Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Economi a Threfnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghaerdydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd? OAQ54424

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth gyhoeddus fodern ac integredig yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys gwasanaethau bysiau lleol, teithio llesol a metro trawsnewidiol de Cymru. Mae trafnidiaeth gyhoeddus integredig, wrth gwrs, yn allweddol er mwyn hyrwyddo newid moddol o'r car personol i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

Weinidog, yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld llifogydd eithafol mewn ardaloedd o Gaerdydd, a waethygwyd heb os gan y concrit a osodwyd ar gaeau ar gyfer cynllun datblygu lleol trychinebus Llafur, a thorri coed a choetiroedd hefyd. Dros yr haf, caewyd ffyrdd ar gyfer gwaith adeiladu ar gyfer cynllun dinistr lleol Llafur—gan mai dyna'r term cywir mewn gwirionedd—ac mae'r cyntaf o filoedd o dai drud iawn eisoes yn cael eu hadeiladu. Ond nid oes unrhyw arwydd o'r metro—dim arwydd ohono—ac nid ymddengys bod unrhyw ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol o gwbl. Ond mae lefel anhygoel o dagfeydd a llygredd aer yn sgil hynny ar hyn o bryd. A yw eich plaid yn difaru ildio ein cefn gwlad i ddatblygwyr corfforaethol allu gwneud elw mawr ohono, ac a ydych yn derbyn ei bod yn anghyfrifol iawn rhoi caniatâd i adeiladu'r tai hyn heb sicrhau bod unrhyw—unrhyw—seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a'i gywiro ar yr honiad na wnaed unrhyw ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol a theithio integredig yn ardal Caerdydd? Mae rhaglen y metro eisoes yn cael ei datblygu. Mae’r cerbydau wedi’u harchebu. Mae cynlluniau ar y gweill, gydag astudiaeth arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth ddiweddaraf Cymru yn canolbwyntio ar goridor y gogledd-orllewin. Ac o ran teithio llesol, rwy'n falch o ddweud ein bod ni fel Llywodraeth wedi dyfarnu £5.5 miliwn i Gyngor Caerdydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol i’w cynorthwyo i sicrhau gwelliannau teithio llesol ledled y ddinas. Mae hyn yn cynnwys £2.9 miliwn ar gyfer wyth cynllun strategol, ac ehangu cynllun hynod lwyddiannus Nextbike.

Yn ogystal â hynny, rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r hyn a alwaf yn 'hafn garbon', sef yr ardal o lygredd aer crynodedig yn y ddinas hon. Rydym yn nodi ffyrdd, gyda Chyngor Caerdydd, o leihau’r defnydd o gerbydau preifat yn y ddinas, a’r wythnos hon, cefais drafodaethau gyda fy swyddogion ynghylch sut y gallwn gychwyn ar ymgyrch ddigynsail i ailblannu coed wrth inni wynebu problemau clefyd coed ynn. Credaf fod yn rhaid plannu mwy o goed—rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno'n llwyr—ledled Cymru, ac yn benodol, yn ein hardaloedd trefol. Nawr, rwy'n gredwr cryf mewn rheoli tir yn ofalus mewn amgylcheddau trefol, gan greu mwy o fannau gwyrdd, plannu mwy o goed, ac mae hynny'n rhan allweddol o 'Bolisi Cynllunio Cymru', sy'n cael ei addasu, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol yn rhoi sylw dyledus i'r angen am fannau gwyrdd. Mae'n dda i'r amgylchedd, ac mae hefyd yn dda i iechyd meddwl a lles.

Weinidog, clywaf yr hyn a ddywedwch am drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn buddsoddi mewn modelau da o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y profiad y mae pobl yn ei gael i wneud y newid hwnnw o gar i fysiau. Roeddwn ym mhentref Creigiau yn ddiweddar, ac er bod safleoedd bws yn y pentref, dywedwyd wrthyf na allant gael llochesi bysiau na chyrbau is y gall pobl anabl eu defnyddio. Nawr, rwy'n deall mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am lawer o'r gwaith hwnnw, ond pan fyddwch yn darparu grantiau i awdurdodau lleol, a ydych yn gwirio’r profiad i holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus wrth ddarparu’r grantiau hynny? Mae cael bws newydd sbon sy’n edrych yn dda ac yn sgleiniog ar y ffordd yn un peth, ond os nad oes mynediad ar gyfer pobl anabl yn y lloches fysiau, neu os oes disgwyl i bobl aros allan pan fydd hi'n arllwys y glaw, bydd pobl yn mynd yn ôl i'w ceir. Felly, onid ydych yn cytuno â mi ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar brofiad pob teithiwr, a bod angen buddsoddi arian, lle y gellir ei fuddsoddi, mewn llochesi bysiau a chyrbau is fel bod mynediad ar gyfer pobl anabl yn arferol yn hytrach na’n eithriad?

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod. Mae profiad aelod o'r cyhoedd mewn safle bws yr un mor bwysig â'r profiad a gânt ar y bws ei hun. Ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi llywodraeth leol yng Nghymru, yn y flwyddyn ariannol hon, gyda gwell seilwaith bysiau sy'n cynnwys safleoedd bws modern sy’n addas i’r diben. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a gwasanaethau bysiau yn benodol a’r gwaith o greu partneriaethau o safon a fydd yn arwain at well darpariaeth gwasanaeth, a darpariaeth well mewn safleoedd bws ac ar lwybrau bysiau, gan gynnwys, er enghraifft, Wi-Fi am ddim, nid yn unig ar fysiau ond mewn safleoedd bws o bosibl.

13:35
Busnesau Bach

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu twf busnesau bach yng Nghymru? OAQ54430

Diolch. Yn unol â'n cynllun gweithredu ar yr economi, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau bach ledled Cymru. Ac mae'r banc datblygu yn cynorthwyo gyda'i wasanaeth cyngor dwyieithog a'i gefnogaeth ariannol i fusnesau allu dechrau a thyfu. Yn ychwanegol at hynny, mae rhaglen cyflymu twf Busnes Cymru yn darparu cefnogaeth arbenigol wedi'i theilwra i fusnesau sydd â photensial sylweddol i dyfu.

Diolch am hynny. Ac rwy'n deall eich dyhead a'ch uchelgais i helpu busnesau bach yng Nghymru. Ond wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, nododd Canghellor yr wrthblaid ar ran meinciau'r wrthblaid yn eich cynhadledd y byddai'n cyflwyno wythnos 32 awr, o fewn degawd, pe bai Llafur yn dod i rym. Nawr, sut y mae hyn yn cymharu â'ch awydd i annog twf busnesau bach, gan mai gallu cyfyngedig a fydd gan gyflogwyr i gyflogi mwy o staff, ond bydd eu horiau gwaith yn lleihau? Rwyf wedi derbyn sawl galwad ffôn ynglŷn a’r mater hwn, felly bydd eglurhad ynghylch yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud, neu sut y gallech reoli'r sefyllfa, yn rhywbeth y credaf y bydd perchnogion busnesau bach yn ei godi’n amlach yn y dyfodol.

Wel, buaswn yn dweud, yn anad dim, fod y cynigion yn uchelgeisiol. Maent yn iawn hefyd, yn fy marn i, ond nid ydynt heb eu heriau, a dyna pam fod cyfnod o 10 mlynedd wedi'i gynnig fel cyfnod pontio ar gyfer cwtogi’r wythnos waith. Yr hyn sydd bwysicaf yn economi'r DU ar hyn o bryd yw her ddeublyg diffyg twf cynhwysol—h.y. diffyg twf teg, a rhanbarthau, felly, yn cael eu gadael ar ôl—a diffyg cynhyrchiant. Ac ymddengys i mi, yn seiliedig ar arbenigedd rhyngwladol, y gellir mynd i'r afael â her cynhyrchiant drwy gwtogi'r wythnos waith, fel y gwelsom yn Ffrainc, lle y gwellodd cynhyrchiant o ganlyniad i gwtogi’r wythnos waith i bedwar diwrnod. Credaf y gallwn ddefnyddio’r un model yn y DU ac y gallwn gyflawni'r un canlyniadau â Ffrainc.

Weinidog, busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae arnynt angen amgylchedd treth isel heb fiwrocratiaeth i allu ffynnu. Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf i dwf ar hyn o bryd yw seilwaith gwael. Yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach, mae’r mwyafrif o fusnesau Cymru wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i’r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â seilwaith. Mae'n ymwneud nid yn unig â methiant y Llywodraeth i ddarparu ffordd liniaru’r M4 fel yr addawyd, ond â chyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Felly, Weinidog, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â phryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach dros y 12 mis nesaf?

Wel, credaf fod adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach yn hynod ddefnyddiol a byddwn yn ei ystyried yn ofalus iawn. O ran rhaglenni uchelgeisiol ar gyfer seilwaith, buaswn yn dweud bod y fasnachfraint reilffyrdd gwerth £5 biliwn, metro trawsnewidiol de Cymru, metro gogledd Cymru, sy'n gwneud cryn dipyn o gynnydd, datblygu metro de-orllewin Cymru hefyd, i gyd yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru uchelgais enfawr ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a'r seilwaith sydd ei angen yn sail i hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog ddweud wrthyf pryd y gall Cymru ddisgwyl gwasanaeth rheilffyrdd dibynadwy?

Mae gan Gymru wasanaeth—[Torri ar draws.] Mae gan Gymru wasanaeth rheilffyrdd dibynadwy. Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth hwnnw heb ei feiau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i gyfaddef. Os edrychwn, yn hanesyddol, ar y problemau sy'n gysylltiedig â thanfuddsoddi gan Lywodraeth y DU, credaf y byddwn yn deall bod y diffyg signalau addas a'r diffyg gwelliannau seilwaith mawr wedi cyfrannu at ddiffyg dibynadwyedd, nid yn unig heddiw ond ers blynyddoedd lawer.

Weinidog, bydd llawer o bobl ledled Cymru yn anghytuno â chi fod gennym wasanaeth rheilffyrdd dibynadwy. Mae gennych ddyheadau gwych y buaswn yn eu croesawu ac yn cytuno â hwy, ond mae teithwyr am wybod pryd y gallant ddisgwyl gwasanaeth rheilffyrdd sy'n ddibynadwy yn awr. Mae teithwyr am weld gwelliannau yn awr, nid yn y dyfodol yn unig. Ond dyma a ddywedoch wrth bobl Cymru y llynedd, ac rwy'n eich dyfynnu chi:

Gadewch i mi fod yn gwbl glir: dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflawni trawsnewid arloesol ym maes trafnidiaeth ledled y wlad.

Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad ydym yn gweld y trawsnewid hwnnw ac nad ydym yn gweld lefel dderbyniol o wasanaeth. Yr haf hwn, cawsom lefel annerbyniol o oedi, canslo, trenau rhy fach. Ar reilffordd y Cambrian, sy'n gwasanaethu fy etholaeth i, 61 y cant o drenau yn unig a gyrhaeddodd ar amser rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf, gyda llawer o rai eraill wedi cael eu canslo. Mae prinder gyrwyr yn arwain at ganslo rhagor o drenau, ac yn ôl gwefan Trafnidiaeth Cymru ei hun, roedd capasiti rheilffyrdd y Cymoedd i fod i gynyddu yn 2019. Fodd bynnag, yn ôl eu hystadegau eu hunain, 81 y cant o drenau yn unig a gyrhaeddodd ar amser rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf. Ai hwn yw'r trawsnewid arloesol a oedd gennych mewn golwg?

13:40

Wel, gadewch i mi ailadrodd rhai o'r mesurau arloesol rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith o ganlyniad i osod cytundeb y fasnachfraint hon. Rydym wedi archebu gwerth £800 miliwn o drenau newydd—mwy na 130 o drenau ac unedau tram ysgafn. Yr wythnos diwethaf, neu'r wythnos cyn hynny, cyhoeddais werth £194 miliwn o welliannau i orsafoedd. Cymharwch hynny â'r £600,000 a wariwyd dros y 15 mlynedd flaenorol. Mae gwasanaethau troad Halton wedi cychwyn yn y gogledd, ac rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw y byddaf, yr wythnos nesaf, yn manylu ar sut y byddwn yn sicrhau cynnydd o 10 y cant yn y capasiti erbyn diwedd eleni ar rwydwaith y fasnachfraint rheilffyrdd. Bydd yr Aelodau hefyd yn awyddus i glywed mwy am y trenau pedwar cerbyd a fydd yn cael eu cyflwyno ar wasanaethau brig rheilffyrdd y Cymoedd, ac a fydd yn darparu mwy o le i gymudwyr bob wythnos. Byddwn yn cyflwyno—ac unwaith eto, byddaf yn manylu ar hyn yr wythnos nesaf—trenau mwy modern gyda mwy o le a chanddynt systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hwylus a Wi-Fi am ddim, a byddaf yn manylu ar wasanaethau pellter hir gwell rhwng gogledd Cymru a Manceinion, yn ogystal ag amser teithio llawer gwell rhwng de Cymru a gogledd Cymru.

Ond hoffwn ychwanegu nad yw hon wedi bod yn siwrnai heb ei heriau, ond mae llawer o'r her yn ymwneud â'r seilwaith sydd wedi dyddio neu nad yw'n addas i'r diben, ac nid yw hynny'n gyfrifoldeb i Trafnidiaeth Cymru na Llywodraeth Cymru; mae hynny'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Os ydym am fynd i'r afael â'r broblem honno, mae arnom angen i'r cyfrifoldeb am seilwaith a chyllid gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Ac mae'r Aelod yn nodi'r pwynt pwysig ynghylch dibynadwyedd ar reilffordd y Cambrian dros yr haf. Wel, wrth gwrs, mae llawer o'r broblem gyda rheilffordd y Cambrian dros yr haf yn ymwneud â'r offer signalau a ddefnyddir ar reilffordd y Cambrian. Nid cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw hynny, ond Network Rail—h.y. Llywodraeth y DU. Rydym yn gobeithio y bydd y broblem hon yn cael ei datrys, ond wrth gwrs, nid ni sydd ar fai am yr her honno.

Wel, diolch, Weinidog. Rydych wedi cyfeirio at reilffordd y Cambrian. Wel, mae trenau'n cael eu tynnu oddi ar reilffordd y Cambrian i'w defnyddio mewn rhannau eraill o Gymru. Nid cyfrifoldeb Network Rail yw hynny; eich cyfrifoldeb chi a Trafnidiaeth Cymru ydyw.

Nawr, yn yr hydref y llynedd, gwelsom gryn dipyn o darfu ar rwydwaith y rheilffyrdd, ac ar un adeg, gwelsom y fflyd yn lleihau o 127 o drenau i 86 trên yn unig. Nawr, gwyddom ein bod yn disgwyl tywydd hydrefol bob blwyddyn yn y ffordd y daw, ond buaswn wedi disgwyl i'n gwasanaethau rheilffyrdd fod yn ddigon dibynadwy yn ystod cyfnod cynnes a sych yr haf eleni, ac ni ddigwyddodd hynny. Felly, mae hynny, wrth gwrs, yn peri pryder ynghylch sefyllfa'r teithwyr yr hydref hwn. Felly, o ystyried yr achosion gwarthus o oedi a chanslo dros yr haf, a allwch roi sicrwydd i bobl Cymru, a chymudwyr, na fydd lefel y tarfu yr hydref hwn yn agos i'r hyn a welsant y llynedd?

A gaf fi ddiolch i Russell George am roi cyfle imi sôn am y mater difrifol iawn hwn? Os meddyliwn am hydref y llynedd, bydd pob un ohonom yn cofio'r broblem ddifrifol iawn gyda'r hyn a elwir yn 'fannau fflat ar olwynion' a achoswyd gan ddiffyg amddiffyniadau ar drenau i atal olwynion rhag llithro. Roedd yn broblem unigryw i'r fflyd o gerbydau a etifeddwyd gennym gan Arriva Trains Wales. Nawr, mae'r Aelod yn llygad ei le wrth nodi bod trenau wedi'u tynnu oddi ar reilffordd y Cambrian a llawer o reilffyrdd eraill dros gyfnod gwyliau'r haf, er mwyn gosod citiau amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Gosodwyd citiau amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro ar lu o drenau dros yr haf fel rhan o'n hymdrech gwerth £40 miliwn i uwchraddio'r fflyd bresennol, a fydd yn weithredol wrth i ni aros am y trenau newydd, a fydd yn cael eu cyflenwi o 2022 ymlaen. Felly, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw fod y trenau hynny nad oedd ganddynt amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro y llynedd, ac nad oeddent yn weithredol o ganlyniad i hynny, neu drenau â mannau fflat ar eu holwynion, bellach wedi cael y cit hanfodol hwnnw wedi'i osod.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant 4.0?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Fe fydd yn ymwybodol o'r adroddiad a gyflawnodd yr Athro Brown ar hyn ar ein cyfer, ac rydym bellach wedi'i gyhoeddi a byddwn yn ymateb iddo yn unol â hynny. Ond ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae'r broses o roi'r cynllun gweithredu ar yr economi ar waith yn parhau, gyda'r contract economaidd yn hybu twf cynhwysol, teg a newid ymddygiad mewn lleoliadau busnes, a'r galwadau i weithredu a gynlluniwyd i sicrhau bod busnesau'n cael eu diogelu at y dyfodol. Ac fel rhan o'r galwadau i weithredu, rydym yn buddsoddi'n helaeth yn niwydiannau'r dyfodol ac yng nghydrannau'r diwydiannau hynny, fel awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, a fydd yn hybu cynhyrchiant a thwf swyddi.

Edrychaf ymlaen at yr ymateb llawn i adroddiad yr Athro Brown. Yr hyn a welodd ef oedd fod gormod o gwmnïau yn Nghymru wedi'u cloi i mewn i rannau isel eu gwerth o gadwyni byd-eang, ac mewn gwirionedd, nad oes llawer o le i rolau uwch eu gwerth mewn meysydd fel ymchwil a datblygu a chaffael rhyngwladol.

Nawr, mae'r Athro Brown yn dadlau ymhellach y bydd gweithlu Cymru, o ganlyniad, yn agored i gystadleuaeth cost ac ansawdd wrth i gwmnïau geisio awtomeiddio rhannau llai gwerthfawr o'u cadwyni. Gwyddom fod awtomatiaeth yn digwydd ac y bydd yn cyflymu, felly mae'r amser i weithredu er mwyn paratoi ar gyfer hynny'n lleihau. Felly, pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddarparu cyfleoedd ailhyfforddi, er enghraifft, i'r rheini yr effeithir arnynt yn awr ac yn gynyddol yn y dyfodol gan awtomatiaeth?

Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw fod y broses o roi ein cynlluniau ar gyfer cyfrifon dysgu unigol ar waith wedi cychwyn ac mae'r rhaglen hon bellach yn cael ei chyflwyno. Yr hyn y mae'n galluogi unigolion mewn gwaith i'w wneud yw cael cymorth ariannol er mwyn cael hyfforddiant ac ailhyfforddi yn benodol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau y bydd diwydiant 4.0 yn eu cyflwyno, a'r angen i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio i'r eithaf ar y swyddi newydd a gaiff eu creu wrth drawsnewid i gymdeithas awtomataidd.

Un peth y mae'r Athro Brown yn ei nodi yw bod mesurau gwerth ychwanegol gros yn arwydd da iawn o ba mor barod yw economi ar gyfer awtomatiaeth. Ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at faint yr her i Gymru, yn enwedig o ran paratoi'r gweithlu ar gyfer datblygiadau mewn awtomatiaeth yn sgil methiant i gynyddu ein gwerth ychwanegol gros. Ac os edrychwn ar ffigurau gwerth ychwanegol gros yn ôl rhanbarth, maent yn eich gwneud yn anghyfforddus tu hwnt fel Llywodraeth Cymru, rwy'n siŵr.

Mae Llundain yn cynhyrchu 33 y cant yn fwy na chyfartaledd y DU. Rydych wedi bod yn eich swydd ers 2016. Ar ôl cymaint o amser, mae'n deg iawn asesu bellach pa mor llwyddiannus y bu'r camau a gymerwyd gennych o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros. Nid yw'n edrych yn dda. Felly, pa mor barod y gallwn fod ar gyfer awtomatiaeth pan fydd ein gwerth ychwanegol gros o dan eich arweinyddiaeth fel Gweinidog yr economi mor bell ar ei hôl hi o hyd?

Wel, gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, y ffigurau. Ers 2004, twf cynhyrchiant Cymru oedd y pedwerydd uchaf o holl ranbarthau a gwledydd y DU. Y pedwerydd uchaf. Rydym yn dod o sylfaen anhygoel o isel, rwy'n cyfaddef hynny, ond ers datganoli, rydym wedi perfformio'n anhygoel o dda, yn enwedig yn ddiweddar. Os edrychwch ar rai o'r mesuriadau eraill a ddarparwyd i'r economi, fel cynnyrch domestig gros, a ddangosodd yn ddiweddar fod Cymru'n gwneud yn well na chyfartaledd y DU, rydym yn perfformio'n dda iawn yn wir. Ond wrth gwrs, mae Brexit ar y gorwel a gallai hynny arwain at grebachu'r economi.

Yn erbyn y cefndir hwn o ansicrwydd, rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio i hybu cynhyrchiant, fel y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, a fydd yn agor ym mis Tachwedd yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd gan y cyfleuster hwnnw yn unig gyfraniad gwerth ychwanegol gros o oddeutu £3 biliwn a bydd yn sbarduno arloesedd ac yn lledaenu arloesedd ar draws y sectorau awyrofod a modurol yn enwedig. Ond rydym hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn mannau eraill, er enghraifft yn y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol, sydd unwaith eto wedi'i chynllunio i hybu arloesedd a datblygu sgiliau ar draws economi Cymru. Rydym wedi gallu ariannu llu o ganolfannau menter a chyfleusterau tebyg i ganolfannau menter ledled Cymru a gynlluniwyd i annog a chefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau eu hunain ac i rannu eu profiadau ag entrepreneuriaid eraill.

Gyda'r nifer uchaf erioed o fusnesau'n bodoli, gyda diweithdra bron â bod ar y lefel isaf erioed, gyda chyflogaeth ar lefel uwch nag erioed, ac anweithgarwch ar y lefel isaf erioed, rwy'n hyderus fod economi Cymru a gweithlu Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu heriau'r dyfodol. Ond nid yw hynny'n golygu y bydd Brexit yn gymorth. Os rhywbeth, bydd Brexit yn her fawr anodd ei goresgyn, oni bai ein bod yn cael cefnogaeth ariannol drwy gronfa Kingfisher ac adnoddau cyllido eraill gan Lywodraeth y DU.

13:50

Diolch, Lywydd. Weinidog, y tu allan i'r DU, mae'n swyddogol bellach fod yr Undeb Ewropeaidd yn rhanbarth economaidd twf isel. Mae hyd yn oed economi'r Almaen, a fu unwaith mor gryf, bellach yn aros yn ei hunfan oherwydd, yn wahanol i'r DU, lle mae canran fawr o'n sylfaen fusnes yn fentrau bach a chanolig, mae economi'r Almaen wedi'i ddominyddu gan gorfforaethau rhyngwladol mawr ac mae'n ddibynnol iawn ar ei marchnadoedd allforio. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, pe ceid rhyfel tariff gwarthus ar ôl Brexit heb gytundeb, y byddai economi'r Almaen yn waeth ei byd o lawer nag economi'r DU?

Rwy'n fwy pryderus ynghylch economi'r DU nag economi'r Almaen. Cyfeiriwyd at economi’r Almaen fel economi twf isel. Rwyf bob amser yn ei chael hi'n anodd deall y syniad fod economi twf isel yn economi sy'n perfformio'n wael os yw'r twf isel hwnnw'n gynaliadwy. Credaf yn gryf na ddylem fod yn dyheu, fel y nododd Greta Thunberg yn ddiweddar, am y chwedl hon o dwf uchel tragwyddol. Mae'n rhaid i dwf fod yn gynaliadwy. Ac os edrychwch ar farchnad yr UE, mae'n dal i fod yn farchnad rydym yn anfon mwyafrif ein hallforion iddi; mae'n farchnad gynaliadwy i'r DU fod yn rhan ohoni. Felly, er y gallwn fod yn obsesiynol ynghylch economïau eraill ledled y byd, gadewch inni edrych ar ein heconomi ein hunain a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella economi'r DU ac economi Cymru. Mae gennym ysgogiadau penodol yma yng Nghymru i wella economi Cymru, ond yn y pen draw, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU benderfynu ar lwybr gweithredu a fydd o fudd i economi Cymru a'r DU, ac ni fydd y llwybr gweithredu hwnnw'n arwain at unrhyw fuddion net os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ein gyrru oddi ar glogwyn ddiwedd mis Hydref.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb er na fuaswn, wrth gwrs, yn cytuno â'i gasgliadau fel y cyfryw. Neithiwr, Weinidog, cefais sgwrs ddiddorol iawn gyda barman o’r Eidal. [Torri ar draws.] Dylwn ddweud fy mod yn eithaf sobr pan gefais y sgwrs hon—wel, nid oeddwn wedi meddwi, o leiaf. Ond a minnau wedi bod ar wyliau yno sawl gwaith a'n hoff o ffordd o fyw yr Eidal, mynegais syndod at y ffaith, am wlad sydd i'w gweld bob amser mewn helynt economaidd, yn enwedig ar hyn o bryd, fod eu ffordd o fyw'n edrych yn llawer gwell na'r hyn sydd gennym yn y DU.

Cefais fy synnu’n fawr gan ei ateb, Weinidog. Dywedodd wrthyf, ymhell o fod yn boblogaeth hapus a bodlon, fod yno gryn dipyn o anfodlonrwydd, yn bennaf oherwydd diffyg swyddi â chyflog da a chyfleoedd masnachol. Roedd hyn yn cyferbynnu â'r DU lle y dywedodd na allai gredu, pan gyrhaeddodd yma tua phum mlynedd yn ôl, y cyfleoedd gwaith a'r lefelau cyflog roedd mwyafrif y boblogaeth yn eu mwynhau. Roedd yn siarad yma am Gymru, mewn gwirionedd, Weinidog. Gyda llaw, ar ôl edrych ar y rheoliadau preswylio parhaus, nid oedd ganddo unrhyw ofnau ynghylch allgludo. Aeth yn ei flaen i ddweud bod nifer cynyddol o Eidalwyr yn siomedig iawn gyda’r UE, ac yn cymeradwyo pleidlais Brexit y DU. Maent bellach yn ystyried yr UE yn ddylanwad cyfyngol ar economi’r Eidal ac yn casáu ymyriadau gwleidyddol yr UE ym materion y wlad.

Er fy mod yn cydnabod mai barn a phrofiad un unigolyn yn unig yw hyn, onid yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn bryd inni dorri'n rhydd o hualau uchelgeisiau gwleidyddol Brwsel ac edrych allan tuag at fyd o dwf economaidd uchel, lle mae lefelau twf rhai gwledydd bum gwaith yn uwch na'r UE, a lle rydym eisoes yn mwynhau gwerth £300 biliwn o allforion?

Rwy'n falch iawn eich bod wedi bod yn ymgysylltu ag Eidalwyr Bae Caerdydd. O gofio eich bod yn aelod o Blaid Brexit, rwy'n cymryd na ddiolchodd i chi pan adawoch chi ei far oni bai eich bod wedi rhoi tip mawr iawn iddo. Os edrychwn ar economi’r Eidal, gwelwn dueddiadau tebyg yno ag yn y DU. Mae gennych rai rhanbarthau sy'n perfformio'n dda yn yr Eidal, yn y gogledd yn bennaf, ac yna mae gennych rannau o'r Eidal sy'n ei chael hi'n anodd iawn, lle mae pobl ifanc, dalentog yn teimlo nad oes dewis ganddynt ond gadael, yn y de yn bennaf. Nid wyf yn gwybod o ba ran o'r Eidal y daw eich barman Eidalaidd, ond wrth gwrs, dewisodd Gymru ac mae'n hapus yma, ac rwy'n falch ei fod yma, a boed iddo aros yma am amser maith gan ei fod yn swnio—yn seiliedig ar y profiad a gawsoch—fel aelod da iawn o'r gymuned ac unigolyn gweithgar, ac nid felly y mae Plaid Brexit yn portreadu gwladolion tramor fel arfer.

Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cydnabod y dylai Cymru fod, a'i bod bob amser wedi bod, yn lle croesawgar iawn i wladolion tramor. Er ein bod yn mwynhau cwmni Eidalwyr a llawer o ddinasyddion Ewropeaidd eraill yma yng Nghymru, mae llawer o wledydd Ewropeaidd yn mwynhau presenoldeb pobl Prydain, ac rwy'n bryderus iawn fod y rhethreg a glywn yn awr ledled y DU, ond yn bennaf gan elfennau asgell dde o'r cyfryngau, yn rhoi'r argraff i'r byd y tu allan ein bod yn fewnblyg, nad ydym yn groesawgar mwyach a'n bod yn gresynu at bresenoldeb gwladolion tramor yn y DU. Mae honno'n sefyllfa beryglus iawn i fod ynddi. Ac mae arnaf ofn na allwn ni fel Llywodraeth Cymru frwydro yn erbyn y canfyddiad sy'n datblygu ledled y byd mai Lloegr fechan yw'r Deyrnas Unedig. Mae angen i Lywodraeth y DU ymddwyn yn llawer mwy cyfrifol o ran y negeseuon y mae'n eu cyfleu ynghylch pa fath o wlad y dymunwn fod yn yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf am inni fod yn wlad ryngwladolaidd.

13:55
Trenau Newydd ar gyfer y Rhondda

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno trenau newydd ar gyfer y Rhondda fel rhan o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd? OAQ54419

Gwnaf, rwy'n falch iawn o wneud hynny, gan y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau metro rheilffordd ysgafn newydd, neu drenau tram, ar reilffordd y Rhondda o 2022. Bydd y rhain yn cynnwys Wi-Fi am ddim, socedi trydan, gwybodaeth electronig i deithwyr, a byddant yn cynnwys systemau aerdymheru a mwy o gapasiti storio ar gyfer beiciau.

Ond hyd yn hyn, dim toiledau. Weinidog, hoffwn pe na bai’n rhaid i mi barhau i godi’r gwasanaeth trenau yng Nghymru gyda chi, ond mae pethau’n gwaethygu. Mae gwasanaethau'n cael eu tynnu oddi ar yr amserlen; mae cerbydau'n cael eu tynnu oddi ar wasanaethau brig ar reilffyrdd y Cymoedd. Nawr, rwy'n dal y trên yn rheolaidd ac mae'r profiad ar adegau brig, yn amlach na pheidio, yn anghyfforddus ac yn ymylu ar fod yn anniogel. Nid fy marn i yn unig yw hon; dyna farn gweithwyr trenau sydd â'r dasg o ostegu teithwyr blin a cheisio cynnal diogelwch. Mae'n sefyllfa annerbyniol nad yw'n dangos unrhyw arwydd o gael ei datrys o fewn y deufis nesaf chwaith, gan na fydd cerbydau newydd ar waith tan ddechrau mis Rhagfyr.

Cefais neges y bore yma gan fam a ddywedodd fod ei phlentyn wedi'u gadael mewn gorsaf ac yn hwyr i'r ysgol oherwydd gorlenwi. Weinidog, bydd rhywun yn cael eu brifo oni bai fod y sefyllfa hon yn cael ei datrys. A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â'r materion gorlenwi hyn, ac os nad ydych, pam? A beth sydd gennych i'w ddweud wrth y teithwyr sy'n gorfod parhau i ddioddef yr amodau gwarthus hyn am ddeufis arall o leiaf? Ac a wnewch chi nodi, Weinidog, fy mod yn eich holi ynglŷn â threnau yn y fan hon, nid gorsafoedd?

Wrth gwrs, rwy'n rhannu pryderon y teithwyr, wrth gwrs fy mod, ond gadewch i mi roi rhywfaint o fanylion i'r Aelod am yr hyn a fydd yn dod yn fuan iawn—ie, ym mis Rhagfyr, ond dyna'r cynharaf y gallwn roi'r cerbydau newydd ar y rheilffyrdd wrth i'r amserlen newid ym mis Rhagfyr.

Rydych wedi bod yn gyfrifol am y rheilffyrdd ers tro bellach.

Gadewch i mi roi rhai ffeithiau a ffigurau i'r Aelod y gall ac y bydd, heb os, yn eu cyfleu i'r cyfryngau ac yn eu hyrwyddo. Yn gyntaf oll, erbyn diwedd 2022, bydd 400 o seddi ychwanegol ar wasanaethau o Dreherbert i Gaerdydd yn ystod oriau brig y bore, a 300 o seddi ychwanegol o Gaerdydd i Dreherbert yn ystod yr oriau brig gyda'r nos. Bydd y siwrneiau'n lleihau o un awr i 50 munud, ac erbyn mis Rhagfyr—diwedd mis Rhagfyr—byddwn wedi cynyddu capasiti 10 y cant drwy gyflwyno cerbydau ychwanegol, sy'n anodd iawn cael gafael arnynt ar hyn o bryd, o ystyried cyflwr y diwydiant ledled y DU, ac yn wir, ymhellach i ffwrdd.

Ond mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig ynghylch toiledau ar drenau tram. Wyddoch chi, fe wnaethoch chi fel arweinydd Plaid Cymru ddatganiad yn cefnogi trenau tram. Fe ddywedoch chi fod,

'Plaid Cymru wedi cyflwyno gweledigaeth gyffrous i ddyfodol isadeiledd trafnidiaeth Cymru, sy’n cynnwys buddsoddi mewn rhwydweithiau rheilffordd ysgafn'.

Mae eich llefarydd ar yr economi a thrafnidiaeth wedi gwneud hynny.

Ond nid heb doiledau. Mae'n rhaid i chi gael toiledau arnynt.

Mae eich arweinydd presennol wedi siarad am yr angen am drenau tram rheilffordd ysgafn. A allwch enwi—? Leanne Wood, a allwch enwi unrhyw system drenau tram rheilffordd ysgafn ar y stryd yn y byd sydd â—?

14:00

Yr Almaen a Munich. Ie, iawn, yr Almaen a Munich—

Mae gennyf luniau ar fy ffôn. A hoffech chi eu gweld?

Ni fyddai eu tramiau'n gyfreithlon yma oherwydd y gydymffurfiaeth ar gyfer pobl â phroblemau symud. Mae'n rhaid iddynt gael toiledau sy'n hygyrch i bobl anabl. A ydych yn dweud y byddech yn darparu trenau tramiau yng Nghymru na allai pobl anabl eu defnyddio? Oherwydd mae hynny'n gywilyddus, os mai dyna yw eich safbwynt.

Ond nid ydynt yn mynd i gael toiledau o gwbl. Anabl—

Felly, pan ddywedoch y dylai trenau tram fod yn gweithredu yng Nghymru, mae'n rhaid nad oeddech yn deall beth oeddent mewn gwirionedd. Mae'n rhaid mai dyna'ch safbwynt, gan nad oes unrhyw drên tram ar gael ar hyn o bryd sydd â thoiledau hygyrch i bobl anabl.

Rydym yn cyflwyno buddsoddiad sylweddol fel y gall pobl anabl ddefnyddio, heb risiau, pob un gorsaf ar rwydwaith y metro—pob un. Ac rydym yn cyflwyno llawer iawn o fuddsoddiad i sicrhau bod gennym doiledau sy'n hygyrch i bawb mewn gorsafoedd yn ardal y metro. Yn ychwanegol at hynny, Lywydd, mae'n rhaid nodi, gan y credaf fod Mark Barry yn llygad ei le y bore yma yn y Western Mail pan ddywedodd fod y sefyllfa hon o ran toiledau wedi'i chamgyfleu. Dylid nodi y bydd gan bob trên newydd—mwy na 110 ohonynt—pob un o drenau masnachfraint Cymru a'r gororau, ac ar y llinellau metro na fyddant yn defnyddio trenau tram, doiledau hygyrch sy'n cydymffurfio'n llawn.

Yr hyn sy'n bwysig, unwaith eto, i ategu fy nghwestiwn cyntaf i chi ynglŷn â bysiau, yw'r profiad cyffredinol o ran y rhwydwaith rheilffyrdd. Yn fy rôl flaenorol fel llefarydd trafnidiaeth ar gyfer grŵp y Ceidwadwyr, rwyf bob amser yn cofio siarad â Network Rail, gan ddweud na ellir defnyddio llawer o'r camerâu teledu cylch cyfyng mewn gorsafoedd yn y llys, h.y. ni ellir eu defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn fandaliaeth neu unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol arall. A allwch roi ymrwymiad heddiw, Weinidog, y bydd unrhyw uwchraddiadau i deledu cylch cyfyng—a gobeithiaf weld llawer o uwchraddiadau teledu cylch cyfyng mewn gorsafoedd—yn golygu y gellir eu defnyddio yn y llys, er mwyn sicrhau, os bydd fandaliaeth neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn ein gorsafoedd, y bydd pobl yn wynebu grym llawn y gyfraith a'r canlyniadau?

Rwy'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw, fel rhan o'r gwaith gwerth £194 miliwn ar uwchraddio gorsafoedd. Rydym yn awyddus iawn i wella diogelwch, ac fel rhan o hynny, byddwn yn cyflwyno mwy o gyfleusterau teledu cylch cyfyng y gellir eu defnyddio gan yr heddlu ac mewn erlyniadau yn y llys. Ond rwy'n fwy na pharod i ddarparu mwy o wybodaeth i'r Aelod.

Mynediad i'r Anabl i'r Rheilffyrdd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru am wella mynediad i'r anabl i'r rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ54423

Wel, fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ledled Cymru, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl sy'n cael gwared ar rwystrau i deithio, sy'n grymuso pobl ac sy'n hyrwyddo yn hytrach na chyfyngu ar fyw'n annibynnol.

Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf oedd hi pan welwyd llun ohonoch chi yn y papur lleol, The Leader, yn cyhoeddi buddsoddiad i wella mynediad anabl i orsaf Rhiwabon, yn eich etholaeth chi, wrth gwrs. Mae bron i 12 mis ers hynny, a dyw’r buddsoddiad ddim wedi digwydd. Mae etholwyr yn dweud wrthyf i eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu camarwain yn hynny o beth. Felly, gaf i ofyn a ydych chi’n difaru clochdar yn y papurau lleol fod yna fuddsoddiad yn mynd i ddod, pan dyw hwnnw’n amlwg ddim wedi digwydd? Ac a ydych chi yn cymryd cyfrifoldeb am y methiant i weithredu ar eich addewid?

Wel, i'r gwrthwyneb. Rydym wedi darparu £10 miliwn fel arian cyfatebol ar gyfer rhaglen Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU. Enwebwyd 15 gorsaf gennym ar gyfer rhaglen Mynediad i Bawb. Roeddem yn falch, wrth gwrs, fod saith o'n 15 wedi cael eu derbyn, ond ni dderbyniwyd wyth ohonynt—roedd Rhiwabon yn un ohonynt. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw y byddwn yn bwrw ymlaen, unwaith eto, gyda’r rownd ddiweddaraf o enwebiadau Mynediad i Bawb, ac y bydd y gorsafoedd na chawsant eu cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth ddiwethaf gan Lywodraeth y DU yn cael eu cyflwyno eto. Ond yn ychwanegol at hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi y bydd £15 miliwn o gyllid ar gael i holl orsafoedd masnachfraint Cymru a'r gororau er mwyn gwella hygyrchedd, a byddwn yn edrych ar y gorsafoedd hynny lle mae teithwyr anabl yn wynebu'r rhwystrau mwyaf ar hyn o bryd o ran mynediad at wasanaethau.

Rwy'n fwy na chyfarwydd â gorsaf Rhiwabon gan mai honno yw fy ngorsaf leol, ac roeddwn yn siomedig iawn, felly, fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â defnyddio'r arian roeddem ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei gynnig er mwyn gwella cyfleusterau. Ond yn y gwanwyn, pan fyddant yn galw am enwebiadau ychwanegol, rwy'n gobeithio y byddant yn derbyn gorsaf Rhiwabon.

Weinidog, mae llawer o'n gorsafoedd trenau wedi bod yn annigonol o ran mynediad ar gyfer pobl anabl ers peth amser bellach. Fel rydych wedi'i ddweud, rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â hyn. Rydych newydd grybwyll y rhestr o orsafoedd Mynediad i Bawb. Credaf fod gorsaf y Fenni ar y rhestr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a chredaf iddi fod yn llwyddiannus yn dilyn trafodaethau a gawsoch gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a gwaith caled ymgyrchwyr lleol, gan gynnwys y cynghorydd sir lleol Maureen Powell—gwn fod pob un ohonynt wedi bod mewn cysylltiad â chi. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am statws gorsaf y Fenni ar hyn o bryd. Mae'n amlwg yn orsaf bwysig yn lleol, i mi fel yr Aelod Cynulliad lleol, ond mae hefyd yn rhan bwysig o'r rhwydwaith yng Nghymru yn gyffredinol. Felly, beth yw'r sefyllfa o ran uwchraddio'r orsaf honno a darparu mynediad ar gyfer pobl anabl?

14:05

Wel, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y gwaith a wnaed wrth i ni ddatblygu cynlluniau i ddarparu mynediad heb risiau, a bydd yn orsaf heb risiau o gwbl. Ond rwyf hefyd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y chwe gorsaf arall a'r gwaith a wnaed i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU, drwy raglen Mynediad i Bawb, cyn gynted ag y gellir gwneud cynnydd, i mi allu adrodd yn ôl.FootnoteLink

Weinidog, mae nifer o bobl anabl wedi cysylltu â mi, yn amlwg, i ddweud bod mynediad i reilffyrdd ar eu cyfer hwy yn ymwneud, yn aml, ag argaeledd toiledau, ac rwy'n ymwybodol o'r sylwadau a wnaethoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf. Ymddengys mai'r broblem bellach yw mai'r hyn a ddywedwch, yn ôl pob golwg, yn sicr ar reilffyrdd trwm, yw y bydd toiledau ar gael, ond fel gyda bysiau, ar reilffyrdd ysgafn, byddai hynny i bob pwrpas yn groes i'r rheoliadau. Byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny, felly nid yw'n gyfreithiol bosibl gwneud hynny. A gaf fi ofyn, felly, ein bod yn cael briff sy'n nodi'n glir beth yw'r fframwaith rheoleiddio a pham ei fod ar waith, oherwydd ar hyn o bryd fy nealltwriaeth i hyd yn hyn, fel eraill rwy'n siŵr, oedd bod hyn yn fater o gost neu beth bynnag, ond mewn gwirionedd, ymddengys bod rhesymau eraill? Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall beth yw sail y broses o wneud penderfyniadau.

Mae sawl rheswm pam na ellir gosod toiledau ar drenau tram rheilffordd ysgafn. Un o'r rhesymau, wrth gwrs, yw'r pwysau ychwanegol a'r diffyg symudadwyedd os ydych yn gosod cyfleusterau o'r fath. Rheswm arall yw'r risg y bydd y toiledau hynny'n gollwng ar strydoedd os nad oes gennych ddigon o gapasiti yn y tanciau. Ceir problemau hefyd o ran symudadwyedd—holl bwynt cael y rheilffyrdd ysgafn hynny yw y gallwch gyflymu ac arafu yn gynt, gallwch fynd o amgylch troadau cyfyng a gallwch fynd i fyny ac i lawr llethrau mwy serth. Gall fod yn beryglus iawn os oes rhywun mewn toiled pan fyddwch yn gwneud hynny.

Ond wrth gwrs, ceir her hefyd, fel y dywed Mick Antoniw, o ran cydymffurfio â deddfwriaeth pobl â phroblemau symud, ac erbyn diwedd eleni, mae'n rhaid i'n holl drenau, pob un o'n cerbydau, gydymffurfio â deddfwriaeth pobl â phroblemau symud. Nid ydym wedi gallu nodi un system ar y blaned sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth pobl â phroblemau symud—dim un system. Os daw un ar gael, os gellir goresgyn gwyddoniaeth a'i bod yn bosibl gosod toiled sy'n hygyrch i bobl anabl mewn trên tram, a sicrhau ei fod yn gweithredu'n ddiogel ar y stryd, h.y. fel y gall y gyrrwr weld drwy'r cerbyd, byddem yn defnyddio'r ateb technegol hwnnw wrth gwrs. Ond ar hyn o bryd, nid oes atebion o'r fath ar gael.

Ffordd Blaenau'r Cymoedd

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465? OAQ54410

Rydym yn gweithio gyda thasglu'r Cymoedd i sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl o ganlyniad i'r gwaith deuoli. Mae hyn yn cynnwys targedau heriol wrth adeiladu adrannau 5 a 6 ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, pecynnau gwaith ar gyfer busnesau lleol, gwariant gyda chwmnïau o Gymru ac ymgysylltu ag ysgolion lleol.

Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Dirprwy Weinidog ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ychydig cyn y toriad. Mae fy etholaeth yn cynnwys dau bentref sy'n ffinio â ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'r ddarpariaeth band eang yn ofnadwy yn y ddau ohonynt. Mewn gwirionedd, cefais e-bost gan etholwr o un o'r pentrefi hynny neithiwr a ddywedai mai cysylltiad 3MB yw'r hyn y gallent ei gael ar ddiwrnod da. Penderyn a Chroesbychan, pentrefan ger Llwydcoed, yw'r pentrefi hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fydd y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo, bydd Openreach yn gosod ceblau newydd ar hyd ochr y ffordd. Ac felly, yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi yw: a fyddech yn barod i gael trafodaeth gydag Openreach i weld a ellir darparu buddion i'r gymuned? Ymddengys mai dyna'r amser delfrydol i osod seilwaith da ar gyfer y pentrefi hynny o'r diwedd, a ffordd gosteffeithiol o wneud hynny.

Credaf fod yr Aelod yn llygad ei lle. Mae Vikki Howells yn nodi dau bentref lle mae cysylltedd band eang yn wael ar hyn o bryd. Byddwn yn trafod y mater hwn gydag Openreach ar ei rhan, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o osod seilwaith atodol yr A465 ar hyd y llwybr, y byddwn yn cynnwys pibelli sbâr ar hyd yr A465 y gellid eu defnyddio ar gyfer gwell gwasanaethau band eang. Os caf ddweud, a gaf fi ddiolch i Dawn Bowden hefyd am gadeirio is-bwyllgor o dasglu'r Cymoedd sy'n edrych yn benodol ar fuddion y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth hwn?

14:10
Busnesau Bach yn Sir Benfro

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yn Sir Benfro? OAQ54404

Yn sicr. Yn unol â'n cynllun gweithredu ar yr economi, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau bach ledled Cymru. Mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn cynnig cyngor dwyieithog, cefnogaeth a chymorth ariannol.

Weinidog, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau bach yn sir Benfro yn well yw drwy fynd i'r afael â'r amryw broblemau seilwaith sy'n eu hwynebu, gan gynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith digidol. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a ganfu fod seilwaith gwael wedi effeithio ar 63 y cant o fusnesau Cymru. Roedd yr un adroddiad yn galw am fwy o waith trawsbleidiol i fynd i'r afael â'r problemau hynny. A allwch ddweud wrthym, felly, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i’r afael yn well â rhai o’r problemau seilwaith yn sir Benfro, er mwyn rhoi chwarae teg i fusnesau bach yn fy etholaeth wrth gystadlu â busnesau eraill ledled Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi'n helaeth iawn mewn seilwaith yn rhanbarth yr Aelod, gan gynnwys buddsoddi yn y gwaith o uwchraddio'r A40—sy'n hanfodol bwysig—gyda'r ffordd osgoi arfaethedig o amgylch ochr ogleddol Llanddewi Felffre. Yn ogystal, mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi amlinellu argymhellion ar gyfer ymdrin â rhai o'r ardaloedd anodd eu cyrraedd mewn perthynas â chysylltedd digidol. Credaf ei bod yn deg dweud mai ein barn ni yw y dylid sicrhau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer darparu band eang, yn debyg i'r hyn sy'n bodoli ar gyfer y Post Brenhinol. Mae'n warthus ein bod yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain ac nad oes rhwymedigaeth o'r fath i ddarparu isafswm cyflymder band eang sylfaenol i bob adeilad yn y Deyrnas Unedig.

