Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
29/09/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:31 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y Cyfarfod Llawn hwn ar ffurf hybrid, gydag Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal heddiw. Mae pob Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hyn, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag ydyn nhw i'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar yr agenda, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'n ôl yn wyrddach ar ôl pandemig COVID-19? OQ55625
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n paratoi ar gyfer ailadeiladu gwyrdd ar ôl COVID. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth yn y dyfodol, yn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, ac yn mynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i'r adferiad gwyrdd hwn fod yn dda i'r amgylchedd, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes—
Michelle, a gaf i eich atal am funud? Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli dechrau eich cwestiwn atodol. Os gallwch chi ddechrau eto.
Iawn. Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i unrhyw adferiad fod er lles yr amgylchedd ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes i lunio syniadau gweledigaethol a buddsoddiad trawsnewidiol i fynd i'r afael ag iechyd, yr economi, a'r argyfyngau hinsawdd a natur parhaus, er mwyn dyfodol hirdymor Cymru. Mae hi'n dweud ein bod ni angen diffiniad newydd o ffyniant yn seiliedig ar lesiant a ffordd decach a gwyrddach o fyw. Felly, beth yw un o'ch syniadau llawn dychymyg? Adeiladu ffordd arall eto—y llwybr coch—ffordd na fydd yn diogelu natur a'r amgylchedd, fel y mae'r TUC, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a phobl Cymru ei eisiau, ond a fydd yn eu dinistrio. Diddymwyd ffordd liniaru'r M4 gennych chi gan y byddai'n niweidio'r amgylchedd yn y de. Felly, mae'n drueni i bobl y gogledd nad ydych chi'n poeni cymaint amdanom ni, ond yn hytrach yn poeni mwy am yrwyr lorïau sydd eisiau croesi i mewn ac allan o Iwerddon. Dywedasoch yn wreiddiol iddo gael ei ddewis oherwydd mai dyma'r dewis rhataf, ond mae'r amcangyfrif o'r gost eisoes wedi codi gan £20 miliwn. Rydym ni angen i bob ceiniog sydd gennym ni gael ei gwario ar brosiectau adfer. Pa bryd fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'r rhethreg ac yn neilltuo arian i brosiectau a fydd yn helpu ein hadferiad, ac yn gwneud hynny mewn modd nad yw'n dinistrio coetiroedd a thir fferm hynafol am byth?
Wel, Llywydd, mae gen i gyda mi yma, fel y gall yr Aelodau ei weld, y briff i randdeiliaid a ddosbarthwyd i Aelodau ac eraill am y cynlluniau ar gyfer datblygu cynllun coridor Sir y Fflint. Rhag ofn nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i weld y ddogfen honno, gadewch i mi ei sicrhau ei bod yn ei gwneud yn eglur mai proses ddylunio ragarweiniol yw'r cam yr ydym ni arno gyda'r llwybr coch, a fydd yn edrych yn fwy manwl ar yr holl faterion amgylcheddol a pheirianneg a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Bydd y llwybr a ffefrir yn cael ei ddatblygu ymhellach o ganlyniad i'r ystyriaeth honno, gan gynnwys arfarniadau amgylcheddol, traffig ac economaidd, ac, fel y mae'r briff i randdeiliaid yn ei gwneud yn eglur, bydd hynny i gyd yn cael ei ddylunio i sicrhau bod effaith y gwelliannau—y gwelliannau angenrheidiol iawn—cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol, y dirwedd, ansawdd aer a bioamrywiaeth. Felly, nid wyf i'n diystyru am eiliad y pryderon y mae'r Aelod wedi eu codi. Maen nhw'n rhai cywir a phriodol, ond mae'r broses yr ydym ni wedi cychwyn arni wedi ei llunio yn union i archwilio gyda phobl leol a chyda rhanddeiliaid lleol y materion y mae'r Aelod yn eu codi a'u datrys nhw mewn modd sy'n cymryd y materion pwysig hynny i ystyriaeth.
Prif Weinidog, yn amlwg os ydym ni'n mynd i adeiladu yn ôl ac adeiladu yn ôl yn wyrddach, mae'n bwysig y gall busnesau oroesi gwahanol gyfnodau cyfyngiadau symud rhanbarthol neu leol, neu gyfyngiadau symud cenedlaethol yn wir. Pa hyder allwch chi ei roi i fusnesau y byddan nhw yno ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws hwn, ac yn arbennig, ar ôl i ni ei drechu nawr—ar yr ail gynnig—na fydd trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud yn ddiweddarach yn y gaeaf, pedwerydd cyfnod o gyfyngiadau symud, a fydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau a hyder busnesau, yn ogystal ag ar hylifedd y busnesau hynny i fod yno i adeiladu yn ôl yn well, i adeiladu yn ôl yn wyrddach?
Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt yn y fan yna. Gwn y bydd yn croesawu'r cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates o £60 miliwn i helpu busnesau y mae'r cyfyngiadau lleol ar ddiogelu iechyd wedi effeithio arnyn nhw yn benodol, a bydd fy nghyd-Weinidog yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma a bydd yn gallu egluro mwy o'r manylion bryd hynny.
Mae'r ail bwynt y mae Andrew R.T. Davies yn ei wneud yn ymwneud â digwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac yn hynny o beth, hoffwn ddweud hyn: bydd hynny yn dibynnu, yn hollbwysig, ar y graddau y mae dinasyddion Cymru yn parhau i gyd-fynd â'r holl fesurau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gynnydd i achosion o'r coronafeirws yn y dyfodol. Felly, bydd y Llywodraeth yn gwneud yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud. Bydd y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd cyhoeddus, yr heddlu—yr holl sefydliadau hynny sy'n gweithio mor galed i geisio diogelu pobl a chadw Cymru yn ddiogel—yn chwarae eu rhan. Ond, yn y pen draw, mae coronafeirws yn lledaenu pan fydd pobl yn cyfarfod gyda'i gilydd o dan amgylchiadau na ddylen nhw, pan fyddan nhw'n teithio yn ddiangen, pan fyddan nhw'n dod i gysylltiad ag eraill mewn ffyrdd y gellid eu hosgoi, ac mae'r siawns sydd gennym ni o osgoi rhagor o achosion o gynnydd a chyfyngiadau lleol pellach yn dibynnu yn hollbwysig ar bob un ohonom ni yn chwarae ein rhan.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru? OQ55600
Wel, Llywydd, nid yw Prif Weinidog y DU wedi cynnig unrhyw drafodaethau ynghylch y mater hwn. Rydym ni'n trafod ein cynlluniau gyda Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU, ond mae cynnydd yn dal i fod yn araf, er mai dim ond tri mis sydd ar ôl tan y bydd cyllid yr UE ar ei gyfnod olaf .
Wel, Prif Weinidog, rwy'n siomedig o weld nad oes unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal ar y lefel uchaf honno o Lywodraeth, ond nid wyf i'n rhoi'r bai arnoch chi o gwbl. Yng Nghymru, gyda'n model cadw pwerau sefydledig o ddatganoli a'r blaenoriaethau gwario yn deillio o fframwaith polisi eglur, a gyfansoddwyd yn gyfreithiol, yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn ddadlau yn y Senedd ynghylch y blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd ac amgylcheddol, ein llwyddiant a'n methiannau, mewn ffordd agored ac atebol a democrataidd, ac rydym ni'n gwneud hynny. Ond, mae gen i bryder, Prif Weinidog. Yn Lloegr, cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, rydym ni'n gwybod erbyn hyn mai seddi ymylol y Ceidwadwyr mewn ardaloedd cefnog oedd naw o'r 10 prif fuddiolwr y cynnydd i wariant ar addysg . Ac mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi datgelu bod rhai o rannau mwyaf difreintiedig Lloegr wedi cael eu gadael allan o gynllun gwerth £3.6 biliwn i adfywio canol trefi. Dewiswyd chwe deg un o'r trefi hynny gan Weinidogion dan arweiniad Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Roedd pob un ond un yn seddi yr oedd y Torïaid yn eu cynrychioli neu a oedd yn dargedau iddynt.
Felly, Prif Weinidog, a ydych chi, fel finnau, yn poeni, yn absenoldeb eglurder ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU, yn absenoldeb ymgysylltiad gan Brif Weinidog y DU ac yn absenoldeb fframwaith polisi DU, bod perygl eglur presennol y gallai Mr Johnson gael ei berswadio gan y rhai sydd â—[Anghlywadwy.] —a diffyg dealltwriaeth o ddatganoli i ystyried cronfeydd i ddisodli rhai'r UE fel cyfle ar gyfer jerimandro pleidiol yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae'n gwneud hynny gyda holl awdurdod rhywun sydd wedi cadeirio ein grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, sy'n cadeirio pwyllgor monitro'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ac sy'n cadeirio ein grŵp cynghori Ewropeaidd. Felly, mae'r pethau y mae'n eu dweud wrth y Senedd yn dod gyda'r holl awdurdod a'r wybodaeth y mae wedi gallu eu dwyn ynghyd yn y swyddi pwysig iawn hynny.
Nawr, mae'r cynlluniau ar gyfer buddsoddiad yng Nghymru yn y dyfodol y mae wedi eu llunio gyda'r cyd-Aelodau hynny, trefniant wedi'i wneud yng Nghymru sy'n adlewyrchu arfer gorau rhyngwladol, gan ddiwallu anghenion penodol gwahanol sectorau a rhannau o Gymru gyda mwy o ddirprwyo penderfyniadau i ranbarthau, mae hwnnw'n ddull sydd wedi ei gymeradwyo nid yn unig gan y Senedd, ond gan y grŵp seneddol hollbleidiol dan gadeiryddiaeth ein cydweithiwr Stephen Kinnock yn San Steffan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru, yr Awdurdod Safonau Ariannol, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a melinau trafod annibynnol fel Sefydliad Joseph Rowntree.
Y perygl nawr yw bod Llywodraeth y DU, wrth geisio mantais bleidiol adrannol gul, yn llunio sefyllfa lle byddan nhw yn cymryd penderfyniadau oddi wrth y Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd ac yn eu rhoi yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol Cymru nas etholwyd—o safbwynt Cymru—ac mae gen i ofn bod yr holl rybuddion y mae Huw Irranca-Davies wedi eu gwneud y prynhawn yma yn debygol iawn o fod yn wir oni allwn ni atal y cynlluniau hynny rywsut, a byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn i wneud yn union hynny.
Prif Weinidog, canfu adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddyfodol datblygu rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru nad oedd y cysylltiadau marchnad lafur rhwng cymunedau'r canolbarth a'r de-orllewin yn arbennig o gryf. Nid yw'r argymhelliad hwnnw yn syndod o gwbl i mi. Aeth yr adroddiad ymlaen i argymell y byddai'n fuddiol gwahanu'r canolbarth oddi wrth y de-orllewin i greu pedwar rhanbarth economaidd ar wahân, yn hytrach na'r tri rhanbarth presennol. Tybed pa ystyriaethau yr ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi i'r argymhelliad penodol hwn a'r argymhellion eraill ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn adroddiad yr OECD.
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at adroddiad pwysig iawn yr OECD a gomisiynwyd gennym ni, yn rhan o'n penderfyniad, fel y dywedais yn gynharach, y dylai polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru gael ei lywio gan arfer gorau rhyngwladol. Mae'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y grwpiau a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, a bydd hynny'n llywio ein syniadau yn Llywodraeth Cymru a byddwn yn ymateb yn llawn i argymhellion yr OECD. Ond y pwynt yr wyf i'n ei wneud yn fwy cyffredinol, Llywydd, yw hwn: bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i ni yn y Senedd hon—Aelodau yma—gyfrannu eu holl brofiad a'u gwybodaeth leol at y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae'r syniad y dylai'r penderfyniadau hyn gael eu cymryd oddi wrthym ni ni a chael eu gwneud gan rywun sy'n eistedd y tu ôl i ddesg yn Whitehall, a fydd yn gwybod ychydig iawn, iawn am ganolbarth Cymru, de-orllewin Cymru nac unrhyw rannau eraill sydd angen elwa ar ein cyllid yn y dyfodol, rwy'n credu yn berygl gwirioneddol i ni a byddai'n golygu, yn y dyfodol, na fyddai'r mathau o gwestiynau y mae Russell George wedi eu codi yn briodol iawn yma y prynhawn yma yn rhan o'n hystyriaethau na'n penderfyniadau mwyach.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddwyd cyfres o ddatganiadau polisi pwysig gan Weinidogion Llywodraeth Cymru erbyn hyn i'r cyfryngau yn hytrach nac i'r Siambr hon. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod Aelodau yn cael y cyfle i ymateb i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch ddewis gwneud cyhoeddiad i'r cyfryngau a oedd yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ledled y de. Methoch ag ateb cwestiynau ar amseriad eich datganiad, a'r wythnos hon rydych chi wedi penderfynu peidio ag ymddangos yn bersonol hyd yn oed. Prif Weinidog, mae'r diystyrwch hwnnw o ddemocratiaeth Cymru yn annerbyniol, ac a wnewch chi sicrhau nawr y bydd unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn y Siambr hon yn gyntaf fel y bydd gan Aelodau etholedig, yn yr ysbryd o fod yn agored ac yn dryloyw, gyfle i graffu yn briodol ar Lywodraeth Cymru?
Llywydd, dywedasoch wrth gyflwyno sesiwn y prynhawn yma bod gan bob Aelod o'r Senedd yr un cyfle i gymryd rhan, boed hynny o bell neu'n bersonol, felly gadawaf i chi ymdrin â'r sylwadau a wnaeth arweinydd yr wrthblaid ynghylch ble mae pobl yn dewis cymryd rhan yn y trafodion hyn.
Rwy'n dweud wrth bobl yng Nghymru drwy'r amser y dylen nhw osgoi teithiau diangen, ac rwy'n credu bod yr un gallu gen i i ateb cwestiynau yn y ffordd yr ydym ni'n ei wneud nawr ag y byddai gen i pe bawn i yn y Siambr. Mae'n gwbl anghywir i'r Llywodraeth ofyn i bobl yng Nghymru weithredu mewn un cyfeiriad ac yna peidio ag ymddwyn yn yr un ffordd ein hunain. Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol anghywir i awgrymu, rywsut, gan fy mod i'n ateb cwestiynau yn y ffordd yr wyf i'n ei wneud, nad yw hynny'n foddhaol. Ond mae hwnnw'n bwynt i chi, Llywydd, rwy'n credu, yn hytrach nag i mi.
O ran y pwynt arall, mae'n amlwg yn lol. Rwy'n ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn, rwy'n gwneud datganiadau ar lawr y Cynulliad hwn yn gwbl reolaidd. Fe wnes i hynny drwy'r toriad, pan nad oedd ei Lywodraeth ef yn San Steffan ar gael i ateb yr un cwestiwn gan unrhyw gynrychiolydd etholedig, ac nid oes unrhyw beth o gwbl y mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon ymddiheuro amdano na bod yn atebol amdano o ran bod ar gael ac yn atebol i Senedd Cymru.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau gan y Prif Weinidog. Awgrymaf i chi, Prif Weinidog, eich bod yn gallu dod i swyddfeydd eich Llywodraeth ym Mharc Cathays, ond na allwch chi ddod i galon democratiaeth Cymru, sydd hefyd yn weithle i chi. A phan ddaw'n fater o wneud datganiadau y tu allan i'r Siambr hon, mae gen i ofn bod gennych chi gryn hanes fel Llywodraeth. Mae dros 2 filiwn o bobl ledled Cymru yn byw o dan gyfyngiadau eich Llywodraeth erbyn hyn; y peth lleiaf y gallwch chi ei wneud yw cynnig cyfle i'w cynrychiolwyr etholedig eich holi am eich penderfyniadau, a dyna pam mae gwneud datganiadau i'r Siambr hon yn gyntaf mor bwysig.
Nawr, ceir rhai pryderon gwirioneddol am effaith cyfyngiadau symud lleol ar bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfyngiadau gyda'r bwriad o ddod o hyd i ryw ffordd o ganiatáu i aelwydydd un person gymysgu â pherson arall. Prin fu'r gydnabyddiaeth o'r effaith ddifrifol y gallai hyn ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig o gofio bod cynifer o aelwydydd un person eisoes wedi gorfod amddiffyn yn ystod y rhan fwyaf o eleni. A gwn eich bod chi wedi dweud eich bod yn pryderu am y bobl oedrannus hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn cael cymysgu ag unrhyw un arall o dan do. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud yn ei gylch, oherwydd rydych chi'n ymwybodol o fodel yr Alban sy'n caniatáu i un person ffurfio aelwyd estynedig gydag un arall? O wybod pa mor anobeithiol o ynysig y mae'n rhaid bod rhai pobl ledled Cymru yn teimlo, a allwch chi ddweud wrthym ni pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi newid y rheoliadau o ran aelwydydd un person, oherwydd rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, mae'n rhaid i ni gynnig gobaith i'r bobl hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n credu fy mod yng nghalon democratiaeth Cymru nawr, ac rwy'n ateb cwestiynau'r Aelod, felly rwy'n dal i fethu â gweld beth mae e'n ei gredu sydd ganddo i gwyno amdano.
O ran pobl sy'n byw mewn aelwydydd un person, rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig. Rwyf i wedi bod yn ei drafod gydag arweinyddion awdurdodau lleol sy'n destun cyfyngiadau lleol. Rwyf i wedi bod yn cymryd diddordeb ym model yr Alban o wneud hynny. Mae'n cael ei ystyried yn rhan o'r adolygiad 21 diwrnod yr ydym ni'n ei gynnal yma yng Nghymru. Felly, yng Nghymru, rydym ni wedi cadw at y patrwm o adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos. Mae'r ystyriaeth honno ar gyfer aelwydydd un oedolyn yn rhan o'r adolygiad tair wythnos presennol, a drafodwyd gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet y bore yma. Rwy'n obeithiol y byddwn ni'n gallu cwblhau'r rheoliadau angenrheidiol a'r cyngor y mae angen i ni ei gael gan y prif swyddog meddygol ac eraill er mwyn cwblhau ein hystyriaeth ohonyn nhw yn yr adolygiad tair wythnos sy'n dod i ben yr wythnos hon.
Prif Weinidog, gan fod mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn byw o dan gyfyngiadau llymach erbyn hyn, mae'n gwbl hanfodol bod rhaglen brofi Llywodraeth Cymru mor effeithiol â phosibl, a bod capasiti yn cael ei ddefnyddio. Y penwythnos diwethaf, dywedasoch wrthym ein bod ni'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd tua 2,000 i 3,000 o brofion y dydd o gapasiti Cymru, sydd hyd yn oed yn sylweddol is na'r targed o 9,000 o brofion y dydd a addawodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol. Ac eto, wythnos yn gynharach, dywedasoch y gellid prosesu 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos, gyda chapasiti ychwanegol ar gael i reoli cynnydd i achosion ledled Cymru.
Prif Weinidog, mae'n gwbl hanfodol bod y system yn gallu ymateb i gynnydd sydyn mewn profion sy'n deillio o gynnydd i achosion, ac eto rydych chi wedi ei gwneud yn eglur i Gymru gyrraedd ei chapasiti llawn, y byddai'n anodd o ddydd i ddydd. O gofio eich bod chi wedi buddsoddi £32 miliwn arall i gyflymu amseroedd derbyn canlyniadau profion coronafeirws, a allwch chi ddweud wrthym ni pa newidiadau sylfaenol sydd wedi cael eu cyflwyno i'n gwasanaethau labordy i gynyddu eu capasiti a'u cydnerthedd, a pha gamau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pob labordy yng Nghymru yn agored ac yn gweithio? Ac yn fwy cyffredinol, pa mor ffyddiog ydych chi bod gan Gymru system brofi sy'n gallu cefnogi ein pobl dros fisoedd y gaeaf?
Llywydd, rwy'n meddwl os yw'r Aelod eisiau fy nyfynnu y dylai geisio gwneud hynny yn gywir. Dywedais dros y penwythnos y byddai'r niferoedd profi yr wythnos hon dros 5,000 ac y byddai'n codi i 8,000 o fewn system Cymru yn fuan iawn. Y gwir frwydr sy'n ein hwynebu yn system Cymru ar hyn o bryd yw'r problemau sy'n wynebu'r labordai goleudy y mae ei blaid ef yn gyfrifol amdanynt. Nawr, rydym ni wedi cael sicrwydd gan y labordai goleudy hynny y byddan nhw'n gallu cynyddu'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i Gymru o'r 9,400 o brofion sydd gennym ni ar hyn o bryd i 14,000 erbyn dechrau mis Hydref a 19,000 erbyn dechrau mis Tachwedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny yn profi i fod yn wir ac y bydd y labordai goleudy yn gallu dychwelyd i'r lefel o wasanaeth yr oedden nhw'n ei darparu i Gymru tua pedair wythnos yn ôl. Ond os ydych chi eisiau gwybod ym mhle y bu'r trafferthion yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, mae wedi bod yn y pwysau y mae'r system labordai goleudy wedi eu dioddef a'r anawsterau y mae ei Lywodraeth ef yn San Steffan wedi eu cael yn ymdopi â'r pwysau hynny ac yn rhoi'r system honno ar y trywydd iawn unwaith eto.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Bydd llawer ohonom ni wedi cael ein synnu a'n dychryn braidd gan y golygfeydd o ben yr Wyddfa dros y penwythnos, gyda chiwiau hir o bobl yn ceisio cyrraedd y copa gan ddiystyru yn llwyr, mae'n ymddangos, canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ond mae'n codi mater ehangach wrth gwrs. Bydd llawer o'r rhain wedi bod yn ymwelwyr ac nid oes dim wedi'i nodi yn y canllawiau ar hyn o bryd sy'n atal rhywun sy'n dod o fan lle ceir nifer fawr o achosion o COVID mewn rhannau eraill yn y DU rhag teithio i ardaloedd o Gymru sydd â throsglwyddiad cymunedol isel ar hyn o bryd. Pam, Prif Weinidog, na chewch chi deithio o Aberafan i'r Fenni, ond y cewch chi deithio o Fanceinion i Fynytho?
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno ag Adam Price bod y rheini yn lluniau a oedd yn peri pryder? Gadewch i mi wneud nifer o bwyntiau mewn ymateb, fodd bynnag. I ddechrau, mae'n bwysig iawn ac rydym ni wedi cael llawer o bryder dros yr haf mewn cyrchfannau gwyliau ynghylch pobl yn teithio o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig a'r risg y gallai hynny ei pheri o ran lledaeniad y feirws yn yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth wedi bod yn llawer mwy cadarnhaol na hynny ac nid oes gennym ni enghreifftiau lle mae'r feirws wedi mynd allan o reolaeth yn yr ardaloedd gwyliau hynny gan ei fod wedi cael ei fewnforio o fannau eraill. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r dystiolaeth yw nad yw hynny wedi achosi anawsterau, a chredaf fod hynny'n deyrnged i ddau beth: y rheswm yw bod pobl wedi clywed ein neges am ymweld â Chymru yn ddiogel, ac mae'n deyrnged i'r ymdrechion a wnaed yn y cymunedau hynny i groesawu pobl o fannau eraill, sydd mor bwysig i'r economi leol, ond gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peri risg i iechyd y cyhoedd.
Fodd bynnag, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Yng Nghymru, pan fydd gennym ni ardal â nifer fawr o achosion, rydym ni'n gofyn i bobl beidio â theithio y tu allan i'r ardal honno heblaw at ddibenion penodol cyfyngedig, ac nid yw mynd ar wyliau yn un ohonyn nhw. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe yn ei annog i wneud yr un peth yn Lloegr. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn i ni sefydlu cyfres o reolaethau ar y ffin yn ceisio atal pobl o fannau eraill rhag ymweld â Chymru: rwy'n credu y byddai hynny yn ein harwain at bob math o sefyllfaoedd anghyson ac anodd. Ond rwy'n credu, wrth i ni weithredu i atal pobl sy'n byw mewn mannau â nifer fawr o achosion yng Nghymru rhag teithio i Loegr a chymryd y risg o'r feirws gyda nhw, y dylai Prif Weinidog y DU yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog Lloegr yn yr achos hwn wneud yr un peth i atal pobl o fannau â nifer fawr o achosion yn Lloegr rhag teithio o fannau eraill yn Lloegr i Gymru neu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig oherwydd y risg y mae hynny'n sicr yn ei hachosi. Ysgrifennais ato ddoe yn gofyn iddo wneud hynny, gan ei annog i drefnu cyfarfod COBRA ar gyfer yr wythnos hon, fel y gwnaeth Prif Weinidog yr Alban dros y penwythnos, ac edrychaf ymlaen at gael ateb.
Prif Weinidog, mae'r haf wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i bobl ifanc, fel y gwyddoch. O ganlyniad i'r llanast Safon Uwch, gadawyd llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod a oedden nhw'n mynd i'r brifysgol o gwbl, heb sôn am ba un. Ar ôl cyrraedd y campws yr wythnos diwethaf, y pryder nawr fydd a fyddan nhw'n cael dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig. Mae myfyrwyr fel Meg, myfyriwr y gyfraith blwyddyn gyntaf o Aberhonddu, sy'n astudio yng Nghaerfaddon, angen eglurder. Mae hi'n dweud bod neges y Llywodraeth yn amlwg yn ddryslyd ac yn sicr y gallai gael ei chyfleu yn well, yn enwedig i fyfyrwyr sydd wedi symud i wahanol wlad sydd â gwahanol reoliadau. Felly, a allwch chi ateb y cwestiynau penodol hyn? I ba raddau y mae addysg wedi'i heithrio o reolau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ffurfio aelwydydd newydd? A gaiff myfyrwyr sy'n astudio ac yn byw mewn ardal dan gyfyngiad yng Nghymru ond sy'n byw mewn mannau eraill ddychwelyd adref? A gaiff myfyrwyr sy'n astudio ac yn byw mewn ardaloedd lle nad oes cyfyngiadau ar waith deithio adref, hyd yn oed os yw'r cartref mewn ardal lle ceir cyfyngiadau lleol? Ac yn olaf, a gaiff myfyrwyr sy'n astudio mewn un ardal sydd dan gyfyngiadau lleol deithio i ardal arall sy'n destun cyfyngiadau lleol os yw hyn yn golygu cyrraedd adref?
Llywydd, mae'r rheolau sy'n llywodraethu pobl ifanc yng Nghymru yr un rheolau â'r rhai sy'n llywodraethu pawb arall. Nid wyf i'n barod i bwyntio'r bys at bobl ifanc ar gyfer triniaeth andwyol yn y modd sy'n cael ei awgrymu weithiau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price wrth agor yr ail gyfres yna o gwestiynau, bod pobl ifanc wedi cael amser anodd iawn yn ystod coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru gyda'r sector yng Nghymru yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod lles pobl ifanc, hyd yn oed yn y gyfres anoddaf hyn o amgylchiadau, yn parhau i gael ei ddiogelu yn briodol, bod eu gallu i gael mynediad at addysg o ansawdd uchel yn cael ei gadw drwy gydol y tymor hwn, ac nad ydyn nhw'n cael eu trin yn wahanol i unrhyw ddinesydd arall yng Nghymru. A'r atebion i gwestiynau Adam Price yw y byddai'r rheolau a fyddai'n berthnasol i unrhyw berson yng Nghymru yn berthnasol i berson ifanc sy'n astudio hefyd, ac mae hynny i gyd ar gael i bobl sydd angen cael atebion i'r cwestiynau hynny, ar wefan Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn y cyngor penodol gan wahanol sefydliadau addysg uwch sy'n gweithio'n galed i gyfathrebu â phobl sydd wedi cyrraedd i astudio ynddyn nhw.
Ar 4 Medi, Prif Weinidog, rhybuddiodd SAGE bod risg sylweddol y gallai addysg uwch chwyddo trosglwyddiad COVID-19 yn lleol ac yn genedlaethol. Dywedasant fod angen trosolwg cenedlaethol o'r risg, ac unwaith eto, nodwyd ganddyn nhw bod profi yn hollbwysig. Ar 15 Gorffennaf, dywedasoch chi, 'Heddiw gallwn gynnal 15,000 o brofion y dydd.' Ddydd Sul, dywedasoch, 'nid yw 15,000 yn darged cynaliadwy o ddydd i ddydd.' Felly, wrth i brifysgolion agor eu drysau, mae'r system brofi yn methu, ac os mai'r broblem yw'r rhwydwaith labordai goleudy, pam wnaethoch chi gyd-fynd ag ef a rhoi eich ymddiriedaeth ynddo yn y ffordd y gwnaethoch chi? Nawr, y cyngor gan SAGE ddechrau'r mis hwn oedd y dylid gweithredu strategaeth gydgysylltiedig ar frys ar gyfer ymateb i gynnydd mewn achosion, rhwng y Llywodraeth, sefydliadau addysg uwch a thimau iechyd cyhoeddus lleol, ond mae'n ymddangos ar hyn o bryd, Prif Weinidog, nad oes cynllun eglur i gefnogi myfyrwyr, dim cynllun eglur i gefnogi'r sector addysg uwch. Dim ond 12 wythnos sydd tan y Nadolig; pa bryd y gallwn ni ddisgwyl y cynllun hwnnw?
Llywydd, mae'r cynllun hwnnw yn bodoli, ac mae'r Aelod yn hollol anghywir i ledaenu cyhuddiadau nad yw'n bodoli pan fo'n amlwg iawn ei fod, a bod cynifer o bobl yn gweithio mor galed i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn gofal da. Mae'n hollol anghywir i ddweud bod y system brofi yn methu yng Nghymru. Mae gennym ni dros 100,000 o fyfyrwyr yng Nghymru ac mae tua 100 ohonyn nhw wedi cael eu profi fel achosion positif o coronafeirws. O'n system Profi Olrhain Diogelu, mae 93 y cant o gysylltiadau agos yn dal i gael eu cysylltu, cyrhaeddwyd 94 y cant o achosion positif—85 y cant o'r rheini o fewn 24 awr, 92 y cant o fewn 48 awr. Mae'r system yng Nghymru—a'r system yn yr Alban yn wir—yn gwrthsefyll y cyfnod anodd yr ydym ni'n byw drwyddo. Mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.
O ran y labordai goleudy, cefais fy annog droeon ar lawr y Senedd i wneud yn siŵr bod Cymru yn manteisio'n llawn ar y capasiti y byddai'n ei gynnig i ni. Roedd hi'n iawn i ni wneud hynny, ac fel y dywedais, tan nifer o wythnosau yn ôl, roedd y system yn gwasanaethu Cymru yn dda iawn. Rydym ni eisiau gweld y system honno yn cael ei hailgyflwyno. Rydym ni eisiau ei gweld yn ôl yn darparu nifer y profion a phrydlondeb y profion yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen ar Gymru. Anogaf Weinidogion y DU i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud popeth yn eu gallu i'n rhoi ni yn y sefyllfa honno, ac yna byddwn ni'n falch iawn yn wir, unwaith eto, o fod yn rhan o'r system honno, sy'n darparu miloedd o brofion i bobl Cymru ac sy'n rhan o'r seilwaith y byddwn ni i gyd yn dibynnu arno wrth i ni fynd ymhellach i'r hydref a'r gaeaf.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, pan wnaed Caerdydd yn destun cyfyngiadau symud lleol gennych chi, a thrwy rym y gyfraith ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref os oedd yn rhesymol ymarferol, a wnaethoch chi ystyried effaith bosibl hynny ar ein trafodion yn y Senedd? Nawr, os ydych chi'n gywir pan fyddwch chi'n dweud bod gan Aelodau yr un gallu i gymryd rhan, boed o bell neu'n bersonol, onid yw hynny'n awgrymu ei bod hi'n rhesymol ymarferol i Aelodau weithio gartref? Ac os oes gan Aelodau farn wahanol, o ystyried mai dyna'r gyfraith, a allen nhw gael cnoc ar y drws gan Heddlu De Cymru? Dywedasoch yn gynharach, 'Bydd fy nghyd-Weinidog yn gwneud datganiad ar lawr y Siambr yn ddiweddarach heddiw'. A allaf i gasglu o hynny y bydd rhai Gweinidogion yn dod yn bersonol i'r Siambr, hyd yn oed os na fyddwch chi eich hun? Ac nid ydych chi wedi dweud a ydych chi'n siarad o gwt â phob cyfleuster yng nghefn eich gardd, neu a ydych chi'n siarad o'ch swyddfa ym Mharc Cathays. Os ydych chi'n siarad o'ch swyddfa, yna mae'n debyg eich bod chi wedi penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol gweithio gartref, felly pam na wnewch chi ddod i'r Siambr? Ac, yn gyffredinol, pan eich bod chi'n dweud bod yn rhaid i bobl weithio gartref yn ôl y gyfraith os yw'n rhesymol ymarferol, a fyddech chi'n gofyn i bobl wneud fel y dywedwch, neu ddilyn yr esiampl a roddwyd gan ein Llywydd ac arweinydd yr wrthblaid?
Wel, Llywydd, gallaf sicrhau'r Aelod, pan fydd y penderfyniad yn cael ei wneud i gyflwyno cyfyngiadau lleol mewn unrhyw ran o Gymru, yna caiff pob agwedd ar y penderfyniad hwnnw ei hystyried yn ofalus. Mater i Aelodau unigol yw llunio barn ynghylch sut y maen nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith. Mae'n rhesymol ymarferol i mi weithio o'm swyddfa ym Mharc Cathays, oherwydd er mwyn gallu ateb cwestiynau'r Aelodau, rwyf i angen cymorth staff Llywodraeth Cymru, sy'n fy helpu i wneud yn siŵr fy mod i mewn sefyllfa cystal ag y gallaf fod ynddi i ddarparu atebion y mae gan Aelodau hawl i'w disgwyl. Felly, mae'n rhesymol ymarferol i mi weithio o'r fan yma gan fy mod i'n byw yng Nghaerdydd ac nid oes angen i mi groesi unrhyw ffiniau i gyrraedd yma. Mae Aelodau eraill wedi'u rhwymo gan y rheoliadau, yn union fel pob aelod o gymdeithas Cymru mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith, ac rwy'n credu bod rhwymedigaeth ar bobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ystyried yn ofalus y sefyllfa gyfreithiol y maen nhw ynddi. Rwyf i ar lawr y Senedd, Llywydd. Fel y'i gwnaed yn eglur gennych chi, mae cyfranogiad rhithwir neu gorfforol yn union yr un fath. Rwyf i ar lawr y Senedd nawr yn ateb cwestiynau. Bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ateb cwestiynau o bell, a bydd yntau ar y llawr hefyd.
Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n gweithio o'ch swyddfa gan ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond onid yw'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny? Ac o ystyried ei bod hi yr un mor bosibl cymryd rhan o bell ac yn gorfforol, onid yw hynny'n wir? Ac eto rydych chi'n dewis peidio â dod i'r Siambr, yn union fel y gwnaethoch ddewis yr wythnos diwethaf i wneud cyhoeddiadau nid yn y Siambr, ond drwy'r cyfryngau. Rydych chi'n dweud bod yr holl benderfyniadau a chyhoeddiadau a rheoliadau hyn yr ydych chi'n dal i'w pasio gydag amrywiaeth a rheoleidd-dra helaeth ynghylch coronafeirws yn cael eu hystyried yn ofalus, ac i'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn a yw eich polisi o wneud i bawb adael tafarndai a bwytai ar yr un pryd yn gweithio i'n helpu i feithrin imiwnedd torfol?
A gaf i ofyn hefyd beth sy'n digwydd o ran ein democratiaeth a chynigion a gadeiriwyd gan swyddog yn eich Llywodraeth i ystyried gohirio'r etholiad ac ymestyn tymor y Senedd Cymru hon y tu hwnt i bum mlynedd? Oni fyddai hynny'n rhyfeddol o ystyried yr arferion democrataidd sydd gennym ni? Yn yr Unol Daleithiau, gwelwn y ddadl gyntaf rhwng y cystadleuwyr arlywyddol heno. Sylwaf fod Donald Trump eisiau gohirio'r etholiadau yno, ond gwrthodwyd hynny yn gyflym iawn. Onid yw'n wir bod angen i ni bleidleisio fis Mai nesaf, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ac na fyddai'n iawn o gwbl ymestyn ein tymor ymhellach neu ohirio'r etholiadau hynny? Fel y dywedodd un o'm hetholwyr heddiw—ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ateb hyn—os gallwn ni giwio i fynd i'r archfarchnad, siawns y gallwn ni giwio i bleidleisio.
Llywydd, nid yw'r rheoliadau sydd ar waith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bobl i gyd adael y dafarn ar yr un pryd; yn wir, roedd yn benderfyniad bwriadol iawn i beidio â gwneud hynny. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bawb fod ar y palmant am 10 o'r gloch yn y nos, pa un a ydyn nhw hanner ffordd drwy bryd o fwyd neu newydd ddechrau yfed. Mae'n rhaid iddyn nhw fod y tu allan am 10 p.m. ac fel yr ydych chi wedi gweld mewn mannau eraill, mae hynny'n amlwg yn achosi anawsterau o ran trefn gyhoeddus ac iechyd y cyhoedd. Fe wnaethom ni benderfynu mabwysiadu'r achos cwbl i'r gwrthwyneb yma yng Nghymru. Mae gan bobl amser ar ôl 10 o'r gloch i orffen yr hyn y maen nhw'n ei fwyta a'i yfed, ac i adael mewn ffordd drefnus, wedi'u gwasgaru dros y cyfnod hwnnw. Mae sefyllfa yn hollol i'r gwrthwyneb ar waith yng Nghymru i'r un a awgrymwyd yn y cwestiwn.
Llywydd, gadewch i mi ddweud fy mod i wedi ymrwymo yn llwyr i gael etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Dyna'n sicr yw'r peth iawn; dyna a ddylai ddigwydd yn fy marn i. Nid yw'n iawn ymestyn y Senedd hon y tu hwnt i'w thymor presennol. Rwy'n teimlo yn gryf iawn bod angen adnewyddu'r Senedd yn ddemocrataidd. Dylai'r cyfle i bobl yng Nghymru benderfynu pwy y maen nhw eisiau i'w cynrychioli yn y dyfodol fod yn eu dwylo nhw, a dylai fod yn eu dwylo nhw ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Yr unig bwynt y byddwn i'n ei wneud i'r Aelod yw hwn: nid oes yr un ohonom ni'n gwybod beth fydd y sefyllfa o ran coronafeirws bryd hynny. Yn union fel yr wyf i eisiau cael etholiad, rwyf i eisiau cael etholiad lle mae pob dinesydd yng Nghymru yn teimlo'n hyderus ynghylch gallu cymryd rhan, ac nad ydyn nhw'n cael eu hatal rhag cymryd rhan gan ofnau a allai fod ganddyn nhw am y risgiau a fyddai'n cael eu peri i'w hiechyd pe byddai coronafeirws ar lefel anodd dros ben unwaith eto.
Felly, mae mis Mai ymhell iawn i ffwrdd, ac nid oes yr un ohonom ni mewn sefyllfa i allu edrych i mewn i'r bêl grisial honno. Rwy'n rhannu penderfyniad yr Aelod y dylem ni bleidleisio ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ond gwnaf yr un pwynt hwnnw iddo yn syml: ein bod ni eisiau etholiad lle mae pob dinesydd yng Nghymru yn teimlo y gall fynd i'r orsaf bleidleisio ac nad ydyn nhw'n cael eu hatal rhag gwneud hynny gan y gallai'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ar y pryd fod yn annymunol iawn iddyn nhw. Mae'n hurt i beidio â bod yn barod i ystyried hynny a meddwl sut y byddem ni'n ymdopi ag ef pe byddem yn ei wynebu.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda phartneriaid perthnasol ynglŷn a phrofiadau ymwelwyr yng Nghymru yn 2021? OQ55621
Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae’r sector twristiaeth ac adfer profiadau ymwelwyr at y dyfodol yng Nghymru yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd rheolaidd o’r tasglu twristiaeth. Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldebau dros dwristiaeth yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.
Rydyn ni wedi croesawu llawer mwy o ymwelwyr nag arfer i fannau twristaidd yn fy etholaeth i eleni. Maen nhw wedi dod â hwb haf bach Mihangel i'r economi leol, ond dydy'r profiad ar gyfer yr ymwelydd nac ar gyfer y boblogaeth leol ddim wedi bod yn bleserus ar bob achlysur—problemau parcio a theithio; ciwiau hir, a nid yn unig ar gopa'r Wyddfa; problemau sbwriel. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith negyddol ar brofiad yr ymwelydd ac, wrth gwrs, yn creu rhwystredigaeth mawr i'r boblogaeth leol. Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid canfod ffyrdd i reoli gordwristiaeth a bod gan y Llywodraeth rôl bwysig i'w chwarae drwy dynnu'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn cynllunio ymlaen at dymor llwyddiannus y flwyddyn nesaf?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol yna. Dwi'n cytuno â hi am y pethau rŷm ni'n trio cadw gyda'i gilydd. Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn yng ngogledd Cymru, ac mae'r ateb i'r problemau yn dibynnu ar dynnu pobl gyda'i gilydd, rownd y bwrdd gyda'i gilydd, a meddwl am sut dŷn ni'n gallu rhoi profiadau arbennig o dda i bobl sy'n dod aton ni, sy'n rhan o'r economi leol, ac ar yr un amser yn gwarchod y pethau mae pobl yn dod i Gymru i'w gweld ac i'w mwynhau.
A pan dwi'n siarad am bethau fel yna, Llywydd, allaf i jest ddweud—? Cefais i'r fraint o gymryd rhan ddydd Sul mewn seremoni i nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn y daith i sicrhau statws safle treftadaeth y byd i'r diwydiant llechi yng ngogledd-orllewin Cymru, a chroesawu i Gymru Frau Friederike Hansell ac eraill o UNESCO sy'n ymweld â'r ardal. Roedd hwnna'n dangos bod pobl ledled y byd eisiau dod i weld y pethau sydd gyda ni yma yng Nghymru, ond y peth pwysig yw ei wneud e mewn ffordd sy'n gwarchod y pethau maen nhw eisiau eu gweld, ac i dynnu mewn pobl leol, pobl yn y busnesau yna, rownd y bwrdd gyda'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gynllunio gyda'i gilydd am y dyfodol.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Maddeuwch i mi os byddaf yn torri ar draws unrhyw beth yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes; yn anffodus, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio ar fy nghyfrifiadur. Darperir llawer o'r profiadau i ymwelwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan fusnesau microdwristiaeth, boed nhw'n eco-gabanau coed yng nghoedwigoedd Sir Gaerfyrddin neu'n safleoedd gwersylla a busnesau bach ar hyd parc cenedlaethol Arfordir Penfro. Gan eu bod nhw'n wahanol iawn ac yn atyniad arbennig i rai grwpiau o bobl, maen nhw wrth gwrs wedi cael eu taro'n eithaf difrifol gan bandemig COVID-19.
Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ateb i Adam Price yn gynharach ynghylch pa un a ddylai pobl wneud taith i'n gweld ni ai peidio, ond hoffwn ddarllen rhywbeth i chi gan Microdwristiaeth Cymru, sy'n dweud, 'Mae ein haelodau yn ymdrin erbyn hyn â gwesteion dryslyd sydd eisiau canslo neu newid eu gwyliau gan nad ydyn nhw'n deall y polisïau cyfyngiadau symud lleol'. A ddoe, dywedodd Gweinidog yr economi, yn ystod cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru, a dyfynnaf, 'Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried yn ofalus a yw eu teithiau yn angenrheidiol'.
Mae busnesau microdwristiaeth yn fy ardal i eisoes o dan y dŵr yn ariannol oherwydd y cyfyngiadau symud cynharach. A allwch chi roi unrhyw gyfarwyddyd arall iddyn nhw ynghylch yr hyn y dylen nhw ei ddweud pan fydd rhywun yn eu ffonio naill ai o Loegr neu o wahanol ran o Gymru ac yn dweud, 'Rwy'n mynd i ganslo fy mhythefnos yn eich tŷ pen coeden yn Sir Gaerfyrddin gan nad wyf i'n credu fy mod i'n cael teithio', neu'n waeth byth, maen nhw'n gofyn iddyn nhw a ddylen nhw deithio ai peidio , sy'n rhoi'r cyfrifoldeb o wneud y penderfyniad hwnnw ar y gweithredwr?
Wel, Llywydd, mae gen i gydymdeimlad aruthrol â'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Llwyddais fy hun i dreulio amser byr yn ystod cyfnod y gwyliau yn ei hetholaeth hi a gallwn weld yn union pa mor galed yr oedd pobl sy'n ennill bywoliaeth drwy ymwelwyr yn gweithio i geisio gwneud iawn am y colledion yr oedden nhw wedi eu dioddef yn gynharach yn y flwyddyn. Felly, mae'n anochel bod dychweliad coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig yn anodd iawn iddyn nhw. Rydym ni'n gwneud ein gorau i gyfathrebu mor eglur ag y gallwn ni drwy'r gwahanol rwydweithiau sydd gennym ni, drwy'r grŵp y soniais amdano yn fy ateb i Siân Gwenllian sy'n cyfarfod bob wythnos gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr, drwy'r trefniadau twristiaeth rhanbarthol, ein bod ni'n cyfleu'r negeseuon hynny.
Heddiw, bydd Ken Skates yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd, a fydd yn cynnwys cyllideb wedi'i neilltuo gwerth £20 miliwn ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, yn ychwanegol at y £27 miliwn y mae'r sector wedi gallu cael gafael arno o ddwy fersiwn gyntaf y gronfa adfer economaidd. Felly, gobeithiaf y bydd hynny yn rhywfaint o gymorth i'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Roeddem ni'n gweithio yn galed gyda'r sector i geisio ymestyn y tymor fel y byddai pobl wedi gallu parhau i weithio'n hwy, ac mae'r anawsterau yr ydym ni'n eu profi wrth i'r feirws gydio unwaith eto yn ergyd, i'r cynlluniau hynny ac i'r bobl sy'n gweithio'n galed ac wedi gwneud cymaint i geisio adennill rhywbeth o'r tymor i'r busnesau y maen nhw wedi gweithio mor galed i'w datblygu.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau COVID-19 yng Nghasnewydd? OQ55599
Diolchaf i John Griffiths, Llywydd. Yn dilyn cynnydd sydyn i nifer yr achosion, cyflwynwyd cyfyngiadau lleol yng Nghasnewydd ar 22 Medi. Mae'n rhy gynnar i wneud asesiad pendant, ond mae nifer yr achosion yn dechrau sefydlogi diolch i ymdrechion pobl leol. Rydym ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol ac yn adolygu'r cyfyngiadau lleol yn ffurfiol bob wythnos.
Prif Weinidog, mae'n bwysig i bobl wybod y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau i leihau achosion yn arwain at lacio'r cyfyngiadau hynny yn brydlon pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Felly, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am rai arwyddion bod materion yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud am gydymffurfiad ac effeithiolrwydd y mesurau lleol a'r hyn y gallai hynny ei olygu i amseriad diddymu'r mesurau hynny? A phan oedd gan bobl mewn ardaloedd â chyfyngiadau lleol wyliau a drefnwyd ymlaen llaw sydd wedi'u heffeithio, a wnewch chi wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y diwydiant teithio yn gweithredu'n gyfrifol ac yn darparu ad-daliadau llawn a diamod?
Llywydd, diolchaf i John Griffiths am y pwyntiau yna. Rwy'n hapus i gadarnhau bod y ffigurau dyddiol yr wyf i'n eu gweld ac yn cael cyngor arnyn nhw gan ein cydweithwyr ym maes iechyd cyhoeddus wedi parhau i ddangos gostyngiad bach ond parhaus yn nifer yr achosion yn ardal cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd. Siaradais â phrif gwnstabl Heddlu Gwent ddwywaith yr wythnos diwethaf ac fe'm calonogwyd gan yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud am lefel y cydymffurfiad a welir yn yr awdurdodau lleol hynny sy'n destun cyfyngiadau lleol, ac ailadroddodd bwynt a wnaed i mi yn gynharach am Gaerffili—bod pobl yng Nghasnewydd eisiau gwneud y peth iawn; dydyn nhw ddim yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osgoi'r rheolau, maen nhw eisiau ymddwyn yn unol ag ysbryd y rheolau gan eu bod nhw wedi deall po fwyaf y byddwn ni'n gwneud hynny, y cyflymaf y byddwn ni'n gostwng y cynnydd lleol hwnnw i achosion a'r cynharaf y byddwn ni'n gallu diddymu'r cyfyngiadau hynny. Ac rwy'n hynod ddiolchgar, i ddinasyddion Casnewydd, ond hefyd i swyddogion awdurdodau lleol a gwasanaeth yr heddlu, am bopeth y maen nhw'n ei wneud i helpu pobl i wneud y peth iawn.
Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau ddydd Iau yr wythnos hon a byddaf yn trafod gyda'm swyddogion sut y gallem ni ddechrau, gam wrth gam, diddymu'r cyfyngiadau lleol hynny. Ni allaf addo o gwbl y byddwn ni'n gallu dechrau ar y daith honno y dydd Iau hwn, ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynllunio ar gyfer y llwybr allan o'r cyfyngiadau lleol hynny gyda phobl leol a chydag asiantaethau lleol fel y gallwn ni gyfleu hynny yn eglur i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.
O ran yr ail bwynt pwysig a gododd John Griffiths am drefniadau gwyliau, bydd yn gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu yn gynharach at y diwydiant teithio; ysgrifennodd eto ar 23 Medi. Rwy'n falch ein bod ni wedi cael ateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain yn cadarnhau bod eu haelodau wedi ymrwymo i gynorthwyo eu cwsmeriaid o dan yr amgylchiadau a nodwyd gan John Griffiths a'u bod yn disgwyl talu £275 miliwn mewn hawliadau canslo. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw'r teimladau cyffredinol hynny, teimladau calonogol, yn cael eu darparu ar lawr gwlad ym mywydau pobl y tarfwyd ar eu gwyliau.
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55613
A gaf i ddiolch i Carwyn Jones, Llywydd? Dyfarnwyd cyllid i 474 o ficrofusnesau a mentrau bach a chanolig eu maint ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy'r gronfa cadernid economaidd Cymru yn unig, yn dod i gyfanswm o £88.1 miliwn, gydag o leiaf 2,500 o swyddi yn cael eu diogelu hyd heddiw. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau ledled Cymru i aros yn hyfyw drwy'r pandemig ac i ymateb i heriau anochel Brexit.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad yr wythnos hon, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, o £60 miliwn ychwanegol o gyllid i fusnesau ledled Cymru wrth iddyn nhw barhau i wynebu heriau coronafeirws. O ran busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, sut y gallen nhw fynd ati i gael gafael ar y cyllid hwnnw a chael gafael ar gymorth, a pha fath o symiau y gellid disgwyl yn rhesymol iddyn nhw eu cael o ganlyniad i'r ceisiadau hynny?
Wel, Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiynau atodol yna. Ceir cyfanswm o £140 miliwn yn nhrydydd cam y gronfa cadernid economaidd. Bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y cam diweddaraf hwn yn agor ar 5 Hydref, ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw fusnes sy'n credu, ar ôl gweld y manylion, y gallen nhw fod yn gymwys i gael cymorth yn dod o hyd i'r gwiriwr cymhwysedd hwnnw i wneud ceisiadau cyn gynted ag y gallan nhw wneud hynny. Bydd microfusnesau yn cael gwneud cais am hyd at £10,000; Bydd busnesau bach a chanolig yn cael gwneud cais am hyd at £150,000; a bydd busnesau mawr yn cael gwneud cais am hyd at £200,000. Nawr, wrth gwrs, ceir amodau a rheolau sy'n berthnasol yn gysylltiedig â hynny i gyd, ond mae hynna, gobeithio, yn rhoi syniad o faint y cymorth a fydd ar gael.
