysiadu ac yr ydym ni'n awyddus iawn i dynnu sylw atyn nhw heddiw.
3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ynghylch grymuso cymunedau? OQ57740
Llywydd, mae profiad o'r pandemig coronafeirws wedi dangos yn rymus fywiogrwydd parhaus gweithredu lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi camau gweithredu o'r fath drwy hyrwyddo arfer gorau a darparu cyllid blynyddol sylweddol.
Fel yr wyf i wedi dweud dro ar ôl tro yma ers Deddf Lleoliaeth 2011 y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhyfedd o amharod i weithredu ei hagenda hawliau cymunedol. Ac er bod yr amcanion llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys pobl sy'n cyfrannu at eu cymuned, yn cael eu hysbysu, eu cynnwys ac yn cael gwrandawiad, yn rhy aml nid yw hyn wedi digwydd oherwydd nad yw wedi cael ei fonitro, oherwydd nid yw pobl mewn grym eisiau ei rannu na deall y byddai hyn yn creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Mae papur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru o fis Ionawr, 'Cymunedau'n Creu Cartrefi', yn datgan bod Cymru ar ôl gwledydd eraill yn y DU pan ddaw i hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw'r polisïau yng Nghymru yn cynnig yr un grymusiad ag y mae cymunedau yn Lloegr, neu, yn arbennig, yn yr Alban yn ei fwynhau, gan eu bod nhw naill ai'n canolbwyntio yn gyfan gwbl ar asedau a chyfleusterau sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus neu'n ei gwneud yn angenrheidiol i gorff cyhoeddus gymryd rhan uniongyrchol i weithredu'r grym. A chanfu adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig 'Our Land: Communities and Land Use' mai cymunedau Cymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf ym Mhrydain, a dywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthyn nhw am sefyllfa fympwyol, ddigalon heb fawr o broses wirioneddol i gymunedau gymryd perchnogaeth o asedau cyhoeddus neu breifat. Sut felly ydych chi'n ymateb i alwadau yn y ddau adroddiad newydd hyn i Lywodraeth Cymru gryfhau hawliau grymusiad a pherchnogaeth cymunedol?
Llywydd, nid wyf i'n cytuno â rhai o'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn rhai o'r adroddiadau yna. Mae rhannau eraill sy'n ddefnyddiol ac yn adeiladol iawn, ac y byddwn ni'n dymuno eu trafod ymhellach a bwrw ymlaen â nhw. Ond y gwir amdani yw bod grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth hon sydd heddiw yn gallu ymgymryd â rhedeg a rheoli cyfleusterau na fydden nhw wedi bod ar gael iddyn nhw fel arall, sy'n gallu cymryd rhan yn narpariaeth y gwasanaethau hynny, a lle mae dull partneriaeth—. Dyma lle mae ef a minnau yn wahanol. Ei safbwynt ef o rymuso cymunedau yw trosglwyddo pethau i rywun arall. Ein safbwynt ni yw y gall trefniant partneriaeth gyda chymorth corff cyhoeddus barhau i fod ar gael i grwpiau sydd, wrth ymgymryd â rhedeg neu reoli asedau cymunedol, angen cael—dyma un o gasgliadau'r adroddiad a sefydlwyd gennym ni ar drosglwyddo asedau cymunedol—diddordeb ac ymgysylltiad parhaus awdurdod cyhoeddus sy'n gallu eu helpu nhw gyda'r hyn sydd weithiau yn bethau beichus sy'n cael eu hysgwyddo.
A lle mae hyn yn cael ei wneud yn dda, oherwydd, er enghraifft, yng Nghyngor Sir y Fflint a reolir gan Lafur yn ardal yr Aelod ei hun, mae gennych chi gyngor sy'n cyhoeddi cofrestr o'r holl drosglwyddiadau asedau posibl, sy'n rhoi gwybodaeth am y lefel bresennol o wariant, y defnydd a'r cyfraddau meddiannaeth, sydd ag ap sy'n rhoi arolwg cyflwr cyfredol i ddarpar grŵp cymunedol—mae hyn i gyd yn cael ei gymeradwyo gan y grwpiau hynny y mae'n gweithio â nhw, ac mae hynny wedi arwain at drosglwyddo hyd at 30 o asedau o'r cyngor i grwpiau nad ydyn nhw'n cael eu gadael wedyn i fwrw ymlaen â phethau, ond sy'n parhau i gael cymorth a chefnogaeth. Dyna'r math o rymuso cymunedol yr wyf i'n credu yr ydym ni'n sôn amdano ac yn ei olygu yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, rwyf i wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud wrth Mark Isherwood. Tybed a allwn i bwyso mwy arnoch chi ar y synnwyr hwn nid yn unig o rymuso, ond synnwyr cymunedau o rymusiad, oherwydd mae darllen adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio ato yn ddigon i'ch sobreiddio o ran pa mor ddi-rym, felly, y mae cymunedau yn teimlo. Mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi ei chasglu wedi canfod bod safbwynt sydd bron yn gwbl negyddol am y sefyllfa yng Nghymru. Ac, eto, rwy'n derbyn y pwyntiau yr ydych chi wedi bod yn eu dweud, Prif Weinidog, ond o ran dod o hyd i'r cysylltiad hwnnw â chymunedau, o ran cael y synnwyr hwn o rymusiad a'r hyn sy'n bosibl, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed eich safbwyntiau.
Rydym ni wedi clywed hefyd bod cymunedau yr Alban wedi bod â chyllid ar gael ers 2001 i reoli asedau; mae deddfwriaeth wedi bod ar gael yno ers 2003. Yn Lloegr, mae'r Ddeddf Lleoliaeth yn grymuso grwpiau cymunedol. Ac nid yw'r hawliau statudol a'r cronfeydd ar gael yn yr un ffordd yng Nghymru. Eto, mae pa un a yw cymuned wedi'i grymuso ai peidio yn bwysig, mewn gwirionedd, mewn ystyr wirioneddol ystyrlon, dim ond os ydyn nhw'n teimlo'r grymusiad hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, sut, yn eich barn chi, y gellid gwneud y cysylltiad hwnnw yn fwy fel bod cymunedau yn teimlo'r synnwyr o rymusiad yn yr un ffordd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, Llywydd, mae'n gwestiwn diddorol iawn ac yn haeddu ateb hirach na'r hyn y gallaf i ei gynnig y prynhawn yma, oherwydd pe baem ni'n ei archwilio yn y ffordd y dechreuodd Delyth Jewell yn y fan yna, byddem ni'n dechrau drwy gydnabod ein bod ni'n sôn, pan fyddwn ni'n defnyddio'r gair 'cymuned', am leoedd fel unrhyw le arall, lle ceir gwahaniaeth barn, lle nad oes un syniad unigol am y ffordd orau o fwrw ymlaen â phethau, a lle ceir mynediad gwahanol iawn, nid yn unig at adnoddau ariannol, ond cyfalaf dynol hefyd. Ceir cymunedau sy'n ffodus o gael galwad ar bobl sydd â phrofiad, cymwysterau, gwybodaeth y gallan nhw eu cynnig a gwneud i bethau ddigwydd.
Rwy'n meddwl, yn fy etholaeth i, Llywydd, dim ond yn ddiweddar, am grŵp grymus o fenywod—dylwn i ddweud, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod—a ddaeth i'm gweld i o ran Llandaf fy etholaeth, a oedd eisiau prynu bloc toiledau segur a oedd ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol a'i droi yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn yn y gymuned. Ac maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi ei wneud mewn nifer fach o flynyddoedd. Fe wnaethon nhw berswadio'r cyngor i roi'r adeilad iddyn nhw am 1c. Darparodd rhaglen cyfleusterau cymunedol—[Torri ar draws.] Diolch. Dyna oedd gost yr adeilad. [Chwerthin.] Darparodd rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru £225,000 iddyn nhw. Ond yr hyn yr oedden nhw'n gallu ei wneud, oherwydd eu hanesion eu hunain a'u cysylltiadau eu hunain, oedd eu bod nhw'n gallu rhoi grŵp o bobl â phrofiad cyfrifyddu, â phrofiad pensaernïaeth, â phrofiad o redeg adeiladau at ei gilydd, ac fe'i rhoddwyd ar waith, ac nid wyf i'n credu eu bod nhw'n teimlo am eiliad nad oedden nhw wedi'u grymuso neu nad oedd y gallu ganddyn nhw.
Ond nid oes yn rhaid i chi fynd yn bell o Landaf i ddod o hyd i gymuned lle mae pobl yr un mor frwdfrydig, yr un mor uchelgeisiol, ond nad yw'n gallu galw ar yr un adnoddau a oedd ar gael yno, a dyna lle rwy'n credu bod yn rhaid canolbwyntio ein hymdrechion, i wneud yn siŵr ein bod ni'n tyfu'r capasiti dynol hwnnw yn yr ardaloedd hynny, fel bod pobl yn teimlo bod y cyfleoedd yno. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, Llywydd—ers 2015 dros £40 miliwn i 280 o brosiectau ym mhob rhan o Gymru. Mae gan bob un awdurdod lleol enghreifftiau. Bydd gan bob Aelod yma enghreifftiau y maen nhw wedi eu cefnogi o ymdrechion cymunedol i gymryd cyfrifoldeb am adeiladau, neuaddau eglwys, cyfleusterau chwaraeon, mannau gwyrdd—yr holl bethau y mae'r rhaglen honno yn eu cynrychioli—ond rydym ni'n gwybod ein bod ni'n cael mwy o geisiadau gan leoedd sydd eisoes ag adnoddau da nag yr ydym ni gan leoedd sydd angen y cyfleusterau hynny fwyaf, a dyna, mae'n ymddangos i mi, yw'r her wirioneddol y mae'n rhaid i ni geisio gweithio arni ymhellach.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cadeiriais lansiad adroddiad diddorol iawn gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ar wella perchnogaeth gymunedol o dir a chynyddu cyfleoedd tai cymunedol. Gwn y codwyd hwn yn y Cyfarfod Llawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac rwy'n croesawu ei sylwadau, ond un argymhelliad allweddol ychwanegol o'r adroddiad oedd datblygu dull safonol o drosglwyddo asedau cymunedol i gyrff cyhoeddus. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r enghreifftiau da yr ydych chi wedi eu rhoi wrth ateb fy nghyd-Aelodau ar y cwestiwn hwn eisoes, hoffwn ofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran hyn, fel y gellir grymuso pob cymuned i gymryd cyfrifoldeb am yr asedau hynny a allai fod mor bwysig iddyn nhw yn lleol.
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Cyfeiriais yn gynharach at waith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gennym ni sy'n ymwneud â throsglwyddo asedau cymunedol yng Nghymru, a diben y gwaith ymchwil oedd edrych ar yr amodau sy'n galluogi hynny i ddigwydd yn effeithiol ac yna ar y rhwystrau sy'n ei atal rhag digwydd.
O ganlyniad i'r gwaith ymchwil, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau manwl i gynorthwyo grwpiau cymunedol sy'n ceisio cymryd cyfrifoldeb am asedau sy'n eiddo cyhoeddus, ac mae'n un o ganfyddiadau allweddol—roeddwn i'n manteisio ar hwnnw pan roddais fy ateb cynharach, Llywydd—mae'n un o ganfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil hwnnw, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu lefel dda o gymorth yn ystod y cyfnod trosglwyddo, lleiafrif o awdurdodau lleol sy'n rhoi cymorth i'r grŵp hwnnw ar ôl y trosglwyddiad. Ac ar gyfer trosglwyddiadau asedau cymunedol sy'n llwyddo, mae'r angen i barhau i allu manteisio ar lefel o gymorth ar ôl trosglwyddo yn un o'r pethau a amlygwyd gan yr adroddiad hwnnw.
Rydym ni'n bwrw ymlaen ag ef drwy Ystadau Cymru, y grŵp sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar dir ac asedau, ac sydd eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi gweld y llwyddiant mwyaf, i wneud yn siŵr y gall yr arfer gorau hwnnw a'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu o'r gwaith ymchwil barhau i gefnogi'r cymunedau hynny sy'n dymuno cymryd cyfrifoldeb am asedau, ac yna'n gallu parhau i gyflawni'r cyfrifoldebau y maen nhw wedi ymgymryd â nhw yn llwyddiannus.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y deintyddion gweithredol yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ57739
Llywydd, mae gostyngiad yn niferoedd deintyddion y GIG yng Ngorllewin De Cymru yn deillio yn bennaf o effaith newidiadau i ffiniau wrth adrodd data. Mae Brexit a phandemig COVID hefyd wedi lleihau lefel gyffredinol y gweithgarwch deintyddol ac mae hynny hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau hyn.
Diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, oedd y bwrdd iechyd â'r gostyngiad canrannol uchaf yn niferoedd y deintyddion GIG, gyda 22 y cant yn llai o ddeintyddion yn 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod effaith y pandemig a newidiadau i ffiniau yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa hon, ond mae'r gostyngiad yn niferoedd y deintyddion GIG yn duedd hirsefydlog, ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn credu bod anhapusrwydd â chontractau deintyddol y GIG yn ffactor allweddol.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi cyfaddef yn ei hateb i fy llythyr ar y mater hwn y bydd oediadau i gleifion newydd sy'n ceisio gofal rheolaidd, ond mae etholwyr sy'n gleifion cofrestredig yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n cael eu gwrthod os nad oes angen triniaeth frys arnyn nhw; mae cannoedd o bobl y mae'r argyfwng hwn wedi effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi—cannoedd ohonyn nhw—a dywedodd un fam yng Ngorseinon, 'Mae gen i blentyn tair oed nad yw eto wedi cael ei ymweliad cyntaf erioed â deintydd. Bob tro y byddaf i'n galw, maen nhw'n dweud mai dim ond achosion brys y maen nhw'n gallu eu gweld.' Mae cleifion eraill yn dweud eu bod nhw wedi cael gwell triniaeth yn y sector preifat, a dywedwyd wrth rai cleifion y GIG hyd yn oed y byddan nhw'n cael eu gweld os byddan nhw'n talu.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn gwbl annerbyniol, a chyda gofal deintyddol rheolaidd yn hanfodol i atal problemau iechyd y geg rhag digwydd yn y lle cyntaf, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sgandal hon sy'n golygu bod cleifion, gan gynnwys plant, yn gorfod wynebu oediadau sylweddol, neu, mewn llawer o achosion, yn cael eu gwrthod yn llwyr?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gywiro'r cofnod ynghylch un peth pwysig a ddywedodd yr Aelod ar y cychwyn, pan awgrymodd fod y gostyngiad yn nifer y deintyddion yng Nghymru yn rhan o duedd hirdymor. Mewn gwirionedd, cynyddodd nifer y deintyddion sy'n darparu gofal GIG yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2006-07 a 2018-19, ac, yn 2018-19, aeth nifer y deintyddion a oedd yn gwneud gwaith GIG yng Nghymru yn uwch na 1,500 am y tro cyntaf. Felly, mewn gwirionedd, mae'r duedd hirdymor yn gwbl groes i'r un a awgrymodd yr Aelod.
Mae'r gostyngiad yn y niferoedd yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, yn enwedig yn ardal bae Abertawe, yn cael ei esbonio fwyaf—nid ei esbonio'n rhannol—yn cael ei esbonio fwyaf gan y newidiadau i'r ffiniau, oherwydd y bwrdd iechyd a welodd y cynnydd mwyaf yn niferoedd y deintyddion yw'r bwrdd iechyd a enillodd ardal Pen-y-bont ar Ogwr y bwrdd iechyd blaenorol. Dyna pam yr aeth y niferoedd i lawr yn y ffordd y gwnaethon nhw; roedd rhan gyfan o'r bwrdd iechyd nad oedd yn y bwrdd iechyd mwyach.
Ond y pwyntiau pwysig—y pwyntiau pwysig—yw'r rhai a wnaeth yr Aelod yn ail ran ei chyfraniad, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld adferiad a thwf yng ngallu'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru i ddarparu ar gyfer mwy o bobl nag y mae'n gallu ar hyn o bryd. Mae'r pandemig yn parhau i gael mwy o effaith ar ddeintyddiaeth nag ar unrhyw ran arall o'r GIG, gan fod y triniaethau cynhyrchu aerosol hynny yn parhau i olygu nad yw deintyddion yn gallu gweld yr un faint o gleifion yr oedden nhw'n gallu eu gweld o dan amgylchiadau llai heriol.
'Sut byddwn ni'n mynd i'r afael â hynny?' mae'r Aelod yn gofyn, ac mae'n gwestiwn cwbl briodol. Wel, dyma dair ffordd. Yn gyntaf oll, wrth i ni ddod allan o'r pandemig, byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn eu hadeiladau yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol i ddeintyddion, er enghraifft, i wella awyru mewn practisau deintyddol fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn ddiogel.
Yn ail, byddwn yn cyflwyno trefn diwygio contractau, gan ddechrau, eto, o ddifrif ym mis Ebrill eleni. Byddwn yn cynnig dewis i ddeintyddion. Bydd gan aelodau Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ddewis. Byddan nhw'n gallu dewis y contract newydd, y contract gwell yn fy marn i, oherwydd bydd yn golygu bod deintyddion yn defnyddio eu sgiliau i'r graddau mwyaf posibl ac nad ydyn nhw'n gwneud cymaint o waith rheolaidd ac ailadroddus ag yn y gorffennol er mwyn ennill yr incwm y maen nhw'n ei ennill, ond bydd y rhai y mae'n well ganddyn nhw i'w practisau barhau i gael eu seilio ar unedau gweithgarwch deintyddol yn gallu dewis hynny hefyd. Rwy'n credu y bydd diwygio'r contractau o fudd hirdymor i'r proffesiwn ac i gleifion.
Ac yna'r drydedd ffordd, Llywydd, y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r angen i gynyddu'r cyflenwad o ddeintyddiaeth GIG yng Nghymru yw rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cymysgedd sgiliau ehangach, fel nad oes gennym ni ddeintyddion sydd wedi'u hyfforddi yn dda iawn ac sydd wedi'u hyfforddi yn ddrud iawn yn gwneud gwaith nad oes angen lefel y sgiliau sydd gan y deintydd. A'r proffesiwn deintyddol, os wyf i'n onest yn ei gylch, fu'r arafaf o'r proffesiynau gofal sylfaenol i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae ffyrdd y byddwn ni'n gallu buddsoddi mewn hyfforddi hylenwyr a therapyddion sy'n gallu, yn gwbl gymwys yn glinigol, o dan oruchwyliaeth deintydd, wneud mwy o waith heddiw nag y maen nhw'n ei wneud yn y rhan fwyaf o Gymru, a bydd hynny yn caniatáu i ni gael gwahanol fath o wasanaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o adfer yn dilyn COVID-19 yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57774
Llywydd, rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna. Mae ein cynllun pontio, a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, yn parhau â'n dull sefydledig o ymdrin â'r pandemig, wedi'i lywio gan y cyngor gorau, yn canolbwyntio ar fyw yn ddiogel gyda COVID-19 a bod yn barod am fygythiadau newydd y gallai'r feirws eu hachosi eto.
Prif Weinidog, mae ymateb graddol wedi'i arwain gan wyddoniaeth Llywodraeth Cymru i'r pandemig wedi cael ei gefnogi gan fwyafrif y bobl yng Nghymru. Pa mor ffyddiog ydych chi o allu Cymru i barhau i fabwysiadu'r dull hwnnw, a pha asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y gallai gweithredoedd Llywodraeth y DU ei chael ar hynny?
Llywydd, diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna. Rydym ni'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i symud y tu hwnt i lefel rhybudd 0 ar 28 Mawrth. A ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein cynllun pontio, sy'n ymwneud â byw yn ddiogel gyda'r feirws. Rydym ni'n symud o'r sefyllfa argyfwng i'r sefyllfa endemig o ddelio â'r pandemig, ac, er ein bod ni'n byw yn ddiogel gyda'r feirws, byddwn yn dibynnu ar gyngor da, ar sail gwybodaeth, fel y dywedodd yr Aelod, gan y cyngor clinigol a gwyddonol gorau sydd ar gael i ni. Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar gyfrifoldeb parhaus dinasyddion unigol yma yng Nghymru, ac yna bydd y synnwyr hwnnw o gyfrifoldeb yn cael ei ategu gan gamau y gall Llywodraethau yn unig eu cymryd. A dyna lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn peri pryder i ni. Mae'r terfyn pen dibyn sydyn ar brofion yn Lloegr, mewn ffordd wrthnysig y system, wedi anfon symiau canlyniadol Barnett i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n cyfyngu ar ein gallu i wneud gwahanol ddewisiadau o natur iechyd y cyhoedd, ac ni all hynny fod yn dderbyniol mewn gwirionedd.
Mae gennym ni ddau bryder mawr ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rhuthro i gael gwared ar yr amddiffyniadau sydd wedi bod ar gael i ddinasyddion dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni gael digon o gapasiti gwyliadwriaeth fel y gallwn ni weld a oes amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg yma yng Nghymru, amrywiolion newydd sy'n cyrraedd o rannau eraill o'r byd, neu achosion lleol hyd yn oed, lle mae angen i chi gael ymateb iechyd cyhoeddus mwy dwys. Heb brofion digonol, mae cael system wyliadwriaeth ddigonol yn fwy anodd.
