Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

Rheoli Perthi yn yr Haf

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli perthi yn yr haf? OAQ52485

Rydym yn cydnabod gwerth amaethyddol perthi, a'u gwerth i fywyd gwyllt ac i'r dirwedd. Mae adar yn nythu rhwng mis Mawrth a mis Awst yn bennaf, a dylid archwilio perthi cyn eu torri, er mwyn osgoi niwed i nythod. Mae'n rhaid i bawb sy’n derbyn taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin ddilyn rheolau trawsgydymffurfio, sy'n datgan na ellir torri perthi rhwng mis Mawrth a mis Awst.

Diolch am hynny, ond bob haf, mae nifer y perthi sy'n cael eu torri ynghanol y tymor nythu yn peri cryn bryder i mi. Maent yn darparu ffynhonnell bwysig o fwyd ar gyfer pob math o anifeiliaid, a chynefin nythu hanfodol i adar, yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Ac eleni, wrth deithio ar y ffyrdd, rwyf eisoes wedi gweld perthi'n cael eu torri heb fod angen ar sawl achlysur yn fy etholaeth, ac mae'n ddiangen am fod y perthi o dan ganopi coed, a sawl metr oddi wrth y ffordd. Fel y dywedoch, mae deddfwriaeth yn gorfodi ffermwyr a thirfeddianwyr i beidio â thorri perthi rhwng 1 Mawrth a 31 Awst, ac mae hynny'n wych. Ond gydag awdurdodau lleol, a deiliaid tai preifat, a chyrsiau golff, mae'n dibynnu ar arferion gorau—nid yw'n orfodol. Mae adar sy'n nythu wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond nid yw'n eu gwarchod os ydym yn dibynnu ar berthi'n cael eu cynnal yn briodol ynghanol y tymor nythu. Felly, a gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn orfodol i awdurdodau lleol, cartrefi preifat a chyrsiau golff a'u tebyg, ymatal rhag torri eu perthi rhwng mis Mawrth a mis Awst, gan sicrhau eu bod yn rhwym i'r un rheolau â'r ffermwyr a'r tirfeddianwyr?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Rydych yn codi pwynt pwysig iawn o ran gwerth perthi'n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd hanfodol i adar ac anifeiliaid, ac i wella a diogelu bioamrywiaeth. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, roedd dyletswydd gyhoeddus ar bob awdurdod cyhoeddus i sicrhau a chynnal bioamrywiaeth, a thrwy hynny gynyddu gwydnwch ecosystemau, sydd hefyd yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer perthi a'r fioamrywiaeth gysylltiedig, gan gynnwys pryfed peillio. Fy mwriad yw cyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod sut y maent yn rhoi'r ddyletswydd bioamrywiaeth yn Neddf yr amgylchedd ar waith, a phwysleisio y gall hynny ffurfio rhan o werth perthi fel rhan o hynny. Cyfeiriasoch at Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n gweithredu fel mecanwaith statudol i atal aflonyddu ar adar sy'n nythu, o fis Mawrth i fis Hydref, drwy dorri perthi. Er nad yw torri perthi yn ystod y cyfnodau hyn yn anghyfreithlon, mae'n rhaid i bawb sy'n berchen ar berthi sicrhau nad oes adar yn nythu yn y perthi cyn gwneud hynny.

Weinidog, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu ynglŷn â gormod o dorri lleiniau ymylon ffyrdd, yn enwedig ar ffordd yr A40 rhwng Abergwaun a Hwlffordd, gan ddinistrio fflora lleol, ac mae hyn yn arwain at effeithiau canlyniadol ar fywyd gwyllt lleol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno menter coridor gwyrdd newydd ar gyfer lleiniau ymylon ffyrdd. Ond a allwch ddweud wrthym pa gamau penodol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i warchod y lleiniau a sicrhau bod y gwaith o'u cynnal a'u cadw yn addas ac yn gwarchod y bywyd gwyllt lleol?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydych yn codi pwyntiau tebyg iawn o ran pwysigrwydd perthi i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth. Ac er yr ystyrir yn aml mai prif swyddogaethau perthi yw rheoli stoc a nodi ffiniau tir, mae ganddynt werth ehangach, mwy cyffredinol hefyd, a phwrpas ar ein cyfer ni. Fe sonioch chi am goridorau gwyrdd; fe'u gelwir yn aml yn goridorau bywyd gwyllt hefyd—coridorau bioamrywiaeth. Yn ddiweddar, fe gyflwynom ni'r strategaeth goetiroedd wedi'i diweddaru gerbron y lle hwn, ac mae honno'n edrych ar sut y mae perthi'n rhan o hynny, o ran creu gorchudd gwyrdd, sef un o'r llwybrau ar gyfer bwrw ymlaen â hyn.

Ynni'r Môr yn Ngogledd Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ynni'r môr yng ngogledd Cymru? OAQ52492

Member
Lesley Griffiths 13:34:37
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Rydym yn cydnabod potensial ynni'r môr wrth greu ynni carbon isel a darparu manteision economaidd a chymdeithasol i'n cymunedau arfordirol. Mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r defnydd o amrywiaeth o dechnolegau ynni'r môr, a byddwn yn parhau i weithio i wireddu'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r sector hwn.

Diolch yn fawr iawn i chi. Mae'n siŵr y dylai'r cwestiwn fod wedi ei aralleirio i olygu ynni'r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, i fod yn fanwl gywir. Ond, yn sicr, oddi ar yr arfordir, mae yna doreth o ynni ac, wrth gwrs, mae Ynys Môn yn un o'r llefydd lle mae yna waith blaengar iawn yn cael ei wneud i drio medi yr ynni hwnnw. Wrth gwrs, mae prosiectau Morlais a Minesto Deep Green yn ddau o'r rhai mwyaf blaenllaw—mi oedd hi'n braf ymweld â'r ddau efo Simon Thomas rhyw wythnos neu ddwy yn ôl.

Rŵan, o ran prosiect Morlais, mae'r prosiect hwnnw'n cyrraedd at bwynt allweddol. Mae angen symud ymlaen at Morlais B, sef i wneud y cyswllt trydanol, ac mae angen dros £20 miliwn o arian Ewropeaidd—gobeithio a ddaw—ar gyfer hwnnw. Rŵan, o ystyried arian oedd wedi cael ei glustnodi gan eich Llywodraeth chi ar gyfer morlyn Abertawe, prosiect rwyf yn gobeithio a all gario yn ei flaen efo cefnogaeth Cymru, os nad oes gan Lundain ddiddordeb, a ydy'r Llywodraeth, yn yr un modd, yn barod i ystyried buddsoddi ym mhrosiect Morlais fel arian cyfatebol a allai helpu, ochr yn ochr ag ecwiti preifat, i ryddhau'r cyllid Ewropeaidd hollbwysig yna?

13:35

Diolch. Credaf fod Ynys Môn yn sicr yn dod yn ganolbwynt bellach ar gyfer datblygu ffrydiau llanw, ac rwy'n credu, unwaith eto, wrth edrych ar ddatblygu ynni'r llanw, fod angen inni sicrhau ein bod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, ac rwyf wedi ysgrifennu eto at Greg Clark yn dilyn y cyhoeddiad siomedig iawn am forlyn llanw bae Abertawe.

I ateb eich cwestiwn penodol iawn ynglŷn â'r arian a neilltuwyd gennym—y £200 miliwn—rwyf wedi cael trafodaethau cynnar ynglŷn â'r posibilrwydd o allu defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol y byddwn yn cynnal cynhadledd ynni'r môr yn hwyrach yn y flwyddyn, felly credaf y bydd y ddau beth yn mynd law yn llaw, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i'w archwilio. Rwyf innau wedi ymweld â Morlais, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r prosiect a'r manteision sylweddol y gallai eu darparu.

Rwy'n falch iawn o glywed bod Lywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd eraill o wario'r £200 miliwn hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gan gwmnïau ddiddordeb mewn datblygu morlyn llanw oddi ar arfordir gogledd Cymru, gan ddefnyddio technoleg wahanol i'r hyn a gynigiwyd yn y de, ac mae'r cwmni hwnnw a phartneriaid eraill yn chwilio am gyllid sbarduno er mwyn gwneud gwaith cwmpasu gyda Phrifysgol Bangor ac eraill. Tybed a allwch ystyried darparu rhywfaint o'r £200 miliwn hwnnw er mwyn gwneud peth o'r gwaith cwmpasu, iddo fod yn ymchwil agored y gall unrhyw un gael mynediad ato os ydynt am ymchwilio ymhellach i'r cyfleoedd gwych a allai fod ar gael i gynhyrchu ynni oddi ar arfordir gogledd Cymru, a fyddai'n darparu manteision eraill, fel manteision amddiffyn rhag llifogydd, a manteision o ran amaethyddiaeth a thwristiaeth yn wir.

Diolch. Yn sicr, rwy'n ymwybodol o'r cynnig ar gyfer morlyn llanw yng ngogledd Cymru, ac fel y dywedwch, mae'n dechnoleg wahanol. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n peri pryder i mi o ran môr-lynnoedd llanw yw os nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth, yr effaith y bydd hynny'n ei chael. A byddaf yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr adroddiad gwerth am arian y maent bellach wedi'i gomisiynu ac sydd bellach ar ei ffordd atom.

O ran y cwestiwn ynglŷn â chwilio am gyllid sbarduno, credaf efallai mai'r peth gorau fyddai iddynt hwy neu chi ysgrifennu ataf a gallwn innau gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd; cefais fy ailymgnawdoli yn llefarydd materion gwledig. [Chwerthin.]

Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r ymgynghoriad a lansiwyd gennych ddoe—yr ymgynghoriad pwysig iawn a lansiwyd gennych ddoe—beth yw eich diffiniad o 'reolwr tir'? Un o'r pum egwyddor rydych wedi'u tanlinellu yw, o dan unrhyw gynlluniau newydd a allai gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, fod angen iddynt fod yn hygyrch i bawb. Felly, mae'n bwysig deall beth fyddai'r meini prawf i'w gwneud yn hygyrch. Felly, beth yw rheolwr tir yn eich barn chi?

Hoffwn groesawu Andrew R.T. Davies i'w swydd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at eich cael yn fy nghysgodi. Rydych bob amser yn disgrifio'ch hun fel 19 stôn o gig eidion gorau Cymru, felly rwy'n siŵr y cawn ychydig o hwyl gyda hynny hefyd. Felly, croeso i'ch portffolio.

Sut rwy'n diffinio rheolwr tir? Buaswn yn dweud ffermwyr a choedwigwyr, ond wrth gwrs, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr.

Diolch am y dehongliad hwnnw, er ei bod yn ymddangos, yn sicr, wrth ddarllen yr ymgynghoriad ac wrth ddarllen rhywfaint o ddyfalu yn y wasg, fod y diffiniad ychydig yn ehangach na hynny, ac y gellid dehongli y gall cwmnïau mawr, er enghraifft, a chanddynt ddaliadau tir—Tata Steel, er enghraifft, neu awdurdodau lleol a allai fod yn awyddus i ofalu am barciau neu leiniau neu beth bynnag—sy'n bodloni'r nodau amgylcheddol gael gafael ar rywfaint o'r arian hwn sydd, yn hanesyddol, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, bob amser wedi bod ar gael i rywun sydd â rhif daliad neu gyfeirnod cwsmer. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar y dehongliad o bwy y credwch sy'n rheolwr tir. A fyddai cyrff cyhoeddus o'r fath, fel yr amlinellais, neu gwmnïau preifat yn gymwys i gael peth o'r arian hwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, oherwydd os felly, byddai hynny'n newid cyfeiriad llwyr o'r hyn y mae'r polisi amaethyddol cyffredin, yn hanesyddol, wedi'i ddarparu yn ôl i amaethyddiaeth Cymru?

13:40

Wel, efallai y gallaf roi ychydig o gyngor ichi wrth i chi ddechrau ar eich rôl newydd, sef i beidio â chredu popeth a ddarllenwch yn y wasg. Credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.

Mewn perthynas â'r diffiniad o reolwr tir, fel y dywedaf, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr ac wedi bod felly erioed. Ni chredaf fod hyn yn newid mawr o ran cyfeiriad. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau gynllun rydym yn eu cyflwyno: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Nawr, rydym yn ymgynghori ar gyfansoddiad y cynlluniau hynny a sut y gall y cynlluniau sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion o ran y pum egwyddor a nodais ym mis Chwefror ar gyfer ein sector. Felly, mae'r ymgynghoriad yno. Rwyf wedi clywed yn y wasg y byddwn yn ariannu rhandiroedd. Ni fyddwn yn ariannu rhandiroedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig inni fod yn eglur ynglŷn â'r ymgynghoriad, ac unwaith eto, buaswn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu barn.

Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw, ac efallai y gallaf roi ychydig o gyngor yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet: mewn gwirionedd, fe'i cymerais o gyfweliad un i un yn y Wales Farmer ddoe, lle rhoesoch gyfres o atebion, felly roedd fy nghwestiynau'n seiliedig ar eich atebion chi. Yn amlwg, roeddent yn gadael y drws yn agored i ddehongliad o'r hyn yw rheolwr tir a phwy fyddai'n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgynghoriad ar waith a bod llawer o waith i'w wneud ar yr ymgynghoriad hwnnw, ond ceir rhai mannau niwlog. Rydych wedi egluro hyn i raddau, ynghylch rhandiroedd er enghraifft, ac rwy'n cymryd y byddai hynny'n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gwmnïau preifat hefyd, fel y nodwyd gennyf, na fyddent yn gymwys.

Ond un peth, yn amlwg, nad yw'r ymgynghoriad yn ei grybwyll yw ansefydlogrwydd yn y farchnad. Mae'n sôn am nwyddau cyhoeddus ac yn sôn am yr amgylchedd, yn wir. A ninnau'n cael tywydd poeth ar hyn o bryd, os oes gennych ffermwr yn cynhyrchu cnydau a chynhyrchu da byw o'r tir yng Nghymru, mae'r ansefydlogrwydd yn y tywydd a'r amodau yn rhywbeth na ellir ei liniaru. Ni all unrhyw gynllun busnes a luniwch roi ystyriaeth i hynny. Pa bwysau fyddwch chi'n ei roi i'r ansefydlogrwydd, i'r amgylchedd bregus iawn y mae ffermwyr a rheolwyr tir yn gweithio ynddo, na all unrhyw gynllun busnes roi ystyriaeth iddo? A yw wedi'i hepgor o'r ymgynghoriad a byddwch yn edrych arno yn ystod cyfleoedd pellach, neu o dan y ddau bennawd sydd gennych, mae gennych ansefydlogrwydd yno ac mae'n anodd dod o hyd iddo ar hyn o bryd?