Llywydd, dim ond i roi awgrym arall o sut y mae'r cynllun wedi bod yn gweithio: atebais gwestiynau yma yn y Senedd yn gynharach yn yr haf am y gronfa gwerth £5 miliwn a lansiwyd gennym ni bryd hynny i ddarparu cymorth yn arbennig i fusnesau bach, unig fasnachwyr ac yn y blaen, a dyfarnwyd dros £4 miliwn o'r £5 miliwn hwnnw eisoes. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos bod gennym ni system ar waith sydd nid yn unig yn ymateb i anghenion busnesau Cymru, ond sy'n gallu ymateb, cyn gynted ag y gallwn, i gael yr arian oddi wrthym ni ac i'w dwylo nhw fel y gallan nhw barhau i fod yn fusnesau llwyddiannus yn y dyfodol.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith arnynt? OQ55591
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn yw'r cynnig mwyaf hael o gymorth unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn rhoi mwy o fanylion am gam 3 y gronfa cadernid economaidd mewn datganiad llafar yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud eisoes ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud y prynhawn yma. Ond mae perchennog cwmni cludo nwyddau bach sy'n gweithio yn y sector adeiladu yr oedd angen cymorth ariannol arno gan fod safleoedd adeiladu a chwareli yn cau oherwydd y pandemig wedi cysylltu â mi. Gwnaeth gais am gam cyntaf y cyllid o'r gronfa cadernid economaidd yn fuan ar ôl iddo ddod ar gael, dim ond i ganfod ei fod wedi cael ei dynnu yn ôl oherwydd y galw. Cysylltodd wedyn â Busnes Cymru, a'i gynghorodd i geisio cyllid drwy'r cynllun hunangyflogedig, a gwnaeth hynny gan dderbyn taliad bach. Pan wnaeth gais am fwy o arian o'r gronfa cadernid economaidd, fe'i gwrthodwyd gan ei fod wedi hawlio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dywedodd fy etholwr pe byddai'n gwybod y byddai'r cyngor hwn yn ei wneud yn anghymwys i gael mwy o arian o'r gronfa cadernid economaidd, ni fyddai wedi gwneud cais. Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o fwy o achosion fel hyn, ac a ydych chi'n cytuno â mi nad yw'n iawn bod y cwmni hwn o dan fygythiad erbyn hyn oherwydd cyngor a gafwyd gan Busnes Cymru?
Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â manylion y cwmni penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ond rwy'n barod iawn i fynd ar drywydd y pwyntiau y mae wedi eu gwneud. Os hoffai roi manylion y cwmni i mi a'r pryderon sy'n sail i'r cwestiwn y mae wedi ei godi ar ei ran y prynhawn yma, byddaf yn sicr o wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael sylw. A diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am groesawu'r cymorth yr ydym ni yn gallu ei roi i fusnesau yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru? OQ55612
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglen dileu TB, gan fynd i'r afael â phob ffynhonnell haint mewn buches wartheg. Roedd nifer yr achosion newydd mewn buchesi y llynedd yr isaf ers 15 mlynedd, gyda gostyngiad o 16 y cant i ddigwyddiadau yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020.
Diolch, Prif Weinidog. Nawr, yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020, lladdwyd 10,823 o wartheg oherwydd TB mewn gwartheg. Nawr, ydw, rwy'n cytuno bod hynny'n ostyngiad o 12 y cant ar y 12 mis blaenorol, ond cefais sioc o glywed yn y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Gweinidog yn disgrifio hyn fel 'mae'r ystadegau diweddaraf yn dda'. Wel, dydyn nhw ddim yn dda os siaradwch chi â'r ffermwyr ledled Cymru. Mewn gwirionedd, maen nhw'n gywilyddus, yn enwedig gan y bu cynnydd o 56 y cant i nifer yr achosion newydd mewn buchesi yn ardaloedd risg isel Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Er bod 33,512 o wartheg wedi cael eu lladd, dim ond 16 o drwyddedau a roddwyd i ddal, marcio a difa moch daear er mwyn atal y clefyd erchyll hwn rhag lledaenu. Prif Weinidog, a ydych chi'n ystyried bod yr ystadegau diweddaraf yn dda a beth arall ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod lledaeniad TB mewn gwartheg ymhlith ein bywyd gwyllt cyn lleied â phosibl? Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni annog pobl yn y sector sy'n gweithio mor galed pan fyddwn ni'n gweld gostyngiad i nifer yr achosion newydd mewn buchesi 24 mis yn olynol, pan fyddwn ni'n gweld mai'r nifer honno yw'r isaf ers 15 mlynedd, ac yn chwarter cyntaf eleni, yr isaf mewn unrhyw chwarter ers dechrau casglu ffigurau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n annog y bobl hynny yn y sector sy'n gwneud popeth yn eu gallu, gan gynnwys ffermwyr, wrth gwrs, i ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn drwy ddangos bod y camau y maen nhw'n eu cymryd yn cael effaith gadarnhaol, a dyna'n union yr oedd y Gweinidog yn ceisio ei wneud.
Mae TB yn glefyd echrydus mewn gwartheg, ac mae ei effaith ar y ffermydd hynny sydd wedi gorfod gweld buchesi cyfan yn cael eu lladd yn ofnadwy, ar bobl sydd wedi buddsoddi cymaint yn y buchesi hynny dros gynifer o flynyddoedd. Yr unig ffordd o fynd i'r afael ag ef yw drwy fynd i'r afael ag ef ym mhob agwedd, drwy brofion cywir, drwy safonau bioddiogelwch uchel, drwy gynlluniau gweithredu buchesi unigol a buddsoddi yn yr wyddoniaeth fel yr ydym ni'n ei wneud yn y ganolfan ragoriaeth TB yn Aberystwyth. Mae'r rheini yn gamau y mae'n rhaid i bob rhan o'r sector gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am eu gweithredu.
Dywedodd yr Aelod yn ei chwestiwn atodol i mi ei bod hi'n gywilyddus—nifer yr achosion newydd yr ydym ni'n eu gweld mewn ardaloedd TB isel. Ond bydd hi'n gwybod bod 82 y cant o achosion newydd yn yr ardaloedd isel hynny yn cael eu holrhain i wartheg sy'n cael eu prynu a'u symud i mewn i'r ardaloedd hynny, gan ddod â TB gyda nhw. Dyna pam mae gan safonau bioddiogelwch uchel, profion cywir a'r mesurau eraill yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw i gyd eu rhan i'w chwarae, ac yn y modd hwnnw, byddwn yn llwyddo gyda'n gilydd i ddileu'r clefyd ofnadwy hwn o Gymru.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Darren Millar.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ55598
Llywydd, diolchaf i Darren Millar am hynna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn parhau i fod yn bryder allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi goruchwylio adolygiad o faterion diogelwch ar gefnffyrdd, ac ar ben arall y sbectrwm, mae'r Dirprwy Weinidog yn yr adran honno yn bwrw ymlaen â mentrau fel cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya, a fydd, ar eu pennau eu hunain, yn cael effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o ganlyniadau'r cynnydd i nifer y bobl sy'n gweithio gartref yw ein bod ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i draffig ar lawer o'n ffyrdd, ac, yn anffodus, oherwydd bod llai o draffig, mae hynny yn aml wedi arwain at gynnydd mewn goryrru, ac mae hynny'n gwbl wir ar gefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, y mae llawer ohoni yn fy etholaeth i. Rydym ni wedi cael nifer o ddamweiniau difrifol, yn anffodus, rhai lle mae unigolion wedi colli eu bywydau, yn ardal Llanbedr, a hefyd yn ardal Llanberis bu cynnydd sylweddol mewn goryrru.
A gaf i eich annog, Prif Weinidog, i weithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth i ystyried pa fesurau ychwanegol y gellid eu cymryd ar y darn penodol hwn o ffordd, gan gynnwys pa un a allai fod yn ymarferol i gyflwyno camerâu cyflymder cyfartalog, sydd, i bob golwg, wedi bod mor effeithiol o ran lladd cyflymder, yn hytrach na phobl, ar ffyrdd peryglus mewn mannau eraill yn y wlad?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y cwestiynau dilynol pwysig iawn hynny? Mae'r marwolaethau yn y Gogledd ym mis Medi wedi bod yn ofidus iawn, a gwn ei fod ef wedi ymwneud yn uniongyrchol â rhai ohonyn nhw. Roeddwn i eisiau diolch iddo am y llythyr a anfonodd at y Gweinidog ddiwedd mis Awst, a gwn ei fod wedi cael ateb gan Ken Skates yn benodol ynghylch diogelwch ar ffordd yr A494, mesurau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd ac y mae angen eu monitro nawr am eu heffeithiolrwydd, ond hoffwn roi sicrwydd iddo ef, yn yr un modd â'r llythyr, os nad yw'r mesurau hynny'n effeithiol, yna caiff mesurau eraill eu hystyried o'r math y mae wedi'i nodi, fel y gallwn ni wneud popeth o fewn ein gallu, ar y cyd, i sicrhau nad yw bywydau, a bywydau ifanc, yn cael eu colli ar ffyrdd yn y Gogledd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
A chyn inni symud ymlaen, dim ond i ddweud bod Aelodau wedi gofyn i mi am bwynt o drefn yn y fan hon, ond byddaf i'n mynd i'r afael â'r mater yn y modd hwn. Yn gyntaf, mae pob Aelod—Gweinidog ac Aelodau eraill—yn cymryd rhan lawn a chyfartal yn y Senedd hon, p'un a ydyn nhw’n gwneud hynny'n rhithiol neu yma'n gorfforol yn y Siambr. Ac, yn ail, i dawelu meddwl yr Aelodau sy'n bresennol y prynhawn yma eich bod yn gwneud hynny yn unol â rheoliadau a chanllawiau. Nawr, am weddill y prynhawn hir hwn a'r noson o waith sydd gennym ni o'n blaenau, gadewch inni ganolbwyntio ar gynnwys yr hyn sydd gennym i'w ddweud yn hytrach nag o ble y gallem ni fod yn ei ddweud.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes. A byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn wedi'i amserlennu gan y Llywodraeth am 15 munud, ond mae gennyf i lawer iawn o siaradwyr, o bob plaid, sy'n dymuno cyfrannu at y prynhawn, felly rwy'n eich rhybuddio efallai na fydd modd ichi gael eich galw, oherwydd y dyraniad amser o 15 munud ar gyfer yr eitem hon.
Y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i'r agenda heddiw. Bydd y ddadl ar bedwar Rheoliad Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei chynnal yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Pysgodfeydd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Ac yn olaf, mae'r datganiad ar wasanaethau mamolaeth a gwelliannau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i ohirio tan 13 Hydref er mwyn darparu ar gyfer datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gyfyngiadau'r coronafeirws leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Efallai y caf i ofyn am ddatganiad byr, Trefnydd, gan Weinidog yr Economi efallai, ynglŷn â chau Ford, a ddigwyddodd, gwaetha'r modd—ac roeddem ni i gyd yn aros amdano—yr wythnos diwethaf, dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ganlyniadau terfynol y tasglu yno a sefydlwyd er mwyn cynorthwyo'r bobl sy'n gweithio yno i ddod o hyd i swyddi. Pan fyddwn ni'n sôn am roi £100,000 o'r neilltu ar gyfer hyn, mae'n ymddangos fel swm eithaf bach o'i gymharu â'r hyn y clywsom heddiw. Felly, byddai hynny i'w groesawu'n fawr.
Rwy'n credu y byddwn i hefyd yn gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, yr wybodaeth ddiweddaraf am ei barn hi ynghylch cefnogaeth ar wahân i sŵau. Rwy'n sylweddoli y byddwn ni'n clywed mwy am y gronfa cadernid economaidd yn nes ymlaen, ond mae angen rhoi sylw penodol a manwl i ofynion penodol atyniadau ymwelwyr sy'n gyfrifol am les anifeiliaid, oherwydd, yn amlwg, nid oes unrhyw wahaniaeth a yw atyniad ar agor neu ar gau, mae angen yr un staff a'r un nifer o bobl—yr un arian arnyn nhw, mae'n ddrwg gennyf i—i gefnogi lefelau lles anifeiliaid yno.
Ac yna, yn olaf, a fyddai modd inni gael llythyr neu ddatganiad, gan Weinidog yr Amgylchedd eto, ynghylch rheoli gwarchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i? Mae'n safle sy'n bwysig yn fyd-eang. Nid oes unrhyw un wedi bod yn gyfrifol amdano mewn gwirionedd ers i'r awdurdod lleol ddewis peidio ag adnewyddu ei brydles fis Rhagfyr diwethaf ac, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael rhywfaint o weithgarwch yno, mae'r trafodaethau rhyngddynt hwy a pherchnogion y safleoedd wedi chwalu. O ystyried bod hwn yn faes o bwysigrwydd—wel, byd-eang—mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd cenedlaethol yn unig, byddwn i'n gobeithio y byddai gan y Gweinidog, gyda'i chyfrifoldebau cyffredinol dros yr amgylchedd, rywbeth pwysig i'w ddweud am hyn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am godi'r tri mater pwysig hynny, a gofynnaf i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ysgrifennu at gyd-Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa ar ôl tristwch cau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gwybod bod y tasglu wedi gweithio'n ddiflino i ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd i ddwysáu'r ymdrechion i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw ac i ddenu buddsoddiad newydd ac i greu cyfleoedd cyflogaeth lleol. Ac, wrth gwrs, nawr mae'r gronfa etifeddiaeth yn bodoli, sydd ar gael i'r gymuned ei defnyddio hefyd, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog ddwyn ynghyd yr holl agweddau hynny ar y gwaith er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr â diddordeb ynghylch hynny, felly byddaf i'n sicrhau bod hynny'n digwydd.
O ran y gefnogaeth i sŵau, fel y dywed Suzy, mae cyfle, yn ddiweddarach heddiw, i geisio codi hynny gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o bosibl. Ond, unwaith eto, efallai y byddwn i'n gwahodd Suzy i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fynegi ei phryder penodol o ran lles anifeiliaid o ganlyniad i'r coronafeirws.
Ac, unwaith eto, ar fater gwarchodfa natur Cynffig, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf i ymateb i'r pryderon yr ydych newydd eu codi.
Mae llawer o bobl wedi cael eu gadael yn ddiymgeledd gan eu cwmnïau yswiriant ar ôl i gyfyngiadau symud gael eu gosod ar lawer o leoedd yn y De ac nad oedd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Nawr, mae'n bosibl bod rhai polisïau wedi cynnwys print mân yn atal taliadau oherwydd COVID-19, ond rwy'n gwybod nad yw hyn yn wir ym mhob achos o wrthod. Mewn un achos, dywedodd un cwmni wrth gwsmer fod cyngor gan Lywodraeth Cymru yn amherthnasol ac mai dim ond cyngor i beidio â theithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y maen nhw'n ei dderbyn. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd eich Llywodraeth yn cytuno â mi na ddylai cyfyngiadau wedi'u gorfodi gan Gymru gael eu hystyried yn llai na rhai sy'n cael eu gorfodi gan San Steffan. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ddatganiad clir ynghylch statws cyfreithiol y cyfyngiadau hyn yng Nghymru a sut y dylen nhw effeithio ar bolisïau yswiriant? Gwn fod sylwadau wedi'u cyflwyno i Gymdeithas Yswirwyr Prydain, ond nid oedd yn glir o ateb y Prif Weinidog a oes datganiad cyfreithiol, yr wyf i wedi gofyn amdano, wedi'i wneud, ac nid yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw sicrwydd o ran ad-daliadau i bawb, ac yn ddiamau, y dylen nhw wneud hynny. Byddai'n ddefnyddiol inni gael datganiad i glywed beth arall y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y bobl hynny yn cael yr ad-daliadau gwyliau sydd wedi'u gwrthod iddynt.
Mae Leanne Wood yn gywir: mae mor siomedig i bobl bod eu gwyliau wedi'u canslo o ganlyniad i goronafeirws a'r rheoliadau a'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu rhoi ar waith. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r diwydiant yswiriant a chawsom ymateb cymharol gadarnhaol yn ôl, rwy'n credu, gan gorff y diwydiant. Ond, fel y dywedodd y Prif Weinidog ac rwy'n credu bod Leanne Wood wedi'i ddweud hefyd, mae angen troi'r geiriau teg hynny nawr yn weithredu ac yn daliadau i'r deiliaid polisïau yr effeithiwyd arnynt. Ond os oes diweddariad pellach ar hynny, byddaf i'n siŵr o rannu hynny gyda Leanne.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad llafar gan y Llywodraeth—yr un cyntaf o ran darparu prydau ysgol am ddim? Rydym wedi cael nifer o ddatganiadau ysgrifenedig ar y ddarpariaeth, o ran ei hehangu, ac rwy'n falch iawn o'r rheini, ond a allwn ni gael datganiad llawn ar beth yn union yw'r sefyllfa o ran hynny nawr ? Mae fy marn i yn hysbys, y dylai prydau ysgol am ddim barhau trwy bob gwyliau a, phan nad yw plant yn yr ysgol, dylen nhw barhau i gael prydau ysgol am ddim, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw fwyta pan nad ydyn nhw yn yr ysgol. Felly, a allwn ni gael datganiad am hynny, ac, yn ail, ac mae hyn yn weddol addas yr adeg hon o'r flwyddyn, ddatganiad am ddefnyddio tân gwyllt drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol ei wneud i gyfyngu ar ddefnyddio tân gwyllt? Oherwydd gallaf i ddweud wrthych chi, yn Nwyrain Abertawe, nad oes mis yn mynd heibio heb i arddangosfa tân gwyllt ddigwydd yn rhywle.
Mae Mike Hedges yn llygad ei le ar yr ail bwynt hwnnw. Rwy'n credu fy mod yn gweld yr arddangosfeydd tân gwyllt hynny ledled Abertawe yn rheolaidd hefyd. Rydym yn cydnabod bod canslo cynifer o ddigwyddiadau a drefnwyd eleni yn peri'r risg bod pobl yn defnyddio tân gwyllt yn eu gerddi fwyfwy. Gwyddom fod y pwerau i wneud y rheoliadau hynny yn dod o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, a dyna pam yr ydym ni’n ceisio gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn San Steffan, sy'n gyfrifol am reoliadau tân gwyllt. Rydym yn annog ymateb cryf iawn gan Lywodraeth y DU i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad diweddar Pwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin ar dân gwyllt. Ac mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n gweithio gyda BEIS ar negeseuon cyhoeddus ar gyfer tymor y coelcerthi sydd ar ddod, a hefyd gyda'r Cynllun Gweithredu Byd-eang i godi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau ansawdd aer coelcerthi a thân gwyllt ar Ddiwrnod Aer Glân hefyd.
O ran y mater cyntaf, rwy'n gwybod bod Mike Hedges yn cydnabod yn llwyr y rhan hanfodol y mae prydau ysgol am ddim yn ei chwarae o ran sicrhau bod plant yn cael y pryd iach hwnnw ac nad ydyn nhw'n llwglyd yn ystod adegau digynsail, ac yn enwedig felly yn ystod gwyliau'r haf. Ers hynny, rydym wedi darparu £1.28 miliwn arall i helpu awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol prydau ysgol am ddim yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref, pan fydd rhai o'r ysgolion yn addasu a bod ganddyn nhw'r dull mwy hyblyg hwnnw o ddysgu. Unwaith eto, ers hynny rydym wedi cytuno ar gyllid o £420,000 o leiaf fel y bydd y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim hefyd yn parhau i gael y ddarpariaeth honno os na allan nhw fynychu'r ysgol am unrhyw reswm, fel gorfod hunanynysu ac yn y blaen. Felly, rydym yn ceisio sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl wahanol senarios a allai effeithio ar blant.
A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau Mike Hedges ynglŷn â'r angen am fwy o reoleiddio ar dân gwyllt? Dau fater os caf i, Llywydd: yn gyntaf, Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr o ran y nifer cyfyngedig o gerbydau trên sy'n cael eu defnyddio i fynd â phobl ifanc i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd ac oddi yno, o orsaf y Fenni. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, rwyf wedi cael gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi darparu bysiau sy'n gwbl annigonol, heb gadw pellter cymdeithasol o gwbl. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn amlinellu unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi'u cael â Thrafnidiaeth i Gymru ac esboniad ynghylch pam yr ymddengys bod pobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol i oedolion yn hyn o beth.
Yn ail ac yn olaf, Llywydd, mae Undeb y Cerddorion wedi bod yn weithgar iawn ar Twitter yn ddiweddar, ac maen nhw wedi bod yn codi'r mater o ystadegau pryderus iawn am sefyllfa cerddorion drwy'r pandemig. Nid oes gan 36 y cant o gerddorion unrhyw waith o gwbl; bydd 87 y cant yn ennill llai nag £20,000 y flwyddyn. Rwy'n gwybod bod Stephen Crabb wedi codi'r mater hwn yn y Senedd. O gofio bod y celfyddydau wedi'u datganoli i Gymru, i raddau helaeth, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gymorth sy'n cael ei roi i'r celfyddydau yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig cerddoriaeth. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd cerddoriaeth nid yn unig i gerddorion, ond i bob un ohonom ni o ran ein hiechyd meddwl. Rwy'n siŵr ein bod eisiau gwrando ar gerddoriaeth, yn enwedig ar hyn o bryd, yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi bod cerddoriaeth yn haeddu gwell.
Diolch i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Os nad oes ots ganddo ef, byddaf yn ei wahodd i ysgrifennu at Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y mater cyntaf hwnnw, sy'n ymwneud â nifer y cerbydau trên i gludo pobl ifanc o orsaf y Fenni. Rwy'n credu mai dyna fyddai'r ffordd gyflymaf o fynd ar ôl yr ymholiad penodol hwnnw.
Ac yna rwy'n cydnabod yn llwyr yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar y bobl hynny sy'n gweithio o fewn y diwydiant cerddoriaeth, o ran sefydliadau a chorau ac ati, ond hefyd o ran y gweithwyr llawrydd sy'n ennill eu bywoliaeth drwy'r diwydiant cerddoriaeth. Dyna pam rydym ni'n parhau i weithio ochr yn ochr â'n grŵp rhanddeiliaid cerddoriaeth i ddeall pryderon ac effaith y coronafeirws, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi cyllid drwy'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn. Felly, byddwn i'n cynghori sefydliadau ac unigolion i wneud ymholiadau i weld a allai rhywfaint o gymorth ariannol fod ar gael iddyn nhw drwy'r gronfa benodol honno.
Heddiw, fe yrrais i e-sgwter, sydd â chaniatâd i fynd ar y ffyrdd dan reoliadau newydd. Tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y gallwn ni ymestyn hynny fel dull arall o deithio i ategu'r gostyngiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn amlwg, y gostyngiad angenrheidiol yn nefnydd cerbydau preifat.
Hoffwn i hefyd gael ail ddatganiad gan Lesley Griffiths, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fwyd, ynghylch pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith 'dim cytundeb' posibl ar y bygythiad i gyflenwadau bwyd yr ydym yn eu mewnforio o Ewrop ar hyn o bryd. A tybed a fyddai'n bosibl gwneud hynny i'r Senedd.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r ddau fater hynny. Rwyf i hefyd wedi cael y pleser o geisio reidio e-sgwter ac roedd yn ffordd wych o fynd o gwmpas. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei archwilio mewn gwahanol rannau o Lywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod rhai o'r problemau sy'n peri anhawster yn ymwneud â thrwyddedu a rheoleiddio mewn cysylltiad ag e-sgwteri, oherwydd mae'r eitemau hynny'n dod o dan Lywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn ymddiddori ynddo, a gofynnaf i iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei syniadau yn hynny o beth.
Ac yna, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ymwybodol o'ch cais ynghylch y datganiad hwnnw ar fater penodol effaith Brexit 'dim cytundeb' posibl ar gyflenwadau bwyd i ni yma yng Nghymru.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Prif Chwip yn ei swydd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch sefyllfa'r ceiswyr lloches sy'n cyrraedd Penalun. Rwy'n deall bod rhagor o aflonyddwch wedi bod ddoe, er ei fod, diolch byth, o natur ansylweddol. Bydd y Llywodraeth yn ymwybodol o lythyr wedi'i eirio'n gryf iawn gan y bwrdd iechyd lleol, y cyngor sir, gyda chefnogaeth cynrychiolwyr lleol ac arweinwyr ffydd a chymdeithas ddinesig yn y cymunedau hynny. Mae copi ohono wedi dod i law. Mae'n codi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref o ran, yn benodol, y gallu i ddarparu'r cymorth priodol, y gefnogaeth grefyddol briodol, er enghraifft, a chefnogaeth drwy gyfrwng yr ieithoedd priodol, a hefyd mae'n codi rhai pryderon penodol am amodau'r adeiladau lle caiff y dynion hyn eu cartrefu. Yn amlwg, rydym ym gwybod nad yw'r Swyddfa Gartref wedi bod o gymorth hyd yma yn hyn o beth, ond byddwn i'n awgrymu, Trefnydd, pe bai'r Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn bengaled, mai ein cyfrifoldeb ni fel dinasyddion Cymru yw sicrhau bod y dynion hynny sy'n cael eu rhoi i setlo ym Mhenalun yn cael eu cefnogi a'u diogelu. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gan y Prif Chwip ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol ac asiantaethau lleol eraill i geisio sicrhau, os nad oes modd adsefydlu'r dynion ifanc hynny mewn canolfannau mwy priodol, eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb ar y pwynt hwn. Rwy'n credu, os cofiaf yn iawn, fod yna gwestiwn ar y mater hwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle cynnar i archwilio rhai o'r materion hynny ymhellach. Ond, fel y dywedais, byddaf i'n sicrhau fy mod yn cael y sgwrs honno gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb.
Rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddiogelwch adeiladu, Gweinidog. Mae EWS1 yn dystysgrif sy'n gwirio diogelwch waliau allanol adeilad—y cladin, er enghraifft. Nawr, mae un o drigolion Marseille House yn Century Wharf, Caerdydd, wedi rhoi tystiolaeth i mi fod tystysgrif EWS1 ar gyfer yr adeilad wedi'i llofnodi gan un o gyflogeion y Mansion Group, gyda'u pencadlys yng Nghainle, Swydd Gaer, ac mae'r sawl a lofnododd y dystysgrif ddiogelwch hon wedi datgan yn ysgrifenedig na wnaethon nhw gynnal yr arolygiad, na wnaethon nhw lofnodi'r ffurflen, nad oedd ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â Specialist Facade Inspections Ltd, sydd wedi'i leoli yn Nhrecelyn, ac nad llofnod yr uwch syrfëwr caffael yw'r llofnod ar y llythyr. Nawr, mae Specialist Facade Inspections Ltd yn dweud eu bod nhw yn ddioddefwr hefyd, ond y gwir amdani yw bod gennym ni dystysgrif ddiogelwch ac nid wyf yn gwybod pwy sydd wedi'i llofnodi. Ac mae hwn yn fater pwysig iawn nawr. Felly, hoffwn i gael datganiad ynghylch pryd y bydd y Gweinidog Tai yn mynd i'r afael â'r materion, yn sefydlu tasglu ac yn datrys hyn. Diolch.
Wel, mae'r sefyllfa y mae Neil McEvoy yn ei disgrifio yn amlwg yn un ddifrifol, felly byddwn i'n ei wahodd i anfon y manylion at y Gweinidog Tai ynglŷn â'r pryderon o ran y dogfennau, sut y cawsant eu prosesu a'r profion a gafodd eu cynnal i lywio'r gwaith o lofnodi'r dogfennau hynny. Yn amlwg, nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn i ymdrin ag ef yn y datganiad busnes y prynhawn yma. Rhoddodd y Gweinidog ymateb i ddadl ar ddiogelwch adeiladu ychydig wythnosau yn ôl, ond gwn ei bod yn awyddus i ddatblygu'r mater hwn. Felly, os byddwch chi'n anfon yr wybodaeth fanwl honno, rwy'n siŵr y gall gynghori ar y camau gweithredu gorau ar gyfer y preswylwyr dan sylw.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i gael datganiad ynglŷn â charchardai yng Nghymru, i amlinellu bod gan garcharorion yr hawl i siarad a defnyddio'r Gymraeg heb wynebu gwahaniaethu na chamdriniaeth o fewn ystad y carchardai. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i godi'n ddiweddar. Ond hefyd, o ran carcharorion sy'n gadael sefydliadau diogel, mae bob amser yn broblem pan fo digartrefedd yn fater sylweddol sy'n wynebu pobl, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, ond yng nghanol pandemig mae'r holl faterion hynny'n llawer, llawer gwaeth. Rydym ni wedi gweld adroddiad yn ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a amlinellodd faint o argyfwng sy'n wynebu pobl sy'n gadael sefydliadau diogel yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe bai pob un ohonom ni wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli'r gwasanaeth carchardai i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau cydgysylltiedig mewn ffordd a argymhellodd comisiwn Thomas.
Hoffwn hefyd gael cyfle i drafod yr adroddiad a gafodd sylw ar y BBC y bore yma am yr etholiadau nesaf ar gyfer y Senedd ym mis Mai. Mater i ni fel Aelodau benderfynu arno yw hwn. Ni chredaf y dylai ein hetholiad gael ei benderfynu drwy gytundebau yn y dirgel neu gan grwpiau bach o bobl. Mae'n fater y dylem ni i gyd allu pleidleisio arno, ei wyntyllu a'i drafod yn agored. Credaf—a chytunaf â'r Prif Weinidog—fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai a bod yn rhaid i'r awdurdodau perthnasol, pa un ai'r Llywodraeth neu Gomisiwn y Senedd, ddarparu'r adnoddau a'r sail gyfreithiol ar gyfer cynnal yr etholiad hwnnw os bydd amgylchiadau'n parhau'n anodd iawn, boed hynny'n rhoi pleidlais drwy'r post i bawb neu'n ffordd arall o sicrhau bod y bleidlais yn ddiogel. Ond rhaid cynnal y bleidlais, rhaid cael etholiad ym mis Mai, a rhaid inni gael y cyfle i bleidleisio ar hynny a sicrhau nad yw pobl Cymru'n cael eu hamddifadu o'u democratiaeth.
Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ymwybodol o'r pryder hwnnw ynghylch dadl ynglŷn â charchardai yng Nghymru, ond gwn y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd yn awyddus i ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn ystod epidemig y coronafeirws i sicrhau nad oes neb yn gadael y carchar ac yn cysgu ar y stryd, a pha gymorth y gallwn ni ei gynnig i bobl ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn tai addas yn ystod yr argyfwng hwn, ond sicrhau wedyn eu bod yn cadw to dros eu pennau wrth inni ddechrau symud i'r cyfnod ailadeiladu.
Cytunaf yn llwyr hefyd fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai, ac rydym yn cynllunio ac yn gweithio'n llwyr ar y sail honno. Nid wyf eto wedi gweld copi o'r adroddiad y cyfeiriwyd ato yn y wasg, ond fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach, dyna yn bendant y sail yr ydym yn cynllunio arno—y bydd etholiad ym mis Mai, a bod hynny'n angenrheidiol.
Diolch i'r Trefnydd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 3, 4, 5 a 6 ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda pleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiad i'r grwpio ar gyfer dadl? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny.
Ac felly dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7396 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.
Cynnig NDM7383 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.
Cynnig NDM7399 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.
Cynnig NDM7395 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y pedair cyfres o gynigion sy'n cynnwys rheoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn unwaith eto o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy ein gweithdrefnau brys i gefnogi sut yr ydym ni'n mynd ati ar hyn o bryd i ymdrin â'r coronafeirws. Fe ŵyr aelodau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'n strategaeth i ymdrin â'r coronafeirws mewn modd pwyllog sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys drwy'r gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am unrhyw un o'r gofynion a'r rheoliadau hyn, a'u cymesuredd, bob 21 diwrnod.
Cyflwynwyd y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw dros gyfnod rhwng 7 Medi ac 17 Medi. Maen nhw'n dangos y camau cyflym ond angenrheidiol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Er mwyn sicrhau ein bod wedi'n harfogi i wneud hynny, rydym ni wedi cynyddu pwerau awdurdodau lleol ac wedi gweithredu cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Dyna'r cyfresi o reoliadau sydd ger ein bron. Yn anffodus, fel y dywedais, rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y cyfraddau heintio cadarnhaol. Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod ni erbyn hyn wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol pellach ar draws Llanelli, Caerdydd ac Abertawe, a ddaeth i rym am 6 yr hwyr ar 26 Medi yng nghyswllt Llanelli, ac am 6 yr hwyr ar 27 Medi yng Nghaerdydd ac Abertawe. Caiff gwelliannau i'r prif reoliadau sy'n berthnasol i Gaerdydd, Abertawe a Llanelli eu trafod yn y Senedd ar 6 Hydref. Fel yr ydym ni wedi nodi yn ein cynllun rheoli'r coronafeirws, mae gennym ni ddull o fonitro achosion, ac rydym yn ceisio rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar yr egwyddorion o bwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson. Byddaf yn mynd i'r afael â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro.
O ganlyniad i ddata sy'n dangos cynnydd cyflym mewn achosion COVID-19 yng Nghaerffili, i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw, cyflwynwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 ar 8 Medi. Cyfeiriaf at bob un o'r rheoliadau dilynol yn ôl rhif eu gwelliant i'r prif reoliadau. Mae'r rheoliadau hyn yn gwahardd aelwydydd yn yr ardal rhag bod yn rhan o aelwyd estynedig neu rhag ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill. Pan fo aelwyd o ardal arall wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd o fewn yr ardal, ni chaiff yr aelwyd yn yr ardal honno bellach ei thrin yn rhan o swigen estynedig yr aelwyd honno. Mae'n gwahardd trigolion yr ardal rhag gadael neu gadw draw o'r ardal heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i drigolion yr ardal ddychwelyd i weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Ac mae'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal rhag dod i mewn i'r ardal honno heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl sy'n bresennol yn yr ardal wisgo gorchudd wyneb pan fyddant mewn safle agored, yn amodol ar yr esemptiadau a'r eithriadau, ac mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyfyngiadau a'r gofynion a gyflwynir gan reoliadau diwygio Rhif 8 gael eu hadolygu ar neu cyn 24 Medi, ac, os cânt eu hail-gyflwyno wedyn, o leiaf unwaith bob saith niwrnod wedi hynny. Yn olaf, mae cyfyngiadau ychwanegol wedi'u gosod ar bob safle sy'n gwerthu alcohol yn ardal yr awdurdod lleol, felly rhaid iddyn nhw roi'r gorau i werthu pob math o ddiodydd meddwol am 10 yr hwyr. Bwriadwyd i hyn fod yn 11 yr hwyr yn wreiddiol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor i helpu atal lledaeniad y feirws, mae cyfyngiad ledled Cymru o roi'r gorau i werthu alcohol am 10 yr hwyr wedi'i weithredu ers hynny ar gyfer pob siop sydd â thrwydded i werthu alcohol.
Ar 17 Medi, cyflwynwyd rheoliadau diwygio Rhif 10 i osod yr un cyfyngiadau ag yr wyf wedi'u disgrifio yn Rhondda Cynon Taf ag a gyflwynwyd ym mwrdeistref Caerffili. Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir: lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo, mae'r rhain wedi deillio'n bennaf o bobl yn peidio â chadw pellter cymdeithasol ac yn anwybyddu'r cyfyngiadau blaenorol. Bu cynnydd mawr yn nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn Rhondda Cynon Taf. Ar 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd am yr un rhesymau.
Yn olaf, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ymyrryd wrth i achosion ddigwydd fel y gallant weithredu i gau tir neu safleoedd lleol unigol ac atal digwyddiadau lleol. Daeth y rhain i rym ar 14 Medi. Rhoddwyd pwerau sy'n cyfateb yn fras i'r rhain i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Alban drwy reoliadau a wnaed gan Lywodraethau'r DU a'r Alban. O dan y rheoliadau hyn, caiff awdurdod lleol gyhoeddi cyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae'r pwerau hyn yn fodd i awdurdodau lleol gymryd camau ataliol effeithiol lle bo amgylchiadau'n gofyn am hynny. Ein bwriad ar hyn o bryd yw y daw'r prif reoliadau i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021. Mae hynny chwe mis o'r adeg y cawsant eu llunio a'u cyflwyno. Felly, bwriedir i'r rheoliadau ddod i ben ar yr un diwrnod.
Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.
Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hi yn ofid i mi na wnaed hynny ar lawr y Senedd yma, ond rwy'n llwyr barchu ei bod yn rhan o drafodion y sefydliad hwn p'un a ydych chi'n rhithwir neu yn y Senedd. Ond rwyf yn pryderu'n fawr am rai o'r honiadau—mewn gwirionedd, haeriad gennych chi heddiw i mi ar Twitter—eich bod, drwy eich gweithredoedd, yn cadw Cymru'n ddiogel, ac nad wyf i drwy fynychu'r trafodion seneddol hyn. Hoffwn ofyn am eglurhad gennych chi a yw'r rheoliadau yr ydych chi wedi'u cyflwyno ger ein bron heddiw neu'r rheoliadau a ddaw i rym yr wythnos nesaf sy'n cwmpasu Caerdydd a Bro Morgannwg, os byddwch yn mynychu cyfarfod seneddol a fyddech yn torri'r rheoliadau hynny, oherwydd rydych chi wedi awgrymu hynny mewn trydariad ataf. Felly, a allwch chi fy nghyfeirio at ble yn y rheoliadau hyn y byddaf yn torri'r rheoliadau hynny drwy fynychu'r Senedd hon, neu yn wir, Aelodau Seneddol, megis Kevin Brennan, yn mynychu San Steffan heddiw, ac eto mae ei gyd-Aelod seneddol o'r sefydliad hwn ym Mharc Cathays? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn pwysig y mae'n rhaid i chi ei ateb os ydych yn cyflwyno'r honiad hwnnw bod seneddwyr yn torri'r cyfyngiadau ac nad ydynt yn cadw Cymru'n ddiogel. Rydym ni i gyd wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n ddiogel ac rydym ni eisiau gweld diwedd y feirws yma. Dyna pam heddiw y bydd y Ceidwadwyr Cymreig am y tro cyntaf wrth gyflwyno rheoliadau yn ymatal ar y rheoliadau hyn oherwydd y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â'r materion hyn mewn modd mor ddi-hid.
Hoffwn hefyd ofyn am eglurhad gennych chi: a yw'r rheoliadau hyn yn dechrau'r broses o gyfyngiadau symud ar sail fwy rhanbarthol yn hytrach nag ar sail leol? A yw'n wir mai'r amser nawr i dafarndai a lleoliadau cymdeithasol gau o dan y cyfyngiadau yw 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch? Oherwydd sylwaf mewn sylwadau yn y wasg a wnaethoch chi yr wythnos diwethaf y byddech, mewn gwirionedd, yn disgwyl i bob digwyddiad cymdeithasol gau erbyn 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch. A yw hynny wedi'i gynnwys yn y rheoliadau ynteu ai eich dyhead chi yw hynny?
Unwaith eto, hoffwn ofyn am eglurhad ynghylch pa arweinwyr gwleidyddol, cynrychiolwyr etholedig gwleidyddol sy'n cael cyfarwyddyd am y rheoliadau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi, oherwydd unwaith eto, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, sylwais fod rhai Aelodau etholedig o sefydliadau eraill yn nodi eu bod wedi siarad â'r Gweinidog iechyd cyn cyflwyno'r rheoliadau hyn a chyn eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae hynny'n annerbyniol. Siawns nad oes cydraddoldeb ymysg Aelodau etholedig, ac y dylid briffio Aelodau, os cânt eu briffio, ar sail gyfartal. Byddwn yn ddiolchgar cael deall sut yr ydych yn mynd ati i friffio Aelodau sefydliad etholedig nad yw wedi'i gynnwys yn unfrydol yn y sesiynau briffio hynny os ydynt yn cynrychioli'r ardal benodol honno ac yn chwarae rhan bwysig wrth draddodi'r wybodaeth honno i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli.
Rydym ni'n troi eto fan hyn at ran o'n busnes seneddol ni sydd wirioneddol yn arwyddocaol—efallai'r rhan fwyaf arwyddocaol o'n trafodaethau ni ar yr adeg yma. Mae'n ymwneud â'r Senedd yma'n trafod ac, fel rydw i'n disgwyl, yn rhoi sêl bendith i reoliadau sy'n gosod cyfyngiadau difrifol iawn eto ar ryddid unigolion ac ar gymunedau. O ran y rheoliadau yn eitemau agenda 3, 4 a 5 sy'n ymestyn cyfyngiadau COVID i ragor o siroedd, rydym ni yn mynd i fod yn cefnogi, ond—a rydw i'n gwneud y pwynt yma eto—mi ydym ni'n credu y dylid bod yn cyflwyno'r cyfyngiadau ar ardaloedd mor fach â phosib ac y dylid gweithredu yn hyper-lleol, os leiciwch chi, lle bod hynny'n bosib.
Rydw i hefyd yn annog ystyried yn ofalus iawn wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Rydym ni'n edrych arnyn nhw yn eu cyfanrwydd, wrth gwrs, ac rydym ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol, ond mae eisiau edrych yn fanwl iawn ar wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Mae'n bosib bydd eisiau tynhau ymhellach, mewn rhai ffyrdd, beth sy'n digwydd ar ôl i'r tafarndai a'r bwytai gau am 10 o'r gloch a'r angen i wasgaru pobl heb iddyn nhw fynd i gartrefi ei gilydd ac yn y blaen, ond ar yr ochr arall, mae eisiau rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r impact ar les ac iechyd meddwl pobl ac ystyried camau, er enghraifft, i ganiatáu mwy o gyswllt i bobl sy'n debyg o ddioddef o unigrwydd. Mae'n bwysig cofio bod y cyfyngiadau yma'n cael impact ddofn iawn ar bobl o fewn ein cymunedau ni.
Hefyd, mae'n bwysig cofio ein bod ni'n delio â dull o ddeddfu sy'n llai na boddhaol. Dwi'n pwysleisio'r angen i ddod â'r rheoliadau yma o'n blaenau ni cyn gynted â phosib, ac er bod yna lai o oedi rhwng gweithredu'r rheoliadau a'u trafod nhw nag yr oedd yr wythnos diwethaf, rydyn ni'n dal yn fan hyn yn trafod rheoliadau ddaeth i rym mor bell yn ôl â 7 Medi, ac mae'n rhaid trio tynhau'r amserlen.
Ac efo eitem agenda 6, er mai technegol ydy o mewn gwirionedd, yn cywiro camgymeriad blaenorol, dwi yn nodi bod y pwyllgor deddfwriaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad o pam bod angen i'r rheoliadau yma fod wedi dod i rym cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, ac mae yna ofynion clir iawn ar y broses ddylai gael ei dilyn yn Neddf Offerynnau Statudol 1946. Dwi'n nodi yn fan hyn fy niolch i'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith nhw.
A'n olaf, tra mai beth sydd gennym ni yn fan hyn yng ngwelliannau 10, 8 ac 11 ydy cyfyngiadau newydd sy'n gofyn i drigolion yr ardaloedd dan sylw chwarae eu rhan nhw mewn ceisio gwaredu'r feirws, gadewch inni gofio bod yn rhaid i'r Llywodraeth chwarae eu rhan nhw hefyd, yn arbennig felly pan mae'n dod at brofion. Sortiwch y profion; sicrhewch eu bod nhw ar gael pan fydd pobl eu heisiau nhw; bod canlyniadau yn cael eu dychwelyd yn gyflym er mwyn cael dechrau'r gwaith olrhain, a gobeithio wedyn na fyddwn ni ddim angen cymaint o reoliadau fel y rhai sydd o'n blaenau ni heddiw.
Dwywaith dwi wedi anghofio galw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, felly dyma ni ar y trydydd tro, dyma fi'n cofio i alw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i wedi sylwi, ac yn disgwyl yn eiddgar. Adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yw hwn mewn perthynas â'r pedair cyfres o reoliadau, felly mae'n adroddiad cyfansawdd. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ynglŷn â'r Coronafeirws yng Nghymru, a chymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hynny ar 5 Awst 2020. Adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 8 ar 21 Medi, a ddoe adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 10 a Rhif 11, ynghyd â'r rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol. Rydym yn cydnabod, wrth drafod y rheoliadau hyn heddiw, fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio rheoliadau diwygio pellach, sydd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn dangos pa mor chwim y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar y materion hyn.
Mae rheoliadau Rhif 8, Rhif 10 a Rhif 11 i gyd yn ymwneud â chyfyngiadau a gyflwynwyd ar gymunedau penodol. Daeth rheoliadau diwygio Rhif 8 i rym ar 8 Medi ac, fel y gŵyr yr Aelodau, maent yn cyflwyno cyfyngiadau mewn cysylltiad â bwrdeistref sirol Caerffili fel ardal diogelu iechyd leol. Yn fyr, mae'r cyfyngiadau'n cwmpasu aelwydydd estynedig, gwaharddiadau ar deithio o'r ardal ac i mewn iddi, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i breswylwyr weithio gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Yna, mae rheoliadau diwygio Rhif 10 yn cyflwyno cyfyngiadau tebyg ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o 17 Medi ymlaen, gyda chyfyngiad ychwanegol yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob safle sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol beidio ag agor cyn 6 y bore ac iddo gau am 11 yr hwyr neu cyn hynny bob dydd. Ac yna o 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau i awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd, ac roedd rheoliadau Rhif 11 hefyd yn cyfyngu ar oriau agor safleoedd trwyddedig i fwrdeistref sirol Caerffili.
Nawr, yn ein hadroddiadau, fe wnaethom ni dynnu sylw at y diffyg ymgynghori cyhoeddus neu asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r rheoliadau diwygio, ac ystyried hefyd asesiad Llywodraeth Cymru o'r graddau y mae unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol yn gyfiawn ac yn gymesur wrth geisio'r nod cyfiawn o ddiogelu iechyd y cyhoedd. Tynnaf sylw'r Aelodau felly at ein hadroddiadau ar y rheoliadau diwygio.
Yn ein cyfarfod ddoe, buom hefyd yn trafod ystyr yr hyn sy'n gyfystyr ag 'esgus rhesymol' at ddibenion y rheoliadau. Mae hwn yn fater y mae llawer o etholwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn wedi'i godi gyda phob un ohonom ni. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar y mater hwn a byddwn yn ysgrifennu at y Gweinidog yn benodol ar y mater yma.
Dychwelaf yn awr at y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020. Rheoliadau yw'r rhain a ddaeth i rym ar 18 Medi. Maen nhw'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ledled Cymru drwy roi cyfarwyddiadau i bobl berthnasol gau safleoedd unigol neu osod cyfyngiadau neu ofynion penodol arnynt. Maen nhw'n gwahardd rhai digwyddiadau, neu fathau o ddigwyddiadau, rhag digwydd, neu yn gosod cyfyngiadau neu ofynion arnynt, a gallant hefyd gyfyngu ar fynediad i ddigwyddiadau awyr agored cyhoeddus neu eu cau.
Mae ein hadroddiad yn gwneud pedwar pwynt rhinwedd, a hoffwn dynnu sylw at dri ohonynt yn fyr. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ynghylch y rheoliadau. Mae ein trydydd pwynt adrodd yn nodi nad yw'n ymddangos bod y canllawiau mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, neu o leiaf nad yw'n hawdd dod o hyd iddynt. Credwn y byddai sicrhau bod y canllawiau ar gael neu ei bod hi'n haws cael gafael arnynt yn gymorth defnyddiol i awdurdodau lleol ac aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno deall effaith y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o gyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn nodi'r gwahaniaeth mewn triniaeth rhwng y mathau o hysbysiad o ran y materion a nodir yn rheoliadau 11 a 12, fodd bynnag, nid yw'n glir pam mae angen y gwahaniaeth hwn.
Ac yna, yn olaf, fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ysgrifennu at y Llywydd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, yn esbonio pam yr oedd angen i'r rheoliadau ddod i rym cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd. Byddwn yn croesawu sylwadau'r Gweinidog iechyd ar y materion hyn yr wyf wedi'u crybwyll ynghylch y rheoliadau ynglŷn â swyddogaethau awdurdodau lleol. Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n rhannu siom Andrew R.T. ei fod wedi penderfynu mentro i'w swyddfa ym Mharc Cathays; mae wedi mynd ychydig ymhellach o'i gartref i gyrraedd yno nag y byddai i ddod i'r Senedd. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi ein bod ychydig yn llai ar ei hol hi wrth wneud y rheoliadau hyn na rhai o'r lleill yr ydym ni wedi'u gwneud o'r blaen. Ein bwriad ni yw pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn am yr un rhesymau a roddais yr wythnos diwethaf. Mae'n debyg y bydd y Gweinidog a'r Aelodau'n falch o glywed nad wyf yn bwriadu ailadrodd y rhesymau hynny. Fodd bynnag, a gaf i groesawu datganiad Andrew R.T. Davies y bydd y Ceidwadwyr o leiaf yn ymatal ar y gyfres hon? Mae'n dweud mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymatal—rwy'n credu eu bod wedi ymatal ar o leiaf un gyfres o'r blaen. Cafwyd llawer o gwynion ganddyn nhw am y rheol greulon 5 milltir, er fy mod yn credu eu bod wedi pleidleisio dros y gyfraith aros yn lleol a oedd yn gyfrwng i hyrwyddo hynny, ond rwy'n credu iddyn nhw ymatal ar gyfres arall ar y pryd, felly mae'n dda gweld eu bod bellach yn edrych ar y rhain gyda llygad ychydig yn fwy beirniadol nag o'r blaen.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog—? Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, credaf fod y rheoliadau hyn yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, a byddwn yn cwestiynu i ba raddau y maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth. Tybed, serch hynny, a gaf i ganolbwyntio'n benodol ar y tri chyngor a gynhwyswyd yn fwyaf diweddar? Fe wnaethoch chi nodi rhai egwyddorion gynnau fach ar gyfer y rheoliadau dan sylw, ac rydym yn sôn, o leiaf yn achos Caerffili, am gynnydd cyflym mewn rheoliadau ynglŷn â'r coronafeirws i gyfiawnhau'r rheoliadau. Ond gyda'r tri chyngor diweddaraf a gynhwyswyd, mae'n ymddangos bron fel eich bod yn llenwi'r bylchau yn y rhanbarth. Os edrychwch chi ar y cynghorau hynny'n unigol, tybed a ellir cyfiawnhau hynny ar sail unigol. Mae'n fy nharo i fod hyd yn oed llai o alw amdanyn nhw ac am y rheoliadau eraill. Ystyriwch, er enghraifft, Torfaen, lle mae un etholwr wedi dweud wrthyf, o leiaf ar sail data cyhoeddus sydd ar gael iddynt o ddoe ymlaen, ein bod yn gweld dim mwy na thua saith y dydd yn cael eu heintio yn Nhorfaen, ac yn gyffredinol ymddengys y buoch yn edrych ar drothwy o 20 o bob 100,000 o leiaf cyn i chi ystyried cyfyngiadau, a dyna oedd y sail i'ch asesiad yn ymwneud â thramor hefyd. Pam yr ydych chi wedi gosod rheoliadau a gofynion cyfyngiadau symud mor llym yn Nhorfaen pan ymddengys hi fod nifer yr achosion o'r coronafeirws yn sylweddol is na hynny?
