Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.

Amseroedd Aros Ysbytai

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o welliannau i amseroedd aros ysbytai ers iddo ddod yn Brif Weinidog? OAQ52698

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod y gwelliant. Rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn ychwanegol eleni i adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac i leihau amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2019.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr yr hoffech chi gymryd yr ystyr hwnnw o fy nghwestiwn, ond, yn eich araith olaf i gynhadledd y Blaid Lafur fel Prif Weinidog, gwnaethoch fôr a mynydd o ddweud bod yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni yng Nghymru yn dangos yr hyn y gall Llafur ei wneud pan fydd mewn grym. Efallai eich bod chi wedi ymgolli yn eich hapusrwydd o ymadael, ond fe wnaethoch anghofio sôn, ers dod yn Brif Weinidog, bod canran y bobl sy'n aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu, bod nifer y cleifion canser diagnosis newydd yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 30 diwrnod wedi gwaethygu, bod nifer y cleifion canser llwybr brys yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod wedi gwaethygu, ac mae nifer y cleifion sy'n aros mwy na 26 wythnos am driniaeth wedi gwaethygu hefyd. Felly, Prif Weinidog, onid ydych chi'n credu, yn hytrach na bod eich hanes yn achos i ddathlu'r hyn y gall Llafur ei wneud i'r DU, ei fod mewn gwirionedd yn rhybudd amlwg o'r hyn y bydd Llafur yn ei wneud i'r DU, o gael y cyfle?

Wel, roedd nifer y bobl a fu'n aros dros 36 wythnos ym mis Gorffennaf 31 y cant yn is na mis Gorffennaf y llynedd—52 y cant yn is na'r nifer uchaf ym mis Awst 2015. Rydym ni'n disgwyl parhau i wella eleni. Mae'r amser aros canolrifol yng Nghymru wedi lleihau o 10.9 wythnos ym mis Medi 2017 i 8.9 wythnos ym mis Gorffennaf eleni. Rydym ni hefyd yn parhau i ddangos gwelliannau sylweddol o ran amseroedd aros diagnostig; mae perfformiad yn parhau i wella, hyd yn oed gyda'r prawf diagnostig ychwanegol yn cael ei adrodd o fis Ebrill 2018, ac roedd y nifer a fu'n aros dros wyth wythnos ar ddiwedd mis Gorffennaf 24 y cant yn is nag ym mis Gorffennaf y llynedd, ac 82 y cant yn is na'r nifer uchaf ym mis Ionawr 2014. Nawr, gallwn barhau gyda mwy o ffigurau sy'n dangos y gwelliant, ond un peth y gallaf ei ddweud wrthi yw y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i Lywodraeth Cymru a digon o adnoddau ar gael i weddnewid perfformiad echrydus y GIG yn Lloegr hefyd.

Hoffwn sôn ychydig am y GIG yng Nghymru—doeddwn i ddim yn sylweddoli eich bod chi'n gyfrifol am yr un yn Lloegr hefyd. Mae eich ffigurau yn swnio'n hollol wych, Prif Weinidog, ac nid wyf i'n dadlau gyda'r gwelliannau, lle ceir gwelliannau. Fodd bynnag, wrth gwrs, nid yw'r gwelliannau hynny yn gyffredinol. Fel y gwyddoch, y £50 miliwn a roddwyd y llynedd, bu'n rhaid adennill cyfran ohono oherwydd i fyrddau iechyd fethu â bodloni'r targedau a bennwyd ar eu cyfer gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i sicrhau'r gostyngiadau hynny mewn meysydd allweddol; £30 miliwn arall eleni. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd modd i'r byrddau iechyd wario hwnnw'n ddoeth, a sut y gallwch chi brofi y bydd y rhai na wnaeth ei wario'n ddoeth y llynedd ac y bu'n rhaid ei gipio yn ôl oddi wrthynt yn gallu gwneud rhywbeth defnyddiol ag ef eleni, i barhau i wneud yn siŵr bod gostyngiadau i amseroedd aros, lle maen nhw i'w gweld, yn gyffredinol ac nid dim ond mewn pocedi ledled Cymru?

Wel, gellir gwneud hynny trwy ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd y byrddau. Maen nhw'n darparu proffiliau capasiti a galw manwl ar gyfer y flwyddyn hon, ac mae'n ofynnol iddyn nhw ddangos llwybrau eglur o ran sut y maen nhw'n bwriadu parhau i leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosteg ac ar gyfer triniaeth. Yn y tymor hwy, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod yr angen i weddnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu, a dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu cronfa o £100 miliwn i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Prif Weinidog, dywedodd un o'm hetholwyr ei fod wedi gweld 15 o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adran achosion brys yn y gogledd heb fod ymhell yn ôl. Dyma'r bwrdd iechyd sy'n dal i fod yn destun mesurau arbennig, yn dal i fod o dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth chi. Mae hynny'n 15 o ambiwlansys nad ydynt ar gael i helpu'r rhai sydd angen cymorth yn ddybryd mewn mannau eraill. Ymddengys mai hyn yw'r norm erbyn hyn. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn rhanbarth gogledd Cymru, a phryd y byddwn ni'n gweld effaith eich mesurau arbennig o'r diwedd?

Nid wyf i'n gwybod am ble y mae hi'n sôn amdano, a heb ragor o fanylion, mae'n anodd cynnig sylwadau. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gweld gwelliannau parhaus, o fis i fis, i amseroedd ymateb ambiwlansys. Gallaf ddweud wrthi, ym mis Awst, y bu 89,419 o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru. Mae hynny'n 2,884 o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd. Mae'r mwyafrif llethol o gleifion yn parhau i dderbyn gofal prydlon. Ac ym mis Awst, derbyniwyd, trosglwyddwyd neu rhyddhawyd 80 y cant o gleifion o fewn pedair awr. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd adrannau damweiniau ac achosion brys yn brysurach nag adegau eraill o'r flwyddyn, ac ar adegau eraill yn ystod yr wythnos yn wir, ond rydym ni'n gweld o amseroedd ymateb ambiwlansys, ac, wrth gwrs, y perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, fod y mwyafrif llethol o bobl yn cael triniaeth pan fydd ei hangen arnynt, ar adeg briodol.

13:35
Gwasanaethau Bysiau yng Nghefn Gwlad

2. Beth yw gweledigaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad? OAQ52656

Wel, mae rhwydwaith bysiau cynaliadwy yn hanfodol i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Byddwn ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda’n partneriaid i ariannu gwasanaethau a chyfleusterau allweddol, a gwella mynediad atynt hefyd, wrth gwrs. Fel rhan o’r strategaeth honno, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn sicrhau ein bod ni'n gwella'r system fysiau ac, wrth gwrs, mae yna gyfle dros y blynyddoedd nesaf, achos y ffaith bod gennym ni rym nawr dros fysiau, i greu deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw'r problemau rŷm ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd, lle mae cwmnïau yn cwympo wrth ei gilydd ac o achos hynny yn ffaelu cario ymlaen gyda gwasanaethau, yn digwydd yn y pen draw, a bod mwy o sicrwydd i bobl nid dim ond mewn ardaloedd gwledig ond trefol hefyd. 

O blith pawb sydd yn defnyddio cludiant cyhoeddus, mae 80 y cant yn defnyddio bysiau. Mewn ardaloedd gwledig, fel rhannau o f'etholaeth i yn Arfon, nid oes trenau ar gael a mynd ar y bws ydy'r ffordd i bobl sydd heb geir deithio i'w gwaith ac i gyrraedd at wasanaethau hanfodol. Ond y gwir ydy, mae angen trawsnewid gwasanaethau bysiau gwledig, ac mae Plaid Cymru eisiau rhoi llawer mwy o rym i gynghorau lleol fel eu bod nhw'n gallu trefnu gwasanaethau addas, ar y cyd â chwmnïau bysus lleol. Mae yna rai cymunedau hefyd wedi datgan awydd i dreialu system integredig a fyddai'n cynnwys defnyddio cerbydau trydan a hydrogen i lenwi rhai o'r bylchau yn y gwasanaethau presennol. Pa gymorth ymarferol y gallwch chi fel Prif Weinidog ei roi tuag at gynlluniau peilot o'r math yna? 

Wel, wrth gwrs, rydym ni'n agored i weld pa fath o fìd fyddai'n dod o unrhyw awdurdod lleol. Un peth y byddwn i yn ei ddweud yw ei bod hi'n hollbwysig sicrhau bod yr awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd, achos, wrth gwrs, y gwir yw nad yw pobl ond yn teithio y tu fewn i un sir; maen nhw'n teithio o le i le. So, byddai'n hollbwysig sicrhau bod y gwasanaethau sydd yn mynd ar draws ffiniau yn cael yr un sylw â'r rheini sydd y tu fewn i sir hefyd. Ond, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweithio gydag awdurdodau lleol a hefyd gyda chwmnïau bysiau er mwyn sicrhau bod y system yn fwy cynaliadwy yn y pen draw. 

Mae angen, rwy'n credu, ystyried sut y mae gwasanaethau bysiau gwledig yn cael eu darparu oherwydd ni fyddant byth yn cael eu rhedeg yn fasnachol, wrth gwrs. Nawr, mae angen i Lywodraeth Cymru a gweithredwyr awdurdod lleol, rwy'n credu, ddod at ei gilydd i ffurfio partneriaeth, ac nid yw'r bartneriaeth honno'n bodoli ar hyn o bryd. A all Llywodraeth Cymru chwarae rhan flaenllaw i ffurfio partneriaeth o'r fath?

Wel, un o'r anawsterau, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gweld cwmnïau bysiau yn mynd i'r wal ac, o ganlyniad, ceir toriad mewn gwasanaethau. Yn aml iawn, wrth gwrs, cânt eu hail-ddarparu gan ddarparwr arall. Rydym ni wedi gweld Arriva, er enghraifft, yn tynnu allan o Geredigion gyfan, i bob pwrpas, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n gweithredu'r gwasanaethau bysiau yno ac, wrth gwrs, daeth cwmnïau newydd ymlaen. Ond, unwaith eto, roedd ansicrwydd ac, unwaith eto, roedd bwlch posibl yn y gwasanaeth. Nawr, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym y llynedd, fel y gwyr ef, ar gynigion a fyddai'n cryfhau'r trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol ac, wrth gwrs, bydd angen i ni ystyried dros yr ychydig flynyddoedd nesaf sut y gallwn ni sicrhau parhad gwasanaeth lle nad oes cymhorthdal i'r gwasanaeth hwnnw a lle, wrth gwrs, y gall y gweithredwr preifat ei ddarparu ym mha fodd bynnag y mae'n dymuno. Nawr, mae'n amlwg nad yw hwnnw'n fodel cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ond nawr bod gennym ni'r pwerau yr ydym ni wedi gofyn amdanynt ers gymaint o amser dros y rhwydwaith bysiau, ceir cyfle cyffrous i lunio rhwydwaith mwy integredig a chynaliadwy yn y dyfodol.

Ceir potensial enfawr i'r datblygiadau mewn technoleg wella profiad teithwyr a gwella dichonoldeb bysiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r prosiect Bwcabus yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin, sydd wedi defnyddio model sy'n ymateb i'r galw i wneud cludiant cyhoeddus yn ddichonol ar lwybrau llai. Ceir potensial mawr i'r math hwnnw o ddull, wedi ei gyfuno â thechnoleg ap. Mae unrhyw un sydd wedi archebu tacsi trwy ap yn gwybod y gallwch chi drefnu amser, y gallwch chi ddarganfod y pris, eich bod chi'n gwybod pa mor hir y mae'n mynd i'w gymryd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried sut y gellid cymhwyso'r math hwnnw o dechnoleg i fysiau ledled Cymru i wneud cludiant cyhoeddus yn ddewis ymarferol i bobl o ddydd i ddydd?

Gwnaf, mi wnaf. Mewn llawer o ardaloedd gwledig, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, mae Bwcabus wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran gallu darparu cludiant cyhoeddus pan na fyddai ar gael fel arall. Wrth i ni weld technoleg yn datblygu, fel y dywed yn gywir, yna ceir cyfle i gynyddu hyblygrwydd, i gael gwell syniad o ble mae'r galw ar adegau penodol o'r dydd ac, wrth gwrs, i bobl fod yn siŵr y bydd bws yn cyrraedd pan fydd angen y bws hwnnw arnyn nhw. Mae'n cymylu mewn rhai ffyrdd y gwahaniaeth rhwng gwasanaethau bws a gwasanaeth tacsi, mewn rhai rhannau o Gymru. Nid yw hynny o reidrwydd yn beth gwael, gan ei fod yn creu'r math hwnnw o hyblygrwydd, ac rwy'n credu ei fod yn llygad ei le i ddweud, gyda thechnoleg nawr, bod digon o gyfle i ni ymestyn gwasanaethau bws mwy hyblyg i rannau o Gymru efallai nad ydynt wedi gweld gwasanaeth bws ers blynyddoedd maith.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid yn gyntaf, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'w ddiben?

Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, bod y sefydliad hwn, wrth gwrs, yn atebol yn uniongyrchol i'ch Llywodraeth chi. Mae'n cael £180 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn, ac eto mae'n gyfrifol am lu o fethiannau, sydd wedi arwain at gostau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Mewn dim ond pum mlynedd ers ei sefydlu, mae cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am dair blynedd yn olynol, ac maen nhw wedi gwerthu coed Cymru yn rhy rhad heb broses dendro briodol, gan arwain at golled o £1 filiwn i drethdalwyr Cymru. Mae'r cyhoedd yn galw am ddiswyddiadau. Mae angen atebolrwydd arnom ni. A oes unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ddiswyddo am y methiannau hyn?

Wel, bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, bod y cadeirydd wedi mynd, a'r cam nesaf fydd penodi cadeirydd newydd. Bydd yn gwybod bod prif weithredwr newydd, sydd wedi disodli rhywun â phrofiad enfawr, yn enwedig yn rhan o'r gwasanaeth llysoedd, ac roedd yn ymwneud yn benodol â'r mater o gontractau coed, nad oes unrhyw esboniad rhesymegol iddo, ac mae hynny'n rhywbeth y bu'n rhaid iddyn nhw ei egluro, o ran yr hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn arbennig. Ond credaf ei bod yn anghywir dweud nad yw'r sefydliad cyfan, rywsut, yn addas i'w ddiben. Nid oes unrhyw broblem, er enghraifft, gyda'i drefn drwyddedu na'r ffordd y mae'n gwneud hynny, ond mae'n amlwg y bu problem gyda choed.

Wel, awgrymaf i chi, Prif Weinidog, bod thema yma, pan ddaw i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif, a hynny yw methiant ar ran eich Llywodraeth chi i wneud yn gwbl siŵr bod cyrff yn cael eu dwyn i gyfrif a'u bod yn agored ac yn dryloyw. Ni ellir gwadu bod cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru yn llanastr llwyr, a gwn y rhennir y pryder hwn gan rai o'ch Aelodau Cynulliad eich hun. Nawr, yr hyn sy'n peri pryder i mi ac i eraill yw'r effaith y bydd yr anallu ariannol hwn yn ei chael ar ein hadnoddau naturiol a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Yn hytrach na chanolbwyntio ar weithredu gwaharddiadau, fel y gwaharddiad ar saethu ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd mewn gwirionedd yn niweidio'r economi wledig, dylai eich Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn canolbwyntio ar yr hyn y gall ei gyflawni o dan y gyfraith i ddiogelu ein hadnoddau naturiol gwerthfawr a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Ac yn lle golchi eich dwylo o hyn, ac o gofio ei bod ymddangos nad oes yr un un person yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael ei ddiswyddo, chi, eich Llywodraeth a'ch Gweinidog sy'n gyfrifol yn y pen draw. Sut mae eich Gweinidog yn cael ei ddwyn i gyfrif am yr hyn sydd wedi mynd o'i le?

Mae hyn yn ymwneud â saethu ffesantod nawr felly, ydy e? Rydym ni'n deall nawr yr hyn y mae'n ymddangos ei fod yn ymwneud ag ef, felly. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw hyn: mae'n rhoi'r argraff bod yr un personél yn eu swyddi ag yr oedd yno pan ymdriniwyd â'r contractau coed. Nid yw hynny'n wir. Nid yw'r cadeirydd yno mwyach. Mae'r prif weithredwr yn dal yn newydd yn y swydd. Fe'i penodwyd yn gynharach eleni, ac mae'n rhywun sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn sefydliadau'r sector cyhoeddus. Gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ymrwymiad eglur gan y prif weithredwr ei bod wedi ymrwymo'n llawn i ddysgu gwersi—a bydd angen i'r sefydliad—ac i wneud yn siŵr bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol i wneud y pethau iawn yn y ffordd iawn. Gallaf ddweud bod y prif weithredwr wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd, gan gymryd cyfrifoldeb llawn am y sefydliad, ac mae ganddi frwdfrydedd i gynorthwyo'r staff i gael y gorau allan ohonynt.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i'r inc ddechrau sychu ar lythyr ymddiswyddiad yr wythnos diwethaf, mae'r pwyslais yn symud yn naturiol i'r etifeddiaeth y byddwch chi'n ei gadael ar eich ôl: yn agos at chwarter ein pobl a thraean o'n plant mewn tlodi; disgwyliad oes yn symud tuag at yn ôl ac yn gostwng ynghynt nag mewn unman arall yn Ewrop; economi sy'n ddi-fywyd, â Chymru'n sownd ar waelod y tabl cynghrair yn barhaus. Onid yw hyn yn nodweddiadol o'ch Llywodraeth chi? Tlodi mewn uchelgais sef yr achos sylfaenol am dlodi ein pobl. A ydych chi'n gresynu gadael economi y mae hyd yn oed y cyn-wledydd comiwnyddol yn rhagori arni erbyn hyn?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ei groesawu—[Chwerthin.]—fel arweinydd Plaid Cymru, gyda hwn, wrth gwrs, ei gwestiwn cyntaf? Ef yw'r degfed arweinydd plaid yr wyf i wedi ei wynebu ar draws y Siambr hon, sy'n dweud rhywbeth wrthych chi am lwyddiant Llywodraeth Lafur Cymru o ran aros mewn Llywodraeth am y cyfnod hwnnw.

A gaf i hefyd dalu teyrnged i'w ragflaenydd, Leanne Wood? Mae Leanne yn rhywun y gwnaethom ni—. Wel, cawsom frwydrau ar draws y Siambr hon a'r tu allan, ond nid oedd dim ohono erioed yn bersonol, a gwn yn sicr ei bod hi wedi gwneud llawer iawn dros sefyllfa menywod ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru, a gwn bod ganddi lawer iawn i'w gynnig i'n gwlad o hyd. [Cymeradwyaeth.]

Gadewch i ni gymharu a chyferbynnu yn y fan yma. Mae diweithdra yn 3.8 y cant. Mae hynny'n is na chyfartaledd y DU, ac roedd yn rhywbeth na allai neb erioed wedi meddwl byddai'n digwydd 10 neu 15 mlynedd yn ôl, ond dyna'r gwir amdani. Rydym ni wedi gweld y ffigurau uchaf, y ffigurau gorau, ar gyfer buddsoddi uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd, gyda phrosiectau buddsoddi ar hyd a lled Cymru sydd wedi dod â llawer iawn o swyddi i Gymru—ac, yn bwysig, swyddi hynod fedrus hefyd, nid swyddi sydd yma oherwydd bod cyfraddau cyflog yn isel. Os edrychwn ni ar addysg, mae'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud o ran cynorthwyo ein myfyrwyr, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud o ran codi safonau yn ysgolion Cymru, gan gyflwyno yn y dyfodol agos gwricwlwm i Gymru sydd wedi'i deilwra ar gyfer Cymru, cael y system gymwysterau iawn ar gyfer Cymru, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n falch ohono. Rydym ni wedi sicrhau bod mwy a mwy o arian wedi mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd, hyd yn oed wrth i ni weld yr arian hwnnw yn cael ei leihau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Dorïaidd sy'n gwbl benderfynol o gael cyni cyllidol. Felly, rwy'n falch iawn o'r hyn yr wyf i wedi ei wneud. Mae gan bobl Cymru, yn amlwg, farn ar y mater, o gofio'r ffaith fy mod i wedi bod yma am y naw mlynedd diwethaf.

Nawr, gadewch i ni ganolbwyntio ar un peth y mae wedi ei ddweud, yr wyf i'n credu ei bod hi'n deg tynnu ei sylw ato. Mae wedi dweud, rwy'n deall, ei fod eisiau torri trethi—9c o ran treth incwm, cael gwared ar y dreth gyngor, cael gwared ar ardrethi busnes, a'u disodli gyda math arall o drethiant. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod hwnnw'n fwlch o £6 biliwn y byddai angen ei lenwi. Felly, pa waith—nid wyf yn gofyn cwestiwn iddo, ond bydd yn ddiddorol gweld pa waith sydd wedi ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr y byddai ei gynigion newydd yn llenwi'r hyn a fyddai'n fwlch sylweddol iawn.

13:45

Gadewch i ni gytuno, yn yr amser sydd gennych chi'n weddill, Prif Weinidog, ar y telerau masnach: fi sy'n gofyn y cwestiynau a chi sy'n rhoi'r atebion. Eich hanes chi sydd o dan sylw yn y fan yma. Nawr, efallai mai un—wn i ddim—o'ch achlysuron balchaf oedd y seremoni ddadorchuddio fawr, pan daenwyd baner Cymru dros gar Aston Martin o flaen swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Nawr, yr hyn yr ydych chi wedi bod yn llai brwdfrydig am ei ddatgelu yw yn union faint o arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd i sicrhau buddsoddiad y cwmni. Fe'ch gorfodwyd i ddatgelu'r grant cychwynnol o £5.8 miliwn a roesoch gan y comisiynydd gwybodaeth. Fe'i llusgwyd allan ohonoch chi yn llythrennol, ond rydych chi bellach yn gwrthod unwaith eto dweud pa un a yw'r cwmni wedi cael unrhyw arian ychwanegol, neu gadarnhau eich bod wedi gwarantu rhywfaint o ddyled Aston Martin, er gwaethaf y ffaith bod y cwmni ei hun wedi cadarnhau hynny yn y prosbectws ar gyfer ei gam o ymuno â'r gyfnewidfa stoc sydd ar fin digwydd. Felly, dau gwestiwn, Prif Weinidog: onid oes gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i wybod faint o arian cyhoeddus sy'n cael ei roi i gwmnïau preifat? Ac, yn ail, pam ydym ni'n gwarantu dyled cwmni sydd ar fin codi £5 biliwn ar gyfnewidfa stoc Llundain?

Felly, mae'n fy nghyhuddo i o ddiffyg uchelgais, ac wedyn mae'n difrïo un o'r prosiectau buddsoddi mwyaf a phwysicaf a welodd Cymru erioed—750 o swyddi yn dod i Gymru, canolfan ragoriaeth ar gyfer technoleg trydan ar gyfer y Lagonda. A gallaf ddweud wrtho, yn y byd go iawn, na allwch chi ymdrin â busnesau os byddwch chi'n dweud wrthyn nhw, 'Byddwn yn datgelu pob cytundeb sydd gennym ni gyda chi yn gyhoeddus'. Ni fydd neb yn dod yma. Ni fydd neb yn dod yma. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i wneud yn siŵr bod cymaint â phosibl yn y parth cyhoeddus, ond os ydych chi'n dweud, pe byddech chi'n Brif Weinidog, y byddech chi'n cynnal trafodaethau yn gyhoeddus ac yn cael cytundeb a fyddai'n cael ei gyhoeddi, ni fyddai neb yn dod yma. Ni fyddai neb yn dod yma; byddent yn mynd i rywle arall, lle maen nhw'n teimlo y gallen nhw fod â mwy o hyder yn y Llywodraeth.

Ac, yn ail, mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrtho: mae'n hynod bwysig i ni yng Nghymru ddangos y gallwn ni ddenu buddsoddiad, nid yn unig oherwydd yr arian yr ydym ni'n ei roi ar y bwrdd—roedd Aston Martin yn eglur ynghylch hynny; dywedasant fod gwell pecynnau ariannol ar gael mewn mannau eraill. Dywedodd Aston Martin bod angerdd a phroffesiynoldeb Llywodraeth Cymru wedi gwneud argraff arnynt. Dyna'r ydym ni'n ei wneud: dangos yr angerdd hwnnw, dangos y proffesiynoldeb hwnnw, a dod â swyddi i Gymru.

Sgandal yr ateb yr ydych chi newydd ei roi, Prif Weinidog, yw bod y cwmni wedi rhoi mwy o wybodaeth yn y parth cyhoeddus na'r Llywodraeth, sydd i fod i weithredu er budd y cyhoedd.

Nawr, gadewch i ni droi at Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfeiriasoch at y prif weithredwr newydd. Mae hi wedi cyfaddef diffygion difrifol yn y sefydliad, a briodolwyd ganddi i anallu—anfedrusrwydd, anallu, ond dim sy'n peri mwy o bryder. Ddoe, fodd bynnag, hysbyswyd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gan bennaeth Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU, David Sulman, bod, yn ei farn ef, a dyfynnaf,

y camau hyn yn rhagfwriadol, yn fwriadol, ac fe'u gwnaed gyda gwybodaeth lawn o'r ffeithiau.

Allwn ni wir ddim credu, meddai'n bendant,

y gellir esbonio'r gweithredoedd yr ydym ni wedi eu gweld trwy eu priodoli'n syml i anallu.

Collwyd £1 miliwn, Prif Weinidog, o arian cyhoeddus Cymru, ac mae corff blaenllaw'r diwydiant yn honni anonestrwydd a chamarfer bwriadol gan awdurdod cyhoeddus. A fyddwch chi'n gofyn i'r mater hwn gael ei gyfeirio at yr heddlu nawr?

13:50

Wel, nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu y dylid cyfeirio'r mater ar yr heddlu, ond wrth gwrs bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa. Ni all neb esgus ei bod hi'n sefyllfa dda—nac ydy, wrth gwrs. Mae e'n mynd gam ymhellach ac yn awgrymu y bu gweithgarwch troseddol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus iawn i weld a oes unrhyw dystiolaeth yno, ac, os oes, wrth gwrs, efallai y bydd angen cymryd camau pellach. Felly, mae gennym ni, wrth gwrs, yr ymrwymiad gan brif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd gennym ni gadeirydd newydd yn y swydd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd mwy y bydd angen ei archwilio yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi'r sicrwydd y mae Aelodau, er tegwch, eisiau ei weld, ac yn arbennig y mae'r Llywodraeth eisiau ei weld.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol o adroddiad diweddar gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o'r enw 'Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol'. [Torri ar draws.] Diolch. Ar dudalen 16, mae'r adroddiad yn dweud:

'Mae tystiolaeth yn dangos yn gyson bod cynyddu capasiti seilwaith priffyrdd yn arwain at fwy o deithiau ar y draffordd, ac yn gyffredinol, mae capasiti newydd, yn syml iawn, yn llenwi dros amser, ac yn aml yn arwain at dagfeydd pellach ar hyd yr holl goridor/rhwydwaith.'

Diwedd y dyfyniad. Syniad sylfaenol swyddfa cenedlaethau'r dyfodol, ac nid syniad newydd, mohono, yn syml, yw po fwyaf o ffyrdd y byddwn ni'n eu hadeiladu, y mwyaf o geir sy'n eu defnyddio, ac y byddwn ni yn y pen draw yn canfod ein hunain yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oeddem ni ynddi yn y lle cyntaf, gyda ffyrdd yn llawn tagfeydd. Credaf ar ryw adeg y bydd yn rhaid i'ch Llywodraeth roi sylw i'r mater o sut i gael cerbydau oddi ar y ffordd cyn belled ag y gellir cyflawni hyn yn rhesymol. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn gyrru i mewn i swyddfeydd i wneud swyddi y mae'n debyg y gallent eu gwneud gartref. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog gweithio o gartref er mwyn lleihau'r pwysau ar rwydweithiau ffyrdd Cymru? A ydych chi'n annog ac yn cymell cwmnïau a sefydliadau sector cyhoeddus i ganiatáu i fwy o'u gweithwyr weithio o'u cartrefi?

Wel, ydw, rwy'n credu bod hynny'n wir, oherwydd i lawer iawn o bobl mae'n berffaith bosibl gweithio gartref, o ystyried y dechnoleg sydd gennym ni erbyn hyn, yn hytrach na gorfod dod i mewn i swyddfa i weithio. Rwy'n siŵr bod cwmnïau, ac yn wir rydym ni yn y sector cyhoeddus hefyd, yn chwilio am ffyrdd o sicrhau y gall pobl gyflawni gwaith gartref. Gwn fod awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn gwneud hyn, a gwn ei fod yn fater yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi bod yn awyddus i'w annog hefyd. Serch hynny, bydd yn rhaid i bobl deithio o hyd ac mae'n rhaid sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng y seilwaith trafnidiaeth sydd ei angen arnom ni ac, wrth gwrs, yr ystyriaethau amgylcheddol sy'n dod gyda hynny. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n buddsoddi ym metro de Cymru. Mae hwnnw'n welliant mawr, mawr a gynigir ar gyfer y de. Bydd yr un peth yn wir ymhellach i'r gorllewin a bydd yr un peth yn wir ymhellach i'r gogledd, a nawr, wrth gwrs, gyda rheolaeth dros y fasnachfraint, byddwn mewn amser yn gallu darparu'r math o rwydwaith rheilffyrdd y dylai pobl Cymru ei ddisgwyl.

Ie. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am fetro de Cymru, Prif Weinidog, ond credaf fod amheuon posibl ynghylch ei ariannu yn y dyfodol, o ystyried ymrwymiad eich Llywodraeth i gynllun ffordd liniaru'r M4. Felly, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch metro de Cymru. Ond, beth bynnag, nid wyf i eisiau mynd ar y trywydd hwnnw heddiw.

Mae'n debyg, yn y pen draw, mai wrth ei flas mae profi pwdin, ac rydym ni wedi dod i sefyllfa o dagfeydd llwyr yn ystod oriau brig mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. Felly, byddai'n rhaid i mi ddweud, pa bynnag fesurau yr ydych chi'n eu cymryd i annog gweithio gartref, mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n cael effaith sylweddol.

Nawr, pwysau arall ar rwydweithiau ffyrdd ar rai adegau penodol o'r dydd yw'r adeg pan fydd rhieni yn casglu plant a myfyrwyr o ysgolion a cholegau. Rwyf i weithiau'n meddwl tybed pa effaith y mae eich rhaglen cau ysgolion yn ei chael ar y tagfeydd traffig cynyddol. Yn ôl canlyniadau cyfrifiad ysgol a gyhoeddwyd gan Ystadegau Cymru, ceir bron i 300 yn llai o ysgolion awdurdod lleol nag yr oedd yn bodoli 10 mlynedd yn ôl. Mae hynny bron i 30 o ysgolion yn cau bob blwyddyn ar gyfartaledd yng Nghymru. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod polisi Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi gyrru mwy o bobl i'w ceir i gasglu eu plant o'r ysgol?

Mae hwnna'n gysylltiad disylwedd. Os yw'n dymuno, gall fynd i fyny ac i lawr ar hyd a lled Cymru, a gall weld yr ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu—ysgolion cynradd, ysgolion cyfun. Ac maen nhw wedi disodli, ydyn—efallai yr adeiladwyd un ysgol i ddisodli tair arall. Ond mae'r cyfleusterau sydd ar gael yn yr ysgolion newydd yn wych.

