Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/10/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, a, chyn i ni ddechrau'r cyfarfod, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. A hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Felly, y prynhawn yma yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price. 

Llifogydd yn Ardal Pontargothi

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y llifogydd diweddar yn ardal Pontargothi? OQ55692

Diolch. Mewn ymateb i'r llifogydd diweddar, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael trafodaethau gyda swyddogion cefnffyrdd i benderfynu ar yr atebion cynaliadwy hirdymor gorau. Mater i CNC ac awdurdod cefnffyrdd de Cymru yw asesu'r opsiynau hyn, ac os yw'n briodol, cyflwyno cynllun yn y lleoliad hwn.

Mae SWTRA a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gohebu gyda chyngor cymuned Llanegwad, ond y broblem yw bod yna wahaniaeth barn rhyngddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Yn benodol, mae SWTRA wedi argymell system i gasglu malurion ymhellach lan yr afon ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu hynny. Felly, y cwestiwn mae cyngor Llanegwad a finnau yn gofyn, yn naturiol, yw pa un o'r asiantaethau llywodraethol yma mae'r Llywodraeth yn cytuno â hi. Ac a allwn ni gael cyfarfod gyda'r ddwy asiantaeth, a dweud y gwir, i ddatrys yr issue yma ar gyfer pobl leol yn ardal Pontargothi? 

Wel, rwy’n fwy na pharod i gael cyfarfod, os oes gwahaniaeth barn, er mwyn clywed safbwyntiau'r ddwy ochr, yn sicr. Rwyf wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael, felly os yw CNC yn dymuno cyflwyno cynllun, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno yn y dyfodol agos. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i gael cyfarfod.

Archfarchnadoedd a COVID-19

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau COVID-19? OQ55678

Rwyf wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda'r holl brif fanwerthwyr drwy gydol y pandemig, ac wedi trafod y materion sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol yn rheolaidd. Mae'r archfarchnadoedd yn ymwybodol iawn o'r rheoliadau sydd ar waith yma yng Nghymru ac y bydd awdurdodau lleol yn cymryd camau gorfodi os oes angen.

Ar ôl i mi ysgrifennu atoch i gychwyn ar ran etholwyr ynglŷn â hyn, dywedasoch eich bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd a’ch bod wedi cael sicrwydd fod eu polisïau’n parhau i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob siop yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Ymatebodd etholwyr i'ch llythyr, gan nodi nad oedd hynny'n wir yn y tair siop roeddent wedi ymweld â hwy yn yr Wyddgrug, ac nad oedd yn wir yn eu siop leol ym Mwcle, yn yr achos hwn. Pan ofynasant i'r staff ynglŷn â’r peth, dywedwyd wrthynt nad oedd gofyn neu nad oeddent yn cael dweud unrhyw beth wrth bobl nad oeddent yn gwisgo masgiau. Dywedodd un arall eu bod wedi cael llythyr gan brif swyddfa archfarchnad, a oedd yn nodi'n glir eu bod wedi cynghori staff i beidio â herio pobl am beidio â gwisgo masgiau, ac nid oedd hynny’n cyd-fynd neu'n cytuno â'r ohebiaeth a anfonwyd gennych. Yn eich ateb ddoe, dywedasoch y dylai staff ofyn i bobl nad ydynt yn gwisgo masgiau wneud hynny, gan gydnabod y rheini sydd wedi cael esemptiad, gan ychwanegu, os oes gan y cyhoedd unrhyw bryderon, y dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol. Sut rydych yn ymateb, felly, i wybodaeth fod y mecanwaith i awdurdodau lleol roi gwybod am bryderon yn gymhleth, gydag amrywiol adrannau safonau masnach ledled y DU yn gorfod cysylltu â gwahanol gadwyni siopau penodol, ac adrannau safonau masnach lleol felly’n bwydo yn ôl i'r adran safonau masnach berthnasol ar gyfer prif swyddfa’r siop honno, a phrif swyddfeydd yn ymdrin ag amrywiadau yn y ddeddfwriaeth yn y pedair gwlad?

13:35

Diolch. Rwy'n parhau i gyfarfod yn rheolaidd â'r prif fanwerthwyr; rwyf i fod i gyfarfod â hwy eto'r wythnos nesaf. Mewn perthynas â gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol, mae'r mesurau’n dal i fod ar waith yn yr holl siopau—ar wahanol ffurfiau, ond yn sicr, mae pob un ohonynt yn dal i fod yno. Fel y gwyddoch, mae’n orfodol i’r cyhoedd a gweithwyr siopau wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae'r canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae gan y cyhoedd gyfrifoldeb hefyd mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, a byddem yn annog y cyhoedd i gydweithio i’r graddau mwyaf posibl mewn perthynas â hynny. A hyd yn oed pan ydych yn gwisgo gorchudd wyneb, mae'n bwysig iawn eich bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2m cymaint ag y gallwch.

Mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch ffyrdd cymhleth o roi gwybod am achosion o dorri’r rheolau, yn sicr, nid wyf wedi derbyn unrhyw gwynion ynglŷn â hynny. Gwn am awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi mewn amrywiaeth o archfarchnadoedd ledled Cymru. Ac unwaith eto, credaf fod hyn wedi bod yn ddidrafferth iawn. Nid wyf wedi cael unrhyw gwynion ynglŷn â hynny. Os hoffech ysgrifennu ataf yn benodol mewn perthynas â'r archfarchnadoedd y cyfeirioch chi atynt, rwy’n fwy na pharod i edrych ar y mater.

Weinidog, sawl wythnos yn ôl, roeddem yn poeni am archfarchnadoedd yn ardal Rhondda Cynon Taf gan fod y safonau'n gostwng. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cyflogi oddeutu 20 o swyddogion gorfodi, rwy’n credu, wedi bod yn cyfarfod â'r archfarchnadoedd ac wedi ymweld â hwy. A gallaf ddweud, yn ardal Rhondda Cynon Taf ac ardal Pontypridd, fod safonau disgyblaeth yn yr archfarchnadoedd yn uchel iawn. A chredaf fod pob un ohonom yn falch iawn gyda hyn, ynghyd â'r ffaith bod yr archfarchnadoedd hyd yn oed yn awr yn rhoi brechlynnau ffliw mewn modd diogel iawn. Mae’r hyn yr hoffwn ei ofyn, serch hynny, yn ymwneud â chadw’r adnoddau sydd eu hangen ar lywodraeth leol i sicrhau bod y lefel hon o orfodaeth a monitro’n parhau drwy gydol yr ychydig fisoedd nesaf, rhywbeth sy'n mynd i fod yn angenrheidiol, yn fy marn i. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch yr adnoddau y bydd eu hangen ar lywodraeth leol er mwyn sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl a’n bod yn parhau i gynnal y lefel o fonitro a gorfodi sy'n cael ei chynnal ar hyd o bryd?

Diolch. Rwy’n ymwybodol o’r rôl ragweithiol y mae Rhondda Cynon Taf wedi'i mabwysiadu mewn perthynas â’r mater hwn. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol gyda’r Gweinidog Cyllid mewn perthynas â hyn, ond rwy’n siŵr fod fy nghyd-Aelod, Julie James, yn sicr, wedi gwneud hynny, oherwydd fel y dywedwch, mae’n bwysig iawn eu bod yn gallu cynnal y lefel hon o orfodaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol, am amryw resymau, yn ystod pandemig COVID-19.

Weinidog, yn union fel yn RhCT, mae adran iechyd yr amgylchedd a staff diogelu'r cyhoedd yn Nhorfaen wedi bod yn gweithio'n hynod o galed, gan gynnal hapwiriadau mewn archfarchnadoedd yn y fwrdeistref. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch a chanmol y tîm diogelu’r cyhoedd am eu gwaith caled? Ond a wnewch chi ddyblu eich ymdrechion i bwysleisio wrth yr archfarchnadoedd, ar lefel yr uwch reolwyr, fod ganddynt gyfrifoldeb absoliwt i gadw siopwyr a'u staff yn ddiogel, ac i wneud popeth yn eu gallu i nodi ac i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol?

Diolch. O ran pwynt cyntaf eich cwestiwn, credaf ei bod yn wych fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi bod yn cynnal hapwiriadau. Credaf ein bod wedi gofyn am gryn dipyn gan ein swyddogion iechyd yr amgylchedd ledled Cymru yn ystod y pandemig, a chredaf ei bod yn deg dweud bod awdurdodau lleol wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb mewn perthynas â hynny.

Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r archfarchnadoedd, yn sicr, rwyf bob amser yn ailbwysleisio'r angen iddynt gymryd cyfrifoldeb am y siopwyr, ac maent yn fwy na pharod i wneud hynny. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn dal yno, mae masgiau wyneb yn amlwg yn orfodol, a chredaf fod yn rhaid i bob un ohonom dderbyn bod cyfrifoldeb arnom ar y cyd i gymryd camau ac i addasu ein hymddygiad a'n cyfrifoldeb wrth siopa mewn archfarchnadoedd.

Yn anffodus, rwyf hefyd wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth ynghylch cynnydd yn yr achosion o ddifrïo perchnogion siopau a chynorthwywyr mewn siopau, sy’n rhywbeth nad ydym yn dymuno’i weld wrth gwrs. Ac rwyf wedi bod yn gohebu gyda'r heddlu ynglŷn â'r mater hwn hefyd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Yfory, Weinidog, wrth gwrs, yw'r terfyn amser a bennwyd gan Boris Johnson ar gyfer cytuno gyda'r UE ar gytundeb masnach ar ôl Brexit, ac ar ôl hynny, dywed fod y DU yn barod i roi’r gorau i’r trafodaethau, gan ein gadael gydag anhrefn ‘dim cytundeb’, a gwireddu hunllefau gwaethaf y diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru wrth gwrs. Ac mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r ffigurau; mae 82 y cant o allforion cig eidion o'r DU yn mynd i Ewrop; 78 y cant o allforion cynhyrchion llaeth; a 90 y cant o allforion cig oen yn mynd i'r UE ar hyn o bryd. Nawr, mae adroddiad gan Ysgol Economeg Llundain wedi nodi, hyd yn oed gyda chytundeb masnach rydd erbyn diwedd eleni, y bydd y fasnach fwyd rhwng y DU a’r UE yn cael ei chwalu, yn bennaf oherwydd rhwystrau nad ydynt yn dariffau. Felly, a allwch amlinellu i ni pa gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i liniaru’r difrod ‘dim cytundeb’ difrifol sydd ar y gorwel, ac yn benodol, y camau rydych yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r sectorau cig eidion, llaeth a defaid yng Nghymru?

Mae'n ddrwg gennyf, Llyr, methais ddechrau eich cwestiwn. Nid oedd unrhyw sain o gwbl, felly nid oeddwn yn hollol siŵr at bwy roeddech yn cyfeirio. Ond yn sicr, mewn perthynas â'r sector cig coch, yn ogystal â dofednod ac wyau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cryn dipyn o waith. Fe wyddoch ein bod wedi cael sawl ymgyrch gyda Hybu Cig Cymru i hyrwyddo'r sector cig coch yn benodol. Y llynedd, cawsom drafodaethau manwl ynghylch cynllun cymorth ar gyfer y sector defaid, oherwydd fel y dywedasoch yn eich cwestiwn, mae'r ffigurau’n sicr yn peri cryn bryder, os na fydd gennym gytundeb masnach gyda'r UE, ein cymdogion agosaf, a marchnad o dros hanner biliwn o bobl. Felly, mae'r sgyrsiau hynny wedi ailgychwyn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ynghylch y cymorth sylweddol i'r sector defaid.

Rwy'n falch eich bod yn rhannu fy mhryderon. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhoi'r sicrwydd roeddwn yn chwilio amdano. Ni chlywais unrhyw fanylion penodol, heblaw am ‘drafodaethau parhaus’. Nawr, 12 wythnos sydd i fynd, wrth gwrs, tan y sefyllfa bosibl hon, ac mae angen i'ch Llywodraeth fod yn barod i gymryd camau gweithredu ymhen 12 wythnos. Roeddwn yn gobeithio clywed, efallai, sut roeddech yn bwriadu cynyddu capasiti storio oer, i ymdrin â chynnyrch dros ben na fydd yn cael ei allforio mwyach. Roeddwn yn gobeithio y byddech efallai'n dweud wrthym sut y byddai caffael cyhoeddus yn camu i'r adwy er mwyn ceisio amsugno mwy o gynnyrch domestig. Efallai y gallech ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r risgiau sy’n deillio o ‘ddim cytundeb’ yn cael eu gwaethygu gan gytundebau masnach gydag Awstralia a Seland Newydd a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnydd yn y cwota, o bosibl, ar gyfer allforion cig oen a ddaw i mewn i'r DU o'r gwledydd hynny.

Hefyd, gwelsom adroddiadau yr wythnos diwethaf y gallai 2 filiwn o garcasau cig oen yn y DU fynd yn wastraff o dan Brexit ‘dim cytundeb’. A allwch ddweud wrthym, Weinidog, p’un a yw eich Llywodraeth yn awr yn cynllunio i ymdrin â’r miloedd ar filoedd o dunelli o wastraff bwyd ychwanegol y bydd yn rhaid i chi ymdrin ag ef o ganlyniad i Brexit ‘dim cytundeb’ posibl?

Wel, fe fyddwch yn deall, gan mai 12 wythnos yn unig sydd i fynd tan ddiwedd cyfnod pontio'r UE, fel y dywedwch, fod y rhain yn drafodaethau parhaus. Felly, rwy'n llwyr ddeall eu bod yn rhai brys, ond bydd yn rhaid i chi ddeall hefyd fod Llywodraeth y DU yn arwain ar lawer iawn o'r rhain, ac wrth gwrs, er ein bod yn cynllunio ar gyfer Brexit ‘dim cytundeb’, rydym yn ddibynnol ar lawer o wybodaeth a ddaw gan Lywodraeth y DU. Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion yn cael mwy o gyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU. Cefais ddau ddoe gyda Llywodraeth y DU, nid yn benodol ynghylch cig coch, ond ynglŷn â physgodfeydd ac ynni, er enghraifft. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n sicr yn cynyddu.

Yn amlwg, trafodaethau masnach—. Nid wyf yn arwain ar drafodaethau masnach ar ran Llywodraeth Cymru; Eluned Morgan oedd yn gwneud hynny, a Jeremy Miles bellach. Ond yn amlwg, byddant hwythau’n trafod y mathau hyn o bethau hefyd. Rydym wedi sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn ein bod yn gwybod y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn hollol drychinebus i'r sector cig coch, i amaethyddiaeth, ac yn wir, i Gymru gyfan yn fy marn i.

13:45

Wel, nid ydych wedi rhoi unrhyw gamau penodol i mi o hyd, ond rwyf am symud ymlaen, gan fod gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau a gwelsom yr wythnos hon sut y gwnaeth Aelodau Seneddol Torïaidd yn San Steffan gael gwared ar gymalau o Fil Amaethyddiaeth y DU, wrth gwrs, cymalau a fyddai wedi diogelu safonau bwyd yn y wlad hon mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Ac wrth wneud hynny, wrth gwrs, maent yn gwneud tro gwael â ffermwyr Cymru. Maent wedi peri iddynt fod yn agored i beryglon mewnforion rhad, a fyddai’n cael eu gwerthu’n rhatach na’u cynnyrch hwy, ac yn tanseilio eu bywoliaeth. Nawr, wythnosau yn ôl, roedd llawer o'r un Aelodau Seneddol yn gwisgo ysgubau gwenith i gefnogi ymgyrch Back British Farming, ond mae eu gweithredoedd yr wythnos hon wedi dangos yn glir mai gweithred wag a diystyr oedd honno. Felly, a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, mai'r unig ffordd y gellir diogelu ffermwyr Cymru yn y dyfodol yw sicrhau bod gennym gymaint o bwerau â phosibl yma yng Nghymru i wneud cymaint o hynny ag y gallwn ein hunain?

Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â'r siom a fynegwyd. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn bod yn hynod feirniadol o Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r pleidleisiau a gynhaliwyd nos Lun ar Fil Amaethyddiaeth y DU. Rydym am weld ein safonau uchel yn cael eu cynnal; cawsant gyfle i droi hynny’n ddeddfwriaeth nos Lun, ac ni wnaethant hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn bob amser y bydd gennym ein Bil amaethyddol Cymreig pwrpasol ein hunain. Rwy’n dal yn bwriadu cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd y flwyddyn galendr hon mewn perthynas â hynny, ac rydym am wneud popeth a allwn i gynnal y safonau uchel presennol mewn perthynas â diogelwch bwyd a lles anifeiliaid. Rydym yn gweithio'n galed iawn ar y fframweithiau—fe fyddwch yn ymwybodol o'r holl fframweithiau sy'n cael eu llunio ar y cyd ar hyn o bryd—mewn perthynas â'r mater hwn hefyd.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae 119 o unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru, gyda 40,000 neu fwy o adar. Mae 116 o'r rhain ym Mhowys. Canfu astudiaeth beilot Cyfoeth Naturiol Cymru o ddofednod Powys—asesiad o ollyngiadau atmosfferig cronnol—fod unedau ffermio dofednod llai o faint, nad ydynt wedi’u rheoleiddio, ond sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth gynllunio yn cael mwy o effaith ar y crynodiadau amonia lleol na'r unedau dwys mwy o faint a reoleiddir. Nodir bod 12,000 o ieir dodwy maes yn cael mwy o effaith amgylcheddol nag 80,000 o adar cig. Roedd hynny yn 2005, ac eto, bum mlynedd yn ddiweddarach, CNC sy'n parhau i fod yn gyfrifol am roi trwyddedau amgylcheddol i'r safleoedd ac am gwblhau'r asesiadau risg i gynefin ar gyfer datblygiadau â 40,000 neu fwy o adar yn unig. A ydych yn hyderus, Weinidog, fod CNC yn rheoleiddio'r categori yn gywir, neu a ddylid gostwng y terfyn 40,000 o adar yn adran 6.9 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn sgil adroddiad 2015?

Mae Janet Finch-Saunders yn dyfynnu ffigurau o 2005 a 2010. Yn sicr, pan oeddwn yn Weinidog cynllunio ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd hyn yn rhywbeth y gofynnais i swyddogion cynllunio edrych arno fy rhan, gan ein bod yn gweld yr effaith gronnol honno y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Rwy'n hapus fod CNC yn monitro fel y dylent, ond unwaith eto, os oes ganddi unrhyw bryderon penodol, rwy’n fwy na pharod i drafod hynny gyda CNC.

Diolch. Mae llawer o bryderon wedi’u codi gyda mi ledled Cymru yn gyffredinol ynghylch unedau ffermio dofednod dwys—nid y ffaith eu bod yno, ond sut y cânt eu rheoleiddio a'u monitro. Nawr, mae oddeutu 8.5 miliwn o ieir ar unedau a ganiateir ym Mhowys. Mae oddeutu 77,000 o bobl wedi llofnodi deiseb ‘Save the River Wye!’ ar change.org, ac maent yn galw am foratoriwm ar bob uned ffermio dofednod newydd ym Mhowys. Maent yn dymuno cael moratoriwm ar waith hyd nes bod effeithiau amgylcheddol a chymunedol llawn yr unedau presennol yn cael eu hasesu. Felly, croesawaf y ffaith bod CNC yn cynnal adolygiad manwl o’r data er mwyn deall yn well beth sy’n achosi’r cynnydd mewn algâu ar afon Gwy. Nawr, yn ôl Sefydliad Gwy ac Wysg, nododd CNC mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf eu bod yn disgwyl i’r adolygiad ddangos bod y lefelau ffosffad ar y Gwy uchaf wedi bod yn uwch na’r lefelau a ganiateir dros y pedair blynedd diwethaf o leiaf. Felly, os yw’r hyn a ddywedodd CNC yn gywir, pa gamau brys y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefel y ffosffadau yn yr afon, ac a fydd y mesurau hynny'n cynnwys moratoriwm dros dro?

13:50

Wel, nid wyf am geisio achub y blaen ar yr hyn y bydd CNC yn ei ddweud. Nid wyf yn ymwybodol o'r sylwadau y cyfeiriwch atynt mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, nid oeddwn yno fy hun. Ni allaf achub y blaen ar unrhyw argymhellion y bydd CNC yn eu cyflwyno hyd nes eu bod yn gwneud hynny.

I mi, y pryder yw bod risg wirioneddol y caiff ein ffermwyr eu portreadu mewn ffordd negyddol. Mae cynhyrchwyr dofednod yn cael eu monitro'n agos a'u harchwilio'n rheolaidd, ond mae’n rhaid cydnabod hefyd, wrth wneud cais am unedau ffermio dofednod dwys, fod yn rhaid i ymgeiswyr gymryd camau fel cynlluniau cadwraeth, cynlluniau rheoli tail, a chynlluniau atal llygredd. Mae dalgylch afon Axe yn Nyfnaint wedi defnyddio ymgyrch ymweliadau rheoleiddiol bob tair blynedd ar ffermydd i gynnal archwiliadau rheoleiddiol ar sail cyngor. Arweiniodd yr ymweliadau hyn at welliannau i'r seilwaith. Mewn gwirionedd, arweiniodd pob punt a wariwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn ymweliadau rheoleiddiol at fuddsoddiad o £33 ar welliannau i’r seilwaith. A wnewch chi gefnogi ffermwyr os ydynt yn dymuno buddsoddi mewn gwelliannau seilwaith perthnasol, a chadarnhau y bydd unrhyw gamau yn y dyfodol nid yn unig yn ymwneud ag amaethyddiaeth, ond y byddant yn mynd i'r afael â materion fel tymheredd dŵr cynnes a gwaith trin carthion hefyd?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod, yn gynharach eleni—oddeutu adeg y Pasg—wedi gosod rheoliadau drafft ar lygredd amaethyddol. Ar y pryd, ac am y tair blynedd flaenorol yn ôl pob tebyg, pan oedd llygredd amaethyddol yn cael ei drafod, dywedais yn glir iawn y byddem yn ceisio cefnogi ein ffermwyr pe baent yn edrych am seilwaith newydd, er enghraifft, er mwyn ymdrin â llygredd amaethyddol ac er mwyn osgoi llygredd amaethyddol, sy’n rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei wneud, wrth gwrs. Yr hyn a ddywedais yw na fyddwn yn rhoi cyllid iddynt i wella eu safonau fel eu bod yn cydymffurfio. Rwy'n disgwyl iddynt gydymffurfio. Rydym yn gweld gormod o lawer o achosion o lygredd amaethyddol, ac fel y dywedaf, mae'r rheoliadau drafft yno i bobl edrych arnynt. Roedd yn bwysig iawn eu bod yn cael eu gosod er tryloywder, ac rwy’n bwriadu cymryd camau pellach mewn perthynas â'r rheoliadau. Mae cynhyrchwyr dofednod yn cael eu monitro'n agos ac yn cael eu harchwilio fel mater o drefn. Rwyf wedi ymrwymo i beidio â gwneud unrhyw beth tra bo’r pandemig ar ei anterth, ond yn amlwg, rydym yn dal i weld achosion o lygredd amaethyddol y bydd angen mynd i’r afael â hwy.

Garddwriaeth

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu garddwriaeth yng Nghymru? OQ55695

Diolch. Strategaeth Llywodraeth Cymru yw cynyddu cynhyrchiant ffrwythau a llysiau mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod ein safonau bwyd a'n safonau lles anifeiliaid, safonau rydym mor falch ohonynt, o dan fygythiad o sawl cyfeiriad. Rwy'n bryderus iawn y gallai cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau arwain at fwyd difwynedig o'r Unol Daleithiau yn llenwi ein gwlad. Mae Prifysgol George Washington wedi bod yn cynnal ymchwil dros y pum mlynedd diwethaf ar gig sy’n cael ei werthu yn siopau’r Unol Daleithiau. Roedd pedwar ar ddeg y cant o ddofednod a 13 y cant o borc yn cynnwys olion salmonela, ac roedd E. coli yn bresennol mewn 60 y cant o borc, 70 y cant o gig eidion, 80 y cant o gyw iâr a 90 y cant o gynhyrchion twrci. Mae hwn yn bosibilrwydd dychrynllyd. Ond y bygythiad mwyaf uniongyrchol i'n diogelwch bwyd yw’r tarfu ar gyflenwadau bwyd ffres a fewnforir o Ewrop, rhywbeth y mae Llyr Gruffydd eisoes wedi cyfeirio ato, pe baem yn cael y senario waethaf, sef Brexit 'dim cytundeb'. Fe wnaethom ni ddysgu’r wythnos diwethaf fod Llywodraeth y DU wedi cadw’r wybodaeth hon oddi wrth y Llywodraethau datganoledig, gan eich atal rhag cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer sefyllfa o’r fath. Gan fod Cymru’n mewnforio’r rhan fwyaf o’n llysiau a’n ffrwythau o Ewrop, beth y gellir ei wneud yn awr i gynyddu ein cynhyrchiant o’r elfennau pwysig hyn yn ein bywydau bob dydd, ac i ddiogelu pobl rhag codiadau enfawr mewn prisiau a’r prinder y bydd teuluoedd incwm isel yn arbennig o agored iddynt?

Diolch. Rydych yn tynnu sylw at ddau faes sy'n peri cryn bryder, sef ein safonau lles anifeiliaid a’n safonau bwyd. Wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle; maent o dan fygythiad, a chafodd Llywodraeth y DU gyfle i'w diogelu mewn deddfwriaeth ac ni wnaethant hynny nos Lun gyda'r gwelliannau a aeth drwy Dŷ'r Arglwyddi. Mae eich pwynt ynglŷn â pheidio â rhannu gwybodaeth â ni, fel y dywedodd Llywodraeth y DU y byddent yn ei wneud bob amser, yn amlwg yn achos pryder i mi a fy nghyd-Weinidogion, ac rwy'n ymwybodol fod Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi ysgrifennu at Michael Gove ynghylch y mater hwnnw hefyd.

Ar eich cwestiwn penodol ynghylch garddwriaeth, unwaith eto, credaf mai'r cam uniongyrchol mwyaf effeithiol i amddiffyn pobl rhag prisiau uwch a llai o ddewis fyddai i Lywodraeth y DU sicrhau cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd—ein cymdogion agosaf a'n marchnad fwyaf. Ni allwn gynhyrchu'r holl ffrwythau a llysiau rydym yn eu bwyta yng Nghymru oherwydd cyfyngiadau ar ein hinsawdd a'n daearyddiaeth. Felly, mae masnach yn parhau i fod yn gwbl hanfodol. Ond fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynhyrchiant ffrwythau a llysiau yma drwy fapio tir amaethyddol a thrwy gymorth busnes garddwriaethol. Rydym wedi darparu grantiau i fusnesau fferm, mae gennym sawl cynllun i annog tyfu mwy o ffrwythau a llysiau yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o weld y grantiau hyn yn cael eu defnyddio. Dylwn ddweud fy mod am roi sicrwydd i Aelodau fod ein system gyflenwi bwyd yn ddiogel, ond y ffordd orau o’i chadw felly ac osgoi codiadau diangen yn y prisiau, fel y dywedaf, yw i Lywodraeth y DU sicrhau cytundeb masnach â’r Undeb Ewropeaidd.

13:55

Cyn i mi alw ar Nick Ramsay, hoffwn ddweud fy mod wedi sylwi ar duedd gynyddol i hunanhyrwyddo ar gefndiroedd Zoom amryw Aelodau. Credaf y gallaf weld o leiaf dair enghraifft y prynhawn yma ar gefndiroedd Zoom. Felly, byddaf yn anfon canllawiau ar y mater hwn at yr holl Aelodau, gan gofio, wrth gwrs, nad oes gan Aelodau yn y Siambr gyfle i hunanhyrwyddo ar unrhyw gefndiroedd sydd ganddynt hwy. Rwy'n ceisio trin pob Aelod yn gyfartal bob amser, boed hynny dros Zoom neu yn y Siambr. Nick Ramsay.

Diolch, Lywydd. Mae gennyf Janet Finch-Saunders y tu ôl i mi, felly dyna'r holl hunanhyrwyddo sydd ei angen arnaf ar gyfer y cwestiwn hwn. [Chwerthin.]

Weinidog, rydym yn sôn yn aml am ailadeiladu'n well ac ailadeiladu’n wyrddach yn y Siambr hon. Ymddengys i mi fod ehangu garddwriaeth yn un ffordd y gallwn wneud hyn. Wrth gwrs, mae garddwriaeth yng Nghymru yn cael cryn dipyn o gymorth gan y gweithwyr amaethyddol tymhorol sy'n dod i'r DU i gasglu ffrwythau a llysiau ar ffermydd, ac mae hyn wedi parhau drwy'r pandemig, gan y credaf eu bod wedi cael caniatâd i hunanynysu am 14 diwrnod ar y ffermydd lle maent yn gweithio ac yn byw. A allwch edrych ar ffyrdd y gellir ymestyn yr esemptiadau hyn, neu a fyddwch yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU os yw'n rhan o’u cylch gwaith hwy? Nid er budd garddwriaeth yn unig y bydd hyn; yn y cyfnod cyn y Nadolig, deallaf fod prinder proseswyr dofednod hyfforddedig hefyd, y gellid ei liniaru gydag estyniad wyth wythnos i'r esemptiad ar gyfer gweithwyr mudol tymhorol.

Diolch. Yn sicr, roeddem yn bryderus iawn na allai gweithwyr amaethyddol tymhorol ddod i'r DU yn ystod pandemig COVID-19. Ar y cychwyn cyntaf, ym mis Ebrill yn ôl pob tebyg, roeddwn yn rhan o drafodaethau wythnosol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn. Yn sicr, wrth inni barhau drwy'r flwyddyn, fel y dywedwch, nid ydym yn sôn am gasglwyr ffrwythau na chasglwyr llysiau yn unig; rydym yn dibynnu ar weithwyr tymhorol eraill hefyd. Maent yn sgyrsiau rwy'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr fod Gweinidogion eraill yn eu cael hefyd.

Bil Amaeth i Gymru

4. Sut y bydd papur gwyn Llywodraeth Cymru ar Fil amaeth i Gymru yn cydnabod pwysicrwydd y sector i ddyfodol yr Iaith Gymaeg? OQ55707

Diolch. Mae amaethyddiaeth yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau gwledig. Drwy gefnogi ffermwyr i reoli cynaliadwyedd eu tir, mae ein cynigion yn cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol ag anghenion y genhedlaeth nesaf wrth gefnogi cadernid cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Diolch am eich ateb. Byddwch chi, dwi'n gwybod, yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Cyswllt Ffermio, 'Iaith y Pridd', yn ddiweddar, ac rŷn ni'n gwybod am ffigurau'r cyfrifiad, sy'n dangos bod 43 y cant o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg o gymharu ag 19 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Nawr, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'r iaith Gymraeg a diwylliant yn biler sydd yn sefyll ochr yn ochr gyda phileri cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Gyda hynny mewn golwg, allwch chi ddweud wrthym ni a ddylai taliadau am nwyddau cyhoeddus, felly, gael eu hestyn i fuddsoddi yng nghynaliadwyedd yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd gwledig?

Rwy'n ymwybodol iawn o adroddiad 'Iaith y Pridd', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio, a bydd y safbwyntiau a fynegwyd gan gyfranogwyr ac a gyhoeddwyd yn yr adroddiad yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth wrth inni ystyried a datblygu ein cynigion ar gyfer cefnogi'r sector yn y dyfodol wrth inni adael y polisi amaethyddol cyffredin. Roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn ariannu'r gwaith hwnnw, drwy Cyswllt Ffermio, gan fy mod yn cydnabod rôl bwysig y sector yn llwyr. Rydych yn crybwyll y 43 y cant; gwyddom mai'r sector amaethyddol, mae'n debyg, yw'r—wel, yn sicr, y sector sy'n defnyddio fwyaf ar y Gymraeg, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny. Wrth inni gyflwyno ein cynigion o dan 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', bydd hynny'n cael ei ystyried, yn amlwg, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Gymraeg yn rhywbeth rydym wedi cydnabod yn ôl yn 'Brexit a'n tir' a 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ ei bod yn egwyddor sylfaenol gwbl greiddiol.

14:00

O dan eich cynlluniau, bydd angen i ffermwyr wneud newidiadau i'w modelau busnes, gan gynhyrchu mwy a meddwl am gynhyrchion gwahanol gyda llai, a bydd Brexit yn dod â bygythiadau a chyfleoedd hefyd. Sut mae eich adran chi yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid ifanc Cymraeg eu hiaith yn gweld ffermio fel sector cyffrous, modern a moesegol i fynd iddo fel y gallant, yn eu tro, atal gweithlu sy'n siarad Cymraeg rhag llithro oddi ar y tir?

Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw ein ffermwyr ar y tir, gan fod honno’n un ffordd o ddiogelu'r Gymraeg. Rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith, ers i mi fod yn y portffolio, i annog ffermwyr ifanc. Rwyf wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, a Phrifysgol Harper Adams, sydd, yn amlwg, ychydig y tu allan i Gymru, i sicrhau bod y cyrsiau y maent yn eu cynnig yn denu ein ffermwyr ifanc o Gymru. Ac yn sicr, ymddengys bod hynny'n gweithio, gan ein bod yn gweld nifer sylweddol yn mynd i'r ddwy brifysgol hynny yn arbennig, byddwn yn dweud.

Unwaith eto, credaf ei bod yn bwysig iawn fod 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', ac yn amlwg, wedyn, pan fyddwn yn cyflwyno polisi amaethyddol pwrpasol i Gymru, yn cefnogi'r iaith mewn ffordd sy'n cadw'r cymunedau hynny gyda'i gilydd. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur blaenorol, pan euthum allan i Seland Newydd, a chlywed sut roeddent yn teimlo'u bod yn colli cymuned pan oedd pethau yn y fantol iddynt hwy, pan ddaeth cynllun y taliad sylfaenol hwnnw i ben yn ôl yn yr 1980au. I mi, mae'r Gymraeg yn rhan ychwanegol o'n sector amaethyddol sydd angen inni ei chefnogi.

Llygredd Aer

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau llygredd aer yng Nghymru? OQ55688

Rydym yn asesu ansawdd yr aer yn rheolaidd yn unol â gofynion statudol. Yn ddiweddar, gwnaethom gomisiynu astudiaeth i asesu effeithiau COVID-19 ar ansawdd yr aer. Dangosodd honno ddarlun cymysg, gyda lefelau rhai llygryddion yn gostwng ac eraill yn codi. Rydym yn parhau i asesu'r sefyllfa i lywio ac i ddatblygu camau gweithredu yn y dyfodol.

Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom nodi Diwrnod Aer Glân, lle cawsom ddata wedi'i ddiweddaru, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan dde Cymru, cyn y cyfyngiadau symud, y lefelau llygredd gwaethaf ond un yn y DU—roedd lefelau nitrogen deuocsid gwenwynig 1.6 gwaith yn fwy na therfynau cyfreithiol yr UE. Nawr, yn ystod y cyfyngiadau symud eleni, gwelsom lygredd aer yng Nghymru yn gwella’n ddramatig, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun aer glân hefyd, er mai ar strydoedd Caerdydd yn unig y bu hynny. Nawr, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, a gaf fi ofyn pryd y bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno yn y Senedd, a phryd y cawn gyfle i ofyn cwestiynau ar fanylion y cynllun a chynnwys y Papur Gwyn a ddaw'n sylfaen i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Deddf aer glân newydd i Gymru?

Diolch. Ac roeddwn yn falch iawn o fynychu eich grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, neu'r wythnos flaenorol—ni allaf gofio'n iawn nawr—a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod Diwrnod Aer Glân, nid yn y ffordd y bu modd inni wneud y llynedd, ond roeddwn yn wirioneddol falch o allu cefnogi'r fenter allweddol honno. Fel y dywedwch, lansiais y cynllun aer glân ym mis Awst, ac mae'n nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu cymryd i leihau llygredd aer a'i effaith ar iechyd y cyhoedd a bioamrywiaeth, a hefyd yr amgylchedd naturiol yng Nghymru. Mae'r cynllun hefyd yn nodi mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol Ewropeaidd a domestig.

Fel y dywedwch, byddwn yn cynhyrchu Papur Gwyn ar aer glân, ac rydym yn datblygu hwnnw er mwyn gwella'r ddeddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil aer glân i Gymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon fel y gall Aelodau graffu arno.

14:05

Weinidog, un o ganlyniadau COVID yw ein bod wedi gweld llawer o'n mannau trefol yn cael eu hail-lunio yn gyflymach nag ar unrhyw adeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf: systemau unffordd ar gyfer cerddwyr, parthau di-draffig, neu draffig yn cael ei gyfyngu beth bynnag. Rydym hefyd wedi gweld mwy o alw am lawer mwy o reoleiddio traffig mewn rhai mannau, ac mae dinasoedd eraill ledled y byd, fel Paris, yn dechrau gwahardd traffig, ac eithrio ar gyfer trigolion, o ardaloedd mawr felly mae mwy o fannau agored i blant chwarae ynddynt, er enghraifft. Mae hyn oll yn cael effaith fuddiol iawn ar ansawdd yr aer. A fyddwch yn cydweithredu â'ch cyd-Aelodau i sicrhau ymagwedd o'r fath fel rhan o'r cynllun aer glân yn y dyfodol, gan fod cynllunio ein hamgylchedd, ein mannau trefol, a llif ein traffig yn hanfodol i hyn?

Ie, rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth David Melding. Cyfeiriodd Dai Lloyd at y ffaith imi lansio’r cynllun ar strydoedd Caerdydd, ond fe’i lansiais ar Stryd y Castell, sydd yn amlwg wedi bod ar gau i draffig, ac roedd yn ddiwrnod braf iawn, ac roedd yn wych gweld teuluoedd allan yn mwynhau, yn defnyddio'r stryd honno mewn ffordd wahanol. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn dweud mai un o’r manteision—mae'n debyg fod yn rhaid inni chwilio am fanteision i COVID-19—yw ein bod wedi gweld awdurdodau lleol yn ail-lunio eu hardaloedd mewn ffordd nad ydym wedi'i wneud o'r blaen.

Rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol. Rwy'n siŵr fod pob un ohonynt yn cyflwyno cynlluniau. Os ydym am gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, dyma'r math o beth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol edrych arno.

Weinidog, siaradais yr wythnos diwethaf yn lansiad maniffesto Living Streets Cymru ar gyfer cerdded yng Nghymru. Maent am i bawb yng Nghymru allu anadlu aer glân, ac maent am i'r Llywodraeth nesaf flaenoriaethu'r argyfwng hinsawdd, cyflwyno Deddf aer glân i Gymru a pharthau aer glân o amgylch holl ysgolion Cymru, creu mwy o fannau gwyrdd trefol a choridorau gwyrdd lle gall pobl gerdded a beicio, a gweithio tuag at nod sero-net o ran allyriadau carbon mewn trefi a dinasoedd, mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, buddsoddi mwy mewn targedau i blant gerdded i'r ysgol ac i oedolion ddewis teithio llesol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddarllen eu maniffesto’n fanwl a sicrhau bod cymaint o fesurau â phosibl yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth Lafur nesaf?

