Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
09/07/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd i dalu am wisgoedd ysgol? OAQ54194
Llywydd, diwygiwyd ac ehangwyd cymorth ariannol yn 2018-19 i deuluoedd sydd fwyaf angen cymorth gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol. Yn y flwyddyn ariannol bresennol, rydym ni wedi mwy na dyblu'r cyllid at y dibenion hyn i fwy na £5 miliwn.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion-mynediad i ariannu pethau fel offer, cit chwaraeon, a hefyd cit ar gyfer gweithgareddau y tu allan i ysgolion hefyd, yn enwedig pan gofiwn fod incwm cartrefi £1,500 yn is erbyn hyn nag yr oedden nhw dair blynedd yn ôl oherwydd effaith barhaus agenda cyni cyllidol San Steffan. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i hybu'r defnydd o'r grant, a sut ydych chi'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o ffyrdd y gellir ei ddefnyddio?
Wel, Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna, ac yn enwedig am wneud y pwynt bod cronfa'r grant datblygu disgyblion—mynediad yn cael ei hymestyn y tu hwnt i gwmpas ysgolion eu hunain, i glybiau ieuenctid, er enghraifft, fel cyllid ar gyfer cit ac offer. Ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn awyddus i hysbysebu'r gronfa. Ar 10 Mehefin, lansiwyd ymgyrch gyfathrebu integredig gennym, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni a gofalwyr. Yn ystod y mis ers i'r ymgyrch honno ddechrau, tudalen wefan y grant datblygu disgyblion—mynediad yw'r bedwaredd dudalen fwyaf poblogaidd ar wefan gyfan Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni eisiau gwneud mwy, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i godi ymwybyddiaeth o'r grant.
Gadewch i mi ddyfynnu dim ond un ateb a gawsom o ganlyniad i'r ymgyrch. Roedd gan riant a ddywedodd,
Rwyf i newydd gael llythyr yn dweud wrthyf fod gan fy mhlentyn saith oed hawl i'r cymorth ar gyfer gwisg ysgol ym mlwyddyn 3 y mis Medi hwn. Rwyf i wedi bod yn poeni ers wythnosau am gost gwisg ysgol. Mae hyn yn lleddfu cymaint o bwysau ariannol i mi a'r gofid yr wyf i wedi bod yn ei ddioddef.
Rydym ni eisiau i fwy o rieni gael gwybod am y cynllun a bod yn yr un sefyllfa â'r person yr wyf i newydd ei ddyfynnu i chi.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn y crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gwisgoedd ysgol—gwelsom y crynodeb o ymatebion y mis diwethaf—un o'r cwestiynau oedd a oedd pobl yn cytuno y dylai cyrff llywodraethu ysgolion roi ystyriaeth i fforddiadwyedd pennu polisi gwisg ysgol. Cwestiwn synhwyrol iawn. Ond nid yw gwerth am arian a fforddiadwyedd yr un peth bob amser. Efallai fod dillad sy'n para'n hwy yn ddigon da i'w trosglwyddo i aelodau eraill o'r teulu, yn well i'r amgylchedd ac, yn aml iawn, yn dod o ffynonellau mwy moesegol hefyd. A allwch chi gadarnhau na fydd telerau'r grant yn peri anfantais i deuluoedd y mae eu plant yn mynd i ysgolion lle na wnaeth y llywodraethwyr ddim ond dewis yr opsiwn rhataf, ond yr opsiwn a oedd yn cynnig gwerth am arian?
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig bod angen i ysgolion feddwl yn ofalus am yr holl bethau y gallan nhw eu gwneud i gadw costau gwisg ysgol i lawr. Ac nid mater syml o gost yw hynny, ond mae cost yn fater pwysig iawn i lawer o deuluoedd sy'n byw yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n cofio, Llywydd, bod swyddfa'r comisiynydd plant wedi cyhoeddi adroddiad ar gost y diwrnod ysgol yn gynharach eleni, ac mae rhai arsylwadau pwysig iawn yn hwnnw am bethau y gall ysgolion eu gwneud i sicrhau nad ydyn nhw'n disgwyl pethau gan rieni sy'n gwneud gallu rhieni i gyflwyno eu plant yn yr ysgol mewn ffordd nad yw'n achosi pryder ac anhawster i'r plant a'r rhieni, bod y pethau hynny'n cael eu harsylwi'n briodol. Rwy'n disgwyl i gyrff llywodraethu ysgolion feddwl am hynny yn ei gyfanrwydd, ac mae'r grant yr ydym ni wedi ei sefydlu yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.
Roedd Plaid Cymru yn falch pan wnaeth eich Llywodraeth Lafur dro pedol y llynedd ar eich penderfyniad annoeth i gael gwared ar y grant gwisg ysgol. Mae'r grant datblygu disgyblion sydd wedi ei ddisodli bellach yn rhoi'r hawl i rieni â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am y grant pan fydd eu plant yn y blynyddoedd derbyn, blwyddyn 3, blwyddyn 7 a blwyddyn 10. Nid wyf i'n synnu eich clywed chi'n dweud bod y wefan yn boblogaidd iawn, gan fod yr angen yn uchel iawn. Yn anffodus, fodd bynnag, nid yw'r cynllun yn ddigon oherwydd materion fel y ffaith bod costau gwisg ysgol llawn yn gallu bod yn unrhyw beth hyd at £250 mewn rhai achosion, a gall plant dyfu llawer rhwng yr oedrannau hynny pan fo cymorth ariannol ar gael. Wedyn mae gennym ni'r penderfyniad dadleuol gan eich Llywodraeth Lafur i ostwng y trothwy incwm ar gyfer hawl i gael prydau ysgol am ddim. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o'r rhwydweithiau sydd wedi eu sefydlu ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhoddion gwisg ysgol, i deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu darparu dillad ar gyfer eu plant? Ac os nad yw hyn yn hoelio eich meddwl ar yr angen i ddatblygu strategaeth wrthdlodi i Gymru, beth allai fod ei angen i wneud hynny?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei haelioni wrth groesawu'r gwelliannau sy'n cael eu darparu i deuluoedd ledled Cymru. [Torri ar draws.] Nid yw'n fater o graffu, Llywydd, o gwbl; mae gan yr Aelod hawl i ofyn beth bynnag y mae'n dymuno ei ofyn. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw tynnu ei sylw at y ffaith bod y cynllun yr ydym ni wedi ei ddatblygu yn cael ei groesawu gan rieni ledled Cymru, ac maen nhw'n ei groesawu mewn ysbryd llawer mwy hael nag a lwyddodd hi ei wneud y prynhawn yma. Rwyf i eisiau i'r cynllun fynd ymhellach; rwyf i eisiau i'r cynllun wneud mwy. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dyblu nifer y blynyddoedd ysgol a wnaeth elwa arno eleni, ac rwy'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr i weld beth arall y gallwn ni ei wneud.
Rwyf i bob amser yn cael fy nrysu gan ei phwynt ynghylch prydau ysgol am ddim, o gofio bod y Llywodraeth hon wedi darparu £5 miliwn i ysgolion y llynedd, a £7 miliwn i ysgolion eleni, fel y gall miloedd yn fwy o blant yng Nghymru elwa ar brydau ysgol am ddim. Dyna'r gwir am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac mae obsesiwn yr aelod gyda beirniadu'r ffaith y bydd miloedd yn fwy o blant yng Nghymru yn elwa yn ymddangos i mi fel rhan o'r cyndynrwydd y mae hi wedi ei ddangos wrth fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn y prynhawn yma.
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o fesurau sy'n digwydd mewn llawer o gymunedau i wneud yn siŵr bod modd ailddefnyddio ac ailgylchu gwisgoedd ysgol. Mae hynny'n gwbl briodol; rydym ni eisiau cael economi gylchol o ran ysgolion, fel yr ydym ni ym mhopeth arall sydd gennym ni yng Nghymru. Ein pwyslais yw cynllun cyflawni ar dlodi plant, yn y ffordd yr argymhellodd Comisiynydd Plant Cymru yn ei hadroddiad. A sicrhau gwelliannau ym mywydau teuluoedd sy'n galluogi plant i elwa sydd flaenllaw yng ngwaith cynllunio'r Llywodraeth hon.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54203
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni trwy gyfres o fesurau cyllideb: y grant cynnal refeniw blynyddol, y dull cyfunol o ymdrin ag ardrethi busnes, a grantiau penodol ar draws ystod o gyfrifoldebau. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi pecyn o gymorth pellach i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddar.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ei haddewidion i'm hetholwyr, ac eto rydym ni hefyd yn gwybod y gellid cyflawni llawer mwy pe na fyddem ni wedi dioddef degawd o doriadau i'n cyllidebau gan y Torïaid. Ac eto, yn yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi clywed y rhai sy'n cystadlu i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid yn awgrymu cyfres o ymrwymiadau gwario yn ymwneud â seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus, plismona, a thoriadau treth i'r cyfoethog. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a oes unrhyw un o'r addewidion ariannu hyn o goeden arian hud y Torïaid wedi cael ei addo i Gymru eto? Ac onid yw'n eglur i bawb erbyn hyn mai mater o ddewis gwleidyddol oedd y toriadau hynny gan y Torïaid, ac mai dyna oedden nhw erioed, ac nid rheidrwydd economaidd?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden ar ddiwedd y cwestiwn yna. Dyma'r twyll mwyaf ym myd gwleidyddiaeth, yr honiad nad oes dewis arall, oherwydd mae dewis arall bob amser ym myd gwleidyddiaeth, ac roedd dewis arall ar gael i Lywodraethau yn ôl yn 2010. Dewisodd y Llywodraeth ar y pryd lwybr o gyni cyllidol. Addawyd i ni, fel y cofiwch, y byddai'r ucheldiroedd heulog yn cael eu dychwelyd i ni erbyn 2015. Dywedir wrthym ni erbyn hyn y bydd hi'n 2025—degawd cyfan yn ddiweddarach—cyn y byddwn ni'n gweld unrhyw fudd. Ac mae Dawn Bowden yn iawn hefyd, Llywydd, onid yw hi, ein bod ni wedi cael prosiect neo-ryddfrydiaeth 40 mlynedd i symud yr economi oddi wrth pobl sy'n gweithio, ac mae anghydraddoldeb wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad. Mae'n syfrdanol, mae'n gwbl syfrdanol, y dylai degawd o gyni cyllidol arwain at dorri trethi i'r cyfoethog. Ble mae'r synnwyr a addawyd i ni, ein bod ni yn rhan o hyn gyda'n gilydd, bod pawb yn cael eu gorfodi i rannu'r baich? Ar ddiwedd y cwbl, pan fydd y baich wedi cael ei rannu'n annheg iawn, rydym ni'n gweld y bydd y gwobrwyon yn cael eu rhannu yr un mor annheg hefyd.
I ateb cwestiwn Dawn Bowden yn uniongyrchol, wrth gwrs, ni addawyd unrhyw arian i Gymru. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw un o'r ddau ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Torïaid yn dweud y bydd yr arian yr ydym ni'n ei gael yn cael ei reoli gan Lundain erbyn hyn, a chan y Blaid Geidwadol, yn hytrach na'r sefydliad hwn a'r bobl a wnaeth ethol y sefydliad hwn yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, defnyddiodd Cyngor Merthyr Tudful £560,000 o'i gronfeydd wrth gefn y llynedd i helpu i lenwi'r diffyg yn ei gyllideb, a achoswyd yn bennaf gan y pwysau aruthrol ar ei wasanaethau cymdeithasol o ganlyniad i helpu plant sy'n derbyn gofal. Cododd Swyddfa Archwilio Cymru bryderon ynghylch hyn a rhybuddiodd na ddylai'r awdurdod barhau i droi at ei gronfeydd wrth gefn. Prif Weinidog, a ydych chi'n difaru dweud wrth awdurdodau lleol pan oeddech chi'n Weinidog cyllid yn 2017—a'ch dyfyniad chi yw hwn nawr:
Bydd angen i awdurdodau lleol edrych ar eu cronfeydd wrth gefn hefyd i weld a allan nhw wasgu rhywfaint o arian allan,
ac a ydych chi'n derbyn erbyn hyn bod yr anawsterau presennol a wynebir gan gyngor Merthyr Tudful yn ganlyniad uniongyrchol i'ch toriadau i lywodraeth leol? A rhowch y gorau i feio Llundain, os gwelwch yn dda.
Wel, Llywydd, nid oes dim o'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed yn gwrthsefyll archwiliad. Nid yw'r problemau sy'n bodoli mewn awdurdodau lleol yng Nghymru yn deillio o benderfyniadau a wnaed yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Maen nhw'n ganlyniad i ostyngiad o flwyddyn i flwyddyn i'n cyllidebau sy'n cael eu gwneud gan ei Lywodraeth ef, gan y penderfyniadau bwriadol y mae ei Lywodraeth ef yn eu gwneud, ac nid yw'n syndod i neb weld y penderfyniadau hynny yn creu'r anawsterau y maen nhw'n eu creu i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Cafodd cyngor bwrdeistref Merthyr ymhlith godiadau ymhlith y mwyaf mewn cyllid o unrhyw gyngor yng Nghymru y llynedd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymateb i'r cyngor a gafodd y cyngor hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n gyngor difrifol iawn, Llywydd. Mae'n cyfeirio at anawsterau gwirioneddol y cyngor hwnnw o ran rheoli'r gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Byddwn yn defnyddio'r pwerau sydd gennym ni i roi mwy o gymorth iddyn nhw. Ond ni ddylai neb amau maint a dyfnder yr anawsterau y mae'r cyngor hwnnw'n eu hwynebu.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau?
Mae masnachfraint Cymru a'r gororau yn parhau i gael ei darparu yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw eisoes—cynllun uchelgeisiol iawn ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r camau sydd eisoes wedi eu cymryd i wella'r gwasanaethau hynny. Ceir llawer mwy a fydd yn dilyn dros gyfnod y fasnachfraint.
Prif Weinidog, cefais e-bost yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr bod hynny'n swnio'n gyfarwydd gan arweinydd yr wrthblaid. Cefais e-bost oddi wrth Gill ac Antosh, sy'n rhedeg sefydliad gwely a brecwast yn fy etholaeth fy hun. Maen nhw wedi derbyn gohebiaeth gan ddau o'u gwesteion am eu taith ar y trên o Gasnewydd i Hwlffordd. Nawr, cafodd y gwesteion amser gwych yn cerdded ar hyd ein llwybr arfordirol ac fe wnaethon nhw fwynhau ein lletygarwch enwog yn sir Benfro yn fawr. Fodd bynnag, er iddyn nhw gadw seddi, disgrifiwyd eu taith ar y trên fel 'gwasgfa' a 'dan ei sang' gydag un o'r gwesteion, a oedd yn gwella yn ddiweddar o'r eryr, wedi ei gwasgu rhwng y troli arlwyo, teithwyr eraill a'r drws. Roedd hyn yn hynod o boenus iddi hi, i'r fath raddau fel ei bod yn teimlo fel canslo'r gwyliau gan ei bod hi'n teimlo na allai fynd ymlaen.
Nawr, mae 75 y cant o'r gwesteion yn y sefydliad gwely a brecwast hwn yn dod o dramor, ac mae mwy na 60 y cant yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus i gyrraedd sir Benfro. Ai dyma'r croeso i Gymru y dylai pobl fod yn ei gael ar adeg pryd y dylem ni fod yn rhoi hwb i nifer ein twristiaid? Ac a yw hi'n iawn y dylai gwesteion i'n gwlad gael eu trin mor wael? A beth yw eich neges—[Torri ar draws.] Gwn nad yw'r Aelodau Llafur eisiau clywed realiti ein gwasanaethau trên, ond beth yw eich neges i Gill ac Antosh? Beth yw eich neges i Gill ac Antosh ac i'r gweithredwyr a'r busnesau twristiaeth eraill sy'n dibynnu ar ymwelwyr yn dod i Gymru?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi hen arfer erbyn hyn â'r ffordd ddi-eironi y gofynnir cwestiynau yn y Cynulliad hwn i mi—cwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am deithio ar reilffyrdd i'r gorllewin o Gaerdydd gan blaid a ganslodd trydaneiddio'r rheilffordd i orllewin Cymru. Onid oes ganddo unrhyw gywilydd o gwbl yn y cwestiynau a ofynnodd i mi, pan mai ei blaid ef fu'n gyfrifol am un o'r rhwystrau mwyaf i deithio ar y rheilffyrdd yn y rhan honno o Gymru yr ydym ni wedi eu dioddef yn ystod y Cynulliad cyfan hwn?
Yr hyn a ddywedaf wrth y bobl sydd wedi anfon e-bost ato yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon gynllun i ehangu capasiti ar y rheilffordd honno ac ar reilffyrdd eraill yng Nghymru. Dyna ganlyniad yr esgeulustod a achoswyd gan y fasnachfraint a lofnodwyd gan ei Lywodraeth ef gyda'r gweithredwr blaenorol. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd mewn chwe mis; mae'n mynd i ddigwydd dros oes y fasnachfraint. Mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith fel y bydd capasiti ychwanegol i'r gorllewin o Gaerdydd i lawr i rannau eraill o Gymru. Byddem ni'n falch iawn pe gallem ni ei gyflwyno'n gynt, ond ceir cyfyngiadau o ran pa mor gyflym y gallwch gael trenau wedi eu danfon. Ceir cyfyngiadau ar gyllid o ganlyniad i benderfyniadau ei Lywodraeth ef hefyd. Ond, byddwn yn defnyddio grym y fasnachfraint honno i sicrhau'r gwelliannau hynny. Pryd y bydd ei Lywodraeth ef yn anrhydeddu ei haddewidion i Gymru? Nid wyf i'n gweld unrhyw un ohonyn nhw, Llywydd. Nid wyf i'n gweld unrhyw un o'r cyhoeddiadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol pan roedd yn canslo trydaneiddio ac yn cyflwyno cyfres o achosion busnes. Nid wyf i wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw yn dwyn ffrwyth. Pryd fyddwn ni'n gweld hynny ar gyfer pobl yng ngorllewin Cymru?
Mae angen i'r Prif Weinidog ymdawelu, rwy'n meddwl. A rhag ofn nad ydych chi'n deall, Prif Weinidog, nid wyf i yma i amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig; rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni—[Torri ar draws.]
Gormod o gyffro. Allwn ni ddim clywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Yn arbennig, ni all y Prif Weinidog glywed yr hyn y mae'n ei ddweud.
Rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif, i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni dros bobl Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml yn y Siambr hon, rydym ni'n parhau i dynnu sylw at fethiannau eich Llywodraeth chi. Nawr, yn sgil tarfu yr hydref diwethaf a'r methiannau parhaus, mae ffydd y cyhoedd yng ngallu'r fasnachfraint newydd i gyflawni yn isel. Dim ond 72 y cant o gymudwyr oedd yn fodlon pan gawsant eu holi am eu boddhad cyffredinol o'u taith yn yr arolwg rheilffyrdd cenedlaethol diweddaraf.
Nid yw hyn yn dda, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni'n gweld ailgyflwyno trên ar reilffordd cwm Rhymni nawr, a ddefnyddiwyd ddiwethaf yng Nghymru yn 2005, ar ôl bod mewn gwasanaeth cyn hynny ers y 1960au. Penderfynodd Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo hyn drwy honni bod trên poblogaidd yn ôl gyda gwên. Prif Weinidog, nid yw hwn yn fater i wenu na chwerthin yn ei gylch. Mae cymudwyr yn rhwystredig ac wedi syrffedu â'r diffyg gweithredu ac aros i'r gwasanaeth gwell newydd gael ei gyflwyno. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gan y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu'r fasnachfraint newydd y gefnogaeth dechnegol, reoli ac ariannol sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw'n gallu helpu i ddarparu gwasanaeth rheilffordd newydd o'r radd flaenaf yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, mae'n braf gwybod bod arweinydd yr wrthblaid wedi rhoi'r gorau i geisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn. Bydd hynny'n arbed cryn amser i ni ar lawr y Cynulliad, mae'n siŵr.
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r pwerau sydd gennym ni a'r cyllid sydd gennym ni. Byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o bwerau, byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o gyllid i fynd gydag ef, oherwydd wedyn byddem ni'n gallu darparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Peth braf i'w wybod pan fydd ei Lywodraeth ef yn penderfynu bod rheilffyrdd y Cymoedd yn mynd i gael eu trosglwyddo o'r diwedd, ar ôl misoedd o oedi ynghylch y mater hwnnw hefyd. Rydym ni'n defnyddio popeth; yr holl bwerau sydd gennym ni, Llywydd, rydym ni'n eu defnyddio i wella gwasanaethau i deithwyr, i adeiladu capasiti, i ddarparu'r fasnachfraint yr ydym ni wedi cytuno arni—un o'r masnachfreintiau mwyaf uchelgeisiol y cytunwyd arni yn unman yn y Deyrnas Unedig. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn fy hysbysu bod boddhad y cyhoedd gyda'i berfformiad ef yn 72 y cant, byddaf yn fwy parod i wrando ar ei feirniadaethau o eraill sydd yn yr un sefyllfa.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn gynharach eleni, cyngor tref Machynlleth, lleoliad Senedd gyntaf Cymru, wrth gwrs, oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Senedd hon a'ch Llywodraeth chi yr un peth. Ddau fis yn ôl, cyngor tref Machynlleth oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan ei gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n credu y gallwch chi weld lle'r wyf i'n mynd yn hyn o beth. Ar ôl eich sylwadau yr wythnos diwethaf yn difrïo gwladychiaeth a'ch datganiad ddoe nad oedd eich cefnogaeth i'r undeb yn ddiamod, a yw eich chwilfrydedd ynghylch annibyniaeth yn swyddogol?
Llywydd, gadewch i mi ei gwneud yn eglur i bobl yng Nghymru beth yw dewis y Siambr hon. Ar y naill law, mae gennych chi blaid sy'n blaid sydd braidd wedi ei diwygio nad yw wir yn cyd-fynd â datganoli, a dyna'r oeddwn i'n ei olygu pan ddisgrifiais araith y Prif Weinidog yng Nghaeredin fel bod yn 'wladychol' ei natur. Os yw hi'n credu mai'r ffordd i wella'r undeb yw cryfhau swyddi'r Ysgrifenyddion Gwladol a chwifio jac yr undeb yn fwy egnïol yng Nghymru, yna mae gen i ofn nad dyna sut yr wyf i'n gweld y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Yma, yn y blaid hon, rydym ni'n blaid ddatganoli. Rydym ni'n credu'n gryf mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am ddyfodol gwasanaethau sy'n berthnasol i Gymru. Ond rydym ni'n credu mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus hefyd. Mae Plaid Cymru yn sefyll yn ddiamwys dros annibyniaeth. Dyna'r hyn y byddan nhw'n ei gynnig i bobl Cymru mewn unrhyw etholiad, uchelgais a phenderfyniad i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, ac mae popeth y maen nhw'n ei wneud a phopeth y maen nhw'n ei ddweud, fel y gwelsom ni ddoe, yn cael ei weld drwy'r lens honno. Rwy'n hapus iawn bod hynny'n wir, oherwydd nid wyf i'n meddwl am eiliad bod pobl Cymru o'r safbwynt hwnnw, ac yn sicr nid wyf innau.
Felly, os gallaf i grynhoi eich ateb, rydym ni'n ddiamwys o blaid annibyniaeth, rydych chi'n amwys o'i blaid. Mae'n sefyllfa o efallai pendant gan y Prif Weinidog.
Sut y byddech chi'n crynhoi'r hyn a ddywedais yn y ffordd honno?
Ond un maes polisi—[Torri ar draws.] Un maes polisi lle bu rhywfaint— [Torri ar draws.]
Iawn. Gadewch i arweinydd Plaid Cymru gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Rwy'n credu fy mod i wedi taro ar wendid yn y man yma efallai. Un maes polisi lle bu esblygiad yw Brexit. Heddiw, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau y byddai'n ymgyrchu dros aros pe byddai refferendwm yn cael ei galw gan Brif Weinidog Torïaidd, ond mae'n gadael yn agored y cwestiwn o ba un a fyddai'n gwneud yr un peth pe byddai Llafur mewn Llywodraeth. A ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwnnw, neu a allwch chi gadarnhau heddiw pe byddai Llywodraeth Lafur yn cyflwyno cytundeb wedi ei ail-gytuno i'r bobl, y byddech chi, y Blaid Lafur yng Nghymru a'ch Llywodraeth, yn dal i ymgyrchu dros aros beth bynnag y byddai Plaid Lafur y DU yn ei benderfynu?
Llywydd, mae Plaid Lafur Cymru o blaid gweld Cymru yn aros yn y Deyrnas Unedig—nid oes dim amwysedd ynglŷn â hynny—ac rydym ni o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen, fe'i dywedaf eto: os bydd cyfle i bobl yng Nghymru bleidleisio eto ar ba un a ddylem ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei adael, byddwn yn ymgyrchu dros aros.
Rwy'n credu mai dyna'r ail gwestiwn nad wyf i wedi cael ateb eglur iddo, ond mae'n codi'r cwestiwn os ydych chi'n hawlio bod yn blaid sy'n gyfan gwbl o blaid aros pam mai chi yw'r unig un nad yw'n sefyll er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o siawns o drechu plaid sydd o blaid Brexit ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. [Torri ar draws.]
A gaf i droi'n olaf at ychydig o newyddion sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr oriau diwethaf, sef y gorchymyn gweinyddu dros dro yn erbyn y cwmni sy'n gysylltiedig ag Afan Valley Adventure Resort? Mae'r barnwr yn yr achos hwnnw wedi dweud heddiw am y cwmni, Northern Powerhouse Developments, bod eu hymddygiad yn
fodel busnes cwbl anonest ac yn gamddefnydd cywilyddus o freintiau masnachu atebolrwydd cyfyngedig.
Byddaf yn ysgrifennu at y Swyddfa Twyll Difrifol heddiw i ofyn iddyn nhw gychwyn ymchwiliad ar unwaith. Ond yn y cyfamser, a all y Prif Weinidog ddweud, o gofio'r hyn a glywsom gan y barnwr, pam y mynegodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth frwd i'r cwmni a'i brosiect ar sawl achlysur, gan gynnwys Gweinidog yr economi yn ymddangos yn ei fideos hyrwyddo?
Llywydd, rwy'n awyddus i gynorthwyo arweinydd Plaid Cymru, felly dywedaf wrtho eto yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrtho ddwywaith erbyn hyn yn y gobaith y caiff gyfle i ddal i fyny. Yn gyntaf oll, mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn credu'n ddiamwys mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw trwy barhau i fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni o'r safbwynt hwnnw yn ddiamwys, yn yr un modd ag yr ydych chi'n ddiamwys o blaid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n ddiamwys o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn ymgyrchu i wneud hynny os cawn ni byth gyfle, yn union fel yr ydym ni'n ei ddweud ym Mrycheiniog a Maesyfed, lle'r ydym ni'n cyflwyno ymgeisydd gan fod pleidleiswyr Llafur ac aelodau Llafur ym Mrycheiniog a Maesyfed sy'n haeddu'r cyfle i bleidleisio dros ymgeisydd sy'n cynrychioli'r safbwyntiau hynny. Rwy'n deall ei fod ef wedi dilyn trywydd gwahanol ac na fydd gan y bobl hynny a fyddai fel arall wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn cael cyfle erbyn hyn i bleidleisio dros Blaid Cymru—penderfyniad syfrdanol, mae'n ymddangos i mi, i Blaid Cymru fel y'i gelwir, beidio â rhoi'r cyfle hwnnw i bobl a allai ddymuno ei chefnogi mewn etholiad yng Nghymru. Dyna ni. Bydd cefnogwyr ac aelodau'r Blaid Lafur yn cael y cyfle hwnnw, ac rwy'n falch iawn bod y cyfle hwnnw ganddyn nhw hefyd.
O ran y cwmni y soniodd amdano, gadewch i mi roi'r sicrwydd hwn i'r Aelodau: ni roddwyd yr un geiniog o arian Cymru gan y Llywodraeth hon i'r cwmni hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Aelod yn gwneud hynny'n eglur mewn unrhyw lythyr y mae'n bwriadu ei ysgrifennu.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Dywedodd yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn bod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4. Dywedodd hefyd, fel y dywedasoch yn gynharach, Prif Weinidog, y dylai fod dylanwad Ceidwadol cryf ar sut y caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei gwario. Prif Weinidog, dywedasoch fod diffyg arian wedi eich atal rhag bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. A fyddech chi, felly, yn croesawu cynnig gan Lywodraeth y DU i'w ariannu drwy'r gronfa ffyniant gyffredin? [Chwerthin.]
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r gwall. Pan ddywedodd y datganiad manwl a wneuthum ar lawr y Cynulliad hwn bod dau reswm pam yr oeddwn i wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, roedd un oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar ein gallu i ariannu prosiectau hanfodol eraill yma yng Nghymru ac, yn ail ac ar wahân, oherwydd nad oeddwn i wedi fy argyhoeddi bod y niwed a fyddai'n cael ei wneud i'r ecoleg a'r amgylchedd yn y rhan honno o Gymru yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol gan enillion economaidd i ganiatáu iddo ddigwydd. Felly, yn sicr ni fyddai arian ychwanegol ar ei ben ei hun yn datrys yr ail o'r rhesymau hynny.
Fy neges i i'r ymgeisydd blaenllaw, fel yr ydych chi'n ei alw, i'r Blaid Geidwadol yw bod angen iddo ennill etholiad yng Nghymru ac yna bydd ganddo hawl i'n cyfarwyddo ar yr hyn y dylem ni ei wneud yn y fan yma. Nid yw ei blaid erioed wedi ennill etholiad yng Nghymru drwy gydol cyfnod y bleidlais gyffredinol, ac iddo fe ddod yma a'n cyfarwyddo ni ynglŷn â'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a sut y dylem ni eu cyflawni, ac yna i gyhoeddi ei fod yn bwriadu ad-hawlio cyfrifoldebau sydd wedi eu sefydlu yma, nid i Lywodraeth y DU cofiwch, os darllenwch chi yr hyn a ddywedodd, ond i'r Blaid Geidwadol, wel rwy'n credu bod materion gwirioneddol o gyfreithlondeb democrataidd yn y modd y mynegwyd y pwyntiau hynny.
Efallai, Prif Weinidog, y gallai sefyll ar sail maniffesto, gan addo darparu ffordd liniaru i'r M4 ac yna gwneud y gwrthwyneb, fel yr ydych chi'n ei wneud. Rydych chi'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth y DU, ac eto ni wnaethoch chi wrthwynebu erioed i swyddogaeth yr UE o ran sut y gwariwyd y symiau hyn. Dywedasoch wrthym yr wythnos diwethaf bod unoliaethwyr yn peryglu'r undeb, ar ôl i'r Swyddfa Dramor eich atal rhag defnyddio car ym Mrwsel. Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol—[Torri ar draws.] Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol i'r undeb yw'r 20 mlynedd yr ydym ni wedi eu cael o Lafur yn dyhuddo Plaid Cymru? Heddiw, maen nhw'n brolio oherwydd, ddoe, dywedasoch wrthyn nhw bod eich cefnogaeth—cefnogaeth y Blaid Lafur i'r undeb—yn destun adolygiad; nawr, rydych chi'n eu beirniadu nhw, nid am eu cefnogaeth i annibyniaeth, ond am y ffaith ei bod yn ddiamwys. Prif Weinidog, gan fod Cymru yn cefnogi'r DU ac wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, pam ydych chi fel Prif Weinidog yn gweithredu fel un gyda chenedlaetholwyr a Nicola Sturgeon?
Llywydd, nid wyf i'n gweld am eiliad sut y mae'n tanseilio'r undeb pan fo pobl yng Nghymru mewn etholiadau olynol wedi gallu dewis y gweinyddiaethau y maen nhw'n dymuno eu gweld yn gyfrifol am gyfrifoldebau datganoledig yma yng Nghymru. Dim ond gweithredu democratiaeth yw hynny, ac mae pobl wedi gwneud eu penderfyniadau, ac rydym ni'n cyrraedd yma o ganlyniad iddyn nhw. Nid oes dim yn hynny o gwbl sydd â'r effaith o danseilio'r Undeb. A dweud y gwir, rwyf i wedi credu erioed bod sefydliadau datganoledig cryf, wedi eu hethol yn ddemocrataidd gan bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, yn cryfhau'r undeb ac nad ydyn nhw yn ei danseilio. Rwy'n credu mai dyna fu hanes datganoli i yma yng Nghymru.
O ran yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Aelod yn gwybod beth yw ein safbwynt yn eglur. Rydym ni wedi adolygu ac adolygu'r dystiolaeth sy'n dweud wrthym ni os yw Cymru yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os caiff ei rhwygo o'r Undeb Ewropeaidd yn y ffordd yr hoffai ei blaid ac yntau ei gweld, byddai'r economi yng Nghymru 8 y cant i 10 y cant yn llai nag ydyw heddiw gyda'r holl niwed y bydd hynny yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld ffigurau yng Ngogledd Iwerddon ddoe sy'n awgrymu y gallai Gogledd Iwerddon fod mewn dirwasgiad eisoes. Ceir ffigurau sy'n dangos, pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, y gallai gweddill y Deyrnas Unedig fod mewn dirwasgiad cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Meddyliwch am y niwed y bydd hynny'n ei wneud i deuluoedd, i gymunedau ac i ddyfodol pobl yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu ac yn peidio â rhoi i bobl yng Nghymru y cyngor a'r ffeithiau yr ydym ni'n credu sy'n dangos iddyn nhw bod eu dyfodol yn cael ei sicrhau'n well drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r gwirionedd yn ein barn ni a dyna pam na fyddwn ni'n cilio rhag mynegi hynny pryd bynnag y cawn y cyfle.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ54197
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi rhagori ar ei amser ymateb targed ar gyfer galwadau coch am 14 mis yn olynol erbyn hyn, gydag amser ymateb nodweddiadol o oddeutu pum munud a hanner. Rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r prif gomisiynydd ambiwlans, BILlau a gwasanaeth ambiwlans Cymru i sicrhau gwelliant pellach.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yn yr wyth mlynedd ers i mi fod yn Aelod Cynulliad, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf y mae fy swyddfa a minnau wedi derbyn y pryderon mwyaf sylweddol ynghylch amseroedd ymateb araf ambiwlansys. Mewn llythyr ataf i y llynedd, cadarnhaodd prif weithredwr gwasanaeth ambiwlans Cymru i'm hetholwyr mai naw munud oedd amser trosglwyddiad ambiwlans cyfartalog ar gyfer Telford, 26 munud ar gyfer Amwythig, ac awr a dau funud ar gyfer Ysbyty Maelor Wrecsam. Nawr, yn amlwg, mae amseroedd trosglwyddo yn ffactor pwysig o ran amseroedd ymateb ambiwlansys. Nawr, rwyf i wedi derbyn rhai adroddiadau bod criwiau ambiwlans Cymru yn cael eu cadw dro ar ôl tro yn Amwythig a Telford am gyfnodau hwy o amser tra bod criwiau o Loegr yn cael eu rhyddhau ar ôl amser targed penodol gan fod gwasanaeth ambiwlans Lloegr yn trawsgodi tâl ar ysbytai am ofalu am eu cleifion y tu hwnt i'r amser hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ymchwilio i'r mater penodol hwn ac ystyried a ddylid, neu a ellid yn wir, rhoi mesurau o'r fath ar waith ar gyfer criwiau Cymru a chleifion Cymru.
Wel, diolchaf i'r Aelod am y pwynt yna. Bydd yn gwybod bod amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys ymhlith y gorau yng Nghymru yn gyffredinol. Y llynedd ym Mhowys, pedwar munud 37 eiliad oedd yr amser aros safonol ar gyfer galwad goch a galwadau oren oedd yr amseroedd ymateb gorau yng Nghymru gyfan. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig am amseroedd trosglwyddo ac mae gwaith yn cael ei wneud yn bwrpasol iawn trwy'r prif gomisiynydd ambiwlans i wella amseroedd trosglwyddo yn yr ysbytai hynny yng Nghymru lle mae hynny wedi bod yn destun pryder. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r pwynt a godwyd gan yr Aelod am Amwythig a Telford. Wrth gwrs, bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, yn ymchwilio i hynny ac yn rhoi ateb iddo.FootnoteLink
Prif Weinidog, y mis diwethaf, bu dros 10,000 o bobl yn aros mwy na 30 munud am ymateb ambiwlans i alwad oren. Bythefnos yn ôl, arhosodd cyfaill i mi, un o'm hetholwyr, bron i dair awr am ymateb brys yn dilyn amheuaeth o strôc. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Prif Weinidog, pryd all pobl Cymru ddisgwyl gweld terfyn ar amseroedd aros o fwy na 30 munud am ymateb ambiwlans neu frys?
Wel, Llywydd, 26 munud a 42 eiliad yw ymateb oren safonol Cymru gyfan mewn gwirionedd. Mae gennym ni gynllun yn dilyn adroddiad ar arosiadau oren. Gwnaeth naw argymhelliad penodol a cheir cynllun gweithredu erbyn hyn i fwrw ymlaen â phob un o'r argymhellion hynny. Ceir pwyslais arbennig ar gleifion strôc gan fod cleifion strôc yn dibynnu nid yn unig ar gyflymder yr ymateb ond maen nhw'n dibynnu ar natur yr ymateb a wneir yn yr ambiwlans ac yna gyda'r trosglwyddiad, yn seiliedig ar yr hyn y mae'r staff ambiwlans wedi gallu ei wneud, fel y gellir adeiladu ar hynny'n gyflym pan fydd cleifion yn cyrraedd pen eu taith. Felly, rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud ynghylch amseroedd aros pan fydd pobl wedi cael strôc, ond fe'i cydnabyddir yn yr adroddiad a gomisiynwyd ar alwadau oren, a cheir camau penodol sy'n cael eu datblygu i wneud yn siŵr bod dioddefwyr strôc yng Nghymru yn cael ymateb prydlon drwy'r gwasanaeth ambiwlans ond hefyd ymateb sydd wedi ei baratoi i ddarparu'r ymateb uniongyrchol y gwyddom ei fod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w rhagolygon hirdymor o wella.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad economaidd Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf? OAQ54217
Llywydd, ymhlith y llwyddiannau o ran perfformiad economaidd ers datganoli mae gennym ni 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith nag yr oedd gennym ni ym 1999 a mwy o fentrau gweithredol yma yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond o farnu yn erbyn yr holl baramedrau arferol—GYG, CMG neu gynhyrchiant—rydym ni'n gweld ei bod yn ymddangos nad yw Cymru'n perfformio cystal ag unrhyw ranbarth arall yn y DU ar wahân i ogledd-orllewin Lloegr. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hyn yn mynd yn groes i'r uchelgeisiau a nodwyd yng nghynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth?
Wel, mae gen i ofn nad yw'r haeriadau a wnaed gan yr Aelod yn wir, Llywydd. Yn ogystal â bod wedi gostwng diweithdra yn gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, mae cyflogaeth yn codi'n gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng mwy na gweddill y Deyrnas Unedig, cynhyrchiant Cymru ers 2011 fu'r twf cyflymaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Felly, nid wyf i'n derbyn yr haeriadau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ond fe ddywedaf hyn wrtho: pe byddai cynlluniau ei blaid ef fyth yn dwyn ffrwyth a phe byddai'r wlad hon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, yna bydd yr holl enillion a wnaed yn ystod y cyfnod datganoli o dan fygythiad o'r newydd a hwnnw'n fygythiad sylweddol iawn.
Prif Weinidog, a gaf i longyfarch eich Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am y gonestrwydd amheuthun a ddangosodd y mis diwethaf pan gyfaddefodd nad oedd gan eich Llywodraeth nac, yn wir, y Llywodraethau Llafur blaenorol unrhyw syniad o beth yr oedden nhw'n ei wneud o ran yr economi? Nawr, rwy'n deall ei fod wedi ymddiheuro ers hynny am y sylwadau hynny ac wedi eu hailfeddwl. Nid ef yw'r unig berson i gefnu ar sylwadau y mae wedi eu gwneud yn y gorffennol, a gwelsom rai ddoe yn y gogledd, ond y math yna o onestrwydd yr ydym ni'n ei hoffi gan ein gwleidyddion.
Nawr, un o'r ardaloedd sydd wedi dioddef cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf yw'r gogledd, ac un o'r rhesymau y mae'r economi yn y gogledd wedi dioddef yw oherwydd cefnffordd yr A55 a'i diffyg capasiti i allu symud traffig ar ei hyd, yn enwedig yn ystod ein cyfnodau gwyliau brig. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a wnewch chi, o gofio'r ffaith eich bod wedi penderfynu peidio â gwario symiau sylweddol o arian ar ffordd liniaru'r M4 mwyach, ystyried buddsoddi yn ein prif wythïen allweddol yn y gogledd, yr A55, i sicrhau ei bod yn addas i'w diben ac yn gallu ymdopi â'r traffig cynyddol yr ydym ni'n ei weld yn y gogledd o ganlyniad i'r ffaith bod pobl yn cael eu denu i ymweld â ni ac i gyflawni busnes yno?
