Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David. 

Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion sy'n rhan o fand B Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ52976

Gwnaf. Bydd band B ein rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol o £2.3 biliwn yn ein hystâd addysg o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac, yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes, bydd holl awdurdodau lleol a cholegau Cymru yn elwa ar y buddsoddiadau hynny.

Ac mae'n wir bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddefnyddio cyllid cyhoeddus-preifat drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol o £500 miliwn i ariannu'n rhannol y gost o adeiladu ysgolion newydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wrthyf na fyddai cynlluniau adeiladu ysgolion unigol yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael cyllid, ac yn hytrach byddai cynlluniau yn cael eu tynnu ynghyd mewn sypiau ledled Cymru i fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys. Fodd bynnag, lluniwyd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mai 2017 pryd y dywedasant fod y rhan fwyaf o gynghorau wedi gwrthod, hyd yn hyn, caffael prosiectau mewn sypiau, y gallai ymgynghoriadau hirfaith ar un neu ddau o brosiectau dadleuol sy'n cynnwys uno neu gau o bosibl ohirio'r holl brosiectau sydd mewn swp ac y byddai methiant i gydweithredu yn peri risg sylweddol i'r elfen o'r rhaglen a ariennir gan refeniw.

Ar ôl edrych trwy drafodaethau blaenorol yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ar y model buddsoddi cydfuddiannol, rwy'n canfod bod y Llywodraeth wedi darparu gwybodaeth annigonol am sut y mae'n mynd i ddatrys y problemau hyn. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog, yn y lle cyntaf, amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau o ran sypiau, ond, yn y tymor hwy, a wnaiff ef ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth fel y gall yr holl Aelodau graffu ar y model ariannu hwn yn effeithiol?

Y rheswm pam yr ydym ni wedi dewis partneriaeth strategol i ddarparu prosiectau addysg MIM yw ei fod yn caniatáu i werth cyfalaf prosiectau unigol fod yn is o lawer nag y byddent o dan gaffael unigol. Felly, rydym ni'n annog, wrth gwrs, bwndelu i ddigwydd er mwyn i'r gost ostwng, ymhlith rhesymau eraill. Rhoddir y cyfle i bartner strategol llwyddiannus ddarparu'r biblinell gyfanredol o gynlluniau addysg MIM—mae hynny hyd at £500 miliwn mewn gwerth—ac mae hynny'n cynrychioli ffordd effeithlon a hyblyg o ddarparu cynlluniau sengl neu mewn sypiau bach ar lefel leol sydd â gwerthoedd mor isel â £15 miliwn, oherwydd, heb hynny, byddai angen i bob awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach unigol gynnal proses gaffael llawn ar gyfer pob un o'i brosiectau MIM unigol, sy'n anymarferol ac yn cymryd llawer o amser. Byddem yn annog awdurdodau lleol, wrth gwrs, i fabwysiadu dull bwndelu fel bod eu costau eu hunain yn cael eu gostwng ac, yn ail, wrth gwrs, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu darparu prosiectau na fyddai'n cael eu darparu fel arall yn ôl pob tebyg, gan eu bod yn llai o ran maint.

Diben ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi eich clywed chi'n dweud droeon, yw gwella'r ystâd ysgolion ledled Cymru. Yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cau ysgol gefn gwlad fach sydd â chofrestr dda, sydd â dyfodol disglair o'i blaen—ysgol Llancarfan. Rwy'n sylweddoli na allwch chi drafod achos penodol, ond does bosib ei bod hi'n iawn i ddefnyddio arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i gau ysgol hyfyw sydd â dyfodol disglair, ac, yn wir, nid yw'r ddadl y mae Cyngor y Fro wedi ei chyflwyno hyd yn oed yn sôn am gau; adleoli yw'r cwbl y mae'n sôn amdano. Nid dyna ddiben ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, aie?

Wel, fel y mae ef yn ei ddweud, nid cau ysgolion yw amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw darparu safleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu ynddynt. Gwn, wrth gwrs, bod hynny wedi golygu mewn llawer o rannau o Gymru bod ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu a bod ysgolion presennol wedi cael eu cau am sawl rheswm. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, na allaf wneud sylwadau ar gynnig penodol sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg, ond rydym ni'n falch o'r ffaith bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu adeiladau newydd ac adeiladau wedi'u hailwampio i gynifer o blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae galw mawr am yr arian cyfalaf ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gan y sector cyfrwng Cymraeg, sydd yn newyddion ardderchog, wrth gwrs, ac yn dangos awydd i gefnogi uchelgais miliwn o siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth yma. Ond nid oes yna ddigon o arian i ateb y galw, a hynny o bell ffordd. Mae gwerth dros £100 miliwn o geisiadau am arian wedi cael eu cyflwyno ar gyfer prosiectau i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. A fydd yna fwy o fuddsoddiad ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg neu addysg cyfrwng Cymraeg yn y tymor Cynulliad hwn?

Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi yn fawr iawn mewn addysg ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cadw'r maint sy'n cael ei hala ar addysg yn uchel. Er enghraifft, os edrychwn ni ar beth rydym ni wedi ei wario ar addysg, rydym ni'n gallu gweld bod y gwario wedi mynd lan dros y blynyddoedd—1.8 y cant yn 2017-18, a hwnnw yw'r mwyaf o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod yna fwy o alw am addysg Gymraeg, sy'n rhywbeth i'w groesawu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, drwy'r cynlluniau sydd gyda nhw, sicrhau bod y galw'n cael ei ateb, a hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod yr athrawon yna er mwyn i'r ysgolion allu ffynnu a thyfu yn y pen draw. Rydym ni'n mynd i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn addysg Gymraeg ac rydym ni'n mynd i weithio gyda'r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau sydd gyda nhw yn gynlluniau sy'n gryf. 

13:35
Y Goblygiadau i Gymru o'r Cytundeb Ymadael

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o'r cytundeb ymadael rhwng y DU a'r UE? OAQ52973

Wel, ceir datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, wrth gwrs, ond rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud er bod angen llawer o agweddau ar y cytundeb ymadael, bod angen i'r datganiad gwleidyddol ar ein perthynas yn y dyfodol nodi bwriad y ddwy ochr i gytuno ar berthynas hirdymor sy'n adlewyrchu'n eglur y safbwynt yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gytundeb.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Tybed a allai gynnig ei farn a'i ddadansoddiad ynghylch ôl-stop Gogledd Iwerddon yn arbennig a'i oblygiadau i Gymru. Fel sy'n wir erioed gyda Llywodraeth y DU, nid yw'n ymddangos bod y rhethreg a'r realiti yn cyfateb hyd yn oed pan fo gennym ni fanylion cytundeb ymadael 600 tudalen. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd ôl-stop Gogledd Iwerddon yn rhoi dwy ffin agored i Ogledd Iwerddon: un gyda'r Weriniaeth ac un gyda Phrydain. Ond os oes gwahaniaeth rheoleiddiol neu nad yw'n rheoleiddiol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain, does bosib nad yw hynny'n golygu y bydd ffin galed ym Môr Iwerddon. Ai dyna ddealltwriaeth y Prif Weinidog o'r cytundeb ymadael a'r ôl-stop yn arbennig? A yw'n cytuno, felly, y byddai hynny'n newyddion drwg i borthladdoedd Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol? Neu a yw'n ymwybodol o unrhyw gynnig arall y gallai fod gan Lywodraeth y DU, fel penderfynu'n unochrog i beidio ag archwilio unrhyw nwyddau sy'n dod o Ogledd Iwerddon, pa un a oes ôl-stop ai peidio?

Wel, dyna wraidd y mater. Wrth gwrs, ceir rhai archwiliadau nawr, yn enwedig o ran anifeiliaid ac archwiliadau bwyd, ond maen nhw wedi bod yno oherwydd bod ynys Iwerddon yn un ardal cyn belled ag y mae bioddiogelwch yn y cwestiwn. Y pryder fu gen i erioed, ac ni roddir sylw iddo yn y cytundeb ymadael, yw y byddai rhwystrau yn cael eu codi, byddai, trwy ganol môr Iwerddon, ond mae hynny'n effeithio ar Gymru hefyd, oherwydd, yn amlwg, yr hyn nad wyf i eisiau ei weld, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon yn y Siambr hon, yw unrhyw rwystrau newydd yn cael eu codi rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn enwedig rhwystrau a fyddai'n arwain at fasnach yn symud yn rhwyddach trwy borthladdoedd yr Alban i Ogledd Iwerddon. Nid yw'r cytundeb ymadael yn eglur ynghylch sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'r pwyslais wedi bod ar y ffin ar y tir rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond nid oes unrhyw bwyslais ar y ffin forol rhwng Cymru—a Lloegr o ran hynny—a Gweriniaeth Iwerddon, sy'n absennol o'r cytundeb.

Prif Weinidog, tra bod eich Llywodraeth wedi bod yn chwarae gwleidyddiaeth ers mis Mehefin 2016, a dweud y gwir—[Torri ar draws.]—trwy ddangos eich hun ac ymosod ar Brif Weinidog y DU, y gwir amdani yw bod Theresa May wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, sy'n cyflawni dros Gymru ac yn parchu canlyniad y refferendwm—ac rwy'n atgoffa pawb—pan bleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr UE. Nawr, rwy'n derbyn bod y cytundeb a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf yn gyfaddawd. Rwy'n derbyn na fydd yn bodloni pawb yn y Siambr hon, ond yr hyn y bydd yn ei wneud—. [Torri ar draws.] Yr hyn y bydd yn ei wneud fydd amddiffyn swyddi, diogelu buddiannau busnesau Cymru, diogelu'r amgylchedd a diogelu hawliau pobl Cymru. Nawr, er gwaethaf y gefnogaeth a ddangoswyd i'r cytundeb hwn gan y CBI, gan sefydliad y Cyfarwyddwyr a chan y gwahanol undebau ffermio, gan gynnwys ein hundebau ffermio ein hunain yma yng Nghymru, mae Jeremy Corbyn, wrth gwrs, wedi diystyru cefnogi'r cytundeb, a diystyriwyd hynny ganddo heb ddarllen manylion y cytundeb. A ydych chi wedi darllen y cytundeb, ac a wnewch chi ein sicrhau y byddwch yn gwneud y peth iawn a chefnogi'r cytundeb sydd o'n blaenau, sydd yn ymarferol ac yn cynrychioli'r unig ffordd i ni ymadael â'r UE yn drefnus?

Wel, nid oes unrhyw bwynt gofyn i mi; mae angen iddo ofyn i'w gydweithwyr ei hun yn Llundain. Nid yw'n gwestiwn bod hon yn ddadl Llafur yn erbyn y Ceidwadwyr. Mae llawer iawn o'i gydweithwyr yn Llundain sy'n gwrthwynebu'r cytundeb hwn yn llwyr. Dyna yw'r gwir amdani. Mae angen iddo argyhoeddi Jacob Rees-Mogg yn gyntaf, gyda pharch, gan ei fod ef yn aelod o'i blaid. David Jones—ar ei garreg drws ei hun, gall geisio darbwyllo David Jones. Y broblem yw hon, ynte: mae'r cytundeb ymadael yn roi sylw i rai o'r materion, ond nid mewn ffordd sy'n ddigon diogel nac yn ddigon parhaol. Ceir materion eraill y mae angen eu datrys hefyd, yn enwedig o ran yr ôl-stop. Y broblem wirioneddol yw na allaf weld unrhyw ffordd bod hwn yn mynd i lwyddo i fynd drwy Tŷ'r Cyffredin. Dyna'r broblem, ac mae angen i'r Blaid Geidwadol ystyried pa un a yw'r pleidleisiau ganddi ai peidio i gael cymeradwyaeth i'r cytundeb. Felly, nid y cytundeb yw'r broblem fel y cyfryw, er bod gen i ddadleuon ynghylch y cytundeb, yn enwedig o ran pa mor hir y bydd yn para, ond nad ydym yn gwybod pa un a fydd y cytundeb hwn yn llwyddo i fynd drwy Tŷ'r Cyffredin, a dyna ble mae'r broblem o fewn y Blaid Geidwadol a'r rhaniadau enfawr sydd ynddi.

13:40

Prif Weinidog, yn ogystal â'r cytundeb ymadael, fel yr ydych chi wedi tynnu sylw ato'n rheolaidd, cafwyd y datganiad gwleidyddol ar y berthynas yn y dyfodol a gyhoeddwyd ar yr un pryd. Er na allwn ni newid y cytundeb ymadael, gan ein bod ni'n annhebygol o gael unrhyw newidiadau a gwelliannau drwy'r UE yn y sefyllfa honno, gellir newid hyn o hyd mewn gwirionedd, ac nid yw'r Cyngor yn cyfarfod tan ddydd Sul. A ydych chi'n cael trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU i sicrhau bod llais Cymru yn mynd i gael ei glywed mewn unrhyw newidiadau i'r datganiad hwn? Oherwydd fel yr ydych chi wedi tynnu sylw ato droeon gerbron ein pwyllgor, ni wrandawyd ar lais Cymru yn aml iawn yn Llundain. Mae'n amser erbyn hyn y dylid gwrando arno yn y datganiad hwn yn y dyfodol ar fuddiannau yn y dyfodol.

Gallaf hysbysu'r Siambr y byddaf yn cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory i drafod hynny a materion eraill.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mi fydd gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu mewn uwchgynhadledd y penwythnos yma os ydy'r cytundeb drafft ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio iddyn nhw. A ydych chi'n credu ei fod o'n gweithio i Gymru?

Na, o achos y ffaith rydw i'n wastad wedi bod o blaid sefyll tu fewn i'r farchnad sengl ac, wrth gwrs, tu fewn i'r undeb tollau.

Mi ydym ni, wrth gwrs, ymhell iawn o beth gafodd ei gynnig yn y refferendwm ddwy flynedd a hanner yn ôl.

Mae'r cytundeb sydd ar gael filltiroedd i ffwrdd, a dweud y gwir, o'r addewidion a wnaed ac y pleidleisiwyd arnynt ym mis Mehefin 2016. Mae'n debyg nad yw'n bodloni neb ar hyn o bryd. Rwy'n credu ein bod ni'n cytuno ar hynny. Yr hyn nad ydym yn cytuno arno yw sut i ddiogelu buddiannau Cymru os na fydd y DU yn aelod o'r UE mwyach, sut bynnag y bydd hynny'n digwydd. Nawr, mae'r Goruchaf Lys yn brysur yn ystyried pa un a yw Bil parhad yr Alban o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban. Os bydd y llys yn cytuno ei fod, bydd gan yr Albanwyr amddiffyniad deddfwriaethol grymus yn erbyn camau i gydio grym gan San Steffan. Ac eto, er eich bod chi wedi codi pryderon ynghylch natur ymadawiad y DU fel y'i cynigir ar hyn o bryd, ar yr un pryd rydych chi'n cynnig y prynhawn yma y dylem ni ddiddymu Bil parhad Cymru—yr unig beth sy'n atal y Torïaid rhag deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad y Cynulliad hwn. Nawr, o gofio y bydd y Goruchaf Lys yn gwneud ei benderfyniad ar yr Alban o fewn mater o wythnosau, beth am oedi diddymiad Bil parhad Cymru tan ein bod ni'n deall y sefyllfa yn y Goruchaf Lys?

Wel, bydd unrhyw ddyfarniad gan y Goruchaf Lys yn cael effaith ar Gymru wrth gwrs. Gadewch i ni ddweud, er enghraifft, pe byddai'r Goruchaf Lys yn dweud bod gan yr Albanwyr y pŵer hwnnw, yna byddai hynny'n ein cynnwys ninnau hefyd. Ond os bydd yn dweud nad oes unrhyw bŵer i wneud hynny, nid oes gan yr Albanwyr ddim, ac mae gennym ni gytundeb. Dyna'r mater yn y fan yma. Mae gennym ni gytundeb rhynglywodraethol y daethpwyd iddo gan ddau barti. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd diddymu'r Ddeddf parhad. Os na fyddwn yn gwneud hynny, byddwn wedi torri'r cytundeb, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs ein bod ni wedi dangos ewyllys drwg cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a chyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn. Mae'n werth cofio hefyd, wrth gwrs, y daethpwyd i gytundeb ar ôl misoedd lawer iawn o drafod, ac nid yw'r cytundeb hwnnw'n rhywbeth y gellir ei daflu i ffwrdd yn ddi-hid. Nawr, gwn ei fod ef o'r farn nad yw'n hoffi'r cytundeb. Rwy'n deall hynny; fe'i gwnaed yn eglur yn y Siambr hon yn y gorffennol. Ond mae gennym ni gytundeb fel Llywodraeth i amddiffyn Cymru, ac rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cytundeb hwnnw'n cael ei anrhydeddu, ar ein hochr ni o leiaf.

Mae gan Gymru rhy ychydig o ysgogiadau fel y mae hi, a'r hyn sy'n digwydd o gael gwared ar bwerau posibl Bil parhad Cymru yw eich bod chi'n gwanhau'r pwerau hynny sydd gennym ni. Y ddadl gyfreithiol yw bod gan Gymru achos cryfach yn y Goruchaf Lys nag oedd gan yr Alban.

Ond, i symud ymlaen, ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd Jeremy Corbyn, arweinydd eich plaid, wrth bapur newydd Der Spiegel yn yr Almaen na ellir atal Brexit. Ers hynny, fe'n hysbyswyd mai'r hyn yr oedd yn ei olygu mewn gwirionedd oedd na all Llafur atal Brexit ar ei phen ei hun. Nawr, mae'r gwrthbleidiau ar ochr 'aros' y ddadl wedi bod yn agored iawn i'r syniad o weithio mewn modd trawsbleidiol i atal Brexit. Yn hytrach nag osgoi ateb—ac, a bod yn onest, rwyf i wedi cael llond bol ar ddyfalu beth sy'n digwydd ym meddwl Jeremy Corbyn—onid ydych chi'n credu y dylai'r Blaid Lafur fod yn cychwyn trafodaethau brys nawr gyda ni, yr SNP a phleidiau eraill yn San Steffan i gydgysylltu ymdrechion i sicrhau pleidlais newydd gydag 'aros' ar y papur pleidleisio? Gwn eich bod chi wedi bod yn hyrwyddo mynd ar drywydd etholiad cyffredinol yn hytrach, ond siawns y gallwch chi weld nawr mai'r hyn sydd wir ei angen arnom yw pleidlais y bobl?

13:45

Gadewch i mi esbonio'r sefyllfa yr wyf i'n credu yr ydym ni ynddi. Yn gyntaf oll, rwy'n credu y bu methiant llwyr o ran gwleidyddiaeth yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, gan ein bod ni wedi cael refferendwm yn 2016 ar syniad. Gall pobl weld nawr beth yw'r canlyniad, ac rwy'n credu bod pob cyfiawnhad dros ddweud wrth bobl, 'Nawr eich bod chi'n gwybod beth yw'r realiti, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Gellid gwneud hynny naill ai drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus. Ond yr hyn sy'n eglur yw y byddai'n rhaid i'r bleidlais gyhoeddus honno gynnig y dewis i adael, ar ba sail i adael, neu, yn wir, i aros, ar sail yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr. Ni allaf weld, lle mae gwleidyddion yn San Steffan wedi methu, neu y mae Llywodraeth yn San Steffan wedi methu, bod unrhyw beth o'i le ar fynd yn ôl at bobl a dweud, 'Mae'r amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Os byddant yn dal i fod eisiau gadael, yna, wrth gwrs, mae ganddyn nhw'r cyfle i ddweud hynny. Ond rwy'n credu bod angen i ni ymddiried yn y bobl yn hyn o beth.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, sut ydych chi'n meddwl y mae camau cynnar y fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn mynd rhagddynt?

Gyda chryn anhawster, oherwydd bu problemau enfawr, fel y gallwn weld. Rwy'n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud yr ymddiheuriadau y mae wedi eu gwneud. Roedd wedi cael ei effeithio gan storm Callum ac mae wedi etifeddu fflyd braidd yn hen. Ond fe wnaethom ddweud—roeddem ni'n onest ar y dechrau—y byddai'n cymryd cryn amser i newid y trenau yr oeddem ni eu heisiau a chael y math o wasanaeth yr ydym ni eisiau ei ddarparu i bobl Cymru.

Prif Weinidog, dim ond ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd eich Ysgrifennydd trafnidiaeth y byddai'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn drawsnewidiol. Rydym ni ychydig dros fis erbyn hyn ers i Drafnidiaeth Cymru—[Torri ar draws.]—ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd masnachfraint rheilffyrdd Cymru drosodd, ac eisoes—

Ni allaf glywed arweinydd yr wrthblaid, ac nid wyf i'n credu y gall y Prif Weinidog ychwaith, felly allwch chi fod yn dawel os gwelwch yn dda a chaniatáu i arweinydd yr wrthblaid gael ei glywed?

Diolch, Llywydd. Rydym ni ychydig dros fis erbyn hyn ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd masnachfraint rheilffyrdd Cymru drosodd, ac mae gennym ni ymddiheuriad cyhoeddus tudalen lawn papur newydd eisoes, yr ydych chi wedi cyfeirio ato. Nawr, mae'r ymddiheuriad yn dweud, a dyfynnaf:

Rydym ni'n gwybod eich bod chi, ein cwsmeriaid, yn haeddu gwell gan eich gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau, ac nid dyma yr oeddech chi'n ei ddisgwyl gan eich gweithredwr newydd.

Diwedd y dyfyniad. A ydych chi'n gwybod pam, Prif Weinidog, nad dyma yr oedd pobl yn ei ddisgwyl? Fe ddywedaf wrthych chi pam. Oherwydd, unwaith eto, mai eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn, ac rydych chi, unwaith eto, yn methu â chyflawni eich addewidion. Addawyd rhwydwaith trenau fforddiadwy, hygyrch, o ansawdd uchel gennych chi yng Nghymru, ond y realiti i deithwyr yw bod trên cymudwyr boreol Trafnidiaeth Cymru o Gas-gwent a Chil-y-coed i Gasnewydd a Chaerdydd wedi cael ei ganslo 16 o weithiau yn ystod yr 20 diwrnod gwaith diwethaf. Nid yw Blaenau Ffestiniog, Betws-y-coed a Llanrwst wedi cael unrhyw drenau drwy'r dydd yn ystod saith o'r 20 diwrnod gwaith diwethaf. A chafodd y trên 08:40 o Aberystwyth i Amwythig ei ganslo ar bedwar diwrnod yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn llanastr llwyr gan eich Llywodraeth. Felly, Prif Weinidog, yn hytrach na ymddiheuriadau wedi'u hysbrydoli gan gysylltiadau cyhoeddus, pa gamau mesuradwy y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dechrau trychinebus hwn i'r fasnachfraint?

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae hwn yn dir sigledig iddo fe. Sut mae'n cyfiawnhau'r ffaith bod Cymru yn cael dim ond 1 y cant o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd? Dim ganddo ef am hynny. Sut mae'n esbonio—? Ie, gwn ei bod hi'n anodd, ond mae'n wir. Sut mae'n esbonio'r ffaith mai ei blaid ei hun wnaeth ganslo trydaneiddio i'r gorllewin o Gaerdydd, er gwaethaf yr addewid a wnaed mewn gwirionedd? Felly, mae hwn yn dir sigledig iawn iddo fe.

Ond, dywedasom y byddem yn gweddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ni ddywedasom y byddem ni'n gwneud hynny mewn mis. Ar ôl 15 mlynedd o fasnachfraint a osodwyd o'r blaen, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o danfuddsoddi yn y trac gan Lywodraeth Geidwadol, dywedasom y byddem yn gweddnewid y rhwydwaith, ond roeddem ni'n onest a dywedasom y byddai'n cymryd amser i wneud hynny. Wrth gwrs y byddai. Mae rhai o'r problemau ar y trenau yn ymwneud â'r trac, nad oes gennym ni reolaeth drosto, ac mae rhai ohonynt yn ymwneud â'r ffaith yr effeithiwyd ar 30 y cant o'r stoc gerbydau gan storm Callum.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fe, nid wyf i'n credu y bydd pobl yn ei weld yn realistig pan ei fod yn dweud, ar ôl 15 mlynedd o ddefnyddio cerbydau, bod popeth yn mynd i newid mewn mis. Yn wir. Dywedasom na fyddai hynny'n digwydd, ond, wrth gwrs, amlinellwyd cynllun ar gyfer y dyfodol gennym a byddwn yn darparu gwasanaeth rheilffyrdd ar gyfer pobl Cymru ac yn cadw ein haddewidion, yn wahanol i'w blaid ef.

Ers i'ch Llywodraeth gymryd y fasnachfraint hon drosodd, mae gwasanaethau wedi gwaethygu, ac mae hynny mewn dim ond mis, Prif Weinidog. Nawr, nid oedd y cytundeb masnachfraint blaenorol yn gadael unrhyw le ar gyfer twf i niferoedd teithwyr a dim darpariaethau ar gyfer capasiti trenau ychwanegol. Ers gosod y fasnachfraint honno gyntaf yn 2003, mae niferoedd y teithwyr wedi cynyddu gan tua 75 y cant. Creodd hyn dagfeydd cronig, diffyg cerbydau priodol a blynyddoedd o danfuddsoddi o ran gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.

Gofynnwyd i chi dro ar ôl tro gyhoeddi manyleb y tendr y byddai'r darpar weithredwyr rheilffordd yn gwneud cais yn ei herbyn er mwyn ennill y contract presennol. Rydych chi wedi gwrthod dro ar ôl tro gwneud y ddogfen honno yn gyhoeddus. Mae tryloywder, wrth gwrs, yn elfen allweddol o ran sicrhau bod gan gyhoedd Cymru ffydd yn Nhrafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r gwasanaethau hyn sy'n dirywio, a wnewch chi gyhoeddi'r fanyleb dendro honno'n llawn nawr, er mwyn helpu i adfer ffydd y cyhoedd yn nhrosolwg eich Llywodraeth o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, ac fel y gallwn asesu swyddogaeth eich Llywodraeth o ran y parhad hwn o siomi cymudwyr Cymru?

13:50

Bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi. Dywedwyd gennym erioed y byddai—â rhannau priodol wedi eu dileu, wrth gwrs. Ond, hynny yw, mewn gwirionedd, pedair wythnos i mewn i'r fasnachfraint, mae e'n feirniadol—ar ôl 15 mlynedd o redeg y fasnachfraint o Whitehall, ar ôl wyth mlynedd o Lywodraeth Geidwadol pan na roddwyd unrhyw arian ychwanegol i mewn i fuddsoddiad rheilffyrdd yng Nghymru, ni roddwyd unrhyw arian ychwanegol ar gyfer seilwaith, ni roddwyd unrhyw arian ychwanegol ar gyfer cerbydau, ni ddyrannwyd unrhyw arian ar gyfer trydaneiddio. Rydym ni wedi gweld y llanastr yn Lloegr gyda rhai o'r masnachfreintiau yno. Mae Chris Grayling wedi cael ei feirniadu'n hallt am hynny. Nid oes unrhyw weledigaeth yn Lloegr. Nid oes unrhyw arian yn cael ei neilltuo. Er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi galw am i seilwaith rheilffyrdd gael ei ddatganoli, gyda swm canlyniadol Barnett priodol, a fydd yn 6.2 y cant, mae'r Torïaid wedi gwrthod, gan eu bod nhw'n hapus â'r sefyllfa, mae'n debyg, lle mae Cymru yn cael 1 y cant o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl anghywir o ystyried y ffaith bod yr Alban yn cael bargen well o lawer. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gynnig i bobl Cymru yw gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf i wedi dweud y bydd y trenau pacer wedi mynd erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, y bydd trydaneiddio rhannol, y bydd trenau newydd, byddant i gyd wedi eu haerdymheru, a bydd pobl yn gallu cael gwasanaeth sy'n llawer iawn gwell na'r gwasanaeth a oddefwyd gan y Torïaid am gyhyd o 2010 ymlaen.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ceir rhestr sy'n tyfu'n barhaus o brosiectau adeiladu yng Nghaerdydd yn ymdrin, mae'n debyg, â llety myfyrwyr. Agorwyd, cymeradwywyd neu dechreuwyd adeiladu 23 o ddatblygiadau ar wahân yn y tair blynedd diwethaf yng Nghaerdydd. Os gwnewch chi sefyll ar gyffordd City Road a Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, gallwch chi weld wyth gwahanol datblygiad, naill ai'n cael eu hadeiladu neu newydd agor. Ceir enghreifftiau hefyd erbyn hyn yng Nghasnewydd a Chaerdydd o flociau a elwir yn llety myfyrwyr lle mae fflatiau yn cael eu gosod yn fasnachol. Nid yw'r fflatiau y tu mewn i'r blociau hyn yn mynd i fyfyrwyr oherwydd nad oes digon o alw ymhlith myfyrwyr. A ydych chi'n meddwl y gallai patrwm amheus fod yn datblygu lle mae prifysgolion a datblygwyr preifat yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau sydd i fod ar gyfer myfyriwr ac yna'n newid eu defnydd yn fwriadol wedyn?

Mae'n rhaid gwneud cais i'r awdurdod lleol ar gyfer newid defnydd, wrth gwrs. Os oes ganddo unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi'r hyn y mae'n ei ddweud, byddwn yn falch o'i chlywed.

Wel, fel y dywedwch, mae'n fater i'r awdurdod lleol perthnasol yn rhannol, ond teimlaf fod hwn yn faes y dylai Llywodraeth Cymru fod yn bryderus yn ei gylch. Rwy'n credu bod gennych chi ran bwysig i'w chwarae o ran monitro hyn. Rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda'ch Gweinidog Tai, a ddywedodd ei bod hi'n cadw llygad ar hyn, ond dywedodd y gallai fod yn agos at fod yn rhan o gylch gwaith eich Gweinidog cynllunio. Felly, ceir perygl, yn fy marn i, y gallai hyn syrthio drwy'r rhwyd. Mae angen i ni ystyried pam y bu cymaint o gynnydd yn y llety sydd i fod ar gyfer myfyrwyr .

Ar hyn o bryd, mae llety myfyrwyr wedi'i eithrio o ardrethi busnes. Mae hyn oherwydd bod y fflatiau myfyriwr yn cael eu dosbarthu fel anheddau domestig ac felly'n dod o dan y gyfundrefn treth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes. Canfu perchnogion busnesau ar Heol Maendy yng Nghaerdydd yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu hunedau busnes i wneud lle ar gyfer adeilad chwe llawr yn cynnwys 143 o fflatiau myfyriwr. Ceir garej trin ceir sydd wedi bod ar y safle hwn ers 40 mlynedd. Nid yn unig y bydd y newid hwn yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol, ond bydd y trethdalwr yn colli miloedd o bunnoedd gan nad yw ardrethi busnes yn cael eu talu gan berchnogion y fflatiau myfyrwyr. Onid yw hwn yn achos, Prif Weinidog, o brifysgolion a datblygwyr yn camfanteisio ar elfennau amwys yn y rheolau cynllunio dim ond i sicrhau'r elw mwyaf posibl?

Mae'n ymddangos ei fod yn credu bod pobl sy'n byw mewn fflatiau preifat yn talu ardrethi busnes. Dydyn nhw ddim. Maen nhw'n talu treth gyngor, yn union fel y mae myfyrwyr yn ei wneud. Nid oes unrhyw wahaniaeth. Felly, ni allaf weld y pwynt y mae'n ceisio ei wneud yn y fan yna. Os bydd rhywun yn prynu fflat mewn bloc o fflatiau sydd newydd gael ei adeiladu, maen nhw'n talu treth gyngor, nid ardrethi busnes.

Diolchaf i chi am eich ateb, ond bu cryn dipyn o bryder ynglŷn â hyn, hyd yn oed o fewn cyngor Caerdydd. Dywedodd swyddog cynllunio cyngor Caerdydd, Lawrence Dowdall, yn ddiweddar y gallai fod gan Gaerdydd or-gyflenwad o lety myfyrwyr erbyn hyn. Disgrifiodd aelod o'r pwyllgor cynllunio, Wendy Congreve, sy'n aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, un datblygiad diweddar fel

defnydd sinigaidd o'r broses gynllunio. Nid yw'n ddim llai na datblygiad masnachol drwy'r drws cefn ac mae'n rhaid ei wrthsefyll.

Datblygwyd gormod o'r math hwn o lety gennym, ac nid yw'n ddim syndod eu bod nhw'n cael eu troi'n ddatblygiadau masnachol, proffidiol erbyn hyn.

Rwy'n credu bod angen i chi fod yn bryderus am hyn, oherwydd gallai'r achos posibl hwn o ddiystyru'r rheolau effeithio ar eich uchelgeisiau ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae gan ddatblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw rwymedigaeth o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr tybiedig. Felly, gallech chi gael prifysgolion yn gweithio gyda datblygwyr preifat i gael eu heiddo ar y farchnad fasnachol drwy'r drws cefn, gan osgoi'r angen i ddarparu tai fforddiadwy ar yr un pryd. A ydych chi'n credu y dylai eich Llywodraeth fod yn cael gair gyda'r datblygwyr neu fod yn monitro'r sefyllfa hon mewn unrhyw ffordd?

13:55

Wel, rwy'n credu y dylai fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd i bob pwrpas mae'n cyhuddo prifysgolion o fod yn rhan o dwyll, i bob pwrpas, heb unrhyw dystiolaeth. Dychwelaf at y pwynt a wneuthum yn gynharach: mae wedi gwneud awgrymiadau, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth ganddo i gefnogi unrhyw un o'i awgrymiadau, ac eithrio'n hyn y mae'n ei ddweud, ond dim byd i'w gefnogi. Ond rwy'n eithaf siŵr nad yw ein prifysgolion yn ymgymryd â datblygu eiddo masnachol pan fo ganddyn nhw filoedd lawer iawn i ganfod llety ar eu cyfer beth bynnag. Dylem ddathlu'r ffaith bod Caerdydd a phrifysgolion eraill ledled Cymru wedi bod mor llwyddiannus o ran denu myfyrwyr o bedwar ban byd, gan eu bod nhw'n ychwanegu at allu ymchwil a dysgu'r prifysgolion hynny ac, yn y pen draw, yn ychwanegu at ein heconomi. Mae prifysgolion yn ysgogwyr enfawr o'r economi gan eu bod nhw'n denu cynifer o fyfyrwyr, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod prifysgolion yn ceisio adeiladu llety myfyrwyr yn fwriadol gyda'r bwriad o newid defnydd y llety hwnnw wedyn i wneud arian trwy eiddo masnachol.

Prosiectau Ynni Cymunedol Hydro

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu prosiectau ynni cymunedol hydro gyda’u hardrethi busnes? OAQ52935

Ym mis Ebrill, fe gyflwynom ni gynllun i roi grantiau i brosiectau ynni dŵr yng Nghymru i’w helpu â’u biliau ardrethi annomestig. Mae’r cynllun yn darparu 100 y cant o ryddhad ardrethi i brosiectau ynni dŵr cymunedol ac mae’n rhoi cap ar y cynnydd mewn ardrethi i ddatblygiadau ynni dŵr eraill.

Ac roedd Plaid Cymru'n falch iawn o sicrhau'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes yna ar gyfer prosiectau ynni cymunedol fel rhan o'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol yma efo'r Llywodraeth. Ond nid oes yna ddim sicrwydd hyd yma y bydd y cynllun rhyddhad ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, na chwaith ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'r prosiectau yma yn amlwg angen sicrwydd hirdymor er mwyn iddyn nhw fedru cynllunio ar gyfer y dyfodol. Heb y sicrwydd yna, mae'n anodd iddyn nhw gynllunio a chydweithio efo grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, ac, yn wir, mae'n anodd i fentrau newydd roi cychwyn arni. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud y cynlluniau rhyddhad busnes yma ar gyfer prosiectau ynni cymunedol yn rhai parhaol?

Wel, mae'n anodd gwneud hynny, wrth gwrs. Mae hynny'n rhywbeth i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried, ac mae'n dibynnu ar yr arian sy'n dod o San Steffan. Ond, rydym ni'n deall, wrth gwrs, faint o gymorth mae hwn wedi bod i ynni hydro, a byddwn ni'n ystyried y sefyllfa pan ydym yn gwybod mwy am y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf ymlaen. 

Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud y gallem ni fod yn defnyddio'r drefn ardrethi busnes gyda llawer mwy o ddychymyg i dargedu cymorth, boed hynny ar gyfer prosiectau ynni dŵr, fel y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atyn nhw, prosiectau adnewyddadwy eraill neu, yn wir, ein strydoedd mawr, ac rydym ni'n gwybod yn iawn y problemau sydd wedi effeithio ar rai busnesau stryd fawr mewn ardaloedd fel Trefynwy yn fy etholaeth i yn sgil ailbrisio.

Soniasoch am eich olynydd; a wnewch chi adael nodyn i'ch olynydd, pwy bynnag y gallai fod—rwy'n credu mai dyna'r ffordd y mae'r blaid Lafur yn gwneud pethau—i edrych eto ar yr holl faes ardrethi busnes hwn a'r ffyrdd y gellid diwygio treth i helpu yn hytrach na rhwystro'r economi dros y tymor hwy, nid y gyllideb nesaf neu'r ddwy gyllideb nesaf yn unig?

Rwy'n credu mai pompren a ddefnyddir yn bennaf yn y Blaid Geidwadol, onid e, i ymdrin â newidiadau mewn arweinydd? Bydd unrhyw nodyn neu nodiadau y byddaf i'n eu gadael yn electronig, wrth gwrs. Rydym ni, wrth gwrs, yn symud tuag at fod yn Llywodraeth ddi-bapur.

O'n safbwynt ni, byddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r gyfundrefn ardrethi annomestig mewn ffyrdd arloesol a llawn dychymyg. Rydym ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs, gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a gynorthwyodd cynifer o fusnesau ledled Cymru, a byddwn yn edrych i weld beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol, yn dibynnu, wrth gwrs, ar ba gyllid sy'n cael ei roi ar gael drwy'r grant bloc.

14:00
Diogelu Swyddi yn Ffatri Schaeffler yn Llanelli

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu swyddi yn ffatri Schaeffler yn Llanelli? OAQ52977

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi ei wneud ar ran y gweithwyr hynny? Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda Schaeffler, a derbyniwyd cynnig o ddull dwy haen i gynorthwyo'r cwmni. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddechrau mis Rhagfyr i ddatblygu tasglu gydag aelodau o dîm rheoli Schaeffler, ac mae'r cyfnod ymgynghori yn dal i fod yn weithredol, wrth gwrs, tan ddechrau mis Ionawr. Bwriad y cymorth, wrth gwrs, yw helpu'r rhai sy'n gweithio yno ar hyn o bryd ac i weld pa ddefnyddiau manteisiol ar gyfer cyflogaeth a allai fod i'r safle yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r newyddion hynny'n frwd. Cefais gyfarfod gydag Ysgrifennydd yr economi yr wythnos diwethaf i annog y Llywodraeth i ymgysylltu â'r gwaith, felly rwyf i wrth fy modd bod hynny wedi digwydd nawr. Pan gefais gyfarfod â rheolwr gyfarwyddwr Schaeffler yn y DU, fe'i gwnaed yn eglur ganddynt nad oedd gan eu penderfyniad i gychwyn y broses o gau ddim i'w wneud â'r gweithlu, a oedd, pwysleisiwyd ganddynt, wedi bod yn ardderchog. Ond, mae'n hanfodol eu bod nhw'n ymgysylltu'n briodol â'r broses ymgynghori nawr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n eglur iddyn nhw os byddant yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau parhau'r gwaith mwyach, na fyddwn yn derbyn penderfyniad ganddyn nhw i ddiflannu heb ddangos cyfrifoldeb? Mae'r dref hon wedi darparu bron i 50 mlynedd o gynyddu elw'r busnes hwn, ac mae rhwymedigaeth yn ddyledus ganddyn nhw i ni i weithio gyda ni yn adeiladol i weld a allwn ni gadw gweithgynhyrchu yn y gwaith hwnnw.

Ie, mae'r sgwrs wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn. Byddwn yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol—nid oes unrhyw reswm iddyn nhw newid eu meddyliau. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni, fel Llywodraeth, a bydd y pwyslais yn gryf iawn ar ddod o hyd i ddefnydd newydd i'r safle, gan ddarparu cyflogaeth i bawb sydd wedi gweithio yno ac eraill yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, i ddarparu cymorth i'r gweithwyr hynny a fydd nawr, o bosibl, yn edrych mewn mannau eraill. Ond, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed pan fo sefyllfaoedd fel hyn wedi codi, byddwn yno i gefnogi'r gweithwyr dan sylw.

A gaf i gysylltu fy hun a'r hyn y mae Lee Waters wedi ei ddweud am yr ymrwymiad y mae'r gweithlu wedi ei ddangos dros gyfnod o flynyddoedd lawer iawn i'r cwmni hwnnw, a faint maen nhw wedi ei gyfrannu at ei lwyddiant? Gobeithiaf y bydd y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod rhyw synnwyr braidd yma o godi pais ar ôl piso, ac efallai'n wir ei bod yn rhy hwyr i newid meddwl Schaeffler—rwy'n gobeithio y byddaf yn cael fy mhrofi'n anghywir yn hynny o beth, ac rwy'n falch o weld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud.

Ond, o ran busnesau gweithgynhyrchu eraill sydd efallai'n teimlo bod eu dyfodol yn cael ei beryglu'n fawr gan y posibilrwydd o Brexit, beth arall all eich Llywodraeth ei wneud i ymgysylltu â nhw'n rhagweithiol cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt y mae Schaeffler wedi ei gyrraedd a'u bod mewn gwirionedd wedi gwneud y penderfyniad i adael? Fel yr awgrymwyd i chi eisoes y prynhawn yma, y ffordd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, o ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn fyddai pleidlais y bobl a phenderfyniad i ni aros. Ond, yn y cyfamser, ac yn absenoldeb hynny, beth arall allwch chi ei wneud i ymgysylltu'n rhagweithiol â chwmnïau rhyngwladol yn arbennig yn y gobaith y gallwn ni eu hatal rhag cyrraedd y sefyllfa y mae Schaeffler wedi ei chyrraedd?

Ceir adegau pan fyddwn ni'n cael rhybudd o achosion posibl o gau ac rydym ni'n gallu helpu'r cwmnïau hynny, ac rydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol—Tata, mae'n debyg, yw'r enghraifft fwyaf amlwg. Ond, ceir adegau pan na fyddwn ni'n cael unrhyw rybudd, ac roedd hon yn un adeg o'r fath. Pe byddem ni wedi gwybod bod problemau yno, mae'n amlwg y gallem ni fod wedi ceisio helpu'r cwmni, ond roedden nhw wedi gwneud y penderfyniad eisoes.

O ran y ffordd yr ydym ni'n gweithredu a'r hyn y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol, mae gennym ni gronfa bontio'r UE, wrth gwrs, o £50 miliwn, sydd yno i helpu busnesau i bontio, i'w helpu gyda hyfforddiant fel eu bod yn gystadleuol pan fydd Prydain yn gadael yr UE. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio ar ffyrdd eraill, gan weithio gyda'r gymuned fusnes, fel y gallwn eu helpu nhw i oresgyn yr ansicrwydd anhygoel y maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd.

Cefnogi'r Sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ52975

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 16,200 o swyddi gweithgynhyrchu. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, byddwn yn cefnogi diogelu buddsoddiad busnes yn y dyfodol er mwyn helpu cwmnïau i gynnal, cystadlu a thyfu.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae'r sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch a drafodir yn y cynllun gweithredu economaidd yn un o'r meysydd yr ydym ni'n mynd iddyn nhw yn y dyfodol—technolegau modern iawn. Ond, mae gennym ni lawer o sectorau gweithgynhyrchu sy'n dal i ddibynnu ar dechnolegau hŷn y mae angen eu diweddaru—mae Tata yn enghraifft o un o'r gweithfeydd hynny. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn yr orsaf bŵer. A allwch chi roi diweddariad i ni ynghylch ble mae'r arian hwnnw? A allwch chi hefyd ystyried pa gamau eraill y gallech chi eu cymryd i helpu cwmnïau fel Tata, sydd eisiau gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ond sy'n cael anawsterau, efallai, o ran cael y cymorth ychwanegol hwnnw weithiau?

Wel, mae'r buddsoddiad yn Tata yn mynd yn dda. Mae Tata eu hunain wedi buddsoddi yn ffwrnais chwyth rhif 5, wrth gwrs. Rydym ni'n parhau i siarad â nhw am y math o becyn a fyddai'n helpu a'r hyn fyddai'n gyfreithlon, wrth gwrs, o dan reolau cymorth gwladwriaethol. A dweud y gwir, cefais gyfarfod tua 10 diwrnod yn ôl gyda chynrychiolydd o Tata wrth i ni geisio bwrw ymlaen â phethau. Mae Tata yn sicr yn awyddus i aros yng Nghymru, wrth gwrs, ac ym Mhort Talbot a'r gweithfeydd eraill ledled Cymru yn arbennig, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i ddiogelu swyddi Cymru.

14:05

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad Llais Gweithgynhyrchu Cymru blynyddol Barclays ac SPTS Technologies yng Nghasnewydd. Un o'r pynciau trafod oedd prinder sgiliau a'r newid o gymwysterau galwedigaethol i raddau prifysgol. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r camargraff sy'n bodoli ynghylch y swyddi â chyflogau da sy'n llawn boddhad y mae gyrfaoedd ym meysydd peirianneg a gweithgynhyrchu yn eu cynnig yng Nghymru?

Rydym ni'n gweld twf cynlluniau prentisiaeth. Rwy'n credu bod y DU wedi colli diddordeb mewn prentisiaethau yn y 1990au, ac wedi canolbwyntio gormod ar gyrsiau academaidd. Rydym ni'n gweld nawr, wrth gwrs, nid yn unig cwmnïau mwy ond cwmnïau llai yn cynnig prentisiaethau. Roedd Twf Swyddi Cymru yn enghraifft o hynny i roi'r hyfforddiant i bobl yr oeddent ei angen i gael swydd ac, wrth gwrs, mae gennym ni ymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau i bob oedran ledled Cymru. Trwy greu'r prentisiaethau yr ydym ni'n creu'r cyfleoedd i bobl, ac yn dangos iddyn nhw bod dewis arall gwerth chweil yn hytrach na'r llwybr academaidd ac, wrth gwrs, wrth sicrhau hynny, gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy yn y dyfodol.

Prif Weinidog, mae fy rhanbarth i wedi colli llawer gormod o swyddi gweithgynhyrchu yn ystod y degawdau diwethaf, ac er fy mod i'n croesawu camau eich Llywodraeth i sicrhau buddsoddiad gweithgynhyrchu newydd, fel cytundeb Aston Martin, nid yw hyn yn disodli'r golled o allbwn gweithgynhyrchu yng Ngorllewin De Cymru. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod fy rhanbarth i yn elwa ar fuddsoddiad o'r fath, yn enwedig gan fod y rhanbarth wedi rhagori yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn y gorffennol?

Mae Tata yn un enghraifft, wrth gwrs, ac mae Ford yn un arall. Rydym ni wedi gweithio'n agos dros ben gyda'r cwmnïau trwy gyfnod anodd iawn, ar adegau, i wneud yn siŵr bod Ford â'i 1,700 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dal yno ac yn edrych i'r dyfodol. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, rwy'n credu, yw disodli llawer o swyddi â chyflogau isel a sgiliau isel, gyda swyddi sy'n talu mwy ac yn gofyn am fwy o sgiliau. Dyna lle mae angen i ni fod. Nid cystadlu gyda'r rhai sydd â chostau llafur isel yw dyfodol Cymru. Rhoddwyd cynnig ar hynny yn y 1980au a'r 1990au, ac oni bai eich bod chi'n barod i fynd ar drywydd cyflogau fwyfwy isel, yna nid yw hynny'n rhywbeth sy'n ddewis i chi. Mae hynny wedi golygu pwyslais ar sgiliau. Mae wedi golygu pwyslais ar ddenu buddsoddiad o ansawdd uchel a swyddi o ansawdd uchel, a dyna fydd nod y Llywodraeth o hyd.

Mynediad i Lawfeddygon Orthopedig

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i lawfeddygon orthopedig? OAQ52936

Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd fod ag adnoddau addas ar waith, gan gynnwys staffio, i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol.

Ar sawl achlysur yn ystod blynyddoedd datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu potiau o arian i leihau amseroedd aros os ydynt wedi mynd yn rhy hir. Yn 2017-18, 339 o ddiwrnodau oedd yr amser aros canolrifol am lawdriniaeth pen-glin ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, cynnydd o 95 o ddiwrnodau o'r flwyddyn cynt. Mae dros 61 y cant o'r rhai sy'n aros am lawdriniaethau trawma ac orthopedig ar hyn o bryd yn aros am fwy na blwyddyn. Sut ydych chi'n ymateb i'm hetholwr, gadewch i ni ddweud Mr LB, sydd wedi bod ar restr aros ers 8 Rhagfyr 2016 am ben-gliniau newydd llwyr dwyochrog? Ysgrifennodd y bwrdd iechyd ataf y mis hwn, gan ddweud, 'Rydym ni'n amcangyfrif na fyddwn yn gallu cynnig dyddiad ar gyfer llawdriniaeth iddo tan fis Mai 2019 erbyn hyn'—dros 500 o ddiwrnodau. Mae Mr LB yn dweud nad yw'n cael dim ond y gefnogaeth fwyaf gan ei feddyg teulu a'i feddyg ymgynghorol, ond mae mwy neu lai yn gripl yn 63 oed, ac mewn poen echrydus yn gyson.

Mae'n anodd iawn, wrth gwrs, gwneud sylwadau ar unigolyn. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod rhywun mewn poen pan fydd yn aros am lawdriniaeth, ac y bydd yn awyddus i wybod pryd y bydd y llawdriniaeth honno'n cael ei chyflawni. Bydd hefyd yn awyddus i wybod pa adnoddau sy'n cael eu rhoi ar gael fel bod yr amser aros am lawdriniaeth yn cael ei leihau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod nifer y meddygon ymgynghorol llawdriniaeth trawma ac orthopedig amser llawn yn PBC wedi cynyddu o 23 yn 2009 i 29.2 yn 2017. Adlewyrchir hynny mewn cynnydd ar draws Cymru gyfan. Ddiwedd mis Awst eleni, cafwyd gostyngiad o 11 y cant i nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig yn ardal PBC, ac adlewyrchir hynny ar draws Cymru gyfan. Felly, mae adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar gael i benodi mwy o feddygon ymgynghorol a llawfeddygon, ac rydym ni'n gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gostyngiad i nifer y bobl sy'n aros. A chyn belled ag y mae Mr LB yn y cwestiwn, gallaf roi'r sicrwydd iddo y byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn ddarparu mwy o adnoddau, a gobeithiaf y bydd yn cael ei lawdriniaeth yn fuan.

14:10

Prif Weinidog, rydym ni'n aml yn clywed yn ystod cyfnod y gaeaf am lawdriniaethau orthopedig a llawdriniaethau eraill a drefnwyd yn cael eu canslo oherwydd pwysau'r gaeaf. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y trefniadau a roddwyd ar waith gan y byrddau iechyd lleol a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar gyfer y gaeaf hwn yn osgoi'r lefelau hynny o ganslo yr ydym ni wedi eu gweld yn y gorffennol?

Wel, ceir lefel o ganslo sy'n digwydd bob amser ymlaen llaw er mwyn creu'r capasiti dros ben ar gyfer cyfnod y gaeaf, o ystyried y pwysau yn ystod y gaeaf yr ydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf, er y byddwn yn dadlau yn sicr y llynedd a'r flwyddyn cynt, yr ymdriniwyd â'r pwysau hynny er eu bod yn sylweddol ac wedi cymryd llawer o adnoddau ac amser staff. Wrth gwrs, mae'n rhaid bod gan fyrddau iechyd eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf ar waith, sydd wedi bod yn gadarn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac nid oes gen i unrhyw reswm i amau na fydd hynny'n wir eleni.

