Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
23/01/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw pawb i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o ailgoedwigo mewn ardaloedd yng Nghymoedd De Cymru sydd wedi'u dinoethi gan y clefyd llarwydd? OAQ53261
Diolch. Mae Cymru wedi dioddef lefelau digynsail o glefyd phytophthora ramorum, sydd wedi golygu y bu’n rhaid clirio ardaloedd helaeth o goed llarwydd, yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailstocio'r coetiroedd hyn gan ddefnyddio cymysgedd o rywogaethau sy'n briodol ym mhob lleoliad. Bydd hynny’n golygu y bydd gan Gymru goetir mwy gwydn ac amrywiol.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Roedd yn galonogol iawn gweld mai un o ganlyniadau gwaith tasglu'r Cymoedd oedd y syniad o goetir a pharc Cymoedd de Cymru a fyddai'n ymestyn ar hyd y Cymoedd i gyd o'r dwyrain i'r gorllewin. Wrth gwrs, mae potensial anhygoel ynghlwm wrth hynny, ond mae'r dinoethi yn sgil y clefyd llarwydd wedi cael effaith sylweddol, a gallaf weld hynny yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. O ran eu dull o ailgoedwigo, tybed pa drafodaethau, pa waith ymgynghori y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud gyda chymunedau lleol, beth y maent yn ei wneud gyda thirfeddianwyr lleol, busnesau lleol, gan gynnwys, o bosibl, os daw'n weithredol, parc antur Afan ym mhen uchaf etholaeth David Rees a fy un i, ardal sydd wedi’i dinoethi’n llwyr o ganlyniad i’r clefyd llarwydd, ond os cânt ganiatâd cynllunio, maent yn bwriadu agor Center Parcs gydag adrenalin yno, ond bydd angen y gwaith ailgoedwigo er mwyn i’r syniad weithio? Felly, pa gymorth y gallwch ei roi i gymunedau lleol, i fusnesau, i ymgysylltu â'r rhaglen ailgoedwigo?
Diolch. Rwy'n derbyn bod gorfod cwympo cymaint o goetir yng Nghymoedd de Cymru o fewn amser mor fyr wedi cael effaith ddinistriol iawn ar yr ardal, ac yn sicr, ni chredaf ei fod yn rhywbeth y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn awyddus i’w wneud o dan amgylchiadau arferol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio lleihau effaith cwympo coed ar gymunedau a busnesau lleol drwy ymgysylltu â chymunedau lleol, a gwn eu bod yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, maent yn cynnal sesiynau galw heibio fel rhan o'u gwaith coedwigaeth, fel y gallant rannu eu hargymhellion gyda phobl yn ogystal â gofyn eu barn. Yn sicr, os gwyddoch am unrhyw gymuned benodol neu hyd yn oed etholwyr unigol sy’n awyddus i ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar y lefel honno, buaswn yn argymell ichi gysylltu â hwy, ac rwy'n siŵr y byddent yn ymgysylltu er mwyn clywed eu barn ar gynigion ar gyfer yr ystâd goetir.
Ie, mae'n olygfa ddigalon iawn, ac rwy'n falch o glywed eich ateb i Huw Irranca-Davies. Ond wedi edrych ar rai ffotograffau o'r modd y gwneir y gwaith ailblannu, mae rhai o'r coed ifanc cymysg hyn yn eithaf bach. Ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennych ddiddordeb mewn siarad â'r Gweinidog Addysg ynglŷn â’r cyfle i blant a phobl ifanc mewn ysgolion fod yn rhan o'r cynlluniau ailblannu. Rwy'n cymryd bod yn rhaid i hynny fynd drwy Cyfoeth Naturiol Cymru ac amrywiaeth o bobl eraill, ond o ran bod hyn yn cynrychioli tirwedd fwy hanesyddol gywir i Gymru, mae sawl man, yn enwedig yn y cwricwlwm newydd, lle y gallai hyn ffitio'n eithaf taclus—unrhyw beth o hanes i wyddoniaeth, i unrhyw beth ym maes dysgu llesiant. Diolch.
Yn sicr, credaf fod hwnnw’n awgrym da iawn gan Suzy Davies, ac rwy’n fwy na pharod i siarad â fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams ynglŷn â hynny.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ohebiaeth a gawsoch gyda fy nghyd-Aelod Elin Jones ynglŷn â phryderon y trigolion o gwmpas Ystâd yr Hafod ger Aberystwyth mewn perthynas â natur y gwaith o gwympo’r coed. Fe fyddwch yn cofio Elin Jones yn codi pryderon gyda chi ynglŷn â’r defnydd o blaladdwyr a phryderon pobl ynghylch y posibilrwydd y gallai hynny effeithio ar fywyd gwyllt arall a'r lefel trwythiad, gan fod llawer o'r cartrefi yn yr ardal honno yn cael eu dŵr o ffynhonnau yn hytrach nag o'r prif gyflenwadau. Roeddech yn ddigon caredig i ymateb i Elin, a hoffwn eich gwahodd heddiw i gofnodi eich sicrwydd i'r gymuned honno, ac i unrhyw un arall a allai fod yn bryderus ledled Cymru ynglŷn â natur y gwaith rheoli, nad oes unrhyw reswm i ofni, naill ai o ran iechyd dynol yn sgil halogi’r lefel trwythiad, neu o ran unrhyw beryglon i fywyd gwyllt.
Ie. Diolch am y cyfle i fynegi'r sicrwydd hwnnw.
Weinidog, yn amlwg, cwm Afan oedd un o'r mannau cyntaf i gael eu heffeithio gan y clefyd llarwydd ac un o'r mannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf difrifol, ac mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, wedi tynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil ailgoedwigo. A ydych wedi cael trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â sut y gallwn wella economïau'r cymoedd hynny? Mae twristiaeth yn agenda sy'n amlwg yn mynd i roi hwb i’r cymoedd hynny, ond os na fyddwn yn cael y gwaith ailgoedwigo ac os nad yw'r cynlluniau yn cael eu sefydlu, bydd hynny'n cael ei effeithio.
Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ond rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Yn amlwg, mae fy niddordeb yn y maes yn ymwneud ag ailstocio'r coetiroedd, fel y dywedais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies yn awr. A chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y cymysgedd o rywogaethau coed yn briodol iawn i bob lleoliad. Gwn na fydd angen yr un rhywogaethau coed ar bob ardal rhwng eich dwy etholaeth. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod hynny'n briodol mewn mannau penodol iawn. Unwaith eto, mae'r amcanion mewn perthynas ag ailstocio yn amrywio yn ôl cynlluniau adnoddau coedwigaeth lleol. Ond fel y dywedaf, rydych yn gwneud pwynt da iawn, yn fy marn i, ynglŷn â thwristiaeth, ac rwy’n fwy na pharod i drafod hynny gyda Ken Skates.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd y mae Hybu Cig Cymru wedi'i wneud o ran datblygu marchnadoedd ar gyfer cig coch Cymru y tu hwnt i'r UE? OAQ53244
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5 miliwn fel y gall Hybu Cig Cymru gynnal marchnadoedd Ewropeaidd, a datblygu masnach ymhellach i ffwrdd. O ganlyniad uniongyrchol i hynny, mae busnes newydd wedi’i sicrhau yn Singapôr. Croesawaf gyhoeddiadau diweddar ynghylch codi cyfyngiadau ar fewnforio cig eidion a chig oen y DU i Japan, a chig oen i India a Saudi Arabia, lle y mae rhagor o weithgarwch Hybu Cig Cymru wedi'i gynllunio.
Rwy'n falch o ddweud, yn y cyd-destun hwnnw, fy mod wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr wythnos diwethaf yn dilyn cyfarfod a gefais gyda dyn busnes o Oman, sy’n awyddus i fewnforio cig eidion a chig oen Cymru i Oman. A ninnau'n gobeithio arallgyfeirio ein marchnadoedd allforio, a yw’r Gweinidog yn croesawu hyn, ac a wnaiff hi drefnu eu bod yn cyfarfod â’r unigolyn priodol i hwyluso'r fasnach hon sydd o fudd i'r ddwy ochr?
Diolch. Yn sicr, rwyf wedi gweld eich llythyr. Roeddwn yn credu fy mod wedi llofnodi llythyr yn ôl atoch, yn dweud pa gamau a gynlluniwyd gennyf, a chredaf fod hwnnw’n cynnwys trefnu cyfarfod gyda Hybu Cig Cymru, er mwyn gweld a oes cyfleoedd i’w cael i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.
Mae'n ddiddorol iawn, yn tydi, gweld marchnadoedd newydd yn cael eu datblygu ar hyd a lled y byd, tra rydym ni'n dal yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd? A gwag iawn ydy sôn am gyfleoedd o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn wir, dŷn ni'n gwybod cymaint o gyfleon sydd yna i'r diwydiant cig, y diwydiant bwyd, a'r economi wledig yn gyfan gwbl, o fod yn rhan o strwythurau Ewropeaidd, yn cynnwys y cronfeydd strwythurol. A dwi wedi gweld ymchwil newydd sydd wedi cael ei ryddhau heddiw gan y Conference of Peripheral Maritime Regions—y corff y mae'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn rhan ohono—sy'n dweud bod Cymru yn wynebu colli allan ar symiau mawr o'r cronfeydd rhanbarthol mewn blynyddoedd i ddod. Mae'n nhw'n amcangyfrif, pe bai'r Deyrnas Gyfunol yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'n gymwys i dderbyn £13 biliwn o gyllid rhanbarthol rhwng 2021 a 2027, sy'n 22 y cant o gynnydd o'i gymharu â'r cyfnod 2014-20. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi, felly, bod hyn yn cryfhau eto y ddadl dros gael pleidlais y bobl, er mwyn cael cyfle i wneud yr achos dros gynnal hyn, er mwyn ein diwydiannau gwledig ni?
Nid wyf yn hollol siŵr sut y mae'r cwestiwn hwnnw'n ymwneud â datblygu marchnadoedd ar gyfer cig coch Cymru, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch faint o gyllid y byddwn yn ei golli. Ac ar draws fy mhortffolio, fe fyddwch yn gwybod am y cyllid sylweddol a ddaw o’r UE. Roeddwn yn edrych ar brosiect LIFE yn gynt, a’r cyllid y mae'r mathau hynny o brosiectau wedi’i ddarparu i Gymru, a'r manteision i'n hamgylchedd. Felly rydym yn dal i fod yn obeithiol na fyddwn yn cael Brexit ‘dim bargen’—rydym o’r farn na ddylai ‘dim bargen’ fod yn opsiwn. Ond hyd yn oed gyda'r cytundeb a gynigiwyd gan y Prif Weinidog, credaf y bydd hyn yn cael effaith ofnadwy ar ein swyddi a'r economi.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, bellach, yn amlwg, mae gennych gyfrifoldeb cyffredinol am y portffolio materion gwledig a'r amgylchedd, ac yn benodol, am Cyfoeth Naturiol Cymru. Wrth deithio o gwmpas ers i mi ymgymryd â’r briff ar ran yr wrthblaid, a siarad â'r sector coedwigaeth yn benodol, maent yn pryderu'n fawr ynglŷn â'r modd y rheolir yr ystâd goedwigaeth yng Nghymru, ac yn arbennig ynglŷn â’u gallu i gael hyd i bren masnachol fel nad yw eu gweithrediadau yn cael eu peryglu yn y dyfodol. Amlygir hyn heddiw mewn llythyr sydd wedi ymddangos yn y wasg—ac rwy'n deall nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau ar wybodaeth a ddatgelwyd yn answyddogol—ond o'm profiad personol o deithio o gwmpas, mae popeth yn y llythyr hwnnw'n wir ar lawr gwlad. A phan fyddwch yn gweld ffigurau yn nodi 12,000 o swyddi, a gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad, mae'r rhain yn niferoedd mawr, ac oni bai bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael gwell siâp ar bethau ac yn dechrau sicrhau bod y sector coedwigaeth yn gallu cyflenwi ein busnesau pren, byddwn yn colli llawer o’r buddsoddiad hwn a llawer o'r swyddi hyn. Pa sicrwydd y gallwch ei roi inni yma heddiw fod gennych hyder yn y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwasanaethu’r sector coedwigaeth yma yng Nghymru, ac yn benodol, yn mynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd wrthyf yn bersonol ac yn y llythyr a ymddangosodd heddiw?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle—nid wyf yn hoff o wneud sylwadau ar ohebiaeth a ddatgelwyd yn answyddogol. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau i chi ac i'r Siambr fy mod wedi derbyn y llythyr hwnnw gan Confor, ac yn amlwg, byddaf yn ymateb iddo maes o law. Yn amlwg, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn gyfrifol am y portffolio hwn ers bron i dair blynedd bellach, ac rwyf wedi mynegi pryderon ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru a'r ffordd y maent wedi ymdrin â choedwigaeth. Fodd bynnag, mae gennyf hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r prif weithredwr a'r cadeirydd dros dro i drafod y mater penodol hwn, ac fe fyddwch yn gwybod bod hanner y bwrdd yn aelodau newydd a benodwyd gennyf fi, er enghraifft. Daethant i’w swyddi ddiwedd y llynedd. Felly, yn amlwg, rwyf wedi cael trafodaethau gyda hwy. Fe fyddwch yn gwybod y bydd y prif weithredwr a'r cadeirydd dros dro yn mynd gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Felly, mae’n galonogol iawn fod y ffordd ymlaen bellach yn briodol a bod y cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr yn ystyried hyn yn flaenoriaeth.
Rwy'n credu fy mod yn cymryd hynny fel pleidlais o hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon yn y llythyr a gyflwynwyd gan 10—a chredaf fod hwnnw’n nifer digynsail—o broseswyr yma yng Nghymru.
Pwynt arall a godwyd yw bod llawer o bwyslais yn yr ymateb heddiw, yn amlwg, ar ymchwiliad annibynnol Grant Thornton sy’n edrych ar rai o'r materion a nodwyd yn hanesyddol mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedir wrthyf nad yw Grant Thornton wedi ymgysylltu â llawer o'r proseswyr hyn, os o gwbl yn wir, o ran gwrando ar eu safbwyntiau ar y ffordd ymlaen i'r sector coedwigaeth. A allwch gadarnhau heddiw, ac mai dyma a ddealloch chi, mai cylch gorchwyl Grant Thornton oedd dadansoddi perfformiad y sector, ond, yn bwysig, ymgysylltu â rhanddeiliaid, megis y proseswyr, ac, os nad yw hynny wedi digwydd, y byddwch yn cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddychwelyd at y proseswyr a chael eu mewnbwn ar unrhyw argymhellion a allai godi o'r adroddiad annibynnol hwn?
Ceir nifer o bwyntiau yn y cwestiwn hwnnw. Mae 10 o broseswyr wedi rhoi eu henwau ar y llythyr hwnnw. Rwyf hefyd wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru edrych ar y berthynas rhwng y 10 cwmni hwnnw a Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi i'r contractau ddod gerbron.
Ar hyn o bryd, ni allaf ddweud air am air beth oedd y cylch gorchwyl, ond yn sicr, roedd yn bwysig iawn, a chefais sicrwydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio mewn ffordd agored a thryloyw iawn gyda Grant Thornton, a buaswn wedi dychmygu bod—. Rwyf wedi dweud yn glir iawn na ddylai fod lle i unrhyw afreoleidd-dra. Felly, buaswn yn disgwyl i Grant Thornton, yn amlwg, gysylltu wedyn gyda phroseswyr i gael eu barn.
A'r sicrwydd arall y gallaf ei roi i chi, gan ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf, yw bod newid wedi bod o ran staff coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, a chredaf y bydd hynny, unwaith eto, yn cryfhau pethau yn y dyfodol.
Buaswn yn ddiolchgar pe gallech ychwanegu unrhyw gyngor ychwanegol mewn ymateb ysgrifenedig, os oes modd, Weinidog, gan fy mod yn sylweddoli efallai nad oeddech yn gwybod y cylch gorchwyl air am air. Ni fuaswn wedi disgwyl ichi wybod hynny, ond credaf fod pa hyder sydd gennych yr adroddiad terfynol, os nad yw'r ymgysylltu hwnnw wedi digwydd, yn fater gwirioneddol bwysig.
Ond pwynt arall yr hoffwn ei godi mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, os caf: ddoe, yn y datganiad ar barodrwydd ar gyfer 'dim bargen', tynnais eich sylw at y £30 miliwn a roddwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag arian y mae'r Canghellor wedi'i ddarparu i'r Llywodraethau datganoledig. Rwy'n cymryd bod rhywfaint o'r £30 miliwn hwnnw wedi'i ddyrannu i'ch adran, er na chadarnhawyd hynny gennych yn eich ymateb i mi ddoe. A allwch gadarnhau heddiw fod yr arian hwnnw wedi dod i'ch adran, neu fod peth o'r arian hwnnw wedi dod i'ch adran, ac y byddwch yn darparu arian i Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r cyfrifoldebau rheoleiddiol a'r cyfrifoldebau trwyddedu y byddant yn eu hysgwyddo wrth inni fwrw ymlaen â phroses Brexit, gan y credaf ei bod yn hanfodol bwysig, yn amlwg, os trosglwyddir cyfrifoldebau i sefydliad, fod adnoddau'n dilyn hefyd? Ac fel rwyf wedi'i nodi, mae'r arian wedi dod gan y Canghellor—y £30 miliwn hwn—felly mae angen inni ddeall sut yn union y mae wedi cael ei ddyrannu o fewn y Llywodraeth.
Buaswn yn fwy na pharod i anfon nodyn atoch gyda manylion y cyllid hwnnw.
Diolch.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Gan fod y cyhoeddiad, wrth gwrs, am oedi Wylfa Newydd yn tanlinellu pa mor broblemus yw datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear, mae yna beryg nawr, wrth gwrs, ein bod ni'n ffeindio ein hunain yn oedi ac yn aros, o bosib, am flynyddoedd i rywbeth ddigwydd, a does neb eisiau gweld yr ynys nac yn wir, ogledd Cymru'n ehangach mewn cyflwr o limbo o bosib o ganlyniad i hynny. Felly, onid nawr yw'r amser i chi, fel Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sbarduno cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy fel modd i wireddu'n llawn y potensial aruthrol, wrth gwrs, sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru yn y cyd-destun hynny, a thrwy wneud hynny hefyd, wrth gwrs, helpu i gryfhau'r economi ac i gyfrannu datrysiadau cyflymach a rhatach i anghenion ynni a newid hinsawdd yma yng Nghymru?
Yn amlwg, rydym yn siomedig iawn o glywed bod y gwaith o ddatblygu Wylfa Newydd wedi'i atal, ac yn amlwg, atebodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cwestiwn brys gan eich cyd-Aelod, Rhun, yn fanwl iawn ddoe. Er bod ynni niwclear, wrth gwrs, yn rhan o'r cymysgedd ynni, yn sicr nid wyf yn ei ystyried yn ynni adnewyddadwy. Mae'n ynni carbon isel, ond nid yw hyn wedi effeithio ar fy ymrwymiad i gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy. Rwy'n hoff iawn o bob math o ynni adnewyddadwy.
Yr wythnos hon, cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun ynglŷn ag araeau llanw, gan y credaf fod llawer o gyfleoedd ynghlwm wrth hynny. Felly, yr wythnos nesaf, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ynni'r môr yn Abertawe, a bydd y Prif Weinidog yn siarad ynddi. Credaf fod hynny'n dangos ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, ac rwy'n sicr yn edrych ar ffyrdd o ddod â rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy i Gymru.
Dwi'n ei ffeindio hi'n ddiddorol eich bod chi'n dweud nad yw eich cynlluniau chi o safbwynt ynni adnewyddadwy ddim wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma. Dyna'n union ddylai fod wedi digwydd yn fy marn i. Hynny yw, nawr mae angen dyblu ymdrechion yn y maes yma er mwyn gwireddu'r potensial sydd gennym ni. Yn ei faniffesto i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fe wnaeth Mark Drakeford, wrth gwrs, ymrwymo i greu corff—neu i edrych ar greu corff—cydfuddiannol newydd, Ynni Cymru, a fydd yn hybu cynhyrchu ynni yn lleol ac yn cynghori ar fuddsoddi strategol mewn ynni, ymysg amcanion eraill. Allwch chi roi diweddariad inni o safbwynt ble rŷm ni arni ar wireddu hynny? Ac yn sgil y newyddion, wrth gwrs, ynglŷn ag Wylfa, a wnewch chi hefyd ymrwymo i leoli Ynni Cymru ar ein hynys ynni ni, wrth gwrs, sef Ynys Môn?
Ni allaf roi'r ymrwymiad hwnnw, ond yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau cynnar iawn gyda'r Prif Weinidog. Ar y dydd Llun, rwy'n credu, wedi iddo ddod yn Brif Weinidog, cefais drafodaeth gydag ef ynglŷn â'i gynlluniau mewn perthynas â hynny ac mae wedi gofyn i swyddogion weithio ar hynny ar ei ran.
Cawsom ddatganiad gweinidogol gennych ddoe, wrth gwrs, ar eich paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb a'r effaith andwyol y byddai hynny'n ei chael ar amaethyddiaeth a sectorau eraill yng Nghymru. Yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu, eich bod
wedi ymrwymo i weithio gyda sectorau allweddol i gynllunio mecanweithiau cymorth mewn perthynas â'r heriau difrifol hyn.
Ond heddiw gwelwn adroddiadau fod NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynglŷn â chael eu cau allan o'ch proses gynllunio ar gyfer Brexit 'dim bargen'. Eu hunig gyfraniad hyd yn hyn yw un cyfarfod bwrdd crwn a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, mae amser yn brin, Weinidog, felly does bosibl na ddylai grŵp cynllunio wrth gefn Llywodraeth Cymru gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, fel y gwelwyd yn y gorffennol, wrth gwrs, yn ystod yr achosion o glwy'r traed a'r genau yn 2001 a 2007. Felly, a allwch egluro inni pa rôl allweddol y bydd y rhanddeiliaid hynny'n ei chwarae yn eich trafodaethau 'dim bargen' dros yr wythnosau nesaf? Oherwydd ychydig wythnosau yn unig sydd gennym ar ôl.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, fel y dywedwch, yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid. Cawsom gyflwyniad hir a manwl iawn ynghylch cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen' yr wythnos diwethaf. Mae gennyf hefyd, o'r grŵp hwnnw—ac nid wyf yn gwybod a yw'r NFU a'r FUW yn rhan o'r is-grŵp penodol hwnnw—is-grŵp ar gyfer cynllunio senarios, sydd wedi edrych yn fanwl ar yr holl senarios a allai ddigwydd wrth inni adael yr UE. Mae'r grŵp hwnnw wedi bodoli ers oddeutu dwy flynedd a hanner mae'n siŵr. Cynhyrchwyd adroddiad manwl iawn ganddynt. Mae'r NFU a'r FUW yn cyfarfod â mi yn rheolaidd. Rwyf wedi gweld y ddau yr wythnos hon. Gwn fod swyddogion yn ymgysylltu â hwy mewn perthynas â Brexit 'dim bargen'. Felly, rwyf—. Yn amlwg, wrth inni gynyddu'r gwaith ar barodrwydd mewn perthynas â Brexit 'dim bargen', sy'n sicr yn rhywbeth rydym wedi'i wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ers iddo ddod yn llawer mwy o bosibilrwydd, rwy'n siŵr y bydd lefelau'r ymgysylltiad hwnnw'n cynyddu hefyd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu TB mewn gwartheg a bywyd gwyllt erbyn 2036 ac mae ffermwyr yn derbyn bod hyn yn golygu llawer o gyfyngiadau ar y ffordd y maent yn gweithio ac yn gweithredu ac yn arwain at gostau sylweddol iddynt hefyd, ond mae hynny'n gwbl angenrheidiol er mwyn cyflawni'r nod a rennir gan bob un ohonom. Ond er bod ffermwyr yn gwneud llawer i atal a rheoli TB ar ffermydd gyda'u gwartheg, mae llawer yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd ati yr un mor egnïol i ddatrys y broblem mewn bywyd gwyllt. Ac yng nghanlyniadau'r difa a awdurdodwyd yng Nghymru, a ymddangosodd yn ddiweddar yn y llythyrau a ddatgelwyd yn answyddogol ac a oedd yn destun cwestiynau gan Paul Davies yr wythnos diwethaf, daeth yn amlwg mai pum mochyn daear sydd wedi eu difa ers mis Hydref 2017, o gymharu â'r 10,000 o wartheg y bu'n rhaid eu difa yn y flwyddyn hyd at fis Medi diwethaf. Felly, mae llawer o bobl yn credu mai geiriau gwag yn unig yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli bywyd gwyllt. Tybed a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn awr ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud i gyfiawnhau ei safbwynt.
Cyflwynais y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB ym mis Hydref 2017, ac rwyf wedi ymrwymo i adrodd yn ôl i'r Cynulliad hwn ym mis Ebrill pan fydd data gennyf ar gyfer y flwyddyn galendr gyntaf. Fe fyddwch yn gwybod ein bod, drwy'r rhaglen hon, yn llunio cynlluniau gweithredu pwrpasol gyda buchesi â TB hirdymor, sef unrhyw achos dros 18 mis, ac mae'r pum mochyn daear y cyfeiriwch atynt, rhywbeth sydd wedi'i gymryd allan o gyd-destun yn gyfan gwbl yn fy marn i, yn ymwneud â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny. Nawr, pan roddir y cynllun hwnnw ar waith gyda'r ffermwr, gyda'u milfeddyg preifat, gyda milfeddyg y Llywodraeth, efallai nad yw bywyd gwyllt yn rhan o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn dileu TB o'r fuches honno.
Mae'n syndod clywed hynny, ond dyna ni. Mae canlyniadau'r broses bedair blynedd o ddifa moch daear a drwyddedwyd yn Lloegr wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, ac o ganlyniad, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ei hymestyn bellach i 10 ardal arall yn Lloegr. Mae'r canlyniadau agosaf atom yn ne-orllewin Lloegr, yn swydd Gaerloyw—mae nifer yr achosion o TB mewn bywyd gwyllt wedi gostwng o 10.4 y cant i 5.6 y cant, ac yng Ngwlad yr Haf, o 24 y cant i 12 y cant. Felly, ymddengys bod hwn yn ostyngiad o 50 y cant i gyd. Nawr, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod cynnydd Lloegr yn gwneud i strategaeth Cymru edrych yn wan, o ystyried bod gennych gynllun ar y silff, fel petai, yn barod i gael ei roi ar waith pe baech yn rhoi caniatâd i ymestyn difa moch daear, a fyddai, wrth gwrs, yn bolisi lles anifeiliaid ar gyfer moch daear yn ogystal ag ar gyfer gwartheg, gan fod TB yn glefyd ofnadwy, pa fath bynnag o anifail sy'n dioddef ohono. Felly, does bosibl nad yw hi bellach yn bryd ystyried dilyn esiampl Lloegr, yn yr achos penodol hwn o leiaf.
Na, nid wyf am ddilyn esiampl Lloegr. Rwyf wedi diystyru difa moch daear yn y modd y mae Lloegr yn ei wneud ers y diwrnod y cefais y portffolio hwn, yn dilyn trafodaethau manwl iawn gyda'r prif swyddog milfeddygol. Credaf hefyd ei bod yn iawn inni dynnu sylw at y ffaith bod 94.6 y cant o fuchesi heb TB ar ddiwedd mis Hydref 2018.
Wel, mae hynny'n sicr yn wir, ond mae'n dal i fod yn broblem sylweddol, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw gynnydd wedi'i wneud yn ddiweddar ar fynd i'r afael â hi—neu gynnydd sylweddol iawn o leiaf. Cyfeiriodd Paul Davies yr wythnos diwethaf hefyd at yr ohebiaeth hon a ddatgelwyd yn answyddogol, a allai beryglu bywydau ffermwyr, o ystyried gweithgarwch rhai eithafwyr hawliau anifeiliaid. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog fyfyrio ar ei methiant i ymddiheuro pan ofynnodd Paul Davies iddi wneud hynny y tro diwethaf, ond yn fwy arbennig, i roi rhywfaint o sicrwydd inni na fydd camgymeriadau o'r fath yn cael eu hailadrodd a bod camau effeithiol wedi'u cymryd o fewn yr adran i sicrhau nad yw'r wybodaeth sensitif hon yn cael ei datgelu yn answyddogol eto.
Nid yw Paul Davies erioed wedi gofyn imi ymddiheuro. Ymddiheurais pan ddigwyddodd yn ystod yr haf y llynedd. Ymddiheurais ar unwaith. Gofyn i'r Prif Weinidog ymddiheuro a wnaeth Paul Davies yr wythnos diwethaf, ac fel roedd y Prif Weinidog yn iawn i'w ddweud, ymdriniwyd â'r mater pan ddigwyddodd, ac mae bellach ar ben. Hoffwn ychwanegu hefyd fod tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o TB buchol yng Nghymru yn deillio o drosglwyddiad o un buwch i'r llall.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd aer? OAQ53245
Diolch. Mae ein rhaglen aer glân i Gymru yn ystyried tystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu mesurau ar draws adrannau'r Llywodraeth a sectorau i leihau problem aer gwael. Bydd y gwaith hwn yn llywio datblygiad cynllun aer glân i Gymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi gennym ar gyfer ymgynghori yn ei gylch eleni.
Diolch am hynny, Weinidog. Tybed a allwch ddweud mwy ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru ar wyrddu canol ein hardaloedd trefol, boed hynny drwy blannu coed, megis perllannau cymunedol, neu fesurau gwyrddu eraill. Ymddengys i mi y bydd hynny, yn rhannol, yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd aer ac yn gwella ansawdd yr aer, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cysylltu ein pobl yng Nghymru yn fwy uniongyrchol â natur. Mae llawer o'r hyn yr hoffem ei weld yn digwydd yn ymwneud â newid ymddygiad, ac yn fy marn i, os oes gan bobl amgylcheddau lleol o ansawdd, maent yn tyfu'n fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol, boed drwy leihau eu defnydd o'r car a newid i system drafnidiaeth fwy integredig, neu drwy gefnogi ystod o fesurau amgylcheddol blaengar eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith ac y bydd yn eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Felly, i ba raddau y byddwch yn gweithredu ar yr agenda honno, Weinidog, o fynd i'r afael â'r materion amgylcheddol hynny yng nghanol ardaloedd trefol.
Diolch. Cytunaf â phopeth a ddywedodd John Griffiths ynghylch canfyddiad pobl o'u hamgylchedd. Mae gennym strategaeth goetiroedd, 'Coetiroedd i Gymru', sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer creu coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru. Mae ein polisi yn parhau i fod yn glir iawn ein bod yn amlwg am weld mwy o goetiroedd yn cael eu creu. Fe fyddwch yn gwybod bod y Prif Weinidog, yn ei faniffesto, wedi dweud ei fod yn awyddus i weld coedwig genedlaethol, ac unwaith eto, rwyf wedi cael trafodaethau cynnar gydag ef ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar ein polisi adnoddau naturiol. Mae hynny'n cynnwys cefnogi datblygiad rhwydweithiau ecolegol cadarn fel y gallwn gynnal a gwella ecosystemau Cymru mewn coetiroedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau da iawn. Ac yn amlwg, mae ardaloedd trefol yn bwysig iawn hefyd.
Weinidog, a ydych yn croesawu penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymrwymo i safonau ansawdd aer sy'n seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n llawer llymach nag argymhellion yr UE, ac yn wir, i ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a haneru'r nifer, o leiaf, erbyn 2025? Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU ar fin cyhoeddi ei hadroddiad ei hun ar dargedau newydd y gellir eu gosod ar ddata a fyddai'n ein tywys drwy ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn sicrhau bod y trylwyredd hwnnw i'w weld mewn polisi cyhoeddus. A yw hwnnw'n llwybr yr ydych yn debygol o'i ddilyn yng Nghymru?
Wel, yn sicr, rwy'n awyddus iawn i ddarllen yr adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi. Rwyf newydd gael trafodaeth fer iawn gyda'r Gweinidog yn ei gylch. Rwyf am ystyried pa dargedau y maent yn eu gosod a gweld beth y gallwn ei ddysgu ohono.
O ran mynd i'r afael â'r heriau llygredd aer ym Mhort Talbot, mae'n amlwg fod angen gweithredu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn cysoni'r uchelgais hwnnw â'r ffaith eich bod wedi torri lefel y cyllid ar gyfer cymorthdaliadau bysiau i awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf?
Wel, yn amlwg, mae ansawdd yr aer ym Mhort Talbot yn rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth inni ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i weld sut y gallwn wella a deall y problemau yn yr ardal yn well. Ac yn amlwg, bydd yn rhaid iddynt ystyried hynny fel rhan o'u cynllun i leihau lefelau llygredd aer.
Wel, fel y nododd Dai Lloyd, yn anffodus, mae gan Port Talbot enw drwg o ran ansawdd aer gwael, ond rydym yn deall rhai o'r rhesymau am hynny. Tynnodd John Griffiths sylw at y ffaith y gall coed fod yn un ateb: mwy o goed ar hyd ein ffyrdd, gan fod gennym ddwy brif ffordd yn pasio drwy'r ardal. Ond rydych wedi cael trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. A ydych wedi cael trafodaethau hefyd ynglŷn â pha ran y bydd eich gwaith monitro yn ei chwarae? Oherwydd roeddwn yn y grŵp trawsbleidiol ar aer iach ddoe ac roedd yn glir bod y gwaith monitro—y gwaith monitro gwirioneddol a'r data gwirioneddol—yn dal i fod yn ddiffygiol gan ein bod yn defnyddio modelau gan DEFRA, ac nid yw'r rheini, o reidrwydd, yn seiliedig ar ddata ffeithiol fel y cyfryw. Felly, beth a wnewch gyda'r cyngor i roi lleoedd monitro ar waith fel y gallwn gael y data i allu asesu beth yw ansawdd yr aer a sut y gallwn wneud rhywbeth amdano?
Wel, yn amlwg, mae'r data'n bwysig iawn, a gwn fod fy swyddogion wedi gofyn i'r cyngor ailedrych ar y cynllun gweithredu tymor byr i weld pa ddull y maent yn ei fabwysiadu, pa dystiolaeth sydd ganddynt yn sail iddo. Fel y dywedaf, bydd y data'n bwysig iawn hefyd gan fod angen inni sicrhau mai'r cynllun hwnnw yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Maent wedi cael adolygiad annibynnol gan gymheiriaid gyda phrifysgol—Prifysgol Gorllewin Lloegr, rwy'n credu—a chredaf eu bod yn disgwyl yr adroddiad hwnnw yn y dyfodol agos iawn.
Weinidog, pa fodel bynnag a ddefnyddiwch ar gyfer rheoli a mynd i'r afael â llygredd aer, mae gennyf yn fy etholaeth i, ar yr A470 rhwng cyffyrdd Nantgarw a Threfforest, un o ardaloedd mwyaf llygredig Cymru. Gwn fod cyfyngiadau cyflymder ar waith, ond tybed a allech amlinellu'r mesurau a roddwyd ar waith a pha gamau pellach y gellid eu cymryd. Oherwydd nid yn unig ei bod yn ardal â thagfeydd traffig anferthol, ond mae amodau'r aer yno yn wirioneddol beryglus, ac mae'n ardal sydd angen monitro brys a sylw parhaus.
Diolch. Fel y dywedwch, mae terfyn cyflymder o 50 mya ar waith yno a bydd yn cael ei adolygu o bryd i'w gilydd. Byddwn yn eu gadael yn eu lle cyhyd ag y credwn sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal safonau ansawdd aer ar y rhan honno o'r ffordd. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol i effeithiolrwydd y terfynau cyflymder 50 mya hyn—mae gennyf un yn fy etholaeth i—yw cydymffurfiaeth, wrth gwrs. Rwy'n credu bod angen inni fod yn llawer mwy agored ynglŷn â beth yw hynny. Yn sicr, rwyf wedi clywed pobl yn dweud yn Wrecsam nad ydynt yn deall pam fod ganddynt y darn hwnnw o 50 mya. Mae gennym arwydd yno bellach sy'n dweud mai lleihau allyriadau yw ei ddiben. Ond credaf efallai fod angen inni fod hyd yn oed yn fwy clir mewn perthynas â hynny.
Byddwn yn comisiynu adolygiad pellach o fesurau a allai fod â photensial i wella ansawdd aer yn y mannau ble y ceir gormodedd o nitrogen deuocsid. Rydym hefyd yn cymryd camau sylweddol mewn perthynas â thagfeydd ar yr A470, a gwn fod fy nghyd-Weinidog Ken Skates—mae ei swyddogion wedi sefydlu rhaglen mannau cyfyng i ystyried ystod o atebion i fynd i'r afael â phroblemau y gwyddys amdanynt yn yr ardal honno.
Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ53257] yn ôl. Cwestiwn 5, Mohammad Asghar.
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu bywyd gwyllt Cymru? OAQ53229
Diolch. Mae ein blaenoriaethau polisi ar gyfer bywyd gwyllt yn rhan o'n cynllun gweithredu adfer natur, sy'n pwysleisio'r rôl bwysig y mae bioamrywiaeth yn ei chwarae yn ein lles. Mae hyn, er enghraifft, wedi golygu ein bod yn buddsoddi £4 miliwn ac wedi sicrhau £11 miliwn ychwanegol o arian yr UE ar gyfer tri phrosiect pwysig ar gyfer cynefinoedd a bywyd gwyllt Cymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Gwn fod eich cyllid a—cyllid Cymru a chyllid Ewropeaidd, am ba hyd y bydd yn parhau? Ond canfu astudiaeth ddiweddar o gyflwr adar yng Nghymru fod un o bob tri math o adar yn dirywio'n sylweddol. Mewn rhai achosion, maent mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Un o'r rhesymau dros y dirywiad hwn yw dinistrio cynefinoedd adar, megis perthi. Mae perthi yn nodwedd bwysig o'r amgylchedd cefn gwlad, ac rwy'n deall bod rheoliadau'n golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i ddileu'r rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad heb ganiatâd gan yr awdurdodau lleol—caniatâd cynllunio. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth a wnewch i annog plannu perthi yn lle adeiladu ffensys er mwyn diogelu ein hamgylchedd a gwrthdroi'r dirywiad ofnadwy yn ein poblogaethau adar, os gwelwch yn dda?