Llywydd, mae bob amser yn siomedig i mi pan fydd Aelod lleol yn bychanu cyflawniadau ei ran ef o Gymru. Mae gan y gogledd gyfraddau cyflogaeth uwch na Chymru gyfan a'r Deyrnas Unedig gyfan, mae ganddo gyfraddau diweithdra is na Chymru a'r Deyrnas Unedig gyfan ac mae ei economi mewn sawl ffordd yn economi sy'n ffynnu, o Airbus yn y gogledd-ddwyrain i'r ffigyrau twristiaeth calonogol iawn lle mae'r gogledd yn arwain Cymru eleni. Wrth gwrs, mae seilwaith yn bwysig; dyna pam y cynhaliwyd yr arolwg cydnerthedd o'r A55 gennym ac rydym ni'n gweithredu argymhellion hwnnw. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, boed hwnnw'n goridor sir y Fflint yn y gogledd-ddwyrain neu'r ffordd osgoi yng Nghaernarfon yn y gogledd-orllewin.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020? OAQ54210
Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae'r rhaglen yn parhau i wneud cynnydd da gydag 80 y cant o gyllid y rhaglen datblygu gwledig eisoes wedi ei ddyrannu, gan ddarparu bron i £700 miliwn i brosiectau. Rydym ni'n disgwyl cyflawni ymrwymiad llawn y rhaglen erbyn diwedd 2020.
Diolch. Gwn fod y cyllid hwnnw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned yr wyf i'n ei gwasanaethu. Un o'r prosiectau hynny sy'n elwa ar y buddsoddiad yw Cysylltu Cymunedau yng Nghymru. Mae'n cael ei ddarparu drwy'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ac yn cael ei ariannu drwy'r rhaglen datblygu gwledig. O'r hyn yr wyf i'n ei ddeall, caiff y rhai sy'n darparu prosiectau wneud cais am gyllid i ddarparu'r atebion trafnidiaeth lleol iawn hynny. Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cysylltu â mi gan eu bod nhw wrthi'n ceisio ymestyn eu cynllun sgwter Wheels 2 Work yng ngogledd sir Benfro sy'n galluogi pobl sydd heb drafnidiaeth o gwbl i fynd ar sgwter a mynd i'r gwaith. Ond yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud wrthyf yw bod y broses ei hun—nid y cais o reidrwydd, ond y broses ar gyfer ymdrin â'r cais hwnnw—bellach yn rhoi'r prosiect cyfan yn y fantol, gan fod y bobl hynny a oedd wedi ymrwymo'n wreiddiol i'w helpu bellach yn cerdded i ffwrdd oherwydd pa mor hwyr y mae'r arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: a yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwybod am unrhyw oedi sy'n achosi i hyn ddigwydd? Ac a wnewch chi ddefnyddio eich cymwynasgarwch i o leiaf ymchwilio i'r hyn sy'n achosi'r rhwystr hwn i'r hyn sy'n gynllun da iawn ac sydd wedi bod yn gweithredu yn y gorffennol?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am dynnu sylw at y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ym maes trafnidiaeth gymunedol, yn enwedig yn y de-orllewin. Ymgymerwyd â chyfres o fentrau yn y rhan honno o Gymru, sy'n caniatáu i ni adeiladu ar y rheini wrth i ni ddatblygu rhagor o syniadau ym maes trafnidiaeth gymunedol y gellir eu defnyddio mewn mannau eraill yn y wlad. Mae'n bwysig, onid yw, Llywydd, i atgoffa Aelodau bob amser mai arian cyhoeddus yw hwn sy'n cael ei fuddsoddi, bod yn rhaid rhoi cyfrif amdano'n briodol a bod gofynion, weithiau, y mae'n rhaid i ni eu mynnu gan bobl sy'n derbyn yr arian cyhoeddus hwnnw cyn y gellir rhyddhau'r arian hwnnw iddynt. Nid wyf i'n ymwybodol yn uniongyrchol o gynllun sgwter Wheels 2 Work, er ei fod yn swnio'n syniad diddorol iawn, ac os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion am yr oedi, fel y mae'r rhaglen yn ei weld, yna wrth gwrs byddaf yn hapus iawn i ymchwilio iddynt.
Prif Weinidog, roeddech chi yn llygad eich lle i nodi mai arian cyhoeddus yw hwn, ac mae angen craffu i wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau gwerth am arian, ond un cynllun sydd wedi achosi problemau gyda'r cynllun datblygu gwledig—ac rwyf i wedi ei godi gyda'r Gweinidog hefyd—yw'r cynllun grantiau coetir. Mae'n gynllun biwrocrataidd iawn. Mae gan bobl adegau penodol pryd y gallan nhw blannu yn ystod y tymor; nid yw'n rhywbeth lle gallwch chi blannu coed 12 mis y flwyddyn. A byddwn yn ddiolchgar, os oes gennych chi ddealltwriaeth o'r cynllun penodol hwnnw, pe byddech chi'n nodi pa un a ydych chi'n fodlon ar y cynnydd a wnaed o ran cael arian allan drwy'r drws, fel petai. Neu a oes angen adolygiad o'r cynllun hwn fel y gall y Llywodraeth gael yn ôl ar y trywydd iawn gyda'i tharged ei hun o 100,000 hectar o goetir i'w blannu yng Nghymru erbyn 2030?
Llywydd, rydym ni'n benderfynol iawn y byddwn yn cynyddu'r gyfradd o blannu coetir yng Nghymru. Rydym ni eisiau gwneud defnydd llawn o'r cynllun grant coetiroedd hwnnw, ac os oes aneffeithlonrwydd yn y modd y mae'n gweithredu, rydym ni'n awyddus dros ben i gael gwared ar hynny. Gadewch i mi godi calon yr Aelod am ychydig trwy ddweud, os oes unrhyw ymyl arian i Brexit, efallai mai hwnnw yw os bydd Deyrnas Unedig—ac 'os' yw hynny onid e—yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a bod gweinyddu cyllid yn ein dwylo ein hunain, rydym ni'n cydnabod bod rhai ffyrdd y gallem ni weinyddu'r arian hwnnw a fyddai'n ei gwneud yn haws i arian adael Llywodraeth Cymru a chael ei ddefnyddio at y dibenion lle'r ydym ni'n bwriadu iddo wneud gwahaniaeth.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig? OAQ54212
Llywydd, mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg o safon uchel ac yn gwireddu ei lawn botensial. Dyma ddiben Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 y Cynulliad hwn.
Prif Weinidog, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod plant ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu gorgynrychioli'n sylweddol mewn gwaharddiadau parhaol a thros dro o ysgolion yng Nghymru. Roedd disgyblion ag AAA yn cynrychioli 60 y cant o'r holl waharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, er eu bod ddim ond yn 23 y cant o boblogaeth ysgolion. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu nad yw gwaharddiadau yn cael eu defnyddio fel dewis olaf ar gyfer plant sydd ag AAA, ond fel norm. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen brys i weddnewid sut y mae'r staff addysgol yn ymdrin â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sy'n aflonyddgar ac i weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i leihau nifer y gwaharddiadau yng Nghymru? Diolch.
Llywydd, rwyf i'n rhannu pryder yr Aelod, a gwn fod y Gweinidog addysg yn gwneud hynny hefyd, ynghylch gorgynrychiolaeth y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ymhlith gwaharddiadau o ysgolion. Dyna'n rhannol pam yr ydym ni'n buddsoddi £20 miliwn i baratoi'r system a'r staff ar gyfer y gyfundrefn newydd sy'n deillio o'r Ddeddf a roddwyd ar y llyfr statud yn y Siambr hon, a, thrwy wneud hynny, rydym ni'n sicr yn disgwyl gweld gostyngiad yn y ffigurau hynny o ran cyfran y gwaharddiadau o'r ysgol sy'n dod o blith disgyblion sydd â'r anghenion dysgu ychwanegol hynny.
Prif Weinidog, er fy mod i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyflwyno i sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth anghenion dysgu ychwanegol y dylen nhw fod yn ei gael, rydym ni'n dal i gael llawer o lythyrau gan etholwyr yn cyfleu'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu yn feunyddiol o ran gallu sicrhau bod eu plant yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cefais etholwr a gysylltodd â mi i ddweud ei fod wedi cael diagnosis ar gyfer ei blentyn, ond yn cael anawsterau o ran cael yr awdurdod lleol i ddarparu'r cymorth a nodwyd yn y diagnosis. Nawr, un o'r pethau pwysig, felly, y mae angen i ni sicrhau, tra ein bod ni'n rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith, yw ein bod ni'n gallu sicrhau a gorfodi bod y ddeddfwriaeth honno yn cael ei darparu gan awdurdodau lleol fel nad oes yn rhaid i deuluoedd wynebu mwyach yr heriau yr oedd y ddeddfwriaeth yno i'w newid. A wnewch chi edrych felly yn Llywodraeth Cymru i weld sut y gallwn ni sicrhau mewn gwirionedd bod awdurdodau lleol yn darparu'r cymorth sydd ei angen pan fydd plentyn yn cael diagnosis, yn cael nodi'r anghenion hynny ond, mewn sefyllfa fel hon—mae'n mynd i ysgol newydd ym mis Medi ac nid yw'n gwybod hyd yn hyn pa un a fydd y cymorth a roddwyd mewn datganiad yn cael ei roi iddo.
Wel, Llywydd, fel y mae David Rees yn gwybod, gwn y bydd y Ddeddf ei hun yn cael ei chyflwyno'n raddol o fis Medi eleni ymlaen, felly nid yw'r Ddeddf eto—Medi y flwyddyn nesaf, mae'n ddrwg gen i. Felly, nid yw'r Ddeddf yn cynnig y manteision y bwriedir iddi eu cynnig ac a gymeradwywyd ar lawr y Cynulliad hyd yma. Ceir cyflwyniad graddol gorfodol o'r Ddeddf o fis Medi 2020—dyna pam yr ydym ni'n uwchsgilio'r proffesiwn ymlaen llaw.
Y pwynt, rwy'n credu, yr wyf i eisiau ei danlinellu yn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yw bod trefn bresennol, ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r drefn bresennol honno. Mae ganddyn nhw ddyletswyddau cyfreithiol y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni, ac rydym ni wedi gofyn i'r pum arweinydd gweddnewid yr ydym ni wedi eu penodi i helpu i hwyluso'r llwybr at y drefn newydd i bwysleisio i awdurdodau lleol eu rhwymedigaethau parhaus i ddiwallu anghenion pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o dan y system bresennol yn ystod yr holl gyfnod tan y bydd y drefn newydd yn dechrau cael effaith.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r cynllun Arbed yng Nghanol De Cymru? OAQ54213
Llywydd, yn ystod ei oes, hyd yn hyn, mae Arbed wedi darparu cynlluniau yng Nghanol De Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd sydd wedi bod o fudd i dros 3,000 o gartrefi. Mae naw cynllun yn cael eu datblygu ar gyfer eleni, ym mhob rhan o'r rhanbarth.
Prif Weinidog, ceir hen jôc am faint o bobl y mae'n ei gymryd i newid bwlb golau, ond yr hyn y dylai'r cwestiwn fod yw: beth mae'n ei gostio i'ch Llywodraeth Lafur Cymru chi newid bwlb golau yng Nghymru? Yr ateb yw hyd at £245 o dan gynllun Arbed Llafur, oherwydd dyna'r hyn y mae contractwyr wedi cael eu hannog i'w godi am fesurau goleuo 'ysgafn'—newid bylbiau golau i bob pwrpas. Ac ar gyfer mesurau dŵr, sy'n golygu'n syml sgriwio awyrydd ar dap, llai nag ychydig funudau o waith, mae'r pris hyd at £124. A ydych chi hefyd yn ymwybodol bod eich Llywodraeth chi, yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, yn talu Arbed i newid bwyleri a all fod yn newydd sbon fwy neu lai, a'u bod yn gosod bwyleri sy'n arbed llai o ynni? A'r contractwyr eu hunain sy'n dweud hynny wrthyf i. Mae hyn oherwydd, ar ôl i ardal gael ei nodi ar gyfer cymorth Arbed, mae pob tŷ yn yr ardal yn gymwys i wneud cais, heb unrhyw ddiwydrwydd dyladwy, waeth beth fo'r amgylchiadau. Felly, byddwn i'n dweud bod eich diwydrwydd dyladwy ar Arbed yn gywilyddus. Mae pobl yng Nghymru mewn trafferthion, yn wynebu costau o bob cwr, ac eto mae eich Llywodraeth yn talu £240 i newid un o'r rhain—hyd at £240, a £124 am awyrydd. A ydych chi'n cydnabod y ffigurau hyn? Sut y gallwch chi eu cyfiawnhau? Ac a wnewch chi lansio ymchwiliad nawr?
Llywydd, craffwyd yn helaeth ar gontract Arbed ar lawr y Cynulliad hwn. Heriwyd dyfarniad y contract gan Aelodau'r Cynulliad hwn. Trefnwyd cyfarfodydd a lluniwyd adroddiadau er mwyn rhoi hyder i Aelodau'r Cynulliad bod y contract wedi ei ddyfarnu'n briodol, ac y byddai'n parhau i ychwanegu at y 54,000 o gartrefi yng Nghymru sydd, o ganlyniad i'r cynllun Arbed, yn ffynnu erbyn hyn o ganlyniad iddo, a bydd 6,000 yn fwy o gartrefi yng Nghymru yn elwa ar Arbed 3. Dyna'r darlun mawr yn y fan yma. Mae teuluoedd a oedd yn byw mewn tlodi tanwydd nad ydyn nhw'n byw mewn tlodi tanwydd heddiw. Roedden nhw'n bobl a oedd yn byw o dan amodau annerbyniol. Maen nhw bellach yn byw mewn cartrefi sydd wedi eu hinsiwleiddio'n dda ac wedi eu cynhesu'n dda. Rwyf i'n credu bod hwnnw'n fater i ymfalchïo ynddo. Rwyf i'n deall nad yw'r Aelod yn gwneud hynny.FootnoteLink
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y byddai banc cymunedol i Gymru o fudd i gymunedau yng Nghaerffili? OAQ54232
Llywydd, mae cau banciau yn parhau i gael effaith niweidiol ar fynediad at wasanaethau bancio i unigolion, cymunedau a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru. Efallai y bydd gan fanciau cymunedol swyddogaeth bwysig o ran rhanbarthu a lleoleiddio llifau ariannol, a pharhau'r ddarpariaeth o wasanaethau bancio mewn cymunedau fel Caerffili.
Ddydd Mercher yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Lloyds Banking Group eu bod yn cau eu cangen ym Margoed yn fy etholaeth i. Yn flaenorol, mae HSBC wedi tynnu allan, mae NatWest wedi cau eu cangen yn Ystrad Mynach, ac mae Barclays wedi cau eu cangen yn Nelson. Rydym ni'n gweld y banciau masnachol yn cefnu ar ardal ogleddol y cymoedd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliwyd gennym, gyda Llywodraeth Cymru, ym Margoed, gymhorthfa cyngor a chymorth busnes i gymuned Bargoed, nid yn unig i ddangos yr hyn y gall Bargoed ei wneud ond hefyd i gynorthwyo'r busnesau hynny sydd eisiau tyfu. Felly, mae hyn yn gwneud penderfyniad Lloyd's hyd yn oed yn fwy llym ac eironig.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n archwilio'r union fater hwn ar hyn o bryd, a banc cymunedol yn arbennig. Felly, gyda hynny mewn golwg, a allai amlinellu pa fudd a gaiff banc cymunedol yn benodol ar gyfer cymuned fel Bargoed? Hefyd, sut y caiff y budd cymunedol hwnnw ei ledaenu ar draws yr etholaeth? I fod yn eglur hefyd: a yw hwn yn bolisi Llywodraeth Cymru, sef cefnogi banc cymunedol?
Llywydd, mae'n sicr yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad banc cymunedol i Gymru. Mae'r rhai sydd wedi ei hyrwyddo yn eglur iawn bod yn rhaid iddo fod yn fanc cymunedol. Yn yr ystyr hwnnw, mae'n rhaid i berchnogaeth arno berthyn i'r cymunedau hynny lle'r ydym ni'n gobeithio y bydd canghennau banc newydd yn agor. Mae Hefin David yn hollol gywir bod bancio confensiynol yn cefnu ar gymunedau ledled y wlad—250 neu fwy o ganghennau banc wedi cau ers 2015. Bydd banc cymunedol o'r math yr ydym ni'n ei gynllunio—. A bydd Hefin David ac Aelodau eraill sydd wedi cymryd diddordeb yn y pwnc hwn eisiau gwybod y bu ymweliad ddoe gan ddirprwyaeth o Gymru, yn cynnwys cynrychiolydd o'm swyddfa i, i Bicester, lle ceir uned arddangos sy'n dangos sut y gall yr holl dechnolegau ac offer defnyddwyr sydd eu hangen i gefnogi'r syniad newydd o fanc cymunedol fod yno i bobl fynd i'w gweld ar waith. Daethan nhw yn ôl o'r ymweliad hwnnw gyda ffydd o'r newydd y byddai'n bosibl cynllunio banc cymunedol i Gymru a fydd yn canolbwyntio ar ddinasyddion Cymru a BBaChau, nid ar gwsmeriaid corfforaethol mawr, a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau cynilo a benthyca hynny y mae dinasyddion unigol a busnesau bach yn dibynnu arnynt.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd, Rebecca Evans, i wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad am 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i helpu ein cyn-filwyr yn y lluoedd arfog, sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma, i ddychwelyd i'r gwaith? Yr wythnos diwethaf, roedd yn dristwch mawr imi ddarllen am achos fy etholwr, Mr Anthony Lock o Gasnewydd. Mae Mr Lock yn gyn-filwr gyda'r Cymry Brenhinol a anafwyd mewn dau ffrwydrad yn Affganistan, ac a dioddefodd o PTSD. Cafodd Mr Lock glod am ei arweinyddiaeth ragorol a'i ddewrder ac eto i gyd mae'n parhau'n ddi-waith er gwaethaf cyflwyno cannoedd o geisiadau am swyddi. Mae'n credu ei fod yn destun gwahaniaethu oherwydd ei fod yn dioddef o PTSD.
Ymhellach, rwyf hefyd yn pryderu yr ymddengys fel nad yw staff mewn canolfannau gwaith yn ymwybodol o gynllun pencampwyr y lluoedd arfog o ran helpu cyn-filwyr i gael gwaith. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i helpu Anthony Lock a'r holl gyn-filwyr sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa debyg fel y gallwn ni ad-dalu'r ddyled sydd arnom iddynt am eu gwasanaeth i'n cenedl a'u dewrder mawr? Diolch.
Mae Mohammad Asghar yn codi mater pwysig iawn. Rydym yn ymwybodol fod ein milwyr, gwrywaidd a benywaidd, yn gadael y lluoedd arfog â myrdd o sgiliau—y sgiliau arwain, er enghraifft, y soniodd Mohammad Asghar amdanyn nhw, a fyddai'n gwbl amhrisiadwy yn y gweithle. Gwn fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, sydd â rhywfaint o oruchwyliaeth dros bencampwyr y lluoedd arfog mewn llywodraeth leol, yn angerddol iawn am y maes hwn. Mae ganddo ddiddordeb mewn ystyried sut y mae angen i sgiliau milwrol a sgiliau sifil gyfateb yn well fel y gall yr unigolion sy'n gadael y lluoedd arfog ddefnyddio'r sgiliau a'r cymwysterau a enillwyd yno mewn bywyd sifil er mwyn hwyluso'r mynediad i'r gweithle. Ond os bydd rhagor o wybodaeth i'w rhannu â chi, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn gwneud hynny.
Mae gennyf i ddau fater iechyd pwysig yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma. Y mis diwethaf, lleisiais fy mhryderon nad yw'r Llywodraeth eto wedi agor y clinig rhyw a addawyd ganddi. Roedd disgwyl y byddai hynny'n digwydd ym mis Ebrill eleni, yn dilyn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, ac roeddwn i'n falch o weld y cyhoeddiad hirddisgwyliedig ddoe y bydd gwasanaeth rhyw Cymru yn dechrau gweld cleifion ym mis Medi. Bydd hwn yn gam mawr i sicrhau bod ein dinasyddion trawsrywiol yn cael cynnig gofal iechyd o safon uchel a allai, o bosibl, achub bywydau yng Nghymru.
Fodd bynnag, codwyd pryderon eisoes gyda mi ynglŷn â hyfywedd y gwasanaeth hwn, gyda'r posibilrwydd y bydd y gwasanaeth yn defnyddio seiciatryddion heb eu hyfforddi fel clinigwyr rhyw i lenwi'r bwlch adnoddau. Gyda dim ond wythnos i fynd tan y toriad, a dim cyfle cyn mis Medi i graffu ar y Gweinidog iechyd o ran y gwasanaeth newydd, mae angen sicrwydd arnom ar frys gan y Gweinidog hwnnw y bydd y clinig yn agor gydag adnoddau digonol a chlinigwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a all ddarparu'r gofal iechyd y mae ei angen ar ei gleifion. Felly, a wnaiff y Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig neu lafar, neu a wnaiff ysgrifennu ataf i yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw?
Rwyf hefyd am godi mater sensitif sydd wedi cael ei ddwyn i'm sylw dros y penwythnos, gan fenyw yn y Rhondda a gollodd faban 13 wythnos i mewn i'w beichiogrwydd ar ôl damwain car. Byddai dweud bod hyn wedi bod yn brofiad trallodus iawn iddi hi a'i theulu yn dipyn o danddatganiad. Daeth y fenyw hon ataf i gan ei bod wedi gorfod ymladd, yng nghanol galar dwys, am yr hawl i gymryd perchnogaeth o weddillion ei baban fel y gallai drefnu'r angladd. Ar ôl cyfres o gamgymeriadau o ran ei gofal, dywed hi fod llawer o bwysau wedi'i roi arni yn yr ysbyty iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am weddillion y baban. Dywedodd hefyd na chynigiwyd gwasanaeth cwnsela na chymorth profedigaeth iddi yn ystod ei chyfnod cyntaf yn yr ysbyty. Ni chafodd unrhyw daflenni hyd yn oed pan adawodd ysbyty'r Tywysog Siarl am adref. Mae hi wedi cael cynnig y gwasanaethau hyn wedi hynny, er y bydd yn rhaid iddi deithio i glinig Beresford yng Nghasnewydd i gael y gwasanaethau hynny, ac nid yw hynny'n hawdd.
Hoffwn i i'r Llywodraeth hon amlinellu pa bolisi ac arweiniad a geir ar gyfer ymddiriedolaethau ysbytai er mwyn sicrhau y bydd rhieni, fel y fenyw sydd wedi dod ataf i, yn cael eu trin â thosturi ac urddas llawn ar adegau o drychineb fel hyn.
Diolch am godi'r ddau fater pwysig hyn. Yn amlwg, mae profiadau eich etholwraig yn peri gofid mawr, ac ni ddylai neb orfod gadael yr ysbyty mewn sefyllfa debyg, heb y fath o gefnogaeth gofleidiol y byddai ei hangen arnyn nhw ar adeg fel honno. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi clywed eich sylwadau a byddai'n ddiolchgar petaech chi'n ysgrifennu ato gan roi rhagor o fanylion am yr achos penodol hwn er mwyn inni allu edrych ar hynny.
Roedd yr ail fater a godwyd gennych yn ymwneud â'r clinig rhyw. Darparwyd datganiad ysgrifenedig ddoe gan y Gweinidog iechyd am y clinig rhyw, sydd i fod agor yn yr hydref, ond mae'r arbenigwr eisoes yn ei le ac yn gweithio yn y gymuned. Mae'r Gweinidog iechyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cael y cydbwysedd cywir rhwng seicoleg gyffredinol a chefnogaeth arbenigol. Ond os gallaf eich cyfeirio at ddatganiad ddoe, ac os oes materion pellach yn deillio o hynny, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn hapus i ateb unrhyw un o'ch cwestiynau.FootnoteLink
Trefnydd, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, rydym yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau trasig ar y rheilffordd ym Margam yn fy etholaeth i a'r bywydau a gollwyd gan ddau unigolyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud datganiad ddydd Mercher diwethaf am hynny, ac rwy'n deall yn iawn fod yn rhaid i'r ymchwiliad ddigwydd, a byddwn ni'n aros am y canlyniadau hynny. Ond mae Network Rail wedi cysylltu â mi i ddweud y byddan nhw, yfory, yn cynnal munud o dawelwch am 10 y bore, er parch i'r ddau unigolyn a gollodd eu bywydau. Ac efallai y gallai Llywodraeth Cymru ymuno yn y funud o dawelwch honno yfory i nodi'r bywydau a gollwyd a'r digwyddiad, ac i sicrhau ein bod yn dysgu o hyn ac na fydd unrhyw un sy'n mynd i weithio ar reilffordd yn y bore yn gorfod colli ei fywyd dim ond oherwydd ei fod yn gwneud ei waith.
A'r ail bwynt—y sector dur; cawsom gyflwyniad heddiw ar ddyfodol y sector dur, a gynhaliwyd gan John Griffiths. Ac, yn amlwg, mae marc cwestiwn dros y goblygiadau byd-eang ar ddur. Rydym hefyd wedi gweld y newid yn arweinyddiaeth Tata yn Tata Europe yn ddiweddar, ac rydym hefyd yn deall y newidiadau byd-eang mewn dur yn dda iawn. Felly, pan gawn ni Brif Weinidog newydd, p'un bynnag fydd e, bydd yn Brif Weinidog newydd, ac yn ôl pob tebyg bydd Ysgrifennydd Gwladol newydd. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? A gobeithio y bydd ef wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn yr haf i siarad am ddyfodol y diwydiant dur. Mae dur yn hanfodol i economi Cymru. Mae'n bwysig yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch chi'n iawn. Ac nid yw colli busnes Dur Prydain, neu ansicrwydd busnes Dur Prydain, yn helpu sector dur y DU wrth inni symud ymlaen. Mae Brexit yn enghraifft arall o bwy a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cynnal trafodaethau yn ystod toriad yr haf—a byddaf i'n fwy na pharod i gael datganiad yn ystod toriad yr haf—i drafod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein sector dur ni, ein diwydiant dur ni, yn parhau'n gryf ac yn gystadleuol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Diolch i David Rees am godi'r materion hynny. O ran y cyntaf, fe wyddoch ein bod wedi cael ein syfrdanu'n fawr gan y newyddion fod dau aelod o dîm Network Rail wedi colli eu bywydau mewn damwain drasig. Fel y dywed David, nid oes unrhyw un yn mynd i'r gwaith ac yn disgwyl colli ei fywyd yn y ffordd honno. Mae'n hynod drasig. Gwn fod ymchwiliadau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond byddaf yn sicr yn siarad â'r Llywydd ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad ymuno'n fwyaf priodol â distawrwydd y funud honno am 10 o'r gloch yfory.
O ran dur, yn ddiau, fe fydd rhai Gweinidogion newydd yn Llywodraeth y DU pan fydd y Prif Weinidog newydd yn ei le. Ac yn sicr, mae'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod materion sy'n effeithio ar Gymru, a materion sydd o bwys i Gymru, yn uchel iawn ar yr agenda, a'u bod yn dod i sylw'r Gweinidogion sy'n dod i mewn i Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod Gweinidog yr Economi yn amlygu pwysigrwydd y diwydiant dur i ni, ac rwy'n siŵr y byddai'n naturiol yn gwneud hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar y toriadau enfawr mewn cyllid y mae eich Llywodraeth chi wedi'u gorfodi ar ein parciau cenedlaethol? Mae'r parc cenedlaethol hynaf yng Nghymru bellach dan fygythiad. Mae Eryri yn gartref i dros 26,000, gan ddenu 6 miliwn o bobl yn flynyddol i fwynhau ei golygfeydd godidog ac atyniadau o'r radd flaenaf. Mae ein tirwedd unigryw yn atyniad byd-eang, ac mae angen ei rheoli'n ofalus er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Fodd bynnag, oherwydd y toriadau ar gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn—roedd ganddyn nhw ymhell dros £5.5 miliwn—y gyllideb bresennol, maen nhw'n bwriadu torri cyllideb yr awdurdod i ddim ond £4.4 miliwn. Felly, mae hyn yn mynd i arwain, heb unrhyw amheuaeth, at beidio atgyweirio llwybrau ar yr Wyddfa; cau pob un o'r tair canolfan wybodaeth; y bws Sherpa yn dod i ben, sy'n creu cyswllt amhrisiadwy rhwng y chwe phrif lwybr sy'n mynd i fyny'r Wyddfa, yn ogystal â'r prif feysydd parcio, pentrefi ac atyniadau twristiaid; cau toiledau cyhoeddus; colli staff; a chwestiynau difrifol am gadernid ariannol yr awdurdod. Fel y dylai fod yn glir ichi eisoes, mae cynllun ariannol Llywodraeth Cymru yn un o'r bygythiadau mwyaf a welwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri erioed, a bydd difrod yn cael ei wneud i dwristiaeth ac, yn wir, i'r iaith Gymraeg. A wnewch chi, neu'r Gweinidog perthnasol, ddatganiad am gyllido Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri? A wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i'r effaith ddinistriol y mae'r toriadau hyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ei chael? Ac a wnewch chi hefyd esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn helpu ein parciau cenedlaethol yn ariannol i gyflawni eu blaenoriaethau eu hunain? Diolch.
Rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar y parciau cenedlaethol, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar addysg, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar iechyd, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar lywodraeth leol. Ac, os ydym ni eisiau siarad am doriadau enfawr, fe allwn ni, oherwydd, wrth gymharu, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Mae hyn yn cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, fel y rhai y mae Janet Finch-Saunders yn pryderu amdanyn nhw. Mae ein cyllideb refeniw 7 y cant yn is y pen nag yn 2010-11, felly mae hynny'n £350 yn llai i'w wario ar wasanaethau rheng flaen i bob unigolyn yng Nghymru. Pe bai ein cyllideb ni wedi tyfu'n unol ag economi'r DU ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 na'r hyn a oedd ar gael inni yn ein cyllideb ddiwethaf. Nawr, mae'n iawn i'r Aelod ochneidio, ond mae'r bai am hyn yn gorwedd yn gyfan gwbl wrth ddrws Llywodraeth y DU a'i hagenda cyni. Os nad yw'r Aelodau'n hoff o gyni yna mae angen iddyn nhw godi'r mater â'u plaid.
Trefnydd, fel y clywsom yn gynharach, byddwch chi'n ymwybodol o ddigwyddiadau diweddar sydd wedi arwain at ansicrwydd i ddatblygiad man gwyliau antur yng Nghwm Afan gan y Northern Powerhouse Developments. Bwriad y datblygiad £200 miliwn hwn, a gafodd ganiatâd cynllunio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn gynharach eleni, oedd creu cannoedd o swyddi, a byddai'n amlwg yn arwain at hwb sylweddol i'r economi leol yng Ngorllewin De Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiadau yn y cyfryngau ar faterion busnes Gavin Woodhouse, y datblygwr arweiniol, ac achosion cyfreithiol, fel y clywsom ni'n gynharach, wedi golygu bod yr Uchel Lys wedi penderfynu ddydd Iau y dylid rhoi tri o fusnesau Gavin Woodhouse, gan gynnwys Cwm Afan Limited, dros dro yn nwylo'r gweinyddwr. Rwy'n ymwybodol nad yw Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi darparu unrhyw arian i ddatblygu'r man gwyliau, ond mae Gweinidog yr economi wedi cefnogi'r cysyniad yn gyhoeddus, ac yn wir eisoes wedi ymweld â'r safle i drafod y cynlluniau gyda Mr Woodhouse. Felly, o ystyried yr ansicrwydd sydd ynghylch y datblygiad yn dilyn digwyddiadau'r pythefnos diwethaf, a wnaiff Gweinidog yr economi wneud datganiad i'r Siambr o ran y camau y mae wedi'u cymryd yn ystod y pythefnos diwethaf, pa drafodaethau y mae ei swyddogion wedi bod yn eu cael â'r cwmni, â'r gweinyddwyr—Duff a Phelps—â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ac eraill? A beth yw ei farn gyfredol o ran y gallu i gyflawni'r cynllun wrth symud ymlaen?
Mae swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ymchwiliad ac rydym yn amlwg yn monitro'r sefyllfa'n ofalus iawn. Felly, ar hyn o bryd, ni fyddem mewn sefyllfa i nodi'r camau nesaf, oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau. Ond nid ydym wedi addo nac wedi darparu unrhyw arian i Gavin Woodhouse neu Northern Powerhouse Development ar gyfer datblygu man gwyliau arfaethedig Antur Cwm Afan, fel yr oedd Dai Lloyd yn sylweddoli. Ac roedd y cynnig a wnaed i gefnogi cynnig Neuadd Caer Rhun yn cynnwys sba, bwyty a chyfleusterau cynadledda, ac roedd hynny'n amodol ar gynllun busnes llawn a diwydrwydd dyladwy. Mae'n amlwg y bydd unrhyw arian a ryddheir gan Lywodraeth Cymru yn destun gwaith monitro parhaus, ond nid oes unrhyw gyllid wedi'i ryddhau ar gyfer y prosiect hyd yn hyn. A phe bai'r sefyllfa honno'n newid, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog yn darparu'r wybodaeth honno ichi.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad a dadl. A gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau bysiau? Mae pob un ohonom ni'n ymwybodol o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud o ran ymgynghori ar ddeddfwriaeth, a fydd, gobeithio, yn arwain at ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau maes o law, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, y bydd hyn yn cymryd peth amser. Ac mae argyfwng gwirioneddol yn wynebu gwasanaethau bysiau, yn enwedig yn fy etholaeth i, ym Mlaenau Gwent, lle mae pobl yn dweud wrthyf na allant gyrraedd gwasanaethau allweddol mwyach, boed hynny ar gyfer yr optegydd neu apwyntiad ysbyty. Ni allant gyrraedd y siopau, ni allant gyrraedd cyfleoedd hyfforddi neu swyddi lleol, gan nad yw'r gwasanaethau bws sy'n eu galluogi i fyw eu bywydau yn bodoli. Felly, mae argyfwng gwirioneddol ar hyn o bryd yn wynebu'r gwasanaethau bysiau, ac ni chredaf y gallwn aros am ddeddfwriaeth. Credaf fod angen inni ddod o hyd i ymateb i'r argyfwng hwnnw ar unwaith. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y gall y Llywodraeth gefnogi pobl leol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a chefnogi'r gwasanaethau bysiau lleol.
Yr ail ddadl yr hoffwn i ofyn amdani, Gweinidog, yw ynghylch dileu'r Swyddfa Gymreig. Rwy'n credu bod llawer ohonom wedi gweld, yn ystod y blynyddoedd, sut mae'r Swyddfa Gymreig wedi rhwystro gofynion dilys Llywodraeth Cymru. Ac rydym wedi darllen, y bore yma, fod y Gweinidog Chwaraeon yn cael anawsterau eithriadol i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar Gyngor Chwaraeon y DU. Mae hyn yn annerbyniol, Gweinidog. Mae'n annerbyniol bod y Swyddfa Gymreig yn parhau i greu anawsterau yn y berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU. Mae'n annerbyniol bod gennym ni Swyddfa Gymreig sy'n eistedd rywle yn Whitehall yn cyhoeddi gorchmynion sy'n atal llywodraethu da yn y Deyrnas Unedig rhag digwydd. A gobeithio ei bod yn bryd nawr inni allu trafod y mater hwn yn amser y Llywodraeth, pasio cynnig a dweud wrth Theresa May, pan fydd yn adolygu datganoli—sut mae'n gwneud hynny heb ddweud wrth lywodraethau datganoledig, wn i ddim, ond dywedwch wrthi'n glir iawn fod y broblem fwyaf sy'n wynebu datganoli yng Nghymru yn eistedd o amgylch ei bwrdd Cabinet hi ei hunan.
Diolch, Alun Davies, am godi'r materion hynny. O ran y gwasanaethau bws, mae'n amlwg ei fod yn faes sy'n flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n dod at ddiwedd tymor y Cynulliad hwn nawr, felly byddwn ni'n ystyried paratoi ein rhaglen o ddatganiadau a'n dadleuon ar gyfer y tymor nesaf, gan fynd â ni drwy dymor yr Hydref. Yn sicr byddaf yn gwneud yn siŵr fod cyd-Aelodau yn ystyried y ddau gais penodol hynny i'w cynnwys o bosib mewn dadl neu ddatganiad yn y dyfodol.
Trefnydd, gobeithio y gallwch chi fy helpu i â hyn. Ar ôl sawl mis—yn ystod y profiad Pinewood, os caf i ei roi felly—yn aros am atebion i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad a heb gael dim, mae'n ddrwg gennyf ddweud fod y sefyllfa wedi codi eto. Ar 24 Mai, cyflwynodd fy swyddfa gwestiwn yn gofyn i'r Prif Weinidog am absenoldeb straen a gymerir gan staff Llywodraeth Cymru, ac ar 3 Mehefin cefais i ateb yn dweud mai materion i'r Ysgrifennydd Parhaol yw'r rhain ac y cawn ateb llawn maes o law. Yn amlwg, mae amser yn symud ymlaen, felly tybed a allech chi fanteisio ar y cyfle hwn i dawelu fy meddwl y byddaf i'n cael ymateb erbyn diwedd yr wythnos—mae'n fis Gorffennaf erbyn hyn—ar gyfer cwestiwn a ofynnwyd ym mis Mai? Ac a allem ystyried o leiaf rhywfaint o sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fyddant yn cymryd mwy o amser i ateb cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad na chwestiynau rhyddid gwybodaeth, neu fel arall byddwch yn cael llawer o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Ac efallai y gallech chi ein sicrhau hefyd nad y rheswm dros yr oedi yn yr achos hwn yw bod un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn absennol oherwydd straen? Diolch.
Diolch. Yn sicr, byddaf yn cymryd y cyfrifoldeb yn bersonol i sicrhau eich bod yn cael ateb i'ch cwestiwn ynghylch absenoldeb straen. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig mor gyflym ag y gallwn ni, ond yn aml mae lefel y manylder sydd ei angen yn rhai o'r ceisiadau hynny yn eithaf dwys. Ond, os oes gan yr Aelodau broblem fel yr un a ddisgrifiwyd gennych chi am ddiffyg ymateb prydlon, rwyf i bob amser yn hapus i geisio symud pethau yn eu blaen.
Mae'r Llywodraeth yn Llundain ar fin cyhoeddi y bydd ysgolion Lloegr yn cael £3 biliwn yn ychwanegol. Felly, gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn egluro pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi a'r Gweinidog Addysg wedi bod yn eu cael efo'r Trysorlys yn Llundain ynglŷn â hyn—hynny yw, o safbwynt y Barnett consequential, wrth gwrs? Os ydy ysgolion Lloegr yn mynd i gael mwy o arian, yn sicr, mae angen mwy o arian ar ysgolion yng Nghymru, ac maen nhw angen gwybod hynny hefyd, cyn gynted â phosibl, er mwyn cynllunio ymlaen. Felly, gawn ni wybodaeth ar ryw ffurf—datganiad, llythyr, beth bynnag ydy o—yn dangos pa drafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ar hyn, a beth yn union fydd y sefyllfa unwaith y daw'r cyhoeddiad o'r Trysorlys?
Nid ydym yn gwybod eto am fanylion unrhyw gyhoeddiad nac yn ffyddiog y bydd y cyhoeddiad yn dod. Ond pan ddaw hynny, byddwn ni'n awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei roi ar waith yn y ffordd briodol, drwy fformiwla Barnett, drwy'r datganiad o bolisi ariannu, yr ydym ni wedi cytuno arno gyda Llywodraeth y DU. Bydd Siân Gwenllian yn ymwybodol, er enghraifft, o'r datganiad a roddais i'r wythnos diwethaf, a oedd yn dangos bod Llywodraeth y DU, er ei bod wedi gwneud penderfyniad ar bensiynau'r sector cyhoeddus, wedi methu ag ariannu Llywodraeth Cymru gyda'r swm llawn o arian yr oedd hynny am ei gostio i ni, gan ein gadael ni â thwll o £36 miliwn yr oedd yn rhaid i ni ei lenwi. Ac fe wnaethom ni hynny drwy ddargyfeirio arian oddi wrth bethau eraill y byddem ni'n dymuno gwario'r arian arnyn nhw. Felly, yn sicr, os oes arian ychwanegol ar gyfer addysg, mae angen sicrhau y bydd pob ceiniog sy'n ddyledus inni yn dod i Gymru, ac fe fyddwn ni'n gallu ystyried ein hymateb i hynny wedyn, o ran sut yr ydym ni am ddyrannu'r cyllid hwnnw. Ni all hon fod yn enghraifft arall o adran y DU yn llwyddo i ddod o hyd i arian ychwanegol yng nghrombil y soffa adrannol; mae angen dangos yn eglur ac yn dryloyw o ble mae'r arian yn dod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael ei chyfran deg. Ond pan fydd gennyf i ragor o wybodaeth, fe fyddaf, wrth gwrs, yn cynnwys y manylion yn y ffordd arferol, o ran proses y gyllideb.