Gwasanaethau Rheilffordd ar Lein Maesteg

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ehangu amlder y gwasanaethau rheilffordd ar lein Maesteg? OAQ54441

Gwnaf. Cyflwynwyd astudiaeth a gomisiynwyd gan Trafnidiaeth Cymru i wella amlder gwasanaethau rheilffyrdd ar reilffordd Maesteg i Lywodraeth Cymru yn yr haf, ac mae swyddogion yn ystyried yr argymhellion ar hyn o bryd.

Mae hynny'n newyddion da iawn, gan ei fod yn gwybod pa mor awyddus y mae ymgyrchwyr lleol wedi bod, ac rwyf innau wedi bod, i sicrhau cynnydd ar hyn. Rydym yn cydnabod na fydd hyn yn digwydd dros nos, ond bydd cynyddu'r amlder nid yn unig yn dda i deithwyr ar hyd y rheilffordd i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, ond mewn gwirionedd, ar hyd y brif reilffordd gyfan, gan y gallai hynny leddfu pwysau mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, at gyflwyno gwasanaeth ar y Sul—rywbryd yn yr hydref, ym mis Rhagfyr, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Bydd hyn ynddo'i hun yn ailgyflwyno gwasanaeth a gollwyd gennym bedwar neu bum degawd yn ôl, mae'n debyg, ac rydym wedi cael ein hynysu dros y Sul ers hynny. Felly, bydd hynny'n cael effaith enfawr hefyd.

Ond tybed: a oes ganddo unrhyw syniad sut y bydd yn bwrw ymlaen â'r astudiaethau hyn, sut y bydd yn ymgysylltu â'r awdurdod lleol, gyda mi ac ymgyrchwyr eraill ar gynyddu'r amlder? Oherwydd er ein bod yn edrych ymlaen, mae'n rhaid i mi ddweud, at gael y cerbydau newydd, gan fod yr holl gerbydau hynny sydd wedi'u hadnewyddu—. Mae'r holl bobl sy'n gwybod unrhyw beth am reilffyrdd wedi bod yn dweud wrthyf y bydd y cerbydau a adnewyddir nid yn unig yn cyflwyno mwy o gapasiti a chapasiti newydd, ond bydd eu hansawdd yn dda iawn o gymharu â'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Ond bydd gwella amlder, yn enwedig yn ystod oriau brig, nid yn unig yn dda i bobl ym Maesteg, ond ym Mhont-y-clun, Llanharan, Pencoed ac ym mhobman ar hyd y brif reilffordd.

Mae Huw Irranca-Davies yn hyrwyddwr gwych, cadarn ac angerddol dros well gwasanaethau ar reilffordd Maesteg; nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ynglŷn â hynny. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag ef ac arweinydd yr awdurdod lleol i drafod sut i fwrw ymlaen â'r astudiaeth a gyflwynwyd i fy swyddogion. Maent eisoes yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, i drafod y canfyddiadau cyn bwrw ymlaen ymhellach â'r gwaith hwn. Ond rwy’n falch iawn o ddweud y bydd y gwasanaeth dydd Sul cyntaf yn cyd-fynd â’r newid cenedlaethol i'r amserlen, sef 15 Rhagfyr. Gallaf roi gwybod i'r Aelodau heddiw y bydd tocynnau ar werth oddeutu wyth wythnos cyn y siwrneiau, sy’n golygu y bydd tocynnau ar gael tua diwedd mis Hydref ar gyfer y gwasanaeth dydd Sul newydd hwnnw.

Weinidog, efallai y byddwch hefyd yn cofio gohebiaeth flaenorol rhyngom ynghylch yr oedi cyn blaenoriaethu dolen basio ar gyfer rheilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr. Y tro diwethaf i mi edrych ar hyn, fe egluroch chi y byddai'n cael ei ohirio tan gyllideb 2018-19 o gyllideb y flwyddyn flaenorol. Mae hyn wedi'i ohirio ers sawl blwyddyn eisoes, felly efallai y gallwch esbonio'r oedi. Ond efallai y cofiwch hefyd fy siom ynghylch y flaenoriaeth isel i'r Cymoedd yn fy rhanbarth, gan gynnwys rheilffordd Llynfi, yn y cynigion trafnidiaeth a gânt drwy fargen ddinesig Caerdydd. Nid wyf yn credu bod y ffaith bod y Llywodraeth a'r fargen ddinesig yn gweithio ar wahân yn fy argyhoeddi ynghylch unrhyw weledigaeth strategol neu gynllun cyflawni ar gyfer y rhan hon o fy rhanbarth, ac felly rwy'n gofyn pwy sy'n gyfrifol am ddod â'r elfennau hyn, gan gynnwys tasglu'r Cymoedd, ynghyd fel ein bod yn cael darlun clir ar gyfer y rhan hon o fy rhanbarth.

14:15

Wel, dylai'r math hwnnw o gyfrifoldeb fod yn nwylo Trafnidiaeth Cymru fel partner cyflenwi, ond rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru, o ran dolen basio rheilffordd Llynfi, eisoes yn cynnal asesiad technegol cynnar ynghylch ailddefnyddio'r ddolen basio benodol honno, ac yn ychwanegol at hynny, gwelliannau yng ngorsaf Ton-du. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i ystyried gwasanaethau ychwanegol a gwelliannau seilwaith y gellid eu gwneud yn ei hardal.

Seilwaith Trafnidiaeth yng Nghanolbarth Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliannau arfaethedig i'r seilwaith trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ54414

Gwnaf. Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Mai eleni, yn nodi ein cynigion ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth yma yng Nghymru.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r problemau difrifol ger Pont ar Ddyfi ym Machynlleth. Mae'n fan gwirioneddol gyfyng ar yr A487, ac fe fyddwch yn ymwybodol, pan fo'r bont ar gau, fod cymudwyr yn wynebu dargyfeiriad o 30 milltir. Bu'r bont ar gau eto yn ystod y tywydd gwael diweddar, ac mae pryder nad oes digon o fonitro'n digwydd. Mae teledu cylch cyfyng yn yr ardal, a dywedir wrthyf hefyd y dylai'r llifddorau ar y gefnffordd fod wedi cael eu hagor yn gynt o lawer. Felly, ceir rhai materion ymarferol go iawn, yn fy marn i, sy'n galw am eu datrys. Ond fe ysgrifennoch ataf hefyd y mis diwethaf i ddweud bod nifer o newidiadau wedi'u gwneud i gwmpas prosiect Pont ar Ddyfi ar y cam datblygu, a'ch bod wedi dweud bod angen nodi'r costau terfynol cyn gallu gwneud penderfyniad. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â hynny—gan fod hyn yn peri pryder mawr i bobl sy'n byw yn yr ardal honno o fy etholaeth—o ran y sefyllfa bresennol a'r bont newydd yn y dyfodol.

Hoffwn fwrw ymlaen â'r prosiect hwn cyn gynted â phosibl. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am fynychu cyfarfod diweddar lle y trafodwyd Pont ar Ddyfi a lle y gallodd fy swyddogion ddarparu sesiwn friffio i'r Aelodau ac i'r awdurdod lleol? Byddaf yn sicr yn gofyn i swyddogion archwilio potensial monitro gwell ar y bont, a bydd angen cytuno ar amcangyfrif cost diwygiedig ar gyfer y cynllun adeiladu gyda'r contractwr cynnar, gan y gwnaed sawl newid i gwmpas y prosiect yn ystod y cyfnod datblygu. Ond pan fyddaf wedi cael syniad o'r costau terfynol, byddaf mewn sefyllfa i benderfynu a ddylid cyhoeddi'r gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn ai peidio. Hoffwn pe bai'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo cyn gynted â phosibl, ac rwy'n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniad erbyn diwedd eleni.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Brexit, a dwi'n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn cyntaf. Russell George.

Porth Brexit Llywodraeth Cymru

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am faint o fusnesau sydd wedi ceisio cymorth a chyngor gan borth Brexit Llywodraeth Cymru? OAQ54438

Hyd yma, mae dros 37,000 o ddefnyddwyr wedi defnyddio porth Brexit Busnes Cymru, gyda mwy na 52,500 o ymweliadau â’r tudalennau.

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Mewn ymateb gan y Gweinidog economi a thrafnidiaeth ddoe, ymddengys mai cymharol ychydig o fusnesau sydd wedi ceisio cyngor busnes gan borth Brexit swyddogol Llywodraeth Cymru. Ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yn arbennig, yn enwedig busnesau nad ydynt efallai'n aelodau o gyrff eraill hefyd, i'w helpu i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit? Tybed faint o bobl sy'n ymwybodol—neu yn hytrach faint o fusnesau bach a chanolig sy'n ymwybodol—fod porth Brexit yn bodoli mewn gwirionedd.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, yn amlwg, i gyfleu'r cyngor a'r canllawiau sydd ar gael. Fel y cydnabu cwestiwn yr Aelod, rwy'n credu, ceir llawer o fusnesau y gallai fod yn anos eu cyrraedd gan nad ydynt yn aelodau gweithredol llawn, os mynnwch, o gymdeithasau masnach ac ati. Credaf ein bod wedi manteisio ar bob cyfle, pan fyddwn yn cyfarfod â'r rhanddeiliaid y mae gennym berthynas â hwy ac sydd eu hunain yn rhan o rwydweithiau busnes ehangach—i achub ar y cyfle i sicrhau eu bod yn tynnu sylw at argaeledd cyngor yn eu rhwydweithiau. Yn amlwg, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyrff cynrychiadol, ond yn yr un modd, rydym wedi cyfarfod â chynghorwyr busnes proffesiynol fel cyfreithwyr a chyfrifwyr, y gallai busnesau llai droi atynt yn gyflymach, efallai, am gyngor. Felly, rydym wedi ceisio rhaeadru gwybodaeth drwy'r rhwydweithiau hynny hefyd, ac yn ychwanegol at hynny, edrych ar y rhwydweithiau sydd gennym drwy gyrff hyd braich, fel Banc Datblygu Cymru, Gyrfa Cymru ac ati, i sicrhau eu bod yn cyfleu gwybodaeth i'w rhwydwaith o fusnesau. Ond buaswn yn dweud y byddai unrhyw Aelodau sy'n barod ac yn awyddus i ledaenu'r ffynonellau cyngor hynny, buaswn yn eich annog i wneud hynny yn eich rhwydweithiau eich hun ac yn eich etholaethau eich hun hefyd. Diolch i'r Aelod am y cwestiwn.

14:20
Brexit

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit? OAQ54436

Rwy’n bwriadu ymweld â Brwsel yn ystod yr wythnosau nesaf i gael cyfarfodydd amrywiol â sefydliadau’r UE, a fydd yn adeiladu ar y cyfarfod a gafodd y Prif Weinidog â Michel Barnier ym mis Mehefin, a chyfarfodydd a gynhaliais yn Strasbwrg ym mis Mawrth. Hefyd, mae gan ein swyddfa ym Mrwsel berthynas dda â sefydliadau'r UE.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Sylwais ddoe eich bod wedi dweud bod angen refferendwm arnom cyn inni gael etholiad cyffredinol. Onid ydych yn credu y byddai swyddogion Ewropeaidd yn gwerthfawrogi etholiad cyffredinol fel y gallwn gael Llywodraeth a fydd yn gwireddu canlyniad refferendwm 2016, a bod unrhyw beth a wnewch chi neu Weinidogion eraill Llywodraeth Cymru i gymhlethu pethau pan fyddwch yn cyfarfod â swyddogion Ewropeaidd yn cymylu’r sefyllfa ac yn ei gwneud yn fwy heriol?

Wel, rwy'n siŵr nad yw'r Aelod yn ceisio awgrymu na ddylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i ddadlau dros bobl Cymru a chynrychioli eu buddiannau mewn unrhyw gyd-destun y gallant. Mae mynd i Frwsel a chynrychioli barn Llywodraeth Cymru a Chymru yn rhoi mantais wirioneddol i ni. Fe fydd yn gwybod bod mecanwaith Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn bodoli i roi’r gallu i Lywodraethau datganoledig gael rhywfaint o oruchwyliaeth dros y broses negodi. Fe fydd hefyd yn gwybod, o ddilyn y trafodion yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na fyddant yn rhannu'r papurau technegol y maent yn eu rhannu â sefydliadau'r UE gyda ni, sy'n golygu nad oes gennym gymaint o wybodaeth am y trafodaethau hynny ag y byddai'n dymuno, rwy'n siŵr, fel y gallwn drafod hynny yn y Siambr yma i'r graddau priodol. Mae hefyd yn bwysig mynd yno er mwyn i ni glywed gan sefydliadau'r UE yn uniongyrchol beth yw eu pryderon, ond rwyf am ddweud yn glir iawn wrth yr Aelod ein bod yn ofalus iawn nad ydym yn tanseilio safbwynt Llywodraeth y DU mewn unrhyw ffordd, ond byddwn bob amser yn achub ar y cyfle i ddadlau dros bobl Cymru a'u buddiannau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.

Diolch, Lywydd. Weinidog, pam fod eich Papur Gwyn sydd newydd gael ei gyhoeddi ar Brexit, ‘Dyfodol mwy disglair i Gymru’, yn cyfeirio at gardiau adnabod cenedlaethol? Mae'r ddogfen yn nodi, a dyfynnaf:

'Mae rhai wedi dadlau y gallai cerdyn adnabod cenedlaethol fod yn bris gwerth ei dalu i fynd i’r afael â phryderon am fudo ‘heb reolaeth’ o’r AEE.'

Ai dyma farn Llywodraeth Cymru—eich bod am wario biliynau o bunnoedd ar ddogfennaeth y bydd yn rhaid i bobl dalu amdani yn ôl pob tebyg, ac a fyddai’n cyfyngu ar eu hawliau sifil er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y cyfaddefwch eu bod yn bryderon di-sail? Os nad dyma farn Llywodraeth Cymru, a gobeithiaf nad dyna yw eich barn, pam cyfeirio at gardiau adnabod yn y ddogfen hon o gwbl?

Wel, mae'r Aelod wedi codi'r pwynt hwn o'r blaen, yn ogystal ag Aelodau eraill o'i phlaid, ac mewn perthynas â mater mor sensitif â hyn, rwy'n credu—ni ddylem fynd allan o'n ffordd i chwilio am bwyntiau i'n rhannu lle nad oes rhai'n bodoli. Mae'r ddogfen y cyfeiria ati yn adeiladu ar egwyddorion 'Diogelu Dyfodol Cymru', a luniwyd, yn amlwg, ar y cyd â Phlaid Cymru, ac yn wir, mae'n adeiladu ymhellach ar y papur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', a groesawyd gan ei phlaid hefyd. Nid yw'r ddogfen yn dweud mai cardiau adnabod yw polisi Llywodraeth Cymru—dim ond dweud bod rhai wedi dadlau bod manteision i hynny. Ond credaf fod yn rhaid iddi weld hynny yng nghyd-destun trafodaeth ehangach yn y papur hwnnw, sy'n sefydlu'n glir iawn fod y polisi rydym yn ei argymell o fewn terfynau, o fewn paramedrau, rhyddid i symud fel y'i rhoddir ar waith gan aelod-wladwriaethau eraill yr UE.

Diolch, Weinidog. Mae llawer o bethau yn y ddogfen rydym yn cytuno â hwy, ond buaswn yn annog y Gweinidog i weld yr iaith honno yng nghyd-destun polisi amgylchedd gelyniaethus y Swyddfa Gartref. Mae cyflwyno, neu—. Nid siarad am gardiau adnabod cenedlaethol yw'r unig agwedd ar y ddogfen hon a fyddai hefyd yn peri pryder i ddinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydynt yn dod o'r DU sydd eisoes yn teimlo dan fygythiad. Mae'r ddogfen yn argymell olrhain mudwyr gan ddefnyddio yswiriant gwladol fel y gellir monitro eu gweithgarwch economaidd—gyda'r bwriad, rwy'n tybio, o'i gwneud yn haws casglu tystiolaeth a allai arwain at allgludo. Ddoe, gwadodd y Trefnydd fod y ddogfen yn argymell allgludo gorfodol. Buaswn yn gofyn i chi sut y mae hyn yn cyd-fynd â'r ffaith bod brawddegau sy'n cyfeirio at alltudio mudwyr yn gyfreithlon a thwristiaeth budd-daliadau wedi'u cynnwys. O gofio bod eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun i wneud Cymru'n genedl noddfa, rhywbeth a groesewir gennym, a'ch bod wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn y gorffennol am eu polisi amgylchedd gelyniaethus gwarthus, a ydych bellach yn credu mai camgymeriad oedd cynnwys iaith yn y ddogfen hon sydd â'r potensial i achosi trallod pellach i fudwyr o'r UE sy'n byw yng Nghymru?

14:25

Wel, gwn fod gan yr Aelod gynhadledd plaid ddiwedd yr wythnos, ond nid yw'r rhain yn gwestiynau priodol i'w holi yn fy marn i. Fe'i cyfeiriaf at y pwynt a wneuthum—[Torri ar draws.] Fe'i cyfeiriaf at y pwynt a wneuthum yn gynharach, sef bod y ddogfen bolisi hon yn adeiladu ar yr iaith a ddefnyddiwyd gennym yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', sy'n dweud, i bob pwrpas, y byddai angen i geiswyr gwaith gofrestru er mwyn sicrhau bod pobl sy'n ceisio gwaith yn gwneud hynny mewn cyfnod rhesymol o amser, sef yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, a lle nad yw hynny'n digwydd, neu os nad oes ganddynt obaith gwirioneddol o gael gwaith, dylem allu gofyn iddynt adael y DU. Dyna'r iaith yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', y cytunodd eich llefarydd Brexit ei bod yn ymagwedd bragmataidd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn peidio â cheisio chwilio am raniadau mewn perthynas â'r mater hwn.

Fe fydd hi'n gwybod hefyd fod y Llywodraeth wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gynorthwyo dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru i geisio cofrestru ar gyfer statws sefydlog yng nghynllun Llywodraeth y DU, gan gynnwys ariannu Cyngor ar Bopeth i ddarparu cyngor iddynt, ariannu gwasanaeth cyfraith fewnfudo arbenigol, Newfields Law, i ymdrin ag achosion cymhleth, ceisio ymestyn canolfannau cymorth digidol ledled Cymru er mwyn helpu dinasyddion yr UE i chwilio am gymorth, a gweithio hefyd gydag ystod o elusennau a sefydliadau'r trydydd sector i godi ymwybyddiaeth.

Diolch, Weinidog, ac mae'r holl bethau hynny'n bethau rydym yn eu croesawu, a dyna pam y buaswn o ddifrif yn eich annog i ddileu'r cyfeiriadau at alltudio mudwyr yn gyfreithlon, twristiaeth budd-daliadau a chardiau adnabod o'r ddogfen hon. A phe baech yn gwneud hynny, byddai fy mhlaid yn barod iawn i'w thrafod ymhellach gyda chi ac i ystyried pleidleisio drosti, os ydych yn bwriadu cynnal pleidlais.

Yn olaf, hoffwn droi at rywbeth sydd gennym yn gyffredin. Mae'r ddau ohonom yn awyddus i gael ail refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio, ac rwyf hefyd wedi nodi, gyda pharch, eich bod yn cytuno â Phlaid Cymru yn hytrach nag elfennau o'ch plaid eich hun y dylid cael refferendwm cyn etholiad. Buaswn yn croesawu hynny.

Rydym wedi dweud y byddem yn barod i gefnogi Jeremy Corbyn i gael y cyfle cyntaf i fod yn Brif Weinidog dros dro i sicrhau estyniad i erthygl 50 a refferendwm—mae hynny'n deg, ond nid ymddengys y bydd ganddo'r niferoedd ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn ichi, o dan yr amgylchiadau hyn, a fyddech chi felly'n cefnogi rhywun arall i fod yn Brif Weinidog dros dro, gwladweinydd hŷn efallai, i fynd i Frwsel i sicrhau’r estyniad hwnnw—[Torri ar draws.]—neu chithau, yn wir—ac yna i alw etholiad cyffredinol ar unwaith? Neu a fyddai’n well gennych fentro Brexit heb gytundeb na chefnogi unrhyw un ond Corbyn i fod yn Brif Weinidog dros dro?

O sylwadau a wneir gan gyd-Aelodau o'ch plaid yn eu seddau, rwy'n sylweddoli mai mater i San Steffan yw hwn, ond rwy'n siŵr y bydd gennych farn ar y mater, o ystyried eich barn gref y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn drychineb y mae'n rhaid ei osgoi ar bob cyfrif.

Wel, yn gyntaf, o ran y pwyntiau a gododd ynglŷn â'r ddogfen, hoffwn pe bai wedi codi'r pwyntiau hynny cyn i'r ddogfen gael ei chyhoeddi; byddem wedi bod yn fwy na pharod i ymgysylltu'n fanwl mewn perthynas â'r pwyntiau hynny er mwyn ceisio cytuno ar safbwynt gyda Phlaid Cymru. Ond ar y pwynt ehangach y mae'n ei wneud ynglŷn â threfniadau seneddol, nid wyf am ateb cwestiynau yma ynglŷn â safbwynt Llafur Cymru yn Senedd y DU. Mae'r rheini'n gwestiynau ar gyfer Senedd y DU. Rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiynau mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru.

Weinidog, a allwch egluro beth yw eich polisi ar Brexit?

Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Rwyf i fel arfer—. Rydym fel arfer yn cael ein beirniadu am ddarparu cymaint o gyfle yn y Siambr i ddisgrifio ein polisi Brexit, ond rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ein safbwynt yma yw ein bod yn awyddus i aros—y dylai Cymru barhau i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, a chredwn y dylid rhoi'r mater yn ôl i'r bobl mewn refferendwm fel y gall y bobl roi eu barn, ac yn y refferendwm hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn argymell y dylent bleidleisio dros barhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

14:30

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb. Wrth gwrs, gallech fod wedi amlinellu tri ymateb posibl, gan ei bod yn ymddangos i mi fod y Blaid Lafur wedi mabwysiadu tri pholisi. Wrth gwrs, gŵyr pob un ohonom yr oedd Jeremy Corbyn yn awyddus, ac yna nid oedd yn awyddus, i gael etholiad cyffredinol, a'i fod yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r UE er mwyn cael cytundeb y gallai ei gefnogi neu beidio â'i gefnogi mewn ail refferendwm. Ymddengys mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw eu bod hwythau'n awyddus i gael etholiad cyffredinol, ond nid ar hyn o bryd, ac yna maent am gynnal ail refferendwm, ac ni waeth pa gytundeb a ddaw'n ôl, ni waeth a fyddai Prif Weinidog Llafur y DU yn cefnogi'r cytundeb hwnnw, fe fyddwch yn ymgyrchu yn ei erbyn ac o blaid aros yn yr UE. Ac yna, wrth gwrs, ddoe fe ddywedoch chi, fel Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, yn groes i safbwynt Llafur y DU a safbwynt Llafur Cymru, eich bod yn meddwl y byddai'n ddelfrydol cael ail refferendwm cyn etholiad cyffredinol, er i chi ddweud yn gynharach eleni, yng nghynhadledd Llafur Cymru, nad ail refferendwm fyddai'r ateb gorau. Mae eich polisi'n llanast llwyr. O ystyried bod gennych ddewislen o ddewisiadau yr ymddengys eich bod yn ei rhoi gerbron etholwyr Prydain, sut ar y ddaear y gall unrhyw un ymddiried ynoch chi i gyflawni unrhyw beth mewn perthynas â Brexit?

Wel, rwyf bob amser yn fwy na pharod i ddarparu platfform i gymdeithas Ceidwadwyr Gorllewin Clwyd asesu eu darpar ymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, ond hoffwn ei atgoffa nad wyf am gymryd rhan yn yr herian gwleidyddol y mae mor hoff ohono. Hoffwn ei wahodd i gofio yr oedd Boris Johnson yn erbyn refferendwm ac yn erbyn etholiad, a'i fod bellach o blaid etholiad ac wedi pleidleisio o blaid ac yn erbyn cytundeb Theresa May. Felly, os yw'n chwilio am ddryswch a dewislen o ddewisiadau, credaf y dylai edrych ychydig yn nes at adref.

Ni ddeallais yn iawn beth yw eich safbwynt heddiw, mewn cyferbyniad â'ch safbwynt ddoe a safbwynt Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur y DU. Yr hyn a ddywedaf yw, yn wahanol i'r Blaid Lafur, o leiaf mae gan fy mhlaid safbwynt clir iawn, sef ein bod am gyflawni Brexit. Rydym am gyflawni Brexit heb ragor o betruso neu oedi, erbyn 31 Hydref, fel y gallwn symud ymlaen a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobl ledled y wlad, fel datrys y llanast rydych wedi'i wneud o'n gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, codi safonau addysg ar ôl degawd o ddiffyg cynnydd, a rhoi mwy o heddlu ar ein strydoedd. Mae pobl Cymru eisoes wedi pleidleisio ar y mater hwn ym mis Mehefin 2016 wrth gwrs, ac mewn gwirionedd, maent eisoes wedi cael ail bleidlais hefyd, gan iddynt gymeradwyo'r safbwynt hwnnw a safbwynt maniffestos y pleidiau, yn eich plaid chi ac yn fy mhlaid innau, a ddywedodd y byddent yn cyflawni canlyniad refferendwm Brexit ac yn cyflawni Brexit. Felly, maent eisoes wedi cael dau gyfle i fynegi barn. Felly, yn lle bod fel bwystfil â thri phen, credaf ei bod yn hen bryd i'r Blaid Lafur gefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni Brexit sy'n gweithio i'r DU ac sy'n gweithio i Gymru. A wnewch chi, felly, fabwysiadu’r safbwynt y credaf fod angen i’ch plaid ei fabwysiadu, sef gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflawni Brexit yn hytrach na cheisio'i rwystro?

A gaf fi awgrymu'n garedig fy mod yn meddwl mai'r hyn sydd wrth wraidd problem ei blaid yw'r dryswch rhwng slogan a pholisi? Nid yw ailadrodd 'Cyflawnwch Brexit' yn mynd i wneud unrhyw beth, ac os yw'n credu y bydd arian ar ôl i'w fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth heddlu ar ôl Brexit caled, credaf fod ei ben yn y cymylau.

Dyfarniad Goruchaf Lys y DU

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch Brexit yn dilyn dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU ynghylch addoediad? OAQ54426

Mae Senedd y DU wedi mynd yn ôl i eistedd, fel y dylai fod wedi'i wneud drwy'r adeg. Yn y cyfamser, rwy'n parhau i achub ar bob cyfle i godi fy llais i amddiffyn buddiannau Cymru, sy'n cael eu diogelu orau drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn nes ymlaen heddiw, rwy’n disgwyl siarad â'r Ysgrifennydd Brexit, a byddaf hefyd yn mynychu Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd yn y dyddiau nesaf.

Mae'r methiant hwn yn y cyfansoddiad a grëwyd gan Brexit yn awgrymu, pan fo angen i'r llysoedd ymyrryd, nad yw'r cyfansoddiad yn gweithio, a'r gwir yw nad yw wedi gweithio ers peth amser. Felly, a fyddai’r Gweinidog yn cytuno bod angen cyfansoddiad ysgrifenedig arnom, gwladwriaeth ffederal wedi’i hadfywio, sef y Deyrnas Unedig gyda Chymru yn bartner cyfartal o fewn y wladwriaeth honno, gyda rôl warchodedig ac egwyddor sybsidiaredd yn graidd i'r cyfansoddiad newydd, sy'n golygu gwneud penderfyniadau ar lefel sy'n berthnasol i natur y penderfyniadau a wneir? A wnaiff gefnogi’r farn honno, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi’r farn honno?

14:35

Fy marn bersonol yw fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yr Aelod yn ei ymateb. Mae'n mynd at wraidd breuder y setliad cyfansoddiadol presennol, yn fy marn i, pan allwch weld sut y mae'n dibynnu ar bleidiau gwleidyddol yn San Steffan, a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, i gadw at gonfensiynau anysgrifenedig. Ac mewn gwirionedd, mae'r methiant i wneud hynny—mor aml dros yr wythnosau diwethaf—wedi datgelu gwendidau sylweddol yn ein trefniadau cyfansoddiadol. Ni ddylai fod wedi bod angen i'r Goruchaf Lys ymyrryd ar fater mor sylfaenol o briodoldeb cyfansoddiadol. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth gwestiynu rheolaeth y gyfraith, fel y gwnaeth Boris Johnson mewn perthynas â'r ymgais i addoedi Senedd y DU. Mae gweld achos o'r fath yn mynd i'r Goruchaf Lys yn effeithio ar ein henw da, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Rwy’n llwyr gymeradwyo’r egwyddorion y mae ei gwestiwn yn eu hawgrymu, y dylai cyfansoddiad y Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar ddwy egwyddor—cydraddoldeb rhwng gwledydd y DU, ac egwyddor sybsidiaredd. Y ddwy egwyddor hynny, gyda llaw, sydd wedi sicrhau cefnogaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd i aelodaeth yn gyffredinol ar draws y cyfandir, a byddai'n dda pe gallem gael ein hysbrydoli gan yr egwyddorion hynny yma yn y DU hefyd.

Effaith Brexit Heb Gytundeb ar Sefydliadau'r Trydydd Sector

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ54420

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Comisiynwyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gennym i gynnal ymchwil i effaith Brexit ar y sector, ac mae hyn wedi arwain at adroddiad 'Grymuso Cymunedau yng Nghyd-destun Brexit', a gyhoeddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 20 Medi.

Diolch. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, wedi gweld y llythyr a anfonwyd gan nifer o sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys llawer iawn o Gymru, at Brif Weinidog y DU, yn rhybuddio am y pryderon dybryd ynghylch Brexit heb gytundeb. Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidiol i gymdeithas sifil a'r cymunedau y gweithiwn gyda hwy. Mae'r ansicrwydd, y sioc economaidd a ragwelir, y perygl o ansicrwydd cyfreithiol, yn ogystal â'r atchweliad mewn hawliau a safonau, yn creu risg ddifrifol i'r gwerthoedd y mae cymdeithas sifil yn eu harddel. A ydych yn cydnabod y disgrifiad yn y llythyr hwnnw? A ydych yn cydnabod bod Brexit heb gytundeb yn creu risg arbennig i'n cymunedau mwyaf difreintiedig? A beth arall y gallwch ei wneud fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, pe bai'r Llywodraeth Dorïaidd yn bwrw ymlaen â'r cam byrbwyll hwn, ein bod mor barod ag y gallwn fod?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol pwysig. Pan fydd sefydliadau fel Tenovus, Plant yng Nghymru, y Migrants' Rights Network, Cyngres Undebau Llafur Iwerddon—pan fydd cyrff o'r fath yn mynegi pryderon, a dyna a wnânt yn y llythyr hwnnw, credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i wrando ar hynny. Roeddwn mewn digwyddiad a drefnwyd gan Charles Whitmore, a oedd â rhan yn llunio'r llythyr rwy'n credu, yn Belfast ychydig fisoedd yn ôl. Ni chredaf fod effaith Brexit ar gymdeithas ddinesig, a rôl y trydydd sector, wedi cael digon o sylw ar yr agenda ar draws y DU. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn yma i gefnogi sefydliadau'r trydydd sector, yn rhannol drwy gronfa bontio'r UE. Ond credaf mai'r rheswm pam fod y llythyr mor bwerus yw fod y rhain yn sefydliadau sy'n gweithio ar y rheng flaen ym mywydau pobl, ac sy'n aml yn gweithio gyda phobl agored i niwed—ac rydym yn pryderu'n ddirfawr am effaith gronnol nifer o ganlyniadau niweidiol a fyddai'n deillio iddynt yng nghyd-destun Brexit. Un o'r pethau rydym yn ceisio'u gwneud mewn perthynas â sicrhau cydnerthedd y trydydd sector pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yw eu cynnwys yn uniongyrchol iawn yn y gwaith o gynllunio'r hyn a ddaw yn lle'r cronfeydd strwythurol yma. Mae grŵp llywio ar waith, sy'n cael ei gynnull gan Huw Irranca-Davies, ac mae ganddynt rôl ganolog yn y grŵp hwnnw. Mae angen i'r egwyddor o bartneriaeth rhwng y trydydd sector a sectorau eraill a fu'n sail i'r gwaith a wnaethom fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd oroesi wrth i ni adael.

Trafodaethau gyda'r Gwrthbleidiau

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r gwrthbleidiau mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit? OAQ54434

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar sail drawsbleidiol ers 2016 i amddiffyn buddiannau Cymru. O ganlyniad, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn cynigion sy'n diystyru Brexit heb gytundeb, yn cefnogi parhad aelodaeth y DU o'r UE, ac yn cefnogi ail refferendwm i gyflawni'r nod hwnnw.

14:40

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Onid yw'n cydnabod peryglon posibl defnyddio Cymru fel gwystl gwleidyddol yn y gemau y mae'n eu chwarae gyda Phlaid Cymru? Mae llawer iawn o amheuaeth ynglŷn â'r ffordd y mae Plaid Lafur Cymru yn cwtsho lan at Blaid Cymru cyn etholiad 2021, etholiad y credaf eu bod yn rhagweld y byddant yn ei cholli, ac felly maent bellach yn chwilio am gefnogaeth gan Blaid Cymru. Dywedodd yn ddiweddar mai

'cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw’r DU'

ac os yw Brexit yn mynd rhagddo, y

'byddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth synhwyrol ailasesu safle Cymru yn y DU newydd',

gan gyfeirio, yn amlwg, at annibyniaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn ddiweddar nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn ddiamod, ac yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni, cynhaliwyd cyfarfod ymylol o'r enw 'Llafur dros annibyniaeth' a fynychwyd gan y cyn Brif Weinidog a fu'n siarad yno. A dywedodd Vaughan Roderick o’r BBC yn ddiweddar na fyddai cyfarfod ymylol o'r fath erioed wedi cael ei ganiatáu ychydig flynyddoedd yn ôl, ac na fyddai Llafur Cymru wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod YesCymru ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff ymrwymo Llafur yn ddiamwys i barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig a rhoi'r gorau i'r fflyrtian hwn â Phlaid Cymru, sy'n rhoi hygrededd diangen i'r posibilrwydd o annibyniaeth?

Wel, nid wyf yn siŵr ble mae hyn yn ffitio i'r trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau. Mae'r rhain yn ddadleuon y byddai pob plaid aeddfed yn disgwyl eu cael mewn cyd-destun datganoledig. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir: rwy'n credu, mae Llywodraeth Cymru yn credu, mai'r dyfodol gorau i Gymru yw fel rhan o DU ddiwygiedig a ffyniannus. Mae'r pwysau yn sgil Brexit wedi datgelu ffawtiau yng nghyfansoddiad y DU y ceisiais eu nodi yn fy ateb i gwestiwn Hefin David yn gynharach. Buaswn yn dweud wrtho mai'r bygythiad mwyaf i'r undeb yw'r math o Brexit heb gytundeb y mae ef ei hun o'i blaid. Mae ef ac eraill yn ceisio dinistrio'r cyfansoddiad, ac mae'r rhai ohonom sydd ag ymrwymiad mwy o lawer i ddyfodol Cymru yn ceisio gwneud popeth a allwn i gryfhau'r cyfansoddiad er mwyn ymdopi â rhai o'r canlyniadau hynny.

Paratoadau Brexit ar gyfer Sir Benfro

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynlluniau paratoadau Brexit Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ54405

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i gynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau a goblygiadau niweidiol Brexit, ac yn arbennig Brexit heb gytundeb, ar yr economi, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau Cymru, gan gynnwys gweithio gyda'r fforwm cydnerthedd lleol i asesu goblygiadau oedi ym mhorthladdoedd sir Benfro.

Weinidog, fel byddwch chi'n ymwybodol mae yna ddau borthladd yn fy etholaeth i—porthladd Abergwaun a phorthladd Aberdaugleddau—y ddau ohonynt yn strategol bwysig i'r economi leol ac, yn wir, i'r economi genedlaethol. Dangosodd adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad i mewn i effeithiau Brexit ar borthladdoedd Cymru fod Cymru ddim wedi cymryd mantais ar y cyllid oedd ar gael yn y gorffennol, a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth draws-Ewropeaidd. Yn wir, dywedodd Ian Davies o Stena wrth y pwyllgor mai dim ond mân gyllid a gafwyd, ond dim byd o unrhyw arwyddocad gwirioneddol dros y 15 mlynedd diwethaf. O ystyried bod cysylltedd â phorthladdoedd Cymru yn hanfodol i'w llwyddiant, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gwrdd ag argymhelliad 12 y pwyllgor, a wnaeth yn glir y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau clir ar ddatblygu seilwaith yn y dyfodol, gan gynnwys priffyrdd? 

Rŷm ni, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'r porthladdoedd yn sir Benfro yng nghyd-destun penodol Brexit i sicrhau ein bod ni'n cadw trosolwg o'r impact ar y porthladdoedd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi bod yn cydweithio, fel y gwnes i sôn yn y cwestiwn, gyda'r fforwm cydnerthedd lleol sydd wedi bod yn trafod cynlluniau i sicrhau llefydd i oedi petasai angen trefniadau gwahanol yn y dyfodol ar gyfer y porthladdoedd hynny. Ond o safbwynt cwestiwn penodol yr Aelod ynglŷn â'r argymhelliad penodol hwnnw, fe wnaf i sicrhau fy mod yn ysgrifennu ato fe gydag ateb.FootnoteLink 

Brexit Heb Gytundeb ac Awdurdodau Lleol

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith cynllunio awdurdodau lleol a pharatoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb? OAQ54417

Fe'ch cyfeiriaf at y datganiad llafar a gyflwynwyd ddoe gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb. Fe wnes i, a Gweinidogion eraill, hefyd ddatganiadau llafar ar baratoi rhag ofn na fydd cytundeb.

14:45

Yn ôl ym mis Chwefror, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru mai ychydig o waith craffu gwleidyddol penodol a manwl a wnaed ar barodrwydd ar gyfer Brexit gan awdurdodau lleol Cymru at ei gilydd. Yn anffodus, mewn llawer o gynghorau, mae hynny'n wir o hyd, gydag aelodau etholedig ond wedi cael ychydig iawn o drafodaethau ynghylch Brexit. Onid yw hyn yn rhywbeth sy'n eich poeni, yn enwedig gan y gallem fod yn wynebu senario Brexit 'dim cytundeb' yn y dyfodol agos, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr? Os felly, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau bod aelodau etholedig yn cael y trafodaethau hyn ar y goblygiadau lleol posibl yn eu hardaloedd ac yn ymateb yn unol â hynny?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Roeddwn gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bore yma yng Nghyngor Partneriaeth Cymru, lle y cynrychiolwyd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sawl cyngor unigol. Cyfeiria at yr adroddiad ym mis Chwefror gan yr archwilydd cyffredinol, a oedd yn trafod cyfnod o ymchwil, a oedd, o reidrwydd, yn rhagflaenu'r adroddiad hwnnw.

Credaf ei bod yn deg dweud bod ansawdd y gwaith craffu ymhlith cynghorau lleol at ei gilydd mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â Brexit wedi gwella’n sylweddol dros y cyfnod hwnnw, ac efallai y bydd wedi gweld yr adroddiad dilynol a gyhoeddwyd gan yr archwilydd cyffredinol ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, a oedd yn canmol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru ac eraill am barhau i gynyddu'r gwaith paratoi. A chredaf iddo gyfeirio'n benodol at faterion yn ymwneud â chraffu ar Brexit yn ymddangos yn amlach yn y cyfamser ar agendâu cabinetau a phwyllgorau craffu eraill mewn cynghorau lleol.

Efallai y bydd hefyd yn cofio bod Grant Thornton wedi comisiynu adolygiad diagnostig ym mis Mawrth mewn perthynas â pharodrwydd a bod cais wedi'i wneud am ddiweddariad i'r adolygiad hwnnw. Ac mae peth o'r gwaith a ariannwyd gennym mewn perthynas â llywodraeth leol wedi canolbwyntio'n benodol ar graffu am y rheswm a awgrymwyd yn ei gwestiwn, sef ei bod yn agwedd bwysig ar atebolrwydd democrataidd mewn perthynas â'r mater hanfodol hwn.

Amddiffyn Buddiannau Cymru

8. Pa drafodaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei chynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag amddiffyn buddiannau Cymru yn y broses Brexit wedi 31 Hydref 2019? OAQ54443

Er ein bod yn credu mai aros yn yr UE fyddai'n gwarchod buddiannau Cymru orau, rwy'n parhau i bwysleisio pwysigrwydd cynnwys Llywodraeth Cymru yn llawn wrth ddatblygu safbwyntiau negodi'r Deyrnas Unedig mewn perthynas â'i hymadawiad ac unrhyw berthynas â'r UE yn y dyfodol.

Byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r rhybuddion—ac mi glywon ni rhai gan y sector amaeth dros yr haf—am y posibilrwydd o aflonyddwch sifil yn sgil set benodol o amgylchiadau a fyddai'n codi yn dilyn gadael heb gytundeb. Gaf i ofyn pa baratoadau a pha drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda'r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni'r fath bosibilrwydd, achos po agosaf ŷn ni'n dod at Brexit heb gytundeb, yna, byddwn i'n tybio, po agosaf ŷn ni'n dod at y posibilrwydd o hynna'n cael ei wireddu?

Wel, mae'r cwestiwn yn gwestiwn pwysig iawn. Wrth gwrs, mae angen sicrhau bod trafodaethau yn eu lle i ddelio gyda'r math yma o bethau, ble bynnag ac ym mha bynnag gyd-destun wnawn nhw godi. Rwy'n cydnabod y cyfeiriad y mae'r Aelod yn ei wneud.

O ran enghreifftiau penodol, sbesiffig does gyda ni ddim gwybodaeth am hynny ar hyn o bryd, ond mae'r broses civil contingencies o gydweithio ar draws y Deyrnas Gyfunol yn ei le, ac mae hwnnw'n un o'r enghreifftiau lle mae'r rhyngweithio ar ei gryfaf gyda'r awdurdodau ar draws y Deyrnas Unedig. Ac fe wnaeth e efallai weld yn ddiweddar ein bod ni wedi cyfeirio at y rheini yn ein papur ar baratoadau cyffredinol, wnaethon ni ei gyhoeddi. Ond rwy'n sicrhau'r Aelod bod hyn wastad yn un o'n blaenoriaethau, i sicrhau bod trefniadau ar y cyd gyda'r local resilience forums a gyda'r gwasanaethau eraill i sicrhau ein bod ni'n cadw llygad ar hyn ac yn barod i ymateb pan fydd y galw yn codi.

Ail Refferendwm ar Brexit

9. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnal ail refferendwm ar Brexit? OAQ54422

Yn 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', nodwyd yn fanwl y dystiolaeth sy'n dangos y byddai buddiannau Cymru yn cael eu gwarchod orau drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n parhau i achub ar bob cyfle i alw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer ail refferendwm er mwyn cyflawni’r nod hwnnw.

Gwnsler Cyffredinol, yng ngoleuni'r hyn a wyddom bellach am bopeth sydd wedi digwydd mewn perthynas â Brexit, y goblygiadau i economi Cymru, a ydych yn cytuno â safbwynt Jeremy Corbyn ei bod yn gwbl iawn y dylid rhoi'r dewis hwnnw yn ôl i'r bobl wneud penderfyniad ar ffurf ail refferendwm?

14:50

Yn sicr. Rydym wedi dweud yn glir iawn fel plaid, oni wnaethom, mai ein safbwynt ni yw y dylid rhoi'r mater hwn yn ôl i'r bobl. Pan fyddwn yn siarad â phleidleiswyr Cymreig yma yng Nghymru, byddwn yn argymell eu bod yn pleidleisio dros aros. Dyna y gwnaethom ei argymell yn 2016. Ni lwyddasom i berswadio pobl bryd hynny, ond credaf ei bod yn amlwg drwy'r hyn sydd wedi digwydd dros y tair blynedd ers hynny a'r ffordd ddi-hid y mae'r bobl a oedd o blaid gadael wedi torri'r addewidion a wnaed i bobl Cymru yn y refferendwm, y byddwn yn parhau i ddadlau dros 'aros'. Rydym yn credu, fel y gwn y mae yntau hefyd yn credu'n gryf, y byddai buddiannau Cymru'n cael eu gwasanaethu orau fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Canlyniad Achos Addoediad y Goruchaf Lys

10. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ganlyniad achos addoediad y Goruchaf Lys yn dilyn y dyfarniad a basiwyd ar 24 Medi 2019? OAQ54444

Rwy'n croesawu dyfarniad unfrydol, clir a diamwys y Goruchaf Lys. Mae'n iawn fod Senedd y DU yn eistedd ar adeg mor dyngedfennol i Gymru a'r Deyrnas Unedig a'i chyfansoddiad.

Diolch, Weinidog. Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys, mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi ymddiheuro i’w Mawrhydi y Frenhines, ond nid yw wedi ymddiheuro eto i Senedd y DU na phobl Cymru a’r Deyrnas Unedig. Weinidog, a gaf fi gymeradwyo camau pendant Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos hwn, ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu canlyniadau a goblygiadau'r dyfarniad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sut y mae'n gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Deyrnas Unedig?

Wel, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at yr agwedd benodol honno, gan fod dyfarniad y Goruchaf Lys yn cyfeirio'n benodol at waith y Cynulliad Cenedlaethol yn yr ymresymiad a roddodd yr Arglwyddes Hale yn yr hyn a oedd yn ddyfarniad pwysig. Mae'n fy synnu bod rhai Aelodau yn y Siambr hon yn dal i ymddangos fel pe baent o'r farn nad oedd ymyrryd yn achos y Goruchaf Lys yn weithred briodol. Buaswn yn atgoffa Aelodau mai'r rhesymeg dros wneud hynny yw ein bod ni yn y Siambr hon ac ar bwyllgorau'r Cynulliad hwn wedi treulio amser yn derbyn cynigion, yn dadlau, yn pasio is-ddeddfwriaeth sy'n dibynnu ar allu Senedd y DU i ddeddfu mewn perthynas â Brexit, ac effaith ymgais Prif Weinidog y DU i ohirio'r Senedd oedd ei hatal rhag eistedd i gwblhau ei gwaith. Felly, roedd gennym ddiddordeb uniongyrchol iawn yng nghanlyniad y dyfarniad hwnnw, ac felly rwy'n bendant yn croesawu eglurder penderfyniad unfrydol yr 11 ustus a'r effaith fuddiol a gaiff hynny ar ein gwaith yma yn y Cynulliad. Fe fydd hi'n gwybod y byddai addoedi Senedd y DU, pe bai hynny wedi digwydd mewn gwirionedd, wedi achosi methiant deddfwriaeth sylfaenol yr oedd yn ofynnol inni ei phasio er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru. O ganlyniad i'r dyfarniad hwnnw, gwyddom bellach nid yn unig fod y weithred yn anghyfreithlon, ond i bob pwrpas, na chafodd Senedd y DU ei haddoedi mewn gwirionedd.