Diolch am godi'r pwyntiau hynny, Huw, ac yn sicr, rwy’n fwy na pharod i fwrw golwg ar y maniffesto. Mae rhai o'r pethau y cyfeiriwch atynt—fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi gwneud datganiad ddoe ynglŷn â mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at deithio llesol dros dymor y Llywodraeth hon, ond fe wnaethom gynyddu'r cyllid hwnnw yn ystod pandemig COVID-19. Felly, mae yna bethau rydym yn eu gwneud. Pan gyflwynodd ei faniffesto ddwy flynedd yn ôl, gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad i Ddeddf aer glân, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, rydym wrthi’n datblygu'r Papur Gwyn ar Fil aer glân, a Deddf aer glân wedi hynny, fel y gallwn wella'r ddeddfwriaeth sydd gennym yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y Diwydiant Ffermio ar ôl Brexit

6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gall ffermwyr wneud y gorau o'r cyfleoedd a ddarperir i'r diwydiant ffermio ar ôl Brexit? OQ55682

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ffermwyr ar ôl gadael yr UE. Rwyf wedi cadarnhau na fydd lefel y cymhorthdal ​​sylfaenol yn newid yn 2021, ac yn ddiweddar, cyhoeddais dros £106 miliwn o fuddsoddiad mewn ystod o gynlluniau dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ffermio a'n heconomi wledig.

Wel, diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ac mae’n rhaid imi ddweud eu bod yn galonogol iawn—yr ymyriadau y sonioch chi amdanynt. Weinidog, soniais yr wythnos diwethaf yn fy nghwestiwn i’r Cwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn ymddiheuro am grybwyll hyn eto, fod ffermwyr Prydain ymhlith y ffermwyr mwyaf effeithlon ac arloesol yn y byd, ac y gallent, gyda’r adnoddau a’r cymhellion cywir, gynyddu faint o fwyd y maent yn ei gynhyrchu ar gyfer y cyhoedd ym Mhrydain yn sylweddol. Mae rhai wedi cwyno am gyw iâr wedi'i olchi ‘clorinedig’ fel y’i gelwir, a ​​chynhyrchion eraill o'r UDA, ond ni chlywsom unrhyw gwynion o'r fath am fewnforio cynhyrchion porc o'r cyfandir, lle roedd moch yn cael eu cadw mewn amodau gwarthus, yn aml mewn cewyll wedi'u gosod un ar ben y llall hyd at dair cawell o uchder. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod safonau hwsmonaeth yn y DU ymhlith y gorau yn y byd, ac ymhell uwchlaw'r rheini a geir mewn sawl rhan o Ewrop, yn enwedig yn y gwladwriaethau mwyaf newydd? Felly, onid yw'n wir mai gorau po fwyaf o fwydydd y gallwn eu cynhyrchu gartref? Byddwn yn gweld y budd o ran ansawdd y bwyd rydym yn ei fwyta, ond hefyd yn gweld budd amgylcheddol enfawr yn yr ystyr na fydd ein bwyd bellach yn cael ei gludo at ein byrddau dros filoedd o filltiroedd o bob rhan o Ewrop.

Gan gyfeirio at y sylwadau yn gynharach gan ein cyd-Aelod Llyr Gruffydd, os na allwn allforio i'r UE, mae hynny ynddo'i hun yn golygu na allant allforio i ni. Byddai hyn yn gadael gwagle enfawr ym marchnad y DU i holl gynhyrchion cig y DU a holl gynhyrchion bwyd y DU. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno bod canlyniadau senario 'dim cytundeb' yn gweithio'r ddwy ffordd?

14:10

Nac ydw. Mae’n rhaid imi ddweud, nid ar ffermio ym Mhrydain y mae fy ffocws, ond ar ffermio yng Nghymru. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i gefnogi'r sector amaethyddol, yn enwedig ers 2016, yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym am sicrhau bod ein sector amaethyddol a'n ffermwyr a'u busnesau mor gystadleuol ac mor gynaliadwy â phosibl. Rydym wedi rhoi cryn dipyn o gyllid—yn eironig, gan yr UE—i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y sector cig coch ac ar y sector llaeth, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ffermwyr sicrhau bod eu busnesau mor gadarn â phosibl.

Rwy’n falch iawn o’r safonau iechyd a lles anifeiliaid sydd gennym yma yng Nghymru, a’n safonau bwyd, ac rwyf am sicrhau bod hynny’n parhau. Rwy'n siŵr y gallwn ddod o hyd i enghreifftiau o arferion gwael ledled y byd, ond mae fy ffocws i ar Gymru a ffermwyr Cymru.

Andrew R.T. Davies. A allwch agor eich meic, Andrew R.T. Davies? A yw hi'n edrych yn debyg fod modd gwneud hynny? Na. Credaf mai ‘na' oedd hynny. Bydd yn rhaid i mi symud ymlaen.

Cwestiwn 7—Michelle Brown.

Economi Wyrddach

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd sydd ganddi i adeiladu economi wyrddach? OQ55704

Ein huchelgais cyffredinol yw creu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd. Wrth gynllunio i adfer wedi’r pandemig, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen ag adferiad gwyrdd a fydd yn gwella canlyniadau i Gymru, yn cynhyrchu economi fwy cynaliadwy a chadarn yn y dyfodol, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a cholledion o ran bioamrywiaeth.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Un cyfle a gyhoeddwyd â chryn falchder gennych y mis diwethaf yw'r hyb deunydd pecynnu bwyd cynaliadwy rydych wedi buddsoddi £2 filiwn ynddo yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn Sir y Fflint. Ar yr olwg gyntaf, mae'n swnio'n drawiadol, gyda'r nod canmoladwy o wneud deunydd pecynnu bwyd yn fwy cynaliadwy. Ond nid aur yw popeth melyn, ac nid yw'r hyb yn newyddion mor dda ag y mae'n ymddangos, nag ydy? Mewn gwirionedd, i rai pobl, mae'n newyddion drwg iawn yn wir. Yn y datganiad a ryddhawyd gennych i'r wasg, mae nodau datganedig yr hyb yn cynnwys cynyddu awtomeiddio, ac yn eich dyfyniad, rydych yn sôn am eich awydd i leihau dibyniaeth ar waith llaw. Mae cynyddu awtomeiddio yn gofyn am fwy o ddefnydd o drydan, felly er bod y deunydd pecynnu a gynhyrchir yn ailgylchadwy, bydd gan y broses o’i gynhyrchu ôl troed carbon mwy, ac mae lleihau gwaith llaw yn golygu colli swyddi. Bydd angen llawer llai o weithwyr i redeg cyfleuster cynhyrchu awtomataidd o gymharu ag un sy'n dibynnu ar waith llaw. Rydych yn gwario £2 filiwn o arian trethdalwyr mewn ymdrech i ddarganfod sut y gallwch ddiswyddo cymaint o'r trethdalwyr hynny â phosibl. Mae'r diwydiant pecynnu yn cyflogi 85,000 o bobl yn y DU, sy'n cynrychioli 3 y cant o allbwn gweithgynhyrchu'r DU. Chi yw'r Blaid Lafur i fod, nid y 'blaid llai o lafur'. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi faint o weithwyr pecynnu sgiliau isel fydd yn cael eu diswyddo o ganlyniad i fuddsoddiad £2 filiwn Llafur?

Credaf fod yr Aelod yn methu’r pwynt ynglŷn â’r cyfleuster a agorwyd yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn Sir y Fflint. Y syniad oedd cefnogi deunydd pecynnu mwy cynaliadwy. Mae pobl yn llawer mwy awyddus i edrych ar ba gynhwysion, er enghraifft, sydd yn eu bwyd a'r hyn sydd angen inni ei sicrhau yw canolfan ddeunydd pecynnu dda iawn, ac mae arnaf ofn nad wyf yn cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod.

14:15
Prosiectau Ynni yn Ynys Môn

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ynni yn Ynys Môn? OQ55697

Mae Ynys Mȏn yn arwain y ffordd ym maes arloesi ar gyfer rhwydweithiau trydan hyblyg a chlyfar. Mae'n ganolbwynt ar gyfer datblygu ffrydiau llanw, ac ynghyd â chyfleoedd mewn ynni gwynt ar y môr ac arnofiol, niwclear a hydrogen, mae gan Ynys Môn botensial i fod yn arweinydd byd-eang mewn technolegau ynni sefydledig ac arloesol.

Diolch, Weinidog. Does gen i ddim amheuaeth ynglŷn â photensial Môn yn y maes ynni carbon isel. Mae cynllun Morlais yn gyffrous iawn, a dwi'n edrych ymlaen at weld hwnnw'n cael caniatâd yn fuan, ac mae angen gyrru prosiect Minesto yn ei flaen. Mae'r arbenigedd i gefnogi'r prosiectau yna gennym ni yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy. Mae lle i feithrin arloesedd gennym ni yn M-SParc. Mae yna gyfleoedd mawr ar gyfer datblygiadau hydrogen yn Môn, a dwi'n annog y Llywodraeth i fuddsoddi yn hynny. Ond mae yna botensial mawr, fel gwnaeth y Gweinidog grybwyll yn fanna, efo datblygiadau nesaf ynni gwynt môr Cymru—y math traddodiadol, a thyrbinau sy'n arnofio. Ond i gael y budd go iawn i Ynys Môn o'r rheini, mae angen inni sicrhau bod Caergybi yn dod yn hyb i wasanaethu'r rheini ar y tir. Rŵan, dydy record Llywodraeth Prydain ar brosiectau ynni yng Nghymru ddim yn dda iawn—dwi'n meddwl am Wylfa a dwi'n meddwl am forlun bae Abertawe—ond o ystyried addewid y Prif Weinidog, Prif Weinidog Prydain, yr wythnos diwethaf i fuddsoddi mewn porthladdoedd ar gyfer ehangu ynni gwynt môr, wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth i uchafu'r potensial i Gaergybi ac i Fôn yn y maes penodol hwnnw?

Yn sicr, rwy'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw, ac yn bendant, fel rhan o gytundeb y sector ynni gwynt ar y môr, rydym yn gweithio gyda’r diwydiant a phartneriaid i sicrhau’r manteision economaidd yn sgil buddsoddiadau mewn prosiectau newydd. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn aelod o'r gynghrair ynni ar y môr, sef grŵp o randdeiliaid a chwaraewyr yn y diwydiant yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Fe’i sefydlwyd i edrych ar fanteision rhanbarthol. Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gydag Ystad y Goron, sydd wedi clustnodi dyfroedd gogledd Cymru fel un o bedwar lleoliad blaenoriaethol mewn perthynas â hyn. Mynychais gynhadledd ynni morol adnewyddadwy yn Nulyn y llynedd, lle siaradais â sawl datblygwr ynni gwynt arnofiol a chanddynt gryn ddiddordeb, yn amlwg, yn yr ardal oddi ar Ynys Môn, sydd, fel y dywedwch, wedi'i chlustnodi fel lleoliad posibl ar gyfer prosiectau arddangos ynni gwynt arnofiol o lai na 100 MW o dan ganllawiau cyfredol Ystad y Goron. Felly, yn sicr, annog datblygwyr a sefydliadau i fynegi diddordeb yng ngalwad ddiweddaraf yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am uwchraddiad gwerth £160 miliwn i borthladdoedd a ffatrïoedd i gefnogi'r diwydiant ynni gwynt ar y môr.

Gollyngiadau Diesel yn Llangennech

9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y trên a ddaeth oddi ar y cledrau a'r gollyngiadau diesel yn Llangennech ar y diwydiant casglu cocos lleol? OQ55701

Yn anffodus, effeithiodd y diesel a gollwyd ar bysgodfa gocos cilfach Tywyn, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Canfuwyd bod samplau diweddar o bysgod cregyn yn ddiogel i'w bwyta gan bobl, ac felly mae'r gwelyau cocos wedi’u hailagor. Mae grŵp rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i asesu'r effaith ar y diwydiant casglu cocos lleol.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion cadarnhaol hwnnw, ond fe fyddwch yn ymwybodol fod pobl yn poeni y gallai dyddodion diesel ymhellach i fyny'r aber weithio eu ffordd i lawr tuag at y gwelyau cocos. A allwch roi sicrwydd inni heddiw y byddwch yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd o ran y risg barhaus o lygredd yno i sicrhau bod y diwydiant lleol bach ond pwysig hwn y gwn eich bod yn gwybod ei fod yn unigryw—y cocos sy’n cael eu casglu â llaw, yn hytrach na’u llusgrwydo yn y ffordd sy'n niweidiol i'r amgylchedd—er mwyn sicrhau bod y diwydiant pwysig hwn yn parhau i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol?

Gallaf, yn sicr. Bydd y gwaith monitro hwnnw'n parhau. Caeodd CNC y gwely yn unol â thystiolaeth a chyngor, ond fel y dywedais yn fy ateb agoriadol ichi, mae’r gwely hwnnw bellach wedi'i ailagor. Ond mae'n bwysig iawn fod y gwaith monitro a goruchwylio a modelu helaeth yn parhau, ac rwy'n eich sicrhau y bydd hynny’n digwydd.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. 

14:20
Digartrefedd

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru? OQ55676

Diolch, Vikki. Mae'r argyfwng hwn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sylfaenol cartref, ac mae ein hymateb wedi cyflymu ein gwaith i ddod â digartrefedd i ben. Mae dros 2,200 o bobl wedi cael llety dros dro, ynghyd â'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Rydym yn buddsoddi £50 miliwn i drawsnewid y ddarpariaeth, gan ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.

Diolch, Weinidog, ac roedd yn dda gweld y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Awst ynglŷn â chyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd. Hoffwn dynnu sylw at un fenter heddiw gan Rhondda Cynon Taf, sef yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol a grëwyd gan yr awdurdod i reoli eiddo rhent preifat a fyddai’n cael eu hisrannu yn llety un person i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn ddigartref. Gwn fod y prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ond yn fwy cyffredinol, sut rydych yn gweld cynlluniau gosod tai cymdeithasol yn rhan o'ch gwaith i ddileu digartrefedd yng Nghymru a'r weledigaeth ar gyfer dyfodol tai?

Diolch, Vikki. Rwy'n ymwybodol iawn o'r prosiect yn RhCT, ac rydym yn falch iawn o allu ei gefnogi ochr yn ochr â mentrau newydd eraill o'r fath. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym wedi cytuno i ymestyn cynllun braenaru lesio yn y sector rhentu preifat i dair ardal awdurdod lleol arall—Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Chasnewydd—i sicrhau mwy o stoc yn y sector preifat i roi cartref i unigolion digartref dros gyfnod o bum mlynedd ar sail les. Fel un o ofynion y cynllun hwn a chynlluniau eraill, mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu darparu gwasanaethau cymorth tenantiaeth a fydd yn helpu tenantiaid i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion cymorth, ac a ddylai eu helpu i gynnal eu tenantiaeth.

Fel rwyf wedi’i ddweud yn aml yn y Siambr, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, ac mae llawer o awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi rhoi cymorth i ni gydag ystod o syniadau rhagorol rydym wedi bod yn falch iawn o'u cefnogi er mwyn hyrwyddo ein nod o ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.

Laura Anne Jones. Mae angen agor eich meic, Laura Jones. Ie. Parhewch.

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2 filiwn ychwanegol ar gyfer grwpiau ffydd a chymunedol i'w helpu i roi llety i bobl sy'n cysgu allan. Gyda'r arian rydych wedi'i ddarparu eisoes, tybed a ydych yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg i hynny, ac a oes gennych unrhyw gyhoeddiadau ar y gweill i sicrhau ein bod yn hollol barod dros fisoedd y gaeaf, yn amlwg, wrth i’r nosweithiau oeri? Diolch.

Rydym eisoes wedi buddsoddi cryn dipyn o arian yn ein darpariaeth digartrefedd, ac mae hynny wedi'i strwythuro'n wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr. Felly, rydym eisoes wedi gweithio gyda grwpiau ffydd, grwpiau cymunedol, grwpiau’r sector gwirfoddol, elusennau yn y—. Wyddoch chi, mae pawb wedi gweithio i ddod at ei gilydd mewn dull cydweithredol yng Nghymru fel ein bod wedi gallu rhoi to uwch eu pennau i nifer fawr iawn o bobl yn ystod y pandemig, ac mae hynny’n cynnwys pobl sy'n dod yn ddigartref bob dydd wrth i'w hamgylchiadau newid ac ati. Felly, yn sicr, rydym wedi gweithio'n gydweithredol gyda grwpiau ffydd, ac ochr yn ochr ag ystod fawr iawn o bobl eraill. Rwy'n falch iawn o'r ffordd gydweithredol y mae Cymru wedi gweithio, ac rydym yn gwbl benderfynol nid yn unig na fydd pobl yn cael eu gorfodi yn ôl ar y strydoedd os ydynt eisoes wedi cael to uwch eu pennau, ond ein bod yn parhau i gefnogi pobl sy'n dod yn ddigartref o ganlyniad i'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu yn yr argyfwng ofnadwy hwn.

Adnoddau Llywodraeth Leol

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar adnoddau llywodraeth leol? OQ55709

Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar awdurdodau lleol yn sgil cyfrifoldebau newydd, costau ychwanegol a cholli incwm. Rydym yn darparu hyd at £0.5 biliwn o gyllid i gefnogi awdurdodau lleol, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC a llywodraeth leol i asesu ac ymateb i'r effaith.

Diolch, Weinidog. Fel y nododd Archwilio Cymru yn eu hadroddiad diweddar, bydd cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, er gwaethaf bron i £0.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac er bod pawb yn disgwyl camau gan Lywodraethau canolog i fynd i'r afael â'r pandemig, llywodraeth leol sy'n rhoi’r mesurau ar waith ac yn cadw ein hysgolion ar agor. Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r pandemig, fel nad ydym yn gweld toriadau i wasanaethau lleol hanfodol, megis gofal dydd neu wasanaethau llyfrgell, y flwyddyn nesaf? Diolch.

Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi cael cyfres o drafodaethau gyda’r Trysorlys a swyddogion eraill ar lefel Llywodraeth y DU, gan bwysleisio’r angen wrth gwrs am gymaint o sicrwydd â phosibl yn y cyllidebau yn y dyfodol. Nid yw’r sefyllfa wedi'i gwella o ganlyniad i’r amryw gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU ynghylch newid rota arferol, fel petai, y cyhoeddiadau cyllidebol ac ati. Ond mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol yn gyffredinol i sicrhau ein bod yn deall beth yn union yw eu sefyllfa o ran llif arian a galwadau ychwanegol ar eu hadnoddau, ac rwy'n falch iawn o ddweud, drwy gronfa galedi llywodraeth leol, sydd ar gael drwy ein cronfa COVID-19 yn fwy cyffredinol yn y Llywodraeth, rydym wedi gallu ateb yr holl alwadau a gweithio ynghyd ag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau wrth symud ymlaen.

14:25

Weinidog, siaradais yn ddiweddar ag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a ddywedodd wrthyf fod y pandemig, yn gwbl ddealladwy, wedi cael effaith enfawr ar adnoddau llywodraeth leol a’u bod yn poeni am gynaliadwyedd gwasanaethau statudol yn y tymor canolig, heb sôn am wasanaethau anstatudol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweld cwymp enfawr mewn cyllid eleni, gan gynnwys ardrethi busnes, ond hefyd o ffynonellau sydd fel arfer yn ddibynadwy, fel taliadau parcio. Wrth i sefyllfa COVID-19 barhau i ddirywio, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda Chyngor Sir Fynwy ac arweinwyr awdurdodau lleol eraill ynghylch cydnerthedd dros fisoedd y gaeaf i dawelu eu meddwl y bydd cymorth ariannol ar gael iddynt cyn gynted â phosibl, fel y gallant hwythau yn eu tro gefnogi busnesau lleol a gwasanaethau lleol?

Diolch. Rydym yn cael ystod eang iawn o gyfarfodydd cyswllt ag awdurdodau lleol. Rwy'n cyfarfod â'r arweinwyr yn rheolaidd iawn; mae fy swyddogion a swyddogion Rebecca Evans yn cyfarfod â’r trysorydd a swyddogion eraill yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol fel ein bod yn rhannu’r darlun gorau posibl yn y dyfodol o'r pwysau ym mhob awdurdod lleol unigol.

Mae’r gronfa galedi llywodraeth leol wedi'i sefydlu ar sail ffigurau gwirioneddol, a'i thalu fel ôl-daliadau chwarterol, er mwyn gallu ymdrin ag amgylchiadau unigol pob awdurdod lleol, ac fel rydych newydd ei nodi'n gwbl gywir, mae Sir Fynwy, er enghraifft, yn ddibynnol iawn—yn fwy dibynnol nag awdurdodau eraill yng Nghymru—ar refeniw’r dreth gyngor, oherwydd strwythur fformiwla ddosbarthu’r grantiau cynnal refeniw a rhwydweithiau cymorth eraill. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i ddeall eu hamgylchiadau penodol ar sail unigol, ac i weithio gyda hwy ar wneud ceisiadau i’r gronfa galedi, fel y dywedaf, ar sail ffigurau gwirioneddol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr arian.

Gwnaethom hefyd ddarparu taliadau’r grant cynnal refeniw rhag blaen ar ddechrau'r flwyddyn er mwyn sicrhau nad oedd ganddynt broblemau llif arian. Felly, nid yw'n broblem iddynt hawlio'r gwariant gwirioneddol yn ôl. Felly, rwyf mor hyderus ag y gallaf fod fod y sefyllfa honno dan reolaeth gennym. Bydd llawer, wrth gwrs, yn dibynnu ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran cyllideb dreigl neu adolygiad cynhwysfawr o wariant neu beth bynnag fydd gennym dan sylw. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i ddeall y gwahanol senarios y gallent eu hwynebu.

Weinidog, rydych wedi ateb y cwestiynau pwysig yn y bôn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y gallant wynebu'r dyddiau anodd hyn, gan y byddant yn wynebu colled fawr o ran incwm yn ogystal â chostau heriol. Wrth i ni weld epidemig COVID-19 yn parhau i mewn i'r gaeaf, rydym bellach yn gweld sefyllfa lle roedd cynghorau'n arfer gallu ailddyrannu staff i wahanol swyddi, ond mae'r staff hynny'n mynd yn ôl i'w swyddi, ac felly bydd yna alwadau arnynt yn awr gan fod angen iddynt ddarparu'r gwasanaethau hynny ynghyd â gwasanaethau ychwanegol ar gyfer COVID-19. A ydych yn hyderus y bydd y cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddigonol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu sicrhau y gallant ddarparu eu holl wasanaethau a'r gwasanaethau ychwanegol y bydd eu hangen yn sgil epidemig COVID-19, sy'n codi ei ben unwaith eto?

Diolch, David. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano, i werthfawrogi'r ymdrech a'r gwaith gan staff awdurdodau lleol ar bob lefel, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i'w hannog, lle bo hynny'n bosibl, i sicrhau eu bod yn cymryd rhywfaint o wyliau ac yn ailwefru eu batris wrth inni fynd i’r afael, fel y dywedwch yn gwbl gywir, â’r hyn a allai fod yn hydref a gaeaf anodd iawn yn wir.

Mae’r gronfa galedi llywodraeth leol yn darparu £0.5 biliwn, fel y dywedais, i gefnogi awdurdodau lleol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac fel y dywedasoch yn gwbl gywir, roedd awdurdodau lleol yn gallu adleoli staff i'r meysydd â'r angen mwyaf ar ddechrau’r pandemig, pan oedd gwasanaethau eraill ar gau neu heb fod yn gweithredu ar gapasiti llawn. Ac wrth i'r ystod o wasanaethau ailagor wrth gwrs, mae gwneud hynny'n llawer anoddach iddynt. Ac o ganlyniad i hynny, rydym wedi dweud yn glir y gall awdurdodau wneud cais am gostau goramser ac am gostau staffio ychwanegol o'r gronfa galedi, ac rydym eisoes wedi talu am staff ychwanegol, er enghraifft, i redeg yr hybiau cymunedol dros wyliau ysgol ac i weinyddu'r grantiau busnes ar ein rhan. Mae meysydd allweddol eraill yn y dyfodol yn cynnwys darparu athrawon cyflenwi yn lle athrawon sy'n gorfod hunanynysu, staff cyflenwi yn lle gweithwyr gwastraff sy'n hunanynysu a chostau cyflenwi ar gyfer staff gofal ychwanegol, i enwi ond ychydig. Ceir rhestr hirfaith o staff a allai fod yn y maes penodol hwnnw. Y meysydd lle na all pobl weithio gartref sydd o dan y pwysau mwyaf ac rydym yn rhoi cymorth ar eu cyfer hwy yn arbennig.

Rydym hefyd wedi rhoi cyllid ychwanegol ar waith lle rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau ychwanegol i ni o ganlyniad i'r pandemig, felly un enghraifft yw'r timau tracio ac olrhain. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ddefnyddio staff wedi'u hadleoli lle bo modd, ond rydym wedi sefydlu cyllideb o £45 miliwn, er enghraifft, ar gyfer costau cyflogi staff ychwanegol. Felly rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i ddeall y pwysau staffio a phwysau eraill ac i sicrhau ein bod yn gallu talu am hynny.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ddau adroddiad ar lywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad 'Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19' fod cynghorau yng Nghymru, yn ystod chwe mis cyntaf eleni, wedi cofnodi costau ariannol o £325 miliwn oherwydd y pandemig ac er bod cronfa galedi llywodraeth leol Llywodraeth Cymru wedi gwrthbwyso hyn i raddau helaeth, mae'r adroddiad yn nodi ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n amcangyfrif y bydd cynghorau'n wynebu pwysau cyllidebol o tua £600 miliwn erbyn 2022-23. Awgrymodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod rhai cynghorau mewn sefyllfa well nag eraill i ymdopi ag effeithiau ariannol yr argyfwng, lle roedd cyfanswm eu cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio oddeutu £1.1 biliwn ym mis Mawrth eleni, ond mae hyn yn amrywio'n fawr: Rhondda Cynon Taf, dros £119 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, i Gonwy, tua £14 miliwn, a Blaenau Gwent, tua £12 miliwn. Sut, felly, rydych chi'n ymateb i ddatganiad yr adroddiad sy'n dweud, er bod y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi gwrthbwyso'r pryderon ariannol uniongyrchol i raddau helaeth, efallai y bydd yn rhaid i gynghorau ddefnyddio mwy a mwy ar eu cronfeydd wrth gefn pe bai'r effaith ariannol yn parhau dros y blynyddoedd i ddod? A sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb yn y gallu ar draws y cynghorau i wneud hyn?

Diolch, Mark. Buom yn trafod rhywfaint ar hyn yn ystod fy ymddangosiad diweddar yn y pwyllgor llywodraeth leol, lle roeddwn yn ateb cwestiynau craffu ar yr ymateb i COVID-19. Felly mae'r ateb i hynny wedi'i gynnwys yn yr ateb rwyf newydd ei roi i nifer o'r Aelodau yn gynharach, sef ein bod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol unigol i'n galluogi i ddeall eu hamgylchiadau penodol iawn: beth yw eu sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn; yr hyn y byddent wedi disgwyl ei gael mewn ffioedd a thaliadau a'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig cenedlaethol; beth yw eu sefyllfa o ran gostyngiad mewn incwm; beth yw eu costau ychwanegol; beth yw eu hamgylchiadau penodol yn yr awdurdod lleol penodol hwnnw, er mwyn gallu eu cynorthwyo i wneud hawliadau am y gronfa galedi, sydd, fel rwyf wedi'i bwysleisio droeon, yn cael ei dalu ar sail costau gwirioneddol, yn hytrach nag unrhyw fath o ddull wedi'i lywio gan fformiwla, fel y gallwn ddeall beth yw sefyllfa pob awdurdod lleol a deall eu cynlluniau cydnerthedd ac yn y blaen.

Mae nifer fawr o resymau pam y cedwir gwahanol lefelau o gronfeydd wrth gefn mewn gwahanol awdurdodau: o ganlyniad i bolisïau a bennir yn lleol; o ganlyniad i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf penodol; a nifer fawr o resymau eraill sy'n rhy niferus i'w crybwyll yma. Felly rwy'n hyderus ar hyn o bryd fod gennym reolaeth ar hynny ac nad ydym mewn sefyllfa lle mae unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu unrhyw argyfwng ariannol penodol, ond wrth gwrs, mae llawer yn dibynnu ar agwedd Llywodraeth y DU at gyllidebau yn y dyfodol. Byddwn wedi gobeithio'n fawr y byddem wedi cael adolygiad cynhwysfawr o wariant a fyddai wedi ein galluogi i roi rhywfaint o sicrwydd dros gyllideb dair blynedd, fan lleiaf, ond nid yw'n ymddangos y bydd hynny'n digwydd yn awr, ac yn amlwg os oes rhaid i chi gynllunio ar sail flynyddol ar gyfer awdurdodau lleol, mae'n llawer anos i'w wneud o ran cynllunio hirdymor ac mae'n arwain at rai effeithiau tymor byr annymunol.

Ond rydym wedi gweithio'n dda iawn gydag awdurdodau lleol; rydym wedi cydweithredu'n dda iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion yr awdurdodau lleol a CLlLC ac i fy holl swyddogion sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy'r cyfnod hwn i sicrhau bod gennym lywodraeth leol gadarn yng Nghymru.

Diolch. Wel, gobeithio y bydd hynny'n golygu y bydd ystyriaeth yn y dyfodol ynghylch sut i helpu'r rheini sydd â leiaf o gronfeydd wrth gefn yn benodol a allai fod â llai o hyblygrwydd yn yr holl feysydd rydych yn sôn amdanynt.

Ond yn eu hail adroddiad, 'Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol', dadleuodd Swyddfa Archwilio Cymru

'O edrych ar yr ochr orau, nid oes modd rhagweld y cyllid fydd ar gael at y dyfodol, felly mae angen syniadau newydd er mwyn trawsnewid y ffordd y mae cynghorau’n gweithredu i ddiogelu gwasanaethau, a’u gwella, ar gyfer eu cymunedau. O ganlyniad, ni fu cymaint o angen erioed am arloesi a thrawsnewid llywodraeth leol, i fod yn uchelgeisiol a meddwl yn hanfodol wahanol ynghylch yr hyn y mae cynghorau’n ei wneud, a sut, a’r cydberthnasau sydd ganddynt â’u trigolion.'

Canfuwyd bod cefnogaeth gyhoeddus i gynghorau weithredu'n fwy masnachol, gan ddyfynnu arolwg dinasyddion a gynhaliwyd ganddynt hwy eu hunain a ganfu fod naw o bob 10 ymatebydd yn cefnogi eu cyngor yn gyffredinol i ddilyn gweithgareddau masnachol sydd, yn y pen draw, yn cefnogi'r ardal leol drwy dwf economaidd a buddsoddiad yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Sut, felly, rydych yn ymateb i ddadleuon yr adroddiad fod angen i gynghorau ddiffinio a chytuno ar yr hyn y mae masnacheiddio'n ei olygu iddynt hwy eu hunain, eu cymunedau a'u dinasyddion, ac mai newid diwylliant sefydliadau oedd y pwnc a amlygwyd yn fwyaf cyson fel yr her allweddol sy'n wynebu cynghorau rhag dod yn fwy entrepreneuraidd?

14:35

Rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn o'r ffordd y mae awdurdodau lleol wedi ymateb i'r pandemig eu bod yn wir yn sefydliadau hyblyg a gwydn iawn sydd wedi gallu newid y ffordd y maent yn ymateb i'r cyhoedd a'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, yn yr hyn na ellir ond ei ystyried yn gyfnod o amser gwyrthiol, ac maent wedi cydweithio er mwyn gallu gwneud hynny mewn ffordd y credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chydnabod fel un entrepreneuraidd iawn mewn unrhyw ystyr. Oherwydd mae rhai o'r ffyrdd arloesol y maent wedi gallu ymateb i'r pandemig yn ysbrydoledig iawn yn wir.

Ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd newydd fynd drwy Gyfnod 2 y pwyllgor yn ddiweddar iawn wrth gwrs, rydym hefyd yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i gynghorau. Fe fyddwch yn ymwybodol, fel aelod o'r pwyllgor, mai un o'r pethau rydym yn ceisio'i wneud yw rhoi rheoliadau ar waith sy'n sicrhau, drwy weithredu mewn ffordd fasnachol, fod pŵer cymhwysedd cyffredinol yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd penodol, gyda darpariaethau penodol ar gyfer cynlluniau busnes, strwythurau cwmnïau, ac yn y blaen, a fydd yn annog y ffyrdd o feddwl rydym yn disgwyl eu gweld a hefyd yn annog pobl i beidio â defnyddio'r mathau o fentrau masnachol hapfasnachol a arweiniodd at rai awdurdodau yn y gorffennol, yn enwedig yn Lloegr, yn gorymestyn eu hunain mewn mentrau a aeth o chwith yn ddrwg iawn. Gwn fy hun, a minnau wedi byw drwyddo yn ôl ar ddiwedd yr 1980au, y gall rhai mentrau masnachol gan awdurdodau lleol fethu'n syfrdanol ar brydiau.

Felly rydym yn ofalus iawn i weithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn deall y cynlluniau masnacheiddio y maent eisiau eu rhoi ar waith, ein bod yn eu hannog fel y bo'n briodol, fod gennym y mathau cywir o ganllawiau a'r mathau cywir o strwythurau llywodraethu ar waith i'w galluogi i wneud yn union fel yr awgrymwch, i sicrhau'r incwm mwyaf posibl i'w wario ar eu gwasanaethau lleol gan ddiogelu'r cyhoedd ar yr un pryd rhag unrhyw orfasnacheiddio neu weithgarwch sy'n cynnwys risg ormodol a allai beryglu'r gwasanaethau hynny.

Gan gyfeirio at ddechrau eich ymateb—ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch—serch hynny, tynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at yr angen i newid diwylliant sefydliadau a'r her allweddol iddynt ddod yn fwy entrepreneuraidd. A chanfuwyd bod sgiliau'r aelodau etholedig eu hunain yn rhwystr i gynghorau fanteisio ar gyfleoedd masnachol a mwy o entrepreneuriaeth, gyda bron i ddwy ran o dair o'r aelodau etholedig eu hunain a oedd wedi ymateb i'w harolwg yn dweud bod gallu aelodau etholedig i benderfynu'n effeithiol ar opsiynau yn rhwystro'u cyngor rhag mynd ar drywydd mentrau masnachol. Ac adleisiwyd yr ymatebion hyn gan dimau rheoli corfforaethol, a ddywedodd mai 19 y cant yn unig oedd yn credu bod aelodau etholedig wedi'u hyfforddi'n ddigonol ac yn ddigon medrus i allu ystyried a chymeradwyo mentrau masnachol newydd. Sut rydych chi'n ymateb felly i ddadl yr adroddiad fod y dulliau gorau o weithredu yn cynnwys aelodau etholedig yn gynnar, a bod ganddynt bolisïau penodol wedi'u diffinio'n dda a'u diweddaru'n rheolaidd sy'n briodol i amgylchiadau lleol ac sy'n cynorthwyo cynghorwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau llywodraethu, gwneud penderfyniadau a goruchwylio?

Wrth gwrs, rydym yn cytuno i raddau helaeth â hynny, a dyna pam rydym yn rhoi'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ein galluogi i roi'r rheoliadau ar waith i wneud yn union hynny.

Mae problem fawr hefyd ynghylch amrywiaeth mewn democratiaeth. Rydych yn cyfeirio at sgiliau cynghorwyr penodol ac yn y blaen, ond gwyddom fod diffyg amrywiaeth gwirioneddol yn ein democratiaeth ar draws llywodraeth leol. Ac felly, gyda fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar raglen sy'n hybu amrywiaeth mewn democratiaeth leol, gan obeithio annog ystod lawer ehangach o bobl i gymryd rhan, yn enwedig pobl iau sydd â sgiliau mwy masnachol efallai, ac sy'n dal i weithio, i'n galluogi i sicrhau bod amrywiaeth ym mhrosesau penderfynu awdurdodau lleol wrth symud ymlaen yn dod ag ystod lawer ehangach o leisiau o amgylch y bwrdd nag a welwn ar hyn o bryd mewn rhai awdurdodau lleol.

Ac wrth inni wneud hynny, byddwn hefyd, fel y dywedais, yn rhoi'r rheoliadau ar waith i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, ond i wneud hynny mewn modd cadarn, gan gymryd y risgiau rydym yn credu eu bod yn dderbyniol a diogelu'r cyhoedd rhag risgiau masnachol gormodol, sydd, fel y gwelsom yn y gorffennol, wedi arwain at rai amgylchiadau lle mae awdurdodau lleol wedi dod yn agos iawn at beidio â gallu parhau. Felly, rydym yn awyddus iawn, Mark, i geisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau beth ac i weithio'n agos iawn gyda Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn gwneud hynny.

14:40

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe am adeiladau anniogel. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r adeiladau rwy'n cyfeirio atynt; rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at fflatiau â chladin anniogel, er enghraifft. Dywedodd y Prif Weinidog y dylai datblygwyr dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny ac na ddylai lesddeiliaid fod yn talu'r bil. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o'r mater hwn ers tro bellach, felly fy nghwestiwn i yw: pam nad yw'r Llywodraeth wedi gorfodi'r datblygwyr i dalu'r bil eto?

Wel, yn anffodus, Delyth, nid oes gennym yr holl bwerau angenrheidiol i newid y gyfraith sylfaenol er mwyn gallu gwneud hynny. Byddem yn gwneud hynny pe gallem; hoffwn allu gwneud hynny'n fawr iawn. Mae rhai pethau y gallwn eu gwneud wrth symud ymlaen a fydd yn diogelu pobl rhag bod yn y sefyllfa honno gydag adeiladau newydd, ond ni fydd hynny'n helpu'r bobl sydd mewn sefyllfaoedd anodd iawn ar hyn o bryd mewn adeiladau ar hyd a lled y wlad—mae nifer fawr ohonynt wedi cael eu crybwyll o'r blaen yn y Cyfarfod Llawn. 

Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i ffyrdd o allu cynorthwyo pobl i wneud y gwaith heb iddynt golli eu hecwiti i gyd, ond pe bawn—. Mae'n beth anodd iawn i'w wneud, gadewch i ni fod yn glir. Mae'r berthynas rhwng y lesddeiliad, y rhydd-ddeiliad, a'r rhwymedigaethau cytundebol rhwng y lesddeiliad, y rhydd-ddeiliad a'r adeiladwr gwreiddiol, y cwmni rheoli ac yn y blaen yn wahanol ym mhob un adeilad. Felly, mae'n anodd iawn trin amgylchiadau penodol pob adeilad ar sail gyffredinol. Ac mae gennyf amryw o gyfarfodydd i ddod lle byddaf yn cyfarfod â phreswylwyr blociau penodol sydd wedi gofyn am gael cyfarfod â mi. A dylwn ddweud ar hyn o bryd, Lywydd, fod gennyf un o'r rhain yn fy etholaeth fy hun, yn y canol, felly mae cyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater penodol hwnnw ar fy rhan, am fy mod yn awyddus i'w cynrychioli fel eu cynrychiolydd etholedig.