Ac yn ail, mae gen i bryder gwirioneddol ynghylch y ffordd y bydd yn bosibl ailadeiladu system yn y dyfodol pe baem ni'n wynebu syrpréis annisgwyl. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu yn unochrog cau labordy Imperial Park 5 yng Nghasnewydd ddiwedd y mis hwn. Cymru fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig, neu o Brydain Fawr o leiaf, heb labordy profi o'r math hwnnw ar gael i ni. Rwy'n gofyn dro ar ôl tro i Weinidogion y DU beth fyddai'n digwydd yn yr hydref pe baem ni'n gweld gwahanol amrywiolyn yn dod i'r amlwg a bod angen i lefel newydd, uwch o brofion fod ar gael i ymdrin ag ef, a hyd yn hyn, Llywydd, gallaf ddweud wrthych chi nad oes ateb i hynny o gwbl. Pan fyddwch chi wedi datgymalu labordy soffistigedig o'r math a fu gennym ni yng Nghasnewydd, pan fyddwch chi'n mynd â'r offer hwnnw i ffwrdd, pan fyddwch chi'n dweud wrth y bobl sydd wedi ein gwasanaethu mor dda dros y ddwy flynedd diwethaf ein bod ni'n mynd i gael gwared ar eu gwasanaethau mewn ychydig wythnosau byr, a ydym ni wir yn disgwyl y byddan nhw'n ailymddangos pan fyddwn ni eu hangen nhw eto mewn argyfwng? Mae'r rhain yn gamau annoeth, maen nhw'n cael eu hysgogi gan y Trysorlys, yn fy marn i, nid gan yr adran iechyd yn Llundain, ac rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i bob un ohonom ni fyw i ddifaru hyn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa gwella eiddo mewn canolfannau trefol yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr? OQ57768
Llywydd, daeth y gronfa y mae'r Aelod yn cyfeirio ati i ben ym mis Ebrill y llynedd. Mae ei rhaglen olynol yn cynnwys rhestr estynedig o ffyrdd y gellir cymhwyso cyllid i wella canolfannau trefol, ac mae'r buddsoddiad hwnnw yn parhau i fod ar gael ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cysylltodd Nadim â mi'n ddiweddar, y dyfarnwyd grant iddo o'r gronfa i ailwampio ei fusnes, Zia Nina, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl dyfarnu'r grant, dechreuodd Nadim y gwaith angenrheidiol, gan gynnwys cynllunio a dylunio pensaernïol, ond mae wedi cael trafferth yn dod o hyd i adeiladwyr i gwblhau'r gwaith yn brydlon oherwydd anawsterau wrth gaffael y deunyddiau angenrheidiol. Mae bellach wedi cael cyfarwyddyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gwblhau'r gwaith erbyn diwedd y mis hwn, nad yw'n bosibl oherwydd oediadau adeiladwyr. Nododd paragraff 3.3 adroddiad Medi 2021 ar y cynllun bod lle ar gyfer ymestyniad posibl y tu hwnt i fis Mawrth 2022. Er bod Nadim a minnau yn ddiolchgar bod Zia Nina wedi cael y grant hwn, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a ellir caniatáu estyniad o dan amgylchiadau o'r fath, o gofio bod y gronfa yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru?
Wel, Llywydd, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw hwn, ond, gan ragweld y cwestiwn nesaf, diolch i gyhoeddusrwydd yr Aelod ar gyfryngau cymdeithasol, rwy'n fwy cyfarwydd â bwyty Zia Nina ym Mhen-y-bont ar Ogwr nag yr oeddwn i cyn hyn. Felly, rwy'n falch o allu dweud wrtho fy mod i wedi cael gwybod bod swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfarfod â pherchennog y busnes a'i asiant ar 3 Mawrth, yr wythnos diwethaf, i drafod ffordd ymlaen gyda'r prosiect. Pan ddyfarnwyd y grant yn wreiddiol, roedd yn amlwg ar y telerau y gallai ac y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, ond mae rhesymau, y mae Luke Fletcher wedi cyfeirio atyn nhw. Mae fy nodyn yn dweud bod swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrth ein swyddogion eu bod nhw'n obeithiol y byddan nhw'n gallu cefnogi cynigion prosiect y perchennog yn y dyfodol ac, o ganlyniad i'r cyfarfod a gynhaliwyd rhyngddyn nhw, bod y ddwy ochr bellach yn teimlo eu bod nhw wedi dod o hyd i ffordd y gall hynny ddigwydd.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru? OQ57769
Llywydd, ein strategaeth yw defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu yn uniongyrchol ac yn ddwyieithog â'r cyhoedd, yn enwedig y cynulleidfaoedd hynny sy'n ymgysylltu llai â chyfryngau confensiynol. Rydym ni'n darparu gwybodaeth gyflym, awdurdodol mewn ffurfiau sy'n eglur, yn ddifyr ac yn hygyrch i bawb.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, byddwch yn cofio ychydig wythnosau yn ôl, pan ofynnais i chi am gyfryngau cymdeithasol segur Llywodraeth Cymru Wales.com, dywedoch fod angen i mi dreulio
'ychydig llai o amser [â fy mhen] yn Instagram'.
Byddwch yn falch iawn o wybod fy mod i wedi dilyn eich cyngor; rwyf i wedi bod yn edrych ar TikTok yn lle hynny. [Chwerthin.]
Byddwch yn cofio bod fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies wedi cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth y llynedd, ac wedi darganfod, ym mlwyddyn ariannol 2021 yn unig, bod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £135,000 ar hysbysebu ar TikTok. Mae hynny yn un flwyddyn ar un wefan cyfryngau cymdeithasol. Ond, pan ofynnodd Andrew R.T. Davies beth oedd cyfanswm cyrhaeddiad y negeseuon yn gyfnewid am yr arian a wariwyd, dywedwyd wrtho nad oedd Llywodraeth Cymru yn storio'r data hynny. Os yw hynny'n wir, mae'n golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru syniad faint o bobl y gwnaeth y gwariant hwnnw eu cyrraedd, pa un a gyrhaeddodd y bobl iawn, neu a wariwyd yr arian yn ddoeth. Dim trywydd, dim byd.
A ydych chi'n rhannu fy mhryderon, Prif Weinidog, bod gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd fel hyn, heb unrhyw fodd o gwbl o farnu a oedd hynny yn effeithiol ai peidio, yn ffordd eithriadol o wael o wario arian trethdalwyr?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n rhannu pryderon yr Aelod oherwydd, er nad wyf i'n neilltuo'r amser y mae ef yn ei wneud i gyfryngau cymdeithasol, mae'n ymddangos fy mod i'n llawer iawn mwy gwybodus nag yw ef. [Chwerthin.]
Felly, gadewch i mi ei helpu. Gadewch i mi esbonio iddo y bu cynnydd o 400 y cant yn nifer dilynwyr gwahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, os yw'n poeni am effeithiolrwydd y gwariant, bydd hynny yn codi ei galon. Bydd y ffaith bod gennym ni bellach 2.9 miliwn o ddilynwyr sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn codi ei galon, ac mae'n siŵr y bydd yn fwy balch fyth o glywed, ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd, oherwydd roedd ganddo ddiddordeb yn hynny rwy'n cofio, bod 19.4 miliwn o bobl ar draws cyfryngau digidol a chymdeithasol Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â negeseuon Llywodraeth Cymru, gan gynnwys 13 miliwn o bobl a wyliodd gynnwys fideo a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Felly, rwy'n falch fy mod i wedi gallu helpu'r Aelod y prynhawn yma, a nawr efallai y bydd yn ei chael hi'n llai angenrheidiol gofyn cwestiynau i mi lle mae'r atebion mor galonogol iddo. [Chwerthin.]
Cwestiwn 8 yn olaf, Ken Skates.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau i atgyweirio ffyrdd lleol yn Ne Clwyd? OQ57732
Llywydd, diolch i Ken Skates am hynna. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £90 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn gyllid sy'n ychwanegol at gyfalaf a geir yn y setliad llywodraeth leol, a gynyddodd £70 miliwn ei hun eleni. Mae cymorth drwy'r gronfa ffyrdd cydnerth hefyd ar gael yn ne Clwyd.
Diolch, Prif Weinidog, a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi rhoi cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i asesu'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod ffordd y B5605 yn cael ei defnyddio unwaith eto ar ôl tirlithriad mawr. Prif Weinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi gadarnhau a yw'r cyngor, o ganlyniad i'r cymorth ariannol hwn gan Lywodraeth Cymru, bellach wedi gallu cyflwyno cais am gyllid ar gyfer y gwaith atgyweirio ei hun, ac os felly, byddwn yn ddiolchgar iawn am benderfyniad buan a phenderfyniad â chydymdeimlad ar hynny gan Weinidogion, o ystyried swyddogaeth unigryw'r ffordd hon fel gwythïen amgen sy'n cefnogi'r gogledd pan fydd cefnffordd yr A483 ar gau.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, rwy'n hapus iawn i gadarnhau i Ken Skates bod cais bellach wedi dod i law gan gyngor Wrecsam o ganlyniad i'r cymorth a roddwyd i'r cyngor bwrdeistref sirol. Gadewch i mi ddweud wrth Ken Skates fy mod i'n deall yn llwyr yr angen am gyflymder yn y mater hwn, pwysigrwydd y mater ei hun ac effaith cau'r ffordd honno, ond rydym ni'n awyddus, os gallwn—ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn fater o 'os gallwn'—i allu gwneud penderfyniadau cyn cyfnod yr etholiad llywodraeth leol, fel y gall swyddogion awdurdodau lleol fwrw ymlaen â'r gwaith y bydden nhw'n yn gallu ei wneud wedyn. A, Llywydd, rwy'n cydnabod yr ymdrech enfawr a wnaed gan yr Aelod ar ran ei etholwyr yn y mater hwn, a'r ddadl y mae wedi ei gwneud dros benderfyniad cadarnhaol. Mae penderfyniad ar y cais gyda Gweinidogion, ac ni allaf ei ragweld, ond gallaf yn bendant ei sicrhau bod yr ymdrechion y mae ef wedi eu gwneud, a'r ddadl y mae ef wedi ei hyrwyddo, yn sicr wedi cael eu clywed.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi ni i drafod yr LCM ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau ynglŷn â diogelwch bwyd. Rwyf i'n amlwg yn eich holi chi heddiw fel arweinydd y tŷ, ond, yn amlwg, rydych chi'n gwisgo het arall y Gweinidog materion gwledig, a chi yw'r Gweinidog sy'n noddi'r Bil amaethyddol y byddwch chi'n ei gyflwyno ym mis Ebrill, rwy'n credu. Ni allaf i orbwysleisio'r cyfyng-gyngor yr ydym ni'n ei wynebu gyda'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Rydym ni wedi clywed am argyfwng y ffoaduriaid, rydym ni'n gweld creulondeb y golygfeydd ar y teledu, bob nos, bob bore, bob awr effro, a dweud y gwir. Ond o'n blaenau ni yn y ddau, tri, pedwar mis nesaf, ac yn wir, dwy, tair, pedair blynedd, y mae'r mater hwn o ansefydlogi'r rhanbarth hwnnw'n llwyr a'i allu i gynhyrchu bwyd, nid yn unig ar gyfer y rhan hon o Ewrop ond ar gyfer y byd. Mae wedi newid difrifwch sylfaenol, fe fyddwn i'n ei awgrymu, o ran ble y mae angen i'r Bil hwn fod fel rhan o'n gofynion diogelwch bwyd. Fel yr wyf i wedi'i ddweud, mae gwenith wedi dyblu mewn pris, ac wrth symud ymlaen at farchnad y dyfodol, ar gyfer mis Tachwedd, bydd yn llawer uwch na hyd yn oed heddiw—gallai fod dros £300 y dunnell. Mae prisiau nwyddau eraill yn cynyddu o ran cynhyrchu bwyd hefyd, yn ogystal â'r gwrteithiau, y chwynladdwyr a'r plaladdwyr sy'n ofynnol i dyfu'r cnydau hyn. Dim ond unwaith y flwyddyn y gall ffermwr wneud y penderfyniad hwnnw, ac os na chaiff y penderfyniad hwnnw ei wneud bryd hynny, yna caiff y flwyddyn honno ei cholli, ac mae'n cymryd dwy flynedd i ddal i fyny.
A gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae eich swyddogion ac, yn benodol, chi fel Gweinidog yn credu yw'r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd nawr i ailfywiogi meddylfryd cymuned amaethyddol Cymru i dyfu er diogelwch bwyd? Oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn barod am yr her honno ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan, er, ac yr wyf i'n cydnabod, mai sylfaen tir amaethyddol gymharol fach sydd gennym ni yng Nghymru. Ond mae cyfle yma y mae angen i ni afael ynddo a sicrhau ein bod ni'n chwarae ein rhan ni i sicrhau, er bod Wcráin yn parhau i fod yn ansefydlog, ein bod ni'n gwneud ein rhan ni i fwydo'r genedl a bwydo'r byd.
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y gwnaethoch chi ei ddweud am y sefyllfa dorcalonnus sy'n datblygu yn Wcráin. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud fy mod i wedi gofyn am roi diogelwch bwyd ar agenda'r grŵp rhyngweinidogol pan fyddwn yn cyfarfod wythnos i ddydd Llun. Oherwydd, yn amlwg, rhaid i ddiogelwch bwyd fod yn gyfannol ledled y DU—rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd o amgylch hynny. Ac rydych chi yn llygad eich lle ynghylch prisiau gwenith. Byddaf i’n cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun—rhan o fy nghyfarfodydd rheolaidd—ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n parhau i'w drafod.
O ran y pwyntiau penodol yr ydych chi'n eu gwneud am y Bil amaethyddol, rwy'n credu, unwaith eto, fod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at lawer o bethau sydd wedi newid ers i ni gael y Papur Gwyn yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, a fydd, yn amlwg, wedyn yn cyfrannu at y Bil amaethyddol. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y mae fy swyddogion yn eu hystyried, gan gynnwys effaith gronnol y cytundebau masnach y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyflwyno.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros fwrw ymlaen â gwario £1.4 biliwn i wneud 11 milltir o'r A465 yn ffordd ddeuol. Mynegodd y Western Mail y farn ddoe nad oedd modd cyfiawnhau'r prosiect hynod ddrud hwn mwyach, o ystyried y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i ganslo dau brosiect llai carbon-ddwys yn y gogledd. Nawr, rwy'n sylwi nad yw'r Llywodraeth wedi gwadu bod bwrw ymlaen â'r prosiect yn gwrth-ddweud ei pholisïau newid hinsawdd, ond byddwch chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon ers rhai blynyddoedd nawr ynghylch ariannu'r prosiect, oherwydd bydd yn cloi degawdau'r dyfodol i ddyled y bydd yn rhaid iddyn nhw ei thalu'n ôl. Mae'r Western Mail wedi cwestiynu ai rhwymedigaethau cytundebol yw'r rheswm nad oes modd canslo'r prosiect efallai, ac, gan ein bod ni'n sôn am swm mor enfawr o arian, nid yn unig nawr, ond am ddegawdau i ddod, byddwn i'n gofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, i'n helpu ni i benderfynu pam mae'r prosiect hynod ddrud hwn yn mynd rhagddo.
Diolch. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud o ran adolygiadau ffyrdd, yn y de a, nawr, yn y gogledd, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyhoeddi'r cadeirydd ar gyfer adolygiad ffyrdd y gogledd yn ddiweddar. Felly, byddwn i'n credu ei bod yn fwy buddiol, mae'n debyg, cyflwyno datganiad pan fydd gennym ni ddull Cymru gyfan, yn hytrach nag ar hyn o bryd ynghylch un ffordd.
A gaf i ofyn am un datganiad ac un ddadl? Mae'r datganiad yn un y gwn i y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei swyddogaeth adrannol hefyd. Yn ôl yn hydref 2019—. Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd ar gyfer y Senedd. [Chwerthin.] Ond yn hydref 2019, cafodd y cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ei gyflwyno. Roedd ganddo gyfres o gamau gweithredu a ddeilliodd ohono. Rwy'n amau y gallai rhai ohonyn nhw fod wedi cael eu taro gan ffactorau diweddar, gan gynnwys y pandemig a'r gallu i fynd allan a monitro a gwerthuso ar lawr gwlad. Felly, byddai'n dda cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddatganiad ar lawr y Senedd am weithredoedd a chanlyniadau'r cynllun hwnnw, a lle yr ydym ni, o gofio iddo gael ei gyflwyno, ac rwy'n dyfynnu, gan gydnabod, y
'dirywiadau difrifol...mewn "eogiaid y gwanwyn" cynnar a bellach gan holl gydrannau oedran môr eogiaid ac, yn fwy diweddar, brithyllod y môr',
hefyd. Mae iechyd y stociau pysgod mudol hynny'n arwydd o iechyd nid yn unig ein hafonydd, ond hefyd ein hamgylchedd morol ledled y DU ac yn fyd-eang hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad.
Byddai hefyd yn gyfle i brofi barn pobl, yma yn y Siambr hon, ar fater ffermio eogiaid â chewyll. Mae cwestiynau mawr wedi'u codi ynghylch cynaliadwyedd hyn, ac nid cwestiwn i'r Alban yn unig ydyw ond lle bynnag y bydd hyn yn digwydd. Oherwydd mae'n fater yn ymwneud a pharasitiaid ac effeithiau parasitiaid ar eogiaid gwyllt ac eogiaid ymfudol, plaladdwyr sy'n cael eu rhyddhau o eogiaid mewn cawell a'r effaith ar eogiaid gwyllt a rhywogaethau gwyllt eraill, a hefyd mater o fwyd protein—y sgandal a glywsom amdani yn ddiweddar sef 460,000 tunnell o bysgod gwyllt yn cael eu cynaeafu i fwydo eogiaid fferm mewn cewyll. Duw a'n helpo ni o ran yr hyn sy'n digwydd yn y fan honno a'r cwestiwn o gynaliadwyedd ynghylch hyn, ac mae angen sicrwydd arnom ni na fydd hyn byth yn cael ei weld yng Nghymru yn y dyfroedd cynhesach sydd gennym ni yma.
Hoffwn i hefyd geisio dadl, os caf i—
Rwy'n credu eich bod chi wedi treulio dwy funud yn galw am eich datganiad cyntaf. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i chi aros tan yr wythnos nesaf i alw am eich dadl.
Rwy'n ymddiheuro. Arhosaf tan yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
James Evans. Na, Gweinidog i ymateb. Ie, mae'n ddrwg gennyf i, anghofiais i am y rhan honno. [Chwerthin.]
Byddaf i ychydig yn fwy cryno. Felly, y peth cyntaf i'w ddweud, ac yr wyf i'n falch iawn o allu dweud hyn a rhoi sicrwydd nid yn unig i Huw Irranca-Davies, hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd, ond pob Aelod, nad yw'r math hwn o bysgota diwydiannol yn digwydd yn nyfroedd Cymru. Nid oes gennym ni ddyframaeth pysgod asgell diwydiannol yma yng Nghymru chwaith, ond gwnaf i—. Gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, mewn ateb cynharach i arweinydd yr wrthblaid, fod gennym ni gyfarfod grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun, felly byddaf i'n ei godi gyda'r gweinyddiaethau eraill bryd hynny.
Yr hyn y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud, Huw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y cynllun taliadau atodol band eang gwledig? Mae hyn yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig o ran cael band eang cyflym iawn ledled ein cymunedau, a hoffwn i wybod yn union beth fydd yn dod yn lle'r cynllun hwnnw, oherwydd rwy'n poeni y bydd rhai o'n cymunedau'n cael eu gadael ar ôl, os nad yw'r elfen atodol honno ar gael, sy'n gwneud llawer o'r cynlluniau hyn yn hyfyw. Diolch yn fawr iawn.
Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, mewn ateb cynharach ynghylch band eang, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yw hynny. Felly, efallai, os bydden nhw wedi cadw at eu haddewid o 'ddim ceiniog yn llai' byddem ni wedi cael mwy o arian i barhau â'r cynllun band eang gwledig hwnnw.
Hoffwn i alw am ddau ddatganiad, a byddaf i'n ceisio cadw o fewn dwy funud.
Na, un funud, mewn gwirionedd.
Un funud, felly. [Chwerthin.]
Roeddwn i'n llawer rhy drugarog.
Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfleusterau iechyd meddwl preswyl yng Nghymru. Mae etholwr sydd o dan ofal tîm iechyd meddwl yn y de wedi cysylltu â mi'n ddiweddar oherwydd diffyg cyfleusterau lleol cafodd ei hatyfeirio i uned breswyl yn Llundain. Ar ôl i breswylydd yn yr uned honno brofi'n bositif am COVID, cafodd ei hanfon adref ar ôl dim ond 10 diwrnod o driniaeth. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hwn wedi bod yn brofiad llawn straen i rywun a oedd yn gorfod teithio mor bell i gael y driniaeth yr oedd ei hangen arni. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes unrhyw ddatblygiadau o ran darparu cyfleusterau iechyd meddwl preswyl addas yng Nghymru.