Trefniadau wrth Gefn

11. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer dewis amgen i'r trefniadau wrth gefn, 'backstop', ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE? OAQ54440

Er bod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) wedi cyfarfod ar 12 Medi a chyfarfod â James Duddridge AS ar 23 Medi, nid ydym wedi derbyn unrhyw fanylion ynglŷn â'r cynigion, gan gynnwys y papurau trafod answyddogol a drafodwyd gyda'r UE. Rwy’n parhau i alw am i'r rhain gael eu rhannu â Gweinidogion Cymru, ond rwy’n bwriadu cael sgwrs yn ddiweddarach heddiw gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, gobeithio, ynglŷn â'r pwnc hwn.

Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Yn wir, bu James Duddridge gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, ac roedd yn gwrtais iawn a cheisiodd roi cymaint o wybodaeth ag y gallai, ond roedd hi'n amlwg o'i ymatebion fod lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y materion hollbwysig hyn—. Yn syml iawn, nid oedd yn fater yr ystyriai ei fod yn ddigon pwysig i godi'r ffôn, dod i gyfarfod neu drafod hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac eto, ar yr adeg honno, un o'r opsiynau a oedd yn cael eu crybwyll, y bu sôn amdanynt, oedd ailgyflwyno rhyw fath o rwystr tollau, rhyw fath o linell drwy ganol môr y Gogledd a fyddai’n effeithio nid yn unig ar Lerpwl, ond ar leoedd fel Aberdaugleddau, ac ati. Clywn yn awr mai'r hyn sy'n cael ei drafod yw'r syniad o orsafoedd tollau posibl nad ydynt ar y ffin ei hun ond o fewn ychydig gilometrau i'r ffin yng Ngogledd Iwerddon, sy'n mynd i wraidd cytundeb Belfast a'r broses heddwch, rhaid i mi ddweud. Felly, a yw'n peri pryder iddo ef a Llywodraeth Cymru nad yw Llywodraeth y DU yn ymroi i drafod y materion hyn yn fanwl gyda'i phartneriaid datganoledig yn y Deyrnas Unedig, oherwydd nid ar Lywodraeth y DU yn unig y mae'r goblygiadau'n effeithio; bydd y goblygiadau i'r difidend heddwch yr ydym yn ei fwynhau ar hyn o bryd, neu i ffiniau masnach a thariffau a lle yr effeithiant yn benodol ar borthladdoedd, yn effeithio ar yr holl wledydd a rhanbarthau datganoledig, nid Lloegr yn unig?

14:55

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig tu hwnt yn ei gwestiwn atodol. Mae Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn bodoli i roi cyfle i Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ddod ynghyd i geisio cytuno ar rai agweddau ar drosolwg ar y trafodaethau hyn. Ymddengys i ni ei bod yn hanfodol fod hynny fan lleiaf yn cynnwys proses o rannu gwybodaeth ddigonol er mwyn i'r broses honno fod yn ystyrlon yn hytrach nag yn ymddangosiadol. A chredaf fod y methiant i gytuno i rannu'r papurau trafod answyddogol hynny yn siomedig tu hwnt yng nghyd-destun y cylch gorchwyl hwnnw. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod hwnnw'n bwynt a wneuthum yn yr union dermau hynny yn uniongyrchol i James Duddridge yn y cyfarfod a gefais gydag ef, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun hefyd.

Mewn perthynas â'r dyfalu a welsom hyd yma ynglŷn â'r cynnig posibl o ran Gogledd Iwerddon, mae safbwynt y Llywodraeth yn glir iawn: os ydym yn mynd i adael, mae'n well inni adael gyda chytundeb. Felly, rydym yn dymuno pob llwyddiant i Lywodraeth y DU wrth geisio negodi cytundeb gan fod hynny'n well na sefyllfa heb gytundeb, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw ei bod yn teimlo'n hwyr iawn i fod yn gwneud cynnig cychwynnol o'r math hwn. Buaswn hefyd yn dweud nad yw gwneud hynny'n debygol o fod yn gynhyrchiol yng nghyd-destun gosod wltimatwm ar fater mor bwysig. Ac felly, byddem wedi gwneud y sylwadau hynny pe baem wedi cael cyfle i gymryd rhan, fel y mae strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn awgrymu y dylem fod wedi'i gael.

Paratoadau ar gyfer Ymadawiad y DU â'r UE

12. Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE? OAQ54409

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n barhaus ers 2016 i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit, ac i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru. Rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar baratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, a chyhoeddwyd ein cynllun gweithredu ar 16 Medi.

Wrth gwrs, mae'r angen i Lywodraeth y DU geisio cytundeb amgen yn deillio o'r ffaith bod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y cytundeb blaenorol dair gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin. Sut yr ymatebwch i'r datganiadau a wnaed yn gynharach y mis hwn gan gyfarwyddwr masnach de môr Iwerddon ar ran Stena Line, awdurdod porthladd Caergybi, sef Mr Davies, a ddywedodd, pan ofynnwyd iddo a fydd tarfu, 'Bydd, credaf y bydd tarfu am y diwrnod neu ddau cyntaf oherwydd ansicrwydd, ond cyfnod byr iawn fydd hwnnw. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau o ran llif y traffig drwy Gaergybi fel y mae pethau, a chyda'r cynlluniau ar waith. Mae cynllun argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar yr A55—ni chredaf y bydd yn cael ei ddefnyddio.'?

Diolch i'r Aelod am y pwynt hwnnw. Ni chredaf i mi glywed cwestiwn, ond—

O, maddeuwch i mi. Iawn. Wel, i wneud y pwynt amlwg, yr ymateb cyntaf yw bod llawer o bobl wedi pleidleisio yn erbyn y cytundeb, gan gynnwys Boris Johnson a hanner y Blaid Geidwadol seneddol, felly credaf fod y syniad ein bod wedi sicrhau cytundeb a bod y Blaid Lafur yn gyfrifol am ei ddifetha yn chwerthinllyd tu hwnt. Mae angen gofyn y cwestiwn beth yw'r ailnegodi arfaethedig y mae Prif Weinidog y DU yn ei argymell i'r cytundeb, gan y gwêl fod ganddo griw ystyfnig o aelodau o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd a fydd yn anodd eu plesio ag unrhyw fersiwn o'r cytundeb hwn.

Ond o ran y pwynt ynglŷn â phorthladd Caergybi, rwy'n credu y bydd yn gwybod o’r datganiad a wnaeth y Gweinidog trafnidiaeth yn y Siambr ddoe ein bod wedi bod yn gweithio gyda’r porthladd i sicrhau bod gennym gynlluniau ar waith er mwyn rheoli tarfu hyd eithaf ein gallu os bydd tagfeydd. Bydd hefyd yn gwybod ein bod yn edrych arnynt yng nghyd-destun gwybodaeth a ddarparwyd yn fwy diweddar gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gennym drefniadau ar waith. Ond buaswn yn dweud wrth yr Aelod, yn amlwg, ein bod yn mawr obeithio na fydd angen y trefniadau, ac os bydd eu hangen, eu bod yn gweithio'n effeithiol, ond credaf mai'r pwynt ehangach y mae ei gwestiwn yn ei fethu, yw bod llawer iawn o adnoddau, ynni ac adnoddau ariannol yn cael eu hymrwymo ar draws y Llywodraeth hon a Llywodraethau eraill ledled y DU i baratoi am Brexit heb gytundeb, sy'n rhywbeth y gallai ei Brif Weinidog ei hun ei ddiystyru'n berffaith hawdd.

15:00

Diolch i'r Gweinidog am ateb ei holl gwestiynau y prynhawn yma. 

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fyddai cwestiynau amserol, ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf gan Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon. Mae'n amser i ddathlu cyflawniadau pobl dduon a phobl o liw am ein cyfraniad i'n gwlad.

Rydym yn cydnabod pobl hynod o'n gorffennol a'n presennol sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, weithiau heb y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Yn Ne Caerdydd a Phenarth, rydym yn ffodus i gael nifer o fodelau rôl i'w cydnabod a'u dathlu. Daw dau unigolyn o'r fath o Butetown: Billy Boston a Betty Campbell. Mae Billy Boston yn fab i dad o orllewin Affrica a mam Wyddelig. Cafodd ei anwybyddu gan gêm yr undeb. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai ei liw yw'r rheswm dros hynny. Fodd bynnag, mae'n cael ei gydnabod fel un o'r chwaraewyr rygbi'r gynghrair gorau erioed ym Mhrydain. Mae cerflun ohono ar Wembley Way ac yn Wigan lle y chwaraeodd y rhan fwyaf o'i rygbi. Yn anffodus, nid yw ei ddinas enedigol wedi rhoi'r un gydnabyddiaeth iddo eto.

Betty Campbell oedd y pennaeth ysgol du cyntaf yng Nghymru. Roeddwn i'n ei hadnabod; nid oeddwn bob amser yn cytuno â hi. Ond er gwaethaf ein gwahaniaethau, sydd wedi cael cryn gyhoeddusrwydd, mae ei chyflawniadau hanesyddol yn ddiymwad. Yn dilyn pleidlais gyhoeddus ar arwresau cudd, Betty fydd y fenyw gyntaf i gael ei hanrhydeddu â cherflun yn y brifddinas. Mae yna lawer mwy o bobl i ddysgu amdanynt a'u dathlu ym mhob rhan o'n gwlad. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn manteisio ar y cyfle i hyrwyddo Mis Hanes Pobl Dduon, i gofio am ein hanawsterau a'n brwydrau, oherwydd nid hanes du yn unig mo hwn, mae'n rhan hanfodol o hanes Cymru a'r byd ehangach.

Yr wythnos hon mae’n 45 o flynyddoedd ers agor Sain Abertawe, gorsaf radio leol annibynnol Abertawe. Yn gyntaf oll, hoffwn eu llongyfarch ar eu pen-blwydd yn 45 mlwydd oed. Mae'r bobl sy'n byw yn yr ardal yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw'r sefydliad hwnnw i'n rhan ni o dde-orllewin Cymru, sef Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a sir Gaerfyrddin.

Dechreuodd ddarlledu ar 30 Medi 1974, fel yr orsaf radio fasnachol gyntaf yng Nghymru, y seithfed yn y Deyrnas Unedig, ond y gyntaf i ddarlledu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn 1995, rhannwyd yr orsaf yn ddau wasanaeth ar wahân oherwydd brwydrau dros amleddau, a'r ddwy orsaf yw Sain Abertawe, a barhaodd fel cynt, a The Wave, a anelai at wrandawyr iau, nad oedd yn fy nghynnwys i, yn ôl pob tebyg.

Bu gan Sain Abertawe nifer fawr o gyflwynwyr dros y 45 mlynedd diwethaf, gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i ddarlledu’n genedlaethol, yng Nghymru ac yn Llundain. Bu ganddi rai darlledwyr a fu wrthi ers amser maith hefyd, fel Kevin Johns a Steve Dewitt, y ddau ohonynt yn hynod o adnabyddus yn ardal Abertawe.

Mae'r orsaf wedi bod yn rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd, a phob Nadolig er enghraifft, mae'n codi arian i elusen ac fe drefnodd ddigwyddiad yn Stadiwm Liberty ar gyfer cyn-filwyr, a fynychwyd gan sawl Aelod Cynulliad arall o Abertawe. Uchafbwynt wythnos Sain Abertawe i wleidyddion yw'r rhaglen ffonio i mewn ar fore Sul gyda Kevin Johns. Credaf fod pob Aelod lleol sy’n cynrychioli'r rhan honno o dde-orllewin Cymru wedi bod ar Sain Abertawe, ac un neu ddau o'r tu allan i'r ardal hefyd. Gyda'r cyfle i ateb cwestiynau gan y cyhoedd wrth iddynt ffonio i mewn, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rwy'n edrych ymlaen at y 45 mlynedd nesaf, ond rwy'n credu efallai mai rhywun arall fydd yn gwneud yr araith hon bryd hynny. [Chwerthin.]

Y dydd Iau hwn, ar 3 Hydref, byddwn yn dathlu 160 mlynedd ers sefydlu siop archebion post Pryce-Jones a 140 mlynedd ers agor Warws Brenhinol Cymru Pryce-Jones. Bydd dathliad a drefnwyd gan y ganolfan treftadaeth ar gyfer canolbarth Cymru yn Warws Brenhinol Cymru Pryce-Jones, sy'n adeilad rhestredig gradd II yn y Drenewydd, i nodi bywyd Syr Pryce Pryce-Jones, a oedd yn arloeswr siopa archebu trwy'r post.

Roedd gan Pryce-Jones siop ddillad yn y Drenewydd a chafodd y syniad o anfon nwyddau i'w gwsmeriaid trwy'r post gan ddefnyddio'r rheilffordd. Roedd ei fusnes dillad mor boblogaidd nes iddo lunio’r catalog archebion post er mwyn i’r rhai na allent deithio i'w siop yn y Drenewydd allu prynu ei nwyddau. Dywedir wrthyf fod y Frenhines Victoria a Florence Nightingale ymhlith ei gwsmeriaid, a châi ei wlanen Gymreig ei gwerthu i gwsmeriaid ledled y byd.

Ef hefyd sy’n cael y clod am ddyfeisio’r cwdyn cysgu a bu’n Aelod Seneddol dros sir Drefaldwyn ar ddau achlysur. Yfory, bydd dau blac yn cael eu dadorchuddio gan or-or-ŵyr yr entrepreneur, David Pryce-Jones, ac Uwch Siryf Powys, David Lloyd Peate, i nodi cyfraniad yr arloeswr i dreftadaeth sir Drefaldwyn a man geni archebu trwy’r post yn fyd-eang.

15:05

Heddiw, cymerodd dros 200 o bobl ran yn nigwyddiad blynyddol Beicio i’r Senedd, ac ymunodd Aelodau Cynulliad trawsbleidiol â hwy, ynghyd ag ambell Weinidog hefyd. Fe wnaethant hynny oherwydd eu bod yn credu y gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, y ddeddf arloesol a basiwyd gan y Senedd hon, helpu i ddatrys llawer o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru. Ond gwnaethant hynny hefyd oherwydd eu bod am weld uchelgais y ddeddfwriaeth arloesol honno i wneud cerdded a beicio yn ffyrdd mwyaf naturiol o deithio yng Nghymru yn cael ei wireddu. Ac eto, ers inni basio'r Ddeddf honno, y gwir trist yw bod nifer y bobl sy'n cerdded a beicio yng Nghymru wedi gostwng mewn gwirionedd. Pan gaiff y Ddeddf teithio llesol ei hariannu'n briodol a'i chefnogi gan strategaeth gynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, maent yn credu y gwelwn y llwyddiant sydd ei angen arnom. Ac mae'r canlyniadau hyn yn hanfodol bwysig.

Byddai i fwy o bobl symud o gwmpas ar droed neu ar feic yn lle mewn ceir yn ein helpu i gyflawni pob un o'n saith nod cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ymwneud â cherdded a beicio yn cymryd lle teithiau ceir, gan dorri allyriadau carbon, lleihau llygredd aer, gwella iechyd, a hyrwyddo cydraddoldeb trwy ddarparu math llawer mwy fforddiadwy o drafnidiaeth. Ac mae'n helpu ein heconomi trwy leihau tagfeydd ac yn cynorthwyo cydlyniant cymunedol trwy gynyddu rhyngweithio cymdeithasol.

Roedd gweld pobl o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn y daith o ganolfan hyfryd Pedal Power ym Mhontcanna yn brofiad ysbrydoledig heddiw. Rwy'n falch iawn fod cymaint o Aelodau'r Cynulliad o bob plaid wedi ymuno â ni ar risiau'r Senedd heddiw, a rhai ohonynt ar y daith ar draws Caerdydd hefyd, i ddangos eu cefnogaeth i fwy o deithio llesol gwell.

Dyma arddangosiad go iawn o’u ffydd y bydd y sefydliad hwn yn cyflawni’r addewidion a wnaed wrth basio’r ddeddfwriaeth hon sy’n arwain y byd, ac edrychwn ymlaen at weld digwyddiad hyd yn oed yn fwy ac yn well y flwyddyn nesaf, a chlywed am y cynnydd a wnaed ar wneud Cymru y wlad orau ar gyfer beicio a cherdded.

Cynnig i Ethol Aelodau i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cynnig nawr i ethol Aelodau i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Caroline Jones.

Cynnig NDM7157 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Delyth Jewell (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelodau o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Adroddiad 02-19

Yr eitem nesaf, felly, yw addroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 02-19. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM7148 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy’n gwneud y cynnig yn ffurfiol.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Leanne Wood AC ynghylch y defnydd o iaith anseneddol. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor ynghylch y sancsiwn sy'n briodol i'r achos hwn.

Mae'r ffeithiau a oedd yn ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhellion y pwyllgor.

Efallai fod gennyf enw am fod yn gadarn yn fy ymateb i droliau a bwlis ar-lein, ond nid wyf fel arfer yn ymroi i iaith y gallai rhai ei hystyried yn anseneddol. Dyma'r tro cyntaf i mi alw rhywun yn ‘arsehole’ ar gyfryngau cymdeithasol, ac er na allaf addo na fyddaf yn rhegi ar gyfryngau cymdeithasol byth eto, gallaf ddeall pam, wrth dderbyn cwyn, fod y comisiynydd safonau’n teimlo na allai gael ei weld yn goddef i Aelod Cynulliad ddefnyddio'r hyn y mae'n ei ystyried yn air sarhaus.

Fodd bynnag, mae'r achos hwn yn codi nifer o gwestiynau. Gellir dadlau bod yr achos sy'n dilyn yr un hwn yn debyg os ystyriwch nad yw'r cwestiwn yn ddim mwy na defnydd Aelod Cynulliad o iaith anseneddol ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond oherwydd bod yr Aelod yn yr achos hwnnw wedi dewis cyhoeddi ymddiheuriad i'r Llywydd, nid yw’n wynebu unrhyw gerydd. Cynigiwyd cyfle i minnau ymddiheuro hefyd er mwyn osgoi cerydd, ac roedd gan y pwyllgor, er tegwch, lawer o gydymdeimlad â fy safbwynt ar hyn pan siaradais â hwy. Ond ni fyddai’n onest nac yn iawn i mi gyhoeddi ymddiheuriad, oherwydd mae hyn yn llawer mwy nag achos o regi ar Twitter yn unig. Ynghyd â menywod di-rif eraill sy'n weithgar mewn gwleidyddiaeth, rwy’n aml yn dioddef trolio, trydariadau ymosodol a chasineb cyffredinol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol. Weithiau, caiff ei gydlynu; heb os, mae wedi'i wreiddio mewn gwreig-gasineb.

Y cyd-destun, felly, oedd fod bwli ar-lein adnabyddus sy’n wreig-gasäwr ac sy'n disgrifio'i hun fel blogiwr wedi cyhoeddi trydariad dichellgar, goddefol-ymosodol, a oedd yn ymosod yn eithaf amlwg ar fy nghyd-Aelod Delyth Jewell cyn iddi ddechrau yn ei rôl hyd yn oed a chyn iddi fod mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun yn iawn, ar ôl i mi weld y person hwn yn ymosod dro ar ôl tro ar fenywod yn bennaf, ond ar eraill hefyd, gan gynnwys pobl anabl, pobl hoyw, pobl draws ac ati, fel arfer o safbwynt asgell dde neu asgell dde eithafol, gan alw enwau ar bobl fel ‘feminazi’, ‘socialist handmaids’, ‘woke’, ‘Nietzscheists’, ‘virtue-signalling snowflakes’—termau y bydd y rhai sy'n cymryd sylw o faterion o'r fath yn gwybod eu bod yn dod yn syth o eirfa'r asgell dde eithaf.

Mae'r mathau hyn o ymosodiadau yn bersonol, ond maent hefyd yn wleidyddol, ac roedd yr amseru, ar ôl i'n grŵp brofi colled mor erchyll yr wythnos honno, wel, digon oedd digon. Penderfynais mai'r ffordd orau o wrthsefyll y bwli oedd defnyddio iaith yr oedd yn sicr o'i deall. Nid yw'n iaith y buaswn fel arfer yn ei defnyddio, ond weithiau, wrth wynebu bwlis, mae'n rhaid i chi ddefnyddio pa strategaethau bynnag y bernwch eu bod yn angenrheidiol.

Mae rhywbeth o'i le'n fawr ar weithdrefnau cwyno sefydliad pan fo'r bobl sy'n gwrthsefyll bwli, ac mor aml, menywod, pobl o liw neu bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol yw’r rheini ohonom sy’n tynnu sylw atynt, a ni wedyn yw'r bobl sy'n cael y cwynion, a ni yw'r bobl sy'n cael ein ceryddu.

Ystyriwch achos Naga Munchetty. Yr wythnos diwethaf, cafodd Naga ei cheryddu gan y BBC am gwestiynu hiliaeth Donald Trump. Mae’n rhaid i bobl allu tynnu sylw at y malltod cynyddol hwn a ddaw drwy’r cynnydd yn y gefnogaeth i bleidiau asgell dde, a’i herio’n gadarn. Weithiau, nid yw paneli a gweithdrefnau yn ei gael yn iawn, ac fel yn y BBC, mae mecanweithiau ar waith i wyrdroi penderfyniadau gwael neu anghywir, ac mae gennym gyfle i wneud rhywbeth tebyg yma. Mae’r mecanwaith yn bodoli yma drwy bleidleisiau Aelodau. A wnawn ni yr un peth?

Rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi wneud yr Aelodau'n ymwybodol mai dyma'r drydedd gŵyn y gwn i amdani a wnaed i'r comisiynydd safonau amdanaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyn hynny, nid wyf ond yn ymwybodol o un gŵyn a wnaed ers fy ethol i'r lle hwn yn 2003. Diolch byth, mae'r comisiynydd wedi barnu nad yw'r ddwy gŵyn arall yn gwarantu unrhyw gamau pellach.

Cafwyd 37 o achwynwyr unigol yn achos un o'r cwynion hynny, pob un yn ymwneud â'r un peth, a thrwy gyd-ddigwyddiadol, wedi i wleidydd asgell dde eithafol drydar gwybodaeth am y weithdrefn gwynion ac annog ei ddilynwyr i gwyno. Wel, mae'n ymddangos bod yr ystryw bach hwnnw wedi'i ganfod a'i ddiystyru fel un blinderus, ac rwy'n ddiolchgar i'r comisiynydd safonau am hynny. Mae'n beryglus cael gwleidyddion asgell dde eithafol yn y brif ffrwd yn cyfarwyddo eu criwiau o ddilynwyr fwy neu lai i fwlio, trolio a dychryn pobl ar-lein ac i wneud cwynion swyddogol, ac eto mae'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd.

Nid oes angen i mi amlinellu effaith bwlio a throlio ar-lein, na sut y caiff ei ddefnyddio i dawelu menywod a lleiafrifoedd, oherwydd mae'r datganiadau cymorth yn yr adroddiad gan Cymorth i Fenywod a GlitchUK, yr elusen a sefydlwyd i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein, yn amlinellu hynny i gyd yn dda iawn, ac rwy'n ddiolchgar i'r sefydliadau hynny a phawb arall sydd wedi ysgrifennu i ddangos cefnogaeth ar hyn.

Mae llawer wedi cael ei ddweud am yr Aelodau bron yn gorfod cefnogi argymhellion y pwyllgor ar gerydd, y bydd y pwyllgor, y comisiynydd, neu'r broses yn cael eu tanseilio rywsut pe bai'r Aelodau’n anghytuno â'r argymhelliad i geryddu. Beth yw pwynt rhoi pleidlais i ACau ar hyn os mai'r cyfan y gallwn ei wneud yw amenio’r hyn y mae pwyllgor wedi'i benderfynu eisoes?

Rwy’n ddiolchgar i grŵp Plaid Cymru am fy nghefnogi a’r egwyddor fod yn rhaid i ni wahaniaethu rhwng y rhai sy’n bwlio a’r rhai sy’n gwrthsefyll bwlis. Gwn fod rhai ar feinciau eraill yn y Siambr hon yn fy nghefnogi hefyd ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Gobeithio y bydd yr Aelodau’n teimlo y gallant bleidleisio yn unol â’r hyn y maent yn credu’n onest sy’n iawn ar y cwestiwn hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

15:15

Mae gennyf lawer iawn o siaradwyr sydd wedi gofyn am gael cyfrannu at y ddadl 15 munud hon. Mae gennyf ddigon o siaradwyr i bara awr. Gall y mwyafrif ohonoch ddisgwyl peidio â chael eich galw yn y ddadl hon, a drefnwyd i bara 15 munud yn unig. Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd. Rwy'n codi fel aelod o'r pwyllgor safonau ac yn siarad wrth gwrs am yr adroddiad sydd wedi'i osod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Yn ddiau, mae'r adroddiad yn cyfeirio at iaith anseneddol. Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â'r sefyllfa a gyflwynodd Leanne i'r pwyllgor—sefyllfa y mae hi ac Aelodau eraill o bob plaid yn ei hwynebu yma. Yr wythnos hon, er enghraifft, gydag ailenwi'r sefydliad hwn, dywedwyd wrthyf am fynd yn ôl i Loegr, lle byddaf yn teimlo'n fwy cartrefol nag yng Nghymru, gan nad wyf yn Gymro am nad wyf yn siarad Cymraeg. Mae botwm distewi ar fy nghyfryngau cymdeithasol. Rwy'n gallu distewi pobl. Nid wyf yn defnyddio iaith anseneddol ar y cyfryngau cymdeithasol. Nid yw hynny'n dweud na allai ddigwydd yn y dyfodol, oherwydd efallai y bydd y fflach honno'n digwydd a rhyw noson, rhyw ddydd, efallai y caiff rhywbeth ei ddweud a fydd yn fy ngwylltio go iawn.

Ond mae'n ffaith bod yr adroddiad hwn, a chredaf fod yr Aelod yn cytuno â'r ffaith hon—nad oes yr un o'r ffeithiau'n cael eu cwestiynu yn yr adroddiad, a bod yr adroddiad yn gywir. Rhoddir y cyfle hwnnw i bob Aelod yn y broses hon. Mae'n ffaith mai pwyllgor trawsbleidiol a ddaeth â'r adroddiad hwn i'r Siambr, ac roedd Aelod Plaid Cymru ar y pwyllgor hwnnw'n cefnogi'r adroddiad yn llwyr. Felly, mae'n syndod braidd eich bod chi, fel grŵp yn awr, yn anghydweld â safbwynt yr Aelod, y safbwynt yr oedd hi'n ei arddel yn y cyfarfod pwyllgor hwnnw. Datganiad o ffaith yw hwnnw. [Torri ar draws.] Wel, buaswn yn ddiolchgar, os caf fi orffen, gan na wneuthum dorri ar draws pan oeddech chi'n siarad.

Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch ar faterion ehangach yn ymwneud â throlio, a hefyd y cam-drin y mae gwleidyddion ac aelodau o'r gymdeithas yn eu hwynebu yn gyffredinol, yn rhywbeth sy'n ffenomen yn yr oes fodern. Ugain neu 25 mlynedd yn ôl, nid oedd cyfryngau cymdeithasol yn bodoli, ni cheid y fath ymyriad yn ein cartrefi, lle y gallwch roi eich ffôn ymlaen a chael camdriniaeth o'r fath yn eich cartref. Ni ddylai fod yn rhaid i neb ddioddef hynny. Ond mae'n ffaith bod y sefydliad hwn wedi sefydlu gweithdrefn safonau sydd wedi'i diffinio'n glir ac sydd â chomisiynydd yn ganolog iddi, comisiynydd sy'n cyflwyno adroddiad. Daw'r adroddiad hwnnw gerbron y pwyllgor wedyn gyda chanlyniad ymchwiliad y comisiynydd safonau. Dyna'r hyn a drafodir gennym yn y fan hon y prynhawn yma. Rwy'n derbyn bod yr Aelod wedi defnyddio'r term sydd dan sylw yma—y gair—ac rwy'n ceisio osgoi ei ddefnyddio am nad wyf yn credu ei bod hi'n iawn i'w ddefnyddio yn y Siambr hon. A bod yn onest, os nad yw'n iawn i'w ddefnyddio yn y Siambr hon, yna mae'n amlwg nad yw'n iawn ei ddefnyddio ar blatfform wrth ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd.

Mae'n ffaith nad yr achwynydd yn yr achos penodol hwn yw'r blogiwr y cyfeirioch chi ato—nid wyf yn gwybod a oes cysylltiad â'r blogiwr—ond trydydd parti. Dyfynnodd yr Aelod y blogiwr yn yr achos arbennig hwn, y blogiwr y defnyddiwyd y gair yn ei erbyn, ond trydydd parti oedd yr achwynydd—nid yr unigolyn hwnnw. Nid wyf yn gwybod pwy oedd yr achwynydd oherwydd ni chawsom wybod ei enw; ni chafodd ei ryddhau.

Rwy'n gwneud y pwynt mai trydydd parti ydoedd. [Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn gwybod ai ffrind ydoedd ai peidio, ond gallai fod wedi bod yn rhywun nad oedd yn gysylltiedig o gwbl. Ond mae honno'n ystyriaeth bwysig y mae angen i'r Siambr hon ei hystyried.

Ceir tri pheth y mae angen eu hystyried gyda'r adroddiad hwn sydd ger ein bron heddiw. Un: a oes her i gywirdeb yr adroddiad? Nac oes. Dau: a yw'r gair, sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn, yn addas i'w ddefnyddio yn y cyd-destun hwn, yn y Siambr neu ar blatfform cyhoeddus sef Twitter? Buaswn i'n awgrymu nad ydyw. Y trydydd canlyniad, a'r un terfynol, yw: a oes angen i ni wneud mwy ynglŷn â throlio a gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol? Wrth gwrs fod angen gwneud hynny. Ond ni ddylem gymysgu'r ddau gyda'i gilydd gyda'r adroddiad sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma, a'r materion ehangach y mae'r adroddiad hwn a chyhoeddusrwydd ynghylch materion a godir yn yr adroddiad hwn, a godir ar sail achosion unigol ac sy'n codi bron bob dydd o'r wythnos bellach.

Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn ddigon hyderus i gymeradwyo'r adroddiad hwn, a aeth drwy broses graffu lawn, cefnogaeth drawsbleidiol a thrylwyredd swyddfa ac ymchwiliad y comisiynydd safonau—y pleidleisiodd y Cynulliad hwn ei hun, a'r Aelodau yn y Siambr hon, o blaid ei sefydlu—a'r rheolau sy'n rheoli ei ymchwiliadau.

Mae i unrhyw Aelod Cynulliad wrthod derbyn canfyddiadau'r pwyllgor safonau yn gwbl wrthun, oherwydd mae'n golygu bod y cod ymddygiad yn darfod amdano. Mewn gwirionedd, byddem yn Gynulliad di-reol. Rhaid inni gofio bod y Cynulliad cyfan wedi pleidleisio o blaid cyflwyno'r cod ymddygiad hwn. Mae'r sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r comisiynydd safonau yn gwbl annerbyniol i mi hefyd. Casglu tystiolaeth a wna Syr Roderick a phenderfynu a yw'n credu bod ymddygiad Aelod yn torri'r rheolau sydd wedi'u cynnwys yng nghanllawiau'r cod ymddygiad. Y pwyllgor safonau—

15:20

—sy'n penderfynu a ddylid cytuno â'r casgliad hwn. Iawn, wrth gwrs.

Mae'r unig gwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â'r ffaith bod y pwyllgor, o ran y weithdrefn, yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad hwn yn yr un modd ag y byddai unrhyw bwyllgor arall yn ei wneud, er mwyn i'r Cynulliad cyfan ddod i benderfyniad. Does bosibl nad oes yn rhaid i chi gydnabod bod gan bob un ohonom hawl i bleidleisio pa ffordd bynnag y dymunwn bleidleisio ar hyn.

Wel, wrth gwrs. Roedd cyfle i'r Aelod Cynulliad siarad â'r pwyllgor ac egluro ei barn, ac ystyriasom y sylwadau hynny cyn inni wneud penderfyniad. Ond y pwyllgor safonau sy'n penderfynu a ddylid cytuno â'i ganfyddiadau ac os gwneir hynny, hwy sy'n pennu lefel y sancsiynau sy'n briodol. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr Aelod wedi cytuno â chynnwys ffeithiol adroddiad Syr Roderick. Drwy wrthod derbyn y sancsiynau hyn, mae Aelod yn anwybyddu penderfyniad pwyllgor trawsbleidiol—yn yr achos hwn, pwyllgor a oedd yn cynnwys Aelod o Blaid Cymru a gytunodd y dylid gosod y sancsiynau. Er fy mod yn barod i dderbyn bod lefel o gythruddo ar ran y sawl a oedd yn destun y sylwadau, ac nid oes amheuaeth bod y person hwnnw wedi cythruddo'n eithafol, ni all cythrudd fod yn amddiffyniad am dorri cod ymddygiad y Cynulliad, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y pwyllgor yn cytuno bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn ymddygiad amhriodol gan Aelod Cynulliad, ac fe ystyriodd gythrudd fel ffactor yn yr achos wrth bennu lefel y sancsiwn. Mae gwrthod derbyn sancsiynau o'r fath yn arwain at anarchiaeth yn rheolau gweithdrefnol y Cynulliad. Rwy'n annog y Cynulliad i gymeradwyo'r adroddiad.

Ceir ymgais i wneud y ddadl hon yn ddadl ynglŷn ag un gair a ddefnyddiwyd gan Leanne Wood. Wedi'r cyfan, dyna'r peth symlaf i'w wneud, ond wedyn mae'n haws arestio rhywun sy'n dwyn torth o fara na gofyn pam eu bod yn llwglyd. Mae'n symlach carcharu dynes a gafodd ei gwthio i gyflawni trais yn hytrach na mynd i'r afael â degawdau o reolaeth drwy orfodaeth. Mae'n haws ceryddu dynes o liw na gwrando arni'n cwyno am hiliaeth feunyddiol ar y teledu. A dyna sy'n digwydd bob dydd, oherwydd mae'n haws peidio â siglo'r cwch, peidio â chodi'r caead, a dweud bod yn rhaid parchu'r system. Byddai'n symlach dweud yn unig na ddylai Leanne fod wedi defnyddio'r gair hwnnw, rhoi slap ar ei llaw a symud ymlaen. Dyna beth y mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau ei weld yn digwydd. Byddai'n syml ac yn anghywir. Pan fyddwch chi'n ymdrin â phobl, rhagfarn a gwleidyddiaeth, nid yw systemau bob amser yn addas. Mae angen i chi chwistrellu ychydig o farn a dyngarwch. Mae angen hefyd i chi allu edrych yn eang ar y mater. Felly, nid ar ddewis Leanne o eiriau yr hoffwn ganolbwyntio heddiw, ond y safonau dwbl sydd ar waith, cyd-destun y sefyllfa a'r geiriau, yr agweddau a'r gweithredoedd a ysgogodd ei dicter.

"Hawliau menywod a datblygiad rhyngwladol". Duw a helpo @Plaid_Cymru".

Dyma'r geiriau sy'n rhoi cyd-destun go iawn i'r ddadl heddiw. Dyma'r hen ymagwedd wreig-gasäol gan rai sy'n teimlo bod ganddynt hawl i'w lleisio, ac sy'n rhedeg fel cenllif drwy galon y drafodaeth hon, a thrwy galon gwleidyddiaeth Cymru. Nid yw'r farn fyd-eang wedi symud cymaint ag yr hoffem esgus ei bod yn y lle hwn. Nid yw wedi symud yn y lle hwn gymaint ag yr ydym yn esgus ei bod yn aml. Mor ddiweddar â'r llynedd, cynhyrchodd Aelod Cynulliad, nid blogiwr na sylwebydd, ond Aelod etholedig, fideo rhywiaethol, hynod o sarhaus am un o'r menywod y mae'n gweithio gyda hi. Cyfeiriodd cynghorydd yn fy mwrdeistref i, a oedd yn gadeirydd y pwyllgor cymunedau diogelach ar y pryd, dro ar ôl tro at ffoaduriaid fel 'rapefugees' ar Facebook; bu farw 5,000 o ffoaduriaid ym môr y Canoldir yn yr un flwyddyn ag y gwnaeth y sylwadau hynny, cannoedd o fenywod a phlant yn ffoi rhag erledigaeth. Mae ffrindiau a chydweithwyr Prif Weinidog y DU yn dweud bod ganddo broblem menywod. Mae'n cyfeirio at fenywod Mwslimaidd fel 'blychau post', ymyriad a ragflaenodd gynnydd o 375 y cant yn y nifer o ddigwyddiadau Islamoffobig. Defnyddiodd Prif Weinidog y DU farwolaeth Jo Cox i wneud pwynt gwamal am Brexit, ffrwydrad a achosodd i ASau golli dagrau, nid oherwydd eu bod yn fenywod neu'n wan, ond am eu bod yn galaru dros eu ffrind ac yn teimlo ofn gwirioneddol am eu diogelwch eu hunain. Mae geiriau'r Prif Weinidog ei hun yn cael eu defnyddio mewn bygythiadau i fywydau Aelodau Seneddol benywaidd.

A gaf fi ddweud pa ddau beth sy'n cysylltu'r Prif Weinidog, y cynghorydd a'r Aelod Cynulliad hwnnw? Dynion ydynt i gyd ac ni chafodd yr un ohonynt eu ceryddu. Ac a ydym o ddifrif yn paratoi i geryddu Leanne Wood am ffrwydrad un gair—gwleidydd y mae ei barn ar faterion rhyw a mewnfudo wedi peri iddi gael bygythiadau i'w bywyd a chael ei cham-drin yn feunyddiol gan alw am ymyrraeth yr heddlu? O ddifrif? Hi yw'r drwg yn hyn i gyd? Dyma'r trydydd gwahaniaeth rhwng trosedd un gair Leanne a'r tri dyn y soniais amdanynt: ymateb cwbl reddfol oedd ei hun hi, ymateb dynol i rywun sy'n adnabyddus am ei safbwyntiau rhywiaethol ac sy'n ymosod ar gyd-Aelod newydd, ifanc, benywaidd yn fuan ar ôl marwolaeth ffrind a chyd-Aelod annwyl iawn. Nid oedd yn ymyriad wedi'i gynllunio ar gyfer ysgogi dicter, casineb neu raniadau.

Mae'n ymddangos mai'r wers yma yw, cyhyd â'ch bod yn buddsoddi arian ac yn rhoi eich iaith anoddefgar gerbron grŵp ffocws, ac yn dewis negesydd mewn trowsus, rydych chi'n rhydd i ddweud beth bynnag y dymunwch, heb ei rwystro gan yr awdurdodau. Yn syml, nid yw'n gwneud synnwyr, o'i fesur yn erbyn unrhyw beth a phopeth yr honnwn ei fod yn annwyl i ni yn y Cynulliad hwn. Os nad yw canlyniad y polisi yn gwneud synnwyr, ni ddylem godi ysgwyddau a beio'r broses—dylem newid y polisi a'r broses i gyd-fynd â'r realiti y mae gormod o fenywod yn ei wynebu. Ac a gaf fi ddweud wrth Andrew R.T. Davies: nid yw'r rhan fwyaf o'r gamdriniaeth a gaf ar-lein yn rhywbeth y gallaf ei ailadrodd yma hyd yn oed, nac—[Torri ar draws.] Na, nid oes gennyf amser. Yma nac yn unman arall.

15:25

Ac ni ddylem anwybyddu'r cefndir i'r anghysondeb hwn, sef y cywair a osodir gan newyddiadurwyr a sylwebyddion o oedran, rhyw a dosbarth penodol. Maent yn rhyfeddol o gyflym i honni bod cydraddoldeb wedi'i gyflawni, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Ceir cred ymhlith y dosbarth hwn fod ffeministiaeth yn y DU yn anacronistaidd, ac am hawliau menywod, wel, 'Duw a'n helpo ni i gyd', i gamddyfynnu blogiwr penodol.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn croesawu Julia Gillard i Gymru, cyn Brif Weinidog Awstralia. Ni fydd angen atgoffa'r rhan fwyaf o'r bobl yn y Siambr hon am ei haraith enwog ar wreig-gasineb, rhywiaeth a safonau dwbl yn 2012, araith a helpodd i ailysgrifennu diffiniad y geiriadur o wreig-gasineb i gynnwys 'rhagfarn sefydledig yn erbyn menywod'. Bydd dynion a menywod o'r Cynulliad hwn yn ciwio i gyfarfod â hi pan fydd hi yma, a hynny'n briodol—mae'n wleidydd gwych. Ond gofynnwch i chi'ch hun cyn i chi gyfarfod yma a ydych chi wedi wynebu'r her a osododd hi yn 2012, na ddylai fod unrhyw le i rywiaeth, i wreig-gasineb, na safonau dwbl.

Nawr, nid yw Leanne Wood yn gyfaill gwleidyddol i mi, ond nid wyf erioed wedi teimlo'n agosach ati na thrwy gydol y digwyddiad hwn. Roedd ei hymateb yn ddynol, yn reddfol ac yn amddiffynnol, a'r tair nodwedd hynny sy'n parhau i glymu menywod o bob plaid gyda'i gilydd yn y Siambr hon yn wyneb bygythiadau a chamdriniaeth sy'n dad-ddyneiddio. Rwy'n gwybod na fydd pawb ohonom yn pleidleisio'r un ffordd heddiw, ond ni allaf gredu nad ydym o leiaf yn teimlo'r un fath. Rwy'n cymeradwyo Leanne am ddal ei thir. Nid dyma'r amser i gosbi menywod sy'n dweud 'Dim rhagor' pan gânt eu bygwth a'u sarhau a'u cam-drin, ni waeth pa mor anghwrtais fydd eu ffordd o'i ddweud.

Hoffwn atgoffa'r Aelodau o'r cyd-destun sy'n gysylltiedig â hyn i gyd. Cyd-destun yw popeth mewn achos fel hwn. Pan fu farw ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Steffan, ym mis Ionawr, nid oedd neb, yn fy nghynnwys i, eisiau meddwl am beth fyddai'n dod nesaf. Roeddem eisiau galaru am ein ffrind. Ac roeddwn wedi penderfynu na fyddwn yn dweud dim byd yn gyhoeddus, ar gyfryngau cymdeithasol neu fel arall, tan ar ôl ei angladd. Golygodd digwyddiadau fod yn rhaid i mi gael fy ethol yn eithaf cyflym, ond nid oeddwn am gymryd y llw nes ar ôl yr angladd. Felly, pan gyhoeddwyd fy enw ar Twitter, ni ddywedais ddim am y peth. Roeddwn eisoes yn teimlo euogrwydd a galar aruthrol. Ymatebodd ychydig o leisiau swnllyd iawn ar Twitter yn syth, rwy'n credu, i erthygl fer gan y BBC, gan ragdybio eisoes cymaint o fethiant y byddwn fel AC, a hynny am fod llinell gyntaf fy mywgraffiad personol ar Twitter yn nodi fy mod yn gweithio ym maes hawliau menywod a datblygu rhyngwladol. Fy swydd ar y pryd oedd ymgyrchydd dros hawliau menywod ar ran ActionAid. Roedd hi'n swydd yr ymfalchïwn yn fawr ynddi. Ond roedd yr un linell honno'n ddigon i gythruddo rhai pobl, ac i dybio mai dyna'r cyfan y byddai gennyf ddiddordeb ynddo. Nid oeddwn yn teimlo y gallwn i ateb a siarad drosof fy hun o dan yr amgylchiadau. Fe wnaeth Leanne yr hyn a wnaeth, i raddau helaeth, er mwyn fy nghefnogi i. Roedd Leanne hefyd yn galaru am ei ffrind, ac roedd hi'n gallu gweld pa mor annoeth, ansensitif a chreulon oedd amseriad a chywair y negeseuon hynny amdanaf. Felly, roeddwn i'n hynod o ddiolchgar iddi ar y pryd, ac rwy'n dal i fod yn ddiolchgar iddi nawr, am fy nghefnogi pan na allwn wneud hynny drosof fy hun. Felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cerydd hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau eraill yn gwneud yr un fath.

15:30

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Leanne am ei geiriau hefyd. Rwy'n credu bod rhai o'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth weithredu cyfundrefn safonau yn amlwg o rai o'r safbwyntiau a glywsom heddiw. Felly, rwy'n credu y gallai fod yn werth nodi ychydig o ffeithiau am y system i ddechrau. Penodir comisiynydd safonau annibynnol drwy broses benodi agored a thryloyw. Mae'r comisiynydd yn defnyddio'r cod ymddygiad a'r canllawiau ategol, gan gynnwys y polisi urddas a pharch y pleidleisiodd y Cynulliad cyfan arno, i ymchwilio i'r cwynion. Os yw'n canfod bod cwyn wedi torri'r cod, mae'r gŵyn honno, ac adroddiad y comisiynydd ar pam y canfu fod y cod wedi'i dorri, yn cael ei ddwyn gerbron pwyllgor trawsbleidiol. Rôl y pwyllgor yw ystyried adroddiad y comisiynydd a phenderfynu os dylid gosod sancsiwn, ac os felly, pa sancsiwn i'w osod.

Mae rôl y pwyllgor yn un led-farnwrol. Ni allwn, ac ni wnawn, wneud penderfyniadau pleidiol-wleidyddol eu natur. Rydym wedi cael y cyfrifoldeb gan y Cynulliad hwn i gynnal y safonau uchaf, ac rydym i gyd yn hynod ymwybodol o hynny. Mae gennyf fi, a'r pwyllgor, lawer iawn o gydymdeimlad â'r Aelod yn yr achos hwn. Mae'r trolio, bwlio, gwreig-gasineb, hiliaeth, homoffobia ac ati sy'n digwydd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn resynus. Mae gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus eraill yn aml yn cael eu gweld fel rhai y mae'n iawn eu targedu. Mae gennym fwy i'w wneud i gefnogi'r Aelodau yn hyn o beth. Mae gennyf barch mawr tuag at yr Aelod, ac nid oes amheuaeth yn fy meddwl i y bydd yr Aelod yn parhau i wrthwynebu gwreig-gasineb, hiliaeth, homoffobia, bwlio a throlio, fel y gwnaiff bob amser, ac mae bob amser yn gwneud hynny mewn ffordd gadarn. Nid problem gyda'r gŵyn yw hon. Mae'r pwyllgor yn unfryd fod lefel y gamdriniaeth y mae'r Aelod wedi'i hwynebu yn hollol annerbyniol. Mae'r rheolau sydd gennym yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel hynny mewn perthynas â'r iaith a ddefnyddiwn. Roedd penderfyniad y pwyllgor yn seiliedig ar ddefnyddio gair—ni waeth pa mor fach ydyw yn llygaid yr Aelod neu bobl eraill—sy'n torri'r cod ymddygiad a'r polisi urddas a pharch. Os caf dynnu sylw—credaf fod Lynne wedi crybwyll mater yn ei chyfraniad yn ymwneud ag un o'r Aelodau yma, Gareth Bennett, a fu'n destun cwyn. Ac yn yr achos hwnnw, ataliwyd yr Aelod am wythnos heb dâl. Mae'r iaith a'r dadlau yn y byd gwleidyddol yn wenwynig ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni gynnal ein safonau ein hunain fel nad ydym yn gostwng ein hunain. Dyma'r safonau uchel rydym wedi'u gosod i ni'n hunain yn ein rheolau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Adroddiad 03-19

Yr eitem nesaf yw adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad eto, a'r adroddiad hwnnw yw adroddiad 03-19. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant. 