Fe ddaeth cryn dipyn i'r cyfarfod gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn yr Oriel y prynhawn yma, ac fe roddodd y cadeirydd, Heather Hancock, fraslun o rai o'r mesurau y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr a sicrhau diogelwch bwyd yng ngoleuni bygythiad Brexit 'dim cytundeb'. Tybed a fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y ddeddfwriaeth bosibl a allai fod yn angenrheidiol, pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â sut y gallwn wneud yn siŵr y gellir sicrhau hyder y defnyddwyr, diogelwch bwyd ac, yn wir, sicrwydd bod bwyd ar gael, o ganlyniad i'r bygythiad dirfodol posibl hwn i'n lles ni.
Diolch i chi, Jenny Rathbone. Mae'r Gweinidog iechyd yn dweud wrthyf fod llawer iawn o ddeddfwriaeth wedi cael ei gyflawni eisoes i sicrhau bod ein cyfraith ni'n gweithredu'n iawn ar ddydd Brexit, pe byddai hwnnw'n Brexit 'dim cytundeb'. Gwn fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud llawer o waith i'n paratoi ni ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' posibl a hefyd i fapio'r heriau sy'n ein hwynebu ni, ond mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud y byddai ef yn hapus i roi datganiad pellach yn yr hydref.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Trefnydd, a gaf i ofyn am rywfaint o sicrwydd gennych chi? Rydych chi wedi pwysleisio beth fydd y gwaith cynllunio ar gyfer tymor nesaf y Cynulliad o ran datganiadau'r Llywodraeth a busnes y Llywodraeth. Cyflwynodd y Gweinidog dros faterion gwledig ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Mai, ynghylch gwerthu cŵn bach ac anifeiliaid dof gan drydydd person. Byddwn i'n ddiolchgar i gael deall sut wnaiff y Llywodraeth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw nawr, yr amserlen y bydd yn gweithio iddi, ac a fydd hynny drwy ryw fath o ddatganiad yn y Siambr, neu a fydd rhyw fath o ymateb ffurfiol yn cael ei roi ar wefan y Llywodraeth? Rwy'n gofyn y cwestiwn gan fod grŵp trawsbleidiol ar anifeiliaid anwes wedi cael ei lansio'r wythnos diwethaf, a chodwyd hyn gan lawer o'r cyfranogwyr er mwyn deall yn union sut y caiff y darn pwysig hwn o waith ei ddatblygu, o gofio, wrth gwrs, fod hyn wedi mynd trwy Senedd y DU ac ar y llyfr statud yn Senedd y DU.
Diolch. Mae yna lawer iawn o ddiddordeb yn yr agenda arbennig hon, ac rwy'n gwybod y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn gallu dweud rhagor am hyn cyn diwedd y tymor, drwy ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos nesaf, rwy'n credu.
Diolch yn fawr iawn, Trefnydd.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) i'w ystyried gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae syrcasau teithiol wedi bod yn mynd o amgylch y Deyrnas Unedig ers dros ddwy ganrif. Mae nifer y syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt, a nifer yr anifeiliaid gwyllt yn y syrcasau hynny, wedi lleihau'n ddirfawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae cymdeithas wedi newid ac nid yw'r galw yno mwyach. Mae anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol ac nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni'n credu erbyn hyn ei bod hi'n dderbyniol defnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Bellach, nid oes ond dwy syrcas yn unig yn teithio'r DU gydag anifeiliaid gwyllt. Mae'r anifeiliaid gwyllt a gedwir yn cynnwys camelod, sebras a cheirw Llychlyn. Yn Lloegr y mae'r ddwy syrcas wedi eu lleoli ond maen nhw'n ymweld â Chymru yn rheolaidd. Bob tro y byddan nhw'n dod yma, ceir galwadau o'r newydd i wahardd yr arfer.
Y llynedd, fe wnes i ymgynghori ar Fil drafft a oedd â'r amcan o fynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Cafodd yr ymgynghoriad dros 6,500 o ymatebion gyda mwyafrif llethol yr ymatebwyr o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Diben deublyg sydd i'r Bil byr, pwysig hwn. Yn gyntaf oll, bydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, sy'n arfer o'r oes a fu nad oes lle iddo yn y gymdeithas gyfoes. Yn ail, bydd yn gwneud rhai newidiadau pwysig i'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrwyddedu syrcasau.
Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio anifail gwyllt, neu beri neu ganiatáu i rywun arall ei ddefnyddio, mewn syrcas deithiol. Bydd anifail gwyllt yn cael ei 'ddefnyddio' os yw'r anifail yn perfformio neu'n cael ei arddangos. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys, er enghraifft, rhoi anifail gwyllt yn fwriadol mewn sefyllfa sydd mewn unrhyw ffordd wedi ei bwriadu i hyrwyddo syrcas deithiol. Os canfyddir bod gweithredydd yn euog o drosedd, gall y llys bennu dirwy ddigyfyngiad. Yn y Bil, ystyr 'anifail gwyllt' yw anifail o rywogaeth nad oes neb fel arfer yn ei ddofi yn Ynysoedd Prydain. Mae'r diffiniad yn debyg i'r dehongliad o 'anifail gwyllt' yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn 'wyllt' mewn sw ond yn 'ddof' pan gaiff ei chadw mewn syrcas. Mae i 'anifail' yr ystyr a roddir iddo gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac mae'n berthnasol yn unig i anifeiliaid fertebraidd. Mae 'syrcas deithiol' yn golygu syrcas sy'n teithio o un lle i'r llall er mwyn rhoi adloniant yn y lleoedd hynny, er y bydd cyfnodau pan na fydd yn teithio o un lle i'r llall.
O dan amgylchiadau arferol, fe ddylai'r diffiniadau hyn fod yn ddigonol ac maen nhw'n gydnaws â deddfwriaeth sefydledig arall ac ystyr y termau hyn yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddeall yn gyffredinol. Eto i gyd, mae'n bosibl y bydd ansicrwydd neu safbwyntiau sy'n gwrthdaro pan ystyrir a yw math o anifail yn wyllt ai peidio, neu a yw'r math o sefydliad, perfformiad neu adloniant yn cael ei ystyried yn syrcas deithiol neu beidio. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, os byddant yn codi, mae'r Bil yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau i bennu'r hyn a ystyrir yn anifail gwyllt neu beidio a'r hyn a ystyrir yn syrcas deithiol neu beidio. Mae'r pwerau hyn i lunio is-ddeddfwriaeth yn ddewisol ac nid oes unrhyw gynlluniau i'w defnyddio nhw ar hyn o bryd.
Er mai diben y Mesur yw gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol, efallai y bydd syrcasau'n dal i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn perfformiadau neu'n cael eu harddangos fel rhan o'r syrcas deithiol. Mae'r Bil yn gwneud newidiadau i'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer syrcasau drwy ddileu'r eithriadau sydd gan syrcasau ar hyn o bryd ynglŷn â gofynion Deddf Trwyddedu Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981. Bydd angen trwydded ar unrhyw syrcas, boed yn syrcas deithiol neu beidio, sy'n cadw anifeiliaid gwyllt peryglus ond heb eu defnyddio nhw, o dan ddeddf 1976, oni bai fod hynny wedi digwydd fel arall yn unol â darpariaethau Deddf 1981.
Fe nodir y pwerau gorfodi yn yr Atodlen. Bydd y Bil, pe daw yn gyfraith, yn cael ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl mai prin fydd yr achosion o dorri'r darpariaethau yn y Bil, un ai drwy dorri'r gwaharddiad neu drwy rwystro arolygwr yn fwriadol wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd. Bydd unrhyw drosedd yn gymharol hawdd ei chanfod, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â darpariaethau'r ddeddfwriaeth.
Rwyf wedi esbonio diben y Bil, ac mae'n bwysig fy mod i hefyd yn eglur ynghylch yr hyn na fydd y Bil yn ei wneud. Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac ni fydd yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill chwaith. Er hynny, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn i mi, a dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu ar gyfer pob arddangosfa o anifeiliaid. Bydd y cynllun yn gyfle i osod safonau lles priodol a sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu harddangos mewn ffordd barchus a chyfrifol. Rwy'n disgwyl lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyn diwedd toriad yr haf.
Nid yw mwyafrif y syrcasau teithiol yn defnyddio unrhyw anifeiliaid. Mae'r lleihad yn nifer yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu cadw yn arwydd clir nad oes yna'r un awydd ag a fu ymhlith y cyhoedd am y math hwn o adloniant. Ni ellir cyfiawnhau cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar gyfer adloniant yn unig. Ni fydd yr anifeiliaid hynny'n debygol o gael bywyd o ansawdd da, ond hefyd nid yw'n cyfrannu fawr ddim ychwaith at ein dealltwriaeth ni o anifeiliaid gwyllt na'u cadwraeth.
Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn 2018, ac fe gyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yn ddiweddar i wneud yr un peth yn Lloegr. Mae'r Bil hwnnw wedi gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r cyffredin a bydd yn symud yn gyflym drwy Dŷ'r Arglwyddi. Os nad oes gwaharddiad cyfatebol yng Nghymru, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr lle gallai syrcasau teithiol barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt. Ni fyddai hyn yn dderbyniol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Cynulliad i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio ar y llyfr statud.
Diolch. Mae yna nifer o siaradwyr yn y datganiad, ac rwy'n erfyn ar bawb i roi ychydig o ystyriaeth i hynny, a'r gobaith yw y caiff pawb gyfle i siarad. Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth, er mai darn bychan o ddeddfwriaeth ydyw o ystyried rhai o'r Deddfau y mae'r Llywodraeth a'r meincwyr cefn wedi eu cyflwyno cyn hyn. Ond mae'n un pwysig iawn. Fel y nodwch yn eich datganiad, mae'r 6,500 sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad am dystiolaeth yn dangos bod i hyn ran bwysig ym mlaenoriaethau llawer, ac rydym yn eich cefnogi chi'n llwyr yn yr ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth, gan ei fod yn rhan o'n maniffesto ni yn ôl yn 2016.
Dim ond un neu ddau o gwestiynau, os caf i. Rwyf ychydig yn bryderus am yr agwedd is-ddeddfwriaethol yr ydych chi'n tynnu sylw ati yn eich datganiad, a'r gallu i gael hynny fel pŵer dewisol. Rwy'n sylweddoli nad ydych chi, fel Gweinidog, yn rhagweld defnyddio'r pwerau hyn ar hyn o bryd. Ond, o ran diffiniad a dehongliadau eraill, ceir ystod eang o senarios y gallech chi feddwl amdanyn nhw lle gallai Gweinidog yn y dyfodol mewn amgylchedd arall ddewis ehangu cwmpas y Bil hwn o'r hyn yr ydych chi'n bwriadu ei gyflawni gyda'r Bil hwn fel Gweinidog ar hyn o bryd. Fel yr oeddech chi'n dweud, dim ond dwy syrcas sy'n teithio gydag anifeiliaid gwyllt ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon, os nad pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn gallu deall hynny'n burion. Ond a wnewch chi egluro inni pam rydych chi o'r farn ei bod hi'n bwysig cynnwys y ddarpariaeth honno yn y Bil, oherwydd byddai'n well o lawer gennyf i weld cyfeirio'n ôl i'r Cynulliad, a'r Cyfarfod Llawn yn benodol, pe byddai newid o'r fath, yn arbennig o ran cwmpas y Bil, a phe byddai'r dehongliad ohono'n cael ei ystyried gan Weinidog yn y dyfodol?
Rydych chi yn llygad eich lle pan ddywedwch y bydd Cymru, yn amlwg, yn ymuno â gweddill y Deyrnas Unedig yn y ffordd y maen nhw wedi deddfu yn y maes arbennig hwn—yr Alban, a Senedd y DU nawr, a'r Cynulliad. A wnewch chi roi syniad inni a yw hyn o fewn cwmpas y Biliau eraill a basiwyd yn seneddau eraill y Deyrnas Unedig, neu a oes meysydd yr ydych chi wedi edrych arnyn nhw na chawsant eu cynnwys yn y Bil yng Nghymru neu, yn wir, lle'r ydych wedi cynyddu cwmpas y Bil yng Nghymru i gwmpasu llawer mwy na'r hyn yr edrychodd yr Alban arno o bosibl, neu'r hyn yr edrychodd Senedd y DU arno hefyd?
Y cynllun trwyddedu yr oeddech chi'n sôn amdano yn eich datganiad ynglŷn ag anifeiliaid anwes—neu anifeiliaid dof, fe ddylwn i ddweud, mae'n ddrwg gen i—yr ydych chi'n bwriadu ei gyflwyno yn y dyfodol, a wnewch chi roi argoel inni o'r hyn yr ydych chi'n gobeithio ei gael yn sgil yr ymgynghoriad hwnnw, a'r meysydd y credwch fod angen eu cynnwys yn yr ymarfer penodol hwnnw na ellir ymdrin â nhw yn rhai o'r agweddau sydd gennych yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd? Oherwydd mae hwnnw'n ddarn sylweddol iawn o waith, fe fyddwn i'n awgrymu, gan dreiddio i feysydd o bob math.
Ac i gloi, byddwn i'n ddiolchgar pe byddech yn cadarnhau mai ymwneud â syrcasau teithiol ac anifeiliaid gwyllt y mae hyn, ac nad yw'n fwriad o gwbl gan y Llywodraeth i gynyddu cwmpas y Bil y tu hwnt i'r hyn yr ydych wedi ei ddweud heddiw. Oherwydd rwy'n sylweddoli, o safbwynt rhai, yn wir, fe ddylai'r darn hwn o ddeddfwriaeth gynnwys arddangos unrhyw fath o anifail, boed hwnnw'n anifail fferm neu'n anifail dof. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac yn sicr o'r sgyrsiau sydd wedi arwain at y Bil hwn heddiw, mae o fewn awdurdod y Llywodraeth yn gyfan gwbl i gwmpasu'r syrcasau teithiol ar hyn o bryd a'r anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio, ac mae'r diffiniad o anifeiliaid gwyllt hefyd, yn ôl a ddeallaf, i'w ddeall yn gwbl glir. Diolch.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny, ac rwy'n ddiolchgar am eich cefnogaeth chi a'ch plaid i'r Bil. Rwyf am fod yn glir iawn wrth ateb eich cwestiwn olaf: amcan y Bil hwn yw atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol ar sail foesegol. Dyna yn bendant yw diben ac amcan y Bil.
Roeddech chi'n holi am reoliadau, ac mae'n debyg bod hynny i ryw raddau yn cysylltu â'ch ail gwestiwn ynglŷn â'r Bil yn yr Alban a'r Bil sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae ein Bil ni'n debyg iawn i'r Bil yn yr Alban. Un gwahaniaeth mawr yw'r ffaith fod gennym ni'r gallu i gyflwyno is-ddeddfwriaeth a rheoliadau. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig cael hynny yn y Bil oedd, er enghraifft, oherwydd gofynnwyd i mi, 'Pam na chawn ni restr o anifeiliaid gwyllt ar wyneb y Bil?' Fe fyddai honno'n rhestr faith iawn, iawn. Os edrychwch chi ar yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu defnyddio yn y ddwy syrcas ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu bod angen rhestr, ond rwyf i yn credu, gyda threigl amser, y gallai fod angen rhestru anifeiliaid eraill—anifeiliaid gwyllt eraill—ac felly fe ddylem ni gael y rheoliadau hynny ar waith. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth mawr rhyngom ni a Bil Llywodraeth y DU. Mae'r gallu hwnnw gan yr Alban.
Roeddech chi'n gofyn am drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid ac, fel y dywedais yn fy natganiad gwreiddiol, y llynedd fe es i ati i ymgynghori ar drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid, a chysylltwyd hynny â'r broblem ynghylch gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n llenwi'r bylchau i gyd a all fodoli o ran darnau eraill o ddeddfwriaeth. Felly, fel y dywedais i, ni fydd y Bil, er enghraifft, yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac nid yw'n atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ychwaith ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, er enghraifft. Felly, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn a dyna pam yr wyf wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno'r cynllun trwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd o anifeiliaid sy'n bodloni'r meini prawf penodol o dan y gyfraith. Byddaf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach cyn diwedd toriad yr haf. Yn sicr, mae nifer yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad gwreiddiol y llynedd, o'r lle y tarddodd y Bil hwn, yn dangos y teimlad sydd gan bobl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y cynllun hwn gennym wrth symud ymlaen.
Nid yw hyn yn cael ei wneud ar wahân; mae'n cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi eraill ac wrth gydweithio â'm cymheiriaid yn Lloegr ac yn yr Alban. Bydd dull cyflawni'r cynllun yn cael effaith barhaol ar les anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd, ac roeddech chi'n sôn am rai enghreifftiau. Mae'n debyg nad ydym ni'n gwybod am nifer sylweddol o anifeiliaid sy'n mynd o amgylch ysgolion, er enghraifft, ac rydym ni'n eu gweld nhw mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn aml. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y cynllun hwn. Ond rwy'n credu hefyd bod hyn yn bwysig o ran ein hagwedd barhaus ni a chenedlaethau'r dyfodol tuag at les anifeiliaid.
Gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Dwi’n croesawu’r datganiad—a dyw hwnna ddim yn rhywbeth dwi wedi bod yn ei ddweud yn aml iawn yn y misoedd diwethaf—ond mi oedd deddfwriaeth o’r fath, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru hefyd yn 2016, felly rŷm ni’n sicr yn cefnogi’r egwyddor i ddeddfu yn y maes yma.
Mae e’n siomedig, neu mae’n rhwystredig efallai, ei bod hi wedi cymryd gymaint o amser i ni gyrraedd y pwynt yma lle mae’r Bil yn cael ei osod yr wythnos yma. Dwi’n gwybod fe gollon ni amser yn aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu yn y maes yma ac efallai bod yna wers i ni yn fanna hefyd: os ydym ni wir yn teimlo bod angen gweithredu mewn maes penodol, yna mae angen i ni edrych i wneud hynny ein hunain, fuaswn i’n dweud, yn y dyfodol.
Gaf i ofyn—? Rŷch chi’n cyfeirio, o beth welaf i, at weithredu’r Ddeddf yma o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen. Hynny yw, mae hynny’n golygu bod yna bosibilrwydd y bydd yna haf arall, felly, flwyddyn nesaf, o syrcasys teithiol ac anifeiliaid gwyllt yn ymweld â Chymru. Ple sydd gen i i’r Gweinidog i weld os oes unrhyw bosibilrwydd y gellid cyflymu’r broses honno, oherwydd byddwn i wrth fy modd yn gweld y ddeddfwriaeth yma yn cael ei phasio cyn hynny, fel ein bod ni’n gallu bod mewn sefyllfa lle’r haf yma yw’r haf olaf lle rŷm ni’n gweld y syrcasys yma yn teithio ac yn ymweld â Chymru.
Dwi wedi cyfeirio at y ffaith, mewn egwyddor, ein bod ni’n gefnogol o’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Mae’n bosib, fel rŷm ni eisoes wedi clywed, efallai y bydd yna drafodaeth angenrheidiol o gwmpas y diffiniadau o wahanol dermau yn y ddeddfwriaeth a hefyd, efallai, pwerau, neu i ba raddau y mae pwerau’n cael eu rhoi i Weinidogion i ddehongli ac i amlinellu. Rheini, dwi'n weddol ymlaciedig ynglŷn â hynny ar hyn o bryd ond dwi yn tybio efallai mai yn fanna y bydd tipyn o'r drafodaeth yn digwydd.
Fe wnaethoch chi sôn am fylchau'n gynharach, ac un bwlch amlwg sydd wedi dod i'r amlwg yw y gallai syrcasau teithiol gael eu hailfrandio yn rhyw fath o arddangosfa anifeiliaid symudol. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hynny ac fe hoffwn i glywed eich bod chi am ymdrin â'r materion hynny drwy eich cynllun trwyddedu arfaethedig. Y peth arall yr hoffwn ei wybod, wrth gwrs, yw pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cynllun trwyddedu yn cael ei weithredu. Nid wyf i'n galw'n unig am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn gyflymach, ond hoffwn i sicrhau hefyd fod y cynllun trwyddedu yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib.
Rydych chi eisoes wedi cyffwrdd â hyn, mewn gwirionedd. Hynny yw, mae galwadau wedi bod, wrth gwrs, i wahardd gorfodi unrhyw anifail i berfformio, ac yn sicr nid wyf wedi cael fy narbwyllo ynglŷn â hynny. Ond rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol. Felly, hoffwn i wybod pam rydych chi'n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid eraill ac a yw'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle, efallai, i ehangu'r cynnig hwnnw.
Ac, yn olaf, wrth gwrs, rydych yn nodi, rwy'n credu mai yn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd gyda'r Mesur yr oedd hynny, fod bron dwy ran o dair o'r ymatebion i ymgynghoriad blaenorol drwy ymgyrch ar-lein. Rwyf i wedi codi hyn mewn cyd-destunau eraill o'r blaen a hoffwn ofyn i chi a fyddech chi'n fodlon cyhoeddi faint—nid gwybodaeth am ymatebion unigol, ond pa ganran o'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol a ddaeth mewn gwirionedd o Gymru oherwydd credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig i ni wrth ymdrin â'n holl ymgynghoriadau. Ac er y bydd rhesymau dilys iawn, mewn rhai amgylchiadau, dros ystyried ymatebion i ymgynghoriadau o wledydd eraill, hoffwn i ddeall faint o bwys yn y cyd-destun penodol hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ymatebion hynny o'r tu allan i Gymru. Ac, yn fy marn i, fel mater o arfer a threfn, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sicrhau bod yr ystadegau hyn ar gael. Ni ddylai hon fod yn dasg feichus oherwydd rwy'n cymryd bod cronfa ddata yn rhywle gan eich bod chi'n cyfathrebu â'r rhai sydd wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau. Felly, ni ddylai honno fod yn dasg rhy feichus.
Diolch, Llŷr, am eich cefnogaeth chi i'r Bil, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r sgwrs a gefais i gyda chi ac Andrew R.T. Davies cyn y datganiad hwn heddiw. O ran eich cwestiynau ynglŷn â'r amser y bydd hi'n ei gymryd i'r Bil ddod i rym, rwyf i'n rhagweld, gyda chefnogaeth, y bydd y Bil yn mynd rhagddo i gam lle y gallem ni gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Fel y dywedais, bydd y Bil yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Erbyn hynny, bydd disgwyl i'r ddwy syrcas sy'n teithio ar hyn o bryd ac yn defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu taith ac yna wedi dychwelyd i'w cartref dros y gaeaf. Yn sicr, rwy'n agored iawn i symud y dyddiad hwnnw ymlaen pe bai modd ac rwy'n credu y gellid cael cyfle i wneud hynny pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno gwaharddiad yn Lloegr erbyn i'w rheoliadau trwyddedu nhw ddod i ben. Oherwydd, yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am drwyddedu syrcasau, nid ni. Os byddan nhw'n gweithredu'r gwaharddiad cyn i'w rheoliadau trwyddedu ddod i ben ym mis Ionawr 2020, credaf y byddai'n bosib inni ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen. Felly, unwaith eto, unrhyw benderfyniad i wneud hynny, rwy'n hapus iawn i'w ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch bylchau, yn sicr, os meddyliwch chi am y peth, ceir llawer iawn mwy o anifeiliaid yn cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd o anifeiliaid nag, yn amlwg, mewn syrcasau. Felly, dyna pam mae'r cynllun arddangosfeydd o anifeiliaid mor bwysig, ac fe soniais i yn fy ateb i Andrew R.T. Davies y byddaf i'n ymgynghori cyn diwedd toriad yr haf ac yn sicr byddwn i'n hoffi gweld y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith, fe ddywedwn i, mor gynnar yn 2020 ag sy'n bosib.
O ran, 'Pam mae'r drosedd hon yn berthnasol i anifeiliaid gwyllt yn unig ac nid i bob anifail?'—ac rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb sydd wedi cael ei chychwyn yn ddiweddar—nid oes yr un gwrthwynebiad sylfaenol, moesegol i ddefnyddio anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol neu mewn lleoliadau tebyg. Mae'r ddadl foesegol dros waharddiad yn achos anifeiliaid gwyllt, rwy'n credu, yn gryf iawn; rwy'n credu bod y ddadl dros waharddiad yn achos anifeiliaid dof yn fwy amwys. Ac os meddyliwch chi am y peth, mae yna lawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio at ddibenion cynnal perfformiadau neu arddangosfeydd heb fawr o fanteision ehangach amlwg, sy'n cael eu hystyried yn gwbl dderbyniol gan y gymdeithas yn gyffredinol. Yr esiampl sy'n cael ei rhoi i mi bob tro—ac rwy'n credu inni drafod hyn—yw neidio ceffylau, a chredaf y byddai'n anodd iawn dadlau na ddylid eu defnyddio nhw i wneud gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol.
Gofynnodd rhywun imi beth a fyddai'n digwydd yn achos syrcas sydd heb fod yn deithiol. Hyd y gwn i, roedd yna un syrcas fel hyn yn y DU, ac nid wyf i'n siŵr ei bod hi yno o hyd, ond unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau mewn unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr, y cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi oedd y byddai'n rhaid i honno wedyn gael trwydded sw yn ôl pob tebyg, er enghraifft, ond ceir deddfwriaeth i ymdrin â phethau o'r fath.
Roeddech chi'n fy holi i am y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, o ran y rhai a oedd yn dod o Gymru, ac yn sicr, byddwn i'n hapus iawn pe bai modd darparu'r wybodaeth honno. Serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud mai rhywbeth tebyg i 97 y cant o'r ymatebwyr oedd yn awyddus i weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno, felly nid wyf yn credu y byddai angen ichi wybod faint o bwys a roddir ar hyn yn yr un ffordd ag a fyddai'n angenrheidiol mewn deddfwriaeth arall.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Bu'r ymgyrch yn un faith, ond rwyf i wedi rhoi cefnogaeth lawn iddi dros nifer o flynyddoedd er mwyn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae gwaharddiad yn bodoli eisoes yn yr Alban.
Yn 2006, sy'n amser maith yn ôl erbyn hyn, mewn ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU, roedd 94.5 y cant o'r rhai a ymatebodd o'r farn mai gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau fyddai'r ffordd orau o sicrhau lles anifeiliaid. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r Gweinidog wedi dweud hynny, 97 y cant, a'r llynedd roedd Cymru yn cefnogi'r gwaharddiad. Un peth y gallwn ni fod yn sicr ohono: mae'r cyhoedd ar ein hochr ni. Rwy'n croesawu'r gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol; rwy'n credu bod ei amser wedi dod. Rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain, nid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dau gwestiwn: pam mae'n fwriad caniatáu i syrcas barhau i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod na fyddan nhw'n eu harddangos neu'n eu defnyddio mewn perfformiadau? Yn fy marn i, dyna'r hyn sydd fel rheol yn cael ei ddisgrifio fel bwlch. A'r ail gwestiwn yw: a fydd defnyddio adar ysglyfaethus ar gyfer arddangosfeydd awyr agored yn parhau i gael ei ganiatáu?
Diolch ichi, Mike Hedges, am y ddau gwestiwn hynny. Felly, gan ateb eich ail gwestiwn yn gyntaf: byddai adar ysglyfaethus wedyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid yr wyf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
O ran pam na allwn ni wahardd syrcasau rhag cadw anifeiliaid gwyllt na fydden nhw'n eu defnyddio nac yn eu harddangos, byddai hynny'n gofyn am golli perchnogaeth—byddai hynny'n golygu amddifadu o eiddo. Nid ydym o'r farn y byddai hynny er budd y cyhoedd a byddai'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Pe byddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail yn iawn, a phe na fyddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail gwyllt hwnnw'n iawn, byddai hynny'n cael ei gynnwys dan ddeddfwriaeth arall. Mae'n amlwg yn anodd iawn, felly, i gyfiawnhau hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn i groesawu eich datganiad yn fawr, a gwn y bydd llawer iawn o'm hetholwyr yn ei groesawu hefyd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r gofynion ychwanegol sydd ar arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n derbyn eich pwynt dilys iawn y bydd troseddau'n rhwydd eu canfod. Ond pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynghylch capasiti arolygiaethau awdurdodau lleol, ac a oes yna unrhyw hyfforddiant a chymorth y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi? Er enghraifft, rwyf wedi cynnal trafodaeth ag un elusen lles anifeiliaid ynghylch creu arolygiaeth lles anifeiliaid ganolog. Felly, hoffwn glywed eich chi barn chi am hynny ac a ydych chi'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol.
Yn ogystal â hynny, hoffwn drafod rhai syniadau newydd hefyd. Er enghraifft, bu llawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar i Syrcas Roncalli, sef syrcas o'r Almaen sy'n defnyddio hologramau o anifeiliaid gwyllt yn rhan o'u sioe nhw. Mae hyn yn eu galluogi nhw i efelychu perfformiadau syrcas draddodiadol, ond golygfeydd mwy ffantasïol hefyd, a gwneud hynny ar gost sy'n llai o lawer na'r hyn sy'n gysylltiedig â chludo anifeiliaid byw. Nawr, hyd y gwn i, ni ddaethpwyd â hyn i'r DU eto, felly a fyddech chi'n croesawu defnyddio technoleg o'r fath, sy'n rhydd o unrhyw greulondeb, yma yng Nghymru?
Ac yn olaf, mae'n ymddangos i mi y gallai'r cyhoeddusrwydd ynghylch cyflwyno'r Ddeddf hon fod yn gyfle da i Lywodraeth Cymru hyrwyddo'r nifer fawr o atyniadau twristaidd rhagorol sy'n seiliedig ar anifeiliaid yma yng Nghymru. Un enghraifft o hyn yw Fferm Folly lle gall pobl edrych ar anifeiliaid mewn cynefin lled naturiol yng nghyd-destun gwaith cadwraeth. Felly, byddai'n dda gennyf i gael gwybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael neu y byddech chi'n ystyried eu cael gyda'ch cydweithwyr yn y Llywodraeth ynglŷn â hynny, ac wrth gwrs fe allai hynny roi hwb economaidd i Gymru, yn enwedig wrth i wyliau haf yr ysgolion agosáu.
Diolch, Vikki Howells. O ran yr effaith ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, cafwyd sgyrsiau gydag awdurdodau lleol. Pe byddai'r Bil yn dod yn gyfraith, caiff ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol, ac yn sicr roedden nhw'n rhan o'r ymgynghoriad a gawsom ni. Ni fydd yna fawr o effaith ar awdurdodau lleol. Credaf na fydd torri rheolau'n digwydd yn aml iawn, os o gwbl, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â'r gwaharddiad, oherwydd bydd yn amlwg iawn os na wnânt hynny. Yn sicr, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn Lloegr, ni fydd unman ar gael ym Mhrydain Fawr lle caiff anifeiliaid gwyllt eu defnyddio mewn syrcasau teithiol. Felly, yn sicr, ni fyddai unrhyw gost ychwanegol yn ôl y trafodaethau a gafodd fy swyddogion i ag awdurdodau lleol, er enghraifft, ac fe fyddai hyn yn digwydd ar yr un pryd â'r gweithgareddau gorfodi presennol, sydd eisoes yn cael eu cynnal o ran y ddwy syrcas, un ohonyn nhw y gwnaethoch chi ei henwi. O ran yr hologramau, nid yw hwnnw'n rhywbeth yr wyf i wedi ei ystyried. Mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar yr hyn y mae'r hologramau yn darlunio'r anifeiliaid yn ei wneud. Byddai gennyf ddiddordeb mawr i edrych ar hynny, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i'r Bil fynd drwy'r Cynulliad. Rwy'n credu eich bod yn iawn ynglŷn â hyrwyddo atyniadau i dwristiaid. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r atyniadau i dwristiaid—roeddech chi'n cyfeirio at Folly Farm—unwaith eto, yn cael eu rheoleiddio, bu deddfu ar eu cyfer, ac fe ddylem ni annog pobl i fynd i weld anifeiliaid o fewn pellter agos iawn.
Dwi hefyd yn croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ac yn croesawu'r Bil. Mae hi'n bechod ei fod o wedi cymryd cymaint o amser i'r Llywodraeth ei weithredu. Mae'n flwyddyn gyfan ers i'r cyn Brif Weinidog ddatgan y byddai'r Llywodraeth yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasys sy'n teithio. Ond gwell hwyr na hwyrach. Dwi'n falch bod Cymru, o'r diwedd, yn dal i fyny efo'r Alban a Lloegr. Mae nifer o'r cwestiynau a oedd gen i wedi cael eu gofyn a'u hateb, ond fe wna i jest gloi drwy ddweud hyn: ni fyddai newid gwleidyddol fel hyn yn bosib heb ymgyrchwyr brwd, ac un ymgyrchydd sydd wedi bod yn allweddol yn hyn i gyd ydy Linda Joyce-Jones o Nantlle ger Caernarfon yn fy etholaeth i. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am y newid yn y ddeddfwriaeth ers blynyddoedd. Mi wnaeth hi gyflwyno deiseb i'r Cynulliad nôl yn Chwefror 2017 yn galw am waharddiad, ac mae hi wedi ein lobïo ni gyd, dwi'n meddwl. Pawb ohonom ni fan hyn, rydym ni wedi cyfarfod Linda ar ryw bwynt neu'i gilydd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddi hi am ei gwaith a hefyd i'r ymgyrchwyr eraill sydd wedi gweithio mor galed am hyn? Mae'r ffaith bod yna 6,500 o ymatebion a'r mwyafrif mawr o blaid y ddeddfwriaeth yn dweud cyfrolau, dwi'n meddwl. Mae o'n arwydd clir o'r newid agwedd gyhoeddus, ac mae ymgyrchwyr fel Linda wedi llwyddo'n rhyfeddol i newid y farn honno. Mae angen inni eu llongyfarch a dwi'n gobeithio y gwnewch chi ymuno efo fi.
Diolch, Siân Gwenllian. Rwy'n ymuno â chi i ddiolch i Linda Joyce-Jones a'r 6,500 o bobl eraill a wnaeth ymateb i'n hymgynghoriad ni. Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod Cymru yn wlad sy'n hoff iawn o anifeiliaid. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn y tymor Llywodraeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac aelodau eraill wrth i'r Bil fynd rhagddo.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi copi ymlaen llaw inni o'r Bil a'r memorandwm esboniadol. Mae'n hen bryd inni roi diwedd ar gamddefnyddio anifeiliaid gwyllt i blesio'r cyhoedd sy'n gwylio, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno deddfwriaeth i wneud hynny o ran syrcasau teithiol. Bydd Cymru cyn bo hir yn ymuno â'r rhestr gynyddol o wledydd sy'n gwahardd perfformiadau sy'n gorfodi anifeiliaid gwyllt i wneud campau ar gyfer adloniant. Yn wahanol i un o'r ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf arnom, Jeremy Hunt, sy'n dymuno cymryd amser oddi wrth negodi ein hymadawiad taclus â'r UE er mwyn codi'r gwaharddiad ar hela llwynogod, rwyf innau, fel un sy'n casáu cam-fanteisio ar anifeiliaid a chreulondeb, yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon.
Fodd bynnag, rwy'n holi pam nad yw hyn wedi mynd un cam ymhellach, Gweinidog. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, ac, fel y cyfryw, nid yw'n cynnwys rhai arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Fe ddywedaf i 'rai' oherwydd mae'n amlwg nad yw triniaeth rhai o'r anifeiliaid sy'n cael eu symud yn greulon nac yn ddideimlad. Felly, a wnewch chi amlinellu pam rydych chi wedi dewis cadw at syrcasau teithiol, a phryd y gallwn ni ddisgwyl gweld rhai mesurau i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn rhai arddangosfeydd symudol?
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai lles anifeiliaid fod yn hollbwysig ac y dylid gwahardd cam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt er elw ariannol dan unrhyw amgylchiadau? Os felly, a wnewch chi ymhelaethu ar unrhyw gamau eraill y bydd eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt a dof rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant? Yn olaf, Gweinidog, pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â chyfundrefnau trwyddedu mwy cadarn ar gyfer defnyddio anifeiliaid dof mewn sioeau teithiol? Oherwydd mae rhai anifeiliaid dof wedi marw oherwydd gwres enbyd ac ati, wrth deithio. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn mynd rhagddo'n gyflym drwy'r Cynulliad ac at y diwrnod pan na ellir manteisio ar anifeiliaid gwyllt ar dir a daear Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb yn gryno iawn sut y bydd y cynllun newydd i drwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid y byddaf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad, yn sicrhau na fydd unrhyw fylchau, ac y bydd pob anifail yn cael ei ddal—maddeuwch y chwarae ar eiriau—yn hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Arglwydd Gardiner sef Gweinidog Llywodraeth y DU o ran trwyddedau eraill i syrcasau ac, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pob anifail yn dod dan ddeddfwriaeth a/neu reoliadau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â hela llwynogod. Mae'n warthus o beth, ac mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu hela llwynogod yn llwyr.
Byddwn yn ymuno â rhestr gynyddol o wledydd, ac fel y dywedais i yn fy natganiad gwreiddiol, pe na fyddem yn cyflwyno'r Bil hwn, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr i ganiatáu defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac nid oeddwn i'n dymuno i Gymru fod yn hafan i syrcasau teithiol yn y ffordd honno.
Rwy'n croesawu'r Bil, ac rydych chi yn llygad eich lle, ni ddylem fod yr unig wlad i ganiatáu i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gael eu harddangos fel adloniant i bobl, heb gredu bod hynny'n gyfeiliornus yn ei hanfod. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn dod yn ei flaen. Nid wyf am ofyn yr holl gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn a ystyrir yn wyllt a'r hyn nad yw'n wyllt, a sut y caiff hynny ei bennu. Yn fy marn i, credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried anifeiliaid gwyllt fel rhai egsotig, ac eto i gyd mae gennym anifeiliaid brodorol sy'n amlwg yn wyllt, ac felly mae gennyf ddiddordeb mewn sut y bydd hynny'n symud yn ei flaen.
O ran y cynllun trwyddedu, byddai'n dda gennyf gael gwybod hefyd sut y bydd hynny'n datblygu. Rydych yn mynd allan, fel y dywedasoch, i ymgynghoriad pellach. Y diben yw canfod yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun trwyddedu hwnnw. Rhoddaf un awgrym i chi: mae bridio'n digwydd ar hyn o bryd ar gyfer allforio anifeiliaid gwyllt, ac mae hynny'n digwydd i adar ysglyfaethus, ac maen nhw'n cael eu hallforio i'r dwyrain pell. Wel, yn hollol amlwg, nid ydyn nhw'n byw yn y dwyrain pell am resymau da iawn: nid oes unrhyw ffynhonnell bwyd yno ar eu cyfer, ac nid yw'r hinsawdd yn iawn iddyn nhw. Felly, yn y lle cyntaf, a ddylem ni fod yn trwyddedu'r broses o fridio anifeiliaid i'w hallforio i fynd ar y fath daith dan orfodaeth, ac yn ail, mewn amodau nad ydynt yn amlwg yn ffafriol i'w llesiant? Felly, hoffwn i ychwanegu hynny at eich cynllun trwyddedu.
Hoffwn gael gwybod pa mor hir y byddai'r trwyddedau hynny'n para ar ôl i bobl eu cael nhw, a pha mor hawdd yw dirymu trwyddedau, pe byddech chi'n canfod bod pobl wedi bod yn euog o greulondeb eisoes. Rwy'n codi hynny oherwydd bod gennym ni rai sefydliadau sy'n bridio cŵn ar hyn o bryd, a chafwyd eu bod nhw'n euog o greulondeb, ac eto mae'r drwydded yn cael ei throsglwyddo i aelod arall o'r teulu os caiff ei dirymu. Ac os ydym yn sôn am drwyddedau a phobl o gymeriad da, dylem hefyd fod yn edrych ar y ddeddfwriaeth sy'n dilyn hynny, a'r cosbedigaethau sy'n dilyn. Ar hyn o bryd, mae'n debyg y gallwch fod mor greulon ag y mynnwch i anifail, ac ni chewch ddim mwy na chwe mis dan ddeddfwriaeth Cymru, ac eto i gyd gallech gael pum mlynedd pe byddem ni'n gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Felly, rwy'n credu, pan fyddwn ni'n edrych ar drwyddedau, fod angen inni edrych ar y cosbedigaethau sy'n dilyn hefyd. Felly, dyna'r pethau yr hoffwn eu hychwanegu, yn dilyn yr holl gwestiynau a ofynnwyd eisoes.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n holi am ystyr neu ddiffiniad o anifail gwyllt. Mae'n debyg i'r dehongliad o anifail gwyllt yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi'r sefyllfa lle gellid ystyried yr un rhywogaeth yn wyllt mewn sw ond wedyn yn ddof pan gânt eu cadw mewn syrcas. Felly, dyna'r diffiniad cyfreithiol yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Ond rydych chi'n llygad eich lle. Yn fy nhrafodaeth ag Andrew R.T. Davies, cofiaf ein bod yn sôn am geirw, na fyddai pobl efallai'n meddwl eu bod yn anifeiliaid gwyllt ar unwaith, ond maen nhw. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ymwybodol y defnyddir ceirw weithiau—yn amlwg adeg y Nadolig—mewn gwahanol ffyrdd, mewn canolfannau garddio neu mewn gorymdeithiau. Yna byddent yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangos anifeiliaid. Dyna pam ei bod mor bwysig rhoi'r cynllun hwnnw ar waith hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am adar ysglyfaethus. Mae angen inni sicrhau bod yr ymgynghoriad yn sôn am hynny'n benodol.