Mewn perthynas ag ansefydlogrwydd, yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hynny. Credaf eich bod yn gwneud pwynt perthnasol iawn—nid ydym wedi gweld y math hwn o dywydd ers dros 30, 40 mlynedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn helpu busnesau gyda'u cynlluniau busnes mewn perthynas ag ansefydlogrwydd.

Gan ddychwelyd at y cwestiwn blaenorol ar y cynllun nwyddau cyhoeddus, rwy'n cydnabod bod llawer iawn o'n ffermwyr yn darparu nwyddau cyhoeddus ar y funud heb gael eu talu amdanynt a chredaf fod hynny'n anghywir. Rydym yn rhoi gwerth aruthrol ar ein nwyddau cyhoeddus yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gydnabod, wrth fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jeremy Corbyn yn credu bod incwm sylfaenol yn syniad da iawn. A allwch esbonio pam na chredwch ei fod yn syniad da i ffermwyr Cymru?

Rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y cynllun taliadau sylfaenol a thaliadau uniongyrchol. Ni chredaf fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi darparu'r canlyniadau y credwn y gallwn gael mwy allan ohonynt ac sydd mor hynod o bwysig yma yng Nghymru.

Wel, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle fy mod yn cyfeirio at y toriad yn y cysylltiad rhwng yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel incwm sylfaenol a newid—newid sylweddol—i ganlyniadau sy'n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus, fel rydych newydd ei ddisgrifio, gan ddefnyddio iaith y Trysorlys i gyfiawnhau rhywfaint o hyn. Rwy'n deall hynny, a chredaf fod llawer yn eich papur ymgynghori i weithio gydag ef ac rwy'n derbyn y cyfeiriad y mae'n mynd iddo. Ond wrth dorri'r cysylltiad rhwng y tir y mae ffermwr yn gyfrifol amdano, a'r fferm deuluol yn arbennig yng Nghymru, rydych hefyd yn torri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachus, cynaliadwy a chymorth parhaus y taliadau. A thybed a ydych yn dal o'r farn fod cynhyrchu bwyd yn y fath fodd yn nwydd cyhoeddus ynddo'i hun, neu a yw hynny ond yn cynnwys y manteision amgylcheddol cysylltiedig a ddisgrifiwyd gennych.

Mae cynhyrchu bwyd yn hollbwysig a chyfeiriaf at y pum egwyddor ac at gyflawni amcanion y pum egwyddor, ac mae cynhyrchu bwyd yn un ohonynt, ac roeddwn yn gwbl benderfynol y byddai'n un ohonynt, ond nid yw'n nwydd cyhoeddus. Nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus. Mae ganddo farchnad ac felly ni all fod yn nwydd cyhoeddus. Felly, mae'n debyg mai'r hyn rydym yn ei wneud yw creu marchnad, os mynnwch, ar gyfer nwyddau cyhoeddus, ond nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus.

13:45

Credaf fod y ffordd rydych yn cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus a chredaf fod bwyd cynaliadwy a iachus yn rhywbeth y dylem fod yn ceisio'i gyflawni er budd ehangach yr amgylchedd, ein hiechyd cyhoeddus a phopeth arall, felly buaswn yn sicr yn awyddus i annog pobl i ymateb i'ch ymgynghoriad wrth wneud y cysylltiad cryf hwnnw.

Yr hyn nad ydym am ei weld, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yw diwedd ar y fferm deuluol yng Nghymru, diwedd ar y ffermwyr sy'n gyfrifol am, ac yn stiwardio'r tir y maent naill ai'n berchen arno neu'n ei osod ar rent—gan ein bod yn gweld mwy a mwy o dir yn cael ei osod ar rent. Ac ni fyddem am weld diwedd ar hynny, a ffermydd teuluol yn cael eu disodli gan reolwyr tir cyflogedig neu bobl sy'n wardeiniaid neu unrhyw beth arall. Mae'r buddsoddiad hirdymor hwnnw a'r cadernid hirdymor hwnnw'n allweddol i gynnal eich amgylchedd diogel, ac mae fferm deuluol a'r ffermwr ei hun yn ganolog i hynny.

Ond gan eich bod wedi awgrymu y bydd nifer fwy o bobl yn gallu pysgota yn y pwll hwn sy'n mynd yn llai, a allwch ateb hefyd sut y byddwn yn sicrhau y bydd hon yn elfen gynaliadwy a hirdymor o dan eich ymgynghoriad? Ar hyn o bryd, mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn saith mlynedd o hyd; er bod newidiadau, maent yn aml yn rhai graddol, ac yn enwedig os ydym yn symud tuag at nwyddau cyhoeddus, bydd angen i ffermwyr arddangos pethau fel dal carbon neu atal llifogydd, nid dros flwyddyn neu ddwy flynedd, ond dros gyfnod hir o amser. Felly, a ydych yn rhoi ystyriaeth lawn i'r angen am fframweithiau a buddsoddiad amlflwydd yn eich polisïau rheoli tir?

Hoffwn ddechrau drwy ddweud nad oes arnaf eisiau gweld unrhyw ffermydd teuluol bach yn cael eu colli—nid wyf am weld un fferm yn cael ei cholli. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod Brexit yn peri heriau enfawr i'r sector, a dyna pam fod angen inni wneud popeth y gallwn i'w cefnogi. Hwy yw ceidwaid ein tir a dyna'r neges—. Yn rhyfedd ddigon, rwyf newydd gael cyfweliad, cyn Sioe Frenhinol Cymru, a gofynnwyd imi a oedd fy argraffiadau wedi newid, a dywedais mai'r un peth nad oeddwn wedi sylweddoli oedd cymaint y mae ffermwyr yn ymfalchïo yn eu tir ac yn sicrhau eu bod yn gofalu amdano am y cyfnod a wnânt a sicrhau ei fod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Pan oeddwn yn Seland Newydd ym mis Ebrill, yr un wers a ddysgais, ar ôl yr hyn a ddigwyddodd iddynt yn ôl ym 1984 gydag ymyl y clogwyn hwnnw, oedd eu bod wedi colli cymaint o ffermydd bach, ac rwy'n benderfynol o sicrhau na fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae hyn yn rhan o'r ymgynghoriad—rydych yn llygad eich lle eu bod yn sector hirdymor a bod angen y diogelwch amlflwydd hwnnw arnynt. A bydd hynny'n ffurfio rhan o'r ymgynghoriad ar y ddau gynllun sydd gennym, ac rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn—a gobeithiaf fod hyn wedi'i gyfleu wrth lansio'r ymgynghoriad—y byddwn yn cael y cyfnod pontio hwn, oherwydd bydd y taliadau sylfaenol yn parhau yn 2018 a 2019, ac yna, o 2020 ymlaen, byddwn yn dechrau'r cynllun newydd. Ond mae'n rhaid cael cyfnod pontio amlflwydd: ni allwch ddisgwyl newid o'r taliad sylfaenol yn syth i'r cynllun newydd. Felly, byddaf yn defnyddio Taliadau Gwledig Cymru, sy'n llwyddiannus iawn fel y gwyddoch—ni yw'r gorau yn y DU—a byddaf yn defnyddio'r grŵp hwnnw i sicrhau bod y cynllun yn gywir gennym o'r dechrau.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi cael llawer o gysylltiad yn ddiweddar ag ymgyrchwyr lles anifeiliaid sy'n pryderu am stynio anifeiliaid cyn eu lladd a defodau lladd anifeiliaid, yn benodol. Ac maent wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod lladd heb stynio bellach wedi'i wahardd yn Nenmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd, fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn well o safbwynt lles, a bod datblygiadau methodolegol diweddar mewn electro-enseffalogramau yn ein galluogi i asesu'r profiad o boen yn fwy uniongyrchol nag erioed o'r blaen, ac mewn perthynas â lloi sy'n cael eu lladd drwy doriad fentrol i'r gwddf, mae'n debyg ei bod bellach yn gwbl glir y gellid dweud bod hyn yn boenus yn y cyfnod rhwng torri'r gwddf a cholli ymwybyddiaeth. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych eto—yn unol â safbwyntiau Cymdeithas Milfeddygon Prydain a'r RSPCA, a llawer o sefydliadau eraill sy'n ymwneud â lles anifeiliaid, mai'r unig ffordd o gadw at y safonau uchaf o ran lles anifeiliaid mewn lladd-dai yng Nghymru yw drwy sicrhau bod pob anifail yn cael eu stynio cyn eu lladd am ba reswm bynnag?

Mae hon yn sicr yn drafodaeth a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ychydig wythnosau yn ôl, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth a gefais ganddynt yn fanwl.

13:50

Da iawn. Wel, rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, a chredaf ei fod yn gadarnhaol iawn. Pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu peidio â newid y gyfraith yn hyn o beth, a wnaiff ystyried cynnig amgen, a wnaed hefyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain? Dywedant eu bod yn cydnabod, er bod stynio cyn lladd yn well o safbwynt lles, pe bai lladd heb stynio yn parhau i gael ei ganiatáu, y byddai stynio ar ôl torri yn ddull dilys o leihau dioddefaint anifeiliaid wrth eu lladd. A chredaf y byddai stynio ar ôl torri yn bodloni'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiad gan grwpiau crefyddol.

Wel, fel y dywedaf, rwy'n aros i swyddogion roi cyngor i mi ar ôl y drafodaeth gychwynnol a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, felly, nid wyf am lunio'r polisi yn y fan a'r lle yn awr, ond mae'n amlwg yn broses barhaus i mi.

Ni fyddai llunio polisi yn y fan a'r lle yn briodol, hyd yn oed i lefarydd amaethyddiaeth, rwy'n siŵr. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd enfawr wedi bod yn nhwf y farchnad cig halal yn enwedig. Nid Mwslimiaid sy'n bwyta llawer o'r bwyd hwn, ac mae wedi mynd i mewn i siopau tecawê prif ffrwd a siopau bwyd brys hefyd. Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu bwyta bwyd o'r fath am ba reswm bynnag ar sail lles anifeiliaid. A fyddai'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta, ac felly, y dylai'r rheini sy'n pryderu am yr ystyriaethau lles anifeiliaid a grybwyllais allu gwneud dewis gwybodus mewn amgylchiadau o'r fath? A wnaiff hi ymrwymo i flaenoriaethu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o ladd at ddibenion crefyddol a lladd heb stynio, nid yn unig drwy labelu cynnyrch mewn archfarchnadoedd ond mewn bwytai a siopau tecawê hefyd?

Rwy'n cytuno'n llwyr—mae'n bwysig iawn fod pobl yn gwybod beth y maent yn ei fwyta, a chredaf, yn sicr mewn perthynas â bwytai, nad yw defnyddwyr yn ymwybodol o'r pethau hyn. Roeddwn mewn bwyty lle y sylwais, wedi i mi ddod allan, ar arwydd bach iawn ar waelod y drws a ddywedai fod yr holl gig yn gig halal. Nawr, credaf y dylai fod yn llawer mwy gweladwy, fel rydym wedi'i wneud gyda safonau hylendid bwyd, er enghraifft. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta.

Tlodi Tanwydd

3. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â lleihau tlodi tanwydd ar draws Gorllewin De Cymru? OAQ52504

Diolch. Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud cynnydd da, gan leihau nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd chwe phwynt canran ledled Cymru rhwng 2012 a 2016. Ers 2012, rydym wedi buddsoddi dros £25 miliwn ar osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm isel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi bod yn digwydd ar leihau tlodi tanwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd i insiwleiddio tai yn benodol. Ond wrth gwrs, ceir problem gyda hynny. Mae llawer o fy etholwyr wedi wynebu heriau inswleiddio waliau ceudod. Maent wedi mynd drwy'r rhaglenni, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda busnesau'n dod i mewn, yn gwerthu eu cynnyrch, yn gwneud y gwaith yn y bôn, ac yna gwelant fod ganddynt broblemau yn nes ymlaen. Ac wrth gwrs, dylai CIGA, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, ddiogelu rhag yr holl broblemau hyn. Pa un a ydych yn byw yn Llansawel, Port Talbot, Cymer, Croeserw, Gwynfi—ni waeth ymhle, ceir problemau gyda CIGA. Rwyf wedi tynnu eich sylw at hyn eisoes. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod CIGA yn cyflawni eu rhwymedigaethau ac yn darparu gwarantau i'r bobl hynny?

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod—fel y dywedwch, rydych wedi codi hyn gyda mi sawl gwaith mewn gohebiaeth a chawsom ddadl dda iawn yn y Siambr, ddiwedd y llynedd, rwy'n credu, ynghylch y mater hwn—fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn gorff annibynnol. Maent yn darparu gwarantau 25 mlynedd ar gyfer deunydd inswleiddio waliau ceudod a osodir gan osodwyr cofrestredig yn y DU ac Ynysoedd y Sianel. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr holl osodwyr yn cael eu hasesu i sicrhau eu cymhwysedd ac mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau technegol ar gyfer y deunydd a ddefnyddir a'r canllawiau arferion gorau. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan fy mod yn ymwybodol o'r pryderon a fu, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn gallu cael mynediad at y cyngor gorau ac yn eu dwyn i gyfrif, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl ym mis Mai, gofynnais i chi a oedd cynlluniau fel Arbed a Nyth wedi cyfrannu at nifer y pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres o'r aer sydd wedi'u gosod yng Nghymru, ac a gaf fi ddiolch i chi am ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth ar hynny? Roeddwn yn synnu braidd wrth weld o'ch llythyr, fodd bynnag, mai naw pwmp gwres o'r aer yn unig a osodwyd drwy Nyth yn y chwe blynedd hyd at 2017 yn fy rhanbarth i. Felly, mae hynny dros chwe blynedd—naw yn unig. Ac mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud na fu pympiau gwres o'r ddaear erioed yn fesur a gytunwyd ar gyfer cartrefi o dan Nyth neu Arbed. Os ydych yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yng Nghymru, ac yn amlwg, o ran torri allyriadau carbon, oni ddylai'r ffigurau hyn fod ychydig bach yn uwch bellach?