Mae'r Gweinidog, unwaith eto, yn cymryd gordd i dorri cneuen, yn fy marn i. Onid yw hi'n anochel pan fyddwch yn llacio'r cyfyngiadau bod y risg o gynyddu haint yn sicr o ddigwydd? Ac, yn amlwg, wrth i ni ddynesu at y gaeaf, mae mwy o risg beth bynnag y bydd pobl yn dal unrhyw haint anadlol. Mae'n bennaf wir, lle ceir marwolaethau o COVID, eu bod yn digwydd ymhlith pobl hŷn. Pobl dros 85 oed yw 40 y cant o'r marwolaethau; 30 y cant yn y grŵp oedran o 75 i 84; a 15 y cant arall yn fy ngrŵp oedran i, 65 i 74; tra bod y rhan fwyaf o'r heintiau'n digwydd mewn pobl iau, ac nid ydyn nhw mewn perygl sylweddol o gwbl. Yn wir, cyfrifir bod rhywun dros 85 oed 1,000 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na rhywun sydd o dan 65 oed.
Felly, nid yw'r rheoliadau hyn yn gymesur, yn fy marn i, fel y dywed y Gweinidog. Yr hyn y mae wedi'i wneud—tybed a fyddai'n cytuno â hyn—mewn gwirionedd yw troi'r de yn arbennig yn fath o gyfres o 'gulags' sy'n cyfyngu pobl o fewn ffiniau'r awdurdod lleol y maen nhw'n byw ynddo. Nid ydyn nhw yn debygol o fod yn effeithiol oni bai eu bod yn parhau am gyfnod amhenodol, a byddwn yn parhau i weld cyfyngiadau symud dirifedi os nad ydym yn derbyn yr anochel: hyd nes y bydd brechlyn yn effeithiol ac wedi'i ddosbarthu'n eang, rhaid i'r risg o haint barhau.
Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau symud lleol heddiw. Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n iawn atal Cymry rhag symud o gwmpas ein gwlad ein hunain pan fydd y ffin, y porthladdoedd a'r meysydd awyr ar agor, ac yn agored heb brofion hefyd. Felly, pam y dylid caniatáu i bobl o dros y ffin sydd â chyfraddau heintio llawer uwch deithio'n rhydd, pan na all pobl Cymru yma, mewn rhai amgylchiadau, deithio i'r dref nesaf hyd yn oed? Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio i gyflwyno cyfyngiadau symud yn fy ninas a'm gwlad fy hun ond ei gadael yn agored i bawb arall ddod yma fel y mynnont.
Rydym ni eisoes wedi sôn am frechlynnau gorfodol, cyrffyw a hyd yn oed defnyddio'r fyddin, ac nid wyf yn siŵr beth mae gwyddoniaeth yn ei ddweud ynghylch yr angen i ni gau sefydliadau adloniant am 10 yr hwyr. Ble mae'r wyddoniaeth sy'n sail i hynny? Pam na chaniateir i DJs chwarae? Dylem fod yn trin pobl fel oedolion, oherwydd mae rhai busnesau wedi ymdrechu'n wirioneddol galed ac wedi gwario llawer o arian ar ragofalon. O'm rhan fy hun, es i Mocka Lounge yng Nghaerdydd a chafodd y rhagofalon a gymerwyd argraff fawr arnaf—roedden nhw wedi'u trefnu'n dda iawn. Gwn fod lleoedd eraill fel hynny hefyd.
Yn y rheoliadau hyn mae cymaint o wrthddywediadau. Mae gennym ni wahanu yn yr ysgol, ac eto ar y bws mae pawb yn cymysgu. Ychydig iawn y mae pobl yn ei wybod am fygydau, o ran pa mor aml y dylech newid eich mygydau. Rwy'n gweld pobl yn cerdded o gwmpas mewn sgriniau wyneb, yn meddwl eu bod yn amddiffyn eu hunain rhag anadlu pethau i mewn ac amddiffyn eraill rhag yr hyn y maen nhw yn ei anadlu allan, ond nid yw sgriniau wyneb yn gwneud hynny. Ble mae'r biniau i roi mygydau ynddyn nhw a chael gwared arnyn nhw'n ddiogel? Ble maen nhw? Rydych chi'n gweld mygydau ar lawr ym mhobman.
Mae'r dull gweithredu yn anhrefnus ac yn adweithiol. Dywedais yn y Senedd hon ym mis Mawrth na allwch chi ymladd pandemig heb brofion. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud wrthym ni o'r cychwyn cyntaf, 'Profwch, profwch, profwch'; fel arall, mae fel ceisio diffodd tân gyda mwgwd dros eich llygaid. Yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw meddwl am brosesau a meddwl am sut y gallwn ni amddiffyn yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed rhag dal y feirws yma. Sut mae gwarchod pobl?
Yn ei hanfod, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd yw profi. Faint ohonom ni sydd wedi bod yn sâl yn ystod y misoedd diwethaf a heb wybod a fu'r coronafeirws arnom ni oherwydd nad yw'r prawf gwrthgyrff wedi bod ar gael? Faint ohonom ni sydd â rhyw fath o imiwnedd i'r feirws ond na wyddom ni hynny? Nid ydym ni yn mynd i symud ymlaen ymhellach nes ein bod yn canfod ac yn ynysu'r feirws yma. Yn y cyfamser, mae'r cyfyngiadau symud hyn—bydd un arall ac un arall ac un arall. Bydd yn ddi-ben-draw, felly ni chefnogaf y cynigion heddiw, a dyma'r tro cyntaf.
Y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl. Byddaf yn ceisio ymdrin â phob un yn ei dro yn fyr. Gan ddechrau gydag Andrew R.T. Davies, mae'n amlwg fy mod yn gresynu at ei ymagwedd yntau a'i grŵp. O'r hyn y maen nhw yn ei ddweud, maen nhw'n ymatal nid am eu bod yn anghytuno â'r mesurau neu nad yw'r mesurau sy'n cael eu gweithredu rywsut yn briodol, ond mae'n gwestiwn ynglŷn â phroses yn hytrach na chanlyniad o ran sut yr ydym yn cadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.
Gallaf ddweud yn llwyr, yn gwbl ddidwyll, wrth bawb a phopeth yng Nghymru nad oes dim byd di-hid yn ein dull gweithredu. Mae'n cymryd llawer iawn o amser, egni ac ymdrech gan Weinidogion, ein swyddogion a'n cyd-Aelodau mewn awdurdodau lleol, sydd hefyd â dewisiadau eithriadol o anodd eu gwneud ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda nhw, gyda'r heddlu ac, yn wir, gyda'n gwasanaeth iechyd wrth gynnal a cheisio deall patrwm yr haint sy'n amlygu ei hun. Yn hytrach na chwilio am wrthdaro, credaf y dylai cynrychiolwyr etholedig fod yn chwilio am ateb i sut yr ydym yn ceisio atal y feirws ac amddiffyn Cymru rhag niwed.
Mae'n werth cadarnhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn mewn modd sy'n ystyried ein prosesau yma yng Nghymru. Mae'r brif weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r rheoliadau hyn gael cefnogaeth y Senedd neu maen nhw'n methu. Wrth gwrs, yn Lloegr, cyflwynir y rheoliadau cyfatebol gan orchmynion gweinidogol heb i Senedd y DU orfod pleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod ein proses yn well o lawer yn ddemocrataidd ac yn rhoi cyfle i graffu mewn modd bwriadol a rheolaidd, fel y mae i fod i'w wneud.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y materion yn ymwneud â theithio a'r cyfyngiadau teithio. Mae'n ofynnol i mi fod yma gan nad yw'n rhesymol ymarferol i mi wneud fy holl waith heb amrywiaeth o swyddogion eraill yma hefyd. Ar ddyddiau eraill, byddaf yn gwneud gwaith o gartref, pan fydd yn weddol ymarferol i mi wneud hynny. O ran briffio Aelodau, os na chysylltwyd â'r Aelod drwy amryfusedd, yna mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ni edrych arno. Nid yw hynny'n ymgais fwriadol. Unwaith eto, rydym yn ymdrechu'n galed i siarad â chynrychiolwyr etholedig ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan fo'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hyn hefyd. Ac o ran y sylw ynghylch yr amser cau ar gyfer y fasnach letygarwch, mae hynny yn y rheoliadau; 10 o'r gloch ar gyfer rhoi terfyn ar werthu alcohol, a 10.20 gyda'r nos pan fo'n rhaid i'r safle hwnnw gau.
Derbyniaf sylwadau Rhun ap Iorwerth am chwilio am ardal leol o fewn ardal cyngor lle bo hynny'n bosibl. Dyna'n union yr ydym ni wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae Llanelli yn ardal benodol. Pe na bai Llanelli yn rhan o Sir Gaerfyrddin ni fyddem yn ystyried gweithredu yn Sir Gaerfyrddin o ystyried gweddill y cyfraddau sy'n bodoli. Ystyriwn hyn bob tro y byddwn yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gyflwyno'r rheoliadau hyn—a yw'n bosib gweithredu mewn modd sy'n effeithio ar ardal sy'n llai na'r awdurdod lleol cyfan. Ar bob achlysur hyd at y cyfnod hwnnw, gwelsom nad oedd hi'n bosib mewn gwirionedd yn unol â'r dystiolaeth bod y feirws wedi lledaenu ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
Cyfyngiadau lleol i'r sir yw'r rhain, nid ydynt yn rhai rhanbarthol. Felly, nid yw'n golygu y gallwch chi deithio i unrhyw le o'ch dewis ar draws ardal ehangach de Cymru lle mae'r cyfyngiadau ar waith. Mae'n berthnasol i'r awdurdod lleol unigol yr ydych yn byw ynddo—unwaith eto, o ran y sylw am esgus rhesymol y deuaf ato'n ddiweddarach ar gyfer teithio. Rydym ni yn trafod yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol am yr hyn yr ydym ni yn ei wneud a pham, a bydd hynny'n parhau. Rydym yn mynd ati mewn sawl ffordd yn gwbl fwriadol. Nid penderfynu gorfodi'r mesurau hyn yr ydym ni yn ei wneud ac yna rhoi gwybod i awdurdodau lleol am ein penderfyniadau wedyn. Bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, o'i gysylltiadau ei hun, ein bod ni wedi mynd ati mewn modd bwriadol a gofalus iawn.
O ran y pwynt am brofion a wnaeth yr Aelod, rydym ni nawr yn cynnal 10,000 i 11,000 o brofion y dydd ledled Cymru. Erbyn hyn, mae 3,000 i 4,000 o'r profion hynny'n brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru a disgwyliwn i fwy o'r rheini gael eu cyflwyno dros y dyddiau nesaf wrth i ni gynyddu nid yn unig nifer y mannau profi a'r mynediad iddynt, ond faint o brofion sydd ar gael hefyd. Bydd yr Aelod yn gweld, wrth i ni gyflwyno nid yn unig mwy o'r profion hynny ond y lonydd cyson mewn canolfannau profi drwy ffenest y car yr wyf wedi'u cyhoeddi o'r blaen, y bydd gennym ni hefyd gyfres o ganolfannau galw heibio, yna rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod profion Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn y mannau hynny hefyd, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig llenwi'r bylchau sy'n cael eu creu gan heriau rhaglen labordai Goleudy ar hyn o bryd, ond y bydd gennym ni gapasiti ychwanegol beth bynnag o fewn y maes. Rydym ni hefyd yn defnyddio ein hadnoddau profi symudol wrth i gyfraddau heintio gynyddu mewn gwahanol rannau o Gymru.
O ran sylwadau Mick Antoniw, ynghylch y sylw am esgus rhesymol dros deithio, rwy'n credu ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu o ran ceisio nodi'r canllawiau sydd ar gael o ran yr hyn sydd yn esgus ac nad yw'n esgus rhesymol dros deithio. Yr her yw, os byddwn yn darparu canllawiau hyd yn oed yn fwy helaeth a manwl, y bydd gennym ni drwch o reolau yn y pen draw, ac mae'n her i ni. Byddwn yn ystyried y pwyntiau a wnaed yn adroddiadau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ond mae angen inni feddwl ynglŷn â phryd y byddwn ni mewn sefyllfa pan fo hi'n dal yn ymarferol i bobl ddeall—ac mae rhywfaint o hyn yn dibynnu ar farn aelodau unigol o'r cyhoedd am yr hyn sy'n esgus rhesymol mewn gwirionedd, i feddwl ynglŷn â sut maen nhw yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn hytrach na chwilio am ffordd o'u hosgoi. Ac o ran eich sylw am reoliadau'r awdurdodau lleol a'r canllawiau, byddwn yn edrych ar y canllawiau i weld a yw hynny wedi ei gynnwys; derbyniaf eich sylw a byddaf yn gwirio i weld beth sydd ar gael i'r cyhoedd ac ymhle. Derbyniaf hefyd y sylw am y camgymeriad clerigol wrth gyflwyno'r rheoliadau—roedd hynny'n rhywbeth a ddigwyddiodd unwaith yn unig, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Llywydd, rwy'n credu, i gadarnhau bod hynny'n wir. Byddwn yn sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o hynny yn yr ymateb ffurfiol i'ch adroddiad.
Gan droi at Mark Reckless, mae'n gyson—nid wyf yn cytuno ag ef ac nid yw'n cytuno â mi, ond mae'n gyson yn y safbwynt y mae wedi ei arddel drwy gydol y rheoliadau hyn. O ran yr ymchwydd cynyddol, gan ddefnyddio enghraifft Torfaen y canolbwyntiodd yn benodol arni, saith diwrnod yn ôl, y gyfradd fesul 100,000 yn Nhorfaen oedd 22.3, heddiw mae'n 47.9; gallwch weld cynnydd sylweddol yn lefelau'r feirws. Ac oherwydd ein bod yn deall bod y prif gyfraddau'n debygol o fod yn llai na'r sefyllfa wirioneddol—ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr oedi mewn profion yn labordai Goleudy—gallwn faentumnio o hynny nifer y bobl nad ydynt efallai'n dod o'u gwirfodd i gael eu profi.
Y pwynt arall rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio ei ystyried yw'r cyfraddau cadarnhaol—nifer y bobl ym mhob 100 sy'n profi'n gadarnhaol—ac eto, mae'r gyfradd yn Nhorfaen wedi cynyddu dros y saith a 14 diwrnod diwethaf. Credaf ei fod mewn gwirionedd yn cyfiawnhau—ac mae cefnogaeth i hyn ymysg yr holl randdeiliaid lleol—y mesurau a weithredwyd. Rhaid cyfaddef y byddwn yn trafod ac fe ofynnir i'r Senedd bleidleisio ar y rheoliadau hynny ar gyfer Bro Morgannwg, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.
Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, yn gyson â'i gyfeiriad bwriadol sarhaus wrth ddweud bod de Cymru wedi'i throi'n gulag. Credaf y bydd pobl sydd â theuluoedd sydd wedi dioddef mewn gwir gulags yn gweld hynny'n annymunol iawn ac yn gyfeiriad cwbl amhriodol i'w wneud yn y dewisiadau democrataidd yr ydym ni yn eu gwneud yma heddiw, ac yn y bygythiad yr ydym ni yn ei wynebu mewn pandemig iechyd cyhoeddus.
O ran sylwadau Neil McEvoy, mae'r her yn seiliedig yn fras ar gyswllt dan do mewn lleoliadau lletygarwch, ond yn enwedig yn y cartref. Credaf fod ymgais i ddweud na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau symud mewn ardaloedd ac na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yng Nghymru, oherwydd nad yw eraill yn gweithredu'n wahanol mewn rhannau eraill o'r DU. Credaf fod gwneud dim oherwydd nad yw eraill yn gweithredu yn ildio ein gallu i wneud dewisiadau yng Nghymru i ddiogelu a chadw Cymru'n ddiogel. Ac nid wyf yn credu bod hynny'n gam gweithredu priodol o gwbl. Credaf fod camddealltwriaeth hefyd o amcan a diben y profion. Credaf y gallai fod yn ddefnydd da o'i amser petai'n darllen y cyngor penodol a gawsom ni gan ein grŵp cynghori technegol. Credaf y gallai hynny helpu gyda rhai o'r sylwadau a wnaeth. Dywedodd hefyd wedyn ei bod hi'n bwysig ynysu'r feirws, gan fynnu ar yr un gwynt peidio â chael unrhyw gyfyngiadau teithio o gwbl. Rwy'n credu bod hynny'n gamddealltwriaeth gwirioneddol o'r hyn yr ydym ni yn ceisio'i gyflawni ac amcan a diben y rheoliadau hyn. Felly, cyfraniad braidd yn siomedig ac anaddas.
Mae'r rheoliadau sydd wedi'u trafod heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut yr ydym ni yn cydbwyso rhyddid unigol â rheoli bygythiad parhaus y coronafeirws ac mae'n pwyso'n drwm iawn ar feddyliau Gweinidogion sy'n gwneud y dewisiadau hyn ein bod yn gwneud dewisiadau gwirioneddol arwyddocaol ynghylch rhyddid unigol pobl, gan geisio gwneud y peth cywir, wrth gwrs, i gadw Cymru'n ddiogel. Mae ein dull gweithredu yn seiliedig, fel y bu erioed, ar gyngor y prif swyddog meddygol a'i adran, ein cynghorwyr gwyddonol, y grŵp cynghori technegol a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth o Gymru, ledled y DU a thu hwnt.
Fel y dywedais, credaf ein bod yn cymryd camau penodol a chymesur mewn ymateb i'r ymchwydd cynyddol o achosion o'r coronafeirws mewn ardaloedd awdurdodau lleol penodol. Ond, i orffen, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb parhaus i wneud dewisiadau ac i ddilyn y mesurau i'n cadw ni, ein teuluoedd, ein hanwyliaid a'n cymunedau'n ddiogel. Mae hynny'n golygu cadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, i olchi ein dwylo'n aml ac i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf, ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol sydd ar waith. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a gwneud ein rhan, fel Aelodau etholedig, i helpu cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, mae'r bleidlais o dan eitem 3 wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais o dan eitem 4 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 6 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae hynny'n dod â ni nawr at gyfnod o doriad. Fe fyddwn ni'n torri am gyfnod byr i alluogi newidiadau i'r Siambr. Felly, torri'r darllediad.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:30.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:36, gyda David Melding yn y Gadair.
Rwy'n galw am drefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto.
Eitem 7 yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd—Cam3. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Ken Skates.
Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae'r darlun economaidd yn llwm ac yn ansefydlog, a'i lwybr i'r dyfodol yn gwbl gysylltiedig â chwrs y pandemig ac, yn wir, â diwedd cyfnod pontio'r UE. Wrth i'r darlun o'r sefyllfa economaidd ddod yn fwy amlwg, rydym wedi gorfod canolbwyntio'n llymach dros y dyddiau diwethaf ar y cydbwyso cymhleth hwn a geir rhwng iechyd y cyhoedd ar y naill law a'r economi ar y llaw arall, a chyhoeddwyd cyfyngiadau pellach yn genedlaethol ac yn lleol i reoli cylchrediad y feirws wrth inni fynd i mewn i gyfnod yr hydref a'r gaeaf. O ystyried y cyd-destun ansefydlog hwn sy'n datblygu'n gyflym, ac wrth inni geisio dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng amddiffyn ac adferiad, mae'n amlwg fod yna sail resymegol gref dros barhau i gefnogi busnesau, pobl a chymunedau Cymru er mwyn helpu i wella eu rhagolygon yn y tymor byr a chanolig.
Mae'r cynllun i amddiffyn swyddi gan Lywodraeth y DU yn sgil coronafeirws, a fydd yn dod i ben y mis nesaf, wedi bod yn hanfodol i ddiogelu swyddi yng Nghymru, ac mae hwn wedi darparu cymorth ar raddfa ddigynsail y gellir ond ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i roi trefniadau newydd ar waith wrth i'r cynllun i amddiffyn swyddi yn sgil coronafeirws ddod i ben. Yn arbennig, rydym wedi pwyso am fwy o gefnogaeth i'r sectorau hynny sy'n cael eu taro galetaf, am fwy o ymdrechion i greu swyddi yn ogystal â diogelu swyddi a mwy o fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau, ac fe fyddai pob un ohonyn nhw'n cynorthwyo gydag adferiad cyflymach i'r economi.
Fe ddylid cynnig cymorth i helpu gweithwyr sy'n cael eu diswyddo ar hyn o bryd, a'r rheini fydd yn colli eu swyddi yn yr wythnosau i ddod, wrth i'r cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth presennol ddiflannu. Mae angen gwneud mwy i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi newydd a chymell cyflogwyr i gyflogi gweithwyr. Felly rydym yn croesawu penderfyniad y Canghellor i ymestyn y gostyngiad mewn treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth 2021, i ymestyn terfynau amser i ad-dalu ar gyfer busnesau sydd wedi gohirio TAW a rhoi telerau sy'n fwy hyblyg i fusnesau sydd wedi cael benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth. Serch hynny, yn gyffredinol, mae'r mesurau a gyhoeddwyd, yn anffodus, yn annhebygol o fod yn ddigonol i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn y misoedd i ddod. Mae angen gwneud mwy, ac fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau sy'n fwy eofn i sicrhau ein hadferiad economaidd ni a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU i'r dyfodol.
Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi 13,000 o fusnesau, gan helpu i sicrhau mwy na 100,000 o swyddi i'n dinasyddion. Nod ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol crynswth, yw atgyfnerthu ac ategu cynlluniau eraill gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai cwmnïau yng Nghymru sy'n cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unman yn y Deyrnas Unedig.
Nawr, yn dilyn yr egwyddorion i ddarparu cymorth gwell, fe gyhoeddais i ddoe fod Llywodraeth Cymru yn darparu £140 miliwn ychwanegol i fusnesau i'w helpu nhw i ymdrin â heriau economaidd COVID-19 ac ymadawiad arfaethedig y DU â'r UE. Fe fydd y cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd yn gweld cymorth ehangach yn cael ei roi i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu, yn ogystal â chymorth ychwanegol i gwmnïau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnyn nhw. Fe fydd y cyfnod newydd hwn o'r Gronfa Cadernid Economaidd yn golygu y bydd £80 miliwn ar gael i helpu busnesau i ddatblygu a diogelu cyflogaeth eu gweithluoedd, drwy grantiau datblygu busnes, ond yn gyfnewid am hynny bydd gofyn i gwmnïau ymrwymo rhai o'u hadnoddau nhw eu hunain. Fe fydd tua £20 miliwn o'r gyllideb hon yn cael ei ddyrannu i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch y gwn eu bod yn wynebu cyfyngiadau a heriau penodol wrth inni wynebu misoedd y gaeaf. Yn ogystal â hynny, fe fydd y cynllun yn gwobrwyo'r busnesau sy'n creu cyfleoedd gwaith newydd i'r rheini dan 25 oed. Yn y cyfamser, fe fydd £60 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gynorthwyo ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol yn weithredol.
Yn olaf, rwy'n rhoi ystyriaeth i sut y gellid defnyddio Banc Datblygu Cymru i atgyfnerthu a sicrhau cyfalaf tymor hir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wrth inni ymlwybro drwy'r misoedd nesaf. Fe fydd y grantiau datblygu busnes yn agored i fusnesau o bob maint. Fe fydd microfusnesau, y rhai sy'n cyflogi rhwng un a naw o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod nhw'n cyfateb hynny â buddsoddiad ganddyn nhw eu hunain o 10 y cant o leiaf. Fe fydd BBaChau, y busnesau hynny sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Nawr, fe fydd yn ofynnol i fusnesau bach gyfateb hynny â 10 y cant o leiaf o'u harian nhw eu hunain, a busnesau canolig eu maint gydag o leiaf 20 y cant o'u harian nhw eu hunain. Fe all busnesau mawr, y rhai sy'n cyflogi dros 250 o bobl, wneud cais am hyd at £250,000, ar yr amod eu bod yn cyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 50 y cant o leiaf. Fe fydd elfen o ddisgresiwn yn y gronfa i alluogi lefelau uwch o gymorth i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig sydd yn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.
Fe fydd y gwirydd cymhwysedd, i gwmnïau gael gwybod a fyddan nhw'n gallu cael cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd, ar gael o'r wythnos nesaf ymlaen. Fe allai cwmnïau a gafodd arian grant drwy gam 1 a/neu 2 o'r Gronfa, neu grantiau annomestig sy'n gysylltiedig â chyfraddau, fod yn gymwys i gael cymorth pellach hefyd drwy drydydd cam y Gronfa. Fe fydd £60 miliwn arall, fel y dywedais i, yn cael ei ddarparu i gefnogi cwmnïau sy'n cael eu gorfodi i gau neu sy'n cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau lleol ar hyn o bryd.
Fe all natur cyfyngiadau lleol amrywio yn ôl amgylchiadau amrywiol, ac fe all hyn roi pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru os na chaiff ei liniaru'n llawn gan unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU. Gallaf ddweud, wrth gynllunio'r cam cymorth nesaf hwn, ein bod ni wedi dadansoddi'r data economaidd yn ofalus ac wedi cynnwys yr hyn a ddysgwyd mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd wedi gweld cyfyngiadau lleol, gan gynnwys, yn arwyddocaol iawn, Gaerlŷr ac Aberdeen. Rydym yn ymwybodol y bydd cyflwyno cyfyngiadau lleol yn effeithio ar economïau lleol, ar fusnesau a gweithwyr fel ei gilydd, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid lleol i archwilio ffyrdd o gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn i ddiwallu eu hanghenion nhw ac anghenion y gweithwyr a'r cymunedau.
Dylai busnesau o hyd fynd at Busnes Cymru yn y lle cyntaf i gael cyngor, ac mae ein hamrywiaeth bresennol ni o ddewisiadau ar gyfer cael cymorth ariannol i fusnesau yn parhau. Mae COVID-19 yn fater sy'n effeithio ar y DU gyfan. Mae gan Lywodraeth y DU swyddogaeth barhaol i lunio a darparu cymorth economaidd lleol. Rwyf wrthi'n cynnal trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn.
Ni welwyd cyfnod fel hwn erioed o'r blaen. Mae'r coronfeirws a'r perygl cynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi gosod her anhygoel ar ein busnesau ni. Eto i gyd, mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ein busnesau ni ar yr adeg y mae'r angen mwyaf amdano, y bydd yna gymorth pellach ar gael. Mae hyn yn rhoi'r hyblygrwydd inni ymateb i amgylchiadau hefyd, wrth iddynt ddod i'r amlwg, a fydd yn bwysig dros y misoedd cynhyrfus nesaf. Fel Llywodraeth i Gymru, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau ni, ein cymunedau ni a'n gweithwyr ni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a hefyd am y gefnogaeth ychwanegol a gyhoeddodd ef i gefnogi busnesau yma yng Nghymru? Rwy'n gwerthfawrogi, Gweinidog, hefyd, yn eich datganiad, eich bod chi'n croesawu'r gwahanol gynlluniau a gyhoeddodd y Canghellor i gefnogi busnesau ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi hefyd, Gweinidog, y bydd mesurau fel y cynllun cefnogi swyddi yn rhoi'r cyfle sydd ei angen ar gyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr wrth inni ymlwybro trwy'r hyn sy'n debygol o fod, fel y dywedwch, Gweinidog, yn aeaf anodd iawn. Fe fydd rhywbeth i ddiogelu busnesau ymhellach, drwy ymestyn terfynau amser benthyciadau a gohirio TAW ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, yn fendith i'w chroesawu hefyd i lawer o fusnesau yma yng Nghymru.
Gan droi at eich datganiad, Gweinidog, fy marn i yw y dylai'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru gael ei ddyrannu'n uniongyrchol i fusnesau cyn gynted ag y bo modd er mwyn atal busnesau rhag syrthio rhwng dwy stôl. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio lliniaru rhai o'r bylchau a theilwra rhai polisïau drwy bolisïau a gyflwynodd Llywodraeth y DU. Ers y mis diwethaf, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud—fe wnewch chi fy nghywiro i os ydw i'n anghywir, ond—dim ond hanner y £500 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd a gafodd ei ddosbarthu mewn gwirionedd. Felly, peth da fyddai cael dadansoddiad o'r dyraniad hwnnw o £500 miliwn: yr hyn a wariwyd ar gam 1 a cham 2, yr hyn a oedd dros ben o gam 2, a faint, os o gwbl, yr ydych chi'n disgwyl ei weld dros ben ar ddiwedd cam 3.
Rwy'n croesawu'r newyddion hefyd y bydd £60 miliwn ar gael yn benodol i ardaloedd sydd wedi gweld cyfnodau clo unwaith eto, oherwydd rwy'n credu bod angen eglurder ar fusnesau, yn enwedig y busnesau llai a busnesau bach a chanolig, ynghylch sut i gael gafael ar yr arian. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i'r arian hwn gyrraedd y busnesau hynny cyn gynted ag y bo modd. Os yw'r cyllid ar gael, yna fe ddylid ei ddosbarthu ar fyrder, yn sicr, ac efallai y gallech ddweud rhagor wrthym am sut y bydd yr arian penodol hwn yn cyrraedd y busnesau cywir mewn da bryd.
Fe gyhoeddodd y Trysorlys y gall busnesau yn Lloegr, y mae'n ofynnol iddynt gau oherwydd cyfnodau clo lleol, hawlio £1,500 fesul safle bob tair wythnos. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'n ofynnol i fusnesau gau fel rhan o fesurau cloi lleol yma, ond efallai y daw hynny'n angenrheidiol, a hefyd, i bob pwrpas, mae rhai busnesau yn cael eu cau gan y cyfyngiadau sydd ar waith. Felly, a ydych chi wedi ystyried cyflwyno cynllun tebyg yma yng Nghymru? Gallaf weld na soniwyd am hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac ni soniwyd amdano yn y datganiad, ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi roi rhagor o wybodaeth inni yn hynny o beth.
Mae angen rhywfaint o gymorth economaidd wedi ei dargedu ar gymunedau a gwahanol sectorau o fusnes yr effeithir arnynt fwyaf oherwydd y pandemig, ac rwy'n sylweddoli eich bod wedi neilltuo cyllid ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch, ond tybed a ydych chi wedi ystyried cymorth penodol i sectorau penodol eraill.
Roeddwn i braidd yn ofidus—rwyf wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ynglŷn â phryderon busnesau fod yn rhaid iddyn nhw, i bob pwrpas, berthyn i undeb llafur cyn iddyn nhw gael unrhyw arian. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi efallai dawelu rhai o bryderon busnesau yn hynny o beth, oherwydd, yn amlwg, nid yw bod yn rhan o undeb llafur bob amser yn addas i rai busnesau, cyflogwyr neu weithwyr, ac fe fyddai hynny, yn amlwg, yn difreinio cryn nifer o fusnesau ledled Cymru.
Yn olaf, tybed pa ystyriaeth a gafodd ei rhoi i adolygiad gwariant mwy cynhwysfawr o flaenoriaethau, gan edrych ar feysydd eraill o fewn eich portffolio chi, efallai, nad ydyn nhw mor hanfodol yn ystod y cyfnod penodol hwn er mwyn ailgyfeirio arian mewn ffordd briodol yn ystod y pandemig, ac rwy'n meddwl tybed pa ystyriaethau o ran gwariant a wnaethoch chi dros y misoedd diwethaf yn hyn o beth. Diolch, Llywydd dros dro.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a'i ymateb adeiladol a chadarnhaol iawn i'r datganiad heddiw? A gaf i ddiolch ar goedd i Russell George a holl lefarwyr y gwrthbleidiau am y cyfle sy'n dod yn rheolaidd i drafod yr argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu ni? Rwy'n croesawu eu cyfraniadau nhw, eu syniadau nhw a'u beirniadaethau nhw'n fawr iawn. Fe ofynnodd Russell George nifer o gwestiynau pwysig, ond a gaf i ddweud ei fod yn llygad ei le wrth nodi mai swyddogaeth gefnogol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran y gwaith a wnawn ni gyda Llywodraeth y DU wrth geisio diogelu swyddi? Ein gwaith ni i gyd yw ceisio achub busnesau ac amddiffyn swyddi ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio'n agos â'n gilydd. Rwy'n cael galwadau rheolaidd iawn gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth y DU, ar adegau, wedi ymateb i feirniadaeth Llywodraeth Cymru a galwadau Llywodraeth Cymru am newidiadau i systemau, ac maen nhw wedi gwneud hynny mewn ffordd gadarnhaol. Fe allaf i nodi un achos penodol lle mae hynny wedi digwydd, ac mae hyn yn bwysig o ran y cynllun cymorth swyddi. O ran y cynllun benthyciadau amharu ar fusnes oherwydd coronafeirws, roeddem ni'n galw am wneud nifer o newidiadau ac fe ddigwyddodd y newidiadau hynny, ac, o ganlyniad i hynny, roedd modd i fwy o fusnesau yng Nghymru gael eu cefnogi drwy'r cynllun arbennig hwnnw.
Rwy'n croesawu'r cynllun i gefnogi swyddi, ydw wir. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni wedi osgoi dod â hwnnw i ben yn ddisymwth ar ddiwedd mis Hydref. Er hynny, yn ein hasesiad uniongyrchol ni o'r cynllun cymorth swyddi, fe ddaeth yn amlwg na fydd nifer o sectorau na nifer sylweddol o fusnesau, efallai, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen i osgoi colli swyddi—efallai na fydd y gyfradd ymyrraeth yn ddigon mawr. Felly, er fy mod i'n croesawu'r cynllun cymorth swyddi, fe fyddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i gadw meddwl agored hefyd, a bod yn wyliadwrus iawn fod y cynllun yn gweithredu fel y'i bwriadwyd, ac, os nad na, i wneud yr addasiadau angenrheidiol i sicrhau bod cynifer o fusnesau a chymaint o weithwyr â phosibl yn elwa arno. Fel y dywedais, fe ddigwyddodd hynny gyda'r Cynllun Benthyciadau Amharu ar Fusnesau oherwydd Coronafeirws, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd, pe byddai angen, gyda'r cynllun cymorth swyddi.
Roeddem bob amser wedi bwriadu defnyddio'r gronfa cadernid economaidd cam wrth gam. Ni allem fod wedi gwario'r £500 miliwn ar un cam a disgwyl i fusnesau ddod trwy'r gwaethaf a allai barhau y tu hwnt i'r hydref eleni, ac sy'n debygol o wneud hynny. Ein bwriad ni bob amser, felly, oedd cadw cyllid ar gyfer cylchoedd pellach o gymorth i fusnesau. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rydym wedi dyrannu £480 miliwn hyd yn hyn o'r £500 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd. Mae hynny, wrth gwrs, dros ben y £768 miliwn a fuddsoddwyd mewn busnesau ledled Cymru drwy'r cynllun grant sy'n gysylltiedig ag ardrethi. Mae hynny'n golygu bod gennym £20 miliwn wrth gefn, ac mae hynny'n bwysig ar gyfer cylch arall bosibl o gymorth lleol sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau yn y gaeaf. Rwy'n cydnabod bod angen brys i benderfynu ar sut i ddefnyddio ein cyllid, ac fe fydd Busnes Cymru, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn rhoi eu gwirydd cymhwysedd nhw ar waith yr wythnos nesaf. Erbyn diwedd mis Hydref, fe fydd ceisiadau wedi cael eu gwneud gan fusnesau ac rwy'n credu, fel yr ydym ni wedi dangos mewn cylchoedd o gymorth yn flaenorol, y byddwn ni'n gweld yr arian yng nghyfrifon busnesau mewn dim o amser wedi i'r ceisiadau hynny gael eu prosesu.
Gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni'n gweithredu fwy neu lai yr un cynllun ag a ddefnyddir mewn rhannau o Loegr o ran y grantiau sydd ar gael. Ac fe ddylwn i ddweud nad oes unrhyw fusnes—fel y dywedodd Russell George yn gywir, nad oes unrhyw fusnes yn cael ei orfodi i gau gan y rheoliadau, ond mae'n ddigon posibl bod perchnogion busnes yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond cau, oherwydd diffyg ymwelwyr a chwsmeriaid, ac felly mae'n debygol y caiff incwm sylweddol iawn ei golli, o ddiffyg gwerthiant, ac felly, yn ei dro, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n dod i'r adwy ac yn cefnogi'r busnesau hynny ar sail dreigl.
Rydym wedi modelu faint o fusnesau y gallwn ni eu cefnogi gyda'r £60 miliwn o'r gronfa cyfnodau clo lleol. Rydym o'r farn, yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol ledled Cymru, y darlun presennol, y byddem yn gallu darparu dau gylch o gyllid i fusnesau drwy ymyriadau cyfnodau clo lleol. Mae hwnnw'n gyfnod sylweddol iawn o gefnogaeth, oherwydd fe fyddai pob cyfnod yn debygol o bara am dair wythnos, ac felly mae hyn yn mynd â ni drwodd i'r flwyddyn newydd, pan ddywedaf i—. Ac rwyf wedi dweud eisoes, mae gennym £20 miliwn yn ein cronfa wrth gefn i ddefnyddio un cylch arall o bosibl. Fe ellid defnyddio'r £20 miliwn hwnnw hefyd ar gyfer nid yn gymaint gymorth sy'n benodol i'r sector, ond unrhyw weithgarwch is-ranbarthol penodol y mae angen ei gynnal, os collir llawer o swyddi mewn ardal benodol. Ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gydag arweinwyr llywodraeth leol, i sicrhau, lle ceir her benodol, ein bod ni'n gallu defnyddio arian yn y maes hwnnw, gan gydweithio'n agos â swyddogion yr awdurdodau lleol.
Ond fe geir sectorau eraill y mae angen cymorth brys arnynt—y sector awyrofod yw'r un amlycaf efallai. Rydym wedi galw am fargen sector ar gyfer awyrofod yn gyson iawn, yng ngoleuni'r heriau a wynebir gan fusnesau oherwydd coronafeirws. Cafodd tasglu ei sefydlu, dan arweiniad Tom Williams, arbenigwr gwych ym maes awyrofod ac awyrennau, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, â rhan lawn i'w chwarae mewn unrhyw weithgaredd sy'n ymwneud ag ymateb i'r heriau y mae'r busnesau awyrofod ac awyrennau yn eu hwynebu.
A gaf i hefyd gyfeirio at bwynt pwysig arall a gafodd ei godi? Nid yw'n wir fod cydnabod undeb llafur yn un o'r gofynion pendant ar gyfer cael cyllid, oherwydd nid yw bob amser yn ymarferol cydnabod undeb llafur ym mhob achos. Ond yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yw, o ganlyniad i dderbyn arian o gronfeydd cadernid economaidd, mae'n gwbl hanfodol bod busnes wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd ac yna ddatblygu contract economaidd cadarn. Ac, yn rhan o'r broses o ddatblygu'r contract economaidd cadarn hwnnw, rydym wedi gwahodd undebau llafur i ymgysylltu â busnesau sydd wedi elwa ar bwrs y wlad. Ac rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn wrth inni ymdrechu i ddod 'nôl yn gryfach, wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod yr adferiad yn un teg. Nid ydym yn ymddiheuro am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi nid yn unig y busnesau ond y gweithwyr hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am yr ymgysylltu cadarnhaol y cyfeiriodd Russell George ac yntau ato eisoes, sydd ar draws y pleidiau, yn ystod yr argyfwng hwn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn ei fod ef, yn rhai o'r cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog heddiw, yn amlwg wedi ymgysylltu'n weithredol gyda'r trafodaethau hynny ac wedi rhoi ystyriaeth i hynny, ac yn cyfeirio'n neilltuol yn y fan hon fy mod i'n gwybod ein bod ni wedi codi effaith bosibl cyfnodau clo lleol gydag ef, ac mae'n braf iawn gweld y buddsoddiad y bwriada ei wneud.
A gaf i ddechrau drwy ofyn iddo am ychydig mwy o fanylion am y cymhwysedd tebygol ar gyfer yr adnoddau ar gyfer cyfnodau clo lleol? Mae'n ddigon posibl, fel y dywedodd y Gweinidog mewn ymateb i Russell George, nad yw'n ofynnol i fusnesau gau, ac efallai na fydd rhai ohonyn nhw yn cau, ond efallai fod yr effaith ar eu masnachu nhw'n un ddifrifol iawn. Efallai eu bod nhw'n teimlo y byddai'n well iddyn nhw ddal ati, yn enwedig os mai dim ond, dywedwch, cyfnod clo o dair wythnos fydd gyda ni, ond fe all eu helw nhw ddiflannu'n llwyr. Felly, a yw'r Gweinidog yn rhagweld y bydd yn rhaid i fusnesau gau mewn gwirionedd cyn y gallan nhw wneud cais am gymorth, yn hytrach na chael rhywfaint o hyblygrwydd posibl yn hynny o beth? Ac a wnaiff ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r grantiau cyfnod clo lleol hynny'n debygol o gael eu cyflwyno? Mae'r Gweinidog, yn amlwg yn gwbl briodol, yn dweud mai Busnes Cymru fydd y man cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o'r gronfa cadernid economaidd, ond rwy'n awgrymu y gallai fod yna achos o blaid cynnwys llywodraeth leol yn hyn o beth.
Mae'r Gweinidog yn croesawu'r cynllun i gefnogi swyddi ac, wrth gwrs, mae pawb yn falch o weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau, ond, fel y dywedodd y Gweinidog, mae yna rai busnesau na fydd hynny'n ddefnyddiol iddynt, ac na fydd rhoi pobl ar waith rhan-amser o bosibl yn gweithio.
Rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddiad y Gweinidog y bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, ond mae hefyd yn cyfeirio at fusnesau y mae angen iddyn nhw ddefnyddio eu hadnoddau nhw eu hunain. Nawr, oherwydd yr effaith a wynebodd busnesau twristiaeth a lletygarwch yn gynharach yn yr haf, pan nad oedden nhw'n gallu agor o gwbl, a phan maen nhw'n agor mewn ffordd gyfrifol, mae lefelau'r busnes wedi gostwng. A hefyd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, ceir arferion gresynus iawn o hyd gan gwmnïau yswiriant y busnesau hynny, i rai o'r busnesau hynny, ac rwyf am roi hyn gerbron y Gweinidog, mae'n ddigon posibl nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i'w buddsoddi, ac fe allai hyn fod yn wir am fusnesau diwylliannol hefyd, fel lleoliadau i gynnal cyngherddau. Felly, tybed a wnaiff roi rhywfaint o sicrwydd inni y rhoddir ystyriaeth i hynny, i'r busnesau hyn nad oes ganddynt, am resymau da, yr adnoddau eu hunain ac efallai eu bod wedi cyrraedd terfyn eu capasiti i fenthyca, y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i'r rhain.
Tybed a all ddweud wrthym ni a yw microfusnesau ac unig fasnachwyr yn debygol o elwa ar y cylch hwn ai peidio. Ac fe hoffwn i ofyn hefyd a yw'r Gweinidog yn hyderus bod gan Fusnes Cymru y capasiti i ymdrin â'r cylch newydd hwn o gyllid sydd i'w groesawu yn fawr. Fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, mae angen i ni gael y cyllid i'r man priodol yn gyflym.
Yn olaf, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei fod mewn sgwrs â Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Tybed a yw'r sgwrs honno—ac efallai nad yw hyn yn ei bortffolio ef, ond ar draws y Llywodraeth—yn cynnwys trafodaethau parhaus am gynyddu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, oherwydd mae'n ymddangos i mi yn y tymor hwy—bod partneriaeth dda â Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn ddymunol—ond yn y tymor hwy, efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud buddsoddiadau sylweddol na fydd eu pwerau benthyca presennol nhw'n caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r Gweinidog yn sôn am y sector awyrofod yn benodol, a tybed a yw ei sgyrsiau ef â Llywodraeth y DU—rwy'n siŵr eu bod nhw—yn ymwneud â chefnogaeth i'r diwydiant dur, oherwydd mae hynny y tu hwnt i gapasiti presennol Llywodraeth Cymru yn ariannol.
Ac yn olaf, yn y trafodaethau parhaus hynny gyda Llywodraeth y DU, a gaf i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto a fydd ef yn ystyried codi achos y rhai nad ydyn nhw wedi cael cymorth, yn enwedig y bobl nad oedden nhw'n cael cymorth gan y cynllun ffyrlo? Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi symud ymlaen yn llwyddiannus, maen nhw mewn swyddi eraill, ond fe fu'n rhaid i rai ohonyn nhw ddefnyddio eu holl gynilion. Rwyf i wedi ymdrin â phobl ifanc sydd wedi colli blaendaliadau ar gyfer tai a phobl a fu'n rhannol hunangyflogedig sydd wedi gorfod gwario eu cynilion treth. Felly, a gaf i ofyn iddo ef a wnaiff gytuno â mi fod gan yr ymgyrch, ExcludedUK, achos i'w gyflwyno o hyd, a gofyn i'r Canghellor a oes unrhyw gefnogaeth y gellid ei rhoi i'r rhai na roddwyd cymorth iddyn nhw? Rwy'n gofyn, wrth gwrs, a ellid gwneud hynny ar lefel Cymru, ond rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn y gorffennol am gapasiti cyllideb Cymru a'r angen i dargedu cymorth at amddiffyn swyddi. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r miloedd lawer hynny o ddinasyddion Cymru sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa hon, ein bod ni'n cydnabod yn y fan hon o leiaf nad ydyn nhw wedi mynd yn anghof gennym ni.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a'i chyfraniad, ac a gaf i ddweud bod Helen Mary Jones wedi bod â rhan yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn briodol ac yn ddigonol i anghenion busnesau? Mae'r sgyrsiau rheolaidd a gawsom wedi helpu i lunio pob un o dri cham y gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddi hi am nid yn unig y gefnogaeth ond y feirniadaeth adeiladol a roddwyd.
Rwyf i am geisio ymateb i'r holl ymholiadau pwysig a godwyd ganddi, yn y drefn y'u codwyd gan Helen Mary Jones. Yn gyntaf oll, o ran cymhwysedd, ni fydd angen cyd-fuddsoddi ar rai busnesau. Roedd y gronfa o £20 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yn caniatáu disgresiwn ac felly cyfradd ymyrraeth o 100 y cant. Ni fydd angen i'r holl fusnesau hynny, felly, sy'n gwneud cais am y cymorth hwn gyd-fuddsoddi. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones nad oes gan nifer enfawr o fusnesau yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch ragor o adnoddau ariannol i'w buddsoddi, ac maen nhw mewn llawer o achosion wedi cyrraedd terfyn eu capasiti i fenthyca hefyd. Felly, fe fydd angen lefel ymyrraeth o 100 y cant ar lawer o fusnesau.
O ran cymhwysedd a'r cwestiwn a fydd yn ofynnol i fusnesau gau, yr ateb yw 'na'. Ni fydd yn ofynnol i fusnesau gau er mwyn sicrhau cyllid. Fe fydd yn rhaid iddynt allu profi iddynt gael eu heffeithio'n sylweddol yn ystod cyfnodau clo lleol, a bod hynny'n golygu gostyngiad o 40 y cant o leiaf yn eu trosiant. Rydym yn gweithio'n eithriadol o agos gyda chyfeillion a chydweithwyr mewn llywodraeth leol o ran gweinyddu'r trydydd cam hwn o gymorth. Mae'n rhaid imi ddiolch ar goedd i gydweithwyr mewn llywodraeth leol am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod dau gam cyntaf y Gronfa a'r grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi wedi cael eu gweinyddu ar garlam, ac fe gyflwynwyd cymorth o ran cyfeirio busnesau at Fusnes Cymru yn briodol hefyd.
Mae'n rhaid mi ddweud, ochr yn ochr â'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gennym ddoe, bod fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi cronfa o £7 miliwn hefyd i weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol. Mae hon yn achubiaeth i lawer o bobl greadigol a thalentog, ac roeddwn i wrth fy modd o weld Dafydd Elis-Thomas yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw.
Ac mewn ymateb i'r cwestiwn ynghylch lle bydd angen hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Gweinidog cyllid wedi sôn yn rheolaidd am yr angen i Lywodraeth Cymru allu gweithredu gyda mwy o hyblygrwydd, i allu benthyca mwy, ac yn y blaen, ac mae'r sefyllfa honno'n un sy'n parhau.
Mae dur yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, ac yn yr un modd fusnesau modurol ac awyrofod sy'n wynebu pwysau arbennig ac sydd ag angen cymorth y tu hwnt i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei fforddio. Ac yn ein trafodaethau rheolaidd ni â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU, fe fyddaf i'n pwysleisio'r angen i Weinidogion gyflwyno camau beiddgar i gefnogi'r sectorau gweithgynhyrchu hynod bwysig hyn.
Fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU hefyd i fod yn ymatebol ac yn gyfrifol o ran cefnogi'r rhai sy'n parhau i syrthio rhwng dwy stôl, nad ydyn nhw wedi cael cymorth eto y mae ei angen yn fawr arnynt i sicrhau y gall eu mentrau nhw barhau y tu hwnt i'r pandemig hwn. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r trafodaethau hynny'n dwyn ffrwyth bob amser, ond yn yr un modd, mewn llawer o achosion, fel yr amlinellais i yn fy atebion i Russell George, fe gafwyd ymatebion cadarnhaol sawl gwaith gan gymheiriaid, yn enwedig o fewn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac yn Swyddfa Cymru.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ategu sylwadau Helen Mary ynglŷn â'n gallu i gael sgwrs â chi, sy'n rhoi rhywfaint o fewnbwn i ni ac yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o'ch syniadau chi sydd wrth wraidd ymyriadau Llywodraeth Cymru?
Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr ymyriadau hyn yn newyddion i'w groesawu i'r busnesau niferus hynny sy'n ei chael hi'n anodd, nid yn unig i aros ar agor drwy COVID, ond i oroesi yn y tymor hir. Mae fy mhlaid i'n cydnabod yn y fan hon bod eich cefnogaeth chi, sy'n fwy na'r hyn a roddwyd gan Lywodraeth y DU, wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl busnes yn cadarnhau hyn i mi. Yn wir, fe glywais i un yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried pleidleisio i'r Blaid Lafur am y tro cyntaf. Wrth gwrs, fe fu'n rhaid i mi ei ddarbwyllo yn hynny o beth. [Chwerthin.]
Fodd bynnag, mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain: fe ddywedir bod cam 1 wedi arbed 56,000 o swyddi, ac yna fe arbedwyd 18,000 arall yng ngham 2. Rwy'n credu efallai fod eich ffigurau yn well na hynny, mewn gwirionedd, Gweinidog. Er hynny, Gweinidog, onid ydych chi'n cytuno mai mesurau tymor byr yw'r rhain yn unig, ffaith y gellir ei gweld os edrychwn ni ar yr arian sydd ar gael i ficrofusnesau cymwys—sef £10,000 os byddan nhw'n codi 10 y cant eu hunain? Rwy'n teimlo bod deg y cant yn ffigur rhesymol i'w ofyn i'r busnesau hynny, gyda llaw. Ond dim ond am gyfnod byr y bydd £10,000 yn eu cynnal nhw, hyd yn oed y microfusnesau. Yr hyn y mae angen mawr iddyn nhw ei wneud yw parhau i fasnachu ar y lefelau a oedd yn bod cyn COVID.
Mae'n hollbwysig, felly, Gweinidog, mai dim ond pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol y gorfodir cyfnodau clo gan Lywodraeth. Rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno, Gweinidog, bod pwysau'n cynyddu trwy'r amser ar bob busnes, ac fe wyddom ni y bydd y canlyniadau yn para am gyfnod hir. Felly, unwaith eto, Gweinidog, diolch i chi am yr ymyriadau diweddaraf hyn, ond os byddwn ni'n parhau gyda'r cyfnodau clo hyn, rwy'n ofni y bydd cyfran fawr o'r gymuned fusnes yn cael ei cholli am byth.
Wel, a gaf i ddiolch i David Rowlands am y ffordd y mae ef wedi cymeradwyo ein camau ni hyd yn hyn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y sylwadau a wnaeth heddiw. Ac, ydynt, mae ein camau ni wedi arwain at ddiogelu nifer fawr iawn o swyddi: dros 106,000 yn ystod dau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd ac, wrth gwrs, diogelwyd 16,000 o swyddi drwy'r cymorth a gyflwynodd y banc datblygu.
Fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ar hyn o bryd: 3.1 y cant. Mae hynny 1 y cant yn llai na chyfartaledd y DU. Nawr, fe wyddom ni y bydd diweithdra yn cynyddu, a hynny'n gyflym, ond mae'n ddigon posibl y bydd yna wahaniaeth o 1 y cant rhwng cyfartaledd Cymru a symiau cyfartalog y DU, mewn termau real, o tua 15,000 o bobl—mae'n ddigon posibl y gallai 15,000 o bobl fod yn ddi-waith ar hyn o bryd oni bai am y gwerth ychwanegol a gynigiwyd gennym ni drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd. Ac fel y dywedais i ddoe, i'w roi yn ei gyd-destun, mae hynny'r golygu'r holl boblogaeth mewn gwaith ym Mrynmawr a Glynebwy, neu'r Wyddgrug a Bwcle. Mae'n ymyrraeth enfawr ac rwy'n falch o'r swyddi a achubwyd felly, ac rwy'n falch o'r busnesau yr ydym ni wedi eu cadw'n fyw yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ond fe allai'r holl waith caled a'r buddsoddiad hwnnw fod wedi mynd i'r gwellt pe bai'r cynllun amddiffyn swyddi wedi dod i ben yn ddisymwth ar ddiwedd mis Hydref, a dyna pam mae'r cynllun cefnogi swyddi mor bwysig, a pham mae'n rhaid i drydydd cam y gronfa cadernid economaidd ategu'r cynllun cymorth swyddi.
Nawr, mae grantiau datblygu busnes—yr £80 miliwn hwnnw o gymorth a amlinellais—yn ymwneud â meithrin cydnerthedd ac addasu i economi'r yfory, ond rydym yn cydnabod hefyd bod angen codi pontydd, pontydd drwy'r hydref a'r gaeaf, ar lawer o fusnesau er mwyn cyrraedd economi'r yfory, a dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r £60 miliwn hwn o gymorth i'r busnesau hynny a fydd yn wynebu cyfnodau clo lleol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Fel y dywedais i yn fy atebion i Helen Mary Jones, nid ydym yn mynnu bod unrhyw fusnesau yn cau ar gyfer cael cyfran o'r cyllid hwnnw, yr unig beth sy'n rhaid iddynt ei wneud yw dangos iddynt gael eu heffeithio'n fawr, a bydd maint y cymorth a gynigir, yn fy marn i, yn ddigon i fusnesau allu oroesi'r cyfnodau anodd hynny o gyfyngiadau.
Mae grantiau datblygu busnes a'r cais am arian cyfatebol, rwy'n credu, yn dangos ein hawydd ni i allu symud y tu hwnt i goronafeirws mewn ffordd sy'n cydnabod bod rhai sectorau â chyfleoedd ardderchog i feithrin swyddi, ac felly mae'r gofyniad am gyfraniad gan fusnesau yn gwbl briodol os ydym am sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i dyfu yn y sectorau hynny sy'n wydn ac sy'n gallu ymddangos yn gyflym. Ond, yn yr un modd, mae rhai sectorau sy'n hynod bwysig, megis twristiaeth a lletygarwch, lle bydd y gyfradd ymyrraeth yn 100 y cant oherwydd, fel y dywedais i eisoes, na all busnesau fenthyca mwy o arian neu na allant fuddsoddi unrhyw gyfran o'u hadnoddau nhw eu hunain yn eu hymgais i oroesi ac addasu i'r normal newydd.
Nawr, mae gennyf i bump o Aelodau Llafur ac un Aelod arall o wrthblaid sy'n dymuno gwneud cyfraniad, felly arhoswch funud, os gwelwch chi'n dda. Rwy'n bwriadu galw ar bob un ohonoch chi, mae hwn yn ddatganiad pwysig, ond mae'n gyfyng arnom o ran amser y prynhawn yma hefyd. Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ychwanegol y gwnaethoch chi ei rhoi i ni heddiw? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd y grantiau a'r cymorth pellach a gyhoeddwyd yn cynorthwyo nifer o fusnesau yn fy etholaeth i, y mae llawer ohonyn nhw—yn y sector lletygarwch yn arbennig—wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder difrifol ynghylch sut y gallan nhw barhau i weithredu yn ystod y cyfyngiadau lleol newydd sy'n berthnasol ym Merthyr Tudful a Rhymni erbyn hyn, pa mor angenrheidiol bynnag y gallai'r cyfyngiadau hyn fod. Felly, mae'r £60 miliwn i fusnesau yn benodol yn y meysydd hyn i'w groesawu yn arbennig.
Fodd bynnag, un mater yr wyf i wedi bod yn ei ystyried yn ofalus yw trafferthion atyniadau gweithgareddau mawr yn fy etholaeth i, fel BikePark Wales a Chanolfan Gopa Rock UK, o gofio bod y cyfyngiadau lleol ym Merthyr Tudful wedi dihysbyddu eu cwsmeriaid nhw, sy'n dod yn bennaf yno o'r tu allan i'r sir. Rydych chi wedi sôn am gefnogaeth benodol i'r diwydiant twristiaeth, felly a wnewch chi ddweud wrthyf a roddir unrhyw ystyriaeth yn benodol i fusnesau o'r fath sy'n darparu gweithgareddau naill ai yn yr awyr agored yn bennaf neu mewn cyfleusterau sydd â safleoedd dan do mawr iawn? Er enghraifft, a yw'n bosibl y gellid ystyried llacio ychydig ar rai cyfyngiadau teithio i ganiatáu i'r busnesau hyn yn yr amgylcheddau a ddisgrifiais geisio ailddechrau eu gweithgarwch, neu a ydych chi'n hyderus, o ystyried yr wybodaeth ychwanegol y gwnaethoch chi ei rhoi i ni heddiw, y bydd y mesurau cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddigonol i gario'r busnesau arbennig hyn drwy gam presennol y cyfyngiadau lleol newydd?
Wel, a gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn hi a dweud mai ein man cychwyn ni yw blaenoriaethu iechyd y cyhoedd? Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n rheoli'r feirws yn yr ardaloedd hynny sydd dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n hollbwysig nid yn unig i fuddiannau a lles ac iechyd pobl, ond hefyd i les economïau lleol ac economïau'r cymunedau a nodwyd gan Dawn Bowden.
O ran cefnogaeth i atyniadau gweithgareddau sy'n dibynnu ar niferoedd yr ymwelwyr o'r tu hwnt i'w ffiniau, nid oes modd inni wneud eithriadau i'r rheol, yn fy marn i. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau gyda chysondeb oherwydd fe allai busnesau ar draws pob sector, rwy'n credu, gyflwyno achos dilys iawn dros eithriadau i'r rheolau, a phan rowch chi ganiatâd i un, rydych chi'n agor y drws wedyn i rai eraill sy'n ceisio cael eu heithrio rhag cyfyngiadau lleol. Yn hytrach na hynny, rydym ni o'r farn ei bod yn bwysicach cynnig ymateb i'r economi gyfan, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r £60 miliwn o gyllid, ond yn yr un modd roeddem ni'n cydnabod bod yna angen cymorth ychwanegol ar fusnesau fel atyniadau gweithgareddau sy'n rhan o dwristiaeth a lletygarwch, a dyna pam mae gennym £20 miliwn arall ar gael i fusnesau i'w galluogi i fynd drwy'r cyfnod anodd hwn.
Ond o ran cyfyngiadau lleol, mae'r cymorth yn cael ei roi ar y sail mai mesur dros dro, byrdymor yw hwn i amddiffyn busnesau am gyfnod o ryw dair wythnos. Dyna nod y gronfa cyfnodau clo lleol, ac mae'n seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o ardaloedd fel Aberdeen a Chaerlŷr sydd wedi mynd drwy'r broses o gymhwyso cyfyngiadau lleol a chefnogi busnesau. Rydym ni'n hyderus, yn seiliedig ar fodelau llwyddiannus mewn mannau eraill, y bydd y model hwn yn llwyddo yng Nghymru wrth amddiffyn busnesau drwy gyfnodau anodd iawn.
Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n credu y gallwch chi fy nghlywed i nawr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf i o'r farn fod gweithgynhyrchu yn gwbl hanfodol i les ein heconomi ni i'r dyfodol, ac fe welsom waith rhagorol yn cael ei wneud i gael gweithgynhyrchwyr i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol yn ystod y pandemig. Yn fwyaf diweddar, fe welsom ni gau gwaith ceir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, oherwydd bod y DU yn gwrthod aros yn y farchnad sengl Ewropeaidd, ac mae'r cwmni rhyngwladol Americanaidd bellach wedi mynd â'i fuddsoddiad i fannau eraill yn Ewrop; ein colled ni, yn elw i ryw wlad arall.
Felly, rwy'n awyddus i archwilio eich strategaeth chi ar gyfer adleoli sgiliau gweithgynhyrchu gweithlu Ford yng nghanol y cythrwfl hwn. Er enghraifft, fel y clywsoch chi'n gynharach efallai, fe roddais i gynnig ar reidio e-sgwter heddiw. Mae potensial i bob un e-sgwter gymryd lle 17 o deithiau mewn car, sy'n amlwg yn gyfraniad mawr i'r argyfwng yn yr hinsawdd, oherwydd dim ond 2 y cant o allyriadau carbon car y mae'n ei ddefnyddio. Ond yn Tsieina y caiff hwnnw ei weithgynhyrchu ar hyn o bryd; fe ellid ei weithgynhyrchu yng Nghymru'n hawdd, ac fe ellid defnyddio'r math o sgiliau sydd gan weithwyr Ford unwaith eto'n rhwydd.
Yn yr un modd, gwn fod penaethiaid ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i yn ymbil am feiciau i'w disgyblion nhw sy'n byw ymhellach o'r ysgol, i'w galluogi nhw i osgoi'r risg o orfod teithio ar fws. Mae'r rhain yn bethau y gallem ni fod yn eu gwneud yng Nghymru, felly a yw'n rhywbeth yr ydych chi'n canolbwyntio arno fel un o'ch prif flaenoriaethau er mwyn sicrhau bod y pethau hyn gyda ni yng Nghymru sy'n hanfodol i'n heconomi sylfaenol ni?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig y mae hi'n eu gwneud am weithgynhyrchu? Mae busnesau gweithgynhyrchu'n cyflogi 10 y cant o'r gweithlu yng Nghymru. Ledled y DU, y ganran gyfatebol yw 8 y cant, ac felly mae gan weithgynhyrchu le pwysicach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol o ran ei gyfraniad i'r economi. Efallai fod yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi lansio cynllun gweithgynhyrchu ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddar. Ymgynghorir arno tan ganol mis Hydref; rwy'n annog pob Aelod i fynegi ei farn a'i safbwynt ynglŷn â'r cynllun. Mae'n cynnwys camau gweithredu arfaethedig sy'n cyffwrdd yn uniongyrchol â'r hyn a amlinellodd Jenny Rathbone: yr angen am ailsgilio, yr angen am nodi cyfleoedd newydd i fusnesau a gweithwyr gweithgynhyrchu.
Gallaf ddweud fy mod i, o ran cau Ford, yn gwrando'n astud ar y cwestiynau i'm cyfaill a'm cyd-Aelod Rebecca Evans yn gynharach. Fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ynghylch cau gwaith Pen-y-bont ar Ogwr ar 24 Medi, ac fe gafodd bron pob aelod o staff yn y gwaith hwnnw gymorth gan Gyrfa Cymru, drwy'r tîm ymateb cyflogaeth rhanbarthol, gan eu helpu nhw i nodi pa sgiliau sydd ganddyn nhw a sut y gallen nhw gael cyfleoedd cyflogaeth mewn busnesau eraill—neu'n hollbwysig, y gallen nhw ddechrau eu busnesau eu hunain, ac mae nifer dda o bobl a oedd yn Ford wedi dechrau eu busnesau eu hunain.
Bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol bod gwasanaeth paru swyddi a sgiliau yn cael ei weithredu gan Gyrfa Cymru a'n bod ni wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol o gyllid yn ddiweddar i unigolion ar gyfer ennill y sgiliau neu ailsgilio mewn meysydd o weithgarwch lle gwyddom y bydd swyddi'n bodoli yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu bod COVID wedi dangos bod cymaint o'n gweithgynhyrchwyr ni'n gallu troi eu llaw at gyfleoedd newydd hefyd. Fe wyddom, er enghraifft, yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, fod nifer sylweddol iawn o weithwyr awyrofod wedi troi eu llaw at gynhyrchu Cyfarpar Diolgelwch Personol, ac o ganlyniad i'r gwaith hwnnw, rydym nawr yn achub y blaen ar rai gweithgynhyrchwyr rhyngwladol o ran cynhyrchu offer hanfodol ar gyfer ein marchnad ddomestig ni. Felly, o fewn y cynllun gweithgynhyrchu, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd, mae yna ganolbwyntio mawr iawn ar gwtogi cadwyni cyflenwi a chynnal cyfleoedd o ran gweithgynhyrchu unwaith eto yma yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Croesawaf yn arbennig, fel eraill, y £60 miliwn ychwanegol o gymorth i fusnesau yn yr ardaloedd sydd â chyfyngiadau arbennig ar hyn o bryd, a gwn fod hynny'n rhywbeth fydd yn cael croeso cynnes ym Mlaenau Gwent. A gaf i ofyn i'r Gweinidog sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwn yn cyrraedd busnesau bach yn arbennig, ac yn cyrraedd pobl hunangyflogedig? Mae nifer o fusnesau sy'n poeni'n fawr am y dyfodol wedi cysylltu â mi, ac mae angen y bont hon arnynt i'w gweld trwy'r misoedd nesaf hyn er mwyn eu galluogi i lwyddo yn y dyfodol. Gweinidog, a allech gadarnhau hefyd mai cymorth i fusnesau sydd eisoes yn cydymffurfio â'u holl gyfrifoldebau rheoleiddio a chyfreithiol presennol yw hwn? Rydym eisiau gweld adferiad teg o COVID, ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn chwarae'n deg gyda busnesau sy'n cefnogi'r gymuned eisoes, a bod y contract economaidd a chymdeithasol yr ydych wedi sôn amdano yn dal yn wir fel rhan o'r cymorth ychwanegol hwn. Ac yn olaf, Gweinidog, lansiwyd menter y Cymoedd Technoleg gennych tua thair blynedd yn ôl yng Nglyn Ebwy, i helpu i fuddsoddi'n sylweddol yn yr economi leol yno. A allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'r weledigaeth honno a amlinellwyd gennym rai blynyddoedd yn ôl, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r rhaglen fuddsoddi honno, drwy argyfwng COVID, i sicrhau ein bod yn gallu parhau i adeiladu economi—i sicrhau bod economi Blaenau Gwent yn parhau i gael y math hwn o fuddsoddiad sydd ei angen arnom? Diolch.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau a'i gwestiynau? Fel arfer, yn ystod dirwasgiad, mae anghydraddoldebau'n gwaethygu, ac rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau, wrth i ni adfer o'r coronafeirws, ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn ein rhanbarthau ac ar draws y rhanbarthau. Ac felly, bydd buddsoddi ym menter y Cymoedd Technoleg a buddsodd yn y cymunedau y mae'r Aelod yn eu gwasanaethu yn parhau. Rydym yn benderfynol o sicrhau, wrth i ni adeiladu'n ôl yn well, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n wyrdd, yn deg ac yn gyfiawn. Bydd contractau economaidd yn cael eu datblygu gyda'r busnesau hynny sy'n cael y grantiau datblygu busnes, ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar gymorth newydd i ddod yn lle'r cynllun cymorth hunangyflogaeth. Mae angen inni sicrhau bod ein cefnogaeth i bobl hunangyflogedig yn cyd-fynd ag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno yn yr wythnosau i ddod. Rhaid i mi ddweud na fydd busnesau sy'n torri unrhyw gyfyngiadau yn elwa o fuddsoddiad cyhoeddus os ydyn nhw'n peryglu iechyd y cyhoedd. Ac felly, mae pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol; sicrhawyd eu bod ar gael ar 14 Medi. Os ydyn nhw'n eu defnyddio gyda busnes sydd ddim yn dilyn y cyfyngiadau, yna byddem yn gwrthod cymorth i'r busnesau hynny, oherwydd, fel y dywedais, ni fyddwn yn gwobrwyo busnesau sy'n peryglu iechyd y cyhoedd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae fy holl ranbarth dan gyfyngiadau symud bellach, felly byddant yn ddiolchgar iawn o glywed am y £60 miliwn yr ydych yn cyfeirio ato. Ond mae gen i rai cwestiynau penodol iawn gan y sector twristiaeth, ac rydych chi eisoes wedi ateb y cyntaf ohonynt. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am eich ateb i Helen Mary Jones na fydd o reidrwydd angen i'r busnesau hyn gydymffurfio â rhai amodau. Ond fe'u gelwir yn grantiau datblygu, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau heddiw y byddant ar gael ar gyfer ystod eang o anghenion, yn enwedig cadw staff a gorbenion, oherwydd bydd hyn yn dal i ymwneud â llif arian parod, yn hytrach na diffyg sylfaenol mewn cynlluniau busnes ar gyfer cynifer o'r busnesau hyn, yn enwedig y rhai sydd wedi cael ergyd o ail gyfyngiadau symud. Ond rwy'n credu bod y gwahaniaethau rhwng y sefydliadau hyn yn bwysig hefyd, a dyna pam y codais atyniadau anifeiliaid fel rhai sydd angen sylw penodol iawn pan oeddwn yn siarad yn gynharach heddiw. Nid wyf yn credu y gall y Gronfa ddarparu'n llawn ar anghenion atyniadau anifeiliaid heb ddealltwriaeth o les anifeiliaid a'r gofynion ychwanegol ar gyfer hynny.
Mater arall, wedi hynny, yw rhywfaint o sicrwydd. Mae'n siŵr y byddwch yn dweud bod angen inni ymateb i'r feirws, ond mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i'r feirws—maen nhw'n cydymffurfio â rheolau COVID neu nid ydynt ar agor, fel yr oeddem yn ei ddweud yn awr. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrth atyniadau y mae angen iddynt gynllunio nawr ar gyfer cynnig Nadolig sy'n cydymffurfio â COVID, yn enwedig gan y gallai fod angen iddynt droi at y Gronfa Cadernid Economaidd er mwyn paratoi ar gyfer y cynnig hwnnw?
Yn olaf, gan fod hyn yn rhan o'ch adran chi hefyd, a allwch roi syniad inni o sut yr ydych yn hyrwyddo'r neges hon i'r cyhoedd—bod yr atyniadau i ymwelwyr yn ddiogel ac ar agor y tu allan i ardaloedd sydd dan gyfyngiadau symud, a hyd yn oed mewn ardaloedd sydd dan gyfyngiadau y gall preswylwyr barhau i ymweld â nhw er lles eu hiechyd corfforol a meddyliol? Diolch.
Gweinidog, rwy'n sylweddoli na chlywodd yr Aelod fi'n ei hatal ar ôl 1 munud a 30 eiliad—
O, mae'n ddrwg gen i.
—felly ymddiheuraf i'r Aelodau eraill, ond roeddwn yn ceisio dweud bod y cyfraniad hwnnw'n rhy hir, yn enwedig y pwynt olaf a wnaed. Ond, Gweinidog, atebwch mor gryno â phosibl.
Diolch. O ran busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, rydym yn amlwg yn cynnal trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU. Mae fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas mewn cysylltiad rheolaidd iawn â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ac mae wedi bod yn trafod pecyn cymorth sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a lletygarwch gan Lywodraeth y DU. Bydd grantiau datblygu busnes yn gofyn i fusnesau ddangos sut y mae ganddynt gynllun i fynd y tu hwnt i'r coronafeirws, er mwyn goroesi nid yn unig yr her uniongyrchol ond ffynnu yn y dyfodol.
Derbyniaf y pwyntiau a godwyd ynglŷn â materion lles anifeiliaid yn fawr iawn. Rydym mewn trafodaethau ar draws adrannau o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch y cymorth sy'n ofynnol gan atyniadau ymwelwyr anifeiliaid. Ond, mae'n rhaid dweud ein bod, drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, wedi gallu buddsoddi'n helaeth iawn mewn sŵau ac atyniadau anifeiliaid eraill.
O ran y cynnig Nadolig sy'n cydymffurfio â rheolau COVID a awgrymwyd gan yr Aelod, rwy'n credu mai manwerthu, mae'n debyg, sydd angen y cymorth mwyaf yn hyn o beth. Pan siaradais â Chonsortiwm Manwerthu Cymru yn ddiweddar, dywedon nhw mai eu neges i ddefnyddwyr yw prynu nawr a pheidio ag aros tan yn agos i'r Nadolig—prynwch gam wrth gam—ac rwy'n sicr yn cefnogi'r neges honno i boblogaeth Cymru.
O ran cyfleu'r neges yn ehangach ynglŷn ag atyniadau sydd ar agor, wrth gwrs, mae gan Gymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, sef sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol bod atyniadau ymwelwyr yn gweithredu mewn ffordd ddiogel iawn sy'n rhydd rhag COVID. Mae Dafydd Elis-Thomas a minnau, ein dau, yn siarad ag atyniadau ymwelwyr sydd wedi dangos adnoddau anhygoel wrth addasu i'r coronafeirws, sy'n gweithredu'n ddiogel ac sy'n derbyn adborth da gan gwsmeriaid o ganlyniad i'r camau cyfrifol a gymerwyd ganddynt. Rydym eisiau gallu helpu busnesau fel y rhain drwy ddefnyddio'r grantiau datblygu busnes hynny, a fydd nid yn unig yn cynnig pont drwy'r coronafeirws ond cyfle i adfer pan fyddwn wedi dod trwy'r pandemig hwn.
Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma ac am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ein busnesau drwy gydol y pandemig hwn. Ategaf bryderon Helen Mary Jones ynglŷn â'r sector dur. Gwrandewais ar eich atebion, ond rwyf wedi colli hyder yn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos bod Prosiect Birch wedi dod i ben. Felly, gofynnaf i chi nid yn unig i siarad â nhw ond i weiddi'n uchel a'u galw allan ar Brosiect Birch.
O ran cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd, a allwch gadarnhau y gall busnesau sydd o bosibl eisoes wedi gwneud cais am gymorth wneud cais am fwy o gymorth o'r gronfa hon? Er enghraifft, mae gennyf fusnes yn fy etholaeth i sy'n darparu peirianneg sain ar gyfer cyngherddau mawr a digwyddiadau awyr agored. Nawr, nid ydynt wedi cael unrhyw fusnes ers dechrau'r cyfyngiadau symud ac mae'n annhebygol y bydd ganddynt unrhyw fusnes am y misoedd nesaf. Mae'n debyg na allant fforddio cynnwys cyllid i gefnogi hynny oherwydd nid ydynt wedi cael incwm yn y cyfnod hwnnw. A allwch gadarnhau bod busnesau fel hynny'n gallu cael arian o'r gronfa hon i sicrhau y gallant oroesi? Maent yn cynnig gwasanaeth gwych i'r diwydiant a'r sector adloniant, ond heb y cymorth hwnnw efallai na fyddant yma ymhen chwe mis.
A allaf ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'i sicrhau ein bod yn cyflwyno'r achos dros ddiwydiant dur Cymru bob wythnos y mae gennym gysylltiad â Llywodraeth y DU? Mae'n gwbl hanfodol bod cymorth yn cael ei gyflwyno ar gyfer y sector dur ac, fel y dywedais yn gynharach, ar gyfer y sector modurol, ar gyfer awyrofod ac ar gyfer hedfan.
Gan roi sylw uniongyrchol i'r cwestiwn a gododd am gymorth drwy drydydd cam y gronfa cadernid economaidd, gallaf gadarnhau y gall busnesau a oedd wedi gwneud cais am gymorth o'r blaen, p'un a oeddent wedi'i sicrhau ai peidio, wneud cais am y trydydd cam hwn o gymorth gan y gronfa cadernid economaidd, oherwydd mae'r math o gymorth yr ydym yn ei gynnig y tro hwn yn wahanol. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall busnesau oroesi drwy gyfyngiadau lleol a bod busnesau'n gallu addasu i'r economi newydd.
Ac i orffen y datganiad hwn, un cwestiwn olaf—Mick Antoniw.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y manylion am y cyllid hwn. A gaf i ofyn yn gryno iawn am y diwydiant coetshis a theithiau—? Mae gennyf gannoedd o bobl a gyflogir yn fy etholaeth i sy'n gweithio yn y diwydiant hwn, a gwn eich bod yn gyfarwydd ag ef—a wnewch chi ystyried a yw'n briodol i rai o'r cwmnïau hyn gael eu categoreiddio fel trafnidiaeth yn hytrach na thwristiaeth a lletygarwch, sy'n gymaint yn rhan o'u busnes, oherwydd nid yw cael eu categoreiddio felly yn eu hanghymhwyso rhag rhai budd-daliadau o ran TAW, o ran y dreth gyngor ac yn y blaen? Mae'n ymddangos i mi y byddai hynny o gymorth sylweddol, yn enwedig i gwmnïau bysiau yn fy etholaeth.
Rwy'n sicr yn croesawu'r datganiad o ran hedfan a'ch sylwadau yn y fan yna. Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi galw am newid y gyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon i gwmnïau ddiswyddo ac ail-gyflogi ar delerau ac amodau is. A fyddech chi'n cefnogi galwad am y newid hwnnw yn y gyfraith? A hefyd, o ran grantiau, a wnewch chi sicrhau na fyddai cwmnïau sy'n dilyn y camau gweithredu hynny yn gymwys yn foesegol i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru?
Diolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau. Byddwn ni'n sicr yn edrych ar gategoreiddio cwmnïau bysiau. Wrth gwrs, bydd cwmnïau bysiau'n gallu gwneud cais ac, os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf, byddan nhw'n gallu sicrhau cyllid cadernid economaidd drwy'r trydydd cam, yn union fel yr oedden nhw'n gallu ei sicrhau yn ystod dau gam cyntaf y cymorth.
Byddwn i hefyd yn adleisio'r sylwadau a wnaeth Mick Antoniw ynglŷn â diswyddo a chyflogi. Mae'n hanfodol, fel y dywedais mewn ymateb i gyfraniad cynharach, wrth i ni edrych ar yr adferiad ein bod yn ceisio lleihau anghydraddoldebau, er mwyn gwella arferion gweithio teg, yn hytrach na chaniatáu'r hyn sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau pan fydd dirwasgiad, sef eich bod yn gweld hawliau gweithwyr yn cael eu disbyddu, eich bod yn gweld anghydraddoldebau'n lledu, eich bod yn gweld y cymunedau hynny a adawyd ar ôl cyn i ddirwasgiad gael eu gadael ar ôl hyd yn oed yn fwy ar ôl i chi ddod allan ohono. Ni fydd hynny'n digwydd y tro hwn. Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn adeiladu economi decach a gwyrddach a mwy cyfiawn.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Symudwn yn awr at eitem 8, sy'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ar ganol trefi—diogelu eu dyfodol. Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi ymdopi â phandemig y coronafeirws.
Mae ymdeimlad o falchder wrth wraidd cymunedau ledled y wlad. Lleoedd hamdden, byw, gweithio a dysgu. Trefi sy'n cyfateb i anghenion heddiw wrth barhau i fod wedi'u gwreiddio i'w treftadaeth falch. Nid yw'r pandemig wedi newid ein hymrwymiad na'n huchelgais. Os rhywbeth, mae wedi'i atgyfnerthu a'i ail-danio. Ond mae wedi newid yr amgylchiadau ac wedi cyflymu tueddiadau sefydledig fel twf gwerthiannau ar-lein a phwysau ar y sector manwerthu.
Rydym ni hefyd wedi gweld newidiadau mwy cadarnhaol, a gwerthfawrogiad newydd o'r mannau gwyrdd a natur ar garreg y drws a llai o draffig, tagfeydd ac, o ganlyniad, allyriadau, ochr yn ochr â newid tuag at siopa'n lleol a'r cynnydd ym mhoblogrwydd marchnadoedd awyr agored. Mae'n rhaid i ni gadw'r newidiadau cadarnhaol hyn. Mae creu cymunedau gwyrdd a glân, gyda gwelliannau fel gwyrddio mannau cyhoeddus, mynd i'r afael â draenio a gwella ansawdd aer, yn ganolog i lunio canol trefi y dyfodol.
Mae cymorth seilwaith gwyrdd trawsnewid trefi yn ein galluogi i roi'r dyhead hwn ar waith heddiw, gydag 20 o brosiectau gwerth cyfanswm o £9 miliwn, fel y cynllun yn y Drenewydd a fydd yn ailgyfeirio glaw o adeiladau'r stryd fawr a meysydd parcio drwy systemau draenio cynaliadwy ac yn creu gerddi glaw ac ardaloedd wedi'u tirlunio.
Mae'r pandemig COVID-19 yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni roi ein hagenda trawsnewid trefi ar waith yn awr, ac rydym yn ei rhoi ar waith, yn galluogi addasiadau canol trefi i gefnogi'r amgylchiadau presennol ond a allai, ar yr un pryd, gynnig cipolwg ar wahanol ffyrdd o annog ymwelwyr yn y dyfodol—o seddau awyr agored, lloches a gwres ar gyfer caffis a thafarndai, ac ardaloedd aros awyr agored ar gyfer salonau yn Sir Fynwy, i arwyddion ac addasiadau ymbellhau cymdeithasol mewn 10 tref ar Ynys Môn, i ddarparu goleuadau a phŵer ar gyfer marchnadoedd awyr agored yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae awdurdod lleol Abertawe yn unig wedi derbyn dros 200 o ddatganiadau o ddiddordeb ac, yn eu geiriau nhw, maen nhw wedi'u syfrdanu gan y rhyddhad a'r adborth cadarnhaol gan fusnesau annibynnol lleol.
Mae Bro Morgannwg yn targedu hygyrchedd, teithio llesol a seilwaith gwyrdd gyda rheseli newydd i feiciau, mannau storio, planhigion, seddi, lledu'r droetffordd i greu lle i fusnesau, gwella goleuadau a stondinau symudol. Mae'r pwyslais ar y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, sy'n cysylltu ag ymgyrch farchnata, a ariennir gan ein cyllid refeniw trawsnewid trefi i helpu i adfer canol y trefi hynny.
Caiff y cyllid refeniw hwn ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i farchnata canol trefi, dod o hyd i atebion digidol, gwella ymddangosiadau a mynd i'r afael ag eiddo gwag.
Gwyddom fod eiddo gwag hirsefydlog yn falltod ar ein cymunedau. Dyna pam yr wyf wedi cyflwyno cronfa ychwanegol o £15.2 miliwn i gynyddu'r broses orfodi ac wedi darparu £10 miliwn arall o gyllid benthyciadau i gefnogi busnesau i adfywio eiddo gwag. Mae ceisiadau bellach ar gyfer y cyllid benthyciad gan awdurdodau lleol a bydd yr arian yn cael ei ddyrannu'n fuan.
Mae cynorthwyo a sicrhau dyfodol ein trefi mewn ffordd sy'n dod â manteision i'n pobl, ein lleoedd a'n planed yn flaenoriaeth draws-Lywodraethol. Boed yn gronfa trafnidiaeth gynaliadwy leol sy'n hyrwyddo atebion teithio llesol, cymorth ar gyfer mentrau twristiaeth mawr, buddsoddi mewn prosiectau treftadaeth nodedig, cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol, neu'r lleoedd lleol ar gyfer grantiau natur, mae trefi ledled Cymru yn elwa o ymyrraeth draws-Lywodraethol.
Mae COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy penderfynol ynghylch gweithredu ein hegwyddor o roi canol trefi yn gyntaf, gan gydweithio ac mewn partneriaeth o fewn a thu allan i'r Llywodraeth. Bydd angen ffordd newydd o weithio wrth wraidd y Llywodraeth. Mae fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi cytuno mai canol y dref yn gyntaf fydd y lens ar gyfer ystyried pob syniad newydd. Mae hynny'n gofyn am ffyrdd newydd o weithio o fewn Llywodraeth Cymru a gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn sylwi ar y cyfleoedd creadigol i ddod â chyfle economaidd a bywiogrwydd newydd yn ôl i ganol ein cymunedau.
Yn ogystal â hybu nifer yr ymwelwyr a chyflogaeth, mae lleoliadau canol trefi yn dod â manteision amgylcheddol, gyda chyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd, o ran mannau cyhoeddus a mannau ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio, a chyd-leoli, gan leihau'r ddibyniaeth ar gymudo hir a theithiau ceir.
Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro ei hymrwymiad i alluogi pobl i weithio'n agosach i'w cartrefi, gan weithio mewn ffordd a allai wella bywoliaeth a ffyrdd o fyw. Mae mannau neu ganolfannau cydweithredol sydd wedi'u cydleoli yng nghanol trefi yn cefnogi adfywio a gweithgarwch economaidd ac yn sail i'n dull gweithredu canol tref yn gyntaf.
Dros y blynyddoedd, wrth i'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn byw newid, felly hefyd y ffordd yr ydym ni'n defnyddio canol ein trefi. Er mwyn ein helpu i ymateb i her y newid hwn a chydnabod nad Llywodraeth yn unig sydd â'r holl atebion neu rôl i'w chwarae, yr wyf wedi sefydlu'r grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi, gydag arbenigedd allanol, gyda chefnogaeth grwpiau gweithredu rhanbarthol amlddisgyblaethol i nodi a blaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn cryfhau canol ein trefi yn y tymor byr a'r tymor hir.
Mae ymgysylltu a grymuso cymunedau yn ganolog i hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â lleoedd yn unig ond y bobl sy'n eu gwneud, ac mae ond yn iawn iddynt lunio eu dyfodol. Bydd y grŵp gweithredu yn blaenoriaethu'r mater hwn ac rydym hefyd yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i ymgysylltu â busnesau a chymunedau lleol a chysylltu â'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn marchnata canol eu trefi.
Nid oes amheuaeth gennym i gyd fod canol trefi ledled y DU yn wynebu heriau. Yma yng Nghymru, mae eu cefnogi drwy COVID-19 ac yn y dyfodol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae ein trefi'n bwysig; maen nhw o bwys i mi ac maen nhw o bwys i bobl ledled Cymru. Nid canolfannau busnes a masnach yn unig ydyn nhw, er mor bwysig yw hynny, maen nhw'n leoedd sy'n bwysig i ni ar lefel lawer mwy cynhenid, lleoedd sy'n rhan o bwy ydym ni ac o ble yr ydym ni'n dod. Lleoedd yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld nid yn unig yn goroesi ond yn dod yn ôl yn well, gan ailddatgan ein balchder i ddod â manteision i'n cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd lleol.
Fe gyfeirioch chi at y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi i ymdopi â phandemig y coronafeirws. Roedd eich datganiad ysgrifenedig ar 15 Gorffennaf, a oedd yn cyhoeddi cronfa o £9 miliwn, yn datgan bod £5.3 miliwn o hyn yn dod o'r rhaglen trawsnewid trefi a £3.7 miliwn o gyllid Tasglu'r Cymoedd. Felly ai cyllid newydd neu ran o'r £90 miliwn a gyhoeddwyd eisoes ym mis Ionawr yw hwn?
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa trefi gwerth £3.6 biliwn i gefnogi trefi ledled Lloegr. Er i'r rhan fwyaf o'r arian hwn ddod o wariant adrannol y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn y DU ar gyfer Lloegr, nad oedd, felly, yn cynhyrchu cyllid canlyniadol Barnett ychwanegol i Lywodraeth Cymru, daw'r holl gyllid ar gyfer y gronfa trefi yn Lloegr o botiau a fydd yn cynhyrchu cyllid i Lywodraeth Cymru. O gofio y bydd Llywodraeth Cymru felly'n gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar sut i wario hyn, a fyddwch chi'n gwario o leiaf swm cyfatebol ar drawsnewid trefi yng Nghymru?
Mae trefi bach yng Nghymru yn cyfrif am bron i 40 y cant o boblogaeth gyfan y wlad. Mae pump o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi'u lleoli mewn trefi, gan gynnwys y Rhyl, Wrecsam a Merthyr Tudful. Felly, byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn sefydlu cronfa gwerth £200 miliwn ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad i helpu i adfywio cymunedau lleol Cymru, a fyddai'n helpu i sicrhau buddsoddiad ledled Cymru ac, yn hollbwysig, yn galluogi cymunedau i benderfynu sut y caiff y gronfa ei fuddsoddi yn eu hardal leol.
Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan FSB Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, fod arnom angen dull newydd ar gyfer ein strydoedd mawr, gan gynnwys cyhoeddi strategaethau trefi ym mhob tref, sicrhau bod y berchnogaeth yn lleol, a bod busnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn cael eu cynnwys, sefydlu cofrestr eiddo pan fo ymyriadau'n aml yn methu â landlordiaid absennol neu anhysbys, er mwyn adeiladu sail ar gyfer ymgysylltu, ac ailystyried swyddogaeth ardrethi busnes mewn trefi, gan efelychu rhyddhad busnesau'r stryd fawr yn Lloegr?
Roedd eich datganiad ym mis Gorffennaf yn nodi y byddai'r gronfa £9 miliwn yn ategu cronfa trafnidiaeth gynaliadwy leol Llywodraeth Cymru ac yn ei gwneud yn fwy diogel ac yn haws i bobl fynd o gwmpas eu tref leol. Rydych chi hefyd yn datgan heddiw hefyd fod gwneud mannau cyhoeddus yn fwy gwyrdd, mynd i'r afael â draenio a gwella ansawdd aer yn ganolog i lunio canol trefi yfory. Sut felly ydych chi'n ymateb i alwad RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw pobl sydd wedi colli eu golwg, a phobl anabl eraill, dan anfantais annheg oherwydd newidiadau i'r amgylchedd adeiledig, nac unrhyw fesurau eraill a gymerir mewn ymateb i'r coronafeirws?
Roedd eich datganiad ym mis Gorffennaf hefyd yn nodi y byddai'r gronfa £9 miliwn yn ategu cyllid i gefnogi costau rhedeg ardaloedd gwella busnes am dri mis. Ardal gwella busnes yw lle mae busnesau lleol—[Anghlywadwy.]—a chydweithio â phartneriaid i ffurfio grŵp i fuddsoddi arian a gwneud gwelliannau i ardal. Fodd bynnag, pan edrychais ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw, roedd yn nodi gallai 16 o ardaloedd gwella busnes yng Nghymru ar hyn o bryd ond cael—[Anghlywadwy.]—mae cymorth hyd at fis Mawrth 2020 ar gael ar gyfer pob ardal gwella busnes arfaethedig. Felly, beth, os gwelwch yn dda, os gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, yw'r sefyllfa bresennol gyda nhw?
Yn olaf, rydych chi'n dweud heddiw fod ymgysylltu â chymunedau a'u grymuso yn ganolog i nodi a blaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn cryfhau canol ein trefi, ac y bydd y grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi yn blaenoriaethu hyn. Pan holais i chi am hyn ym mis Ionawr, gan gyfeirio at y gwaith helaeth a wnaed gan Ymddiriedolaeth Carnegie ar y wladwriaeth alluogi a 'Turnaround Towns', a ganfu fod dyfodol ein trefi yn ymwneud â mwy na'r stryd fawr yn unig, mae hefyd yn ymwneud â mynediad trigolion at ysgogiadau newid a'u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau, a bod cymunedau yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni ar y cyd i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, fe wnaethoch chi ateb:
'Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yn rhan o'r pecyn hwn yw ystyried sut y gallwn ni gyfathrebu mwy gyda chymunedau, i weithio gyda nhw, i siarad mewn gwirionedd am y gefnogaeth yr ydym ni'n sôn amdani a chael eu barn'.
Felly, yn olaf, pa fesurau pendant yr ydych chi felly wedi'u rhoi ar waith ers mis Ionawr i wneud i hyn ddigwydd? Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y nifer o gwestiynau a phwyntiau a wnaeth mewn ymateb i'r datganiad yna? Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio ymdrin â nhw mor llawn ag y gallaf. O ran unrhyw symiau canlyniadol, roedd yr Aelod yn iawn, ni chawsom ni unrhyw arian ychwanegol, ond mae'r £90 miliwn yr ydym ni wedi'i roi i'n cynllun trawsnewid trefi yn llawer mwy na'r symiau canlyniadol a gawn ni gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi canol ein trefi, fel yr amlinellais yn y datganiad hwn a chyn hyn. Ac er mai benthyciad o £90 miliwn yw'r cynllun trawsnewid trefi, nid dyma'r unig fuddsoddiad yn ein trefi; mae buddsoddiad gan bob rhan o'r Llywodraeth, o dwristiaeth, o Leoedd Lleol ar gyfer Natur ac o lawer iawn o bethau, heb sôn am y cymorth busnes y gallwyd ei roi drwy'r gronfa cadernid economaidd.
Cyfeiriodd yr Aelod at Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a'u hadroddiad a'r sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud, a gwneuthum yn glir yn fy natganiad nad wyf yn credu bod gan y Llywodraeth yr holl atebion, yr holl awgrymiadau, ynghylch sut yr ydym yn ymateb i'r her. Ac rwy'n croesawu'n fawr fod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill, yn rhan o'r grŵp gweithredu gweinidogol sy'n ein helpu i symud ymlaen o ran, mewn gwirionedd, sut yr ydym yn mynd i'r afael â nifer o heriau blaenoriaeth yng Nghymru sy'n ymwneud â chanol ein trefi. Mae'r ymgysylltu hwnnw â chymunedau yn rhan o hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, er mwyn i rywbeth lwyddo, mae angen i'r gymuned fod yn rhan o lunio hynny a pharhau a bwrw ymlaen ag ef. Un o'r dulliau yr wyf yn ceisio'i ddatblygu yw sicrhau y gall cynghorau tref a chymuned, sy'n aml wedi ymwreiddio yn y cymunedau lleol drwy eu swyddogaethau amrywiol, mewn gwirionedd gysylltu ag awdurdodau lleol a chael mwy o ddylanwad arnynt a chael cymorth i'w trefi eu hunain.
Fe wnes i sôn yn y datganiad, os yw'r Aelod yn cofio, am ymgyrch gyfathrebu, a byddai hon yn edrych ar gynllun arbrofol mewn nifer o ardaloedd, mewn ardaloedd sydd wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol ledled Cymru, ynghylch sut y byddwn yn arbrofi gyda ffyrdd gwell o ymgysylltu â phobl, nid yn unig i siarad am y buddsoddiad a wnaed, ond i sicrhau eu bod yn rhan o unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol.
Cyfeiriodd yr Aelod yn benodol at drefi yn y gogledd megis y Rhyl a Wrecsam, ac rwy'n fwy na bodlon darparu map arddangos manylach i bob Aelod o ran pa fuddsoddiad a wneir yn y trefi hynny a ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Fel y dywed, mae ein trefi'n bwysig iawn i ni, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod yr argyfwng wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw cymunedau lleol, ond y byddwn hefyd efallai'n defnyddio ein trefi a chanol ein trefi mewn gwahanol ffyrdd, yn rhannol o ganlyniad i'r argyfwng.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn sôn yn ei datganiad am gyfleoedd i siopa mwy lleol, ac, er fy mod yn siŵr bod hynny'n wir, mae hefyd yn wir, er enghraifft, fod llawer o bobl wedi newid i siopa ar-lein yn hytrach na siopa'n uniongyrchol. Felly, tybed pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud neu y gallai ei wneud o'r mathau o fusnesau y mae pobl yn defnyddio mwy ohonynt ar hyn o bryd yng nghanol ein trefi ac y gellid eu perswadio i ddefnyddio mwy ohonynt yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn rhoi anogaeth a chefnogaeth yn benodol i'r busnesau hynny sydd fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus.
Soniodd y Dirprwy Weinidog am ganolfannau gweithio lleol. Roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn sôn am y rheini. Tybed a all ddweud ychydig mwy yn ei hymateb i mi am y ffordd y mae'r gwaith hwnnw'n datblygu. Pwy mae hi'n tybio fydd yn datblygu'r canolfannau hynny? A yw hynny'n waith i awdurdodau lleol, neu i fentrau cydweithredol lleol? Tybed a yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda rhai o'r cyflogwyr mawr. Rydym ni wedi gweld cyflogwyr mawr yng Nghaerdydd, er enghraifft, fel Admiral a Lloyds, y bu eu staff yn gweithio gartref. I rai pobl, byddant eisiau parhau i weithio gartref; byddai llawer ohonynt yn hoffi gweithio'n fwy lleol. A oes rhan i'r cwmnïau mawr hynny, o bosib, o ran buddsoddi yn y math yna o ganolfan weithio lleol yn rhai o drefi ein Cymoedd, er enghraifft?
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at yr addasu a fu ar fannau cyhoeddus at ddibenion gwahanol, ond gwn ei bod yn ymwybodol iawn bod cyfundrefn reoleiddio gymhleth iawn ynghylch newid y ffordd y defnyddir mannau cyhoeddus, a tybed a wnaiff hi ein sicrhau ei bod yn gweithio gyda chyd-Aelodau ym mhob rhan o'r Llywodraeth i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol wneud y newidiadau hynny, o gofio bob amser, wrth gwrs, yr amod y mae Mark Isherwood wedi sôn amdano ynghylch yr angen i sicrhau nad yw unrhyw un o'r newidiadau hynny'n creu anawsterau i bobl anabl, nac, yn wir, i rieni â phramiau.
Tybed a yw hi wedi ystyried beth arall y gellid ei wneud i alluogi mwy o bobl i fyw yng nghanol ein trefi. Bydd yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed yn ddiweddar, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, lle maen nhw wedi prynnu rhai siopau mawr gwag yng nghanol y dref, eu rhannu'n unedau llai ac yna troi'r mannau uwchben y siopau hynny'n fflatiau a ddefnyddir bellach, ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod pobl yng nghanol y dref, maen nhw'n defnyddio siopau lleol pan fyddan nhw'n gallu, gan ddefnyddio tafarndai a chaffis lleol, a tybed a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch Sir Gaerfyrddin am hynny ac a yw hi'n credu bod hynny'n ddull y gellid ei ddefnyddio ymhellach.
Yn olaf, a chyda diolch am eich goddefgarwch, Llywydd dros dro, tybed pa ystyriaeth bellach y mae'r Dirprwy Weinidog a'i chyd-Aelodau wedi'i rhoi i effaith y gyfundrefn ardrethi busnes ar fusnesau bach yng nghanol y dref, yn enwedig, a pha un a oes angen gwneud unrhyw waith pellach i annog busnesau bach newydd ac arloesol yn arbennig i ymsefydlu, y gallai rhai ohonynt gael eu rhwystro gan y gyfundrefn ardrethi busnes fel y mae, ac a oes gwaith pellach y gallai hi a'i chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ei wneud yn hynny o beth.
Cytunaf yn llwyr â sylwadau'r Aelod ynglŷn â sut y mae pwysigrwydd a swyddogaeth cymunedau lleol wedi'u dwyn i'r amlwg mewn gwirionedd yn ystod y chwe mis diwethaf, fwy neu lai, a faint o bobl sydd wedi mynd y tu hwnt i hynny, boed yn wirfoddolwyr neu'n fusnesau bach, gan arallgyfeirio nid yn unig i gefnogi eu busnesau, ond i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned leol hefyd.
O ran mewn gwirionedd—. Mae'r Aelod yn codi pwynt da iawn o ran y dadansoddiad hwnnw o'r busnesau lleol hynny yng nghanol trefi, a sut maen nhw'n llwyddo i arallgyfeirio. Mae ein cyllid refeniw drwy ein cyllid trawsnewid trefi wedi galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda chanol trefi o ran eu cynnig digidol. Credaf fod hynny'n bwysig iawn—mae'n faes gwaith gwirioneddol bwysig wrth symud ymlaen, gan alluogi'r busnesau annibynnol, llai hynny i gynyddu'r hyn y gallant ei wneud ar-lein, boed hynny mewn gwirionedd yn addasu i COVID—rydym ni wedi gweld hyn yn cyflymu yn ystod y pandemig—boed hynny'n addasu i gael rhyw fath o bresenoldeb ar-lein, neu gynnig pethau fel galw a chasglu neu wasanaeth clicio a chasglu. Felly, digidol o ran sut rydym ni'n cefnogi busnesau bach, annibynnol ond hefyd canol trefi yn gyffredinol o ran gallu defnyddio'r cyfrwng digidol hwnnw i wella'r cynnig ac i reoli nifer y defnyddwyr a hyrwyddo nifer y rhai sy'n dod i ganol y trefi hefyd.
Mae'r Aelod yn sôn am addasu mannau cyhoeddus at ddibenion gwahanol a'r angen i weithio ar draws y Llywodraeth o ran sut rydym yn gwneud hynny'n hygyrch, ond mewn ffordd, fel y dywedodd, sy'n ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod Mark Isherwood, o ran peidio â chreu rhwystrau neu feichiau ychwanegol i gael mynediad i ganol trefi. Yn sicr, rydym yn cydnabod nad yw hyn—fel y dywedais yn y datganiad, nid yw hyn yn rhywbeth i un maes Llywodraeth nac i un portffolio yn unig, ac nid rhywbeth i'r Llywodraeth yn unig ydyw. Mae angen inni weithio ar draws y Llywodraeth ac rydym yn gwneud hynny, ac nid o fewn y Llywodraeth yn unig, ond gyda phartneriaid awdurdodau lleol a'r trydydd sector, a'r rheini ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat hefyd, sydd, fel y dywed, yn gwbl hanfodol o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen â dynodi'r canolfannau cydweithredu hyn ar draws trefi yng Nghymru. Soniodd am drefi'r Cymoedd, ac rwy'n gwbl ymroddedig ac yn awyddus i sicrhau bod ystod eang o drefi, a'r bobl sy'n byw yn y trefi hynny, yn cael elwa ar yr agenda hon wrth symud ymlaen. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yr wyf wedi gofyn i swyddogion ei weithredu yw cael dealltwriaeth gliriach o ble mae eiddo'r sector cyhoeddus mewn trefi, i gynnig y sbardun hwnnw i fwrw ymlaen â'r agenda hon.
Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ar y pwnc yma sy'n un arbennig o bwysig. Dros y blynyddoedd rydym ni wedi cyflwyno amryw o fentrau i adfywio canol ein trefi sy'n dirywio ac yn cael eu disbyddu, ac yn wir dywedodd 70 y cant o'n hetholwyr y dylai adfywio ein trefi fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Yn amlwg, nid oes gan neb yr holl atebion eto, ond bydd atebion o ran adfywio ac addasu at ddibenion gwahanol mewn modd strategol a chreadigol yn un o'r allweddi i greu canol trefi llwyddiannus a bywiog. A ddylai Llywodraeth Cymru feddwl yn fwy lleol ac ailadeiladu ein cymunedau canol tref yn fannau sy'n cofleidio arallgyfeirio a phrofiad ac sy'n llwyddo i gynnwys defnyddiau cymysg newydd yng nghyd-destun presennol manwerthu a chanol y dref? Bydd adfywio'n gofyn am berthynas sy'n fwy cydweithredol rhwng llywodraethu, landlordiaid a thenantiaid, a model datblygu masnachol hollol newydd, lle bydd yn rhaid i sefydliadau ariannu dderbyn ac ymgysylltu â'r realiti newydd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hwyluso'r rhyngweithio newydd hwn?