Mae bob amser yn anodd pan fydd cymuned yn colli ysgol, wrth gwrs ei bod hi, ac mae'n rhaid gwneud y penderfyniadau hyn yn ofalus iawn, iawn. Ceisiodd roi'r argraff, rywsut, bod y ffaith bod 300 yn llai o ysgolion yn golygu, rywsut, bod addysg wedi dioddef o ganlyniad. Byddwn yn dadlau i'r gwrthwyneb yn llwyr, a gallwn ei weld yn y canlyniadau a gawn ni gan ein pobl ifanc. Y gwir amdani yw—. Er enghraifft, os aiff i Geredigion, bydd yn gweld bod llawer iawn o ysgolion newydd wedi eu hadeiladu. Fe wnaethant gymryd lle ysgolion bach iawn ac maen nhw'n gyfleusterau gwych.

O'm safbwynt i, byddwn ni yng Nghymru yn parhau i adeiladu ac ailwampio ysgolion, oherwydd dyna'r ymrwymiad yr ydym ni'n ei wneud i addysg ein plant.

13:55

Ie, rwy'n deall bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn creu adeiladau ysgol wedi eu moderneiddio ac yn sicr nid wyf i'n—[Torri ar draws.] Yn sicr nid wyf i'n—[Torri ar draws.] Yn sicr nid wyf i'n—[Torri ar draws.] Ie. Yn sicr nid wyf i'n bychanu hynny. Fodd bynnag, nid yw o reidrwydd yn creu ysgolion lleol. Yn wir, gall yr effaith y mae'r rhaglen yn ei chael mewn rhai ardaloedd fod i'r gwrthwyneb yn llwyr. Er enghraifft, efallai y bydd y rhaglen yn creu ysgol fodern, ond efallai'n wir y bydd yn ysgol y mae ei lleoliad yn gorfodi mwy o bobl i yrru i'r ysgol yn hytrach na cherdded i'r ysgol, fel yr oeddent o'r blaen. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni y bydd unrhyw ysgolion newydd sy'n cael eu hadeiladu trwy ddefnyddio rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn wirioneddol leol ac, felly, yn sicrhau bod yr angen am deithiau hir mewn car gan rieni cyn lleied â phosibl?

Nid wyf i'n siŵr fy mod i'n deall ei ddadl. Mae llawer o'r ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu, yn llythrennol, ychydig filltiroedd i ffwrdd o'r ysgolion y cawsant eu hadeiladu i'w disodli. Nid yw'n sefyllfa lle mae plant yn gorfod teithio 10 milltir i fynd i ysgol yn sydyn lle'r oedd un ar garreg eu drws o'r blaen.

Rydym ni'n falch o'r ffaith bod gennym ni yng Nghymru ymrwymiad i adeiladu ysgolion newydd, i ailwampio ysgolion newydd. Beth yw'r pwynt o gadw ysgolion sy'n rhy fach i fod yn hyfyw neu ysgolion sydd mewn adeiladau sy'n anodd iawn, yn enwedig ar gyfer technoleg fodern?

Ydw, rwyf i wedi gweld sefyllfaoedd lle gall pobl fod yn bryderus iawn pan fydd ysgol sydd wedi bod yno ers blynyddoedd maith iawn yn cau, ond nid wyf i wedi cyfarfod neb eto sydd wedi dweud, pan fyddant yn gweld ysgol newydd, yr hoffent ddychwelyd i'r hen ysgolion. Yr hyn y maen nhw'n ei weld yw ysgol sy'n gyfleuster cymunedol, ysgol sy'n cynnig y gorau o ran technoleg, yn cynnig lle addysgu gwych, mewn ffordd nad oedd ar gael mewn rhai o'r ysgolion hŷn yng Nghymru.

Nid wyf i'n gwybod beth y mae'n ceisio ei ddweud yn y fan yma—pa un a ddylem ni beidio â chael ysgolion newydd neu ba un a ddylem ni barhau â'r un hen adeiladau. I mi, mae ysgolion newydd yn golygu addysg well i'n disgyblion.

Pobl Ddigartref yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o gefnogaeth i bobl ddigartref yng ngogledd Cymru? OAQ52687

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i atal digartrefedd ar gyfer bron i 18,000 o aelwydydd ledled Cymru ers cyflwyno ein deddfwriaeth flaengar. Mae hynny'n cynnwys dros 3,000 o'r gogledd. Hefyd, darparwyd dros £5.1 miliwn i awdurdodau'r gogledd i gynorthwyo gweithrediad Deddf Tai (Cymru) 2014 ers mis Ebrill 2015.

Diolch, Prif Weinidog. Fodd bynnag, rwy'n dod yn fwyfwy pryderus ynghylch y niferoedd cynyddol sy'n gorfod brwydro'r elfennau heb unrhyw lety, yn enwedig wrth i ni nesáu at y gaeaf. Yn fy etholaeth i fy hun yn Aberconwy, ceir nifer cynyddol o bobl agored i niwed sy'n cysgu ar y stryd. Wythnos i ddydd Gwener diwethaf, cysylltodd etholwr â'm swyddfa a oedd angen llety brys a chymorth adsefydlu ar ôl methu â setlo mewn unrhyw lety yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl derbyn dim cymorth ymarferol gan yr awdurdod lleol am dros bedair awr, tra ein bod yn gofalu am yr unigolyn hwn yn ein swyddfa, bu'n rhaid i ni ddibynnu ar gymorth y wraig ardderchog, Mrs Brenda Fogg, o Hope Restored, gwirfoddolwr un ddynes, sydd â chalon garedig iawn. Rhedodd allan gyda blancedi a bwyd. Hyd heddiw, fodd bynnag, rwy'n dal i ddisgwyl rhyw fath o adsefydlu a llety gan yr awdurdodau lleol ar gyfer yr unigolyn hwn.

Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau i bobl ddigartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yn unol ag adran 73 Deddf Tai (Cymru) 2014, y mae gan y gŵr bonheddig hwn, a'm hetholwr i, hawl llawn iddynt?

Wel, bu ymateb, wrth gwrs, i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gysgu ar y stryd. Rydym ni wedi amlinellu ein hateb manwl i'r 29 o argymhellion a gafodd eu cynnwys yn hwnnw.

Mae'n rhaid dweud bod diwygio lles a'r agenda cyni cyllidol yn parhau i greu rhagor o bwysau ar aelwydydd a'u modd i gael gafael ar lety fforddiadwy. Serch hynny, mae'n wir i ddweud bod gweithrediad y ddeddfwriaeth wedi bod yn anghyson, ac rydym ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y rhwydwaith digartrefedd ac eraill i wneud cynnydd pellach i wella canlyniadau a chreu mwy o gysondeb.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r gaeaf yn prysur agosáu, ac mae'r rhagolygon yn awgrymu bod hwn yn mynd i fod yn un gwael. Nid yw'n ymddangos eich bod chi byth yn ateb cwestiynau, a bob amser yn rhoi'r bai ar gyni cyllidol y Torïaid. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi i awdurdodau lleol a'r asiantaethau sydd ar y rheng flaen yn ymdrin â'r epidemig cysgu ar y stryd yng Nghymru?

14:00

Targedwyd cyllid penodol ar gyfer y gogledd, ac, yn enwedig, Wrecsam, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater o gysgu ar y stryd yn yr ardal. Rydym ni'n disgwyl cael cynnig i ddarparu dull partneriaeth arloesol a fydd yn cynnwys partneriaid statudol a thrydydd sector. Felly, mae'r arian yno, mae'n gwestiwn o gael y prosiect iawn ar waith er mwyn cynorthwyo'r rhai sydd ei angen.

Hawliau Plant a Phobl Ifanc

4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Plant Cymru o ran deddfwriaeth i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc? OAQ52673

Mae hawliau plant eisoes wedi eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Mae'n ddyletswydd cyfreithiol ar Weinidogion i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Mae'r holl Weinidogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd plant. Yn wir, byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd yr wythnos nesaf i drafod ei hadroddiad blynyddol diweddaraf.

Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, i ni groesawu i'r Cynulliad Cenedlaethol Bruce Adamson, comisiynydd plant yr Alban, a gyflwynodd y ddarlith goffa flynyddol gyntaf er cof am eich rhagflaenydd, Rhodri Morgan. Wrth siarad am ddeddfwriaeth Cymru, dywedodd Mr Adamson hyn:

Mae cymaint yr wyf i'n ei hoffi, rwy'n hoffi'r dull rhagweithiol o ymdrin â chydymffurfiad, rwy'n credu ei fod yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ddylanwadu ar sut y mae hawliau plant yn cael eu hymwreiddio mewn deddfwriaeth a thrwy lunio polisi, ond nid yw'n ymgorffori llawn.

Yn eich cyfarfod â'r Comisiynydd Plant yr wythnos nesaf, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i drafod â hi a oes angen i ni efallai gymryd camau pellach i ymgorffori'n llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, boed hynny trwy welliant i'r Mesur presennol neu, os oes angen, i ymgorffori mwy pellgyrhaeddol, cwbl gynhwysfawr? Mae'r broblem, rwy'n credu, Prif Weinidog, yn ymwneud â'r gallu i'r plentyn unigol sicrhau y cydymffurfir â'i hawliau ac i gamau unioni gael eu cymryd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn, Prif Weinidog, pe gallech chi drafod hyn gyda'n comisiynydd plant ni a gweld a yw hi'n teimlo bod camau pellach y dylid eu cymryd.

Gallaf, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Rydym ni bob amser yn ceisio dysgu oddi wrth bobl eraill, ond weithiau ceir canlyniadau annisgwyl o ran ymgorffori llawn mewn meysydd lle gellir creu rhai problemau cyfreithiol. Mae'n rhaid cydbwyso hynny, wrth gwrs, â hawliau'r plentyn a'r confensiwn ei hun, ond byddaf yn ei drafod—rwy'n siŵr y gwnaiff hi ei drafod gyda mi—yn ystod yr wythnos hon i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i adeiladu ar yr ymrwymiad a'r camau yr ydym ni wedi eu cymryd eisoes.

Ar bwynt tebyg, a dweud y gwir, yn yr adroddiad ar gydymffurfiad adran 1 y Mesur, nododd Llywodraeth Cymru mai ei bwriad fel cam nesaf yw:

adolygu ein strategaeth i gefnogi ac i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad gan blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen, yn yr un modd â Helen Mary, yr anghysondeb hwn rhwng polisi'r Llywodraeth a deddfwriaeth y Cynulliad, a ddylai gael ei wneud gan roi sylw dyledus i erthygl 12 ymhlith eraill, a'r gallu i gyrff cyhoeddus sy'n darparu'r polisi hwnnw neu'r ddeddfwriaeth honno i arsylwi neu anwybyddu erthygl 12 fel sy'n gyfleus iddynt, sy'n golygu y gall bwriadau polisi neu ddeddfwriaethol weithiau gael eu gwanhau neu fethu'n llwyr. Yn amlwg, rydym ni'n gwybod am rai achosion o ufuddhau gwirfoddol, ond eithriad yw'r rhain yn hytrach na'r rheol. Mae cefnogi a thynnu sylw yn iawn, ond lle mae disgwyliad yn methu, gall deddfwriaeth gamu i mewn. A ydych chi'n credu efallai ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw nawr?

Nid wyf wedi gweld tystiolaeth o hynny, ond rwy'n agored, wrth gwrs, i unrhyw dystiolaeth yr hoffai'r comisiynydd ei gyflwyno yn ystod yr wythnos hon i weld a oes tystiolaeth o angen i atgyfnerthu'r ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud eisoes, ac edrychaf ymlaen at y sgwrs honno.

Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen goffa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chofio diwedd y rhyfel byd cyntaf? OAQ52667

Wrth i ni nesáu at ddiwedd canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, mae'n anochel mai'r cadoediad fydd pwyslais y coffáu. Byddwn yn ymuno â gwledydd eraill y DU i nodi'r canmlwyddiant gyda gwasanaeth diolchgarwch cenedlaethol ar 11 Tachwedd. Bydd y gwasanaeth hwnnw'n cael ei gynnal yn eglwys gadeiriol Llandaf.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae pobl ledled Cymru wedi bod yn dod at ei gilydd dros y pedair blynedd diwethaf i nodi canmlwyddiant digwyddiadau'r rhyfel byd cyntaf, a hoffwn dalu teyrnged i'ch Llywodraeth am ei rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers, yr wyf i'n credu sydd wedi bod yn eithriadol o dda ac wedi helpu i ganolbwyntio sylw'r genedl ar yr hyn sy'n ddigwyddiadau pwysig iawn yn ein hanes. Bydd y rhaglen honno, wrth gwrs, yn dod i ben o ganlyniad i ddiwedd y rhyfel byd cyntaf. Pa waith ydych chi'n ei wneud i sicrhau y gall etifeddiaeth y rhaglen honno barhau ac a wnewch chi ystyried ymestyn y cyfle i redeg, yn benodol, y wefan, sydd wedi bod yn borth defnyddiol iawn ar gyfer coffáu digwyddiadau milwrol, ymhell i'r dyfodol, a thu hwnt i ddiwedd y canmlwyddiant hwn?

Gallaf gadarnhau fy mod i wedi cytuno y llynedd i barhau'r rhaglen tan 2020. Nid y cadoediad oedd y diwedd, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod y daeth cynhadledd heddwch Paris ac yna Cytundeb Versailles, a arweiniodd at yr ail ryfel byd, ond ceir terfyn i ba mor bell y gallwn ni fynd o ran ymdrin ag etifeddiaeth y rhyfel byd cyntaf. Mae'n arwyddocaol i Gymru, wrth gwrs, gan fod dau Gymro yn rhan ohono—David Lloyd George a Billy Hughes. Dywedir eu bod yn siarad Cymraeg â'i gilydd. Nid wyf i'n hollol siŵr, oherwydd magwyd Billy Hughes yn Llundain o dras Gymreig, rwy'n credu. Ond, beth bynnag, mae'n eithriadol o bwysig oherwydd os yw pobl ifanc yn mynd i ddeall etifeddiaeth y rhyfel byd cyntaf, yna mae etifeddiaeth yr heddwch yn amlwg yn rhan bwysig o hynny, a sut i wneud pethau'n anghywir o ran cytundeb heddwch a sut i greu problemau ar gyfer y dyfodol. Felly, bydd yn para tan 2020. Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n ystyried etifeddiaeth y rhaglen nawr, sut y gellir defnyddio'r adnoddau a ddatblygwyd yn y dyfodol, a sut yr ydym ni'n osgoi sefyllfa lle mae'n dod i ben yn 2020 ac y mae popeth yn cael ei anghofio. Dyna'r peth olaf yr ydym ni eisiau ei weld.

14:05
Gwasanaethau Iechyd Meddwl

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth y GIG ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y system cyfiawnder troseddol? OAQ52678

Rydym ni'n cydnabod bod problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith troseddwyr na'r boblogaeth yn gyffredinol, ac rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Carchardai a Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi a heddluoedd yng Nghymru, i ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl yn y system cyfiawnder troseddol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ystod fy ngwaith diweddar gyda gwasanaethau iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni, cefais fy nharo gan y nifer uchel o achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl mewn rhannau o'n system cyfiawnder troseddol, a chymerais ddiddordeb arbennig mewn faint o amser yr heddlu a oedd yn cael ei gymryd gan y ddyletswydd o ofal sydd ganddyn nhw tuag at bobl agored i niwed o'r fath. Gwn fod gennym rai mentrau anhygoel, a dweud y gwir, i helpu i fynd i'r afael â hyn, fel y prosiect cynghorydd clinigol yn ardal heddlu Gwent, model a fydd yn cael ei gyflwyno yn ardal heddlu de Cymru yn fuan. Ond pa gamau eraill all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod noddfeydd yn cael eu darparu ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl a all, yn eu tro, helpu i ryddhau adnoddau'r heddlu ar gyfer plismona rheng flaen?

Mae plismona, wrth gwrs, yn wasanaeth nad yw wedi ei ddatganoli; mae darpariaeth iechyd meddwl wedi ei datganoli. Mae'n iawn i ddweud yn 2017 yr ehangwyd pwerau'r heddlu er mwyn cynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, a cheir llawer iawn o weithio ar y cyd gyda'r comisiynwyr, gyda'r heddluoedd a hefyd gyda'r grŵp sicrwydd concordat gofal argyfwng iechyd meddwl, a'r grwpiau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol rhanbarthol. Rydym ni wedi rhoi gwerth £7 miliwn ar gael bob blwyddyn ers 2015-16 i wella'r ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd i'w gweld mewn argyfwng. Ceir canolfan gynghori sy'n cynnig cymorth cyfrinachol 24 awr y dydd hefyd.

O ran camau gweithredu newydd, rydym ni wedi blaenoriaethu mynediad at ofal argyfwng a'r tu allan i oriau yn y gronfa gweddnewid ac arloesi iechyd meddwl, ac rydym ni wedi derbyn cynigion sy'n cynnwys tua £1 filiwn i gynorthwyo amrywiaeth o ymyraethau, i ymestyn gofal argyfwng, gwasanaethau cyswllt a brysbennu ar y stryd. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda'r partneriaid sydd gennym ni yn y maes hwn er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu llywio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol a thuag at wasanaeth sy'n fwy priodol iddyn nhw. Mae'n rhywbeth a welais ddechrau'r 1990au, pan oedd pobl yn mynd i'r carchar oherwydd yn aml iawn roeddent wedi bod mewn ysbytai seiciatrig am gyfnod hir, gadawsant, ni chawsant y cymorth yr oedd ei angen arnynt, cyraeddasant y system cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ac mae honno'n sefyllfa yr ydym ni'n amlwg eisiau ei hosgoi yn y dyfodol.

Prif Weinidog, yn Lloegr, mae troseddwyr â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau iechyd yn rhan o ddedfrydau cymunedol, mewn ymdrech i'w llywio oddi wrth garchardai. O dan gynllun arbrofol mewn pum ardal, mae seicolegwyr a phanel yn cynnwys swyddogion cyfiawnder ac iechyd wedi bod yn darparu gwybodaeth i farnwyr neu ynadon i benderfynu ar ba un a ddylai fod yn ofynnol i droseddwyr gael triniaeth. Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod troseddwyr y rhoddwyd gofyniad triniaeth iechyd meddwl iddynt yn rhan o'u dedfryd yn llawer llai tebygol o ail-droseddu. A wnaiff y Prif Weinidog addo cynnal trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Nid yw hwnnw'n gynllun arbennig o newydd. Mae cynlluniau o'r math yna wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd maith iawn o ran ceisio ymdrin â phobl nad carchar yw'r ymateb priodol ar eu cyfer pan fyddant yn canfod eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol. Nawr, nid wyf i'n gwybod pwy sy'n ariannu'r cynlluniau hynny, pa un a ydynt yn cael eu hariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder—ac nid yw cyfiawnder, wrth gwrs, wedi ei ddatganoli hyd yn hyn. Ond, yn amlwg, byddwn bob amser yn edrych ar gynlluniau arbrofol mewn mannau eraill. Fel y dywedaf, nid yw'n eglur beth mae'r cynlluniau arbrofol hyn wedi eu cynllunio i'w wneud ar hyn o bryd, ac nid yw'n eglur ychwaith pwy sy'n eu hariannu, ond pe byddai cyllid ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, wel, wrth gwrs, mae'n rhywbeth yr hoffem ni ei ystyried.

Yn amlwg, ceir cysylltiad rhwng camddefnyddio cyffuriau a phroblemau iechyd meddwl, ac, o waith ymchwil yr wyf i wedi edrych arno heddiw, byddai'n costio tua £500 miliwn i ymdrin â throseddu sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar gyfer yr unigolion dan sylw yma yn y DU. Nawr, ceir llawer o gynlluniau atgyfeirio ar ôl arestio, ond mae'r nifer sy'n manteisio arnyn nhw yn eithaf isel. Maen nhw'n gwneud pethau fel rhaglenni cynnal methadon i leihau heroin anghyfreithlon a throseddau cysylltiedig; mae ganddyn nhw wasanaethau dadwenwyno â goruchwyliaeth feddygol a chwnsela, fel y soniwyd eisoes. Nawr, gwn nad oes gennym ni rym dros y system cyfiawnder troseddol yma yng Nghymru, er yr hoffem ni ar y meinciau hyn weld hynny'n dod yma, felly beth ydych chi'n ei wneud o ran ceisio targedu adnoddau at y rhai hynny sy'n ddibynnol ar gyffuriau yn ein cymdeithas?

Euthum allan gyda'r heddlu ym Mhort Talbot dim ond ychydig wythnosau yn ôl, ac roedd mwyafrif y bobl yr aethom ni allan i'w hasesu neu eu harchwilio ar gyffuriau, ar heroin. Mae hyn yn rhywbeth sydd o'n cwmpas bob dydd. Sut ydych chi'n mynd i'r afael â'r cynlluniau penodol hyn ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod nhw'n gweithio yma yng Nghymru?

14:10

Wel, mae mynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn fater cymhleth. Rydym ni wedi ei ystyried erioed fel mater iechyd yn hytrach na'i fod yn drosedd. Mae'r cyflenwyr a'r gwerthwyr cyffuriau yn droseddwyr; mae'r defnyddwyr yn ddioddefwyr ac maen nhw'n bobl sydd angen cymorth drwy'r system iechyd yn hytrach na thrwy'r system cyfiawnder troseddol. Mae gennym ni, wrth gwrs, y strategaeth camddefnyddio sylweddau a'r cynlluniau sy'n gysylltiedig â honno, ac mae hynny'n llywio yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. O ran camddefnyddio mewn carchardai, wel, darperir y gwasanaethau yn unol â chanllawiau clinigol a chyda thimau iechyd carchardai.

Mae gennym ni raglen hefyd o'r enw cymryd adref Naloxone a ddarperir i garcharorion ar adeg eu rhyddhau mewn carchardai ledled Cymru. Mae hynny wedi helpu i dargedu marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn y gymuned. Cyffur yw Naloxone, wrth gwrs, sy'n gwrthdroi effeithiau gorddosio ar heroin neu, yn wir, cyffuriau morffin a'r teulu hwnnw—gorddosau o'r cyffuriau hynny—ac mae'n dod â phobl yn ôl yn gyflym iawn, mewn eiliadau, o sefyllfa lle efallai y maen nhw'n cael anhawster i anadlu, yn arbennig, ac mewn perygl o farw. Felly, gallu darparu'r cymorth ar unwaith i bobl osgoi marw o orddos o gyffuriau yw'r cam cyntaf. Yn ail, wrth gwrs, nod y strategaeth camddefnyddio sylweddau yw symud pobl ymlaen, yn yr hirdymor, oddi wrth y cyffuriau sydd wedi rheoli eu bywydau am flynyddoedd lawer.

Refferendwm Arall ar yr UE

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru'n cefnogi refferendwm arall ar yr UE? OAQ52696

Wel, os nad yw Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â'r UE, dylai fod etholiad cyffredinol, yn fy marn i. Os nad oes etholiad cyffredinol neu os bydd etholiad cyffredinol yn cyflwyno canlyniad amhendant, sut arall y gellir datrys y mater heblaw drwy ail refferendwm?

Gellid ei ddatrys trwy wneud yr hyn a ddywedasoch yn 2016, Prif Weinidog, pan ddywedasoch eich bod chi'n parchu canlyniad y refferendwm—eich bod chi'n derbyn y penderfyniad a wnaed gan y bobl ac na fyddech chi'n gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm. Hyd yn oed ym mis Mawrth eleni, dywedasoch,

'Nid wyf yn cwestiynu Brexit—mae'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.'

Er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch o'r blaen, onid yw'n eglur, Prif Weinidog, o'ch ateb heddiw a'ch gwelliant yfory eich bod chi eisiau bradychu penderfyniad democrataidd pobl Cymru?

A gaf i atgoffa'r Aelod ei fod yn eistedd ar feinciau plaid a wnaeth, am wyth mlynedd, alw am ail refferendwm ar ddatganoli. Ni dderbyniwyd refferendwm 1997 gan y Blaid Geidwadol, ac fe wnaethant ymgeisio yn 2005 ar sail addewid maniffesto o ail refferendwm, felly mae'r safonau dwbl yma yn gwbl syfrdanol.

Gadewch i mi symud ymlaen at y pwynt y mae'n ei wneud. Sut ydych chi'n datrys y mater? Os bydd Prydain yn gadael heb gytundeb, a ydym ni wir yn dweud nad oes gan bobl unrhyw hawl i fynegi barn ar hynny? Oherwydd ni ddywedodd neb ddwy flynedd yn ôl—nid ef hyd yn oed, 'Mae Brexit "dim cytundeb" yn debygol'. Ni ddywedodd neb hynny. Dywedodd pawb—dywedodd Nigel Farage hyn, dywedodd cefnogwyr Brexit hyn—'O, y rhain fydd y trafodaethau hawddaf yn y byd, bydd gennym ni gytundeb masnach rydd ymhen dim, bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ei ysgogi, ac yn y blaen, ac yn y blaen.' Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn y Siambr hon. Ond, does bosib, os nad oes cytundeb, nad oes gan bobl hawl i fynegi barn am yr hyn y maen nhw'n ei feddwl am hynny. Efallai y byddan nhw'n dweud, 'Wel, gadewch i ni adael heb gytundeb.' Efallai y byddan nhw'n dweud hynny. Efallai y byddan nhw'n dweud, 'Wel, gadewch i ni—

Wel, nid wyf i'n cymryd unrhyw gyngor gan UKIP. Eu polisi presennol nhw yw ail refferendwm ar ddatganoli beth bynnag heb sylweddoli'r eironi yn eu sylwadau. Os bydd pobl yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle mai Brexit 'dim cytundeb' yw'r cwbl sydd ar y bwrdd, er na soniodd neb am Brexit 'dim cytundeb' ddwy flynedd yn ôl, a yw hi wir yn onest i ddweud wrth bobl, 'Anlwcus. Cawsoch leisio eich barn ar hyn ddwy flynedd yn ôl. Iawn, ni thrafodwyd y dewis hwn neu nid oedd ar y bwrdd, ond mae hynny'n anffodus oherwydd rydych chi eisoes wedi mynegi barn'? Nid wyf i'n meddwl mai democratiaeth yw hynny. Does bosib na ddylai pobl gael y cyfle, pa un a—fy newis i—trwy etholiad cyffredinol a fyddai'n cynnig canlyniad pendant wedyn, yna byddai hynny'n golygu na fyddai angen refferendwm ar yr adeg honno, neu, yn ail, pe byddai'r etholiad yn amhendant, beth sydd mor wael am ofyn i'r bobl am hyn, a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf?

14:15

Gan eich bod chi'n anwybyddu'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthych chi.

Rwy'n dal i fod ar goll yn llwyr o ran deall pam yn union y mae'r Prif Weinidog yn credu y byddai etholiad cyffredinol â chanlyniad pendant—gyda'r fuddugoliaeth i Lafur y byddai'n dymuno ei gweld, rwy'n tybio—yn helpu ei Lywodraeth i 'Ddiogelu Dyfodol Cymru' ymhellach, sy'n dal i fod yn un o bolisïau Llywodraeth Cymru rwy'n tybio. Oherwydd os ceir Llywodraeth Lafur fwyafrifol mewn unrhyw etholiad cyffredinol dirybudd, byddwn yn gadael y farchnad sengl ac yn gadael yr undeb tollau, ac ni fyddai gan bobl unrhyw hawl o gwbl i gael lleisio eu barn ar y cwestiwn hwnnw yn briodol. Felly, hyd yn oed o edrych eto ar y cwestiwn o amserlenni, gan dybio y bydd etholiad cyffredinol ym mis Ionawr, heb ymestyn erthygl 50 mae hynny'n ddau fis—tri mis ar y mwyaf—a fyddai gan Lywodraeth Lafur i drafod ein hymadawiad â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, sef, wrth gwrs, union bolisi Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Felly, yn hytrach na mynd drwy'r holl lol hwnnw, pam na all y Prif Weinidog ddweud, 'Gadewch i'r bobl benderfynu, a gadewch iddyn nhw benderfynu nawr'?

Wel, yr anhawster yw hyn, onid e: nid oes cytundeb ar y bwrdd eto. Felly, byddech chi'n gofyn i bobl wneud penderfyniad heb wybod beth fydd y canlyniadau llawn. Rwy'n credu bod angen eu hysbysu'n llawn—ni ddigwyddodd hynny ddwy flynedd yn ôl—o beth fyddai'r canlyniadau. Byddai'n cymryd yr un cyfnod o amser i drefnu refferendwm.

Yn fy marn i, byddai etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i'r pleidiau gyflwyno eu safbwyntiau yn fanwl ynghylch sut y maen nhw'n credu y dylai Brexit edrych, ac ar y sail honno, gall pobl bleidleisio yn unol â hynny. Os bydd canlyniad amhendant, yna, mae'n iawn: sut arall ydych chi'n datrys y mater heblaw drwy ofyn i union yr un bobl a wnaeth y penderfyniad ddwy flynedd yn ôl, a ydynt, gyda gwybodaeth lawn yr hyn y maen nhw'n ei wybod nawr, yn dymuno bwrw ymlaen?

Y broblem erioed fu hyn: ddwy flynedd yn ôl, gofynnwyd i bobl bleidleisio dros syniad—nid oedd cynllun: syniad—a byddai pobl yn ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd. Ceir rhai yn y Siambr hon a fydd yn dehongli'r bleidlais yn 2016 fel pleidlais dros unrhyw fath o Brexit, cytundeb ai peidio. Bydd eraill, fel fi, yn ei dehongli fel pleidlais dros Brexit, ond nid ar ba bynnag delerau sy'n cael eu taflu at y DU. Pan gawsom ni ein refferenda ar ddatganoli, gallai pobl, os oedden nhw'n dymuno, edrych ar y ddogfen a fyddai'n dweud wrthyn nhw yn union beth fyddai'n digwydd pe byddent yn pleidleisio o blaid. Ni ddigwyddodd hynny yn 2016. Felly, does bosib, os ydym ni yn y sefyllfa honno lle nad oes cytundeb, neu fod cytundeb gwael, bod gan bobl hawl i allu mynegi barn ynglŷn â'r hyn y maen nhw'n dymuno ei wneud. Ymddiriedwch yn y bobl.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am baratoadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer y gaeaf? OAQ52664

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i adrodd y perfformiad gorau yng Nghymru yn erbyn targedau gofal heb ei drefnu, a ddylai gefnogi cydnerthedd wrth i ni gychwyn ar gyfnod anodd y gaeaf. Rydym ni wedi derbyn ei gynllun cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf ac wedi rhoi adborth wedi'i deilwra i lywio gwaith pellach i wella ei gynllun.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw gwneud y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd o ddydd i ddydd yng Nghaerdydd a'r Fro, ond ceir lefel o ryngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. Un o'r prif bwyntiau o anhawster y llynedd oedd y ddarpariaeth o welyau yn yr ysbytai yn yr ardal honno. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl Caerdydd a'r Fro y bydd gwelyau ychwanegol ar gael i ymdrin â'r pwysau gormodol a fydd heb os yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf?