13:55

Credaf, yn sicr, fod angen inni edrych ar dechnolegau newydd a datblygiadau arloesol newydd yn y dyfodol, ac rydym newydd gwblhau'r broses gaffael ar gyfer cam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd. Bûm gerbron y pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Rebecca Evans, mewn perthynas â gwaith yn y maes hwn, a chredaf y byddai'n dda pe gallem weld cynnydd yn y niferoedd hyn. Byddaf yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth symud ymlaen.

Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â pha drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael â'r Gweinidog tai ynglŷn â cheisio gwneud tai cymdeithasol a thai cyngor yn fwy adnewyddadwy o ran ynni adnewyddadwy. A fyddai modd i chi, er enghraifft, ddweud bod angen i gynghorau gwneud hyn a hyn o waith i wneud eu tai yn fwy cynaliadwy cyn iddyn nhw gael mwy o arian grant gennych chi fel Llywodraeth? Rydym ni'n gwybod bod yna enghreifftiau ar draws Cymru o gynghorau sydd yn gwneud gwaith da yn y ardal yma sydd wedyn yn gallu cael effaith dda ar filiau tenantiaid ar ddiwedd y dydd—bydd yna lai o arian iddyn nhw ei dalu ar eu biliau yn hynny o beth. Felly, pa waith blaengar ydych chi'n ei wneud yn y maes yma? 

Diolch. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â'n targedau datgarboneiddio, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn un maes a fydd o gymorth inni gyflawni ein targedau. Rydych yn llygad eich lle; mae gan rai cynghorau arferion gorau go iawn yn y maes hwn. Ynglŷn ag a ddylem fod yn eu gorfodi i wneud pethau sy'n gwneud tai yn fwy cynaliadwy cyn rhoi grantiau iddynt, ni chredaf ein bod wedi cael trafodaethau penodol ynglŷn â hynny, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i edrych arno gyda hi.

Gwarchod Anifeiliaid Anwes

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd o warchod anifeiliaid anwes? OAQ52499

Diolch. Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi'r grŵp fframwaith a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Amlinellais fy nghynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru yn fy natganiad llafar y mis diwethaf.

Diolch, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eich datganiad llafar. Fel y gwyddoch, yn y datganiad hwnnw fe nodoch chi nad ydych yn bwriadu cyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, ar sail y ffaith nad oes digon o dystiolaeth ar gyfer y DU. Wel, holl bwynt rhoi hyn ar waith oedd creu sylfaen dystiolaeth yn y wlad hon. Gwyddom fod tystiolaeth ryngwladol i gefnogi cofrestr cam-drin anifeiliaid, o edrych ar enghreifftiau o Unol Daleithiau America. A yw'r Llywodraeth yn rhwystro uchelgais, neu a oes rhywbeth arall nad wyf yn ymwybodol ohono? Mae'n anodd iawn i ni wneud asesiad o'ch datganiad heb fod yr adroddiad hwnnw o'n blaenau. Mae'r cloc yn tician ar yr adroddiad y dywedasoch wrthym y byddech yn ei roi inni erbyn diwedd y tymor. Buaswn wrth fy modd yn ei weld, i ddeall eich rhesymeg, gan fy mod yn teimlo, os nad ydych yn ei gyflwyno, bydd yn gyfle a gollwyd, a gallem fod wedi bod yn arweinwyr yn y maes hwn.

Soniais fy mod newydd gael yr adroddiad pan wneuthum y datganiad yn y Siambr fis diwethaf. Rwyf wedi cael cyfle bellach i'w ystyried yn fanwl iawn. Fel y dywedaf, maent yn dweud yn glir iawn na argymhellir datblygu cofrestr ar hyn o bryd. Ceir nifer o gamau gweithredu eraill sy'n haeddu rhagor o waith yn fy marn i, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion—rwyf wedi codi sawl cwestiwn ar yr adroddiad, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno, a byddaf, fel yr addewais, yn sicrhau fy mod yn ei rannu cyn diwedd y tymor, sy'n rhoi wythnos i mi.

Yn y datganiad hwnnw, dywedasoch y dylai pobl feddwl yn ofalus iawn am y cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo pan fyddant yn ystyried cael anifail anwes. Ond rwy'n falch o'ch clywed yn dweud hefyd eich bod yn cydnabod y gall amgylchiadau pobl newid ar fyr rybudd a heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Mae Cats Protection yn nodi cynnydd yn nifer y cathod y maent yn eu derbyn am fod landlordiaid, rai ohonynt, yn gyndyn o ganiatáu cathod, a chartrefi preswyl hefyd yn yr un modd, ac yn y ddau achos, yn aml iawn, cathod hŷn sydd naill ai'n cael eu gadael neu'n cael eu rhoi mewn lloches, yn anffodus, ac wrth gwrs, mae'n anos ailgartrefu cathod hŷn. Gwyddom fod anifeiliaid anwes yn cyfrannu at les corfforol a meddyliol, felly pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda landlordiaid a'r sector cartrefi gofal i weld a ellir cadw pobl a'u hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd? Diolch.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r naill na'r llall o'r sectorau hynny, ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig. Pan soniwch am anifeiliaid hŷn, yn amlwg, os yw rhywun yn mynd i ofal preswyl, mae'n debygol eu bod wedi bod yn berchen ar eu hanifail anwes ers blynyddoedd lawer. Felly, gall beri gofid mawr i'r ddwy ochr. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Byddaf yn sicrhau fy mod yn dechrau cael y sgyrsiau hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod maes o law.

14:00
Cynlluniau Cynhyrchu Ynni

5. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw bae Abertawe, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog a chefnogi cynlluniau cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52490

Mae gan Gymru botensial i greu cryn dipyn o gynlluniau cynhyrchu carbon isel newydd, a allai ddarparu manteision economaidd a chymdeithasol. Mae polisïau a mecanweithiau cymorth Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o gynhyrchu ynni. Rydym yn canolbwyntio bellach ar sicrhau bod Cymru'n elwa yn y tymor hir o unrhyw ddatblygiad pellach.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom bellach fod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad ar sail ffigurau anghywir, a oedd yn tanddatgan gwir fudd a chost morlyn llanw bae Abertawe. Dengys archwiliad a wnaed gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes mai ychydig bach yn ddrytach yn unig a fyddai'r chwe morlyn arfaethedig na Hinkley C. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni hyn, a fyddwch yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn ailwerthuso'r cynnig ar gyfer bae Abertawe?

Gwn fod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi crynodeb o'i hasesiad gwerth am arian, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, rydym yn ei adolygu ar hyn o bryd, a chredaf fod y camau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ein casgliadau yn sgil hynny. Awgrymodd y byddai cost cyfalaf y morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe dair gwaith yn fwy fesul uned o drydan na gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C. Credaf, felly, fod y rhain yn ffigurau y mae angen inni eu harchwilio yn fanwl, ac rwy'n siŵr y bydd gennym safbwynt, ac yna gallwn benderfynu ar ba gamau rydym am eu cymryd.

Ymddengys bod gan Lywodraeth San Steffan bolisi ynni sy'n seiliedig ar ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear. Gan fod prototeipiau yn ddrytach oherwydd eu natur, a bod cap ar gostau storio ynni niwclear yn y dyfodol—ni fyddai gorsaf bŵer niwclear erioed wedi cael ei hadeiladu pe na baent wedi eu capio—nid yw'n deg cymharu'r ddau beth. A esboniodd Llywodraeth San Steffan pam fod y pris ar gyfer ynni niwclear—sydd, fel y gŵyr pob un ohonom, yn dechnoleg sydd dros 60 mlwydd oed—yn dderbyniol, ond nad oedd yr un pris, sef y cynnig terfynol o'r un pris streic ar gyfer morlyn llanw ag ar gyfer Hinkley, yn dderbyniol? A yw Llywodraeth San Steffan wedi esbonio pam fod un yn dderbyniol ac nid y llall, pan fo un yn brototeip a'r llall yn dechnoleg 60 mlwydd oed gyda chost derfynol wedi'i chapio?

Nac ydynt, a chredaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwyf newydd grybwyll, yn fy ateb i Caroline Jones, ein bod yn edrych ar y crynodeb o'r asesiad gwerth am arian ar hyn o bryd. Credaf eich bod yn llygad eich lle; ymddengys bod eu polisi ond yn canolbwyntio ar ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear yn unig. Wrth gwrs, nid yw ynni niwclear, er ei fod yn garbon isel, yn ynni adnewyddadwy o gwbl. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Claire Perry, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, ynglŷn â hyn, ac ynglŷn â'r angen i annog mwy o ynni gwynt ar y tir, ac yn sicr ynni'r haul, hefyd. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Greg Clark yn dilyn y penderfyniad ynghylch pwysigrwydd sicrhau ein bod yn defnyddio ac yn cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy eraill.

Mae Caroline Jones a Mike Hedges wedi gwneud pwyntiau dilys a phwysig iawn mewn perthynas â morlyn llanw Abertawe, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan yn glir ein bod yn gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer y prosiect hwnnw. Rwy'n derbyn bod hyn yn siom, ond yn sicr, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd amgen yn y dyfodol o fwrw ymlaen â'r prosiect.

Wrth gwrs, mae cynlluniau llai yn mynd rhagddynt ledled Cymru hefyd. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r Prosiect Gwyrdd yn fy etholaeth—gobeithio fy mod yn ei ynganu'n iawn—sef cydweithrediad rhwng y pum cyngor yn ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys sir Fynwy, sy'n ceisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf costeffeithiol ac ecogyfeillgar o ymdrin â gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu neu ei gompostio, ond y gellir ei losgi i gynhyrchu ager a darparu ynni. A fyddech yn cytuno â mi fod hon yn enghraifft wych o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd yn ffordd wych o ymdrin â gwastraff na ellir ei drin mewn ffordd ecogyfeillgar? Beth rydych yn ei wneud i ymestyn y mathau hyn o brosiectau, a'u rhoi ar waith ledled gweddill Cymru?

Ydw, rwy'n cytuno â chi. Mae'n dda gweld cydweithredu ar y raddfa honno rhwng y pum awdurdod lleol. Mae'n bwysig iawn fod gennym gymysgedd o ynni, ac yn sicr, prosiectau ynni cymunedol. Rwyf wedi gweld rhai aruthrol ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod hefyd—credaf ei bod yn eich etholaeth chi; mae'n sicr o dan gyngor sir Fynwy—am y fferm solar fawr sydd ganddynt yno. Cawsom fenthyg oddeutu £4 miliwn, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru. Felly, credaf ei bod yn wych gweld awdurdodau lleol yn cydweithredu, gan ddatblygu technolegau arloesol i'n cynorthwyo, unwaith eto, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein targedau carbon.

14:05
Is-ddeddfwriaeth

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynnig i gyfuno ac adolygu is-ddeddfwriaeth dosbarthiadau defnydd a datblygu cyffredinol a ganiateir? OAQ52507

Diolch. Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei lywio gan ymchwil, yn cynnig diweddaru'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, yn enwedig at ddefnydd manwerthu. Mae'n cynnwys newidiadau ategol i hawliau datblygu a ganiateir ac yn argymell hawliau newydd i gefnogi'r broses o gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydan, rhwydweithiau telathrebu'r genhedlaeth nesaf a datblygu ynni adnewyddadwy, heb fod angen cais cynllunio.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol mai Gwynedd ydy'r ardal efo'r mwyaf o ail gartrefi ym Mhrydain, tua 5,000 i gyd. O ganlyniad, mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, gan achosi argyfwng mewn nifer o gymunedau. Gan fod Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ddiwygio is-ddeddfwriaeth cynllunio, sy'n cynnwys y rheolau yn ymwneud â dosbarthiadau defnydd, a'r gofynion ar gyfer newid defnydd, a fyddwch chi'n fodlon edrych ar y mater o ddefnyddio'r drefn gynllunio i geisio rheoli ychydig ar y farchnad tai haf? Wrth lunio'r cynigion drafft, a wnaethoch chi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno gofyniad a fyddai'n golygu bod angen caniatâd cynllunio cyn i dai annedd gael eu defnyddio neu eu trosi yn ail gartrefi? A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hyn ac i weithredu ar hynny wrth lunio'ch cynigion terfynol, fel ffordd o reoli prisiau'r farchnad dai? Diolch.

Diolch. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi darparu dull amgen o fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi. Fe fyddwch yn gwybod am Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rydym wedi darparu pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â phremiymau'r dreth gyngor, er enghraifft. Mae angen inni fod yn ystyriol iawn hefyd—o gofio eich cwestiwn—mae angen inni fod yn ystyriol iawn, yn fy marn i, o ganlyniadau ariannol anfwriadol yn sgil cyflwyno dosbarth defnydd newydd. Ni fuaswn yn dymuno cynyddu gwerth presennol ail gartrefi gan leihau gwerth cartrefi nad ydynt yn ail gartrefi, gan y credaf y byddai hwnnw'n ganlyniad anfwriadol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi groesawu'r rhan honno o'r ymgynghoriad sy'n cynnig ailstrwythuro'r system dosbarth defnydd i ddarparu mwy o amddiffyniadau i dafarndai mewn ffordd debyg i'r hyn a wneir yn Lloegr? Rydym wedi colli oddeutu 17 y cant o'n tafarndai ers y flwyddyn 2000. Yn Lloegr, ceir amddiffyniadau pellach yn y system gynllunio lle rhoddir saib ar y broses o gael gwared ar asedau sydd o werth i'r gymuned, cynllun sy'n fwy adnabyddus fel hawl y gymuned i brynu. A ydych o'r farn y dylid cyflwyno system debyg yng Nghymru fel rhan o'r cynllun hwn?

Mae David Melding yn nodi bod yr ymgynghoriad yn cynnig newidiadau deddfwriaethol i helpu i atal newid defnydd neu ddymchwel tafarn heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Yn sicr, pan ddaw'r ymgynghoriad i ben—rwyf wedi ymestyn yr ymgynghoriad am oddeutu pum wythnos, rwy'n credu—gallwn weld a fydd cynigion o'r fath yn cael eu cyflwyno.