Rydych yn holi ynghylch pa mor hir y mae trwyddedau'n para. Yn sicr, mae Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid gofrestru gydag awdurdod lleol, ond mae'n gofrestriad oes. Felly, does dim gofyniad arolygu penodol. Fel y cyfryw, mae'n annhebygol y byddai safonau lles anifail yn cael eu hasesu na'u gwirio'n rheolaidd. Felly, dyma'r hyn a olygaf wrth ddweud bod angen inni sicrhau ein bod yn cau'r bylchau. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle ceir man gwan sydd angen ei gywiro. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr ymgynghoriad ar y cynllun. Fel y dywedais yn fy ateb i Llŷr, rwy'n gobeithio ei gyflwyno yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Rwyf wedi sôn o'r blaen am ymweliad syrcas Mondao â'm hetholaeth i ychydig fisoedd yn ôl. Hoffwn ddweud wrth Siân Gwenllian fy mod wedi dod i adnabod Linda Joyce-Jones am y tro cyntaf pan oeddwn yn gynghorydd sir a phan ymwelodd arddangosfa anifeiliaid gwyllt â'm ward cyngor i. Bryd hynny, ysgrifennais at Rebecca Evans, sef y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac fe gawsom ni rywfaint o drafodaeth am hyn. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd y llyfr statud. Syrcas Thomas Chipperfield oedd honno, cyn i mi gael fy ethol yma. Diddymwyd eu trwydded syrcas yn Lloegr am nad oedd DEFRA yn hapus gydag amodau cadw rhai o'u hanifeiliaid, ond roedden nhw'n dal i allu arddangos yn Nhir-y-berth. Felly, bydd hyn yn cau pen y mwdwl ar y mater penodol hwnnw hefyd. Gwyddom fod y syrcasau yn ymweld gan eu bod yn gosod posteri'n anghyfreithlon. Nid ydynt yn cadw at reolau gosod posteri'n anghyfreithlon, felly, tybed i ba raddau maen nhw'n mynd i gadw at y gyfraith hon. Cafwyd dau ymweliad yn etholaeth Caerffili, yn Nhir-y-berth. A allwn ni gael sicrwydd y bydd y Ddeddf hon yn gwneud yn siŵr na fydd trydydd ymweliad?
Diolch. Roeddwn yn ymwybodol fod trwydded y syrcas y soniasoch chi amdani wedi cael ei diddymu. Fel y dywedais, nid oes gennym ni bwerau i drwyddedu syrcasau. Mater i Lywodraeth y DU yw hynny. Yn sicr, fel y crybwyllais yn fy ateb i Llŷr, bydd y Mesur hwn, gobeithio, gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn, yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Rwy'n fodlon iawn ystyried ei orfodi'n gynharach nag a ddywedwyd ar 1 Rhagfyr, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud hynny gyda'r gyfundrefn drwyddedu, fel yr eglurais. Ond, rwy'n fodlon iawn ystyried gwneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Prif Weinidog: partneriaeth gymdeithasol. Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am wneud datganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol. Mae ein partneriaeth gyda’r undebau a chyflogwyr yn allweddol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio fel Llywodraeth. Trwy gyd-drafod a chydweithio, rydym ni'n datrys problemau a chanfod atebion i'r heriau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Mae'r ffordd yma o weithio yn seiliedig ar egwyddorion cadarn. Mae'n ffordd o weithio sy'n effeithiol ac yn berthnasol iawn i'r amodau presennol.
Dirprwy Lywydd, drwy gydol y cyfnod datganoli, mae dull Cymru o ymgysylltu ag undebau llafur a chyflogwyr wedi cael ei benderfynu gan bartneriaeth. Yn wir, mae ein gallu i ymdopi ag argyfwng byd-eang 2008, a'r cyni a gyflwynwyd o ganlyniad i hynny, wedi'i briodoli i'n model o bartneriaeth gymdeithasol, a'r gydnabyddiaeth bod cydweithio teirochrog ystyrlon yn hanfodol i gyflawni canlyniadau blaengar ac atal gwrthdaro ac anghydfod. Degawd ers cwtogi di-baid ar wariant cyhoeddus, fodd bynnag, mae'r model presennol wedi cyrraedd terfynau ei effeithiolrwydd. Daeth hi'n bryd ei ddatblygu ymhellach er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu heddiw.
Bydd y datblygiadau newydd hyn yn adeiladu'n gadarn ar sylfeini partneriaeth gymdeithasol ym mhob agwedd ar ddeddfwriaeth, polisi a buddsoddi. O adfer bargeinio sectoraidd drwy'r panel cynghori amaethyddol, i gyflwyno'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi, rydym ni wedi gweithio'n greadigol i roi mwy o ddiogelwch a mwy o lais i bobl sy'n gweithio yng Nghymru. Yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn, roeddwn yn falch o lywio Bil yr Undebau Llafur (Cymru) nodedig drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy'n wrthbwynt i ddeddfwriaeth y DU a luniwyd i gyfyngu ar hawliau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Mae natur barhaus yr heriau a wynebwn ni yn hysbys iawn. Mae twf tlodi mewn gwaith, hunan-gyflogaeth ffug a chontractau dim oriau gorfodol yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles gormod o bobl yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r arferion annheg hyn yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol yn ein cymdeithas, gan mai ar y rhai sydd â'r lleiaf o bŵer yn y gweithle y mae'r effaith fwyaf. A, Dirprwy Lywydd, maen nhw'n peri anfantais sylweddol i'r busnesau niferus hynny sy'n ymroddedig ac yn gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n eu cael eu hunain mewn perygl o fod ar faes cystadlu annheg gyda chyflogwyr llai egwyddorol.
Ymhellach, mae'r heriau hyn sy'n ein hwynebu ni heddiw yn mabwysiadu ffurfiau newydd yn ein dyddiau ni. Mae dyfodiad awtomatiaeth a llwyfannau digidol wedi profi pa mor hawdd y gellir symud baich risg i weithwyr heb yr amddiffyniad a roddir gan gydberthnasau cyflogaeth confensiynol, a sut y gall busnesau bach ar y stryd fawr gael eu tanseilio gan sefydliadau rhyngwladol sy'n osgoi trethi ac yn gweithredu y tu hwnt i'n ffiniau.
Beth, felly, Dirprwy Lywydd, ydym ni'n bwriadu ei wneud nawr? Wel, yn gyntaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaethau cymdeithasol drwy gyflwyno Bil yn nhymor y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwnnw'n ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol ac yn sicrhau ei bod hi'n amlwg y gellir gorfodi'r cytundebau a wneir. Mae TUC Cymru wedi gwneud rhai cynigion penodol ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn, a byddwn yn trafod y cynigion hyn gyda'r partneriaid cymdeithasol eraill dros y misoedd nesaf.
Yn ail, byddwn yn defnyddio grym y pwrs cyhoeddus i sicrhau manteision cymdeithasol newydd drwy wella'r hyn a gawn ni gan y rheini sy'n cael arian cyhoeddus gennym ni drwy'r contract economaidd. Byddwn yn cynyddu'r arferion gorau a ddysgir drwy'r cynlluniau treialu Swyddi Gwell yn Nes Adref, a byddwn yn ymgorffori gwaith teg drwy gaffael cyhoeddus a thrwy fwrw ymlaen â'n hymagwedd newydd ac arloesol at yr economi sefydliadol.
Yn drydydd, byddwn yn creu system effeithiol o fonitro a gorfodi. Mae nifer o gytundebau eisoes wedi'u gwneud mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y cod dwy haen. Er bod gennym ni systemau ar waith i fonitro'r modd y cânt eu gweithredu, gwyddom y gellir gwella'r systemau hynny, ac nid oes gennym ni ddigon o ddulliau gorfodi pan gaiff y codau hynny eu torri.
Yn bedwerydd, byddwn yn sefydlu peirianwaith newydd o lywodraeth i fod yn sail i waith partneriaid cymdeithasol. Byddwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg i sefydlu swyddfa ar gyfer gwaith teg. Mae'r cynlluniau ymarferol i sefydlu cyfarwyddiaeth o fewn y gwasanaeth sifil eisoes ar waith, gyda swydd pennaeth yr uned honno eisoes yn cael ei hysbysebu.
Ac yn bumed, byddwn yn deddfu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Byddwn yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd, gan gynnwys canllawiau newydd y bydd eu hangen i sicrhau bod y broses o'i gweithredu yn effeithiol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cyd-destun deddfwriaethol presennol yng Nghymru. Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol. Bydd y ddau yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o wahanol safbwyntiau, a byddwn yn sicrhau eu bod yn ategu ei gilydd yn llawn.
Beth, felly, Dirprwy Lywydd, fydd yr holl weithredoedd hyn yn ei gyflawni? Wel, yn gyntaf, fe'u cynlluniwyd i wrthdroi'r dirywiad mewn cydfargeinio. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, ymysg eraill, wedi egluro'n glir swyddogaeth cydfargeinio o ran lleihau anghydraddoldeb ac ymestyn diogelwch llafur. Rydym ni'n cefnogi'n llwyr yr egwyddorion a bennwyd gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar gydfargeinio a rhyddid i ymgysylltu, ac rydym ni'n dymuno gweld y manteision hyn yn cael eu hymestyn i fwy o bobl sy'n gweithio yma yng Nghymru.
Yn ail, bydd y camau hyn yn sicrhau gwelliannau ymarferol yn y gweithle. Heddiw, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg. Mae'r Comisiwn wedi canolbwyntio'n uniongyrchol ar swyddogaeth undebau llafur yn y gweithle, a'r manteision y gall hyn eu cynnig i weithwyr. Bydd ein hagwedd at waith teg yn golygu dulliau newydd a chamau gweithredu newydd i wella ansawdd gwaith a'r gallu i elwa ar hawliau cyflogaeth.
Yn drydydd, bydd y camau gweithredu hyn yn sicrhau gwell canlyniadau i gyflogwyr. Oherwydd gyda gweithlu ymroddgar, sy'n cael ei annog gan gyflogwyr sy'n buddsoddi mewn sgiliau a rheoli da ar bob lefel, gallwn adeiladu economi gryfach a chadarnach, gyda gwell cynhyrchiant, sy'n addas ar gyfer heriau'r dyfodol. Mae partneriaeth gymdeithasol, Dirprwy Lywydd, yn galluogi cyflogwyr i fod yn bartneriaid gweithredol o ran newid ein heconomi er gwell. Ac rydym ni'n ffodus o gael llawer o gyflogwyr yma yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i wneud hynny'n union.
Yn olaf, bydd y camau hyn yn dod â'r partneriaid cymdeithasol ynghyd mewn system sy'n syml, yn bwrpasol ac sydd â'r pwerau sydd eu hangen arni i droi cytundebau a wneir yn weithredoedd ar lawr gwlad. Drwy ddarparu'r dull o fonitro unrhyw gytundebau, byddwn yn sicrhau ymddiriedaeth a hyder bod y buddsoddiad y mae partneriaid yn ei wneud yn arwain at ganlyniadau diriaethol sy'n sicrhau manteision i bawb.
Yfory, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cadeirio cyfarfod sy'n dod ag aelodau'r Llywodraeth, gweithrediaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a'r grŵp strategaeth partneriaid cymdeithasol at ei gilydd. Bydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol hwn yn annog partneriaid cymdeithasol i drafod y pethau uniongyrchol y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellais y prynhawn yma. Bydd hynny'n cynnwys trafod protocol ar y cyd sy'n disgrifio'r disgwyliadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr o ran sut y bydd ein hymgysylltiad yn gweithio'n ymarferol.
Nawr, Dirprwy Lywydd, ni fydd dim o hyn yn hawdd. Mae partneriaeth gymdeithasol yn groes i'r dulliau gwrthdrawiadol y mae'r Blaid Geidwadol yn eu ffafrio pryd bynnag maen nhw mewn Llywodraeth. Ond mae hefyd yn groes i'r agwedd gysurus o osgoi problemau hefyd. Er mwyn llwyddo i wneud bywyd gwaith yn decach, mae'n ofynnol i bob partner ganolbwyntio ar arloesi a negodi. Mae'n rhoi ymddiriedaeth, ymgysylltu a deialog wrth wraidd datrys problemau—y ffordd orau o fynd i'r afael â'r problemau yr ydym i gyd yn eu hwynebu yw, gyda'n gilydd. Mae'n ffordd, ar ben hynny, sydd â gwreiddiau dwfn yn hanes hir Cymru o gydweithredu a chyd-dynnu a'r hanes yr ydym ni wedi'i ysgrifennu yma mewn oes fyrrach o lawer o ddatganoli. Mae'n ddull gweithredu, Dirprwy Lywydd, y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o'i gryfhau eto a'i wneud yn addas ar gyfer yr heriau y bydd y dyfodol yn eu cyflwyno.
A gaf fi ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad? Ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar fanylion eich cynigion yn ystod y misoedd nesaf. Fodd bynnag, rhaid imi ddweud, o'r cychwyn cyntaf, fy mod yn siomedig iawn eich bod wedi dewis gwleidyddoli'r datganiad hwn ac awgrymu bod y Ceidwadwyr, pryd bynnag y bônt mewn Llywodraeth, yn mynd ati mewn ysbryd o wrthdaro. Nid yw hynny'n gywir, oherwydd, a minnau'n Geidwadwr, cytunaf yn llwyr â chi y dylid ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd gydweithredol. Credaf fy mod yn siarad, fodd bynnag, ar ran pob busnes sy'n siomedig â'r hyn a oedd gennych chi i'w ddweud heddiw sydd wedi ymgymryd â'r dull cydweithredol hwn, ac a fydd nawr, mae'n debyg, yn teimlo mwy o bwysau i gydymffurfio â'r cynlluniau hyn.
Nawr, mae'r busnesau yr wyf wedi siarad â nhw'n credu bod y dull gwirfoddol hwn wedi gweithio dros y blynyddoedd, ac yn wir ei fod yn dal i weithio. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r 'Cynllun Gwaith Da' eisoes yn ymrwymo i sicrhau y gall gweithwyr gael gwaith teg o safon, ac rwy'n deall y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ar lefel y DU i roi'r hawl i weithwyr ofyn am gontractau mwy sefydlog. Nawr, yn eich datganiad heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n egluro bod y model presennol o bartneriaeth gymdeithasol wirfoddol wedi cyrraedd terfyn ei effeithiolrwydd. A ydych chi'n dweud bod y model hwn, felly, wedi methu, o gofio y bu hwn yn bolisi gan Lywodraethau olynol Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf? Rwy'n siŵr y byddai llywodraethau olynol Cymru yn anghytuno â chi ar hynny.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi fod angen llawer mwy o waith ar y dull hwn, ac felly na ddylid ei ruthro drwy'r Senedd hon. Nawr, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae 43,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, dylid ystyried effeithiau'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn ofalus drwy ymgynghoriad, yn fy marn i, fel y dylid ei wneud gyda phob agwedd ar effeithiau'r Ddeddf ar weithwyr a busnesau Cymru. Siawns mai dim ond ar ôl cwblhau ymgynghoriad cynhwysfawr ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad y dylid penderfynu wedyn ar y dull gweithredu mwyaf priodol, yn hytrach na dim ond deddfu'n gyntaf ar Fil na fu ymgynghori arno eto gyda'r rhai y byddai'n effeithio arnynt fwyaf. A wnewch chi, felly, Prif Weinidog, ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â'r holl randdeiliaid fel bod barn pawb yn cael ei hystyried mewn gwirionedd? Ac os nad ydych chi'n ymrwymo i hyn, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn sicrhau bod undebau llafur yn gweithredu er budd eu haelodau, bod sefydliadau busnes yn gweithredu er budd eu haelodau, a bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir hefyd?
Nawr, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan bobl farn wahanol am gontractau dim oriau a'r effaith y gall hyn ei chael ar bobl sy'n gweithio. A byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, fod adolygiad Taylor o arferion gwaith modern yn dweud bod un rhan o bump o bobl ar gontractau dim oriau mewn addysg amser llawn. Ac, yn ôl pob golwg, nid yw 68 y cant o'r rhai sydd ar gontractau o'r fath eisiau mwy o oriau. Felly, mae'n hollbwysig, rwy'n credu, ein bod yn parhau i greu cyfle ar gyfer cyflogaeth hyblyg i'r rhai hynny sydd ei heisiau. A allwch chi amlinellu felly sut y bydd y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol arfaethedig hon yn parhau i ganiatáu cyflogaeth hyblyg i'r rhai sy'n dibynnu ar gyflogaeth hyblyg, ond yn dal i ddiogelu hawliau gweithwyr ar yr un pryd? Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi efallai'n ymhelaethu ar hyn, oherwydd rwy'n cytuno bod yn rhaid inni fynd i'r afael â chyflogwyr llai egwyddorol, ond rhaid inni hefyd sicrhau economi hyblyg yn y dyfodol hefyd.
Prif Weinidog, yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bore yma, dywedwyd y bydd y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg newydd yn swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn argymell na ddylai'r swyddfa gwaith teg fod mewn adran benodol. A fydd hyn yn golygu, felly, y bydd gennych chi, y Prif Weinidog, reolaeth uniongyrchol dros sefydlu a chyfeiriad y gyfarwyddiaeth honno? A sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr adran newydd hon yn gweithredu ar draws y Llywodraeth gyfan, o gofio y bydd mewn gwirionedd oddi tanoch chi?
Felly, gyda hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Rwyf i a'm cyd-Aelodau yn edrych ymlaen at graffu ar eich cynlluniau ymhellach dros yr wythnosau nesaf a thros y misoedd nesaf.
Diolch i Paul Davies am yr ymateb adeiladol yna i ddatganiad y prynhawn yma. Mae arnaf ofn, rwy'n credu, bod yr hanes yn siarad drosto'i hun. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yma yn y Cynulliad hwn, aeth meddygon ar streic yn y GIG yn Lloegr, aeth nyrsys ar streic, roedd ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, porthorion ar streic. Nid aeth yr un o'r galwedigaethau hynny ar streic yma yng Nghymru ac mae hynny oherwydd bod gennym ni agwedd wahanol. Nid damwain oedd y ffaith y bu'r gweision cyhoeddus a'r gweithwyr proffesiynol ymroddgar hynny ar draws y ffin ar streic, ond yma yng Nghymru fe wnaethom ni osgoi hynny. Mae hyn oherwydd bod gennym ni ddull partneriaeth gymdeithasol ac, ar draws y ffin, lle mae'r Blaid Geidwadol mewn grym, nid oes ganddyn nhw un.
Roeddwn yn awyddus iawn, Dirprwy Lywydd, yn yr hyn a ddywedais i bwysleisio'r cyfraniadau y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi'u gwneud i'r agenda partneriaeth gymdeithasol, o'r ffordd gadarnhaol y maen nhw'n mynd ynghylch pethau, a dyna'n sicr sut yr ydym ni'n bwriadu saernïo ein cynigion yma yng Nghymru. Pan ddywedais ein bod wedi cyrraedd terfynau ein trefniadau presennol, mae hynny oherwydd fy mod yn credu ein bod wedi gwneud y gorau ohonyn nhw, nid am nad ydyn nhw'n gweithio, ond am eu bod yn gweithio'n ddi-baid ac yn gweithio mor gyflym ag y gallan nhw o fewn y terfynau presennol. Dyna pam ein bod eisiau cryfhau'r trefniadau presennol drwy eu hamgylchynu â grym statud. A phan fydd Paul Davies yn dweud, pa un a ydym yn hoffi hyn ai peidio, bod gennym ni gontractau dim oriau, nid oes angen i ni ar yr ochr hon i'r Siambr bwyso a mesur yn ofalus i wybod nad ydym ni'n hoffi contractau dim oriau, ond rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn fel yr aethom ni i'r afael â gofal cymdeithasol a'r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yma yn y Cynulliad hwn. Yn hynny o beth, rydym ni wedi cydnabod bod yna resymau pam, fel y mae undebau llafur wedi cydnabod, y gellir trefnu cyfnod o 12 wythnos, cyfnod rhagarweiniol pan fydd rhywun yn penderfynu a ydyn nhw eisiau parhau yn y swydd honno, a phan fydd cyflogwyr yn mesur lefel y sgiliau a'r gallu sydd gan rywun—y gellir trefnu 12 wythnos ar sail dim oriau, ond yna mae'n rhaid cynnig contract cyfnod penodol o amser penodol i'r cyflogai. Gallant ddewis aros ar gontract dim oriau os mai dyna sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau, ond bod ganddyn nhw ddewis; nid ydyn nhw'n cael eu cadw ar sail contract dim oriau gorfodol.
Ond yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, rhoddaf ymrwymiad i'r Aelod y bydd ystyriaeth ofalus a chynhwysfawr o'r cynigion a gyflwynir gennym ni, y cânt eu datblygu mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol drwy sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y cynigion yn cael cyfle i'w hystyried, i'w llunio, ac yna cânt eu trafod a bydd craffu arnynt ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol.
Ac, yn olaf, i sicrhau'r Aelod yn ogystal fod y penderfyniad i osod y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yn Swyddfa'r Prif Weinidog yn ymateb uniongyrchol i argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg na ddylai ei lleoli mewn adran benodol. Yn wir, fel y dywedodd Paul Davies, mae'n agenda drawsbynciol yn ei hanfod, ac mae rhoi'r swyddfa honno neu'r gyfarwyddiaeth honno yn fy swyddfa i yn ffordd o wneud y natur drawsbynciol honno'n eglur ac effeithiol.
Rwy'n croesawu'r datganiad yma a'r fframwaith cyffredinol y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno. Byddai diddordeb gyda fi i glywed gan y Prif Weinidog, wrth ddatblygu'r model yma o bartneriaeth gymdeithasol, pa fodelau yn weddill Ewrop neu ymhellach i ffwrdd mae'r Llywodraeth wedi edrych arnyn nhw. Wrth gwrs, dŷn ni yn glasurol yn gyfarwydd iawn â'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr Almaen, er enghraifft, yn Sgandinafia, yn Iwerddon—tan y creisis ariannol o leiaf. Yr hyn sy'n ddiddorol, dwi'n credu, am yr enghreifftiau hynny, yw roedden nhw i gyd, wrth gwrs, wedi cyfrannu tuag at ffyniant economaidd. Mae yna ryw fath o is-destun weithiau yn y feirniadaeth o bartneriaeth gymdeithasol bod hi'n arwain at aneffeithlonrwydd. Wel, i'r gwrthwyneb, a dweud y gwir, yn yr achosion hynny. Ac i ba raddau fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu ymchwil sydd yn edrych ar y cwestiwn yma ar lefel cwmnïoedd unigol o ran cynhyrchiant a llwyddiant economaidd cwmnïau unigol sy'n cydnabod undebau o'i gymharu â rhai sydd ddim? Achos mae yna wybodaeth academaidd yn fwy eang sy'n awgrymu hynny, a dwi'n meddwl y byddai fe yn ddefnyddiol, wrth i ni adeiladu'r fframwaith yma ar gyfer Cymru, i ni fedru dangos bod yna sail dystiolaethol i'r ddadl fod e'n dda ar lefel bottom line, os mynnwch chi, i gwmnïau, oherwydd mae'n creu gweithlu sydd â lefel uwch o foddhad—mae yna fwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant, llai o bobl yn absennol o'r gwaith ac ati.
A jest un cwestiwn bach ynglŷn â'r amserlen: ydy'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith yma o fewn y tymor hwn? Ac, yn olaf, un o'r beirniadaethau mwy teg, efallai, sy'n cael ei wneud o'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr oes gyfoes yw a oes yna berygl, wrth ffocysu, wrth gwrs, ar gyflogwyr, undebau a llywodraeth, eich bod chi'n cwympo i mewn i fagl corporatist a'ch bod chi'n cau mas elfennau eraill o gymdeithas efallai sydd ddim yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithdrefnau neu yn y strwythurau hynny? Ac oes yna le ar gyfer sicrhau bod y bartneriaeth yma yn hollgynhwysol, a'i bod yn edrych ar y cwestiwn o anghyfiawnder cymdeithasol yn y cyd-destun ehangaf posibl, nid jest yn y gweithle?
Diolch i Adam Price am ei gyfraniad y prynhawn yma. Roedd beth roedd Adam wedi’i ddweud yn wir. Wrth gwrs, beth rŷm ni'n ei awgrymu yma yng Nghymru yw pethau sy’n digwydd dros y môr mewn gwledydd eraill bob dydd. Roeddwn i’n siarad yng nghwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma am y community bank, ac, wrth gwrs, mae hwnna’n rhan o beth mae pobl eraill yn ei wneud bob dydd. So, beth rŷm ni’n ei wneud yw tynnu ar enghreifftiau eraill yn yr Almaen ac yng Ngwlad y Basg hefyd. Mae grŵp o bobl o Lywodraeth Gwlad y Basg yng Nghymru heddiw. Dwi'n mynd i gwrdd â nhw yfory, ac mae hynny'n digwydd ar ôl i fi a Gweinidogion eraill fynd i Wlad y Basg jest i glywed oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n gwneud pethau, a thyfiant eu heconomi nhw a sut rŷm ni'n gallu dysgu o'r gwersi sydd ar gael o wledydd eraill.
Wrth gwrs, roedd beth roedd Adam Price yn ei ddweud am ymchwil yn wir hefyd. Mae lot o ymchwil ar gael yn y maes. Cyfeiriais i at yr ILO, ac mae gwaith yn yr un maes gyda'r World Bank hefyd, ac mae lot o waith wedi mynd ymlaen yn y byd academaidd. Y cam cyntaf, dwi'n meddwl, yw i dynnu at ei gilydd y wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd, i rannu honno gyda'r partneriaethau a gweld os ydyn nhw'n meddwl bod bylchau yn yr ymchwil sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac a oes achos i lenwi'r bylchau hynny. Dwi'n hapus i gadarnhau y bydd y Bil o flaen y Cynulliad yn y tymor hwn, a dwi'n edrych ymlaen at y broses o graffu'r Bil. Dwi wedi clywed beth ddywedodd Adam Price am y nifer o bobl wrth y bwrdd pan fydden ni'n creu system newydd, a bydd cyfle gyda fi yfory, yn y cyfarfod sydd gyda fi gyda'r undebau, a gyda'r cyflogwyr hefyd, i roi y pwynt hwn iddyn nhw hefyd.
Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad. Ni fydd hi'n unrhyw syndod i chi fy mod i'n gwbl gefnogol i'ch ymrwymiad i wreiddio gweithio mewn partneriaethau cymdeithasol yma yng Nghymru drwy ddeddfwriaeth. Rwyf wedi gweld drosof fy hun fanteision partneriaeth gymdeithasol, er enghraifft, o ran rhoi'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, ac, fel y bu ichi ei grybwyll yn gynharach wrth ymateb i Paul Davies, y modd yr oeddem yn gallu osgoi'r mathau o anghydfodau diwydiannol yn y fan yma a welsom ni yn Lloegr. Wrth gwrs, ni all unrhyw beth yn fy marn i sy'n annog pobl i ymuno ag undeb llafur fod yn ddim ond yn beth da, oherwydd gwyddom fod gweithleoedd undebol yn weithleoedd mwy diogel a'u bod yn weithleoedd sy'n talu'n well ac ni all deddfu i ehangu hynny fod yn ddim ond yn gadarnhaol hefyd.
Heb os, mae partneriaethau cymdeithasol yn hanfodol i'n helpu i ymdrin â phroblemau'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad, Prif Weinidog—gwaith ansicr a thlodi mewn gwaith—ond hefyd o ran wynebu'r newidiadau economaidd a chymdeithasol y gwyddom ni sydd o'n blaenau, y bydd llawer ohonyn nhw y tu hwnt i'n rheolaeth. Felly, fy nghwestiynau penodol i yw a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol fod yn sylfaen gadarn ar gyfer natur a strwythur ein dull o weithio ar y cyd yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau eich bod yn disgwyl i'n cyd-Aelodau yn yr undebau llafur fod yn bartneriaid cyfartal, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd cymdeithasol presennol.
Diolch i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Pan ddywedais yn fy natganiad gwreiddiol fy mod yn dweud weithiau ar lwyfannau cyhoeddus nad yw partneriaethau cymdeithasol yn ffordd hawdd o wneud pethau, enw Dawn sy'n aml yn dod i'm meddwl, ar ôl gweithio gyda hi pan oeddwn yn Weinidog iechyd a hithau'n cynrychioli Unsain. Gallaf ddweud wrthych chi fod y cyfarfodydd hynny i'r gwrthwyneb o fod yn gysurus neu'n gydgynllwyniol, ond maen nhw'n gwneud y gwaith caled, a dyna'r hyn yr ydych chi'n disgwyl iddyn nhw ei wneud. Maen nhw'n fannau lle ceir sgyrsiau anodd lle na chaiff negeseuon fyth eu cyflwyno mewn ffyrdd amwys, ond mewn ffordd sydd â'r nod yn y pen draw o ddod i gytundeb, weithiau dros faterion heriol iawn, y gall pawb yn y pen draw ymrwymo iddo. Diolch iddi am y profiad blaenorol yna ac am y ffordd y mae'n cyfrannu at y Cynulliad hwn o'r profiad hwnnw.
Wrth gwrs, mae adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn tynnu ar waith y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd, a'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Maen nhw i gyd yn dweud yr un peth, sef bod cyd-fargeinio yn dda i weithwyr, i gyflogwyr ac i'r economi. Dyna pam ein bod ni eisiau gweld cyd-fargeinio'n cael ei hymestyn yma yng Nghymru. Mae cyd-fargeinio yn arwain at rannu'r economi'n decach rhwng gweithwyr ac eraill, ac mae economïau tecach yn gwneud yn well. Does dim syndod, nac oes, fod economïau mwy cyfartal yn gwneud yn well, oherwydd eu bod yn tynnu ar gronfa ehangach o ddoniau o ganlyniad i hynny. Dyna'r diben sy'n sail i'n Bil partneriaeth gymdeithasol: sicrhau y gellir elwa a gweithredu'n briodol ar gyfraniad pawb sy'n helpu i wneud Cymru'n lle mwy ffyniannus. Caiff strwythurau'r bartneriaeth eu diwygio i gefnogi hynny. Bydd y Bil yn diffinio natur y bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Ac, i ateb sylw olaf Dawn Bowden, wrth gwrs, mae pawb sy'n dod at y bwrdd yn dod yno'n bartneriaid cydradd, gyda phob un â rhywbeth gwahanol i'w gyfrannu, pob un â'r un gwerth yn y cyfraniad hwnnw.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am y copi ymlaen llaw, a dweud hefyd pa mor braf yw gweld faint o'i ddatganiadau gweinidogol y mae'n aros ar eu cyfer? Nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cofio ei weld yn San Steffan erioed. Mae gennyf i dri maes yr oeddwn i eisiau ei holi yn eu cylch yma. Mae'r cyfeiriadau—. Dechreuodd drwy ganmol ein model o bartneriaeth gymdeithasol a gwneud cryn dipyn o gyfeiriadau at undebau llafur a'r TUC, roeddwn yn credu bod llai o gyfeiriadau at fusnesau a'u sefydliadau cynrychioliadol—meddwl oeddwn i tybed a yw hynny'n rhywbeth y bydd yn ceisio ei unioni yn y dyfodol. Hefyd, yn fwy cyffredinol, a yw'n gweld swyddogaeth Llywodraeth Cymru fel hwylusydd ar gyfer yr undebau llafur a busnes, neu fel Llywodraeth Lafur yn bennaf, yn cefnogi'r undebau llafur yn y cyd-destun hwnnw? Pan fo'n sôn am sicrhau nwyddau cymdeithasol newydd drwy gynyddu'r gofyn ar y rhai sy'n cael arian cyhoeddus drwy'r contract economaidd, drwy gaffael cyhoeddus—y contract economaidd, a yw hynny'n rhywbeth sy'n berthnasol i gaffael cyhoeddus yn gyffredinol, neu i gyfran benodol ohono yn unig? A tybed beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weld a oes unrhyw effaith ar werth am arian wrth fynd ar drywydd pethau fel hyn? Yn amlwg, weithiau, os na fydd rhywun yn gwneud y gwahanol bethau y byddai'n eu dymuno, ac rwy'n siŵr bod llawer o'r rhain yn nwyddau cymdeithasol y byddem yn eu cefnogi, a fydden nhw'n cael eu heithrio o'r contractau? A phe bai gennych chi lai o bobl yn gwneud cais am gontractau o fewn cwmpas hyn, a allai hynny gynyddu costau, o leiaf dros y tymor canolig?
Yn olaf, wrth weithredu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dywed y Prif Weinidog:
Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol.
Tybed a ydyn nhw'n bethau gwahanol? A fydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn cychwyn y ddyletswydd neu, pan fo'n cyfeirio at y camau sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd hon, a ydyn nhw'n wahanol? A yw deddfwriaeth San Steffan yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn arni lle nad yw Gweinidogion y DU yn cychwyn ar hyn yn Lloegr? Mae'n cyfeirio at Ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, ond rwyf hefyd yn cofio yn ystod ei hynt, gyfeiriad at y ffaith y gellid dadlau bod hyn yn sosialaeth mewn un cymal. Ai dyna y mae hyn yn cyfeirio ato ac ai dyna pam mae'r Prif Weinidog yn arwain yn y maes hwn yn y modd y mae wedi'i gyhoeddi heddiw?
Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau hynny. Ceisiais yn fy natganiad ymdrin â llawer agwedd, a cheisiais sicrhau fy mod yn rhoi sylw priodol i'r cyfraniad y mae busnesau, yn gyflogwyr y sector cyhoeddus a chyflogwyr y sector preifat, wedi'i wneud i ddatblygiad partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Roedd hi'n braf iawn gweld y croeso a roddodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, a'm barn i yw bod busnesau'n bartneriaid cydradd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Ac maen nhw'n bartneriaid cydradd â'r Llywodraeth hefyd. Nid wyf yn gweld Llywodraeth fel hwylusydd yn y ffordd yr awgrymodd Mark Reckless; mae'r Llywodraeth yn bartner mewn trefniant teirochrog. Mae'r Llywodraeth yn rhan, mae undebau llafur yn rhan, mae cyflogwyr yn rhan, a deuwn ynghyd â'n cyfrifoldebau gwahanol a'n galluoedd gwahanol i weithredu i ganolbwyntio ar broblemau yr ydym ni'n eu rhannu ymysg ein gilydd a lle gallwn ni, drwy ddal sylw gyda'n gilydd, gael gwell deilliannau.
Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau mwy o adenillion ar y buddsoddiad a wneir gan drethdalwyr Cymru wrth adeiladu economi Cymru. Rydym ni'n awyddus iawn i ddal ati fel Llywodraeth i fuddsoddi yn economi Cymru, buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith, buddsoddi mewn cynorthwyo busnesau unigol, lle mae achos i wneud hynny. Ond, yn gyfnewid, mae'n briodol, pan fydd y trethdalwr yng Nghymru yn gwneud y cyfraniad hwnnw, ei fod yn gallu dweud wrth y rhai sy'n elwa ar y cyfraniad hwnnw ein bod, er enghraifft, yn disgwyl iddyn nhw ddarparu cyfleusterau iechyd galwedigaethol priodol i bobl sy'n gweithio iddyn nhw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw fuddsoddi yn sgiliau parhaus y gweithlu hwnnw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ymateb i'r gri a glywir yn aml yn y Siambr hon i sicrhau bod iechyd meddwl a lles pobl sy'n gweithio yn y sectorau hynny yn cael gofal hefyd. Mae'r rhain i gyd yn nwyddau cyhoeddus, mae'r rhain i gyd yn amcanion, rwy'n credu, y mae cefnogaeth eang iddyn nhw drwy'r Siambr, lle caiff arian cyhoeddus Cymru'n ei wario, credwn fod gennym ni'r hawl i ofyn iddo gyflawni'r agendâu ehangach hynny hefyd.
Pan na chaiff pethau eu cyflawni, a yw hynny'n golygu bod sefydliadau'n cael eu heithrio rhag gwneud cais am gontractau? Wel, mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n mynd o'i le. Os na fydd cwmnïau'n gweithredu yn unol â'r gyfraith, drwy gosbrestru, er enghraifft, ni allant ddisgwyl y byddant yn cael contractau o bwrs y wlad. Pan fo cwmni'n gweithio'n galed i gyflawni agwedd ar gytundeb yr ydym ni wedi'i daro gyda nhw ond nad ydyn nhw wedi cyflawni hynny eto, er enghraifft, cael gwasanaeth iechyd galwedigaethol, wel, wrth gwrs, ni fyddai hynny'n eithrio cwmni rhag cymryd rhan na gwneud cais am gontract. Felly mae'n dibynnu ar natur y mater dan sylw.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ddisgrifiad o ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb fel 'sosialaeth mewn un cymal'; mae'n fy annog i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno'r Ddeddf a'r Bil gerbron y Cynulliad. Rydym ni'n dal i weithio, i ateb cwestiwn penodol Mark Reckless, ynglŷn â'r ffordd orau i'w chychwyn. Efallai y bydd hynny'n digwydd drwy'r Bil, efallai y gallwn ni ei gwneud yn gyflymach, ond mae eich atgof o 'sosialaeth mewn un cymal' yn fy annog i'w chyflwyno gerbron y Cynulliad mor gyflym ag sy'n bosib.
Mae'r datganiad wedi disgrifio llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym Mlaenau Gwent, o gyflogau isel, gwaith ansicr i anawsterau y mae'r stryd fawr a chyflogwyr ac eraill yn eu hwynebu. Gobeithiaf mai'r hyn y gallwch chi ei wneud i fynd â hyn yn ei flaen yw mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi mewn gwaith sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Yn rhy aml o lawer gwelwn ddatganiadau i'r wasg o wahanol fannau yn dweud wrthym am y gwaith sy'n cael ei greu heb ddisgrifio beth yw'r gwaith hwnnw byth, a'r effaith y mae'n ei gael ar deuluoedd a'r economi ehangach. Felly, gobeithiaf y byddwn yn gallu defnyddio'r datganiad hwn a'r darn hwn o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â materion megis tlodi mewn gwaith.
Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, wrth geisio disgrifio'r atebion, y byddwn yn chwilio am atebion cydweithredol ac ar y cyd hefyd. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog Lee Waters wedi rhoi pwyslais mawr ar yr economi leoliadol a'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati i gydweithio i ymdrin â'r materion hyn yn ei waith, yn enwedig gyda thasglu'r Cymoedd. Rwy'n gefnogol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio felly y byddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth yma er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y datrysiadau cydweithredol.
Prif Weinidog, byddwch hefyd yn ymwybodol bod Cytuniad Lisbon, wrth gwrs, yn cydnabod partneriaethau cymdeithasol yn yr Undeb Ewropeaidd, a defnyddiwyd hynny i hybu'r ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi sicrhau bod partneriaid cymdeithasol bob amser yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniad ar draws yr Undeb. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar Gytuniad Lisbon, ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio hwnnw yn fodel ar gyfer cyflwyno partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, y byddwn yn gallu edrych ar hyn o ran y gronfa ffyniant gyffredin, fel bod partneriaethau cymdeithasol honno'n rhan annatod o hynny.
Prif Weinidog, gallwn wneud y newidiadau cyfreithiol a gallwn newid y fframwaith statudol, ond byddwch, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod newid gwirioneddol yn deillio o newid diwylliannol, a byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu sut yr ydych chi'n credu y gellir defnyddio'r newid statudol hwn—y newidiadau i sail gyfreithiol yr hyn a wnawn—i sbarduno newid diwylliannol drwy'n holl economi a'n sector cyhoeddus.