Cynnig NDM7149 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Mae'r pwyllgor wedi ystyried adroddiad y comisiynydd safonau ynghylch cwyn a wnaed yn erbyn Hefin David AC mewn perthynas â defnyddio iaith anseneddol. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynglŷn â'r sancsiwn sy'n briodol i'r achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor hwn.

Rwy'n teimlo fel pe bawn wedi bod yn bodoli mewn bydysawd cyfochrog am y 15 munud diwethaf, Lywydd. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud—. Nid yw'r hyn rwyf ar fin ei ddweud yn berthnasol i'r ddadl flaenorol, yn fy marn i. Rwy'n myfyrio ar fy mhrofiad a'r hyn yr hoffwn ei ddweud am fy safbwyntiau ac am yr adroddiad penodol hwn gan y comisiynydd safonau. Yn fy marn i—a gwn, o'r hyn sydd newydd gael ei ddweud, nad dyma farn rhai o'r bobl yn y Siambr—pan fyddwch yn torri'r rheolau, y peth cywir i'w wneud yw ymddiheuro am dorri'r rheolau hynny. Ac rwy'n cymeradwyo, felly, yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies, yn arbennig, pan oedd yn siarad yn rhinwedd ei swydd fel aelod o'r pwyllgor safonau. Dylid parchu penderfyniad y pwyllgor safonau, ac os na fyddwch yn ei barchu, fe all, ac fe fydd, yn tanseilio'r broses safonau yn y lle hwn, ac un a sefydlwyd gan y Cynulliad hwn er mwyn rheoli a mesur safonau y byddem yn disgwyl eu cyrraedd. [Torri ar draws.] Na, byddai'n well gennyf beidio ag ildio, diolch; byddai'n well gennyf orffen yr hyn yr hoffwn ei ddweud.

Cyn i mi ymateb, hoffwn fyfyrio ar sut deimlad yw bod yn wleidydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac ni allaf ond siarad o safbwynt bod yn wryw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mynegais farn, a'r hyn sydd wedi achosi'r gamdriniaeth a brofais—mynegais farn ynglŷn ag annibyniaeth i Gymru. Ac nid oedd yn farn arbennig o wrthwynebus, roedd yn farn amheus, ond yn farn a oedd yn agored i ddadl yn y Siambr hon a lleoedd eraill yn y dyfodol. Profais lif o gam-drin geiriol, gan bobl o'r ddau ryw, rhai yn ddienw, rhai heb fod yn ddienw, ac roedd peth ohono'n erchyll—roedd peth ohono'n erchyll. Cefais neges uniongyrchol—a rhoddais fy ngair i Adam Price na fyddwn yn enwi'r person, ond derbyniais neges uniongyrchol gan aelod ifanc o Blaid Cymru a dynnodd sylw at fy ymddangosiad a gwneud hynny yn yr iaith gryfaf bosibl y gallech ei dychmygu. Ac aeth Adam Price i'r afael â'r mater yn briodol, yn gyflym, a chefais ymddiheuriad uniongyrchol y diwrnod wedyn. Ond roedd yn beth ofnadwy i'w dderbyn. Cwestiynwyd fy iechyd meddwl hefyd, a chwestiynwyd fy ymddangosiad ar Twitter, ac mae fy ffrindiau gartref wedi gwneud sylwadau am y cam-drin a gefais.

Mae'n beth anhygoel o anodd i'w wneud, pan fyddwch yn cael llif o gam-drin geiriol am fynegi barn—a gweld etholwr yn cael ei gam-drin am fynegi barn—i beidio ag ymateb. Ymatebais yn fyrbwyll. Ymatebais yn yr iaith a welsoch. Llwyddais i roi cynnig ar fy Nghymraeg yn fy ymateb hyd yn oed. Ac fe gafodd cwyn ei wneud yn fy erbyn wedyn am wneud hynny. Yr hyn rwy'n edifar amdano yw ymateb yn y foment honno. A dyna pam, Lywydd, fy mod wedi ymddiheuro i chi am ddefnyddio iaith anseneddol. I chi yn unig y gwneuthum yr ymddiheuriad hwnnw, a hynny am dorri'r rheolau'n unig, a dim ond am fy mod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny o barch i'r pwyllgor safonau.

15:35

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad ac am yr hyn a ddywedodd heddiw a'i ymddiheuriad i chi, Lywydd. Mae wedi derbyn adroddiad y pwyllgor safonau. Felly, diolch, Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol

Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelod unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(v) ar seilwaith diwydiannol hanesyddol. Dwi'n galw ar David Rees i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7143 David Rees, Vikki Howells, Leanne Wood

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru.

2. Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru.

3. Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Diolch, Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ac yn enwau Leanne Wood a Vikki Howells. Cyn i mi ddechrau, rwy'n ymddiheuro am fy llais—yn anffodus, fel y gallech fod wedi'i ddyfalu, nid wyf wedi bod yn dda yn ddiweddar, ond rwyf am fwrw ymlaen.

Nawr, mae Cymru'n genedl a chanddi hanes gwych. Ac mae gennym lawer o adeiladau o'r oesoedd canol sy'n adlewyrchu'r hanes hwnnw—boed yn gestyll niferus sydd i'w gweld o hyd, neu'r nifer o safleoedd crefyddol ledled ein gwlad. Ond symudwn ymlaen ychydig gannoedd o flynyddoedd ac mae gennym dreftadaeth ddiwydiannol enfawr a rhyfeddol hefyd, yn enwedig o adeg pan oedd Cymru'n gyrru allforion pwysig fel glo, copr, haearn a dur. Ond nid yr adeiladau a gynhyrchodd yr allforion hynny yn unig—y pyllau glo a'r gwaith haearn, ac ati—sy'n ein hatgoffa o'r gorffennol diwydiannol hwnnw, ond hefyd y seilwaith a roddwyd yn ei le i ganiatáu i'r cynhyrchion hynny gael eu cludo. Nawr, mae rhywfaint o'r seilwaith hwnnw i'w weld o hyd. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, gallwn weld bwâu enfawr traphont y rheilffordd a'r draphont ddŵr, ym Mhontrhyd-y-fen, neu saith bwa'r bont yn y Cymer. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, pan fyddant yn siarad y prynhawn yma, yn tynnu sylw at strwythurau ac adeiladau o'r fath yn eu hetholaethau eu hunain. Ac rydym i gyd yn adnabod rhai ohonynt, boed yn draphont Pontcysyllte, Big Pit, neu'r gwaith haearn ym Merthyr. Ond yn ogystal â'r agweddau gweladwy ar ein treftadaeth ddiwydiannol yr adferwyd llawer ohonynt a'u hailsefydlu ar gyfer twristiaeth neu gerdded a seiclo, mae llawer o agweddau ar ein treftadaeth ddiwydiannol sy'n anweledig—pyllau glo sydd wedi'u cau, llwybrau hen reilffyrdd wedi'u tynnu, camlesi sydd wedi tyfu'n wyllt, a rhwydwaith enfawr o dwneli, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o seilwaith a fu ar un adeg yn cario cyfoeth Cymru i'n porthladdoedd i'w ddosbarthu ledled y byd.  

Mae dirywiad ein gorffennol diwydiannol wedi effeithio ar y rhain ledled Cymru, ac yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. At hynny, mae'r camau a gymerwyd yn dilyn adroddiad Beeching yn y 1960au, gan gynnwys lleihau rhwydwaith y llwybrau ac ailstrwythuro'r rheilffyrdd ledled y DU—ac nid oedd hynny'n boblogaidd, cofiwch, oherwydd arweiniodd llawer o brotestiadau at achub rhai o'r gorsafoedd a'r rheilffyrdd hynny mewn gwirionedd, ond caewyd y mwyafrif yn ôl y bwriad, ac mae enw Beeching yn parhau i fod yn gysylltiedig â chau rheilffyrdd ar raddfa fawr a cholli llawer o wasanaethau lleol yn y cyfnod a ddilynodd. Nawr, mae rhai o'r llwybrau hyn wedi ailagor ers hynny. Mae rhai rhannau byr wedi'u cadw fel rheilffyrdd treftadaeth—rheilffordd Gwili, rheilffordd Mynydd Brycheiniog, i enwi ond ychydig ohonynt yng Nghymru—rheilffordd Colwyn, Llangollen. Mae eraill wedi'u hymgorffori mewn rhwydweithiau beicio a cherdded, ac mae'r gweddill naill ai wedi'u troi nôl yn ffermdir naturiol neu'n dal i fod yn ddiffaith.

Nawr, un o'r rheilffyrdd yr effeithiwyd arni gan doriadau Beeching oedd rheilffordd bae Abertawe i'r Rhondda. Pan oedd yn weithredol, roedd y llwybr hwn yn mynd drwy fy etholaeth, o Lansawel, ac mae'n bosib nad yw pobl yn sylweddoli ei fod yn arfer bod yn borthladd enfawr ar un adeg, yn mynd drwy Bort Talbot ac Aberafan i fyny cwm Afan, lle roedd yn rhannu'n nifer o lwybrau eraill. Nawr, roedd y llwybrau hyn angen twneli niferus yn aml, i'w galluogi i deithio i fyny'r cwm a rhwng cymoedd. Mae'r rhan fwyaf bellach yn segur ac wedi'u cau, gan gynnwys twnnel y Gelli, twnnel y Gilfach, twnnel y Cymer i Gaerau, ac un o'r twneli hiraf yn y DU, twnnel y Rhondda, sy'n rhedeg rhwng Blaengwynfi a Blaen-cwm, ac ar y sgriniau fe welwch luniau o rai o nodweddion y twnnel penodol hwnnw. Nawr, caniataodd y rheilffordd honno inni ymuno â'r rheilffyrdd yng nghwm Rhondda. Ac felly mae angen i ni edrych ar seilwaith diwydiannol ledled Cymru fel cyfle i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Ni ddylem golli golwg ar yr hyn y mae'r seilweithiau hyn yn ei gynnig i ni.  

Nawr, bydd gweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar y trysorau cudd hyn, ac yn arbennig, twnnel y Rhondda, sy'n gallu cynnig cyfleoedd i gymunedau lleol gael budd o'u hadfywio. Ac mae twnnel y Rhondda yn 3,443 llath o hyd, neu ychydig o dan 2 filltir, 1,000 o droedfeddi o dan y ddaear ar ei ddyfnaf, gyda siafft awyru 58 troedfedd. Ac roedd yn waith enfawr, a chefais fy ngollwng i lawr i'r twnnel drwy'r siafft awyru mewn gwirionedd, a gallwch weld y beirianneg Fictoraidd wych a'i hadeiladodd. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1885 a 1890, a'i hagor yn swyddogol ym 1890, ac roedd yn elfen hanfodol o'r rheilffordd honno, gan gysylltu pyllau glo'r Rhondda â'r porthladdoedd a bae Abertawe. Daeth hefyd yn llwybr i deithwyr yn ddiweddarach. Felly, cawsom gyfle, wrth i amser fynd yn ei flaen, nid yn unig i gael rheilffordd ddiwydiannol, ond rheilffordd i deithwyr hefyd, i ganiatáu'r cysylltiad hwnnw rhwng y ddwy gymuned. Mewn gwirionedd, roedd y rheilffordd yn llinell ddeuol—os ydych yn gwybod llawer am reilffyrdd—roedd y twnnel ei hun yn llinell sengl ond roedd yn ddeuol yn y ddau ben.  

Nawr, yn anffodus, ym 1968, gwnaed penderfyniad i gau'r twnnel dros dro, gan fod angen gwaith i'w atgyweirio. Ond ym mis Rhagfyr 1970, penderfynodd yr Adran Drafnidiaeth gau'r twnnel hwnnw'n barhaol, gan ddweud bod y costau atgyweirio yn waharddol—roedd yn rhyfedd sut roedd yn cyd-daro, mewn gwirionedd, â'r cynlluniau i gau gorsafoedd Blaengwynfi a Blaenrhondda fel rhan o doriadau Beeching. Ni allwn ond tybio mai cyd-ddigwyddiad yn unig ydoedd. Felly, digwyddodd hynny, ac ym 1980, o ganlyniad, caewyd y ddau ben a'u blocio i atal pobl rhag mynd i mewn heb ganiatâd. Oherwydd gwyddom fod yn rhaid iddynt gael eu diogelu, gan fod llawer o blant yn tueddu i gerdded i mewn i lefydd fel twneli fel profiad cyffrous ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu hamddifyn a'u diogelu.  

Nawr, mae bron i 130 o flynyddoedd wedi bod ers agor y twnnel hwnnw. Dyma'r twnnel segur hiraf yng Nghymru, ac mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda—gwn fod rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma—wedi sefydlu eu hunain ac mae ganddynt weledigaeth—gweledigaeth, Ddirprwy Weinidog, rwy'n ei rhannu gyda hwy; gweledigaeth a fydd yn sicrhau bod twnnel y Rhondda'n cael ei gadw ar gyfer dyfodol ein plant, gan ailgysylltu cwm Afan a'r Rhondda Fawr ar gyfer cerddwyr a beicwyr, nid yn unig ar gyfer pobl yn y ddau gwm, ond ar gyfer pobl eraill o fannau eraill a thu hwnt.    

15:40

A gaf fi ymuno ag ef i ganmol gwaith yr holl bobl sydd wedi rhoi o'u hamser a'u hymdrech i ailagor twnnel y Rhondda? Gwyddom am y cynnydd sydd wedi'i wneud, ond faint yn fwy sydd i'w wneud eto. Ond hoffwn groesawu'r cynlluniau, yn sgil hynny—ac rwy'n siŵr y byddai pobl twnnel y Rhondda eu hunain yn eu croesawu hefyd—yn y dyfodol, i ailagor yr hyn a adwaenir mewn cylchoedd peirianneg fel twnnel Maesteg—twnnel y Cymer i Gaerau. A'r peth diddorol am y twnnel hwnnw yw ei fod wedi'i wneud mewn dwy ffordd wahanol. Roedd pen Caerau yn hollol wahanol i ben y Cymer. Dynameit oedd pen y Cymer, a arweiniodd at farwolaeth 11 o ddynion, ond cafodd pen Caerau ei wneud gan ddefnyddio'r math o dechnoleg a ddefnyddiwyd yn nhwnnel y Sianel ac mewn mannau eraill, gan beiriant a dyllodd y twll. Felly, mae rhesymau hanesyddol da dros agor y twneli hyn hefyd, yn ogystal â'r hyn y gallai ei wneud ar gyfer beicio a hamdden.

15:45

A gaf fi ddiolch i'm cyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, am dynnu sylw at y twneli amrywiol sy'n bodoli? Mae'r twnnel o Caerau i'r Cymer, yn amlwg, yn un o'r rhai y soniais amdanynt yn gynharach. Mae'n un o'r twneli yn y Cymoedd sydd wedi'u hystyried yn ofalus iawn. Fe dynnoch chi sylw at y pwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â mwy na'r hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn adnewyddu'r twneli hynny, mae hefyd yn ein hatgoffa am hanes y twneli hynny a'r technegau a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd i'w datblygu.

Nawr, mae'r gallu i gynnig profiad a fydd yn caniatáu i bobl ddefnyddio'r seilwaith beicio a cherdded sy'n bodoli eisoes—a siaradodd yr Aelod am feicio yn ei ddatganiad 90 eiliad heddiw mewn gwirionedd—dylem fachu ar y weledigaeth a'r cyfle hwnnw. Mewn perthynas â chwm Afan, byddai'n cynnwys annog beicwyr i deithio ymhellach i lawr y cwm—i lawr at y traeth gwych 3 milltir o hyd sydd gennym, a pharc Margam, ac os ydynt yn anturus iawn, gallent feicio ar hyd ardal bae Abertawe, yr holl ffordd i'r Mwmbwls. Ond mae'n cynnig cyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio o ddifrif arno. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd, mae'r posibiliadau'n niferus, a gall y prosiect hwn roi bywyd newydd i gwm lle mae pobl yn aml yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu a'u hanghofio.  

Rwyf fi a llawer o bobl eraill yn rhagweld y bydd y twnnel yn ganolbwynt i ddigwyddiadau beicio a rhedeg, a chafwyd enghreifftiau o'r rhain: mae twneli Caerfaddon yn un enghraifft, lle'r ydym wedi'u gweld yn cael eu defnyddio fel canolbwynt ar gyfer rasys 5K, 10K, hanner marathon a marathon llawn. Mae'n fwy na chyfle i gerdded neu feicio drwyddynt. Gellid eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau eraill, sy'n denu mwy i'r gymuned. Ras 10K Richard Burton, y byddaf yn ei hyrwyddo—ar 3 Tachwedd, gyda llaw, os ydych am roi cynnig arni—daw dros 1,000 o redwyr i fy mhentref ar y diwrnod hwnnw, ac maent yn aros. Ac mae hwn yn gyfle, unwaith eto, i edrych ar yr hyn y gall ei ddenu i gwm Rhondda a chwm Afan. Mae pobl yn aros ar gyfer yr ymweliadau hynny. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag adfer twnnel; mae'n ymwneud â chynnig gweledigaeth newydd a phrofiad newydd i bobl leol ac ymwelwyr. Rwyf wedi gweld y ffigurau ar gyfer Caerfaddon, ac maent yn anhygoel. Ond i'r gymuned ehangach, gallai'r manteision sy'n deillio o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn fywiogi'r economi leol—gweithgaredd yr effeithiwyd yn ddifrifol arno ar ôl cau'r pyllau glo, a oedd ar y pryd yn darparu cymaint o waith i'r rhai oedd yn byw yn y cymunedau hynny.

Ceir heriau bob amser wrth adeiladu gweledigaeth o amgylch ein treftadaeth ddiwydiannol, ond yn yr achos hwn, mae un o'r heriau mwyaf yn deillio o berchnogaeth y twnnel hwn a thwneli eraill. Mae hyn wedi atal unrhyw ddatblygu pellach ar dwnnel y Rhondda am y tro. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ogystal â chodi mater perchnogaeth yma yn y Siambr ar sawl achlysur, ac nid ydym yn nes at ddatrys y mater heddiw nag yr oeddem dair blynedd yn ôl. Rwy'n ddiolchgar am yr arian gan Lywodraeth Cymru, ac mae eisoes wedi cael effaith bwysig ar y prosiect hwnnw. Fodd bynnag, heb drosglwyddo perchnogaeth y twnnel o ddwylo'r Adran Drafnidiaeth i Gymru, mae'n bosibl fod hyn i gyd wedi bod yn ofer. Ni ellir dod o hyd i gyllid pellach o ffynonellau eraill—ac nid wyf yn gofyn am gyllid gan Lywodraeth Cymru—i gwblhau'r gwaith hyd nes y byddwn wedi mynd i'r afael â mater perchnogaeth.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn pryderu am faterion atebolrwydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gofio, ar hyn o bryd, fod y twnnel wedi'i gau. Prin fod unrhyw faterion atebolrwydd yn codi pe bai mynydd yn disgyn i mewn arno a neb y tu mewn. Felly, nid oes llawer i boeni yn ei gylch ar hyn o bryd. Nawr, mewn llythyr ataf fi a'm cydweithiwr Stephen Kinnock AS, mae'r Farwnes Vere o Norbiton, sy'n Weinidog trafnidiaeth yn Llundain dros ffyrdd a diogelwch, yn datgan bod yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2017 i ddweud y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn barod i drosglwyddo'r twnnel i berchnogaeth Llywodraeth Cymru a thalu'r swm o £60,000 i adlewyrchu'r arbedion ar gostau arolygon yn y dyfodol—cynnig sy'n dal yn agored i Lywodraeth Cymru yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf. Felly, efallai y bydd yr opsiynau i archwilio'r cyllid i ailagor y twnnel yn cael eu harchwilio ac mae angen inni edrych ar hyn o ddifrif.

Gadewch i ni gael y twnnel beicio hiraf yn Ewrop—yr ail hiraf yn y byd—yn agored i feicwyr a cherddwyr, nid yn unig ar gyfer teithio llesol ac nid yn unig ar gyfer twristiaeth, ond er mwyn adfywio ein cymoedd a sicrhau bod Caerdydd ar gael yn rhwydd i bobl yng nghwm Afan, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddynt fynd i Faesteg a dal trên Maesteg. Oni fyddai'n braf pe gallent feicio drwy'r twnnel a dal trên yn Nhreherbert? Gadewch i ni fod yn flaengar a rhannu'r weledigaeth sydd gennyf fi a Chymdeithas Twnnel y Rhondda, ynghyd â llawer o rai eraill. Gadewch i ni gael uchelgais. Ddirprwy Weinidog, mae'r ddadl heddiw yn gyfle i chi rannu gweledigaeth gyda ni, gweledigaeth i adfywio cymunedau ledled Cymru, i rannu awydd fy nghymuned, cwm Afan, i agor y twnnel ar gyfer twristiaeth, datblygu economaidd a chyflogaeth. Gadewch i ni feddwl am y dyfodol. Gadewch inni gymryd ychydig o risg. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni sôn am y trysor sydd yng nghwm Afan er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau a gwerthfawrogi hanes ein gorffennol diwydiannol.  

15:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae gogledd Cymru wedi'i bendithio â rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol. Mae'r arwyr a anghofir yn rhy aml mewn grwpiau lleol sy'n ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar yr adfywio economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil y seilwaith hwn yn haeddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth. Maent yn brwydro bob dydd gyda'r heriau ymarferol ac ariannol o sicrhau y gall seilwaith o'r fath gael ei ddefnyddio gan y gymuned unwaith eto. Yn hytrach na pherchnogaeth Llywodraeth Cymru, maent yn chwilio am bartneriaeth wirioneddol â Llywodraethau wrth archwilio a darparu'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath.

Traphont ddŵr Pontcysyllte yw'r draphont ddŵr hiraf ym Mhrydain a'r draphont ddŵr camlas uchaf yn y byd. Ar ôl ennill statws treftadaeth y byd yn 2009, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn creu gweithgor i sefydlu gogledd-ddwyrain Cymru fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr o gwmpas y draphont ddŵr, gyda'r trydydd sector wedi'i gynrychioli gan Glandŵr Cymru, yr ymddiriedolaeth gamlesi ac afonydd. Rydym yn dal i aros ddegawd yn ddiweddarach, ac mae grwpiau treftadaeth eraill y trydydd sector yn dweud wrthyf nad ymgysylltwyd â hwy.

Wrth siarad yma y llynedd, cyfeiriais at bennod olaf cyfres Great Rail Restorations a ymddangosodd ar Channel 4, rhaglen a hyrwyddai'r rheilffordd wych rhwng Llangollen a Charrog, ond mae bellach yn mynd i Gorwen hefyd, ac ymdrechion pawb a oedd yn rhan o'r ymddiriedolaeth wirfoddol. Fel y dywedais ar y pryd, rydym angen cynnig twristiaeth cydgysylltiedig, gyda thocynnau drwodd i alluogi ymwelwyr rhanbarthol i ymestyn eu harosiadau a chael yr amser gwych y gwyddom y gallant ei gael.

Mae Rheilffordd Llangollen wedi dweud dro ar ôl tro eu bod yn dymuno cynnig tocynnau ar y cyd â'r cwmnïau bysiau a rheilffyrdd eraill yn eu hardal. Mae eu cynigion ar gyfer tocynnau drwodd hefyd yn ymwneud â rheoli cyrchfannau yn ehangach a chyrchfannau sy'n datblygu profiad ymwelwyr drwy bartneru gyda lleoliadau eraill ac atyniadau treftadaeth ddiwydiannol yn y rhanbarth. Mae Rheilffordd Llangollen yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a'r unig reilffordd dreftadaeth led safonol yng ngogledd Cymru. Maent yn ymestyn y rheilffordd i Gorwen ac yn adeiladu gorsaf newydd yno fel eu terfynfa orllewinol, a fydd yn helpu i agor tref Corwen i fwy o ymwelwyr ac yn helpu pobl leol i deithio rhwng Llangollen a Chorwen. Arweiniwyd y prosiect hwn yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr gyda chymorth proffesiynol yn ôl yr angen.

Roedd tramffordd dyffryn Glyn yn rheilffordd gul a gysylltai'r Waun â Glyn Ceiriog ac mae ymddiriedolaeth tramffordd dyffryn Glyn yn gweithio tuag at ailsefydlu'r dramffordd o'r Waun. Wrth siarad yma yn 2014, ac eto y llynedd, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ystyried cefnogi cynlluniau i ailagor y rheilffordd o'r Gaerwen i Langefni fel cyswllt treftadaeth. Fis diwethaf, ymwelais â Welsh Slate ym Methesda, sy'n dyddio'n ôl dros 400 o flynyddoedd. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweithio gydag ymddiriedolaeth a grŵp treftadaeth Brymbo, sy'n gweithio i hyrwyddo hanes diwydiannol Brymbo ac ardaloedd cyfagos a datblygu'r safle fel atyniad i ymwelwyr, gan gynnwys adeiladau craidd y gwaith haearn a choedwig ffosil Brymbo.  

Mae Shotton Point yn rhan bwysig o dreftadaeth Glannau Dyfrdwy, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu dur. Roedd y Gymdeithas Fictoraidd yn cynnwys hen swyddfa gwaith dur John Summers, gan gynnwys ei thŵr cloc rhestredig gradd II eiconig, ar eu rhestr 10 uchaf ar gyfer adeiladau a oedd mewn perygl yn 2018. Yn ddiweddar, ymwelais â sefydliad dielw Enbarr yn Queensferry i drafod eu prosiect safle cyffrous yn John Summers, Shotton Point, sy'n dod â phobl leol, busnesau a mudiadau cymunedol at ei gilydd i gynllunio, datblygu ac adeiladu dyfodol y safle.

Roedd yr ardal rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug, lle rwy'n byw, yn cynnwys llawer o byllau glo ar un adeg. Mae canolfan dreftadaeth glowyr Llai wedi ymroi i adrodd hanes y diwydiant glo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dathlu, yn gwarchod ac yn hyrwyddo treftadaeth gyfoethog y rhanbarth, a mynychais eu ffair dreftadaeth yn Wrecsam ar 27 Gorffennaf. Bu'r Rhufeiniaid yn cloddio plwm yn Helygain, cloddiwyd am dywodfaen yng Ngwespyr ac mae mentrau diwydiannol yn nyffryn Maes-glas, yn amrywio o gopr i gotwm, yn darlunio'r chwyldro diwydiannol. Rwy'n cymeradwyo'r teithiau treftadaeth drwy ddyffryn Maes-glas ac ymweliadau â'i barc treftadaeth. Hefyd, mynychais ddiwrnod hanes Grŵp Treftadaeth Llaneurgain ar 21 Medi, a oedd yn amrywio o lwybrau dyddiau'r goetsh fawr i wneud brics, ym Mwcle.

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd perfformiadau Theatr Clwyd o derfysgoedd yr Wyddgrug 150 o flynyddoedd yn ôl yn cofio'r aflonyddwch cymdeithasol ar ôl i ddau löwr gael eu dedfrydu i garchar am ymosod ar reolwr pwll glo Leeswood Green, digwyddiad a ddylanwadodd ar ddyfodol plismona aflonyddwch cyhoeddus ar draws Prydain. Gyda'i gilydd, dengys hyn oll ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru droi geiriau'n gamau gweithredu drwy ddod â phŵer yr holl bobl hyn at ei gilydd i ddatgloi'r potensial ar gyfer adfywio rhanbarthol a arweinir gan y dreftadaeth ddiwydiannol. Diolch yn fawr.  

15:55

Nid yn aml y cytunaf yn llwyr â rhywbeth gan Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill, ond mae hwn yn un o'r achlysuron hynny. Hoffwn hefyd gofnodi fy nghefnogaeth i agor twnnel Aber-nant yng nghwm Cynon, ac unrhyw dwnnel arall yng Nghymru a fyddai'n fuddiol i'r cymunedau lleol y byddai'n eu gwasanaethu.  

Fel Aelod dros y Rhondda, rwy'n siŵr y byddech yn disgwyl i mi ganolbwyntio ar yr etholaeth honno am weddill fy nghyfraniad. Gallai'r twnnel rhwng Blaen-cwm a Blaengwynfi sicrhau effeithiau cadarnhaol diamheuol ar gyfer y Rhondda. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn 2014, roedd eu penderfyniad, eu brwdfrydedd a'u momentwm yn ganmoladwy. Rwy'n aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda, felly mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant yn ogystal â datgan fy nghefnogaeth gadarn i'r gymdeithas yn y ddadl hon.  

Er bod llawer wedi'i gyflawni ers iddi gael ei sefydlu, mae'r cwestiwn o berchenogaeth wedi llesteirio'u hymdrechion. Mae gennyf lythyrau sy'n dyddio'n ôl fwy na thair blynedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am yr ased hwn er mwyn i'r prosiect allu symud i'r cam nesaf, ac ni allaf ddweud wrthych pa mor rhwystredig yw hi nad yw'r mater hwn wedi'i ddatrys a ninnau'n nesáu at 2020. Gwn fod aelodau tra amyneddgar a maddeugar Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn rhannu'r rhwystredigaeth honno.

Nid yw aelodau'r gymdeithas yn chwilio am siec wag gan Lywodraeth Cymru nac unrhyw addefiad o atebolrwydd. Maent yn fwy na pharod i dderbyn unrhyw drefniant sy'n rhyddhau Llywodraeth Cymru o gost ariannol fel y gallant sicrhau bod y twnnel yn ôl lle mae'n perthyn, mewn dwylo Cymreig. Bydd hyn yn caniatáu iddynt wneud cais wedyn am grantiau a chyllid o ffynonellau eraill. Os na chaiff y mater perchnogaeth ei ddatrys, byddwn yn parhau i fethu gwneud dim.  

Gwyddom nad oes unrhyw rwystr o gyfeiriad Lloegr o ran perchnogaeth y twnnel. Dair blynedd yn ôl, sefydlais nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i roi'r twnnel yn ôl i Gymru. Rwyf hefyd yn deall bod Adran Drafnidiaeth y DU wedi anfon gohebiaeth at Lywodraeth Cymru yn 2017 yn cynnig perchnogaeth twnnel y Rhondda a £60,000 i adlewyrchu arbedion i'r adran honno mewn costau arolygon. Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn dal i aros am ateb i'r cynnig hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn roi terfyn ar y oedi yn awr a gwneud rhywfaint o gynnydd.  

Gallai twnnel y Rhondda fod yn gatalydd i'r seilwaith beicio rydym wedi bod yn crefu amdano yn Rhondda Fawr ers blynyddoedd. Byddai'n helpu i hyrwyddo gweithgaredd, gan fynd i'r afael â'r epidemig o ordewdra a wynebwn fel cymdeithas. Byddai hefyd yn hwyluso teithiau lleol di-gar, gan ein helpu i gyflawni ein cyfrifoldeb i leihau'r carbon rydym yn ei allyrru i'r atmosffer. Mae ganddo'r potensial i fod yn atyniad mawr i dwristiaid—nid beicwyr yn unig, ond cerddwyr hefyd. Dychmygwch yr hwb y gallai ei roi i fusnesau lleol. Mae gwledydd eraill wedi manteisio i'r eithaf ar eu twristiaeth feicio, ac mae'n bryd i Gymru wneud yr un peth. Felly, er bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn wastraff cyfle o ran y cwestiwn perchnogaeth, nid yw'n rhy hwyr i weld y prosiect hwn yn llwyddo. Beth am fachu ar y cyfle a gyflwynir i ni o waddol ein gorffennol diwydiannol a gwneud defnydd da ohono.  

Rwyf mor falch fy mod wedi gallu cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod yr AC dros Aberafan a'i gyd-gyflwyno hefyd gyda Leanne Wood. Bu David Rees a Leanne Wood yn hyrwyddwyr go iawn dros dwnnel y Rhondda, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth i fy ngalwad mewn perthynas â thwnnel Aber-nant, yn ogystal ag aelodau Cymdeithas Twnnel y Rhondda a gynigiodd eu harbenigedd a phob math o gyngor i ni ar hynny yng Nghwm Cynon.

Rwyf am dreulio'r rhan fwyaf o fy amser yn sôn am dwnnel Aber-nant sy'n cysylltu Cwm-bach â Merthyr, neu dwnnel Merthyr, fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yr hen dwnnel rheilffordd hwn, a gynlluniwyd gan Brunel, yn rhan o Reilffordd Cwm Nedd ac mae'n un edefyn, un gangen, o'r rhwydwaith cyfoethog o seilwaith diwydiannol hanesyddol rydym yn ei fwynhau yng Nghymru. Yn wir, am 110 o flynyddoedd, prif swyddogaeth y strwythur rhyfeddol hwn oedd allforio glo o ardal Aberdâr i fodloni'r galw ymhellach i ffwrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o un o agweddau negyddol y dreftadaeth honno, ac o'r chwyldroadau diwydiannol eu hunain: y dyddodion mwynol gwerthfawr, brwydr a llafur y gweithwyr, yr amgylchedd naturiol, i gyd yn cael eu hecsbloetio er mwyn cyfoethogi'r lleiafrif.

Fodd bynnag, fel y mae ail bwynt y cynnig yn ei nodi, gallai ailagor y twneli hyn ddarparu cyfleoedd ar gyfer manteision gwirioneddol a pharhaol i'r lliaws, yn gyntaf, o ran trafnidiaeth integredig a chyfleoedd teithio llesol. Gwnaeth yr elusen cerdded a beicio, Sustrans, waith a edrychai ar yr 21 o dwneli rheilffordd nas defnyddir yn ne-ddwyrain Cymru. Canfuwyd mai twnnel Aber-nant a sgoriodd uchaf o dan offeryn asesu llwybrau a gwerthuso trafnidiaeth Sustrans.

Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, dyma'u dull o werthuso potensial cynlluniau cerdded a beicio. Ac fel y nododd Sustrans, gallai ddarparu llwybr teithio llesol uniongyrchol a di-draffig o Aberdâr i Ferthyr, rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd. Yn wir, gwn am lawer o etholwyr sy'n beicio ar hyd ochr ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd gan nad oes dewis arall mewn gwirionedd, yn rhannol ar lwybr beicio ac yn rhannol ar lain o borfa arw wrth ymyl y ffordd er mwyn cymudo i'r gwaith. Felly, mae potensial yno.

Fel y dywed adroddiad Sustrans, hwn sydd â'r potensial uchaf o'r holl lwybrau a ddadansoddwyd i annog newid moddol drwy annog cymudo. Dim ond heddiw y nododd fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ogwr, Huw Irranca-Davies, ein bod, mewn gwirionedd, ers dyfodiad y Ddeddf teithio llesol yng Nghymru, wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cerdded ac yn beicio. Rwy'n ystyried y twneli hyn fel catalyddion a allai newid hynny'n llwyr a dod â'r Ddeddf teithio llesol yn fyw.

Gallai hybu iechyd a llesiant, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i nodi yn y ddadl hon, yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn hefyd. Mae'r twnnel ei hun yn cysylltu â chyfres o lwybrau cerdded ar ochr Cwm-bach sydd eisoes yn cael defnydd da iawn o ran beicio, cerdded a cherdded cŵn, a hefyd, ar ochr Merthyr, mae'r llwybr yn cysylltu'n agos iawn â BikePark Wales. Felly, mae cyfleoedd i dwristiaid yn y fan honno hefyd, a'r manteision ymarferol a fyddai'n dod yn sgil cysylltu ag ardaloedd difreintiedig iawn a dwysedd poblogaeth uchel.

Awgrymodd adroddiad Sustrans hefyd fod y twnnel mewn cyflwr hyfyw iawn, gan olygu y byddai'n opsiwn rhesymol o ran dadansoddiad cost a budd hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a welais drosof fy hun pan gefais fynd ar daith i weld y twnnel gyda fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden. Mae'r twnnel, sydd â giât ar y naill ben a'r llall, fel rydych wedi'i weld mewn rhai o'r lluniau a ddangoswyd yn gynharach o bosibl, wedi'i gynnal yn dda iawn, gyda buddsoddiad o dros £100,000 ar y tu mewn i sicrhau ei fod mewn cyflwr diogel a hyfyw.

Yn hynny o beth, mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i waith Hammond ECS Ltd, cwmni cynnal a chadw strwythurol arbenigol sydd wedi'i leoli ym mhentref Cwm-bach yn fy etholaeth. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, y busnes teuluol hwn, yn sicrhau bod twnnel Aber-nant, a gweddill y rhwydwaith hefyd—sydd, fel y gwyddom, yn eiddo i Highways England ar hyn o bryd—wedi'i gadw mewn cyflwr addas, gan mai hwy a gafodd eu contractio i wneud hynny.  

Mae hyn, i mi, yn elfen bwysig arall o'r ddadl o blaid adfer y twneli, oherwydd nid yn unig y byddai agor y twneli hyn yn cynnig cyfleoedd trafnidiaeth, ond maent hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer adfywio a datblygu economaidd, fel y mae'r cynnig yn nodi, a chyfleoedd busnes i gwmnïau fel Hammond ECS, cwmnïau sy'n cyflogi pobl leol mewn swyddi medrus. Yn wir, mae Sustrans yn nodi ffigur o 0.74 o swyddi ar gyfer pob cilometr o lwybr teithio llesol a grëir. Pan edrychwn ar dwneli eraill a addaswyd, megis Two Tunnels Greenway yng Ngwlad yr Haf, mae pobl wedi heidio o bob cwr i ddathlu eu hagoriad.

16:05

Felly, gobeithiaf y gallwn weld cynnydd ar yr uchelgeisiau hyn a throi'r symbolau hyn o ddiwydiannaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn symbolau o ffyniant cynaliadwy'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ymddangosodd y ddadl hon ar y papur trefn, roedd teitl y ddadl yn ennyn fy chwilfrydedd ac rwyf wedi mwynhau'r cyfle a gawsom y prynhawn yma i rannu rhai o'n hatgofion, mewn rhai achosion, ond hefyd ein huchelgeisiau a'n dyheadau ar gyfer ailddyfeisio'r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Oherwydd pan fyddaf yn meddwl am y bensaernïaeth ddiwydiannol a'r seilwaith diwydiannol y cefais fy magu gyda hwy, mae'n dweud cyfrolau am bwy ydym ni fel pobl heddiw.

Cefais fy magu, a mynychais yr ysgol, yng nghysgod gwaith haearn Sirhywi, un o'r gweithfeydd haearn mwyaf yng Nghymru pan gafodd ei sefydlu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Roeddwn yn chwarae rygbi a phêl-droed ar gaeau yng nghysgod y naw bwa, a oedd, wrth gwrs, yn cario rheilffordd Blaenau'r Cymoedd o Dredegar i Ferthyr ac yna i lawr i'r Fenni. A'r hyn a wnaeth, wrth gwrs, oedd ein dysgu, nid yn unig am y grymoedd economaidd mawr, enfawr, byd-eang a luniodd economi de Cymru, ond hefyd fe'n dysgodd sut rydym wedi ein cysylltu â'n gilydd. Mewn llawer o wahanol ddadleuon gwleidyddol, credaf ein bod yn aml yn ceisio canolbwyntio ar y pethau sy'n ein rhannu, ond yr hyn y mae ein seilwaith diwydiannol yn ei ddweud wrthyf yw sut y mae pob un ohonom yn gysylltiedig â'n gilydd. Buom yn siarad mewn dadl yn gynharach yn y flwyddyn ynglŷn â'r modd y mae tramffordd Bryn Oer yn cysylltu Tal-y-bont yn sir Frycheiniog â Threfil a Thredegar, ond os edrychwch ar draws un neu ddau o'r Cymoedd tuag at Fryn-mawr, mae gennych dramffordd Disgwylfa hefyd, a oedd yn cario deunyddiau o chwareli Llangatwg yn sir Frycheiniog, unwaith eto, yn nyffryn Wysg, i Nant-y-glo, ac a ddefnyddiwyd wedyn gan Bailey i greu gwaith haearn Nant-y-glo. Mae'r rhain yn gysylltiadau pwysig sy'n bodoli heddiw. Rwy'n gallu beicio ar hyd tramffordd Bryn Oer, rwyf wedi cerdded ar hyd tramffordd Disgwylfa, a gallwch ddeall ein hanes a deall pwy ydym fel pobl a chymuned.

Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn ddigon lwcus i ymuno â grŵp o drigolion o Lanhiledd a oedd wedi ailagor lle o'r enw Granny's Wood. Nawr, enw'r nain dan sylw oedd Margaret Griffiths ac fe alluogodd hi ei hwyrion a'i hwyresau, a oedd yno yr wythnos diwethaf, fel mae'n digwydd, i chwarae ar ddarn o dir a oedd yn arfer bod yn rhan o chwarel Llanhiledd gynt. Os cerddwch i lawr—ni allwch ddod o hyd iddo oni bai eich bod yn chwilio amdano—o'r hen olchfeydd pen pwll i ble'r oedd y siafftiau, yr hen ben pyllau i lawr ffordd Burma, fel roeddent yn ei disgrifio, lle byddai'r glowyr yn cerdded ar hyd-ddi, wrth gwrs, ar ddiwedd y sifft, ac yna ar hyd y llwybr y byddai'r glowyr yn cerdded arno i ac o'r gwaith pan oedd pyllau Llanhiledd ar eu hanterth, wrth gwrs, byddai cannoedd o ddynion wedi bod yn cerdded yn ôl ac ymlaen yno bob dydd. Heddiw, mae'n rhan heddychlon a thawel o'n treftadaeth a'n lleoedd a ail-ddarganfuwyd gennym, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau, fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, fod y profiadau hyn, y lleoedd hyn, yr hanesion hyn a'r cysylltiadau hyn yn dod yn rhan o bwy ydym am fod yn y dyfodol hefyd.

Mae deall hanes, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol i ddyfodol polisi cyhoeddus. Pan fyddaf yn meddwl am y ffordd y mae'r tramffyrdd, y rheilffyrdd a'r ffyrdd hyn wedi ein cysylltu, rwyf hefyd yn meddwl am rywbeth arall, sy'n fath llawer hŷn o drafnidiaeth wrth gwrs, sef ein hafonydd. Nid ydynt wedi cael eu crybwyll yn y ddadl y prynhawn yma, ac anaml iawn y crybwyllir ein hafonydd, yn enwedig yn ne Cymru, ond os siaradwch chi byth â'r Cynghorydd Malcolm Cross yn Nhredegar, bydd yn sôn sut y mae'n credu mai afonydd de Cymru yw'r ased rydym wedi'i esgeuluso fwyaf. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu ei fod yn iawn. Os edrychwch ar Vale Terrace yn Nhredegar, mae wedi'i adeiladu i wynebu'r afon oherwydd mai'r afon honno oedd un o'r prif fathau o drafnidiaeth ar y pryd, cyn i ni ddechrau defnyddio camlesi a—. Fe dderbyniaf ymyriad.

16:10

Diolch i chi am ildio, Alun. Gan eich bod wedi sôn am afonydd, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar ddyfrffyrdd, buaswn yn esgeulus i beidio â sôn hefyd am y rôl bwysig y mae camlesi wedi'i chwarae yn ein hanes a'n treftadaeth ddiwydiannol. Felly, pan fyddwch yn sôn am afonydd, efallai y gallech—nid wyf yn siarad yn y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd—efallai y gallech grybwyll ein camlesi hefyd.

Ond rydych wedi siarad yn y ddadl yn awr ac rydych wedi gwneud yn union hynny, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros sir Fynwy am wneud hynny.

Ond wrth gwrs, mae'r tramffyrdd a ddisgrifiais yn cysylltu â chamlas Mynwy a Brycheiniog hefyd, ac mae tramffordd Disgwylfa a Llangatwg yn cysylltu â'r glanfeydd yng Ngofilon sy'n gyfarwydd iawn iddo. Ond wrth i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â gwaith ar dasglu'r Cymoedd, rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych eto ar afonydd de Cymru. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae polisi cyhoeddus wedi'i dargedu tuag at lanhau'r dŵr yn yr afonydd hynny, a hynny'n briodol; mae'n bwysig. Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Nhredegar, roeddwn bob amser yn ystyried fy hun yn lwcus fod lliw disglair ar y dŵr y chwaraewn ynddo yn afon Sirhywi bob amser, ac erbyn hyn rwy'n gobeithio y byddai fy mab yn meddwl fel arall. Ond wrth ymateb i'r ddadl hon, rwy'n gobeithio y gallwn edrych eto ar afonydd de Cymru gan fod ein datblygiadau, dros ddegawdau a chanrifoedd efallai, wedi gwneud i ni droi cefn ar ein hafonydd, wedi gwneud i ni droi cefn ar yr amgylchedd naturiol, heb ddeall sut y maent wedi siapio ein hanesion. Ac rwy'n credu bod afonydd de Cymru—dyma y bydd Malcolm Cross yn ei ddweud wrthyf, ac mae'n iawn—yn drysorau mawr sydd heb eu darganfod ac sy'n cael ei hesgeuluso yn ein cymoedd ni.

Daeth y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru'n unig ar yr amgylchedd hanesyddol yn gyfraith yn 2016, ac mae'n faes hollbwysig i Gymru, i'n heconomi yn ogystal â'n diwylliant, ac mae'n amlwg fy mod yn ymddiddori'n arbennig yn fy etholaeth, sef Islwyn.

Mae Crymlyn yn Islwyn wedi'i leoli yng nghanol cymoedd Gwent ac mae'n ganolog i ddaearyddiaeth tasglu'r Cymoedd. Mae'n gymuned falch sydd â threftadaeth ddiwydiannol gref a chof diwydiannol cryf. Agorodd pwll glo Navigation yng Nghrymlyn yn 1907 ar ôl i'r perchnogion pyllau glo preifat, Partridge, Jones and Company Limited, dyllu yno, ac mae'n enghraifft o bensaernïaeth ddiwydiannol restredig eithriadol. Ym 1947, aeth i ddwylo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, yn dilyn gwladoli gan Lywodraeth Lafur Attlee, ond caewyd y drysau yn y diwedd ym 1967. Yn y degawdau dilynol, roedd yr adeiladwaith mawreddog hwn—. Os oes unrhyw un wedi bod mor ffodus neu wedi cael y pleser a'r mwynhad o deithio drwy Grymlyn ar y ffordd i Lynebwy, fe welwch gyfres o adeiladau brics coch tebyg i arddull cyfnod y rhaglywiaeth, gyda'r corn simnai nodedig, sy'n araf ddechrau dadfeilio'n adfail ers i'r draphont fynd, ond maent yn dal i fod yn rhai o'r adeiladau glofaol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, Dai Rees, ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr oherwydd mae Crymlyn yn parhau i fod yn gymuned lofaol falch sydd â photensial adfywio economaidd enfawr i elwa'n uniongyrchol o fuddsoddiad—a dyna'r gair: buddsoddiad—yn ei seilwaith diwydiannol hanesyddol ac eiconig. Fel y cyfryw, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cadarnhau y bydd rheilffordd Glynebwy, sy'n rhedeg yn uniongyrchol drwy gymunedau Trecelyn, Crosskeys a'r Rhisga yn fy etholaeth, yn gwasanaethu dinas bwysig Casnewydd yng Ngwent ac Islwyn yn 2020. Ac rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu'r posibilrwydd o ailagor gorsaf reilffordd Crymlyn i wasanaethu'r gymuned hon a'i hatyniadau. Gwyddom fod agor gorsafoedd rheilffordd newydd yn broses gymhleth sy'n dal i fod wedi'i llunio a'i rheoli'n wael gan brosesau'r DU, ac rydym angen cynyddu ein gallu ar fyrder yng Nghymru i ailagor gorsafoedd ac ailddefnyddio rheilffyrdd a gollwyd i'r genedl yn ystod y 1960au, ar ôl i doriadau Beeching chwalu ein cysylltiadau trafnidiaeth a gwanhau ein heconomïau lleol.