A'r hyn yr hoffem allu ei wneud—. Felly, mae ffordd i'r cyngor lleol wneud y gwaith angenrheidiol i ddiogelu'r adeilad rhag tân. Ac rydym yn awyddus iawn—. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaethau tân—mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r gwasanaethau tân hefyd—i sicrhau ein bod wedi cael yr holl archwiliadau cywir a bod pobl mor ddiogel ag sy'n bosibl iddynt fod heb y gwaith sydd ei angen i'w wneud yn 100 y cant. Ond wrth gwrs, os yw'r cyngor lleol yn gwneud gwaith diofyn ar yr adeiladau hynny, yr hyn a wnânt yw codi pridiant tir ar yr eiddo yn yr adeilad i adennill cost y gwaith, ac mae'r bobl hynny, druan, yn colli eu holl fuddsoddiad yn eu heiddo. Nawr, pe bai'n sefyllfa bywyd a marwolaeth, wrth gwrs y byddem yn gwneud hynny gan nad ydym eisiau i neb fod yn y sefyllfa honno. Ond mae'n gydbwysedd rhwng ceisio sicrhau bod pobl yn cadw rhywfaint o ecwiti yn eu lesddaliadau a'n bod yn rhoi'r trefniadau diogelwch tân rydym eu heisiau ar waith. Ac mae arnaf ofn fod hynny'n gymhleth iawn, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhai pethau. Rydym wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd i geisio rhoi rhai o'r darpariaethau hynny ar waith, ond nid yw'n bosibl rhoi trefniant llys cyffredinol ar waith sy'n caniatáu iddynt erlyn yr adeiladwyr yn y lle cyntaf. Pe bai hynny'n bosibl, byddem wedi gallu gwneud hynny.

Nid wyf yn aml yn garedig wrth Lywodraeth y DU, ond yn yr achos hwn, dywedaf ei fod yn beth eithaf cymhleth i geisio'i ddatrys. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio sefydlu cynllun a fyddai'n caniatáu i lesddeiliaid hawlio arian gennym heb golli eu hecwiti i gyd, ond bydd yn amhosibl ei wneud heb iddynt golli rhywfaint o'u hecwiti, ac mae'n fater o sut y gallwn ddatrys y set gymhleth honno o amgylchiadau. Felly, nid yw'n bosibl siarad amdano ar sail gyffredinol. Mae pob adeilad unigol, y ffordd y trefnir y les, y ffordd y trefnir y rhwymedigaethau, pwy sy'n berchen arno, lle mae'r cwmni rheoli ac yn y blaen, i gyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn sy'n bosibl. Felly, mae arnaf ofn ei fod yn gymhleth iawn.

Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd yn nodi'r anawsterau. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol eich bod wedi cadarnhau bod angen pwerau pellach ar Gymru er mwyn rhoi mwy o amddiffyniad, ac yn amlwg, byddai Plaid Cymru yn cefnogi'r Llywodraeth i geisio sicrhau'r pwerau ychwanegol hynny.

Rydych wedi nodi rhai o'r darpariaethau rydych yn bwriadu eu cyflwyno o fewn pwerau'r Llywodraeth fel ag y maent. Byddai rhai o'r pethau yr hoffem weld y Llywodraeth yn eu gwneud, ac y byddem yn sicr yn eu cefnogi, yn cynnwys rhywfaint o'r hyn rydych wedi'i nodi: newid cyfraith cynllunio i ganiatáu i berfformiad blaenorol datblygwr fod yn ystyriaeth berthnasol hefyd; sicrhau bod gan adrannau cynllunio yr adnoddau y maent eu hangen i sicrhau bod datblygwyr mawr yn cydymffurfio ag amodau cynllunio, fel nad ydym yn gweld yr un datblygwyr yn gwneud yr un camgymeriadau neu'n torri'r un corneli eto; a chyflwyno cynlluniau ar gyfer newid rheoleiddiol, fel rydych newydd nodi, a'u cyflwyno yn awr oherwydd—yn eich ateb gonest, yn amlwg fe wnaethoch gyfeirio at hyn—gorau po gynharaf y gallwn ddatrys y sefyllfa gymhleth hon er lles iechyd meddwl y bobl sy'n byw yn y blociau tai hyn. A fyddech yn ystyried y mesurau eraill hyn, Weinidog, ac a fyddech yn dweud hynny ar y cofnod? Oherwydd rwy'n credu y gallai'r cyhoeddusrwydd ynghylch enw da yn dod yn ystyriaeth berthnasol fod yn ddigon i wneud i'r datblygwyr hyn unioni'r sefyllfa heb inni orfod gorfodi'r peth.

14:45

Wrth gwrs, rydym yn barod i edrych ar bob posibilrwydd ar gyfer hynny. Dywedaf unwaith eto fod rhai o'r pethau hynny'n swnio'n ddeniadol, ond maent yn llawer anos i'w gwneud yn ymarferol mewn gwirionedd. Felly, rwyf am ddefnyddio fy enw fy hun fel enghraifft: gallwn fod yn Gwmni Adeiladu Julie James Cyf. a gallwn werthu Cwmni Adeiladu Julie James Cyf. a gallwn ddechrau Cwmni Adeiladu Julie Jones Cyf. a byddai Cwmni Adeiladu Julie James Cyf. yn cael ei wahardd rhag cynllunio oherwydd y pethau gwael y byddwn wedi'u gwneud, ond mewn gwirionedd gallai'r sawl a oedd yn euog o wneud y pethau hynny fod wedi mynd a dechrau rhywbeth arall. Felly, mae yna lawer o gymhlethdodau. Nid yw hyn yn ymwneud ag enw cwmni'n unig. Felly, unwaith eto, mae rhai o'r pethau hyn yn swnio fel pe baent yn hawdd i'w gweithredu, ond mewn gwirionedd, yn ymarferol, mae'n anodd iawn sicrhau bod yr unigolion sy'n gyfrifol—oherwydd yn y pen draw, polisïau unigol sy'n gyfrifol—yno. Mae llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu hadeiladu gan fentrau arbenigol ar y cyd rhwng amryw o wahanol gwmnïau, cyllid ac yn y blaen. Felly, mae'n ddeniadol, ac rwy'n deall yr atyniad o ddweud y byddem yn gwneud hynny, ond mae'n llawer mwy cymhleth o ran—. O ran ysgrifennu'r rheoliadau mewn gwirionedd, mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Ond rydym yn edrych i weld beth y gellir ei wneud.

Ac unwaith eto, Delyth, hoffwn bwysleisio ein bod, wrth gwrs, yn awyddus iawn i'w unioni wrth symud ymlaen, ond nid yw hynny'n datrys problem y bobl sydd â'r broblem yn awr—ni allaf wneud hynny'n ôl-weithredol. Ac felly, yr hyn rydym hefyd yn ceisio'i wneud yw gweld beth y gellir ei wneud i gynorthwyo'r bobl sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno ar hyn o bryd. Felly, mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â hwy, ond mae'n anodd iawn, oherwydd yn y pen draw, prynu tŷ, prynu cartref, dyna lle rydych yn byw, ond mae hefyd yn fuddsoddiad a'r ddeuoliaeth rhwng y ddau beth hynny sydd mor anodd i'w chael yn iawn o dan yr amgylchiadau hyn.

Ond hoffwn sicrhau'r Senedd, mewn sefyllfa bywyd a marwolaeth, fod pwerau yn eu lle i awdurdod lleol wneud hynny, ond byddai'n golygu bod y bobl y tu mewn i'r adeilad yn colli'r ecwiti ac yn gyffredinol, nid yw hynny'n rhywbeth y maent yn barod i'w ystyried.

Wel, unwaith eto, diolch am eich ymateb i'r cwestiwn hwnnw, Weinidog.

Dylwn ddweud, Delyth, am resymau dealladwy, nad oeddwn yn eu beio am hynny. Hoffwn wneud hynny'n glir iawn—nid wyf yn rhoi unrhyw bwysau arnynt; rwy'n deall eu rhesymau, ond mae'n gymhleth iawn.

Na, diolch am egluro hynny, Weinidog. Nid wyf yn credu i chi roi'r argraff honno, ond mae'n amlwg yn dda cofnodi hynny. Nid wyf yn amau natur gymhleth hyn am eiliad. Byddwn yn eich annog i beidio ag aros i weithredu ar y mater oherwydd mae'n amlwg ein bod eisiau gallu rhoi gobaith i breswylwyr. Ond rwy'n falch o glywed eich bod yn ystyried amrywiaeth o'r gwahanol opsiynau hyn, ac fel y dywedwch, maent yn opsiynau a fydd yn helpu preswylwyr y dyfodol, ond maent hefyd yn ceisio unioni'r sefyllfa i breswylwyr sydd wedi'u dal yn y sefyllfa ofnadwy hon yn barod.

Yn olaf, Weinidog, roeddwn eisiau ystyried rhai o'r sylwadau a wnaed gan David Melding ddoe, lle roedd yn beio cyfundrefn reoleiddio lac yng Nghymru a Lloegr am ganiatáu i'r sgandalau hyn ddigwydd yn y lle cyntaf. Unwaith eto, mae hyn yn cyffwrdd ar rywfaint o'r hyn rydym eisoes wedi sôn amdano, ond nid materion diogelwch tân yn unig rydym yn ei drafod yma—mae ystadau heb eu gorffen, lesddaliadau'n cael eu camwerthu, fel rydym wedi'i grybwyll, a datblygwyr yn torri addewidion, fel rydym wedi sôn, wedi dod yn nodwedd o ddatblygiad dros y degawd diwethaf. Mae'r achos dros ordreth ar elw datblygwyr mawr yn gryf iawn. A fyddech yn cefnogi'r alwad honno?

Credaf fod angen pob math o ymatebion i hyn. Mae Llywodraeth y DU—ac rydym yn cydweithredu â hyn—wedi penodi Ombwdsmon Cartrefi Newydd, wrth gwrs, o ganlyniad i rai o'r materion eraill nad ydynt yn ymwneud ag adeiladau uchel iawn. Mae nifer fawr o'n cwmnïau adeiladu mawr wedi mynd i drafferthion difrifol o ganlyniad i rai o'r arferion adeiladu a oedd ganddynt, a chredaf fod y rheini'n hysbys iawn. A dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi penodi Ombwdsmon Cartrefi Newydd er mwyn diogelu pobl rhag y math hwnnw o sgandal. A dyna pam ein bod ni yma yng Nghymru yn benderfynol o roi ein system gynllunio ar waith mewn ffordd gadarn fel bod gan bobl system gynllunio gadarn i'w dilyn a chyfundrefn gadarn ar ben hynny i arolygu diogelwch adeiladau er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi ac yn gwneud yn siŵr fod gennym system gadarn. Nawr, yn anffodus, oherwydd y pandemig, mae gwaith ar ein rheoliadau diogelwch adeiladu bellach wedi'i oedi. Rydym ar fin cyflwyno Papur Gwyn ar hynny ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r darpariaethau diwygio lesddaliadau y bu Comisiwn y Gyfraith yn eu hystyried. Maent wedi cyflwyno adroddiad yn ddiweddar, ac rydym yn edrych i weld beth y gellir ei wneud ar y cyd â rhywfaint o ddeddfwriaeth y DU, os yn bosibl, oherwydd y diffyg amser sydd gennym bellach yn narpariaethau’r Senedd i allu gwneud hyn.

Un o'r pethau gwirioneddol drist am y pandemig, yn ogystal â'r holl bethau eraill y gwyddom amdanynt, yw ein bod wedi colli cyfle i roi rhai o'r diwygiadau diogelwch adeiladu ar waith. Ond rwy'n credu bod consensws ar draws y Siambr, felly bydd gan bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf gynllun parod, ac rwy'n siŵr, yn gynnar iawn yn y tymor newydd, y bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth yn gallu gweithredu'r diwygiadau hynny. Nid wyf yn credu eu bod nhw'n ddadleuol mewn unrhyw ffordd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gallu gwneud hynny'n gyflym iawn.

14:50

Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ55673] yn ôl, felly cwestiwn 4, Adam Price.

Polisi Datblygiadau Un Blaned

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y polisi datblygiadau Un Blaned? OQ55693

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae datblygiadau Un Blaned yn enghreifftiau o ddatblygiad cynaliadwy effaith isel sy'n cael ei reoli'n llym o ran y dystiolaeth sydd angen ei darparu cyn iddynt gael caniatâd cynllunio. Mae monitro'r polisi yn dangos, rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2019, fod 20 o geisiadau datblygu Un Blaned wedi'u cymeradwyo a bod saith wedi'u gwrthod.

A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod agweddau o'r polisi Un Blaned wedi creu peth drwgdeimlad mewn ardaloedd gwledig, ac yw hi'n agored i ystyried galwadau gan gynghorau fel Cyngor Sir Gâr i adolygu'r polisi? Yn benodol, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n deg bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer anheddau menter gwledig—rural enterprise dwellings—brofi dilysrwydd o ran bod y datblygiadau yn gynaliadwy ar sail tystiolaeth dros y tair blynedd diwethaf, pan mai'r gofyn ar ymgeiswyr dan y polisi Un Blaned, yn hytrach, yw cyflwyno rhagamcanion i ddangos y gallai'r datblygiad fod yn gynaliadwy ar ddiwedd cyfnod pum mlynedd?

Wel, na, nid wyf yn credu bod hwnnw'n ddisgrifiad cywir o'r polisi. Mae nifer y datblygiadau Un Blaned a gymeradwyir bob blwyddyn yn fach iawn o gymharu â mathau eraill o dai. Felly, rhwng 2013 a 2019-20, 20 yn unig o ddatblygiadau Un Blaned sydd wedi'u cymeradwyo, o gymharu â 251 o anheddau mentrau gwledig dros yr un cyfnod. Y llynedd, 10 datblygiad Un Blaned yn unig a gymeradwywyd. Yn Sir Gaerfyrddin ei hun, cymeradwywyd 13 o anheddau mentrau gwledig tra cymeradwywyd pum datblygiad Un Blaned a gwrthodwyd chwech. Rydym yn cael adroddiad monitro blynyddol i'r awdurdod cynllunio i ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth â'r cynllun rheoli drwy nodi gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis blaenorol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gofyn am y data hwnnw oherwydd bod pandemig COVID-19 parhaus wedi arwain at lacio'r rheolau, ond byddwn yn gofyn am y data ym mis Ebrill 2021 am gyfnod o ddwy flynedd, ac rwy'n pwysleisio y gallai methiant i fodloni amodau'r cynllun rheoli arwain at weithdrefnau gorfodi am dorri amodau'r caniatâd cynllunio. Felly, mae arnaf ofn, na, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiweddaru'r polisi canllawiau trosfwaol ar ddatblygiadau Un Blaned.

Weinidog, rwy'n tybio eich bod yn gwybod am effaith y ceisiadau hyn ar farn teuluoedd sy'n ffermio yng Ngŵyr, gan fod un wedi'i wrthod yn ddiweddar iawn heb fod mor bell oddi wrthych. Nid yw pobl leol yn falch iawn fod yn rhaid iddynt neidio drwy gylchoedd amrywiol er mwyn cadw eu pobl ifanc yn yr ardal, lle mae rhai o'r ceisiadau datblygu Un Blaned hyn yn tueddu i ddod gan bobl sy'n byw y tu allan i'r ardal. Os ydych yn sôn am gymunedau cynaliadwy, yn hytrach na'r arbrofion hyn, mae'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd o gadw pobl ifanc yn eu hardaloedd yn hytrach na'u bod yn teimlo rheidrwydd i symud ohonynt. Rydych yn iawn nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiweddaru'r polisi canllawiau trosfwaol ar hyn. Rwyf eisiau gwybod pam, o gofio'i fod bron yn 10 oed bellach ac wedi'i lunio o leiaf dair blynedd cyn Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'n rhan bwysig iawn o 'Bolisi Cynllunio Cymru', fodd bynnag, sydd wedi cael ei adolygu'n ddiweddar iawn, ac fel y dywedais mewn ymateb i Adam Price, penderfynir ar geisiadau cynllunio datblygu Un Blaned yn unol â'r cynllun datblygu a gymeradwywyd neu a fabwysiadwyd ar gyfer yr ardal, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall. Ac, fel rydych newydd ei ddweud, maent yn cael eu gwrthod fel mater o drefn lle nad ydynt yn cydymffurfio. Nid yw'r system gynllunio yno i atal pobl rhag gwneud ceisiadau cynllunio; awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am benderfynu ar y ceisiadau cynllunio hynny yn unol â'r rheolau. Ac nid wyf yn siŵr a oedd Suzy Davies yn awgrymu mai dim ond pobl o'r tu allan i ardal all wneud cais datblygu Un Blaned, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir; gall unrhyw un wneud cais os ydynt eisiau cyflwyno un. Felly, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd hynny'n ei olygu.

Yn amlwg, mae gennym nifer fawr o bolisïau cynllunio eraill ar waith, gan gynnwys polisïau sy'n caniatáu i dai unigol gael eu hadeiladu lle mae angen i deulu amaethyddol allu ehangu ei annedd. Felly, fel arfer, lle mae ffermwr eisiau ymddeol a mab neu ferch i'r ffermwr hwnnw eisiau cymryd yr awenau, mae gennym geisiadau am anheddau ar y ffermdy i'n galluogi i ddarparu ar gyfer hynny, ac mae'r polisi'n gwbl abl i edrych ar hynny. Felly, nid wyf yn gwbl sicr pam fod datblygiadau Un Blaned yn denu'r math o feirniadaeth y mae Suzy Davies newydd ei hamlinellu, ond wrth gwrs, mae nifer fawr o ffyrdd eraill o sicrhau bod ein pobl ifanc yn aros yn ein cymunedau gwledig a'n cymunedau yn gyffredinol, ac un o'r rheini, wrth gwrs, yw cynllun y Llywodraeth hon i adeiladu amrywiaeth o dai cymdeithasol a thai rhannu ecwiti ledled Cymru yn gyflym ac ar raddfa fawr. 

14:55
Datgarboneiddio'r Stoc Tai

5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio stoc tai Cymru? OQ55702

Diolch, Jenny. Gan adeiladu ar lwyddiant hirsefydlog safon ansawdd tai Cymru a'r rhaglen Cartrefi Clyd, mae ein cynllun ailadeiladu newydd yn nodi bod uwchraddio cartrefi Cymru, yn enwedig cartrefi cymdeithasol, yn flaenoriaeth gynnar. Bydd hyn yn sbarduno adferiad economaidd gwyrdd ac arloesedd yn ein busnesau bach a chanolig a'n cymunedau.

Wel, mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo ym maes tai cymdeithasol. Mae ôl-osod cartrefi presennol yn amlwg yn her fawr inni, gan fy mod yn gweld y bydd 1,000 o gartrefi'n cael eu ôl-osod fel rhan o raglen adfer COVID, ond mae angen ôl-osod cannoedd o filoedd o gartrefi presennol i gyrraedd ein targedau di-garbon, gan fod gennym, mae'n debyg, y stoc dai hynaf yn Ewrop. Felly, rwy'n gobeithio y bydd ein strategaeth adfer COVID yn croesawu'r her honno. Ar nodyn mwy uniongyrchol, cyn i'r Bil marchnad fewnol atal gweinyddiaethau datganoledig rhag gallu cymryd y camau angenrheidiol, beth sy'n cael ei wneud i gyflymu newid yn y rheoliadau adeiladu newydd fel bod pob cartref newydd yn bodloni'r safonau di-garbon hynny?

Diolch, Jenny. Rwy'n gwybod nad yw'n ymddangos yn llawer o waith, ond mae'n rhan o daith bwysig iawn i ddatgarboneiddio pob cartref yng Nghymru, ac mae'n bleser gennyf ddweud ein bod newydd roi £10 miliwn ychwanegol i'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ystod y flwyddyn ariannol hon, felly mae hynny'n golygu bod cyfanswm yr hyn sydd ar gael yn £19.5 miliwn. Holl bwynt y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yw sefydlu'r llwybr ar gyfer sut rydym yn datgarboneiddio'r stoc dai gyfan. Felly, rwy'n siŵr eich bod wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen, ond mae'n eithaf clir nad oes yna un dull a all weithio i bawb, ac felly os ydych yn datgarboneiddio tai teras carreg mewn cwm serth, byddech eisiau un set o dechnolegau a systemau ar waith, ac os ydych yn datgarboneiddio tai arddull ransh o'r 1970au gyda waliau ceudod yn fy etholaeth er enghraifft, mae'n amlwg y byddech eisiau rhywbeth hollol wahanol.

Felly, mae holl bwynt y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad Jofeh i dreialu a phrofi'r ffordd ymlaen i ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, sefydlu'r prosesau newydd sy'n seiliedig ar ddull synnwyr cyffredin, a chreu cyfleoedd i sicrhau bod gennym y dechnoleg gywir, y mesurau a'r deunyddiau cywir, y cadwyni cyflenwi cywir, fod gennym yr economi sylfaenol gywir ar gyfer hyn, fod gennym y sgiliau cywir, ein bod yn gweithio gyda'n colegau addysg bellach i sicrhau ein bod yn uwchsgilio'r gweithlu wrth inni ddysgu o'n rhaglen dai arloesol, rhaglen y mae hyn yn rhan fawr ohoni i raddau helaeth, fel y gallwn ei chyflwyno'n gyffredinol y tu allan i'r sector cymdeithasol ac i mewn i'r sector preifat. Ond rydym mewn lle da i ddechrau ar y gwaith hwnnw, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn wneud hynny'n gyflym er mwyn ei dreialu a'i gyflwyno'n unol â hynny.

Weinidog, mae'n debyg bod hwn yn un o feysydd pwysicaf polisi cyhoeddus, a bydd hynny'n wir yn y 2020au, a hyd yn oed yn y sector preifat bydd angen llawer o gymorth grant arnom fel y gall perchnogion cartrefi osod boeleri newydd a chynlluniau inswleiddio ac yn y blaen. Felly, bydd angen sgiliau helaeth i wneud yr holl waith ôl-osod hwn, yn enwedig yn yr hen stoc dai, gyda chyfran dda ohoni wedi'i hadeiladu cyn y rhyfel byd cyntaf. Clywsom am y sgandal lesddaliadau yn awr, ac achoswyd rhywfaint o hynny gan ddeunyddiau da, mewn gwirionedd, yn cael eu gosod mor wael fel eu bod yn creu perygl tân. Felly, sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r system reoleiddio'n methu eto, fel y mae wedi'i wneud yn yr 20 mlynedd diwethaf i'n lesddeiliaid, druan?

15:00

Credaf fod David Melding, fel arfer, yn gwneud pwynt da iawn. Un o'r rhesymau pam ein bod am wneud hyn yn y ffordd rydym yn ei wneud yw er mwyn deall sut bethau yw'r gofynion adeiladu ar gyfer ôl-osod, i sicrhau y gallwn weithio ochr yn ochr â'n darparwyr sgiliau er mwyn sicrhau bod gennym set gywir o sgiliau, a'n bod yn deall sut beth yw'r dechnoleg newydd, a sut i'w gosod, a beth yw canlyniadau peidio â'i wneud yn iawn, ac y gallwn gynnwys hynny yn y system newydd ar gyfer rheoli ansawdd adeiladu, fel roeddwn yn ei drafod gyda Delyth Jewell mewn ateb cynharach.

Gwn fod yr Aelod wedi ymddiddori'n fawr yn y rhaglen diogelwch adeiladau a gyflwynwyd gennym, a'r llwybrau, a chredaf ei fod yn cytuno â mi nad oes llawer sy'n ddadleuol yn hynny. Mae'n fater o sicrhau ein bod yn cael y rheoliadau hynny'n iawn, a'n bod yn cael y rhaglenni sgiliau sy'n cyd-fynd â hwy'n iawn. Hefyd wrth gwrs, mae gennym nifer o raglenni profedig y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi: Nyth, Arbed. Mae amrywiaeth o gynlluniau ar gael i denantiaid yn y sector rhentu preifat, er enghraifft. Yn ddiweddar iawn—efallai nad yw'n ymwybodol o hynny—mae Rhentu Doeth Cymru wedi cysylltu â landlordiaid yn y sector rhentu preifat sydd â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o F a G i gynnig grantiau sydd ar gael o'r gronfa Cartrefi Cynnes, rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO) ac ECO Flex i sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd safon uwch.

Diogelwch Tân

6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i flociau o fflatiau ar draws Canol De Cymru y nodwyd bod ganddynt drafferthion o ran diogelwch tân? OQ55671

Diolch, Andrew. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cadw'n ddiogel, gyda phob mesur posibl ar waith i liniaru risgiau. Rydym yn archwilio'r posibilrwydd o gymorth ariannol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn ffordd sy'n deg i drethdalwyr a lesddeiliaid.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn y 13 mlynedd rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, ni allaf feddwl fy mod wedi cael straeon mor dorcalonnus yn cyrraedd fy swyddfa ranbarthol, a chyfarfodydd â phreswylwyr ar y mater hwn, lle nad oes unrhyw fai o gwbl ar y preswylwyr, ac adeiladwyr gwreiddiol y safleoedd a gweithrediad y rheoliadau adeiladu sy'n amlwg ar fai. Ddoe, mewn ymateb i gwestiynau am hyn, crybwyllodd y Prif Weinidog y rhwymedigaeth foesol a ddylai fod gan yr adeiladwyr a gododd yr adeiladau hyn i unioni'r gwaith. Pa gymorth y gallwch ei roi i breswylwyr, a'i gynnig i breswylwyr, pan ddaw'n fater o droi'r geiriau hynny ynglŷn â rhwymedigaethau moesol yn weithredoedd go iawn ar lawr gwlad, fel nad yw preswylwyr yn cael eu gadael mewn limbo ac yn y pen draw, yn talu'r bil eu hunain?

Andrew, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Cafwyd amryw o straeon torcalonnus. Roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le pan ddywedodd fod angen inni ailbwysleisio'n barhaus y rhwymedigaeth foesol ar y bobl sy'n adeiladu'r adeiladau hyn i safon mor wael. Dylai cyfarwyddwyr y cwmnïau hynny fod yn mynd ati eu hunain i gywiro'r diffygion. Ond fel roeddwn yn esbonio mewn ateb cynharach, yn anffodus nid oes gennym fodd o'u gorfodi. Yn anffodus, mae'r trefniadau cytundebol ym mhob adeilad penodol yn gwbl wahanol. Felly, mae'r ffordd yr adeiladwyd yr adeilad, y cwmni rheoli sy'n ei gefnogi, y cerbyd un pwrpas yn aml a roddwyd ar waith i wneud y datblygiad, y ffordd y mae'r strwythurau rheoli ar gyfer y lesddeiliaid yn gweithio ac yn y blaen, i gyd yn wahanol iawn ym mhob un o'r adeiladau.

Hoffwn ddod o hyd i ffordd o alluogi cronfa i ganiatáu i'r lesddeiliaid allu dechrau'r gwaith hwnnw. Mae'n anodd iawn gwneud hynny heb weld sut y gallwn ddiogelu'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn fuddsoddiad ganddynt yn yr eiddo. Gwn ei fod yn gartref iddynt hefyd; nid wyf yn ceisio swnio'n oeraidd am y peth. Ond mae'n anodd iawn gweld sut y gall trethdalwyr gywiro buddsoddiad sydd wedi mynd o'i le yn y ffordd honno—wyddoch chi, rhywbeth sy'n gwella'r buddsoddwr unigol yn ariannol. Felly, rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd a fyddai'n cydbwyso rhwng caniatáu i bobl gadw rhywfaint o ecwiti yn eu cartrefi a chaniatáu iddynt fanteisio ar gronfa a fyddai'n gwella strwythur yr adeilad. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, mae'n hawdd dweud ac yn llawer anos i'w drefnu.

Rydym hefyd yn cadw llygad ar gronfa Llywodraeth y DU sydd ar gyfer tynnu'r cladin, ond nid unrhyw ddiffygion strwythurol eraill yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ar ôl i chi dynnu'r cladin, yn aml bydd amryw o bethau eraill angen eu gosod o'r newydd. Felly, rydym yn cadw llygad ar hynny, ac Andrew, os oes gennych ragor o wybodaeth y gallwch ei rhannu gyda ni ynglŷn â sut y mae'r gronfa honno'n gweithio, rwy'n hapus iawn i siarad gyda chi am y peth.

15:05
Costau Ynni

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i drigolion er mwyn lleihau costau ynni yn eu cartrefi? OQ55690

Diolch, Darren. Ers 2011, mae cymorth i bobl yng Nghymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni cartref wedi bod ar gael drwy ein rhaglen Cartrefi Cynnes, sydd wedi helpu dros 61,400 o aelwydydd i leihau eu biliau ynni. Cefnogir gwelliannau i effeithlonrwydd ynni cartref yn y sector tai cymdeithasol drwy safon ansawdd tai Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod â thrigolion Llysfaen, ychydig y tu allan i Fae Colwyn yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Rwyf wedi gohebu â chi ar ran trigolion Llysfaen yn y gorffennol oherwydd bod potensial ar gyfer cynllun cysylltu â'r prif gyflenwad nwy yn y gymuned honno. Mae'n gymuned eithaf mynyddig ac yn agored iawn i'r elfennau, felly mae costau gwresogi'n uchel iawn. Yn anffodus, nid oedd y cynllun nwy arfaethedig yn addas oherwydd costau ariannol cysylltu â'r prif gyflenwad. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr, pe bai cynllun amgen nad yw'n gysylltiedig â nwy yn cael ei gyflwyno, y gallwch ei gymeradwyo cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, os cyflwynir y pecyn hwnnw i chi gan Arbed am Byth?

Wel, Darren, yn amlwg ni allaf wneud sylwadau ar gynllun unigol o'r math hwnnw na rhoi sicrwydd o'r fath, gan nad wyf yn gwybod digon am y manylion penodol. Serch hynny, rwy'n fwy na bodlon siarad gyda chi am y manylion a gwneud fy ngorau glas i weld beth y gallwn ei wneud i breswylwyr yn y sefyllfa honno. Fel y dywedoch chi'n gywir, mae Arbed, sydd ym mhortffolio fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Lesley Griffiths mewn gwirionedd, yn darparu cynlluniau o'r math hwnnw i gynorthwyo pobl sydd oddi ar y grid nwy, gydag olew ac amrywiol ddewisiadau eraill drutach ar gyfer gwresogi cartref, ac inswleiddio ac yn y blaen.  Felly, ni allaf roi'r addewid penodol rydych chi'n gofyn amdano, ond rwy'n hapus iawn i siarad gyda chi a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ynglŷn â pha gynlluniau a allai fod ar gael yn yr achos unigol hwnnw.

Polisi Cynllunio

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall partïon a chanddynt fuddiant lywio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru? OQ55691

Diolch am y cwestiwn, Jack. Rydym yn parhau i adolygu ein polisïau cynllunio cenedlaethol yn barhaus ac yn eu diweddaru pan fo angen. Gall partïon â diddordeb lywio adolygiadau o bolisïau yn y dyfodol drwy ohebiaeth a thrafodaethau gyda swyddogion a minnau, yn ogystal â chyfrannu at ymgynghoriadau polisi cynllunio swyddogol Llywodraeth Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch hefyd am gytuno i gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd yn fy etholaeth gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae cyngor Pen-y-ffordd yn teimlo'n wirioneddol angerddol am eu hardal ac maent yn wybodus iawn ynglŷn â materion cynllunio. Weinidog, gwn eich bod chi'n awyddus i gymunedau gael mwy o rôl yn y broses o lunio eu hamgylchedd eu hunain; sut y mae sicrhau y gwrandewir ar arbenigedd a phrofiadau Cyngor Cymuned Pen-y-ffordd pan fydd newidiadau i reolau cynllunio dan ystyriaeth?

Rwy'n hapus iawn i ddod i'r cyfarfod hwnnw, a fydd yn cael ei gynnal yn fuan iawn rwy'n credu. Un o'r pethau a wnawn, wrth gwrs, yw mynd allan i siarad gyda'r cynghorau cymuned yn yr achos penodol hwn am eu profiadau o gyfrannu at y gyfundrefn gynllunio a sut y gallant gyfrannu'n fwy ffrwythlon yn y dyfodol. Mae'r gymuned benodol rydych chi'n sôn amdani mewn ardal awdurdod lleol lle nad yw'r cynllun datblygu lleol wedi'i gwblhau eto ac mae hynny'n gwneud pethau ychydig yn anos. Ond wrth gwrs, wrth gwblhau'r CDLl, mae nifer fawr o gyfleoedd i unigolion a chynghorau cymuned a sefydliadau eraill wneud eu teimladau'n hysbys wrth i'r cynllun hwnnw fynd drwy'r broses arolygu a phrosesau eraill a luniwyd ar gyfer ymgysylltu'n ddemocrataidd yn y broses gynllunio.

Mae pobl yn aml yn gofyn i mi a oes unrhyw un mewn gwirionedd yn ymateb i unrhyw un o'r ymgynghoriadau polisi cynllunio eithaf sych hyn, ond er enghraifft, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru' ym mis Rhagfyr 2018, a chafwyd dros 210 o ymatebion gan unigolion i'r ymgynghoriad diwethaf, sef y nifer uchaf a ddaeth i law ar ddogfen polisi cynllunio Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n ychwanegol at sefydliadau ac yn y blaen. Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol bob amser mewn annog pobl i fynegi eu barn wrth fy swyddogion a minnau, ac mewn gwirionedd, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi canmol ein dull o ddatblygu 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ddiweddar, gan gynnwys ymgorffori'r ffyrdd o weithio yn y ddogfen ei hun.

Yn ystod yr ymgynghoriadau amrywiol rydym wedi'u cynnal yn fwy diweddar, cefais bleser mawr yn ymgysylltu, er enghraifft, â grwpiau o bobl ifanc ynglŷn â'r hyn yr hoffent ei weld yn eu hardal leol ac yn y blaen. Felly, rydym bob amser yn awyddus iawn i ymgysylltu yn y ffordd honno. Credaf fod fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn, wrth ymateb i gwestiwn cynharach gennych ar bwynt tebyg, wedi adleisio hyn drwy ddweud bod croeso i bob llais wrth ddatblygu polisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Yn wir, gwyddom fod Cyngor Cymuned Pen-y-ffordd wedi gwneud sylwadau am yr adolygiad diwethaf o 'Polisi Cynllunio Cymru', felly, fel y dywedwch yn gywir, maent yn amlwg yn gyngor cymuned gweithgar a gwybodus. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ein hymweliad, Jack.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn i'w ofyn i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Adam Price.

Cyfyngiadau Teithio

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn y newyddion diweddaraf fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais pellach a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 13 Hydref mewn perthynas â chyfyngiadau teithio? TQ494

Lywydd, ni chafwyd llythyr gan y Prif Weinidog mewn ymateb i fy nghais. Felly, rwyf wedi gofyn am gyflwyno'r gwaith angenrheidiol a fyddai'n caniatáu inni ddefnyddio pwerau datganoledig i atal pobl rhag teithio i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig lle ceir cyfradd uchel o achosion.

Gaf i, wrth ddechrau, gywiro un peth a awgrymwyd ddoe, Brif Weinidog, sef bod yna unrhyw gymhelliant gwrth-Seisnig mewn codi'r mater yma? Gallaf ddweud hynny gyda chryn sicrwydd, gan fy mod i yn fab i Saesnes. Mae e nid yn unig yn sarhaus i fi, fy nheulu ac i'm plaid i i awgrymu bod yna agweddau gwrth-Seisnig ynghlwm yn fan hyn, ond mae hefyd yn celu'r gwir reswm, wrth gwrs, dros ei godi fe, sef diogelu'r cyhoedd a hefyd cynnig tegwch, er enghraifft, i'r ferch ifanc oedd wedi cysylltu â fi neithiwr o ardal Bangor, oedd yn gofyn y cwestiwn yn syml iawn: 'Pam na allaf i fynd i weld fy mam-gu tra bod pobl o ardaloedd clo mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn gallu dod fan hyn i gael gwyliau?' Oes modd inni gael—gan dderbyn, dwi'n credu, ei bod hi'n glir bod llythyru hyd syrffed yn ddi-nod—allwn ni gael amserlen gennych chi, Brif Weinidog? Ydy'r ddeddfwriaeth ddrafft yn barod? Ydych chi'n barod i gyhoeddi'r ddeddfwriaeth hynny? Beth yw'r amserlen nawr o ran deddfu? Beth yw'r cynlluniau o ran gweithrediad o ran y ddeddfwriaeth? A hefyd, sut ŷch chi'n mynd i gyfathrebu hyn ar draws y Deyrnas Gyfunol, ac a oes modd gwneud hynny nawr fel ei fod e'n cael effaith, er enghraifft, o ran teithio o ardaloedd clo yn ystod y cyfnod hanner tymor, sydd yn dechrau, wrth gwrs, yn Lloegr yr wythnos nesaf?

Wel, Llywydd, mae e'n bwysig pwysleisio unwaith eto taw nid rhywbeth am y border rhwng Cymru a Lloegr yw'r pwynt fan hyn. Fel roedd Adam Price nawr wedi'i ddweud, mater o degwch yw e rhwng beth rŷm ni wedi ei wneud yma yng Nghymru a beth rŷm ni wedi gofyn i'r Prif Weinidog wneud yn Lloegr. So, dyna pam dwi wedi ysgrifennu unwaith eto ato fe. Yr amserlen i wneud pethau gyda phwerau sydd gyda ni yma yng Nghymru yw i'w wneud e cyn diwedd yr wythnos. Mae hwnna yn rhoi mwy o amser i Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddod lan ac i wneud y pethau rŷm ni wedi gofyn iddo fe wneud; i wneud yr un peth i bobl sy'n byw yn Lloegr â dŷn ni wedi'i wneud yma i bobl sy'n byw yng Nghymru. Dŷn ni wedi clywed yn barod gan Brif Weinidog yr Alban, ac mae hi yn awyddus i gefnogi beth rŷm ni'n trio ei wneud yn fan hyn. Nawr yw'r amser i'r Prif Weinidog wneud yr un peth. Os dyw e ddim yn fodlon, yr amserlen yw i ddefnyddio'r pwerau sydd gyda ni yma yng Nghymru cyn diwedd yr wythnos.

Paul Davies. Allwch chi agor y meic i Paul Davies?

Dyna ni. Paul Davies.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, os bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwaharddiad teithio ar bobl o Loegr sy'n dod i mewn i Gymru, mae'n gwbl hanfodol ei bod yn cyhoeddi'r data sydd ganddi i brofi bod cyfraddau trosglwyddo'n cyflymu oherwydd teithio. Nawr, fel y dywedais yn fy nghwestiynau i chi brynhawn ddoe, mae pobl Cymru yn haeddu gweld y data sy'n sail i safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn fel y gallant fod yn hyderus fod gweithredoedd y Llywodraeth yn gymesur â bygythiad y feirws yn eu hardal. Felly, a wnewch chi gyhoeddi'r data sy'n nodi beth sy'n achosi trosglwyddiad y feirws fel y gallwn weld drosom ein hunain a oes angen gwahardd teithio?