Yn ail, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar honiadau diweddar fod cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu bygwth gan swyddogion statudol y byddai camau yn cael eu cymryd yn eu herbyn am dorri'r cod ymddygiad pe baen nhw'n pleidleisio yn erbyn cynnig cyllideb diweddar. Fel y gwyddom ni i gyd, mae aelodau etholedig, boed hynny i San Steffan, siambrau cyngor ledled Cymru neu i'r union Senedd hon, i gyd yn cael eu hethol i weithredu er budd eu hetholwyr. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai modd i'r Gweinidog gynnig rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa a chadarnhau a fydd unrhyw ymchwiliad i'r hawliadau hyn yn digwydd fel y gallwn ni fynd at wraidd y mater.
Diolch. O ran eich pwynt cyntaf, ynghylch lleoliadau preswyl addas i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi clywed eich cais. Nid wyf i'n ymwybodol o'r sefyllfa y gwnaethoch chi sôn amdani, ac yr wyf i'n siŵr, os oes gan y Gweinidog unrhyw beth arall i'w ddweud, y bydd yn ysgrifennu atoch.
Trefnydd, roeddwn i'n meddwl tybed, o gofio'r sefyllfa ofnadwy yn Wcráin, fel arwydd arall o'n hundod ni, a oes gennych chi ar y safle o fewn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ac ati, lyfr coffa lle gall staff ac Aelodau neu Weinidogion gyfleu eu meddyliau. Rwyf i hefyd wedi codi hyn gyda'r Llywydd ac wedi cael ymateb cadarnhaol, ond roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw lyfrau wedi'u gosod eto yn unrhyw un o adeiladau Llywodraeth Cymru.
Cyn bod y Gweinidog yn ymateb, rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi geiriau yn fy ngheg yn y fan yna. Fy ymateb i chi oedd dweud y byddwn i eisiau i ni fel Senedd feddwl am ein gweithredoedd yn hytrach na'n geiriau ni, ac ein bod ni'n ymchwilio i weld a fyddai'n bosibl i ni sefydlu pwynt casglu ar gyfer rhoi arian i gefnogi'r rhai sy'n dioddef yn Wcráin. Rwyf i wir yn credu, ac yn gobeithio fy mod i'n adlewyrchu'r Siambr ynghylch hyn, mai ein gweithredoedd ni ac nid ein geiriau ni sydd bwysicaf ar hyn o bryd. Mae'n ddrwg gennyf i os na wnaeth fy neges i chi eich cyrraedd mewn pryd i chi fod wedi codi hynny, ond nid oeddwn i eisiau i fy ngeiriau i gael eu camddehongli mewn unrhyw ffordd.
Na, nid yw hyn yn—. Nid yw hyn—.
Er eglurder, a ydych chi'n dweud na chawn ni lyfr yma, felly?
Rwyf i wedi dweud gweithredu nid geiriau, bydd, fe fydd pwynt casglu. Mae'n ddrwg iawn gennyf i, Janet, eich bod chi wedi dewis codi hyn yn y ffordd fwyaf amhriodol hon nawr. Y Gweinidog, i ymateb.
Felly, byddwn i'n credu bod hyn yn fwy o fater i Gomisiwn y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Llywydd wedi'i ddweud—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ein gweithredoedd yn amlycach o lawer na geiriau.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl yn ystod y pandemig. Rwy'n codi hyn gyda chi eto oherwydd mae'n ymddangos bod gwrthgyferbyniad mawr rhwng yr hyn sy'n cael ei ddarparu, gyda rhai awdurdodau lleol, megis Gwynedd a Blaenau Gwent, yn cadw darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer y rhai mwyaf anabl, ac mae awdurdodau lleol eraill, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi torri'r ddarpariaeth, gan adael llawer o rieni a gofalwyr pobl anabl heb ddim neu fawr ddim o seibiant. Mae'n ymddangos bod dehongliad awdurdodau lleol o reoliadau a chanllawiau COVID y Llywodraeth wedi arwain at loteri cod post lle na fyddai rhywun ag anabledd dwys yng Nghrymlyn, er enghraifft, sydd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cael darpariaeth canolfan gofal dydd, er y byddai rhywun sy'n byw yn Swffryd, ychydig lathenni i ffwrdd ym Mlaenau Gwent, yn cael hynny. Roeddwn i'n gobeithio, gyda phethau'n ailagor ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i bwysigrwydd canolfannau gofal dydd, y byddem ni'n gweld rhywfaint o newid yn y ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl, ond nid yw hynny wedi digwydd mewn sawl rhan o'r wlad eto. A all y Llywodraeth ystyried hyn fel mater o frys? Nid wyf i'n credu ei bod yn ddigon da dweud mai mater i awdurdodau lleol ydyw.
Wel, efallai nad yw'n ddigon da, ond mae'n ffaith mai mater i bob awdurdod lleol yw darparu gwasanaethau i'r bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir iawn yn y maes hwn a mater i awdurdodau lleol yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu ar gyfer eu poblogaeth leol. Yn amlwg, mae problemau wedi bod yn ystod pandemig COVID—rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun—gyda staff sydd, yn anffodus, wedi bod i ffwrdd yn sâl gyda COVID, ac ati. Mae prinder wedi bod yn y ddarpariaeth honno. Ond, fel y dywedwch chi, yr ydym ni nawr yn ailagor. Byddwn i'n gobeithio y gall pob awdurdod lleol roi'r pwysigrwydd y mae wir ei angen ar y gwasanaethau hyn.
Rŷn ni yn clywed nawr, wrth gwrs, fod yna gymorth dyngarol sydd fod i fynd i Wcráin yn styc ar ffin y Deyrnas Unedig oherwydd y tâp coch ychwanegol i allforio nwyddau yn sgil Brexit. Nawr, yn ôl yr elusennau sy'n cael eu heffeithio, maen nhw'n dweud bod angen nawr gwaith papur ychwanegol am mai rhoddion sy'n cael eu cludo ac nid nwyddau sy'n mynd i gael eu gwerthu ymlaen ar ôl croesi'r ffin. Byddwch chi'n ymwybodol, efallai, fod Llyr Jones a Rhys Jones o sir Ddinbych yn gyrru cerbyd i Wcráin yr wythnos yma, ond maen nhw, oherwydd yr amgylchiadau hynny, yn cael eu gorfodi i groesi'r ffin i Ffrainc, wedyn prynu y nwyddau dyngarol er mwyn eu cludo. Nawr, liciwn i gael datganiad ysgrifenedig neu ryw fath o ddiweddariad gan y Llywodraeth jest yn egluro beth ŷch chi'n ei wneud i roi'r achos gerbron Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r broblem yma, oherwydd mae rhywun yn poeni am dynged cannoedd o filoedd o eitemau sydd wedi cael eu rhoi mewn casgliadau—yn Rhug, yn Wrecsam, ac ar draws Cymru—a allai fod yn styc mewn porthladdoedd yn methu â chyrraedd Wcráin, lle mae mawr eu hangen nhw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd mae'r fath gydymdeimlad wedi bod, onid ydyw, gan bobl Cymru o ran y sefyllfa erchyll hon yn Wcráin. Ac, fel y dywedwch chi, mae rhoddion sylweddol wedi'u rhoi, ac rwy'n gwybod bod llawer o lorïau'n mynd yr wythnos hon.
Rwy'n credu bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Llywodraeth Cymru, rwy'n ei olygu—. Roeddem ni'n ystyried cyflwyno datganiad llafar heddiw, ond oherwydd, yn amlwg, mae gan Geidwadwyr Cymru ddadl yfory, yr ydym ni wedi penderfynu mai ymateb y Gweinidog fydd y lle priodol ar gyfer hyn. Felly, byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n cyfeirio at y gwaith sydd wedi bod yn digwydd wrth ateb eich cwestiwn. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd.
Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf, ar ddiweddariad ar COVID-19. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i ddiweddaru'r tŷ yma ar y digwyddiadau diweddaraf o ran coronafeirws.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, canlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, a'n cynlluniau ni i symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig wrth i ni symud i fyw'n ddiogel gyda coronafeirws yn y tymor hwy.
Rwy'n falch o adrodd bod achosion o coronafeirws yn parhau i fod ymhell o dan yr uchafbwynt y gwnaethom ni ei weld gydag omicron ledled Cymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gennym ni 178 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru, ond mae hynny'n seiliedig ar brofion PCR cadarnhaol. Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen, fodd bynnag, mae angen i ni nawr ystyried amrywiaeth ehangach o fesurau i ddeall y darlun iechyd cyhoeddus y tu hwnt i brofion PCR yn unig. Ac un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn yw arolwg rheolaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol o haint coronafeirws, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig. Mae arolwg yr haint yn dangos bod heintiau yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf. Maen nhw hefyd yn dangos bod lefelau'r haint yng Nghymru yn parhau i fod yn is nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella'n gyson, diolch i waith caled pawb. Mae pobl yng Nghymru yn parhau i ddilyn y rheolau a gwneud yr holl bethau bach hynny sy'n helpu i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ni adolygu'r holl fesurau diogelu sydd gennym ar waith ar hyn o bryd a gwnaethom ni gytuno y bydd Cymru'n aros ar lefel rhybudd 0. Cyn belled â bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol, byddwn yn ceisio dileu'r holl fframweithiau cyfreithiol sydd wedi bod yn sail i'n hymateb i'r pandemig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ddiwedd mis Mawrth. Mae hyn yn golygu y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau sy'n weddill, y gofyniad i hunanynysu, a'r gofyniad i fusnesau gynnal asesiadau risg COVID penodol yn dod i ben.
Dirprwy Lywydd, mae'r mesurau hyn wedi ein cadw ni'n ddiogel am ddwy flynedd ac ni fyddwn ni'n rhoi'r gorau iddyn nhw. Nid ydym ni eisiau anghofio'r holl ymddygiad hynny sydd wedi helpu i'n hamddiffyn ni rhag y feirws ofnadwy hwn. Byddwn ni'n llunio canllawiau, byddwn ni'n cynghori pobl i barhau i wisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau, ac i hunanynysu am bum niwrnod os oes ganddyn nhw symptomau, i olchi eu dwylo'n rheolaidd, i gwrdd â phobl yn yr awyr agored, os yw'n bosibl, ac i gadw mannau dan do wedi'u hawyru'n dda. Rydym ni eisiau parhau i gadw ein gilydd yn ddiogel wrth i ni symud i gam nesaf ein hymateb, oherwydd nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto. Ni fydd coronafeirws yn diflannu ar 28 Mawrth oherwydd nad oes gennym ni reoliadau mwyach.
Wrth i ni symud oddi wrth ddull sy'n seiliedig ar y gyfraith, byddwn ni hefyd yn gwneud newidiadau i brofi. Rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mehefin, byddwn ni'n symud yn raddol mewn dull cam wrth gam o sefyllfa lle mae profion PCR a phrofion llif unffordd ar gael i bawb. Ni fydd profion PCR yn cael eu defnyddio mwyach ar gyfer profi symptomau. Yn hytrach, bydd profion llif unffordd ar gael i'w harchebu am ddim ar-lein i bobl â symptomau.
Dirprwy Lywydd, ddydd Gwener, gwnaethom ni gyhoeddi ein cynllun tymor hwy 'Gyda'n gilydd at ddyfodol mwy diogel', sy'n nodi sut y byddwn ni'n symud y tu hwnt i'r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n cadw'r ddwy dybiaeth gynllunio a gafodd eu disgrifio gennym ni gyntaf yn yr hydref—COVID sefydlog a COVID brys. Rydym ni'n gobeithio ac yn credu mai COVID sefydlog yw'r sefyllfa fwyaf tebygol ar gyfer y dyfodol.
Rŷn ni'n gobeithio y bydd ein brechlynnau’n parhau'n effeithiol ac na fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu. Fe fydd ein hymateb iechyd cyhoeddus yn dilyn y protocolau presennol, sydd wedi eu hen sefydlu ar gyfer clefydau trosglwyddadwy. Bydd y gwaith o gadw golwg ar ac adrodd am COVID-19 yn digwydd ochr yn ochr â'r trefniadau adrodd ar gyfer heintiau anadlol. Fe fyddwn ni'n dechrau cyfuno ein rhaglen brechlyn lwyddiannus iawn ar gyfer COVID-19 gyda brechlynnau ataliol eraill i roi'r amddiffyniad gorau posibl, ar sail cyngor diweddaraf y JCVI a swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru. Fe fydd y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu'r bobl sydd yn fwyaf agored i niwed. Fe fyddwn ni'n cynnig brechiad atgyfnerthu yn yr wythnosau nesaf i bobl dros 75 oed, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a'r bobl fwyaf agored i niwed.
Fel y soniais i dair wythnos yn ôl, fe fyddwn ni'n cynnig brechlyn i bob plentyn rhwng pump ac 11 mlwydd oed yn nes ymlaen yn y mis. Cynnig rhagofalus yw hwn i gynyddu imiwnedd plant yn erbyn COVID-19 difrifol cyn inni weld unrhyw donnau posibl yn y dyfodol. Fe fydd hefyd yn rhoi'r siawns orau iddyn nhw o dymor yr hydref esmwyth ar ôl gwyliau'r haf. Dwi'n annog teuluoedd i drafod y cynnig hwn nawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w helpu nhw i wneud y penderfyniad.
Hoffwn i ddweud unwaith eto, os nad ydych chi wedi cael eich brechu eto, dyw hi byth yn rhy hwyr. Mae bron i 6.9 miliwn dos o'r brechlyn wedi eu rhoi mewn ychydig dros flwyddyn. Mae'r rhaglen frechu wedi achub bywydau ac mae'n parhau i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol.
Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni hefyd yn paratoi ar gyfer y gwaethaf, gan obeithio, wrth gwrs, na fydd hyn yn digwydd. Dwi'n ymwybodol iawn o farn y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirysau Anadlol Newydd a Datblygol fod amrywiolion yn debygol iawn o ymddangos yn y dyfodol ac y gallen nhw wneud mwy o niwed uniongyrchol na'r hyn rŷn ni wedi ei weld yn sgil amrywiolyn omicron.
O dan y senario brys, mae gyda ni gynlluniau wrth gefn i ymateb pe bai sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwaethygu. Mewn sefyllfa o'r fath, fe fyddem ni'n cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl gan ehangu ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, a chydweithredu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed. Rŷn ni wedi gofyn i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer senario COVID brys rhag ofn. Yn y senario hon, byddai angen iddyn nhw roi'r gallu ychwanegol sydd yn y rhaglen frechu ar waith pe bai ymateb cyflym yn angenrheidiol unwaith eto.
Dirprwy Lywydd, dwi'n falch o allu dweud heddiw, diolch i'r rhaglen frechu wych ac i bobl ar draws Cymru am eu gwaith caled, eu haberth a'u hamynedd, ein bod ni ar fin gadael yr argyfwng iechyd cyhoeddus y tu ôl inni, a dechrau perthynas wahanol iawn, gobeithio, gyda'r feirws.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf ynghylch map ffyrdd i gael gwared ar gyfyngiadau, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau'n cael eu codi ddiwedd y mis hwn. Mae hyn yn newyddion da a chadarnhaol iawn yn wir, ac, wrth gwrs, fel Ceidwadwyr Cymru, rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers sawl wythnos. Felly, rwy'n falch bod y Llywodraeth nawr wedi darparu'r map ffyrdd hwn a llacio'r cyfyngiadau. Yr hyn yr hoffwn i ei ddeall, Gweinidog, yw, o ystyried eich beirniadaeth o Lywodraeth y DU ynghylch codi cyfyngiadau pan wnaethon nhw—ac rwy'n dyfalu y gallwch chi gynnwys Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn y modd hwnnw hefyd, wrth iddyn nhw gyhoeddi'r un peth ar yr un adeg—a wnewch chi egluro pa dystiolaeth yr ydych chi wedi'i gweld i wneud y newidiadau hyn? Oherwydd pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf i ddileu'r holl gyfyngiadau, gwnaethoch chi ddweud:
'Yn wahanol i Loegr... rydym ni'n hoffi dilyn yr wyddoniaeth yn hytrach na'r wleidyddiaeth yma yng Nghymru'.
Ac yna, dri diwrnod yn ddiweddarach, ar ôl dweud hynny, gwnaethoch chi'r un peth eich hun. Felly, a allwch chi egluro'r wyddoniaeth a newidiodd eich sefyllfa yn y tridiau hynny yr wythnos diwethaf? Ar ôl 28 Mawrth, Gweinidog, rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gweld diwedd y cyfyngiadau. A gaf i ofyn i chi pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cylch adolygu tair wythnos yn dod i ben? A fydd hynny'n parhau am beth amser? Pryd yr ydych yn disgwyl cyrraedd pwynt lle na fydd y cylchoedd tair wythnos hynny'n digwydd mwyach?
Mae Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Argyfyngau yn dirwyn i ben. Efallai y byddwn i ond yn gofyn, a yw eich Llywodraeth yn gwneud yr un peth ar gyfer y gell cyngor technegol? Rwy'n sylweddoli y bydd rhai strwythurau'n dirwyn i ben ond y byddan nhw'n parhau'n segur. Mae elfennau o roi rhai o'r seilweithiau hyn mewn cyflwr segur, yn barod i ymateb—er nad ydym ni eisiau gweld hyn—pe bai'r cyfyngiadau'n dod yn ôl, neu os daw'r pandemig yn ôl ar unrhyw adeg hefyd. Ond mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod eich barn yn hynny o beth.
Byddai o ddiddordeb i mi wybod hefyd, Gweinidog, a yw Cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod a ddylai lefelau rhybudd COVID gael eu hailgyflwyno yn ystod y gaeaf nesaf, yn ystod misoedd y gaeaf hwnnw, pe bai achosion yn codi, yn enwedig o ystyried sylwadau'r Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf—ac nid wyf i'n anghytuno â'i sylwadau—nad yw'r pandemig ar ben ac y gallai fod amrywiadau mewn patrymau byd-eang am sawl blwyddyn i ddod. Rwy'n amlwg yn bryderus yma nad ydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle yr ydym ni nôl i gyfnod cyfyngiadau symud llawn y gaeaf nesaf, felly hoffwn i petai hynny'n cael ei dynnu oddi ar y bwrdd. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes gennych chi bêl grisial, ond yr ydych chi'n gweithio ar ragdybiaethau ac yr ydych chi'n gweithio ar fodelu, ac yr ydym ni mewn lle gwahanol iawn i'r sefyllfa lle yr oeddem ni ynddi ym mis Mawrth 2020 gyda chymaint o ansicrwydd. A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud nawr ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, pe baen nhw'n codi, fel y byddai modd dysgu gwersi gwirioneddol am ledaeniad yn y gymuned a heintiau a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai?
Rydym ni hefyd yn symud i gyfnod adfer o'r pandemig, ac o ystyried ei bod yn flwyddyn ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi cynllun adfer GIG Cymru, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod lle yr ydych chi arni o ran y canolfannau llawfeddygol sy'n rhydd o COVID-19 i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr, nid oedd ffigurau aros yn dda o gwbl, gydag un o bob pedwar llwybr cleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth a 50,000 yn dal i aros am dros ddwy flynedd am driniaeth, sy'n syfrdanol. Roeddwn i'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ynglŷn â'r cynllun gaeaf ar gyfer canolfannau, ond nid ydym ni'n clywed llawer am hwn. O ystyried y ffaith ein bod ni allan o'r gaeaf yn dechnegol, lle mae byrddau iechyd arni o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID-19, a pha amserlenni ydych yn gweithio iddyn nhw nawr er mwyn lleihau amseroedd aros blwyddyn a dwy flynedd? A fyddai modd i chi hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran sicrhau y bydd y grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn cael statws cyfranogiad craidd yn yr ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU, o gofio bod Llywodraeth Cymru, yn hynod siomedig, wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i ystyried eich gweithredoedd yma yng Nghymru yn benodol?
Yn olaf—rwyf wedi gofyn hyn o'r blaen, a gobeithio y gallwch chi ateb y tro hwn—cyflwynodd Nicola Sturgeon a Boris Johnson eu cynlluniau i fyw gyda COVID a diwedd y cyfyngiadau i'w priod Seneddau, ond, yma yng Nghymru, gwnaed y sylwadau hynny'n gyntaf i newyddiadurwyr ac yna'n ddiweddarach yma yn ein Senedd. A wnewch chi egluro pam mae hyn yn parhau i ddigwydd yn rheolaidd? Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n falch eich bod chi'n croesawu codi'r cyfyngiadau. Wrth gwrs, ein gwaith ni yw cadw Cymru'n ddiogel. Mae Llywodraethau eraill yn cadw eu pobl eu hunain yn ddiogel, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny yn y ffordd yr ydym ni'n credu sy'n gywir i ni, a gwnawn ni hynny drwy geisio dilyn y dystiolaeth a'r wyddoniaeth bob tro. Ond rydym ni bob amser wedi bod yn glir iawn, mewn gwirionedd, y byddai bob amser yn wir y byddem ni'n mynd i'r un cyfeiriad â Llywodraeth y DU, mater o amseru yn unig ydoedd. Rydym ni'n credu bod yr amseru yr oeddem ni wedi'i gyhoeddi ddydd Gwener yn gweithio i ni. Rydym ni mewn sefyllfa lle nad ydym ni, wrth gwrs, yn codi'r cyfyngiadau hynny eto—rydym ni'n eu cadw yn eu lle am fis arall, i bob pwrpas. Bydd hynny'n ein harwain ni, gobeithio, at amser cynhesach. Gwyddom ni fod yna agwedd dymhorol ar ffurf y feirws a'r ffordd y mae'n taro ein cymunedau. Rydym ni'n gobeithio, wrth i bethau gynhesu, y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn 24 Mehefin, wrth gwrs, lle na fydd unrhyw gyfyngiadau mwyach a bydd yn sefyllfa wahanol iawn. Felly, nid ydym ni'r un fath â Lloegr, a dyna'r rheswm pam yr ydym ni mewn lle gwahanol i Loegr.