Cefnogi Ffermwyr

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi ffermwyr yng ngorllewin Cymru? OAQ52476

Diolch. Mae'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' ar agor tan 30 Hydref. Mae'n cynnwys cynigion i alluogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i addasu o'r trefniadau presennol i'r trefniadau newydd, ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt. Anogaf bawb sy'n dibynnu ar y Gymru wledig ar gyfer eu busnes neu eu lles i gymryd rhan.

Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwyr yn fy etholaeth sy'n dal i deimlo'n rhwystredig ac yn ddig oherwydd, er eu bod o dan fwy o fesurau a chyfyngiadau nag erioed o'r blaen, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael go iawn â TB buchol mewn dull cyfannol o hyd. O ystyried eu pryderon, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion dros y 12 mis nesaf ar fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt yn ogystal â mewn gwartheg? A allwch gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau digonol i'r maes hwn i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau?

Gallaf ddweud yn sicr fod digon o adnoddau i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau. Rydym bellach naw mis i mewn i'n rhaglen i ddileu TB ar ei newydd wedd. Fe'i lansiwyd gennyf ym mis Hydref y llynedd. Credaf ein bod yn gwneud cynnydd, ond rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym yr ystadegau clefyd mwyaf ystyrlon fel y gallaf roi darlun cyflawn o'r clefyd. Byddaf yn gwneud datganiad ar gynnydd y rhaglen honno. Rwyf am gael blwyddyn gyflawn. Dywedais y buaswn yn gwneud datganiad blynyddol, ac rwyf am gael blwyddyn gyflawn, felly byddaf yn defnyddio rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr eleni fel blwyddyn gyflawn. Felly, byddaf yn rhoi datganiad yn gynnar y flwyddyn nesaf mewn perthynas â hynny. Ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol.

14:10

Mae'n amlwg o fynd o gwmpas cefn gwlad Cymru ar hyn o bryd pa mor sych yw'r ddaear; mae pethau'n hesb iawn. Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi'n barod i ryddhau rhai o ymrwymiadau Glastir er mwyn cynorthwyo ffermwyr i ddelio gyda'r tywydd yma. Pe bai'r tywydd yn parhau—a dyma'r cyfle olaf, wrth gwrs, i chi gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf—pe bai'r tywydd yn parhau a bod diffyg dŵr a diffyg glaw, a oes yna gamau pellach y medrwch chi eu cymryd i wneud yn siŵr nad yw unrhyw reolau biwrocrataidd yn rhwystro ffermwyr rhag gwneud y peth iawn ar gyfer y ddaear, ac ar gyfer unrhyw anifeiliaid yn ogystal? A wnewch chi fod mor hyblyg ag sy'n bosibl, yn wyneb y ffaith ein bod ni o bosibl yn mynd i gael haf arbennig o sych?

Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi llacio'r rheoliadau. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn gwneud hynny. Yr wythnos hon, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar ba brotocol sydd gennym ar waith mewn perthynas â dŵr. Yn sicr, byddaf mor hyblyg ag y gallaf fod, gan na wyddom am faint yn rhagor—er ei bod yn edrych yn dywyll iawn yn gynharach, a gwn fod llawer o bobl yn gweddïo am law—ond yn sicr, fy mwriad yw bod mor hyblyg ag y gallaf fod.

Cynhyrchu Ynni

8. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cynigion amgen ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52489

Diolch. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau'n cyfarfod yn aml â Gweinidogion y DU a Gweinidogion eraill, datblygwyr a rheoleiddwyr i drafod cyfleoedd ynni. Yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod o Weinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar ynni yng Nghaeredin, lle y cefais drafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidogion o'r wyth gweinyddiaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen cymysgedd go iawn o ddulliau cynhyrchu ynni ar Gymru os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni. Un o'r heriau mwyaf ar gyfer ynni adnewyddadwy yw natur anrhagweladwy cynhyrchiant. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi cynhyrchu mwy o lawer o ynni solar nag sydd ei angen, ac o ganlyniad, mae wedi'i wastraffu. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o storio ynni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy o ymchwil i ddal a storio ynni, ac a ydych wedi ystyried gweithio gyda chwmnïau fel Tesla, sydd ar y blaen yn y math hwn o ymchwil?

Nid wyf yn siŵr sut y mae'n cael ei wastraffu; hoffwn glywed pam y cred Caroline Jones ei fod yn cael ei wastraffu. Yn sicr, mae dal a storio ynni yn bwysig iawn, ac rydym yn gwneud cryn dipyn o waith ymchwil yn y maes hwn, oherwydd rydych yn llygad eich lle; mae arnom angen cymysgedd gwirioneddol o bob math o ynni adnewyddadwy, ac mae storio, yn enwedig, yn dod yn bwysig iawn wrth symud ymlaen.

Ychydig wythnosau'n ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch chi dargedau interim yn y ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru, ac fe ddywedoch y byddech yn ymgynghori ar gynllun gweithredu i'w cyflawni ym mis Gorffennaf. A allwch ddweud rhagor am y cynllun gweithredu hwn, a rôl ynni adnewyddadwy yn ei gyflawni?

Gallaf, yn sicr. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio yfory. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad, ac mae'n cynnwys camau gweithredu hyd at 2030 i alluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn natblygiad ein gweithredoedd. Ac yn sicr, os ydym am gyrraedd ein targed ar gyfer 2050, mae angen inni gymryd rhai camau gweithredu hirdymor iawn. Mae gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth inni gyflawni ein targed datgarboneiddio, a dyna pam y gosodais y targedau uchelgeisiol iawn hynny ar gyfer cynhyrchu ynni. Fodd bynnag, mae angen inni gymryd camau ym mhob sector, ac o ystyried pwysigrwydd datgarboneiddio a maint yr her sy'n ein hwynebu, cytunodd y Cabinet ddoe y byddem yn ychwanegu datgarboneiddio fel chweched maes blaenoriaeth yn y gwaith trawslywodraethol ar 'Ffyniant i Bawb'.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y caf fynd â chi'n ôl at fôr-lynnoedd fel rhan o'r cymysgedd hwnnw. Gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe a yw'r £200 miliwn hwnnw y mae pawb ohonom wedi bod yn sôn amdano wedi'i glustnodi'n bendant ar gyfer ynni môr-lynnoedd ac ynni morol. Ni wnaeth ateb. Rwy'n deall o'ch atebion heddiw fod £200 miliwn i'w gael yno. O gofio eich bod eisoes wedi nodi y gallai rhywfaint o'r arian hwnnw fynd at bethau eraill, a allwch ddweud wrthyf faint y byddech yn barod i'w ymrwymo i Abertawe, o gofio ein bod eisoes wedi cael y caniatâd cynllunio, cefnogaeth y cyhoedd, ac wrth gwrs, set gyfan o fanteision ategol, gyda llawer ohonynt yn feysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli, ac felly dylai Llywodraeth Cymru fod yn talu amdanynt, neu a ydych yn holi ynglŷn â—? A gaf i ofyn i chi a oes arian ychwanegol i ehangu'r holl syniad o gymysgedd o ddulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy?

14:15

Mae'n debyg mai'r ateb byr yw: mae arian ar gael bob amser ar gyfer prosiectau da iawn. O ran y £200 miliwn a grybwyllais mewn ateb cynharach i gyd-Aelod—rwy'n cael trafodaethau, trafodaethau cynnar iawn, ynghylch hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Gwneuthum achos dros hynny, wrth gwrs—byddech yn disgwyl i mi wneud hynny wrth eistedd o gwmpas bwrdd y Cabinet. Ond byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ynni yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn fy marn i, mae'n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ba dechnolegau sy'n cael eu cyflwyno yno a pha brosiectau sy'n cael eu cyflwyno yno, dyna pryd y caiff y penderfyniadau eu gwneud, ac unwaith eto, rwy'n pwysleisio: oni bai bod gan Lywodraeth y DU strategaeth ar gyfer môr-lynnoedd llanw, mae'n hynod o anodd gweld sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Gwn fod galwadau wedi bod ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hynny—ni allwn wneud hynny. Credaf fod Llywodraeth y DU wedi gwneud tro gwael iawn â ni yn hyn o beth.

Llygredd Aer ym Mhort Talbot

9. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran mynd i'r afael â llygredd aer ym Mhort Talbot o fewn etholaeth Aberafan? OAQ52493

Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar aer glân ar gyfer Port Talbot yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael yn ymarferol ag ansawdd aer gwael yn y rhanbarth. Rwyf wedi comisiynu adolygiad gan gymheiriaid o gynnydd yn erbyn y cynllun hwn, ein dull, a'r dystiolaeth sy'n sail iddo, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Byddaf yn cyfarfod â Tata Steel, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot cyn bo hir i gynorthwyo'r broses hon.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid wyf am siarad am yr estyniad 50 mya, sy'n achosi anhrefn, ond rwyf am siarad am Tata Steel a'r materion sy'n ymwneud â hynny. Mae pob un ohonom yn deall bod diwydiant trwm yn arwain at ryw fath o lygredd, ond mae llawer iawn o etholwyr wedi mynegi pryderon aruthrol ynglŷn â'r lefelau llwch rydym wedi'u cael ym Mhort Talbot dros y misoedd diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod y tywydd cynnes yn ffactor sydd wedi cyfrannu, rydym yn deall hynny, ond mae hyn wedi mynd y tu hwnt i hynny, cyn i hynny ddigwydd. A beth y mae'n ei wneud? Oherwydd mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb am fonitro a gweithredu i sicrhau bod ansawdd yr aer a ddaw o'r gwaith yn gwella. A allwch roi sicrwydd i mi eu bod yn gwneud y gwaith hwnnw gan fod trigolion yn mynd allan, nid bob dydd, ond bob awr yn y bôn i lanhau eu byrddau a'u ceir a siliau ffenestri oherwydd y llwch o'r gwaith?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ymrwymiad cyson i'r mater hwn ar ran ei etholaeth. Fe sonioch chi ynglŷn â sut y cafwyd achosion yn ddiweddar, gyda'r tywydd cynnes a sych, o lawer iawn o lwch yn effeithio ar drigolion lleol. Rwy'n deall y pryder a'r rhwystredigaeth y byddai hynny'n ei achosi i drigolion lleol yn llwyr. Rwy'n deall bod—. Rydych yn llygad eich lle mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n parhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio hyn. Deallaf eu bod yn cyfarfod â Tata heddiw i drafod y problemau diweddar, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â hwy i sicrhau bod canlyniad y trafodaethau hyn yn fy nghyrraedd yn syth.

Rwy'n mynd i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl randdeiliaid eraill i adolygu gweithgarwch cyfredol, llwch—[Anghlywadwy.]—a'r effaith ar y gymuned leol. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelod, ac rwyf wedi dweud yn glir mai fy nod yw gostwng lefelau llygredd aer, ond fel rydych chi ac eraill yn cydnabod, mae'n sefyllfa gymhleth ac unigryw iawn, sydd yn peri llawer o heriau, ond nid yw hynny'n golygu na allwn fynd i'r afael â'r heriau hynny. Mae'n bwysig sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng cydnabod rôl y gwaith dur o ran bod yn angor economaidd o fewn y gymuned leol a sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau iawn ar gyfer iechyd a lles trigolion lleol hefyd.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Felly, mae'r cwestiynau nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

Grantiau i Wasanaethau Cyhoeddus

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52498

Member
Alun Davies 14:19:08
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod o gynlluniau grant i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb cryno iawn. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru i gyfuno nifer o ffrydiau a ariennir gan grantiau i greu un grant—y grant ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi—yn diddymu'r diogelwch a glustnodir ar gyfer nifer o ffrydiau fel Cefnogi Pobl, grant refeniw Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Nawr, yn fy rhanbarth i, gallai hyn gael effaith andwyol ar fenter o'r enw partneriaeth Teulu, sy'n hynod o boblogaidd, ac sydd wedi darparu cymorth hanfodol i blant ar adegau anodd iawn. Mae rhai o fy etholwyr wedi dweud wrthyf na fyddent wedi gallu ymdopi â phrofiadau anodd iawn oni bai am y cymorth a gawsant gan bartneriaeth Teulu. Nawr, rwy'n deall bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â dyfodol y grant hwn, a bod cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd unrhyw drefniadau newydd yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan bartneriaeth Teulu yn parhau.

A ydych yn credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod cynlluniau llwyddiannus yn cael eu parhau mewn unrhyw drefniant cyllid newydd, a'n bod yn cynnal arferion gorau? Nid oes angen inni ailddyfeisio'r olwyn drwy'r amser, ac yn sicr, pan fydd ein hetholwyr yn dweud wrthych fod rhywbeth yn gweithio, dylid ei gynnal.

14:20

A gaf fi ddweud wrth ateb y cwestiwn, Lywydd, os oes gan Aelodau unrhyw faterion penodol ynghylch ffrydiau ariannu penodol a grwpiau penodol yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, rydym bob amser yn fwy na pharod i fynd i'r afael â'r problemau arbennig hynny a'r materion penodol hynny, ni a'r awdurdodau lleol perthnasol?

O ran y grant integredig newydd, rwy'n dweud wrth yr Aelod y bydd yn dal i gael ei glustnodi i ganolbwyntio ar y grwpiau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rydym yn ystyried sut y datblygwn ein dull o fonitro canlyniadau ymhellach er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y canlyniadau y mae'r Aelod wedi'u disgrifio, ac mae'r Aelod yn iawn i'w hofni; rwy'n derbyn bod pryder ynglŷn â hynny. Ond mae hefyd yn bwysig—a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn ystyried hyn hefyd—ein bod yn integreiddio grantiau sy'n canolbwyntio fel ei gilydd ar yr angen i ymyrryd yn gynnar ac sy'n cynorthwyo unigolion ac aelwydydd i fyw'n annibynnol a chyflawni eu potensial.

Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno nad yw bywydau pobl a'r heriau y maent yn eu hwynebu yn cyd-fynd yn daclus â'r strwythurau y gallwn eu hadeiladu weithiau o amgylch cynlluniau grant, ac felly credaf mai integreiddio yw'r ffordd gywir o fwrw ymlaen. Ond yn amlwg, mae'n rhaid inni wneud hynny gan gynnal gwasanaethau i grwpiau agored i niwed yn y gymdeithas. Diben hyn yw gwella pethau, nid achosi'r anawsterau y mae'n eu disgrifio.

