Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rydw i wedi derbyn gwybodaeth, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Cwestiwn 1—Mark Isherwood. 

Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru

1. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ52981

Mae ein cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi economi Cymru dros y degawd nesaf a thu hwnt, a sut y gallwn gyfuno'r adnoddau, yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yng Nghymru i gryfhau ein sylfeini economaidd a diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol.

Diolch. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth yn rhan o'r fargen. Cyflwynwyd y cais i'r ddwy Lywodraeth fis Rhagfyr diwethaf, gan gynnwys galwadau i Lywodraeth Cymru ddirprwyo pwerau i'r gogledd, fel y gallai weithredu mewn swyddogaeth weithredol mewn meysydd penodol. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer y fargen twf, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiadau a wnaed o'r llwyfan yng nghynhadledd bargen twf y gogledd ar 1 Tachwedd, a drefnwyd gan y bwrdd uchelgais economaidd, 'Rydym ni wedi clywed am ymrwymiad Llywodraeth y DU ond yn poeni am yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mewn sefyllfa mwg a drychau.' Felly, ble mae'r arian, pryd bydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd hyn yn derbyn y cais neu yn hytrach yn dylunio system, fel y mae'n ymddangos yw'r gwir, lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â'r ysgogiadau hynny, ac nad yw'r galwadau i ddirprwyo yn mynd o'i phlaid o anghenraid?

Nid yw hwnnw'n ddarlun yr ydym ni'n ei adnabod. Mae trafodaethau rhwng partneriaid y gogledd a Llywodraethau Cymru a'r DU yn symud ymlaen yn dda ar gynnig twf y gogledd. Roedd swyddogion o'r ddwy Lywodraeth a phartneriaid yn y gogledd yn bresennol mewn gweithdy yr wythnos diwethaf i drafod a chytuno ar becyn o gynigion a'r camau nesaf i alluogi cyflawniad y cytundeb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â phartneriaid ddydd Gwener yr wythnos hon, rwy'n credu, a bydd hynny i gyd yn rhan annatod o'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y gogledd. Felly, o'n safbwynt ni, heblaw'r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu'r pecyn cyfan o arian yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, mae'r fargen yn mynd rhagddi'n dda.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen am gyhoeddiad cynnar ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y byddai'r Llywodraeth yn ei roi i'r gwaith yna, wrth gwrs, ond os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd gogledd Cymru, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl.

Mae'n ddrwg gen i, Llyr, mae fy mheth cyfieithu'n ysbeidiol, mae arna i ofn.

Diolch yn fawr. Roeddwn i jest yn gwneud y pwynt y byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed cyhoeddiad buan, gobeithio, gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y bydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun twf yn y gogledd. Ond y pwynt roeddwn i eisiau ei wneud oedd: os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd yn y gogledd, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl. Ac rŷm ni wedi gweld, drwy adroddiad gan y London School of Economics yn ddiweddar iawn nawr, wrth gwrs, yr impact y bydd sawl senario gwahanol yn ei gael. Ond o gofio, wrth gwrs, dibyniaeth economi gogledd Cymru ar weithgynhyrchu, ar y sector amaeth a bwyd, a phwysigrwydd strategol porthladd Caergybi, onid yw hi'n glir bod aros o fewn y farchnad sengl yn gwbl greiddiol yn hyn o beth? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, nid yn unig bod Llywodraeth Prydain yn barod i gadarnhau hynny, ond bod eich plaid chi eich hunan yn San Steffan yn barod i ddadlau dros hynny?

Ydy, mae'n eglur bod y cytundeb negodi presennol y mae Prif Weinidog y DU yn ei geisio, trwy unrhyw ddull angenrheidiol, i ennyn rhywfaint o gefnogaeth y mae wir ei hangen arno yn annoeth o ganlyniad i'w llinellau coch. Mae hi wedi dysgu rhyw fymryn o'n cynigion, ond llawer rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mai'r cwbl y mae'r rhagolygon diweddar o nifer o ffynonellau yn ei wneud yw tanlinellu rhagolygon economaidd Brexit 'dim cytundeb' a chaled, ac mae unrhyw Brexit sy'n ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn peri problemau hefyd.

Adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach?'

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'? OAQ52990

Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr adroddiad, sy'n cynnig tystiolaeth werthfawr i gefnogi ymdrechion ein holl gyrff cyhoeddus i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chomisiynydd Cymru i drafod yr heriau a nodwyd, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried yr argymhellion yn eithaf manwl ar hyn o bryd.

Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyn i gyd ym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol ddamniol, ynghylch natur ddideimlad ac angharedig polisïau Llywodraeth y DU, gan wneud i'r rhai sy'n agored i niwed dalu'r pris am ei methiannau. Ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar degwch yng Nghymru, sy'n dangos gwahaniaethu ac anfantais yn taro cymunedau tlotach, pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli llawer o'r dulliau ar gyfer datrys y sefyllfa hon, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau allweddol hefyd. Felly, arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach nawr sut y gall hi sicrhau'r pwyslais mwyaf manwl posibl ar fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau penodol, monitro a gwerthuso ar waith, ac ystyried ymhellach y materion yn yr achos dros ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles, o ystyried effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?

13:35

Mae swyddogion yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad ac yn fanwl iawn—y pwyslais mwyaf manwl posibl, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud—gyda golwg iddo gael ei gyfrannu at fersiwn nesaf ein cynllun cydraddoldeb strategol, ac, yn wir, yn y ffordd yr oedd y cynllun cydraddoldeb strategol blaenorol yn seiliedig ar yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' blaenorol. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio ar y cyd â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hynny o beth. Rwyf i hefyd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion eraill o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gyda'm bwrdd rheoli, er enghraifft, yn fy nghyfrifoldebau portffolio, yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i fynd ar drywydd rhai o'r data sydd eu hangen arnom ni, er mwyn gallu bwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny.

Mae adroddiad yr Athro Philip Alston yn adleisio'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud o'r cychwyn bod tystiolaeth gref gan amrywiaeth o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys pwyllgorau seneddol a Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel y dywedodd John Griffiths, bod y DU yn gwbl benderfynol o gyflwyno ei pholisïau diwygio lles a threthi niweidiol, sy'n gwbl atchweliadol, ac yr ydym ni'n eu gresynu. Mae gennym ni nifer o fesurau y gallwn ni eu rhoi ar waith i geisio lleddfu'r rheini, ond, yn anffodus, nid yw'r ysgogiadau ar gael i ni gael gwared arnyn nhw yn llwyr.

Hoffwn dynnu sylw at ddau beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, sef gwneud yn siŵr bod gwaith sy'n talu'n dda, drwy ein comisiwn gwaith teg, yn bendant ar frig yr agenda yng Nghymru, gan ein bod ni'n gwybod mai dyna'r llwybr gorau allan o dlodi, a hefyd sicrhau bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cymryd anghenion y bobl hynny â'r holl nodweddion gwarchodedig i ystyriaeth. Felly, ein hymgynghoriad diweddar ar gyfer gweithredu ar anabledd, er enghraifft, sy'n dal ar agor—a byddwn yn annog yn bendant bod holl Aelodau'r Cynulliad, Llywydd, yn ymateb iddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn. Fodd bynnag, canfu adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', mewn prentisiaethau, bod gwahanu cryf ar sail rhyw yn parhau, bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a bod cynrychiolaeth pobl anabl yn arbennig o isel. Beth mae'r Prif Weinidog dros dro—eich Llywodraeth chi—yn ei wneud i fynd i'r afael â gwahanu ar sail rhyw ac i hybu rhagolygon cyflogaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl drwy'r system brentisiaeth yn y wlad hon?

Rydym ni wedi penodi hyrwyddwr cydraddoldeb i weithio gyda'n darparwyr prentisiaeth er mwyn gwneud hynny, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n cael cynrychiolaeth dda iawn o'r holl grwpiau nodweddion gwarchodedig yn arbennig. Mae mater cymdeithasol ehangach ar waith o ran gwahanu ar sail rhyw, felly rydych chi'n gweld llawer iawn mwy o fenywod mewn lleoliadau cymdeithasol, llawer iawn mwy o ddynion mewn lleoliadau peirianneg caled, ac mae hwnnw'n ddarlun cymdeithasol eang ar draws cymdeithas y DU. Rydym ni wedi bod yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd, a hoffwn dynnu sylw at yr ymgyrch Dyma Fi, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhyw, i geisio lledaenu'r neges y dylai pobl geisio fod y person y maen nhw eisiau ei fod ac nid rhywbeth sydd wedi'i bennu ymlaen llaw gan eu rhyw, yn arbennig, neu unrhyw nodwedd arall. Os nad yw'r Aelod wedi gweld yr ymgyrch honno, rwy'n ei hargymell iddo—bu'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yr ydym ni wedi eu cael o ran cyrhaeddiad. Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n galed iawn ar roi terfyn ar stereoteipio ar sail rhyw, ac felly anghydraddoldeb ar sail rhyw, o gymdeithas Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod corff cyhoeddus pwysig yn gallu gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr?

Nac ydw, wrth gwrs nad ydw i, ac wn i ddim beth mae e'n cyfeirio ato. Ond, na, yn gyffredinol, wrth gwrs, yr ateb i hynny fyddai 'wrth gwrs nad ydw i'.

Wel, rydw i'n falch ei bod hi'n cytuno â hynny, oherwydd mae gyda ni sefydliad yma yng Nghymru sydd yn gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr. Fel y gwyddoch, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gatalog o fethiannau sydd â chanlyniadau difrifol ar gyfer y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau Cymru. Nid yn unig y mae cyfrifon y corff wedi cael eu cymhwyso yn nhair o'r pum mlynedd mae e wedi bod yn weithredol, ond mae e hefyd wedi colli £1 filiwn o arian cyhoeddus i drethdalwyr. Mewn adroddiad damniol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi pryderon nad yw'r sefydliad yn derbyn cyfrifoldeb am ei fethiannau a'i fod wedi diystyru nifer o argymhellion gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol. Pan ofynnais i i'r Prif Weinidog nôl ym mis Hydref, roedd e o'r farn bod y sefydliad yma yn addas i'r pwrpas. Felly, a ydych chi fel Llywodraeth nawr yn dal i gredu bod y sefydliad yma yn addas i'w ddiben? 

13:40

Rwy'n credu bod cyfundrefn reoli newydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ateb cwestiynau am hyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud, ar sawl achlysur. Byddai newid y sefydliad nawr yn newid sefydliadol enfawr, yn ychwanegol i rai o'r heriau eraill y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw. Dim ond newydd—yn ddiweddar iawn o safbwynt sefydliadol—benodi prif weithredwr newydd ydym ni, mae gennym ni fwrdd newydd, pum aelod newydd o'r bwrdd a chadeirydd dros dro newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n amser gadael iddyn nhw fwrw ymlaen â'r dasg a pheidio â chyflwyno cyfres arall o heriau sefydliadol ar ben yr hyn sydd ganddyn nhw eisoes.

Arweinydd y tŷ, rydw i'n teimlo nad ydych chi'n derbyn graddfa'r mater yma. Mae hwn yn sefydliad sy'n methu: mae'n methu i wella ar ei berfformiad ac i ddysgu o'i gamgymeriadau difrifol, mae'n methu â dilyn ei ofynion statudol a chyfreithiol, ac mae'n methu â chyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'n amlwg nad oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw strategaeth ar waith i ddelio â'r sefydliad hwn, ac mae hyd yn oed un Aelod o'ch plaid chi wedi disgrifio Cyfoeth Naturiol Cymru fel 'allan o reolaeth'.

Mae llawer ohonom ni yn dal pryderon difrifol am allu eich Llywodraeth chi i reoli gwasanaethau cyhoeddus, gyda'n bwrdd iechyd mwyaf mewn mesurau arbennig, ynghyd ag 19 o ysgolion. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad cyhoeddus arall o dan eich rheolaeth chi sy'n methu â chyflawni. Felly, arweinydd y tŷ, ar ran pawb sy'n gwerthfawrogi ac sy'n dibynnu ar adnoddau naturiol Cymru, a wnewch chi nawr alw amser ar y sefydliad hwn, sy'n amlwg yn methu, â sicrhau bod y digwyddiad yma yn cael ei ddiwygio'n gyfan gwbl? 

Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyna fyddai'r dull cwbl anghywir o ymateb i her sefydliadol. Mae'r Aelod yn awyddus iawn i dynnu sylw at rai o'r agweddau negyddol ac, yn sicr, mae gan y sefydliad nifer o bethau y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw, a bwriedir i'w drefniadau rheoli newydd fynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu bod dwy ochr i bob stori. Mae'n bwysig cofio, yn ystod storm Callum, er enghraifft, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu prosiectau a gafodd glod rhyngwladol i helpu gyda materion ymatebwyr brys, gydag amddiffyn rhag llifogydd, gyda lliniaru. Mae'n rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru ac yn cyflogi 1,900 o staff. Mae'n bwysig bod rheolwyr y sefydliad hwnnw yn cael cyfle i gynefino a datrys ei broblemau. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddyfynnu cadfridog Rhufeinig yn dweud y gellir cyflwyno'r argraff o newid, dim ond drwy symud y byrddau o gwmpas. Yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol i'r strwythur rheoli ac rydym ni'n credu erbyn hyn bod gennym ni'r tîm rheoli ar waith i wneud hynny.

Diolch, Llywydd. Yn ôl ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon bod eich Llywodraeth yn gwrthwynebu preifateiddio yn y GIG yn llwyr gan gymharu hynny â'r sefyllfa yn Lloegr. Mewn gwirionedd, polisi'r Llywodraeth pan benodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog i ddechrau oedd diddymu'n raddol y defnydd o'r sector preifat yn llwyr erbyn 2011. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd heddiw i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn caniatáu i ddarparwyr sector preifat gynyddu eu dylanwad yma yng Nghymru?

Ie, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn seiliedig ar ei egwyddorion sylfaenol, ac yn cael ei ddarparu felly gan staff sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl o gwbl ac yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu.

Mae'n gydnabyddedig iawn bod hanes eich Llywodraeth o ran amseroedd aros y GIG ymhell o fod yn foddhaol. Er enghraifft, mae'r archwilydd cyffredinol wedi adrodd yn ddiweddar y bu cynnydd o 55 y cant ers 2015 i nifer y cleifion y caiff eu hapwyntiadau dilynol eu gohirio ddwywaith cyn hired ag y dylent. Nawr, mae radioleg yn un maes lle mae targedau yn cael eu bodloni ar hyn o bryd, ond mae hyn oherwydd bod byrddau iechyd fwyfwy yn cynnig contractau allanol i'r sector preifat. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod perfformiad o ran amseroedd aros wedi cael ei helpu trwy sicrhau capasiti ychwanegol o'r sector preifat mewn ymateb i'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel

'anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG'

yn y GIG. Onid yw'n wir bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn bolisi o breifateiddio llechwraidd fel plastr i guddio problemau strwythurol tymor hwy yn y GIG yng Nghymru?

13:45

Wel, ni allwn anghytuno mwy gyda'r Aelod a dweud y gwir. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni drefnu i wasanaethau gael eu darparu yn y modd gorau posibl, ond ceir egwyddor eglur, benderfynol, a fynegwyd yn gyhoeddus, agored a thryloyw yn y fantol, sef: pan fo hynny'n bosibl, rydym ni'n eu darparu gan staff sector cyhoeddus, yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Yn amlwg, ceir rhai achosion lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio darparwyr sector preifat yn y tymor byr fel trefniant wrth gefn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a'r Aelod fyddai'r cyntaf i sefyll ar ei draed a'n beirniadu ni pe na byddem ni'n gwneud hynny. Ond mae'n amlwg nad oes llwybr i breifateiddio ar sail eang, fel y mae ef yn ei awgrymu.

Wel, edrychwch, arweinydd y tŷ, efallai fod dadl, yn amlwg, dros ddefnyddio capasiti sector preifat mewn argyfwng, ond nid dyna sut yr ydych chi'n adeiladu GIG cynaliadwy. Mae cynllunio hirdymor yn ei gwneud yn ofynnol i chi hyfforddi'r gweithlu, prynu'r offer sydd ei angen, fel bod y capasiti gennych chi i fodloni'r gofynion yn y dyfodol. Nawr, mewn gwirionedd, mae gwariant ar y defnydd o ddarparwyr sector preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers i'ch Llywodraeth chi fod mewn grym. Yn 2011, roedd yn £14 miliwn; y llynedd, roedd yn £38.5 miliwn. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 260 y cant dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r Blaid Lafur yn Lloegr, o dan Jeremy Corbyn, wedi addo rhoi terfyn ar y defnydd o ddarpariaeth sector preifat yn y GIG yn llwyr; dyna oedd y polisi yma. Onid yw hwn yn achos arall o Lafur yn dweud un peth fel yr wrthblaid yn San Steffan ac yn gwneud i'r gwrthwyneb mewn Llywodraeth yma yng Nghymru? A gadewch i ni—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi Jeremy Corbyn o'r neilltu am eiliad. Onid ydych chi'n cefnu ar werthoedd Bevan a'ch gweledigaeth eich hun?

Wel, Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag ailadrodd yr hyn a ddywedais: wrth gwrs nad ydym ni'n gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r GIG fel gwasanaeth cyhoeddus rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnydd. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddefnyddio contractwyr preifat weithiau i ymateb i anawsterau gwasanaeth ac wrth gwrs rydym ni'n gwneud yn union fel yr awgrymodd y dylem ni ei wneud, sef hyfforddi'r nifer fwyaf o staff y gallwn yn y nifer fwyaf o leoedd hyfforddi y bu gennym ni erioed er mwyn cyflawni hynny. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n sefyll ochr yn ochr â'r Blaid Lafur ar lefel y DU yn hyn o beth. Mae preifateiddio'r GIG yn gwbl wrthun i ni, ac yn sicr nid dyna egwyddor na pholisi'r Llywodraeth hon.

Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, cefais y pleser o ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd lleol ar draws gogledd Lloegr a'r Alban. Roedd y trenau'n rhedeg yn brydlon, roedd gwasanaethau yn cysylltu â'i gilydd, ac roedd digonedd o seddi i bobl eistedd arnynt. Onid yw'n deg i ddweud nad yw pobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru yn cael yr un driniaeth. Arweinydd y tŷ, a ydych chi a'ch Llywodraeth yn cytuno'n llwyr â chyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Bethan Jelfs, pan ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid i gwsmeriaid rannu poen y tarfu diweddar ar y rheilffyrdd?

Nac ydym. Wrth gwrs, mae'n hynod ddrwg gennym, fel y mae llawer o bobl wedi ei ddweud yn y Siambr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ganfod ein hunain yn y sefyllfa lle mae Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu fflyd o drenau, is-safonol iawn ac nid yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl i raddau helaeth—a dweud y gwir, oherwydd y blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd o danfuddsoddi gan y sector preifat. Felly, mae gennym ni gynllun adfer cadarn iawn ar waith. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i geisio sicrwydd bod y cynllun adfer hwnnw yno. Cadarnhawyd yn y cyfarfod hwnnw bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi rhoi cynllun adfer llawn ar waith i reoli'r sefyllfa ac y byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan brif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru ar gynnydd o'i gymharu â'r cynllun hwnnw.

Mae'r peirianwyr o Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio bob awr o'r dydd i ailddechrau gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Ychydig yn llai na mis yn unig y bu'r fasnachfraint gennym ni; ni allwn gywiro tanfuddsoddiad 15 mlynedd mewn pedair wythnos.

Ie, rwy'n sylweddoli bod problemau a gafodd eu hetifeddu gan Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, ond rwy'n meddwl tybed a yw rhai o'r pethau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw yn ddiweddar yn anawsterau a grëwyd ganddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, rhoddwyd llawer o sylw i'r ffaith fod tua 25 i 30 y cant o'r fflyd ar gyfer Cymru a'r gororau wedi cael ei dynnu'n ôl i'w archwilio a'i drwsio. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod olwynion trên yn gwisgo, a allai gael ei waethygu gan ddail ar y rheilffordd yn ystod yr hydref mewn unrhyw flwyddyn. O ystyried bod hwn yn anhawster a wynebir gan bob masnachfraint rheilffordd bob blwyddyn, siawns mai'r ffordd y dylai swyddogion Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael eu talu'n dda, fod yn ymdrin â hyn yw trwy ddisgwyl a rhagweld y broblem hon, ac yna cynllunio ar ei chyfer ymlaen llaw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yn gallu deall pam mae'n rhaid tynnu 25 y cant o'r fflyd yn ôl i gyd ar yr un pryd yr hydref hwn. Pam na ellid eu tynnu'n ôl fesul tipyn, tua 5 y cant ar y tro dros bum wythnos, dyweder, yn hytrach na 25 y cant i gyd ar unwaith mewn wythnos?

13:50

A dweud y gwir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith cwbl wych, ac mae 10 y cant o'r fflyd yn weithredol eto. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylid eu canmol am gyflymder eu hymateb. Yn amlwg, ceir problemau gwirioneddol gyda chadw trenau i weithredu nad ydyn nhw'n ddigon da, ac nid oes rhaid i mi eu hailadrodd i'r Aelod. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y fflyd yn weithredol eto. Fel y dywedais, mae'r cynllun adfer gweithredol ar waith; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael diweddariadau rheolaidd. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth i bobl Cymru cystal ag y gall fod wrth i ni gyrraedd yr hydref.

Wel, rwy'n falch o glywed hynny, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio y bydd y fflyd yn ôl mewn cyflwr da mewn da bryd i'r teithwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y teithwyr yn mwynhau buddion hynny. Fodd bynnag, nid ynghylch oediadau trên yn unig y mae teithwyr yn teimlo'n rhwystredig ar hyn o bryd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi cael cwynion gan etholwyr y bu ciwiau hir o deithwyr yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig y bore yn ymestyn ar draws yr orsaf. Mae'r ciwiau yn cynnwys teithwyr sydd wedi cwblhau eu teithiau, ond nad oeddent yn gallu prynu tocyn yn eu gorsaf reilffordd gychwynnol na chan aelod o staff ar y trên, felly bu'n rhaid iddyn nhw fynd at y cownter teithiau na thalwyd amdanynt yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Roedd yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i gyrraedd blaen y ciw hwn weithiau'n 20 munud i 30 munud ar gyfartaledd. Nawr, roedd gennym ni broblemau gyda'r gweithredwr blaenorol, Trenau Arriva Cymru, pan oedden nhw'n bygwth codi dirwy o gannoedd o bunnoedd ar bobl am nad oedd ganddyn nhw docynnau dilys ac wedyn, wrth gwrs, daeth i'r amlwg bod llawer o'r peiriannau tocynnau yn eu gorsafoedd nad ydynt wedi eu staffio, ddim yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymddangos erbyn hyn ein bod ni'n mynd trwy anrhefn tocynnau newydd sbon gyda'r gweithredwr newydd. Nawr, gwn mai dyddiau cynnar yw hi, arweinydd y tŷ—rydym ni i gyd yn derbyn hynny—ond beth allwch chi ei wneud i sicrhau defnyddwyr rheilffyrdd nad yw'r gwasanaeth newydd yn mynd i barhau i ailadrodd holl broblemau'r hen un?

Mae symud i'r system ddi-docyn yr ydych chi'n ei gweld yn rhan bwysig o'r fasnachfraint newydd—. Os ewch chi i Transport for London, er enghraifft, mae bron pob un o'r gwasanaethau yn ddi-docyn, felly byddwn ni'n symud tuag at hynny. Mae'r buddsoddiad yn sicr yno. Dyna'n sicr yw'r bwriad—symud i weithrediadau di-docyn mor gyflym â phosibl.

Gwella Signal Ffonau Symudol yng Nghanolbarth Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wella signal ffonau symudol yng nghanolbarth Cymru? OAQ53016

Gwnaf. Mae gwaith yn parhau ar ddarpariaeth ein cynllun gweithredu symudol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ein dogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan iawn, sy'n cydnabod pwysigrwydd economaidd signal symudol a hawliau datblygu priodol a ganiateir ar gyfer seilwaith ffonau symudol.

Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ. Wrth gwrs, nid yw'r cynllun gweithredu symudol yr ydych chi'n sôn amdano wedi cyflawni unrhyw gamau pendant hyd yma. Rydym ni wedi gweld polisi a chanllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru yn yr Alban ac yn Lloegr hefyd. Mae hynny wedi helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno 5G ac wedi helpu i gyflymu'r broses ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae adroddiad a gomisiynwyd gennych chi ar hawliau datblygu a ganiateir o ran telathrebu symudol yn argymell cynnydd i uchder mastiau ffonau symudol i 20 metr neu 25 metr, er gwaethaf y ffaith eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y statws o ran gweithredu'r argymhellion hyn, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus pan fydd y diwygiadau hyn yn cael eu cyflawni?

Gallaf. Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, os cofiwch chi, oedd ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni'n ei argymell yng Nghymru yn addas i'w ddiben yng Nghymru, yn enwedig yn ein parciau cenedlaethol hardd iawn. Roeddem ni'n sicr eisiau sicrhau bod pobl Cymru yn hapus iawn â'r hyn yr oeddem ni'n ei gynnig o ran seilwaith. Russell George, rydych chi a minnau wedi cael y sgyrsiau hyn yn aml iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan; bydd hwnnw'n nodi rhai o'r gwahanol hawliau datblygu a ganiateir fel y dywedasoch. Ceir nifer o bethau eraill yr ydym ni'n dal i'w trafod yn y cynllun gweithredu symudol ynghylch y ffordd y defnyddir y seilwaith hwnnw, ac ni wnaf eu hailadrodd yn y fan yma, gan y bydd y Llywydd yn dechrau tapio ei bysedd ar y ddesg. Ond ceir nifer fawr o bethau a fydd yn cael eu hystyried yn y fan yna, cyfres ohonyn nhw yr ydym ni'n gobeithio y byddant yn helpu. Ond, yn y pen draw, nid yw hyn wedi'i ddatganoli i Gymru. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw camau gweithredu gan Lywodraeth y DU i—

Ie, mae polisi cynllunio wedi'i ddatganoli i Gymru, ond ni fydd hynny'n—. Nid yw'n fwled arian. Yr hyn a fyddai'n fwled arian yw cyflwyno signal daearyddol 100 y cant i weithredwyr ffonau symudol ledled Cymru, neu, os nad yw hynny'n mynd i gael ei wneud yn y gwerthiannau sbectrwm, yna caniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn destun cryn drafodaeth rhyngom. Os na fyddwn ni'n gwneud hynny, ni fyddwn byth yn cael y signal y mae ef, rwy'n gwybod, wir ei eisiau, ac yn sicr ar yr ochr hon i'r tŷ yr ydym ni wir ei eisiau.

Arweinydd y tŷ, ddoe yn y ffair aeaf cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar ddyfodol economaidd i Bowys. Ac yno yn y sioe, a hefyd mewn negeseuon e-bost yr wyf i wedi eu derbyn ers hynny, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau a wynebir gyda'r mynediad gwael at 4G yn ardaloedd y Drenewydd a Llanidloes. Nawr, rwy'n sylweddoli o'ch ymateb i Russell George bod rhai elfennau o'r agenda hon nad ydyn nhw wedi'u datganoli, ond beth arall allwch chi ei wneud, oherwydd mae'r busnesau hynny yn dweud wrthym ni bod y mynediad symudol gwael yn cael effaith wirioneddol ar eu gallu i ehangu?

13:55

Ie, ac mae gen i bob cydymdeimlad â nhw. Yn anffodus, gwerthwyd y sbectrwm 4G yn y fath fodd fel y gallwch chi ei gadw a byth ei ddefnyddio, ac mae hynny'n rhan fawr o'r drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am werthu sbectrwm yn y dyfodol, oherwydd nid ydym ni'n meddwl mai gallu ei brynu ac yna ei gadw a byth gwneud dim byd ag ef yw'r ffordd ymlaen am resymau amlwg. Rydym ni'n bwriadu, fodd bynnag, gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud y defnydd mwyaf posibl o adeiladau cyhoeddus, mannau cyhoeddus, a'r technolegau newydd sy'n croesi ar draws symudol a band eang, fel y gallwn, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus. Felly, rydym ni'n ystyried yn weithredol i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i alluogi, er enghraifft, galwadau Wi-Fi. Yn anffodus, ni allwn newid y sefyllfa 4G, ond rydym ni'n lobïo Ofcom a Llywodraeth y DU yn gyson i newid y ffordd y cedwir y sbectrwm ac i newid y signalau rhwymedigaeth ddaearyddol yn hynny, oherwydd mae nhw'n gwbl anobeithiol ar hyn o bryd.

Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ53014] yn ôl. Cwestiwn 5, felly—Leanne Wood.

Defnyddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol? OAQ52980

Gwnaf. Newidiodd y gyfraith ar ganabis meddyginiaethol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 1 Tachwedd 2018. Caiff meddygon arbenigol benderfynu erbyn hyn a ddylid rhagnodi cynhyrchion seiliedig ar ganabis i'w defnyddio ar sail feddyginiaethol pan fo hynny'n briodol yn glinigol.

Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o 1 Tachwedd 2018, mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi caniatáu i gynhyrchion seiliedig ar ganabis didrwydded gael eu rhagnodi gan rai meddygon at ddefnydd meddyginiaethol lle ceir angen clinigol arbennig. Ar y pryd, dywedodd ein prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, bod nifer y bobl yng Nghymru y byddai canabis meddyginiaethol yn cael ei ragnodi iddynt yn debygol o fod yn fach iawn. Mae'r canllawiau dros dro a gyhoeddwyd yn gyfyngol, ac mae elusennau fel y Gymdeithas MS yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr i'r 10,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda MS a allai gael rhyddhad o boen a gwingiadau'r cyhyrau trwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol.

Nawr, mae Sativex wedi'i drwyddedu ar gyfer y driniaeth o sbastigedd yn unig, ac wedyn nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gydag MS sy'n bodloni'r meini prawf. Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei newid, a all y GIG yng Nghymru sicrhau bod canabis meddyginiaethol ar gael i bawb a fyddai'n elwa arno, neu a oes angen i ni barhau i hongian ar gynffonau'r GIG yn Lloegr? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau dros dro ar ragnodi canabis meddyginiaethol fel nad yw mynediad at y driniaeth wedi ei gyfyngu mor llym?

Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Rydym ni i gyd wedi cael etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â ni ynghylch y defnydd o ganabis meddyginiaethol. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r sefyllfa wirioneddol fel yr ydym ni'n ei gweld. Felly, cyn y newid i'r gyfraith, gellid rhagnodi Sativex i drin sbastigedd a sglerosis ymledol, pan oedd hynny'n briodol yn glinigol. Ar hyn o bryd, mae saith cwmni fferyllol yn datblygu oddeutu 21 o feddyginiaethau newydd sy'n cynnwys deilliadau canabis neu gyfansoddion canabis synthetig. Wrth i bob meddyginiaeth fod yn barod, bydd yn mynd drwy'r prosesau hirsefydlog sydd ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn briodol i'w defnyddio. Y prosesau rheoli ansawdd, yn amlwg yw'r ffordd fwyaf diogel i roi mynediad i gleifion at y cyfansoddyn meddygol gweithredol mewn canabis. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dosbarthiad cyfreithiol cyffuriau yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth na allwn ni gymryd camau annibynnol arno. Ond, rydym ni'n credu ei bod hi'n fwyaf priodol edrych ar sail y DU gyfan ar gyfer y defnydd o ganabis meddyginiaethol ac, wrth i'r sail dystiolaeth dyfu ac wrth i'r cynhyrchion sydd ar gael gynyddu, yna bydd y meddyginiaethau sydd ar gael, wrth gwrs, ar gael yn fwy eang yng Nghymru, fel y byddant mewn rhannau eraill o'r DU.

Arweinydd y tŷ, gall camddefnyddio canabis, wrth gwrs, fod yn beryglus dros ben. Gall fod yn llwybr i sylweddau llawer caletach, a all arwain at ddifetha bywydau pobl. A wnewch chi ymuno â mi felly i gondemnio gweithredoedd comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Arfon Jones, am ei ymddygiad anghyfrifol o ymweld â chlybiau canabis, sy'n hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys bod yn ŵr gwadd ar 23 Hydref mewn clwb canabis preifat yn Llundain? Mae'r math hwn o ymddygiad yn anfon negeseuon cymysg, a dweud y gwir, i bobl ifanc yn ein gwlad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai comisiynwyr heddlu gynorthwyo pobl a'r heddlu i gynnal y gyfraith mewn gwirionedd, nid annog pobl i'w thorri?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn peidio â chymysgu'r defnydd o ganabis meddyginiaethol â'r defnydd anghyfreithlon o gyffur rhagnodedig. Felly, nid wyf i'n mynd i fynd i lawr y twll cwningen y mae'r Aelod wedi ei agor o fy mlaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros ben gwahaniaethu yn amlwg iawn rhwng y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon—sef yr hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano—a diben y cwestiwn hwn, sef trafod y canabis meddyginiaethol sydd ar gael yn GIG Cymru.

14:00
Gofal Iechyd yn y Gymuned yng Ngogledd Cymru

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gofal iechyd yn y gymuned yng Ngogledd Cymru? OAQ53018

Nodir ein dull gweithredu ar iechyd a llesiant yn ein cymunedau yn ein model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Yn y gogledd, rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol gydweithredu ag amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaeth i gynllunio a darparu gofal iechyd a llesiant effeithiol a di-dor.

Fe gofiwch chi, rydw i'n siŵr, bum mlynedd yn ôl, fe gaewyd nifer o ysbytai cymunedol yn y gogledd, gan symud i drefn newydd o ofal yn y gymuned trwy gyflwyno'r gwasanaeth home enhanced care—HECS yw'r acronym sy'n cael ei ddefnyddio—a oedd yn cael ei werthu fel cyfundrefn fwy effeithiol, a byddai rhywun yn disgwyl, felly, fod modd inni allu mesur unrhyw lwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni yn y cyfnod yna. Ond mae'n glir erbyn hyn nad oes posib mesur llwyddiant neu fethiant yr approach newydd yma oherwydd nad oes yna ddim record gyson o faint o gleifion sydd yn derbyn HECS ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; nid yw'r bwrdd yn gwybod faint o gleifion sy'n derbyn HECS ar hyn o bryd; nid oes dim record o gost y gwasanaeth yn cael ei chadw; ac er mai'r bwriad yw cadw claf ar HECS am ddim ond pythefnos, nid oes dim record lawn yn cael ei chadw o ba hyd y mae cleifion yn derbyn HECS. Yn wir, rydw i wedi gweld tystiolaeth fod rhai cleifion wedi derbyn HECS am dros 10 wythnos. Nawr, mae'n ymddangos i fi bod hyn yn llanast llwyr. Felly, pam bod eich Llywodraeth chi wedi caniatáu i ogledd Cymru gael trefn newydd o ofal iechyd heb sicrhau bod modd i fesur llwyddiant neu effeithlonrwydd y broses honno, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n hyderus bod y gyfundrefn newydd yma'n gweithio?

Mae gen i ofn nad wyf i'n ymwybodol o'r manylion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt yn y fan yna. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai'n ysgrifennu at y Prif Weinidog, a byddwn yn cael ymateb manwl iddo cyn gynted â phosibl.

Mae gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty. Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae'n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cryfhau i gynnig dewis arall gwirioneddol a diogel yn hytrach na gofal ysbyty, yn enwedig i'n pobl hŷn, ac mae'n rhaid i hyn gynnwys timau cymorth gofal cymunedol amlddisgyblaeth cwbl gydlynol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o werthusiad blwyddyn diwethaf o gynllunio ar gyfer y gaeaf, na wnaeth mentrau fel gwasanaethau eiddilwch, sy'n hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty, ddarparu mor effeithiol ag y gallent neu y dylent fod wedi ei wneud ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod cyllid pwysau'r gaeaf yn cyrraedd y gwasanaethau hyn i gynyddu capasiti a chydnerthedd mewn gwasanaethau cymunedol y gaeaf hwn ledled Cymru, a sut gwnewch chi sicrhau bod ysbyty yn y cartref yn driniaeth a gofal diogel yn y cartref, mewn gwirionedd?

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn ddiweddar, gan wneud yn siŵr ein bod ni mor gydnerth â phosibl wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf. Derbyniwyd cynlluniau darpariaeth y gaeaf integredig gan bob bwrdd iechyd, ac mae swyddogion, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnynt yn ofalus, a darparwyd adborth i hysbysu gwelliant pellach i'r cynlluniau cyn cyfnod y gaeaf. Rydym ni mor ffyddiog, felly, ag y gallwn fod, ein bod ni'n barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ond bydd yr holl Aelodau yn ymwybodol o'r pryderon a'r straen y gall y gaeaf eu hachosi i'r GIG, ac efallai y byddai'n ddoeth i bob un ohonom ni wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yn cael y neges y dylen nhw fynd at y darparwr gofal iechyd priodol, y fferyllfa gymunedol, pan fo hynny'n briodol, y meddyg teulu, pan fo hynny'n briodol, a pheidio â mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys pan fydd ganddyn nhw broblemau eraill, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n cael gaeaf mor ddidrafferth â phosibl.

Tagfeydd yng Nghasnewydd a'r Cyffiniau

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau? OAQ52994

Rydym ni'n cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â thagfeydd a gwella dibynadwyedd amser teithiau ledled Cymru, drwy ein prosiectau seilwaith ffyrdd, ein rhaglen mannau cyfyng a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus.

Diolch, arweinydd y tŷ. Ni ellir gwadu bod rhwydwaith ffyrdd Casnewydd o dan straen. Mae unrhyw ddigwyddiad neu dagfeydd trwm ar yr M4 yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar y brif ffordd i Gymru, ond sgil-effaith ddifrifol ar ffyrdd lleol. Mae hefyd yn achosi i draffig sy'n teithio drwy'r ddinas ar yr M4, fel cerbydau nwyddau trwm ac eraill, i orlifo allan i ffyrdd Casnewydd. Yr wythnos nesaf, bydd tollau pontydd Hafren, yn cael eu diddymu o'r diwedd. Heb unrhyw gamau lliniaru, bydd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y dagfa yn nhwnelau Bryn-glas. Bydd ansawdd aer sydd eisoes yn wael oherwydd traffig llonydd ddim ond yn gwaethygu. Gyda chwmnïau bysiau yn ei chael yn anodd ymdopi yn ystod tagfeydd trwm a'r tarfu presennol ar y trenau, prin iawn yw'r dewisiadau eraill i bobl leol. Pa waith paratoi sy'n cael ei wneud i helpu i leddfu tagfeydd ar rwydwaith ffyrdd sydd eisoes mewn trafferthion ar ôl diddymu'r tollau?

14:05

Diolch am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi bod yn cynnal cyfres o astudiaethau ar fesurau i fynd i'r afael â mannau cyfyng ar y rhannau o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd lle ceir y mwyaf o dagfeydd. Mae'r astudiaethau hynny wedi cychwyn, a chyn gynted ag y bydd y canlyniadau gennym ni, byddwn yn cymryd camau ar eu sail. Mae angen i'n rhwydwaith trafnidiaeth fod yn gynaliadwy, yn amlwg, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n briodol.

Bwriedir i'r astudiaethau o fannau cyfyng ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd ar draws yr holl ystod o bethau sydd ar gael, o drafnidiaeth gyhoeddus i fesurau teithio llesol, er enghraifft. Rydym ni'n parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion lleol allweddol yn ymwneud â thagfeydd trwy ddarparu cymorth ariannol a gweithio ar y cyd. Gwnaed nifer o bethau eraill ar y brif ffordd, fel y mae'n galw'r M4, yn gwbl briodol. Cyffordd 28 yr M4—cwblhawyd y gwaith adeiladu yn ystod hydref 2018, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £13.7 miliwn yn yr ardal honno, a gwnaed gwaith ailwampio gwerth £40 miliwn ar dwnelau Bryn-glas yn ddiweddar i sicrhau bod y twnelau yn cydymffurfio â safonau dylunio cyfredol. Hefyd, gwnaed gwaith cynnal a chadw hanfodol ar bont afon Wysg a thraphont Malpas.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'n sefyllfa o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd newydd orffen, ac rydym ni'n aros am gyngor gan gyfreithwyr i'r ymchwiliad cyhoeddus gael ei ddarparu i'r Weithrediaeth pan fydd hwnnw wedi ei gwblhau. Rydym ni'n gobeithio y bydd y broses honno'n parhau, ac yna, fel y mae'r Llywydd yn gwybod, rydym ni'n gobeithio cael dadl yn amser y Cyfarfod Llawn, fel yr addawyd, ar yr M4.

Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi siarad am funud a hanner cyn i chi sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddadl hon yr wythnos nesaf, fel yr awgrymwyd gennych, rwy'n credu, mewn sesiwn flaenorol. Rwy'n meddwl tybed, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gweithio mor galed i sicrhau nad yw'n rhagfarnu ei safbwynt fel y gall ystyried yr ymchwiliad mewn modd diduedd ac yna gwneud y penderfyniad cynllunio, onid yw'n bwysig ein bod yn caniatáu iddo wneud y penderfyniad cynllunio hwnnw, hyd yn oed os oes rhaid i Brif Weinidog newydd yn Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedyn, benderfynu a ddylid gwario'r arian ar fwrw ymlaen â'r caniatâd hwnnw os yw'n ei roi?

Wel, na, nid dyna sut mae'r ochr gyfreithiol yn gweithio; penderfyniad gweithredol i'r Llywodraeth yw hwn. Felly, os nad y Llywodraeth, yna, yn amlwg, ni all ei wneud. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon—rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i wneud yn siŵr y bydd yr holl gyngor cyfreithiol a'r holl gyngor arall sydd ei angen i sicrhau y gall y penderfyniad gael ei ystyried yn briodol a'i wneud yng ngoleuni'r holl wybodaeth berthnasol a fydd ar gael. Cyn gynted ag y bydd ar gael, yna bydd y Prif Weinidog yn gallu rhoi ei feddwl ar hynny. Nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch canlyniad hynny; mae angen i'r Prif Weinidog wneud ei ddyfarniad ynghylch hynny pan fydd ganddo'r holl wybodaeth honno o'i flaen. Ar ôl i hynny gael ei wneud, yna gall symud ymlaen i gamau nesaf y gyfres o faterion cyfreithiol cymhleth iawn, iawn sy'n gysylltiedig ag ef.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyfeillion y Ddaear Cymru am eu gwrthwynebiad llafar i lwybr du arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, na fydd, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, yn gwneud dim i leddfu tagfeydd o gwmpas y ddinas nac yn yr ardal ehangach. Nodaf iddi gymryd cryn dipyn o amser i arweinydd y tŷ gyfeirio at y llwybr du yn ei hateb, ond tybed a wnaiff hi achub ar y cyfle hwn nawr i gytuno â mi y byddem ni'n llawer gwell ein byd, yn ariannol ac yn amgylcheddol, drwy fuddsoddi arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr du ar gamau olaf y system fetro yn hytrach, a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng cymunedau'r de-ddwyrain.

Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth mewn proses gyfreithiol; nid fy lle i yw amharu ar y broses gyfreithiol. Mae'r broses gyfreithiol yn broses sefydlog yr wyf i wedi ei hesbonio ar sawl achlysur; rwy'n hapus i'w hesbonio eto. Y rheswm y cymerais i ychydig o amser i gyfeirio at yr M4 oedd y ffaith fy mod i'n credu bod angen i'r Aelodau ddeall bod hon yn amrywiaeth o fesurau; mae cyfres o bethau sy'n digwydd ar draws y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal honno yn ogystal â ledled Cymru, ac nid datblygu obsesiwn gydag un prosiect yw'r sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi o reidrwydd. Mae'n brosiect pwysig iawn, wrth gwrs ei fod. Ceir proses gyfreithiol yr ydym ni ynddi, mae'r broses gyfreithiol yn ddiwrthdro, mae'n rhaid i ni ei dilyn i'w chasgliad, beth bynnag fydd hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cymryd rhan yn y ddadl pan fydd hi'n cael ei chynnal.

Arweinydd y tŷ, un o'r materion, o ran mynd i'r afael â mannau cyfyng, wrth gwrs, yw mai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yn aml yw rhyddhau traffig i fynd ymlaen i'r man cyfyng nesaf. Un o'r mannau cyfyng nesaf ymhellach ymlaen o'r lleoliad hwnnw, wrth gwrs, yw'r A470, a gydnabyddir erbyn hyn, a dweud y gwir, fel y rhan brysuraf o Gymru sydd â phroblemau llygredd difrifol iawn. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r ateb yn y pen draw i'n problemau ar y ffyrdd yw datblygu a chynnal system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi cyfle i bobl i beidio â gorfod gyrru ar ffyrdd i gyrraedd lle maen nhw angen mynd, gan ddefnyddio system trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel ac effeithlon a chyfforddus?

14:10

Byddwn, ac fel y dywedais, pwysleisiais fod astudiaethau mannau cyfyng wedi'u cynllunio i ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd—nid adeiladu ffyrdd yn unig, ond popeth, o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio llesol. Mae angen cyfres lawn o fesurau i leihau tagfeydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, nid obsesiwn ag un rhan o hynny.

Ansawdd Aer

8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu terfynau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer allyriadau o ronynnau? OAQ52997

Rydym yn ystyried pob dewis i wella ansawdd aer yng Nghymru. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer, a fydd yn ystyried y defnydd ymarferol o ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru.

Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hwn yn fater pwysig iawn sy'n ymwneud â phryderon fy nghyd-Aelod dros Orllewin Casnewydd, sef bod llygredd a thagfeydd yn faterion difrifol dros ben pan ddaw i iechyd y cyhoedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod adroddiad fis diwethaf, a gyhoeddwyd gan sefydliad iechyd y cyhoedd yn Lloegr, ar effeithiau amlygiad hirdymor ar afiachusrwydd cardiofasgwlaidd h.y. mae'n lladd mwy ohonom ni nag y mae angen iddo. Ac er y mynegwyd llawer o bryder ynghylch y lefelau o ocsidau nitrogen yn yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried gronynnau mewn cyfuniad â nhw, oherwydd gronynnau sydd fwyaf niweidiol, gan eu bod nhw'n treiddio'r fentriglau lleiaf, ac yn enwedig yr effaith ar blant. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthyf pa ystyriaeth, os o gwbl, y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma i fabwysiadu terfynau Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n amlwg yn sylweddol well na therfynau'r Undeb Ewropeaidd.

Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r rhaglen aer glân a sefydlwyd yr haf hwn, fel yr wyf i newydd ei ddweud, sefydlwyd prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer. Bydd hwnnw'n edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer a'u holl effeithiau posibl, ac ar gyfer eu mabwysiadu o bosibl yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd cyhoeddus llygredd aer yn unig, ac nid ydynt yn ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol ar gyflawni'r lefelau hynny. Felly, mae gennym ni swyddogion yn asesu agweddau ymarferol o'r fath ar hyn o bryd fel y gallwn seilio targedau yn y dyfodol ar dystiolaeth, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r newid mwyaf effeithiol, gan helpu i gyflawni ein nodau llesiant. Mae gennym ni fynediad at amrywiaeth eang o ysgogiadau eisoes i fwrw ymlaen â chamau i wella ansawdd aer, gan gynnwys cynllunio, seilwaith, deddfwriaeth, rheoliadau a mesurau cyfathrebu. Mae'r Gweinidog wedi nodi y byddem yn ystyried deddfu hefyd, os byddwn yn canfod nad yw'r gyfres honno o fesurau yn ddigonol ar gyfer gweithredu'r safonau yn ymarferol.

Yn ôl ym mis Mawrth, arweinydd y tŷ, gofynnais i'r Prif Weinidog pa swyddogaeth arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i leihau marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael. Rydym ni'n gwybod bod 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw'n gynamserol bob blwyddyn drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae hynny'n 6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu bump bob dydd. Mae'r rheini'n ffigurau mawr dros ben y mae hanfodol i ni fynd i'r afael â nhw, a phan fyddwch chi'n siarad â sefydliadau penodol, maen nhw'n dweud bod gwaith da yn cael ei wneud yn annibynnol, ond nid mewn modd cydlynol. A fyddai'r Llywodraeth yn ddigon meddwl agored i gynnal uwchgynhadledd o'r holl bartneriaid perthnasol i geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon, fel y gallwn ni weld, erbyn 2021, pan fydd y Cynulliad hwn yn torri ar gyfer yr etholiadau, welliant gwirioneddol i'r ffigurau hynny a gostyngiad sylweddol i'r marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru?

Byddem. Fel y dywedais, mae gennym ni'r astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr, ar ôl i ni gytuno ar rai o'r agweddau ymarferol, y byddwn ni'n ymgynghori ar ffordd ymlaen ar hynny. Ni allaf siarad ar gyfer y maes penodol hwn, ond fel rheol byddem yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid â phosibl—yn enwedig y rhai â gwybodaeth arbenigol am sut i weithredu safonau ymarferol mewn aer glân, sef, wedi'r cyfan, fel mae'r Aelod yn ei nodi, yr hyn yr ydym ni i gyd ei eisiau.

Wel, mae aer budr yn lladd ein dinasyddion, ac mae'n difetha bywydau ein plant. Nawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai o'n cynigion o ran mynd i'r afael ag allyriadau o gerbydau, monitro llygredd, ffioedd llygredd a thagfeydd, creu ardaloedd aer glân, ond gan hefyd roi'r sail gyfreithiol honno sydd ei hangen arnyn nhw. Nawr, soniasoch efallai y byddwch chi'n ei ystyried. Wel, rwyf yn eich annog, os gwelwch yn dda, fel Llywodraeth, i gefnogi cynigion Plaid Cymru ar gyfer Bil aer glân i Gymru.

Ie, fel y dywedais, mae gennym ni amrywiaeth o fesurau ar waith, ac mae angen i ni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag ysgogiadau cyfredol, gan gynnwys bod gennym ni—. Er enghraifft, ymgynghorwyd yn gynharach eleni ar fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymyl y ffordd. Roedd y ddogfen honno'n nodi sut y byddwn yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o amgylch ffyrdd yng Nghymru lle mae lefelau yn uwch na'r terfyn. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn. Mae gennym ni fframwaith ardal aer glân Cymru hefyd. Bydd y fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae gennym ni nifer o astudiaethau eraill ac ati, fel y dywedais, ar y gweill. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael y gyfres fwyaf gynhwysfawr o fesurau ar waith ac yna edrych i weld beth y gellid ei ychwanegu drwy gael Deddf aer glân. Yn sicr, nid yw hynny oddi ar y bwrdd, ond efallai na fydd yn angenrheidiol. Yr hyn yr hoffem ni ei wneud yn sicr yw bwrw ymlaen â phethau cyn gynted â phosibl.

14:15

Diolch i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nawr, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer holi'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei amlinellu yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid penderfyniad y mae'r Llywodraeth gyfan yn gyd-gyfrifol amdano yw hyn, sef yr hyn y gwnaethoch chi ei fynegi yn eich ymateb inni. Ond, dywedodd hefyd wrth aelodau’r pwyllgor bod cred o fewn y Llywodraeth y byddai dadl ar 4 Rhagfyr, ac y byddai’r adroddiad ar gael i Aelodau o'r sefydliad hwn yr wythnos hon. Mae'n adroddiad 580 o dudalennau, fel yr wyf yn deall. Chi yw arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth. Os bydd y ddadl honno yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, byddai’n rhaid ichi gyflwyno’r ddadl honno heddiw. A wnewch chi gadarnhau a fydd y ddadl honno yn cael ei chyflwyno heddiw, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau fel y gall yr Aelodau edrych drosto yn ystod y dyddiau nesaf? Neu, ai'r gwir amdani yw na fydd y ddadl hon yn gweld golau dydd yn awr o dan y Prif Weinidog presennol hwn, ac na fydd y ddadl honno yn debygol o gael ei chynnal yma cyn tymor y gwanwyn? Fel y dywedais, mae cymaint o nodiadau ac ymatebion cyferbyniol i gwestiynau y mae angen eglurder arnom. Dyma’r prosiect seilwaith mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef, neu y bydd wedi ymgymryd ag ef o bosibl, ers 1999. Rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, chithau, a’r Prif Weinidog ei hun, mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd yn ymffurfio fel ein bod ni, yr Aelodau, angen eglurder gan y Llywodraeth yn ystod y camau gweithredu.

Byddwn yn gofyn hefyd, yng ngoleuni’r profiadau gwael parhaus y mae pobl yn eu cael ar y rheilffyrdd, i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun gyflwyno datganiad sy'n amlinellu yn llwyr yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y broses o drosglwyddo rhwng Trenau Arriva a gweithredwr y fasnachfraint newydd. Ceir tystiolaeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun a chan Drafnidiaeth Cymru, nad dyna oedd y trosglwyddiad mwyaf delfrydol y gellid ei wneud. Ond eto, roedd y dyddiad hwn yn adnabyddus i lawer o bobl; roedd yn hysbys i bawb, mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y datganiad a gawsom ni yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru yn cyfeirio at y ffaith nad oedd y storfeydd ar gyfer darnau sbâr yr hyn y dylent fod yn sicr, a'u bod yn annigonol. Mae angen inni ddeall, gan ein bod ni i gyd yn cael negeseuon e-bost, gohebiaeth dros y ffôn, profiadau wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy'n teithio ynghylch y sefyllfa erchyll y mae llawer o bobl wedi eu gadael ynddi. Nid yw'n deg ar y cyhoedd sy’n teithio, heb sôn am Aelodau’r sefydliad hwn, na allwn ni roi'r atebion iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu .

Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a ddaeth gan Drafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf. Ond, pe bai hon yn stori newyddion gadarnhaol, rwyf yn siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ynghylch y trosglwyddiad cychwynnol a’r chwe wythnos yn y cyfamser. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda sy’n amlinellu'r union gyfrifoldebau y mae’r Llywodraeth wedi ymgymryd â nhw i ddatrys y broblem hon?

Ynghylch yr M4, fe geisiaf fod mor glir ag y gallaf. Rydym ni mewn proses gyfreithiol. Rydym ni wedi cael ymchwiliad lleol. Mae’r Llywodraeth wedi cael yr adroddiad hwnnw. Mae'n amodol ar gyngor swyddogol a chyngor cyfreithiol. Ar ôl cael y cyngor swyddogol a chyfreithiol a chwblhau'r cliriadau, caiff ei gyflwyno i'r Prif Weinidog ar gyfer ei benderfyniad gweithredol yntau. Nid penderfyniad y Cabinet ar y cyd mohono; penderfyniad gweithredol y Prif Weinidog ydyw.

Unwaith y bydd hynny wedi ei wneud, i fod yn glir, rwyf wedi ei gwneud hi’n glir iawn, oherwydd maint y prosiect a'r diddordeb ledled Cymru, yn wahanol i unrhyw brosiect priffyrdd arall, y byddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth. Mae peth posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Llun nesaf. Byddai'n rhaid inni gael caniatád y Llywydd i wneud hynny. Trafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore 'ma bod hyn yn bosibilrwydd o hyd. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, os nad yw hynny'n bosibl—os nad yw hynny'n bosibl gan nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yn y broses—yna byddwn yn gweld beth arall y gellir ei wneud.

Os cyrhaeddwn ni ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna byddaf yn argymell i’r Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, fod ymrwymiad y Llywodraeth hon yn cael ei anrhydeddu, bod y ddadl honno yn cael ei chyflwyno, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na allai hynny ddigwydd. Ond mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn y drefn gywir. Ni allwn ni gael dadl yn amser y Cynulliad cyn gwneud y Gorchmynion, oherwydd nid yw hynny'n ystyriaeth berthnasol o’r ffordd y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw. Felly, bydd yn rhaid cael cyfres glir iawn o brosesau, a bydd yn rhaid i ddadl y Cynulliad ddod ar yr adeg iawn yn ystod y broses honno. Felly, mae posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Mawrth nesaf, ond, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud hynny. Os na allwn ni, yna bydd yn rhaid inni weld beth arall y gellir ei wneud.

Rydym ni'n ymrwymedig iawn i'r ddadl, ond mae'n rhaid i hynny fod ar yr adeg briodol yn ystod y broses. Mae'r broses yn hynod o gymhleth. Mae’r holl bethau y mae’n rhaid eu gwneud fel y gall y Prif Weinidog wneud y penderfyniad hwnnw yn gyfreithlon, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol, yn hynod o gymhleth. Felly, mae angen inni gael y broses yn gywir, ac mae arnom ni angen symud ymlaen at y ddadl. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir. Nid wyf yn gwybod sut i’w ddweud yn gliriach na hynny.

O ran Trafnidiaeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi imi ei fod yn hapus iawn i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi diweddariad wythnosol i'r holl Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gyda'r trefniadau pontio a’r trosglwyddiad. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

14:20

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch meddygfeydd teulu, os gwelwch yn dda? Fel y byddwch yn ymwybodol, mae meddygon teulu sy'n gontractwyr annibynnol hefyd yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain yn draddodiadol, a chofiaf yn dda, yn feddyg teulu ifanc, y disgwylir ichi gael yr hyn sydd, yn effeithiol, yn ail forgais ar feddygfa deulu ar yr un pryd â morgais ar eich cartref teuluol.

Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael sylwadau i'r perwyl, pan rydych chi'n gwibio 20 i 30 mlynedd yn eich blaen, pan fo meddygon teulu yn ymddeol, neu'n ymddeol yn gynnar, neu'n symud yn eu blaenau, gan adael y meddygon teulu sy'n weddill gydag adeilad sy'n anodd ei werthu yn aml, gydag ecwiti negyddol a chosbau adbrynu cynnar, bod modd cael colledion ariannol enfawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac mae pobl yn meddwl tybed pam nad yw meddygon teulu yn dymuno bod yn gontractwyr annibynnol sy'n berchen ar eu meddygfeydd eu hunain mwyach.

Nawr, mae gan y GIG yn Lloegr system iawndal ar gyfer meddygon teulu mewn amgylchiadau tebyg. Meddygon teulu sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'w cymunedau sy'n wynebu colledion ariannol enfawr os mai nhw yw'r rhai olaf mewn meddygfa deulu ar ôl i'r partneriaid eraill adael. Nid ydym ni'n disgwyl i feddygon ymgynghorol mewn ysbytai fod â chyfran ariannol orfodol yn eich ysbyty cyffredinol dosbarth arferol neu ganolfan gofal arbenigol trydyddol, a byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pethau. Diolch yn fawr iawn.

Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at broblem benodol gyda'r system bresennol lle mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Rydym ni'n gweld symudiad tuag at lai o bractisau meddygon teulu sy'n fwy o ran maint gyda chymysgedd sgiliau ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu amrywiaeth ehangach o ofal iechyd yn lleol, ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ynghylch ymrwymiadau ariannol ac ati.

Rydym ni yn meddiannu practisau mewn rhai amgylchiadau os caiff y practisau hynny eu rheoli, yn enwedig gan fod y duedd o ddefnyddio staff locwm sy'n costio mwy ac ati yn datblygu. Felly, mae'n gywir i dynnu sylw at hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a chydweithwyr yn GIG Cymru ar raglen diwygio contractau i fynd i'r afael â sut y mae contractau yn gweithredu, sy'n ei gwneud hi'n fwy cynaliadwy i feddygon teulu o ran cyflawni'r camau gweithredu. Mae nifer y practisau meddygon teulu yn gostwng yn raddol, ac mae hynny'n duedd. Yn rhan o'r trafodaethau hynny, rydym ni'n edrych i weld beth y gellir ei wneud i liniaru'r amgylchiadau hynny y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt.

Roeddwn i'n bwriadu codi'r mater o asid ffolig. Mae Llywodraeth y DU, fel y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol, wedi cyhoeddi ei chynlluniau i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ddiweddar i leihau spina bifida a namau geni ataliadwy eraill sy'n gysylltiedig â lefelau isel o asid ffolig. Credaf ein bod ni'n gwybod bod dau blentyn yr wythnos yn y DU, ar hyn o bryd, yn cael eu geni gyda namau geni ataliadwy. Mae'n newyddion da iawn bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyn, ac rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Alban wedi lobïo drosto, ac rwy'n tybio y bydd hyn yn berthnasol i holl gynhyrchwyr blawd y DU. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad yng Nghymru i egluro y bydd hyn yn berthnasol i Gymru a sut y bydd yn cysylltu â'n dyletswyddau i reoleiddio bwyd a'n cyfrifoldebau dros safonau bwyd, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, bod hyn yn rhywbeth y mae mamau yn benodol angen ei wybod.

Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at faes hynod o bwysig. Rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig. Rydym ni wedi bod yn galw ers amser hir i fwrw ymlaen â hyn, ac mae Ysgrifennodd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ddoe i gadarnhau ein cefnogaeth a hyrwyddo gweithredu cyflym yn hyn o beth. Nodwn mai'r amseriad disgwyliedig ar gyfer yr ymgynghoriad yw dechrau 2019, a bod swyddogion wedi dechrau deialog cadarnhaol i hyrwyddo'r ymgynghoriad drwy'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod hefyd nad yw'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r Amgylchedd wedi gwneud adroddiad swyddogol ynghylch y lefel uchaf o asid ffolig eto, ond rydym ni o'r farn na ddylid oedi'r broses ymgynghori gyda bwriad o gytuno ar ddull gweithredu unffurf i gyflwyno deddfwriaeth ledled y DU cyn gynted â phosib.

14:25

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ganlyniadau'r arolwg diweddaraf ynglŷn â chwaraeon mewn ysgolion? Yn ôl yr arolwg, mae'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ehangu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dair gwaith yr wythnos neu fwy wedi aros yn ddigyfnewid ers 2015, ac mae'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau rhwng bechgyn a merched yn parhau i fod yr un fath. Mae'r mwynhad o chwaraeon, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, wedi gostwng, ac fel y mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi dweud,

heb hynny, nid oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael perthynas gadarnhaol gydol oes â chwaraeon.

Os gwelwch yn dda, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i annog mwy o ddisgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Mae'r Aelod yn amlygu rhan bwysig iawn o'r cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn rhan o ddiwygiadau Donaldson i'r cwricwlwm, ein bod ni'n cyflwyno cwricwlwm newydd a rhan fawr iawn o hynny yw bod yn  ddinesydd iach a gweithgar yng Nghymru. Rydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd hynny'n golygu y bydd chwaraeon yn rhan llawer mwy creiddiol o'r cwricwlwm. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y buom ni'n arbrofi gyda'r rhaglen milltir y diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd, ac ati. Felly mae'n amlygu rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhan bwysig iawn o'n cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion gyda'r nod o sicrhau bod ein plant, fel maen nhw'n dod allan o'n hysgolion, yn cyfrannu at gymdeithas Cymru mewn modd iach a gweithgar, fel yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud. 

Arweinydd y tŷ, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Rwy'n parhau i ymdrin â swmp mawr o waith achos sy'n ymwneud â phroblemau a achosir gan ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu. Yn wir, byddwn i'n dweud mai hyn yw'r elfen fwyaf yn fy mag post, ac rwy'n gwybod fod Aelodau eraill y Cynulliad yn gweld materion tebyg. Beth amser yn ôl, yn ystod dadl ar ffyrdd nad oedden nhw wedi eu mabwysiadu, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth y byddai'n sefydlu tasglu i edrych ar y mater hwn. A gawn ni ddatganiad i ddiweddaru'r Aelodau ar y gwaith hwn?

Yn ail, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd yr ymgyrch WAVE 70/30. Mae'r ymgyrch honno'n canolbwyntio ar ddileu camdriniaeth plant drwy ataliaeth sylfaenol. Mae eu hateb, sef cynnig cymorth i rieni a darpar rieni cyn y bydd niwed yn digwydd yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, felly gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidogion ar y gwaith i hyrwyddo magu plant yn gadarnhaol?

Ie, yn wir. Gan ymdrin â nhw tuag yn ôl, mae swyddogion wedi cwrdd â George Hosking, sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol WAVE Trust, ar sawl achlysur i drafod y gwaith, gan gynnwys yr ymgyrch 70/30 y mae'r Aelod yn ei amlygu, a gwaith ynglŷn â phrofiadau plentyndod andwyol. Mae'r cyfarfodydd wedi rhoi cyfleoedd i swyddogion rannu gwybodaeth gyda WAVE Trust ynghylch polisïau a rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i deuluoedd. Rydym ni'n rhagweld y bydd gennym ni ddiddordeb cyffredin gyda WAVE Trust ac y bydd trafodaethau yn parhau.

Mae dull yr ymgyrch yn gwbl gydnaws â nodau ac amcanion ein rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn ogystal ag ymgyrch magu plant yn gadarnhaol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo'. Rydym ni'n gefnogol iawn i'r ymgyrch ac yn credu bod gan y gwasanaethau a ddarperir y gallu i ategu'r gwaith a wnaed eisoes gan y Llywodraeth, ac rydym ni'n hapus i weithio ochr yn ochr â'r prosiect.

O ran ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn edrych ar rai o'r materion ers peth amser, ar y cyd â'r Gweinidog dros dai, y Gweinidog dros gynllunio a nifer o bobl eraill yn y Llywodraeth. Byddaf yn gwirio gyda nhw ble'r ydym ni arni gyda'r gwaith hwnnw a sut mae pethau'n bwrw ymlaen a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny.

A gaf i ofyn am un datganiad ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd? Euthum i gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ddydd Sadwrn, lle cyfeiriodd y Cadeirydd ni at ddiweddariadau teithio byw Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, a ddangosodd, ac eithrio mân achosion o oedi rhwng Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Caerdydd ac Abertawe, fod holl wasanaethau eraill y de yn wasanaethau da, tra bod oedi difrifol rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a rhwng Caer a Chryw, ac roedd amserlen Wrecsam-Bidston wedi ei newid—h.y. wedi ei dileu.

Ddoe, ysgrifennodd yr aelod gweithredol dros drafnidiaeth yn Wrecsam at Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwch yn ymwybodol, yn dilyn y penderfyniad gan Drafnidiaeth Cymru nad oedd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Wrecsam a Bidston y penwythnos diwethaf, oherwydd ychwanegu at wasanaethau rheilffyrdd yn y de oherwydd digwyddiad chwaraeon, nid ymgynghorwyd ag unrhyw randdeiliaid yn y fan yma ymlaen llaw ac ni chawsant eu hysbysu'n uniongyrchol o hynny, nac wedyn y penderfyniad i ddileu a chwtogi ar yr amserlen a oedd eisoes wedi ei chwtogi dros y penwythnos heb unrhyw drafodaeth gyda'r rhanddeiliaid. Rydym ni'n gwybod fod cadeirydd gweithgor trafnidiaeth Neston, ar ben arall y llinell, wedi e-bostio ddydd Gwener—eu sefyllfa yn Neston am dair blynedd oedd y dylai'r llinell gyfan gael ei gweithredu gan Merseytravel, gan y byddai'r darn rhwng Bidston a Shotton, o leiaf, meddent, yn gallu cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maen nhw'n eu darparu. 

Ac, yn olaf, ddydd Gwener, derbyniodd fy swyddfa alwad ffôn gan rywun o'r tu mewn sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd, chwythwr chwiban, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, a ddywedodd wrthyf fod y rhan fwyaf o'r trenau wedi eu dileu gan nad oedd rhai sbâr ar gael pan gymerodd Lywodraeth Cymru yr awenau, a bod yr offer a'r darnau sbâr wedi eu cymryd gan Arriva. Felly, mae arnom ni angen gwybod pam na wnaeth y gweithredwr sylwi ar y darnau sbâr colledig hyn a'u darparu, a pham na roddwyd mynediad at durniau olwynion yn ei lle. Eto, clywsom ddydd Sadwrn, yn rhy hwyr, nad oedd mynediad i Cryw, Bryste na Taunton. Ond gwyddom hefyd mai'r esgus dros yr holl drenau nad ydynt ar y llinellau yw prinder turniau olwynion. A oes ateb cynaliadwy ar waith, neu ai problem untro yw hyn, ac a fydd hyn yn datrys y broblem?

Nid wyf eisiau ymateb byr. Rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni fynd at wraidd yr amryw gwestiynau hyn sy'n cael eu codi gan randdeiliaid pryderus iawn.

14:30

Fel y dywedais, y sefyllfa lle nad yw'r stoc ar y cledrau—fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau'r Prif Weinidog, mae gennym ni 10 y cant o'r stoc honno ar waith eto. Ac mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni ddweud y byddwn yn gwneud trefniadau i Drafnidiaeth Cymru roi diweddariad wythnosol i'r Aelodau ar y sefyllfa ledled Cymru, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael ei gynnwys yn hynny, yn amlwg.

Arweinydd y tŷ, rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddau fater. Y cyntaf yw: byddwch yn ymwybodol o adroddiad Undeb y Cerddorion, sy'n codi'r mater o ddiffyg mynediad at gerddoriaeth, nawr, sy'n effeithio ar rannau cyfan o gymunedau, ac unigolion, yn enwedig pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig. Byddai datganiad sy'n dadansoddi'r adroddiad hwnnw gan nodi a yw'r casgliadau hynny hefyd yn berthnasol i Gymru mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn.

Ac yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu gwybodaeth i Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Cynulliad o wahanol Seneddau. Dyma'r rheswm: mae pob un ohonom ni yn gynrychiolwyr seneddol; rydym yn codi materion ar ran ein hetholwyr. Mae gennyf faterion yr wyf wedi gorfod eu codi gyda'r Swyddfa Gartref. Gwrthododd y Swyddfa Gartref ymateb i Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Pe baem yn arddel yr egwyddor dant am ddant gan gyfeirio at gyfrifoldebau datganoledig rhwng y Seneddau priodol, yna byddai busnes yn chwalu, byddai etholwyr yn cael bargen wael o ran cynrychiolaeth. Ac mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater pwysig, bod y Swyddfa Gartref wedi arddel y safbwynt o wrthod ymgysylltu ag Aelodau Cynulliad Cymru yn llwyr. Pe baem yn gwneud hynny mewn meysydd eraill, byddai gennym ni ganlyniadau sylweddol iawn. Yn amlwg, nid ydym ni'n dymuno hynny. Mae'n ymddangos i mi fod hyn yn fater y mae arno angen ei ddatrys rhwng Llywodraethau.

Ie, a dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisoes wedi ei godi gyda'r Llywydd. Lefel Comisiwn i Gomisiwn ydyw, rwy'n credu. Ac rydym ni wedi cael peth trafodaeth ynghylch trefniadau dwyochrog. Bydd Aelodau wedi gweld yng nghyfathrebu diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ynghylch cyfraddau treth yng Nghymru, a'r ohebiaeth a anfonwyd at bob un o Aelodau'r Cynulliad—ynghylch CThEM yn gwneud trefniadau i ymdrin ag Aelodau'r Cynulliad wrth godi materion sy'n ymwneud â'r dreth Gymreig. Rydym ni wedi cael sgwrs debyg am y Swyddfa Gartref a threfniadau dwyochrog eraill ynghylch mynediad i adeiladau a chyfleusterau ac ati. Ac rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd y Llywydd yn dymuno rhoi sylw iddo yn y dyfodol; rydym ni wedi cael peth trafodaeth am y peth.

O ran y trefniadau cerddoriaeth, mae'r aelod yn amlygu'r rhan difrifol iawn o ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Rwy'n gwybod ei fod ef ei hun yn chwaraewr ukelele a banjo brwd—roeddwn yn meddwl y byddwn yn sôn am hynny yn ei gwmni. Rydym yn cydnabod yn llwyr y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i wneud rhywbeth cyn gynted â phosib. Dyna pam fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cyllid ychwanegol o £3 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu cerddoriaeth ledled Cymru. Mae cynigion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ynglŷn â sut i wario'r arian, a disgwylir cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn fuan iawn.

Tybed a allem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag ymdrin â'r diwydiant hapchwarae yn ei gyfanrwydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Hapchwarae ei adroddiad blynyddol ar y mater o bobl ifanc a hapchwarae, ac, yn bryderus, dyma'r gweithgaredd mwyaf niweidiol bellach y mae pobl ifanc hyd at 16 oed yn ei wneud. Felly, mae hyn bellach yn fwy o broblem nag yfed alcohol ymysg pobl o dan 16 mlwydd oed. Rhai o'r pryderon a fynegwyd yn y grŵp trawsbleidiol ddydd Mawrth diwethaf oedd nad yw 90 y cant o'r tafarndai yn cymryd camau i atal pobl ifanc sy'n defnyddio eu peiriannau ffrwythau. Mae'n cymryd hyd at hanner awr cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae'r holl arian wedi diflannu. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y prif swyddog meddygol yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn, ond mae'n ymddangos imi hefyd mai mater rheoleiddiol i awdurdodau lleol yw sicrhau bod tafarndai, os yw'r peiriannau ffrwythau ofnadwy hyn ganddyn nhw, yn goruchwylio pwy sy'n eu defnyddio. Hefyd, credaf fod mater cyffredinol ynglŷn â'r ffordd y mae cwmnïau hapchwarae yn treiddio—drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy weithgareddau chwaraeon—i ymenydd pobl ifanc, bod hapchwarae yn rhywbeth cŵl i'w wneud. Ac rydym ni wedi gweld mewn gwaith ymchwil a gynhyrchwyd yn Awstralia bod hyn yn ffordd eithaf dychrynllyd y mae ymenyddiau plant yn cael eu dylanwadu arnynt. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i weld bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif fel y dylem ni fod wedi ei wneud gydag ysmygu tua 30 mlynedd yn ôl.

14:35

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at fater sydd o gryn bryder, ym mhob rhan o'r Siambr, i bawb. Yn gynharach eleni, fe ysgrifennais i ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am y llwyth o hysbysebion hapchwarae ar y teledu, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein—ar gyfer y rhai ohonom ni sy'n ymhél â gemau, mae'n drwch drwy'r diwydiant—yn enwedig yn y ffordd y maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bobl hawdd manteisio arnyn nhw, ac yn enwedig plant a phobl ifanc yn yr hysbysebion hynny. Rhoddwyd eu hymateb yn Llyfrgell yr Aelodau, ac rwyf wedi cyfarfod ers hynny â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu i drafod y mater o ddyfeisiau symudol sy'n cael eu rhannu, a sut maen nhw'n gwybod pwy sy'n cael eu targedu ganddyn nhw. Maen nhw'n hollol o ddifri ynghylch hynny, rwy'n falch o ddweud.

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag adrannau gwahanol i weld beth y gallwn ni ei wneud i leihau a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hapchwarae. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynllunio i wneud datganiad maes o law, sy'n amlinellu'r hyn a wnaed hyd yma, a beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n hollol o ddifri ynglŷn â hyn. Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr anawsterau, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Senedd y DU ar derfynellau betio ods sefydlog gan gyd-Aelodau Llafur wedi mynd peth o'r ffordd i fynd i'r afael â hyn hefyd. 

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.

Member
Alun Davies 14:37:34
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am roi'r cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau am yr addasiadau diweddaraf yr ydym ni wedi'u gwneud i'n huchelgeisiau a'n cynlluniau ar gyfer Cymoedd y De. Nodir hyn yn y cynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'.

Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y 12 mis cyntaf o gynnydd ers inni gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Ers hynny, mae'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De wedi bod yn adolygu ei waith a'r mwy na 60 o gamau gweithredu a nodwyd gennym ni yn y cynllun cyflawni, i sicrhau eu bod yn dal yn addas at y diben, ac y byddant yn parhau i gyfrannu at ein tair blaenoriaeth gynhwysfawr. Bydd Aelodau yn cofio bod y tair blaenoriaeth sydd wrth wraidd gwaith y tasglu yn seiliedig ar yr adborth a gawsom ni gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod eisiau swyddi da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwelliannau, a phwyslais ar eu cymuned leol. Mae  diweddariad eleni ynglŷn â'r cynllun cyflawni wedi canolbwyntio ar y meysydd hynny, sy'n ychwanegu gwerth gwirioneddol i gymunedau yn y Cymoedd.

Rydym ni wedi nodi camau gweithredu a rhaglenni newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros y 12 mis nesaf, megis canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad ar goridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol sy'n ffinio â'r datblygiad pwysig hwn. Rydym ni'n gwybod fod gan y cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar gyfer Blaenau'r Cymoedd y potensial i esgor ar ddatblygiadau tai newydd a thwristiaeth, cyfleoedd gwaith newydd a datblygu economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae angen mesur a deall y buddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r ffordd hon yng nghyd-destun y cynnydd mewn gweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd newydd, a fydd yn deillio o'r gwaith deuoli ar yr A465. Mae'r tasglu wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ganfod ac adeiladu ar y cyfleoedd hyn ar gyfer buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r prosiect deuoli.

Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn parhau â'r gwaith hwn i ddatblygu meysydd blaenoriaeth ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Dirprwy Lywydd, yn ddiweddar, cyhoeddais gronfa gyfalaf gwerth £25 miliwn i gefnogi saith canolbwynt strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt hyn wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r glasbrintiau ar gyfer gwelliannau hirdymor ym mhob canolbwynt strategol. Gan weithio gydag awdurdodau'r Cymoedd a bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd byddwn yn cadarnhau manylion pellach am y cynlluniau ar gyfer y saith canolbwynt yn y flwyddyn newydd. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

14:40

Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod arian datblygu ar gael ar gyfer rhai o'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt strategol. Bydd hyn yn comisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd, gan ddisodli, lle bo angen, cyfnewidfeydd bws a rheilffyrdd presennol a gwella seilwaith a chysylltedd, a fydd yn cynnwys y safleoedd datblygu allweddol o ran y metro. Bydd y cynlluniau hefyd yn ystyried yr uchelgeisiau adfywio ehangach ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Mae cymorth busnes yn parhau i fod yn faes allweddol i ni. Rydym ni eisiau annog hwyluso entrepreneuriaeth a menter ymhlith unigolion, busnesau a chymunedau yn y Cymoedd. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer ymgyrch benodol i gefnogi busnesau sy'n adnabod ac yn cyfuno llwyddiannau yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwyf hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer prosiect treialu i gefnogi rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer sylfaenwyr neu arweinwyr busnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial i dyfu.

Mae manteisio ar dechnoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig yn y cynllun diwygiedig hwn. Rydym ni wedi cynnwys tri chynllun treialu ar gyfer y Cymoedd, y bydd ffrwd waith digidol y tasglu yn eu goruchwylio. Bydd y tasglu yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ei raglen trafnidiaeth ymatebol integredig newydd yn gwneud yn siŵr fod pobl o bob rhan o'r Cymoedd yn cyrraedd ac yn gadael eu hapwyntiadau iechyd yn fwy effeithiol, a byddwn yn datblygu ap i gefnogi hyn.

Byddwn hefyd yn treialu'r rhaglen Wi-Fi i Fi–ffordd gyffrous o ddefnyddio band eang y sector cyhoeddus i greu llecynnau Wi-Fi cymunedol i'w defnyddio gan bawb yn y fro. Unwaith eto, caiff ap ei greu, fydd yn dangos ble mae'r llecynnau hyn yn y Cymoedd. Rydym ni hefyd yn buddsoddi yn yr offeryn mapio Cymru gyfan 'Lle'. Byddwn yn datblygu ei swyddogaethau a'i gynnwys fel ei bod hi'n hawdd cyrchu llawer iawn o ddata defnyddiol fel modd o roi canllaw ac anogaeth i fuddsoddi yn y Cymoedd.

Dirprwy Lywydd, y mis diwethaf rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â chreu parc rhanbarthol yn y Cymoedd a'n huchelgais i ddefnyddio'r parc i gryfhau delwedd genedlaethol a rhyngwladol y rhanbarth. Y mis diwethaf cyhoeddais brosbectws, yn gwahodd eraill i helpu i lunio'r meddylfryd y bydd y parc rhanbarthol hwn yn seiliedig arno. Bu croeso brwd i'r prosbectws yn y fan yma a ledled y Cymoedd. Hefyd cafwyd cydsyniad trawiadol bod angen inni gydweithio gan roi pwyslais ar y Cymoedd yn eu cyfanrwydd er mwyn llwyddo. 

Rydym ni wedi diweddaru'r adran 'Fy nghymuned' yn y cynllun cyflawni er mwyn gyflawni cam cyntaf parc rhanbarthol y Cymoedd, gan ganolbwyntio ar y tair thema tirwedd, sef; diwylliant a hunaniaeth; hamdden a lles; ac yna cymunedau a menter. Wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer y parc rhanbarthol mae'r lleoliadau porth ledled y Cymoedd, a fydd yn helpu i adrodd hanes y Cymoedd hyn. Bydd y safleoedd porth hyn yn annog pobl i fod yn fwy egnïol ac i archwilio tirweddau hardd y Cymoedd. Rwyf wedi dweud fy mod yn bwriadu cyhoeddi lleoliad cyntaf y pyrth hyn erbyn diwedd y flwyddyn a chyflawni cyfnod 1 erbyn gwanwyn 2019.

Dirprwy Lywydd, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y Cymoedd, rwy'n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, coedwig Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd Blaenafon—[Torri ar draws.]—Ni allaf glywed hynna—Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Bryngarw ymhlith y safleoedd porth hynny. Byddaf yn cyhoeddi safleoedd pellach yn yr wythnosau nesaf. Caiff y £7 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer datblygu parc rhanbarthol y Cymoedd, y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20, ei fuddsoddi yn y pyrth hyn a'r llwybrau eiconig sy'n cysylltu'r Cymoedd. Caiff y cynlluniau manwl ar gyfer defnyddio'r holl ddyraniad hwnnw eu cyhoeddi maes o law.

Un o nodweddion diffiniol tasglu'r Cymoedd yw ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Mae hi wedi bod yn bwysig iawn i bob un ohonom ni i siarad a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Dyna sut y cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu a'i lunio. Bydd y cyswllt hwnnw yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o weithredu. Bydd y tasglu hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd a gyda'r ddwy fargen ddinesig. Rydym ni eisiau sbarduno nid yn unig newid yn y Cymoedd, ond creu Llywodraeth mwy cydgysylltiedig sy'n cydweithio i ddarparu ar gyfer y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r cynllun cyflenwi hwn yn croesi ffiniau holl adrannau Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau pob un o'm cydweithwyr yn y Cabinet. Fe hoffwn i ddiolch i bob un o fy nghydweithwyr a'u hadrannau am eu hymrwymiad i'r agenda yma.

Dirprwy Lywydd, rydym ni eisiau i'r cynllun hwn ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd a'u disgwyliadau. Mae'r tasglu eisoes wedi dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i Gymoedd y de, a bydd yn parhau i wneud hynny.

14:45

Rydych chi'n dweud mai un o nodweddion diffiniol gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de fu ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd siarad gyda a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Wrth gwrs, mae cyd-gynhyrchu, sydd mewn deddfwriaeth yng Nghymru, yn mynd ymhellach, i raddau helaeth iawn o ran y ddyletswydd gynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hynny'n cynnwys cyd-ddylunio a chyd-ddarparu gwasanaethau, rhannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal. Felly, a yw hyn yn mynd y tu hwnt i siarad a gwrando, ac, os felly, sut ydych chi'n sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yn seiliedig ar gydraddoldeb grym gyda phobl leol, cymunedau lleol a sefydliadau lleol?

Wrth gwrs, mae gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sydd, yn anffodus, wedi parhau i gynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen o holl ranbarthau  neu ardaloedd y DU, yn cynnwys pedair sir yn y gogledd, ac mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â rhai yng Nghymoedd y de yn unig. Pam hynny? Neu a yw hynny oherwydd eich bod yn credu, o bosib yn gywir, bod y mentrau yn y gogledd y mae'r fargen dwf, y weledigaeth dwf, y cynnig twf yn seiliedig arnynt, yn cyflawni hynny? Ac, os ydych chi yn credu hynny, ac mai dyna'r rheswm pam mae pedair sir y gogledd wedi'u heithrio, pa ystyriaeth a roesoch chi i'r ffordd y mae chwe sir y gogledd, y sector busnes a'r byd academaidd wedi dod at ei gilydd a, gydag un llais, wedi cyflwyno eu cynigion ar gyfer y rhanbarth hwnnw a chau'r bwlch ffyniant yn y fan yna?

Mae adroddiad cynnydd 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' 2018 Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid imi ddweud, yn dipyn o gymysgedd dethol o bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi eu taflu ynghyd. Fel y mae'n dweud yn gwbl briodol:

mae angen mwy o swyddi da a chyfleoedd i gael sgiliau,

a'ch bod wedi ymrwymo i archwilio'r dewisiadau i dargedu buddsoddiad a chreu ardaloedd canolbwynt strategol newydd, yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad fel

ardaloedd lle mae arian cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd.

Felly, sut mae'r sector preifat wedi'i gynnwys o fewn hynny, nid yn unig fel rhywun i siarad ag ef a gwrando arno, ond yng nghyd-destun, fel yn y gogledd, lle cydweithir ar yr atebion hynny ar gyfer darparu rhywbeth ar y cyd?

Rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at adran wybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru gan nodi ardaloedd ledled Cymoedd y de lle'r oedd y mwyaf o botensial economaidd. Unwaith eto, yn yr un modd, sut maen nhw wedi gweithio gyda'r sector busnes a'r trydydd sector i lunio'u casgliadau, neu a ydyn nhw wedi gwneud hyn drwy ddim ond siarad a gwrando ar bobl?

Rydych chi'n cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Wrth gwrs, rydym ni'n deall nad oes disgwyl iddo gael ei gyflwyno tan y flwyddyn nesaf, er bod amrywiaeth o raglenni cyflogaeth bellach ar waith yng Nghymru, megis y rhaglenni a gyflwynir drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau a Remploy. Rydym ni'n gwybod o ymatebion blaenorol yn y Siambr hon gan Aelodau Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi cael mewnbwn i'r rhaglenni hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni os a sut, felly, mae'r cynlluniau Prydeinig hynny sy'n gweithredu yng Nghymru gyda mewnbwn Llywodraeth Cymru wedi cael neu sut fyddan nhw'n cael eu hymgorffori i'r gwaith yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'?

Rydych chi'n cyfeirio, yn yr adroddiad, at Glynrhedynog yn datblygu canolfan ag amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, ac rwyf wrth fy modd yn clywed hynny—mae hynny'n swnio'n wych. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i waith Dr Karen Sankey yn Wrecsam, y mae adran iechyd Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, wedi cyfeirio at ei gwaith, sydd wedi datblygu model canolfan gymunedol i ddwyn ynghyd a mynd i'r afael ag anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y bobl yn y gymuned honno, gan gynnwys y rhai ar y strydoedd, fel model arfer gorau?

Rydych chi'n cyfeirio at weithredwyr cyfrif ar gyfer ysgolion uwchradd ac at weithio gyda Gyrfa Cymru. Unwaith eto, sut fydd hynny'n ymdrin â'r pryder y soniwyd amdano pan nad oedd Gyrfa Cymru yn gallu hwyluso disgyblion mewn ysgolion i ymweld â gweithleoedd er mwyn cael profiad gwaith ymarferol mwyach? A ydym ni'n sôn am ddim ond o fewn ysgolion, ac, os felly, sut y bydd hynny'n integreiddio gyda'r busnesau eu hunain?

Dau gwestiwn byr iawn, iawn yn weddill, ac yna byddaf wedi gorffen. Metro de Cymru—rydych chi'n cyfeirio at raglen hirdymor. Pa mor hirdymor, mewn gwirionedd, ydych chi'n ei olygu yn hyn o beth, mewn trafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau? Oherwydd rydym ni wedi clywed sôn am y pethau hyn, ac maen nhw'n swnio'n gadarnhaol iawn, ac, er nad wyf i'n byw yn y de, rwy'n dymuno'r gorau i'r bobl sy'n byw yno, ond pryd ydych chi'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd?

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad at y targedau o 20,000 o dai fforddiadwy—wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys prynu cartref, mae'n cynnwys rhent canolradd, a darpariaeth gan ystod o ddarparwyr. Felly, pa asesiad ar y cyd o anghenion tai sy'n greiddiol i hyn, nid yn unig o ran canfod nifer yr unedau sydd eu hangen ar bobl yn y boblogaeth, ond y math a'r amrywiaeth o eiddo, boed hwnnw'n rhent cymdeithasol, rhent canolraddol, prynu'n rhad, am bris llawn y farchnad neu fel arall? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ymddangos bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi cynllwynio i ofyn yr un cwestiwn hanner dwsin o weithiau. Fe wnaf i geisio ei ateb unwaith yn unig. O ran sut yr ydym ni'n mynd ati, rydym ni'n ceisio cynnwys pobl o'r adeg lle'r ydym ni'n dechrau hyd at yr adeg y byddwn ni'n datblygu ein cysyniadau ac yn cyflwyno'r cysyniadau hynny. Does dim—. Gofynnodd ar nifer o achlysuron yn y cyfraniad hwnnw am gyd-gynhyrchu yng ngwahanol feysydd ein gwaith, ond mae'r cyfan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ymwneud â gweithio gyda phobl. Nid yw'n eiddo i Lywodraeth Cymru; mae ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd er mwyn inni allu defnyddio nid yn unig grym Llywodraeth ond creadigrwydd pobl ac uchelgais a gweledigaeth pobl sy'n byw yn y Cymoedd a ledled y Cymoedd.

Gofynnodd gwestiwn penodol ar gynlluniau'r DU a chynlluniau cyflogadwyedd y DU. Rwy'n siomedig nad yw'n deall bod rheolwr rhanbarthol Yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd yn aelod o'r tasglu. Felly, mae'r holl faterion hyn yn rhan greiddiol mewn gwirionedd o'n trafodaethau a'n dadleuon. Mae hyn yn rhan sylfaenol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n dweud ei fod yn gymysgedd dethol o gynlluniau—mae pobl yn greadigol, ac nid yw creadigrwydd bob amser yn lân ac yn daclus, mae arnaf i ofn. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrtho; mae gennym ni nifer o entrepreneuriaid wedi eu cynrychioli ar y tasglu hefyd, ac mae'r ffrydiau gwaith yr ydym ni'n eu datblygu ar y tasglu eu hunain yn dod â phobl at ei gilydd ac yn galluogi pobl i wneud cyfraniad ac i ymgymryd â swyddogaethau gwahanol.

Felly, nid yw hyn yn fater o rannu ein gwaith yn gategorïau, yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi ceisio ei wneud; mae hyn yn sylfaenol ynglŷn â beth mewn gwirionedd sydd gan y tasglu wrth ei wraidd, wrth ei galon. O ran y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â phethau, rydym ni'n ceisio bod yn fwy dyfeisgar neu greadigol yn y ffordd yr ydym ni'n siarad ac yn y ffordd yr ydym ni'n cyfathrebu â phobl. Rwyf wedi buddsoddi llawer o amser, boed hynny mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn siarad â grwpiau llai o bobl—. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mlaenafon yn cynnal digwyddiad Facebook byw, yn siarad â phobl ac yn ateb eu cwestiynau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni'n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol dros gyfnod o amser.

Rwyf yn sylwi bod llefarydd y Ceidwadwyr ar gyfer y materion hyn yn ceisio sawl gwaith yn ei gyfraniadau yn y fan yma i roi rhannau o Gymru benben â'i gilydd—rhanbarth yn erbyn rhanbarth, cymuned yn erbyn cymuned. Byddai'n dda gennyf petai'n ymatal rhag gwneud hynny. Mae'n bychanu ei hun a'i gyfraniadau. Nid yw hyn yn fater o Gymoedd y de yn cael unrhyw fath o driniaeth ffafriol dros ran arall o'r wlad—mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â thlodi; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli yn y lleoedd hyn.

Mae'n aelod o blaid sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at greu'r tlodi hwnnw. I'r rhai ohonom ni a fagwyd yng Nghymoedd y de, rydym ni wedi gweld beth wnaeth Llywodraethau Ceidwadol—Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU—i ni. Ni wnaethon nhw ddim byd i gefnogi ein cymunedau, ond popeth i danseilio ein cymunedau. [Torri ar draws.] Fe wnaethon nhw bopeth i gael gwared ar y sylfaen economaidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw a mynd i'r afael â'r tlodi hwnnw. Rwy'n ei glywed, Dirprwy Lywydd, yn galw o'i sedd. Nid yw hyn ynglŷn â gosod y gogledd yn erbyn y de neu'r dwyrain yn erbyn y gorllewin. Pan fo'n gwneud hynny, mae'n bychanu ei hun. Ac ni fyddaf yn caniatáu iddo wneud hynny i'r cynllun hwn nac i fychanu'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Nid oes a wnelo hyn â gosod cymuned yn erbyn cymuned, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, ac rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr yn cael anhawster gyda'r cysyniad hwnnw, ond dyna beth yr etholwyd y Llywodraeth hon i'w wneud.

14:55

Nid wyf yn argyhoeddedig bod y datganiad hwn yn cyflwyno unrhyw beth newydd i'n sylw ni heddiw, ac rwy'n credu mai'r dystiolaeth o hynny yw'r ymosodiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet rai munudau'n ôl. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ymddangos eich bod wastad yn ymosod pan nad oes gennych chi unrhyw atebion.

Beth bynnag, fe wnaethoch chi orffen eich datganiad heddiw drwy ddweud bod y cynllun cyflawni sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru a holl bortffolios eich cydweithwyr yn y Cabinet, felly fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau heddiw ynglŷn â sut mae agenda polisi ehangach Llywodraeth Cymru yn effeithio ar yr uchelgeisiau a nodwyd gennych chi yn eich cynllun.

Elfen bwysig o gefnogi blaenoriaeth 1 y cynllun cyflawni, sef creu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, yw, fel y soniwch chi, cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'r cynnig hwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed am 48 o wythnosau'r flwyddyn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dadlau'n gyson, drwy gyfyngu'r cynnig o ddarpariaeth gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn unig, rydych chi'n creu rhwystr sylweddol arall i rieni economaidd anweithgar rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'r comisiynydd plant wedi cefnogi hyn hefyd, a dywedodd y bydd

plant rhieni nad ydyn nhw'n gweithio yn llithro ymhellach fyth ar ôl eu cyfoedion os cânt eu heithrio o'r ddarpariaeth hon.

Diben eich targed o helpu 7,000 o bobl ddi-waith ac economaidd anweithgar yn y Cymoedd i gael gwaith oedd er mwyn ichi allu dod â'r rhannau hynny o'r awdurdodau lleol dan sylw sy'n cynnwys y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd cynnig gofal plant eich Llywodraeth yn cefnogi'r nod hwn. Yn wir, bydd yn gwneud y sefyllfa yn y Cymoedd hyd yn oed yn waeth, gan arwain at hyd yn oed mwy o deuluoedd yn cael eu hesgeuluso. Felly, fel aelod o'r Llywodraeth, pa sylwadau a ydych chi wedi eu gwneud i'ch cyd-Aelodau i bwyso arnyn nhw i ehangu'r cynnig gofal plant i bob rhiant yng Nghymru?

Y broblem yn llawer o gymunedau'r Cymoedd yw nid nifer y swyddi, ond ansawdd y swyddi hynny. Mae'n ymwneud â natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny a'r ffaith bod llawer gormod ohonyn nhw yn swyddi ansicr. Mae'r targed o gefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith erbyn 2021, wrth gwrs, i'w groesawu. Fodd bynnag, heb ddod â diwydiannau newydd a datblygu'r rhai sy'n bodoli eisoes i dyfu ymhellach, mae'n bosib iawn y byddwch chi'n cefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith ar un llaw, ond gallai natur ansicr y farchnad lafur yn y Cymoedd arwain at golli'r swyddi hynny mewn mannau eraill yn yr un ardal. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigur targed o faint o swyddi a gaiff eu sicrhau yn ystod y cyfnod hyd at 2021 hefyd?

Yr wythnos diwethaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais yn y Cynulliad yn galw am ddim mwy o doriadau i addysg bellach a dysgu gydol oes, sector sydd wedi bod yn darged parhaus ar gyfer y toriadau, erbyn hyn, dros lawer iawn o flynyddoedd. Os ydym ni o ddifrif am wrthdroi'r dirywiad hirdymor yn economi Cymru a chodi sgiliau, incwm a chynhyrchiant, yna mae'r sector addysg bellach yn gwbl hanfodol. Bydd elfen fawr o agenda sgiliau cynllun cyflawni'r tasglu yn dibynnu'n helaeth ar gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, a fydd yn gosod gofynion a disgwyliadau ar y colegau a'r sector dysgu a sgiliau ehangach fel partneriaid cyflawni hollbwysig. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, ni all neb ddwyn y maen i'r wal gyda'r teimladau a'r cynlluniau hyn pan nad yw'r cyllid ar gael i gefnogi'r blaenoriaethau hyn. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi fod arian ar gael i ddarparu'r hyfforddiant gofynnol i uwchsgilio gweithlu'r Cymoedd?

Nawr, rwy'n sicr nad oes angen imi esbonio i neb pa mor anodd yw hi i deithio ar reilffyrdd y Cymoedd ar hyn o bryd. Ni all hyn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Dyna pam rwy'n croesawu'r arian datblygu a sicrhawyd i gomisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd i hwyluso cyfleoedd teithio i'r canolbwyntiau strategol newydd. Yn benodol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i edrych ar welliannau yn y seilwaith yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r metro. Mae llawer o'r pwyslais gyda datblygiad y metro yn y Cymoedd ynglŷn â sut orau i gysylltu cymunedau yn y Cymoedd â Chaerdydd, yn hytrach nag ystyried sut yr ydym ni'n cysylltu'r Cymoedd â'i gilydd. Ni chynhwyswyd y syniad ar gyfer llinell gylch y Cymoedd yn ystod cam nesaf datblygiad y metro. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i sicrhau y bydd rhan o'r cyllid datblygu yn mynd tuag at ddichonoldeb parhau i ystyried creu llinell gylch ar gyfer y Cymoedd?  

15:00

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chwestiynau. Rwy'n meddwl yn ôl ac yn sylwi pan atebais gwestiynau ar achlysur blaenorol—rwy'n credu, y llynedd—ymosodwyd arnaf gan Blaid Cymru am gynnwys materion polisi yn y cynllun a oedd wedi eu targedu'n uniongyrchol at y Cymoedd, a sylwaf y prynhawn yma ei bod hi wedi penderfynu canolbwyntio ar yr holl faterion polisi hynny nad ydyn nhw'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar y Cymoedd. Rwy'n pendroni ynglŷn â hynny oherwydd—[Torri ar draws.] Dywedais yn y paragraff cyntaf, oherwydd—

A allwch chi wneud iddo ateb y cwestiynau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na—[Anghlywadwy.]

Datganiad ydyw, ac mae cyfle i'r Gweinidog ateb y cwestiynau yn y ffordd y mae ef eisiau eu hateb. Os nad yw hynny'n dderbyniol, yna mae dulliau eraill y gallech chi eu defnyddio.

Fe wnaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi gwrando ar ei chwestiynau, ac efallai y gwnaiff hi wrando ar fy atebion i.

O ran y cynnig gofal plant, mae'n ymrwymiad maniffesto ac yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu ar gyfer y Llywodraeth hon, ac fe gaiff ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir, a bydd yn parhau i gael ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir. Mae, rwy'n credu, yn un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac nid wyf yn ymddiheuro am fuddsoddi mewn gofal plant. Ac fel Gweinidog ar ddechrau'r Llywodraeth hon, fe wnes i chwarae fy rhan yn datblygu'r cyfleoedd ar gyfer y cynnig gofal plant, a gwelais y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud i fywydau pobl ar hyd a lled y Cymoedd ac mewn mannau eraill.

Gadewch imi ddweud hyn hefyd wrth yr Aelod: Os yw hi wedi darllen y cynllun cyflawni diwygiedig, bydd hi'n gwybod ein bod ni hefyd yn mynd ymhellach na dim ond cynnig cyfleusterau a chyfleoedd gofal plant. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â phrofiadau plentyndod andwyol y bydd llawer o blant sy'n cael eu magu yn y Cymoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau. Rydym ni hefyd yn siarad â'r heddlu ynghylch sut y gallwn ni sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd gynhwysfawr, ac rydym ni'n bwriadu mynd i'r afael â phrofiadau plant sy'n cael eu magu, weithiau, mewn rhai cartrefi anodd iawn. Felly, rydym ni yn buddsoddi nid yn unig yn y cynnig gofal plant—ac rwy'n gwrthod ei beirniadaeth ohono—ond mewn gwirionedd rydym ni'n buddsoddi mewn dull mwy cynhwysfawr o ymdrin â'r blynyddoedd cynnar hefyd. Felly, rydym ni'n mynd ymhellach na'r awgrym y mae hi wedi ei wneud. 

Mae hi'n ein beirniadu ni am fabwysiadu targed o 7,000 o bobl i gael gwaith, yn hytrach na, rwy'n credu mai'r sylw yr oedd hi yn ei wneud oedd hyn, creu targed creu swyddi. Mae'r hyn y mae'r targed hwn yn ei wneud yn glir iawn, iawn. Mae'n sicrhau bod gan y Cymoedd yr un proffil economaidd a'r proffil cymdeithasol â rhannau eraill o'r wlad. Rwyf wedi dweud, Dirprwy Lywydd, yn fy ateb i lefarydd y Ceidwadwyr mai'r rheswm pam yr ydym ni wedi sefydlu'r tasglu hwn yw er mwyn trechu'r tlodi sy'n bodoli yng Nghymoedd y de, a'r bobl yr effeithir arnyn nhw gan y tlodi hwnnw, a'r bobl yr ydym ni'n ceisio sicrhau y gallan nhw ddychwelyd i'r gwaith, ac i gael y math o waith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei gael.

Rwy'n ymwybodol iawn—rwy'n ymwybodol o fy etholaeth fy hun ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith hwn—o effaith tangyflogaeth yn y Cymoedd, ac effaith gwaith cyflogedig gwael yn y Cymoedd. Rydym ni'n cydnabod hynny. Rydym ni'n cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau fod Cymru yn genedl waith teg fel ein bod ni yn gweithio gyda'r byd busnes, a'n bod ni yn gweithio gyda phob sector o'r economi, ac yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol i greu gwaith i bobl mewn gwirionedd. Ond rwy'n amddiffyn y targed o 7,000 o bobl yn dod yn economaidd weithgar yn y modd hwn, oherwydd dyna beth yn ôl y cyngor a gawsom ni fyddai'n gwneud y mwyaf i fuddsoddi ym mhobl a chymunedau Cymoedd y de.

Mae gennym ni'r arian ar gyfer hyn, ac mae gennym ni'r cyllid ar gyfer y cyfleoedd hyfforddi ac ar gyfer y metro. Ond gadewch i mi ddweud hyn—gadewch imi fod yn gwbl glir wrth wneud hyn—yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yw sicrhau ein bod ni nid yn unig yn rhoi atebolrwydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn cysylltu ein targedau â hynny hefyd fel bod Aelodau yn gallu dod yma i holi ynghylch beth yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei gyflawni. Ond mae'n rhaid gwneud hynny ar sail y cynlluniau yr ydym ni'n eu cyhoeddi a'r targedau yr ydym ni yn eu gosod. Rwy'n credu bod y targedau yn uchelgeisiol a blaengar ac yn dangos mai'r Llywodraeth hon a Llafur Cymru sydd â gweledigaeth uchelgeisiol, wirioneddol ar gyfer Cymoedd y de.

15:05

Ar 16 Tachwedd, ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, sydd ym Mharc Busnes Caerffili, y dyfarnwyd arian Llywodraeth Cymru iddi'n ddiweddar er mwyn iddi ddod yn ganolfan fenter ranbarthol i annog a chefnogi entrepreneuriaeth, gan gysylltu â phob math o bartneriaid o'r prifysgolion, busnesau lleol, colegau a Banc Datblygu Cymru. Mae hefyd yn cysylltu â chanolfannau ategol, sydd i'w cadarnhau, yn ôl y cynllun datblygu, ac fe hoffwn i glywed mwy am hynny.

Os yw'n mynd i fod yn llwyddiannus, mae angen i Ganolfan Arloesi Menter Cymru gefnogi uchelgais y Gweinidog ar gyfer cysylltedd, y cyfeiriwyd ato eisoes, a helpu i adnabod partneriaid allweddol. Pan ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, fe wnaethon nhw ddangos ffeithlun imi a oedd yn dangos y busnesau a oedd yn cysylltu â nhw. Roedd yn ddiddorol ei fod yn fath o siâp T ar ei ben i lawr oherwydd y ffaith yw mai busnesau ar hyd coridor yr M4 ac yna Cwm Rhymni oedd yn cysylltu â Chaerdydd, a dim llawer y tu allan i'r ardal honno. Felly, ceir her yn sicr i gael y cymunedau gwahanol hynny i gysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Rwyf yn arbennig eisiau gweld busnesau o Fargoed a Senghennydd yn cysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, ond hefyd busnesau o gymunedau ledled y Cymoedd. Rydym ni'n gweld bod gan y mwyafrif helaeth o fusnesau ddiddordeb yn y rhannau deheuol; mae angen inni gysylltu'r Cymoedd gogleddol.

Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog hyn? Sylwaf yn ei ddatganiad ei fod yn sôn am ymgyrch benodol i gefnogi busnesau. A all ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth y mae'n ei olygu wrth hynny a hefyd beth y mae'n ei olygu wrth y rhwydwaith cymheiriaid y cyfeiriodd ato yn ei ddatganiad? Byddai ymhelaethu ar y pethau hynny hefyd yn helpu Aelodau i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddatblygu cymunedau a busnesau yn y Cymoedd gogleddol.

Mae datblygu buddsoddiad yn y Cymoedd gogleddol yn sylw sydd wedi'i grybwyll droeon gan yr Aelod dros Gaerffili yn ystod ei amser yma, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn amlwg yn ei rannu am resymau sy'n glir. Rydym ni wedi trafod Cwm Rhymni gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu ymestyn allan y tu hwnt i rannau deheuol Cymoedd y De, a dyna pam ein bod ni'n rhoi cynllun datblygu ar waith sy'n edrych yn benodol ar fanteisio i'r eithaf ar effaith prosiect deuoli ffordd yr A465, ac mae angen inni allu darparu hynny yn ystod y chwe mis nesaf.

O ran Canolfan Arloesi Menter Cymru, rydw i wedi cyfarfod â Chanolfan Arloesi Menter Cymru yn amlwg, ac mae gennym ni gynrychiolydd ar y tasglu sy'n bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar entrepreneuriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio gallu ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru i allu ymestyn hynny i rannau o'r rhanbarth yn y de-ddwyrain lle nad oes gennym ni gyfleuster tebyg, a'r hyn yr wyf i'n ei obeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio unigolion sy'n entrepreneuriaid yn eu hawl eu hunain i fentora a gweithio gyda busnesau er mwyn darparu'r math o gymorth a chefnogaeth sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob busnes unigol. Felly, mae ynglŷn â mynd ati gan bwyll i sicrhau bod pobl sy'n sefydlu a rhedeg busnesau bach yn cael yr union gymorth sydd ei angen arnyn nhw—nid y cymorth yr ydym ni'n credu sydd ei angen arnyn nhw—ac mae hynny'n gwbl hanfodol.

Yr hyn yr wyf i yn gobeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili i allu mynd ati yn yr un modd yn union mewn rhannau eraill o'r de-ddwyrain. 

Mae gennyf ddau siaradwr arall y mae eu meysydd, rwy'n credu, wedi cael eu crybwyll yn natganiad y Gweinidog. Felly, rhoddaf gyfle iddyn nhw ymateb, ond os gallan nhw fod yn gryno, byddai hynny o gymorth. Vikki Howells.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch defnyddio coridor Blaenau'r Cymoedd fel arf ar gyfer datblygu economaidd. Mae hen safle Glofa'r Tŵr yn Hirwaun yn ddelfrydol ar gyfer y dibenion hyn ac, fel y gwyddoch chi, mae'n cael ei adfer ar hyn o bryd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r tîm sy'n adfywio Glofa'r Tŵr ynglŷn â sut y gall tasglu'r Cymoedd helpu i fanteisio ar botensial enfawr y safle hwn?

Yn ail, roedd yn dda clywed am y pyrth darganfod a'r sôn am Barc Gwledig Cwm Dâr yn benodol. Rwy'n cytuno â chi—rwy'n credu y byddai'n lleoliad ardderchog ar gyfer hynny. Rwy'n falch o weld y bydd hefyd yn ategu hyn drwy neilltuo llinell iddo yn y gyllideb. Pryd fydd cynlluniau manwl ar gyfer hyn ar gael?

15:10

Rwy'n gobeithio y byddan nhw ar gael yn fuan yn y flwyddyn newydd—yn y flwyddyn newydd nesaf. Byddwn yn disgwyl y byddem ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau manylach ym mis Ionawr neu Chwefror 2019. Rwy'n sicr eisiau inni fod mewn sefyllfa i allu gwneud y buddsoddiadau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Felly, rwyf eisiau inni symud ymlaen yn weddol gyflym yn hynny o beth. Rwyf hefyd eisiau gallu cyhoeddi safleoedd darganfod pellach yn yr wythnosau nesaf, o bosib cyn y Nadolig, ond yn sicr yn gynnar yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni'n gallu adeiladu ar y sail yr ydym ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau hyn heddiw. Felly, rwyf eisiau bwrw iddi yn weddol gyflym i symud ymlaen â hyn. Credaf hefyd fod angen i ni greu strwythur mwy o lawer ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd o ran sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd beth fydd ei botensial, ac rwy'n gobeithio y gellir rhoi strwythur ar waith ar unwaith ar ôl y Nadolig hefyd, ac yn sicr yn chwarter cyntaf 2019.

O ran Glofa'r Tŵr, cynrychiolwyd Glofa'r Tŵr yn y seminar a oedd gennym ni, a sbardunodd, os mynnwch chi, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar goridor yr A465 yn y gwanwyn. Maen nhw'n amlwg wedi cael gwybod y diweddaraf am y gwaith a wneir gan y grŵp o bobl yr wyf wedi eu gwahodd i ddatblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac rwy'n cytuno gyda'r Aelod dros Gwm Cynon, bod safle Glofa'r Tŵr yn safle pwysig, ac rwy'n ei weld fel safle strategol bwysig ar gyfer dyfodol coridor yr A465.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad o £7 miliwn ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd, ac rwy'n croesawu'n fawr y bydd Ffordd Coedwig Cwmcarn ymysg y don gyntaf o brosiectau y pyrth darganfod i'w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod pa mor werthfawr yw Ffordd Coedwig hanesyddol Cwmcarn yn fy etholaeth i: mae'n un o'r perlau yng nghoron Cymru, ac mae'n newyddion da iawn, yn wir, ar gyfer fy etholaeth. Dyma'n union y gwaith partneriaeth effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartïon eraill yn gweithio gyda'i gilydd—hyd yn oed yn yr oes hon o gyni Torïaidd, y gall llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a'u sefydliadau partner wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i gyfarfod â mi ar Ffordd Coedwig Cwmcarn a chwrdd â chynrychiolwyr cyfeillion Ffordd Coedwig Cwmcarn i ledaenu'r gair hwn am botensial trawsnewidiol gwirioneddol y pyrth darganfod i bobl Islwyn?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymchwilio yn fanylach i'r canolfannau trafnidiaeth lleol newydd a grybwyllwyd ac a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, a fydd o fantais uniongyrchol i gymunedau Islwyn, ac fel yr wyf i wedi dweud, mae fy etholaeth yn frwdfrydig iawn i gael cysylltedd gwell ac ychwanegol rhwng y Cymoedd, ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni fel Aelodau mewn cryn fanylder ynglŷn â sut y bydd y gwaith pwysig hwn yn datblygu wrth i'r misoedd fynd rhagddynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i gyfarfod Aelodau unigol neu grwpiau o Aelodau er mwyn eu diweddaru ar y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n sicr yn hapus iawn, iawn i wneud hynny, ac rwyf hefyd yn falch iawn o ymweld â Ffordd Coedwig Cwmcarn gyda'r Aelod. Rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddi os byddaf yn dod â'm teulu gyda fi. Rydym ni wastad wedi mwynhau'r rhan honno o'r byd. Mae'n lle gwych i deuluoedd allu ymlacio a mwynhau amgylchedd a thirwedd gwych Cymoedd y de. Rydym ni'n ffodus iawn i gynrychioli lleoedd o'r fath, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ymfalchio'n fawr yn amgylchedd a thirwedd y Cymoedd, a dweud wrth y byd bod Cymoedd y de yn lle arbennig iawn, iawn i fod, i weld, i ymweld, i fyw, i weithio.

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

Eitem 4 ar ein hagenda yw datganiad gan arweinydd y Tŷ: y diweddaraf am weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a galwaf ar arweinydd y Tŷ, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd sylweddol a wnaed ers y daeth y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i rym yn 2015. Mae'r ddau adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ers imi ymgymryd â'r portffolio hwn yn rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd hwn.

Mae ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2016 yn amlinellu chwe amcan. Cynlluniwyd yr amcanion hyn er mwyn galluogi cydymffurfio, i'r graddau y mae ein pwerau yn caniatáu, gyda Chonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais domestig, neu Gonfensiwn Istanbwl. Mae'r fframwaith cyflawni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Gorffennaf 2018, yn esbonio sut fyddwn ni'n gweithio gydag amrywiol adrannau'r Llywodraeth i gyflawni pob un o'r chwe amcan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu VAWDASV. Mae'n acronym amhosib, Dirprwy Lywydd, ond VAWDASV, fel y'i gelwir. Rydym ni eisiau gwella ymateb y sector cyhoeddus i'r materion hyn, a thrwy addysg, grymuso ac ymgysylltu, rydym ni'n herio agweddau ac ymddygiadau ym mhob haen o gymdeithas.

Mae angen inni gydweithio i amddiffyn y rhai sydd ar hyn o bryd yn dioddef VAWDASV. Mae ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol, er enghraifft, yn sicrhau, am y tro cyntaf, bod safonau wedi'u gosod ynglŷn â hyfforddiant i weithwyr proffesiynol i'w helpu i adnabod pwy sydd mewn perygl. Y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau drafft a chyflwyno hyfforddiant 'holi a gweithredu'. Mae 'holi a gweithredu' yn broses o ymholi penodol i'w arfer gan weithwyr proffesiynol rheng flaen. Mae'r hyfforddiant wedi ei ddatblygu gyda goroeswyr, ac felly mae'n seiliedig ar brofiadau y mae pobl wedi byw drwyddyn nhw. Mae ganddo'r potensial i newid ac i achub bywydau, ac mae adborth gan y gwaith mabwysiadu cynnar yn dangos ei fod yn gwneud hyn.

Rydym ni wedi hyfforddi dros 135,000 o bobl ledled Cymru drwy hyfforddiant e-ddysgu ac wyneb yn wyneb. Dyna 135,000 o weithwyr proffesiynol sydd yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n dioddef VAWDASV. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae'r ffilmiau hyn wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc ac yn eu haddysgu ynghylch sut beth yw perthnas iach. Nod y gwaith hwn yw eu hatal rhag bod yn ddioddefwyr, neu hyd yn oed rhag cyflawni'r fath weithredoedd. Mae llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy gyfrwng prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cryfhau ein canllawiau ar gyfer ysgolion i gynnwys cysylltiadau i gefnogaeth briodol. Bydd hyn yn adeiladu ar ein canllaw arfer da o ran ymdrin ag addysg mewn modd cynhwysfawr, a hefyd ein canllawiau ar gyfer llywodraethwyr ysgol.

Bydd cyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2022 yn cynnig cyfle i ddarparu addysg rhywioldeb a pherthnasoedd mewn ffordd hollol wahanol i addysg ryw draddodiadol. Does dim rhaid i ysgolion aros neu gyflwyno hynny'n ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i wneud hynny cyn hynny.

Mae un o'm swyddogion yn cyd-gadeirio grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a BAWSO. Mae'r grŵp hwn wedi datblygu fframwaith cyflawni er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd fel y'i gelwir, gan ddarparu'r cymorth gorau posib i oroeswyr. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol hefyd yn cefnogi clinig lles menywod arbenigol cyntaf Cymru ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod.

Rydym ni'n gweithio o dan gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf i wella'r dull o weithio gyda'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hyn yn cysylltu â'r fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith gwasanaethau tramgwyddwyr sydd newydd ei ffurfio yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhannu arferion rheolaidd, ac mae adolygiad tystiolaeth cyflym ynglŷn â beth sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Fis nesaf, byddaf yn lansio safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd i gefnogi gwasanaethau a chomisiynwyr i weithio'n ddiogel ac effeithiol. Rydym ni wedi cynnal ymarfer mapio o wasanaethau tramgwyddwyr yng Ngwent ac yn rhannu'r hyn a ddysgwyd ag ardaloedd eraill.

Rydym ni'n mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw drwy ein hymgyrch cyfathrebu, Dyma Fi. Gall stereoteipio ar sail rhyw arwain at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sydd wrth wraidd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni wedi seilio ein hymgyrchoedd ar sylwadau goroeswyr, a'u geiriau nhw, wedi eu lleisio gan actorion, sy'n darparu negeseuon grymus am effaith rhywun dim ond yn gofyn, 'Ydy popeth yn iawn?' yn ein hymgyrch Paid Cadw'n Dawel.

Mae gweithio gyda goroeswyr yn rhan annatod o'r darparu. Rydym ni eisiau i'r rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o hyn gael llais wrth ddatblygu a darparu polisi, cyllid a deddfwriaeth. Dyna pam y byddwn ni'n treialu panel goroeswr cenedlaethol y flwyddyn nesaf ac yn gwneud mwy o waith ynglŷn â sut beth ddylai'r fframwaith ymgysylltu â goroeswr fod.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r wefan a'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'r rhain yn rhoi cymorth cyfrinachol 24-awr, gwybodaeth a chyngor i fenywod, dynion a phlant sy'n cael eu cam-drin. Mae hefyd yno ar gyfer pobl eraill sy'n poeni ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr. Cefnogir dynion drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Rydym ni'n gweithio gydag ymgynghorwyr cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol y byddant yn fodd o fesur cynnydd at ddibenion y Ddeddf. Byddwn yn ymgynghori ar y rhain erbyn diwedd y flwyddyn ac yn cyhoeddi'r dangosyddion terfynol erbyn mis Mai 2019.

Rydym ni wedi darparu canllawiau i gefnogi'r byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol yn gyntaf. Mae ein cynghorwyr cenedlaethol yn adolygu'r rhain ac yn adrodd yn ôl ar sut y gall hyn wella cyflawni. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n comisiynu adolygiad dan arweiniad arbenigol i ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ceisio defnyddio'r gorau o'r dulliau rhyngwladol yn sail i'r model yng Nghymru o gymorth i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arswydus o gyffredin, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae ein deddfwriaeth yn torri tir newydd, ond ni fydd dim yn newid dros nos; mae'r materion hyn wedi ymwreiddio'n rhy ddwfn. Rydym ni'n gwneud cynnydd, fodd bynnag, ac rwyf eisiau i'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y tair blynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf gael ei gydnabod. Rwy'n benderfynol y bydd Cymru'n gwireddu ei huchelgais i fod y lle mwyaf diogel ar gyfer menywod yn Ewrop. Diolch.

15:15

Diolch am eich datganiad. Rydych chi'n dweud bod safonau'n cael eu pennu ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn cyfeirio at 135,000 o bobl wedi'u hyfforddi. Wrth gwrs, mae hyfforddiant yn ddigwyddiad yn hytrach nag yn broses, ac nid yw ymwybyddiaeth yr un fath â deall a derbyn materion wrth inni gamu i'r dyfodol. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sefydlu hyn, nid fel digwyddiad hyfforddi ar-lein neu wyneb yn wyneb unwaith yn unig, ond fel ymwybyddiaeth a newid diwylliannol parhaus?

Rydych chi'n cyfeirio at addysg perthnasoedd iach i blant a phobl ifanc, yn eu hatal rhag dod yn ddioddefwyr neu dramgwyddwyr, a chyflwyno addysg am berthnasoedd a rhywioldeb mewn ysgolion o 2022, ond nad oes yn rhaid i ysgolion aros tan y cyflwyniad ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi eu paratoi'n ddigonol cyn hynny i wneud hyn. Pan holais chi ynglŷn â hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, nodais fod yna raglenni fel y rhaglen Hafan Cymru ar waith mewn ysgolion. Rwy'n credu bod y ddau ohonom ni wedi bod allan gyda nhw ac i hynny greu argraff arnom ni. Cyfeiriais y bûm i'n gweithio gyda Jocelyn Davies a Peter Black yng Nghyfnod 4 y Ddeddf, yn bygwth, o bosib, ei atal pe byddem ni heb gael sicrwydd ynglŷn ag addysg ar berthnasoedd iach—neu, rydych chi'n awr yn ei aralleirio ar ffurf y term newydd yr ydych chi'n ei ddefnyddio, 'addysg perthnasoedd a rhywioldeb'—mewn ysgolion. Dywedais nad oeddem ni'n cefnogi hyn ar y sail y byddem ni'n aros saith mlynedd amdano, gan roi'r dewis i ysgolion, os maen nhw'n dymuno, yn y cyfamser. Felly, sut ydych chi wedi gweithredu ar yr hyn a ddywedwyd gennych chi wrthyf i yn y pwyllgor, sef nad oeddech chi wedi cael y sgwrs gyda Kirsty Williams am y saith mlynedd, felly y byddech chi'n dychwelyd ac yn cael y sgwrs honno, oherwydd ei bod hi'n syndod i chi bryd hynny?

Rydych chi'n cyfeirio at waith y grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol, a'u bod wedi datblygu fframwaith gweithredu er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd, fel y'i gelwir. Sut mae'r fframwaith gweithredu hwnnw yn troi yn weithredu? Allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynglŷn â beth fydd yn cael ei wneud, pwy sy'n gwneud hynny, ble, pryd a sut y caiff ei fonitro?

Rydych chi'n cyfeirio at raglenni tramgwyddwyr. Fe wnes i hefyd, gyda chefnogaeth rhai o'r gwrthbleidiau eraill yn ystod hynt y Ddeddf, gyflwyno gwelliannau, a drechwyd gan y Llywodraeth, a galw ar i raglenni tramgwyddwyr fod yn rhan o'r Ddeddf. Ar y pryd, dywedwyd wrthym ni gan y Gweinidog nad oedd unrhyw gynlluniau achrededig ar gael yng Nghymru. Y gwir amdani oedd bod cynllun iau o'r fath yn bodoli; dyna gynllun Relate Cymru, sydd hefyd wedi'i fabwysiadu gan ddarparwyr amrywiol eraill ledled Cymru.

Rydych chi'n cyfeirio at gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf. Wel, cefais sicrwydd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu. Felly, a allwch chi gadarnhau bod y safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd y byddwn chi yn eu lansio i gefnogi comisiynwyr a gwasanaethau y mis nesaf hefyd yn ymateb i'r angen am rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu, a sut y byddant yn adlewyrchu'r safonau achrededig Respect, y cyflwynwyd tystiolaeth yn ei gylch i'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant rai misoedd yn ôl, gan ddarparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni trais domestig a cham-drin? A hefyd, mae eu technegau newydd yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n defnyddio trais ac yn cam-drin aelod o'r teulu, yn gweithio gyda menywod sy'n defnyddio trais yn erbyn dynion, ac yn gweithio gyda'r rhai mewn perthnasau o'r un rhyw, y gwnaethon nhw hefyd ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol amdano.

Rydych chi'n cyfeirio at y wefan Byw Heb Ofn, a dynion yn cael eu cefnogi drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Wrth gwrs, fyddech chi ddim yn cyfeirio dioddefwr neu oroeswr sy'n fenyw at elusen sy'n cael ei redeg gan ddynion, ac yn ystod hynt y Ddeddf, cyflwynais welliant arall a oedd yn galw am yr hyn yr oedd Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw amdano yn y gorffennol, sef strategaeth rhyw-benodol ar gyfer dynion a menywod. Unwaith eto, dywedodd y Gweinidog na fyddai hyn yn y Ddeddf, ond y byddai'r angen hwnnw yn cael sylw yn y dyfodol. Felly, o ystyried bod Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cyhoeddi bod chwarter eu hachosion o gam-drin domestig yn cynnwys dynion, a bod arolwg troseddu Lloegr yn nodi bod 42 y cant o'r achosion y maen nhw'n ymdrin â nhw bellach yn effeithio ar ddynion, a bod tri chwarter o achosion o hunanladdiad yn ddynion, sut fyddwch chi'n gweithio hefyd gyda rhai elusennau gwych fel KIM Inspire yn Nhreffynnon, yr ydych chi efallai wedi clywed amdani ac a fyddai wrth eu boddau pe byddech chi'n ymweld, a ddechreuodd drwy gefnogi menywod sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl yn eu cymuned? Maen nhw bellach wedi eu sefydlu a recriwtio dynion i gyflwyno eu KIM 4 HIM, sy'n torri tir newydd, a sefydlwyd gan grŵp menywod gwych ond sy'n ymgorffori dynion i'w gyflawni. Ac, wrth gwrs, dyna waith DASU, yr uned diogelwch cam-drin domestig ar Lannau Dyfrdwy, a oedd hefyd yn arloesol, flynyddoedd lawer yn ôl, yn ehangu eu gwasanaethau i gynnwys dynion yn ogystal â menywod, sy'n gweithio gyda'i gilydd gan gefnogi ei gilydd.

15:25

Iawn. Wel, fe wnaf i fy ngorau gyda'r rhestr hir iawn yna o faterion yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw. O ran bod yr hyfforddiant yn ddigwyddiad ac nid yn broses—rwy'n credu ichi ddweud—mae'n fframwaith hyfforddi. Felly, rydym ni'n cyflwyno agweddau penodol ar y fframwaith hyfforddiant. Felly, er enghraifft, mae 'gofyn a gweithredu' yn rhan o'r fframwaith. Felly, mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn bodoli, y mae'r rhaglen hyfforddiant yn rhan ohono, a'u holl ddiben yw eu bod yn broses a bod pobl yn parhau i wneud cynnydd â'u gwybodaeth, fel ei fod yn set effeithiol o gymwysterau proffesiynol. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'n gyfres o alluoedd a sgiliau y dylai fod gan bob gweithiwr rheng flaen. Gwnaed argraff arbennig arnaf pan euthum, er enghraifft, i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd wedi rhoi'r hyfforddiant i gyd i bob un o'u diffoddwyr tân oherwydd bod diffoddwyr tân yn cael eu parchu ac yn cael mynd i mewn i dai pobl. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi i edrych am arwyddion o drais domestig a thrais rhywiol, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn ac fe gafodd hynny argraff fawr iawn arnaf. Felly, credaf y gallaf dawelu meddwl yr Aelod ein bod yn ymwybodol iawn ei fod yn fframwaith ac nid yn ddigwyddiad.

O ran y mater ysgolion a gododd gyda mi yn y pwyllgor, gyda fy sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae gennym ni hynny yn y dyddiadur ond dydym ni ddim wedi cyfarfod eto mewn gwirionedd. Ond, fel y dywedais wrtho, rydym ni'n gwneud yn siŵr bod y rhaglenni yr ydym ni'n eu hariannu ar hyn o bryd, fel y dywedais yn y pwyllgor, yn dal i fod yno ac y gall ysgolion sydd wedi datblygu arbenigedd o ganlyniad i'r rhaglenni hynny ac ati gyflwyno'r cwricwlwm newydd cyn gynted â phosib. Cyn gynted ag yr wyf wedi cael cyfarfod gyda Kirsty Williams, byddaf yn rhoi gwybod iddo. Nid wyf eto wedi llwyddo i wneud hynny oherwydd pwysau dyddiadur.