Rwy'n gwbl ymwybodol, wrth i mi sefyll yn y fan yma bob wythnos, bod lefel o atebolrwydd i Weinidogion o ran cwestiynau y mae angen eu hateb. Mae paratoadau ar gyfer y gaeaf wedi bod yn cael eu gwneud ledled Cymru ac ar draws ffiniau sefydliadol ers y gaeaf diwethaf. Cynhaliwyd adolygiad o'r hyn a ddigwyddodd y llynedd: casglwyd a nodwyd pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer darpariaeth i gynorthwyo mwy o gadernid y gaeaf nesaf. Rydym ni wedi derbyn cynlluniau cyflawni iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer y gaeaf erbyn hyn gan yr holl fyrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a chan bartneriaid awdurdod lleol. Maen nhw'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau, a chalonogwyd swyddogion gan lefel y sicrwydd a ddarparwyd gan y system iechyd a gofal lleol yng Nghaerdydd a'r Fro, gyda nifer fawr o gamau gweithredu eisoes wedi eu hymwreiddio'n dda neu'n cael eu rhoi ar waith i gryfhau darpariaeth y gaeaf i bobl leol.

Peilonau ar Ynys Môn

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i gais y Grid Cenedlaethol i'r Arolygiaeth Gynllunio i adeiladu peilonau ar draws Ynys Môn? OAQ52702

Mae Llywodraeth Cymru yn gorff statudol ar gyfer projectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru. Fel rhan o’r prosesau, rydym ni wedi ymateb i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ac rydym yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gorchymyn caniatâd datblygu ar hyn o bryd. 

Mae'r cais wedi cael ei gyflwyno bellach, ond nid ydy'r grid, wrth gwrs, ers dechrau'r broses yma, ddim wedi ildio dim i'r pwysau gen i, yr Aelod Seneddol, y cyngor nac, yn bwysicach fyth, unfrydiaeth trigolion Ynys Môn y dylid tanddaearu, a chofiwch fod y Senedd yma wedi pleidleisio dros yr egwyddor o ffafrïo tanddaearu yn hytrach na gosod peilonau newydd. Mi ddywedasoch chi ym mis Ionawr y buasech chi’n atgoffa'r grid o hynny, felly, beth oedd eu hymateb nhw? Ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi roi ymrwymiad i wthio i’r eithaf o Lywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio Prydeinig i sylweddoli bod barn ddemocrataidd y Senedd hon wedi cael ei datgan a bod yn rhaid iddyn nhw barchu hynny? Ymhellach, efo’r awgrym bellach y gallai twnnel i roi ceblau o dan y Fenai gostio cymaint â £300 miliwn, onid ydy hi’n amlwg y byddai hi’n sgandal pe na bai’r arian, neu ran ohono, yn cael ei wario ar bont newydd i gario gwifrau a cherbydau, efo gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn tanddaearu?

14:20

Mae hynny'n iawn. Rŷm ni, fel Llywodraeth, wrth gwrs, wedi gwneud y pwynt hwn i'r grid ei bod yn bwysig dros ben i ystyried pont newydd—trydedd bont ar draws y Menai—er mwyn sicrhau bod y ceblau’n gallu mynd ar y bont honno. Mae yna gytundeb ffurfiol wedi cael ei wneud rhyngom ni a’r grid i ystyried y ceblau hyn ac rwy’n credu y byddai’n rhywbeth a fyddai'n hollol synhwyrol os oes yna unrhyw broblem ymarferol ynglŷn â hynny. O achos y ffaith ein bod ni’n barti statudol, wrth gwrs y byddwn ni’n cymryd rhan yn arolygiad y gorchymyn caniatâd datblygu ei hun, a byddwn ni yn datblygu datganiad o dir cyffredin gyda’r grid ynglŷn â’r project ei hun. Ond, wrth gwrs, bydd y grid yn gwybod beth yw barn y Cynulliad hwn a barn pobl leol. Rydym ni fel Llywodraeth yn moyn sicrhau bod unrhyw impact ar yr ardal yn cael ei gadw’n impact bach a’r lleiaf sy’n bosib.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon: gohiriwyd datganiad heddiw am ganfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau melyn, ac yn hytrach ychwanegwyd datganiad ar 'Yr wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn-gysylltiad—ein dull o weithio yng Nghymru'. Mae'r busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y cynnig cyflog presennol i ddarlithwyr a wnaed gan ColegauCymru, os gwelwch yn dda? Mae cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod addysg bellach yn cynnig cyfleoedd i unigolion feithrin a chyflawni eu huchelgeisiau. Gorau'n byd yw sgiliau pobl, gwell yw eu gobaith am gyflogaeth deg, sicr a boddhaol. A'r cryfaf yw'r sylfaen sgiliau yng Nghymru, y mwyaf o gyfleoedd sydd gennym o ddenu busnesau newydd yn ogystal â meithrin y rhai sy'n bodoli eisoes i wella ffyniant. Mae un o'm hetholwyr yn honni bod pryderon am lefelau cyflog wedi peri i lawer adael eu swyddi am gyflogaeth fwy proffidiol, a bod prinder ymgeiswyr am swyddi sy'n gofyn am sgiliau penodol, megis peirianneg ac adeiladu. Mae'n flin gennyf—dyna ni, rwy'n credu. Nid yw'r ail ochr gennyf. Felly, yn y bôn, rwyf eisiau gweld datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar y cynnig cyflog presennol i ddarlithwyr, os gwelwch yn dda.

Ie. Rwy'n credu bod problem wirioneddol yma ynghylch y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i dalu'r telerau ac amodau yr hoffem eu talu. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon, wrth gwrs, wedi sicrhau cydraddoldeb ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac athrawon, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlygu'r pwynt hwnnw yn glir ar sawl achlysur yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu y dylai orfod gwneud hynny eto mewn datganiad.

Arweinydd y tŷ, gwyddom, wrth gwrs, fod ymwelwyr rhyngwladol yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i lwyddiant twristiaeth Cymru yn y dyfodol, ond mae yna nifer o feysydd allweddol y mae angen inni eu datblygu ymhellach os ydym am gyflawni'r twf cyson a dwys yr ydym i gyd am ei weld. Mae marchnata rhyngwladol Croeso Cymru a sut yr ydym yn targedu pobl, yn enwedig yn y marchnadoedd allweddol, yn un elfen bwysig, a hefyd, wrth gwrs, y cysylltiadau awyr uniongyrchol sydd ar gael o Gymru yn enwedig o Faes Awyr Caerdydd.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi bod yn gweld bod nifer y teithwyr ar y llwybr uniongyrchol o Gaerdydd i Qatar yn codi, a bydd hyn, gobeithio, yn rhoi hyder i gwmnïau eraill a chryfhau'r achos dros gael cysylltiadau uniongyrchol i gyrchfannau allweddol eraill. Yn ddiweddar, hefyd, wrth gwrs, mae Maes Awyr Caerdydd wedi datgelu ei master plan am yr 20 mlynedd nesaf, ac yn gynharach eleni, fe wnaeth y prif weithredwr, Willie Walsh, sôn am ei obaith o ddatblygu gwasanaeth trawsatlantig, trawsiwerydd, o Faes Awyr Caerdydd.

Felly, gyda llawer i'w drafod yn y maes yma, a fyddai'r Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno datganiad a fyddai'n canolbwyntio ar waith Croeso Cymru mewn marchnadoedd allweddol, a hefyd y gwaith sy'n digwydd, a'r cynlluniau pellach ynglŷn â datblygu cysylltiadau awyr uniongyrchol o Gymru? Diolch yn fawr.

14:25

Ydy, mae'r maes hwn yn cynyddu yn ei bwysigrwydd, yn enwedig yng ngoleuni'r anawsterau yr ydym yn eu cael wrth drafod trefniadau synhwyrol ar gyfer Brexit. Mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth hon ein bod yn parhau i sicrhau bod Cymru yn agored iawn i fusnes gyda holl aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ac ar draws y byd. Mae'r Gweinidog yn tynnu fy sylw ei fod yn barod iawn i gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw.

Ychydig ddyddiau yn ôl cysylltodd etholwr o Riwbeina, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, â mi i sôn am ei merch pedair oed sydd newydd gael diagnosis o alergedd difrifol i gnau daear. Dywedwyd wrthi i ddechrau nad oedd unrhyw EpiPens i'r ifanc ar gael mewn unrhyw fferyllfa. Ffoniodd bob fferyllfa yng Nghaerdydd heb unrhyw lwc. Ond ers hynny mae wedi dod o hyd i ddwy fferyllfa yn Abertawe. Yn amlwg, dyma sefyllfa sy'n peri pryder aruthrol. Rwy'n credu mai'r cyngor yw, os nad ydych yn gallu dod o hyd i EpiPen, eich bod yn defnyddio hen un, ond, wrth gwrs, gan mai dim ond yn ddiweddar y cafodd ddiagnosis, does ganddi hi ddim hen EpiPens, ac mae angen nifer ohonynt arni ar gyfer yr holl lefydd gwahanol y mae'n mynd iddynt. Mae'n sefyllfa sy'n peri pryder mawr, a gofynnodd i mi grybwyll y mater gyda Llywodraeth Cymru, ac i ofyn a oes modd gwneud datganiad brys i ddweud beth sy'n digwydd yn y sefyllfa hon, gyda'r diffyg stoc.

Yr ail fater yr oeddwn am ei grybwyll oedd: y bore 'ma, es i ddathliad a drefnwyd gan Gyngor Hindŵ Cymru, yn ymyl cerflun Gandhi, i ddathlu blwyddyn ers gosod y cerflun, yn ogystal â nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol. Tybed a oes modd cael datganiad am bwysigrwydd sicrhau bod disgyblion ysgol, yn benodol, yn ymwybodol o hanes enwogion fel Gandhi a'r hyn a gyflawnwyd ganddynt a'u cyfraniadau, fel bod y cerfluniau hyn yn dod yn fyw yn nychymyg pobl Caerdydd, yn enwedig yr ifanc.

Ie, wel, o ran mater pwysig yr EpiPens, rydym yn ymwybodol o brinder cynnyrch EpiPen yn y DU ar y funud. Mae'n fater byd-eang, ac rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MHRA, i'w ddatrys. Er bod cynnyrch EpiPen, yn wir, yn brin ar hyn o bryd, mae chwistrellwyr adrenalin awtomatig amgen yn parhau i fod ar gael, ac mae'r cynhyrchwyr yn cydweithio â'r cadwyni cyflenwi i gynyddu'r cyflenwad yn y DU. Ddydd Gwener ddiwethaf, cyhoeddwyd canllawiau manwl gan yr MHRA i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â'r hyn y dylent ei wneud i sicrhau bod y cyflenwadau o chwistrellwyr adrenalin awtomatig yn y DU yn ddigon i ateb y galw presennol. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn ystod y dyddiau nesaf, gan nodi manylion y gwaith sydd wedi'i wneud i liniaru hyn, oherwydd pwysigrwydd y mater, ac oherwydd bod yr Aelod wedi codi'r mater heddiw yn y datganiad busnes. Ond, dylai unrhyw glaf sy'n methu â chael gafael ar gyflenwad o EpiPen siarad ar unwaith â'i glinigydd ynghylch defnyddio dyfais chwistrellu adrenalin awtomatig amgen, er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel—yn enwedig yn dilyn yr achos trasig a fu yn y newyddion yn ddiweddar.

O ran y datganiad ynglŷn â'r cerflun a'r dathliadau, ydw, rwy'n hapus iawn i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau y gallwn ni, y naill neu'r llall, gyflwyno rhywbeth ynghylch pwysigrwydd enwogion hanesyddol sy'n sefyll dros heddwch, yn enwedig yng ngoleuni’r dathliadau i nodi diwedd y rhyfel byd cyntaf, a nifer o bethau eraill, i sicrhau bod y cerfluniau hyn yn rhyngweithiol. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i roi codau QR ac ati ar gerfluniau, fel eu bod yn dod yn fyw wrth inni symud o gwmpas. Yn sicr, gallwn edrych ar hynny.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru? Yfory, byddaf yn cynnal digwyddiad gyda Smart Energy GB, lle bydd modd galw i mewn yn Ystafell Giniawa 1 rhwng 11.00 a.m. ac 1.30 p.m. Rwy'n annog yr Aelodau i ddod yno i ddathlu Diwrnod Coffi Rhyngwladol, ac i ddarganfod sawl cwpan o goffi y gallai eich etholwyr eu darparu drwy arbed ynni, ond hefyd, yn fwy difrifol, i roi'r diweddaraf i'r Aelodau am gyflwyno mesuryddion clyfar ac i rannu ffigurau gosod mesuryddion clyfar mewn etholaethau a rhanbarthau penodol.

Gwyddom y cafwyd rhai sylwadau andwyol ar y cyfryngau am fesuryddion clyfar dros yr haf, a'r honiadau na fydd defnyddwyr yn arbed mwy na £11 y flwyddyn ar gyfartaledd. Wrth gwrs, arbediad ar gyfer 2020 yn unig yw hynny; mae'r arbedion a ragwelir yn fwy o lawer. Mae dadansoddiad cost a budd Llywodraeth y DU yn dweud, o ystyried yr holl gostau, y bydd y budd net o'u cyflwyno oddeutu £6 biliwn, a bydd aelwydydd yn gwneud arbedion trwy ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a hefyd o ganlyniad i system ynni glyfar sy'n rhatach i'w rhedeg. Bydd darparu sgriniau mewn cartrefi yn galluogi pobl i fesur eu gwariant mewn punnoedd a cheiniogau, ac felly byddant yn gwneud arbedion o ran eu defnydd domestig, a'r dewis arall, wrth gwrs, yw grid analog sydd yn ddrytach. Yn olaf, maent yn caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran defnyddio ynni adnewyddadwy. O ystyried y pwyntiau hyn, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogol ac yn darparu datganiad ar eu cyfraniad a'u safbwynt o ran cyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru, wrth iddynt symud ymlaen.

14:30

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod ei hun wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn nodi gwerth mesuryddion clyfar, ac yn hysbysebu ei ddigwyddiad yfory. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld faint o ynni yr wyf yn ei wario wrth wneud coffi, gan fy mod yn eithaf hoff ohono, felly byddaf yn siŵr o alw draw yn y digwyddiad yfory, i sicrhau bod gennym bresenoldeb da yno.

A oes modd derbyn datganiad am y sefyllfa efo addysg feddygol ym Mangor—diweddariad, hynny yw? Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn gofyn a oes modd gwneud cais eleni ar gyfer astudio'r cwrs israddedig mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor o 2019 ymlaen. Mae hyn, wrth gwrs, yng ngoleuni'r cyhoeddiad yn gynharach eleni ynglŷn â'r bartneriaeth rhwng prifysgolion Bangor a Chaerdydd i ddarparu addysg feddygol. Mae yna nifer o fyfyrwyr lleol yn awyddus iawn i wybod a fyddan nhw yn gallu ymgymryd â rhan o'u hyfforddiant ym Mangor yn 2019. Nid ydy hynny'n glir ar hyn o bryd, er mai dyna oedd yr addewid. Felly, byddai datganiad i'r perwyl hwnnw, i glirio hynny i fyny, yn ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr.

Ac a gaf fi ofyn hefyd am ddatganiad, neu wybodaeth, gan y Llywodraeth am bolisi cynllunio Cymru? Pryd fyddwch chi'n debygol o gyhoeddi hwn? A hefyd, a gawn ni ddiweddariad am nodyn technegol 20 am yr iaith Gymraeg? Fe soniwyd dros yr haf y gallai'r Llywodraeth yma fod yn wynebu her gyfreithiol ynglŷn â'r canllaw yma. A oes yna newid barn wedi bod gan y Llywodraeth am TAN 20?

Ac yn olaf, ychydig fisoedd yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei bod hi'n barod i adolygu'r angen am arolygaeth gynllunio ar wahân i Gymru, ac y byddem yn trafod hyn ymhellach. A gawn ni ddatganiad, felly, am safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â chreu arolygaeth gynllunio i Gymru, os gwelwch yn dda? Diolch.

Diolch i chi am y tri mater pwysig hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu fy sylw at y ffaith y bydd y ddau ddiweddariad y soniwyd amdanynt gennych ar gael erbyn diwedd y flwyddyn, ac y bydd yn eu cyflwyno pan fyddant ar gael.

O ran yr addysg feddygol ym Mangor, nid wyf yn siŵr pwy ddylai, ond byddaf yn sicrhau bod un ohonom yn ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, a bod yr wybodaeth ar gael i bob Aelod.

Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yr wythnos diwethaf, noddais bapur briffio am arolwg iechyd meddwl mawr Mind Cymru. Casglodd yr arolwg brofiadau dros 500 o bobl hyd a lled Cymru a ddefnyddiodd ofal sylfaenol yn ystod y 12 mis diwethaf. Amlygwyd rhai tueddiadau pwysig, ac mae Mind Cymru yn bwriadu coladu tystiolaeth a data pellach eleni. Mewn ymchwil ar wahân a gyhoeddwyd gan Mind, gwelwyd bod iechyd meddwl bellach yn gyfrifol am 40 y cant o holl apwyntiadau meddygon teulu yng Nghymru. Felly, yn sgil y gwaith ymchwil hwn, a gawn ni ddatganiad ar wasanaethau gofal sylfaenol ac iechyd meddwl yng Nghymru?

Yn ail, efallai bydd rhai Aelodau wedi gweld yr eitem ar newyddion ITV Cymru yr wythnos diwethaf am dîm pêl-droed sy'n cael ei redeg gan glwb pêl-droed Sir Casnewydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae chwarae pêl-droed a bod yn rhan o'r tîm wedi trawsnewid bywydau'r rhai sy'n cymryd rhan, ac rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelodau Jack Sargeant a John Griffiths am ymuno â mi heno i wylio'r Sir yn chwarae, er mwyn darganfod mwy am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi pobl yn y gymuned leol. Felly, arweinydd y tŷ, a gawn ddatganiad ar sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau megis clybiau chwaraeon a sut y gallent helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl?

Diolch i chi am hynny. Rydym yn cytuno'n llwyr fod chwaraeon ac ymarfer corff wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl a lles, a dyna'r rheswm pam mae atal yn un o themâu allweddol ein strategaeth 'Law yn llaw at Iechyd Meddwl' a gyhoeddwyd yn 2012. Yn sicr, mae honno'n cynnwys pwyslais ar gymorth nad yw'n gymorth clinigol. Rydym yn awyddus iawn i fanteisio'n llwyr ar y cyfleoedd i roi cymorth i bobl drwy amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol nad ydynt yn rhai clinigol, rhai sy'n cynnig buddion gwirioneddol i iechyd a lles, gan gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Yn wir, yr wythnos diwethaf ces gyfle i ymweld â phrosiect, Down to Earth, yn etholaeth Rebecca Evans, sy'n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi cynaliadwy i wella iechyd meddwl. Mae'r canlyniadau clinigol sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn ddigon i synnu rhywun.

Bwriad y gronfa iach ac egnïol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar gyfer Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon, yw cefnogi mentrau sy'n gwella iechyd corfforol a meddyliol. Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, ac Iechyd y Cyhoedd Cymru ydyw, ac mae'n cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno bond lles a chronfa her ar gyfer chwaraeon, a hynny mewn modd integredig. Cam 1 y gronfa oedd cefnogi prosiectau sy'n cryfhau ac yn datblygu asedau cymunedol, gyda £5 miliwn i'w fuddsoddi dros dair blynedd. Y mis hwn, bydd y gronfa yn agor i ddatganiadau o ddiddordeb, gyda'r bwriad o weld y prosiectau llwyddiannus yn cychwyn darparu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ar 1 Hydref, cyhoeddwyd cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol iechyd meddwl. Dyfarnwyd cyfanswm o £1.351 miliwn i Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig—rwy'n credu ei fod yn dweud hynny; mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, nid yw fy ngolwg yn dda iawn, a does dim sbectol gyda mi yma, ond mae'n swm mawr o filiynau o bunnoedd—i gyflawni prosiectau ar draws Cymru. [Chwerthin.] Gallai'r mathau o ymyriadau gynnwys darparu gweithgareddau lles wedi lleoli yn y gymuned, megis grwpiau cerdded, celf a chrefft, ac ati.

Rwy'n cymeradwyo’r Aelod am ei diddordeb mewn chwaraeon. Rwy'n falch o ddweud bod ein rhagolygon chwaraeon wedi gwella ychydig yn Abertawe hefyd. Gwn fy hun fod hyd yn oed gwylio'n unig yn ddigon i gael effaith fuddiol ar iechyd meddwl. Felly, cymeradwyaf yr Aelod am ei diddordeb yn y gweithgaredd.

14:35

Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r trafodaethau ar wahardd gwerthu cŵn a chathod gan drydydd parti. Mae llawer o dystiolaeth a'r farn gyhoeddus o blaid cyflwyno cyfraith Lucy, fel y'i gelwir, o ganlyniad i bryderon am iechyd a lles. Gyda'r newidiadau arfaethedig i gyflwyno gwaharddiad rhannol yn Lloegr, dyma gyfle i ni achub y blaen ar hyn a chyflwyno cyfraith drugarog wirioneddol drwyadl a fyddai'n cael gwared ar werthu gan drydydd parti yn gyfan gwbl.

Yn ail, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am ddal eu gafael ar deitl pencampwyr her achub y DU yn ystod Her Sefydliadau Achub y DU 2018, a gynhaliwyd yn Roald Dahl Plass dros y penwythnos diwethaf. Ces i a fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone y pleser o'u gwylio'n paratoi ychydig wythnosau yn ôl, yn ystod egwyl yr haf, ac roedd yn dipyn o beth. Rwy'n siŵr eich bod yn awyddus i ymuno â mi wrth ddymuno'n dda iddynt oll yn ystod her y byd ymhen ychydig wythnosau. Mae'r heriau y mae staff tân ac achub yn eu hwynebu i sicrhau diogelwch a lles y cyhoedd yn newid trwy'r amser. Felly, a fydd cyfle i gael dadl yn amser y Llywodraeth ar sut y gallwn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth angenrheidiol i barhau gyda'u gwaith rhagorol?

Do, ces y fraint o gael sgwrs sydyn gyda rhai o'r personél a fu'n gosod yr arddangosfa yr wythnos diwethaf. Ces gyfle i gael fy achub o gerbyd, ond yn anffodus nid oedd fy nyddiadur yn caniatáu imi wneud hynny. Roeddwn yn siomedig braidd, ond ta waeth —. [Chwerthin.] Byddwn wrth fy modd yn dymuno'n dda iddynt yn ystod her y byd ymhen ychydig wythnosau. Dyma ffordd hwyliog o arddangos rhagoriaeth y gwasanaeth yn ogystal â rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Rwy'n hapus iawn i'w llongyfarch am gynnal digwyddiad mor fawreddog ac i dalu teyrnged i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad. Cafwyd perfformiad gwych gan Dde Cymru, fel y dywedodd Vikki Howells. Enillwyd y gwobrau cyffredinol am ryddhau cleifion ac am achub â rhaffau, a dod yn drydydd wrth achub mewn dŵr—y perfformiad gorau o bell ffordd. Hoffwn ddymuno'r gorau iddynt yn ystod yr her byd sydd ar y gweill yn Ne Affrica.

Yn wahanol i sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yma yng Nghymru maent yn gosod eu cyllidebau eu hunain. Maen nhw'n unigryw yn hynny o beth. Nid ydym yn rheoli'r nawdd yn uniongyrchol, nac ychwaith yn rheoli lefel y nawdd y maent yn ei gasglu gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol. Ond maent yn gwneud gwaith gwych, ac rwy'n credu, yn wirioneddol, fod hon yn ffordd ardderchog o arddangos, a chaniatáu i bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub arddangos, pa mor arbennig ydynt. Nid rhagoriaeth mewn cystadleuaeth yn unig mo hyn, ond dyma ragoriaeth wirioneddol ar ochr y ffordd, pan fyddant yn helpu pobl, ac mae eu cyflymder wrth berfformio yn achub bywydau. Felly, rwy'n hapus iawn, iawn i'w cymeradwyo.

O ran y rheoliadau lles anifeiliaid a godwyd gan Vikki Howells, gwnaed datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl ym mis Mehefin, ac mae wedi ymrwymo i ymchwilio i werthwyr trydydd parti yng Nghymru. Mae'r gwaith gyda rhanddeiliaid i gasglu gwybodaeth am y materion yn parhau, a byddwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen yn y man. Ond mae'n werth cofio ein bod eisoes wedi cyflwyno nifer o fesurau lles anifeiliaid ymhell cyn Lloegr, gan gynnwys Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru 2014, Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015, a Rheoliadau Lles Anifeiliaid (coleri electronig) (Cymru) 2010, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio'n galed gyda'r rhanddeiliaid i weld sut y gallwn ychwanegu at hynny.

14:40

Hoffwn ddatganiad ynglŷn â phryd oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddamweiniau ym mhyllau oeri Hinkley Point A, a oedd yn ymwneud â phlwtoniwm gradd arfau, yn y 1960au. Ers pryd y mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o hyn?

Credaf fod angen i'r Aelod ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn cael ateb i hynny.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllideb Ddrafft 2019-20

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y gyllideb ddrafft 2019-20, ac rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford. 

Diolch, Llywydd. Rwyf heddiw yn gosod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn 2010, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ar y pryd gyllideb frys pryd y dywedodd y byddai'r hyn a alwodd yn aberth angenrheidiol yn arwain at ddyled yn gostwng a chyllideb gytbwys erbyn diwedd y Senedd yn 2015. Mae'r aberthu, Llywydd, yn parhau, ond mae'r ucheldiroedd heulog o lwyddiant economaidd wedi symud i 2025 a thu hwnt. Ni fu erioed angen a mwy o frys i Lywodraeth y DU roi'r gorau i bolisïau cyni cyllidol a fethodd wrth i gysgod cynyddol Brexit daflu ei dywyllwch dros y gyllideb ddrafft hon. Mae dadansoddiad y prif economegydd, sydd hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw, yn dangos bod Brexit eisoes yn costio hyd at £400 i bob person yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth bresennol Cymru yn ymdrechu'n ddiflino i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn wyneb y gwyntoedd croes hynny, a chyllidebau sy'n crebachu a galw cynyddol.

Llywydd, pe na fyddai'r cyllid sydd ar gael i Gymru heb gynyddu dim yn ei werth ers 2010, heb godi yr un geiniog, byddai'r gyllideb gerbron Aelodau heddiw yn cynnwys £800 miliwn yn fwy i ofalu am bobl hŷn, i helpu plant i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, i ddiogelu ein hamgylchedd ac i fuddsoddi yn nyfodol ein heconomi. Pe byddai'r gyllideb wedi tyfu yn unol â'r economi ers 2010, â ninnau'n cymryd yr un rhan yn union o'r gacen genedlaethol, byddai'r gyllideb heddiw yn cynnwys £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi. A phe byddai wedi cynyddu yn unol â'r twf mewn gwariant cyhoeddus, rhywbeth a gyflawnwyd dros y 50 mlynedd cyn 2010, byddai'r gyllideb o flaen yr Aelodau £6 biliwn yn fwy ar gyfer y dibenion hanfodol hynny. Nid yw'n syndod, felly, mai hwn fu'r cylch cyllideb anoddaf hyd yma. Yn ogystal â'r heriau deublyg o gostau cynyddol a chyfyngiadau ar wariant, mae ein gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau yn wynebu heriau cynyddol chwyddiant sy'n cynyddu, pwysau o ran cyflogau heb eu hariannu a phenderfyniad unochrog Llywodraeth y DU i newid arian pensiwn y sector cyhoeddus, gan drosglwyddo £300 miliwn bellach o gostau annisgwyl i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Llywydd, mae methiant y Canghellor presennol i gychwyn adolygiad cynhwysfawr o wariant yn golygu nad oes gennyf unrhyw gyllideb y gallaf gynllunio gyda hi y tu hwnt i 2019-20. O ganlyniad, heddiw, ni allaf gyhoeddi dim ond cynllun refeniw blwyddyn, ar gyfer 2019-20 yn unig, a chynlluniau cyfalaf ar gyfer dim ond y ddwy flynedd ariannol nesaf.

Nawr, yn unol â'r gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd y llynedd gan y Cynulliad Cenedlaethol, eglurais heddiw brif elfennau'r gyllideb—o ble y daw yr arian a sut y caiff ei ddyrannu i adrannau y Llywodraeth. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau gwariant manwl, gan esbonio sut y mae Gweinidogion portffolio unigol yn bwriadu defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.

Mae'r gyllideb ddrafft hon, Llywydd, yn adeiladu ar y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ni y llynedd ac yn adlewyrchu ail flwyddyn y cytundeb cyllideb dwy flynedd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Hoffwn ddiolch i Steffan Lewis am y trafodaethau adeiladol, sydd wedi parhau ers llunio'r cytundeb. Gan adeiladu ar y mesurau a gytunwyd yn flaenorol, byddwn nawr yn darparu cyfalaf ychwanegol o £2.75 miliwn i uwchraddio gwersylloedd yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys £5 miliwn mewn cyfalaf i ddatblygu canlyniadau yr astudiaethau dichonoldeb y cytunwyd arnynt mewn trafodaethau cynharach. Edrychaf ymlaen at ystyried yr adroddiadau hynny ar y cyd rhwng ein dwy blaid pan fyddant ar gael.

Llywydd, trof yn awr at brif elfennau'r gyllideb hon, gan ddechrau gyda'r penderfyniadau cyllidol sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd yng Nghymru. Dywedais y llynedd fy mod i'n bwriadu codi'r dreth gwarediadau tirlenwi yn unol â chwyddiant. O ganlyniad, bydd y cyfraddau ar gyfer 2019-20 yn £91.35 y dunnell ar gyfer y gyfradd safonol, £2.90 ar gyfer y gyfradd is, gyda'r gyfradd anawdurdodedig yn codi i £137.

Yng nghyllideb y llynedd, sefydlais y cyfraddau a'r bandiau ar gyfer treth trafodiadau tir, gan ei gwneud hi y dreth fwyaf blaengar ar gyfer pobl sy'n prynu a gwerthu eiddo mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Dywedais bryd hynny fy mod i wedi clywed a deall y galwadau am sefydlogrwydd gan y sector. Gyda hynny mewn golwg, ac oherwydd yr ansicrwydd dwfn ynghylch Brexit, rwyf wedi penderfynu gadael cyfraddau a'r band yn ddigyfnewid ar gyfer 2019-20. Fel y llynedd, fodd bynnag, pe byddai Canghellor y Trysorlys yn gwneud newidiadau i dreth dir y dreth stamp yng nghyllideb hydref y DU, byddaf yn adolygu'r sefyllfa yma yng Nghymru.

Llywydd, dyma'r gyllideb gyntaf erioed lle mae Gweinidog Cyllid o Gymru yn gyfrifol am bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru. O dan delerau'r fframwaith cyllidol, bydd 2019‑20 yn flwyddyn bontio pryd y bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol newydd pwysig i Gymru. Gwnaeth fy mhlaid ymrwymiad yn ein maniffesto yn 2016 i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Gwnaethom hynny, Llywydd, oherwydd ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r effaith y cafodd cyni ar gymaint o deuluoedd Cymru. Gallaf gadarnhau heddiw na fydd y Llywodraeth yn cynyddu'r cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn 2019-20, gan gyflawni'r ymrwymiad hwnnw a chyfrannu at weithrediad trefnus y cyfrifoldebau newydd hynny sydd bellach yn cael eu cyflawni yma yng Nghymru.