Gall gwres yr haf fod yr un mor beryglus ag oerfel y gaeaf i bobl ddigartref. Mae gorludded gwres, diffyg hylif, llosg haul a glanweithdra yn dod yn broblemau difrifol i'r nifer gynyddol o bobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd fy sylw at stori Luke dros y penwythnos. Roedd Luke mor daer am ddŵr, fel y bu'n rhaid iddo yfed o doiledau. Ar ein strydoedd ni, yn ein gwlad ni, o dan eich Llywodraeth chi, mae pobl heb obaith yn cael eu gorfodi i ddioddef diffyg urddas sy'n annynol. Heddiw, mae elusen Wallich wedi galw am weithredu ar frys. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ganolog weithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i weithredu ar frys i helpu'r bobl druenus hyn.

Mae dŵr ac eli haul yn flaenoriaeth arbennig i bobl ddigartref yn yr amgylchiadau hyn, felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa fesurau brys y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ddigartref ymdopi yn y tywydd hwn?

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi gweld rhai o'r adroddiadau hyn fy hun, ac nad yw fy nghasgliad yn annhebyg i'ch un chi? Credaf ei bod yn ofnadwy fod pobl yn yr oes sydd ohoni yn gorfod gwneud y pethau hyn er mwyn cynnal eu hunain. Credaf y bydd pawb yn cytuno â'ch casgliadau ar hynny ac yn awyddus i gytuno â chi o ran eich ymagwedd tuag at hynny. Darllenais yr un adroddiad â chi heddiw, ac mae'n arswydus fod pobl yn y wlad hon yn byw yn y ffordd honno.

Mae'r Gweinidog tai yn ei lle ar gyfer y sesiwn holi hon. Mae wedi clywed yr hyn a ddywedoch, a bydd yn ymateb i chi. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymroddedig i ddatrys problemau digartrefedd—fel y dywedwch, yn yr haf ac yn y gaeaf—ledled y wlad, a bydd ein hadnoddau bob amser yn cael eu blaenoriaethu i ddiwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae'r Gweinidog mor ymrwymedig â minnau i hynny.

Pobl Ddigartref

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl ddigartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52495

Mae'r pum awdurdod lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd i 2,907 o aelwydydd ac wedi atal digartrefedd yn llwyddiannus i 2,421 o aelwydydd ers cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014. Rydym wedi darparu dros £900,000 yn uniongyrchol i'r awdurdodau lleol hyn y llynedd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn ychwanegol at y grant cynnal refeniw.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb llawn gwybodaeth. Yn anffodus, mae digartrefedd yng Nghymru wedi bod yn codi'n ddiweddar. Yn 2016-17, y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan oedd 82 o bobl fesul 10,000 o aelwydydd. Mae hynny'n uwch na'r 52 yn y flwyddyn flaenorol, er y gellir esbonio peth o'r cynnydd hwnnw drwy ddulliau casglu data gwell. Serch hynny, mae'n duedd sy'n peri pryder, a chlywodd pob un ohonom yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eiliad yn ôl, ac roeddwn yn credu ei fod yn ymateb teimladwy i arweinydd Plaid Cymru. Mae ffigurau sir Gaerfyrddin yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol—dynodwyd bod ymhell dros 100 o bobl fesul 10,000 yn ddigartref.

Rwy'n awyddus i ofyn heddiw am un agwedd ar hyn, sef y gyfran o bobl ddigartref sy'n gyn-filwyr. Dywed cyn-filwr a fu ar ddyletswydd yng Ngogledd Iwerddon a phrif weithredwr Veterans Association UK fod 13,000 o gyn-filwyr yn ddigartref yn y DU, ond gallai'r ffigur fod yn uwch. Ni wyddom beth yw'r ffigurau ar gyfer Cymru, ond mae'n deg tybio y bydd nifer eithaf uchel o gyn-filwyr, pobl a fu'n aelodau o'r lluoedd arfog, yn cysgu ar y stryd ac yn ddigartref.

Roedd Carl Sargeant yn ffrind da i'r cyn-filwyr ac roedd yn gyfrifol am welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer cyn-filwyr digartref yn arbennig, a thybed felly, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy'n rhannu pryderon Carl, rwy'n gwybod, a chi'n benodol, Weinidog, yn ystyried mynd ymhellach na'r cod canllawiau a gyhoeddwyd yn 2016 a rhoi blaenoriaeth tai cymdeithasol i gyn-filwyr a'r rhai sy'n dychwelyd o wasanaeth gweithredol fel cam tuag at sicrhau bod personél y lluoedd arfog yn cael y gwasanaeth ôl-ofal y maent yn ei haeddu.

14:25

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r duedd ar i fyny mewn digartrefedd sy'n peri cryn bryder, yn enwedig cysgu ar y stryd. Ond credaf y gallwn fod yn falch o'n record mewn perthynas ag atal. Rhoddais rai o'r ffigurau i chi ynghylch y miloedd o bobl sydd wedi elwa o gamau i atal a lleihau digartrefedd yn eich rhanbarth, ac mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan bellach yn 14,000 o deuluoedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gwn fod gwledydd eraill yn edrych ar ein deddfwriaeth yn ofalus iawn i weld beth y gallant ei ddysgu gennym. Serch hynny, cyhyd ag y ceir digartrefedd, a chyhyd ag y bo pobl yn cysgu ar y strydoedd, mae'n amlwg fod angen inni wneud mwy o waith mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol a chyda'n partneriaid eraill.

O ran cymorth ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog ac ar gyfer cyn-filwyr, gwn fod y llwybr tai wedi bod ar waith ac wedi cael ychydig o lwyddiant, ond rwyf hefyd wedi cael trafodaethau yn ddiweddar â chynrychiolwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol o ran beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl sy'n gyn-filwyr a hefyd i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd hefyd, gan eu bod yn aml mewn sefyllfaoedd anodd mewn perthynas â thai, ac o bosibl yn wynebu digartrefedd pan fydd cyplau'n cael ysgariad ac ati. Felly, mae'n ddarlun cymhleth, ond mae'n un rydym yn mynd i'r afael ag ef ac rydym yn awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr.

Weinidog, hoffwn gael gwell dealltwriaeth o sut y mae awdurdodau lleol yn mesur ac yn coladu'r rhesymau dros ddigartrefedd. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, mae gennym nifer sylweddol o breswylwyr cartrefi mewn parciau sydd, drwy newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o dan fygythiad o fod yn ddigartref. Nawr, mewn ymateb i lythyr gennyf, fe ddywedoch eich bod eisoes wedi gofyn i'ch swyddogion gysylltu â Chyngor Sir Penfro i siarad am eu hanghenion posibl pe baent yn dod yn ddigartref. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith eu bod yn bobl oedrannus iawn, maent yn agored iawn i niwed, maent wedi gwario eu holl gynilion ar gartref mewn parc, ac mae'r ffaith eu bod yn wynebu hyn ar yr adeg hon yn eu bywydau yn gwbl warthus.

Tybed pa gamau pellach y gallwch eu rhoi ar waith ar hyn. Gwn eich bod yn gwneud y pwynt, yn eich llythyr ataf, fod gan berchnogion cartrefi mewn parciau hyd at 2019 i ddechrau gwneud addasiadau bach, ond mae rhai o'r cartrefi hyn mewn sefyllfa fregus iawn. Efallai mai sir Benfro yw'r lle cyntaf lle mae'r mater hwn wedi dod i'r amlwg, ond rwy'n bryderus y gall fod cartrefi eraill mewn parciau ledled Cymru sydd ar ymyl clogwyn o ran eu gallu i barhau. Ac os nad ydym yn ofalus, bydd rhan agored iawn i niwed o'n cymdeithas yn ddigartref heb fawr o rybudd ar adeg yn eu bywydau pan fyddant yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hynny. Credaf fod angen inni fabwysiadu ymateb mwy rhagweithiol o ran sut rydym yn ymdrin â chanlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth ar waith eto; bydd yn amodol ar bleidlais y Cynulliad cyfan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, roedd yr ymagwedd y ceisiais ei mabwysiadu yn ymagwedd bragmatig, wrth geisio bod yn deg â pherchnogion cartrefi mewn parciau yn ogystal â phreswylwyr cartrefi mewn parciau. Gwn fod y Blaid Geidwadol wedi galw am gael gwared ar ffioedd cartrefi mewn parciau yn gyfan gwbl, a fyddai wedi cael effaith wahanol iawn, yn fy marn i, ar gartrefi mewn parciau.

Mae'r hyn y gallaf ei ddweud ar y mater hwn ar hyn o bryd yn gyfyngedig, gan y deallaf fod bwriad posibl i ddwyn achosion llys. Felly, mae'n debyg mai dyna'r oll a ddywedaf ar y mater heddiw, ac os gallaf ddweud mwy, byddaf yn ysgrifennu atoch.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.

Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cafwyd nifer o geisiadau cynllunio llwyddiannus ar gyfer llety myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae rhai pobl wedi sylwi bod bron bob bloc mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng nghanol Caerdydd yn y 18 mis diwethaf wedi bod ar gyfer llety myfyrwyr. Ar yr un pryd, mae gennym ail floc myfyrwyr fel y'i gelwir yn ystyried gwneud cais am newid defnydd fel y gellir rhentu'r ystafelloedd i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, o ganlyniad i ddiffyg galw gan y myfyrwyr. Mae gennym hefyd floc mawr yng Nghasnewydd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig mwyach. Os oes diffyg galw am y blociau sydd eisoes wedi'u hadeiladu, pam fod mwy o flociau myfyrwyr yn cael eu hadeiladu, tybed. A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn, a beth rydych yn ei wneud i reoleiddio'r maes hwn?

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n sicr yn ymwybodol fod nifer fawr o adeiladau llety myfyrwyr o fewn Caerdydd nad ydynt yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr. Mae anhawster penodol o ran newid yr adeiladau llety hynny'n adeiladau llety i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, wrth gwrs, oherwydd fy nealltwriaeth i yw bod y rheoliadau sy'n ymwneud â gwahanol fathau o adeiladau llety yn wahanol, felly mae yna broblem gyda hynny o ran gofod, ac ati. Gwn fod hwn yn fater y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio yn effro iawn iddo hefyd. Ond fy nghyngor i awdurdodau lleol, yn sicr, fyddai iddynt edrych yn agos iawn ar eu dadansoddiad o anghenion tai lleol, a threfnu eu gwaith cynllunio a'u prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â chynllunio yn unol â'r anghenion tai lleol hynny.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n falch eich bod yn ymwybodol o'r mater. Credaf efallai fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae rôl fwy yn y maes hwn, gan nad yw'r awdurdodau lleol o bosibl—yn sicr yng Nghaerdydd a Chasnewydd—yn gwneud digon am y peth. Credaf ei bod yn bosibl y bydd gennym ormod o adeiladau llety myfyrwyr. Yn sicr, rydym yn gwybod na all yr ehangu mewn addysg uwch barhau am byth; ni fydd cyflenwad diddiwedd o niferoedd myfyrwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd, nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl pob tebyg. Credaf efallai fod rhyw fath o sgiâm ar waith yma. Mae'n bosibl fod y prifysgolion yn mynd ati'n fwriadol i greu gorgyflenwad o fflatiau ar gyfer y farchnad myfyrwyr, fel y gallant newid eu defnydd drwy'r drws cefn, a'u defnyddio wedyn i'w rhentu'n fasnachol. Rydym yn gwybod bod rheolau llai llym yn gymwys ar gyfer fflatiau myfyriwr nag ar gyfer datblygiadau masnachol, er enghraifft, ac rydych wedi cyfeirio at hynny yn eich ateb. A ydych yn ymwybodol y gallai prifysgolion fod yn twyllo'r cynghorau lleol i ganiatáu iddynt ddatblygu'r blociau myfyriwr hyn, a bod penaethiaid y prifysgolion yn gwybod yn iawn y byddant yn eu rhentu'n fasnachol wedyn?

Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar brifysgolion ac awdurdodau lleol i gael trafodaethau difrifol ynglŷn â'u hamcanestyniadau o anghenion lleol ar gyfer myfyrwyr a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, ac i gynllunio eu cynlluniau adeiladu newydd a'r hyn sydd ar gael yn lleol fel llety yn y ffordd honno. Nid wyf yn siŵr fod yna rôl i Lywodraeth Cymru o ran pennu'r nifer o adeiladau llety myfyrwyr a ddylai fod ar gael, ond dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud ar sail tystiolaeth a thrwy ddull o weithredu sy'n seiliedig ar anghenion.

Dylent. Rydych yn cyfeirio at yr angen am ddull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n siŵr eich bod yn iawn yn hynny o beth. Ond efallai y bydd goblygiadau o ran eich dyheadau am dai fforddiadwy yng Nghymru, y buoch yn dweud wrthym amdanynt yn y Cynulliad yr wythnos hon. Yn sicr, roeddem yn cytuno bod gennym brinder tai fforddiadwy yma.

Mae datblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, wedi'u rhwymo'n gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw reidrwydd o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr fel y'u gelwir. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r prifysgolion yn ei wneud o bosibl, ac yn ymchwilio i'r arfer, mae perygl eich bod yn caniatáu i'r prifysgolion, a'u partneriaid yn y busnes adeiladu, danseilio eich dyheadau am dai fforddiadwy. Felly, a ydych yn ymwybodol o'r bygythiad hwn? A gofynnaf i chi eto: a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw beth yn ei gylch?

Wel, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio eisoes wedi dweud ei bod yn bwriadu cyhoeddi adolygiad eang o'r rheolau tai a chynllunio yn ystod yr haf. Felly, rwy'n siŵr y bydd hwn yn un o'r materion a fydd yn dod i'r amlwg ac yn cael sylw yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, a bydd yn gyfle i ystyried yr angen am newidiadau yn hynny o beth.

14:35

Iawn. Rwyf am sôn am faterion yn ymwneud â chyffuriau, felly nid wyf yn gwybod a yw hynny—. Ni ofynnwyd i mi os mai Rebecca—.

Un i Vaughan Gething ydyw, ond rwy'n hapus i dderbyn y cwestiwn.

Ie, wel, iawn, fe gawn weld a oes yna waith trawslywodraethol yn digwydd felly. [Chwerthin.]