Rydym ni wedi dechrau trafodaethau gyda TAC o ran sut y gallai hynny edrych yn y dyfodol, ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n cadw seilwaith a fyddai'n ein galluogi ni i weithredu'n gyflym os byddem ni'n gweld amrywiolyn newydd a pheryglus. Wrth gwrs, caiff hyn ei wneud yn anoddach oherwydd y cyllid cyfyngedig yr ydym ni'n ei gael nawr gan Lywodraeth y DU. Yn sicr, o ran lefelau rhybudd COVID, byddwn i'n eu cadw wrth gefn yn barod ac, wrth gwrs, bydd angen i ni gadw llygad ar ddatblygiadau. Nid oes neb eisiau mynd yn ôl i'r cyfyngiadau symud, ond rwy'n credu ei bod yn anghyfrifol dweud na fyddem ni byth yn gwneud hynny. Nid oes gennym ni syniad beth sydd o'n blaenau, Russell, ac mae bob tro'n gwneud synnwyr i sicrhau bod gennych chi amrywiaeth o ddewisiadau ar gael i chi o ran gallu ymateb.
O ran y gwersi sydd wedi'u dysgu, rydym ni wedi bod yn ceisio dysgu gwersi yr holl ffordd yn ystod y pandemig. Rydym ni'n parhau i ddysgu'r gwersi hynny, ond, wrth gwrs, bydd mwy o wersi i'w dysgu, ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r rheini'n ymddangos yn ystod yr ymchwiliad. Gwnaethoch chi ofyn am statws cyfranogwr craidd teuluoedd sydd mewn profedigaeth COVID-19. Gwn i fod y Prif Weinidog wedi trafod y mater hwn gyda theuluoedd mewn profedigaeth COVID-19 dros gyfiawnder. Bydd yr ymchwiliad yn nodi'r broses ar gyfer dynodi statws craidd y cyfranogwr, ac nid ydym ni'n gwybod eto sut y bydd y cadeirydd yn gwneud hyn. Yr hyn na fyddem ni eisiau'i wneud yw gwneud unrhyw beth a fyddai'n achosi mwy o niwed na helpu'r sefyllfa honno yn y pen draw .
Yn sicr, o ran rhestrau aros, byddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gofal arfaethedig ym mis Ebrill ac, yn amlwg, byddwn ni'n ystyried sut y gallwn ni weld gwell cydweithredu rhanbarthol o ran ceisio mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried. A dim ond i bwysleisio hynny, mewn gwirionedd, yr oeddwn i'n meddwl bod y GIG wedi gwneud gwaith rhyfeddol ym mis Rhagfyr. Dim ond cynnydd o 0.2 y cant y gwnaethom ni ei weld ym mis Rhagfyr. Mae hynny er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar y brechiad atgyfnerthu a'u gyflwyno'n gyflym iawn. Felly, rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, fod pethau eisoes yn symud yn y GIG. Wrth gwrs, mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd. O ran ein ffigurau, wrth gwrs, yr ydym ni'n eu cyfrif nhw'n wahanol iawn i'r ffordd y maen nhw'n cyfrif eu rhestrau aros yn Lloegr. O ran yr adolygiad 21 diwrnod, rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni barhau â hyn. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried a oes angen hynny y tu hwnt i 24 Mehefin.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n gobeithio bod hwn wedi bod yn ddatganiad arwyddocaol iawn, a beth dwi'n meddwl wrth hynny ydy dwi'n gobeithio mai hwn ydy'r datganiad mawr olaf sydd yn marcio dechrau y diwedd—dim ond dechrau y diwedd, wrth gwrs, nid diwedd y pandemig. Mi fydd yna droeon trwstan arall dwi'n siŵr, ond allwn ni ond gobeithio mai i'r cyfeiriad iawn y byddwn ni yn symud.
Oherwydd yr arwyddocâd yna, mae yna nifer o feysydd o gwestiynau y buaswn ni'n licio mynd ar eu holau nhw. Yn gyntaf, oes, mae gennym ni'r ddau senario—bod pethau'n aros yn gyson, neu fod pethau'n mynd yn urgent. Mae beth sy'n digwydd yn y pontio rhwng y ddau a beth ydy'r trosi yn ôl a blaen rhwng y ddau yn fater, dwi'n meddwl, y gallwn ni wneud efo rhywfaint yn rhagor o eglurhad arno fo. Yn benodol, wrth gwrs, dydi hi ddim yn dderbyniol bod y cyllid wedi cael ei dynnu gan Drysorlys Prydain, ond yn absenoldeb yr arian hwnnw, a oes yna gronfa yn barod i fynd gan Lywodraeth Cymru, easy-access, os liciwch chi, lle y byddai modd rhoi camau cefnogi yn ôl mewn lle pe baem ni'n gorfod cymryd cam yn ôl oherwydd amrywiolyn newydd? A hefyd, mae'r fframweithiau deddfwriaethol yn dod i ben mewn mater o wythnosau erbyn hyn; oes yna ddeddfwriaeth newydd fyddai angen ei hailgyflwyno, neu ei chyflwyno o'r newydd, er mwyn gallu ailgyflwyno mesurau diogelwch, mesurau rydyn ni'n gobeithio na fydd mo'u hangen, wrth gwrs?
Dwi'n meddwl fy mod i'n hapus efo'r hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog a'i thîm o ran bod profion yn mynd i barhau i fod am ddim. Er mwyn bod yn gwbl sicr o hynny, gaf i eglurhad o beth fydd yn digwydd i bobl sydd yn fregus? Mi fydd fferyllfeydd yn gwerthu profion. Gaf i sicrwydd llwyr na fydd rhaid i unrhyw un sydd angen prawf oherwydd eu bod nhw'n fregus orfod talu am brofion dan unrhyw amgylchiadau? Hefyd, un cwestiwn dwi wedi methu â chael ateb iddo fe mewn briefings gan y Gweinidog a'i swyddogion hyd yma ydy: pryd yn union gawn ni ddiffiniad o bwy fydd yn cael eu hystyried yn fregus yn y misoedd sydd i ddod? Achos dwi'n gwybod mai un o'r cwestiynau yr oeddwn i'n ei gael mwyaf rheolaidd ym misoedd cyntaf y pandemig oedd pobl yn gofyn, 'Ydw i'n fregus? Ydw i i fod ar y rhestr o bobl sy'n cael eu gwarchod?' Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am hynny.
Un ymateb dwi'n gwybod sydd o gonsérn i staff iechyd ydy awyru o fewn ystad yr NHS yng Nghymru. Rydyn ni wedi siarad llawer iawn am awyru mewn ysgolion yn benodol, ac ambell i leoliad arall, ond a gawn ni eglurhad o'r asesiad sydd wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud ar ystad yr NHS—ysbytai, ac ati—i sicrhau diogelwch staff drwy gael digon o awyru drwy'r adeiladau hynny?
Mae dau fater arall. Gofynnais i'r Gweinidog yr wythnos diwethaf a fyddai'n fodlon ymuno â fy ngalwad i ar gyfer rhoi statws cyfranogwr craidd i Deuluoedd mewn Profedigaeth COVID-19 dros Gyfiawnder-Cymru yn ymchwiliad y DU. Roeddwn i a'r ymgyrch honno a llawer ohonom ni eisiau cael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru; cafodd hynny ei rwystro gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi fy syfrdanu gan yr ymateb yr oeddem ni wedi'i glywed ychydig funudau'n ôl gan y Gweinidog, a dweud y gwir, a ddywedodd nad ydyn nhw eisiau ymyrryd rywsut yn ymchwiliad y DU. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto heddiw: ymunwch â'n galwadau ni ar gyfer rhoi statws cyfranogwr craidd i ymgyrchwyr teuluoedd mewn profedigaeth COVID-19. Ydym, yr ydym ni'n gobeithio y bydd ymchwiliad y DU yn gwrando ar y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol, a Llywodraeth Cymru, a ninnau fel gwrthbleidiau, a'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Ond grŵp ymgyrchu yw hwn sydd â'i gwnsler cyfreithiol ei hun, sydd wedi mynd drwy'r gwaith diwyd o gasglu'r math o dystiolaeth sydd ei hangen arnom ni i sicrhau bod ymchwiliad y DU yn ei glywed. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru eto: a wnewch chi ymuno â'n galwad? Rwyf i wedi ysgrifennu at ymchwiliad y DU yn gofyn bod hynny'n digwydd, a wnaiff y Gweinidog gefnogi'r alwad honno hefyd? Nid fel y rhyngweithio unigryw rhwng Cymru a'r ymchwiliad hwnnw, ond fel elfen bwysig iawn ohono.
Ac yn olaf, rydym ni'n dod at ddwy flynedd, neu yr ydym ni wedi cyrraedd pwynt dwy flynedd, ers i'r pandemig ddechrau. Mae gweithwyr iechyd a gofal yn arbennig a oedd wedi dal y feirws yn y dyddiau cynnar, ac efallai wedi bod yn agored i lwyth feirysol arbennig o drwm, oherwydd iddyn nhw fod ar y rheng flaen yn y GIG ac yn y gwasanaeth gofal. Maen nhw nawr yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu cyflog wedi'i haneru—y rhai sy'n dal i ddioddef effeithiau dinistriol COVID hir hyd heddiw. Hyd y gwn i, mae cyfnod absenoldeb arbennig COVID yn dal i fod ar waith yn yr Alban i ddiogelu gweithwyr y GIG sydd yn y sefyllfa hon. Nid yw'n ddigon da nawr i droi o'r neilltu'r gweithwyr GIG hynny a oedd wedi rhoi eu hunain mewn perygl. Mae angen sicrwydd arnyn nhw na fyddan nhw'n gweld toriad yn eu cyflog, ac rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn fel mater o wir frys, er mwyn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar staff gofalgar, gweithgar o fewn y GIG ar ôl iddyn nhw ofalu am eraill yn nyddiau tywyll cyntaf COVID ddwy flynedd yn ôl.
Diolch yn fawr, a dwi hefyd yn gobeithio mai hwn yw'r datganiad mawr olaf yn ymwneud â COVID, a gobeithio yn wir y gallwn ni fynd ymlaen a chanolbwyntio ar faterion eraill yn ymwneud â'r NHS yn y dyfodol.
Jest o ran absenoldeb arian, pe byddai'n rhaid inni ailgydio mewn rhai o'r mesurau yma yn y dyfodol, wrth gwrs, mae wastad arian yn y reserves a byddai angen imi wneud achos i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol os byddai angen arian ar gyfer y dyfodol. Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd i ddod i'w diwedd ar 24 Mawrth eleni. Rŷn ni wedi gwneud asesiad manwl o'r hyn a fydd yn stopio, jest i sicrhau bod dim byd sydd â sail ddeddfwriaethol ar ôl hynny, a'n bod ni'n gyffyrddus gyda'r sefyllfa yna. Wrth gwrs, bydd rhaid inni gadw llygad ar beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Beth dŷn ni ddim eisiau gweld yw sefyllfa lle byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio defnyddio deddfwriaeth wahanol a fyddai yn ein stopio ni rhag cael y rôl rŷn ni wedi ei chael tan nawr.
O ran profion—.
Bydd y profion llif unffordd yn parhau i fod ar gael o fferyllfeydd tan 31 Mawrth. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'n partneriaid i sicrhau bod y bobl hynny sy'n agored i niwed sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn gallu parhau i gael profion pan fydd eu hangen arnyn nhw ar ôl 31 Mawrth. Felly, mae cyfleuster i chi ffonio a chael y cymorth hwnnw, neu mae'n amlwg y gallwch chi archebu'r rheini ar-lein. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda'n hybiau cymunedol a'n mannau casglu lleol i sicrhau y gall y rhai mwyaf agored i niwed barhau i gael profion yn bersonol o fis Ebrill ymlaen. Ac, wrth gwrs, byddwn ni'n symud i ddefnyddio profion llif unffordd ar gyfer unigolion symptomatig.
Jest o ran ventilation mewn ysbytai—
—mae llawer o adroddiadau ac asesiadau wedi'u gwneud o ran sicrhau bod pobl yn cymryd y sefyllfa honno o ddifrif, felly mae pob bwrdd iechyd yn gwybod yn union beth y mae angen iddo ei wneud yn y cyfnod hwn.
Rwyf i wedi rhoi ateb ar statws y cyfranogwyr craidd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein gweithwyr iechyd a gofal ac yn rhoi'r cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw. Roedden nhw ar y rheng flaen i ni, yr oedden nhw'n dioddef drosom ni ac, yn amlwg, yr ydym ni wedi rhoi llawer o gefnogaeth ar waith, yn enwedig o ran gweithwyr iechyd o ran iechyd meddwl ond hefyd o ran cymorth COVID hir. Ond rwy'n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud yn hyn o beth, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r bobl hyn a oedd yno i ni drwy gydol y pandemig.
Mae etholwr wedi cysylltu â mi yn dweud, 'Cafodd fy ngŵr ei frechiad COVID cyntaf yn yr Alban, yr ail yng Nghymru a'r brechiad atgyfnerthu yn Lloegr.' Eleni, mae wedi cael dau lythyr gydag apwyntiadau ar gyfer brechiad. Ar ôl iddo fynd ar drywydd y cyntaf, cafodd wybod, 'Yn anffodus, nid oes gennym ni'r awdurdod i gofnodi brechiadau sy'n cael eu rhoi y tu allan i ogledd Cymru gan ei fod y tu allan i'n hawdurdodaeth. Ar ôl cadarnhau'r system, nid oes un o'ch manylion brechu chi wedi'u trosglwyddo i ni o GIG Lloegr.' Dysgodd ef wedyn fod ei frechiad atgyfnerthu wedi'i gofnodi, mewn gwirionedd, ond nid ei frechiad cychwynnol yn yr Alban, ac nad oedd mecanwaith ar gyfer cofnodi hyn. Yna cafodd lythyr arall yn cynnig apwyntiad brechu iddo. Pan aeth ar drywydd hwn, cafodd ddewis optio allan, ond o ystyried ei fod yn debygol o fod yn gymwys i gael pedwerydd brechiad neu ail frechiad atgyfnerthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, nid yw hynny'n ddewis y mae'n fodlon ei dderbyn, ac ar ôl trafod, cytunwyd y byddai'n rhaid iddo atal ei gofnod tan fis Mehefin. Fel y dywedodd y wraig, mae Lloegr a'r Alban wedi datrys y broblem o bobl yn cael brechiadau mewn gwahanol leoedd. Pam na all Cymru ei reoli?
Pan es i ar drywydd hyn gyda'r bwrdd iechyd, dywedodd ei brif weithredwr, 'Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r system cofnodion brechu genedlaethol. Ni allwn ni newid y cofnod ar gyfer brechlynnau sy'n cael eu rhoi y tu allan i'n hardal ni. Rydym ni wedi codi'r mater hwn dro ar ôl tro ar lefel genedlaethol oherwydd y problemau y mae'n eu hachosi.' Sut yr ydych chi'n ymateb i fy etholwr yn unol â hynny?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae hwn yn fater sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers amser maith, felly er bod systemau Cymru a Lloegr yn siarad â'i gilydd a'u bod yn gallu cofnodi a gallwn ni wybod yn union a yw pobl wedi cael brechiad cyntaf ac ail frechiad yn Lloegr, nid yw'r system erioed wedi gweithio gyda'r Alban. Ac mae'r cyfrifoldeb am hynny a'r bobl sy'n arwain ar ochr ddigidol hyn gyda Lloegr, mewn gwirionedd, felly rydym ni wedi bod yn gofyn iddyn nhw geisio cywiro'r sefyllfa ers amser maith, ond rydym ni dal yn aros i hynny ddigwydd.
Fe hoffwn i ddweud ychydig am ein staff profi, olrhain a diogelu sydd wedi bod â rhan enfawr yn yr ymdrech i'n cadw ni'n ddiogel dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw'n cael eu taflu ar y domen nawr ar yr hyn sy'n ymddangos fel y nesaf peth i ddim rhybudd. Fe wn i am weithwyr, er enghraifft, sydd newydd gael 48 awr o rybudd bod eu horiau nhw'n cael eu torri. Roedden nhw'n gwneud gwaith, a dweud y gwir, nad oedd llawer o neb yn awyddus i'w wneud, a'u gwobr nhw am hynny yw lleihad sydyn yn eu horiau nhw, sydd â goblygiadau difrifol i'w bywoliaeth, wrth gwrs, a'u hincwm nhw, mewn cyfnod y gwyddom ni bod yr argyfwng costau byw—nid yw e' ar ddod, mae yma gyda ni. Felly, os caiff y cynllun ei ddirwyn i ben, onid ydych chi o'r farn hefyd y dylai hynny ddigwydd yn raddol ac y dylai ddigwydd mewn ffordd sy'n cydnabod bod bywoliaeth pobl yn dibynnu ar y swyddi hyn, oherwydd roedden nhw i gyd yn arwyr y llynedd, ond nawr mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n cael eu taflu ar y domen yn fympwyol iawn?
Diolch yn fawr iawn, ac mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn innau'n ategu eich barn fod y rhain wedi dod yn weithwyr medrus iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol i ni, ac yn sicr wedi cadw'r cyfraddau yn is nag y bydden nhw wedi bod fel arall, oherwydd eu hymdrechion aruthrol. Wrth gwrs, rydym ni'n amharod i adael i'r bobl hyn fynd. Mae hi'n amlwg y byddai adeg pan y byddai'n rhaid i'r gwaith hwn ddod i ben rywdro, ond, fel rydych chi'n ei ddweud, fe ddaeth y diwedd braidd yn swta i raglen a fu'n effeithiol iawn. Y broblem, wrth gwrs, yw i'r cyllid gael ei dorri gan Lywodraeth y DU, ac yn sicr fe fyddem ni wedi hoffi gweld hynny'n cael ei gyflwyno yn llawer mwy graddol na'r toriad y bu'n rhaid i ni ei orfodi, rwy'n ofni.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru gryfach, decach, wyrddach—cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser bod yn ôl yn y Siambr heddiw.
Yn y rhaglen lywodraethu, rydym ni'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod y tymor Seneddol hwn i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Heddiw, mae hi'n bleser gennyf lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, i nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Mae hwn yn amlygu ein blaenoriaethau o ran polisi a buddsoddi, ynghyd â sut yr ydym yn disgwyl cynyddu ein pwyslais ar gyflawni ac ar weithgarwch ein partneriaid. Ac rydym ni'n gwneud hyn wrth adeiladu ar y gwelliant sylweddol sydd wedi bod yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddiad y cynllun diwethaf yn 2018.
Cyrhaeddodd anweithgarwch economaidd ei gyfradd isaf erioed yn 2018, ac fe ostyngodd yn is na chyfradd y DU am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018. Erbyn diwedd 2019, roeddem ni wedi cyrraedd ein nod o gau'r bwlch diweithdra gyda'r DU, ac mae'r cyfraddau yn parhau i fod yn is na rhai'r DU heddiw. Ac roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer chwarter olaf 2021 yn uwch nag ar unrhyw gyfnod cyn cyflwyno'r cynllun diwethaf ym mis Mawrth 2018. Ac, wrth gwrs, mae cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant erbyn hyn yn agos at y gyfradd uchaf a gofnodwyd erioed. Mae cyfran y bobl rhwng 18 a 64 oed heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng mwy na 1 y cant, ac mae cyfran y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch wedi cynyddu 4 y cant.
Rydym ni'n nodi ein cynllun newydd heddiw yng nghyd-destun y ffaith nad yw effeithiau COVID-19 ar y farchnad lafur wedi bod mor ddifrifol ag yr ofnwyd, ac mae cynnydd mawr wedi bod o ran cyflogi gweithwyr unwaith eto. Mae hyn wedi arwain at y gymhareb isaf erioed o ddiweithdra i swyddi gwag yn y DU. Serch hynny, wrth edrych ymlaen, rydym ni'n wynebu nifer o risgiau a heriau newydd: cyfraddau uchel o swyddi gwag, prinder gweithwyr allweddol, poblogaeth sy'n heneiddio, a mwy o bobl yn gadael y farchnad lafur cyn eu hamser oherwydd afiechyd—ac yn enwedig y rhai dros 50 oed.
Mae gorbenion busnes cynyddol, yr argyfwng costau byw ac effeithiau ar safonau byw i gyd yn heriau y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw. Ac, wrth gwrs, y gwirionedd trist amdani yw bod yr ymosodiad ar Wcráin yn nodi dechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf ar ein cyfandir mewn degawdau. Ar yr un pryd, mae mynediad anghyfartal a darpariaeth annigonol o waith teg a'r bwlch cyflog o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd yn dal i fodoli. Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng grwpiau, fel cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.