Mae rheoli ein pwerau treth yn ofalus yn ei gwneud hi'n ofynnol rhagweledigaeth gywir. Diolch i Ysgol Fusnes Bangor am ei gwaith pwysig wrth graffu'n annibynnol a sicrhau'r rhagolygon a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn 2019-20, rhagwelir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn cyfrannu dros £2 biliwn at gyllideb Cymru. Disgwylir i'r dreth gwarediadau tirlenwi godi £40 miliwn a'r dreth trafodiadau tir £285 miliwn. Priodolir y cynnydd sylweddol yn y rhagolygon refeniw o dreth gwarediadau tirlenwi orau i'r casgliadau cywir sydd bellach yn bosibl oherwydd bod gennym ni ein hawdurdod sef Awdurdod Cyllid Cymru ein hunain erbyn hyn. Yn ei chwe mis cyntaf, mae ACC wedi casglu mwy na £100 miliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac wedi cael dechreuad, yn fy marn i, eithriadol o lwyddiannus fel sefydliad pwysig yma mewn Cymru ddatganoledig.

Ar ôl ymgynghori'n ofalus gyda'r Pwyllgor Cyllid, cyhoeddais ym mis Gorffennaf y rhagolygon trefniadau tymor hwy yr ydym ni'n ymrwymedig iddynt yn unol â thelerau'r fframwaith cyllidol. Gan ddechrau y flwyddyn nesaf, gyda chyllideb 2020-21, bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon annibynnol o refeniw o drethi datganoledig ar gyfer proses cyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd y rhagolygon hyn wrth gwrs yn cael eu rhannu gydag Aelodau'r Cynulliad.  

Llywydd, trof yn awr at ffrwd refeniw datganoledig pwysig arall: ardrethi annomestig. Buom yn ymgynghori dros yr haf ar gynigion i leihau faint o refeniw ardrethi annomestig a gollir bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn osgoi eu talu. Nid yw hi'n iawn bod ymdrechion y mwyafrif sylweddol, sy'n cadw at y rheolau ac yn gwneud eu cyfraniad, yn cael eu tanseilio gan leiafrif sy'n benderfynol o gamfanteisio ar neu gamddefnyddio'r system. Ar 16 Hydref, byddaf yn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad a'r hyn y byddwn yn ei wneud i leihau cyfraddau osgoi yng Nghymru mewn pryd i fod yn weithredol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

Llywydd, rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori dros y 12 mis nesaf ar gynigion i ddileu rhyddhad ardrethi elusennol oddi ar ysgolion annibynnol ac ysbytai preifat yng Nghymru, gan eu rhoi ar yr un telerau â'u cymheiriaid yn y sector cyhoeddus o ran talu'r trethi hynny. Mae ysgolion ac ysbytai'r wlad yn talu ardrethi annomestig ar eiddo y maen nhw yn ei ddefnyddio, fel y mae ystod eang o sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Mae hynny'n gwneud cyfraniad pwysig at gost gwasanaethau lleol hanfodol sy'n cael eu darparu yn ein cymunedau. Dylai eraill wneud yr un fath.

Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori, Llywydd, er mwyn cyflwyno mesurau cyn gynted â phosib i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru rhag talu'r dreth gyngor tan y byddant yn 25 oed. Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud hyn, gan ddefnyddio pwerau disgresiwn. Credaf y dylai hyn fod yn berthnasol ledled Cymru ac rwy'n bwriadu deddfu'n unol â hynny.

Nawr, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno ym mis Rhagfyr 2016 yn cynnwys ymrwymiad y dylai lluosydd o 105 y cant gael ei gymhwyso i holl symiau canlyniadol Barnett. Mae hynny wedi arwain eisoes at £90 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cymru, ac mae £71 miliwn o hynny yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb hon.

Yn olaf yn yr adran hon sy'n ymdrin â sut y caiff refeniw ei godi ar gyfer y gyllideb, trof at y defnydd o gronfeydd wrth gefn. Eglurais wrth y Cynulliad y llynedd fy mod i'n bwriadu gwneud y defnydd mwyaf posibl o gronfa wrth gefn newydd Cymru. Diolch i gydweithrediad agos fy nghyd-Weinidogion, roeddwn yn gallu trosglwyddo'r gronfa wrth gefn honno i'r flwyddyn ariannol gyfredol yn agos iawn at ei huchafswm o £350 miliwn. O ganlyniad, rwyf wedi gallu cynyddu'r swm arfaethedig y bwriedir ei ddefnyddio o'r gronfa wrth gefn yn 2019-20 o £75 miliwn, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, i £125 miliwn, gan ryddhau £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Llywydd, mae diogelu gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf cyni yn parhau i fod wrth wraidd cyllideb y Llywodraeth Lafur hon, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG yn Lloegr i nodi dengmlwyddiant a thrigain y gwasanaeth iechyd. Honnodd y pennawd y byddai arian ychwanegol sylweddol ar gyfer Cymru. Ond, fel yr ydym wedi dysgu, roedd angen edrych y tu hwnt i'r penawdau hynny bob amser. Nid ydym yn gwybod eto, Llywydd—mae'r Trysorlys yn dal i fethu â dweud wrthym ni—yn union faint o arian ychwanegol a gaiff Cymru.

Ond dyma'r hyn yr ydym yn ei wybod: bod bron hanner yr arian eisoes wedi'i wario gan Lywodraeth y DU cyn iddo hyd yn oed gyrraedd ein ffiniau. Mae'n rhaid i'r arian hwnnw ariannu dyfarniadau cyflog a newidiadau pensiwn—penderfyniadau a wneir yn San Steffan ac nid yng Nghymru. Serch hynny, yn ogystal â'r cynnydd a gynlluniwyd eisoes, mae'r gyllideb ddrafft hon bellach yn darparu mwy na £0.5 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Cymru ac i gefnogi ein cynllun hirdymor ar gyfer Cymru iachach.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, ac rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i'w gwarchod rhag effeithiau gwaethaf cyni. Pan gytunwyd ar y gyllideb derfynol a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ym mis Ionawr eleni, roedd awdurdodau lleol yn wynebu gostyngiad ariannol o 1 y cant mewn cyllid yn y grant cynnal refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf—sy'n cyfateb i ostyngiad o £43 miliwn. Rydym ni wedi gweithio'n galed wrth baratoi'r gyllideb hon i leihau'r bwlch hwnnw gan fwy na £28 miliwn, ac felly mae'n llai na £15 miliwn bellach yn 2019-20.

Ar yr un pryd, rydym ni wedi gallu adfer arian i nifer o grantiau ac wedi gwneud cyfres o benderfyniadau ariannu eraill y bydd llywodraeth leol yn elwa arnynt, sydd gyda'i gilydd yn £84 miliwn. Mae hyn i'w weld yn y £13.4 miliwn y bydd y gyllideb hon yn ei adfer i'r grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Rydym ni hefyd wedi gwrando'n ofalus ar randdeiliaid ynghylch dyfodol y grant a gallaf gadarnhau y prynhawn yma y bydd yn ymddangos yn y gyllideb hon fel dau grant, gan wahanu'r elfennau sy'n gysylltiedig â thai oddi wrth y gweddill. Bydd manylion pellach am y trefniadau newydd hyn ar gael i Aelodau yfory.

Llywydd, mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys pecyn o £12.5 miliwn i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £2 miliwn yn ychwanegol i ehangu'r gronfa cymorth dewisol, sy'n cael anhawster i ateb y galw, i raddau helaeth o ganlyniad i raglen lem Llywodraeth y DU o doriadau lles. Dyna'r arian sydd yn mynd yn uniongyrchol at y teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys mwy na £3 miliwn i gynnal a dyblu y grant cynllun mynediad datblygiad disgybl i helpu rhieni i dalu am gostau bob dydd sy'n gysylltiedig ag anfon eu plant i'r ysgol. Yma yng Nghymru, byddwn yn darparu £7 miliwn yn ychwanegol wrth i ni ymdrechu i ddarparu prydau ysgol am ddim i filoedd mwy o blant.

Llywydd, trof yn awr at wariant cyfalaf. Mae'r gyllideb ddrafft sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn cynnwys ychwanegiadau refeniw a chyfalaf i bob terfyn gwariant adrannol ar gyfer 2019-20, gan gynnwys dyraniadau ychwanegol i'r rhai a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni ochr yn ochr â'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Rwyf nawr yn nodi'r terfynau gwariant adrannol ar draws Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad i gyllideb ddrafft heddiw, mae cyfanswm prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bellach yn £8.2 biliwn, sef cynnydd o £330 miliwn ar gynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, gan gynnwys £287 miliwn ychwanegol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, a £41 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf i gefnogi gwelliannau yn y GIG a moderneiddio'r fflyd ambiwlans.

Cyfanswm prif grŵp gwariant llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd yw £5.4 biliwn, cynnydd o £123 miliwn, gan gynnwys £35 miliwn yn ychwanegol mewn cyfalaf i gefnogi'r grant tai cymdeithasol, a £20 miliwn ar gyfer rhaglen atgyweirio ffyrdd awdurdodau lleol yn rhan o £60 miliwn dros dair blynedd i drwsio'r difrod sy'n gysylltiedig â gaeaf garw a haf poeth eleni.

Cyfanswm prif grŵp gwariant yr economi a thrafnidiaeth ar hyn o bryd yw £1.3 biliwn, cynnydd o £129 miliwn, gan gynnwys cyllid cyfalaf o £26 miliwn y flwyddyn nesaf yn rhan o becyn £78 miliwn ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol, a £10 miliwn y flwyddyn nesaf ar gyfer rhaglen y Cymoedd Technoleg.

Cyfanswm prif grŵp gwariant addysg yw £1.9 biliwn, cynnydd o £68 miliwn, gan gynnwys mwy na £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a dyblu'r buddsoddiad, fel y dywedais, yng nghronfa mynediad y grant amddifadedd disgyblion.

Cyfanswm y prif grŵp gwariant ynni, cynllunio a materion gwledig yw £364 miliwn, cynnydd o £34 miliwn, gan gynnwys £17 miliwn yn ychwanegol yn ein rhaglen gwastraff, drwy gyfuniad o arian refeniw a chyfalaf, a bydd yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet barhau i allu cyllido awdurdodau parciau cenedlaethol ar draws Cymru.

Llywydd, wrth inni symud drwy'r cyfnod ansicr hwn ac wrth i anawsterau ariannol ddyfnhau, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ateb yr heriau gwirioneddol y maen nhw yn eu hwynebu heddiw. Cyllideb bara menyn y w hon, yn canolbwyntio ar gynnal gwead bywyd Cymru a defnyddio pob ffynhonnell o refeniw a chyfalaf sydd ar gael inni er mwyn gwneud hynny. Fe'i cymeradwyaf i'r Aelodau y prynhawn yma.

14:55

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, gan gyflwyno ei gyllideb bara menyn? Efallai fod labeli mwy sylfaenol yn arwydd o bethau i ddod. Os bydd yn llwyddiannus yn ei gais am y brif swydd yn ddiweddarach eleni, efallai y gallwn ni ddisgwyl cyllideb cwrw a brechdanau yn y dyfodol. Mae'r anecdotau yn parhau. 

A gaf i hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd dros gyllid a'i staff, a dweud y gwir, am y sesiwn briffio yn gynharach heddiw? Mae bob amser yn ddefnyddiol yn y broses o osod cyllideb, pan fo amser yn brin. Dylwn hefyd ddiolch i chi, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, am y dwndwr arferol am gyni. Ble byddem ni hebddo, yn enwedig ar y meinciau hyn? [Aelodau'r Cynulliad: 'O.'] Ac i egluro—[Torri ar draws.] Ac i egluro—[Torri ar draws.] Ac i egluro'r sefyllfa—[Torri ar draws.] Ac i egluro'r sefyllfa—[Torri ar draws.] Ac i egluro'r sefyllfa, mae data diweddar ar gyfranddaliadau gwerth gros a ychwanegwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai Lloegr mewn gwirionedd yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi lleihau'n sylweddol ei diffyg fesul pen, sy'n cyfateb i £158 y person. Yn y cyfamser, mae cyfradd fenthyca Cymru 27 gwaith yn fwy y pen, gyda diffyg o £4,251 y person. Mae Llywodraeth y DU ar fin darparu cyllideb warged am y tro cyntaf ers 2001, gostyngiad o £112 biliwn mewn benthyca ers yr argyfwng ariannol, ond gostyngodd y diffyg yng Nghymru dim ond gan £2 biliwn yn yr un cyfnod. Onid yw hynny'n golygu y'i gadawyd hi bron yn gyfan gwbl i Loegr i unioni'r diffyg yn y gyllideb, ac a yw hynny'n briodol? Does bosib fod hynny'n briodol? Felly, yn hytrach na—[Torri ar draws.] Yn hytrach na—[Torri ar draws.] Yn hytrach nag yn ôl yr arfer — [Torri ar draws.] Yn hytrach na'r geiriau llym arferol am gyni, efallai y dylech chi edrych ychydig yn nes gartref ynglŷn â beth ydym ni'n ei wneud yng Nghymru i ymdrin â'r problemau ariannol y gadawyd y wlad hon ynddyn nhw gan Lywodraeth flaenorol.

Wrth gwrs, newid allweddol yn y gyllideb hon yw'r ffaith, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, y bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth lwyr dros gyfanswm o tua £5 biliwn o refeniw a gynhyrchir o drethi, neu draean o'i gwariant cyfunol presennol. Felly, fel y dywedodd Harry S. Truman, dyma ble yn wir y mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd. Ochr yn ochr â'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, bydd gan Lywodraeth Cymru y pwerau hefyd i amrywio treth incwm, fel y dywedwyd wrthym ni, o fis Ebrill 2019 ymlaen. Ac a gaf i groesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â chynyddu treth incwm yng Nghymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? Mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn credu bod hwn yn benderfyniad hollol anhunanol ar ran Llywodraeth Lafur Cymru. Byddai cynyddu trethi ar yr un pryd ag yr ydym ni'n wynebu ansicrwydd Brexit, a phan fo economi Cymru yn dal yn tangyflawni o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, ar y gorau, yn wrthgynhyrchiol ac, ar y gwaethaf, yn drychinebus i economi Cymru, heb sôn am ragolygon etholiadol Llafur Cymru, wrth gwrs.

Mae'n rhaid imi ofyn y cwestiwn, fodd bynnag—ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ddigon clir ar hyn—a gawn ni dybio, pe byddai Llafur Cymru yn ffurfio Llywodraeth ar ôl 2021, yna y gallem ni ddisgwyl cynnydd eithaf sylweddol yn y dreth incwm ar y gwahanol gyfraddau, ac os felly, gan faint? Credaf fod pobl Cymru yn haeddu ateb i hynny.

Fel y gwyddom ni, mae yna beryglon i amrywio trethi; Rwy'n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â hynny ei hun. Mae adroddiad sylfaen treth Cymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nod ei bod

'yn debygol y byddai peth ymateb ymddygiadol gan...drethdalwyr'

pe byddai Llywodraeth Cymru yn newid cyfraddau treth incwm. Ymddengys bod hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i rai o haeriadau Llywodraeth Cymru cyn y Pwyllgor Cyllid na fyddai newidiadau i drethi yn effeithio ar gyfraddau mudo, felly byddai rhywfaint o eglurder ar yr agwedd honno ar bolisi treth y dyfodol yn cael ei werthfawrogi. Ac rwyf yn cefnogi penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gadw cyfraddau treth incwm fel ag y maen nhw yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, wrth inni wynebu rhai o'r stormydd y byddwn ni yn eu hwynebu.

Os caf i droi at y trethi eraill, y trethi hynafol, os gallaf eu galw'n hynny, a'r newyddion da anarferol am dreth gwarediadau tirlenwi, y rhagwelir y bydd bellach yn darparu £40 miliwn i gyllideb Cymru yn hytrach na'r— £20 miliwn, mi gredaf, oedd y rhagolygon gwreiddiol. Rwy'n amau, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn gywir yn eich asesiad, yn hytrach na bod twristiaeth gwastraff wedi cynyddu y tu hwnt i bob rheswm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—nid wyf wedi gweld lorïau llawn gwastraff yn tramwyo'r M4 a'r A55 mewn unrhyw niferoedd mwy nag yr oeddent o'r blaen—bod y gwahaniaeth yn fwy na thebyg oherwydd i Awdurdod Cyllid Cymru gasglu trethi dros sylfaen lai ac o bosibl yn gwneud hynny gyda brwdfrydedd ieuenctid. Beth bynnag fo'r rheswm—ac efallai fod gwersi i'w dysgu o ran casglu trethi ar draws y ffin—mae'n bwysig bod Cymru yn cadw'r difidend hwn, a byddaf hefyd yn dadlau'r achos hwnnw yn gryf, fel y credaf y byddwch chithau yn ei wneud hefyd.

Wrth edrych ar y ffigurau ar gyfer chwaer fawr treth gwarediadau tir, y dreth trafodiadau tir, ymddengys bod y gwrthwyneb wedi digwydd ac y bu peth lleihad yn y symiau y rhagwelwyd y byddai'n cael eu casglu ar gyfer y dreth, yn arbennig ar y cyfraddau uwch. Tybed a yw rhybuddion y Ceidwadwyr Cymreig am yr effaith o gynyddu cyfraddau ar ben uchaf y dreth hon wedi dod yn wir? Nawr, nid wyf yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet ruthro i gadarnhau hyn, o leiaf nid cyn 11 Rhagfyr, ond pe gallai daflu rhywfaint o oleuni ar y maes gweddol niwlog hwn, byddai hynny'n darparu eglurder i bob un ohonom ni. Ac, o ran adolygu'r bandiau hynny, dylid yn sicr ystyried gwneud hynny, yn enwedig os oes newidiadau yng nghyfundrefn treth dir y dreth stamp yn Lloegr sy'n ymdrin â thrafodiadau uwchraddol iawn gan wladolion tramor, er fy mod i'n sylweddoli nad oes llawer, mae'n debyg, o oligarchiaid Rwsiaidd yn byw ym Mlaenau Gwent. Peidiwch ag edrych y ffordd yma, Gweinidog Emeritws. [Chwerthin.]

Iawn. Gan droi at yr ymrwymiadau gwario hollbwysig, rwy'n croesawu'r newyddion bod y GIG yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch bod pobl yn dechrau gwrando ar neges y Ceidwadwyr Cymreig â ninnau'n dweud ers blynyddoedd—ac Angela Burns yn dweud—y dylid ariannu'r GIG yn briodol, nid yn unig mewn termau arian parod fel yn y gorffennol ond yn mewn termau real sy'n golygu diogelu'r gyllideb iechyd yn briodol yn y modd y mae angen inni ei weld. Mae'r GIG yn flaenoriaeth i'r bobl a ddylai fod yn flaenoriaeth i ni'r gwleidyddion hefyd. Os caf i ofyn i chi am y chwistrelliad ariannol a addawyd yn Lloegr i ddathlu dengmlwyddiant a thrigain y GIG, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Trysorlys ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu i Gymru o ran symiau canlyniadol? Mae'r un cwestiwn yn berthnasol i'r arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, yr ymddengys bod Llywodraeth y DU yn ei ymrwymo ar draws y ffin. Os nad ydym ni'n gwybod tan yn weddol hwyr beth yw'r symiau yna bydd hynny yn sicr yn ei gwneud hi'n anodd gwneud y mwyaf o'r arian hwnnw yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, pryd yr hoffem ni ei weld yn cael ei ddefnyddio.

Os caf droi at eich sylw am drafnidiaeth a modurwyr ledled Cymru, byddwn yn croesawu—credaf mai £60 miliwn a addawyd yn ychwanegol gennych chi i ariannu ffyrdd dros gyfnod o dair blynedd. Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu ffyrdd lleol a'r diffyg arian yng nghyllidebau bylchog awdurdodau lleol i ymdrin â'r broblem. Dau gwestiwn yn ymwneud â hyn: a fydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei glustnodi ar gyfer ffyrdd, ac os yw awdurdodau lleol yn wynebu toriadau yn eu grant cynnal refeniw, y gwyddom yn anochel eu bod, yna sut gwnewch chi sicrhau na chaiff cyllidebau ffyrdd eu torri mewn mannau eraill, ac na fyddwch chi, i bob pwrpas, yn rhoi ag un llaw ac yn cymryd â'r llall?

Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith cyllidol. Ynghyd â chithau, rwy'n falch iawn o weld y cynnydd ymddangosiadol yng nghyllideb Cymru oherwydd hynny. Roedd yn gyfyngedig, mae'n rhaid cyfaddef, ond mae'n well na'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, ac rwy'n credu bod angen croesawu'r ffaith fod y cytundeb hwnnw rhyngoch chi a Llywodraeth y DU bellach yn cyflawni dros Gymru ac yn darparu—er ar radd fechan yn y camau cynnar, mae'n sicrhau'r cynnydd a fydd yn rhoi cyllideb Cymru ac economi Cymru ar dir cadarnach yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn o glywed am y llwyddiant hwnnw.

Rwyf hefyd wrth fy modd o glywed y cyhoeddiad o ran y rhai sy'n gadael gofal a'u heithrio o'r dreth gyngor, gan roi sail statudol i hynny. Mae hynny i'w groesawu yn fawr, penderfyniad gwych. Rwyf ychydig yn fwy pryderus am eich cynnig i ddileu'r rhyddhad ardrethi elusennol oddi wrth ysgolion annibynnol ac ysbytai preifat, nid fy mod i wedi mynychu ysgol annibynnol ac nid oes gennyf ofal iechyd preifat, dylwn ddweud. Fodd bynnag, dylwn ddweud bod fy mhryder yn ymwneud yn fwy â sector y wladwriaeth, oherwydd rydym yn gwybod yn iawn bod y sector preifat yn cario rhywfaint o'r baich y byddai sector y wladwriaeth yn ei ysgwyddo fel arall— [Torri ar draws.] Wel, mae yn gwneud hynny. Ac, felly, dim ond eisiau gofyn wyf i: sut ydych chi'n ymgynghori â'r sector hwnnw cyn penderfynu ar hyn yn derfynol i wneud yn siŵr na fydd canlyniadau annisgwyl? Credaf fod hynny'n bwysig.

Os caf i gloi drwy sôn am y sylw ehangach am gyllideb heddiw —. Fe'i gelwir yn 'Gyllideb i Adeiladu Cymru Well', y diweddaraf mewn llawer o deitlau yr ydym ni wedi eu cael mewn nifer o gyllidebau dros y blynyddoedd, nad ydyn nhw bob tro wedi cyflawni yn union yr hyn a addawsant. Ychydig iawn o sôn sydd yna ynghylch sut y mae'r cynigion cyllideb ddrafft hyn yn cyd-fynd â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, ei strategaeth tymor hwy, nac yn wir, deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, y mae pob un ohonom ni i fod i roi sylw gofalus iddi. Nawr, rwy'n sylweddoli bod cynllunio wedi ei gymhlethu gan yr amserlen Brexit hyd at fis Mawrth nesaf a hefyd, fel y dywedasoch, cam 2 o broses pennu cyllideb dwy flynedd yw hon, ond dylai cyllideb fod yn fwy na dim ond ymarfer tacluso; dylai nodi llwybr ar gyfer y dyfodol a dylai ddarparu gweledigaeth a syniadau. Byddai'n dda cael mwy o fanylion ar ddatblygiad y metro, er enghraifft, a'r prosiectau seilwaith—a hefyd y posibilrwydd o fetro gogledd Cymru hefyd.

Nawr, efallai, ar ôl 20 mlynedd mewn Llywodraeth, efallai fod rhywfaint o anniddigrwydd neu efallai, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn dal yn ôl—[Torri ar draws.] Nid oeddwn yn edrych arnoch chi, Alun. Efallai eich bod yn dal rhai o'ch syniadau gorau yn ôl tan fis Rhagfyr; mae hynny'n ddealladwy. Beth bynnag yw'r rheswm, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn gwerthfawrogi mwy o gynllun hirdymor a llai o ymateb difeddwl i bwysau gwario. Mae hynny'n mynd i fod yn arbennig o bwysig wrth ymdrin â materion dybryd, megis gofal cymdeithasol.

Felly, i gloi, Llywydd, tra bo'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu agweddau ar y gyllideb hon, fel y cyllid i'r GIG a'n seilwaith trafnidiaeth—mae angen dirfawr am yr agweddau hynny ac maen nhw i'w croesawu—mae amheuon tra sylweddol ynglŷn â'r gyllideb hon, y gyllideb bara menyn hon, fel y gwnaethoch ei galw, sy'n cael ei chynnig heddiw, ac rwy'n credu mai'r cwestiwn mawr yw: a fydd jam yn dilyn yfory mewn gwirionedd?

15:10

Hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Dyma'r wythfed gyllideb yn olynol sydd yn cael ei phennu yn y lle hwn yn wyneb polisi llymdra Llywodraeth San Steffan, ac mae'n bwysig cadw hynny mewn cof wrth i ni ddechrau ar y gwaith o graffu. Mae cymdeithas a lles pobl yn dioddef yn enfawr oherwydd penderfyniad cwbl ddiangen a chalon-galed y Torïaid yn Llundain i barhau â thoriadau i wariant cyhoeddus, er bod pob darn o dystiolaeth yn dangos yn glir bod y polisi'n methu hyd yn oed wrth ei fesur gyda'i resymeg troedig ei hun. Nid yw'r economi'n tyfu ar yr un raddfa â gwledydd datblygedig eraill oherwydd nid yw arian yn cael ei fuddsoddi. Yr oll rydym yn ei gael yw toriadau ar ôl toriadau am resymau ideolegol yn hytrach na pholisi wedi'i selio ar synnwyr cyffredin economaidd, ac mae'r sefyllfa ond am waethygu. Mae hyd yn oed Nick Ramsay wedi sôn am y stormydd a'r ansicrwydd sydd i ddod, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi bod yn amlwg ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Wrth gwrs, nid oes gan yr wrthblaid yn San Steffan ddim yr atebion sydd eu hangen chwaith. Nid ydym ni'n mynd i greu iwtopia sosialaidd ar yr ynysoedd yma drwy adael y farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau. Wrth gwrs, beth sydd angen i ni ei wneud fel cenedl yw defnyddio'r arfau sydd gyda ni ac i fynnu mwy o arfau economaidd er mwyn tyfu ein heconomi ein hunain, ac, yn y pen draw, Llywydd, adeiladu cenedl annibynnol er mwyn rhoi terfyn ar reolaeth Dorïaidd dros ein gwlad ni am byth. 

Felly, dyna’r cefndir i’r gyllideb hon. Wrth gwrs, hon yw ail flwyddyn y cytundeb cyllideb gwerth bron i £0.25 biliwn dros ddwy flynedd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn falch iawn o weld bod rhai o’r mesurau yn rhoi hwb i sectorau pwysig yn barod. Am y tro cyntaf erioed, bydd myfyrwyr meddygol yn gallu gwneud cais i astudio rhan o’u gradd yn y gogledd—£7 miliwn yn refeniw. Bydd hyn yn hwb i fyfyrwyr o Gymru sydd eisiau cymhwyso yno ac yn gam pwysig tuag at wella'r sefyllfa o ran diffyg meddygon, sydd yn arwain at amseroedd aros hir, diffyg gwasanaethau lleol, ac yn rhoi straen ar y gweithwyr NHS sy’n gorfod llenwi’r bylchau.

Roeddwn yn falch o weld y Brexit portal yn cael ei lansio’r wythnos diwethaf—ar ôl peth oedi, mae’n rhaid i mi nodi. Bydd hwn yn adnodd gwerthfawr i fusnesau Cymreig o ran eu helpu nhw i baratoi at ymadawiad y Deyrnas Gyfunol â’r Undeb Ewropeaidd. Mae meysydd eraill sy’n elwa o’r cytundeb yn cynnwys iechyd meddwl, sydd, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i Blaid Cymru—£40 miliwn dros y ddwy flynedd—addysg uwch a phellach, £40 miliwn; yr iaith Gymraeg, £10 miliwn; a’r sector celfyddydau, £4.4 miliwn. O ran gwariant cyfalaf, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar y ganolfan iechyd integredig yn Aberteifi, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i weld y safle pan fydd cynhadledd Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn y dref y penwythnos hwn. Yn ogystal, mae gwaith yn cael ei wneud i wella’r briffordd rhwng y de a’r gogledd, ac mae astudiaethau dichonoldeb ar brosiectau eraill ar y ffordd, fel sydd wedi cael ei nodi gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma.

Wrth gwrs, nid ydym ni, ar y meinciau yma, yn cytuno â phopeth sydd yn y gyllideb, sef pam, wrth gwrs, y byddwn ni'n ymatal ar y bleidlais. Y gwir yw bod angen mesurau pellgyrhaeddol er mwyn mynd i’r afael â’r segurdod economaidd y mae ein gwlad wedi bod ynddo am ddegawdau, yn hytrach na phapuro dros y craciau. Rydym ni yn arddel sefydlu comisiwn isadeiledd gyda phwerau i godi arian sylweddol er mwyn buddsoddi yn ein hisadeiledd er mwyn sbarduno twf a chreu gwaith. Rwy’n falch o allu croesawu'r cyhoeddiad heddiw bod arian y grant early intervention, prevention and support yn cael ei warchod, yn ogystal â’r sicrwydd bod camau’n cael eu cymryd i atal sectorau penodol rhag colli mas. Mae Plaid Cymru yn falch ein bod wedi diogelu cyllid Supporting People fel rhan o hyn. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi siomi i glywed eich bod yn bwrw ymlaen gyda'r newidiadau i'r cynllun cinio am ddim i blant. Rwy'n derbyn y bydd nifer uwch yn gymwys, ond mae'n destun pryder mawr bod rhai teuluoedd yn wynebu colli'r hawl i ginio am ddim. A allaf i ofyn i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn a newid y cynlluniau, yn enwedig os oes newyddion da i ddod o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol?

Hoffwn i orffen trwy ofyn ambell i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf, rwy'n llongyfarch awdurdod refeniw Cymru ar ei lwyddiant yn codi mwy o arian o ran landfill disposal tax nag oedd y rhagolygon yn awgrymu. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod yr arian yma'n aros yng Nghymru ac nad yw'r Trysorlys yn ceisio ei gymryd nôl i Lundain? Rhan bwysig o gyfrifoldeb trethiant yw bod y Llywodraeth yn cael y budd o lwyddiant, felly, byddai'n warthus pe bai Trysorlys y Deyrnas Gyfunol yn awr yn ceisio cosbi Cymru am ei llwyddiant ei hunan—nid eu harian nhw yw e, wedi'r cyfan.

Yn ail, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi manylion ynglŷn â beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi'r arian maen nhw'n ei gael ar ffurf financial transactions? A ydych chi wedi ystyried a allai'r arian hwn, sydd angen cael ei fuddsoddi mewn mentrau sy'n rhoi elw ar fuddsoddiad, gael ei ddefnyddio er mwyn bwrw ymlaen gyda morlyn llanw yn Abertawe, er enghraifft, a phrojectau o'r fath? Rwy'n falch hefyd i weld, erbyn hyn, fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu tâl ar gyfer doctoriaid a nyrsys—rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers tro byd—ond, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud a oes cynlluniau i godi tâl i weithwyr eraill yn y sector gyhoeddus? Mae etholwyr wedi bod yn cysylltu â fi, ac rwy'n siŵr gydag Aelodau eraill, er enghraifft, i ddweud bod y sefyllfa yn y sector addysg bellach yn argyfyngus yn dilyn degawd o gynnydd tâl islaw chwyddiant, a bod hyn yn effeithio ar safon byw'r unigolion sydd yn gweithio yn y sector yna.