Nawr, rwyf wedi darllen y papur a aeth gyda'ch llythyr at y Prif Weinidog ddoe, ac mae'r papur hwnnw'n cadarnhau nad yw'r data'n brawf pendant o blaid gwahardd teithio. Yn wir, mae'r papur hwnnw'n mynd gam ymhellach ac yn awgrymu y dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ystod o ffactorau eraill cyn dod i gasgliad. Ac mae hefyd yn dangos bod cyfraddau trosglwyddo mewn perthynas â theithio eisoes wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Awst ac i mewn i fis Medi. Felly, a ydych yn credu bod y papur hwn yn ddigon o dystiolaeth pan fo'n eich annog, yn ei eiriau ei hun, i'w ystyried ochr yn ochr â data arall i gyfiawnhau gwaharddiad ar deithio?

Yn olaf, ar 23 Medi, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi nad oedd Llywodraeth Cymru yn gweld unrhyw gynnydd sydyn o gwbl mewn achosion oherwydd teithio a thwristiaeth, felly efallai y gallwch ddweud wrth yr Aelodau pryd yn union y dechreuodd Llywodraeth Cymru weld cynnydd sydyn yn y trosglwyddiad o ganlyniad uniongyrchol i deithio a thwristiaeth?

15:15

Lywydd, gadewch imi sicrhau'r Aelod nad yw pobl Cymru angen y math o esboniad y mae'n ei gynnig. Mae pobl Cymru'n galw'n groch am inni gymryd y camau a fyddai'n eu diogelu rhag pobl sy'n teithio i Gymru o ardaloedd eraill lle mae'r gyfradd achosion yn uchel, ac mae hynny'n arbennig o wir yn etholaeth yr Aelod ei hun, lle mae pobl yn bryderus ac yn ofni effeithiau pobl o ardaloedd eraill lle mae'r gyfradd drosglwyddo'n uchel iawn ar eu ardal hwy—ac er na chânt hwy deithio yno o Gymru, mae'n hurt eu bod yn dal i allu teithio o Loegr i'r ardaloedd hynny. Felly, nid yw'r Aelod yn adlewyrchu barn a dyheadau pobl Cymru.

Roeddwn yn falch o gyhoeddi'r papur hwnnw ddoe. Yn sicr, nid yw'n pwyso arnaf i wneud dim, ac rwy'n fwy tebygol o ddibynnu ar gyngor y rhai sy'n arbenigwyr mewn genomeg, yn hytrach nag amaturiaid sy'n darllen eu cyngor. Os yw am gael dau ddarn arall o dystiolaeth—fel y dywedais, nid bod pobl Cymru angen ei dystiolaeth, oherwydd maent wedi'u hargyhoeddi'n barod—y dystiolaeth, Lywydd, yw bod hyd at 80 y cant o achosion newydd o'r haint yn cael eu hachosi gan archledaenwyr. Felly, nid yw'n cymryd llawer o bobl sy'n archledaenwyr i ddod i mewn o ardal allanol i gael effaith fawr iawn. Yn ail, gan ddefnyddio'r technegau newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor, rydym bellach yn monitro'r dŵr gwastraff o fannau ar hyd arfordir gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac rydym yn gweld llwythi sylweddol o gopïau genomig o COVID-19 sy'n dangos cynnydd yn y nifer debygol o'r achosion o'r feirws mewn dalgylchoedd. Mae'n dangos bod ymwelwyr o'r tu hwnt i Gymru yn dod â'r feirws gyda hwy. Dyna beth y mae pobl yn awyddus i'w osgoi, dyna pam y gwnaethom weithredu yma yng Nghymru. Oni fyddai'n dda pe bai ei blaid yn fodlon gwneud yr un peth?

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Diwrnodau Erasmus, a gynlluniwyd i nodi'r cyfleoedd sy'n newid bywydau y mae'r cynllun rhyngwladol yn eu darparu i ddysgwyr galwedigaethol gael profiad gwaith a hyfforddiant yng ngwledydd Ewrop. Fel rhywun a gafodd fudd o gynllun Erasmus, rwy'n falch o adrodd bod ysbryd Erasmus+ yn fyw ac yn iach yng Ngwent. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 200 o ddysgwyr o Goleg Gwent wedi cymryd rhan ym mhrosiect 2020 ColegauCymru sydd wedi golygu bod myfyrwyr gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon, ffotograffiaeth, trin anifeiliaid a theithio a thwristiaeth wedi gallu mwynhau lleoliadau gwaith yn Ewrop. Mae adran iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Gwent wedi bod yn arbennig o weithgar yn Erasmus+, yn meithrin perthynas gref â sefydliadau yn y Ffindir, Gwlad Pwyl a Sweden. Bu un myfyriwr gofal plant yng Ngholeg Gwent yn gweithio mewn ysgol arbennig yng Ngwlad Pwyl am bythefnos ac elwodd o weld y gwahaniaeth a'r tebygrwydd o gymharu ag ysgolion arbennig yng Nghymru a dywedodd y byddai'r profiad yn gwella eu hymarfer yn y dyfodol.

Gwn o brofiad personol sut y gall profiad dysgu rhyngwladol newid bywydau, yn enwedig i bobl ifanc o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Fel person ifanc o gymuned yn y Cymoedd nad oedd erioed wedi cael gwyliau tramor hyd yn oed, drwy gynllun Erasmus+ llwyddais i fynd i astudio ym Mhrifysgol Paris. Mae'n hanfodol fod ein pobl ifanc, yn enwedig o deuluoedd incwm isel, yn cael cyfleoedd o'r fath. Hoffwn ddiolch i Goleg Gwent a ColegauCymru am weithio'n galed i ddarparu'r cyfleoedd trawsnewidiol hyn, a diolch hefyd i Erasmus+.

15:20

Lywydd, 5 i 18 Hydref yw Wythnos Wlân 2020. Y nod yw hyrwyddo rhinweddau'r deunydd naturiol eithriadol hwn ac annog mwy o ddefnydd ohono. Yn wir, pe bai categori deunyddiau yn Sioe Frenhinol Cymru, rwy'n dweud wrthych y byddai gwlân bob amser yn ennill y rhuban coch. Mae'n naturiol, yn adnewyddadwy, yn fioddiraddiadwy, yn ddeunydd inswleiddio, yn hygrosgopig, yn gadael aer drwodd, yn wydn, yn elastig, yn addas ar gyfer pob tymor, yn hawdd gofalu amdano, yn gwrthsefyll arogleuon, yn wrth-fflam, ac mae iddo lefel uchel o amddiffyniad uwchfioled. Cymharwch hynny ag unrhyw eitemau o ddillad, carped, deunydd inswleiddio adeiladau, matresi, dillad gwely a wnaed gan bobl a'r effaith negyddol y maent yn eu cael ar yr amgylchedd.

Er bod gwlân Cymru yn gynnyrch o'r safon orau, mae ein ffermwyr yn cael cyn lleied â 28c y cnu, sy'n llawer llai na chost yr hyn sy'n gneifio hanfodol. Ysgrifennais at Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ac rwy'n cael trafodaethau gyda Gwlân Prydain, yr Ymgyrch Wlân, manwerthwyr carpedi a gwelyau a Llywodraeth Cymru, yn gofyn iddynt sefyll gyda'n ffermwyr. Felly, gofynnaf i chi, fel Aelodau o'r Senedd hon, lofnodi addewid gwlân Cymru sy'n mynd o gwmpas, a chofnodi drwy wneud hynny eich ymrwymiad i wneud popeth posibl i hyrwyddo gwlân o Gymru, a'i brynu yn wir. Diolch yn fawr.

Rwy'n gwisgo fy siwt wlân o frethyn Tywysog Cymru. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Nawr fe awn ni am gyfnod byr o egwyl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:30, gyda David Melding yn y Gadair.

15:30
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis

Symudwn at eitem 5, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, endometriosis—gobeithio fy mod wedi ynganu hynny'n gywir—a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7304 Jenny Rathbone, Angela Burns, Suzy Davies, Vikki Howells

Cefnogwyd gan Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.

2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.

3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Pe bai dynion yn dioddef problemau'r prostad yn y ffordd y mae menywod yn dioddef o endometriosis, ni fyddem wedi aros cyhyd i sicrhau bod y cyflwr hynod wanychol a llethol hwn yn cael ei gydnabod a'i drin. Gan fod menywod wedi rhoi'r gorau bellach i ddioddef yn dawel, mae llawer mwy o sylw wedi'i roi i endometriosis.

Erbyn hyn mae tair 'endowall' yng Nghaerdydd. Ni allaf ddangos yr un a grëwyd gan Jaimee Rae McCormack yn Cathays, sef y gyntaf, ond fe'ch gwahoddaf i droi at fy ngwefan i weld honno a lluniau eraill o'r EndoMarch gan fenywod a'u teuluoedd yng Nghaerdydd ar y dydd Sadwrn olaf ym mis Mawrth y llynedd, a helpodd i addysgu'r cyhoedd am yr hyn y mae endo yn ei wneud i fenywod. Mae angen yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus hyn, oherwydd nid yw hanner y wlad erioed wedi clywed am endometriosis, er ei fod yn fwy cyffredin mewn menywod nag asthma neu ddiabetes.

Mae'r ddadl hon yn amserol, oherwydd mae'n digwydd wrth inni graffu ar y Bil cwricwlwm newydd. Gwrandewch ar brofiad un ferch: 'Pan oeddwn yn 13 oed, llewygais yn yr ysgol yn sgil poenau erchyll yn fy stumog. Cefais fy nghludo i adran ddamweiniau ac achosion brys lle gwnaethant brofion gwaed ac uwchsain. Dywedodd meddyg wrthyf fod popeth yn edrych yn iawn ar y sganiau felly nid oedd yn broblem gynaecolegol. Digwyddodd hyn yn rheolaidd dros gyfnod o bedair blynedd. Byddwn yn cael fy rhuthro i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda'r un boen, cawn wybod nad oedd yn ddim byd a bod angen i mi ddysgu ymdopi â phoen mislif.'

Un bore roedd mor ddrwg nes i'w mam fynd â hi at y meddyg teulu ac oddi yno cawsant atgyfeiriad at gynaecolegydd, ac o'r diwedd, bum mlynedd ar ôl i'r stori ddechrau, cawsant y diagnosis hwnnw. Ceir miloedd o rai tebyg i'r fenyw ifanc hon, miloedd nad ydynt yn gwybod nad yw'n arferol i chi gael poen parhaus ar waelod eich bol, poen pan fyddwch yn mynd i'r toiled neu'n cael rhyw. 

Felly gwrandewch, aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy'n craffu ar y Bil cwricwlwm: rhaid i addysg lles mislif ddod yn rhan annatod o daith pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion iach a gwybodus. Mae angen i ferched a menywod ifanc, bechgyn a dynion ifanc hefyd, wybod beth sy'n fislif normal, ac os nad yw'n normal, ble y gallant gael help. Mae angen i nyrsys ysgol, athrawon, swyddogion presenoldeb i gyd wybod hyn hefyd, yn ogystal â'r meddyg teulu a'r gynaecolegydd.

Nid yw'n gyflwr newydd, ac nid yw'n benodol i Gymru ychwaith, ond mae'n annerbyniol ei bod yn cymryd wyth apwyntiad meddyg teulu i gael eich atgyfeirio at arbenigwr. Mae'n anfoddhaol fod rhai gynaecolegwyr yn methu canfod endometriosis a hynny'n unig am nad yw'n ymddangos ar uwchsain.

Treuliodd Debbie Shaffer, un o sylfaenwyr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, 26 mlynedd yn ceisio cael diagnosis cywir, ac ar y pwynt hwnnw roedd gofal arbenigol y tu hwnt i gyrraedd. Datgelodd eu hymchwil nad yw'r rhan fwyaf o feddygon teulu a gynaecolegwyr lleol hyd yn oed yn ymwybodol fod canolfannau arbenigol ar gyfer trin endo'n bodoli.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r broblem. Yn 2017, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys yr holl randdeiliaid, a chyflwynodd ei adroddiad trylwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018. Yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid i bob bwrdd iechyd lleol gael o leiaf un nyrs endometriosis arbenigol, a rhaid mai un o'u tasgau cyntaf yw darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth endo i feddygon teulu. Mae hyn i gyd yn dda, ond mae angen llawdriniaeth gymhleth ar o leiaf draean o'r menywod sydd ag endo a dim ond arbenigwyr all ddarparu hynny. Fel gyda'r rhan fwyaf o gyflyrau, po hwyaf y byddant yn aros, y mwyaf anodd a drud yw hi i'w drin. 

Yn ne Cymru, yng Nghaerdydd, y mae'r unig ganolfan endometriosis sydd gan Gymru. Cyfeirir menywod yng ngogledd Cymru at Arrowe Park ym Mhenbedw. Mae gan dîm Caerdydd dri gynaecolegydd ymgynghorol gwych a'r unig nyrs endometriosis arbenigol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ragoriaeth. Daw gynaecolegwyr o bob rhan o'r DU i feithrin sgiliau i redeg y canolfannau arbenigol, sydd bellach yn ymddangos ledled Lloegr, ond nid yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r arian yn dilyn y cleifion. Mae tariffau fesul claf yn amrywio o £5,500 i £12,000. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd yn dal i weithredu cytundeb hanesyddol lleol un i mewn, un allan, sy'n hurt ar gyfer llawdriniaethau sy'n para chwech i naw awr. Y llynedd, roedd pedair o bob 10 claf yng Nghaerdydd o'r tu allan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Yn Lloegr, byddai hynny wedi cynhyrchu rhwng £300,000 a £600,000 i dalu am lawdriniaeth gymhleth, leiaf ymyrrol i'r pelfis. Yn hytrach, talwyd amdanynt gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae hyn yn anghynaliadwy yn ariannol. Mae'n amhosibl ehangu'r gwasanaeth i ateb y galw enfawr nas diwallwyd oni bai ei fod yn cael ei ariannu'n wahanol.

Ac mae'n rhaid i ni warantu amser theatr wedi'i neilltuo i'r tri meddyg ymgynghorol endometriosis presennol. Gan eu bod ar safle ysbyty'r Mynydd Bychan, maent yn colli eu slotiau theatr gwerthfawr yn gyson er mwyn gallu trin argyfyngau meddygol. Ac mae COVID wedi gwaethygu'r rhestrau aros hir iawn sydd eisoes ymhell y tu hwnt i'r targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth o 36 wythnos. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, argymhellodd y grŵp gorchwyl a gorffen y dylid sefydlu canolfan endometriosis rithwir yn ne Cymru ar unwaith, ar draws Casnewydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Roedd hynny dros ddwy flynedd yn ôl. I gefnogi hyn, mae meddygon ymgynghorol endometriosis Caerdydd yn awyddus i wneud sesiynau theatr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mewn mannau eraill i gynyddu nifer y bobl â sgiliau llawfeddygol cymhleth. Mae angen o leiaf dri gynaecolegydd endometriosis arbenigol arall ar gyfer gwasanaeth trydyddol nad oes angen iddo fod ar safle'r Mynydd Bychan.

Mae'r rhain yn faterion cymhleth, sy'n anodd eu datrys ynghanol pandemig. Ond er mwyn parchu'r holl ymgyrchwyr ar lawr gwlad sydd wedi codi proffil endometriosis yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod gan bob menyw yng Nghymru sydd ei angen fynediad at ganolfan endometriosis arbenigol.

15:35

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am awgrymu y dylem gynnal y ddadl hon, oherwydd mae hwn yn fater eithriadol o bwysig sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Un o'r pwyntiau a wnaeth Jenny ar y dechrau un yw nad mater menywod yn unig yw hwn, ond mewn gwirionedd mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar y dynion ym mywydau'r menywod sydd â'r salwch cronig a gwanychol hwn.

Roeddwn am ddarllen y diffiniad o endometriosis yn gyflym iawn, oherwydd nid yw pawb yn gwbl glir beth ydyw na beth y mae'n ei wneud i bobl. Mae'n gyflwr lle mae meinwe sy'n debyg i leinin y groth yn dechrau tyfu mewn mannau eraill, megis yn eich ofarïau neu eich tiwbiau ffalopaidd, a gall effeithio ar fenywod o unrhyw oed. Nawr, mae etholwyr a chyfeillion i mi y gwn eu bod yn dioddef, ac wedi dioddef o'r cyflwr ofnadwy hwn yn sôn am boen eithafol o erchyll drwy gydol eu bywydau. Yn aml, mae'n rhaid iddynt gael llawdriniaethau lluosog i geisio cael gwared ar y feinwe ormodol hon sy'n tyfu ym mhobman. Ac nid dim ond tyfu y mae; mae'n clymu yn ei gilydd ac yn glynu wrth rannau eraill o'ch organau—felly mae organau'n glynu yn ei gilydd, yn enwedig eich coluddyn â'ch stumog, eich ofarïau. A gall effeithio'n enbyd ar eich bywyd.

Rwy'n mynd i ddarllen dyfyniad gan un o fy etholwyr, cyn i mi siarad am un peth rwyf am roi sylw iddo. Cafodd un fenyw ifanc laparosgopi brys; bu'n rhaid iddi golli ofari, rhan o'r bledren a rhan o'i choluddyn. Mae ganddi boen cronig yn ei phelfis a thrwy ei chorff i gyd. Mae'n cael meigryn yn ddyddiol. Mae codi o'i gwely'n gyflawniad. Rhaid iddi gymryd poenladdwyr bob pedair awr. Ac mae'n dweud, pan ddaw ei mislif bob mis, mae'n uffern, fod endo yn gyflwr sy'n anablu ac mae wedi difetha ei bywyd, ac o'r hyn y mae wedi'i ddarllen ar-lein, mae wedi difetha llawer o fywydau eraill, a bod ei gobeithion a'i dyheadau wedi cael eu difetha gan y salwch hwn. Ac mae'n mynd rhagddi i siarad am yr effaith y mae wedi'i chael ar ei pherthynas ag eraill. Mae'n chwalu ei gobaith o allu cael teulu.

Ac felly un o'r pwyntiau a wnaeth Jenny yn glir iawn yn fy marn i oedd y ffordd y mae angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, oherwydd mae'n effeithio ar fwy na dim ond yr unigolyn sy'n dioddef ohono. Mae pobl ag endometriosis yn aml iawn yn cael anhwylder straen wedi trawma, ac yn aml gallant ddioddef o sepsis, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn gallu lladd. Nid yn unig ei fod yn chwalu gobaith pobl o allu cael plant, mae hefyd yn gwneud pethau fel IVF yn anos oherwydd bod y tiwbiau wedi blocio, ac wedi'u difetha i bob pwrpas. Ac mae IVF yn anodd beth bynnag—nid oes sicrwydd o lwyddiant—ac felly mae llai o obaith byth y gall pobl ag endometriosis feichiogi.

Cyfeiriais yn gynharach at nifer o lawdriniaethau, a gadewch inni feddwl am hynny o ddifrif. Mae'n rhaid i chi fynd i mewn unwaith y flwyddyn efallai, ddwywaith neu dair y flwyddyn efallai, i gael rhannau o'ch tu mewn wedi'u torri allan er mwyn i chi allu sefyll yn syth, eistedd heb boen, gallu bwyta, pî-pî, cael eich gweithio, gallu cael cyfnod heb fod mewn poen arteithiol. Waw—ni all neb wadu bod hwnnw'n ddyfodol llwm ar y naw.

Ac wrth gwrs, down at ryw wedyn. Rhyw a chyfathrach—yr hyn rydym i gyd yn ei ddeisyfu mewn perthynas dda ac iach. Mae hynny'n anodd iawn i'w gael, ac mae'n effeithio ar y dynion yn y berthynas hefyd, oherwydd nid ydynt am feddwl y gallent frifo'r un y maent yn ei charu. Nid ydynt yn gwybod sut i fynd atynt, pa bryd sy'n amser da, oherwydd y boen ofnadwy. Ac o'r hyn y mae'r menywod sydd wedi siarad â mi am hyn wedi'i ddweud, nid yw'n fater o gymryd dwy dabled paracetamol. 

Felly, rwyf wedi cymryd rhan yn y ddadl hon oherwydd mai'r hyn rwy'n gofyn amdano yw mwy o ymdrech i helpu i ddod o hyd i ryw fath o ryddhad rhag poen sy'n wirioneddol gynaliadwy, ac yn anad dim, ffordd o leihau'r rhestr aros anhygoel o hir i allu cael diagnosis. Dywedodd Jenny—ac mae hi'n llygad ei lle—dywedir wrth ormod o bobl nad yw'n ddim ond blinder: 'Ydych, rydych chi'n gwaedu'n eithaf trwm y mis hwn; peidiwch â phoeni, fe fyddwch chi'n iawn.' Nid yw'r menywod hyn yn iawn, ac mae gwir angen iddynt gael meddygon cydymdeimladol sy'n deall go iawn fod hwn yn fater pwysig ag iddo effeithiau hirdymor ac y gall arwain at bobl yn gorfod colli'r cyfan neu ran o weithrediad y coluddyn hefyd. Felly, mae'n arwain at goluddyn llidus; mae'n arwain at bob math o broblemau eraill sy'n gysylltiedig â'r organau meddal yn rhan isaf ein habdomen. 

Felly, Weinidog, pe bawn yn gofyn am ychydig o bethau i ddeillio o'r ddadl hon, byddai'n cynnwys edrych yn hir ac yn ofalus ar sut y gallwn gael rhestrau aros byrrach ledled Cymru, a rhoi mwy o gyfarwyddyd i arbenigwyr ac i feddygon teulu fod hon yn broblem wirioneddol, ei bod yn effeithio nid yn unig ar y sawl sy'n dioddef ohoni, ond y teuluoedd o'u cwmpas, ac y dylid ei thrin â'r parch a roddwn i lawer o gyflyrau eraill. Teimlwn fod endimetriosis wedi'i drin fel 'dim ond un arall o'r pethau menywod hynny', a'i fod wedi'i wthio i'r cyrion braidd. Diolch am eich amser. 

15:40

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Hoffwn ddweud ychydig eiriau i dalu teyrnged i ddyfalbarhad fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn ymdrechu i sicrhau y gallwn drafod y pwnc hwn heddiw. Mae'n fater mor bwysig. Fel y dywedwyd, mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod y cyflwr creulon hwn yn effeithio ar 160,000 o fenywod yng Nghymru. Bydd meinwe'n tyfu ac yn glynu at yr organau yn eu pelfis, gan achosi llid a all arwain at boen sylweddol, poen yn y pelfis, y cefn, y coesau, yr afl—poen dirdynnol yn ystod mislif, yn ystod rhyw, wrth ddefnyddio'r toiled, neu ddim ond wrth fyw bywyd bob dydd. Gall effeithio ar y gallu i weithio neu fywyd y cartref, gan y gall poen wanychol wneud gweithgareddau cyffredin hyd yn oed yn anodd. Gall y boen arwain at flinder, iselder, anffrwythlondeb, neu hyd yn oed, fel y nododd adroddiad gan y BBC y llynedd, at feddyliau hunanladdol.

Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod gwir raddfa'r cyflwr. Mae rhai menywod yn dioddef y boen, yn ymdrechu'n daer i ymdopi, gan drin eu hunain, neu fel y soniodd Jenny Rathbone o'r blaen, efallai nad ydynt yn sylweddoli beth yn union y maent yn ei wynebu. Hyd yn oed os yw rhywun wedi cymryd y cam a mynd i siarad â'i meddyg, ceir tanddiagnosis neu gamddiagnosis o endometriosis, gan arwain at fenywod yn methu cael y cymorth cywir. Gall hefyd fod yn anodd iawn cael gafael ar gymorth arbenigol, pwynt a nodwyd yn ail bwynt y cynnig heddiw. Mae pwynt 5 yn cynnig un ateb i hyn, gan alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion y genedl. Ac rwy'n falch o weld bod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, sy'n gwasanaethu cynifer o fy etholwyr, yn cael ei ystyried gan ymgynghorwyr arbenigol fel canolfan ar gyfer llawdriniaeth bellach. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ymchwil sydd ei hangen i ddyfnhau ein dealltwriaeth o achosion y cyflwr a hefyd yr ymyriadau mwyaf effeithiol, fel y noda pwynt 3 yn y cynnig.

Gwyddom y gall merched yn eu harddegau wynebu anhawster i gael triniaeth. Mae hyn yn creu perygl y bydd cyflwr heb ei drin yn achosi effaith gydol oes. Mae ein pedwerydd pwynt yn nodi'r atebion posibl i fynd i'r afael â hyn a chodi ymwybyddiaeth drwy sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif normal a phryd i ofyn am gyngor meddygol.

Wrth i mi gloi, rwyf am ystyried effaith y pandemig coronafeirws presennol ar fenywod yr effeithir arnynt gan endometriosis. Mae unrhyw un sy'n cael triniaeth neu sy'n aros am apwyntiad yn debygol o wynebu oedi neu ganslo. Os ydych yn aros am ymgynghoriad, mae'n debygol o gael ei wneud o bell. Mae Endometriosis UK wedi rhoi rhybudd clir y bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau'n cael eu hystyried yn rhai nad ydynt yn rhai brys, ac y bydd hynny'n golygu y cânt eu canslo neu eu hail-drefnu neu wynebu mynd ar restr aros hirach o lawer. Rwy'n falch fod yr elusen yn gweithio'n agos gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr i fonitro'r sefyllfa hon. Ond mae'r ddadl heddiw yn ein hatgoffa'n amserol na allwn anghofio am y menywod y bydd eu bywydau'n cael eu newid gan y cyflwr hwn.

Gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r camau synhwyrol a amlinellwn fel y gallwn wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y menywod hynny yn eu tro yn cael eu cefnogi hyd eithaf ein gallu. Diolch.

15:45

Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon ac yn wir, rwy'n cefnogi pob rhan o'r cynnig. A gaf fi ddechrau drwy ganmol Jenny Rathbone am osod y cefndir ac egluro'r broblem gyda'r manylder llawn y mae'r mater cymhleth hwn yn ei haeddu?

Fel y soniwyd, mae endometriosis yn gyflwr lle mae leinin yr endometriwm—leinin y groth—mae rhannau ohono'n dechrau tyfu y tu allan i'r groth. Nid ydym yn gwybod pam mewn gwirionedd, ond mae'n dechrau tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau, tiwbiau ffalopaidd, y coluddyn, y bledren a rhannau eraill o'r pelfis. A gall ei effeithiau fod yn ddinistriol—yn syndod o gyffredin, fel y clywsom, ond gall yr effeithiau mewn rhai menywod fod yn ddinistriol o ran poen cronig, gwanychol, difrifol.

Nawr, rydym i gyd yn cael poen o bryd i'w gilydd, a phan fyddwn yng nghanol pwl poenus o beth bynnag, cawn ein calonogi fel arfer wrth wybod nad yw'n mynd i bara mor hir â hynny, boed yn boen yn y cymalau, y ddannoedd neu beth bynnag. Mae'n lefel gwbl newydd o boen sydd mor ddifrifol fel na allwch weld ffordd allan am ei fod yn tueddu i bara am fisoedd, wythnosau, blynyddoedd. 

Mae cysylltiad ag adeg o'r mis, gan ei fod yn tueddu i fod yn waeth adeg y mislif, ond nid felly bob amser. Dyna pam y mae'n her i wneud y diagnosis yn y lle cyntaf, ac nid yw'r symptomau'n gysylltiedig â'r mislif bob amser ychwaith. Oes, mae poen difrifol cronig, ond gallwch hefyd gael symptomau fel rhwymedd a dolur rhydd pan fydd yr endometriosis yn gysylltiedig â'r coluddyn yn arbennig. Gall hyn i gyd gael effaith enfawr ar fywyd y fenyw ac ar fywydau pobl o'i chwmpas, fel y clywsom: ar berthnasoedd, ar y gallu i gael babi, ar ragolygon cyflogaeth. Felly, mae costau cymdeithasol enfawr i beidio â rheoli endometriosis yn effeithiol.

Yn sicr, fel y clywsom, mae angen mwy nag un ddarpariaeth drydyddol amlddisgyblaethol arbenigol fawr benodol ar gyfer endometriosis yng Nghymru. Mae uned Caerdydd yn ardderchog, ond dyna'r unig un. Ac o safbwynt meddyg teulu, mae ceisio cael menywod ag endometriosis wedi'u gweld mewn gofal eilaidd yn y lle cyntaf yn her anferthol—rhaid wrth lefel o ddifrifoldeb. Felly, mae'n anodd iawn cael pobl wedi'u gweld yn gynnar yn y broses cyn iddynt ddatblygu unrhyw symptomau difrifol. A weithiau, pan fydd gan fenywod symptomau difrifol, yr her anferthol wedyn yw eu gweld mewn gofal eilaidd hefyd. Gyda'r menywod sydd â math cymhleth o endometriosis sy'n gysylltiedig ag organau lluosog, cael eu gweld yng Nghaerdydd yw'r unig ffordd ymlaen mewn gwirionedd gan nad problem gynaecolegol yn unig ydyw—mae'n broblem i'r rhannau eraill hynny o'r anatomi hefyd. Mae'n broblem i lawfeddygon y colon a'r rhefr, mae'n broblem i wrolegwyr, llawfeddygon y bledren hefyd—nid mater gynaecolegol yn unig ydyw, a dyna pam y mae angen y canolfannau amlddisgyblaethol trydyddol arbenigol hynny.

At ei gilydd, credaf y dylid cael llwybr endometriosis penodol i Gymru gyfan, o'r ymweliad cyntaf â gofal sylfaenol—o'r adeg y mae'r fenyw'n dechrau cael y broblem—drwy ofal eilaidd, drwodd i ofal trydyddol. Dylid cael llwybr bathodynnau digidol pwrpasol, ac mae gan ein nyrsys arbenigol rôl amlwg i'w chwarae yn hynny.

Ond hefyd, o'r cychwyn cyntaf, rwy'n credu bod angen iddo fod yn rhan o addysg yn y Bil cwricwlwm, fel y soniodd Jenny Rathbone ar y dechrau. Mae angen iddo fod yn rhan o addysg mislif, yr hyn sy'n normal i ferched a menywod ei gael, ac mae angen i fechgyn a dynion ifanc wybod hynny hefyd fel bod empathi pan fyddant yn wynebu'r sefyllfaoedd hyn, oherwydd mae angen ystyried endometriosis pryd bynnag y bydd gan fenyw boen mislif difrifol, yn enwedig pan fydd wedi'i gyplysu â materion yn ymwneud ag anffrwythlondeb. Dylai fod ar frig y rhestr mewn diagnosis ac nid yw yno ar hyn o bryd, weithiau nid yw yno o safbwynt y fenyw ac yn sicr nid o safbwynt gofal sylfaenol, na gofal eilaidd weithiau hyd yn oed. Dylai poenau mislif difrifol, ynghyd ag anallu i feichiogi, fod yn arwydd rhybudd.

Ond at ei gilydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, a gaf fi ganmol Jenny Rathbone ac eraill sy'n cefnogi'r cynnig hwn? Mae'r cynnig yn haeddu llwyddo ac rydym yn haeddu cael gwell gwasanaeth arbenigol i'n menywod sydd ag endometriosis, ynghyd â gwell addysg ar ddechrau bywyd gyda mislif. Diolch yn fawr.

15:50

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd yn rhy aml o lawer nid yw materion iechyd menywod yn gweld golau dydd. Nid ydynt yn cael eu trafod ac felly nid ydynt o reidrwydd yn cael sylw dyledus. Felly, mae endometriosis, fel y dywedodd pawb, yn gyflwr gwanychol iawn, ac o ganlyniad mae'n cael effaith ddinistriol ar iechyd menywod o ran ansawdd eu bywyd a'u gallu i feichiogi. Mae'r ddau'n effeithio ar les corfforol menyw ond hefyd ar eu lles iechyd meddwl.

Yn rhy aml o lawer, ac rydym wedi'i glywed yn cael ei ailadrodd yma heddiw, ceir oedi sylweddol rhwng yr adeg y mae merch neu fenyw yn mynd at ei meddyg gyntaf gyda symptomau a chael diagnosis pendant, a'r amser cyfartalog yw saith mlynedd. Dywedir yn aml fod y symptomau'n ddim mwy na mislif normal. Nid yw bod mewn poen arteithiol bob mis o bob blwyddyn yn normal—poen mor ddifrifol fel na allwch godi o'r gwely yn aml iawn, fel na allwch weithredu, na bwyta, na chysgu. Nid yw hynny'n normal. Nid oes dim yn normal yn ei gylch. Mewn geiriau eraill, mae'n rhywbeth i'w ddioddef, ac ni all hynny fod yn iawn. Nid yw'n iawn.

Y ffactor arall, wrth gwrs, yw bod yr amserlen hefyd yn golygu, erbyn i fenywod sylweddoli beth sy'n mynd o'i le, erbyn i'r proffesiwn meddygol wrando arnynt, mae'n rhy hwyr iddynt gael plant mewn llawer o achosion, oherwydd erbyn hynny—ac mae wedi cael ei grybwyll eisoes—mae'r hyn a allai fod wedi digwydd i helpu a galluogi menyw i feichiogi wedi mynd yn rhy bell. Nid oes help i'w gael ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwnnw.

Bydd menywod—a chafodd ei grybwyll—hefyd yn dioddef caledi ariannol a gall ei gwneud yn amhosibl iddynt weithio am sawl diwrnod o bob mis. Cafwyd adroddiad gan y grŵp gorchwyl a gorffen ar endometriosis a ddywedai fod cost i fusnesau, rhwng $200 a $250 mewn absenoldeb bob blwyddyn, ond mae cost i'r fenyw ei hun hefyd oherwydd pan fydd cyflogwyr yn edrych ar ddyrchafu menywod, pan fyddant yn edrych ar bethau fel dibynadwyedd, ac os ydynt yn edrych ar gofnod salwch sy'n dangos absenoldeb o dri neu bedwar diwrnod bob mis, nid ydynt yn debygol iawn mewn llawer iawn o achosion—am nad ydynt yn deall beth sy'n digwydd—o fod yn arbennig o gydymdeimladol a meddwl am roi cyfle iddynt gael dyrchafiad. Felly, mae'r effeithiau, unwaith eto, ar yr unigolyn, y teulu a'r busnes.

Yn aml, mae rheoli a thrin y cyflwr—ac fe ddywedodd Dai hyn yn eithaf da—yn galw am ymagwedd amlddisgyblaethol am na allwch roi llawdriniaeth fel gynaecolegydd ar endometriosis yn unig os oes rhaid i chi edrych ar yr organau y mae wedi'i gysylltu wrthynt. Dyna pam y mae'r llawdriniaethau mor hir, mor boenus ac mor gymhleth, oherwydd bydd gennych fwy nag un person yn y theatr yn cyflawni'r llawdriniaeth amlddisgyblaethol honno.

Ond ysgrifennais yn ddiweddar iawn, yr wythnos hon mewn gwirionedd, at fwrdd iechyd Hywel Dda am fy mod eisiau gwybod am y llwybr ar gyfer cleifion lle ceir amheuaeth o endometriosis neu lle cadarnhawyd eu bod yn dioddef o'r cyflwr. Fe'm hysbyswyd eu bod wedi gwneud cais am arian gan y grŵp gweithredu ar iechyd menywod i gyflogi uwch-nyrs poen pelfis endometriosis arbenigol ac maent hefyd wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer ffisiotherapi, seicoleg a gwasanaethau poen, er mwyn gallu cynnig cynllun triniaeth endometriosis cyfannol. Nid ydynt wedi cael cadarnhad eto ynglŷn â'r cyllid hwnnw, a hoffwn ofyn a ydych chi'n gwybod, Weinidog, pryd y gallent ddisgwyl cael ateb.

Rwyf hefyd wedi cael gwybod—ac rwy'n dyfynnu, ac mae wedi'i ddweud eisoes—fod cleifion ag achosion difrifol o'r cyflwr yn cael eu cyfeirio at ganolfan endometriosis arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac rydym i gyd wedi clywed yn barod pa mor anodd yw cael pobl ar y llwybr hwnnw. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae Dai Lloyd wedi'i ddweud eisoes, fod yn rhaid cael llwybr clir i bobl, a hefyd i'r proffesiwn meddygol fel eu bod yn deall sut y maent i fod i gyfeirio pobl drwy'r system ac nad yw'r system yn rhwystr pellach i'r unigolion hynny sydd eisoes yn dioddef.

Rwy'n pryderu'n wirioneddol fod menywod—dyma ni, yn 2020—yn dal i gael eu hanwybyddu rywsut, oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn rhy aml yn fater nad yw ond yn effeithio ar eu mislif, nid eu bywyd na'r bywyd o'u cwmpas, a'n bod yn y sefyllfa hon yma heddiw. Rwy'n gwybod llawer iawn am endometriosis am fod gennyf ddau aelod o fy nheulu fy hun, yn agos iawn ataf, sydd wedi dioddef ohono, a gwelais y dioddefaint hwnnw, a gallaf ddweud un peth wrthych yn awr: nid yw'n ddymunol iawn.

15:55

Diolch yn fawr iawn am gyflwyno hyn, Jenny. Rwy'n credu ei bod yn un o'r dadleuon lle bydd pobl yn cael eu galw'n 'ddewr' am siarad. Credaf y bydd 'bwrw eich perfedd' yn magu ystyr ychydig bach yn fwy llythrennol yng ngweddill y ddadl hon nag y bydd eraill yn gyfforddus ag ef o bosibl.

Soniodd Joyce am yr effaith economaidd ar fenywod, ond rwy'n credu ei bod yn werth cofio hefyd fod ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn brif gyflogwyr menywod yng Nghymru, a bod y rhan fwyaf o bell ffordd o ofalwyr di-dâl yn fenywod, a phe bai un o bob 10 o'r rheini'n diflannu bob mis ar sail dreigl i ofalu amdanynt eu hunain wrth iddynt ddioddef pwl o endometriosis, byddai bwlch go fawr yn nifer y bobl sydd ar gael i ofalu am ein cleifion canser a'n cleifion dementia a'n cleifion iechyd meddwl, heb sôn am ein teuluoedd ein hunain.

Pan oeddwn yn fenyw ifanc, nid oeddwn erioed wedi clywed am endometriosis. Roedd fy ffrind agosaf yn gwybod beth ydoedd, oherwydd roedd wedi dioddef ohono fwy neu lai o'i glasoed—ni chafodd ddiagnosis tan lawer yn ddiweddarach wrth gwrs, fel y gallwch ddychmygu—ac rwy'n meddwl nawr ffrind mor ofnadwy oeddwn i, oherwydd ni ofynnais iddi erioed beth oedd yn digwydd iddi. Ni ofynnais iddi erioed faint oedd hi'n byw mewn ofn o'i mislif, sut yr ymdopai â diffyg urddas sydd ynghlwm wrth waed yn gollwng, sut yr arhosodd yn effro pan fyddai wedi bod yn anemig ac yn lluddedig yn sgil y boen arteithiol y clywsom amdani, sut y llwyddodd i roi un droed o flaen y llall, a sut brofiad oedd gwaedu, rai misoedd, am fwy o amser na pheidio.