Fy nghwestiwn olaf i chi yw hyn, Prif Weinidog: mewn llawer ffordd, yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw ymagwedd sosialaidd, Llafur Cymru at globaleiddio ac effaith globaleiddio ar ein heconomïau lleol. Rydym ni wedi gweld o senoffobia Plaid Brexit ac eraill bod ymatebion gwahanol iawn i effaith globaleiddio ar bobl a chymunedau. Drwy ein partneriaeth ag undebau llafur a thrwy weithio gyda'n gilydd ar sail gydweithredol, gobeithiaf y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydych chi'n ei ddisgrifio, a diwygio radical drwy'r sector cyhoeddus i gyd.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod creu Cymru sy'n fwy cyfartal yn un o nodau sylfaenol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod ceisio cael cenedl fwy cyfartal wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, a bydd hynny'n wir am y gwaith partneriaeth gymdeithasol hefyd, am yr union resymau a fynegwyd gan Alun Davies am ei etholaeth ei hun. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o gyfarfod â grŵp cydweithredol Aelodau'r Cynulliad yn y fan yma. Cafwyd cyfres o syniadau ymarferol iawn yn gyflym iawn o'r cyfarfod hwnnw, a bydd yn sicr yn ein helpu i ffurfio ein meddylfryd yn y dyfodol a bod yn rhan o'r agenda partneriaeth gymdeithasol ehangach honno.
Nid yw'n syndod, Dirprwy Lywydd, pan aethom ati i sefydlu pwyllgor monitro rhaglenni Cymru gyfan ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd yma yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Huw Irranca-Davies, fod yr ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth gymdeithasol yn dod yn naturiol iawn i ni yma yng Nghymru. Mae pawb sydd â diddordeb mewn gwneud llwyddiant o gyllid Ewropeaidd o amgylch y bwrdd gyda'i gilydd, ac mae ein partneriaid o'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi dod i weithio gyda ni, i arsylwi ar yr hyn a wnawn ni, i rannu eu profiadau nhw a'n rhai ni, maen nhw yr un mor gartrefol yn y ffordd honno o wneud pethau. Ac mae hynny oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, mae globaleiddio'n galw am ymateb lleol. Ac os ydych chi'n mynd i roi hyder i bobl fod ganddyn nhw le yn y byd hwn sydd wedi'i globaleiddio, bod eu dyfodol i raddau yn eu dwylo eu hunain, yna cryfhau hawliau gweithwyr, cryfhau amddiffyniadau cymdeithasol—maen nhw'n magu'r hyder sydd wedyn yn arwain at y newidiadau diwylliannol hynny. Ac rwy'n credu bod gennym ni lawer o hynny eisoes ar waith yn y profiad o bartneriaeth gymdeithasol yr ydym ni wedi'i feithrin yng Nghymru. Mae'r Bil a'r camau gweithredu eraill a amlinellais y prynhawn yma wedi eu cynllunio i ddatblygu hynny ymhellach, i roi hyder y gyfraith yn sail i hynny ac, yn hynny o beth, i saernïo ymatebion sy'n cael effaith fawr ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac, yn bennaf oll, ym mywydau trigolion lleoedd fel Blaenau Gwent, lle mae'r angen am y mesurau diogelu cymdeithasol hynny a'r angen am y bartneriaeth gymdeithasol honno yn fwy pwysig nag erioed.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sôn am bolisïau fel y contract economaidd, Swyddi Gwell yn Nes Adref a'r economi sefydliadol. Mae pob un o'r rhain yn cynnig model gwahanol iawn ar gyfer datblygu economaidd a gallant wella amodau i weithwyr Cymru.
Hoffwn adeiladu ar y sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies am yr angen am newid diwylliannol, ac ymddengys i mi mai un o'r newidiadau diwylliannol allweddol y mae arnom ni eu hangen er mwyn gwneud i'r bartneriaeth gymdeithasol hon weithio mewn gwirionedd yw cael mwy o weithwyr o Gymru i ymuno ag undebau llafur, a dywedaf hynny fel aelod balch iawn o ddau undeb rhagorol, y GMB ac USDAW. O edrych ar rai ystadegau, gallaf weld bod ychydig dros 30 y cant o weithwyr Cymru yn aelodau o undebau llafur ar hyn o bryd, a oedd yn ymddangos yn eithaf isel i mi ond mewn gwirionedd mae'n fwy na'r DU gyfan ac eithrio Gogledd Iwerddon, ac yn 2018 gwelwyd un o'r ymchwyddiadau mwyaf yng ngweithlu undebol Cymru, sy'n amlwg yn newyddion da. Ond yr hyn yr hoffwn i ei ofyn yw beth arall gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog aelodaeth o undebau llafur.
Croesawaf hefyd eich cyfeiriad at gamau pellach i greu swyddfa ar gyfer gwaith teg, a byddai o ddiddordeb imi wybod pa fath o systemau fydd ar waith i'w alluogi i ysgogi newid ac i fynd i'r afael ag arferion gwaith annheg.
Fel Aelodau Cynulliad eraill, derbyniais gopi o gerdyn sgorio archfarchnadoedd Oxfam yn ddiweddar, sy'n gwerthuso sut mae archfarchnadoedd yn mynd ati i roi terfyn ar ddioddefaint pobl yn eu cadwyni cyflenwi byd-eang. Gan fod eich datganiad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag arferion gwaith sy'n camfanteisio, sut gellir cynnwys y pryderon ehangach hyn yn ein polisïau partneriaeth gymdeithasol er mwyn adlewyrchu ein rhwymedigaethau rhyngwladol? Yn olaf, ni chlywais sôn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eich datganiad, felly hoffwn ofyn sut fydd honno'n rhan o flaenoriaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ynglŷn â phartneriaethau cymdeithasol.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n aelod o'r undeb llafur sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig os yw'n aelod o USDAW. Ac mae hynny'n bwysig iawn, onid yw, oherwydd rydym ni wedi arfer yng Nghymru cael dwyseddau uchel o aelodaeth o undebau llafur mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mewn lleoliadau sector cyhoeddus, ond mae USDAW yn undeb llafur sy'n gweithredu yn y sector y soniodd hi amdano, yn y sector adwerthu, mewn siopau lle'r oedd adroddiad Oxfam yn canolbwyntio arnyn nhw. Rwyf wedi bod yn falch iawn, fel llawer o bobl eraill yma, i fod yn rhan o ymgyrchoedd y mae USDAW wedi'u cynnal, yn lleol mewn etholaethau ac yn genedlaethol, ac mae wedi llwyddo i fod yn undeb llafur sy'n tyfu oherwydd mae'n gweithredu mewn ffordd newydd. Mae'n dibynnu ar ddarbwyllo pobl ynghylch y manteision uniongyrchol a ddaw yn sgil aelodaeth o undeb llafur, ac yna'r manteision cyfunol a gânt o gydweithio. Rwy'n gwybod fod rhai gwersi pwysig ar gyfer y mudiad undebau llafur ehangach, y mae'r TUC yn genedlaethol wedi bod yn awyddus i elwa arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ni, fel Llywodraeth ac unigolion, gefnogi'r ymdrech honno.
Rwy'n gwybod y bydd llawer o'm cyd-Aelodau yma wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch gweithwyr ifanc, sy'n cael ei rhedeg gan Unsain, a oedd yma yn y Cynulliad wythnos neu ddwy yn ôl, ac sy'n ceisio gwneud yr un peth ar gyfer gweithwyr newydd—pobl ifanc sy'n dechrau gweithio mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus—ac eto i egluro wrthyn nhw ac i'w cyflwyno i fanteision ymaelodi ag undeb.
O ran y gyfarwyddiaeth yr ydym ni'n ei sefydlu, roeddwn yn awyddus y dylai fod yn swyddfa'r Prif Weinidog am y rhesymau a amlinellais yn gynharach, sef y dylai fod ganddi ddigon o awdurdod y tu ôl iddi, ond y dylai weithredu hefyd â nifer sylweddol o weithwyr ar secondiad sy'n trosglwyddo i'r gwaith yn uniongyrchol o fudiad yr undebau llafur ac yn uniongyrchol o gyflogwyr hefyd. Os mai cyfarwyddiaeth ynghylch partneriaeth gymdeithasol yw hon, mae angen iddi weithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol, ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n rhan o hynny, ond mae hefyd yn golygu cael cyfranogiad uniongyrchol gan bobl o'r byd ehangach hwnnw. Rydym ni eisoes yn siarad â TUC Cymru a sefydliadau cyflogwyr am y ffordd y maen nhw'n dod o hyd i'r bobl briodol i ddod i weithio gyda ni ar yr agenda hon.
Ac, yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni soniais am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y datganiad ei hun, ond fe wnes i sôn am sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn cydweddu â'r tirlun deddfwriaethol ehangach. Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol oedd gennyf dan sylw, ac roedd gennyf hynny mewn golwg yn y modd y bu imi ymateb i Alun Davies—mai wrth wraidd y Ddeddf, yn un o'i saith nod, mae creu Cymru fwy cyfartal. Dyna'r uchelgais sy'n gyrru partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru ac sy'n sbarduno ein huchelgais i ddod â Bil gerbron i'w ystyried gan y Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi wedi bod yn glir i mi ers imi gael fy mhenodi i'r portffolio hwn fod gennym ni awydd cyffredin ar draws y Siambr hon i weld cynnydd yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy. A, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yr un mor glir mai tai cymdeithasol yn benodol yw fy mlaenoriaeth i. Ni ellir gorbwysleisio'r effaith gadarnhaol y mae tai cymdeithasol o ansawdd da yn ei chael ar fywyd rhywun. Dyma pam y comisiynodd fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o'n trefniadau tai fforddiadwy y llynedd i edrych yn fanwl ar ein dull o weithredu ac awgrymu newidiadau a fyddai'n ein helpu i gyflawni mwy.
Ar 1 Mai, cefais yr adroddiad terfynol o'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion ynghylch sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy yr ydym yn eu darparu yng Nghymru heb gyfaddawdu o ran effeithlonrwydd ynni, ansawdd na fforddiadwyedd i denantiaid. Treuliodd y panel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, gryn dipyn o amser yn edrych ar bob agwedd ar gyflenwad tai fforddiadwy a heddiw rwy'n falch iawn o rannu ymateb cychwynnol y Llywodraeth i'r argymhellion â chi. Dyma'r cyntaf o gyfres o ymatebion i adolygiadau ac ymgynghoriadau sydd i fod i gael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf. Bydd gennyf fwy i'w ddweud maes o law am ddatgarboneiddio, materion cynllunio a rheoliadau adeiladu. Rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i gysoni'r polisïau ym mhob un o'r meysydd hyn.
Rwyf eisiau diolch, unwaith eto, i'r panel annibynnol am eu gwaith. Fe wnaeth y rhain ymgysylltu â'r sector tai drwyddo draw ac ag Aelodau'r Cynulliad. Gwerthfawrogir yn fawr yr amser a fuddsoddwyd ganddyn nhw yn yr adolygiad hwn, gan eu tynnu'n rheolaidd o'u swyddi dyddiol yn ystod y flwyddyn. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol a pharhaol i dai yng Nghymru, a chredaf y bydd hynny'n golygu goblygiadau cadarnhaol parhaus am flynyddoedd i ddod. Roedd hi'n bwysig iawn i mi nad oedd hwn yn adroddiad a oedd yn casglu llwch ar silff. Rwyf wedi bod yn awyddus, felly, i ymateb yn gyflym ac yn bendant. Rwyf eisiau i bob un ohonoch chi fod yn ymwybodol o fwriadau'r Llywodraeth, a dyna pam yr anfonais ymateb ysgrifenedig i bob argymhelliad atoch yn gynharach heddiw.
Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob argymhelliad, gydag un eithriad o ran dyfodol Cymorth i Brynu. Nid ydym ni mewn sefyllfa i ymateb tan yr hydref, pan fyddwn ni'n ymwybodol o'r arian canlyniadol y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'r argymhellion heddiw. Rwyf eisiau, fodd bynnag, cynnig fy sylwadau ar rai o'r prif ganfyddiadau.
Tynnodd y panel sylw at bwysigrwydd deall yr angen am dai a rhai o'r heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn y maes hwn. Pwysleisiwyd y rhan gref y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru ei chwarae, a phwysigrwydd cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr angen am dai a'r broses gynllunio. Rwy'n derbyn y feirniadaeth hon ac yn croesawu eu cefnogaeth i'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud ar asesu angen ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae eu hawgrym y dylid ymestyn y gwaith hwn i lefel leol nawr yn un yr wyf yn ei gefnogi ac yn bwriadu rhoi sylw iddo.
Rwy'n gwybod mai pennu polisi rhenti oedd un o agweddau mwyaf heriol a dadleuol yr adolygiad, gyda safbwyntiau cryf a gwrthgyferbyniol yn cael eu mynegi o wahanol rannau o'r sector. Cytunaf â'r panel adolygu fod angen parhaus am bolisi rhent i roi sicrwydd i denantiaid a landlordiaid ac y dylai landlordiaid fod yn ystyried gwerth am arian ac arbedion effeithlonrwydd i gyfiawnhau codiadau rhent. O ganlyniad, cyn toriad yr haf, byddaf yn cyhoeddi beth fydd y polisi rhent pum mlynedd ar ôl imi gael yr holl ddata angenrheidiol. Byddaf yn sicrhau bod fy mhenderfyniad yn cydbwyso'r angen i landlordiaid gael sicrwydd ynghylch yr incwm rhentu y gallan nhw ei ddisgwyl, gyda sicrhau fforddiadwyedd i denantiaid.
Maes arall o'r adolygiad rwy'n gwybod iddo ysgogi trafodaeth gref oedd natur yr arian grant sydd ar gael i bartneriaid a'r modd y dosberthir hyn. Mae'r panel wedi argymell dull newydd o weithredu, gan gefnu ar ein dull safonedig o ddyrannu grantiau i un o sicrwydd cyllid tymor hwy ac asesiad mwy cadarn o werth am arian. Er nad wyf yn cytuno â phob agwedd ar y dull gweithredu y mae'r panel wedi'i argymell yn ei adroddiad, rwy'n derbyn yr argymhelliad ar gyfer newid a mwy o hyblygrwydd. Nid oes angen swm y cymhorthdal a dderbyniant ar hyn o bryd ar rai cynlluniau, ac mae'n bosib nad yw eraill yn dod ymlaen am nad yw lefel y cymhorthdal yn ddigon i'w gwneud hi'n ymarferol. Mae tîm a fydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eisoes wedi'i sefydlu i ddatblygu dull gweithredu newydd. Yn y pen draw, bydd hyn yn ein galluogi ni i sicrhau bod ein buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib yn y mannau lle mae ei angen fwyaf.
Un o'r ffyrdd allweddol a fyddai'n ein galluogi ni i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yw i awdurdodau lleol fynd yn ôl i adeiladu tai cyngor yn gyflym ac ar raddfa fwy. Bydd codi'r terfyn benthyca, y mae hi'n hen bryd ei wneud, yn gatalydd pwysig ar gyfer hyn, fel y bydd gallu cael grant gan Lywodraeth Cymru, sef yr hyn y mae'r panel adolygu yn ei argymell. Pan fo'n briodol, rwyf yn barod i ddarparu grantiau i awdurdodau uchelgeisiol, i'w defnyddio ochr yn ochr â'r hyblygrwydd y mae codi'r terfyn benthyca yn ei greu. Yn amlwg, mae manylder y trefniant hwn yn rhywbeth y byddaf eisiau cytuno arno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae hwn yn gyfle enfawr i adeiladu mwy o dai fforddiadwy dros y degawd nesaf a thu hwnt. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid i wneud y gorau o adnoddau cyfyngedig, rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn manteisio ar y cyfle hwn.
Rwy'n derbyn barn y panel y dylid gwneud mwy i ddefnyddio'r tir sydd ar gael ar draws y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol ac yn gynt i gefnogi adeiladu tai. Cytunaf hefyd fod angen rhywfaint o adnoddau canolog i helpu awdurdodau lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i gyflwyno eu tir. Rwy'n derbyn yr egwyddor y dylai uned tir o ryw fath gefnogi'r defnydd mwy effeithiol o dir y sector cyhoeddus. Mae hwn yn fater y mae angen i'r sector cyhoeddus cyfan ei ystyried yn well. Mae angen i ni fod yn llawer mwy doeth yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio tir cyhoeddus i gefnogi ystod ehangach o amcanion yn hytrach na dim ond cael yr arian mwyaf amdano, ac rwyf eisiau gweld gwell cydweithio rhwng sefydliadau i helpu i gyflawni hyn. Ynghyd â'm cyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, mae hwn yn fater y bydd gennyf fwy i ddweud amdano dros y misoedd nesaf.
O ystyried mai prif gylch gwaith y panel oedd ein cynghori ar sut i adeiladu mwy o gartrefi heb adnoddau ychwanegol, byddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw argymell newidiadau a fyddai'n peryglu'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi fforddiadwy sy'n derbyn cymhorthdal gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod bod yr ansawdd a'r gofod sydd ar gael mewn cartref yn elfen hanfodol o'r effaith gadarnhaol y mae cartrefi newydd yn ei chael. Roeddent hefyd yn cydnabod yr hyblygrwydd y mae hyn yn ei gynnig, pe bai anghenion rhywun yn newid yn y dyfodol. Rwy'n eu canmol am hyn ac yn derbyn yr angen i symleiddio safonau a'u hymestyn i eiddo adran 106. Ein nod yw sicrhau y dylai cartrefi a gyflenwir drwy'r farchnad fod o ansawdd cyfartal â'r rhai yr ydym ni yn eu hariannu, beth bynnag fo'r goblygiadau o ran elw datblygwyr.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr angen i symud yn gyflym tuag at gartrefi di-garbon yn y sectorau fforddiadwy a'r farchnad arferol. Mae symud tuag at fod yn ddi-garbon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon; mae angen inni gyflawni hyn cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru i benderfynu a allwn ni gyflawni targed 2021 a gynigir yn yr adolygiad. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi a datblygu dulliau newydd o ddarparu tai sy'n gwyro oddi wrth y dull traddodiadol o weithredu. Rwy'n falch iawn heddiw, mewn ymateb i'r adolygiad, o lansio ein strategaeth ar weithgynhyrchu oddi ar y safle, yr ydym ni wedi'i alw'n 'Ail-ddychmygu Tai Cymdeithasol yng Nghymru'. Bydd gweithgynhyrchu oddi ar y safle, dulliau modern o adeiladu, a gwneud mwy o ddefnydd o goed Cymru wrth wraidd ein cynlluniau di-garbon. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o ddarparu'r modelau newydd hyn drwy ein rhaglen dai arloesol. Byddaf yn cyhoeddi cam nesaf y datblygiad hwn yn yr hydref.
Roedd yr adolygiad yn cydnabod yn briodol, o ystyried maint yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, bod yn rhaid i ni graffu ar ein holl benderfyniadau ariannu a'u cyfiawnhau er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr adenillion mwyaf ar y buddsoddiadau a wnawn. Mae hyn yn cynnwys ein buddsoddiad mewn cartrefi sy'n bodoli eisoes. Telir y lwfans gwaddol ac atgyweiriadau mawr gwerth £108 miliwn yn flynyddol i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr ac awdurdodau lleol sy'n cadw stoc. Rwy'n cytuno â'r panel adolygu, pan gaiff safon ansawdd tai Cymru ei fodloni yn 2020, ein blaenoriaeth yw ystyried sut y dylid defnyddio'r adnodd sylweddol hwn i gyflymu'r modd y caiff cartrefi sy'n bodoli eisoes eu datgarboneiddio. Wrth gwrs, dyma'r mater sy'n cael ei ystyried gan yr adolygiad ar wahân dan gadeiryddiaeth Chris Jofeh, yr wyf yn disgwyl argymhellion arno ar 18 Gorffennaf—dydd Iau nesaf. Hyd yn oed cyn cael yr adroddiad hwnnw, rwy'n glir bod hwn yn faes lle y mae angen inni wneud cynnydd ar frys. Credaf fod awdurdodau lleol a'r sefydliadau trosglwyddo stoc yn rhannu'r farn honno.
Yn hytrach na chomisiynu adolygiad arall ar y mater hwn nawr, a fyddai'n oedi'r broses o symud ymlaen, bwriadaf sicrhau cytundeb diwygiedig gyda'r sefydliadau hynny yn ystod y flwyddyn nesaf a fyddai'n berthnasol i'r buddsoddiad hwn unwaith y byddwn ni wedi cyflawni ein safon ansawdd tai Cymru presennol. Wrth gwrs, mae comisiynu adolygiad annibynnol yn rhywbeth y byddwn yn barod i ddychwelyd ato yn ddiweddarach, os na fyddwn yn dod i gytundeb sy'n cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio. Mae'r adolygiad a gynhaliwyd gan Lynn Pamment a'i thîm wedi gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol at y ffordd yr ydym ni'n llunio'r agenda tai ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sy'n glir o'r adolygiad, a'n hymateb iddo, yw nad yw'r drefn bresennol yn ddewis. Gall newid fod yn heriol ac yn anghyfforddus, ond mae newid yn hanfodol os ydym ni'n mynd i gynyddu nifer y cartrefi yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen arnom ni.
Nid y newidiadau yr wyf yn eu cynnig heddiw yw'r unig rai y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau cymunedau cynaliadwy. Gwn fod meysydd lle'r ydym ni'n anghytuno, ond credaf hefyd fod llawer mwy o feysydd sy'n ymwneud â thai lle mae consensws ar draws y Siambr hon. Gobeithio felly y byddwch yn croesawu fy ymateb i'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Rwy'n cydnabod yr angen am newid, a bod yn rhaid inni ymdrechu i gael mwy o'r adnoddau presennol, ond rhaid inni beidio â gwneud hyn ar draul y cartrefi o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl, er mwyn inni adeiladu cymunedau y gallwn ni ymfalchïo ynddyn nhw. Mae hwn yn gyfle i newid y ffordd yr ydym ni'n darparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Mae gwir angen tai cymdeithasol yng Nghymru a dyma'r adeg i gynyddu cyflymder a maint y ddarpariaeth honno.
Rwy'n croesawu'r ysbryd, yn enwedig tua'r diwedd, o ran yr angen i weithio gyda'n gilydd a chynyddu cyflymder a graddfa adeiladu cartrefi cymdeithasol. Ond hefyd, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ein targedau a gosod uchelgais gwirioneddol ddifrifol ar gyfer y 2020au. Mae angen inni wneud hynny nawr er mwyn inni allu sicrhau bod yr holl ddulliau angenrheidiol ar waith er mwyn inni gael cynnydd yn y raddfa, wedyn, o ran adeiladu tai. Rwyf hefyd yn croesawu'r adolygiad. Credaf ei fod wedi gofyn rhai cwestiynau difrifol ac wedi rhoi rhai syniadau gwerthfawr. Mewn rhai meysydd eraill y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio atyn nhw, yn enwedig datgarboneiddio ac adolygiad Chris Jofeh, credaf y bydd y rheini, yn briodol yn cael triniaeth ar wahân. A gaf fi hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y rhybudd ymlaen llaw ac yn wir am y drafodaeth gychwynnol a gefais gyda Chris Jofeh ynghylch cyfeiriad tebygol yr adolygiad? Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn ac yn enghraifft o lywodraeth agored dda.
A gaf i symud, felly, yn fras at y meysydd lle y bydd cytundeb gwirioneddol, yn fy marn i? Rwyf eisiau dechrau, dim ond oherwydd fy ngweithgareddau ddoe, gyda gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Roeddwn yn falch iawn o weld hyn yn cael ei bwysleisio o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda dulliau adeiladu modern. Yn wir, yn strategaeth dai'r Ceidwadwyr a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fe wnaethom ni edrych ar hyn yn weddol benodol, gan gyfleu'r sylw sydd i hyn ar lawr gwlad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn pwysleisio hyn yn benodol o waith yr adolygiad. Yn wir, Gweinidog, a minnau'n dilyn yn ôl eich traed, a dweud y gwir, ddoe, ymwelais â ffatri dai fodiwlaidd Grŵp Wernick ym Margam, ac yna ymwelais â'r safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae Cymdeithas Tai Cymoedd i'r Arfordir wedi defnyddio dulliau gweithgynhyrchu o'r fath i adeiladu cartrefi fforddiadwy. Euthum i mewn ac roeddwn yn rhyfeddu at gyflymder y ddarpariaeth a pha mor dda oedd y cartrefi tair ystafell wely hynny a welais, yn edrych. Maen hyn yn llawer mwy cyffredin mewn sawl rhan o Ewrop, ac ar hyn o bryd prin 2 y cant neu 3 y cant o'n datblygiadau tai ni sy'n cael eu codi fel hyn, felly credaf fod angen inni edrych ar hyn. Ac yn wir, ym mholisi'r Ceidwadwyr, rydym yn addo cynyddu'r math hwn o weithgynhyrchu oddi ar y safle i hyd at 20 y cant o'r tai sy'n cael eu codi erbyn 2030. Felly, gobeithiaf y byddwch chithau hefyd yn mynegi'r math hwnnw o uchelgais.
Yn ail, o ran tir cyhoeddus, unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad, yn enwedig o ran mapio tir gwag, ynghyd â'i statws o ran potensial datblygu. Roeddwn yn meddwl tybed, o ran tir y sector cyhoeddus, a allem ni fynd hyd yn oed ymhellach a chynnig gostyngiadau i ddatblygiadau sy'n darparu gwerth cymdeithasol cryf, y mae tai fforddiadwy, wrth gwrs, yn ei wneud. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i Bwyllgor Materion Economaidd Tŷ'r Arglwyddi, mae rhwng chwarter a thraean yr holl dir preswyl posib yn cael ei reoli gan y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Drwy flaenoriaethu gwerth cymdeithasol yn gyfnewid am ostyngiad, er enghraifft, gellir defnyddio tir cyhoeddus er budd cyhoeddus hirdymor a gallai'r math hwn o gynllun gael ei ymestyn i dai ar gyfer proffesiynau hanfodol megis nyrsys, tai ar gyfer pobl hŷn a datblygiadau tai fforddiadwy cyffredinol a chynlluniau tai cydweithredol ac ati. Mae llawer y gallwn ei wneud drwy'r ffordd yr ydym yn rhyddhau tir ac yn ei ddefnyddio fel cymhelliad ac fel adnodd gwirioneddol. Os edrychaf ar rent, rwy'n croesawu'r cylch pum mlynedd hwn. Mae'n rhywbeth y mae'r sector wedi bod yn galw amdano. Ac fel y dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig, yn eu hymateb i'r datganiad hwn heddiw, mae arnom ni angen y cydbwysedd cywir sy'n darparu lefelau rhent fforddiadwy gan ganiatáu ar yr un pryd i sefydliadau tai barhau â'u datblygiadau a gynlluniwyd.
Felly, edrychaf ymlaen at gael manylion gwirioneddol eich polisi rhenti pum mlynedd, ond credaf, unwaith eto, mai dyna'r dull gweithredu strategol cywir a fydd yn caniatáu inni ddatblygu atebion tymor hir. Yn olaf, o ran cartrefi cyngor a dileu'r terfyn benthyca—unwaith eto, credaf fod hwn yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mae ei angen arnom ni ar hyn o bryd, bydd yn ein helpu i gynyddu nifer y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu, ond credaf fod angen inni bwysleisio y gall cynghorau hefyd weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill i ddefnyddio'r dulliau hyblyg hyn, felly nid oes rhaid iddyn nhw o reidrwydd adeiladu a rheoli'r cartrefi eu hunain, er pan fyddan nhw eisiau gwneud hynny a'u bod yn dangos gwir werth ac, yn amlwg, cynlluniau mwy hyblyg a llai o faint nag, efallai, yr hyn a welsom ni yn y 1950au a'r 1960au—. Ond mae'n sicr yn rhan o'r cyfuniad y gallwn ei gael.
Ac, yn olaf, hoffwn ddiolch ar goedd, fel y gwnaeth y Gweinidog, i'r panel ac i Lynn Pamment. Fel y dywedasoch chi yn gywir ddigon, mae'r bobl hyn wedi gwneud gwaith da iawn er lles y cyhoedd ac wedi rhoi o'u hamser wrth wneud hynny ac wedi aberthu, yn amlwg, o ran yr hyn y gallen nhw fod wedi'i wneud yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Ond rydym yn wir groesawu eu cyfraniad.
Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna. Fel y dywedais, roeddwn eisiau pwysleisio fy mod yn credu bod llawer mwy, ar draws y Siambr, sy'n ein cysylltu ni â'n gilydd ar hyn, a meysydd bach iawn o anghytundeb nad ydyn nhw mewn gwirionedd mor bwysig o ran yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma.
O ran y cartrefi modiwlaidd, rwy'n frwd iawn dros y slogan 'Not prefab but ab fab'. Fe wnaeth y cartrefi modiwlar y soniasoch chi amdanyn nhw yn eich ymweliad argraff fawr arnaf—bûm i yno ychydig o'ch blaen chi—ac fe wnaethon nhw argraff arnaf am nifer o resymau: yn gyntaf, pa mor gyflym y cawsant eu hadeiladu, ond yn ail yr ôl troed carbon isel iawn, natur leol llawer o'r deunydd. Rwy'n credu ein bod yn pwysleisio'n gryf yn ein rhaglen dai arloesol nid yn unig y natur fodiwlaidd oddi ar y safle—felly, yn amlwg, mae pobl sy'n gweithio ar y cartrefi yn eu hadeiladu mewn ffatri mewn amgylchedd cynnes, nid ym mhob tywydd, nid ar uchder a phob math o faterion eraill. Mae'r diwydiant yn hoff o ddweud na fyddech chi'n adeiladu Ferrari mewn cae, felly pam adeiladu tŷ ynddo, ac rwy'n credu bod hynny'n gyfatebiaeth resymol.
Ond hefyd, roeddwn eisiau pwysleisio'r ystod enfawr sydd ar gael o ran y cartrefi modiwlaidd, a'r gallu i adeiladu ar gyflymder a graddfa ddifrifol pan fo'r ffatrïoedd wedi'u sefydlu ac ar waith. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym ni ffatrïoedd lleol o amgylch Cymru, felly rydym yn defnyddio deunyddiau lleol, yn enwedig coed o Gymru, ac rydym yn eu helpu i gael yr ôl-troed carbon isaf posib, yn y gadwyn gyflenwi ac yna yn y tŷ wrth iddo gael ei adeiladu. Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio, fel y rhai a welsoch chi ar eich ymweliad, mai cartrefi am oes yw'r rhain, eu bod yn hawdd eu haddasu y tu mewn, y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol gyfnodau bywyd ac ati, ac, yn wir, gallwch ychwanegu Dirprwy Lywydd, dri modiwl arall ar yr ochr pan fydd eich wyrion eisiau dod i aros, sy'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y bydd gennych chi ddiddordeb mawr ynddo. Felly, ni allwn i gytuno mwy.
O ran y tir cyhoeddus, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau yn yr ystyr gorau posib ar gyfer tir cyhoeddus, felly rydym yn edrych eto ar ein canllawiau rheoli asedau ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gweld ein bod yn pwysleisio'r lles cymdeithasol sy'n deillio o ddefnyddio'r tir, nid dim ond yr arian parod y gellir ei gael o'r tir.
Mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd rhwng defnyddio'r arian cyfalaf a gawn ni ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a'r gallu i ddefnyddio'r tir i adeiladu'r math priodol o dai, felly gweithio gyda'r uned tir cyhoeddus sy'n datblygu er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng y rheini. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Rebecca Evans a Ken Skates ar ddarn o waith sy'n edrych ar yr ymagwedd strategol honno ar draws Llywodraeth Cymru a gydag awdurdodau lleol ar yr hyn y gellir ei wneud i gyfuno tir sy'n eiddo i awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru, yn enwedig yng nghyffiniau ardaloedd ar y ffin, i wneud yn siŵr y gallwn ni adeiladu'r mathau cywir o safleoedd.
Ni allwn gytuno mwy ag ef ynghylch y math o hyblygrwydd y gellid ei gael o ran yr holl ddarnau hynny o dir. Nid ydym ni'n sôn am ystad un math o dai mewn unrhyw ffordd; rydym ni'n sôn am ystadau tai cymysg sy'n caniatáu i bobl symud o gwmpas yn yr un gymuned, gan ddibynnu ar ofynion eu bywyd ar y pryd. Byddant yn gymysgedd o bopeth o dai perchennog-meddiannydd llawn i gwmnïau cydweithredol i ecwiti cymysg i dai cymdeithasol ac ati. Fodd bynnag, fy marn i yw y dylai pob un o'r tai hynny edrych yr un fath, beth bynnag fo'r ddeiliadaeth, ac y dylen nhw gael y lle a'r safonau cywir a'r mathau cywir o inswleiddio a'r mathau cywir o niwtraliaeth garbon fel y gallwch chi symud yn ddidrafferth rhyngddyn nhw.
Yn olaf, o ran y rhent, credaf i David Melding ddweud yn union yr hyn yr wyf yn ei gredu wrth ddweud ein bod yn croesawu'r sicrwydd, ond mae'n rhaid inni gael y lefel yn gywir. Felly, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso fforddiadwyedd i'r tenant â'r gallu i gael y ffrwd incwm ar gyfer yr adeiladwyr er mwyn inni allu adeiladu tai'r dyfodol.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu argymhellion yr adolygiad o dai fforddiadwy, ac mae cryn orgyffwrdd rhwng eu cynigion a'n cynigion ni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Chwefror eleni. Felly, rydym yn falch o weld bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hefyd. Rydym yn arbennig o falch o'r argymhellion y dylid rhoi mwy o sylw i ofynion pobl ag anableddau, ac y dylai anghenion eraill fod yn rhan o asesiadau'r farchnad dai leol. Rydym hefyd yn falch o'r pwyslais ar godi safonau adeiladau newydd sydd â gofynion sylfaenol o ran lle, a hefyd yr argymhelliad i sicrhau bod cartrefi newydd yn agos at fod yn ddi-garbon erbyn 2021. Rydych chi fwy neu lai wedi derbyn yr holl argymhellion hyn, yn amodol ar yr adolygiad o reoliadau adeiladu. Rwyf hefyd yn ymwybodol—ac fe wnaethoch chi sôn am hyn yn eich datganiad—y byddwch yn cael adroddiad yn fuan gydag argymhellion ar gyfer datgarboneiddio'r stoc tai presennol, ac edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb i'r adroddiad hwnnw.
Hoffwn ofyn i chi, Gweinidog: a ydych chi'n derbyn, er mwyn cyflawni canlyniadau'r argymhellion hyn mewn difrif, y bydd angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r system gynllunio'n gweithio? Yn amlwg, mae gan dai cymdeithasol ran i'w chwarae o ran darparu'r unedau newydd hyn, ac felly dylen nhw gymryd llawer mwy o ran yng ngham cynllunio'r cynllun datblygu lleol. Hefyd, hoffwn ofyn a ydych chi'n credu bod angen i gynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer gwasanaethu'r cymunedau newydd hyn chwarae rhan fwy canolog yn y datblygiadau lleol hyn. Nid ydym yn cyflawni dim drwy adeiladu cartrefi heb y cymunedau y mae arnom ni eu hangen i fynd gyda nhw.
Hoffwn hefyd ofyn a ydych chi o'r farn bod y datblygiadau a welsom ni dros y degawd diwethaf wedi cymryd cam yn ôl. Faint o'r datblygiadau hyn sydd wedi cael eu nodweddu gan ddatblygwyr mawr yn defnyddio eu pŵer monopoli i fanteisio ar ddefnyddwyr gyda chartrefi prydles, ystadau'n heb eu gorffen ac yn anorffenedig am flynyddoedd, a'r holl addewidion a dorrwyd ynghylch tai fforddiadwy, cyfleusterau newydd drwy gytundebau adran 106 ac yn y blaen? Felly a wnewch chi weithredu â mwy o frys i atal y problemau hyn rhag nodweddu'r datblygiadau sy'n mynd drwy'r system gynllunio ar hyn o bryd, gan na fydd yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn atal y datblygiadau presennol hynny hefyd rhag cael eu nodweddu gan y broblem hon?
Ymhellach, byddwch yn ymwybodol bod rhai awdurdodau lleol yn adolygu ac yn diweddaru eu cynlluniau datblygu lleol. A wnewch chi gadarnhau y dylai'r awdurdodau lleol hynny fod yn gwneud y gwaith hwn nawr, yn seiliedig ar yr egwyddorion y byddwch yn eu ffurfioli yn yr amrywiol safonau a chanllawiau newydd y byddwch yn eu creu o ganlyniad i dderbyn yr adroddiad hwn?
Yn olaf, mae'r panel yn argymell y dylai Cymorth i Brynu ganolbwyntio mwy ar brynwyr am y tro cyntaf ag eiddo o bris is. Mae eich ymateb yn dweud na allwch chi dderbyn na gwrthod yr argymhelliad nes eich bod yn gliriach ynghylch y sefyllfa ariannu ar gyfer hyn. Ond a gaf i ofyn a ydych yn derbyn yr egwyddor na ddylid ystyried bod cynllun sy'n rhoi cymhorthdal i gartrefi sy'n cael eu gwerthu am dros £200,000 i bobl sydd eisoes ar yr ysgol dai yn cyfrif tuag at darged ar gyfer tai fforddiadwy, gan fod y panel yn cytuno'n glir bod hyn ystumio'r ffeithiau?
Rwy'n fodlon dechrau gyda'r un olaf yna. Yr hyn nad ydym ni yn ei dderbyn yw manylion yr argymhellion Cymorth i Brynu. Nid wyf yn gwybod beth—neu pa un a oes cyllid canlyniadol, felly wn i ddim a allwn ni barhau ag ef o gwbl neu beth yw'r sefyllfa. Os ydym yn mynd i barhau, fodd bynnag, byddwn yn ei barhau ar ffurf wahanol iawn i'r ffurf a welwn ni ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cael llawer o ganlyniadau anfwriadol gyda chyllid Cymorth i Brynu, y byddaf yn gobeithio rhoi terfyn arnyn nhw. Rwyf wedi cael cyfarfodydd hir gyda swyddogion amrywiol ac eraill ynglŷn â lle mae ein pwerau cyfreithiol, er enghraifft, yn cwmpasu cytundebau 106 safonedig, er mwyn i ni fabwysiadu ffyrdd fel un enghraifft. Mae nifer o rai eraill lle gallwn ni gynorthwyo gyda chymwysterau ar hygyrchedd ar gyfer y cynllun mewn rhai amgylchiadau ac ar safleoedd penodol. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud llawer o hynny. Dydw i ddim mewn sefyllfa i roi unrhyw fanylion, oherwydd dydw i ddim yn gwybod a fyddwn ni'n gallu gwneud unrhyw beth oherwydd efallai nad oes gennym ni arian. Felly, dyna'r unig waharddiad, ond gallaf eich sicrhau na fydd y cynllun yr un sydd gennym ni yn ei le ar hyn o bryd.
I fynd drwy rai o'r lleill, cytunaf yn llwyr, fel y dywedais ar y dechrau, fod llawer o gonsensws yn y Siambr ynglŷn â'n sefyllfa bresennol ni. Mae'r papur yr ydych chi wedi ei gyflwyno yn cyd-fynd yn fras â'n papur ni heblaw am fanylion penodol, ac rwy'n siŵr hyd yn oed yn y fan honno y gallwn ni ddatrys y rhan fwyaf ohono. Cytunaf yn llwyr â'r sylw ynghylch anableddau. Un o'r pethau y byddwn yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau, wrth inni gyflwyno tir cyhoeddus ar gyfer y mathau hyn o ddatblygiadau, fod tai cymdeithasol yn ganolog i hynny, ond bod yr holl ddeiliadaethau eraill yn y datblygiad hwnnw wrth iddo ddod ymlaen yn cyfateb i hynny, fel y gall pobl fel y dywedais wrth David Melding, symud o gwmpas yn yr un gymuned pan fyddant mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd, heb orfod symud o'u cymuned er mwyn cael gallu byw mewn lle sy'n ystyriol o bobl anabl pan fyddant yn hen neu os oes rhywun ag anableddau yn eu teulu. Felly, rydym yn frwd iawn dros y cartrefi am oes hynny, fel y'u gelwir nhw, ac mae'r tai modiwlaidd, os cewch gyfle i ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw, wedi'u hadeiladu i raddau helaeth yn y modd hwnnw, a chredaf eu bod yn drawiadol iawn. Felly, cytunaf yn llwyr â hynny i gyd.