Felly, yma yng Nghrymlyn, ym mhwll glo Navigation, mae criwiau ymroddedig o ddynion a menywod lleol wedi ymrwymo i gynnal a dod â bywyd newydd i bwll glo Navigation, a adeiladwyd i safon rhagorol. Mae'n elusen gofrestredig sy'n gweithio gyda pherchennog y safle, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau De Cymru, i gynnal ac atal dirywiad pellach yr adeiladau hyn a darparu cynlluniau adnewyddu effeithiol. Mae'n cynnwys adeiladau gradd II eiconig a hardd fel y nodais, adeiladau a allai ffurfio calon gweithgarwch adfywio yng nghanol ardal tasglu'r Cymoedd gan fod yr amgylchedd diwydiannol hanesyddol a'i seilwaith yn adrodd stori Cymru ac yn adrodd hanes ein pobl. Y rhain yw ein hetifeddiaeth a'n dyfodol.  

Maent yn cyflwyno cof cyfunol, sy'n fregus ac yn werthfawr, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn trosglwyddo ein cof cyfunol a'n hetifeddiaeth ddiwylliannol o un genhedlaeth i'r llall. Nid ydym yn dymuno byw yn y gorffennol, ond mae'r gorffennol yn rhan o bwy ydym fel pobl, a phwy ydym fel cenedl. Maent yn adrodd hanes Cymru, naratif heb ei gyffwrdd yn ei holl ogoniant, y da a'r drwg, y cyfoethog a'r tlawd, y lliaws a'r ychydig, ac yn adrodd am ymdrechion ein pobl.

Mae Crymlyn, gyda phwll glo mawreddog Navigation a'r draphont goll enwog a hen orsaf drenau'r gwaith, yn galw am gamau gweithredu a gweledigaeth i'w hadfer er budd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol a lles cenedlaethau'r dyfodol.

16:15

Fe fyddaf yn gryno, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n croesawu'r penderfyniad hwn, a'r rhan bwysicaf ohono i mi yw'r darn sy'n sôn am adennill rheolaeth dros rywfaint o'r seilwaith diwydiannol sydd gennym. Cyfeiriaf yn benodol at y rhwydwaith sy'n dal i fodoli ar nifer enfawr o hen reilffyrdd o amgylch de Cymru i gyd ac yn sawl rhan arall o Gymru hefyd wrth gwrs. Yn sicr, yn rhan Taf-Elái o fy etholaeth, lle roedd llawer iawn o ddatblygiadau preswyl ar y gweill, gwyddom mai trafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, yw'r unig ateb hyfyw o ran ymdrin â'r tagfeydd ar ein ffyrdd, ac mae hynny'n galw am ryw fath o fysiau, yn ogystal ag ailagor rheilffyrdd, ac rwy'n credu mai ailagor rheilffyrdd yw un o'r cyfleoedd mawr sydd gennym mewn gwirionedd.

Mae hen reilffordd sy'n mynd o Gaerdydd, drwy Creigiau, ac arferai fod yn gysylltiedig â chainc Beddau ac yna drwodd i Lantrisant a Phont-y-clun. Rwy'n falch iawn bod cynllun busnes ar y gweill, sy'n gobeithio adrodd yn weddol fuan, a allai arwain at ailagor y rheilffordd honno, un o'r hen reilffyrdd cyntaf i gael eu hailagor ond i ddarparu ateb modern i'n hanghenion trafnidiaeth gyhoeddus.

Y peth allweddol a ddigwyddodd fwyaf pan oeddem yn edrych ar hyn, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sy'n berthnasol i lawer rhan arall o Gymru, yw bod yn rhaid i ni gadw'r hyn sydd yno mewn gwirionedd, gan ei fod yn prysur ddiflannu. Mae rhannau ohono'n cael ei golli, mae adeiladu'n digwydd ar rannau o'r hen reilffyrdd hyn mewn gwahanol ffyrdd, ac mae'r cyfleoedd sydd gennym ar gyfer rheilffyrdd newydd, neu lwybrau pwrpasol newydd, boed ar gyfer teithio llesol, boed ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, mewn perygl o ddiflannu. Felly, mae mapio'r llwybrau hyn a sicrhau diogelwch a pherchnogaeth ar y llwybrau hyn yn hanfodol, a chredaf fod y cynnig hwn yn cyfrannu at y dasg honno.

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi longyfarch David Rees, Leanne Wood a Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon? Fel y mae eu cynnig yn cydnabod, mae cryn botensial yn y rhwydwaith o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru, yn enwedig yr hen dwneli rheilffordd ar draws Cymoedd de Cymru, a all wasanaethu'r cymunedau o'u cwmpas unwaith eto, gan ddarparu seilwaith economaidd a chymdeithasol pwysig.

Ond fel y mae'r cynnig hefyd yn ei nodi, mae eu defnyddio eto yn creu heriau ymarferol ac ariannol real iawn. Ceir enghreifftiau llwyddiannus y gallwn eu nodi lle mae gwaddol ein gorffennol diwydiannol wedi'i harneisio er mwyn sicrhau manteision i ni heddiw. Mae rheilffordd Ffestiniog a thraphont ddŵr Pontcysyllte yn enghreifftiau o asedau treftadaeth eithriadol sy'n denu twristiaid ac yn creu gwaith yn lleol, yn ogystal ag adrodd hanes y gorffennol. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn o gyllid ar gyfer pyrth i Barc Rhanbarthol y Cymoedd a fydd yn ychwanegu at hynny hefyd. Wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu hail-greu’n drysorau fel y maent heddiw dros nos, ond wrth inni edrych ar gyfleoedd eraill i ddod â gwaddol ein treftadaeth ddiwydiannol yn ôl yn fyw, mae angen i ni gofio na chafodd Blaenau Ffestiniog ei adeiladu mewn diwrnod.

Mae'r Aelodau wedi siarad yn llawn perswâd y prynhawn yma am y potensial sydd gan y rhwydwaith o hen dwneli rheilffordd ar draws de Cymru fel coridorau trafnidiaeth, fel y mae Mick Antoniw newydd ei grybwyll. Mae hen reilffyrdd eraill wedi cael bywyd newydd fel llwybrau cerdded a beicio. Mae llwybr Taf, er enghraifft, rhwng Aberhonddu a Chaerdydd, a llwybr Ystwyth, sy'n cysylltu Aberystwyth â Thregaron, yn enghreifftiau rhagorol.

Nid oes angen i unrhyw un fy mherswadio i gefnogi egwyddorion y cynnig. Yn wir, tua 10 mlynedd yn ôl, bûm yn rhan o'r ymarfer cwmpasu a oedd yn edrych ar botensial y twneli hyn i newid deinameg teithio rhwng y Cymoedd. Gall y llwybrau eithaf uniongyrchol a gwastad a dyllwyd drwy ein mynyddoedd gan beirianwyr â gweledigaeth i gario trenau yn yr oes ddiwydiannol helpu i ail-beiriannu'r ffordd y meddyliwn am deithio yn yr oes fodern. Efallai fod beic trydan dros fynydd Merthyr yn gofyn gormod gan y rhan fwyaf o bobl, ond mae llwybr cyflym, uniongyrchol oddi tano yn gais llawer mwy realistig—ond dim ond os yw'r twneli wedi'u cysylltu â rhwydwaith o lwybrau sy'n cysylltu cyrchfannau y mae pobl eisiau teithio iddynt. Wedi'r cyfan, mae teithio llesol yn ymwneud â beicio a cherdded yn cymryd lle ceir ar gyfer teithiau bob dydd. Er mwyn ymateb i her yr argyfwng yn yr hinsawdd, mae angen i ddewisiadau carbon isel neu ddi-garbon gymryd lle teithiau car cyn gynted â phosibl.

Mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth, felly, i fuddsoddi lle y gellir cael yr adenillion cyflymaf a mwyaf sylweddol. Yn aml, gallai gwrthlif dinod i lawr stryd unffordd neu balmant lletach newid amgylchedd i wneud cerdded a beicio yn opsiwn gweladwy. Mewn achosion eraill, yr hyn sydd ei angen yw ymyrraeth beirianyddol galetach fel llwybr beicio ar wahân ar brif ffordd i wahanu beiciau a cheir. Ar ôl beicio i lawr Ffordd Senghennydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, gallaf dystio i effaith ddramatig y lôn feicio ar wahân sy'n cael ei hadeiladu yno. Pan fydd y llwybr hwnnw wedi'i gwblhau, rwy'n siŵr y gwelwn gynnydd mawr iawn mewn beicio yn y rhan honno o'r ddinas.

Felly, mae angen y seilwaith cywir arnom yn y mannau cywir. Law yn llaw â hynny, rydym angen hyfforddiant a hyrwyddo er mwyn newid diwylliant. Wrth i ni edrych ar y gyfres o ymyriadau sydd eu hangen i gyflawni hyn, rwy'n sicr bod gan y rhwydwaith o hen dwneli ran i'w chwarae. Ond gydag adnoddau cyfyngedig, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu. Mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael perchnogaeth ar y rhwydwaith hwn o dwneli, a chwilio wedyn am gyfleoedd ariannu. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau na allaf gefnogi'r dull hwn o weithredu. Yn fy marn i, dyna'r ffordd anghywir o fynd o'i chwmpas hi. Byddai ysgwyddo rhwymedigaethau enfawr yr hen dwneli hyn yn galw am fuddsoddiad mawr iawn o ran arian a chapasiti ar adeg pan fo angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau llwyddiannau cynnar i'r Ddeddf teithio llesol. Ynddynt eu hunain, ni fydd y twneli'n arwain at newid moddol, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer lleihau carbon. Gallant chwarae rhan, ond mewn dull integredig yn unig.

Mae'r Ddeddf teithio llesol, a basiwyd gan y Siambr hon chwe blynedd yn ôl i'r wythnos hon, yn nodi dull o greu rhwydwaith o lwybrau—

16:20

—a fydd yn helpu i wneud teithio llesol yn ddewis realistig i'r rhan fwyaf o bobl. Gadewch i mi orffen yr adran hon ac fe wnaf.

Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghori â phobl ar lwybrau yr hoffent eu gweld dros y 15 mlynedd nesaf ar draws eu cymunedau, i'w cysylltu'n ddiogel â chyrchfannau bob dydd ar droed neu ar feic. Yna, bydd cynghorau'n ymgorffori'r llwybrau a ddymunant mewn map rhwydwaith integredig, a fydd yn sail i geisiadau am gyllid yn y dyfodol.

Fe ildiaf i Bethan Sayed.

Roedd yn ymwneud â'r pwynt roeddech yn ei orffen ynglŷn â'r gost. Felly, rwy'n meddwl tybed a ydych wedi llwyddo i gael unrhyw sgyrsiau am y twneli gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fyddai rhoi costau yswiriant yn unig yn ddigon, ac y byddai angen—. Mae'n rhwymedigaeth enfawr. Felly, a allwch dweud wrthym a ydych yn cael y sgyrsiau hynny?

Dof at hynny, os caf, wrth i mi wneud rhywfaint o gynnydd.

Felly, rydym bellach wedi cael y set gyntaf o fapiau teithio llesol ar gyfer ein trefi a'n pentrefi mwyaf, ac mae gennym swm rhesymol o arian cyfalaf i ddechrau adeiladu a gwella'r llwybrau hynny. Ac fel y mae pwyllgor economi'r Cynulliad wedi'i nodi, nid yw'r fersiynau cyntaf hyn o'r mapiau yn berffaith. Rwy'n benderfynol y bydd y fersiynau nesaf o'r cynlluniau, sydd i ddod ar ddechrau 2021, yn well ac yn seiliedig ar ymgysylltiad gwirioneddol â phobl na fyddai'n ystyried mynd ar feic ar hyn o bryd o bosibl.

Mae angen i'r twneli ymddangos ar y mapiau os ydynt yn seilwaith teithio llesol, a thwnnel Aber-nant yn unig sy'n ymddangos ar hyn o bryd. Ond er nad oes gan y rhan fwyaf o'r twneli botensial sylweddol ar gyfer teithio llesol, mae iddynt werth gwirioneddol serch hynny. Rwyf eisiau archwilio sut y gellir ariannu'r gwaith o addasu, yn ogystal â chynnal a chadw a'r rhwymedigaethau a ddaw gyda phob un. Mae dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer strwythurau diwydiannol yn gallu bod yn heriol, yn enwedig os oes llygredd trwm ar y safle. Ond rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan, fel y gwn y mae llywodraeth leol. Yr wythnos diwethaf, siaradais â'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, a dywedodd wrthyf am y gwaith sylweddol y mae ei awdurdod eisoes wedi'i wneud i edrych ar agor twnnel y Rhondda, a'i ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i oresgyn y rhwystrau ymarferol.

Er mwyn gwireddu potensial ein seilwaith diwydiannol hanesyddol, bydd yn rhaid i wahanol gyrff gydweithio, a bydd yn rhaid cydgysylltu agendâu gwahanol. Mae'n bosibl y byddai defnyddio'r hen dwneli rheilffordd, er enghraifft, yn gallu arwain at greu rhwydwaith o lwybrau sy'n cynnig cyfleoedd hamdden a thwristiaeth, yn ogystal ag adfywio ardal. Fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, mae hwnnw'n botensial rwy'n ei gydnabod yn llawn. Rwyf wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n cefnogi'r cynlluniau i ailagor y twneli, cynlluniau sy'n cyd-fynd â'i gynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer twristiaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae wedi cadarnhau wrthyf fod Croeso Cymru yn awyddus i fod yn rhan o unrhyw ddatblygiad, gan wneud yr achos twristaidd ar gyfer y prosiect. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yr un mor gefnogol i botensial ailagor y twneli ar gyfer adfywio cymunedau, ac ymwneud y gymuned oedd yr enghraifft fwyaf drawiadol yn yr ymgyrch ardderchog i ailagor twnnel y Rhondda. Mae'r uchelgais i greu'r llwybr cerdded a beicio hiraf drwy dwnnel rheilffordd yn Ewrop, a fyddai'n dod yn atyniad ynddo'i hun, yn un a gefnogwn, ac rydym yn cymeradwyo Cymdeithas Twnnel y Rhondda am eu gwaith. Ac rydym wedi gweithio gyda hwy i edrych ar ymarferoldeb agor y twnnel. Rydym wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect, yn ogystal â darparu cyllid ar gyfer datblygu achos busnes newydd, asesiad ecolegol, a gwella mynediad at y twnnel er mwyn gallu gwneud gwaith arolygu. Felly, rydym wedi gwneud cryn dipyn, ond hyd yma, nid yw Llywodraeth y DU na Highways England wedi cynnig unrhyw gyllid y tu hwnt i'r swm symbolaidd o £60,000, y soniodd rhai o'r Aelodau amdano gan awgrymu ei fod yn sylweddol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthynt nad yw hynny'n wir.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r twnnel yn y tymor hir. Byddai trosglwyddo'r atebolrwydd hwnnw o fudd iddynt, ond mae ganddynt rwymedigaeth hefyd i sicrhau bod cymunedau'n llwyddo i reoli'r asedau hyn yn y dyfodol, ac mae'r cynnig pitw o £60,000 yn un chwerthinllyd. Rwy'n gobeithio y byddant yn chwarae eu rhan gyda ni, a'u cynghorau lleol, i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb llawn am rwymedigaeth lawn y twnnel oddi wrth Highways England, ac ni allwn ariannu'r prosiect yn llawn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir i'r Aelodau. [Torri ar draws.] Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o amser sydd gennyf. Ond byddwn yn gwneud ein rhan.

Yn 2015, comisiynwyd Sustrans—os caf orffen, Ddirprwy Lywydd; mae gennyf gyhoeddiad i'w wneud. Comisiynwyd Sustrans yn 2015 i wneud astudiaeth bwrdd gwaith o nifer o dwneli yn ne-ddwyrain Cymru i archwilio'r posibilrwydd o'u hailagor, a heddiw rwyf wedi gofyn i Sustrans ddiweddaru'r gwaith hwnnw, gan ddefnyddio'r gwaith a wnaed ar dwnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant yn y cyfamser. Byddant hefyd yn defnyddio mapiau rhwydwaith teithio llesol a data awdurdodau lleol o brosiectau tebyg, fel cynllun dau dwnnel Caerfaddon, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gostau gweithredu a chynnal a chadw hirdymor, sy'n hanfodol cyn inni fynd i'r afael â mater perchnogaeth.

Mae cyfle i greu partneriaeth agos gyda phartneriaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau lleol, a phartneriaid twristiaeth, treftadaeth a hamdden i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailagor y strwythurau. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y gwersi y gallwn eu dysgu o'r profiad o ailagor twnnel Combe Down, twnnel 1 filltir o hyd, ger Caerfaddon yn 2013. Arweiniwyd y prosiect hwnnw gan Sustrans ac roedd angen swm sylweddol o arian y loteri i'w ailagor. Rwyf wedi cael sgwrs gychwynnol gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu prosiect tebyg yn ne Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a minnau wedi cytuno ar y cyd i ariannu Sustrans i arwain cais partneriaeth ar gyfer sicrhau cyllid allanol ar gyfer ailagor a chynnal twnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant. Yn amlwg, byddai angen i'r cyllid ddod o ystod eang o ffynonellau a'r unig ffordd o gyflawni hynny yw drwy sicrhau bod ystod eang o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae hyn yn cynnwys y gymuned, ac rwy'n talu teyrnged iddi eto am hyrwyddo'r achos hwn. Rwy'n credu bod pethau ymarferol y gallwn eu gwneud, Ddirprwy Lywydd, i wneud y cyfle hwn yn un go iawn, ond nid yw'n hawdd, ac ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac nid yr Aelodau hynny a gyfrannodd heddiw yn unig, ond hefyd y rhai sydd wedi cyfrannu mewn dadleuon eraill ar dreftadaeth ddiwydiannol? Oherwydd rydych chi i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o amlygu sut y mae treftadaeth ddiwydiannol yn bwysig i ni, a sut y gall helpu i adfywio cymunedau ledled Cymru. Tynnodd Mark sylw at y nifer fawr o safleoedd sy'n bodoli yng ngogledd Cymru, ac sydd wedi bod o fudd i'r cymunedau hynny, a symud ymlaen. Cefais fy atgoffa gan Leanne fod angen i mi ddatgan fy mod yn aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda hefyd, ond mae'n dangos bod y twnnel yn effeithio ar ddau gwm mewn gwirionedd, a pha mor bwysig y gall fod i'r ddau gwm. Nid yw'n ymwneud â theithio llesol yn unig, ond mae'n rhan o'r gymysgedd. Gall teithio llesol chwarae rhan ynddo, ond mae hefyd—. Gallwn ei archwilio ar gyfer twristiaeth a cherdded a phopeth arall. Mae'r twnnel hwnnw'n cynnig cyfuniad o bethau; fe ddychwelaf at dwnnel y Rhondda tuag at y diwedd pan fydd gennyf amser.

Atgoffodd Vikki ni o un peth: pan fyddwn yn sôn am ein hanes—ac roedd ychydig o'r ddadl yn ymwneud â'n hanes ni hefyd—mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio ochr negyddol yr hanes hwnnw, sef yr effaith gymdeithasol ar ein cymunedau, lle y cawsom ein hysbeilio, yn y bôn, am gyfoeth a ai i nifer fach o bobl. Ac mae hynny hefyd yn rhan o hanes ein treftadaeth yr hoffem atgoffa pobl amdani. Nid yw'n fater syml o ddweud, 'Hei, edrychwch arnom ni—edrychwch ar y cyfleusterau gwych a gawsom.' Edrychwch ar y cymunedau a'r bywydau cymdeithasol a oedd ganddynt, a'r heriau y bu'n rhaid iddynt eu hwynebu tra bod yr arian yn mynd i ychydig iawn o bobl. Mae hynny'n ein hatgoffa'n gryf o dreftadaeth ddiwydiannol ar draws de Cymru a gogledd Cymru.

Soniodd Alun am afonydd. Nid oes unrhyw ffordd y byddech yn gallu teithio ar gwch i lawr afon Afan i ddechrau, ond tynnodd sylw at y ffaith bod amryw o seilweithiau'n bodoli. Nid hen reilffyrdd yn unig yw'r rhain—maent yn cynnwys camlesi, afonydd a mathau eraill yn ogystal, ac mae hynny'n bwysig iawn. Ond atgoffodd ni hefyd o un peth y mae'n ymddangos ein bod wedi'i anghofio—sef bod ein treftadaeth ddiwydiannol, mewn gwirionedd, yn arfer cysylltu ein cymunedau â'i gilydd i raddau helaeth iawn. A phan fyddwch yn gwrando ar y ddadl y prynhawn yma, rwy'n credu eich bod yn clywed hynny, mewn gwirionedd, yng nghyfraniadau'r Aelodau, o ran sut y daeth â'r cymunedau hynny at ei gilydd a sut y gwelwn hynny. Oherwydd tynnodd Rhianon sylw at y gwaith yng Nghrymlyn, pwll glo Navigation yng Nghrymlyn, a bodolaeth—. Wel, tynnodd sylw, mewn gwirionedd, at ba mor falch oedd y gymuned honno o'r adeilad hwnnw hefyd. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag adfywio economi ein cymunedau—mae'n ymwneud ag adfywio ein cymunedau hefyd, a rhoi bywyd newydd iddynt.

A dangosodd Mick—hen reilffyrdd—ein bod wedi bod yn sôn am reilffyrdd a phethau eraill at ddibenion gwahanol mewn gwirionedd. Mae Mick eisiau mynd yn ôl at y diben gwreiddiol: ei droi'n rheilffordd eto fel y gallwn gael trafnidiaeth gyhoeddus i weithio. Ac nid oes dim o'i le ar hynny—dyna'n union y dylem fod yn edrych arno. Oherwydd mae'n rhoi—. Unwaith eto, mae'r seilwaith yn rhoi cyfle i ni ei ddefnyddio at ddibenion fel hwnnw.

A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei gyfraniad, yn enwedig diwedd y cyfraniad, pan dynnodd sylw at y ffaith ei fod yn bwriadu creu tîm gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog tai i edrych ar sut y gallwn wneud y gwaith hwnnw? Rwy'n siomedig nad yw wedi cymryd perchnogaeth. Rwy'n deall y dadleuon am atebolrwydd, ond rwy'n siomedig. Roeddwn wedi gobeithio y byddent yn edrych ar y cwestiwn perchnogaeth. Ond os yw wedi dod i'r casgliad bod angen iddynt edrych yn ofalus iawn ar sut y gallant gefnogi cymdeithasau fel Cymdeithas Twnnel y Rhondda—. Oherwydd gadewch i ni gofio un peth—rydym wedi sôn am wahanol sefydliadau ac amryw o safleoedd heddiw, sy'n cael eu cynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr yn eu cymuned. Ac felly mae'n bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gwirfoddolwyr hynny a'r mudiadau cymunedol hynny. Ac rwy'n croesawu ei sylwadau diwethaf ar hynny a sut y mae'n bwriadu gwneud hynny. Ac mae'n hollol iawn—nid yw'n digwydd dros nos. Mae'n digwydd dros amser. Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi bod wrthi ers ychydig o flynyddoedd, felly mae gennym rywfaint o'r amser hwnnw y tu ôl i ni eisoes. Mae hefyd yn iawn ynglŷn â'r mapiau teithio llesol, ond pan fydd Sustrans yn edrych ar hyn, rwy'n awyddus iddynt beidio ag edrych ar y mapiau teithio llesol presennol, oherwydd nid ydynt yn wych. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar un cwm Afan, mae rhan fawr o lwybr beicio cwm Afan heb ei gynnwys ar y map teithio llesol, a dylai fod wedi cael ei gynnwys, oherwydd mae pobl yn ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ac i deithio i'r gwaith; nid yw ar gyfer dibenion hamdden yn unig. Felly, rydym angen hynny. Ac mae hefyd yn iawn i ddweud bod angen newid diwylliannol.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae hon yn ddadl sydd wedi ein hatgoffa o'n gorffennol, yn ogystal â'r rôl bwysig y mae'r gorffennol yn gallu ei chwarae yn ein dyfodol os oes gennym uchelgais a gweledigaeth i fwrw ymlaen ag ef. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru

Y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Dai Lloyd.

Cynnig NDM7150 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw am adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Dyma ail adroddiad y pwyllgor mewn cyfres o ymchwiliadau sy’n taflu goleuni ar faterion iechyd sy'n hanfodol bwysig i bobl Cymru.

Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i daflu goleuni ar wasanaethau deintyddol ac orthodonteg yng Nghymru, ynghyd â materion gweithlu ehangach yn y proffesiwn deintyddol, gan gynnwys lleoedd hyfforddi a recriwtio. Cyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Mai eleni, a oedd yn gwneud chwech o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn pob un ohonyn nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog heddiw, a fydd, rwy’n siŵr, yn rhoi rhai manylion ynghylch sut y bydd yn unioni’r problemau sy’n parhau o ran mynediad gan gleifion at wasanaethau deintyddol ac anfodlonrwydd hirsefydlog y proffesiwn gyda'r system gontractau.

Daeth contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y gwasanaeth iechyd i rym yn 2006 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r contract yn talu swm blynyddol i ddeintyddion am eu gwaith gwasanaeth iechyd drwy system uned o weithgaredd deintyddol. Mae'r system hon yn cynnwys tri band sy'n pennu faint mae’n rhaid i glaf dalu am ei driniaeth a faint sydd wedyn yn cael ei dalu i’r practis deintyddol. Mae'r taliad yr un peth p'un ai yw deintydd yn gwneud un neu fwy o driniaethau tebyg. Clywodd y pwyllgor nad oes cymhelliant i ddeintyddion gymryd cleifion ag anghenion uchel, felly, gan y byddent yn cael yr un swm am wneud mwy o waith. Mae gan hyn oblygiadau clir o ran mynediad at ddeintyddiaeth yng Nghymru. Dŷn ni'n pryderu y gallai'r system uned o weithgaredd deintyddol fod yn annog deintyddion i beidio â chymryd cleifion ag anghenion uchel, yn enwedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn waeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau yn y gorffennol i'r model unedau gweithgaredd deintyddol, gan ddefnyddio cynlluniau peilot i brofi gostyngiad yn nhargedau’r unedau i roi mwy o hyblygrwydd a lle i ddeintyddion wneud gwaith ataliol. Fodd bynnag, fe wnaethon ni glywed pryderon clir gan ddeintyddion eu hunain nad yw'r newidiadau i gontractau deintyddol dros y ddegawd diwethaf wedi cael llawer o effaith. Dyna pam mai argymhelliad cyntaf y pwyllgor yw disodli system gyfredol y targedau unedau gweithgaredd deintyddol, a gosod system fwy priodol a hyblyg yn ei lle ar gyfer monitro canlyniadau. Bydd y system newydd hon yn canolbwyntio ar ansawdd triniaeth ac atal problemau. Rwy’n edrych ymlaen at gael y diweddaraf gan y Gweinidog ym mis Tachwedd am y maes gwaith hwn.

Fel rhan o'r contract deintyddol, mae deintyddfeydd yn cael eu gwerthuso ar yr unedau gweithgaredd deintyddol y maen nhw’n eu cyflawni yn erbyn eu lwfans dan gontract o unedau sy’n cael eu dyrannu gan eu bwrdd iechyd. Mae'r contract yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd dalu practisau deintyddol 100 y cant os ydynt wedi cyflawni o leiaf 95 y cant o'u gweithgaredd cytundebol, fel sy’n cael ei fynegi yn eu hunedau gweithgaredd deintyddol. Dyma ganran y gweithgaredd y mae'n rhaid ei gyflawni os nad yw’r practis am weld y bwrdd iechyd yn bachu arian yn ôl. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth nad yw'r byrddau iechyd yn ail-fuddsoddi’r holl arian sy’n cael ei fachu yn ôl mewn gwasanaethau deintyddiaeth. Rydym yn credu bod modd gwella gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru ymhellach trwy ail-fuddsoddi’r arian hwn, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau a monitro bod pob bwrdd iechyd yn ail-fuddsoddi’r arian nes bod system newydd ar waith ar gyfer monitro canlyniadau, fel y mae’r pwyllgor hwn wedi’i argymell.

Mae nifer o'r llwybrau gyrfa sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant deintyddol sylfaenol, hyfforddiant deintyddol craidd a hyfforddiant arbenigol, bellach yn rhan o waith recriwtio ledled y Deyrnas Unedig. Roeddem yn falch o glywed nad oes unrhyw broblemau mawr o ran recriwtio i ysgolion deintyddol yng Nghymru, ond rydym yn ymwybodol bod y ffigurau hyn yn gallu bod yn isel yn achos myfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Fe wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth hefyd am yr heriau o ran cadw deintyddion yn gweithio yng Nghymru yn dilyn eu cyfnod hyfforddi. Rydym yn ymwybodol mai rhai o'r rhwystrau yw’r gwahaniaeth mewn cyflog yng Nghymru o'i gymharu â'r cyflog yn Lloegr, ynghyd â pha mor agos yw’r byrddau iechyd at yr ysgol ddeintyddol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried mentrau llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw. O ganlyniad, ein trydydd argymhelliad yw bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso cynllun recriwtio y Deyrnas Unedig gyfan i benderfynu a yw'n effeithiol o ran cynyddu myfyrwyr sy'n hanu o Gymru a chadw myfyrwyr yn dilyn hyfforddiant. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i'n hadroddiad yn derbyn bod angen gwerthusiad ac y bydd yn trafod gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru sut i fwrw ymlaen â hyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am hyn heddiw.

I droi at orthodonteg, clywodd y pwyllgor fod atgyfeiriadau amhriodol at wasanaethau orthodonteg yn gallu rhoi straen ar wasanaethau ac arwain at amseroedd aros hirach. Er ein bod yn cydnabod mai materion recriwtio sy’n achosi amseroedd aros hir yn bennaf, rydym yn pryderu am y ffordd y caiff cleifion eu hatgyfeirio a’u blaenoriaethu. Fe wnaethom glywed fod rhai ymarferwyr deintyddol gofal sylfaenol yn atgyfeirio cleifion yn rhy gynnar oherwydd bod yr amseroedd aros yn hir iawn. Mae hyn yn anochel yn ychwanegu at y broblem. Rydym yn nodi bod system rheoli atgyfeiriadau electronig wedi cael ei chyflwyno, ac, er ein bod yn cydnabod ei bod yn bosibl na fydd y system yn arwain at fwy o gapasiti, rydym yn disgwyl y bydd yn cael effaith gadarnhaol o ran sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a lleihau amseroedd aros. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i ddatblygu strategaeth glir i sicrhau bod y system e-atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau orthodonteg yn cael effaith gadarnhaol o safbwynt sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a gostwng amseroedd aros.

I droi yn ôl at y Cynllun Gwên, mae'r pwyllgor yn cydnabod effaith gadarnhaol y Cynllun Gwên, sef y rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella iechyd i blant yng Nghymru. Dŷn ni’n croesawu’r ffaith bod y rhaglen yn cael ei hymestyn i gynnwys plant ifanc iawn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon am y ffocws newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y rhaglen hon, gan roi mwy o bwyslais ar blant dim i bump oed, a’r posibilrwydd y bydd yn symud i ffwrdd o blant dros yr oedran hwnnw. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ariannu'r rhaglen Cynllun Gwên yn ddigonol i sicrhau bod plant dros bump oed yn cael budd ohoni. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog yn cyfeirio at gamdybiaethau honedig bod y ffocws newydd hwn yn golygu nad yw plant chwech neu saith oed yn gallu cael budd o’r rhaglen. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ganddo ar y mater yma y prynhawn yma.

Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth gref fod problemau o ran iechyd y geg ymhlith plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau cynnar yn gallu arwain at golli dannedd parhaol. Mewn rhai achosion, caiff llawer o ddannedd eu colli, ac mae'r pwyllgor yn disgwyl gweld camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. Mae'r pwyllgor yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth epidemiolegol gyda'r nod o asesu a deall anghenion y grŵp oedran 12 i 21 ac i helpu i lywio’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol i fodloni anghenion y grŵp oedran hwn. Dwi’n edrych ymlaen at glywed y diweddaraf gan y Gweinidog am y maes gwaith hwn. Diolch.

16:40

Rwy'n ddiolchgar am gael siarad am adroddiad y pwyllgor. Rwyf wrth fy modd, mewn gwirionedd, ein bod wedi gwneud yr adroddiad undydd hwn, gan ei fod yn amlygu rhan o'r GIG yma yng Nghymru sydd mor hanfodol i iechyd hirdymor pobl ac eto, weithiau, caiff ei anwybyddu mewn gwirionedd. Ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, er bod gennyf sylwadau ar hynny. 

'Dylai pawb gael mynediad at wasanaethau deintyddol o ansawdd da yn y GIG'. Dyma'r pennawd ar dudalen gwefan Iechyd yng Nghymru y Llywodraeth ar sut i ddod o hyd i ddeintydd. Nawr, mae hynny'n eithaf anodd mewn llawer rhan o Gymru. Nid yw tua 45 y cant o'r boblogaeth—sef bron 1.5 miliwn o unigolion—wedi gweld deintydd GIG ar y stryd fawr yn y ddwy flynedd diwethaf. Ac rwy'n poeni am y ffordd y mae'r ffigurau hyn yn dynodi diffyg cynnydd mewn gwirionedd, oherwydd, naw mlynedd yn ôl, roedd 55 y cant o'r boblogaeth yn cael eu trin o fewn gwasanaeth deintyddiaeth y GIG. Heddiw, mae 55 y cant o'r boblogaeth yn cael eu trin yng ngwasanaeth deintyddiaeth y GIG. Mae hynny'n swnio fel newyddion da, onid yw, ond wrth gwrs, mae ein poblogaeth wedi tyfu bron i 200,000, felly mewn gwirionedd, rydym yn dechrau mynd tuag yn ôl, ac yn hytrach na mynd tuag yn ôl neu sefyll yn llonydd, mae angen i ni wella.

Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddweud wrthym sut y credwch y gallwn fynd i'r afael â hyn a chynyddu nifer y bobl sy'n cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG. Oherwydd, yn fy etholaeth i, nid oes unrhyw bractis deintyddol yn derbyn cleifion GIG newydd o gwbl, yn oedolion neu'n blant. Dim ond 15.5 y cant o bractisau'r GIG ledled Cymru sy'n derbyn cleifion GIG sy'n oedolion ar hyn o bryd, a dim ond 27 y cant sy'n derbyn plant newydd, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn newyddion drwg iawn am ddau reswm. Un rheswm yw ei fod yn dechrau negyddu holl waith cadarnhaol y Cynllun Gwên, oherwydd ni cheir anogaeth i'w barhau. Dau, bob tro y byddwch yn mynd i ysbyty, gofynnir i chi am gyflwr eich dannedd. Mae'n gwbl hanfodol a chaiff ei gydnabod gan y proffesiwn meddygol. Maent yn hyrwyddo'r ffaith eich bod yn gwneud eich hun yn agored i bob math o heintiau a thueddiadau o ran methiant y galon a'r gweddill i gyd oni bai fod gennych ddannedd da ac iach. Felly, oni bai fod gennym ddannedd gwirioneddol dda a'n bod yn cadw ein dannedd yn iach, rydym yn gwneud ein hunain yn agored i salwch pellach. Rydym yn paratoi i fethu'n syth os na allwn gynnig mynediad at ddeintyddiaeth dda i bobl.  

Ac nid ciplun mewn amser yw hwn. Nodais yn eich ymateb eich bod wedi dweud mai ciplun ydoedd, ond cafodd hyn ei fonitro dros ddwy flynedd wahanol. Felly, beth yw'r broblem go iawn? Wel, y broblem go iawn yw nad oes unrhyw arian newydd. Rydych wedi derbyn yr holl argymhellion, sy'n wych, ond nid oes unrhyw oblygiadau ariannol o gwbl ynghlwm wrth yr argymhellion, sy'n golygu nad oes unrhyw arian newydd. Yn 2017-18 mae gwerth y gyllideb ddeintyddol gyfan 15 y cant yn llai mewn termau real o'i chymharu â'r gyllideb chwe blynedd yn ôl, ond gallaf eich sicrhau bod costau cyfalaf wedi cynyddu yn y chwe blynedd diwethaf, mae costau staff wedi cynyddu, mae popeth arall wedi cynyddu. Felly, wrth gwrs, yr hyn sy'n digwydd yw bod y claf yn cael ei wasgu, mae gwasanaethau i'r claf yn cael eu gwasgu. Dylai gwariant o £186.7 miliwn yn 2012-13, sef yr hyn a wariwyd gennym, gyfateb i £216.57 miliwn yn awr, a hynny i gyd-fynd â chwyddiant yn unig. Roedd ein diffyg dros chwe blynedd ar gyfer y llynedd dros £29 miliwn, ac mae £29 miliwn mewn rhan fach o'r sector GIG fel hyn yn llawer iawn o arian a allai wneud llawer iawn o wahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, rwy'n pryderu'n fawr am y ffaith nad oes gennym unrhyw arian newydd.

Mae'r pwynt arall sydd hefyd yn peri pryder i mi, ac sy'n berthnasol i'n hargymhelliad 1, yn ymwneud â'r ffaith bod yna bractisau peilot o hyd—neu mae'r prif swyddog deintyddol yn dal i ddymuno rhoi practisau peilot newydd ar waith i brofi sut y dylem ailedrych ar yr uned gweithgarwch deintyddol. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall am hyn yw fy mod wedi bod yn ddigon ffodus, rai blynyddoedd yn ôl, i fynd i weld cynlluniau peilot a oedd yn cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru yn Abertawe, ac fe fu un mewn man arall—llwyddiannus iawn. Edrychai ar yr unigolyn cyfan, ac edrychai ar y ffordd gyfannol o allu mesur eu hiechyd deintyddol. Yr anfantais oedd ei fod yn ataliol iawn, felly byddent yn gweld ychydig llai o gleifion, ond yn y tymor hir roedd y budd i Gymru, i'r gwasanaeth deintyddol, yn gwbl eithriadol. Buaswn yn ddiolchgar iawn, Weinidog, pe gallech egluro pam nad ydych wedi bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r cynlluniau peilot hynny a brofwyd ac y gwelwyd eu bod yn rhai cadarnhaol, ond yn lle hynny, ein bod yn aros ac yn aros ac yn aros, ac yn treulio mwy fyth o amser yn ceisio ailgynllunio'r olwyn a llunio dewis arall eto fyth, pan ymddengys bod gennym rai llwyddiannus iawn a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi heb fod mor bell yn ôl â hynny.    

16:45

Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn holi am y sefyllfa ddeintyddol yn fy etholaeth i yn Arfon ar sawl achlysur, ac mae hi yn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae yna chwech ymarferwr yn yr etholaeth, ond does yr un ohonyn nhw yn derbyn cleifion ar yr NHS. Dydyn nhw ddim yn derbyn oedolion ar yr NHS, dydyn nhw ddim yn derbyn plant ar yr NHS, a dydyn nhw ddim yn derbyn plant a phobl ifanc efo anableddau ar yr NHS. Felly, mae nifer fawr ohonyn nhw'n gorfod mynd allan o'r ardal i chwilio am driniaeth ddeintyddol ar yr NHS—cyn belled â Dolgellau i rai ohonyn nhw, sydd awr a chwarter i ffwrdd mewn car, ac yn bellach, wrth gwrs, ar fws.  

Beth mae hynny yn ei olygu yn ymarferol yn aml iawn ydy bod y cleifion yn disgwyl tan fod pethau wedi mynd i'r pen, ac yn gorfod mynd i glinig brys drwy NHS Direct ar ôl i'r broblem waethygu. Ac mae'r clinig hwnnw, yn aml iawn, o leiaf hanner awr mewn car i ffwrdd o lle mae pobl yn Arfon yn byw. Neu, os nad ydyn nhw yn gallu cyrraedd y clinig, beth sy'n digwydd nesaf ydy eu bod nhw'n troi fyny yn Ysbyty Gwynedd efo problemau difrifol iawn. Dwi'n clywed straeon yn rheolaidd ynglŷn â'r sefyllfaoedd yma; mae o'n digwydd yn gynyddol. Felly, dydy'r gwaith ataliol cychwynnol cymharol rhad jest ddim yn digwydd, a beth sy'n digwydd ydy ei fod o'n troi yn achos lle mae angen triniaeth aciwt a drud. Beth sy'n rhwystredig iawn i'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon ydy bod ganddyn nhw le; mae ganddyn nhw'r amser i weld cleifion. Mae eu hanner nhw yn derbyn cleifion preifat, felly mae ganddyn nhw'r adnoddau, ond dydyn nhw ddim yn gallu cymryd cleifion NHS newydd ymlaen oherwydd bod y cytundeb yn rhoi cap ar y nifer o gleifion NHS fedran nhw eu derbyn. Dydyn nhw ddim yn cael eu talu os ydyn nhw'n mynd tu hwnt i'r terfyn hwnnw.

Dydy'r sefyllfa ddim wedi newid ers dwy flynedd. Mae'n anghywir i ddweud mai snapshot ydy'r darlun dwi'n ei osod gerbron, fel sydd wedi cael ei honni pan dwi wedi codi'r mater yma o'r blaen. Mae'r sefyllfa'n debyg iawn i beth oedd o ddwy flynedd yn ôl. Felly, dwi'n siomedig ofnadwy na fydd yna unrhyw gyllid ychwanegol ar gael, a dwi'n siomedig ofnadwy bod y symudiad tuag at well cytundebau ar gyfer deintyddiaeth ar yr NHS—bod y symudiad yna'n un araf tu hwnt. Dyna beth mae'r ymarferwyr yn ei ddweud wrthyf i yn Arfon hefyd. Felly, mae'r sefyllfa sy'n wynebu cleifion newydd a phlant yn fy ardal i yn mynd i barhau, er gwaethaf ymdrechion clodwiw'r pwyllgor a'r ymchwiliad undydd yma rydych chi wedi'i gynnal. Mae'n ymddangos eich bod chi wedi bod yn gwastraffu'ch amser, achos dydy'r Llywodraeth ddim yn bwriadu gwneud fawr ddim yn wahanol i beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ac fe fydd yr argyfwng deintyddol yn parhau.

Dwi'n falch o glywed fod yna werthusiad yn mynd i fod o ran recriwtio a chadw deintyddion ac yn edrych ymlaen i weld beth fydd casgliadau hwnnw. Hoffwn i ofyn heddiw a fyddwch chi'n edrych yn benodol ar ddiffyg deintyddion yn y gogledd ac a oes yna achos dros hyfforddi deintyddion yn y gogledd, ym Mangor, yn union fel sydd wedi digwydd efo meddygon. Oherwydd yr un ydy'r dadleuon: os ydych chi'n hyfforddi pobl mewn ardal benodol, maen nhw'n tueddu i aros yn yr ardal yna ac yn y ffordd yna yn llenwi'r bylchau sydd yna mewn nifer o ardaloedd ar draws y gogledd. Felly, dwi'n siŵr eich bod chi wedi fy nghlywed i'n gwneud y dadleuon ynglŷn â meddygon. Wel, dwi'n credu bod yr un ddadl yn wir am ddeintyddion hefyd. Diolch. 

16:50

Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr adroddiad ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Mae deintyddiaeth y GIG yng Nghymru mewn argyfwng. Mae llai nag un o bob pum practis yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd sy'n oedolion, ac ychydig dros chwarter y practisau sy'n cynnig apwyntiadau i gleifion newydd sy'n blant. Rydym yn clywed yn rheolaidd am gleifion sy'n teithio 100 milltir i weld deintydd ac yn ôl adref. Nid yw'n anarferol gweld ciwiau 10 awr o hyd y tu allan i ddrysau practisau sy'n agor i gleifion newydd a gwelwyd achosion eithafol hefyd o bobl yn gwneud deintyddiaeth arnynt eu hunain am na allant weld deintydd GIG ac yn sicr, ni allant fforddio triniaeth breifat.

Fel y mae'r pwyllgor yn ei amlygu'n briodol iawn, y prif beth sydd ar fai yw'r contract deintyddol, sy'n gosod targedau a chwotâu afrealistig, gan atal deintyddion rhag trin mwy o gleifion. Mae contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG hefyd yn atal deintyddion rhag derbyn cleifion sydd ag anghenion mawr, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn wael. Nid yn unig nad yw'r system unedau gweithgarwch deintyddol yn addas i'r diben, mae hefyd wedi gwneud niwed go iawn iechyd y geg yng Nghymru.  

Rwy'n falch, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pwyllgor ac wedi cytuno i roi'r gorau i'r system darged yn hytrach na'i haddasu fel y gwnaethant yn 2011 a 2015. Hoffwn fynd ymhellach ac annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau unedau gweithgarwch deintyddol newydd hefyd yn atal practisau deintyddol rhag mynnu gwneud archwiliadau bob chwe mis a glynu wrth ganllawiau NICE. Dywedodd prif swyddog deintyddol Lloegr nad oes angen archwiliadau'n amlach na phob 12 neu 24 mis yn y rhan fwyaf o achosion, a bydd hyn nid yn unig yn sicrhau na chaiff cleifion eu gorfodi i dalu am driniaeth ddiangen, ond bydd hefyd yn caniatáu i bractisau dderbyn cleifion ychwanegol yn sgil rhyddhau amser. Felly, gobeithio y bydd y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pwyllgor yn rhoi diwedd ar deithiau hir, arosiadau hwy a phobl yn tynnu eu dannedd eu hunain â phleiars. Diolch.

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r pwyllgor am ei adroddiad a'i ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru ac i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae'r argymhellion yn adlewyrchu'n fras beth yw polisi Llywodraeth Cymru ac yn cydnabod rhywfaint o'r cynnydd a wnaed hyd yma, gan nodi lle mae angen gwneud rhagor o waith. Rydym yn cydnabod bod angen diwygio'r contract deintyddol presennol, fel y nodwyd gan bob Aelod yn y ddadl. Ni ddylai unedau gweithgarwch deintyddol fod yn unig fodd o fesur perfformiad contract. Nid ydynt yn adlewyrchu nac yn cymell ymagwedd ataliol nac ymagwedd tîm tuag at ofal. Fodd bynnag, mae galwadau i gael gwared ar yr unedau gweithgarwch deintyddol yn rhy syml ac nid ydynt yn cynnig dewis arall.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae newid i'r system gyfan eisoes ar y gweill ym maes deintyddiaeth yng Nghymru. Mae arnom angen timau clinigol mewn byrddau iechyd i gytuno ar yr hyn y dylid ei gyflawni a sut i fesur rhagoriaeth ym maes deintyddiaeth gofal sylfaenol. Mae dulliau newydd o gontractio gyda ffyrdd mwy ystyrlon o fesur eisoes yn caniatáu i ni ddeall yn well beth yw anghenion cleifion, ansawdd lefel practis, gweithlu tîm a mynediad. Mae hyn yn golygu mwy na gwneud ychydig o newidiadau bach i'r contract. Mae deintyddion, gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, byrddau iechyd ac academyddion yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni a sicrhau trawsnewid yn unol â 'Cymru iachach' drwy ddileu datgymhelliad ariannol fel y gall timau deintyddol ganolbwyntio ar atal a gwneud defnydd o sgiliau'r tîm cyfan.