O ran rhaglenni tramgwyddwyr, rydym ni'n gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i wneud asesiad tystiolaeth cyflym o'r hyn sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig, a gyhoeddir yn fuan. Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda thramgwyddwyr, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau VAWDASV rhanbarthol i sicrhau yr adlewyrchir gwaith gyda thramgwyddwyr yn ddiogel ac effeithio yn eu strategaethau. Felly, byddwn yn disgwyl gweld ymgynghoriad ar hynny cyn bo hir.

O ran y materion y soniodd amdanyn nhw bod chwarter yr achosion o gam-drin domestig yn ddynion, Dirprwy Lywydd, heb ddiystyru am eiliad y dynion sy'n dioddef trais yn y cartref—oherwydd mae pob trais domestig yn broses wrthun yn ein cymdeithas—mae ynglŷn â graddfa'r cam-drin. Mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan eu partneriaid. Mae hynny ymhell o fod yn wir ar gyfer dynion sy'n adrodd am gam-drin domestig. Mae hynny heb fod yn amharchus i'r bobl hynny sydd, oherwydd nid dyna yw fy mwriad. Ond, yn amlwg, nid yw maint y broblem yn ddim byd tebyg i'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn eich arwain i gredu. Mae llawer llai o dynion yn adrodd am gam-drin—mae'n cyffredinoli, rwy'n gwybod—ar lefel is o lawer na merched. Mae menywod yn ei oddef lawer yn hwy, ac mae'r cam-drin yn waeth o lawer ac yn llawer mwy treisgar. Felly, mae'n rhaid inni gael ymateb cymesur i wahanol fathau o gam-drin. Mae gennym ni'r llinellau cymorth a'r prosiectau sy'n cael eu noddi, ond byddai'n gamgymeriad meddwl bod angen rhyw fath o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth o ganlyniad i rai o'r ystadegau a ddyfynnwyd gan yr Aelod.    

Arweinydd y tŷ, byddwn yn annog bod yn ofalus wrth drafod pwy sy'n darparu gwasanaethau. Fel cyn swyddog prawf a gweithiwr cymorth ar gyfer Cymorth i Fenywod, byddwn yn dweud, wrth gwrs, bod pob trais a cham-drin ym mhob perthynas yn anghywir, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o bobl sy'n cyflawni camdriniaeth sy'n dweud eu bod yn dioddef cam-drin i guddio'u gweithredoedd. Felly, wrth ystyried ariannu'r gwasanaethau, byddwn eisiau bod yn fodlon bod gwiriadau priodol yn digwydd i osgoi'r math hwn o sefyllfa lle caiff pobl sy'n cyflawni camdriniaeth eu hariannu yn gyhoeddus a niweidio ymhellach. Felly, sut y gallwn ni sicrhau bod y rhai sy'n cael arian ar gyfer darpariaeth y gwasanaethau hyn yn ddilys?

Rwy'n synnu, tair blynedd a hanner ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, bod y cam sylfaenol o fapio gwasanaethau eto i ddigwydd. Rydym ni'n gwybod o'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn bod diffygion anferth yn y ddarpariaeth gwasanaeth, ac fe all toriadau i Lywodraeth Leol wneud y sefyllfa hon yn waeth. Ond, nid ydym ni'n gwybod graddau hynny oherwydd ni allwn ni ddilyn y llinellau cyllideb yn iawn i ddangos hyn.

Fel y soniais wrthych chi yn y pwyllgor, rwy'n bryderus ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer plant yn hyn i gyd. Pan oeddwn yn gweithio i Cymorth i Fenywod yn y 1990au, roeddem ni'n ymgyrchu am gyllid craidd ar gyfer gwasanaethau plant. Os nad yw plant yn cael y cyfle i weithio drwy effaith y cam-drin domestig sy'n digwydd rhwng eu rhieni, mae perygl inni weld patrymau'r ymddygiad hwnnw yn cael eu hailadrodd.

Fe wnes i grybwyll pryderon hefyd wrthych chi am addysgu perthnasoedd, rheolaeth, caniatâd ac ati yn yr ysgol. Mae'r angen yna i ddechrau ar oedran ifanc iawn, ond ni fydd hyn yn digwydd yn awr, rydym ni wedi clywed, tan 2022—wyth mlynedd ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mae hynny'n dweud wrthyf i nad yw'r mater hwn yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth. Ni allwn ni aros i werth tair blynedd arall o niwed posib ddigwydd cyn inni ymdrin â hyn ymhlith pobl ifanc. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y trydydd sector, er mor rhagorol y gallai fod, yn wych, ond nid yw'n ddigon—nid yw'n ddigon cynhwysfawr. Felly, fy nghwestiynau yw: a wnewch chi sicrhau bod y gwasanaethau cam-drin domestig i blant yn cael arian craidd? Rwy'n gwybod ichi ddweud y caiff hyn ei gwmpasu gan yr adolygiad o wasanaethau, ond nid wyf yn credu y cafwyd cyfeiriad penodol at wasanaethau plant yn y datganiad hwnnw. A fyddwch chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyflwyno'r newidiadau cwricwlwm hynny?

Rwy'n croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog i gomisiynu adolygiad arbenigol o ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Mae'n hwyr glas gwneud hynny. Mae gennym ni gymaint o bobl nad ydyn nhw'n cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen pan fyddan nhw'n gofyn amdano, a cheir llawer iawn mwy nad ydyn nhw'n gofyn am gymorth tan yn llawer, llawer iawn hwyrach. Ac rydym ni'n siomi'r holl bobl hyn drwy beidio â rhoi cyllid digonol i wasanaethau sy'n gallu helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl digwyddiad trawmatig. Felly, cwestiwn arall, wedyn, yw: pryd ydym ni'n debygol o weld casgliad yr adolygiad hwnnw? Ac yn bwysicach, pryd fyddwn ni'n gweld adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i ariannu gwasanaethau ychwanegol?

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn gwestiwn a ofynnais ichi yn y pwyllgor, ond chefais i ddim ateb iddo yno, felly efallai y caf i un yma. Yn 2016, dywedodd cynghorydd cenedlaethol blaenorol fod canllawiau comisiynu yn hanfodol i bwrpas y Ddeddf. Felly, pryd caiff y canllawiau hynny eu cyhoeddi?

15:30

Fe wnaf i geisio gweithio fy ffordd drwy'r rhestr yna o gwestiynau. Mae'r darn ynglŷn â chymesuredd yn bwysig iawn i ni. Felly, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar bwy sy'n darparu pa wasanaethau a beth yw'r ymateb cymesur i lefelau amrywiol—[Torri ar draws.] Ie. Felly, er enghraifft, mae llawer o ddarparwyr sy'n ymdrin â menywod sy'n ceisio lloches rhag cam-drin domestig hefyd yn ceisio lloches oherwydd eu bod wedi dioddef trais rhywiol, er enghraifft. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw â menywod—nid cymaint felly gyda dynion sydd wedi goroesi cam-drin domestig. A heb fod yn ddiystyriol o gwbl o ddynion sy'n dod ymlaen, fel y dywedais, mae nifer y dynion sy'n dod ymlaen—mae'n cyffredinoli, wrth gwrs, ac mae hynny bob amser yn annymunol, ond, yn gyffredinol, mae'n llawer llai felly. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y cawn ni ymateb cymesur ac arian cymesur o ganlyniad i hynny. O na bai gennym ni ddigon o arian i ariannu pob agwedd arno, ond does gennym ni ddim, felly mae ymateb cymesur yn bwysig iawn i ni.

Fel rhan o'n model ariannu cynaliadwy, rydym ni'n edrych i weld sut yr ydym ni'n gweithio'n gyffredinol gyda gwasanaethau rhanbarthol. Am y tro cyntaf erioed, bu'n rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno cynllun a map o'u gwasanaethau. Felly, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni'n ymateb i hynny. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn, yn enwedig mewn ardal dreialu yng Ngwent, sy'n llawer mwy datblygedig o ran eu cydweithio yn y maes hwn, i weld beth fydd yn gweithio ac na fydd hyn yn gweithio. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni wedi cael rhai canlyniadau anfwriadol o rai o'r trefniadau ariannu yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith. Felly, er enghraifft, rydym ni'n gofyn i bobl gydweithio, ac yna rydym ni'n gofyn iddyn nhw gyflwyno ail dendr ar gyfer gwasanaethau, y mae'r pwynt gwerthu unigryw y maen nhw'n ei ailgyflwyno yn rhan o'r cydweithio. Felly, yn amlwg, ceir canlyniadau anfwriadol o ran arferion yn hynny o beth, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i oresgyn hynny. Ac mae rhai o'r consortia rhanbarthol wedi gwneud awgrymiadau cryf a chynaliadwy iawn rwy'n credu ar gyfer hynny. Mae'r ymgynghorwyr cenedlaethol yn cadeirio'r trafodaethau hynny ac rwy'n siŵr y gallwn ni gynnig model mwy cynaliadwy ar gyfer hynny.

Rwy'n cytuno â hi mewn gwirionedd am y gwasanaethau mapio. Dyna ddiben gofyn i'r awdurdodau lleol ddod ymlaen yn y modd yma gyda'u cynllun ar gyfer y gwasanaethau a'n hymateb i hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei adolygiad a arweinir gan arbenigwyr. Rwy'n awyddus iawn i weld llais y goroeswr sy'n elfen greiddiol o hynny. Mae'n bwysig bod yr arbenigwyr yno i roi'r cyngor hwnnw inni, ond, fel y dywedais, rydym ni eisiau gweld goroeswyr wrth galon yr adolygiadau o wasanaethau, oherwydd rydym ni'n gwybod faint yr ydym ni'n ei ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a lle y gallasem ni fod wedi ymyrryd yn gynharach, a beth oedd yn gweithio iddyn nhw a beth oedd ddim. Roeddwn yn falch iawn o fod yn lansiad gwasanaeth a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda Mark Drakeford, fy nghyd-Aelod, yr wythnos diwethaf—Threshold DAS—lle pwysleisiwyd hynny. Cefais y fraint a'r pleser o gyfarfod pedwar o'r goroeswyr yno, a soniodd wrthym ni am eu profiad a beth fyddai wedi bod o gymorth iddyn nhw. Ac mae'n bwysig iawn yn wir inni wneud hynny.

Rhan o adolygu'r polisi i gael cyfatebiaeth rhwng y rhywiau, sy'n mynd ar yr un pryd hefyd—ni fydd hi'n syndod i neb yma, os ydych chi wedi darllen cam 1 yr adolygiad, mae i'w weld yno, ond mae cam 2 yr adolygiad yn edrych hefyd ar adnoddau a'r broses gyllidebu yn rhan o'r adolygiad hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn dod i'r amlwg. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau edrych arno yw sut ydym ni'n mesur ymyriadau ar draws Llywodraeth Cymru, a pha effaith ydym ni'n edrych arno o ran beth mae'r ymyriadau hynny yn eu cyflawni, ac nid yw hynny wedi'i wneud yn union felly o'r blaen, felly rwy'n awyddus iawn i gwblhau hynny. A bydd y canllawiau ar gael yn fuan iawn. Does arnaf i ddim eisiau rhoi dyddiad pendant i chi, ond rwy'n obeithiol y bydd yn fuan iawn.

15:35

Mae'n ddrwg gennyf—esgusodwch fi, John. Ar y cwricwlwm, nid wyf byth wedi cael y cyfarfod gyda Kirsty Williams, a chyn gynted ag y bydd ef gennyf, byddaf yn adrodd i'r holl Aelodau o ran ble'r ydym gyda hynny. Mae'n ddrwg gennyf, John.

Dim problem o gwbl.

Arweinydd y tŷ, fel y byddwch yn gwybod, mae'r pwyllgor yr wyf yn Gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cymryd ymagwedd gyffredinol ar gyfer dychwelyd yr adroddiadau ac, yn wir, y ddeddfwriaeth yr ydym wedi craffu arni, i wneud yn siŵr bod y gweithredu yn cyrraedd y safon briodol, ac mae hynny'n cynnwys y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Felly, un agwedd yr ydym ni wedi bod yn bryderus amdani, fel y soniodd Leanne Wood, yw'r canllawiau comisiynu statudol, a phrydlondeb bwrw ymlaen gyda hynny. Ac fel y dywedodd Leanne Wood hefyd, roedd y cynghorydd cenedlaethol blaenorol wedi dweud, ryw ddwy flynedd yn ôl rwy'n credu, fod cyhoeddi'r canllawiau statudol yn allweddol at ddiben y Ddeddf, a'i bod hi'n bryderus iawn ar y pryd nad oedd unrhyw amserlen wedi ei chadarnhau ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau hynny. Ac, yn wir, yn absenoldeb hynny, cynhyrchodd Ymddiriedolaeth Banc Lloyds a Chymorth i Ferched Cymru ganllawiau anstatudol. Felly, yn syml, bydd gennyf ddiddordeb mewn unrhyw beth pellach y gallwch ei ddweud o ran gwneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu datrys yn foddhaol.

Hefyd, o ran y strategaethau lleol, arweinydd y tŷ, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar, roeddech wedi dweud bod y strategaethau drafft i gyd wedi eu cyhoeddi erbyn y dyddiad cau a osodwyd yn y ddeddfwriaeth, sef mis Mai eleni rwyf yn credu. Ond tybed a oes unrhyw ganlyniadau cyfreithiol o ran y strategaethau lleol hynny nad ydynt yn cael eu cyhoeddi yn eu ffurfiau terfynol erbyn y dyddiad cau hwnnw ym mis Mai, o ystyried bod y dyddiad cau hwnnw wedi ei nodi yn y ddeddfwriaeth. Rwyf yn meddwl tybed a fydd amserlen ar gyfer y fframwaith cyflawni, gan fy mod i'n credu yn amlwg bod hynny'n bwysig iawn tuag at y cynnydd y mae'n rhaid ei wneud.

Ac yn olaf, ar adolygu darpariaeth lloches, tybed a allech roi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd yr adolygiad, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, yn gweithio ochr yn ochr â'r model ariannu cynaliadwy.

Fe ddechreuaf yn y fan yna, gan y bydd hynny'n caniatáu imi siarad am y ddau gyda'i gilydd. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen o randdeiliaid i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, ar ôl yr holl waith a wnaethom, fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood, o amgylch y seilwaith angenrheidiol i ranbartholi’r comisiynu. Ac wedyn, fe wnaethom sylwi, o ganlyniad i gyflwyniadau amrywiol, o bob cwr o Gymru, nad oedd pobl mewn sefyllfa i wneud hynny, a bod anawsterau amrywiol yn bodoli. Felly, yn hytrach na bwrw ymlaen â hynny—rydym yn awyddus iawn i hyn weithio, yn y pen draw, felly yr hyn a wnaethom oedd cefnu ychydig bach. Ac mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gadeirio gan un o’r ymgynghorwyr cenedlaethol, Yasmin Khan, gyda bwriad o’n cael ni i weithio allan y model ariannu cynaliadwy y mae pawb sy’n gysylltiedig â’r sector mewn gwirionedd yn ei gefnogi ac yn cytuno ag ef. Felly, fe wnaeth yr amserlen lithro, ond credais ei bod hi’n llawer pwysicach cael y model ariannu cynaliadwy hwnnw na chael yr amserlen anhyblyg ac yna bod heb rywbeth a oedd yn gweithio.

O ran a oedd cosb neu ganlyniad i'r ffaith nad oedden nhw wedi gwneud hynny, roedd yn rhaid inni ystyried hynny, gan nad oeddwn i’n credu, y lle yr ydym ynddo yn y cylch, bod hynny’n ymateb cymesur. Felly, fe wnaethom benderfynu nad oedd hynny’n ymateb cymesur yn yr achos hwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl cael hynny os na fydd yr amserlen yn cael ei bodloni mewn fersiynau pellach. Ond o ystyried lle'r ydym arni yn y Ddeddf, a bod hyn yn faes newydd ac ati, ac o ystyried eu bod nhw wedi cyflwyno eu drafftiau, nid oeddem ni’n credu bod hynny’n ymateb cymesur. Ond mae'n bosibl gwneud hynny yn ddiweddarach yn y cylch os oes gennym rywun nad yw’n cynhyrchu mewn da bryd.

O ran y ddarpariaeth lloches, rydym yn bwriadu edrych ar yr asesiad o’r angen sy’n dod yn ôl o’r awdurdodau lleol, beth sy’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, sut y mae’r map yn edrych a sut mae hynny'n cyfateb. Mae hyn yn faes cymhleth iawn, oherwydd nid cyllid Llywodraeth Cymru yn unig yw ef—ceir llwyth o setiau cyllid eraill: mae llawer o elusennau sy’n ariannu yn y maes hwn, mae treth tamponau Llywodraeth y DU yn ariannu yn y maes hwn, ac mae nifer o bethau eraill yn gwneud. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw rhoi set o gyllidebau gyda’i gilydd a fydd yn caniatáu i bobl gael y gorau o'r jig-so hwnnw gan ryw fath o ddarparu llwybr drwyddo, gan nad ydych chi eisiau gorfod cael doethuriaeth mewn sut y mae peth o hynny’n dod at ei gilydd er mwyn bod yn gallu cael gafael arno, ac i atal y gystadleuaeth gyson am symiau bach o arian sy'n digwydd mewn grwpiau o bobl yr hoffem gael cydweithrediad ganddyn nhw. Felly, nid grŵp gorchwyl a gorffen bach y mae ymgynghorwyr cenedlaethol yn ei gadeirio mohono, ond dywedir wrthyf fod pethau’n mynd yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn y bydd gennym fodel ariannu hynod gynaliadwy yn dod allan ohono.

15:40

Caiff fy niddordeb yn y pwnc hwn ei ysgogi gan y blynyddoedd lawer a dreuliais fel ynad heddwch, lle gwelais yn uniongyrchol effaith ofnadwy trais yn y cartref, nid ar y dioddefwyr yn unig, ond hefyd ar y teuluoedd. Felly, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad? Mae'n braf gweld y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn. Croesawyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth yr oedd angen mawr amdano. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi’n iawn cydnabod y nifer o ymyriadau a mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno ers y Ddeddf, gan gynnwys strategaeth genedlaethol a’i chwe amcan a gyhoeddwyd yn 2016, ac mae arweinydd y tŷ yn sôn am y llinell gymorth a’r wefan Byw Heb Ofn. Byddai cael ffigurau ynghylch effeithiolrwydd y ddau ymyriad hyn o ddiddordeb ynghyd â lefel y rhyngweithio gan ddioddefwyr â'r ddau wasanaeth ar-lein hyn. 

Arweinydd y tŷ, ers blynyddoedd lawer, roedd trais yn y cartref yn cael ei anwybyddu gan yr heddlu a'r gymdeithas yn gyffredinol, gan ei weld fel ‘materion teuluol’ yn aml. Diolch byth, nad yw hynny bellach yn wir. Cydnabyddir bellach nad yw trais yn y cartref yn effeithio ar y teuluoedd yn unig, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl sy'n tyfu i fyny gyda thrais yn y cartref yn aml yn mynd â’r trais hwnnw gyda nhw i’w gweithgareddau cymdeithasol ehangach, ac mae'r rhai sy'n gweld trais yn y cartref yn rheolaidd yn llawer mwy tebygol o'i ystyried yn ymddygiad arferol ac maen nhw’n adlewyrchu hynny yn aml yn eu perthnasoedd domestig eu hunain. 

Ffactor allweddol wrth amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref yw darparu ymyriadau i’w helpu nhw i ddianc o berthnasoedd o'r fath. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn siŵr os byddan nhw’n gadael amgylchedd camdriniol, y byddan nhw’n cael eu hamddiffyn rhag eu camdriniwr ac y bydd lloches ddiogel yn cael ei darparu ar eu cyfer nhw, ac nid ar eu cyfer nhw yn unig ond hefyd ar gyfer unrhyw blant sydd ganddyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hyderus hefyd y bydd eu sefyllfa yn cael ei deall ac y bydd y gyfraith yn gweithredu yn erbyn y drwgweithredwyr mewn modd priodol. Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid inni sicrhau bod niferoedd digonol o lochesi i gymryd unrhyw, a phob, dioddefwr trais yn y cartref.

Arweinydd y tŷ, roeddech yn sôn mai Heddlu Gwent yw’r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cymorth arbenigol 24 awr i ddioddefwyr trais yn y cartref. Bydd ganddyn nhw, yn ystafell reoli’r heddlu, dîm o bedwar swyddog gwaith allanol pendant sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig ac a fydd yn gweithio gyda phobl sy'n dod ymlaen fel dioddefwyr trosedd o'r fath yn unig. Mae hyn yn ymateb cadarnhaol at y ffaith bod Heddlu Gwent yn derbyn tua 12,000 o alwadau trais yn y cartref y flwyddyn. Ond gwyddom, mae'n debyg, bod llawer mwy o ddioddefwyr allan yna sydd, oherwydd ofn dialedd, yn methu â chrybwyll camdriniaeth o'r fath. Y gobaith yw y bydd heddluoedd eraill yng Nghymru yn dilyn yr esiampl ragorol hon. Efallai y gall arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar le y mae heddluoedd eraill o ran hynny. 

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, yn Aelodau’r Cynulliad ac yn ddinasyddion cyffredin, gan helpu i ddileu'r arfer drwg yma. Mae cam-drin domestig yn drais a thrais o'r math gwaethaf, gan ei fod yn aml yn digwydd i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae’n rhaid inni anfon neges glir na oddefir hyn yn y gymdeithas yng Nghymru.

Wel, ie, diolch ichi am y sylwadau hynny. Rwyf yn dymuno talu teyrnged i’n cyn gyd-Aelod Jeff Cuthbert, sy’n gomisiynydd heddlu a throsedd, sydd wedi mynd â’i angerdd gydag ef i Heddlu Gwent, ac mae Heddlu Gwent yn sicr wedi bod yn ddelfryd ymddwyn da yn hyn o beth, ac y fe yw comisiynydd arweiniol yr heddlu yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag ef i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall beth sy'n gweithio, ac, fel y dywedais, Gwent yw un o'r ardaloedd yr ydym wedi bod yn edrych arno i weld sut i gyflwyno'r comisiynu rhanbarthol, oherwydd natur ddatblygedig eu trefniadau.

Cododd David Rowlands bwynt diddorol ynghylch data. Mater i ni yw hynny, ac un o'r rhesymau pam rydym yn gwneud yr adolygiad y cyhoeddodd y Prif Weinidog yw i wneud yn siŵr bod y data cywir i gyd gennym a, lle nad yw ef gennym, rydym yn gwybod ymlaen llaw nad yw ef gennym a gallwn roi’r trefniadau cywir ar waith fel y gallwn gasglu’r data hwnnw. A daw’r data hwnnw o bob man: o adnoddau damweiniau ac achosion brys, gan feddygon teulu, o raglenni, o linellau cymorth, ac yn y blaen. Felly, dyna un o lawer o ddibenion yr adolygiad.

Ac o ran yr ymddygiad arferol a’r rhaglenni tramgwyddwyr yn unig, gwyddom eu bod nhw’n gweithio. Ar ôl yr ymgyrch This Is Me, fe gawsom ni fwy o ddefnydd o’r wefan Byw Heb Ofn gan dros 6,000 y cant. Felly, roedd ef yn wir yn gweithio. Saith miliwn o argraffiadau drwy hysbysebion teledu a radio, cynnydd sylweddol yn nefnydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyd—felly, mae hynny'n dda iawn. Rydym hefyd yn gwybod bod galwadau i'r llinell gymorth gan bobl eraill sy’n bryderus yn ystod yr ymgyrch Paid Cadw'n Dawel wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Felly, gwyddom eu bod nhw’n gweithio ac rydym yn casglu data i ddangos hynny.

Y peth olaf i'w ddweud yw bydd ymgyrchoedd yn y dyfodol yn canolbwyntio ar reolaeth gymhellol. Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gweld y bwrdd stori ar gyfer hynny; cyffwrddodd fi hyd at ddagrau, mae’n rhaid imi ddweud. Rydym yn lansio’r rhai hynny fis Ionawr ac rydym yn disgwyl treiddiad tebyg gan gyrraedd pob rhan o’r farchnad i ddyblu ein hymdrechion i ddweud yr hyn a ddywedodd David Rowlands, sef bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas waraidd, heb sôn am Gymru.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch ichi am eich diweddariad heddiw, arweinydd y tŷ. Gwyddom i gyd mai dydd Sul diwethaf oedd Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a bydd 16 diwrnod o weithredu. Ceir llawer o ymgyrchu parhaus a chodi ymwybyddiaeth am bethau fel ymgyrch y Rhuban Gwyn, a byddaf yn gwneud un o'r rhai hynny unwaith eto gyda Sefydliad y Merched yn Aberystwyth ddydd Gwener.

Ond yr hyn nad yw’n digwydd yw—nifer yr achosion o drais yn y cartref a dwy fenyw sy’n marw bob wythnos, nid yw’r nifer hwnnw’n lleihau. Nid oes gostyngiad o gwbl yn y ffigurau hynny, ac mae’r ffigurau hynny yn cynrychioli pobl. Maen nhw’n cynrychioli unigolion a theuluoedd ac anwyliaid sy'n cael eu colli. Felly, mae hyn yn fy arwain i ofyn y cwestiwn: er fy mod i’n cydnabod yr holl waith da yr ydym yn ei roi i mewn i’r ysgolion yn awr, yn addysgu plant am faterion parch yn gynnar pan eu bod nhw’n gallu deall hynny; mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud y tu hwnt i hynny o ran clybiau eraill, clybiau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion, sut allwn ni drosglwyddo'r neges honno i gymunedau mewn ffordd wahanol? Oherwydd, mae hi'n amlwg bod rhaid inni newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn, ac mae'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn amlwg yn dechrau gyda phobl ifanc.

Y ffigur arall nad yw'n ymddangos yn aml iawn yw'r un y dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrthyf amdano yr wythnos diwethaf, eu bod nhw’n cael 60 o alwadau bob mis ynghylch bygythiadau llosgi bwriadol. Ac, os edrychwch chi ar ffigurau'r DU ynghylch trais yn y cartref, mae 40 y cant ohonyn nhw o ganlyniad i ymosodiadau llosgi bwriadol.

Felly, dyna fy nau gwestiwn: un am y gwasanaethau tân ac achub eraill yn ymgymryd â’r gwaith da iawn sydd wedi ei sbarduno gan Huw Jakeway yn y de, a’r llall am ehangu, gymaint â phosibl, yr effaith a’r dylanwad y gallwn eu cael ar bobl ynghylch materion parch.

Ie, ac, fel arfer—mae Joyce Watson wedi hyrwyddo hyn ers blynyddoedd maith. Eich holl yrfa wleidyddol, rydych wedi hyrwyddo hyn, a da o beth yw hynny. Ac mae'n destun pryder nad yw’r ffigurau’n symud. Mae angen llawer mwy o effaith ar y cyd, ar draws ein cymdeithas, ar hyn. Mae’n rhan o'r rheswm pam rydym yn rhedeg y darn ynghylch stereoteipio ar sail rhyw, gan fy mod i’n credu—. Mae rhai pobl, rydym wedi cael rhai sylwadau sy’n gofyn beth sydd gan hyn i wneud â’r peth. Ond, mewn gwirionedd, mae angen inni ddeall achos sylfaenol rhai o'r materion hyn, a rhan fawr o'r achos sylfaenol yw bod pobl yn cael eu gorfodi i fod yn esiamplau ymddygiad nad ydyn nhw’n dymuno bod, nid ydyn nhw’n bodloni’r disgwyliadau, ac maen nhw’n gwneud i bobl ddioddef o ddifrif yn eu hiechyd meddwl, ac mae hynny'n arwain at y mathau hyn o raglenni. Felly, allwn i ddim cytuno â chi yn fwy. Rydym ni'n cael sgyrsiau gyda'n prifysgolion ynghylch rhedeg rhaglenni cydsyniad gorfodol cyn i bobl gofrestru, er enghraifft, a byddwn i’n hoffi talu teyrnged i Brifysgol Caerdydd, sydd eisoes wedi gwneud hynny, a byddem ni’n hoffi gweld hynny’n ymestyn yn gyffredinol, a chael sgyrsiau gorfodol ynghylch cydsyniad ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion wrth iddyn nhw ddechrau ymwneud â gweithgarwch rhywiol yn rhan o'r cwricwlwm newydd, ac, fel y dywedais, byddaf yn siarad gyda Kirsty ynghylch amseriad hynny, a’r hyn y gallwn ni ei wneud am y peth.

Ond mae hi’n gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn codi hynny gyda'r cynghorwyr cenedlaethol hefyd, ynghylch sut y gallwn, er enghraifft, gael ein rhaglen diogelu ac ymgysylltu â phobl ifanc i gymryd rhan yn y mater hwn, gan ei bod hi’n hollol gywir: mae’n rhaid cael y sgyrsiau cydsyniad hynny allan yn y gymdeithas. Yn anffodus, gan wisgo fy het data a digidol, ceir nifer cynyddol o ddynion ifanc sy’n gaeth i bornograffi ar-lein, ac mae hynny'n fater difrifol hefyd. Rydym yn gweld cynnydd mewn rhai mathau o ymddygiad sy'n gysylltiedig â hynny.

Felly, mae hyn—rydych yn llygad eich lle: mae arnom angen gwneud hyn yn gyffredin mewn cymdeithas, ac mae’r holl fater ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, addysgu plant nad yw’r hyn y maen nhw’n ei brofi yn arferol nac yn gywir, a bod ganddyn nhw hawliau, a bod ein dull addysgol cyfan sy’n seiliedig ar hawliau, yn y lle hwn hefyd. Credaf, felly, bod arnom angen dull Llywodraeth gyfan i weithio hyn allan, a chredaf fod yr adolygiad rhyw yn ein gwthio i'r cyfeiriad hwnnw yn fawr iawn hefyd, ac mae hi'n hollol gywir wrth dynnu sylw at hynny.

15:50
5. Dadl: 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Yr eitem nesaf yw'r ddadl 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'. Galwaf ar y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas.

Cynnig NDM6873 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru— Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'.

2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.

3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw 'dichonoldeb' yn air hawdd i'w yngan yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae'n fraint gen i gyflwyno'r ddadl yma a dathlu'r ffaith ein bod ni'n genedl sy'n gyforiog o hanes a diwylliant, ble mae ein hanes a'n treftadaeth ni yn elfennau pwysig yn ein cymeriad fel cenedl. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r ffordd yr ydym ni yn cyfleu ein hunain drwy gelf a chwaraeon bob amser yn fater trafodaeth yn ein plith ni. 

Yn yr achos yma, mi fu'r ymgynghorwyr ar gyfer y ddwy astudiaeth yma yn gweithio am flwyddyn, a mwy na hynny, ac mae'r adroddiadau terfynol bellach wedi'u cyhoeddi, ac rydw i wedi cael cyfle i'w hastudio nhw. Mi fyddaf i'n cyfeirio ar rai o'r prif argymhellion, ond beth rydym ni'n ceisio amdani ydy nid chwilio am atebion hawdd na sydyn, ond rhoi cyfle i bobl gyfrannu i'r drafodaeth, ac mae'r ddadl yma yn amser y Llywodraeth yn rhan o hynny.  

Rydym ni am geisio sicrhau—a dyma ydy'r prif amcan—fod pobl Cymru yn cael gafael ac yn gallu cymryd rhan a mwynhau ein celf a diwylliant byrlymus, a'n bod ni'n cynyddu'r gyfranogaeth honno. I'r pwrpas yma, fe ymgynghorwyd â rhanddeiliaid o bob math—arbenigwyr yn eu maes, pobl â diddordeb arbennig mewn amgueddfeydd a chelf—ac mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad yn deillio o'r trafodaethau hynny.

I edrych yn gyntaf gyda'r astudiaeth chwaraeon, amgueddfa bêl-droed genedlaethol oedd symbyliad cychwyn yr astudiaeth yma yn wreiddiol, ond, yn fuan iawn, fe ledwyd y briff yn ehangach i ystyried treftadaeth chwaraeon o bob math, ond bod pêl-droed yn parhau yn elfen ganolog yn yr argymhellion. Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn cofio am yr ystod o gemau hanesyddol a oedd yn cael eu chwarae yng Nghymru, yn sail i'r gemau modern megis rygbi a phêl-droed a snwcer a bocsio, heb anghofio am bwysigrwydd y cynnydd sylweddol mewn pêl-rwyd ymhlith menywod, a'r diddordeb byw a newydd, oherwydd llwyddiant pobl fel Geraint Thomas, mewn beicio ac yna athletau a nofio yn ogystal. Mae gennym ni sêr yn y byd chwaraeon, ac mae'r sêr yr un mor bwysig ag yw cyfranogaeth y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi canfod yn y trafodaethau rwyf i wedi eu cael gyda'r adran sy'n gyfrifol am y maes yma yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna fwy o ddiddordeb gennym ni yng Nghymru—ac mae polisi'r Llywodraeth yn adlewyrchu hynny—mewn cynyddu cyfranogaeth a llai o bwyslais, o bosib, ar gyfrif medalau. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn beth iach. 

15:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r adroddiadau yma, fel y dywedais i, yn benllanw sgyrsiau a chyfraniadau gan sefydliadau ac unigolion, ac mae'r prif gyrff llywodraethu wedi cyfrannu, gan gofio bod gennym ni dros 60 o gyrff llywodraethu ar yr holl amrywiol chwaraeon yng Nghymru, ac mae'r dystiolaeth yn adlewyrchu barn y rheini. Mae yna argymhelliad pendant i fuddsoddi yn Wrecsam yn yr adroddiad i alluogi datblygu'r amgueddfa yno yn amgueddfa bêl-droed. Ac mae'r argymhelliad hefyd yn mynd ymlaen yn y panel i sôn am banel arbenigol ar dreftadaeth chwaraeon i gryfhau gweledigaeth genedlaethol a fframweithiau yn codi o hynny. Ac yna mae'r argymhelliad pwysig bod yna gampau eraill yn haeddu sylw a bod yn rhaid ceisio ffyrdd eraill o wneud hynny yn hytrach na chreu rhagor o amgueddfeydd i wahanol fathau o chwaraeon. 

Mae yna gyfeiriad penodol wedi cael ei wneud at yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn yr adroddiad, ac mae'n amlwg nad mater i Lywodraeth Cymru benderfynu ffordd ymlaen ar ei phen ei hun ydy hwn. Rydw i wedi ceisio pob cyfle—ac rydw i'n cael llawer ohonyn nhw, wrth gwrs—i drafod o gwmpas achlysuron chwaraeon i geisio gweld beth yw'r farn a beth yw'r ymdeimlad yn gyffredinol yn y sector yng Nghymru.

Mae'r un peth yn wir gyda'r adroddiad celf gyfoes. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y mae yna lawer o arddangosfeydd celf o bob math yn digwydd ac rydw i wedi cael cyfle i weld y diwylliant celf gyfoes iach a bywiog o bob math ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, o'r amgueddfeydd a'r orielau mawr drwodd i'r datblygiad diddorol sy'n digwydd bellach mewn llawer o orielau preifat, llai, a'r orielau rhanbarthol, safonol, megis y Mostyn yn y gogledd a Glyn y Weddw a Glynn Vivian yn Abertawe. Mae hyn i gyd wedi cael ei gydnabod yn glir yn yr adroddiad ac efallai mai un o'r argymhellion mwyaf rhybuddiol i mi fel Gweinidog oedd nad ydym yn creu gormod o gynnwrf nac unrhyw fath o anwastadrwydd yn y ddarpariaeth bresennol sy'n bod. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn allweddol bwysig.

Mae'r argymhellion yn eithaf clir. Y cam cyntaf ydy'r hyn a elwir yn gynfas cenedlaethol comisiynu gweithiau newydd ledled Cymru i greu diddordeb, gydag artistiaid yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol; y cam o fuddsoddi yn y seilwaith sydd gennym yn barod gan ddarparu dull cyflenwi sy'n agor y casgliadau cenedlaethol ac yn cynnig gweithiau newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad; ac yna y trydydd argymhelliad i sefydlu pencadlys celf gyfoes cenedlaethol yn ofod parhaol ac yn llwyfan bywiog.

Wel, mae'r model yma sydd wedi'i awgrymu yn yr adroddiad yn un cymhleth, ond mae o'n un y gallwn ni feddwl am ei ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol, gan gysylltu hynny â pha adnoddau sydd ar gael. Fel gyda'r astudiaethau chwaraeon, mae'r cyfan yn dibynnu ar weithredu mewn partneriaeth, yn fy marn i, ac mi fyddaf i yn ceisio gwneud hynny os caf i'r cyfle i barhau yn y swydd yma ac i weithredu ar yr argymhellion. Mae'r astudiaeth yn codi allan o ymgynghoriad, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r rhai a wnaeth y gwaith, a hefyd i'r holl garedigion chwaraeon a charedigion celf mas fanna sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth a ddywedir ymhellach yn y ddadl yma heddiw.

16:00

Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—David Melding.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth;

Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.

Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn ei chroesawu hi. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r ddau adroddiad hyn. Mae'n waith trylwyr iawn ac yn fy marn i mae'n sail ardderchog ar gyfer dewisiadau i'w datblygu yn y dyfodol. Rwyf i o'r farn hefyd y bydd llawer o dir cyffredin o ran y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cynigion penodol. Ni fyddwn mewn gwirionedd yn cefnogi cynnig y Llywodraeth, a'r unig reswm am hynny yw na chredaf fod digon o ganolbwyntio ar yr argymhellion i'w cymeradwyo yn y modd hwnnw. Nid wyf yn credu mai dyna yw eu diben, mewn gwirionedd. Maen nhw'n ein cyfeirio ni i gyfeiriad penodol. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â rhywfaint o ymgysylltu cyhoeddus, oherwydd mae'r meysydd hyn yn galw am hynny i raddau helaeth iawn.

Mae celfyddyd gyfoes yn adeiladu ar draddodiad gwych yn yr ugeinfed ganrif, sy'n rhywbeth y mae gwaith Peter Lord wedi ei ddangos rwy'n credu—sef bod gennym ni enw rhagorol yn y celfyddydau gweledol sy'n cael ei esgeuluso'n aml. Rydym hefyd, yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf, wedi gweld llwyddiant anhygoel gwobr Artes Mundi, sydd wedi ein rhoi ni ar y map yn rhyngwladol. Ond, mae angen inni ganolbwyntio nawr ar gelfyddyd gyfoes Cymru, ac ar chwaraeon yn yr un modd. Mae'r rhain yn faterion sy'n hawlio ymgysylltu cyhoeddus helaeth iawn. Felly, a gaf i siarad am yr oriel gelf gyfoes yn gyntaf?

Rwy'n credu mai'r mater canolog i'w ddatrys yma yw a oes angen adeilad newydd mawreddog proffil uchel, ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, fod angen hynny. Os felly, a ddylai fod yn amcan cyntaf unrhyw strategaeth neu'n ddiweddglo o bosib i strategaeth "prif ganolfan a lloerennau", sef yr hyn, i ryw raddau, sy'n brif fyrdwn yr adroddiad hwnnw yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Adam Price wedi dod ag egni anhygoel i'r ddadl hon pan wnaeth ef ein herio ni i feddwl yn nhermau amgueddfeydd Guggenheim yn Bilbao neu yn Efrog Newydd—y strwythurau anhygoel hynny. Efallai y gallwn wneud cystal â'r rheini, neu falle ddim, ond dyna ddylai fod yn uchelgais inni yn y lle cyntaf. Yna, fe soniodd am rywle fel Port Talbot. Mae'n ystyriaeth gyfoes ardderchog ac yn adeiladu ar rai traddodiadau diweddar o ran cyflawniad celfyddydol. Efallai nad yn y fan honno y cawn ni'r ateb, ond credaf mai yn y fan honno y dylai'r ystyriaeth fod i ryw raddau.

Fel y dywed yr adroddiad, mae'r materion hyn yn golygu risgiau mawr. Nid oes gennym  hanes diweddar hapus iawn o ran cyfleusterau ar gyfer darpariaeth celfyddyd gyfoes. Nid wyf yn arbennig o awyddus i sôn am fethiannau prosiectau'r gorffennol, ond mae hwn yn faes heriol. Mae hefyd yn guriad calon i waith artistig creadigol ein cenhedlaeth bresennol, felly fe ddylai gael flaenoriaeth uchel iawn, iawn. Yn anad dim, rwy'n credu bod angen inni gael gweld rhywbeth newydd, rhywbeth gweladwy sy'n arwain yn fyd-eang. Os na ddechreuwn ni gyda'r uchelgais hwnnw, nid wyf yn hollol siŵr y gallwn fynd i'r lle yr ydym yn dymuno bod ynddo. Er tegwch, mae'r adroddiad yn defnyddio'r termau hyn, ac rydym yn bendant yn dymuno cael model ffederal, gwasgaredig yn rhan o'r strategaeth. Ond rwy'n credu mai'r adeilad urddasol hwnnw yw'r peth y mae angen inni ei ystyried, a chanolbwyntio ar hynny.

O ran chwaraeon, unwaith eto, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y risgiau, yn enwedig ynglŷn â breuder ariannol. Mae profiad yr Alban yn ddadlennol iawn yn y fan hon, rwy'n credu. Rwyf i'n bersonol o'r farn y dylid edrych ar chwaraeon yn gyffredinol yn hytrach nag ar bêl-droed yn benodol. Rwy'n credu bod pawb yma o'r farn bod angen cael amgueddfa genedlaethol nodedig, neu un arall, wedi ei lleoli yn y gogledd. Ni allaf feddwl am le gwell na Wrecsam ar ei chyfer, felly rwy'n hoffi'r agwedd honno ar yr hyn yr ydym yn ei ystyried. Dyna pam y byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 5 Plaid Cymru. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod angen inni ystyried y mater hwn yn drwyadl iawn, er nad yw chwaraeon yn ei ystyr ddiwylliannol yn cael yr amlygrwydd y dylai. Rwy'n credu ei fod yn ffactor enfawr ym mywyd ein cenedl. Ac er bod pob un ohonom ni'n ei fwynhau o ran yr hyn sy'n digwydd ar unrhyw adeg arbennig, mae ei effaith ar y gymdeithas yn ddwys iawn ac mae angen archwilio hynny, ei ddathlu a'i ystyried yn y ffordd honno hefyd. Felly, mae angen edrych ar y pethau hyn mewn ffordd uchelgeisiol iawn hefyd.