Diwrnod y Rhuban Gwyn

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwrnod y rhuban gwyn mewn perthynas â dileu trais yn erbyn menywod? OAQ52947

Ie. Rwyf i newydd sylweddoli nad wyf i'n gwisgo un, felly ymddiheuraf am hynny yn gyntaf oll. I hyrwyddo Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig a Diwrnod y Rhuban Gwyn, rydym ni'n cynnal gweminar fyw ar Facebook, Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru; yn ariannu pedwar o weithgareddau cyfathrebu cymunedol; ac yn annog mwy o'n staff gwrywaidd i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n mynd i'r digwyddiad Rhuban Gwyn heddiw, wedi ei noddi gan Joyce Watson, a byddaf yn bresennol yn nigwyddiad Goleuo Canwyll y Black Association of Women Step Out yn eglwys gadeiriol Llandaf yr wythnos nesaf. Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, mae BAWSO wedi arwain digwyddiad Goleuo Cannwyll aml-ffydd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, gan ddod â mwy na 250 o unigolion ynghyd i goffáu Diwrnod rhyngwladol y Rhuban Gwyn.

Ond mae'r ystadegau erchyll yn dal i fodoli. Yng Nghymru a Lloegr mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner ac mae 10,000 o fenywod yr wythnos yn dioddef cam-drin rhywiol. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gydnabod adroddiad adroddwr y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston, yr wythnos diwethaf, lle mae'n datgan bod taliadau sengl i aelwydydd ac oedi o bum i 12 wythnos cyn talu credyd cynhwysol yn rhoi mwy o ddylanwad i bartner sy'n rheoli ac yn dreisgar? Ac a wnaiff ef ymuno â mi heddiw i annog yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Waith a Phensiynau, Amber Rudd, i atal credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r polisi cosbol hwn sy'n cael effaith mor andwyol ar fenywod sy'n wynebu trais a cham-drin rhywiol?

Gwnaf. Bydd yn gweld fy mod i, fel pe bai trwy wyrth, yn gwisgo rhuban gwyn erbyn hyn. Ond mae'n codi mater hynod bwysig ac a gaf i ei chymeradwyo hefyd am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud i godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod dros y blynyddoedd? Rydym ni'n condemnio pob math o gam-drin a thrais, wrth gwrs. Rydym ni'n gweithio gyda gwasanaethau trais yn erbyn menywod arbenigol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n cynorthwyo sefydliadau trydydd sector i gyflenwi darpariaeth uniongyrchol o wasanaethau i gynorthwyo a diogelu dioddefwyr. Mae hefyd yn cynorthwyo gwaith ataliol—hynod bwysig ac wrth gwrs roedd hynny'n rhan o'r ddeddfwriaeth a basiwyd gennym ychydig flynyddoedd yn ôl. Gwnaed llawer o waith i godi'r mater o drais yn y cartref i'w wneud yn fwy amlwg ym meddyliau'r cyhoedd, ond mae gwaith i'w wneud o hyd i atal cam-drin corfforol a meddyliol ac, yn anffodus, y marwolaethau hynny y cyfeiriodd hi atynt.

Prif Weinidog, mae bob amser mwy y gellid ei wneud ac rwy'n cydnabod yn llwyr ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r mater hwn, ac yn wir ymrwymiad y rhan fwyaf o bleidiau yn y Siambr hon i'r ffaith bod gormod o fenywod, gormod o ferched ifanc, gormod o blant yn eu harddegau yn cael eu curo. Mae gen i ddau o gasbethau penodol a hoffwn wybod beth ydych chi'n ei gredu fel Llywodraeth, ac y gallem ni fel Cynulliad, ei wneud i geisio lleddfu hyn.

Y cyntaf yw straeon arswydus, diddiwedd dramâu, dramâu ias a chyffro, operâu sebon a ffilmiau, lle mae bron pob un o'r dioddefwyr yn fenywod, i gyd yn ferched ifanc, i gyd yn eu harddegau, sef y rhai sy'n cael eu curo, eu bygwth, eu treisio a'u lladd mewn ffyrdd erchyll yn gyson. Ac mae'n anfon neges niweidiol mai dyna mewn gwirionedd sy'n digwydd i fenywod, ac nid yw'n dderbyniol.

A fy nghasbeth mawr arall gyda'r system farnwriaeth hurt, ar adegau, sy'n dweud oherwydd bod merch 17 oed yn gwisgo pâr o nicers â lês, 'Hei, mae'n iawn ei threisio hi.' Mae'r rhain yn ofnadwy a than y byddwn ni'n rhoi terfyn ar hyn, bydd y stori hon o ddioddef ac ofn yn cael ei throsglwyddo i'n holl ferched ifanc.

Ac mae gen i ddwy ferch yn eu harddegau ac rwy'n gresynu'r ffaith eu bod nhw'n tyfu i fyny yn y diwylliant hwn bod yn rhaid iddyn nhw fynd â dillad i newid, bod yn rhaid iddyn nhw wisgo dillad tywyll, mae'n rhaid iddyn nhw beidio â bod yn llachar a disglair rhag ofn y bydd rhyw ddyn yn dod ac yn dweud, 'O, mi gymeraf i dipyn o hynna.' Ac, wrth gwrs, mae'n anfon y neges anghywir i'n bechgyn, oherwydd dydyn nhw ddim yn ddrwg, ond ceir difaterwch, ceir y math hwnnw o 'Hei, mae'n iawn, mae pawb yn ei wneud, beth am i ni ei wneud.' Felly, mae'n rhaid i'r cyfryngau, ac nid wyf i'n golygu papurau newydd fel y cyfryw—rwy'n sôn am y diwydiant adloniant; dyna air gwych, 'adloniant'—a'r farnwriaeth gallio, ac maen nhw'n rhan wirioneddol o'r jig-so i'n hatal rhag gorfod ymgyrchu'n barhaus i amddiffyn ein menywod, ein merched yn eu harddegau a'n merched iau, ac mae'n warthus.

14:15

Nid wyf i'n credu y gallaf i ychwanegu llawer at yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Mae hi'n ei ddweud mor rymus ei hun. Pan soniodd am y ffaith bod menywod a merched ifanc yn arbennig yn cael eu portreadu fel dioddefwyr, dechreuais feddwl am rai o'r rhaglenni yr wyf i wedi eu gweld yn ddiweddar, ac mae hi'n iawn. Nid oeddwn i wedi sylwi ar hynny, felly rwy'n ddiolchgar iddi am godi'r mater hwnnw, ac mae hi'n hollol iawn bod hyrwyddo dioddefaint yn annog pobl i wneud mwy o bobl yn ddioddefwyr, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sicr yn fater cryf yn y fan yna ac mae'n rhywbeth y credaf y bydd angen ei archwilio yn y dyfodol.

Yn ail, mae'n rhannol iawn, rwy'n credu, i ddweud hynna am y farnwriaeth. Rwy'n credu, i'w hamddiffyn, bod barnwyr iau yn arbennig yn gwbl ymwybodol o'r byd o'u cwmpas ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n briodol ei ddweud a'r hyn nad yw'n briodol ei ddweud. Rwy'n credu, yn sicr, pan oeddwn i'n ymarfer, bod rhai o'r barnwyr hŷn ar y pryd o gyfnod gwahanol efallai. Ond byddai'r barnwyr yr wyf i'n eu hadnabod yn ymwybodol dros ben o'r angen i fod yn sensitif ac yn briodol, ac yn sicr ni fyddent, rwy'n siŵr, yn dweud dim o'r fath wrth grynhoi.

Ond rwyf i'n meddwl tybed a ydym ni wedi mynd tuag at yn ôl. Mi wyf i'n meddwl hynny, oherwydd roedd yn ymddangos tan yn ddiweddar iawn bod y mater o gydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r mater o barch yn rhywbeth a oedd yn daith ddiddiwedd tuag at ganlyniad mwy cadarnhaol. Nid wyf yn siŵr bod hynny'n wir. Nid wyf i'n credu bod Cymru yn lle diogel i fenywod wneud honiadau, mae'n rhaid i mi ddweud, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod fel pleidiau gwleidyddol, ac rydym ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid cymryd camau yn hynny o beth. Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Ond caiff y gwaith hwnnw, wrth gwrs, ei yrru ymlaen yn gryf iawn gan y math o sylwadau y mae hi ac eraill yn y Siambr hon wedi eu gwneud, a bydd y sylwadau y mae hi wedi eu gwneud a rhai fy nghyfaill o Fro Morgannwg ac eraill yn y Siambr hon bob amser yn cael eu cefnogi'n gryf gennyf i.

Prif Weinidog, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i ein bod ni'n mynd tuag at yn ôl ar yr agenda hon, a chefnogaf yn llwyr yr hyn a ddywedwyd gan Angela a chan Jane Hutt, a hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei wneud am hyn mewn gwirionedd. Gallech wella addysg yn y maes hwn fel bod pob plentyn yn gwbl eglur am yr hyn sy'n dderbyniol ac nad yw'n dderbyniol. Gallech wneud rhywbeth am y system budd-daliadau lles. Mae'r ffaith nad yw'r maes hwn wedi ei ddatganoli yn rhywbeth y gallech chi wneud rhywbeth yn ei gylch, pe byddech chi'n barod i gymryd cyfrifoldeb am fudd-daliadau lles. Y ffordd orau o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod fyddai sicrhau bod galw am wasanaethau cymorth yn cael ei fodloni. Mae cyllidebau sy'n lleihau wedi golygu nad yw hyn yn digwydd bob amser. Yn 2016-17, mae'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael gan Cymorth i Fenywod yn dangos na allwyd rhoi llety i 249 o oroeswyr cam-drin domestig mewn llochesau yng Nghymru gan nad oedd lle ar gael yn y gwasanaeth y cysylltwyd ag ef pan oedd angen cymorth. Nawr, canfu'r un adroddiad hwnnw y bu colled gyffredinol o hyd at 5 y cant o'r cyllid ar gyfer y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol yn y wlad hon.

Ar wahân i lansio adolygiad arall eto, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r darlun digalon hwn a datblygu i fod y Llywodraeth ffeministaidd yr ydych chi'n dymuno ei fod?

Wel, rydym ni wedi darparu, wrth gwrs, cyllid i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ar gyfer gweithredu Deddf 2015. Rydym ni'n ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn ac, wrth gwrs, £969,000 o grant cyllid cyfalaf i gaffael, cynnal neu uwchraddio asedau sefydlog, fel adeiladau ac offer. Ond rwy'n derbyn y pwynt mai'r hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud yw gwneud yn siŵr—wel, dau beth: yn gyntaf oll bod darpariaeth gyson ledled Cymru o lochesi, ond hefyd, a chefais fy nharo gan hyn pan ymwelais â sefydliad yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf lle y siaradais â menywod â straeon erchyll am yr hyn yr oedden nhw wedi bod drwyddo—y pwynt a wnaethant i mi oedd bod angen lle diogel arnoch i fyw, ond rydych chi hefyd angen cymorth i gael eich hyder yn ôl ac mae angen i gymorth ddod gan bobl sy'n gyfarwydd, nid cwnsela cyffredinol ond cwnsela sy'n benodol i'r unigolyn hwnnw. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i hynny yn y dyfodol i gynnig y cysondeb hwnnw hefyd, fel nad yw'n fater syml o, 'Gadewch i ni symud rhywun i fan diogel'—mae hynny'n bwysig—ond 'Sut gallwn ni helpu'r unigolyn yna sydd wedi bod drwy'r profiad mwyaf erchyll i helpu i ailadeiladu ei hun a'i bywyd?' Gwelais enghraifft o hynny yng Nghaerdydd, a bydd hynny, rwy'n creu, yn her i'r Llywodraeth nesaf: sut gallwn ni wneud yn siŵr bod y cysondeb hwnnw'n cael ei gyflawni?

14:20

Hoffwn ddiolch i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, sydd, fel sefydliad, wir wedi helpu i gyfleu'r neges hon am sefyll i fyny a galw ar ddynion i sefyll i fyny i byth gyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched. Maen nhw'n cyrraedd y rhannau na all eraill eu cyrraedd, mae eu sefydliad yn cyrraedd pob agwedd ar fywydau pobl lle y maen nhw'n byw, ac mae ganddyn nhw ran enfawr a dylanwad enfawr o ran newid yr agenda hon. Ond un o'r pethau yr wyf i'n meddwl y mae wir angen i ni ganolbwyntio arno, ac fe'i codwyd y bore yma, yw stereoteipio ar sail rhyw o oedran cynnar a'r rhan y gall y Llywodraeth ei chwarae, ac mae yn ei chwarae, i wneud rhywbeth ynghylch hynny. Nid yw bob amser yn wir bod yn rhaid i ferched fod yn ferched ac i fechgyn fod yn fechgyn. Mae hynny'n cyfrannu at ymddygiadau, ymddygiadau negyddol iawn weithiau, y gall un ei gyflawni ar y llall yn ddiweddarach mewn bywyd.

Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw, yn y dyfodol, rydym ni'n rhannu'r negeseuon hynny—a gwn ein bod ni eisoes yn ei wneud—yn fwy grymus ac yn fwy cyson ledled Cymru fel na roddir pwysau ar fechgyn i ymddwyn mewn ffordd benodol ac ar ferched i ymddwyn mewn ffordd benodol.

Ie. Adlewyrchir hyn, wrth gwrs, yn yr ymgyrch Dyma Fi. Nid wyf i'n credu y dylem ni symud, fel y dywedodd yr Aelod, i sefyllfa lle disgwylir i fechgyn a merched ymddwyn yn wahanol. Dylai fod parch ar y ddwy ochr oherwydd mae hynny'n awgrymu y dylai merched ymddwyn mewn ffordd benodol—a chyfeiriodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro at hyn—er mwyn peidio â rhoi eu hunain mewn perygl, sy'n sefyllfa hynod sarhaus i fod ynddi. Pam ar y ddaear y dylai menywod fod yn y sefyllfa honno, lle maen nhw'n teimlo na allant wisgo mewn ffordd benodol neu ymddwyn mewn ffordd benodol, neu fel arall eu bod nhw wedi achosi eu hanffawd eu hunain. Nid dyna'r sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi, yn amlwg, felly mae'n hollol gywir dweud bod angen i ni edrych—a bydd y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yn edrych ar hyn—ar sut yr ydym ni'n hyrwyddo cysylltiadau iach mewn ysgolion—mae hynny'n bwysig—ac, wrth gwrs, i wneud y pwynt bod parch ym mhobman: pan fydd pobl allan, pan fyddant allan yn y nos, bod y parch  yno i bob unigolyn ac na ddylai neb ofni cael ei farnu neu ei drin mewn modd arbennig oherwydd y ffordd y mae'n ymddwyn neu'n gwisgo.

Cyflwyno Credyd Cynhwysol yng Nghwm Cynon

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghwm Cynon? OAQ52939

Wel, rwy'n bryderus iawn am y ffaith bod llawer o'n pobl fwyaf agored i niwed, yng Nghwm Cynon ac mewn mannau eraill, yn cael trafferth i ymdopi â chymhlethdodau credyd cynhwysol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU roi sylw brys i'r materion hyn cyn iddyn nhw symud hawlwyr budd-daliadau presennol i gredyd cynhwysol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n rhannu eich pryderon, a hefyd y pryderon a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, o ran dioddefwyr trais domestig ac effaith credyd cynhwysol arnyn nhw. Ond mae cynifer o grwpiau agored i niwed yn mynd i ddioddef o ganlyniad i'r cyflwyniad hwn, ac mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi gwaith ymchwil newydd yn dangos y bydd rhai pobl anabl sengl sy'n gweithio yn fwy na £300 y mis yn waeth eu byd oherwydd diffygion yn nyluniad credyd cynhwysol. Hefyd, gallai'r rhai nad oes ganddynt ofalwr ac na allant weithio fod £180 y mis yn waeth eu byd pan fyddant yn gwneud hawliad newydd.

Ar ôl i'r Ysgrifennydd gwaith a phensiynau a adawodd yn ddiweddar gydnabod y niwed y mae credyd cynhwysol yn ei achosi, ond gan hefyd fod wedi gwneud addewidion mawr o ran diogelu'r mwyaf agored i niwed, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud sylwadau i'w holynydd i sicrhau nad mwy o eiriau gwag yn unig yw'r rhain gan Weinidogion Torïaidd yn San Steffan?

Wel, rydym ni wedi ysgrifennu dro ar ôl tro at Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny, gan eu hannog i ailystyried y polisi niweidiol hwn ac ymrwymo i dargedu mwy o gymorth i helpu i godi pobl allan o dlodi. Rydym ni i gyd yn gweld, wrth gwrs, diffygion credyd cynhwysol, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sylwadau yr ydym ni wedi eu gwneud.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o Aelodau yn y fan yma y dylai mwy fod wedi  ei wneud i ddysgu o'r broses gyflwyno ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n croesawu penderfyniad Amber Rudd y bydd hynny'n cael ei gyflymu nawr, yn enwedig trwy wrando ar gyngor arbenigol a phrofiad y rhai sydd wedi symud i'r system newydd erbyn hyn. Ond mae'r system newydd yn un sydd wedi cael croeso eang o ran ei gwneud yn haws a rhoi terfyn ar y dibyn rhwng budd-daliadau a gweithio, a dyna'r weledigaeth yr wyf i'n credu y dylem ni i gyd ei rhannu—i fod â system budd-daliadau sydd wir yn galluogi pobl i wireddu eu potensial llawn.

14:25

Nid wyf yn credu mai yn y syniad y mae'r broblem o reidrwydd, ond yn y gweithredu. Ac rydym ni'n gwybod bod diffygion cynllunio mewn credyd cynhwysol—tynnwyd sylw at hynny mewn adroddiad Cyngor ar Bopeth diweddar ar effaith credyd cynhwysol ar bobl sengl, anabl. Felly, er enghraifft, nid yw'n bosibl cael lwfans gwaith heblaw drwy'r lwfans gallu gweithio. Mae hyn yn golygu bod rhaid asesu rhywun fel heb fod yn ddigon iach i weithio er mwyn cael cymorth sydd wedi ei dargedu yn y gwaith. Wel, dyna un enghraifft o ble mae'r system yn torri i lawr. Mae'n bwysig dros ben nad yw pobl yn dioddef oherwydd nad yw system yn gweithio fel y dylai.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae yna ddau newid i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn bo hir ar y cytundeb drafft ar gyfer ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac o ganlyniad mae'r datganiad llafar ar ddiwygio gwasanaethau deintyddol wedi ei ohirio tan 11 Rhagfyr. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag Adrian Farey, un o'm hetholwyr sy'n rhedeg prosiect coetir cynaliadwy tymor hir yn rhanbarth Dyffryn Elwy o'm hetholaeth. Ymwelodd y Gweinidog Amgylchedd â mi yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn ei bod hi wedi mwynhau ei hymweliad i ddysgu mwy am y sefydliad y mae'n ei redeg. Ond dyma'r union fath o fodel, yn fy marn i, a fydd yn helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn gynaliadwy, a helpu i annog a hyrwyddo defnyddio cynhyrchion coed lleol a chynaliadwy yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Gweinidog yr Amgylchedd gyflwyno datganiad ynglŷn â'r cymorth y byddai'n gallu ei gynnig i brosiectau fel prosiect Adrian Farey a rhai eraill ledled Cymru o ran hyrwyddo defnyddio coed lleol ar gyfer prosiectau adeiladu lleol.

A gaf i hefyd alw, arweinydd y tŷ, am ddatganiad ar ddyfodol ardrethi busnes ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru? Bu cryn dipyn o bryder ymhlith ysgolion annibynnol ledled y wlad. Ceir 20 yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda miloedd o fyfyrwyr ynddynt. Maen nhw'n ychwanegu tua £87 miliwn i economi Cymru ac yn cynhyrchu gwerth £22 miliwn o drethi yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol y bu rhai pryderon ynghylch y rhagolygon o godi trethi busnes ar ysgolion annibynnol. Nawr, yn amlwg, rwyf yn deall y byddwn yn dymuno cael trafodaeth, ar y pethau hyn, efallai, ond rwyf yn credu ei bod hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi rhywfaint o eglurder i'r sector, o ystyried y nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu cyflogi ynddo a nifer sylweddol y disgyblion sy'n dibynnu ar yr addysg ardderchog y mae ysgolion annibynnol yn ei ddarparu ledled y wlad.

Ynglŷn â'r prosiect coetir, crybwyllodd y Gweinidog ei bod hi wedi mwynhau ei hymweliad yno yn fawr iawn, a chredaf ei bod hi'n hapus iawn i gyflwyno datganiad cyffredinol ar reoli coetiroedd yng Nghymru a chyfraniad arbennig ein coetiroedd i'r hinsawdd ac addasiadau oherwydd hynny.

O ran ardrethi busnes, rydym wedi cael llawer o newidiadau ar y testun o ardrethi busnes ar gyfer ysgolion annibynnol ac rwyf yn credu bod hynny'n llawer mwy tebygol o gael ei godi mewn dadl gan y gwrthbleidiau nag sy'n debygol o fod yn destun datganiad busnes gan y Llywodraeth.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad ar wasanaethau sgrinio, yn enwedig gan fy mod i wedi cael sylwadau ynghylch Sgrinio Coluddion Cymru yn ddiweddar? Mae'n gweithredu fel gwasanaeth sgrinio pwrpasol, fel y gwyddoch, ond eto mae'n rhan o'r GIG mewn rhyw ffordd, ond yn y bôn mae'n annibynnol hefyd. Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn gwneud gwaith rhagorol, fodd bynnag, os oes rhywun sydd wedi cael problem goluddyn yn flaenorol, ac wedi cael sgriniad coluddyn negyddol yn rhan o'r rhaglen, ac yna'n datblygu symptom coluddyn newydd, nid yw Sgrinio Coluddion Cymru yn gallu ymdrin â hyn gan mai sgrinio annibynnol ar adegau penodol y maen nhw'n ei wneud, er gwaethaf y ffaith mai gwasanaeth gwyliadwriaeth ydyw. Felly, y sefyllfa ar hyn o bryd yw, fod pobl sy'n datblygu symptom coluddyn newydd, er eu bod o dan wyliadwriaeth Sgrinio Coluddion Cymru, yn cael eu cyfeirio yn eu holau at eu meddyg teulu, sydd â'r dewis deuaidd wedyn o atgyfeiriad brys neu atgyfeiriad arferol a all gymryd misoedd. Does bosib nad oes trydedd ffordd yn y fath sefyllfa o atgyfeirio'n gyflym be byddai problem newydd yn codi pan fo claf eisoes o dan wyliadwriaeth Sgrinio Coluddion Cymru? Diolch.

14:30

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a, Llywydd, rwyf yn falch iawn o ddweud, ar fy mhen-blwydd yn drigain oed, fy mod wedi cael pecyn sgrinio coluddyn oddi wrth GIG Cymru. Roedd ymhlith fy anrhegion lleiaf disgwyliedig ar fy mhen-blwydd yn drigain, ond mae'n bosibl mai dyna'r pwysicaf. Rwyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd rhan yn y sgrinio hwnnw; mae'n beth bwysig iawn y dylem i gyd ei wneud.

Nid wyf yn gyfarwydd â'r mater y mae'n ei godi. Rwyf yn awgrymu ei fod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, ac, os bydd hynny'n codi mater sy'n fwy sylweddol na hynny, byddaf yn gwneud trefniadau ar gyfer datganiad. Fel arall, byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr ateb ar gael i holl Aelodau'r Cynulliad.

Roeddwn yn dymuno codi dau fater gydag arweinydd y tŷ. Y cyntaf yw'r adroddiad Which, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sy'n datgelu'r ffaith fod dwy ran o dair o'r banciau bellach wedi cau erbyn hyn—yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae dwy ran o dair o'r banciau wedi cau—ac mae hyn wedi gadael cymunedau heb fanc lleol, sydd hefyd yn gadael y Stryd Fawr yn wag. Yng Ngogledd Caerdydd, rydym wedi colli banciau o Riwbeina, yr Eglwys Newydd, Llwynfedw—pob cymuned bron. Ac, yn wir, mae un banc yn dal yn wag—yng nghanol canolfan siopa—a oedd wedi cau flynyddoedd yn ôl. Gwn ein bod wedi trafod y mater o fanciau a chau banciau yn y Siambr hon yn y gorffennol, ond efallai—. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth gael golwg arall ar y mater hwn a gweld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud i helpu rhai o'r cymunedau hyn?

Ac, yn ail, tybed a fyddai modd cael dadl ar glefyd Lyme. Mae un o'm hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd yn ymgyrchu ar y mater hwn, ac, yn wir, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod am glefyd Lyme yn y Pierhead heddiw gyda'r bwriad o godi proffil y clefyd; y ffaith yw mai ychydig sy'n hysbys a bod llawer o gymhlethdodau gwahanol sy'n deillio ohono. Ac mae llawer o ddadleuon wedi eu cynnal yn Senedd yr Alban, yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddant hefyd yn Senedd Ewrop, ond mae'n ymddangos bod hwn yn glefyd nad oes llawer o wybodaeth amdano sy'n achosi llawer iawn o drallod i'r bobl hynny sydd yn dioddef oddi wrtho.

Dau bwynt pwysig iawn yn wir. O ran y banciau, fel y mae hi eisoes wedi ei gydnabod, mae'n rhywbeth yr ydym wedi ei drafod yn aml yn y Cynulliad, ac mae'n siomedig iawn, er gwaethaf y cymunedau yr effeithir arnynt a chynrychiolwyr gwleidyddol sy'n herio'r penderfyniadau—ar draws y Siambr, mewn gwirionedd; credaf ei fod yn rhywbeth yr ydym ni i gyd wedi mynegi pryder amdano—mae'r banciau'n parhau i fwrw ymlaen â rhaglen i gau. Ac nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer o ddinasyddion, dinasyddion hŷn yn enwedig, nad ydyn nhw'n gyfforddus â bancio ar-lein, a hefyd mae angen arian parod ar fusnesau bach mewn ardaloedd gwledig a cheir problem fawr o ran pa mor bell maen nhw'n teithio ac o ble maen nhw'n cael yr arian, a cheir problem gyda'r peiriannau ATM yn cau hefyd, wrth i bobl symud i systemau di-arian.

Yn ddelfrydol, byddem ni'n hoffi gweld busnesau ac unigolion ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y cyfleusterau bancio y maen nhw'n eu dymuno, gan liniaru'r golled o unrhyw gyfleuster peiriant ATM neu gangen yng Nghymru rhag pan fo hynny'n bosibl. Ond, yn anffodus, pwerau cyfyngedig sydd gennym ni yn hyn o beth. Er hynny, rydym wedi bod yn trafod rhan swyddfa'r post mewn mynd i'r afael ag anghenion bancio. Rydym ni'n cydnabod bod problemau ynghylch hynny, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw i'w trafod, o ran gallu, preifatrwydd, mynediad i bobl anabl ac ati yn swyddfa'r post, ond i raddau helaeth mae hynny'n rhan barhaus o'r drafodaeth ynghylch pa un a allan nhw gymryd lle rhai o wasanaethau'r gangen banc. A'r peth arall yw ein bod ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu model bancio cymunedol ar gyfer Cymru. Rydym yn cynnal deialog cynnar gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan hyrwyddo'r syniad o fanc cydfuddiannol cymunedol i Gymru, a fyddai'n gallu cynnig cymorth priodol i lefel y datblygiad o amgylch Cymru. Byddaf yn hysbysu'r Aelod wrth i'r cynigion ddatblygu ar gyfer hynny.

O ran clefyd Lyme, yng Nghymru, yn ogystal â phob man arall yn y DU, mae achosion o glefyd Lyme sy'n cael eu cadarnhau gan labordy wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i well cofnodi, mwy o brofion a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr Aelod yn falch o wybod ein bod ni wedi cyflwyno canllawiau cynhwysfawr ar glefyd Lyme i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru yn ddiweddar, ac mae'r GIG wedi datblygu deunyddiau ymwybyddiaeth priodol i'r cyhoedd. Ac rwyf yn falch iawn o ddweud bod honno'n rhaglen barhaus o ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth feddygol yn gyffredinol.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar honiad WWF Cymru bod un o bob 15 rhywogaeth o fywyd gwyllt yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yn gyfan gwbl? Maen nhw'n dweud bod bygythiadau byd-eang i fywyd gwyllt a chynefinoedd a nodwyd yn 'Living Planet Report 2018' yn cael eu hadleisio yng Nghymru. Mae bodaod tinwyn a llygod pengrwn y dŵr ymhlith y rhywogaethau sydd o dan fygythiad. Rydym wedi gweld niferoedd y barcut coch yn codi yng Nghymru, diolch i amddiffyn gwell a rhaglenni cadwraeth penodol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y camau y bydd hi'n eu cymryd i atal dirywiad bywyd gwyllt a diogelu cynefinoedd rhywogaethau sydd o dan fygythiad yn ein gwlad fendigedig?

14:35

Mae hon yn elfen ganolog o'r rhan fwyaf o'n systemau rheoli tir ac yn wir y rhan fwyaf o'r cymorth yn y gronfa ddatblygu wledig, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gynyddu bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae'n swyddogaeth bwysig iawn deall sut y gellir pennu gwerth biowasanaethau, biosystemau, yn y ffordd honno mewn termau ariannol fel y gellir annog pobl i wneud hynny. Rydym wedi syrthio y tu ôl i'r DU o ran, er enghraifft, plannu coed, a nifer fach iawn o goed sy'n cael eu plannu yng Nghymru. Rydym yn edrych i weld a oes systemau ar waith a all gynyddu'r ystod o gynefinoedd a bioamrywiaeth sydd ar gael ledled Cymru. Mae'n rhywbeth yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch. Cyn bo hir, bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn ymgynghori ar gynllun addasu newid yn yr hinsawdd, a fydd yn cynnwys edrych ar golli bioamrywiaeth a newid cynefinoedd, ac rwyf yn annog yr holl Aelodau i ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw cyn gynted ag y bo modd, gan wneud y pwyntiau y mae Mohammad Asghar wedi tynnu ein sylw atynt.

Arweinydd y tŷ, mae gen i dri mater yr hoffwn eu codi gyda chi y prynhawn yma. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad dros dro adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol. Roedd yn adroddiad deifiol iawn a oedd yn nodi bod toriadau a chyni yn ddewis gwleidyddol, bod Cymru'n wynebu'r tlodi cymharol uchaf yn y DU, a bod 25 y cant o swyddi'n talu llai na'r isafswm cyflog. Dywed yr adroddiad, a dyfynnaf:

Yn absenoldeb pŵer datganoledig dros fudd-daliadau cymdeithasol, mae gallu Llywodraeth Cymru i liniaru'r gostyngiad mewn budd-daliadau yn uniongyrchol yn gyfyngedig... newidiadau mewn budd-dal yw un o'r achosion strwythurol y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu ar y stryd, a digartrefedd yng Nghymru...efallai y bydd Credyd Cynhwysol yn gwaethygu'r broblem, yn enwedig yn sgil anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd i'w gweinyddiaeth, yn wahanol i'w chyfatebydd yn yr Alban.'

Dywed hyn yn gryf y gallech chi helpu'r bobl pe byddech yn barod i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb dros weinyddu budd-daliadau. Hyd yma, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod hynny, er gwaethaf yr anawsterau yr ydym wedi clywed amdanynt y prynhawn yma yn y Siambr hon. Felly, a gawn ni drafodaeth yn amser y Llywodraeth ar yr adroddiad Cenhedloedd Unedig hwn, gyda phwyslais penodol ar ddatganoli gweinyddu lles?

Roeddwn hefyd eisiau tynnu sylw at yr ymosodiad homoffobig ar Gareth Thomas. Nawr, rwyf i'n siŵr fy mod yn siarad dros y rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom yn y Siambr hon wrth ddweud, 'Diolch yn fawr iawn, Alfie' am wneud safiad ac am geisio ymateb adferol addysgiadol gan y sawl sy'n gyfrifol. Gall cyfiawnder adferol fod yn effeithiol iawn, yn enwedig pan ein bod ni'n sôn am bobl ifanc. Felly, hoffwn weld datganiad gan y Llywodraeth sy'n amlinellu ei dull gweithredu ar gyfer troseddau casineb yn gyffredinol, megis yr ymosodiad homoffobig ar Gareth Thomas, gan ddweud wrthym hefyd beth y mae'n ei wneud i ariannu a chefnogi cyfleoedd am gyfiawnder adferol.

Y mater olaf yr hoffwn ei weld yn amser y Llywodraeth yw ymddiheuriad. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma fod gwasanaethau rheilffyrdd wedi gwaethygu ers y fasnachfraint newydd hon, a chyhoeddodd y cwmni ymddiheuriad llawn i'w gwsmeriaid heddiw. Er bod gan eich Llywodraeth gyfrifoldeb am hyn, ni chawson unrhyw ymddiheuriad o'r fath gan y Prif Weinidog heddiw. Ymddengys ei fod yn dal i wadu. Roedd y llinell a oedd yn peri'r pryder mwyaf yn ymddiheuriad y cwmni yn ymwneud â'r bysiau ychwanegol y maen nhw'n eu trefnu gan ddweud, 'Bydd hyn yn parhau cyn hired â bod ei angen.' Ceir materion iechyd a diogelwch gwirioneddol nawr, ac yn syml, ni all hyn barhau. Felly, mae angen datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet arnom fel mater o frys i ddweud pa gamau ychwanegol y gall ef eu cymryd i leihau'r problemau hyn. Nid yw cwsmeriaid yn barod i ddioddef ddim mwy.

Diolch ichi am godi'r tri mater yna. O ran y troseddau casineb homoffobig, rwyf i hefyd yn dymuno ychwanegu fy llais i gydnabod y dewrder a'r urddas a ddangoswyd gan Gareth Thomas wrth ymdrin â'r sefyllfa y canfu ei hun ynddi, a'r dewrder wrth ddod ymlaen i amlygu a mynd i'r afael â'r broblem homoffobia a'i brofiad ef. Roeddwn i'n meddwl bod ei ddarn a glywais ar y radio am y broses gyfiawnder adferol yn cyffwrdd rhywun i'r byw ac yn ddiddorol iawn, yn wir. Fel mae'n digwydd, newydd sôn yn ddiweddar yr ydym ni yn y Siambr hon am yr ymwybyddiaeth o droseddau casineb a wnawn. Rydym yn parhau i annog dioddefwyr troseddau casineb i adrodd am eu profiadau ac adeiladu ar y partneriaethau cryf yr ydym ni wedi eu datblygu yn gyffredinol gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr Cymru ac asiantaethau eraill i leihau'r math hwnnw o drosedd casineb, a dwyn troseddwyr i gyfrif, a galluogi dioddefwyr i gael cymorth a chamau unioni.

Dyma sgwrs allweddol ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, y digwyddiad yr oedd fy nghyd-Aelod, Joyce Watson yn ei noddi yn gynharach, ac mae'r materion a gododd Jane Hutt yn ei chwestiwn i'r Prif Weinidog yn dal i fod yn berthnasol yn y darn hwn. Mae troseddau casineb yn droseddau casineb ni waeth sut maen nhw'n codi na pha adran o'r boblogaeth sy'n eu profi nhw, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'n partneriaid a Chymorth i Ddioddefwyr ac ymwybyddiaeth o droseddau casineb i weld beth y gallwn ei wneud gyda chyfiawnder adferol, ac mae fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Wasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn edrych i mewn i hyn hefyd gyda'r bwriad o edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn hyn o beth. Felly, byddwn yn hapus iawn i weld a allaf gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf, o ystyried ein bod yng nghylchdro'r Llywodraeth, y bydd datganiad, rwyf yn gobeithio, ar hawliau dynol tuag at ddiwedd tymor hwn y Llywodraeth, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn cynnwys y mater hwnnw yn y datganiad, neu fel arall, byddwn y tu allan i amser y Llywodraeth. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn rhan o hynny, gan fy mod i'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt hynod o ddiddorol.

Ar y ddau bwynt arall, mae adroddiad adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn waith darllen hynod anodd, yn fy marn i, ac mae'n dweud llawer o bethau y mae llawer ohonom yn cytuno arnynt ynglŷn â'r system fudd-daliadau ac anawsterau byw mewn tlodi. Rwyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn yn ei rhaglen ar gyfer llywodraethu a'i rhaglenni polisi 'Ffyniant i Bawb' er mwyn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud, ond bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i a'r Llywodraeth yn anghytuno'n llwyr ar ei fersiwn hi o'r drefn budd-daliadau lles, ac fy marn benodol i yw ei bod hi'n well i'r DU ailddosbarthu, ac nid yw'r syniad y gall Cymru sefyll ar ei phen ei hun o ran budd-daliadau lles yn un y byddwn i'n ei goleddu nac yn ymhyfrydu ynddo mewn unrhyw ffordd.

O ran gwasanaethau rheilffyrdd, rhoddodd y Prif Weinidog, mewn ateb i Darren Millar, grynhoad eithaf da o ble yr ydym ni ar wasanaethau rheilffyrdd, Llywydd, ac nid wyf yn credu bod angen unrhyw ychwanegiad arall oddi wrthyf i.

14:40

Ar y pwynt olaf un yna, roeddwn i'n mynd i ofyn am ddatganiad; rwyf yn synnu braidd pa mor ddiystyriol y mae arweinydd y tŷ wedi bod ar hynny. Mae llawer o etholwyr, yn ystod yr wythnos diwethaf, yn sicr, wedi cysylltu â mi, ac mae hynny wedi ei weld yma heddiw gyda sylwadau arweinydd yr wrthblaid a sylwadau'r Aelod Plaid Cymru a thystiolaeth gadarn o drenau nad ydynt yn cyrraedd. Mewn 16 o achosion, rwyf yn credu, nid oedd trenau ar un rheilffordd benodol—y gogledd, y de, y canolbarth neu'r gorllewin, gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o hynny. Pan lansiwyd y fasnachfraint, roedd Gweinidogion ym mhob man yn y wasg, ac yn briodol felly, gan fod hyn yn addo llawer, ac, os caiff ei weithredu'n gywir, bydd yn golygu gwelliant. Ond mae Aelodau yn y tŷ hwn yn cael eu beio, dro ar ôl tro, gan eu hetholwyr ynghylch lefel y gwasanaeth a gafwyd yn ystod y mis diwethaf. Yn sicr, mae'n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet i ddod i'r tŷ hwn cyn toriad y Nadolig ac amlygu pa gamau a gymerir i fynd i'r afael â diffygion sydd, gobeithio, yn y tymor byr, yn hytrach na'r tymor canolig neu hir. A byddwn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r cyfle hwnnw i gofnodi pa bwysau y mae'n ei roi ar Drafnidiaeth Cymru a'u contractwyr i berfformio'n well. Fel arall, bydd yn golygu bod y Llywodraeth yn esgeuluso ei dyletswydd. Rwyf yn gobeithio'n wir y bydd arweinydd y tŷ yn adlewyrchu ar yr ateb y mae hi newydd ei roi gan wneud amser ar gyfer datganiad fel y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddod yma cyn toriad y Nadolig i fynd i'r afael â'r methiannau hyn o fewn y system drafnidiaeth yma yng Nghymru.

Nid oeddwn yn bod yn ddiystyriol. Dywedais nad oedd gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr ateb cynhwysfawr a roddodd y Prif Weinidog; nid wyf yn gweld sut mae hynny'n ddiystyriol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ateb cwestiynau llafar y Cynulliad yn rhan o'r cylchdro yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd digon o gyfle i Aelodau ei holi ynghylch y manylion, ond mae arnaf ofn nad wyf yn credu bod y syniad y dylem fod wedi datrys yr holl broblemau a phopeth arall ar ôl rhedeg masnachfraint am fis yn gredadwy. Wrth gyhoeddi hynny, gosododd Ysgrifennydd y Cabinet raglen weithredu a oedd yn ymwneud â masnachfraint y rheilffyrdd, a ailadroddwyd gan y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Yr unig beth yr wyf yn ei ddweud yw nad oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny ar hyn o bryd, ac, os ydych chi eisiau gofyn cwestiynau penodol i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs mae croeso i chi wneud hynny.

Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â phroblemau parcio parhaus ar hyd yr A5 yn ardal Llyn Ogwen yn fy etholaeth i. Mae yna dros flwyddyn wedi pasio ers i gynrychiolwyr lleol holi am weithredu a chynllun pendant i chwilio am ddatrysiad buan i'r broblem yn yr ardal. Mae yna chwe mis wedi pasio ers i'r Gweinidog dderbyn astudiaeth dichonoldeb o'r problemau, ond, eto i gyd, nid oes yna symud ymlaen. Mewn cwestiwn ysgrifenedig gennyf yn gofyn pryd byddai astudiaeth dichonoldeb ar y broblem parcio yn cael ei chyhoeddi, yr ateb a ddaeth i law oedd bod yr adroddiad yn cael ei gyfieithu. Wedyn, mae yna ddau fater yn codi yr hoffwn ichi ymchwilio iddyn nhw. A ydy hi'n arferol i gymryd chwe mis i gyfieithu adroddiadau? Ac, yn ail, beth sy'n digwydd er mwyn datrys y problemau parcio ger llyn Ogwen?

Ac yn ail, mae arnaf ofn, unwaith eto, fy mod i'n gorfod holi am amserlen adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd. Fe ganslwyd sesiwn i ddarpar brentisiaid yn ddiweddar, ac nid oes yna ddim sôn am unrhyw waith ar y safle. Yn naturiol, felly, mae pobl yn fy ardal i yn dechrau pryderu ynglŷn â beth sydd yn digwydd ac yn gofyn a oes yna oedi unwaith yn rhagor efo ffordd osgoi Bontnewydd.

14:45

Ynglŷn â'r ail bwynt, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu ati'n uniongyrchol ac egluro iddi lle'r ydym ni ar yr amserlen. Mae arnaf ofn nad yw'r wybodaeth honno gennyf, ond byddaf yn gofyn iddo egluro.

Ynglŷn â'r pwynt cyntaf, unwaith eto, wnes i ddim sylweddoli bod yr amserlen wedi llithro cymaint â hynny, ac rwyf yn fwy na pharod i drafod lle'r ydym ni ar yr amserlen gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac i adael i'r Aelod wybod.

A gawn ni ddatganiad ar ffordd liniaru'r M4? Pan oeddech chi'n cymryd lle'r Prif Weinidog ar 23 Hydref, arweinydd y tŷ, fe wnaethoch addo pleidlais rwymol yn amser y Llywodraeth a dywedasoch wedyn fod hyn wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 4 Rhagfyr. Mae'r amserlen gennym hyd at y Nadolig bellach ac nid oes golwg o unrhyw gynnig ar yr M4. A wnaethoch chi gamsiarad?

A wnewch chi hefyd, efallai, roi safbwynt y Llywodraeth inni ynghylch cyfweliad y Prif Weinidog ar 15 Tachwedd? Pan ofynnodd BBC Wales iddo a oedd yn dal yn bwriadu penderfynu pa un a fyddai'r ffordd yn cael ei hadeiladu, dywedodd y Prif Weinidog:

Ydw, y cynllun yw y byddaf i'n gwneud y penderfyniad.

A yw hynny'n wir, ac, os felly, onid y caniatâd cynllunio yn unig y byddai'r Prif Weinidog yn penderfynu arno, yn hytrach na phenderfynu ar ba un a fyddai'r ffordd yn cael ei chyllido a'i hadeiladu? Yna aeth ymlaen i ddweud:

Mae adroddiad yr arolygydd wedi ei dderbyn. Mae'n fwy na 500 o dudalennau o hyd, felly mae'n cymryd peth amser i'w ddarllen a'i ddadansoddi,

fel y mae rhai ohonom yn gwybod gyda'r cytundeb ymadael. Ond dywedodd wedyn:

Nid wyf wedi gweld yr adroddiad eto, ond rwyf yn disgwyl y bydd yr adroddiad yn barod i mi wneud penderfyniad erbyn diwedd y mis.

Yn sicr, os yw'r adroddiad mor hir a chymhleth, oni ddylid ei roi i'r Prif Weinidog cyn gynted â phosibl os yw ef am wneud y penderfyniad ei hun mewn gwirionedd yn hytrach na chymeradwyo penderfyniad rhywun arall yn unig, a thra ei fod wrthi, a yw'n bosibl cyhoeddi'r adroddiad fel y gall pob un ohonom ni ei ddarllen hefyd?

Ie, mewn ateb i'r cwestiwn hwn, pan oeddwn i'n cymryd lle'r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, darllenais amserlen gyfreithiol a phroses hir iawn a chymhleth a oedd yn gysylltiedig â'r amser y gall pobl wneud penderfyniadau gwahanol, ac ati. Rwyf yn fwy na pharod i'w dosbarthu yn ôl i'r Aelod. Gwneuthum yn glir iawn ein bod mewn proses gyfreithiol, a'n bod ni'n disgwyl am grynodebau o'r dystiolaeth a'r cynghorion cyfreithiol amrywiol ac ati, a bod y Prif Weinidog yn dal yn gobeithio gwneud y penderfyniad hwnnw, ac y bydd y ddadl yn dilyn wedyn. Rwyf hefyd wedi ei gwneud hi'n glir iawn wrth ateb Rhun ap Iorwerth, wrth ateb i ddatganiad busnes yn ddiweddar iawn, fod gennym le i hynny ddigwydd ar yr amserlen os yw hynny'n bosibl, ond na allwn warantu y byddai. Byddwn yn gwneud hyn os gallwn. Os nad yw'n bosibl o fewn yr amserlen, yna, Llywydd, byddaf yn bendant iawn yn sicrhau bod y Pwyllgor Busnes a'r Siambr hon yn ymwybodol o ble'r ydym ni arni ynglŷn â hyn.

Roedd digwyddiad yn Senedd y DU ddoe gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig i nodi tair blynedd ers iddyn nhw ymgyrchu i sicrhau bod y cyffur Orkambi ar gael drwy'r GIG. Cawsom gyfarfod trawsbleidiol yma yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r mater pwysig hwn hefyd. Nawr, mae 'Cymru Iachach', eich strategaeth chi, yn dweud bod angen inni gael gofal mwy personol, mwy o feddyginiaethau manwl drwy'r GIG, ond mae Orkambi, a allai effeithio ar 200 o bobl yng Nghymru, yn dal heb fod ar gael drwy'r GIG. Nawr, rwyf yn deall bod Vertex, y cwmni sydd â'r cyffur, mewn trafodaethau â'r GIG bellach ynglŷn â chyflwyno'r cais newydd i NICE, ond nid yw hynny gennyf ar unrhyw gofnod gan Lywodraeth Cymru. Felly, tybed a allem ni gael datganiad wedi'i ddiweddaru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â'i drafodaethau gyda'r cwmni a chyda'r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig i geisio sicrhau bod y cyffur hwn ar gael drwy'r GIG yng Nghymru? Pe byddem yn gwneud hynny, gallem arwain ar lefel y DU, gan nad yw'r cyffur hwn yn bodoli yn unman arall yn y DU, ond, wrth gwrs, mae'r cyffur eisoes gan Weriniaeth Iwerddon, Denmarc, Norwy—a llawer o wledydd eraill—sy'n gallu edrych ar achos sylfaenol ffeibrosis systig yn hytrach na rheoli'r symptomau yn unig. Felly, byddwn yn eich annog i roi datganiad ar hynny.

Yr ail ddatganiad yr oeddwn yn bwriadu gofyn amdano oedd—. Ochr yn ochr ag Aelodau Cynulliad eraill yn yr ystafell hon, roeddem ni yn ysgol gyfun Joseff Sant ddoe yn rhan o'r ddadl Senedd Ieuenctid, a daeth un o'r myfyrwyr ifanc ataf wedyn a dywedodd ei bod hi wedi bod yn aros ar restr aros am gwnsela yn yr ysgol ers dros flwyddyn. Erbyn hynny, roedd hi eisoes wedi chwilio am driniaeth breifat gan nad oedd hi'n gallu aros ar y rhestr honno i gael unrhyw driniaeth. Nawr, gwn fod Lynne Neagle ac eraill wedi bod yn edrych yn fanwl ar iechyd meddwl pobl ifanc, ond roedd yn achos pryder mawr i mi glywed hynny gan berson ifanc pan fo gennym brosesau cwnsela ysgolion ar waith yng Nghymru. Felly, a gawn ni ddiweddariad ar y sefyllfa yma yng Nghymru? A oes rhestrau aros hir mewn ysgolion ledled Cymru? A oes rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, gan y bydd pobl ifanc, wrth gwrs, yn disgyn drwy'r rhwyd os yw hynny'n wir?

14:50

Ynglŷn ag Orkambi, aeth Ysgrifennydd y Cabinet drwy'r sefyllfa mewn ymateb i'w gyfres ddiwethaf o gwestiynau pan amlinellodd y broses y mae'n rhaid i'r cwmni fynd drwyddo, sef y broses o gael achrediad drwy NICE. Nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid ers iddo egluro ble'r oeddem ni gyda hynny. Yr hyn a wnaf yw trafod gydag ef a oes rhywbeth wedi newid, ac os oes rhywbeth wedi newid, yna byddaf yn gwneud yn siŵr bod Aelodau Cynulliad yn cael gwybodaeth ynglŷn â hynny. Ond nid wyf yn ymwybodol o hynny. Os oes unrhyw beth sydd wedi newid, byddaf yn gwneud yn siŵr bod diweddariad yn cael ei wneud. Ond fe aeth ef yn eithaf trwyadl drwy'r broses sy'n angenrheidiol i hynny ddigwydd.

Ac, yn yr un modd, ynglŷn â materion iechyd meddwl, aeth drwy'r broses gyfan honno. Ond unwaith eto, byddaf yn trafod gydag ef a oes newid sylweddol neu rywfaint o dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg. Efallai y byddai'r Aelod yn dymuno rhannu'r stori y mae hi newydd ei hamlinellu gyda mi, a byddaf yn ymrwymo i drafod gydag ef a oes unrhyw fater o bwysigrwydd cyffredinol y gallwn ddod yn ôl ynglŷn ag ef.

Arweinydd y tŷ, gofynnais ichi, yr wythnos diwethaf oedd hi rwy'n credu—roedd hi'n ddiweddar yn sicr—ynghylch y brechlyn ffliw sydd ar gael ledled Cymru a pha un a fyddem ni'n cael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gadarnhau pa un a oedd y ddarpariaeth honno ar gael. Ers hynny, rwyf wedi cael llif o e-byst gan fwy o bobl nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y brechlyn. Roedd un ddoe gan glaf o bractis Castle Gate yn Sir Fynwy, y dywedwyd wrth ei gŵr sy'n 75, gan eu bod nhw'n blaenoriaethu ar gyfer pobl dros 75 oed na fydd y brechlyn ar gael iddo ac y dylai ddod yn ei ôl yn ddiweddarach pan fydd y brechlyn wedi cyrraedd. Rwyf ar ddeall gan Age Cymru eu bod nhw wedi nodi problem, yn gynnar yn y broses hon, fod rhai practisiau a fferyllfeydd cymunedol wedi amcangyfrif yn rhy isel faint o'r brechlyn y byddai ei angen arnyn nhw ac o ganlyniad nid oedd digon yn y system i'w ddarparu, ac mae'n nhw'n gweithio ar hynny. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i edrych ar yr holl fater hwn? Oherwydd, er fy mod i'n deall y bydd brechlynnau'n cyrraedd, cyn diwedd mis Tachwedd gobeithio, nid yw hynny wedi ei gyfleu yn y modd gorau i'r cleifion o reidrwydd, ac mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn bryderus iawn. Felly, rwyf yn gobeithio y gallwn ymdrin â hyn yn well yn y dyfodol.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i gytuno â geiriau arweinydd yr wrthblaid yn gynharach a hefyd yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n eistedd y tu ôl i mi fel arfer, o ran y mater gyda Thrafnidiaeth Cymru a rhai o'r—beth bynnag y gallech chi fod eisiau eu galw nhw—problemau cychwynnol, cael pethau yn ôl ar y trywydd iawn? Mae'n amlwg bod problem wedi bod ac mae'n bwysig, y tu hwnt i'r ymddiheuriad y maen nhw wedi ei roi—ac rwyf yn parchu'r ffaith eu bod nhw wedi ymddiheuro i deithwyr yn gyflym iawn—mae angen edrych ar rywbeth yn y fan yna.