Ewch ymlaen rai degawdau, a gadewch inni feddwl am fy nghyn-aelod o staff; rwyf wedi cael ei chaniatâd i'w chrybwyll. Mae ganddi radd, mae ganddi radd Meistr, a dim ond yn rhan amser y gallai weithio oherwydd effeithiau endometriosis a'i driniaeth. Roedd ganddi'r holl symptomau uchod. Dywedwyd wrthi y byddai'n cael anhawster i feichiogi. Cyflwynwyd menopos cynnar fel ymgais i drin hyn, rhyw fath o sbaddu cemegol i fenywod, gyda'r holl symptomau hyfryd hynny'n waeth am eu bod wedi'u cymell yn artiffisial. Drwy drugaredd, ni wnaed hynny, ond erbyn hyn mae hi'n cael meigryn yn fynych a gorbryder i'w ychwanegu at bopeth arall. Fel pob cyflwr cronig, ceir sbectrwm o ddifrifoldeb o ran sut y caiff ei ddioddef. Fodd bynnag, mae lefel yr anwybodaeth ynglŷn ag endometriosis yn syfrdanol, o ystyried cymaint sy'n dioddef ohono, a dyna pam rwy'n tynnu eich sylw at rannau 4 a 6 o'r cynnig hwn.

Yn ystod y Cynulliad diwethaf, cawsom ddadl ynglŷn ag a ddylid gwahardd merched tudalen 3, ac fe siaradais ynddi. Yn y bore, bu'n rhaid imi ymweld â siop bapur newydd i wneud cyfweliad â'r cyfryngau, gan fynd â dau berson ifanc ar brofiad gwaith gyda mi. Ac nid am y tro cyntaf, roeddwn yn cael mislif gwael. 'Fy oedran', meddyliais. 'Perimenopos', meddyliais. 'Rwyf yn fy 40au hwyr; dyma sut y bydd pethau am gyfnod.' Felly, ni feddyliais lawer mewn gwirionedd pam fod angen i mi newid eitemau mislif maint clustogau soffa sawl gwaith yr awr. Ni ofynnais pam fod bowlen y toiled yn edrych fel bwced cigydd. Pan oedd fy nghalon yn curo fel gordd a minnau bron â llewygu yn y lifft, barnais mai peidio â gwneud amser i fwyta a'r holl redeg o gwmpas gyda'r bobl ifanc yn eu harddegau oedd ar fai; nid anemia acíwt. Ac nid dyna'r tro cyntaf: 'Efallai y dylwn fynd at y meddyg, ond pryd a pham? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth y mae pob menyw'n mynd drwyddo ar oedran penodol.' Ond fe ddaeth yr amser y diwrnod hwnnw i wneud rhywbeth, oherwydd pan oeddwn yn sefyll yma yn y Siambr hon, yn sôn am fenywod yn cael eu trin fel gwrthrychau rhyw, roedd cynnwys fy nghroth a Duw a ŵyr beth arall yn llifo i lawr fy nghoesau ac yn cronni yn fy esgidiau.

Gofynnodd y meddyg i mi a oedd gennyf hanes o ganser yr ofari yn y teulu. Ni wnaeth hynny i mi deimlo'n llawer gwell. A sawl mis yn ddiweddarach, ar ôl mân lawdriniaeth gwbl ddigyswllt, soniodd y llawfeddyg wrthyf yn ddidaro fod gennyf endometriosis cam 4, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae'n llanastr, ac oherwydd eich oedran, mae'n debyg nad yw'n werth gwneud llawdriniaeth.' Cynnil iawn, ond cadarnhad, o leiaf, o ffynhonnell fy mhoen. Aelodau, mae'r cyflwr hwn yn gas, ac ar wahân i ymdopi â'r symptomau hyn, mae fy mhrofiad i'n dal yn gyffredin. Bydd menywod yn dweud wrthych fod y clefyd hwn yn gwneud iddynt deimlo'n fudr, yn gelgar ac yn bryderus ynglŷn â ble mae'r toiledau agosaf—mae cau toiledau'n fater ffeministaidd—mae'n cyfyngu ar eu libido ac yn difa cyfathrach, fel y nododd Angela. A bydd menywod hefyd yn dweud wrthych, er i mi ddisgrifio'r holl symptomau rwyf newydd eich dychryn chi â hwy, nad yw meddygon teulu'n meddwl am endometriosis pan fyddant yn eu clywed, a dyna'r pwynt yn ein cynnig; pwynt 2.

Byddwn hefyd yn dweud heb feirniadaeth nad oes gan arbenigwyr lawer o arfau bob amser i fynd i'r afael â'r clefyd hwn. Mae gormod nad ydynt yn ei wybod o hyd, ac fel y clywsom, nid oes llwybr ar gyfer triniaeth. Nawr, mae menywod am fod yn iach. Mae un o bob 10 ohonom yn gwthio drwy'r pethau hyn, fel y dywedodd Vikki, fis ar ôl mis, yn teimlo'n llegach, yn bodloni disgwyliadau cymdeithasol am fod siarad am y maen melin dinistriol hwn yn ormod o embaras. Weinidog, rwyf am i chi ddeall nad clefyd sinderela yw hwn; mae'n chwaer hyll iawn o glefyd—chwaer hyll go iawn—a gobeithio y bydd y ddadl hon yn dal eich sylw.

16:00

Diolch, Suzy. Y Senedd ar ei gorau, os caniateir i mi wneud sylwadau o'r Gadair. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y clywsom, mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar nifer sylweddol o fenywod. Rydym hefyd wedi clywed am yr effaith ddofn y gall ei chael ar fywydau pobl yr effeithir arnynt a'u teuluoedd, gyda'r disgrifiadau o boen acíwt a chronig, y defnydd o boenladdwyr cryf a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar orchwylion a gallu menywod i weithredu o ddydd i ddydd, gan arwain at deimlo'n ynysig a cholli rheolaeth.

Mae'n wir, fel y bu i mi gydnabod, y gall gymryd nifer sylweddol o atgyfeiriadau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd cyn y gwneir atgyfeiriad at fath priodol o driniaeth ar gyfer y cyflwr. A gall diagnosis fod yn anodd oherwydd weithiau mae'r symptomau'n amrywio, a gall fod yn debyg i amryw o gyflyrau eraill. Gall y symptomau fod yn debyg i boen a achosir gan syndrom coluddyn llidus a chlefyd llid y pelfis, er enghraifft. Yn ychwanegol, gall aelodau o'r teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol fel ei gilydd gamgymryd neu normaleiddio mislif poenus, fel y clywsom yn y ddadl heddiw, ac mae endometriosis yn aml yn fwy cyffredin o fewn yr un teulu.

Er gwaethaf ymdrechion i newid pethau, gwyddom y gall fod diffyg dealltwriaeth o endometriosis o hyd ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol, ac unwaith eto, clywsom hynny yn y ddadl heddiw. Ac yn sicr, yn fynych, nid yw'r ddarpariaeth bresennol yn cyrraedd yr hyn y dylem i gyd ei ddisgwyl. Mae hynny wedi arwain at oedi cyn cael diagnosis a gofal is na'r safon ar rai adegau, gyda'r effaith amlwg ar ansawdd bywyd y menywod yr effeithir arnynt. Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau gynaecolegol o ansawdd uchel. Mae'n hanfodol eu bod yn darparu gofal trylwyr ac effeithiol, gan gynnwys diagnosis cynharach, ar gyfer rheoli endometriosis yn unol â chanllawiau NICE.

Nawr, yn dilyn yr adroddiad blaenorol gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, sefydlasom grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gwasanaethau endometriosis yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Richard Penketh—a chyfeiriwyd at waith y grŵp hwnnw eto yn y ddadl. Roedd yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, academyddion ac yn hollbwysig, cleifion. Ystyriodd y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o ffynonellau, gan gynnwys canllawiau NICE, ymchwil a thystiolaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru, cyn cyhoeddi eu hadroddiad yn 2018. Mae canllawiau NICE yn darparu llwybr clir ar gyfer rhestru symptomau endometriosis, ac yn cyfarwyddo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â phryd y dylid atgyfeirio menywod at wasanaeth gynaecolegol ar gyfer uwchsain neu farn gynaecolegol. Ar ôl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, ysgrifennodd fy swyddogion at fyrddau iechyd yn gofyn am sicrwydd fod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â chanllawiau NICE.

Mae'n bwysig fod materion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod yn cael eu trin yn effeithiol ac yn briodol. Dyna sy'n sail i'r rheswm pam y gwneuthum gyfarwyddo'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, prif weithredwr bwrdd iechyd Bae Abertawe, i ystyried argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw, ynghyd â'i waith ar rwyll a thâp y wain. Nawr, sefydlwyd y grŵp iechyd menywod i ddarparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau dull Cymru gyfan o chwalu rhwystrau a chysylltu llwybrau ar draws ein gwasanaeth. Ac wrth gwrs, dylid rheoli iechyd menywod yn y gymuned lle bynnag y bo modd, gyda'r angen lleiaf am ymyrraeth.

Nawr, gyda'r cynnig, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal, ond mae'n gefnogol ar y cyfan i'r cynnig a'i amcan. Ac yn sicr byddwn yn parhau i weithio i wella, ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig penodol a'r geiriad ynglŷn â mwy o ymchwil i achosion a thriniaethau ar gyfer endometriosis, oherwydd, yn anffodus, nid oes gwellhad fel y cyfryw, yn ystyr arferol y gair, ac nid yw'n gyflwr y gellir ei atal. Yr hyn sy'n bwysig yw bod byrddau iechyd yn darparu model gwasanaeth sy'n ein galluogi i wneud diagnosis yn llawer cynharach ac atgyfeiriadau priodol at weithiwr iechyd a gofal proffesiynol sydd â chymwysterau addas gyda'r ystod lawn o sgiliau angenrheidiol, ymhlith pethau eraill, i allu cael gwared ar friwiau endometriosis. Dylid cyfuno hynny â chymorth rheoli poen a ffisiotherapi o ansawdd uchel i sicrhau gwell canlyniadau. 

Ar bwynt penodol Joyce Watson—a chododd eraill rai pwyntiau am yr amseroedd aros, nid yn unig yn Hywel Dda ond yn fwy cyffredinol ledled y wlad—cafodd gwaith y grŵp gweithredu ar iechyd menywod ei oedi yn sgil y pandemig COVID; bydd y grŵp gweithredu yn cyfarfod ym mis Tachwedd serch hynny i ystyried cynigion byrddau iechyd ar gyfer gwella. Felly, ni ddylai'r atebion y mae Hywel Dda a byrddau iechyd eraill yn aros amdanynt fod yn hir yn dod. 

Y llynedd, cyhoeddwyd canllawiau gennym ar fyw gyda phoen barhaus yng Nghymru. Nod y canllawiau yw rhoi cyngor i'r rhai sy'n dioddef poen yn barhaus, eu teuluoedd a'r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys camau gweithredu ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich darparwr gofal iechyd fel unigolyn sy'n byw gyda phoen. Dylai'r canllawiau hyn helpu menywod y mae endometriosis yn effeithio arnynt i reoli eu lefelau poen er mwyn gallu byw eu bywydau'n well.

Fodd bynnag, argymhellodd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ymchwil mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys datblygu offeryn effeithiol i godi ymwybyddiaeth o symptomau, gwerthuso'r prosesau dilynol ar ôl llawdriniaeth, dull amlddisgyblaethol o reoli symptomau, datblygu adnoddau addysgol, a monitro canlyniadau cleifion yn barhaus er mwyn deall a ydym yn fwy llwyddiannus. Cytunaf fod hynny'n rhywbeth y dylai'r grŵp iechyd menywod, a hefyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ei ddatblygu, i helpu i nodi'r cyllid ymchwil sydd ar gael ar gyfer cwestiynau'n ymwneud ag endometriosis. Unwaith eto, dylai'r grŵp iechyd menywod ystyried y cam gweithredu hwn drwy eu gwaith sy'n canolbwyntio'n benodol ar endometriosis.

O ran yr argymhelliad ynglŷn ag ysgolion a sicrhau bod disgyblion yn cael gwybod am iechyd mislif arferol, cytunaf â llawer o'r sylwadau a wnaed. Gan feddwl yn ôl at fy mhrofiad fy hun fel bachgen yn ei arddegau, yn tyfu i fyny ac yn mynd i'r ysgol, mewn termau mecanyddol iawn yn unig y soniwyd am hyn wrth y bechgyn. Mae canllawiau'r cwricwlwm newydd i Gymru yn glir fod tyfu i fyny'n cael effaith sylfaenol ar iechyd a lles dysgwyr. Felly, mae angen i ysgolion a lleoliadau eraill ystyried sut i gynorthwyo dysgwyr i ddeall a rheoli'r newidiadau datblygiadol hyn, yn ogystal â sut y mae'r newidiadau hynny'n effeithio ar ddysgwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd.

Mae maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn cydnabod bod amryw o gyflyrau'n effeithio ar ddysgwyr a bod angen iddynt allu eu hadnabod, eu deall a gofyn am gymorth ar eu cyfer. Yn y cwricwlwm newydd, rhoddir hyblygrwydd i ysgolion ymdrin â'r glasoed a mislif ar gam sy'n briodol yn ddatblygiadol, ac i roi gwybodaeth a hyder i ddysgwyr ofyn am gymorth a helpu i ymdopi â'r newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd drwy gydol ein bywyd. Comisiynodd y Gweinidog addysg weithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb i gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid ac addysgwyr. Mae'r grŵp hwnnw'n canolbwyntio ar ddatblygu cod addysg cydberthynas a rhywioldeb a chanllawiau ategol a fydd yn rhan o fframwaith newydd y cwricwlwm. Rwy'n disgwyl i'r grŵp hwnnw ystyried materion megis lles mislif fel rhan o'u gwaith. Mae'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod yn gweithio i gynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer mislif er mwyn paratoi pobl ifanc yn well i ddeall beth sy'n fislif arferol, a phryd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hwn yn waith pwysig ac yn cyd-fynd ag un o brif argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar endometriosis. Roedd hwnnw'n pwysleisio pwysigrwydd addysg gynnar ynghylch endometriosis a mislif. 

Nododd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen mai un ffactor allweddol sy'n achosi oedi a chanlyniadau gwael i fenywod ag endometriosis yw bod nifer sylweddol o gynaecolegwyr o'r farn nad oes ganddynt yr holl sgiliau sydd eu hangen i dynnu briwiau endometriosis. Bydd y rhan fwyaf o gynaecolegwyr yn cyflawni laparosgopi diagnostig yn lle hynny ac yna'n cynnig rheolaeth feddygol; neu fel arall, yn lleihau'r briwiau endometriosis. Mae'r dulliau hyn yn arwain at driniaethau a llawdriniaethau dro ar ôl tro. Hoffwn ailadrodd bod angen i fyrddau iechyd bwysleisio'r llwybr priodol er mwyn ei gwneud hi'n bosibl rhoi diagnosis cynnar cyn bod angen ymyrraeth arbenigol.

Rwy'n pryderu bod cyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 10 menyw yn cael ei ystyried yn rhywbeth na ellir ond ei drin gan arbenigwyr. Rwy'n disgwyl i'r grŵp iechyd menywod ystyried y mater hwn, ynghyd â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i drafod y lefel briodol o hyfforddiant a ddarperir i gynaecolegwyr i'w galluogi i ddarparu'r ymyrraeth angenrheidiol i fenyw ag endometriosis cynnar. Ni ddylai fod angen arbenigwyr ac eithrio pan fydd y clefyd wedi datblygu'n rhy bell ac wedi mynd yn fwy cymhleth. Byddaf yn ysgrifennu at y byrddau iechyd i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau, ac i ofyn am sicrwydd pellach y bydd gwasanaethau gynaecolegol yn cynnig yr ystod lawn o driniaethau sydd eu hangen ar eu poblogaeth.

I gloi, rwyf am ailddatgan fy ymrwymiad, ac ymrwymiad y Llywodraeth, i bob agwedd ar iechyd menywod, ac yn arbennig i ofalu am y menywod y mae endometriosis yn effeithio ar eu bywydau, a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Fel rwyf wedi amlinellu, rydym yn gweithio i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth o'r mislif ymhlith pobl ifanc, ac i alluogi merched i ofyn am gyngor meddygol pan fo angen ac ar y cam cynharaf posibl. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer, a darparu'r ystod lawn o wasanaethau gynaecolegol sydd eu hangen i gydymffurfio â chanllawiau NICE. Wrth orffen, rwyf am ddweud hyn: pe bai'r un nifer o ddynion yn byw gyda'r un anghysur y mae endometriosis yn ei achosi, ni chredaf y byddai ymateb y gwasanaeth iechyd yn galw am y gwelliant pellach heddiw, ac mae'n amlwg fod galw amdano o hyd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ystod y tair blynedd diwethaf, ond mae gennym lawer mwy i'w wneud.

16:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i Jenny Randerson, fel y mae llawer o rai eraill wedi dweud eisoes, am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn—[Torri ar draws.] Rathbone—rwyf wedi disgyn i ryw fath o ystumdro amser. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf wedi drysu fy Jennys. Ymddiheuriadau. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Jenny am gyflwyno hyn ac i bawb sydd wedi'i gefnogi. Mae hwn yn fater mor bwysig ac rydym wedi cael cynifer o gyfraniadau gwirioneddol bwysig heddiw.

Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau sydd wedi'u codi, ond gobeithio y bydd pobl yn maddau i mi os dechreuaf gyda Suzy Davies, oherwydd credaf fod y lefel honno o onestrwydd a didwylledd ynglŷn â sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar ein bywydau mor bwysig. A phan fydd menywod fel ni, sydd â rolau mewn bywyd cyhoeddus, sy'n cael eu gweld, efallai, yn llwyddiannus ac yn hyderus—os siaradwn yn agored am effaith y mathau hyn o faterion arnom, bydd yn codi ymwybyddiaeth a bydd yn helpu i rymuso menywod eraill i godi'r materion yn eu bywydau eu hunain. Felly, yn bersonol rwy'n ddiolchgar iawn i Suzy am fod mor agored a gonest gyda ni heddiw. Credaf eich bod yn iawn i ddweud, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod hon yn enghraifft o'r Senedd ar ei gorau.

Codwyd cynifer o faterion: effaith—a soniodd Angela am hyn—yr artaith gorfforol, a soniodd llawer o bobl eraill am hynny; yr effaith ar ein bywydau. Pwynt Joyce Watson am yr effaith ar fywydau gwaith menywod a'r effaith economaidd hirdymor y gall hynny ei chael dros oes gyfan, ac mae eraill wedi nodi hynny.

Dechreuodd Jenny, wrth gwrs, drwy siarad am bwysigrwydd ymwybyddiaeth, ac mae ein cynnig yn glir iawn ynglŷn â hynny. A chyn imi sôn am eraill, hoffwn ddod yn ôl, os caf, at rai o sylwadau'r Gweinidog. Nawr, mae'n dda iawn ei fod wedi cydnabod y problemau gyda nifer yr atgyfeiriadau a'r amser y mae'n ei gymryd, ac mae'n pwysleisio cyfrifoldebau'r byrddau iechyd lleol, ac mae hynny'n wir wrth gwrs. Ond rwy'n falch o'i glywed yn ymrwymo heddiw i ysgrifennu at y byrddau iechyd unwaith eto, oherwydd beth bynnag sydd eisoes wedi'i ddweud, mae'n amlwg nad yw'r neges yn cael ei chlywed. Mae'n dweud wrthym fod canllawiau NICE yn rhoi llwybr clir. Wel, rydym wedi clywed gan Dr Dai Lloyd nad yw hwnnw'n llwybr roedd ef, fel meddyg teulu, yn ymwybodol ohono ac yn gallu gweithio gydag ef a chyflawni. Felly, mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud yno o ran ymwybyddiaeth o'r llwybr hwnnw. A byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog efallai y gallai ofyn i'r grŵp iechyd menywod archwilio'r llwybr hwnnw a gweld a yw'n addas i'r diben yma yng Nghymru, neu a oes pethau eraill y mae angen eu gwneud.

Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth yn gefnogol ar y cyfan ac yn deall mai'r hyn sy'n arferol iddynt yw ymatal, ond cefais fy siomi braidd gan yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ymchwil, oherwydd mae'n amlwg fod angen mwy o ymchwil a chyfeiriodd at hynny'n ddiweddarach yn y cyfraniad hwn. Ac mae'n dweud nad oes gwellhad yn awr. Wel, wrth gwrs nad oes gwellhad yn awr. Wyddoch chi, ddegawdau'n ôl, nid oedd gwellhad i bob math o afiechydon y gallwn eu gwella bellach. Ac mae hyn yn dod yn ôl at y pwynt y mae llawer o siaradwyr wedi'i wneud, a chyfeiriodd y Gweinidog ato ei hun yn wir: pe bai hwn yn afiechyd sy'n effeithio ar ddynion ac yn gwanychu dynion yn y ffordd y mae'n effeithio ar fenywod ac yn eu gwanychu, byddem wedi cael yr ymchwil a byddem wedi cael gwellhad.

Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y canllawiau ar fyw gyda phoen. Wel, rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog heddiw nad yw menywod sy'n dioddef o'r cyflwr hwn am i'w poen gael ei reoli, maent am iddo ddiflannu. Ac mae arnom wir angen mwy o ymchwil i'n galluogi—. Oherwydd bydd achos ffisiolegol dros hyn a lle ceir achos ffisiolegol, bydd gallu i ymyrryd. A dywedodd y Gweinidog ei hun pe bai hwn yn gyflwr roedd dynion yn dioddef ohono, byddai rhywbeth wedi'i wneud. Wel, mae angen yr ymchwil i gael hynny wedi'i wneud, ac nid dim ond ymchwil i reoli poen sydd ei hangen arnom, er bod hynny'n bwysig ynddo'i hun.

Cynifer o gyfraniadau pwerus iawn—Vikki Howells yn sôn am faint y broblem; Angela Burns, fel y dywedais, yn sôn am y ffordd y mae'n effeithio ar fywydau menywod; Joyce unwaith eto'n tynnu sylw at ryw fath o brofiadau teuluol, y caledi ariannol. Mae cynifer o negeseuon pwysig yn dod allan o'r ddadl heddiw. Rwy'n falch o gymryd o gyfraniad y Gweinidog ei fod yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho'n glir iawn yw y bydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod yn mynd ar drywydd hyn. Byddwn yn cadw llygad ar yr ymrwymiadau y mae wedi'u gwneud, a lle teimlwn fod angen iddo fynd ychydig ymhellach, byddwn yn ei wthio. Oherwydd fel rydym wedi clywed yng nghyfraniad Suzy ac fel y gwn o brofiadau cyfaill agos iawn i mi, nid yw hwn yn gyflwr y dylid gofyn i fenywod fyw gydag ef. Mae arnom angen gwellhad.

16:20

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid yw eitem 6: ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7426 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle i agor y ddadl yma heddiw mewn perthynas, wrth gwrs, â'n hymchwiliad ni i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad ni, ac, wrth gwrs, i'r Gweinidog hefyd am ei hymateb i'n hadroddiad ni.

Nawr, mi roddodd Deddf Cymru 2014 bwerau, wrth gwrs, i'r Senedd yma dros dreth dir y doll stamp a'r dreth dirlenwi, y pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru hyd at 10 y cant, yn ogystal â darparu pwerau benthyca ehangach i Lywodraeth Cymru a phwerau newydd iddi fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Bryd hynny, bu'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu proses newydd ar gyfer y gyllideb a oedd yn ystyried y ffordd orau i newid proses y gyllideb bryd hynny i ddarparu ar gyfer y pwerau newydd. Nawr, gan fod chwe blynedd bellach wedi mynd heibio ers hynny a chan fod ein Senedd wedi esblygu yn y cyfamser, mi oeddem ni fel pwyllgor yn teimlo ei bod hi'n bryd inni gynnal ymchwiliad er mwyn penderfynu a oes angen i'r Senedd symud yn awr i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb.

Nawr, yn sgil pandemig byd-eang COVID-19, fe gafodd y gwaith ar yr ymchwiliad hwn ei atal, ac fe gafodd ein sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid ei gohirio. Yn dilyn hynny, fe ddarparodd y Gweinidog dystiolaeth ysgrifenedig i ni, ac rŷn ni'n ddiolchgar iddi am y wybodaeth honno. Gan mai mater i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru fydd bwrw ymlaen â'r gwaith a'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, fe benderfynodd y pwyllgor gyhoeddi ein hadroddiad yn hytrach na chymryd tystiolaeth lafar gan y Gweinidog. Rŷn ni wedi cyhoeddi 20 casgliad lefel uchel, a'n gobaith ni yw y bydd y casgliadau hyn yn sail i unrhyw waith yn y dyfodol ar y broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. O ystyried yr amser sydd ar gael heddiw, mi fyddaf i, yn fy sylwadau, yn canolbwyntio ar y prif faterion.

Ein casgliad cyntaf yw ein bod yn credu, fel pwynt o egwyddor, y dylid cael deddfwriaeth flynyddol i basio cyllideb Llywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu dylanwadu'n effeithiol ar y Weithrediaeth.

Dechreuodd ein gwaith ar gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn gydag ymweliad â'r Alban, lle cynhaliwyd sesiynau ffurfiol gyda chynrychiolwyr o grŵp adolygu prosesau cyllideb yr Alban, grŵp a sefydlwyd i adolygu proses gyllideb yr Alban yn sylfaenol. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Senedd yr Alban, Llywodraeth yr Alban ac wyth arbenigwr allanol. Mae'r pwyllgor yn nodi y dylai unrhyw broses gyllidebol newydd gynnwys tair prif elfen: yn gyntaf oll, cymeradwyo trethi; yn ail, cymeradwyo'r cyflenwad cyllid i Lywodraeth Cymru; ac yn drydydd, cymeradwyo gwariant cyhoeddus, fel y nodir yng nghynigion cyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae ein casgliadau 3 i 5 yn ein hadroddiad yn cydnabod y bydd angen cyflwyno deddfwriaeth, gan nodi'r rheolau ar gyfer gwario arian, gofynion atebolrwydd, atebolrwydd swyddogion a threfniadau archwilio. Nawr, fel pwyllgor, credwn yn gryf y bydd proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn adlewyrchu aeddfedrwydd y Senedd yn well a'r egwyddor o gydbwyso rheolaeth yn deg rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth. Rhaid i unrhyw broses newydd sicrhau bod egwyddorion symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd wrth wraidd ei datblygiad.

Un o'n prif ystyriaethau oedd a ddylid cael Bil cyllideb neu Fil cyllid. Byddai Bil cyllideb blynyddol yn awdurdodi gwariant, tra byddai cynigion treth yn cael eu cytuno gan benderfyniadau treth. Gallai Bil cyllid mwy cynhwysfawr gwmpasu'r holl benderfyniadau gosod treth, fel sy'n wir yn San Steffan wrth gwrs.

Mae ein casgliadau 6 a 7 yn manylu ar y ffaith ein bod yn credu bod angen ystyriaeth bellach i ganfod ai Bil cyllideb neu Fil cyllid sy'n fwyaf addas ar gyfer awdurdodi cynlluniau gwariant a threthiant Cymru, a sut y mae penderfyniadau treth yn gweddu i broses o'r fath.

Nawr, er ein bod yn credu'n gryf y dylai ein cyllideb gael ei hymgorffori mewn deddfwriaeth, rydym hefyd yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn unrhyw broses, oherwydd ansefydlogrwydd cyllid cyhoeddus ar lefel ddatganoledig. Ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon, a'r nesaf, rydym yn profi'r ansefydlogrwydd hwn, wrth gwrs. Mae system y DU yn parhau i fod yn ganolog iawn, gyda chyhoeddiadau a rhagolygon cyllid hwyr y DU yn effeithio ar y grant bloc, a Thrysorlys y DU yn cadw cryn reolaeth ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu cyllidebu. Rydym yn cydnabod y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd ar unrhyw system newydd i ddarparu ar gyfer oedi ar lefel y DU, heb roi gormod o bwysau ar Gyfarfod Llawn neu system bwyllgorau'r Senedd. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn cytuno bod angen i unrhyw broses gael hyblygrwydd i ymdopi ag unrhyw ansicrwydd yn amserlen y DU ar gyfer digwyddiadau cyllidol.

Un o brif egwyddorion proses bresennol y gyllideb oedd sicrhau hysbysiad cyllid cynnar i'r rhai sy'n dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru. Rydym wedi parhau i ystyried pwysigrwydd sicrwydd cyllid cynnar i'r GIG, llywodraeth leol a phartneriaid cyflenwi eraill, fel y trydydd sector. Fel y cyfryw, mae'r pwyllgor yn cydnabod y byddai angen i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb ystyried pa bryd y gellir rhoi'r sicrwydd hwnnw o gyllid.

Mae'r casgliadau rwyf wedi'u crynhoi yma heddiw a'r gweddill yn ein hadroddiad oll yn arwain at y prif gasgliad y dylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn Fil, ac yn Fil a gaiff ei basio gennym ni, Aelodau'r Senedd hon. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith i symud at broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, ac y dylai grŵp annibynnol yma yng Nghymru gyflawni'r gwaith. Credwn y dylai'r grŵp hwn ystyried nifer o gwestiynau, gan gynnwys yn benodol, wrth gwrs, ai cyllideb flynyddol neu Fil cyllid sy'n fwyaf addas ar gyfer awdurdodi cynlluniau gwariant a threthiant Cymru, a hefyd, sut y bydd gwaith modelu a rhagolygon annibynnol Llywodraeth Cymru yn cael eu datblygu'n rhan o'r broses honno.

Credwn fod y dull gweithredu ar y cyd a rennir yn yr Alban wedi gweithio'n dda a chredwn fod angen dull tebyg yng Nghymru i wneud argymhellion ar sut i addasu proses y gyllideb i adlewyrchu'r setliad datganoli presennol a sut y gallai hyn fod yn rhan o broses y gyllideb ddeddfwriaethol. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried sefydlu corff ar y cyd o'r Llywodraeth a'r Senedd, gydag arbenigwyr annibynnol gwadd, i adolygu proses y gyllideb. Gyda'r geiriau hynny, edrychaf ymlaen at glywed Aelodau eraill ac at gyfraniad y Gweinidog i'r ddadl hon wrth gwrs. Diolch.

16:25

Efallai nad yw ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i weld a ddylem gael proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn destun sgwrs yn nhafarndai a chlybiau Cymru, ond mae'n fater roeddem ni fel pwyllgor yn ei ystyried o gryn ddiddordeb o ran gweithrediad llyfn y lle hwn yn y dyfodol. Rwy'n credu y dylid rhoi clod arbennig i Alun Davies, sydd wedi bod yn codi llais o blaid hyn ers ymhell cyn bod y gweddill ohonom, a minnau hefyd, wedi clywed amdano hyd yn oed, ac mae wedi glynu at yr angen am Fil cyllid, hyd yn oed pan ymddangosai, ar adegau, yn rhy anodd i'w gyflawni ac ymhell o fod yn flaenoriaeth.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae pwerau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n ddramatig, gyda datganoli ystod o drethi—treth stamp, treth tirlenwi ac wrth gwrs, cyfradd treth incwm Cymru, yn ogystal â phwerau benthyca. Y cwestiwn roeddem ni fel pwyllgor am ei ateb oedd, 'A yw'r amser wedi dod i hyn gael ei gynnwys yn awr mewn proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb?' Ond beth a olygwn wrth hynny? Wel, yn syml, mae'n golygu rhoi mwy o lais i'r ddeddfwrfa yn y broses o osod y gyllideb. Gall ddod ar wahanol ffurfiau ac mae'n gwneud hynny ym mhob cwr o'r byd, ond byddai bron yn sicr yn cynnwys Bil cyllideb neu Fil cyllid blynyddol mwy cynhwysfawr a fyddai'n galw am gydsyniad y Senedd i gynigion treth a gwariant Llywodraeth Cymru.

Nawr, wrth gwrs, nid oes yr un Llywodraeth yn hoffi cael ei chyfyngu'n ormodol a chael lle ariannol cyfyngedig i symud pan fydd yr annisgwyl yn digwydd. Mae hynny'n ddealladwy. Byddai'n rhaid i'r broses newydd barchu angen Llywodraeth Cymru i allu gweithredu'n gyflym ac yn bendant ar yr adegau pan fo angen gwneud hynny. Mae Llywodraeth sefydlog yn mynnu hynny. Fodd bynnag, mae angen mecanwaith i graffu ar y penderfyniadau hyn wedyn o fewn amserlen benodol ac mewn ffordd strwythuredig wedi'i phennu ymlaen llaw sy'n tawelu meddyliau'r etholwyr, a ninnau yn y Siambr hon yn wir.

Fel yr esbonia pennod 4, mae'r term 'cyfraith system cyllideb' yn disgrifio ystod o offerynnau cyfreithiol ar draws y byd i godio rheolau ar gyfer llunio, gweithredu ac adrodd ar gyllideb flynyddol. Daeth y pwyllgor i'r casgliad y dylai fod tair elfen wahanol i unrhyw fersiwn o hyn yng Nghymru: cymeradwyo trethi, cymeradwyo'r cyflenwad cyllid i Lywodraeth Cymru a chymeradwyo cynigion gwariant cyhoeddus.

Dywedodd y Gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, fod y diwrnod yn dod ar gyfer cael Bil cyllid, ond dylem fod yn bragmatig yn ei gylch. Dywed rhai nad oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau cyllidol eto i gyfiawnhau Bil cyllid, gyda'r holl waith y byddai galw amdano, ac nad yw'r amser yn iawn. Rwy'n anghytuno â hyn. Pan fydd pobl yn dweud nad yw'r amser yn iawn, yn rhy aml yr hyn a olygant yw na fydd yr amser byth yn iawn. Wel, rwy'n rhoi fy marn, ac rwy'n dweud fy mod yn credu bod yr amser yn iawn ar gyfer proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, Bil cyllid os oes modd, a chredaf fod yr ystod gyfyngedig o bwerau cyllidol ar hyn o bryd yn fantais, nid yn rhwystr. Gadewch inni brofi peirianwaith y broses ddeddfwriaethol, fel petai, yn awr, cyn datganoli mwy o bwerau treth. Credaf fod yr achos dros ddull deddfwriaethol o weithredu a Bil cyllid yn tyfu'n anochel, ac mae hyn yn dod fwyfwy'n fater o ddemocratiaeth yn gymaint â mater cyllidebu. Mae arnom angen deddfwriaeth sy'n nodi'r rheolau ar gyfer gwario arian, gofynion atebolrwydd, atebolrwydd swyddogion a threfniadau archwilio.

Gan droi at gasgliadau ein hadroddiad—ac mae llawer ohonynt, felly fe fyddaf yn ddetholus—ein casgliad cyntaf oedd bod angen i'r Senedd gael mwy o ddylanwad dros y Weithrediaeth nag sydd ganddi ar hyn o bryd i fodloni'r angen am fwy o atebolrwydd y mae'r pwerau trethu newydd yn galw amdano. Ein hail gasgliad yw y dylem ddilyn esiampl yr Alban a sefydlu grŵp annibynnol i ddatblygu'r broses hon ac edrych yn fanwl ar rai cwestiynau allweddol, megis: a oes angen Bil cyllid? Sut y mae gallu Llywodraeth Cymru i lunio rhagamcanion yn cydweddu â hyn? A sut y mae ymgysylltu'n well â'r cyhoedd yn y broses o osod y gyllideb?

A gaf fi ddweud hefyd fy mod, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn falch o gynnwys casgliad 9, sy'n gweld Archwilio Cymru fel rhanddeiliad o arwyddocâd arbennig? Mae gan Archwilio Cymru ehangder o brofiad y gall ei gyfrannu i'r broses o osod y gyllideb, ond mae'n bwysig bod ei rolau yn cymeradwyo gwariant cyhoeddus a monitro cyfrifon yn cael eu cadw ar wahân. Dywedodd Audit Scotland wrthym fod gan yr Alban broses ddeddfwriaethol wedi'i haddasu ar gyfer y gyllideb, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd rhoi digon o amser i lunio cyllideb. Felly, ni ddylid defnyddio dadleuon am gyflymder yn erbyn y syniad hwn.

Mae casgliad 4 yn sôn am aeddfedrwydd, ac mae hon yn agwedd bwysig ar y ddadl hon. Mae angen cydbwysedd teg rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth, a bydd hyn yn cryfhau rolau Llywodraeth Cymru a'r Senedd, yn hytrach na'u gwanhau.

Felly, i gloi, Gadeirydd, credwn fod y dull a fabwysiadir yn yr Alban yn werth ei ddilyn, lle mae arbenigwyr a rhanddeiliaid yn dod at ei gilydd i gytuno ar ffordd ymlaen sy'n diwallu anghenion pawb gan gadw symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â datganoli'n tyfu i fyny. Rydym bellach yn eistedd mewn Senedd mewn enw yn ogystal â rôl, ac mae'n bryd i'r broses yma ddechrau adlewyrchu hynny'n well. I mi, nid yw'n fater bellach o weld a ddylem gael proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, ond pa bryd y cawn broses o'r fath. Gadewch inni fwrw ymlaen â hynny.

16:30

Diolch i Nick Ramsay am ei araith ac i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael yr adroddiad hwn fel Pwyllgor Cyllid, ac roeddwn yn teimlo fod cymryd y dystiolaeth ac ystyried a holi'r tystion a gawsom yn werthfawr iawn. Fel Nick Ramsay, hoffwn ddiolch i Alun Davies am wthio'r syniad hwn. Nid wyf yn cytuno'n aml ag Alun ar faterion, ond rwy'n meddwl o leiaf mewn egwyddor ac yn ddamcaniaethol fod ei bwyntiau'n rymus ac yn argyhoeddiadol ynghylch proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb.

Er fy mod wedi eistedd ar bwyllgorau cyllideb neu bwyllgorau archwilio mewn awdurdod heddlu ac mewn cyngor, ac wedi gwneud rhywfaint o waith cyllidebol mewn cyd-destun preifat, un her a wynebais oedd bod llawer o fy rhagdybiaethau ynglŷn â beth yw proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, neu beth fyddai proses o'r fath, wedi cael eu dylanwadu gan fy aelodaeth yn y gorffennol o Dŷ'r Cyffredin a chan ragdybio bod y ffordd y maent yn gwneud pethau yno rywsut yn normal. Credaf fod y broses hon, ac edrych ar wledydd—yr Alban, ond hefyd enghreifftiau rhyngwladol—wedi fy helpu i ddeall yn well, ar sail egwyddor ac o'r gwaelod i fyny, beth yw Bil cyllideb, beth yw Bil cyllid, beth yw'r gwahanol ffyrdd o wneud hyn, ac yn arbennig, pa mor anarferol yw San Steffan yn ei ddull o weithredu.