Mae'r rhaglen ddiwygio deintyddol yn canolbwyntio ar ansawdd, atal a mynediad. O'r mis hwn ymlaen, mae 36 o bractisau eraill yn ymuno â'r 94 o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn y broses o ddiwygio contractau. Mae hynny'n golygu bod oddeutu traean o'r holl bractisau deintyddol yng Nghymru yn cymryd rhan. I gyferbynnu â hynny, yn Lloegr, ychydig dros 1 y cant o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen ddiwygio contractau. Fodd bynnag, rydym am weld y newid yn cyflymu ymhellach er mwyn i fwy o bractisau deintyddol allu gweithio mewn ffyrdd newydd. Rwy'n disgwyl i dros hanner yr holl bractisau fod yn rhan o'r rhaglen ddiwygio erbyn mis Hydref 2020, gan arwain at gyflwyno'r diwygiadau contract yn llawn yn 2021. Bydd y set ehangach o fesurau monitro a dileu unedau gweithgarwch deintyddol gwerth isel o dan y diwygiadau contract yn helpu i leihau'r angen i fyrddau iechyd adennill cyllid gan gontractwyr deintyddol. Rwyf wedi gofyn i'r byrddau iechyd gyflwyno adroddiadau ar unrhyw adnoddau a adenillir, a disgwyliaf iddynt ddarparu cymorth drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr deintyddol sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd targedau.

Gwyddom fod recriwtio a chadw staff yn y gweithlu deintyddol yn achosi anhawster mewn sawl ardal yng Nghymru. Mae mwy i'w wneud i fynd i'r afael â'r materion aml-ffactor dan sylw. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych ar y niferoedd sy'n hyfforddi, ffyrdd o helpu i ddatblygu'r gweithlu, ac maent yn ystyried modelau amgen ar gyfer y gweithlu i gefnogi'r ddarpariaeth, gwella recriwtio a chymell staff i aros yn y proffesiwn ar ôl hyfforddi. Yn ogystal, bydd Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol sy'n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor, ac y disgwyliaf ymweld â hi yn y flwyddyn newydd, yn cyfrannu at gyfleoedd gyrfaol i'r gweithlu gofal deintyddol proffesiynol.

Mae'r system reoli e-atgyfeirio deintyddol a grybwyllwyd ddoe yn cwmpasu pob arbenigedd deintyddol, gan gynnwys orthodonteg, ac fe'i cyflwynwyd yn llwyddiannus yn genedlaethol. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i weithredu system gwbl electronig ar gyfer pob atgyfeiriad deintyddol ym mhob arbenigedd clinigol deintyddol. Mae hynny'n golygu bellach y bydd y byrddau iechyd yn gwybod beth yw ffynhonnell, cymhlethdod, a nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer arbenigeddau deintyddol. Yn ei dro, mae hynny'n cefnogi gwaith ar gynllunio'r gweithlu ar sail tystiolaeth ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau, gan symud allan o ofal eilaidd ar gyfer triniaethau y gellid ac y dylid eu darparu mewn gofal sylfaenol. Ac wrth gwrs, bythefnos yn ôl, buom yn dathlu dengmlwyddiant Cynllun Gwên, ein rhaglen wella lefel poblogaeth ar iechyd y geg i blant. Mae hon wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau lefelau clefyd deintyddol, ac mae'n parhau i wneud hynny, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r rhaglen.

Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Byddaf yn falch o ymateb eto i'r pwyllgor gydag ystod o'r pwyntiau a wnaed nad oes amser i ymateb iddynt heddiw, ond cymerwyd camau sylweddol eisoes i ddiwygio gwasanaethau deintyddol a gwella iechyd y geg i'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen eglur o ddiwygiadau i'r contract deintyddol y cynlluniais iddi gael ei chwblhau erbyn 2021 yn rhoi'r sicrwydd y mae'r Aelodau yn chwilio amdano. Ond byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd wrth ymdrin â'r holl argymhellion a wneir yn yr adroddiad.

16:55

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Rwyf am grynhoi'n fyr yn yr amser sydd gennyf ar ôl. Yn amlwg, mae'r ddadl wedi rhoi pwyslais sydd i'w groesawu'n fawr ar ddeintyddiaeth a phryderon cydweithwyr deintyddol, nad yw'n rhywbeth a wnawn bob dydd yma yn y Senedd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau—Angela Burns, Siân Gwenllian, Caroline Jones a'r Gweinidog?

Ceir heriau sylweddol, yn amlwg, fel y canfuom yn y dystiolaeth a gymerwyd gennym fel pwyllgor, oherwydd roedd hi'n glir i'r pwyllgor nad yw trefniadau contract cyfredol y GIG ar gyfer deintyddion yn gweithio. Nid yw talu'r un faint i rywun ddarparu triniaeth i glaf beth bynnag fo maint y gwaith sydd ei angen yn gwneud fawr o synnwyr.

Nid yw'n dderbyniol o gwbl y dyddiau hyn mai dim ond 14 y cant o bractisau deintyddol yn hen ardal Abertawe Bro Morgannwg sy'n derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Yn sicr, nid yw'n dderbyniol ychwaith nad oes un practis deintyddol yn derbyn cleifion GIG yn ardal gyfan bwrdd iechyd Hywel Dda. Felly, mae'r Gweinidog wedi dechrau ar daith, ond mae angen i'r Llywodraeth roi llawer mwy o gamau ar waith a gwneud hynny'n gyflym. Nid yw gwneud dim yn ddewis o gwbl. Diolch yn fawr.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg

Sy'n dod â ni yna at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gefnogi a hybu'r Gymraeg. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Bethan Sayed.

Cynnig NDM7151 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a hybu’r Gymraeg a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, mae'n bwysig inni yma yng Nghymru fod gennym y gallu i ddefnyddio ein dewis iaith wrth ymgysylltu bob dydd â gwasanaethau cyhoeddus. Nid yn unig yw hon yn hawl sylfaenol, mae'n hanfodol o ran meithrin ein hymdeimlad o hunaniaeth a chymuned.

Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, felly, yn garreg filltir bwysig yn hanes ein hiaith. Cyhoeddodd y Mesur, am y tro cyntaf, statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Roedd hefyd yn egluro'r disgwyliadau o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg o safbwynt siaradwyr Cymraeg a darparwyr gwasanaethau.

Felly, edrychon ni, fel rhan o'r ymchwiliad, ar lwyddiannau a chyfyngiadau'r Mesur, a gofynnon ni a yw’r Mesur yn cefnogi'r broses o hybu'r Gymraeg, sy'n fater nad yw wedi cael cymaint o sylw yn ein barn ni fel pwyllgor. Felly, gwnaethon ni glywed fel pwyllgor fod y Mesur yn welliant ar y system flaenorol o gyhoeddi cynlluniau iaith. Dywedwyd wrthym fod symud o'r drefn gynlluniau i'r drefn safonau wedi rhoi eglurder a hawliau i siaradwyr Cymraeg. Dywedodd y mwyafrif o dystion fod hwn yn gam cadarnhaol i'r cyhoedd ac i'r cyrff sy'n ein gwasanaethu.

Fodd bynnag, roedd peth rhwystredigaeth ynghylch cymhlethdod y drefn safonau. Wrth asesu a ddylid parhau â'r system gyfredol neu symleiddio agweddau ar y ddeddfwriaeth, gwnaethom gydnabod fel pwyllgor fod mwyafrif y sefydliadau sy'n gweithredu'r safonau ar hyn o bryd wedi bod yn gwneud hynny dim ond ers blwyddyn neu ddwy. Cytunodd y pwyllgor, felly, â Chomisiynydd y Gymraeg ar y pryd, a ddywedodd wrthym ni, a dwi'n dyfynnu, ei bod yn

'lot rhy gynnar i benderfynu bod angen newid y ddeddfwriaeth yn llwyr'

ar y pwynt yma. Dywedodd y bu newid cadarnhaol ar lawr gwlad mewn nifer o gynghorau sir a oedd wedi gweld y newidiadau yn newid bywydau pobl, ac felly dŷn ni fel pwyllgor eisiau gweld hynny yn cael ei ymwreiddio yn ein cymunedau cyn bod yna newid mawr ar droed.

Yn amlwg, clywodd Llywodraeth Cymru y dystiolaeth gref a gafodd ei chyflwyno i'r pwyllgor ar hyn ac ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy dynnu ei Bil yn ôl ar y Gymraeg ym mis Chwefror.

O ran symleiddio'r safonau, serch hynny, mae'n fater amlwg bod angen inni fynd i'r afael ag ef yn absenoldeb deddfwriaeth newydd. Gwnaethom argymell symleiddio'r drefn safonau, a hynny drwy gyfuno safonau sydd ag amcanion tebyg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn weld rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau'r Gweinidog i ystyried sut y gellir gwneud y broses yma.

Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad i gyflymu'r broses o gyflwyno safonau ar gyfer y sectorau hynny nad ydynt eisoes yn ddarostyngedig i'r Mesur. Unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog gyhoeddi manylion ac amserlen ar gyfer y gwaith hwn.

Rydym am weld y gyfres nesaf o reoliadau ar gyfer cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr iechyd yn cael eu cyflwyno ar frys. Dwi'n siomedig na all y Llywodraeth ddweud mwy am hyn ac eithrio nodi'r ffaith bod safonau'n cael eu datblygu. Maent eisoes wedi cael eu gohirio am gyfnod sy'n llawer rhy hir yn ein tyb ni fel pwyllgor. Mae angen dyddiad pendant arnom ar gyfer cael eu cyflwyno.

Gwnaethom hefyd argymell diwygio'r weithdrefn gwynion, gan nad yw'r broses gyfredol yn caniatáu i gwynion gael eu datrys heb ymchwiliad llawn. Roedd diwygio'r fframwaith cwynion yn un o'r cynigion ym Mesur Llywodraeth Cymru a gafodd ei dynnu yn ôl. Felly, yn absenoldeb Bil newydd o'r fath, dŷn ni'n falch o weld bod y comisiynydd wedi cymryd camau i newid y weithdrefn ymchwilio yn unol â beth dŷn ni wedi rhoi gerbron fel pwyllgor. Ond pan ddaeth Comisiynydd y Gymraeg at ein pwyllgor ni yn ddiweddar, roedd diffyg manylion am sut oedd hynny'n mynd i gael ei wneud, a dwi'n credu bod angen i gyhoedd Cymru, sydd efallai'n mynd i gwyno, wybod beth yn sicr sydd yn digwydd ac i bwy y maen nhw'n cwyno. Felly, byddwn yn erfyn ar y comisiynydd a'r Llywodraeth i weithio gyda'i gilydd ar hynny.

Un mater dwi'n credu sydd o bwys inni orffen arno yma heddiw yw hyrwyddo'r iaith. Dyw hynny ddim wedi cael cymaint o sylw: sut rŷm ni'n hybu'r iaith. Ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei ddiddymu, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod lot o'r gwaith hwnnw wedi cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, ac mae yna lot wedi cael ei wneud. Mae'n rhaid inni gydnabod hynny. Ond, mae nifer o bobl wedi dod atom yn dweud y dylem sefydlu corff newydd, hyd-braich i hyrwyddo'r iaith. Ond, o ystyried y pwyso a mesur a wnaed gennym ni fel pwyllgor, yn sicr, o ran adnoddau, roeddem yn meddwl efallai ei bod yn haws inni weld sut yr oeddem yn gallu defnyddio'r hyn sydd gyda ni yn awr, a sut rŷm ni'n gallu defnyddio'r prosesau sydd o fewn ein gallu.

Dwi'n deall bod memorandwm o gyd-ddealltwriaeth wedi'i gychwyn gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Ac eto, hoffwn gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae hynny'n mynd i weithio. A yw'r comisiynydd, er enghraifft, yn mynd i gael mwy o arian i allu ymdrin â'r gwaith hyrwyddo sydd efallai'n mynd i adio at ei gylch gwaith? Neu, a oes disgwyl iddyn nhw wneud yr un peth gyda'r un gyllideb? Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r farn ar hynny.

Hefyd, hoffwn i wybod tamaid bach mwy ynglŷn â statws uned iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Llywodraeth uned gyflawni newydd o'r enw Prosiect 2050, ac er ein bod yn croesawu hyn, mae'n hanfodol i'r uned yma gael yr adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen arno i lwyddo. Os yw'n mynd i edrych ar yr iaith Gymraeg ar hyd a lled beth sydd yn digwydd yn y Llywodraeth, mae'n bwysig iawn fod yr uned honno'n cael ei chefnogi.

Felly, dwi'n sicr yn ystyried bod y darn o waith yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn inni i edrych yn ôl ar y Mesur a oedd wedi cael ei gyflwyno yn 2014. Mae lot wedi newid ers hynny, ac mae lot o gyfleoedd hefyd wedi cael eu rhoi i sefydliadau i newid yr hyn y maen nhw'n ei wneud, a lot o newid diwylliant. Dyna beth yr oeddem yn bles i glywed. Hyd yn oed mewn ardaloedd efallai ein bod ni'n meddwl sy'n ardaloedd cyfrwng Saesneg fel arfer, maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i newid yr hyn sydd yn digwydd o ran eu prosesau.

Beth efallai sydd angen gwella o hyd yw defnydd a sut y mae pobl yn cael yr hyder i feddwl bod hynny yn rhan o'u bywydau bob dydd. Mae hynny nid yn unig yn sialens i'r Mesur, ond yn sialens inni oll mewn strategaethau, mewn sut rŷm ni'n gwneud ein gwaith bob dydd, a sut rŷm ni'n hybu'r iaith fel Aelodau Cynulliad. Felly, byddwn yn ennyn pobl i ymwneud â'r drafodaeth yma ac i barhau i sylweddoli pa mor bwysig yw'r elfen hon o'n gwaith ni fel Aelodau.   

17:05

A gaf i hefyd ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith? Roedd cyhoeddi strategaeth 2050 yn uchelgeisiol, a bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar nifer o gamau, gan gynnwys hyrwyddo. Felly, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad hwn.

Doeddwn i ddim yma pan basiwyd y Mesur iaith. Mae wedi bod yn gyfraith ers cyfnod hir erbyn hyn, ac felly mae'n hollol briodol ei hadolygu ac ystyried ei heffaith. Yn bendant, mae'n briodol ei hadolygu oherwydd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r comisiynydd. Yn sicr, mae Aelodau'n gwybod y byddai'n well gennym ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, petai'r comisiynydd yn atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru, a hynny am reswm da.

Bydd nifer ohonom yma yn cofio bod y comisiynydd wedi cael ei thynnu oddi ar ei dyletswyddau hyrwyddo gan gyn-Weinidog y Gymraeg, heb gydsyniad y Cynulliad a roddodd y pwerau iddi hi. Yn fwy diweddar, rydym wedi cael y Gweinidog presennol yn ceisio cael gwared ar y rôl yn llwyr, gan greu comisiwn tebyg iawn, yn ôl pob golwg, ond a oedd yn teimlo'n llai annibynnol. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi sylweddoli nad oedd gan ei Phapur Gwyn gefnogaeth y Cynulliad hwn.

Gan droi at yr argymhellion, mae rhai syniadau derbyniol iawn yma. Newid y weithdrefn gwynion am honiad o dorri safonau: ie. Mae sawl gradd o ddifrifoldeb mewn cwynion, ac nid yw'r system bresennol yn caniatáu ymateb cymesur. Y symleiddio a awgrymir yn argymhelliad 4: ie, wrth gwrs. Adolygiad o effeithiolrwydd safonau a dyletswyddau: ie. Er bod safonau yn benodol wedi eu fframio fel creu a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg, hoffwn weld barnu eu heffeithiolrwydd drwy dystiolaeth o dwf yn nefnydd y Gymraeg a thwf yn sgiliau dysgwyr neu siaradwyr swil.

Rydw i wedi dweud o'r blaen bod rhai hawliau yn cael eu gwerthfawrogi gan siaradwyr Cymraeg yn fwy na rhai eraill am fodd i fyw eu bywydau yn y Gymraeg, ac mae rhai yn fwy defnyddiol wrth hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd na rhai eraill hefyd. Cyn ymestyn safonau i gyrff newydd, dwi'n credu bod angen inni wybod pa rai sy'n cyflawni'r nodau hynny. Dyna pam mae argymhellion 4 i 7 yn ddiddorol. Rwy'n cydnabod sylw'r pwyllgor y gallai'r Llywodraeth gyflymu'r broses o weithredu'r safonau presennol, ond un peth yw symleiddio safonau'r dyfodol i'w gwneud yn fwy blasus i sefydliadau newydd; peth arall yw eu dyfrio nhw i lawr ar gyfer cyrff newydd. Yr egwyddor graidd gyda'r ddewislen gyfredol o safonau yw eu bod yn cael eu cymhwyso yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, gall creu safonau gwannach greu dilema. Efallai y bydd y cyrff llai a mwy o fentrau preifat yn barod i'w derbyn, ond bydd gan siaradwyr Cymraeg llai o hawliau i'w cyflawni. Mae'r system bresennol, rydym ni'n gwybod, yn ddigon dryslyd, felly anogaf ofal wrth ddehongli'r argymhellion hyn ar gyfer unrhyw safonau drafft y dyfodol.

Mae'r argymhellion eraill yn ymwneud â hyrwyddo. Pan fyddwch chi'n ceisio perswadio rhywun i wneud rhywbeth, nid yw'n helpu i gael bathodyn enfawr 'Llywodraeth Cymru' arno bob tro. Yn ôl argymhelliad 11, uned yr iaith Gymraeg yw'r lle i gasglu a dadansoddi data, comisiynu ymchwil, darparu adnoddau, cymryd cyfrifoldeb am weithredu strategaeth 2050 ar draws y Llywodraeth, a llunio strategaeth a chynllunio ar lefel uchel gyda chymorth arbenigol. Ond dwi ddim yn credu mai hwn yw'r lle gorau ar gyfer hyrwyddo'r iaith, er bod ganddo rôl allweddol wrth fonitro a gwerthuso cyflwyno gweithgareddau hyrwyddo gan bobl eraill. Dwi ddim yn siŵr bod ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 11 yn glir lle mae'r ffin rhwng strategaeth a gweithgareddau hyrwyddo.

Dywedwn i mai'r ffordd orau o roi cyngor ar newid ymddygiad yw rhywun cwbl annibynnol y tu allan i'r Llywodraeth, sydd â chyfrifoldeb am weithio yn gyd-gynhyrchiol a gyda chynulleidfaoedd targed, i hyrwyddo caffael ystyrlon o sgiliau Cymraeg. Does dim pwrpas i was sifil ddweud wrth fentrau iaith i ddenu pobl i ddigwyddiad os nad oes gwelliant yn y defnydd o Gymraeg o ganlyniad, er enghraifft. Gellir rhoi'r cyfrifoldeb hwn i gomisiynydd neu gorff ar wahân—does dim ots mawr gen i am hynny—ond mae'n rhaid bod gan y corff hwnnw'r rhyddid i ddylunio neu ddirprwyo dilyniad mentrau i rai ar y rheng flaen fod yn dysgu oedolion neu hyfforddi swyddogion y cyngor. Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi bod yn llai na chlir o ran ystyr eu dyletswydd i hyrwyddo'r Gymraeg, mewn gwirionedd. Diolch.

17:10

Fel rydym ni wedi clywed, cyd-destun yr ymchwiliad hwn gan y pwyllgor oedd bwriad Llywodraeth Cymru yn haf 2017 i ddeddfu o'r newydd ym maes y Gymraeg, a hynny gwta 18 mis wedi i Fesur y Gymraeg 2011 ddechrau bwrw gwreiddiau. Felly, roedd Plaid Cymru yn falch iawn fod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd, ac yn y diwedd fod y cynigion wedi cael eu gollwng. Mae'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor, y consensws barn sy'n cael ei gofnodi gan fudiadau iaith, academyddion ac efallai yn bwysicach gan y sefydliadau sy'n gweithredu'r ddeddfwriaeth, i gyd yn cadarnhau nad dyma'r amser i wneud newidiadau pellgyrhaeddol i gyfundrefn gymharol newydd. Er nad ydy'r gyfundrefn honno'n berffaith, fel mae'r pwyllgor yn ei ddweud, mae wedi ac yn parhau i yrru cynnydd sylweddol o ran defnydd a statws y Gymraeg.

Er fy mod i'n croesawu penderfyniad y Gweinidog i ollwng y cynigion, mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad, sy'n argymell y dylai unrhyw gynigion yn y dyfodol i ddiwygio neu ddisodli Mesur y Gymraeg gael eu hategu gan dystiolaeth, mae hynny'n peri pryder ac yn arwydd nad oedd cynigion y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg wedi cael eu seilio ar y dystiolaeth. Yn amlwg, nid dyna sut y dylai Llywodraeth gyfrifol fod yn gweithredu, ac mae angen dysgu gwersi o'r gwendid yma a wnaeth arwain yn anffodus iawn at golli golwg dros gyfnod ar weithredu’r strategaeth uchelgeisiol ar gyfer creu 1 miliwn o siaradwyr. Felly, fe hoffwn i ddiolch i’r pwyllgor diwylliant am gamu i mewn i gasglu’r dystiolaeth oedd ar goll yn y drafodaeth am y Bil—i wneud gwaith y Llywodraeth drosti, buasai rhai yn dweud, ac i amlygu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.

Mater i’r Llywodraeth, rŵan, ydy cydio yn y blaenoriaethau, ailafael yn yr awenau ac arwain i’w gweithredu nhw. A dwi am ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar dair blaenoriaeth o bwys, hyd y gwelaf i, ac mi fuaswn i’n gwerthfawrogi petai’r Gweinidog yn manteisio ar y cyfle wrth ymateb i roi adroddiad cynnydd ar y pwyntiau yma.

Mae’r adroddiad yn cadarnhau’n glir mai yn nwylo Llywodraeth Cymru y mae’r cyfrifoldeb pennaf dros hybu’r Gymraeg a bod angen gwella statws a rôl uned y Gymraeg. Yn amlwg, mae angen endid grymus o fewn Llywodraeth, nid uned wedi’i chladdu ym mherfeddion y gwasanaeth sifil. Rŵan, roeddwn i yn yr Eisteddfod, lle cyhoeddodd y Gweinidog mai un swydd—un swydd—newydd yn gweithio o fewn yr is-adran bresennol fydd yn cael ei chreu. Ac mi glywsom ni efo achos yr agenda gwaith teg, sydd yn hollol briodol hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol—fe glywsom ni efo’r achos hwnnw y bydd yna gyfarwyddiaeth yn cael ei sefydlu yn adran y Prif Weinidog ar gyfer hyn. Pam nad ydy’r Gymraeg yn cael yr un statws yn y Llywodraeth?

Mae’r adroddiad yn argymell bod y comisiynydd yn adolygu ei weithdrefnau cwyno yn gyson o ran eu heffeithiolrwydd a’u heffaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Ac mae pawb, am wn i, am weld gweithdrefnau effeithiol sy’n rhoi llais i’r dinesydd a’r Gymraeg. Ond byddai pwysau ar y comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gwynion fel mater o drefn gyfystyr â gwanhau’r gyfundrefn safonau. Allwch chi esbonio, Weinidog, pam felly eich bod chi wedi rhoi pwysau ar y comisiynydd i wneud llai o ymchwilio i gwynion? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw annibyniaeth y comisiynydd?

A fy mhwynt olaf i: mae Plaid Cymru—dwi wedi syrffedu galw am gyhoeddi amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r gwaith pwysig o gyflwyno'r safonau yn yr holl feysydd sydd yn weddill, lle mae'r comisiynydd wedi gwneud y gwaith cychwynnol yn barod. Felly, tybed, heddiw, a gawn ni'r amserlen ddiweddaraf ar gyfer cyflwyno safonau ar y cyrff dŵr a'r rheoleiddwyr iechyd, ynghyd â gweddill y sectorau yn y Mesur sydd heb gael eu cyffwrdd ganddoch chi eto? Ac a wnewch chi hefyd gadarnhau y byddwch chi am weld y comisiynydd yn dechrau gwneud gwaith paratoadol yn y sector telathrebu?

17:15

Diolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad ar gefnogi a hyrwyddo. Er na fyddaf yn gwneud fy holl gyfraniad yn Gymraeg, rwy'n angerddol dros yr iaith ac mae'n werth ei chadw'n fyw.

Rwy'n croesawu dull pwyllog y pwyllgor o weithredu a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 14 argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor. Credaf fod y safbwynt a gymerwyd gan y pwyllgor a chan Weinidogion Cymru yn gydnabyddiaeth fod y moron yn llawer mwy effeithiol na'r ffon. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o'n treftadaeth a'n diwylliant cyffredin. Mae'r ffaith bod llai nag un o bob pump o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn arwydd o fethiannau polisi yn y gorffennol. O gofio ei bod yn orfodol ers 20 mlynedd i bob myfyriwr astudio'r Gymraeg, dylai dros 19 y cant o'r boblogaeth allu siarad yr iaith. Rwy'n sicr yn clywed mwy o'r iaith yn cael ei siarad mewn archfarchnadoedd a phlant bach yn ei siarad â'u rhieni, ac felly rwy'n croesawu'r newid ffocws i annog mwy o bobl i ddysgu yn hytrach na'n bod yn eu gorfodi. Ac mae'n rhaid i ni gario pobl gyda ni ar y daith hon—mae'n gyffrous.

Rydym wedi gweld camau breision yn y defnydd o'n hiaith yn y byd ehangach yn ddiweddar, yn enwedig ym maes technoleg.

Rydym wedi gweld camau breision yn y defnydd o'r iaith yn y byd ehangach yn ddiweddar, yn enwedig ym maes technoleg, ac mae gennym fersiynau Cymraeg o lawer o blatfformau meddalwedd, prosiectau ffynhonnell agored sy'n ceisio dod â'r iaith i faes cymorth llais, a phlatfformau dysgu fel Duolingo sy'n caniatáu i ni ddysgu wrth fynd. Bydd defnyddio'r newid technolegol hwn yn ein galluogi i annog llawer mwy o bobl i ddysgu. Fodd bynnag, rwy'n pryderu y bydd cwtogi ar gyllidebau awdurdodau lleol yn llesteirio uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae cyfleoedd dysgu i oedolion yn dioddef o ganlyniad i doriadau, a bydd hyn yn llesteirio ymdrechion i annog mwy o bobl i ddechrau dysgu Cymraeg. Felly, hoffwn annog y Gweinidog i fynd ymhellach nag argymhelliad 12 a sicrhau cyllid digonol ar gyfer mwy na hyrwyddo yn unig—rhaid iddynt sicrhau cyllid digonol ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Y dull hwn o weithredu yw'r ffordd orau o sicrhau bod mwy o bobl yn gallu siarad iaith ein cyndadau. Diolch.

17:20

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.

Member
Eluned Morgan 17:21:26
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr. Yn y lle cyntaf, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn ystod yr ymchwiliad ac am eu hystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno iddyn nhw? Fel dwi eisoes wedi nodi yn ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth i'r pwyllgor, rŷn ni'n derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion sydd yn yr adroddiad—gan nodi, wrth gwrs, nad yw'r holl argymhellion yn rhai i'r Llywodraeth eu gweithredu. Mae rhai ohonyn nhw i'ch pwyllgor chi, felly dwi ddim eisiau mynd drwy'r holl argymhellion hynny heddiw. 

Bydd Aelodau yn ymwybodol y gwnes i ddatganiad ym mis Awst ynghylch y camau nesaf o ran y strwythurau ar gyfer gweithredu'r strategaeth Cymraeg 2050. Ein rôl ni fel Llywodraeth yw arwain, cynllunio, gosod cyd-destun a chreu'r amodau cywir ar gyfer cydweithio tuag at yr 1 filiwn. Mae'n grêt i weld bod Caroline Jones yn un o'r 1 filiwn yna a fydd gyda ni erbyn 2050. Diolch yn fawr i chi am wneud eich cyfraniad yn Gymraeg.

Rhan o'r gwaith o arwain, wrth gwrs, yw cymryd penderfyniadau strategol. Yn ein tyb ni fel Llywodraeth, mae'r pwyslais o ran polisi iaith wedi gwyro'n rhy bell i gyfeiriad rheoleiddio, ar draul ymyriadau polisi eraill dros y blynyddoedd diwethaf. A dyna oedd sail y Papur Gwyn yn 2017. Ac er nad ydyn ni bellach yn mynd i ddeddfu, dwi wedi gwneud penderfyniad sydd â'r nod o weld gwell cydbwysedd rhwng creu hawliau i wasanaethau Cymraeg ar y naill law, a gwaith ymarferol, sef gwaith polisi, ar y llaw arall. Wrth gwrs, bydd hwn yn arwain at gynyddu nifer y siaradwyr i'r 1 filiwn yna erbyn 2050, dyblu defnydd dyddiol y Gymraeg a chynnal ein cymunedau Cymraeg. 

Er mwyn llwyddo yn y gwaith hyn, dwi'n cytuno â'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor ynghylch yr angen i sicrhau bod yna fwy o ffocws a phwyslais yn cael ei roi ar gynllunio ieithyddol a newid ymddygiad ieithyddol o fewn y Llywodraeth ac yn allanol. Dyna pam y byddwn ni'n buddsoddi mewn arbenigedd cynllunio ieithyddol wrth sefydlu'r project yma, prosiect 2050, sef uned newydd amlddisgyblaethol o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru strategaeth Cymraeg 2050. Wrth gwrs, y nod yw ein bod ni'n prif ffrydio'r Gymraeg ar draws y Llywodraeth. Dyna yw'r nod. Felly, dŷn ni ddim eisiau'r adran yma i jest fod yn un rhan fach o'r Llywodraeth. Dyna bwrpas yr adran newydd yma. Fel y cyhoeddais i ym mis Awst, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu swydd gwasanaeth sifil i arwain y project yma ac i gomisiynu panel o hyd at bedwar o gynghorwyr arbenigol allanol ar gynllunio ieithyddol. Mae'n swyddogion ni'n gweithio ar hyn ar hyn o bryd. 

Pam fod y Llywodraeth yn creu cyfarwyddiaeth ar gyfer gwaith teg, yr agenda yna, ond ddim yn gwneud hynny ar gyfer yr iaith Gymraeg, sydd hefyd efo ffocws trawslywodraethol?

17:25

Wel, wrth gwrs, mae adran gyda ni eisoes. Beth rŷn ni'n ceisio ei wneud gyda'r project newydd yma yw sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n mynd ar draws y Llywodraeth yn llwyr. Felly, mae hi'n ffordd wahanol o'i gwneud hi, ond rŷn ni'n ceisio cyrraedd yr un nod â'r broses yna.

Tasg project 2050 fydd i gydlynu'r gwaith o gynllunio ar ein taith tuag at 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, o'r blynyddoedd cynnar, drwy addysg cyfrwng Cymraeg statudol ac ôl-16, i Gymraeg i oedolion. Byddwn ni hefyd yn dyblu defnydd y Gymraeg drwy greu projectau newydd a gwerthuso ein projectau cyfredol. Ac yn drydydd, byddwn yn cynnal cymunedau Cymraeg drwy gefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod ein polisïau ymhob adran berthnasol yn cyfrannu tuag at hynny. Dyna yw pwrpas y project newydd. Bydd y project yn adrodd i mi fel y Gweinidog ac yn gweithio'n glòs gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg, sy'n fy nghynghori i ar y Gymraeg. Dwi'n ffyddiog, drwy weithio gyda'n gilydd, y bydd profiad ac arbenigedd project 2050, y cyngor partneriaeth, y comisiynydd a'n partneriaid grant i gyd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod yna.

Mae datblygu partneriaeth well o weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i ni eleni. Rwy'n falch ein bod wedi cytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, rhyngof fi ac Aled Roberts, ym mis Awst. Mae'r ddau ohonon ni'n gwbl glir bod modd cydweithio ar nifer o faterion tra ein bod ni'n parchu—a dwi eisiau tanlinellu hyn—annibyniaeth y comisiynydd mewn materion sy'n ymwneud â gosod a gorfodi safonau.

Gadewch i fi fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ddatblygu safonau er mwyn ehangu hawliau pobl i wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hawliau yn rhan bwysig o'r ymyriadau polisi ar gyfer cyflawni Cymraeg 2050. Mae rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer creu safonau i'r ddau sector newydd—cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd. Mae hi'n anodd rhoi dyddiad pendant achos bod Brexit yn cyfyngu ar ein gallu cyfreithiol yn fewnol, ond fe allaf i ddweud wrthoch chi fod yna lot o brosesau i fynd trwyddynt o ran ymgynghori. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor eu hunain wedi dweud eu bod nhw ishe inni ymgynghori â nhw'n gynnar, a byddwn ni'n ymgymryd i wneud hynny. Mae yna sawl cam. Dwi wedi bod yn trafod hyn gyda'r comisiynydd yr wythnos yma, ond dwi yn gobeithio, y flwyddyn nesaf, y bydd hyn yn digwydd.

Mae adroddiad y pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion am y ffordd y dylem ni fynd ati i symleiddio'r safonau drwy adolygu neu gyfuno safonau lluosog sydd â'r un nod neu ganlyniad. A dwi'n cytuno â hyn. Dwi ishe eich sicrhau nad yw'r amcanion polisi wedi newid. Dwi'n glir na ddylai unrhyw newidiadau a wneir i'r broses o ddatblygu safonau effeithio'n negyddol ar wasanaethau i siaradwyr Cymraeg. Dwi yr un mor gadarn bod yn rhaid i'r cyrff fod yn glir am beth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud. Ond dwi eisiau tanlinellu nad yw torri nifer y safonau yn gyfystyr â symleiddio. Dwi am osgoi sefyllfa lle rydym yn creu llai o safonau er mwyn creu safonau sy'n hirach ac yn fwy cymhleth. Dwi ddim chwaith am wneud safonau symlach a fyddai'n golygu bod yn rhaid i'r hysbysiadau cydymffurfio y mae'r comisiynydd yn eu paratoi ddod yn fwy cymhleth ac yn fwy biwrocrataidd.

Dywedodd y pwyllgor hefyd mai dim ond ar ôl ystyried yr angen i adolygu'r safonau y dylid cyflwyno'r setiau nesaf o reoliadau i reoleiddwyr iechyd a chwmnïau dŵr. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n cymryd ein hamser i sicrhau bod y rheoliadau rŷn ni'n eu paratoi o hyn ymlaen yn adlewyrchu'r gwersi o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a'r dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor.

Mae gyda ni fel gwlad gynllun blaengar a chyffrous i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050 ac i ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ddau darged yma, a dwi wedi fy nghalonogi'n fawr fod yna gefnogaeth ar draws y wlad i'r uchelgais yma. Mae'r uchelgais wedi dal dychymyg y genedl, a dwi'n siŵr, gyda'n gilydd, byddwn ni'n cyrraedd y targed yna.

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny oedd wedi cyfrannu yma heddiw, a da iawn eto i Caroline Jones am ymarfer ei Chymraeg yma heddiw hefyd; mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud hynny pan fyddwn ni'n gallu. 

Mae gen i amser, efallai, jest i esbonio rhai o'r pethau oedd gan rai Aelodau gonsérn ynglŷn â nhw. Hoffwn i ddechrau, felly, gyda'r cysyniad yma roedd Suzy wedi ei ddweud o ran 'dumb-io' lawr safonau os dŷn ni am eu symleiddio nhw, ac dwi'n credu bod Siân Gwenllian yn teimlo yn debyg o ran hynny. Beth roedden ni'n ceisio ei ddweud fel pwyllgor oedd, fel yr oedd y Gweinidog wedi'i ddweud, os oedd yna safonau lluosog, neu rai oedd yn debyg, bydden ni'n gallu symleiddio'r broses fel nad oes gormodedd o safonau, os oedden nhw'n debyg, a bod yn rhaid i sefydliadau gydymffurfio â nhw—nid er mwyn gwanhau'r broses. Petasen ni'n meddwl am funud byddai fe'n gwanhau'r broses, fydden ni ddim wedi argymell hynny fel pwyllgor. Felly, wrth gwrs, mae angen gweld sut mae hynny'n datblygu.

Dŷn ni'n clywed efallai fod yna concerns gweithredol gan y Gweinidog. Felly, i lawr y lein, byddwn ni angen deall beth yw hynny. Ond dwi'n erfyn ar bobl sydd yn gwylio hwn—y cyhoedd sydd yn mynd i fod yn dod â'r cwynion ger bron, efallai—nad hynny yw'r pwrpas. Beth roedden ni'n ei glywed gan gynghorau, neu beth roedden ni yn ei glywed gan sefydliadau, oedd eu bod nhw wir eisiau ymateb i'r cwynion, ond weithiau roedd y safonau mor gymhleth roedd yn anodd iddyn nhw ddeall beth yn gwmws oedd y trywydd trwyddo. Felly, dŷn ni eisiau eu helpu nhw i wella, a dŷn ni eisiau eu helpu nhw, felly plîs deallwch dŷn ni ddim eisiau tanseilio neu wanhau y safonau. Amser a ddengys o ran sut mae hynny yn cael ei chwarae mas.

Mae rhai yn yr ystafell yma—Siân Gwenllian a Suzy Davies—yn amlwg yn cytuno o ran beth oedd wedi digwydd gyda'r comisiwn ac yn y blaen. Yn amlwg, roedd y Llywodraeth wedi gwrando ac wedi gweld beth oedd y dystiolaeth yn ei ddangos pan ddaeth pobl i'r pwyllgor; doedden nhw ddim yn gefnogol. Roedd cwpwl o fudiadau, efallai, yn sicr yn gefnogol, ond ar hyn o bryd dŷn ni'n dal yn gweld sut mae'r Mesur yn gweithio ar lawr gwlad. Byddwn i'n meddwl byddai fe'n od iawn i newid system mor newydd ar hyn o bryd, ac felly dyna pam roedden ni wedi dod lawr ar yr ochr o roi amser i'r drefn weithredu, ac wedyn asesu eto yn y dyfodol.

Byddwn i yn anghytuno, yn anffodus, â'r Gweinidog am ddweud bod gormod o ffocws, efallai, neu fod gormod wedi digwydd ar reoliadau hyd at nawr. Os dŷn ni am sefydlu system newydd, mae angen inni gael y rheoliadau yna yn eu lle, dŷn ni angen sicrhau eu bod nhw'n gweithio. A nawr, dwi'n credu, dŷn ni wedi cyrraedd pwynt lle dŷn ni'n gallu edrych ar yr hyrwyddo a'r hybu, oherwydd bod y systemau yna yn eu lle. Ac dwi'n credu dyna pam nad oedd pobl, efallai, eisiau gweld Bil newydd gyda ffocws, efallai, ar reoliadau, pan fo bod ar lawr gwlad a siarad yr iaith yn rhywbeth dŷn ni i gyd eisiau ei flaenoriaethu ar hyn o bryd.

Yn sicr, dŷn ni'n hapus bod y Gweinidog wedi dweud, o ran ffocws ar gynllunio ieithyddol, am yr uned newydd yma. Dŷn ni'n mynd i asesu hynny a monitro hynny, mae'n siŵr. Dwi yn cael ryw fath o—. Dwi yn cytuno â Siân Gwenllian i raddau, oherwydd, os oes yna uned newydd, os oes yna ffocws ar greu swydd newydd, yna mae'n bach yn drist i glywed bod Brexit efallai yn mynd i danseilio peth o'r gwaith sydd angen cael ei wneud yn weddol sydyn. Os ydy e'n mynd i gael ei brif-ffrydio, os oes yna amcan i roi safonau ger bron—safonau newydd ger bron—yna dylai'r uned honno fod yn ddigon cryf, buaswn i'n meddwl, i allu gwrthsefyll yr hyn sydd yn digwydd, boed Brexit—. Mae Brexit yn digwydd, mae trafodaethau yn digwydd o ddydd i ddydd; mae angen i ni barhau gyda phethau eraill hefyd. Felly, byddwn i'n erfyn ar y Gweinidog i ystyried y ffaith bod angen inni sicrhau bod yr uned honno yn gryf ac yn cael y gefnogaeth dŷch chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i roi iddi hi heddiw.

Dwi'n credu bod y gyfarwyddiaeth wedi cael ei siarad amdani yma heddiw. Dwi jest eisiau gorffen drwy ddweud—nawr mae'r cyfle inni fel pwyllgor a'r cyfle inni fel Aelodau Cynulliad edrych ar sut y bydden ni'n gallu edrych ar elfennau eraill o'r hyn sydd yn digwydd o ran yr iaith Gymraeg. Roedd Caroline Jones wedi dweud am dechnoleg a digidol, ac mae'n bleser gyda ni fel pwyllgor dweud y byddwn ni yn edrych i mewn i'r maes technoleg digidol yn y dyfodol, achos mae'n rhywbeth sydd wedi dod atom ni fel pwyllgor fel rhywbeth o bwys.

Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn sylweddoli bod deddfwriaeth yn bwysig, wrth gwrs, a bod rheoliadau a safonau'n bwysig, ond dŷn ni i gyd angen gweld y defnydd yn gwella ar lawr gwlad. Ac mae syniad Suzy Davies yn dda iawn, dwi'n credu. Os ydy mentrau iaith yn cynnal digwyddiad, yna dŷn ni eisiau i rai o'u hamcanion, neu rai o'r pethau maen nhw'n adrodd yn ôl arnyn nhw i'r Llywodraeth, ddangos bod y defnydd hwnnw wedi'i esblygu, yn hytrach na dim ond eu bod nhw'n gallu cyrraedd y targed o filiwn. Wel, sut mae'r filiwn yna'n ei wneud? Ydyn nhw'n defnyddio hi i roi'r babi i'r gwely? Ydyn nhw'n defnyddio hi i fynd lawr y stryd i'r dafarn a siarad yr iaith gyda'u ffrindiau? Sut mae hynny'n mynd i esblygu i fod yn realiti pob dydd?

Felly, diolch i bawb am ymwneud â'r adroddiad pwysig yma. Dwi'n credu roedd e'n adroddiad a oedd wedi diweddu lan i fod yn weddol ddylanwadol, felly—. Dyw pob un ddim yn ddylanwadol, ond dŷn ni'n gwneud y gwaith, ond dwi'n credu roedd yr adroddiad yma'n un o'r rheini, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am wrando ac am fod yn ymatebol i rai o'r pethau hynny roedden nhw wedi eu clywed fel rhan o'r drafodaeth. Dwi'n credu roedd hi'n drafodaeth gadarnhaol wnaethon ni ei chael rhwng y Llywodraeth, y bobl oedd wedi rhoi tystiolaeth, a'r Aelodau Cynulliad. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb. 

17:35

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 5 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ganlyniadau TGAU a safon uwch. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7153 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.

2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007.

3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.

4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gwrs, fe gynigiaf y cynnig. Yn gyntaf oll—a gwn y byddwch i gyd yn ymuno â mi yn hyn o beth—a gaf fi longyfarch yr holl fyfyrwyr, athrawon a staff am eu hymroddiad a'u gwaith yn yr arholiadau eleni? Nid yw'r ddadl yn feirniadaeth arnynt hwy. Mae'n ymwneud â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynglŷn â sut y maent yn gwneud—mae'n ddrwg gennyf, a sut y maent efallai'n ei gwneud hi ychydig yn anos i ni wneud hynny. Gadewch i mi longyfarch pawb a basiodd arholiadau nad ydynt yn rhai safon uwch na TGAU hefyd. Dro ar ôl tro, rydym yn codi yn y Siambr hon ac yn sôn am barch cydradd rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol, ond mae'r ffocws bob amser ar y cyntaf i raddau helaeth. Felly, gadewch i ni ddechrau gyda hyn fel enghraifft o ansicrwydd wedi'i wisgo fel newyddion da.

Mae gwelliant Llywodraeth Cymru i'n dadl yn llawn o 'beth am', yn union fel y gwnaeth yn nadl y llynedd ar y pwnc, ond mae yna un ystadegyn y mae'n edrych yn debyg y dylem ymfalchïo ynddo, sef y cynnydd cymedrol yn nifer y myfyrwyr sy'n cael graddau A* i C mewn pynciau gwyddonol. Nawr, bydd yr Aelodau'n cofio bod nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU yn y gwyddorau yn cynyddu, yn rhannol oherwydd y pwysau bwriadol ar rai myfyrwyr i newid o wneud BTEC i wneud TGAU, gan fod y cwrs BTEC wedi cyfyngu myfyrwyr i gyrhaeddiad uchaf cyfwerth â gradd C yn y TGAU. Ac eto, nid yw'n bosibl sefydlu faint o'r myfyrwyr a fyddai wedi dechrau cwrs BTEC yn flaenorol a gafodd C neu is yn y TGAU, ac i'r gwrthwyneb, mae Cymwysterau Cymru yn dweud wrthyf nad yw'n bosibl dadansoddi'r ffigurau ar gyfer y rhai a geisiodd am BTEC eleni i weld faint ohonynt a gyrhaeddodd radd gyfwerth ag C. Yn fyr, ar hyn o bryd, ni allwn ddweud a yw symud myfyrwyr o un cymhwyster i'r llall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r safon cyrhaeddiad neu'n wir, a allai parhau ar gwrs BTEC fod wedi bod yn well i fyfyrwyr penodol. Rwy'n codi cwestiwn ynghylch y tuedd penodol hwn i gamarwain ar ddechrau'r ddadl nid yn unig er mwyn tynnu sylw at y modd y cymylir y dyfroedd ynghylch yr hyn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn newyddion da, ond i'ch herio chi, Weinidog, ar eich methiant i weithredu ar statws cymwysterau sy'n amlygu cryfderau gwahanol mewn disgyblion.

Yn 2014-15, cafodd 19,775 o ddisgyblion gymhwyster BTEC. Yn 2017-18, sef y ffigur mwyaf diweddar y gallaf ddod o hyd iddo, dim ond 8,425 o ddysgwyr a oedd yn ymgeisio am BTEC. Rwyf am wybod beth y mae hynny'n ei ddweud am eich hyder fel Gweinidog mewn cymwysterau galwedigaethol fel y'u gelwir. Nid oes diben i chi ddweud wrth Nick Ramsay, fel y gwnaethoch yr wythnos diwethaf, fod pob ysgol yn ei ardal yn cynnig nifer briodol o gyrsiau galwedigaethol, pan nad yw eich penderfyniadau wedi gwneud dim i ddarbwyllo rhieni a disgyblion fod cymwysterau galwedigaethol yn werthfawr. Ac nid yw chwyddo ffigurau arholiadau nad ydynt yn rhai cyffredinol ymhellach drwy gynnwys yr her sgiliau o'r fagloriaeth fawr gwell nag ystryw, a chredaf fod angen tynnu sylw at hynny.

Gydag athrawon yn ogystal â rhieni bellach yn edrych ar TGAU a safon uwch fel yr unig safon aur, ceir mwy fyth o berygl y bydd y rhai a allai gyrraedd rhagoriaeth drwy addysg ar gyfer gwahanol alluoedd yn cael eu hamddifadu o lwybrau i gyflawni eu potensial. A beth bynnag, gadewch i ni wynebu'r peth: nid yw chwifio canlyniadau gwyddoniaeth ymddangosiadol ddisglair yn ein hwynebau yn celu'r ffaith fod gostyngiad wedi bod yng nghyfran y dysgwyr a enillodd raddau A* i C mewn Saesneg iaith, mathemateg a Chymraeg ail iaith. Ni allwch fod yn falch o hynny, Weinidog. Dyma'r cymwysterau mynediad at fwy neu lai yr holl gamau nesaf o ran hyfforddiant, gwaith neu addysg bellach ac uwch, a dyna'r union bwynt a godais yn y ddadl ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, yn ôl ym mis Gorffennaf. Dyma'r rheoliadau sy'n dileu'r gofyniad i lywodraethwyr ysgolion osod targedau ar gyfer y pynciau hyn a'r angen i adrodd ar ganran y disgyblion sy'n cyflawni'r targedau hyn yn y blynyddoedd cyn TGAU. Nawr, yn anffodus, gan fod yr is-ddeddfwriaeth honno'n rhan o gyfres o newidiadau, ni fyddai wedi gwneud synnwyr i dynnu'r rheoliad hwnnw allan, ond rydych wedi methu'n lân ag ateb y pwynt am natur allweddol y sgiliau allweddol penodol hynny, Weinidog. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno pwynt 4 y cynnig.