Effeithiwyd ar fy ngwraig fy hun sy'n feichiog gan y broblem yn ddiweddar a byddwch yn ymwybodol o hyn drwy Facebook—gwn y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o hynny—lle cafwyd, tri thrên yn olynol, rwy'n credu, heb ddigon o gerbydau, felly nid oedd hi'n gallu mynd ar y trên. Y fi oedd yr un a oedd o dan y lach am hynny, neu a gafodd lond pen yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, felly mae hi er budd i mi edrych i mewn i hyn. Felly, pe gallech chi gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y gellid ei wneud i geisio lliniaru rhai o broblemau cychwynnol y fasnachfraint, byddai hynny'n fuddiol iawn.

Rwyf yn cydymdeimlo â'ch gwraig. Rwyf innau'n ei dilyn hi ar Facebook hefyd, felly roeddwn i yn gwybod am hynny. Ac, fel y dywedais, nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu at unrhyw beth arall yr wyf wedi ei ddweud ynghylch y rheilffyrdd.

O ran y brechlyn ffliw, mae'r Aelod yn codi pwynt perthnasol iawn. Credaf ei bod hi'n werth ailadrodd, Llywydd, yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud wrth bobl. Ar gyfer gaeaf 2018-19, mae brechlyn ffliw sydd wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer pobl hŷn wedi ei drwyddedu yn y DU. Y cyngor gan banel arbenigol y DU ar imiwneiddio—y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—yw y disgwylir i'r brechlyn cynorthwyol hwn fod yn fwy effeithiol yn glinigol gyda phobl 65 mlwydd oed neu hŷn o'i gymharu â brechlynnau ffliw eraill sydd ar gael, ac mai dyma'r unig frechlyn ffliw sy'n debygol o fod yn effeithiol ar gyfer pobl 75 oed a hŷn. Nid oes prinder brechlynnau ffliw ar gyfer pobl dros 65 oed. Bydd yr holl archebion a gyflwynwyd gan feddygon teulu a fferyllwyr yng Nghymru yn cael eu bodloni. Mae'r cyflenwad yn cael ei dosbarthu yn unol â'r galw. Mae'r gwneuthurwr wedi cadarnhau y bydd yr holl archebion wedi eu danfon cyn diwedd mis Tachwedd.

Mae'n bwysig bod y brechlyn ffliw sy'n cael ei gynnig i unigolion mewn perygl yn darparu'r amddiffyniad gorau sydd ar gael. Gyda'r lefelau uchel o ffliw a gawsom y tymor diwethaf a arweiniodd at gynyddu cyfraddau ymgynghori â meddygon teulu ac achosion mewn cartrefi gofal ac mewn ysbytai, mae'n ddoeth gweithredu ar y cyngor arbenigol gan wneud popeth o fewn ein gallu. Felly, rydym yn gobeithio bydd pobl yn dewis y brechlyn ffliw sydd fwyaf effeithiol iddyn nhw o ran demograffeg. Rwyf yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Aelod yn ei amlygu, sef y gall oedi cyn cael brechlyn ffliw fod yn destun pryder i bobl hŷn, ond nid yw'r ffliw yn tueddu i ddechrau mynd o gwmpas tan ganol fis Rhagfyr, felly mae digon o amser eto i'r brechlyn ffliw gyrraedd ac i bobl gael eu diogelu. Mae'r prif swyddog meddygol eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd, meddygon teulu a fferyllfeydd gyda chyngor ynghylch trefniadau cynnig brechlynnau ffliw i bobl hŷn y tymor hwn, yng ngoleuni yr hyn sydd ar gael.

Rydym yn ymwybodol bod nifer fach iawn o feddygfeydd, fel y credaf fod Nick Ramsay yn ei amlygu, nad oedden nhw wedi archebu'r brechlyn cynorthwyol, fel yr argymhellodd y prif swyddog meddygol, neu nad oedden nhw wedi archebu digon ar gyfer eu cleifion cymwys. Yn yr achosion hynny, neu pan nad yw cyflenwadau brechlynnau wedi cyrraedd eto, rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd, practisiau a fferyllfeydd cymunedol weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar y brechlyn cynorthwyol cyn gynted â phosibl, gan flaenoriaethu pobl dros 75 oed a'r rhai sydd dros 65 sy'n dioddef gan gyflyrau meddygol. Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG i sicrhau nad yw sefyllfa cyflenwad y brechlyn yn effeithio ar unrhyw un rhag manteisio arno. Felly, credaf ein bod ni'n gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt eto pan fo'r holl frechlynnau wedi cyrraedd, a chredaf y dylai hynny fod yn galonogol iawn i etholwyr Nick Ramsay.

14:55
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol

Mae'r eitem nesaf wedi'i gohirio tan 11 Rhagfyr, sef eitem 3. 

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cytundeb Drafft ar Ymadawiad y DU â’r UE

Felly, eitem 4 yw'r eitem nesaf: datganiad gan y Prif Weinidog ar y cytundeb drafft ar ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Prif Weinidog, felly—Carwyn Jones. 

Diolch, Llywydd. Mae'n nodweddiadol wrth ymdrin â negodiadau Brexit Llywodraeth y DU fy mod i'n rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yng nghanol yr argyfwng gwleidyddol gwaethaf a welais. Fel yr egluraf, mae'n argyfwng y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'n argyfwng sydd wedi'i wreiddio mewn cyndynrwydd i fod yn onest am y cyfaddawdu anodd sydd ei angen yn y negodiadau, ac amharodrwydd i sicrhau consensws eang, gan gynnwys gyda'r llywodraethau datganoledig, ynghylch sut i ymdrin â'r heriau digyffelyb o adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, mae gennym ni'r Brecsitwyr digyfaddawd yn y Blaid Geidwadol sydd wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau nad oes cytundeb, sy'n ceisio dwysáu'r argyfwng gwleidyddol ymhellach gydag etholiad arweinyddiaeth.

Heddiw, Llywydd, fe hoffwn i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ac amlinellu'r pethau nesaf y mae angen eu gwneud, a hynny ar fyrder, gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i wahaniaethu rhwng y cytundeb ymadael a'r berthynas economaidd yn y dyfodol y bydd angen ei hegluro yn y datganiad gwleidyddol. Mae angen dirfawr am nifer o'r agweddau ar y cytundeb ymadael. Mae sicrhau'r cyfnod pontio yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi cyrraedd dibyn ymhen dim ond pedwar mis. Bydd amddiffyn hawliau dinasyddion yn sicrhau statws dinasyddion yr UE sydd wedi dewis byw yma, gan gyfrannu at ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hefyd rhai o wladolion y DU sydd wedi dewis byw a gweithio neu ymddeol mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae'n warthus bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio dinasyddion yr UE a'r DU fel gwystlon tactegol yn yr hyn sy'n gêm wyddbwyll o wleidyddiaeth plaid.

Rydym ni'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb Dydd Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon i wneud yn siŵr nad yw Brexit yn peryglu'r heddwch a'r ffyniant a ddaeth i Ynys Iwerddon yn sgil y cytundeb. Fel yr wyf i wedi sôn hyd syrffed yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae'r materion trawsffiniol ar Ynys Iwerddon wrth wraidd Brexit ac maen nhw'n dangos methiannau'r cytundeb diweddaraf a rhai Prif Weinidog y DU. Rydym ni'n deall, o gofio dihidrwydd peryglus rhai yn y Blaid Geidwadol ynghylch cytundeb Dydd Gwener y Groglith, bod ar 27 aelod yr UE angen sicrwydd cadarn na fydd y ffin galed yn dychwelyd mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau o'r cynllun ôl-stop yn broblemus ar y gorau, ond ni fyddai angen eu gweithredu fyth pe byddai Llywodraeth y DU wedi croesawu ateb sy'n cydnabod pwysigrwydd y berthynas agosaf bosibl rhwng y DU gyfan a'r UE, heb fod yn aelod. Pe bai Llywodraeth y DU wedi arddel y safbwynt a amlinellwyd gennym ni ar y cyd â Phlaid Cymru bron i ddwy flynedd yn ôl ar gyfer perthynas economaidd yn y dyfodol a fyddai'n cynnwys mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac undeb tollau, ni fyddai fyth angen unrhyw gynllun ôl-stop. Ond yr hyn sydd gennym ni yn lle hynny gan Lywodraeth y DU yw datganiad gwleidyddol hollol annigonol.

Methiant gwirioneddol y cytundeb presennol yw'r diffyg cynnydd yn y datganiad gwleidyddol a diffyg eglurder, sy'n peri pryder. Beth mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf? Nid oes gennym ni syniad beth fydd perthynas y DU yn y dyfodol gyda'n partneriaid masnachu mwyaf o ran maint a dylanwad. Y rheswm am hyn yw bod y Prif Weinidog yn parhau gyda'i strategaeth fethedig o edrych tuag i mewn, gan ganolbwyntio ar reoli cythrwfl mewnol y Blaid Geidwadol ac nid canolbwyntio ar anghenion y DU yn ei chyfanrwydd a buddiannau Cymru a'r gwledydd eraill. Mae'r argyfwng gwleidyddol yn un o greadigaeth Llywodraeth y DU i gyd. Doedd dim rhaid i bethau fod fel hyn. 

Mae'r Prif Weinidog wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf, yn anffodus, yn porthi disgwyliadau Brecsitwyr digyfaddawd milwriaethus, ideolegol yn ei phlaid ei hun, a does syndod yn y byd eu bod wedi eu siomi gan yr hyn y mae hi wedi ei gyflwyno. Nawr, yn rhy hwyr o lawer, mae'n rhaid iddi hi drechu'r rhai yn ei phlaid na wnaiff fyth gefnogi perthynas â 27 gwlad yr UE. Mae'n rhaid iddi wrando ar farn y gymuned fusnes, yr undebau llafur a'r llywodraethau datganoledig, ac wedyn fe allai hi ddechrau negodi'r cytundeb priodol â 27 gwlad yr UE.

Ym Mrwsel, mae 27 gwlad yr UE wedi datgan yn glir pe bai Llywodraeth y DU yn cefnu ar ei safbwyntiau cyfeiliornus ac yn cofleidio perthynas economaidd agosach—un a amlinellwyd gennym ni yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—yna gellir sicrhau cytundeb symlach, mwy cydlynol a ffafriol. Ac er y gwelwn ni safbwynt Llywodraeth y DU yn symud yn nes o hyd at un ni, drwy wneud hynny dim ond yn y modd mwyaf amharod—dan gicio a strancio—mae'r Prif Weinidog wedi colli pob mantais negodi y gallasai hi eu cyflawni.

Yn hytrach nag ystrydebau o dan benawdau pwnc, gyda'r nesaf peth i ddim ar faterion allweddol fel mudo yn y dyfodol a chymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon neu Erasmus +, mae angen i'r datganiad gwleidyddol fod yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn a chytûn gan y DU a 27 gwlad yr UE i berthynas yn y dyfodol sy'n seiliedig ar fod yn rhan hirdymor mewn undeb tollau a'r farchnad sengl ym mhob sector. Mae hyn yn cael ei gynnig. Mae Michel Barnier wedi sôn droeon mai ei hoff fodel ef yw 'Norwy plws', ond nid yw hyn wedi bod yn bosibl gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n benderfynol o wrthod cyfaddawdu.

Felly pa newid sydd ei angen, cyn y gallem ni hyd yn oed ystyried cefnogi'r cytundeb hwn? Wel, efallai cymharol ychydig yn y cytundeb ymadael ei hun, ar wahân i sicrhau na fydd angen byth am y cynllun ôl-stop. Ac os derbynnir ein cynnig o undeb tollau tymor hir, mae unrhyw achos damcaniaethol ar gyfer cynllun ôl-stop yn diflannu i raddau helaeth. Ond mae angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn ei hanfod a chael newid sylfaenol yn y meddylfryd er mwyn bod yn onest ynghylch y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewis clir i flaenoriaethu ein sefydlogrwydd economaidd dros y dôn gron o adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n harian.

Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm, does bosib, am drychineb economaidd a chymdeithasol o ymadael heb gytundeb. Mae angen inni weld datganiad gwleidyddol sy'n nodi bwriad y ddwy ochr i drafod perthynas hirdymor sy'n adlewyrchu'n glir y dewisiadau a gyflwynir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', rhywbeth nad yw bellach yn afrealistig o ystyried y safbwynt y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dechrau ei arddel. Byddai mynd ati fel yna yn gwneud y cynllun ôl-stop yn ddiangen a byddai'n rhoi sicrwydd i'n pobl a'n busnesau na fyddwn ni'n camu tuag at ochr dibyn arall ym mis Rhagfyr 2020. Ac, yn ymarferol, byddai hynny bron yn sicr yn ennill mwyafrif mawr yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae amser yn brin iawn tan y Cyngor Ewropeaidd, ond mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn waith ar y gweill. Yn dilyn fy nghais am gyfarfod brys yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ddoe, eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid eto ein barn ar y berthynas briodol yn y dyfodol gyda 27 gwlad yr UE.

Llywydd, penderfynir ar safbwynt terfynol Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r ffaith a fydd Llywodraeth y DU ar yr adeg hwyr hon yn gweld synnwyr ai peidio. 

15:00

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Er fy mod i'n siomedig ynghylch ysbryd datganiad heddiw, mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau, i gefnogi'r fargen hon, mai cymharol ychydig yn y cytundeb ymadael drafft sydd angen ei newid. Ac felly, Llywydd, fy nghwestiwn cyntaf yw; os felly, a wnaiff y Prif Weinidog egluro pam ar y ddaear nad yw ef a'i Lywodraeth yn cefnogi'r cytundeb ymadael hwn?

Wrth gwrs, fel mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, er bod hyn yn gam pwysig ymlaen, nid dyma'r cytundeb terfynol, ac mae trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i gynhyrchu datganiad gwleidyddol llawn. Nawr, yn y datganiad heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir ei fod yn credu bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn dangos diffyg unrhyw ymgysylltu ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig, ond mae'n rhaid imi ddweud nad estynnodd y Prif Weinidog unrhyw wahoddiad i drafod effaith y cytundeb ymadael hwn ar Gymru gyda mi fel arweinydd y blaid yn y lle hwn. Ac, ers imi fod yn y swydd hon, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw wahoddiad i drafod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru gyda mi fel arweinydd, felly rydych chi'n un da i siarad am ymgysylltu pan ymddengys bod yr ymgysylltu hynny wastad un ffordd yn unig. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth plaid, y byddai hi wedi bod yn well o lawer i arweinwyr y Cynulliad gwrdd a thrafod y cynigion a'r effaith a gaiff y cynigion hyn ar Gymru a sut  mae'r Cynulliad yn gweithio? Os yw Llywodraeth Cymru yn wirioneddol gredu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm 2016 a chyflwyno cytundeb Brexit sy'n gweithio i fusnesau a chymunedau, yna efallai bod angen i'r sianeli cyfathrebu fod yn agored yng Nghymru ac yn San Steffan.

Llywydd, roedd ysbryd datganiad heddiw, a sylwadau'r Prif Weinidog ynglŷn â pherthnasoedd mewnol Plaid Geidwadol y DU yn eironig pan edrychwch chi ar ddisgyblaeth rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n gwneud unrhyw beth adeiladol o bell ffordd i gefnogi diwydiant Cymru. Yn wir, mae'n gwneud i Gymru edrych yn wan o ran arweinyddiaeth ar adeg pan ddylai'r wlad fod yn canolbwyntio ar gael y fargen orau bosibl ar gyfer ei phobl.

Cadarnhaodd y cytundeb ymadael drafft y bydd cyfnod gweithredu gyda therfyn amser iddo yn darparu pont i'r berthynas yn y dyfodol, gan alluogi busnesau i barhau i fasnachu fel hyn tan ddiwedd 2020—rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Prif Weinidog yn ei groesawu, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am ei sylwadau ynglŷn â'r cyfnod gweithredu hwnnw.

Mae Prif Weinidog Cymru yn ei gwneud hi'n glir yn y datganiad heddiw bod angen i Brif Weinidog y DU wrando ar farn byd busnes, ond gadewch imi ei atgoffa bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi ei gwneud hi'n glir bod

y fargen hon yn gyfaddawd, gan gynnwys ar gyfer busnes, ond mae'n cynnig y cyfnod pontio hanfodol hwnnw fel cam yn ôl o ymyl y dibyn.

Yn wir, bydd hefyd yn ymwybodol o farn prif weithredwr Aston Martin, Andy Palmer, sydd wedi dweud bod cytundeb drafft Brexit yn 'ddigon da'. Felly, efallai mai Prif Weinidog Cymru ddylai wrando ar farn byd busnes, sydd wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r Blaid Lafur weithio gyda'r byd busnes, nid ceisio ei reoli. Felly, a wnaiff ef gadarnhau pa drafodaethau cychwynnol y mae wedi'u cael gydag arweinwyr busnes yng Nghymru, fel y gallwn ni fod yn sicr y caiff eu barn ei hadlewyrchu'n gywir pan fydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod effaith y cytundeb ymadael drafft gyda'u cymheiriaid yn San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf?

Fel y mae Prif Weinidog Cymru'n ymwybodol, ceir perthynas agos rhwng diwydiant amaethyddol Cymru a'r farchnad Ewropeaidd, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gweld sylwadau Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, sydd unwaith eto yn rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb drafft fel cam yn agosach at gyflawni'r masnachu rhwydd a didramgwydd y mae ffermwyr Cymru eisiau ei weld gyda'r UE.

Wrth gwrs, mae NFU Cymru hefyd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru, ei bod hi'n amheus a fydd y cytundeb drafft yn cael cymeradwyaeth Seneddol, a bod ffermwyr Cymru yn edrych yn awr at eu gwleidyddion i wneud yr hyn sydd orau i'r wlad. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod Aelodau Seneddol Cymru yn cefnogi barn y diwydiant ffermio yng Nghymru yn llawn fel y bydd holl wleidyddion Cymru yn rhoi anghenion a chynaliadwyedd y diwydiant ar frig eu hagenda.

Wrth gwrs, mae digon o fanylion o hyd sydd eto i'w cynnwys yn gadarn yng nghytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae un mater ynghylch y diffyg manylion pendant ar effaith y cytundeb hwn ar ddiwydiant pysgota Prydain, y mae Cymru yn chwarae rhan sylweddol ynddo. Fel rwyf i'n deall pethau, mae diwydiant pysgota Prydain yn parhau i alw ar y DU i roi'r gorau i'r polisi pysgodfeydd cyffredin a datblygu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol erbyn diwedd 2020, ond mae rhywfaint o amwysedd ynghylch llongau o'r UE yn dod i ddyfroedd Prydain. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn, a pha sylwadau y mae ef a'i gydweithwyr wedi eu gwneud i ganfod beth fydd y cytundeb ymadael drafft yn ei olygu i bysgodfeydd Cymru.

Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir mai'r peth olaf y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Iwerddon a Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef i raddau helaeth iawn. Dywedodd y gallai fod goblygiadau enfawr, yn enwedig o ran y ffyrdd sy'n arwain i'n porthladdoedd. Prif Weinidog, bu dadlau dros ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth i ers y 1950au, ac rwyf i wedi holi Gweinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon yn barhaus am ymrwymiadau i ddeuoli'r ffordd hon. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth ers creu'r Cynulliad i sicrhau gwelliannau gwirioneddol i'r rhwydweithiau ffyrdd presennol.

Cadarnhaodd adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ynglŷn â goblygiadau Brexit ar borthladdoedd Cymru y llynedd nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar y cyllid sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Felly, yng ngoleuni pryderon newydd Llywodraeth Cymru am y strwythurau ffyrdd o amgylch porthladdoedd Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym ni nawr pa gynlluniau sydd gennych chi i ddechrau mynd i'r afael o ddifrif â'r materion hirsefydlog hyn?

Daw hyn â mi at y pwynt ehangach ynghylch paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, pryd mae'n ymddangos fel petai digon o faterion y gallai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw o fewn ei chymwyseddau ei hun, ac eto mae'n ymddangos nad oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw gamau pendant.

Er ei bod hi'n hawdd beirniadu Llywodraeth y DU, gallai a dylai Gweinidogion y Llywodraeth yng Nghymru wneud mwy i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a grybwyllwyd yn adroddiadau'r Pwyllgor Cynulliad ynghylch goblygiadau Brexit ar Gymru, yn hytrach na dim ond sylwebu ar bolisïau a chyhoeddiadau Llywodraeth y DU.

Felly, Llywydd, i gloi, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn edrych ymlaen at graffu ar fanylion y cytundeb drafft hwn a'i effaith ar Gymru yn yr wythnosau nesaf, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio, lle gallwn ni, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd i baratoi'r fargen orau bosibl i bobl Cymru.   

15:10

A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau? Mae'n gofyn beth yw'r broblem o ran y cytundeb ymadael. Ei hirhoedledd, mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos i mi nad yw'r cytundeb yn mynd at wraidd y mater. Ble fyddwn ni ym mis Rhagfyr 2020? A fyddwn ni yn yr union un sefyllfa eto? Rydym ni eisoes wedi cael dwy flynedd, a dyma ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw'r cytundeb yn barhaol. Mae ein safbwynt yn eithaf syml, a hynny yw: rydym ni eisiau gweld mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl ac i aros yn yr undeb tollau, ac mae unrhyw beth sy'n llai na hynny yn amlwg yn rhywbeth na allem ni gytuno iddo.

Mae'n iawn iddo ddweud bod busnesau ac eraill wedi rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb, ond mae hynny, rwy'n credu, oherwydd eu bod yn credu mai'r dewis arall yw dim cytundeb o gwbl, nad oes neb eisiau ei weld. Felly, gallaf ddychmygu pam y byddai pobl eisiau cefnogi'r cytundeb hwn oherwydd yr ofn nad oes unrhyw beth arall ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl edrych eto ar, yn sicr, y datganiad gwleidyddol, ac i fod yn fwy penodol ynghylch y ffordd ymlaen. Mae hynny'n golygu gwneud ymrwymiad i'r undeb tollau a'r farchnad sengl.

Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu bod Prif Weinidog y DU wedi rhoi ei hun mewn cornel ynghylch hyn. Doedd dim rhaid iddi gynnal etholiad cyffredinol y llynedd ar sail rhoi gweledigaeth o Brexit caled gerbron pobl Prydain, na wnaethon nhw mo'i derbyn, ac mae hi wedi ei chael hi'n anodd cael ei hun allan o'r gornel y canfu ei hun ynddi. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae'n cyfeirio at dinc fy llais. Nid yw tinc fy llais yn ddim o'i gymharu â hwnnw o eiddo ei gyd-Aelodau yn Llundain. Mae ei gyd-Aelodau ei hun yn Llundain wedi galw'n agored am ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Maen nhw wedi bod yn agored ymosodol, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y maen nhw wedi ei disgrifio hi. Y gwir amdani yw y bûm i, rwy'n credu, yn dyner o'i gymharu â'r naws a fabwysiadwyd gan wleidyddion Ceidwadol, a dyma'r broblem, ynte?

Oes, mae rhai yn fy mhlaid i â safbwynt gwahanol. Ceir rhai yn fy mhlaid yn San Steffan sydd yn Frecsitwyr. Nid oes llawer ohonyn nhw, ond maen nhw'n bodoli. Y broblem yw bod y rhaniadau yn y Blaid Geidwadol mor helaeth fel ei bod hi'n anodd iawn gweld sut y gellir cael unrhyw undod yn y blaid honno o ran gweledigaeth ar gyfer Brexit. Mae'n dweud 'chwarae gwleidyddiaeth'. Y pryder sydd gennyf i yw; ble daw hyn i ben? Nid oes unrhyw arweinyddiaeth oherwydd ni ellir cael hynny. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd wedi colli llawer o Weinidogion—Gweinidogion Cabinet sydd wedi ymddiswyddo. Mae nifer yn ei phlaid nad ydyn nhw'n cefnogi ei pholisi ei hun. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'n dweud bod arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru yn wan. Wel, ni allwn ni ond cyfeirio at Lundain a dweud, 'Ble mae'r arweinyddiaeth yn Llundain, o ystyried yr amgylchiadau sy'n bodoli yn y fan honno?'

Rydym ni wastad wedi bod yn gyson yn yr hyn y bûm yn galw amdano. Fe wnaethom ni lunio ein gweledigaeth ddwy flynedd yn ôl ynghylch beth yr oeddem ni ei eisiau. Rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU; fe wnaf i enwi David Lidington fel rhywun y mae'n bosibl gweithio ag ef ac i drafod materion gydag ef. Mae yna berthynas yno. Nid yw'n gyson, oherwydd bod adrannau eraill yn Llywodraeth y DU yn gweld pethau mewn goleuni fymryn yn wahanol.

Mae'n crybwyll bod angen pont. Efallai fod hynny'n wir, ond pont at beth? Ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gwybod i ble mae'r bont honno yn arwain, a dyna'r broblem. Ddwy flynedd yn ôl, bu sôn am adeiladu pont, a nawr mae sôn am adeiladu pont o hyd. Nid ydym ni'n gwybod beth yw'r cyrchfan terfynol mewn gwirionedd. O wrando ar farn byd busnes, eu barn nhw yn syml yw hyn; maen nhw eisiau sicrwydd. Ac er y gallai hyn roi elfen o sicrwydd dros dro, nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen, yn arbennig o ran eu gallu i gael gweithwyr medrus.

O ran y diwydiant amaethyddiaeth, wel, ceir nifer o broblemau y mae angen eu datrys. Mae mynediad i'r farchnad yn allweddol; heb fynediad i'r farchnad, ni all ffermio defaid, yn enwedig, oroesi yng Nghymru. Nid yw marchnad y DU yn ddigon mawr i gefnogi diwydiant cig defaid y DU, felly nid yw'n fater syml o gefnogi ffermwyr; mae ynglŷn â sicrhau bod ganddyn nhw fynediad i'w marchnad hefyd.

Mae'r un peth yn wir am bysgota. Un peth yw cael mynediad digonol, fel yr ydych chi'n ei gweld hi, i'ch dyfroedd arfordirol eich hun, ond pan yr ydych chi'n gwbl ddibynnol ar allforio'r pysgod, mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych chi farchnad ar gyfer y pysgod hynny hefyd. Byddai'n dda i ddim i'r DU allu dal mwy o bysgod, hyd yn oed pe bai hynny'n bosibl, ac nid wyf yn credu ei fod yn bosibl oherwydd y lefel isel o stociau pysgod. Y gwir amdani yw na fyddai marchnad i'r rhan fwyaf o'r pysgod hynny, felly mae angen ystyried hynny hefyd.   

Soniodd am fater y ffin galed. Mae gwaith yn cael ei wneud drwy gyfrwng grŵp porthladdoedd ynghylch sut y byddai hynny'n datblygu. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, y byddai'r pwyslais ar Ddoc Penfro yn hytrach nag Abergwaun o ran cludo nwyddau. Mae Abergwaun yn tueddu i gludo pobl, ac mae Doc Penfro yn tueddu i gludo nwyddau ac mae Caergybi'n cludo'r ddau.

Dywed nad oes dim wedi'i wneud i wella'r ffordd. Wel, mae ffordd osgoi Robeston Wathen yn bodoli a ffordd osgoi Llanddowror, wrth gwrs, sy'n mynd tuag at Ddoc Penfro i'r cyfeiriad arall. Felly, bu gwelliannau ffyrdd hefyd, ond nid dyna'r broblem. Y broblem yw, nid beth sy'n digwydd ar y ffyrdd hynny, ond beth fydd yn digwydd yn y porthladdoedd.

Os oes gennym ni sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn penderfynu bod yn llawdrwm o ran tollau, bydd hynny'n arwain at oedi a bydd hynny'n golygu y bydd angen llety yn y porthladdoedd hynny yn hytrach nag ymhellach ar hyd y ffyrdd. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd y sefyllfa yn hynny o beth. Nid ydym ni'n gwybod pa fath o wiriadau gaiff eu gweithredu. Rydym ni'n tybio na fyddai unrhyw reolaeth basbort oherwydd bod yr ardal deithio gyffredin wedi ei chadw, ond a fydd elfen o wiriadau tollau, sut cânt eu cynnal, a fyddan nhw ar hap, a fyddan nhw'n llym? Nid oes unrhyw un o'r cwestiynau hyn wedi eu hateb, felly mae'n anodd iawn paratoi ein porthladdoedd ar gyfer sefyllfa nad yw eto yn glir. Ond, fel y dywedais, mae gweithgor porthladdoedd wedi'i sefydlu gyda Llywodraeth y DU i edrych ar hyn.

O ran paratoi ar gyfer ymadael, rydym ni eisoes ar y trywydd iawn i wneud hynny. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Brexit 'digytundeb' yn rhywbeth nad oes modd paratoi ar ei gyfer. Ni ellir paratoi trefniadau lliniaru ar ei gyfer. Ni ellir ei weld fel un dewis ymhlith llawer. Mae'n ganlyniad trychinebus a, drwy gronfa bontio'r UE a thrwy weithio gyda busnesau a gyda'n ffermwyr, rydym ni wedi gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, i roi mwy o farchnadoedd yn y dyfodol i Gymru drwy ehangu ein swyddfeydd tramor. Ond wrth gwrs, yn y pen draw, os na allwn ni gael y berthynas fasnachu yn iawn gyda'n marchnad agosaf, fwyaf—a fydd ein marchnad agosaf, fwyaf bob amser—yna ni chawn ni hynny'n iawn gydag unrhyw farchnad arall.

15:15

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei fod yn grynodeb defnyddiol a theg o'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn yr oeddwn i'n ei chael hi'n anodd ei ddirnad ynddo oedd strategaeth o ran sut y dylem ni symud ymlaen, sut yr ydym ni'n osgoi'r trychineb gwleidyddol sy'n ymagor o'n blaenau.

Wrth gwrs, y ffaith amlwg allweddol yn y cytundeb ymadael drafft, rwy'n credu—pob un o'r 585 o dudalennau— yw nad yw'n crybwyll Cymru hyd yn oed fel troednodyn. Gwnaeth hyd yn oed fersiwn 1888 o Encyclopaedia Britannica yn well na hynny. Ac mae'n dweud rhywbeth eithaf canolog, onid yw, am agwedd Llywodraeth San Steffan at Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig? Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi cwyno'n briodol am y ffaith nad oedd y cytundeb drafft hyd yn oed wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru. Yn wir, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud a fydd yr un peth yn wir am yr ail ddrafft—y fersiwn 20 tudalen o'r datganiad gwleidyddol y dywedir wrthym ni sydd wrthi'n cael ei lunio ar hyn o bryd.

Ond yng ngoleuni hynny, siawns nad oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymddiried yn Llywodraeth San Steffan wrth drosglwyddo ein pwerau iddyn nhw yn ddiniwed ar y gorau ac yn ddiofal ar y gwaethaf. A wnaiff y Prif Weinidog egluro—rwy'n deall y pwynt a wnaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog o ran yr awydd i gadw at y cytundeb rhynglywodraethol—ond a wnaiff esbonio'r amseriad, nid yn unig yng ngoleuni'r achos sydd gerbron y Goruchaf Lys, ond hefyd y ffaith syml iawn y gall Llywodraeth y DU ddymchwel yn yr ychydig wythnosau nesaf? Felly, pam na ellir gohirio'r penderfyniad hwn i weld sut mae pethau'n datblygu, fel y dywedodd, ar yr adeg hon o'r argyfwng gwleidyddol mwyaf mae'n debyg yn ein hoes ni?

Mae Plaid Cymru wedi dweud yn glir na fyddwn ni'n cefnogi'r cytundeb ymadael fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhwygo Cymru allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae mewn gwirionedd yn anwybyddu Cymru yn gyfan gwbl a'n buddiannau arbennig, ac nid yw'n dweud gair, fel y dywedodd y Prif Weinidog, o ran swm a sylwedd y berthynas economaidd yn y dyfodol.

Rwy'n falch o weld ein bod ni'n mynd i gael pleidlais ystyrlon ar y bleidlais ystyrlon, i ddefnyddio jargon Seneddol y dydd. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gennym ni hefyd y cyfle i gyflwyno amrywiaeth o welliannau a fydd yn adlewyrchu'r ystod o safbwyntiau rhwng y pleidiau a hefyd o fewn pleidiau o ran atebion posibl i'r argyfwng gwleidyddol y cyfeiriodd ato? Ac yn benodol, a allwn ni gael ymrwymiad i ganiatáu i'r Aelodau hynny ar ei feinciau cefn sy'n hollol bleidiol i gael pleidlais y bobl, fel yr ateb gorau mae'n debyg, wrth gamu i'r dyfodol—nid yn unig ar ei feinciau cefn ond hefyd ar ei feinciau blaen, fel yr ydym ni wedi clywed yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth—fel y gallwn ni gael pleidlais rydd i'r Aelodau hynny sy'n dymuno arddel y safbwynt hwnnw?

Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi gofyn am gyfarfod brys o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, a gynhaliwyd neithiwr. A wnewch chi ddweud, o gofio bod y rhain yn amserau rhyfeddol, p'un a ydych chi wedi ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion cyn i chi adael eich swydd? Rydym ni'n cytuno â chi y bu dwy flynedd o anwadalu, nid yw'r amser ar ein hochr ni yn awr i roi ateb ymarferol wrth gamu i'r dyfodol, boed yn aelodaeth o'r farchnad sengl, aelodaeth o'r undeb tollau, neu bleidlais y bobl. A ydych chi'n cytuno mai dyma'r amser i ymestyn Erthygl 50 er mwyn caniatáu inni'r amser hwnnw i ganfod ffordd synhwyrol ymlaen?

Yn olaf, sylwaf iddo ddweud yn gynharach, mewn gwirionedd, bod gwleidyddiaeth San Steffan wedi methu'n llwyr. Ni allwn i gytuno mwy. Roeddwn i lawr yn San Steffan yn gynharach heddiw yn cyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban i geisio llunio rhyw fath o ffordd synhwyrol ymlaen, yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin ymysg y gwrthbleidiau fel y gallwn ni mewn gwirionedd gynnig y math o arweinyddiaeth sydd wedi bod, yn anffodus, yn ddiffygiol. A fyddai'n cytuno, fodd bynnag, bod y diffyg arweinyddiaeth hwnnw sydd wedi nodweddu'r Llywodraeth Geidwadol yn sicr hefyd wedi bod yn wir yn ei blaid ei hun yn San Steffan oherwydd rhaniadau o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan ynghylch y mater hwn hefyd? Siawns y dylem ni achub ar y cyfle, pan fydd hi'n bryd pleidleisio yn y Senedd hon, i ddarparu'r math o arweinyddiaeth sydd wedi bod yn ddiffygiol ac anfon neges ddiamwys ein bod ni eisiau gweld Cymru'n cadw ei haelodaeth o'r farchnad sengl fan leiaf, ond, yn well fyth, i ni gael pleidlais y bobl i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

15:20

Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau. Mae'n gofyn am y strategaeth yn y dyfodol. Bydd dadl yn y fan yma naill ai yr wythnos nesaf neu ddechrau'r wythnos ganlynol. Ein dealltwriaeth ni yw y cynhelir y bleidlais yn San Steffan yn ystod wythnos olaf y Senedd yn San Steffan, sef yr wythnos ar ôl, wrth gwrs, y bydd y Cynulliad yn terfynu, felly bydd hi'n hanfodol bod dadl yn y fan yma fel y gall yr Aelodau Seneddol fod yn ymwybodol o farn Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n deall y bu trafodaethau ynghylch cynnal hynny o bosibl ddydd Iau yr wythnos nesaf neu ddiwrnod arall o bosib. Byddai'n rhaid iddo fod, rwy'n credu, yn ddiwrnod penodol wedi'i glustnodi ar gyfer dadl mor bwysig, yn hytrach na cheisio ei wasgu i faterion busnes y Llywodraeth rhwng nawr a'r Nadolig. Felly, yn sicr, rwy'n derbyn bod angen gwneud hynny.

A gaf i ddweud wrtho fod y Cabinet wedi cytuno ar gynnig ddoe. Mae angen cyflwyno'r cynnig, wrth gwrs, ger bron ein grŵp, fel y gall ei ddychmygu. Mae'n ceisio bod mor gynhwysfawr â phosib. Mae'n cynnwys, er enghraifft, yr angen i edrych ar ymestyn cyfnod erthygl 50. Rwy'n credu bod hynny'n anochel os oes angen edrych eto ar y datganiad gwleidyddol yn arbennig. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i'r cyhoedd fod yn rhan, a'r angen i gael dewisiadau nad ydyn nhw'n eithrio unrhyw ddewis, ac a fydd yn ffurfio rhan o'r cynnig, ac efallai bod hynny'n rhywbeth y gall ei weld pan gaiff y cynnig hwnnw ei lunio.

Mae'n gywir i ddweud nad yw fy nghyd-Brif Weinidog yn yr Alban na minnau wedi gweld y dogfennau hyn ar adeg a oedd, yn fy nhyb i, yn briodol. Gallwn ddeall os oedd amharodrwydd yn y Llywodraeth i rannu dogfennau gyda Llywodraeth arall rhag ofn beth allai ddigwydd i'r dogfennau hynny. Wel, rwyf wedi dweud droeon os ydym ni'n derbyn dogfennau cyfrinachol, byddwn yn eu cadw'n gyfrinachol. Os ydym ni'n torri'r cyfrinachedd hwnnw, y cwbl sy'n digwydd wedyn yw nad ydym ni'n cael y dogfennau hynny eto. Heblaw am hyn, wrth gwrs, gallai llawer o ddogfennau gael eu rhannu gyda mi ar delerau'r Cyfrin Gyngor, a fyddai'n golygu y gellid rhannu'r dogfennau hynny yn gyfrinachol ar y pryd.

Mae'n sôn am y cytundeb rhynglywodraethol. Mae ei safbwynt ef yn wahanol i fy un i yn hyn o beth. Fy marn i yw bod gennym ni gytundeb. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd cael gwared ar y Ddeddf Barhad. Fel y dywedais, gallai San Steffan yn syml ei diddymu beth bynnag gydag un llinell, ond yr hyn y mae'r Ddeddf Barhad wedi ei gyflawni i ni yw cytundeb rhynglywodraethol, y mae'r ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo iddo. Nid oes unrhyw argoel y byddai Llywodraeth y DU eisiau cilio oddi wrth hynny. Mae'n bosib y bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, neu arweinydd newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac mae'r un peth yn wir am y fan yma, ond amheuaf yn fawr y byddai unrhyw un o fy olynwyr eisiau ymbellhau o'r cytundeb hwnnw. Felly, rwy'n credu, ar ôl ceisio dod i gytundeb, ei bod hi'n hanfodol ein bod yn cadw ewyllys da o ran y cytundeb hwnnw ac yn anrhydeddu ein rhwymedigaethau yn unol â hynny.

Mae'n sôn am gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Rwy'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory. Rydym ni wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r cyfarfod llawn hwnnw. Mae'r dyddiad a gafwyd yn ddyddiad y gallaf warantu na fyddaf i yno oherwydd ei fod ar ôl fy nghyfnod i yn Brif Weinidog. Felly, rydym ni'n ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn gynharach na hynny. Mae'n hanfodol, a byddai'n hynod o bwysig.

O ran, wel, arweinyddiaeth yn San Steffan, rydym ni i gyd wedi gweld beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw les i neb bod mewn sefyllfa lle nad yw'n bosib gwybod, fesul awr bron iawn, a fydd y Llywodraeth yn goroesi neu beidio. Yn y byd busnes, mae hynny'n rhywbeth yn sicr na fydden nhw'n ei groesawu, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi annog Llywodraeth y DU—ac rydym ni wedi gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn, gyda'r Papur Gwyn—i fabwysiadu dull pragmatig a synhwyrol o ymdrin â Brexit sy'n cydnabod pwysigrwydd y farchnad sengl, a mynediad dirwystr iddi; sy'n cydnabod pwysigrwydd yr undeb tollau i Gymru; ac sy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi sicrwydd wrth wireddu canlyniad y refferendwm. Hyd yma, wrth gwrs, rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa honno.

15:25

Rwyf i, hefyd, yn croesawu datganiad y Prif Weinidog, ac, fel arweinydd Plaid Cymru, rwy'n credu ei fod, ar y cyfan, yn grynodeb teg o'n sefyllfa ni nawr. Ac rwy'n sicr yn cytuno'n llwyr gyda'r Prif Weinidog yn ei feirniadaeth o Theresa May a'i hymdriniaeth o negodiadau Brexit. Tybed a yw'n cytuno â mi bod canlyniad trychinebus dwy flynedd o anallu llwyr yn y trafodaethau hyn wedi arwain at y sarhad cenedlaethol mwyaf i Brydain, yn sicr sarhad gwleidyddol, ers Suez.

Mae gan Theresa May math penodol o athrylith. Y llynedd, llwyddodd i wneud Jeremy Corbyn edrych fel rhywun yr oedd modd ei ethol a dod o fewn trwch blewyn i ennill etholiad cyffredinol nad oedd angen iddi ei chynnal. Eleni, mae hi wedi llwyddo i gynhyrchu cytundeb ar gyfer gadael yr UE sydd hyd yn oed yn waeth nag aros yn aelod. Mae'n anodd osgoi dod i'r casgliad bod Prif Weinidog y DU mewn gwirionedd wedi rhoi ei bryd ar danseilio'r holl broses Brexit. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, mae'n hollol afresymol i mi i beidio â gwneud unrhyw baratoi o gwbl ar gyfer gadael yr UE, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, yna i gynnal trafodaethau ar y funud olaf, fel yr ydym ni yn awr, sydd wedi cyfyngu ar ddewisiadau pawb, gan gynnwys ei hun, ac yna i gytuno i'r cytundeb pontio—y cynllun pontio honedig hwn—sy'n ymddangos yn waeth nag aros yn aelod, oni bai bod yna isdestun yn y fan yma ein bod ni mewn gwirionedd yn Hotel California, lle gallwch chi fynd at y ddesg i adael, ond byth gadael mewn gwirionedd. 

A sylwaf yr wythnos hon fod Monsieur Barnier wedi sôn am ymestyn y cytundeb pontio, hyd yn oed y tu hwnt i'r dyddiad arfaethedig ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2022-23. Ac yn sicr rwy'n cytuno â'r cwestiwn y mae'n ei ofyn yn y datganiad: beth ar y ddaear mae hi wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf? Nid wyf yn credu y bu hi'n rheoli'r helynt mewnol yn y Blaid Geidwadol yn gymaint â'i greu yn y lle cyntaf. Mae hyn yn fargen a gynlluniwyd gan Brif Weinidog sydd eisiau aros, sydd wedi ei chymeradwyo gan gabinet sydd eisiau aros, i sicrhau nad yw Prydain byth mewn gwirionedd yn gadael yr UE. Ni fyddwn ni hyd yn oed yn gadael mewn enw yn unig oherwydd mae'r fargen hon yn ein hymrwymo i gydymffurfio â threfniadau rheoleiddio'r UE am gyfnod amhenodol. Ac ar ôl inni adael yr UE, wrth gwrs, ni fydd gennym ni hyd yn oed lais, heb sôn am bleidlais, ar y cyfreithiau hynny a wneir ac y bydd rheidrwydd arnom ni i'w gweithredu.

Ni ellir ei egluro, yn fy marn i, drwy anallu yn unig. Brad yw hyn gan sefydliad sy'n benderfynol o rwystro democratiaeth, ac rydym ni wedi gweld hynny o'r blaen: yn Nenmarc, yn Ffrainc, yn Iwerddon, yn yr Iseldiroedd, lle cynhaliwyd refferendwm, lle mae pobl wedi pleidleisio 'na', ond y dywedwyd wrthyn nhw, 'mae'n rhaid ichi ddal ati i bleidleisio nes y byddwch chi'n pleidleisio'r ffordd gywir.' [Torri ar draws.] Rydym ni, felly, o ganlyniad i'r fargen honedig hon, o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarostyngedig i'w chyfarwyddebau a'i rheoliadau, fel y dehonglir nhw gan Lys Cyfiawnder Ewrop, na fydd gennym ni hyd yn oed ein barnwr ein hunain ynddo, heb gynrychiolaeth yn y Comisiwn, heb gynrychiolaeth yng Nghyngor y Gweinidogion.

Ac ar ben hynny, er, yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, mae gennym ni'r hawl i adael, o dan y cytundeb hwn, yr UE sydd â'r gair olaf a yw'r fargen hon yn derfynol neu beidio, ac mae modd gorfodi'r penderfyniad hwnnw ar orchymyn Llys Cyfiawnder Ewrop. Mae hynny'n groes i adfer rheolaeth, sef yr amcan y soniodd y Prif Weinidog amdano. O leiaf ar hyn o bryd mae gennym ni 8 y cant o'r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion. Ar ôl 29 Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni 0 y cant o'r pleidleisiau. Ac rydym ni'n talu £39 biliwn o arian trethdalwyr am y fraint o ildio y mymryn rheolaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac, yn y broses, rydym ni'n cael ein hatal rhag manteisio ar y fendith fwyaf o adael yr UE, sef i ymrwymo i gytundebau masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, Awstralia, India, Tsieina, ac ati, am gyfnod amhenodol, ac o bosib yn barhaol.

Mae'r UE wedi cael popeth roedd hi'n ei ddeisyfu gan Brif Weinidog y DU, a mwy. Mae gennym ni ddiffyg masnachu o £90 biliwn y flwyddyn gyda nhw. Maen nhw yn allforio gwerth £340 biliwn o nwyddau a gwasanaethau i ni. Pam ar y ddaear fyddai'r Comisiwn Ewropeaidd eisiau rhoi rhwydd hynt inni lunio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill i danseilio eu prisiau ar geir, bwyd, dillad, esgidiau, ac ati? Wrth gwrs dydyn nhw ddim eisiau inni leihau trethi ar danwydd oherwydd byddai hynny'n gwneud ein diwydiannau'n fwy cystadleuol gyda nhw. A'r peth mwyaf syfrdanol—byddaf yn dod i gasgliad ar hyn—am y cytundeb hwn yw, o ran Gogledd Iwerddon, yn y dyfodol, caiff cyfreithiau eu gwneud ar gyfer Gogledd Iwerddon ble bydd llais a phleidlais gan Ddulyn, ond nid y DU a Belfast. Mae hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr o ymrannu.

Soniodd arweinydd y Ceidwadwyr yn ystod ei gwestiynau i Brif Weinidog Cymru—[torri ar draws.]—dof atoch chi mewn eiliad—am yr angen i ymgysylltu. Wel, mae Prif Weinidog y DU wedi mynd y tu ôl i gefn dau Ysgrifennydd Brexit a gwneud consesiynau pellgyrhaeddol i Frwsel, a dwywaith wedi ceisio sicrhau cydbwysedd yn y Cabinet i gytuno â'i chynlluniau o ystrywiau wedi eu cynllwynio'n ddidrugaredd yn Chequers a Rhif 10. Nid oedd unrhyw ymgysylltu gyda'r Cabinet gan y Prif Weinidog, heb sôn am Lywodraeth Cymru. A chynhyrchwyd dogfen 558-tudalen, geiriog iawn, i bobl roi sylwadau arni gyda phum munud o rybudd. Mae hi'n amlwg nad yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn blaid unoliaethol bellach. Nid bargen mo hon ond ymostyngiad. Tybed a yw Prif Weinidog Cymru yn cytuno â'r disgrifiad yna?

15:30

Mae'n eithaf rhyfedd, Llywydd, y caf fy hun yn codi bron iawn i amddiffyn Prif Weinidog y DU rhag yr ymosodiadau a wnaed arni yn hytrach nag arnaf i am fod hyn i gyd ynghylch yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan. Mae'n rhaid imi ddweud mai'r hyn sy'n amlwg am Brexit yw bod y rhai sydd wedi chwalu'r ffenest wedi rhedeg i ffwrdd a gadael i'r rhai nad oedd eisiau chwalu'r ffenest i'w rhoi yn ôl at ei gilydd gan hawlio eu bod yn gwneud hynny yn y ffordd anghywir. Fe wnes i sylwi bod y bobl hynny a ddywedodd y byddai hyn y fargen fasnach hawsaf erioed a'r holl ffwlbri yna a glywsom ni, nid yw hynny wedi digwydd—. A beth yw'r gân yn awr? Bod yr UE yn afresymol. Wel, mae'r UE yn gofalu am ei buddiannau ei hun. A'r syniad yma bod yr UE ein hangen ni yn fwy nag y mae arnom ni eu hangen nhw, nid yw'r UE yn ei gweld hi felly o gwbl, neu nid yw 27 gwlad yr UE. Eu barn nhw yw, 'Wel, fe hoffem ni roi bargen dda i'r DU, ond, mewn gwirionedd, mae yna fyd cyfan draw yn y fan acw y gallwn ni siarad ag ef ac y gallwn ni fasnachu ag ef— blociau mawr y gallwn ni werthu ein nwyddau iddyn nhw.'

Nawr, mae'n gofyn yn deg beth sydd wedi'i wneud yn y ddwy flynedd diwethaf. Wel, pan fo gennych chi David Davis a Boris Johnson yn eu swyddi ers cyhyd, mae'r cwestiwn wedi ei ateb. Nid wyf yn siŵr beth wnaeth David Davis, os wyf yn onest gyda chi, o ran symud hyn ymlaen. Roedd hi'n ymddangos fod Boris Johnson yn credu y gellid datrys unrhyw broblem gyda sylw bachog o ryw fath. Ei gyfraniad mwyaf i'r swydd o Ysgrifennydd Tramor oedd peryglu rhyddhau dinesydd Prydeinig yn Iran oherwydd rhywbeth a ddywedodd. Felly, ni ddewisodd hi ei phersonél yn ddoeth o ran ei Hysgrifennydd Brexit a'i Hysgrifennydd Tramor. A dyma ni unwaith eto: 'Dyma frad gan y sefydliad.' Nid oes gronyn o dystiolaeth i ategu hynny, er gwaethaf y ffaith bod llawer eisiau gadael, wrth gwrs. Roedd David Davis eisiau gadael, roedd Dominic Raab eisiau gadael, ac eto, er gwaetha'r ffaith mai ef oedd yr un a roddodd y cytundeb hwn gerbron y Cabinet ac yna penderfynu gadael, a David Davis, oedd eisiau gadael—ef oedd Ysgrifennydd Brexit— a ydyn nhw'n rhan o'r sefydliad a oedd yn mor fradwrus? Ac yma mae gennym ni ddechrau naratif: 'byddai hyn i gyd yn iawn oni bai am y bradwyr yn ein rhengoedd ein hunain.' Y ddamcaniaeth cyllell yn y cefn. Nawr, lle glywsom ni hynny o'r blaen? Mae pobl Prydain wedi cael eu trywanu yn eu cefnau gan bobl a'u gwerthodd yn rhad. Clywyd rhywbeth tebyg mewn gwlad arall bron i gan mlynedd yn ôl. Efallai y gwelwn ni yn awr pam fydd cymaint o groeso i Tommy Robinson yn UKIP oherwydd y gyfatebiaeth hanesyddol ymddangosiadol.

Ac o ran cytundebau masnach rydd, mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod: nid oes modd ffeirio cytundeb da ag Ewrop am gytundeb masnach rydd ag America. Mae ymhellach i ffwrdd ac mae'n farchnad lai. Mae India ymhellach i ffwrdd. Mae Awstralia yn farchnad fechan a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd. Ni fydd unrhyw un o'r marchnadoedd hyn yn gwneud iawn am y farchnad Ewropeaidd. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrtho: bydd y gwledydd hyn, India yn arbennig, yn dweud, 'Os ydych chi eisiau cytundeb masnach rydd gyda ni, rydym ni eisiau i'n pobl allu symud ac i allu cyrraedd Prydain heb fisa.' Nid ydyn nhw'n mynd i dderbyn cyfyngiadau fisa o gwbl. Bydd arnyn nhw eisiau rhywbeth sy'n agos at ryddid i symud ar gyfer eu pobl eu hunain, ac wedyn beth mae'n mynd i ddweud bryd hynny? Mae'n gwrthwynebu rhyddid i symud i wladolion Ewropeaidd. A yw hynny'n golygu ei fod o blaid hynny i wladolion Awstralia, i wladolion yr India, i wladolion Americanaidd? Mae hynny'n rhywbeth nad yw UKIP erioed wedi rhoi sylw iddo.