Hefyd, mae pryder mawr am yr effaith y caiff unrhyw doriadau i lywodraeth leol ar wasanaethau anstatudol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys canolfannau hamdden a chlybiau cymunedol sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn cadw pobl yn iach ac atal problemau iechyd. Sut mae toriadau fel hyn yn cyd-fynd ag amcanion y Llywodraeth o ran ceisio atal problemau iechyd cyn iddyn nhw godi yn y lle cyntaf? Rydym ni’n gwario mwy a mwy ar drin anhwylderau iechyd ond llai a llai ar atal y problemau hyn rhag codi yn y lle cyntaf. Hoffwn i glywed sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwn.

I orffen, rwy'n croesawu'r bwriad i dynnu ymadawyr gofal allan o'r system dreth gyngor hyd at 25 mlwydd oed ar hyd a lled Cymru. A fydd angen newidiadau statudol cyfreithiol i wneud hyn, neu a fydd hyn yn rhywbeth a all gael ei wneud yn o fuan? Hefyd, rwy'n croesawu'r datganiad ynglŷn â statws elusennol trethol ysgolion preifat ac ysbytai preifat. Eto, a fydd angen newidiadau cyfreithiol i sicrhau bod y polisi yna'n cael ei wireddu neu a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld hyn yn rhywbeth a all gael ei weithredu'n weddol fuan? Diolch yn fawr iawn.

15:15

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am roi golwg ymlaen llaw imi o brif fanylion y gyllideb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bâr diogel o ddwylo, ond efallai fod hynny i raddau helaeth oherwydd ei fod wedi'i rwystro gan gaethiwed y grant bloc ar y naill law, a chan natur gyfyngedig datganoli trethi i Gymru a'i ymwrthodiad personol ei hun o ran methu â defnyddio'r pwerau treth incwm am resymau yr wyf i'n eu deall yn llwyr ac yn eu cymeradwyo yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, er ei fod wedi disgrifio hon fel cyllideb bara menyn, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma yw'r briwsion sy'n disgyn o'r bwrdd yn hytrach na'r dafell o fara menyn—neu efallai y byddai bara a diferion saim yn well disgrifiad ohono—y cyfeiriodd ati. Ac nid yw hynny'n unrhyw feirniadaeth o Ysgrifennydd y Cabinet o gwbl. Rwyf wir yn credu ei fod yn bâr diogel o ddwylo ac mae wedi llwyddo i wneud ei dasg gyda llawer iawn o eglurder a gallu.

Yn wir, rydym ni'n gweld rhai o fuddion hynny, fel y crybwyllwyd yn y datganiad—mae ei allu i negodi'r fframwaith cyllidol, er enghraifft, gyda'r Prif Ysgrifennydd, wedi cynhyrchu rhai buddion ariannol i ni a werthfawrogir yn fawr: £90 miliwn, fel y mae'r datganiad yn ei nodi, a £71 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'n rhaid ei longyfarch, a chredaf ei fod wedi ei longyfarch, o bob ochr i'r tŷ hwn ar y ffordd yr ymdriniodd â'r trafodaethau hynny.

Credaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud gwaith da o ran ymdopi â'r gostyngiad o 1 y cant, sef y gostyngiad arian parod, yn y grant cynnal refeniw i 2019-20, a llwyddo i leihau'r bwlch gan £28 miliwn i ddim ond £15 miliwn. Mae'r £15 miliwn sy'n weddill yn amlwg yn mynd i arwain at broblemau i ymdrin â nhw, ond, serch hynny, rwy'n credu bod gallu Ysgrifennydd y Cabinet i geisio sgwario'r cylch y mae'n rhaid iddo ei wynebu yn cynhyrchu'r enillion hynny.

Rwy'n cymeradwyo'n gryf hefyd rai o'r elfennau eraill y cyfeiriodd atyn nhw yn ei ddatganiad, yn arbennig, yr agenda tlodi plant a'r cynnydd yn nifer y plant ysgol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ac rwyf hefyd yn cefnogi ei benderfyniad ar y grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth i gynyddu'r swm a delir a hefyd i'w rannu'n ddau, oherwydd bu cyfnod anesmwyth iawn, yn ddi-os, i'r rhai hynny sy'n credu, ar ôl symud o ryw fath o gyllideb sydd wedi'i neilltuo i un lle caiff y grantiau gwahanol hyn eu trin gyda'i gilydd, y gallai rhai pobl fod ar eu colled a chael llai nag y byddent wedi ei gael fel arall. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n symudiad doeth i arafu'r broses o newid, a bydd croeso cynnes i hynny, rwy'n credu, ledled Cymru.

Gallwn hefyd, wrth gwrs, groesawu'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd. Mae'n ffaith fod pawb yn ymwybodol bod chwyddiant iechyd yn uwch na chwyddiant yn genedlaethol, a bod anghenion y boblogaeth yn mynd i gynyddu gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a llai o bobl mewn gwaith egnïol. Felly, mae cost ariannu hyn yn mynd i fod yn broblem gynyddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n rhannol, mae'n debyg, yn sgil y symiau cynyddol sydd ar gael oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu faint o arian a warir ar y gwasanaeth iechyd drwy ei chronfa pen-blwydd deg a thrigain, ond nid wyf i'n credu y dylem ni eu canmol nhw'n ormodol ar eu llwyddiant, oherwydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, dim ond gan 3.6 y cant y mae Llywodraeth y DU yn mynd i gynyddu'r gwariant, sy'n 0.1 y cant yn llai na'r cynnydd cyfartalog mewn gwariant ar iechyd ers 1948. Felly, mewn gwirionedd, mae'n fwy o aros yn yr unfan yn hytrach na'i fod yn fonws annisgwyl ar ben popeth arall. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd bod y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bellach yn £8.2 biliwn ar gyfer 2019-20, felly mae iechyd yn dod yn rhan fwy fyth o gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'r £330 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr—er, fel y dywedodd yn gywir, mae'r hyn a roddir ag un llaw yn rhannol yn cael ei gymryd gan y llall ac mae tua hanner y gyllideb eisoes wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y DU.

Ond yr hyn nad ydym ni'n ei drafod yn y fan yma yw, nid yn gymaint y cyllid sydd ar gael, ond anallu parhaus llawer o fyrddau iechyd i allu rheoli eu cyllidebau eu hunain yn briodol, ac rydym wedi gweld, eleni, bod diffyg parhaus o £360 miliwn, sydd wedi cynyddu o £253 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. Nid yw Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn enwedig, ddim mewn gwirionedd yn gwella i'r graddau y byddem yn ei ddisgwyl. Mae'r symiau o arian sydd dan sylw yn y fan yma, wrth gwrs, yn enfawr: Hywel Dda, £70 miliwn mewn diffyg hyd at ddechrau mis Ebrill eleni, a Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o £30 miliwn i £36 miliwn. Felly, yn erbyn y cefndir hwn, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dasg anodd iawn, rwy'n credu, wrth geisio mantoli'r cyfrifon.

Nid yw'r gyllideb amgylcheddol eleni wedi dioddef y toriadau a wnaeth y llynedd. Mae hynny i'w groesawu. Er bod hanner y cynnydd o £34 miliwn, sef £17 miliwn ohono, yn mynd i gael ei wario ar wahanol brosiectau gwastraff, na fyddai'n flaenoriaeth i mi, oherwydd—ac nid oes a wnelo hyn â'r mater cynhesu byd-eang ei hun—ni allaf weld y pwynt o wario £17 miliwn ar ddidoli gwastraff a gallu tynnu'r plastig o gwpanau Costa Coffee, er enghraifft, pan fo'r DU yn cyfrif am ddim ond tua 2 y cant o allyriadau carbon deuocsid, hyd yn oed os ydym ni'n derbyn y cysylltiad rhwng allyriadau carbon deuocsid a chynhesu byd-eang. Mae pump ar hugain y cant o'r holl wastraff plastig sy'n cael ei gasglu yn yr UE yn cael ei allforio i'r dwyrain pell a lleoedd eraill lle mae eu mesurau rheoli yn llawer mwy israddol na'r hyn sydd gennym ni yn y wlad hon ac, yn wir, yn Ewrop yn gyffredinol. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd yw gwneud y broblem yn waeth drwy gasglu'r holl ddeunydd hwn ac yna ei allforio i wledydd sy'n ei daflu i afonydd a safleoedd tirlenwi mewn mannau eraill. Felly, nid ydym ni mewn gwirionedd yn cyfrannu at ateb y broblem, hyd yn oed os ydych chi'n derbyn bod problem yn y lle cyntaf. Felly, yn sicr, ni fyddai hynny yn flaenoriaeth i mi.

Ond y mantra yn y cefndir, wrth gwrs, fel bob amser, yw cyni. Ond, rwy'n credu y dylem ni atgoffa ein hunain bod hwn yn gyfnod o gyni—y mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn gwirionedd yn nodi'r anwiredd, oherwydd mae'n cyfeirio at anallu'r Canghellor i gyrraedd ei dargedau i leihau'r diffyg ar sail gyfresol. Yn 2007-08, roedd y ddyled genedlaethol oddeutu £780 biliwn. Y bore yma, am 10.15 a.m., edrychais ar y cloc dyled cenedlaethol, ac roedd yn £2 triliwn neu fwy. Felly, prin y gallwch chi ddisgrifio hwn fel cyfnod o gyni pan fo'r Llywodraeth wedi bod â diffygion mwy nag erioed o'r blaen. Mae arnaf ofn ei bod yn realiti bywyd os nad ydych yn byw o fewn eich modd, yna'n sydyn mae'r arian yn dod i ben, a dyna'r broblem gyda Llywodraethau sosialaidd bob amser, wrth gwrs—nid oes ganddynt ddigon o arian pobl eraill i'w wario.

Mae'r Blaid Lafur o dan ei harweinyddiaeth bresennol wedi bod yn edmygydd mawr o'r Arlywydd Chávez ac Arlywydd Maduro yn Venezuela. Wel, mae gan Venezuela eleni chwyddiant o 1 miliwn y cant ac maen nhw bellach, yn hytrach nag allforio olew, yn allforio pobl. Felly, mae'r syniad y gallwch chi barhau i wario fel pe na fyddai yfory, am byth, wrth gwrs, yn erbyn rheolau natur a realiti. Pe na fyddem ni wedi ein cyfyngu yn y modd yr ydym ni yn ariannol yng Nghymru, fel pe byddai John McDonnell, Duw â'n gwaredo, yn dod yn Ganghellor y Trysorlys yn y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg, y byddai mewn gwirionedd yn gallu dilyn esiampl Venezuela, yna, rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru mewn picil gwirioneddol. Yna bydden nhw'n darganfod beth yw gwir ystyr cyni.

Yn y pen draw, dros gyfnod o amser, mae'n rhaid i chi fantoli'r cyfrifon ac, mewn ffordd annigonol ac mewn ffordd gyfyngedig, dyna beth y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn ceisio ei wneud. Pe byddai'r Llywodraeth wedi benthyg hyd yn oed mwy o arian, yna byddai baich y ddyled a'r baich cyllido wedi bod hyd yn oed yn fwy. Eleni, mae dros £50 biliwn yn mynd i gael ei wario mewn llog ar ddyledion, ac er bod Banc Lloegr wedi prynu rhan sylweddol o ddyled y Llywodraeth—felly, ar un ystyr, mae'n talu arian iddo'i hun—rydym ni'n dal i siarad am ryw £4 biliwn a allai gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen sy'n mynd fel llog ar ddyled i drydydd partïon. Felly, yn y pen draw, fel y dywedaf, nid oes gennych chi arian ar ôl.

A, maes o law, bydd gan Lywodraeth Cymru y rhyddid a'r disgresiwn i ddefnyddio'r pwerau trethi datganoledig sydd ganddi. Rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'r rheini nid yn unig i gynyddu'r baich trethi, ond mewn gwirionedd i geisio gweddnewid economi Cymru yn economi fenter drwy ostwng trethi ac felly annog buddsoddiad, annog menter, annog pobl i ddod i fyw a gweithio yng Nghymru fel y gallwn ni—yr hyn yr ydym ni i gyd yn gwybod y dylem ni ei wneud—godi sylfaen y dreth drwy gynyddu faint o gyfoeth a grëir yn economi Cymru yn gyffredinol. Felly, mae'n ddewis y bydd yn rhaid inni ei wneud maes o law. Mae wedi'i ohirio nawr tan y Cynulliad nesaf. Ond, fel Nick Ramsay, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, os yw hi'n mynd i baratoi ar gyfer bod mewn Llywodraeth ymhen ychydig o flynyddoedd, mewn gwirionedd yn newid ei hagwedd at economi fenter ac yn sylweddoli, yn y pen draw, bod cyfoeth sy'n cael ei greu yn cael ei greu gan bobl, nid gan Lywodraeth. Mae llywodraethau yn gwario arian, ond nid ydyn nhw'n gallu ei wario os nad yw'n cael ei greu.

15:25

Hoffwn groesawu cyllideb ddrafft Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, sydd wedi'i chynllunio i gynnal ffabrig bywyd Cymru, ac rwy'n croesawu ymrwymiad clir Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chwmpasu'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd am drethi. Ym Mhwyllgor Cyllid y Cynulliad yr wythnos diwethaf, cawsom sesiwn friffio gan Drysorlys Cymru a Chyllid a Thollau EM am y cyfraddau newydd ar gyfer treth incwm yng Nghymru a ddaw i rym fis Ebrill nesaf. Rwy'n cefnogi eich cynigion ar gyfer trethi datganoledig gyda'r gyllideb ddrafft hon, ac rwy'n nodi, fel y gwnes i yn gynharach eleni, eich bod wedi sicrhau mai'r dreth trafodiadau tir yw'r dreth fwyaf blaengar yn y DU, a chroesawaf hynny'n fawr iawn. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod ac yn cytuno, fel yr wyf i, ag adroddiad diweddar yr IPPR Commission on Economic Justice, ac yn cefnogi ei argymhellion am dreth, a'r angen i ledaenu cyfoeth a pherchnogaeth ar draws ein heconomi.

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, ar ôl wyth mlynedd a hanner o gyni diangen a niweidiol a thoriadau dwfn yn ein gwasanaethau cyhoeddus, eich bod wedi dangos yn glir sut yr ydych wedi defnyddio ein cyllideb i helpu i wneud Cymru yn lle tecach. O ganlyniad, rydych wedi rhoi pecyn eang o fuddsoddiad cyhoeddus mewn iechyd, gofal cymdeithasol, tai a thrafnidiaeth. Ond ni ellid fod wedi gwneud hyn oni bai eich bod wedi sicrhau £90 miliwn o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol, a negodwyd gennych, a'r defnydd o £125 miliwn o gronfeydd wrth gefn Cymru. Ac mae hwnnw'n benderfyniad y mae'n rhaid ichi ei wneud, gan ddangos eich bod yn bendant yn eich bwriad i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol hynny ar lawr gwlad yng Nghymru, sydd mor bwysig i ni, ac sy'n ofynnol i bobl Cymru.

Rwy'n croesawu'r cynnydd o £0.5 biliwn i GIG Cymru, sy'n ailddatgan eich polisi i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol, sydd o fudd i lywodraeth leol, gan gynnwys y £50 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. A byddwn i ond yn dweud ac yn cwestiynu a yw hynny'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn dal i ariannu llawer gormod o'i gymharu â'r cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr, yn enwedig wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

O ran cyfalaf, croesawaf y £35 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol, sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym dai cymdeithasol a fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen tai. Ond hoffwn egluro'r dyraniad o ddyraniadau trafodiadau ariannol, oherwydd, yn gynharach eleni, croesawais gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer undebau credyd, yn dilyn y diweddariad yn ddiweddar i gyhoeddiadau cynllun seilwaith Cymru. Rydym eisoes wedi gweld y manteision o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn y modd hwn, gan hybu cyfiawnder cymdeithasol, cefnogi ein hundebau credyd, eu helpu i fodloni'r gofynion cymhareb asedau cyfalaf heriol, i ategu dichonoldeb undebau credyd yng Nghymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau.

Hoffwn hefyd godi'r mater o effaith Brexit ar eich cyllideb eleni. Mae ymchwil annibynnol bellach yn dweud bod bil Brexit yn £500 miliwn yr wythnos, ac yn cynyddu, ac mae eich datganiad chi wedi amlygu dadansoddiad y prif economegydd, a oedd yn dangos effaith Brexit ar bobl ac aelwydydd yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau bod yn rhaid inni ddefnyddio dyraniadau o'n cyllideb gyfyngedig i dalu am gostau Brexit i'n pwrs cyhoeddus? Ar gyfer cronfa pontio'r Undeb Ewropeaidd o £50 miliwn, a chost ymgysylltiad Llywodraeth Cymru, ar bob lefel—gwleidyddol, a swyddogol—beth yw effaith Brexit ar y rheini i gyd yr ydym yn eu cefnogi a'u gwasanaethu yng Nghymru, gan dynnu sylw at yr effaith negyddol ar y broses o lunio eich cyllideb a'ch cyfrifoldebau?

Rwyf eisiau cloi gyda chwestiwn am bwerau ehangach. Rydych wedi croesawu eich pwerau newydd, fel yr amlinellwyd heddiw. Mae gennym fframwaith cyllidol—yr ydych chi wedi'i negodi, rydych chi wedi rheoli adnoddau, refeniw a chyfalaf, mewn modd y byddai Nye Bevan wedi'i groesawu o ran y ffordd yr ydych yn cydnabod blaenoriaethau ac anghenion, fel dilysnod sosialaeth, a'r ffaith eich bod wedi llwyddo i wneud hynny yn erbyn cefndir o wyth mlynedd a hanner o'r gyllideb goll honno o £4 biliwn a allai fod yn mynd i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond, yn olaf, hoffwn pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar y trafodaethau ar y pwerau y mae eu hangen arnom i gefnogi ein heconomi, ac a gefnogir yn drawsbleidiol drwy Gomisiwn Silk, ac yn wir bellach y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, gan ystyried tollau teithwyr awyr, a ddylai gael eu datganoli i Gymru, sydd wedi eu datganoli i'r Alban ac sydd wedi'u datganoli i Ogledd Iwerddon. Beth yw'r cynnydd, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran y trafodaethau hynny? Diolch.

15:30

Rwy'n credu bod hon yn gyllideb fedrus iawn, dan amgylchiadau anodd iawn. Mae'n rhaid inni i gyd nodi'r £800 miliwn a allai fod wedi bod ar gael pe byddem wedi llwyddo i gynnal y swm o arian y gellid bod wedi ei ddisgwyl yn unol â chwyddiant, pe na fyddai Llywodraeth y DU yn parhau i gadw at y rhaglen gyni hon, sy'n achosi cymaint o boen i gynifer o'n dinasyddion. Rwy'n credu bod y rheini ohonom ar y meinciau hyn yn arbennig o ofidus am y cynnydd mewn tlodi plant sydd wedi digwydd ers 2010. Felly, rwy'n croesawu yn arbennig y swm o arian yr ydych chi wedi'i neilltuo i alluogi mwy o blant i fanteisio ar brydau ysgol am ddim. Mae'r £7 miliwn ar draws Cymru yn bwysig iawn a hefyd dros £3 miliwn ychwanegol i gynnal y grant amddifadedd disgyblion i alluogi teuluoedd sy'n ei chael yn anodd parhau i alluogi eu plant i gael addysg yn yr un modd â phawb arall.

Nid wyf yn synnu, ar feinciau'r Ceidwadwyr, fod Nick Ramsay yn cwestiynu dilysrwydd dileu statws elusennol ysgolion ac ysbytai preifat. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn bod gennym chwarae teg, yn arbennig gan y cynhelir hyfforddiant athrawon, nyrsys a meddygon gan y wladwriaeth ar ran ein dinasyddion, ac mae llawer ohonyn nhw wedyn yn cael eu potsio gan yr ysgolion a'r ysbytai preifat sydd ddim yn gwneud unrhyw gyfraniad at hyfforddiant yr unigolion amhrisiadwy hyn. Felly, mae'n gwbl iawn a phriodol y dylen nhw wneud cyfraniad priodol at gost y bobl y maen nhw'n elwa ohonynt.

Nid wyf yn rhannu pryder Nick Ramsay y byddwn yn defnyddio ein pwerau i godi treth incwm mewn Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol. Nid yw'r Alban wedi defnyddio'r pwerau hynny ac maen nhw wedi bod ganddyn nhw ers 1999. Felly, nid oes rheswm penodol dros dybio y byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n wirioneddol agored i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae mor hawdd i bobl allu mynd ar draws y ffin i Loegr er mwyn osgoi'r trethi hyn. Mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn sut y gallwn wella'r broses o gasglu trethi trafodiadau tir, oherwydd mae'r rheini yn bethau na ellir eu hosgoi.

Mae gennyf ddiddordeb yn yr arian y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i neilltuo ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i waredu ein gwastraff, yn ogystal â'r agwedd o ran incwm, oherwydd ymwelais yn ddiweddar â chanolfan ailgylchu Caerdydd i edrych ar y swm o arian y gellir ei godi o ailgylchu'n briodol. Mae pris alwminiwm, er enghraifft, yn uchel iawn ar hyn o bryd; mae pris cardfwrdd yn llai, ond er hynny, mae'n gyfraniad gwerthfawr iawn at leddfu'r gost o gasglu gwastraff pobl. Yn sicr, mae'n rhaid inni barhau i gadw at yr egwyddorion o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y £15 miliwn o arian cyfalaf i wella ein gallu i ailgylchu, ac a ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n cael ei gyflawni gan gonsortiwm o awdurdodau lleol, yn hytrach na bod pob awdurdod lleol yn gorfod darparu ar gyfer eu hunain, oherwydd ymddengys i mi fod honno'n un ffordd o wneud y pethau hyn yn fwy effeithlon.

Byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, y bu lobi amser cinio lle'r oedd llawer o bobl yn bresennol ac yn mynnu bod £20 y pen yn cael ei wario ar wella ein llwybrau beicio. Felly, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'n rhwymedigaethau o dan y ddeddf honno, byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi sut yr ydych chi'n credu bod yr arian ychwanegol yr ydych chi'n ei neilltuo ar gyfer llenwi tyllau yn y ffyrdd, sy'n eithriadol o bwysig i unrhyw un sy'n beicio, ond hefyd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol, yn ogystal â theithio llesol, sut y mae'r tair elfen hynny yn cydgysylltu i wella nifer y bobl sy'n gallu cael budd o feicio a cherdded heb y bygythiad o gael eu taro gan gerbyd.

Beth bynnag, rwy'n eich llongyfarch ar eich cyllideb ddrafft ac yn edrych ymlaen at ei harchwilio'n fanylach.

15:35

Yn amlwg, fe wnaethoch chi gyfeirio—dro ar ôl tro hyd syrffed —at gyni. Pa bryderon a godoch chi pan rybuddiodd Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynghylch y cynnydd yn niffyg cyllideb y DU ym mis Ionawr 2004? Cyflwynir economeg Keynes yn aml fel dewis amgen i gyni. Nid wyf yn gwybod beth yw natur eich economeg bersonol chi, ond yn sicr mae eich cyd-Aelodau wedi dyfynnu Keynes ar sawl achlysur. Wrth gwrs, dywedodd Keynes er mwyn gwario mewn sefyllfa o ddiffyg yn ystod cyfnod o ddirywiad economaidd fel offeryn polisi economaidd y mae'n rhaid osgoi diffygion y tu allan i gyfnod o ddirywiad neu o leiaf eu cadw'n isel, i ganran o'r cynnyrch domestig gros sy'n is na beth bynnag yw'r gyfradd twf. Fe fyddai hyn yn galluogi'r gymhareb rhwng diffyg a chynnyrch domestig gros i leihau. Pa bryder, felly, a wnaethoch chi ei fynegi pan gyflwynodd Llywodraeth y DU cyn 2010 bolisi a elwid bryd hynny yn 'ddiwedd ffyniant a methiant', gan gynyddu'r diffyg yn gyflymach na chyfradd twf yr economi y tu allan i gyfnod o ddirywiad? Oherwydd hyn fe dorrodd Llywodraeth y DU cyn 2010 y cylch economaidd a chyflwyno cwpan gwenwyn i Lywodraethau'r DU a fyddai'n ei holynu. Fel y gŵyr pob dyledwr, ni allwch chi ddechrau lleihau dyled nes y bydd eich gwariant yn llai na'ch incwm. Yn y bôn pe bai Llywodraethau'r DU ar ôl 2010 wedi lleihau'r diffyg yn gyflymach, yna fe fyddai'r toriadau wedi bod yn llymach oni fyddent? Ond pe bai nhw wedi ei leihau yn arafach, gyda'r perygl o achosi ysgytiadau economaidd, fe fyddai perygl i doriadau llymach gael eu gorfodi gan gredydwyr y DU. Yn lle hynny, mae cyllidebau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu bron £1 biliwn mewn termau real ers 2016-17.

Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at £287 miliwn ychwanegol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol. A allech chi egluro'r rhyngweithio rhwng hynny a'r dadansoddiad, o ystyried y datganiad gan lywodraeth leol yng Nghymru bod llawer o'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu, yn enwedig gwasanaethau cymdeithasol, yn wasanaethau ataliol sy'n lleihau'r pwysau ar y GIG? Felly, a ydych chi wedi ystyried y budd ariannol o feddwl am y cyllidebau hynny mewn cyd-destun rhyngberthynas ataliol?

Wrth gwrs, mae sôn am wario arian cyhoeddus yn golygu nid yn unig faint sy'n cael ei wario ond a yw'n cael ei wario'n dda. A ydych chi wedi ystyried neu'n ystyried ar hyn o bryd maint y gwariant y pen sydd ar gael i'r 22 awdurdod lleol? Fel rwy'n ei gweld hi, ar hyn o bryd sir Fynwy yw'r isaf, sy'n cael £585 y pen yn llai na'r uchaf. Ond os edrychwch chi ar y Gogledd hyd yn oed: Wrecsam, yn ddeunawfed gyda £339 yn llai; sir y Fflint yn bedwaredd ar bymtheg gyda £368 y pen yn llai na'r un a ariennir orau. Fe ddylem ni fod yn edrych ar hyn, oni ddylem ni, yng nghyd-destun effaith, oherwydd mae'r fformiwla ariannu hon wedi bodoli ers bron i ddau ddegawd? Rwy'n credu mai yn 2000-01 y'i cyflwynwyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, i fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn ffyniant, ac eto mae'r un anghydraddoldebau a'r gwahaniaethau ffyniant yn dal i fodoli yn yr un ardaloedd. Felly, oni ddylem ni dargedu hyn yn fwy craff o ran penderfyniadau ynghylch cyllidebu?

Sut ydych chi'n ymateb i arweinwyr y sector gwirfoddol a ddywedodd wrthyf ddydd Gwener diwethaf fod arnom ni angen yn awr gyllidebau ataliol a fyddai'n cyflawni newid gwirioneddol? Fe ofynnon nhw, 'Pam ddim buddsoddi mewn rhywbeth sy'n gweithio yn hytrach na cheisio gwneud rhywbeth yn wahanol o hyd, gan gyd-gynllunio a chyd-ddarparu yng ngwir ystyr hynny, yn hytrach nag ymgynghori oddi uchod ar ôl dylunio, sef y drefn arferol o hyd, a chomisiynu i ddarparu rhaglenni o'r brig i lawr, sef unwaith eto, y drefn arferol o hyd?' Sut ydych chi'n ymateb i Archwilydd Cyffredinol Cymru a ddywedodd yn adroddiad mis Gorffennaf, 'Canllaw i Gyllid Cyhoeddus Cymru':

'Mae cyd-gynhyrchu yn ymwneud â chydnabod yr asedau cadarnhaol y mae unigolion a chymunedau yn eu cynnig i wasanaethau cyhoeddus. Gall y rhain wneud i'r adnoddau ariannol cyfyngedig sydd ar gael i'r sector cyhoeddus ymddangos yn bitw iawn. Mae her yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a gweithio gyda'r adnoddau hynny ochr yn ochr â'r adnoddau ariannol sydd wedi'u cynnwys fel arfer mewn cyllidebau'?

Rydych yn bersonol wedi gwneud nifer o ddatganiadau sy'n dangos eich ymrwymiad i'r agenda honno, ond does dim byd yn digwydd, Ysgrifennydd dros gyllid. Mae gormod o benderfyniadau o'r brig i lawr yn digwydd ynghyd ag amddiffyn cyllidebau mewnol ar draul gwasanaethau rheng flaen, sy'n golygu cost ychwanegol i'r gwasanaethau rheng flaen statudol. Sut, felly, ydych chi'n sicrhau y bydd cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 2 yn cael ei gyflawni, cod sy'n rhoi ar waith system lle mae pobl yn bartneriaid llawn wrth lunio a gweithredu gofal a chymorth, ac sy'n rhoi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys i bobl? Dyma ddywed y ddeddfwriaeth, ond nid yw wedi digwydd hyd yn hyn, a chanlyniad hynny yw bod miliynau'n cael eu gwario'n wael yn hytrach nag ein bod yn ymgysylltu gyda'r cyhoedd yng Nghymru a darparu'n ddoeth. 

Yn olaf, o ran y cyfeiriad a wnaethoch chi at y rhaglen ymyrraeth gynnar, atal a chymorth, a'r gwahanu y gwyddom fod ymgyrchwyr Materion Tai Cymru yn galw amdano, ond maen nhw wedi bod yn galw am fwy na hynny, onid ydyn nhw, Ysgrifennydd y Cabinet? Maen nhw wedi bod yn galw am neilltuo arian, ac maen nhw wedi bod yn galw am y grant ar wahân i ddiogelu Cefnogi Pobl yn arbennig. Felly a fydd y drefn neilltuo yn cael ei hadfer yn awr, ac a fydd cyllideb Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu'n benodol yn unol â dymuniad yr ymgyrch? Diolch.

15:40

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r gyllideb ddrafft. Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg ein gwasanaethau cyhoeddus fel mae'r cyhoedd yn ei ddymuno yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw cyni yn bolisi economaidd ond yn gyfeiriad gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau cwtogi gwariant cyhoeddus a chyfyngu ar y gwasanaethau y mae'r wladwriaeth yn eu darparu. Ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw, mae £4 biliwn i £6 biliwn ar goll o'n cyllideb ni. Mor wahanol fyddai'r gyllideb heddiw gyda £4 biliwn i £6 biliwn yn ychwanegol. Rwy'n credu y byddai pawb yn gadael y lle hwn yn hapusach o lawer nag y byddwn ni.

Rwy'n credu bod Neil Hamilton wedi gwneud pwynt diddorol iawn—torri'r gôt yn ôl y brethyn. A gaf i ddweud, mai'r pwynt allweddol yw cynyddu eich incwm? Twf economaidd yw’r enw ar hyn. Yr hyn a gawsom ni yw diffyg twf, ac o'r herwydd, nid ydym ni wedi ei gynyddu. Dyna pam mae'r diffyg wedi cynyddu—oherwydd bod twf wedi bod yn araf ar y gorau, ac ar y gwaethaf yn sefyll yn llonydd.

Mae gennyf i dri chwestiwn ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Un ynglŷn â chyfalaf trafodiadau: a yw Llywodraeth Dorïaidd San Steffan wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch newid y rheolau o ran ei ddefnyddio? Os nad ydynt, a ellir ei ddefnyddio fel cyfalaf newydd ar gyfer cymorth datblygu economaidd i gwmnïau preifat, ac felly cynyddu'r gwariant cyfalaf dewisol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer pethau megis ysgolion newydd, y mae pawb yn y Siambr hon yn ei groesawu?