Felly, yn gyffredinol, caf fy argyhoeddi gan y dadleuon dros basio deddf ar gyfer treth. Nid wyf yn gwybod faint o hynny sy'n deillio o'r ffaith fy mod wedi arfer â phroses y Bil cyllid yn Nhŷ'r Cyffredin, a chael y sail honno lle mae gennych Fil cyllid blynyddol ar gyfer trethi a  lefel briodol o graffu. Mae'r broses ddeddfwriaethol flynyddol honno'n fy nharo fel un sy'n gweithio'n dda, ond wedyn, ar yr ochr wario, mae'r gymhariaeth â San Steffan yn llawer llai calonogol, a rhoddodd Senedd a ddaeth i fodolaeth i reoli gwariant y gorau i'r pŵer hwnnw yn y 1930au, ac nid oes unrhyw bleidleisiau na chraffu o gwbl mewn gwirionedd yn y broses honno yn San Steffan. Ceir diwrnodau tri amcangyfrif, a arferai ymwneud â beth oedd amcangyfrifon adrannol a chraffu arnynt a'u cymeradwyo, ond o tua'r 1930au ymlaen, daethant i fod ar gyfer pwyllgorau dethol—wel, daethant i ben ac yna roeddent yn bethau yn adroddiadau'r pwyllgor dethol yn lle hynny. Felly, nid wyf yn meddwl bod gennym unrhyw beth mewn gwirionedd i'w ddysgu o broses San Steffan mewn perthynas â gwariant, ac rwy'n meddwl yn amlwg ar yr ochr honno fod y broses sydd gennym (a) yn well, a (b) wedi gwella yn ystod fy amser yn y Cynulliad a'r Senedd erbyn hyn. Credaf ein bod yn cael mwy o fanylder gan Weinidogion, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny.

Ac rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro, oherwydd rwy'n credu y bydd Llywodraeth a Gweinidogion yn mynd i fod eisiau dangos yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a dweud wrth bobl am arian ychwanegol y maent yn ei gael a gwerthu stori newyddion dda, ac i'r graddau eu bod yn eiriolwyr dros hynny ym mhroses y gyllideb, rwy'n gweld hynny ychydig yn heriol, oherwydd hefyd rwy'n credu ein bod yn dibynnu ar Weinidogion i osod ac egluro drwy eu sylwadau cyhoeddus—y rhai i bwyllgorau, ond hefyd y dogfennau a roddant—beth sy'n digwydd go iawn i'r gyllideb mewn ystyr wrthrychol er mwyn caniatáu i bobl wneud cymariaethau a'i gwestiynu. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o densiwn rhwng y math hwnnw o eiriolaeth i ddull gweithredu penodol a helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd gyda'r hyn sy'n aml yn set gymhleth iawn o ryngweithiadau polisi. 

Dywedodd ateb y Llywodraeth fod y broses bresennol

'yn darparu i'r Senedd gynnig diwygiadau ar ôl gosod y gyllideb ddrafft sy'n cyfateb i'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer Cyllideb yr Alban'

a byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau'r Cadeirydd ar hynny os daw'n ôl ar y diwedd. A yw'n cytuno â'r datganiad hwnnw? Oherwydd roeddwn wedi deall pan oeddem yn gwneud hyn ein bod yn chwilio am broses ddeddfwriaethol, a gwelem un yr Alban felly, ond mae'n ymddangos i mi bron fod y Llywodraeth yn dweud wrthym fod hynny gennym eisoes, ac nid wyf yn credu mai dyna oedd dealltwriaeth y pwyllgor. Yn yr un modd, soniodd y Cadeirydd am Fil cyllideb neu Fil cyllid—yn gysyniadol, oni allem gael y ddau, boed ar wahân neu wedi'u cyfuno? Nid oes angen iddo olygu'r naill neu'r llall.

Gwrandewais ar Nick Ramsay wedyn a'r hyn a ddywedai ac er fy mod yn credu bod dadleuon damcaniaethol cryf dros weld deddfwrfa, senedd, yn cael proses ddeddfwriaethol ar gyfer cyllideb, fy hun nid wyf wedi fy argyhoeddi bod graddau'r pwerau codi trethi sydd gennym yn ddigon eto i gyfiawnhau hynny, ac mewn egwyddor rwy'n gwrthwynebu cael y pwerau codi trethi hynny heb y refferendwm a addawyd, heb sôn am ragor. Felly, am y rheswm hwnnw, rwy'n dal yn ôl rhag ymuno â'r ymgyrch i wthio'n gryf am hyn, er ei fod yn adroddiad y cytunais arno oherwydd fy mod yn credu bod rhai o'r dadleuon mewn egwyddor wedi'u gwneud yn dda. 

Rwy'n credu hefyd ei bod yn dda iawn ein bod yn mynd i gael corff ar y cyd, gydag arbenigwyr hefyd i helpu i ystyried y broses hon ymhellach. Mae'n gymhleth iawn, a chredaf fod graddau da o ymgysylltiad rhwng y Llywodraeth a'r Pwyllgor Cyllid, yn enwedig o ystyried pwysau eraill a wynebwyd, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â hyn a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i Aelodau eraill gael yr adroddiad hwn a'r ddadl hon. Diolch.

16:35

Diolch. Nid yw'n ymddangos bod gennyf unrhyw Aelodau eraill yn ceisio tynnu fy sylw. A, oes mae. Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Synnais wrth glywed Nick Ramsay a Mark Reckless yn cyfeirio at fy eiriolaeth i broses ddeddfwriaethol. Mae fy nodiadau fy hun yma'n dweud fy mod wedi dod at hyn heb fod ag unrhyw ragdybiaethau nac ymagwedd egwyddorol ar y cychwyn, dim ond gwrando ar y dystiolaeth. Efallai i mi wrando, sut y gallaf ddweud, ychydig yn fwy gweithredol nag y tybiwn. 

Mewn sawl ffordd, mwynheais yr ymchwiliad, mwynheais yr adroddiad, mwynheais y ddadl a'r sgyrsiau a gawsom fel pwyllgor rhyngom ein gilydd a'r rhai a roddodd dystiolaeth. Ac mewn sawl ffordd, teimlwn fod yr adroddiad hwn a'r ddadl hon yn mynd at wraidd ein rôl fel deddfwrfa ac fel Senedd. Mae'n iawn ac yn briodol, wrth gwrs, fod gan y Llywodraeth hawl i'w busnes a'i chyllideb. Mae gan y Llywodraeth hyder y Senedd ac mae ganddi hawl i'w busnes, ac mae hynny'n cynnwys ei chyllideb. Ond mae gennym hawl hefyd fel seneddwyr i graffu ar y gyllideb honno ac i graffu ar benderfyniadau gwario a threthiant Gweinidogion a'u herio. Rwy'n cydnabod grym y pwynt a wnaeth Mark Reckless am ystod y pwerau hynny, ond os yw Llywodraeth yn dymuno fy nhrethu, boed yn geiniog neu'n bunt, byddwn yn dweud yn glir iawn y byddwn yn rhagweld ac yn disgwyl y byddai fy nghynrychiolwyr etholedig yn herio'r Gweinidog hwnnw a herio'r Llywodraeth honno ynglŷn â beth y mae angen y cyllid hwnnw ar ei gyfer a sut y caiff ei wario. A byddwn yn sicr yn rhagweld y bydd unrhyw Senedd yn cyflawni'r rôl honno. 

Ond mewn gwirionedd, mae'r ddadl hon yn mynd at wraidd y ddau hanfod: hawl Llywodraeth i'w busnes a hawl y ddeddfwrfa i graffu arni. Cefais fy argyhoeddi, yn ystod y sgyrsiau ac yn ystod yr ymchwiliad, nad ydym wedi cael y cydbwysedd hwnnw yn y lle iawn heddiw. Mewn sawl ffordd, mae'r ffordd rydym yn trafod ac yn dadlau am ein cyllideb yn rhywbeth a adawyd ar ôl o hen ddyddiau datganoli gweinyddol a hen ddyddiau corff corfforaethol. Nid yw'n adlewyrchu realiti democratiaeth seneddol heddiw, ac mae'n debyg mai dyma'r elfen olaf yn y jig-so penodol hwnnw sydd angen inni ei rhoi ar waith.

Darllenais ymateb y Gweinidog a chydnabod yr hyn a oedd yn cael ei ddweud—'nid oes gennym wrthwynebiad egwyddorol ond efallai ddim eto'—ac rwy'n derbyn hynny, rwy'n deall hynny, ond os nad yn awr, pryd? Rwy'n credu na allwn gael y dadleuon hyn yn barhaus heb ddod i gasgliad a sicrhau ein bod yn gallu symud ymlaen. Fel Mark Reckless, rwy'n pryderu am brosesau San Steffan, a chytunaf ag ef nad ydynt yn ddigonol, na ddylem geisio efelychu'r rheini yma, ond credaf fod gennym rywbeth i'w ddysgu gan ein cyfeillion yn yr Alban, a chredaf fod enghreifftiau rhyngwladol eraill i'w cael lle gallwn ddysgu'r gwersi hynny hefyd. Credaf fod proses ddeddfwriaethol yn darparu'r gwaith craffu ar gyfer y Senedd, ond hefyd yr estyniad angenrheidiol i Weinidogion. A chredaf fod angen inni brofi Gweinidogion mewn ffordd sy'n fwy trylwyr nag a wnawn ar hyn o bryd, a chredaf fod y broses ddeddfwriaethol yn darparu ar gyfer y prawf digonol hwnnw a'r craffu hwnnw nad yw'n bodoli ar hyn o bryd. 

Ond rwy'n cloi, Lywydd dros dro, gyda hyn: mae angen diwygio ein systemau, ond rwy'n cydnabod ein bod ni, o fewn ein systemau—[Anghlywadwy.]—o fewn system yn y DU sydd ei hun wedi torri. Mae'r ffordd y gwneir penderfyniadau gan y Trysorlys, y ffordd y gwneir penderfyniadau gan system San Steffan, yn golygu ein bod yn barhaus yn rhedeg ac yn mynd ar drywydd penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill, ac mae angen i hynny ddod i ben ac mae angen diwygio hynny. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw, edrych yn galed ar ein prosesau yma yn ein democratiaeth ein hunain, ond ei bod hefyd yn gallu cael sgwrs fwy dwys am strwythurau ariannol ehangach y Deyrnas Unedig, oherwydd mae angen eu diwygio yn yr un modd. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ffurfio rhyw fath o gytundeb rhwng y lle hwn a'r Llywodraeth—os nad heddiw, yna dros y misoedd nesaf—ac y bydd yr Aelodau hynny a etholir fis Mai nesaf yn gallu bwrw ymlaen â hynny a chwblhau'r diwygio mawr ei angen. 

16:40

Diolch. Nid wyf yn credu bod gennyf unrhyw Aelodau eraill yn ceisio tynnu fy sylw, felly rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. Mae wedi rhoi cyfle gwerthfawr iawn i fyfyrio ar y newidiadau i broses y gyllideb yn ystod y weinyddiaeth hon, ac mae hefyd wedi dangos sut y mae'r gwaith da rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Cyllid dros flynyddoedd lawer wedi gwella proses y gyllideb yng Nghymru. 

Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r cynnydd yng nghyfrifoldebau cyllidol y Senedd dros dymor y Senedd hon. Y mwyaf arwyddocaol o'r rhain oedd datganoli pwerau treth, a arweiniodd at brotocol y broses gyllidebol y cytunwyd arno ar y cyd yn 2017. Fel rhan o'r ddadl hon, mae'n iawn hefyd ein bod yn ystyried addasrwydd y trefniadau presennol, yn enwedig o ystyried y ffordd y mae angen i'r prosesau hyn ymateb i'r amgylchiadau sydd wedi effeithio ar ein paratoadau ar gyfer y gyllideb yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Cyn i mi ymateb i'r pwyntiau am ddeddfwriaeth, rwyf am ganolbwyntio ar hyblygrwydd, oherwydd mae hyblygrwydd yn ofyniad pwysig ar gyfer proses gyllidebol. Mae'n adlewyrchiad cadarnhaol o'n dull presennol o weithredu fod ein protocol 2017 y cytunwyd arno ar y cyd, er gwaethaf yr amgylchiadau digynsail, wedi rhoi digon o hyblygrwydd i ni. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau nad yw'r cyfnod craffu cynyddol a gyflwynwyd gan y protocol—o bum wythnos i wyth wythnos—wedi'i beryglu'n ormodol, er gwaethaf yr amgylchiadau sydd wedi effeithio ar ein paratoadau. 

Mewn cyferbyniad, mae proses ddeddfwriaethol yn cyflwyno cyfyngiadau amser ychwanegol, a allai effeithio ar hyblygrwydd a chraffu. O gofio bod Cymru a'r Alban ill dwy wedi wynebu'r un amgylchiadau, darllenais gyda diddordeb yr asesiad o'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer cyllideb yr Alban a byddwn yn dadlau bod ein protocol wedi darparu galluoedd cyfatebol i ymateb heb fod angen deddfwriaeth. Mae'n iawn, fodd bynnag, wrth i ni barhau â'r daith ddatganoli a cheisio mwy o gyfrifoldebau cyllidol, y dylem hefyd ystyried rôl bosibl deddfwriaeth megis Bil cyllideb neu Fil cyllid mwy cynhwysfawr.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio deddfwriaeth lle mae'n amlwg fod angen gwneud hynny. Rydym yn datblygu deddfwriaeth treth ar hyn o bryd i sicrhau bod gennym fecanwaith ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru ar fyr rybudd yn ôl y gofyn, tra'n caniatáu i'r Senedd graffu'n briodol. Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ystyriaeth o broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn erbyn yr anfanteision posibl, ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid fod angen archwilio'r risgiau hyn yn llawn er mwyn sicrhau nad ydym yn cael effaith andwyol ar ein gallu i roi sicrwydd ariannol i bartneriaid ac i randdeiliaid.

Ochr yn ochr â chraffu, rwy'n cydnabod pwysigrwydd galluogi'r Senedd i gael cyfle i ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau'r gyllideb yn gynharach yn y broses. Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau a gyflawnwyd heb fod angen deddfwriaeth, ac mae hyn yn cynnwys y cytundeb i gael dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf i ddylanwadu ar ein paratoadau cynnar, a byddwn yn croesawu trafodaethau pellach ar ba welliannau eraill y gellir eu gwneud i'n dull presennol.

Rydym hefyd wedi parhau i wella tryloywder drwy ddarparu mwy o fanylion a gwybodaeth ategol. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r camau rydym wedi'u cymryd i gyhoeddi ein cynlluniau a'n rhagolygon treth a benthyca. Rydym hefyd yn awr yn cyhoeddi adroddiad y prif economegydd; adroddiad polisi treth Cymru; rhagolygon ar gyfer trethi Cymru; taflen y gyllideb plant a phobl ifanc; cynllun gwella'r gyllideb; a thystiolaeth ysgrifenedig wedi'i chydgrynhoi ar gyfer pwyllgorau craffu'r Senedd. Mae hyn yn fwy nag a ddarperir mewn llawer o gyllidebau cenedlaethol eraill, gan gynnwys gwledydd lle mae ganddynt brosesau deddfwriaethol ar gyfer cyllidebau, ond wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i archwilio beth arall y gallwn ei wneud.

Mae darparu setliadau amlflwydd hefyd yn rhywbeth rydym wedi'i drafod droeon. Yn anffodus, mae ein gallu i ddarparu cyllid mwy hirdymor yn dibynnu i raddau helaeth ar gylch cyllideb Llywodraeth y DU ac i ba raddau y gallwn ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol o ystyried yr hinsawdd ariannol ac economaidd bresennol. Fel y cyfryw, ni fyddai proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn effeithio ar y mater hwn.

Felly, i grynhoi, mae'r ddadl heddiw wedi dangos bod llawer o fanteision wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn y gallwn ystyried eu datblygu heb fod angen deddfwriaeth. Fodd bynnag, ar y pwynt sylfaenol ynglŷn â chyllideb ddeddfwriaethol, ni chredwn fod manteision ychwanegol i ymgymryd â'r diwygiadau hyn wedi'u dangos eto, ond wedi dweud hynny, wrth gydnabod pwysigrwydd yr agenda fwy hirdymor hon, byddem yn agored i drafod yr opsiwn o broses adolygu, megis grŵp adolygu proses cyllideb yr Alban. Gyda'r Llywodraeth, y Senedd ac arbenigwyr allanol gwadd yn cymryd rhan, gellid cynnal adolygiad o fanteision a materion sy'n codi mewn perthynas â chyflwyno diwygiadau pellach i'n proses gyllidebol, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth.

Felly, wrth gloi, mae'r ddadl heddiw wedi rhoi cyfle pwysig i ystyried sut rydym yn parhau i sicrhau bod ein proses gyllidebol yn dryloyw ac yn gynhwysol. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Am funud, roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog yn camu'n ôl braidd o'r hyn roeddwn wedi'i ddeall oedd y safbwynt, ond rwy'n credu—. Rwy'n tybio bod bod yn agored i barhau â'r drafodaeth hon yn dweud mewn gwirionedd eich bod yn hapus i wneud hynny ac y byddwch yn ymgysylltu, ac rwy'n siŵr y bydd eich olynydd yn y Senedd nesaf, gobeithio, yn hapus i wneud hynny. 

Mewn ymateb i'r cyfraniadau—ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan—efallai nad yw hyn yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau, Nick, ond mae goblygiadau cyllidebau yn sicr yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau, yn enwedig pan fyddwn yn sôn am bwerau i amrywio trethi a gallu codi neu ostwng trethi, lefelau ariannu uwch, lefelau ariannu is. Yn sicr, dyna'r pethau y mae pobl yn sôn amdanynt ac mae angen i lefel y craffu y mae'r lle hwn yn ei wneud ar y broses honno fod mor gadarn ag sy'n bosibl yn fy marn i. Ac rydych chi'n iawn: mae'n ymwneud â datganoli'n tyfu i fyny oherwydd wrth i gyfrifoldebau a phwerau cyllidol yma dyfu ac esblygu, dylai'r ffordd rydym yn craffu ar y penderfyniadau hynny, yn dylanwadu arnynt ac yn eu cyrraedd wneud hynny hefyd.

Fe sonioch chi ac Aelodau eraill am daro'r cydbwysedd, y cydbwysedd cywir, ac mae cydbwysedd i'w daro—credaf fod y pwyllgor yn cydnabod hyn—rhwng perchnogaeth y Llywodraeth ar ei chyllideb a'i gallu i gyflwyno ei chyllideb ei hun, ond hefyd gallu'r ddeddfwrfa hon i ddylanwadu arni a'i newid lle teimlwn fod hynny'n briodol ac yn angenrheidiol. Nawr, mae p'un a yw'n Fil cyllideb neu'n Fil cyllid neu'n fodel hybrid neu ryw fodel arall yn rhywbeth y gallwn ei drafod, ond yn sicr mae honno'n drafodaeth rwy'n arbennig o awyddus—ac y mae'r pwyllgor yn arbennig o awyddus—i'w gweld yn digwydd yn y Senedd nesaf. Mae'r drefn bresennol yn rhywbeth a adawyd ar ôl yn sgil datganoli gweinyddol, fel y dywedodd Alun Davies, ac er bod hynny'n cael ei addasu a'i fireinio'n gymedrol—a chyfeiriodd y Gweinidog, wrth gwrs, at y ddadl ychwanegol y gallwn ei chael yn awr cyn y toriad—byddwn yn cyferbynnu hynny â'r broses yn yr Alban, lle ceir ystyriaeth strategol drwy gydol y flwyddyn o'r gyllideb. Mae pwyllgorau'n cyhoeddi adroddiadau rhag-gyllidebol ym mis Hydref, cyn i'r Llywodraeth gyflwyno cyllideb, ac yna mae angen i'r Llywodraeth ymateb i'r adroddiadau hynny wrth iddi gyhoeddi cyllideb. A chyn Cyfnod 1 y gyllideb, mae cynullyddion neu gadeiryddion pwyllgorau yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn, ac yna, wrth gwrs, nid yn gymaint mewn gwelliannau y bydd y dylanwad hwnnw'n cael ei gyflwyno, oherwydd os yw'r Llywodraeth yn gwrando, ymdrinnir â llawer o hynny cyn inni gyrraedd pwynt lle mae angen cyflwyno newidiadau a gwelliannau. Felly, mae llawer y gallwn ei ddysgu gan yr Alban, ac mae'r Gweinidog yn iawn: mae hyblygrwydd yn bwysig. Rydym wedi dysgu hynny yn y blynyddoedd diwethaf, onid ydym? Yn sicr, mae cael yr ystwythder hwnnw o fewn y system yn bwysig. Ydy, mae'r system sydd gennym yn awr yn gymharol ystwyth ac mae'n debyg ei bod yn ein gwasanaethu'n eithaf da yn hynny o beth, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu na ellir ei wneud gan ddefnyddio dull deddfwriaethol hefyd, a dyna'n union y gobeithiaf y caiff ei archwilio wrth inni symud, gobeithio, at y cam nesaf yn y drafodaeth hon a chreu grŵp, gobeithio, i ystyried hyn ymhellach.

Rydym wedi dod yn bell, wrth gwrs, ers dechrau datganoli yn 1999, gyda mwy o bwerau i'r Llywodraeth a'r Senedd, y pwerau i osod cyfraddau treth yma yng Nghymru ac yn y blaen, ac mae'n bwysig fod y ffordd rydym yn pasio cyllideb yn adlewyrchu'r newidiadau hynny. Mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern, mae'n allweddol fod Senedd yn dwyn Llywodraeth i gyfrif yn briodol, yn enwedig mewn perthynas â'i chynlluniau gwariant a'i lefelau treth. Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl bob dydd ac rydym am sicrhau bod y broses yn addas ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y broses yn syml, yn dryloyw, a bod y Llywodraeth yn wirioneddol atebol i'r Aelodau o'r Senedd ac yn sgil hynny i bobl Cymru. Bydd bwrw ymlaen â gwaith ar broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn fater, fel y dywedais, ar gyfer y Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyllid yn sylfaen ar gyfer parhau â'r gwaith hwn. Diolch.

16:50

Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bydd toriad byr yn awr i ganiatáu newid personél yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:53.

17:00

Ailymgynullodd y Senedd am 17:01, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3 a 5 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 4 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr. Dwi'n galw ar Russell George i wneud y cynnig. Russell George.

Cynnig NDM7428 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r £4 biliwn o gyllid ychwanegol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael ag effaith pandemig y coronafeirws yng Nghymru.

2. Yn cydnabod effaith andwyol sylweddol cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill.

3. Yn nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu'r disgwyliad i gyflogwyr gael gweithle sy'n cydnabod undebau llafur er mwyn cael mynediad at gyllid a grantiau Llywodraeth Cymru;

b) ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd â gwerth trethadwy o fwy na £500,000 ac i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag;

c) hepgor y gofyniad buddsoddi o 10 y cant i gael grantiau o dan gam 3 y gronfa cadernid economaidd; a

d) cyhoeddi, yn gyhoeddus, ddata ar nifer y profion COVID-19 positif ar sail ward awdurdod lleol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar, a gallaf ddweud heddiw hefyd y byddwn yn cefnogi'r gwelliant yn enw Caroline Jones y prynhawn yma.

Lywydd, mae Llywodraeth y DU wedi darparu dros £4 biliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r feirws. Hyd yma, mae arnaf ofn nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut y maent wedi gwario'r arian hwnnw. Busnesau bach a chanolig eu maint, wrth gwrs, yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae angen inni eu cefnogi'n llawn. Nid yw Cymru wedi bod yn amgylchedd cyfeillgar iawn i wneud busnes ynddo o'r blaen, gyda pherchnogion yn talu ardrethi busnes uwch, a throthwyon is ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Mae hyn wedi'i ddwysáu gan gyfyngiadau COVID-19, a diffyg brys i sicrhau bod cymorth mawr ei angen yn cael ei ddarparu i'r rheng flaen, yn hytrach na gorwedd, ysywaeth, yng nghoffrau Llywodraeth Cymru.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am y £60 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnynt. Ond yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, hoffwn wybod a fydd ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau ond a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau ehangach a gyhoeddwyd hefyd yn gallu manteisio ar y cronfeydd hynny. Yn wir, credaf efallai fod angen mwy o gyllid arnom o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw. Mewn cyferbyniad, gyda'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cymorth i tua 30 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio yng Nghymru, gan ddiogelu bywoliaeth cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, tra bod y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn darparu cymorth i dros 100,000 o bobl â chyfran o bron i £300 miliwn. Mae hyn, wrth gwrs, heb ystyried cynllun ehangach y gaeaf ar gyfer yr economi, a fydd yn caniatáu i fusnesau gael mynediad at amrywiaeth o gynlluniau benthyca ac yn ymestyn y toriadau TAW dros dro i dwristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â gohirio ad-daliadau TAW i gefnogi busnesau hyd at fis Mawrth 2022.

Rydym yn croesawu gwelliant Caroline Jones, gan ei bod yn amlwg fod cyfyngiadau lleol cyffredinol i fynd i'r afael â'r coronafeirws, fel y rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu yn niweidiol i economi Cymru ac yn atal busnesau, yn enwedig yn y sector twristiaeth a lletygarwch, rhag gwella o gyfnod siomedig—a chyfnod yr haf hefyd. Mae'n hanfodol fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru i weithredu cyfyngiadau lleol yn gymesur ac yn lleihau'r niwed i unrhyw obaith o adfer busnesau, a dyma pam rydym ni ar y meinciau hyn wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau hyperleol doeth i leihau lledaeniad COVID-19 gan leihau effaith economaidd a chymdeithasol cyfyngiadau.

At hynny, gall cyflwyno cyfyngiadau hyperleol wedi'u targedu atal yr angen am gyfyngiadau ehangach ar sail sirol, gan helpu i sicrhau cymesuredd yn yr ymateb i achosion lleol, yn ogystal â lleihau'r risg y bydd clystyrau'n lledaenu i rannau ehangach o ardaloedd lleol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud o'r blaen fod cyfyngiadau hyperleol yn ddull synhwyrol iawn. Felly, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl drwy sicrhau bod cyfyngiadau mor gymesur ac wedi'u targedu cymaint ag sy'n bosibl i'r ardaloedd sy'n galw am ymyrraeth, yn hytrach na'i dull gweithredu cyffredinol presennol. Felly er mwyn helpu economi Cymru sy'n dioddef, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar lefel ward os nad data ar lefel cod post er mwyn gwahaniaethu rhwng achosion mwyaf y trosglwyddiad i'r ardaloedd yr effeithir arnynt. Byddai hyn yn caniatáu i rannau eraill o'n heconomi barhau i weithredu gan sicrhau nad yw'r trosglwyddiad yn cynyddu allan o reolaeth.

Fe soniaf yn awr am ddull gweithredu'r Ceidwadwyr—yr hyn y byddem yn ei gynnig—ac rwy'n fodlon amlinellu ein dull o weithredu. Fan lleiaf, byddem yn cyflwyno cynllun cymorth cymunedol COVID-19 gwerth £250 miliwn i helpu trefi a dinasoedd ledled Cymru, parthau heb ardrethi busnes lle byddai pob busnes yn rhydd rhag talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, a chael gwared ar ardrethi busnes yn gyfan gwbl lle mae'r gwerth trethadwy o dan £15,000 y tu allan i'r parthau hynny. Byddem yn cynnig hynny o fis Ebrill nesaf ymlaen. Mae angen sicrwydd ar fusnesau yn awr ynglŷn â'r hyn sy'n mynd i ddigwydd o fis Ebrill nesaf ymlaen. Wrth symud ymlaen, Lywydd, mae hefyd yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn hepgor y buddsoddiad o 10 y cant sy'n ofynnol gan fusnesau er mwyn cael mynediad at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd. Mae llawer o fusnesau, yn enwedig yn y sector twristiaeth a lletygarwch, wedi wynebu colledion dramatig mewn refeniw dros yr haf. Mae'n fain iawn arnynt; nid oes dim byd ar ôl yn y cwpwrdd, ac rydym yn gofyn iddynt gyfrannu 10 y cant er mwyn cael unrhyw fath o gymorth economaidd. Does bosibl nad yw hynny'n dderbyniol ac mae'n rhaid i hynny newid.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i fusnesau, ni fydd y rhai sydd â gwerth trethadwy o £500,000 yn cael unrhyw gymorth busnes o gwbl, er eu bod yn cyflogi miloedd o bobl. Nawr, mewn cyferbyniad llwyr, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi seibiant rhag talu ardrethi i bob cwmni manwerthu, hamdden a lletygarwch am flwyddyn, ni waeth beth fo'u maint. A dyna'n union y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud yma. Mae hefyd yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i gynnwys landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag. Yn sgil cau llawer o fusnesau, mae'n bwysig fod landlordiaid yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Felly, credaf mai'r hyn rwyf wedi'i nodi heddiw yw cynllun a fydd yn darparu ymyriadau lleol wedi'u targedu ac ymyriadau cynharach. Mae angen inni gael ffordd fwy cynaliadwy ac effeithiol o fynd i'r afael ag achosion lleol gan ysgogi a helpu'r economi ehangach i wella ar yr un pryd. Yn y pen draw, mae angen inni ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl, Lywydd. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan yr Aelodau y prynhawn yma. 

17:05

Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), nid wyf wedi dethol gwelliant 4. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.

2. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.

3. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.

4. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.

5. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.

6. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.

7. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynnig.

Dwi'n galw nawr ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 5, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw am gynyddu pwerau benthyca ar lefel Cymru er mwyn ymateb i effaith y pandemig yn unol ag anghenion a blaenoriaethau Cymru.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo'n unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.  

Gwelliant 5—Siân Gwenllian

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

ail-werthuso cymorth busnes COVID-19 er mwyn sicrhau ei fod yn llenwi'r bylchau a adawyd gan gynlluniau Llywodraeth y DU mewn ffordd effeithiol.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 5.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr, unwaith eto, am gyflwyno cyfle inni drafod yr economi. Credaf fod dau beth sy'n peri pryder i'n hetholwyr ledled Cymru ar hyn o bryd. Un ohonynt yw eu hiechyd a'r llall yw ffyniant a swyddi yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod yn werthfawr iawn i ni gael y trafodaethau hyn.

Wrth gwrs, nid ydym yn anghytuno â phopeth yng nghynnig y Ceidwadwyr o bell ffordd. Mae'n amlwg yn allweddol y dylai unrhyw effeithiau ar fusnesau yn sgil mesurau sy'n ymwneud â'r feirws fod yn gymesur. Credaf fod pwyntiau Russell George am ddata ar lefel wardiau yn rhai da—mae angen i bobl wybod beth yw'r sefyllfa. Dywedwyd wrthyf ei bod yn anodd cyhoeddi hynny oherwydd gellid adnabod unigolion. Wel, a bod yn gwbl onest, os yw'r sampl yn ddigon bach i allu adnabod unigolion, mae'n debyg nad oes angen i'r ward fod dan gyfyngiadau. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—a gallai helpu gyda chydymffurfiaeth wrth gwrs. Os yw pobl yn deall pam y gofynnir iddynt aros gartref, maent yn fwy tebygol o wneud hynny.

Fodd bynnag, lle na allwn gytuno yw'r safbwynt ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud hyd yma. Nawr, roedd y cynllun ffyrlo'n dda, er bod rhai pobl wedi'u gadael allan, roedd yna rai pobl na chafodd gymorth. Mae'r bobl hynny'n dal i ymgyrchu, a hoffwn ofyn i'r Aelodau edrych ar wefan ymgyrch ExcludedUK i weld sut y mae'r bobl hynny'n cael eu gadael allan—sut y mae wedi effeithio arnynt. Ond ar y cyfan, roedd yn gynllun pwerus iawn ac roedd yn gweithio'n dda iawn. Ac un o'r rhesymau pam y gweithiodd yn dda iawn yw ei fod wedi gweithio i gwmnïau llai yn ogystal ag i rai mwy o faint.

Hoffwn sôn am welliannau 2 a 3 gyda'i gilydd, Lywydd, oherwydd maent yn cefnogi ei gilydd. O ran cymorth Llywodraeth y DU, gwyddom nad yw'r cynllun cefnogi swyddi, fel y mae'n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, yn gweithio i lawer o gwmnïau yng Nghymru. Nid yw'n gweithio ym maes lletygarwch; nid yw'n gweithio ym maes bwyd sy'n cael ei werthu drwy gyfanwerthwyr; nid yw'n gweithio i iechyd a harddwch; nid yw'n gweithio i dwristiaeth; nid yw'n gweithio i fusnesau bach. A dim ond pobl sydd wedi siarad â mi yr wythnos hon am gymorth na allant ei gael yw'r rheini. Nawr, gellid dadlau, Lywydd, fod hyn yn ddealladwy. Wyddoch chi, os yw Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr, rhaid inni gydnabod bod economi Cymru'n wahanol iawn i economi Lloegr, ac efallai y byddai'n briodol iddynt gyflwyno hynny. Ond nid yw'n gweithio'n dda iawn i lawer o'n busnesau ni.

Felly, dyna'r rheswm dros ein gwelliant 2, sy'n pwysleisio'r pwynt unwaith eto fod angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca i allu gweithredu ar rywfaint o hyn eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud o hyd nad oes ganddynt bŵer. Wel, credaf mai'r hyn sydd ei angen arnynt yw ychydig o asgwrn cefn i fynnu'r pŵer hwnnw. Dylent ofyn am y pwerau benthyca yn hytrach na chwyno, fel y gwnânt yn eu gwelliant, am yr hyn nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud. Pam nad ydynt yn gofyn am y pŵer i gael yr arian i'w wneud eu hunain? Oherwydd, wrth gwrs, dyma sut y mae Llywodraeth y DU yn ei ariannu. Nid oes ganddynt goeden arian hud; maent yn benthyca ar y marchnadoedd rhyngwladol, sy'n ffordd gwbl synhwyrol o fwrw ymlaen. Dylai Llywodraeth Cymru fynnu'r hawl i wneud yr un peth.

Nawr, o ran ein gwelliant 5—ac i ryw raddau, rwy'n cytuno â Russell George yma—mae angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar elfennau o gyfnod newydd y gronfa cadernid economaidd. Mae llawer o bwyslais, yn y cynllun newydd, ar alwadau am geisiadau datblygu i gwmnïau allu symud ymlaen, ac efallai mai dyna'r peth priodol i'w wneud, o ystyried sefyllfa'r feirws pan oedd y cynllun hwn yn cael ei ddyfeisio'n hwyr yn yr haf. Ond mae pethau wedi newid. Wrth i fwy a mwy o ardaloedd fynd o dan gyfyngiadau lleol, credaf fod arnom angen fwy o gymorth brys. Ac rwy'n cytuno â'r pwynt y mae Russell George wedi'i wneud am gwmnïau heb arian yn eu poced ôl i gyfrannu at y math hwn o beth, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint. Wrth i'r bylchau yn Llywodraeth y DU ddod yn gliriach, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i ymateb, a rhaid i hynny olygu ymateb i amgylchiadau sydd wedi newid.

Gwelliant y Llywodraeth—o diar, dyma ni eto. Wrth gwrs, rydym yn cytuno â rhywfaint ohono; byddai'n anodd anghytuno, ac rydym yn amlwg yn cytuno â phwynt 4 am gynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y DU. Ond clywsom y prynhawn yma y Gweinidog llywodraeth leol a thai yn dweud yn glir iawn, fel y'i clywais yn dweud o'r blaen, 'Nid ydym yn gwybod y cyfan fel Llywodraeth; nid ni yw ffynnon pob doethineb'. Wel, ni fyddech chi byth yn meddwl hynny, Lywydd, o'u harfer o gyflwyno gwelliannau 'dileu popeth'. Hoffwn nodi wrth y Senedd hon nad yw honno'n ffordd anrhydeddus o fwrw ymlaen, a fan lleiaf, os ydym am dreulio ein hamser ar ddadleuon y gwrthbleidiau, y peth lleiaf y dylai'r Llywodraeth ei wneud yw dangos cwrteisi drwy roi gwelliannau fesul llinell i ni.

17:10

Ni chaf ymateb i'r ymyriad hwnnw gan nad ydym i fod i gael ymyriadau, ond nid oes ots gennyf ble mae Gweinidogion, mae ots gennyf beth maent yn ei wneud.

Pwysleisiaf eto yr angen i'r Llywodraeth ailystyried y gronfa cadernid economaidd. Ni allwn gefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd os ydych yn cefnogi'r gwelliant hwn, rydych yn rhagdybio mai hwy yw ffynnon pob doethineb a'u bod yn gwneud pob dim yn iawn. A byddwn yn dweud, pan ddaw'n fater o Weinidog yr economi'n ymdrin â phobl y gwrthbleidiau, nad dyna sut y mae'n ymddwyn. Ni fyddech byth yn gwybod pa mor gydweithredol y mae wedi bod drwy'r argyfwng hwn gydag Aelodau'r wrthblaid pe baech yn edrych ar y gwelliant braidd yn hunanglodforus hwn gan y Llywodraeth. Wedi dweud hynny, Lywydd, hoffwn gymeradwyo gwelliannau 2, 3 a 5 i'r Senedd. Rwy'n cynnig felly.

Roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd fod rhai rhannau o'r sylwadau a wnaed yn awr gan lefarydd Plaid Cymru braidd yn angharedig ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, dechreuasom y degawd hwn heb unrhyw syniad a dweud y gwir am y newidiadau sylweddol y byddem yn eu hwynebu ar ddechrau'r flwyddyn. Ac ers dechrau'r pandemig, rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth ei Mawrhydi wedi cyflawni o ddifrif dros Gymru. Maent wedi cyflawni dros fusnesau Cymru, maent wedi cyflawni dros deuluoedd ac maent wedi cyflawni dros ein cymunedau, mewn ffordd nad yw Llywodraethau'r DU wedi'i wneud o'r blaen a dweud y gwir. Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno nad oes ganddi bŵer—mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi gwerth £4 biliwn o bŵer iddi allu cynorthwyo Cymru i ddod drwy'r argyfwng a'r cyfnod anodd hwn.

Ond mae'r argyfwng hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sylw blaenllaw i bwysigrwydd ein perthynas fel undeb y Deyrnas Unedig, ac mae cyflymder y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, y cymorth ariannol, y cymorth busnes—mae'r holl fesurau hynny'n dangos pwysigrwydd ymdrin ag effaith yr argyfwng hwn ym mhob rhan o'r DU. Gwelsom Lywodraeth y DU yn gweithredu ar gyflymder anhygoel a dweud y gwir i roi rhaglenni ar waith, gan wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â chyfyngu ar ryddid pobl, gan geisio sicrhau ar yr un pryd fod yr effaith ar fusnesau, yr effaith ar gyflogwyr, yr effaith ar becynnau cyflog pobl mor fach â phosibl.

Ac mae'n rhaid i mi godi fy het i Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys. Am ddyn anhygoel sydd gennym yn y Trysorlys ar hyn o bryd, yn sicrhau bod gan Gymru bŵer i allu ymdrin â'r problemau sydd o'n blaenau a dod drwy'r storm hon—nid dim ond y storm sydd eisoes wedi bod, ond y storm fawr sy'n cyniwair ledled Cymru a'r DU gyfan ar hyn o bryd.