Yn olaf, a gaf i ddweud fy mod yn hoffi syniadau'r paneli ac yn edrych ymlaen at eu gwaith nhw? A dyna'r math o ymgysylltu a ddylai fod gennym ni yn rhan annatod o'n system. Rwy'n credu y byddwn ni'n dod o hyd i gonsensws ar y materion hyn, ond mae angen dadl fywiog i roi cychwyn arni. Diolch.

16:05

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth— Llyr Gruffydd. 

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ôl pwynt 2:

Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mi fyddaf i'n trafod yr elfen amgueddfa bêl-droed yn benodol, ac mi fydd Adam Price yn ymhelaethu ar yr oriel gelf gyfoes. Felly, gwelliant 2 a gwelliant 5 ydy'r rhai rydw i am ganolbwyntio arnyn nhw ac, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus nid yn unig i nodi ond i groesawu argymhelliad canolog yr astudiaeth achos ar yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a hefyd, wrth gwrs, i symud ymlaen i weithredu ar yr argymhellion hynny o greu'r amgueddfa bêl-droed rydym ni i gyd am ei gweld.

Wrth gwrs, mae wedi bod yn uchelgais inni fel plaid i wireddu hyn ac rydym ni'n falch bod yr astudiaeth yn cadarnhau'n huchelgais ni yn y lle cyntaf bod angen amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, ac yn ail, bod yr amgueddfa honno yn cael ei lleoli yn Wrecsam ac felly yn hynny o beth, rydym ni'n croesawu'r astudiaeth fel cam sylweddol ymlaen. 

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn gyfiawnhad o'r ymgyrch a lansiwyd dair blynedd yn ôl, pan drafodais i a chyd-Aelodau Plaid Cymru hyn yn gyhoeddus gyntaf, ochr yn ochr â chyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, pan lansiwyd ein hymgyrch ar y Cae Ras. Bryd hynny, wrth gwrs, roeddem ni'n dadlau y dylid sefydlu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cartref ysbrydol y gêm. Dyna'r lle y dechreuodd pêl-droed yng Nghymru, mewn gwirionedd. Mae'n gartref o hyd i'r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, yn ogystal â'r clwb pêl-droed hynaf yn y byd ond dau. Dyna'r lle, wrth gwrs, y gwnaeth sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyfarfod flynyddoedd lawer iawn yn ôl. Hefyd, nid hanes yn unig, ond dyfodol pêl-droed hefyd, oherwydd mae'r FA, wrth gwrs, wedi buddsoddi yn y dyfodol gyda chanolfan datblygu pêl-droed genedlaethol wedi ei lleoli ym Mharc Colliers yn Wrecsam. Ac roedd Plaid Cymru yn dadlau'r achos o blaid amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2016 ac, wrth gwrs, sicrhawyd bod yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn digwydd yn rhan o gytundeb y gyllideb a wnaethom ni gyda Llywodraeth Cymru. Ond, nid dyma ddiwedd y stori, i'r gwrthwyneb. Mae llawer mwy o waith eto i'w wneud, a hoffwn weld y Llywodraeth nawr yn cyflwyno amserlen i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu'r uchelgais hwn cyn gynted ag y gallwn ni.

Rwy'n anghytuno â chanfyddiadau'r adroddiad mewn ambell fan, neu'r argymhellion, yn gyntaf oll, wrth gwrs, o ran y model llywodraethu. Er mwyn bod yn amgueddfa genedlaethol o'r iawn ryw, credaf ei bod yn briodol i'r amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig hon fod yn rhan o deulu Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn hytrach nag—ac efallai fod hyn yn annheg, yn ddim mwy nag amgueddfa leol, ond â statws llai aruchel yn sicr. Yn ail, fy uchelgais i o hyd yw bod yr amgueddfa yn cael ei hymgorffori o fewn y gwaith o ailddatblygu'r Cae Ras yn y dyfodol. Mae'n drueni mawr y diystyrwyd y posibiliad hwnnw mewn un paragraff yn yr astudiaeth ddichonoldeb. Ond, yn sicr, fel plaid rydym yn awyddus i weld y datblygiad hwn yn digwydd, a byddwn yn parhau i alw am wneud yr amgueddfa yn gatalydd ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw yn y Cae Ras, er efallai fod yr uchelgais hwnnw yn rhywbeth y bydd raid i ni ei ystyried yn yr hirdymor i ryw raddau.

Nawr, mae'r astudiaeth hefyd, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, wedi amlygu nad oes polisi na chanllawiau na strategaeth treftadaeth chwaraeon gennym ni yng Nghymru fel y dylai fod, ac mae'r argymhelliad i greu panel arbenigol i ddatblygu gweledigaeth genedlaethol a fframwaith weithredu oll yn bethau, yn amlwg, i'w croesawu. Mae hi'n bwysig, serch hynny, bod jig-so amgueddfa Cymru yn cael ei gwblhau. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, am bresenoldeb yng Nghaerdydd yn yr amgueddfa genedlaethol ac yn San Ffagan, Big Pit yn y Cymoedd, amgueddfa'r glannau yn Abertawe, gwlân yn y de-orllewin, llechi yn y gogledd-orllewin. Mae yna wagle yn y gogledd-ddwyrain, ac rydw i wedi dadlau mewn cyd-destunau eraill bod angen mwy o sefydliadau cenedlaethol i fod â phresenoldeb yn y gogledd ddwyrain er mwyn ategu hunaniaeth—identity—Cymreig ardal sydd, yn naturiol, yn edrych yn fwy i gyfeiriad Lerpwl a Manceinion nag y byddai hi efallai i Gaerdydd. Mae hwn yn gyfle nid un unig i gyflawni hynny, ond inni ddweud stori pêl-droed Cymru o bersbectif Cymreig, a hynny wedi ei leoli fel rhan o amgueddfa genedlaethol.

16:10

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'n bwnc diddorol, neu'n gyfuniad o bynciau—pwnc chwaraeon a phwnc celf. Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr Gruffydd newydd ei ddweud ar bwnc yr amgueddfa bêl-droed. Cyfeiriodd Llŷr at Wrecsam fel cartref ysbrydol pêl-droed Cymru. Wrth gwrs, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yw fy nghlwb i, ond rwy'n cydnabod yn llwyr mai yng nghornel y gogledd-ddwyrain y dechreuodd pêl-droed cyfundrefnol yng Nghymru mewn gwirionedd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer, bu'r Cae Ras yn llwyfan i lawer neu i ran fwyaf o gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru. Cafwyd cryn anfodlonrwydd yn y 1990au ymhlith pobl y gogledd—roeddwn yn ymwybodol ohono ar y pryd—pan gafwyd mwy o gemau rhyngwladol yn dod lawr i Gaerdydd, bryd hynny yn y stadiwm genedlaethol. Ac yn fy marn i, byddai hyn yn gam da er mwyn cadarnhau pwysigrwydd y gogledd-ddwyrain drwy ei gynnwys mewn strategaeth ar gyfer dathlu diwylliant yng Nghymru, gan gyd-fynd â'r hyn y mae Llŷr newydd ei ddweud. Dyfynnodd ychydig o ffeithiau pwysig am Wrecsam, felly nid wyf am eu hailadrodd nhw, ond soniaf am un neu ddau o bethau eraill.

Roedd clybiau cynnar eraill o bwys ar yr adeg honno yng nghornel y gogledd-ddwyrain. Yn ardal Wrecsam, roedd y Derwyddon o Riwabon, ac roedd Clwb Pêl-droed y Waun hefyd. Roedden nhw'n enillwyr cynnar Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ar wahân i Wrecsam. Cynhyrchodd clwb y Waun Billy Meredith, a oedd fwy na thebyg yn chwaraewr enwocaf yr oes Edwardaidd drwy Ynysoedd Prydain, felly rwy'n credu bod y Waun wedi chwarae rhan fawr hefyd. Byddai hynny hefyd yn cyd-fynd â'r strategaeth o gael yr amgueddfa hon yn Wrecsam. A byddai cyplysu hynny ag ailddatblygu'r stadiwm yn syniad da pe gallem edrych o ddifrif ar hynny. Credaf fod hynny'n deilwng iawn o ystyriaeth drwyadl.

A phwysigrwydd cael amgueddfa dda—hynny yw, mae gennym ni amgueddfeydd. Nid ydyn nhw bob amser o statws aruchel. Rwy'n cofio pan oedd gennym yr amgueddfa chwaraeon genedlaethol, yn Sain Ffagan. Roedd yno rai eitemau a oedd o ddiddordeb, ond nid oedd yr arddangosfa wedi cael ei harddangos yn arbennig o dda, a chredaf fod statws yr amgueddfa, fel y crybwyllodd Llŷr, yn bwysig hefyd; mae angen iddo fod yn gasgliad da.

Rwy'n cytuno â David Melding bod angen inni gael trafodaeth ar yr oriel gelf gyfoes, oherwydd mae'r cynigion ar y pwnc hwnnw ychydig yn fwy amwys. Yn rhyfedd ddigon, soniodd David am Bort Talbot, sydd wedi codi ei ben fel safle arloesol o bosib ar gyfer oriel gelf o'r fath. Wrth gwrs, mae Port Talbot yn enwog yn draddodiadol am ei ddiwydiant yn hytrach nag am ei ddiwylliant. Wrth gwrs, gwyddom bellach fod bywyd diwylliannol yn dechrau ffynnu ym Mhort Talbot, felly byddai'n—[Torri ar draws.] Iawn, wel, nid wyf yn bwriadu bod yn nawddoglyd. Mae gan Bort Talbot ddiwylliant artistig bywiog iawn. Byddai hyn yn ychwanegu at hynny, ac felly credaf fod hynny'n syniad radical a dylem ei ystyried. A diolch yn fawr am yr adroddiad.

Roedd yn bleser darllen yr adroddiad. Roedd rhannau ohono nad oeddwn i'n eu deall; cyfeirio yr wyf i mewn gwirionedd at y rhan sy'n trafod celf gyfoes. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn hyn oherwydd ymddengys i mi fod yna ansicrwydd oddi mewn i'r rhan honno, a'r gwrthdaro, rwy'n tybio, rhwng y syniad o sut yr ydych yn edrych ar y ganolfan ragoriaeth draddodiadol—yr un weledol, yr un a gaiff ei hanelu at dwristiaid, yr un sydd wedi ei hanelu at broffil a phroffil rhyngwladol, ac ati—a'r dewis arall o sut yr ydych yn datblygu'r safleoedd sydd o gwmpas ac yn eu cydlynu yn ddehongliad cyfan o hynny. Ac i ryw raddau, wrth gwrs, ceir problemau gwirioneddol o ran cyfalaf, o ran cyllid ac ati.

Mae gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y dull hwb, ac rwy'n sylwi mai'r hyn a ddywed yr adroddiad—cyfeirir at

Beth fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau, i artistiaid ac i seilwaith y celfyddydau gweledol sy'n bodoli eisoes?

Nawr, os yw hynny'n wir, y rheswm pam mae gennyf i ddiddordeb yn benodol yw bod gennym nifer o ardaloedd sy'n tyfu yng Nghymru lle ceir gwagleoedd gwirioneddol o ran darpariaeth celf. Hynny yw, gadewch inni ystyried Pontypridd—mae'n amlwg y byddwn i'n siarad am fy etholaeth fy hun—ond  ceir rhai eraill, a Phontypridd yn arwain hyd at y Cymoedd yn eu cyfanrwydd. Os edrychwch chi ar y map o'r lleoliadau ar gyfer darparu cyfleusterau, ac ati, mae prinder gwirioneddol ohonyn nhw mewn rhai ardaloedd, ac eto mae llawer o adeiladau sylweddol ar gael, y gellid eu defnyddio pe byddai gennym y dychymyg i wneud hynny. Felly, y mater sy'n peri ychydig bach o bryder i mi yw'r eglurder ynglŷn â phen ein taith a'r gwrthdaro rhwng y gwahanol ddewisiadau sydd dan sylw yma. Bûm yn ymweld â Kiev dros y penwythnos, a cheir yno adeilad mawr a fu gynt yn ystordy arfau, a oedd yn amlwg wedi storio arfau, ac sydd bellach wedi cael ei addasu yn warws enfawr o gelfyddyd gyfoes. Roedd yn ddiddorol tu hwnt fel enghraifft o sut y gallech chi ymdrin ag adeilad diwydiannol mewn gwirionedd. Felly, pan siaradwch am Bort Talbot, ceir llawer o adeiladau diwydiannol mawr ym Mhort Talbot nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Mae'r seilwaith hwnnw gennych chi yno, a'r capasiti mewn gwirionedd i'w leoli yno a chael pobl i ymgysylltu ag ef yno.

Os mai'r bwriad yw gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch ac ymgysylltu o ran cyfleuster ar gyfer cymunedau ac ymgysylltiad cymunedol, yna bydd yn rhaid i'r patrwm fod ychydig yn wahanol. Ac rwyf i o'r farn y dylem deithio i fyny yno ac edrych ar yr ardaloedd hynny lle ceir y gwagleoedd hyn, a byddwn yn teithio o Bontypridd drwy Porth, yr holl ffordd drwy'r Cymoedd, lle ceir rhai adeiladau aruthrol ond dim darpariaeth wirioneddol. Byddai'r ddarpariaeth yn cael ei lleoli o gwmpas y lle i gyd. Felly, Gweinidog, efallai pan fyddwn ni wedi crynhoi'r ddadl hon ac y bydd gennym y cyfeiriadau, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder am gyfeiriad yr ystyriaeth gan y Llywodraeth nawr ynglŷn â'r hyn allai fod yn ddewisiadau gorau a sut y gall y math hwnnw o ymgysylltu ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn werthfawr iawn pan fyddaf yn gweld yr hyn sy'n digwydd o fewn Pontypridd ar hyn o bryd—adfywio gwirioneddol y dref—ond y ffaith yw y ceir diffyg mawr yn y ddarpariaeth o ran y celfyddydau. Ceir rhai ardaloedd a rhai eitemau o ragoriaeth, ac mae'n syndod i mi fod nifer o'r artistiaid sy'n bodoli mewn gwirionedd yn gofyn am gymorth i gael pethau yng Nghaerdydd, gan mai dyna lle mae'r cyfleusterau, ac mae'r cyfleusterau lleol yn brin iawn.

Felly, credaf mai dyna yw'r cyfraniad yr hoffwn i ei wneud yn hynny o beth. Ond yn sicr rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sy'n ddadl bwysig iawn, yn fy nhyb i, ar y bywyd diwylliannol, ansawdd bywyd a lles ein cymunedau, a sut y gall y celfyddydau fod â rhan yn hynny mewn gwirionedd.

16:15

Rwy’n croesawu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r adroddiad yn drylwyr, mae’n onest ac mae’n gosod, a dweud y gwir, y gorolwg gorau sydd wedi bod ers degawdau ynglŷn â’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’n cynnig model creadigol, arloesol i greu canolbwynt a ffocws newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol gyda sefydliad cenedlaethol yn graidd iddo. Mae’n graff, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysfawr, ac mae’n gofyn am ddewrder ynglŷn â’r weledigaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.

Rydym ni'n o'r sefydliadau sydd gan y rhan fwyaf o genhedloedd. Mae'r adeilad y drws nesaf yn enghraifft o hynny, wrth gwrs. Tŷ opera oedd hwn a ddatblygodd wedyn yn ganolfan genedlaethol gymysg ar gyfer perfformiadau—Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r celfyddydau gweledol yn faes lle mae'r diffyg o ran y sefydliadau diwylliannol cenedlaethol hynny'n amlwg iawn. Nid oes gennym oriel genedlaethol o hyd. Nid oes gennym oriel bortreadau genedlaethol, ac nid oes gennym, wrth gwrs, oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes sydd ar raddfa ddigonol i ni allu creu pwynt crisialu ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.

A cheir cyfle yma mewn gwirionedd i ni fanteisio ar ychydig o ysbryd yr oes arwrol honno a welodd saernïo cenedl 100 mlynedd yn ôl—pobl fel Tom Ellis, o'r un enw â'r Gweinidog, a'i debyg, ac ati—a'r weledigaeth o greu llyfrgell genedlaethol ac amgueddfa genedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill. Ac onid oes gwaith eto heb ei orffen yn hyn o beth? Mae'r celfyddydau gweledol bob amser wedi cael eu diystyru i ryw raddau, yn anffodus, yn ein diwylliant ni, sydd wedi rhoi lle blaenllaw i'r gair ysgrifenedig a pherfformiadau byw. Felly, hwn yw'r cyfle i ni unioni cam y ddiystyriaeth honno, oherwydd, wrth gwrs, mae'r celfyddydau gweledol wedi bod yn rhan o'n stori ni; ond heb gael yr un sylw. A chynyddu'r sylw hwnnw yw'r hyn yr ydym ni'n ei drafod.

Rwyf i o'r farn fod yr adroddiad yn cynnig dull synhwyrol a phwyllog mewn tri cham. Yr unig beth y byddwn i'n ei ddweud yw: gadewch inni gwblhau'r camau'n gyfochrog â'i gilydd. Felly, wrth inni gynyddu capasiti, gadewch inni hwyluso'r gwaith o godi cyfalaf i greu'r hwb hefyd. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud, mewn cenedl fel hon, o blaid dull ffederal, dull gwasgaredig, Ond mae angen lloerennau ar brif ganolfan hefyd. Ac o ran y ddaearyddiaeth yn syml, gyda natur celfyddyd gyfoes, mae angen adeilad â nenfydau uchel sy'n ddigon mawr mewn gwirionedd i greu'r math o brofiad y gall pobl ymgolli'n llwyr ynddo fel sydd ar gael yn Turbine Hall yn y Tate Modern neu mewn gwledydd eraill ledled y byd sydd â lleoliad ar raddfa eang i lwyfannu celfyddyd gyfoes.

Felly, ie, ar bob cyfrif, gadewch inni'n wir greu rhwydwaith gyda'n horielau presennol ardderchog, llai o faint sy'n bodoli yng Nghymru, ond mae angen yr hwb canolog hwnnw arnom hefyd fel y gallwn greu'r math o brofiad sy'n bosib o ran y celfyddydau gweledol mewn gwledydd eraill. Ac mae hwn yn gyfle rhagorol i wneud rhywbeth cyffrous a allai fod â phosibiliadau adfywio. Ie, rwy'n credu y byddai Port Talbot yn lle diddorol iawn: y mynyddoedd o'r tu cefn i ni yn cyfarfod y môr; ie, treftadaeth ddiwydiannol Cymru sydd yno; ac, wrth gwrs, fel y gwyddom, mae Port Talbot yn ystod y nos, mewn ambell ffordd, yn waith o gelfyddyd, onid yw? A beth allai fod yn well, ac yn crisialu ein diwylliant yn yr ystyr lawnaf, nag adeiladu canolfan ein horiel celf gyfoes genedlaethol yno? Roedd Fox Talbot yn un o'r arloeswyr ffotograffiaeth, onid oedd ef? Felly, ceir hanesyn am y celfyddydau gweledol yn yr union fan honno.

Gallem ddechrau mewn ffordd greadigol. Nid oes raid i ni mewn gwirionedd godi'r cyfalaf yn syth i hudo pensaer enwog i Gymru. Efallai y gallem wneud rhywbeth i'r gwrthwyneb i'r hyn a ddigwyddodd gyda Zaha Hadid ac, mewn gwirionedd, gyda rhai o'r amgueddfeydd Guggenheim hynny dros y byd, yn Rio, nad ydyn nhw wedi digwydd—efallai y gallem fenthyg rhai o'r cynlluniau ar gyfer y fan honno a'u hadeiladu yma. Ond gallem ddechrau drwy wneud yr hyn a wnaeth Theatr Genedlaethol Cymru mewn ffatri segur gyda 'We're still here', oni allem ni? Gallem ddefnyddio warysau diwydiannol segur fel yr enghraifft gychwynnol o oriel genedlaethol tra byddwn yn codi cyfalaf a momentwm i greu rhywbeth mwy parhaol.

Ceir llawer o risgiau, wrth gwrs, ond mae'r adroddiad yn nodi'r risg mwyaf oll, a ni'r gwleidyddion yw hynny. Maen nhw'n ein herio ni yn yr adroddiad, yr artistiaid. Maen nhw'n dweud, 'Nid oes ganddyn nhw'—maen nhw'n cyfeirio atom ni—'hyder yn artistiaid Cymru.' Mae'r adroddiad yn frith o nifer syfrdanol o adroddiadau dros y blynyddoedd a gafodd eu gadael ar y silff. Gadewch i ni beidio â gwneud y camgymeriad hwnnw eto. Mae cyfle inni symud ymlaen nawr gyda'r busnes anorffenedig o greu llwyfan addas ar gyfer y cynhyrchiad ardderchog o gelf a geir yma yng Nghymru.

16:20

Roedd y penderfyniad i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i greu oriel genedlaethol o gelfyddyd gyfoes ac amgueddfa chwaraeon genedlaethol yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ei groesawu gan fy mod innau'n awyddus i weld Cymru, fy ngwlad i, yn ffynnu o ran y ddawn helaeth sydd gennym yn y celfyddydau ac yn annog pobl o wledydd eraill i gymryd rhan a chystadlu yng Nghymru, ac felly'n ychwanegu at dwf ein heconomi. Ni ddylid anghofio am ardaloedd gwledig Cymru ychwaith, oherwydd maen nhw'n hynod o bwysig ac yn cael eu hesgeuluso'n aml.

Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y darlun ehangach hefyd, sef canfyddiad y cyhoedd. Ar adeg pan mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri hyd at yr asgwrn ac mae'r celfyddydau wedi wynebu blynyddoedd lawer o doriadau, a allwn ni gyfiawnhau gwario miliynau o bunnoedd ar amgueddfa celf gyfoes?

Yfory, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, a Chyfathrebu ar ei ymchwiliad i gyllid nad yw'n gyhoeddus i'r celfyddydau, a ddaeth i fodolaeth oherwydd i Lywodraeth Cymru ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. A daeth y pwyllgor i'r casgliad y byddai'n anodd iawn i sefydliadau'r celfyddydau wneud fel hynny.

Rwyf i'n llwyr gefnogi arian cyhoeddus parhaus ar gyfer y celfyddydau. Mae celfyddyd, pob agwedd arno, yn rhan hanfodol o'n diwylliant. Dyma'r hyn sy'n ein diffinio ni'n fodau dynol ac mae'n dod â budd enfawr i bawb, nid yn unig i'r rhai sy'n ei greu, ond i'r rhai sy'n syllu ac yn dysgu ac yn edrych arno. Ond mae angen inni fod yn realistig ynghylch y cyllid. Efallai y byddai'n well gan y trethdalwr cyffredin weld ei lyfrgell gyhoeddus yn dal i fod ar agor, neu'r ganolfan ddydd leol ar gael i bobl agored i niwed a phobl hŷn, yn hytrach na thalu am amgueddfa newydd fel y Tate Modern. Oes, mae angen amgueddfa celf gyfoes ar Gymru, ond a allwn ni fforddio honno ar hyn o bryd?

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb ar ei phen ei hun wedi costio mwy na'r grant blynyddol a roddir i Dawns i Bawb, Theatr Felinfach, Trac, Arts Alive a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Hyd yn oed heb adeiladu pencadlys newydd, bydd cyfnod 1 a 2 y prosiect hwn yn costio bron traean yn fwy na chyllideb flynyddol gyfan Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly, er fy mod yn cefnogi gweledigaeth arweinydd Plaid Cymru o gael Guggenheim i Gymru, ni allaf gefnogi ailgyfeirio arian cyhoeddus oddi wrth wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu brosiectau celfyddydol eraill. Byddai, fe fyddai menter o'r fath yn amlygu llwyddiannau diwylliannol Cymru, ond ar ba gost?

Sut allwn ni gyflawni hyn? Rwy'n eiddgar i gyflawni hyn oherwydd rwyf yn wirioneddol gredu bod hyn yn bwysig i Gymru, ond ar hyn o bryd mae gennym ni lawer gormod o flaenoriaethau eraill. A ddylem ni fod yn edrych—

16:25

Efallai nad yw hi'n ymwybodol o hyn. Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud eisoes yn sgil Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio edrych ar ddulliau eraill o ariannu yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar bwrs y wlad. Felly, pe bai hynny'n bosibl, a'n bod ni'n gallu mynegi'r uchelgais o leiaf, a fyddai hi'n cefnogi dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflawni'r un nod?

Dyma'r hyn yr oeddwn yn arwain ato, a dyma'r hyn yr wyf yn ceisio ei godi yn fy mhwynt. Rwy'n danbaid dros y celfyddydau, a minnau'n gyn athrawes ddrama ac yn gyn athrawes addysg gorfforol, felly y celfyddydau yw fy mhrif ddiddordeb. Ond o ran edrych ar ffyrdd eraill o godi arian, fel yr ydych chi newydd egluro wrthyf, diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n awyddus i gadw ein gwasanaethau hanfodol, fel y llyfrgelloedd ac ati, ar agor, oherwydd mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac mae hynny'n eu rhyddhau o unigrwydd a theimlo'n ynysig ac yn y blaen. Felly rwy'n edrych ar hyn, Adam, o ran perthnasedd, a'm barn bersonol i yw fy mod yn dymuno gweld hyn yn mynd rhagddo, felly diolch i chi. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Llywydd, ond nid wyf yn ymddiheuro am ddweud na fydd hwn yn ymateb confensiynol sydd yn ateb pwynt wrth bwynt bopeth sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd dechrau’r broses ydy’r drafodaeth yma heddiw, i finnau hefyd, ond rydw i am nodi un neu ddau o bethau, sef, mae David Melding wedi cyfeirio at ymgais i gael consensws; roedd yna sawl peth yn yr hyn ddywedodd Llyr, yn enwedig y berthynas â’r amgueddfa a’r orielau cenedlaethol presennol, yr oeddwn yn cynhesu tuag ato fo; pwyslais Gareth Bennett ar ansawdd casgliadau; ac araith ysbrydoledig Adam. Nid wyf yn ffan o’r Guggenheim, fel mae’n digwydd—yr un ohonyn nhw—oherwydd rydw i’n meddwl eu bod nhw’n tynnu mwy o sylw at yr adeilad a dim digon o sylw at y gelf yn y ffordd maen nhw wedi'u dylunio. Nid ydy hynny’n wir am y gwaith o gelf sydd gennym ni, lle rydym ni'n siarad yma heddiw.

Diolch yn fawr i Mick am ei sylwadau am yr hyn sy'n digwydd yn y Cymoedd, neu’r diffyg presenoldeb yn y Cymoedd. Rydw i’n derbyn ein bod ni mewn peryg o golli cyfle lle nad ydym ni’n cyfuno celf o bob math â pherfformiad a gweithgareddau cymdeithasol efo adfywio cymuned, oherwydd nid oes modd adfywio cymuned os nad yw’r gymuned yn cael ei hadfywio—nid mater o adeiladwaith yn unig. Diolch yn fawr, Caroline, am y dadansoddiad. Rydw i’n meddwl ein bod ni wedi cael pob safbwynt, bron, yn y drafodaeth yma heddiw y gallai rhywun ddisgwyl ei gael—o blaid ac yn erbyn y ffordd rydym ni’n gallu gwario ar gelfyddyd a chwaraeon.

Ond mi wnaf ddau bwynt wrth grynhoi fy sylwadau a chau’r ddadl yma, sef, cyfeirio at welliannau. Mae gwelliant 2 yn croesawu’r argymhelliad i sefydlu’r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, a dyna pam ein bod ni’n hapus â hwnnw. Mae yna oblygiadau, wrth gwrs, i drafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn gwybod a ydy Llyr wedi bod yn siarad â nhw, ond nid wyf i wedi gwneud, yn sicr, ond mae yna gyfle inni wneud ar ôl y drafodaeth yma heddiw. Mae gwelliant 4 yn croesawu’r argymhelliad o weithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol, ond mae’n well gen i’r gair 'hwb' na’r gair 'pencadlys' wrth sôn am gelf. Felly, mae hynny'n rhan o uchelgais y Llywodraeth, yn bendant.

Felly, yr hyn y byddaf i'n ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud. Fe wnawn ni ymateb i'r drafodaeth yn y ffordd ymarferol, oherwydd fy mwriad i ar ôl heddiw ydy dechrau gweithredu, parhau i ymgynghori â'r sector, ond ni fyddaf i'n gwneud penderfyniadau terfynol nes y byddaf i wedi cael sgwrs hir efo'r rhai sydd wedi siarad heddiw, yn arbennig llefaryddion y pleidiau, fel ein bod ni yn chwilio am y consensws, neu am hynny o gytuniad ag sydd yn bosib mewn maes sydd o reidrwydd yn ddadleuol fel hyn. Diolch yn fawr iawn i chi.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol, ac rydw i'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6875 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adolygu a chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a

b) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Tra byddwn ni yn y Siambr hon yn trafod polisïau a deddfu, awdurdodau lleol Cymru, ein cynghorau ar draws y wlad, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sydd mewn gwirionedd yn y rheng flaen yn darparu llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein hetholwyr yn dibynnu i leihau anghydraddoldeb, amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac adeiladu cymdeithas decach a mwy ffyniannus. Mae ein cynghorau yn chwaraewyr mawr yn yr economi leol, sy'n cyflogi 10 y cant o weithlu Cymru, gan gynnwys 26,000 o athrawon. Ac mae ein cynnig heddiw yn cydnabod nid yn unig yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, ond mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwelliannau pellach i setliad niweidiol y flwyddyn nesaf, ac i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu hen ffasiwn y mae'n ei defnyddio i ddosbarthu arian i Lywodraeth Leol.

Ers 2009, mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld toriadau yn eu cyllid o £1 biliwn mewn termau real, sy'n cyfateb i 22 y cant. Ac os ydych yn eithrio arian ar gyfer ysgolion, mae'r cyllid craidd i gynghorau wedi lleihau tua 35 y cant mewn gwirionedd. Nawr, mae hyn ar adeg pan fo llawer o bwysau ariannol ar y cynghorau, gan gynnwys diffygion cyllid pensiwn, dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio. Ar ben y toriadau a orfodwyd ar ein cynghorau, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn torri cyllid i ffrydiau ariannu eraill drwy grantiau a ddarperir ar gyfer cyllid ôl-16, er enghraifft, sydd wedi cael eu torri gan un rhan o bump yn y chwe blynedd diwethaf, er gwaethaf addewidion i ddiogelu gwariant ar addysg, a'r grant gwella addysg, a dorrwyd gan £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nawr, mae'r pwysau hwn wedi golygu goblygiadau enfawr i wasanaethau awdurdod lleol, gan gynnwys llyfrgelloedd, safleoedd sbwriel, canolfannau hamdden, llwybrau bysiau a hyd yn oed amlder casgliadau biniau. Ac, wrth gwrs, mae gostyngiadau yn y gyllideb wedi gorfodi ein cynghorau i roi mwy o faich ar deuluoedd sydd dan bwysau ledled y wlad o ran y trethi a delir ganddynt. Mae'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru wedi treblu—wedi treblu—ers i Lafur Cymru ddod i rym yma yng Nghymru ym 1999. Mae llawer o ffioedd a thaliadau, a godir gan gynghorau, hefyd wedi gorfod mynd i fyny. Hefyd mae rhai newydd wedi ymddangos. Mae llawer o'n hawdurdodau lleol bellach yn codi tâl am elfen gofal plant clybiau brecwast y Llywodraeth sydd i fod am ddim, tra codir ffi am gasglu gwastraff gardd hefyd mewn llawer o ardaloedd. Ychydig ddyddiau yn ôl, tyrchwyd rhai o'r ffigurau ynghylch taliadau parcio awdurdod lleol: gwerth £10 miliwn ohonynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. A phwy all amau nad yw hynny'n cyfrannu at y bwlch cyllido a amlygwyd o ganlyniad i setliadau gwael iawn a gafwyd gan lawer o'n hawdurdodau lleol? Ac, wrth gwrs, mae ffioedd fel y rheini yn atal pobl rhag siopa ar y stryd fawr. Nawr, rwy'n cydnabod bod cynghorau'n gorfod gwneud rhai dewisiadau anodd, ond maent yn gorfod gwneud y dewisiadau anodd hyn oherwydd y pwysau yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu rhoi arnynt.

Ac, wrth gwrs, nid dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth Cymru o niwed posibl ei phenderfyniadau cyllido. Roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, yn glir iawn yn ei datganiad fis diwethaf bod Llywodraeth Cymru yn gwario gormod o'i chyllideb yn trin salwch, a dim digon o'i chyllideb ar wasanaethau ataliol a ddarperir gan gynghorau, sy'n helpu i gadw pobl yn iach ac i gynnal eu hannibyniaeth. Ysgrifennodd pob un o'r 22 arweinydd cyngor at y Prif Weinidog—oherwydd y sefyllfa o ran y gyllideb ddrafft—ychydig wythnosau yn ôl, yn rhybuddio y byddai'r setliad drafft a ddosbarthwyd ar y pryd ar gyfer 2019-20 yn arwain at, a dyfynnaf, doriadau enfawr mewn gwasanaeth a  chodiadau sylweddol yn y dreth gyngor a fyddai, ac rwy'n dyfynnu, yn niweidiol i'n cymunedau. Mae hyd yn oed Gweinidog Llywodraeth Cymru wedi protestio ynghylch toriadau cyllid Llywodraeth Cymru i gynghorau gan gyd-lofnodi llythyr gyda gwleidyddion Llafur eraill, gan gynnwys aelodau o'r Cynulliad hwn, yn galw am adolygiad o'r ffordd yr ariennir cynghorau. Felly, rwy'n obeithiol iawn o'i chefnogaeth yn y cynnig hwn heddiw.

Nawr, rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod Gweinidogion olynol Llywodraeth Cymru wedi methu â gweld eu perthynas â Llywodraeth Leol fel partneriaeth. Yn hytrach, maent wedi cymryd dull ymosodol iawn, gan gyfeirio'n benodol at ad-drefnu. Yn wir, mae rhai pobl wedi awgrymu ledled Cymru bod dal cyllid ar gyfer cynghorau lleol yn ôl yn ymgais fwriadol gan Lywodraeth Cymru i danseilio cyllid awdurdodau lleol, gan eu gwneud yn anghynaladwy, i roi gorfodi uno cynghorau yn ôl ar yr agenda yma yng Nghymru. Wrth gwrs, datgelodd yr Ysgrifennydd Cabinet presennol ei ddirmyg tuag at awdurdodau lleol yng Nghymru drwy amryfusedd pan gymharodd arweinwyr cynghorau ychydig wythnosau yn ôl, pan oeddent yn gofyn am fwy o arian ar gyfer Llywodraeth Leol, ag Oliver Twist newynog yn gofyn am fwy. Nid oedd yn syndod clywed corws o feirniadaeth, a galwadau am ymddiswyddiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl y sylwadau hynny, oherwydd, wrth gwrs, cafodd ei gymharu'n gwbl briodol â Mr Bumble, bedel creulon y tloty Dickensaidd. Nawr, y diffyg parch hwn, fe gredaf i, sy'n bygwth cyflawni gwasanaethau awdurdod lleol drwy'r cytundeb sydd gan Lywodraeth Cymru â llywodraeth leol. Credaf y byddai dyletswydd arnoch heddiw, yn eich ymateb i'r ddadl hon a'r cynnig, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymddiheuro am y sylwadau a wnaethoch am awdurdodau lleol yn gofyn am adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau.

Roedd setliad drafft y flwyddyn hon yn dystiolaeth bellach fod cynghorau yn cael eu tanariannu, a bod y fformiwla ariannu yn hen ac yn anaddas i'r diben bellach. Mae'r achos o blaid diwygio'r fformiwla gyllido wedi dod yn fwyfwy grymus yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r fformiwla gyllido bresennol wedi bod yno ers 17 mlynedd. Mae'n seiliedig ar nifer o wahanol elfennau a dangosyddion, gan gynnwys faint o dreth gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y gall pob awdurdod lleol ei chodi, a data poblogaeth sy'n seiliedig ar gyfrifiad 1991—1991, a hynny er bod gennym wybodaeth cyfrifiad sy'n hollol gyfredol, ac amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n llawer mwy diweddar. Dan y fformiwla gyllido, mae'r bwlch rhwng yr awdurdodau lleol a ariennir orau a gwaethaf yn ehangu bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd saif ar £600 y pen. Mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd o dangyllido ar gyfer awdurdodau lleol gwledig gan mwyaf lle, oherwydd daearyddiaeth, mae darparu gwasanaethau yn aml yn llawer drutach. Mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwbl briodol wedi ymosod ar danariannu ysgolion mewn awdurdodau a ariennir yn wael, ac rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y bydd eraill yn y Siambr hon yn credu—bod pob plentyn yn y wlad hon yn haeddu'r cyfle i gyflawni eu llawn botensial. Ond sut mae'n deg os oes gennym loteri cod post o ran gwariant ar ysgolion, oherwydd y trefniadau ar gyfer dosbarthu arian gan y Llywodraeth hon? Does dim maes chwarae gwastad ar gyfer plant yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, galwodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, y mae eu trigolion yn wynebu cynnydd poenus o 12.5 y cant o gynnydd yn eu treth gyngor eleni, am i'r fformiwla gyllido gael ei hadolygu.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi addasu rhywfaint o ymylon y fformiwla gyllido— ychwanegu ychydig o gyllido teneurwydd poblogaeth, gwneud trefniadau, rhoi arian gwaelodol ar waith—y gwir amdani yw nad yw hyn yn datrys y broblem mewn ffordd eang. Dyna pam mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi disgrifio'r fformiwla gyllido fel, a dyfynnaf, rhywbeth sy'n cael ei dal at ei gilydd gan dâp cryf a phlaster glynu. Felly, mae nifer cynyddol o gynghorau wedi pasio cynigion ledled Cymru eleni, yn galw am arian gwell a fformiwla gyllido newydd. Mae gan lawer o'r cynghorau hynny gynrychiolwyr Llafur sydd wedi cefnogi'r galwadau hynny a chefnogi'r pleidleisiau hynny. Felly, rydym yn gwybod bod yr hyder yn y fformiwla yn isel iawn. Mae wedi arwain at gryn amrywiaeth yn y lefel o gronfeydd wrth gefn a ddelir gan awdurdodau lleol Cymru hefyd. Felly, gwyddom, er enghraifft, fod Cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i ariannu'n dda, ac sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn eistedd yn braf ar werth £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn, bron wyth gwaith y lefel o gronfeydd wrth gefn yn Sir Fynwy sy'n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr, bron saith gwaith lefel y cronfeydd wrth gefn yng Nghonwy—[Torri ar draws.] Byddaf yn falch o dderbyn ymyriad.

16:40

Nid wyf yn herio'r ffigurau hynny, oherwydd, yn amlwg, cawsant eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond a ydych hefyd yn cydnabod, o'r rhai yr ydych chi newydd sôn amdanynt ar gyfer Rhondda Cynon Taf, fod cyfran fwy eisoes wedi'i dyrannu ac felly nid yw ar gael i'w defnyddio?

Mae honno'n ffordd hawdd gan gyfrifydd o allu neilltuo arian parod a'i dynnu allan o'r hyn a ystyriant yn briodol ac i ddiogelu a chyfiawnhau'r hyn a gredaf sy'n lefelau afresymol o wariant.

Gadewch imi ddyfynnu rhai ffigurau eraill i chi hefyd. Mae Llafur mewn awdurdodau lleol a arweinir gan Lafur yn eistedd ar 57 y cant o'r £1.4 biliwn a ddelir mewn cronfeydd wrth gefn ar draws Cymru. Mae deg awdurdod lleol wedi cynyddu eu cronfeydd wrth gefn ers 2016, er gwaethaf cyni, ac mae hyn yn golygu bod y cynnydd yn Nhorfaen, er enghraifft, wedi mynd o 2 y cant i 21 y cant o'u harian mewn cronfeydd wrth gefn. Credaf fod hyn yn hollol hurt, ac yn sicr nid yw'n deg.

Nid yw'n  deg chwaith i awdurdodau lleol yn y gogledd, sydd wedi gweld eu setliadau yn waeth na'r rhai yn y de yn gyson. Felly, mae gennym ardaloedd gwledig wedi'u gosod yn erbyn ardaloedd trefol, mae gennym ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn yn erbyn y rheini â phoblogaethau iau, ac mae gennym y gogledd a'r de wedi'u gosod yn erbyn ei gilydd o ganlyniad i'r fformiwla gyllido ofnadwy hon, sydd wedi hen chwythu ei phlwc.

Felly, mae gennym y pwysau hyn, ac mae'n rhaid inni ymdrin â nhw, a dyna pam rydym yn galw am adolygiad annibynnol—nid gwas bach y Llywodraeth sy'n cael ei benodi i wneud adolygiad, nid adolygiad mewnol o fewn Llywodraeth Cymru o'r fformiwla gyllido hon, ond adolygiad annibynnol gan rywun sydd â chymwysterau addas i edrych ar yr holl elfennau gwahanol hyn yn y fformiwla gyllido ac i feddwl am rywbeth sy'n decach i ddinasyddion Cymru, ni waeth lle y gallent fod yn byw.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, os yw'n gwrando, i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth ar ôl 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU.

Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru.

Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Alun Davies 16:42:30
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Yn cynnig yn ffurfiol.

Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2:

Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2019/20.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gynnig y gwelliannau yn y ddadl hon, gan adlewyrchu'r pwysau ariannol ar awdurdodau lleol—wel, nid yn unig yn fy rhanbarth i, ond ledled Cymru. Yn amlwg, rwyf wedi bod yn cael llythyrau oddi wrth bobl mewn awdurdodau lleol yr wyf yn ymwneud â nhw, felly rwy'n hapus i ymateb ac i ddadlau'r achos dros gyllid llywodraeth leol.

Yn amlwg, nid wyf yn mynd i ailadrodd y ddadl eto am Oliver Twist a chwarae ar eiriau Dickensaidd gwahanol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch o gael nodi, ond rwy'n canolbwyntio fy nghyfraniad ar bwynt ehangach gwariant awdurdod lleol a'i gyfraniad at holl agenda'r Llywodraeth yma yng Nghymru, ar draws y portffolio.