Rwyf wedi gweld yr adroddiad hwnnw, ac yn sicr, mae'r dirywiad mewn rhai rhywogaethau adar brodorol yn peri cryn bryder. Credaf y bydd llawer o ffactorau yn cyfuno i achosi newid yn y boblogaeth adar dros amser yng Nghymru, a chredaf fod angen inni sicrhau bod cynefinoedd Cymru yn y cyflwr gorau posibl i roi'r cyfle gorau i boblogaethau adar allu gwella.
Nid wyf wedi gwneud unrhyw beth penodol ynglŷn â pherthi, ond rwy'n sicr yn fwy na pharod i ystyried y mater. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r nifer sylweddol o berthi—. Un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf pan euthum allan i Seland Newydd i edrych ar ffermydd yno—. Os ewch i ffermydd yng Nghymru, y perthi gwych sydd yma, sy'n amlwg yn hybu rhywogaethau adar yma, nid ydych yn eu gweld draw yno. Felly, credaf eich bod yn llygad eich lle, mae perthi yn rhan o'r gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau bod gennym y boblogaeth adar rydym am ei gweld yma.
Yn eich ymateb i Mohammad Asghar, rydych yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd yr adroddiad 'State of Birds in Wales 2018', ac mae gennym rai poblogaethau pwysig iawn yn rhyngwladol wrth gwrs—rwy'n meddwl, er enghraifft, am nythle'r gwylanwyddau ar Ynys Gwales; gallwn restru llu ohonynt. Yn amlwg, mae peth o'r buddsoddiad a wnaethpwyd eisoes i ddiogelu'r cynefinoedd hynny yn dechrau dangos llwyddiant, ac mae sicrhau ein bod yn ariannu cynlluniau a mentrau yn ddigonol fel y gallant wella a pharhau i wella amgylcheddau naturiol yn allweddol, ac mae hynny'n cynnwys darparu'r holl adnoddau angenrheidiol i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'u cylch gwaith cadwraeth, sydd, wrth gwrs, yn her. Pa drafodaethau a gawsoch chi a'ch Llywodraeth, Weinidog, i liniaru'r risg na fyddwn yn gallu cael mynediad at gronfeydd yr UE a grybwyllwyd gennych, gan gynnwys mentrau megis ffrwd gyllido LIFE, sydd wedi bod yn allweddol o ran galluogi peth o'r gwaith adfer rhywogaethau ar raddfa fawr a'r prosiectau amgylcheddol sydd wedi eu cyflawni yma? Sut y gellir sicrhau cyllid yn lle'r buddsoddiad anhygoel o werthfawr hwnnw, a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal?
Mae'n amlwg yn faes rydym wedi gweithio arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd, os cofiwch, dywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddem yn colli ceiniog o gyllid. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn y sefyllfa lle rydym yn dweud wrthynt, 'Fe wnaethoch chi addo inni na fyddem yn colli ceiniog', ac yn sicr, mae fy mhortffolio—fel y dywedais mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth—yn nofio mewn cyllid Ewropeaidd. Mwy na thebyg mai fy mhortffolio i sy'n derbyn y swm mwyaf o arian. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny, gan y gwyddom am yr effaith y byddai'n ei chael, nid yn unig ar amaethyddiaeth a physgodfeydd, ond hefyd ar yr amgylchedd.
Mae pob un ohonom wedi bod yn darllen adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, 'State of Birds in Wales 2018', felly mae'n eithaf amlwg mai'r cwestiwn yw bod niferoedd adar yn cwympo—mae yno ostyngiad cyflym—ac rwy'n aelod o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, felly rwyf am ddatgan hynny nawr. Felly, o ran y pethau da rydym wedi'u gwneud, fel gwahardd saethu ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru, rhoi diwedd ar saethu gwyddau talcenwyn—pethau fel hynny, gwarchod pethau penodol—maent yn bethau da iawn. Ond rwy'n tybio, o ran rheoli tir, y bydd fy nghwestiwn yn ymwneud â pharthau perygl nitradau a'r effaith a gaiff rhai ohonynt ar ein bywyd gwyllt, a beth y bwriadwch ei wneud, Weinidog, i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynllun cynaliadwy lle na cheir crynodiadau o nitradau a allai ddinistrio unrhyw gynefin sy'n ceisio byw y tu hwnt iddynt.
Diolch. Felly, fe fydd yr Aelod yn gwybod am y datganiad ysgrifenedig a wneuthum mewn perthynas â llygredd amaethyddol a pharthau perygl nitradau. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu'r cynllun gweithredu adfer natur. Dyna yw ein strategaeth genedlaethol fel y gallwn fynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Fe sonioch chi am un neu ddwy o enghreifftiau yn gysylltiedig â gwarchod adar, a chredaf ei fod yn ymwneud â strategaethau fel yr un rydych newydd ei chrybwyll ar gyfer gwyddau talcenwyn yr Ynys Las. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig hefyd ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol er mwyn sefydlu'r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau gyda phob awdurdod cyhoeddus. Credaf fod cryn dipyn o waith i'w wneud yma, ac unwaith eto, gwn fod y Prif Weinidog—mae hwn yn faes y mae'n frwdfrydig iawn yn ei gylch, o ran edrych ar y dirywiad mewn bioamrywiaeth, sy'n rhywbeth y credaf ein bod wedi dechrau ei wrthdroi bellach, ond mae angen inni wneud hynny'n llawer cyflymach.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n defnyddio Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru? OAQ53254
Diolch. Ers lansio'r gwasanaeth ynni y llynedd, mae wedi cynorthwyo sefydliadau sector cyhoeddus a chymunedau lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sylweddol. Disgwylir i'r cynlluniau hyn arwain at ymrwymo £16 miliwn o gyllid cost isel Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Diolch am eich ateb. Weinidog, gyda phrosiectau mawr fel Wylfa a'r morlyn llanw yn ei chael hi'n anodd cychwyn, ymddengys i mi ei bod bellach yn bryd canolbwyntio ar gynhyrchu ynni ar raddfa lai yn y gymuned, fel y gall cymunedau fod yn gyfrifol am gynhyrchu eu hynni, ac yn bwysicach, mwynhau'r arian a gaiff ei arbed. Pa gynlluniau sydd gennych i annog mwy o gyrff y sector cyhoeddus, grwpiau cymunedol a busnesau i fanteisio ar y gwasanaeth ynni?
Diolch. Wel, credaf fod hyn, mae'n debyg, yn ymwneud â chydbwysedd rhwng y ddau beth. Soniais nad yw'r cynllun ond wedi bod ar waith ers oddeutu chwe mis. Mae gennym 257 o brosiectau yn yr arfaeth ar draws y 22 awdurdod lleol. Mae cyrff sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol eraill yn rhan o hynny hefyd. Rydym eisoes wedi gweld llawer ohonynt yn datblygu'n weithredol gyda'r gwasanaeth ynni. Fel y dywedaf, chwe mis yn unig sydd wedi bod. Rydym hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu pedwar prosiect ynni'r haul wedi'u gosod ar lawr, sy'n brosiectau ar raddfa fawr, yng ngogledd Cymru, felly rwy'n fodlon iawn gyda'r cynnydd rydym wedi'i wneud dros y chwe mis cyntaf.
Dywed gwefan Llywodraeth Cymru mai nod y gwasanaeth ynni yw datblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ac mae'n darparu cymorth technegol, ariannol ac arbenigol arall ar gyfer prosiectau ynni. Fe gyfeirioch chi at weithio gyda grwpiau cymunedol ac eraill. Cafodd y cynllun peilot effeithiol gwreiddiol, y cynllun cynhesrwydd fforddiadwy lleol a lansiwyd yn sir y Fflint rai blynyddoedd yn ôl, ei ddatblygu drwy gydweithio â'r trydydd sector a chynlluniau effeithlonrwydd ynni a oedd yn bodoli eisoes. Sut y sicrhewch y bydd yn magu gwraidd wrth symud ymlaen, ac nad yw'n rhaglen a reolir i lawr o neuadd y sir? Yn olaf, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r pryder, gyda phrisiau tanwydd yn amrywio, fod llawer o gartrefi nad ydynt ar y grid nwy wedi gweld gwelliannau yn ddiweddar yn eu tystysgrifau perfformiad ynni heb fod unrhyw addasiadau wedi'u gwneud i'w heiddo nac unrhyw welliannau o sylwedd i berfformiad amgylcheddol yr adeiladau dan sylw?
Wrth greu'r gwasanaeth ynni newydd, rydym yn galluogi'r sector cyhoeddus, yn amlwg, i ddatgarboneiddio ac i ddefnyddio'r arian hwn, ond mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cefnogi pobl leol. Mae'n ymwneud â mwy na'r sector cyhoeddus yn unig. Felly, mae pobl leol a grwpiau lleol, yn amlwg, yn dod at ei gilydd i greu cynlluniau a fydd yn ein cynorthwyo i gyrraedd ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rwyf wedi ymweld â dau gynllun ynni dŵr da iawn yng ngogledd Cymru sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned, un yng Nghorwen ac un ym Methesda, ac mae'n rhaid imi ddweud, wrth glywed unigolion yn dweud eu bod yn gwybod, pan fyddant yn troi'r tegell ymlaen yn eu cegin, eu bod yn elwa o hynny mewn ffordd arall, credaf fod hynny'n dangos imi o ddifrif mai hon yw'r ffordd ymlaen. Yn aml iawn, pan fydd grwpiau'n dod at ei gilydd, rwy'n gwybod bod llawer o gymhlethdodau technegol ac mae'n rhaid inni sicrhau diwydrwydd dyladwy, yn amlwg, ond credaf fod y cynllun hwn yn symud yn gyflym. Fel rwy'n dweud, chwe mis yn unig sydd wedi bod ac rydym eisoes wedi gweld llawer o brosiectau'n dwyn ffrwyth.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd dŵr yn etholaeth Ogwr? OAQ53262
Diolch. Mae cynllun rheoli basn afon 2015 wedi dangos bod afon Llynfi ac afon Garw yn cyflawni statws 'cymedrol' tra bo afon Ogwr a'i his-afonydd yn cyflawni statws 'da' o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr. Ledled Cymru, mae 37 y cant o'r crynofeydd dŵr yn cyflawni statws 'da' ar hyn o bryd, gyda gwaith ar y gweill i gynyddu'r ffigur hwn i 42 y cant erbyn 2021.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, ac rwy'n falch ei bod wedi dehongli fy nghwestiwn fel un am ansawdd afonydd, yn hytrach na dŵr yn gyffredinol yn etholaeth Ogwr. Felly, diolch am hynny. Mae'n wych gweld ein bod yn wynebu'r cyfeiriad iawn, ac mae'r gwelliant yn ansawdd dŵr yr afonydd yn Ogwr yn amlwg dros y ddau ddegawd diwethaf. Ni allaf gymryd yr holl glod am hynny fy hun, mae'n rhaid imi ddweud: mae wedi dibynnu ar gyfuniad o fuddsoddiad gan Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, wrth iddynt fuddsoddi mewn pethau megis gwelliannau i ansawdd gwely afon yn uchel i fyny'r afonydd fel bod gennym bellach bysgod yn silio yr holl ffordd i fyny at ben uchaf Blaengarw ac ati. Ond mae gennym fwy i'w wneud.
Nodaf y byddwn yn mynd allan yn fuan, Chris Elmore a minnau, i ymweld ag un neu ddau o'r prosiectau—dros £10 miliwn o fuddsoddiad gan Dŵr Cymru ar ddau fuddsoddiad blaenllaw. Mae hynny'n cynnwys buddsoddiad o £3.3 miliwn ar garthffos newydd rhwng Cwm Ogwr a Melin Ifan Ddu yn ogystal â gwerth £7 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i'r gwaith trin dŵr gwastraff presennol yn Llety Brongu yn Llangynwyd yng Nghwm Llynfi. Mae'n wych gweld hyn, ond tybed a allai'r Gweinidog naill ai roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi yn awr neu ysgrifennu ataf ar fater cwm Garw a'r gollyngfeydd carthffosiaeth a dŵr cyfunol, sy'n dal i fod, yn ôl yr hyn a ddeallaf—mae'r pysgotwyr yn dweud wrthyf, pan fyddwn yn cael glaw trwm iawn, fod yr ollyngfa gyfunol yn golygu ein bod yn pwmpio elifion carthion yn uniongyrchol i mewn i'r afon bwysig honno. Felly, os nad oes ganddi ateb ar hyn o bryd, tybed a allai ysgrifennu ataf i roi gwybod beth yw'r sefyllfa o ran buddsoddiad yng nghwm Garw hefyd.
Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â chwm Garw, gan nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law, ond credaf eich bod wedi tynnu sylw at bwynt pwysig iawn, yn enwedig y buddsoddiad sylweddol a wneir gan Dŵr Cymru i sicrhau bod gennym amgylchedd dŵr ffyniannus, oherwydd, yn sicr, dyna rydym am ei weld.FootnoteLink
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid anwes? OAQ53236
Diolch. Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyfarfod Llawn ynglŷn â fy nghynlluniau i wella lles anifeiliaid anwes yn fy natganiadau llafar ym mis Mehefin a mis Tachwedd y llynedd. Rwy'n ymrwymedig i archwilio opsiynau'n ymwneud â gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti a bydd yr ymgynghoriad ar y mater yn cael ei lansio ar 22 Chwefror.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o fynd ag Andrew R.T. Davies yn rhinwedd ei swydd fel eich llefarydd cysgodol i un o fy hoff lefydd yn fy etholaeth i, ac yn ein cyfarfod yng nghanolfan fabwysiadu Cats Protection Pen-y-bont ar Ogwr, unwaith eto cododd mater landlordiaid a chartrefi preswyl nad ydynt yn derbyn anifeiliaid anwes. Nawr, yn amlwg, gwyddoch fod honno'n broblem wirioneddol o ran llesiant, yn enwedig llesiant pobl hŷn, yn ogystal â lles yr anifeiliaid eu hunain. Yr haf diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf fod hwn yn fater pwysig, yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried, ac y byddech yn sicrhau y byddech yn dechrau cael trafodaethau ynglŷn â hyn. Mae chwe mis wedi bod ers hynny, a tybed a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y sgyrsiau hynny.
Cefais sgwrs gychwynnol gyda swyddogion ynglŷn â hynny. Fe fyddwch yn deall nad yw'r pwerau gennyf i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac yn sicr, mae rhai cartrefi gofal yn caniatáu hynny, ond yn yr un modd, ceir cartrefi gofal nad ydynt yn caniatáu hynny. Felly, nid wyf wedi symud ymlaen ymhellach ar hyn, ond rwy'n cytuno'n llwyr, ac yn sicr, ar ôl dod yn berchennog—wel, fy merch, nid fi—ar gi bach a ddaeth gyda ni i gartref gofal i weld perthynas adeg y Nadolig, gallwch weld y pleser y mae pethau o'r fath yn ei roi i bobl, ond fel y dywedwch, pan fydd rhywun yn symud i gartref preswyl neu gartref nyrsio ac mae ganddynt anifail anwes, gall hynny beri problemau sylweddol, yn amlwg. Ond efallai yr hoffech fy ngwahodd i gynghrair Cats Protection Pen-y-bont ar Ogwr hefyd.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe ddywedoch chi nad oeddech yn bwriadu rhoi'r cysyniad o gofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru ar waith. Mae hynny'n siom enfawr i mi, ond dyna ni, fe geisiaf symud ymlaen. Ond yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch y byddech yn edrych ar fesurau amgen—yr RSPCA a arweiniodd y tasglu hwnnw—fe ddywedoch chi bethau a oedd yn ymwneud â rhannu gwybodaeth yn well rhwng yr heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau a llochesau anifeiliaid. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar yr hyn rydych yn ei wneud mewn perthynas â'r gwaith hwnnw?
Mewn gohebiaeth neu gwestiynau llafar eraill, ymddengys eich bod yn cydymdeimlo â syniadau'n ymwneud ag edrych ar bolisïau mewn perthynas ag os yw rhywun yn cam-drin anifail, efallai y byddant wedyn yn troseddu drwy gam-drin pobl. Nid wyf wedi gweld cymaint o gynnydd gennych ag y mae eich sylwadau yn y Siambr hon yn ei awgrymu, felly rwy'n ceisio deall beth rydych yn ei wneud ynglŷn â hynny hefyd, gan y gallem fod yn atal pobl rhag cyflawni cam-drin domestig pe baem yn eu dal ar y cam cynnar hwnnw.
Mae dau beth yn dod i fy meddwl yn syth. Cefais drafodaeth ynglŷn â hyn gyda swyddogion yr heddlu sy'n aelodau o'r tîm troseddau gwledig yng ngogledd Cymru. Treuliais ychydig ddyddiau gyda hwy y llynedd, ac roedd hwn yn faes a drafodasom a buom yn meddwl a oedd unrhyw beth arall y gallem ei wneud. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith a wnaed o dan arweiniad yr RSPCA, ac rwy'n deall eich angerdd ynglŷn â hyn yn llwyr. Rwyf hefyd wedi cael trafodaeth ac wedi gweld un neu ddau o gyflwyniadau a drefnwyd ar fy nghyfer gan y prif swyddog milfeddygol mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei wneud. Yn sicr, gwneir lefel o waith ar hyn o bryd gyda milfeddygon pan fyddant yn hyfforddi i nodi, os deuir ag anifail atynt a'u bod yn pryderu ynglŷn â sut y cafodd yr anifail ei anafu, mae cwestiynau i'w gofyn a lleoedd y gallant droi atynt, o bosibl, am ragor o wybodaeth. Rwy'n credu eu bod yn datblygu'r gwaith hwn o fewn y proffesiwn milfeddygol eu hunain hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Reckless.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Hunanadeiladu Cymru? OAQ53243
Gwnaf. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi £40 miliwn ar gyfer rhaglen Hunanadeiladu Cymru. Fe'i datblygwyd mewn cydweithrediad â phartneriaid ar draws y sector, ac rwy'n hyderus y bydd y cynllun arloesol hwn, y cyntaf o'i fath, yn llwyddiant mawr pan fydd yn cael ei lansio'n iawn yn ddiweddarach eleni.
Rwy'n croesawu'r Gweinidog i'w swydd. Rwy'n falch o allu dechrau drwy longyfarch Llywodraeth Cymru ar yr hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn delerau cadarnhaol iawn ac eithaf hael ar gyfer y fenter hon. Ond dywedai'r datganiad i'r wasg na fydd angen dechrau ad-dalu'r benthyciad hyd nes y bydd y cartref newydd wedi'i gwblhau a morgais wedi'i drefnu, ac yna mae'n dweud:
'bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu sicrhau plot drwy dalu blaendal o 25% o gost y plot. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu gweddill y cyllid drwy Banc Datblygu Cymru.'
A yw hynny'n golygu na fyddant ond yn talu 25 y cant o gost y tir ac y gellir benthyca'r holl gost adeiladu gan y banc datblygu wedyn? Pan ddywedwch na fydd angen ad-dalu, a yw hynny hefyd yn golygu nad oes llog, neu a oes llog y bydd angen ei ad-dalu ar ôl ei gwblhau?
Mae'r cynllun yn eithaf cymhleth, ac i gychwyn, rydym yn dechrau ar dir cyhoeddus. Felly, bydd sgwrs i'w chael am werth y tir hwnnw a sut y caiff ei brisio ar gyfer y cynllun. Yr hyn a wnawn yn y bôn yw ceisio hwyluso'r broses ar gyfer pobl na fyddai ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, felly rydym yn gobeithio cael plotiau sy'n barod ar gyfer adeiladu arnynt fel y byddant yn cael eu cynnig i hunanadeiladwr heb fod angen mynd drwy lawer o'r ystyriaethau cynllunio arferol ac yn y blaen.
Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn cynnig, i ddechrau—mae gennyf uchelgais i fynd ag ef ymhellach na hyn, ond dim ond i ddechrau—rhai tai templed. Felly, gall pobl eu haddasu, ond yn gyffredinol, bydd modd inni sicrhau caniatâd cynllunio ac ati. Felly, nid ydym yn sôn am gyllid drwy fenthyciadau yn unig, rydym yn sôn am ddarparu plot i bobl sy'n barod ar gyfer adeiladu arno. Bydd llawer o'r gost honno wedi'i thynnu allan o'r prosiect yn y lle cyntaf.
Mae ambell sgwrs i'w chael ynghylch y manylion yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn o dan sylw, faint o ecwiti y maent yn ei ddarparu yn y lle cyntaf, beth y mae hynny'n ei sbarduno o ran cyllid benthyciad ac ati, a bydd angen penderfynu ar hynny, a bydd yn unigol iawn, yn dibynnu ar y plot, ei werth, y gwerth y mae'r unigolyn yn ei gyfrannu, a fyddant yn ei hunanadeiladu yn yr ystyr o osod y briciau eu hunain neu a fydd angen talu datblygwr, ac ati. Felly, llawer o fanylion. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at hyn, ond bydd yn dibynnu ar leoliad y plot, ac ati. Mae'n ddrwg gennyf am roi ateb cyfreithiwr ichi, ond 'mae'n dibynnu' yw'r ateb cyffredinol i hynny. Ond i fod yn galonogol, mae'r holl bethau a grybwylloch yn bethau rydym am eu gweld, ond byddant yn unigol iawn, yn dibynnu ar amgylchiadau'r plot a'r unigolyn dan sylw.
2. Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol a phartneriaid tai eraill i gefnogi mentrau bach a chanolig sy'n adeiladu tai? OAQ53260
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o gefnogi mentrau bach a chanolig sy'n adeiladu tai. Rydym yn darparu cymorth uniongyrchol, a lle y bo modd, yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol a phartneriaid tai eraill.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hateb. Yn rhyfedd iawn, mae fy nghwestiwn yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn blaenorol yn rhannol. Cyhoeddodd ei rhagflaenydd y £40 miliwn o arian, sy'n mynd i godi bedair gwaith i £160 miliwn, gan y bydd yn cael ei ailgylchu i fusnesau bach a chanolig dros 17 mlynedd i'w cynorthwyo i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, ac mae gennyf gryn ddiddordeb yn sut y bydd yn cael ei ddadansoddi a'i ronynnu fel y gallaf weld, er enghraifft, os nad yn Ogwr, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, neu hyd yn oed yn ardal Morgannwg Ganol, yn union pa effaith y bydd yn ei chael dros amser. Nawr, gwn fod hyn yn dal i fod yn eithaf diweddar, ac y gwnaed y cyhoeddiad ym Mharc y Scarlets llynedd. Fel cefnogwr y Gweilch, nid oes ots gennyf am hynny, fod y cyhoeddiad wedi'i wneud ym Mharc y Scarlets. Ond byddai'n dda, 12 mis yn ddiweddarach, cael gwybod pa dir sydd wedi ei ddefnyddio yn fy ardal neu fy rhanbarth, pwy sydd wedi bod ynghlwm wrth hyn, a faint o'n BBaChau sydd wedi bod ynghlwm wrth hyn ac wedi elwa hefyd, a faint o swyddi a grëwyd. Felly, tybed a allwn wneud hynny, nid ar hyn o bryd, ond ymhen 12 mis neu 24 mis efallai.
Ie, ni allaf weld unrhyw reswm pam na fyddem yn gallu gwneud hynny. Ni chredaf y gallwn ei wneud ar hyn o bryd, ac a dweud y gwir, nid wyf wedi gofyn y cwestiwn mor fanwl â hynny, ond fe wnaf—rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ond bydd, yn bendant, bydd gennym gofnod o ble rydym wedi rhoi benthyg arian ac ar ba safleoedd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio gwneud dau beth ar yr un pryd yma: rydym yn gobeithio ysgogi'r sector BBaChau yng Nghymru, oherwydd ar hyn o bryd rydym mewn sefyllfa wahanol i 15 mlynedd yn ôl, felly mae gennym adeiladwyr tai mawr iawn yn adeiladu'r rhan fwyaf o dai ac nid oes cymaint o BBaChau yn gwneud hynny, a byddem yn falch iawn o weld BBaChau Cymreig yn llenwi'r bwlch hwnnw. Hoffem roi cymorth gyda hynny, a gwyddom fod y problemau mawr sy'n eu hwynebu yn ymwneud â llif arian ac arbenigedd. Felly, rydym yn gobeithio rhoi gwahanol fathau o gymorth ar waith, fel y dywedais. Mae hynny'n cynnwys y gronfa datblygu eiddo, sef benthyciad cyfleuster gan y banc datblygu, er enghraifft, a fyddai'n galluogi pobl i oresgyn eu problemau llif arian mewn amgylchiadau lle na fyddai modd iddynt wneud hynny fel arall. Mae gennym y gronfa safleoedd segur, sydd ag ystod o arbenigedd ynghlwm wrthi er mwyn ceisio datrys rhai o'r problemau cynllunio a seilwaith sy'n gysylltiedig â hynny. Mewn gwirionedd, cefais gyfarfod y bore yma gyda swyddogion sy'n cefnogi Comisiwn Seilwaith Cymru gyda rhai o'r pethau y gall y comisiwn eu gwneud o ran cynllunio seilwaith ledled Cymru—gyda'r nod o ddarparu mwy o safleoedd, sicrhau eu bod yn hyfyw, a sicrhau bod ein hadeiladwyr bach a chanolig yn manteisio ar hyn, ac fel y dywedais yn fy ateb i Mark Reckless, ceisio bod mor arloesol â phosibl yn y maes hwnnw. Felly nid yw'n ddull unffurf o gwbl, mae'n ymwneud â cheisio addasu'r cyllid a'r cynllun ar gyfer pwy bynnag sy'n awyddus i fanteisio arno, gyda'r nod o sicrhau bod amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl yn hunanadeiladu, neu'n adeiladu pedwar neu bum tŷ lle y byddai modd gwneud hynny mewn cymuned leol lle nad oes diddordeb gan y cwmnïau adeiladu mawr.
Weinidog, mae'r diffyg BBaChau sy'n adeiladu tai yn ffenomen yn y DU, ac mae'n wirioneddol syfrdanol. Yn y 1980au, y sector BBaChau oedd yn gwneud tua 40 y cant o'r gwaith adeiladu tai; mae'r ffigur hwnnw mor isel â 10 y cant mewn rhai rhannau o'r wlad bellach. Yn amlwg, mae angen inni wrthdroi hyn, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar y safleoedd segur. Nododd ymchwil Llywodraeth Cymru yn 2015 fod bron i 400 safle o'r fath yng Nghymru, a byddai llawer ohonynt, y rhan fwyaf ohonynt yn wir, yn addas ar gyfer y sector BBaChau. Mae taer angen inni ennyn diddordeb y sector hwnnw. Mae llawer ohono'n dal yno ac maent wedi troi at fathau eraill o waith adeiladu, ond rhan o'r broblem oedd prinder safleoedd llai ar gyfer datblygu, ac maent yn aml yn fwy effeithlon o ran gwneud gwaith llenwi mewn ardaloedd trefol, ac nid ydynt yn defnyddio darnau helaeth o dir glas, er enghraifft. Felly, rwy'n credu'n gryf eich bod yn iawn i nodi'r gronfa safleoedd segur a gweld rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth, ac yn amlwg, os ydym am adeiladu ar raddfa fawr unwaith eto, mae angen inni ailymgysylltu â'r BBaChau.
Ie, cytunaf yn llwyr â hynny. Mae nifer o feysydd polisi rydym yn gobeithio eu dwyn ynghyd mewn ffordd fwy effeithiol—felly, y materion tai a grybwyllwyd gennych eisoes ac a grybwyllwyd gennyf innau yn y ddau ateb blaenorol. Ond rydym newydd gwblhau'r adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru' ganol mis Rhagfyr, ac mae hwnnw'n newid i ddull sy'n fwy seiliedig ar leoedd, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r system gynllunio.
Felly, rydym yn awyddus i awdurdodau cynllunio osod targedau a bennir yn lleol ar gyfer darparu tai ar safleoedd bach, nid tai yn gyffredinol yn unig, a chadw cofrestr o safleoedd addas i alluogi BBaChau, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector adeiladu personol a hunanadeiladu i ddarparu tai—fel ein bod yn llyfnhau, os mynnwch, rhai o'r anawsterau cynllunio. Fel y dywedais, rydym yn edrych i weld a allwn fapio'r seilwaith sydd ar gael eisoes, a mapio'r gofynion seilwaith, a gweld a allwn addasu'r cyllid i hynny. Dyna'n union yw diben hyn: galluogi'r sector BBaChau i lenwi'r bwlch hwnnw.
Y darn olaf o hynny yw'r darn sy'n ymwneud â sgiliau. Felly, rydym hefyd yn ystyried sut y gall ein rhaglenni prentisiaeth hwyluso rhannu prentisiaethau, er enghraifft, ymysg cwmnïau adeiladu bach a busnesau bach, oherwydd yn aml, bydd busnes bach yn ei chael hi'n anodd rhoi ystod lawn i brentis—. Ond mae'r cynlluniau rhannu prentisiaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn yn hynny o beth. Mae angen llawer mwy o sgiliau yn y maes hwnnw, ac fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n rhannu uchelgais y Prif Weinidog i adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr ac ar fyrder. Mae arnom angen i'r sector BBaChau allu llenwi'r bwlch hwnnw hefyd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru—Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Weinidog, dyfynnwyd prif weithredwr Canolfan Huggard yn y cyfryngau yn galw ar bobl i beidio â rhoi pebyll i bobl sy'n cysgu allan. A ydych yn cytuno ag ef?
Mae'n anodd iawn gwybod beth yn union i'w wneud pan fyddwch yn gweld rhywun sy'n ddigartref ac ar y stryd, ac rwy'n deall awydd pobl i wneud rhywbeth ar unwaith dros rywun sydd yn yr amgylchiadau hynny. Y broblem yw ein bod yn gwybod, pan fydd pobl wedi cael pabell o'r fath, mewn gwirionedd, maent yn llai llwyddiannus o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth eraill, ac mewn ffordd ryfedd, rydych yn eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau eraill y maent eu hangen i'w cynorthwyo i gael cartref parhaus. Felly, nid wyf am feirniadu unrhyw un sy'n awyddus i helpu rhywun sy'n ddigartref ar y stryd, gan fod eich calon yn gwaedu drostynt wrth ichi gerdded heibio.
Ond byddai'n well ymgysylltu â phrosiect StreetLife a rhoi gwybod i'r awdurdod lleol amdanynt. Yng Nghaerdydd a mannau eraill, rydym yn ariannu amrywiaeth o brosiectau a fydd yn galluogi pobl i gael llety diogel, gan gynnwys rhai o'r mentrau tai yn gyntaf sy'n caniatáu i bobl na fyddent yn gallu ymdopi, er enghraifft, â hostel mawr i allu dod oddi ar y stryd ac i mewn i gartrefi parhaol. Felly, nid wyf am feirniadu rhywun sydd am wneud hynny, ond mae ffyrdd gwell o helpu pobl sy'n ddigartref ac ar y stryd.
Wel, rwy'n falch eich bod yn anghytuno â'r sylwadau, Weinidog, gan fod yn rhaid dweud bod llawer o bobl yn siomedig iawn ynglŷn â'r sylwadau hynny. Ymddengys eu bod yn awgrymu bod cysgu allan yn ffordd o fyw y mae pobl yn ei dewis, yn hytrach na rhywbeth sy'n ganlyniad i gyni. Eglurai'r bobl ddigartref a ddyfynnwyd yn y stori y gall llochesau i bobl ddigartref fod yn lleoedd peryglus iawn, gyda diffyg diogelwch, diffyg cefnogaeth, a chamddefnyddio sylweddau yn rhemp. Yn rhy aml, mae llawer o lochesau yn pentyrru pobl heb fawr o oruchwyliaeth, a gallant fynd ymlaen i achosi problemau i bobl eraill sy'n agored i niwed, yn enwedig menywod, sydd o bosibl wedi dioddef trais.
Er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn awyddus i sicrhau bod tai ar gael i bawb sy'n ddigartref, yn y tymor byr, mae angen llochesau i atal pobl sy'n cysgu ar y stryd rhag rhewi i farwolaeth. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i adolygu'r ddarpariaeth bresennol o lochesau a hostelau, gyda'r bwriad o atal cyllid i'r llochesau yr ystyrir eu bod yn anniogel neu'n annigonol, fel y gellir ei ddefnyddio, a'i dargedu'n benodol i ariannu sawl math o loches sy'n darparu amgylcheddau diogel a chefnogol, yn hytrach na chynnal sefydliadau sy'n dal i roi'r bai ar bobl ddigartref am beidio â bod eisiau cael eu pentyrru?
Rydym yn gobeithio adolygu'r cysyniad o flaenoriaeth. Mae gennym adolygiad ar waith ar hyn o bryd, un a etifeddais gan fy rhagflaenydd yn y swydd, Rebecca Evans. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegodd yr Aelod o ran digartrefedd. Mae'n broblem wirioneddol gymhleth, fel y gŵyr. Gwn ei bod yn gwybod hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad ynglŷn â phentyrru ac ati. Mae'n gwbl afresymol disgwyl i rywun fynd i hostel 15 gwely gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod, gan adael eu hanifail anwes y tu allan, er enghraifft, ac ymdopi â'u problem camddefnyddio sylweddau hefyd. I rai pobl, nid dyna fydd yr ateb. I eraill, mae'n ateb dros dro, gan y gallant gael mynediad at wasanaethau eraill. Mae'n llygad ei lle: mae angen inni sicrhau bod gennym sector tai sy'n addas i'r diben, gyda llif priodol, neu lwybr priodol, er mwyn i bobl allu cael eu bywydau yn ôl, gyda'r holl bethau sydd eu hangen arnynt, a gwyddom fod cartref diogel yn gwbl greiddiol i hynny. Felly, sicrhau bod pobl yn llwyddo i fynd i'r cartref diogel hwnnw cyn gynted â phosibl, gan na fydd hostel, os yw'n addas i rywun, ond yn rhywbeth dros dro cyn iddynt allu mynd i'r cartref diogel hwnnw, ac mewn gwirionedd, sicrhau bod cartref diogel yn gartref y byddai'r unigolyn yn ei ddewis eu hunain, fel eu bod â rhywfaint o lais yn y mater; nid cael eu gwthio i mewn i rywbeth na fyddent byth wedi'i ddewis.
Ymwelais â phrosiect tai yn gyntaf sy'n cael ei redeg gan Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf—mae fy synnwyr o amser yn wael iawn, fel y gŵyr yr Aelod; yr wythnos diwethaf oedd hi, rwy'n credu—ac roedd yn drawiadol iawn. A chyfarfûm â gŵr bonheddig yno a ddywedodd, heb y strategaeth tai yn gyntaf, na fyddai ef yn bersonol byth wedi mynd o'r sefyllfa roedd ynddi—roedd yn arfer cysgu mewn cerbyd, ond mae hynny lawn cyn waethed ag unrhyw fath o gysgu allan—i'r cartref parhaol a diogel a gafodd gan na fyddai wedi gallu cael mynediad at y system hostelau. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym yn gobeithio ailasesu ein systemau a'n grant tai cymdeithasol, a gweld sut y gellir eu defnyddio yn y ffordd orau i sicrhau'r llwybr priodol hwnnw, ac adeiladu'r tai, a'r tai â chymorth a'r tai gwarchod sydd eu hangen ar bobl weithiau er mwyn gallu ymdopi â'u hamgylchiadau.
Ac i fod yn gwbl glir ac i ateb pob rhan o'r hyn a ddywedodd: mae'n amlwg iawn nad yw'n rhywbeth y mae rhywun yn ei ddewis, ond weithiau maent yn ei ddewis am fod yr opsiynau eraill sydd ar gael iddynt hyd yn oed yn waeth. Ac mae hwnnw'n ddefnydd cwbl wahanol o'r gair 'dewis'.
Diolch am eich ateb llawn i'r cwestiwn hwnnw, Weinidog. Gwyddoch fy mod, ers peth amser, wedi bod yn awyddus i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r holl argymhellion yn adroddiad Crisis, sy'n amlinellu'n glir iawn sut y gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd. Fodd bynnag, gwyddom fod nifer y marwolaethau ymhlith pobl ddigartref wedi codi 24 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ac nid yw hynny'n syndod o ystyried bod mwy o bobl yn ddigartref ac yn wynebu'r sefyllfa honno. Felly, mae mynd i'r afael â chysgu allan yn argyfwng cenedlaethol, ac ni allwn aros am fwy o adolygiadau neu grwpiau gorchwyl a gorffen. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i fabwysiadu un o'r argymhellion hynny, sef: a wnewch chi gyflwyno dyletswydd i ddarparu llety brys ar unwaith i bawb heb le diogel i aros tan y caiff angen blaenoriaethol ei ddiddymu?
Carwn allu dweud 'gwnaf' i hynny—rwy'n ystyried y mater. Rwyf ar fin cyfarfod â Crisis i drafod ein sefyllfa mewn perthynas â hynny, ac rwyf wedi comisiynu briff ar fy nghyfer fy hun. Mae tai yn faes newydd i mi, ac nid wyf ond wedi bod yn y swydd ers faint bynnag o wythnosau—chwe wythnos neu rywbeth. Felly, rwyf wedi comisiynu briff ar fy nghyfer fy hun mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw i ddeall ein sefyllfa ar hyn o bryd, ac i weld beth yw'r ffordd ymlaen. Felly, nid wyf am wneud unrhyw ymrwymiad heddiw, ond rwy'n ystyried o ddifrif i weld beth y gallwn ei wneud ar hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wrth siarad ar ôl cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar 15 Ionawr ar safonau rheolaeth ariannol mewn cynghorau cymuned, dywedodd Trefnydd Llywodraeth Cymru, neu'r trefnydd busnes, yr wythnos diwethaf:
'Gwn y bydd y Gweinidog, yn amlwg, yn ystyried yr adroddiad hwnnw. Caiff yr Aelodau gyfle i'w holi hi ar hynny yn ystod ei sesiwn gwestiynau yr wythnos nesaf.'
Felly, dyma ni. [Chwerthin.]
Yn yr adroddiad, roedd yr archwilydd cyffredinol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys. Dywedodd fod safon rheolaeth ariannol yn y Llywodraeth yn dal i fod yn siomedig, gan fod gormod o gynghorau tref a chymuned yn y flwyddyn ariannol hon wedi dioddef yn sgil barnau archwilio amodol, gyda nifer y barnau'n dyblu; fod cynghorau tref a chymuned yn parhau i reoli symiau cynyddol o arian cyhoeddus; fod incwm yn parhau i fod yn uwch na gwariant wrth i gronfeydd wrth gefn barhau i gynyddu; a daeth yr adroddiad i'r casgliad fod nifer sylweddol o gynghorau wedi methu cydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol i baratoi eu cyfrifon a sicrhau y gwneir trefniadau priodol ar gyfer yr archwiliad statudol.