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â defnyddio cyffuriau, a chamddefnyddio cyffuriau mewn rhai mannau, sydd wedi cyrraedd lefelau dychrynllyd o uchel, ac fe ddangosodd adroddiad yn gynharach eleni fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio heroin wedi cynyddu'n sylweddol ers 1993. Yn ogystal â hyn, mae cynnydd sy'n peri pryder wedi bod mewn troseddau llinellau cyffuriau, gyda gwerthwyr cyffuriau a gangiau yn gynyddol yn targedu cymunedau llai ac yn symud o ddinasoedd mawr yn Lloegr i ddod yma. Gwn ein bod wedi clywed straeon yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n un o'r 10 lle yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau wedi codi fwyaf, ac mae defnydd o gyffuriau eraill, fel spice, hefyd ar gynnydd. Deallaf eich bod yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â hyn, ond roeddwn eisiau deall sut rydych yn gweithio gyda hwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol.

O, chi ydyw. Iawn.

Nid ydych wedi clywed yr ateb eto. [Chwerthin.]

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar y mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion sy'n ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru i drafod y materion a nododd. Maent yn faterion difrifol iawn, wrth gwrs, sy'n effeithio ar bob un o'n lluoedd ar draws y wlad. Felly, rydym yn gweithio gyda hwy. Dros yr haf, rwy'n gobeithio sefydlu strwythurau lle y gallwn ffurfioli'r gwaith a wnawn gyda'r heddluoedd ar hyn o bryd. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, nad yw'r rhain yn faterion datganoledig—nid yw polisi cyffuriau na phlismona wedi'u datganoli. Felly, rydym yn gweithio mewn meysydd lle nad oes gennym reolaeth dros yr agenda polisi, ond yn amlwg mae gennym ddylanwad mawr, gobeithio, yn y ffordd y gellir cyflawni'r gwaith o blismona. Felly, rydym yn ymwybodol o'r broblem. Rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau rydych yn eu disgrifio yng Nghastell-nedd, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweithio gyda heddluoedd i gyflawni'r math o ymateb rydych wedi'i ddisgrifio.

Mae'r cwestiwn nesaf yn ymwneud â'r mater hwn a thai, felly caf weld os gall y ddau ohonoch godi, o bosibl.

I fod yn onest, ni ofynnwyd i mi y tro hwn, fel sy'n arfer digwydd, pa Weinidog roeddwn yn cyfeirio'r cwestiwn ato, felly rwy'n credu mai dyna pam y bu dryswch.

I bwy rydych yn gofyn y cwestiwn? Gwnewch hynny'n glir yn awr, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb. Pa un ydych chi—? Na, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a pheidiwch â fy rhoi yn y sefyllfa hon eto.

Dyma pam fod hwn yn fater a allai fod yn ddryslyd i'r Llywodraeth o ran pwy sy'n ymateb i beth, oherwydd bod yna broblem mewn perthynas â'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyffuriau, a'r broblem o ran tai, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau wedi'i gadarnhau mewn perthynas â'r mater hwn.

Y llynedd, dywedodd Wales Online fod un dyn a oedd yn gaeth i heroin wedi dweud wrthynt ei fod eisiau dychwelyd i'r carchar lle roedd mwy o gymorth ar gael, ac roedd y dyn yn ddigartref, heb fynediad realistig at dai yn y cyflwr roedd ynddo. Ond mae hynny'n golygu ein bod angen y math cywir o dai. A gwyddom am achosion mewn cymunedau yn y Cymoedd, er enghraifft, lle y gall fod rhes o fflatiau, neu res o dai, lle bydd gan yr holl bobl mewn fflat broblemau camddefnyddio cyffuriau, ac os cânt eu rhoi yn yr un sefyllfa, ni fyddant yn gallu goresgyn y ddibyniaeth honno.

Felly, roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chynllun peilot tai yn gyntaf a sut y gallem sicrhau, os ydych am sicrhau y bydd y cynlluniau peilot yn gweithio, fod y rhai sy'n brwydro yn erbyn problemau camddefnyddio cyffuriau yn gallu eu goresgyn os cânt eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn teimlo efallai na allant wneud hynny, os cânt eu rhoi mewn tai nad ydynt yn addas ar eu cyfer.

Rwyf am ddweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: nid y Llywodraeth sydd wedi drysu ar y mater hwn. Serch hynny, mae'r materion a ddisgrifiwyd yn amlwg yn bwysig ac yn effeithio ar nifer fawr o bobl. Rwyf wedi cyfarfod â llywodraethwyr carchardai yng Nghymru i drafod rhai o'r materion y mae'n eu codi o ran effaith camddefnyddio sylweddau ar y rhai sy'n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, a'r driniaeth y maent yn ei chael o fewn y sefydliadau hynny a phan fyddant yn gadael. Credaf fod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae cyfleoedd rhagorol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer byrddau iechyd yn arbennig i ymyrryd, i ddarparu cymorth i bobl sy'n camddefnyddio sylweddau mewn sefydliadau diogel ac yna i sicrhau bod triniaeth ar gael iddynt pan fyddant yn cael eu rhyddhau. Rwy'n derbyn yn llwyr fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ac nid wyf yn credu bod yr amgylchedd polisi a grëwyd gan y Swyddfa Gartref bob amser yn ddefnyddiol iawn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Ond mae'n rhywbeth rydym yn ei drafod ar hyn o bryd gyda'n heddluoedd a'n cyfleusterau carchardai a'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru, ond hefyd gyda'r trydydd sector a gwasanaethau cymorth eraill sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd yn y sefyllfa hon.

14:40

Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud bod llawer o waith i'w wneud, oherwydd rwyf wedi cyfathrebu'n benodol â gweithgor digartrefedd cyngor Abertawe, dan gadeiryddiaeth yr Aelod Cynulliad blaenorol, Peter Black, a ysgrifennodd at y Cynghorydd Andrea Lewis yn ddiweddar, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb, gydag amlinelliad eithaf damniol o sut y mae'r ddinas yn ymdrin â'r broblem, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth. Nododd y gweithgor fod yn rhaid i unrhyw gleient sy'n dymuno cael cymorth yn Abertawe, hunanatgyfeirio at Wasanaeth Asesu Alcohol a Chyffuriau Abertawe yn gyntaf, ar ddydd Llun neu fore Mawrth, ac mae angen gwneud yr oriau atgyfeirio hyn yn fwy hyblyg a'u hymestyn yn ddramatig oherwydd mae'n rhaid i'r cleientiaid nad ydynt yn gallu mynd ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth aros wythnos am gyfle arall. Ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio, bydd yn rhaid iddynt fod ar restr aros am gymaint â chwe mis i gael cymorth ac mae rhestr aros am 12 mis arall i gael cymorth adsefydlu. Does bosib fod ymateb o'r fath yn ddigon da i'r broblem gynyddol hon.

Rwyf wedi gweld y gwaith a wnaeth y gweithgor yn Abertawe, ac nid oes neb i'w weld eisiau cymryd cyfrifoldeb—Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y cyngor nac iechyd. Felly, os ydym am sicrhau bod y bobl hynny'n cael y gefnogaeth y maent ei hangen, sut y gallwn wneud hynny pan fo'r system i'w gweld yn symud mor araf?

A gaf fi ddweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau y mae'r Aelod yn eu disgrifio? A chredaf fod yna broblemau lle mae gennym setliad sy'n aneglur ac wedi torri, ac rwyf wedi gwneud yr achos hwnnw ar sawl achlysur. Nid yw'r ffordd y caiff plismona yn arbennig, a'r gwasanaethau cosbi eu darparu ar hyn o bryd yn rhoi'r ateb gorau i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau, fel y mae'n disgrifio, i bobl ledled Cymru. Rwy'n derbyn hynny, a gobeithiaf y bydd y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhannau eraill o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar yr achos hwnnw.

O ran y gwasanaethau a ddarperir yn ardal Abertawe, yn amlwg, nid wyf yn gyfarwydd â'r materion a godwyd ganddi y prynhawn yma. Ond os yw'n barod i ysgrifennu ataf, rwy'n fodlon codi'r materion hynny a sicrhau ei bod yn cael ymateb yn y modd cyfannol a chynhwysfawr y mae'n disgwyl ei weld, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu ein bod angen ymagwedd lawer mwy cynhwysfawr tuag at gamddefnyddio sylweddau o ran trin pobl, cynnal pobl mewn llety, a lle bo angen, sicrhau bod ganddynt y modd i gael eu trin, a'u trin yn briodol, er mwyn rhoi diwedd ar gamddefnyddio sylweddau, a'u galluogi i symud ymlaen a byw eu bywydau. Dyna ein huchelgais, a dyna rydym yn gweithio tuag ato.

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn dilyn y ddadl ddoe ar dai fforddiadwy yng Nghymru, hoffwn gyffwrdd ar rai pryderon ehangach pwysig na chawsant eu codi yn y ddadl. Mae fy mhryderon yn ymwneud yn arbennig â sicrhau bod y cyflenwad cynyddol o dai sydd eu hangen arnom yn addas ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu anghenion a gofynion cenedlaethau'r dyfodol, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu'r her o foderneiddio cartrefi na chawsant eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol pan gawsant eu hadeiladu'n wreiddiol, na chydag unrhyw hyblygrwydd i allu addasu, ac yn ddelfrydol, mae angen i ni ddysgu o hanes a pheidio ag ailadrodd y camgymeriad hwn. Felly, pa gymorth sy'n cael ei roi i'r sector fel y gallant adeiladu'r niferoedd mawr o dai o safon sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain?

Diolch i chi am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae ein rhaglen tai arloesol yn sicr yn ganolog i'n hymateb i'r her ddifrifol sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chreu cartrefi carbon isel—di-garbon yn ddelfrydol—ac mae gennym brosiectau rhagorol yn cael eu cyflwyno yn awr ac yn cael eu hadeiladu ac rydym eisoes yn dysgu oddi wrthynt o'n ffrwd o brosiectau y llynedd. Ond, y tro hwn, rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar rai o'r prosiectau hynny ers y llynedd, ond hefyd i edrych am brosiectau lle rydym yn uwchraddio. Felly, rydym wedi gwahodd prosiectau ar gyfer yr ail flwyddyn hon, ac mae dyddiad cau'r ceisiadau yr wythnos hon ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy mewn gwirionedd, fel y gallwn ddechrau uwchraddio rhywfaint o'r gwaith cyffrous sydd eisoes yn cael ei wneud drwy'r rhaglen tai arloesol.

Hefyd, er ein bod yn gwneud llawer iawn o waith i geisio estyn cymorth i fusnesau bach a chanolig ddychwelyd i'r sector, gwyddom fod  angen i ni sicrhau bod yr adeiladwyr mwy o faint yn gweithio yn y ffordd hon hefyd. Felly, rydym wedi gwneud gwaith gyda'n rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr cartrefi ar yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol, gan edrych ar ddyfodol Cymorth i Brynu o bosibl. Mae hwnnw wedi bod yn hynod boblogaidd, fel y gallwch ei ddychmygu, ymhlith yr adeiladwyr mwy, ond mae'n ddull pwysig sydd gennym, felly mae angen i ni ystyried sut rydym yn ei defnyddio i gyflawni ein hamcanion ehangach ar draws y Llywodraeth. 

14:45

Diolch i chi am hynny, sydd, yn rhannol, yn galonogol. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar holl fater effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae ein tystiolaeth wedi awgrymu bod nifer sylweddol o rwystrau i gyflawni newid trawsnewidiol yn y gwaith o adeiladu tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladu Cartrefi wedi mynegi pryder y bydd newid trawsnewidiol yn arwain at lai o dai yn cael eu hadeiladu, ac mae sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru, wedi adleisio pryderon fod yna nifer o heriau eisoes i adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai fforddiadwy, yn enwedig os yw targedau tai'n mynd i gael eu cyrraedd.

Nid yw'n swnio fel pe bai'r sector yn barod am yr heriau sy'n ei wynebu, a chredaf fod yn rhaid i ni eu gwthio o ddifrif oherwydd rydym angen llawer mwy o ymateb ganddynt, ac uchelgais. Er enghraifft, rydym wedi gweld yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei strategaeth uchelgeisiol 'Road to Zero', sy'n cynnwys cynnig i osod mannau gwefru ceir electronig ym mhob cartref newydd ym maestrefi Lloegr. Dyma'r math o bolisi integredig rydym ei angen, ac rwy'n gobeithio—. Mae'r gronfa arloesi yn syniad gwych, ond mae angen iddo arwain yn gyflym at brif ffrydio'r datblygiadau mawr y gwyddom y byddant yn gweithio, fel gosod mannau gwefru mewn cartrefi newydd fel mater o drefn. Rwy'n gobeithio y byddwch yn herio'r sector, yn enwedig yr adeiladwyr tai preifat, i wella eu harferion.

Diolch i chi, ac rwy'n sicr yn credu ei bod yn bryd i ni gael y drafodaeth heriol honno gyda'r adeiladwyr tai mawr yn awr, yn enwedig am fy mod yn siomedig i ddarllen peth o'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael, a oedd bron yn awgrymu bod popeth yn iawn, 'Gadewch i ni beidio â newid unrhyw beth'. Ond nid yw popeth yn iawn, ac mae angen i ni newid pethau. Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu tai, ond rwy'n amau, mewn blynyddoedd i ddod, y byddwn yn dychwelyd er mwyn ôl-osod yn ogystal, ac mae honno'n gost nad yw perchnogion tai ei heisiau ac mae'n gost nad yw'r Llywodraeth ei heisiau. Felly, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn adeiladu tai. Rwy'n teimlo bod y rhaglen tai arloesol sydd gennym yma yng Nghymru, ochr yn ochr â'r holl arferion gwych rydym yn eu gweld yn datblygu mewn rhannau eraill o'r byd hefyd, yn ein harwain at bwynt pan ydym ar drothwy chwyldro yn y ffordd rydym yn adeiladu tai. Buaswn wrth fy modd pe bai'r adeiladwyr tai mawr yn rhan o'r chwyldro hwnnw.