Ac wedyn, wrth gwrs, yn olaf, fe wnaeth sylw sy'n celu, mewn gwirionedd, y math o syniadau am ryddid y farchnad sy'n rhemp yn UKIP. Dywedodd y byddem ni'n colli'r cyfle i gael ceir rhatach, bwyd rhatach, dillad rhatach ac esgidiau rhatach. Beth am weithwyr Prydain sy'n gweithio yn y sectorau hynny? Beth mae'n ei olygu i'n ffermwyr os caniatawn i gynnyrch israddol—cynhyrchion bwyd israddol—danseilio beth maen nhw'n ei gynhyrchu? Beth mae'n ei olygu i'n gweithwyr ceir os ydym ni'n caniatáu i geir ddod i mewn sy'n cael eu cynhyrchu am gost is o lawer ac nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau amgylcheddol sydd gennym ni ar hyn o bryd? Ymddengys mai ei farn yw: Gadewch inni dorri'r safonau cywir at yr asgwrn a gadewch iddyn nhw ddod i mewn, tanseilio ein gweithwyr ein hunain. Dillad, esgidiau—yr holl ddiwydiannau hyn sy'n bwysig i Brydain. Nid wyf yn credu bod y rhai a bleidleisiodd 'gadael' wedi pleidleisio 'gadael' i beryglu eu swyddi eu hunain. Dywedodd llawer iawn, iawn o bobl wrthyf mai un o'r rhesymau pam roedden nhw yn pleidleisio 'gadael' oedd oherwydd eu bod yn teimlo bod eu swyddi yn ansicr a'u bywydau yn ansicr. Fyddan nhw byth yn pleidleisio am unrhyw beth sy'n edrych fel economi laissez-faire, rheoliad isel. Dyna'n union beth—roeddwn yn mynd i ddweud arweinydd UKIP, ond mae'r awenau yn newid dwylo—mae'r Aelod wedi dweud. Nid dyna, rwy'n credu, y pleidleisiodd pobl Prydain drosto, nid dyna'r weledigaeth y gwnaethon nhw bleidleisio o'i phlaid. Rwy'n credu mai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw Brexit synhwyrol sy'n diogelu eu buddiannau a buddiannau Cymru.

15:35

Prif Weinidog, fe roddwyd sicrwydd clir iawn, iawn inni yn ystod ymgyrch y refferendwm ac ar ôl hynny na fyddai unrhyw ymwrthod â hawliau gweithwyr, unrhyw gwtogi ar hawliau gweithwyr, y bydden nhw'n cael eu diogelu bob cam o'r ffordd. Ond wrth ddarllen y cytundeb, neu'r cytundeb drafft yn ei ddiwyg presennol, ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos yn eithaf deniadol, oherwydd mae'n sôn am beidio ag ildio'r hawliau hynny. Ond, Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod, gystal â mi, mai ychydig iawn o statws cyfreithiol sydd i gymalau di-atchweliad, eu bod i bob pwrpas yn amhosib eu gorfodi, eu bod wedi'u gwrthod gan nad ydyn nhw'n rhoi unrhyw sail wirioneddol o gefnogaeth i hawliau gweithwyr yn y gyfraith Ewropeaidd nac yn wir yng nghyfraith Prydain. Nid yw'r union gymalau yn y ddogfen yn werth y papur y maen nhw wedi eu hysgrifennu arno. Nawr, dyna'r farn yr wyf i wedi dod iddi ynglŷn â hyn, ac rwyf i hefyd wedi ymgynghori â rhai o gyfreithwyr cyflogaeth mwyaf blaenllaw'r wlad, a dyma maen nhw yn ei ddweud: maen nhw'n dweud ei bod hi felly yn gwbl glir bod yr ymrwymiadau i beidio â gostwng safonau llafur a chydymffurfio gyda'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, rhwymedigaethau Siarter Cymdeithasol Ewrop, yn aneffeithiol ac na fyddan nhw'n cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei nodi yn ei Phapur Gwyn; yn benodol bydd hi bron yn sicr yn amhosib i undebau llafur a gweithwyr ddibynnu'n uniongyrchol ar yr ymrwymiadau hyn beth bynnag. Mae hi hyd yn oed yn fwy clir nad yw'r ymrwymiadau hyn hyd yn oed yn dechrau bodloni pedwerydd prawf Llafur, sef: a yw'n amddiffyn hawliau ac amddiffyniadau ac yn atal ras i'r gwaelod?

A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, gyda'r dadansoddiad hwnnw? Ac yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag yn y ddadl sy'n digwydd yn San Steffan, un o'n hymrwymiadau sylfaenol yw na chaiff pobl yng Nghymru sy'n gweithio eu hawliau wedi eu cymryd oddi arnyn nhw, a bod y cytundeb drafft hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn tanseilio'n sylweddol ac yn dileu'r amddiffyniad sydd gan weithwyr Cymru o ran yr hawliau y bu ganddyn nhw hyd yn hyn?

Wel, ydw. Rydym ni'n gwybod fod llawer yn y Blaid Geidwadol, ac yn wir fe glywsom ni hynny gan UKIP heddiw, sydd o'r farn bod hwn yn gyfle i gael gwared ar yr hawliau hynny yr ymdrechwyd mor galed i'w hennill dros gynifer o flynyddoedd. Maen nhw'n gweld hynny fel baich ar fusnesau, p'un a yw'n hawl i absenoldeb statudol, nad oedd yn bodoli 20 mlynedd yn ôl—roedd yna weithwyr yng Nghymru nad oedd â hawl i unrhyw absenoldeb o gwbl—p'un a yw'n dâl mamolaeth statudol, p'un a yw'n absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu gweld fel beichiau diangen ar yr economi gan rai y byddent yn hoffi cael gwared arnyn nhw. Ond bydd yn gwybod, fel rwyf innau'n gwybod, y ceir llawer iawn, iawn o bobl, er iddyn nhw bleidleisio 'gadael', wnaethon nhw ddim pleidleisio dros y weledigaeth honno. Roedden nhw eisiau mwy o ddiogelwch, nid rhyw fath o agwedd beryglus fyddai'n eu gadael ar ôl. Felly, ydw, rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd o ran hawliau cymdeithasol, o ran hawliau gweithwyr, ond un peth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wrthsefyll yn llwyr yw unrhyw ymgais i wanhau'r hawliau hynny y gweithiwyd mor ddygn i'w sicrhau ac a fu gan weithwyr yng Nghymru a gweddill Prydain ers rhai blynyddoedd.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am eich camau gweithredu cyflym, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ar y cyd â Nicola Sturgeon, yn galw am gyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion fel mater o frys. O ran y cytundeb ymadael, rwyf wedi fy siomi gan y diffyg parch a'r diffyg pwysigrwydd ymddangosiadol yn y datganiad gwleidyddol o ran y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar hyn fel Pwyllgor, yn casglu tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal â phartneriaid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n rhannu'r siom yma? A fyddwch chi'n mynegi'r pryderon hyn ynglŷn â'r datganiad gwleidyddol i Brif Weinidog y DU pan fyddwch chi'n cwrdd â hi yfory? Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddoe ar ôl cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a drefnwyd er mwyn ateb eich llythyr, dylid canolbwyntio ar Gymru bellach. A fyddwch chi'n gofyn iddi, fel y mae Mark Drakeford wedi gwneud, i grafangu rhywfaint o amser i feddwl am ddyfodol ei gwlad—gwlad sydd â phedair Llywodraeth wahanol, pob un â'u cyfrifoldebau eu hunain? A, Prif Weinidog, mewn cyfarfod bord gron ynglŷn â Brexit ac ariannu teg yr wythnos diwethaf, lle trafodwyd y cyd-destun economaidd-gymdeithasol o effaith Brexit, gofynnwyd cwestiynau am effaith y cytundeb ymadael drafft o ran mynd i'r afael â'r tlodi a'r anghydraddoldeb a achoswyd gan y Lywodraeth Dorïaidd hon yn y DU yn ei hymgyrch ddidrugaredd o gyni. Gofynnwyd y cwestiwn hefyd o ran y cytundeb ymadael drafft ynghylch diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n cefnogi Mick Antoniw yn hyn o beth ac yn diolch i chi am eich ateb i'w gwestiynau.

Ond, yn olaf, o ran amcanion Diogelu Dyfodol Cymru, beth fydd hyn yn ei olygu i Lywodraeth Cymru, y cytundeb drafft hwn, sydd eisoes yn buddsoddi yn ein dinasyddion a'n cymunedau tlotaf, pan gawn ni ein diystyru wrth ymgynghori ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol cyllid, o ran y gronfa ffyniant gyffredin, yn sgil colli ein cronfeydd strwythurol?

15:40

A gaf i ddiolch i fy nghyfaill a'r Aelod dros Fro Morgannwg am ei sylwadau? Addawyd inni na fyddem ni'n colli yr un geiniog o arian, ac rydym ni'n bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif o ran yr addewid yna.

Rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd a gollwyd yn hyn o beth oedd bod Prif Weinidog y DU i raddau helaeth iawn wedi arddel y safbwynt cyn yr etholiad cyffredinol mai hi oedd yr un a fyddai'n cael y maen i'r wal yn hyn o beth ac nad oedd hi'n gweld yr angen i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig bryd hynny. Nawr, rwy'n credu ei bod hi mae'n debyg yn deg dweud pe byddai'r Blaid Geidwadol wedi ennill mwyafrif teilwng o 90 i 100 o seddi, yna mae'n siŵr na fyddem ni yn y sefyllfa hon lle mae'n rhaid iddyn nhw siarad â ni fel y maen nhw yn ei wneud heddiw. Ond nid dyna, wrth gwrs, oedd y canlyniad. Wrth gwrs, y cyfle a gollwyd oedd os nad oedd Prif Weinidog y DU wedi gwasgu ei hun i gornel o'r fath, cornel Brexit caled, efallai y byddai cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y math o Brexit y byddem ni wedi ei ddymuno. Efallai y byddem ni wedi bod yn y sefyllfa lle gallasem ni fod wedi dweud, 'Iawn, edrychwch, mae angen inni adael yr UE, mae pobl wedi pleidleisio dros hynny, ond gadewch inni gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl—mae hynny'n bwysig i ni. Does dim dewis gwell i'r undeb tollau, felly gadewch i ni aros yn yr undeb tollau.' Nawr, os mai dyna oedd agwedd Llywodraeth y DU ar y dechrau, buasai hynny wedi bod yn agos at ein safbwynt ni; fe allem ni fod wedi bod mewn sefyllfa lle byddem ni wedi gallu bod yn gefnogol, ond fe gollwyd hynny i gyd. Mae'n gwestiwn damcaniaethol.

A nawr, mae Llywodraeth y DU yn ei chael ei hun mewn sefyllfa lle nad oes neb yn hapus. Nid yw'r bobl sydd eisiau aros yn hapus, nid yw'r rhai sydd eisiau gadael yn hapus, dydym ni ddim yn hapus, dydy Llywodraeth yr Alban ddim yn hapus, y DUP—wel, dydyn nhw bron byth yn hapus, ond maen nhw'n arbennig o anhapus ar hyn o bryd. A lle mae hynny'n ein gadael ni? Y broblem yw na chafodd hyn ei drin fel y dylai fod wedi ei drin yn y lle cyntaf, ond gellid bod wedi osgoi'r sefyllfa hon. Nid wyf yn dweud y byddai wedi ei osgoi, ond y gallai fod wedi ei osgoi. Ond yn anffodus, wrth gwrs, y diffyg ymgynghori ac ymgysylltu a'n harweiniodd at y sefyllfa hon, ac rwy'n sicr yn gobeithio yn y dyfodol y bydd Llywodraeth y DU yn dysgu gwersi, sef er mwyn bod yn fwy effeithiol, bod yn rhaid iddyn nhw siarad â ni ac, wrth gwrs, bod yn rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr ein bod ni'n teimlo nid yn unig y gwrandewir arnom ni, ond y gweithredir ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud. Oherwydd mae hynny wedi digwydd, wrth gwrs, gyda Brexit. Maen nhw wedi troedio ar ein tiriogaeth ni—nid yn gyfan gwbl, ond yn sicr yn rhannol—ond gellid bod wedi osgoi llawer o hyn ddwy flynedd yn ôl pe bai'r llinellau cyfathrebu wedi bod yn fwy agored.

Yn gyntaf oll, fe hoffwn i hefyd ailadrodd pa mor gywilyddus yw hi nad ymgynghorwyd yn ystyrlon â Chymru ynglŷn â'r cytundeb ymadael. Nid yw'n ddigon da, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ddoe, dim ond gwrando ar yr hyn a ddywedwn ni ac yna mynd ymaith a dydym ni'n clywed dim mwy. Yr olaf o chwe phrawf y Blaid Lafur yw: a yw'n darparu ar gyfer holl ranbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig? Ac nid yw'n gwneud hynny, yn sicr. A yw Prif Weinidog Cymru yn credu, mewn gwirionedd, bod y cytundeb ymadael yn bodloni unrhyw un o'r chwe phrawf hynny a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur?

Mae'r cytundeb ymadael yn gosod allan sut y caiff dinasyddion a theuluoedd yr UE a dinasyddion y DU eu diogelu ar ôl inni adael yr UE. Dyna'r bobl sydd wedi dewis ble maen nhw eisiau byw yn unol â'u rhyddid i symud, a oedd, hyd yma, yn hawl i ni, o fewn yr UE. Nawr ein bod ni'n colli'r hawl hwnnw o ryddid i symud, onid yw'n cytuno bod yr ansicrwydd ynghylch pwy sy'n mynd i allu aros yn y wlad hon a phwy fydd yn dod yma yn y dyfodol yn achosi ansicrwydd mawr i fusnesau? Cefais gyfarfod ddoe â chyfarwyddwr cwmni o Ogledd Gaerdydd sy'n gwneud cynhyrchion meddygol ac sy'n dibynnu'n drwm ar staff Ewropeaidd. Roedd yn dweud wrthyf i, mewn gwirionedd, cymaint yr oedd yn tosturio wrth y staff hynny ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor ansicr—maen nhw'n teimlo mor ansicr ynghylch eu dyfodol. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth yn y ddogfen ymadael hon heddiw, ond nid ydym ni'n gwybod beth fydd ar y gorwel. Mae'n ansicr iawn ynghylch sut y bydd ei gwmni, sy'n gwmni gwerthfawr iawn yng Ngogledd Caerdydd, yn ffynnu yn y dyfodol, gyda'r cynigion ar gyfer mewnfudo yn y dyfodol a dim rhyddid i symud, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod beth yw barn Cydffederasiwn Diwydiant Prydain am gynlluniau'r Llywodraeth o ran mewnfudo.

Felly, onid yw'n cytuno hefyd nad yw peth o'r rhethreg a defnyddiwyd o ran y mater mewnfudo wedi meithrin cysylltiadau da—geiriau Theresa May oedd y bydd ei chytundeb yn rhwystro gwladolion yr UE rhag 'neidio i flaen y rhes'—a pha mor ddiangen yw hi i ddefnyddio'r math yna o ymadrodd? Mae'n hau rhaniadau eto, ac rwy'n credu y cawsom ni cymaint o gynnydd sydyn mewn troseddau casineb pan gawsom ni'r refferendwm, ac adroddir am fwy o droseddau casineb bellach nag erioed o'r blaen, ac mae dyletswydd  arnom ni, bob un ohonom ni wleidyddion, bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda'r geiriau a ddefnyddiwn ni fel nad ydym ni, ar yr adeg anodd iawn, iawn yma, yn cynyddu'r teimladau o ansicrwydd sydd gan lawer o'n dinasyddion o ganlyniad i'r bleidlais gynhennus iawn hon a'r wleidyddiaeth gynhennus iawn hon yr ydym ni'n dyst iddi ar hyn o bryd. Felly, a oes gan y Prif Weinidog unrhyw sylwadau a hoffai eu gwneud am y mater penodol hwnnw?

15:45

Oes. Roedd hwn yn fater pwysig, yn dilyn y refferendwm, inni weld cynnydd sydyn mewn troseddau casineb. Un o'r pethau a wnes i oedd ymweld â chymunedau ledled Cymru—cymuned Bwylaidd yn Llanelli, wrth gwrs, ac es i gyfarfod yn Abertawe—er mwyn tawelu meddyliau pobl bod Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn groesawgar iddynt, ac nad oedd unrhyw wirionedd, fel y credai rhai pobl, y bydden nhw'n cael eu taflu allan o'r wlad rywsut cyn hir. Dywedodd un person wrthyf, hyd yn oed, ei bod hi'n ofni clywed y gnoc ar y drws. Dyna pa mor ddrwg y gallai pethau fod, yn eu tyb nhw.

Ar fater hawliau dinasyddion, mae'r cytundeb tynnu'n ôl yn ein tywys ni ymhellach ac yn rhoi rhyw fath o sicrwydd o'i chymharu â'r sefyllfa yr oeddem ynddi hi o'r blaen. Ond, wrth gwrs, yr hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthyf i yw, ydyn, maen nhw'n deall y pwynt bod angen cael gweithwyr proffesiynol a medrus yn y gwasanaeth iechyd—ac rydym ni i gyd wedi siarad am hynny—ond mae angen cael gweithwyr heb sgiliau hefyd, pobl a fydd yn gweithio mewn swyddi nad ydyn nhw'n ennill cyflog mor uchel, sy'n anneniadol mewn hinsawdd o gyflogaeth lawn, fel lladd-dai. Rwy'n dal i sôn amdanyn nhw; nid oes gennyf i ddim yn eu herbyn nhw, ond y maen nhw'n ei chael hi'n anodd recriwtio oherwydd natur annymunol y swydd yng ngolwg y rhan fwyaf o bobl. O ble y daw eu gweithwyr? Os na allan nhw gael eu gweithwyr o'r UE, bydd hynny'n golygu na fyddan nhw'n gallu gweithredu, ac ni fydd pobl sy'n byw yn lleol yn gallu cael swydd yno ychwaith, oherwydd ni fydd y cyfleoedd i'w cael yno. Felly, mae'r pethau hyn wedi mynd ar goll gan Lywodraeth y DU.

Ac, wrth gwrs, y drychineb yw bod pobl yn dathlu'r ffaith bod y rhyddid i symud yn dod i ben. Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Mae'n golygu na fydd dinasyddion y DU yn gallu teithio na byw yn ddilyffethair mewn 26 o wledydd eraill fel yr oedden nhw'n gallu o'r blaen—mur yw hwn. Er hynny, os ydych chi o Awstria neu o'r Almaen neu o Ffrainc, gallwch deithio i 26 o wledydd eraill, ond nid  i'r DU. Felly, mewn gwirionedd, gallwch chi deithio i'r holl wledydd hyn ledled Ewrop heb unrhyw gyfyngiadau. Os ydych chi o Iwerddon, gallwch deithio i bob un ohonyn nhw—y  DU a phob gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw bod cyfyngiadau ar y rhyddid i symud yn llymach ar ein pobl ni ein hunain nag ar unrhyw un arall yn Ewrop. Ein pobl ni ein hunain yw'r rhai na fyddan nhw bellach yn gallu byw a theithio a gweithio fel y buon nhw, tra bydd pob dinesydd eraill yn Ewrop yn gallu gwneud hynny, ond ni fyddant yn gallu dod i'r DU yn yr un modd. Felly, mewn gwirionedd, bu hon yn weithred hunandrechol sy'n cyfyngu ar y mannau lle gall dinasyddion y DU fynd iddyn nhw a byw ynddyn nhw yn yr hirdymor, a gweithio yn yr hirdymor. Ni fydd y cyfyngiadau hynny'n berthnasol i wledydd eraill yn Ewrop. Felly, mae'n dangos mai'r hyn yr ydym wedi ei wneud yw nid creu sefyllfa lle mae mewnfudo yn cael ei reoli'n well gan y DU; mae wedi golygu y bydd rheolaethau ar ddinasyddion y DU bellach pan fydd yn rhaid iddyn nhw deithio i wledydd eraill yn Ewrop.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar symudedd myfyrwyr rhyngwladol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd.  Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o fyfyrwyr mewn prifysgolion sy'n treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu ar brofiad gwaith dramor fel rhan o'u hastudiaethau. Ar adeg pan na fu erioed cyn bwysiced i'n myfyrwyr a'n graddedigion fod yn ddinasyddion byd-eang, a chael cysylltiadau diwylliannol ac economaidd cryfach rhwng Cymru a'r byd, a chael canlyniadau academaidd a chyflogadwyedd gwell eto hyd yn oed i'n myfyrwyr, mae angen inni sicrhau bod cyfleoedd rhyngwladol yn uchelgais i lawer mwy o fyfyrwyr.

15:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n dymuno gweld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau yn dyblu erbyn y bydd y Llywodraeth hon yn dod i'w therfyn. Fel myfyrwraig a wnaeth elwa'n fawr ar gyfnod o astudio dramor cyn graddio, gwn sut mae profiad o'r fath yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn sicrhau cysylltiadau sy'n para am oes. Mae ymchwil gan Universities UK yn nodi bod y buddion hyn yn arbennig o arwyddocaol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Er hynny, y myfyrwyr hyn yn amlach na dim sy'n colli allan, neu hyd yn oed ddim yn ymgeisio am y cyfleoedd trawsffurfiol hyn.

Rydym wedi dechrau arni wrth fynd i'r afael â hyn drwy anelu cyllid symudedd myfyrwyr Generation UK—China tuag at ehangu cyfranogiad. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgais i gynyddu cyfleoedd a chodi dyheadau. Rydym wedi datblygu'r cynllun peilot gan drafod â British Council Cymru fel rhan o'n hymateb i argymhelliad adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr sy'n dewis astudio dramor. Bydd yn canolbwyntio ar fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn sefydliadau addysg uwch Cymru a bydd yn rhedeg am dair blynedd o 2018-19. Bydd y cynllun peilot yn cynnig cymysgedd o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau AU yng Nghymru, gan gynnwys astudiaeth, gwirfoddoli ac interniaeth, yn amrywio o ddwy wythnos i dair hyd wyth wythnos. Dangosodd ein hastudiaeth gwmpasu mai cyfleoedd fel hyn fyddai'n denu'r mwyafrif o fyfyrwyr.

Bydd hyn yn helpu i annog cyfranogiad gan grŵp ehangach o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu neu mewn gwaith, er enghraifft, a bydd yn osgoi dyblygu unrhyw gynlluniau sydd ar gael eisoes. Rwy'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn y cyfleoedd hyn, ond mae gan y prifysgolion gyfrifoldeb i ddod i'r adwy hefyd. Ar y nodyn hwnnw, rwy'n falch bod llawer o brifysgolion Cymru wedi ymaelodi ag ymgyrch Go International Universities UK i ddyblu'r ganran o israddedigion sy'n mynd ar leoliad rhyngwladol fel rhan o'u rhaglen prifysgol.

Rydym yn buddsoddi £1.3 miliwn yn y cynllun peilot hwn dros y tair blynedd nesaf, a bydd manylion pellach am y cyfleoedd symudedd hynny'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eisoes o waith yn digwydd o fewn y sector gyda chefnogaeth y Llywodraeth, a hoffwn achub ar y cyfle i sôn am hyn hefyd heddiw. Yn ddiweddar, roeddem ni'n gallu cefnogi prosiect Cymru Fyd-eang gyda buddsoddiad o gronfa bontio Ewropeaidd gwerth £3.5 miliwn. Bydd yr arian hwn nid yn unig yn cefnogi hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i astudio, ond bydd hefyd yn cefnogi cyfleoedd symudedd allanol myfyrwyr o Gymru ym marchnadoedd blaenoriaeth Cymru Fyd-eang, megis Fietnam a'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfleoedd hyn, fel rhan o'n rhaglen addysg ryngwladol ehangach, yn bwysig ar gyfer symudedd cymdeithasol, sgiliau cyflogadwyedd a chysylltiadau cymell tawel er mwyn Cymru.

Mae Rhwydwaith Seren yn mynd o nerth i nerth, ac roeddwn yn falch iawn yn gynharach eleni o sicrhau partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Yale a Seren. Arweiniodd y bartneriaeth newydd hon at 16 o fyfyrwyr Seren yn cael y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen haf ysgolheigion ifanc byd-eang Yale. Gallaf ddweud wrthych chi, Aelodau, fod hwn yn brofiad i newid bywydau pawb a gymerodd ran ynddo. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn parhau ac ehangu yn 2019. Mae'r cysylltiadau hyn â phrifysgolion blaenllaw byd-eang yn gyfle inni hefyd ysgogi'r ymgysylltu â'n diwygiadau addysg ehangach, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn fuan iawn.

Fel y soniais yn gynharach, mae ein buddsoddiad newydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol a newydd. Ni fydd yn dyblygu cynlluniau presennol. Rydym o'r farn gadarn y dylai'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn Erasmus ar ôl Brexit. Mae Cymru yn elwa'n fawr iawn ar gymryd rhan yn Erasmus+, gan ganiatáu i bobl astudio ac ymgymryd â phrofiad gwaith a gwirfoddoli mewn gwlad arall yn yr UE. Yn wir, mae cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i brosiectau Cymru oddeutu 6 y cant o gyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd gan Erasmus+ ers 2014, ac mae hynny'n uwch na'n cyfran o'r boblogaeth. Mae'r alwad am brosiectau 2019 newydd gael ei chyhoeddi gan y British Council a byddwn yn annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol y bydd llawer mwy o'n myfyrwyr, o bob cefndir, yn elwa ar y profiad trawsnewidiol o dreulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n ymgymryd â phrofiad gwaith dramor. Mae profiadau rhyngwladol o fudd i fyfyrwyr unigol, yn cryfhau cysylltiadau ein prifysgolion dramor, ac yn hyrwyddo cyfnewid dwyochrog i Gymru gyda chymunedau a gwledydd ledled y byd. Diolch.

15:55

Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Fel rhywun sy'n gymharol newydd i'r portffolio hwn, cefais innau fy synnu mewn gwirionedd o ddysgu mai ar hyn o bryd dim ond 2 y cant o fyfyrwyr sy'n treulio amser dramor, yn astudio a gwirfoddoli neu'n gwneud profiad gwaith. Mae'n galonogol i glywed yn eich datganiad eich bod yn bwriadu dyblu'r ffigur hwnnw cyn y daw'r Llywodraeth hon i'w therfyn. Ond pryder arbennig yn fy ngolwg i yw sut y daw'r cyfleoedd i ran y rhai o gefndiroedd difreintiedig—ein pobl ifanc sy'n gadael gofal, myfyrwyr anabl. Ac rwy'n gofyn sut fydd y cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd yn canolbwyntio ar addysg uwch yng Nghymru—sut fyddech chi'n gobeithio y bydd hyn yn ymestyn, os o gwbl, i'r sector addysg bellach? Oherwydd, yn fy marn i, mae'n bwysig bod plant o'r ddau sector yn gallu cael profiad o'r cyfleoedd a ddaw. Felly, os na, pam nad yw hynny'n digwydd? Mae'n hanfodol bod gan ein grwpiau a dangynrychiolir yr un cyfleoedd i fynd ar gyrsiau rhyngwladol—wyddoch chi. Ac ni allaf yn fy myw weld pam lai. Felly, a oes modd i Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o oleuni inni ar hynny.

A gaf i ddiolch i Janet am y cwestiwn hwnnw? A gaf i egluro mai'r rheswm pam yr ydym yn dewis cyfnodau cymharol fyr ar gyfer y cynllun peilot yw eu bod nhw'n caniatáu i fyfyrwyr sydd efallai â chyfrifoldebau eraill, na allen nhw fforddio'r amser i dreulio blwyddyn dramor, sef y cyfnod traddodiadol efallai y byddai llawer o fyfyrwyr yn ei ystyried yn gyfnod o astudiaeth ryngwladol?

Bydd y lleoliadau byr hyn, am ddwy wythnos i dair hyd at wyth wythnos, yn caniatáu, yn ein barn ni, yn dilyn ymchwil a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan OB3 Research a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru—. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl inni fanteisio i'r eithaf ar hyn. Bydd y grantiau penodol hyn ar gael ar gyfer y rhai sy'n astudio yn sefydliadau addysg uwch Cymru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Diamond. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes cyfleoedd sylweddol i astudiaeth ryngwladol yn y sector addysg bellach. Wrth gwrs, mewn llawer o ardaloedd, mae colegau addysg bellach yn darparu rhaglenni Lefel-A i'n myfyrwyr Seren ac yn cymryd rhan yn Rhaglen Seren. Rydych chi newydd fy nghlywed i'n sôn am ein cysylltiadau newydd â Phrifysgol Yale, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y rheini. Ac mae colegau addysg bellach wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth ennill cyllid Erasmus +. Mae ein sector ysgolion a'n colegau addysg bellach wedi rhagori yn hyn o beth. Fel y dywedais, rydym wedi cael mwy na chyfran ein poblogaeth o'r adnoddau yn sgil Erasmus+ ac mae hyn wedi golygu ariannu amrywiaeth o brosiectau cyffrous iawn mewn addysg bellach sydd wedi galluogi myfyrwyr addysg bellach sy'n astudio mewn colegau academaidd a galwedigaethol i gael cyfnodau o astudio dramor.

Yr her i ni ar hyn o bryd, Janet—ac efallai y gallwch chi ein helpu yn hyn o beth—yw argyhoeddi eich cyd-Aelodau yn Llywodraeth San Steffan i ganiatáu inni barhau i gymryd rhan lawn yn rhaglen Erasmus+. Ac, ar hyn o bryd, mae'n bell o fod yn glir, ar ôl 2020, a fyddwn ni'n gallu gwneud hynny. Mae Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth gwerth am arian. Rydym wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi'r adolygiad hwnnw gyda'r holl ddata o Gymru, yr wyf yn credu eu bod yn pledio'r achos yn gryf iawn dros barhau i gymryd rhan yn y cynllun. Mae prifysgolion Cymru a cholegau Cymru yn glir iawn o ran eu dymuniad i barhau i gymryd rhan lawn yn Erasmus+, fel y mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Serch hynny, mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, nad yw'r lleisiau hynny yn cael eu clywed.

A byddwn, unwaith eto, yn ailadrodd y profiad o'r Swistir, a adawodd y rhaglen Erasmus+—gan benderfynu y gallen nhw wneud rhywbeth gwell ar eu liwt eu hunain. Yn y diwedd roedd wedi costio mwy o arian iddyn nhw am lai o gyfleoedd. Dylem ddysgu o hynny a pheidio â chredu y byddai rhyw gynllun unigol gan y DU yn disodli'n foddhaol estyniad a chyfranogiad yn Erasmus+, sef, fel y dywedais i, yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddymuno, yr hyn y mae myfyrwyr Cymru'n ei ddymuno, a'r hyn y mae prifysgolion a cholegau Cymru yn ei ddymuno.

16:00

Rwy'n ymddiheuro am gyrraedd yn hwyr. Diolch am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwn. Yn dilyn Brexit, bydd angen sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i gael eu croesawu yng Nghymru a'u bod nhw'n ymwybodol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd angen hefyd sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael eu hannog i fod yn eangfrydig a cheisio cyfleoedd i astudio dramor. Mae Plaid Cymru o'r farn y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd a chael cyfle i fyw a gweithio dramor. Roedd ein maniffesto yn 2016 yn addo rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr tro cyntaf sy'n hanu o Gymru ac yn cofrestru fel israddedigion mewn prifysgolion y tu allan i'r DU yn ogystal ag ehangu ein cefnogaeth i Erasmus+, fel y soniwyd eisoes heddiw, er mwyn i fwy o bobl ifanc gael gweld y byd a'u cyfoethogi yn sgil y profiadau hynny. Felly, mae'n dda gennyf glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad Diamond o ran cymorth i fyfyrwyr i astudio dramor.

Roeddech yn sôn bod yna £1.3 miliwn yn y cynllun peilot a bydd rhagor o fanylion i ddilyn. A gaf i ofyn pa bryd y daw'r manylion hynny, o ystyried y bydd angen inni graffu ar sut y caiff y buddsoddiad hwnnw ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yr arian hwnnw'n ddigon neu a ellid ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd neu a oes gan bartïon eraill syniadau ynghylch sut i ddefnyddio'r arian hwnnw.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi nid yn unig i'r Siambr hon ond i gymuned y myfyrwyr rhyngwladol sicrwydd y bydden nhw nid yn unig yn cael eu croesawu yng Nghymru ond yn cael eu gwerthfawrogi hefyd? Rwy'n deall mai ar gyfer galluogi myfyrwyr Cymru i fynd i wledydd eraill y bwriadwyd y cynllun hwn. Ond mae'n gweithio o'r tu arall hefyd. Os ydym yn awyddus i ddenu myfyrwyr rhyngwladol i Gymru, bydd yn ehangu profiadau'r myfyrwyr yn ein cenedl ni yma a bydd yn caniatáu i ni gwrdd â phobl na fyddem o bosib byth yn eu cyfarfod fel arall—yn fy achos i, fy ngŵr, felly, rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.

Pa gyflwyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru gerbron Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad parhaus Cymru yn y rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol ar ôl Brexit? A ydych chi'n gweld swyddogaeth i ryw fath o Bwyllgor y Rhanbarthau wrth helpu i hwyluso cydweithrediad parhaus yn y maes hwn, rhywbeth yr wyf i a'm cyd-Aelod, Mick Antoniw, sy'n eistedd ar Bwyllgor y Rhanbarthau ar hyn o bryd, yn rhoi ystyriaeth iddo?

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer lliniaru'r gost o golli myfyrwyr o'r UE ar ôl Brexit? Rydym yn gweld gostyngiad yn nifer y ceisiadau, ac fel y dywedais yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae Cymru eisoes ymhell i lawr yn nhabl y gynghrair o ran niferoedd y myfyrwyr a cheisiadau o'r UE. Felly, bydd gostyngiad pellach yn anodd iawn i'r sector AU i'w amsugno, pan fyddwn, bron yn sicr, yn gweld dirywiad pellach hyd yn oed yn niferoedd myfyrwyr o'r UE o ganlyniad i Brexit.

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith os na chawn ni aros yn rhan o gynllun Erasmus? Ac a ydych yn rhannu fy mhryder bod yr ieithwedd gynyddol wrthwynebus o ran dinasyddion yr UE a ddefnyddir gan y Prif Weinidog fel rhan o'i gwrthwynebiad caled i ryddid symudiad yr UE a'i hymgyrch i hybu ei chytundeb arfaethedig â'r UE yn peryglu cydweithrediad yn hyn o beth?

Yn olaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cynllun peilot i roi cymorth i fyfyrwyr i astudio ymhell i ffwrdd drwy gydol rhaglen eu gradd, fel y mae adolygiad Diamond yn ei argymell? Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn ei gyfanrwydd er mwyn annog pobl ifanc nid yn unig i gwblhau rhan o'u gradd dramor ond i gwblhau eu gradd i gyd dramor a dwyn y cyfoeth hwnnw a'r dalent honno i Gymru'n ôl.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau, Bethan. Gadewch imi fod yn gwbl glir, mae prifysgolion a cholegau Cymru yn agored i fusnes, ac nid ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig, sydd, fel y dywedwch chi, yn dod â dyfnder i drefi ein prifysgolion yn yr hyn y maen nhw'n ei ddwyn gyda nhw, ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, y darlithwyr hefyd. Mae darlithwyr rhyngwladol yn gryfder allweddol yn ein sector, ac mae nifer sylweddol o'n staff darlithio mewn sefydliadau addysg uwch yn benodol yn ddarlithwyr rhyngwladol. Maen nhw i'w croesawu yn fawr yn ein prifysgolion ac yn helpu i wneud ein prifysgolion cyn gryfed ag y maen nhw.

Dyna'r neges yr wyf i fy hun, Universities Wales a Chymru Fyd-eang yn ei rhoi i'r byd—y cynnig cryf iawn sydd gan Gymru o ran addysg uwch ac addysg bellach. Nid oes raid ond edrych ar arolygon boddhad myfyrwyr sy'n dangos bod gan brifysgolion Cymru sgôr uwch ymhlith myfyrwyr am eu bodlonrwydd o ran eu profiad na thros y ffin yn Lloegr nac yn yr Alban. Mae gennym ragoriaeth gydag ymchwil a rhagoriaeth gydag addysgu, ac mae gennym amrywiaeth eang o sefydliadau, naill ai mewn dinas, fel yma yng Nghaerdydd, neu ar yr arfordir, boed hynny ym Mangor neu yn Aberystwyth—mae gennym gymysgedd wirioneddol, felly rhywbeth ar gyfer pob un. Ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi mai'r hyn y gall myfyrwyr a darlithwyr rhyngwladol fod yn sicr ohono pe bydden nhw'n dod i astudio neu i weithio yng Nghymru yw croeso cynnes iawn, iawn gan ein cymunedau, sy'n gwerthfawrogi eu cyfraniad nhw'n fawr iawn.

O ran her barhaus recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, wrth gwrs, ni chaiff hynny ei hwyluso gan fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gynnwys myfyrwyr yn y ffigurau mewnfudo. Nid oes neb yn ystyried mai mewnfudwyr yw myfyrwyr rhyngwladol, neb ond Theresa May a'r Swyddfa Gartref. Mae arolwg ar ôl arolwg ar ôl arolwg yn dangos nad yw'r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn y ffordd hon, ac mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod yma, maen nhw'n astudio yma, maen nhw'n dysgu eu sgiliau yma ac mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw wedyn yn mynd â'r sgiliau hynny'n ôl i'w mamwlad. Felly mae'r syniad hwn y dylid, rywsut, eu cynnwys nhw yn y ffigurau hyn yn niweidiol iawn—niweidiol iawn—i'r sector addysg uwch, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.

Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Sam Gyimah a'm cymheiriaid yn yr Alban yn hyn o beth i siarad am recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â chyfleoedd parhaus ar gyfer myfyrwyr Prydain i astudio dramor, yn arbennig fel rhan o raglen Erasmus+. Byddaf yn cyfarfod â nhw eto cyn bo hir. Rwyf wedi eu gwahodd nhw yma i Gaerdydd, ac rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi penderfynu derbyn y gwahoddiad hwnnw, pan fyddwn, unwaith eto, yn eistedd yn grŵp o Weinidogion addysg i geisio llunio dealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ni a cheisio darbwyllo Llywodraeth y DU o'r negeseuon hynny.

O ran recriwtio myfyrwyr Ewropeaidd i Gymru, ni ddylai fod yn annisgwyl ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr hynny gan fod ein pecyn cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Roedd hynny'n ganlyniad anochel o gynnig hael iawn yr oedd myfyrwyr yr UE yn gallu manteisio arno dan y drefn flaenorol; mae'r cymhelliant ariannol hwnnw wedi ei ddileu, wrth inni symud tuag at y pecynnau Diamond sydd gennym. Mewn gwirionedd, y flwyddyn gynt, roeddem ni'n perfformio'n well na gwledydd eraill y DU o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac o'r UE, felly ni ddylai hyn fod yn annisgwyl. Ond mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ddyblu ein hymdrechion, ochr yn ochr â'n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach, i fynd â'r genadwri ar led am y cynnig cryf sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Dyna pam yr oeddwn gyda Chymru Fyd-eang yn Efrog Newydd yn ddiweddar, ochr yn ochr ag is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn llywyddu digwyddiad gan Study in Wales, ac yn fwyaf diweddar, yn Fietnam, lle' r oeddem yn gallu negodi cyfran sylweddol o ysgoloriaethau Chevening newydd gyda'r British Council—gyda phrifysgolion Cymru yn cael y rhan fwyaf ohonyn nhw— i ddenu myfyrwyr o Fietnam i'n gwlad ni. A byddwn yn parhau i gefnogi ein cymheiriaid mewn prifysgolion yn eu gweithgareddau recriwtio, lle gallwn ychwanegu gwerth atyn nhw.

Cynllun peilot ar gyfer cyfnodau byr o astudiaeth dramor yw hwn i ddechrau. Fel y dywedais, canlyniad ymchwil sydd wedi cael ei gyflawni gan WISERD ar ran Llywodraeth Cymru, yw hwn oherwydd ein bod yn teimlo mai yn y fan hon y ceir y galw mwyaf. Mae'r galw am leoliadau rhyngwladol wedi tyfu'n raddol yng Nghymru, ond ar gyfradd o 2 y cant, rydym ymhell y tu ôl i Loegr a'r Alban yn niferoedd yr israddedigion o Gymru sy'n manteisio ar y cyfleoedd hyn. Mae hon yn ymgais i ategu'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes i gynyddu'r cyfleoedd hynny, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr hynny, fel y dywedais i, sydd o gefndiroedd arbennig o ddifreintiedig a fu'n lleiaf tebygol o wneud cais am gyfleoedd o'r blaen neu am astudiaeth dramor yn ei holl agweddau.

Byddwn yn parhau i adolygu, o ystyried y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddyn nhw yn y sector addysg uwch, a fyddem yn symud i sefyllfa lle y byddem yn ariannu graddau cyfan mewn prifysgolion rhyngwladol. Nid ydym mewn sefyllfa i ymgymryd â hynny ar hyn o bryd, gan ein bod yn credu bod anghenion enbyd eraill am y gyllideb sydd gan addysg uwch yng Nghymru, a'n blaenoriaeth ni ar gyfer buddion Diamond yw ailfuddsoddi mewn pynciau drud a chynyddu'r adnoddau a gaiff y sector yma gartref.

16:10

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud pwynt da ynghylch myfyrwyr rhyngwladol, a'r camau y mae hi wedi eu cymryd yn y Siambr hon sy'n cyferbynnu mor eithafol â pholisi sinigaidd Llywodraeth Geidwadol y DU o annog myfyrwyr rhyngwladol i beidio â dod i'r wlad hon am eu bod yn effeithio ar ffigurau mewnfudo. Dylai meinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon fod â chywilydd o'r Llywodraeth Geidwadol a'r polisi hwnnw.

Felly, mae hyn yn canolbwyntio'n dda iawn ar ymagor Cymru ac agor y byd i fyfyrwyr Cymru. Un peth sydd o ddiddordeb arbennig i mi, ac y byddwn yn ei groesawu, yw'r canolbwyntio ar fyfyrwyr, yr ydych chi newydd ei grybwyll, o gefndiroedd difreintiedig. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn hefyd yw: nid myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn unig, ond myfyrwyr—myfyrwyr y dyfodol—sy'n byw mewn cymunedau o amddifadedd lluosog nad ydynt eu hunain efallai o gefndiroedd difreintiedig. Felly, sôn yr wyf am gymunedau'r Cymoedd, yn benodol mannau fel Senghennydd a Bargoed yn fy etholaeth i. I'r ysgol ym Margoed yr oeddwn i'n mynd. Pan oeddwn i yn yr ysgol,  'fyddwn i ddim wedi ystyried astudiaeth ryngwladol—ni fyddai wedi croesi fy meddwl. Nid oeddwn i o gefndir difreintiedig, ond nid oedd rhywbeth o'r fath yn rhan o ddiwylliant yr ysgol.

Felly, os ydym eisiau annog myfyrwyr i deithio dramor, rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut mae disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn cael eu haddysgu yng ngwerth astudiaeth ryngwladol. Gall pobl ddweud wrthyn nhw, 'Wel, gallwch chi fynd dramor—gallwch chi deithio dramor—a bydd hyn yn beth ardderchog i chi'. Roeddwn i'n 25 oed ac yn teithio dramor i Tsieina i fod yn athro cyn imi sylweddoli beth oedd gwerth astudiaeth ryngwladol. Gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi: 'fyddwn i ddim wedi bod â digon o hyder i wneud hynny pan oeddwn i'n 18 oed.

Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, oherwydd yn aml iawn materion yw'r rhain sy'n ymwneud ag uchelgais a thanio unigolion i chwilio am y cyfleoedd hyn. Mae'r ymchwil yn dangos mai pobl o gefndir difreintiedig sy'n lleiaf tebygol o chwilio am y cyfleoedd hyn, felly mae hyn yn ymwneud ag ennyn uchelgais.

Fel y dywedais yn gynharach mewn ateb i Janet Finch-Saunders, mewn gwirionedd, prosiectau mewn ysgolion yw rhai o'r prosiectau cryfaf y mae Cymru wedi eu gweld yn rhaglen Erasmus+, mae hynny'n bwysig ofnadwy—nad yw Erasmus yn cael ei hystyried yn rhaglen i brifysgolion yn unig. Yn wir, mae ar gael i ysgolion a cholegau addysg bellach, ac mae ysgolion yn ymgysylltu â hynny'n dda iawn ar hyn o bryd.

Ond, fel y gwyddoch, un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd yw meithrin dinasyddion y byd sy'n barod i wneud eu rhan, yma yn eu cymunedau eu hunain, ond hefyd yn fyd-eang. Felly, gobeithio, bydd ein cwricwlwm newydd, o oedran cynnar iawn—o dair blwydd oed—yn dechrau dysgu plant am eu safle yn eu cymuned, ond hefyd am y ffaith eu bod yn ddinasyddion y byd a cheir cyfleoedd ar eu cyfer nhw allan yno.

Un o'r rhesymau pam mae'r cyfleoedd yn gyfyngedig i ddwy wythnos i dair hyd wyth wythnos yw bod y rhain yn cael eu hystyried yn fwy deniadol. Cam mawr, onid e, yw treulio blwyddyn yn byw oddi cartref a symud i wlad arall am flwyddyn, ond mae'r cyfle i fynd am ddwy wythnos i dair neu hyd at wyth wythnos yn gynnig, efallai, sy'n llawer haws ymdopi ag ef, ac achub arno, ac yn un apelgar. Rydym ni'n credu, yn dilyn y gwaith ymchwil a gynhaliwyd i lywio'r fenter bolisi hon, mai yn y fan honno y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Rydym yn rhagweld y bydd rhwng 400 a 500 o fyfyrwyr yn cael eu cynorthwyo gan y cynllun peilot hwn. Bydd yn cael ei weithredu gan British Council Cymru, sydd eisoes â systemau ar waith ar gyfer cyfleoedd eraill. Hefin, pe byddech chi wedi cwrdd â'r bobl ifanc 16 ac 17 oed bywiog iawn o ysgolion ledled Cymru a aeth i raglen ysgolheigion byd-eang Yale, byddech wedi rhyfeddu at eu hyder, eu huchelgais a'u gallu i gystadlu ar y llwyfan byd-eang â phobl ifanc eraill a dal eu tir. Mae'r hyder y mae hynny wedi ei roi iddyn nhw i ddychwelyd i Gymru a chodi eu gobeithion yn uwch hyd yn oed o ran yr hyn y gallan nhw ei gyflawni wedi bod yn neilltuol iawn. Pe byddem ni'n gallu cynnig rhagor o'r cyfleoedd hynny ar gyfer rhagor o'n myfyrwyr ni, teimlaf y byddai o leiaf ran o f'amser i yn y swydd hon wedi cael ei dreulio mewn ffordd fuddiol iawn.

Diolch i chi am eich datganiad. Rwyf i'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn, oherwydd mae perygl gwirioneddol, gan fod gennym y bygythiad hwn o fod yn gadael yr UE, y byddwn yn mynd yn wlad fewnblyg er ein bod yn rhan o'r economi fyd-eang. Ni fyddwn yn gallu osgoi hynny. Mae'r syniad hwn y gallwn ni ddod i ben â hi rywsut neu'i gilydd ar ein pennau ein hunain yn ddigon i godi ofn ar rywun.

Beth bynnag, hoffwn roi teyrnged i Brifysgol Caerdydd yn arbennig, sydd wedi bod yn canolbwyntio llawer o'u hymdrechion ar sicrhau eu bod, cyn belled ag y gallen nhw, yn annog yr holl bobl ifanc sy'n astudio yno fel israddedigion i gynnwys rhyw fath o brofiad rhyngwladol. Mae hynny'n hollol fel y dylai fod, oherwydd mae'r ymchwil wedi cael ei wneud eisoes sy'n dangos bod astudio dramor yn gwella eu cyflogadwyedd, eu hyder a'u haddysg yn fwy eang. Felly, da iawn, Brifysgol Caerdydd, ac rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith mai dim ond 2 y cant o holl fyfyrwyr Cymru sy'n mynd dramor.

Ond gan ganolbwyntio unwaith eto ar y pwynt pwysig a wnewch chi am bwysigrwydd myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn cael mynd dramor, clywais yr hyn a ddywedoch wrth Hefin David a phwysigrwydd cael y profiadau rhyngwladol tymor byr hyn. Ond rwy'n amau y bydd y rheini yn Fietnam neu'r Unol Daleithiau, o ystyried y pellter dan sylw—fydden nhw? Rwyf i o'r farn, yn sicr, bod angen inni ganolbwyntio ar ein marchnadoedd mwyaf, sydd yn Ewrop. Ni fyddwn yn gallu symud ein gwlad i ryw gwr arall o'r byd. Hoffwn i ofyn beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn elwa ar gyfleoedd y £1.3 miliwn newydd hwn oherwydd, fel arall, rydym yn gwybod y byddan nhw'n cael eu cymryd gan fyfyrwyr llai difreintiedig sydd â theuluoedd a fyddai fwy na thebyg yn gallu gwneud trefniadau ar eu cyfer ar eu liwt eu hunain.

A wnewch chi esbonio pam nad ydych chi wedi ystyried ymestyn y cyfle hwn i fyfyrwyr addysg bellach sy'n astudio, lawn cyn bwysiced, y sgiliau technegol a fydd hefyd yn eu gwneud yn gyflogadwy ac yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi? Dyna fy nau gwestiwn i.

16:15

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n falch iawn o ymuno â chi i longyfarch Prifysgol Caerdydd am y gwaith arwyddocaol y maen nhw wedi ei wneud yn y maes hwn. Rydym wedi bod yn ofalus iawn wrth geisio llunio'r cynllun hwn i ategu'r hyn y mae ein prifysgolion yn ei wneud eisoes, ac yn sicr nid ei ddiben yw eu rhyddhau o unrhyw gyfrifoldeb sydd ei angen ac y maent yn ei gymryd i'r perwyl hwn.

Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, efallai fod y gwaith hwn yn bwysicach nag erioed wrth inni nesáu at Brexit. Ni fu Cymru erioed yn wlad ynysig. Mae ein rhagolygon wedi bod rhyngwladol a byd-eang bob amser. Yr wythnos diwethaf, yn yr asesiad o'i Chymraeg llafar, roedd fy merch yn siarad am bobl o Gymru a oedd yn bresennol pan gafodd datganiad annibyniaeth Unol Daleithiau America ei lofnodi. Rydym wedi anfon ein pobl allan i'r byd, sydd wedi creu a gwneud pethau anhygoel. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen inni gynyddu cymell tawel Cymru. Efallai nad oes gennym gyfrifoldeb am faterion tramor yn y Siambr hon, ond nid yw hynny'n ein rhyddhau ni o'n cyfrifoldeb i gyflwyno Cymru i'r byd, a pha well ffordd, pa well asedau sydd gennym ni i hybu ein cenedl na'n pobl ifanc ni? Y nhw yw ein hased gorau, a dyna pam yr wyf yn benderfynol y dylai mwy ohonyn nhw gael y cyfle.

Wrth gwrs, rydym yn awyddus i fyfyrwyr barhau i gael cyfleoedd yn Ewrop; dyna pam ein bod ni'n ymladd mor galed am brosiect Erasmus +. Ond gallaf eich sicrhau chi, Jenny, y gallwch fod yn Boston mewn chwe awr, a chyda'r awyren newydd o Gaerdydd i Doha, gallwch fod yn Fietnam mewn llai na 12 awr. Felly mae'r syniad hwn nad yw rhaglen wyth wythnos yn ddigon hir i chi fynd i rai o'r lleoedd hyn, yn fy marn i, yn anghywir. Byddwn yn edrych tua'r British Council, a fydd yn gweinyddu'r cynllun hwn, i'n helpu ni i gasglu data i wneud yn siŵr bod amrywiaeth eang o fyfyrwyr yn achub ar y cyfleoedd hyn. Fel y dywedais yn ystod hyn i gyd, un o'r egwyddorion sydd yn fy nhywys yn y swydd hon yw rhoi cyfle cyfartal a chau'r bwlch cyrhaeddiad. Nid ymwneud â chymwysterau yn unig y mae'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw; mae'n ymwneud â bwlch cyrhaeddiad o ran cyfle hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn ein helpu i gyflawni hynny.