Wel, yn amlwg, mae sawl diwrnod wedi bod ers hynny. A ydych wedi dod i unrhyw gasgliadau? Pa gamau rydych yn eu cynnig, ac a wnewch chi ailystyried, o bosibl, y pwerau wrth gefn sydd ar gael i chi o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, i gyflwyno cynllun statudol ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol?
Mae'n adroddiad diddorol iawn. Fel y gwyddoch, nid wyf ond yn y swydd hon ers chwe wythnos, felly nid wyf wedi cael amser, mewn unrhyw ffordd, i—. Rwyf wedi ei frasddarllen—dyna'r gorau y gallais ei wneud yn yr amser a oedd ar gael. Fodd bynnag, rwy'n bwriadu ei ddarllen yn drylwyr a'i ystyried. Mae gennyf nifer o safbwyntiau fy hun ynghylch cynghorau tref a chymuned, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda'r Aelod, a chyda'r Senedd yn gyffredinol. Mae rhai ohonynt yn rhagorol. Mae gennym enghreifftiau ledled Cymru o gynghorau tref ardderchog. Mae rhai ohonynt yn bell iawn o hynny gan nad oes ganddynt y cryfder llywodraethu, os mynnwch, i allu cynnal eu hunain. Mae'r adroddiad hwnnw'n nodi hynny. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw edrych i weld a yw'r trefniadau sydd gennym yn addas ar gyfer ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru, a yw eu cymunedau eu hunain yn eu cefnogi, a beth y gallwn ei wneud i gryfhau'r trefniadau llywodraethu. Felly, nid wyf wedi gweld unrhyw beth rwy'n anghytuno ag ef wrth fwrw golwg sydyn ar yr adroddiad hwnnw. Nid wyf mewn sefyllfa eto i ymateb yn llawn iddo. Ond fe ddywedaf wrth yr Aelod y byddaf yn ymateb yn llawn iddo, ac mae'n codi nifer o faterion sy'n peri pryder i mi'n bersonol, o brofiad blaenorol mewn bywyd.
Diolch. Ac wrth gwrs, pan oeddwn yn gynghorydd cymuned, roedd yn gyngor cymuned rhagorol—er fy ngwaethaf i, ond ta waeth am hynny. Yn amlwg, nid yw'n broblem ym mhob man, ond mae'n broblem ddigon difrifol i gael ei nodi yn y modd hwn. Cyflwynwyd adroddiad terfynol y panel adolygu annibynnol ar gynghorau tref a chymuned yng Nghymru i'ch rhagflaenydd ar 3 Hydref. Roedd yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys y gred y dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o ffiniau cynghorau tref a chymuned, a hynny ar unwaith; roedd yn galw ar yr holl gynghorau tref a chymuned i weithio tuag at fodloni meini prawf i allu arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol; argymhelliad y dylai cynghorau tref a chymuned, neu gynrychiolydd, ddod yn gyfranogwr a wahoddir yn statudol ar bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf am roi un enghraifft arall: roedd yn argymell y dylai fod cymhwyster proffesiynol gan bob glerc neu eu bod yn gweithio tuag at un.
Cafwyd ymateb Llywodraeth Cymru, gan eich rhagflaenydd, ar ffurf datganiad ysgrifenedig ar 30 Tachwedd, a ddywedai:
'Mae rhai o'r materion a nodwyd... yn haeddu cael eu hystyried ymhellach... Rwy'n edrych ymlaen at ymchwilio i'r syniadau mwy pellgyrhaeddol, rhai ohonynt hefyd yn fwy dadleuol... Rwy'n gweld hyn fel dechrau sgwrs'.
Sut rydych yn ymateb i'r cynghorwyr sir a ysgrifennodd ataf ar ôl mynychu gweithdy yn ddiweddar yng ngogledd Cymru yn pryderu eu bod wedi cael clywed, ac rwy'n dyfynnu, ei bod hi'n ymddangos bellach fod Llywodraeth Cymru o blaid peidio â deddfu i roi unrhyw un o argymhellion y panel adolygu annibynnol ar waith?
Wel, yn sicr, nid wyf wedi dod i'r casgliad hwnnw. Fel y dywedais wrthych, nid wyf wedi ystyried adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru yn llawn eto. Rwyf wedi cael ychydig mwy o amser i ystyried canfyddiadau'r adolygiad. Credaf ei fod yn gosod sail dda ar gyfer y dyfodol, ac yn sicr, bydd yn llywio ein polisi wrth symud ymlaen. Mae nifer o broblemau'n codi gyda chynghorau tref a chymuned—o ran maint a chapasiti ac ati—ac mae angen eu hystyried. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, nid oes gennym unrhyw gynghorau tref a chymuned; mewn ardaloedd eraill, mae gennym lu ohonynt. Felly, yn amlwg, nid oes dull unffurf o weithredu wedi datblygu'n organig, ac mae angen inni edrych i weld a oes angen dull unffurf o weithredu, a yw'r ffiniau—neu mewn gwirionedd, ai'r ffordd orau o gynrychioli cymuned sy'n teimlo fel cymuned yw drwy gyngor llawer llai o faint. Ond ni fyddai'r cyngor hwnnw mewn sefyllfa dda o reidrwydd i fod â'r adnoddau i fod ar fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft. Felly, credaf ei bod yn amhosibl ymateb i hynny drwy ddweud y dylai pob cyngor cymuned gael lle ar fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, a dweud y gwir, os ydynt yn cynrychioli pentref bach yn rhywle, ni fydd y capasiti ganddynt i wneud hynny, er y gall fod yn gyngor sy'n gweithio'n dda iawn am bob math o resymau eraill. Felly, credaf y dylem edrych yn ofalus iawn ar y lleoedd y gwyddom y ceir arferion da, a sut bethau yw'r rheini. Ond yn y bôn, rwy'n credu y dylai cyngor cymuned fod yn union hynny—cyngor ar gyfer ei gymuned—a dylem ganiatáu i gymunedau wneud y dewisiadau hynny yn unol â'r ddemocratiaeth leol y dylent allu ei fwynhau.
Wel, roedd yr argymhelliad hwn yn cynnwys cynrychiolydd o gynghorau tref a chymuned, yn hytrach nag o reidrwydd—
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ond mae yna broblemau ynghylch capasiti, a sut rydych yn sicrhau—
Gadewch i'r Aelod orffen ei drydydd cwestiwn. Rydych wedi cynhyrfu yn eich briff gweinidogol newydd, mae'n amlwg.
Mae'n ddrwg gennyf.
Gadewch i Mark Isherwood barhau.
Mae fy mrwdfrydedd yn drech na mi.
Fel y clywsoch gan fwy nag un Aelod yn y Siambr, fis Tachwedd diwethaf, lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu hymgyrch #CefnogiGalw yn y cyfarfod llawn, a chawsant gefnogaeth drawsbleidiol lawn ac unfrydol i, ac rwy'n dyfynnu, fynd â'r frwydr i lawr i'r adran lywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o'r arian cenedlaethol. Mewn llythyr dilynol i Lywodraeth Cymru, dywedodd, ochr yn ochr â'r prif weithredwr, ei bod yn anochel fod yr anghyfartalwch mewn cyllid sy'n seiliedig ar fformiwla yn creu amrywiaeth eang o ran y risgiau ariannol sy'n wynebu cynghorau Cymru, ac mae sir y Fflint ar y pegwn eithaf. Bellach, rwyf wedi cael fy nghopïo i mewn i gyfres o negeseuon e-bost rhwng cynghorwyr o bob plaid—gan gynnwys yr arweinydd—lle y maent yn cynnig dod i lawr yma, fel grŵp trawsbleidiol, er mwyn, ac rwy'n dyfynnu,
Mynd â'n cwynion ynglŷn â'r cyllideb yn uniongyrchol i Gaerdydd.
A dywed yr e-bost gan yr arweinydd y bydd yn ceisio cael cyfarfod â Gweinidogion yn ystod yr ymweliad hwnnw. A ydych yn barod i gyfarfod â chynghorwyr sir y Fflint sy'n dod i yma i drafod, dyfynnaf, eu 'cwynion', a gweld a oes unrhyw fodd o fynd i'r afael â'r rheini gyda'n gilydd?
Mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod pa ddyddiad y maent yn bwriadu dod yma. Os oes modd i mi gyfarfod â hwy, fe wnaf hynny, yn sicr. Fodd bynnag, rwyf newydd ddod o is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru y bore yma lle roedd arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn gyfranogwr. Credaf inni gael sgwrs gyfeillgar a defnyddiol iawn ynglŷn â sut y mae'r fformiwla'n gweithio.
Gofynnais yn benodol a oedd unrhyw rannau o'r fformiwla roedd pobl am ailedrych arnynt. Rydym yn agored iawn i ailedrych ar y fformiwla, cyhyd â bod hynny'n cynhyrchu'r mathau o ganlyniadau y mae llywodraeth leol am eu gweld, sef mecanwaith dosbarthu teg a chyfartal, sy'n lefelu rhywfaint o'r enillwyr a'r collwyr, ac fel y gwyddoch, rydym yn ariannu'r cyllid gwaelodol yn gyfan gwbl ar sail hynny. Aeth y cyfarfod hwnnw'n dda iawn ac ni chafwyd unrhyw sylwadau croes. Bydd yr is-grŵp dosbarthu sy'n gweithio ar y fformiwla yn cyfarfod. Nod y cyfarfod heddiw oedd gallu cymeradwyo'r rhaglen waith ar gyfer yr is-grŵp dosbarthu. Felly, nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'r Aelod yn ei baentio mewn gwirionedd.
Yn amlwg, ceir mater hollol wahanol a chamddealltwriaeth efallai ynghylch maint y pot yn y lle cyntaf sy'n sail i'r fformiwla ddosbarthu. Ac mae maint y pot yn y lle cyntaf, wrth gwrs, yn cael ei bennu gan fesurau cyni Llywodraeth Geidwadol y DU. Felly, ni allwn wneud dim ond dosbarthu'r arian sydd ar gael i ni, ac felly ni chredaf fy mod am dderbyn unrhyw wersi gan yr Aelod gyferbyn ynglŷn â sut i ymdrin â'r gronfa yn ei chyfanrwydd. Ond os yw'n sôn am y mecanwaith dosbarthu, roedd Aaron Shotton yn un o aelodau'r grŵp. Roedd y grŵp yn gyfeillgar, fe'i mynychwyd gan y Dirprwy Weinidog a minnau, a chawsom gyfarfod defnyddiol iawn gyda llywodraeth leol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hagwedd gyfeillgar ac ni chodwyd unrhyw faterion o'r math hwnnw gyda mi.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd. Weinidog, gwelaf fod cynllunio yn rhan o'ch portffolio bellach, ac nid oedd yn rhan o gyfrifoldebau'r adran lywodraeth leol a thai o'r blaen. Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud heddiw ynglŷn â'r ffaith nad ydych ond wedi bod yn y swydd ers chwe wythnos, ond a oes gennych unrhyw syniadau cychwynnol ynglŷn â pha mor dda y mae'r broses gynllunio yn gweithio yng Nghymru?
Y rheswm pam ein bod wedi cyfuno cynllunio yn y portffolio hwn yw am y gallwn ddwyn cymaint o'r dulliau sydd gennym yma yn Llywodraeth Cymru ynghyd i ddatrys rhai o'r problemau endemig sydd gennym, er enghraifft, gydag adeiladu digon o dai neu faterion seilwaith. Edrychaf ymlaen at allu defnyddio'r holl dulliau hynny gyda'i gilydd yn y broses. Ailgyhoeddasom 'Polisi Cynllunio Cymru' ym mis Rhagfyr, felly mae'n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd o ran gweld a yw hwnnw'n gweithio'n effeithiol.
Diolch am egluro rhai o'r rhesymau pam y daethpwyd â'r elfen cynllunio i'r adran. O'm rhan i, yn sicr, credaf fod hynny'n ddefnyddiol, mae'n debyg. Roeddwn bob amser wedi meddwl bod cynllunio'n rhywbeth sy'n rhychwantu sawl adran wahanol. Ond roeddwn bob amser o'r farn y byddai ei gyfuno â thai yn gwneud pethau'n haws o bosibl.
Wrth gwrs, mae angen inni ymateb i'r angen am dai, ond ceir dadl hefyd nad yw'r system gynllunio bob amser yn ymateb i anghenion lleol sy'n mynd i'r cyfeiriad arall, pan fydd gennym benderfyniadau cynllunio o bryd i'w gilydd sydd wedi cael eu gwrthod gan gynghorau lleol, ond sy'n cael eu cymeradwyo wedyn wrth i'r arolygydd cynllunio farnu'n erbyn hynny. Nawr, yn amlwg, nid wyf am sôn am unrhyw achos penodol, gan na fyddai modd i chi roi sylwadau arnynt, ond a ydych yn credu bod dadl ddilys i'w chael nad yw cynllunio'n ddigon ymatebol i anghenion lleol?
Mae'r system gynllunio'n gymhleth iawn, ac mae ei natur led-farnwrol yn ei gwneud hi'n anodd iawn rhoi sylwadau ar achosion penodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn mai'r awdurdod lleol sy'n pennu'r cynllun datblygu lleol ar lefel awdurdod lleol, a thrwy'r cynllun hwnnw, gallant roi ystyriaeth lawn i ddymuniadau democrataidd y bobl maent yn eu cynrychioli wrth nodi anghenion gofodol eu hardal, gyda set o reolau cynllunio, sy'n cynnwys 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhan ohonynt, ond set o reolau cynllunio sy'n deillio o Ddeddfau cynllunio amrywiol ar lefel y DU, yn ogystal ag ar lefel Cymru.
Mae gennym system alw ceisiadau i mewn i Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio, gan ein bod yn rhoi ystyriaeth farnwrol ofalus iawn i ba un a yw'r meini prawf penodol iawn ar gyfer galw ceisiadau i mewn yn gweithio ai peidio. A phan fydd rhywbeth yn cael ei alw i mewn, caiff ei drosglwyddo i arolygwyr proffesiynol fel y gallant ffurfio barn ar ran y Llywodraeth. Credaf fod hynny'n gweithio'n iawn. Credaf fod materion yn codi mewn perthynas â chapasiti weithiau, a chyflymder y broses, ond nid wyf yn gweld unrhyw reswm dros gael gwared ar y rhan gyfreithiol o hynny. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn fod y rhannau sy'n ymwneud â pholisi'n rhyngweithio'n gywir â hynny, a'n bod yn gosod yr agenda bolisi'n briodol fel y gall y system led-farnwrol weithio'n iawn o fewn hynny.
Diolch am eich asesiad ynglŷn â'r modd y mae hynny'n gweithio gyda'r system alw i mewn. Rwy'n falch eich bod wedi rhoi eich barn ar hynny. Beth am y cwestiwn ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r cynlluniau datblygu lleol fel mesur ar gyfer pennu anghenion lleol, gan fod system y cynlluniau datblygu lleol ei hun wedi bod o dan y lach dros y blynyddoedd diwethaf?
Credaf mai'r broblem gyda chynlluniau datblygu lleol, weithiau, yw capasiti a chyflymder awdurdodau lleol yn eu llunio. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod ganddynt yr arbenigedd i roi cynlluniau datblygu lleol ar waith. Mae'n rhywbeth rydym yn ei arolygu bob amser mewn perthynas â'r capasiti i wneud hynny a'r ffordd y mae gennym gytundebau ag awdurdodau lleol ynglŷn â'r amserlen ar gyfer gwneud hynny.
Yn bersonol, credaf fod lle i wella'r cyswllt rhyngom ac awdurdodau lleol o ran sut y maent yn strwythuro eu cynlluniau datblygu lleol a pha ddarpariaeth y gallwn ei chynnig i'w helpu i gyflymu rhai o'r prosesau hynny, gan y bydd awdurdod lleol nad oes ganddo gynllun datblygu lleol ar waith yn wynebu problemau gwirioneddol wrth reoli ei swyddogaethau rheoli datblygu a gallu gwrthsefyll ceisiadau cynllunio nad ydynt yn rhan o'i gynllun. Felly, nid yw peidio â chael cynllun yn gynllun da—mae'n ddrwg gennyf, mae hynny i'w weld yn gwbl amlwg—ond nid yw'n gynllun da, a chredaf y gallem weithio'n well gyda'n hawdurdodau lleol er mwyn cyflymu'r broses honno.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ53242
Gwnaf. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir y byddwn yn cadw'r 22 awdurdod lleol sydd gennym yng Nghymru. Os bydd cynigion uno gwirfoddol yn cael eu cyflwyno, byddwn yn gweithredu i'w cefnogi.
Diolch, Weinidog. Mae'n dra hysbys fod gan eich rhagflaenydd berthynas heriol weithiau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth leol yn gyffredinol. Yn wir, dyfynnir eich cynghorydd arbennig yn y newyddion yn dweud bod y Gweinidog blaenorol yn dibynnu ar ffeithiau amgen yn aml iawn ar gyfer seilio ei benderfyniadau ynghylch llunio polisi. A allwch gadarnhau na fyddwch yn dibynnu ar ffeithiau amgen ac y byddwch yn seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sydd er budd gorau cymunedau ledled Cymru a bod sicrwydd i lywodraeth leol yn un o'r prif bethau sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau y maent yn gyfrifol am eu darparu?
Gallaf, nid yw'n arfer gennyf ddibynnu ar ffeithiau amgen, felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf ar unrhyw frys i ddechrau gwneud hynny. Rwy'n gefnogwr hirdymor i lywodraeth leol. Gŵyr Aelodau yn y Siambr fy mod wedi treulio rhan fawr iawn o fy ngyrfa mewn llywodraeth leol. Credaf eu bod yn gwneud gwaith da mewn amgylchiadau cyfyngedig. Mae arnynt angen help a chymorth, ac weithiau, gallent gydweithio'n well, ac weithiau, rydym wedi peri problemau iddynt o ran y ffordd rydym wedi eu gorfodi i gydweithredu. Rwy'n falch iawn fy mod yn gweithio gyda gweithgor o lywodraeth leol, i ystyried sut y gallwn wneud y gorau o dalent gyfunol llywodraeth leol er mwyn sicrhau'r effaith orau ar gyfer pobl Cymru. Ond yn gyffredinol, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i lywodraeth leol, ac rwy'n bwriadu parhau i fod.
Yn amlwg, mae'r sôn parhaus am ad-drefnu yn arwain at ansicrwydd ac atal datblygu. Beth y bwriadwch ei wneud yn wahanol i'ch rhagflaenwyr yn y swydd hon er mwyn newid hynny?
Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da iawn y bore yma gyda'r is-bwyllgor cyllid, i sôn am y fformiwla ariannu. Byddaf yn cyfarfod â CLlLC ddydd Gwener. Mae gennym weithgor, a gadeirir gan Derek Vaughan, yn edrych ar y ffordd y gwnawn waith rhanbarthol gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at gael perthynas dda a chynhyrchiol gydag awdurdodau lleol yn gyffredinol.
[Anghlywadwy.]—gyda chi mewn llywodraeth leol. A yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd uno cynghorau'n hynod o gostus, ac yn mynd ag arian o'r gwasanaethau rheng flaen, gan gofio mai'r unig gyngor sydd wedi methu ym Mhrydain yw Swydd Northampton, gyda phoblogaeth sydd dros deirgwaith poblogaeth cyngor Caerdydd? Pan fydd pobl yn sôn am uno, rwyf bob amser yn meddwl am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ni chredaf y gellir cael un ateb sy'n addas i bawb. Ceir enghreifftiau da iawn ledled Prydain ac ar draws y byd o awdurdodau lleol bach a mawr sy'n gweithio'n effeithiol iawn. Mae a wnelo hyn â harneisio adnoddau lleol i bobl leol a harneisio pŵer penderfyniadau democrataidd lleol er mwyn gwneud hynny. Felly, yn fy marn i, os byddai dau awdurdod lleol o'r farn y byddent yn gweithio'n well fel un awdurdod, ni fuaswn yn ceisio atal hynny, ac os ydynt o'r farn y byddai'n well ganddynt gydweithredu'n rhanbarthol a gwneud rhai pethau'n unigol, buaswn yn edrych i weld beth y gallem ei wneud i hwyluso trefniadau gwaith o'r fath.
Weinidog, a ydych yn derbyn nad oes angen 22 awdurdod lleol ar wahân ar Gymru a bod ymdrechion Gweinidogion blaenorol i ddatrys y broblem heb ad-drefnu llywodraeth leol wedi arwain at wastraff sylweddol a biwrocratiaeth?
Ddydd Llun, cyfarfûm â grŵp o benaethiaid o fy rhanbarth i drafod yr argyfwng ariannu mewn addysg, ac roedd un o'u prif bryderon yn ymwneud â'r haen ychwanegol o lywodraethu a ychwanegir gan y consortia rhanbarthol a'r gwastraff a gyflwynwyd yn sgil hynny. Weinidog, a ydych yn cytuno gyda chomisiwn Williams y byddai Cymru'n cael ei gwasanaethu'n well gan nifer llai o gynghorau mwy o faint, gan gael gwared ar yr angen am gonsortia rhanbarthol?
Na, nid wyf yn cytuno, a chredaf fy mod wedi dweud yn glir iawn nad wyf yn cytuno. Ni chredaf fod yna un ateb sy'n addas i bawb o gwbl. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i gytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol lle rydym yn sicrhau bod yr arbenigedd sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r effaith orau ar gyfer pobl Cymru. Weithiau, bydd yr arbenigedd hwnnw i'w gael mewn un awdurdod a bydd angen ei rannu ag un arall. Ar adegau eraill, efallai y bydd yn cael ei ledaenu. Fel y dywedaf, nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw llunio gweledigaeth a rennir rhyngom, cytuno ar y trefniadau gweithio a glynu atynt. Yr hyn nad yw'n ddefnyddiol yw pan fo gennym drefniadau rhanbarthol a bod pobl yn ceisio eu tanseilio drwy'r amser, ac felly ni ellir dibynnu arnynt. Dibynadwyedd a sicrwydd, fel y nododd Dai Lloyd, yw'r pethau sy'n hollbwysig ar gyfer gweinyddu lleol da, ac rwy'n bwriadu sicrhau y gallwn fwrw ymlaen ar y cyd â llywodraeth leol i sicrhau bod gennym hynny.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellir gwella'r broses gynllunio er mwyn cynnal gwell asesiad o'r effaith gronnol a gaiff ceisiadau datblygu aml-breswyl yn yr un ardal? OAQ53237
Gwnaf, yn wir. Mae cynlluniau datblygu lleol cyfredol yn darparu'r cyd-destun lleol er mwyn asesu effaith gronnol ceisiadau datblygu preswyl lluosog yn yr un ardal. Dylai cynlluniau datblygu lleol sicrhau bod digon o dir ar gael mewn lleoliadau priodol a chynaliadwy i ddiwallu'r angen rhagamcanol am dai a nodwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac a gaf fi hefyd groesawu'r newid ym mholisi'r Llywodraeth tuag at ddull mwy gofodol o gynllunio? Ond yn fy etholaeth i, yn Llanilltud Faerdref, mae gennym dri chais cynllunio preswyl sylweddol o fewn radiws o 700m. Mae pob un ar wahanol gamau yn y broses gynllunio, ac nid wyf yn gofyn ichi wneud sylwadau arnynt—y rhai yn Ystrad Barwig, fferm Cwm Isaf a chomin Tynant—ond yr hyn a wyddom yw bod y seilwaith priffyrdd o dan bwysau sylweddol, a dywed meddygon teulu lleol wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal gwasanaeth da i gleifion cyfredol. Mae angen tai ar bobl, ond a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r broses gynllunio roi mwy o bwyslais ar effaith gronnol datblygiadau cyfagos ar les pobl a mynediad at wasanaethau allweddol?
Ydw. Dylai cynllun datblygu lleol da gynllunio nid yn unig ar gyfer ei angen am dai, ond ar gyfer yr anghenion seilwaith sy'n gysylltiedig â'r angen am dai. Yn amlwg, golyga hynny amrywiaeth o wasanaethau, fel y gwyddoch, o seilwaith priffyrdd arferol, i gysylltedd digidol, i fynediad at feddygon teulu ac ysgolion, gwasanaethau bws lleol, trafnidiaeth gynaliadwy, ac ati. Mae'n ddarlun cymhleth iawn. Dylai pob lle fod yn cynllunio i sicrhau bod eu lle wedi'i wasanaethu'n briodol gan ei gynllun, a chredaf y dylai cynghorau fod yn uchelgeisiol iawn ac yn arloesol wrth bennu eu gofynion ar gyfer y datblygwyr drwy'r cytundebau amrywiol a wnânt drwy'r broses gynllunio—cytundebau adran 106, er enghraifft, neu'r cytundebau Deddf Priffyrdd, ac ati—er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r boblogaeth leol yn sgil datblygiadau penodol ac i sicrhau nad ydynt yn crynhoi popeth mewn un ardal ar draul gwasanaethau eraill. Yn wir, dyna ddiben y cynllun datblygu lleol—mynd drwy gam ymchwiliad lle y caiff y bobl leol ddweud eu dweud yn y ffordd honno. Ac rwy'n falch iawn fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi canolbwyntio ar greu lleoedd ac wedi sicrhau bod hynny wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol, gan y credaf fod hynny'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ffordd rydym am symud Cymru ymlaen i'r dyfodol.
Mae gennyf sefyllfa debyg, Weinidog, yn fy etholaeth i, yn nhref Abergele, lle mae cannoedd ar gannoedd o gartrefi newydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr ardal honno fel rhan o'r cynllun datblygu lleol. Ac mae Abergele, fel y gŵyr y Gweinidog o bosibl, nid nepell o Fodelwyddan, sydd yn yr awdurdod lleol cyfagos, lle y cynlluniwyd cwpl o filoedd o gartrefi newydd. Felly, o fewn yr ardal fach honno, mae oddeutu 3,000 o gartrefi newydd wedi'u hargymell, ac eto, rydym eisoes mewn sefyllfa lle mae ein seilwaith yn gwegian, ceir tagfeydd traffig yn aml yn Abergele, mae'r ysgolion eisoes yn orlawn—yr ysgolion cynradd—ac yn wir, mae gennym broblemau gyda'n gwasanaeth iechyd a gallu pobl i gael mynediad at feddygon teulu hefyd.
Nawr, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywedoch ynglŷn â'r cyfrifoldebau sydd gan awdurdodau lleol, ond beth rydych yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru pan fo awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau anghyfrifol heb boeni dim, weithiau, am anghenion trafnidiaeth ac anghenion seilwaith eraill yn eu cymunedau, ac yn eu gwaethygu o bosibl drwy roi caniatâd i ddatblygiadau tai sylweddol? Yn ychwanegol at hynny, pa ganllawiau rydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried cynlluniau datblygu lleol mewn ardaloedd awdurdod lleol cyfagos, oherwydd wrth gwrs, mae Bodelwyddan yn sir Ddinbych, ac Abergele yng Nghonwy?
Hoffwn ddweud yn glir ar unwaith na fyddaf yn rhoi sylwadau ar unrhyw achosion penodol, ac nid yw fy sylwadau yn cyfeirio at y datblygiad penodol a grybwyllwyd gan yr Aelod—felly, rwy'n siarad yn gyffredinol. Mae gennym ddarpariaethau drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 i alluogi awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynlluniau datblygu strategol, ac felly i weithio'n fwy rhanbarthol. Rydym yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud hynny am yr union reswm a nodwyd gan yr Aelod, er mwyn gwella cynllunio gofodol ar draws ffiniau awdurdodau lleol.
Rydym yn gweithio i baratoi ein fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf i ddarparu cyd-destun cenedlaethol ar gyfer hynny, a chefais gyfarfod defnyddiol y bore yma gyda'r swyddogion sy'n cefnogi comisiwn seilwaith Cymru ynglŷn â sut y gallant gymryd rhan mewn peth o'r cynllunio cenedlaethol hwnnw.
Rwy'n gobeithio y gallwn roi'r cynllun datblygu strategol cyntaf ar waith i lawr yn ne-ddwyrain Cymru y gwanwyn hwn, cyn bo hir, ac rwy'n gobeithio sicrhau bod y system honno wedi'i lledaenu ledled Cymru fel y gallwn ystyried materion trawsffiniol yn briodol.
Ond yn y cynllun datblygu lleol ac wrth ddatblygu'r cynllun datblygu lleol, wrth gwrs, mae'n briodol ystyried lle mae datblygiadau'n mynd rhagddynt ar hyd y ffiniau ac mewn mannau eraill, yn ogystal â mapio'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau eraill ac ati, er mwyn sicrhau bod y bobl sydd wrth wraidd y broses ddemocrataidd leol ac sy'n rhoi'r cynllun datblygu lleol ar waith yn ganolog yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Os nad yw'r broses yn ymwneud â'r bobl a fydd yn byw gyda hi, beth yw ei phwrpas? Dylai'r cynlluniau gadw mewn cof, ar bob adeg, mai pobl sydd wrth wraidd y broses.
Ond mae problem fwy sylfaenol byth yma, wrth gwrs: beth yw'r angen lleol am dai? Mae eich Llywodraeth wedi dweud wrth awdurdodau lleol yn awr fod eich amcanestyniadau ar gyfer y boblogaeth wedi dyddio, a dyna oedd yn sail, wrth gwrs, i'r cynlluniau datblygu lleol y mae pobl yn pryderu amdanynt, ac rydym wedi gweld tir ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai ac angen nad yw'n bodoli, yn amlwg. Felly, a wnewch chi dderbyn bod hynny'n anghywir? Ac a wnewch chi hefyd, felly, gyfarwyddo eich swyddogion i ganiatáu i gynghorau ddad-ddyrannu safleoedd tir glas er mwyn diogelu ein hamgylchedd a'n cymunedau?
Nid oes gennyf ddarlun o Gymru yn fy meddwl mewn perthynas â'r amcanestyniadau poblogaeth gwahanol, felly ni allaf sôn am achosion penodol, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr amcanestyniadau cywir ar waith gennym, a'n bod yn ymateb i'r angen yn y mannau cywir.
Rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod maint y datblygiadau'n gywir ac yn gymesur â'r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Felly, yr hyn rydym am ei wneud, fel y dywedais, yw annog datblygwyr bach eu maint ledled Cymru i ddarparu safleoedd bach sy'n addas i'r angen lleol heb orfod cael dyraniadau mawr. Ac nid yw hynny'n feirniadaeth o unrhyw gyngor; fel y dywedaf, rwy'n siarad yn gyffredinol. Ond rwy'n gobeithio ailedrych ar ein hamcanestyniadau, o ran y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac o ran angen amcanestynedig, er mwyn gweld i ble y gallwn fynd.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch cynaliadwyedd y fformiwla ariannu llywodraeth leol? OAQ53240
Wel, yn wir, cyfarfu'r Gweinidog Cyllid a minnau â llywodraeth leol yng nghyfarfod yr is-grŵp cyllid y bore yma i drafod materion cyllid, a chynaliadwyedd y fformiwla ariannu llywodraeth leol oedd y prif bwnc. Felly, mae'r ddau ohonom newydd fod yn y cyfarfod hwnnw.
Mae'n rhaid fod adlais yn y Siambr hon—gwn eich bod wedi trafod hyn yn drylwyr gyda fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn gynharach. Roedd hwn yn gwestiwn a ofynnwyd yn rheolaidd gennyf fi a'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders i'ch rhagflaenydd, Alun Davies, pan oedd yn y rôl llywodraeth leol, ac rwy'n falch ein bod wedi ailgychwyn pethau heddiw ar y mater pwysig hwn. Nawr, deallaf fod peth anghytuno yma, a bod Llywodraeth Cymru yn credu y gall y fformiwla ariannu barhau ar ei ffurf bresennol. Felly, a gaf fi ofyn mewn ysbryd o onestrwydd i chi barhau â'r trafodaethau hynny gyda'r Gweinidog Cyllid, ac yn wir, gyda llywodraeth leol? Ac er y gwn, bob blwyddyn, fod CLlLC yn cytuno i'r fformiwla ariannu ar ryw ffurf neu'i gilydd, credaf fod lle o fewn y fformiwla i wneud mân addasiadau, os mynnwch, a cheisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael bargen ychydig yn well. Rwy'n meddwl yn benodol am yr awdurdodau hynny mewn ardaloedd gwledig sy'n gyfrifol am ardal wledig fawr ac sydd weithiau'n teimlo nad ydynt yn cael y lefel o gymorth a fyddai'n eu helpu i ddarparu gwasanaethau yn yr ardaloedd gwledig mawr hynny.
Cawsom drafodaeth lawn ynglŷn â'r ffordd y mae'r fformiwla'n gweithio ac unrhyw broblemau a oedd gan unrhyw un yn yr ystafell gyda hi, a gofynnais am awgrymiadau gan yr arweinwyr llywodraeth leol yn yr ystafell, ac yn wir, gan y gymuned lywodraeth leol ehangach ynglŷn ag unrhyw newidiadau i'r fformiwla a allai fod yn rhywbeth y gallai pob un ohonom ei gefnogi. Felly, rwy'n agored iawn i hynny. Mae'n rhaid imi ddweud nad oes unrhyw beth wedi'i gyflwyno eto sy'n newid y fformiwla yn sylweddol. Fel y gwyddoch, rhoesom gyllid gwaelodol ar waith er mwyn diogelu cynghorau yr effeithir arnynt yn arbennig gan newidiadau sydyn yn y ffordd y mae'r dosbarthu'n gweithio—felly, gan newid yn y boblogaeth, er enghraifft, neu wahaniaethau mawr o ran darpariaeth prydau ysgol am ddim, ac yn y blaen. Ond cawsom drafodaeth dda iawn y bore yma, ac fel y dywedais mewn sylwadau cynharach, nid wyf yn ymwybodol o beth yw'r anghytundeb. Yn sicr, ni chafwyd unrhyw anghytuno yn yr ystafell y bore yma.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyfaill ar draws y Siambr, Nick Ramsay, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Ac rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi eistedd y bore yma gyda'r Gweinidog Cyllid i drafod y mater pwysig hwn, sy'n cael ei ddwyn i fy sylw ar bob achlysur bron pan fyddaf yn cyfarfod ag aelodau o lywodraeth leol yng ngogledd Cymru. Mae hon, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r ffordd y bydd cynghorau lleol yn cael eu hadnoddau i ariannu'r gwasanaethau lleol pwysig y mae pobl yn eu haeddu'n ddyddiol, ac wrth gwrs mae pawb ohonom yn dioddef ar hyn o bryd yn sgil polisi cyni'r DU a osodwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd. Nawr, gan gofio nad Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla, ond yn hytrach ei bod yn cael ei gosod ar sail cyngor arbenigol a'i chytuno â llywodraeth leol, a fyddai'r Gweinidog yn hoffi gweld Aelodau o'r Cynulliad o ogledd Cymru yn mynd ati i wneud gwaith ymchwil ar effeithiolrwydd a thegwch y fformiwla bresennol?
Buaswn. Fel y dywedais, rwy'n agored iawn i unrhyw awgrym i newid y fformiwla ariannu bresennol y gellir ei gytuno drwy'r grŵp llywodraeth leol. Mae'n bendant yn rhywbeth rydym yn dod i gytundeb â llywodraeth leol yn ei gylch. Roeddem yn awyddus iawn i fod yn rhywbeth y mae llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd yn gallu ei gefnogi a rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi hefyd. Felly, rwy'n bendant yn croesawu unrhyw awgrymiadau neu unrhyw ymchwil sy'n dangos ffordd wahanol o'i wneud.
6. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno i gynyddu'r amrywiaeth o gynghorwyr lleol? OAQ53228
Bydd y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y ffordd yn cyflwyno nifer o fesurau i hyrwyddo amrywiaeth, megis galluogi aelodau gweithredol i rannu swyddi.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae pobl ag anableddau yn debygol o wynebu mwy o gostau wrth iddynt geisio am swyddi etholedig oherwydd eu hanableddau. Y mis diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU gronfa dros dro i helpu gyda'r costau sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn annog a chynorthwyo pobl i sefyll mewn etholiadau. Bydd y gronfa EnAble ar gyfer swyddi etholedig yn rhedeg tan 2020 a bydd yn darparu ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau lleol ac etholiadau comisiynwyr yr heddlu yn Lloegr. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru er mwyn galluogi rhagor o bobl ag anableddau i sefyll etholiadau ar gyfer cynrychioli eu cymunedau yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Rydym ar fin cyflwyno'r Bil llywodraeth leol ac etholiadau i'r Cynulliad, ac mae gan y Llywydd ddiddordeb mawr, rwy'n gwybod, yn yr un ar gyfer y Cynulliad. Byddem yn hapus iawn i gael trafodaethau ynglŷn ag unrhyw gynllun sy'n galluogi amrywiaeth ehangach o Aelodau i gamu ymlaen, o ble bynnag y daw cynllun o'r fath, ac fel rhan o'r trafodaethau wrth i ni dywys y Bil drwy ei gyfnodau pwyllgor, buaswn yn fwy na bodlon ymgysylltu â'r Aelod ynghylch unrhyw ddarpariaethau eraill a allai wneud hynny yn ei farn ef.
7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod polisïau gosod tai cymdeithasol awdurdodau lleol a phartneriaethau tai ar draws Cymru yn addas i bwrpas? OAQ53259
Mewn byd lle mae'r galw am dai cymdeithasol yn llawer uwch na'r cyflenwad, mae'n hanfodol fod polisïau gosod tai yn adlewyrchu dull teg a strategol o ddiwallu anghenion tai. Mae gan bartneriaethau tai lleol gyfrifoldeb i wneud y defnydd gorau o'r tai cymdeithasol sydd ar gael a darparu'r dewis ehangaf o lety i'r rhai sy'n ei geisio.
Mae’r broses o gofrestru ar gyfer tŷ cymdeithasol yn gallu bod yn gymhleth, ac unwaith mae’r unigolion ar y rhestr, yn aml mae’r system sy'n cael ei defnyddio i benderfynu pwy sydd yn cael pa dŷ yn gallu arwain at ganlyniadau sydd yn annheg. Mae Cyngor Gwynedd newydd gychwyn ymgynghoriad ac yn ystyried newid o system bwyntiau i system fandio, a fydd yn rhoi ystyriaeth i angen, ond hefyd ystyriaeth i gysylltiadau lleol y darpar denantiaid. Ydych chi’n credu bod angen creu systemau dynodi tai cymdeithasol sydd yn fwy addas i bwrpas, a hynny ar draws Cymru?