Un o'r prif ffactorau sy'n galluogi adfywio canol trefi, wrth gwrs, yw cysylltedd. Nid yn unig y mae'n rhaid i bobl fod ag awydd mynd i'r dref, ond rhaid iddynt allu cyrraedd yno. Yn anffodus, mae gwasanaethau bysiau—ffactor hollbwysig o ran cysylltedd—yn hytrach na thyfu, hyd yn oed wrth ddiystyru COVID, yn crebachu. Unwaith eto, os yw canol trefi am lwyddo, rhaid iddynt fod yn hygyrch yn ogystal â chael yr amrywiaeth, y gwasanaethau a phethau eraill y maent yn eu cynnig. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cwmnïau bysiau yn cadw llwybrau hanfodol i ganol ein trefi yn agored?
Ac un pwynt olaf, Dirprwy Weinidog: rhaid gwneud banciau'r stryd fawr—sydd, wrth gwrs, yn enw camarweiniol arnyn nhw erbyn hyn—yn atebol, oherwydd maen nhw wedi cefnu ar y busnesau hynny a oedd unwaith yn eu gwneud nhw'n gyfoethog ac yn broffidiol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atgoffa banciau o'u cyfrifoldebau cymdeithasol wrth gefnogi canol trefi?
Mae'r Aelod yn crybwyll yr angen am arallgyfeirio, ac mae'n llygad ei le—nid oes ateb sy'n addas i bawb i ailfywiogi ac adfywio canol ein trefi. Er bod manwerthu'n parhau i fod yn bwysig, ni all ein trefi oroesi drwy ddibynnu ar y sector manwerthu yn unig. Felly, fel y dywedais yn y datganiad, mae'n ymwneud â siopa, mae'n ymwneud â byw, mae'n ymwneud â hamdden ac mae'n ymwneud â gwaith hefyd. Rydym ni wedi ymrwymo yn y gorffennol, ac yn parhau i wneud hynny, i gynyddu'r cyfleoedd i fyw yng nghanol y dref, boed hynny'n gartrefi uwchben siopau neu greu tai o fewn neu ar gyrion canol trefi, fel ffordd nid yn unig o gynyddu nifer y rhai sy'n ymweld â chanol trefi ond mewn gwirionedd ffordd o roi mynediad i'r cyfleusterau hynny sydd ar garreg drws pobl hefyd. Credaf, wrth inni symud ymlaen, y gwelwn ni, gyda'r newid mewn patrymau gwaith o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, yr angen i edrych nid yn unig ar ganolfannau cydweithio, ond ar ddatblygu adeiladau er mwyn i bobl allu byw a gweithio mewn lleoliadau canol tref.
Soniodd yr Aelod am yr angen—y cysylltedd ar gyfer ein trefi hefyd, a chysylltedd yw hynny nid yn unig drwy gyfrwng digidol, fel y gwnaethom ni sôn amdano o'r blaen ond mewn gwirionedd y gallu i fynd i ganol ein trefi'n gorfforol. Ac rwy'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo ar draws y wlad, ac yn enwedig ym Mhontypridd, o ran y ffordd yr ydym yn cysylltu, yn y lle cyntaf, yr orsaf drennau â chanol y dref yn well, pan fyddwch yn gadael yr orsaf, ond, yn amlwg, mae bysiau'n allweddol i'r mwyafrif helaeth o bobl ledled Cymru, gan gynnwys fy etholwyr. Dyna pam yr wyf yn gweithio'n agos iawn gyda'm cyd-Weinidogion, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau ein bod yn cysylltu ein cymunedau'n well i helpu i gefnogi canol ein trefi nid yn unig i oroesi ond i ffynnu, a galluogi mwy o bobl i'w defnyddio mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw ond hefyd, wrth gwrs, mewn ffordd a allai sicrhau hefyd y manteision amgylcheddol ehangach hynny hefyd.
A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am y cronfeydd canol trefi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu yn ystod yr wythnosau diwethaf? Ond un mater yr wyf wedi bod yn ceisio cael eglurhad pellach arno yw'r defnydd o'r cronfeydd hyn mewn canolfannau llai y tu allan i brif ganol tref Merthyr Tudful, yn fy etholaeth i. Er enghraifft, canolfannau lleol fel Rhymni, Ynysowen, Mynwent y Crynwyr, Cefn Coed a Dowlais—maent i gyd yn gymunedau yn eu hawl eu hunain, gyda stryd fawr, siopau, bwytai, llety, tafarndai a chaffis, ond nid ydynt, i bob golwg, yn gymwys i gael cymorth gan nad ydynt yn bodloni'r meini prawf neu'r diffiniad caeth o ganol tref sy'n ofynnol er mwyn cael cyllid. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf pa hyblygrwydd sydd gan awdurdodau lleol i ddefnyddio'r arian hwn ar gyfer busnesau, eiddo gwag, cynlluniau amgylcheddol ac ati, nad ydynt o fewn y diffiniad hwnnw o ganol tref, oherwydd fy nealltwriaeth i oedd bod yr arian ychwanegol gan dasglu'r Cymoedd i fod i helpu i gau'r bwlch hwnnw?
Diolch i Dawn Bowden am ei chwestiynau. Mae hi'n gywir yn crybwyll y buddsoddiad sy'n mynd i Ferthyr Tudful, a bydd yn parhau, a hefyd pwysigrwydd y cymunedau hynny sy'n gwasanaethu—y cymunedau llai sy'n hanfodol i'r bobl sy'n byw ynddynt ac o'u hamgylch hefyd. O ran pwy sy'n gymwys i'w gael a sut y dyrennir yr arian hwnnw, o ran blaenoriaethu canol trefi, yn draddodiadol mae penderfyniadau wedi'u gwneud ar sail ranbarthol gan yr awdurdodau lleol, ond yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r grant addasu canol trefi yw sicrhau ei fod ar gael i unrhyw dref a flaenoriaethir gan yr awdurdod lleol perthnasol. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r awdurdodau lleol ar y cynllun ac ymatebodd i'r cais y dylid cael hyblygrwydd i ehangu'r cymorth i unrhyw drefi.
Daw'r cyllid o'n rhaglen trawsnewid trefi, felly, yn unol â hynny, mae ein cyllid wedi'i anelu'n llwyr at ganol trefi, fel y cadarnhawyd yn y canllawiau grant, ond mater i'r awdurdodau lleol eu hunain yw diffinio beth yw canol y dref. Ond, yn amlwg, rwy'n fwy na bodlon, wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwn o ran buddsoddi yn y trefi llai hynny ledled Cymru—. Ac os oes gan yr Aelod ymholiadau neu faterion penodol y mae eisiau eu codi gyda mi, yna byddwn yn ei gwahodd i gyflwyno hynny'n ysgrifenedig i mi.
Rydym ni i gyd wedi bod yn gyfarwydd, yn enwedig y rhai ohonom ni sy'n cynrychioli Cymoedd y de, gyda'r heriau sy'n wynebu canol trefi dros flynyddoedd lawer. Rydym nid yn unig wedi gweld masnachu ar-lein yn cael effaith o ran erydu hyfywedd llawer o gynigion manwerthu, ond rydym ni hefyd wedi gweld twf dinasoedd yn dileu'r cyfleoedd i drefi llai gystadlu. Ond mae'r pandemig, yn y ffordd y mae wedi gweithio, wrth gwrs, wedi creu argyfwng gwirioneddol mewn dinasoedd hefyd, ac mae wedi creu argyfwng lle mae'n ddigon posib y bydd cyfleoedd newydd nawr i drefi nad oedden nhw yn bodoli chwe mis yn ôl, ac mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn ysgogi'r creadigrwydd a'r uchelgais ar gyfer trefi a chanol trefi. Os edrychaf ar y trefi yn fy etholaeth, boed yn Nhredegar, Glynebwy, Brynmawr neu Abertyleri, yn ogystal â'r cymunedau llai y mae Dawn Bowden eisoes wedi'u disgrifio, nid wyf yn gweld lefel y gefnogaeth gan yr awdurdod lleol y byddwn yn dymuno ei gweld. Rwyf wedi cyfarfod a thrafod y sefyllfa sy'n wynebu canol ein trefi gyda llywodraeth leol, ac rwy'n siomedig yn yr ymateb rwy'n ei gael ganddynt. Ond nid wyf yn gweld llawer o greadigrwydd, a dweud y gwir, gan Lywodraeth Cymru ychwaith, ac rwy'n eithaf siomedig â'r dull gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn ar hyn o bryd, gan fod gennym ni gyfle gwych yma i arwain meddylfryd, arwain creadigrwydd, newid ein dyfodol, ac i lunio'r lleoedd hyn sydd wrth wraidd ein holl gymunedau gwahanol. Mae hwn yn gyfle, rwy'n credu, i Lywodraeth Cymru ddangos yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud na all llywodraeth leol ei wneud ar hyn o bryd, a bod—
Diolch, Alun. Mae amser yn mynd yn brin. Gweinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae arnaf ofn bod yn rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn deall y rhwystredigaeth o ran y sefyllfa gyda'u trefi yn eu hardal leol, ond rwy'n gwrthod yn llwyr honiad yr Aelod nad yw Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol yn y maes hwn. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ysgogi creadigrwydd, i weithio gyda grŵp gweithredu canol trefi i weithredu yn ein cymunedau ledled Cymru. Ond rwyf hefyd yn cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl atebion na'r holl syniadau. Byddwn yn annog Aelodau i ddod ymlaen i weithio gyda ni ar y syniadau a'r awgrymiadau hynny gan gymunedau yn eich etholaethau i weld sut y gallwn ni lwyddo i lunio ac adfywio canol ein trefi wrth inni symud ymlaen.
O ran swyddogaeth awdurdodau lleol, unwaith eto, fel y dywedais wrth Dawn Bowden, byddwn yn amlwg yn eich annog i barhau â'r sgwrs honno. Os oes materion penodol yr hoffech eu codi gyda mi, gwnewch hynny'n ysgrifenedig. Ond un o'r pethau yr wyf yn awyddus i'w wneud, fel y soniais yn y datganiad, yw sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn galluogi cymunedau i fod yn well rhan o'r broses honno oherwydd rwy'n wirioneddol gredu, er mwyn i rywbeth lwyddo yn y tymor hwy, yna mae angen i gymunedau gael dweud eu dweud wrth lunio eu trefi eu hunain a'u canolfannau eu hunain lle maent yn byw ac yn gweithio. Un modd, fe gredaf, o wneud hynny yw gweithio'n llawer nes, ac rydym ni wedi gwneud hyn gyda'r gronfa addasu canol trefi i annog cynghorau tref a chymuned i fod yn rhan o'r broses honno hefyd. Byddwn yn croesawu dulliau eraill o ystyried sut y gallwn ni fod yn cynnwys y cymunedau i lunio hynny yn y dyfodol wrth inni yrru hwn yn ei flaen, oherwydd mae hynny'n gwbl briodol; mae gennym ni gyfle yn y fan yma nawr i sicrhau bod ein trefi nid yn unig yn gallu goroesi yn ystod y pandemig, ond yn gallu ffynnu ar ei ôl.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gen i ddiddordeb arbennig ym manylion yr agwedd eiddo gwag. Hoffwn gael rhagor o fanylion am hynny. Gwn fod awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am hynny, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni am unrhyw feini prawf sy'n gysylltiedig â hynny? Felly, er enghraifft, ai ar gyfer manwerthu yn unig y mae neu a allai fod ar gyfer defnydd cymysg megis tai? Oherwydd rwy'n credu'n arbennig fod unedau tai llai yng nghanol y dref yn ffordd dda iawn o'i adfywio yn y tymor hir.
Mae fy ail gwestiwn a'm cwestiwn olaf yn ymwneud â'r grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi yr ydych chi yn ei sefydlu. Rwy'n croesawu hyn yn fawr, yn enwedig y ffaith ei fod yn cynnwys nid yn unig gwleidyddion a swyddogion, ond pobl sydd â phrofiad gwirioneddol o ganol trefi, boed hynny'n fusnesau neu'r gwaith o reoli canol trefi, ac ati. Felly, unwaith eto, rwy'n chwilio am ychydig mwy o wybodaeth am hynny, mewn gwirionedd, o ran pwy sy'n eistedd ar y grŵp hwnnw a'u profiad, eu harbenigedd ac a ydyn nhw, yn hollbwysig, yn cynrychioli natur amrywiol Cymru yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol. Diolch.
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn a'i diddordeb? Rwy'n gwybod ei bod yn angerddol iawn ynghylch yr agenda hon a'r maes hwn wrth wasanaethu ei hetholwyr. O ran yr eiddo gwag, rwy'n tybio bod dwy elfen ac nid wyf yn glir, yn benodol, pa un y mae'r Aelod wedi cyfeirio ati, felly gwnaf fy ngorau i geisio mynd i'r afael â'r ddwy. Un ohonynt yw pa un a yw at ddefnydd cymysg neu ar gyfer manwerthu yn unig, wel, mewn gwirionedd, o ran y benthyciadau a'r gefnogaeth i awdurdodau lleol, yna mae hynny at ddefnydd cymysg—nid yw wedi ei anelu'n benodol at fanwerthu—ac rydym ni wedi gweld nifer o brosiectau gwirioneddol arloesol yn digwydd ledled Cymru, lle mae eiddo gwag wedi'i drosi i greu cartrefi gwirioneddol hyfryd i bobl yng nghanol trefi, sydd nid yn unig yn creu'r cartrefi newydd hyn ond sy'n ychwanegu, gobeithio, at gynyddu bywiogrwydd y trefi hynny hefyd.
Yn ogystal â hynny, mae gennym ni hefyd y gronfa gorfodi eiddo gwag, sy'n un o'r cronfeydd a gyhoeddais yn ôl ym mis Ionawr, ac rydym ni wedi ychwanegu cefnogaeth bellach at hynny. Rydym ni wedi ymgynghori ag arbenigwr yn y diwydiant i helpu i gefnogi awdurdodau lleol o ran sut maen nhw'n bwrw ymlaen â'r gwaith gorfodi hwnnw, oherwydd yr hyn a welsom ni o'r blaen, efallai, gydag effaith cyni a pheidio â bod â'r arbenigedd hwnnw o reidrwydd ar gyfer bwrw ymlaen â hynny mewn gwirionedd, ac i gefnogi awdurdodau lleol i fod â'r hyder i fwrw ymlaen â hynny. Er gwaethaf y pandemig, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw ddynodi o leiaf tua thri eiddo i bob awdurdod lleol. Mae'n debyg y gallem ni ddyfalu pa rai yw'r rhain o'r ohebiaeth yn ein bagiau post llawn neu, wyddoch chi, os ydych chi ar y stryd, mae pobl yn cwyno y bu yno ers blynyddoedd a pham nad ydym ni yn gwneud rhywbeth gydag ef. Mae'n amlwg y bu hi yn anodd iawn yn aml, am nifer o resymau, i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hynny a symud ymlaen. Felly, mae cynnydd, ond yn anffodus ar hyn o bryd ni allaf roi'r manylion am rai ohonynt—y manylion—oherwydd cyfrinachedd masnachol, ond gallaf sicrhau'r Aelod ac Aelodau eraill y byddaf yn sicr yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn ni rannu'r wybodaeth honno.
O ran y grŵp gweithredu canol trefi, y mae eisoes wedi'i sefydlu. Rydym ni yn symud ymlaen i'n trydydd cyfarfod nawr ac, fel y dywedais, rwyf wedi bod yn pwyso ar yr aelodau fy mod eisiau cael y pwyslais ar y gweithredu o hynny. Roedd amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ymwneud â hynny, ac nid yw wedi'i gyfyngu i'r aelodau hynny o'r grŵp yn unig. Rydym ni wedi cael pobl yn dod o amrywiaeth eang o feysydd i gynnig eu mewnwelediad a'u syniadau i'n helpu i lunio ein camau gweithredu yn sgil y grŵp hwnnw. Hefyd, fel y dywedais yn y datganiad, mae'n seiliedig ar grwpiau gweithredu rhanbarthol. Mae'r grwpiau gweithredu rhanbarthol mewn gwirionedd yn cyflwyno'r materion hynny ar lawr gwlad i sicrhau eu bod yn rhan o'r camau a gymerwn, efallai, ar lefel genedlaethol ledled Cymru. Ac mae nifer o themâu'n deillio o hynny, boed hynny'n bethau megis—. Rydym ni wedi sôn am sut yr ydym yn cynnig gweledigaeth o ran sut y gellid defnyddio rhywfaint o'r eiddo neu leoedd gwag hyn. Felly, efallai creu'r cyfle ar gyfer yr hyn y byddem yn ei alw'n 'fannau cyfamserol'—rydym yn cynnig y weledigaeth honno. Rydym yn ystyried a allai pob tref yn y dyfodol fod yn dref farchnad, a hefyd y gwaith sy'n ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned. Felly, byddwn yn fwy na pharod i rannu mwy o fanylion gyda'r Aelodau am y grŵp gweithredu, ei aelodaeth a'i waith wrth iddo fwrw ymlaen.
Ac ar gyfer y cwestiwn olaf, unwaith eto, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. Gweinidog, mae Pontypridd yn un o'r enghreifftiau clasurol hynny o dref a oedd yn adfywio gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyngor lleol: yr adeiladau newydd; Trafnidiaeth i Gymru yn cael ei lleoli yno; y bont newydd yn cysylltu â Pharc Ynysangharad; a'r neuadd fingo, sydd wedi ei chaffael yn awr gan RhCT i'w datblygu. Yna wrth gwrs, cawsom y llifogydd. Ac yna wrth i ni wella o'r llifogydd, cawsom COVID. Felly, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i dref a oedd mewn gwirionedd ar fin adfywio.
Nawr, rydym yn dychwelyd i edrych ar hynny eto. Mae dwy agwedd yr hoffwn eich sylwadau arnynt. Yr un gyntaf yw'r newid hwnnw mewn arferion: pobl yn coginio mwy o fwyd ffres, ac ati, yn ystod cyfnod COVID. Mae marchnad wych ym Mhontypridd. Beth allwn ni ei wneud i gefnogi'r lleoliadau hynny'n benodol, y busnesau hynny sy'n darparu cynnyrch lleol ffres i'n cymuned? Oherwydd rwy'n credu bod cyfle i adfywio diddordeb mewn gwirionedd.
A'r llall yw y dylai ein trefi ddod yn ganolfannau diwylliant hefyd. Ym Mhontypridd, mae gennym Glwb y Bont, sy'n ganolfan Gymraeg, y mae llifogydd wedi cael effaith wael iawn arni, ond cyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu'r celfyddydau, cerddoriaeth, diwylliant, lleoliadau Cymraeg ac yn y blaen, ac mae gormod o'n grantiau mewn seilos. Credaf fod yn rhaid inni ddechrau cysylltu'r rhain â'i gilydd er mwyn darparu gweledigaeth eang ar gyfer tref: cynnyrch diwylliannol, cynnyrch naturiol, a hefyd adfywio busnesau a swyddfeydd ac ati. Pa fath o gymorth sydd ar gael i hynny, a pha gymorth ychwanegol y gellid ei roi i sefydliadau fel ardal gwella busnes Pontypridd yn y dref, sydd wedi gwneud cymaint i'w dynnu ynghyd, ond gydag adnoddau ychwanegol gallai gael mwy fyth o effaith nag y mae ar hyn o bryd?
Os ymatebaf i'r pwyntiau ynghylch AGB Pontypridd a'r rhan a chwaraewyd ganddynt wrth hyrwyddo'r gwaith o adfywio canol tref Pontypridd yn sylweddol. Rydym wedi siarad o'r blaen am bwysigrwydd cael y gefnogaeth honno ar lawr gwlad gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yno i sicrhau llwyddiant unrhyw brosiect adfywio ar gyfer tref neu gymuned. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi AGB fel cyfrwng i sbarduno'r newid hwnnw neu'r ffyrdd y gallwn rymuso fforymau busnes lleol a sefydliadau cymunedol. Hefyd, rydym wedi rhoi cymorth i AGB fynd drwy'r cyfnod COVID, gan gydnabod yr heriau y gallant eu hwynebu, ac rwy'n hapus i archwilio'r gwaith hwnnw ymhellach gydag AGB lle maent yn bwrw ymlaen â gwaith da iawn ac yn sbarduno newid yn eu cymunedau.
Mae'r Aelod yn codi'r heriau amrywiol y mae Pontypridd wedi'u hwynebu; dros y flwyddyn ddiwethaf, yr adfywio a oedd mewn gwirionedd yn dechrau cael effaith ac yna'r heriau a wynebwyd yn sgil y llifogydd a'r pandemig erbyn hyn, ond rwy'n credu bod potensial enfawr yno ym Mhontypridd o ystyried y buddsoddiad a wnaed eisoes ac a wneir o hyd.
O ran prynu'n lleol a siopa'n lleol a'r cysylltiad â'r lle y mae eich bwyd yn dod ohonno a bwyd ffres, rwy'n credu mai un o'r pethau yr wyf wedi dechrau ei weld nawr o fewn y Llywodraeth yw—fel y dywedodd Mick—sut yr ydym yn cydgysylltu hynny'n well. Felly, drwy brynu'n lleol, os ydych yn prynu o farchnad mae'n debyg eich bod yn fwy tebygol o beidio â defnyddio deunydd pacio yn ormodol hefyd, ac rydych yn gweld pobl yn meddwl am yr adnoddau yr ydym yn eu defnyddio, nid yn unig o fewn ein bwyd ond hefyd y gwastraff y gallwn ei gynhyrchu hefyd. Rwy'n credu ein bod wedi gweld mwy o gyfleoedd yn amlygu eu hunain o fewn ein cyllid trawsnewid trefi'n uniongyrchol, ond hefyd pethau fel ein cronfa economi gylchol, gyda sefydliadau, cyrff cyhoeddus a busnesau'n dod ymlaen o ran sut y gallant leihau deunydd pacio fel rhan o'r cynnig hwnnw, rhan o'r cynnig canol tref sy'n wahanol, sy'n eu galluogi nhw i ddenu pobl i mewn a chynyddu'r nifer sy'n ymweld â chanol y dref.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud y pwynt yn llwyr, mewn gwirionedd, rydym wedi'i weld—ac rwyf wedi'i weld fy hun yn fy etholaeth fy hun—y farchnad bron yn ôl ar ei thraed a'r cynnydd ym mhoblogrwydd y farchnad unwaith eto. Wel, mae hynny oherwydd bod pobl yn teimlo'n fwy diogel yn siopa yn yr awyr agored ar hyn o bryd o dan yr amgylchiadau presennol, ond hefyd maen nhw'n gweld ansawdd y cynnyrch ac yn gwybod eu bod yn cefnogi'r gymuned leol. Felly, gellir hwyluso hynny drwy awdurdodau lleol i gefnogi pethau fel mentrau marchnad leol wrth inni fwrw ymlaen. Gwn ei fod yn un o'r meysydd y mae'r grwpiau gweithredu eisoes wedi'i nodi fel maes allweddol i'w ddatblygu os gallwn sbarduno'r syniad a gweithredu pob tref yng Nghymru fel tref farchnad.
Diolch, Dirprwy Weinidog.
Gohirwyd eitem 9, y datganiad ar wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, tan 13 Hydref.
Gohiriwyd eitem 10, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd, tan 6 Hydref.
Eitem 11 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7400 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Cadeirydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth i Senedd y DU yn gyntaf ar 16 Ionawr 2020, ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig. Nodir darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru yn Atodlen 5 i'r Bil, ond maent hefyd yn ymddangos drwy gydol y Bil. Argymhellaf fod Aelodau'r Senedd yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth.
Wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau defnyddiol a godwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod eu gwaith craffu. Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ddarparu cymorth ariannol i sector amaethyddol Cymru drwy fersiwn ddomestig o gynllun taliadau sylfaenol y polisi amaethyddol cyffredin a chynllun taliadau datblygu gwledig. Credaf ei bod yn briodol cynnwys y darpariaethau hyn ym Mil Amaethyddiaeth y DU gan y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu darparu sefydlogrwydd a pharhad y mae mawr ei angen i'r sector amaethyddol.
Bwriadwn ddefnyddio'r pwerau wrth drosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol, yr ydym yn cynnig y bydd yn cael ei chynllunio ar sail egwyddorion rheoli tir cynaliadwy. Ar 31 Gorffennaf, lansiais y cynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' i barhau a symleiddio cymorth amaethyddol i ffermwyr a'r ymgynghoriad ar yr economi wledig. Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion ynghylch sut y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r darpariaethau parhad sy'n caniatáu cyflawni cynllun taliadau sylfaenol domestig newydd a chynllun taliadau datblygu gwledig. Mae'n nodi nifer o newidiadau bach ond effeithiol i'w gweithrediad yn ystod blwyddyn 2021 y cynllun. Daw'r ymgynghoriad ar y cynigion hyn i ben ar 23 Hydref.
Mae'r Bil Amaethyddiaeth hefyd yn cynnwys darpariaethau eraill ar gyfer sicrhau bod sectorau amaethyddol yn cael eu gweithredu'n effeithiol ledled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer diwygio tenantiaethau amaethyddol, ailddosbarthu'r ardoll cig coch, sefydliadau bargeinio teg a chynhyrchu, ymyrraeth yn y farchnad a safonau marchnata, casglu a rhannu data, a nodi ac olrhain da byw, gwrteithiau a chynhyrchion organig. Mae'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n nodi'r darpariaethau hyn wedi bod yn destun craffu gan y Senedd o'r blaen.
Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn rhoi darpariaethau gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar amaethyddiaeth yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Fel yr wyf wedi amlinellu i'r Senedd o'r blaen, mae'r rhain yn ddarpariaethau gweddol gymhleth y cododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig bryderon yn eu cylch yn ystod ei waith craffu. Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r darpariaethau hyn, ac i argymhelliad y pwyllgor arnynt yn eu hadroddiad ym mis Mai 2020. Rwy'n parhau i fod yn fodlon â'r cytundeb dwyochrog a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddefnyddio'r pwerau hyn. Mae'r cytundeb yn darparu dulliau cryf i Weinidogion Cymru fynegi eu barn a sicrhau bod y farn honno'n cael ei hystyried gan y Senedd a chan Lywodraeth y DU wrth wneud a defnyddio rheoliadau mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'r DU yn ymdrin â Sefydliad Masnach y Byd.
Yn argymhelliad 16 ei adroddiad, gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynghylch a oeddwn yn credu y dylai'r Bil gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw safonau marchnata yng Nghymru yn dioddef yn sgil mewnforion mewn unrhyw drefniadau masnach yn y dyfodol. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 12 Mehefin i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid a materion sicrhau iechyd (pobl) anifeiliaid a phlanhigion allweddol mewn cysylltiad â chytundeb masnach yn y dyfodol. Mae diogelwch bwyd, ynghyd ag iechyd a lles anifeiliaid, yn faterion datganoledig, ac mae polisi Llywodraeth Cymru yn glir: sef bod yn rhaid cynnal safonau uchel diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol yng Nghymru. Er bod Gweinidogion y DU yn parhau i fynnu eu bod yn benderfynol o gynnal y safonau uchel presennol o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, maent yn amharod i ganfod drafftio cyfreithiol priodol a fyddai'n eu galluogi i roi sicrwydd o'r fath mewn statud. Fel Llywodraeth, mae hyn yn ofid inni.
Wrth argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, rydym yn cydnabod nad yw'n berffaith ac nid fel y byddem ni wedi'i ddrafftio. Fodd bynnag, mae'r Bil fel y'i diwygiwyd, at ei gilydd, yn dderbyniol. Rwyf eisiau sicrhau'r Siambr ein bod yn bwriadu gwrthwynebu'n gryf y cymalau ym Mil y farchnad fewnol a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth yn San Steffan i danio'r gwn i gychwyn y ras i waelod safonau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, cynigiwn y bydd sector amaethyddol Cymru yn trosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol. Mae ein cynigion yn glir: sef ei bod yn bwysig trosglwyddo i system o'r fath yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, i fynd i'r afael â'r diffyg cadernid economaidd ac amgylcheddol yn y sector, ac er mwyn diogelu enw da'r diwydiant. Mae'n amser maith ers cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol i Senedd y DU ym mis Medi 2018. Gan ystyried hyn, ochr yn ochr â phryderon a godwyd gan y Senedd yn ystod gwaith craffu, deuthum i'r casgliad nad oedd yn briodol cynnwys y pwerau cymorth ariannol newydd y darparwyd ar eu cyfer yn wreiddiol yn y Bil hwn. Yn hytrach, fy mwriad yw gwneud darpariaethau priodol mewn Bil amaethyddiaeth (Cymru). Rydym yn bwriadu i'r Bil Cymru hwn roi darpariaethau i Weinidogion Cymru gynllunio a darparu system bwrpasol o gymorth i amaethyddiaeth, diwydiannau gwledig a chymunedau Cymru.
Yn ystod gwaith craffu, mynegodd pwyllgorau'r Senedd bryderon ynghylch absenoldeb cymal sy'n cyfyngu ar amser yn y Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, cyfarwyddais Lywodraeth y DU i gynnwys cymal machlud ar wyneb y Bil. Mae hyn bellach yn rhan o'r Bil yng nghymal 51, ac mae'n sicrhau bod darpariaethau yn Atodlen 5 yn dod i ben, ynghyd â nifer fach o ddarpariaethau cysylltiedig, ar ddiwedd 2024 yn unol â'r ddarpariaeth honno. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, bwriadaf gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru). Cynigiaf y cynnig i'r Siambr.
Diolch, Gweinidog. Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r ddadl hon yn ein tynnu gam yn nes at gytuno ar drefniadau trosiannol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae wedi bod yn daith hir. Mae craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU wedi bod yn elfen ganolog o waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar Brexit. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf mewn cysylltiad â Bil Amaethyddiaeth y DU yn ôl ym mis Ionawr 2019. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi cael y cwymp cyntaf ym Mil y DU oherwydd addoedi, a chyflwynwyd un arall yn sgil etholiadau'r DU. Rydym wedi adrodd ar dri achlysur gwahanol ar Fil Amaethyddiaeth y DU.
Mae tri mater allweddol wedi bod yn flaenllaw yn ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Yn gyntaf, defnyddio'r weithdrefn gydsynio i ddeddfu ar faterion polisi arwyddocaol mewn meysydd datganoledig. Fel pwyllgor, rydym bob amser wedi cydnabod bod angen deddfwriaeth i barhau i ddarparu cymorth ariannol i'r sector amaethyddol yn syth ar ôl Brexit—y peth olaf y byddai unrhyw un eisiau ei weld yw atal llif yr arian. Ond rydym bob amser wedi dweud mai Bil Cymreig yw'r ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol hirdymor amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod hyn yn amhosibl oherwydd prinder amser.
Rydym wedi gweld yn uniongyrchol gyfyngiadau'r weithdrefn gydsynio. Yn amlach na pheidio, ceir ymgynghori cyfyngedig â rhanddeiliaid yng Nghymru, craffu cyfyngedig ar ddarpariaethau Cymru—yn sicr dim byd tebyg i broses Bil y Senedd. Rydym wedi adrodd ar ddarpariaethau sydd wedi'u mewnosod, dim ond iddynt gael eu tynnu allan mewn camau diwygio dilynol. Mewn rhai achosion, mae Atodlenni cyfan wedi'u dileu. Hyd yn oed heddiw, gofynnir i'r Senedd roi ei chydsyniad tra bo'r Bil yn dal i fod yn y cyfnod diwygio yn y Senedd.
Yn ail, bu tuedd sy'n peri pryder i Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol gynnwys darpariaethau sy'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru gan osod ychydig iawn o ddyletswyddau arnynt. Rydym wedi dadlau'n gyson y bydd yr anghydbwysedd hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar allu'r Senedd i graffu ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i amaethyddiaeth ar adeg pan fo craffu effeithiol yn hanfodol.
Yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi ei chael hi'n anodd datblygu perthynas waith effeithiol i ymdrin â her Brexit. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ddealladwy; mae hyn yn rhywbeth sy'n newydd i bob un ohonom. Ni fu angen y strwythurau a'r fframweithiau sy'n angenrheidiol i gydweithio cyn hyn. Rydym wedi bod yn gyson wrth ddweud y bydd gadael yr UE yn golygu bod angen cydberthnasau rhynglywodraethol newydd ar lefel y DU. Wrth i Lywodraethau ganolbwyntio ar ddatblygu'r cysylltiadau rhynglywodraethol newydd hyn, y cwestiwn i Seneddau yn y pedair gwlad gyfansoddol yn y DU yw beth yw ein safle ni yn y tirlun newydd hwn. A fyddwn yn rhoi sêl bendith ar gynigion cydsyniad fel y gall Senedd y DU ddeddfu ar ein rhan? A gytunwn y gall Senedd y DU roi pwerau i Weinidogion Cymru, gan osgoi'r Senedd hon yn gyfan gwbl? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol.
Ond gan symud ymlaen a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, mae'r Gweinidog a swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol ac yn gadarnhaol â'r pwyllgor drwy gydol y broses hon. Yn ein tri adroddiad, rydym ni wedi gwneud llawer o argymhellion, ac ymatebodd y Gweinidog yn adeiladol. Rydym wedi gweld y Gweinidog yn gweithredu o ganlyniad i'r argymhellion hyn. Mae darpariaethau Cymru yn y Bil yn edrych yn wahanol iawn heddiw nag yr oeddent ar ddechrau'r broses hon. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod yr hyn a oedd bryd hynny'n Atodlen 3, a roddodd bwerau deddfu hirdymor sylweddol i Weinidogion Cymru wedi ei dileu. Yr hyn sy'n weddill yw pwerau trosiannol i raddau helaeth a gaiff eu disodli gan Fil Cymreig yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth cyn diwedd y Senedd hon, gyda'r bwriad o gyflwyno Bil Cymru yn y Senedd nesaf. Y cwestiwn i'r Senedd yw a yw'r darpariaethau'n briodol i hwyluso trosglwyddo llyfn i unrhyw system newydd o gymorth i amaethyddiaeth ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r pwyllgor wedi nodi llawer o faterion manwl yn y Bil a oedd yn anfoddhaol—rhoddwyd sylw i rai ohonynt, mae rhai'n parhau. Ond rwy'n croesawu'n fawr y bydd dyfodol polisi amaethyddiaeth yn cael ei bennu yng Nghymru gan y Senedd, ar ffurf Bil Cymreig, yn amodol ar welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau ar draws y Senedd hon, ac yr ymgynghorir yn helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid Cymru arnynt.
Diolch. Galwaf ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch, Llywydd dros dro. Dechreuodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried Bil Amaethyddiaeth y DU yn union ddwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Llywodraeth y DU wedi cwympo yn 2019, pan ddiddymwyd Senedd y DU cyn etholiad cyffredinol y DU. Roeddem eisoes wedi cynhyrchu dau adroddiad wedi'u geirio'n gryf ar y fersiwn honno o'r Bil hwnnw ym mis Ionawr a mis Mehefin 2019. Ailgyflwynodd Llywodraeth bresennol y DU y Bil Amaethyddiaeth ganol mis Ionawr eleni, ac ers hynny rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—gosodwyd Rhif 3 ddydd Gwener diwethaf, a gosodwyd Rhif 4 brynhawn ddoe, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu ar y naill na'r llall. Fodd bynnag, unwaith eto, rydym ni wedi cynhyrchu dau adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Rhif 1 a Rhif 2 gyda chasgliadau ac argymhellion sylweddol.
Mae Bil Amaethyddiaeth y DU yn ddarn pwysig o gyfraith, ac er ei fod yn codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, mae'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru mewn maes polisi sydd wedi'i ddatganoli i'r Senedd ers dros 20 mlynedd. Yn ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019, nodwyd ein siom bod y Gweinidog fel pe bai'n awgrymu bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau'r Senedd graffu ar faes polisi datganoledig pwysig.
Mae'n bwysig bod yn glir ar y pwynt hwn. Nid yw craffu ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhoi'r un hawliau na chyfleoedd i Aelodau'r Senedd graffu o'u cymharu â Bil Cymreig a osodwyd gerbron y Senedd hon. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar brynhawn dydd Gwener a phrynhawn ddoe sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw yn enghraifft glir o'r cyfyngiadau a roddir ar graffu yn ystod y broses cydsyniad deddfwriaethol.
Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at ein pwyllgor brynhawn ddoe mewn cysylltiad â'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ac ailadroddodd bwysigrwydd y Bil. Felly, mae'n siomedig bod llythyr y Gweinidog hefyd yn cynghori bod Llywodraeth Cymru yn dal i ddadansoddi gwelliannau pellach a wnaed yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi, hyd yn oed gyda'r cynnig hwn yn cael ei ystyried heddiw.
Prin iawn fu'r amser a gafwyd i adolygu'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond mae'n ymddangos bod y Bil bellach yn rhoi mwy o bwerau i Weinidogion Cymru; mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymryd pŵer cydamserol ychwanegol i wneud rheoliadau mewn maes datganoledig. Byddai craffu priodol wedi ein galluogi ni i ymchwilio gyda'r Gweinidog i'r rhesymeg dros y newidiadau munud olaf hyn. O ystyried pwysigrwydd y Bil ar gyfer ffermio yng Nghymru, mae'r sefyllfa hon yn anfoddhaol.
Hoffwn symud ymlaen at fater Bil i Gymru. Rydym wedi bod yn pryderu, fel y mae Mike Hedges a'i bwyllgor yn eu hadroddiad, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei Bil ei hun i'w graffu arno yn y Senedd. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig droeon nad oedd digon o amser ar gyfer Bil o'r fath. Fodd bynnag, mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno Bil Amaethyddol gwreiddiol y DU i Senedd y DU. Rydym yn cydnabod bod edrych yn ôl yn hawdd iawn ac, efallai, yn anfaddeuol, ond dylem ystyried a fyddem wedi bod mewn gwell sefyllfa pe bai Bil Cymreig wedi'i ddilyn o'r cychwyn cyntaf.
Rydym yn cydnabod, yn dilyn pryderon a fynegwyd gennym am y dull deddfwriaethol a fabwysiadwyd, fod cymal machlud wedi'i gynnwys yn y Bil a bod pwerau i ganiatáu i Weinidogion Cymru weithredu neu drosglwyddo i gynlluniau newydd wedi'u dileu. Amlygodd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019 bryder cyffredinol hefyd ynglŷn â'r pwerau dirprwyedig sydd wedi'u cynnwys yn y Bil gwreiddiol. Mae'n siomedig na chafwyd gwybodaeth y gofynnwyd amdani am bwerau dirprwyedig yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni yn yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd ym mis Mehefin, a'n bod wedi gorfod aros tan y trydydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd ddydd Gwener diwethaf, am restr o'r darpariaethau yn y Bil sy'n cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, sylwaf na chafodd y cyfiawnhad dros gymryd pob pŵer y gofynnwyd amdano ei gynnwys.
Gan symud ymlaen at fater pwysig arall, mae Aelodau'n ymwybodol o'r anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch darpariaethau'r WTO—Sefydliad Masnach y Byd—yn y Bil, a pha un a ddylid bod wedi gofyn am gydsyniad. Wrth graffu ar fersiwn gwreiddiol y Bil, dywedodd y Gweinidog wrthym fod cymal 26, fel yr oedd bryd hynny, yn fater llinell goch i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym hefyd y gallai'r mater gael ei ddatrys drwy gytundeb rhynglywodraethol. Nawr, rydym yn cydnabod bod cytundebau o'r fath yn cael eu gwneud rhwng Llywodraethau. Fodd bynnag, mae ymrwymo iddynt fel ffordd o ddatrys materion o fewn Bil y DU sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac yna peidio â sicrhau bod y cytundeb hwnnw ar gael i'r cyhoedd mewn modd amserol, yn lleihau gallu'r Senedd a'i phwyllgorau i graffu'n llawn ar oblygiadau'r Bil Prydeinig hwnnw ar gyfer cymunedau Cymru.
Roedd ein hadroddiadau ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil gwreiddiol, a'n hadroddiad cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mai ar y Bil presennol, yn manylu ar ein pryderon ynghylch defnyddio'r cytundeb dwyochrog sy'n ymwneud â'r hyn sydd bellach yn gymalau 40 i 42 yn y Bil presennol. Yn ein hadroddiad ym mis Gorffennaf ar yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nodwyd bod Llywodraeth y DU bellach o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn. Gwnaeth ein hadroddiad ym mis Gorffennaf dri argymhelliad cyfatebol. Gofynnwyd i'r Gweinidog ddarparu gwybodaeth fanwl am sefyllfa ddiwygiedig Llywodraeth y DU; fe wnaethom ni ofyn hefyd i'r Gweinidog roi manylion y cytundeb a wnaed gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn y cymalau hynny. Ysgrifennodd y Gweinidog atom ar 11 Medi. Fodd bynnag, nid yw'r ymateb yn darparu'r wybodaeth glir a manwl y gofynnwyd amdani.
Wrth ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf ar gyfer fersiwn wreiddiol y Bil, awgrymodd y Gweinidog fod Bil Amaethyddiaeth y DU yn cefnogi datganoli, barn na wnaethom ac nad ydym yn ei rhannu. Heddiw rydym yn trafod a ddylid caniatáu i Senedd y DU ddeddfu ar ran Cymru mewn maes polisi hollbwysig ai peidio. Mae ein pwyllgorau hefyd wedi craffu ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Biliau pysgodfeydd, yr amgylchedd a masnach y DU. Ym mhob un o'n hadroddiadau ar y Biliau pwysig hyn, rydym wedi tynnu sylw at yr un pryderon neu bryderon tebyg. Er ein bod yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhai o'n pryderon ym Mil Amaethyddiaeth y DU, mae rhoi caniatâd i Senedd arall ddeddfu ar y materion pwysig hyn yn benderfyniad anodd ac yn sicr ni ddylid ei wneud ar chwarae bach. Diolch, Llywydd dros dro.
Galwaf nawr ar Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd dros dro. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y Bil Amaethyddiaeth hwn. Mae'n cynnwys mesurau i alluogi parhad y cymorth amaethyddol presennol ac i sicrhau bod y sector yn gweithio'n effeithiol. Mae llawer o bethau cadarnhaol, megis yr ardoll cig coch, ac Atodlen 5 yn benodol, sydd nid yn unig yn galluogi Gweinidogion Cymru i barhau â thaliadau uniongyrchol yng Nghymru o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar ôl 2020 ond sydd hefyd yn helpu i symleiddio a gwella'r cynllun.
Hefyd, mae Atodlen 5, Rhan 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud datganiad o ymyriad petai yna amodau marchnad eithriadol a fyddai'n debygol o gael effaith andwyol ar incwm cynhyrchwyr amaethyddol. Mewn cysylltiad â hyn, tynnodd Undeb Amaethwyr Cymru sylw at y ffaith y gallai fod gan Lywodraethau penodol yn y DU farn wahanol ar yr hyn sy'n gyfystyr ag amod eithriadol. Felly, croesawaf y ffaith, pan fydd mesurau o'r fath yn cael eu hystyried, y bydd pedair gweinyddiaeth y DU yn ymgynghori â'i gilydd drwy grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU.
Mae cydweithredu â'r sector amaethyddol a gweithredu ar eu pryderon yn hanfodol. Felly, hoffwn ddweud ar goedd pa mor llawer yr wyf fod y Gweinidog yn derbyn argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol. Mae'r ddyletswydd i adrodd i'r Senedd ar ddiogelwch bwyd y DU yn hanfodol bwysig hefyd. Mae mawr angen hyn oherwydd erbyn hyn rydym dim ond 61 y cant yn hunangynhaliol o ran bwydydd tymherus.
Fel y Gweinidog, croesawaf welliant Llywodraeth y DU i gynyddu amlder yr adroddiadau o bob pump i bob tair blynedd. Codwyd pryderon o ran cymalau 32, adnabod ac olrhain anifeiliaid, a rheoleiddio cynhyrchion organig. Yn wir, nododd ein pwyllgor nad oeddent mewn sefyllfa i argymell i'r Senedd ei bod yn cydsynio â darpariaethau'r Bil oherwydd pryderon sydd gan Lywodraeth Cymru o hyd. Yn ôl ymatebion y Gweinidog i Gadeiryddion pwyllgor y CCERA a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, cytunwyd ar welliannau'r Llywodraeth yn ystod y Cyfnod Pwyllgor ac mae'r Gweinidog o'r farn bod hwn yn ateb boddhaol i'r pryderon sy'n weddill. Rwy'n cytuno ac yn croesawu gwelliannau perthnasol y Llywodraeth a nodir ym memorandwm Rhif 3.
Gwnaeth y Gweinidog bwynt pwysig hefyd yn ei llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn cysylltiad â chymalau 40 i 42. Mae'r cytundeb dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau a roddwyd o dan y cymalau hynny. Fe'm sicrhawyd gan sylw'r Gweinidog fod y cytundeb hefyd yn nodi dull cadarn a thryloyw ar gyfer cynnwys Gweinidogion Cymru wrth weithredu'r rheoliadau.
Mewn cysylltiad ag Atodlen 3 a thenantiaethau amaethyddol, nododd Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) Cymru fod lle i Fil Cymreig ar wahân. Cytunaf hefyd ag NFU Cymru na ddylai Llywodraeth Cymru symud ymlaen i weithredu polisïau newydd i ddisodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) nes bod yr effeithiau ar y sector tenantiaid yn cael eu deall yn iawn. Yn wir, mae'r sector yn cyfrif am 30 y cant o'n tir ffermio yng Nghymru. Dylem i gyd gael ein calonogi gan ymateb y Gweinidog i argymhelliad 20 y bydd diwygio polisi tenantiaeth amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Papur Gwyn amaethyddiaeth (Cymru).
Nodaf y sylwadau yn adroddiad pwyllgor y CCERA ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol bod rhanddeiliaid wedi galw ar y Bil i gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng gan fewnforion mewn cytundebau masnach. Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro na fydd yn cyfaddawdu ar safonau uchel y DU. Ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol yn wir wedi sefydlu'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth i gynghori Gweinidogion ar ddull y DU o ymdrin â chytundebau masnach ar ôl Brexit. Croesawaf y comisiwn hwn, ond mae gan Lywodraeth Cymru ei hun ran i'w chwarae o ran hyrwyddo ein cynnyrch o Gymru hefyd. Er enghraifft, mae arnom angen targed clir a diamwys o ran pryd y bydd oes silff cig oen Cymru yn cael ei wella, fel y gall gystadlu'n well â Seland Newydd ar y llwyfan byd-eang; datblygu a gweithredu siarter bwyd lleol i sicrhau caffael y lefel fwyaf posibl o gynnyrch o Gymru; a chefnogaeth i addewid gwlân Cymreig y Ceidwadwyr Cymreig.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid rhoi caniatâd, oherwydd mae gwneud hynny'n gam cadarnhaol tuag at sefydlogrwydd ac yn ddyfodol cryfach i'n ffermio yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffwn egluro ein bod yn gwneud hynny ar y sail, os bydd gwelliannau'r tu allan i'r Llywodraeth yn aros yn y Bil, y caiff dadl bellach ei chyflwyno, fel yr addawyd yn y llythyr a gyhoeddwyd gennych, Gweinidog, atom ddoe. Diolch yn fawr.
Mae'n dda gennyf glywed bod Janet Finch-Saunders yn dweud bod y Ceidwadwyr yn cefnogi diogelwch bwyd, ond yn anffodus, hyd yma, maent wedi gwrthod rhoi cymalau penodol ar ddiogelwch bwyd yn y Bil Amaethyddiaeth. Ac mae hynny'n destun pryder.
Nawr, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cyflwyno gwelliant cadarn iawn yn y Bil yr wythnos diwethaf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl gynhyrchion bwyd a fewnforir o dan gytundebau masnach yn y dyfodol fodloni neu ragori ar safonau diogelwch domestig bwyd, labelu a lles anifeiliaid. Yr allwedd, serch hynny, yw'r hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r cymal hwnnw pan fydd yn mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin, a dyna pam yr wyf yn rhannu amheuon Mick Antoniw a Mike Hedges ynghylch pasio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn pan nad ydym yn gwybod eto beth fydd ffurf derfynol y Bil.
Cafwyd ail welliant hefyd a oedd yn bwysig iawn, sef sicrhau'r gwaharddiad ar ddefnyddio plaladdwyr ger cartrefi ac adeiladau cyhoeddus megis ysgolion ac ysbytai. Mae hynny'n ymddangos i mi'n fesur anhygoel o bwysig i iechyd y cyhoedd. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth pa fesurau diogelu sydd ar gael inni wrthsefyll cyw iâr clorin a'i holl waith ofnadwy os bydd Llywodraeth y DU yn tynnu'r ddau gymal pwysig iawn hyn a fewnosodwyd gan Dŷ'r Arglwyddi pan ddaw'n ôl i Dŷ'r Cyffredin yn ddiweddarach yr wythnos hon. A yw'n rhoi cyfle arall inni ddweud ein bod nawr yn atal ein cytundeb? A wnewch chi ysgrifennu at y Gweinidog amaeth yn Llywodraeth y DU a dweud ein bod yn rhoi ein caniatâd ar yr amod y bydd y cymalau hyn yn aros i mewn, neu beth yw'r sefyllfa? Oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud, mae gwir angen ein Bil amaethyddiaeth ein hunain arnom ni os nad ydym eisiau i'n ffermwyr a'n cyhoedd fod ar eu colled o ran y mater pwysig iawn o safonau bwyd.
Dwi yn meddwl bod y Bil yma'n amlygu popeth sy'n anghywir ynglŷn â'r broses o gydsynio deddfwriaethol a'r setliad cyfansoddiadol, fel y mae ar hyn o bryd. Rŷn ni'n ystyried yr LCM, fel rŷn ni wedi clywed, ar Fil sydd dal yn cael ei newid. Dŷn ni wedi cael pedwar LCM gan y Llywodraeth, gan gynnwys y trydydd dydd Gwener diwethaf a'r diweddaraf bore ddoe. Mae yna welliannau wedi cael eu derbyn, fel rŷn ni wedi clywed, y bydd Aelodau yn eu cefnogi, ac y bydd yn sicr o gael eu tynnu allan pan fydd y Bil yn mynd nôl i San Steffan. Ac felly mi fydd yr Aelodau hynny, yn amlwg, fel rŷn ni wedi clywed, am newid eu meddyliau.
Felly, er bod cymaint yn anghywir yn y Bil yma, mae rhywun yn teimlo bod ein dwylo ni wedi'u clymu, oherwydd, wrth gwrs, heb gydsynio i'r Bil yma ddigwydd, fydd gan Weinidogion Cymru ddim y pwerau i gefnogi'n uniongyrchol ffermwyr Cymru drwy gymorthdaliadau. Felly, pa fath o ddewis yw hwnna? Naill ai mae gennym ni'r dewis o gydsynio i ddeddfwriaeth sydd, yn fy marn i, â rhannau ohoni yn gwneud niwed i'r sector ond o leiaf yn amddiffyn ein hawl ni i roi cymorthdaliadau, neu, wrth gwrs, i wrthod cydsyniad yn y gobaith y gallwn ni amddiffyn y sector rhag rhai o'r bygythiadau dwi'n eu gweld yn y Bil, ond, drwy wneud hynny, golli'r hawl i gefnogi'r sector drwy gymorthdaliadau. Felly, dyw e'n fawr o ddewis, mewn gwirionedd. A'r eironi pennaf yn hyn, wrth gwrs, yw—a does neb wedi ei ddweud e eto, dwi ddim yn meddwl—y gwir yw, beth bynnag wnawn ni benderfynu, mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn gweithredu, yn y cyd-destun yma, fel Llywodraeth Lloegr, wrth gwrs, yn gwneud beth fynnon nhw beth bynnag. Dyna'r gwir amdani.