Yn ail, a oes unrhyw awgrym y caiff y terfyn benthyca ei gynyddu? A fydd bondiau ar gael? Er na fyddwn i nac Ysgrifennydd y Cabinet rwy'n sicr yn eu dewis fel dull o fenthyca, oherwydd maen nhw'n tueddu i fod yn ddrutach; yr hyn y maen nhw wedi ei wneud, a'r rheswm pam mae awdurdodau lleol yn eu hoffi—. Nid ydych chi eisiau eu defnyddio nhw, ond yr hyn yr ydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud yw cadw benthyciadau y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus yn isel. Pan gynyddodd y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus ei gyfraddau, yr hyn a ddigwyddodd oedd i bobl ddechrau edrych ar fondiau, ac yn gyflym iawn daeth costau'r bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus i lawr yn sylweddol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn.

Yn olaf a gaf i grybwyll y mater o iechyd sylfaenol, iechyd eilaidd a gwariant y gwasanaethau cymdeithasol? Oddeutu’r flwyddyn 2015 fe luniodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar ymyriadau meddygol nad ydynt yn gwneud unrhyw les i'r claf, a'r gost a amcangyfrifwyd oedd sawl can miliwn o bunnoedd. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant pan oedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond gwariant yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty pan nad oedd yr unigolyn yn gallu edrych ar ôl ei hunan mwyach ac wedi symud i gartref nyrsio.

Canfu'r diweddar Ddoctor Julian Tudor Hart, a oedd yn gyfarwydd i lawer ohonom ni, gydag eraill, y caiff arian ei wario ar bethau fel lleihau pwysedd gwaed oedd dim ond wedi codi ychydig, sy'n gwneud dim lles o ran iechyd, ond sydd mewn gwirionedd yn ddrud. Ac a gaf i atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, pan oeddech chi'n Ysgrifennydd Iechyd, fe sonioch chi ar fwy nag un achlysur, am y gwahanol gyfraddau ymyrryd a gafwyd ar gyfer tynnu tonsiliau mewn dwy ardal o fewn yr un bwrdd iechyd. Felly, nid gwahaniaeth rhwng byrddau iechyd a geir—yn y bôn gwahaniaeth rhwng dau lawfeddyg a geir. Rydych chi ddwywaith mwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau mewn un lle na lle arall.

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi'n rheolaidd y gostyngiad cymharol mewn gwariant gofal sylfaenol. Ac rwy'n pryderu bod gofal eilaidd yn cael blaenoriaeth dros ofal sylfaenol. Cyflwynodd Sefydliad Nuffield ymchwil yn dangos bod cynhyrchiant mewn ysbytai yng Nghymru, o ran sawl claf y mae un meddyg yn eu trin, wedi gostwng rhwng 2003 a 2013.

Mae gofal cymdeithasol o dan bwysau enfawr, yn enwedig gofal yr henoed a chymorth ar gyfer plant. Rwy'n deall bod cymorth ar gyfer plant wedi cynyddu cant y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac fe wyddom ni hefyd fod gofal yr henoed yn parhau i gynyddu. Mae llawer ohonom ni o’r farn ei fod yn beth da—rydym ni i gyd eisiau byw'n hirach, onid ydym? Ond mae costau ynghlwm â hynny, sydd bron i gyd yn disgyn ar ysgwyddau awdurdodau lleol.

Rwy'n falch iawn i weld, ar ôl imi fod yn llais unig yn yr anialwch yn cefnogi gwella iechyd drwy ymdrin â ffactorau fel gordewdra ac ysmygu, sy'n arwain at iechyd gwael, fod llawer o gefnogaeth bellach i weithredu ataliol. Yn wir, roedd Steffan Lewis yn sôn am gamau gweithredu ataliol yn gynharach, a gobeithiaf y bydd mwy o bobl yn sôn am weithredu ataliol. Mae cael rhywun yn yr ysbyty o dan lawdriniaeth mewn nifer o achosion yn arwydd o fethiant nid llwyddiant. Arwydd o lwyddiant fyddai iddynt beidio â bod yno yn y lle cyntaf. Rwy'n credu mai'r nod y dylem ni ymgyrraedd ato yw gwella iechyd yn hytrach na chynyddu gwariant iechyd neu driniaethau iechyd.

Felly, rwy'n croesawu'r gyllideb, rwy'n credu mai dyma'r gorau y gellir ei wneud. A gawn ni'r £4 biliwn i £6 biliwn y dylem ei gael? Byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn yr ystafell hon yn hapus iawn, iawn. Nid ydym yn mynd i gael hwnnw, ac o dan amgylchiadau anodd iawn, rwy'n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyllideb.

15:45

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech chi fy helpu, pan fyddaf yn gofyn rhai cwestiynau ynghylch addysg a'r berthynas rhwng y prif grŵp gwariant addysg a rhai o linellau gwariant adrannau eraill? Yn amlwg, mae'n braf iawn gweld y £60 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg. Mae e dal yn llai na'r £100 miliwn yr oeddem yn ei ddisgwyl ar gyfer safonau ysgolion dros y cyfnod, ond gwelaf hefyd bod £30 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer ysgolion ar gael. Mae'r rhan fwyaf o gyllid craidd ysgolion, wrth gwrs, yn dod gan awdurdodau lleol, er y mae'n rhaid imi ddweud, yn fy rhanbarth fy hun, pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion a gwasanaethau eraill, y ddau brif gŵyn a glywaf o ran ariannu yw ysgolion yn benodol—nid addysg yn gyffredinol ond ysgolion yn benodol—a gofal cymdeithasol, y mae Mike Hedges wedi cyfeirio ato hefyd.

Gallaf weld y bu cynnydd yn y prif grŵp gwariant llywodraeth leol a gwariant cyhoeddus, ond, wrth gwrs, nid dim ond y grant cynnal refeniw yw hynny ac nid yw'n egluro ychwaith ble mae cyllid craidd ysgolion o fewn y £123 miliwn hwnnw a sut y gellir ei ddiogelu, gan osgoi trefn neilltuo ar yr un pryd. Mae'n arbennig o bwysig, rwy'n credu, oherwydd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf ei bod wedi ychwanegu mwy o arian ar gyfer amddiffyn ysgolion, mewn gwirionedd daeth y rhan fwyaf o'r arian hwnnw o lywodraeth leol, a oedd eisoes o dan bwysau, yn hytrach nag o'r gyllideb addysg ganolog.

Felly, byddwn yn falch iawn petai chi'n gallu egluro i mi sut y mae cyllid craidd ysgolion yn cael ei warchod yn y twf hwnnw, yn enwedig gan fod y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â fformiwlâu cyllid ar gyfer ariannu ysgolion yn 20 mlwydd oed bellach, ac y mae hyd yn oed y rheoliadau o dan hynny yn wyth mlwydd oed. Felly, mae'n gwestiwn ehangach i mi, efallai ar gyfer diwrnod arall, ynghylch a oes angen edrych ar y strwythur cyfan hwnnw beth bynnag.

Y berthynas gyda chyllideb yr iaith Gymraeg a chyllideb addysg Gymraeg—yn amlwg, cawsom gyhoeddiad yn weddol ddiweddar am gynnydd cyfalaf, ond o gofio bod Llywodraeth Cymru yn awr yn mynd i roi pwyslais ar y Gymraeg ym myd addysg, nid ar addysg cyfrwng Cymraeg yn unig—er ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r holl anawsterau a geir wrth geisio cael pobl ifanc i hyfforddi'n athrawon gyda hynny mewn golwg—ble caiff y dyheadau o ran yr iaith Gymraeg eu cyflawni oherwydd ni chafwyd unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg yn unrhyw ran o'r araith a draddodoch chi heddiw.

Yn olaf, y berthynas gyda'r gyllideb iechyd—mae hi'n amlwg yn braf iawn gweld rhywfaint o dwf yn hynny o beth, ond gan fod gofyn ar athrawon a staff mewn ysgolion i gymryd mwy o gyfrifoldeb o ran edrych ar ôl anghenion bugeiliol y plant, eu hiechyd meddwl yn benodol, a fydd rhan fach o'r cynnydd hwnnw yn y gyllideb iechyd yn cael ei neilltuo, hyd yn oed os nad yw mewn modd ffurfiol, ar gyfer gwella cyllidebau ysgol? A fyddai hynny'n cyfrif tuag at gyllideb graidd yr ysgol neu a fydd yn cael ei ystyried yn ffrwd incwm allanol, os gallaf ei fynegi fel yna? Oherwydd yn amlwg byddwn yn pryderu petai unrhyw arian yn cael ei dynnu oddi wrth iechyd ac wedyn yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw lle nad yw'n ddiogel o gwbl. Gallai fynd ar goll er gwaethaf y penderfyniad caredig i ddefnyddio gwariant iechyd i helpu ysgolion i wella llesiant pobl ifanc. Diolch.

15:50

Yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn groesawu eich datganiad, sy'n bendant cystal ag y gallem ddisgwyl o dan yr amgylchiadau presennol. Yn sicr y mae llawer o bethau i'w hystyried er mwyn gwneud sylwadau arnyn nhw, ond rwyf am ganolbwyntio'n gryno ar dri maes, os gallaf i. A maddeuwch imi os byddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u trafod, ond rwy'n tybio y bydd ailadrodd, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi.

Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedodd eraill, rydych chi wedi cydnabod yr effeithiau y mae cyni yn ei gael ar wead cymdeithasol ein cymunedau ledled Cymru ac ni ddylid eu diystyru. Mewn etholaethau fel fy un i, rwy'n ei weld bob dydd ac y mae'n rhaid i rywbeth newid. Felly, ar ôl y blynyddoedd hir hyn a wastraffwyd oherwydd cyni, ac o ystyried bod Llywodraeth y DU bellach wedi dod o hyd i'r goeden arian hud i ariannu'r traed moch a elwir yn Brexit, a welwch chi unrhyw arwydd y bydd y Canghellor yn cydnabod yr angen am newid cyfeiriad er mwyn ateb y galw am fwy o fuddsoddi i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus? Oherwydd fel Llywodraeth Cymru, y mae'n rhaid i lawer o'r hyn yr ydych chi'n ei ddarparu ddod drwy'r cyllidebau hyn, ac y mae'n seiliedig ar ein maniffesto yn 2016, felly y mae'n bwysig ein bod yn parhau i gyflawni'r addewidion hynny.

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â'r rhaglen Cefnogi Pobl, sydd wedi ei chefnogi nid yn unig gan Blaid Cymru ond gan lawer o Aelodau ar y meinciau hyn, gan gynnwys fi fy hun; llawer ohonom ni wedi dangos diddordeb brwd ac ymgyrchu dros y cymorth ariannol a gynigiwn i lawer o grwpiau sy'n agored i niwed drwy'r rhaglen hon. Felly, rwy'n falch iawn eich bod wedi cyhoeddi y bydd £13.4 miliwn yn mynd tuag at y grant atal, cymorth ac ymyriadau cynnar, ac y bydd dau grant yn cael eu sefydlu a fydd yn gwahanu tai oddi wrth y lleill. A gaf i ymuno ag eraill i ofyn a allwch chi gadarnhau nawr y bydd hyn yn arwain at gymorth wedi ei neilltuo i'r rhai hynny sydd yn aml ag angen enbyd am dai a chymorth tai, er mwyn cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y modd yr oedd eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud?

Ac yn olaf, mae hi'n glir iawn os ydym i barhau i weddnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac ataliol. Ac ni allwn ni ganiatáu i rwystrau artiffisial a sefydliadol i amharu ar y gwaith o ariannu a darparu'r gwasanaethau y mae eu hangen arnom ni. Felly, rwy'n falch bod eich cyhoeddiad yn ystyried iechyd a gofal cymdeithasol yn eu cyfanrwydd, oherwydd fe ddylem ni edrych ar ffyrdd mwy arloesol o ariannu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau y gellir bodloni'r galw heddiw ac yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi hefyd sicrhau y bydd y broses gyllidebu yn parhau i gymell integreiddio ac arloesi rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau y bydd y gwasanaethau gofal hanfodol hynny yn parhau i gael eu darparu yn ein cymunedau?   

15:55

Rwy'n croesawu'r gyllideb ddrafft a llongyfarchiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar lunio'r gyllideb hon yn y nawfed flwyddyn o gyni, oherwydd rwy'n credu y gwyddom ni i gyd pa mor anodd mae hi wedi bod i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd gyda phlant, dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n croesawu yn arbennig y cymorth ar gyfer plant a theuluoedd y mae llawer o Aelodau wedi cyfeirio ato heddiw—prydau ysgol a gwisg ysgol. Mae hi mor anodd i deuluoedd ymdopi ag anghenion ac mae hwn yn gymorth ymarferol gwirioneddol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud y gwelliannau hyn. Unwaith eto, ochr yn ochr â'r Aelodau eraill, rwy'n croesawu'r ffaith na fydd y bobl hynny sy'n gadael gofal nawr yn talu'r dreth gyngor hyd nes y byddan nhw yn 25 oed, a llongyfarchiadau i'r awdurdodau lleol hynny sydd wedi defnyddio eu pwerau disgresiwn i gyflwyno hyn yn gynharach, oherwydd mae hyn, yn fy marn i, yn dangos rhagddarbodaeth a gofal am blant sydd wedi bod yng ngofal y wladwriaeth. Mae Cyngor Caerdydd, fy awdurdod lleol, yn un o'r rhai a ddefnyddiodd y pwerau disgresiwn i wneud hyn.

Roeddwn eisiau sôn am ychydig o bwyntiau eraill yr wyf yn eu croesawu'n arbennig. Rwy'n croesawu adferiad y cyllid ar gyfer y parciau cenedlaethol, oherwydd bod y parciau cenedlaethol mor bwysig, yn fy marn, i ni yma yng Nghymru, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod cysylltiad cryf rhwng iechyd a'r gallu i fwynhau'r amgylchedd. Mae ymweliad â pharc cenedlaethol efallai cystal ag ymweliad â meddyg, ac rwy'n siŵr byddai Mike Hedges yn cymeradwyo hynny. [Chwerthin.]

Hefyd, roeddwn i eisiau sôn am—mae'n swm bach o arian, ond mae'n bwysig iawn, rwy'n credu—y gwelliannau i Langrannog a Glan-llyn. Mae un o fy wyrion mewn gwirionedd yn un o'r sefydliadau hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod bod cynifer o blant yn cael cymaint o fudd oddi wrthyn nhw. Credaf ei fod yn brofiad hollol wych i blant fynd yno, felly rwy'n croesawu'r ffaith y byddan nhw'n cael y cyfleoedd hyn.

Roeddwn eisiau, yn olaf, gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn mynd rhagddo yng Nghymru, a gafodd ei greu, rwy'n credu, mewn gwirionedd gan fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, pan mai hi oedd y Gweinidog dros gyllid, i gyllido'r gwaith o adeiladu'r Felindre newydd? Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod caniatâd cynllunio ar gyfer y Felindre newydd yn Top Meadows yn yr Eglwys Newydd, gyda mynediad drwy Asda, ac mae'r trafodaethau'n parhau, ond bydd gennym ni yn y pen draw ysbyty canser newydd sbon gyda llawer mwy o driniaeth ar gyfer cleifion canser yn y gymuned, a chredaf ei bod ni'n hapus iawn ac yn falch bod hyn yn mynd i ddigwydd. Felly, a allai ddweud sut mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru?    

Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—yr Ysgrifennydd cyllid, mae'n ddrwg gen i.  

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, nifer enfawr o gwestiynau manwl. Diolch yn fawr iawn i Aelodau am eu sylwadau manwl am ddatganiad y gyllideb y prynhawn yma ac, wrth gwrs, rwy'n edrych ymlaen at y craffu manwl a wneir yn awr ar y gyllideb nawr. Dim ond i ddweud unwaith eto, Llywydd, ein bod yn dilyn y broses dau gam yn y gyllideb. Bydd nifer o gwestiynau a holwyd gan Aelodau yn dod yn gliriach ymhen tair wythnos pan fyddwn ni'n gosod y gyllideb ar lefel sy'n is na'r prif grŵp gwariant. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb cynifer o gwestiynau ag y gallaf, mor gryno ag y gallaf.

Dechreuodd Nick Ramsay drwy ofyn, 'ble byddem ni heb gyni a Brexit?' ac, mewn ymateb, atebodd fy nghyd-Aelod Julie James—oherwydd fe roddodd hi'r ateb iddo yn glir iawn: byddem ni i gyd yn llawer gwell ein byd; dyna ble byddem ni heb gyni a Brexit. Dyfynnodd eiriau Harry Truman i ni. Fe hoffwn ei atgoffa o rywbeth arall a ddywedodd Harry Truman: caiff cymdeithas ei barnu yn ôl sut mae'n trin ei haelodau gwannaf. A dyna beth yw prif ddiben y gyllideb hon. Mae a wnelo hi â defnyddio'r adnoddau sydd gennym ni, er mor gyfyng ydyn nhw, a buddsoddi yr adnoddau hyn wedyn yn y meysydd y byddan nhw'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau'r bobl hynny sy'n dibynnu fwyaf ar y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus.

Gadewch i mi ddiolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd wrth groesawu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r rhai sy'n gadael gofal ac am y gydnabyddiaeth a roddodd i effaith y fframwaith cyllidol, y mae bob amser wedi dangos diddordeb mawr ynddo. Gadewch imi ateb rhai o'r cwestiynau penodol a ofynnodd. O ran y £60 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ar gyfer atgyweirio arwyneb ffyrdd, mae wedi eu neilltuo yn wir. Bydd yn rhan o grant penodol. Nid yw'n effeithio dim ar y grant cynnal refeniw oherwydd, fel y bydd Nick Ramsay yn gweld pan fydd mwy o fanylion ar gael, cyfalaf rydym ni'n ei ddarparu yn y £60 miliwn hwnnw yn hytrach na refeniw sydd yn mynd drwy'r grant cynnal refeniw. Gwnaeth sylw am gyfraddau treth incwm yn y dyfodol. Bydd pob plaid yn gallu gosod cynigion mewn maniffestos cyn etholiadau nesaf y Cynulliad ynghylch sut y byddent yn defnyddio'r pwerau sydd ar gael i'r Cynulliad pe baent yn y sefyllfa i wneud hynny.

Ac, o ran ei gwestiynau am ragor o fanylion am y gyllideb, fe ddaw hyn pan fyddwn ni'n gosod rhan 2 y broses, ymhen tair wythnos. Bydd gennym ni gyfle, gobeithio, i sôn am ofal cymdeithasol. Rwy'n clywed si ar led fod y Canghellor yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyrdd ar ofal cymdeithasol ar yr un diwrnod ag y bydd yn cyhoeddi ei gyllideb ar 29 Hydref, ond yr hyn a ddywedwyd wrthym ni oedd y byddai'r Papur Gwyrdd yn cael ei gyhoeddi y llynedd; dywedwyd wrthym ni y byddai yma yn yr haf; bellach, dywedir wrthym ni y caiff ei gyhoeddi ar 29 Hydref. Wel, oni fyddai'n dda pe byddai hynny'n digwydd?

A gaf i ddweud wrth Steffan Lewis fy mod i'n gwerthfawrogi beth ddywedodd ef am y cyd-destun rŷm ni'n ei wynebu pan oeddem ni'n creu'r gyllideb yma? Mae yn gyd-destun anodd dros ben. Wrth gwrs, mae Steffan Lewis yn awgrymu y bydd annibyniaeth yr ateb i'r pethau yma yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl ein bod ni'n mynd i gytuno â hynny ar ochr y Llywodraeth.

Ar beth ddywedodd ef am free school meals, nid wyf cweit yn deall, a dweud y gwir. Rŷm ni'n mynd i roi mwy o arian i mewn i'r gyllideb. Bydd nifer fawr o blant yn cael bwyd am ddim yn ein hysgolion ni drwy'r arian rŷm ni'n ei roi, ac rŷm ni'n mynd i roi beth rydw i wedi clywed Kirsty Williams yn ei alw'n cohort protection. Os ŷch chi'n dechrau o dan y rheoliadau sydd gyda ni yn awr, rŷch chi'n mynd i aros o dan y system yna nes eich bod chi'n mynd lan i'r ysgol uwchradd neu nes eich bod chi'n dod i ben ar eich amser yn ein hysgolion.

Rydw i'n gwerthfawrogi beth ddywedodd Steffan Lewis hefyd am LDT a'r arian rŷm ni wedi llwyddo i dynnu mewn yn y chwarter gyntaf o'r flwyddyn ariannol bresennol. Ac, wrth gwrs, rydw i'n cytuno â beth ddywedodd ef: arian i Gymru yw hwnnw, nid arian i fynd yn ôl i'r Trysorlys. Y rheswm pam rydw i'n dweud hynny yw ein bod ni'n tynnu'r arian i mewn, rydw i'n meddwl, achos y gwaith y mae'r WRA yn ei wneud, gan ganolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru a llwyddo i gael yr arian i mewn fel yna.

Rŷm ni'n ymwybodol o addysg bellach, ond, wrth gwrs, nid ydyn nhw wedi dod i ben â'r trafodaethau ar sut maen nhw'n mynd i gyflogi staff yn y flwyddyn ariannol nesaf. Jest i ddweud, i ddechrau, ar beth ddywedodd Steffan, bydd yn rhaid inni newid y gyfraith i fod yn glir, ledled Cymru, fod care leavers wedi eu tynnu mas o'r dreth gyngor, ac mae'r un peth, rydw i'n meddwl, yn mynd i ddigwydd os ydym ni'n bwrw ymlaen â beth ddywedais i am ysgolion ac ysbytai preifat, ond rŷm ni'n mynd i fynd mas i siarad â phobl am beth rŷm ni'n ei awgrymu. 

Gan droi at yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton, diolch iddo hefyd am yr hyn a ddywedodd am y fframwaith cyllidol ac am yr agweddau hynny ar y gyllideb ddrafft, y prydau ysgol am ddim a sut yr ymdriniwyd â'r grant sylweddol y mae ef hefyd yn ei groesawu. Doeddwn i ddim yn cytuno ag ef, wrth gwrs, ar yr hyn a ddywedodd am y £15 miliwn ynglŷn â chyfalaf gwastraff. Rwy'n credu y bydd hynny'n arian a gaiff ei wario'n ddoeth iawn. Rydym yn gwybod pe byddem yn gallu buddsoddi mewn offer modern newydd, yno byddai'r awdurdodau lleol yn gallu ailgylchu pethau na allan nhw eu hailgylchu heddiw. Heddiw, maen nhw'n mynd i safleoedd tirlenwi. Gyda'r offer newydd ar waith, bydd yr awdurdodau lleol hynny yn gallu gwneud mwy yn y maes hwn. Dyna oedd yr achos argyhoeddiadol a gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, i mi yn ystod y cyfnod paratoi cyllideb, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o allu cydnabod cryfder y ddadl a wnaeth hi. Roedd Mr Hamilton yn dyfynnu ffigur o gyfnod pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor, a thynnodd sylw at y ffaith, pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor, ei fod yn lleihau'r diffyg o flwyddyn i flwyddyn, ac wedyn tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi chwyddo allan o reolaeth o dan berfformiad presennol y Ceidwadwyr, ond ceisiodd wedyn ddweud bod hyn o ganlyniad i arbrawf sosialaidd; fe gollais fy ngallu i ddilyn ei ddadl bryd hynny. Ond yr hyn y mae'n anghywir yn ei gylch yw'r sylw a wnaeth Mike Hedges: i Neil Hamilton, mae pob gwariant yn wastraffus yn y bôn, ond, os ydych yn credu mewn ffordd sosialaidd o wneud pethau, mae gwariant yn fuddsoddiad. Mae'n creu'r amodau y gall yr economi ehangu ynddyn nhw, a phan fydd yr economi yn ehangu, bydd felly mwy o refeniw yn llifo o'r economi ehangach honno, a dyna'r ffordd y byddwch yn gallu creu cylch cadarnhaol yn hytrach na chwtogi-eich-ffordd-i-lwyddiant sydd wedi bod yn cael ei gynnig inni ers 2010 ac sydd wedi methu i gyflawni fel sydd i'w weld yn glir. 

Gwnaeth Jane Hutt gyfeiriad pwysig iawn at adroddiad y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym ni am sut y gall trethu teg wella perfformiad economaidd ym mhob rhan o economi'r DU. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am yr hyn a ddywedodd am Nye Bevan. Dywedodd Bevan mai iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth, ac, yn y gyllideb hon, fe welwch chi ein hymdrech i alinio'r gwariant sydd gennym ni â'r blaenoriaethau pwysicaf i ni yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Jane am dynnu sylw at y £35 miliwn y gallwn ni ei rhoi yn ôl yn y grant tai cymdeithasol. Dyma un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohono yn y gyllideb, y byddwn ni'n gallu cynnal y buddsoddiad a wnawn ni fel Llywodraeth yn y peth pwysicaf hwnnw o ddarparu tai safonol i deuluoedd ledled Cymru sy'n canfod eu hunain yn byw mewn amgylchiadau na fyddai unrhyw un ohonom ni yn barod i'w hystyried yn foddhaol yn ein bywydau ein hunain.

Caiff cyfalaf trafodion ariannol ei adlewyrchu yn y gyllideb, ond bydd mwy, gobeithio, yng ngham terfynol y gyllideb. Rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y dyn sy'n taflu dŵr, Ken Skates—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n siŵr ei fod yn ceisio peidio â thynnu sylw at hynny—[Chwerthin.]—i gyflwyno cyfres o syniadau cyfalaf am drafodion ariannol y mae ei adran ef yn enwedig yn eu datblygu mewn ffordd arloesol. Rydym ni'n gorfod defnyddio ein cyllideb ein hunain ar gyfer cronfa bontio ymadael â'r UE, ond rydym ni wedi gallu rhoi £140 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ym manc buddsoddi Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau drwy'r broses o adael yr UE yn arbennig.

O ran y trafodaethau am bwerau dros dollau teithwyr awyr, mae arnaf ofn mai dim ond newyddion drwg sydd gennyf i'w hadrodd i gyd-Aelodau. Mae'n dda iawn bod y Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig wedi cyhoeddi ei ymchwiliad i hyn, oherwydd bydd yn caniatáu inni gyflwyno ein hachos eto pam na ddylai Cymru fod o dan yr anfantais unigryw o beidio â chael tollau teithwyr awyr wedi'u datganoli i ni, ond mae gennyf lythyr oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru at sylw Prif Weinidog Cymru a anfonwyd dim ond ambell ddiwrnod yn ôl, ac, unwaith eto, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrthym ni na all gefnogi'r syniad hwn gan ei fod yn poeni mwy am Loegr ac am effaith hyn yno—gyda llaw, effaith y mae adroddiadau annibynnol yr ydym ni wedi eu rhoi iddo yn dweud wrtho nad yw'n bodoli. Ond mae'n poeni mwy am ei gyfrifoldebau i Fryste nag y mae am ei gyfrifoldebau i Gymru, ac mae hynny'n siomedig iawn iawn.

Yn fyr iawn, Llywydd, os yw'n iawn gennych—mae gennyf funud i ymateb i ychydig o bwyntiau wedi eu dethol o'r hyn y mae Aelodau eraill wedi codi. Yn yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, gadewch i mi ganolbwyntio ar yr hyn a ddywedodd am deithio llesol. Rydym ni wedi cyhoeddi £60 miliwn yn gynharach yn y flwyddyn, £10 miliwn eleni, £20 miliwn y flwyddyn nesaf, a £30 miliwn y flwyddyn wedyn, yn uniongyrchol ar gyfer teithio llesol. Ond bydd y gronfa drafnidiaeth leol o £78 miliwn a'r £60 miliwn ar gyfer atgyweirio ffyrdd, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn ag aer glân a'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol mewn cyfalaf a refeniw i wella traffig yn y ffordd honno—bydd pob un ohonyn nhw, rwy'n credu, yn cyfrannu at ein hagenda teithio llesol.

Soniodd Mark Isherwood wrthym ni am Maynard Keynes ac, wrth gwrs, mae Keynes yn ffordd gwrth-gylchol o ddelio gyda'r economi, nid fel y cyflawnodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne, ei gyfrifoldebau. Mae wastad wedi ymddangos i mi fel meddyg canoloesol, mewn gwirionedd: roeddech yn arfer gwaedu'r claf a, pan fyddai'r claf yn dangos hyd yn oed mwy o arwyddion salwch, yr unig ateb oedd gwaedu'r claf ychydig mwy. Dyna'r gwrthwyneb yn llwyr i economeg Keynes. Rwy'n siŵr ei bod hi'n teimlo i rai Aelodau y bûm i'n sefyll yn y fan yma ers mwy na degawd, ond mae cwestiynau Mr Isherwood o ran sut yr ymatebais i rywbeth a ddywedwyd yn 2004—. Gweinidog cyllid ymhell y tu hwnt i fy nghyfnod fy hun a oedd yn gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am gyd-gynhyrchu; mae llawer eto i'w wneud, ac mae'r cyfrifoldeb ar ein gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio'r cyfalaf dynol a ddaw o ddefnyddwyr gwasanaethau, ochr yn ochr â'r cyfalaf ariannol sydd ganddyn nhw, i wneud gwahaniaeth go iawn.

Gofynnodd Mike Hedges gyfres o gwestiynau penodol imi. Mae'r Trysorlys wedi newid y rheolau yng nghyswllt cyfalaf trafodion ariannol yn Lloegr. Ni allan nhw, hyd yn hyn, ddweud wrthym ni sut mae'r rheolau diwygiedig hynny yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am ymestyn ein cyfanswm benthyca yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y gweill, ac rydym ni ar ein ffordd, bellach, i gael pwerau cyhoeddi bondiau yma yng Nghymru.

Daw cwestiynau Suzy Davies am addysg, ac addysg cyfrwng Cymraeg, yn fwy amlwg yn ail ran y gyllideb, ond gallaf ddweud wrthi fod £15 miliwn ymysg yr agweddau addysg, mewn grant penodol newydd a roddir yn uniongyrchol i ysgolion o gyllideb fy nghyd-Aelod Kirsty Williams, ynghyd â £9 miliwn i fynd tuag at gyllido dosbarthiadau chweched a £9 miliwn i gynnal y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig.

O ran y fformiwla ariannu, mae nifer o Aelodau wedi gofyn imi am y fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol ac addysg. Dywedaf wrthyn nhw yr hyn a ddywedaf wrth fy nghyd-Aelodau ym maes llywodraeth leol: os gall unrhyw un gyflwyno gwell fformiwla y bydd awdurdodau lleol yn cytuno arni, byddaf yn fodlon iawn derbyn hynny. Hyd yn hyn, nid ydyn nhw erioed wedi llwyddo i gyflawni'r her honno. A gaf i ddweud wrth Dawn Bowden, os bydd unrhyw arwydd o newid yng nghyllideb Canghellor y Trysorlys ar 29 Hydref sy'n gysylltiedig â chyni, byddwn ni'n defnyddio pob ceiniog o hynny, fel y gwnaethom ni y llynedd, i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac, fel y dywedodd hi, i wneud yn siŵr nad oes rhwystrau sefydliadol yn ein hatal rhag cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion ac ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol? Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething a minnau wedi cyfarfod ddwywaith yn ystod y cylch cyllideb hwn i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym i fuddsoddi yn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i Aelodau weld manylion y gyllideb, byddan nhw'n gweld bod hynny wedi ei adlewyrchu ynddi.

Yn olaf, Llywydd, i ymateb i bwyntiau Julie Morgan, mae mynd i Langrannog yn ddefod yng Nghymru y bydd llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi cael profiad ohoni yn ein bywydau ac ym mywydau pobl eraill ac rwy'n falch iawn, drwy weithio gydag Eluned Morgan, ein bod wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol i uwchraddio'r cyfleusterau yno ac yng Nglan-Llyn.