Rwy'n edrych yn fanwl ar y system gynllunio wrth i ni gyflwyno'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Bu oedi oherwydd isetholiad Brycheiniog a Maesyfed. Byddaf yn ei lansio, gobeithio, yn yr Eisteddfod, yr wythnos ar ôl yr etholiad, ac yna byddwn yn cael yr ymgynghoriad. Yr holl ddiben ynglŷn â'r broses gynllunio yw y bydd hynny gennym ni wedyn a'r lefel strategol pan roddwn y fframwaith llywodraeth leol ar waith, felly bydd gennym ni'r holl lefelau lle mae anghenion tai, i'r lefel leol, a bydd yn caniatáu i'r cynlluniau datblygu lleol fod y cynlluniau lleol y dylent fod wedi bod yn y lle cyntaf. Ond nid ydym ni wedi cael pen uchaf y systemau cynllunio hynny. Mae'r system gynllunio wedi'i chynllunio i fod yn system gynllunio yn ei chyfanrwydd, nid ar un lefel yn unig. Yna, wrth i'r cynlluniau datblygu lleol gael eu hadolygu, roedd Leanne yn llygad ei lle bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn adolygu'n briodol y ffordd y mae manylion penodol y cynllun lleol yn gweithio o ran y seilwaith a'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn gallu ei wneud wedyn o ran rhoi gwahanol ymrwymiadau adran 106 ar waith ac ati, ac ar ei dir ei hun, gan sicrhau bod y broses gynllunio mor agored â phosib, fel bod pobl, pan fyddant yn bwriadu adeiladu ar y tir hwnnw, yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran cynllunio eisoes, ac na fydd gennym ni'r problemau sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n credu ar y cyfan fy mod yn cytuno â phopeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Yr unig beth na soniasoch chi amdano, ond y soniaf innau amdano, yw bod gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych eto ar bwerau a gallu pobl i wneud pryniannau gorfodol hefyd, er mwyn inni allu adeiladu safleoedd yn y ffordd briodol. Gwyddom fod gallu anghyson ledled Cymru i wneud hynny, a byddwn yn adolygu'r broses gorchymyn prynu gorfodol i gyd-fynd â phroses y cynllun datblygu lleol.
Diolch yn fawr, Gweinidog. A gaf i ddweud fy mod yn falch iawn y bydd y pecyn o waith rydych yn ei gyhoeddi yn arwain at gyflwyno rhagor o gynlluniau wrth i Lywodraeth Cymru weithredu i ddarparu mwy o gartrefi i bobl Cymru, gan gynnwys, fel y gwelsom eisoes, y ddarpariaeth ehangach o dai di-garbon, mwy o adeiladu tai cyngor—ni all hynny ond fod yn beth da i ardaloedd fel fy ardal i ym Merthyr Tudful a Rhymni, yn enwedig os ydym ni, pan fydd gennym ni raglen adeiladu tai o'r fath, yn annog defnyddio adeiladwyr lleol fel y prif gontractwyr, oherwydd yn amlwg, bydd hynny'n helpu'r economi leol hefyd, a dyna i raddau helaeth iawn yw cyfeiriad y gwaith yn nhasglu'r Cymoedd, fel y gwyddoch chi.
Gyda llaw, Gweinidog, a gaf fi hefyd groesawu eich cyhoeddiad diweddar ar ymestyn y cyfnodau rhybudd ar gyfer adran 21 yn y Ddeddf Tai? Gwn nad yw hynny'n rhan o'r datganiad hwn nac yn rhan o'r adolygiad hwn, ond, serch hynny, fel pecyn cyffredinol o ran mesurau tai yng Nghymru, rwy'n gobeithio y bydd hynny, yn y pen draw, yn arwain at ddiddymu adran 21 a gwella amodau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn y sector tai.
Fodd bynnag, i ddychwelyd at eich datganiad, a heb fod eisiau ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, neu'r hyn yr ydych chi eisoes wedi ymdrin ag ef, mae un agwedd ar yr adroddiad y byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed mwy amdano gennych chi, a dyna'r syniad o gorff hyd braich i weithredu fel canolbwynt i reoli tir y sector cyhoeddus. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed am unrhyw syniadau cychwynnol sydd gennych chi am gorff o'r fath. Yn amlwg, mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i angen a diben y pwerau hynny, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni pa fanteision y byddech chi'n disgwyl eu gweld yn deillio ohono, a sut y byddech yn ei weld yn gweithredu mewn cysylltiad â'r cytundeb dinas-ranbarth neu dasglu'r Cymoedd, neu hyd yn oed lywodraeth leol, ac yn arbennig unrhyw rai o'r cynlluniau cartrefi gwag sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â'r un diwethaf, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud—yn fy natganiad yn ddiweddar iawn ynglŷn â llywodraethau lleol yn gweithio'n rhanbarthol, dywedais ein bod yn cyflwyno cyfrwng newydd ar gyfer gweithio'n rhanbarthol i lywodraeth leol yn y Bil hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth a elwir yn gyd-bwyllgor statudol. Nid yw'r gair 'statudol' yn golygu gorfodol; y cyfan y mae'n ei olygu yw bod gan y pwyllgor endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun—gall gyflogi ei staff yn uniongyrchol ac ati. Mae'n gyfrwng perffaith ar gyfer y math hwn o ddatblygu economaidd a defnydd tir oherwydd mae'n caniatáu i ni gronni'r adnoddau dynol prin sydd mewn gwirionedd wrth wraidd y broblem hon. Gan fod awdurdodau lleol wedi wynebu cyni yn ystod y naw mlynedd diwethaf, maen nhw wedi colli llawer o'r sgiliau dewisol a arferai fodoli yn yr awdurdod lleol o ran negodi cytundebau 106, sgiliau'r gorchymyn prynu gorfodol, y sgiliau rheoli tir—maen nhw wedi colli'r rheini o reidrwydd gan eu bod wedi canolbwyntio ar y dyletswyddau statudol mawr. Felly, bydd hyn yn eu galluogi nhw i gael eu cyflogi'n rhanbarthol a hefyd i ddal y tir yn rhanbarthol fel na fydd gennym ni broblemau o ran ffiniau. Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu defnyddio i roi tir Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny drwy gyfrwng rhyw fath o adran dir. Mae angen inni edrych ar y ddeddfwriaeth ar gyfer hynny, oherwydd bydd pawb sy'n cyflwyno eu tir eisiau rhywfaint o lais yn y ffordd y caiff y datblygiad ei wneud. Ond dyna holl fwriad y trefniant rhanbarthol hwnnw—er mwyn sicrhau bod gennym ni reolaeth ddemocrataidd dros yr hyn sydd, i bob diben, yn drefniant tir rhanbarthol, i gyflogi'r adnoddau dynol prin. Yr adnoddau dynol prin hynny yw gwir graidd hyn.
Mae hefyd yn caniatáu inni siarad yn rhanbarthol am, er enghraifft, cymorth grant, gwahanol ffyrdd o ddyrannu gwahanol fathau o gymorth grant, yn dibynnu ar beth yw'r datblygiad ac ati. Ac rydym yn awyddus iawn i awdurdodau lleol symud oddi wrth werthu eu tir i ddatblygwyr yn unig er mwyn codi tai, a bod yn hytrach ag elfen o berchnogaeth yn y tir hwnnw a chael rhan o'r cynnydd yn y gwerth tir a gewch o ddatblygu'r tir, felly mae'r gwasanaeth cyhoeddus yn cadw gwerth y tir, y cynnydd hwnnw. Felly, mae'n ymwneud yn fawr â chadw'r mathau hynny o gynnydd mewn gwerth ar gyfer y dyfodol mewn datblygiad cymysg o'r math hwnnw.
Rydych chi'n hollol gywir, Dawn, fod yr holl fater ynghylch yr economi sylfaenol yn greiddiol yn hyn o beth. Felly, rydym yn gobeithio defnyddio busnesau bach a chanolig pan fo'n bosib. Rydym yn awyddus i weld a fydd rhai awdurdodau lleol yn gwneud hynny â llafur uniongyrchol hefyd, pan fo hynny'r unig ffordd o wneud hynny. A byddwn yn ceisio defnyddio cyfrifon banc prosiect, sy'n nodwedd o gaffael yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn llyfnhau'r llif arian i adeiladwyr bychain na fydden nhw efallai'n gallu darparu fel arall. Ond rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn llunio cyfres o fesurau i sicrhau bod adeiladwyr bach yn gallu darparu—hyd yn oed os na allan nhw wneud safle cyfan, pa un a allan nhw wneud rhannau bach o'r safle hwnnw—er mwyn sicrhau ein bod yn cadw'r sgiliau yn yr economi y mae eu dirfawr angen arnom ni.
A gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? Mae gennym ni lawer o bobl sy'n ddigartref ac yn byw ar y stryd. Gweinidog, gwelsom nifer ohonyn nhw wrth adael Eglwys y Santes Fair ym mis Rhagfyr ar ôl bod i gyngerdd yr elusen i'r digartref, Crisis. Fodd bynnag, mae gennym ni lawer iawn mwy o bobl yn cysgu ar soffa, yn byw mewn llety gorlawn, ac eraill yn byw mewn cartrefi oer a llaith nad ydyn nhw'n ddiogel rhag y gwynt a'r glaw. Cytunaf â'r Gweinidog nad oes gennym ni ddigon o dai cymdeithasol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod arnom ni angen llawer mwy o dai cyngor wedi'u hadeiladu, ar lefel y 1950au a'r 1960au?
Ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd, yn y 1950au a'r 1960au, eu bod yn defnyddio concrit cyfnerthedig wedi ei rag-gastio er mwyn creu rhywfaint ohonyn nhw oddi ar y safle. Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, eu bod wedi cyflwyno safon Parker Morris, a oedd yn gosod safon uchel iawn ar gyfer tai cymdeithasol. A oes gan y Gweinidog ddiddordeb mewn gosod safon o'r fath eto, nid Parker Morris o reidrwydd, gan fod hwnnw'n perthyn i'w gyfnod, ond yn sicr y safon y mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol—cymdeithasau tai a chynghorau—ei chyrraedd wrth adeiladu? Gwelodd y 1950au a'r 1960au gynnydd mawr mewn codi tai cyngor hefyd. Yr hyn a wnaeth hynny oedd rhyddhau tai cost isel a oedd gynt yn cael eu rhentu'n breifat ar gyfer perchen-feddiannaeth. Y broblem i'n pobl ar gyflogau cymharol isel wrth brynu tŷ nawr yw bod yr holl dai hynny sy'n addas iddyn nhw, i gyd wedi'u bachu gan landlordiaid am £50,000, £60,000 mewn rhannau o'm hetholaeth, ac wedi'u gosod am rent o £400, £500 y mis. Chwedeg mil o bunnau, enillion o £6,000 y flwyddyn—yn ariannol, i'r rhai sy'n gwneud hyn, mae'n dda iawn. Ond yr hyn y mae'n ei wneud yw atal pobl, ar gyflogau cymharol arferol, a fyddai fel arall yn gallu prynu tŷ yn Hafod neu Glandŵr neu Blas-marl neu St Thomas ond nawr nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny bellach am fod landlordiaid yn eu bachu mewn niferoedd mawr. Felly, os cynyddwn ni dai cyngor, oni fydd hynny'n cynyddu perchen-feddiannaeth, gan y bydd y tai sydd yn cael eu rhentu'n breifat ar hyn o bryd yn dychwelyd i fod yn dai perchen-feddiannaeth?
Os caf i orffen gyda hyn, rwy'n hanu o Blas-marl—mae wedi mynd drwy'r cyfnodau i gyd, ac mae'n debyg bod pobl eraill wedi byw mewn ardaloedd tebyg iawn. Yn y 1950au a'r 1960au, roedd bron pob un yn rhentu'n breifat. Yna, ar ddiwedd y 1960au, 1970au a'r 1980au daeth yn ardal berchen-feddiannaeth yn gyfan gwbl. Ac yna, o'r 1990au ymlaen, maen nhw wedi cael eu prynu gan landlordiaid—rhai ohonyn nhw'n byw filltiroedd i ffwrdd. Mae rhywun yn byw yn Basingstoke yn berchen ar chwe thŷ mewn un stryd. Mae hynny wedi dileu'r cyfle i bobl leol brynu. Felly, onid yr ateb yw cynyddu nifer y tai cyngor, sy'n sefyllfa lle mae pawb yn ennill o ran perchnogaeth breifat cost isel gan sicrhau hefyd bod gan bawb dŷ digon da?
Ni allwn i gytuno mwy. Yn amlwg, un o'r problemau gyda digartrefedd yw bod gennym ni gyfran sylweddol, os mynnwch chi, o bobl sy'n llithro i mewn i ddigartrefedd oherwydd bod gennym ni gyflenwad annigonol o dai a'i fod yn gylch dieflig. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw torri i mewn i'r cylch hwnnw a sicrhau bod y cyflenwad yn cynyddu'n gynt er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n llithro i mewn i ddigartrefedd. I wneud hynny, rhaid inni adeiladu miloedd ar filoedd o dai cyngor, nid cannoedd—miloedd. Mae'n rhaid i ni adeiladu tua 4,500, sy'n cynnwys y rhai yr ydym ni wedi'u hadeiladu yn barod, dyna'r nifer absoliwt, dim ond i atal pobl rhag bod mewn llety dros dro. Mae hynny heb gyffwrdd â rhestrau aros na rhestrau aros pobl nad ydyn nhw'n trafferthu i fynd ar y rhestrau aros oherwydd eu bod yn gwybod nad oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael tŷ. Felly, rydym yn sôn am filoedd a miloedd, nid cannoedd a channoedd. Felly, cytunaf yn llwyr.
Bydd gennym ni safon. Rwy'n dal i gofio fy mam-gu a'm modrybedd yn siarad drwy'r amser am ba mor wych oedd hi pan wnaethon nhw symud i'w tai cyngor cyntaf yn Abertawe. Roedd y safon bryd hynny wedi creu argraff fawr arnyn nhw ac mae'r tai hynny wedi sefyll prawf amser, oherwydd eu bod o safon uchel iawn hyd yn oed heddiw. Mae arnom ni eisiau adeiladu tai sy'n sefyll prawf amser, sy'n dal yn addas i fod yn gartrefi i'r dyfodol tua 80 neu 90 mlynedd yn ddiweddarach. Yn bendant, mae'r tai hynny wedi'u hôl-osod ar gyfer safonau inswleiddio uwch ac ati, ond, yn y bôn, mae'r tŷ yn dŷ cadarn, felly mae modd ei wella yn y ffordd honno. Dyna'r hyn y mae'n rhaid inni ei adeiladu ar gyfer y dyfodol; ni allwn i gytuno mwy.
Mae problem fawr ynghylch a oes angen inni ymyrryd yn y farchnad ar gyfer tai buddsoddi. Rwyf yn edrych o ddifrif ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru brynu tai yn y farchnad honno eu hunain ar gyfer rhentu cymdeithasol, lle mae'n amlwg bod yna sector rhentu preifat mawr yn datblygu. Bydd Mike Hedges yn gwybod yng nghanol fy etholaeth fy hun, mae llawer iawn o dai sydd wedi gwneud yn union yr hyn a ddywedodd. Felly, rwy'n awyddus iawn yn hynny o beth. Rwyf eisiau pwysleisio ar hyn o bryd fod y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, wedi bod yn edrych yn fanwl iawn ar y grantiau troi tai'n gartrefi ac adfywio eiddo gwag yn benodol, o ran yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod rhai o'r rheini'n cael eu defnyddio unwaith eto. Ond mae'r farchnad yn ddiffygiol mewn rhai ardaloedd, ac mae angen inni edrych ar ffyrdd inni ymyrryd yn hynny; rwy'n cytuno'n llwyr ag ef.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Croesawn yr adolygiad annibynnol hefyd. Mae prinder tai fforddiadwy o safon yn arwain at deuluoedd yn byw mewn cartrefi gorlawn neu mewn llety gwely a brecwast, ac unigolion mewn hosteli neu ar y stryd. Rwyf wedi gweld pobl yn cael eu carcharu am grwydradaeth yn dweud wrthyf nad oedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu rhyddhau oherwydd eu bod yn cael gwely a phrydau poeth. Gall teuluoedd, fel y gwyddom, aros sawl blwyddyn am lety addas, a dyna pam y mae cyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn mor bwysig. Yn anffodus, mae llai na hanner y tai fforddiadwy angenrheidiol wedi'u hadeiladu. Yn 2017-18, gwelwyd gostyngiad o 9 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Gobeithio y bydd argymhellion yr adolygiad annibynnol yn helpu i fynd i'r afael â'r diffygion ac yn helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Gweinidog, rwy'n falch bod eich Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adolygiad. Nid yw'r cyflenwad wedi bodloni'r galw, a chroesawaf argymhellion yr adolygiad sy'n ymwneud ag asesiadau o'r farchnad dai leol. Gweinidog, a wnewch chi ymhelaethu ar eich rhesymau dros newid yr argymhelliad i gynnal adolygiad bob dwy flynedd i un bob tair blynedd? Siawns nad ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hollbwysig cael gwybodaeth gywir a chyfredol yn y maes hwn.
Rwy'n ddiolchgar eich bod yn derbyn bod angen mwy o fanylder o ran y broses asesiadau o’r farchnad dai lleol. Gweinidog, pa ran ydych chi'n rhagweld fydd gan fyrddau iechyd lleol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol wrth gasglu gwybodaeth am ofynion tai ar gyfer y rhai sydd ag anableddau, y rhai y mae angen rhyw lefel o ofal arnyn nhw a'r rhai sy'n bwriadu symud i gartref llai o faint ac efallai dod yn rhan o drefniant tai gwarchod? Mae llawer o achosion lle mae pobl hŷn wedi'u dal mewn tai tair a phedair ystafell wely, cartrefi a fyddai'n addas i deulu ifanc, ac eto ni allan nhw symud i gartref llai o faint gan nad adeiladwyd hanner digon o eiddo sy'n addas i bobl hŷn. Mae'n hawdd adeiladu cartrefi modiwlaidd.
Yn olaf, Gweinidog, er fy mod yn croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar leihau ôl troed carbon cartrefi newydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw ganllawiau newydd ar adeiladu yn ystyried ein hinsawdd newidiol. Rydych yn sôn am systemau gwresogi carbon isel, ond beth am oeri carbon isel? Sut bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw adeiladau newydd a phresennol yn cael eu hinswleiddio mor drwm fel eu bod yn gorboethi yn ystod misoedd yr haf, gyda'r tebygolrwydd cynyddol o dymereddau uchel?
Croesawaf y cam cyntaf hwn i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai ac edrychaf ymlaen at fesurau pellach i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru—tai fforddiadwy y mae arnom eu hangen yn ddifrifol. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni'r nod hwn o ddarparu digon o dai fforddiadwy i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch ichi am y cyfraniad yna. Gan ddechrau gyda'r targed ar gyfer tai fforddiadwy, hoffwn sicrhau'r Aelod y byddwn yn cyrraedd y targed o 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn, fodd bynnag, â dweud nad yw hynny'n ddigon a bod angen i ni adeiladu llawer iawn mwy, os oes modd, a sicrhau ein bod yn dechrau adeiladu ar raddfa fwy ac ar garlam. Nid oedd yn bosibl gwneud hyn pan oeddem yn gosod y targed hwnnw, oherwydd roedd y cap tai ar gyfer cyfrifon refeniw tai yn dal i fodoli mewn awdurdodau lleol. Rwy'n mynd i ddewis fy ngeiriau'n ofalus, Dirprwy Lywydd: rwy'n credu fy mod wedi cael y fraint—rwy'n credu fy mod yn mynd i ddefnyddio'r gair hwnnw—o edrych ar y canllawiau drafft ar gyfer y cyfrif refeniw tai yn ddiweddar iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n gelfyddyd gyfrin, y cyfrif refeniw tai, ac felly roedd y canllawiau—rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud eu bod yn fanwl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael adborth gan drysoryddion ledled Cymru ynghylch sut y maen nhw'n ymateb i'n canllawiau newydd. Mae'r canllawiau newydd wedi'u cynllunio i fanteisio i'r eithaf ar hyblygrwydd mewn cyfrifon refeniw tai i alluogi awdurdodau lleol yn benodol i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor newydd wrth iddyn nhw ryddhau arian er mwyn gwneud hynny. Ac atebais mewn ymateb i Dawn Bowden ynghylch y mater yn ymwneud â chyflwyno tir y sector cyhoeddus er mwyn gallu gwneud hynny hefyd.
O ran yr angen a'r galw am dai, rwy'n derbyn argymhelliad y panel annibynnol o ran yr angen am dai. Maen nhw'n gywir i nodi bod llawer mwy o gysondeb ar lefel leol, ac y gall yr wybodaeth fod yn fwy manwl ac wedi ei chysylltu'n well â'r broses gynllunio yn hynny o beth. Rydym ni hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu'r wybodaeth gan awdurdodau a dadansoddi'r ymatebion ein hunain. Nid wyf eisiau cyflwyno'r newidiadau hynny'n gyflym, fodd bynnag, oherwydd ei bod hi'n bosib ansefydlogi'r system os gwnawn ni hynny. Rydym ni eisiau cymryd amser mewn partneriaeth i edrych yn union ar sut y dylid rhoi'r newidiadau hynny ar waith, er fy mod yn dweud yn glir iawn ein bod ni'n newid y system; y cyfan yr ydym ni eisiau ei wneud yw edrych ar hyn gyda'n partneriaid i ganfod beth yn union fydd ffurf y system wedyn. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i Leanne Wood, mae'n bwysig cael camau cyfan y cynllun yn eu lle ar lefel genedlaethol, strategol a lleol wrth i ni weithio drwy'r newidiadau i wneud hynny. Ond rwy'n glir iawn bod angen i ni gael y newidiadau hynny.
O ran symud i gartref llai o faint, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir nad ydym yn adeiladu digon o unedau o faint ystafell wely sengl neu un ystafell wely a hanner. Ond nid wyf eisiau i bobl gael eu twyllo gan y syniad ein bod ni'n credu y dylai pob teulu symud o'u cartref. Mae gan bobl wyrion ac wyresau ac maen nhw'n dymuno dod at ei gilydd fel teulu ac ati. Nid yw hi wastad yn ddelfrydol symud o dŷ mawr. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau bod pobl yn byw mewn tŷ sy'n addas iddyn nhw ac nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i symud o unrhyw gartref teuluol os nad ydyn nhw'n dymuno hynny. Ac nid wyf yn credu bod y dreth ystafell wely wedi bod yn ddim byd heblaw modd gwarthus sy'n, wel, yn fwrn ar bobl. Felly, nid wyf eisiau bod yn gysylltiedig ag unrhyw beth sy'n ymdebygu mewn unrhyw ffordd i hynny. Fodd bynnag, derbyniaf, rwy'n credu, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud sef bod angen inni adeiladu mwy o unedau llai ar gyfer pobl sydd eisiau symud i gartref llai o faint, ac rydym yn sicr yn edrych ar y cyfuniad o unedau yn hynny o beth.
O ran y pwyntiau am ddatgarboneiddio a wnaeth hi, nid wyf am ymateb. Mae'r demtasiwn i ymateb yn llethol, ond rwy'n mynd i'w wrthsefyll, oherwydd byddaf yn disgwyl i'r adroddiad ar ddatgarboneiddio gael ei gyflwyno. Mae'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau nesaf, felly edrychaf ymlaen at ymateb i hwnnw maes o law.
Diolch yn fawr am eich datganiad, ac rwy'n falch iawn o weld eich bod yn bwriadu cysoni'r fframwaith cynllunio, yr agenda datgarboneiddio a'r rheoliadau adeiladu. Mae hynny'n ymddangos i mi mewn gwirionedd fel y llwybr cywir y dylem ei ddilyn.
Yn eich dyhead i ddefnyddio tir cyhoeddus gwag, rwyf eisiau sicrhau—. Mae'n gwestiwn ynghylch a fyddwch yn sicrhau bod lleoliadau'r tir hwn sydd ar gael ar gyfer cartrefi newydd hefyd yn cael eu cysoni â'n gofyniad i leihau allyriadau carbon o drafnidiaeth, a'n bod yn sicrhau ein bod yn adeiladu cartrefi dim ond lle ceir cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a chysylltiadau teithio gweithredol, oherwydd bydd rhai o'r cartrefi sydd wedi'u hadeiladu yn etholaeth fy nghyfaill, Julie Morgan, yn hunllef i'm hetholwyr o ran y cynnydd mewn traffig yn sgil yr adeiladu, oherwydd bod y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn brin.
Yng nghyfarfod bord gron y pwyllgor ar newid hinsawdd ynghylch y newid yn yr hinsawdd yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni edrych ar y gofynion ar gyfer cartrefi newydd, ac un o'r pwyntiau a bwysleisiwyd oedd pwysigrwydd nid yn unig cael cartrefi wedi'u hinswleiddio'n dda, ond cael cartrefi sy'n gynaliadwy am oes. Ar ôl treulio llawer o amser yn ddiweddar yn ward Cyncoed yn fy etholaeth, rwy'n rhyfeddu at y ffordd y mae cartrefi a gafodd eu hadeiladu rhwng 80 a 100 o flynyddoedd yn ôl wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion pobl â symudedd sy'n dirywio—yn hawdd eu haddasu. Gallwch weld bod y bobl hyn wedi byw am gyfnod hir iawn yn y cartrefi hyn, ond maen nhw'n gallu parhau i wneud hynny oherwydd y gellir eu haddasu. A cheir costau enfawr o ran allyriadau carbon wrth adeiladu'r cytiau cwningod hyn sydd ond wedi'u cynllunio ar gyfer 30 o flynyddoedd, felly rwy'n synnu braidd at eich nod tymor hir o roi'r gorau i fanteisio i'r eithaf ar y proffidioldeb er gwaethaf rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n gobeithio y bydd ychydig yn fyrrach na hynny.
Yn drydydd ac yn olaf, dim ond eisiau pwysleisio wyf i pa mor bwysig yw sicrhau ein bod yn adeiladu ar gyfer yr hinsawdd y byddwn yn ei gael yn y dyfodol. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r gwres eithafol yn Ffrainc y mis diwethaf, ond dyma'r math o beth a allai ddigwydd yma. Ac rwyf eisiau tynnu eich sylw at waith ymchwil hynod bwysig a wnaethpwyd yn Geelong yn Awstralia, a ddangosodd fod eu strategaeth coedwigoedd trefol wedi'u galluogi i gynnal gostyngiad o 20 y cant yn nhymheredd y cartrefi hynny sy'n elwa ar y canopi trefol hwn, oherwydd y cysgod ond hefyd drwy'r defnydd o balmentydd lliw goleuach sy'n allwyro'r gwres; a ffyrdd gwyrdd, sy'n unol â'n dyheadau o ran cyflymder diofyn o 20 mya, sydd ag arwynebau hydraidd er mwyn caniatáu i ddŵr ymdreiddio i mewn ac i laswellt dyfu drwyddyn nhw—y rhain i gyd yn ogystal â choed ffrwythau, sydd, yn amlwg, yn ffynhonnell fwyd. Felly, byddwn i'n hapus iawn i anfon ymchwil Geelong atoch chi, sy'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ddatblygu o ran adeiladu'r cartrefi y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gydnerth ar gyfer y dyfodol yr ydym ni'n ei wynebu.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Nid oes angen ichi anfon yr ymchwil ataf—rwy'n gyfarwydd ag ef yn barod. Rydym ni wedi bod yn edrych, yn rhan o'n gwaith adfywio gyda Hannah Blythyn, ar yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn gwneud ein datblygiadau'n fwy gwyrdd yn union fel y gwnaethoch chi grybwyll. Mae Joyce Watson wedi sôn ers tro am yr angen am arwynebau hydraidd i amsugno dŵr ffo ac ati, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynllunio ym mhob un o'r meysydd hynny, yn rhannol am eu bod yn helpu'r hinsawdd, fel y nodwyd gennych chi'n briodol, ond mewn gwirionedd am eu bod yn fwy dymunol i fyw ynddyn nhw. Felly, yr holl fater yn ymwneud â chael gerddi cymunedol, perllannau cymunedol, mae'r Prif Weinidog yn frwd iawn dros yr enghraifft o goedwigoedd bach yn yr Iseldiroedd, lle rydych yn plannu ardal o faint cwrt tenis lawnt, rydych yn plannu coedwig gollddail fwy neu lai sy'n darparu llawer iawn o fioamrywiaeth, ond sy'n rhywbeth pleserus iawn hefyd mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awyddus iawn i gynnwys y pethau hynny yn ein rhaglenni tai arloesol a'u profi.
Rydym hefyd yn awyddus iawn i gynnwys y pwmp gwres o'r ddaear a'r holl bethau tebyg sydd gan bobl, ond hefyd y sgiliau i gyd-fynd â hynny, oherwydd rydym wedi cael rhywfaint o adborth gan rai o'n prosiectau tai arloesol sef nad oedd gan bobl a oedd eisiau byw yn y tai hynny—nid oes rhaid i neb fyw mewn prosiect tai arloesol os nad ydyn nhw'n dymuno hynny—y sgiliau i allu addasu eu hymddygiad eu hunain i rai o'r ffyrdd yr oedd y tai hynny'n gweithio. Felly, mae angen i ni wneud mwy o ymdrech i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu addasu i'r newid sy'n angenrheidiol er mwyn byw ochr yn ochr â rhai o'r trefniadau newydd.
Nawr, rwy'n cael fy nhynnu i fyd datgarboneiddio, Dirprwy Lywydd, felly fe ddof i'r diwedd yn y fan yma. Wrth ymateb i'r adroddiad y gwyddom ei fod yn dod yr wythnos nesaf, byddwn yn edrych ymhellach ar rai o'r pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw.
Ac yn olaf, Hefin David.
A yw'r Gweinidog yn pryderu, beth bynnag a wnewch chi gyda Chymorth i Brynu, eich bod yn dal i roi arian cyhoeddus yng nghrafangau parasitig datblygwyr tai mawr, a allai werthu eu tai newydd rhy uchel eu pris yn rhatach?
Wel, mae'n iaith ddiddorol, mae hynny'n sicr. Rwy'n deall y farn y mae'n ei mynegi, ac, fel y dywedais wrth ymateb i Leanne Wood, byddwn yn sicr eisiau edrych yn ofalus iawn ar sut yr ydym ni'n gwario arian cyhoeddus a'r hyn yr ydym yn ei adeiladu ag ef. Felly, gwerthfawrogaf y farn a chytunaf â'r farn; nid wyf yn siŵr fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r iaith. Ond, byddwn, byddwn ni'n edrych yn—.
Rwyf eisiau bod yn siŵr ein bod yn helpu prynwyr am y tro cyntaf a fyddai fel arall yn bell o allu cael troed ar yr ysgol dai. Nid ydym yn sôn am berchen-feddianwyr yn unig ond am ryw fath o gynlluniau ecwiti cymysg ac ati i ganiatáu i bobl gael troedle. Rwy'n awyddus iawn i archwilio'r hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl na fyddant yn gallu cael blaendal neu lawer o flaendal, er enghraifft, fel eich bod yn helpu pobl ymhellach i ffwrdd o'r farchnad. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym ni safonau gwell, ein bod yn adeiladu i'r un safon â thai cymdeithasol. Onid yw'n eironig bod gennym ni sefyllfa nawr lle mae tai cymdeithasol o safon well o lawer na thai'r sector preifat? Pwy fyddai wedi meddwl y byddwn i'n gallu sefyll yma a dweud hynny, ond dyna'r gwir amdani? Byddai'n well o lawer gan bobl fyw mewn tŷ cymdeithasol nag mewn un o'r tai preifat y mae'n eu crybwyll. Felly, rwy'n cytuno â'r farn yn llwyr. Byddwn yn edrych yn—. Os gallwn barhau â'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd yn y fantol yn llwyr—nid oes gennyf syniad a fydd cynllun canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ond os gallwn ni, yna byddwn yn sicr yn cynllunio llawer o'r enghreifftiau a gyflwynwyd ganddo.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. A galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Llywydd. Heddiw, rwyf wedi lansio 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi fy nghynigion ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn nodi cynigion ac yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun ffermio cynaliadwy newydd a'r fframwaith polisi sy'n sail iddo. Mae hefyd yn nodi cynigion ar gyfer meysydd ehangach o gymorth i helpu'r cynllun i weithredu, gan gynnwys cyngor, cymorth a rheoleiddio yn y diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio ac yn egluro'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sut y bydd asesiadau effaith yn cael eu paratoi.
Y llynedd, cyhoeddwyd yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' gennym ni. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym ni wedi ystyried yn ofalus y safbwyntiau a gafodd eu mynegi yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n cynigion. Mae'r rhain yn cynnwys cydnabod yn benodol y rhyngweithio rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol. Mae hyn yn bwysig. Rydym ni'n cynnig cefnogi'n uniongyrchol gyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Mae newidiadau pwysig eraill sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegir wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad.
Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisi, dim ond ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill sy'n gallu cyflawni newid gwirioneddol ar ein tir, ac mae angen i ni gefnogi eu hymdrechion. Rwy'n cynnig y dylai'r cymorth hwn gael ei gynllunio o amgylch egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma pam yr ydym ni wedi mabwysiadu rheoli tir yn gynaliadwy yn amcan polisi yn ein cynigion.
Fy uchelgais gyffredinol yw bod â ffermydd cynaliadwy yn cynhyrchu nwyddau economaidd ac amgylcheddol mewn system gyfannol sy'n gwella lles ffermwyr, cymunedau a holl bobl Cymru. Mae rheoli tir yn gynaliadwy yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Mae'n gosod cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ochr yn ochr â'r swyddogaeth y mae ein ffermwyr yn ei chyflawni wrth gynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol a'n cymunedau gwledig. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae mabwysiadu'r amcan hwn yn gam pwysig tuag at weithredu er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Er mwyn hwyluso'r broses o gyflawni'r amcan polisi hwn, rwy'n cynnig un cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd un cynllun yn caniatáu i ni gefnogi ffermwyr i gynnig cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu i ganfod sefyllfaoedd pan fo pawb ar eu hennill—pethau sy'n dda ar gyfer cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae'r cynllun yn cynnig talu ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol a'r canlyniadau eraill y maen nhw'n eu darparu na werthfawrogir gan y farchnad. Mae'n bosibl cynhyrchu'r canlyniadau hyn ar y cyd â chynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio arferion ffermio priodol. Er enghraifft, ar ffermydd, mae rheoli maetholion yn effeithiol a thargedu defnydd gwrtaith yn lleihau'r llygryddion sy'n gollwng i'n hawyr a'n cyrsiau dŵr, a bydd hynny'n gwella ansawdd yr aer a'r dŵr. Gallwn dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Byddai talu am ganlyniadau amgylcheddol a gyflwynir drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o fferm y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud â'r cynllun taliad sylfaenol presennol.
Bydd y taliadau hyn yn darparu llif incwm blynyddol ystyrlon a sefydlog i ffermwyr. Fodd bynnag, nid yw ffrwd incwm yn unig yn ddigon. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau, gan gynnwys meithrin gallu a sgiliau busnes, buddsoddiad cyfalaf i wella cynaliadwyedd a throsglwyddo gwybodaeth. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnal ac yn sicrhau y cyfraniad cymdeithasol pwysig y mae ffermwyr yn ei wneud i ffyniant cymunedau cefn gwlad drwy gadw ffermwyr ar y tir.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran ymateb i her y newid yn yr hinsawdd. Ar 29 Ebrill, fe wnes i ddatgan bod argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac nid yw ffermio yng Nghymru yn wahanol yn hynny o beth. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â chanlyniadau newid yn yr hinsawdd os ydym ni'n mynd i allu trosglwyddo ein diwydiant ffermio ffyniannus yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa unigryw i ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae priddoedd Cymru yn storio 410,000,000 tunnell o garbon. Mae angen inni gynnal y stoc hon a gweithio i'w datblygu ymhellach. Bwriad y cynigion yn yr ymgynghoriad yw gwobrwyo ffermwyr sy'n rheoli eu tir yn y ffordd bwysig hon.
Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig yn y broses arfaethedig o gynllunio ar y cyd. Mae cynllunio ar y cyd yn gyfle i archwilio agweddau mwy ymarferol ar y cynllun arfaethedig. Bydd yn rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn realistig i ffermwyr ei weithredu. Bydd eu barn nhw ar yr agweddau hyn yn hollbwysig. Caiff yr ymatebion i'r ddogfen ymgynghori a'r rhaglen gynllunio ar y cyd eu hystyried yn ofalus. Yna byddwn ni'n pennu ac yn nodi'r camau nesaf pan fyddwn wedi gallu ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn ac yng ngoleuni datblygiadau Brexit yn ystod y misoedd nesaf.
Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o eglurder ar lefel y cyllid amaethyddol a ddychwelir i Gymru ar ôl Brexit. Mae Gweinidogion Cymru yn glir na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw leihad yn yr arian sy'n dychwelyd i Gymru. Pab gaiff yr arian ei ddychwelyd, byddwn yn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermio, coedwigaeth a chymorth arall i reoli tir, ac na chaiff ei wario mewn mannau eraill.
Mae gwneud y polisi rheoli tir newydd yn realiti ymarferol wrth i'r DU adael y polisi amaethyddol cyffredin yn cynnig her, ond mae'n her sy'n wirioneddol werth ei chyflawni. Rydym ni'n cyflawni'r broses ymgynghori a dylunio yn araf ac yn ofalus, ac yn cynnwys cynifer o ffermwyr a rhanddeiliaid ehangach ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael i wireddu ein cynigion ar gyfer datblygu cynaliadwy ym maes amaethyddiaeth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen ac fe wnaf i ei ailadrodd eto, rwy'n credu bod gennych chi un o'r cyfleoedd mwyaf cyffrous yn y Llywodraeth i lunio polisi sydd, yn hanesyddol, wedi cael ei lunio gryn bellter o'r glannau hyn yn ystod y 45 i 50 o flynyddoedd diwethaf. Ni waeth beth yw barn pobl am Brexit—ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o ddadleuon chwyrn wedi bod yn y Siambr hon—fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ymateb i fy nghwestiwn y prynhawn yma, am y tro cyntaf bydd yn bosibl i Weinidogion Llywodraeth Cymru gyfarwyddo'r gefnogaeth a'r polisi yn y maes penodol hwn a ledled yr economi wledig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylid ei groesawu.
Rwyf i hefyd yn croesawu—. Af i at ddiwedd eich datganiad, os caf i, lle y byddaf i'n dechrau. Rwy'n croesawu'r honiad gennych—a gallaf werthfawrogi'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn mwmian ar ei heistedd, gan gynnig sylwebaeth yn ôl ei dymuniad—ond rwy'n nodi yn y datganiad eich bod yn rhoi sicrwydd y bydd unrhyw arian a ddaw yn aros yn yr adran materion gwledig ac yn cael ei gyfeirio at goedwigaeth, amaethyddiaeth a mentrau eraill i gefnogi'r economi wledig. Rwy'n credu bod hynny'n honiad pwysig iawn i'w wneud yma oherwydd y bu pryderon y gallai peth o'r arian hwn, o bosibl, fynd at brosiectau eraill, ac rwy'n gwerthfawrogi, nid gan fainc y Llywodraeth, ond yn sicr gan sylwebyddion eraill yn y maes penodol hwn. Felly, rwy'n credu bod yr honiad hwnnw a roddwyd yn un pwysig iawn.
Ond wedyn, symudaf ymlaen at y datganiad lle mae'n dweud bod angen i'r broses o gyflawni unrhyw un o'r polisïau hyn fod yn 'realistig i ffermwyr eu gweithredu'. Rwy'n sylwi nad yw'r datganiad yn sôn am yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y dogfennau esboniadol am gynlluniau pwrpasol ar gyfer pob fferm unigol. Tybed sut, yn logistaidd, yr ydych chi'n mynd i allu cyflawni hynny. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant: mae wedi'i nodi yng nghofrestr buddiannau'r Aelodau fy mod i'n ffermwr fy hun ac mae gen i rywfaint o brofiad o'r cynllun Tir Gofal a'r cynllun Glastir. Mae'r mathau hyn o gynlluniau yn gymhleth iawn, yn cymryd llawer iawn o amser i'w datblygu, ac mae'r ymarferion mapio a'r holl ddarnau eraill o wybodaeth y mae'n rhaid eu casglu er mwyn creu'r cynllun personol iawn hwnnw ar gyfer y busnes penodol hwnnw yn cymryd llawer o amser ac yn fiwrocrataidd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi amlygu yn eich ymateb i mi sut yr ydych chi'n gweld hynny'n cael ei roi ar waith yn (a) yr amserlen sydd gennych chi, a (b) yn y ffordd bwrpasol iawn yr ydych yn cyfeirio ati yn y dogfennau esboniadol yr ydych chi wedi'u cyhoeddi gyda'r datganiad hwn heddiw. Oherwydd, yn amlwg, mae hwnnw'n ymarfer enfawr y mae angen ei gyflawni.