Ond o ran rhai o'r manylion penodol, dwi wrth gwrs yn croesawu'r cymal machlud rŷn ni wedi clywed amdano fe; mae'n rhywbeth dŷn ni wedi galw amdano fe er mwyn sicrhau y bydd yna Fil amaeth i Gymru a bod y Gweinidogion ddim jest yn parhau i ddefnyddio'r pwerau ychwanegol maen nhw wedi eu cael am byth, o bosib. Dwi'n falch hefyd fod trefniadau'n cael eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau rhannu tecach ar y levy cig coch, a dwi'n falch hefyd fod y dryswch o'r posibilrwydd y byddai AHDB yn ymwneud â materion y mae Hybu Cig Cymru ac EIDCymru eisoes yn gyfrifol amdanyn nhw yn cael ei dacluso, a bod hynny'n ddibynnol, wrth gwrs, ar yr angen am ganiatâd Gweinidogion Cymru.
Ond yn ei hanfod, dyna un o'r gwendidau mawr dwi'n gweld fan hyn, sef, wrth gwrs, methiant y Bil yma i roi yn eu lle drefniadau rhynglywodraethol clir a chadarn, nid dim ond o ran polisi a sicrhau bod yna fframwaith cyhyrog yn ei le sy'n hwyluso marchnad fewnol y Deyrnas Unedig ar un llaw, tra, wrth gwrs, yn caniatáu dargyfeirio polisi ar draws y Seneddau datganoledig, ond hefyd y trefniadau ynglŷn â sut mae adnoddau ariannol yn cael eu rhannu yn deg ymhlith Llywodraethau'r Deyrnas Unedig—sut y gallwn ni sicrhau bod pob gweinyddiaeth ddatganoledig yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, yn ogystal, wrth gwrs, â sicrhau trefniadau i ddatrys anghydfod. A dwi'n ofni bod y trefniant sydd wedi cael ei roi yn ei le, neu'r cytundeb anffurfiol yma, efallai, rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gwbl annigonol. Dwi ddim yn gweld Llywodraeth Cymru yn bartner cydradd fel y dylai fod yn y trafodaethau hynny, oherwydd mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ddiwedd y dydd, yn medru gwneud fel y mynnan nhw, beth bynnag y byddwn ni yn ei ddweud.
Mae yna lawer sydd ddim yn y Bil y byddwn i'n hoffi ei weld yn y Bil; mae yna lawer sydd yn y Bil y byddwn i'n awyddus i'w newid, ond, wrth gwrs, dŷn ni ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Ac ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw ein bod ni'n cael y grymoedd er mwyn sicrhau bod Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i barhau i gefnogi yn uniongyrchol y sector amaeth yng Nghymru. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi erioed wedi teimlo mor ddigalon yn pleidleisio o blaid cynnig yn y Senedd yma o'r blaen.
A'r Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y ddadl hon. Credaf imi ddweud yn fy sylwadau agoriadol na fyddem, yn sicr, pe baem ni wedi bod yn ei ddrafftio, wedi'i ddrafftio fel hyn, ond rwyf eisiau ailadrodd y pwynt y byddai'n well gennym fod wedi cyflwyno ein Bil amaethyddiaeth ein hunain, Bil pwrpasol, ar gyfer y sector amaethyddol yma yng Nghymru. Ac rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn drafft cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Hyd yn oed gyda'r holl gyfnodau anodd ar hyn o bryd gyda pandemig COVID-19, gallaf sicrhau'r Aelodau bod y Papur Gwyn drafft ar y trywydd iawn i'w gyhoeddi cyn diwedd eleni.
Mae'r Bil hwn—wyddoch chi, nododd sawl Aelod ei fod wedi cymryd amser hir i ddod. Cawsom y Bil cyntaf ddwy flynedd yn ôl, ym mis Medi 2018, ac yn amlwg cwympodd hwnnw pan alwodd Llywodraeth y DU etholiad cyffredinol y llynedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn tynnu sylw at y ffaith bod cryn ailadrodd yma. Ond rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, ac mae swyddogion wedi gweithio'n agos iawn hefyd.
Hoffwn ddiolch i ddau Gadeirydd y pwyllgor—Mike Hedges a Mick Antoniw—am eu sylwadau. Ac rwy'n credu bod edrych yn ôl yn beth gwych, ond dymunwn i ni allu dod o hyd i'r amser yn y rhaglen ddeddfwriaethol i gyflwyno ein Bil, fel y dywedais. Ond mae'n rhaid i ni edrych ar y Bil hwn, oherwydd bydd y darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru yn ein galluogi i roi sefydlogrwydd a pharhad hanfodol i'r sector amaethyddol wrth i ni drosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gyfnod hynod o annifyr i'r sector amaethyddol, ond bydd hwn yn darparu rhywfaint o'r sefydlogrwydd hwnnw.
Soniodd sawl Aelod am y llinellau coch pan fynychais y pwyllgor, a byddwch yn ymwybodol bod Sefydliad Masnach y Byd yn sicr yn un maes a oedd yn llinell goch glir iawn i mi, oherwydd roeddem wedi egluro'n glir iawn i Lywodraeth y DU nad oeddem yn derbyn bod cymal Sefydliad Masnach y Byd wedi'i gadw'n gyfan gwbl. Ond erbyn hyn mae gennym y cytundeb dwyochrog hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n cael ei lywio gan yr egwyddorion a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol, felly mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio bwrw ymlaen drwy gytundeb cyn cyflwyno unrhyw reoliadau. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwynt hwnnw eto, Cadeirydd, i dawelu meddwl yr Aelodau.
Fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd, rydym yn sicr wedi ystyried yr argymhellion. Cafwyd llawer o sylwadau defnyddiol gan bwyllgorau, ac mae'r cymal machlud yn enghraifft dda, ac mae hynny wedi'i gyflwyno ar fy nghais.
Janet Finch-Saunders, rwyf bob amser wedi bod yn eiriolwr dros gynnyrch o Gymru a sector amaethyddol Cymru ers i mi fod yn y portffolio hwn. Mae'n rhan o gyfansoddiad ein sector amaethyddol gwych. Rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud o ran caffael, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny, a byddaf yn sicr yn bwrw ymlaen â hynny. Ac, unwaith eto, ynghylch tenantiaeth, rydych chi'n llygad eich lle—tenantiaid yw nifer sylweddol o'n ffermwyr yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn inni gael ein hymgynghoriad ar hynny ac, yn amlwg, hefyd, pan fyddwn yn cyflwyno ein Bil, rwyf eisiau gwneud mwy i gefnogi'r ffermwyr tenant sydd gennym.
Roeddwn hefyd eisiau dweud, am y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nid wyf yn anghytuno nad yw'n broses anodd. Mae'n ofynnol i ni osod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd fel arfer ddim hwyrach na phythefnos ar ôl i welliannau gael eu cyflwyno neu eu cytuno, ond, oherwydd cyfnod datblygedig y Bil ac, felly, y diffyg amser sydd ar gael ar gyfer craffu arferol gan y Senedd, fe ysgrifennais at bwyllgorau ac Aelodau'r Senedd i amlinellu'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud. Yn olaf, Cadeirydd, hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau, os yw'r Bil yn edrych yn wahanol iawn, y byddaf, wrth gwrs, yn dod yn ôl i'r Senedd allu craffu'n fanylach arno.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Bydd toriad byr nawr i ganiatáu ar gyfer newid drosodd yn y Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:47.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni yn ailgychwyn gydag eitem 12 ar yr agenda. Yr eitem honno yw'r Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r eitem yma. Y Gweinidog—Julie James.
Cynnig NDM7398 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'r canfasiad etholiadol yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Er bod cofrestru yn broses drwy gydol y flwyddyn, mae'r canfasiad yn rhoi cyfle i swyddogion cofrestru etholiadol sicrhau cywirdeb y gofrestr. Yn draddodiadol, mae'r canfasiad yn dechrau ar 1 Gorffennaf bob blwyddyn, a gall gymryd hyd at bum mis i'w cwblhau. Yn dilyn hyn cyhoeddir y gofrestr etholiadol ddiwygiedig ar 1 Rhagfyr.
Nodir y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr mewn deddfwriaeth. Byddai'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod yma heddiw yn caniatáu i swyddogion cofrestru etholiadol gyhoeddi cofrestr etholiadol 2020 yn ddiweddarach os oes angen, hyd at 1 Chwefror 2021. Mae'r newid hwn ond yn berthnasol i gyhoeddiad cofrestr etholiadol 2020. Nid yw hyn yn golygu mai dim ond ar 1 Chwefror 2021 y ceir cyhoeddi cofrestrau. Gall swyddogion cofrestru etholiadol ddewis cyhoeddi ar 1 Rhagfyr fel arfer, neu unrhyw ddyddiad arall hyd at 1 Chwefror 2021 ac ar y diddiad hwnnw.
Ystyrir yr estyniad i'r dyddiad cyhoeddi yn hanfodol o dan yr amgylchiadau presennol a achoswyd gan y pandemig COVID-19. Dylai fod rhywfaint o hyblygrwydd i swyddogion cofrestru etholiadol gynnal y canfasiad mewn ffordd sy'n ystyried gofynion iechyd y cyhoedd. Gellir darparu hyblygrwydd drwy symud y dyddiad olaf erbyn pryd y dylid cyhoeddi cofrestr etholiadol 2020.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar waith awdurdodau lleol. Mae timau gwasanaethau democrataidd wedi gweld eu staff yn cael eu hadleoli i feysydd o angen, neu staff yn gweithio gartref. Gall y trefniadau hyn ei gwneud yn anodd cyflawni swyddogaethau arferol, gan gynnwys argraffu, derbyn ffurflenni a chanfasio dros y ffôn. Er bod proses y canfasiad blynyddol wedi'i moderneiddio yn ddiweddar, mae elfennau'n parhau i fod ar bapur. Mae'r broses yn dibynnu ar staff mewn timau gwasanaethau etholiadol yn anfon ac yn derbyn gohebiaeth bapur. Ceir elfen wyneb yn wyneb hefyd drwy ganfasio o ddrws i ddrws.
Mae'r trefniadau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cyflwyno rhywfaint o ansicrwydd o ran gallu swyddogion cofrestru etholiadol i ganfasio'n llwyddiannus a chofrestru etholwyr erbyn mis Rhagfyr 2020. Diben y rheoliadau hyn yw cydnabod effaith COVID-19 a rhoi hyblygrwydd i swyddogion cofrestru etholiadol drwy ymestyn dyddiad cyhoeddi terfynol cofrestr etholiadol ddiwygiedig 2020. Diolch, Llywydd.
Does gyda fi ddim siaradwyr i'r ddadl yma. Dwi'n cymryd dyw'r Gweinidog ddim eisiau ymateb i'w hunan. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, 13, yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gyflwyno'r rheoliadau. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7393 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020. Dyma'r tro cyntaf i ni bleidleisio ar newidiadau i gyfraddau treth trafodiadau tir ers iddynt gael eu cyflwyno gyntaf a'u gosod gyntaf gan y Senedd ym mis Ionawr 2018. Rwyf yn ddiolchgar am adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac i'r Pwyllgor Cyllid am roi cyfle i mi roi tystiolaeth iddynt.
Diben y rheoliadau hyn yw gwneud amrywiad dros dro i gyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir sy'n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl penodol gyda dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 27 Gorffennaf 2020 a chyn 1 Ebrill 2021. Ar 1 Ebrill, bydd y cyfraddau treth yn dychwelyd i'r rhai a oedd yn weithredol cyn 27 Gorffennaf eleni. Wrth gwrs, rwyf yn parhau i adolygu'r cyfraddau er mwyn sicrhau bod y trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru yn cyflawni'r drefn dreth yr ydym ni ei heisiau er mwyn bod â Chymru deg a ffyniannus.
Mae'r rheoliadau'n gwneud un newid i'r prif gyfraddau preswyl. Maen nhw'n dileu'r band cyntaf, fel bod treth yn dechrau cael ei dalu ar yr ystyriaeth a roddir am eiddo o fwy na £250,000, i fyny o £180,000. Yn bwysig, mae'r newidiadau hyn, yn wahanol i wledydd eraill y DU, wedi'u cyfyngu i'r rhai sy'n talu'r prif gyfraddau preswyl yn unig. Ni fydd unrhyw ostyngiadau treth i fuddsoddwyr mewn eiddo prynu i osod, gosodiad gwyliau wedi'u dodrefnu nac ail gartrefi. Felly, rydym yn sicrhau bod manteision yr amrywiad dros dro hwn yn cael eu darparu'n fras i'r rhai sy'n prynu cartrefi i fyw ynddynt. Mae'r newidiadau hyn yn golygu, o 27 Gorffennaf tan 31 Mawrth y flwyddyn nesaf, na fydd tua 80 y cant o'r rhai sy'n prynu cartref yng Nghymru yn talu unrhyw dreth, i fyny o 60 y cant. Ac, i'r 20 y cant o brynwyr tai sydd bellach yn talu treth, bydd y swm sy'n daladwy £2,450 yn llai.
Rwyf hefyd wedi gallu darparu £30 miliwn i ariannu cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cam nesaf yr ymateb i ddigartrefedd, yn rhan o Gam 2 o'r cynllun digartrefedd, gyda'r bwriad o gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Dylai'r newidiadau hyn ein helpu i wella drwy roi ysgogiad economaidd i gefnogi'r farchnad dai a'r economi ehangach yng Nghymru gan brynwyr tai sy'n gwario arian yn yr economi, awdurdodau lleol yn buddsoddi i fynd i'r afael â digartrefedd, a chefnogi swyddi a busnesau, gan, drwy hynny, fagu hyder.
Mae'r cyfraddau dros dro yn ymateb cytbwys gan y Llywodraeth hon. Maen nhw'n darparu gostyngiadau treth i helpu i ysgogi'r economi, cadw ein hegwyddorion treth blaengar a darparu cyllid i helpu rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Gofynnaf felly am gefnogaeth y Senedd i gadarnhau'r newidiadau dros dro hyn. Diolch.
Galw yn gyntaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn gennym yn ein cyfarfod ar 3 Awst, ac fe wnaethom ni osod ein hadroddiad ar yr un diwrnod. Nododd ein hadroddiad un pwynt rhinwedd, o dan Reol Sefydlog 21.3, ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Nodwyd paragraff 3.2 o'r memorandwm esboniadol, sy'n tynnu sylw at y defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer y rheoliadau hyn ac yn egluro beth fyddai'n digwydd pe byddai'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn cadw'r rheoliadau mewn grym. Mae'r memorandwm esboniadol yn awgrymu, pe byddai pleidlais o'r fath, y byddai person a oedd wedi talu llai o dreth yn ystod yr amser yr oedd y rheoliadau mewn grym yn cael ei ystyried yn rhywun nad oedd wedi talu digon o dreth. Fodd bynnag, deallwn y byddai'r rheoliadau'n peidio â bod yn weithredol ar ddiwedd y dydd y byddai pleidlais o'r fath yn digwydd ac na fyddai unrhyw beth a wneir o dan y rheoliadau cyn hynny yn cael ei effeithio. Felly, pe byddai person wedi talu llai o dreth yn ystod yr amser yr oedd y rheoliadau mewn grym, yna byddai'r person hwnnw wedi talu'r dreth gywir a oedd yn gymwys bryd hynny. Er na ofynnodd ein hadroddiad am ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn, efallai yr hoffai'r Gweinidog wneud sylwadau ar hynny. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir gael eu newid yng nghanol y flwyddyn, ac o gofio’r goblygiadau i gyllideb a chynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, mi roedd y pwyllgor yn awyddus i glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan y Gweinidog, ac mi wnaethom ni hynny ar 14 Medi. Ac roeddem ni'n ddiolchgar i’r Gweinidog am fod yn bresennol bryd hynny ac fe glywsom ni, o ystyried natur y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ei bod hi'n anochel y byddai’r newidiadau dros dro i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr yn golygu y byddai camau gweithredu’n cael eu cymryd yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn nodi y bydd y newid hwn yn cefnogi’r bobl hynny sydd am brynu eu cartref cyntaf neu sydd am ddringo’r ysgol eiddo.
Ond, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr, ni fydd y newid i drothwy esemptio’r dreth trafodiadau tir yn berthnasol wrth brynu eiddo ychwanegol fel eiddo prynu-i-osod neu ail gartrefi. Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor Cyllid am ymchwilio i hyn ymhellach yn ystod cylch nesaf y gyllideb, neu fel rhan o’n hymchwiliad efallai i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r fframwaith cyllidol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Mae’r rhagolygon tymor canolig ar gyfer y farchnad dai yn ansicr o ran prisiau tai a hefyd o ran nifer y gwerthiannau. Bydd llawer yn dibynnu ar berfformiad yr economi ehangach, a fydd, yn ei dro, yn cael ei benderfynu gan y ffordd mae'r pandemig a'r cyfyngiadau ar weithgareddau yn datblygu. Er hynny, mi roedd y pwyllgor ar y cyfan yn fodlon â’r dystiolaeth a roddodd y Gweinidog, felly does gennym ni ddim unrhyw faterion i’w hadrodd. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn gan ein bod wedi bod yn galw ers peth amser am seibiant o ran talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru i adlewyrchu'r seibiant o ran talu'r dreth stamp a gyflwynwyd yn wreiddiol, yn Lloegr yn bennaf, fel dull o ysgogi'r farchnad dai yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig a'r cyfyngiadau symud.
Gwyr y Gweinidog o'm cwestiynau blaenorol iddi am fy mhryderon ynglŷn â'r trothwyon y penderfynwyd arnyn nhw yng Nghymru—hyd at £250,000 yw'r lefel y mae'r gyfradd ddi-dreth yn berthnasol iddi. Mae hyn gryn dipyn yn llai na'r lefel o £500,000 dros y ffin yn Lloegr. I lawer o rannau o Gymru nid yw efallai mor berthnasol, ond yn sicr ar hyd yr ardaloedd ar y ffin, ac yn enwedig yn y de-ddwyrain, rwyf yn pryderu y gallai hyn achosi gwyrdroadau yn y farchnad. Felly, ynghyd â'm cwestiynau blaenorol i'r Gweinidog cyllid ac i gyd-fynd â'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, a wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw y byddwch yn parhau i adolygu'r broses hon?
Rwy'n falch o glywed bod y Pwyllgor Cyllid hefyd yn dal i fod yn agored i ystyried mater yr ail gartrefi, a materion eiddo eraill hefyd. Yr hyn sy'n allweddol i'r newid hwn yn y dreth trafodiadau tir yw ysgogi'r farchnad eiddo, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny'n parhau i fod yn gystadleuol yng Nghymru fel dros y ffin yn Lloegr.
Mi wnawn ni gefnogi'r rheoliadau a chefnogi'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi efelychu'r newidiadau i'r dreth stamp a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer Lloegr. Rydyn ni'n nodi bod y trothwy ar gyfer talu treth trafodion tir yn codi dim ond ar gyfer eiddo sydd yn brif gartref. Rydyn ni'n gweld y gwerth o wneud hyn o dan yr amgylchiadau presennol fel stimwlws economaidd. Ac, wrth gwrs, rydyn ni yn gweld mai un o oblygiadau cyfyngu'r cynnydd yn y trothwy i brif gartref yn unig ydy peidio â rhoi cymhorthdal i bobl fyddai am ddefnyddio hyn fel cyfle i brynu ail gartref. Rydan ni'n gwybod bod yna gryfhad wedi bod yn y cyfnod diweddar yn y teimlad o fewn cymunedau yng Nghymru, yn cynnwys ardaloedd fel fy etholaeth i, lle mae yna gyfran uchel o ail gartrefi a thai haf, fod rhaid cymryd camau i atal colli rhagor o'r stoc dai i brynwyr ail gartrefi.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi yn y dyddiau diwethaf cyfres o gamau i fynd i'r afael â hyn, yn cynnwys newid rheolau cynllunio, rhoi cap ar niferoedd ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, ei gwneud hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi prif gartref yn ail gartref, ac yn y blaen. Ond mae angen defnyddio cymhellion trethiannol hefyd. Rydyn ni'n awgrymu codi lefel treth cyngor i ail gartrefi, ac yn sicr cau'r loopholes sydd wedi caniatáu rhai i optio allan o dalu treth cyngor yn llwyr. Dwi'n apelio ar y Llywodraeth unwaith eto yn y fan hyn i fynd i'r afael â hynny. Ond dŷn ni hefyd yn galw am ddefnyddio treth trafodion tir mewn ffordd mwy pellgyrhaeddol—treblu y dreth fel cam y gallai'r Llywodraeth ei gymryd yn syth. Dydy'r rheoliadau yma mewn difrif, felly, ddim yn mynd yn ddigon pell, yn fy ngolwg i, yng ngolwg Plaid Cymru. Dwi dal ddim yn gweld yr urgency y buaswn i'n dymuno ei weld gan Lywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi a gwarchod y stoc dai yn ein cymunedau ni. Ond o leiaf mae'r hyn dŷn ni yn pleidleisio arno fo heddiw yn rhywbeth sy'n cydnabod y broblem, ond gadewch i ni wneud llawer mwy, gadewch i ni weithredu go iawn, achos mae'n cymunedau ni'n disgwyl i ni gymryd camau i warchod eu buddiannau nhw.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, a diolch i'r cyd-Aelodau hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r rheoliadau heddiw. Fe wnaf gyfyngu fy sylwadau i'r rheoliadau penodol yr ydym ni'n eu trafod heddiw. Mewn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth y pwyllgor. Ac rwy'n sicr yn derbyn y pwynt rhinwedd a godwyd, ac yn y dyfodol byddaf yn sicrhau bod y memoranda esboniadol ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol yn cynnwys y pwynt hwnnw a wnaed hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich gwaith ar hynny.
O ran y trothwy lle'r ydym yn gosod y cyfraddau, wrth gwrs, gwnaethom hynny i gydnabod y farchnad dai wahanol sydd gennym ni yng Nghymru, lle mae pris cyfartalog tai yn £168,000, o'i gymharu â £254,000 dros y ffin yn Lloegr, ac mae ein prynwr tro cyntaf cyfartalog yma yng Nghymru yn talu £145,000, o'i gymharu â £213,000—er bod Nick Ramsay a minnau, ar sawl achlysur, wedi pwysleisio y gwahaniaethau sydd ledled Cymru, a'r ffaith bod y sefyllfa yn Sir Fynwy yn wahanol oherwydd dyma'r unig le yng Nghymru sydd â phrisiau tai sydd yn gyson ar ochr uchaf y sbectrwm. Felly, fe fyddaf, yn amlwg, yn parhau i adolygu'r mater, er fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelodau at y ffaith mai mesur cyfyngedig yw'r hyn yr ydym yn pleidleisio arno heddiw, dim ond am saith mis, tan y dyddiad y daw i ben y flwyddyn nesaf.
Ac yna i'r Pwyllgor Cyllid, fel y dywedodd y Cadeirydd, dyma'r tro cyntaf i ni fel Aelodau'r Senedd ddefnyddio'r pwerau hyn i bennu newidiadau newydd, er eu bod dros dro, i gyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir. Rydym wedi'u defnyddio er lles gorau pobl Cymru, ac rwy'n hapus iawn i barhau â'r trafodaethau gyda'r Pwyllgor Cyllid, ac i barhau i rannu yr hyn yr ydym yn ei ddysgu gyda'r Pwyllgor Cyllid, ac i ddysgu o waith y Pwyllgor Cyllid ar y maes hwn hefyd. Felly, diolch i'r holl gyd-Aelodau.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei—[Gwrthwynebiad.]
Iawn. Diolch am y gwrthwynebiad, ac felly byddwn yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw eitem 14, a'r rheini yw Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud y cynnig hynny—Kirsty Williams.
Cynnig NDM7394 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Awst 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod yr ymateb deddfwriaethol yr ydym wedi'i wneud i'r pandemig COVID-19, gan ddefnyddio pwerau a roddwyd i ni gan Ddeddf Coronafeirws 2020. Drwy gydol y cyfnod eithriadol hwn, rydym wedi gweithio'n galed i roi i ysgolion ac awdurdodau lleol yr amser a'r cyfle angenrheidiol i fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig o gefnogi anghenion pob dysgwr, ymhob rhan o Gymru wrth ymateb i'r sefyllfa heriol yr ydym ni ynddi. Rwyf yn parhau i fod yn llawn edmygedd a pharch o weld ymateb ein hymarferwyr, arweinwyr a staff cymorth ymroddedig ar draws ein holl ysgolion a'n lleoliadau. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae ein hysgolion a'n lleoliadau o dan, ac yn parhau i fod o dan, yn ystod y cyfnod hwn. Ym mis Mehefin, gwnes i Reoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020, a oedd yn diwygio y rhestrau o ddeddfiadau y gall Gweinidogion Cymru eu datgymhwyso am gyfnod penodedig drwy hysbysiad. Yna, cytunais i gyhoeddi hysbysiad, i ddatgymhwyso'r cwricwlwm sylfaenol a'r trefniadau asesu cysylltiedig, cyn i ysgolion a lleoliadau ailagor i fwy o ddysgwyr yn ystod tymor yr haf. Roedd yr hysbysiad hwn yn gymwys o 24 Mehefin tan 23 Gorffennaf.
Er mwyn parhau i gynorthwyo ysgolion pan wnaethon nhw ddychwelyd ym mis Medi, penderfynais wneud Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020. Ychwanegodd y rheoliadau hyn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997, adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac adrannau 101, 109 a 110 a 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 i'r tabl deddfiadau ym mharagraff 7(6) y gellir eu haddasu mewn ffordd benodol gan Weinidogion Cymru am gyfnod penodedig drwy hysbysiad. Roedd hyn yn caniatáu i ni gyhoeddi hysbysiad a oedd yn addasu gofynion y cwricwlwm ar gyfer Cymru dros dro ac, gan ddefnyddio'r pwerau presennol yn Neddf Coronafeirws 2020, trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariannwyd ar sail 'ymdrechion rhesymol'. Mae'r addasiad dros dro hwn yn galluogi ysgolion i gael rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y maen nhw'n cydymffurfio â'u dyletswyddau, pan fo angen yr hyblygrwydd hwnnw. Nid yw'n dileu'r gofyniad i ysgolion geisio cyflawni eu cwricwlwm a'u dyletswyddau asesu. Yn hytrach, mae'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud ymdrechion rhesymol i gyflawni'r dyletswyddau hynny. Mae hyn yn golygu, os yw ysgol wedi cymryd pob cam rhesymol i gyflawni dyletswydd statudol, ond nad yw'n gallu gwneud hynny o hyd, yna caiff y ddyletswydd honno ei thrin fel pe byddai wedi'i bodloni.
Mae'n bwysig cofio bod y gwelliannau hyn wedi'u gwneud yng nghyd-destun canllawiau dysgu Llywodraeth Cymru, sy'n nodi'r blaenoriaethau dysgu sy'n parhau i fod yn allweddol ym mhob sefyllfa ac ar bob cam o'r pandemig. Mae'r holl gamau hyn wedi'u cwblhau gyda chymorth a chydweithrediad ein rhanddeiliaid ac fe'u cymeradwyaf i'r Senedd.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn gennym yn ein cyfarfod ar 14 Medi. Roedd ein hadroddiad dilynol, a osodwyd ar yr un diwrnod, wedi codi pwyntiau rhinwedd a thechnegol ac roedd yn ymgorffori ymateb Llywodraeth Cymru.
Cododd ein dau bwynt adrodd technegol bryderon ynghylch eglurder y ddeddfwriaeth i'r rhai a fyddai'n ei defnyddio. Nododd ein pwynt cyntaf fod rheoliad 2 yn ychwanegu darpariaethau deddfiadau penodol at y rhestr o ddeddfiadau ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae'r rhestr honno'n rhedeg mewn trefn gronolegol. Fodd bynnag, mae rheoliad 2 yn ychwanegu adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 at y rhestr ar ôl Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Nododd ein hadroddiad fod gan hyn y potensial i achosi dryswch i unrhyw un sy'n chwilio am gyfeiriad statudol penodol ym mharagraff 7(6). Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr anghysondeb ond mae'n nodi bod y cofnod yn parhau i fod yn effeithiol. Er nad ydym yn cwestiynu effeithiolrwydd y rheoliadau, rydym yn dal i dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud deddfwriaeth sy'n glir ac y gall y rhai y mae'n effeithio arnynt gael gafael arni a'i deall yn hawdd.
Yn ail, fe wnaethom ni nodi troednodyn anghywir a oedd yn cyfeirio at fersiwn Gymraeg y rheoliadau. Eglurodd ymateb Llywodraeth Cymru bod hyn oherwydd camgymeriad fformatio, sydd ers hynny wedi'i gywiro gan Argraffydd y Frenhines yn ystod y broses gyhoeddi.
Roedd ein pwynt olaf ynglŷn â'r rheoliadau yn bwynt rhinweddau a nododd nad oedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal. Fe wnaethom gydnabod y rhesymau a roddwyd dros hyn yn y memorandwm esboniadol, yn bennaf bod hyn yng ngoleuni'r sefyllfa ddigynsail a grëwyd gan y pandemig coronafeirws a'r amserlenni heriol ar gyfer gwneud y rheoliadau. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau agoriadol, a diolch i Mick Antoniw hefyd—rwy'n credu bod y pwyntiau hynny wedi'u gwneud yn dda.
Unwaith eto, rwy'n tybio, Gweinidog, eich bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn i sicrhau nad yw staff mewn ysgolion yn torri'r gyfraith, ac, o gofio eich bod eisoes wedi dweud nad yw hyn yn negyddu'r angen i staff ysgol wneud eu gorau glas er mwyn cyflwyno'r cwricwlwm, mae'n debyg mai fy nghwestiwn hanfodol yw: pam ydych chi'n meddwl y bydden nhw yn methu â gwneud hynny?
Rydym ni wedi cytuno o'r blaen, onid ydym ni, yn ôl-weithredol, ar ddatgymhwyso'r cwricwlwm am gyfnod penodol, oherwydd y diffyg gallu i'w gyflwyno ar fyr rybudd, gydag ysgolion yn cau'n llwyr, ar wahân i'r canolfannau, a'r amlygiad sydyn iawn hwnnw i ddysgu cyfunol, nad oedd wedi'i ddatblygu'n ddigonol mewn llawer o achosion ac a arweiniodd yn anochel at brofiad anghyson i ddisgyblion. Y tro hwn, serch hynny, gofynnir i ni am gyfnod o amser, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn egluro hynny, i ganiatáu i staff wneud eu gorau glas i gyflwyno'r cwricwlwm sylfaenol a'r cwricwlwm cenedlaethol yn arbennig yn hytrach na pharhau o dan ddyletswydd i'w ddarparu. Mae hynny'n swnio i mi—. Rydych chi newydd ddweud wrthym ni, rwy'n credu, fod y ddyletswydd yn dal i fodoli; efallai y gallwch chi egluro hynny.
Yn amlwg, rydym ni i gyd yn deall pa mor anodd y mae'r chwe mis diwethaf wedi bod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau agoriadol wrth ddiolch i staff a theuluoedd disgyblion, ond rydym ni wedi cael sicrwydd dro ar ôl tro gennych fod y cynnig ar-lein, Hwb yn bennaf, yn gynnig o ansawdd; eich bod chi ac ysgolion a cholegau ac awdurdodau lleol i gyd wedi cael miloedd o ddarnau o offer TG, yn ogystal â thrwyddedau, allan i'n pobl ifanc sydd eu hangen; a bod ysgolion bellach mewn gwell sefyllfa i ddarparu dysgu cyfunol nag yr oedden nhw chwe mis yn ôl. Felly, wrth gwrs, bydd ysgolion yn gwneud eu gorau glas i gyflawni'r dyletswyddau hynny, sydd ganddyn nhw bob amser, felly beth yn union a welwch sy'n eu hatal rhag cyflawni'r dyletswyddau hynny yn awr? Rwy'n derbyn nad yw'n hawdd; rwy'n credu fy mod wedi dweud hynny. Rwy'n credu mai fy mhryder mwyaf yw hyn: oes, mae gennym ysgolion sy'n mynd i wynebu llawer o gyfyngiadau am hyd at bythefnos, ond beth sy'n atal ysgolion rhag cyflwyno'r cwricwlwm hwnnw drwy ddysgu cyfunol dros gyfnod mor fyr, neu ddal i fyny pan fydd disgyblion yn ôl?
A wnewch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, a fyddwch chi'n gofyn i'r Prif Weinidog adrodd am yr angen am y rheoliadau hyn bob tair wythnos a rhannu'r dystiolaeth y ddefnyddir i wneud yr asesiad hwnnw? Oherwydd mae cynifer o'n penderfyniadau COVID eraill fel Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gadw ein hysgolion ar agor ac, os ydyn nhw ar agor, dylen nhw fod yn cyflwyno'r cwricwlwm, hyd yn oed i'r dosbarthiadau hynny y caiff eu hanfon gartref. Felly, os wnewch chi egluro rhai o'r atebion hynny i mi, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Y Gweindog Addysg, Kirsty Williams, i ymateb i'r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. I ddechrau, a gaf i ddiolch i Mick Antoniw a'i bwyllgor am eu hadborth? Mae hygyrchedd deddfwriaeth yn rhan bwysig o reolaeth y gyfraith, a byddwn ni'n ceisio sicrhau, wrth gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth addysg, y caiff yr egwyddor honno ei chynnal. Ond rwy'n falch bod y Cadeirydd yn cydnabod bod y gyfraith yn dal yn gywir, ond mae'n amlwg y byddwn ni'n gwneud ein gorau i sicrhau bod ei sylwadau'n cael eu hadlewyrchu mewn deddfwriaeth a fydd yn dod ger ei fron yn y dyfodol.
O ran y pwyntiau a wnaethpwyd gan Suzy Davies, a oedd yn niferus, yn sicr fe wnaf esbonio mai'r disgwyl yw, lle bynnag y bo modd, y dylai ysgolion gyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru, ond rydym wedi symud i ymdrechion gorau oherwydd rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol sydd ar ein hymarferwyr ar hyn o bryd. Treuliais fy mhrynhawn yn siarad ag amrywiaeth o benaethiaid sy'n gwneud gwaith aruthrol i gadw eu hysgolion ar agor; ymateb i anghenion eu dysgwyr; ymateb i anghenion rhieni, eu cymunedau; ond gwneud hynny, yn aml, wrth ymdrin â COVID yn eu hysgol eu hunain, gan ymgysylltu â thimau profi, olrhain a diogelu. Maen nhw'n parhau i fod o dan lawer iawn o straen, yn rheoli absenoldeb staff, boed hynny'n gysylltiedig â COVID neu ddim, a dod o hyd i staff cyflenwi ar gyfer yr aelodau staff hynny, pan fydd weithiau'n anodd recriwtio a recriwtio'r athrawon cyflenwi i ysgolion, hyd yn oed dros dro. Er bod ysgolion yn parhau i fod o dan y pwysau hwn, credaf ei bod yn briodol rhoi lle iddynt hwy ac awdurdodau lleol fel y gallant ganolbwyntio ar gyflwyno'r canllawiau, fel y nodir yn ein dogfennau dysgu.
Nawr, mae Suzy Davies yn codi pwynt dilys iawn am allu ysgolion i newid yn ddi-dor mewn ffordd nad oedd llawer yn gallu ei wneud ar anterth y pandemig, rhwng darpariaeth yn yr ystafell ddosbarth a chyflwyno gwersi o bell. A chredaf ein bod yn wir yn gweld newid sylweddol enfawr yng ngallu ysgolion i wneud yr union beth hwnnw, boed hynny'n athrawon yn cyflwyno gwersi o bell o'u cartrefi eu hunain, oherwydd eu bod nhw eu hunain yn hunan-ynysu, neu'n gallu darparu gwersi cydamserol ac anghydamserol i fyfyrwyr nad ydyn nhw yn yr ysgol.
Yn ystod mis Medi, eisoes, rydym wedi gweld dros 25,000 o ystafelloedd dosbarth Google yn cael eu sefydlu. Mae hynny'n fwy o ystafelloedd dosbarth Google yn cael eu sefydlu yn ystod y mis diwethaf na dros yr ychydig flynyddoedd academaidd diwethaf. Mae'n dangos parodrwydd ein hysgolion i symud i'r ddarpariaeth honno os oes angen. Ond, hyd yn oed yn y ddarpariaeth honno, Suzy, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, ei bod yn amhosibl cael mynediad i labordy; mae'n amhosibl darparu addysg gorfforol yn hawdd yn y mathau hynny o leoliadau. Felly, mae angen i ni allu rhoi'r hyder i ysgolion nad ydyn nhw'n poeni am dorri cyfraith o bosibl ac, fel y dywedais, rhoi'r cyfle iddyn nhw fynd i'r afael ag anghenion iechyd a lles eu cymuned, anghenion iechyd a lles eu staff eu hunain, dylwn ddweud, sy'n gweithio dan bwysau aruthrol, yn ogystal â chael, fel y dywedais, yr awgrym y dylen nhw ddefnyddio eu holl ymdrechion gorau i gyflwyno cwricwlwm llawn.
Rwy'n fodlon bod angen y rheoliadau hyn a bod yr hysbysiadau statudol cysylltiedig yn bodloni'r prawf gofynnol o fod yn briodol ac yn gymesur, ac rwy'n credu eu bod hefyd yn cynnig llawer o sicrwydd ynghylch y cwricwlwm a threfniadau asesu y disgwylir i'r ysgolion eu cyflwyno wrth, fel y dywedais, ddarparu'r hyblygrwydd hollbwysig hwnnw i ymateb i ystyriaethau ychwanegol. Mae'n golygu y bydd angen i ysgolion wneud popeth o fewn eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau'n rhesymol, ond mae'n caniatáu'r hyblygrwydd hwnnw, sydd, yn fy nhyb i, yn y cam hwn o'r pandemig, yn parhau i fod yn allweddol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae'r bleidlais ar y cynnnig yn cael ei gohiriro tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiweddariad ar gyfyngiadau coronafeirws lleol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf ledled Cymru. Rwyf i, y Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru newydd ddod o gyfarfod gydag arweinyddion awdurdodau lleol, yr heddlu, y GIG ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd i drafod y cynnydd mewn heintiau coronafeirws mewn rhannau o'r gogledd. Yn anffodus, rydym ni'n gweld patrwm tebyg o drosglwyddo'r coronafeirws yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy ag yr ydym eisoes wedi ei weld mewn rhannau o'r de. Mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn isel yn Ynys Môn a Gwynedd ar hyn o bryd.
Ar ôl trafodaethau helaeth a chymryd i ystyriaeth y timau rheoli digwyddiadau lleol, cytunodd pawb yn y cyfarfod hwnnw fod angen gweithredu ar frys yn awr i reoli lledaeniad y feirws yn y gogledd ac i ddiogelu iechyd pobl. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn cyflwyno cyfyngiadau lleol—yr un mesurau cyfyngu lleol ag sydd ar waith mewn rhannau o'r de—yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy o 6.00 p.m. ddydd Iau 1 Hydref.
Llywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion newydd o'r coronafeirws ledled Cymru yn gyffredinol. Yn genedlaethol, yn yr ardaloedd hynny nad ydyn nhw o dan gyfyngiadau lleol ychwanegol, mae'n rhaid i ni gofio na chaniateir i bobl gyfarfod yn gymdeithasol o dan do â phobl nad ydyn nhw'n byw gyda nhw ac nad ydyn nhw'n rhan o'u haelwyd neu eu swigen estynedig. Os yw pobl wedi ffurfio aelwyd estynedig, cânt gyfarfod dan do mewn grŵp o hyd at chwech o bobl o'r aelwyd estynedig honno ar unrhyw un adeg. Nid yw'r rhai dan 11 oed yn cael eu cynnwys wrth gyfrif y chwech, cyn belled â'u bod nhw'n rhan o'r aelwyd estynedig honno. Wrth gwrs, mae dan do yn cynnwys cartrefi pobl a lleoliadau lletygarwch. Ni chaiff pobl ymgasglu yn yr awyr agored mewn grwpiau o fwy na 30; mae gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ac, wrth gwrs, ar gludiant cyhoeddus, yn amodol ar esemptiadau ac eithriadau penodol; ac ni chaiff safleoedd trwyddedig werthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. Mae hynny'n cynnwys tafarndai a bwytai yn ogystal â siopau all-drwydded, archfarchnadoedd a siopau manwerthu eraill.
Er bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu yn genedlaethol, nid oes gennym gynlluniau i weithredu unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol ar unwaith. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gweithredu os byddwn ni'n teimlo bod angen cyfyngiadau cenedlaethol ychwanegol i helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu a'u bod yn gorbwyso'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi. Bydd unrhyw benderfyniadau yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor meddygol a gwyddonol.
Rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ar draws nifer o ardaloedd awdurdodau lleol ac, o ganlyniad, mae rhan fawr o boblogaeth y de bellach yn byw mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith i ddiogelu eu hiechyd ac atal lledaeniad y coronafeirws. Yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol ar hyn o bryd yw Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Llanelli, Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen. Mae'r cyfyngiadau lleol yr un fath ym mhob ardal ddynodedig. Ni chaniateir i bobl ddod i mewn i'r ardal na'i gadael heb esgus rhesymol ac ni chaniateir i bobl gyfarfod dan do gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw am y tro. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd estynedig, a elwir weithiau yn swigod; yn anffodus bu'n rhaid eu hatal am y tro. Mae'n rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10.00 p.m. yn unol â chyfyngiadau cenedlaethol ac mae'n rhaid i bawb weithio gartref pryd bynnag y bo modd gwneud hynny.
I fod yn glir, mae esgus rhesymol dros adael neu fynd i mewn i ardal yn cynnwys mynd i weithio pan na all pobl weithio gartref neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw ar gael yn lleol. Mae hefyd yn cynnwys ymweld â theulu neu ffrindiau agos ar sail dosturiol os oes angen. Felly, wrth gwrs, gall pobl sydd ag apwyntiadau brys mewn ysbyty, er enghraifft, adael neu fynd i mewn i ardal. O ran y rhai hynny sy'n rhannu cyfrifoldeb rhianta, cânt barhau â'r trefniadau presennol ar gyfer gweld a chysylltu â'u plentyn neu blant, gan gynnwys gadael neu fynd i ardal leol os oes angen. Yn yr un modd, caiff trefniadau gofal plant hanfodol barhau. Mae hynny'n cynnwys pan ddarperir hyn gan, er enghraifft, neiniau a theidiau, ond yn amlwg ceir mwy o beryglon gyda phobl hŷn ac rydym yn argymell y dylid dod o hyd i drefniadau gofal eraill os oes modd.
Dylai pawb, o leiaf, sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n rheolaidd a bod y canllawiau ehangach ar reoli'r feirws yn cael eu dilyn. Mae ymweliadau arferol â chartrefi gofal mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol wedi'u hatal gan yr awdurdodau lleol hynny ar hyn o bryd. Caiff ymweliadau â chartrefi gofal barhau i ddigwydd yn yr ardaloedd hynny mewn amgylchiadau eithriadol, fel diwedd oes, ond dylid trafod hyn gyda'r cartref gofal unigol cyn teithio. Dylai plant, ar yr amod eu bod yn iach, barhau i fynd i'r ysgol. Cadw ysgolion ar agor yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
Nid cyfyngiadau symud rhanbarthol yw'r rhain. Rydym ni wedi cyflwyno cyfres o gyfyngiadau lleol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hyn er mwyn ymateb i gynnydd penodol mewn achosion ym mhob ardal. Mae gan bob un ohonyn nhw gadwyni trosglwyddo gwahanol ac unigryw. Dewiswyd y mesurau lleol i sicrhau'r effeithiau mwyaf posibl ar leihau trosglwyddo'r coronafeirws ac i leihau'r niwed ehangach y gall cyfyngiadau o'r fath ei achosi, fel y gwyddom. Mae'r mesurau wedi'u cynllunio i ategu a gwella ymatebion lleol gan yr awdurdod lleol, byrddau iechyd lleol a'r heddlu, ac mae'r rheini eisoes ar waith.
Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau hyn yn gyson a byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd gydag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, arweinyddion awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf ym mhob un o'r meysydd hyn. Yng Nghaerffili a Chasnewydd, rydym yn gweld gostyngiadau gwirioneddol yn nifer yr achosion ac rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu cymryd camau i lacio'r cyfyngiadau hyn yn yr ardaloedd hyn os bydd nifer yr achosion hynny yn parhau i ostwng. Mae'n bwysig bod pawb yn dilyn y rheolau ar gyfer ble y maen nhw'n byw. Mae angen cymorth pawb arnom i reoli'r coronafeirws. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni leihau nifer yr achosion o'r coronafeirws, y niwed y maen nhw'n ei achosi a diogelu ein hunain a'n hanwyliaid, a gyda'n gilydd, gallwn gadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. A gaf i yn gyntaf gofnodi diolch y Ceidwadwyr i'r holl swyddogion cyhoeddus a phawb sy'n gysylltiedig â cheisio atal y feirws yn yr ardaloedd lle ceir achosion o'r clefyd? Nid oes neb eisiau bod o dan gyfyngiadau, ond mae'n amlwg bod y cyfyngiadau hyn yn gosod rhwymedigaeth benodol ar rai swyddogion cyhoeddus a hefyd y cyhoedd yn gyffredinol i gadw atyn nhw, a hoffwn i gofnodi fy niolch i a diolch y Ceidwadwyr Cymreig i bob un sy'n brwydro i atal y feirws.
Gofynnais i gyfres o gwestiynau i'r Gweinidog ynglŷn â'i ddatganiad, ac rwy'n gwerthfawrogi na chyrhaeddodd honno fel y mae'n ei wneud fel arfer, ond rwyf wedi cael golwg cyflym arni, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog yn y lle cyntaf: sut y penderfynir pryd y mae cyfraddau heintio yn mynd dros drothwy penodol fel bod y Gweinidog yn ymateb iddo ac yn rhoi'r cyfyngiadau ar waith? Oherwydd ddydd Sul, cafodd Bro Morgannwg, er enghraifft, ei rhoi yn y dosbarth o gyfyngiadau ar y nos Lun, ac eto roedd ganddi gyfradd heintio is na'r siroedd y mae ef wedi'u cyhoeddi heno na fyddan nhw'n mynd o dan gyfyngiad tan ddydd Iau. Roedd gan Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy gyfraddau heintio uwch ddydd Sul na Bro Morgannwg, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y mae'r Llywodraeth yn dehongli'r cyfraddau heintio hynny ac yn ymateb yn unol â hynny.
Hoffwn hefyd geisio deall, ar ôl gofyn iddo ryw bythefnos yn ôl, pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran ceisio datblygu ymgyrch wybodaeth leol, er mwyn i'r Llywodraeth, fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fod â dealltwriaeth fesul ward o gyfraddau heintio, a, phan fo hynny'n bosibl, sut y gellir cyflawni y cyfyngiadau symud hyperleol yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws y sir neu'r rhanbarth. Ar hyn o bryd, rwy'n anghytuno â'r Gweinidog pan fo'n dweud nad yw'r rhain yn gyfyngiadau symud rhanbarthol. Yn y de, mae tua 2 filiwn o bobl bellach dan gyfyngiadau symud; byddwn i'n dyfalu—gyda'm dealltwriaeth i o'r gogledd—fod hyn fwy na thebyg yn effeithio ar tua hanner miliwn o bobl yn y gogledd-ddwyrain. Mewn gwirionedd, mae'r gogledd-ddwyrain cyfan bellach dan gyfyngiadau symud o nos Iau ymlaen, yn dilyn y cyhoeddiadau hyn. Felly, rwyf yn credu bod angen i'r Gweinidog geisio datblygu strategaeth lle y defnyddir gwybodaeth leol yn well i geisio cefnogi cyfyngiadau symud hyperleol, yn hytrach na chyfyngiadau symud ar draws y sir, pan fo'r wybodaeth yn cefnogi hynny.
Hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog pa gamau y mae'n eu cymryd mewn ymateb i bryderon y comisiynydd pobl hŷn a godwyd ddoe am ymweliadau â chartrefi gofal. Rwy'n deall y bu rhywfaint o newid yn y cyfyngiadau hynny a'r canllawiau hynny a gyhoeddwyd ddoe, ond rwy'n credu bod y pryderon gan y comisiynydd pobl hŷn wrth edrych i'r dyfodol—yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf—werth eu newid gan y Llywodraeth lle y gellir gwneud hynny, i hwyluso ymweliadau o'r fath â chartrefi gofal, oherwydd lles meddwl y preswylwyr dan sylw.
Hoffwn hefyd ddeall gan y Gweinidog yn arbennig pa gamau y mae ei Lywodraeth yn eu cymryd ynghylch myfyrwyr yn dychwelyd i lawer o'r siroedd sydd dan gyfyngiadau symud. Mae'n rhaid i les ac iechyd meddwl y myfyrwyr, yn ogystal â'r rhai hynny sy'n gysylltiedig â phrifysgolion, fod yn flaenoriaeth hollbwysig, a hoffwn ddeall pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng y Llywodraeth a'r sefydliadau, i wybod bod cynllun cynhwysfawr o gefnogaeth a chymorth ar waith o ran iechyd meddwl a lles.
Hoffwn ddeall hefyd gan y Gweinidog sut y mae'n bwrw ymlaen â'r adolygiad nesaf—hoffwn i weld gweithredu nawr, ond rwy'n deall y broses adolygu y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio iddi—o ran ceisio hwyluso mwy o fynediad i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Oherwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, ni fydd ganddyn nhw fawr ddim cyswllt ag unigolion eraill, ac unwaith eto, mae gan hynny oblygiadau difrifol i iechyd meddwl a lles. Rwyf yn clywed yr hyn a mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud y prynhawn yma am ddymuno gwneud cynnydd yn y maes hwn; rwy'n deall bod cynnydd wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sef yr Alban, a byddwn yn annog y Gweinidog, os yw'n teimlo ei fod yn gallu, o dan y dystiolaeth bresennol sydd ganddo, i geisio gwneud cynnydd yn y maes hwn yn gyflymach na dim ond yr adolygiad 21 diwrnod a gynhelir ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig y bore yma ynglŷn â chapasiti ysbytai Nightingale yn gostwng o 19 ledled Cymru i ddeg. Yn amlwg, roedd y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn ôl yn y gwanwyn yn ymwneud ag atal y feirws fel na fyddai baich enfawr ar y GIG, yn y pen draw, a chyflwynwyd y capasiti hwn i geisio lleddfu baich o'r fath. Gyda'r cynnydd sydyn mewn cyfraddau heintio, gyda'r rhagfynegiadau yr wyf yn tybio bod y Gweinidog wedi eu gweld, a all ef roi ffydd i ni ei bod yn ddoeth lleihau'r capasiti gwelyau sydd ar gael drwy weithrediad yr ysbytai Nightingale a bod ganddo ffydd os—a gobeithio na fydd hyn yn digwydd, ond os—yw'n wir y bydd ymchwydd yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty, y byddai'r nifer presennol sydd ganddo ar gael iddo, ac sydd gan y GIG ar gael iddo, o ran gwelyau, yn gallu ymdopi ag ymchwydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru? Diolch, Llywydd.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau yna; fe geisiaf ymdrin â phob un ohonyn nhw mor gyflym ag y gallaf. O ran sut y mae'r broses o wneud penderfyniadau yn gweithio a'r enghraifft o Fro Morgannwg ac eraill, wel, rydym ni, wrth gwrs, yn edrych ar y ffigurau a'r ystadegau, felly byddwn yn edrych ar ffigurau ar nifer yr achosion positif fesul 100,000. Mae'n rhaid i ni ystyried y ffaith ein bod yn deall bod y ffigurau hynny ychydig ar ei hôl hi, oherwydd mae gennym ni her o hyd o ran bod rhai o ganlyniadau labordai Lighthouse yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach nag yr oedden nhw rai wythnosau yn ôl. Felly, rydym ni bob amser yn gwybod bod y ffigurau ar y diwrnod ychydig y tu ôl i'r sefyllfa. Rydym ni hefyd yn edrych ar gyfraddau positif hefyd, a'r profi sy'n digwydd. Nid yw'n arbennig o anodd gweld y symudiad yn nifer yr achosion positif, ond hefyd cyfraddau'r achosion positif. Dyna nifer yr achosion newydd fesul 100 o brofion sy'n cael eu cynnal, ac felly gallwn ni ddeall beth sy'n digwydd i'r cyfeiriad teithio ym mhob ardal.