Nawr, wrth gwrs, rydym wedi gweld gwahanol ddulliau o weithredu mewn gwahanol rannau o'r DU o ganlyniad i ddatganoli, ac mae hynny'n hollol iawn o ran y setliad datganoli. Ond mae pethau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud ledled y DU wedi bod yn fuddiol iawn yn fy marn i. Gadewch inni atgoffa ein hunain o rai o'r pethau hyn. Rydym wedi cael help i gyflogwyr gyda'u cyflogau o ganlyniad i'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws. Rydym wedi gweld cymorth i fusnesau aros ar eu traed gyda thoriadau TAW. Rydym wedi gweld gohirio trethi, cymorth i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer. Rydym wedi gweld cymorth pwysig i'r sector lletygarwch drwy'r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld y cynllun economaidd newydd hwn ar gyfer y gaeaf sy'n rhoi cymorth pellach eto i'n busnesau ac i'r sector cyhoeddus hefyd. Felly, heb fod y DU gyfan wedi gallu camu i'r adwy, credaf y byddai Cymru wedi ei chael yn anodd iawn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.

A beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud? Wel, roedd yn haeddu clod am sefydlu cronfa cadernid economaidd. Credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rhaid inni gofio, wrth gwrs, fod Cymru'n cael 20c ychwanegol am bob punt, yn ôl cyfran, ar bob swm canlyniadol, felly mae ganddi'r gallu i wneud hynny, ac rwy'n falch ei bod wedi gwneud hynny. Ond roedd iddo ei anfanteision. Roedd meini prawf wedi'u gosod gyda'r gronfa cadernid economaidd a olygai fod rhai pobl ar eu colled, a phan fydd gennych bŵer ychwanegol yn eich poced ôl, fel sydd gan Lywodraeth Cymru, credaf ei bod hi'n bwysig eich bod yn defnyddio'r pŵer hwnnw ac yn ei dargedu ar y bylchau y soniodd Helen Mary Jones ac eraill amdanynt. Mae'r trothwy, er enghraifft, o drosiant o £50,000 cyn y gallwch wneud cais yn drothwy annerbyniol o uchel, yn enwedig i'r nifer fawr o fusnesau llai o faint sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys llawer, a dweud y gwir, yn etholaeth y Gweinidog ei hun. Rwy'n synnu nad yw'n gwrando arnynt ac yn addasu'r cynllun i sicrhau y gall y busnesau hynny wneud cais. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gwasgu ar fusnesau i undeboli eu gweithlu er mwyn bod yn gymwys i gael grantiau yn gwbl annerbyniol. Mae'n sarhad ar y busnesau hynny, gyda llawer ohonynt yn gyflogwyr cwbl weddus sy'n trin eu staff yn deg, yn annog eu gweithlu ac wedi bod yn eu cefnogi drwy bob trybini yn ystod yr argyfwng hwn. Mae cael Gweinidog sy'n rhoi mwy o sylw i chwyddo rhengoedd yr undebau, cefnogwyr mwyaf y Blaid Lafur, yn hytrach nag achub yr economi ac achub y busnesau ac achub y swyddi yn gwbl annerbyniol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn ailystyried ac yn ymddiheuro am ddosbarthu llythyr a oedd yn awgrymu y dylai'r busnesau hynny undeboli. Gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw, oherwydd rwy'n credu bod llawer iawn o werth ynddo.

17:20

Lywydd, rwyf am ehangu'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae gan ymyriadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nid yn unig oblygiadau i Gymru a'r DU, ond mae iddynt oblygiadau byd-eang hefyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn argymell mai cyfyngiadau symud cenedlaethol ddylai fod y dewis olaf wrth fynd i'r afael â COVID-19, felly pam y mae Llywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru yn dal i ddilyn y polisi trychinebus hwn?

Mae gennym ni yn y byd datblygedig gyfrifoldeb tuag at wledydd y trydydd byd i gadw ein heconomïau'n gryf ac yn agored i fasnach. Dim ond drwy gynnal economi orllewinol gref y gallwn brynu nwyddau hanfodol o rai o'r gwledydd tlotaf ar y ddaear. Mae'r mewnforion o'r gwledydd hyn yn llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth, oherwydd dim ond drwy gynnal yr allforion hyn y gallant—a defnyddiaf y term yn yr ystyr gryfaf posibl—fwydo eu hunain. Rydym yn llythrennol yn diogelu bywydau yn economïau cyfoethocaf y byd ar draul bywydau yn y gwledydd tlotaf ar y ddaear. Yr hyn sy'n fwy gwarthus byth am strategaethau cyfyngiadau symud y gorllewin yw eu bod yn dweud ei fod yn digwydd er mwyn diogelu'r henoed, pan fo llawer ohonynt—neu lawer ohonom, dylwn ddweud—wedi cael bywydau hir a chyflawn, ac am y rhan fwyaf o'n bywydau rydym wedi mwynhau holl foethusrwydd economi fodern gyfoethog. Ac eto, ceir y math hwn o ddiogelwch ar draul yr ifanc a'r ifanc iawn yng ngwledydd tlotaf y byd.

Nid yw hyn yn golygu ein bod yn troi cefn ar ein henoed a'r rhai sy'n agored iawn i niwed y feirws a'i ganlyniadau, ond ein bod yn newid ein strategaethau. Efallai y dylem archwilio rhai o'r datganiadau diweddaraf gan gŵrw'r argyfwng COVID, prif gynghorydd meddygol Llywodraeth y DU, Chris Whitty. Rwy'n dyfynnu: ni fydd y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd ym Mhrydain yn dal y feirws o gwbl. O'r rhai sy'n gwneud hynny, ni fydd cyfran sylweddol yn gwybod eu bod wedi'i gael. Byddant yn asymptomatig. O'r rhai sy'n dangos symptomau, bydd 80 y cant—a chofiwch, rwy'n dyfynnu prif swyddog meddygol y DU—yn cael adwaith cymedrol, ac efallai y bydd yn rhaid i gyfran fach o'r rhain fynd i'r gwely am ychydig ddyddiau. Bydd yn rhaid i leiafrif anffodus fynd i'r ysbyty ac efallai y bydd angen triniaeth ocsigen arnynt cyn dychwelyd adref. O'r lleiafrif hwn, bydd angen gofal critigol ar leiafrif bach, ac yn anffodus, bydd lleiafrif bach iawn o'r rhain yn marw. A hyn, unwaith eto: bydd cyfraddau marwolaeth cyffredinol yn llai nag 1 y cant; hyd yn oed yn yr uchaf un o'r grwpiau risg uchel, os ydynt yn dal y feirws, ni fyddant yn marw. Geiriau'r prif swyddog meddygol sy'n cynghori Llywodraeth y DU yw'r rhain i gyd.

Mae'r holl ystadegau'n dangos nad yw COVID-19 yn fawr o fygythiad i'r ifanc a'r iach yn y byd gorllewinol, os o gwbl. Felly, mae'r cyfyngiadau symud yno i ddiogelu pobl sâl a phobl sy'n agored i niwed. Ond does bosibl nad y strategaeth orau fyddai sicrhau bod y rhai sydd yn y categori hwn yn cael eu diogelu'n ddigonol, naill ai drwy hunanynysu gartref neu drwy arfer y mesurau gwrth-COVID llymaf yn ein cartrefi gofal a'n hysbytai.

Nid oes gennym hawl i barhau i ddiogelu ein hunain ar draul tlodion y byd. Oni bai ein bod yn dal y feirws ac yn mynd yn ddifrifol wael, ni fyddwn ni yn y sefydliad hwn yn dioddef fawr ddim o'r pandemig hwn. Mae ein cyflogau wedi'u gwarantu, bydd ein stumogau bob amser yn llawn. Rhaid inni roi diwedd ar y gwallgofrwydd hunanol hwn, ailagor ein heconomïau a sicrhau ein bod yn ddigon cryf i barhau i ddod â mewnforion i mewn o wledydd tlotaf y byd, fel y gallant barhau i ddiogelu eu pobl sy'n agored i niwed, eu henoed a'u pobl ifanc, drwy sicrhau'n syml eu bod yn cael digon o fwyd. Diolch, Lywydd.

Mark Isherwood. Mae angen agor eich meic, Mark Isherwood, cyn i chi ddechrau.

Fel y dywed ein cynnig, rhaid inni gydnabod effaith andwyol sylweddol y cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill, a nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur. Er mwyn helpu i gadw ein heconomi'n weithredol a diogelu rhag trosglwyddiad COVID, mae angen data lleol arnoch, ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn darparu hyn, bydd rhaid dod i gasgliadau amlwg. Yn hytrach, mae'n ymddangos bod penderfyniad y Prif Weinidog hwn ar gyfyngiadau symud yng Nghymru yn seiliedig ar bapur nad yw wedi'i adolygu'n ddigonol gan gymheiriaid i'w gyhoeddi. I fod yn glir, adolygiadau gwyddonol gan gymheiriaid yw conglfaen gwyddoniaeth.

Derbyniwyd y datganiadau canlynol gan etholwyr yn sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy: 'Hoffwn gwestiynu dilysrwydd y cyfyngiadau teithio lleol a osodir ar gynghorau yng ngogledd Cymru. Os byddaf yn teithio y tu allan i fy sir fy hun, er mwyn mynd i heicio y gwnaf hynny, pan fyddaf ar fy mhen fy hun, i helpu gyda fy mhroblemau iechyd meddwl. Tybed a fyddech yn gallu tynnu sylw'r gweinidogion iechyd a'r Prif Weinidogion at hyn ar fy rhan. Rwy'n teimlo fy mod yn byw dan unbennaeth yma yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU'; 'Rwy'n ysgrifennu fel dinesydd pryderus i fynegi fy niolch am y ffordd y mae nifer o Aelodau o'r Senedd wedi siarad yn erbyn y cyfyngiadau gwarthus a chwerthinllyd a osodwyd ar ogledd Cymru gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n byw ym Mhrestatyn, sy'n golygu y gallaf deithio 30 milltir a mwy ond dim ond 2 filltir i'r dwyrain a 3 milltir i'r gorllewin'; 'Ni allwn gael diod mewn bar sy'n dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol gyda'n cymdogion neu ffrindiau agos eraill, ac eto gallwn grwydro o amgylch archfarchnad orlawn, lle gallwn godi a rhoi eitemau yn ôl ar y silffoedd'; 'Ni oedd yr unig bobl yn y bar ac rydym yn teimlo dros y staff oherwydd, os bydd hyn yn parhau, byddant yn cau gan arwain at golli llawer o swyddi. Mae bron fel petai Llywodraeth Cymru yn targedu twristiaeth a'r sector lletygarwch yn fwriadol'; 'Rwy'n ysgrifennu atoch gyda phryder mawr i fynegi fy siom a fy nicter parhaus ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r argyfwng coronafeirws sy'n parhau. Mae'n teimlo fel pe baem yn byw mewn unbennaeth'; 'Rwy'n byw hanner milltir o'r ffin â Lloegr, felly rwy'n byw'r rhan helaethaf o fy mywyd yn Lloegr: deintydd, trin traed, hamdden ac yn y blaen. Gallaf deithio 30 milltir i'r cyfeiriad arall ac aros yn y sir, ond nid hanner milltir dros y ffin. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl'; 'Rwy'n llwyr gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID, ond rhaid ei gweld yn ei chyd-destun. Mae'r cyfyngiadau COVID yn llawn anghysondebau ac yn afresymegol. Yn ogystal â hynny, mae'r gwahaniaeth yn y rheoliadau rhwng Cymru a Lloegr yn ddryslyd ac nid ydynt o gymorth, yn enwedig i'r rheini ohonom sy'n byw ar y ffin. Mae llawer o fusnesau wedi'u caethiwo mewn sefyllfaoedd amhosibl lle na allant ennill a byddant yn methu o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Cymru'; 'Rwy'n pryderu am gyfraddau heintio COVID-19 ond yn ofni bod Llywodraeth Cymru ar ryw fath o grwsâd ac mae'n ymddangos eu bod yn benderfynol o ddefnyddio cyfyngiadau symud llym fel y prif ateb. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn aelod ffyddlon o'r Blaid Lafur, ond ni allaf gefnogi'r cyfeiriad hwnnw yma'; 'Rwy'n ei chael yn frawychus ac yn hurt y gall Llywodraeth Cymru ddatgan yn agored fod yn rhaid i chi gytuno â'u polisïau cymdeithasol cyn y gallwch gael arian gan y Llywodraeth'. Mae'r dyfyniad hwn yn sarhad difrifol ar ddemocratiaeth luosogaethol a'r cam cyntaf ar y ffordd, rwy'n dyfynnu, at unbennaeth ffasgaidd.

Ysgrifennodd cynrychiolwyr lletygarwch: 'Mae'n destun pryder mawr fod offerynnau mor ddi-awch yn cael eu hystyried eto, o ystyried y niwed sylweddol a achoswyd i'n sector yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni'; ac, 'Mae gennyf nifer o gleientiaid sy'n gweithredu busnesau lletygarwch, ac mae pob un ohonynt wedi cael trafferth aros yn hyfyw yn economaidd ond hefyd wedi rhoi diogelwch gweithwyr a chwsmeriaid yn gyntaf bob amser. Rydym yn dal i gael ein gyrru gan yr ysfa i osgoi risg, pan ddylem fod yn rheoli risg—system raddio achrededig trwydded i fasnachu wedi'i monitro, gyda neges glir i ddefnyddwyr er mwyn darparu rhywfaint o gysur yn ystod y pandemig hwn.'

Mae'n anghydnaws hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi eithrio busnesau gwely a brecwast bach rhag cymorth grant eto. Ddoe, dywedodd y Gweinidog cyllid wrthyf y dylent siarad â Busnes Cymru, ond ar ôl rhoi cynnig ar hyn droeon, dywedant y byddai unrhyw gytundebau benthyca yn eu gwthio i ddyled na ellir ei rheoli ac maent yn ailddatgan eu bod yn cefnogi'r economi leol ac y dylai fod ganddynt hawl i gymorth. Beth yn union sydd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yn erbyn busnesau gwely a brecwast yng Nghymru? Mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd, a rhaid i'r Llywodraeth hon yng Nghymru gael ei dwyn i gyfrif gan y cyhoedd. Gobeithio y bydd y cyfryngau'n nodi hynny hefyd. Diolch.

17:25

Un o'r cyflogwyr mawr sydd gennym yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r Post Brenhinol, ac rydym i gyd wedi canu clodydd ein postmyn yn ystod y pandemig COVID, a hynny'n gwbl briodol. Ac wrth gwrs, mae llawer o siaradwyr hefyd wedi sôn am bwysigrwydd diogelwch a lles y bobl sy'n gweithio mewn busnesau. A gaf fi ddweud, felly, cymaint o syndod yw gweld bod y Post Brenhinol, sefydliad sydd, yn sicr yng Nghaerdydd, wedi cael achosion o COVID, ar hyn o bryd yn edrych ar gyflwyno cerbydau amlfeddiannaeth? Mae'n fwy o syndod byth, oherwydd yn eu canllawiau, wrth edrych ar y darpariaethau diogelwch, dywedant, 'A oes angen inni fynd ati mewn ffyrdd gwahanol i gyngor Public Health England yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon?', a dywedant, 'Na, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y Llywodraeth a Public Health England.'

Rwyf wedi codi hyn gyda'r Post Brenhinol. Maent bellach wedi newid y canllawiau hynny, ond onid yw'n gwbl anhygoel, pan fydd gennym gyfreithiau yng Nghymru i ddiogelu gweithwyr, fod gennym y Post Brenhinol yn dweud yn y bôn, 'Na, rydym yn mynd i ddiystyru cyfraith Cymru a dilyn meini prawf Lloegr'? Oherwydd yng Nghymru, mae gennym gyfreithiau i ddiogelu gweithwyr drwy reoleiddio cadw pellter cymdeithasol, a hynny'n gwbl briodol. Weinidog, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn codi'r mater hwn, oherwydd mae'n amlwg fod pryder ynglŷn â'r ffordd y mae'r Post Brenhinol yn gweithredu a chyflwyno cerbydau amlfeddiannaeth ar yr adeg hon.

A gaf fi ddweud hefyd, felly, mewn perthynas â busnesau eraill, fod gennym rai busnesau gwych yng Nghymru sydd wedi gweithio gyda'u hundebau llafur yn adeiladol, gyda'i gilydd, i gyflawni dros y busnesau hynny a thros ddiogelwch gweithwyr? A dyna pam y mae gennym bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, oherwydd rydym yn cydnabod bod y bartneriaeth honno a rôl undebau llafur ym maes diogelwch, tlodi mewn gwaith, cyflogaeth foesegol a rhoi llais i weithwyr, yn rhywbeth sy'n gweithio mewn gwirionedd, mewn ffordd wahanol iawn i'r modd y mae Llywodraeth y DU yn Lloegr wedi ymgysylltu ag undebau llafur.

Felly, nid yw'n syndod o gwbl ein bod yn gweld y cymal hwn yn y cynnig sy'n datgelu beth yw diben go iawn y Torïaid: gwrthwynebu undebau, gwrthwynebu llais i bobl sy'n gweithio ar adeg arbennig pan fo'u diogelwch, eu bywoliaeth, eu risg o ganlyniad i COVID mor bwysig. Ac rwy'n credu ei bod yn gwbl gywilyddus eich bod yn rhoi hynny i mewn, oherwydd mae'n gamarweiniol. Fe wyddoch yn iawn nad oes gofyniad i gydnabod undeb llafur er mwyn cael arian yng Nghymru, ond mae'n gwbl briodol a chywir i Lywodraeth Cymru ddweud, 'Os ydych am gael arian cyhoeddus, gellir disgwyl i chi gymhwyso safonau cyflogaeth foesegol'—a gwyddom fod gan y rhieni sydd mewn undebau llafur safonau uwch, mwy o ddiogelwch a llai o dlodi mewn gwaith.

A gaf fi ddweud hefyd pa mor warthus yw hi fod y Torïaid, pan fyddant yn siarad am fusnes—ni chlywais yr un Tori Cymreig yn siarad o blaid gweithwyr British Airways yn ne Cymru, y rhai a gafodd eu diswyddo a'u hail-gyflogi ar delerau ac amodau gwaeth gan sefydliad sydd wedi cael arian cyhoeddus ac sydd bellach yn ceisio defnyddio COVID i'w fantais ei hun? Ble roedd y Torïaid bryd hynny, pan gafwyd cyfle i siarad ar ran y gweithwyr hynny yng Nghymru?

Lywydd, nid oedd yn dderbyniol yn ystod y pandemig COVID hwn, a'r holl anawsterau sy'n bodoli i fusnesau a gweithwyr a'u lles cyffredin, fod cyni'n cael ei ailgyflwyno a bod ein gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu gorfodi i dalu pris y pandemig COVID hwn. Eisoes, gwelwn drafodaethau'n cael eu cynnal gan y Torïaid ynglŷn â sut i gyfyngu ar gyflogau yn y sector cyhoeddus, sut i dorri baich y pwrs cyhoeddus, ac nid yw hyn yn dderbyniol. Credaf mai un peth sy'n deillio o'r argyfwng COVID hwn yw ein bod yn cefnogi ein busnesau, ein bod yn cefnogi cyflogaeth foesegol, yn cefnogi'r rheini sy'n gweithio yn y busnesau hynny, rydym yn cefnogi partneriaeth gymdeithasol, ond rhaid inni beidio â mynd yn ôl at y ffordd roedd pethau o'r blaen pan ddown allan o COVID. Ac mae'n drueni mawr fod y blaid Dorïaidd yng Nghymru wedi dangos unwaith eto ei bod yn wrth-undeb llafur ac yn wrth-ddosbarth gweithiol. Diolch.

17:30

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gydnabod y byddai fy ngwelliant wedi ychwanegu at y ddadl. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, roedd cyfyngiadau symud yn ddrwg angenrheidiol ar ddechrau'r pandemig hwn wrth inni adeiladu capasiti i ymdrin â'r argyfwng. Fodd bynnag, rydym wedi cael saith mis i adeiladu'r capasiti hwnnw, ac mae'n mynd yn anos cyfiawnhau'r niwed i fusnesau, yr economi ac iechyd ein hetholwyr sy'n deillio o fesurau o'r fath. Ac er fy mod yn cydnabod bod llawer o fusnesau wedi cael cymorth yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, roedd llawer o dir canol lle roedd llawer o fusnesau'n syrthio rhwng y craciau, a gallem fod yn mynd i diriogaeth y gwellhad yn waeth na'r clefyd cyn bo hir. Faint o fusnesau sydd wedi gorfod cau, faint o bobl sy'n gorfod colli eu swyddi, cyn inni sylweddoli ein bod yn gwneud mwy o niwed na lles? Mae arnom angen sicrwydd yn awr na fydd unrhyw fusnes yn cael ei adael i sefyll ar ei ben ei hun.

Nid wyf yn un o'r rheini sy'n dweud na ddylem roi unrhyw gamau ar waith—ddim o bell ffordd—a gadael i'r clefyd redeg ei gwrs. Dylem yn bendant fod yn cymryd camau i fynd i'r afael â COVID-19, ond erbyn hyn mae gennym brawf nad yw ymateb imiwnyddol yn para'n hir gyda feirws SARS-CoV-2. Rydym eisoes yn gweld pobl yn America yn dal y clefyd am yr eildro, ac mewn adroddiad ddoe, mae'n ymddangos y gall yr ail haint fod hyd yn oed yn fwy difrifol. Felly, ni allwn ddibynnu ar imiwnedd naturiol ac nid oes gennym syniad pryd y bydd brechlyn ar gael. Gallai fod yn flwyddyn neu ddwy arall cyn inni gael brechlyn a'i gael i bawb yng Nghymru, a hyd hynny rhaid inni ddysgu ceisio byw gyda'r clefyd, ac mae hynny'n golygu bod angen i bawb ohonom wisgo masgiau'n gyhoeddus, cadw 2 fetr ar wahân, golchi ein dwylo'n rheolaidd am o leiaf 20 eiliad. A'r hyn nad yw'n ei olygu yw cyfyngu ar symudiadau pawb. Rhaid inni gadw rheolaeth ar achosion, ond mae hynny'n golygu cyfyngu ar y rhai sydd wedi'u heintio, nid cyfyngu ar bobl iach.

Felly, pan nodir achos o COVID, dylid profi pawb sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r person hwnnw, ni waeth beth fo'r symptomau, a dylid gosod pawb mewn cwarantin llym nes ei bod yn glir nad ydynt bellach yn heintus. Nid cyfyngiadau ledled y wlad na hyd yn oed ar draws y sir yw'r ateb bob amser, na chau busnesau ychwaith. Rhaid inni gael mesurau hyperleol wedi'u targedu—dull llawfeddygol o fyd ati, yn hytrach na'r dull tir llosg y mae'n ymddangos ein bod â'n bryd ar ei weithredu.

Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, mae gennym dair sir dan gyfyngiadau, sy'n golygu i bob pwrpas fod y rhanbarth cyfan o dros 0.5 miliwn o bobl wedi'u cadw dan gyfyngiadau oherwydd 600 o achosion. Rydym yn cyfyngu ar ryddid 0.5 miliwn o bobl, yn cau busnesau, yn achosi i bobl golli eu bywoliaeth, am fod 0.1 y cant o'r bobl yn y rhanbarth hwnnw wedi dal COVID-19, a daliodd y rhan fwyaf ohonynt y clefyd am nad oeddent bob amser yn ufuddhau i fesurau cadw pellter cymdeithasol—nid yw hynny'n wir bob amser, ond mae'n wir mewn llawer o'r achosion—ac o ganlyniad i hunanoldeb rhai pobl, mae busnesau yn fy rhanbarth yn dioddef.

Daeth busnes ymbincio anifeiliaid anwes i gysylltiad â mi yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf oherwydd bod cyfyngiadau wedi effeithio'n aruthrol ar eu busnes. Efallai y cânt eu gorfodi i roi'r gorau i'r busnes yn gyfan gwbl am nad oes cymorth ar gael ar eu cyfer. Mae'r busnes hwn ymhell o fod yn unigryw. Mae busnesau wedi cydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, maent wedi gweithredu mesurau hylendid COVID, ond eto maent yn dal i ddioddef oherwydd gweithredoedd lleiafrif bach o unigolion.

Felly, mae'r clefyd hwn yma i aros, ac mae arnaf ofn fod yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ddysgu byw gydag ef, neu fel arall gallem wneud niwed na ellir ei ddad-wneud i'n heconomi a'n cymdeithas. Ac rwy'n derbyn ei fod yn galw am gydbwysedd, ac un anodd iawn ar hynny, ac nid oes neb yn gwybod yr holl atebion. Diolch yn fawr, Lywydd.

17:35

Weinidog, nid dyma'r tro cyntaf i mi orfod codi'r effaith negyddol y mae eich cyfyngiadau symud economaidd sirol yn ei chael ar fy etholwyr yn Aberconwy: manwerthwyr yn cymryd cyn lleied â £6.50 y dydd er gwaethaf gorbenion o filoedd o bunnoedd; gwestywyr yn poeni'n daer am eu busnesau ac yn wir, am eu hiechyd meddwl eu hunain. Mae ein hawdurdod lleol yn agored iawn i niwed difrifol oherwydd bod yr economi hon a bywoliaeth pobl mor ddibynnol ar dwristiaeth; sector gwerth £904 miliwn i'r sir. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Centre for Towns fod bron i 41 y cant o weithwyr Llandudno mewn sectorau sydd wedi'u cau—y gyfradd uchaf yng ngogledd Cymru. Rydych chi eisoes yn cael eich beirniadu gan wleidyddion etholedig a'r diwydiant ei hun, sydd ond yn gofyn am y dystiolaeth wyddonol fod twristiaid yn cario COVID-19 i mewn i ogledd Cymru—profwch hynny. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro nad oes tystiolaeth o'r fath, ac eto, heddiw, mae'n sôn am gyfyngiadau pellach, sydd eisoes yn cael ei galw'n 'wal Gymreig Drakeford'. A 'wal' a ddywedais, nid 'wool'. [Chwerthin.] Sut y gallwch gyfiawnhau peidio â chynnwys dod ar wyliau fel esgus rhesymol yn y rheoliadau? Nawr rwy'n gwybod, yn fwy na neb, gyda demograffeg pobl hŷn ac agored i niwed, fod cynnydd esbonyddol yn nifer yr achosion byw o COVID, ac nid ydym yn dwp; gwyddom fod yn rhaid gweithredu. Fodd bynnag, a ydych wedi aros i feddwl am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl y perchnogion busnes hyn sy'n ceisio ymladd am eu bodolaeth? Ac nid dim ond yr adeiladau rwy'n ei olygu; rwy'n sôn am fodolaeth eu gweithwyr a hwy eu hunain yn wir. Ni fydd gwybodaeth a ryddhawyd gan Busnes Cymru heddiw ynglŷn â grant y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol o £1,000 neu £1,500 yn mynd yn agos at helpu'r busnesau hyn, ac rwy'n gynddeiriog—ac rwy'n credu ei fod yn llechgïaidd ar eich rhan—eich bod wedi cynnwys rheol 21 diwrnod. Nid wyf yn credu bod llawer o fy musnesau yn gwybod hynny eto hyd yn oed, ond mae'n rhaid iddynt fod dan gyfyngiadau am 21 diwrnod cyn bod ganddynt hawl i geiniog. Rwy'n credu bod hynny'n warthus. Ac rydych wedi gwneud pethau hyd yn oed yn waeth drwy ei wneud ar sail y cyntaf i'r felin. Gwyddom pa mor anodd y gall fod i wneud cais am y cyllid grant hwn, a bydd llawer yn cael eu gadael ymhell ar ôl. Mae angen agor y gronfa hon fel bod pob busnes yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau'n cael rhywfaint o gymorth ariannol. Ac i roi halen ar y briw, mae gennych yr haerllugrwydd i awgrymu i fy ngwestywyr—wyddoch chi, roedd disgwyliad i unrhyw fusnesau ymuno ag undeb llafur, a thrwy hynny rydych yn creu iwtopia sosialaidd. A wnewch chi dynnu'r ensyniad hwnnw'n ôl, oherwydd mae wedi achosi pryder mawr iawn?

Ar yr adeg hon o argyfwng, y camau gorau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi gweithwyr yw ceisio achub eu swyddi. Ni fydd hynny'n bosibl oni roddir cymorth cymesur gan Lywodraeth Cymru ac oni chodir y cyfyngiadau economaidd chwerthinllyd hyn. Yn yr un modd, mae etholwyr Aberconwy yn haeddu ateb ynglŷn â'r rhesymeg sy'n sail i'r cyfyngiadau economaidd hyn. Mae'r bobl hyn yn hynod ddeallus, ac rydych yn eu trin fel pe na baent yn ddeallus o gwbl. Sut rydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae gennych ddata lleol ar gyfer Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Llanelli, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, ond nid ar gyfer wardiau yn sir Conwy? Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gyfyngiadau hyperleol doeth o'r math y mae hyd yn oed Dr Atherton wedi nodi eu bod yn ffordd fwy democrataidd o gyflwyno cyfyngiadau. Mae cymunedau fel Betws-y-Coed yn haeddu gwybod a oes cofnod o COVID-19 yn eu pentref, ac os oes, a yw'n gymesur cael y porth i Eryri wedi'i lesteirio gan gyfyngiadau economaidd.

Ac yn wir nid yr arfordir yn unig sy'n cael ei daro'n galed, ond y Gymru wledig hefyd. Mae Llanrwst wedi gweld Glasdir yn cau ei ddrysau am y tro olaf; ym mis Awst, cafodd 1,200 o unigolion yn y sector amaethyddol, coedwigaeth a physgota eu gosod ar ffyrlo. Yn Aberconwy a'r Gymru wledig, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ddibyniaeth enfawr ar amaethyddiaeth a thwristiaeth. Mae angen inni hyrwyddo arallgyfeirio a thyfu sectorau eraill yn y Gymru wledig. Mae'r potensial yn glir, gyda datblygiadau cyffrous fel campws arloesi newydd sbon Prifysgol Aberystwyth, a'r cwmni datblygu yn Nhrawsfynydd, Cwmni Egino. Fodd bynnag, dim ond os bydd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'r pandemig, yn gwrando ar y galwadau dramatig i wneud nid yn unig Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn brif ffocws i ogledd Cymru yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ond Caernarfon, Bangor ac ardal afon Menai hefyd y cyflawnir datblygiadau o'r fath a chryfhau sectorau newydd mewn ardaloedd gwledig ac ar hyd yr arfordir yng ngogledd-orllewin a gorllewin Cymru.

Er fy mod yn ailadrodd pwysigrwydd cefnogi ein sector twristiaeth presennol, mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar yr angen i'ch ymateb i COVID-19 gynnwys gweld gorllewin Cymru gyfan, o Benmaenmawr i Sir Benfro, yn cael cymorth i ddatblygu sectorau eraill hefyd. Weinidog, Brif Weinidog, Lywodraeth Cymru: rydych yn gwneud cam â phobl Cymru. Rydych yn gwneud cam â'n busnesau. Rydych yn gwneud cam â'u gweithwyr. Ailfeddyliwch am hyn, a gadewch i ni ddymchwel wal Gymreig Drakeford.

17:40

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ffocws i'w groesawu ar effaith coronafeirws ar gyflogwyr, er fy mod yn nodi gyda gofid nad oes un cyfeiriad yn y cynnig cyfan at gyflogeion o gwbl. Yn wir, yr unig sôn ymylol yw ymosodiad ar undebau ac ar weithleoedd sydd wedi undeboli. Nawr, efallai fod hyn i'w ddisgwyl, er ei fod yn siomedig iawn, ond mae'n caniatáu i mi, fel aelod balch o undeb ar hyd fy oes, annog pob gweithiwr i ymuno ag undeb bob amser, oherwydd hwy yw eich achubiaeth pan fydd y moroedd economaidd yn stormus.

Nawr, mae darnau o gynnig y Ceidwadwyr sy'n eithaf anodd anghytuno â hwy: er enghraifft,

'bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.'

Wel, wrth gwrs, y gwrthwyneb fyddai annog bod y cyfyngiadau'n anghymesur, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Ond gofynnaf i Aelodau Ceidwadol y Senedd hon: yn gymesur â beth? Rwy'n tybio bod hynny'n golygu bod yn gymesur â maint her y pandemig gan gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i ddiogelu swyddi; y cydbwysedd rhwng diogelu bywydau a diogelu bywoliaeth. Nawr, afraid dweud fy mod yn cytuno na allwch anghytuno â hynny, ond dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Llafur, sy'n nodi

'bod Llywodraeth Cymru'n dyrannu mwy na £4 biliwn i'w hymateb i COVID-19, sy'n swm uwch na'r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.'

Soniodd cynnig y Ceidwadwyr am gyfraniad Llywodraeth y DU wrth gwrs, ond rywsut anghofiodd sôn am gyfraniad ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'r cynnig Llafur hefyd yn cydnabod yn gywir y pecyn gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru o gymorth COVID-19 i fusnesau, sef y gorau yn unman yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, sy'n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi. Methodd cynnig y Ceidwadwyr sôn am hyn; mae'n gamgymeriad anffodus.

Rywsut, fe wnaethant anghofio nodi hefyd, heb sôn am groesawu, cynlluniau £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, gan gynnwys £20 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch, na nodi bod busnesau Cymru sy'n parhau i fasnachu yn gallu cael cymorth o dan gronfa ymateb cyflym cam 3 y gronfa cadernid economaidd, ac nid yw hynny'n digwydd mewn perthynas â chymorth busnes mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yn Lloegr. Felly, diolch byth fod y cynnig Llafur yn cywiro'r amryfusedd ychwanegol hwn gan y Ceidwadwyr, ac y bydd Darren a'i gyd-Aelodau yn gallu pleidleisio gyda'r meinciau Llafur wrth inni ddarparu cofnod cywir o'r gefnogaeth lawn i fusnesau yng Nghymru mewn cyfnod eithriadol o anodd.

Ond mae gennyf fusnesau a chyflogwyr o hyd nad ydynt yn gallu cael cymorth gan unrhyw un o'r cynlluniau sydd ar gael ar lefel genedlaethol, y DU, Cymru na'r lefel leol, a dyna pam fy mod eisiau i Lywodraeth y DU—oherwydd does bosibl nad dyma yw diben Llywodraeth y DU ar adegau o argyfwng ar draws y DU fel hwn—estyn yn ddyfnach i bocedi'r Trysorlys i roi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd wedi syrthio i'r craciau, a byddai hynny'n cynnwys y rhai sydd ychydig bach y tu allan i feini prawf cynlluniau presennol y DU a Chymru. Felly, Weinidog, byddaf yn parhau i ddod ag achosion unigol atoch i geisio addasiadau yma ac ar lefel y DU. Er enghraifft, mae fy etholwr Chris sy'n rhedeg campfa, campfa fach, wedi gwylio tri chylch o gynllun y gronfa cadernid economaidd yn mynd heibio mewn rhwystredigaeth, oherwydd bob tro y mae'n gweithio ei ffordd drwy'r ffurflen gyfrifiadurol, mae'n cyrraedd y darn sy'n dweud bod yn rhaid iddo gael trosiant o £50,000 ac mae ei drosiant yn £46,000 mewn gwirionedd, ac mae'r cyfrifiadur yn dweud 'na'. Felly, hoffwn weld y cynlluniau hyn yn ymestyn eu cyrhaeddiad gyda chyllid i bobl fel Chris.

Felly, yn hyn o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad mewn gwirionedd â rhai o welliannau Siân Gwenllian, ond gofynnaf i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd y meini prawf hyn yng Nghymru yn cael eu hadolygu'n gyson i gyfateb i anghenion ac adborth yng Nghymru gan Aelodau o'r Senedd yn yr holl bleidiau. A byddwn yn cefnogi'r alwad ar Lywodraeth y DU gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Lafur y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol yn amodol ar gyfyngiadau ychwanegol i fynd i'r afael â'r feirws. A hyd yn oed ar yr adeg hwyr iawn hon, byddwn yn ymuno â'r Llywodraeth hon yng Nghymru a Llafur y DU i annog Boris Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak i ailystyried eu penderfyniad i derfynu'r cynllun cadw swyddi, gan nad yw'r cynllun cymorth swyddi newydd a ddaeth yn ei le yn rhoi digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng hwn, gan gynnwys, gyda llaw, i gyd-Aelodau yng ngogledd Cymru, y rhai mewn twristiaeth a lletygarwch, sy'n effeithio arnom ni hefyd. Ac ar y sail honno, ac ar y sail fod cynnig y Llywodraeth yn cefnogi ymagwedd foesegol tuag at bartneriaeth mewn busnes, gan roi gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru gyda phob un sy'n derbyn cymorth busnes yn ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd, rwy'n cefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon, ac yn annog eraill i wneud hynny.

17:50

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gyfrannu i'r ddadl—Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Dylwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma a dweud fy mod yn falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol, gyda llywodraeth leol, gyda Banc Datblygu Cymru, wedi'i wneud i gefnogi busnesau, i gefnogi cymunedau ac i gefnogi pobl sy'n gweithio drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.

Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn i fusnesau ac i swyddi yng Nghymru yw'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau, gan ddiogelu dros 100,000 o swyddi—swyddi y gellid bod wedi'u colli pe bai'r busnesau hynny wedi'u lleoli dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes cymorth o'r fath yn bodoli.

Rydym hefyd wedi cefnogi 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru—busnesau newydd a fyddai wedi mynd i'r wal o bosibl pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr. Ac rydym wedi rhoi amryw o fesurau eraill ar waith, Lywydd, gan gynnwys seibiant ad-dalu i Fanc Datblygu Cymru, gwarchodaeth rhag troi allan i fusnesau, a chymorth i weithwyr proffesiynol creadigol—mae'r cyfan yn gymorth nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr.

Nawr, Lywydd, mae'r feirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr. O ran cyfyngiadau ar fusnesau, mae'r dystiolaeth yn awgrymu po hwyraf y gweithredwch, yr hiraf y bydd raid i'r cyfyngiadau aros yn eu lle, ac o ganlyniad, y mwyaf fydd y niwed i fusnesau, i'r economi, i fywydau pobl, gyda mwy o farwolaethau a mwy o ddioddefaint. A rhaid imi ddweud heddiw fod cymharu ein gweithredoedd fel Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd, sy'n gyfrifol am achub bywydau, a'n cymharu ag ymddygiad unbeniaethau ffasgaidd bron mor anwybodus ag y mae'n sarhaus. Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau presennol yn gyson a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, yn ogystal ag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol a'r GIG i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf.

Gadewch imi atgoffa'r Aelodau Ceidwadol yn y gogledd heddiw fod arweinwyr awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cytuno i'r cyfyngiadau lleol hynny. Felly, a fyddant yn beirniadu arweinwyr yr awdurdodau lleol hynny fel y maent yn beirniadu Llywodraeth Cymru? A fyddant yn beirniadu arweinwyr yr heddlu? A fyddant yn beirniadu'r arweinwyr iechyd sydd hefyd wedi cytuno iddynt? Rwy'n amau hynny, Lywydd, ond mae'r gwahoddiad yno iddynt wneud hynny yn eu hymateb.