Ar un adeg, treuliais lawer o flynyddoedd yn gynghorydd sir yn Abertawe. Rwy'n deall y pwysau ar lefel cynghorydd—yn amlwg, nid fi yw unig gyn gynghorydd sir Abertawe yma. Ond hefyd ar un adeg, roeddwn yn feddyg teulu llawn-amser. Rwy'n parhau i fod yn feddyg teulu y dyddiau hyn, er, yn amlwg, wedi aberthu fy ngyrfa feddygol ar allor gwleidyddiaeth. Nid oes gennyf bellach fuddiant ariannol mewn unrhyw beth o ran bod yn feddyg teulu ac, yn wir, nid wyf mwyach yn cymryd cyflog am fy ngwaith parhaus fel meddyg teulu. Ond hyd yn oed yn ôl yn yr adeg pan oeddwn yn feddyg teulu llawn-amser, roeddwn yn bryderus am les fy nghleifion a pham eu bod yn mynd yn sâl bob amser. Rydym bob amser yn cael ein hannog gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i fynd ar drywydd y rheswm pam mae pobl yn mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Felly, fe'm cymhellwyd i ysgrifennu at gyfarwyddwr tai lleol ac egluro oni fyddai'n syniad da mynd i'r afael â thai gwael yn Abertawe i atal fy nghleifion rhag mynd yn sâl. A'r hyn a ddarganfûm fel meddyg teulu oedd y byddwn yn ysgrifennu llythyrau, a wyddoch chi beth, ni fyddai dim yn digwydd. Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth yn dod o fod wedi cael y llythyrau ac yn sicr dim ateb. Felly, sefais yn y pen draw fel ymgeisydd i'r cyngor. Dyna beth mae rhywun yn ei wneud, ynte? Sefais fel ymgeisydd i'r cyngor ac, yn y pen draw, enillais sedd yn ward y Cocyd. Ac yna byddwn yn ysgrifennu llythyrau at y cyfarwyddwr tai fel cynghorydd—yn dal fel meddyg teulu, ond fel cynghorydd gyda disgwyliad o ateb a rhaglen weithredu, a fyddai'n dilyn, bellach yn gynghorydd, ddim byd i'w wneud â bod yn feddyg teulu.

Ond roeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir oherwydd daeth yn amlwg, hyd yn oed i ni yn y gwasanaeth iechyd, fod y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd da mewn gwirionedd yn gorwedd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd a'r hyn y gallem ei wneud fel meddygon a nyrsys; mae'n gorwedd mewn llywodraeth leol. Dyna pam yr oeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir lleol, oherwydd mae iechyd yr amgylchedd o fewn llywodraeth leol, mae tai o fewn llywodraeth leol, trafnidiaeth gyhoeddus, cynllunio, addysg, gwasanaethau cymdeithasol—mae nhw i gyd yn gorwedd o fewn llywodraeth leol. Felly, mae gan lywodraeth leol ran enfawr i'w chwarae i fynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwael hynny, y materion hynny sy'n gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf. Rydym fel pwyllgor iechyd bellach yn gwneud adolygiad o weithgarwch corfforol, swyddogaethau canolfannau hamdden, meysydd chwarae ysgolion, ysgolion, addysgu—hollbwysig yn hynny o beth o ran addysg. Swyddogaeth llyfrgelloedd, yn amlwg, cyfleusterau dysgu, dysgu gydol oes—o'r pwys mwyaf ar gyfer aros yn iach. Mae gwaith traws-bortffolio yma. Ac ydynt, mae pobl eisiau gweld mwy o wariant ar iechyd, ond credaf, yn ehangach, byddwn yn gwarantu y byddai pobl am weld mwy o wariant ar atal iechyd gwael. Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, nid wyf wedi fy nhrwytho mewn gallu hybu iechyd, ac mae'r gwariant  pwrpasol o fewn y gwasanaeth iechyd ar gyfer atal salwch yn druenus o isel. Rydym yn dibynnu ar atal salwch yn digwydd mewn mannau eraill, a'r mannau eraill hynny yw mewn llywodraeth leol, mynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwael hynny sydd ar y tu allan i'r GIG, ond y tu mewn i lywodraeth leol.

Felly, byddwn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o'r pwyntiau hynny—i gael y drafodaeth draws-bortffolio honno ynghylch sut y gall gwariant llywodraeth leol mewn gwirionedd helpu i leihau'r gwariant ar iechyd ac i'r gwrthwyneb. Ac, o ran iechyd, i orffen, hoffwn weld llwybrau agored ac am ddim ar gyfer llywodraeth agored i dderbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol iechyd yn uniongyrchol.  Nid dros y blynyddoedd yn unig y cafodd fy llythyrau tai eu gwrthod, ond nawr, os wyf yn barnu y byddai fy nghleifion yn elwa o atgyfeirio addysg, ni allaf atgyfeirio at addysg nac i'r gwasanaethau cymdeithasol—ni allaf atgyfeirio'n uniongyrchol i'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n sefyllfa chwerthinllyd, a chredaf y byddai llawer o'r galw am Ddeddf awtistiaeth yn cael ei ddileu gyda chydweithio gwirioneddol. Pe byddech yn caniatáu i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol allu atgyfeirio'n uniongyrchol at adrannau llywodraeth leol, byddai pethau'n gwella sylweddol. Byddwn yn erfyn, wrth orffen, ar i Ysgrifennydd y Cabinet ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i'r perwyl hwn. Diolch yn fawr.

16:45

Wrth gwrs, rhannaf yr un rhanbarth â Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru. Mae'n gartref i dri awdurdod lleol. Maen nhw i gyd yn cael eu rhedeg gan Lafur, o gryn dipyn. Beth? Dim 'ie wir'? Roeddwn i'n rhyw ddisgwyl i rywun ddweud 'woohoo' ar y pwynt hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi bod am flynyddoedd lawer, ar wahân i un neu ddau arbrawf byrhoedlog gan yr etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ddadlau nad yw Gorllewin De Cymru, o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, wedi gwneud cynddrwg yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau o wahanol rannau o Gymru, yn enwedig yng nghefn gwlad a'r gogledd, yn dadlau hynny hefyd. Yn bwysicach i'm hetholwyr, serch hynny, bydd y tri chyngor Llafur hyn yn dweud, ar ôl wyth mlynedd o doriadau mewn termau real gan Lywodraeth Cymru, y setliad eleni yw'r diwedd iddyn nhw hefyd.

Felly, byddaf yn dechrau gyda Phen-y-bont ar Ogwr. Roedd eu harweinydd yn rhybuddio, yn ôl yn yr haf, am doriadau nid yn unig i lyfrgelloedd a phyllau nofio ond i gymorthdaliadau bysiau a darpariaeth feithrin. Felly, rydym ar fin cyflwyno gofal plant am ddim i rai tair a pedair oed drwy ddeddfwriaeth ar adeg pan mae'n bosib y torrir ar ddarpariaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Ers hynny, mae arweinydd y cyngor wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod ysgolion, ac wrth gwrs rydym eisoes yn gwybod am y gwahaniaeth fesul pen y caiff plant mewn ysgolion yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr. Mae ef hefyd wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol, gan nodi, pan fydd Llywodraeth y DU yn rhoi £950 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth ei blaid, bydd cyngor ei blaid ef yn cael cyfran.

Mae rhan fawr o'r arian ychwanegol, wrth gwrs, wedi mynd at y gyllideb iechyd genedlaethol—yn amlwg, mae Dai wedi cyfeirio at hyn—ond pan ddaw'n fater o gronni cyllidebau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn achos Pen-y-bont, y cyngor sy'n cyfrannu 72 y cant o'r gyllideb honno, a'r gwasanaeth iechyd fydd mewn gwirionedd yn cael yr hwb  o gyllideb eleni. Mae hynny, yn wir, yn swnio'n anghywir i mi. Ar yr un pryd, mae'r un arweinydd cyngor yn mynd i orfod dod o hyd i £4 miliwn ar gyfer cyflogau athrawon— nid pensiynau, cyflogau. Er gwaethaf sicrwydd gan yr Ysgrifennydd addysg y bydd pob un geiniog a gaiff Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflogau athrawon yn mynd at y diben hwnnw, mae'r arweinydd yn honni nad yw ond yn cael ffracsiwn o'r hyn y byddai'n ei gael i dalu am y gost.

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn Abertawe, lle mae'r cyngor yn chwarae rhan bwysig yn rhanbarth dinas Bae Abertawe, mae'r arweinydd hefyd wedi cyfeirio at gyflogau athrawon, gan ddweud nad yw ond wedi cael £606,000 o'r £7 miliwn sydd ei angen arno drwy Lywodraeth Cymru. Ac, fel y cyhoeddodd hefyd na ellir diogelu unrhyw wasanaethau, dywedodd yn swta, a dyfynnaf:

Weithiau mae'n teimlo nad oes gennym Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol. Dylai ostwng ei ben mewn cywilydd.

Ac, mewn ymateb i'r sen Oliver Twist nid anenwog, roedd yr arweinydd cyngor Llafur hwn yn barod i gwrdd â Mr Bumble gyda, dyfynnaf, 'y ffiol gardod fwyaf ', oherwydd fe'u gyrrwyd i hynny: cardota.

Cyhoeddodd Castell-nedd Port Talbot eu bod—dyfyniad eto—

yn mynd yn agos iawn at fethu â rhedeg  gwasanaethau yn ddiogel.

Ac nid dim ond siarad am y grant cynnal refeniw y maen nhw. Bydd mil o blant Sipsiwn a Theithwyr sy'n agored i niwed yn ardal y fwrdeistref sirol yn colli eu cymorth wrth i'r grant gael ei dorri o £250,000 i £85,000—a dim ond £85 y plentyn yw hynny. Ac mae hynny er gwaethaf y Gweinidog cyllid yn dweud y byddai miliynau ar gael i blant Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddatganiad yn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol i'r grant cynnal refeniw yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cyllid ar gyfer cynhwysiant, iechyd ac addysg. Ac, wrth i Gastell-nedd Port Talbot golli allan, uno llechwraidd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth Sipsiwn a Theithwyr i ddim ond pedwar cyngor i weithredu'n rhanbarthol—wel, mae amheuaeth gref na fydd y llwybr hwn o ariannu ei hun yn cael ei gynnal.

Yn y pen draw, Castell-nedd Port Talbot sy'n ei dweud fel y mae, ac rwy'n dyfynnu eto:

Ni all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i Lywodraeth Leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i bob etholwr.

Ac mae cynghorau Llafur hyd yn oed wedi cael llond bol ar y byji'n taro'r un hen gloch, yn enwedig pan ydym yn cael 20 y cant yn fwy y pen yng Nghymru nag yn Lloegr o ran cyllid. Ac, er bod yn rhaid i rai cynghorau esbonio pam nad ydynt yn defnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny y gellir eu defnyddio, ac eraill yn gorfod esbonio sut mae rheoli gwael wedi arwain at ostyngiad mewn incwm a enillir, maen nhw, fel y dywed arweinydd Llafur Ogwr, wedi cyrraedd diwedd y ffordd.

Mae pump o'r saith Aelod Cynulliad etholaeth o orllewin De Cymru yn aelodau o Lywodraeth Cymru a bydd fy etholwyr eisiau cael esboniad ganddynt. [Torri ar draws.] Rydych chi wedi eich arbed. A fyddant yn dweud yn gyhoeddus bod y cynghorau hyn, yn ôl pob tebyg, yn cael eu diogelu rhag y gwaethaf o'r toriadau oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan gynrychiolaeth Lafur—y neges wleidyddol y bydd eu cefnogwyr eisiau ei chlywed? Neu a fyddant yn honni, wrth gwrs, nad oes unrhyw amddiffyniad pleidiol o'r fath— mae'r cyfan yn seiliedig ar angen? Os felly, a allant esbonio pam mae'r angen yn parhau mor uchel yn ardaloedd eu cynghorau eu hunain pan fyddant wedi bod mewn Llywodraeth ers dwy flynedd? Neu a fydd yn rhaid iddynt gyfaddef, er eu bod yn ffurfio dros draean o'r Llywodraeth, nad ydynt wedi cael unrhyw drosoledd i wella'r setliad llywodraeth leol hwn yn ystyrlon?

Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cael gwared ar y tâp cryf a'r plaster glynu dros yr hen fformiwla hon sydd wedi gweld dyddiau gwell, fel y mae CLlLC. Ond rwy'n dweud wrth fy nghyd-Aelodau Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru —. Nid wyf yn siarad â chi, Ysgrifennydd y Cabinet; ond gyda fy nghyd-Aelodau yng Ngorllewin De Cymru. Nid yw'n ymwneud â chynghorau ar flaen y ciw ar gyfer symiau canlyniadol munud olaf y DU—mae'n ymwneud â chi ar flaen y ciw i ddiwygio'r fformiwla gyllido o fewn Llywodraeth. Diolch.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Wel, a gaf i ddweud, ar nodyn cadarnhaol, rwyf yn falch iawn o glywed pobl newydd yn cymryd diddordeb mewn llywodraeth leol ac yn cefnogi llywodraeth leol o feinciau'r wrthblaid? Rwyf wedi arfer â Siân Gwenllian a David Lloyd yn cefnogi llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf—felly, rwy'n falch o weld pobl eraill yn ymuno.

A gawn ni edrych—? [Torri ar draws.] A gawn ni edrych—? A gaf i atgoffa pobl nad oedd mor bell â hynny yn ôl pan oedd y Ceidwadwyr am dorri cyllid Llywodraeth leol? Ac maen nhw'n dal— [Torri ar draws.] Ac maen nhw'n dal heb benderfynu o ble'r ydym yn mynd i gymryd yr arian. Os ydych yn edrych ar y fformiwla, a yw'r fformiwla'n berffaith? Na. Ond pam ddaeth hi i mewn? Daeth i mewn er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn cael eu hariannu'n ddigonol drwy ein grant cynnal trethi. Ond roedd hynny cyn y cymerwyd safle'r ardrethi busnes, ac yna cawsant eu dileu o lywodraeth leol.

Mae'r hyn sydd angen i'r cyngor ei wario yn cael ei gyfrifo mewn asesiad o wariant safonol. Ac mae'n rhyfeddol, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y tabl cynghrair o asesiadau gwariant safonol ar gyfer addysg a gwariant ar gyfer addysg, pa mor agos y maent i'w gilydd. Yr hyn sy'n achosi i'r swm fynd i fyny ac i lawr yn bennaf yw newid yn y boblogaeth. Dyna'r prif sbardun—

Mae'n cyfeirio at newid yn y boblogaeth, ond mae bron 30 mlynedd, yn sicr, bellach ers y cymerwyd y cyfrifiad. Mae rhwng traean a hanner y bobl a gafodd eu mesur bellach wedi marw, yn ôl pob tebyg. A yw hynny'n sail briodol ar gyfer mesur poblogaeth, neu a yw oherwydd mai'r cynghorau Llafur sydd â'r poblogaethau sy'n gostwng?

Wel (1) nid yw hynny'n wir, ac roeddwn yn sôn am newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Roedd ardrethi busnes wedi'u canoli ac yn cael eu casglu'n lleol ac yna eu hailddosbarthu gyda'r grant cynnal ardrethi yn rhan o gyllid allanol crynswth. Nawr, sut caiff yr arian ei ddosbarthu? Mae Blaenau Gwent yn cael £1,587 a Sir Fynwy yn cael £995. Ydy hynny'n deg? Wel, mae 8.8 y cant o eiddo Blaenau Gwent ym mand D; mae 65.8 y cant o eiddo Sir Fynwy ym mand D. Felly, mae cynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor ym Mlaenau Gwent a chynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor yn Sir Fynwy yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Y cyfartaledd yw £1,344 y pen. I hanner y cynghorau byddai'n fwy; i hanner, byddai'n llai.

Rwy'n mynd i ddarllen y cynghorau allan yn eu trefn, er mwyn rhoi hyn ar gofnod. Y cyntaf yw Blaenau Gwent, yn ail yw Merthyr, y trydydd yw Rhondda Cynon Taf, y pedwerydd yw Castell-nedd Port Talbot, y pumed yw Sir Ddinbych, y chweched yw Caerffili, mae Tor-faen yn seithfed, Casnewydd yn wythfed, Gwynedd yn nawfed, Sir Gaerfyrddin yn ddegfed, Ynys Môn yw'r unarddegfed, y deuddegfed yw Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion yw'r trydydd ar ddeg, Powys yw'r pedwerydd ar ddeg, Conwy yn bymthegfed, Sir Benfro yn unfed ar bymtheg, Abertawe yn ail ar bymtheg, Wrecsam yn ddeunawfed, Sir y Fflint yn bedwaredd ar bymtheg, Caerdydd yn ugeinfed, Bro Morgannwg yn unfed ar hugain a Sir Fynwy yn ail ar hugain.

Clywn yn gyson alwadau am i'r fformiwla dyrannu arian gael ei newid. Gan fy mod yn cynrychioli Abertawe, sydd yn yr ail safle ar bymtheg, gallwn i ddweud sut y byddai o fudd i ni, ond, pe byddech yn rhoi swm penodol i bawb, byddai'r 12 uchaf, o ran faint y maen nhw'n ei gael, yn y pen draw yn cael llai, a byddai'r 11 ar y gwaelod yn cael mwy, oni bai bod swm ychwanegol o arian yno. Roeddwn yn aelod o'r is-grŵp dosbarthu flynyddoedd lawer yn ôl, pan wnaeth fân newid i'r fformiwla priffyrdd. Roedd yn 52 y cant y boblogaeth, 48 y cant hyd ffyrdd; aeth i 50 y cant ar gyfer pob un. Yr hyn ddigwyddodd yn y fan honno oedd y bu enillwyr a chollwyr. Enillodd Powys a Gwynedd, collodd Caerdydd a Chasnewydd.

Am bob un sy'n dweud y dylid rhoi mwy o sylw i deneurwydd poblogaeth a gwledigrwydd, mae rhywun sy'n dweud bod angen inni roi mwy o ystyriaeth i dlodi ac amddifadedd. Bydd cynghorau fel Sir Benfro yn dweud, gyda rhywfaint o gyfiawnhad, fod eu poblogaeth yn cynyddu'n aruthrol yn ystod misoedd yr haf, a thrwy hynny eu costau. Bydd cynghorau fel Caerdydd yn dweud bod ganddyn nhw ddigwyddiadau mawr a mewnlifiad dyddiol o bobl, a bod hynny'n cynyddu eu costau. Mae pawb yn dweud bod angen rhagor o gyllid arnynt.

Ac yn fy marn i, mewn gwirionedd, gallech chi newid y fformiwla—. Mae pawb yn credu: byddwch chi'n newid y fformiwla a bydd pawb ar eu hennill. Mae hynny'n amhosibl yn ariannol ac yn anwybodus yn rhifyddol. Os oes gennych chi yr un swm o arian i'w ddosbarthu rhwng 22 o gynghorau, bydd gennych chi enillydd a chollwr bob tro. Mae Llywodraeth leol wedi derbyn cynnydd ers y cyhoeddwyd y cyllid cychwynnol. Dylai Cymru fod â £800 miliwn ychwanegol, yn seiliedig ar wariant 2008, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ffigur nad yw neb eto wedi anghytuno ag ef. Rydym ni'n cael cam gan San Steffan. Mae rhai pobl yn dweud—[Torri ar draws.] Mae rhai pobl yn dweud—

16:55

Rydych chi wedi clywed dro ar ôl tro, am bob £1 a werir, yn y diwedd rydym yn cael £1.20 yma yng Nghymru. Sut mae hynny'n ein twyllo?

Oherwydd nad ydym yn cael yr arian y dylem fod yn ei gael pe byddem wedi codi o ran—[Torri ar draws.] Pe byddem wedi codi o ran ble'r oeddem 10 mlynedd yn ôl.

Wrth gwrs, mae rhai yn dweud y bydd uno cynghorau yn datrys rhan o'r broblem. Ar gyfer hynny, mae gennyf ddau air—Betsi Cadwaladr—neu dri gair—Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol gan, er enghraifft, drafnidiaeth a datblygu economaidd. Pan mae angen mwy o arian ar lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau presennol, nid yw'n helpu pan ddarperir arian wedi'i neilltuo ar gyfer rhywbeth newydd. Bydd yn rhaid talu cost pensiynau athrawon. Nid yw cynghorau yn dweud wrth ysgolion, 'Rhaid ichi ei dalu o effeithlonrwydd'; maent yn edrych i geisio dod o hyd i'r arian ar eu cyfer.

Yn olaf, nid yw'n ddigon da gosod gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn ei gilydd neu ofyn am fwy o arian ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus—un yr wythnos. Y swm o arian a gawn ni yw'r grant bloc—ac roeddent yn arfer dweud ei fod yn grant bloc, nes i rai pobl fy meirniadu i, ond dyna'r swm o arian sydd gennym ni i'w ddefnyddio. A gaf i ofyn, wrth i'r Ceidwadwyr grynhoi, a allant esbonio o ble y daw'r arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol? Ac, os ydynt yn ei dynnu allan o iechyd, sut yn union?

Diolch am y cyfle i ymateb ac i wneud sylw neu ddau ynglŷn â gwelliannau Plaid Cymru. Rwy'n cytuno â chynnwys y cynnig, heb os, a chryfhau ydy ein bwriad ni efo'n gwelliannau ni heddiw yma. O ran gwelliant y Llywodraeth, rydym ni'n mynd i glywed gan y Gweinidog, heb os, am effaith polisïau llymder y Llywodraeth Geidwadol rŵan, a chyn hynny y Llywodraeth Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, ac, wrth gwrs, rydw i'n cytuno'n llwyr. Allaf i ddim faddau y torri mileinig sydd wedi bod ac sydd wedi gwasgu gymaint ar wasanaethau cyhoeddus ers ddim yn bell o ddegawd erbyn hyn. Ideoleg sydd wedi gyrru hyn, rydym ni'n gwybod, ac fel y byddwn ni'n trafod mewn dadl arall yn nes ymlaen y prynhawn yma, y tlotaf sy'n dioddef. Ond, trafod yn fan hyn rydym ni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei wneud efo'r gyllideb sydd ganddi hi. Ydy, mae'r gyllideb wedi cael ei gwasgu dros y blynyddoedd ond, eleni, yn erbyn cefnlen o gynnydd bach yn y cyfanswm arian sydd ar gael ar gyfer 2019-20, mae llywodraeth leol yn amlwg yn parhau i fod yn flaenoriaeth isel iawn i'r Llywodraeth Lafur yma. Yr wythnos ddiwethaf, wrth gwrs, mi gawsom ni gyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd cyllid fod yna rywfaint yn rhagor o arian yn mynd i gael ei ddyrannu i gynghorau Cymru o'i gymharu â'r gyllideb ddrafft, a heb os mae pob un geiniog yn help, ond mae'n rhaid gofyn pam ei bod hi wedi cymryd consequentials o'r gyllideb Brydeinig i Lywodraeth Cymru roi briwsion i'r cynghorau yma.

Mae'r ffigurau gennym ni, wrth gwrs. Mi wnaeth cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddangos cynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gwariant refeniw ar gyfer 2019-20, ond wrth i'r arian yna gynyddu—nid o lawer, ond mae o'n gynnydd—beth welsom ni ond toriad o 1.9 y cant yng nghyllideb llywodraeth leol? Dewis gwleidyddol, felly, oedd y penderfyniad i dorri, nid rhywbeth lle nad oedd dewis ond gwneud hynny. Llymder Llafur ydy hyn. 

Ni all llywodraeth leol Cymru ond gweld hwn fel cyni'r Blaid Lafur yma yn Llywodraeth Cymru, yn dwysau degawd bron o doriadau cyni Torïaidd dwfn ac, i mi, anfaddeuol. Mae torri gwariant gan bron 2 y cant pan fo cyllid refeniw cyffredinol i fyny dros 2.4 y cant—neu 2.4 y cant—yn ymwneud â llywodraeth leol ddim yn cael  y flaenoriaeth yr ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn ddweud y mae'n ei haeddu. Nawr, fe wnaeth symiau canlyniadol cyllideb y DU lacio'r gafael cryf ar gynghorau Cymru, ond rwy'n cwestiynu pam y dewisodd Llywodraeth Cymru roi'r cynghorau yn y gafael cryf iawn hwnnw yn y lle cyntaf.

Beth ydym ni'n ei weld mewn mannau eraill yn y gyllideb hon? Rydym yn gweld cynnydd sylweddol unwaith eto yn y gwariant ar iechyd. Nawr, nid wyf yn mynd i ddadlau yn erbyn rhoi arian i iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n rhaid inni weld darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cylch. Mae llywodraeth leol yn rhan bwysig o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod y cynghorau'n cael eu hamddifadu o arian, mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd, a bydd y pwysau wedyn ar ofal iechyd eilaidd drud yn codi a chodi, maen nhw'n gorwario, mae arian ychwanegol yn cael ei gyfeirio atyn nhw mewn cyllideb ar ôl cyllideb. Mae'n sefyllfa ddieflig. A ydym yn gweld yma y Llywodraeth yn ymateb i alwad gyhoeddus am fwy o arian ar gyfer iechyd? O bosib, efallai fod hynny'n wir, ond mae angen inni weld buddsoddi yn y pethau hynny sy'n helpu i ddarparu gofal iechyd, nid dim ond y GIG. Ac mae hynny nid yn unig yn golygu ariannu ysbytai, mae'n golygu ariannu cynghorau fel y gallant ddarparu gofal cymdeithasol cadarn, fel y gallant ddarparu gwasanaethau hamdden cryf fel y cedwir pobl yn iach, er mwyn i addysg gael y buddsoddiad sydd ei angen arno, oherwydd addysg yn amlwg yw'r llwybr ar gyfer gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr offer i'w harfogi i wneud y penderfyniadau iawn.

17:00

Diolch. Felly a fyddech wedyn yn dweud y byddech yn dymuno torri'r £30 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal cymdeithasol neu'r £20 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal iechyd meddwl? Ble fyddech chi'n rhoi'r toriadau hynny os nad ydych yn dymuno, fel y dywedasoch, torri'r gyllideb iechyd yn awr?

Mae yna grantiau penodol, ac yn sicr, croesawaf unrhyw arian ychwanegol sy'n canfod ei ffordd i mewn i gyllidebau llywodraeth leol. Ond oni fyddwn ni'n edrych ar gyllideb llywodraeth leol yn gyffredinol ac yn rhoi iddynt y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar wariant, ni fyddant yn gallu wynebu'r wasgfa gyffredinol arnynt, a bydd hynny yn y pen draw yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl, ac ar ofal.

Felly, gadewch imi orffen. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Gwn fod cronfeydd wrth gefn yn rhedeg allan yn gyflym iawn yn ardal fy nghyngor i. Mae angen strategaeth arnynt nawr i adeiladu eu cronfeydd wrth gefn, ac ni allant weld y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, pan maen nhw'n poeni y bydd pethau'n hyd yn oed yn waeth nag ydynt nawr. Nid yw'n gynaliadwy, ac nid wyf yn barod i roi'r gorau i alw ar y Llywodraeth hon i chwilio am yr arian ychwanegol sydd ei angen ar lywodraeth leol. Efallai y bydd rhai cynghorau wedi cael eu darbwyllo i beidio â gwneud mwy o sŵn ynghylch hyn ar hyn o bryd, er mwyn cymryd y pwysau oddi ar y Gweinidog hwn a'i Lywodraeth, ond nid wyf i'n barod i ildio eto.

17:05

Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannu. Ers 2009, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn termau real o 22 y cant i'w cyllidebau—£1 biliwn o doriadau cyllid oherwydd polisi Llywodraeth Cymru. Dan y cynigion ariannu drafft gwreiddiol, byddai 15 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn y cyllid. Afraid dweud, derbyniwyd y cynigion â chryn siom gan arweinwyr llywodraeth leol Cymru, siom a wnaeth droi'n ddicter yn gyflym pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol eu cymharu ag Oliver Twist, bob amser yn gofyn am fwy.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe y dylai'r Prif Weinidog

ymbellhau oddi wrth sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ac ystyried a yw'n briodol iddo aros yn y cabinet yn ei sefyllfa bresennol... Nid ymddiheuraf am ofyn am fwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i arbed y gwasanaethau hynny a ddarperir gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, llyfrgellwyr a gweithwyr gofal sy'n gweithio'n galed iawn i ddiogelu cymunedau yng Nghymru.

Yn gyntaf, yr adlach hwn—gwnaeth y Llywodraeth hon, sydd fel Scrooge, dro pedol llawn cywilydd. Diolch i arian ychwanegol y bydd Cymru yn ei dderbyn oherwydd cyllideb y Canghellor yn yr Hydref, canfuwyd bod mwy o arian ar gael i gynghorau Cymru. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd y trefniadau newydd yn cael eu hystyried, erys y ffaith fod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn cyllid, yr wythfed flwyddyn yn olynol o doriadau i gyllidebau cynghorau mewn termau real.

Mae'r cynghorau hefyd wedi wynebu problemau a achosir gan fformiwla ariannu nad yw'n addas i'r diben. Yn gyntaf, y corws o anfodlonrwydd ynghylch y trefniadau ariannu presennol—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod mewn modd dirmygus ymgysylltu â'r sector. Tynnodd setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2019-20 sylw at raniad clir rhwng cynghorau yn y gogledd ac yn y de. Mae pob un o'r chwe chyngor yn—[Torri ar draws.] Ie, ewch ymlaen, Mike.

Y cyllid allanol agregedig chweched uchaf yw sir Ddinbych.

Iawn, diolch yn fawr am yr ystadegyn, ond credaf y gwyddoch yn well na—. Mae eich Llywodraeth wedi torri'r cyllid ar gyfer y cynghorau mwyaf ffyniannus yng Nghymru. Byddai pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd wedi gweld toriad o hanner 1 y cant o leiaf yn eu cyllideb. Byddai tri wedi derbyn toriad cyllideb o 1 y cant eisoes.

Unwaith eto, bydd cynghorau gwledig yn dioddef o'u cymharu ag awdurdodau trefol dan arweiniad Llafur. Mae'r fformiwla gymhleth ac annheg hon wedi arwain at sefyllfa lle mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu storio cronfeydd wrth gefn na ellir eu defnyddio o £152 miliwn. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol. Eto, mae cynghorau Sir Fynwy a Phowys wedi gorfod cyflwyno toriadau i'r gyllideb i fantoli eu llyfrau.

Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gyson wedi methu â chydnabod y problemau penodol a wynebir gan awdurdodau cynghorau gwledig yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ceir costau uwch wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, a bydd gweithredoedd y Llywodraeth hon yn anochel yn arwain at doriadau i wasanaethau a chodiadau yn y dreth gyngor. Ym 1997, y dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru oedd £490. Bellach mae bron yn £1,492, cynnydd anhygoel o dros 200 y cant. Mae hynny i gyd yn ystod y Llywodraeth Lafur. Mae codiadau uchel iawn yn y dreth gyngor wedi cael effaith ddinistriol ar aelwydydd Cymru. Mae Cyngor ar Bopeth wedi labelu'r dreth gyngor fel y broblem dreth fwyaf yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol wedi ceisio sicrhau bod cymaint o arian â phosib yn cael ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen drwy dorri gwastraff a biwrocratiaeth ddiangen. Ond bydd fformiwla ariannu annheg y Blaid Lafur yn golygu y bydd pobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn wynebu toriadau niweidiol mewn gwasanaethau cyhoeddus a biliau treth gyngor cynyddol. Mae angen adolygiad strategol o'r fformiwla gyllido i sicrhau setliad tecach. Mae angen fformiwla gyllido sy'n ystyried anghenion cefn gwlad Cymru ac sy'n sicrhau na chaiff cynghorau gwledig eu cosbi mwyach. Galwaf ar y Cynulliad i gefnogi ein cynnig a sicrhau mwy o degwch i awdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch i chi.

17:10

Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny.

Rwyf i yn un, wedi blino clywed am gyni, felly hefyd pobl Islwyn sy'n dioddef oherwydd yr ideoleg wleidyddol, greulon hon—ideoleg sydd wedi methu â lleihau diffyg y DU—

Nid wyf i wedi gorffen eto, diolch. Fe wnaf yn nes ymlaen—[Chwerthin.]—ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu diffyg y DU—[Torri ar draws.] Fe wnaf hyn yn nes ymlaen, iawn.

Rydym ni wedi bod yn dioddef nawr am naw mlynedd hir, ac nid yw'n beth i chwerthin yn ei gylch i bobl yn fy etholaeth i, sy'n dioddef canlyniadau cyni a diwygio lles. Mae hyn ar wahân—[Torri ar draws.] Mae hyn ar wahân i feirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar dreth ystafell wely yn achosi digartrefedd a beirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar gredyd cynhwysol a diwygio lles. Mae'n hollol gysylltiedig, ac yn achosi tlodi ac achosi niwed gwirioneddol i'n pobl. Ac er bod Llywodraeth Dorïaidd y DU nawr wedi mynd i'r arfer o ddatgan bob hyn a hyn bod cyni wedi dod i ben, wel, mewn gwirionedd, mae'r dioddef yn parhau, wrth i'r hunanladdiadau a'r marwolaethau nawr gael eu priodoli'n uniongyrchol i gyff gwawd yr asesiad budd-dal anabledd a thaliad annibyniaeth personol. Ac fe wn i, fel cyn-gynghorydd, yn uniongyrchol, pa mor werthfawr a pha mor bwysig yw llywodraeth leol fel cangen gyflenwi democratiaeth Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar y rheng flaen, a'r bobl sy'n agored i niwed fydd y rhai a fydd yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau llywodraeth leol ar gyfer y gwasanaeth rheng flaen cyntaf.

Ond mae'n ffaith ddiamod bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni ac yn wyneb toriad—

Gadewch imi orffen—ac yn wyneb toriad o £850 miliwn i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010. Mae hynny'n ffaith.

Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ymyriad. Cytunaf yn llwyr â chi, fel y dywedais i yn fy sylwadau yn gynharach am effeithiau dinistriol cyni Torïaidd, ond onid y realiti y tro hwn yw bod gennym ni gynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gyffredinol ynghyd â gostyngiad o 2 y cant yng nghyllidebau llywodraeth leol?

Diolch ichi am hynna. Rwy'n credu na ellir gwahanu oddi wrth y ffaith, ers 2010, y bu toriad o £850 miliwn i Gymru. Mae hyn yn strategol, mae hyn yn hirdymor, ac rydym ni'n gwybod bod mwy i ddod oni bai y bydd etholiad cyffredinol, a cheir ffaith eithaf syml yn y fan yma: Os yw eich côt yn rhy dynn, byddwch yn gwlychu.

Fe wnes i gyfarfod ag aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Wel, gadewch imi egluro fy sylw: Os nad oes gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn, ni fyddwch yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae eich pobl eu hangen. Galwais ar arweinydd y cyngor i ddod i'r Cynulliad, oherwydd fy mod i'n bryderus iawn ynghylch statws llywodraeth leol fel y cyfryw ar draws y DU, i drafod gyda mi heb flewyn ar dafod yr heriau sy'n wynebu cynghorau a'r defnydd doeth o gronfeydd wrth gefn, ond y ffaith yw bod cynghorau yn ofnus pan eu bod yn edrych ar draws y dŵr at Loegr. Dywedodd y South Wales Argus ar 12 Tachwedd, bod toriadau o £89 miliwn wedi'u gwneud gan yr awdurdod ers 2008. Bydd angen dod o hyd i £60 miliwn arall dros y pum mlynedd nesaf. Ac fe wn i na siaradodd unrhyw wleidydd Llafur â mi ynghylch dod i mewn i fywyd cyhoeddus i gwtogi gwasanaethau cyhoeddus. Dyma anadl einioes y gymuned. Ni ddywedodd unrhyw wleidydd Llafur yr wyf i yn ei adnabod wrthyf mai dyna pam y daeth i mewn i lywodraeth leol.

Mae'n ffaith bod llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau sydd er lles uniongyrchol ac yn effeithio ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Llywodraeth leol sy'n talu am seibiant, gofal, cerddoriaeth, chwaraeon a gwasanaethau cymorth anstatudol ar gyfer ein pobl, ac rwy'n cymeradwyo agwedd benderfynol cynghorwyr Llafur Cymru a'n dinasyddion, sy'n parhau i godi llais ynghylch yr angen i ymladd yn ôl yn erbyn cyni Ceidwadol.

Diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a'n hawdurdodau lleol yng Nghymru ni fydd yn rhaid iddyn nhw reoli toriadau o fwy na 0.5 y cant. Ac mae hyn yn gwbl groes—[Torri ar draws.]—os dymunaf i barhau, ac rwyf i'n dymuno os caf—. Mae hyn yn gwbl groes i'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae cyllidebau cynghorau wedi eu chwalu'n llwyr. Ac fe fyddwn i'n cymryd mwy o sylw o'r blaid gyferbyn pe na bydden nhw, lle maen nhw mewn Llywodraeth, wedi cael y cyff gwawd o doriadau i lywodraeth leol a gafodd Lloegr. Mae ymchwil gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi canfod y bydd llywodraeth leol gwirionedd—erbyn 2025. Nid yw'n iawn fod y Ceidwadwyr gyferbyn yn galw am fwy o arian ac ar yr un pryd yn torri, dros amser, yn strategol, cyllideb Cymru. Mae'n annidwyll ar y mwyaf ac yn ffars.

Mae toriadau'r Torïaid mewn llywodraeth leol yn Lloegr yn annheg iawn. Fe daron nhw rai o'r cynghorau mwyaf anghenus yn galetach na neb. Mae'r 10 uchaf—[Torri ar draws.] Gadewch imi orffen. Mae'r 10 uchaf o gynghorau mwyaf difreintiedig Lloegr yn wynebu toriadau sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda naw yn sicr o wynebu toriadau dros dair gwaith yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Felly, ble mae'r tosturi Ceidwadol yn y fan yna tuag at y bobl dlotaf yn ein cymdeithas, lle'r ydych chi'n llywodraethu?

Gwn fod pobl Cymru yn cael eu trin yn well gan gynghorau Llafur Cymru, a reolir gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac yn olaf, awgrymaf Dirprwy Lywydd, bod y Torïaid gyferbyn yn ysgwyd y goeden arian hud y daethon nhw o hyd iddi ar gyfer Gogledd Iwerddon—yr £1 biliwn a roesoch chi iddyn nhw—a'i roi yn ôl i Gymru. Diolch.

17:15

Hoffwn i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chefnogi cynnig Ceidwadwyr Cymru, yn arbennig ein cynnig yn galw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru sydd mor hen ffasiwn ac sydd wirioneddol angen ei diwygio.

Pan ddechreuais i feddwl am fy nghyfraniad heddiw, roeddwn i'n meddwl, 'Wel, fe chwythaf i'r llwch oddi ar fy araith y llynedd, y flwyddyn cyn hynny, neu'r flwyddyn cyn hynny hyd yn oed; yr un y mae Mike Hedges yn ymyrryd arni hi bob blwyddyn.' Felly, dyna dystiolaeth, rwy'n credu, Mike, ein bod ni'n siarad am hyn ar yr ochr hon bob blwyddyn oherwydd eich bod chi'n ymyrryd bob blwyddyn. Ond, eleni, yr oeddwn i'n meddwl, yn hytrach na gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu tuag at yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, fe ofynnaf i chi gyfrannu at yr hyn y mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn ei ddweud. Ysgrifennodd hi at holl Aelodau'r Cynulliad sy'n cael eu cynrychioli yn ardal Cyngor Sir Powys, ac roeddwn yn meddwl, yn fy nghyfraniad i, y byddwn yn ailadrodd i chi yr hyn a ddywedodd hi, felly gallwch ei hateb hi'n uniongyrchol. Mae ei llythyr yn nodi'r bwlch cyllid o £14 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer Cyngor Sir Powys, ac £20 miliwn arall dros y tair blynedd dilynol, ac mae hi'n sôn nad yw'r gostyngiadau yn y gyllideb yn ystyried y gost o ddarparu gwasanaethau ar draws rhannau helaeth o'r siroedd gwledig megis Powys. Aiff ymlaen i ddweud bod 

Powys wedi bod yn y sefyllfa annichonadwy o gael y setliad cyllideb gwaethaf, neu'r setliad gwaethaf ar y cyd mewn naw allan o ddeng mlynedd.

I roi hyn mewn cyd-destun, yn y 10 mlynedd diwethaf rhwng 2010 a 2020, byddai tua £100 miliwn wedi bod ar gael yn ein cyllideb, ac mae hyn ar adeg pan fo awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn gweld cynnydd yn eu setliadau. Dyma'r enghraifft yr oedd Darren Millar yn sôn amdani yn ei sylwadau agoriadol am y rhaniad rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru. [Torri ar draws.] Ie, Mike, fel bob tro.

Fel bob amser—os oedd rhaid i Russell George fy herio i. Ym Mhowys mae cymorth y pen yn y pedwerydd safle ar ddeg uchaf yng Nghymru a'i phroblem yw colli poblogaeth.

Wel, onid yw hi'n ddiddorol bod Llywodraeth y DU, yn ei grant bloc, yn rhoi £1.20 i bob person yng Nghymru am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr? A pham? Oherwydd bod mwy o angen yma yng Nghymru. Ond nid yw'r angen hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol o safbwynt Cymru wledig a'r anghenion ledled Cymru.

A bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ymateb i hynny yn ei sylwadau terfynol.

Hefyd, mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn sôn am yr arbedion effeithlonrwydd sydd eisoes wedi'u gwneud mewn rheoli a swyddfeydd cefn. Yr hyn a ddywed hi mewn llythyr ataf i ac at Aelodau Cynulliad eraill yn ein hardal ni yw

nad yw'r dull hwn yn gynaliadwy mwyach gan fod y toriadau yn rhy ddwfn.

Rhy ddwfn. Toriadau llym. Mae hi'n sôn am gyllidebau ysgol; colli swyddi—wrth gwrs, yr awdurdod lleol yw'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal; gostyngiadau mewn gwasanaeth; priffyrdd; cynnal a chadw; cyflwyno neu gynyddu taliadau i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus, megis mynwentydd, gwastraff gardd, meysydd parcio ac ati.

Felly, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Yn anffodus, bu tuedd tuag at ganoli cyllid drwy gyflwyno grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn hytrach na grymuso'r cynghorau hynny, cynghorau tref, cynghorau cymuned, cynghorau sir ledled Cymru, i wneud penderfyniadau ariannol yn lleol yn eu hardaloedd eu hunain—penderfyniadau sy'n addas ar gyfer eu cymunedau eu hunain. Felly, gadewch i ni weld ymagwedd fwy hyblyg a gadewch i ni weld cynnydd yn y grant cynnal refeniw yn hytrach na grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, ac yna caniatáu i awdurdodau lleol i ddiogelu mwy o'r gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw.

Fe ddof â'm cyfraniad i ben drwy ddarllen y paragraff olaf ond un oddi wrth arweinydd Cyngor Sir Powys ataf i ac aelodau eraill y Cynulliad:

Nid yw'n rhy hwyr i wyrdroi'r sefyllfa. Mae cyllideb y Canghellor wedi darparu cymorth ychwanegol ar gyfer bloc Cymru, a dylai llywodraeth leol fod y cyntaf yn y ciw i gael adnoddau ychwanegol. Powys yw'r awdurdod sydd wedi dioddef yn fwy na'r rhan fwyaf; dylai fod ar flaen y ciw hwnnw.