Mae gennyf ddiddordeb mawr yn system bandio Gwynedd. Rwy'n credu eu bod wrthi'n ymgynghori ac yn treialu a bod penderfyniad i'w wneud ym mis Ebrill. Byddwn yn edrych yn ofalus iawn i weld sut y mae'n gweithio. Yn amlwg, rydym eisiau gweld pobl sydd ag angen blaenoriaethol yn cael llety, ond mae a wnelo system Gwynedd â galluogi pobl leol i gael llety'n lleol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld ble y gallwn gael y cydbwysedd cywir rhwng annog pobl leol i aros yn lleol a sicrhau bod anghenion blaenoriaethol pobl yn cael eu diwallu. Yn aml iawn, mae gan bobl angen go iawn i fod yn y gymuned y maent yn teimlo'n rhan ohoni. Felly, mae'n ymwneud â'r cydbwysedd. Rwy'n awyddus iawn i weld sut y mae Gwynedd yn datrys hynny a gweld beth y gallwn ei wneud o ran edrych ar hynny ar draws Cymru.
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch y setliad ariannol ar gyfer llywodraeth Leol? OAQ53265
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaeth eto. Nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd penodol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot. Rwy'n dechrau ar y daith weinidogol o Gymru sy'n arferol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fyddwch yn cael eich rhoi yn y portffolio hwn. Felly, dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddaf yn cael cyfarfodydd unigol â phob awdurdod lleol yng Nghymru, ac rwy'n mynychu cyfarfod o CLlLC ddydd Gwener, lle byddaf yn gallu siarad â grŵp o arweinwyr awdurdodau lleol. Wrth gwrs, rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr cyngor Castell-nedd Port Talbot ar nifer o achlysuron, ond nid yn y portffolio hwn hyd yma.
Edrychaf ymlaen at yr adeg y byddwch yn eu cyfarfod ac yn codi'r materion, ac yn ceisio eu cynorthwyo cymaint â phosibl, oherwydd mae'n amlwg fod cyngor Castell Nedd Port Talbot fel pob cyngor arall yng Nghymru, yn wynebu cyfnod heriol oherwydd ideoleg cyni a gaiff ei llywio gan San Steffan. Ond wrth wneud hynny, maent yn amlwg yn edrych yn ofalus iawn ar sut y maent yn rheoli eu mantolen yn y banc a'u cyllid, yn enwedig y cyllidebau.
Weinidog, hefyd, ar ben y grant cynnal refeniw, gwelwn grantiau'n cael eu dyrannu i awdurdodau lleol. Nawr, pan gyfarfûm â'r awdurdod lleol cyn y Nadolig, yn yr ardal ar adeg y gyllideb, dywedwyd wrthym, mewn gwirionedd, fod rhai o'r grantiau hynny ymhell o gael eu talu ar amser; roedd oddeutu chwe mis, naw mis o oedi cyn eu talu. Roedd hynny'n achosi anawsterau i awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau. A wnewch chi sicrhau bod unrhyw grantiau a ddyrennir—a gwn fod rhai'n cael eu rhoi i mewn i'r grant cynnal refeniw, ac mae hynny wedi'i groesawu—yn cael eu talu ar amser fel y gall yr awdurdodau ddarparu a sicrhau nad ydynt yn cael eu dal am gyllid?
Wel, wrth gwrs ein nod bob amser yw talu grantiau'n unol ag amodau'r grant. Os dymuna'r Aelod ddwyn unrhyw enghreifftiau penodol i sylw, rwy'n hapus i edrych ar hynny. Byddaf yn ceisio gweithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Weinidogion sydd â phortffolios llywodraeth leol â gwariant mawr—maent yn amlwg iawn: mae gan y cyd-Weinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac addysg ac ati bortffolios ag iddynt wariant mawr yng nghyswllt llywodraeth leol—i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno darlun mor glir ac agored ag y bo modd i lywodraeth leol, o ystyried yr anawsterau y maent yn eu cael gydag agenda cyni. Mae'n amlwg fod angen iddynt allu cynllunio eu gwariant mor fedrus ag y gallwn wneud iddynt ei wneud.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau amserol, ond ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol yr wythnos yma.
Felly, y datganiadau 90 eiliad, a’r datganiad cyntaf heddiw gan David Rowlands.
Ar 10 Ionawr 1879, croesodd tair colofn o filwyr Prydeinig yr afon Buffalo i mewn i Wlad y Zwlw, De Affrica, gan adael tua 1,800 o filwyr o 24ain Gatrawd y Milwyr Traed yn y gwersyll yn Isandlwana. Ar 22 Ionawr, amgylchynodd tua 20,000 o luoedd Brenin Gwlad y Zwlw, Cetshwayo, y gwersyll Prydeinig. Arweiniodd y frwydr a ddilynodd at un o'r gorchfygiadau gwaethaf a gofnodwyd erioed gan y fyddin Brydeinig. Lladdwyd dros 1,300 o amddiffynwyr y gwersyll.
Gyda'r nos ar 22 Ionawr, disgynnodd tua 3,000 o ryfelwyr Zwlw, yn ffres o'r gyflafan yn Isandlwana, ar Rorke's Drift, a gâi ei amddiffyn gan lu o 140 o ddynion yn unig, yn cynnwys milwyr o'r 24ain Gatrawd o Filwyr Traed, Cyffinwyr De Cymru. Parhaodd y frwydr a ddilynodd drwy'r nos ac i mewn i'r 23 Ionawr. Roedd digwyddiadau'r noson honno a'r diwrnod wedyn yn mynd i fod yn un o funudau gwychaf y Fyddin Brydeinig. Yn erbyn pob disgwyl, gwrthsafodd y garsiwn yn Rorke's Drift ymosodiad ar ôl ymosodiad gan rai o ymladdwyr brodorol mwyaf ffyrnig a dewr Affrica gyfan.
Daeth yr ymladd i ben pan alwodd y Tywysog Zwlw, Dabulamanzi, mewn arddangosiad o drugaredd mawr ac i gydnabod dewrder ei gydryfelwyr, ar ei filwyr i roi'r gorau i ymladd, saliwtiodd y garsiwn a thynnodd yn ôl. Yn dilyn hynny, dyfarnwyd 11 croes Victoria am amddiffyn Rorke's Drift mor ddewr, y nifer uchaf o groesau Victoria a roddwyd erioed mewn un frwydr. Ar y diwrnod hwn, gant a deugain o flynyddoedd ers y frwydr honno, mae'n briodol ein bod yn cofio'r rhai ar y ddwy ochr a ddangosodd ddewrder mor eithriadol.
Yr wythnos hon, yn arwain at Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2019, cefais y fraint o ymuno ag aelodau'r gymuned ym Merthyr Tudful a ddaeth at ei gilydd i nodi cwblhau Gardd Cofio'r Holocost yng nghefn Llyfrgell Merthyr Tudful. Mae'n un enghraifft fach ond pwysig o sut y gall cymuned, gan ddechrau gyda grant gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yna drwy gymorth nifer o grwpiau lleol o wirfoddolwyr, fod yn rhan o ymdrech ryngwladol i gofio, ymchwilio ac addysgu am Holocost.
Eleni, byddwn yn myfyrio ar thema Diwrnod Cofio'r Holocost, rhwygo o'u cartref, yr heriau o gael eich rhwygo o'ch cartref yn wyneb rhyfel, gwrthdaro ac erledigaeth a'r dyhead sylfaenol am fywyd gwell a mwy diogel. Eleni hefyd, ni allaf helpu ond ychwanegu nodyn personol i'r cofio, a minnau newydd ddychwelyd o ymweliad ag Auschwitz-Birkenau. Ni ddylem byth anghofio erchyllterau'r Holocost a dylem ddefnyddio'r amser hwn i fyfyrio ar yr amodau a ganiataodd i weithredoedd barbaraidd o'r fath ddigwydd—nid erledigaeth Natsïaidd yn unig, ond hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Mae fy ymweliad diweddar wedi atgyfnerthu gwerth pob un o'n gweithredoedd cofio, boed ym Merthyr Tudful, neu yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwnaethom wrth gynnau cannwyll ar risiau'r Senedd amser cinio heddiw, neu ar draws ein gwlad. Yn yr adeg anodd hon, gadewch i bob un ohonom fyfyrio ar ein geiriau, ein meddyliau a'n gweithredoedd, a gadewch inni gofio'r rhai a rwygwyd o'u cartrefi ac addo unwaith eto y gwnawn ni chwarae ein rhan yn cynnal yr amodau a fydd yn sicrhau nad ailadroddir erchyllterau'r Holocost.
Yr eitem nesaf yw cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn. Dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6940 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Darren Millar AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2018 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i geisio cytundeb y Cynulliad i ganiatáu i mi gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn.
Fel cenedl, gallwn fod yn falch iawn fod llawer ohonom yn byw'n hwy ac yn iachach yn ein henaint nag erioed o'r blaen. A gallwn fod yn falch o'r hanes rhagorol sydd gennym yn cefnogi ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Ni oedd y genedl gyntaf yn y byd i benodi comisiynydd pobl hŷn, y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phobl hŷn mewn cyfraith ddomestig, a'r gyntaf i sefydlu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Heddiw, mae cyfle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unwaith eto, i arwain y ffordd drwy gefnogi cynigion ar gyfer Bil hawliau pobl hŷn.
Ni sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU—mae un o bob pedwar o'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru dros 60 oed—a bydd y cynnydd demograffig hwnnw'n parhau. Erbyn 2030, amcangyfrifa Cynghrair Henoed Cymru y bydd nifer y bobl hŷn dros 65 oed sy'n byw yng Nghymru yn gweld cynnydd o fwy na thraean. Ac o ran y bobl dros 85 oed, mae eu nifer yn mynd i gynyddu 80 y cant, sy'n syfrdanol. Nawr, mae rhai wedi cwyno bod cynnydd o'r fath yn nifer y bobl hŷn yn rhoi baich ar gymdeithas, ac eto nid yw'r bobl hyn byth yn sôn am y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n gwlad. Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn amcangyfrif bod pobl dros 65 oed yn cyfrannu dros £1 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru, ac mae hwnnw'n swm net o'r costau pensiwn, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Cynghrair Henoed Cymru wedi awgrymu bod gwerth y gofal plant a ddarperir gan neiniau a theidiau yng Nghymru dros £0.25 biliwn y flwyddyn, ac amcangyfrifir bod gwerth eu gwaith gwirfoddol fymryn yn is na £0.5 biliwn. Eto, er gwaethaf y cyfraniad enfawr hwn, mae'n wir dweud y gall rhai o'n pobl hŷn fod angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, o'i gymharu â gweddill y boblogaeth.
Mae llawer ohonynt yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml; gallant fod yn fwy dibynnol ar ofal eraill a gallant fod—ac maent, yn aml—yn destun gwahaniaethu ar sail oedran. Gall pobl hŷn gael eu heffeithio'n anghymesur yn sgil cau cyfleusterau megis toiledau cyhoeddus, banciau, llyfrgelloedd, swyddfeydd post, ysbytai neu ddiddymu trafnidiaeth gyhoeddus megis gwasanaethau bysiau. Ac ar adeg pan fo mwy a mwy o wasanaethau allweddol ond ar gael ar-lein yn unig, rhaid inni gofio nad yw dros hanner yr oedolion sydd dros 75 oed erioed wedi defnyddio'r rhyngrwyd. Gall hyn oll wneud pobl hŷn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o golli eu hannibyniaeth, ac felly maent yn wynebu mwy o risg y caiff eu hawliau eu tramgwyddo.
Mae llawer o bobl hŷn yn ofalwyr ac o'i gymharu â gweddill y DU, mae gan Gymru nifer uwch o ofalwyr hŷn sy'n aml yn llai iach eu hunain. Mae byw gyda salwch neu anabledd hirdymor yn heriol ar y gorau, ond yn fwy felly pan fo gennych gyfrifoldeb gofalu. Ond mae llawer o bobl hŷn heb neb gerllaw i'w cefnogi. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn, ac mae'n drasig fod tua 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud, yn ôl Age Cymru—ac rwy'n dyfynnu—eu bod 'bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig'. Mae pobl unig yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael, o fod yn agored i niwed, ac o gael eu hawliau wedi'u tramgwyddo.
Mae ymchwil wedi dangos hefyd mai yng Nghymru y ceir y gyfradd uchaf o achosion o gam-drin yr henoed yn y DU. Gwelodd Action on Elder Abuse fod 12.5 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru wedi dioddef cam-drin, sef bron i 100,000 o bobl y flwyddyn, ond nid yw'r system bresennol yn nodi achosion o gam-drin yn ddigonol, ac yn aml nid yw dioddefwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ddigon i allu dweud wrth bobl, ac efallai mai dyna pam fod llai nag 1 y cant o achosion yn arwain at euogfarn droseddol lwyddiannus.
Ac yna mae gennym broblem gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'n fater nad ydym yn siarad fawr ddim amdano, ond gall ei effaith ar bobl hŷn fod yr un mor ddinistriol â hiliaeth, rhywiaeth neu homoffobia. Mae stereoteipiau negyddol o bobl hŷn yn dal i fod yn gyffredin, fel y mae iaith ddifrïol ac amharchus a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio pobl pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.
Dyma'r rhesymau pam rwy'n ceisio caniatâd gan y Cynulliad heddiw i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Diben y Bil yw adeiladu ar hanes ardderchog Cymru hyd yn hyn drwy ymgorffori ymagwedd seiliedig ar hawliau yn y broses o ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Os caf ganiatâd, byddaf yn ceisio ymgynghori â rhanddeiliaid i ddatblygu Bil a fydd yn ymgorffori hawliau pobl hŷn ymhellach yng nghyfraith Cymru, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru; a fydd yn darparu ar gyfer y gallu i ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus honno i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru; a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn; ac a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu cydymffurfiaeth â'u cynlluniau hawliau pobl hŷn—rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.
Nawr, efallai fod yr ymagwedd hon yn swnio'n gyfarwydd i rai pobl yn y Siambr, a'r rheswm am hynny yw fod y dyletswyddau'n debyg iawn i'r rhai a osodwyd yn y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Wrth gwrs, cafodd y ddeddfwriaeth honno dderbyniad da iawn gan randdeiliaid, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiadau plant ac o ran codi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar draws y wlad. Nawr, rwy'n hyderus iawn y gallwn sicrhau canlyniadau tebyg drwy ddeddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn.
Awgrymais Fil o'r math hwn yn ystod dadl fer yn ôl ym mis Ionawr 2012, ac ers hynny mae llawer iawn wedi digwydd. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, sefydlwyd grŵp cynghori gan y Prif Weinidog—y Prif Weinidog ar y pryd—i ymchwilio i'r gwaith o ddatblygu datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Ac yna, yn 2014, o'r diwedd, ymgorfforodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yng nghyfraith Cymru am y tro cyntaf. Yna cawsom y datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn y pen draw yn 2014. Yn y flwyddyn ganlynol, 2015, galwodd y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd, Sarah Rochira, am amddiffyn hawliau pobl hŷn yn well, ac aeth ymlaen, ym mis Ionawr 2016, i gyhoeddi 'Rhoi Hawliau ar Waith mewn Gwasanaethau Cyhoeddus', a roddodd arweiniad i arweinwyr yn y sector cyhoeddus ar sut y gallent ymgorffori hawliau dynol pobl hŷn yn eu gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, mae'r holl gynnydd hwn, wrth gwrs, i'w groesawu'n gynnes iawn. Ym mis Ionawr 2016 yn ogystal, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn dros gynnig wedi'i ddiwygio a alwai ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu,
'i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.'
A'r Gweinidog iechyd ar y pryd—y Prif Weinidog erbyn hyn—a dderbyniodd y cynnig hwnnw fel y'i diwygiwyd, a phleidleisiodd pob plaid wleidyddol yn y Senedd o'i blaid. Rwy'n gresynnu, fodd bynnag, na chafodd canlyniad y bleidlais honno byth mo'i chyflawni'n llawn, a bod y cynnydd a wnaed gennym wedi arafu. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Diolch yn fawr iawn am ildio, ac rwy'n ymddiheuro am ddod i mewn yn hwyr. Roeddwn yn gwylio ar y monitor—. Lywydd, fy ymddiheuriadau; aeth fy amseru rhwng y cŵn a'r brain. Ond rwyf wedi gwrando'n llawn diddordeb, gan gynnwys ar y monitor wrth i mi wylio, ac rwy'n croesawu'r ffordd gymedrol y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Un newid arwyddocaol sydd wedi digwydd ers yr amserlen y soniodd amdano oedd yr hyn a ddigwyddodd fis Mehefin diwethaf, pan adawodd Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn blaenorol, ei swydd, a safodd yn y Senedd ychydig uwch ein pennau a chroesawu'r gwaith a oedd wedi digwydd gyda fy swyddogion ar y pryd, a oedd wedi arwain at gyfres gadarn a phendant iawn o gamau gweithredu—camau sylweddol—sydd ar y gweill yn awr, ac a aeth ymhell y tu hwnt i'r hyn a oedd wedi digwydd cyn hynny mewn geiriau ac ati, ac mae hynny'n dal i gael ei ddatblygu. Felly, gofynnaf iddo gydnabod, mewn gwirionedd, nid yn unig fod Sarah wedi cydnabod hynny, ond roedd fy nghyfarfod dilynol gyda'r comisiynydd pobl hŷn newydd hefyd yn cydnabod bod y dull o weithredu o fewn Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol iawn yn awr.
Rwy'n croesawu'n fawr y cynnydd a wnaed, ond nid yw'n seiliedig ar ddeddfwriaeth, sef pwynt y Bil rwy'n ei gynnig, ac mae gennym gyfle i hyrwyddo'r achos hwnnw—achos y mae pawb ohonom yn ei rannu, rwy'n credu, o ran yr awydd i hyrwyddo hawliau pobl hŷn—drwy gefnogi'r Bil hwn heddiw. Ac wrth gwrs, dyna pam y mae'r comisiynydd pobl hŷn—y comisiynydd pobl hŷn presennol—a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cefnogi fy nghynigion ar gyfer Bil. Gwn fod llu o sefydliadau a rhanddeiliaid eraill yn cefnogi'r Bil, gan gynnwys Action on Elder Abuse Cymru, Cynghrair Henoed Cymru, Age Connects Cymru, Age Cymru, Cymdeithas Alzheimer's Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Prime Cymru, Cymdeithas Henoed Prydain, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia—gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen gyda mwy a mwy o bobl ar y rhestr honno, ond credaf ei bod yn dangos y gefnogaeth aruthrol a geir i Fil o'r math hwn.
Gair sydyn am oblygiadau ariannol y Bil; y cymharydd agosaf o ran deddfwriaeth a chostau cysylltiedig yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wrth gwrs. Nawr, awgrymodd yr asesiad effaith rheoleiddiol ar y Mesur hwnnw fod y costau dros gyfnod o dair blynedd o weithredu oddeutu £1.5 miliwn. Byddai cynyddu'r rhain drwy ychwanegu chwyddiant yn awgrymu y byddai costau Bil o'r math hwn oddeutu £1.75 miliwn. Fodd bynnag, y realiti yw bod rhai o'r costau hynny eisoes yn cael eu talu gan y Llywodraeth oherwydd y dyletswyddau sydd eisoes wedi'u cynnwys, fel y soniais, yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Felly, mae'n debygol o fod yn llawer llai na hynny. Felly, bydd angen egluro mwy ar y costau hyn, wrth gwrs, a'u hystyried yn fwy manwl, ond mae'n awgrymu i mi fod hyn yn rhywbeth hynod fforddiadwy i ni allu ei wneud.
I gloi felly, Lywydd, hoffwn atgoffa pobl fod gennym gyfle hanesyddol heddiw. Cychwynasom ar y daith hon nifer o flynyddoedd yn ôl, a gallwn ddarparu ac arloesi dull newydd sy'n seiliedig ar hawliau mewn perthynas â hawliau pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae gennym gyfle i ddatblygu deddfwriaeth a fydd yn arwain at welliannau ymarferol wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a fydd codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac yn rhoi cydnabyddiaeth a statws iddynt, ac a fydd yn grymuso'r cannoedd o filoedd o bobl hŷn ledled Cymru i fynnu'r hawliau hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch i chi, Lywydd. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cael eu hawliau wedi eu cydnabod a'u gwneud yn real, ac mae codi ymwybyddiaeth pobl hŷn ynglŷn â'r hawliau sydd ganddynt eisoes a gwneud yn siŵr fod yr hawliau hynny wedi sefydlu yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, ac yn wir, mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol, o'r pwys mwyaf, ac rwy'n credu mai'r pryder hwn sydd wedi ysgogi Darren Millar i ddwyn y Bil hwn gerbron heddiw, ac yn sicr, rwy'n cytuno'n gryf â'r teimladau sydd wrth wraidd y Mesur a argymhellir.
Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda ac ar ran pobl hŷn, fel y mae Darren Millar wedi cydnabod, o gyflwyno'r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 i sefydlu comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2008, ac mae'r gwaith hwn yn parhau heddiw gyda ffocws o'r newydd ar hawliau pobl hŷn, fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies. Mae gwaith cyfredol ar sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn gwreiddio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys y canlynol: cynhyrchu canllawiau ymarferol i ddangos sut y gall cyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; diweddaru canllawiau 2009 ar bryderon cynyddol ynglŷn â chau cartrefi gofal; cynllunio ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ofal cymdeithasol yng ngwanwyn 2019, a fydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn o dan y gyfraith bresennol; a chydweithio'n agos â phobl hŷn, cyrff cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector ac academyddion blaenllaw ar gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio—a goruchwylir gwaith cynnar ar hyn gan fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio. Bydd yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar hawliau, sy'n gosod pobl hŷn wrth wraidd y broses o lunio polisi. Nid yw honno'n rhestr gynhwysfawr, ond credaf ei bod yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac i gynnal hawliau pobl hŷn.
Yn ychwanegol at y gwaith hwn ar sicrhau bod hawliau'n real, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gefnogi pobl hŷn ar sail ehangach. Mae hyn yn cynnwys nofio am ddim, tocynnau teithio am ddim ar fysiau, hybu gwasanaethau eiriolaeth, ymgysylltu â phobl hŷn drwy fforwm cynghori'r Gweinidog, ariannu mentrau atal cwympiadau, gwella ansawdd cartrefi gofal, ariannu cynllun gweithredu ar gyfer dementia, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cynyddu'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl, a buddsoddi'n sylweddol mewn iechyd a gofal, gan gynnwys drwy gyfrwng y gronfa gofal integredig.
Felly, pan fyddwn yn ystyried rhinweddau'r ddeddfwriaeth a argymhellir, rhaid inni ei rhoi mewn cyd-destun. Mae hawliau pobl hŷn eisoes wedi'u hymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol y DU 1998, ac mae oed yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol yng Nghymru, mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ac yn rhoi llais cryf i bobl hŷn yn y trefniadau ar gyfer unrhyw ofal y gallent fod ei angen. [Torri ar draws.] Iawn, yn sicr.
Credaf mai Suzy Davies oedd yn gyntaf.
Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum eich gweld, Suzy.
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Weinidog, efallai na wnaethoch fy ngweld. Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Cyn i chi orffen eich araith, tybed a allwch esbonio pa rwymedïau sydd ar gael i bobl sy'n disgwyl i'w hawliau gael eu parchu, ond sy'n cael cam mewn gwirionedd.
Byddaf yn dod at hynny yn fy araith. Felly, byddaf yn rhoi sylw i hynny.
Diolch i chi, Suzy. A fyddai—? Mae'n ddrwg gennyf, dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael i'ch croesawu'n ffurfiol i'ch swydd, a gwn y byddwch yn gwneud gwaith gwych, gwaith gwirioneddol wych. A gaf fi ofyn, er hynny—? Y prawf asid—ai deddfwriaeth neu agenda bresennol y Llywodraeth o wneud yr hawliau hyn yn real—yw pan fyddwch yn cerdded i ganol grŵp o bobl hŷn ac maent yn dweud wrthych, 'Rwy'n gwybod beth yw fy hawliau'. Maent yn dweud, o ran y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, 'Rwy'n deall mai dechrau unrhyw sgwrs ddylai fod yn bwysig i mi', yn yr un modd ag a gewch pan fyddwch yn cerdded i mewn i ysgolion cynradd gyda phlant. Nawr, nid ydym wedi cyrraedd yno eto, ac mae'n bwynt dadleuol o ran yr angen am ddeddf neu beidio, rhaid imi ddweud. Fy newis personol yw y dylem barhau i'w ymgorffori yn y modd hwn. Ond dyna'r prawf asid—pan fyddwch yn cerdded i blith grŵp o bobl hŷn ac maent yn dweud yn huawdl, yn groyw, 'Rwy'n gwybod beth yw fy hawliau. Rwy'n mynnu fy hawliau.'
Cytunaf yn llwyr gyda Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bopeth y mae wedi'i wneud i hyrwyddo'r agenda hon. Ond rydym yn gwybod hefyd fod yna grwpiau eraill mewn cymdeithas sy'n dioddef anghydraddoldeb ac yn haeddu cael eu hawliau wedi'u gwireddu yn llawer mwy cyson.
Gwyddom eisoes fod galwadau wedi bod i weithredu'r Confensiwn ar Ddileu Pob Ffurf ar Wahaniaethu yn erbyn Menywod, a hefyd i ddwyn confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl i mewn i gyfraith Cymru. Ond byddai gweithredu ar yr achosion a wnaed dros ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ar ran gwahanol grwpiau yn creu perygl o ddull tameidiog o greu deddfwriaeth, a chredaf y byddai dull anwastad yn ddryslyd i'r cyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau, fel y byddai i bobl Cymru.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn pryderu, yn dilyn Brexit, y gallai Llywodraeth y DU yn hawdd geisio gwanhau neu hyd yn oed ddiddymu Deddf Hawliau Dynol y DU. Yma heddiw nid yw'n bosibl rhagweld a fydd y pryderon hyn yn datblygu, ond fel Llywodraeth, rhaid inni fabwysiadu dull sy'n cynnig hyblygrwydd i ymateb i'r amgylchiadau posibl. Rwy'n gweld bod yr holl dadleuon hyn yn ddadleuon dros fabwysiadu dull mwy uchelgeisiol, mwy cyfannol o ddeddfu ar gyfer hawliau dynol wedi'i ddiogelu yn erbyn amgylchiadau posibl. Felly, er mwyn datblygu ein dull a ffafrir, mae camau eisoes wedi'u cymryd tuag at gomisiynu ymchwil annibynnol i edrych ar sut y gallwn ymgorffori saith cytuniad hawliau'r Cenhedloedd Unedig ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yng nghyfraith Cymru, gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a chryfhau rheoliadau neu ganllawiau presennol.
Bydd Gweinidogion yn cyfarfod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn a'r comisiynwyr eraill a'u cynrychiolwyr ar 6 Chwefror, a gwn fod yr Aelod a gyflwynodd y Bil hwn wedi cael gwahoddiad i fynd i'r seminar honno hefyd i drafod y materion hyn. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y modelau deddfwriaethol sy'n deillio o'r ymchwil a'r nod yw cyflwyno cynigion erbyn diwedd y flwyddyn hon. Gwneir hyn i gyd gan gynnwys y bobl hŷn a'u cynrychiolwyr, ymhlith eraill.
Felly, i gloi, er fy mod yn cefnogi'r teimladau sydd wrth wraidd y Bil hwn yn gryf, nid dyma'r amser ar gyfer y ddeddfwriaeth benodol hon. Pan fyddwn yn deddfu, dylem wneud hynny mewn ffordd gyfannol ar gyfer y gymdeithas gyfan ac mewn ffordd sy'n nodi anghenion yr holl grwpiau difreintiedig. Gan nad wyf yn gallu cefnogi'r Bil hwn heddiw, byddaf yn anelu i weithio'n agos gyda'r Aelod cyfrifol, y comisiynydd pobl hŷn a phartneriaid a rhanddeiliaid pwysig eraill, beth bynnag yw canlyniad y bleidlais yn ddiweddarach heddiw, er mwyn gwneud hawliau'n real i bobl hŷn. Nid wyf yn credu bod unrhyw anghytundeb o gwbl yma ynglŷn â'r egwyddorion, ond yn hytrach, awydd y Llywodraeth i weld dull mwy uchelgeisiol, cyfannol a strategol, ac nid wyf yn meddwl mai dyna sydd gennym yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw.
Byddai—[Torri ar draws.] Os caf fwrw ymlaen, os yw'r Aelod yn caniatáu i mi wneud, o ystyried fy mod yn sefyll ar y pwynt hwn yn y broses i gefnogi cynnig yr Aelod, ac i argymell i'r Cynulliad ein bod yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth hon fwrw yn ei blaen ar y cam hwn. Dylwn ddweud, yng ngrŵp Plaid Cymru, y byddwn yn cael pleidlais rydd ar hyn, a bydd yr Aelodau, fel y teimlaf sy'n briodol ar gyfer deddfwriaeth meinciau cefn, yn penderfynu ar y rhinweddau yn eu barn hwy.
Credaf fod budd mewn egwyddor i'r hyn y mae Darren Millar yn ei gynnig. Mae gennym dystiolaeth o effeithiolrwydd ymgorfforiad rhannol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'r Aelodau'n gwybod, fel y crybwyllodd y Gweinidog eisoes, am fy nghynnig ein bod yn ystyried cynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl. Fel y dywedodd y Gweinidog, cytunaf yn llwyr â hi, a'r achos y mae Darren Millar wedi'i nodi, am y gwahaniaethu difrifol y mae pobl hŷn yn ei ddioddef mewn llawer o amgylchiadau, er bod rhaid inni hefyd gydnabod bod pobl hŷn weithiau ymysg y rhai mwyaf breintiedig a mwyaf llwyddiannus yn ariannol, felly nid yw'n wir bob amser. Ond cefais fy synnu, er enghraifft, wrth weld enbydrwydd rhai o'r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl, ac mae rhai o'r cartrefi gofal yr ymwelais â hwy wedi bod yn hollol waradwyddus. Dylwn ddweud hefyd fy mod wedi ymweld â rhai lleoliadau sydd wedi bod yn eithriadol, ac yn aml, nid y rhai mwyaf moethus yw'r rheini, nid y rhai mwyaf costus, ond y rhai lle y ceir gofal o'r ansawdd uchaf.
Felly, rwy'n cydnabod disgrifiad Darren Millar o rai o'r heriau a wynebwn wrth sicrhau bod pobl hŷn yn gallu arfer eu hawliau. A'r cwestiwn i'r Cynulliad hwn fydd: ai'r ddeddfwriaeth hon yw—neu ai'r ddeddfwriaeth hon fydd, oherwydd, nid ydym wedi ei gweld eto wrth gwrs—ai'r ddeddfwriaeth hon fydd y fwyaf effeithiol a'r fwyaf tebygol o lwyddo i fynd i'r afael â'r ystod eang honno o heriau y mae Darren Millar yn gywir yn ei nodi?
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am y trafodaethau a gefais gyda Gweinidogion Cymru, gyda Julie James a gyda Jane Hutt, yn dilyn fy nghynnig mewn perthynas â'r confensiwn ar gyfer pobl anabl, ynghylch yr agenda ehangach y mae'r Gweinidog wedi'i gosod i ni heddiw, a diddorol iawn oedd darllen barn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir, nid ydym yn gwybod eto, os a phan fydd Brexit yn digwydd, sut y bydd hynny'n effeithio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb, oherwydd mae deddfwriaeth y DU, wrth gwrs, yn seiliedig ar apêl yn y pen draw i'r llysoedd Ewropeaidd, ac ni fyddai hynny'n wir mwyach. Felly, mae llawer o ffactorau anhysbys yn y sefyllfa hon. A buaswn yn siomedig iawn pe bai'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu yn cael ei lesteirio mewn unrhyw ffordd gan hynt y Bil arfaethedig hwn. Fodd bynnag, lle nad wyf yn cytuno â'r Gweinidog ar hyn o bryd yw nad wyf yn derbyn y byddai caniatáu i'r Bil hwn symud ymlaen i'r cam nesaf yn gorfod bwrw'r gwaith hwnnw oddi ar y cledrau o reidrwydd. Yn wir, gallwn ddychmygu sefyllfa lle y gallem fwrw ymlaen gyda'r ddeddfwriaeth hon, ac ar gam pellach, gallai'r Llywodraeth ddewis ymgymryd â hi a'i hymgorffori mewn gwaith pellach y maent yn ei wneud, fel y gwnaethpwyd, er enghraifft, pan gyflwynais Fesur hawliau gofalwyr mewn Cynulliad blaenorol, Mesur a gafodd ei fabwysiadu wedyn gan y Llywodraeth a'i roi mewn darn ehangach o waith yr oeddent yn ei wneud ar hyrwyddo hawliau gofalwyr.
Hoffwn ddweud yn glir iawn heddiw wrth y Llywodraeth nad wyf yn credu y gallwn ddefnyddio Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, fel y mae yn awr, i symud yr agenda hon yn ei blaen. Ni ellir sicrhau iawn i'r unigolyn o dan y Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, ac mae'r Comisiynydd ei hun yn ei gwneud yn glir na all wneud dim heblaw enwi a chodi cywilydd. A gwn fod Gweinidogion yn edrych ar yr anghysondeb rhwng pwerau ein comisiynwyr gwahanol, a hefyd yn edrych ar y ffordd y mae'r pwerau hynny wedi neu heb gael eu defnyddio. Ac unwaith eto, gwn y caiff hynny ei ymgorffori yn y gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu heddiw. Ond unwaith eto, ni welaf fod hwnnw'n rheswm ar hyn o bryd o reidrwydd i'r Cynulliad hwn beidio â chaniatáu i gynnig Darren Millar symud yn ei flaen.
Bydd yn ddiddorol iawn gweld manylion y Bil. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y mater a gododd Suzy Davies ynglŷn â gorfodadwyedd oherwydd fe wyddom—ac rwy'n edrych ar Jane Hutt, ein Gweinidog cydraddoldeb, sy'n gwybod yn iawn, oni bai fod gan unigolion fecanweithiau y gallant eu defnyddio, mecanweithiau nad ydynt yn dibynnu ar y Llywodraeth, nad ydynt yn dibynnu ar gomisiynydd annibynnol, ond y gallant eu defnyddio eu hunain i orfodi'r hawliau hynny, mae'n bosibl na chaiff yr hawliau hynny eu gorfodi yn y pen draw. Ac mae gennym brofiad o geisio gweithredu deddfwriaeth cydraddoldeb rhywiol sy'n gwneud hynny'n glir.
Rwy'n credu ein bod—gallwn weld o'r ddadl hon—yn unedig yn ein dymuniad yn y Siambr hon i fynd i'r afael â gwahaniaethu sydd, heb amheuaeth, yn wynebu pobl hŷn. Credaf y dylem aros i weld manylion y Bil hwn cyn dod i gasgliad pa un ai hon yw'r ffordd iawn ymlaen ai peidio. Ac ar sail hynny, rwy'n cymeradwyo cynnig Darren Millar i'r tŷ.
Mae'n fraint heddiw i gymryd rhan yn yr hyn a allai fod yn foment hanesyddol i'n pobl hŷn yng Nghymru, ac yn wir i genedlaethau'r dyfodol. Er bod Cymru yn gartref i lai nag 1 y cant o boblogaeth y byd, gallai'r Bil a gyflwynwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar AC, fod yn newid ar lefel fyd-eang. Byddai'n gosod cynsail pwysig i wledydd eraill ei ddilyn—yr angen i ymgorffori dull yn seiliedig ar hawliau o ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar ein pobl hŷn.
Er bod rhaid imi gydnabod bod Cymru wedi bod yn wlad arloesol o ran buddiannau pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd, megis creu rôl comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2006, fe ellir ac fe ddylid gwneud mwy. Dylem i gyd ofyn i ni ein hunain pam na fyddem eisiau helpu i greu cenedl lle y ceir dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru i ystyried 18 egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Yn bersonol, ni welaf unrhyw esgus posibl dros rwystro hyn, gan fod lles gorau a pharch at bobl hŷn yn ganolog i'r egwyddorion.
Ystyriwch hyn: pe bai'r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, gallai fynd ati bron ar unwaith i drawsnewid bywydau dros 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru, oherwydd byddai'n mynd yn bell i alluogi pobl hŷn i gael rheolaeth dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, er enghraifft, gan gynnwys ansawdd eu gofal. Nawr, amlygwyd yr angen am hyn yn yr adroddiad 'Lle i'w alw'n gartref?', lle y nodwyd un gwirionedd sy'n peri pryder—fod ansawdd bywyd gormod o bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn annerbyniol. Er enghraifft, canfuwyd bod pobl hŷn yn gweld eu hunaniaeth bersonol a'u hunigoliaeth yn lleihau'n gyflym, a'u bod yn colli'r hawl i ddewis a chael rheolaeth dros eu bywydau pan fyddant yn mynd i gartref gofal. Yn aml nid ydynt yn cael y lefel o ofal y mae ganddynt hawl i'w disgwyl, ac mae diwylliant cartrefi gofal yn aml wedi'i adeiladu ar fodel dibyniaeth, sy'n aml yn methu atal dirywiad corfforol, ac nid yw'n caniatáu i bobl gadw neu adennill eu hannibyniaeth. Nawr, yn fy marn i, byddai'r Bil yn helpu unigolion ac awdurdodau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau dinistriol o'r fath. Nid fi sy'n dweud hyn i gyd—yr adroddiad a ddywedai hynny.
Yn ogystal, i etholaethau gwledig fel fy un i, Aberconwy, sy'n rhan o'r cyngor sir sydd â'r gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, mae'n wir y byddai'r Bil hwn yn cyflawni llawer iawn, drwy helpu i ddiogelu buddiannau trigolion oedrannus pan wneir newidiadau i gyfleusterau lleol. Er enghraifft, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn ymgyrch i achub gwasanaethau bysiau, sy'n achubiaeth allweddol i gymunedau, ac yn enwedig trigolion oedrannus. Pe bai'r ddeddfwriaeth hon ar waith, rwy'n hyderus y byddai mwy o ystyriaeth o effaith newidiadau ar y person hŷn a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar yr effaith hon—yn fy etholaeth, ac yn etholaethau a rhanbarthau pob un ohonom yn wir. Mae'r angen am hyn yn amlwg, gan fod cau 189 o doiledau cyhoeddus, un o bob chwech llyfrgell, a 29 o bractisau meddyg teulu yng Nghymru yn cyd-daro â chyfradd uchel iawn o arwahanrwydd ac unigrwydd. Yn wir, yn ôl Age Cymru, mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig—problem a waethygir wrth i wasanaethau lleol gael eu tynnu'n ôl. Ac mae hyn yn digwydd o dan Lywodraeth Lafur Cymru.