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr adolygiad o gyllid addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu economi sy'n gweithio i bawb. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau byw a hyrwyddo twf a chynhyrchiant, a hefyd i fynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol economaidd a chymdeithasol sydd wedi bod yn bodoli ers gymaint o amser.

Mae'r sector addysg bellach yn hanfodol i'r agenda hon, ac eto dros y pum neu chwe blynedd diwethaf, hwn yw un o'r sectorau a gafodd ei daro galetaf gan y mesurau cyni a osodwyd arnom ni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Gyda hyn mewn golwg, fe es i ati i gomisiynu adolygiad o fethodoleg cyllido addysg bellach er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cyflawni ein dibenion ac yn sicrhau yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr a'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, a hefyd yn sicrhau tegwch ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ar gyfer dysgwyr llawn amser ond hefyd ar gyfer dysgwyr rhan amser hefyd.

Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yn 2014 wedi cyflawni eu hamcanion. Nid sicrhau cymwysterau yn unig ydym ni'n ei wneud erbyn hyn, ond mae gyda ni raglen ddysgu gynhwysfawr sy'n seiliedig ar sgiliau, cyrsiau sydd â phwrpas a nod clir, a chynllun ar gyfer y cwricwlwm sydd wedi'i ailwampio. Yn gyffredinol, mae ein sefydliadau yn sefydlog yn ariannol, ond yn 2017 fe argymhellodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru y dylem ni adolygu'r fethodoleg gyllido i adlewyrchu'r newidiadau o ran demograffeg ac anghenion lleol.

Er mwyn gweithredu'r argymhelliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector addysg bellach i sicrhau bod y cyllid ar gyfer dysgwyr llawn amser yn fwy tebyg i'r dull o gyllido'r chweched dosbarth, gan adlewyrchu'r newidiadau perthnasol o ran demograffeg. Er bod y dull cyllido sy'n bodoli ar hyn o bryd yn golygu bod y prif gymhwyster a'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr ym mhob sector yn chwilio amdanyn nhw yn cael eu sicrhau, y brif ffactor wrth ddarparu rhaglenni ymhob coleg yw'r galw gan ddysgwyr. Nid yw dewisiadau'r dysgwyr ar hyn o bryd o reidrwydd yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr na'r economi leol, ac felly mae'n bosibl bod rhai yn dewis cyrsiau lle nad oes llwybr gyrfa clir ac mae hyn yn gallu arwain at bobl yn mynd yn sownd mewn swyddi gyda chyflogau isel.

Er mwyn newid y sefyllfa hon ac i symud tuag at sefyllfa lle y mae anghenion ein heconomi a'r hyfforddiant a ddarperir yn cyd-fynd, mae swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y cyrsiau mae'r colegau yn eu cynnig yn cyd-fynd ag argymhellion partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Nod y partneriaethau hyn yw sicrhau bod anghenion cyflogwyr yn cael eu hystyried yn eu hargymhellion. Caiff y rhain eu defnyddio wedyn i ddylanwadu ar brosesau cynllunio a ddarperir gan bob coleg. Os bydd colegau'n cyflwyno cynlluniau sydd ddim yn adlewyrchu argymhellion y partneriaethau, ni fyddant yn cael eu cymeradwyo. Ar ben hyn, bydd fy swyddogion i yn sicrhau bod pob darpariaeth yn cyd-fynd â'r cynlluniau hynny, ac yn gwneud addasiad i'r cyllid lle bo hynny’n briodol.

Rwy'n bwriadu penodi cynghorydd annibynnol i adolygu sut y gallwn ni adeiladu ar y trefniant presennol ynghylch y partneriaethau a'u gallu nhw i gael effaith ar ddarpariaeth sgiliau yn eu rhanbarthau nhw sy'n cyfateb ag anghenion cyflogwyr. 

Mae'r sector addysg bellach yn sector ymatebol ac rwy'n disgwyl yn llwyr iddo gofleidio'r fethodoleg well hon, i weithio ar y cyd ac yn rhanbarthol, a sicrhau y bydd pob un o'n dysgwyr addysg bellach yn cael y dechrau gorau posibl ym myd addysg uwch neu gyflogaeth.

Mae angen inni ymdrechu'n barhaus i wella canlyniadau i ddysgwyr. Rwy'n awyddus i weld cynnydd yn y duedd o gwblhad llwyddiannus a byddwn yn ystyried opsiynau, mewn ymgynghoriad â'r sector addysg bellach, i ysgogi colegau i sicrhau eu bod yn bodloni'r nodau blynyddol ar gyfer canlyniadau dysgu, gan sicrhau gwell safonau flwyddyn ar ôl blwyddyn. A phan nad yw coleg yn bodloni'r nod hwnnw, byddaf yn atal cyllid yn y flwyddyn ganlynol. Rwy'n falch o ddweud, yn y degawd diwethaf, fod y canlyniadau a gyflawnwyd gan golegau  wedi gwella hyd at 20 pwynt canran. Ond mae'n rhaid inni wneud ymdrech barhaus i wella safonau.

Ochr yn ochr â'r newidiadau i'r ddarpariaeth lawn amser, rwyf hefyd yn cynnig newid y ffordd y caiff y ddarpariaeth ran-amser ei hariannu, ei chynllunio a'i chyflwyno. Roedd cyflwyniad fframweithiau cyllido yn 2014-15, rwy'n ofni, yn cyd-daro â gostyngiad o 37 y cant yn y cyllid a oedd ar gael ar gyfer addysg ran amser, gyda 50 y cant eto'r flwyddyn ganlynol. Felly, ers 2015-16, mae maint y ddarpariaeth ran-amser wedi amrywio yn dibynnu ar nifer y dysgwyr llawn amser, a'r cynnig yn anghyson ledled Cymru.

Rhoddir blaenoriaeth i ariannu rhan-amser ar gyfer sgiliau sylfaenol, gan gynnwys technoleg ddigidol a darpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, yn ogystal â chyfle i bob dysgwr ennill TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg. Mae darparu ar gyfer y rheini sydd â'r lefel isaf o sgiliau wedi bod yn rhan graidd o genhadaeth pob coleg ers cryn amser. Yn y dyfodol, caiff y ddarpariaeth ran-amser ei blaenoriaethu i'r gyfran o'r boblogaeth sy'n meddu ar gymhwyster lefel 2 yn unig. Bydd hynny'n sicrhau y bydd pob dysgwr gyda lefel cymhwyster sy'n is na lefel 3 â hawl cyfartal i swm y cyllid rhan-amser sydd ar gael ble bynnag y maent yn byw yn y wlad.

Fel yn achos darpariaeth lawn amser, rwy'n disgwyl i ddarpariaeth ran-amser colegau gael ei dylanwadu gan argymhellion y bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Mae'r adolygiad hwn hefyd wedi mireinio'r ymgodiad oherwydd teneurwydd poblogaeth i adlewyrchu costau uwch y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, er y caiff gwaith ychwanegol ei gynnal yn 2019 i fireinio'r ymgodiad oherwydd teneurwydd poblogaeth i sicrhau ein bod yn nodi ac yn ariannu'r hawl gorau posib i'r cwricwlwm mewn ardaloedd gwledig.

Rwyf hefyd am newid y ffordd yr ydym yn ariannu Bagloriaeth Cymru ôl-16. Ar hyn o bryd, caiff rhaglenni lefel A a chyfatebol eu hariannu yn ôl yr un gwerth os yw Bagloriaeth Cymru yn cael ei darparu neu beidio. Mae hyn oherwydd, lle na chaiff Bagloriaeth Cymru ei darparu, disgwylir i ddarparwyr sicrhau o leiaf tri chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru. Eto i gyd, mae data wedi dangos nad yw hyn o reidrwydd yn digwydd yn ôl y disgwyl, gyda dysgwyr yn colli allan ar ddatblygu sgiliau pwysig. Felly, o 2019, caiff Bagloriaeth Cymru ei hariannu fel cymhwyster ar wahân a'i hariannu'n gyfartal â lefel A. Byddaf yn edrych hefyd ar sut y gallwn ni weithredu'r newid hwn o fewn rhaglenni galwedigaethol o 2020.

Bydd elfennau eraill o'r fethodoleg ariannu addysg bellach yn parhau i gael eu hystyried yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer eu gweithredu yn 2020-21. Er enghraifft, roedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach mewn partneriaeth â swyddogion yn Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael y cynllun gweithredu terfynol yr wythnos hon ac rwy'n ystyried y cyngor, a fydd yn sail i gymorth yn y dyfodol ar gyfer y sector. Felly, i alinio hyn â'r datblygiadau newydd hyn, cynhelir adolygiad o ymgodiad addysg cyfrwng Cymraeg y flwyddyn nesaf, gan dynnu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gyfeiriad mwy cydlynus. Cynhelir ymchwil hefyd ar yr ymgodiad oherwydd amddifadedd, a byddwn yn adolygu'r cyllid ychwanegol i gymorth dysgu ar gyfer rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, gyda chyhoeddiad dyraniad diwygiedig i'r gyllideb hon.

Yn unol â chyhoeddi'r newidiadau hyn i fethodoleg addysg bellach, rwy'n bwriadu ysgrifennu at bob un o'r sefydliadau addysg bellach i nodi fy nisgwyliadau ar gyfer ymgysylltu â'r fethodoleg newydd hon ac ehangu ei chynwysoldeb, yn benodol o ran pobl anabl a sut maent yn cael mynediad i'r ddarpariaeth o addysg bellach a phrentisiaethau. Hoffwn gydnabod yr ymrwymiad a roddwyd gan y sector addysg bellach i'r adolygiad hwn, a chredaf y bydd y trefniadau newydd yn fwy addas ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr.

Yn olaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i alluogi darlithwyr addysg bellach i ennill cytundeb cyflog yn 2018-19 a 2019-20 a hwnnw'n gymesur â'r un a gafodd athrawon ysgol. Rwy'n falch o ddweud y bydd arian hefyd yn cael ei ddarparu i ymestyn y cytundeb cyflog i aelodau eraill o staff addysg bellach, sy'n tynnu sylw at y gydnabyddiaeth o'r cyfraniad pwysig y mae addysg bellach yn ei wneud i economi Cymru.

Mae'n ddrwg iawn gennyf gymryd cymaint o'ch amser chi, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi'n union pa newidiadau a ddaw yn y dyfodol. Diolch.

16:30

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae addysg bellach yn hanfodol ar gyfer datblygu sylfaen sgiliau gweithlu Cymru i'r dyfodol ac ar gyfer datblygu economi Cymru yn ei chyfanrwydd i'r dyfodol. Yn ôl ColegauCymru, effaith economaidd y colegau addysg bellach yng Nghymru ar y gymuned busnes leol yw £4 biliwn y flwyddyn. Er hynny, mae'r sector addysg bellach wedi cael ei danariannu'n ofnadwy ers blynyddoedd lawer gan Lywodraeth Cymru. Coeliwch chi fi, penderfyniad polisi bwriadol yw hwn wedi bod ac mae'r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog, o ystyried pwysigrwydd y sector addysg bellach, a yw'n ddrwg ganddi hi am y diffyg cymorth a gafodd gan Lywodraeth Cymru?

Rwy'n croesawu'r cynlluniau i wella'r fethodoleg, yr hyn a ddywedodd hi sawl gwaith yn ei datganiad—yr hyn y cyfeiriodd y Gweinidog ato. A yw hi'n cytuno na ddylai unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno yn y fath fodd fel eu bod yn dadsefydlogi'r sector neu'n cael effaith negyddol fel arall ar ganlyniadau i ddysgwyr ac ar ddiwallu anghenion busnes? Mae colegau wedi bod yn llwyddiannus o ran denu incwm o'r tu allan i gyllideb graidd gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw hynny'n disodli cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch colegau am ariannu ffyrdd arloesol o ddenu incwm masnachol, a beth mae hi'n ei wneud i gefnogi eu hymdrechion nhw?

Yn ganolog i'r cwestiwn ariannu y mae'r budd a gyflawnir hyfforddiant a sgiliau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud sut mae'r adolygiad yn cyd-fynd â'r strategaeth cyflogadwyedd a'i ffocws ar helpu pobl i ddychwelyd i waith? Cyfeiriodd y Gweinidog at addysg ran- amser—mae gostyngiad o chwarter wedi bod yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach. A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ei chynlluniau i wrthdroi'r dirywiad difrifol yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach?

Yn olaf, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r bygythiad o weithredu diwydiannol sy'n wynebu'r sector addysg bellach ar hyn o bryd. Pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd ei bargen cyflogau arfaethedig yn ymdrin â phroblem morâl isel sydd wedi gweld darlithwyr yn gadael y sector oherwydd y toriadau yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn y mae'r sector wedi gorfod eu hwynebu ers 2015? Edrychaf ymlaen at ei hymateb. Diolch.

Wel, doedd neb yn dymuno gweld y math o doriadau a gafodd eu gorfodi ar y sector addysg bellach, ond penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU oedd hwnnw yn unol â chyni. Dyna yw canlyniad y toriadau. Mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau, mae'n rhaid inni flaenoriaethu, a hwn oedd y penderfyniad a orfodwyd arnom ni. Nid oeddem yn dymuno ei gymryd, ond roedd yn rhaid inni ei gymryd, oherwydd y penderfyniad hwnnw o ran cyni, sydd yn benderfyniad gwleidyddol. Roedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol nad oedd raid ichi ei wneud. Ond gadewch imi ddweud wrthych chi am y sector ei hunan. O'i gymharu â Lloegr, mae ein sector addysg bellach yn batrwm o sefydlogrwydd, a chredaf fod cydlyniad a sefydlogrwydd ariannol y colegau addysg bellach hynny yn bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiwyd iawn arnyn nhw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n hyderus y bydd y colegau hynny mewn gwell sefyllfa o lawer iawn nag unrhyw un o'r colegau addysg bellach yn Lloegr.

O ran gallu colegau i gael gafael ar incwm ychwanegol, rwy'n agored iawn i hynny. Yn wir, byddwn yn eu hannog i wneud llawer mwy o hynny. Ond er mwyn gwneud hynny, credaf fod angen iddyn nhw fod ychydig yn fwy hyblyg ar gyfer ymateb i anghenion dysgwyr, nad ydyn nhw efallai'n gallu ffitio i mewn i'r oriau y mae colegau'n eu cynnig ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n fwy parod i ymateb. Un o'r pethau a wnaed i geisio annog hynny oedd gosod £10 miliwn ar y bwrdd er mwyn dweud, 'Fe gewch chi fynd i'r pot hwn os gwnewch chi ddarparu addysg i bobl sy'n cyd-fynd â'r math o flaenoriaethau a'r sgiliau lleol yr ydym ni wedi nodi sydd eu hangen.' Ac rydym wedi gofyn iddyn nhw ddarparu hynny ac maen nhw wedi bod yn ymatebol iawn, a da o beth yw hynny. Ond rwyf i o'r farn mai dyma'r cam cyntaf. Yn sicr, hoffwn pe baent ychydig yn fwy hyblyg, ac yn fwy na dim, hoffwn weld y sector cyhoeddus yn gweithio'n llawer gwell o ran ymgysylltu â'r sector preifat fel y gallan nhw ddarparu'r cyrsiau hyn, yn hytrach na'r sector preifat.

Rydych yn sôn am addysg ran-amser eto. Mae'r toriadau wedi bod yn sylweddol a dyna pam y bu'n rhaid inni ganolbwyntio ar feysydd penodol. Felly, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol, ar dechnoleg ddigidol ac ar addysg Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill gan fod yn rhaid inni, gan mai dyna beth a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.

Ac yn olaf, ar y gweithredu diwydiannol, rwy'n wirioneddol falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb ar y gweithredu diwydiannol. Bydd cydraddoldeb cyflog nawr ar gyfer darlithwyr coleg addysg bellach a darlithwyr chweched dosbarth. Ond rydym wedi mynd ymhellach na hynny—rydym hefyd wedi helpu i wneud yn siŵr nad darlithwyr y colegau yn unig, ond pobl eraill sydd yn y gwasanaethau cymorth, rai ohonyn nhw ar incwm isel iawn, fydd yn elwa hefyd ar y cymorth ychwanegol hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod ar y bwrdd.

16:35

Diolch am y rhybudd ymlaen llaw—mae'n amserol, o gofio bod gennym ddadl ar addysg bellach yr un amser yfory hefyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cydnabod bob amser, er mwyn cael economi lwyddiannus sy'n fedrus a chynhyrchiol, mae angen inni gael y cyfleusterau a'r sefydliadau o'r radd flaenaf, sy'n gystadleuol, gyda neges glir a chynllun i'w gyflawni. Ac mae addysg bellach yn rhywbeth a ddylai fod ar gael i bawb drwy gydol eu gyrfa ac nid yn yr ysgol yn unig. Felly, dyma un o'r rhesymau, fel rhan o gytundeb y gyllideb ddiweddaraf y gwthiodd Plaid Cymru amdano, sef sicrhau arian ychwanegol i addysg bellach, er ein bod yn cydnabod nad yw'n ddigonol ac rydym yn deall yr heriau sy'n parhau.

Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad o arian i ganiatáu cytundeb cyflog ar gyfer darlithwyr coleg, sy'n gymesur â'r rhai a gafwyd gan athrawon, ac rydym wedi bod yn galw am hynny ers peth amser. Mae'n dda cael clywed hefyd y bydd arian ar gael i ymestyn hynny i staff addysg bellach hefyd, gan y gwyddom fod yn rhaid inni sicrhau parch cyfartal rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd a strwythur tâl tecach. Ond hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach. Gwyddom y gallai streicio fod yn bosibl ym mis Rhagfyr o hyd. A ydych chi'n credu y bydd y cytundeb cyflog hwn yn mynd yn ddigon pell o ran y materion llwyth gwaith ehangach sy'n wynebu'r sector?

A chyn belled ag y mae'r elfennau eraill yn y datganiad yn mynd, rwyf mewn penbleth ynghylch rhai o'r cyhoeddiadau eraill. Cafodd y fframwaith cyllido a dyraniad presennol ei osod ar waith yn 2013. Heddiw, rydym yn clywed y cyhoeddiad hwn sy'n cynnwys yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch pa mor bell ymlaen y gall colegau gynllunio yn seiliedig ar y cyhoeddiad hwn. Am ba hyd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cyhoeddiad heddiw'n para mewn gwirionedd?

Diben y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol arfaethedig ar gyfer Cymru yw bwrw trosolwg a rhoi cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth i'r sector addysg ôl-orfodol a hyfforddiant. Felly pam rydych chi'n cyflwyno'r diwygio cyllid damaid wrth damaid i'r sector nawr, yn hytrach nag aros i'r comisiwn gael ei sefydlu i adolygu anghenion y sector yn strategol? Gwyddom, ar sail adolygiad Hazelkorn a datganiadau eraill a wnaeth yr Ysgrifennydd addysg, mai'r bwriad yw cael diwygiad deddfwriaethol mawr i'r holl dirwedd ôl-16. A fydd hyn yn golygu, mewn gwirionedd, y bydd y cyhoeddiadau hyn heddiw yn amhendant cyn gynted ag y bydd, neu os bydd, y broses honno'n dechrau? A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion inni am yr amserlen o ran cynllunio'r agenda ddeddfwriaethol ehangach?

Yn ôl y datganiad, ac rwy'n dyfynnu:

Ni chymeradwyir cynlluniau coleg nad ydynt yn adlewyrchu argymhellion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Rydych chi'n dweud hefyd eich bod yn bwriadu penodi ymgynghorydd annibynnol ac adolygu sut yr ydym yn gwella'r trefniadau cyfredol gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'u gallu i gael effaith ar ddarpariaeth sgiliau. A yw'r Gweinidog yn hyderus bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gallu gwneud yr argymhellion cywir i golegau ar gyfer sicrhau y bodlonir anghenion cyflogwyr yn y cynlluniau hynny? Mae rhai yn y sector wedi dweud wrthyf i nad oes ganddyn nhw unrhyw bŵer gwirioneddol, nac atebolrwydd gwirioneddol nac unrhyw gyfarwyddyd gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru. Fy nealltwriaeth i, ar hyn o bryd, yw mai dim ond un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol sydd â staff. Mae angen i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol fod yn rhan gynhenid o'r dirwedd ôl-16 ehangach mewn modd nad ydyn nhw ar hyn o bryd. A fydd ymgynghorydd annibynnol yn gallu rhoi cyfarwyddyd o ran ffordd well ymlaen? Er enghraifft, unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gellid ac y dylid ei wneud fel rhan o newid strategol ehangach yn y sector. Sut, er enghraifft, y caiff adolygiad John Graystone ei gynnwys yn sylwedd y cyhoeddiad hwn? Maen nhw wedi adolygu'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol—sut wnewch chi roi ystyriaeth i hyn? Mae'n ymddangos y bydd adolygiadau pellach o agweddau ar y codiad i'r fformiwla, ond rwy'n awyddus i ddeall pam y teimlwch fod hynny'n angenrheidiol. A ydym wedi cael digon o adolygiadau yn y maes hwn, neu a ydyn nhw wedi cael digon o amser hyd yma i ymsefydlu? Hoffwn ddeall pam yr ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi wedi egluro yn y datganiad bod darpariaeth ran-amser wedi gweld toriadau llym dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg byddem ninnau'n cytuno â hynny—nid yn cytuno â'r egwyddor ond yn cytuno â'r gosodiad. Rydych yn dweud y bydd darpariaeth ran-amser yn cael ei blaenoriaethu i'r gyfran o'r boblogaeth sydd â chymhwyster lefel 2 yn unig. A ydych chi wedi cynnal asesiad effaith ar sut y bydd hyn yn effeithio ar grwpiau amrywiol o ddysgwyr ar wahanol lefelau, ac a ydych chi wedi trafod hyn gyda'r sector?

16:40

Iawn, dysgu gydol oes yn gyntaf—credaf ei fod yn hanfodol. Rwy'n credu bod swyddogaeth addysg bellach ynghlwm â dysgu gydol oes yn bwysig tu hwnt. Un o'r materion allweddol ger ein bron yn ein cymdeithas heddiw o ran problemau yw tlodi mewn gwaith, felly'r cwestiwn yw: sut allwn ni dynnu pobl o'r sefyllfa honno? Yr ateb, yn fy marn i, yw eu huwchsgilio nhw tra eu bod yn y gwaith o hyd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni ddarparu system sy'n fwy hyblyg. Felly, rwy'n ceisio annog y sector addysg bellach i gyrraedd y sefyllfa fel y gallan nhw fod yn ymatebol ac nid gadael hynny i'r sector preifat, fel y dywedais yn gynharach.

Rwy'n obeithiol iawn y bydd yr arian yr ydym wedi llwyddo i'w osod ar y bwrdd heddiw yn osgoi streicio, ond mae hwnnw'n fater—mae'r berthynas rhwng darlithwyr coleg yn fater rhwng yr undebau, y darlithwyr coleg a ColegauCymru. Felly, dyna'r berthynas. Yr hyn y gallwn ni ei wneud—. Rydym ni ychydig y tu allan i'r system i ryw raddau, ond rydym wedi bod yn falch iawn o allu eu cefnogi nhw yn yr achos hwn.

O ran cynllunio ymlaen llaw, rwy'n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud: mae adolygiad Hazelkorn ar y ffordd. Y broblem yw fod cryn dipyn o amser eto i aros amdano, a'r hyn nad wyf i'n ei ddymuno yw aros cyn i ni gymell, cyn i ni ddechrau symbylu'r colegau hyn. Pe byddem ni'n aros am adolygiad Hazelkorn, byddem yn aros am nifer sylweddol o flynyddoedd, ac nid wyf eisiau bod yn y sefyllfa honno. Felly, mae hyn yn ymwneud rhywfaint â'n harwain at sefyllfa debyg i'r dosbarthiadau chweched dosbarth. Rydym yn edrych ar y fethodoleg, er enghraifft, o ran sut yr ydym ni'n eu talu, yn gysylltiedig â newidiadau demograffig—mae hynny'n rhywbeth. Dyna'r hyn sy'n cael ei wneud yn y dosbarthiadau chweched dosbarth. Felly, rydym yn cyrraedd yr un fath o sefyllfa'n raddol. Ac, wrth gwrs, roedd angen inni ymateb, yn fy marn i, i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Felly, roedd hwnnw'n gymhelliad arall i ni symud ar y mater penodol hwn.

Ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydym wrth gwrs wedi cael yr adolygiad gan Dr John Graystone. Cafodd hwnnw ei anelu at lywodraethu yn benodol. Roedd yn edrych yn benodol ar Lywodraethu. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi ymateb, yn ymateb, i hwnnw. Mae'r cylch gorchwyl yn eglur nawr ar gyfer y cyhoedd. Cafwyd mater ynglŷn ag atebolrwydd cyhoeddus. Mae cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu rhoi bellach ar wefannau a phethau cyffelyb. Felly, mae tryloywder y broses yn llawer gwell. Rwy'n gobeithio y gwelwn ni, o benodi rhywun i fwrw trosolwg ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, fwy o gysondeb rhwng y partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rwyf i o'r farn eu bod yn gwneud gwaith da, a hoffwn eu hannog nhw i ddal ati, ond hoffwn gael rhywun sydd â dealltwriaeth o'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, y sefyllfa o ran cyflogaeth, a'r sector addysg bellach, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod mewn gwirionedd yn y man priodol yn hyn o beth. Mae'n gwbl hanfodol, rwy'n credu, inni wneud hyn yn iawn.

Ac yna, ar eich pwynt olaf, ynglŷn â—nid wyf yn cofio beth ydoedd.

Y ddarpariaeth ran-amser. Ie, darpariaeth ran-amser—yn sicr, rydym yn pryderu ynglŷn â hyn, a dyna pam y bu'n rhaid inni flaenoriaethu. Rydym wedi gwneud dadansoddiad i edrych ar sut effaith fyddai hyn yn ei chael. Wrth gwrs rydym wedi bod yn siarad â'r colegau am hyn. Bu'n rhaid n ni flaenoriaethu. Rydym yn wir yn gwneud yn siŵr fod yna gysondeb. Pan fyddwn wedi penderfynu ymhle i flaenoriaethu, er hynny, rydym wedi penderfynu ein bod yn awyddus i uwchsgilio a chanolbwyntio ar y rheini sydd â'r lefelau isaf o gymhwyster o ran darpariaeth ran-amser.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, ac a gaf innau hefyd yn y bôn gymeradwyo penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu'r dyfarniadau cyflog i ddarlithwyr a'r staff cymorth fel ei gilydd? Oherwydd yn aml iawn nid yw'r staff cymorth yn cael eu hystyried yn y trafodaethau hyn, Y nhw yw'r conglfaen sy'n caniatáu i'r broses gyfan weithio mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch iawn o hynny.

Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau cyflym ichi, Gweinidog. Rwy'n cytuno â Bethan yn yr ystyr bod darpariaeth ran-amser yn hanfodol. Mae angen inni edrych ar sut yr ydym am fynd i'r afael â'r mater hwn. Nawr, mae eich datganiad yn dweud y byddwch yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai nad oes ganddyn nhw ond lefel 2 neu'n is, ond 'allwn ni ddim anwybyddu'r rhai â lefel 3, oherwydd drwyddyn nhw y gallwn ni wella sgiliau ein gweithlu a rhoi cyfleoedd i bobl ddod yn eu blaenau a chodi eu hunain o sefyllfaoedd o dlodi mewn gwaith, fel y dywedwyd yn eich ateb. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni y byddwch hefyd yn cefnogi rhaglenni uwchlaw lefel 2 pe bai tystiolaeth yn dangos bod yr angen yno gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hefyd?

Yn y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a wnewch chi gadarnhau hefyd y byddan nhw'n edrych nid yn unig ar anghenion rhanbarthol, ond ar anghenion cenedlaethol, oherwydd yn aml iawn ni fyddai'r hyn sy'n briodol mewn un rhan o Gymru yn briodol efallai mewn rhan arall o Gymru? Ond nid ydym yn dymuno atal symudedd cymdeithasol y myfyrwyr rhag mynd ar ei hynt. Er enghraifft, rhywbeth yn y de-ddwyrain—pe na chaiff hwnnw ei ddarparu ond yn y de-ddwyrain yn unig, ni ddylem rwystro pobl yn y de-orllewin neu'r gorllewin rhag cael cyfleoedd i ennill sgiliau a allai mewn gwirionedd eu galluogi nhw i symud i'r mathau hynny o broffesiynau.

Roeddech chi hefyd yn nodi y byddwch chi'n trin yr arian neu'n gwirio'r arian—ariannu, yn y bôn. Ni fyddwch yn talu os na chaiff y cynlluniau eu darparu. Pa mor aml y byddwch yn asesu'r cynlluniau hynny i sicrhau eu bod yn cael eu darparu? A ydych hefyd yn mynd i asesu rheoliad ariannol y colegau i sicrhau eu bod yn cyflawni ar y canlyniadau y dylid cyflawni arnynt? Rydym wedi gweld sut mae colegau addysg bellach yn tyfu, rai ohonyn nhw'n fawr iawn, ac mae gan rai ohonynt fusnesau sy'n deillio o ganlyniad i roi arian ychwanegol iddyn nhw. Felly, yr hyn yr wyf am wneud yn siŵr ohono yw eu bod yn cyflawni'r amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyllid gan Lywodraeth Cymru.

A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd—? Yn eich datganiad roeddech chi'n tynnu sylw at y ffaith eich bod wedi gwneud rhai o'r pethau hyn—rhoddwyd ystyriaeth i rannau o'r ymgodiad—ond wedyn rydych yn sôn y bydd elfennau eraill yn cael eu hystyried yn y flwyddyn academaidd nesaf. Wel, pa elfennau sydd i'w hystyried yn y flwyddyn academaidd nesaf? Ai'r holl elfennau sydd ar ôl fyddan nhw, neu gyfran o'r elfennau hynny, a rhai i'w hystyried eto yn y flwyddyn wedi honno? Mae'n debyg mai'r peth pwysicaf yw: sut fyddwch chi'n sicrhau nad yw'r ergyd a gafodd addysg bellach—ac rydym i gyd yn cydnabod yr ergyd a gafodd addysg bellach—yn un na ellir ei gwrthdroi, a'n bod ni'n mynd i gyflawni? Oherwydd mae 'na lawer o bobl allan yna sydd angen cael eu rhoi ar y cyrsiau mynediad hynny, ar gyrsiau dychwelyd i'r gwaith, a chael cyfleoedd am waith. Mae'n faes yr ydym ni weithiau'n anghofio amdano—yr agweddau ar addysg i oedolion, sy'n dod â'r unigolyn hwnnw yn ôl i fyd dysgu addysgol ac yn rhoi'r brwdfrydedd iddo ar gyfer dod yn ei flaen a chael gwaith.

16:45

Rwy'n falch hefyd ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i arian ar gyfer y staff cymorth. Mae rhai o'r bobl hyn ar gyflog isel iawn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni wedi llwyddo i ddod o hyd i'r arian hwnnw ac yn eu cefnogi nhw. Fel yr ydych chi'n dweud, maen nhw'n staff hanfodol o ran gweithrediad y colegau, felly rwy'n falch bod hynny wedi digwydd.

O ran uwchsgilio, rwy'n credu bod pawb yn cydnabod mai hwn yw'r sector sydd wedi cael ergyd enfawr. Nid oedd neb yn dymuno i hynny ddigwydd, ac, os daw cyni byth i ben, rwy'n siŵr y bydd y sector hwn yn cael ei ystyried o ran ceisio'n galed i ailgychwyn y math o flaenoriaethau a oedd gennym ni ar gyfer y sector. Rwy'n credu, yn arbennig o ran ein hymrwymiad i addysg oedolion, fod hwn yn rhywbeth hanesyddol yr ydym ni wedi sefyll yn gadarn o'i blaid, rwy'n credu, yn enwedig yn ein plaid ni, ac rwyf i o'r farn mai'r hyn sydd angen ei wneud yw ceisio ailgychwyn y sefyllfa honno. Ond mae hynny'n anodd iawn oni bai fod y cyni ddod i ben, felly—.

Ond, o ran teneurwydd poblogaeth a'r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig, un o'r pethau y byddwn yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw yw gwneud yn siŵr pan fyddwn ni'n adolygu hyn eto—yw sicrhau bod pobl yn gallu cael eu haddysg ar sail cwricwlwm eang. Felly, pa mor bell ydych chi'n byw oddi wrth leoliad cwrs plymio? Mae'n costio llawer mwy i gynnal cwrs plymio mewn ardal wledig gan na fyddech o bosib yn cael y niferoedd a gewch chi mewn ardal drefol. Ac eto mae angen plymwyr ar bobl mewn ardaloedd gwledig. Felly, rydym yn ystyried sicrhau bod rhyw fath o linell sylfaen o gyrsiau sy'n angenrheidiol, ac mae'n bosib y byddwn ni'n dweud, 'Wel, byddwn yn rhoi cymhorthdal i'r rheini fel bod gennym gwricwlwm eang', a dyna un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w harchwilio ymhellach.

Ar y swyddogaethau cynllunio, ceir y fformiwla ariannu. Ond mae hynny'n mynd law yn llaw â'r fformiwla gynllunio ar gyfer y colegau hyn, y mae'n rhaid iddyn nhw gydgysylltu nawr â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. A'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw, 'Rydych chi wedi gwneud cytundeb. Dyma'r pethau y cytunwyd yn eich cynllun y byddech chi'n eu darparu. Ac os nad ydych chi'n darparu, yna bydd adfachu'n digwydd.' Caiff hynny ei wneud yn flynyddol. Ac rydych chi'n hollol gywir: mae addysg bellach wedi cael ergyd yn y gorffennol a, phan fydd modd, rwy'n siŵr y byddwn yn dod o hyd i'r arian i'n galluogi ni i adfer yr arian yr oedd yn rhaid, yn anffodus, ei dorri.

16:50
7. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a dulliau trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. A galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd a'i atal, trwy fentrau polisi newydd a buddsoddiad sylweddol. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol o arian yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan y Prif Weinidog, i fynd i'r afael yn benodol â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Heddiw, rwyf yn amlinellu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddyrannu i gefnogi cyfres o fesurau traws-Lywodraethol, gan gynnig cymysgedd o esblygiad a chyfle i arloesi, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd o ran atebion tai a chymorth, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu'r gwasanaethau a'r dulliau presennol i nodi ac ymateb yn well i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

I gryfhau ein sylfaen dystiolaeth ac i lywio ein penderfyniadau polisi ac ariannu yn y dyfodol, comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ddarparu adroddiad ar achosion ac atal digartrefedd ymhlith pob ifanc. Un neges gyffredinol a ddaeth o'r adroddiad oedd yr angen am weithredu traws-Lywodraethol, rhywbeth yr wyf i'n ei gydnabod yn llwyr, a dyna pam, yn gynharach eleni, y sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol traws-sector ac ar draws portffolios i'm cynghori ynghylch digartrefedd ymhlith pobl ifanc a thai yn gyntaf. Rwy'n ddiolchgar am waith y grŵp hwnnw sydd, ochr yn ochr â thrafodaethau â chyd-Weinidogion a'r ymgysylltu ag ymgyrch End Youth Homelessness Cymru, a fy nhrafodaethau â phobl ifanc sydd â phrofiad o ddigartrefedd a'r risg o fod yn ddigartref, wedi llywio'r dyraniad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw.

Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi cyfres gymhleth o ffactorau rhyng-gysylltiedig a all arwain at achosi i unigolyn ifanc fod yn ddigartref. Mae'r adroddiad wedyn yn nodi teipoleg pum rhan o atal: atal strwythurol, systemau atal, ymyrraeth gynnar, atal troi allan, a sefydlogrwydd tai. Mae adroddiad arall gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yna'n defnyddio'r deipoleg hon i fapio'r ddarpariaeth bresennol yng Nghymru, gan ddarparu sail gref ar gyfer llywio'r dyraniad cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, yn ogystal â datblygu polisi yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir, os ydym ni i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae angen inni fynd i'r afael â'r achosion gwreiddiol gan nodi'r rhai hynny sydd mewn perygl yn gynharach, a sefydlu mesurau i leihau'r ffactorau risg. Mae'n amlygu tystiolaeth gref i gefnogi dulliau aml-asiantaeth, cydgysylltiedig, gan gynnwys y prosiect Geelong, sy'n canolbwyntio ar fodel cydweithredol rhwng ysgolion a gwasanaethau ieuenctid, gan ddefnyddio offeryn sgrinio i nodi'r rhai hynny sydd mewn perygl, ac yna darparu fframwaith arfer hyblyg ac ymatebol. Mae llawer o egwyddorion Geelong eisoes yn weladwy yn y system addysg a'r gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru, lle mae gennym ni hanes o fwrw ymlaen â'r math hwn o ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus. Mae ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid wedi caniatáu inni adnabod yn gynt y rhai hynny sydd mewn perygl o beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, trefnu cymorth priodol, a monitro ac olrhain y cynnydd.

Mae union nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar y lefel isaf y buon nhw erioed, ac maen nhw'n lleihau bob blwyddyn ers cyflwyno'r fframwaith. Ymwelodd y Prif Weinidog â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol Hanger yn Aberbargoed ddoe i weld sut y mae'n gweithio yn ymarferol. Gwyddom ni fod yr un arwyddion rhybudd y gallai pobl ifanc fod yn NEET hefyd yn ddangosyddion da y gall person ifanc fod mewn perygl o chwalfa deuluol neu ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae sail resymegol glir felly ar gyfer datblygu'r dull hwn a gweithio gyda phartneriaid i ystyried y potensial sylweddol i gryfhau'r fframwaith ar gyfer diben ehangach.

Rwyf felly yn falch o gyhoeddi y bydd £3.7 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i grant cymorth ieuenctid i ddatblygu a chryfhau systemau a gwasanaethau presennol, gan ganolbwyntio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a defnyddio egwyddorion y model Geelong ymhellach a'u haddasu ar gyfer y cyd-destun Cymreig. Bydd y cyllid hefyd yn darparu ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cwnselwyr mewn ysgolion, swyddogion lles addysg, gweithwyr ieuenctid ac aelodau staff rheng flaen eraill i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth ehangach am ddigartrefedd a'r cysylltiadau i ffactorau risg eraill er mwyn gallu atal pobl ifanc yn well rhag bod yn ddigartref.

Mae'n hanfodol bod egwyddorion Geelong yn cael eu gwneud yn rhan annatod ar draws y gwasanaethau presennol i sicrhau y nodir yn ddi-dor y bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Bydd y cyllid gwerth £3.7 miliwn hefyd ar gael i ariannu cydlynydd digartrefedd ieuenctid ym mhob awdurdod lleol i ddatblygu'r agenda gydweithredol hon.

Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydnabod mai elfen hanfodol wrth fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yw sefydlogrwydd tai, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparu amrywiaeth o opsiynau cymorth a llety addas i bobl ifanc.  Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl bresennol yn ariannu ystod o brosiectau i helpu pobl ifanc i gael mynediad i lety a'i gynnal, ac mae'r adolygiad tai fforddiadwy yn ystyried rhai o'r cwestiynau strwythurol ehangach.

Fodd bynnag, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dweud wrthyf fod angen pendant am hyrwyddo ac annog dewisiadau newydd ac arloesol i letya a chefnogi pobl ifanc. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi £4.8 miliwn o gyllid i sefydlu cronfa arloesi newydd sbon i ddatblygu opsiynau tai a chymorth addas i bobl ifanc. Gallai'r rhain, er enghraifft, gynnwys tai yn gyntaf ar gyfer pobl ifanc, neu brosiectau penodol ar gyfer pobl ifanc a ryddheir o'r carchar neu sy'n gadael gofal.

Mae'n hanfodol ein bod yn deall yr amgylchedd presennol o opsiynau tai sydd ar gael i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cael ei yrru gan anghenion pobl ifanc. Felly, rwyf wrthi'n comisiynu darn byr o waith i asesu'r opsiynau tai presennol ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gyda golwg ar ddeall y bylchau yn well, a cheisio adeiladu ar yr opsiynau sydd ar gael a'u datblygu.

Agwedd arall a amlygwyd yn adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yw'r hyn y maent yn ei ddisgrifio fel atal systemau. Gwyddom fod plant sy'n gadael y system gofal yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref. Mae llawer o'r rhai sy'n gadael gofal yn dweud eu bod yn ansicr ynghylch sut i reoli cyllideb neu broblemau yr aelwyd, eu bod yn teimlo'n unig, ac, fel llawer o bobl ifanc, mae angen cymorth arnynt i wneud y trosglwyddiad i fyw'n annibynnol. I gydnabod hyn, cefnogodd Llywodraeth Cymru ddatblygiad fframwaith llety a chymorth y rhai sy'n gadael gofal, drwy Barnardo's Cymru, yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru.

Mae fy adran i wedi bod yn cydweithio'n agos â'r adran gwasanaethau cymdeithasol i nodi'r rhwystrau i weithredu'r llwybr yn effeithiol a mesurau eraill a allai fod eu hangen i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal. Mae grŵp dan arweiniad gwasanaethau tai a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd yn cael ei sefydlu i eistedd dan y grŵp gorchwyl a gorffen digartrefedd gweinidogol a'r grŵp cynghori gweinidogol plant sy'n derbyn gofal, a gadeirir gan David Melding, er mwyn cryfhau'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pobl ifanc trosglwyddo’n llwyddiannus o ofal i fyw'n annibynnol.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y caiff £1 miliwn o gyllid ei ddyrannu i'r Gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Bydd hyn yn dyblu'r gyfradd ac yn cryfhau'r cymorth ariannol uniongyrchol sydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal i'w helpu i bontio a gallu byw'n annibynnol a helpu i'w hatal rhag bod yn ddigartref. Mae'r cyllid hwn yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol ymarferol i'r rhai sy'n gadael gofal y byddai eraill yn ei ddisgwyl gan eu rhieni, gan ganiatáu iddynt symud yn llwyddiannus i fod yn oedolion ac yn annibynnol.

Mae atal systemau llwyddiannus hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth ehangach ymhlith holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r bobl ifanc am beryglon digartrefedd a'r gwasanaethau a'r ymyriadau sydd ar gael i gefnogi pobl ifanc. Felly, rwy'n dyrannu £0.25 miliwn ar gyfer gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu newydd, wedi'i dargedu. Bydd hyn ar ddwy ffurf, un yn benodol ar gyfer pobl ifanc a'r llall ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, i godi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a manteisio ar wasanaethau sydd ar gael. Byddwn yn cydweithio'n agos â'r ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, a bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy i brofi a rhoi cyngor ar y dull hwn o weithredu.

Tynnodd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sylw at y cymhlethdod o ddeall yr wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc. Felly, yn ychwanegol at gyfathrebu wedi'i dargedu, rwyf hefyd yn dyrannu £0.25 miliwn i waith cymorth tenantiaeth, gan gynnwys gwaith gyda Shelter Cymru a'i  llinell gymorth bresennol, i sicrhau y gall pobl ifanc gael gafael ar wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn eang.

Dirprwy Lywydd, mae gormod o waith eisoes yn mynd rhagddo sy'n sail i'r agenda hon ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gwaith ar brofiadau plentyndod andwyol, agwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl, a phwyslais ehangach ar gymorth emosiynol a llesiant ar gyfer pobl ifanc. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ategu, unioni ac atgyfnerthu gwaith presennol drwy weithio ar y cyd, ac mae'r cyllid hwn yn fwriadol yn gymysgedd o arloesi ac esblygiad er mwyn gwneud hynny.

Mae'r dyraniadau cyllid a gyhoeddwyd gennyf heddiw yn golygu dull o weithredu ar y cyd ac ataliol o ymdrin â'r mater cymhleth hwn, ac yn dangos ein hymrwymiad trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Diolch.

17:00

Rwy'n falch iawn o groesawu'r datganiad hwn. Yn benodol, cymeradwyaf yr elfennau canlynol: credaf fod y pwyslais ar bobl ifanc NEET yn hollol briodol, mae hwnnw'n ddangosydd risg mawr. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hon yn broblem gymhleth, ond mae angen dull sydd wirioneddol yn sicrhau bod pobl ifanc yn byw bywydau mor llawn â phosib. Felly, mae angen iddynt fod yn gwneud rhywbeth adeiladol â'u bywydau yn ogystal â chael cartref diogel. Felly, credaf fod y mater NEET yn hollol briodol fel dangosydd allweddol.

Rwy'n falch o glywed am y £4.8 miliwn sy'n mynd i gael ei fuddsoddi mewn cronfa arloesedd, a fydd yn cefnogi mesurau fel tai yn gyntaf. Rhaid imi ddweud fy mod i'n credu bod y model tai yn gyntaf yn arbennig o berthnasol o ran digartrefedd ieuenctid a galluogi pobl ifanc i gadw tenantiaethau gyda'r math hwnnw o gefnogaeth, a'r ffaith nad ydym yn troi ein cefnau arnynt. Felly, os bydd pethau'n digwydd a bod problemau i'w datrys, nid ydym yn eu troi allan ac maent yn cael ail neu drydydd cyfle, beth bynnag fydd angen. Mae'r model tai yn gyntaf, gyda chymorth cofleidiol gan asiantaethau amrywiol, yn allweddol. Felly rwy'n croesawu'r agwedd honno ar y cyhoeddiad yn benodol.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfeiriad at y rhai sy'n gadael gofal? Hefyd, cymeradwyaf waith Barnardo's yn y maes hwn. Rwyf hefyd yn falch o weld dyblu'r gronfa Dydd Gŵyl Dewi i helpu byw'n annibynnol. Roedd Carl Sargeant yn benderfynol y byddai'r gronfa Dydd Gŵyl Dewi yn sefydlu'r cysyniad hwn o fanc mam a dad a'i ddefnyddio yn y maes allweddol hwn.

Credaf hefyd, i'r rhai sy'n gadael gofal, mai tai fel arfer fydd yr angen mwyaf amlwg ar eu cyfer. Rwy'n credu bod cyrhaeddiad addysgol yn beth gwirioneddol bwysig i bobl ifanc mewn gofal, ond pan fyddant yn gadael gofal—er y gallant fod mewn rhyw fath o addysg o hyd—mae tai wedyn yn fater o angen dybryd iawn, iawn. A chredaf fod rhianta corfforaethol mewn gwirionedd yn golygu rhyw fath o ddull tai yn gyntaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r hyn a ddywedasoch am yr angen i bob asiantaeth gyhoeddus fod yn ymwybodol o'r risgiau o ddigartrefedd sy'n wynebu rhai pobl ifanc. Ac, unwaith eto, mae gennym y dull hwnnw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal plant, y rhianta corfforaethol hwnnw, mae'n perthyn i bawb, nid gwasanaethau plant yn unig, ond mae'n mynd ar draws yr holl asiantaethau cyhoeddus. Felly, croesawaf y cyfeiriad hwnnw yn eich datganiad.

Fodd bynnag, mae un neu ddau o bethau y credaf y dylwn bwyso am ateb arnynt, dim ond i weld beth yw syniadau Llywodraeth Cymru. Nid oes targed yn eich datganiad ar gyfer dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Nawr, gwn pan wnawn y mathau hynny o gyhoeddiadau, eu bod yn ddatganiadol, ond credaf o hyd eu bod yn gosod amcanion pwysig. Nawr, yn yr Alban, maent wedi haneru digartrefedd ieuenctid ers 2010. Yn Lloegr, ceir targed i haneru digartrefedd erbyn 2022, a'i ddileu erbyn 2027. Credaf y dylem ni osod rhai targedau hefyd. Nid wyf yn disgwyl ichi wneud hynny yn eich ateb, ond credaf y gallech ganfod bod dull gweithredu trawsbleidiol i hyn ac y byddem oll yn cytuno i'r ymrwymiad hwnnw ac i'r blaenoriaethau a'r costau ariannol y byddai'n rhaid ymrwymo iddynt wedyn. A chredaf y byddai hynny yn gosod gweledigaeth glir iawn ynghylch pa bryd yr ydym am ddileu'r pla hwn. Ond mae llawer sy'n ddefnyddiol yn y datganiad hwn, ac rwy'n n falch o'i gymeradwyo.

Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gyfraniad ac am ei groeso i'r cyhoeddiadau heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i David am y gwaith y mae'n ei wneud, ac y mae wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer, fel eiriolwr gwirioneddol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal ac sy'n gadael gofal. Rwy'n ei gymeradwyo ac, unwaith eto, yn diolch iddo am y gwaith a wna ar y grŵp cynghori gweinidogol hefyd.

Hoffwn roi sylw ar unwaith i'r mater a godwyd ynghylch targedau. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog y £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd mai ei fwriad fyddai dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru mewn 10 mlynedd, felly byddai hynny erbyn 2027. Nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran pa mor anodd fydd y dasg.

Yn y lle cyntaf, mae'n anodd iawn deall faint yn union o bobl ifanc sy'n ddigartref, oherwydd nid yw llawer ohonynt o anghenraid yn disgrifio eu hunain yn ddigartref. Os ydynt yn teimlo na allant aros yng nghartref y teulu ac maent yn cysgu ar soffa ffrind, er enghraifft, nid ydynt yn disgrifio eu hunain fel pobl ddigartref, ond byddem ni yn sicr yn ystyried eu bod yn ddigartref. Yn yr un modd, gall pobl ifanc gael eu hunain yn ddigartref o ganlyniad i'r teulu'n colli eu cartref. Felly, rydym yn deall yr amcangyfrif bod tua 7,000 o bobl ifanc yn ddigartref, a'r ffigur hwnnw yw'r ffigur a roddwyd i ni gan yr ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru. Credaf fod hynny mewn gwirionedd yn rhoi syniad inni o faint y dasg sy'n ein hwynebu.

Cyfeiriodd David Melding at y gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cyfrannu arian ychwanegol at hon, oherwydd rydym wedi gweld yr effaith y mae wedi'i chael eisoes. Ers ei lansio y llynedd yn unig, mae wedi helpu dros 1,900 o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i gael arian i gefnogi eu cyfnod pontio i fod yn oedolion. Mae'r astudiaethau achos yn dangos bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn hyblyg ac yn greadigol iawn gan awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc hynny yn yr un modd y gallai rhieni biolegol gefnogi eu plant.

Felly, er enghraifft, defnyddiwyd y gronfa i dalu am wersi gyrru i alluogi'r rhai sy'n gadael gofal i gael cyflogaeth ac addysg; taliadau pontio er mwyn galluogi parhad tenantiaeth a phreswylfa, neu oherwydd diffyg annisgwyl mewn budd-daliadau, er enghraifft; cofrestru ar gyrsiau; deunyddiau ar gyfer astudiaeth; gliniaduron ar gyfer astudiaethau addysg bellach ac uwch; a hefyd dillad a gwisgoedd ar gyfer gwaith—felly, pob math o gostau y gall pobl ifanc orfod eu hysgwyddo wrth iddynt symud ymlaen at fywyd fel oedolyn. Felly, mae'n gronfa gyffrous iawn, ac rwy'n falch o weld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud eisoes.

Un o rannau cyffrous iawn y datganiad heddiw i mi, rwy'n credu, yw'r gronfa arloesi honno. Rwyf wirioneddol eisiau cael y gofod lle gallwn gyflwyno syniadau da. Oherwydd un peth a ddysgais yn ystod y flwyddyn y bûm yn cydweithio'n agos â'r sector hwn yw ei fod yn sector sy'n byrlymu â syniadau da ac awydd i symud ymlaen ac edrych ar atebion a chyfleoedd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y math o gynlluniau a fydd yn cael eu cynnig.

Er mwyn eglurder yn unig, bydd proses ymgeisio am y cyllid hwnnw, ac mae'r meini prawf yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer hynny. Mae'r cyllid yn eistedd o fewn y grantiau atal digartrefedd, a bydd panel o fewn Llywodraeth Cymru yn helpu i benderfynu pa rai fydd y rhaglenni llwyddiannus. Ond yn bendant, gallai tai yn gyntaf fod yn un o'r mathau hynny o raglenni.

Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â'r Rock Trust yn yr Alban, sef y prosiect tai yn gyntaf cyntaf erioed yn y DU. Dechreuodd yn 2017, felly mae'n ddyddiau cynnar o hyd yno, ond maent yn frwdfrydig iawn ynghylch beth sy'n cael ei gyflawni yno. Roeddwn yn hoffi pan ddefnyddiodd David Melding yr ymadrodd 'beth bynnag y mae angen ei wneud', oherwydd, mewn gwirionedd, dyna ddull Rock Trust o weithredu tai yn gyntaf— mae'n fater o beth bynnag y mae angen ei wneud.

Hefyd, rwyf wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol bod yn rhaid i'n deddfwriaeth tai gael ei hystyried o fewn ysbryd hynny hefyd, yn hytrach na dim ond cyflawni dyletswyddau i lythyren y gyfraith. Un enghraifft fyddai person ifanc mewn perygl o ddigartrefedd. Ceir ymyriad uniongyrchol gan yr awdurdod lleol i geisio atal y digartrefedd hwnnw, ond, am ryw reswm neu'i gilydd, nid yw'n gweithio. Wel, maent wedi cyflawni eu dyletswyddau, ond, mewn gwirionedd, byddai ysbryd y gyfraith yn golygu eu bod yn dal i fynd yn ôl i sicrhau na fydd y person ifanc hwnnw yn cael ei hun yn ddigartref. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol ar hynny.

Unwaith eto, mae'r pwynt y mae David Melding yn ei godi ynglŷn â dealltwriaeth eang o beryglon digartrefedd ieuenctid a sut i'w nodi yn bwysig, ac y mae, unwaith eto, yn rhywbeth a nodwyd yn addas ar gyfer cyllid pellach yn fy natganiad i heddiw. Diolch i chi.

17:05

Mae digartrefedd yn ddewis gwleidyddol; mae'n ganlyniad i amryw o bolisïau a gellir ei ddatrys drwy bolisïau. Yn wir, roedd niferoedd y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yn llawer llai ddegawd yn ôl, diolch i bolisïau ar waith oedd yn ceisio cefnogi pobl a rhwyd ddiogelwch cymdeithasol a oedd, mewn gwirionedd, yn well nag y mae heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi'r datganiad yr ydych wedi'i roi inni. Rydym wedi aros dros flwyddyn am yr wybodaeth hon, a dwi ddim eisiau tanseilio gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ond maent yn dweud pethau wrthym yr ydym eisoes yn eu gwybod. Er enghraifft, mynd i'r afael ag achosion sylfaenol, lleihau ffactorau risg, gwaith traws-Lywodraeth—mae'r rhain yn bethau y dylid bod wedi eu rhoi ar waith cyn hyn, ac yn bethau a oedd yn hysbys inni eisoes. Felly, hoffwn lunio fy ymateb mewn cysylltiad â hynny.  

Nawr, fe aethoch i gynhadledd Argyfwng, a gwn ichi siarad yn y gynhadledd honno. Roeddwn am wybod a fyddech yn cefnogi'r argymhellion a wnaed yn benodol ar gyfer eich Llywodraeth, rai ohonynt a ddarllenaf allan yma heddiw. Felly,

Gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus perthnasol i atal digartrefedd ac i gydweithredu ag awdurdodau tai lleol i liniaru digartrefedd.

Cyflwyno terfynau amser llym ar y defnydd o lety dros dro o ddim mwy na saith diwrnod, a dylai hyn fod yn berthnasol i bob aelwyd ddigartref.

Ddiddymu meini prawf angen blaenoriaethol.

Cyflwyno dyletswydd i ddarparu llety brys ar unwaith i bawb sydd  heb unrhyw le diogel i aros hyd nes y diddymir angen blaenoriaethol.

Diddymu meini prawf cysylltiadau lleol ar gyfer pobl sy'n cysgu allan, a sicrhau nad yw bellach yn rhwystr i gymorth ar gyfer unrhyw un sydd dan fygythiad neu sy'n profi digartrefedd. Mae'r rhain yn llawer o awgrymiadau a roddwyd ar waith gan y sector, a chredaf y dylid ymateb iddynt.

Nawr, gwn eich bod wedi dweud eich bod am roi cyllid tuag at dai yn gyntaf. Mae fy mhortffolio i wedi newid, ond wn i ddim a ydych chi wedi cyhoeddi canlyniadau'r cynlluniau peilot, neu a yw'r arian newydd hwn yn fwriad i godi'r fenter tai yn gyntaf, o gofio eich bod chi wedi dadansoddi ei bod yn beth da?

Pan ddywedwch y bydd £3.7 miliwn o gyllid ar gael i ariannu cydgysylltwyr digartrefedd ieuenctid ym mhob awdurdod lleol i ddatblygu'r agenda gydweithredol hon, pa drafodaethau ydych chi eisoes wedi'u cael â Llywodraeth Leol yn hyn o beth? Rwy'n  cael negeseuon e-bost di-ri gan Lywodraeth Leol yn dweud eu bod wedi'u hymestyn i'r eithaf. A ydynt wedi cael unrhyw ymyrraeth ynghylch ble neu sut y byddent yn defnyddio'r arian hwn yn y ffordd orau?

Ac rwyf mewn penbleth braidd ynghylch beth fydd y gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu wedi'i dargedu gyda £1 miliwn yn cael ei roi tuag at hynny. Sut y byddwch yn ymgysylltu â phobl ifanc? Sut yr ydym yn mynd i allu olrhain datblygiad cynnydd yn hyn o beth, a pha waith fyddwch chi'n ei wneud wedyn gyda—? Nid ydych ond yn sôn am un sefydliad yma heddiw. Sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r sector ehangach i sicrhau y bydd pawb yn y maes hwn yn gallu cymryd rhan ynddo?

Dywedwch ei bod yn anodd, o bosib, gyrraedd y targed ymhen 10 mlynedd, ond rydym wedi aros yn hir iawn ar gyfer targed rhoi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid. Mae angen inni allu cael targedau canolraddol i ddeall sut y byddwch yn gallu cyrraedd y nod hwnnw, sut y byddwch yn cynnwys y sector a sut, yn y pen draw, y byddwch yn cynnwys pobl ifanc sy'n ddigartref mewn gwirionedd? Oherwydd dro ar ôl tro, maent yn teimlo'n ddi-fraint, maent yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw ac maent yn teimlo'n ynysig. Sut allwn ni sicrhau eu bod yn allweddol i gyflawni yn hyn o beth?    

17:10

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Mae'n drueni eu bod yn methu â chydnabod y gwaith mawr sydd eisoes wedi'i wneud ar hynny gyda chefnogaeth y Llywodraeth dros gyfnod hir, nid yn lleiaf drwy'r grant Cefnogi Pobl, y gwn fod gan ein dwy blaid ddiddordeb penodol ynddo. Felly, un enghraifft fyddai Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe. Dyna sefydliad lle mae pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnânt, ac mae ganddynt wasanaethau safle sefydlog o'r enw Drws Agored, sy'n darparu gwasanaeth brys ar gyfer naw o bobl ifanc ddigartref. Felly, mae hynny'n wirioneddol yn y rheng flaen o atal pobl ifanc rhag troi i gysgu ar y stryd. Ac maent hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen i bobl ifanc sy'n agored i niwed hyd at 25 oed sydd angen rhywfaint o gymorth i gynnal eu tenantiaeth. Dyna un enghraifft yn unig. Rwyf wedi bod i weld Llamau hefyd i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud, a ariennir hefyd gan Lywodraeth Cymru.

Felly, credaf ei bod yn annheg awgrymu, yn sydyn iawn, ein bod wedi deffro i'r her o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mewn gwirionedd, mae gwaith wedi digwydd ym maes digartrefedd ieuenctid ers blynyddoedd lawer, ac rydym wedi gweld fframwaith ymgysylltu a dilyniant ieuenctid bob blwyddyn, gan leihau nifer y plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, credaf ei fod yn gwneud tro gwael â phobl sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd yn y sector hwn i geisio sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hun yn ddigartref, a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn yr agenda hon dros gyfnod hir.

Felly, o ran sut y byddem eisiau mesur y targedau hynny, mewn gwirionedd credaf fod angen inni fod yn realistig a disgwyl, o bosib, gynnydd yn nifer y bobl yr ydym yn nodi eu  bod yn ddigartref yn y tymor byr. Byddai hynny o ganlyniad i'r gweithgaredd cyfathrebu hwnnw y byddem yn ei wneud a'r codi ymwybyddiaeth y byddem yn ei wneud o ran helpu'r bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid, mewn ysgolion ac ati, i nodi'r arwyddion risg y gallai person ifanc fod yn cysgu ar y stryd. Gwn fod llawer ohonom yn lansiad ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru a chlywsom lawer iawn yno ac yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc sydd â phrofiad personol o gysgu ar y stryd sut yr oeddent yn teimlo nad oedd y bobl hynny a oedd gweithio'n fwyaf agos gyda nhw wedi sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion y gallent fod yn cysgu ar y stryd.

Ar y mater o angen blaenoriaethol, rwyf eisoes wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad o angen blaenoriaethol—rwy'n deall yn iawn fod materion yno sy'n ymwneud ag angen blaenoriaethol. Fodd bynnag, byddwn yn dweud yr ystyrir bod pobl ifanc eisoes mewn angen blaenoriaethol. Felly, caiff pobl ifanc 16 neu 17 oed, drwy ddiffiniad, eu hystyried yn angen blaenoriaethol, ac ystyrir y rhai rhwng 18 a 20 oed sydd mewn perygl arbennig o gael eu hecsbloetio'n rhywiol neu'n ariannol hefyd yn angen blaenoriaethol, fel y bobl hynny hyd at 20 oed sydd wedi treulio amser mewn gofal. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y bydd ein hadolygiad o angen blaenoriaethol yn ei ddangos inni, ond ar hyn o bryd ystyrir y bobl ifanc hynny yn angen blaenoriaethol. A bydd y mater o gysylltiad lleol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad ehangach hwnnw o angen blaenoriaethol, fel y dywedais eisoes wrth y Siambr o'r blaen.

O ran mewnbwn gan y sector ehangach, mae gan y grŵp cynghori gweinidogol—neu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, dylwn ddweud—gynrychiolaeth eang iawn, iawn ar draws y sector gan yr holl sefydliadau, o'r sector cyfiawnder ieuenctid i awdurdodau lleol i'r ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, a'r heddlu ac ati. Felly, caiff ei gynrychioli'n eang yn y sector ac mae'n ymateb yn fawr iawn i'r pwynt hwnnw bod mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gorfod bod yn gyfrifoldeb traws-sector.

O ran tai yn gyntaf, mae'r cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt. Rydym bellach wedi nodi arian ychwanegol, a gyhoeddais yn ddiweddar, ar gyfer rhai prosiectau blaengar sy'n mynd â'r model tai yn gyntaf hwnnw i'r lefel nesaf, gan sicrhau eu bod yn gweithio'n agos iawn â gwasanaethau iechyd meddwl, â gwasanaethau trais yn y cartref ac â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau hefyd, i geisio cael dull mwy integredig o ddiwallu'r anghenion hynny sydd gan bobl.

I orffen ar y pwynt penodol hwn, mae'r rhwydwaith tai yn gyntaf wedi cynhyrchu dogfen safonau tai yn gyntaf, yr ydym wedi cytuno arni bellach yn Llywodraeth Cymru. Felly, er mwyn i wasanaeth allu ystyried ei hun yn wasanaeth tai yn gyntaf, rhaid iddo fodloni’r holl safonau hynny. Oherwydd un o'm pryderon oedd bod rhai prosiectau rhagorol yn galw eu hunain yn brosiectau tai yn gyntaf nad oeddent yn glynu at egwyddorion tai yn gyntaf Llywodraeth Cymru, ac roedd hynny'n destun pryder. Felly, er bod angen mawr am fodelau ailgartrefu cyflym iawn, nid yw tai yn gyntaf i bawb. Ond mae angen inni aros yn driw i'r egwyddorion hynny o dai yn gyntaf os ydym yn bwriadu galw'r prosiectau hynny yn brosiectau tai yn gyntaf.

17:15

Croesawaf yn fawr iawn y sylw yr ydych chi'n ei roi i'r pwnc pwysig hwn a'r dull gweithredu cydgysylltiedig yr ydych chi'n ei roi iddo. Cytunaf yn llwyr fod NEET yn ddangosydd gwirioneddol o ddigartrefedd ieuenctid posib, ac un o'r pethau y mae angen inni ei wneud ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw sicrhau bod ein holl ysgolion yn rhoi sylw i les eu holl bobl ifanc—mewn rhai o'n hysgolion mae arnaf ofn eu bod yn rhy awyddus i gael gwared ar bobl sydd angen cymorth ychwanegol ac mewn gwirionedd mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei atal rhag digwydd.

Ar un lefel, rwy'n synnu eich bod yn gorfod buddsoddi cymaint o arian mewn hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cwnselwyr a swyddogion lles addysg mewn ysgolion, oherwydd byddwn wedi tybio eu bod eisoes yn eithaf cyfarwydd â chymhlethdodau'r broblem hon. Ond ar y llaw arall, efallai mai'r hyn sydd ei angen yw ystyried anallu rhai ysgolion i gefnogi'n briodol bobl ifanc sy'n cael anawsterau.

Ddoe ymwelais â'r prosiect Grassroots yng Nghaerdydd, sydd yn Heol Siarl yng nghanol y ddinas. Mae hwn yn brosiect ieuenctid sydd wedi bod yn mynd am bron 40 mlynedd. Cafwyd tystiolaeth glir o ragoriaeth eu gwaith—dull cydgysylltiedig, yn union gyferbyn â'r swyddfa tai ieuenctid ac yn llythrennol i lawr y ffordd o'r Ganolfan Byd Gwaith lle'r oedd yn rhaid i bobl fynd a hawlio eu budd-daliadau. Ond, yn ogystal â hynny, cyfarfûm â nifer o bobl ifanc a oedd yn amlwg wedi ymwneud â Grassroots am nifer o flynyddoedd, ac yn amlwg bellach mae hwn yn gorff y maen nhw wedi dod i ymddiried ynddo. Ac, mewn llawer o achosion, mae'n stori o lwyddiant ardderchog, ac mae ansawdd eu gwaith yn wirioneddol arbennig.

Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â dyn ifanc sydd yn ddiweddar wedi cael diagnosis o awtistiaeth, yn 25 oed, felly mae'n amlwg nad oeddem yn gwneud y peth iawn pan oedd ef yn yr ysgol. Mae'n ei chael yn anodd ar hyn o bryd, mae rhwng swyddi, ond roeddwn yn falch iawn o glywed bod mentrau awtistiaeth yn rhoi cymorth iddo gael tŷ annibynnol. Ar hyn o bryd, mae'n byw gyda'i fam, ond mae'n amlwg nad yw'n awyddus i barhau i wneud hynny, felly mae'n wych bod sefydliad arall sy'n arbenigo mewn awtistiaeth yn lleol i'w helpu gyda'r agwedd honno.

Un arall oedd rhiant ifanc a oedd yn byw mewn tŷ sector preifat gwirioneddol arswydus. Gwn nad yw yn fy etholaeth i, a gwn fod yr Aelod Cynulliad yn ymwybodol ohono. Ac wrth gwrs roedd yn gwneud ei gorau glas i fod yn rhiant i blentyn a oedd yn edrych yn hapus iawn ac yn ffynnu, felly pob lwc iddi hi ar ôl blynyddoedd lawer o gefnogaeth gan Grassroots.

Ac yn drydydd cwrddais â merch ifanc sy'n agored i niwed nad yw'n barod ar gyfer mynd i fyw mewn tŷ annibynnol. Pe byddem yn rhoi tenantiaeth iddi, byddai'n torri i lawr ar unwaith bron. Ac felly hoffwn ofyn ichi, Gweinidog, pa waith yr ydym yn ei wneud i ganolbwyntio ar dai â chymorth sydd eu hangen ar lawer o bobl ifanc sy'n cael eu hun yn ddigartref er mwyn eu galluogi wedyn i lwyddo i gael tenantiaeth? Oherwydd mae'n ymddangos i mi ein bod angen llety cyntedd, fel yr hyn a ddarperir gan St Basils yn Birmingham, lle mae ganddyn nhw 29 o hostelau gwahanol i gefnogi pobl ifanc, gan gynnwys rhai â theuluoedd, i sicrhau ein bod yn eu rhoi ar y llwybr cywir cyn iddynt fynd i'w cartrefi eu hunain, sydd wedyn yn syrthio i lawr. Maent yn union yr un egwyddorion tai yn gyntaf a ddefnyddiwn ni ar gyfer pobl sy'n gaeth i sylweddau a phobl â phroblemau iechyd meddwl o bob oedran.

Gwn fod Llamau yn gwneud rhywfaint o waith ac mae ganddynt rywfaint o lety mewn hostel, ond tybed faint o sylw a fu ar sicrhau bod hyn ar gael ledled Cymru. Mae'r gwaith a wneir gan Grassroots—eu gwaith estyn allan ar y stryd—yn nodi bod o leiaf un rhan o dair o'r bobl ifanc hyn yn dod o rywle arall y tu allan i Gaerdydd oherwydd does neb eisiau bod yr unig berson traws yn y pentref ac mae pobl sy'n wynebu agweddau beirniadol yn hytrach nag empathi yn rhwym o ddod i'n dinasoedd. Felly, credaf y dylem ganolbwyntio ar y math o dai â chymorth sydd eu hangen i sicrhau bod ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn cael eu galluogi'n llwyddiannus i fynd yn ôl i fyw bywyd llwyddiannus.

17:20

Diolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y prosiect Grassroots yng Nghaerdydd, felly byddaf yn siŵr o geisio ymweld ag yno i ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd ac unwaith eto byddaf yn edrych ar yr enghraifft a roddwyd gennych o St Basils yn Birmingham, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar arfer gorau lle bynnag y gallwn ddod o hyd iddo.

Soniasoch am y dyn ifanc ag awtistiaeth a oedd yn cael ei gefnogi i fyw'n annibynnol. Rwy'n falch o weld bod yr unigolyn hwnnw bellach yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Rwyf wedi bod yn awyddus o fewn y portffolio hwn i ystyried fy nghyfrifoldebau blaenorol, ac un o'r pethau a gyflwynwyd gennym yw rhywfaint o ganllawiau newydd ar dai sy'n ymwneud yn benodol â sut orau i gynnig cymorth i bobl ag awtistiaeth, ac mae hynny o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn ehangach drwy gyfrwng cynllun gweithredu strategol Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)—unwaith eto, darn o waith yr ydym yn gweithio arno ar draws y Llywodraeth.

Cyfeiriasoch hefyd at berson ifanc nad yw'n hollol barod i symud ymlaen i fyw'n annibynnol, ac mae hynny'n adlewyrchu'n fawr iawn y math o drafodaethau yr ydym wedi'u cael o fewn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, lle clywsom am bobl ifanc a oedd yn credu eu bod yn barod ond nad oeddent. Ac eto dyna'r math o enghraifft a roddais i David Melding lle mae unigolyn angen yr ail gyfle hwnnw, trydydd cyfle neu faint bynnag o gyfleoedd a gymer i gael cefnogaeth er mwyn gallu symud ymlaen i fod yn oedolyn ac i fod yn annibynnol.

Un darn o waith sy'n mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth, unwaith eto, yw rhywfaint o waith ehangach ar y polisi 'Pan fydda i'n barod', ond nid edrych arno o ran pobl ifanc yn unig o fewn yr amgylchedd gofal maeth, ond gofal preswyl yn fwy eang. Felly, credaf y bydd hwnnw'n ddarn pwysig o waith wrth symud ymlaen hefyd. Yr enghraifft a glywsom am Llamau, rwy'n gyfarwydd iawn â hynny. Rwyf wedi ymweld â nhw yng Nghaerdydd ac wedi cael y cyfle, unwaith eto, i siarad â rhai o'r bobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio'n gadarnhaol iawn gan y gwasanaethau a gawsant yno.

Rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn gysylltu'r gronfa arloesi a gyhoeddwyd gennym heddiw ag arian cyfalaf Llywodraeth Cymru. Gallai fod potensial ar gyfer rhagor o wasanaethau o'r math cyntedd hwnnw a ddisgrifiwyd gennych o bosib yn cael eu cyflwyno fel prosiectau o dan hynny. Mae'r model cyntedd yn llywio llawer o'r gwaith Cefnogi Pobl sydd eisoes yn digwydd ar hyn o bryd, ac yn sicr mae'n dwyn ymlaen yr egwyddorion Geelong hynny y cyfeiriais atynt yn gynharach yn fy natganiad.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac ymddiheuriadau i'r rhai a oedd eisoes ar y rhestr i siarad, ond does dim amser ar ôl.

8. Dadl: Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

Eitem 8 ar yr ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar y gyfraith sy'n deillio o Reoliadau 2018 Deddf Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6867 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2018.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, hoffwn ddechrau drwy ein hatgoffa pam y datblygwyd y darn hwn o ddeddfwriaeth, Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel yr oedd ar y pryd, yn y lle cyntaf, yn gynharach eleni.

Datblygwyd y Bil gennym, fel y dywedodd y Prif Weinidog droeon ar lawr y Cynulliad, fel mesur wrth gefn; mesur a gynlluniwyd i amddiffyn y setliad datganoli ar gyfer achos pan na fyddai Llywodraeth y DU yn diwygio ei Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) mewn modd a fyddai'n dileu'r bygythiadau gwirioneddol yr oedd yn eu cynnwys ar gyfer ein datganoli ni yma yng Nghymru a rhyddid y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi'u datganoli. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth, pe byddai Bil Ymadael yr UE wedi'i ddeddfu fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, y byddai wedi achosi adfachu gwirioneddol a chanoli pwerau i San Steffan. Dyna pam y gwnaethom ni ddechrau ar broses hir a manwl o drafod rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU, pryd y gwnaethom ni sicrhau cytundeb newydd sy'n darparu dulliau amddiffyn cryf ar gyfer buddiannau hollbwysig Cymru.

Mae'r cytundeb y daethom iddo wedi sicrhau nad oes yr un cyfrifoldeb datganoledig wedi gadael y Cynulliad hwn. Mae meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli, ac mae'r mesurau diogelwch angenrheidiol ar waith i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir. Mae datganoli wedi'i ymwreiddio yn y cytundeb rhynglywodraethol, nid ei wanhau ganddo, a'i danseilio ganddo fel y byddai Bil Ymadael yr UE, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, yn sicr wedi ei wneud.

Dangoswyd hyn i gyd yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hadroddiad chwarterol cyntaf ar weithrediad Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel y mae hi'n awr, a fframweithiau cyffredin. Nododd yr adroddiad hwnnw, sydd wedi'i roi ar gael i'r Cynulliad, gynnydd sylweddol ar y cyd ar fframweithiau cyffredin a chydweithio parhaus i sicrhau bod y llyfr statud yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael. O ganlyniad i'r cynnydd sylweddol hwnnw ar y cyd, nid oes unrhyw gynigion i rewi llyfr rheolau presennol yr UE y tu hwnt i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn cyflawni popeth yr aethom ati i'w gyflawni drwy gytundeb, fel y gwnaethom ddadlau y gallem ei wneud ar hyd yr amser. Mae'r cynnydd hwn wedi'i groesawu, nid yn unig gennym ni ein hunain, ond gan Lywodraeth yr Alban hefyd. Ac fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud, sefydlodd y cytundeb gydraddoldeb rhwng gweinyddiaethau sydd er lles gorau Cymru a Chymru yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r agwedd honno yn cael ei hadlewyrchu hefyd yn natblygiad offerynnau statudol o dan Ddeddf Ymadael yr UE sy'n addasu cyfreithiau sy'n deillio o'r UE, fel bod hynny yn weithredol ar adeg ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n weithred sydd â mwy o frys yn perthyn iddi gan fod y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' wedi cryfhau yn y cyfnod ers y lluniwyd y cytundeb rhynglywodraethol. Pan fo'r offerynnau statudol yn cynnwys darpariaethau ynghylch materion datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru, yn unol â'i hymrwymiadau o dan y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, cyn eu gosod gerbron y Senedd, a byddwn yn hysbysu'r Aelodau Cynulliad pan gânt eu gosod.

Y gwir amdani yw ein bod wedi cael yr holl drosoledd sydd ar gael o'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd a nawr yw'r amser i ofyn i'r Cynulliad hwn wneud yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i'w wneud yn y cytundeb rhynglywodraethol—diddymu'r Ddeddf. Mae hyn yn fater o frys erbyn hyn. Fel y nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae rhaglen o offerynnau statudol unioni eisoes o dan bwysau sylweddol o ran amser. Bydd diddymu'r Ddeddf yn dileu un rhwystr sy'n amharu ar gynnydd is-ddeddfwriaeth y DU, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ein rhaglen ni ein hunain. Os na wnawn ni hynny, bydd y perygl o fod ag ôl-groniad deddfwriaethol na ellir ei reoli yn y fan yma yn y flwyddyn newydd yn cynyddu, ac nid yw hynny er budd busnesau Cymru na dinasyddion Cymru. Beth bynnag, nid yw'r her a wynebwn nawr—sut i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd at y cytundeb ymadael sy'n gallu ennyn consensws gwleidyddol eang, yn hytrach nag un sy'n bygwth dod â ni at ymyl y clogwyn mwyaf peryglus—yn un y gall y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE ein helpu i fynd i'r afael ag ef. Mae'r Ddeddf hon wedi gwneud ei gwaith. Mae'n amser symud ymlaen. Dyna pam, yn unol â'r gweithdrefnau uwch a nodir yn y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, roedd y rheoliadau drafft i ddiddymu'r Ddeddf wedi'u gosod am 60 diwrnod, gan roi cyfle i sylwadau gael eu gwneud. Mae'r cyfnod o 60 diwrnod wedi dod i ben, a bydd yr Aelodau wedi gweld o'm datganiad ysgrifenedig mai dim ond un sylw a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ymgysylltiad parhaus â'r ddeddfwriaeth a'i ystyriaeth o'r rheoliadau drafft. Nid oedd dim yn yr hyn a ddywedodd y pwyllgor sy'n sefyll yn ffordd diddymu. Mae er budd Cymru ein bod yn gwneud hynny nawr a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig i gymeradwyo'r rheoliadau a fydd yn galluogi'r Ddeddf i gael ei diddymu heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:30

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw i ddiddymu Deddf Cyfraith sy'n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)? Fel y bydd y Llywodraeth a phob Aelod o'r Siambr hon yn ymwybodol, fe wnaethom ni wrthwynebu'r Ddeddf hon pan gafodd ei chyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel Bil brys, gan ddefnyddio gweithdrefnau argyfwng—darn sylweddol o ddeddfwriaeth na chawsom ond 14 diwrnod i graffu arno. Fe wnaethom ddweud ar y pryd ei fod yn Fil diangen oherwydd ein bod yn ffyddiog y gellid dod i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a oedd yn parchu'r setliad datganoli ac a oedd yn darparu ar gyfer y pryderon, pryderon cwbl briodol, a oedd gan rai pobl yn y Siambr hon, ac a oedd gan Lywodraeth Cymru yn gwbl briodol ynghylch y Bil Ymadael â'r UE a ddrafftiwyd yn wreiddiol, fel yr oedd ar y pryd. Ac, wrth gwrs, cafwyd y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw o fewn wythnosau i basio'r ddeddfwriaeth frys drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Fe wnaethom ni groesawu, wrth gwrs, yr ymgysylltu parhaus a gafwyd o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw ynghylch proses Brexit a sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth, sydd wedi'i mabwysiadu gan y DU yn ystod ei haelodaeth o'r UE, yn parhau i fod ar waith yn y dyfodol.

Nawr, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu ei bod yn siomedig y bu oedi tra sylweddol, mewn gwirionedd, wrth gyflawni'r ymrwymiad y gwnaeth Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU yn rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw. Fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n diddymu'r Bil hwn ac rwy'n credu bod pawb yn disgwyl y byddai hynny'n digwydd yn llawer cyflymach na'r misoedd lawer y mae hi wedi'i gymryd cyn i chi gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ond rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud nad yw'r Bil hwn yn cynnig unrhyw drosoledd i Lywodraeth Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol, o ran gwasgu unrhyw beth arall allan o Lywodraeth y DU o ran parch tuag at y setliad cyfansoddiadol. Rydym ni wedi gweld llawer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol, rhai ohonyn nhw sy'n mynd drwy'r camau pwyllgor, a drafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore yma—y Bil Pysgodfeydd, y Bil Gofal Iechyd (trefniadau rhyngwladol), ac rwy'n siŵr y bydd llawer o rai eraill. Pan fo mater y mae angen ei ystyried gan y Cynulliad hwn, yn gwbl briodol bydd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno. Roeddem ni bob amser o'r farn mai'r broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol oedd yr 'ôl-stop', os mynnwch chi, ar gyfer sicrhau pwerau i'r Cynulliad hwn a gwneud yn siŵr bod yna barch priodol ar gyfer datganoli. Rwy'n credu bod y cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ond, hefyd, wrth gwrs, mae arfer Gweinidogion Llywodraeth y DU ers i'r cytundeb hwnnw ddod i rym wedi dangos yn sicr bod llawer o barch gan Lywodraeth y DU o ran y setliad.

Felly, rwyf yn gobeithio y bydd pleidiau eraill mor gyfrifol ag y bu Llywodraeth Cymru o ran parchu'r penderfyniad a wnaethpwyd i gytuno gyda Llywodraeth y DU ar brotocol clir ar gyfer sicrhau bod ateb ymarferol priodol i amddiffyn yr hawliau hynny a bwrw ymlaen â'r cyfreithiau hynny, a oedd eisoes wedi eu mabwysiadu o ran deddfwriaeth y DU, a gwneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed yn rhan o'r broses honno. Roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran fframweithiau ledled y DU, ac efallai wrth ymateb i'r ddadl heddiw y gallech chi ymhelaethu ychydig mwy ar y rheini. Rwy'n gwybod, cyn belled ag y mae cydweithwyr yn Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, eu bod nhw'n falch iawn â'r ymgysylltu sydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth yr Alban, wrth ddatblygu'r fframweithiau hynny, a thîm Gogledd Iwerddon—os y gallaf ei alw'n hynny, oherwydd yn amlwg, nid oes Gweithrediaeth ar hyn o bryd—a chredaf ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i weithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod y fframweithiau hynny er budd gorau'r Deyrnas Unedig gyfan, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod Cymru yn cael llais sylweddol wrth y Bwrdd pan fydd y fframweithiau hynny yn cael eu datblygu. Felly, byddwn ni'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw.

17:35

Mae'n rhyfedd, Llywydd, wrth edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, fwy neu lai, ar y daith y mae'r Ddeddf parhad wedi ei dilyn ers iddi gael ei chrybwyll am y tro cyntaf, ac, yn wir, yn groes i lên gwerin y Cynulliad hwn, nid fi oedd yr Aelod cyntaf o'r lle hwn i godi'r posibilrwydd o lunio Deddf parhad ar lawr y Siambr hon. Y person sydd bellach yn swyddogaeth Cwnsler Cyffredinol Cymru oedd yr Aelod cyntaf—roedd ef o fy mlaen i, sydd fwy na thebyg yn esbonio pam mae ef wedi mynd ymlaen i bethau gwell yn y cyfamser.

Mae wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf, er hyn, bod Aelodau o bron bob ochr yn gallu cytuno bod deddfu, er mwyn cynnal datganoli yng nghyd-destun ymadael â'r UE, yn briodol ac yn angenrheidiol. Rwy'n digwydd credu ei fod ymhlith gweithredoedd gorau y Senedd hon ein bod wedi gweithredu ar draws y pleidiau er budd rhywbeth sy'n llawer mwy na ni ein hunain fel gwleidyddion unigol neu fel pleidiau gwleidyddol unigol: ein cenedligrwydd gwleidyddol mewn gwirionedd. Ac ni ddylem anghofio bod hynny yn y fantol pan ddrafftiwyd y Bil ymadael i ddechrau. Credaf hefyd y dylid talu teyrnged arbennig i'r rhai a luniodd y Bil parhad yn y lle cyntaf. Nid oedd hwn yn ddarn hawdd o ddeddfwriaeth i'w ddrafftio. Mae'n hynod dechnegol a dyrys, ac mae'n glod i'w awduron.

Fel Llywodraeth Cymru, byddai'n llawer gwell gennyf pe na byddai angen o gwbl, nac yn y lle cyntaf, ar gyfer deddfwriaeth parhad Cymru. Fy marn i, erioed, oedd y gallai Llywodraeth y DU, pe bydden nhw mewn gwirionedd yn gwerthfawrogi yr undeb hwn, pe bydden nhw wir yn parchu cenhedloedd y DU, yna gallai a dylai'r dull o ymadael â'r UE, o'r cychwyn, fod wedi cael ei drafod rhwng cenhedloedd y DU cyn y sbardunwyd Erthygl 50 hyd yn oed. Credaf y gallai model ymadael 'ymuniad wedi'i wrthdroi' fod wedi cyflawni hyn yn gyfforddus. Dewisodd Llywodraeth y DU beidio ag ymgysylltu a'r Llywodraethau datganoledig ar sail partneriaeth a pharch, ac yn fwriadol penderfynodd i beidio â gwneud hynny ar bob cam o'r broses hon ers y refferendwm. Daeth deddfwriaeth parhad, felly, yn hanfodol, oherwydd nid oedd unrhyw ffordd arall o sicrhau'r dymuniadau a fynegwyd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm datganoli.

Llywydd, mae'n drist iawn bod y consensws a luniodd y Ddeddf parhad bellach wedi diflannu yng ngoleuni'r cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan. Rwy'n anghytuno yn ddiffuant ac yn ddidwyll   ag Ysgrifennydd y Cabinet o ran yr angen parhaus am ddeddfwriaeth parhad. Credaf fod angen y Ddeddf parhad o hyd ac y dylai aros ar y llyfr statud, a chredaf hynny am bedwar rheswm sylfaenol.

Yn gyntaf, rwy'n credu bod y cytundeb rhynglywodraethol yn methu â chyflawni'r camau diogelu angenrheidiol i sicrhau bod deddfau Cymru yn rhydd o ymyrraeth unochrog gan Weinidogion yn Llundain. Yn wir, Llywydd, mae adran 6 y cytundeb yn ei gwneud yn glir y gall Gweinidogion y DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Cymru hyd yn oed. Yn ail, gwyddom bellach fwriad Llywodraeth y DU drwy'r cytundeb ymadael drafft, o gofio ein bod yn gwybod ei fod yn methu â diwallu'r dyheadau o sicrhau dyfodol Cymru, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i hwyluso cytundeb ymadael Llywodraeth y DU drwy diddymu ein hamddiffyniad ddeddfwriaethol. Mae hynny'n ymddangos yn wrthddywediad amlwg yn wleidyddol i mi.

Yn drydydd, nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU mewn unrhyw sefyllfa i ni ymddiried ynddi i hyd yn oed ofyn i Weinidogion Cymru a ydyn nhw'n cytuno â gweithrediad y Ddeddf ymadael yn y dyfodol. Mae ganddyn nhw hanes o dorri Confensiwn Sewel, gadewch inni beidio ag anghofio, ac yn eu hanobaith newydd nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddan nhw'n gwneud hynny eto heb feddwl ddwywaith.

Yn bedwerydd, mae amseru'r diddymu arfaethedig hwn yn annealladwy. Rydym ni'n aros am ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf parhad yr Alban. Oni fyddai'n well i Aelodau yn y fan yma wneud penderfyniad priodol ynghylch diddymu ein deddfwriaeth ai peidio ar sail yr wybodaeth lawn am y goblygiadau cyfreithiol a chyfansoddiadol y bydd y dyfarniad hwnnw yn ei roi inni.

Mae'r mater hwn, Llywydd, i mi, erioed wedi bod yn fwy na phersonoliaethau, pleidiau a hyd yn oed gwleidyddiaeth ei hun. Rwy'n ofni'n fawr iawn y gallai cynseiliau a osodir yn awr yn ystod y cyfnod eithriadol hwn fod gyda ni ymhell i'r dyfodol a bwrw amheuaeth parhaol ar allu'r lle hwn i ddeddfu mewn meysydd allweddol, a gallai yn sicr normaleiddio arfer newydd San Steffan o ddeddfu mewn materion datganoledig yn y dyfodol. Rwy'n credu yn syml nad oes gan neb yr hawl i ddefnyddio Brexit nac unrhyw argyfwng arall fel esgus i newid cyfreithiau datganoledig Cymru heb gytundeb Aelodau'r Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'r hyn sydd yn y fantol yn y fan yma yn mynd y tu hwnt i ddarn o ddeddfwriaeth. Mae hyn yn ymwneud â diogelu mewn cyfraith Cymru yr holl hawliau a'r safonau hynny sydd mor bwysig inni fel na all unrhyw un eu cymryd oddi arnom. Rydym yn sôn yn aml am genedlaethau'r dyfodol yn y lle hwn. Mae'r cenedlaethau y bydd penderfyniadau fel hwn heddiw yn effeithio arnyn nhw'n ddirifedi, ac anogaf yr Aelodau i wrthod diddymiad y Ddeddf parhad hon y mae dirfawr angen amdani.

17:40

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a hoffwn fynegi fy niolch i Steffan Lewis am uniondeb y diben a'r egwyddor y mae wedi ei gyfrannu i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei swyddogaeth, yn enwedig wrth ddatblygu, wrth gwrs, yn y dyddiau cynnar hynny ar ôl y refferendwm Brexit, y papur 'Sicrhau Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser ers ei sefydlu. Ond rwy'n cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, ac nid yw hynny'n syndod, oherwydd roeddwn yn croesawu canlyniad negodiadau Ysgrifennydd y Cabinet, a arweiniodd at y cytundeb rhynglywodraethol yn gynharach eleni, a oedd yn adlewyrchu ein gwelliannau arfaethedig i Fil Ymadael Llywodraeth y DU. Roeddwn yn croesawu ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, a oedd yn rhoi sicrwydd a thystiolaeth bod y llwybr yr oedd yn ei gymryd yr un cywir, ac yn darparu'r canlyniadau yr oeddem yn galw amdanynt i ddiogelu ein pwerau.

Nawr, os cofiwch chi, o ganlyniad i Ddeddf Ymadael y DU, ar ôl yr hyn a gyflawnwyd gan y cytundeb rhynglywodraethol, cefnogodd y pwyllgor materion allanol a deddfwriaeth ychwanegol yr angen i Lywodraeth y DU adrodd i'r Senedd ar faterion sy'n ymwneud â fframweithiau ac unrhyw ddefnydd o'r hyn a elwir yn bwerau rhewi adran 12 i gynnal dros dro terfynau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Fe wnaethom alw ar ein Rheolau Sefydlog i'w gwneud yn ofynnol i adroddiad o'r fath gael ei osod gerbron y Cynulliad, o fewn diwrnod iddo gael ei osod yn Senedd y DU, ac yn wir cafodd ei osod, ac rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 13 Tachwedd.

A gaf i eto gydnabod pwysigrwydd y cytundeb rhynglywodraethol? Ysgrifennydd y Cabinet a lwyddodd i gael Llywodraeth y DU i newid ei safbwynt fel y dylai'r holl bwerau datganoledig a meysydd polisi fod yng Nghaerdydd a Chaeredin, oni bai bod meysydd lle gellir cytuno ar fframweithiau cyffredin. O ganlyniad i negodiadau dwys dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae gennym y canlyniad cadarnhaol hwn o ran meysydd cyffredin hyn y DU, ac rwy'n credu ei bod werth cofnodi eto heddiw yr hyn yr oedd rhagair gweinidogol Llywodraeth y DU yn ei ddweud yr wythnos diwethaf:

Ar sail y cynnydd sylweddol a wnaed ar y cyd ar fframweithiau’r dyfodol, a’r cydweithio parhaus i sicrhau bod y llyfr statud yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi dod i’r casgliad nad oes angen iddi gyflwyno unrhyw reoliadau o dan adran 12 ar hyn o bryd.

Unwaith eto, mae effaith gadarnhaol y canlyniad hwn yn glir oherwydd mae'n mynd ymlaen i ddweud:

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn parhau i ymrwymo i beidio â chreu gwahaniaeth lle y byddai hynny’n torri ar draws fframweithiau yn y dyfodol, lle y cytunwyd eu bod yn angenrheidiol neu lle mae trafodaethau’n parhau.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ymateb cadarnhaol heddiw gan Lywodraeth yr Alban i'r canlyniad hwn hefyd. Felly roedd datblygu'r Bil parhad yn bwysig, ond roedd bob amser yn fesur wrth gefn, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a'r Prif Weinidog—a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hynny ar nifer o achlysuron yn ystod y ddadl ynghylch y Bil parhad—ac mai'r canlyniad a ffefrir fyddai gweld newidiadau yn y Bil ymadael i adlewyrchu ein swyddogaethau, ein pwerau a'n cyfrifoldebau. Trosoledd oedd ei angen, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac mae'n rhaid cydnabod bod hynny o ganlyniad i gamau gweithredu trawsbleidiol, ac mae effaith y trosoledd hwn mor bwysig, ac mae'n rhaid inni ei gofnodi'n glir heddiw; mae'n amlwg.

Ac rwy'n cofio erthygl gan Ian Price o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn y Western Mail ar adeg y cytundeb rhynglywodraethol. Roedd yn cymryd golwg hirdymor pan ddywedodd bod y cytundeb yn dda iawn i economi Cymru a'i phobl:

Mae'r hyn a gytunwyd....yn gydweithrediad doeth rhwng Llywodraeth Cymru, San Steffan a Whitehall i gytuno ar ffordd  gyffredin ymlaen o ran meysydd sy'n effeithio ar y DU gyfan.

Felly, rwy'n siŵr y bydd busnesau yng Nghymru yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf a bydd busnesau yng Nghymru yn cael tawelu eu meddwl yng nghyd-destun cymaint o ansicrwydd ynghylch y wladwriaeth a chylch gorchwyl Brexit ar gyfer Cymru, ac yn cytuno bod yn rhaid diogelu uniondeb a diben y cytundeb rhynglywodraethol.

Felly, am y rheswm hwnnw rwy'n cefnogi diddymu'r Ddeddf parhad. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mae datganoli wedi'i ymwreiddio yn y cytundeb rhynglywodraethol, a dyma'r canlyniad cadarnhaol, sydd wedi ennyn parch yn Senedd y DU ac yn y Siambr hon a Llywodraeth y DU.

17:45

A gaf i ddweud cymaint o anrhydedd yw hi i siarad am yr hyn yr wyf i'n dal i'w alw yn Ddeddf parhad, cyfraith a basiwyd gan y Cynulliad hwn gan ddefnyddio ei bwerau deddfwriaethol? Nid ydym ni wedi pasio cymaint â hynny o gyfreithiau gan ddefnyddio ein pwerau deddfwriaethol, ac i grefft a chelfyddyd fy nghyd-Aelod yn y fan yma, Steffan Lewis, y mae llawer o'r diolch am hynny, ond roedd ef yn amlwg yn rhoi'r sylw i bobl eraill yn ei araith.

Nawr, bu llawer o sôn am barchu canlyniad refferendwm. Wel, beth am barchu hefyd ganlyniad refferendwm 2011 yng Nghymru, pan bleidleisiodd 64 y cant o etholwyr Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau—mwy o bwerau deddfwriaethol? Nid yw Cymru wedi pleidleisio i golli pwerau, ac eto mae Deddf Cymru 2017 wedi ein gweld ni yn colli pwerau—193 o feysydd a gedwir. A, gyda Bil ymadael yr UE, rhoddwyd cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad hwn ar 15 Mai eleni fel bod pwerau mewn 26 o feysydd datganoledig—pwerau yr oedd gennym bob amser ers 1999; pwerau datganoledig—wedi cael eu rhewi am hyd at saith mlynedd. Ein pwerau datganoledig yn cael eu rhoi i ffwrdd yn llipa; unrhyw drosoledd a fu gennym wedi mynd—mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd, pysgodfeydd, caffael cyhoeddus ac yn y blaen. ...cyhoeddus, ... cyhoeddus—[torri ar draws.] Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn hynny. Gwrthododd yr Alban gydsyniad deddfwriaethol o'r fath hefyd. Roedd Mark Drakeford, wrth grynhoi ar 15 Mai, yn falch o alw ei hun yn unoliaethwr ac i glodfori'r agwedd fframweithiau cyffredin ar ymadael â'r UE. Cyd-lywodraethu oedd pwnc llosg y dydd. Byddai ysbryd newydd o barch ac ymddiriedaeth yn ymddangos rhwng Llywodraethau yr ynysoedd hyn. Byddai San Steffan a Llywodraeth Cymru yn bartneriaid cyfartal yn yr ucheldiroedd Brexit goleuedig newydd hyn. Byddai Cymru yn cymryd rhan ac yn cael ei pharchu yn yr holl benderfyniadau ar faterion datganoledig wedi'u rhewi.

A'r realiti? Wel, yn Sioe Frenhinol Cymru yr haf hwn—cawsom ddarlun o'r drefn newydd. Roedd y brif neuadd fwyd yn llawn cynnyrch Cymreig â brand baneri Jac yr Undeb coch, gwyn a glas—dim Cymraeg—'Food is Great—Britain & Northern Ireland.' Bachog iawn, iawn. Roedd Bil Amaethyddiaeth y DU ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn y polisi yn Lloegr yn ddifeddwl wrth waredu taliadau fferm sengl er gwaethaf y ffaith bod ffermio yng Nghymru yn gwbl wahanol ac yn fwy tebyg i ffermio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n cadw taliadau sengl.

Y negodiadau Brexit arteithiol—a yw Cymru yn rhan ohonyn nhw o gwbl? Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. A oes llywodraethu gyffredin? Y gronfa ffyniant a rennir—nid yw Cymru yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen o ran yr hyn fydd yn cymryd lle arian Ewropeaidd. Llawer o huodledd gan Aelodau Llafur yr wythnos diwethaf, a gan rai Aelodau Llafur yn sesiwn craffu y Prif Weinidog ddydd Gwener, am San Steffan yn anwybyddu Cymru. Pum cant ac wyth deg pump o dudalennau o gytundeb Brexit gwael heb unrhyw sôn am Gymru; cytundeb Brexit gwael y mae Llafur yn y fan yma yn ei wrthwynebu. Cant o dudalennau am Ogledd Iwerddon; dim un am Gymru.

Nawr, mae gennym ni gytundeb rhynglywodraethol, meddai Llafur—y cytundeb rhynglywodraethol anstatudol, nad yw'n orfodadwy. Does bosib nad yw mewn perygl, wedi'i glymu i gytundeb Brexit y mae Llafur yn y fan yma yn ei wrthwynebu. Ychydig iawn o sylw y mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi iddo. Mae'r Llywodraeth wedi dod yn ôl i'r fan yma yn dweud nad ydyn nhw'n gwrando. Pa obaith sydd gan ein cytundeb rhynglywodraethol anstatudol gyda Phrif Weinidog gwahanol yn y DU neu gyda Phrif Weinidog Llywodraeth Lafur y DU? Pa obaith? Cytundeb rhynglywodraethol, anstatudol—nid wyf yn dal fy anadl.

Gydag ansicrwydd rhemp o bob tu, mae angen inni gadw'r pwerau datganoledig a fu gennym erioed. Am lanastr. Mae Deddf parhad Cymru ar y llyfr statud. Gadewch iddi aros yno.

17:50

Hoffwn ddiolch, efallai, i Plaid am hyrwyddo fy nghwestiwn yn y sesiwn craffu ar waith y Prif Weinidog mor eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae bob amser yn gwneud byd o les i fy ngyrfa. [Chwerthin.] A gaf i ddweud hefyd, fodd bynnag, ar y sawl achlysur yr wyf wedi codi'r cwestiynau hynny, fe'u codwyd yn ddiffuant iawn, ac mae'r pwyntiau y mae Steffan yn eu gwneud a'r heriau yr ydych chi'n eu cyflwyno yn rhai dilys iawn ac yn rhai sy'n haeddu, rwy'n credu, atebion ystyriol. Credaf ei fod yn gwestiwn o farn a strategaeth ystyriol ynghylch ble yr ydym ni'n mynd ar hyn.

Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod rhwng dau feddwl am fater y Ddeddf parhad, fel y byddaf yn ei galw, gan fod llawer yn meddwl y byd ohoni, o ran yr hyn y mae'n ei gynrychioli, a beth y bydd yn ei gyflawni. Yn sicr, pan gafodd ei chyflwyno, roedd yn gwbl hanfodol. Roedd gennym ni gymal 11 yn y Bil, a oedd yn amlwg yn agenda a fyddai'n cymryd pwerau oddi arnom. Roedd yn sicr yn rhoi trosoledd inni. Yn sicr roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth a oedd wedi'i drafftio'n effeithiol ac roedd, rwy'n credu, yn cyflwyno dadleuon cryno iawn, iawn a oedd yn gosod y paramedrau o ran sut yr ydym ni'n gweld pwerau Cymru yn dychwelyd o Frwsel. Ac rwy'n credu iddo nodi'r safbwynt cyfansoddiadol cwbl gywir.

Y pwynt ynglŷn â hyn, fodd bynnag, yw o ganlyniad i hynny ein bod wedyn wedi dod at y cytundeb rhynglywodraethol, a, y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, y cwestiwn yn awr yw: a yw'r Ddeddf parhad yn well na, a yw'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach na'r materion sy'n codi o'r cytundeb rhynglywodraethol? Ac mae hwnnw'n gwestiwn difrifol iawn i'w ofyn, y mae Steffan wedi ei ofyn, ac rwyf i wedi gofyn hynny hefyd. Rwyf wedi meddwl am hyn yn ofalus iawn, iawn ac rwyf eisiau dweud hyn: y peth cyntaf am y cytundeb rhynglywodraethol—sydd, rwy'n credu, yn ddarn rhyfeddol o negodi gan Mark Drakeford, gan Ysgrifennydd y Cabinet, am nifer o resymau penodol—. Yn gyntaf, mae'n seiliedig ar gydnabyddiaeth o'r union bwerau datganoledig hynny y buom yn eu dadlau—mewn gwirionedd mae'n ymgorffori fel mater o egwyddor y pwerau datganoledig hynny yr ydym ni'n dweud eu bod yn perthyn i ni, sy'n rhan o'r setliad datganoli. Yn ail, nid yw'n cynnwys trosglwyddo unrhyw bwerau i fannau eraill. Yn drydydd, mae mewn gwirionedd yn ymgorffori proses Sewel well. Mae'n gwbl rhyfeddol. Pan oeddem ni yn y fforwm rhyng-seneddol, pan oeddem ni i lawr yn San Steffan ac yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn dweud wrth aelodau Tŷ'r Arglwyddi bod, mewn gwirionedd, ganddyn nhw bellach feto ar gamau y gellid eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiystyru gwrthod caniatâd oddi wrth y lle hwn—credaf ei fod mewn gwirionedd yn gam ymlaen eithaf rhyfeddol.

Nid wyf yn siŵr, mewn gwirionedd, eu bod yn gwybod, mewn gwirionedd, beth  oedden nhw'n ei wneud pan wnaeth Llywodraeth y DU negodi hyn. Mae'n eithaf rhyfeddol. Nid wyf erioed wedi bod o blaid Tŷ'r Arglwyddi nac yn wir rhoi mwy o bwerau iddo, ond ar yr achlysur arbennig hwn efallai fy mod yn barod i wneud ychydig o eithriad. Yn bwysig, beth mae'n ei wneud hefyd yw rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni ar hyn o bryd, sef datblygu fframweithiau. Beth bynnag fydd yn digwydd, mae angen mecanwaith arnom ni i'r fframweithiau hynny fynd yn eu blaenau. Nawr, os na fyddwn yn diddymu'r Ddeddf, ac os bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn chwalu, a yw felly yn cynnig unrhyw fwled arian o amddiffyniad inni? Dyna'r cwestiwn yr wyf i wedi'i ofyn i mi fy hun, ac ni allaf ddweud ble y mae'n gwneud hynny. Nid ydym ar unrhyw gam yn herio neu a fyddwn ni'n gallu herio hynny, yn y pen draw, mae sofraniaeth Senedd y DU yn ei galluogi i ddiystyru mewn pob math o ffyrdd.