Rydym ni hefyd yn ceisio gweithredu mewn ffordd nad yw'n aros nes bod niwed sylweddol wedi'i achosi. Mae hynny'n golygu ein bod wedi cymryd camau lle gallwn weld awdurdodau yn ein categori ambr, os mynnwch chi, cyn iddyn nhw gyrraedd coch a 50 ac uwch. Mae hynny hefyd yn ystyried nid yn unig y ffigurau, nid yn unig y patrwm a'r cyfeiriad teithio, ond hefyd yr amgylchiadau lleol, fel ein bod yn deall lledaeniad a natur cyfraddau heintio, pa mor wasgaredig y mae'r rheini, a oes gennym ni glystyrau nad ydyn nhw wedi eu hesbonio o ran ble y gwnaethon nhw ddechrau. Ac yn y patrwm hwnnw o heintiau—mae hyn i gyd wedi'i nodi yn y cynllun rheoli coronafeirws yr wyf i'n siŵr bod yr Aelod wedi cael cyfle i'w ddarllen ar ôl ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Ac mae hynny hefyd yn nodi ein dull o weithredu o ran pa un a allwn ni ymgymryd â chyfyngiadau lleol, nid rhai sirol. Ym mhob un dewis yr ydym wedi ei wneud, rydym ni wedi ymarfer ac ystyried y posibilrwydd o beidio â chymryd camau ar draws ardal bwrdeistref sirol gyfan, ac ar wahân i Lanelli yn Sir Gaerfyrddin, nid yw'r achos wedi'i wneud bod y patrwm lledaenu yn golygu y gallem ni ac y dylem ni gymryd mesur lleol yn y modd hwnnw—ond yn Sir Gaerfyrddin, roedd yn glir iawn nad oedd y patrwm lledaenu yn Llanelli yn digwydd yng ngweddill y sir. Mae gan Sir Gaerfyrddin wledig gyfradd lledaenu lawer is, a phe byddai yn Sir Gaerfyrddin wledig yn unig, ni fyddem ni wedi cymryd camau ychwanegol, ar yr adeg hon beth bynnag. Felly, dyna'r safbwynt yr ydym wedi ei gymryd; mae'n ystyriaeth reolaidd i ni.
Ac o ran ei bwynt nad mesurau lleol yw'r rhain mewn gwirionedd, mae'r Aelod yn gwbl anghywir. Cyfyngiadau lleol yw'r rhain o fewn ardal awdurdod lleol. Dyna lle mae'r mesurau'n berthnasol; dyna lle mae'r pwynt am yr esgus rhesymol a'r mesurau teithio yn berthnasol. Os yw'n wir y bydd awdurdodau lleol yn symud ar wahanol gyfraddau a gwahanol gyflymder o ran eu hadferiad a'u gallu i atal y feirws, yna byddwn ni'n gwneud dewisiadau am yr awdurdod lleol hwnnw. Ni fyddwn, er enghraifft, yn oedi os caiff cynnydd ei wneud yng Nghaerffili a Chasnewydd, ac yn dweud na ellir gwneud unrhyw gynnydd o ran adfer rhywfaint o'r rhyddid y bu'n rhaid i ni ei atal i amddiffyn pobl rhag niwed gan y coronafeirws nes bod rhannau eraill o dde Cymru wedi gwneud cynnydd hefyd. Felly, nid yw hwnnw'n fesur rhesymol o gwbl.
O ran barn reolaidd y comisiynydd pobl hŷn am bwysigrwydd ymweliadau â chartrefi gofal, rydym ni'n ystyried y sylwadau a wnaeth y comisiynydd pobl hŷn o'r blaen, ac ymagwedd y Llywodraeth hon tuag at amddiffyn pobl rhag niwed, a'r pryder na chymerwyd camau'n ddigon cynnar i amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal rhag y niwed posibl y gallai trosglwyddo cymunedol ei achosi yn yr ardal honno. Cynhyrchwyd canllawiau Llywodraeth Cymru gennym yr wythnos diwethaf a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Nawr, mae'r rheini yn nodi rhywfaint o gymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond dewisiadau awdurdodau lleol yw'r rhain yn y pen draw ynghylch pa un a ddylid rhoi terfyn ar ymweliadau o fewn ardal eu hawdurdod lleol ar gyfer eu darpariaeth uniongyrchol, a'u perthynas uniongyrchol â darparwyr y maen nhw'n comisiynu gofal ganddynt. Felly, mater i awdurdodau lleol yw hynny, gan ystyried y canllawiau yr ydym ni wedi'u darparu, y sgyrsiau rheolaidd sy'n digwydd rhwng y Llywodraeth a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn wir, y nodyn a ddarparodd y comisiynydd pobl hŷn, a hynny yn ddefnyddiol yn fy marn i, ddechrau'r wythnos hon.
O ran myfyrwyr yn dychwelyd, mae'r Gweinidog addysg wedi nodi llawer o'r wybodaeth, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach. Bydd e'n ymwybodol bod yna fesurau ar waith gan bob prifysgol, nid yn unig ynghylch addysgu a dysgu, ond sut i ymgymryd â mesurau rheolaeth. Ac, yn fwy na hynny, os gwelwn ni gynnydd mewn cyfraddau heintio, rydym ni'n bwriadu cael sgwrs sy'n ystyried y gymuned yr ydym yn ymdrin â hi—boed hynny'n fyfyrwyr neu'n bobl yn y boblogaeth nad ydyn nhw'n fyfyrwyr. Nid ydym ni'n bwriadu cymryd camau ychwanegol ynghylch y myfyrwyr na fyddem ni'n eu cymhwyso i rannau eraill o'r gymuned. Nawr, efallai fod yr amgylchiadau y mae myfyrwyr yn byw ynddyn nhw ac yn gweithredu ynddyn nhw ychydig yn wahanol, ond mae'n ymwneud â'r patrwm a welwn ni, yn hytrach na cheisio cymryd camau ychwanegol neu anghyffredin oherwydd y gall myfyrwyr fod yn gweld cynnydd neu ostyngiad mewn cyfraddau heintio. Mae'n werth nodi hefyd, fel y dywedais o'r blaen, fod arweinyddiaeth pob sefydliad prifysgol ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ar lefel Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru ac yn lleol, yn fy marn i wedi bod yn gyfrifol iawn o ran eu negeseuon a'u harweinyddiaeth ar y mater hwn.
O ran byw ar eich pen eich hun, rydych chi wedi clywed yr hyn a oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud: mae'n fater o ystyriaeth weithredol o fewn y Llywodraeth, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud, ac mae hynny'n unol â'n proses adolygu 21 diwrnod. Byddwn ni'n adrodd ddydd Gwener. Pe gallem ni wneud penderfyniad cyn hynny, yna mae'n agored, wrth gwrs, i ni wneud hynny, ond nid yw hwn yn fater lle'r ydym ni'n ceisio treulio wythnosau ac wythnosau yn ystyried ac osgoi gwneud penderfyniad. Nododd y Prif Weinidog hynny yn eithaf manwl yn gynharach heddiw.
O ran ysbytai maes yng Nghymru, rydym ni'n dysgu o'r don gyntaf. Byddwch chi'n cofio, gan eich bod yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y briff a roddwyd gennym i'r pwyllgor hwnnw ar y modelau sefyllfa waethaf rhesymol a'r wybodaeth yr ydym ni yn ei chael o ddata a gwybodaeth wirioneddol yma yng Nghymru. Dyna'r sail yr ydym ni'n cynllunio arni a'r sail yr ydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio arni. Dylai'r dewis o ysbytai maes yr wyf i wedi'i wneud roi i ni y capasiti y mae'r Aelod yn ei nodi ar gyfer y lefel honno o sicrwydd. Ac os gwelwn ni ymchwydd, yna dylem ni allu sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn briodol o fewn ein system ni yma yng Nghymru, naill ai mewn darpariaeth uniongyrchol estynedig mewn ysbyty gwasanaeth iechyd gwladol, neu yn wir yn un o ysbytai maes newydd y GIG sydd gennym ni yng Nghymru. Ond, fel bob amser bydd angen i ni barhau i adolygu'r sefyllfa gan fod lledaeniad y coronafeirws yn effeithio ar yr holl ddewisiadau a wnawn. Ond,rwy'n gobeithio y gallwn ni ymyrryd yn ddigon cynnar i beidio â bod angen y capasiti llawn hwnnw a'r niwed a fyddai'n golygu y bydd llawer iawn o ddinasyddion yng Nghymru yn dioddef.
Diolch am y datganiad gan y Gweinidog. I bobl sydd wedi bod yn cadw llygad ar ledaeniad y feirws a'r ystadegau sy'n cael eu rhannu efo ni, fydd, yn anffodus, y datganiad heddiw ddim wedi dod fel syndod mawr, o bosib. Ond, yn sicr, dwi'n teimlo dros y rhai sydd yn byw yn yr ardaloedd newydd, yng Nghonwy, Dinbych, sir y Fflint a Wrecsam, sydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr o siroedd sydd o dan gyfyngiadau ychwanegol. Maen nhw'n gyfyngiadau llym iawn sydd yn cymryd rhyddid oddi ar bobl, ac wrth gwrs rydyn ni'n gobeithio mai am gyfnod byr y bydd hynny. Y neges i fy etholaeth i yn Ynys Môn, ac i Wynedd a rhannau eraill o Gymru sydd ddim o dan gyfyngiadau, wrth gwrs, yw bod y peryg yno. Os ydy'r ffigurau yn codi, os dydy'r camau ddim yn cael eu cymryd gan Lywodraeth a'r boblogaeth i drio gwarchod eu hunain, gallan nhw fod nesaf, fel petai.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i'n cefnogi gweithredu mor lleol â phosib. Tybed a ydy o'n gallu dweud wrthym ni, yng nghyd-destun y gogledd yn arbennig, sut ydyn ni'n gallu bod â hyder bod, dywedwn ni, sir Ddinbych wledig ddim angen bod mewn cyfyngiadau. Hynny ydy, pam gweithredu ar lefel sirol fel hyn? Dwi'n apelio am rannu'r data yna, fel maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, wrth gwrs, fyddai yn dangos yr achosion o ardal i ardal, ardaloedd bychain iawn.
Hefyd, wrth gwrs, wrth i ragor o ardaloedd gael eu cynnwys, rydyn ni'n cynnwys mwy a mwy o'r boblogaeth, ac mae fy mhryder i yn sicr yn cynyddu ynglŷn â'r effaith ar les pobl, ar iechyd meddwl pobl. Dwi'n meddwl yn arbennig am bobl sydd yn byw ar eu pennau eu hunain. Ydy'r Gweinidog yn siapio yn ei feddwl o ryw strategaeth allai estyn allan at y rheini sydd o dan fwyaf o fygythiad o ddioddef y pwysau yna o ran iechyd meddwl ac yn y blaen? Mi fyddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Llywodraeth yn meddwl ar hyd y llinellau yna.
Rwyf eisiau troi at brofion hefyd. Rydym ni'n gofyn i bobl ymddwyn mewn ffordd benodol, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi trefn arni hi ei hunan hefyd. Eich penderfyniad chi, wrth gwrs, oedd dibynnu ar labordai lighthouse, yn hytrach na rheoli ein capasiti ein hunain. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw y byddai capasiti mewnol Cymru yn cyrraedd 8,000 y dydd ymhen ychydig wythnosau; 5,000 yr wythnos nesaf, 8,000 wythnos neu ddwy ar ôl hynny. Ond, rwyf am eich atgoffa chi o'r addewid y byddem ni wedi cyrraedd 9,000 y dydd erbyn diwedd mis Ebrill yng Nghymru. Pe byddem ni wedi cadw at y llwybr hwnnw, rwy'n credu y byddem ni fwy na thebyg mewn sefyllfa well na bod wedi aros gyda lighthouse. Mae angen datrys hyn, wrth gwrs, oherwydd mae angen profion cyflym arnom ni, canlyniadau cyflym, er mwyn cychwyn yr olrhain cyflym a fydd yn helpu i ynysu achosion. Felly, eich ymateb ar hynny hefyd.
Yn olaf, os caf i, droi at drosglwyddo mewn ysbytai. Nawr, mae pryder aruthrol, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn arbennig, am ddiffyg paratoi, mae'n ymddangos, ar gyfer yr ail don, er gwaethaf rhybuddion—yn enwedig gan dros 100 o glinigwyr, dywedir wrthyf i, a lofnododd lythyr yn ystod yr haf yn galw am sefydlu safle gwyrdd. Mae nifer o wardiau â phobl sydd wedi profi'n bositif ar gyfer COVID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg erbyn hyn, mae'r uned gofal dwys wedi bod yn gweithredu ar ei chapasiti llawn ac, er eu bod yn gwybod am beryglon trosglwyddo mewn ysbyty, dywedir wrthyf mai dim ond yr wythnos diwethaf y dechreuon nhw brofi cleifion wrth iddyn nhw gael eu derbyn i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, heblaw am gleifion dewisol. Nid yw profi staff yn rheolaidd yn digwydd o hyd, rwy'n deall.
Felly, a all y Gweinidog ddweud pam y mae gan yr ysbyty hwn gyfraddau trosglwyddo mor uchel, yn union fel yn ystod y don ddiwethaf, pam mae cyn lleied, i bob golwg, wedi newid, beth sydd wedi'i wneud i'w ddiogelu ef ac ysbytai eraill a'r rhai sy'n gweithio ynddyn nhw a'r rhai y gofelir amdanynt? Rwy'n deall y gallai newidiadau fod ar fin cael eu cyflwyno i'r ysbyty hwnnw a sut y mae'n derbyn cleifion ac yn y blaen, ond, os felly, pam dim ond nawr, o gofio'r rhybuddion a gafwyd ers cymaint o amser?
O ran eich pwynt am weithredu lleol yn hytrach na gweithredu ar draws y sir, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny wrth ymateb i Andrew R.T. Davies. Mae'n rhan reolaidd o ystyriaeth, a byddwch chi'n gweld ein bod wedi gwneud y dewis hwnnw o fewn Sir Gaerfyrddin. Rydym ni'n ystyried yn rheolaidd y cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y timau rheoli digwyddiadau lleol ar batrwm yr haint sy'n bodoli, ac yna mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau ar sail tystiolaeth a gwybodaeth leol am hynny. Os ydym ni mewn sefyllfa i fod â phatrwm gwahanol o fesurau'n dod i rym, yna byddem ni'n gwneud hynny. Mae hyn i gyd yn ymwneud â sut yr ydym ni'n diogelu Cymru a sut yr ydym yn cadw cymunedau unigol a grwpiau o gymunedau yn ddiogel ledled y wlad hefyd.
O ran eich pwynt am unigrwydd a bod yn ynysig ac iechyd a lles meddwl pobl, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei ystyried yn rheolaidd drwy gydol hyn. Mae rhan o'r rheswm pam mae'r swigod aelwydydd neu aelwydydd estynedig wedi'u cyflwyno, i wneud yn siŵr bod patrwm rhagweladwy o bobl sy'n cwrdd â'i gilydd dan do, oherwydd gan eich teulu a'ch ffrindiau y daw'r risg fwyaf o heintio. Byddwch chi wedi clywed gan Rob Orford, y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor iechyd mai nhw yw'r bobl yr ydych chi'n fwyaf tebygol o roi'r coronafeirws iddyn nhw neu o ddal y coronafeirws ganddyn nhw. Mae'n fesur anodd iawn, iawn i chwalu'r trefniadau swigod aelwydydd hynny ac mae'n un o'r rhannau anoddaf o wneud penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu, felly nid ydym ni'n gwneud hynny'n ddifeddwl.
Rydym ni'n edrych, fel y gwyddoch chi, ar fesurau unigol i weld a allwn ni wneud mwy, oherwydd, yn sicr, fel yr wyf i wedi'i gydnabod yn y datganiad, rwy'n cydnabod bod y mesurau yr ydym yn eu cymryd i ddiogelu bywydau pobl yn dod gydag anfanteision, ac, fel y dywedais, nid yw hynny'n rhywbeth a wnawn yn ddifeddwl o gwbl.
O ran eich sylwebaeth reolaidd am brofion, byddwch chi'n ymwybodol nad oedd unrhyw gyllid canlyniadol ar gael o ran y rhaglen labordai lighthouse. Roedd yn rhaglen i ni naill ai gymryd rhan ynddi neu beidio, ac roedd llawer o'r sylwebaeth ar y dechrau yn gofyn pam nad oeddem ni'n cymryd rhan yn y rhaglen, a byddwch chi'n cofio i mi ddweud o'r blaen mai'r rheswm am hynny oedd nad oeddem ni'n gallu cael y data yn llifo i mewn atom ni. Rydym ni erbyn hyn. Rydym ni wedi gallu gwneud hynny mewn ffordd gyson yng Nghymru drwy gydol y cyfnod hwnnw. Dyna pam nad ydym ni wedi gweld rhai o'r heriau a fu yn Lloegr yn ddiweddar am ychydig ddyddiau ar ap COVID y GIG, oherwydd ein bod ni wedi llwyddo i drefnu ein system a chael yr holl wybodaeth honno yn llifo i mewn i system Cymru ac yn mynd i'n swyddogion olrhain cysylltiadau ac yn fwy cyffredinol.
Mae'n wir hefyd, wrth gwrs, nad ni yw'r unig Lywodraeth sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen brofi labordai lighthouse. Cymerodd Llywodraeth yr SNP yn yr Alban ran yn llawer cynharach nag y gwnaethom ni, fel y gwnaeth y Llywodraeth amlbleidiol yng Ngogledd Iwerddon. Ochr yn ochr â hynny, rydym wedi meithrin ein capasiti ein hunain ac yn awr mae gennym 3,000 i 4,000 o brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu cynnal bob dydd. Rydym yn disgwyl gweld hynny'n cael ei ehangu yn y dyddiau nesaf i fod yn rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Felly, rydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa lle mae hynny'n helpu i gynnal proses brofi Cymru ar hyn o bryd, wrth i ni aros i labordai lighthouse adfer eu prosesau, ac rydym wedi cynnwys y cynnydd disgwyliedig yn y galw.
O ran eich pwynt am gyflymder olrhain ac nid ei lwyddiant yn unig, mae hon yn stori newyddion da wirioneddol i Gymru. Dylem ni fod yn falch iawn o'r hyn y mae ein gweision cyhoeddus wedi'i wneud wrth i iechyd a llywodraeth leol weithio gyda'i gilydd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf pan wnaethom ni gyhoeddi ffigurau, olrheiniwyd 94 y cant o achosion newydd yn llwyddiannus, ac o ran eu cysylltiadau, olrheiniwyd 86 y cant o'u cysylltiadau yn llwyddiannus ac olrheiniwyd 73 y cant o'r cysylltiadau hynny o fewn 24 awr. Felly, rydym ni'n cyrraedd niferoedd uchel o bobl ac rydym ni'n eu cyrraedd yn gyflym iawn hefyd. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau, serch hynny, yw bod mwy o wybodaeth yn cael ei darparu i ni yn gyflymach i ganiatáu i'n swyddogion olrhain cysylltiadau wneud eu gwaith, oherwydd mae hynny'n rhan hanfodol o gadw'r holl fathau eraill o weithgarwch ar agor i fusnes ledled Cymru, boed hynny mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel neu isel o achosion. Ond rwy'n credu'n gyffredinol y gall pobl o bob ochr a gogwydd gwleidyddol gymryd cyfran o'r clod am yr hyn y mae system profi, olrhain a diogelu GIG Cymru yn ei gyflawni ledled y wlad.
O ran Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol wedi anfon nodyn atgoffa at bob rhan o'r gwasanaeth ynghylch profi cleifion cyn iddyn nhw ddod i mewn. Mae staff yn cael eu profi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a bydd unrhyw benderfyniadau a wneir am unrhyw fesurau rheoli pellach yn digwydd ar ôl i'r tîm rheoli lleol a'r asiantaeth iechyd cyhoeddus leol eu hystyried, ynghyd â'r awdurdod lleol fel partner allweddol. Oherwydd bydd angen i ni feddwl am bwy y mae angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty hwnnw a sut y mae'r parthau coch a gwyrdd sydd ar waith yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mewn ysbytai eraill yn gweithio—i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n effeithiol. Rydym yn deall bod rhywfaint o hyn yn ymwneud â throsglwyddo o fewn yr ysbyty a daw rhywfaint ohono hefyd o'r realiti bod cronfa gymunedol o coronafeirws sydd wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, a dyna pam mae Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r drefn cyfyngiadau lleol sydd gennym ar waith ar draws nifer o awdurdodau yng Nghymru. Ond pan fydd penderfyniad i'w wneud, mater i'r bwrdd iechyd lleol fydd cymryd rhai o'r camau hyn, ond os bydd angen i mi wneud penderfyniad, yna byddaf yn sicrhau fy mod yn cyfleu hynny i'r Aelodau a'r cyhoedd cyn gynted â phosibl.
Gweinidog Iechyd, mae pandemig COVID-19 bellach wedi mynd â bywydau dros filiwn o bobl ledled y byd, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Johns Hopkins. Yn y Deyrnas Unedig, cyfanswm y marwolaethau ar hyn o bryd o ran coronafeirws yw 57,860, ac yng Nghymru, cyfanswm ein marwolaethau ni yw 1,612. Mae'r niferoedd hyn yn cynrychioli bodau dynol—mam rhywun, tad rhywun, brawd rhywun a chwaer rhywun. Fel Aelod y Senedd dros Islwyn, gyda'i glwstwr mawr o gymunedau yn y Cymoedd sy'n rhan o awdurdod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n croesawu y camau prydlon iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ym mis Medi, pan welsom ni nifer y profion cadarnhaol yn cynyddu'n gyflym. Mae'r cyfyngiadau coronafeirws lleol yn anodd i bob un ohonom. Mae angen i bobl gymdeithasu a byw ein bywydau gwerthfawr mewn rhyddid. Fodd bynnag, rydym yn wynebu argyfwng iechyd y cyhoedd nas gwelwyd mewn canrif. Ceidwaid ein brodyr a'n chwiorydd ydym ni, a hoffwn ddiolch i bawb ledled Islwyn sy'n dilyn y cyfyngiadau yn ddiwyd ac sy'n aberthu'n ddyddiol i wneud hynny.
Gweinidog iechyd, a fyddech chi'n cytuno â mi fod trigolion Islwyn, sy'n gwneud yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, gan ufuddhau i'r cyfyngiadau a gwneud yr aberthau hynny, yn gyntaf, yn gwneud gwahaniaeth? Cyn y cyfyngiadau hyn, bwrdeistref sirol Caerffili oedd â'r gyfradd uchaf o gynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru, ac erbyn hyn mae ganddi un o'r cyfraddau gostwng cyflymaf, ledled y Deyrnas Unedig, i lawr i 50.3 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl, ar ôl mwy na phythefnos o dan gyfyngiadau, ac mae hyn yn bwysig. Ac i'r rhai hynny sy'n gwadu ac yn credu nad yw hynny'n wir, fe'ch cyfeiriaf chi at y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd a budd yn eich iechyd, eich lles, y rhai hynny yr ydych chi'n mynd atyn nhw ynglŷn â materion tyngedfennol. A gwn fod y Gweinidog iechyd—
Rhianon Passmore, datganiad yw hwn, ac mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Diolch. Felly, i grynhoi, Gweinidog iechyd, pa neges, nawr, a fyddech chi yn ei rhoi i bobl Islwyn ynghylch sut y gallan nhw ddylanwadu ar y chwe mis nesaf, a pha neges o obaith a fyddech chi yn ei rhoi iddyn nhw bod angen y rheoliadau hyn a'u bod yn gweithio? Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Aelod dros Islwyn, ac rwy'n hapus i gadarnhau bod trigolion Islwyn wir yn gwneud gwahaniaeth. Bwrdeistref sirol Caerffili, fel y dywedwch, oedd â'r gyfradd uchaf yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl; mae'n gostwng erbyn hyn—mae'n hofran o amgylch 50 fesul 100,000. Rydym eisiau gweld y gostyngiad hwnnw, a'i fod yn ostyngiad cyson, o dan 50 fesul 100,000, i ganiatáu i ni ystyried dychwelyd y rhyddid yr oedd yn rhaid i ni gyfyngu arno. Ac, fel y dywedais, nid yw hynny'n rhywbeth ysgafn na hawdd ei wneud; mae'n ymyrraeth sylweddol i'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwy'n awyddus i weld hynny'n dychwelyd, ond mae'r mesurau yr ydym wedi'u cymryd i chwalu aelwydydd estynedig, wrth gyflwyno'r cyfyngiadau ar deithio—. Gwyddom fod llai o bobl yn teithio oddi mewn a'r tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili, rydym yn gwybod hynny, oherwydd bod y cyfraddau heintio yn gostwng, gallwn fod yn ffyddiog bod y mesurau y mae pobl yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, a'r gobaith yw, a'r disgwyl yw, os gall hynny weithio yng Nghaerffili, yna gall weithio mewn unrhyw ran arall o'r wlad hefyd. Felly, diolch i'r tîm ym mwrdeistref sirol Caerffili, nid yn unig ar lefel y bwrdd iechyd ac ar lefel y cyngor, dan arweiniad Philippa Marsden, ond, mewn gwirionedd, y trigolion eu hunain hefyd. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys etholaethau eraill Caerffili a rhan Rhymni o Ferthyr Tudful a Rhymni.
Ac rwy'n credu mai'r gobaith ar gyfer y dyfodol yw nad yw'n anochel bod yn rhaid i gyfyngiadau fod yn esgynnydd un ffordd i fwy a mwy o fesurau ac ymyrraeth ychwanegol i ryddid pobl. Credaf ei bod yn bosibl gweld gostyngiad ac mae'n mater i bob un ohonom wneud ein rhan—deall y rheolau a dilyn y rheolau, a pheidio â chwilio am ffordd o dorri'r rheolau, ond cydnabod eu bod yno i bob un ohonom er lles pob un ohonom. Ac os byddwn yn eu dilyn, dyna'r peth mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud, ynghyd â hylendid dwylo da a chadw pellter cymdeithasol, i leihau maint y niwed, yr ydych chi yn ei nodi'n gywir, sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru a gweddill y DU.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n amlwg y bydd llawer o bobl yn y gogledd yn eithaf pryderus am y cyfyngiadau newydd y byddan nhw yn eu hwynebu nawr. Cyfeiriwyd eisoes at yr angen am ddata mwy lleol, ac, wrth gwrs, cyhoeddir yr wybodaeth hon fesul ward yn Lloegr, ond, yn anffodus, nid felly yma o ran nifer yr achosion mewn ardaloedd cyfagos. Ac, wrth gwrs, ein gwaith ni yw sicrhau ein bod yn craffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ac un o'r pethau yr ydych chi wedi'i ddweud yn gyson sydd yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi gadw ato, yw bod yn rhaid i'r mesurau a gymerwch fod yn gymesur. Wel, sut yr ydym ni'n gwybod pa un a yw gosod cyfyngiadau symud ar draws y sir yn gymesur os na allwn ni weld y data yr ydych chi'n seilio eich penderfyniadau arnynt? Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnoch i gyhoeddi'r wybodaeth honno, oherwydd nid wyf yn deall ac nac yn gallu gweld sut, os yw cyfraddau heintio yn uchel mewn un rhan o sir, y dylai'r sir gyfan a'r holl bobl hynny sy'n byw ynddi wynebu cyfyngiadau ychwanegol o ganlyniad i hynny. Yng Nghonwy a Sir Ddinbych, ceir arfordiroedd trefol gyda chefnwlad wledig iawn, a gwyddom ei bod yn ymddangos bod y dystiolaeth yn awgrymu, lle ceir poblogaeth wledig wasgarog iawn, fod y cyfraddau heintio yn is.
Y peth arall sy'n wahanol iawn yn y gogledd o'i gymharu â'r rhannau hynny o'r de sy'n wynebu'r cyfyngiadau ychwanegol hyn ar hyn o bryd yw'r ffaith bod y gogledd yn dibynnu'n helaeth ar yr economi ymwelwyr. Mae oddeutu un o bob saith swydd yn fy etholaeth i fy hun yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth, ac nid busnesau yn y diwydiant twristiaeth yn unig sy'n cyflogi, ond, wrth gwrs, y busnesau eraill hynny nad ydyn nhw yn ymwneud â thwristiaeth yn uniongyrchol sydd hefyd yn dibynnu ar yr ymwelwyr sy'n dod i wario arian. Dim ond gwerth dau fis o ymwelwyr y mae'r busnesau twristiaeth wedi ei gael eleni, ac, yn gyffredinol, braster misoedd yr haf sy'n cadw llawer o'r busnesau hyn yn fyw yng nghanol trefi fel Bae Colwyn, Tywyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Felly, a gaf i ofyn pa gymorth ychwanegol y gallech chi sicrhau ei fod ar gael i'r busnesau hynny, o gofio eu bod wedi cael eu taro yn arbennig o galed? Clywais y datganiad gan Weinidog yr economi yn gynharach, ond nid wyf yn credu bod hynny'n mynd yn ddigon pell ar gyfer y busnesau hynny sy'n cael eu taro'n galed iawn gan y pandemig.
Un cwestiwn olaf, os caf i—
Un terfynol, yn fyr iawn.
Sylwaf fod y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o'r siroedd hyn hefyd yn effeithio ar bobl â ffydd mewn ffordd arwyddocaol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ystyrir ei fod yn esgus rhesymol i deithio y tu hwnt i ffin eich awdurdod lleol i fynychu man addoli o'ch dewis. Nawr, mae llawer o bobl â ffydd sy'n teithio ar draws ffiniau eu sir er mwyn mynd i wasanaethau mewn eglwysi a synagogau enwadau neu addoldai eu ffydd benodol. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n dderbyniol yn fy marn i, a byddwn yn eich annog, Gweinidog, i edrych ar hyn eto. Rydych wedi bod yn ystyriol iawn o gymunedau ffydd yn gyffredinol drwy gydol y cyfyngiadau symud hyn, ond mae lles ysbrydol yr un mor bwysig ag iechyd meddwl a lles corfforol, ac felly fe'ch anogaf i edrych eto ar y cyfyngiad penodol hwnnw i weld a oes unrhyw ffordd y gellir ymdrin â hynny.
O ran eich pwynt olaf, fe edrychaf eto ar y mater, oherwydd rydym ni'n cael sgyrsiau rheolaidd gydag arweinwyr ffydd, ond mae hyn yn ymwneud â chadw pobl yn fyw yn y lle cyntaf a sut yr ydym wedyn yn ceisio eu cadw'n iach, ac mae'r rhain yn ymyrraeth sylweddol ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwyf wedi cydnabod hynny nid yn unig heddiw, ond ar sawl achlysur arall. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw defnyddio dull o weithredu sy'n cydbwyso'r niwed y gwyddom y mae'r coronafeirws yn ei achosi a gweld sut y gallwn ni atal y feirws er mwyn caniatáu ffordd wahanol a mwy arferol, yn y cyfnod anarferol hwn yn sicr, i bobl fynd ati i fyw eu bywydau. Ond y man cychwyn yw sut yr ydym yn cadw pobl yn fyw yn y lle cyntaf.
Edrychwch, rwy'n deall y pwynt yr ydych wedi ei wneud, nid heddiw'n unig, ar ddata, ac rwyf wedi ymrwymo i edrych arno, a byddaf yn gwneud hynny ac yn dod yn ôl, nid yn unig at Darren Millar, ond mae'n rhywbeth y credaf y bydd yn cael ei godi yn y pwyllgor iechyd yfory am y data sydd gennym ni a sut y caiff y data eu darparu, eu cyhoeddi, ac y sicrheir eu bod ar gael, nid yn unig i Aelodau, ond i'r cyhoedd yn ehangach hefyd.
Ond mae'n bwysig nodi nad ymarfer sy'n cael ei lywio gan ddata yn unig yw hwn. Mae'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gawn ni gan ein timau profi, olrhain a diogelu lleol bob amser yn chwarae rhan, ac mae gan yr wybodaeth a'r dystiolaeth a gawn gan bartneriaid lleol sy'n gweithio gyda'i gilydd yn y timau rheoli digwyddiadau a nodwyd gennym ac a ddisgrifiwyd gennym yn glir yng nghynllun rheoli coronafeirws, ran i'w chwarae yn y dewisiadau a wnawn. Ac maen nhw bob amser yn ddewisiadau anodd hefyd. Nid yw cydbwysedd hyn yn syml o ran yr hyn yr ydym yn dewis ei wneud a sut yr ydym yn dewis ceisio amddiffyn pobl nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at eich pwynt am gymunedau arfordirol a'r lledaeniad gwledig, mae hwnnw'n bwynt yr ydym yn ei gydnabod mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd, a chredaf fod rhannau o'r de wedi cydnabod bod ganddyn nhw boblogaethau ar hyd eu harfordir a chefnwlad wledig hefyd. Mae'n werth nodi, wrth gwrs, bod llawer o'r cymunedau arfordirol yn y gogledd yn arbennig o agored i niwed, oherwydd mae nifer sylweddol o bobl wedi ymddeol ac yn byw yng nghymunedau arfordirol y gogledd. Felly, mewn gwirionedd, mae'r niwed y gallai cynnydd sylweddol mewn coronafeirws ei achosi fod yn fwy o lawer nag mewn poblogaethau eraill.
O ran eich pwynt am dwristiaeth, rwy'n cydnabod bod twristiaeth yn rhan sylweddol o'r economi yn y gogledd. Cefais gyfle mewn cyfnod gwell i ymweld â phenrhyn Llŷn gyda'm teulu am wythnos eleni, a chafodd y mesurau a oedd ar waith yn y rhan honno o Gymru i ofalu am drigolion a thwristiaid fel ei gilydd argraff fawr arnaf. Mae'r atyniadau yn glir iawn, ac mewn cyfnod gwell byddem i gyd yn annog pobl i'w profi. Ond nid yw'n wir, serch hynny, nad oes yr un math o effaith yn y de. Nid wyf yn credu bod y ffordd yr ydych chi'n nodweddu nad yw twristiaeth yn rhan sylweddol o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried yn y de yn gywir. Nid dim ond Gŵyr neu Ynys y Barri sydd ag effaith dwristiaeth, ac rydym wedi gorfod meddwl am hynny ym mhob dewis yr ydym wedi'i wneud. Fel y dywedais, nid ydyn nhw'n syml nac yn rhwydd. Mae cyhoeddiad Ken Skates wedi cadarnhau swm sylweddol o gymorth sydd ar gael i fusnesau yn yr ardaloedd hyn o gyfyngiadau lleol a chronfa wedi'i thargedu'n benodol at fusnesau yn y sector twristiaeth. Byddem yn dymuno gwneud mwy a mynd ymhellach, ond realiti ein sefyllfa cyllideb yw na allwn ni wario arian nad yw gennym ni.
Rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill ledled y DU i chwilio am becyn cymorth mwy sylweddol, oherwydd mae dadleuon tebyg, wrth gwrs, yn cael eu cyflwyno ymysg y 10 miliwn a mwy o'r bobl hynny yn Lloegr sydd hefyd yn gorfod byw gyda rhywfaint o gyfyngiadau lleol—yr effaith ar fusnesau yno. Gobeithiaf yn sicr y bydd y Canghellor yn edrych eto ar y mesurau y gall eu cymryd i gefnogi rhannau o'r economi yr effeithir arnynt yn uniongyrchol oherwydd y camau y bydd yn rhaid i bob Llywodraeth eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rydych chi yn llygad eich lle wrth dynnu sylw at yr anawsterau i bobl sydd wedi ymddeol, yn arbennig, a byddwch yn ymwybodol bod gan Aberconwy, wrth gwrs, o ran demograffeg, un o'r poblogaethau hŷn. Nawr, gallaf ddweud wrthych chi fod llawer o'm hetholwyr yn y math hwnnw o ddosbarth wedi dioddef o ddifrif yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, ac roedd gennym y nosweithiau goleuach, roedd gennym y tywydd gwell, felly, wrth i ni fynd tuag at y dyddiau llawer byrrach a'r tywydd gwael, rwyf wir yn poeni. Felly, pa rwydwaith cymorth y byddwch yn ystyried ei roi ar waith ar gyfer y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain? Oherwydd, yng nghanol y cyfyngiadau symud diwethaf, tynnodd Age UK sylw at ymchwil yn dangos bod dros ddwy ran o bump o bobl 70 oed a hŷn wedi dweud bod coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd meddwl. Felly, rwy'n ofni'r categori hwn o bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn aml heb unrhyw aelodau o'r teulu o gwmpas. Pa gymorth allan nhw ei gael? A allan nhw gael ffrindiau hyd yn oed—ffrind penodol—i ymweld? Dyma'r cwestiynau y bydd fy etholwyr i yn eu gofyn pan fyddan nhw'n cysylltu â mi.
Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sicrhau bod y rheolau cyfyngiadau symud lleol yn unol ag erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a hwnnw yw'r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol? Pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi yn eu rhoi ar waith ar gyfer ein hardaloedd lleol? Gadewch i ni fod yn onest, yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, safodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei draed ac fe wnaeth ddarparu rhwyd gref o gefnogaeth i'n cymunedau lleol, ond daeth hynny ar gost i'n hardaloedd lleol, ac maen nhw'n dal yn sigledig yn sgil y pwysau y mae'r rheini—wyddoch chi, y diffyg cyllid gan eich Llywodraeth chi.
Roedd Darren Millar yn llygad ei le wrth sôn am fudd economaidd twristiaeth i'n sir—tua £900 miliwn. Eisoes y prynhawn yma, gan ofni'r hyn y gallech chi fod yn ei gyhoeddi heddiw, mae ein busnesau lletygarwch yn pryderu'n fawr. Nawr, y tro diwethaf, fe daeth Llywodraeth y DU i'r adwy yn dda iawn ar gyfer ein busnesau. A wnewch chi addo nawr—gwn y bu cyhoeddiad heddiw, ond a wnewch chi addo nawr y bydd eich Llywodraeth yn camu i'r adwy ac yn cefnogi'r busnesau hynny? A fyddan nhw'n gallu croesawu ymwelwyr o'r tu mewn ac o'r tu allan i'r sir?
Ac yn olaf—[Torri ar draws.]—ie, diolch, Llywydd—yn olaf, ar hyn o bryd, dim ond os ydyn nhw'n dangos symptomau y caiff preswylwyr cartrefi gofal yng Nghonwy eu profi. A wnewch chi yn awr—o gofio'r ffiasgo a welodd pob un ohonom ni yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf, a fyddwch chi nawr yn argymell cynnal profion wythnosol ar gyfer yr holl gartrefi gofal, cartrefi nyrsio, preswylwyr a staff? Diolch. Diolch, Llywydd.
Diolch am y cwestiynau y byddaf yn ymdrin â hwy yn eu tro. O ran aelwydydd un oedolyn, mae'n rhaid i ni ystyried y cydbwysedd rhwng niwed a budd, ac rwyf wedi ateb dau gwestiwn yn y gyfres hon o gwestiynau sydd eisoes ar y pwynt hwnnw'n union, ac atebodd y Prif Weinidog gwestiynau hefyd, felly bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r ffaith ei fod yn ystyriaeth gan y Llywodraeth gyfan, mae'n cael ei hystyried yn weithredol, ac rydym eisiau gallu gwneud penderfyniad o fewn yr wythnos hon, a byddwn yn glir gyda phobl beth bynnag fydd y dewis hwnnw. Mae'n werth nodi, wrth gwrs, nad oedolion hŷn yn unig sydd weithiau'n byw fel aelwydydd un oedolyn; mae oedolion ifanc a chanol oed unigol yn byw ar eu pennau eu hunain; mae rhieni unigol yn byw gyda phlant dibynnol y gwyddom eu bod hefyd wedi cael rhai heriau o ran yr unigrwydd a'r ynysu y maen nhw wedi ei deimlo. Felly, rydym ni'n cydnabod bod hon yn her ehangach.
Mae'n ddiddorol clywed Janet Finch-Saunders yn siarad am hawliau dynol a'r confensiwn Ewropeaidd. Cydnabyddir yr effaith ar hawliau dynol yn y memorandwm esboniadol ar gyfer yr holl reoliadau a gyhoeddir gennym, ac mae'n gydnabyddiaeth bod hyn yn ymyrraeth i amrywiaeth o hawliau. Ac mae'n ymwneud â'r cydbwysedd mewn hawliau ac mae'n ymwneud â chydnabod bod dull cytbwys i'w ddefnyddio. Yr un her a wynebwn bob tro y byddwn yn cyflwyno rheoliadau yn y pandemig hwn, yn union fel y mae'n rhaid i bob Llywodraeth arall, boed hynny yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ei wneud hefyd.
O ran eich galwadau ehangach am wariant, nid wyf yn derbyn y nodweddu y mae'r Aelod yn ceisio ei briodoli i gymorth ariannol i lywodraeth leol. Nid hynny yn unig ydyw, mae gan lywodraeth leol yng Nghymru, a dweud y gwir, fargen ariannu well yn gyffredinol na chydweithwyr yn Lloegr; rydym ni wedi darparu cyllid sylweddol ymlaen llaw ar gyfer llywodraeth leol a groesawyd ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol. Ac rwyf o'r farn nad yw ei sylwadau yn adlewyrchu'r bobl sy'n gwneud y gwaith mewn llywodraeth leol a'r berthynas adeiladol iawn sydd gennym ni â nhw. Mae'r cyfarfodydd yr ydym wedi eu cael ar gyfer pob cyfres o gyfyngiadau lleol wedi cynnwys arweinyddion gwleidyddol, ni waeth pa blaid y maen nhw yn ei chynrychioli. Mae'n ymgais fwriadol i weithio mewn ffordd aeddfed ac adeiladol iawn, ac nid yw cywair sylwadau'r Aelod yn adlewyrchu'r busnes gwirioneddol yr ydym yn ei wneud gyda phobl mewn swyddi â chyfrifoldeb mewn llywodraeth leol ledled Cymru.
O ran arian i fusnesau, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny o'r blaen, ac mae Ken Skates eisoes wedi nodi ble yr ydym ni o ran cymorth, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gallu gwneud mwy, ond realiti ein cyllideb yw, er bod gennym ni bwerau i wneud ystod o bethau, mae angen mwy o arian arnom i allu gwneud hynny. Nid ni yw'r unig Lywodraeth yn y sefyllfa honno a chredaf y bydd galw gan fusnesau ym mhob rhan o'r DU am fwy o gymorth, oherwydd mae'r pandemig ymhell o fod drosodd.
O ran profi yn rheolaidd, rydym ni yn darparu gwasanaeth profi rheolaidd i staff yn y sector gofal preswyl. Bydd yr Aelod yn sylwi ein bod ni wedi adrodd ar hynny yn rheolaidd. Tybiaf efallai fod hynny wedi mynd ar goll yn y sylwadau sydd wedi'u gwneud, ond mae'r rhaglen honno'n parhau—profion rheolaidd ar gyfer ein staff cartrefi gofal. Mae heriau yn yr amserlen o ran cael canlyniadau prawf y mae'r rhaglen profi labordai Goleudy yn effeithio arnynt, ond rydym wedi bod yn fwy llwyddiannus na gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr, wrth ddarparu rhaglen brofi gwlad gyfan. Mae hynny wedi ei gydnabod o fewn y sector ei hun, ac rydym yn sicr â'r nod o barhau â hynny wrth i ni symud i'r cam nesaf ac anodd iawn hwn yn y pandemig.
Diolch i'r Gweinidog.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7392 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;
2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;
3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;
4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cafodd y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft a'r newidiadau yr wyf yn bwriadu eu gwneud iddo eu gosod ger bron y Senedd i ganiatáu i'r Aelodau graffu arnynt am gyfnod o 60 diwrnod. Yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 3, byddaf i'n rhoi sylw i unrhyw benderfyniad y mae'r Senedd yn ei basio ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgorau'r Senedd yn ystod cyfnod ystyriaeth y Senedd pan fyddaf i'n cyhoeddi'r fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf fis Chwefror nesaf.
Pan fydd yr amser hwnnw'n cyrraedd, bydd enw newydd yn disodli'r teitl 'fframwaith datblygu cenedlaethol', sef 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'. Mae'r enw newydd hwn yn llawer cliriach o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae'n rhoi gweledigaeth gadarnhaol iawn ar gyfer sut y bydd datblygu yn gwneud Cymru'n lle gwell erbyn 2040. Pobl ifanc o'r sefydliad Plant yng Nghymru awgrymodd yr enw newydd, ac ar gyfer y bobl ifanc hyn, cenedlaethau'r dyfodol, y bydd yn rhaid inni ddarparu gwlad decach, wyrddach, iachach a mwy cynaliadwy.
Rydym wedi trefnu'r ddadl hon yn gynnar yn y cyfnod craffu i gyflwyno'r prif newidiadau i'r Aelodau ac i helpu i adfachu rhywfaint o'r amser a gollwyd oherwydd COVID-19. Mae dau bwyllgor yn y Senedd—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—eisoes wedi cynnal ymchwiliadau manwl i'r cynllun drafft. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu hadroddiadau, ac rwyf wedi ysgrifennu fy ymateb at y Cadeiryddion perthnasol, gan nodi sut y mae eu sylwadau wedi llywio'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud.
Byddaf yn siarad yn fanylach yn fuan ynghylch y newidiadau yr wyf yn eu cynnig i'r cynllun drafft, ond yn gyntaf hoffwn dynnu sylw at y daith hyd yn hyn. Mae yna broses gwneud cynlluniau cyfranogol wedi bod, a hoffwn i gofnodi fy niolchgarwch i'r miloedd o sefydliadau ac unigolion sydd wedi dod i ddigwyddiadau, wedi ysgrifennu atom ni ac wedi cyfrannu eu barn. Mae'r broses wedi bod yn gynhwysol ar bob cam ac mae wedi golygu llawer mwy na dim ond ymgynghori ar ein syniadau. Dechreuwyd gyda map gwag o Gymru mewn gweithdai i randdeiliaid. Yna symudwyd ymlaen i grwpiau ffocws ar y materion allweddol ac, yn olaf, buom yn trafod y cynllun drafft gyda'r cyhoedd mewn sesiynau galw heibio a gyda rhanddeiliaid mewn mwy na 75 o ddigwyddiadau gwahanol. Nid ydym wedi gallu cytuno â phawb nac ymgorffori'r holl syniadau a awgrymwyd, ond rydym wedi gwrando. Rwy'n falch iawn o ansawdd yr ymgysylltu a chymaint ohono a gyflawnwyd ac, yn bennaf, rwy'n falch o gymaint y mae'r cynllun wedi gwella oherwydd hynny.
Daeth David Melding i’r Gadair.
Er mwyn dangos sut mae ymgysylltu wedi gwella'r cynllun, byddaf yn tynnu sylw at rai o'r prif newidiadau arfaethedig. Mae'r rheolau'n mynnu mai'r fersiwn sydd wedi'i osod gyda'r Senedd yw'r drafft cyhoeddedig ond, mewn gwirionedd, mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig o ganlyniad i ymatebion i'r ymgynghoriad ac argymhellion y pwyllgor yn bwysicach ar y cam hwn. Er mwyn dangos sut y caiff y newidiadau hyn eu cynnwys, rydym wedi cyhoeddi fersiwn gwaith y cynllun wedi'i ddiweddaru. Nid oes statws ffurfiol i hyn, ond mae'n dangos yn glir sut mae'r cynllun yn datblygu. Mae'n fwy amlwg na'r drafft bod y fersiwn gwaith yn gynllun gofodol. Mae'n cynnwys mwy o fapiau, mwy o ddata a mwy o graffeg. Mae'n ceisio cyfleu pa mor amrywiol ac unigryw yw lleoedd yng Nghymru. Cynllun yw hwn sy'n annog a galluogi cynllunio creadigol, nid cyfres o drefi clôn a maestrefi di-nod.
Mewn byd delfrydol, dylai'r cynllun cenedlaethol fod wedi'i ysgrifennu'n gyntaf. Byddai hyn wedi caniatáu i gynlluniau datblygu lleol ganolbwyntio ar wneud lleoedd creadigol ar raddfa leol. Yn hytrach, mae'r CDLlau wedi gorfod ysgwyddo'r baich ers 10 mlynedd o ddarparu holl bolisïau'r cynllun datblygu. Bydd manteision sylweddol i CDLlau o gael cynllun cenedlaethol ar waith: dim rhagor o bolisïau wedi'u dyblygu ledled pob awdurdod mwyach, a'r amser a'r lle i ganolbwyntio ar nodi safleoedd datblygu a chyfleoedd adfywio yn rhagweithiol.
Haen ganol y cynllun datblygu fydd y cynlluniau datblygu strategol. Mae'r cynllun cenedlaethol hwn yn cynnig arweiniad clir ar y blaenoriaethau gofodol ar gyfer pob rhanbarth. Gyda'i gilydd, ynghyd â'r fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r bargeinion dinesig, bydd gan bob rhanbarth gyfres lawn o strategaethau i'w helpu i gynllunio eu rhanbarth yn hyderus.
Un newid arfaethedig mawr yw newid o dri rhanbarth i ôl troed pedwar rhanbarth. Mae hyn yn golygu gwahanu canolbarth Cymru a'r De-orllewin. Yr adborth o'r tu mewn i'r Siambr hon a chan randdeiliaid yn y canolbarth, yn arbennig, oedd eu bod eisiau cael eu cydnabod fel rhanbarth yn ei rinwedd ei hunan. Mae hyn yn golygu y bydd disgwyliadau y bydd y cynllun datblygu strategol nawr yn cael ei baratoi ar y cyd gan gynghorau Ceredigion a Phowys ar y materion cynllunio sy'n mynd y tu hwnt i'r ardal.
Roedd y feirniadaeth o'r ôl troed rhanbarthol yn gysylltiedig â phryder bod y strategaeth gyffredinol yn canolbwyntio'n ormodol ar ardaloedd trefol, ac nid digon ar ardaloedd gwledig. Mae hyn wedi cyflwyno her i ni, oherwydd rhaid i gynllun cenedlaethol fod yn strategol a gadael materion manwl i gynlluniau rhanbarthol a lleol, ond rhaid iddo hefyd siarad â Chymru gyfan. Felly, rydym wedi datblygu polisïau eraill ar gyfer yr economi wledig, yn ogystal â pholisïau gofodol newydd ar gyfer y canolbarth. Rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, y bydd graddau a graddfa'r newid dros 20 mlynedd yn anochel yn wahanol mewn ardaloedd gwledig o'i gymharu â lleoedd trefol. Rydym eisiau cefnogi ac annog economïau gwledig ac rydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus da ac amrywiaeth o amwynderau, ond nid ydym eisiau eu datblygu heb ystyried y gost. Gobeithio y bydd pobl yn cydnabod y cydbwysedd y mae'r cynllun hwn yn ceisio'i gyflawni.