Yn sicr, wrth ystyried mai'r genhedlaeth hŷn sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fyddin Cymru o wirfoddolwyr, a bod neiniau a theidiau yn unig yn arbed £259 miliwn y flwyddyn i rieni Cymru, mae'n amlwg i mi mai'r Bil hwn yw'r peth lleiaf y gallwn ei roi'n ôl iddynt. Felly rwy'n gobeithio, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn newid eich meddwl, ac Aelodau eich meinciau cefn a'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet yn wir. Oherwydd, wyddoch chi beth, yr un Siambr yw hi, ond deddfwriaeth wahanol, ar wythnos wahanol. Rwy'n ofni mai'r rheswm am hyn yw mai deddfwriaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yw hi. Pa obaith y mae'n ei roi i Aelodau'r meinciau cefn fel fi? Pa obaith y mae'n ei roi i Aelodau ac ymgeiswyr newydd i'r Cynulliad fod modd iddynt gael eu dewis mewn pleidlais a'i fod yn cyrraedd llawr y Siambr hon, ddim ond i gael ei wrthod oherwydd teyrngarwch llwythol pur a gwleidyddiaeth plaid?
Wel, yn amlwg, o ystyried fy oedran, rwy'n teimlo y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn. [Chwerthin.] Er na ddylai ein hawliau newid wrth i ni fynd yn hŷn, mae pobl hŷn yn aml yn wynebu agweddau negyddol a gwahaniaethu ar sail oedran, yn arbennig, mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd, cyflogaeth, nwyddau a gwasanaethau, gwybodaeth ac addysg. Mae pobl hŷn hefyd yn wynebu rhwystrau cynyddol i gyfranogi, yn dod yn fwy dibynnol ar eraill ac yn colli peth, neu'r cyfan, o'u hannibyniaeth bersonol. Gall y bygythiadau hyn i'w hurddas eu gwneud yn fwy tebygol o ddioddef esgeulustod, cam-drin a cholli hawliau.
Credaf y byddai'r Bil arfaethedig hwn yn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cryfhau. Byddai hefyd yn diogelu'r egwyddor, yn yr un modd ag y mae pobl hŷn yn ganolog i lawer o'n teuluoedd, y byddant hefyd yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth ystyried materion allweddol, megis mynediad at ofal iechyd, cynhwysiant ariannol a gwasanaethau cyhoeddus.
Yn aml, clywn straeon newyddion ynglŷn â sut y mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Mae tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru, a rhagwelir cynnydd o 232,000 yn nifer y bobl 65 oed a hŷn, sef 36 y cant, erbyn 2041. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl ar y gost o dalu am ofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, mae'n bwysig inni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n hyrwyddo heneiddio'n dda a thrwy drafodaeth urddasol a pharchus.
Er bod gofal cymdeithasol yn ffactor o bwys wrth drafod sut y cynlluniwn ar gyfer y dyfodol, ceir llawer o ystyriaethau eraill. Yn fy rhanbarth i, mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf sut yr effeithir yn niweidiol arnynt gan doriadau i wasanaethau llyfrgell a gofal dydd neu newidiadau i wasanaethau swyddfeydd post. Cafwyd achosion torcalonnus, wrth gwrs, o bobl hŷn yn dioddef sgamiau. Fel yr Aelodau eraill, rwyf innau hefyd wedi clywed gan etholwyr sy'n cael trafferth i gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Credaf y byddai'r Bil hwn yn mynd yn bell i helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o hawliau pobl hŷn a lleddfu anawsterau real iawn o'r fath.
Mae sicrhau nad yw pobl hŷn dan anfantais oherwydd eu hoedran yn un o heriau mwyaf y cyfnod modern. Yr her honno yw sicrhau bod pob un o'n pobl hŷn yn gallu byw bywydau cyflawn, ac nad ydynt yn cael eu gweld fel baich, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnaethant ar hyd eu bywydau i'r economi a'r gymuned yn gyffredinol, a hefyd i gydnabod bod llawer ohonynt yn dal i gyfrannu at y fywyd y gymdeithas mewn nifer o ffyrdd, ac yn aml eu bod yn asgwrn cefn i lawer o elusennau a gweithgareddau cymdeithasol.
Felly, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau statudol i sicrhau bod y gwasanaethau craidd a phrif ffrwd ar gael i drigolion hŷn yn yr un modd ag y maent i bobl eraill. Am y rheswm hwnnw, byddwn ni yn UKIP yn cefnogi'r Bil heddiw, ac rydym yn annog pob ochr i'r Siambr i wneud yr un peth. Os caiff plant eu hamddiffyn yn y gyfraith, pam nad y grŵp arall hwnnw sy'n fwyaf agored i niwed, yr henoed?
Hoffwn ddiolch i Darren am gyflwyno'i gynnig ar gyfer Bil ar hawliau pobl hŷn. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynigion Darren yn llawn, ac fe wnaf bopeth a allaf i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad hwn. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â threchu unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon ar y pwnc. Bydd diogelu hawliau pobl hŷn yn mynd yn bell i ymdrin ag achosion craidd arwahanrwydd yn ein poblogaeth hŷn.
Yn anffodus, mae rhagfarn ar sail oedran yn dal i fodoli yn ein cymdeithas, ac mae'n sefydliadol mewn llawer o ffyrdd. Cefais nifer o alwadau ffôn gan bobl dros 75 oed yr oedd eu hyswiriant car wedi dyblu neu dreblu hyd yn oed oherwydd eu hoedran yn unig, nid oherwydd nad oedd yn ddiogel iddynt yrru neu ar ôl cael damweiniau, ond oherwydd eu hoedran yn unig—ac os nad yw hynny'n wahaniaethu ar sail oedran, nid oes dim arall—gan eu prisio allan o'r farchnad, i bob pwrpas, eu hamddifadu o'u rhyddid a chyfrannu at gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd. Nid y cwmnïau yswiriant yn unig sy'n arddangos rhagfarn sefydliadol. Mae gwasanaethau o fanciau i gwmnïau cyfleustodau yn symud fwyfwy ar-lein, gan ynysu cenhedlaeth a ystyriai gyfrifiaduron fel pethau maint adeiladau mawr ac yn eiddo i lywodraethau a phrifysgolion yn unig.
Yn anffodus, mae lefelau allgáu digidol ar eu huchaf ymhlith pobl dros 65 oed a gwaethygir ei effeithiau gan Lywodraethau'n symud gwasanaethau ar-lein, gan fanciau'n cau a chwmnïau cyfleustodau'n mynd yn ddi-bapur. Mae'n ffaith drist yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain fod pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd eu bod yn hŷn.
Cryfhawyd rhagfarn ar sail oedran yn y blynyddoedd diwethaf gan y drafodaeth ynglŷn â dyfodol pensiynau a gofal cymdeithasol. Weithiau trafodwyd hyn yn ansensitif gan greu gwrthdaro rhwng y cenedlaethau a rhoi'r bai ar y rhai dros 65 oed am galedi'r rhai a anwyd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Mae'r cenedlaethau hŷn wedi talu treth ac yswiriant gwladol am dros 50 mlynedd; maent wedi mwy na thalu am eu gofal a'u lles yn ystod eu hymddeoliad. A mater i Lywodraethau olynol oedd cynllunio a darparu ar gyfer gofal cymdeithasol a phensiynau.
Mae'n amlwg i mi fod angen inni ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru mewn cyfraith er mwyn tanlinellu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, sy'n hyrwyddo annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac yn bwysig iawn, urddas. Dylai'r egwyddorion hyn fod yn sail i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat i bobl hŷn yng Nghymru. Bydd gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn cael effaith ddramatig ar hawliau pobl hŷn yng Nghymru.
Dull o weithredu gwasanaethau cyhoeddus sy'n seiliedig ar hawliau yw'r dull cywir. Felly, rwy'n croesawu argymhellion Darren ar gyfer y Bil hwn ac yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gefnogi'r cynnig hwn, cynnig sy'n ennyn cefnogaeth aruthrol o blith y cyhoedd a'r trydydd sector. Felly, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, ar draws y Siambr hon i ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn y gyfraith. Diolch yn fawr.
Fel Huw Irranca, hoffwn yn fawr iawn groesawu Julie Morgan i swydd y Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n siŵr y bydd eich profiad anferth yn sicrhau rhagoriaeth yn y portffolio penodol hwn.
Mae'n debyg fod angen imi ddatgan buddiant yn ogystal: fel mam-gu ddwywaith drosodd, rhaid fy mod yng nghategori person hŷn yn ôl pob tebyg, ac mae pawb ohonom yn wynebu hynny yn ein tro. Credaf fod rhai o'r ystadegau a gynhyrchwyd gan Darren Millar, wrth gwrs, yn ddigalon iawn. Mae'r ffaith bod 75,000 o bobl yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o'r amser yn ysgytwad i bawb ohonom. Ond rwy'n meddwl tybed sut y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i'r afael â hynny. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom roi sylw iddo, ond nid wyf yn gweld sut y mae deddfwriaeth yn mynd i wneud hynny.
Roeddwn yn pryderu na sonioch chi am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eich cyflwyniad. Ac roedd hynny cyn i Helen Mary ddweud nad oedd hi'n gweld fod gan y Ddeddf unrhyw beth i'w wneud â'r mater. Rwy'n pryderu—
A wnewch chi ildio?
Na wnaf. Rwy'n credu fy mod ar ganol dweud rhywbeth ar y foment. Fe'i cymeraf mewn eiliad, gwnaf.
Rwy'n pryderu ein bod yn y broses o bosibl o dorri darnau oddi ar y dull cyfannol iawn a oedd gennym o benderfynu ar ein blaenoriaethau, deddfwriaeth a oedd yn arloesol ac o bosibl, gallai hyn danseilio'r dull cyfannol hwnnw.
Felly, rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
I egluro, Jenny Rathbone, er eich budd, ni ddywedais nad oedd ganddi ddim i'w wneud â'r peth. Yr hyn a ddywedais oedd nad oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi hawliau gorfodadwy i unigolion ac felly, nid dyna oedd y cyfrwng priodol i ymdrin â'r holl faterion a godwyd gan Darren Millar. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n ddarn gwerthfawr o ddeddfwriaeth a all wneud pethau eraill defnyddiol iawn.
Diolch i chi, Helen Mary, am fy atgoffa o'r hyn a ddywedoch chi mewn gwirionedd, gan fy mod yn mynd i ddweud mewn ymateb i hynny fod gan bobl hŷn ffordd eisoes o gwyno i'r comisiynydd pobl hŷn os nad ydynt yn credu eu bod yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â'r holl ffyrdd eraill y gall pawb ohonom gwyno. Credaf fod gennyf bryderon ein bod yn canolbwyntio ar un grŵp penodol—un grŵp arbennig nad yw wedi gwneud mor wael â phobl eraill yn sgil y rhaglen gyni ers 2010. Y bobl sydd wedi dioddef fwyaf o'r rhaglen gyni yw plant, nad oes ganddynt unrhyw lais a fawr iawn o bŵer. Felly, rwy'n pryderu am gydbwysedd ein dull o weithredu, ac fel y dywed Darren Millar, mae'n credu y byddai'n costio £1.75 miliwn i'w weithredu, ac rwy'n meddwl tybed onid oes ffyrdd gwell o ailffurfio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn well na chael deddfwriaeth newydd. Gweithredu sydd ei angen arnom, nid geiriau. Os bydd angen inni roi mwy o arian tuag at wasanaethau pobl hŷn, rydym yn mynd i orfod canfod ffyrdd o'i gynhyrchu. A pham fod cynigion Holtham yn dadlau, os ydym yn mynd i gael gofal cymdeithasol am ddim lle y mae ei angen, ac am ddim lle y caiff ei ddarparu, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i fecanwaith arall ar gyfer rhoi mwy o arian yn y system, oherwydd ar hyn o bryd nid ydym yn talu digon i bobl am wneud y gwaith pwysig iawn y maent yn ei wneud.
Yn wahanol i Helen Mary Jones, rwyf wedi gweld arferion da iawn yn fy etholaeth. Rwyf hefyd wedi gweld enghreifftiau o arferion gwael, ac ymdriniwyd â'r rheini gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac maent wedi cael eu cau o ganlyniad. Dyna sut y dylai fod. Ond credaf ei bod yn warth nad ydym yn talu mwy i bobl, ac rwy'n credu bod angen inni fynd i'r afael â pham nad ydym yn rhoi mwy o arian yn y system fel cymdeithas i sicrhau bod pobl hŷn yn cael henaint rhagorol. Bydd rhai pobl yn dewis mynd i gartref nyrsio preswyl, neu gartref preswyl, ond bydd eraill yn dymuno aros yn eu cartref eu hunain, a dyna lle yr hoffwn weld llawer iawn mwy o ffocws.
Felly, o ran yr hyn roedd Caroline yn ei ddweud ynglŷn â chwmnïau yswiriant car yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn—wyddoch chi, cwmnïau preifat yw'r rhain. Byddant yn ymdrechu i godi'r uchafswm y gallant lwyddo i'w gael, ac mae angen i bobl eu herio a cheisio mynd i rywle arall. Nid yw pob person hŷn yr un fath. Mae rhai pobl hŷn yn berffaith abl i ddadlau eu hachos, fel y mae rhai pobl iau yn methu dadlau eu hachos yn dda. Fe gymeraf ymyriad—
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Wel, mae eich amser wedi dod i ben, fel mae'n digwydd, felly os hoffech chi ddirwyn eich araith i ben, ac yna fe symudwn ymlaen.
Hoffwn ddirwyn i ben a dweud fy mod yn pryderu am y dull tameidiog hwn o weithredu hawliau dynol, a hoffwn weld dull llawer ehangach yn cael ei arfer. Rydym yn mynd i orfod deddfu yn ôl pob tebyg, os ydym yn gadael Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac ymddengys i mi fod hwnnw'n ddull llawer gwell.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae pobl wedi bod yn ei ddweud, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gefais, yn sicr ar feinciau'r wrthblaid, i'r cynnig rwyf am fwrw ymlaen ag ef. Yn amlwg, rwy'n siomedig iawn fod y Llywodraeth yn anghydweld â mi yn hyn o beth, ynglŷn â bod hon yn ffordd briodol o fwrw ymlaen â'r agenda sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at ddull tameidiog o weithredu. Wel, dull tameidiog sydd gennym yn awr, un a ddechreuwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â hawliau plant a phobl ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth roedd pawb ohonom yn teimlo bod angen mynd i'r afael ag ef. Ac fel y dywedodd David Rowlands yn hollol gywir, mae hawliau pobl ifanc wedi eu diogelu yng nghyfraith Cymru, ac mae pobl hŷn yn haeddu cael eu hawliau hwy wedi'u diogelu hefyd.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn fyr iawn.
Dywed ei fod yn dameidiog ac mae'n rhoi un enghraifft, ond credaf fod enghraifft arall wedi'i hawgrymu yn awr yn y ffaith bod cwmnïau yswiriant—bydd ein pobl hŷn yn dibynnu ar gystadleuaeth. Ni allwch gael cwmni yswiriant yn gwahaniaethu ar sail rhyw. Pam y dylent allu gwneud hynny ar sail oedran?
Mae'n hollol gywir. Mae unrhyw wahaniaethu ar sail oedran yn rhywbeth na ddylem ei oddef, ond yn anffodus, mae gormod o bobl yn cael rhwydd hynt i wneud hynny. Credaf y bydd canfyddiad y gall fod peth teyrngarwch llwythol gwleidyddol ar waith yma. Ni allaf warantu mai dyna fydd y canfyddiad, ond credaf y bydd rhai pobl yn ei weld felly. Dyna sy'n cael ei awgrymu yn sicr, rwy'n credu, gan y ffaith bod un blaid ag ymagwedd wahanol i'r lleill. Ac roeddwn yn gefnogol iawn i'r angen i wneud pethau ar yr agenda hawliau ehangach, a dyna pam y derbyniais y gwahoddiad i fod gyda chi yn y cyfarfod ar 6 Chwefror, er y gwyddom fod hwnnw'n gyfarfod a drefnwyd yn frysiog iawn. Ddoe ddiwethaf y cafodd y comisiynydd pobl hŷn wahoddiad, fel minnau, mewn ymgais i rwystro'r cynnig penodol hwn rhag gwneud cynnydd yn y Siambr. Rydym yn gwybod bod hynny'n wir, felly rwy'n siomedig braidd ynglŷn â'r ymdrechion munud olaf hyn i droi pobl yn erbyn y Bil.
Jenny Rathbone, fe wnaethoch araith ddiddorol, ond ni wnaethoch lynu wrth y thema yma. Roeddech yn sôn am yr holl agenda talu am ofal ac agenda Holtham, ond wrth gwrs rwy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl yma ar hawliau: gwneud yn siŵr fod yr hawliau hynny'n hygyrch i bobl hŷn; y gallant wireddu eu hawliau; ac y gallant sicrhau rhywfaint o iawn i wneud yn siŵr fod eu hawliau'n cael eu diogelu, eu hyrwyddo a'u parchu gan bawb yng Nghymru, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn rhy aml, ni roddir cyfle i ymgynghori â phobl hŷn ar y pethau mawr sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol, er enghraifft. Fel arfer, drwy byrth ar y we yn unig y bydd cyfle i bobl edrych ar ddogfennau ymgynghori ac ymateb iddynt. Felly, credaf fod yna bryder yn y cyswllt hwnnw.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn gwbl briodol—treuliodd amser yng ngofal y briff pobl hŷn, ac rwy'n dymuno'r gorau i Julie Morgan am ymgymryd â hyn—mae'n gwybod cystal â minnau pan ewch o gwmpas i siarad â phobl hŷn, nad ydynt yn ymwybodol beth yw eu hawliau. Mae pobl ifanc yn gwybod oherwydd llwyddiant Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond nid oes gan bobl hŷn unrhyw syniad. Felly, mae'n iawn dweud bod ganddynt gomisiynydd pobl hŷn a all eu helpu i ymdrin â'u cwynion, ond os nad ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau, ni allant wireddu'r hawliau hynny a gwneud cwyn pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu tramgwyddo. Fe gymeraf ymyriad gan Huw Irranca.
Diolch, Darren, am gymryd yr ymyriad. Rydych yn gwneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid ydym yn gwybod sut y mae'r bleidlais yn mynd i fynd heddiw, ond a gaf fi ofyn iddo: pe bai'r bleidlais yn mynd—. Os na fwrir ymlaen â'i gynnig ar gyfer Bil—ac yn seiliedig ar y cynnig i ddatblygu nid yn unig yr hyn sydd o fewn ysbryd a bwriad a manylion ei gynnig, ond hefyd yr agenda hawliau ehangach—a fyddai'n barod, ac rwy'n gofyn hyn yn hollol resymol, yn fodlon gweithio gyda'r Gweinidog wedyn, gyda'r Llywodraeth, ar y gwaith o'i gyflawni? Oherwydd mewn gwirionedd rwy'n gweld y wobr fwy yma hefyd. Pa un a yw'n hawliau pobl anabl, hawliau pobl hŷn, hawliau plant—mae agenda enfawr yma ar gyfer y dyfodol. Credaf y byddai'r Llywodraeth yn ôl pob tebyg—ac mae'r Gweinidog wedi dynodi hyn—yn croesawu eich cyfranogiad wrth fwrw ymlaen â hynny: ffordd wahanol at yr un nod.
Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i ymwneud â'r Llywodraeth ar yr agenda honno. Rwy'n aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Rwy'n ymrwymedig i hawliau dynol, ac mae arnaf eisiau eu hyrwyddo yr holl ffordd. Credaf mai'r hyn sy'n fy mhryderu ynglŷn â dull y Llywodraeth yw ei fod yn ei ddyddiau cynnar iawn—mae'n embryonig. Nid oes unrhyw obaith o gwbl y cawn ni rywbeth ar y llyfr statud erbyn diwedd y Cynulliad hwn, ond gyda fy Mil pobl hŷn, mae hynny'n bosibl. Gwneir llawer o waith sylfaenol o fewn y Llywodraeth, gan y comisiynydd pobl hŷn ac eraill ar yr agenda hon. Mae gennym gyfle i lywio hyn drwy'r Cynulliad erbyn mis Rhagfyr 2020. Dyna'r awgrym a gefais gan y clercod sy'n fy nghynorthwyo gyda'r Bil hwn. Nid yw gwneud hyn yn atal gwneud y llall. Mae cyfle o hyd i weithredu ar ddau lwybr. Rydym bob amser yn mynd i gael trefniadau ar wahân ar gyfer plant a phobl hŷn, yn rhinwedd y ffaith bod gennym gomisiynwyr ar gyfer yr agendâu penodol hynny sy'n seiliedig ar hawliau. Nid yw hynny'n wir am unrhyw beth arall o ran hawliau dynol, ond maent yno ar gyfer plant a phobl hŷn. Dyna pam rwy'n argymell y dull hwn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd rhai pobl ar y meinciau Llafur, ar feinciau'r Llywodraeth, yn meddwl eto cyn gwrthod y cynnig hwn heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar bensiynau Allied Steel and Wire a galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Cynnig NDM6919 Bethan Sayed
Cefnogwyd gan Andrew R.T. Davies, Mike Hedges, Helen Mary Jones, Leanne Wood, David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.
2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi bod gan weithwyr, yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r ymgyrchwyr, yn enwedig John Benson, sydd, er gwaethaf blynyddoedd o ymladd dros eu hawliau a thegwch a chyfiawnder sylfaenol, heb roi'r gorau i obeithio a heb ildio i Lywodraethau yn San Steffan sydd naill ai wedi eu trin â dirmyg neu ag anwybodaeth sylfaenol a distawrwydd dros y blynyddoedd. Nid ydym eisiau cyflwyno'r ddadl hon i'r Cynulliad eto. Pan siaredais â rhywun y bore yma, dywedodd, 'O, y ddadl honno eto. Y mater hwnnw eto.' Wel, yr unig reswm y cyflwynwn y ddadl hon yma heddiw yw oherwydd nad yw pethau wedi cael eu cywiro, nid ydynt wedi'u datrys mewn perthynas â phensiynau gweithwyr Allied Steel.
Felly, mae'r ddadl hon wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer. Canfu gweithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd eu bod yn wynebu colli eu pensiynau yn 2002. Roedd ASW yn gyflogwr mawr yng Nghaerdydd, ac mae'n hawdd anghofio yn awr, gyda'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y ddinas hon, sut roeddem yn denu'r cyflogwyr diwydiannol mawr hynny. Gweithiodd rhai o'r gweithwyr sydd yma heddiw yn ASW am 40 mlynedd cyn i'r cwmni fynd i'r wal. Roeddent wedi talu tuag at bensiynau y credent eu bod yn ddiogel. Roeddent yn credu y caent eu gwobrwyo am eu blynyddoedd o waith caled â phensiwn ymddeol a fyddai'n adlewyrchu eu blynyddoedd o wasanaeth, ac roeddent yn anghywir.
Rwy'n deall bod hon yn ddadl a gawsom o'r blaen yn y Cynulliad. Yn wir, sefydlais grŵp trawsbleidiol gyda llawer ohonoch yn y Siambr hon yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Ac rwy'n deall hefyd nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Buaswn o ddifrif yn gobeithio, pe bai'n fater wedi'i ddatganoli, y byddem wedi cywiro'r anghyfiawnder hwn ac y byddem wedi gwneud rhywbeth gwahanol iawn yn wir. Ond nid yw'n fater datganoledig, a diben y ddadl hon yma heddiw yw ceisio gweithio gyda'r ymgyrchwyr a chodi hyn yn uwch eto ar yr agenda wleidyddol. Rwyf wedi dweud mewn nifer o ddadleuon a gawsom—boed ar faterion rhyngwladol, boed ar faterion nad ydynt wedi'u datganoli—fod yn rhaid inni ddangos arweiniad moesol ar y materion hyn os na allwn wneud y penderfyniadau gwleidyddol yma yng Nghymru.
Nawr, pan oeddwn yn ymwneud ag anghydfod pensiynau Visteon o'r blaen—neu Ford, fel y byddai llawer o'r ymgyrchwyr ar y pryd wedi'i alw—roeddwn i ac eraill yn dweud mai cyflog wedi'i ohirio yw pensiwn, nid bonws hawdd, nid taliad diswyddo, nid parasiwt aur. Cyflog gohiriedig ar ffurf cyfraniad gweithwyr ydyw er mwyn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd yn eu henaint. Mae pawb ohonom yn disgwyl hynny. Mae pawb ohonom eisiau hynny. Yn wir, dyna a drafodwyd gennym yn y ddadl flaenorol yma heddiw, ynglŷn â sut rydym eisiau'r parch hwnnw pan fyddwn yn hŷn. Ond pam na wnawn ni hynny yn achos gweithwyr ASW sy'n haeddu'r hawl i gael y pensiwn hwnnw? Felly, ar gyfer pobl megis pensiynwyr ASW, gweithwyr Visteon, neu'r rhai sy'n gysylltiedig ag Equitable Life a chynifer o gwmnïau eraill sydd wedi colli rhan o'u pensiynau, dyma beth y dylem ei alw; dylem ei alw'n lladrad gan y cwmnïau hynny sy'n cymryd y cyflogau haeddiannol hynny, y pensiynau haeddiannol hynny allan o bocedi'r bobl y dylent fod yn eu cynnal. A dylem gadw hynny mewn cof drwy'r ddadl.
Credaf ei bod yn werth mynd drwy linell amser yr ymgyrch hon yn fyr iawn, er mwyn inni atgoffa ein hunain pa mor galed yw hi wedi bod ar yr ymgyrchwyr hyn. Felly, aeth ASW i'r wal a mynd i law'r derbynnydd yn 2002. Cafodd y rhan fwyaf o'r gweithwyr eu diswyddo, ac er i'r cwmni Sbaenaidd Celsa gaffael y ffatri flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn rhy hwyr i lawer o'r rhai a gyflogid yn flaenorol. Daeth yn amlwg yn ystod trafodaethau rhwng ASW, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ar y pryd fod diffyg o £21 miliwn yng nghronfeydd pensiwn y cwmni. Er bod rhywun wedi prynu'r safle, nid oedd hyn yn cynnwys enillion pensiwn gwarantedig ar gyfer gweithwyr a ddiswyddwyd. Yn y pen draw, cyngiwyd oddeutu 40 y cant o werth disgwyliedig eu pensiwn i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr—nad oedd yn agos at yr hyn a haeddent. Felly, dechreuwyd ymgyrch, ac roedd llawer yn credu ei bod wedi llwyddo pan gyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU ar y pryd gynllun cymorth ariannol, a'r gronfa diogelu pensiynau flwyddyn yn ddiweddarach.
Nawr, mae'n hawdd anghofio nad oedd y system bresennol sydd gennym yn bodoli yn 2002. Ar y pryd, roedd bwgan cynyddol yr hyn a elwid yn drefniadau dirwyn i ben—lle nad oedd gweithwyr mwyach yn cael y pensiynau a addawyd iddynt ac y talasant i mewn iddynt yn seiliedig ar hyd gwasanaeth a'u cyflog terfynol adeg ymddeol, a lle y byddent yn lle hynny yn cael beth bynnag y gallai'r cynlluniau fforddio ei dalu ar ôl sicrhau bod pensiynau'r rhai a oedd eisoes yn bensiynwyr wedi'u diogelu. Pwynt trefniadau dirwyn i ben oedd bod yn ddull sydyn ac uniongyrchol o dorri costau ar draul gweithwyr, lladrata oddi wrth y gweithwyr, gyda rhai ohonynt wedi bod yn talu i'r cynlluniau pensiwn ers llawer iawn o flynyddoedd. Cafodd degau o filoedd o weithwyr ledled y DU mewn amrywiol ddiwydiannau eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan gau safleoedd, gan gwmnïau a'r modd yr aent i'r wal, a dyna sut y cafodd eu pensiynau eu trin mor amharchus.
Felly, mae'r ffaith bod ymgyrch gref a chyhoeddus gweithwyr ASW, gyda chefnogaeth pobl megis Ros Altmann—y Farwnes Ros Altmann bellach—wedi llwyddo i newid y gyfraith a chyflwyno cynlluniau diogelu pensiynau wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth yn gamp aruthrol. Gwn y bydd Aelodau yma heddiw'n arswydo wrth feddwl am yr hyn a allai fod wedi digwydd i nifer fawr o weithwyr Cymru pe bai cynllun fel y gronfa diogelu pensiynau heb gael ei sefydlu, er mor amherffaith yw'r cynllun hwnnw. Ond ni chafodd gweithwyr ASW gyfran deg na thriniaeth deg gan Lywodraethau olynol y DU, er gwaethaf gwaith caled yr ymgyrchwyr. Felly, y sefyllfa heddiw o hyd yw nad yw ymgyrchwyr wedi cael unrhyw beth yn debyg i 90 y cant o werth eu pensiynau. Mewn gwirionedd, nid yw'r ymgyrchwyr sydd bellach yn y cynllun cymorth ariannol yn cael unrhyw amddiffyniad mynegai chwyddiant ar eu cyfraniadau cyn 1997, ychydig iawn a gânt ar gyfraniadau ar ôl 1997, ac maent yn gorfod dioddef cap ar daliadau hefyd. Po hwyaf y bu rhywun yn gweithio i'r cwmni hwn, y gwaethaf yw'r sefyllfa y maent yn debygol o fod ynddi. Mae yna bobl yn y grŵp ymgyrchu a roddodd 40 mlynedd o wasanaeth i gynhyrchu dur yng Nghaerdydd—ac nid yng Nghaerdydd yn unig. Mae yna bobl yng Nghaint sy'n wynebu sefyllfa yr un mor real, pobl sydd wedi gweithio'n galed ar hyd eu hoes mewn swyddi medrus ar gyflogau da, ac sy'n wynebu'r poen meddwl ariannol hwn yn ystod eu blynyddoedd diweddarach. Ac mae'n warthus yn fy marn i. Gwarth a anwyd yn y ddeddfwriaeth wreiddiol ac un nad yw eto wedi'i gywiro gan Lywodraeth y DU.
Nawr, rwy'n ymwybodol o'r amser, a hoffwn gau drwy ddarllen dyfyniad gan John Benson sydd wedi bod yn ddiwyd yn cadw mewn cysylltiad â mi ac ACau eraill yn yr ystafell hon ar y mater hwn. Er nad wyf yn cynrychioli ei ranbarth, gwn fod cyfiawnder pensiwn yn rhywbeth rwy'n malio'n fawr amdano, er nad wyf wedi cyrraedd oedran pensiwn fy hun eto. Er hynny, rwyf wedi gweithio'n ddiwyd, mor galed ag y gallaf, gyda'r ymgyrch hon a chyda phensiynwyr Visteon yn y gorffennol i geisio ymladd am y pensiynau y maent yn eu haeddu. Ac mae'n brofiad anhygoel bod yn rhan o ymgyrch Visteon—roedd pobl yn treulio'u holl amser wedi iddynt ymddeol yn ymgyrchu yn hytrach na mwynhau ffrwyth eu llafur. Felly, dyma'r hyn a ddywedodd John, ac fe fyddaf yn gorffen gyda hyn: 'Mae bron 17 o bobl wedi marw ac maent yn dal i gael y pensiynau y cawsant eu hannog gan y Llywodraeth i'w cynilo wedi'u dwyn oddi arnynt. Mae'r freuddwyd honno o ymddeoliad wedi ei dryllio gan ddeddfwriaeth ddiffygiol Llywodraethau. Rhaid dweud bod llawer o'r dynion a menywod gweithgar a pharchus hyn wedi cael eu bradychu mewn ffordd anynnol gan Lywodraethau olynol. Nid ydynt yn haeddu cael eu trin mor annheg; maent wedi rhoi eu ffydd mewn Llywodraethau a bradychwyd y ffydd honno.'
Mae gennym ddyletswydd i gefnogi a helpu'r cyn-weithwyr dur ASW hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder â'u hachos a pharhau i godi'r mater hwn ar y lefelau uchaf o ymwneud gwleidyddol, sicrhau y cymerir camau, a chefnogi John a phobl debyg iddo.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac yn benodol, menter y Llywydd ar ddechrau'r Cynulliad hwn i gyflwyno dadleuon ar fformat o'r fath fel y gall Aelodau gyflwyno materion fel hyn nad ydynt o fewn y cymhwysedd datganoledig, ond sy'n effeithio ar lawer o'n hetholwyr, a materion y mae gennym farn arnynt. Ac rwy'n talu teyrnged arbennig i John a Phil sydd yn yr oriel y prynhawn yma, ac yn benodol i'r ymgyrchwyr hefyd sydd wedi bwrw iddi gyda'r ymgyrch hon, oherwydd mae a wnelo â chyfiawnder, ac mae a wnelo â chyfiawnder naturiol yma.
Pan oeddwn yn edrych ar y mater hwn dros yr ychydig ddyddiau diwethaf i atgoffa fy hun am yr ymgyrch, darllenais fod Llywodraeth y DU wedi dweud bod taliadau'n dilyn y gofynion cyfreithiol. Wel, mae yna ofyniad moesol yma, rhaid imi ddweud, ac mae Llywodraethau olynol wedi methu cyflawni eu rhwymedigaethau moesol yn y maes penodol hwn.
Dywedodd Bethan yn ei sylwadau wrth gloi, 'Nid wyf yn bensiynwr eto', ac nid wyf yn golygu hyn mewn ffordd fychanol o gwbl, ond mae pawb ohonom yn meddwl ynglŷn â'r hyn rydym ei eisiau wedi inni ymddeol, ac mae llawer ohonom, os nad pob un ohonom, yn ceisio sefydlu rhyw fath o ddarpariaeth, ac mae'r gweithwyr yr effeithir arnynt—gan y diffyg hwn sydd wedi digwydd ar amrantiad, os ydych am fod yn garedig; mae lladrad yn air arall amdano os ydych am fod yn greulon o onest—wedi cael eu dyfodol wedi'i gymryd oddi arnynt. Fe wnaeth yr unigolion dan sylw y peth cywir—rhoesant ganran o'u hincwm mewn pot. Roeddent yn credu bod y pot hwnnw'n ddiogel a phan ddeuai'n adeg iddynt ymddeol, byddai wedi darparu'r cysuron a'r gallu i gael yr ymddeoliad roeddent wedi cynllunio ar ei gyfer ar hyd eu bywydau gwaith.
Ac ar draws y gweithlu, byddai mwy gan rai i'w golli nag eraill, ond mae pob un o weithwyr ASW, a llawer o weithfeydd eraill ledled y Deyrnas Unedig, nid yma yng Nghymru yn unig, wedi gweld yr ymddeoliad hwnnw'n cael ei gymryd oddi arnynt. Ac mae gorfodaeth ar wleidyddion, o ba gefndir bynnag, ac o ba blaid wleidyddol bynnag, i gyflawni'r ddyletswydd foesol sydd ei hangen arnom i unioni'r anghyfiawnder hwn. A chredaf yn gryf yn hyn, oherwydd rwyf wedi cyfarfod â'r ymgyrchwyr, a John yn benodol, a Phil, ar sawl achlysur ac ni allaf weld unrhyw ddadl resymegol y gellir ei rhoi'n ôl iddynt pan welwch y pwyntiau y maent yn eu gwneud. Ac nid yw'n iawn fod pensiynau pobl yn cael eu tocio am nad oes ganddynt amddiffyniad rhag chwyddiant wedi'i gynnwys yn y pecyn iawndal a oedd ar waith. Chwyddiant yw gelyn creulon ymddeoliad. Pan symudwch ymlaen at incwm pensiwn sy'n sefydlog iawn, ac yn amlwg, yn gorfforol, rydych yn eich—mae llawer o bobl yn parhau'n brysur iawn yn ddiweddarach mewn bywyd, ond mae'n ffaith nad ydych yn gwneud yr un faint o waith nac yn cael yr un cyfleoedd â phan oeddech yn 20, 30 neu 40 ac mae eich gallu i ennill cyflog yn gyfyngedig, ac rydych ar yr incwm sefydlog hwnnw.
Ac felly, yn fy marn i mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i ailagor hyn. A gwn mai Llywodraeth Geidwadol sydd yno heddiw. Llywodraeth Geidwadol/Democratiaid Rhyddfrydol oedd yno cyn hynny, a Llywodraeth Lafur cyn honno. Ac o ddechrau i ganol y 2000au, rwy'n derbyn bod camau unioni amrywiol wedi'u rhoi ar waith, ond roedd y camau unioni hynny'n ddiffygiol, a hynny i raddau helaeth iawn, ac ni all fod yn iawn, oherwydd bod cyfnod o amser wedi pasio, fod pobl mewn swyddi â dylanwad a grym yn credu y bydd yr amser hwnnw'n caniatáu i hyn gael ei ysgubo o'r golwg a'i anghofio. Ni ddylid caniatáu iddo gael ei ysgubo o'r golwg ac ni ddylid caniatáu iddo gael ei anghofio, oherwydd, fel y dywedais, gwnaeth yr unigolion sy'n destun yr anghyfiawnder hwn yr hyn a oedd yn iawn ac fel cymdeithas, mae angen inni wneud yr hyn sy'n iawn drwy roi eu pensiynau yn ôl iddynt, ynghyd â'r diogelwch hwnnw sydd ei angen yn ddiweddarach mewn bywyd.