O ran y model buddsoddi cydfuddiannol, rydym ni wedi cael cymeradwyaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat. Mae ein model wedi ymddangos mewn llawlyfr a gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar, yn cynghori gwledydd ledled y byd ynglŷn â sut i gynllunio model o'r math hwn, ac roeddwn yn falch o weld bod Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyfeirio at adeiladu ar fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru yng nghynlluniau Llywodraeth yr Alban i ehangu faint o gyfalaf sydd ar gael at ddibenion cyhoeddus pwysig yn y fan honno hefyd.

Rydym ni'n gwneud cynnydd da o ran Felindre. Mae yna faterion cynllunio i'w datrys. Mae yna faterion dylunio clinigol i'w datrys. Ond rydym ni'n benderfynol y bydd y model ar gael i gefnogi'r datblygiad pwysig iawn hwnnw ar gyfer gwasanaethau canser ledled de-ddwyrain Cymru.

16:15

Diolch i'r Ysgrifennydd cyllid. Mae eitem 4 wedi ei thynnu yn ôl.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn

Felly'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar ddathlu diwrnod pobl hŷn. Rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Roedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddoe, gan roi cyfle i gymunedau ar draws Cymru werthfawrogi a dathlu'r cyfraniad helaeth ac amrywiol y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas ac economi Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gan fod y dathliad yn cyd-fynd eleni â dathlu 70 o flynyddoedd ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef i roi hawliau dynol wrth galon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a gwneud Cymru'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Ni ddylai henaint erydu hawliau dynol unigolyn. Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda a thros bobl hŷn, a hynny o gyflwyno'r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 hyd at sefydlu'r comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2008. Mae'r ymrwymiad hwn i wella bywydau pobl hŷn yn parhau heddiw.

Yn gynharach eleni, dechreuwyd ar raglen waith newydd i adfywio ein pwyslais ar faterion pobl hŷn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd pobl hŷn a chyda pobl hŷn yn uniongyrchol a'u cynrychiolwyr i gydgynhyrchu fframwaith ar gyfer cymdeithas sy'n mynd yn hŷn. Mae elfen allweddol o'r gwaith hwn yn anelu at wireddu hawliau pobl hŷn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid; rydym wedi ymgynnull i ystyried y camau sydd eu hangen i gyflawni'r union nod hwn. Gall codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol rymuso pobl hŷn i fod â rhan weithredol wrth sicrhau bod y gofal a gânt yn cadarnhau eu hawl sylfaenol i gael eu trin ag urddas a pharch. Er hynny, mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth hefyd o hawliau dynol ymysg y cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn bob dydd.

Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd ag angen gofal a chymorth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Nid yw cyfeirio at egwyddorion yn unig yn ddigon; mae 'sylw dyledus' yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried o ddifrif sut fydd y dyletswyddau yn effeithio ar y penderfyniadau a wnânt bob dydd. Felly, er enghraifft, gall gwasanaethau eirioli annibynnol roi llais i bobl, gan helpu i sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dymuniadau yn cael eu cynrychioli wrth wneud dewisiadau ynghylch eu bywydau eu hunain. Maen nhw'n bwysig ar gyfer cefnogi pobl i ymgysylltu yn weithredol a chymryd rhan wrth ddatblygu canlyniadau eu llesiant eu hunain. Ymgorfforir eiriolaeth ar gyfer pob unigolyn o fewn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bu fy swyddogion yn gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid technegol i osod safonau ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion drwy'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a elwir yn 'RISCA'. Rydym hefyd yn diweddaru rhan 10 cod ymarfer ar eiriolaeth, er mwyn rhoi canllawiau ymarferol ar sut y gellir sicrhau gwireddu hawliau i bobl hŷn wrth geisio eiriolaeth.

Un o'r pum thema yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer personau hŷn yw annibyniaeth. Mae'r gronfa gofal integredig, yr ICF, yn hyrwyddo dull seiliedig ar hawliau dynol, gan gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn rhan o'u cymuned. Felly, er enghraifft, mae'r tîm ymateb acíwt—yr ART—yn gweithio o Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym 24 awr ar gyfer pobl hŷn bregus y byddai fel arall angen eu derbyn i ysbyty. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o fentrau ICF eraill i hwyluso gofal integredig a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei gartref ei hun. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw aros yn eu cymunedau a pharhau gyda'u bywydau o ddydd i ddydd heb yr ymyriadau yn sgil ymweld ag ysbyty ar gyfer triniaeth ac i gael gwell canlyniadau iechyd o ganlyniad i hynny.

Mae cyfranogiad yn thema hefyd yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Rwy'n cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi pobl i barhau i fod yn actif ac ymgysylltu. Felly, mae gwasanaethau trafnidiaeth lleol, cyfleusterau cymunedol megis toiledau cyhoeddus, a mannau i gyfarfod, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn. Maen nhw'n rhan annatod o wead cymunedau bywiog a chydlynol. Ac mae gostwng lefelau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl o bob oed yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021', cadarnhawyd ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth traws-Lywodraeth ledled y wlad i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. A chytunwyd ar gyllid o £750,000 yn 2018-19 ac yn 2019-20 i ddatblygu'r dull traws-lywodraethol hwn.

Mae'r ddadl gyhoeddus gyfredol am unigrwydd a'i effaith ar iechyd corfforol a meddyliol yn mynd i wraidd ein cymdeithas. Mae'n cwestiynu sut yr ydym yn gofalu am ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. I'r rheini ohonom sy'n mynd yn hŷn, gall y ddadl am unigrwydd finiogi ein ffocws ar sut y byddwn yn treulio ein hamser pan fyddwn wedi rhoi'r gorau i weithio. Dylai pobl o bob oedran gael eu hannog nid yn unig i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, ond hefyd i ystyried y rhwydweithiau cymdeithasol y bydd eu hangen arnynt i gael henaint braf. Dylem ni oll gwestiynu'r hyn yr ydym yn disgwyl i'n cymunedau ei gynnig inni yn ddiweddarach mewn bywyd a sut y gallwn ddechrau adeiladu'r cymunedau hynny yn awr. Drwy wirfoddoli, gofalu am anwyliaid neu thrwy fod yn aelod gwerthfawr o'u cymuned leol, mae pobl hŷn, gadewch i ni fod yn glir, yn ffurfio asgwrn cefn ein cymdeithas. Yn Weinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, byddaf â rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran a stereoteipiau niweidiol o bobl hŷn. Os byddwn yn parhau i edrych ar henaint mewn ffordd negyddol, ni fyddwn yn llwyddiannus wrth greu cymdeithas sy'n cefnogi'r holl bobl hŷn i fwynhau bywyd sy'n werthfawr, yn ystyrlon a phwrpas iddo.

Trwy ddathlu diwrnod pobl hŷn, mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn bositif yn eu hagwedd wrth wynebu mynd yn hŷn. Fy nod i yw gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, y comisiynydd pobl hŷn, ac yn bwysicaf oll, y bobl hŷn eu hunain, i wireddu'r nod hwn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

16:20

Rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich geiriau, ac rwyf innau, ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, hefyd yn llwyr gefnogi eich dyhead i wella hawliau ein pobl hŷn drwy godi ymwybyddiaeth ac, yn fwy na hynny, weld y nod hwn yn cael ei amlygu gan welliant gwirioneddol o ran polisi. Fy mraint aruthrol i yw cael gwasanaethu pobl hŷn yng Nghymru mewn ffordd ddeublyg, fel hyrwyddwr pobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, a hefyd yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad dros etholaeth Aberconwy, sydd fel mae'n digwydd yn cynnwys y nifer uchaf o'r bobl dros 65 oed yng Nghymru.

Ar y sail hon rwy'n gwybod o lygad y ffynnon y budd aruthrol a ddaw yn sgil ein pobl hŷn i gymunedau ledled Cymru. Yn aml iawn, y genhedlaeth hŷn a doethach hon, yn fy marn i, yw conglfaen ein cymdeithasau gwirfoddol, yn neilltuo'r blynyddoedd ar ôl eu hymddeoliad yn anhunanol er budd y sector elusennol. At hynny, heb os nac oni bai, yr ystyriaeth o gymuned sydd gan y grŵp oedran hwn sy'n cadw ein seilwaith lleol i fynd rhagddo, gan ymgymryd â'r dasg gyfrifol o sicrhau gwelliannau yn y cymdogaethau a'r cymunedau y maen nhw a ninnau'n byw ynddynt ac y maent yn gofalu amdanynt. Nid ydym yn sylweddoli yn aml pa mor werthfawr yw'r boblogaeth hon o ran lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, gan ddarparu'r gwasanaeth gofal plant rhad ac am ddim mwyaf o bosib i rieni sy'n gweithio'n galed ledled Cymru.

Nawr, fy mraint i, dros y saith blynedd diwethaf, fu gweithio gyda Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn sy'n ein gadael, ac rwy'n ymwybodol y bydd yn anodd iawn ei dilyn hi. Ond wedi dweud hynny, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio yn agos gyda'n Comisiynydd Pobl Hŷn newydd, Heléna Herklots CBE, y byddaf yn falch o'i chroesawu i'r ail ddigwyddiad 'heneiddio'n dda' a drefnais ar gyfer fy etholwyr fy hun ym mis Tachwedd. Mae gennyf bob ffydd y bydd ei chefndir helaeth, yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn gydag Age Concern a Carers UK, yn llywio polisi i sicrhau bod ein cymdeithas yn gwneud mwy hyd yn oed i wella hawliau dyledus pobl hŷn. Rwyf wedi bod wrth fy modd o weld y dathliadau hyn drwy gydol diwrnod rhyngwladol pobl hŷn, ac yn gobeithio y gallwn wneud mwy hyd yn oed bob dydd i wella hyn.

Rydym i gyd yn gwybod y peryglon y gall rhagfarn eu peri i hawliau pobl hŷn yn y gweithle. Mae canllawiau i gyflogwyr gan Fusnes Cymru yn gam cadarnhaol tuag at frwydro yn erbyn agweddau o'r fath yn ein heconomi. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf i ymhellach: pa gyllid ychwanegol a gaiff ei gyflwyno ar gyfer ailhyfforddi pobl hŷn yn gyffredinol, a phobl o gefndiroedd amrywiol, fel y byddan nhw'n parhau i wneud y fath gyfraniad hanfodol i'n heconomi? Rydym yn sôn byth a beunydd am unigrwydd ac unigedd cymdeithasol; beth all fod yn well na chael pobl yn ôl i'r gwaith, lle gallan nhw gyfarfod â'u cyfoedion a'u cymrodyr gweithio? Mae hynny i mi yn gleddyf deufin, y mae angen i ni mewn gwirionedd, ei ddefnyddio o'u plaid nhw. Felly, diolchaf i chi eto, Gweinidog, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i fwrw ymlaen gyda hyn o beth. Diolch.

16:25

Rwy'n ymddiheuro. Nid oeddwn yn disgwyl y byddwn i ar fy nhraed mor gyflym â hyn, ond rwy'n hapus i fod felly. Janet, a gaf i ddiolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad hwn, a chroesawu eich swydd fel hyrwyddwr eich plaid dros bobl hŷn? Rydych yn gywir i bwysleisio unwaith eto swyddogaeth pobl hŷn fel ased yn ein cymdeithas, yn eu gwaith gwirfoddoli, eu darpariaeth am eu gofal eu hunain, fel gofalwyr, gan gynnwys, wrth gwrs, ofal plant—fel y gwelwn ni nawr, yn rhyfedd iawn, wrth i ni gyflwyno'r cynnig gofal plant. Mewn gwirionedd, rydym yn mynd i gymunedau lle, yn aml iawn, y neiniau a'r modrybedd ac ewythrod sy'n darparu elfen fawr o'r gofal plant hefyd. Maen nhw'n ased yn bendant, ac mae angen inni ddathlu hyn a sôn am hyn yn llawer mwy aml, oherwydd yn rhy aml o lawer, nid yn unig yn y cyfryngau ond ar lafar yn gyffredin, rydym yn defnyddio'r ystrydebau negyddol hynny am faich, cymhlethdodau henaint, a'r effaith ar y gwasanaeth iechyd. Wel, ydym, rydym yn cydnabod hynny. Daw llawenydd o fynd yn hen ac yn yr hyn y gallwch ei gyfrannu pan fyddwch wedi mynd yn hen. Fe ddaw henaint â'i gymhlethdodau, a daw â'r angen inni ddarparu gofal cywir a chefnogaeth. Ond, bobl bach, caiff hynny ei wrthbwyso'n fawr gan y cyfraniad a wnewch chi i gymdeithas ac i'ch cymunedau. Dywedaf hynny fel rhywun sy'n hapus a llawen i heneiddio fy hunan—nid o reidrwydd yn ddoethach, ond yn hŷn.

Diolch ichi hefyd am y croeso a roesoch i Heléna Herklots, y penodai newydd sy'n cymryd drosodd oddi wrth Sarah fel comisiynydd pobl hŷn. Rydw i wedi cyfarfod â Heléna mewn un neu ddau o ddigwyddiadau eisoes, gan gynnwys digwyddiad diweddar yn sir Gaerfyrddin, a oedd yn edrych yn benodol ar ein strategaeth ar unigrwydd ac arwahanrwydd, a chredaf ei bod yn croesawu'r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Ond roeddech chi hefyd yn rhoi teyrnged i gydnabod gwaith y comisiynydd sy'n ein gadael, Sarah Rochira. Swyddogaeth y Comisiynydd yw herio a phwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy, a dyna yw'r swyddogaeth gywir ar gyfer unrhyw Gomisiynydd, boed yn un cenedlaethau'r dyfodol, comisiynydd plant, ac ati. Ond mae yna hefyd—. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol iawn a gawsom, pan oedden nhw'n ein gwthio, ac rydym wedi dweud, 'Wel, dyma pa mor bell y gallwn fynd ar hyn o bryd, a lle gallwn fynd iddo yn y dyfodol.' Ac rydym wedi gadael yn eu lle, rhaid imi ddweud, cynlluniau gweithredu gwirioneddol—ac rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Heléna wrth inni fwrw ymlaen—i weld sut y gallwn wireddu hawliau yn ymarferol yn hytrach na drafftio darnau newydd o gyfraith a rheoleiddio diddiwedd: sut rydym am wneud i hyn gydio ar lawr gwlad?

Felly, rydym eisoes yn gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn ar ymgorffori hawliau pobl hŷn ar draws amrywiaeth o bortffolios polisi. Gan adeiladu ar ddeddfwriaeth Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), rydym mewn gwirionedd yn cyflwyno, ac yn cydgynhyrchu nawr, ganllawiau ymarferol sy'n dangos sut i wireddu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i bobl hŷn mewn gwirionedd. Mae'r gwaith cychwynnol yn y maes hwnnw yn canolbwyntio ar gomisiynu ac ar ddiogelu ac ar eiriolaeth, a grybwyllais yn gynharach—y rhain yw'r meysydd y mae angen inni eu cael nhw'n iawn os ydym yn dymuno cefnogi ein pobl hŷn i gael llais gwirioneddol a rheolaeth dros eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol. Soniais ein bod ni'n diweddaru canllawiau 2009 ar y pryderon sy'n cynyddu mewn cartrefi gofal, gan wireddu hawliau unwaith eto, ac ymgorffori hawliau dynol ym mhrosesau asesu effaith Lywodraeth Cymru hefyd. Rydym yn edrych hefyd, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ar saernïo naratif hawliau dynol i mewn i adroddiadau arolygu cartrefi gofal, a'r byrddau iechyd yn cyfeirio at yr egwyddorion yn y datganiadau ansawdd y maen nhw'n eu cynhyrchu yn flynyddol. Ac rydym yn edrych ar agweddau eraill hefyd.

Ond dyma mae'n ei olygu: mae'n rhoi gwir lais a rheolaeth i bobl hŷn gan beidio—. Rydym yn aml yn credu yn y fan hon, os byddwn yn deddfu, byddwn yn cyflawni rhywbeth. Na. Mae'n golygu cymryd y ddeddfwriaeth sydd gennym, gan weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a gweithio gyda'r bobl hŷn eu hunain a sefydliadau cynrychiadol, i ddod o hyd i'r ffordd o wneud i hyn gydio mewn gwirionedd o ddydd i ddydd. Felly, rwy'n croesawu'r sylwadau hyn, a'ch dathliad chithau o gyfraniad pobl hŷn i'n cymdeithas.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn naturiol, rydym ni'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn a'r ffaith bod y Gweinidog wedi cadarnhau'n bersonol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol pobl hŷn, a'i weledigaeth o wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.

Mae yna nifer o ddogfennau deddfwriaethol a pholisi gyda ni yng Nghymru sy'n dweud y pethau cywir o ran cefnogi pobl hŷn. Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er enghraifft, fel rydym ni wedi clywed eisoes, a oedd yn arloesol o ran ei hamcanion, ond mae'r profiad ar lawr gwlad yng Nghymru ar hyn o bryd yn golygu bod gyda ni ffordd bell i fynd cyn y gallwn ddweud mai Cymru wir yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio.

Mae'r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru, Gofalwyr Cymru, a llu o sefydliadau eraill wedi'n nodi'n glir y pryderon sydd ganddynt o ran sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar lawr gwlad. Mae'r neges yn glir: mae deddfwriaeth a datganiadau polisi yn iawn, ond mae angen inni weld cynnydd ar lawr gwlad yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn, a hefyd cynnydd yn y gefnogaeth a hawliau go iawn i dderbyn gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg wrth ymdrin â gofal dementia, er enghraifft, lle mae siaradwyr Cymraeg efo dementia, wrth gwrs, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn colli eu hail iaith yn gyntaf—sef y Saesneg—a dim ond yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg wedyn achos sgil-effaith dementia.

Felly, sut beth yw byw fel person hŷn yng Nghymru heddiw? Bob wythnos, rydym yn clywed am bryderon ynglŷn â darparu gwasanaethau, er gwaethaf y darpariaethau yn y Ddeddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol ac er gwaethaf ymdrechion gorau'r comisiynydd pobl hŷn ac eraill. Rydym yn clywed am bobl hŷn nad ydyn nhw'n cael asesiadau o anghenion gofalwyr, er enghraifft; rydym yn clywed am bobl hŷn yn gweld eu canolfannau dydd yn cael eu cau gan awdurdodau lleol; rydym yn clywed am y niferoedd mawr o bobl hŷn sy'n teimlo'n unig ac ynysig, fel y dywedodd y Gweinidog; ac rydym yn clywed am bobl hŷn yn gorfod talu ffioedd afresymol am ofal cartref neu breswyl. Rydym yn clywed sôn am bobl hŷn nad ydynt yn derbyn gwasanaethau gofal seibiant ac mewn amgylchiadau anodd a difrifol. Mae'n amlwg bod ffordd bell i fynd eto os ydych yn dymuno cyflawni eich uchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Felly, i orffen fy sylwadau ar y datganiad yn unig.

Beth, felly, sydd angen inni ei wneud? Yn y bôn, rydw i'n credu, y mae angen inni feddwl am y gwerthoedd sydd gennym ni fel cymdeithas, ac mae angen inni ddatblygu sgwrs genedlaethol ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu i ofalu, sut yr ydym yn edrych ar bobl hŷn a sut yr ydym ni'n rhoi grym i bobl hŷn i fyw bywydau cyflawn. Fel plaid, rydym ni wedi sefydlu comisiwn gofal cenedlaethol i edrych yn fanwl ar y mater yma, ac edrych i ad-drefnu'r holl system a sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn y pen draw. Manylion i ddilyn.

Ac fel llefarydd y blaid ar ofal cymdeithasol, rydw i'n benderfynol o roi gofal cymdeithasol a phobl hŷn yng nghanol y ddadl wleidyddol. Beth sy'n glir, fodd bynnag, yw na fydd y ddeddfwriaeth a'r dogfennau polisi yn unig yn gallu delifro'r newid rydym ni am weld. Os ydym am weld cynnydd gwirioneddol yn y maes yma, bydd angen adnoddau arnom hefyd i gyflawni'r weledigaeth honno. Felly, Weinidog, pa sicrwydd a allwch chi ei roi i bobl hŷn Cymru, yn ogystal â geiriau cynnes ac amcanion polisi canmoladwy, y bydd yr arian, yr adnoddau a'r gweithlu angenrheidiol ar gael yn y blynyddoedd nesaf wrth inni geisio sicrhau gwelliannau yn y ffordd yr ydym yn cefnogi pobl hŷn yma yng Nghymru? Diolch yn fawr. 

16:35

Diolch, Dai. Mae'n ddiddorol mai un o'r agweddau yr oeddech yn sôn amdano oedd y siarad am wasanaeth gofal cenedlaethol neu system ofal genedlaethol. Mae'n ymddangos mewn rhyw ffordd mai dyma'r ffasiwn ar hyn o bryd, siarad am sut yr ydym am ddatblygu dull o weithredu gofal sy'n adeiladu ar yr hyn a wnaethom 'nôl yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel ynghylch y gwasanaeth iechyd. Mae'n ddiddorol iawn. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol mai'r dull o weithredu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gymryd dan 'Cymru Iachach', y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yw dwyn y ddau gylch at ei gilydd. Rwy'n credu y byddai hwn yn rhywbeth y byddai penseiri gwreiddiol y gwasanaeth iechyd gwladol, pe byddent yn fyw heddiw, yn edrych arno ac yn cydnabod ei fod yn hanfodol, fel bod gan bobl hŷn ac eraill rywbeth sy'n teimlo'n wirioneddol ddi-dor, fel eu bod nhw'n cael eu codi pan fo angen a'u helpu i fyw'n annibynnol gyda gofal di-dor, gofal integredig, o'u cwmpas yn eu cartrefi.

Mae cymaint o enghreifftiau da i'w gweld o'n cwmpas. Roeddwn yn y gogledd ddoe yn edrych ar enghreifftiau ardderchog: y timau sy'n gweithio o Ysbyty Wrecsam Maelor, timau ailalluogi Cwm Taf, y timau cadw'n iach gartref. Mae mwy a mwy o hyn ar gael. Rydym mewn gwirionedd yn rhoi'r arian at hynny, Dai, hefyd. Felly, rydych chi'n gofyn am adnoddau. Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, nid yn lleiaf drwy gyllid yr ICF, ac rydym wedi cyhoeddi £80 miliwn yn ychwanegol o ariannu eleni i sbarduno'r mathau hynny o fentrau gofal canolraddol. Ydym, rydym wedi newid yr ICF ryw ychydig—yn gwbl briodol yn fy marn i—i gynnwys hefyd, er enghraifft, y modd yr ydym yn dod o hyd i atebion creadigol i ddarparu ar gyfer anghenion y plant gydag anghenion cymhleth ac ati. Ond roedd y prif ffocws, ac felly mae'n para i fod hefyd, ar anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio a sut y darparwn hynny orau.

Felly, hyd yn oed mewn amseroedd anodd—fel y nodwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid nawr—rydym yn ceisio dod o hyd i arian i hybu arloesedd, ond mae'n fwy na hynny. Yr hyn yr oedd 'Cymru Iachach' yn ei ddangos i ni hefyd, gan adeiladu ar y gefnogaeth drawsbleidiol i'r adolygiad seneddol a'i rhagflaenodd, oedd bod yn rhaid i hyn fod mewn gwirionedd yn rhywbeth creiddiol. Felly, caiff rhan o genedl iachach ei chefnogi gan £100 miliwn o gyllid trawsnewid, nad yw wedi ei gynllunio i efelychu'r hyn sy'n digwydd o fewn yr ICF, felly, gadewch i bob un fynegi ei farn; ac ystyr hyn yw edrych ar yr hyn sy'n digwydd a dweud, 'Sut y gwnawn ni'n siŵr fod hyn yn digwydd nid yn unig mewn un man ond ar draws y rhanbarth?' Ac os gallwn godi hynny a gwneud newid sylweddol ar draws y rhanbarth hwnnw, sut y gallwn wneud hynny mewn ffordd a all gael ei efelychu wedyn mewn rhanbarthau eraill? Felly, rydym yn adeiladu'n gadarn ar y creadigrwydd yr ydym wedi ei weld.

Mae ffyrdd eraill i'w cael: y buddsoddiad a roddwn yn hyn, er enghraifft, nid yn unig i'n strategaeth gofalwyr, ond yr arian y tu ôl i'r gofalwyr hefyd, oherwydd rydym yn sylweddoli os nad ydych yn gofalu am ofalwyr, gan gynnwys rhai gofalwyr hŷn, y nhw eu hunain fydd y bobl fydd angen y gofal. Felly, mae gennym nifer o ffyrdd i geisio rhoi arian i mewn yn y system yn y ffordd gywir ac amlinellwyd rhai ohonyn nhw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach.

Rydych chi'n iawn, fodd bynnag, Dai. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau gyda hynny, mae gennym ffordd hir i'w theithio. Rwy'n credu y bu'r comisiynydd pobl hŷn blaenorol, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiynydd pobl hŷn newydd, yn ddi-flewyn iawn ar dafod wrth groesawu'r camau yr ydym wedi eu cymryd. Credaf ein bod yn gwneud rhai pethau anhygoel yng Nghymru, a dweud y gwir, ond rydym hefyd yn dweud bod angen inni fynd ymhellach. Rhan o hynny, rhaid imi ddweud, yw, fel sydd wedi cael ei grybwyll sawl tro, gwireddu'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio fel deddfwyr yn y fan hon.

Rwyf wedi crybwyll ychydig o ffyrdd y gallwn wneud hyn, ond un o'r rheini yw dwyn y syniad ymlaen gyda phobl hŷn o ran sut mae gwireddu hyn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda'r fframwaith ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Mae'n edrych ar sut y mae gwneud cyfranogiad gwirioneddol, gan ymdrin â materion trafnidiaeth mewn ardaloedd trefol a gwledig, byw yn y gymuned, yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw yn annibynnol yn y gymuned, a hefyd baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae rhywfaint o hynny yn cyffwrdd ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Felly, bydd y fforwm cynghori gweinidogol sy'n gyrru'r gwaith hwnnw, ynghyd ag ymgysylltu â phobl hŷn hefyd, yn gweithredu o nawr tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Yna, byddan nhw'n cyflwyno'r fframwaith a byddwn ninnau'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith y maen nhw'n cyfeirio ato ac yn dweud, 'Dyma sut y gwnewch chi i hyn ddigwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad ac adeiladu ar y gwaith a wnaethom ni.' Felly, mae ffyrdd o fwrw ymlaen â hyn, ond croesawaf unwaith eto'r gefnogaeth i sbarduno ac arloesi yn y maes hwn. Nid ydym wedi cyrraedd yno eto ac nid wyf yn credu y cyrhaeddwn byth. Os eisteddwn yn ôl a dweud ein bod ni'n fodlon, byddwn wedi methu. Mae angen inni ddal ati a phwyso ar gyfer gwireddu'r hawliau hyn.

16:40

Mae'n bleser gennyf siarad ar y datganiad hwn heddiw, a hoffwn ganolbwyntio yn arbennig ar stori am lwyddiant yn fy etholaeth i fy hun. Cynhaliwyd Diwrnod Gwybodaeth i rai 50 a Throsodd, a gynhelir yn flynyddol, yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn diwethaf. Caiff y diwrnod ei drefnu gan Fforwm 50 a throsodd y ddinas ac mae wedi cael cefnogaeth cyngor y ddinas ers dros 20 mlynedd. Roedd yn gyfle gwych i'r comisiynydd pobl hŷn newydd ar gyfer Cymru, Heléna Herklots, weld yr egni a'r brwdfrydedd yng Nghasnewydd i gefnogi heneiddio'n dda, ac roedd pawb yn falch o glywed am ei hymrwymiad i fod yn ddadleuwr dros bobl hŷn a'u hawliau. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol.

Mae'r diwrnod gwybodaeth yn anhygoel o boblogaidd ac wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Nid cyfle yn unig yw hyn i'r cyhoedd gael gwybod pa wybodaeth a chyngor sydd ar gael, ond mae hefyd yn gyfle gwych i grwpiau lleol rwydweithio. Mae'r stondinwyr yn amrywio o grwpiau gweithgarwch cymunedol a rhwydweithiau cymorth gofalwyr i'r rhai sy'n darparu cyngor tai a materion cyfreithiol. Eleni, roedd yn canolbwyntio'n benodol ar gydweithio rhwng y cenedlaethau, gyda grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Basaleg, yn ogystal â chadetiaid, yn gwirfoddoli i gefnogi'r Pwyllgor dros 50 oed. Daeth y syniad o gynnwys pobl ifanc oddi wrth aelodau'r fforwm eu hunain, ac maen nhw'n grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr.

Tan eleni, cadeiriwyd y grŵp gan yr ysbrydoledig Shirley Evans. Dangosodd Shirley ymroddiad mawr i'r fforwm a'r bobl y mae'n eu cynrychioli am tua 20 mlynedd. Ac fel gyda llawer o bethau, grŵp bychan o wirfoddolwyr sy'n aml yn sbarduno'r digwyddiadau a'r gweithgareddau, ac roedd Shirley yn sicr yn arwain y ffordd. Mae Peter Walters nawr wedi dod â'i allu i'r gadair, gan sicrhau y bydd y fforwm yn parhau i wrando a hyrwyddo achos pobl hŷn ein dinas. Mae Shirley yn dal i ddod i'r cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn enghraifft wych o rywun sy'n parhau i fod yn weithgar heb ganiatáu i oedran fod yn rhwystr. 

I nodi dechrau Wythnos Positif am Oed, roedd y digwyddiad ddydd Sadwrn yn ddathliad gwirioneddol o bobl hŷn a'r cyfan y maen nhw'n ei gyfrannu at ein dinas. Ac fel y dywed y Gweinidog, mae pobl hŷn yn ffurfio asgwrn cefn ein cymdeithas. Mae digwyddiadau fel y rhain yn bwysig felly i arddangos y gwasanaethau a'r gweithgareddau sydd ar gael i bobl hŷn. Felly, efallai y gall y Gweinidog sicrhau bod yr arfer da hwn yn cael ei fwydo i ardaloedd eraill yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bod y byddai fforwm 50 a throsodd Casnewydd yn croesawu'r Gweinidog yn gynnes i'r digwyddiad poblogaidd hwn y flwyddyn nesaf. Diolch.           

Diolch. Gan fod y gwahoddiad wedi dod ymhell o flaen llaw, nid wyf yn credu y bydd gennyf i unrhyw esgus dros beidio â mynd yno nawr. Jayne, diolch yn fawr iawn i chi am hyn, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n dangos bob gennym ni i gyd mewn gwirionedd ran i'w chwarae yn lleol yn y digwyddiadau a fynychwn ni a'r digwyddiadau a drefnwn ni yn y ffordd yr ydym mewn gwirionedd yn dathlu bywydau pobl hŷn, a'r cyfraniad a wnânt. Mae angen parhau â hyn, oherwydd rydym ar y blaen, ond mae'n rhaid i ni wneud fel hyn yn amlach er mwyn gwyrdroi'r cysylltiadau negyddol hyn a bortreadir yn aml yn y cyfryngau am bobl hŷn—eu bod yn faich, ac ati. Mewn gwirionedd, heb y bobl hŷn hyn sy'n gwirfoddoli, sy'n gofalu am eu plant, yn edrych ar ôl eu hanwyliaid, sy'n gwneud cymaint, sy'n rhedeg cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, sy'n gweithio mewn banciau bwyd, sy'n hebrwng plant i'r ysgol, ac yn y blaen, byddai pethau'n disgyn yn ddarnau, a dweud y gwir—byddent wir. Ond hefyd mae'n ymwneud â'r doethineb a'r profiad. Mae swyddogaeth ar gyfer pobl hŷn—mae'n rhaid dweud hyn fel rhywun sydd newydd droi 55 oed—wrth fod yn rhan o sylfaen y cymunedau hynny. Nid doethineb sefydliadol mohono; y doethineb cymunedol yw hwn. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad ac, mewn gwirionedd, rydych chi'n cyffwrdd ar yr agwedd ryng-genedlaethol honno.