Efallai fod asesu perfformiad disgyblion ym mlynyddoedd 4 i 9 yn ymwneud â nodi sut i helpu pob disgybl i wella, ac rwy'n deall hynny, ond mae'r sgoriau hynny hefyd yn gweithredu fel rhybudd. Nid yw disgyblion blwyddyn 9 heddiw mewn sefyllfa mor gryf ag yr oedd disgyblion blwyddyn 11 eleni ddwy flynedd yn ôl—nid yn y Saesneg, nid yn y Gymraeg, nid mewn mathemateg, ac nid mewn gwyddoniaeth hyd yn oed. A chofiwch fod canlyniadau blwyddyn 11 eleni yn y meysydd sgiliau allweddol hynny, y cymwysterau allweddol hynny, wedi gostwng eto ers canlyniadau difrifol y llynedd, y rhai gwaethaf mewn 13 mlynedd. A bellach, gan fod llywodraethwyr yn gallu osgoi gosod targedau hyd yn oed ar gyfer y sgiliau allweddol hyn yn gynharach ar daith y disgybl, mae'r cyswllt hwnnw rhwng safonau a'r daith tuag at ganlyniadau arholiadau yn dod yn llai gweladwy, yn llai tryloyw ac yn ddefnyddiol iawn i Lywodraethau allu cuddio newyddion drwg.

Nawr, efallai y bydd yr Aelodau'n pendroni ynghylch pwynt 2 yn ein cynnig a'r cyfeiriad at 2007. Nid yw wedi'i gynnwys ar hap, rwy'n addo i chi. Rwyf newydd dynnu eich sylw at y gostyngiad yn y cyrhaeddiad yn y TGAU pwysicaf eto eleni. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthddadlau yn erbyn hyn yn ei gwelliant, gyda'r honiad fod y canlyniadau yn gyffredinol wedi gwella eleni, ac maent wedi gwneud hynny mewn gwirionedd, gyda chynnydd o tua 1 y cant, ond gan y gwelwyd gostyngiad o tua'r un faint y llynedd, rwy'n tybio mai dim ond yr ail waethaf mewn 13 o flynyddoedd ydynt. Y flwyddyn ddiwethaf y gwelwyd canran yr un fath fwy neu lai yng Nghymru a Lloegr o bobl ifanc yn cyrraedd graddau A* i C oedd 2007. Ac fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, maent yn hoff iawn o gymharu â Lloegr. Nawr, ers 2007, mae disgyblion yn Lloegr wedi perfformio'n well na disgyblion Cymru bob blwyddyn o ran graddau A* i C yn eu TGAU, er i'r ddwy wlad weld gwelliannau.

Yn 2015, roedd gostyngiad yn y canlyniadau yn Lloegr yn golygu bod y ddwy wlad fwy neu lai yn yr un lle, ac ers hynny, mae'r ddwy wlad wedi diwygio eu TGAU. Fe deimlodd y ddwy yr ymyrraeth, ond dyfalwch beth? Mae perfformiad Lloegr yn sefydlog—mewn gwirionedd, mae'n codi'n gymedrol. Yng Nghymru, rydym wedi gostwng yr holl ffordd yn ôl i'n lefelau yn 2007. Ni allwch ddweud bod y rhain yn arholiadau gwahanol pan fo Lloegr yn amlwg wedi rheoli ei newidiadau heb y niwed i gyrhaeddiad. A gyda llaw, Weinidog, rydych chi'n ddewr iawn i sôn am Ogledd Iwerddon yn eich gwelliant. Rydych chi'n gwybod cystal â minnau fod disgyblion yng Ngogledd Iwerddon wedi perfformio'n ardderchog eto eleni yn eu TGAU, gyda thua 80 y cant yn cyflawni graddau A* i C, ac maent wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd. Pam nad ydym yn edrych yn agosach ar eu system hwy yn hytrach nag un yr Alban, lle mae ysgolion y wladwriaeth bellach yn cynnig llai o bynciau a lle mae canlyniadau'r Highers wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol?

Nawr, mae cymharu canlyniadau yn fy arwain at y pwynt a godwyd yn ail welliant Plaid Cymru, ac mae Cymwysterau Cymru wedi annog yr un gofal wrth gymharu. A gaf fi wahodd yr Aelodau i ystyried hyn? Mae pob bwrdd arholi ym mhob un o'r gwledydd yn gweithio'n galed i sicrhau bod safonau'r her yn eu harholiadau, fel y'i dangosir gan y graddau, yn cyd-fynd yn fras. Felly, yn fyr, dylai C mewn arholiad CBAC fod cystal ag C mewn arholiad AQA. Nid yw'r gwahaniaeth o ran cynnwys yn yr arholiadau hynny at ddibenion sicrhau ansawdd yn bwysig rhwng byrddau, cyn belled â bod cysondeb yn lefel yr her. A does bosibl fod hynny wedi newid. Gall cynnwys ein cymwysterau TGAU newydd fod yn wahanol iawn—efallai eu bod yn profi gwybodaeth wahanol, efallai eu bod yn profi sgiliau gwahanol—ond dylai safon yr her barhau i gymharu, o fewn lwfans gwallau, nid yn unig â safonau gwledydd eraill, ond â safonau ein cymwysterau TGAU blaenorol. Nid yw ein canlyniadau TGAU salach o'u cymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn deillio o fod ein harholiadau'n anos na'u rhai hwy. Felly, ni allwch guddio'ch methiant, Weinidog, drwy honni na allwch gymharu'r hyn sydd gennym heddiw â'r hyn sydd wedi mynd o'r blaen. Dylem bob amser allu cymharu safonau o un flwyddyn i'r llall, ac mae data ar gyrhaeddiad yn rhan o'r broses honno.

Yn fyr iawn, i ymdrin â'r gwelliannau eraill—byddwn yn cefnogi gwelliant 3, os cawn gyfle i wneud hynny. Dim ond un cafeat ar drydydd pwynt gwelliant Plaid Cymru: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud erioed ein bod am i athrawon fod yn rhydd i addysgu, a dyna pam nad ydym yn beirniadu'r cwricwlwm ar hyn o bryd, ond bydd angen i arweinwyr ysgolion wybod y byddwn yn mynnu cael strwythurau atebolrwydd lefel uchel yn gyfnewid am ymddiried ynddynt. Mae hynny filltiroedd i ffwrdd oddi wrth y rheolaeth ymyrrol bresennol, ond ni allwn osgoi ymwneud yn llwyr. Mae gennym Lywodraeth i'w dwyn i gyfrif am ei pherfformiad, heb sôn am fuddiannau dysgwyr, a staff i'w cynrychioli.

Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit, nid am ein bod yn credu y dylid ailfabwysiadu mesurau atebolrwydd penodol, ond am ei fod yn sôn am duedd. Rwy'n gobeithio bod fy sylwadau cynharach yn egluro ein pryderon ynghylch cynnal a gwella safonau mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac yn wir, cyrhaeddiad o ran cymhwyster cyffredinol o'i gymharu â chymhwyster galwedigaethol.

Yn olaf, gwelliant 4. Mae hwn yn dileu rhan o'n cynnig, felly mae arnaf ofn na allwn ei gefnogi, ond mae'n dod o'r un lle. Nid yw hanner ein disgyblion yn cyflawni eu potensial, ar lefel safon uwch, TGAU neu gymwysterau eraill, ond nid ydynt ychwaith yn cyflawni eu potensial o ran eu hunangyflawniad, o ran eu cynnydd economaidd, o ran cyfrannu at y gymdeithas ffyniannus, hyderus, gref a gweithredol y dylid adeiladu ein gwlad arni.

Yn y pen draw, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am hynny i gyd. Ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur a'r holl flynyddoedd o danariannu o gymharu â Lloegr, gall pawb sydd wedi bod drwy eich system addysg edrych ar eich gwelliant. Gallant weld beth y credwch chi y dylent fod yn ddiolchgar amdano a beth rydych chi'n eu hannog i'w alw'n llwyddiant, ac rwy'n credu o ddifrif fod hynny'n dwyll truenus. Maent yn haeddu ymddiheuriad, fel y mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn amdano. Maent hwy a'u plant yn haeddu Llywodraeth well.

17:45

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw—

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.

Yn croesawu:

a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;

b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;

c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;

d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;

e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;

f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Siân.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn credu nad oes modd gwneud cymariaethau ystyrlon gyda chanlyniadau TGAU a safon uwch blynyddoedd blaenorol am nifer o resymau.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi canfyddiadau Estyn fod disgyblion sy’n mynychu hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn methu â chyrraedd eu llawn botensial erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol.

Yn credu fod y berthynas rhwng disgybl ac athro yn allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol er mwyn codi safonau.

Yn galw am wella amodau gwaith athrawon, gan ddileu biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn cryfhau cyflawniad academaidd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i’n hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau ataliol yn ei chyllideb nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n hathrawon lwyddo.           

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 5, dileu 'i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi' a rhoi yn ei le 'i ymddiheuro nad yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner disgyblion ysgol Cymru gyrraedd eu llawn botensial'.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Dwi'n symud y gwelliannau. Diolch. Rhaid imi ddweud roeddwn i'n hynod o siomedig o ddarllen cynnig y Torïaid sydd am ganlyniadau TGAU yr haf yma yn bennaf. Roeddwn i'n fwy siomedig byth o weld gwelliant y Llywodraeth, sydd eto yn canolbwyntio ar ganlyniadau TGAU a safon uwch. Mae cynnig y Torïaid yn rhoi sbin negyddol i'r canlyniadau, ac mae cynnig y Llywodraeth yn rhoi sbin cadarnhaol i'r un canlyniadau. Mae unrhyw un sydd yn ymwneud â'r byd addysg yn gwybod yn iawn na ellir gwneud cymariaethau credadwy, ystyrlon drwy edrych ar un set o ganlyniadau amrwd o un flwyddyn a'u gosod nhw yn erbyn set arall. Fel un sydd wedi bod yn gadeirydd llywodraethwyr, yn aelod cabinet addysg ac yn gadeirydd cyd-bwyllgor GwE, dwi'n gwybod bod hyn yn ffôl ac yn ddi-werth, ac mae pawb yn y sector yn gwybod hynny hefyd.

Mae angen edrych ar gyflawniad dros dreigl amser, ac hyd yn oed o drio gwneud cymariaethau, mae yna gymaint wedi newid ers y flwyddyn mae'r Torïaid wedi dewis, sef 2007. Mae'r manylebau eu hunain wedi newid, mae patrymau mynediad ar gyfer arholiadau wedi newid, mae pa radd sy'n cyfrif tuag at y mesurau perfformiad—ac yn y blaen, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n bwysig ydy ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth system atebolrwydd sy'n gyrru'r system addysg i gyfeiriadau negyddol o safbwynt dysgwyr—er enghraifft, system sy'n annog canolbwyntio ar y disgyblion hynny sydd ar y ffin rhwng C a D ar draul y rheini sydd uwchlaw neu oddi tani hi, symud i ffwrdd o system sy'n rhoi pwysau ar ddysgwyr i sefyll arholiadau dro ar ôl tro er mwyn cael canlyniadau gwell, neu efallai hyd yn oed peidio â chaniatáu i rai disgyblion sefyll arholiad er mwyn osgoi cael graddau is ac yn y blaen.

Dwi'n gweld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen. Dwi'n gwybod ei bod hi'n cytuno efo hyn; mae angen symud i ffwrdd o system sy'n trin disgyblion fel data yn hytrach na phobl ac yn gwthio ysgolion i weithredu fel ffatrïoedd yn hytrach na sefydliadau addysgol. Ond yn anffodus, dyna'n union mae'r drafodaeth yma yn ei wneud. Mae'n canolbwyntio ar y gwendidau yn y system. Mae angen symud i ffwrdd hefyd o system sydd wedi cynyddu'r llwyth gwaith a straen ar athrawon yn aruthrol ac wedi rhoi pwysau a straen ar ddisgyblion. Dwi'n croesawu'r symudiad gan y Llywodraeth at system lle mae'r pwyslais ar asesu ar gyfer dysgu—hynny yw, asesu sy'n rhoi adborth gwerthfawr i'r athro a'r dysgwr, yn hytrach nag at bwrpas atebolrwydd allanol, ac mae hynny'n gam arwyddocaol a phositif. Dyna pam roeddwn i'n siomedig o weld y trywydd y mae'r gwelliant yn mynd â ni iddo fo.

Mae ein gwelliannau ni yn tanlinellu beth sydd angen ei wneud er mwyn codi safonau. Ydyn, mae disgyblion yn gadael hanner ysgolion uwchradd Cymru heb gyrraedd eu llawn botensial. Oes, mae angen newidiadau ar frys. Dyna'r ffaith nad oes yna ddim ffordd o roi sbin arno fo. Dyna sydd eisiau inni hoelio sylw arno fo. Y newid mwyaf sydd ei angen er mwyn codi safonau yw sicrhau lefelau cyllido digonol, sy'n caniatáu lefelau staffio priodol, sy'n sicrhau y caiff disgyblion gefnogaeth ychwanegol ac ymyraethau ataliol yn ôl yr angen.

Mi ges i lythyr gan gorff llywodraethwyr un o ysgolion uwchradd Gwynedd ddoe diwethaf. Dyma ichi gri o'r galon. Dwi'n mynd i ddyfynnu o'r llythyr achos mae o'n dweud yn lot gwell na fedraf i beth yw'r broblem: 'Ysgrifennaf i fynegi ein pryderon dwfn ac anfodlonrwydd am gyllid annigonol parhaus i ysgolion. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllido hwn. Credwn fod yn rhaid cael newid ar fyrder a rhoi cyllid priodol sydd ei angen ar ein hysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol a disgyblion. Mae dyfodol ein plant yn y fantol. Un cyfle sydd gan ddisgyblion i fynd drwy'r system addysg, a thrwy dorri cyllid mae'r Llywodraeth yn methu ein disgyblion. Golyga toriadau ariannol dros y blynyddoedd fod staff wedi colli eu swyddi, ac mae'n debyg y bydd angen torri mwy yn y dyfodol. Mae effaith diswyddiadau yn golygu llwyth gwaith cynyddol ar ein staff presennol, ac effeithiau eraill cyllid annigonol yw bod llai o adnoddau i'r disgyblion, llai o ddewis mewn pynciau ysgol, meintiau dosbarth mwy, llai o gefnogaeth ychwanegol i blant sydd ei hangen, llai o gefnogaeth i deuluoedd a rhieni, a llai o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi. Ni all hyn barhau, a ni allwn adael i hyn fynd heb ei herio.'

Mae'r llythyr yn egluro'r sefyllfa yn glir iawn. Felly, cefnogwch welliannau Plaid Cymru. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i drafodaeth am ganlyniadau TGAU. Wynebwch y realiti a rhowch mwy o gyllid i'n hysgolion ni. 

17:50

Diolch. Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones.

Gwelliant 5—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon.

Cynigiwyd gwelliant 5.

Rwy'n cynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd gan Caroline Jones, yn ffurfiol. Rwyf am longyfarch Suzy Davies ar agor y ddadl hon, a Siân ar ei haraith yn awr. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Siân Gwenllian yn ei ddweud am yr angen am fwy o gyllid. Rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid yma gyda ni a bod cyllideb ar y ffordd, a chawsom gynnydd sylweddol wedi'i gyhoeddi yn y gwariant ar addysg yn Lloegr, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n dod drwodd i Gymru hefyd, ac yn arbennig, y byddwn yn gweld pobl a allai fod yn ystyried dod i mewn i'r proffesiwn—y bydd cyflogau cychwynnol a chynnydd yn cael eu codi.

Cydymdeimlaf hefyd â'r hyn a ddywedodd Siân am yr angen am gymariaethau amlflwydd ystyrlon a chredadwy. Rwy'n credu bod y ddadl hon braidd yn anodd o ran y cynnig gan y Ceidwadwyr a'r gwelliant gan y Llywodraeth. Mae llawer o ddewis a dethol pethau gwahanol iawn er mwyn gwneud i'r Llywodraeth edrych yn wael neu'n dda, ac nid wyf yn credu ei fod yn ein helpu mewn gwirionedd i asesu sut y mae'r duedd wedi bod yn datblygu.

Yn fy marn i, mae'n drueni, yng nghynnig y Ceidwadwyr—. Fe wnaeth Suzy ei ddweud yn ei haraith, ac rwy'n canmol hynny, ond yn ogystal â nodi'r canlyniadau, credaf y dylem longyfarch y dysgwyr dan sylw. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn dda pe bai hynny wedi'i gynnwys yn y cynnig, ond fe gafodd ei ddweud. Y gofid fod yr arholiadau TGAU yn waeth na haf 2007—roeddwn yn credu bod hynny'n rhyfedd iawn pan ddarllenais y cynnig. Nid oeddwn yn deall beth oedd y pwynt y ceisiai'r Ceidwadwyr ei wneud. Os mai'r canlyniadau yw'r rhai gwaethaf ond am un flwyddyn ers 2007, fel y mae Siân yn dweud—neu ai Suzy a'i dywedodd—buaswn wedi meddwl mai dyna fyddai'r pwynt i'w bwysleisio yn y cynnig, yn hytrach na dim ond y pwynt nad ydynt cystal â'r rhai yn 2007.

Y rheswm y dewiswyd 2007 oedd ei fod ar adeg pan oedd modd cymharu'r canlyniadau yng Nghymru a Lloegr. Euthum ymlaen i ddweud yn fy nghyfraniad, er bod y ddwy wlad wedi gwella dros y cyfnod hwnnw mewn gwirionedd, tan eleni mae Lloegr wedi gwneud yn well na Chymru. Ond eleni, mae Cymru wedi dychwelyd i'r man cychwyn hwnnw.

Credaf mai dyna'r duedd graidd. Cytunaf â chi ac, yn fras, â'r hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wthio yn y maes hwnnw—yn y maes addysg yng Nghymru, mae hi'n ymddangos bod y canlyniadau wedi gwaethygu'n sylweddol dros ystod y cyfnod hwnnw, a dyna oedd y duedd fwyaf. Os oes rhywfaint o welliant eleni, credaf y dylem gydnabod hynny, ond credaf mai'r duedd yw'r prif fater o hyd.

Gyda Chymraeg ail iaith, nid wyf am ofyn am ymyriad arall, ond Cymraeg ail iaith—a yw hwnnw yr un fath â'r cwrs byr mewn Cymraeg? Oherwydd fy nealltwriaeth i oedd ein bod yn symud oddi wrth—[Torri ar draws.] Maent yn ddau beth gwahanol. Ceisiaf ddeall hynny'n gliriach. Ond rydym yn gweld newidiadau sylweddol yn y maes hwn sy'n ei gwneud hi'n anos inni wneud y cymariaethau y ceisiwn eu gwneud yn y cynnig hwn.

Felly, rydym yn nodi ymchwil Llywodraeth Cymru ynghylch dangosyddion allweddol. Mewn rhai ffyrdd mae'n dda clywed bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o ymchwil, yn enwedig os yw'n cael ei chyhoeddi, ond ni ddylai fod cymaint o angen amdani, oherwydd dylem gael data cymaradwy wedi'i gyhoeddi y gall pawb ohonom ei ddeall mewn ffordd gyson. Rwyf wedi siarad o'r blaen â'r Ysgrifennydd addysg yn y Siambr ac mewn mannau eraill ynglŷn â fy mhryderon ynghylch peidio â chyhoeddi ystadegau cymaradwy o ansawdd. Canolbwyntiais ar 2014-17 pan ddywedwyd wrthyf, mewn gwirionedd, fod Estyn yn cyhoeddi'r canlyniadau hyn ar arolygiadau ysgolion, ac roeddwn yn falch o weld hynny, ond mae hynny bellach wedi dod i ben, ac nid wyf yn deall pam. Roeddwn yn siomedig hefyd o weld y mesur lefel 2 cynhwysol yn cael ei dynnu i ffwrdd fel gofyniad, a'r ysgolion yn gallu gosod eu targedau a'u mesurau eu hunain, ac yn ofni y byddai hynny'n arwain at eu gweld yn marcio eu gwaith cartref eu hunain heb allu cymharu mewn modd dibynadwy. Ond rwyf am ymwneud â hyn yn synhwyrol drwy wneud y pwyntiau hyn. Nid wyf yn dadlau y dylid cael marchnad breifat yn y maes addysg. Nid wyf yn dweud na ddylai ysgolion gydweithredu a gweithio gyda'i gilydd, ond rwy'n credu ein bod angen data clir, dibynadwy, wedi'i gyhoeddi, data y gellir ymddiried ynddo, ynglŷn â pha mor dda y mae ysgolion yn gwneud er mwyn helpu i hybu gwelliant.

Yn olaf, ar gynnig y Ceidwadwyr, roeddwn yn meddwl eu bod yn obeithiol braidd i ddisgwyl i'r Llywodraeth ymddiheuro i bob disgybl am eu siomi, ond credaf ei fod yn gywir i nodi nad ydym wedi gweld gwelliannau sylweddol. Ond mae'n waeth na hynny—gwelsom duedd waethygol sylweddol hyd yn oed os cafwyd rhywfaint o welliant eleni. Un peth yr hoffwn longyfarch y Llywodraeth arno yn ei chynnig yw pwynt (b), sy'n ymddangos yn drawiadol iawn i mi, os yw Cymru yn wir wedi dod yn gyntaf o ran canlyniadau A* yn y safon uwch. Mae hwnnw'n gryn dipyn o gyflawniad. Nid wyf yn gwybod sut y mae pethau gyda byrddau arholi—efallai fod gennym fyrddau arholi a allai fod yn wahanol; nid wyf yn gwybod a yw hynny'n digwydd neu a oes ffactorau eraill—ond ar yr wyneb, mae hyn yn drawiadol a hoffwn longyfarch y Llywodraeth arno, ar ei thelerau cul ei hun o leiaf. Tybed a yw'r rhaglen Seren y siaradais innau amdani yn eithaf aml hefyd—a ellir cysylltu'r ddau beth hynny mewn unrhyw ffordd? Rwy'n sicr yn awyddus iawn i weld pen uchaf y maes cyrhaeddiad yn cael ei ymestyn ac yn cael cyfle go iawn i gyflawni. Ond yn gyffredinol, hoffem weld cymariaethau cliriach a gwell i sicrhau atebolrwydd priodol i ysgolion, nid ar gyfer cyflwyno marchnad, ond er mwyn gwella safonau. Nid wyf yn credu ei bod o fudd i ni ei ddisgrifio yn y ffordd honno, ac edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog Addysg i'w ddweud mewn ymateb.

17:55

Addysg yw'r allwedd i lwyddiant ym mywyd rhywun, ac mae athrawon yn cael effaith barhaol ar fywydau eu myfyrwyr. Addysg yw'r pasbort i'r dyfodol, sy’n galluogi ein pobl ifanc i gyrraedd ac i gyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â’n pobl ifanc o ran cyflawni hynny.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, nid yw canlyniadau TGAU wedi gwella. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yng nghanlyniadau a thablau rhyngwladol PISA a'r canlyniadau allweddol megis graddau TGAU A* i C. Mae'n frawychus fod y canlyniadau TGAU yn waeth na’r hyn oeddent yn 2007. Hefyd, mae canlyniadau cyfnod allweddol 2 a 3 wedi gwaethygu am y tro cyntaf er 2007. Mae'r dirywiad hwn mewn safonau addysgol yn gosod rhwystr yn ffordd disgyblion, gan gyfyngu ar eu henillion posibl, ac effeithio ar eu bywydau a'u gyrfaoedd. Dengys ymchwil fod buddsoddiad mewn sgiliau mathemateg a Saesneg yn darparu enillion cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae dysgwyr sydd wedi cyflawni cymwysterau Saesneg a mathemateg yn sicrhau premiwm enillion sy’n amrywio rhwng 5 y cant ac 8 y cant. 

Fodd bynnag, dywed adroddiad blynyddol Estyn fod y ddarpariaeth ar gyfer datblygu llythrennedd disgyblion, yn enwedig ysgrifennu, a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn anghyson yn hanner yr ysgolion. Aethant ymlaen i ddweud bod rhy ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau'n gynyddol mewn cyd-destunau dilys. At hynny, nid oes gan athrawon afael cadarn ar sut i sicrhau bod eu darpariaeth sgiliau'n briodol ac yn arwain at gynnydd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi nodi na allai bron i 45 y cant o’r rhai sy’n gadael ysgol yng Nghymru gyflawni pum canlyniad TGAU da rhwng 2015 a 2020. Mae’r diffygion hyn yn y safonau addysg yn trosi’n gyfleoedd cyflogaeth gwael. Cymru sydd â'r cyflog isaf o bob un o 12 rhanbarth y Deyrnas Unedig. Mae cyflogau yng Nghymru £60 yn llai na chyfartaledd y DU. Roedd 36 y cant o weithwyr yng Nghymru mewn swyddi sgiliau isel yn 2018-19, o gymharu â chyfartaledd y DU o 32 y cant. Nid oes sgiliau darllen angenrheidiol i allu gweithredu yn y gweithlu gan dros un rhan o bump o fyfyrwyr Cymru. Heb gynnydd digonol yn y meysydd hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein pobl i sicrhau’r gobaith gorau posibl o gael dyfodol diogel.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddiogelu cyllid ysgolion, ac eto mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn amcangyfrif bod y bwlch cyllido rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr yn £645, sy’n ffigur syfrdanol. Nid yw cyllid ysgolion wedi'i ddiogelu. Rhwng 2010-11 a 2018-19 mae cyllid ysgolion wedi gostwng bron i 8 y cant mewn termau real. Mae cyllid ychwanegol i addysg yn Lloegr wedi arwain at £1.25 biliwn yn ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol i ysgolion. Rhaid gwrthdroi'r safon sy'n dirywio, Ddirprwy Lywydd, os nad ydym am wneud cam â chenedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion. Mae dywediad enwog iawn gan Benjamin Franklin, un o Arlywyddion America, yn dweud mai ‘Buddsoddi mewn gwybodaeth sy’n talu’r elw gorau.’ Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru sicrhau’r buddsoddiad hwn yng Nghymru. Diolch.

18:00

Rydym mewn perygl o gymharu afalau a gellyg. Yn fy etholaeth i, yn yr ysgolion uwchradd sy'n gwasanaethu fy mhobl ifanc: cafodd 65 y cant o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanisien bum gradd A i C gan gynnwys iaith a mathemateg; 76 y cant yn Ysgol Bro Edern; 86 y cant yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Felly, pa un a wnaeth orau? Wel, yn arwynebol, Ysgol Uwchradd Caerdydd, ond pa gyfran o'r ysgol hon sydd ag anghenion addysgol arbennig? Sawl un sy’n cael cinio ysgol am ddim? Wel, llawer is na'r cyfartaledd yw'r ateb. Felly, rwyf am ganolbwyntio ychydig ar gyflawniadau ysgol lle rwy'n llywodraethwr, sef Teilo Sant, lle cafodd 61 y cant o’r disgyblion bum TGAU gan gynnwys iaith a mathemateg, a dim ond 1 y cant yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol yw hynny. A hyn mewn ysgol sydd â dros un o bob pum disgybl yn cael prydau ysgol am ddim, mae gan 3.5 y cant o blant ddatganiad o angen addysgol arbennig, ac mae 3.5 y cant yn ddisgyblion sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, sef y lefel uchaf yng Nghymru. Felly, o gymharu tebyg â thebyg, mae’r ysgol yn perfformio’n well na phob ysgol arall ond un yn ei theulu ysgolion, sef y grŵp meincnodi 20 y cant i 30 y cant o brydau ysgol am ddim. A dyma lle y dylem fod yn gwneud y cymariaethau hyn. Mae'n ymwneud ag i ba raddau y mae ysgolion o natur debyg yn gwneud cystal ag ysgolion eraill sy'n wynebu rhai o'r heriau y gwyddom fod pobl ifanc yn eu hwynebu, sy'n effeithio ar eu haddysg, ac yn amlwg, mae tlodi yn un ohonynt.

Felly, credaf fod Teilo Sant yn gwneud yn wych, oherwydd eu bod wedi cynyddu eu perfformiad bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf ar gyfer plant sy’n cael prydau ysgol am ddim, ac ar hyn o bryd maent ar 36 y cant, sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd yn y teulu ysgolion y maent ynddo. Ac wrth edrych i'r dyfodol, yr haf hwn, cafodd dwy ran o dair o'r plant ym mlwyddyn 10 sy'n cael prydau ysgol am ddim radd C neu uwch mewn llenyddiaeth Saesneg, sy'n golygu nad oedd bwlch yn y perfformiad rhwng y disgyblion mwyaf cefnog a’r disgyblion lleiaf cefnog. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn gyflawniad go iawn, a diolch i’r disgyblion a’r athrawon yn Teilo Sant am y perfformiad gwych hwnnw.

Rwy'n credu bod lle i longyfarch Ysgol Teilo Sant—mae hynny'n newyddion rhagorol. A allwch chi egluro felly pam fod nifer y graddau A i C yn gyffredinol ledled Cymru, yn enwedig yn y pynciau allweddol, wedi gostwng, os yw ysgolion fel Teilo Sant yn codi’r cyfartaledd mewn gwirionedd?

18:05

Rwy'n credu bod angen i ni glywed gan y Gweinidog Addysg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gosod yr hyn a elwir yn feincnod lefel 2 ac uwch—fod angen i bob disgybl gyflawni pum TGAU lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys iaith a mathemateg. Credaf fod hynny'n hollol iawn. Yn y blynyddoedd a fu, pan nad dyna oedd y meincnod hwnnw’n bodoli, gallwch weld sut y rhoddwyd llai o sylw ar iaith a mathemateg. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn ein bod ni bellach yn gosod y pwyslais hwnnw. Felly, credaf mai dyna un o'r ffyrdd y sicrhawn fod pobl ifanc, lle bo hynny'n bosibl, yn cyflawni'r hyn y credwn sydd ei angen arnynt i wneud eu ffordd yn y byd.

Ond nid wyf yn deall pam y mae'r Blaid Geidwadol wedi cyflwyno'r cynnig yn y ffordd y gwnaethant. Nid wyf yn deall beth sydd mor bwysig am 2007. I mi, mae’n bwysig iawn am bob math o resymau, ond dim i'w wneud â chanlyniadau'r arholiadau. Beth oedd mor arwyddocaol am 2007? Fel y soniodd Siân Gwenllian eisoes, mae pethau wedi newid yn aruthrol yn y cyfnod hwnnw, ac rydym mewn perygl, fel rwy’n dweud, o gymharu afalau a gellyg.

Felly, credaf ein bod wedi gweld cyflawniadau gwirioneddol sylweddol gan ddisgyblion Cymru ac mae gwir angen i ni eu dathlu. Mae'r niferoedd sy'n cyflawni'r pum gradd A i C, gan gynnwys iaith a mathemateg, wedi codi, ac mae hynny'n wych, ac mae'r gyfradd sy’n cael A* ac A wedi aros yn sefydlog. Fel y mae Suzy Davies wedi cydnabod, mae'r perfformiad mewn gwyddoniaeth yn parhau i wella, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig, oherwydd fel arall bydd ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r byd yn gweithio yn llawer anos.

Felly, wrth edrych ar y canlyniadau safon uwch yn unig, mae Cymru’n perfformio'n well na gweddill y DU, ac mae'n ymddangos nad yw'r Ceidwadwyr yn crybwyll hyn. Felly, ni sydd ar y brig bellach ar gyfer A*, o gymharu â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae hynny'n wirioneddol dda. Felly, pam nad ydym yn dathlu hynny?

Credaf mai rhai o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu hystyried os ydym am roi mwy o arian tuag at addysg, yw o ble y daw'r arian hwnnw, o gofio ein bod yn parhau i fod â llai o arian i'w wario nag a oedd gennym yn 2010. Felly, a yw'n mynd i ddod oddi wrth iechyd? A yw'r gwrthbleidiau'n mynd i ddweud, 'Oes, mae angen i ni fynd ag arian oddi wrth iechyd'—sef lle y gwerir hanner y gyllideb ar hyn o bryd—'a'i roi i addysg'? Dewch inni gael y ddadl honno. Rwy'n hapus iawn i gael y ddadl honno. Ond mae dweud yn syml, 'Mae'n rhaid i ni wario mwy o arian ar hyn', heb nodi o lle byddwn yn ei gymryd, o gofio nad oes gennym gyllideb gynyddol, yn rhywbeth y mae angen i ni gael trafodaeth aeddfed yn ei gylch.

Rwy’n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Yn dilyn canlyniadau arholiadau’r haf, roedd canmoliaeth haeddiannol i ddysgwyr Cymru a oedd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu graddau o dan bwysau sylweddol yn sgil setliadau cyllido gwael a diwygiadau pwysig. Mae pawb ohonom wedi bod yno ein hunain fel dysgwyr, gall y pwysau fod yn llethol, a gall yr ofn a'r pryder a ddaw yn sgil cael eich canlyniadau arholiadau fod yn enfawr.

Yn fy etholaeth i, gwelwyd perfformiad cryf iawn yn Ysgol y Preseli ar gyfer graddau A* i A, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, ni welwyd gwelliannau ym mhob ysgol yn sir Benfro, ac er fy mod yn deall bod gwelliannau wedi'u gwneud mewn sawl ysgol ledled y sir o ran cyflawni graddau A* i C, mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud yn glir fod angen gwaith pellach o hyd i gefnogi Ysgol Aberdaugleddau ac ysgol uwchradd Hwlffordd.

Wrth gwrs, ar y cam hwn, mae'r canlyniadau'n dal i fod yn rhai dros dro ar lefel ysgol yn unig, a gallent newid. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymyriadau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, i weithio gydag ysgolion unigol er mwyn archwilio ffyrdd y gallant wella safonau. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno nad oes un dull sy'n addas i bawb o wella safonau addysg yng Nghymru ac efallai y bydd y gefnogaeth sydd ei hangen mewn un ysgol yn wahanol iawn i un arall. Felly, rwy'n credu ei bod yn amlwg y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddatblygu dull mwy pwrpasol o weithio gydag ysgolion ledled Cymru fel bod y pecyn cymorth a gynigir wedi'i deilwra i'r ysgol unigol.

Wrth gwrs, ceir llu o resymau pam nad yw rhai o'n dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. Yn ôl NASUWT, un o'r rhesymau yw’r angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r bwlch cyllido parhaus rhyngddynt ag ysgolion yn Lloegr a llwyth gwaith cynyddol athrawon ac arweinwyr ysgolion. Rydym i gyd yn gwybod bod y bwlch cyllido sy'n wynebu ysgolion ledled Cymru yn golygu bod diffyg adnoddau i'n darparwyr addysg ac mae hynny, yn ddealladwy, yn tanseilio gallu ysgolion i sicrhau'r safonau addysg gorau posibl. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, a ganfu y bydd y bwlch cyllideb ysgolion o £109 miliwn yn 2019-20 yn codi i £319 miliwn yn 2022-23 ac y bydd o leiaf hanner holl ysgolion uwchradd Cymru yn wynebu diffyg. Ac mae'r ffigur hwnnw'n codi.

Mae ysgolion ledled Cymru yn iawn i ddweud bod anhawster gwirioneddol i gynnal a gwella safonau yn erbyn cefndir o bwysau cynyddol ar adnoddau. Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, nododd Cymdeithas y Prifathrawon Uwchradd yn sir Benfro yn glir fod ysgolion uwchradd yn lleihau nifer y staff addysgu, gan leihau ehangder y cwricwlwm a gynigir, yn rhannol yng nghamau allweddol 4 a 5. Dywedasant hefyd fod angen cynyddu nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau er mwyn galluogi llai o athrawon i gyflawni'r cwricwlwm. Aethant ymlaen i ddweud y bydd llai o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, a fydd yn cynyddu llwyth gwaith yr aelodau staff hynny ac yn lleihau eu capasiti i ganolbwyntio ar wella perfformiad ysgolion. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog dan unrhyw gamargraff mai dim ond ysgolion uwchradd sir Benfro sy'n gorfod cymryd y camau hyn, ac felly mae'n hanfodol fod mater cyllido ysgolion yn cael sylw er mwyn sicrhau bod gan ysgolion adnoddau llawn a'r offer gorau i ddarparu ar gyfer ein dysgwyr.

Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r darlun yw cyllid ysgolion, a gwyddom fod canlyniadau Cymru yn 2019 wedi'u gosod yn erbyn cefndir o ddiwygiadau sylweddol i'r cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyn i'r cwricwlwm drafft gael ei gyhoeddi, cyfaddefodd pennaeth blaenorol Cymwysterau Cymru y gallai'r cwricwlwm newydd olygu diwedd ar TGAU yn y tymor hwy a mwy o ddiwygiadau yn y tymor byr. Mae’n dal i fod angen trafod sut, neu i ba raddau, y bydd y cymwysterau hynny'n newid, ond afraid dweud bod hynny wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai yn y proffesiwn addysg. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud yn glir iawn, ac rwy’n dyfynnu,

mae’n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn system addysg Cymru, sydd wedi cynnwys ailwampio enfawr ar y manylebau TGAU.

Aethant ymlaen i ddweud

mae'n hanfodol cael hyn yn iawn fel ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i weithredu’r diwygiadau hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol sydd yn yr arfaeth ar gyfer cwricwlwm Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Gan symud ymlaen, mae'r Gweinidog wedi ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac efallai y gall fanteisio ar y cyfle y prynhawn yma i ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.

Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon y mae'r awydd i weld ysgolion Cymru’n ffynnu a'i dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. O ran fy etholaeth fy hun, lle mae ysgolion wedi cael cefnogaeth sylweddol, fe welwyd gwelliant ac mae hynny i'w groesawu. Ond fe ellir ac fe ddylid gwneud mwy i sicrhau bod safonau'n gwella mewn ysgolion ledled Cymru fel bod ein dysgwyr yn gorffen eu taith addysg wedi’u harfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y byd modern. Felly, wrth gloi Ddirprwy Lywydd, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i rai o'r pryderon a godwyd gan y sector addysg ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

18:10

Rwyf innau hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma—pwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na thrafod addysg? Beth allai fod yn bwysicach na dyfodol ein pobl ifanc? Nid y canlyniadau y buom yn siarad amdanynt y prynhawn yma yw’r cyfan sy’n bwysig mewn addysg, ond maent yn ddangosydd allweddol o ble rydym arni fel gwlad o ran addysgu ein pobl ifanc, ac yn fodd o fesur ar hyd y ffordd i ble yr hoffem fod.

Mae Aelodau eraill wedi sôn am lawer o'r pethau yr oeddwn am sôn amdanynt, felly nid wyf am eu hailadrodd. Mae Paul Davies wedi sôn am sir Benfro a’r canlyniadau yno; yn sir Fynwy, hoffwn longyfarch y disgyblion ledled sir Fynwy a weithiodd mor galed, a'u hathrawon a weithiodd yn galed a chael canlyniadau da. Gwn fod y Gweinidog, o'ch ateb blaenorol, yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod y canlyniadau, rwy'n credu, felly fe allech chi weld y llawenydd drosoch eich hun. Mae pawb ohonom yn cofio pan oeddem yn y sefyllfa honno, yn agor ein canlyniadau, ac mae'n gyfnod yn eich bywyd na ddaw byth yn ôl, ond rwy'n falch fod y Gweinidog yn fy etholaeth ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Rhaid i mi ddweud—a soniodd Siân Gwenllian am hyn yn gynharach—o ran gwelliant y Llywodraeth, cefais fy siomi gan y gwelliant hwnnw. Mae'n tynnu sylw at ystadegau diddorol, ond mae'n gwneud i bethau ymddangos fel pe bai popeth yn fêl i gyd, ac nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'r gwir ddyhead mewn ysgolion ymhlith y disgyblion, athrawon a thu hwnt i ddiwygio a chamu ymlaen a chodi safonau. A bydd lle bob amser i godi safonau, ni waeth pa mor dda yw pethau yn ôl y Llywodraeth, neu pa mor dda yw'r canfyddiad ohonynt. Yn y pen draw, yn enwedig wrth inni nesáu at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru a'r DU yn mynd i orfod cystadlu'n gynyddol ar lwyfan y byd a rhaid inni barhau i fod cystal â gwledydd eraill sy'n gweld eu safonau addysgol yn codi, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd bob yn gam â hynny.

Hoffwn ategu geiriau Paul Davies yn gynharach fod rhai ysgolion wedi gwneud yn dda iawn, ond beth am yr ysgolion nad ydynt wedi gwneud cystal? Mae'n bwysig fod arferion da'n cael eu lledaenu o'r ysgolion da i'r ysgolion llai cefnog, a byddai'n dda gweld ailddatganiad, ailwerthusiad, o strategaeth Llywodraeth Cymru o sut y mae'r Gweinidog yn gweld hynny'n datblygu a sut y gellir lledaenu arferion da, gan fod yna waith y gellir ei wneud ar hynny bob amser.

Mae cyllid wedi'i grybwyll a gwyddom y bydd cylch gwariant diweddar Llywodraeth y DU yn darparu swm ychwanegol o arian—£1.24 biliwn—i ddod i Gymru o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion yn Lloegr. Credaf mai Jenny Rathbone a grybwyllodd o ble y daw'r arian hwn a gadewch inni gael dadl ynglŷn â sut y rhannwn y gacen yng Nghymru. Wel, o'r gorau, efallai nad yw'n bopeth, ond mae swm da iawn o arian yn mynd i ddod i Gymru, felly mae angen inni gael dadl ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. A gadewch i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i reng flaen y gwasanaethau cyhoeddus ac nad yw'n cael ei ailgyfeirio i feysydd eraill. Rhaid iddo fynd i'r rheng flaen ym maes addysg. Wrth gwrs, nid arian yw'r ateb cyfan—mae'r Gweinidog wedi gwneud y pwynt hwn yn y gorffennol—a chredaf ein bod yn rhy aml yn gallu rhoi'r argraff, os ydym yn taflu arian at rywbeth, fod hynny'n mynd i'w ddatrys. Ond dim ond hanner yr ateb yw arian wrth gwrs, ac yn wir mae NASUWT, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies, wedi dweud bod y bwlch ariannu'n £645 y disgybl. Rwy'n gwybod bod rhai wedi anghytuno â hynny mewn rhai cylchoedd, ond dyna farn NASUWT a beth bynnag yw'r bwlch cyllido, mae'n bwysig ein bod yn ceisio ei gau.

Rydym yn croesawu'r gwelliant a fu yn y canlyniadau TGAU a safon uwch ers 2018. Roeddwn yn mynd i sôn am y flwyddyn 2007, ond achosodd gymaint o bryder yn gynharach. Eglurodd Suzy Davies pam fod 2007 wedi'i defnyddio, sef oherwydd mai dyma'r dyddiad olaf y gellir cymharu'r setiau data. Felly, dyna pam y pennwyd y dyddiad hwnnw. Ond os ewch chi'n ôl i'r llynedd, mae gwelliant wedi bod. Os ewch chi'n ôl ymhellach, mae'r canlyniadau'n llai clir. Felly, y tu ôl i'r ystadegau a ddyfynnwyd y prynhawn yma, credaf fod rhaid i ni gofio ei fod yn ymwneud â mwy nag ystadegau; mae pobl, pobl ifanc, bodau dynol y tu ôl i'r ystadegau. Mae'r dyfodol y tu ôl i'r ystadegau hynny. Oherwydd pan fyddwch yn rhoi arian i addysg ac yn cynllunio eich strategaeth addysg, yr hyn a wnewch mewn gwirionedd yw adeiladu dyfodol y wlad hon. Ac mae pawb ohonom eisiau gweld yn y Siambr hon—. Credaf ein bod i gyd yn unfryd ein bod am weld gwelliant yn y safonau heddiw fel y gall Cymru wneud hyd yn oed yn well ar lwyfan y byd yn y dyfodol, ac fel y gall pob un ohonom fwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu dyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc a dyfodol mwy disglair i Gymru.

18:15

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Awst, cefais y fraint o ddathlu canlyniadau arholiadau gyda'r dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar ddiwrnod safon uwch, ac fel y dywedodd Nick Ramsay gynnau, gyda'r disgyblion yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod TGAU—diwrnod pan oedd yr ysgol honno'n dathlu ei set orau erioed o ganlyniadau TGAU. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn dymuno llongyfarch dysgwyr ar draws ein gwlad am y cyflawniadau aruthrol a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon ac i'w canmol am eu gwaith caled, yn enwedig y rhai sydd wedi gweithio mor ddiflino i addasu i newidiadau wrth gyflwyno cymwysterau TGAU newydd. Rwy'n falch iawn fod Jenny Rathbone wedi sôn am Teilo Sant yn ei hetholaeth ac Ysgol y Preseli yn etholaeth Paul Davies—cefais y fraint o ymweld â'r ddwy ysgol ac mae'n wych eu gweld yn parhau i wneud mor dda.

Ond rhaid i mi gyfaddef, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi meddwl tybed a oedd y Ceidwadwyr yn edrych ar y set gywir o ganlyniadau'r haf wrth ddrafftio'u cynnig, oherwydd credaf eu bod wedi manteisio ar y cyfle i ddibrisio cyflawniadau ein dysgwyr eleni. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi yn lle hynny i groesawu cyflawniad gwell nag erioed ar y graddau uchaf yn y safon uwch, gyda 9 y cant o'r graddau a ddyfarnwyd yn A*, mwy na chwarter yn A*/A, a mwy na thri chwarter yn A* i C. Gobeithio y byddant hefyd yn croesawu'r ffaith bod Cymru bellach yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran cyflawni graddau A*, ac mae'r canlyniadau hynny'n gynnyrch blynyddoedd lawer o waith caled gan ddysgwyr ac athrawon, a dylid eu cydnabod.

Gofynnodd Mark Reckless a allwn briodoli peth o'r llwyddiant hwnnw i rwydwaith Seren. Wrth gwrs, dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd y myfyrwyr wedi bod trwy raglen Seren ar ei hyd, a chredaf fod rhywbeth yno’n bendant sydd wedi gyrru'r canlyniadau rhagorol hynny. Ochr yn ochr â'r canlyniadau hynny rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o gynigion gan Brifysgol Caergrawnt i'n myfyrwyr Seren ar gyfer mynediad yn 2019, cyfradd gynnig o oddeutu 30 y cant, sy'n sylweddol uwch na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan feddyliwch am ddemograffeg Cymru o'i chymharu â'r ddemograffeg mewn rhannau cyfoethocach o'r Deyrnas Unedig, rwy'n credu y dylem ddweud 'da iawn' wrth y plant hynny ac wrth eu hathrawon.