Gofynnodd Steffan gwestiwn pwysig iawn arall hefyd: a ddylem ni aros am y dyfarniad yn yr Alban? Wyddoch chi, fe wir hoffwn i aros am y dyfarniad yn yr Alban. Gwn fod pwysau ynghylch pam mae'n rhaid inni wneud hyn yn awr, oherwydd y posibilrwydd y bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn chwalu ar yr adeg hon, ond yr ochr anffafriol o'r dyfarniad yn yr Alban yw hyn: yn gyntaf, os yw'n llwyddiannus, nid yw, mewn gwirionedd, yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach; os yw'n anffafriol i ni, mae hynny mewn gwirionedd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa waeth o lawer. Nid yn unig nad oes gennym ni'r cytundeb rhynglywodraethol a'r amddiffyniadau ynddo, mae gennych chi wedyn ddyfarniad y Goruchaf Lys sy'n cadarnhau pŵer San Steffan i ddiystyru ar faterion cyfansoddiadol. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn rhoi'r ateb syml hwnnw inni yr ydym ni mewn gwirionedd ei eisiau.

Nid wyf yn credu ei fod ychwaith—. Nid yw'r ffaith ein bod ni yn arddel y safbwynt yr ydym ni'n ei arddel nawr a diddymu hon, nid yw'n dileu'r heriau cyfansoddiadol, sy'n heriau sylfaenol iawn sy'n bodoli o hyd, o ran diwygio'r Cydbwyllgor Gweinidogion, y ffaith bod angen trefniant Sewel sydd wedi'i amlinellu'n glir, un sy'n draddodadwy. Mae angen, yn amlwg, strwythur cyfansoddiadol mwy ffederal. Ac, yn ddiddorol, mae'r fforwm rhyng-seneddol yr ydym ni wedi bod yn cymryd rhan ynddo—Dai Rees a minnau fel Cadeiryddion ein pwyllgorau perthnasol—mewn gwirionedd, bron yn dweud yr union beth hwnnw ei hun. Felly, ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid inni wahanu hyn yn ofalus iawn oddi wrth rai o'r materion gwleidyddol eraill sy'n mynd rhagddynt—y materion difrifol iawn ar hyn o bryd ynghylch pa un a yw'r Llywodraeth yn mynd i chwalu, a fydd yna etholiad cyffredinol, beth fyddai canlyniad hwnnw, neu, os na fydd etholiad cyffredinol, camau cyfansoddiadol amgen yn cael eu cymryd.

Ond, ar hyn o bryd, o ran yr holl bethau yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ac yr ydym yn eu gwneud, rydym mewn sefyllfa well o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol sydd gennym, sy'n ein gwneud yn glir yn y sefyllfa yr ydym ynddi a'r pwerau sydd gennym ac sy'n gosod strwythur clir ar gyfer hynny, neu a ydym ni mewn sefyllfa well drwy gael gwared arno a dibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth y gellid ei gwyrdroi mor hawdd? Yr ateb yr wyf i wedi dod iddo yw: mae'n iawn i'w diddymu. Yn strategol, dyma'r penderfyniad mwyaf darbodus a'r penderfyniad gorau er budd Cymru—nid yw'n un yr wyf i eisiau ei wneud, yn arbennig, ond rwy'n credu, ar hyn o bryd, mai dyma'r penderfyniad iawn i'w wneud ac rwy'n credu mai argymhelliad Ysgrifennydd y Cabinet, ein Gweinidog Brexit, Mark Drakeford, yw'r un iawn ac mae ef wedi cyflwyno'r cynnig iawn, ac rwy'n credu ei bod yn iawn inni gymryd y cam sy'n cael ei grybwyll heddiw.

17:55

Llywydd, rwy'n falch fy mod wedi dal eich llygad. Rwy'n ddiolchgar iawn. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, i ddechrau, yn y ddadl hon, ond rwy'n credu bod Steffan Lewis wedi codi pwyntiau sy'n bwysig ac sy'n haeddu ymateb, yn yr hyn a oedd yn gyfraniad meddylgar, yn fy marn i. Mwynheais gyfraniad Dai Lloyd, ond nid wyf mor siŵr ei fod mor ystyriol, ond roedd yn sicr yn ddolefus ac yn llawn o'r ysbryd hwnnw yr ydym ni wedi arfer ei weld o feinciau Plaid.

Siaradais ar ran Grŵp Ceidwadol Cymru pan oedd y Bil yn mynd ar ei hynt gyflym iawn drwy'r lle hwn. Fel darn brys o ddeddfwriaeth, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud ei fod wedi cael llai o sylw nag unrhyw ddarn arall o ddeddfwriaeth a basiwyd erioed gennym, ac rydym wedi pasio un neu ddau o Filiau brys. Ac roedd hyn, yn fy marn i, yn peri gofid gwirionedd. Ond y rheswm yr oeddwn yn gwrthwynebu'r Bil yn arbennig oedd fy mod i o'r farn bob amser ei fod yn tynnu ein sylw. Y cytundeb rhynglywodraethol oedd bob amser yn ganolog. A bûm yn dadlau dros hyn yn gryf iawn ar y pryd. Rwy'n falch, mewn gwirionedd, bod y ddwy Lywodraeth—Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—wedi gallu, er gwaethaf pasio'r Bil ac iddo ddod yn Ddeddf, gweithio ar y cytundeb hwnnw a'i sicrhau.

Mae'r angen am fframweithiau ledled y DU bob amser wedi'i gydnabod mewn meysydd fel agweddau ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth a meysydd allweddol eraill—a gydnabyddir gan Lywodraeth yr Alban; ac, a bod yn deg, a gydnabyddir gan Plaid rwy'n meddwl. Ac, yn wir, mae'r fframweithiau hyn yn gofyn am bwerau a freiniwyd yn flaenorol yn yr UE i eistedd yn rhywle fel y gallen nhw gael eu llunio, ac mae angen iddyn nhw gael eu llunio rhwng y Llywodraethau, gyda, dadleuais ar y pryd, Llywodraeth y DU, gyda'i gallu, yn arwain, ond fel partner ac nid yn gorfodi. Rwy'n credu mai dyna sydd wedi digwydd. Fel y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl hon, nid yw Llywodraeth y DU wedi ein diystyru ni—ni ddefnyddiwyd y pwerau o dan adran 12.

Fodd bynnag, byddaf yn gorffen gyda hyn, a dyma'r pwynt lle rwy'n cydnabod rhai o'r amheuon a'r pryderon sydd gan grŵp Plaid Cymru: rydym ni nawr yn dechrau gyda model o gyd-lywodraethu. Mae'n dal i fod ychydig yn lletchwith—mae'n cael ei lunio—ond, yn ein bodolaeth ar ôl Brexit, a fydd yn dod i rym rywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg, bydd y ffordd y mae'r DU yn ymdrin â'i threfniadau rhynglywodraethol a'r angen am gyd-lywodraethu meysydd allweddol, sy'n cynnwys pob Senedd yn y DU—bydd hynny yn profi nerth yr undeb. Rwy'n credu bod Steffan yn awgrymu yn ei gyfraniad, 'lle mae'r unoliaethwyr'? Mae angen iddyn nhw fod yn mynd i'r afael â'r angen hwn am ddimensiwn newydd, mwy ffederal, efallai. Rwy'n credu i Mick awgrymu hyn hefyd. Rwy'n cytuno â hynny a chredaf mai dyna fydd y gwir brawf—sut y bydd yn gweithio ar ôl y broses hon, sy'n amlwg yn anodd, o adael yr UE.

Ond, fel darn o ddeddfwriaeth, nid oeddwn i erioed yn credu ei fod yn arbennig o angenrheidiol. Roedd yn rhan o'r ddadl ehangach yn y pen draw, ac mae'n rhaid gollwng gafael ar y gorffennol, ond rwyf yn credu bod ei amser wedi mynd heibio bellach, ac mae'n iawn, rwy'n credu, i anrhydeddu'n llawn—i Lywodraeth Cymru anrhydeddu'n llawn—y cytundeb rhynglywodraethol, a bydd hynny'n cryfhau ei sefyllfa yn y dyfodol.

Mae gennyf ffydd mawr y bydd dull cyffredinol Llywodraeth Cymru—. Mae'n feirniadol o lawer o'r blaenoriaethau sydd gan Llywodraeth y DU dros ei meysydd domestig ei hun, ond mae hi wedi bod yn barod i weithio'n adeiladol ac rwyf yn croesawu'r ffaith honno. Mae'n rhoi llawer o obaith i mi y bydd ein modelau cyd-lywodraethu yn dod yn fwy a mwy cadarn gydag amser. Diolch, Llywydd.

18:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig a meddylgar hon. Gadewch imi ddechrau drwy adlewyrchu ar yr hyn y mae Darren Millar a David Melding newydd ei ddweud. Y pwynt lle nad wyf yn cytuno â nhw yw pan eu bod nhw wedi dadlau bod y Bil parhad yn tynnu ein sylw o'r broses o sicrhau'r cytundeb rhynglywodraethol. Yn fy mhrofiad i o fod yn yr ystafell ac yn y trafodaethau hynny, roedd yn rhan annatod o gyflawni cytundeb rhynglywodraethol. Rwy'n falch iawn o'r Ddeddf a'r hyn a gyflawnwyd yn y fan yma, oherwydd roedd, mewn gwirionedd, yn rhoi trosoledd inni ar bwynt pwysig iawn yn y broses. Roedd y ffaith ei bod gennym yn ddi-os wedi gwneud cyflawni'r math o gytundeb rhynglywodraethol y llwyddasom i'w negodi yn fwy tebygol, nid yn llai tebygol.

Ein cred ni yw bod y cytundeb rhynglywodraethol yn well na'r Ddeddf—dyna pam yr ydym ni o'r farn ei bod yn iawn heddiw i gynnig diddymu'r Ddeddf. Ond nid wyf yn cytuno o gwbl na wnaeth y Bil a'r ddadl yn y fan yma, a'r ffaith ein bod wedi ei rhoi ar y llyfr statud—na wnaeth hynny chwarae rhan annatod ac allweddol wrth ganiatáu inni lunio'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw. Gofynnodd Darren pam yr oeddem ni wedi oedi wrth gyflwyno'r diddymu. Y rheswm am hynny yw bod angen inni ganiatáu i'r broses yr oeddem wedi ei nodi yn y cytundeb rhynglywodraethol i gael ei dangos—roedd angen inni weld ei bod yn cael ei hanrhydeddu ar y ddwy ochr. Mae'r adroddiad a gyflwynwyd gerbron y Senedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn rhoi'r dystiolaeth honno inni ac yn caniatáu inni gynnig diddymu y prynhawn yma.

Gofynnodd Darren Millar am fframweithiau. Oherwydd ein bod yn gwneud cymaint o gynnydd â fframweithiau nid oes unrhyw bosibilrwydd o ddefnyddio rhannau rhewi y Ddeddf ymadael bellach. Felly, mae llawer iawn o waith wedi ei wneud. Rydym ni bellach ar gam y cytunwyd arno yn y Cydbwyllgor Gweinidogion yn gynharach y mis hwn, a byddwn, ym mis Rhagfyr, yn gweld y rhai cyntaf o'r fframweithiau yn dod gerbron y Cydbwyllgor Gweinidogion i'w hadolygu. Maen nhw ar reoli a chynorthwyo pysgodfeydd, iechyd a lles anifeiliaid, cynllunio sylweddau peryglus, a maethiad. Mae Llywodraeth yr Alban, fel y dywedodd Darren Millar, wedi chwarae rhan lawn yn y trafodaethau hynny, a bydd yn rhan o ystyriaeth y Cydbwyllgor Gweinidogion ohonynt ym mis Rhagfyr, ac yna byddwn yn mynd allan i ymgynghori â rhanddeiliaid sydd â buddiant yn y pedwar maes, cyn iddyn nhw ddod yn ôl i'r Cydbwyllgor Gweinidogion ar gyfer y rhan olaf o'r cyd-lywodraethu y mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ei sefydlu ac sy'n cael ei gyflawni yn y modd hwnnw.

Gadewch imi droi at ddau gyfraniad Plaid Cymru y prynhawn yma. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am uniondeb a didwylledd Steffan Lewis yn holl hanes y Bil parhad ac yn y sylwadau a wnaeth y prynhawn yma. Ac rwy'n rhannu ei farn ar rai o'r pethau y dywedodd, yn sicr y deyrnged a wnaeth i'r rhai a luniodd y Bil parhad; roedd yn ddarn medrus a llwyddiannus iawn o ddeddfwriaeth. Ac rwy'n cytuno ag ef, hefyd, bod Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, yn rhy aml, yn ddiofal ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig, a bu hynny'n rhan gyson o'r hyn y mae Cymru wedi'i gyfrannu at y Cydbwyllgor Gweinidogion a thrafodaethau eraill—ein bod yn barhaus yn nodi'r angen i ddod o hyd i amser, cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, i ystyried y ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu pan na fydd y llyfr rheolau, yr ydym yn ei rannu, trwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yno mwyach. Un o'r rhesymau pam mae hi'n iawn i bwysleisio'r cytundeb rhynglywodraethol, fodd bynnag, yw oherwydd ei fod yn torri tir newydd yn y modd hwnnw. Mae'n ein symud ni i sefyllfa lle y mae mwy o gyd-lywodraethu yn y dyfodol, y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, yn fwy tebygol, nid yn llai tebygol.

Nododd Steffan bedwar rheswm pam y mae'n gwrthwynebu diddymu'r Bil parhad. Dywedodd fod y cytundeb rhynglywodraethol yn methu â diogelu pwerau Cymru yn erbyn gweithredu unochrog gan Lywodraeth y DU. Ond mae yn amddiffyn Cymru rhag hynny. Nid oes unrhyw bwerau unochrog y gellir eu defnyddio heb ein cytundeb ni, ac nid gyda chytundeb y Llywodraeth, ond gyda chytundeb y ddeddfwrfa hon, oherwydd byddai'n rhaid i unrhyw gynnig i rewi pwerau gael ei gytuno gennym ni a'i gyflwyno ar lawr y Cynulliad yn y fan yma. Dywedodd nad oedd yn ein helpu ni i wrthsefyll y cytundeb ymadael, ond nid yw'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn unrhyw amddiffyniad yn erbyn y cytundeb ymadael. Nid yw'n gweithredu yn y maes hwnnw.

Cyfeiriodd at Sewel, a bûm yn gweithio'n agos gyda Gweinidog yr Alban ar y Cydbwyllgor Gweinidogion i geisio cael Llywodraeth y DU i ailystyried Sewel a dod o hyd i ffordd fwy boddhaol o ymwreiddio'r camau amddiffyn y mae'n eu darparu. Ond, fel y dywedodd Mick Antoniw, cyn belled ag y mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn y cwestiwn, mae'n ymestyn Sewel. Mae'n gwneud pleidlais ar wahân yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn ofynnol, ac nid dim ond pleidlais ar wahân yn y ddau Dŷ, ond bydd y deddfwrfeydd hynny sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw, am y tro cyntaf, yn cael ystyriaeth annibynnol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o'n safbwynt ni ar y mater y maen nhw'n ei ddatrys.

Ac o ran y Goruchaf Lys, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud yn y fan yma ar y mater hwn—sef mai'r risg o ran y Goruchaf Lys yn yr Alban yw ei bod yn cael ei gadael heb Ddeddf ac heb gytundeb rhynglywodraethol, ond rydym ni wedi llwyddo i lunio cytundeb rhynglywodraethol nad yw'n dibynnu ar achos y Goruchaf Lys o gwbl. Dyna pam yr ydym ni'n dod yn ôl gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.

Rwyf am ei ddweud unwaith eto—rwy'n ei ddweud bob tro—. Dechreuodd Dai Lloyd drwy ddweud bod y cytundeb rhynglywodraethol yn caniatáu i bwerau mewn 26 o feysydd gael eu rhewi, a'u bod eisoes wedi mynd. Nawr, nid oes unrhyw ran o hynny'n gywir. Nid yw'r un pŵer wedi gadael y Cynulliad hwn. Mae pob un o'r pwerau ar y rhestr honno o 26 yma o hyd. Nid oes yr un o'r meysydd hynny wedi'u rhewi, nid oes yr un o'r meysydd hynny wedi gadael awdurdodaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mae'r risg y bydd hynny'n digwydd—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

18:10

Ar y pwynt hwnnw, petawn i'n dewis ar hap un o'r 26—labelu bwyd dyweder neu gynllunio ar gyfer sylweddau peryglus sydd wedi dod yma o Frwsel bob amser—felly, yfory, gallech chi benderfynu deddfu ar hynny, allech chi, neu a yw wedi ei rewi ac ni allech chi wneud dim yn ei gylch?

Na, gadewch imi egluro oherwydd rwyf wir yn credu bod yn rhaid imi fod yn glir ynglŷn â beth yw'r sefyllfa. Heddiw rydym ni'n parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, felly ni allem ni ddeddfu yfory oherwydd ein bod yn rhan o lyfr rheolau Ewropeaidd cyffredin. Mae eich plaid chi, fel y byddwn i fy hun eisiau ei ddweud, yn credu y byddwn ni'n well ein byd pe byddem ni'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pe byddai'r pwerau hynny yn cael eu rhewi, ac nid ydyn nhw wedi eu rhewi yn y maes hwnnw nac unrhyw un o'r 26, y cwbl y byddai'r holl rewi hwnnw yn ei wneud fyddai gwarantu y byddai'r llyfr rheolau presennol yn parhau. Dyna mae rhewi yn ei olygu. Mae'n golygu y bydd y trefniadau presennol—y trefniadau yr ydym ni i gyd yn eu cefnogi yn rhan o'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—yn parhau ar waith hyd nes y cytunir ar rywbeth arall i gymryd eu lle. Ac ni allai unrhyw beth arall gymryd eu lle oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cytuno ar hynny. Dyna pam nad yw'r pryderon yr oedd Dai yn eu hailadrodd y prynhawn yma ynghylch pwerau yn mynd o'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyd-fynd â'r ffeithiau. Nid oes unrhyw beth wedi mynd. Maen nhw'n aros yma fel y maen nhw wedi ei wneud erioed, yn cael eu harfer fel y maen nhw'n awr, ac wedi eu harfer ers dechrau'r Cynulliad drwy'r llyfr rheolau Ewropeaidd cyffredin. [Torri ar draws.]

Rwy'n sylweddoli bod y cloc yn ein herbyn ni, ond diolch ichi am dderbyn ymyriad. Onid y realiti yw, fodd bynnag, ein bod ni ar ddechrau cyfnod hirfaith o saith, wyth mlynedd, pryd y bydd newid Llywodraeth ar lefel y DU, newid Llywodraeth yma, a gallai cytundebau rhynglywodraethol anstatudol fod yn y pen draw yn ddiwerth yng nghyd-destun y gwahanol safbwyntiau a'r gwahanol berthnasoedd? Rydych yn amlwg yn credu bod gennych chi berthynas dda â'r bobl yr ydych chi wedi bod yn negodi gyda nhw. Efallai nad yw hynny bob amser yn wir.

Llywydd, ni all llywodraethau weithredu ar y sail honno. Mae'n rhaid i lywodraethau weithredu ar y sail bod cytundeb a gytunwyd gyda Llywodraeth yn gytundeb sy'n parhau i gael ei hanrhydeddu. Dyna pam y cafodd y fframwaith cyllidol ei negodi'n llwyddiannus gyda gwahanol Lywodraethau'r DU—Llywodraethau Llafur, Llywodraethau Ceidwadol—dros 20 mlynedd. Mae'r pethau hynny yn cael eu hanrhydeddu wrth i lywodraethau newid o un i'r llall, nes ichi gyrraedd pwynt pan gaiff ei ail-negodi gan y ddwy ochr. Ni allwch, fel llywodraethau, weithredu ar y sail na allwch chi ymddiried yn y person yr ydych chi newydd ddod i gytundeb ag ef. 

Gadewch imi ddiweddu, felly, Llywydd, os caf i, drwy ddiolch i Jane Hutt a Mick Antoniw am yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud, gan bwysleisio pwysigrwydd y cytundeb rhynglywodraethol, egluro'r hyn y mae gwrthdroi'r cymal 11 gwreiddiol 1 yn ei ddangos a dweud ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle nad yw'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, er mor hanfodol bwysig oedd hi pan y'i cytunwyd hi, o fudd bellach. Nawr yw'r amser i'w diddymu oherwydd dyna fyddai orau i les Cymru.

Y cwestiwn yw y dylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem felly tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru?

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil McEvoy, gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Yr eitem nesaf yw eitem 9, y ddadl ar sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM6866 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 18:13:55
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Rwyf yn falch o gyflwyno'r ddadl hon i'r cyfarfod llawn i ystyried y rhan y dylai Cymru ei chwarae yn y dyfodol yn system ynni'r DU a byd-eang, gan ysgogi trafodaeth ynglŷn â dyfodol ynni yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod heriol o ystyried yr ansicrwydd ynghylch ynni mewn byd ôl-Brexit. Yr hyn sy'n sicr yw'r angen i ddatgarboneiddio. Yng Nghymru, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ein cyfrwng deddfwriaethol sy'n gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Fis nesaf, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo ein targedau allyriadau dros dro hyd 2050 a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf ar gyfer Cymru.

Rwyf yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a gorffen ar ddatgarboneiddio i ddarparu datgarboneiddio ar draws ein holl bortffolios. Yn amlwg mae'n rhaid i bob un ohonom ni weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn awr, ac rwy'n galw ar y Cynulliad i gefnogi ein hymdrechion i leihau allyriadau carbon. Mae hyn hefyd yn cyflawni'r blaenoriaethau a nodais yn fy natganiad ar ynni ym mis Medi 2016.

Fy mlaenoriaeth gyntaf yw defnyddio ynni'n fwy effeithlon yng Nghymru. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi teuluoedd incwm isel yw'r ffordd fwyaf effeithiol i ni drechu tlodi tanwydd, gan leihau allyriadau niweidiol i'r amgylchedd ar yr un pryd. Rydym ni'n buddsoddi £104 miliwn yn ymgyrch Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2017 i 2021. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wella 25,000 o gartrefi ychwanegol. Mae ein gwasanaeth ynni yn Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £55 miliwn o fenthyciadau di-log ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, gan gefnogi uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral. Mae angen inni hefyd sicrhau nad yw adeiladau newydd yn ychwanegu at yr her ôl-osod. Rydym ni ar hyn o bryd yn cwmpasu'r testunau a fydd yn yr adolygiad o reoliadau adeiladu ac rydym ni'n disgwyl cael ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

18:15

Fy ail flaenoriaeth yw lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd adroddiad deifiol ar effeithiau cynhesu byd-eang. I gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r IPCC yn argymell uwchraddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu oddeutu 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Mae'r adroddiad yn awgrymu system a arweinir gan ynni adnewyddadwy, wedi ei chefnogi gan danwyddau ffosil a niwclear gyda phroses dal a storio carbon. Byddai dal a storio carbon yn caniatáu i nwy gynhyrchu oddeutu 8 y cant o drydan yn fyd-eang i ddarparu sylfaen llwyth hyblyg a sicrhau bod cyflenwadau yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni newid ein system ynni. Nid ydym ni'n mynd i greu newid ar y raddfa sydd ei hangen heb benderfyniadau anodd a fyddai'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru. Y llynedd, gosodais dargedau adnewyddadwy heriol ond realistig. Bydd y rhain yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau tymor hir a darparu mwy o fanteision i Gymru. Rydym ni eisoes yn camu ymlaen yn dda tuag at y targedau hyn. Rwyf newydd gyhoeddi adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru' wedi'i ddiweddaru gyda ffigurau i ddiwedd 2017. Mae'r adroddiad yn dangos y cynhyrchwyd trydan sy'n cyfateb i 48 y cant o ddefnydd Cymru o ynni adnewyddadwy; roedd 529 MW o'n capasiti trydan adnewyddadwy ym meddiant cyflenwyr lleol, sy'n golygu bod elw'r cynhyrchu hwn wedi aros yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd da tuag at ein targedau o 70 y cant o'r defnydd o drydan o ynni adnewyddadwy ac 1 GW o gynhyrchu gan gyflenwyr lleol erbyn 2030.

Mae'n rhaid i gynhyrchu newydd ddarparu manteision digonol i gyfiawnhau sefyllfa lle bydd Cymru yn ei gynnal, ac mae hyn yn ymwneud â'm trydedd blaenoriaeth; hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Rwy'n disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru gynnwys o leiaf un elfen o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu manteision gwirioneddol i gymunedau. Cyhoeddir ein hymateb i'r alwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Fe fyddwn ni'n cymryd camau i gynyddu'r enghreifftiau o gadw buddiant yng Nghymru. Gobeithiaf pan fydd gan bobl fwy o berchenogaeth o gynhyrchu, y bydd y ddeialog ynghylch ynni adnewyddadwy yn newid o, 'A ydym ni eisiau hyn?' i 'Beth sydd ei angen arnom ni a ble byddwn ni'n ei roi?'

Mae gennym ni hefyd gyfle nawr i ddatblygu a thyfu ein diwydiant ynni morol arloesol ein hunain, a allai helpu eraill ledled y byd i leihau tanwyddau ffosil. Mae ynni morol yn gyfle mawr i allforio. Rydym ni wedi buddsoddi mewn technolegau morol, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu cyfundrefnau ariannol cefnogol ar gyfer y technolegau sy'n dod i'r amlwg ond na allant gystadlu ar bris yn unig gyda'r technolegau sefydledig. Mae'r sector gwynt ar y môr yn enghraifft o gyllido cyfnod cynnar gan y DU yn ystod datblygu, yn arwain at gynhyrchu ynni cost-effeithiol a chynaliadwy. Gobeithiaf y gallwn ganfod safleoedd newydd oddi ar arfordir Cymru ar gyfer ynni o wynt ar y môr i gyfrannu at ein targedau.

Dylid dilyn yr enghraifft hon nawr ar gyfer y sector morol. Collodd y DU y cyfle i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni o wynt ar y môr. Ni allwn fforddio i'r un peth ddigwydd i'n diwydiant ynni tonnau ac ynni llanw. Pa faint bynnag o ynni adnewyddadwy y byddwn yn ei gynhyrchu, mae'n rhaid inni hefyd gael gwared ar gynhyrchu tanwydd ffosil o'r system ynni i leihau allyriadau. Mae'r adroddiad ar gynhyrchu ynni newydd hefyd yn dangos bod Cymru wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiwyd y llynedd. Rhwng 1990 a 2016, cynyddodd ein hallyriadau o'r sector pŵer gan 44 y cant, wrth i allyriadau cyffredinol y DU o'r sector leihau gan 60 y cant. Rydym ni'n cynnal 19 y cant o gynhyrchu trydan drwy nwy yn y DU, ffactor allweddol yn y cynnydd hwn. Mae angen inni ystyried pa un a ydym yn fodlon cynnal mwy o gynhyrchu trydan drwy nwy yng Nghymru ac, os felly, sut gallwn ni sicrhau ei fod yn gydnaws â dal a storio carbon. Rwy'n awyddus i glywed barn yr Aelodau ynghylch pa un a ddylai Cymru gynhyrchu trydan ar gyfer ein hanghenion ni yn unig, neu a ddylem ni barhau i fod yn allforiwr net.

Yn rhan o'n gwaith i leihau allyriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ein gwrthwynebiad i ffracio. Rwyf i'n benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl i sicrhau na cheir ffracio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthwynebiad cryf i gyflwyno trwyddedau petrolewm newydd neu roi caniatâd ar gyfer ffracio ac mae'n cynnwys hefyd cyflwyno polisi cynllunio llawer mwy cadarn. Gosododd yr ymgynghoriad diweddar ar echdynnu petrolewm ein safbwynt a ffefrir. Byddaf yn cadarnhau ein safbwynt polisi ac yn ymateb i'r ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn.

Mae angen inni hefyd ystyried swyddogaeth ynni niwclear. Os bydd Llywodraeth y DU yn cydsynio i safle niwclear newydd yng Nghymru, hwn fydd y buddsoddiad unigol mwyaf yng Nghymru mewn cenhedlaeth, a'n blaenoriaeth ni yw sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol ar gyfer y gogledd. Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod ni'n diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd.

Yn ogystal â'r defnydd presennol o drydan, mae angen inni ystyried effaith datgarboneiddio trafnidiaeth a gwres. Ar hyn o bryd, prynir tua 2.5 miliwn o gerbydau isel iawn eu hallyriadau bob blwyddyn yn y DU. Gallai fod cynifer â 11 miliwn o gerbydau trydan erbyn 2030. Byddai gwefru cerbydau trydan yn y cartref yn dyblu'r defnydd o drydan yn y cartref hwnnw. Bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a seilwaith i ddiwallu'r galw cynyddol hwn, ac mae arnom ni angen eglurder ynghylch pa seilwaith sydd ei angen a ble y dylai fod.

Fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi ymrwymo i gyllido atlas ynni, ac yn ddiweddar fe wnaethom gytuno ar ein dull o weithredu, i gynnig cymorth ar gyfer cynllunio ynni lleol a rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd o ran ynni o fewn bargeinion dinesig a thwf ledled Cymru. Mae hyn yn cyflawni fy nhrydedd flaenoriaeth o hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Bydd cynllunio system ynni yn gyfan gwbl ranbarthol yn ein helpu ni i ddeall lle mae angen mwy o gynhyrchu carbon isel a pha ran o'n seilwaith ynni sydd angen buddsoddiad. Rydym ni'n gweithio gyda darparwyr rhwydwaith ar hyn, oherwydd pan fyddan nhw'n sicr o ble mae angen grid newydd, fe allan nhw gynnwys hyn yn eu cynlluniau buddsoddi. Drwy roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni sy'n esblygu, rydym ni'n creu arddangoswyr i annog academyddion a busnesau i ddatblygu prosesau a systemau technolegol newydd. Rydym ni'n denu cyllid gan yr UE a ffynonellau eraill i helpu i gyflawni ein gweledigaeth o system ynni carbon isel, effeithlon.

Mae'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol yn newid y ffordd yr ydym ni'n darparu adeiladau. Maen nhw wedi datblygu nifer o adeiladau cadarnhaol o ran ynni, gan gynnwys y dosbarth ysgol actif ar gampws Bae Abertawe a thŷ SOLCER yn Stormy Down. Rydym hefyd yn cefnogi cynnig dan arweiniad Prifysgol Abertawe i sefydlu canolfan adeiladau ynni gweithredol yng Nghymru. Bydd hon yn ganolfan dan arweiniad y diwydiant i gyflymu cyflwyno adeiladau ynni gweithredol. Mae rhaglen dai arloesol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle arall i ddatblygu adeiladau prawf o gysyniad. Drwy wneud hyn ar raddfa eang, byddwn ni'n mynd i'r afael â'r ansicrwydd ynghylch pa un a fydd hi'n ddrytach adeiladu cartrefi effeithlon. Mae technolegau arloesol angen modelau busnes newydd a newidiadau i reoleiddio. Maen nhw hefyd yn newid y ffordd yr ydym ni'n byw ac yn gweithio mewn adeiladau. Mae modelau newydd yn dod i'r amlwg, gan ymchwilio i ddulliau newydd o effeithlonrwydd, cynhyrchu, defnyddio a storio ynni. Mae'r holl fentrau hyn yn ein helpu ni i sicrhau y daw gwerth i Gymru wrth newid i system ynni carbon isel.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch maint yr her y mae datgarboneiddio yn ei gynnig, na'r ansicrwydd ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo. Nid oes un ateb penodol nac un dechnoleg a fydd yn sicrhau cyflawni ein targedau allyriadau carbon. O ystyried maint yr her, bydd angen inni archwilio pob llwybr. Mae gan Gymru gyfres uchel ei pharch yn rhyngwladol o ymchwil arloesol a rhaglenni datblygu i'n helpu ni i wneud hynny. Felly, rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr holl Aelodau ynghylch y cyfeiriad ar gyfer Cymru carbon isel a ffyniannus.

18:20

Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ef — Neil McEvoy.

Gwelliant 1—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 24 Hydref, fi oedd yr unig Aelod Cynulliad a bleidleisiodd i wrthwynebu ynni niwclear yng Nghymru. Yr oedd hynny'n hollol anhygoel o ystyried faint o wrthwynebiad sydd i ynni niwclear ymhlith y cyhoedd ac ymhlith gwleidyddion eraill yn ôl y sôn. Pe byddai ef yma, fe fyddwn i'n dweud wrth yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yr honnir iddo fod yn wrth-niwclear, yr AC dros Orllewin Caerdydd, a bleidleisiodd i waredu llaid niwclear yng Nghymru, ac na wrthwynebodd ynni niwclear y tro diwethaf, 'Dyma gyfle i wrthod ynni niwclear a'i gofnodi.' Mae'r un peth yn wir am yr AC Llafur dros Ganol Caerdydd, nad yw hi yma ychwaith. Mae hi'n honni ei bod yn amgylcheddwr gwrth-niwclear, ond dywedodd mai'r dyfroedd y tu allan i Gaerdydd oedd y lleoliadau i fynd iddyn nhw i waredu llaid a gloddiwyd o du allan i orsaf ynni niwclear Hinkley Point. Rwy'n gweld hyn yn syfrdanol. Fe wrthododd yr AC dros Ganol Caerdydd wrthwynebu ynni niwclear y tro diwethaf hefyd. Wel, nid yw'r AC wedi'i chyfyngu gan y chwip y tro hwn, felly efallai—efallai—y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn ynni niwclear.

Mae'r rhai nad ydyn nhw'n gwrthwynebu ynni niwclear yn cyfiawnhau hynny drwy'r ffaith nad yw ynni wedi'i ddatganoli yma—nid yw wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Wel, nid yw'r ffaith bod mater heb ei ddatganoli yn golygu na ddylem ni gael safbwynt ar y mater. I'r gwrthwyneb yn wir, i'r gwrthwyneb. Rydym ni'n dadlau ynghylch Brexit, ond eto nid oes gennym ni'r pŵer yn y fan yma i ymdrin â'r cawlach y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud ohono. Nid ydym ni yma i eistedd yn ôl a gadael i'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr waredu beth bynnag y maen nhw'n ei ddymuno arnom ni. Os ydym ni am ennill rhywfaint o barch, yna mae'n rhaid inni godi helynt a dweud 'na', er lles cenedlaethol Cymru. Felly, dyna pam, heddiw, y mae gennym ni welliant newydd yr wyf i wedi ei gyflwyno, y tro hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r defnydd o ynni niwclear fel modd o gyflawni system ynni carbon isel. Nid yw ynni niwclear yn garbon isel. Nid yw'n gynaliadwy. Mae'r gost garbon yn llawer uwch nag ar gyfer ynni adnewyddadwy. Bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hynny oherwydd nid wyf i'n credu bod llawer o bobl yn sylweddoli y bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Y rheswm dros hynny yw bod gradd wraniwm yn gostwng.

Rydym ni'n wlad sydd wedi ei bendithio ag adnoddau naturiol: dŵr, gwynt, llanw a hyd yn oed ychydig o haul, weithiau. Pam na ddefnyddiwn ni'r adnoddau naturiol hynny a pheidio â mewnforio wraniwm, cynhyrchu gwastraff niwclear a pheryglu dyfodol Cymru ac iechyd ein pobl? Mae ymchwil gan Lywodraeth Ffederal yr Almaen yn dangos bod cyfraddau canser yn cynyddu o amgylch gorsafoedd ynni niwclear, a dyna un o'r rhesymau pam maen nhw'n cael eu diddymu'n raddol yn yr Almaen.

Nawr, os yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru o ddifrif ynghylch cyflawni system ynni carbon isel, yna mae'n rhaid inni wrthwynebu ynni niwclear ac anfon neges glir at y Ceidwadwyr yn Lloegr i gadw eu hadweithyddion allan o'n gwlad. Cefnogwch y gwelliant a gwrthwynebwch ynni niwclear yng Nghymru. Diolch.

18:25

Diolch. A gaf i alw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar?

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y ddau welliant yn enw Darren Millar y prynhawn yma. O ran sylwadau cyffredinol y ddadl, mae'n dda o beth ein bod ni'n trafod y materion hyn. Un peth sydd gan Gymru ddigonedd ohono yw adnoddau naturiol a phe byddem ni'n eu defnyddio nhw'n gywir, gallen nhw helpu ôl troed ynni, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Fe wnes i nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod hwnnw yn gwestiwn y dylem ni ei ofyn i ni'n hunain: a ddylem ni allforio ein hynni neu a ddylem ni fod yn cynhyrchu digon ar gyfer Cymru fel gwlad? Fe fyddwn i'n dadlau ein bod ni mewn sefyllfa dda i helpu gweddill y Deyrnas Unedig fodloni ei gofynion ynni. Yn wir, fe fyddai'n ddymunol iawn inni wneud hynny, gyda'r amrywiaeth o ddulliau cynhyrchu ynni y gallem eu defnyddio'n well.

Gan gyfeirio at y ddau welliant, os caf i, mae'n amlwg bod y cynnig Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn gynnig cyffrous a deinamig sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer bellach, ac sydd, diolch byth yn ymddangos fel petai'n dechrau dwyn ffrwyth ac yn dod i gyfnod olaf y daith. Rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y grwpiau gwleidyddol yma heddiw yn cefnogi'r gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, oherwydd ei fod yn cynnig cyfle cyffrous: cyfle y dywedodd y Prif Weinidog ei hun sy'n drawsnewidiol, nid yn unig i economi'r gogledd, ond i economi Cymru gyfan, wrth inni sôn am rhwng 8,000 a 10,000 o swyddi yn ystod y prif gyfnod adeiladu, gyda 850 o swyddi parhaol—swyddi a fydd yn talu'n dda, hoffwn ychwanegu—ac wedi eu lleoli mewn lleoliad sydd â phersbectif hanesyddol o gynnal gorsaf niwclear, cyn i'r un newydd gael ei sefydlu. Fe dderbyniaf ymyriad yr Aelod.

18:30

Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad. Ni fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant, fel y mae'n digwydd, er ei bod yn hysbys iawn fy mod i'n gweithio yn gadarnhaol iawn gyda'r datblygwyr yn Wylfa. Mae ychydig o bethau ynglŷn â'r gwelliant hwn, fe ddywedwn i, nad ydyn nhw'n gyson â'r hyn yr wyf i'n ei deimlo yn sicr. Yn y tymor hir, nid wyf yn credu mai niwclear yw'r ateb; mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch pa mor drawsnewidiol y bydd yn y tymor hir ar gyfer economi Cymru, er mor bwysig ydyw i fy etholaeth i. A hefyd, pan siaredir am gymysgedd o ynni ar gyfer Cymru, mae Wylfa yn rhan o gymysgedd ynni ar gyfer y DU, nid ar gyfer Cymru, mewn gwirionedd.

Rwy'n gweld hynna'n rhyfeddol, yr ymyriad gan yr Aelod dros Ynys Môn. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi ei wneud fel unigolyn, ond mae'n dangos yn glir ei fod wedi colli'r ddadl yn ei grŵp gwleidyddol, ac felly ni allaf weld sut, pan fo'r cyfeiriad yn y gwelliant yn eithaf clir at Wylfa Newydd yn benodol ac nid yn ehangach na hynny, na all ef fel unigolyn, ei gefnogi yn bendant, heb sôn am weddill grŵp Plaid Cymru. Roeddwn wedi tybio bod grŵp Plaid Cymru yn gefnogol i Wylfa Newydd, er iddyn nhw drafod a dadlau ynghylch materion ehangach yn ymwneud â chynhyrchu niwclear ac ynni niwclear. Yn amlwg, bydd pobl yn gweld sut bydd y grŵp yn pleidleisio heddiw a gwybod beth sy'n talu orau iddyn nhw.

O ran gwelliant 3, rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn a gafodd ei gadarnhau yn fy ngolwg i gan y trigolion o amgylch datblygiad fferm wynt Hendy, y dewisodd y Gweinidog ymyrryd ynddo ac mewn gwirionedd fe roddodd hi ganiatâd i'r datblygiad penodol hwn. Fe wnaeth y Gweinidog grybwyll cymunedau yn cael dweud eu dweud a chael rhan mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ond pan fo trigolion cymdogaeth yn canfod eu bod wedi cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, hynny yw, y system gynllunio a'u bod wedi mynd drwy'r awdurdod lleol a chael arolygydd i edrych ar y cynigion hefyd, ac ar bob achlysur yr arolygydd a'r awdurdod cynllunio yn dweud nad oedd y cais hwn yn addas i gael ei ddatblygu yn y lleoliad penodol hwn, yna bydd ymddiriedaeth trigolion yn y broses yn cael ei thanseilio. A chyflwynir y gwelliant hwn heno yn y gobaith y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael eu symbylu i annog y Gweinidog i ystyried y penderfyniadau a wnaed ganddi.

Dim ond bore heddiw daeth rhai lluniau o'r lleoliad, yn dangos bod peiriannau trymion yn symud i'r safle, yn herio, byddwn i'n awgrymu, caniatâd yr awdurdod cynllunio hyd yn hyn ynghylch tir cyffredin. Fe fyddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet, pe byddai ein gwelliant ni yn cael ei wrthod heno, i wneud ymholiadau i fodloni ei hun nad oes unrhyw waith yn digwydd ar y safle ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn yn peri pryder aruthrol. Ond yn amlwg, rwy'n mawr obeithio y bydd ein gwelliant yn cael ei basio heno, oherwydd mewn gwirionedd mae'n cyfiawnhau'r angen i'r Gweinidog ailystyried.

Ceir agenda gyffrous a deinamig ynghylch ynni adnewyddadwy, ond nid oedd sathru dan draed ffydd trigolion lleol yn yr egwyddor o gael gwrandawiad teg, a hwythau wedi cyflwyno eu hachos a chael gwrandawiad a chefnogaeth i'r achos hwnnw, ac yna tanseilio'r achosion hynny, yn gwneud dim lles o gwbl i'r sector ynni adnewyddadwy. Rwyf yn credu'n bendant fod angen i'r Gweinidog ateb hynny wrth grynhoi prynhawn heddiw, a gobeithiaf y gwnaiff hi hynny.

Os caf i symbylu gweddill y ddadl yr ydym ni eisiau ei chyflwyno o'r ochr hon: Rydym ni'n credu'n angerddol bod Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae ei rhan i ostwng allyriadau carbon ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni doreth naturiol o gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy yma. Y ddau faes sydd angen ystyriaeth sylweddol, fodd bynnag, byddwn i'n awgrymu, a dylanwad y Llywodraeth hefyd, yw cysylltiadau grid yn arbennig, oherwydd ceir llawer o brosiectau adnewyddadwy bach a allai gael eu lansio pe bydden nhw ond yn gallu cael cysylltiad grid a gallen nhw eu hunain, chwarae rhan enfawr drwy ddod at ei gilydd i godi ein niferoedd yn y maes arbennig hwn. Rwy'n credu er nad yw'n gyfrifoldeb a ddatganolwyd, petai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymgysylltu ag Ofgem i'w hannog i fod yn fwy rhagweithiol yma yng Nghymru, oherwydd nhw sy'n rheoleiddio, ac o ran sefydlu unedau gwres a pheiriannau, y mae'r adroddiad yn eu crybwyll, fe geir problem fawr o ran yr ôl-groniad o geisiadau cymhelliant gwres adnewyddadwy sy'n atal pobl rhag buddsoddi yn y sector penodol hwnnw. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwn yn faes y mae angen ymdrin ag ef, gyda, gobeithio, ymyrraeth gan y Llywodraeth, i gefnogi'r sector i sicrhau bod gan bobl yr hyder i wneud y buddsoddiadau sylweddol hynny.

Ond rwyf yn gobeithio y bydd ein dau welliant yn cael eu derbyn heno. Yn enwedig yr un ynghylch Wylfa Newydd, sy'n bwriadu buddsoddi mewn cymuned sydd bron â marw o eisiau'r buddsoddiad hwnnw i greu swyddi o safon gyda chyflogau da, a'r ail welliant yr ydym wedi ei gyflwyno ynghylch fferm wynt Hendy: Mae angen ail edrych arno, Gweinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r hyder inni—. Rwy'n gweld eich bod yn ysgwyd eich pen gan ddweud na fyddwch yn gwneud hynny. Mae hynny'n anffodus iawn, a bydd pobl yn colli ffydd ac yn amau nad yw Gweinidogion yn glynu wrth y rheolau.

18:35

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

Cynigiwyd gwelliannau 4 a 5.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch bod y cynnig ac anerchiad yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017', oherwydd mae hynny yn dweud llawer o'r stori wrthym ni: yn amlwg, bod 48 y cant o'r trydan yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru yn dod o ynni adnewyddadwy, a bod hynny wedi cynyddu 5 y cant. Mae hynny'n ddigon positif, wrth gwrs. Beth sy'n llai positif yw mai dim ond 751 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy sy'n installed sydd wedi'i berchnogi yn lleol, gan y gymuned, sydd yn amlwg yn faes lle mae angen cryn waith arno fe, oherwydd nid yn unig yn awyddus i weld datblygiad ynni adnewyddadwy yr ŷm ni, ond rŷm ni eisiau gwneud yn siŵr bod perchnogaeth yr ynni yna yn y dwylo iawn. Mae 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol ar un wedd, oes, ond wrth gwrs mae 94 y cant o'r rheini yn brosiectau solar PV ar doeon domestig. Nawr, mae hynny'n bositif, ond mae'n dangos cymaint o waith sydd ar ôl i'w wneud.

Mae gennym ni, fel rŷm ni wedi clywed, yr adnoddau naturiol, mae gennym ni'r cyfalaf naturiol yng Nghymru i fod yn un o'r gwledydd sy'n arwain y byd ar ynni adnewyddadwy. Y cwestiwn felly yw: pam nad ŷm ni'n arwain y byd? Beth sy'n ein dal ni nôl? Byddwn i'n dadlau bod y ddau welliant rŷm ni wedi rhoi gerbron y prynhawn yma yn trio tynnu sylw at hynny. Yn y lle cyntaf mae angen pwerau, wrth gwrs, i weithredu'r potensial hwnnw. Yn ail, mae angen yr ewyllys gwleidyddol, ond hefyd y modd a'r cyfrwng i wireddu'r potensial hwnnw. Rŷm ni'n galw am ddatganoli pwerau llawn dros ynni. Ni fyddai neb yn synnu ynglŷn â hynny, rydw i'n siŵr, ond mae e'n drawiadol bod agenda San Steffan yn y maes ynni yn symud i un cyfeiriad, ac ewyllys gwleidyddol y fan hyn yng Nghymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at ffracio, er enghraifft, sydd yn un enghraifft glir o hynny.

Mae'r diffyg pwerau yna yn ein dal ni nôl. Edrychwch chi ar forlyn llanw bae Abertawe: petai'r cyfrifoldebau dros ynni wedi'u datganoli, nid oes gen i ddim amheuaeth y byddai fe'n digwydd. Mae'n debyg y byddai naill ai wedi digwydd neu y byddai wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Felly, os ydym ni o ddifri ynglŷn â gwireddu llawer o'n potensial, yna mae'n rhaid inni feddiannu'r pwerau i weithredu hynny ein hunain.

Dangosodd y Sefydliad Materion Cymreig yn ei brosiect Ail-egnïo Cymru bod angen mwy o uchelgais a gweithredu ymarferol ar unwaith er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer 100 y cant o ynni adnewyddadwy, ac mae'r camau hyn yn cynnwys uwchraddio effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs, fe gofiwch chi ein haddewid maniffesto ar gyfer cynllun ôl-ffitio gwerth biliynau o bunnau yma yng Nghymru. Mae hefyd yn sôn am sut y gallai rheoliadau adeiladu gynyddu effeithlonrwydd ynni. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ond wrth gwrs Plaid Cymru oedd yr unig blaid yn y Cynulliad hwn oedd yn anfodlon ar y gwelliant bach iawn yn y Rheoliadau Rhan L a gyflwynwyd rai blynyddoedd yn ôl gan y Llywodraeth hon, a bellach wrth gwrs rydym ni ar ei hôl hi. Ffermydd gwynt ar y tir, ffermydd gwynt ar y môr a diogelu dyfodol gridiau trydan—mae'r cyfan yn y gwaith Ail-egnïo Cymru. Ac wrth gwrs nid yw ynghylch y pwyslais amgylcheddol yn unig, mae'r pwyslais economaidd yn glir hefyd, oherwydd gallai'r mathau hynny o fuddsoddiadau, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, gefnogi 20,000 o swyddi bob blwyddyn ledled Cymru yn ystod cyfnod buddsoddi 15 mlynedd, gyda chyfanswm gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru o bron i £7.5 biliwn yn cael ei greu o ganlyniad.

Fe wnaethoch chi sôn—wel, fe soniais i am Ynni Cymru. Fe wnaethoch chi sôn am atlas ynni, a dof at hynny mewn munud. Mae Ynni Cymru, wrth gwrs, yn fy marn i, yn un ffordd o hybu mwy o bwyslais ar ddatblygiad ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto, oherwydd bob tro y byddaf yn codi yn y mathau hyn o ddadleuon fe fyddaf i'n dweud hyn: Mae angen inni symud oddi wrth y model prif ganolfan a lloerennau o gynhyrchu ynni a symud tuag at we pryf copyn fwy gwasgaredig, lle defnyddir ynni'n lleol yn ogystal â'i gynhyrchu'n lleol. Bydd hynny'n rhoi'r cydnerthedd inni, ac mae'n digwydd yn yr Almaen, yr Iseldiroedd, Denmarc a gwledydd eraill ac mae angen i ninnau symud i'r cyfeiriad hwnnw hefyd. Rwy'n croesawu'r atlas ynni. Rwy'n credu y bydd yn ein helpu ni i fapio a modelu potensial adnoddau ynni adnewyddadwy ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi cynllunio ynni strategol a fydd hefyd yn hwyluso ymagwedd o'r gwaelod i fyny tuag at ynni yn y tymor hwy.

Mae fy amser yn dod i ben felly fe soniaf am y gwelliannau yn gyflym iawn.

Jest i ymateb—wel, mi wnes i ymateb i'r gwelliant cyntaf rhyw bythefnos yn ôl. Nid ydw i'n gweld bod dim byd wedi newid ers hynny, felly gwnaf adael hynny.

O ran yr ail welliant, ar Wylfa, wel y peth olaf rydym ni eisiau yw bod niwclear yn rhan o'r mix ynni hirdymor. Yr holl bwrpas yw ein bod ni'n symud oddi wrth y model hub and spoke, fel roeddwn i'n ei ddweud gynnau, ac nid llyffetheirio cenhedlaeth arall i'r model yna. Felly, yn amlwg, rydym ni'n mynd i wrthwynebu'r gwelliant yna. 

Ac ar y trydydd gwelliant, wel mae dim ond yn iawn, wrth gwrs, fod lleisiau lleol yn cael eu clywed mewn unrhyw drafodaethau o gwmpas penderfyniadau cynllunio, boed yn ynni neu'n unrhyw beth arall. Ac mae e hefyd yn iawn, wrth gwrs, ar ôl cydbwyso ffactorau gwahanol a'r ystyriaethau gwahanol, fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol ar faterion sydd o arwyddocâd mwy na dim ond lleol—hynny yw, arwyddocâd cenedlaethol. Felly, mi fyddwn ni'n gwrthwynebu'r gwelliant yna hefyd. 

Mae gennym ni'r adnoddau naturiol yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfalaf naturiol, gadewch inni ei ddefnyddio fe mewn ffordd fydd yn dod â budd i'n pobl ni ac, wrth gwrs, yn bwysicach na dim byd arall, budd i genedlaethau'r dyfodol. 