Nawr, wrth fynd i'r afael â'r cynllun, rwy'n gwybod na allwn, o gyllideb Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i'r holl filiynau a gollwyd oherwydd y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewidion i Gymru o ran ariannu yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Fel y gŵyr yr Aelodau, fe fydd Cymru yn colli tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf, ac fe fyddai llawer o'r arian hwnnw a gollodd Cymru wedi cael ei fuddsoddi mewn gwella cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hynny'n golygu fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Weinidogion, wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran blaenoriaethu cyllidebau, ar gyfer parhau i fuddsoddi yn ein pobl ni a'u sgiliau. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgeisiau tîm Cymru o ran buddsoddi yn nhalent ein pobl a chael y £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Senedd hon yn unfryd yn y pen draw o ran y mater allweddol hwn ar gyfer dyfodol y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli.
Mae cefnogi pobl i aros mewn gwaith, dechrau neu symud ymlaen gyda chyflogaeth, a chynyddu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd yn hanfodol i chwyddo'r gronfa o dalent sydd ar gael, a chefnogi pobl i gael gwaith teg a chynnydd yn y farchnad lafur. Mae'r gallu i gael gafael ar waith teg yn cefnogi incwm a bywoliaeth aelwydydd yn ogystal ag iechyd a lles y gweithwyr.
Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a ddylai ein harwain ni at ein cerrig milltir i'r tymor hwy. Y cyntaf o'r rhain yw darparu gwarant i bobl ifanc o ran diogelu cenhedlaeth gyfan rhag effeithiau addysg a gollwyd ac oedi cyn dechrau ar gyflogaeth. Rwy'n falch o lansio Twf Swyddi Cymru+ heddiw yn rhan o hynny. Fe fydd hyn yn darparu'r elfennau mwyaf llwyddiannus o'r rhaglenni hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru i gynnig y cymorth gorau posibl i bobl ifanc.
Yr ail yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, gan roi mwy o bwyslais ar helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith, i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, a chymunedau ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â lefelau sgiliau is. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar batrwm Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wrth gefnogi cyflogaeth a pharhau â'n dull o bartneriaeth gydag awdurdodau lleol.
Y trydydd yw hybu gwaith teg i bawb, gan ddefnyddio ein hysgogiadau i wella'r cynnig sydd ar gael i weithwyr. Mae hynny'n cynnwys cyflwyno'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ac, wrth gwrs, parhau â'n hanogaeth i gyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, gwell, tecach ac yn fwy sicr.
Y pedwerydd yw rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor allu canfod gwaith. Mae hyn yn cynnwys angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr a phartner y rhwydwaith cyflenwi hefyd, i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr gofal iechyd.
A'r olaf yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd ein gweithlu drwy ehangu addysg hyblyg a phersonol i bobl sydd mewn gwaith ac allan o waith i wella eu sgiliau nhw, a dod o hyd i waith neu ailhyfforddi. Yr wythnos diwethaf, fe estynnodd Llywodraeth Cymru'r cynnig gofal plant i allu cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'n blaenoriaethau yng nghynllun 2018 i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a chynyddu cyfraddau cyflogaeth pobl anabl, a cheisio diogelu'r cyflenwad o bobl a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun hwn yn ymateb i randdeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu fframwaith buddsoddi rhanbarthol Cymru, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'.
Wrth symud ymlaen, mae angen i ni weithio yn ddoeth a gyda'n gilydd bob amser i wneud y defnydd gorau o'n pobl a'n hadnoddau. Fe fydd y cynllun hwn yn helpu ein partneriaid ni i gysoni eu gweithgareddau â'n blaenoriaethau, ac yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi yn hytrach nag yn sefyll yn ffordd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae elfennau o'r cynllun hwn yn cael eu cynnwys yn y cytundeb cydweithredu, a phan fo hynny'n berthnasol fe fydd y polisïau hyn yn cael eu datblygu gyda Phlaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio maes gweithredu polisi traws-Lywodraethol gwirioneddol yng nghwrs y rhaglen lywodraethu hon.
Ein pobl yw ein mantais fwyaf ni, ac ni all Cymru ffynnu os na cheir mwy o gydraddoldeb o ran y gallu i ddysgu, hyfforddi a symud ymlaen yn y gwaith. I wireddu hyn bydd angen ymdeimlad cyffredin o genhadaeth gan bob partner, ar gyfer manteisio hyd yr eithaf ar ein hadnoddau i sicrhau Cymru gryfach, decach, wyrddach, gydag economi sy'n gweithio i bawb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad brynhawn yma? Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur y bydd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn cael ei wreiddio yn yr egwyddor o degwch a gyda'r bwriad o fynd i'r afael â newid hinsawdd a chreu economi lawer gwyrddach, ac felly rwy'n croesawu cynllun heddiw a'i bum maes allweddol. Dyma'r union adeg iawn i osod y sylfeini ar gyfer newid o ran darparu sgiliau i arwain at y manteision hynny yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni'n gallu manteisio ar gyfleoedd, ac rwy'n falch bod un o'r pum maes blaenoriaeth yn y datganiad heddiw yn cyfeirio at y warant i bobl ifanc, sydd â'r gallu i fod yn gyfrwng i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn sectorau a diwydiannau na fydden nhw efallai wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyfleoedd hyn yn berthnasol i'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni yma yng Nghymru, a bod pobl ifanc yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn meysydd sy'n ystyrlon. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae'r warant i bobl ifanc yn cael ei holrhain ar gyfer cadw golwg ar ei heffeithiolrwydd, a sut bydd honno'n sicrhau y bydd pobl ifanc yn ennill y sgiliau iawn ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, fe ddylai unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau gysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r sector ôl 16 yng Nghymru, ac fe fydd yn gweithio i gysoni addysg a hyfforddiant yn nes at anghenion y cyflogwyr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y bydd y cynllun hwn yn cysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a pha drafodaethau y mae ef yn ei gael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â hynny ac ynglŷn â'r mater ehangach o gysoni addysg a hyfforddiant ag anghenion y cyflogwyr hefyd?
Nawr, un o feysydd allweddol y cynllun yw o ran hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, yn well, yn decach ac yn fwy sicr. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o arian sydd wedi ei ddyrannu i gyflawni'r nod penodol hwn, a sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu mewn gwirionedd.
Nawr, mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i gynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r galw sydd am sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag o ran nodi prinderau a chynghori ar sut i fynd i'r afael â'r prinderau hynny. Mae'r Aelodau yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y Senedd ddiwethaf, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am waith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, ac mae'n siomedig nad oes sôn am bolisi Llywodraeth Cymru o ran gyrfaoedd. Ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut bydd y cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau a strategaethau eraill, fel ei bolisi gyrfaoedd, parthau menter, bargeinion dinesig a thwf a rhaglen Twf Swyddi Cymru+, a lansiwyd heddiw hefyd.
Nawr, un o bum maes y cynllun yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu, ac rwy'n falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru yn ehangu'r cyfleoedd o ran addysg hyblyg a phersonol. Mae pryder weithiau ein bod ni'n canolbwyntio ar ddarparu sgiliau'r rhai sy'n gadael yr ysgol, ac mae'n rhaid i ni ystyried bod datblygu sgiliau yn rhaglen barhaus drwy gydol oes waith yr unigolyn. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i ddatblygu dull o uwchsgilio a dysgu sy'n barhaus.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gymryd camau i angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr ac yn rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith, neu golli gwaith oherwydd cyflwr iechyd. Ac mae hi'n hanfodol bod mwy o gymorth ar gael i rai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am gamau cychwynnol Llywodraeth Cymru yn y maes arbennig hwn.
Mae'r datganiad yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd hefyd, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Un o'r cerrig milltir o ran mesur llwyddiant y cynllun yw cau'r bwlch cyflog rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor hyderus yw ef y bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.
Dirprwy Lywydd, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn eglur iawn fod symud at economi carbon isel, sero-net yn flaenoriaeth, ac, fel y dywedais i o'r blaen, rwyf i o'r farn bod angen cynnal archwiliad sgiliau sero-net ar gyfer nodi'r bylchau o ran sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau y bydd eu hangen ar ein heconomi. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r wybodaeth honno, ac os yw'n gwneud hynny'n rhan o'r cynllun hwn.
Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn iawn, ein pobl ni yw ein mantais fwyaf ni, a dyna pam mai nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein tirlun sgiliau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog yn adeiladol i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd o ran addysg a hyfforddiant hanfodol ledled Cymru. Diolch i chi.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf i am ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i heb drethu amynedd y Dirprwy Lywydd.
Felly, ynglŷn â'ch pwyntiau cychwynnol, o ran y warant i bobl ifanc, mae honno'n elfen allweddol, yn amlwg, o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau. Ac nid yn unig yn y cynllun heddiw, ond yn fy natganiadau blaenorol ar y warant i bobl ifanc, rwyf i wedi nodi mai Cymru'n Gweithio sy'n rhedeg y warant a'r gwasanaeth paru swyddi, a'r ystod o bethau sy'n mynd rhagddyn nhw yn y fan honno. Ac fe fyddwn ni'n cael data, fel y dywedais i yn y datganiad blaenorol, a fydd yn helpu i ddangos nifer y bobl sy'n dod trwodd, ond y mathau o ganlyniadau y credwn y byddwn ni'n gallu eu cael hefyd.
Ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am Twf Swyddi Cymru+. Mae honno'n rhaglen newydd, sy'n cyfuno'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru, i helpu pobl i gael gwaith neu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith yn y lle cyntaf. Ac rydym ni wedi dysgu am y gefnogaeth y bydd ei hangen ar wahanol bobl ar wahanol adegau i sicrhau eu bod nhw'n barod i fynd ymlaen a chaffael y sgiliau hynny neu fynd i fyd gwaith. Felly, fe fydd yr elfen o gymorth i'r unigolyn yn bwysig i ni.
Nawr, rwy'n llwyr ddisgwyl, yn y Siambr hon, ac yn y pwyllgor yr ydych chi'n ei gadeirio, yn gwisgo het ychydig yn wahanol, mae hi'n ddigon posibl y bydd diddordeb gennych chi yn hyn, ac fe fyddwn i'n disgwyl i hynny fod yn wir drwy'r flwyddyn gyntaf, ond wrth i ni fwrw ymlaen drwy weddill y tymor hwn, i allu deall y mathau o ganlyniadau yr ydym ni'n eu cael ac a ydym ni'n dysgu wrth i ni fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i helpu i wella'r cynnig y bydd y rhaglen yn ei roi i bobl. Oherwydd yn hyn o beth, yn fy marn i, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y pleidiau yn y Siambr o ran yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yn y pen draw, sef mwy o bobl mewn gwaith ac mewn gwaith da, gyda darpariaeth well i unigolyn gaffael ac yna barhau i ennill sgiliau drwy gydol ei oes waith.
Ac mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi ynglŷn â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Rwy'n hapus i allu cadarnhau i chi fy mod i wedi cwrdd â'r Gweinidog addysg cyn cyhoeddiad y cynllun hwn, a chyn trafodaeth y Cabinet a gytunodd ar hyn, ac rydym ni'n gweld bod gwaith sylweddol i'w wneud ar y cyd â'r hyn y bydd y comisiwn newydd yn ei wneud. Oherwydd yn rhan o'r hyn y bydd angen i ni ei wneud i helpu i wella sgiliau pobl, fe gaiff llawer o hynny ei wneud ym maes addysg erbyn hyn. Felly, fe fydd angen i ni ddeall yr hyn y byddwn ni'n ei wneud ochr yn ochr â nhw a sut y bydd hynny'n eu galluogi nhw i gyflawni ar ein cyfer ni. Wrth gwrs, fe fydd addysg bellach yn un o'r partneriaid allweddol wrth gyflwyno rhaglen Twf Swyddi Cymru+.
Ac o ran eich pwynt am bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydych chi wedi sôn amdanyn nhw droeon, rwyf i wedi cwrdd â'r holl bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwyf i wedi cwrdd â'r holl grwpiau rhanbarthol a arweinir gan awdurdodau lleol yn y cyd-bwyllgorau newydd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r bargeinion dinas. Ac un o'r pethau sydd, yn fy marn i, wedi bod yn gadarnhaol iawn yw eu bod nhw i gyd, ymhlith holl wahanol arweinwyr gwleidyddol yr awdurdodau lleol, yn ystyried y partneriaethau rhanbarthol sydd ganddyn nhw mor allweddol i'w dyfodol rhanbarthol nhw, ac maen nhw'n cydnabod bod hynny'n ychwanegu at yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hytrach na'i chwalu. Ac maen nhw i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ac yn deall y cyfleoedd sy'n bodoli i fusnesau yn eu hardaloedd nhw, ac yn ceisio deall wedyn sut y byddwn ni'n cyfateb hynny i anghenion y busnesau o ran sgiliau. Felly, maen nhw'n rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i redeg y system yn llwyddiannus—sef sgiliau cynharach, ond, yn hollbwysig, datblygu sgiliau i bobl yn y gweithle hefyd.
Ac rwyf i o'r farn bod hynny'n dilyn ymlaen mewn gwirionedd ar eich pwynt chi ynglŷn â chyflogwyr yn buddsoddi yn eu gweithlu yn y dyfodol ac ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae gweithlu'r dyfodol i raddau helaeth iawn gyda ni'n barod. Y gweithwyr sydd eisoes yng ngweithle heddiw a fydd gyda ni ymhen pum mlynedd a 10 mlynedd. Felly, fe fydd angen parhau i fuddsoddi ynddyn nhw. A dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu gwneud wrth nodi ein cynllun ni heddiw: helpu i roi sefydlogrwydd i gyflogwyr ar gyfer gwneud eu dewisiadau eu hunain, ond iddyn nhw allu bod yn eglur hefyd ynghylch sut y gallan nhw fod â rhan gynorthwyol wrth ddylanwadu ar ein hagenda ni ein hunain ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau.
Ac rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt hefyd ynglŷn â nid dim ond y cynllun hwn yn unigol ond ochr yn ochr ag ymyriadau eraill. Felly, i roi enghraifft i chi, mae gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb arbennig yn y cynllun hwn, nid yn unig am fod uchelgeisiau'r Llywodraeth gyfan neu ei hetholaeth hi yn bwysig iddi, ond, er enghraifft, y rhaglen ôl-ffitio tai, a ddylai wneud gwahaniaeth o ran gwario arian i wella effeithlonrwydd cartrefi pobl, i wneud eu cartrefi yn gynhesach a llai costus i'w ffitio. Mae digonedd o waith i'w wneud eto yn y rhaglen honno hefyd, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y sgiliau cywir gennym ni i bobl ymgymryd â'r rhaglen honno ar gyfer anghenion y dyfodol y gwyddom ni y bydd eu hangen nhw hefyd. Felly, mae angen swyddi a darpariaeth sgiliau.
Ac yn ddiweddar, fe ymwelais i nid â rhaglen ôl-ffitio, ond rhaglen adeiladu newydd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Wates, sy'n bartner yn y rhaglen Cartrefi Caerdydd. Ac maen nhw'n cynnig prentisiaethau ar y safle hwnnw—mae pobl yn cael eu hyfforddi heddiw yn y ffordd y caiff cartrefi eu hadeiladu, ac fe fydd y bobl hynny'n gweld mai dyna'r byd y byddan nhw'n parhau i weithio ynddo i'r dyfodol. Felly, rydym ni'n gweld swyddi ac elw o ran hyfforddiant eisoes wrth wella'r stoc newydd o dai, yn ogystal â'r angen i wella'r stoc o dai sydd gennym ni'n barod. Ac fe ddylech ddod o hyd i'r enghreifftiau hynny drwy'r ffordd y mae'r cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill gan y Llywodraeth. Ni fydd hyn yn llwyddo os mai dim ond fy adran i sy'n gweithio tuag ato.
Ac o ran yr her ynglŷn ag anghydraddoldeb economaidd, dyma un o'r pethau allweddol y gwyddom ni fod angen i ni fynd i'r afael ag ef. Gyda'n rhaglen gyfredol ni, y rhaglen Cymunedau dros Waith, mae anabledd neu gyflwr gofal iechyd cyfyngol gan 40 y cant o'r bobl a gafodd gymorth a chefnogaeth yn y rhaglen honno sy'n rhwystr iddyn nhw gael gwaith. Fe wyddom ni fod llawer o bobl yn cael cymorth gan ein rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, gan helpu rhieni i gael addysg lle mae gofal plant yn rhwystr iddyn nhw, ac fe wnes i gyfarfod â rhai o'r bobl hynny heddiw, wrth i ni lansio'r rhaglen. Felly, rydym ni'n mynegi yn bwrpasol sut rydym ni am geisio lleihau anghydraddoldeb economaidd wrth gyflawni'r cynllun hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Nawr, rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ynglŷn â rhai o'r pwyntiau eraill a wnaeth ef, gan gynnwys y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i wella sgiliau sero-net a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gyda Gweinidogion newid hinsawdd yn y maes hwnnw. Ond rwy'n gallu gweld o'r olwg ar ei wyneb fod y Dirprwy Lywydd yn gofyn yn garedig i mi fod yn ddirwyn i ben a chaniatáu i'r cwestiwn nesaf gael ei ofyn.
Rwy'n hapus bob amser i chi roi atebion cryno, Gweinidog.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae llawer i'w groesawu yn hyn, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Fe geir cysylltiad cryf rhwng ennill cyflogaeth o ansawdd uchel ac iechyd meddwl: mae 43 y cant o bobl ddi-waith yn dweud eu bod nhw'n cael problemau ag iechyd meddwl, o'i gymharu â 27 y cant o bobl mewn cyflogaeth. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi bod colli gwaith, a ddigwyddodd yn fynych yng Nghymru dros gyfnod y pandemig, yn brofiad dirdynnol ym mywyd rhywun ac yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar ei iechyd meddyliol. At hynny, fe achosir rhagor o niwed pan fydd diweithdra yn para i'r hirdymor.
Gweithwyr ar gyflogau isel oedd y rhai mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu golli eu swyddi, ac mae'r grwpiau a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o ddyled broblemus cyn y pandemig mewn mwy fyth o berygl erbyn hyn. Fe ddylai mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ariannol hyn ar y pen hwn i'r pandemig fod ar flaen ein hagenda wleidyddol ni. Er hynny, nid yw ennill cyflogaeth yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i ni warantu bod y gyflogaeth honno'n deg ac yn gyfiawn. Erbyn hyn, mae hanner y bobl sydd mewn tlodi yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio. Mae pobl yn cael eu cadw mewn tlodi gan gyflogau isel, contractau dim oriau ac ansicrwydd o ran swyddi. Mae hyrwyddo gwaith teg yn ardderchog, ond fe hoffwn i'r Gweinidog fanylu ryw ychydig ac amlinellu sut y caiff gwaith teg ei warantu, gan gynnwys diogelwch swyddi, a chyfle i gael addysg a hyfforddiant ac ymgynghori â staff a'u cynrychioli. Sut yn union y caiff y rhain eu gwarantu?
O ran yr economi werdd, nid yw mewnforion olew a nwy o Rwsia wedi'u cynnwys yn llawn ar hyn o bryd yn sancsiynau economaidd y DU yn erbyn Rwsia, oherwydd pryder effaith hynny ar economi'r DU, yn arbennig felly gan ein bod ni eisoes yn gweld argyfwng costau byw a ysgogwyd i raddau helaeth gan gostau ynni cynyddol. Mae rhai adroddiadau yn awgrymu y bydd hyn yn newid heddiw, ond mae effaith ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil o Rwsia yn aruthrol. Mae Shell yn cyfrif bod yr allforion presennol a phrisiau llif i ddemocratiaethau gorllewinol yn helpu i ariannu tanc T-90 i Rwsia bob 20 munud. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithwraig Liz Saville-Roberts AS wedi bod yn ei godi yn rhinwedd ei swydd yn San Steffan, ac mae hwn yn bwnc y mae Adam Price wedi siarad amdano eisoes, ac, i ailadrodd ei eiriau ef,
'na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru...tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin'.
Ond mae'r trafodaethau hyn wedi codi cwestiynau am ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil, a hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ehangu ein heconomi carbon isel adnewyddadwy ni, a fydd, gobeithio, â rhan yn y gwaith o wneud felly. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar unwaith ac yn barhaus ym maes technolegau'r dyfodol yma yng Nghymru, a chreu swyddi gwyrdd drwy bontio sy'n gwneud cyfiawnder. Mae'r bwlch sgiliau yng Nghymru yn un o'r rhwystrau sy'n ein hatal ni rhag symud ar y gyfradd gyflymach hon oddi wrth danwydd ffosil, mater y mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi tynnu sylw ato, mater y gwn i fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Yn benodol, sut ydym ni am lenwi'r bylchau hyn o ran sgiliau? Sut y caiff y bylchau hyn eu llenwi ar frys i ni allu ehangu ein heconomi adnewyddadwy, carbon isel ni'n sylweddol?