Er mwyn sicrhau bod twf yn gynaliadwy, rydym wedi ychwanegu polisïau newydd ar drafnidiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng cynllunio defnydd tir a chynllunio trafnidiaeth yn un hollbwysig, ac yn rhy aml yn y gorffennol roedd y meddylfryd yn canolbwyntio ar sut i alluogi ceir i fynd o gwmpas yn hawdd ac yn gyflym. Mae angen i ni hyrwyddo lleoedd y mae modd cerdded iddyn nhw, ac mae angen inni gysylltu lleoedd drwy deithio'n llesol mewn ffordd gyfannol. Mae'r polisïau trafnidiaeth yn bwysig iawn o ran ein helpu ni i sicrhau'r twf trefol y mae'r strategaeth ofodol yn ei hyrwyddo mewn ffordd gynaliadwy.
Y newid olaf yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef yn fanwl yw'r polisi ar ynni adnewyddadwy. Mae ynni gwyrdd glân yn hanfodol i'n cynaliadwyedd fel gwlad, fel cymunedau ac fel aelwydydd unigol. Mae gennym ni'r cynhwysion crai yn ein tirwedd a'n hinsawdd i arwain y ffordd, ac mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu'r uchelgais hwnnw. Mae'r polisi gofodol ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi'i ddiwygio. Mae rhai meysydd wedi'u newid, ac mae dau wedi'u dileu'n gyfan gwbl, ond, yn hollbwysig, rwy'n credu ein bod ni'n cyfleu ein bwriad yn well yn y polisi diwygiedig. Unwaith eto, mae hyn yn deillio o ymgysylltu helaeth, ac rwy'n hyderus y bydd y cynllun diwygiedig yn helpu i ysgogi'r sector adnewyddadwy yma yng Nghymru.
Nid oes dadl na thrafodaeth yn gyflawn eleni heb sôn, yn anffodus, am COVID-19. I raddau helaeth, cyfansoddiad y lle yr ydym ni'n byw ynddo oedd yn pennu sut yr oeddem ni'n teimlo yn ystod y cyfyngiadau symud. Pe bai gennych chi gyfle da i ddefnyddio mannau agored gwyrdd, pe bai siopau gerllaw a phe baech yn byw mewn lle gydag ysbryd cymunedol, roedd y cyfyngiadau symud yn llai o straen nag y gallen nhw fod. Dyma lle y gall y cynllun hwn ein helpu ni—i greu lleoedd sy'n gadarn ac yn fwy parod ar gyfer argyfyngau iechyd sydyn, ac i fod yn lleoedd mwy pleserus i fyw ynddyn nhw yn ystod amseroedd arferol.
Yn fy rhagair i'r cynllun drafft, ysgrifennais:
'Nid rhagweld sut y gallai Cymru newid dros yr 20 mlynedd nesaf yw'r her i gynllun fel yr FfDC o reidrwydd, ond sicrhau y gallwn ni adeiladu cymdeithas ac economi sy'n hyblyg ac yn gadarn, er mwyn galluogi pob un ohonom i elwa ar y newidiadau mewn ffordd gynaliadwy.'
Mae maint y newid sydd wedi digwydd bron dros nos yn rhyfeddol, ond rwyf yn wir yn credu bod gan y cynllun hwn y gallu sylfaenol i helpu'r adferiad o COVID-19. Rwy'n hyderus y gall helpu gyda'r adferiad oherwydd bod galluogi cymdeithas iach a gweithgar yn flaenoriaeth annatod drwyddo draw. Mae'n hyrwyddo'n gryf adeiladu lleoedd newydd o amgylch seilwaith teithio llesol. Mae ganddo'r uchelgais a'r polisïau i ddarparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf ym mhob cwr o Gymru. Mae'n cynnwys polisïau a oedd, hyd yn oed cyn i COVID ddod i'r amlwg, yn ceisio arallgyfeirio ac adfywio canol trefi a strydoedd mawr lleol. Mae'n dweud y dylai gwasanaethau cyhoeddus newydd fel ysgolion, colegau ac ysbytai fod ar gael yng nghanol trefi, nid y tu allan i'r dref, lle mae angen car arnoch i'w cyrraedd. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cynnal a datblygu ecosystemau naturiol.
Prif gryfder y cynllun hwn a'r newidiadau yr ydym ni'n eu cynnig iddo yw blaenoriaethau mawr y Llywodraeth hon, ac mae'r newidiadau allweddol sy'n ein hwynebu ni i gyd wedi'u cynnwys yn y strategaeth a'r polisïau. Mae materion fel iechyd, datgarboneiddio, newid hinsawdd, y Gymraeg, a chymdeithas deg a ffyniannus wedi'u gwau drwy bob rhan o'r ddogfen. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn gynllun pwysig, ac mae'n uchelgeisiol ynglŷn â'r newid y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru. Bydd y newidiadau a osodwyd drwy'r Senedd yn ei gryfhau. Gobeithio y gall y ddadl hon dynnu sylw at bwysigrwydd y cynllun ac adeiladu cefnogaeth iddo ar draws pob rhan o'r Siambr. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog. Mae'r Llywydd wedi dewis dau welliant i'r cynnig. Os cytunir ar welliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 1 yn ei henw.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod yn gyfle inni fynd i'r afael ag un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl—newid hinsawdd. Mae effeithiau hinsawdd sy'n newid wedi'u teimlo'n eithaf dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod coronafeirws, o bosibl, yn dominyddu penawdau 2020, mae effaith newid hinsawdd wedi bod yr un mor ddramatig. Dinistriodd tanau gwyllt rannau helaeth o Awstralia a Gogledd America. Mae'r Caribî a de'r Unol Daleithiau wedi wynebu un o'r tymhorau corwyntoedd gwaethaf erioed; am y tro cyntaf, trawodd dau gorwynt ar yr un pryd. Yn ne-ddwyrain Asia, gwelodd tymor y trowyntoedd uwch-drowyntoedd un ar ôl y llall, gan ddod â dinistr a cholli bywyd. Yn nes at adref, cafodd y DU ei chwipio gan stormydd, gan arwain at lifogydd eang mewn sawl rhan o Gymru.
Nid yw'n bosibl gwadu'r dystiolaeth bod gweithgarwch dynol wedi achosi niwed parhaol i'n hinsawdd. Ni allwn wadu bod ein gweithredoedd wedi arwain at dymheredd cynyddol byd-eang, sydd wedi cael effaith ddramatig ar ein systemau tywydd. Mae blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, allyriadau carbon deuocsid parhaus a gwadu'n llwyr wedi golygu ei bod yn rhy hwyr i atal tymheredd cynyddol byd-eang. Ac oni bai ein bod ni'n gweithredu nawr, bydd pethau'n mynd yn llawer, llawer gwaeth. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag allyriadau carbon nawr, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod ein seilwaith cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth o leiaf yn niwtral o ran carbon
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, ac felly cawn ddatganiad o argyfwng hinsawdd. Yn anffodus, nid oes gweithredu brys wedi dilyn. Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod wedi bod yn lasbrint ar gyfer cynyddu datblygiad mewn ffordd gynaliadwy sydd nid yn unig o fudd i bobl Cymru, ond sydd hefyd yn mynd i'r afael â bygythiad newid hinsawdd. Ac unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gormod o ffocws ar wynt ar y tir. Nid ffermydd gwynt mawr ar y tir yw'r ateb; byddai'n rhaid inni lenwi pob bryn sydd ar gael gyda thyrbinau, a hyd yn oed wedyn ni fyddem ni'n mynd i'r afael ag anghenion ynni Cymru—nid y byddai unrhyw un yn derbyn effaith yr holl dyrbinau hyn. Byddwn i wedi meddwl y byddai Llywodraeth Cymru wedi dysgu oddi wrth y gwrthwynebiad i nodyn cyngor technegol 8. Mae'n amlwg nad ydynt yn ymwybodol o effaith ffermydd gwynt ar y tir, gan eu bod wedi'u gwahardd o'n parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Ond nid yw hynny'n fawr o gysur i fy rhanbarth i sydd, unwaith eto, wedi'i nodi ar gyfer fferm wynt. Unwaith eto, mae Gweinidogion Cymru wedi dewis yr opsiwn hawdd, gan ddynodi datblygiadau a ganiateir ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir fel y gallan nhw siarad yn wag ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ni all gwynt ar y tir ddisodli cynhyrchu tanwydd ffosil yng Nghymru. Os ydyn nhw o ddifrif, datgarboneiddio fyddai prif nod y fframwaith hwn a byddai'n canolbwyntio'n gryf ar gynhyrchu ynni gwynt a llanw ar y môr. Gallai môr-lynnoedd llanw ddiwallu anghenion ynni Cymru yn y dyfodol a gallai morglawdd llanw ddiwallu anghenion ynni'r DU. Dyma'r math o ddatblygiad y dylem ni fod yn ei geisio. A byddai, byddai'n ddrud o ran cost ymlaen llaw ond byddai gymaint yn rhatach yn y tymor hir.
Rydym ni ar bwynt tyngedfennol—oni bai ein bod ni'n gwneud penderfyniadau anodd nawr, rydym yn condemnio cenedlaethau'r dyfodol i fyw gydag ymosodiadau trychinebau naturiol a newyn. Dylai pob penderfyniad datblygu a wneir ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn atal difrod pellach i'n planed. Anogaf Lywodraeth Cymru i ailfeddwl ei fframwaith datblygu i roi ystyriaeth i hyn, ac os cytunwch chi â mi, cefnogwch fy ngwelliant i. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 2, wedi'i gyflwyno yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Llywydd dros dro. Nawr, rwy'n barod i godi rhai pryderon ynghylch y fframwaith datblygu cenedlaethol. I ddechrau, mae'r dull rhanbarthol ei hun yn ddiffygiol, yn enwedig gan edrych ar y gogledd a'r canolbarth. Er mai £15,000 yw'r gwerth y pen ychwanegol gros yn Ynys Môn a £21,308 yng Ngwynedd, y prif ffocws i'r rhanbarth yw Sir y Fflint a Wrecsam, gyda gwerth ychwanegol gros uwch i'r ddau. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai polisi 17 neu bolisi 20 yn yr amserlen newidiadau gael ei ddiwygio fel y byddai modd rhannu holl fanteision y gogledd, ac, fel y cyfryw, y byddai modd rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam, Glannau Dyfrdwy ac ardal Caernarfon, Bangor ac afon Menai?
Er ei fod yn nodi nod polisi 25 yn yr amserlen newidiadau, sef cefnogi twf a datblygiad cynaliadwy mewn cyfres o drefi rhyng-gysylltiedig ledled y canolbarth, beth am gyflwyno polisi sy'n rhoi Aberystwyth ar yr un lefel â Wrecsam ac Abertawe fel prif ffocws ar gyfer buddsoddiad? Gallai hyn helpu i gynyddu buddsoddiad ar hyd arfordir y gorllewin a thrwy'r canolbarth, a rhoi cyfle cyfartal i bob dinesydd.
Nawr, mae'n rhaid clywed llais ein trigolion yn y cynllun hwn. Mae Polisi 21 yn nodi y bydd cymunedau fel Llandudno, Bae Colwyn a Phrestatyn yn ffocws ar gyfer tai a thwf a reolir. Felly, pa sicrwydd, Gweinidog, y gallwch chi ei roi i breswylwyr sy'n poeni na fydd polisïau fel 21 a 29 yn tanseilio eu hymdrechion i achub ein meysydd gwyrdd? Yn wir, rwy'n credu mai dim ond dau gyfeiriad sydd at safleoedd tir llwyd a datblygiadau yn yr FfDC cyfan. Siawns na fyddai'n gam cadarnhaol i lunio polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau mewn meysydd o'r fath.
Mae'r FfDC hefyd yn methu ein cymunedau gwledig. Mae'r llinell hon ym mholisi 4 yn dweud y cyfan:
'Y ffordd orau o gynllunio dyfodol ardaloedd gwledig yw ar lefel ranbarthol a lleol.'
Gallech wneud yn well na hyn. Beth am gyflwyno polisïau sy'n hyrwyddo diogelu ysgolion a chyfleusterau gwledig, gwella mynediad a ffyrdd B, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i sicrhau bod modd mynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig, a defnyddio'r 600 o afonydd a mwy sy'n llifo ledled Cymru drwy annog buddsoddi mewn cynlluniau dŵr micro a chynlluniau dŵr ar raddfa fach? Rydych chi'n honni bod yr FfDC yn darparu sylfaen gadarn i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Byddai unrhyw ymgyrch ynni gwyrdd yn cael ei llesteirio gan y grid. Mae RenewableUK wedi dweud nad yw rhwydweithiau yng Nghymru yn gadarn. Mae Ynni Môr Cymru wedi galw am fynd i'r afael â materion gallu'r grid, gydag uwchraddio seilwaith hanfodol i ddarparu ar gyfer potensial 50GW. Ac mae hyd yn oed Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi nodi'r angen o ran seilwaith newydd i gyflawni targedau datgarboneiddio.
Yn ôl polisi 17, byddwch chi'n gweithio gyda rhanddeiliaid i drosglwyddo i rwydwaith grid aml-fector a lleihau'r rhwystrau i weithredu seilwaith grid newydd. Felly, hoffwn i gael rhagor o fanylion ynghylch hyn, targed ar gyfer pryd y dylid gwella'r seilwaith, a sicrwydd, pe bai seilwaith grid newydd yn cael ei adeiladu ledled y canolbarth, y bydd cyllid ar gael i roi hyn o dan y ddaear. Er enghraifft, rhaid diogelu harddwch Cymru wledig ac, os oes angen, drwy ehangu neu greu parciau cenedlaethol neu AHNE. Os na chaiff camau eu cymryd ar gapasiti'r grid, sut y gallwch chi fod yn siŵr y bydd modd cysylltu ffermydd gwynt newydd yn ardaloedd y canolbarth sydd wedi eu cyn-asesu ar gyfer ynni gwynt? Honnir bod polisi 17 yn cydnabod cyfoeth technolegau ynni adnewyddadwy presennol a'r rhai sy'n datblygu, felly pam mae rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni gwynt ar raddfa fawr? Pam ddim pob ffynhonnell ynni adnewyddadwy? A wnewch chi newid y FfDC er mwyn iddo ymwneud â Chymru gyfan, gan roi sylw i'r môr ac ynni morol hefyd?
Yn olaf, mae angen ymrwymiad cryfach ar Gymru hefyd o ran trafnidiaeth. Mae Polisi 36 yn nodi bod Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn cynghori ar ymdrin â thagfeydd ar yr M4. Dylech chi fynd ati i ddarparu ffordd liniaru. Nid oes gan yr FfDC hwn uchelgais ar gyfer Cymru gyfan, ac, oherwydd hynny, rwy'n eich annog chi i gyd i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.
Dwi'n anghytuno gyda'r hyn ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, oherwydd y prif neges gen i i'r Llywodraeth ar y fframwaith datblygu cenedlaethol yw bod amgylchiadau nawr yn mynnu, yn fy marn i, fod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl ac yn ailedrych ar y fframwaith yng ngoleuni, wrth gwrs, y pandemig. Oherwydd rŷm ni wedi cyrraedd y pwynt yma, ac mae wedi cymryd amser maith i gyrraedd y pwynt yma—dwi'n gwerthfawrogi hynny—ond mae hynny wedi digwydd heb fawr ddim ystyriaeth o effaith hirdymor y pandemig ar ein bywydau ni. Ac, yn wir, rydym ni'n dal i ddysgu ac yn dal i sylweddoli rhai o'r impacts yna, ac, yn wir, mi fydd yna eraill dros y misoedd nesaf, mae'n debyg, nad ydym ni wedi eu rhagweld ac, felly, mae angen i hynny gael ei bwyso yn llawn.
Rydym ni'n gwybod bydd mwy o bobl yn gweithio o adref a bydd hynny'n golygu y bydd yna lai o bobl yn teithio i'r gwaith, ac mi fydd yna oblygiadau mwy pellgyrhaeddol i rai sectorau na'i gilydd yn hynny o beth. Mae isadeiledd digidol a band eang yn mynd i fod yn llawer mwy allweddol yn y dyfodol. Mae datblygiadau dwysedd uchel—high-density developments—wrth gwrs, yn mynd i gael eu gweld nawr fel rhywbeth sy'n cyflymu pandemics ac, felly, yn llai atyniadol ac, yn sicr, yn llai dymunol o fewn polisi cynllunio. Mae ansawdd tai yn fwy allweddol nag erioed, wrth gwrs, o safbwynt iechyd. Mae pwysigrwydd mynediad i lecynnau gwyrdd, parciau cyhoeddus a gerddi preifat hefyd yn fwyfwy pwysig. A gyda llai o draffig, wrth gwrs, mi fydd yna fwy o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond mae yna heriau newydd yn hynny o beth hefyd i geisio adennill hyder y cyhoedd pan mae'n dod i reoli heintiau. Mae gan hyn i gyd oblygiadau o ran y fframwaith datblygu cenedlaethol.
Ac mae yna oblygiadau hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol, wrth gwrs, oherwydd petai'r Llywodraeth yn mabwysiadu agwedd laissez-faire mi fyddai fe, dwi'n meddwl yn dwysáu problemau o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Oherwydd pobl â'r modd, pobl â'r cyfoeth, sy'n gallu, efallai, dewis gweithio gartref fel opsiwn haws, fydd yn gweld, wedyn, ardaloedd gwledig yn fwy atyniadol na bywyd trefol. Mi fydd hynny'n cael effaith ar y boblogaeth yn symud yng Nghymru a thu hwnt, ac felly mae yna oblygiadau, fel rydym ni wedi trafod yn ddiweddar yn y Senedd, ynglŷn â phobl yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. Ac mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn sôn am bwysigrwydd cymunedau oed cymysg mewn ardaloedd gwledig. Wel, mae hynny yn ei hunan, felly, yn golygu bydd yn rhaid inni ailedrych ar rai agweddau.
Dwi wedi clywed y Gweinidog yn dweud ein bod ni wedi symud o dri rhanbarth i bedwar, ac mae hynny yn well, ond, wrth gwrs, dyw'r ddogfen ddim yn cydnabod rhanbarth Arfon, y mae Plaid Cymru yn ei arddel, wrth gwrs, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd, gyda llaw, wedi ei gefnogi gyda chyllideb i gychwyn y gwaith o ddatblygu'r cysyniad a'r endid yna. Dwi'n meddwl ei fod e'n gamgymeriad i hepgor hwnnw yn y cynllun fel ardal, wrth gwrs, sydd â'i heriau a'i chyfleoedd unigryw, penodol ei hun ar hyd y cyrion gorllewinol, a byddwn i'n dymuno gweld hynny yn cael ei gywiro yn y fframwaith terfynol.
O ran rhanbarth y gogledd—ac mi wnaf i fod ychydig yn blwyfol fan hyn—dwi'n teimlo fod yna anghydbwysedd ar draws y gogledd. Mae'n berffaith iawn, wrth gwrs, fod yna ffocws ardal twf yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Does gyda fi ddim problem gyda hynny. Ond mae gweddill y gogledd, draw i Fangor, Caernarfon a Chaergybi, yn cael ei ddynodi â rhyw rôl is-ranbarthol i ategu'r ardal twf yn y gogledd-ddwyrain. Dwi ddim yn siwr pa mor ymarferol yw hynny. Oni ddylem ni fod yn rhoi ffocws ar dwf y gogledd-orllewin ei hun, yn hytrach na'i fod yn is-ranbarth i'r dwyrain? Ac, wrth gwrs, mae cyfeiriad at Wylfa yn y ddogfen. Wel, mae'r elfen yna wedi newid yn sylweddol nawr, wrth gwrs, gyda'r ansicrwydd ynglŷn â'r datblygiad yn fanna, ac felly, yn amlwg, mae hwnnw'n rhywbeth y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb iddo fe. Dwi'n gwybod bydd rhai pobl yn awyddus i sicrhau bod Wylfa yn dal i ddigwydd, ond mae'n rhaid, dwi'n meddwl, i'r cynllun yma nawr adlewyrchu'r posibilrwydd bod yn rhaid edrych ar ddatblygiadau amgen hefyd, er mwyn sicrhau nad ydym ni jest yn aros ac yn aros am rywbeth, efallai, na fydd byth yn digwydd.
Ar ynni yn ehangach, wrth gwrs, dwi yn falch bod technoleg ynni gwynt a solar yn cael eu gwahanu, ond dwi'n dal yn poeni ynglŷn â'r approach gofodol yma sydd wedi cael ei bennu, a hynny, fel dwi wedi ei godi o'r blaen, ar sail amheus, dwi'n meddwl, sy'n golygu bydd llai na 5 y cant o'r ardaloedd sydd wedi cael eu hasesu rhagblaen—y pre-assessed areas yma—dim ond tua 5 y cant ohonyn nhw y bydd modd datblygu arnyn nhw mewn gwirionedd.
Mae'n dal gen i gwestiynau, ond dim amser, wrth gwrs, i fynd ar ôl pethau megis y weledigaeth ehangach i ardaloedd gwledig, a'r iaith Gymraeg yn y cynllun tai fforddiadwy. Fyddwn i ddim yn meindio sôn mwy am hynny. Dwi'n croesawu ac yn diolch i'r Llywodraeth am y cyfle i gael y ddadl yma. Dwi'n siomi braidd bod e'n digwydd mor fuan ar ôl gosod y fframwaith datblygu ar ei newydd wedd, oherwydd mae'n ddogfen sylweddol ac mae gorfod ei drafod e mewn dadl ddyddiau ar ôl iddo fe gael ei osod, efallai, dwi'n meddwl, braidd yn annheg. Ond dwi yn falch bod y pwyllgor newid hinsawdd yn mynd i fod yn craffu yn fanylach ac y bydd modd, gobeithio, ar gefn adroddiad y pwyllgor hwnnw, i ni gael dadl bellach fan hyn yn y Senedd er mwyn gwyntyllu rhai o'r materion mwy manwl dwi am weld y Llywodraeth yn eu cywiro ac yn eu newid cyn y medraf i gefnogi'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma.
Yn gyffredinol, rwy'n croesawu cynigion y fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn gwella'r drafft yn fawr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 47 o 50 o gasgliadau'r pwyllgor, er ei bod unwaith eto'n siomedig mai dim ond mewn egwyddor yr oedd 22 ohonyn nhw wedi'u derbyn. Ac fel y dywedodd Llyr Gruffydd, byddwn i'n dod yn ôl gydag awgrymiadau eraill, byddwn i'n tybio, yn nes ymlaen ar ôl i ni gael cyfle arall i edrych arno.
Mae newidiadau sylweddol sy'n gyson â chasgliad y pwyllgor yn cynnwys: cysylltiadau cliriach â dogfennau eraill Llywodraeth Cymru, megis 'Cymru Carbon Isel', y strategaeth drafnidiaeth, a'r 'Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru'; rhoi mwy o fanylion o ran sut y caiff yr FfDC ei fonitro a'i adolygu; cryfhau'r FfDC o ran ymateb i newid hinsawdd, er enghraifft, drwy gynnwys polisi newydd ar reoli perygl llifogydd; a mwy o bwyslais ar y dull o ymdrin â datblygiadau ynni adnewyddadwy sy'n seiliedig ar feini prawf.
Mae'r model pedwar rhanbarth yn welliant enfawr ar y tri rhanbarth, a oedd yn cynnwys canolbarth a gorllewin enfawr, a oedd yn cynnwys lleoedd nad oes ganddyn nhw ddim yn gyffredin o gwbl. Mae rhanbarth bae Abertawe erbyn hyn yn rhanbarth fframwaith datblygu cenedlaethol ac mae hynny o fudd mawr i'r ardal ac i'w datblygiad economaidd yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr hefyd fod y rhai ym Mhowys a Cheredigion, lle mae ganddyn nhw fargen twf canolbarth Cymru, hefyd yn falch o'r newid i greu rhanbarth canolbarth Cymru yn hytrach na chael eu hychwanegu at Abertawe allanol.
Mae polisi rhanbarthol yn bwysig yng Nghymru ac mae angen i ni ddatblygu Cymru gyfan, nid dim ond un rhan fach ohoni. fy marn i yw ei bod yn bwysig i ni ddatblygu polisi rhanbarthol cydlynol. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn aros o fewn y fframwaith rhanbarthol. Rwy'n tybio, nawr bod gennym ni'r pedwar rhanbarth hyn, a allwn ni ddechrau meddwl o ran y rhanbarthau hyn yn hytrach na bod gan bob Gweinidog eu strwythur bach eu hunain?
Mae gan y cynllun dri maes twf cenedlaethol, tair ardal twf ranbarthol, a phedwar rhanbarth gyda'u cynlluniau datblygu strategol eu hunain. Rwy'n credu y gall hynny weithio. Bydd datblygu bae Abertawe yn cael ei ysgogi, yn rhannol o leiaf, gan y prifysgolion, ac rwy'n gofyn unwaith eto am y strategaeth economaidd, gwn i nad yw'n rhan o hyn, i hyrwyddo cyflogaeth sgiliau uchel a gwerth uchel yn seiliedig ar yr ymchwil sy'n digwydd yn y prifysgolion a'r graddedigion sy'n dod allan ohoni.
Yn hanesyddol, mae dinasoedd wedi ysgogi twf o fewn rhanbarthau, ond a fydd hynny'n wir am yr economi ôl-COVID, lle bydd mwy o bobl yn gweithio gartref? Rydym ni'n gwybod bod gennym ni ddau fath o bentrefi: y pentrefi cymudo a phentrefi'r economi wledig. Saith mlynedd yn ôl, cafodd astudiaeth ei chynnal ar Rosili, pentref gwledig ar benrhyn Gŵyr, ac yr wyf i'n sicr bod y Gweinidog yn gwybod hynny'n dda. Er bod modd credu mai twristiaeth ac amaethyddiaeth fyddai'r prif gyflogwyr yn y maes hwn, y canfyddiad oedd bod dros draean o'r boblogaeth sy'n gweithio yn y pentref hwnnw yn gweithio ym maes addysg, yn bennaf yn y prifysgolion.
O ran tai o fewn y cynllun, mae gan bob rhanbarth ei ddyraniad ei hun ar gyfer tai newydd erbyn 2039. Mae angen adolygu'r rhifau hyn yn gyson. Hefyd, mae angen adolygu'r dosbarthiad ym mhob rhanbarth, yn ogystal â rhwng rhanbarthau, hefyd, oherwydd os yw pobl yn mynd i weithio mwy o'u cartrefi, bydd yr angen i bobl deithio i ddinasoedd a byw ar gyrion dinasoedd yn lleihau. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd 48 y cant o gartrefi newydd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd cyntaf, yn dai fforddiadwy. Fodd bynnag, byddai'n well gennyf i pe byddai'r term 'fforddiadwy' yn cael ei ddisodli gan dai 'cyngor' neu 'dai landlord cymdeithasol cofrestredig'.
Rwy'n croesawu'r polisi adnoddau naturiol sy'n nodi'r blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd allweddol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gynnwys ymdrin â'r argyfwng newid hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Os oes modd gwneud y ddau beth hynny, byddai hyn yn llwyddiant, oherwydd mae gennyf i bryderon difrifol o ran dirywiad bioamrywiaeth ac mae gennyf i bryderon difrifol iawn ynghylch effaith newid hinsawdd a'r effaith ar y tywydd. Bydd unrhyw un sydd dros 50 oed wedi sylwi sut mae'r glaw yn dod yn llawer llai aml ond yn llawer cryfach nag y bu erioed o'r blaen. Mae'n nodi polisïau penodol sy'n: diogelu meysydd at ddibenion gwella cadernid rhwydweithiau ecolegol ac ecosystemau, nodi meysydd ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd a sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth; sicrhau dewisiadau lleoliad a dylunio cadarn drwy hyrwyddo strategaeth twf cynaliadwy yn ogystal â sicrhau bod ystyried adnoddau naturiol ac iechyd a lles yn rhan o ddewis safleoedd a dylunio; ac yn ystyried datgarboneiddio'r economi.
Yn olaf, rwy'n edrych ymlaen at weld y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried hyn yn fanylach. Rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda iawn. Ein her ni yw ei gwneud hi'n ddogfen well a gwneud iddi weithio dros bobl Cymru.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn heddiw. Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg—[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gen i, mae rhywbeth yn y cefndir.
Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg, ac rwy'n llongyfarch eich staff am gyflwyno hyn mewn cyfnod mor heriol. Mae'r fframwaith yn ddogfen eang a chynhwysfawr ac mae'n gwneud synnwyr bod datblygu a chynllunio yn rhaeadru o'r Llywodraeth i ranbarthau ac yn olaf i ganolbwyntio'n fwy lleol ar lefel awdurdod. Er hynny, rwyf i yn cael ymdeimlad rhyfedd o déjà vu yma: ymgynghoriad hir arall, cyfrol faith arall o eiriau cynnes am genedlaethau'r dyfodol, y cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, ecosystemau a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Wedi'i gynnwys hefyd, fel arfer, mae cynaliadwyedd, teithio llesol, canol trefi yn gyntaf, ac yn y blaen. Mae'r holl ymadroddion hyn wedi'u gorddefnyddio yn fawr iawn ac yn ymddangos ar ryw ffurf neu'i gilydd mewn llawer o ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, mae yn gwneud synnwyr perffaith i rannu'r wlad yn rhanbarthau ac i gynllunio ddigwydd ar y sail hon.
Ni welais erioed bwynt—ac mae hyn yn wir o hyd—mewn adeiladu canolfan gynadledda ryngwladol yng Nghasnewydd ac erbyn hyn rwy'n credu bod un arall wedi'i chynllunio ar gyfer canol Caerdydd, gyda'r holl broblemau teithio y gallai hynny ei olygu, pan fyddai'r gogledd ac o bosibl Wrecsam yn elwa'n fawr ar leoliad o'r fath. Ac er fy mod i'n cymeradwyo llawer o'r teimladau sy'n sail i'r dull hwn, pam bydd y dull hwn yn gweithio pan na wnaeth pob awdurdod lleol ddefnyddio'r broses cynllunio datblygu lleol mewn modd amserol neu ystyrlon? A gadewch i ni edrych ar y lefel leol: er gwaethaf addewid maniffesto Llafur yn 2016, i—ac rwy'n dyfynnu—
'ceisio creu awdurdodau lleol cryfach, mwy',
nid ydych wedi gwneud dim o'r fath er gwaethaf ymgynghoriadau a chomisiynau ac mae brwydr rhwng y 22 o hyd i gael yr elw, sy'n mynd yn groes i ranbartholi braidd. Felly, sut bydd hynny'n gweithio?
Mae'r ddogfen yn trafod sawl maes, ac oherwydd cyfyngiadau amser byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i rai meysydd yn unig. Tai: mae'n ymddangos i mi fod gan y sector cyhoeddus lawer o fuddion yn y maes hwn. Mae ganddo dir, safleoedd tir llwyd, adeiladau segur—hyd yn oed yn fwy felly erbyn hyn pan fo gweithwyr y sector cyhoeddus yn aros gartref—ac mae eich staff eich hun yn gweinyddu'r grant tai cymdeithasol a gall y sector cyhoeddus yng Nghymru alw ar gynlluniau ariannol arloesol. Felly, heb eisiau ailadrodd fy sylwadau gair am air o'r ddadl yr wythnos diwethaf ynghylch ail gartrefi, pam mae angen fframwaith datblygu arnoch chi i roi caniatâd i bawb wneud yr hyn y gallan nhw ei wneud eisoes?
Mae Cymru yn wlad fach a hardd iawn, ac er fy mod i'n gweld gwerth mewn ystyried cynlluniau ynni a gwresogi cynaliadwy ledled y wlad, rwy'n siomedig unwaith eto o weld bod ffermydd gwynt yn parhau i gael eu cynnwys. Mae'r rhain, yn syml iawn, yn bla ar y dirwedd a'r morwedd ac nid oes neb byth i'w gweld yn ystyried y costau datgomisiynu enfawr o ran arian a charbon. Yn ogystal â'r ffaith na fyddwch chi'n cael fferm wynt yn fy nghwm i, gan ein bod ni eisoes wedi'u hel i ffwrdd. Mae gennym ni safle yn y gogledd sy'n iawn ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd, lân ac mae llawer o'r gwaith trefnu eisoes wedi'i wneud ar gyfer cynlluniau ynni'r llanw, felly pa fathau eraill o gynhyrchu ynni wnaethoch chi eu hystyried ac yna eu diystyru, a beth oedd ymateb y rhai hynny sy'n byw yn lleol i'r meysydd blaenoriaeth hyn?
Rwy'n gweld unwaith eto yn nogfen Llywodraeth Cymru, nodweddion 'canol y dref yn gyntaf'. A wnewch chi ymrwymo yn y fan a'r lle i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn dechrau gweithredu hyn mewn gwirionedd? Mae adeiladau blaenllaw Llywodraeth Cymru ei hun yn y gogledd, Merthyr ac Aberystwyth ymhell o fod wedi'u lleoli'n ddigon agos i ganol trefi i wneud unrhyw fath o wahaniaeth gwirioneddol i ganol trefi, yn enwedig yn awr. Ac nid yw ysbyty mwyaf newydd Cymru ger Cwmbrân, er ei fod yn edrych yn hollol wych, yn arbennig o hygyrch, yn enwedig i ymwelwyr, ac nid yw unman ger canol tref na dosbarth a fydd yn elwa ar ei agor. Felly, fy nghwestiwn olaf i chi, Gweinidog, yw: a fydd y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn arwain drwy esiampl yma, neu a fydd hyn yn fater arall o ofyn i bobl wneud yr hyn y mae hi'n gofyn nid yr hyn y mae hi'n ei wneud? Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf wedi mwynhau darllen y fersiwn ddiweddaraf hon, a fydd yn arwain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, at 'Dyfodol Cymru: cynllun cenedlaethol 2040'. Fel y dywedodd Mike Hedges, y mae ei bwyllgor ef a phwyllgor arall wedi bod yn dilyn hyn yn fanwl—fel yr wyf i o'r meinciau cefn—mae'n gam gwirioneddol ymlaen. Mae wedi datblygu llawer o'r themâu a nodwyd yn gynharach ac mae wedi eu hymgorffori yn yr hyn sydd, yn fy marn i, yn gynllun llawer mwy darllenadwy. Ond fy nheimlad pennaf yw, yn y pen draw, nad dim ond yn y manylion y mae'r ergyd, ond mewn gweithredu hyn hefyd, oherwydd fy mod i'n credu bod gennych chi'r holl bethau iawn yma a'i fod yn dwyn ynghyd wahanol bolisïau Cymru.
Felly, gadewch i mi sôn yn gyntaf am yr hyn yr wyf i'n sicr yn ei groesawu. Rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith bod hyn yn cyd-fynd—i godi pwynt Llyr yn gynharach—bod hyn yn cyd-fynd â'r darn o waith y mae Jeremy Miles yn ei wneud ac yn cael ei lywio gan y gwaith hwnnw, sy'n ail-adeiladu yr adferiad economaidd gwyrdd hwnnw ar ôl COVID. Rwy'n credu, Llyr, bod angen pendant i hyn lywio'r darn hwn o waith, i'w wneud yn ddarn byw, yn ddogfen fyw wrth symud ymlaen, ac rwyf i'n credu mai dyna bwrpas yr adolygiad pum mlynedd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn fater o'i gyflwyno a'i adael i fod tan 2040. Mae angen hysbysu ac adolygu hyn yn rheolaidd.
Rwy'n croesawu—er gwaethaf amheuaeth pobl eraill—y ffaith bod hyn wedi ei ddylanwadu drwyddi draw ac wedi ei ategu gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n wahaniaeth hollbwysig rhwng yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru a lleoedd eraill, ond unwaith eto, yn y manylion a'r gweithredu y mae'r ergyd. Mae'r ffaith bod hyn yn cael ei gyd-gynhyrchu, mae'r ffaith bod hyn wedi ei seilio ar bileri gofalu am y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ill dau yn bwyslais o fewn cenedlaethau ac ar draws cenedlaethau, i'w groesawu'n fawr iawn. Mae'n ffordd wahanol o feddwl, ac ni fyddaf yn osgoi ailadrodd hynny, ond yr hyn y mae angen i ni ei weld yn awr yw bod hynny yn gwneud yn dda trwy'r gwahanol bolisïau sy'n deillio o hyn. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr arfarniadau cynaliadwyedd integredig yn rhan annatod o'r dull gweithredu drwy gydol y ddogfen hon, ac rwyf i'n croesawu'n fawr iawn ac yn nodi yr hyn y dywedodd y Gweinidog yma: mae'n gweiddi oherwydd y ffordd y mae'r newidiadau wedi eu gwneud yn hyn ers y fersiwn ddiwethaf, y cyd-gynhyrchu, yr ymgysylltu â phobl—nid pwyllgorau yn y fan yma yn unig, ond y cyhoedd ehangach yng Nghymru—lle mae'n sgrechian yn fersiwn ddiweddaraf mis Medi 2020 sydd gennym o'n blaenau erbyn hyn.
Rwyf i yn sicr, sicr yn cymeradwyo'r pwyslais ar greu lleoedd strategol, gan fod hyn yn hollbwysig: y syniad o gael lleoedd lle gellir cerdded a byw gyda defnyddiau cymysg, gyda seilwaith gwyrdd yn rhan annatod o'r ffordd yr ydych yn datblygu'r gwaith o greu lleoedd, yn lleol ac o fewn tref ac o fewn stryd, hyd yn oed, a'r syniad bod gennych chi hefyd ddatblygiadau lleiniau wedi eu neilltuo ar gyfer pobl o fewn y gwaith creu lleoedd hwnnw; nad yw ar gyfer y gwneuthurwyr lleoedd mawr, y cwmnïau a'r datblygwyr mawr yn unig, gall eraill ddod i mewn a hunan-ddatblygu eu lleiniau eu hunain o fewn ardaloedd ar gyfer adeiladu tai ac yn y blaen.
Rwyf i, er gwaethaf naws amheus pobl eraill, yn croesawu'r pwyslais sydd ar bolisi 'canol y dref yn gyntaf'. Ers gormod o amser, a dweud y gwir, rydym ni wedi byw yn y cyd-destun rhyfedd hwn lle rydym ni'n hyrwyddo datblygiadau y tu allan i'r dref doed a ddêl, ac rydym ni wedi gweld ein trefi yn crebachu. Nawr, roeddem ni eisoes yn wynebu'r frwydr cyn i COVID gyrraedd, felly rwy'n ei groesawu'n fawr, ond, unwaith eto, mae'n fater o sicrhau ei bod yn parhau. Bydd yr ergyd yn y manylion a'r ymdrech i wneud y polisi 'canol tref yn gyntaf' hwn barhau yn wirioneddol. Ac yn yr holl ganol trefi—felly trefi marchnad yn y canolbarth, yn ogystal â threfi'r Cymoedd hefyd, trefi stribed yn y Cymoedd sy'n rhedeg ar hyd un stryd, gan eu gwneud yn rhannau bywiog o'r gymuned unwaith eto, yn hytrach na'i dynnu allan.
Rwyf i'n croesawu'n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y pwyslais ar atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym ni wedi bod yn dweud hyn ers degawdau, roeddwn i'n ei ddweud pan oeddwn i mewn Llywodraeth yn Llywodraeth y DU, o ran y newid y bu'n rhaid i ni ei wneud, y newid seismig yn y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn oddi wrth orddibyniaeth ar atebion adeiledig, sy'n angenrheidiol weithiau, i ddibyniaeth llawer mwy ar atebion naturiol. Nid wyf i'n siŵr, David, faint o amser sydd gen i ar ôl, ond rwy'n mynd i ddal ati—
Ugain eiliad.
O, un peth felly: a gaf i ofyn yn fawr iawn i chi, os gwelwch yn dda, ganolbwyntio ar fater capasiti'r grid? Mae'n rhy ddrud i ddatblygu capasiti presennol y grid. Nid oes gen i ffydd yn Ofgem y gallan nhw, mewn gwirionedd, ddefnyddio eu dull prisio o dan Lywodraeth y DU i greu mwy o gysylltedd grid mewn gwirionedd. Felly, a dweud y gwir, boed hynny yn wynt, PV, alltraeth, ar y tir neu unrhyw fath arall, oni bai fod y gridiau hynny wedi eu cysylltu, nid ydym yn mynd i'w wneud. Felly, dyna fy apêl i chi, Gweinidog.
Diolch. A'r siaradwr olaf cyn i'r Gweinidog ymateb, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Eisiau gwneud ambell sylw am ynni ydw i, yn benodol y rhyngweithio neu'r diffyg rhyngweithio rhwng uchelgais cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir ac ar y môr. Gaf i ddweud, yn gyntaf, fy mod i'n falch o weld y ddogfen ddiwygiedig yma'n troi cefn ar y syniad o ganiatáu tyrbinau gwynt enfawr ar draws Ynys Môn? Mewn gwirionedd, mi fyddai tirwedd Môn wedi'i gwneud hi'n amhosibl bron i gael caniatâd cynllunio ar gyfer y math yna o dyrbinau a oedd yn cael eu hargymell yn y drafft cyntaf. Mae Ynys Môn yn wastad ac mae yna bobl yn byw ar ei hyd o i gyd, ac nid ar dirwedd wastad yng nghanol pobl a phentrefi mae adeiladu tyrbinau 250m o uchder, sy'n uwch na Mynydd Twr yng Nghaergybi, y pwynt uchaf ar yr ynys. Felly, synnwyr cyffredin wedi'i weld yn y fan yna.
Ond fel cynrychiolydd ynys, dwi'n treulio llawer o amser yn edrych allan i'r môr ac yn ystyried potensial hwnnw, a dwi'n methu cweit deall sut y gall dogfen sydd mor bwysig â hon, y fframwaith datblygu cenedlaethol, beidio â chynnwys ynddi hi potensial ynni oddi ar y môr. Mae yna esgusodion yn cael eu gosod o ran pam bod yna ddim cyfeiriad at ynni môr, ac mai mewn difrif y cynllun morol cenedlaethol sydd yn gwneud hynny, ac mai'r tir ydy ffocws y cynllun datblygu cenedlaethol. Ond y gwir amdani yw bod y cynllun morol yn amwys iawn ynglŷn â'i uchelgais ar gyfer ynni môr. Rydyn ni'n gweld potensial enfawr oddi ar Ynys Môn yng nghynllun Morlais, Minesto a hefyd datblygiadau ynni gwynt pellach, mawr i'r gorllewin o'r datblygiadau presennol oddi ar arfordir y gogledd.
Mae'r fframwaith cenedlaethol yn benodol yn sôn, er enghraifft, am allu creu 70 y cant o'n trydan ni o ddulliau adnewyddol. Iawn, ond os mai dim ond edrych ar y tir mae'r fframwaith datblygu, beth am yr ynni ar y môr? Petasai'r ddwy ochr, eich timau tir chi a'ch timau môr chi, yn siarad efo'i gilydd, siawns y gallwn ni ddweud y byddwn ni'n gallu creu 100 y cant o'n trydan ni o ffynonellau adnewyddol, a'r môr fyddai'n cynhyrchu y rhan fwyaf o hwnnw.
Mae yna resymau penodol iawn pam fod hyn yn bwysig yn fy etholaeth i. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at Wylfa a'r stop ar y cynllun hwnnw. Dwi eisiau gweld—ac mae hi'n gwneud synnwyr llwyr—datblygiadau ynni gwynt y môr newydd oddi ar arfordir gogledd Cymru, i'r gorllewin o'r rhai presennol, yn cael eu gwasanaethu o borthladd Caergybi, yn hytrach na phorthladd Mostyn, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn gwasanaethu'r ffermydd gwynt eraill. Mae angen i'r fframwaith datblygu yma fod yn benodol iawn ynglŷn â dweud, 'Reit, mae yna ddatblygiadau gwynt y môr yn fan hyn allai wirioneddol ddod â budd i ni ar y tir mewn lle fel Ynys Môn'. Felly, siaradwch efo'ch gilydd, y ddau dîm sydd yn edrych ar y môr a'r tir. Mi allwn ni gael gwell fframwaith ar gyfer y dyfodol o wneud hynny.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Gallwch chi fy nghlywed i nawr, gobeithio. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl y prynhawn yma. Mae'r amrywiaeth o safbwyntiau a fynegwyd heddiw yn adlewyrchiad o ba mor eang yw'r cynllun hwn a helaethder yr heriau y bydd yn ein helpu i ymateb iddyn nhw dros yr 20 mlynedd nesaf.
Yn gyffredinol, i fynd i'r afael â'r cyfraniadau, bydd 'Dyfodol Cymru' yn ein helpu i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfyngau'r newid yn ein hinsawdd a bioamrywiaeth ar y cyd. Bydd 'Dyfodol Cymru' hefyd yn codi safonau datblygu ac yn helpu i greu lleoedd. Yn ei sgil, mae hyn yn creu cymunedau iach a gweithgar a'r amodau ar gyfer economi fywiog amrywiol o fusnesau lleol. Ac yn wir, mae 'Dyfodol Cymru' yn mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol fel tai fforddiadwy ac ynni adnewyddadwy, ac yn grymuso rhanbarthau ac awdurdodau lleol i benderfynu faint o ddatblygiad sy'n briodol i'w hardal a'r lleoliadau manwl i'w datblygu.
Gan ddychwelyd at rai o'r sylwadau penodol iawn y mae Aelodau wedi eu gwneud heno, bydd datgarboneiddio ynni yn rhan allweddol o gyflawni ein nodau hinsawdd. Mae'n rhaid i ni ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n gwella lles yng Nghymru trwy broses drosglwyddo wedi ei rheoli ac wedi ei gefnogi gan fuddsoddiad ac arloesedd.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ymwneud â datblygiadau ar y tir yn unig. Mae'r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu ar y tir ac ar y môr, ac mae 'Dyfodol Cymru' a'r cynllun morol gyda'i gilydd yn mynd i'r afael ag ynni ac yn adlewyrchu'r hierarchaeth ynni fel y'i nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae'r ddau gynllun yn cydnabod bod nifer o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar draws amrywiaeth o dechnolegau, ar y tir ac ar y môr, a bydd manteisio arnyn nhw i'r eithaf i helpu'r targedau.
Mae gwerth dweud ar y pwynt hwn, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, fod hyn, wrth gwrs, yn rhan o gyfres o ddogfennau. Fel y gwnaeth llawer o'r Aelodau ei ddweud yn eu sylwadau, mae'n hanfodol iawn darllen hyn ar y cyd ag amrywiaeth o gynlluniau eraill. Nid cynllun sy'n addas i bawb yw hwn. Mae nifer o'r Aelodau wedi gwneud cyfraniadau am yr hyn y dylai ei gynnwys, ac nid oes gen i amser i drafod pob un ohonyn nhw, ond mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi eu cynnwys mewn chwaer ddogfennau eraill i'r ddogfen benodol hon.
Hoffwn i bwysleisio hefyd fod y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd trefi llai, yn enwedig yn y gogledd, gan ganiatáu i gynlluniau lleol a rhanbarthol ychwanegu'r manylion hynny. Nid wyf i'n credu bod cymunedau lleol yn dymuno i Lywodraeth ganolog gynllunio eu dyfodol. Mae'n iawn ac yn briodol mai'r ffordd orau o ymdrin â materion gwledig lleol ac unigryw yw ar lefel leol i adlewyrchu gwahanol nodweddion lleoedd ledled Cymru. Nid ydym ni'n dymuno cael trefi ac ardaloedd wedi eu clonio; rydym ni'n awyddus i'n cymunedau lleol gael dweud eu dweud ynghylch sut olwg sydd ar eu cymunedau lleol. Nid yw hyn yn ymwneud â llywodraeth ganolog yn dweud sut y dylai hynny weithio.
O ran y grid, a godwyd gan nifer o bobl, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Ofgem, gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu a'r Grid Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am y grid ledled y DU, i sicrhau eu bod yn darparu system ynni sy'n galluogi'r trosglwyddo carbon isel yng Nghymru. Rwy'n cydnabod y sylwadau y mae llawer o'r Aelodau wedi eu gwneud, a dyna pam yr ydym yn gweithio gyda nhw.
O ran gohirio'r cynllun yn fwy, roedd y pethau pwysig fel newid yn yr hinsawdd yn bwysig cyn y pandemig ac, os rhywbeth, maen nhw'n bwysicach nawr. Felly, nid ydym ni'n dymuno gweld unrhyw oedi pellach yn hyn. Rydym ni yn cael y ddadl hon ar ddechrau'r cyfnod o 60 diwrnod. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i'w drafod trwy'r cyfnod hwnnw.
Soniodd llawer o'r Aelodau hefyd am gyfathrebu digidol. Felly, dim ond i dynnu sylw, mae polisi newydd sy'n cefnogi cyfathrebu digidol yn y cynllun. Mae gennym ni hefyd bolisi 'canol y dref yn gyntaf' ar gyfer y sector cyhoeddus, mewn ymateb i bwyntiau y gwnaeth nifer o gydweithwyr eraill, ac rydym yn gweithio'n benodol gyda chydweithwyr yn y cynllun morol, yn enwedig ar y rhyngwyneb ar y môr/ar y tir. Ond, nid yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ymdrin â'r môr; mae hynny yn y cynllun morol. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, bolisïau penodol iawn ar ardaloedd fel Caergybi a phorthladdoedd pwysig eraill.
Dirprwy Lywydd Dros Dro, nid oes gen i amser i drafod yr holl gyfraniadau unigol a wnaeth yr Aelodau, ond mae cam nesaf y cynllun hwn yn nwylo'r Senedd hon bellach. Mae ganddi 60 diwrnod, hyd at 26 Tachwedd, i nodi ei barn ar y newidiadau yr wyf i wedi eu cynnig ac ar y cynllun terfynol datblygol. Rwy'n deall bod y pwyllgor newid yn yr hinsawdd yn sicr yn bwriadu neilltuo amser i gasglu tystiolaeth a byddwn i'n hapus iawn i roi mwy o fanylion iddyn nhw am y newidiadau arfaethedig yn ystod y misoedd nesaf.
Pan fyddaf i wedi cael barn y Senedd, rwy'n bwriadu gwneud cynnydd cyflym tuag at gwblhau'r cynllun. Rwy'n synhwyro bod disgwyliad ac aros gwirioneddol ymhlith datblygwyr, awdurdodau lleol a chymunedau i'r haen uchaf hollbwysig hon o system y cynllun datblygu gael ei chwblhau a'i rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Felly, fy mwriad yw cyhoeddi 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol' ym mis Chwefror. Bryd hynny, byddaf i hefyd yn nodi sut yr wyf i wedi gweithredu ar farn y Senedd. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y ddadl gynnar hon yn helpu'r Aelodau i fanteisio ar y cyfle i ddarllen y cynllun datblygol a'r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud i'w gryfhau ers yr haf diwethaf. Mae cynllun 20 mlynedd yn gyfle mawr i lunio ein gwlad ac i gyflawni ein haddewidion o wlad decach, wyrddach, iachach a mwy ffyniannus. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddaf yn gohirio yr holl bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd egwyl am bum munud yn awr cyn y cyfnod pleidleisio. Mae'r adran TG wrth law i gefnogi unrhyw Aelod y mae angen cymorth arno yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:56.
Ailymgynullodd y Senedd am 20:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a dyma'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, saith yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 3 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 7, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, saith yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 4 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 : O blaid: 37, Yn erbyn: 7, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a wnaed yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, saith yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 5 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 7, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 11 yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 6 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020: O blaid: 38, Yn erbyn: 5, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, dau yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 12 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm: O blaid: 41, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar y ddadl ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gwelliant 1 yw'r bleidlais gyntaf, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, neb yn ymatal, ac mae yna 53 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Gwelliant 1 - Dadl - cyflwynwyd yn enw Caroline Jones: O blaid: 1, Yn erbyn: 53, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 2 - Dadl - cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 24, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, felly, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - Cynnig - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 30, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ein pleidleisiau ni, a diwedd ar ein gwaith ni am y prynhawn a'r noswaith. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:12.