Roeddem yn gwybod bod y pethau hyn yn digwydd yn y 1980au a'r 1990au. Nid oes ond angen inni edrych ar beth a ddigwyddodd gyda sgandal pensiynau Robert Maxwell a oedd yn digwydd gyda Mirror Group Newspapers. Nid oedd yn rhywbeth nad oedd pobl yn gwybod amdano, ac ar y pryd, ni chamodd rheoleiddwyr a gwleidyddion i mewn a'i gywiro. Wel, gwyddom bellach lle roedd yr anghysonderau hynny. Mae mesurau diogelu wedi'u hymgorffori yn y system, ond ni ddylid cosbi'r rhai a gafodd eu dal gan ddiffygion y system flaenorol yn eu hymddeoliad. A llwyr ategaf deimladau'r cynnig ar y papur trefn heddiw, ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda'r ymgyrchwyr i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau cyfiawnder iddynt, ein bod yn rhoi eu pensiwn yn ôl iddynt—pensiynau y maent wedi talu i mewn iddynt. Eu harian hwy ydyw, ac maent yn ei haeddu, ac ni wnawn ganiatáu i dreigl amser ganiatáu i'r anghyfiawnder hwn gael ei anghofio. Ac felly rwy'n croesawu gwaith trawsbleidiol yn y Siambr hon i wneud yn siŵr nad anghofir eu lleisiau, a byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau, lle bynnag yr eisteddant, i wneud yn siŵr y cawn y newidiadau sydd eu hangen i'r cynllun.
Rwyf am siarad o blaid gweithwyr Allied Steel and Wire, am fod ganddynt achos cyfiawn iawn. Mae ganddynt hawl i gyfiawnder, ac mae'r ymgyrch a gynhaliwyd ganddynt hefyd yn un sy'n adlewyrchu anghysondebau yn y diwydiant pensiynau drwyddo draw, yn mynd yn ôl i ddechrau'r 1980au. Ac af yn ôl at y 1980au—hynny yw, diolch byth, bryd hynny o leiaf roedd gennych un linell sylfaen, sef y gyfarwyddeb pensiynau o'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, gallem golli rhai o'r mesurau diogelu hyn yn y dyfodol. Bûm yn ymwneud am gyfnod, fel cyfreithiwr undeb llafur wrth gwrs, mewn achos cyfreithiol ar ran cymuned a aeth i'r Llys Ewropeaidd, a chafwyd llwyddiant rhannol yn yr ystyr bod y llys wedi cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi torri ei rhwymedigaethau ond wrth gwrs, ni osododd ofyniad am system o iawndal 100 y cant, a dyna oedd y methiant, a dyna roedd rheoliadau dilynol i fod i'w gywiro.
Mae angen inni fynd yn ôl hefyd at y ffaith bod holl faes dadreoleiddio'r diwydiant pensiwn yn ymgyrch benodol gan y diwydiant yswiriant, a diwydiant yswiriant sy'n parhau i fod â gormod o reolaeth o lawer ac sy'n ymwneud llawer gormod ym mholisïau'r Llywodraeth a pholisïau cyfredol penodol. A rhaid inni gofio hefyd mai Deddf 1986, o dan Margaret Thatcher, a arweiniodd at y dadreoleiddio hwnnw, a'r dadreoleiddio—mae angen inni feddwl yn ofalus am yr hyn a wnaeth mewn gwirionedd. Caniataodd i gwmnïau optio allan o'r rhwymedigaeth i ddarparu pensiynau galwedigaethol. Caniataodd i gwmnïau dynnu arian allan o warged pensiynau, a methodd ddarparu ar gyfer y risgiau a fyddai'n codi mewn perthynas â chwmnïau'n mynd yn fethdalwyr. A'r rheswm pam y diystyrwyd y risgiau hynny oedd bod y Llywodraeth ym mhoced y diwydiant yswiriant. A rhaid inni edrych, er enghraifft, ar yr hyn a ddigwyddodd i Gynllun Pensiwn y Glowyr, ac wrth gwrs roedd ymgyrch yn mynd rhagddi ynglŷn â hynny mewn perthynas ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
A'r hyn a ddigwyddodd oherwydd y dadreoleiddio hwnnw, ac oherwydd cau'r pyllau glo ar y pryd, oedd bod glowyr yn cael clywed, 'Dyna chi, gallwch dynnu eich cronfeydd pensiwn allan, gallwch eu trosglwyddo yn awr'—o'r hyn a oedd yn un o gronfeydd pensiwn mwyaf llwyddiannus y byd mae'n debyg—'a'u rhoi mewn cronfeydd pensiwn preifat.' A dyma'r ffordd y gweithiai'r diwydiant. Ai cynrychiolwyr yswiriant o gwmpas y glowyr unigol a dweud, 'O, na, na, rhowch eich arian yn y gronfa hon, bydd hi'n llawer gwell', ond yr hyn nad oeddent yn ei ddweud wrth y glöwr oedd y byddai'n talu arian i bobl y gwasanaethau ariannol eu hunain am y pum mlynedd cyntaf. Ac yna, ar ôl pum mlynedd, pan fyddent yn dechrau cronni rhywfaint o fudd, byddai rhywun yn dod ac yn dweud, 'O, mae hyn a hyn wedi mynd bellach, rwy'n credu bod angen inni adolygu', ac yna byddent yn gwneud yr un peth eto. Felly, byddent yn dwyn oddi wrth y glowyr yn barhaus. Ac roedd llawer o grwpiau eraill o weithwyr yn yr un sefyllfa. Ac yn wir, gwnaed asesiad gan gynghorwyr pensiwn proffesiynol—cynghorwyr proffesiynol yw'r rhain—a dywedodd 69 y cant ohonynt yn y bôn mai un o ganlyniadau dadreoleiddio Margaret Thatcher oedd nid yn unig iddi fethu gweld effaith ei rheoliadau ar gynlluniau pensiwn, ond cymaint o risg a wynebai aelodau o'r cynlluniau hyn pe bai’r cwmnïau'n mynd yn fethdalwyr, a dyna'n union a ddigwyddodd.
Nawr, rhoddwyd amryw o fesurau ar waith i geisio helpu ers hynny, ond yr hyn sy'n glir iawn yw bod gennym gors gyfan o reoliadau, a bellach mae gennym grwpiau cyfan o bobl lle y mae gwarged yn cael ei dynnu allan o bensiynau pan fo'n gyfleus naill ai i'r cyflogwr, y Llywodraeth, neu ddiwydiant penodol wneud hynny ac yna, pan fydd bylchau dilynol yno, y gweithwyr, y bobl sy'n talu eu pensiynau dros yr holl flynyddoedd, sy'n dioddef mewn gwirionedd. Felly, mae gennym—. Mae gennym weithwyr Allied Steel and Wire, ac mae pensiynau llawer ohonynt bellach yn llawer iawn llai o ran y swm y mae ganddynt hawl iddo yn rhinwedd eu cyfraniadau. Mae gennym Women Against State Pension Inequality, lle y newidiodd y Llywodraeth y rheoliadau ac yn sydyn mae gennych bobl bellach yn gorfod gweithio pum, chwe, saith mlynedd arall oherwydd newidiadau i bensiynau. Ac mae gennym Lywodraeth sy'n cymryd biliynau o bunnoedd allan o'r cynllun pensiwn gweithwyr mwyaf llwyddiannus yn y byd, cynllun pensiwn y glowyr, ac mae'r Llywodraeth yn gwrthod negodi ad-drefniant—nid diddymu'r trefniadau hynny, ond ad-drefnu.
Felly, rwy'n cefnogi hwn oherwydd nid yn unig fod gweithwyr ASW yn iawn, ond mae angen adolygiad llwyr o'r hyn a fu'n digwydd gyda phensiynau, yr hyn sy'n parhau i ddigwydd—y ddeddfwriaeth sy'n dod drwodd yn awr o blaid y diwydiant yswiriant ar draul hawliau pobl i gael iawndal, diwydiant yswiriant sy'n cael budd o bob deddfwriaeth, ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod pobl yn cael budd o hynny mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod y ffaith bod gennym Lywodraeth sydd ym mhoced y diwydiant yswiriant yn peri pryder mawr. Felly, credaf fod comisiwn brenhinol ar bensiynau, adolygiad pensiynau—rhywbeth sy'n pennu'r nod o adfer cyfiawnder yn y bôn—ond ail-sefydlu cynllun pensiwn priodol hefyd er mwyn sicrhau, pan fydd gweithwyr yn talu i mewn i'r cynlluniau pensiwn hynny, fod hawl ganddynt i'r hyn y maent wedi ei dalu i mewn pan fyddant yn cyrraedd yr hawl i bensiwn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, er y byddai'n well gennyf pe na bai ei hangen. Mae rhai ohonom wedi bod yn Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ers amser hir iawn—ers y diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd—fel roedd fy nghyn gyd-Aelod Plaid Cymru, Owen John Thomas, a oedd yn groch ei gefnogaeth i ymgyrchwyr pensiwn Allied Steel and Wire ar hyd yr amser.
Yn 2003—sef 16 mlynedd yn ôl—sicrhaodd Plaid Cymru ddadl plaid leiafrifol yn Nhŷ Hywel—roeddem yn yr hen adeilad ar y pryd, cofiwch—ar sgandal yr hyn a oedd wedi digwydd i bensiynau Allied Steel and Wire. Yn y ddadl honno, dywedodd Owen John Thomas:
Mae hwn yn gyfle perffaith i'r Llywodraeth Lafur hon ddangos ei phenderfyniad i roi chwarae teg i weithwyr. Deddfwriaeth Dorïaidd, a gyflwynwyd gan Margaret Thatcher, a achosodd y llanastr hwn drwy gyflwyno rheolau sy'n caniatáu i gwmnïau dalu eu holl gredydwyr eraill cyn anrhydeddu eu hymrwymiadau pensiwn wrth i gwmni gael ei ddirwyn i ben.
Roedd hynny amser maith yn ôl, ac rydym yn dal yma. Roedd y cynllun diogelu pensiynau a gefnogwyd gan y Llywodraeth yn gyflawniad arwyddocaol ar y pryd, ac roedd y ddeddfwriaeth i'w gweld yn newid blaengar gan Lywodraeth Lafur. Nid dyna fel y mae pethau wedi datblygu, ac ers blynyddoedd, ni wnaeth Llywodraethau Blair a Brown ddim byd o gwbl i unioni unrhyw anghyfiawnder a wynebai'r rhai o fewn y cynllun cymorth ariannol. Yn wir, gadawodd y Farwnes Ros Altmann y Blaid Lafur oherwydd y mater hwn yn 2007, mater a alwai'n 'sgandal'. Gwelliant ymylol a welwyd yn y cynllun cymorth ariannol ar ôl i'r Llywodraeth ar y pryd orfod mynd i'r llys, wedi iddi apelio ar ôl ei chael yn euog gan yr ombwdsmon o gamarwain pensiynwyr. Nid oedd y modd yr oedd y Llywodraeth Lafur flaenorol wedi trin pensiynwyr yn ennyn llawer o glod. Daeth y Llywodraeth ar y pryd o dan lach y Campaign for Plain English am fod yn ddauwynebog. Daeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010 gyda'r disgwyliad y byddent yn cywiro'r problemau hyn yn y gyfraith pan gâi'r cynllun cymorth ariannol ei sefydlu. Ni wnaethant ddim heblaw cynnig cydymdeimlad mewn gwirionedd. Fe wnaethant benodi'r Farwnes Altmann i fod yn Weinidog pensiynau, ond nid oeddent yn barod i ddarparu iawndal i'r ymgyrchwyr hyn ac i eraill yn y cynllun cymorth ariannol. Y peth sy'n peri pryder yw nad yw'r Llywodraeth bresennol yn y DU wedi gwneud unrhyw beth i sicrhau iechyd hirdymor pensiynau preifat.
Nid yw ymgyrchwyr Allied Steel and Wire yn mynnu pethau ychwanegol; maent eisiau tegwch. Maent eisiau i'w cyfraniadau cyn 1997 gael eu hamddiffyn rhag chwyddiant. Maent eisiau i'r rhai yn y cynllun cymorth ariannol gael eu trin gyda'r un lefel o degwch a diogelwch â'r rhai sydd yn y gronfa diogelu pensiynau, a dileu cap ar daliadau ac iawndal fel y gallant gael yr hyn a gymerwyd oddi arnynt. Fel y dywedodd eraill—. Rydym wedi cael cyfraniadau go rymus y prynhawn yma: Bethan, roeddech yn wych wrth agor y ddadl; Andrew R.T. a Mick, aruthrol. Ceir emosiynau pwerus ynglŷn â hyn o hyd, ac fel y dywedodd Bethan, gan ddyfynnu llawer o bobl dros y blynyddoedd, nid bonws ar ddiwedd gwaith yw cyfraniad pensiwn, ond rhan ohiriedig o gyflog rhywun; mae ei gymryd yn lladrad.
Bu Plaid Cymru'n ymladd dros gyfiawnder i'r gweithwyr hyn ac eraill ers blynyddoedd, fel y clywsom. Sylwadau Owen John Thomas yn 2003 oedd y rheini. Roedd yn dal wrthi yn 2007, a dyfynnaf—mewn dadl gan Owen John a oedd yn dal yma ar y pryd:
Rhaid i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i'r Cynllun Cymorth Ariannol fel bod cyn-weithwyr ASW yn cael yr hyn y byddai hawl ganddynt ei gael. Mae yma anghyfiawnder ofnadwy yn arbennig i'r rhai sydd o dan 50 oed ond sydd efallai wedi gweithio hyd at 35 mlynedd yn y gwaith dur, ond sy'n mynd i fethu cael unrhyw gymorth ariannol.
Roedd hynny 12 mlynedd yn ôl. Roedd hynny ynddo'i hun bum mlynedd wedi i'r mater hwn godi ei ben am y tro cyntaf, ac Allied Steel and Wire, ffatri anferth sydd ond dafliad carreg oddi yma—. Beth allwn ni ei wneud am y peth? Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i siarad yn y ddadl—Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyflwyno'r mater pwysig hwn ar lawr y Cynulliad heddiw, ac am y cyfle i roi llais i bryderon pensiynwyr ASW. Hoffwn ddweud ar y cychwyn fod pensiynwyr ASW wedi dioddef annhegwch difrifol iawn. Mae pobl wedi gweithio'n galed, maent wedi talu i mewn, maent wedi cynllunio ar gyfer eu dyfodol, ac maent wedi gwneud y peth iawn, a heb fod unrhyw fai arnynt hwy, gwelsant eu bod yn cael eu hamddifadu o'r hyn y gallent fod wedi disgwyl ei gael yn rhesymol.
Bydd yr Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fel y clywsom, nad yw materion pensiwn wedi'u datganoli i Gymru, ond serch hynny, rydym yn cefnogi'r cyn-weithwyr ASW yn eu hymgyrch dros adfer eu pensiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o bleidleisio o blaid y cynnig trawsbleidiol hwn heddiw a gobeithiwn y bydd y Cynulliad yn anfon neges glir ac unfrydol i Lywodraeth y DU.
O'r cychwyn cyntaf, bu Llywodraeth Cymru'n gyson yn ei chefnogaeth i weithwyr ASW cyn ac ar ôl cau'r gwaith yng Nghaerdydd yn 2002. Roedd ein cefnogaeth yn cynnwys gweithgarwch helaeth yn gysylltiedig â chau ASW, gyda chyfraniad personol cadarn gan y Prif Weinidog ar y pryd, a oedd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd â gweinyddwyr a chynrychiolwyr gweithwyr ASW a mwy o gyfarfodydd ar wahân gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW i drafod materion a godwyd gan aelodau; cymorth ymarferol i weinyddwyr ASW ddod o hyd i bartïon â diddordeb ar gyfer y gwaith yng Nghaerdydd fel busnes gweithredol, gan arwain at ailagor y gwaith yn llwyddiannus gan Celsa yn 2003; a sylwadau niferus gan Weinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ar ran holl aelodau cynllun pensiwn ASW.
Ysgrifennodd Gweinidogion Cymru yn gyntaf at Weinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn ym mis Awst 2002 i dynnu sylw at amgylchiadau cyn-weithwyr ASW ac i ofyn iddynt ystyried pob llwybr posibl o gymorth a chefnogaeth o fewn y drefn bensiynau a chyflogaeth. Ym mis Mehefin 2003, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau gynnig yn ymwneud â'r gronfa diogelu pensiynau—y PPF, y clywsom amdani yn y ddadl hon—i ddiogelu hawliau pensiwn cronnus ar gyfer cynlluniau pensiwn â buddion wedi'u diffinio a fyddai'n dechrau dirwyn i ben ar ôl mis Ebrill 2005. Pwysodd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU yn sgil hynny i ystyried o ddifrif sefydlu trefniadau ôl-weithredol i'w gwneud hi'n bosibl cynnwys cynlluniau pensiwn fel un ASW.
Gan weithio'n agos gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW a chynrychiolwyr cyn-weithlu ASW a etholwyd yn ddemocrataidd, parhaodd Llywodraeth Cymru i gefnogi'r achos dros aelodau'r cynllun pensiwn drwy ohebiaeth a chyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn.
Cyfarfu Gweinidogion Cymru hefyd â chyn-weithwyr ASW i glywed eu pryderon yn uniongyrchol. Croesawodd Llywodraeth Cymru y cyhoeddiad ym mis Mai 2004 gan yr Ysgrifennydd pensiynau ynglŷn â gwelliant i'r Bil Pensiynau i ddarparu ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Bwriad y cynllun cymorth ariannol oedd darparu cymorth i aelodau cynlluniau pensiwn lle'r oedd y cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr cyn sefydlu'r gronfa diogelu pensiynau.
Hefyd, croesawodd Llywodraeth Cymru y ffaith bod cynllun pensiwn ASW wedi'i gynnwys yn y cynllun cymorth ariannol ym mis Hydref 2005. Fodd bynnag, daeth yn amlwg na fyddai'r cynllun cymorth ariannol ond o fudd i ganran fach iawn o aelodau cynllun pensiwn ASW. Ar y pryd, roedd y cynllun yn gyfyngedig i gynnig cymorth i aelodau cymwys o fewn tair blynedd i oedran pensiwn arferol eu cynllun. Byddent yn derbyn taliadau atodol hyd at oddeutu 80 y cant o'u pensiwn disgwyliedig, wedi'i dalu o'r adeg pan fyddent yn 65 oed ni waeth beth oedd oedran ymddeol y cynllun, ac roedd hyn yn ddarostyngedig i gap o £12,000. Pwysodd Llywodraeth y DU am welliannau i'r cynllun cymorth ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y rheini a oedd fwy na thair blynedd o'r oedran ymddeol, ac roedd llawer iawn o'r rheini o fewn y cynllun ASW.
Cafwyd galwadau hefyd i ailasesu lefel y cyllid ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Cyhoeddwyd estyniadau i'r cynllun cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn 2006 a 2007. Y mwyaf nodedig oedd y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2007 y byddai holl aelodau'r cynllun cymorth ariannol yn cael 90 y cant o'u pensiwn cronnus ar ddyddiad cychwyn y broses o ddirwyn i ben, yn ddarostyngedig i gap, a oedd yn £26,000 ar y pryd, ac o fis Ebrill 2018 ymlaen, mae bellach yn £35,256. Byddai cymorth yn cael ei dalu hefyd o oedran ymddeol arferol y cynllun, yn amodol ar derfyn oedran is o 60 oed.
Yn fy marn i, mae hyn oll yn dangos bod lobïo cyson dros y tymor hir gan weithwyr ASW ac eraill wedi arwain at welliannau cynyddrannol, a dyna pam nad ydym yn rhoi'r ffidil yn y to a pham nad ydym am roi'r gorau i ddadlau'r achos. A hoffwn gydnabod—.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Efallai nad wyf yn darllen hyn yn iawn, ond rwy'n credu y bydd y cynnig hwn yn pasio gyda chefnogaeth unfrydol y prynhawn yma. Rwy'n derbyn nad yw'r pleidleisiau hyn yn tueddu i fod yn ddarostyngedig i'r chwip—nid yw'r dadleuon Aelodau hyn—felly os yw'r bleidlais yn pasio gyda chymeradwyaeth unfrydol—ac mae'r Llywodraeth wedi dangos eu cefnogaeth—a wnewch chi ymrwymo fel Gweinidog i ddwyn y mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain y tro nesaf y byddwch yn ei chyfarfod, ac yn arbennig, yr Adran Gwaith a Phensiynau, o safbwynt y Llywodraeth? Oherwydd, fel y nodwch yn gwbl briodol, mae lobïo helaeth a pharhad yr ymgyrch wedi dwyn ffrwyth yn y gorffennol, ac ni allwn fodloni ar 'nodi' y ddadl hon yng nghofnodion y Cynulliad a dim mwy na hynny.
Na allwn, rydych yn llygad eich lle, ac rydych wedi achub y blaen ar baragraff olaf fy araith y prynhawn yma. Ond cyn imi ddod at y pwynt hwnnw, hoffwn gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol sydd wedi bod i'r mater hwn dros y blynyddoedd, a chydnabod, er enghraifft, y llythyr a lofnodwyd gan arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad ar y pryd yn 2012, a nodi 10 mlynedd wedi i ASW fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Felly, er bod y sefyllfa wedi gwella i aelodau'r cynllun cymorth ariannol ers dyddiau cynnar y cynllun hwnnw, mae'n dal yn wir fod diffygion sylweddol yn parhau i lawer o bobl, gan gynnwys cyn-weithwyr ASW, o ran y cymorth a ddarperir.
Felly, i gloi, ar ran y rhai yr effeithir arnynt, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried y pryderon a godwyd gan aelodau'r cynllun cymorth ariannol a'u cynrychiolwyr er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol a haeddiannol. Ac rwy'n falch o roi'r ymrwymiad hwnnw heddiw y byddaf yn dwyn y mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn uniongyrchol pan fyddwn yn cyfarfod yn gynnar ym mis Chwefror, ac yn sicr byddaf yn ystyried yr holl sylwadau a gawsom yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb am y modd cadarnhaol y maent wedi siarad yn y ddadl hon. Fel arfer pan gawn ddadleuon, bydd rhai pobl yn siarad ychydig fel arall, hyd yn oed pan fyddant yn cefnogi, ond cawsom unfrydedd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. A gaf fi ymuno â Bethan Sayed i longyfarch yr ymgyrchwyr, yn enwedig John Benson, am ddal ati cyhyd? Ond a gaf fi annog cyd-Aelodau'r Cynulliad—a wnewch chi ymateb i negeseuon e-bost John Benson? Mae'n anfon negeseuon e-bost at bob un ohonom yn weddol rheolaidd. Nid yw pawb yn ateb. Rydym yn mynd i ddangos cefnogaeth yma—yn unfrydol gobeithio—ond a allwch adael iddo wybod ei fod wedi cael y gefnogaeth unfrydol honno drwy ateb y negeseuon e-bost y mae'n eu hanfon?
Mike, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Dim ond i bwysleisio'r pwynt hwnnw, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael pleidlais yma y prynhawn yma. Byddaf yn gofyn am bleidlais, mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud yn ddifeddwl, 'Mae'n mynd i fod yn unfrydol.' Credaf fod pobl yn haeddu gweld ein henwau wrth—a'n bod yn cofnodi ein cefnogaeth yn llawn. Felly, byddaf yn gofyn am bleidlais, ac os oes angen, bydd hynny'n golygu y bydd rhaid inni ddweud, 'Rydym yn gwrthwynebu iddo fynd drwodd heb bleidlais', oherwydd rwyf am weld pawb yn cael ei gofnodi'n dweud, 'Rydym yn cefnogi'r pensiynwyr 100 y cant.'
Diolch. Fel y mae'r Aelodau yma'n gwybod, rwy'n eich cynrychioli ar gronfa bensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac mae pobl o wahanol grwpiau oedran yma a fydd mae'n debyg yn gwybod yn union faint o bensiwn sydd ar y ffordd iddynt. Rwy'n gofyn i chi sut y byddech yn teimlo pe bai'r hyn a ddigwyddodd i bensiynwyr ASW yn digwydd i chi. [Torri ar draws.] Gallaf ddweud wrthych beth sydd gennych, Bethan, pe baech am imi wneud hynny ryw dro arall. [Chwerthin.]
I bob pwrpas, cyflogau gohiriedig yw pensiynau, ac fel y dywedodd Bethan Sayed, nid yw staff Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau. Mae'r arian wedi'i ddwyn oddi arnynt. Yn anochel mae hyn yn mynd i olygu caledi ariannol nad oeddent yn ei ddisgwyl i rai unigolion. Roeddent yn gwybod faint y byddent yn ei gael—. Ac a gaf fi helpu pobl—? Po agosaf y dowch at oedran ymddeol, y mwyaf o ddiddordeb fydd gan bobl yn y swm o arian sydd ganddynt yn eu pensiynau. Mae pobl yn disgwyl i'w pensiynau fod yno fel oedd disgwyl iddynt fod, a heb eu hailraddnodi tuag i lawr. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder a dangos arweiniad moesol, ac nid yw'n swm mawr o arian o ran y Llywodraeth, ac rwy'n credu ei bod yn anffodus nad ydynt yn barod i ddod o hyd i swm cymharol fach. Byddent yn darparu digonedd o arian ar ei gyfer pe bai'n rhyfel.
Andrew Davies, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'r diffyg wedi amddifadu pobl o'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Effeithiwyd yn wael iawn ar ymddeoliad pob gweithiwr. Mae rhai wedi wynebu eu dyfodol yn cael ei wneud yn wahanol iawn i'r hyn a ddisgwylient. Mae'n anghyfiawnder, ac yn anghyfiawnder sydd angen ei gywiro. Mae angen inni ddangos ein bod yn eu cefnogi fel bod modd gwneud y peth iawn ar eu rhan.
Mick Antoniw—unwaith eto, mae'n achos cyfiawn iawn. Credaf fod hwnnw'n sylw a wnaethpwyd gan bawb a siaradodd. Mae ganddynt hawl i gyfiawnder. Nid yw hyn yn ymwneud â gofyn am elusen. Nid yw'n ymwneud â gofyn am rywbeth mwy na'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl: mae a wnelo â chyfiawnder, ac i mi, yma, os rhywbeth, mae'n frwydr dros bobl lai cefnog nad ydynt yn cael cyfiawnder.
Mae anghysondebau yn y diwydiant pensiynau—credaf ei bod yn anffodus ein bod wedi symud i'r cyfnod wedi 1979 pan oedd trachwant yn dda a dadreoleiddio yn dda a phan ganiatawyd i gwmnïau optio allan, fel y dywedodd Mick Antoniw, ac i dynnu arian allan, nid darparu ar gyfer risg, a phan ddeuai'n bryd eu talu, câi bylchau yn y gronfa bensiwn eu talu gan y gweithwyr a dalodd i mewn i'r gronfa bensiwn honno. Credaf fod hynny'n hynod o drist i'r rhai dan sylw. A chofiwch, pe na baech yn eistedd yma yn awr, gallai eich cynnwys chi.
Credaf fod safbwynt Mick Antoniw ynglŷn â'r comisiwn brenhinol ar bensiynau yn un da iawn. Nid wyf yn meddwl y cawn un, ond credaf ei fod yn rhywbeth y dylem ofyn amdano. Dai Lloyd—cynllun diogelwch pensiwn a gefnogir gan y Llywodraeth, y credai pawb ei fod yn mynd i fod yn ateb. Wel, rwy'n credu bod gweithwyr ASW wedi darganfod nad oedd, a chredaf fod hynny'n drist, oherwydd pan gyflwynir cynlluniau y disgwylir iddynt fynd i'r afael â rhywbeth lle y mae pobl yn gwybod bod yna anghysondebau, mae'n drist iawn eu bod yn methu. Ac mae gweithwyr ASW yn barhaus—. Ac rwy'n mynd i ddal ati i ddefnyddio'r gair hwn—tegwch.
Ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi disgrifio ASW fel 'anghyfiawnder dybryd'. Maent wedi eu hamddifadu o'r hyn a ddisgwylient. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cyn-weithwyr ASW, ac rwy'n falch eu bod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch iawn—ac rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi gwneud y penderfyniad iawn i alw am bleidlais a enwir i bawb sy'n ei gefnogi, ond ni all fod yn iawn fod pobl yn heneiddio bellach, pobl sydd wedi ymddeol yn eu 60au ac sydd, ar ddiwedd eu 70au yn dal i boeni am y pensiwn, ac fel y gall Bethan Sayed ddweud wrthych hefyd gydag ymgyrch Visteon, bu llawer o bobl farw tra'n aros am gyfiawnder pensiwn. Credaf mai dyna un o'r pethau tristaf o bosibl yw fod pobl yn aros am gyfiawnder ac nad ydynt byth yn ei gael, ac efallai y bydd cyfran ohono'n gwneud ei ffordd at eu perthnasau agosaf, ond ni fyddant hwy byth yn cael y cyfiawnder y buont yn ymgyrchu drosto ac yn ymladd amdano.
Credaf y dylem gefnogi gweithwyr ASW i'r carn. Dylem ddweud, 'Credwn eich bod yn haeddu cyfiawnder, a chredwn y dylai Llywodraeth San Steffan ddarparu'r arian', sydd, o safbwynt gwariant Llywodraeth, yn swm cymharol fach—un taflegryn yn llai efallai a gallem ei dalu. Rwy'n credu ein bod eisiau sefyllfa mewn gwirionedd lle y darperir yr arian a bod pobl yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pawb yn yr ystafell hon yn ei gefnogi.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfraddau treth incwm Cymru, a galwaf ar Nick Ramsay i wneud y cynnig—Nick Ramsay.
Cynnig NDM6921 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. I ddyfynnu'r Seneddwr Bobby Kennedy yn 1966:
Hoffi'r peth neu beidio, rydym yn byw mewn cyfnod diddorol.
Wel, hoffi'r peth neu beidio, rydym eto heddiw'n byw mewn cyfnod diddorol, ac mae trethi datganoledig gyda ni, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio. Fel y gwyddom, o Ebrill 2019, bydd gan y sefydliad hwn bŵer i amrywio cyfraddau treth incwm, sy'n arf pwerus yn ogystal â threthi Cymreig newydd eraill—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hyn yn ychwanegol at bwerau sydd eisoes yn bodoli i godi ac i bennu ardrethi busnes. Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gael oddeutu £5 biliwn mewn refeniw treth o fis Ebrill ymlaen.
Felly, sut y mae gwneud i hyn weithio yn y ffordd orau er budd bobl Cymru? Yn bwysicach, sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau treth newydd hyn i gynhyrchu twf yn ein heconomi? Wrth gwrs, mae'r rhain yn gwestiynau na fu angen inni eu gofyn yng Nghymru hyd yma. Maent yn gwestiynau mawr ynglŷn â sut y rheolwn arian cyhoeddus, sut yr awn â'r bobl gyda ni ar y daith hon, sut y datblygwn berthynas well rhwng y Llywodraeth a'r bobl, perthynas sy'n briodol ar gyfer yr oes fodern, perthynas sy'n briodol ar gyfer oes newydd o atebolrwydd i'r Cynulliad hwn.
Bu'n fraint cael bod ar Bwyllgor Cyllid y Cynulliad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r materion hyn gael eu trafod yn fanwl. Daeth llawer o syniadau da gan Aelodau o bob plaid. Dyna sut y dylai fod. Nid yw datganoli trethi'n fater sy'n perthyn i un blaid, un grŵp yn unig, mae'n perthyn i bob un ohonom. Ein cyfrifoldeb ni yw cael hyn yn iawn, yn y meysydd lle y mae trethi eisoes wedi'u datganoli ac ym maes treth incwm yn ogystal, er mwyn i'r pwerau newydd allu llwyddo, ac fel y dywedwn mor aml yn y Pwyllgor Cyllid, nid yn unig er mwyn iddo lwyddo ond er mwyn gwneud Cymru'n batrwm o arferion gorau.
Sut y gallwn ddenu rhai sy'n creu swyddi, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid i Gymru i sefydlu busnesau newydd, creu swyddi newydd a chyfoethogi ein heconomi? Gall trethi ein helpu i wneud hyn oll, ond rhaid defnyddio'r pwerau newydd hyn yn y ffordd iawn er mwyn denu cefnogaeth a meithrin buddsoddiad, yn hytrach na mygu uchelgais a dyhead. Dengys tystiolaeth fod economïau trethiant isel yn fwy ffafriol i fusnesau newydd, gallant ddenu'r rhai sy'n creu swyddi, a gallant gynyddu refeniw mewn gwirionedd am eich bod yn annog mwy o weithgarwch economaidd.
Yn y pen draw, golyga hyn fod gennym fwy o arian i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf. Gadewch inni fod yn onest, mae angen buddsoddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ni allwn ganiatáu i Gymru lusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran faint o arian sydd gennym i'w wario ar ei fuddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai. Felly, rwyf eisiau i economi Cymru fod yn fwy cystadleuol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'r economi fod yn fwy cystadleuol. Credaf y byddai pob plaid a gynrychiolir yn y Siambr hon yn dymuno gweld hynny'n digwydd. Mae angen inni annog pobl i ddod yma i sefydlu busnesau newydd a chreu'r swyddi medrus newydd sydd eu hangen arnom.
Yr Athro Gerry Holtham oedd un o'r academyddion cyntaf i ystyried y manteision y gallai trethi datganoledig eu creu i Gymru. Tynnodd sylw at y ffaith mai ychydig iawn o effaith a gâi gwneud mân addasiadau i gyfradd sylfaenol y dreth incwm ar y sylfaen drethu, ar wahân i beidio â chodi symiau enfawr o arian, am fod y rhai sy'n talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol yn tueddu i fod yn llai symudol na threthdalwyr ar y gyfradd uwch. Yn wir, daeth i'r casgliad mai'r newid mwyaf cynhyrchiol i drethiant fyddai gostyngiad o 10c yn y bunt i'r cyfraddau uwch gan y gallai arwain at ddenu trethdalwyr ar y gyfradd uwch o'r ochr arall i'r ffin, yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth a dyhead yng Nghymru.
Un peth sy'n glir yw bod angen inni dyfu sylfaen drethu Cymru'n sylfaenol a gwella ei strwythur. Ar hyn o bryd, dwy ran o dair yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd uwch sydd gennym yng Nghymru o gymharu â Lloegr, a chwarter yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Yn gyntaf, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol y gwaith a wnaeth Steffan Lewis ar drethiant yn ystod ei amser yma. Y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud, fodd bynnag, yw ein bod wedi cymharu â Lloegr, ond o hepgor Llundain a de-ddwyrain Lloegr, yn sydyn iawn nid ydym mor wahanol â hynny. O ran y trethi a godir, gwyddom mai de-ddwyrain Lloegr a de Lloegr yw'r unig ddwy ardal sy'n talu mwy o dreth nag a gânt yn ôl.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch yn y fan honno, Mike. Yn gyntaf, ar Steffan Lewis, roedd yn aelod gwerthfawr o'r Pwyllgor Cyllid ers iddo ddod yn aelod ohono yn 2016. Gwn ein bod i gyd yn teimlo, nid yn unig y tristwch o'i golli yn y Siambr hon, ond hefyd y tristwch o golli'r ysbryd a gyfrannodd yn y pwyllgor. Roedd ganddo bob amser safbwynt gwahanol, ac mewn materion fel datganoli trethiant, pan ddatganolir treth incwm fe welwn golli ei lais wrth ddadansoddi'r ddadl honno, ac mae hynny'n drasig, ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg hon.
Yn ail, rydych yn gywir: os edrychwch ar dde-ddwyrain Lloegr ar wahân i Loegr, ydy, mae'n ystumio'r sylfaen drethu ar draws y DU gyfan. Roedd gwahaniaeth rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU yn ogystal, felly dyna oedd y pwynt y ceisiwn ei wneud, ond rydych yn gywir, nid yw mor fawr os nad ydych yn cynnwys de-ddwyrain Lloegr, ac nid ydym yn mynd i gael economi fel de-ddwyrain Lloegr—ni fyddem ei heisiau, chwaith—nid yn y blynyddoedd nesaf yn sicr. Dau bwynt dilys.
Felly, mae'n bwysig ein bod yn cadw trethdalwyr a'n bod yn tyfu'r sylfaen drethu. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy, ac nid wyf yn dweud 'anghynaliadwy' yn y ffordd y byddem fel arfer yn ei ddefnyddio yn y dadleuon hyn, oherwydd yn amlwg bydd yr hyn a dderbynnir mewn trethi yno, ond os ydym am gael derbyniadau treth sy'n bodloni ein dyheadau, sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau, credaf y byddem oll yn cytuno fod angen inni ei gynyddu, ac mae hynny'n golygu cael cyfraddau treth cystadleuol.
Os ydym am fod yn wlad fwy ffyniannus, mae angen system dreth sy'n annog twf cyflogau. Nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau i bobl yng Nghymru ennill mwy, oherwydd os yw pobl yn ennill mwy, mae'r derbyniad treth yn fwy a cheir mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, clywsom lawer o sôn heddiw am godi treth incwm. Ymddengys mai dyna lle y canolbwyntiodd y rhan fwyaf o'r drafodaeth. Ond ni chlywsom lawer am amrywio cyfraddau treth mwyach, cyfraddau treth incwm, na gostwng cyfraddau treth yn wir. Credaf fod angen inni glywed ychydig mwy am fanteision hynny gan Lywodraeth Cymru, ynglŷn â sut y gallwn gynhyrchu mwy o refeniw drwy gynnig cyfraddau treth deniadol fel bod pobl yn dymuno dod i fyw yng Nghymru, a bod y bobl yma sy'n awyddus i fuddsoddi yn ein heconomi ag arian i wneud hynny.
Er fy mod yn cydnabod bod cyfraddau treth incwm yn aros yn sefydlog eleni, ac mae hynny i'w groesawu, cafwyd cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i hyn, er gwaethaf addewid yn 2016 i beidio â chodi treth incwm tan 2021 ar y cynharaf. Mae'r hen ddadleuon ynglŷn â chodi trethi i gynyddu refeniw i'w wario yn rhy syml ac wedi dyddio wrth gwrs. Mae unrhyw beth sy'n mygu entrepreneuriaeth yn niweidio'r economi yn y pen draw ac yn lleihau derbyniadau treth.
Mae gennym ffin hir a thyllog iawn â Lloegr, ac os oes gan Gymru gyfradd uwch o dreth incwm, dros amser byddech yn gweld cynnydd yn y bobl sy'n symud ar draws y ffin, oddi yma, gan fynd â busnesau, swyddi a photensial economaidd i Loegr, a byddai'r dreth yn mynd i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Cymru. Cyn i Mike Hedges ymyrryd, os yw'n meddwl gwneud hynny, rwy'n sylweddoli nad yw mor syml â dweud y byddai hynny'n digwydd dros nos, ond dyna fyddai'r perygl dros y tymor canolig, sefyllfa hirdymor. Nid oes neb ohonom am i hynny ddigwydd.