Ac, yn olaf, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, ac mae menywod yn parhau i wynebu rhwystrau economaidd. Mae ein system economaidd ni, ein strwythurau ni a'n polisïau ni'n parhau i ail-lunio ac atgynhyrchu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r data diweddaraf gan Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gwaethygu yn ystod 2021. Fe gynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Fe gynyddodd cyflog canolrifol fesul awr menywod gan 34c rhwng 2020 a 2021, yn is na'r cyfartaledd o 42c, tra bod dynion wedi cynyddu gan 49c. Ac mae hwn yn bwynt yr wyf i wedi tynnu sylw ato o'r blaen yn y Siambr hon, ond mae angen ei ailadrodd: o 2021 ymlaen, mae dynion yn ennill mwy na menywod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Fe ddylai'r ffigurau hyn dynnu ein sylw ni at y ffaith nad yw'r cynnydd tuag at ddiddymu anghydraddoldeb incwm yn gyson, yn sicr nac yn gyflym, ac mae'n rhaid i ni, felly, sicrhau ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i farn ac anghenion menywod mewn cynlluniau fel rhain. Rwy'n pryderu, wrth i ni symud tuag at economi werdd, y gallai'r ffigurau hyn barhau i waethygu, gan ei bod hi'n hysbys fod y bylchau mwyaf rhwng y rhywiau yn digwydd mewn amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu a thrafnidiaeth—meysydd a fydd yn allweddol ar gyfer pontio gwyrdd, lle bydd y swyddi a'r sgiliau newydd yn ymgasglu. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw menywod yn cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd.
Felly, yn olaf, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: sut mae'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd sylweddol? Sut ydym ni am annog menywod yng Nghymru i ddilyn addysg pynciau STEM? Sut ydym ni am warantu cyflogaeth deg a gwyrdd i fenywod? A sut ydym ni am sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd? Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hynny, a wnaiff y Gweinidog ystyried ehangu'r cynllun hwn i gynnwys ychwanegiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd mewn cyflogaeth a hyfforddiant, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?
Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cydnabod bod gwaith, a gwaith ystyrlon yn arbennig felly, yn elfen warcheidiol o ran iechyd meddwl pobl. Nid yw'n gwarantu hynny, ond fe wn y gall gwaith diwerth fod ag effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl hefyd. Fe wn i o'm gyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth, pan welais i bobl a oedd yn gweithio mewn gweithle truenus yn cael profiadau anodd yn y gwaith a fyddai nid yn unig yn effeithio ar eu gwaith nhw, ond ar eu bywydau cyfan a'u hamgylchiadau hefyd, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw. Ac mae hynny'n arbennig o wir pan fydd pobl mewn gwaith sydd â thâl pitw hefyd. Felly, mae gwaith teg yn un o'r pum agwedd allweddol sydd gennym ni yn y cynllun.
Fe geir rhai pethau y gallwn ni eu gwneud ein hunain mewn ffordd ychydig yn fwy uniongyrchol. Felly, mae'r GIG, er enghraifft, yn gyflogwr cyflog byw, yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Rydym ni'n gwneud mwy yn y system gofal cymdeithasol o ran sicrhau bod gan bobl gyflogau parchus a gwell. Rydym ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar y bartneriaeth gymdeithasol a luniwyd gennym ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyflymwyd ac a gryfhawyd yn ystod y pandemig, i geisio sicrhau ein bod ni'n cyflawni o ran sicrhau bod Cymru yn wlad o waith teg mewn gwirionedd.
Mae ein staff ni'n cael eu talu mewn ffordd arbennig; rydym ni'n gwybod na allwn ni ddylanwadu ar bob cyflogwr yn y sector preifat. Serch hynny, mae angen i ni fod yn eglur gyda'r enghreifftiau o'r hyn yr ydym ni'n barod i'w wobrwyo a'i argymell a dweud, 'Fel hyn y dylai hi fod.' Rwyf i wedi gweld rhagor yn hynny o beth yn y ffordd y mae'r Contract Economaidd yn gweithio ac yn cael ei gryfhau. Felly, rwy'n disgwyl bod â mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl yn y sector preifat lle gwneir y rhan fwyaf o ddewisiadau o ran cyflogau, wrth gwrs. Ac ar yr un pryd, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud mwy ym maes caffael, ac mae hwnnw'n fater y mae'r Gweinidog cyllid yn arwain arno ac mae gan Weinidogion ar draws y Llywodraeth ddiddordeb gwirioneddol yn hynny. Felly, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod, nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yn fwy cyffredinol yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ein bod ni wedi gwir ymrwymo i hynny, yn ogystal ag i ymyriadau unigol fel Cymru Iach ar Waith ac Amser i Newid Cymru, y mae fy adran i'n ei ariannu ar y cyd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fel y Gweinidog arweiniol.
O ran y sylwadau a wnaethoch chi am ryfel Putin a'r ymosodiad ar Wcráin, rwy'n llwyr gydnabod y ceir heriau o ran prisiau cynyddol y bydd y rhyfel yn eu gwaethygu. Roedd yr argyfwng costau byw gyda ni eisoes cyn yr ymosodiad ar Wcráin. Fe waethygir y sefyllfa oherwydd fe fydd yna lai o gyflenwad olew a nwy o Rwsia. Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu derbyn yw, os ydym ni o'r farn ei bod hi'n anghyfiawn i ni brynu olew a nwy oddi wrth Rwsia ac i hynny helpu i ariannu'r rhyfel hwnnw, yna fe fydd hynny'n golygu y bydd yna heriau o ran y cyflenwad ynni yn y wlad hon hefyd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r pwynt am ddiogelwch ynni a'n gallu ni i gynhyrchu mwy o'n hynni ein hunain a bod yn llai dibynnol ar gyflenwad o olew a nwy o rannau eraill o'r byd. Dyma un o'r pethau yr oedd Gweinidogion eisoes, hyd yn oed cyn yr argyfwng ofnadwy yn Wcráin, yn eglur iawn yn ei gylch ac yn awyddus i wneud yn fawr o'n hasedau ni ein hunain.
O fewn hynny, fe geir heriau, wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac yn y seilwaith sydd ei angen arnom ni. Fe wyddom ni ein bod ni eisoes yn y sefyllfa o fod â dros hanner ein hanghenion ni o ran ynni, rwy'n credu, yn cael eu darparu o ffynonellau adnewyddadwy yn rheolaidd. Yr her wedyn yw faint yn fwy y gallwn ni ei wneud, faint yn fwy dibynadwy y bydd angen i hwnnw fod, sut y gallwn ni gael buddsoddiad gan y sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus y bydd ei angen i fanteisio ymhellach ar ynni gwynt, ynni morol, ac ynni'r llanw hefyd, ac yna'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny. Mae honno'n sgwrs gylchol i ryw raddau oherwydd mae angen i ni ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd gyda buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiannau hynny a gaiff eu creu pan fydd rowndiau newydd yn cael eu gwerthu ar ocsiwn gan Ystâd y Goron o ran gwynt ar y môr. Sut ydym ni am sicrhau wedyn ein bod ni'n deall yr hyn y bydd y cwmnïau hynny'n ei wneud a phryd y gallwn ni fuddsoddi yn ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod y cyflenwad sgiliau ar gael i bobl?
Un enghraifft o hynny'n mynd o'i le, wrth gwrs, yw Wylfa Newydd, y prosiect a oedd gan Hitachi. Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn llawer o sgiliau, ac fe fyddai'r hyn yr oeddem ni'n ei wneud yno wedi gwneud synnwyr pe byddai'r prosiect wedi cael ei wireddu. Pan na ddigwyddodd hynny, roeddem ni i bob pwrpas wedi dod â chymuned o bobl gyda ni ar daith na ddaeth i'w diwedd bryd hynny. Eto i gyd, mae hynny'n dangos, yn fy marn i, lle ceir rhywfaint o sicrwydd gennym ni ynglŷn â'r dewisiadau mawr iawn hynny o ran buddsoddiad, fe allwn ni sicrhau bod yr ysgogiadau sydd gennym ni ar gael i helpu pobl at yr hyn a ddylai fod yn waith da i'r dyfodol. Rydym ni eisoes yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw gan ein bod ni'n gwybod y bydd angen i ni wneud mwy hyd yn oed i gyflymu'r broses o bontio at economi ddi-garbon, ac yn arbennig sut y cawn ni fwyaf o fudd yn sgil y ffynonellau o ynni adnewyddadwy.
Rwyf i am orffen gyda'ch pwyntiau chi ynglŷn â menywod a'r bwlch cyflog. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn yn fy oes waith i weithio gyda nifer o fenywod, a chael fy arwain a fy rheoli gan fenywod yn y gweithle, ac mae gennyf i lawer o falchder yn fy ngwraig sy'n fenyw o gyflawniad gwirioneddol yn ei busnes hi. Mae hi'n arweinydd a rheolwr llawer gwell yn y gweithle nag yr oeddwn i erioed. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddom ni fod gennym ni anghydraddoldebau sylweddol o hyd o ran rhyw, nid yn unig o ran arian, ond yn y ffordd yr ymgymerir â swyddi arweiniol a'r diwylliant ymysg gweithluoedd ac mewn gweithleoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn hybu cyfleoedd i fenywod a merched chwilio am yrfaoedd mewn meysydd lle nad ydyn nhw wedi gweithio yn y gorffennol, mewn adeiladu, neu feysydd STEM neu, yn wir, mewn technoleg ac mewn technoleg ariannol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i dramor yn ddiweddar ac wrth edrych ar rywfaint o'r ymgyrchu a wnawn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ynghylch Expo y Byd yn Dubai, roeddwn i'n falch iawn o weld menywod Cymru yn ffigurau blaenllaw mewn technoleg ariannol, yn rhedeg y cwmnïau hynny ac yn rhoi cynnig ar ddangos eu bod nhw'n gwneud rhywbeth nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond er mwyn y sector cyfan lle gellid ac y dylid cydnabod eu sgiliau nhw. Rwyf i o'r farn y byddwn ni'n gweld mwy o hynny yn y dyfodol, i bawb sylweddoli y gallwch chi fod fel unrhyw un llwyddiannus a welwch chi, ac mae'r Llywodraeth ar eich ochr chi i wneud yn siŵr y byddwch chi'n cael yr hyn yr ydych chi'n ei haeddu, yn union yr un fath â'r unigolyn agosaf atoch chi, yn wryw neu'n fenyw.
Yn dilyn ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf i eisiau ceisio archwilio sut y byddwn ni'n cau'r bwlch rhwng y rhywiau o ran peidio â bod â menywod mewn un adran o'r gweithlu a dynion yn y llall, oherwydd mae angen—. Fe fyddai ychydig mwy o gymysgu o fudd i'r gymuned gyfan.
Felly, fe wyddom ni o adroddiad Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 'Cartrefi sy'n Addas i'r Dyfodol: Her Ôl-ffitio', fod angen i dros 4,000 o bobl fod yn fedrus o ran inswleiddio cartrefi pobl—cartrefi sy'n bodoli eisoes—ac mae angen bron i 3,000 o aseswyr ynni ôl-ffitio arnom ni hefyd. Sut mae'r Llywodraeth yn credu y gallwn ni sicrhau gweithlu llawer mwy cytbwys yn y sgiliau pwysig iawn hyn, yn hytrach na bod pob un ohonyn nhw'n ddynion? Yn yr un modd, fe fyddai'r sector gofal cymdeithasol yn elwa ar gael amrywiaeth llawer ehangach o'r gweithlu, o ran mwy o ddynion yn gweithio ynddo, a hefyd amrywiaeth ethnig leiafrifol i adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Felly, rwyf i'n awyddus iawn i ddeall sut y gellid llenwi'r prinder gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol ac mewn gofal plant drwy hyfforddi llawer mwy o bobl i weithio yn y maes hollol hanfodol hwn, na fydd byth yn cael ei roi ar gontract allanol i algorithmau artiffisial—swyddi go iawn y dyfodol yw'r rhain—yn ogystal â'r swyddi y mae'r angen amdanyn nhw ar frys gwirioneddol o ran ôl-ffitio, y mae angen i ni, yn amlwg, gyda chwyddiant prisiau ynni, fwrw ymlaen â nhw cyn gynted ag y gallwn ni.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr pa mor bell na pha mor agos yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw â'r cynllun, ond rwy'n hapus i fynd i'r afael â'r pwyntiau a wneir, fel rwyf i'n eu deall. Oherwydd, unwaith eto, yn y gorffennol i mi, pan oeddwn i'n rhedeg hawliadau am gyflog cyfartal, roeddwn ni'n gallu gweld pethau a fyddai'n ymddangos yn anarferol yn gyflym iawn, ac yna mae'n rhaid i chi geisio eu profi nhw. Felly, er enghraifft, mewn meysydd lle ceir swyddi ar wahân ar gyfer y rhywiau a strwythurau negodi gwahanol, rydych chi'n gweld yn aml, hyd yn oed gyda'r un cyflogwr, fod canlyniadau amrywiol o ran strwythurau cyflog. Ac mae hynny wedi creu problem enfawr i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac mewn rhai rhannau o'r sector preifat. Yr anhawster yw bod rhedeg hawliad cyfreithiol yn arf heb awch i geisio cyflawni hynny, ac rydych chi'n gweld yn aml fod pobl yn buddsoddi llawer o arian i amddiffyn hawliadau, yn hytrach nag edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i fynd i'r afael â'u systemau talu cyflog i sicrhau eu bod nhw'n gwobrwyo pobl yn iawn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Dyna pryd y dylai pobl sy'n gwneud y gwaith gael eu gwerthfawrogi a'u talu'r un fath, yn hytrach na'r herio sy'n tueddu i wneud i bobl ganolbwyntio ar yrfaoedd cyfan gwbl wahanol.
Rwy'n derbyn eich pwynt chi ynghylch rhywfaint o'r gwaith ar asesu ynni. Wel, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â hyrwyddo cyfleoedd a bod yn eglur nad gwaith dyn neu waith menyw yn unig yw hyn. I fod yn glir iawn, fe geir swyddi i bobl sydd â sgiliau a thalent, a bod yn glir fod y dalent honno'n bodoli ym mhob rhan o'r wlad. A dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud ar gyfer rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd i bobl ailymuno â'r gweithlu. Fe wnes i gyfarfod ag un tad sengl ac un fam sengl a oedd wedi cael cymorth gan y rhaglenni y gwnaethom ni eu darparu, ac roedden nhw mewn gwaith erbyn hyn oherwydd y cymorth a'r gefnogaeth y gwnaethom ni eu rhoi. Ond mae hyn yn ymwneud ag egluro ein bod ni wedi ceisio tynnu rhai o'r rhwystrau hynny o ran y ffordd y mae pobl yn eu gweld eu hunain ynddi hi, yn ogystal â'r ffordd y maen nhw'n cael eu gweld gan bobl eraill. Ac mae honno'n her fwy, oherwydd, mewn gwirionedd, caiff llawer o ragfarn rhywedd yr ydym ni'n sôn amdani ei sefydlu o'r foment cyn i bobl gael eu geni ac yna ar ôl i bobl gael eu geni.
Nid wyf i'n gwybod faint ohonoch chi sy'n dal i grwydro ymysg yr eiliau dillad a llyfrau plant mewn siopau, ond rydych chi'n dal i weld llawer iawn o binc ar gyfer y pethau hynny sydd ar gyfer menywod—ac rwy'n gwisgo crys pinc drwy gyd-ddigwyddiad heddiw. Ond, pan edrychwch chi ar y negeseuon ar ddillad pobl, ac fe welais i negeseuon am hyn yn ddiweddar, mae'r negeseuon a roddir i ferched am bwy y dylen nhw fod a'r hyn y dylen nhw ei wneud yn wahanol iawn i'r negeseuon a roddir i fechgyn yn ifanc iawn. Ac, mewn gwirionedd, rhan o'n her yw sut yr ydym ni am fynd drwy rywfaint o hynny, oherwydd heb wybod hynny, fe fyddwn ni yn y pen draw yn tyfu i fyny gyda'r tybiaethau hynny amdanom ni ein hunain ac am bobl eraill. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun hwn yn rhan o'r hyn y dylem ei wneud yn y Llywodraeth i'w gwneud hi'n glir bod y cyfleoedd hyn ar gyfer pawb, ac rydym ni'n cydnabod nad yw pobl yn yr un sefyllfa ac rydym ni'n bwriadu gwneud rhywbeth ynghylch unioni hynny a sicrhau bod gan bobl sydd â chyfrifoldebau gwahanol a chanlyniadau gwahanol well cyfle oherwydd y camau y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw a'r ymatebion hyd yn hyn yn y Siambr hon. Gan eich bod yn ddilynwyr brwd o'r Cyfarfod Llawn, rwy'n siŵr eich bod chi wedi sylwi fy mod i wedi gofyn cwestiwn yr wythnos diwethaf i'r Gweinidog newid hinsawdd ynghylch y cyfleoedd yn arbennig yn y gogledd ynghylch ynni adnewyddadwy a'r gadwyn gyflenwi yn y fan honno, ac am wneud yn fawr o'r adnoddau sydd gennym ni yn y gogledd i sicrhau bod yr economi werdd yn ffynnu yn y rhan honno o'r wlad. Fe amlinellais i'r cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig, ac, wrth gwrs, nid i'r gogledd yn unig y mae hynny'n wir ond i Gymru gyfan, boed hwnnw'n ynni gwynt, ynni'r haul neu rywfaint o ynni morol hefyd, ac rwy'n diolch i chi am gydnabod hynny heddiw yn rhai o'ch atebion chi. Roedd cydnabyddiaeth drawsbleidiol heddiw hefyd o'r cyfleoedd yn hynny o beth.
Fe nodais i yn un o'ch atebion—rwy'n credu mai i Paul Davies gynnau yr oedd hynny mae'n debyg—roeddech chi'n cyfeirio at rai o'r risgiau posibl oherwydd mae'r math hwn o ddatganiad a meddylfryd yn cyffwrdd â phob rhan o Lywodraeth, ac efallai fod perygl na fydd rhai adrannau o Lywodraeth â rhan lawn yn hyn, a'r hyn a welwn mewn Llywodraeth weithiau sef gweithio mewn seilos ar wahân. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu amlinellu sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod eich cynlluniau a'ch meddylfryd o ran cyflogadwyedd a sgiliau, ac yn arbennig o ran yr economi a Chymru wyrddach, yn cael eu defnyddio yn llawn ac mewn ffordd briodol ac nad ydym ni'n gweld y gweithio mewn seilos ar wahân sy'n gysylltiedig â Llywodraeth o bryd i'w gilydd. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Oes, mae gennyf i ddiddordeb arbennig, fel sydd gan ein Gweinidogion newid hinsawdd yn wir, mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni adnewyddadwy o bob math; mae yna lawer i'w gynnig i ni yn y gogledd a'r de o ran y cyfleoedd hynny. Ac fe fydd hynny'n mynnu ein bod ni'n cael sgwrs gyda busnesau yn ogystal â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r partneriaid sydd gennym ni mewn meysydd o gyfrifoldeb sy'n ddatganoledig hefyd.
O ran gweithio ar draws y Llywodraeth, yn y cwestiynau gynnau, ac fe wn i mi gael fy holi ynglŷn â gwaith gyda'r Gweinidog addysg a gyda'r Gweinidog tai ac eraill hefyd, oherwydd fe wyddom ni fod angen i ni, ar gyfer gwaith y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, gyfateb ein hymyriadau ni ein hunain ar gyfer tynnu i'r un cyfeiriad. Rhan o'r rheswm yr ydym ni wedi cynnal yr adolygiad hwn a bod â chynllun newydd yw bod newid wedi digwydd yn y ffordd y mae rhai o'n partneriaid ni'n gweithio. Y pandemig yw achos hynny'n rhannol, a hefyd bod Llywodraeth y DU wedi newid cyfeiriad a symud rhywfaint o'u cymorth cyflogadwyedd nhw hefyd. Rwy'n credu i mi sôn am hynny o'r blaen sef bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar i ryw raddau yn y maes hwn nag y buon nhw yn y gorffennol. Serch hynny, maen nhw'n tueddu i fod yn weithgar yn nes at y farchnad lafur, a dyna pam rydym ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ni ymhellach i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur, fel nad ydym ni'n gwrth-ddweud nac yn dyblygu'r gefnogaeth o bosibl a ddylai fod ar waith gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Nid yw hyn yn arbennig o ddiddorol yn yr ystyr bod pobl sy'n edrych yn cael llawer o hynny, ond mae'r rhwydwaith o fewn y Llywodraeth yn gweithio mewn gwirionedd: sut rydym ni'n sicrhau bod swyddogion yn siarad â'i gilydd, faint o'n papurau briffio sy'n cael eu rhannu ar yr amser priodol a sut rydym ni'n sicrhau bod Gweinidogion yn trafod hyn yn iawn pan fydd angen gwneud felly, ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn. Felly, mae'r pwyntiau amlwg ynglŷn â'r gwaith gyda'r Gweinidog addysg, ond y cyfleoedd hefyd nid yn unig ym maes tai ond mewn meysydd eraill yn bethau rwyf i'n awyddus i'w gweld yn cael eu dal ymlaen â nhw. Rwy'n gobeithio y caiff yr Aelod ei galonogi gan y ffaith, pan godwyd hynny yn y drafodaeth yn y Cabinet, nid yn unig yr oedd croeso cyffredinol i hynny, ond roedd cydnabyddiaeth gan lawer o Weinidogion fod rhan iddyn nhw yng nghyflawniad llwyddiannus y cynllun.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, Gweinidog. Nid ar y meinciau hyn yn unig y ceir croeso i'r datganiad, rwyf i o'r farn bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr yn gwneud felly. Fe wn i fod llefarydd yr wrthblaid yn edrych heddiw fel ei fod yn gwisgo tei a gafodd gan ein plaid ni, ond mae o hyd yn oed yn croesawu'r rhan fwyaf o hyn, fel ein cydweithwyr ni yng Nghyngres yr Undebau Llafur, wrth gwrs. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, hefyd, yr hyn y gwnaethom ni ei gyflawni yn Llywodraeth Lafur Cymru. Yn y tymor seneddol diwethaf, fe ddarparwyd 112,000 a mwy o brentisiaethau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n falch iawn ohono a minnau'n gyn-brentis. Ac mae'r datganiad hwn yn amlygu eto ein cynllun uchelgeisiol ni ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru.