Mae modd ennill ym mhob ffordd. Rydym yn gweld hyn fwyfwy yn sgil mentrau enwog, proffil uchel fel Pimp my Zimmer, a chynlluniau cyfnewid lle mae pobl hŷn yn mynd i mewn i ysgolion a dosbarthiadau darllen a helpu cynorthwywyr athrawon o fewn dosbarthiadau, ond hefyd bobl iau sy'n mynd i gartrefi preswyl. Mae'r ymgysylltiad hwn yn beth gwych i'w weld, ac mae enillion ym mhob ffordd—pobl iau yn mynd o'r ysgol, weithiau fel rhan o Fagloriaeth Cymru, i siarad am atgofion gyda phobl sy'n dioddef dementia, ac yn gweithio gyda nhw yn hynny o beth. Ceir nifer fawr o enillion yn sgil hyn.

Mae gan bawb ohonom ran i'w chwarae, ac rwy'n cefnogi'r achos. Rwy'n siŵr y bydd tîm fy swyddfa i sy'n gwrando ar y ddadl hon wedi clywed y gwahoddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn ei roi yn y dyddiadur gydag arddeliad. Byddaf yn awyddus iawn i fynd yno, ac rwyf wedi bod yn y ganolfan honno sawl gwaith. Yn fwyaf diweddar, roeddwn yno gyda grŵp mawr o sefydliadau pobl hŷn—a phobl iau hefyd—yn sôn am faterion unigrwydd a theimlo'n ynysig. Felly, byddaf yn hapus i geisio dod i'r digwyddiad hwnnw'r flwyddyn nesaf, ond diolch yn fawr iawn i chi am eich agwedd tuag at hyn. Gwn fod John, eich cydweithiwr yng Nghasnewydd, wedi dweud yr un peth hefyd: mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth ddathlu pobl hŷn.

16:45

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am rai o'r mentrau cadarnhaol y mae ef yn eu hamlinellu? Rwy'n teimlo'n weddol gymwys i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac efallai y dylwn ddatgan buddiant yn y fan hon.

Caiff llawer o'r pryderon mwyaf sy'n ymwneud â phobl hŷn eu nodi yn eu gallu i ymdrin ag awdurdodau statudol ar faterion fel pryderon ariannol, tai, iechyd, troseddu a theimlo’n ynysig. Mae'r anghenion hyn yn rhan fawr o fyw mewn henaint. Rydym i gyd yn cydnabod bod ysmygu, deiet ac ymarfer corff yn cyfateb yn uniongyrchol i amddifadedd ac iechyd gwael wrth fynd i oedran teg. Mae hyn yn arwain at rai pobl hŷn yn gweld cyfyngiadau gwirioneddol ar eu gallu i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn eu henaint. Mae llawer o bobl hŷn yn profi problemau yn eu bywydau bob dydd oherwydd salwch cronig neu anableddau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae bywydau yn hwy ond nid yw iechyd yn well o reidrwydd. Mae dirywiad y teulu mwy estynedig o'i gymharu â'r oes o'r blaen yn ffactor sy'n gosod llawer o bobl hŷn mewn cartrefi gofal ac i ffwrdd o'u cymunedau ymhell cyn y dylai hynny ddigwydd, ac mae hynny'n ychwanegu at eu hunigedd i ffwrdd o'u ffrindiau a chyfoedion.

Mae'n galonogol i ddarllen yn y datganiad heddiw am y broses o sefydlu tîm ymateb acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip, a gynlluniwyd i gadw a thrin pobl yn eu cartrefi. Wrth gwrs, mae hyn yn codi'r cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: pa mor gyflym y caiff y rhain eu sefydlu mewn ysbytai eraill?

Unwaith eto, rydym yn cydnabod mai sicrhau nad yw pobl hŷn dan anfantais yn syml oherwydd eu hoedran yw un o heriau mwyaf y cyfnod modern. Yr her honno yw sicrhau bod pob un o'n pobl hŷn yn gallu byw bywydau llawn ac nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn faich ond yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnaethon nhw gydol eu bywydau i'r economi a'r gymuned yn gyffredin a hefyd i gydnabod bod llawer ohonyn nhw'n dal i gyfrannu at gymdeithas mewn llawer o ffyrdd, gan fod yn aml yn asgwrn cefn llawer o elusennau a gweithgareddau cymdeithasol. Felly, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau statudol i sicrhau bod gwasanaethau craidd prif ffrwd ar gael i drigolion hŷn yn yr un modd ag y maen nhw i bobl eraill.

Mae gofal cymdeithasol yn golygu mwy na chael pobl i ymolchi a gwisgo amdanyn nhw. Dylai anelu at helpu pobl i fyw bywydau llawn, gydag urddas. Dylid rhoi trefniadau ariannol ar waith cyn gynted â phosibl, gan ragweld y galw cynyddol ar gostau i ddarparu gwasanaethau i'r dyfodol. Mae crynswth o faterion yn cronni fel dyfroedd mewn argae. Oni fyddwn yn gweithredu'n bendant i atal hyn, bydd yr argae yn torri ryw ddiwrnod gyda chanlyniadau dinistriol, i'r henoed yn arbennig.

Fel y gwyddom, mae Whitehall yn mynnu lleihau cyllid i awdurdodau lleol, sydd wrth gwrs yn effeithio'n sylweddol ar y gwasanaethau y maen nhw'n gallu eu darparu. Rydym yn gwybod hefyd fod Llywodraeth y DU yn mynnu cynyddu ein cyllideb o ran cymorth tramor, er ei bod yn ffaith sydd wedi'i dogfennu'n helaeth fod symiau enfawr o'r arian hwn yn cael eu gwastraffu gan nifer o dderbynwyr mewn llywodraethau tramor ar brosiectau balchder neu ystordai arfau enfawr. Onid yw hi'n hen bryd atal y camddefnydd hwn o arian cyhoeddus a'i wario'n llawer doethach yn nes i gartref a gwneud bywydau ein pobl hŷn yn brofiad llawer gwell nag y bu hyd yn hyn.

David, diolch yn fawr iawn, ac roeddwn gyda chi bob cam o'r ffordd—yr holl ffordd, yr holl ffordd—tan y paragraff terfynol yna. [Chwerthin.] A byddwn yn dweud yn syml mai'r gwahaniaeth rhyngom ni yw hyn: i mi, nid yw cyfiawnder cymdeithasol a chael pobl i fyw bywydau sy'n dda iddyn nhw, eu teuluoedd, eu hanwyliaid yn dechrau nac yn gorffen yn y cartref; mae hynny'n teithio'n rhyngwladol. Gelwais heibio mewn digwyddiad amser cinio heddiw gyda grŵp o blant o Ysgol Hafod yn etholaeth Mike Hedges, rwy'n credu, ac roedden nhw'n codi arian ar gyfer cyfleoedd addysgol i bobl ifanc mewn rhannau o Affrica, gyda sefydliad yn eu helpu, ac roedden nhw wedi codi, rwy'n credu tua £4,000 neu £5,000—roedden nhw'n bwriadu dyblu hynny a datblygu cyfleusterau ar gyfer ysgol. Yr hyn a'm trawodd i oedd bod y bobl ifanc hynny yn deall ac yn mynegi yn eu gweithredoedd yn glir iawn nad oedd eu syniadau am yr hyn sy'n gwneud byd da yn dod i ben yn yr Hafod, nac yn dod i ben yn Abertawe—roedd yn ymestyn dros y byd. A dyna lle'r wyf i'n anghytuno. Gallwn wneud y ddau, David—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y gallaf. Mae'n ddrwg gennyf i, David, fe wnelwn fel arall.

16:50

Yn anffodus, mewn datganiad, ni allaf wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddwch chi'n parhau i ddadlau'r achos dros ganolbwyntio ar ein cynefin, a byddaf innau'n parhau i ddadlau'r achos dros, 'Dylem weithredu o ewyllys da fel hyn yn ein cynefin a thramor hefyd.'

Ond gadewch imi fynd ar drywydd rai o'r pwyntiau lle credaf y cawsom gytundeb gwirioneddol arnynt. Roeddech yn sôn am y trawsnewid—sut yr ystyriwn ni enghreifftiau da fel Ysbyty'r Tywysog Philip? Credaf i mi grybwyll yn fy nghyfraniad cynharach bod enghraifft Ysbyty'r Tywysog Philip a llawer o rai eraill a welaf wrth i mi deithio o amgylch Cymru—nid yw'n enghraifft unigryw mwyach—yn cael ei hysgogi gan arian yr ICF, ac weithiau'n cael eu hysgogi, mae'n rhaid imi ddweud, gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol, heb fod cyllid yr ICF yn ei wneud ei hun. Y rheini, trwy eu partneriaeth ranbarthol yn gweithio nawr, sydd weithiau wedi penderfynu cyflwyno hynny. Os edrychwch chi, er enghraifft, ar gadw'n iach gartref Cwm Taf, heb lawer o arian ychwanegol, maen nhw wedi cyflwyno hynny ar draws ardaloedd eang, ond nid yn gwbl gyffredinol. Felly, rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen drawsnewid sydd gennym, a gefnogir gan £100 miliwn o gyllid, yn caniatáu hyn i godi hyd at gyfradd lefel ranbarthol ac yn cael ei hefelychu hefyd. Felly, mae'r hyn sy'n aruchel a newydd yn dod yn gyffredin a phrif-ffrwd. Ond, wrth gwrs, nid yw cyllid ICF o £80 miliwn y flwyddyn hon, a'r gronfa drawsnewid o £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, yn ddim o'u cymharu â £9 biliwn yn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, os oes modd inni mewn gwirionedd gael y pethau hyn wedi eu prif ffrydio i'r gyllideb honno, i'r meddylfryd hwnnw, yna rydym mewn gwirionedd wedi torri asgwrn cefn hyn. Ac rwy'n dechrau gweld—Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a minnau, sy'n mynd ar deithiau diddiwedd o'r wlad ar y cyd yn siarad â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol—rydym yn gweld nawr eu bod nhw'n gynyddol berchnogi'r broses hon eu hunain ac yn dod atom ni ac yn dweud, 'Dyma'r hyn yr ydym yn credu y gallwn ei wneud, nid yn unig gydag arian ychwanegol, ond fel rhan o'r cyllid craidd, oherwydd hynny fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl hŷn.'

Ond mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, yn sail i hyn, y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Ni allaf gymryd unrhyw glod am hynny—rhoddwyd hynny ar waith gan ragflaenwyr yn y Cynulliad blaenorol—ond rwy'n dweud wrthych chi, pan ymwelais â chyfleuster preswyl Hafod yng Nghaerffili tua dau neu dri mis yn ôl, aeth y bachgen ifanc oedd yn ein dangos ni o gwmpas, Geraint, â ni i ymweld â theulu ag unigolyn â dementia: yn gwbl wahanol i'r hyn fyddech chi efallai wedi ei weld flynyddoedd yn ôl, oherwydd roedd gan y gŵr bonheddig a gyflwynwyd i mi ddementia cynyddol—roedden nhw'n gwybod o drafodaethau gydag ef, ond hefyd gyda'i deulu, ei fod yn arddwr brwd iawn, ac wedi bod felly erioed. Felly, roedden nhw wedi paratoi cynllun unigol iddo—roedd y cynllun unigol, yn unol â Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant—cynllun unigol iddo ef a'i deulu, yn golygu mai ef mewn gwirionedd oedd yr un â chyfrifoldeb am yr holl waith garddio o gwmpas y lle. Y budd iddo ef, o ran ei annibyniaeth ac urddas a statws, oedd nad oedd yn cael ei ystyried yn rhywun a eisteddai yno'n dawel—ac nid oedd angen llawer iawn o feddyginiaeth ac ati arno; roedd yn rhan annatod o redeg y cyfleuster hwnnw, yn rhan bwysig ohono—ac roedd aelodau ei deulu wrth eu bodd ac roedd ef wrth ei fodd.

Felly, rydym yn dechrau gwneud y pethau hyn yn ymarferol, ond mae pethau eraill y gallwn eu gwneud hefyd. Er enghraifft, yn ogystal â'r rheoliadau RISCA yr ydym yn eu rhoi gerbron yn y fan hon ar hyn o bryd, mae gennym strategaeth gwella cartrefi gofal sy'n mynd rhagddi a fydd—. Nid yw'n fater o ddweud ein bod yn cyrraedd pwynt ac yn ei dderbyn—gwelliant cyson ydyw, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau yma, wrth iddyn nhw ymweld â chartrefi preswyl y dyddiau hyn, yn gweld y gwahaniaeth sydd yn y dull gweithredu. Ac ar ben hynny, rydym yn ychwanegu cofrestru'r gweithlu gofal cartref ac yn symud ymlaen at gofrestru a phroffesiynoli gweithlu'r cartrefi preswyl. Bydd yr holl bethau hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ein pobl hŷn.

Ac yna, ar gyfer y rheini sy'n byw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, y cyllid cyfalaf a gyhoeddodd y Gweinidog tai a minnau yn ddiweddar fydd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda chymdeithasau tai gydag arian cyfalaf i ddarparu cymunedau sy'n gyfeillgar i dementia, er enghraifft. Felly, nid oes rhaid i hynny fod o reidrwydd mewn cartref preswyl, gallai fod mewn bwthyn lle cânt gymorth i fyw yn annibynnol, gyda darpariaeth ddigidol gofleidiol i gadw llygad arnyn nhw ac ati: ffyrdd newydd o feddwl, yn canolbwyntio'r arian ar y canlyniadau iawn. A chan ddod yn ôl at bwynt Dai, ni fyddwn yn cyrraedd yno dros nos, ond mae hon yn ffordd wahanol o feddwl sy'n rhoi'r unigolyn yn y canol—dymuniadau ydyn nhw, dyheadau ydyn nhw—ac yna rydych yn ei saernïo o'u cwmpas nhw, ac rydym yn dechrau gwneud pethau diddorol iawn.

16:55
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn-gysylltiad—Ein dull o weithio yng Nghymru

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn-gysylltiad—ein dull o weithio yng Nghymru. A galwaf ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gyflwyno proffylacsis cyn-gysylltiad, y byddwn bellach yn cyfeirio ato fel 'PrEP', flwyddyn ar ôl ei gyflwyno yma yng Nghymru. Mae PrEP, fel y gwyddoch chi, yn feddyginiaeth gwrth-retrofeirysol, a all, os caiff ei gymryd yn gywir, atal HIV ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o'i gael.

Bu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda grŵp annibynnol o arbenigwyr HIV ym mis Tachwedd 2016 i asesu effeithiolrwydd iechyd cyhoeddus PrEP. Cynhaliwyd asesiad technoleg iechyd o'r driniaeth hon hefyd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ym mis Ebrill 2017. Ar 28 Ebrill 2017, cyhoeddais fy mhenderfyniad i ddarparu cyffuriau Truvada fel PrEP i bawb a fyddai yn elwa o'r driniaeth ataliol hon yn rhan o astudiaeth Cymru gyfan. Bydd yr astudiaeth honno yn para hyd at dair blynedd. Dechreuodd ym mis Gorffennaf 2017 a bydd yn darparu tystiolaeth ar gyfer pa mor dderbyniol ac effeithiol yw PrEP yn atal HIV. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r grŵp HIV arbenigol annibynnol yn goruchwylio'r astudiaeth hon, a dechreuodd byrddau iechyd yng Nghymru ddarparu PrEP ym mis Gorffennaf y llynedd drwy glinigau iechyd rhywiol integredig. Mae gwasanaethau iechyd rhywiol wedi gweithio'n galed i gyflwyno'r ymyriad hwn ac rwy'n falch o ddweud bod yr holl glinigau iechyd rhywiol integredig yng Nghymru wedi bod yn darparu PrEP o'r cychwyn cyntaf.

Mae angen i unrhyw glaf y bernir bod PrEP yn addas ar ei gyfer gael prawf HIV negyddol a phrawf gwaed sylfaenol i sicrhau nad oes ganddyn nhw unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol. Mae hefyd yn ofynnol iddyn nhw dderbyn cwnsela cyn y darperir PrEP. Rhwng 1 Gorffennaf 2017 a 30 Mehefin 2018, barnwyd bod 989 o gleifion yng Nghymru yn gymwys i gael PrEP. Roedd bron i hanner yr unigolion hyn yn newydd neu yn gymharol newydd i wasanaethau iechyd rhywiol. Mae'n bwysig bod unigolion sy'n cymryd rhan mewn arferion rhywiol peryglus yn ymwneud â gwasanaethau iechyd rhywiol i ddiogelu eu hunain ac eraill. Ac mae rhoi PrEP ar gael wedi annog hyn.

Gallaf gadarnhau bod o leiaf pum unigolyn wedi cael diagnosis o HIV o ganlyniad i'w hymgysylltu â gwasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer PrEP. Gall yr unigolion hyn bellach gael y gofal sydd ei angen arnynt i gadw'n iach. Mae cyfanswm o 559 o bobl wedi dechrau ar PrEP yn ystod blwyddyn gyntaf yr astudiaeth hon ac rwy'n falch iawn o ddweud nad oes unrhyw achosion newydd o HIV wedi bod o fewn y grŵp hwn o bobl. Fodd bynnag, roedd gwasanaethau wedi rhoi diagnosis ar gyfer nifer sylweddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn y grŵp hwn. Roedd 70 achos o gonorea a 15 achos o siffilis. Mae hynny i'w ddisgwyl mewn grŵp risg uchel. Yr hyn sy'n bwysig yn awr yw eu bod yn mynychu gwasanaethau iechyd rhywiol yn rheolaidd, yn cael diagnosis cynnar ac yn cael eu trin ar gyfer adfer eu hiechyd eu hunain yn ogystal ag atal lledaenu'r heintiau hynny i eraill.

Efallai fod Aelodau wedi gweld darllediadau o'r stori dros doriad yr haf am Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i godi arian i sicrhau bod triniaeth PrEP ar gael. Rwyf eisiau sicrhau Aelodau a'r cyhoedd ehangach bod y broblem hon yn berthnasol i Loegr ac nid i Gymru. Rwyf wedi penderfynu mabwysiadu dull cenedlaethol o ran PrEP ac atal HIV yma yng Nghymru mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr, lle nad oes dull gweithredu cenedlaethol a ble mae elusen yn ceisio codi arian ar gyfer triniaeth PrEP.

Mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad o 32 y cant mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru, gyda'r ffigyrau'n dychwelyd i lefelau 2011. Er pwysiced yw PrEp—ac nid oes unrhyw amheuaeth bod PrEP yn lleihau haint HIV—mae'n un rhan o'r strategaeth ehangach i leihau heintiau newydd o HIV. Mae angen i PrEP gael ei gymryd yn gywir a'i gefnogi gan wasanaethau iechyd rhywiol ehangach, ataliol.

Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd pellach ynghylch ein hymdrechion penodol i leihau trosglwyddo HIV yma yng Nghymru. Byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am yr astudiaeth PrEP a'r gwelliannau ehangach a gynlluniwyd i'n gwasanaethau iechyd rhywiol.

17:00

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Mae'n newyddion i'w groesawu. Mae cynnydd graddol yn nifer y bobl sy'n byw gyda HIV yng Nghymru, sydd, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu cynnydd mewn cyfraddau goroesi a diagnosis newydd—dwy agwedd sydd i'w croesawu—ac rydym ni'n credu bod gan PrEP swyddogaeth bwysig wrth leihau'r achosion newydd hyn a ganfyddir.  

Mae gennyf ddau faes i holi yn eu cylch. Nid yw pawb wedi gallu cael gafael ar y cyffur i'r un graddau. Yn y gorffennol, rydych chi wedi pwysleisio y bu heriau ym Mhowys, oherwydd diffyg gwasanaethau, a bod hynny'n golygu nad oedd ffordd o weithio oedd yn gyson drwy Gymru. Yn ôl ym mis Mai 2018, fe roesoch chi sicrwydd y cai hyn ei unioni, felly tybed a allwch chi amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn y meysydd hyn. A, gyda'r cyffur newydd hwn ar gael, mewn gwirionedd, mae'n bwysig bod clinigwyr a'r gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n rhoi presgripsiwn yn ymwybodol o'r cyffur newydd ac yn ei roi ar bresgripsiwn fel sy'n ofynnol, felly efallai y gallech chi roi inni ychydig o'r newyddion diweddaraf ynghylch cysondeb a chyffredinolrwydd cael gafael ar PrEP ledled Cymru, ond yn edrych yn benodol ar Bowys.

Yr ail faes yr oeddwn i eisiau eich holi yn ei gylch oedd canlyniadau arbrawf Cymru hyd yma. Roeddwn yn falch o weld eich bod yn monitro nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a ganfyddir, ac rwy'n tybio, yn rhan o hynny, eich bod yn sôn am, neu eu bod nhw'n cael gwybodaeth am, addysg a defnyddio condomau ac ati, ac ati. Ond roeddwn i ychydig yn bryderus i weld, o'r 559 o bobl sydd mewn perygl a gymerodd y cyffur, bod 153 yn anhysbys neu wedi cael eu colli cyn cael triniaeth ddilynol, ac roeddwn yn meddwl tybed, efallai, a allech chi roi ychydig o drosolwg inni ynghylch pam y digwyddodd hynny, sut yr ydym ni wedi rheoli—. Wyddoch chi, mae'r 153 hynny wedi diflannu. Beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio'r cyffur PrEP hwn mewn gwirionedd yn parhau i'w ddefnyddio ac yn cadw at y broses gyfan, oherwydd, wrth gwrs, fel y nodwyd gennych chi eisoes, nhw yw'r bobl sydd fwyaf mewn perygl?

Diolch am y ddau gwestiwn. Yn rhan gyntaf fy natganiad, fe wnes i geisio amlinellu bod pob clinig iechyd rhywiol integredig yng Nghymru wedi bod yn darparu PrEP o gychwyn cyntaf yr arbrawf, sy'n newyddion da, oherwydd, pan oeddem ni'n siarad am hyn yn y lle cyntaf ym mis Mai, roedd hynny cyn i'r arbrawf ddechrau. Felly, mewn gwirionedd, o fewn y cyfnod amser hwnnw, yr amser rhagarweiniol, mae pob clinig iechyd rhywiol integredig wedi bod yn darparu PrEP. Felly, ni fu problemau o ran ble mae rhywun yn byw, fel yr oeddem ni'n bryderus yn ei gylch o ran PrEP, felly mae wedi bod ar gael i bob dinesydd y bu'n briodol ar ei gyfer, ac felly maen nhw wedi gallu ei ddefnyddio. Rwy'n fodlon iawn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i fonitro ei fod ar gael mewn gwirionedd ym mhob rhan o'r wlad a bod pob dinesydd a allai ac a ddylai fod yn defnyddio PrEP yn gallu gwneud hynny.

Ynglŷn â'ch sylw olaf, fodd bynnag, am y bobl hynny sydd wedi diflannu, mae'n bwynt pwysig. Mae'n rhan o'r her ynghylch ein dymuniad i wneud yn siŵr ein bod yn sôn am hyn yn rhan arferol o'r gwasanaethau iechyd, oherwydd mae stigma o hyd. Mae her yn dal i fod o ran pobl yn defnyddio gwasanaethau a chydnabod bod hynny mewn gwirionedd er eu budd nhw—nid yn unig er budd y Llywodraeth neu er budd y gwasanaeth iechyd, ond er eu budd nhw—ac nid oes uchafswm niferoedd fel sydd yna ar draws y ffin, ac i wneud yn siŵr bod yr holl bobl hynny a allai gael budd yn elwa. Ac, mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r astudiaeth a wneir gan Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr ymchwil ar agweddau at PrEP, oherwydd os mynnwch chi, ceir y llwybr technegol ynghylch sut i geisio trin pobl, ond mewn gwirionedd mae a wnelo hyn â'r cymorth ynghylch hynny i wneud yn siŵr bod pobl mewn gwirionedd yn manteisio ar ac yn cydymffurfio'n llawn â'r driniaeth i gael budd llawn ohoni. Ac, fel yr ydym ni wedi gweld, rydym ni yn ymwneud â'r grŵp o bobl sydd â'r risg uchaf, oherwydd y lefelau o heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol sydd o fewn y grŵp hwn o bobl. Felly, mae'n dangos ei fod yn gwneud y cynnydd cywir o ran iechyd, ymdrin â'r bobl briodol, ac mae hynny mewn gwirionedd yn fuddiol i'r cyhoedd ehangach.

Diolch yn fawr iawn. Rydw innau hefyd yn croesawu'r llwyddiant sy'n ymddangos o fod wedi dod allan o'r treialon hyd yma. Beth sydd ei angen rŵan, wrth gwrs, ydy sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn gallu cael mynediad at y treialon PrEP, wrth iddynt gael eu hymestyn yn ehangach. Mae'n sicr yn galonogol iawn gweld bod lleihad sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion newydd o HIV yng Nghymru, ond, wrth gwrs, mae yna wastad mwy y gallem ni ei wneud. 

Rydym ni'n gwybod, hefyd, am y gyfres o rwystrau sydd yna i bobl allu cael mynediad at PrEP. Mae yna dal nifer sylweddol o bobl sydd yn gymwys ar gyfer PrEP sydd yn gwrthod cymryd triniaeth. Hefyd, mae'r galw am wasanaethau iechyd rhyw wedi dyblu yn y cyfnod rhwng 2001 a 2016 a heb weld cynnydd cyfatebol yn yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau iechyd rhyw, ac nid ydy’n anodd iawn gweld wedyn o ble mae’r broblem yn dod. A hefyd, mae gennym ni dyllau yn yr wybodaeth sydd gennym ni ynglŷn â data demograffeg ac yn y blaen.

Felly, tri chwestiwn: pa gamau ydych chi, neu ydych chi’n bwriadu, eu cymryd, Ysgrifennydd Cabinet, i ymwneud ac ymgysylltu ag unigolion a grwpiau o bobl sydd yn gymwys ar gyfer PrEP i godi ymwybyddiaeth ohono fo ac i sicrhau bob PrEP yn cael ei dderbyn gan y grwpiau hynny—ac rydw i’n meddwl bod gweithwyr rhyw yn un grŵp arbennig lle mae yna lawer mwy o waith targedu i’w wneud? A allwn gael ymrwymiad gennych chi y bydd gwasanaethau iechyd rhyw yn cael eu cyllido yn ddigonol er mwyn cefnogi’r astudiaeth PrEP yma, er mwyn sicrhau bod pawb a all fanteisio arno fo yn cael mynediad ato fo? Ac, ar y cwestiwn yma o ddata, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i edrych ar y gaps yna sydd gennym ni mewn data demograffeg, er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau PrEP yn cael eu targedu mor effeithiol ag y gallan nhw fod?

17:05

Diolch am y cwestiynau. Rwy'n credu mai un o'r pethau calonogol na ddylem ni eu hanghofio yw ein bod yn ymgysylltu â phobl nad oedden nhw o'r blaen yn defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol oherwydd argaeledd PrEP. Felly, mae o fudd i fwy na dim ond HIV. Fel y dywedais yn gynharach, ni fyddai'r heintiau eraill hynny a drosglwyddir yn rhywiol y mae pobl bellach yn cael triniaeth ar eu cyfer wedi eu darganfod os nad oeddent yn defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol i geisio cael PrEP. Ac mae hynny'n beth da. Nid yn unig hynny, fodd bynnag, ond roedd y pum person a grybwyllais yn gynharach sydd wedi cael diagnosis o HIV heb gael diagnosis o'r blaen, a dim ond dechrau defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol a wnaethon nhw oherwydd argaeledd PrEP ledled y wlad.

Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod popeth yn berffaith. Amlygodd yr adolygiad iechyd rhywiol a roddais ddatganiad i'r Aelodau yn ei gylch ym mis Ebrill eleni yn y cyfarfod llawn ystod o feysydd yn yr adolygiad ei hun a naw pwynt gweithredu sy'n cael eu datblygu. Ac rwy'n barod iawn i ddod yn ôl a gwneud yn siŵr bod Aelodau yn cael diweddariad pellach, boed hynny yn ddatganiad llafar neu'n un ysgrifenedig, ar y cynnydd, ac mae'r bwrdd sy'n gyfrifol am y cynnydd hwnnw yn cael ei oruchwylio gan y prif swyddog meddygol. Felly, mae gan hyn le blaenllaw yn y Llywodraeth, lle amlwg ar frig y Llywodraeth, ac mae gan y prif swyddog meddygol drosolwg o hynny, oherwydd rydym ni'n cydnabod bod mwy inni ei wneud, ac mae angen inni wneud penderfyniadau cyllido sydd mewn gwirionedd yn diwallu'r angen yr ydym ni wedi ei ganfod.

Ond, o ran deall sut a pham mae pobl yn ymwneud neu ddim yn ymwneud â'r gwasanaethau hynny, mae mwy na dim ond y gwaith a wnaeth yr adolygiad, ond mewn gwirionedd yr astudiaeth y soniais amdani yn fy ateb i Angela Burns. Cynhaliwyd hon gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac mae'n edrych ar sut mae unigolion sy'n byw yng Nghymru yn defnyddio PrEP a sut mae PrEP yn ymwneud â'u hymddygiad a gwasanaethau iechyd eraill y maen nhw yn eu defnyddio. Felly, rydym yn edrych ar y gwaith ehangach hwnnw, ac felly bydd rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iawn yn dod atom yn yr ymchwil sy'n cael ei wneud.

Mae gennym ni safbwynt rhyngwladol hefyd. Yn ystod yr haf, y llynedd, cyfarfûm â Dr Owain Williams yr oeddwn i, drwy gyd-ddigwyddiad, yn ei adnabod pan oeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth. Mae bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Queensland—mae'n uwch gymrawd ymchwil mewn iechyd byd-eang ym Mhrifysgol Queensland—ac mae'n goruchwylio rhywfaint o'r gwaith y maen nhw yn ei wneud ar arbrawf PrEP yn Queensland hefyd. Felly, rydym ni'n edrych ar dystiolaeth ryngwladol yn ogystal â thystiolaeth yma yng Nghymru hefyd. Oherwydd byddwn wastad—ac rwy'n dweud hyn yn rheolaidd—eisiau i'r dystiolaeth o ran beth sy'n gweithio orau fod yn ganllaw inni, a deall na allwn ni orfodi pobl i wneud penderfyniadau yr ydym ni'n credu yw'r rhai cywir ar eu cyfer, ond mae ynglŷn â sut yr ydym ni'n gweithio gyda ac yn deall y dewisiadau a wnânt ac yn ceisio eu helpu i wneud dewisiadau gwirioneddol wybodus, a dylai hynny ddylanwadu ar ein dewisiadau ynghylch ansawdd a natur y gofal iechyd a ddarparwn i'r cyhoedd ehangach.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

Does dim mwy o siaradwyr, ac felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:09.