Gan symud ymlaen at yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud nawr drwy ddod â'r ddwy ffrwd a gynigiwyd gennych chi'n wreiddiol yn 'Brexit a'n tir' a'u newid i fod yn un ffrwd o gymorth. Yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol o dan y polisi amaethyddol cyffredin yw eich bod chi wedi bod â'r gefnogaeth uniongyrchol i amaethyddiaeth ac rydych chi wedi bod â'r cynllun datblygu gwledig—dwy ffrwd ar wahân. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall—oherwydd yr ydych chi'n sôn yn fras amdano yn eich datganiad am ddatblygu gallu ar gyfer sgiliau, datblygu modelau busnes eraill i gefnogi'r economi wledig—os na ragwelir y bydd prosiect tebyg i'r cynllun datblygu gwledig, sut yn union ydych chi'n mynd i sicrhau bod arian ar gael mewn prosiect sy'n addas i bawb, a allai, eto, gael ei symleiddio ar y naill law ond ar y llaw arall a allai fod yn hynod gymhleth hefyd os yw'n ceisio cael ei gynnal gan un cynllun trosfwaol? Rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi esboniad manylach o'r modd y gallai hynny ddigwydd.
Rwyf i wir yn croesawu'r pwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd o safon. Mae gennym ni stori dda i'w hadrodd yma yng Nghymru ac, yn amlwg, nid oedd yr ymgynghoriad gwreiddiol wedi treulio llawer o amser yn sôn am gynhyrchiant posibl y diwydiant. Rwy'n credu bod hynny'n newid cywair i'w groesawu sydd wedi'i gyflwyno.
Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ym mhwyllgor yr amgylchedd yw perygl neu amlygiad i niwed y sector tenantiaid, ac rwy'n credu bod angen i unrhyw gynllun a gyflwynir adlewyrchu'r sector tenantiaid yma yng Nghymru yn glir. Mae traean o dir Cymru o dan y drefn denantiaid, ac mae'n bwysig mai'r person sy'n darparu'r nwyddau cyhoeddus sy'n cael yr arian hwnnw, byddwn i'n ei awgrymu. Ceir llawer o syrfewyr clyfar a llawer o asiantau clyfar a fydd, mae'n siŵr, yn dod o hyd i un ffordd neu'r llall o ddatblygu cynllun yn seiliedig ar hyn. Ond gobeithiaf y gall y Gweinidog roi rhywfaint o gysur inni wrth ffurfio ei chynlluniau bod ei hadran a'i swyddogion yn ystyried sicrhau mai'r egwyddor yw mai'r sawl sy'n darparu'r elfen nwyddau cyhoeddus fydd yn derbyn y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r asesiad modelu ac effaith yr ydych yn sôn amdano yma i'w groesawu, ond byddai'n dda ceisio deall yr amserlen yr ydych chi'n gweithio iddi, o ystyried yr amserlen dynn iawn rydyn ni'n sôn amdani. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, ychydig iawn o fodelu, os o gwbl, a wnaed ar lawer o'r cynigion hyn, a gwn i eto, os cyfeiriaf at fy mhrofiad ar bwyllgor yr amgylchedd sydd wedi ystyried hyn, bod hwnnw wedi bod yn destun pryder yr ydym ni wedi'i ystyried.
Ar ddechrau'r datganiad, rydych chi'n sôn am gyfraniad ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall at bwy yr ydych chi'n cyfeirio wrth sôn am 'reolwyr tir eraill' oherwydd maen nhw yn y pen draw yn mynd i fod yn gymwys, rwy'n tybio, i gael cefnogaeth o dan hyn. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 neu 17,000 o dderbynyddion o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os na chawn ni feini prawf cymhwysedd yn y cynllun hwn, mae tystiolaeth yr ydym ni wedi'i chymryd yn awgrymu y gallech chi fod â chymaint â 40,000 i 45,000 o dderbynyddion o dan y cynllun. Yn logistaidd, mae hynny'n mynd i fod yn ymarfer rheoli enfawr, dim ond cyflwyno'r holl dderbynyddion newydd hynny. Ond hefyd, bydd pa bynnag gwantwm o arian a fydd ar gael yn cael ei daenu'n llawer teneuach ac efallai na fydd yn cyflawni'r nodau, yr amcanion a'r dyheadau yr ydych chi'n ceisio eu cyflawni.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y daith hon fel taith bositif a all, yn y pen draw, leihau a datrys rhai o'r problemau sydd wedi bod gennym o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os caiff ei weithredu'n gywir—ac, fel y dywedais i, mae'r cywair wedi newid yn y datganiad hwn, er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynhyrchu bwyd, cynhyrchiant a sgiliau, a'r swyddogaeth hanfodol sydd gan amaethyddiaeth a ffermwyr wrth ddatblygu'r economi wledig—yna, fe allwn ni gael canlyniad llwyddiannus. Ac rwy'n croesawu'r newid yng nghywair y datganiad a'r nodiadau cysylltiedig sy'n cyd-fynd ag ef.
Diolch, Andrew R.T. Davies, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch bod y cywair yn newid i'w groesawu. Fe wnes i hyn yn glir iawn y llynedd, pan aethom ni i ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir', ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac y byddem ni'n gwrando. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law—nid oedd pob un yn ymateb unigol, ond rwy'n sicr wedi darllen llawer o'r ymatebion unigol a ddaeth i law—ac roedd cynhyrchu bwyd yn rhywbeth a oedd yn amlwg ac y dylid bod pwyslais ar gynhyrchu bwyd. Roedd bwyd yn rhan o'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'; nid wyf yn credu bod 'Health and harmony' yn ei gynnwys o gwbl. Ac wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn sy'n wahanol iawn yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n tir' yw'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn bod hynny yno.
Rydych chi'n iawn, mae'n adeg gyffrous i allu bod â pholisi amaethyddol i Gymru. Fel y gwyddoch chi, roeddwn i'n teimlo'n angerddol dros aros, felly er bod hwn yn gyfle, byddai'n well gen i beidio â gorfod gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn glir iawn bod unrhyw gyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU—. Ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gadw eu haddewid na fyddem ni'n colli ceiniog. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n cael tua €330 miliwn sy'n glanio yn fy nghyllideb ac sy'n mynd yn uniongyrchol at ffermwyr a rheolwyr tir o fewn y polisi amaethyddol cyffredin. Felly, er imi eich clywed chi'n cyfeirio at yr hyn a ddywedodd gan Joyce Watson—. Ac mae hi'n gwneud pwynt da iawn, iawn: nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw lawer i chi. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n cael rhywfaint o eglurder. Rwyf newydd lofnodi llythyr i'r Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn DEFRA—wyddoch chi, rydym ni'n ceisio cael eglurder ynghylch lefel y cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghymheiriaid yn y DU, ac rydym ni wedi gofyn i Weinidog o'r Trysorlys fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny i gael rhywfaint o wybodaeth am yr arian yr ydym ni'n mynd i'w gael. Yn anffodus, hyd yma, ar wahân i un sgwrs ar y ffôn, nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynlluniau pwrpasol ac rwy'n derbyn yn llwyr eich gwybodaeth chi o'r hyn y mae'n rhaid i chi ei gyflawni i fod yn rhan o'r cynlluniau hynny, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ei gwneud hi mor syml â phosibl. Credaf mai un o'r rhesymau pam y pleidleisiodd gymaint o ffermwyr dros adael yr Undeb Ewropeaidd—yr hyn y maen nhw'n yn ei ddweud wrthyf i yw mai'r fiwrocratiaeth a oedd yn ymwneud â'r PAC oedd y rheswm. Ac rwyf i wedi dweud sawl gwaith os byddwn ni'n ei wneud yn fwy cymhleth, byddwn ni wedi methu; mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n gwneud hynny. Felly, nid oes unrhyw beth wedi'i benderfynu o ran â hynny. Mae'r ymgynghoriad a'r cynigion a fydd yn cael eu cynllunio ar y cyd a'r broses y byddwn ni'n ei dilyn, gan gyd-gynllunio'r cynllun gyda ffermwyr, oherwydd gyda nhw y bydd yn rhaid i ni weithio—bydd yn caniatáu inni gynllunio cynllun a fydd wedi cael ei symleiddio ar gyfer y cyfranogwyr. Rwyf i eisiau sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn ymarferol ac y bydd modd eu cyflawni. Felly, mae'n uchelgeisiol, ac rwy'n credu y dylem ni fod yn uchelgeisiol, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni fod yn bragmatig.
Rydym ni'n bwriadu i bob ffermwr allu rhoi camau gweithredu ar waith i sicrhau canlyniadau sy'n briodol i'w ffermydd, ac mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r cynlluniau pwrpasol hynny, oherwydd nid yw'r un peth yn addas i bawb. Hyd y gwelaf i, mae pob fferm yn wahanol. Mae pob fferm yr wyf wedi'i hymweld â hi yn sicr yn wahanol, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. A bydd yr adolygiad o gynaliadwyedd ffermydd yn rhoi cyfle i'r cynghorydd a'r ffermwr gydweithio i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ar bob fferm. Gofynnwyd i mi, yn sicr gan y cyfryngau, sut yr oeddwn i'n rhagweld y byddai gennym ni ddigon o bobl i fynd i ymweld â phob fferm yng Nghymru. Ac yn amlwg, mae gennym ni Taliadau Gwledig Cymru, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yng nghyswllt taliadau a gweithio gyda ffermwyr, felly mae gennym rywbeth i'w ddatblygu. Felly, er fy mod i o'r farn ei fod yn uchelgeisiol, rwyf hefyd o'r farn ei fod yn gyraeddadwy ac y bydd y cynllun yn caniatáu i ni ddatblygu contractau syml wedi'u teilwra i'r ffermwr unigol a'i anghenion busnes. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ei bod yn angenrheidiol mai'r ffermwyr gweithredol sy'n cael eu gwobrwyo, ac yn amlwg, os ydym ni eisiau cael y canlyniadau amgylcheddol hyn, bydd bod â chynaliadwyedd fel sail sylfaenol i'r cynllun hwn, yn fy marn i, yn sicrhau hynny.
O ran y ffermwyr tenant, rwy'n credu bod y ffermwyr sy'n denantiaid yn grŵp penodol yr wyf i'n awyddus i wneud rhagor drosto. Credaf ei bod weithiau'n anodd iawn iddyn nhw allu gwneud yr hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Rwyf i yn sicr wedi gweithio gyda llawer o ffermwyr tenant a'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant i sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn amlwg, rydym ni'n ymgynghori ar hyn o bryd, felly bydd yr ymgynghori'n cyfrannu at hyn. O ran asesiadau effaith, unwaith eto, bydd yn broses barhaus wrth i'r cynigion gael eu llunio. Ni allwn ni wneud asesiadau effaith llawn nes y byddwn ni'n gwybod beth yw'r gyllideb, felly dyna un rheswm pam yr wyf i'n ceisio eglurder ynghylch y cyllidebau, ond bydd yna nifer o asesiadau effaith. Mae'n amlwg y bydd yna un ar y Gymraeg, fe fydd un ar ddiogelu cefn gwlad ac fe fydd rhai ar les economaidd. A byddwn ni hefyd yn ystyried yr effaith ar ein hadnoddau naturiol, ac mae hynny'n cynnwys bioamrywiaeth a threftadaeth.
Gaf i, ar y dechrau, gydnabod a diolch i'r Gweinidog bod y datganiad yma yn digwydd heddiw? Oherwydd, wrth gwrs, doedd hi ddim yn fwriad gan y Llywodraeth i wneud datganiad llafar yn ôl y datganiad busnes a gafodd ei gyhoeddi. Ond mi wnes i ofyn—gofynnwch a chwi a gewch—a dwi yn ddiolchgar ichi fod y datganiad yma yn digwydd, oherwydd, wrth gwrs, dyma yw un o'r materion mwyaf allweddol y mae'r Llywodraeth yma yn eu hwynebu ac yn eu cynnig o safbwynt dyfodol y sector amaethyddol a rheolaeth tir.
Mae yna newid tôn, ond does yna ddim newid cyfeiriad o safbwynt ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Dwi'n dal i rannu consérn y sector na fydd o leiaf elfen o daliad sylfaenol ar gael i ffermwyr Cymru, yn yr un modd ag y bydd yna i brif gystadleuwyr Cymru yn Ewrop, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn blaen. Dwi wedi gwneud y pwynt yma sawl gwaith. Mae angen sicrwydd, mae angen sefydlogrwydd ar y cyfnod pan rydym ni yn wynebu rhai o'r heriau mwyaf wynebodd y sector am genedlaethau yn sgil Brexit, a dwi'n teimlo y byddai edrych i fabwysiadu dynesiad rhywle fel yr Alban yn llawer gwell ar y foment yma. Ond dyna ni. Mi wnawn ni ymateb i'r hyn ŷch chi wedi ei gyhoeddi, ac mi edrychaf i ymlaen at fod yn rhan o'r broses honno, gorau y medraf i.
Felly, mae newid yn y naws, yma, yn sicr ond yn y bôn does dim newid cyfeiriad. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod y Llywodraeth wedi cael ei gwthio i sefyllfa fwy cymodlon yn dilyn yr ymateb i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Mae'n dda gweld cyfeiriadau at gydweithio a chyd-gynllunio yn eich cyhoeddiad diweddaraf, ond mae'n anffodus, efallai, nad oedd y pwyslais yno o'r diwrnod cyntaf un. Mae hefyd yn braf eich gweld chi'n canolbwyntio nawr ar wobrwyo ffermwyr gweithgar, fel yr ydym wedi ei glywed eisoes, ac y bydd y cynllun hwn ar gael i ffermwyr tenant. Mae hefyd yn braf gweld cyfeiriadau cadarnhaol at y cap ar daliadau a thapro taliadau hefyd, a chydnabod, wrth gwrs, arbedion maint a fyddai, gobeithio, o fudd i ffermydd llai yng Nghymru.
Nawr, pwysais arnoch chi ddwy neu dair wythnos yn ôl i ddweud sut yr oeddech chi'n credu y gallech chi gyflwyno cynigion mor bellgyrhaeddol heb unrhyw syniad o ran yr hyn y bydd Brexit yn ei roi i ni a beth fydd yr amgylchedd ar ôl Brexit o ran ein cysylltiadau masnachu—nid yn unig gyda marchnadoedd rhyngwladol ond, wrth gwrs, o fewn y DU, o bosibl, hefyd—mynediad i farchnadoedd, a ydym yn ddibynnol ar dariffau ac, wrth gwrs, faint o arian fydd ar gael i ni. Rwy'n credu ei bod yn eironig iawn bod eich ymgynghoriad yn gorffen ddiwrnod cyn Brexit, sef y diwrnod y bydd popeth yn newid, o bosibl. Dydw i ddim eisiau awgrymu ein bod ni'n gwastraffu ein hamser yma, ond os yw'r amodau'n newid, yna os ydych chi wedi ymgynghori ar gyfres benodol o gynigion, efallai bod angen i ni ailedrych ar rywfaint o'r rheiny.
Felly, mae'n dda eich bod chi wedi ystyried hynny i raddau yma, oherwydd, oherwydd, fel yr ydych yn ei ddweud, dydych chi ddim yn ymgynghori ar amserlen benodol, oherwydd eich bod chi eisiau gweld beth fydd yn digwydd o ran Brexit. Dydych chi ddim yn ymgynghori o ran trefniadau pontio, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi ddeall yr hyn sy'n digwydd gyda Brexit ac, yn arbennig, o ran lefel y taliadau a allai fod ar gael, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi weld pa fath o gyllid sydd ar gael ar ôl Brexit. Hynny yw, os yw'n berthnasol i'r rheiny i gyd, yna siawns nad yw'n berthnasol i gwmpas ehangach yr ymgynghoriad hwn, hefyd.
Gwnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelu a'r asesiadau effaith y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal. A allwch chi gadarnhau a oes rhywfaint o'r gwaith hwnnw'n mynd i ddechrau cyn Brexit? Oherwydd os bydd, yna, unwaith eto, mae'r holl beth yn newid a gallai'r amgylchiadau fod yn gwbl wahanol ar ôl Brexit, yn enwedig yn yr ystyr economaidd y cyfeirioch chi ato yn eich ymateb blaenorol. Felly, does bosib na fyddai ymarfer modelu mwy ystyrlon yn ystyried sut y saif pethau ar ôl Brexit o ran yr economi a ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar ddyfodol y sector yma.
Nawr, rwy'n pryderu, ac rwy'n rhannu'r pryderon sydd wedi eu mynegi ynglŷn â gallu'r Llywodraeth i gyflawni'r cynigion hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cydnabod hynny, er nad wyf yn gwybod sut yn union yr ydych chi'n mynd i'r afael â hynny. Mae ymweld â phob fferm, i drafod, i gytuno a chyflawni contractau cynlluniau cymhleth yn mynd i gymryd llawer o adnoddau. Felly, rwyf eisiau deall o ble y daw'r adnodd hwnnw, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud eich hun yr wythnos ddiwethaf nad oes syniad gennych chi o ran faint o gyllid y byddwch yn ei gael, os byddwch chi'n cael unrhyw arian o gwbl, hyd yn oed. Rwy'n credu bod Boris Johnson wedi ychwanegu at y pryder hwnnw'n ddiweddar pan ddywedodd ei fod yn credu y gallai o bosib wario rhywfaint ohono ei hun. Felly, mae cwestiynau mawr iawn ac mae'n ymddangos eich bod chi'n dal yn benderfynol o dorri'r gŵys hon.
Nawr, mae'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw yn ymrwymo nad yw'r cyllid sy'n dychwelyd i Gymru yn cael ei wario mewn mannau eraill, ac rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol, yn amlwg. Ond rwy'n awyddus i wybod—os bydd diffyg arian, yna a wnewch chi addo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y diffyg hwnnw? Rwy'n gofyn oherwydd gwnaeth y Llywodraeth hynny yr wythnos ddiwethaf, o ran cost pensiynau'r sector cyhoeddus, pan oedd Llywodraeth y DU yn ddiffygiol o ran yr hyn a ddarparwyd ganddi, a daeth yr arian o gronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru. Felly, byddai diddordeb gennyf wybod a fyddai'r egwyddor honno yr un peth ar gyfer ffermwyr Cymru hefyd.
Un pwynt arall hefyd—mae'n rhywbeth a godais yn eich datganiad blaenorol heddiw, ac mae'n egwyddor y gwnaethoch chi ei derbyn—a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi pa ganran o ymatebion i'r ymgynghoriad arfaethedig hwn a ddaw o Gymru, fel y gallwn ni fod yn glir mai dyma'r farn a gaiff ei mynegi gan bobl Cymru, ac nid eraill sydd o bosib yn dymuno dylanwadu ar y broses hon.
Diolch, Llyr. Mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar un neu ddau o bwyntiau. Rydych chi'n dweud fy mod i wedi cael fy ngwthio i newid cyfeiriad neu newid naws. Os cawn ni ymgynghoriad, unrhyw ymgynghoriad yr wyf i erioed wedi ei gynnal yn Weinidog ym mha bynnag bortffolio—mae'n rhaid iddo fod yn ystyrlon. Petawn i ddim yn gwrando, byddech chi'n cwyno. Os ydw i'n gwrando, rydych chi'n dweud fy mod i wedi fy ngwthio i wneud hynny. Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Wel, 'newid naws' yw'r ymadrodd a ddefnyddioch chi rwy'n credu, ac rwy'n ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon hefyd. Mae'n 16 o wythnosau: unwaith eto, ymgynghoriad hir dros yr haf.
Gwnaethoch chi hefyd gwyno, rwy'n credu, am yr amserlen a'r ffaith ei bod yn gorffen ar 30 Hydref. I'r Aelodau hynny a oedd yn y Siambr pan oeddech chi'n credu fy mod i'n bwriadu gohirio'r ymgynghoriad hwn am bythefnos, byddan nhw wedi clywed eich dicter bryd hynny. Felly, unwaith eto, ni allwch ei chael hi bob ffordd. Ni allwn eistedd yn ôl ac aros i Brexit ddigwydd o'n cwmpas. Ym mha bynnag ffurf—os, yn wir, fel yr ydych yn ei ddweud, y byddwn yn gadael—mae'n rhaid inni fod yn barod. Felly, dyma'r rheswm pam—. Ymrwymais i fynd allan i ymgynghori o bosib yr adeg hon rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i wneud hyn.
Ynglŷn â rhai o'ch pwyntiau penodol, unwaith eto, mater arall nad wyf i wir yn ei ddeall yw ynghylch y cynllun y taliad sylfaenol. Rydym yn derbyn nad yw wedi amddiffyn ffermwyr yn y modd—.Nid oes rhaid ichi edrych ond ar yr ansefydlogrwydd, er enghraifft, a'r tywydd y llynedd, pan gawsom ni sychder. Yn sicr, ni fyddai cynllun y taliad sylfaenol yn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ac rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i weithio tuag at wrthdroi'r difrod sydd wedi'i wneud i'n hinsawdd. Felly, rwy'n synnu braidd eich bod chi'n ymagweddu yn y fath fodd o gwmpas cynllun y taliad sylfaenol.
Yr hyn y bydd y cynllun hwn yn ei gynnig yw incwm sefydlog—incwm sefydlog am fwy na blwyddyn. Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddem ni'n dechrau edrych ar yr asesiadau effaith cyn 30 Hydref. Rwy'n credu bod angen inni gymryd ein hamser i wneud hyn, felly yn fwy na thebyg, na fyddwn. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn dechrau ei wneud cyn 30 Hydref yw edrych ar y cyd-gynllunio a sut y bydd y cyd-gynllunio'n datblygu. Y llynedd, efallai eich bod chi'n cofio—ac efallai yr aethoch chi i un eich hun—gweithiodd swyddogion yn agos iawn gyda ffermwyr, ond roedd yn fwy o sesiwn holi ac ateb. Bydd yn wahanol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Mae'n mynd i ymwneud yn fwy o lawer â gweithdai ac efallai y bydd swyddogion yn ymweld â ffermydd ac yn gweithio gyda ffermwyr. Mae'n rhaid i'r ffermwyr gydweithio â'r cynlluniau hyn ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod ar y blaen pan fyddwn yn cydlunio. Felly, mae cydlunio yn air gwahanol, mae'n debyg, fel yr ydych chi'n ei ddweud, yn yr ymgynghoriad hwn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny.
Mae capasiti yn destun pryder; nid wyf yn cymryd arnaf nad yw'n destun pryder. Fodd bynnag, rwyf wedi cael sicrwydd y byddwn yn gallu gwneud hyn. Bydd yn cymryd amser, ond rwy'n credu bod gennym ychydig—. Un peth y mae ansicrwydd Brexit wedi'i wneud yw rhoi ychydig mwy o amser i ni, ac rwy'n benderfynol o beidio â brysio. Ni fydd pob ffermwr eisiau bod yn rhan o'r cynllun hwn, fel nad yw pob ffermwr yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol nawr. Hoffwn i bob ffermwr gael ymweliad beth bynnag, ond dydw i ddim yn siŵr y bydd ffermwyr eisiau hynny. Ond mae hi mor braf ymweld â ffermydd a gweld faint o ganlyniadau amgylcheddol maen nhw'n eu cynhyrchu'n barod nad ydyn nhw'n cael tâl amdanyn nhw. Roeddwn ar fferm ddoe, lle y dywedodd y ffermwr wrthyf yn falch iawn fod y cae yr oeddwn yn sefyll ynddo—ei fod wedi cael asesiad arno, a bod rhwng 90 a 100 o dunelli o garbon wedi'u storio fesul hectar ar ei fferm. Nid yw'n cael ei dalu am hynny ar hyn o bryd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnig tâl am hynny.
Yn sicr, ni allaf ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn llenwi unrhyw fwlch o ran cyllid. Yr hyn y byddaf yn ymrwymo iddo yw parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn colli ceiniog, fel yr addawyd inni, petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n fodlon iawn i edrych ar y ganran honno o ymatebion, oherwydd rwy'n credu y byddai hwn yn ymgynghoriad diddorol iawn i gael golwg arno.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, ac yn amlwg ni fyddaf yn cytuno â phopeth y mae pawb wedi'i ddweud, ond rwyf yn cytuno â'ch datganiad. Rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn gwerthfawrogi'r amgylchedd yn y datganiad hwn, sy'n rhywbeth nad yw'r farchnad yn ei wneud. Rwy'n credu bod gwaith mawr y gellir ei wneud yma, ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir nad oes amheuaeth bod y ffermwyr a'r cynhyrchwyr ar hyn o bryd yn cynhyrchu nwyddau o ansawdd da, boed yn fwyd neu'n eitemau eraill, ar eu ffermydd. A chaiff hynny ei hyrwyddo drwy sefydliadau fel Hybu Cig Cymru, er enghraifft, ac rwy'n credu os ydym ni'n symud tuag at gynllun newydd, mae cyfle gwirioneddol i sôn am hyrwyddo nwyddau o safon a reolir gan dir, nid hyrwyddo nwyddau o safon yn unig. Oherwydd rwy'n credu bod sgwrs gyfan yn newid nawr. Mae pobl eisiau gwybod am darddiad eu bwyd ac rydym ni'n dda iawn am wneud hynny, mae'n amlwg, ond maen nhw hefyd eisiau gwybod nid yn unig o ble mae'r bwyd wedi dod, ond maen nhw eisiau gwybod sut cafodd ei dyfu. Mae ganddyn nhw gryn ddiddordeb yn effaith y nwyddau a'r gwasanaethau hynny y maen nhw'n eu prynu ar yr hinsawdd, felly rwy'n credu bod angen i ni newid y sgwrs ynghylch hynny'n gyfan gwbl. Byddai honno'n stori newyddion wirioneddol dda i ffermwyr Cymru, oherwydd nid yw o reidrwydd yn wir nad yw hynny'n digwydd yn barod. Ond mae angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n gwerthu hynny, ac er mwyn gwneud hynny, rwy'n credu bod dod â phobl gyda ni yn hollbwysig, yn amlwg. Dyna ble yr wyf i'n cytuno â phawb yma, ac mae'n amlwg eich bod chi wedi cydnabod hynny yn y datganiad hwn.
Ond rwy'n credu, wrth i ni ddod â'r bobl sydd eisoes yn ymwneud â ffermio neu reoli tir gyda ni, mae hefyd yn gyfle i gael trafodaethau ehangach a chydnabod arbenigedd nad yw ar hyn o bryd ar gael, ac a allai gynorthwyo wrth arwain pobl i'r dyfodol yn y ffordd y bydd angen gwneud hynny. Oherwydd ni ellir gwadu newid yn yr hinsawdd, er bod rhai wedi ceisio gwneud hynny. Rydym yn cael glaw trwm iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn cael cyfnodau hir o sychder. Bydd hynny, yn ei dro, yn golygu y byddwn ni'n gorfod cyflenwi'r nwyddau hynny mewn ffordd gwbl wahanol. Mae glaw trwm iawn yn cael gwared ar y pridd ac yn ei erydu. Mae hefyd yn cael gwared ar lygryddion, a gwnaethoch chi sôn am hynny yma, ac rwy'n falch iawn o weld hynny. Ond os yr ydym yn edrych ar y cyfnodau hir hynny o sychder yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd, a chyfnodau cynnes iawn, oni ddylem ni fod yn edrych ar y cyfle i dyfu rhywbeth gwahanol nad yw efallai wedi tyfu yma o'r blaen, ac efallai buddsoddi mewn rhai o'r cynlluniau hynny?
Rwy'n credu bod angen i ni fod, fel yr ydych chi, yn flaengar yma. Gallwn ni edrych ar y posibiliadau a all weithio, a allai weithio, a bydd yn rhaid i ni ddysgu am yr hyn na fydd yn gweithio hefyd. Ond mae hynny wedi bod yn wir ym myd ffermio erioed, ac rwyf eisiau hyrwyddo yma—oherwydd rwy'n mynd i—fferm organig Caerhys yn sir Benfro, oherwydd arweiniodd y ffordd yn gynnar iawn pan nad oedd eraill yn gwneud, ac arallgyfeiriodd yn lle—. Yr unig ffordd y gallai fod wedi goroesi oedd cynyddu nifer y buchod a oedd ganddi ar y tir. Penderfynodd beidio, ac yn hytrach, trodd yn fferm organig. Felly, rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da iawn o ran ble mae pethau wedi gweithio, ond y bygythiad mwyaf i hyn i gyd, ac rwy'n ei ailadrodd, yw San Steffan. Rydym wedi clywed rhai datganiadau pryderus iawn am arian yn cael ei gipio heddiw. Arian blaenorol yr UE a ddaeth yma ac sy'n eiddo i Gymru ydoedd. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael sgyrsiau, ac rwy'n siŵr y byddwch yn eu cael nhw eto, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae'r arian i gyda wedi'i ganoli yn San Steffan, ac mae San Steffan yn dweud wrthym ni yng Nghymru beth y cawn ni ei wneud oherwydd mai nhw sy'n rheoli sut y mae'r arian yn cael ei wario. Diolch.
Fe ddechreuaf gyda'r pwynt olaf hwnnw a wnaeth Joyce Watson. Rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ar ôl tro, a soniais mewn ateb cynharach—rydym ni eisiau bod Gweinidog o'r Trysorlys yn ein cyfarfodydd pedair ochrog. Dyna sy'n digwydd yng nghyfarfodydd pedair ochrog yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gysylltiedig a rhan ynni fy mhortffolio, felly nid wyf yn gweld pam nad ydym ni'n gallu gwneud hyn gyda'r ochr amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael yr eglurder hwnnw. Soniais i fy mod i wedi ysgrifennu eto—mae hwn mewn gwirionedd yn mynd at Robert Goodwill, a gadeiriodd y cyfarfod pedair ochrog diwethaf. Mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni oherwydd, fel rwy'n dweud, nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw llawer iawn inni. A chawsom ni addewid na fyddem ni'n colli ceiniog petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddal yn gadarn at yr addewid hwnnw.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch rheoli tir yn gynaliadwy a pham yr ydym ni'n gwneud hynny. Mae'n gysyniad sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae'n adlewyrchu defnyddio'n tir mewn ffordd sy'n sicrhau bod anghenion y genhedlaeth bresennol yn cael eu cydbwyso ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae ffermwyr yn deall hynny'n iawn. Maen nhw bob amser yn siarad am genedlaethau'r dyfodol a'r angen i ddiogelu'r tir. Ac roedd gan y fferm yr oeddwn i arni ddoe y dirwedd fwyaf anhygoel. Mae pobl yn dod i Gymru ar gyfer y dirwedd honno, ac maen nhw'n dod hefyd am y bwyd. Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â tharddiad—mae gan bobl lawer mwy o ddiddordeb mewn gwybod o le mae eu bwyd wedi dod a sut y mae'n cael ei dyfu. Felly, roedd y ffermwr yn dweud wrthyf i ddoe fod ei ŵyn yn bwyta llawer o feillion gyda'u glaswellt, ac mae hynny'n gwneud i'r cig flasu'n llawer gwell. Felly, yn amlwg, eisoes yn meddwl am yr holl bethau hyn. Ond nid yw'n cael ei wobrwyo am lawer o'r nwyddau cyhoeddus y mae'n eu darparu, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol hynny a'i fod ef yn cael ei wobrwyo.
Rydym ni wedi rhoi mwy o bwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy yn yr ymgynghoriad hwn. Gofynnodd un o'r undebau imi, sy'n credu bod bwyd yn nwydd cyhoeddus—nid yw, mae ganddo farchnad, ac nid yw'n deg i'r trethdalwr ein bod ni'n talu am rywbeth sydd â marchnad. Ond mae'n iawn ein bod yn gwobrwyo pethau nad oes marchnad ar eu cyfer, gan gynnwys ansawdd yr aer, ansawdd y dŵr, ansawdd y pridd, y gwaith rheoli maethynnau yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y datganiad hwn.
Bellach, ystyrir mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth bwysicaf o ran gwarchod adar yn y DU, a bydd perthnasedd hyn i'ch datganiad yn dod yn amlwg. Mae'r adroddiad partneriaeth 'Sefyllfa adar yng Nghymru 2018' yn dangos bod nifer y gylfinirod a gollwyd wedi bod yn fwy difrifol nag yng ngweddill y DU, ac mae mwy na thri chwarter poblogaeth y gylfinir wedi diflannu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac nid oes unrhyw awgrym bod y duedd hon yn sefydlogi. Ac mae Gylfinir Cymru, partneriaeth y gylfinir yng Nghymru, wedi clywed bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y gylfinir, er eu bod wedi bod ar waith am 40 o flynyddoedd, yn amlwg, heb weithio ar gyfer y rhywogaeth hon.
Ddoe, roeddwn yn uwchgynhadledd y gylfinir yn Rhif 10 Stryd Downing, ynghyd â: Lewis Macdonald ASA—un o'ch cyd-Aelodau Llafur—hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn Senedd yr Alban; Jake Berry AS, hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn San Steffan; a'r cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer adareg yn Cyfoeth Naturiol Cymru—efallai eich bod yn ymwybodol ei fod yn bresennol. Clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, annog a chynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod at ei gilydd i gyflawni, monitro a hyrwyddo'r gylfinir a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y manteision lluosog ac aml-rywogaeth sy'n deillio o gryfder ecosystemau a safbwynt treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y mae'n bosibl eu cyflawni drwy gamau i ddiogelu'r gylfinir.
Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r pwyntiau perthnasol canlynol i'ch datganiad a wnaed yn y cyfarfod bord gron a thrawsbleidiol mawr hwn: ein bod mewn cyfnod tyngedfennol i'r gylfinir, ac efallai bod gennym ni ond 15 mlynedd ar ôl; y dylem ni i gyd fod yn rhan o'r gwaith o gyd-gynllunio cynllun gyda phrofion a threialon; bod angen dull yn seiliedig ar anghenion ar gyfer taliadau i ffermwyr; dull gweithredu yn seiliedig ar ddull clyfar a mesuradwy; a bod angen cydgysylltu camau gweithredu gan weithio ar raddfa fawr a gyda'n gilydd gan gynnwys asiantaethau statudol a hynny ledled y DU? Ac rwy'n pwysleisio ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraethau Cymru a'r Alban yn cael eu gwahodd i gymryd rhan lawn ar yr eiliad gyntaf y daw DEFRA neu Asiantaeth y DU yn rhan o hyn.
A dof i ben drwy ddyfynnu geiriau'r amgylcheddwraig ac awdures Curlew Moon, Mary Colwell, a oedd yn bresennol, a ddywedodd, 'It's so shocking that Wales may truly have only 15 years left of the haunting call of the curlew—heartbreaking.' Mae yn dorcalonnus. Gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ond nid yw'n ymwneud â'r gylfinir yn unig, mae'n ymwneud â'r cynlluniau cymorth i ffermwyr sy'n dilyn a'r llu o fuddion o ran cynhyrchu bwyd a rhywogaethau a all ddilyn. Sut y byddech chi'n ymateb i'r pwyntiau hynny a gafodd eu gwneud?
Diolch ichi, Mark Isherwood. Roeddwn yn ymwybodol o'r uwchgynhadledd y cyfeiriasoch ati. Doeddwn i ddim yn ymwybodol eich bod yn bresennol, ond roeddwn i'n sicr yn ymwybodol ohoni. Rwy'n credu, mae'n debyg mai'r ffordd orau ymlaen fyddai—. Yn amlwg, ffermwyr—. Rwyf wedi bod ar sawl fferm lle—alla i ddim meddwl am y gylfinir, ond gwahanol fridiau o adar—maen nhw'n gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd allan o fodolaeth. Gallaf feddwl am un neu ddwy fferm, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri, o ran gwahanol fathau o adar. Felly, efallai y byddai'n dda i gyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n siŵr y cewch chi rai ffermwyr a fyddai'n dod at ei gilydd fel grŵp i wneud hynny, oherwydd rwy'n siŵr—os ydych yn dweud ei bod yn 15 mlynedd, byddai hynny'n argyfwng o ran y gylfinir mewn unrhyw iaith. Byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth gyda chi y tu allan i'r Siambr ynglŷn â hynny hefyd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut mae'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad, ond byddwn i'n sicr yn edrych ar unrhyw ymateb a pha un a ellid ei ystyried yn ganlyniad amgylcheddol. Rwy'n siŵr y gellid. Dydyn ni ddim wedi llunio'r cynllun eto. Fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad ystyrlon. Felly, rwy'n fodlon edrych ar hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o'r Corff (Cymru) 2019, a dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7114 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd, rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Mae rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rheoleiddio rhoi twll mewn rhannau personol arbennig o gorff plentyn a elwir yn dyllu personol. Ers 1 Chwefror 2018, mae'n drosedd i unigolyn yng Nghymru roi twll neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o unrhyw unigolyn o dan 18 oed, oni bai ei fod yn digwydd fel rhan o weithdrefn feddygol. Mae'r gwaharddiad hwn yn cwmpasu pob gweithdrefn tyllu personol sy'n cynnwys gemwaith.
Bydd y Rheoliadau a gyflwynir yma heddiw yn y cynnig hwn yn dod â thyllu personol sy'n cynnwys unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith o fewn cwmpas y drosedd yn rhan 5 o'r Ddeddf. Effaith y Rheoliadau hyn fydd gwahardd tyllu personol sy'n cynnwys unrhyw wrthrych, boed yn emwaith ai peidio. Mae angen ymestyn cwmpas y drosedd i gynnwys tyllu personol gan ddefnyddio unrhyw wrthrych i ddiogelu plant yn llawn rhag gweithdrefnau tyllu personol. Gallai'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig â thyllu'r corff â gwrthrychau nad ydynt yn emwaith, yn dibynnu ar y gwrthrych, fod yn fwy difrifol na thyllu â gemwaith. Gall gwrthrychau nad ydynt yn emwaith amrywio o ran maint, cyfrannedd a ffurf a gall hyn eu gwneud yn fwy anodd eu sterileiddio gan gynyddu'r risg o haint.
Mae'r materion diogelwch ynghylch pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai eu gwneud yn agored i niwed wrth gael gweithdrefn tyllu personol yr un mor berthnasol i dyllu drwy ddefnyddio gemwaith ag yw i dyllu drwy ddefnyddio gwrthrych arall. Bydd ymagwedd gyffredin tuag at dyllu personol ar gyfer gemwaith ac unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith yn symleiddio'r sefyllfa i ymarferwyr a chleientiaid yn ddiwahân. Os cymeradwyir y rheoliadau hyn, byddant yn dod i rym ar 1 Awst 2019.
Does dim siaradwyr yn y ddadl yma. Felly, dwi'n cymryd dyw y Gweinidog ddim angen ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau), a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7113 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Croesawaf y cyfle hwn i egluro cefndir y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chyflwyno adroddiad arno o fewn yr amserlenni tynn a oedd ynghlwm â hyn. Mae'r Pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw beth i rwystro'r Cynulliad rhag cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) ar 12 Mehefin er mwyn ymdrin â nifer o newidiadau technegol i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru a Lloegr. Yn dilyn cyhoeddiad fy rhagflaenydd ym mis Gorffennaf y llynedd, bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn dod â dyddiad yr ailbrisio ardrethi annomestig nesaf ymlaen o 2022 i 2021 ac yn addasu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestri arfaethedig o fis Medi i fis Rhagfyr yn y flwyddyn brisio flaenorol.
Rwy'n credu bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, rwy'n fodlon i'r darpariaethau hyn gael eu gwneud mewn Bil sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr, gan y bydd hyn yn sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal yr ailbrisiad ar yr un pryd ac mewn ffordd gyson yn y ddwy wlad.
Bil byr, technegol yw hwn i greu newid sy'n cael cefnogaeth eang busnesau a threthdalwyr eraill. Mae'r Cynulliad eisoes wedi cymeradwyo Gorchymyn i ddwyn ymlaen y dyddiad ailbrisio rhagflaenol, y dyddiad cyfeirio ar gyfer yr asesiadau prisio. Felly cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Unwaith eto, does gyda fi ddim siaradwyr yn y ddadl yma chwaith, ac felly dwi'n cymryd dyw'r Gweinidog ddim angen ymateb. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna hefyd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2019-20. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7096 Rebecca Evans
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf. Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cul ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'n cysoni nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roddwyd i Drysorlys ei Mawrhydi. Er hynny, mae'n cynrychioli rhan bwysig o'r gyllideb a'r broses graffu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth o'r gyllideb hon a byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd ar adroddiad y Pwyllgor maes o law.
Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn datblygu'r cynlluniau a nodwyd yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae cyllidebau atodol yn canolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Ni fydd pob un wedi codi o ganlyniad i amcanion strategol Llywodraeth Cymru, ond gallant fod yn bethau sy'n gofyn am ymyriadau sy'n effeithio ar y gyllideb. Yn wir, mae'r dyraniad mwyaf o bell ffordd a wnaed yn y gyllideb atodol o £241 miliwn yn ymwneud â chwrdd â chostau ychwanegol cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Ymddangosodd y costau o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a roddodd bwysau ariannol ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes o fis Ebrill 2019. Ar 7 Mawrth, cyhoeddais y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i sefydliadau yn y sector cyhoeddus y byddai'r newid yn effeithio arnynt. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd lefel y cyllid y bydd yn ei ddarparu yn llai na'r costau y bydd yn rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru eu talu. Rwyf wedi ysgrifennu ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi ein pryderon dwys nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain. Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n tanseilio'r datganiad o bolisi ariannu a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid yn y DU.
Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau cyfalaf o £85 miliwn i roi hyder a sicrwydd i fusnesau yng Nghymru ar adeg pan fo'r ddau yn brin o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n ariannu ystod o brosiectau y gellir eu darparu'n gyflym yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu manteision economaidd sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a gall ysgogi galw economaidd ehangach ar adeg pan fo'i angen fwyaf. Caiff 50 miliwn o bunnau eu buddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, gan ddarparu hyd at 650 o gartrefi ledled Cymru a gwneud cyfraniad sylweddol at ein blaenoriaeth allweddol o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ledled Cymru. Dyrennir 20 miliwn o bunnau i gefnogi awdurdodau lleol, a byddwn yn cydweithio'n agos â nhw i drafod y defnydd gorau o arian i roi hwb economaidd i'r ardaloedd lleol. Bydd y £15 miliwn sy'n weddill yn cefnogi'r cynllun gweithredu economaidd drwy gronfa dyfodol yr economi a'r cyllid ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth.
Mae £11.4 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer 2019-20 o gronfa bontio'r UE. Trwy'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymyriadau sy'n ychwanegu gwerth ac sy'n ychwanegol at rwymedigaethau Llywodraeth y DU, yn unol â'n blaenoriaethau a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a bydd yn ein helpu i ganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i helpu busnesau, sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector i baratoi ar gyfer Brexit.
O ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r gronfa refeniw wrth gefn yn £178 miliwn, gyda chronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £100 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol a £191 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol. Dros y misoedd nesaf, byddaf, wrth gwrs, yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus ac yn parhau i archwilio, gyda chydweithwyr, yr achos dros ddyraniadau yn ystod y flwyddyn o'r cronfeydd wrth gefn. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb, lle bo angen, i bwysau pellach posibl ar y gyllideb a rheoli'r arian sy'n cael ei gario ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o'r cronfeydd wrth gefn eleni eu nodi yn yr ail gyllideb atodol.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyfrannu—Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, ac mi gafodd y pwyllgor gyfle i gyfarfod ar 27 Mehefin i drafod cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni, 2019-20. Roedden ni'n falch iawn o allu cynnal y sesiwn honno, wrth gwrs, yn Aberystwyth, a hefyd yn falch o ddweud bod y Gweinidog wedi dod atom ni i'r cyfarfod hwnnw, a dwi'n diolch iddi hi am ddod i gynnal y sesiwn gyda ni yn Aberystwyth.
Nawr, y prif bryder i ni fel pwyllgor am y gyllideb atodol yma yw gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi ei glywed, benderfyniad mewn perthynas â phensiynau sector cyhoeddus, ond dydyn nhw ddim yn ariannu'r penderfyniad hwn yn llawn yng Nghymru. Mae'r datganiad polisi ariannu yn nodi, lle mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at gostau ychwanegol, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, yna mi gaiff y costau ychwanegol hynny eu talu gan y Llywodraeth honno.
Roedd hi'n amlwg i'r pwyllgor nad yw'r datganiad polisi ariannu wedi cael ei weithredu'n gywir yn yr achos hwn, ac fel pwyllgor byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynegi ein pryderon difrifol ni ynghylch y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru, fel rŷn ni wedi ei glywed, wrth gwrs, wedi cytuno i wneud yn iawn am y diffyg cyllid ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru eleni, ond mae'r pwyllgor, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gofidio am y ffaith nad oes cadarnhad y bydd cyllid yn y dyfodol, ac mae angen sicrwydd felly gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn ar fyrder.
Rhywbeth arall a oedd yn peri pryder i ni fel pwyllgor yw'r cyllid yn ymwneud â ffordd liniaru'r M4. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Llywodraeth yn benthyca i gynyddu capasiti gwario, ond, gan na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen, doedd y Gweinidog ddim yn gallu cadarnhau at beth y byddai'r arian a godwyd drwy fenthyca yn cael ei ddefnyddio. Mae Aelodau am ddeall pa brojectau fydd yn cael eu hariannu a allai olygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chapasiti gwario. Doedd hi chwaith ddim yn glir yn y dystiolaeth sut y byddai comisiwn yr M4 yn mynd rhagddo. Mae'r Llywodraeth wedi dweud wrthym ni mai comisiwn yr M4 fydd yn cael y 'cynnig cyntaf' ar gyllid a oedd i fod ar gael ar gyfer project y llwybr du, ond eto fe gawson ni ar ddeall bod yr £20 miliwn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4 bellach mewn cronfeydd wrth gefn.
Does dim manylion yn y gyllideb atodol hon am sut y bydd y camau nesaf ynghylch yr M4 yn symud ymlaen. Mae'r pwyllgor wedi gofyn felly am fanylion am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer comisiwn yr M4, ac am ragor o fanylion am y blaenoriaethau cyllido yn rhaglen gyfalaf 2019-20 y Llywodraeth yng ngoleuni, wrth gwrs, y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phroject yr M4, yn enwedig o ran sut mae hyn wedi effeithio ar ei strategaeth fenthyca.
Nawr, yn y Siambr hon ar 29 Ebrill, fe ddatganodd y Llywodraeth argyfwng hinsawdd. Eto, er gwaethaf y datganiad hwnnw, dydy'r gyllideb hon ddim yn nodi unrhyw newid ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth. Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o sut mae'r datganiad o argyfwng wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Rŷn ni wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Llywodraeth am sut y bydd cyllidebau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd hwnnw.
Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno, wrth gwrs, yng nghyd-destun y ffaith nad oes cytundeb Brexit sydd wedi cael ei dderbyn. Ar y diwrnod y cafodd y gyllideb atodol ei gosod, fe gyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth cyfanswm o £85 miliwn, ac fe'i cyflwynwyd, wrth gwrs, yng nghyd-destun Brexit. Er ein bod ni’n croesawu'r buddsoddiad hwn, wrth gwrs, dyw hi ddim yn glir i ni sut mae'r arian hwn yn bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth Brexit, ac rydyn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol am hyn. Mae'r pecyn ariannu hwn, er enghraifft, yn dyrannu £20 miliwn i awdurdodau lleol, ond dyw hi ddim yn glir sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid hwn, ac mi fyddem ni'n croesawu eglurder yn hyn o beth, fel y byddem ni'n ei groesawu e ar y materion eraill dwi wedi'u codi. Diolch.
Rwyf hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar y gyllideb atodol gyntaf, a minnau'n Weinidog Cyllid yr wrthblaid ar yr ochr hon i'r Siambr a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog na fyddwn ni, yn ôl traddodiad y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r gyllideb atodol hon. Ar y sail na wnaethom ni gefnogi'r gyllideb wreiddiol y mae'n atodol iddi, byddwn yn ymatal.
Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae nifer o newidiadau a throsglwyddiadau technegol ac ati yn y gyllideb hon, sydd i'w disgwyl. Wedi dweud hynny, mae rhai materion sy'n peri pryder ynglŷn â'r gyllideb hon, ac mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi cyfeirio at lawer ohonyn nhw. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, roedd y pwyllgor yn arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg eglurder ynghylch y gyllideb, yn enwedig o ran yr uchelgeisiau a'r cyllid ar gyfer comisiwn yr M4. Gwyddom fod yr £20 miliwn hwnnw a ddyrannwyd i lwybr du'r M4 bellach wedi'i drosglwyddo'n ôl, neu wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn. Ond nid yw hi'n glir sut yn union y bydd y comisiwn yn cael y dewis cyntaf o ran yr arian hwnnw. Mae'n debyg nad yw'r arian hwnnw wedi'i glustnodi. Efallai y gall y Gweinidog roi atebion inni i'r cwestiynau hynny. Ni chawsom yr holl atebion hynny y byddem wedi hoffi eu cael yn ystod ein sesiynau tystiolaeth.
Nawr, o'r gorau, mae'r llwybr du wedi mynd i'r gwellt, ond siawns na ddylid cael fframwaith ariannol llawer cryfach ar hyn o bryd i roi rhwydd hynt i'r comisiwn argymell yr ateb gorau o blith y dewisiadau eraill, boed hynny ar ffurf trafnidiaeth gyhoeddus well, y metro neu ddatrysiad peirianyddol, fel twneli newydd ym Mryn-glas, adlinio'r briffordd ac ati neu, yn wir, yn fwy tebygol, cyfuniad o rai o'r dewisiadau hyn.
Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â benthyca. Nid dim ond cyfalaf sy'n cael ei ddefnyddio yn hyn o beth neu y bwriedir ei ddefnyddio. Yn ôl pob tebyg, mae benthyca yn mynd i barhau ar lefelau blaenorol angenrheidiol i ariannu'r llwybr du yn absenoldeb y ffordd ac yn absenoldeb unrhyw brosiectau diriaethol yn ei lle. Felly, efallai y gall y Gweinidog egluro'r sefyllfa yn hynny o beth o ran beth yw ei bwriadau gyda'r lefel honno o fenthyca. Yn sicr, nid oedd y Pwyllgor Cyllid yn teimlo ein bod wedi mynd at wraidd y peth. Am ba hyd fydd y comisiwn yn ei le? Pryd gaiff y camau nesaf, y sonnir amdanyn nhw, eu rhoi ar waith? Pryd gaiff y trefniadau ariannol eu rhoi ar waith ar gyfer hynny? Mae pobl y de-ddwyrain yn amlwg yn edrych at Lywodraeth Cymru nawr i ddarparu ateb i'r tagfeydd ar yr M4.
Yn y cyfamser, byddai wedi bod yn braf gweld mwy o waith yn cael ei wneud yn niffyg y cynllun ffordd hwnnw, gan edrych ar gynlluniau posib eraill i liniaru tagfeydd yn ardal y de-ddwyrain—fy rhestr siopa i, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati unwaith: ffordd osgoi Cas-gwent, cyffordd newydd ar yr M48 o bosib, adnewyddu arwyneb y ffordd rhwng y Fenni a Rhaglan ar yr A40—. Rwyf wedi bod drwyddynt lawer gwaith o'r blaen. Ond mae cynlluniau posib eraill hefyd, y gwn i fod gan Aelodau eraill ddiddordeb ynddynt.
Felly, ydym, rydym ni'n derbyn bod llawer o'r newidiadau hyn yn dechnegol ac yn angenrheidiol, ond credaf y gellid bod wedi cael ychydig mwy o gyfeiriad yn y gyllideb hon a thynnu sylw at y dyfodol. O ran y materion eraill yr ymdriniwyd â nhw ac y cyffyrddwyd â nhw gan yr adroddiad ar y gyllideb atodol a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, roeddem yn gyffredinol yn cefnogi'r cynnydd yng nghyllideb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20, cyllideb Comisiwn y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—y cynnydd mewn refeniw.
Fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon. Byddwn yn ymatal am y rhesymau a nodwyd gennyf o'r blaen.
Mi ddywedodd y Gweinidog mai sgôp digon cul sydd yna i gyllideb atodol fel arfer, ond dwi’n meddwl bod yna fwy, efallai, i'w ddweud am y gyllideb atodol na sydd yna am lawer ohonyn nhw. Mae yna lawer o ffactorau allanol o ran gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhai o weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, o bosib, Llywodraeth Cymru, y mae angen rhoi sylw iddyn nhw. O ran diffyg gweithredu, y cam gwleidyddol mawr sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r gyllideb ei hun, wrth gwrs, ydy bod y Cynulliad yma a Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd. Roeddwn i'n edrych ar ddiffiniad 'emergency' yng ngeiriadur Rhydychen:
Sefyllfa ddifrifol, annisgwyl, ac yn aml yn beryglus yn gofyn am weithredu ar unwaith.
Mi fyddwn i, felly, wedi disgwyl a gobeithio gweld y gweithredu ar unwaith yn digwydd ar y datganiad argyfwng newid hinsawdd yna, ond dydy hynny ddim yn gyfle sydd wedi ei gymryd gan y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu yn ei gylch.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod materion amgylcheddol yn ffactor yn y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â llwybr du'r M4. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny fwy nag ymateb go iawn i'r datganiad argyfwng hinsawdd. Ond, eto, beth sydd ddim yn y gyllideb atodol yma sydd yn fy nharo i fel bod yn fwyaf diddorol, a fy nghyd Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid hefyd—hynny ydy, iawn, o ganlyniad, o bosib, i'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r llwybr du, o bosib nad oes yna ymrwymiadau ariannol y mae'n rhaid i ni eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond siawns ei bod hi'n rhesymol ar y pwynt yma i ddisgwyl gweld yn y gyllideb atodol arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb o ran gosod ei chyllideb, o ran beth fydd ei hagwedd hi tuag at ei lefelau benthyca hi a'r arian y bydd hi ei angen maes o law i dalu'r benthyciadau hynny yn ôl. Felly, unwaith eto, rhywbeth sydd ddim yn y gyllideb yma.
O ran Brexit, rydw innau'n croesawu'r £85 miliwn yma sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer paratoadau Brexit. Fel y clywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw innau'n bryderus bod yna ddiffyg eglurder yn union o beth ydy strategaeth y Llywodraeth wrth wario'r arian yna, er bod yna nifer o benawdau wedi cael eu gosod. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig yma, ac mae'r cwestiwn a'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried fel bod â goblygiadau cyllidol difrifol tu hwnt ar ei gyfer o. Mi fyddwn ni'n sicr mewn cyllidebau a chyllidebau atodol y dyfodol yn gorfod rhoi sylw mawr i hyn oherwydd y twll dŷn ni wedi tyllu i'n hunain iddo fo o ran Brexit.
Sylw arall ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth Prydain: mae o'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch o fod y £36 miliwn yn fyr yma wedi cael ei neilltuo ar gyfer ymateb i sefyllfa pensiynau sector gyhoeddus. Dwi'n bryderus mai dechrau patrwm ydy hyn ac mi ydw i'n gefnogol iawn ac yn mynd i fod yn gefnogol iawn i unrhyw gamau cadarn y gwelwn ni gan Lywodraeth Cymru i ymateb, o bosib ar y cyd efo llywodraethau a seneddau datganoledig eraill, i sicrhau nad dechrau patrwm ydy hyn gan Lywodraeth Prydain, sydd, i bob pwrpas, wedi trin ein Senedd genedlaethol ni fel adran o Lywodraeth yn Whitehall yn hyn o beth.
Felly, i gloi, mi fyddwn ni'n ymatal ar y gyllideb yma, a hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod y gyllideb atodol yma'n rhan o gytundeb ddwy flynedd. Cyllideb Llywodraeth Lafur ydy hon, ac mi fyddwn ni ar y meinciau yma'n dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif arni hi, ond mi rydym ni'n credu, drwy ein cytundeb ni ar arian ychwanegol at yr economi sylfaenol, at addysg feithrin, at iechyd meddwl, at grant ffermwyr ifanc, at ofal diwedd oes, at fuddsoddi mewn celfyddyd a threftadaeth chwaraeon a thwristiaeth, ac yn y blaen, ac yn blaen, ein bod ni, drwy hynny, wedi gallu gwneud gwahaniaeth ar ran pobl Cymru o feinciau'r gwrthbleidiau yma yn y Cynulliad, ac yn edrych ymlaen, wrth reswm, at allu gwneud gwahaniaeth llawer mwy fel Llywodraeth yma.
Rwyf am ddatgan yn glir nawr. Byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Yn gefndir i'r gyllideb atodol hon mae cyni parhaus ac ansicrwydd Brexit. Gwyddom y dylem ni fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy y flwyddyn nag yr ydym ni'n ei gael ar hyn o bryd, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn cyfateb i faint y gyllideb atodol hon. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid polisi economaidd yw cyni, ond ideoleg: dull deublyg o dorri a phreifateiddio.
Ar hyn o bryd mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin o ran polisi, â llywodraethau Churchill, Eden a Macmillan yn syth ar ôl y rhyfel nag â Boris Johnson neu Jeremy Hunt wrth i Geidwadwyr San Steffan newid i fersiwn Brydeinig o'r Blaid Weriniaethol.
O ran y gyllideb atodol gyntaf hon ar dai, rwy'n croesawu'r ffaith bod £50 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 650 o gartrefi fforddiadwy, er bod cost o £67,000 i bob cartref yn ymddangos i mi, o leiaf, braidd yn isel. Ond rwy'n croesawu'r datganiad canlynol gan y Gweinidog Cyllid yn y Pwyllgor Cyllid—i ddyfynnu:
Felly, caiff yr arian ar gyfer tai fforddiadwy ei ddyrannu gan ddefnyddio'r fformiwla grant tai cymdeithasol safonol, sy'n golygu y bydd pob awdurdod lleol yn cael eu cyfran o'r arian ychwanegol, ac, unwaith eto, penderfynwyd bod yr arian hwn yn flaenoriaeth oherwydd roedd prosiectau y gellid eu dechrau yn ystod y flwyddyn, a byddem yn disgwyl cynlluniau o raglenni awdurdodau lleol.
Ac yn benodol, y peth roeddwn i'n fwyaf balch ohono—yr ymateb i'r cwestiwn canlynol:
A all awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian hwn i adeiladu tai cyngor?
Ymateb y Gweinidog Cyllid oedd:
Gallant, a byddwn i'n hoffi iddyn nhw wneud hynny.
Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y caiff ei groesawu gan awdurdodau lleol a chan bob un ohonom ni sy'n credu mai dim ond drwy adeiladu tai cyngor y gellir datrys yr argyfwng tai presennol.
A gaf i hefyd groesawu'r ffaith y caiff yr arian ychwanegol ar gyfer pensiynau a dderbynnir o San Steffan ei drosglwyddo i bortffolios Gweinidogol? Rwy'n ategu pryder pawb arall ei fod £36 miliwn yn llai nag yr oedd ei angen arnom ni, ac mae hynny'n peri imi ddeall yn rhannol amharodrwydd y Llywodraeth i gymryd pethau oddi ar San Steffan, lle, oni bai y trosglwyddir y swm o arian i'w cynnal a swm yr arian sydd ei angen, rydym ni ar ein colled yn rheolaidd o ran y rhain diolch i San Steffan.
Ond cytunwyd, pan oedd Mark Drakeford yn Weinidog Cyllid, ar drefn apelio pryd, os oeddem yn credu ein bod wedi cael ein trin yn wael gan y Trysorlys, roedd yna weithdrefn apelio annibynnol ac nid dim ond mynd yn ôl i'r Trysorlys gan ddweud, 'Nid ydym yn fodlon' a byddan nhw'n dweud, 'Wel, hen dro; dyna'r sefyllfa' Mae gweithdrefn apelio annibynnol i fod yn ei lle, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn defnyddio honno.
Mae gwir angen cymorth o ran pensiwn athrawon. Hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Gydag ef, mae problemau mewn ysgolion; hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Ond cofiwch, mae'r flwyddyn ysgol a'r flwyddyn ariannol yn wahanol ac mae'r flwyddyn ysgol yn mynd, fel mae pawb yn gwybod, o fis Medi hyd at ganol mis Gorffennaf, ac mae'r flwyddyn ariannol yn mynd o fis Ebrill. Felly, mae angen cael arwydd gan y Llywodraeth y byddan nhw'n parhau i gefnogi hyn am weddill y flwyddyn ysgol, neu fel arall bydd problem gydag ysgolion o ran eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Ac rwy'n credu bod nifer o bobl yma naill ai wedi bod, neu yn llywodraethwyr, ac yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n gallu digwydd yn ystod y flwyddyn os, ym mis Ebrill, na fydd yr arian a gafwyd eleni ar gael y flwyddyn nesaf, ac wedyn, yn sydyn iawn, mae gennych chi gyfle cyfyngedig i ddechrau gwneud arbedion yn y flwyddyn honno, ac mae'n achosi problemau ariannol enfawr.
Rwy'n siomedig iawn yn bersonol am y methiant i gefnogi'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu mewn ysgolion. Mae hynny'n gost arall a ddaeth i ran ysgolion, nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosti. Weithiau, rydych chi yn credu eu bod yn cyflogi mwy o staff neu fod y cyflogwr yn negodi codiadau cyflog—'Wel, chi wnaeth hynny, talwch chi.' Ond mae hyn yn rhywbeth nad oedd ganddyn nhw unrhyw reolaeth o gwbl drosto, ac rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymdrin â hynny oherwydd ei fod yn sylweddol is na chyflogau'r athrawon. Mae'n briodol talu cyfraniadau pensiwn gan y cyflogwr, ond mae £5,000, £10,000, £15,000 yr ysgol yn gwneud llawer o wahaniaeth. Felly, rwy'n poeni'n fawr am hynny.
A gaf i yn olaf groesawu'r £20 miliwn ar gyfer cyfalaf llywodraeth leol? Gall awdurdodau lleol bob amser wario cyfalaf. Mae gennych chi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae gennych chi gynnal a chadw cyfalaf, mae gennych chi ffyrdd. Gellir wastad defnyddio'r arian hwnnw.
Ni allaf weld unrhyw newid i gyfalaf trafodion cyllid yn y gyllideb atodol hon. A gaf i ofyn a all y Gweinidog, rywbryd, adrodd yn ôl ynglŷn â sut y mae'n cael ei wario gyda phroffil o wariant ac ad-dalu, ac esboniad o'r strategaeth sylfaenol ar gyfer ei ddefnyddio? Rydym ni'n gwybod ar gyfer beth na allwn ni ei ddefnyddio. Efallai nad ydym yn deall ar gyfer beth yr ydym ni yn ei ddefnyddio.
Ac mae dyfodol ceir trydan a'r defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar welliannau mewn technoleg batri. Bydd pwy bynnag sy'n meistroli technoleg batri gwell o ran maint, hyd yr amser y cedwir y wefr, gan leihau'r ynni trydanol a gollir i ffurfiau eraill fel gwres, a chyflymder yr ailwefru, yn chwyldroi'r diwydiant ac, yn bwysicaf oll, yn creu diwydiant newydd ar gyfer ein hardal ni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr arian sy'n cael ei wario ar dechnoleg batri yn gweithio ac mai ni fydd y lle y bydd pobl yn dod iddo i gael batris.
Byddwn ni hefyd yn ymatal ar sylwedd y cynnig hwn ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, a gaf i ganmol y Llywodraeth am ei chyflwyniad gwell o lawer o'r gyllideb atodol? Rwy'n cofio dair blynedd yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Cynulliad, y gyllideb atodol gyntaf i mi ddod ar ei thraws. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai fy mhrofiad, o ran edrych ar gyllidebau Llywodraeth y DU neu gyllidebau llywodraeth leol yn Lloegr neu gyllidebau sector preifat o ryw fath neu'i gilydd, o fudd imi ar gyfer y swydd o asesu a chwestiynu'r gyllideb atodol, ond nid oedd hynny'n wir o gwbl i'r graddau yr oeddwn i wedi ei obeithio. Ac, o gofio ar y pryd, roeddwn i ar y Pwyllgor Cyllid ac yn cadeirio'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, yr elfen fwyaf rwy'n credu, neu yn sicr yr elfen fwyaf dadleuol o'r gyllideb oedd gweithredu llawer o faniffesto UKIP ym maes torri prosiectau newid hinsawdd. Rhoddwyd rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl wedyn yn yr ail gyllideb atodol, ond yr oedd yn sylweddol, ac nid oedd yn hawdd cwestiynu ar unwaith beth oedd yn digwydd. Rwy'n falch o weld nad y prif grwpiau gwariant yn unig sydd ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn, ond mae llinellau gwariant y gyllideb hefyd ar y wefan, er mwyn i bobl eu cwestiynu mewn ffordd gydlynol.
Hefyd, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda iawn yr ydym ni wedi ei chysylltu â'r gyllideb. Cyfeirir ati ar ein system fel nodyn, ac fel dogfen mewn mannau eraill, rwy'n credu; yn yr atodiad caiff ei ddisgrifio fel nodyn esboniadol, a tybed a fyddai modd ei galw yn hynny yn y dyfodol, fel ein bod yn gwybod beth yr ydym ni'n cyfeirio ato a gallai hyn fod yn rhan reolaidd o'r broses, oherwydd roeddwn i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol i ddeall y newidiadau amrywiol oddi mewn iddo.
Y newidiadau mwyaf cyffrous, mewn rhyw ffordd, i mi, yw'r diffyg newidiadau ar yr ochr refeniw, ac rwy'n credu ei bod yn eithaf arwyddocaol mewn gwirionedd, oherwydd bod chwe mis wedi mynd heibio ers y gyllideb derfynol. Ac, os byddai popeth arall yn gyfartal, gallai rhywun fod wedi disgwyl rhywfaint o amrywio yn y rhagolygon ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tir, o gofio'r ansicrwydd ynghylch rhagweld y rheini. Ac nid wyf i'n siŵr ai'r rheswm nad ydym ni wedi gweld amrywio yw oherwydd nad ydym ni wedi sefydlu'n llawn y prosesau yr ydym yn eu gweld bellach yn y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i'w rhagweld, neu a ydyn nhw wedi'u hystyried yn fanwl, o ddifrif, a bod popeth yn union fel yr oedd y Gweinidog cyllid yn ei ddisgwyl, ond rwyf i'n cofio, rhwng y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 a'r gyllideb derfynol, y bu gostyngiad o £40 miliwn yn y rhagolwg o'r hyn yr oeddem ni'n mynd i'w gymryd o gyfraddau treth refeniw Cymru, felly sylweddol iawn. Ac, wrth gwrs, yn yr Alban, mae ganddyn nhw'r twll du hwn gwerth £1 biliwn y maen nhw'n ymdrin ag ef. Felly, pa mor hyderus ydym ni ynghylch y dim amrywiannau hynny?
Rwy'n gweld ein bod ni wedi arbed £173,000 ar weinyddiaeth Cyllid a Thollau EM o'r ddwy dreth newydd hynny, ac o fod wedi gwasanaethu ar y pwyllgor ar gyfer y ddwy ac ystyried y ffigurau hynny a meddwl eu bod yn gymharol hael i Cyllid a Thollau EM o ran yr hyn y byddai'r gost, fy mhryder i oedd y byddai Cyllid a Thollau EM yn gwario'r arian hwnnw. Felly, mae'r ffaith eu bod wedi dod o hyd i arbedion ac wedi'u rhoi yn ôl i ni i'w groesawu. Mae gennym ni hefyd y cyllid gwerth £100,000 ar gyfer y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei wario'n dda ac mae'n rhaid inni barhau i adolygu hynny'n ofalus.
O ran y dyraniadau o gronfeydd cyfalaf cyffredinol, rydym yn dweud ym mhwynt 3.10 o'r ddogfen a ddangosais fod cyfanswm o £85 miliwn wedi'i ddyrannu o'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn i ddarparu buddsoddiad ychwanegol mewn tai cymdeithasol a gwaith cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd. Yn gyntaf, a gaf i ofyn, a yw'n annadleuol i ddisgrifio gwaith cynnal a chadw ffyrdd fel gwariant cyfalaf? A oes dadl y dylid ystyried hynny'n briodol fel adnodd refeniw, neu a yw'n dybiaeth sefydledig o fewn ein cyfrifyddu mai dyna'r ffordd y dylid ei drin?
Cyfalaf cynnal a chadw.
Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad ar eich eistedd yna.
Mae'n ymddangos ein bod ni'n aml yn ei chael yn haws ariannu pethau o gyllidebau cyfalaf sy'n trosglwyddo i refeniw nag i'r gwrthwyneb. Rwy'n credu y byddem ni'n buddsoddi arian yn dda. Fodd bynnag, o'r £85 miliwn hwnnw dim ond £5 miliwn, wrth ddarllen i lawr, sydd mewn gwirionedd yn mynd i linell wariant y gyllideb ar gyfer gweithrediadau rhwydwaith o ran cerbytffyrdd cefnffordd a thraffordd. Felly, fel y nodwyd yn gywir, mae cyllid sylweddol ar gyfer tai cymdeithasol, ond er gwaethaf y pennawd o fewn y £85 miliwn hwnnw, cyfran fach iawn yn unig sy'n mynd i'r cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd.
Yn olaf gen i, hoffwn i ofyn ychydig mwy am y pensiynau. Mae gennym, o fewn prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gynnydd o £46 miliwn, i ddarparu ar gyfer y newidiadau hynny gan Lywodraeth y DU i gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus. Darllenais y llythyr, Gweinidog cyllid, y gwnaethoch chi ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhain a'r ffaith nad oedd cynorthwywyr cymorth addysgu wedi'u cynnwys yn hyn oherwydd mai llywodraeth leol oedd hynny, ond bod athrawon wedi eu cynnwys. Felly, rwy'n dal i bendroni pam mae'r cynnydd ar gyfer addysg i ariannu hyn, os wyf i wedi deall yn iawn, ddim ond yn £0.5 miliwn, ond ar gyfer y gwasanaeth iechyd, mae'n £46 miliwn. Diolch.
Dim ond sylw byr yr hoffwn i ei wneud ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r pwyllgor, yn ei adroddiad, yn datgan ei fod wedi synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i wireddu ei datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae'n ddigon posibl, y tro hwn, y byddai'n afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi ad-drefnu ei holl flaenoriaethau cyllidebol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf i'n credu y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi cydnabod pwysigrwydd ei datganiadau ei hun. Mae hwn yn ddatganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ei hun, felly mae'n gwbl resymol y byddai rhywun yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau ei hun yn cael eu hadlewyrchu yn ei chyllideb ei hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w ystyried, ac rwy'n credu y bydd yn gwbl resymol pan fydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i'r lle hwn gyda'i datganiad cyllideb nesaf y bydd yn gallu dangos yn glir iawn sut y mae ei datganiadau ei hun yn llywio ei meddylfryd ei hun, ei phenderfyniadau ei hun a'i strategaeth ariannol ei hun, ac rwy'n credu y dylai'r pwyllgor ac eraill fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn sydd wedi'i godi gan bob Aelod, rwy'n credu, sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, hynny yw ynghylch pensiynau. Wrth gwrs, bu cytundeb clir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers cryn amser bod y datganiad o egwyddorion ariannu yn glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan weinyddiaeth y DU yn cael ei ariannu'n llwyr ac y bydd cytundeb arno gan a gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n amlwg nad yw hyn wedi digwydd yn yr enghraifft glir iawn hon, lle nad yw un o flociau adeiladu'r setliad wedi llywio polisi nac wedi llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'n siomedigaeth lwyr ac, a dweud y gwir, yn gwbl annerbyniol y dylid treulio cymaint o amser ac egni ac y dylid peri cymaint o anhawster yn ceisio datrys mater na ddylai erioed fod wedi codi yn y lle cyntaf.
Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog yn ei le ar gyfer y ddadl hon, ac efallai y byddai'n beth da pe byddai'n gallu dwyn y mater hwn i sylw Prif Weinidog y DU a bod yn gwbl glir, os yw hi'n dymuno cynnal adolygiad o ddatganoli, bod angen iddi adolygu datganoli yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod ei Llywodraeth hi yn cyflawni ei hymrwymiadau, ei datganiadau a'i pholisïau. Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei rhoi yn y sefyllfa hon, ac rwy'n gobeithio, Llywydd, y gall y lle hwn anfon neges glir iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn disgwyl i'r holl gytundebau hyn gael eu cyflawni'n llwyr ac mewn modd amserol.
Mae'r mater olaf o sylwedd yr wyf i'n dymuno ymdrin ag ef yn y cyfraniad hwn yn ymwneud â'r M4. Rydym ni wedi cael dadl sylweddol ynghylch yr M4 yn y lle hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe'i gwnaed yn gwbl glir i bob un ohonom sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i sicrhau y cyflwynir datrysiad i'r M4 mewn modd amserol. Mae'n destun cryn siom a phryder, felly, nad oedd y Gweinidog yn gallu ateb hyd yn oed y cwestiynau mwyaf sylfaenol ynghylch y gyllideb a oedd ar gael i'r comisiwn sy'n cael ei sefydlu. Er gwaethaf cwestiynau niferus ynghylch y mater, methodd y Gweinidog â rhoi sicrwydd i ni o gwbl fod unrhyw gyllideb o gwbl ar gyfer y gwaith hwn. Yn sicr, nid oedd unrhyw gyllideb yr oedd hi'n gallu ei nodi o flaen comisiwn yr arian sydd ei angen arno i wneud ei waith, nid wyf i'n credu bod ein meddyliau wedi eu tawelu ar y mater hwn ac rwyf i'n credu ein bod ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth symud yn gyflym iawn, iawn i ddangos bod ganddo'r cyllid i gyflawni ei ymrwymiadau.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi datblygu ffordd o ddadlau a thrafod materion ariannol, er hynny, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi symud yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym. Er bod y gwaith papur yn cael argraff dda ar rai Aelodau, i mi, mae'n bwysig bod gennym broses ar waith sy'n ein galluogi i gyfrannu at ddadl, ystyried y materion hyn a dod i gasgliadau sy'n llywio penderfyniadau'r Llywodraeth. Siaradais yn y datganiad busnes rai wythnosau yn ôl, yn gofyn i'r Llywodraeth roi cyfle i ni gael dadl lawn ar ei blaenoriaethau cyllideb cyn cyflwyno'r gyllideb. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â derbyn y cais hwnnw a pheidio â symud ymlaen gydag ef. Rwyf i yn credu, felly, bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut y caiff cyllidebau atodol eu cyflwyno er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y cyfle i holi'r Gweinidog, fel Senedd, yn llawn cyn cyflwyno'r mater hwn gerbron y pwyllgor a chyn y gofynnir i ni bleidleisio ar y materion hyn. Rwy'n gobeithio bod y rhain i gyd yn faterion y byddwn yn gallu rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y 12 mis nesaf. Diolch.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn gymharol gyfyngedig ei natur, gan ei bod yn cynrychioli—os nad ydych chi'n cynnwys yr arian pensiynau—ychydig dros 0.5 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu i'r Cynulliad adrodd ar newidiadau a chraffu arnyn nhw.
Trof yn gyntaf at y mater a godwyd gan y rhan fwyaf o'r siaradwyr, sef mater y pensiynau a'r bwlch cyllid o £36 miliwn sydd i'w weld o ran yr arian a drosglwyddwyd o San Steffan. Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig i fy nghyd-Aelodau, rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi pryderon mawr nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hynny. Fe wnes i hynny mewn partneriaeth â'r Alban a gydag Ysgrifennydd Parhaol Gogledd Iwerddon. Roeddem yn glir iawn bod y tryloywder a'r ymgysylltu a welwyd mewn cysylltiad â'r penderfyniad hwn ymhell o fod yn cydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu a gytunwyd gan y gwledydd. Soniodd Mike Hedges am y drefn apelio sydd wedi'i hamlinellu. Wel, roeddem ni'n glir iawn yn ein llythyr y byddem yn mynd ati ar y cyd i ddefnyddio'r broses apelio honno i fynd â'r mater hwn ymhellach pe na fyddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan iawn i drafod y materion hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid oes unrhyw ran o hyn yn agos at y math o berthynas a addawyd y byddai gennym gyda llywodraeth y DU o ran cyllid a thryloywder. Oherwydd hynny, ni allaf gadarnhau cyllid ar gyfer pensiynau yn y dyfodol, oherwydd bydd hynny'n cael ei drafod yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Codwyd materion ynghylch monitro'r rhagolygon treth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r wybodaeth am dderbynebau treth yn ystod y flwyddyn gan Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn llywio ein barn ddatblygol o'r sefyllfa flwyddyn lawn debygol ar gyfer 2019-20, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n system rheolaeth ariannol gyffredinol yn ystod y flwyddyn. Ond, prin yw'r wybodaeth yn ystod y flwyddyn sydd ar gael ar hyn o bryd i lywio'r rhagolygon diwygiedig, a bydd y sefyllfa'n datblygu wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi rhagolygon diwygiedig ar gyfer 2019-20, ar gyfer trethi datganoledig a threthi cysylltiedig y DU yn yr hydref. Yna, bydd effaith y diwygiadau hyn ar y refeniw treth a'r addasiad i'r grant bloc yn cael eu hystyried, a byddwch yn eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach.
Codwyd mater y twll du yn y dreth incwm yn yr Alban hefyd. Yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, mae cyllidebau Llywodraeth yr Alban yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gorbwysleisio'r sefyllfa net rhwng refeniw treth incwm datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. O ganlyniad i hyn, bydd taliadau cysoni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bu rhywfaint o ddiddordeb yn hyn yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor, ac roeddwn i'n gallu dweud ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r Alban gan fod pwerau gwahanol wedi'u datganoli i ni mewn cysylltiad â threth incwm. Felly, rydym ni'n llai agored mewn rhai ffyrdd, ac mae gennym y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud ein rhagolygon, fel y maen nhw'n ei wneud ledled Lloegr. Felly, ni ddylai fod gennym y gwahaniaeth hwnnw yn y fethodoleg sy'n gysylltiedig â'r rhagolygon hynny. Wedi dweud hynny, ni fyddwn i'n ceisio gorbwysleisio'r sefyllfa oherwydd, yn amlwg, byddem ni'n dymuno cadw llygad barcud arni.
O ran yr M4, y sefyllfa yw bod £20 miliwn wedi ei glustnodi mewn cronfeydd wrth gefn eleni ar gyfer yr M4, pe byddai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y gorchmynion, ac mae'r £20 miliwn hwnnw yn parhau i fod mewn cronfeydd wrth gefn bellach i'w ddefnyddio yn rhywle arall, o ran bodloni blaenoriaethau ein Llywodraeth. Felly, ni wneir unrhyw ddyraniadau ychwanegol yn y gyllideb atodol hon ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chamau yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn ôl amcangyfrifon cyfredol, ar gyfer y mesurau carlam y mae'r Prif Weinidog wedi'u gosod i liniaru tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd, gan gynnwys swyddogion traffig ychwanegol, mwy o wybodaeth fyw am amseroedd teithio ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad, bydd y gost rhwng £4 miliwn a £5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn cadw golwg ar hyn, gan ddyrannu cyllid 2019-20 eto yn yr ail gyllideb atodol. Roeddwn i'n glir iawn yn y pwyllgor fod y Prif Weinidog wedi'i gwneud yn glir y bydd y comisiwn yn cael y cynnig cyntaf am yr arian a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4. Yn amlwg, mae'r comisiwn ar fin dechrau ar ei waith, felly nid oeddwn i'n gallu bod mewn sefyllfa yn y gyllideb atodol gyntaf i ddyrannu rhagor o gyllid, nac i fod yn gliriach o ran lle y gellid defnyddio'r cyllid yn y dyfodol o ran bodloni argymhellion y comisiwn hwnnw.
Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y ddadl ac wrth graffu ar waith y pwyllgor o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r ffordd yr ydym ni'n sicrhau bod honno wedi ei hymwreiddio'n helaeth yn ein proses o bennu'r gyllideb. Wrth gwrs, mae'r cyllidebau drafft a therfynol yn nodi cynlluniau gwario'r Llywodraeth ar gyfer 2019-20 ac mae'r gyllideb atodol gyntaf yn datblygu ar y cynlluniau hynny ac ar gyflawni ein hymrwymiadau. Rhoddaf enghraifft i chi o'r cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa dyfodol yr economi. Mae un o'r ffrydiau yn y gronfa honno'n ymwneud yn benodol â datgarboneiddio, a gwn y bu gan y Gweinidog gryn ddiddordeb yn hynny o ran ystyried sut y bydd yn defnyddio'r arian hwnnw. Felly, mae wrth galon ein meddylfryd i raddau helaeth. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran sut y byddwn yn gwella ein hystyriaeth o'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth bennu cyllidebau yn y dyfodol, ac rydym yn gweithio ar ddatblygu trefn asesu'r daith sydd, unwaith eto, yn rhywbeth y gwn y bu gan y Pwyllgor Cyllid gryn ddiddordeb ynddo, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac rwyf innau wedi cymryd diddordeb, unwaith eto, yn awgrymiadau'r comisiynydd am gyllid ychwanegol yr hoffai ei weld yn cael ei ddefnyddio yn 2020-21 ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod ei chynigion ymhellach a deall o ble y byddai'n awgrymu i'r cyllid ychwanegol hwnnw ddod o bob rhan o'r Llywodraeth o ran newid pwyslais blaenoriaethau a deall yn well beth fyddai'r arbedion carbon o bob un o'r mesurau a gynigir. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny â hi.
Ond, dim ond gair i gloi, Llywydd, wrth edrych ymlaen, nododd Llywodraeth y DU yn flaenorol y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd trwy adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid yw ein setliad refeniw presennol yn ymestyn y tu hwnt i eleni, er bod gennym ni gyllideb gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond mae'r gyllideb atodol hon yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae cyllid cyhoeddus a thelerau ein setliad gan Lywodraeth y DU yn parhau'n ansicr a gallai olygu y bydd mwy o benderfyniadau cyllidebol anodd yn y dyfodol. Diolch.
Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, dwi'n cychwyn y bleidlais.
Mae'r bleidlais hynny ar y ddadl ar y gyllideb atodol 2019-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 18 yn ymatal a neb yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.
NDM7096 - Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020 : O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 18
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddiwedd ar ein trafodion heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:33.