Rydych chi'n ymwybodol, Gweinidog, fod gennyf i uchelgais i ddod â dyluniad a gweithgynhyrchu technolegau adnewyddadwy i Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'r set sgiliau gennym ni, mae'r bobl gennym ni. Rwyf i wedi gweithio ochr yn ochr â nhw, rwyf i wedi cael fy hyfforddi ochr yn ochr â nhw. Felly, tybed a fyddech chi'n fodlon cwrdd â mi i drafod rhan Alun a Glannau Dyfrdwy yn y cynllun ar gyfer Cymru gryfach, decach, wyrddach, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau a datgloi prosiectau posibl yn Alun a Glannau Dyfrdwy—efallai, er enghraifft, yng nghanolfan gweithgynhyrchu dur Tata yn Shotton, prosiect gwych ar gyfer dyfodol Alun a Glannau Dyfrdwy. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n derbyn y gwahoddiad hwnnw.
Rwy'n falch iawn fod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at ein henw da ni o ran cyflawni ac, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i hynny o ran ein haddewid ni yn y tymor Seneddol diwethaf. Fe wnaethom ni addo 100,000 o brentisiaid; fe gawsom ni dros 112,000. Wrth gwrs, roedd y gallu gennym ni i ddefnyddio arian o Ewrop ar y pryd, felly fe fydd 125,000—sef cynnydd o 25 y cant ar ein nod blaenorol ni—yn galetach i'w gyflawni, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n gwneud felly. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun hwn yn dangos ein bod ni'n dargyfeirio ein hadnoddau ni i wneud felly. Mae'n golygu y bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd mewn meysydd eraill, ond mae hynny'n atgyfnerthu'r flaenoriaeth a roddwn ni i ddyfodol prentisiaethau a'r sgiliau a ddaw yn eu sgil, y budd economaidd a ddaw yn eu sgil hefyd. O ran ei wahoddiad caredig ef, rwyf i eisoes, wrth gwrs, wedi ymweld ag etholaeth yr Aelod. Fe es i i waith Shotton gydag ef, ond rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod arall ag ef. A chan fod llawer gennym ni i'w drafod o ran cyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys, wrth gwrs, Alun a Glannau Dyfrdwy, y buddsoddiad yr ydym ni'n ei roi yn rhai o'n gweithgynhyrchwyr ni yno, y ganolfan gweithgynhyrchu uwch hefyd yr ydym ni'n ei hariannu a'i chefnogi. Felly, rwy'n fwy na pharod i drafod sut y gallem ni gael sgwrs ddefnyddiol gydag ystod o randdeiliaid ynglŷn â'i etholaeth ef i'r dyfodol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad a'r neges ynghylch tyfu Cymru gryfach, decach, wyrddach drwy fuddsoddi mewn pobl a datblygu sgiliau a hyder. Rwy'n credu bod hyder yn rhywbeth pwysig iawn. Fe fûm i mewn cyflwyniad diddorol iawn yn y grŵp trawsbleidiol ar fenywod, dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, ynglŷn ag adferiad a arweinir gan ofal, a fyddai'n creu mwy o gyflogaeth na buddsoddi mewn adeiladu, heb ehangu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fe fyddai hynny'n gwella llesiant drwy gyfrannu at boblogaeth sy'n derbyn gofal gwell, gan atal mwy o anghenion yn y dyfodol, a helpu i greu economi wyrddach, fwy cydnerth a gofalgar. Mae buddsoddi mewn gofal yn ehangu'r cyflenwad llafur ar draws y rhanbarthau, nid yn unig lle ceir cyflenwad o dir, ac yn adennill mwy o refeniw drwy gynyddu'r niferoedd mewn cyflogaeth sy'n gwario arian yn eu heconomïau lleol wedyn, ac yn cynnal cymunedau byrlymus. Crëwyd llwybrau at yrfaoedd nyrsio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yn y gogledd eisoes, drwy Grŵp Llandrillo Menai, gan weithio gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd i'w groesawu yn fawr. Gweinidog, a yw adferiad a arweinir gan ofal yn syniad y byddech chi'n ei ddatblygu gyda'r Gweinidog iechyd yn ôl y cynllun hwn ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? Diolch i chi.
Diolch i chi. Rwy'n gwybod ambell i beth am y gwasanaeth iechyd ac am fuddsoddi mewn dewisiadau ynglŷn â'n gweithlu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau a wnaethom ni'n rheolaidd. Rydym ni bob amser, yn y cyfnod yr oeddwn i'n Weinidog iechyd, ond yng nghyfnod Eluned Morgan y Gweinidog newydd hefyd, wedi buddsoddi'r swm uchaf posibl yn yr hyn y gall ein cyfundrefn ni ei hyfforddi yn llwyddiannus o ran ein gweithlu iechyd yn y dyfodol. Yr hyn a wnaethom ni hefyd oedd nid yn unig y dewis y gallwn ni yn sicr ei wneud i gadw pethau fel y fwrsariaeth, i sicrhau nad yw pobl yn rhoi'r ffidil yn y to, ond i geisio sicrhau bod rhai amodoldebau hefyd, fel bod pobl sy'n cael y cymorth ychwanegol hwnnw nad yw ar gael dros y ffin yn ymrwymo wedyn i weithio o fewn ein system ni hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen mwy o bobl arnom ni yn ein sector iechyd a gofal yn y dyfodol. Mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni wedi llwyddo o ran bod gennym ni boblogaeth sy'n cyrraedd oedran teg, mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni'n gwybod ein bod ni am golli rhai o'n staff ni yn dilyn y pandemig—pobl a fydd yn dymuno gadael eu gyrfaoedd yn gynnar neu beidio â gweithio amser llawn am gymaint o flynyddoedd ag y bydden nhw wedi gwneud fel arall. Ac rydym ni hefyd, rwy'n ofni, yn sicr y byddwn ni'n gweld mwy o angen am iechyd a gofal yn dod i mewn i'n system hefyd.
Y rheswm yr ydym ni'n buddsoddi yn incwm y bobl sydd yn ein sector gofal cymdeithasol ni, a'r sector gofal preswyl a gofal cartref yn arbennig felly, yw ein bod ni'n dymuno gweld pobl yn cael eu gwobrwyo yn deilwng am eu gwaith. Y cyflog byw gwirioneddol yw'r cam cyntaf tuag at wneud hynny. Rydych chi yn llygad eich lle wrth dynnu sylw at y ffaith y bydd buddsoddi yn y gweithwyr hynny'n arwain at yr arian hwnnw'n mynd i deuluoedd lleol a chymunedau lleol. Nid pobl a fydd yn cuddio eu cyfoeth ar ynysoedd y Seychelles neu ryw awdurdodaeth arall yw'r rhain; fe fyddan nhw'n gwario arian yn lleol ar eu teuluoedd nhw. Felly, fe allwch chi ddisgwyl ein gweld ni'n dal ati i fuddsoddi. Yn unol â'r cynllun, nid unig ystyr hyn yw'r pwynt yw na ddylai cyflyrau gofal iechyd fod yn rhwystr i waith, ond bod gan y system iechyd a gofal cymdeithasol swyddogaeth bwysig ynddi hi ei hun oherwydd ei bod yn gyflogwr mawr o ran cyflawni uchelgeisiau'r cynllun hwn a chreu Cymru decach, gryfach, wyrddach.
Diolch i'r Gweinidog. Mae croeso i chi ddod i Aberafan unrhyw amser i drafod eich cynlluniau chi hefyd.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch yn fawr a phrynhawn da.
Heddiw rydym ni’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae heddiw'n gyfle i dalu teyrnged i'r menywod a ddaeth o’n blaenau a'r menywod sy'n sefyll ar ysgwyddau'r cewri hyn, gan barhau â'r frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol—menywod gan gynnwys y ddynes aruthrol, Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru, cyd-grëwr Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddwr amlddiwylliannaeth yng Nghymru. Rwy’n gwybod eich bod chi i gyd yn rhannu fy malchder bod Caerdydd bellach yn gartref i gerflun Betty Campbell, sy'n deyrnged addas i'w gwaddol. Diolch i waith Monumental Welsh Women, bydd gan Aberpennar gofeb wedi'i neilltuo ar gyfer y ddynes eithriadol, Elaine Morgan cyn bo hir hefyd.
Wrth i ni fyfyrio ar gyfraniad menywod yng Nghymru, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, ystyried effaith pandemig COVID-19. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r niwed ar raddfa eang a achosodd i'n hiechyd a'n lles cymdeithasol ac economaidd, ac mae menywod wedi bod yn ganolog i hyn. Yn fyd-eang, mae menywod wedi arwain yr ymateb iechyd i COVID-19, gan gyfrif am bron i 70 y cant o'r gweithlu gofal iechyd. Ac ar yr un pryd, mae menywod wedi ysgwyddo llawer o'r baich gartref, gan wneud hyd at 10 gwaith yn fwy o waith gofal na dynion. Mae menywod hefyd wedi wynebu risg uchel o golli swyddi ac incwm, a mwy o risg o drais a cham-drin. Mae'r pandemig wedi datgelu dibyniaeth cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod, fel gofalwyr di-dâl ac fel gweithwyr ym maes gofal, gwaith cymdeithasol a lletygarwch. Ond mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ragoriaeth cyfraniad menywod i'r ymateb gwyddonol a chlinigol. Wrth i ni symud allan o'r argyfwng hwn ac i mewn i argyfwng arall o ran costau byw, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhoi gwerth llawer cryfach i'r gwaith hwn, sy'n ganolog i'n heconomi a'n cymunedau. Mae ein cynllun 'Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru' yn darparu'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn y dirwedd i fenywod yng Nghymru, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn rhoi blaenoriaeth i weithredu agweddau allweddol ar y cynllun hwn.
Byddwn yn ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant ac sydd ar fin mynd mewn i waith, ac mae'r cynnig gofal plant yn rhoi mwy o ddewis i rieni, yn enwedig menywod, a mwy o allu i gael teulu a gyrfa. Mae hyn yn cael ei gryfhau yn ein cytundeb cydweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u rhyw, eu cefndir na'u hamgylchiadau. Ddirprwy Lywydd, bydd uned tystiolaeth cydraddoldeb yn cael ei rhoi ar waith o fewn Llywodraeth Cymru eleni, ochr yn ochr ag unedau tystiolaeth gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd. A gyda'i gilydd, bydd y rhain yn gwella data ar grwpiau heb eu gwasanaethu'n ddigonol a grwpiau dan anfantais, yn ogystal ag ystyried tystiolaeth o safbwynt croestoriadol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed ynglŷn â'i huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, gan adeiladu ar ein deddfwriaeth arloesol. Byddwn yn cryfhau ein pwyslais strategol ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ein cynigion, ac rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi ein strategaeth derfynol yn gynnar yn nhymor yr haf. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn dangos pwysigrwydd dull croestoriadol o ymdrin â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Wrth i ni herio anghydraddoldeb systemig, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod yn herio hyn ar gyfer pob menyw, ac mae'n rhaid i ni gydnabod a deall bod canlyniadau cyfartal yn gofyn am ddulliau gwahanol a sensitif.
Un o themâu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw chwalu'r rhagfarn. Ddeng mlynedd ar hugain ers lansio Chwarae Teg, mae'n ein hatgoffa'n amserol o'n cyfrifoldeb ar y cyd i herio ystrydebau rhywedd a'r rhagfarn fwriadol neu anymwybodol sy'n effeithio ar fenywod yma a ledled y byd. Ni ellir gadael unrhyw fenyw ar ôl. Byddwn yn gweithio gyda menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod anabl, menywod lesbiaidd, deurywiol a thraws, menywod mewn tlodi, menywod hŷn, merched ac eraill i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddwn yn gwneud hyn gyda rhanddeiliaid arbenigol, gan gynnwys Women Connect First, RhDEM Cymru, BAWSO a llawer o rai eraill, i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan adeiladu ar berthnasoedd ac ymddiriedaeth, a ddatblygwyd dros ddegawdau.
Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y Senedd hon yn gartref i grŵp cynyddol o fenywod amrywiol, i weithio er budd pawb. Mae'r un peth yn wir am bob cyngor a phob bwrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o ariannu cynllun mentora Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn rhannol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfleoedd i gymunedau amrywiol ledled Cymru archwilio swyddogaethau arwain mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r cynllun eisoes yn cyflawni—mae mentoreion wedi dod yn ASau, cynghorwyr a phenodiadau cyhoeddus allweddol. Rwy’n gobeithio, un diwrnod yn fuan, y byddwn yn eistedd ochr yn ochr â graddedigion y rhaglen.
Ni fydd un syniad ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb. Mae angen newid diwylliannol systemig ac mae'n rhaid cael cyfrifoldeb ar y cyd o ran sut yr ydym yn ailfeddwl ein cymdeithas a sut yr ydym yn ailosod ein huchelgeisiau ar gyfer cyfle a chanlyniad cyfartal. Byddwn yn ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein prosesau gwneud penderfyniadau i ysgogi newid diwylliannol o ran cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd, ac, wrth wneud hynny, byddwn yn cydnabod yr heriau posibl i fenywod wrth i ni ymdopi ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Drwy ein cynllun treialu i brif ffrydio cydraddoldeb, byddwn yn sicrhau bod dyfodol di-garbon yn cynnwys ac yn gwerthfawrogi menywod ac yn darparu cyfleoedd newydd ac arloesol ar gyfer sgiliau, addysg a gwaith, gan sicrhau trosglwyddo cyfiawn i economi werdd. Mae'n hanfodol bod pob un—partneriaid, gweithredwyr a gwleidyddion—yn barod i weithio mewn partneriaeth, i droi'r drol a gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon a chyflym i gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld, sef Cymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Fe wnes i ddechrau fy natganiad heddiw drwy gydnabod arloeswyr cydraddoldeb yng Nghymru, a hoffwn i orffen drwy dalu teyrnged i fenywod Wcráin, sydd, ynghyd â’u teuluoedd, yn ein meddyliau ni i gyd heddiw. Hoffwn pe gallai fy ngeiriau ddadwneud yr arswyd maen nhw’n byw drwyddo. Rwyf yn rhyfeddu'n llwyr at eu cryfder, fel yr ydym ni i gyd heddiw rwy'n siŵr, a'u cadernid, ac rydym yn anfon ein hundod â nhw atyn nhw yn ystod y dyddiau ofnadwy hyn. Diolch.
Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnes i werthfawrogi'n fawr bopeth y gwnaethoch ei ddweud. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod cyflawniadau'r gorffennol, rwy’n cytuno 100 y cant â chi pan wnaethoch chi ddweud hynny, ac mae edrych ar heriau'r dyfodol hefyd yn hanfodol i bob un ohonom ni.
A minnau'n Gymraes falch, rwy'n falch iawn o fod yn eistedd ymhlith cynifer o fenywod gweithgar ac ymroddedig yn y Senedd hon yma yng Nghymru yn wythnosol. Yn gymaint ag y mae heddiw'n ymwneud â dathlu, mae hefyd yn amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yng Nghymru a chymryd camau i greu cenedl decach a mwy cyfiawn. Rydym yn gwneud hyn ar ôl gorfod ymateb ac addasu i heriau'r pandemig. Mae menywod wedi bod ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, boed hynny fel gweithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd, y menywod sy'n ein gwasanaethu yn ein harchfarchnadoedd, neu yn wir y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal, ac rwy'n falch o ddweud bod menywod wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y brechlynnau sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein bywydau wrth i ni ddychwelyd yn ôl i normal.
Un o ganlyniadau'r pandemig hwn yw bod cyflogwyr wedi dod yn ymwybodol o fanteision gweithio'n fwy hyblyg, sy'n sicr yn rhywbeth cadarnhaol. Mae cyfran y menywod sy'n gweithio'n rhan-amser wedi gostwng tua 3 y cant o ganlyniad i weithio mwy hyblyg a gwell darpariaeth gofal plant. Fodd bynnag, mae'n destun pryder bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Yn anffodus, nid dyma'r stori lawn. Mae gwahaniaethau rhanbarthol yn golygu y gall y bwlch fod mor isel ag 1.9 y cant yng Nghonwy ond mor uchel â 25 y cant yn Nhorfaen. A gaf i ofyn, Gweinidog, sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch cyflog cynyddol rhwng y rhywiau sy'n bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae gormod o fenywod yn parhau i fod wedi eu crynhoi mewn galwedigaethau â chyflog is. Mae'n rhaid i ni dorri'r canfyddiad bod rhai gyrfaoedd ar gyfer bechgyn ac eraill ar gyfer merched. Pa gamau sy'n cael eu cymryd, Gweinidog, i godi dyheadau menywod a merched ifanc i sicrhau bod mwy yn astudio mathemateg, peirianneg, technoleg a gwyddoniaeth, i godi eu lefelau cyflog posibl a darparu darganfyddwyr brechlynnau’r dyfodol yma yng Nghymru?
Ni fydd byth cydraddoldeb llwyr nes bydd menywod eu hunain yn helpu i wneud y cyfreithiau, ac rwy’n gwybod eich bod chi’n gweithio'n ddiflino i gyflawni hynny a gwneud hynny, ond yn wir mae angen i ni weld mwy. Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda dim ond 29 y cant o gynghorwyr lleol yn fenywod ac mae menywod yn ffurfio llai na hanner y penodiadau cyhoeddus yn 2020. Mae angen gwneud mwy nid yn unig i dorri, ond i chwalu'r nenfwd gwydr hwn. Rwy’n gofyn i chi, Gweinidog, beth arall y gellir ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Mae achosion proffil uchel diweddar hefyd wedi tynnu sylw unwaith eto at y materion trais, cam-drin ac aflonyddu y mae gormod o fenywod yn eu hwynebu yma yn 2022. Mae achosion o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod ar gynnydd, wedi eu gwaethygu gan straen y cyfnod clo. Mae angen dewrder mawr i ddod ymlaen ac adrodd am achosion o gam-drin domestig, ac rwy’n cymeradwyo’r holl fenywod hynny sy'n codi llais dros yr achosion hynny ac sy'n gweithio yn y maes hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyrff cyhoeddus a phreifat yn adnabod arwyddion cam-drin o'r fath ar y dioddefwyr a'u plant fel y gellir cymryd camau priodol. Mae camfanteisio ar fenywod drwy fasnachu pobl, caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod ac anffurfio organau rhywiol menywod yn cael ei gydnabod yn ehangach yn awr nag erioed o'r blaen, sy'n sicr yn gynnydd. Rwy'n eich annog chi, Gweinidog, i ymdrechu’n arbennig o galed a gwneud popeth o fewn eich gallu i ddileu'r cam-drin gwarthus ac anghyfreithlon hyn sy'n digwydd heddiw.
I gloi, ni all menywod sicrhau cydraddoldeb heb fod cyfle’n cael ei greu. Ni all fod yn iawn i botensial hanner ein poblogaeth gael ei fygu a'i atal. Os ydym ni am lwyddo i greu Cymru fwy cyfartal a chyfiawn, yna ni all Diwrnod Rhyngwladol y Menywod fod am un diwrnod yn unig. Mae'n rhaid iddo lywio ein gweithredoedd, bob dydd, er mwyn sicrhau hawliau cyfartal pob menyw a merch ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Natasha, ac mae mor wych eich bod chi gyda ni yma heddiw ac y gallwn ni rannu cymaint o ran dathlu cynnydd, ond hefyd cydnabod yr heriau enfawr sydd o'n blaenau i fenywod. Hoffwn dalu teyrnged a diolch i Joyce Watson am ddod â ni at ein gilydd heno—menywod y Senedd hon, Senedd Cymru—wrth i ni gyfarfod ar draws y pleidiau. A hefyd nid yn unig i rannu ble yr ydym ni'n dymuno symud ymlaen gyda'n gilydd—cynrychiolwyr sy'n fenywod yn y Senedd hon—ond hefyd i wrando ar eiriau ysbrydoledig Lucy Kassa, sy'n ymuno â ni heddiw, newyddiadurwr annibynnol o Ethiopa.