18:40

Hoffwn i siarad yn fyr ynghylch y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â fferm wynt Hendy. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ei bod hi wedi gwneud penderfyniad tebyg i hwn yn gynharach eleni ynglŷn â chais fferm wynt yn fy etholaeth i, yn ardal Mynydd Hiraethog, fferm wynt Pant y Maen, a oedd yn destun cais cynllunio a gafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych. Gwrthodwyd y cais hwnnw, gwnaed apêl i Lywodraeth Cymru, ac yna lluniwyd adroddiad gan yr arolygiaeth a oedd yn argymell gwrthod y cais—argymhelliad cryf iawn i wrthod. Roedd cyrff eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cadw, hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y sail y byddai'n effeithio ar yr olygfa o feddrod o'r Oes Efydd a thomenni claddu gerllaw, ac y byddai'n cael effaith ddinistriol ar dirwedd bryniau Clwyd gerllaw, ardal o harddwch naturiol eithriadol hefyd. Ac eto, am ryw reswm, penderfynodd Llywodraeth Cymru—neu Weinidog Cymru—fod ei barn yn wahanol i un yr arolygydd, yn wahanol i un yr awdurdod lleol ac, yn anffodus, mae'r fferm wynt hon bellach yn mynd i gael ei datblygu.

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd am yr angen am bersbectif strategaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd ar faterion arwyddocaol, ond fferm wynt fach iawn yw hon sy'n cael ei datblygu, dim ond saith tyrbin—dim ond saith tyrbin unigol. Nid yw'n enfawr o gwbl. Go brin y gallech chi ddweud bod saith tyrbin unigol o bwysigrwydd strategol cenedlaethol yn yr un modd ag y byddai Wylfa Newydd neu fferm wynt sylweddol, megis fferm wynt Gwynt y Môr. Felly yr wyf yn bryderus mai sathru democratiaeth leol dan draed yw hyn a dweud y gwir.

Rwy'n credu bod y bobl yn ardal fferm wynt Hendy yn wynebu'r un math o sefyllfa yn union. Nid wyf i'n credu bod hyn yn briodol ac rwy'n credu bod arnom ni angen system gynllunio sy'n llawer mwy cytbwys ac sy'n adlewyrchu safbwyntiau pobl leol yn well o lawer. Felly fe fyddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniad ynghylch fferm wynt Hendy. Rydym ni eisoes wedi cael un yn anghywir, yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw dau, tri, pedwar, pump neu lawer mwy yn y dyfodol. Gadewch i ni gael hyn yn iawn, gadewch inni ddatrys y cydbwysedd yn y system, fel y gallwn gael rhywfaint o ffydd wrth inni symud ymlaen. [Torri ar draws.] Derbyniaf yr ymyriad.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

A gaf i gytuno â'r farn mai sathru'r gymuned leol dan draed yw hyn? Nid yw hyn yn gwneud unrhyw les i ddemocratiaeth leol, pan fo'r Gweinidog yn sathru barn yr awdurdod lleol a'r arolygydd dan draed hefyd. Ond a gaf i ofyn yn benodol, pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r gwelliant arbennig hwn, ei bod hi hefyd yn ymdrin â'r pryderon ynghylch gwaith sy'n cael ei wneud heddiw nad yw hyd yn hyn wedi cael yr hawliau priodol? Ac efallai fod angen i hynny gael ei adlewyrchu yn sylwadau'r Gweinidog ar y mater hwn hefyd.

Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Gweinidog i geisio ystyried pa un a yw'r  gwaith hwn sydd yn mynd rhagddo wedi cael y caniatâd perthnasol. Yn amlwg, os nad oes caniatâd wedi ei roi, yna fe ddylen nhw roi'r gorau iddi ar unwaith. Ac rwy'n credu bod gennym ni Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwrando ar lawer achlysur ar ddadleuon y Ceidwadwyr Cymreig ac wedi gwneud penderfyniadau ar sail y trafodaethau a gafodd hi gyda ni, ac rwy'n gobeithio ein bod ni'n curo ar ddrws agored o ran y penderfyniad hwn heddiw hefyd.

18:45

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod yn iawn fy mod i'n gwrthwynebu holl fyrdwn polisi ynni'r Llywodraeth gan ei fod yn ymdrech ofer, oherwydd hyd yn oed petai hi'n llwyddo yn ei holl amcanion, mae'r hyn yr ydym ni yng Nghymru yn ei ennill yn cael ei lethu gan yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd. Yn y cyfamser, mae pris y polisi hwn yn cael ei dalu gan ddefnyddwyr trydan a threthdalwyr yng Nghymru, ac rydym ni newydd glywed am yr effeithiau y bydd y ffermydd gwynt hyn yn eu cael yng nghefn gwlad—gordyfiannau sy'n cael eu gwasgaru dros fryniau Cymru. Gyrrais i lawr o Aberdyfi drwy'r canolbarth dros y Sul, a bron ym mhob man ar y gorwel mae'r pethau hyll hyn i'w gweld.

Yn ychwanegol at y pwyntiau, yr wyf yn cytuno'n llwyr â nhw, a godwyd eisoes gan Darren Millar ac Andrew R.T. Davies, fe hoffwn i ofyn pam y cafodd fferm wynt Hendy ei thrin yn wahanol i'r un yn Rhoscrowdder yn sir Benfro, lle cododd yr un ystyriaethau cynllunio. Dim ond pum tyrbin oedd yn hon; saith yn Hendy. Cafodd Rhoscrowdder ei gwrthod ar sail ei heffaith weledol a'r effaith ar y dirwedd. Yng Nghreigiau Llandeglau ger fferm wynt Hendy, mae gennych chi dirwedd heb ei difetha, henebion rhestredig, paleontoleg ryngwladol bwysig Creigiau Llandeglau a tharddle afon Edw. Mae clwyd enfawr yno—2,000 i 3,000 o ddrudwyod, sef rhywogaeth gadwraeth—y mae'r datblygwyr yn cynllunio i'w thynnu i lawr, a cheir adeiladau rhestredig yn agos iawn at y safle.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Darren Millar sef bod yr effaith ar y dirwedd—a gadewch inni beidio ag anghofio mai un o brif asedau'r canolbarth yw ei photensial o ran twristiaeth—yn gwbl anghymesur i'r hyn gaiff ei ennill o ran polisi ynni'r Llywodraeth. Mae'n brosiect cymharol fach, ac wrth edrych ar hwn mewn cyd-destun byd-eang, mae'n gwbl ddibwys. Ac nid wyf yn deall, felly, pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu gadael i hwn fynd rhagddo, pan nad all fod o unrhyw fantais ymarferol i neb heblaw'r datblygwyr eu hunain, ac nid wyf yn credu bod hynny'n sail synhwyrol ar gyfer penderfyniadau llywodraethau.

Ond rwyf i eisiau ymdrin yn awr â'r ystyriaethau ehangach y mae polisi ynni'r Llywodraeth yn eu codi. Fe fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei siomi pe na fyddwn yn sôn am Tsieina yn yr araith hon. Mae hi'n fy atgoffa'n gyson fod hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei godi o hyd ac mae hi'n hollol iawn, oherwydd rwyf am wneud y pwynt hwn eto: Mae gan Tsieina gapasiti o 993 GW i gynhyrchu trydan, ac mae ganddyn nhw ar hyn o bryd 259 GW o orsafoedd pŵer glo yn bennaf yn cael eu hadeiladu. Mae hynny'n gynnydd o 25 y cant ar y capasiti presennol; mae hynny chwe gwaith capasiti cynhyrchu cyfan y Deyrnas Unedig. Pe byddem ni'n cau economi'r Deyrnas Unedig gyfan i lawr, wrth gwrs fe fyddem ni'n torri ein hallyriadau carbon lawr i ganran fechan iawn, ond byddai Tsieina, yn ystod cyfnod adeiladu'r gorsafoedd pŵer newydd hyn, sef—pump i 10 mlynedd—wedi gwneud yn iawn am y gostyngiad hwnnw chwe gwaith drosodd. Felly, mae unrhyw beth a wnawn ni yng Nghymru sy'n gyfrifol am ddim ond rhan fach iawn o 1 y cant o'r allyriadau byd-eang, yn gwbl amherthnasol yn y ddadl ar gynhesu byd-eang.

Fe hoffwn i ddarllen rhan o erthygl ar wefan y BBC ym mis Medi:

Mae gwaith adeiladu wedi ailgychwyn ar gannoedd o orsafoedd pŵer glo yn Tsieina, yn ôl dadansoddiad o ddelweddau lloeren... 259 gigawat o gapasiti newydd yn cael eu datblygu.

Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ennyn llawer o gyhoeddusrwydd, ac rwy'n credu ei fod yn tanseilio'n gyfan gwbl yr holl ddadl dros ynni adnewyddadwy drwy gymorthdaliadau helaeth y telir amdanyn nhw gan bobl gyffredin, a Chymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig. Ceir 291,000 o aelwydydd yn dioddef tlodi tanwydd—ffigurau'r Llywodraeth ei hun—dyna 23 y cant o aelwydydd Cymru. Ni all pobl fforddio talu'r codiadau hyn. Datgelodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y gwanwyn diwethaf, yn ei rhagolygon economaidd a chyllidol, y bydd ardollau amgylcheddol eleni yn costio, ledled y Deyrnas Unedig, £11.3 biliwn. Mae hynny'n gynnydd o £2 biliwn dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Aiff ymlaen i ddweud bod y cynnydd o £2 biliwn yn cynrychioli cynnydd mewn biliau trydan o tua 5 y cant ar gyfartaledd, felly mae hynny ddwywaith cyfradd chwyddiant. Bwriedir i hyn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen bob blwyddyn hyd y gellir rhagweld tan y flwyddyn 2030 pryd yr amcangyfrifir y bydd o leiaf traean o holl filiau trydan yn cael eu talu drwy ardollau amgylcheddol. Felly, gwaith ofer yw polisi'r Llywodraeth, a'r bobl sydd mewn gwirionedd yn talu'r pris yw'r rhai ar waelod y raddfa incwm, y rhai a dybiwn i y byddai'r Blaid Lafur eisiau eu helpu yn hytrach na gwneud eu bywydau yn fwy anodd.

18:50

Rwy'n croesawu adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru 2017' Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y mynydd y mae'n rhaid inni ei ddringo os ydym ni i leihau allyriadau Cymru o leiaf 80 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cyrraedd y targedau hyn er mwyn goroesi yn y dyfodol. Fel y nodir yng nghytundeb Paris, mae lleihau allyriadau yn hanfodol os ydym ni i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5 gradd o'i gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol, gyda therfyn uchaf o 2 radd. Fodd bynnag, nododd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd fis diwethaf y byddem ni'n cyrraedd y trothwy 1.5 gradd yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu llym ar unwaith, bydd y tymheredd byd-eang yn cynyddu 3 i 4 gradd. Nid oes un aelod o'r G20 yn cymryd digon o gamau i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang. Ac nid yw'r bobl sy'n dal i gredu mai myth yw newid yn yr hinsawdd yn helpu o gwbl. Dros y penwythnos, roedd arweinydd economi fwyaf y byd, America, yn dal i gredu'n druenus o gyfeiliornus bod y cysyniad o gynhesu byd-eang wedi ei greu gan y Tsieineaid ac ar eu cyfer nhw i wneud gweithgynhyrchu'r Unol Daleithiau yn anghystadleuol. Mae hyn er gwaethaf y bywydau a gollwyd i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn y 12 mis diwethaf. Oni bai ein bod ni'n cymryd camau llym, ar unwaith, tanau coedwig marwol, corwyntoedd trychinebus a llifogydd dinistriol fydd y lleiaf o'n problemau. Hyd yn oed â chynnydd o 2 radd mewn tymereddau byd-eang, byddwn yn gweld gwledydd cyfan yn diflannu o dan y cefnfor sy'n codi, cynnydd o 50 y cant mewn tanau gwyllt ar draws Ewrop a miliynau o bobl wedi'u dadleoli. Mae'n rhaid inni weithredu yn awr, ac mae'n rhaid inni weithredu'n gyflym.

Fel y mae'r adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru' yn amlygu, mae 78 y cant o gynhyrchu ynni yng Nghymru yn dod o danwydd ffosil. Os yw ein planed ni i oroesi heb lawer o niwed, yna mae angen inni leihau hynny i ddim dros y degawdau nesaf.

Mae angen cymysgedd gwirioneddol o ynni adnewyddadwy arnom—paneli solar ac ynni'r llanw, ond nid ffermydd gwynt na ffermydd solar ar raddfa fawr yw'r ateb. Mae angen inni symud i grid ynni datganoledig lle mae pob cartref, pob pentref, pob tref a dinas yn cynhyrchu eu hynni eu hunain.

Bydd technoleg yn allweddol i osgoi trychineb byd-eang. Rydym ni eisoes yn gweld ein cartrefi yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni, mae goleuadau deuod allyrru golau yn defnyddio 100 gwaith yn llai o ynni. Mae ein cyfarpar bellach yn cyflawni cyfraddau effeithlonrwydd pŵer o 95 y cant. Mae cartrefi newydd wedi'u hinsiwleiddio mor dda, anaml y mae angen eu gwresogi.

Fodd bynnag, trafnidiaeth yw ein her fwyaf o hyd. Mae angen inni newid i gerbydau trydan a thanwydd hydrogen yn llawer cynt na tharged 2050 Llywodraeth y DU. Oherwydd daearyddiaeth Cymru, ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus byth yn disodli'r holl alw am drafnidiaeth bersonol. Mae'n rhaid inni sicrhau felly ein bod yn disodli'r car, y lori a'r fan â dewisiadau amgen glân. Ond i gyflawni hynny bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, buddsoddiad y mae'n rhaid inni ei wneud ac y mae'n rhaid inni ei wneud yn awr os ydym ni i gael unrhyw obaith o oroesi'r newid yn yr hinsawdd. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf i yn awr alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 18:54:14
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn bod angen inni ailystyried rhan hanesyddol Cymru o ran cefnogi system ynni ehangach y DU. Soniais yn fy sylwadau agoriadol am yr ymgynghoriad diweddar ar y cynllun cyflawni carbon isel, a gwnaeth hwnnw hi'n glir iawn bod angen i ni newid yn sylfaenol ein hymagwedd at bŵer, gwres a chludiant er mwyn inni gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio, mewn ffyrdd sy'n sicrhau manteision i bobl Cymru. Ac nid wyf i'n amau y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn, a chredaf bod angen arweinyddiaeth genedlaethol ar hyn, yn ogystal ag arweinyddiaeth leol hefyd.

Mae'n rhaid inni wneud rhai penderfyniadau beiddgar ynghylch datblygu effeithlonrwydd a sicrhau bod ein stoc adeiladau yn addas ar gyfer y dyfodol, ac mae angen inni helpu busnesau i ddefnyddio dull buddsoddi hirdymor o ymdrin â phrosiectau effeithlonrwydd ynni. A chredaf hefyd bod angen inni helpu i gydnabod bod datgarboneiddio hefyd yn cynnig cyfleoedd ac mae ein cynllun gweithredu economaidd yn rhoi blaenoriaeth i'r alwad i weithredu ar ddatgarboneiddio a'r dull rhanbarthol o'i ddarparu, a fydd mewn gwirionedd yn cyd-fynd yn dda â'n gwaith cynllunio rhanbarthol.

O ran cynhyrchu, mae'r ffaith ein bod ni ar hyn o bryd yn ddibynnol ar nwy, rwy'n credu, yn ein rhoi ni mewn perygl o fethu ein targed carbon. Soniais ein bod ni ar hyn o bryd yn cynnal 19 y cant o'r cynhyrchiant trydan gan ddefnyddio nwy yn y DU ond dim ond yn defnyddio 5 y cant. Felly, o gofio ein cyfrifoldeb carbon, rwy'n credu y dylai Cymru fod â rheolaeth lwyr dros gydsynio a defnyddio ynni yng Nghymru, ac fe wnaethom ni alw am hyn yn y negodiadau ar gyfer Deddf Cymru yn 2017.

Mae'r sector morol yn gweithio'n galed iawn i ddarbwyllo Llywodraeth y DU ei bod yn werth ei gefnogi ac mae'n cyd-fynd yn gryf â'i strategaeth ddiwydiannol. Rwy'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu technolegau morlyn yng Nghymru a hefyd i ystyried yr achos dros gefnogi prosiect newydd a arweinir gan y sector preifat.

Yn gyffredinol, mae'n rhaid sicrhau dyfodol i'n diwydiant ynni adnewyddadwy ffyniannus os ydym ni i gyrraedd ein targed adnewyddadwy. Felly, rwy'n parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gynyddu lefelau'r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy. Rydym ni wedi codi pryderon ynghylch eithrio gwynt ar y tir, y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, sef y math cost isaf o gynhyrchu, a hefyd technolegau solar o gontractau ar gyfer gwahaniaeth, y bwriad i gau'r tariff cyflenwi trydan a'r diffyg arian i gefnogi technolegau tonnau a llanw. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gymryd rhai penderfyniadau cyflym o ran cymorth yn y dyfodol ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.

Rwy'n credu y byddai cyflawni 100 y cant o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn heriol iawn. Rwy'n credu y byddai perygl, pe byddem yn dibynnu ar ein cymdogion, na fyddem yn gallu cadw'r goleuadau ynghyn yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn y fan yma yn rhannu fy mhryderon ynghylch rhoi Cymru yn y sefyllfa honno.

Bydd angen inni fuddsoddi'n sylweddol mewn dulliau cynhyrchu a rhwydweithiau ynni er mwyn cyflawni ein targedau allyriadau carbon yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n credu wrth ei wneud yn fwy clyfar, y gallwn osgoi'r gost ddiangen. Gall cynlluniau datblygu cadarn ddarparu sail ar gyfer buddsoddiad gan weithredwyr grid i gefnogi'r angen clir yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gweithio i gefnogi cynllunio ynni i sicrhau bod datblygiadau priodol yn cael eu cefnogi mewn cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Os caf i gyfeirio at y gwelliannau. Byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 1 a gyflwynwyd gan Neil McEvoy. Fel yr ydym ni wedi'i gwneud yn glir iawn, mae niwclear yn sicr yn rhan o'r gymysgedd ynni. Byddwn ni'n derbyn gwelliant 2 yn enw Ceidwadwyr Cymru. Rydym ni wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau mewn rhaglen gynhwysfawr o gymorth i elwa i'r eithaf ar botensial gwaddol parhaol o Wylfa Newydd. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 3. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol na all Llywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniadau. Ni allaf roi unrhyw sylw pellach. Rydym ni wedi darparu cefnogaeth gyson i gymunedau fel rhan hanfodol o ddatblygu ynni yng Nghymru a gall unrhyw un sy'n dymuno cwestiynu'r penderfyniad ar fferm wynt Hendy a'r rhesymau y tu ôl iddo, ac mae'r llythyr penderfyniad yno i bobl ei weld, wneud hynny drwy'r llys.

Y ddau welliant gan Blaid Cymru—byddwn ni'n gwrthwynebu'r ddau. Soniais ein bod yn gyson wedi ymladd am bwerau llawn dros ddatblygiadau ynni yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ni'n rhan o DU gydgysylltiedig a system ynni fyd-eang ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod y ffordd y caiff y system ei hariannu a'i rheoleiddio.

O ran gwelliant 5, byddwch yn ymwybodol, mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru, i mi edrych ar sefydlu cwmni ynni i Gymru. Cawsom yr alwad am dystiolaeth honno yn ddiweddar, ac rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o hynny, ac nid oeddem o'r farn bod digon o eglurder o ran diben ar yr hyn y byddai'r cwmni ynni hwnnw yn ei wneud. Ond rwy'n barod iawn—rwy'n ymwybodol bod Llŷr yn awr yn bwrw ymlaen â hyn ynghyd â'r atlas ynni. Byddwn i'n barod iawn i gael trafodaethau yn y dyfodol am y peth, os allwch chi roi mwy o eglurder ar sut, mewn gwirionedd, y byddai o fudd i'r buddsoddiad y byddai ei angen i'w ddwyn ymlaen.

Hoffwn i ddiolch i bawb—

18:55

Diolch. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl yn cael trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban? Maen nhw, yn ddiweddar, wedi cynhyrchu adroddiad eithaf helaeth ar y syniad o gwmni ynni cenedlaethol ar gyfer yr Alban, a allai yn wir fod yn fodel i ni yng Nghymru.

Ie, rwyf wedi gweld yr adroddiad, mewn gwirionedd, Adam Price, ond byddwn, wrth gwrs, byddwn yn barod iawn i drafod hynny gyda chydweithwyr yn yr Alban. Ond fel y dywedais, pan yr edrychasom ni ar y mater i ddechrau—tua blwyddyn yn ôl, rwy'n credu, ond efallai ychydig yn fwy—nid oeddem ni o'r farn y gallem ni gyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol a fyddai ei angen. Ond rwy'n barod iawn i barhau i gael y trafodaethau hynny. Byddaf wrth gwrs yn gofyn i swyddogion ymchwilio i'r cyhuddiadau, gan, rwy'n credu, dau neu dri o Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig, bod y gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn Hendy. Nid dyna fy nealltwriaeth i, ond wrth gwrs fe ofynnaf i swyddogion ymchwilio i hynny ar fy rhan, a diolch i'r Aelodau am eu diddordeb mewn ynni ac am eu cyfraniadau heddiw. Diolch.

19:00

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly rydym ni'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

Eitem 10 ar ein hagenda heno yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 a chaiff ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hybu undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd ac er mwyn gwella lles plant. Ers ei sefydlu, mae 20 Tachwedd wedi dod yn ddyddiad pwysig o ran cynyddu hawliau plant ledled y byd. Ar 20 Tachwedd 1959, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y datganiad ar hawliau'r plentyn. Ar y dyddiad hwn hefyd ym 1989, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y confensiwn ar hawliau'r plentyn. Ers 1990, mae Diwrnod Byd-eang y Plant wedi bod yn gyfle i ddathlu pen-blwydd mabwysiadu'r confensiwn a'r datganiad ar hawliau'r plentyn. Yn bwysicach, mae'n ddiwrnod pan gaiff plant ledled y byd eu hanrhydeddu a ble treulir amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo eu hawliau.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru stori wych i'w hadrodd ynglŷn â'i waith yn craffu ar hawliau plant. Yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig pan gafodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ei basio. Nod y Mesur oedd atgyfnerthu a datblygu dull Llywodraeth Cymru o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac fe'i gwnaeth hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cynllun hawliau plant, yn nodi'r trefniadau sydd ar waith i roi'r sylw dyledus hwnnw. Mae'n rhaid i'r dyletswyddau hyn fod yn gonglfaen i ddull Llywodraeth Cymru o lunio'i pholisïau ar gyfer plant. Mae'r pwyllgor hwn wedi monitro a chraffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o dan y ddyletswydd hon, a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac y caiff eu hawliau cyfreithiol eu parchu.

Mae gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol ac mae wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar newid a gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn sawl maes. Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud wrth graffu ar feysydd polisi a deddfwriaeth allweddol yn hanner cyntaf y Cynulliad hwn. Ar ddechrau'r Cynulliad, fe wnaethom ni bennu egwyddorion ac uchelgeisiau clir ar gyfer ein gwaith. Un o'r egwyddorion hynny oedd y dylai ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fod yn sylfaen i'r holl waith a wnawn, gan sicrhau bod eu safbwyntiau a'u profiadau yn cael eu cofnodi mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol. Rydym ni bellach hanner ffordd drwy'r pumed Cynulliad, felly mae hyn yn gyfle perffaith imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y pwyllgor ar faterion plant a sut yr ydym ni wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc dros y cyfnod hwn. Yn anffodus, ni fyddaf i'n gallu trafod pob un o'r meysydd hyn yn y datganiad. Yn hytrach, byddaf yn canolbwyntio ar y rhai yr ydym ni wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw, ac wedi ymgysylltu mwyaf â phlant, yn fy marn i.

Yn ein hymchwiliad cipolwg i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl ifanc eu barn i ni. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fydd darpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae'r effaith yn sylweddol. Ffurfiodd hyn ran hanfodol o'n canfyddiadau a'n hargymhellion. Roeddem yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu'r pwyslais ar y gwasanaethau hyn yn dilyn ein hadroddiad ac ymddengys fod y cynnydd yn addawol, gyda bwrdd gwaith ieuenctid dros dro wedi ei benodi yn ddiweddar.

Er gwaethaf nifer o adroddiadau blaenllaw blaenorol yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth, roedd y pwyllgor yn pryderu o hyd nad oedd y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael cefnogaeth i fynegi eu barn ynglŷn â materion sy'n effeithio arnyn nhw. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod yr angen am eiriolaeth annibynnol yn argymhelliad allweddol yn adroddiad Waterhouse yn y flwyddyn 2000. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd sicrhau bod gan blant agored i niwed eiriolwr annibynnol. Felly, ym mis Hydref 2016, cynhaliwyd ymchwiliad byr, penodol i ddarpariaeth eiriolaeth statudol yng Nghymru. Rydym ni'n falch, ers ein hadroddiad, bod cynnydd wedi'i wneud a nodir yn eang bod prosesau craffu y pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y model cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth wedi'i weithredu a'i ariannu'n llawn ledled Cymru.

Yn rhan o'n gwaith craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda phobl ifanc a chynhadledd ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn helpu i gasglu sylwadau ynglŷn â sut mae'r Bil wedi effeithio arnyn nhw. Ffurfiodd yr ymgysylltiad hwn ran hanfodol o'n gwaith craffu ac yn rhoi dealltwriaeth dreiddgar o anghenion y plant hynny a sut y gellid defnyddio'r Bil i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Un ffordd hanfodol y gwellodd y Pwyllgor y Bil oedd cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a oedd yn ganlyniad i'n sylwadau ni a sylwadau'r comisiynydd plant.

Ystyrir bod Dechrau'n Deg yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni ddewis cynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfennau allgymorth Dechrau'n Deg, oherwydd dywedodd ymatebwyr i'n hymgynghoriad yn 2016 ar y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn eu bod yn bryderus ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er bod cefnogaeth gyffredinol i nodau Dechrau'n Deg, roedd pryder y gall targedu daearyddol y rhaglen greu mwy o anghydraddoldeb drwy eithrio nifer sylweddol o blant sy'n byw mewn tlodi. Arweiniodd ystyriaeth y pwyllgor o'r mater hwn at newid cadarnhaol, yn arbennig o ran ymestyn y cyllid allgymorth, er mwyn i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd i ddewis defnyddio eu cyllidebau i ddarparu gwasanaethau Dechrau'n Deg y tu allan i ardaloedd cod post dynodedig. Mae dros £600 miliwn wedi ei wario ar Dechrau'n Deg hyd yn hyn, a bydd ein pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at ba un a all y buddsoddiad hwn ddarparu tystiolaeth ei fod yn cyflawni canlyniadau gwell yn y blynyddoedd cynnar.

Mae iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc yn hollbwysig. Yn ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl', fe wnaethom ni alw ar Lywodraeth Cymru i drawsnewid y cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom ni gasglu tystiolaeth helaeth a daethom i'r casgliad bod yr her frys bellach ym mhen blaen y llwybr gofal, a bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer lles emosiynol, cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar. Bydd methu â chyflawni ym mhen hwn y llwybr yn arwain at fwy o alw am wasanaethau arbenigol na'r hyn sydd ar gael a bydd yn gadael cyfran sylweddol o blant—y canol coll, fel y'u gelwir—heb y cymorth sydd ei angen. Mae ein siom ynghylch ymateb gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi'i gofnodi'n dda, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifenyddion y Cabinet wedi myfyrio dros yr haf ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a gyfarfu'n ddiweddar am y tro cyntaf i ystyried ffordd ymlaen. Fel Pwyllgor, ni fyddwn yn llaesu dwylo ar hyn ac rydym ni wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig diwygiedig i'n hargymhellion erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn yn cadw llygaid barcud ar gamau gweithredu'r Llywodraeth yn y maes hwn.

Tynnwyd sylw'r pwyllgor at bryder ynghylch y mater o ddiffyg gwerslyfrau addas ac adnoddau addysgol eraill gan rai ar draws y sector ac yn bwysicaf gan ddisgyblion ysgol eu hunain. Mae darparu adnoddau priodol ar gyfer dysgwyr, yn arbennig ar gyfer TGAU a safon uwch, yn hanfodol. Felly gwnaeth y pwyllgor waith i weld yr hyn y gellid ei wneud i wella hyn. I helpu i ddeall y problemau, cawsom dystiolaeth yn uniongyrchol gan nifer o blant drwy gyfres o blogiau fideo. Trwy wrando'n uniongyrchol ar y plant helpodd hyn inni ddeall natur y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu a maint y broblem.

Er nad yw'n rhan o waith y pwyllgor, byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am Senedd Ieuenctid Cymru ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd ac i'r tîm prosiect senedd ieuenctid am roi gwybodaeth reolaidd imi am y cynnydd. Mae sefydlu senedd yn gyfnod wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Mae'n gydnabyddiaeth wirioneddol o werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth a dylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaus rhwng ysgolion, pobl ifanc a'r Cynulliad. Mae'r broses o ethol y senedd ieuenctid cyntaf yn mynd rhagddi, fel y gwyddoch chi, ac mae pleidleisiau yn cau ar ddiwedd yr wythnos hon. Fe hoffwn i gynnig cefnogaeth lawn ein Pwyllgor i'r senedd ieuenctid a'i haelodau ac rwy'n edrych ymlaen at y Pwyllgor yn gweithio gyda'r senedd lle bynnag y bo modd.

Ceir llawer o feysydd eraill o waith y pwyllgor y gallwn i siarad amdanynt sydd wedi effeithio ar blant. Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ac rydym ni'n ymrwymedig i weithredu ar ein holl ymchwiliadau. Enghraifft gyfredol o hyn yw'r gwaith dilynol yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ar ein hymchwiliad iechyd meddwl amenedigol. Wrth edrych ymlaen, mae gennym ni faich gwaith trwm, sy'n cynnwys ymchwiliadau i effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach a statws Bagloriaeth Cymru, yn ogystal â'r gwaith sy'n parhau ar Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae deddfwriaeth ar y gweill hefyd.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae'n ofid mawr bod yr adroddiad yn dweud bod plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru yn cael cam oherwydd nad yw sefydliadau yn cydnabod eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol. Yn rhan o'n rhaglen waith, byddwn yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ar ymateb y Llywodraeth. Fel yr amlinellwyd, bydd y pwyllgor yn parhau â'i waith mewn cysylltiad â 'Cadernid Meddwl' ac mae wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliadau i gyllid ysgolion a gordewdra ymhlith plant.

Yn olaf, byddwn yn gwneud gwaith i ystyried sut y mae Mesur hawliau'r plentyn wedi gweithio'n ymarferol, a sut y gellid gwella'r ddeddfwriaeth honno yn fwy i roi sylfaen gadarnach fyth i hawliau plant yng Nghymru. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod hawliau plant yn fwy na geiriau ar dudalen—rydym ni am fod yn glir eu bod yn cael eu hystyried, eu parchu a'u cynnal ar draws holl weithgarwch y Llywodraeth. I gloi fy natganiad heddiw, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith yn ystod y pumed Cynulliad hwn, ond, yn benodol, rydym yn ddiolchgar iawn i'r plant a'r bobl ifanc, mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan mor enfawr wrth helpu i lunio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Diolch.

19:10

Diolch. Mae gen i nifer o siaradwyr, felly, os wnaiff bawb fod yn eithaf cryno, dylwn i allu eich cynnwys chi i gyd. Felly, mater i chi yn llwyr yw hynny. Janet Finch-Saunders.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae mor galonogol, mewn gwirionedd, clywed Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Gwn fel ffaith fod eich bwriadau a'ch dyheadau ar gyfer ein plant yng Nghymru yn ddidwyll ac yn ganmoladwy iawn, ac yn sicr mae eich penderfyniad yn amlwg iawn. Felly diolch am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o'ch pwyllgor.

Rydym ni, wrth gwrs, heddiw yn dathlu ac yn croesawu Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd ym 1954. Thema'r diwrnod eleni yw 'glas', ac mae pob un ohonom yn ceisio adeiladu byd lle mae pob plentyn yn yr ysgol, yn ddiogel rhag niwed ac yn gallu cyflawni ei botensial ei hun. Fodd bynnag, yng Nghymru, cawn ein hatgoffa drwy ein gwaith achos ein hunain fel Aelodau Cynulliad bod gan Lywodraeth Lafur Cymru fwy i'w wneud i sicrhau y cyflawnir y nodau sylfaenol hynny. Mae adroddiad diweddar y comisiynydd plant yn mynd i'r afael i raddau â rhai o'r diffygion amlwg, ac mae hi'n briodol iawn i dynnu sylw atyn nhw.

Y ffaith nad oes unrhyw asesiadau effaith hawliau plant o gyllideb Llywodraeth Cymru y llynedd—ac roedd hyn er gwaethaf argymhellion gan y comisiynydd plant i gynnal asesiadau effaith ar gyfer tri mater yn ymwneud â phlant: grantiau gwisg ysgol, grantiau cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig, a rhaglen cyswllt ysgolion Cymru Gyfan. Pryder arbennig i mi yn yr adroddiad yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud fawr ddim cynnydd o ran ymyraethau cynnar ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Ac, unwaith eto, fe hoffwn i'ch canmol chi unwaith eto, Lynne Neagle AC, am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud i geisio cyflawni newid sylweddol trwy'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud o'r blaen. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd iawn â pha mor annigonol yw'r ddarpariaeth ar gyfer anghenion ymddygiadol ac emosiynol, heb fod yn gymwys mewn gwirionedd ar gyfer ymyrraeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a hynny er gwaethaf llawer o argymhellion blaenorol. Mae'n parhau heddiw bod ychydig neu, yn wir, dim tystiolaeth o—. Er gwaethaf llawer o rethreg yn y Siambr hon gan aelodau'r Cabinet yn y gorffennol, nid yw'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn rhoi digon o ddifrifoldeb i'w rhwymedigaethau ei hun.

Hoffwn i wybod sut y mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn gan y comisiynydd plant, yn enwedig y rhai coch, lle na wnaed argymhelliad ar y pwnc hwn eleni, sy'n datgan:

'Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau cefnogaeth wladol briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc Byddar a rhai â nam ar eu clyw a’u teuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hygyrch a fforddiadwy ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar amrywiaeth o lefelau, a chyflogi staff mewn ysgolion sy’n cyfathrebu’n rhugl mewn BSL, i ymateb i anghenion unigolion.'

Meddwl oeddwn i, yn yr oes sydd ohoni, fod hynny'n ofyniad sylfaenol, ond mae'n un y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ddewis ei anwybyddu.

I gloi ar nodyn cadarnhaol, fodd bynnag, rydym ni i gyd wedi ein calonogi gan sefydliad Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'n gydnabyddiaeth wirioneddol o'n hieuenctid a'u gwerth eu hunain i'n cymdeithas, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phleidiau eraill ar draws y Siambr hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gyda fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC, er mwyn sicrhau ein bod yn wirioneddol yn ymgorffori'r hawliau plant hynny nid yn ein meddyliau neu yn ein geiriau yn unig, ond yn wirioneddol yn ein gweithredoedd.

19:15

Diolch, Janet Finch-Saunders, am y sylwadau hynny ac am y geiriau caredig, rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Roedd nifer o'r materion y gwnaethoch chi eu crybwyll yn ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiynydd plant ger ein bron ddydd Iau, a bydd gennym ni gyfle i'w holi'n uniongyrchol ac i gymryd camau dilynol ar y materion hynny bryd hynny, ac mae pob mater y mae hi wedi'i godi yn bwysig iawn.

Rwy'n cytuno â chi ynghylch yr asesiadau effaith ar hawliau plant. Mae hyn wedi bod yn bryder parhaus i'r pwyllgor, a byddwch yn ymwybodol ein bod, yr wythnos diwethaf, wedi cynnal cyfarfod cydamserol â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n gobeithio, fel grŵp o bwyllgorau, y gallwn ni weithredu ar yr argymhellion hynny i wneud yr asesiadau effaith hynny yn fwy ystyrlon. Ond yr hyn y byddaf i'n ei ddweud yw bod rheswm dros neilltuo plant ar gyfer asesiad effaith penodol, a hynny yw oherwydd nad oes ganddyn nhw bleidlais, nad oes ganddyn nhw'r math hwnnw o lais democrataidd, felly mae'n arbennig o bwysig, yn fy marn i, inni sicrhau bod eu hawliau wrth wraidd yr hyn a wnawn. Diolch ichi am y sylwadau, ac rwy'n cytuno â chi ynghylch y Senedd Ieuenctid.

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn dathlu'r diwrnod hwn, Diwrnod Byd-eang y Plant, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni asesu'r sefyllfa o ran hawliau plant. Rwyf i'n aelod o'r pwyllgor, ac fe hoffwn i ddiolch i'r Cadeirydd am ei datganiad. Mae'n rhoi blas ar waith y pwyllgor, ac rwy'n credu ei bod hi wedi cynnwys y meysydd mewn ffordd gynhwysfawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n cyfeirio wrth fynd trwy'r gwahanol feysydd at y dylanwad penodol y mae'r pwyllgor wedi'i gael ar y Llywodraeth, yn ei thyb hi. Felly, nid wyf i'n gwybod a wnaiff hi ddweud rhagor am hynny. Rwy'n credu bod meysydd penodol lle cafwyd dylanwad sylweddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu llunio'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn benodol, ac fe hoffwn i longyfarch y Cadeirydd am fod fel ffured wrth weithredu ar hynny—[chwerthin.] Daeargi, nid ffured. [Chwerthin.] Mae 'daeargi' yn air gwell. Ond, a bod o ddifrif, rwy'n credu eich bod wedi dangos arweinyddiaeth wych yn yr adroddiad hwnnw, a tybed a wnewch chi roi sylw ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny.

Fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae'n destun cyffro mawr ein bod yn dathlu'r Senedd Ieuenctid. Mae'r pleidleisio ar fin dod i ben, ac mae'n gam mawr ymlaen yn fy marn i. Nid wyf i'n gwybod a all hi ddweud sut y gallai'r pwyllgor weithio gyda'r Comisiwn a'r Senedd Ieuenctid efallai i weld hynny'n symud ymlaen. Ac eto, fe hoffwn i ddweud—nid wyf i'n gwybod a all Cadeirydd y pwyllgor wneud unrhyw sylwadau am y ffaith—ein bod ni, mewn gwirionedd, mewn sefyllfa anodd iawn o ran hawliau plant, gan nad ydym ni'n gwybod pa effaith y bydd Brexit yn ei chael ar hawliau plant, ac rydym ni hefyd wedi cael adroddiad tlodi y Cenhedloedd Unedig gan Philip Alston, y cyfeiriwyd ato yma yn y Siambr heddiw eisoes. Mae'n feirniadol iawn o effaith y credyd cynhwysol, a dywedodd Alston fod lefelau tlodi plant 

yn ogystal â bod yn warthus, yn drychineb cymdeithasol ac yn drychineb economaidd.

Nid oedd yn galonogol iawn, yn fy marn i, mai ymateb Amber Rudd oedd sôn am natur hynod wleidyddol ei iaith. Tybed a wnaiff y Cadeirydd roi sylw am y ffaith ein bod ni'n edrych ar yr holl feysydd hyn yng Nghymru lle yr ydym ni'n gwneud cynnydd yn ein barn ni, ond mae'n anodd yn yr hinsawdd hon lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cael effaith niweidiol ofnadwy ar blant yng Nghymru.

Diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny, a diolch ichi am y cyfraniadau cadarnhaol iawn yr ydych chi'n eu gwneud i'r pwyllgor yn gyson. Fe wnes i roi rhai enghreifftiau yn y datganiad o sut rwy'n credu ein bod wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid. Fe wnaethoch chi gyfeirio at 'Cadernid Meddwl', ac, fel y gwyddoch chi, roedd y pwyllgor yn siomedig iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid Meddwl'. Ond erbyn hyn, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu. Rwyf i'n aelod ohono, fel aelod sy'n cyfrannu'n llawn ond yn cadw statws arsylwi, felly'n cadw fy ngallu i feirniadu a nodi pethau nad wyf i'n fodlon arnyn nhw, a byddaf i'n sicr yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu bod y ddau Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gobeithio yn y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd—bod pawb yn sylweddoli bod y pwyllgor yn gwbl benderfynol o gyflawni'r hyn sydd, yn fy marn i, yn fap cynhwysfawr o'r daith ar gyfer newid yn 'Cadernid Meddwl'. Nid ydym am laesu dwylo; byddwn yn parhau i weithredu'n ddibaid, oherwydd nid ydym yn dymuno trosglwyddo hyn i bwyllgor arall mewn Cynulliad arall. Nawr yw'r amser i ymdrin â hyn.

Diolch am eich sylwadau ynghylch y Senedd Ieuenctid. Rwy'n awyddus iawn, pan fyddan nhw yn y swydd, ein bod yn sefydlu perthynas waith gref â nhw. Rwy'n credu y bydd yn bwysig i wrando arnyn nhw ynghylch sut y maen nhw'n dymuno ymgysylltu â ni, yn hytrach nag ein bod ni'n dweud, 'Wel, ni yw'r pwyllgor plant; hoffem ni wneud hyn a hyn.' Ond rwy'n gobeithio, cyn gynted â'u bod yn eu swydd, y gallwn ni ddechrau cynnal y trafodaethau hynny a'u bod yn gwybod ein bod ni'n awyddus i weithio gyda nhw gymaint ag y bo modd.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad cennad y Cenhedloedd Unedig, a oedd yn sicr yn adroddiad difrifol iawn yr wythnos diwethaf, drwy sôn am amddifadedd a phobl mewn tlodi eithafol, sydd wrth gwrs yn cael effaith enfawr ar blant. Rwy'n gobeithio, wrth i ni wneud y gwaith ar y Mesur hawliau'r plentyn, y bydd hwnnw'n cynnwys rhywfaint o graffu ar y meysydd sy'n ymwneud â thlodi plant, sydd wrth gwrs wedi'u cynnwys gan y Cenhedloedd Unedig. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn cyflwyno heriau i ni fel Cynulliad, oherwydd, er bod pethau fel credyd cynhwysol wedi'i wthio arnom ni gan San Steffan, rydym yn mynd i orfod ceisio gwella pethau gorau y gallwn, a thema gyffredin i'r pwyllgor fu pryder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am dlodi a thlodi plant yn y Cynulliad erbyn hyn, gan nad oes Gweinidog penodol yn gyfrifol amdano, ac mae hyn yn cyflwyno heriau wrth graffu arno. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gallwn ni fynd i'r afael â hynny, a gyda phwyllgor John Griffiths hefyd, oherwydd mae'n rhaid inni—. Mae cymaint o'r problemau hyn yr ydym ni'n eu gweld, fel problemau iechyd meddwl, yn dechrau gyda phobl sy'n byw mewn tlodi, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw.

19:20

Diolch yn fawr iawn i Lynne am ei datganiad ac am greu'r cyfle i ni roi ffocws clir ar hawliau plant yng Nghymru heno. Rydw i'n falch iawn, fel rydym ni i gyd, rydw i'n siŵr, fod Cymru wedi mabwysiadu confensiwn hawliau'r plentyn y Cenhedloedd Unedig yn 2011—gwlad gyntaf y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi arolwg o'i hymrwymiadau i'r confensiwn y flwyddyn nesaf, a bydd hyn yn rhoi cyfle uniongyrchol i'r Cynulliad graffu ar weithrediad y Mesur. Fel rydym ni wedi clywed, mae'r comisiynydd plant yn hynod feirniadol na wnaed unrhyw asesiadau effaith hawliau plant ar y cynigion cyllideb presennol. Mae erthygl 4 confensiwn hawliau'r plentyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob lefel o lywodraeth weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r confensiwn. Mae'n dweud bod angen asesu'n gyson sut bydd cyllidebau yn effeithio ar grwpiau gwahanol o blant, gan sicrhau bod y penderfyniadau cyllideb yn arwain at y deilliannau gorau posib i'r nifer mwyaf o blant, ond gan gymryd i ystyriaeth, yn ganolog i'r broses, plant mewn sefyllfaoedd bregus. Ond mi ddywedodd y comisiynydd yr wythnos diwethaf:

mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon,
 

yn hytrach na bod hawliau'n rhan o'r dadansoddiad o'r cychwyn cyntaf, a hynny yn arwain at y penderfyniadau cyllidebol.

Felly, ydy, mae'r comisiynydd plant yn bod yn hynod feirniadol, ac efo pob lle i fod yn feirniadol, ond, a bod yn deg, mi wnaeth hi hefyd ddweud mai prin iawn ydy'r enghreifftiau o arfer dda. Hynny yw, prin iawn ydy'r enghreifftiau o lywodraethau yn gweithio'n systematig i sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant a hawliau plant yn ystod eu prosesau creu cyllidebau. Felly, nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hynny o beth. Ychydig iawn o esiamplau sydd yna o wladwriaethau sydd yn wirioneddol lwyddiannus wrth osod cyllidebau yn unol â'u hymrwymiadau i hawliau plant. Felly, beth am i ni yma yn Senedd Cymru ddangos y ffordd? Ni ydy'r cyntaf yn y DU i fabwysiadu'r confensiwn. Beth am i ni fod y Senedd gyntaf—y gyntaf yn y byd—i wreiddio ystyriaethau hawliau plant yn ddwfn i'n prosesau cyllidebu? Buaswn i'n hoffi cael eich barn chi ac, yn bwysicach, efallai, barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar hynny. Mi fyddai'n wych o beth pe baem ni'n gallu cefnogi hynny heddiw ar ddiwrnod plant y Cenhedloedd Unedig.

19:25

Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o'i chael hi'n aelod o'r pwyllgor hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch y mater hawliau plant. Mae wedi bod yn thema gyson yn y Cynulliad—ein bod ni'n pryderu, er gwaethaf y cychwyn gwych hwn yn ôl yn 2011, bod yr ymrwymiad hwnnw wedi gwanhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf am resymau teilwng iawn eu golwg, yn sgil pethau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond, fel y dywedais i'n gynharach, mae yna reswm pam yr ydym ni wedi neilltuo plant, ac mae'n rhaid inni lynu at hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, trwy weithio gyda phwyllgorau eraill.

Awgrym cadarnhaol iawn arall a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf oedd edrych yn ôl ar y gwaith rhagorol a gafodd ei wneud, pan oedd Jane Hutt yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, o ran cyllidebu ar gyfer plant, oherwydd nid yw'n ddigon i wneud dim mwy na siarad am y pethau hyn; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod yn digwydd. Rwy'n credu y byddai'n wych pe gallem ni fel Cynulliad wneud yn siŵr ein bod yn parhau i arwain y ffordd yn y maes hwn. Rwy'n frwdfrydig iawn, iawn ynghylch hynny.

Rwyf i hefyd yn falch o allu siarad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant yn y sefydliad hwn, sydd wedi gwneud cymaint dros hawliau plant yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe allwn ni fod yn falch bod hawliau plant yn gonglfaen i bopeth yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaeth y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i integreiddio hawliau plant mewn cyfraith ddomestig. Dywedodd John F Kennedy un tro

mai plant yw adnodd mwyaf gwerthfawr y byd a'i obaith gorau ar gyfer y dyfodol.

Er fy mod i'n siŵr bod pawb yn y Siambr yn cydweld yn llwyr â hynny, rwyf i'n credu y gall pob un ohonom ni fod yn falch nad yw cymorth y Cynulliad hwn ar gyfer ein hadnodd mwyaf gwerthfawr wedi'i gyfyngu i ddatganiadau â bwriad da, yn hytrach y mae wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac, ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae gan y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrais domestig, a arweiniwyd gan Carl Sargeant, le gwerthfawr i sicrhau hawliau'r plentyn.

Fe allwn ni hefyd fod yn falch o arwain y ffordd trwy greu Comisiynydd Plant Cymru yn 2001—rhywbeth sydd wedi ei efelychu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion, yn gwrando ar leisiau pobl ifanc, a dyna pam rwy'n falch o weld cynifer o bobl ifanc ledled Cymru yn ymgysylltu â'r etholiad cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru. Felly, da iawn, i bob un o'n hymgeiswyr ac, yn amlwg, pob lwc i Islwyn.

Er bod llawer inni ymfalchïo ynddo, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr heriau sy'n wynebu gormod o blant yng Nghymru. Mae'n briodol ein bod ni yn y lle hwn yn cydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaethau ieuenctid ar hyn o bryd, nid lleiaf gan agenda gyni niweidiol a chreulon y Llywodraeth Dorïaidd sydd wedi'i drosglwyddo i lywodraeth leol, sy'n ymdrin â'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n ddifrifol clywed adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn trafod tlodi a hawliau dynol yn ei adroddiad damniol sydd newydd ei gyhoeddi ar dlodi a'r effaith ar blant ledled y DU. Dyma ail adroddiad hynod ddamniol y Cenhedloedd Unedig ar bolisi cymdeithasol Llywodraeth y DU, sydd, yn ei eiriau ei hun, yn creu tlodi a digartrefedd drwy system les greulon ac atgas, ac yng ngeiriau'r adroddiad, yn methu â sicrhau hawliau'r plentyn. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y cynnydd posibl mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc, sy'n cael ei wneud yn waeth gan drefniadau diwygio lles y DU a pholisïau anflaengar Llywodraeth y DU.

Er gwaethaf y sefyllfa ddigalon hon, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau blaengar. Ddoe ddiwethaf, roeddwn i'n falch o groesawu'r Prif Weinidog i fy etholaeth i yn Aberbargoed i weld y gwaith cydweithredol rhagorol sy'n digwydd rhwng gwasanaethau ieuenctid Caerffili, Llywodraeth Cymru a grwpiau trydydd sector fel Llamau—gweithio ar y cyd ar gyfer y plentyn unigol—ac i gyhoeddi £10 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiectau i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Gweithredu gwirioneddol yw hynny a menter wirioneddol. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o £15 miliwn, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. A gofynnaf i bawb yn y Siambr hon gydweithio a galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn hawliau'r plentyn a dileu'r angen am adroddiad arall gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi yn y DU trwy roi terfyn ar gyni a pheidio â pharhau â'r llanast yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol trwy ei ddirwyn i ben. Rwy'n galw ar bawb yn y Siambr hon i alw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar hynny. Diolch.

19:30

A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau? Rwy'n cytuno bod gennym ni hanes da iawn yng Nghymru, un y gallwn ni fod yn falch ohono, ond ni allwn ni fod yn hunanfodlon, yn enwedig ar adeg o gyni pan fo'r fath flaenoriaethau yn gwrthdaro. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein gorau i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i'r hyn yr ydym yn ei wneud.

Diolch i chi am grybwyll y gwasanaethau ieuenctid. Maen nhw'n hanfodol bwysig. Dyna oedd ein hymchwiliad cyntaf. Maen nhw'n bwysig i'r plant mwyaf agored i niwed, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cofio eu bod nhw yno ar gyfer pob plentyn, ac roedd honno'n neges glir iawn yn ein hymchwiliad, y dylai hyn fod yn ddarpariaeth gyffredinol sy'n agored i'r holl blant a phobl ifanc er mwyn darparu ar gyfer pawb.

Eto rwy'n cytuno â'ch sylwadau ynghylch adroddiad y Cenhedloedd Unedig. Rwy'n credu ei bod hi'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ymdrin ag ef. Rwy'n gobeithio ei bod yn rhywbeth y gall y pwyllgorau weithio gyda'i gilydd i ymdrin ag ef, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cyfleu'r negeseuon sydd ynddo, oherwydd dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud ar rai pethau, ac mae diwygiadau lles anffafriol iawn yn parhau i gael eu gwthio arnom ni. Yn y pen draw, mae tlodi yn effeithio cymaint ar yr holl faterion eraill fel problemau iechyd meddwl, perthynas teuluol yn chwalu, ac yn y blaen. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd arno. Diolch.

11. Cyfnod Pleidleisio

Eitem 11 yw'r cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y pleidleisio.

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ynghylch Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 40, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM6867 - Dadl: Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018: O blaid: 40, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidlais ar y ddadl: sut y gallwn ni gyflawni system ynni carbon isel ar gyfer Cymru? A galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant un, wyth yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir y gwelliant.

NDM6866 - Gwelliant 1: O blaid: 1, Yn erbyn: 40, Ymatal: 8

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2.

NDM6866 - Gwelliant 2: O blaid: 40, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 3.

NDM6866 - Gwelliant 3: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 4.

NDM6866 - Gwelliant 4: O blaid: 10, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 5.

NDM6866 - Gwelliant 5: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

19:35

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6866 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 37, dau yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6866 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:35.