Pan gynyddodd yr Alban gyfraddau treth yn 2017 ar gyfer y cyfraddau uwch ac ychwanegol o geiniog yn y bunt, gwelwyd miloedd o drethdalwyr y gyfradd uwch ac ychwanegol yn gadael. Cafwyd twll du yng nghyllid y wlad. Mae angen inni osgoi hynny yma, ac rwy'n sylweddoli nad yr Alban yw Cymru—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud y pwynt hwnnw. Yn aml, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dweud nad Cymru yw Lloegr, felly buaswn yn derbyn y sail dros y pwynt hwnnw. Ond serch hynny, mae'r Alban wedi mynd beth o'r ffordd i lawr y llwybr hwn. Maent ar y blaen inni o rai blynyddoedd o safbwynt datganoli treth incwm, felly mae gwersi gwerthfawr y gellir eu dysgu ac y dylid eu dysgu.
Wrth gwrs, mae datganoli treth incwm yn ffitio i dirlun ehangach datganoli trethi a mwy o atebolrwydd. Mae'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi eisoes gyda ni, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried trethi newydd. Gwyddom fod treth ar dir gwag ar y gweill i roi prawf ar y system; cafodd treth twristiaeth ei gwrthod, ond mae'r drws yn dal ar agor i awdurdodau lleol wneud hynny; treth gofal cymdeithasol, cawsom rywfaint o drafodaeth ynglŷn â hynny. Felly, mae pob math o drethi ar y ffordd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni edrych ar fanteision trethiant isel yn ogystal â threthi newydd megis treth gofal cymdeithasol, a gallai fod rhai manteision i hynny yn y tymor hwy.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan bob Aelod i'w gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Rydym wedi edrych ar y gwelliannau, felly, gan droi'n fyr at y ddau welliant, byddwn yn cefnogi gwelliant 1 am ein bod yn teimlo ei fod yn gwella'r cynnig. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, er y buaswn yn sicr yn cefnogi dadl aeddfed ar y materion sy'n codi. Ond rydym yn teimlo, ar hyn o bryd, fod y gwelliant yn glastwreiddio ein cynnig gwreiddiol, sy'n sôn am fanteision economi treth isel. Felly, er ein bod yn cefnogi ysbryd y gwelliant hwnnw, ni fyddwn yn ei gefnogi ar ddiwedd y ddadl hon.
Felly, gadewch inni gael dadl aeddfed ynglyn â sut y gallwn ddefnyddio ysgogiadau treth i wneud economi Cymru yn fwy deinamig a ffyniannus, a gadewch inni gael gwared ar unrhyw ddryswch ynghylch cynlluniau treth Llywodraeth Cymru am weddill y tymor Cynulliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran cadw at yr ymrwymiad hwnnw i beidio â chodi cyfraddau treth, cyfradd treth incwm Cymru, hyd nes 2021, a chadw economi dreth isel a chystadleuol y tu hwnt i hynny, gobeithio.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn ei enw. Rhun.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:
'ond yn pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:
Yn annog trafodaeth sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I daflu dyfyniad Bobby Kennedy yn syth yn ôl atoch, Nick Ramsay—pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, rydym yn byw mewn cyfnod diddorol. O ran datganoli trethi, rydym yn hoffi hynny'n fawr iawn ar yr ochr hon i'r Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd mae hwn yn gyfnod hanesyddol.
Mae'r rhain yn ddyddiau hanesyddol i ni fel cenedl. Maen nhw'n ddyddiau hanesyddol i ni fel corff democrataidd newydd. Mae yna drethi neilltuol Cymreig yn cael eu codi am y tro cyntaf yn yr oes fodern, ac mae o'n gam pwysig i ni o ran aeddfedrwydd y Cynulliad, aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru a'r angen am newid diwylliant—am feddwl mewn ffordd wahanol ynglŷn â gwaith y Llywodraeth.
Mae'r Llywodraeth yn cael ei gorfodi i feddwl mewn ffordd fwy creadigol. Yn hynny o beth, wrth gwrs, does dim rhaid newid cyfraddau trethiant er mwyn i bwerau trethiant fod yn werthfawr. Fel y clywsom ni gan lefarydd y Ceidwadwyr: cynyddu sail y trethiant sydd yn bwysig. Dyna'r her rŵan: gwneud yn siŵr bod cyfleon economaidd yn cael eu creu sydd yn creu rhagor o dreth i gael ei thalu i wario ar wasanaethau yng Nghymru. Dyna pam, yn sicr, rydym ni'n cyd-fynd â chymal 1 yn y cynnig heddiw—
'cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru'—
ond yn wir am ychwanegu ato fo, oherwydd mae yna lawer fwy na hynny iddi hi. Beth y mae ein gwelliant ni yn ei ddweud ydy bod ishio ychwanegu at hynny fod angen
'pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'
Mae hynny'n gwbl allweddol, wrth gwrs, a dwi'n gobeithio cael cefnogaeth i'r gwelliant hwnnw.
Er nad oes angen, yn angenrheidiol, newid cyfraddau treth, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, fod yn barod i feddwl yn greadigol ynglŷn â sut i ddefnyddio pwerau i amrywio cyfraddau, a dyna pam na allwn ni gytuno i gefnogi cymal 2—nid oherwydd ein bod ni, fel plaid, ar hyn o bryd eisiau cynyddu treth incwm—dŷn ni ddim wedi dod i benderfyniadau ar hynny eto—ond am ein bod ni'n meddwl bod, rywsut, mynnu nad ydy'r Llywodraeth yn defnyddio'r pwerau yn gosod cynsail braidd yn anffodus ar ddechrau'r cyfnod yma o fabwysiadu pwerau trethiant am y tro cyntaf.
Mae'n rhaid inni fod yn barod i feddwl yn greadigol. Mi gawsom ni ein sefydlu fel corff a oedd yn gwario yn unig. Mae dod yn gorff sydd yn trethu yn rhan o aeddfedrwydd sydd yn rhan o'r daith genedlaethol rydym ni'n mynd arni hi fel gwlad. Doedden ni ddim yn deddfu ar y dechrau. Rydyn ni'n deddfu erbyn hyn, ac mae hynny, dwi'n gobeithio, yn mynd i'n galluogi ni i ddatblygu dros amser ffordd Gymreig o ddeddfu. Mi oedd gennym ni yn hanesyddol, wrth gwrs, ffordd wahanol neilltuol Gymreig o ddeddfu, ac rydw i'n meddwl am ddeddfau Hywel Dda, a oedd yn drawiadol o wahanol i'r math o ddeddfu sydd wedi dod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig fodern. Does yna ddim byd a ddylai ein hatal ni rhag datblygu model trethu sy'n wahanol ac sy'n neilltuol Gymreig, a dyna pam fynnwn ni ddim gweld cyfyngu ar bŵer unrhyw Lywodraeth i wneud penderfyniadau a all fod o les i bobl Cymru. Beth rydym ni'n ei ddweud yn ein hail welliant ni, sydd yn dileu pwynt 2 y Ceidwadwyr, ydy ein bod ni am
'annog trafodaeth sifig aeddfed ynglŷn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.'
A beth rydym ni'n ei feddwl wrth hynny ydy ein bod ni'n mynd ar daith tuag at greu model Cymreig o drethiant, ac rydw i'n gwahodd y Ceidwadwyr hefyd i wneud hynny.
Os caf gyfeirio at fater codi trethi, a grybwyllwyd gennych. Golyga codi trethi ddod â threthi i mewn, wrth gwrs, ond yn rhy aml meddylir amdano fel 'codi'—eu gwneud yn uwch. Nawr, ceir dadleuon dros godi trethi, a cheir dadleuon, fel y clywsom gan Nick Ramsay, dros ostwng trethi. Yr hyn rwyf am i bobl ei weld yng Nghymru yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu system dreth, yw bod pobl yn gweld ein bod yn datblygu rhywbeth sy'n deg. Nawr, mae gennym bwerau treth cyfyngedig ar hyn o bryd. Dros amser, rwy'n gobeithio, ac rwy'n hyderus y bydd hynny'n newid. Mewn sefyllfa lle y mae gennych lu o ysgogiadau treth ac ysgogiadau ariannol ar gael at eich defnydd, gallwch godi rhai a gostwng rhai eraill. Mae'n ymwneud â sicrhau cydbwysedd a gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu gweld bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau system sy'n deg o ran yr hyn a ddaw i mewn, fod pwysau'r cyfrifoldeb ar y sawl sy'n talu fwyaf yn deg, a'n bod yn gallu gwneud cyfraniad teg, oherwydd y system dreth honno, i'r modd y gwariwn arian ar wasanaethau cyhoeddus. Dechrau'r daith yw hyn, ac nid wyf am gyfyngu'r Llywodraeth hon nac unrhyw Lywodraeth wrth inni geisio ffurfio'r system dreth Gymreig honno ar gyfer y dyfodol.
Bwriadwyd i ddatganoli wella perfformiad economaidd Cymru yn sylweddol. Un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ar ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Dywedwyd wrthym na ellid datrys problemau economi Cymru heblaw drwy atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru. Ac eto, gan Gymru y mae'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig, mae Cymru'n parhau i fod ar waelod tabl cynghrair gwledydd y DU o ran gwerth ychwanegol gros, ac mae gwerth ychwanegol gros yng Nghymru yn parhau gryn dipyn yn is na'r targed gwreiddiol o 90 y cant o gyfartaledd y DU. Enillion Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, a Chymru, ynghyd â Gogledd Iwerddon, a gofnododd y gyfradd twf isaf o incwm gwario gros aelwydydd y pen yn y 10 mlynedd diwethaf.
Mae datganoli pwerau i amrywio treth incwm yng Nghymru o fis Ebrill eleni yn garreg filltir bwysig yn y broses ddatganoli. Mae hefyd yn gyfle enfawr i weddnewid datblygiad ac amgylchedd ein heconomi yn radical. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw arian ei hun. Mewn gwirionedd, trethiant yw'r arian a godir gan y Llywodraeth i redeg y Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn ariannu ei gwariant drwy osod taliadau ar ddinasyddion ac endidau corfforaethol ar gyfer y wlad, i Lywodraeth weithredu drwy drethiant ac annog neu atal penderfyniadau economaidd penodol.
Nid oes arian gan y Llywodraeth, fel rydym wedi dweud. Daw pob ceiniog y mae'r Llywodraeth yn ei wario oddi wrth y trethdalwr. Drwy alluogi pobl i gadw mwy o'r arian a enillant, rydych yn caniatáu iddynt wneud eu penderfyniadau gwario eu hunain. Economïau treth isel yw'r economïau mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae torri trethi'n hwb i'r economi, yn cynyddu twf economaidd, ac yn sicrhau safonau byw uwch. Ni all Cymru fforddio system dreth sy'n gweithredu fel rhwystr i dwf a dyhead economaidd. Ac mae'r baich treth ychwanegol ar drethdalwyr Cymru yn cynyddu'r risg y bydd yn rhwystro twf economaidd ac yn talu'r pris mewn swyddi.
Yn ei maniffesto ar gyfer etholiad 2016, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod eu tymor Cynulliad. Fodd bynnag, maent wedi dweud y byddant yn ystyried y gyfradd dreth yn ofalus, er mwyn, ac rwy'n dyfynnu,
sicrhau eu bod yn parhau i gynhyrchu refeniw digonol.
Dri mis yn ôl yn unig, dywedodd y Prif Weinidog newydd, ac rwy'n dyfynnu:
Nid wyf yn mynd i symud oddi wrth ymrwymiad ein maniffesto oni bai fy mod yn cael fy nghymell i wneud hynny, ond nid wyf yn diystyru'r posibilrwydd y gallai amgylchiadau newid mewn ffordd a allai fod yn gymhellgar o ran eu heffaith.
Cau'r dyfyniad.
Mae'n amlwg na ellir ymddiried yn Llywodraeth Cymru i gadw ei haddewidion maniffesto. Peidiwch â chamgymryd, byddai unrhyw gynnydd yn y dreth yn cael ei hanelu at, ac yn taro'r rhai sy'n talu'r gyfradd dreth sylfaenol. Byddai'r rhan fwyaf o drethdalwyr yn y sefyllfa hon yn gorfod ysgwyddo baich trethi uwch. Fodd bynnag, ni ddylem danbrisio'r effaith a gaiff cynyddu'r dreth ar allfudo. Mae'r adroddiad a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Sylfaen Dreth Cymru', wedi cydnabod ei bod yn debygol y byddai ymateb i'w weld yn ymddygiad trethdalwyr. Byddai'n cynnwys unigolion yn chwilio am swyddi eraill, a newid nifer yr oriau y byddent yn ei weithio, ac allfudo o Gymru. Nid ni ar yr ochr hon i'r Cynulliad yw'r unig rai sy'n pryderu yn y fath fodd. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi cydnabod yn briodol yn y cod y dylai codi treth incwm Cymru fod yn gam olaf ac nid yn ymateb cyntaf, ac mewn Cyfarfod Llawn y mis diwethaf, dywedodd Lynne Neagle ei bod yn gorfod tawelu meddyliau etholwyr a oedd wedi cael llythyr gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'u bod yn bryderus ynglŷn â'r posibilrwydd o gynyddu'r dreth yng Nghymru. Weinidog, mae gennych bŵer i dawelu meddyliau pobl. Rwy'n gofyn i chi yn awr: manteisiwch ar y cyfle hwn i ailddatgan eich addewid ym maniffesto'r etholiad i ddatgan yn glir na fydd y dreth incwm yn codi yn ystod y tymor Cynulliad hwn. O fis Ebrill eleni, gwn fod y gyfradd sylfaenol yn gostwng o 20 i 10 y cant, a'r gyfradd uwch o 40 i 30 y cant, a'r gyfradd ychwanegol o 45 i 35 y cant. Mae hyn yn mynd i gael effaith fawr, a gwerthfawrogir rhai meysydd o fewn trethiant yn fawr, Weinidog—sef eiriolaeth, sylfaen eang, cysondeb, cyfleustra, effeithlonrwydd, gwariant cyfyngedig, eithriadau a symlrwydd. Edrychaf ymlaen at eich ymateb ar y materion hyn. Diolch.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r ddadl hon? Mae'r newid a'r twf yn y Cynulliad Cenedlaethol o gorff a oedd, i raddau helaeth, ond yn gweinyddu'r sector cyhoeddus pan y'i sefydlwyd yn 1999 i Senedd sy'n llywodraethu ein gwlad yn un a fydd yn profi pob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd. Ac mae'r Ceidwadwyr i'w canmol am gychwyn y prawf hwnnw y prynhawn yma.
Nid wyf yn credu bod y cynnig a gyflwynwyd ganddynt yn ateb her yr holl gyfraniadau a glywsom y prynhawn yma. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael dadl resymegol ac aeddfed ar drethiant. Rydym newydd fod drwy gylch cyllidebol ac wedi pleidleisio ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a'r hyn a glywsom ar bob ochr i'r Siambr, gan gynnwys fy ochr fy hun i'r Siambr, oedd galwadau am wariant ychwanegol. Ni allaf feddwl am un cyfraniad a wnaed, ar unrhyw bwynt yn y ddadl ar y gyllideb, lle y gofynnodd unrhyw Aelod yma am ostyngiad mewn gwariant. Roedd pawb yn gwario arian gyda phob araith a phob ynganiad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf ymyriad.
Roeddwn yn meddwl efallai y byddai eich cyflog yn lle da i ddechrau.
Rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y ddadl hon, Darren, a chan fy mod yn siarad am sgwrs aeddfed, mae Darren yn dangos yn union yr hyn nad oeddwn yn ei olygu. [Chwerthin.]
Felly, rydym wedi gwario arian a llwyddodd y Ceidwadwyr yn y cylch cyllidebol hwn i wneud rhywbeth na lwyddodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hyd yn oed i'w wneud—rwyf wedi digio Kirsty yn awr—sef gwario pob punt ddwywaith a theirgwaith. Ym mhob dadl a gawsom yma ar y gyllideb, ymateb y Ceidwadwyr i bob her sy'n ein hwynebu oedd gwario arian, nid diwygio. Rhaid taflu arian at bopeth, ond ni wnawn ddiwygio. A dyna'r prawf sylfaenol o'r cymeriad Ceidwadol. Mae'r Ceidwadwyr yn gwybod beth nad ydynt ei eisiau, ond nid ydynt yn gwybod beth y maent ei eisiau. Mae yno gysondeb o leiaf.
Ac mae hynny'n golygu bod angen inni gael y ddadl hon. Nid wyf yn rhannu'r ffetis am gael treth isel er mwyn cael treth isel yn unig. Nid wyf yn rhannu hynny. Credaf y dylem gael trethiant teg a rhesymol. Trethiant teg a rhesymol sy'n caniatáu i ni fuddsoddi yn ein pobl ac yn ein gwlad. System drethu sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau a'n gweledigaethau ar gyfer Cymru.
Os mai ein hunig uchelgais yw perswadio pobl sy'n dymuno arbed punnoedd treth i symud yma a thalu llai o dreth, beth y mae hynny'n ei ddweud wrth blentyn sy'n tyfu fyny ym Mlaenau Gwent? Beth y mae hynny'n ei ddweud wrth rywun—cawsom ddadl yn gynharach heddiw ar hawliau pobl hŷn—y wlad rydym eisiau i chi dyfu'n hen ynddi—? [Torri ar draws.] Gallaf eich gweld—mewn eiliad. Rhowch gyfle i mi orffen fy mrawddeg. Nid oes gan y wlad rydym eisiau i chi dyfu'n hen ynddi ddiddordeb mewn dim heblaw gostwng trethi. Nid oes gennym ddiddordeb yn y gwasanaethau a fydd yn eich cynnal ac yn cynnal eich teulu.
Diolch i'r Aelod am ildio—rwy'n crymu fy ysgwyddau, ond diolch ichi. Tybed efallai ein bod yn dweud wrthynt, drwy gael cyfraddau is ac efallai annog mwy o bobl i ddod i fyw a thalu treth yng Nghymru, y gallai fod mwy o refeniw i gynnal eu gwasanaethau?
Efallai eich bod yn dweud hynny, ond nid wyf yn siŵr ei bod hi'n ddadl sy'n argyhoeddi'n llwyr, ond fe gawn y ddadl honno.
Felly, beth a wnawn fel ymateb? Ni chredaf ei bod hi'n ddigon da, a bod yn onest, i Lywodraeth Lafur fodloni ar wneud wynebau ar y Ceidwadwyr a rhoi'r bai ar gyni am ein holl broblemau. Un o'r problemau sy'n rhaid inni eu hwynebu ac un o'r profion sy'n rhaid inni eu hwynebu yw cymryd cyfrifoldeb am rai o'r materion a wynebwn yma heddiw. Nid yw'n ddigon da dweud, 'Fel Llywodraeth Cymru, rydym am wario mwy o arian ar y gwasanaeth iechyd, ar lywodraeth leol, ar addysg neu beth bynnag. Mae gennym bŵer i godi'r arian hwnnw, ond rydym wedi gwrthod defnyddio'r pŵer hwnnw, ond rydym yn dal eisiau gwario mwy.' Nid yw hwnnw'n ymateb digonol bellach i'r heriau a wynebwn, ac mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn fwy nag y mae rhai pobl yn deall ac yn sylweddoli yn fy marn i.
Pan safodd Theresa May o flaen y gynhadledd Geidwadol yn yr hydref a dweud bod 'Cyni wedi dod i ben', roedd hi'n gyfan gwbl anghywir, ac roedd hi'n camarwain pobl yn sylfaenol, oherwydd os cymerwn wariant ar iechyd ar y lefelau presennol a'n bod yn cymryd yn ganiataol na fyddwn yn torri'r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, byddwn yn gweld gostyngiadau yng ngwariant pob gwasanaeth arall er mwyn talu am hynny—pob gwasanaeth arall. Ac yng Nghymru, fel y mae Nick Ramsay wedi nodi ac fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, byddwn yn gweld gostyngiad yn y sylfaen drethu, a fydd yn cyfyngu ymhellach ar ein gallu i drethu yn y wlad hon. Felly, rhaid inni gael sgwrs sylfaenol am hynny a sgwrs aeddfed am hynny.
Hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn derbyn y ddau welliant gan Blaid Cymru y prynhawn yma, oherwydd credaf eu bod yn dangos ein bod yn fodlon cael y ddadl fwy aeddfed honno, ein bod yn barod i gymryd cyfrifoldeb, nid yn unig i basio penderfyniadau a gwneud areithiau, ond i weithredu fel Senedd mewn gwirionedd, i ddweud, os ydym am weld gwell gwasanaethau, y byddwn yn talu am y gwasanaethau gwell hynny, i fuddsoddi yn ein heconomi, i fuddsoddi yn ein seilwaith, i wneud y pethau y mae Senedd a Llywodraeth yn gorfod eu gwneud ac i wneud hynny'n seiliedig ar ein gwerthoedd.
A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, gyda'ch amynedd, Ddirprwy Lywydd, yw hwn: rwy'n gobeithio y bydd tegwch a chynaliadwyedd wrth wraidd y gwerthoedd hynny, oherwydd mae gennym gyfle drwy rannau o'r ddeddfwriaeth hon nid yn unig i symud cyfraddau treth incwm i fyny neu i lawr, ond i edrych ar dreth mewn ffordd wahanol ac i fabwysiadu a datblygu mathau newydd o drethiant ac i newid y model trethiant. A chredaf fod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn i ni hefyd, nid yn unig i fuddsoddi yn ein pobl a'n lle, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein dyheadau a'n gwerthoedd.
Mae rhywbeth ynglŷn â threthi'n codi ac yn gostwng sy'n bachu sylw'r genedl—TAW, prisiau petrol, toll ar alcohol, treth gyngor, treth incwm, yswiriant cenedlaethol. At eii gilydd, nid ydynt wedi'u datganoli, wrth gwrs, ond maent yn serennu'n rheolaidd ym mhenawdau cyllideb y DU. A dyna'r un adeg yn y flwyddyn pan fyddwn yn canolbwyntio ar sut y bydd y Llywodraeth yn rhoi ein harian yn ôl i ni gydag un llaw ac yna'n ei dynnu'n ôl gyda'r llall. Mae Llywodraethau angen derbyniad treth ac yn wleidyddol, wrth gwrs, mae gennym safbwyntiau gwahanol iawn ar ddiben trethiant, ond y safbwynt pragmataidd yw bod Llywodraethau angen arian er mwyn i'r wladwriaeth allu gweithredu, ond mae faint y mae'n ei gymryd a phwy yw'r enillwyr a'r collwyr yn effeithio ar y ffordd y mae'r gymdeithas yn gweithredu.
Mae penawdau cyllidebau treth yn bachu sylw'r cyhoedd mewn ffordd na all sôn am filiynau o bunnoedd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ei wneud, ac rwy'n credu bod yr un peth yn wir, mae'n debyg, am daliadau budd-daliadau yn ogystal, oherwydd mae'r rhan fwyaf o daliadau treth neu fudd-daliadau'n effeithio arnom yn uniongyrchol ac yn bersonol iawn. Er mor gymhleth yw'r manylion, gwyddom beth yw'r effaith ar ein slipiau cyflog neu ein biliau, ac rydym yn teimlo, Alun, pa mor deg yw hynny yn ein hamgylchiadau personol. Mae'n ein cymell i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'r arian a roesom i'r Llywodraeth er y lles cyhoeddus wedi'i wastraffu neu beidio, ac efallai mai defnydd Llywodraeth Cymru o'i phwerau trethu newydd fydd y cam a fydd yn gwneud i bobl Cymru edrych yn agos ac yn gyson o'r diwedd ar sut y mae'r Llywodraeth Lafur yn gwario eu harian, oherwydd dyna rydym yn sôn amdano wedi'r cyfan, fel y dywedodd Oscar: eu harian hwy.
Nawr, yn wahanol i mi, mae rhai o aelodau lleol fy mhlaid yn anghytuno ynglŷn â'r pwerau treth incwm sy'n dod i'r Cynulliad am nad ydynt yn ymddiried mewn Llywodraeth Lafur i wneud defnydd da ohonynt. Ac rwy'n ceisio eu darbwyllo mai dyma'r graig y bydd llong fawr Llafur yn cael ei dryllio arni yn y pen draw ac fe agorir llygaid y genedl, ond ymatebant drwy ddweud y bydd yn suddo Cymru gyfan yn y broses, ac oherwydd nad yw pobl yn gwahaniaethu rhwng y Weithrediaeth a ninnau, caiff enw da'r Cynulliad ei suddo hefyd. Ond nid risgiau i enw da yn unig yw hyn. Maent yn risgiau i allu'r genedl hon i greu mwy o gyfoeth, sydd ynddo'i hun yn gallu creu mwy o dderbyniadau treth, pwnc y ddadl hon. Mae'n well gan y Ceidwadwyr, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, amgylchedd treth is, felly rwyf am ailedrych ar y wireb nad yw gwneud treth yn fater sy'n ymwneud â'r bobl gyfoethocaf yn unig yn cynyddu derbyniadau treth. Nid yw'r ffaith fod y 10 y cant uchaf o drethdalwyr yn talu 60 y cant o'r dreth sy'n ddyledus i CThEM yn profi'r gwrthwyneb. Mae'n profi bod mwy o drethdalwyr ar y gyfradd uchaf ar gael—a dylem anelu at gael mwy ohonynt yng Nghymru—a bod y modd y mae'r Ceidwadwyr yn gostwng y trothwyon yn golygu bod trethdalwyr y gyfradd sylfaenol yn cyfrannu llai fel unigolion ac yn gyfunol.
Ni wrandawyd ar ein rhybuddion y llynedd ynglŷn â'r dreth uwch ar werthiannau eiddo masnachol ym mhen uchaf y farchnad, a bellach mae nifer gwerthiannau o'r fath wedi gostwng. Gwn nad yw'n cyd-fynd â barn rhai am y byd yn y fan hon, ond mae'r gwrthwyneb wedi bod yn wir yn yr Alban, lle mae ganddynt gyfradd is ar eiddo o'r fath. Ond cymharwch hynny â'r cynnydd yn yr Alban i rai sy'n talu'r gyfradd uwch o dreth incwm. Maent £0.5 biliwn allan ohoni yn eu mathemateg oherwydd bod y trethdalwyr hyn yn gadael neu'n addasu faint a enillant. Mae gennym lawer mwy o bobl yn teithio i'r gwaith ar draws y ffin na'r Alban, a bydd yn fwy na bod perchnogion busnes eisiau adleoli; gallai'r penderfyniadau a wnawn ynglŷn â threthi effeithio ar ble y bydd rhai o'n gweithwyr cyhoeddus ar gyflogau gwell yn dewis byw hefyd.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai o'r gyfradd sylfaenol y byddai'r adenillion posibl mwyaf yn dod yng Nghymru, ac mae'n werth cofio nad ymwneud ag enillion gweithwyr yn unig y mae hyn. Mae gennym sector microfusnesau anghorfforedig sylweddol iawn. Mae rhai o'r gweithredwyr mwy yn fusnesau yn hytrach na chwmnïau hyd yn oed, nid yn lleiaf mewn amaethyddiaeth, a rhaid i unrhyw benderfyniadau treth ystyried yr effaith a gaent ar fusnesau presennol yn ogystal â sut y gallent ddenu rhai newydd. Ni all pob busnes newydd sicrhau benthyciad fel cwmnïau newydd chwaith, felly gadewch i ni wrthsefyll y trethiant sy'n anffrwythloni'r pridd y gallem fod yn tyfu ein busnesau newydd ynddo.
Gair byr i gloi ar dreth ar dir pe bai'n temtio unrhyw un yn y dyfodol. Gwn fod hon wedi bod o ddiddordeb i'r Prif Weinidog presennol. Hoffwn ddweud nad braint yw perchnogaeth, sef y geiriau y mae'n eu dewis i'w ddisgrifio. Cyfrifoldeb ydyw; mae'n lleihau'r galw am dai cyhoeddus wedi'u tanysgrifennu gan drethdalwyr, ac mae'n sefyllfa sydd eisoes wedi'i threthi'n drwm yn barod: treth incwm ar enillion wrth i chi gynilo eich blaendal, gyda'r llog arno wedi'i drethu hefyd, y dreth trafodiadau tir cyn i chi brynu, yna'r dreth gyngor, wedyn TAW ar ffioedd proffesiynol, deunyddiau a llafur ar gyfer cynnal a chadw. Ac yna, o bosibl, yn dibynnu ar sut y gwnewch hyn, y dreth etifeddiant a threth ar enillion cyfalaf hyd yn oed. Ac os oes gennych ail eiddo fel buddsoddiad cyfrifol ar gyfer eich dyfodol, i dalu am eich costau gofal pan fyddwch yn hŷn efallai, caiff incwm o hwnnw ei drethu eto, ac wrth gwrs, gallech orfod talu treth gyngor ychwanegol, yn dibynnu ar statws yr eiddo hwnnw. Daw treth sy'n gostwng gwerth tir ac yn cyfyngu ar nifer gwerthiannau a phryniannau ag enillion lleihaol ac ecwiti negyddol yn ei sgil, ac nid wyf yn siŵr y byddech eisiau profi bod aelodau lleol fy mhlaid yn gywir os ydych yn ystyried treth ar dir. Diolch.
Pleser o'r mwyaf yw cymryd rhan yn y ddadl hon ac i ddweud ar y cyfan ein bod yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr oherwydd ein bod ninnau'n blaid treth isel hefyd, ac er ein bod yn derbyn bod yn rhaid talu am wasanaethau cyhoeddus, yr hyn sy'n bwysig yw maint y gacen yn fwy na'r ffordd y caiff ei thorri. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw tyfu economi Cymru os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus gwell, ac fel y gwyddom, mae galwadau cynyddol yn mynd i fod am wariant ar iechyd, fel y dywedodd Alun Davies yn gynharach. Rwy'n ei groesawu i ryddid y meinciau cefn. Roedd ei ragflaenydd gwych, Aneurin Bevan, fel yr Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy, yn arfer dweud ei fod yn hoffi siarad ar adain rydd, ac rwy'n siŵr fod Alun Davies yn debyg iddo yn hynny o beth, ac edrychwn ymlaen at lawer o'i gyfraniadau gwefreiddiol yn y blynyddoedd i ddod.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael amrywiaeth enfawr o gyfraddau treth yn y wlad hon. Gallaf gofio yn ôl yn y 1960au pan oedd gennym gyfraddau treth incwm a ai i fyny i 83c yn y £1, a 15 y cant arall ar ben hynny ar incwm buddsoddi. Ac yn y flwyddyn 1966-67, gosododd James Callaghan—rwy'n credu mai ef oedd Canghellor y Trysorlys ar y pryd—10 y cant ychwanegol o ordal. Felly, mewn gwirionedd 107 y cant oedd y gyfradd uchaf o dreth incwm. Nid yw'n syndod na chododd hynny fwy o refeniw. Yn wir, gwnaeth yn union i'r gwrthwyneb. Mewn gwirionedd, dengys pob tystiolaeth hanesyddol at ei gilydd ei bod hi'n amhosibl gwasgu mwy nag oddeutu 35 y cant o'r incwm cenedlaethol o drethi o bob math allan o bobl Prydain. Dangosir hynny gan y ffigurau a gyhoeddir ac sydd ar gael ar wefan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer yr 20 mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn 2000, roeddem yn cymryd 33.8 y cant o'r cynnyrch domestig gros mewn trethi, eleni mae'n 34 y cant. Aeth i lawr i 32.2 y cant yn y cyfamser, yn 2009, ond yn gyffredinol mae wedi rhygnu yn ei flaen ar y lefel honno, pa un a oes Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraethau clymbleidiol, Llywodraethau lleiafrifol neu Lywodraethau mwyafrifol. Mae lefel derbyniadau treth wedi gostwng mor isel â 31.6 y cant, ac ar ei uchaf roedd yn 37 y cant, ond ar gyfartaledd ni allwch fynd y tu hwnt i 35 y cant. Ac mae'r rheswm yn amlwg: mae pobl yn newid eu hymddygiad i adlewyrchu'r cefndir treth y maent yn byw ynddo.
Os awn yn ôl i'r ddeunawfed ganrif, efallai mai'r ffurf fwyaf enwog ar osgoi trethi oedd y dreth ffenestri; byddai pobl yn llenwi eu ffenestri â brics er mwyn lleihau'r dreth yr oedd yn rhaid iddynt ei thalu. Heddiw, mae gennym ffurfiau mwy modern na hynny o osgoi trethi, a rhaid i bob gwlad fod yn gystadleuol yn y byd os yw'n mynd i fanteisio i'r eithaf ar faint o dreth y gellir ei chodi ar gyfer cyfradd benodol, oherwydd nid yw trethdalwyr erioed wedi bod yn fwy symudol nag y maent heddiw; ni allai dim fod yn haws na symud i ran arall o'r byd. Ac wrth gwrs, o fewn yr UE, mae osgoi trethi yn waeth byth yn sgil rheolau treth Ewrop gyfan yr UE, a all alluogi cwmnïau i leoli yn Lwcsembwrg yn dechnegol, a thalu cyfraddau isel iawn o dreth yno, yn hytrach na'r cyfraddau treth a geir yn y gwledydd lle y byddant yn gwneud y rhan fwyaf o'u busnes. Felly, fel cyn-gyfreithiwr treth fy hun, a oedd yn ymwneud â dyfeisio cynlluniau i leihau trethi ar ran ein cleientiaid, gallaf ddweud bod diwydiant enfawr yn bodoli yn y 1970au, a phan fyddem yn gostwng y cyfraddau treth yn ddramatig, roedd yn beth da fod y diwydiant hwnnw'n gallu gwneud llai o arian am fod llai o waith i'w wneud. A defnyddiwyd galluoedd rhai fel fi yn fwy cynhyrchiol drwy wneud pethau eraill.
Wrth gwrs, gallwn fenthyca mwy o arian i dalu am wasanaethau cyhoeddus, ond nid yw hynny ond yn gwthio'r cyfrifoldeb am dalu am yr hyn a ddefnyddiwn heddiw ar ysgwyddau ein plant a'n hwyrion yfory, ac mae yna anfoesoldeb sylfaenol ynglŷn â hynny, yn enwedig os ydym yn gostwng gwerth arian er mwyn lleihau'r risg honno. Yn wir, ym Mhrydain, mae gennym sefyllfa, fel y dywedodd Suzy Davies, lle mae'r rheini sydd â'r incwm uchaf yn talu cyfran sylweddol iawn o'r derbyniadau treth incwm—mae'r 1 y cant uchaf yn talu 28 y cant o'r holl dderbyniadau treth incwm mewn gwirionedd, ac mae hynny wedi codi yn ystod y 19 mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn 2000, nid oedd ond yn 21 y cant. Mae'r 10 y cant uchaf, fel y nododd Suzy, yn talu 60 y cant o'r holl drethi ac nid yw'r 50 y cant isaf o drethdalwyr ond yn talu—wel, llai na 10 y cant o'r cyfanswm. Felly, mewn gwirionedd, mae'r cyfoethog yn ysgwyddo baich trethi, ond os ydych yn gwthio'r cyfraddau uwch o dreth incwm yn uwch eto, nid yw'n golygu y byddech yn codi rhagor o refeniw.
Nawr, mae gennyf farn wahanol ar ddatganoli trethi i'r un sydd gan lawer yn fy mhlaid; at ei gilydd roeddwn yn croesawu gallu Llywodraeth Cymru i godi rhan o'i refeniw o drethi, oherwydd credaf fod hynny'n cadarnhau'r naid rhwng gwariant a chodi refeniw, sy'n ein galluogi i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ni allant ddargyfeirio'r bai ar San Steffan am beth bynnag yw eu methiannau. Ond os yw Cymru i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n credu bod yn rhaid iddi gystadlu, â Lloegr wrth gwrs, ond â systemau treth mwy rhyngwladol yn ogystal. Fel rwy'n dweud yn gyson yn y mathau hyn o ddadleuon, rhaid inni ddyfeisio system dreth a all godi'r potensial i greu cyfoeth yng Nghymru, ac uchafu ein hincwm cenedlaethol yng Nghymru. Dyna sut y talwn am y galwadau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod.
Yn gyntaf a gaf fi ymddiheuro i gyd-Aelodau am gyrraedd yn hwyr i'r ddadl, ac yn arbennig i fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, y mae ei gyflwyniadau'n aml mor danbaid a'i berorasiynau? Felly, mae'n ddrwg gennyf fod wedi colli hynny. Clywais araith Neil Hamilton yn awr. Roeddwn yn ymwybodol ei fod yn arfer bod yn gyfreithiwr, ond nid oeddwn wedi sylweddoli ei fod yn arbenigwr ar osgoi trethi hyd nes y datgelodd hynny yn awr, a'i fod yn ystyried ei fod wedi gwneud defnydd mwy cynhyrchiol o'i fywyd ers hynny.
Clywais sylwadau Alun Davies yn gynharach a'i amheuon na allech byth gynyddu refeniw drwy gael cyfradd dreth is neu'r gwrthwyneb. Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn hoffi trethi newydd—y syniad o brofi'r system—ac mae gennym fan prawf yma. Ac mae'r cynnydd yn y dreth a gyflwynwyd ganddynt ar eiddo masnachol dros £1 miliwn; maent bellach yn codi 6 y cant yn hytrach na 5 y cant. Trafodais hyn gyda'r Prif Weinidog, bellach, cyn iddo ddigwydd a rhennais fy ofnau a chefais sicrwydd y byddai'n gwneud mwy nag ychydig o filoedd o wahaniaeth—neu ddim o gwbl, byddem yn ei glywed gan y meinciau cefn. Ond mewn gwirionedd mae gennym rai ffigurau ar hyn yn awr ac rwyf wedi dyfynnu arolwg gan gwmni o'r enw CoStar o'r blaen, cwmni sy'n monitro trafodiadau masnachol. Yn ail chwarter y flwyddyn, sef chwarter cyntaf y dreth trafodiadau tir, gwelsant fod swm trafodiadau masnachol yng Nghymru wedi disgyn i £40 miliwn yn unig. Mae hynny'n cymharu â chyfartaledd chwarterol blaenorol, dros y pum mlynedd diwethaf, o £180 miliwn.