Rwy’n credu ei bod hi’n hollbwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Mewn gwirionedd, mae mor bwysig bod cwestiynau wedi dod i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, am ei gynllun sgiliau cyflogadwyedd, gyda chwestiwn ar ôl cwestiwn yn ymwneud ag 'A fydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?' Oherwydd bod hyn yn ymwneud ag ymrwymo ein hunain i fynd ar drywydd cyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog yn elfen hanfodol o hyn. Ac, wrth gwrs, nid yw'r bwlch cyflog wedi ei gyfyngu i’r rhywiau yn unig. Dyna pam rwy’n credu y bydd yr unedau tystiolaeth o gydraddoldeb yr ydym yn eu sefydlu yn hollbwysig i edrych ar fylchau cyflogau ar sail anabledd a hil hefyd—rhan o'n cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymdrech ar y cyd, a byddwn yn cyflawni hyn drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan fod hynny, mewn gwirionedd, yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â chyflogwyr, undebau llafur a'r gweithlu i'w darbwyllo hefyd o'r manteision a'r canlyniad cadarnhaol wrth fynd i'r afael â bylchau cyflog rhwng y rhywiau a bylchau cyflog o bob dimensiwn.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y ffordd y cafodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' a gafodd ei grybwyll yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, a gyhoeddwyd gan Chwarae Teg ychydig wythnosau'n ôl—. Fe wnaeth gydnabod mewn gwirionedd fod bwlch cyflog rhwng y rhywiau y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef, a'i brif ffrydio ar draws holl gyfrifoldebau'r Llywodraeth, a fydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth. Ond mae angen i ni ymgysylltu â'n partneriaid cymdeithasol i wneud hyn.
Ydy, mae'n hollbwysig ein bod ni'n bwrw ymlaen yn awr â'n hymrwymiad tra bod gennym ni gefnogaeth gref ar draws y Siambr hon i'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydych chi’n gwybod ein bod ni’n datblygu ein strategaeth pum mlynedd nesaf. Fe wnaethom ymestyn amseroedd ymgynghori i ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc a dioddefwyr a grwpiau goroeswyr, ac rydym yn cryfhau ac yn ehangu'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd i ni edrych—ac rydym ni wedi mynegi hyn yn y Siambr, a gan ein cyd-Aelodau sy'n ddynion hefyd—ar fynd i'r afael â thrais gwrywaidd a'r casineb at fenywod a'r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau sydd y tu ôl iddo, a sut y mae'n rhaid i ni dorri'r cylch a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda bechgyn a dynion ifanc, os yw cenedlaethau'r dyfodol am gael cyfle i dorri'r cylch hwn. Rydym ni hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r holl gyflawnwyr, ni waeth beth fo'u rhyw, gael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd a hefyd cefnogi ein hymgyrch, CallOutOnly, sy’n helpu pobl i adnabod ymddygiadau, yn enwedig yn awr wrth i ni ehangu hynny i aflonyddu ar y stryd hefyd, ac edrych ar sut y gallwn ni fynd i'r afael nid yn unig ag aflonyddu ar y stryd, ond hefyd ag aflonyddu yn y gweithle ac aflonyddu cyffredinol ar fenywod a merched.
A gaf i ddweud, o ran chwalu'r nenfwd gwydr, pa mor wych oedd clywed heddiw y newyddion mai'r Farwnes Tanni Grey-Thompson fydd ein cadeirydd newydd i Chwaraeon Cymru? Rwy’n credu bod hynny'n benodiad cyhoeddus aruthrol i Tanni, a gafodd ei magu yng Nghaerdydd, yng Nghymru, ac sydd ag enw byd-eang. Ond mae hi'n dod yn ôl i Gymru i fod yn gadeirydd ac yn fodel rôl mor wych. Fe wnes i gyfarfod â hi'n ddiweddar ac mae wedi ei hysbrydoli'n fawr gan y gwaith yr ydym ni’n ei wneud ar ein tasglu anabledd ar effaith y pandemig ar bobl anabl. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru, ac mae hynny o ran ein penodiadau cyhoeddus, ac yn wir ar draws ein holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hoffwn ategu ei theyrnged i fenywod Wcráin ar fy rhan i fy hun ac ar ran fy mhlaid.
Bu'n rhaid i fy mam-gu roi'r gorau i'w swydd pan oedd hi'n briod. Dechreuodd fy mam ei gyrfa fel athrawes ar lai o gyflog na'i chymheiriaid a oedd yn ddynion. Bues i’n gweithio'n rhan-amser am dros ddegawd oherwydd nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ofal plant addas. Yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, ni fydd yr un ohonom yn gweld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein hoes ni, ac nid yw’n debygol y bydd llawer o'n plant yn gweld hynny chwaith. Mae gwaith brys i'w wneud, ac mae adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2022' Chwarae Teg, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos yn glir bod gan Gymru lawer o waith i'w wneud.
Neithiwr cymerais ran mewn trafodaeth a drefnwyd gan y Senedd ac a gadeiriwyd gan Jenny Rathbone am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru—neu ddylwn i ddweud yr anghydraddoldeb sy’n cael ei achosi gan ddiffyg gofal plant. Rwy’n falch iawn, wrth gwrs, fod ehangu gofal plant am ddim yn rhan o gytundeb cydweithredu'r Llywodraeth â Phlaid Cymru, ond rydym yn gwybod bod yn rhaid i hwn fod yn gam cyntaf yn unig.
Mewn trafodaeth bord gron gyda Chwarae Teg yr wythnos diwethaf, nodwyd, wrth edrych ar ddata anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac asesu ei achosion sylfaenol, ei fod yn ymwneud bron bob amser â baich cyfrifoldebau gofalu sy'n disgyn yn anghymesur ar fenywod. Fe wnaeth eu hadroddiad ddarganfod, o'r menywod a oedd yn economaidd anweithgar, fod hyn oherwydd cyfrifoldebau gofalu am deulu 24.1 y cant o'r amser; 5.8 y cant yn unig oedd y ffigur ar gyfer dynion. Ni waeth pa bolisïau y byddwn ni’n eu rhoi ar waith ar draws yr economi, na pha gwotâu yr ydym yn eu rhoi ar waith mewn bywyd cyhoeddus, mae'n rhaid i ni greu cymdeithas lle gall menywod fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’u blaenau. O ystyried hyn, a allai Llywodraeth Cymru amlinellu pa ddarpariaethau pellach sydd ar waith ar gyfer y menywod hyn sy'n economaidd anweithgar oherwydd eu bod yn gorfod gofalu am deulu gartref, yn enwedig gan nad yw'r cynnig gofal plant presennol ar gael i'r rhai sy'n ddi-waith?
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol rhwng y rhywiau yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y menywod mwyaf ymylol yn gyntaf—y menywod mewn cymdeithas sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf a'r rhai dan anfantais fwyaf. Mae'r effaith gyfansawdd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn eich datganiad, o'r croestoriad rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol eraill yng Nghymru yn glir. Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Genedl', yng Nghymru, yn 2021, roedd 78.4 y cant o ddynion yn economaidd weithgar o'i gymharu â 70.3 y cant o fenywod gwyn a oedd mewn cyflogaeth. Ond dim ond 56 y cant o fenywod o leiafrifoedd ethnig oedd mewn cyflogaeth.
Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, mae amrywiaeth yn hanfodol, gan mai dyma le mae penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud. Heb gynrychiolaeth croestoriadol i fenywod, ni fydd gennym ni ystod amrywiol o leisiau yn yr ystafell sy'n caniatáu i wahanol faterion a safbwyntiau gael eu trafod a'u clywed. Mae menywod, fel yr ydym yn gwybod, eisoes wedi eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus. Er bod 43 y cant o'r cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd hon yn fenywod, mae hyn yn dal yn llai na phan wnaethom ni orffen tymor diwethaf y Senedd, ac mae gennym ni gyfran uwch o fenywod yma nag sydd gennym ni ymhlith ASau Cymru, er enghraifft, a dim ond 29 y cant o gynghorwyr Cymru sy'n fenywod.
Mewn llywodraeth leol, mae angen gwirioneddol i ni weld llawer mwy o fenywod yn cael eu hethol yn yr etholiad nesaf hwn ym mis Mai, a sicrhau bod hyn yn cyfateb i niferoedd uwch o fenywod mewn cabinetau llywodraeth leol ac fel arweinwyr. Rhan o hyn yw sicrhau bod arferion gwaith yn gweithio i fenywod; gall cynnal yr elfen rithwir i gyfarfodydd a chadw at oriau gwaith hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd helpu. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwelliant yn y gyfradd honno o 29 y cant ar gyfer ethol menywod yn gynghorwyr yn yr etholiad ym mis Mai?
Mae menywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, cefndiroedd dosbarth gweithiol, incwm isel a menywod ag anableddau yn cael eu cynrychioli'n llai yn gyfrannol mewn ardaloedd lle bydd eu lleisiau'n cael eu clywed neu le byddan nhw’n cael y cyflog uchaf. Yng Nghymru yn 2021, roedd llai na 5 y cant o benodiadau cyhoeddus yn 2020-21 o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac roedd llai na 5 y cant yn bobl ag anableddau.
Mae gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud yng Nghymru, ac rwy’n llongyfarch y Farwnes Tanni Grey-Thompson ar ei phenodiad. Rwyf hefyd yn croesawu creu'r uned tystiolaeth o gydraddoldeb ochr yn ochr â'r unedau gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd, a fydd yn sicr o'n helpu i weld beth sy'n mynd o'i le. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod pawb sy'n rhan o wneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim maen nhw’n ei wneud. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydraddoldeb croestoriadol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei ystyried yn ystod penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft? A oes lle i fandadu neu annog y defnydd o gwotâu, nid yn unig yn etholiadau'r Senedd, fel yr ymrwymwyd iddo ar hyn o bryd yn y cytundeb cydweithredu, ond hefyd penodiadau cyhoeddus? A fyddai Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried gweithredu hyfforddiant cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyfforddiant cydraddoldeb arall i bawb sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus, er mwyn sicrhau ein bod yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim yr ydym yn ei wneud? Diolch.
Diolch, Sioned Williams. Rwyf i yn credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni’n myfyrio ar y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd—ein mamau a'n neiniau. Mor aml rydym ni’n talu sylw i'r dynion yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd, oherwydd eu bod nhw wedi cael cyflawniadau, ond y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw sydd mor bwerus i ni. Ac mae gennym ni gyfrifoldeb iddyn nhw yn ogystal ag i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â chyflogau rhwng y rhywiau, ac os edrychwch chi ar feysydd sy'n peri pryder mewn cysylltiad â chyflogau rhwng y rhywiau, fe wnaeth ehangu ychydig yng Nghymru eleni. Ac mae menywod hefyd—y pwynt hwn am ofal plant—yn parhau i fod pedair gwaith yn fwy tebygol o nodi gofal plant fel y rheswm dros fod yn economaidd anweithgar. Ond hefyd, yn groestoriadol, cynrychiolaeth pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl—ymysg penodiadau cyhoeddus, rydym yn gwneud rhai newidiadau, ond mae'n isel o hyd, ac mae angen i ni edrych ar dangynrychiolaeth menywod ymhlith arweinwyr busnes, rheolwyr, cyfarwyddwyr.
Rwy’n credu bod rhai cwestiynau wedi codi am fenywod ym meysydd STEM yn gynharach y prynhawn yma. Os edrychwn ni ar arolygon cyfredol, maen nhw’n dangos mai dim ond 11 y cant o weithlu peirianneg y DU sy'n fenywod, a ni sydd â'r ganran isaf o fenywod proffesiynol ym maes peirianneg yn Ewrop. Felly, rwy'n credu bod y gwaith Nid i Fechgyn yn Unig y mae Chwarae Teg wedi ei wneud yn hanfodol bwysig hefyd. Rydym yn gwybod bod y farchnad lafur yn wahanedig iawn o ran y rhywiau. Fe wnes i ymweld â meithrinfa ddydd yn fy etholaeth i ychydig wythnosau yn ôl. Nid ydyn nhw erioed wedi recriwtio dyn ifanc i weithio yn y feithrinfa ddydd, ac mae'n weithlu sy'n fenywod i gyd ym maes gofal plant, ac i raddau helaeth ym maes gofal cymdeithasol hefyd. Mae'n wych bod gennym ni’r cyflog byw go iawn, oherwydd y bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog menywod hefyd, ac mae angen y cyflog byw go iawn arnom fel ffordd hanfodol o fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac yna cynnydd yn y farchnad lafur.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar y rhai mwyaf ymylol a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Dyna pam y gwnes i ganolbwyntio ar y dull croestoriadol yn fy natganiad, ond mae cyfraddau tlodi wedi cynyddu—mae costau byw, pandemig, anghydraddoldebau wedi cynyddu, ac wrth gwrs nawr—. Ac rydym yn gwybod, mewn gwirionedd, mai rhieni sengl sy'n dal i fod yn y perygl mwyaf o fyw mewn tlodi. Rwy’n credu, y materion y gwnaethom eu codi y llynedd ynglŷn â'r ffaith bod y toriad i gredyd cynhwysol, y toriad hwnnw o £20—ei fod wedi effeithio'n uniongyrchol ar fenywod a'u teuluoedd ar y cyflog isaf. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod yn rhaid mynd i'r afael â gwaith gofal di-dâl, aflonyddu, cam-drin a thrais.
Hoffwn i ddweud, wrth i ni symud tuag at yr etholiadau llywodraeth leol, ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni fwy o fenywod yn ymgeisio. Rwy'n siŵr bod pob plaid wleidyddol yn chwilio am hyn ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n falch iawn bod gennym ni fenywod yn arweinwyr bellach ar draws ein pleidiau gwleidyddol beth bynnag yn cynrychioli llywodraeth leol, sydd ar flaen y gad ym mhob dim yr ydym yn ei wneud o ran cyflawni polisi. Ac roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod â'r holl aelodau cabinet sy'n gyfrifol am gydraddoldeb yn ddiweddar ac, wrth gwrs, mae Rebecca Evans, y Gweinidog llywodraeth leol, wedi rhannu â mi y ffyrdd yr ydym yn bwrw ymlaen â'r cynllun gwella'r gyllideb, gan edrych ar gyllidebu ar sail rhyw yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog, ond hefyd edrych ar ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli, a hefyd gweld hynny fel dull croestoriadol a chraidd hefyd.
Felly, mae gennym ni ffordd bell i fynd, ond rwy’n credu fy mod i’n falch iawn o weld neges trydar y Prif Weinidog ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw ei fod yn falch iawn o'r ffaith bod ganddo fwy o fenywod yn y Cabinet na dynion, ac rwy’n credu weithiau fod yn rhaid i bobl ddweud, 'O, mae rhai menywod yn rhedeg Cymru yma', ac mae gennym ni fenywod sy'n Cadeirio pwyllgorau ar draws y Senedd, ein Llywydd. Dyma le mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd a gobeithio—. Rwyf i wedi sôn am y fenter llais cyfartal. Mae'n rhaid i ni sicrhau yn wirioneddol ein bod yn ysbrydoli ac yn galluogi ein menywod ifanc i'n holynu yn y lle hwn. Diolch.
Fel arfer, byddwn i'n myfyrio ar—. Hoffwn i fyfyrio ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef chwalu'r rhagfarn, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn helpu i frwydro yn erbyn y rhagfarn ym maes gofal iechyd, gyda chyhoeddiad heddiw am nyrsys arbenigol endometriosis. Mae'n gyflwr difrifol sy'n newid bywydau sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw, ac mae'n haeddu cael ei drin felly, gydag adnoddau priodol.
Ond, heddiw, fel menywod ledled y byd, mae'r sefyllfa yn Wcráin, ac o'i amgylch, yn fy nychryn. Mae dros 1 miliwn o bobl Wcráin eisoes wedi ffoi o'r wlad, menywod a phlant yn bennaf. Y Diwrnod Rhyngwladol Menywod hwn, dylai Llywodraeth y DU wneud y peth iawn a sefydlu llwybrau syml, cyflym, diogel a chyfreithiol ar gyfer noddfa yn y DU, fel gwledydd Ewropeaidd eraill. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa bresennol o ran visa yn codi cywilydd ar ein gwlad.
Ond, o ran yr hyn y gallwn ni yng Nghymru ei wneud, rwy'n gwybod bod menywod a grwpiau menywod ledled Cymru yn trefnu apeliadau cymunedol yn frwd. Nhw fydd y cyntaf i groesawu ffoaduriaid pan fyddan nhw'n cyrraedd, fel y gwnaethon nhw groesawu pobl Syria ac eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, ynglŷn â hynny, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch paratoadau i letya ffoaduriaid o Wcráin?
Diolch yn fawr, Joyce Watson, ac a gaf i ddiolch i Joyce am fod yn hyrwyddwr mor arweiniol dros fenywod yng Nghymru? Cyn i chi ddod yn Aelod o'r Senedd, dyna fu eich ymrwymiad bywyd fel oedolyn.
Ond mae'n bwysig canolbwyntio ar y thema, chwalu'r rhagfarn, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwyf i wedi ymateb i lawer o bwyntiau am chwalu'r rhagfarn eisoes, ond hoffwn i gydnabod hefyd fod iechyd menywod—. Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fywydau menywod, ac mae iechyd a lles yn hollbwysig, felly mae'n dda gweld cynnydd yn cael ei wneud drwy'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, a sefydlwyd gan y cyn Weinidog iechyd, i edrych ar faterion sy'n ymwneud ag endometriosis a gweld bod gennym ni bellach y broses hon o recriwtio rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd, gan ddatblygu'r llwybrau cenedlaethol hynny, oherwydd ei bod yn fater hollbwysig i fywydau menywod o ran eu gweithgarwch economaidd a phob agwedd ar eu bywydau.
O ran diweddariad, oherwydd ein bod ni’n gwybod, o ran y menywod a'r plant, y ffoaduriaid, sydd bellach yn dianc rhag yr arswyd yn Wcráin, mai menywod a phlant fyddan nhw yn bennaf, ac rydym yn awyddus i'w croesawu i Gymru fel cenedl noddfa, felly rydym ni wedi gofyn ac wedi galw'n gyson, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud heddiw mewn cyfraniadau y prynhawn yma, am y llwybr cyfreithiol cyflym, syml hwnnw i'n galluogi—y croeso sy'n dod gan deuluoedd, ond hefyd gan awdurdodau lleol.
Felly, fe wnes i a Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, gyfarfod â phob arweinydd yr wythnos diwethaf. Yr hyn y gwnaethon ni ei weld oedd yn y cyfarfod hwnnw cryfder arweinyddiaeth ymroddedig, dosturiol. Fe wnaeth Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ac asiantaethau cefnogi ffoaduriaid ymuno â ni hefyd. Felly, yr hyn maen nhw eisoes wedi ei wneud ers y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf yw cyfarfod—. Mae tai yn hollbwysig, yn amlwg, felly mae aelodau'r cabinet dros dai ledled Cymru wedi cyfarfod. Maen nhw wedi cyfarfod â'n swyddogion tai. Maen nhw’n edrych ar wahanol lefelau o gydlynu y mae angen iddyn nhw eu cynnig, o ran manteisio ar y llu o gynigion gan bobl sydd am gynnig lle yn eu cartrefi eu hunain, ond hefyd yn cydnabod y bydd angen llety dros dro, gwestai a llety dros dro ar hyn hefyd, gan adeiladu i raddau helaeth ar y profiad o wacáu Affganistan, dull tîm Cymru. Ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y diffyg cynnydd o ran llwybrau i mewn i Gymru ac maen nhw hefyd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi bod yn galw am ffordd y gallwn gael ymateb cymunedol pwrpasol yma yng Nghymru. Felly, heddiw fydd hi, wrth i ni feddwl am fenywod a merched Wcráin. Mae rhai hefyd yn ymladd yn Wcráin. Rwy’n gwybod bod Mick Antoniw ac Adam Price, pan wnaethon nhw ymweld ag Wcráin, wedi cwrdd â menywod a oedd yn y rheng flaen, yn ogystal â menywod a phlant sydd wedi gadael ac sy'n dymuno cael eu haduno â'u dynion pan fydd y rhyfel gwarthus hwn ar ben.
Felly, diolch, Joyce, am ddod â'r pwynt pwysig hwn i'r datganiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw.
Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn i, fel llawer yn y Siambr hon, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Joyce, ganolbwyntio ar y sefyllfa yn Wcráin. Wn i ddim am bobl yma, ond ni allaf feddwl am unrhyw beth ar hyn o bryd ar wahân i'r sefyllfa drasig honno. A dim ond un mater i'w godi, ac mae hynny'n ymwneud â masnachu pobl. Ar 6 Mawrth, daeth adroddiadau i'r amlwg fod masnachwyr rhyw yn targedu menywod sengl a phlant ifanc ar hyd ffin Wcráin, a rhybuddiodd elusen polisi cymdeithasol fod ffoaduriaid anobeithiol mewn perygl o ddisgyn i ddwylo masnachwyr pobl. Erbyn hyn, mae'r heddlu a gweithwyr cymorth yng Ngwlad Pwyl wedi cyhoeddi rhybudd am fasnachwyr rhyw, gan nodi bod y dioddefaint i'r rhai sy'n gorfod gadael eu cartrefi ymhell o fod ar ben.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cymru, unwaith eto, yn barod i chwarae ei rhan wrth ddarparu noddfa i'r rhai hynny sydd ei hangen, ond tybed a allwn i ofyn i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at Lywodraeth y DU i sicrhau bod masnachu menywod a phlant sy'n ffoi o Wcráin yn gadarn ar eu radar. Diolch yn fawr iawn.