Wel, rwy'n cytuno ag arweinydd Cyngor Sir Powys, a gadewch inni gytuno i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, a gadewch i ni weld system deg sy'n gweithio ar gyfer pob rhan o Gymru.

17:20

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Alun Davies.

Member
Alun Davies 17:21:05
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bu'n ddadl ddyrchafol arall ar natur cyni yn y fan yma. Rwy'n credu nad yw'n glod i'r lle hwn nac i wleidyddiaeth, pan fo Aelodau Ceidwadol yn codi a difrïo polisïau ac effaith polisïau Llywodraeth y maen nhw'n honni eu bod yn ei chefnogi yn y Deyrnas Unedig tra eu bod, ar yr un pryd, yn golchi eu dwylo o'r holl gyfrifoldeb am effeithiau'r polisïau hynny. Ond gadewch i mi ddweud un peth, wrth imi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma. Gadewch imi ddweud hyn; beth bynnag a wnawn ni i'r fformiwla neu gyda'r fformiwla o ran ei symud hi ymlaen, ei datblygu, ni fyddaf i byth, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn gwyro'r fformiwla i gefnogi cynghorau Llafur neu gynghorau yn fy rhanbarth arbennig i.

Fe glywsom ni yn ystod yr awr ddiwethaf, Ceidwadwr ar ôl Ceidwadwr yn codi ac yn dweud wrthym ni, yn y bôn, y dylai'r fformiwla gael ei gwyro. Maen nhw wedi gosod cymuned yn erbyn cymuned yn y wlad hon y prynhawn yma ym mhob un o'u sgyrsiau. Nid wyf i am wneud hyn. Ond fe ddywedaf i wrthych chi beth yr wyf i'n mynd i'w wneud, gadewch imi ddweud wrthych chi beth yr wyf i'n mynd i'w wneud. Pan fyddaf yn cael llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi'i lofnodi gan bob un o'r pedwar arweinydd gwleidyddol, yn dweud wrthyf eu bod yn gofyn am adolygiad o'r fformiwla honno, fe fyddaf yn caniatáu hynny. Ni fyddaf yn ei rwystro. Gadewch imi ddweud hyn; cyflwynwyd y fformiwla am y tro cyntaf, wrth gwrs, gan un o'm rhagflaenwyr, Aelod dros Flaenau Gwent, ond nid wyf i'n teimlo fy mod yn berchen arni mewn unrhyw ffordd, rwy'n teimlo ei bod yn fformiwla i'w rhannu rhyngom ni a llywodraeth leol. Felly, gadewch inni glywed y llais hwnnw, gadewch inni glywed beth sydd gan arweinwyr y cynghorau hynny i'w ddweud. Gadewch inni glywed eu llais, ac os byddan nhw'n gofyn am yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna fe fyddwn o du ei ganiatáu. Ond, bydd yn canolbwyntio ar anghenion pobl ac nid diwallu anghenion pleidiau gwleidyddol. Felly, ni fydd yn adolygiad Torïaidd; fe fydd yn adolygiad dan arweiniad y lle hwn, yn annibynnol ar bleidiau gwleidyddol, ac yn annibynnol ar y dichell gwleidyddol a glywsom ni y tu ôl imi.

Onid y pwynt pwysig heddiw ydy nid y fformiwla—ac rydym yn mynd lawr rhyw gors yn trafod y fformiwla gyllidol—onid y pwynt pwysig fan hyn ydy bod yna gynnydd wedi bod yn y gyllideb eleni a oedd yn rhoi cyfle euraidd i’r Llywodraeth yma ddechrau symud y pwyslais tuag at wasanaethau ataliol ym myd llywodraeth leol? Rydych chi wedi colli’r cyfle honno.

Roeddwn i'n ymateb i un rhan o'r ddadl: Fe fyddaf yn dod at rannau eraill o'r ddadl maes o law. Fy rhagdybiaeth oedd eich bod eisiau ymyrryd ar yr agweddau yn ymwneud â fformiwla o hyn. Ond fe fyddwn yn cyfeirio at rannau eraill o hyn.

Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i ei wneud, yw cael ychydig mwy o—sut gallaf i fynegi hyn—ddadl ddyrchafedig ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu llywodraeth leol a'r heriau sy'n ein hwynebu. Gadewch imi ddweud hyn; dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld effaith sylweddol o ganlyniad i gyni. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 8 y cant, mewn termau real yn y gyllideb sydd ar gael i'r Llywodraeth hon ers 2009 a 2010. Rydym ni wedi gweld effaith polisi economaidd a pholisi ariannol wedi methu o Lundain. Mae wedi methu â chyflawni pob un o'i amcanion. Un o'r amcanion hynny—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad arall ar hyn o bryd. Mae wedi methu â chyflawni unrhyw un o'i hamcanion, a dyna pam, rwy'n amau, y taflodd y Canghellor presennol y cyfan i'r bin.

Gadewch imi ddweud hyn: Mae'r Ceidwadwyr yn dweud wrthym ni y bydden nhw'n gwneud pethau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw'n iawn, fe fydden nhw. Fe fydden nhw—fe fydden nhw— oherwydd, yn Lloegr, maen nhw'n lleihau cyllid craidd y Llywodraeth, nid gan 10 y cant nac 20 y cant, ond i sero. I sero. Fe'i gostyngwyd i ddim byd o gwbl. Ond nid ydych chi'n clywed hynny gan y lleisiau hyn yma, na'i glywed gan gynghorwyr Ceidwadol ychwaith. Rwyf i wedi gweld yr un llythyrau a welwyd gan eraill yn y fan yma, ond rwy'n dal i ddisgwyl gweld llythyr gan arweinydd y Ceidwadwyr mewn unrhyw le yng Nghymru—ac fe dderbyniaf yr ymyriad os oes gan rywun un—lle y maen nhw'n dweud, eu bod nhw eisiau'r un polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn Lloegr yn cael eu dilyn yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Nid wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, ac rwy'n sylwi bod yr ymyriadau y tu ôl imi wedi tewi.

Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Maen nhw'n dawel nawr. Maen nhw'n dawel nawr, oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Maen nhw'n cydnabod bod 24 y cant o doriad mewn gwariant ar gyfer cynghorau yn Lloegr yn cymharu â 12 y cant yng Nghymru—nid 35 y cant, Darren. Fe gawsoch eich rhifau'n anghywir unwaith eto; mae angen ymchwilydd newydd arnoch chi ac mae angen ysgrifennwr areithiau newydd arnoch chi hefyd. Felly, gadewch imi ddweud hyn wrthych chi. Nid oes unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu unrhyw beth tebyg i'r un gostyngiadau mewn gwariant ag y mae cyngor cyfartalog yn Lloegr—dim un, dim un o gwbl.

Ond gadewch i mi fynd ymhellach na hynny, a dyma'r ddadl wirioneddol y mae'n rhaid inni ei chael y prynhawn yma, a daeth Rhun ap Iorwerth yn agos iawn at ddweud y pethau hyn. Gadewch imi ddweud hyn: Y peth hawddaf yn y byd yw ailadrodd ac ymarfer dadleuon—rydym ni wedi clywed o leiaf un Aelod yn dweud ei fod wedi traddodi'r un araith dair gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf—ond nid yw hynny'n ymateb digonol. Mae'n ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn. Fe wyddom ni fod Canghellor yn dweud mewn araith bod cyni ar ben, yn dibynnu ar sefyllfaoedd gwahanol, yn arwain at ostyngiadau sylweddol yng ngrant bloc Cymru hyd at 2021-22, naill ai gan -3 y cant, -0.5 neu-0.8 y cant. Felly, byddwn ni'n dal yn gweld gostyngiadau. Ac fe wyddom ni—a dyma'r her, Rhun—nid yw'n ddigon da i gynnig sylwebaeth a chynnig dadansoddiad o'r gwahanol feysydd o ariannu, oherwydd ni fyddai neb yn anghytuno â chi, ond mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau. Nid ydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i roi sylwebaeth. Rydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i wneud penderfyniadau, ac os ydych chi'n cwestiynu faint o arian a werir ar iechyd, yr ymagwedd onest yw nid ei feirniadu, ond dadlau o blaid ei dorri. Dadlau o blaid ei dorri.

17:25

Rwy'n credu mai'r pwynt a wnes i ynghylch hynny, ac fe'i gwnaf ef eto, oedd bod y rhain yn benderfyniadau, ydynt, y gallwn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun heddiw, ond y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun blynyddoedd. Rydym ni wedi bod yn siarad am amser maith am yr angen i feddwl yn drawsffurfiol ynghylch sut yr ydym ni'n gwario arian ar iechyd a gofal cymdeithasol—nid yw wedi digwydd. Bellach, o ganlyniad i'r adolygiad seneddol, efallai y byddwn ni'n gweld rhywfaint o newid, ond mae hyn yn fethiant ar ran bron i 20 mlynedd o Lywodraeth a arweinir gan Lafur.

Byddwn i'n awgrymu, mewn nifer o ffyrdd, ei fod yn fethiant ar ran y dosbarth gwleidyddol yn hytrach nag unrhyw blaid wleidyddol benodol, oherwydd gadewch imi ddweud hyn; oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Gwelodd pob un ohonom ni, ac rwy’n siŵr y darllenodd sawl un ohonom ni adroddiad y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cenedlaethol ddoe, a oedd yn trafod effaith Brexit. Gallem ni weld economi'r DU yn gostwng gan rhwng 2.8 y cant a 5.5 y cant. Fe wyddom ni y bydd hynny'n arwain at ostyngiad sylweddol yn y trethi a gesglir; fe wyddom ni y bydd yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni; ac fe wyddom ni os ydym o ddifrif ynglŷn â'r math o gynnydd mewn gwariant sy'n cael ei drafod y prynhawn yma, y byddai'n rhaid inni gynyddu cyfraddau treth incwm Cymru gan 5, 6 neu 7 y cant er mwyn gwneud iawn am y gostyngiadau hynny, ac a ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny? A ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny?

Yr hyn yr wyf am ei ddweud, ac rwyf yn dweud hyn wrth Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma, yw nad yw dadl ddi-fudd ynghylch sut yr ydym ni'n dyrannu arian yn ymateb digonol i'r heriau a wynebir gan lywodraeth leol na gan feysydd eraill o wariant o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ofyn cwestiynau llawer mwy anodd a llawer mwy llym, oherwydd yn y dyfodol bydd gennym ni ostyngiadau sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni, ac mae hynny'n golygu gofyn cwestiynau anodd am strwythurau llywodraethu. Mae'n golygu gofyn cwestiynau anodd ynghylch sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau. Mae'n golygu gofyn cwestiynau treiddgar iawn i ni'n hunain ac i'n cyd-Aelodau ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo i greu strwythurau darparu gwasanaethau ac atebolrwydd a llywodraethu lleol a all gyflawni a diogelu'r gwasanaethau hynny, nid yn unig yn yr oes o gyni ond yr oes o gyni a daniwyd gan Brexit. Drwy gerdded i ffwrdd o'r ddadl honno, rydym ni'n cerdded i ffwrdd oddi wrth y cyfrifoldeb y mae ein swyddi yn ei osod arnom. Rwy'n gwybod fy mod i'n trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—Fe orffennaf i gyda'r pwynt hwn: Nid oes angen unrhyw ddarlith arnaf o gwbl gan blaid Geidwadol Cymru a'u dagrau ffug ynghylch y toriadau i gyllid cyhoeddus a'u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus. Nid oes ar neb angen y dagrau ffug hynny. Nid oes ar neb eisiau'r dagrau ffug hynny. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni eisiau—a'r hyn y byddaf yn ei harwain, a'r hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei harwain—yw dadl ynghylch sut yr ydym yn darparu ac yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo'r bobl y tu ôl i mi, sy'n hapus i weiddi, yn cynnig mwy o'r un peth a dim syniadau newydd. Fe fyddwn ni'n arwain newid yn Llafur Cymru, a byddwn yn arwain newid teg i bawb ym mhob rhan o'r wlad hon.

17:30

Mae'n rhaid i'r Aelodau sylweddoli pan fyddwch chi i gyd yn dechrau gweiddi, y byddaf yn caniatáu i'r Gweinidog barhau. Felly, os ydych yn teimlo eich bod—[Torri ar draws.] Felly, os ydych yn teimlo—gan fy mod wedi clywed llawer iawn o sylwadau eisteddog, fe fydd yn rhaid ichi eistedd a gwrando, oherwydd byddaf yn caniatáu i Weinidogion—a dim ond Gweinidogion, rwy'n ychwanegu'n gyflym iawn—i barhau. Felly, dyna ni. Meddyliwch am hynny ar gyfer y ddadl nesaf. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark, mae gennych chi bedwar munud.

Diolch. Diolch i bawb a gyfrannodd. Fel yr amlygodd Darren Millar, roedd llythyr gan arweinwyr llywodraeth leol, a lofnodwyd ganddyn nhw i gyd, yn rhybuddio y byddai toriadau i wasanaethau ataliol yn ddarbodaeth ffug. Fel y dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor, cafwyd cyhoeddiad bod £30 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond mae hynny yn llinell gyllideb y GIG. Pam na wnewch chi'r £30 miliwn hynny'n gronfa gwariant ataliol?

Gan grynhoi'r materion ehangach—. Fel y dywedodd Darren, ceir amheuon bod Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio tactegau llechwraidd i orfodi cynghorau i uno ac, fel y dywedodd, ni yw'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol Llywodraeth Cymru sy'n 17 oed, yn addas i'r diben mwyach. Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, roedd Dr Dai Lloyd yn tynnu sylw at yr angen i weld mwy o arian yn cael ei wario ar atal salwch mewn llywodraeth leol, a'r angen i ganiatáu i feddygon teulu atgyfeirio i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd Suzy Davies fod awdurdodau lleol yn agos at beidio â gallu cynnal gwasanaethau yn ddiogel ac na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus. Cyflwynodd Mike Hedges amddiffyniad fformiwläig o fformiwla hen ffasiwn. Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliannau Plaid Cymru 2 a 3, ac fe fyddwn ni'n eu cefnogi. Nododd hefyd ei bod hi wedi cymryd symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU i berswadio Llywodraeth Cymru i roi briwsion i lywodraeth leol. Ac, fel y dywedodd, cyni Llafur yw hyn. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y tro pedol gwaradwyddus a gyflawnodd Llywodraeth Cymru diolch i gyllid ychwanegol gan Ganghellor y DU. Cawsom yr araith arferol yn cael ei bloeddio gan Rhianon Passmore am y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2010. Tynnodd Russell George sylw at y rhaniad yn y fformiwla gyllido rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru a dywedodd y dylai awdurdodau lleol fod ar flaen y ciw ar gyfer cyllid ychwanegol oddi wrth y Canghellor.

Y cwbl a gawsom ni gan Ysgrifennydd y Cabinet Mr Bumble oedd yr anllythrennedd economaidd arferol, taflu'r baich a'r dichell gwleidyddol. Wrth gwrs, cyfeiriodd at yr effaith ar yr economi pe byddai Llafur yn pleidleisio i wrthod y fargen Brexit a gafodd ei negodi rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r 27 o aelodau'r UE. Ar hyn o bryd, am bob £1 a gaiff ei gwario gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar faterion datganoledig, rhoddir £1.20 i Gymru. Ond mae talwyr y dreth gyngor yng Nghymru yn dwyn baich penderfyniadau gwael Llywodraeth Cymru dros bron i ddau ddegawd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto'n cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr, gan honni bod cynghorau yno'n waeth eu byd. Ond mae polisi cyllido llywodraeth leol wedi ymwahanu'n sylweddol ers datganoli; er enghraifft, cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn Lloegr, nid yng Nghymru, a chadw ardrethi busnes yno, nid yma. Mae'n amhosibl gwneud y cymariaethau canran y mae'n parhau i'w gwneud.

Rydym ni hefyd yn gwybod bod gennym fformiwla gyllido gymhleth a hen ffasiwn, sy'n rhy fiwrocrataidd ac sy'n arwain at gyllid llywodraeth leol ar sgiw. Felly, ar y nodyn hwnnw, fe orffennaf i drwy ddyfynnu cyngor sir dan arweiniad Llafur yng Nghymru, oherwydd yr wythnos diwethaf, dan arweiniad Llafur fe lansiodd Cyngor Sir y Fflint ei ymgyrch #CefnogiGalw yn y cyngor llawn gyda phob cynghorydd ym mhob plaid yn cefnogi'n unfryd y bwriad o fynd, rwy'n dyfynnu, â'r frwydr i lawr i'r adran lywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o'r cyllid cenedlaethol. Rwy'n falch iawn o ddangos fy nghefnogaeth iddyn nhw ac rwy'n ddiolchgar bod y bobl sy'n byw yn sir y Fflint, a Wrecsam a'r cynghorau eraill dan anfantais erbyn hyn yn gwrthsefyll bwlis yn y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, nad ydyn nhw'n gwrando, sydd wedi rhoi'r gorau i fod yn atebol ac y dylen nhw fynd unwaith ac am byth.

17:35

Y cynnig yw—[Torri ar draws.] Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dlodi, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6874 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.

2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad:

a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl anabl;

b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;

c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith;

d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; ac

e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol.

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a

b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er na chafodd lawer o sylw yn y cyfryngau, roedd y datganiad diweddar gan adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn ddeifiol iawn. Felly, mae'n bleser gennyf agor y ddadl Plaid Cymru hon ar beth ddylai ein hymateb i'r datganiad hwnnw fod.

Ymddengys i mi nad oes amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer unrhyw Lywodraeth pan fydd yn wynebu adroddiad beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig. Mewn gwirionedd, nid yw'r rhestr o wledydd sydd wedi wynebu datganiadau beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig, yn rhestr y dylai unrhyw Lywodraeth fod â'r nod o fod arni. Mae Llywodraeth y DU, a'u cydweithwyr yma, mae'n ymddangos, wedi mabwysiadu y math gwaethaf o ymateb. Eu hymateb nhw yw gwadu hyn. Mae'n dweud llawer iawn, yn fy marn i, am y dirywiad mewn ceidwadaeth fodern sydd mor barod i dderbyn damcaniaeth tebyg i Trump fod y Cenhedloedd Unedig yn gynllwyn adain chwith yn hytrach na cheisio ymgysylltu â'r adroddiad hwn. Ai Ceidwadwyr wir yn credu mai dyma yw'r Cenhedloedd Unedig? Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr.

Trof yn awr at welliant y Llywodraeth. O leiaf y mae i'r gwelliant hwn y rhinwedd o dderbyn yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ond ar yr un pryd, mae'n gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb. Ac felly, byddwn, wrth gwrs, yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw hefyd.

Bydd fy nghyd-Aelodau yn manylu ar pam y dylai Cymru fod â rheolaeth dros weinyddu budd-daliadau lles, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn arbennig, byddan nhw'n bwrw golwg ar y rhagfarn annatod o ran rhywedd y mae credyd cynhwysol wedi ei greu, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau, os nad yr holl Aelodau yn y fan yma, yn ymwybodol, er enghraifft, o'r cymal treisio, lle mae'n rhaid i fenyw brofi ei bod wedi ei threisio cyn y gall hawlio unrhyw gymorth ar gyfer trydydd plentyn.

Ac er y bydd Llafur yn dweud bod yr holl faterion hyn yn rhai i'r Torïaid yn San Steffan, sut y gall yr SNP a hyd yn oed y DUP sefydlu mesurau diogelu ar gyfer eu poblogaethau rhag effeithiau gwaethaf credyd cynhwysol? Pam mai caniatáu i bobl yng Nghymru ddioddef yw ymagwedd Llafur Cymru? Bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny ar y datganiad sy'n tynnu sylw at annigonolrwydd dull y Llywodraeth hon i drechu tlodi.

Mae'n bosibl iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyntio ei bys at Lundain ac yn rhoi'r bai ar rywun arall, ond mae beirniadaeth glir yn y datganiad hwn na ellir ei hosgoi drwy roi'r bai ar gyni. Mae'r datganiad yn nodi diffyg targedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith y strategaeth trechu tlodi. Mae'n nodi, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, y bydd diffyg pwerau Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol yn gwaethygu'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Ydy, wrth gwrs, mae'n warthus ei bod yn ofynnol i'r Llywodraeth yn y fan yma wario arian i liniaru polisïau Llywodraeth y DU, ond mae'n rhaid i chi wneud hynny beth bynnag. Byddai bod â rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn caniatáu i chi leihau'r gost honno, mewn gwirionedd. Sut gall y Llywodraeth yn y fan yma barhau i fethu â deall bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu cost ychwanegol pan geir digartrefedd? Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fydd pobl yn dioddef salwch cronig ac yn dioddef o ddiffyg maeth ac yn gorfod defnyddio'r GIG. Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fo'n rhaid i ysgolion ymdopi â phlant na allant ganolbwyntio oherwydd bod eu teuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd. Sut y gall y blaid sy'n Llywodraethu yn y fan yma barhau i fod eisiau i'r reolaeth lawn dros y mater hwn aros yn Llundain oherwydd ryw deyrngarwch truenus i egwyddor yn ymwneud â'r undeb yn cynnig rhywfaint o ffyniant â rennir pan fo'r holl dystiolaeth yn dangos nad yw ASau San Steffan yn poeni fawr ddim am ffyniant ardaloedd o'r undeb sydd y tu allan i'r de-ddwyrain a'r siroedd cartref.

17:40

Diolch. Rydych chi wedi dweud yn aml, fel plaid, nad oes gennych chi unrhyw ffydd mewn unrhyw gytundebau gyda'r DU. A oes gennych chi ffydd y bydd Cymru'n cael y gyllideb angenrheidiol i gyd-fynd ag unrhyw fudd-daliadau lles datganoledig?

Wel, fe wnaethon nhw yn yr Alban, ac nid wyf i'n clywed unrhyw Aelodau Llafur yn dadlau na ddylai gweinyddu'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli dim ond rhag ofn na fydd Llywodraeth San Steffan yn trosglwyddo'r arian sy'n gysylltiedig â hynny. Rydych chi'n dadlau dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol ar y sail y bydd yr arian hwnnw yn dod, felly dylech ddadlau dros ddatganoli lles a gweinyddu budd-daliadau hefyd.

Rydym ni i gyd yn gwybod ers cryn amser bod pobl yn ein cymunedau yn dioddef, ac maen nhw'n dioddef yn arw iawn, ac mae'r adroddiad hwn nawr yn rhoi tystiolaeth inni o hynny. Yn ei adroddiad, mae adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn nodi'n eithaf clir y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Felly, yn hytrach nag aros i dlodi yng Nghymru waethygu hyd yn oed yn fwy, a bydd yn gwneud hynny os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu, dyma'r cyfle i weithredu, ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi inni'r dulliau sydd eu hangen arnom i wneud hynny.

Diolch. Rwyf wedi dewis dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf i alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar? Mark.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi credyd cynhwysol ar waith.

2. Yn nodi, yn ôl canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Fel y dywedodd Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'r DU, Amber Rudd, yr wythnos diwethaf:

Gwn fod problemau gyda'r credyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da. Rwyf wedi eu gweld drosof fy hun. Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Gwn y gall fod yn well.

Ychwanegodd bod adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, ar ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig, wedi defnyddio iaith a oedd, mewn gwirionedd,

yn bwrw amheuaeth ar lawer o'r hyn yr oedd yn ei ddweud.

Ni wnaeth adroddiad yr adroddwr unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o'r camau gweithredu y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'u cymryd neu eu cyhoeddi, er i mi gyfeirio'n benodol at rai o'r rhain pan gyfarfu rhai o aelodau'r pwyllgor gydag ef yn y Cynulliad.

Cynigiaf welliant 1. Fel y mae hwn yn ei ddatgan, mae'n rhaid inni nodi'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch gweithredu credyd cynhwysol. Mae'r system yn disodli system orgymhleth—[Torri ar draws.] Rwyf am orffen y frawddeg hon, Helen. Ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd o ganlyniad. Helen Mary.

A wnaiff Mark Isherwood gydnabod bod asesiad y Llywodraeth ei hun yn 2011 wedi amlygu bod rhai o'r problemau hyn sy'n codi oherwydd credyd cynhwysol, yn enwedig o ran sut y maen nhw'n effeithio ar fenywod, yn hysbys. Roedden nhw'n hysbys yn yr asesiad hwnnw, sy'n ddogfen gyhoeddus. Sut y gall Amber Rudd—sut y gallwch chi gredu Amber Rudd yn awr pan ddywed ei bod hi'n mynd i liniaru'r effeithiau hyn pan yr oedd y Llywodraeth yr ydych chi'n ei chefnogi yn gwybod beth fyddai'r effeithiau hynny yn 2011?

Oherwydd bod ganddi brofiad ymarferol ac mewn gwirionedd oherwydd y lansiwyd y fecanwaith cymorth yng Nghymru yn 2013, y gwnaeth y criw hwn geisio ei danseilio. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers 2012 ar y cynlluniau i'w gyflwyno, a chyflwynodd y fframwaith gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer credyd cynhwysol yn 2013, a ddatblygwyd gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i helpu hawlwyr nad oedd yn barod eto i gyllidebu ar gyfer eu hunain a'r rhai hynny sydd angen trefniadau talu amgen. Cyhoeddodd datganiad Hydref 2017 y Canghellor bythefnos ychwanegol o fudd-dal tai, gostyngiad o saith diwrnod i'r cyfnod y mae pobl yn gorfod aros am eu taliad cyntaf, a blwyddyn yn hytrach na chwe mis i ad-dalu benthyciadau caledi. Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Canghellor £4.5 biliwn o gyllid a £1.7 biliwn ar gyfer lwfansau gwaith uwch. Bydd amseroedd aros yn cael eu gostwng o bump i dair wythnos, ad-daliadau dyledion yn cael eu gostwng, y dyddiad cau ar gyfer newid budd-daliadau yn cael ei ymestyn i dri mis, a bydd y cymorth ar gyfer pobl hunan-gyflogedig yn cael ei gynyddu.

Dim ond ddydd Gwener diwethaf, dywedodd Amber Rudd ei bod am fynd i'r afael yn benodol ag effaith y credyd cynhwysol ar fenywod a mamau sengl, sicrhau bod menywod sydd mewn perthynas gamdriniol yn cael mynediad at daliadau, ac adolygu'r cyfnod aros o bum wythnos, taliadau ar gyfer tai, mynediad at arian parod ac ad-dalu benthyciadau. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd i sicrhau bod pobl anabl, a'r bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael cyfleoedd gwaith i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Mae  rhaglen gwaith ac iechyd Remploy Cymru yng Nghymru yn rhaglen Llywodraeth y DU i gynorthwyo pobl anabl, sy'n ddi-waith yn yr hirdymor a'r rhai hynny â chyflyrau iechyd i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth. Ar gais yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae Cyngor ar Bopeth wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu pobl i hawlio credyd cynhwysol yn annibynnol—allweddol—yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi recriwtio timau partneriaeth cymunedol o bobl sydd â phrofiad ymarferol o gyrff allanol arbenigol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, gwella sgiliau staff y Ganolfan Byd Gwaith, a chodi pontydd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Mae ffigurau annibynnol yn cadarnhau bod lefelau diweithdra a chyfran y swyddi â thâl isel ar eu hisaf erioed, mae enillion wythnosol cyfartalog llawn amser wedi gweld eu cynnydd mwyaf mewn dros ddegawd, ac mae anghydraddoldeb cyfoeth y DU wedi lleihau yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o'r ysgogiadau i drechu tlodi yng Nghymru yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n peri pryder mawr, felly, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, bod adolygiad blynyddol diweddar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi canfod mai Cymru yw'r genedl lleiaf cynhyrchiol yn y DU, bod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill ym Mhrydain, a bod enillion canolrifol fesul awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar enillion gweithiwyr yn y DU ar gyfer 2018 yn dangos bod enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod gan Gymru y cynnydd tâl hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. A chanfu adroddiad Sefydliad Bevan, fis diwethaf, ar gyfraddau tlodi yng Nghymru bod cyfradd tlodi incwm cymharol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, a bod cyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU.

Yr hanes echrydus hwn o fethiant, y brad dinistriol hwn, yw gwir fesur dau ddegawd o rethreg a rhoi'r bai ar rhywun arall gan Lafur Cymru. Rydym ni felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i drechu tlodi sy'n cynnwys targedau a dangosyddion clir i fesur cynnydd ac effaith.

17:45

Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol a gyflwynwyd yn enw Julie James?

Gwelliant 2—Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:

a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;

b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;

c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a

d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pe byddai'n gwlad ni yn un wirioneddol waraidd, mi fyddai'r datganiad yma gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig dros dlodi difrifol yn cael ei weld fel moment i'n deffro ni unwaith ac am byth, rydw i'n meddwl. Mi ddylai gael ei weld fel mater o warth a chywilydd bod gwladwriaeth mor gymharol gyfoethog â'r Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi ar restr o wledydd sy'n cael eu cydnabod fel rhai sy'n methu ag edrych ar ôl eu mwyaf tlawd, eu mwyaf bregus. Ond mae gen i ofn mai'r awgrym clir o'r ymateb sydd wedi bod i'r datganiad yma ydy nad ydy diwylliant gwleidyddol y wladwriaeth yma cweit mor waraidd ag y byddem ni'n licio meddwl ei fod o.

Beth am i mi dreulio ychydig funudau yn siarad mewn iaith efallai y bydd pobl yn ei deall, sef arian? Nid am y tro cyntaf heddiw, mi wnaf i grybwyll llymder. Rydym ni'n clywed y Ceidwadwyr yn dadlau, onid ydym, bod llymder a thoriadau i'r wladwriaeth les wedi bod yn gwbl anochel, wedi bod yn angenrheidiol am resymau economaidd. Nid oedd o'n rhywbeth yr oedden nhw eisiau ei wneud, ond mi oedd yn rhaid. A beth allai fod o'i le, wedi'r cyfan, ar daro'r 20 y cant tlotaf mor galed oherwydd problemau efo rheoleiddio yn y sector ariannol?

Ond hyd yn oed os ydych chi'n derbyn nad oedd yna ddewis ond cwtogi ar wariant cyhoeddus dros y degawd diwethaf, wel, mae polisïau Llywodraeth ganolog Brydeinig wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r Joseph Rowntree Foundation, er enghraifft, wedi amcangyfrif bod tlodi yn costio rhyw £78 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig mewn mesurau i ymateb i neu i geisio lliniaru effeithiau tlodi. Ac nid yw hynny'n cynnwys costau taliadau'r wladwriaeth les. Mae £1 o bob £5 sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn gwneud i fyny am y ffordd y mae tlodi wedi niweidio bywydau pobl. Mae Crisis wedi modelu cost digartrefedd ac yn amcangyfrif, os ydy'r Deyrnas Unedig yn parhau i adael i ddigartrefedd ddigwydd, i bob pwrpas, fel y mae o ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio cael gwared ohono, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwario £35 biliwn yn ychwanegol.

Meddyliwch am yr incwm sy'n cael ei golli o ran enillion y dyfodol i bwrs y wlad o blant yn tyfu mewn tlodi ac yn methu â chyrraedd eu potensial, a'u rhieni'n defnyddio banciau bwyd, ac yn mynd i ysgolion sydd ddim yn cael eu cyllido'n iawn ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld sydd o berthnasedd arbennig i ni ydy bod Cymru yn cael ei tharo yn anghymesur. Yng Nghymru mae'r lefelau uchaf o dlodi cymharol yn y Deyrnas Unedig, efo bron iawn i un o bob pedwar person yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae tlodi mewn gwaith wedi tyfu dros y ddegawd ddiwethaf. Er bod cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu, beth sydd gennym ni ydy swyddi sydd ddim digon da. Mae chwarter swyddi—rwyf wedi gweld ffigurau—o dan y lleiafswm cyflog. Beth mae hyn yn ei ddweud ydy bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ddrutach i'w rhedeg na'r cyfartaledd Prydeinig o ran mynd i'r afael ag effaith tlodi. Nid yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn yn amlwg ddim yn gweithio. Mi wnaf i eich annog chi i ddarllen tystiolaeth Victoria Winckler o'r Bevan Foundation i'r Pwyllgor Cyllid ar 25 Hydref, lle roedd hi'n edrych ar y gyllideb ac yn methu â gweld lle roedd y gyllideb yma'n dangos arwyddion o strategaeth glir i fynd i'r afael â thlodi. 

Y ni yng Nghymru, y ni ar y meinciau yma, rydym ni'n gofyn pam byddem ni, pam y byddai unrhyw un, yn dymuno bod yn rhan o undeb sy'n gwneud hyn i ni, ac yn gwirfoddoli i adael i bethau fel gweinyddiaeth y wladwriaeth les aros yn San Steffan. Mae pobl Islwyn, ie, fel rhannau eraill o Gymru, yn methu ag edrych tuag at Lywodraeth Cymru sy'n ceisio defnyddio, ceisio cael, y levers a fyddai'n gallu lliniaru effeithiau caletaf y polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan. Mae Llafur yn y fan hyn yn methu â chwilio am y pwerau hynny.

Fel rydym ni'n ei weld, rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma erbyn hyn y camau hynny'n cael eu cymryd yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban. Mae'n amser i ni yng Nghymru ddweud bod yn rhaid i ni geisio yr arfau hynny, bob un ohonyn nhw, a allai fod o fewn ein cyrraedd ni, i fynd i'r afael â'r tlodi sydd yn ein cywilyddio ni fel cenedl. Nid yw Plaid Cymru yn gofyn am y pwerau er mwyn eu cael nhw; rydym ni'n gofyn am y pwerau oherwydd bod pobl yn marw ac yn cael eu cloi mewn tlodi. 

17:50

Mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddaf yn siarad â'r bobl hynny sy'n ymwneud ag ymdrin â chanlyniadau polisi'r Llywodraeth a thlodi yng Nghymru—y trydydd sector, awdurdodau lleol, asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol—ymddengys eu bod yn deall yn iawn mai agenda cyni Llywodraeth y DU sy'n sbarduno'r materion hyn i bob un ohonom ni: Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, a phawb arall sy'n ceisio darparu gwasanaeth neu ymdrin â'r canlyniadau hynny.

Mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, Dirprwy Lywydd, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wedi bod yn gwneud amrywiaeth o waith yn ystyried tlodi yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad hwn. Yn ddiweddar, mewn gwirionedd, cyfarfuom ag adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig, Philip Alston, yn rhan o'i ymweliad â'r Deyrnas Unedig. Canfuom ei fod yn agored, yn wleidyddol niwtral ac yn barod i wrando. Mae'n siomedig iawn clywed Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU, ac yn wir yma yn y Cynulliad, yn ceisio tanseilio swyddogaeth yr adroddwr a'r Cenhedloedd Unedig. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl o'r farn bod y Cenhedloedd Unedig yn gorff uchel ei barch, sy'n gwneud gwaith da iawn ac iddo statws a hygrededd gwirioneddol, a hanes aruthrol. Mae clywed y tanseilio hwnnw, yr ymgais i danseilio, yr Athro Philip Alston yn anffodus iawn, yn fy marn i. Mae ef wedi gwneud asesiad deifiol iawn o bolisi Llywodraeth y DU ac wedi galw yn glir am weithredu ar frys. Rydym yn ei gefnogi ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ochr Llafur, Dirprwy Lywydd, yn gryf iawn yn wir, gan ein bod ni'n credu bod angen newid mawr i roi terfyn ar raglen cyni Llywodraeth y DU, oherwydd rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r niwed y mae'n ei wneud a'r effaith gronnol dros yr wyth mlynedd diwethaf, fwy neu lai.

Ond, wrth gwrs, dydym ni ddim yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru hefyd gyfrifoldeb, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gweld strategaeth a chyfres o bolisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi, sydd mor effeithiol â phosibl. Mae gwaith fy mhwyllgor i wedi cynnwys argymell bod angen pwyslais cryfach, cliriach ar drechu tlodi yma yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, gyda thargedau, dangosyddion, gwerthuso a monitro clir, sy'n gwneud gwaith craffu ac atebolrwydd yn haws nag y mae ar hyn o bryd, ac rydym ni eisiau gweld cynnydd yn y maes hwnnw, ac rydym ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gwneud y gwelliannau angenrheidiol. [Torri ar draws.] Ildiaf i Siân Gwenllian.

17:55

Diolch. Dim ond ar y pwynt hwnnw nad oes gan y Llywodraeth strategaeth gwrth-dlodi, er gwaethaf galwadau gan y pwyllgor ddwywaith, dair gwaith, pa mor siomedig ydych chi ein bod yn dal i fod heb y strategaeth gwrth-dlodi honno ac nad ydym ni, mewn gwirionedd, hyd yn oed yn gwybod yn union pwy yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am atal tlodi ar draws y Llywodraeth? Roeddwn i'n meddwl mai Ken Skates oedd hwnnw, ond bellach mae'n bob un ohonoch chi. Felly, pwy mewn gwirionedd sy'n gyfrifol yn y pen draw?

Wel, fel y dywedais, rwy'n credu bod materion o ran atebolrwydd a chraffu. Gwn fod y sector y tu allan i'r Cynulliad yn teimlo hynny hefyd, ac rwy'n credu bod barn ein pwyllgor yn glir iawn. Cafwyd amryw o ddulliau gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o amser o ran sut yr ydych chi'n trechu tlodi yn fwyaf effeithiol, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn pwysleisio dull cydweithredol, traws-Lywodraethol. Nid yw'r pwyllgor yn credu y byddai bod ag atebolrwydd gweinidogol mwy uniongyrchol a strategaeth gwrth-dlodi gyffredinol yn negyddu'r math hwnnw o ddull traws-Lywodraeth sy'n cael ei weld fel y ffordd orau o ymdrin â'r materion hyn gan Lywodraeth Cymru ar y hyn o bryd. Credaf felly, bod barn y pwyllgor yn gwbl glir, ac rydym yn chwilio am gynnydd a newid i'r perwyl hwnnw. A, beth bynnag sy'n digwydd, mae angen y pwyslais mwy eglur hwnnw arnom ni—pwyslais manwl—a chyfleoedd atebolrwydd a chraffu ychwanegol a chliriach.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, credaf fod angen i mi symud ymlaen at weinyddu lles yng Nghymru a'r posibilrwydd o'i ddatganoli. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn mynd i wneud darn o waith ar hyn a bydd yn ystyried yr holl faterion, gan gynnwys yr agweddau ariannol. Rydym ni'n credu mai'r profiad yw bod yna broblemau gwirioneddol o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol. Mae wedi cael effaith echrydus ar gysgu ar y stryd, er enghraifft, ac rydym yn gweld tystiolaeth o hynny ym mhob un o'n trefi a chanol ein dinasoedd drwy'r amser. Ac, os ydym ni'n mynd i ymdrin â phroblemau amseroedd aros pan wneir hawliadau am y tro cyntaf, y ffordd y gweithredir y gyfundrefn gosbau ac, yn wir, pa mor hawdd yw hi i roi taliadau budd-dal tai yn uniongyrchol i'r landlord, yna byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddai gennym ni fwy o reolaeth uniongyrchol dros hynny. Felly, bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hynny yn y flwyddyn newydd, a bydd hynny'n cynnwys edrych ar y profiad yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma, ond rwy'n credu mai camgymeriad oedd ei seilio ar yr adroddiad Cenhedloedd Unedig hwn gan Philip Alston. Mae e'n bell iawn o'r hyn y mae John Griffiths newydd ei ddweud, gwleidyddol niwtral, mewn gwirionedd mae'n athro yn y gyfraith ym mhrifysgol Efrog Newydd sy'n benboethyn adain chwith eithafol gwrth-Trump â chanddo gyllell wleidyddol i'w hogi. Ei fesur ef o dlodi—[Torri ar draws.] Ei fesur ef o dlodi yw unrhyw un sy'n ennill llai na 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd. Nid yw hynny'n fesur o dlodi, ond yn hytrach mesur o anghydraddoldeb, ac mae'r ddau beth yn dra gwahanol. Byddai cymdeithas heb unrhyw anghydraddoldeb, ni waeth pa mor isel yw lefelau incwm, pe byddai pawb yn enbyd o dlawd, yn byw mewn cytiau pren ac yn bwyta tywod, mewn gwirionedd yn lle heb unrhyw dlodi, yn ôl ei ddiffiniad ef.

Mae wedi ysgrifennu adroddiadau am wledydd eraill. Mae wedi ysgrifennu adroddiad am Mauritania, er enghraifft, ac wedi canmol yr Arlywydd Mohamed Ould Abdel Aziz am y cynnydd sylweddol y mae'n ei wneud wrth fynd i'r afael â thlodi, ac mae hon yn wlad lle mae 42 y cant yn byw mewn tlodi llwyr, gyda chyflog blynyddol cyfartalog o lai na £1,000, lle mae disgwyliad oes pobl 20 mlynedd yn llai nag yn y wlad hon a lle mae'r wladwriaeth yn llofruddio ei gwrthwynebwyr gwleidyddol ac yn eu harteithio, ac ni wnaeth dim o hyn ysgogi unrhyw ddrwgdeimlad ynddo. Felly, gadewch inni roi hyn yn ei wir oleuni. [Torri ar draws.] Nid yw'n warthus; y cwbl yr wyf yn ei wneud yw adrodd y ffeithiau. Os na all Aelodau ymdopi â nhw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater iddyn nhw yn hytrach nag i mi.

Y peth arall hurt am y modd hwn o fesur tlodi yw bod dirwasgiadau, wrth gwrs, yn wych ar gyfer lleihau tlodi, oherwydd mewn dirwasgiadau ceir tueddiad cyffredinol o ostyngiad mewn incwm o gyfalaf, difidendau ac ati, ac felly, os yw'r bobl gyfoethog yn llai cyfoethog o'u cymharu â'r tlodion, does dim ots nad yw'r tlodion yn gyfoethocach mewn gwirionedd, mae llai o dlodi. Mae hynny'n hurt.

Ac os edrychwn ni ar y profiad mewn gwledydd eraill, mae'n rhoi sefyllfa Prydain yn ei gwir oleuni hefyd. Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dlodi parhaus yn y DU a'r UE yn 2015 gennyf yma yn fy llaw, ac roedd 7.3 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn 2015 yn byw mewn tlodi parhaus. Mae hynny'n cymharu â 10.9 y cant fel y cyfartaledd yn yr UE. Mae un ar ddeg pwynt tri y cant o boblogaeth yr Almaen yn byw mewn tlodi parhaus wrth fesur yn yr un modd; 8.5 y cant yn Ffrainc; 14.5 y cant yn yr Eidal. Felly, mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae llai o dlodi ym Mhrydain, pan y'i diffinnir ar delerau cymharol, nag mewn rhannau eraill o'r UE ac mewn rhannau eraill o'r byd.