Nawr, cefais fy meirniadu gan y Prif Weinidog am roi gormod o bwyslais ar ffigurau un chwarter, a dywedodd wrthyf fod un trafodiad mawr wedi dod drwodd yn y chwarter nesaf, a bellach mae gennym y ffigurau hynny—o'r arolwg hwn, o leiaf—ar gyfer chwarter tri, sef ail chwarter y dreth trafodiadau tir, a bu ychydig o gynnydd i £54 miliwn, felly nid ydym ond 70 y cant yn hytrach na 78 y cant yn is na'r hyn a welem cyn hynny. A phe baem yn cynyddu'r cyfraddau hynny i—[Anghlywadwy.]—gyda'i sylw yn gynharach, dros chwe mis arferol o'r hyn a oedd yn arfer bod yn dreth dir y dreth stamp, fe welwn y byddem wedi cael 5 y cant o dderbyniadau ar £180 miliwn y chwarter. Byddai hynny'n £18 miliwn dros chwe mis. Ers hynny, ar y rhifau hyn, gwelsom £40 miliwn a £54 miliwn—£94 miliwn—ac o gymryd 6 y cant o hwnnw, cawn £5.64 miliwn. Felly, os yw fy mathemateg yn gywir, dyna £12.36 miliwn o refeniw a gollwyd diolch i'r cynnydd o 1 y cant yn y dreth. A—[Torri ar draws.] Buaswn yn falch o dderbyn ymyriad.
Sut y gallwch brofi hynny? Mae'n anodd iawn, oherwydd nid ydych yn gwybod beth fyddai wedi digwydd fel arall. Ac rydych wedi ei gymharu â'r hyn sydd wedi digwydd mewn trafodiadau treth yng ngweddill Prydain? [Torri ar draws.] Na, gweddill Prydain, sy'n wahanol.
Wel, nid oes gennym rifau gan yr awdurdodau treth eto—rhai dibynadwy o leiaf— oherwydd gall y trafodiadau ddod i mewn yn nes ymlaen. Felly, mae gennym arolwg ar sail gyson, a chredaf ei fod yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol. Yn y chwarter blaenorol, yn ystod y chwarter olaf cyn i hyn ddigwydd, credaf inni gael oddeutu £390 miliwn o drafodiadau, wrth i bobl ruthro i gael eu trafodiadau drwodd o dan hen drefn treth dir y dreth stamp yn hytrach na talu'r dreth trafodiadau tir i Lywodraeth Cymru, a dyna yw'r gwahaniaethau y gallwn eu gweld oherwydd trethi. Rwy'n cytuno bod y dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo masnachol mawr yn debygol o fod yn fwy sensitif i'r newidiadau hyn yn y cyfraddau nag y bydd llawer o drethi eraill, ond credaf fod hynny'n ymwneud â'r egwyddor, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus tu hwnt ynglŷn â'r hyn a wnawn gyda'r dreth incwm. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, gan ei fod yn cyd-fynd â'u maniffesto, a beth bynnag yw ein barn am rinweddau'r ddadl, hyderaf fod gwleidyddion yn credu mewn cadw addewidion a chadw at eu maniffesto.
Ond os yw cyfraddau treth incwm yn newid yn y dyfodol, beth fydd effaith hynny? Oherwydd, dim ond y bandiau 10 y cant hyn sydd gennym, felly, i'r graddau bod y rheini'n codi, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn gweld colli refeniw ar y gyfran y mae'n parhau i'w chymryd. Ond ar yr ochr arall, mae yna bryderon y dylem bwyso o leiaf yr un mor drwm, oherwydd pan fydd pobl yn talu llai o dreth incwm ac yn dod o hyd i ffyrdd o ddatgan yr hyn a gâi ei ddatgan o'r blaen fel incwm naill ai fel enillion cyfalaf, neu gorffori a thalu treth gorfforaeth a threth ar ddifidend pan fyddant yn tynnu arian allan o gwmnïau yn unig, bydd y trethi hynny'n mynd i Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Felly, pe bai gennym gyfradd ychydig yn is o dreth, ac i rywun a oedd yn talu 40 y cant o dreth yn Lloegr, pe baent yn talu 38 y cant yng Nghymru, efallai y byddant yn ymateb drwy dalu'r gyfradd dreth honno, yn hytrach nag ymgorffori a thalu treth ar ddifidend neu dalu treth ar enillion cyfalaf. A byddai'r budd i ni o hynny yn ddeublyg, oherwydd ni fyddai'r refeniw o'r ddwy dreth arall honno yn mynd i Lywodraeth y DU, a byddai'r refeniw hwnnw'n dod i mewn fel treth incwm—sylfaen dreth incwm newydd—i gael y gyfradd honno i gyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried y cynnig hwn, yn cefnogi'r cynnig hwn, ac yn cadw trethi'n isel yng Nghymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, a chredaf iddi fod yn ddiddorol iawn. Mae datganoli pwerau treth yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu ymagwedd flaengar at drethiant wedi'i deilwra i anghenion Cymru. Mae'r fframwaith polisi treth a gyhoeddwyd yn 2017 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd, a'r cynlluniau gwaith ar drethu a gyhoeddwyd ers hynny, wedi pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i fabwysiadu ymagwedd strategol tuag at bolisi treth. Cyflawnir hyn bellach drwy ein gwaith ar reoli trethi presennol a threthi a ddatganolir o'r newydd, yn ogystal â'n dull sy'n esblygu o ddatblygu trethi newydd. Bydd cynllun gwaith polisi treth 2019, y bwriadaf ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, yn rhoi manylion pellach ynglŷn â'n blaenoriaethau eleni. Ond i roi blas ohonynt, byddwn yn ystyried y polisi ehangach mewn perthynas â threthu eiddo preswyl, yn hyrwyddo tegwch a blaengaredd mewn polisi treth drwy ein gwaith ar drethiant lleol, yn datblygu gwaith ar ddatganoli pwerau dros dreth ar dir gwag, yn ogystal ag archwilio sut i wneud y defnydd gorau o wasanaethau digidol a thechnoleg ddigidol i wella'r broses o weinyddu trethi Cymru.
Trethi yw'r tâl mynediad a dalwn i fyw mewn cymdeithas wâr. Dyna yw'r buddsoddiad y mae dinasyddion a busnesau yn ei wneud i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus rydym yn eu darparu ac yn eu mwynhau gyda'i gilydd, o ffyrdd a phontydd i ysbytai ac ysgolion, talu cyflogau'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â'r seilwaith angenrheidiol, a'r offer a'r adnoddau sydd eu hangen i'w cynnal. Mae trethi'n galluogi pobl yng Nghymru i gyflawni pethau gyda'n gilydd na allwn eu gwneud ar ein pen ein hunain. Bydd y penderfyniadau a wnawn ar drethi Cymru yn effeithio'n uniongyrchol ar economi Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ystyried effaith trethiant ar gystadleurwydd cyffredinol economi Cymru. Dyna pam y mae ein fframwaith polisi treth yn cynnwys egwyddor y dylai trethi helpu i gyflawni amcanion strategol ac yn benodol, y dylai trethi Cymru ysgogi swyddi a thwf economaidd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol ar gyfer y stryd fawr a pham rydym wedi gosod y cyfraddau cychwyn isaf ar drethi ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl a dibreswyl. Yn yr un modd, mae ein hegwyddorion polisi treth yn ein hymrwymo i ymgysylltu â threthdalwyr i helpu i lywio ein dull o ddatblygu polisi treth. Soniodd Nick Ramsay am bwysigrwydd dod â phobl gyda ni, a dyna'n bendant iawn yw'r dull rydym yn ei fabwysiadu o ran ceisio sefydlu perthynas newydd â phobl yng Nghymru.
Rydym yn cytuno â'r hyn a nodwyd yn yr ail welliant a gyflwynwyd i'r cynnig hwn gan Blaid Cymru, a byddem yn ei gefnogi fel arall oni bai ei fod wedi cael yr effaith o ddileu a disodli rhan o'r cynnig gwreiddiol rydym hefyd yn cytuno ag ef, ond yn bendant, nid ydym yn gweld na all y ddwy ran i'r cynnig gydfodoli.
Yr wythnos diwethaf, cymerodd y Cynulliad hwn y cam hanesyddol o bennu cyfraddau treth incwm cyntaf Cymru. I helpu i sicrhau pontio llyfn a threfnus i ddatganoli treth incwm yn rhannol, bydd trethdalwyr Cymru yn talu yr un cyfraddau â threthdalwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y dreth incwm yn ystod y Cynulliad hwn. Byddai'n naïf, fodd bynnag, i ddweud na fyddem byth yn codi trethi yng Nghymru. Efallai y bydd yna amgylchiadau yn y dyfodol lle y ceir achos cryf dros newid teg a blaengar yn nhrethi Cymru i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i barhau i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yng Nghymru eu heisiau.
Rwy'n ymwybodol, fodd bynnag, fod Cymru a'r DU yn wynebu'r newid mwyaf sylweddol yn y cyfnod modern wrth inni edrych tuag at ymadawiad y DU â'r UE. Wynebwn y posibilrwydd real iawn o senario 'dim bargen', ac o gofio hyn, ynghyd ag effaith barhaus cyni parhaol, mae'n iawn inni ddal ati i fonitro'r datblygiadau'n ofalus ac asesu eu heffaith ar ein sefyllfa ariannol. Felly, rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ac rydym yn diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark.
Diolch. Rwy'n dal i sgriblo nodiadau'n gyflym, gan eich bod i gyd wedi dweud cymaint, a diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd. Dechreuodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa am Bobby Kennedy. Rhaid inni gofio bod ei frawd, JFK, pan oedd yn Arlywydd, wedi dadlau bod twf economaidd cryf yn galw am drethi is. Roedd llawer yn ei blaid ei hun yn anghytuno ag ef, ond ar y pryd, yn ôl yn 1963, fe'i profwyd yn gywir.
Soniodd ynglŷn â sut y mae angen inni wneud i hyn weithio yn y ffordd orau ar gyfer pobl Cymru a defnyddio'r ysgogiadau treth newydd hyn i feithrin buddsoddiad ac ysgogi twf economaidd yng Nghymru mewn oes newydd o atebolrwydd i'r Cynulliad hwn ac wrth gwrs, i'r Llywodraeth hon allu gwneud yr economi yn fwy cystadleuol, er mwyn annog mwy o fuddsoddwyr i ddod i Gymru a chreu'r swyddi cyflog gwell sydd eu hangen arnom. A soniodd am bryderon ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu treth incwm ddatganoledig yn ystod tymor y Cynulliad hwn, o ystyried y dyfyniadau, y cyfeiriodd ef ac eraill atynt, a wnaethpwyd wedyn gan rai o aelodau Llywodraeth Cymru.
Siaradodd Rhun ap Iorwerth am y flaenoriaeth o sicrhau twf economaidd a mwy o refeniw drwy gefnogi busnesau cynhenid. Hollol gywir: rydym yn cytuno â chi, a byddwn yn cefnogi eich gwelliant. Fodd bynnag, rydych yn gwrthwynebu mynnu na ddylai Llywodraeth Cymru gynyddu'r dreth yn ystod tymor y Cynulliad hwn—rhyfedd braidd, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru eu hunain yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn. Efallai y gallai'r cyhoedd nodi mai Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n argymell trethi uwch yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
A wnewch chi gymryd gwelliant—ymyriad?
Yn gyflym iawn, gwnaf.
Dim ond i ddweud eto beth a ddywedais yn fy araith yn gynharach—nad oeddem yn gwrthwynebu hyn am ein bod eisiau codi trethi, ond ein bod am i Lywodraethau gael hyblygrwydd i fod yn greadigol er lles pobl Cymru, ym mha ffordd bynnag y gall hynny fod. Ni wyddoch byth pa argyfwng a allai ein hwynebu oherwydd Brexit, er enghraifft, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Diolch. Rwy'n siŵr fod hynny wedi helpu i wella dealltwriaeth pobl yng Nghymru.
Dywedodd Mohammad Asghar, ar adeg y refferendwm—y refferendwm datganoli—wrth bobl Cymru na ellid datrys ein problemau economaidd heblaw drwy ddatganoli, ond mae Cymru'n parhau i hofran ar waelod tabl cynghrair economaidd y DU. Dywedodd y byddai baich treth ychwanegol ar drethdalwyr Cymru yn atal twf economaidd a niweidio swyddi, a gofynnodd i'r Gweinidog ailddatgan addewid maniffesto'r Blaid Lafur i beidio â chodi'r dreth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Credaf ein bod wedi cael y cadarnhad hwnnw ar y diwedd.
Alun Davies, wel fe fustachodd yn ei flaen yn ei ffordd arferol. [Chwerthin.] Drwy ddweud na alwodd neb—[Torri ar draws.] Drwy ddweud na alwodd neb am leihau gwariant yn ystod y dadleuon ar y gyllideb, efallai ei fod wedi portreadu'r dryswch rhwng cyfraddau treth a refeniw trethi. Ond roedd yn iawn pan alwodd am drethiant teg a rhesymol sy'n caniatáu i ni fuddsoddi ac sy'n adlewyrchu ein huchelgais, sef yn union yr hyn rydym ni'n galw amdano yn y ddadl hon hefyd.
Dywedodd Suzy Davies yn hollol gywir fod Llywodraethau angen derbyniadau treth, ond ein bod yn sôn am arian y bobl, nad yw gwneud treth yn rhywbeth sy'n ymwneud yn llwyr â'r mwyaf cyfoethog yn cynyddu derbyniadau treth, a'r angen i ystyried bod gan Gymru fwy o lawer o boblogaeth yn teithio i'r gwaith yn drawsffiniol na'r Alban, er enghraifft.
Cawsom ein hatgoffa gan Neil Hamilton am effaith y dreth ffenestri a barodd i bobl chwalu'r gwydr a gosod brics yn eu lle. Atgoffodd ni fod pobl yn newid ymddygiad i adlewyrchu cefndir treth y fan lle maent yn byw a bod yn rhaid i Gymru fod yn gystadleuol os yw'n mynd i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.
Cyfeiriodd Mark Reckless at ostyngiad mewn refeniw ers cyflwyno treth trafodiadau tir Llywodraeth Cymru a rhybuddiodd fod angen inni fod yn ofalus iawn beth a wnawn gyda'r dreth incwm yn y cyd-destun hwn.
Defnyddiodd y Gweinidog Cyllid yr ymadrodd dal popeth 'dull blaengar'. Gall hynny olygu llawer o wahanol bethau pan gaiff ei gymhwyso i drethiant, ond mae hi'n iawn i ddweud bod angen inni gydnabod yr effaith ar economi Cymru, twf swyddi a'r sefyllfa gyllidol wrth edrych ar drethi teg yn y dyfodol, ac y byddai'n cefnogi'r cynnig a diolch yn fawr iawn iddi am hynny.
Gadewch inni gofio, ers 2010, fod Cangellorion ar lefel y DU wedi cael mwy o dreth allan o'r cyfoethog nag unrhyw rai o'u rhagflaenwyr. Gadewch inni gofio bod 58 y cant o dreth ar draws y DU yn cael ei thalu gan y 10 y cant uchaf o drethdalwyr. Yng Nghymru, nid yw'r 10 y cant uchaf ond yn cyfrannu 44 y cant am fod cymaint yn llai ohonynt. Gadewch inni gofio'r ymchwil yn 2016 gan Ysgol Fusnes Caerdydd, a ddywedai y byddai gostwng y gyfradd uwch o dreth incwm yng Nghymru yn codi refeniw ychwanegol drwy ddenu rhai ar gyflogau mawr. Gadewch inni gofio bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi cyfaddef mai'r mwyaf y byddai'n gallu ei gael o'r dreth incwm fyddai codi ar drethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol, a'r rhybudd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain y dylai codi'r dreth incwm yng Nghymru fod yn ddewis olaf, nid yn ymateb cyntaf. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym felly'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.
Iawn, felly. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw pleidlais ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 21, roedd dau yn ymatal, a 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6940 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y cynnig
Pleidleisiwn ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar bensiynau Allied Steel and Wire. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Bethan Sayed. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6919 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Pensiynau Allied Steel and Wire: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfraddau treth incwm Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6921 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 42, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant fynd yn gyflym? Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i—[Torri ar draws.] Un funud. Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewisodd. Janet.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Gwneud y gorau o ddiwrnodau glawog yng Nghymru—pan fo llawer o bobl yn meddwl am Gymru, un peth a ddaw i'r meddwl yw ei henw fel man sydd wedi arfer â diwrnodau glawog niferus. Yn wir, yn ôl y Swyddfa Dywydd,
Mae gan Gymru hinsawdd sy'n arforol i bob pwrpas, gyda thywydd sy'n aml yn gymylog, yn wlyb a gwyntog ond yn fwyn.
Eryri, yn y gogledd, yw'r ardal wlypaf, a cheir glawiad blynyddol cyfartalog o dros 3,000 mm—sy'n uwch o lawer na'r cymunedau arfordirol a'r rhai ar hyd y ffin â Lloegr, sy'n cael llai na 1,000 mm y flwyddyn. Er y gall hyn ymddangos yn fach mewn cymhariaeth, mewn gwirionedd mae gennym ardaloedd trefol gwlyb iawn hefyd. Caerdydd yw'r ddinas wlypaf yn y DU, ac mae'n cael 115 cm ar gyfartaledd bob blwyddyn—mwy na Manceinion.
Yn amlwg, gellid dadlau mai Cymru gyfan, o Fae Caerdydd i Gapel Curig, yw'r rhan wlypaf o'r DU. Mae tystiolaeth o'r digonedd o law a geir yma yn amlwg o ystyried y ffaith drawiadol mai'r Deyrnas Unedig, o'r holl wledydd yn Ewrop, sydd yn y pumed safle o ran dyddodiad cyfartalog, ar ôl Gwlad yr Iâ, y Swistir, Albania a Norwy.
Yn y ddadl hon, rwy'n mynd i roi munud i Suzy Davies hefyd.
Mae effaith glaw yn hysbys iawn i'r Siambr hon oherwydd y dinistr a achosir gan lifogydd, fel yn fy etholaeth i, Aberconwy. Yn hytrach na sôn am y pethau negyddol hyn, heddiw rwyf am sbarduno rhaeadr o gydweithrediad a sgwrs am ddŵr glaw, ein hadnodd naturiol mwyaf o bosibl.
Nid ydym yn anghyfarwydd â manteision glaw yng Nghymru. Yn wir, defnyddir dŵr glaw eisoes i gynhyrchu ynni gwyrdd a glân, diolch i'n cynlluniau ynni dŵr. Yn wahanol i ffynonellau eraill o ynni, mae ynni dŵr yn cynnig cynhyrchiant hirdymor, ac mae gan gynlluniau hyd oes o 80 mlynedd, o gymharu â 25 mlynedd yn achos ynni gwynt ac ynni'r haul, a 35 mlynedd yn achos ynni niwclear.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae disgwyl i Gymru gynhyrchu 70 y cant o'r trydan a ddefnyddia o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Wrth ystyried ein bod ar hyn o bryd ar oddeutu 50 y cant, a hyd oes hwy cynlluniau ynni dŵr, mae'n rhesymegol inni wella cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy ynni dŵr.
Yn wir, ceir potensial sylweddol yn y sector hwn. Er enghraifft, er bod cynhwysedd gosodedig o 1,676 MW yn y DU ar hyn o bryd, mae astudiaethau diweddar o adnoddau wedi dangos bod potensial ymarferol i gael 2 GW pellach o gynhwysedd. Yn fwy na hynny, canfu adroddiad fod gan Gymru botensial ymarferol i ddarparu rhwng 26,730 kW a 63,000 kW o gynhwysedd ynni dŵr. Yn amlwg, dyma gyfle a gollwyd, yn enwedig o ran datblygiad pellach cynlluniau llai o faint.
Fel y dywedodd Claire Perry, y Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Glân:
O orsafoedd pŵer i baneli solar, mae'r dyfodol yn lleol.
Mae hi'n gywir. Er enghraifft, ceir tua 600 o afonydd yng Nghymru, a gallai llawer ohonynt ddarparu ffynhonnell bosibl ar gyfer ynni dŵr, er enghraifft drwy gynlluniau ynni dŵr micro, pico ac ar raddfa fach. Ymwelais â datblygiad bach yn fy etholaeth, ac rwy'n ymwybodol o brosiectau eraill sy'n cynhyrchu rhwng 30 a 100 kW yr awr, ac rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi bod yn gweld cynllun ynni dŵr yr wythnos diwethaf.
Bethesda, do.
Bethesda. Fodd bynnag, yng ngweddill Cymru, nid yw ynni dŵr yn ffynnu. 'Pam?' yw'r cwestiwn.
Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig benthyciadau, grantiau a chymorth technegol ar gyfer datblygu cynlluniau ynni dŵr, megis drwy'r gwasanaeth ynni lleol, y gronfa datblygu cymunedau gwledig, a'r cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy. Mae'n swnio'n gadarnhaol iawn, ond mae'r realiti ychydig yn wahanol.
Nawr, ar ôl siarad â fy etholwyr, rwy'n credu bod rhai heb gael dewis heblaw dibynnu ar fenthyciadau banc i ariannu 100 y cant o'u datblygiadau, tra bod eraill yn derbyn grant drwy Cyswllt Ffermio ar gyfer gwasanaeth a fyddai wedi bod yn rhatach yn y pen draw pe baent wedi mynd ati'n annibynnol i'w ddarparu. Fel y cafodd ei roi i mi, nid oes yr un o'r holl ffyrdd o gael cymorth a amlinellir gan Lywodraeth Cymru yn annog, cymell neu gefnogi buddsoddiad mewn ynni dŵr gan dirfeddianwyr.
Mae'n ofid fod cyllid yn parhau i rwystro pobl rhag cyflwyno mwy o gynlluniau, twf yr ynni adnewyddadwy pwysig hwn a'r defnydd o'n glaw. Yn wir, fel yr eglurodd un perchennog glannau afon, mae cost y cynlluniau'n rhy uchel. Nawr, fel y gwyddoch efallai, mae'r cynllun tariff cyflenwi trydan yn dod i ben ym mis Mawrth. Bu'n llwyddiant oherwydd bod cyflenwyr ynni, drwy'r cynllun hwn, wedi gallu gwneud taliadau rheolaidd i ddeiliaid tai a chymunedau sy'n cynhyrchu eu trydan eu hunain. Nawr, yn wyneb y golled hon, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd helpu i gynnal llwybr i'r farchnad ar gyfer cynhyrchiant carbon isel ar raddfa fach, a'i bod bellach yn ymgynghori ar y warant allforio doeth.
Wrth geisio gwneud mwy i helpu safleoedd ynni dŵr bach, credaf y dylai Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru—mae ganddynt ran i'w chwarae yn hyn a gallent wneud mwy. Er enghraifft, gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gofyn am hyd at £1,500 am drwydded echdynnu—gan gyfrannu at y pwll tro ariannol y mae llawer yn tybio yw ynni dŵr ar hyn o bryd. Gwn hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud y gwaith o ddatblygu rhai cynlluniau bron yn amhosibl, ar ôl mynnu mewn un achos—nawr, gwrandewch ar hyn—fod metrau o ffos yn cael eu cloddio â llaw.
Nid yw'n syndod fod fy ymchwil wedi fy ngwneud yn siomedig iawn ynglŷn â'r ymagwedd ymddangosiadol tuag at ynni dŵr nad yw'n ysbrydoli ein tirfeddianwyr glannau afon i fuddsoddi. Gallent fod yn harneisio adnodd gwych, rhad ac am ddim: dŵr glaw. Gellir newid hyn drwy alluogi ynni dŵr i ffynnu drwy: gyflwyno rhaglen datblygu ynni dŵr sy'n darparu grant o 50 y cant tuag at gyfanswm y gost o adeiladu cynlluniau ynni dŵr yn y dyfodol a grant o 75 y cant tuag at y gost o roi caniatâd i gynlluniau yn y dyfodol; darparu cymhellion i fuddsoddi mewn seilwaith, megis benthyciadau ar gyfer offer i'w talu dros gyfnodau hwy o amser, i gyd-fynd â hyd oes yr ased. Hefyd, gallent fod yn gwahodd tirfeddianwyr i fynegi diddordeb mewn datblygu cynllun, ac yn gyfnewid, lle y bo hynny'n rhesymol, gallent gael astudiaeth ddichonoldeb yn rhad ac am ddim ymhell cyn i fuddsoddi ddigwydd, neu cyn iddynt orfod rhoi arian tuag at ddylunio, cynlluniau neu drwyddedau.
Nawr, o ran y pwynt olaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod disgwyl i awdurdodau cynllunio asesu'r cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel yn eu hardal, a defnyddio'r dystiolaeth i sefydlu polisïau arbennig yn eu cynllun datblygu sy'n nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygu. Rwyf wedi edrych yn agosach ar sut y mae disgwyl iddynt wneud hyn ac wedi gweld bod pwyslais arbennig ar astudiaethau blaenorol. Er bod hyn yn rhesymol, credaf y gellid cyflawni mwy drwy wahodd ein tirfeddianwyr i weithio gyda'r Llywodraeth a chydweithredu. Yn sicr, byddai hwn yn gam cadarnhaol a fyddai'n helpu Cymru'n sylweddol i weld a gwneud mwy o ddefnydd o law.
Mae'r hyn rwy'n gofyn amdano'n galw am weledigaeth go syml, un y credaf y gallwn i gyd gytuno arni: yr angen i greu Cymru fwy gwyrdd a mwy gwydn. Mae hyn yn wir i lawr i lefel pob un o'n cartrefi, lle mae arnaf ofn nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn gwneud y mwyaf o'n glaw.
Daw hyn â mi at y cam olaf y credaf y dylem ei ystyried i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o ddŵr glaw. Mae'n rhywbeth sydd gennym yma yn yr adeilad hwn: cynllun casglu dŵr glaw, sy'n golygu bod dŵr glaw yn cael ei gasglu oddi ar y prif doeau, ei storio mewn dau danc 50,000 litr a'i ddefnyddio yn yr adeilad hwn. Er enghraifft, gwelwyd defnydd o ddŵr glaw i fflysio toiledau, i ddyfrhau a chynnal a chadw, gan arwain at dorri'r galw am ddŵr i gyn lleied â phosibl. Mae rhai o fanteision eraill casglu dŵr glaw yn cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio'r dŵr ar gyfer bwydo anifeiliaid, dyfrio planhigion, systemau gwresogi, gwrthsefyll llifogydd ac yn bennaf oll, er mwyn talu costau cynyddol biliau cyfleustodau, sydd bellach, o gynnwys y codiad yn y bil dŵr a charthfosiaeth cyfartalog yng Nghymru, oddeutu £439 yn y flwyddyn arannol ddiwethaf.
Wrth ystyried y gall systemau casglu dŵr weithio oddi ar doeau bron bob un o'n cartrefi, credaf ei bod yn drueni na cheir fawr o enghreifftiau y gellir cyfeirio atynt. Y rheswm am hyn o bosibl yw'r ffaith nad yw'n ymddangos bod unrhyw gefnogaeth ar gael ar gyfer cynlluniau casglu dŵr glaw yng Nghymru. Yn wir, mae'r ffynhonnell agosaf o gymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheolwyr tir a busnesau fferm i gaffael a gosod eu nwyddau dŵr glaw newydd eu hunain, boed yn gafnau neu bibellau dŵr. Yn fy marn i, mae'r sefyllfa hon yn chwerthinllyd, gan mai'r hyn a welwn yw Llywodraeth Cymru yn talu i law fynd i lawr y draen. Onid ydych yn cytuno y byddai'n gwneud synnwyr i helpu i ariannu'r cynlluniau casglu dŵr glaw hynny hefyd?
Hoffwn gloi fy nghyfraniad—a gobeithiaf ei fod wedi darparu gweledigaeth bwysig ar gyfer Cymru, ac un y gellir ei chyflawni, os oes uchelgais, os oes dyhead, ac os oes ysgogiad. Ac rwy'n hoff o roi sypreisys, felly rwy'n mynd i ddyfynnu o gân Gymraeg enwog iawn:
‘Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, / Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; / Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si / Ei nentydd, afonydd, i mi.'
Onid ydych yn cytuno, Weinidog, fod gan y dirwedd a ddisgrifir mor enwog yn y geiriau hardd hynny botensial i gynnig mwy i Gymru, ac yn wir, y byddai sŵn y nentydd a'r afonydd yn felysach byth pan fydd y dŵr a gyfeiriant wedi cael y cyfle gorau posibl i greu ynni gwyrdd, i'w ddefnyddio yn ein cartrefi, ac i helpu i leihau ein biliau ynni?
Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am bontio'n berffaith, Janet, oherwydd roeddwn ar fin dweud hyd yn oed os ydym yn clywed bod twristiaid yn cwyno am y glaw yng Nghymru, mewn gwirionedd, glaw yw ein harf cudd. Mae'n helpu, ynghyd â gwaith da ffermwyr ac amgylcheddwyr eraill, i greu y tirweddau sy'n gwneud hon yn wlad mor atyniadol, gyda'i chaeau gwyrdd, a'i mawnogydd, a'i hafonydd a'i llynnoedd.
Mae'r cynlluniau ynni dŵr roedd Janet yn sôn amdanynt yn atyniad ynddynt eu hunain hefyd wrth gwrs. Yn amlwg, Dinorwig yw seren fawr y sioe yn hyn o beth, ond fel y gŵyr Dai, mae gennym gynllun ynni dŵr bach yng nghoedwig Penllergare yn ein rhanbarth, ac mae hynny ynddo'i hun yn rhan o atyniad y dyffryn hwnnw.
Blwyddyn Antur, Blwyddyn y Môr, credaf fod Croeso Cymru—wel, mae'n amlwg eu bod wedi sylweddoli bod dŵr yn bwysig i'r hyn a werthwn yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd ystadegau niferoedd yr ymwelwyr yn y flwyddyn neu ddwy nesaf yn dangos bod ymwelwyr wrth eu boddau â dyfroedd Cymru.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Janet, am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw.
Yn sicr gwelwn lawer o law yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n sicr na fydd yn syndod i'r Aelodau wybod nad yw bob amser yn syrthio yn y lle iawn nac ar yr adeg iawn i ni allu gwneud y gorau ohono, a gall rheoli ei ddefnydd a'i effeithiau fod yn heriol yn sicr. Felly, credaf ei bod yn ddefnyddiol inni osod y cefndir. Mae natur daearyddiaeth a daeareg yn golygu na ellir casglu ond ychydig iawn o ddŵr glaw gyda thua 3 y cant ohono'n cael ei ddal gan seilwaith y cwmnïau dŵr. Daw tua 95 y cant o'r dŵr a ddelir i'w ddefnyddio yng Nghymru o echdynnu dŵr wyneb, gan nad yw ein cronfeydd dŵr daear ond yn dal llai na 5 y cant o'r dŵr sydd ei angen ar gyfer cyflenwadau cyhoeddus.
Yn wir, mae dŵr yn un o'n hasedau naturiol mwyaf ac yn rhan annatod o'n diwylliant, ein treftadaeth a'n hunaniaeth genedlaethol, ac mae'n rhoi ffurf i'n hamgylchedd naturiol a'n tirweddau. Mae ein dŵr glaw yn syrthio i dros 120 o ddalgylchoedd sy'n ddarostyngedig i amrywiaeth o fathau o ddefnydd tir ac arferion rheoli, a phob un yn effeithio ar ansawdd dŵr. Mae llawer o Gymru'n fynyddig gyda phoblogaeth gymharol isel, gan ychwanegu at yr heriau o ran y seilwaith sydd ei angen i gyflenwi i gwsmeriaid mewn rhai ardaloedd. Oherwydd ein topograffi, wrth i law nesu'n gyflym tuag at yr arfordir yn ystod glaw trwm, mae'n codi llygryddion wrth iddo ddraenio i mewn i'n hafonydd a gall orlethu ein systemau carthffosiaeth sy'n rhai Fictoraidd yn bennaf, gan greu perygl o lifogydd. Felly, mae'r heriau a wynebwn yn debygol o ddod yn fwyfwy anodd, er enghraifft gyda rhagolygon hinsawdd y DU yn darogan hafau sychach a gaeafau gwlypach yng Nghymru.
Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn inni gofio, ond mae braidd yn eironig yng nghyd-destun y ddadl heddiw, yr haf eithriadol o sych a gawsom y llynedd, gyda llai o law yng Nghymru nag yn 1976 hyd yn oed—i'r rhai ohonom yn y Siambr sy'n ddigon hen i gofio 1976. Creodd hyn ei heriau ei hun i'r cwmnïau dŵr o ran y gallu i wrthsefyll hinsawdd.
Felly, gyda hyn oll i'w ystyried, rydym wedi ymrwymo i ddull mwy integredig o reoli ein dŵr, yn unol â'n polisi rheoli adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ac yn 2015, cyhoeddwyd ein strategaeth ddŵr ar gyfer Cymru, sy'n nodi ein cyfeiriad polisi hirdymor.
Felly, pan welais deitl dadl fer Janet Finch-Saunders heddiw, nid oeddwn yn hollol siŵr i ble roeddem yn mynd, ond yn amlwg, cyfeirio at ynni dŵr a wnaeth Janet, rhywbeth sy'n rhan bwysig iawn o'n cymysgedd ynni, ac rwyf finnau hefyd wedi bod yn ffodus i ymweld â sawl cynllun ynni dŵr bach. Roedd Janet i'w gweld yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddynt, ond heddiw ddiwethaf, cyhoeddais barhad y cynllun cymorth ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol ar gyfer 2019-20. Ac mae'r cynllun eisoes wedi cefnogi bron i 50 o brosiectau ynni dŵr yn y flwyddyn, gan gynnwys saith prosiect sy'n eiddo i'r gymuned. Felly, bydd parhad y cynllun grantiau'n galluogi prosiectau cymwys i gadw'r budd mwyaf posibl ar gyfer eu hardal leol, gan eu galluogi i ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.
Credaf fod Janet wedi crybwyll bod Mark Isherwood wedi ymweld ag Ynni Ogwen, fel y gwneuthum innau ym mis Tachwedd. Roedd yn ddiddorol iawn gweld bod sylfaenydd-gyfarwyddwr y prosiect hwnnw wedi dweud:
'Mae'r cymorth a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol i helpu gyda chost ardrethi busnes wedi bod yn help mawr inni, gan arbed £14,000 inni yn ystod ein dwy flynedd gyntaf a sicrhau bod y gwaith caled a wnaeth ein gwirfoddolwyr wrth sefydlu'r cynllun wedi dwyn ffrwyth. Dwi'n falch iawn bod y cymorth hwn yn parhau ar ôl 1 Ebrill. Bydd hyn yn rhoi tipyn o hyder inni wrth inni bwyso a mesur a allwn ni fwrw 'mlaen â'n hail gynllun y flwyddyn nesa.'
Cyfeiriodd Janet at y tariff cyflenwi trydan yn dod i ben, ac o ddifrif, rwy'n credu eich bod yn pwyso wrth ddrws agored gyda mi a Llywodraeth Cymru—y drws yn Llywodraeth y DU lle mae gennych eich Gweinidogion Torïaidd sy'n dod â'r tariff cyflenwi trydan i ben—. A rhaid imi ddweud, ymwelais hefyd â chynllun ynni dŵr nid nepell o Fachynlleth, ar fferm, a dywedodd y ffermwr wrthyf, gyda'r holl arbenigedd a enillodd o roi'r cynllun ar ei fferm, y byddai'n hoffi'n fawr gwneud un arall yn y cwm nesaf, gyda ffermwr arall. Ond oherwydd y gostyngiad yn y tariff cyflenwi trydan, nid oedd yn mynd i fod yn werth ei wneud. Felly, credaf nad Llywodraeth Cymru yn unig sydd angen cyflwyno mentrau i gefnogi ynni dŵr—mae angen i Lywodraeth Geidwadol y DU wneud hynny hefyd. Ond rwy'n credu bod cynlluniau ynni dŵr wedi'u cynllunio'n dda yn enghraifft wych o sut y gallwn harneisio ein hadnoddau naturiol sydd ar gael i ni er budd cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwarchod amgylchedd afonydd.
Ar ben arall y raddfa, roeddwn am ddweud wrth gwrs fod gennym y rheoliadau systemau draenio cynaliadwy arloesol a ddaeth i rym ychydig wythnosau'n ôl ar 7 Ionawr. Unwaith eto, byddant yn arwain at ffyrdd arloesol o leihau dŵr ffo a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth mewn amgylcheddau trefol. Ac mae hefyd yn cyfrannu at amddiffyn 163,000 eiddo yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn wynebu perygl o lifogydd dŵr wyneb. Bydd y dull SDCau hefyd yn darparu manteision ychwanegol o ddefnyddio dŵr glaw, megis systemau casglu dŵr glaw, sydd â photensial i leihau'r galw am ddŵr wedi'i drin mewn cartrefi a busnesau.
Cyfeiriodd Janet hefyd at ffermwyr, ac rydym yn darparu cyllid grant i ffermwyr ar gyfer offer casglu a hidlo dŵr, ac mae ein grant cynhyrchu cynaliadwy yn canolbwyntio ar reoli a storio maethynnau er mwyn lleihau achosion o lygredd yn ein cyrsiau dŵr a'r effeithiau ar fflora a ffawna cysylltiedig.
Menter arall—ym mis Rhagfyr, cyhoeddais fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', ' Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10'. Mae'n pwysleisio'r angen i fanteisio ar ddulliau integredig ar gyfer cynllunio a rheoli adnoddau dŵr mewn ardaloedd trefol a gwledig ac mae'n amlygu arferion da ar gyfer defnyddio ein hadnoddau dŵr yng Nghymru.
Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac mae ein prif gwmni dŵr, Dŵr Cymru, yn bwriadu gwario £74 miliwn, mwy nag erioed o'r blaen, ar ymchwil ac arloesedd rhwng 2020 a 2024. Credaf mai'r hyn y bydd y buddsoddiad hwnnw'n ei wneud fydd sicrhau rhagor o gydweithio rhwng ein rheolwyr tir a Dŵr Cymru i ddiogelu ansawdd dŵr a gwella gallu'r tir i ddal dŵr, gan wella cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth yn un o'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a drysorwn fwyaf.
Felly, rydym yn parhau i gynllunio ar gyfer cydnerthedd dŵr mwy hirdymor. Mae angen inni roi camau ar waith i gefnogi ein hamgylchedd, ein cymunedau a'n busnesau, ac mae'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd yn paratoi eu cynlluniau rheoli dŵr ar gyfer y cyfnod nesaf o 25 mlynedd o 2020 ymlaen. Bydd y cynlluniau hyn yn dangos sut y rheolir ac y diwellir y galw am ddŵr hyd at 2045, ac mae angen y cynlluniau er mwyn ystyried amcanestyniadau newid hinsawdd, twf y boblogaeth a datblygiadau newydd.
Mae polisi dŵr yn bwnc allweddol yma yng Nghymru, a bydd angen inni arddangos arweinyddiaeth gadarn ar y cyd er mwyn parhau i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.