Lywydd, rydym yn parhau i baratoi ar gyfer agor trydydd cam y gronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru'n unig yr wythnos nesaf. Mae'n cynnwys £80 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, yn ogystal â'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol gwerth £60 miliwn. Gadewch imi bwysleisio, Lywydd, fod £20 miliwn o'r grantiau datblygu busnes yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, gyda disgresiwn i ddyfarnu grantiau 100 y cant heb fod angen arian cyfatebol. Felly, rydym eisoes yn gwneud yr hyn y mae un o'r pwyntiau yng nghynnig y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn galw amdano. Gadewch inni fod yn gwbl glir eto: arian grant yw hwn nad yw ar gael i fusnesau twristiaeth a lletygarwch dros y ffin yn Lloegr.

Bydd y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol yn agor ar gyfer ceisiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili erbyn diwedd yr wythnos hon. Yn wahanol i Loegr, gall busnesau sy'n parhau i fasnachu gael cymorth. Gwn fod busnesau yng Nghymru wedi gwerthfawrogi'r cymorth ychwanegol hwn nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr, ond daw â chyfrifoldebau yn ei sgil, wrth gwrs. Arian trethdalwyr yw hwn sy'n cael ei ddefnyddio. Dyma arian gan bobl sy'n gweithio a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi busnesau.

Mae pob busnes sy'n cael cymorth o'n cronfa cadernid economaidd wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd. Mae hynny'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, hyd yn oed ar yr adegau anoddaf; hyrwyddo gwaith teg, yr ymddengys bod y Ceidwadwyr heddiw mor amlwg yn ei wrthwynebu, mae arnaf ofn; yn ogystal â hyrwyddo gwell iechyd meddwl, hyrwyddo sgiliau, a hyrwyddo twf glân a gwyrdd. Nid ydym yn ymddiheuro am hyn, nac am ein dull partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig.

Lywydd, rydym eisoes wedi cael mwy na 18,000 o ymholiadau am gymorth yn nhrydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, ond hoffwn dynnu sylw hefyd at ba mor effeithiol y bu un arall o'n sefydliadau yn ystod y pandemig hwn. Ers dechrau'r argyfwng hwn, mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud 1,335 o fenthyciadau busnes COVID-19 Cymru i gwmnïau yng Nghymru. Mewn cymhariaeth, mae holl fanciau'r stryd fawr yng Nghymru—pob un ohonynt gyda'i gilydd—wedi gweinyddu, ar ran Llywodraeth y DU, 1,391 o fenthyciadau hyd at yr wythnos diwethaf. Mae'n golygu bod ein Banc Datblygu yng Nghymru wedi bod yr un mor bwysig â'r holl bŵer benthyca a gynigir gan holl fanciau'r stryd fawr a Llywodraeth y DU. Felly, rwy'n hynod falch o'r hyn y mae Banc Datblygu Cymru wedi'i wneud drwy'r misoedd diwethaf hyn, ac yn falch o gyflymder eu gweithredoedd a'u creadigrwydd.

Ond fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rhaid i Lywodraeth y DU roi mwy o gymorth ar y bwrdd i gefnogi busnesau a swyddi wrth inni fynd i mewn i fisoedd anodd y gaeaf. Dyna pam rwy'n gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu'r cynllun cadw swyddi. Mae'n amlwg nad yw'r cynllun a ddaeth yn ei le, y cynllun cymorth swyddi, yn cynnig digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng, gan gynnwys, yn hollbwysig, busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch.

Rydym hefyd yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n ceisiadau parhaus iddi ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i ymateb a buddsoddi yn adferiad Cymru, yn benodol, newid adnoddau cyfalaf yn refeniw, gan gynyddu cronfa wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca i'w wneud fel yr amlinellodd Helen Mary Jones. Ac o ran y gronfa ffyniant gyffredin, wel, cynnydd bychan iawn a wnaed gyda'r gronfa honno yn ôl Aelod Ceidwadol blaenllaw o Senedd y DU, er gwaethaf y brys amlwg i gyflwyno cynlluniau ar gyfer arian yn lle cyllid yr UE.

Lywydd, fel rwyf wedi dweud, mae hwn yn gyfnod na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Mae'r coronafeirws a'r risg gynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi rhoi pwysau anhygoel ar bawb—busnesau, unigolion a theuluoedd. Mae arnom angen Llywodraeth y DU ac mae arnom angen i'n cyd-Aelodau ar draws y Siambr ein cefnogi ni, Lywodraeth Cymru, i ddarparu'r adnoddau a'r sicrwydd y mae ein busnesau a'n cymunedau ei angen ar yr adeg y maent fwyaf o'i angen.

17:55

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch, bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. A gawn ni ddechrau drwy groesawu'r cymorth a ddarperir gan ein dwy Lywodraeth? Er mwyn ei gwneud yn glir fod y Ceidwadwyr Cymreig yma yn gwerthfawrogi rhai o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yma, ond mae gennym rai cwestiynau i'w gofyn i chi.

Hoffwn ddechrau gyda phwynt a wnaeth Russell George am ddod â mwy na £4 biliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer ymateb COVID ar ben y gefnogaeth ychwanegol gan y DU drwy'r system dreth a budd-daliadau y cyfeiriodd Darren Millar ati yn ei gyfraniad. Rwy'n credu y byddai'n drueni, oni fyddai, pe na baem yn cydnabod yr hyn y mae Canghellor y DU wedi llwyddo i'w wneud yn yr hyn a alwyd yn 'amseroedd digynsail' nifer o weithiau heddiw, a'r ymateb a ddaeth o'r hyn y gallai ei wneud o ganlyniad i gael ei ddal yn gwbl ddiarwybod gan rywbeth sydd wedi effeithio ar wledydd ym mhob rhan o'r byd.

Weinidog, pan ddywedwch yn y cynnig eich bod yn gwario mwy na'r swm canlyniadol o £4 biliwn, rwy'n meddwl tybed pa mor onest ydych chi gyda ni oherwydd, wrth gwrs, nid yw'n ychwanegol. Dyma arian a gymerir o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru er mwyn ei roi i mewn i'r pot sy'n cael ei redeg gan siambr y seren, sy'n golygu bod rhai o'ch adrannau'n gorfod erfyn i'w gael yn ôl. Ac er y byddem, wrth gwrs, yn croesawu'r gronfa cadernid economaidd, rwy'n meddwl y byddai'n rhaid i chi gydnabod hefyd na fyddech yn gallu cael cronfa cadernid economaidd i'r graddau rydych yn ei chael oni bai am yr arian a oedd yn dod i mewn, yn rhannol o leiaf, gan Lywodraeth y DU. 

Fel y clywsom yn gynharach, nid yw'r gyllideb atodol hon mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r defnydd o'r symiau canlyniadol rydym yn sôn amdanynt. Yn sicr, roedd £2.2 biliwn yn dod gan Lywodraeth y DU ar yr adeg y gwnaed y gyllideb atodol, a dim ond—credaf mai cyllideb o £1.8 biliwn ydoedd. Mor anhryloyw ag erioed pan fyddwn yn sôn am graffu ar y gyllideb. A dyna pam rwy'n siomedig ynghylch yr ymateb gan y Gweinidog cyllid i'r ddadl cyn hon, yn galw am ddeddfwriaeth er mwyn cyflwyno cyllidebau.

Ond rwy'n credu mai fy mhrif wrthwynebiad i'ch gwelliant yw pwynt 8. Eich Llywodraeth chi sydd wedi dewis cyfyngiadau yn yr hyn rydych yn eu galw'n ardaloedd lleol; eich Llywodraeth chi sydd wedi cau'r farchnad i'n sectorau twristiaeth a lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID mewn sawl rhan o Gymru—a phe bai Plaid Cymru'n cael eu ffordd, byddent yn ei chau'n gyfan gwbl. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'ch ymateb anghymesur i fygythiad y mae pawb ohonom am ei reoli, felly rydych yn talu amdano. Neu'n well byth, gwrandewch ar yr hyn y mae Cymru'n ei ddweud wrthych a'i wneud yn gymesur, sef yr hyn y mae'r gyfraith yn gofyn amdano wrth gwrs. Yn gynharach heddiw, cyfeiriwyd at arweinydd fy ngrŵp fel un a oedd yn gwneud dehongliadau amatur o ddogfen a ryddhawyd yn gynharach. Wel, pe baech yn gwrando ar Janet Finch-Saunders heddiw a phe baech yn gwrando ar Mark Isherwood heddiw, rwy'n credu y byddwch wedi clywed tystiolaeth o'r niwed y mae eich penderfyniad yn ei wneud i'n diwydiannau.

I fynd yn ôl at y gronfa cadernid economaidd am funud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, rwyf am groesawu'r £20 miliwn a glustnodwyd yng nghylch diweddaraf y gronfa cadernid economaidd mewn gwirionedd. Ond nid wyf yn derbyn awgrym Helen Mary Jones nad yw'r sector hwn yn bwysig yn Lloegr hefyd, fwy na rwy'n derbyn yr haeriad, neu'r awgrym a wnaed gan Mick Antoniw fod y gweithluoedd nad ydynt wedi undeboli drwy ddiffiniad yn weithluoedd annheg. Gadewch i ni gofio, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi torri TAW ar fusnesau twristiaeth ac nad ydynt yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth. Weinidog, ni ddywedoch chi lawer am y busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth—y gadwyn dwristiaeth, os hoffwch. Busnesau rheoli digwyddiadau yw'r rhain, er enghraifft, trefnwyr arddangosfeydd, busnesau celfyddydol ac adloniant, sy'n dal i feddwl tybed beth a wnaethoch gyda'r symiau canlyniadol coll gan Lywodraeth y DU, cwmnïau cyfyngedig un cyfarwyddwr sy'n gweithredu yn y cyfryngau, y celfyddydau ac adloniant, sydd, i bob golwg, wedi llithro o'r golwg yng nghylch diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, fel y mae busnesau wedi gwneud, neu fel y maent yn 'dal i fod' yn gwneud, dylwn ddweud, y busnesau bach, y busnesau gwely a brecwast bach yn arbennig, sydd angen cymorth o'r gronfa cadernid economaidd. Yr union fusnesau sydd angen cymorth llif arian, nid oes ganddynt y 10 y cant i'w gyflwyno ar hyn o bryd. A Huw Irranca-Davies, efallai y gallwn ddweud bod y gair 'busnesau' yn golygu cyflogwyr a gweithwyr—wrth gwrs fod hyn yn ymwneud â gweithwyr. Credaf y dylem grybwyll hefyd fod rhywfaint o'r cyllid, er gwaethaf cytuno â'r Gweinidog am waith da'r banc datblygu, fod rhywfaint o arian y gronfa cadernid economaidd 2.0 ychydig yn araf yn dod at y bwrdd, ac os clywais yn iawn, er bod Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau symud ers mis bellach, dim ond yn awr y gallant gael gafael ar yr arian ychwanegol sydd wedi'i anelu at yr ardaloedd sydd dan gyfyngiadau.

Rwyf am siarad yn fyr am y mapiau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynhyrchu ar hyn o bryd—y mapiau data ar sail wardiau. Mae'r data hwnnw ar gael, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru, yn ei chyfanrwydd, ddisgwyl gallu cyfeirio at y rhain fel tystiolaeth o'r angen i osod cyfyngiadau yn y ffordd rydych am ei wneud. Nid wyf yn credu y byddai'n deg dweud bod Blaengarw a Newton, y ddau le yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gymunedau sy'n cymysgu llawer iawn ac yn debygol o drosglwyddo'r clefyd hwn i'w gilydd. Heb fod yn hir yn ôl, roeddech yn dadlau na ddylai neb deithio ymhellach na 5 milltir o ble roeddent yn byw; nawr rydych chi'n mynnu eu bod yn gwneud hynny os ydynt eisiau siopa ac na allant wneud hynny heb groesi ffin sirol i gyrraedd y siopau agosaf, y salonau, y bwytai, a'r cyrchfannau twristiaeth sy'n cydymffurfio â mesurau COVID.

Gyda'r ffordd y mae pethau'n mynd ar hyn o bryd, gwnaeth David Rowlands y pwynt nad ydym yn gwahaniaethu rhwng ein pobl fwyaf agored i niwed a'n pobl leiaf agored i niwed, a sut i'w diogelu—mae'n fwy o ryw fath o un dull addas i bawb nad yw'n gweithio. Felly, ailadroddaf yr alwad a wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac Aelodau eraill mewn gwirionedd, i ddangos trywydd eich meddwl, Weinidog. Ac nid yw hynny'n golygu anfon datganiad byr allan 20 munud cyn i ni eistedd yma yn y Siambr; mae'n ddatganiad sy'n cyfeirio at SAGE, y dywedodd y Gweinidog iechyd ar y teledu y bore yma ei fod yn ymwneud yn bennaf â Lloegr ac mai dyna pam rydym angen grŵp cynghori technegol ar wahân ar gyfer Cymru—i gael y wyddoniaeth yn iawn—eiliadau cyn gresynu nad oedd hyn yn cael ei wneud ar sail y pedair gwlad drwy COBRA. I ateb hynny, rwy'n dweud: wel, nid yw Boris yn cytuno â chi; nid yw Nicola Sturgeon yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei wneud, ar wahân i'r ffin genedlaethol honno sy'n gyfleus iawn yn wleidyddol; ac wrth gwrs, mae Keir Starmer yn gofyn i chi wneud pethau gwahanol hefyd. Felly, os ydych yn sôn am ddull pedair gwlad, byddwch yn ofalus beth y deisyfwch ei gael.

Ac yn olaf, Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn a chyfeirio at rywbeth a ddywedodd Caroline Jones. Ni lwyddodd cyfyngiadau symud llawn, a oedd yn ddrud iawn yn nhermau iechyd meddwl, iechyd corfforol a'r economi, i atal COVID ar ôl dechrau eu llacio. Ond ni allwn aros dan gyfyngiadau parhaol am lawer iawn o resymau, ac er nad wyf yn cytuno â phopeth a ddywedodd, y pwynt hanfodol roedd hi'n ei wneud yw bod angen rhoi sylw i'r manylion yn hytrach na phastynu pawb yn ddiwahân. A dyna'r hyn rwyf am i Lywodraeth Cymru ddechrau ei ddangos yn awr, yn enwedig gan nad yw'n amlwg ar hyn o bryd beth yw ymateb y Llywodraeth i'r rhagolygon ehangach—dim un o'r pethau y soniodd Russell George amdanynt, fel polisïau y byddem yn eu cyflwyno, a allai fod o ddiddordeb i chi, ac rwy'n sicr yn gobeithio eu bod. Oherwydd roedd Helen Mary yn iawn pan ddywedodd na ddylem fod yn gwneud penderfyniadau ar sail iechyd neu'r economi mewn gwirionedd; penderfyniadau rhyng-gysylltiedig yw'r rhain, ac fel roedd David Rowlands yn nodi mewn gwirionedd, byddwn angen Cymru ffyniannus ac iach er mwyn gallu gweithredu yn y dyfodol. Diolch.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Reit, felly mae yna wrthwynebiad a dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud nawr cyn inni gynnal y bleidlais. Egwyl, felly.

18:10

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:05.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:13, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar endometriosis. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jenny Rathbone. Agor y bleidlais. O blaid 36, 13 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo. 

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith cyfyngiadau coronafeirws lleol ar gyflogwyr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

18:15

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r gwelliant nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1—amendment 1—a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 1 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 5 eu dad-ddethol.

Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, pump yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 3 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 36, Yn erbyn: 8, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Mae gwelliant 5 wedi cwympo, ac felly mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM7428 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.

2.Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.

3. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.

4. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.

5. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.

6. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.

7. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.

8. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

9. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr - Cynnig wedi ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n symud ymlaen at y ddadl fer. 

Daeth David Melding i’r Gadair.

10. Dadl Fer: Y tu hwnt i COVID-19: Economi gynaliadwy i Flaenau'r Cymoedd

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Gofynnaf i Alun Davies gyflwyno'r pwnc y mae wedi'i ddewis.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Dylwn ddweud ar y dechrau fod Dawn Bowden wedi gofyn am gael munud o fy amser, ac rwyf wedi cytuno i hynny.

Ysgrifennais yn y Western Mail y bore yma mai un o'r pethau sy'n sicr am fywyd gwleidyddol yng Nghymru yw lansio rhaglen ar gyfer y Cymoedd gan Lywodraeth neu weinyddiaeth newydd, ac wrth ddweud hynny, dylwn innau hefyd, wrth gwrs, ddatgan fy muddiant fy hun yn hynny gan fy mod yn Weinidog a lansiodd raglen o'r fath bedair blynedd yn ôl. Wrth wneud hynny, dilynais res o Weinidogion, wedi'u harwain yn ôl pob tebyg gan Cledwyn Hughes yn ôl yn 1966 pan sefydlodd uned tir diffaith yr hen Swyddfa Gymreig. Gallaf weld bod o leiaf un o'n Haelodau'n cofio'r digwyddiad hwnnw yn ôl yn y 1960au. Nid wyf am syrthio i'r fagl o dreulio amser yn ymosod ar eich rhagflaenwyr, yn enwedig pan nad ydynt yno i amddiffyn eu hunain, ond rwy'n credu ers hynny ein bod wedi gweld cyfres o Weinidogion yn lansio rhaglenni yn y Cymoedd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau amlwg a wynebir gan gymunedau yno. Mae rhai o'r rhaglenni hynny wedi bod yn ymdrechion egwyddorol i greu newid go iawn, ac mae eraill wedi bod yn fwy o ymarferion cysylltiadau cyhoeddus i osgoi'r angen am newid sylfaenol.

Roeddwn yn sicr yn gobeithio pan lansiwyd tasglu'r Cymoedd gennym rai blynyddoedd yn ôl y byddai hwnnw'n un o'r ymdrechion egwyddorol hynny i sicrhau newid gwirioneddol, newid sylfaenol i'n dyfodol. Roedd y Gweinidog a ymatebodd i'r ddadl y prynhawn yma yn rhan ohono, ac roeddwn yn teimlo ein bod wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd. Bydd yn defnyddio'r cyfle hwn i ddweud wrthym a yw hynny'n wir ai peidio, mae'n siŵr, ond roeddwn yn teimlo ein bod wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd. Ond bydd hefyd yn cofio'r diffygion sylfaenol roedd angen inni eu goresgyn. Fel Gweinidog yn ôl yn 2016, roedd gennyf gyllideb fach iawn, grŵp bach o weision sifil a dim cyfle i redeg nac arwain rhaglenni. Fe fydd yn cofio imi orfod mynd i siarad gydag ef a'i swyddogion i ofyn am ei gymorth a'i gyllidebau er mwyn arwain unrhyw newid economaidd ac yn yr un modd, bu'n rhaid imi fynd at Weinidog arall a Gweinidogion eraill i geisio eu perswadio i ddefnyddio'u cyllidebau a'u swyddogion i ddarparu adnoddau ar gyfer rhannau eraill o'r rhaglen. Roedd yn ddatgymalog ar y gorau ac yn ddiffygiol ar y gwaethaf. Mater i eraill fydd penderfynu pa mor dda y gwnaethom, ac nid wyf am gymryd rhan mewn gwagymffrost felly y prynhawn yma.

Ers hynny, ers 2016, safodd y Gweinidog a minnau yng Nglynebwy yn 2017 a lansio rhaglen y Cymoedd Technoleg yn fy etholaeth i. Rydym wedi gweld bargeinion dinas Caerdydd ac Abertawe yn datblygu'n ansicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Rydym wedi clywed sôn am gronfa ffyniant gyffredin ond hyd yma, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon yn gwybod beth yw hi nac i ble y mae'n mynd i fynd. Gallwn dybio y bydd y Cymoedd yn rhan o hynny. Ond yr hyn rydym wedi'i weld yw ailffocysu gwaith, newid blaenoriaethau. Nid ydym wedi gweld y gwelliant roedd angen inni ei weld, ac rydym i gyd yn gwybod mai'r Cymoedd yw'r rhannau o Gymru sy'n wynebu'r heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf drwy'r holl ddegawdau o'r rhaglenni hyn. Ac mae hefyd yn deg dweud, rwy'n meddwl, pe gallai penderfyniadau pwyllgor, datganiadau i'r wasg ac areithiau ddileu tlodi, y byddai'r Cymoedd yn iwtopia fodern. 

Mae'n amlwg i mi yn awr fod angen inni ailedrych ar hanfodion y ddadl hon a sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn, a hoffwn ddechrau'r ddadl honno y prynhawn yma. Daeth tasglu'r Cymoedd i mewn am sgyrsiau a gynhaliwyd cyn etholiad diwethaf y Senedd yn 2016. Roedd llawer ohonom bryd hynny'n pwyso am awdurdod datblygu yn y Cymoedd. Am bob math o resymau, teimlwyd ei fod yn amhriodol ac roedd tasglu, mewn sawl ffordd, yn gyfaddawd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y cyfaddawd hwnnw'n mynd i gyflawni'n hirdymor. Credaf fod angen inni ailystyried y ddadl honno heddiw. Rwyf am wneud hynny drwy siarad am bedair elfen: cysondeb, capasiti, cydlyniad ac ymrwymiad. 

Mae arnom angen cysondeb polisi. Mae'r Cymoedd wedi dioddef gormod oherwydd Gweinidogion sydd naill ai â chynllun neu angen arbrofi gyda damcaniaeth economaidd, ac mae pob Gweinidog newydd angen cynllun newydd, targed newydd, amcanion newydd, minnau'n gynwysedig. Ond canlyniad hynny yw dechrau a stopio. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn adolygu ac yn newid dull nad yw'n gweithio, a byddai'n ffôl gwneud fel arall. Ond mae torri a newid heb adolygiad o'r fath a heb reswm o'r fath dros gynnal adolygiad yn ffôl. Mae nodi targedau, strategaethau, amcanion a rhaglenni ar ddechrau Senedd, ddim ond i droi cefn ar y dulliau hynny hanner ffordd drwodd, yn gwahodd rhwystredigaeth gan y bobl a gynrychiolwn, ac yn gwarantu methiant ein rhaglenni ein hunain. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu cael cysondeb yn hirdymor.

Ond os oes gennym gysondeb polisi, mae arnom angen ffordd o gyflawni'r ddadl honno hefyd. Mae arnom angen cynnydd sylweddol mewn capasiti. Y tu allan i Rondda Cynon Taf, mae'n anodd gweld unrhyw un o awdurdodau'r Cymoedd â gallu i gyflawni'r raddfa sydd ei hangen i greu'r amodau ar gyfer dyfodol economaidd sylfaenol wahanol. Y gwir plaen yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y Cymoedd yn rhy fach i ddarparu'r math o fewnbynnau economaidd a welais yn Fflandrys rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddem yn edrych ar barc y Cymoedd. Roedd maint yr uchelgais yno'n wych—ac mae Dawn Bowden yma o Ferthyr Tudful; bûm yn trafod prosiect Crucible gyda hi. Roedd yn wych ei weld. Ond mae hi'n gwybod ac rwy'n gwybod hefyd na fydd byth yn digwydd heb y capasiti i wneud iddo ddigwydd, ac nid yw'r capasiti hwnnw'n bodoli heddiw.

Gŵyr y Gweinidog fod amcanion gwych i raglen y Cymoedd Technoleg a lansiwyd ganddo ef a minnau—amcanion yr ymrwymais iddynt ac rwyf am eu gweld. Ond rydym hefyd yn gwybod nad oes gennym gapasiti i'w gyflawni ym Mlaenau Gwent, ac mae'n rhaid inni dderbyn hynny a deall hynny. Gwyddom hefyd mai'r unig sefydliad, os hoffech, sydd â'r gallu i gyflawni a'r pŵer i sicrhau newid yw Llywodraeth Cymru. Ond rydym hefyd yn gwybod, os ydym yn onest â'n gilydd, fod gan Weinidogion ac adrannau a swyddogion i gyd flaenoriaethau gwahanol sy'n cystadlu. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, mae gormod o amser ac adnoddau'n cael eu gwastraffu ar geisio cydlynu'r ffrydiau ariannu a'r blaenoriaethau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd, a dim digon o amser yn cyflawni'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd. 

A daw hynny â mi at elfen arall: cydlyniad. Mae wedi bod yn un o ffeithiau bywyd, ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru, fod y prif ysgogiadau polisi sy'n ofynnol gan lunwyr polisi wedi gorwedd mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol arweinwyr, gwahanol flaenoriaethau, ac amcanion gwahanol. Ni fu erioed fwy o angen rhaglen gydlynol ar y Cymoedd. Ond mae dryswch gwahanol strwythurau, a gormodedd o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd, yn golygu nad oes gennym fawr ddim o ran cydlyniad. Mae gennym lawer iawn o gyfoeth o ran strategaethau a rheolaeth, ond nid oes gennym allu i gyflawni'n gydlynol. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros orsaf drenau yn Abertyleri, fel y gŵyr y Gweinidog yn rhy dda, rwy'n siŵr; rydym yn rhannu hunllefau am y pethau hyn ar wahanol adegau. Cynigiodd bargen dinas Caerdydd gyfaddawd gyda stop newydd yn Aber-bîg. Nawr, er cymaint y byddai hynny'n cael ei werthfawrogi, nid yw'n orsaf yn Abertyleri, ac nid yw byth yn mynd i fod. Nid yw byth yn mynd i gyflawni'r newid sylweddol sydd ei angen arnom. Ond pam fod Llywodraeth Cymru, a pham fod tasglu'r Cymoedd bryd hynny, a pham fod bargen dinas Caerdydd yn gweithio yn yr un lle yn unol â gwahanol flaenoriaethau, gyda gwahanol uchelgeisiau? Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â hynny.

Felly, mae angen ymrwymiad a ffocws i'n dyfodol sy'n fanwl ac yn barhaus. Gwyddom fod pethau'n mynd i fynd yn anos ac nid yn haws. Credaf fod Llywodraeth y DU yn ceisio gwleidyddoli'r ffordd y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn gweithio, ac ni fydd yn sicrhau cydlyniad ag unrhyw un o'r rhaglenni eraill sydd gennym yn y Cymoedd. Llai o gydlyniad, nid mwy, a welwn yn y dyfodol. Felly, rwyf am weld ac rwyf am agor y ddadl ynglŷn ag i ble rydym yn mynd yn y Cymoedd. Credaf fod arnom angen awdurdod datblygu yn y Cymoedd. Credaf fod angen inni ddwyn llywodraeth leol, ac adnoddau llywodraeth leol, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Credaf fod angen inni gynnwys y busnesau yn y Cymoedd, a chymunedau'r Cymoedd. Ac mae angen inni wneud hynny ar sail statudol, gyda phwerau statudol a gallu i gyfeirio datblygiad yn y dyfodol. Mae angen inni allu gwneud hynny hyd braich, rwy'n credu, o'r Llywodraeth, lle bydd Gweinidog yn gosod y blaenoriaethau ac yn pennu'r amcanion, ond lle bydd yr awdurdod ei hun yn gyfrifol am gyflawni.

Gobeithio y gallwn gael y ddadl hon, a gobeithio y gallwn gael dadl sy'n ddadl gyfoethog ac yn ddadl gadarnhaol, oherwydd os gallwn gael y pethau hyn yn iawn yn y Cymoedd, lle mae pethau o bosibl yn fwyaf anodd, credaf nad oes rheswm pam na allwch gael hyn yn iawn—gwelaf fod Rhun ap Iorwerth gyda ni—yn Ynys Môn , ac mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd. A gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y ffocws hwnnw gennym mewn gwahanol rannau o'r wlad. Felly, gobeithio y gallwn gael y ddadl hon, gobeithio y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, a gobeithio y gallwn gael dadl sy'n canolbwyntio ar yr hyn rydym yn awyddus i'w gyflawni dros y bobl rydym i gyd yn ceisio eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn. 

18:25

Dawn Bowden. A gawn ni agor y meic os gwelwch yn dda?

Ymddiheuriadau am hynny, Lywydd; mae fy meic ar agor nawr. A gaf fi ddiolch i Alun Davies am roi munud o'i amser i mi yn y ddadl hon? Clywaf yr achos y mae wedi'i osod ar ran ei etholaeth ef a chymunedau ehangach y Cymoedd. Wrth gwrs, mae gan Alun brofiad sylweddol, fel yr aelod etholaeth dros Flaenau Gwent, ac fel cyn Weinidog a aeth i'r afael yn uniongyrchol â phroblemau dwfn ein cymunedau yn y Cymoedd.

Ar ôl gwasanaethu am bron dymor yn y Senedd hon erbyn hyn, ac yn fwy diweddar, fel aelod o dasglu'r Cymoedd, rwy'n amlwg o'r farn nad yw popeth rydym wedi'i gyflawni hyd yma—er enghraifft, y ddarpariaeth ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cyfleusterau iechyd a gofal newydd, gwella trafnidiaeth a chyfathrebu, sgiliau a phrentisiaethau, gofalu am ein hamgylchedd, ein treftadaeth a'n diwylliant arbennig yn y Cymoedd—wedi mynd yn ddigon pell eto i drawsnewid rhai o'r problemau dwfn yn economaidd, yn gymdeithasol, ac o ran iechyd a lles a ddisgrifiwyd gan Alun.

Wrth gwrs, mae'r problemau hyn wedi'u gwreiddio'n rhy aml mewn profiad o dlodi, nad yw polisïau Llywodraethau Torïaidd olynol y DU ond wedi'i waethygu. Fodd bynnag, yn wahanol i Alun, nid wyf ar hyn o bryd yn cyflwyno achos dros ymateb strwythurol penodol i'r materion hyn, er ei fod, fel arfer, yn gwneud llawer o'r prif bwyntiau yn ei gyfraniad. Ond yn ystod tymor y Senedd hon, rwyf wedi nodi'r defnydd o dasglu'r Cymoedd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ardaloedd menter, fel Dyfrffordd y Ddau Gleddau a phrifddinas-ranbarth Caerdydd. Ac yn achos y Cymoedd, rwy'n gobeithio ein bod yn awr yn dwyn ynghyd y gorau o'r gwersi hyn y mae'r gwahanol fodelau wedi'u darparu, fel ein bod yn parhau i wella'r canlyniadau i'n hetholwyr yng nghymunedau'r Cymoedd yn nhymor nesaf y Senedd hon.

18:30

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb—Lee Waters. Mae'n ddrwg gennyf, mae gennym y pennaeth—galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gallu ymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg hoffwn ddiolch i Alun Davies am gyflwyno'r ddadl hon, a diolch hefyd i Dawn Bowden am gyfrannu ati. Oherwydd nid oes amheuaeth fod y misoedd diwethaf ymhlith rhai o'r tristaf a mwyaf heriol y gall unrhyw un ohonom eu cofio. Ac wrth inni edrych ar y gwaith o fynd i'r afael â'r coronafeirws, nad yw wedi dod i ben, rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar y dyfodol ac ar y gwaith adfer, ac yn enwedig ar sut y gallwn roi gobaith a chyfle i gael dyfodol economaidd newydd yn yr ardaloedd ar draws Blaenau'r Cymoedd—troi cefn ar y gorffennol, a dyfodol mwy gwyrdd, mwy teg a mwy llewyrchus.

Fel y mae Alun wedi egluro mor huawdl, mae gwaddol dad-ddiwydiannu ar draws Blaenau'r Cymoedd dros y 40 mlynedd diwethaf wedi bod yn sylweddol, ond rhaid inni ei oresgyn. Gadawodd farc ar yr amgylchedd, gadawodd farc ar iechyd pobl yr ardal, ac mae angen set gymhleth o ymyriadau i fynd i'r afael ag ef. Nid oes gennym amser y prynhawn yma i redeg drwy bob un ohonynt, ond hoffwn gyffwrdd ar nifer y mae Gweinidogion a Llywodraeth Cymru yn arwain arnynt, i helpu i lunio'r yfory mwy disglair, cynaliadwy a theg hwnnw i bobl mewn cymunedau fel Blaenau Gwent ac ar draws Blaenau'r Cymoedd.

Y cyntaf ac efallai'r pwysicaf yw'r cyfle sydd gennym i adfywio ac ailgynllunio llawer o'r canol trefi a'r strydoedd mawr sydd gennym ar draws y Cymoedd, er mwyn dod â balchder yn ôl i'r trefi hynny. Yn aml, maent wedi teimlo'n rhy bell o ganolfannau gweithgarwch trefol dwys, maent wedi teimlo'n rhy bell ac wedi'u gadael ar ôl oddi wrth ffrwyth twf yn ystod globaleiddio. Mae angen inni ailgydbwyso'r ffordd y mae'r economi'n gweithio yng Nghymru, a ledled y DU, ac wrth wneud hynny rhaid inni hyrwyddo buddiannau trefi.

Mae COVID yn ddigwyddiad trasig, ond mae'n cyflymu newid sylweddol yn y ffordd rydym yn byw, y ffordd rydym yn gweithio, a'r ffordd rydym yn strwythuro ein bywydau. Ac mae'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol a gweithio mwy hyblyg, i ffwrdd o ganolfannau trefol mawr, yn agor cyfle i ni ddenu ymwelwyr newydd a thrwy ddiffiniad, egni newydd yn ôl i galonnau llawer o'n cymunedau llai yn y Cymoedd. A dyna pam rydym wedi cytuno ar y dull 'canol y dref yn gyntaf' ar draws y Llywodraeth. A'r man cychwyn ar gyfer holl bolisi'r Llywodraeth yw: a ellir gwneud hyn yng nghanol y dref? A ellir gwneud yr adeilad hwn, y gweithgarwch hwn, y gwasanaeth newydd hwn ar stryd fawr neu leoliad ynghanol y dref—o addysg bellach i ofal, o weithio o bell i fathau newydd o fyw â chymorth, o weithgareddau Llywodraeth Cymru yn cael eu datganoli a'u gwasgaru'n fwy eang i drefi yn y Cymoedd, o weithgareddau llywodraeth leol yn cael eu lleoli ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi? Dim ond ein dychymyg a'n parodrwydd ein hunain i newid all gyfyngu ar y cyfleoedd. Ac nid oes ond angen edrych ar rai o'n hadeiladau addysg bellach newydd diweddar sydd wedi gwneud cymaint i helpu i adfywio ardaloedd lle maent wedi'u lleoli.

Ond wrth gwrs, rwy'n cydnabod lawn cymaint mai dim ond un rhan o'r ateb yw hyn. Mae stori a hanes cyfoethog y Cymoedd, a chryfder parhaus yr economi ranbarthol, yn ymwneud â chynhyrchu, yn y gweithgynhyrchu, datblygu nwyddau, cynnyrch a gwasanaethau diwydiannol o ansawdd uchel, fel y gwelir mewn sectorau fel gweithgynhyrchu modurol a gweithgynhyrchu uwch, sydd wedi bod mor bwysig yn y cymunedau y mae Alun Davies a Dawn Bowden yn eu cynrychioli a'u gwasanaethu. A dyna pam fod rhaglen y Cymoedd Technoleg, a'i hymrwymiad i fuddsoddi mewn technolegau digidol newydd i greu economi ranbarthol gynaliadwy, mor hanfodol bwysig, fel y dywedodd Alun. Bydd £100 miliwn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Cymoedd Technoleg dros 10 mlynedd yn creu 1,500 o swyddi cynaliadwy, ac rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu'r arbenigedd a'r capasiti sydd eu hangen er mwyn iddo lwyddo.

Drwy'r buddsoddiad a wnaed gan gwmnïau fel Thales, rydym eisoes yn gweld potensial cyfleoedd newydd sy'n deillio o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol ac o ddiwydiannau arloesol, megis technoleg batri 5G ac ymchwil i gerbydau awtonomaidd yn y dyfodol. Ond fel y soniais, nid yw llawer o'r heriau sy'n wynebu Blaenau'r Cymoedd yn syml eu natur ac felly mae angen ymatebion sydd eu hunain yn soffistigedig iawn ac yn eang eu cwmpas—pethau sy'n mynd yn llawer ehangach na'r portffolio economaidd yn unig, unwaith eto, fel y dywedodd Alun, gan ystyried yr angen i gysoni datblygu economaidd â chynllunio gofodol a pholisi a darpariaeth trafnidiaeth.

Er mwyn adeiladu economi gadarn, gwyrdd a theg yn y dyfodol ym Mlaenau'r Cymoedd, mae angen ymyriadau ar draws holl feysydd trafnidiaeth, tai, adfywio ac iechyd. Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd dros dro, mae seilwaith yn allweddol i lwyddiant unrhyw economi ranbarthol, ochr yn ochr â sgiliau. Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddwyd mai Future Valleys yw'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y cam nesaf o'r gwaith ar y cynllun hirdymor trawsnewidiol i ddeuoli'r A465. A bydd y gwaith adeiladu, rwy'n falch o ddweud, yn dechrau o ddifrif ar ddechrau 2021. Disgwyliwn i'r prosiect hwnnw ddarparu £400 miliwn o wariant uniongyrchol yng Nghymru, gyda thros £670 miliwn o werth ychwanegol crynswth yn cael ei gynhyrchu i economi ehangach Cymru, a £170 miliwn o wariant o fewn y gadwyn gyflenwi leol. 

Ac wrth gwrs, mae'r metro yn ddarn arall o seilwaith a all gefnogi economi Blaenau'r Cymoedd, gydag uwchraddio rheilffyrdd Glynebwy a Maesteg yn rhan bwysig iawn o'n gwaith cynllunio. A rhaid inni sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gyfer trenau'n cael eu darparu yn y pen draw ar gyfer yr ardaloedd sydd y tu allan i'r hyn a ddisgrifiwn fel rheilffyrdd craidd y Cymoedd ar hyn o bryd. Bydd y buddsoddiadau hyn yn hollbwysig wrth i economi Blaenau'r Cymoedd ymadfer o heriau parhaus y pandemig COVID-19 dros y blynyddoedd nesaf.

Darllenais gyda diddordeb erthygl Alun Davies yn hyrwyddo asiantaeth ddatblygu'r Cymoedd, yn bennaf am fy mod yn benderfynol o greu dull datganoledig sy'n seiliedig ar leoedd o gyflawni datblygiad economaidd pan gyhoeddasom y cynllun gweithredu economaidd. Ac roedd rhan o'r cynllun hwnnw'n gweld her ac arweiniad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar y ffordd orau o sicrhau datblygiad economaidd rhanbarthol—sut i greu'r sefydliadau a'r cyfryngau cywir i sicrhau bod gennych economïau rhanbarthol cryf a phwerus. Ac wrth gwrs, yn ei adroddiad diweddar, hyrwyddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y gwaith o greu asiantaethau datblygu rhanbarthol, sy'n cyd-fynd yn berffaith â dadl Alun ac rwy'n gefnogol iawn iddi.

Gadawaf fy nghyfraniad yno, ond digon yw dweud fy mod i a phob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo'n sylfaenol i gefnogi llwyddiant Blaenau'r Cymoedd. Mae wedi chwarae rhan ganolog a chyfoethog yn llunio ein hanes a gall chwarae rhan ganolog yn ein dyfodol balch a bywiog—dyfodol mwy disglair a gwyrdd a theg a all gynnal unigolion mewn cymunedau ledled y rhanbarth. Diolch.

18:35

Daeth y cyfarfod i ben am 18:38.