Nid tlodi cymharol yw'r gwir broblem yng Nghymru. Rwyf i eisiau gweld incwm pobl yn gyffredinol yng Nghymru yn codi o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, oherwydd mae Cymru ar waelod y domen. Mae hynny'n drasiedi fawr, a chredaf bod hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Ond yr hyn sy'n fy synnu i yw bod y pleidiau ar y chwith mor frwdfrydig fel arfer i gosbi pobl dlawd. Mae'r cynigion treth niferus sydd ganddynt, mewn gwirionedd, yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'r rhai sydd ar yr incwm isaf. Mae trethi gwyrdd, fel yr wyf yn ei godi yn aml yn y Siambr hon—nawr, mae trethi gwyrdd yn gyfrifol am 20 y cant o filiau trydan pobl, a phobl tlawd sy'n dioddef fwyaf yn sgil y trethi hyn. Yn y gaeaf, mae pobl yn gorfod gwneud dewis, yn anffodus, rhwng gwresogi a bwyta yn aml iawn. Mae trethi siwgr, isafswm prisiau ar gyfer alcohol—mae'r rhain i gyd yn drethi a fydd yn effeithio'n anghymesur ar y tlawd.

Mae'r pleidiau ar y chwith hefyd yn awyddus iawn, iawn, wrth gwrs, i barhau ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'r Undeb Ewropeaidd yn gynllwyn diffyndollol, a'r rhai sy'n dioddef waethaf yw'r rhai hynny sydd ar yr incymau isaf. Treth ar werth, er enghraifft—ni allwn ni gael gwared ar TAW ar danwydd gwresogi domestig, er enghraifft, ni allwn gael gwared ar TAW ar esgidiau a dillad, ac mae'r weithdrefn tariffau yn yr UE yn gwneud yr holl bethau hyn yn destun tariffau andwyol, fel na allwn ni gymryd mantais o'r prisiau is am yr holl eitemau a'r hanfodion sylfaenol hyn a fyddai'n digwydd yn sgil Brexit pe byddem ni'n negodi cytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn gwneud bwyd yn y wlad hon yn llawer drutach nag y dylai fod. Edrychwch ar y tariffau ar hyn, sy'n aml yn 40 y cant neu'n 50 y cant. Gwn fod angen inni gadw ffermwyr ar y tir, a bod angen inni roi cymhorthdal iddyn nhw er mwyn llwyddo i wneud hynny mewn ardaloedd penodol, ond gellir gwneud hynny mewn ffyrdd heblaw am achosi dioddefaint i bobl dlawd drwy brisiau bwyd uchel.

Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â dadansoddiad priodol o dlodi a'i achosion, a sut i'w liniaru ac, yn wir, swyddogaeth allweddol y Llywodraeth wrth sicrhau ei barhad a'i wneud, mewn gwirionedd, yn waeth. Roedd credyd cynhwysol yn syniad da, ond gwnaethpwyd traed moch mewn gwirionedd o'r ffordd y cafodd ei gyflwyno a'i weithredu. Felly, nid oes gennym broblem o ran cefnogi tôn gyffredinol cynnig Plaid Cymru ond, yn anffodus, nid ydyn nhw'n byw yn y byd go iawn os ydyn nhw'n ei seilio ar ymosodiad gwleidyddol gan Philip Alston.

18:00

Bydd y rhan fwyaf o'm sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar gredyd cynhwysol, yn arbennig o ran y modd y mae'n effeithio ar fenywod. Nawr, cafodd hyn ei werthu i ni fel system newydd, mwy hyblyg a fyddai'n helpu pobl i symud yn haws rhwng gwaith a budd-daliadau, a byddai'n system haws ei deall a'i llywio i bobl sydd angen budd-daliadau. Ond y tu ôl i'r amcanion canmoladwy hyn, gorwedda agenda wenwynig, hynafol a, byddwn i'n dadlau, fel y dywedodd adroddwr y Cenhedloedd Unedig, un gwbl wreig-gasaol. A byddwn yn dweud wrth Mark Isherwood, sy'n gyd-Aelod o'r Siambr hon yr wyf yn ei barchu, fod yr adroddwr wedi defnyddio iaith gref iawn oherwydd ei fod yn meddwl ei fod yn warthus, ac roedd yn iawn i deimlo felly, bod ein cyd-ddinasyddion yn byw yn yr amgylchiadau hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd.

Lluniwyd y system budd-daliadau gyffredinol o'r dechrau i atgyfnerthu gwerthoedd teuluol 'traddodiadol', trwy dalu budd-daliadau i un aelod o'r aelwyd ar ran pawb, ac mae yna Aelodau o'r Siambr hon—mae Jane Hutt yn un ohonyn nhw—a fydd yn cofio sut y gwnaethom ni ymgyrchu mor galed yn y 1980au i amddiffyn menywod trwy roi eu budd-daliadau iddyn nhw yn eu pocedi eu hunain ar eu cyfer hwy a'u plant. Bwriad hyn oedd atgyfnerthu, byddaf yn defnyddio'r gair hen ffasiwn, 'patriarchaeth'.

Nawr, yn ymarferol, y dyn yw'r un derbynnydd o'r budd-daliadau bron bob amser mewn teulu pan fo dyn yno, ac mae hyn yn atgyfnerthu'r darlun ystrydebol mai'r dyn sy'n ennill y cyflog a bod ei wraig a'i blant yn ddibynnol arno. A byddwn i'n dadlau nad yw hyn yn ddymunol yn gyffredinol, ond pan fydd y dyn hwnnw sy'n ennill y cyflog yn cam-drin ac yn ffiaidd, mae hynny'n rhoi menywod mewn perygl gwirioneddol. Mae'r system hon yn gwahaniaethu yn erbyn yr ail enillydd cyflog ar aelwyd lle ceir dau unigolyn yn ennill cyflog, sef y fenyw gan amlaf, ac nid yw hynny ar ddamwain : fe'i cynlluniwyd felly. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig a'u plant. Maen nhw bron bob amser yn dioddef cam-drin ariannol yn rhan o'r cam-drin hwnnw, ac mae'r diffyg gallu i gael gafael ar fudd-daliadau yn eu rhinwedd eu hunain yn gwneud hyn yn waeth. Os na ellir cael gafael ar arian, mae'n anhygoel o anodd gadael. Ac os bydd menyw yn dianc, mae'n rhaid iddi hawlio o'r newydd ar gyfer ei hunan a'i phlant, ac aros pum wythnos neu fwy—ac rwy'n pwysleisio pum wythnos neu fwy—ar gyfer y broses. Ar beth, rwy'n gofyn i'r Aelodau gyferbyn, mae hi i fod i fyw arno yn ystod y pum wythnos hynny? Rydym ni'n gwybod ar beth mae hi'n byw: mae hi'n byw ar fanciau bwyd ac elusengarwch y system Cymorth i Fenywod.

Mae hyn yn cefnogi camdrinwyr ac yn ei gwneud yn anos i oroeswyr adael, ac nid yw hynny'n ddamweiniol ac nid oedd yn annisgwyl. Dangosodd asesiadau o effaith yn 2011 y byddai hyn yn digwydd, a dewisodd y Llywodraeth Dorïaidd, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol bryd hynny, fwrw ymlaen beth bynnag. Trwy roi hyn at ei gilydd—

18:05

Diolch yn fawr iawn, Helen Mary. A hon, wrth gwrs, yw'r wythnos pan yr ydym ni'n canolbwyntio ar ddileu trais yn erbyn menywod, ac rydym ni wedi cael datganiad y prynhawn yma gan Julie James. Oni fyddech chi'n dweud y dylai hyn fod yn brawf ar Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Waith a Phensiynau, i weld a fydd hi'n atal ac yn cael gwared ar yr ymosodiad anghyfiawn hwn ar fenywod ac yn ei newid fel nad oes un taliad sengl i bob aelwyd ac a yw hi'n cydnabod yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fenywod, ac a fydd hi'n cydnabod adroddiad Philip Alston yn arbennig?

Byddaf yn dod at fy sylwadau am Ms Rudd mewn eiliad, ond byddwn i'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.

Nawr, os ydym ni'n cyfuno'r modd y mae credyd cynhwysol yn gweithio gydag, er enghraifft, rheolau budd-daliadau tai, na fydd ond yn talu cost ystafell mewn tŷ a rennir i bobl ifanc, sy'n arwain at fenywod ifanc sy'n agored i niwed yn cael eu gorfodi yn aml i rannu â thenantiaid eraill cwbl anaddas, a'r cymal trais rhywiol ffiaidd y mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio ato, ynghyd â llawer o enghreifftiau eraill y gallwn i sôn amdanyn nhw, mae'n cyflwyno system fudd-daliadau sydd wedi'i seilio ar y camargraff mai'r dyn yw'r enillydd cyflog a'r camargraff o bobl dlawd, diog ac annheilwng. Mae'n system wreig-gasaol a dyna oedd ei bwriad o'r cychwyn.

A dylai'r gwleidyddion a gyflwynodd y system honno deimlo cywilydd llwyr, ond nid ydynt, oherwydd bod y system yn cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n dymuno iddi ei wneud. Ac o ran sylwadau Jane Hutt a sylwadau Mark Isherwood ynghylch Amber Rudd, nid wyf i'n credu y bydd hi'n cael lliniaru yn y modd y mae hi'n dweud yr hoffai ei wneud, oherwydd nid yw'r effeithiau hyn yn ddamweiniol. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrth fy ffrindiau ar ochr arall y Siambr honno—ac mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau i mi—bod angen iddyn nhw edrych yn hir ac yn galed arnyn nhw eu hunain os ydyn nhw'n credu eu bod yn gallu cefnogi hyn. Rwyf i wir yn meddwl: ydyn nhw'n wirioneddol falch o hyn? Roedd gen i feddwl gwell ohonyn nhw.

Ond nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfiawnhad dros hunanfoddhad yn y fan yma, ac mae tôn eu gwelliant hunanglodforus braidd yn peri siom. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw blaid neu gyfuniad o bleidiau a allai gael eu hethol i lywodraethu yn y Senedd hon yn trin ein dinasyddion tlotaf yn y modd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei wneud. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cymryd rheolaeth weinyddol o gredyd cynhwysol, ond nid yw'n ymddangos bod ein Llywodraeth ni yn dymuno gwneud hynny. A des i o hyd i ddyfyniad gan un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Blaid Lafur. Dywed:

Nid wyf i'n frwd dros ddatganoli systemau treth a budd-daliadau. Mae'n ymddangos i mi mai nhw sy'n clymu'r DU at ei gilydd... Os ydych chi'n cefnogi ailddosbarthu, y systemau treth a budd-daliadau yw'r ffordd i wneud hynny. O ran y cwestiwn allweddol ynghylch tlodi, rwy'n credu bod Cymru yn elwa

—'yn elwa'—ar fodel ailddosbarthu y DU.

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Siambr hon nad yw'r mecanwaith ailddosbarthu hwnnw yn gwasanaethu ein dinasyddion tlotaf yn dda iawn ar hyn o bryd, ydy 'e? Ac nid wyf i'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y sawl yr oeddwn i'n ei ddyfynnu, yn gallu sefyll yn y fan yma mewn gwirionedd—neu eistedd yn y fan yma—ac amddiffyn y safbwynt hwnnw.

Nid oes neb yn honni y byddai cymryd rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn datrys yr holl broblemau sydd gennym ni yn y system niweidiol hon. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei geisio, wrth gwrs, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, yw rheolaeth lawn ar y system fudd-daliadau. Ond gallai, fel y mae Sefydliad Bevan wedi ei ddweud, wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig o ran sut y caiff budd-daliadau eu talu, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd John Griffiths yn hyn o beth yn gynharach yn y ddadl hon.

Dirprwy Lywydd, trwy gefnogi'r cynnig gwreiddiol ac annog y Siambr hon i wrthod y gwelliant, rwy'n annog y Llywodraeth hon, ein Llywodraeth ni, Llywodraeth Cymru, i ddangos rhywfaint o ddewrder ac o leiaf gofyn am reolaeth weinyddol o'r credyd cynhwysol er mwyn gallu gwneud yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ei wneud ar ran eu dinasyddion tlotaf. Mae ein dinasyddion tlotaf angen i ni weithredu nawr, ac nid ydyn nhw angen dogma unoliaethol.

Nid trethi gwyrdd sy'n gwneud pobl yn dlawd. Polisïau bwriadol Llywodraeth y DU o ran sut maen nhw'n dewis trethu a dosbarthu budd-daliadau sy'n ei wneud. Mae'n rhaid imi gytuno ag ef ar un peth—nad yw'r TAW ar nwyddau hanfodol yn dreth flaengar, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i dreth arall yn ei lle. Pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae hynny'n rhywbeth y gallem ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar y presennol, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bobl yn sgil y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud yn eu cyllidebau.

Y bobl sydd yn dioddef fwyaf yn sgil cyllideb y Canghellor yw menywod mewn gwaith rhan-amser â chyflog isel oherwydd eu bod nhw'n mynd i golli unrhyw doriadau treth oherwydd nad ydyn nhw'n ennill digon i elwa ar y cynnydd yn y lwfansau personol, ac maen nhw'n dioddef gostyngiadau mewn incwm real o ganlyniad i rewi'r budd-daliadau. Felly byddan nhw, mewn gwirionedd, yn waeth eu byd, ni waeth beth fo'r holl gyhoeddusrwydd ynghylch sut mae cyni ar ben erbyn hyn. Nid yw ar ben o gwbl ar gyfer gweithwyr rhan-amser, sy'n fenywod yn bennaf. Mae dros dair miliwn a hanner o fenywod yn ennill llai na £15,000 y flwyddyn. Maen nhw yn draean o'r gweithlu. Ar yr un pryd, bydd y 10 y cant uchaf o aelwydydd yn gweld gwerth £1 biliwn yn fwy o gynnydd yn eu hincwm na'r 10 y cant isaf. Mae hyn yn gwbl warthus: dyma sut yr ydym yn ehangu'r bwlch enillion cyffredinol rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn llwyr, ac fel y dywedodd Helen Mary, mae hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd.

Mae'n rhaid inni ddeall bod codi'r trothwy di-dreth bob amser o fudd anghymesur i bobl ar incwm canolig ac uwch. Nid yw o fudd i bobl ar gyflog isel. Mae'n rhaid bod dulliau eraill o sicrhau bod gwaith yn talu, oherwydd bod gan bawb sy'n mynd i weithio ac yn gwneud diwrnod caled o waith, yr hawl i ennill digon o gyflog i dalu am hanfodion bywyd ac i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn hytrach, gellid bod wedi buddsoddi'r bron i £17 biliwn o refeniw treth na gasglwyd oherwydd y polisi bwriadol hwn, a dylid bod wedi gwneud hynny, yn y system fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus, y mae pobl dlawd yn dibynnu'n anghymesur arnyn nhw. Felly, gallen nhw wrthdroi'r rhewi budd-daliadau, ac mae hyd yn oed rhai o'r ASau Torïaidd—hyd yn oed cyn uwch Weinidogion—yn dadlau y dylem ni fod yn rhoi diwedd ar rewi budd-daliadau.

Ond rwyf i eisiau sôn am y ffordd, ers 2010, yr ydym ni i gyd wedi diystyru'n wirioneddol ein holl ymrwymiadau tuag at blant, oherwydd mae'r ymosodiad ar blant wedi bod yn ddi-baid ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym. Yn gyntaf, yn y ffordd y mae wedi tanseilio budd-daliadau plant, sef y rhan fwyaf hanfodol, ar ran y gymdeithas, o helpu'r rhai hynny sydd â phlant er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o arian i'w magu. Trwy ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, fe wnaethon nhw sicrhau na fyddai budd-daliadau yn cyd-fynd â phrisiau, ac wedyn cafodd y budd-dal plant ei rewi am dair blynedd gyntaf y Llywodraeth Dorïaidd, ac wedyn mae'r newid hwn wedi cael effaith enfawr ar y swm o arian a roddir ar gael ar gyfer plant.

Yn 2010, roedd y budd-dal plant yn £20.30 ar gyfer plentyn cyntaf y teulu a £13.40 ar gyfer plant eraill. Pe byddai polisïau'r Llywodraeth flaenorol wedi parhau i fod ar waith, byddai'r budd-dal plant heddiw o leiaf £24.30 ar gyfer y plentyn cyntaf ac £16.05 ar gyfer plant eraill. Mae hynny'n ostyngiad enfawr i arian plant, ac mae'r effaith y mae hyn wedi'i chael wedi bod yn wirioneddol ddinistriol. A'r hyn y mae wedi ei olygu yw y bydd dros 100,000 o blant yn amddifad y Nadolig hwn o ganlyniad i oedi mewn un peth: oedi i'r taliad credyd cynhwysol. Felly, ni fydd pobl ar Ynys Môn, er enghraifft, a fydd yn cael eu dechrau ar y credyd cynhwysol, yn cael unrhyw beth tan y flwyddyn newydd. Felly, byddan nhw'n cael Nadolig fel Scrooge heb unrhyw anrhegion, a dyn a ŵyr sut y byddan nhw'n goroesi. Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Bet365 yn ennill £265,000 y dydd. Mae'n rhaid dweud, mae'n amlwg bod gennym ni gymdeithas sydd wedi colli cysylltiad yn llwyr â'r gwerthoedd y mae i fod i'w harddel. Mae amser wedi mynd yn drech na mi i allu dweud beth y dylem ni ei wneud am hyn, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod ein plant yn cael eu bwydo, ar y lefel fwyaf sylfaenol.

18:15

Mae'n bryd i ni fod o ddifrif yn y fan yma: mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn rhoi'r bai yn blwmp ac yn ddigamsyniol ar Lywodraeth y DU. Am bron i ddegawd, mae Llywodraethau Torïaidd wedi gosod trallod mawr ar bobl Prydain, gyda pholisïau cyni cosbol, crintachlyd a dideimlad. Philip Alston sy'n dweud hyn, nid fi. Mae lefelau tlodi plant:

nid yn unig yn warthus, ond maen nhw'n drallod cymdeithasol ac yn drychineb economaidd.

Unwaith eto, ei eiriau ef, nid fy rhai i. Un o'r canfyddiadau allweddol yw'r cynnydd enfawr hwn o ran tlodi mewn gwaith. Ac fe wnaethom ni glywed ystadegau eto—digonedd ohonynt, unwaith eto—gan Mark Isherwood, yn sôn am leihau tlodi mewn gwaith. Ac eto, mae'r adroddiad hwn yn canfod yn glir iawn mai tlodi mewn gwaith sydd wrth wraidd tlodi plant, ac mai ar y bobl hynny sydd mewn gwaith y mae cyflwyno credyd cynhwysol yn effeithio.

Felly, gadewch inni fod yn glir. Nid yw hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i waith. Nid yw hyn yn fater o, fel yr oedd y Torïaid yn arfer ei ddweud, 'Ar eich beic.' Wel, triwch chi ddweud hynny wrth y cludwr sy'n methu â thalu rhent y mis hwn, er gwaethaf bod ar ei beic neu ar ei feic, ac er gwaethaf gweithio bob awr o'r dydd. Dywedwch wrth yr un o bob pedwar unigolyn yn y wlad hon sy'n gweithio am lai na'r isafswm cyflog. Dywedwch wrth yr unigolion a'r teuluoedd yn Rhydaman, yng Nghaerfyrddin, yn Llanelli, yn Aberystwyth, yn Aberteifi, yn Nolgellau, ym Mhorthmadog ac ym Mhwllheli a fydd yn cael Nadolig diflas eleni, oherwydd bod cyflwyniad y credyd cynhwysol wedi'i orfodi arnyn nhw dros y Nadolig. Ac mae pob un ohonom ni'n gwybod, onid ydym ni, nad yw un o bob pedwar o hawlwyr yn cael eu harian ar amser. Felly, ni allaf weld pa lawenydd y Nadolig y byddan nhw'n ei gael yn eu cartrefi. Ac mae'n bolisi bwriadol. A allwch chi ddychmygu cyflwyno polisi sy'n arwain at bobl a theuluoedd i fod heb arian, heb obaith o gael unrhyw arian, ar adeg y Nadolig? Ni allai Scrooge fod wedi gwneud yn well pe byddai wedi trio.

Felly, awn yn ôl at y cyn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey. Cyfaddefodd y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf oddeutu £200 yr wythnos yn waeth eu byd—mae'r bobl dlotaf £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Wn i ddim a ydych chi'n mynd i ddadlau â'r teuluoedd hynny a dweud bod hwn yn syniad da. Darllenais heddiw fod grŵp o fenywod wedi lansio achos cyfreithiol yn yr uchel lys yn dadlau bod y system taliadau credyd cynhwysol yn afresymol ac yn wahaniaethol. Rwy'n cytuno yn llwyr â nhw. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw, ond ni ddylen nhw orfod ymladd y frwydr honno.

Mae'r un peth yn wir am fanciau bwyd. Mae'n wych bod pobl yn eu cefnogi—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd, ac rwy'n siŵr y bydd rhai ohonom ni'n mynd ac yn ymuno â nhw dros y Nadolig. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw llun arall yn y papur lleol o wleidydd Torïaidd yn gwenu'n falch wrth gefnogi'r diwydiant twf mwyaf sydd wedi ei greu trwy eu polisïau. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw llun o unrhyw wleidydd Torïaidd yn dangos cywilydd am y ffaith ei fod y diwydiant twf mwyaf.

Rwyf i'n credu, fel y nodir yn adroddiad y Cenhedloedd Unedig, bod cost cyni wedi effeithio'n anghymesur ar bobl dlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Ac rydym ni wedi clywed heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn, pan fo'n bosibl, y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Nid yw hynny wedi digwydd yn Lloegr. Rydym ni wedi parhau i ddarparu mynediad at gronfeydd lles ar gyfer caledi mewn argyfwng, ond maen nhw wedi'u dileu yn Lloegr. Mae gennym ni gynnig gofal plant cynhwysfawr a chlybiau cinio gwyliau ysgol; maen nhw'n enghraifft wych o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ac mae'n flaengar ac mae'n sosialaidd, ac rydym ni o leiaf yn falch o geisio gwneud yr hyn a allwn.

Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn mynd ymlaen i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Hoffwn i fod â ffydd Plaid Cymru pe byddem ni'n cymryd yr awennau, y byddai gennym ni'r arian. Ond, mae wedi costio £266 miliwn i Lywodraeth yr Alban i wneud rhywbeth â'r pwerau hynny heb fawr o effaith. Rwy'n siŵr y gallai £266 miliwn, pe byddai wedi ei wario ar ddulliau wedi'u targedu, fod wedi cael effaith fwy o lawer.

Gwn fod pob un ohonom yn deall yn glir iawn yn y Siambr hon mai digartrefedd yw'r perygl mwyaf i bobl ar y system newydd hon o gredyd cynhwysol. Pan nad yw rhent yn cael ei dalu ar amser, mae'n bosibl iawn mai byw ar y stryd fydd hanes pobl. Yr hyn yr wyf am ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yw a fydd hi'n gallu gwneud rhywbeth i amddiffyn y bobl hynny sy'n canfod eu hunain mewn tenantiaeth breifat, fel nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn diweddu ar y stryd yn y pen draw, dros y Nadolig nac ar unrhyw amser arall yn y dyfodol.

18:20

Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn ofalus. Mae angen gwrando ar brofiadau bywyd pobl yn ein cymunedau sy'n dioddef oherwydd diwygiadau lles bondigrybwyll neu arferion gwaith annheg.

Yn ganolog i'r cyflwyniad anhrefnus ac effaith hyn mae credyd cynhwysol. Mae'r polisi creulon hwn yn cynnwys dulliau, fel y nodwyd gan bob plaid, i eithrio pobl o'r system les, ac mae'n achosi llawer o ddioddefaint i bobl ledled y DU, gan gynnwys llawer o'm hetholwyr i yn Islwyn. Mae'n rhaid rhoi terfyn arno ar unwaith. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau blaenorol, Esther McVey, wedi cyfaddef y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf, fel sydd wedi'i nodi eisoes, £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Teuluoedd sydd eisoes yn byw mewn tlodi truenus yn sgil asesiadau PIP yn methu, tynnu'n ôl gredydau treth, y dreth ystafell wely a thaliadau sengl i rieni unigol, fel y dywedodd Helen Mary, yn gwaethygu cam-drin domestig a thrais teuluol—polisi wreig-gasaol yr wyf innau hefyd yn credu iddo gael ei greu gyda'r bwriad hwnnw. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r polisïau hyn, mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn amlygu ac yn datgan:

ei bod yn warthus bod angen i weinyddiaethau datganoledig wario adnoddau i amddiffyn pobl rhag polisïau Llywodraeth.

Yn wyneb yr heriau hyn, dywed yr adroddwr arbennig fod:

Llywodraeth Cymru wedi newid ei phwyslais yn benderfynol i gynyddu ffyniant economaidd a chyflogaeth fel y porth i leihau tlodi.

Mae'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull Llywodraeth gyfan o leihau tlodi. Yr unig ffordd o roi terfyn ar y trallod hwn, a achoswyd gan gredyd cynhwysol creulon y Torïaid, yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Mae rhai yn y Siambr hon a fydd yn ymgyrchu dros ddatganoli lles, fel yr ydym wedi clywed. Ond rwy'n eu rhybuddio bod hyn yn wystl ffawd, o ystyried achosion blaenorol pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol cynlluniau lles heb y gyllideb gysylltiedig. Mae gwasanaethau rheng flaen yr Alban £266 miliwn ar eu colled o ganlyniad i hyn. Nid oes gan Weinidogion a'r bobl y ffydd y byddai Llywodraeth Dorïaidd y DU yn trosglwyddo cyllideb deg ochr yn ochr â throsglwyddo cyfrifoldeb dros reoli gweinyddol y budd-daliadau lles, ac nid oes gen innau ychwaith. Mae'r Alban, fel y dywedais, wedi gorfod tynnu'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth wasanaethau rheng flaen—oddi wrth rhai sydd fwyaf ei angen .

I gloi, Dirprwy Lywydd, nid yw'n iawn bod plant yn llwglyd yn un o economïau cyfoethocaf y byd. Mae cyni yn wir yn ddewis gwleidyddol ac yn un sydd, fel y dengys yr adroddiad hwn, yn niweidio'n anghymesur y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig—menywod, plant, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, rhieni sengl a'r rhai hynny ag anableddau—ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai hynny sy'n agored i niwed. Er bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi gwneud llawer i godi pobl allan o dlodi, mae'r adroddiad hwn yn atgoffa pob un ohonom am effeithiau anfaddeuol polisïau creulon Llywodraeth y DU, ac ni ellir gweld ei ddiwedd. Mae'n amser am etholiad cyffredinol. Mae'n bryd rhoi terfyn ar gredyd cynhwysol, a therfyn hefyd ar ymddygiad gwarthus y cwmnïau mawr rhyngwladol fel Atos a Capita ymysg eraill sydd wedi ei gynnal. Diolch.

18:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i eisiau bod yn glir ein bod ni'n cytuno â Phlaid Cymru, â'u cynnig, i'r graddau y mae'n ymwneud ag effaith ddinistriol mesurau cyni Llywodraeth y DU ar bobl Cymru. Rydym ni yn anghytuno â'r ymarferoldeb a'r awydd i gael cyfrifoldeb gweinyddol am nawdd cymdeithasol, a byddaf yn sôn yn fanylach am hyn maes o law.

Fel y byddai'r Aelodau yn ei ddisgwyl, rydym yn gwrthod gwelliant hunanfodlon y Ceidwadwyr, sy'n anwybyddu'r dioddefaint gwirioneddol sy'n cael ei achosi gan ymdrechion carbwl a chreulon eu plaid i ddiwygio lles. Mae'n rhaid imi ddweud y bu'n brynhawn o gyfraniadau eithaf syfrdanol o feinciau'r Ceidwadwyr, ac ar sail yr unig gyfraniad gan y Ceidwadwyr yr ydym wedi'i gael yn y ddadl hon, gellid  maddau i chi mewn gwirionedd am feddwl bod y trefniadau diwygio lles yn llwyddiant ysgubol.

Rydym yn gwybod yn iawn bod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Fe gwrddais i â'r Athro Alston yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef mai polisïau diwygio lles a chyni Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn yn llwyr. Mae'r effeithiau yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau sydd eisoes yn agored i niwed a'r rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi â nhw. Crynhodd yr Athro Alston yn y sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd fel hyn:

Mae profiad y Deyrnas Unedig, yn enwedig ers 2010, yn tanlinellu'r casgliad bod tlodi yn ddewis gwleidyddol. Gallai cyni yn hawdd fod wedi arbed y tlawd, pe byddai'r ewyllys gwleidyddol wedi bodoli i wneud hynny.

Mae'n parhau:

Roedd adnoddau ar gael i'r Trysorlys yn y gyllideb ddiwethaf a allai fod wedi trawsnewid y sefyllfa i filiynau o bobl sy'n byw mewn tlodi, ond gwnaed hytrach.

Geiriau damniol. Mynegodd yr adroddwr arbennig ei ddicter bod angen i'r gweinyddiaethau datganoledig wario eu hadnoddau sy'n prinhau i amddiffyn pobl rhag y polisïau niweidiol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn sgil cyni mae ein cyllideb gyffredinol ar gyfer 2019-2020 wedi gostwng gan £850 miliwn mewn termau real o'i gymharu â 2010-2011. Serch hynny, yn absenoldeb newid cyfeiriad gan o fewn ein gallu i liniaru effeithiau gwaethaf y polisïau dinistriol hyn.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli budd-daliadau lles am sawl rheswm. Fel mater o egwyddor, o undod cymdeithasol, dylai fod gan bawb hawl gyfartal i hawlio gan ein gwladwriaeth les. Dylid diwallu anghenion dinasyddion yn yr un modd, ni waeth ble maen nhw yn y DU, ac nid ydym yn credu bod cydraddoldeb ac undod ac ailddosbarthu cyfoeth yn 'deyrngarwch truenus' nac yn 'ddogma unoliaethol', fel yr awgrymodd meinciau Plaid Cymru. Byddem ni hefyd yn hynod o ofalus wrth gytuno ar unrhyw newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol, gan gynnwys datganoli budd-daliadau, cyn asesu goblygiadau sut y byddai'r newidiadau hynny yn cael eu hariannu. Ac, wrth gwrs, rydym yn arbennig o ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd pan wnaeth Llywodraeth y DU ddatganoli'r budd-dal treth gyngor i Gymru, pan wnaethon nhw frig-dorri'r gyllideb.

Mae'r dull o ddatganoli budd-daliadau lles i Lywodraeth yr Alban wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig, wrth i'r galw am fudd-daliadau fesul pen gynyddu'n gyflymach yn yr Alban nag yn Lloegr o'r pwynt datganoli. Ac i Gymru, byddai hynny'n risg ariannol sylweddol. Fel yr ydym ni wedi clywed, byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn tynnu adnoddau oddi wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Yn yr Alban, mae £266 miliwn wedi'i dynnu oddi wrth wasanaethau rheng flaen er mwyn gweithredu'r pwerau lles datganoledig newydd. Efallai nad yw pobl eraill yn hoffi'r dadleuon hyn, ond rwy'n credu eu bod yn bryderon rhesymol a dilys pan awgrymir y dylem ni fod yn cymryd cyfrifoldeb am yr eitemau hyn.

Felly, dylai hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol fod ar gael, a gall fod ar gael i bawb sy'n cael y budd-dal hwnnw trwy drefniadau taliadau amgen. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cytuno i'n cais am hyn, byddai'n lleddfu llawer o'r anawsterau y mae pobl yn eu profi yn sgil y taliad credyd cynhwysol. Nid oes angen datganoli trefniadau gweinyddu i wneud hyn, byddai'n gostus, fel yr ydym ni wedi clywed, ac yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyflawni ein cyfrifoldebau.

Rwyf i wedi ysgrifennu at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, sydd wedi cydnabod bod problemau o ran credyd cynhwysol, gan ei hannog i ystyried sut y gall credyd cynhwysol gefnogi pobl yn well a chydnabod bod llawer o'r hawlwyr yn dymuno dewis amlder eu taliadau a bod angen gwneud hynny ar rai. Pwysleisiais hefyd yr angen i sicrhau bod yr holl hawlwyr blaenorol yn derbyn y lefel uchaf o daliadau amddiffyniad trosiannol atodol er mwyn sicrhau nad oes neb dan anfantais ac yn waeth eu byd pan fyddan nhw'n symud i gredyd cynhwysol.

Ein dull ni o fynd i'r afael â thlodi yw y dylai fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae llywodraeth a'i phartneriaid yn gweithio ac yn cyflawni dros bobl Cymru. Dyna pam mae trechu tlodi yn sylfaenol i 'Symud Cymru Ymlaen' a 'Ffyniant i Bawb'. Mae 'Ffyniant i bawb' yn cydnabod bod lleihau lefelau tlodi a thyfu ein heconomi yn dibynnu ar ei gilydd. Mae'n nodi'r camau hynny y byddwn ni'n eu cymryd fel Llywodraeth i greu'r amodau a'r cyfleoedd er mwyn i bobl a chymunedau lwyddo, tyfu a ffynnu.

Ein hymrwymiad sylfaenol yw atal tlodi. Rydym yn gwneud hyn trwy fuddsoddi a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, helpu pobl i wella eu sgiliau, cefnogi pobl i gael cyflogaeth deg a chymryd camau i liniaru effaith tlodi nawr. Mae'r rhain i gyd wedi'u hymgorffori yn ein strategaeth genedlaethol.

18:30

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, un o brif ganfyddiadau'r adroddiad hwn yw bod pobl anabl yn disgyn ymhellach ar ei hôl hi ac y gwrthodir yr hawl i fyw'n annibynnol iddynt. Nawr, fe wnaethoch chi restru rhai o'r pethau yr ydych chi wedi'u gwneud. Rhywbeth arall yr ydych chi wedi'i wneud fel Llywodraeth, yn groes i bolisi eich plaid eich hun, wrth gwrs, yw cael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru. Nawr, cafwyd llawer o hanesion am bobl anabl yn disgyn ar ei hôl hi, felly a allwch chi roi sicrwydd pendant i'r Cynulliad hwn na fydd y bobl a fu'n derbyn arian cronfa byw'n annibynnol Cymru yr un geiniog yn waeth eu byd yn dilyn eich penderfyniad?

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymyriad yna. Wrth gwrs, Llywodraeth y DU a diddymodd y gronfa byw'n annibynnol, ac yna ceisiodd Llywodraeth Cymru gefnogi pobl a oedd eisoes yn derbyn arian o'r gronfa honno. Ond mae hon yn enghraifft o sefyllfa, os oes gennych chi'r swm hwn o arian ac nad ydych chi ond, mewn gwirionedd, yn caniatáu i'r bobl hynny sydd ar y budd-dal hwnnw, neu sy'n derbyn y budd-dal hwnnw, i barhau arno, yna mae gennych chi system ddwy haen ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddem ni eisiau ei gefnogi. Dylai pobl allu cael eu hanghenion wedi'u bodloni, a'u bodloni'n dda, drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'r darpariaethau y bydden nhw'n eu derbyn o dan honno.

Felly, mae cynnig a gwelliannau'r Ceidwadwyr yn galw am dargedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y dangosyddion cenedlaethol, sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn helpu i fesur ein cynnydd fel gwlad tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Bydd llawer o'r dangosyddion hyn yn ein helpu i asesu'r cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y rhain yn mesur, er enghraifft, tlodi cymharol, amddifadedd materol, lefelau cyflogaeth a ffyrdd o fyw iach, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â hyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu cerrig milltir cenedlaethol a fydd yn dynodi graddfa a chyflymder y newid sydd ei angen os ydym ni am gyflawni'r saith nod erbyn 2050.

Felly, Llywydd, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gwelliant ein hunain, rydym yn gweithio'n galed i liniaru effaith waethaf camau cyni parhaus Llywodraeth y DU, tra bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffygion sylfaenol yr ydym ni wedi eu nodi yn y credyd cynhwysol.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw yn awr ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl?

Diolch. Dylai'r adroddiad hwn fod wedi bod yn ysgytwad i'r Torïaid, ond dyw e' ddim, felly nid wyf i hyd yn oed yn mynd i sôn am y ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwadu hyn yn llwyr. O ran y pwyntiau a wnaed gan yr asgell dde eithafol, rydych chi'n jôc llwyr. Nid oes gennych chi unrhyw syniad am dlodi na sut y bydd y bobl dlotaf yn y byd yn dioddef o ganlyniad i'r ffaith eich bod yn gwadu newid yn yr hinsawdd, na sut y bydd pobl dlawd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu niweidio gan eich rhethreg gas. Mae eich cyfraniad chi a'r ymgynghorydd diweddar, newydd, i'ch plaid, sydd hyd yn oed ymhellach i'r dde, yn dangos nad ydych chi'n addas i gynrychioli pobl. Nid oes unrhyw le i chi yn y math o Gymru yr wyf i eisiau ei weld. Rydych chi'n rhan o'r broblem ac nid yn rhan o'r ateb.

O ran y Torïaid, rydych chi mor ddiddeall o'r sefyllfa fel nad oes gennych chi unrhyw syniad o'r boen a achosir i bobl gyda'r credyd cynhwysol. Er gwaethaf y dystiolaeth—ac asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn 2011 yn dangos nad yw'n talu'r ffordd i bobl weithio gyda'r credyd cynhwysol—mae mwy o bobl yn wynebu datgymhellion uwch i weithio nag o dan yr hen system. Er gwaethaf y dystiolaeth, rydych chi'n dal i honni bod y system hon yn wych. Bydd unrhyw un sy'n gwylio hyn yn llunio ei farn ei hun, rwy'n siŵr.

Rwyf eisiau dweud 'diolch' wrth yr Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon mewn ffordd gadarnhaol, yn arbennig i'r rhai a dynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau datganoledig eraill yn sgil effeithiau'r credyd cynhwysol a'r rhai hynny a siaradodd am grwpiau penodol y gwahaniaethir yn eu herbyn. A diolch arbennig i Helen Mary Jones am gyflwyno'r agwedd ryweddol ar y ddadl hon mewn modd mor rymus. Rwyf hefyd yn cefnogi galwad Jane Hutt i roi mwy o bwysau ar Amber Rudd ar hyn hefyd.

Mae'n rhaid imi roi sylw i'r pwynt a wnaed gan Joyce Watson a'r Gweinidog am yr hyn y mae'r Alban wedi'i wneud o ran lliniaru'r problemau hyn. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw bwerau, erbyn hyn, i ddarparu 11 o fudd-daliadau. Maen nhw'n mynd i gyflwyno lwfans gofalwyr uwch, ac yna'r grant Best Start a'r grant cymorth angladdau o fis Medi 2019. Maen nhw wedi cael yr arian ac maen nhw'n gwario mwy. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n blaenoriaethu tlodi. Nawr, mae'r Blaid Lafur yn yr Alban eisiau i'r SNP fynd hyd yn oed ymhellach, i fod hyd yn oed yn fwy hael, i liniaru effeithiau'r budd-daliadau hyn hyd yn oed yn fwy. Felly, pam ydych chi'n gwrthwynebu? Mae hyn yn enghraifft arall eto o'r Blaid Lafur yn wynebu nifer o wahanol gyfeiriadau. Byddai'r newidiadau yr ydym ni eisiau eu gweld o ran datganoli gweinyddu budd-daliadau yn arbed arian i'r Llywodraeth hon. Pe byddech chi'n gwneud hyn yn iawn gallech chi arbed arian i'r GIG, gallech chi arbed arian ym maes tai, gallech chi arbed arian mewn addysg a llawer iawn mwy. O gofio ein sefyllfa â'r holl dlodi hwn, ac mae'n debygol o gael ei wneud yn llawer iawn gwaeth ar ôl Brexit, mae'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth unrhyw strategaeth, ac nad oes ganddi unrhyw Weinidog penodol i fynd i'r afael â thlodi na thlodi plant, yn warth llwyr.

Rwyf eisiau gorffen gyda dyfyniad o'r adroddiad, gan yr Athro Philip Alston ei hun, sy'n dweud,

Yn absenoldeb pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, mae gallu Llywodraeth Cymru i liniaru yn uniongyrchol y gostyngiad mewn budd-daliadau yn gyfyngedig, gan felly symud y baich i aelwydydd incwm isel. Mae consensws eang ymhlith rhanddeiliaid bod y newidiadau budd-dal yn un o'r achosion strwythurol y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu ar y stryd a digartrefedd yng Nghymru. Lleisiodd seneddwyr a chymdeithas sifil bryderon difrifol y gallai credyd cynhwysol waethygu'r broblem, yn enwedig yn sgil anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd yn ei dull gweinyddu, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban.

Mae hynny'n dweud bod gennych chi'r pŵer i wneud rhywbeth am hyn. Gwnewch hynny.

18:35

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rydym wedi cyrraedd yr amser pleidleisio, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn bwrw ymlaen i agor y pleidleisiau. Iawn. Diolch.

Y bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r un ar y ddadl, Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru ac Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 12, neb wedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant.

NDM6973 - Amendment 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 47, neb wedi ymatal, neb yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6973 - Amendment 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 10, 10 wedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 3.

NDM6973 - Amendment 3: O blaid: 10, Yn erbyn: 28, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 38, 10 wedi ymatal, neb yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 4.

NDM6973 - Amendment 4: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb wedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 5.

18:40

NDM6973 - Amendment 5: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6873 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'.

2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.

3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.

4. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.

5. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 37, 10 wedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

'NDM6873 - Dadl: ''Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru': O blaid: 37, Yn erbyn: 1, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd y cynnig.

NDM6875 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awdurdodau Lleol: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb wedi ymatal, 19 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6875 - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb wedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6875 - Gwelliant 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6875 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.

3. Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU.

4. Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU.

5. Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru.

6. Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 34, un wedi ymatal, 13 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6875 - Cynnig fel y'i Diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Trown yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wyth, dau wedi ymatal, 38 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y cynnig.

NDM6874 - Dadl Plaid Cymru - Tlodi: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, dau wedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant.

NDM6874 - Gwelliant 1: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 28, neb wedi ymatal, 20 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6874 - Gwelliant 2: O blaid: 28, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6874 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.

2. Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:

a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;

b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;

c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a

d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 28, dau wedi ymatal, 18 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6874 - Cynnig fel y'i Diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 18, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 18:43.