O ran TGAU, rydym wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau cyffredinol yr haf ers y llynedd. Fodd bynnag, dywedais yn glir iawn fod sawl newid pwysig yn y system dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ei gwneud hi’n anodd cymharu’n ystyrlon mewn modd tebyg, ond nid yw hynny'n golygu ein bod wedi gweld safonau’n gostwng na llai o drylwyredd; i’r gwrthwyneb, mewn gwirionedd. Mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi pob un o'n dysgwyr ac ni fyddwn byth yn gostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc. Mater o realiti'r newidiadau a wnaed ydyw, ac nid newidiadau i fanyleb cyrsiau unigol yn unig, ond gwelsom newid radical mewn patrymau mynediad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf am ymddiheuro am ddatblygu rhaglen ddiwygio sy'n benderfynol o gyflawni'r gorau i ddysgwyr yng Nghymru. A dyna un o'r rhesymau pam y mae ein diwygiadau o reidrwydd yn bellgyrhaeddol ac yn drawsnewidiol, oherwydd credaf y byddant yn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru gyfan yn cael eu cefnogi trwy'r system addysg i gyrraedd eu potensial llawn.

Er enghraifft, mae'r camau a gymerwyd i roi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau yn dechrau ysgogi newidiadau o ran maint a natur cohortau, ac mae ysgolion wedi addasu ar yr un pryd i newidiadau yn yr arholiadau eu hunain a gyflwynwyd yn raddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Cymraeg ail iaith yn enghraifft dda o hyn, ac roedd hwn yn fater arall a godwyd gan Mark Reckless. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddysgwyr wneud y cwrs TGAU llawn newydd, yn sgil dileu'r opsiwn cwrs byr. Mae traean yn fwy o ymgeiswyr ac mae'r newidiadau a ddyfynnwyd ar gyfer cyfraddau cyrhaeddiad yn gamarweiniol yn y cyd-destun hwnnw, gan na fyddai'r mwyafrif o'r dysgwyr hynny wedi sefyll arholiad TGAU llawn o'r blaen; byddent wedi cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs byr. O edrych ar effaith y newidiadau hyn, gwelwn gynnydd yn y nifer wirioneddol o ddysgwyr sy'n cyflawni gradd A* i C mewn Cymraeg ail iaith, i fyny tua 12 y cant. Mae’r TGAU newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar siarad, gwrando a defnyddio'r iaith, sy'n golygu bod mwy o bobl ifanc yn datblygu'r sgiliau iaith sydd eu hangen ar Gymru yn awr ac yn y dyfodol. Gwelodd cyfres yr haf welliannau hefyd yn y graddau A* i C mewn mathemateg, rhifedd, Cymraeg, ffiseg, bioleg, cemeg, gwyddoniaeth ddwbl, dylunio a thechnoleg, daearyddiaeth ac addysg gorfforol.

Nawr, gan symud ymlaen at asesiadau athrawon, mae angen ystyried canlyniadau eleni yng ngoleuni newidiadau polisi diweddar. Rydym wedi newid prif ddiben asesiadau athrawon yn ôl i ddysgwyr unigol ar gyfer defnydd mwy ffurfiannol yn unig, i lywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddatblygu dysgu pobl ac i beidio â gwneud cymariaethau rhwng ysgolion neu ffurfio rhan o unrhyw system atebolrwydd. Felly, rwy'n credu y dylai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad cywirach a mwy gwrthrychol o gynnydd dysgwyr, ac ni chredaf fod cymariaethau â blynyddoedd blaenorol yn ystyrlon. Gwyddom fod canlyniadau anfwriadol wedi bod i rai o elfennau ein system atebolrwydd ysgolion, ond nid wyf yn derbyn bod newidiadau diweddar yn gyfystyr â glastwreiddio.

Mae cenhadaeth ein cenedl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system atebolrwydd sy'n deg, yn gydlynol, yn gymesur, yn dryloyw ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gallu gweld sgoriau capio 9, sgoriau llythrennedd, sgoriau rhifedd, sgoriau gwyddoniaeth, yn ogystal â gwahaniaethu rhwng dysgwyr gwrywaidd a benywaidd a rhwng dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau'r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein cwricwlwm newydd. Ac yn ganolog iddo, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus ar gyfer pob haen o'r system addysg, ynghyd â deialog broffesiynol i gefnogi dysgu a gwella ac ymgorffori cydweithredu, gan fod Nick Ramsay yn gywir: y gwaith rhwng ysgolion sy'n gyrru pethau yn eu blaen mewn gwirionedd, gan adeiladu ymddiriedaeth ac ysgogi hunanwella a chodi safonau ar gyfer pob dysgwr. Ac mae ein cynlluniau'n ymwneud â sicrhau bod y ffordd rydym yn asesu perfformiad ysgol yn dangos perfformiad yr ysgol yn ei holl agweddau, ac nid canlyniadau arholiadau'n unig. Bydd atebolrwydd o'r tu allan yn parhau i fod yn nodwedd o'r system. Bydd ysgolion yn parhau i gael eu harolygu, ac yn fwy rheolaidd na'r 13 blynedd a amlygwyd dros y ffin heddiw. A bydd rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i gael adroddiadau ar gynnydd eu dysgwyr.

Nawr, gofynnodd Paul Davies pa gamau penodol rydym yn eu cymryd yn sgil canlyniadau'r haf. Mae angen inni weithio gyda'n bwrdd arholi, gyda Cymwysterau Cymru, gyda'n consortia rhanbarthol a'n haddysgwyr Saesneg, gan fod mwy o waith i'w wneud ar Saesneg, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad i'r Cynulliad cyn hir ar ddull newydd i ysgolion sy'n peri pryder a sut y gallwn gynorthwyo'r ysgolion hynny i sicrhau gwelliant cyflymach a chynnydd cyflym.

O ran y bwlch cyllido, heriwyd y ffigurau a ddyfynnwyd yma o sawl cyfeiriad. Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir iawn ychydig wythnosau'n ôl yn unig fod y bwlch cyllido rhwng ysgolion Cymru ac ysgolion Lloegr yn diflannu bron yn llwyr pan hepgorwch Lundain o'r hafaliad. O ran adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys yr argymhelliad sylfaenol ynghylch ymchwilio i gyllid addysg, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am natur y gwaith yr ymrwymais i'w gyflawni wrth ymateb yn llawn i adroddiad y pwyllgor, yn yr wythnosau nesaf rwy'n credu, pan gaiff ei drafod yma yn y Siambr.

Ond os ydych chi'n benderfynol o fychanu Cymru, fel roedd rhai i'w gweld yn ei wneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, rydych yn methu cydnabod y newid sy'n sicr yn digwydd yn ein system addysg—trawsnewid gwirioneddol sy'n seiliedig ar gydgynhyrchu ar draws yr holl haenau a chyda rhanddeiliaid allweddol. Mae wedi'i wreiddio mewn arferion da, mae wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr—wrth gwrs nad wyf—cynnig sy'n camliwio ac yn bychanu cynnydd ein dysgwyr a'n gweithwyr addysgol proffesiynol. Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes lle i laesu dwylo, a gwn y gallwn wneud yn well. Ond wedi ein sbarduno gan farn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n arwain y ffordd, a chan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau â chenhadaeth ein cenedl i godi safonau a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder pobl Cymru.

18:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, Weinidog, fe roddaf bump allan o 10 i chi am yr ymateb hwnnw, oherwydd—[Torri ar draws.] Rwy'n ceisio bod yn garedig. Oherwydd nid oes amheuaeth fod rhai camau cadarnhaol wedi bod o ran ceisio mynd i'r afael â mater atebolrwydd yn ysgolion Cymru a'n system addysg, a dyna pam ein bod ni, fel plaid, yn croesawu rhywfaint o'r gwaith a gyhoeddwyd yn y gorffennol.

Roeddem yn rhoi croeso arbennig i'r ffaith bod yr arfer diangen ac amhriodol o gofrestru ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer arholiadau wedi dod i ben. Dyna'n bendant yw'r peth iawn i'w wneud. Ond wrth gwrs, yr hyn nad ydym wedi rhoi diwedd arno eto yw'r ffaith nad yw rhai disgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau o gwbl, ac wrth gwrs, mae'n bosibl mai dyna pam y mae'r canlyniadau safon uwch wedi gwella. Rhybuddiodd Cymwysterau Cymru ynglŷn â hyn y llynedd. Dywedodd fod nifer y rhai a gâi eu cofrestru ar gyfer arholiadau safon uwch wedi gostwng ac mai'r rheswm am hynny oedd nad oedd myfyrwyr gwannach yn cael eu cofrestru'n briodol ar gyfer eu harholiadau. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.

Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol fod newid demograffig sylweddol wedi bod, felly ceir llai o ddisgyblion yr oedran hwnnw yn y system mewn gwirionedd. Ac rydym newydd glywed gan Suzy Davies ynglŷn â'r angen i werthfawrogi a sicrhau parch cydradd i gymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol fel ei gilydd. Mae'n ymwneud â'r myfyrwyr iawn yn gwneud y cymwysterau iawn, ac os yw'r myfyrwyr safon uwch hynny'n mynd i wneud cymwysterau galwedigaethol, fel y tybiwn eu bod, rydych newydd danseilio'r union ddadl yr oedd eich llefarydd yn ei gwneud yn gynharach.

A gaf fi awgrymu eich bod yn cyfeirio eich dicter at Cymwysterau Cymru? Dyna pwy oeddwn yn eu dyfynnu, a dyna pwy sy'n dweud nad yw disgyblion gwannach, myfyrwyr gwannach, yn cael eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau.  

Nawr, pan edrychwn ar y dadansoddiad annibynnol o system addysg Cymru, y cymharydd gorau sydd gennym yn rhyngwladol wrth gwrs yw canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Ac mae Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU. Mae yn yr 50 y cant gwaelod o wledydd y byd o ran ansawdd ein system addysg.  

Mae pawb ohonom am weld Cymru'n cyrraedd y brig, a cheir rhai ysgolion gwych yng Nghymru sy'n gweithio'n galed ac yn sicrhau canlyniadau gwych i'w disgyblion. Dylwn sôn, wrth gwrs, am Ysgol Santes Ffraid yn Ninbych, lle cafodd fy mab gasgliad gweddus o ganlyniadau TGAU yr haf hwn. Rwyf am longyfarch pob disgybl ledled Cymru hefyd sydd wedi gwneud yn dda. Fy hen ysgol yn Abergele, Ysgol Emrys ap Iwan, a gafodd y canlyniadau gorau a gyflawnodd erioed. Ond nid yw'n lleihau'r ffaith bod gennym ormod o ddisgyblion o hyd yn gadael yr ysgol heb gymwysterau ac a dweud y gwir, nid yw hynny'n ddigon da.

Nawr, bu llawer o ddyfalu a allwn gymharu'r canlyniadau hyn â'r canlyniadau yn 2007. Un o'r rhesymau eraill pam y defnyddiwyd 2007, gyda llaw, oedd ei fod yn dangos yn glir fod y canlyniadau'n waeth eleni nag yn 2007—na fu unrhyw gynnydd. Ac os na fu unrhyw gynnydd dros y cyfnod hwnnw rwy'n credu'n onest y dylem fod â chywilydd ohonom ein hunain yma yng Nghymru am beidio â sicrhau unrhyw welliant i'n plant a'n pobl ifanc.

Ceisiodd y Gweinidog ddiystyru'r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr, gan ddweud bod popeth yn edrych yn eithaf addawol os hepgorwch Lundain o'r darlun. Ond wrth gwrs, am bob £1 a werir yn Lloegr—ac mae hynny'n cynnwys y punnoedd a werir yn Llundain pan fyddwch yn cyfrif y cyfan o ran y cyfrifoldebau datganoledig—am bob £1 a werir yno ar blentyn, erys y ffaith bod Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Felly, fe ddylai fod bwlch ariannu'n bodoli mewn gwirionedd, ond dylai ddangos bod 20 y cant yn fwy yn cael ei wario ar blentyn yng Nghymru, yn hytrach na'r bwlch cyllido hwn o £645 yn llai. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

18:30

Felly, gan lynu wrth y ddadl honno, a ydych yn barod felly i drafod lleihau'r gyllideb iechyd er mwyn rhoi mwy o arian i addysg?

Pe baech chi wedi gwrando'n gynharach, Jenny Rathbone, ar yr ymateb a roddodd Nick Ramsay i chi, mae gennym arian ychwanegol yn dod i mewn i'r system o ganlyniad i'r rheolaeth dda sydd gan Lywodraeth y DU ar gyllid cyhoeddus. Mae gennym £1.25 biliwn yn dod i Gymru ar gyfer addysg dros y tair blynedd nesaf, a gellid buddsoddi'r £1.25 biliwn hwnnw ar gyfer cau'r bwlch a'i ddileu'n llwyr. Felly, rydych chi wedi cael yr arian—rydych chi wedi cael yr arian, felly y ffordd rydych chi'n ei rannu ar hyn o bryd sy'n golygu na allwch ei fuddsoddi yn ein hysgolion.

Felly, mae angen inni ddileu'r bwlch cyllido. Bydd hynny wedyn yn rhoi cyfle i ysgolion fuddsoddi yn y staff, buddsoddi yn y dechnoleg a buddsoddi yn eu disgyblion er mwyn cael y canlyniadau y mae'r disgyblion hynny'n eu haeddu. Dyna rwyf am ei weld, dyna rydym am ei weld ar y meinciau hyn, a dyna pam ein bod yn gresynu at y ffaith nad yw'r canlyniadau wedi gwella dros y 12 mlynedd diwethaf yn y ffordd y byddem wedi gobeithio. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Felly, down at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, bwriadaf symud ymlaen—[Torri ar draws.] Rydych am ganu'r gloch. O'r gorau. Os gall tri o bobl ddangos i mi eu bod eisiau canu'r gloch, os gwelwch yn dda. Diolch. Canwch y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:35

Rydym wedi cyrraedd y pum munud, a buaswn yn dyfalu eich bod yn sefyll tu allan yn aros i mi alw amser, ond ni fuaswn mor greulon â dweud hynny.

Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-19, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 37, roedd pedwar yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7148 - Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl Aelodau—cynnig o dan Reol Sefydlog 11.21. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Rees. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 12 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7143 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol: O blaid: 39, Yn erbyn: 3, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ganlyniadau TGAU a safon uwch, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

18:40

NDM7153 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Fe bleidleisiwn ar y gwelliannau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 28 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, a 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7153 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 12, roedd dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

NDM7153 - Gwelliant 5: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7153 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.

Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.

Yn croesawu:

a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;

b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;

c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;

d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;

e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;

f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, roedd wyth yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7153 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 15, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

12. Dadl Fer: Gofalu am gartrefi gofal: Sut y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer—[Torri ar draws.] Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Janet.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pwrpas y ddadl hon yw sbarduno sgwrs ynglŷn â sut y gallwn wneud mwy i ofalu am ein cartrefi gofal yng Nghymru. A hoffwn wahodd Jayne Bryant AC ac Angela Burns AC i siarad am funud neu fwy.

Mae dros 15,000 o bobl 65 oed a hŷn yn byw mewn cartref gofal. Yn ôl adroddiad cyflwr y genedl a lansiwyd ddoe, yr oedran cyfartalog pan fydd person hŷn yn symud i gartref gofal yw ychydig o dan 83 oed, ac mae pobl yn tueddu i fyw yn y cartref, ar gyfartaledd, am oddeutu dwy flynedd a phedwar mis. Fel y gwyddoch, ceir tri chategori bras o gartrefi gofal yng Nghymru: preswyl, nyrsio a henoed eiddil eu meddwl. Nawr, yn anffodus, wrth chwilio am gartref o unrhyw fath, ceir gormod o elfennau negyddol. Nawr, cred y Ceidwadwyr Cymreig fod diogelu ein preswylwyr yn allweddol ac yn hanfodol, ac rwy'n gwybod na fyddai'r un ohonom yn gorffwys hyd nes y gweithredir hyn mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynegi pryderon am safonau gofal yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni hefyd—mae'r ddadl heno yn ymwneud â dathlu'r gofal da a'r angen inni gefnogi ein cartrefi gofal.

Beth bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiffyg cydymffurfiaeth, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud. Mae'r angen am hyn yn amlwg wrth ystyried bod gostyngiad o 30 wedi bod yn nifer y cartrefi gofal mewn llai na thair blynedd, ar ôl cyhoeddi 'The Care Home Market in Wales: Mapping the Sector' yn 2015. Fel y gwyddom gan Fforwm Gofal Cymru, mae'n dynodi dirywiad, gan yr amcangyfrifwyd y bydd 16 y cant o'r cartrefi sy'n weddill yn cau ymhen pum mlynedd. Felly, mae angen gosod cefnogaeth i'r sector gofal yn uchel ar yr agenda.

Ar ôl ymweld â nifer o gartrefi gofal yn Aberconwy, a ledled Cymru, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol rai o'r gwasanaethau rhyfeddol a ddarperir. Roedd yn wych cael dawnsio gyda phreswylydd oedrannus i 'Singing in the Rain', a chael llond ymbarél o addurniadau ar y nenfwd yn y brif ystafell fyw. Ac roedd hynny mewn cartref i henoed eiddil eu meddwl. Roeddwn hefyd yn falch o ymuno â dwy ddynes a oedd yn ymlacio ac yn sgwrsio yn yr haul mewn cartref nyrsio ar Ynys Môn. Ac ni allaf fyth anghofio canu deuawd gyda phreswylydd mewn cartref arall—deuawd o'r galon yr oedd y ddynes wedi'i chofio o ddyddiau ei phlentyndod, a minnau'n canu gyda hi.

Nawr, wrth ymweld â'r cartrefi hyn, gwelais angerdd staff ynghylch gofalu am eu cleifion a'u preswylwyr, ac roeddwn yn falch o wrando ar sut y maent hwy—y bobl sy'n gweithio yn y sector—yn meddwl y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal. Daw hyn â mi at y ffordd gyntaf y gallem hyrwyddo cartrefi gofal: cyfathrebu. Mae dementia yn gyflwr sy'n effeithio ar allu ieithyddol, felly gall peidio â darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg arwain at rwystredigaeth a cholli urddas a pharch.  

Rwyf wedi cyfarfod â staff Cymraeg eu hiaith mewn cartrefi gofal, ond mae Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw gofal ar gael yn Gymraeg bob amser oni bai fod rhywun yn gofyn amdano. Ni all hyn fod yn iawn, felly hoffwn eich gweld chi, fel y Dirprwy Weinidog, yn rhoi mwy o gynlluniau ar waith i gynorthwyo cartrefi i ddatblygu gallu i wneud cynnig rhagweithiol o ofal yn Gymraeg—drwy gyfrwng y Gymraeg.    

At hynny, mae gwir angen edrych ar wella cyfathrebu rhwng cartrefi gofal a byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Er enghraifft, dylem edrych ar ddigideiddio cofnodion cleifion. Mae'n wir fod gennych system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, ac rwy'n derbyn y gallai gweithredu'r system TGCh newydd ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd helpu i sicrhau gwybodaeth hygyrch, ond beth am gartrefi gofal?  

Eglurodd un rheolwr wrthyf y byddent yn elwa'n fawr o allu cael gwybodaeth am eu cleientiaid oddi ar system y bwrdd iechyd—yr un cleientiaid ag y maent yn gofalu amdanynt yn ddyddiol—er mwyn diwallu eu holl anghenion, gan gynnwys eu hanghenion iechyd. Nid Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio cynnwys platfformau rhyngrwyd y byrddau iechyd, ond mae ganddi'r gallu i osod lefel gliriach o ddisgwyliadau. Gallai hyn olygu bod cartrefi gofal yn cael gafael ar wybodaeth yn haws mewn gwirionedd, gan arwain at wella'u gofal.

Ffordd arall o gryfhau'r cysylltedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw drwy weithredu ar alwadau gan Age Cymru am ddyletswydd i gydweithredu yn hyn o beth. Rwy'n cytuno â'r sefydliad, ac yn credu y gallai dyletswydd fynd gryn dipyn o'r ffordd tuag at hybu ansawdd gofal i bobl sy'n cael eu trosglwyddo o gartref gofal i leoliad ysbyty ac fel arall. Cefais fy syfrdanu mewn gwirionedd o weld y gall cleifion adael eu cartref gofal am fod rhaid iddynt fynd i'r ysbyty, a bod angen llawer mwy o ofal arnynt wedi iddynt ddychwelyd.

Mae'r angen am ddeialog gryfach yn amlwg wrth ystyried digwyddiadau fel staff cartrefi gofal nad ydynt yn cael gwybod pa drefniadau adsefydlu a roddwyd i'w preswylwyr yn yr ysbyty, cleifion sy'n cael eu rhyddhau i gartrefi gofal heb unrhyw wybodaeth o gwbl, a staff cartrefi gofal na ofynnir iddynt am wybodaeth bwysig, megis sut y mae unigolyn yn nodi eu hangen am doiled ac a ydynt yn hoffi yfed o gwpan penodol, gan gyfrannu at sefyllfa lle mae rhai cleifion yn dychwelyd i gartrefi o'r ysbyty mewn cyflwr llawer gwaeth na phan aethant yno. Clywais—wyddoch chi, peth syml fel dannedd gosod yn mynd ar goll yn yr ysbyty. Felly, mae cleifion yn dychwelyd i gartref gofal heb eu dannedd gosod—rhywbeth mor syml ac angen mor sylfaenol, ond mor bwysig, fel y nododd Angela Burns yma yn gynharach ar ofal iechyd deintyddol.

Mae gan staff cartrefi gofal gyfoeth o wybodaeth a allai drawsnewid gofal rhai cleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, fel y dywedodd Age Cymru, mae ffiniau proffesiynol presennol yn milwrio yn erbyn ymwneud staff cartrefi gofal, a hyd yn oed yn erbyn rhoi gwybod iddynt ar lefel sylfaenol iawn sut mae eu preswylydd tra bydd y preswylydd yn yr ysbyty. Mae yna doriad—pan aiff preswylydd i'r ysbyty, ychydig iawn o ddeialog sy'n parhau wedyn gyda'r cartref gofal. Cyfrifoldeb y cartref gofal yw cysylltu â'r ysbyty. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhaid i hyn newid a rhoddwyd camau ar waith i sicrhau bod GIG Cymru yn cydnabod gwerth y cyfraniad y gall staff cartrefi gofal ei wneud, a chymaint y maent yn malio am eu preswylwyr eu hunain.

Mae wal o'r fath wedi bod yn destun pryder o ran hyfforddi staff hefyd, sy'n dod â mi at ffordd arall y gallem wneud mwy i gefnogi cartrefi gofal. Mae ar Gymru angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio ym maes gofal erbyn 2030. Nawr, rwy'n sylweddoli eich bod wedi cydnabod hyn, ac nid yw ond yn deg fy mod yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i ddenu, cadw a recriwtio staff yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Gofalwn Cymru. Fodd bynnag, gellid cyflawni mwy drwy edrych ar yr hyfforddiant a ddarperir i staff nyrsio. Mae sefydliadau wedi sôn wrthyf am yr angen i sicrhau bod hyfforddiant nyrsys yn cynnwys profiad yn y GIG ac yn y sector gofal cymdeithasol. Cafwyd y rhaniad hwn rhwng y ddau ers gormod o amser; mae angen eu dwyn ynghyd.

Er enghraifft, dylem annog lleoliadau nyrsio mewn cartrefi gofal, gan y gallai hynny helpu i fynd i'r afael â diffyg croesbeillio rhwng sgiliau nyrsio a sgiliau gofalu. Mae pobl yn tybio na all nyrs ond hyfforddi mewn ysbyty. Nid yw'n wir. Gallent ddysgu llawer o sgiliau drwy hyfforddi mewn cartrefi gofal mewn gwirionedd. Hefyd, ni allwch wadu nad oes llawer y gellir ei ddysgu mewn cartrefi gofal, gan fod llawer ohonynt yn fwrlwm o weithgaredd. Yn wir, mae ganddynt botensial i fod yn ganolfannau cymunedol pwysicach fyth.

Rwyf eisoes wedi cael cadarnhad ysgrifenedig fod byrddau iechyd yn cael trefnu clinigau galw i mewn mewn lleoliad heblaw lleoliadau'r GIG, a'u bod yn gwybod bod rhai cartrefi'n awyddus i agor y rhain i'r gymuned leol lle y gallant wneud hynny, megis cynnal clinigau therapi mewnwythiennol, clinigau profion gwaed. Mae'r syniad hwn yn sicr yn werth ei ystyried. Gallai cydweithrediad o'r fath sicrhau gwerth am arian, yn enwedig i'r defnyddiwr gwasanaeth lle byddai'n rhaid iddynt deithio gryn dipyn yn bellach fel arall nag i gartref i weld nyrs. Mae gweithwyr proffesiynol cartrefi gofal wedi'u hyfforddi'n dda, a lle mae ewyllys i wneud hynny, dylai fod yn rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ffordd i gartrefi gynnal y clinigau hyn a gwneud tasgau y mae eu staff yn fwy na chymwys i'w gwneud.

Er enghraifft, mae'n chwerthinllyd fod rhai aelodau o staff cartrefi gofal wedi gorfod aros am oriau i feddyg teulu fesur tymheredd a phwysedd gwaed, ac mae'n dorcalonnus fod rhai cartrefi'n gorfod aros yn hir pan fydd rhywun yn cwympo. Dylem i gyd gefnogi staff i wneud darlleniadau o'r fath, gan edrych ar uwchraddio modelau sydd wedi'u profi megis pecyn cymorth I-Stumble gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer cartrefi gofal. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y byddai cynyddu'r ymyriadau clinigol sydd ar gael mewn cartrefi yn lleihau'r angen i anfon cleifion i'r ysbyty yn y lle cyntaf, neu'r angen i alw am ambiwlans neu feddyg teulu, felly dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn.  

Daw hyn â mi at fy awgrym olaf ynglŷn â sut y gallem wneud mwy dros gartrefi gofal. Gwn am gartref lle mae'r awdurdod lleol yn talu i breswylydd gael aros yno, ac o ganlyniad i ddirywiad yn eu hiechyd, bydd y ffioedd yn cael eu talu yn awr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n frawychus deall y bydd llai o arian yn cael ei dalu i'r cartref er y bydd yn darparu gofal mwy dwys. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd yn talu llai nag y mae awdurdodau lleol yn ei dalu yng ngogledd Cymru, gan osod un cartref gofal ar y trywydd i fod £155,000 yn waeth eu byd yn eu cyllideb eleni, oherwydd y gwahaniaeth rhwng ffioedd awdurdodau lleol a ffïoedd gofal iechyd parhaus.

Mae'n amlwg fod yn rhaid i chi geisio sicrhau y telir cost wirioneddol y gofal i gartrefi gofal, ac yn bendant, dylech geisio sicrhau o leiaf fod y ffi gofal iechyd parhaus yn cyfateb i'r ffi a delir gan awdurdodau lleol. Yn ddiamau, dylid ystyried hwn yn ateb tymor byr, oherwydd credaf fod angen adolygiad llawn o'r modd y cyllidir cartrefi gofal, ac mae ei angen yn awr. Serch hynny, byddai camau o'r fath tuag at ariannu cynaliadwy a theg yn hwb i gartrefi'r sector preifat sy'n teimlo fel pe baent yn cael eu cosbi dro ar ôl tro. Ddirprwy Weinidog, mae'n bryd inni ddechrau dangos ein gofal tuag at gartrefi gofal a rhoi camau ar waith, camau fel y rhai a amlinellais heddiw, i ddangos ein bod o ddifrif, a bwriad Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i gartrefi mwy na 15,000 o bobl yng Nghymru. Diolch.

18:50

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw ac am y cyfle i siarad heno. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i lansio adroddiad Live Music Now ar effaith cerddoriaeth fyw ar gartrefi gofal. Mae'r adroddiad a luniwyd gan Brifysgol Caerwynt yn cyflwyno tystiolaeth arloesol ynglŷn â sut y gall cerddoriaeth fod o fudd i bobl sy'n byw ac yn gweithio ym maes gofal. Ni ddylai cerddoriaeth fyw mewn cartrefi gofal gael ei gweld fel adloniant yn unig. Dengys tystiolaeth gynyddol yr effaith ar y preswylwyr mewn cartrefi. Mae cerddoriaeth o fudd i'r cartref gofal cyfan ac yn cyfrannu at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn argymell y dylai cerddoriaeth fod yn hanfodol i bob cartref gofal. Ar ben hynny, hoffwn ganmol gwaith gwych côr Forget-me-not. Elusen wych yw hon sy'n gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, gan ddod â hwy at ei gilydd i ganu, heb unrhyw bwysau, dim ond hwyl. Mae llawer o deuluoedd wedi disgrifio'r sesiynau fel 'dos o hapusrwydd', gyda phawb yn cymryd rhan hyd eithaf eu gallu. Maent yn dod â phobl at ei gilydd bob wythnos, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun, lawer gwaith, yr effaith y mae eu gwaith wedi'i chael oddi mewn a thu allan i gartrefi gofal, ac un o'r rhain yw Capel Grange ym Mhilgwenlli yn fy etholaeth. Mae'r côr yn ffordd wych o gefnogi pobl gyda dementia neu bobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia, ac mae'n sicr o gynhesu eich calon a gwneud i chi dapio'ch traed.

18:55

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, oherwydd mae angen inni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi'r staff yn ein sector cartrefi gofal. Yn rhy aml, caiff y sector cartrefi gofal ei weld mewn ffordd ddifrïol, heb fod cystal â nyrsys a'r proffesiynau meddygol eraill, ac eto maent yn gwbl hanfodol i barhad a chydlyniant ein cymdeithas, ac i ofalu am gynifer o bobl sy'n agored i niwed. Felly, Weinidog, mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym iawn y gobeithiaf y gallwch eu hateb heno. A fyddech yn ystyried, neu a ydych yn ystyried, ymgyrch genedlaethol i ddenu pobl i yrfa yn y sector cartrefi gofal? A fyddech yn ystyried datblygu datblygiad proffesiynol parhaus, sut y gallem gynnwys a datblygu staff a galluogi staff cartrefi gofal i gamu ymlaen yn eu gyrfa? Ac mae gweithio hyblyg, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig i lawer iawn o staff cartrefi gofal. Beth y gallem ei wneud i hyrwyddo gweithio hyblyg ac i annog perchnogion cartrefi gofal i fod yn llawer mwy hyblyg eu syniadau ynglŷn â sut y gallent ddenu pobl i weithio iddynt?

Ac wrth gwrs, yn olaf, ni fyddwn yn gallu gorffen fy nghyfraniad heb sôn am elfen nyrsio cartrefi gofal. Mae'n hynod o bwysig, ond mae angen i ni wella'r ddarpariaeth nyrsio mewn cartrefi gofal oherwydd bod prinder sylweddol o nyrsys ar gyfer y sector cartrefi gofal. Un o'r ffyrdd fyddai fod angen mynd ati o ddifrif i sicrhau bod telerau ac amodau gofal cymdeithasol yn cyd-fynd â'r 'Agenda ar gyfer Newid', ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai modd i chi gyffwrdd â hynny efallai. A hoffwn wybod hefyd a ydych chi'n credu y gallai cael mwy o leoliadau clinigol i fyfyrwyr nyrsio yn y sector cartrefi gofal yn ystod eu hyfforddiant gradd fod yn fuddiol, nid yn unig ar gyfer cartrefi gofal, ond ar gyfer yr holl anghenion hyfforddi orthogeriatrig/geriatrig, oherwydd mae arnom angen mwy o nyrsys yn y sector pobl hŷn. Diolch.

A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon? Julie Morgan.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heno. Rwy'n credu ei bod yn gyfle gwych i gydnabod pwysigrwydd cartrefi gofal a'r sector gofal cymdeithasol yn gyffredinol, ac rwy'n falch iawn fod Janet wedi gallu tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith da iawn sy'n cael ei wneud yn y sector gofal, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i roi cymaint o hwb ag y gallwn i'r sector hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon heno, oherwydd mae'n gwbl glir fod cartrefi gofal yn gwneud cyfraniad hanfodol i fywydau pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae hefyd yn caniatáu i mi rannu rhai o'r meysydd y mae'r Llywodraeth hon a'n partneriaid yn canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau bod y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi'n effeithiol ac yn y sefyllfa orau bosibl i ofalu amdano'i hun.

Yn amlwg, nid yw, ac ni all, y sector weithredu a ffynnu ar ei ben ei hun. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan yn genedlaethol, yn lleol ac ar lefel darparwyr gwasanaethau yn wir, ac mae gennym rôl glir fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a deall y broblem y mae'n ei hwynebu, a sicrhau ansawdd y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Mae gan ein partneriaid, yn enwedig awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal, gyfrifoldebau pwysig ar lefel leol. Mae gan y sector ei hun hefyd ran hanfodol i'w chwarae. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi cartrefi gofal mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid a'r gweithlu, yn ogystal â mesurau i gefnogi ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau.

Mae'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector yn hysbys ac wedi'u dogfennu'n dda, ac rydym yn llwyr gydnabod hyn, ac yn gweithio i gyflawni model ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer y sector dros y blynyddoedd nesaf. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn ein hymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i ymateb i'r heriau hyn a'r galwadau cynyddol ar ofal cymdeithasol. Felly, i fwrw ymlaen â hyn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol i ystyried y potensial ar gyfer cronfa gofal cymdeithasol wedi'i chreu o ardoll bosibl neu amrywiadau treth incwm yng Nghymru. Byddai hyn yn codi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y tymor hir. Hyd yma, mae'r grŵp wedi ystyried egwyddor y dulliau posibl o godi a dosbarthu unrhyw arian ychwanegol a godir yn y ffordd hon ac yn fuan, fe fydd yn ystyried egwyddor y meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid a godir.

Fodd bynnag, yn y tymor hwy y mae hynny. Mae unrhyw gyllid a godir yn y modd hwn yn dal i fod beth amser i ffwrdd, ac felly, yn y cyfamser, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, er gwaethaf y pwysau real a hysbys iawn ar ein cyllidebau yn gyffredinol. Rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a chymorth. O'r arian hwn, cafodd £30 miliwn ei roi fel grant i gynorthwyo llywodraeth leol i ddarparu gofal cymdeithasol, yn benodol i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu ac i gynnal cynaliadwyedd ehangach gwasanaethau.

Nid yw'r sector cartrefi gofal yn ddim heb weithlu medrus ac ymroddgar, a gwn fod yna heriau o ran recriwtio a chadw staff, a nododd Angela Burns nifer o'r problemau hynny yn ei chyfraniad. Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i godi statws a phroffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel bod gofal cymdeithasol yn dod yn ddewis gyrfa cadarnhaol lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a'u cefnogi mewn ffordd gyfrifol. Rydym wedi cymryd camau i helpu i wneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i weithio ynddo, gan gyflwyno rheoliadau yn 2018 i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ac yn sicrhau bod darparwyr yn gwahaniaethu'n amlwg rhwng amser gofalu ac amser teithio.

Bydd ein hymgyrch i broffesiynoli'r gweithlu yn sicrhau bod gennym weithwyr gofal cymdeithasol diogel sydd â'r cymwysterau priodol i ddarparu gofal a chymorth o safon i oedolion a phlant yn ein cymdeithas. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymestyn cofrestr y gweithlu ar sail wirfoddol i gynnwys gweithwyr gofal cartref, cyn eu cofrestru'n orfodol o Ebrill 2020 ymlaen. Yn yr un modd, bydd gweithwyr gofal preswyl i oedolion, a drafodir gennym heno, yn gallu cofrestru'n wirfoddol o 2020 ymlaen, cyn eu cofrestru'n orfodol o 2022. Credaf y bydd cofrestru'n gwella statws y gweithwyr gofal. A lle y gwelsom fod y sector yn wynebu anawsterau, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol i helpu i'w lliniaru—

19:00

Dim ond pwynt o eglurhad, oherwydd mae hynny'n wirioneddol gadarnhaol. A yw hynny'n cynnwys yr holl weithwyr gofal, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau cartref yn ogystal â chartrefi gofal? Eisiau eglurhad ar hynny oeddwn i.

Ar hyn o bryd, rydym wedi ymestyn y gofrestr ar sail wirfoddol i gynnwys gweithwyr gofal cartref cyn iddynt orfod cofrestru. Felly, ydy, mae'n mynd i gynnwys y ddau—gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi. Felly, fel y dywedaf, dylai hyn fod yn gadarnhaol iawn o ran rhoi mwy o statws iddynt a chydnabod eu bod yn broffesiwn. Oherwydd pa swydd bwysicach y gallai unrhyw un fod yn ei gwneud mewn gwirionedd?

Lle y gwelwyd bod y sector yn wynebu anawsterau, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol i helpu i'w lliniaru. Un enghraifft yw'r cyflog byw cenedlaethol. Rydym wedi buddsoddi £19 miliwn o gyllid rheolaidd i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu helpu darparwyr gwasanaethau i reoli effaith gweithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Mae prosiect peilot gofal cymdeithasol Busnes Cymru yn enghraifft arall o'n hymrwymiad i gefnogi cynaliadwyedd y sector cartrefi gofal. Mae'n darparu pecyn cymorth busnes rhad ac am ddim a luniwyd yn arbennig, sy'n cynnwys cyngor ar amrywiaeth o faterion megis tendro, adnoddau dynol a chyllid. Mae'n ateb ymarferol sy'n cydnabod bod cartrefi gofal yn fusnesau ac yn cynnig yr help y gallai fod ei angen arnynt i fod yn fwy cydnerth ac i dyfu'n gynaliadwy. Hoffwn ddiolch i'r darparwyr sydd wedi cymryd rhan ac wedi rhoi adborth gwerthfawr iawn. Ac er ei fod, yn wreiddiol, yn canolbwyntio ar ardal tasglu'r Cymoedd, mae ar gael ar draws rhanbarth busnes de-ddwyrain Cymru, gyda'r bwriad o werthuso sut i ehangu'r cynnig i ranbarthau eraill Cymru. Buaswn yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle hwn, gan gydnabod mai busnesau yw cartrefi gofal.

O ran cefnogi'r gwaith o wella ansawdd gwasanaethau, rydym yn ariannu rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru dros gyfnod o dair blynedd. Ei nod yw adeiladu amgylcheddau gofal cartref cefnogol sy'n symud oddi wrth y dull cydymffurfio o'r brig i lawr ac yn dechrau gyda'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw yn y cartrefi, pobl sy'n ymweld, neu bobl sy'n gweithio yn y cartref neu'n rheoli gwasanaeth cartref gofal. Fe'm trawyd gan yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am natur fywiog y cartref gofal, a faint sy'n digwydd mewn cartref gofal mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen hon yn ymwneud â phob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys staff rheng flaen, preswylwyr a theuluoedd, i ddeall cyfraniad ei gilydd tuag at gyflawni canlyniadau i bobl.

Credaf hefyd fod y pwynt pwysig iawn hwnnw wedi'i wneud gan Janet Finch-Saunders ynghylch y cysylltiad rhwng yr ysbyty a'r cartref, oherwydd credaf mai yn ystod y cyfnodau pontio hynny y mae pethau'n digwydd, fel dannedd gosod yn mynd ar goll, a'r holl bethau hynod o bwysig sydd mor bwysig i fywydau pobl. Mae'r newid hwnnw'n hanfodol, felly rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny mor gryf. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ei bwysleisio yn y gefnogaeth a roddwn i gartrefi gofal.

Felly, fel y dywedaf, mae rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru yn ymgysylltu ar bob lefel. Rydym hefyd yn bwriadu cefnogi darparwyr cartrefi gofal drwy ddatblygu cyfleuster ar-lein fel rhan o wefan Dewis, a fydd yn caniatáu iddynt arddangos swyddi gwag mewn amser real. Gwelwn y manteision gwirioneddol yma o ran yr amser a arbedir ac ymgysylltiad â chomisiynwyr a chyfleoedd i farchnata eu gwasanaethau. Ond mae hyn yn ei gamau cynnar, a byddwn yn gweithio gyda darparwyr ac eraill ar ei ddatblygu.

Rwy'n ymwybodol iawn fod ychwanegu'r posibilrwydd o adael yr UE i mewn i'r gymysgedd yn creu ansicrwydd pellach i ddarparwyr. Roeddwn mewn fforwm heddiw lle roeddem yn trafod effeithiau gadael yr UE ar ddarparwyr cartrefi gofal ac mae cynnal ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi gofal a darpariaeth gofal cymdeithasol arall yn brif flaenoriaeth drwy gydol y broses gythryblus hon. Felly, rydym yn cyflawni ystod o fesurau mewn cydweithrediad â threfniadau cynllunio wrth gefn ehangach, i gefnogi darparwyr ac i liniaru effaith gadael yr UE heb gytundeb. Dwy enghraifft sy'n arbennig o berthnasol i gartrefi gofal yw bwyd a chyflenwadau meddygol.

O ran bwyd, rydym wedi sefydlu trefniadau i ganiatáu i ddarparwyr roi gwybod yn gyflym ac yn hwylus am unrhyw darfu ar gyflenwad bwyd lleol i awdurdodau lleol. Yn eu tro, gallant hwy uwchgyfeirio'r mater i fforymau cydnerthedd lleol os oes angen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd rhan lawn ym mhroses gynllunio Llywodraeth y DU ar gyfer mewnforio a dosbarthu nwyddau hanfodol, gan gynnwys cyflenwadau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym wedi caffael capasiti storio ychwanegol, gan gynnwys darparu cyflenwad 12 i 15 wythnos o'r cynhyrchion hyn, a fydd yn helpu i gynyddu cydnerthedd yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan fod y rhain yn faterion sy'n cael eu dwyn i'n sylw gan y darparwyr gofal cymdeithasol, a chredwn ei bod yn bwysig ceisio mynd i'r afael â'r materion hynny gymaint ag y gallwn.

Gan droi yn awr at ein partneriaid a'u cyfraniad, mae ein rheoleiddwyr, Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi gwneud gwaith sylweddol i weithredu'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Fel rhan o'r broses o drosglwyddo i'r system reoleiddio newydd, mae'r arolygiaeth wedi ailgofrestru 1,550 o wasanaethau ers mis Ebrill diwethaf, ac mae hon yn gryn gamp ac yn ychwanegol at ei chyfrifoldebau a'i gweithgareddau arolygu o ddydd i ddydd. Rwy'n hynod falch o'r adborth cadarnhaol iawn a gafodd yr arolygiaeth ynglŷn â'r broses hon, a lefel y cymorth a roddodd gan ddarparwyr eu hunain.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle cyffrous i ni i gyd. Mae'n cydnabod rôl darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol fel gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaethau gofal a chymorth y maent yn eu darparu. Yn fwriadol, nid yw'n ceisio rheoli gwasanaethau hyd braich, ond mae'n galluogi darparwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion, eu lles a'u canlyniadau personol. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi gwelliant drwy eu rolau rheoleiddio.

Crybwyllais bwysigrwydd y gweithlu'n gynharach, ac mae hynny wedi'i grybwyll gan Janet Finch-Saunders a chan Angela—pwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod yna gonsensws fod angen i ni gael gwell dealltwriaeth o'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys mewn gwasanaethau cartrefi gofal. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i nodi gofynion o ran capasiti a gallu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a sut y gellir diwallu'r rhain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym y nifer gywir o bobl yn gallu darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Gwn fod Angela wedi sôn am bwysigrwydd cael ffordd broffesiynol o gamu i fyny yn y gwasanaeth, ac mae hynny'n un o'r pethau rydym yn eu hystyried, oherwydd mae gwahaniaethu'n digwydd rhwng swyddi a wneir yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol a swyddi a wneir yn y gwasanaeth iechyd, a mannau eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn un o'r meysydd y byddwn edrych arnynt.  

Crybwyllwyd y gwasanaeth iechyd wrth gwrs. Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd rôl allweddol yma hefyd, o ran eu cyfrifoldebau statudol ac fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal. Gwn fod Janet wedi codi'r mater ar ddiwedd ei chyfraniad, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf ynghylch yr hyn a ddigwyddodd gyda'r unigolyn a sut y digwyddodd y gwahaniaeth hwnnw. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithio gyda darparwyr i sicrhau bod y gofal a'r cymorth cywir ar gael i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref gofal y maent wedi'i gontractio i ddarparu gofal effeithiol. Rwyf hefyd yn disgwyl iddynt chwarae eu rhan i gefnogi cynaliadwyedd cartrefi gofal drwy dalu ffioedd sy'n ddyledus i'r darparwyr yn gyflym ac yn effeithlon er mwyn helpu i osgoi pwysau diangen ar y llif arian, sy'n gallu digwydd.  

Y llynedd, cyhoeddwyd y pecyn cymorth 'Let's agree to agree' i helpu comisiynwyr a darparwyr gofal preswyl i bobl hŷn ar gyfer cytuno ar ffioedd priodol am leoliadau. Datblygwyd hyn mewn cydweithrediad â darparwyr a chomisiynwyr. Mae'r adborth cychwynnol gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y pecyn cymorth yn cael ei ystyried fel rhan o'u modelau ffioedd ar gyfer cartrefi gofal, gyda rhai'n ei fabwysiadu'n llawn neu'n rhannol. Cynhelir adolygiad manylach o'r pecyn cymorth gan y bwrdd comisiynu cenedlaethol y flwyddyn nesaf, ac rwyf am annog pob awdurdod lleol i ddefnyddio'r adnodd hwn. Yna, yn olaf, mae'r sector ei hun, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar wasanaethau a'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny, yn rhan annatod o ansawdd gwasanaethau cartrefi gofal yn ogystal â'u cynaliadwyedd yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i gydnabod yma ar ddiwedd fy nghyfraniad y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud i addasu i'r fframwaith rheoleiddio newydd ac i wneud eu cyfraniad eu hunain tuag at leihau pwysau costau a thrwy fuddsoddi yn y gweithlu.  

Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn sawl ffordd i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau gofal cartref a bod gennym gynlluniau i geisio ehangu a chefnogi'r gweithlu ar adeg anodd ac ansicr iawn ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ein bod am orffen ar y nodyn optimistaidd a gafwyd gan Janet ar y cychwyn ynglŷn â'r gwasanaeth gwych a ddarperir mewn cymaint o gartrefi a'r arferion da iawn a geir. Roeddwn yn arbennig o werthfawrogol o'r sylwadau a wnaed gan Jayne Bryant hefyd a'i chyfeiriad at y gwaith gyda phobl â dementia, ac yn arbennig ei chyfeiriad at gôr Forget-me-not, oherwydd cefais brofiad personol o gôr Forget-me-not yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Fel y dywedodd Jayne, credaf fod gwrando ar gôr Forget-me-not yn un o'r profiadau mwyaf teimladwy a gewch. Gwn eu bod yn gweithio mewn nifer o gartrefi.  

Rwyf hefyd yn ystyried yr argymhelliad y dylai fod modd cynnal clinigau yng nghartrefi awdurdodau lleol, oherwydd rwy'n credu bod angen rhywfaint o hyblygrwydd. Ac fel y dywedwyd, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai hynny ddigwydd. Mewn gwirionedd, mae'n digwydd mewn rhai lleoliadau gwirfoddol yng Nghaerdydd yn awr. Gwn fod yr awdurdod iechyd yn darparu clinigau mewn lleoliadau sector gwirfoddol. Po fwyaf o hynny y gellir ei wneud—oherwydd po agosaf y mae'n eu darparu at gartrefi, ac at gartrefi pobl eu hunain, mae'n eu gwneud yn fwy tebygol o fanteisio. Felly, rwyf am orffen yn awr. Rhaid inni barhau i gydweithio i sicrhau bod y sector hynod bwysig hwn yn ffynnu ac yn mynd o nerth i nerth wrth ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau posibl i bobl yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

19:10

Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.