Yn draddodiadol, yr adeiladwyr bach sydd wedi gallu neu sydd wedi bod yn barod i wynebu risgiau o ran adeiladu cartrefi mewn ffordd wahanol, ac rydym yn cefnogi hynny'n llwyr. Felly, y tro hwn, mae'r rhaglen tai arloesol yn agored i fusnesau preifat gymryd y camau cyffrous hynny, ond yr adeiladwyr mawr a ddylai fod yn camu i'r adwy o ran newid y ffordd y maent yn adeiladu pethau. Rydym yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda'r sector, ond nid oes gennym ofn gwthio'r sector i ble sydd angen inni ei wthio yn ogystal.

Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddwyd strategaeth drefol gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y gobeithiwn y bydd yn creu dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau, o leiaf, wedi darllen y papur.

Rwyf wedi gosod prawf, peidiwch â phoeni.

Mae hyn yn cynnwys rhai elfennau o'r polisi tai a byddwn yn cynhyrchu dogfen arall yn benodol ar dai yn yr hydref. Ond un maes rydym wedi edrych arno yn y strategaeth yw toeon gwyrdd. Mae yna ddatblygiadau tai bellach ledled Lloegr—ac mae un enghraifft yn Barking yn Llundain—lle mae datblygwyr yn ymchwilio i'r defnydd o doeau gwyrdd ar dai oherwydd yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar inswleiddio thermol, gwanhau llif dŵr storm, gwella ansawdd aer, gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a gwella'r ymdeimlad o lesiant a nifer y mannau gwyrdd o'n cwmpas. Credaf y gallai rhaglen tai arloesol Llywodraeth Cymru fod yn ffordd amlwg o edrych ar y math hwn o arloesedd yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynlluniau peilot yn cael eu cyflwyno yn awr mewn perthynas â thoeau gwyrdd, oherwydd mae rhai dinasoedd yn y DU yn amlwg bellach yn gweld hon fel ffordd dda iawn o ddatblygu tai effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Ie, rwy'n cytuno, ac rwy'n sicr wedi darllen eich dogfen, ac edrychaf ymlaen at weld y ddogfen ar dai yn yr hydref hefyd.

Rhannaf eich cyffro ynglŷn â thoeau gwyrdd ac rydym eisoes wedi gweld enghreifftiau da iawn. Mae'r prosiect Down to Earth yn fy etholaeth, yng Ngŵyr, wedi adeiladu adeiladau gyda thoeau gwyrdd a gwelsant fod hynny'n dda, nid yn unig o ran strwythur yr adeilad, ond yn dda i'r enaid o ran y bobl sy'n gweithio yno. Mae i'w weld yn rhywbeth sy'n creu'r math o amgylchedd sy'n sicr yn cyfrannu at lesiant, ochr yn ochr â'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae o ran datgarboneiddio ac ati. Felly, mae digonedd o gyfleoedd yno, ond rwy'n awyddus i archwilio hyn beth bynnag, nid yn unig o fewn y portffolio tai neu o fewn y rhan o fy ngwaith sy'n ymwneud â thai. Roeddwn mewn cyfarfod diweddar o'r hyb sydd wedi dechrau gweithio yn Rhydaman a Cross Hands. Maent yn edrych ar brosiectau adfywio yn ardal sir Gaerfyrddin. Mae toeau gwyrdd yn un o'r pethau y maent yn eu gwneud o ran paratoi'r adeiladau y byddant yn eu cyflwyno, er mwyn cynyddu nifer swyddi ac ati. Felly, credaf y dylid ystyried toeau gwyrdd fel rhan o'n huchelgeisiau adfywio, yn ogystal â sut rydym yn edrych ar adeiladu tai yn benodol.

14:50
Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo diwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol? OAQ52500

Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, gwneuthum ddatganiad llafar ar y materion hyn ym mis Ionawr. Byddaf yn cynnwys darpariaethau diwygio etholiadol o fewn Bil llywodraeth leol rydym yn ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Byddaf yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac eraill er mwyn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y diwygiadau a gynlluniwyd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw awgrym gan awdurdodau lleol y byddent yn ystyried newid i system gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol? Ac a fyddai'n cytuno y byddai system o'r fath yn system decach ac y gallai helpu i gynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn etholiadau lleol?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ran o lywodraeth leol wedi awgrymu'r materion hynny i mi, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â hi. Fel hithau, cytunaf â system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a dyna yw fy hoff system innau hefyd. Rwy'n tybio y bydd y ddau ohonom yn dadlau dros y datganiad hwnnw yn ystod ymgynghoriad Plaid Lafur Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir ar y mater hwn. Mae gennym gytundeb i gyflwyno newid opsiynol i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, y gall llywodraeth leol ei dewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Yn bersonol, buaswn yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny. Credaf fod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system decach. Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth a mwy o atebolrwydd democrataidd. Felly, fel yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn croesawu newid i system gyfrannol dros y blynyddoedd nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe mewn perthynas ag unigolyn oedd yn dod o sir Drefaldwyn sy'n teimlo ei fod wedi'i ddifreinio gan y system etholiadol, fel pleidleisiwr tramor—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr pa ffordd y mae'r etholwr penodol yn bwrw ei bleidlais. Nid wyf yn siŵr a ddeallodd y Prif Weinidog fwriad fy nghwestiwn, felly roeddwn eisiau ei godi gyda chi. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r unigolyn dan sylw yn cael pleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol ond mae wedi'i wahardd rhag pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol gan y cânt eu hystyried yn etholiadau ail ddosbarth. Y broblem yma yw, os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud dramor, gallant bleidleisio yn etholiadau Cymru. Os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud i gyfeiriad yn Lloegr neu'r Alban, ac yna'n symud dramor, ni allant benderfynu pa genedl i'w gosod ynddi os ydynt yn byw dramor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i sicrhau y gall gwladolion Cymreig sy'n dymuno gwneud hynny gymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru?

Lywydd, nid wyf yn siŵr ble i ddechrau. Mae'r canlyniad yn sir Drefaldwyn y llynedd yn amlwg wedi poeni fy nghyfaill o'r rhan honno o'r byd. Rwyf am ddweud wrtho'n garedig iawn fod arnaf ofn fod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn roedd yn ei ofyn ddoe yn iawn, ac mae arnaf ofn fy mod am ailadrodd ymateb y Prif Weinidog y prynhawn yma.

Bu cyn-weithiwr o gyngor Caerdydd yn fy ngweld yn ddiweddar mewn perthynas â mater difrifol yn ymwneud â chyflogaeth. Tramgwyddodd yn erbyn darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, a oedd yn golygu, ar ôl i'w gyfnod fel cynghorydd etholedig ddod i ben, ei fod wedi'i wahardd rhag gweithio i'r cyngor hwnnw am 12 mis. Roedd wedi bod yn gweithio i'r cyngor am chwe mis pan sylweddolwyd eu bod wedi tramgwyddo'r ddarpariaeth hon. Er nad oedd unrhyw broblemau gyda'i berfformiad, a chydag amarch llwyr, cafodd ei ddiswyddo yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw gymorth gan y cyngor. Maent wedi methu darparu unrhyw opsiynau cyflogaeth amgen iddo ac ar ôl 13 mis, maent wedi penodi rhywun arall i'r swydd, er bod yr unigolyn wedi gwneud cais am ei swydd ei hun yn ôl. Mae'r cyngor wedi gwrthod cyfathrebu ac wedi methu ymateb i gais gwrthrych am wybodaeth, ac mae bellach yn wynebu tribiwnlys o ganlyniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i edrych ar yr achos hwn a'r mater yn gyffredinol i sicrhau canlyniad teg i'r unigolyn hwn ac eraill a allai dramgwyddo'r hen reol hon yn y dyfodol? Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion os oes angen.

14:55

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gynnig gohebu ar y mater hwn. Ymddengys i mi fod honno'n ffordd well o ymdrin â materion cyflogaeth na'u codi yn y Siambr.

Dulliau Pleidleisio Newydd

4. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i dreialu dulliau pleidleisio newydd? OAQ52487

Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, bwrdd cydlynu etholiadol Cymru, bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol, a hefyd yn cynnal gweithdai ledled Cymru gydag awdurdodau lleol i drafod y materion hyn a newidiadau etholiadol eraill.

Diolch, Weinidog—neu Ysgrifennydd y Cabinet, dylwn ddweud. Nid yw fy nghwestiwn yn agos at fod mor gyffrous a diddorol a chwestiwn Russ George ynglŷn â hawliau pleidleisio tramor. Rydych wedi dweud—a maddeuwch i mi, gan fod hwn ar fy ffôn—. Os caf ddyfynnu'r ffigurau, yn gyntaf oll, ar gyfer y set olaf o etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai 2017, credaf mai 42 y cant a bleidleisiodd i gyd, o'i gymharu â 68.6 y cant ar gyfer yr etholiad cyffredinol, a 45.5 y cant ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016. Rydych wedi dweud bod democratiaeth leol yn ymwneud â chyfranogiad, ac rydych yn dymuno ymestyn yr etholfraint i gynnwys unigolion 16 oed a'r rhai sydd yn y carchar, i enwi ond rhai.

Er bod yr ochr hon o'r Siambr yn sicr yn derbyn nad yw cynyddu'r etholfraint, mewn rhai ardaloedd o leiaf, yn beth drwg, a fyddech yn derbyn bod yna bryder, drwy wneud hynny, y gallech fod yn cuddio problem drwy osgoi, o'r pwynt hwn ymlaen, gymhariaeth tebyg am debyg gydag etholiadau cyffredinol ac etholiadau'r Cynulliad hefyd? Mae'n debyg nad wyf wedi egluro hynny'n rhy dda chwaith, Russ. Felly, er bod cynyddu'r etholfraint mewn rhai ardaloedd yn rhywbeth i'w groesawu fel peth da—ac yn sicr o ran unigolion 16 oed, buaswn yn cytuno gyda'r cynnydd hwnnw—ar yr un pryd, ni fyddwn yn gallu edrych ar y ffigurau hyn yn y dyfodol a dweud, 'Mae nifer y pleidleisiau yn etholiadau'r cyngor yn waeth nag eraill.' Oni ddylech fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol, sef nad oes digon o bobl sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn pleidleisio yn etholiadau'r cyngor?

Lywydd, mae'r Aelod Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi ateb y cwestiwn o'i sedd mor gynhwysfawr ag y gallwn i o'r fan hon. Rydych chi, wrth gwrs, yn cymharu canran o'r pleidleiswyr ni waeth beth yw nifer y pleidleiswyr yn yr etholiad hwnnw'n digwydd bod. Felly, mae'n parhau i fod yn hollol ac yn gwbl gymaradwy. Ni wn a yw fy ffrind da o ran arall o sir Fynwy yn ceisio dadlau yn erbyn newidiadau yn y modd hwn. Gobeithio nad yw, oherwydd dyna'r ddadl waethaf i mi ei chlywed ers nifer o flynyddoedd. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros sir Drefaldwyn, neu sir Fynwy—[Chwerthin.] Mae pawb ohonom yn pryderu ynglŷn â chanlyniad yr etholiad yn sir Drefaldwyn bellach.

Rwyf am ddweud wrth fy ffrind o sir Fynwy ein bod yn ceisio rhoi nifer o newidiadau ar waith, a diben y newidiadau hynny yw darbwyllo mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau lleol, cynyddu nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan mewn etholiadau a galluogi mwy o atebolrwydd democrataidd yn lleol. Mae'r rhain i gyd yn bethau cadarnhaol iawn, a gobeithiaf y cawn gefnogaeth o bob ochr i'r Siambr.

Y peth cyntaf y mae angen i unrhyw system bleidleisio fod yw diogel. Dylai fod gennym system nad yw'n caniatáu pleidleisio fwy nag unwaith na chynaeafu pleidleisiau. Fodd bynnag, mae angen inni ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cefnogi dau newid syml: caniatáu pleidleisio cynnar mewn canolfan bleidleisio ganolog, ac yn ail, caniatáu pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio o fewn etholaeth?

Lywydd, rydym yn hapus iawn i ystyried y ddau awgrym. Buaswn yn edrych ar bleidleisio electronig, pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol, megis dros y penwythnos, gorsafoedd pleidleisio symudol, pleidleisio electronig, a chyfrif electronig yn ogystal. Mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe wedi'i wneud am ddiogelwch y bleidlais yn un da ac rwy'n ei dderbyn. Rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp strategol arbenigol—bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol—ac mae'n cynnwys nifer o gynrychiolwyr sy'n sicrhau bod gennym bleidleisio diogel fel rhagofyniad ond sydd wedyn yn edrych yn greadigol ar sut i symud ymlaen, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dyna ein nod, a dyna y ceisiwn ei gyflawni.

15:00
Cynnal Swyddfeydd Post

5. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post? OAQ52506

Nid yw materion yn ymwneud â’r Swyddfa Bost wedi’u datganoli, fel y gwyddoch. Er hynny, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwasanaethau gwerthfawr iawn mae swyddfeydd post yn aml yn eu darparu yn ein cymunedau lleol. Mae eu swyddogaeth nhw yn arbennig o bwysig wrth i gynifer o ganghennau banciau gau ar draws Cymru.

Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid yw e wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnal amryw o systemau cynnal a grantiau ar gyfer swyddfeydd post. Mae newid diweddar yn y ffordd y mae’r Swyddfa Bost yn talu’r canghennau o’r taliad sylfaenol, beth maen nhw’n ei alw’n core tier payment, i daliadau fesul transaction yn cael effaith ar rai swyddfeydd post, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Oes, mae yna bosibiliad newydd, o bryd i’w gilydd, ar gyfer bancio, ond, yn fras iawn, dyma’r taliadau hollol sylfaenol ar gyfer cwsmeriaid, er enghraifft, i roi arian am drydan a nwy, pethau syml fel yna. Mae yna dâl bach am ganiatáu hynny, ond nid yw hyd yn oed yn ddigon i gyfro’r costau cynnal staff, cynnal y ddesg ac ati.

Mi fyddaf i’n ymweld, o fewn yr wythnos nesaf, â’r Ffôr, ger Pwllheli, lle mae yna swyddfa bost sy’n wynebu’r broblem, yr anhawster, yma. A ydych chi’n cael trafodaethau â busnes y Swyddfa Bost ynglŷn â’r newid i daliadau yma? Ac a ydych chi mewn sefyllfa i edrych ar beth ymhellach a allai gael ei wneud i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r adnodd pwysig yma? Fel rŷch chi’n ei ddweud, rydym ni eisoes yn colli’r banciau. Mae hwn yn rhywbeth sydd eisiau ei gadw, yn enwedig yn ein pentrefi a’n trefi bach ni.

Rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf i ar y mater yma ac rydw i wedi ymateb ar hynny. Mae’n bosibl, wrth gwrs, i swyddfeydd post elwa o business rate relief ac rydw i’n gobeithio y bydd swyddfeydd post yn ceisio am hynny ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny. Ar ben hynny, mae £1.3 miliwn wedi cael ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd nhw os ydyn nhw’n gweld bod yna adnodd, yn y ffordd y mae e’n ei ddisgrifio, mewn perygl o gael ei golli. Maen nhw’n gallu cynnig tipyn bach o gymorth ychwanegol ar hynny. Ond rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod yn codi materion mewnol y tu mewn i system y Swyddfa Bost a phetai e’n fodlon cyfarfod â fi, rydw i’n hapus iawn i drafod hynny gyda’r Swyddfa Bost yn ganolog.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Royal Bank of Scotland i gau 162 o ganghennau yng Nghymru a Lloegr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd swyddfeydd post sy'n darparu gwasanaethau bancio, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Gan fod 12 y cant o swyddfeydd post yn awr yn cael eu rhedeg gan wasanaethau allgymorth rhan-amser, megis faniau symudol, ac mewn adeiladau megis neuaddau pentref, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau sydd wedi colli eu banc o leiaf yn cael mynediad at wasanaethau bancio drwy gyfleusterau allgymorth swyddfeydd post yng Nghymru? Diolch.

Rwyf wedi dweud mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach nad yw'r materion hyn yn faterion datganoledig, ond mae'r rhain yn amlwg yn faterion y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddynt. Rydym yn sicrhau, fel y dywedais eisoes, fod gennym ryddhad ardrethi busnes a chymorth busnes i alluogi busnesau bach i gael cymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd. Ond rwy'n credu hefyd fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb sylweddol iawn yma, a buaswn yn awgrymu'n garedig iawn i'r Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru ei fod yn ysgrifennu at ei gyd-Aelodau Ceidwadol yn Llundain ac yn egluro wrthynt yn ofalus iawn fod y trethdalwr wedi gwario llawer iawn o arian ar gadw'r system fancio'n weithredol ac mae'n hen bryd i'r trethdalwr gael rhywfaint o'r adnoddau hynny yn ôl o ran rheoleiddio banciau i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Felly, buaswn yn dweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: ysgrifennwch at eich cyd-Aelodau yn Llundain a dywedwch wrthynt am dorchi eu llewys.

Cyllido Llywodraeth Leol

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol? OAQ52502

Yn ogystal ag incwm a godir yn lleol, derbyniodd awdurdodau lleol £4.2 biliwn o gyllid cyffredinol i'w wario ar wasanaethau yn 2018-19. Mae hyn yn parhau ein hymrwymiad i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag cyfyngiadau gwaethaf Llywodraeth y DU ar wariant.

15:05

Rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan ysgolion yn y Rhondda ynghylch yr argyfwng ariannu sy'n eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon ac wrth gwrs, yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi colli bron i £0.25 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, heb unrhyw ostyngiad cyfatebol yn nifer y disgyblion.

Ar ben hynny, mae gennym broblem gyda chyflwr adeiladau ysgol. Roedd un ysgol yr ymwelais â hi yn ddiweddar yn beryglus i ddiogelwch disgyblion gan fod lwmp o goncrid wedi cwympo o do a oedd wedi dadfeilio i mewn i'r ystafell ddosbarth. Mae athrawon yn colli eu cymhelliant, mae ysgolion yn dadfeilio, ac mae disgyblion mewn perygl. Sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael digon o arian i sicrhau y darperir gwersi ysgol mewn amgylchedd addas a diogel a bod ystafelloedd dosbarth wedi'u staffio'n ddigonol?

Mae'r Aelod yn ymwybodol o'r sefyllfa sy'n wynebu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhaglen gyni Llywodraeth y DU. Pe baem wedi cael sylfaen ariannu debyg i'r un a gawsom yn 2010 eleni, rwy'n credu y byddem wedi cael—rwy'n edrych ar y Gweinidog cyllid, ac rwy'n falch iawn ei fod bellach wedi dychwelyd i'r Siambr ar y pwynt hwn—£4 biliwn ychwanegol—

—£4.1 biliwn er mwyn cynnal a chefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus a ddisgrifiwyd ganddi. Nid wyf yn mynd i sefyll yma ac amddiffyn am un eiliad y rhaglen gyni aflwyddiannus yn y DU, ond rwyf am ddweud wrthi nad wyf wedi cyfarfod ag un cynghorydd o unrhyw blaid wleidyddol sydd wedi dweud wrthyf, 'Yr hyn rydym eisiau ei weld yw mwy o bolisïau Ceidwadol a llai o bolisïau Llafur.' Yr hyn rwyf wedi'i glywed gan bob cynghorydd ar draws Cymru gyfan yw diolch am ddiogelu llywodraeth leol rhag y gwaethaf o raglen gyni'r DU.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddaraf gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ52503

Rwy'n cyfarfod ag Edward Argar AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, a Rory Stewart AS, y Gweinidog Gwladol sy'n gyfrifol am garchardai, ddydd Llun nesaf, ar 16 Gorffennaf.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A fydd yn pwyso am ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi strategaeth troseddwyr benywaidd newydd ar 27 Mehefin? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cynlluniau i adeiladu pum carchar ar gyfer menywod yn cael eu diddymu. Yn hytrach, ceir pum canolfan breswyl ar gyfer menywod, a chredaf fod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r newid yn y polisi cyfiawnder ar gyfer menywod y mae llawer ohonom wedi pwyso amdano ers amser hir. Felly, a fydd yn pwyso am adeiladu un o'r canolfannau hynny yng Nghymru?

Byddaf yn gwneud hynny. Rwyf wedi dadlau'r achos ar sawl achlysur, ond credaf fod angen i ni fuddsoddi'n sylweddol mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf y byddai unrhyw un sy'n edrych ar yr ystâd fel y mae heddiw yn deall nad yw wedi'i chynllunio ar gyfer anghenion Cymru ac nid yw'n addas at y diben i ddiwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.

O ran troseddwyr benywaidd, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym gyfleuster yng Nghymru—canolfan i fenywod sy'n debyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio—i ddarparu cymorth i fenywod ac wrth gwrs, i leihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydym eisiau i fenywod Cymru gael cyfleusterau diogel i sicrhau eu bod yn cael gofal a chymorth adsefydlu effeithiol. Rydym hefyd eisiau sicrhau ein bod yn gallu lleihau nifer y menywod yn y system. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cefnogi prosiect braenaru i fenywod, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu dull integredig, system gyfan, sy'n benodol ar gyfer menywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Felly, rydym eisiau gweld dull cyfannol, cynhwysfawr o lunio polisi yng Nghymru sy'n rhoi'r fenyw wrth wraidd y polisi hwnnw yn hytrach na cheisio adeiladu carchar i fenywod nad yw'n diwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac y mae gan Jack Sargeant. 

Llawdriaeth sy'n Defnyddio Rhwyll yn y GIG

2. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr? 201

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n falch o gael cyfle i ymateb. Rwyf wedi ysgrifennu at y Farwnes Cumberlege i gadarnhau y bydd y defnydd o rwyll yn cael ei gyfyngu yng Nghymru ar sail debyg i'r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr hyd nes y bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr meddygol yng Nghymru i roi gwybod iddynt am y cyngor hwn. Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar y manylion gyda chyrff perthnasol ledled y DU.

Diolch i chi am eich ymateb i'r cwestiwn amserol pwysig hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r mater yn effeithio ar fenywod ledled y DU, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Maxine Cooper, un o fy etholwyr, sydd wedi bod yn gweithio gydag ymgyrch Sling the Mesh ers nifer o flynyddoedd yn dilyn llawdriniaeth a gafodd yn 2010. Gwn fod Maxine yn gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn, a byddaf fi, hefyd, yn gwneud popeth a allaf i'w chefnogi. Fel cymaint o rai eraill, yn enwedig y menywod sydd wedi ymgyrchu gyda dewrder ac ymrwymiad, fel Maxine, roeddwn yn falch iawn pan wnaeth y GIG yn Lloegr y cyhoeddiad ddoe ei fod yn cyfyngu ar lawdriniaethau rhwyll ar unwaith o ganlyniad i bryderon diogelwch. Gwn fod llawer o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn gweithio ar y mater hwn hefyd, a bod fy nghyd-Aelod, Jane Hutt wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. Mae adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar y mater hwn wedi gwneud rhai argymhellion pwysig iawn ac wedi cynnwys rhestr o'r hyn y mae menywod wedi gofyn amdano, ac nid yw'n syndod fod rhoi terfyn ar y defnydd o rwyll lawfeddygol ar y rhestr honno.

Nawr, mae gennyf ychydig o gwestiynau i'w gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, a yw'n hyderus fod gan y byrddau iechyd lefelau digonol o reolaeth glinigol, cydsyniadau, archwiliadau a gwaith ymchwil i sicrhau y gall pob menyw fod yn hyderus fod y mesurau diogelwch priodol yn eu lle? Ddoe, cyfeiriodd arweinydd y tŷ at y dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau rhwyll weiniol yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y bydd hyn yn parhau i fod yn wir hyd nes y gellir bodloni'r gofynion am fwy o ddiogelwch? Yn olaf, a allech roi'r newyddion diweddaraf inni am y grŵp gweithredu a fydd yn goruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar fyrder? Fel y dywedwch yn gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i ni sicrhau bod mynediad cynnar at gymorth arbenigol ar gyfer cymhlethdodau llawdriniaethau er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf i fenywod a dynion fel ei gilydd. Diolch.

15:10

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cofio'r sgyrsiau a gafodd eich tad gyda mi am ei etholwraig Maxine Cooper, a'r diddordeb parhaus a ddangosodd mewn perthynas â'r mater hwn, ac rydych chi'n gwneud hynny hefyd. Yn amlwg roedd y datganiad a wneuthum yn gynharach eleni yn dangos beth y byddem yn ei wneud mewn ymateb i'r panel arbenigol sydd wedi'i sefydlu yma yng Nghymru, a'r grŵp a grybwyllwyd gennych ar y diwedd, y grŵp gweithredu ar iechyd menywod, a fydd yn cyfarfod ym mis Awst i fwrw ymlaen â mesurau pellach ar yr argymhellion a wnaed. Nawr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod ei bod hi weithiau'n cymryd amser i sicrhau bod popeth yn ei le fel y dymunwn iddo fod. Ond bydd y grŵp hwnnw'n cyfarfod yr haf hwn. Mae yna arian i'w helpu i fwrw ymlaen â'u hargymhellion, ond rwy'n disgwyl ein bod eisoes yn y sefyllfa y mae Lloegr wedi'i chyhoeddi. Felly, mae'n bwysig iawn gallu rhoi'r eglurhad a'r sicrwydd hwnnw i bobl, oherwydd mae'r pwyntiau a wnewch am gydsyniad, archwiliadau a diogelwch yn bwysig iawn. Oherwydd i rai pobl, mae'n bosibl fod y llawdriniaeth hon yn ddewis olaf, ond mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail gwybodaeth briodol.

O ystyried y cyhoeddusrwydd eang a'r straeon am lawdriniaethau rhwyll yn mynd o chwith, gallech ddeall na fydd llawer o bobl eisiau cydsynio i lawdriniaeth, ond bydd rhai menywod yn dewis gwneud hynny, a chyn belled â bod y cydsyniad hwnnw yn real ac yn benderfyniad ar sail gwybodaeth, nid oes gwaharddiad llwyr yng Nghymru, ac nid oes gwaharddiad llwyr yn Lloegr chwaith. Credaf ei bod yn fwy cywir dweud bod yna gyfyngu ar y defnydd o rwyll, yn hytrach na gwaharddiad llwyr. Mae hynny'n amlwg iawn yn y llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr. Mae hefyd yn werth nodi i'r Aelodau fy mod yn credu mai'r hyn sydd wedi newid bellach yw, nid yn unig bod y Farwnes Cumberlege wedi gwneud yr argymhelliad hwn, ond hefyd bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y rheoleiddiwr, wedi bod yn cymryd mwy o ran yn y sgwrs ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn. Oherwydd mae yna gyfyngiadau ar bwerau gwleidyddion, ac mae hynny'n synhwyrol, ond mae cytundeb y rheoleiddwyr mai'r cyfyngiad ar y defnydd yn Lloegr, yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd, rwy'n credu, yw'r peth iawn i'w wneud—. Dylech fod yn hyderus na fydd llai o wyliadwriaeth yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n disgwyl y caf fy holi mewn perthynas â'r mater hwn yn y Siambr a thu hwnt yn ogystal.

Bedwar mis ar ddeg yn ôl, gelwais am ddatganiad ar fater mewnblaniadau rhwyll ar ôl i etholwraig yng ngogledd Cymru ddweud wrthyf ei bod yn dioddef o boen yn ei chlun chwith, poen yn ei morddwyd chwith, poen pelfis a phoen mewn mannau personol o'r corff, a dywedodd wrthyf fod miloedd o fenywod eraill yn y DU yn dioddef mewn ffordd debyg. Cefais wybod bryd hynny y dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am unrhyw gymhlethdodau, ac roedd menywod a oedd wedi cael y llawdriniaeth yn cael eu hannog i roi gwybod am broblemau drostynt eu hunain. Fis Rhagfyr diwethaf, codais hyn yn y Siambr ar ôl i chi ysgrifennu ataf yn dweud eich bod dal i gredu bod y manteision yn drech na'r risgiau. Gwyddom eich bod wedi gwneud eich datganiad ym mis Mai, yn dilyn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen Cymreig i adolygu'r defnydd o rwyll weiniol synthetig, yn cyhoeddi'r grŵp gweithredu y cyfeiriodd Jack Sargeant ato yn awr, i oruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen mwy o sylw ac angen eu gwella ar frys.

Ddydd Llun, cefais e-bost, drwy fy nghyd-Aelod Angela Burns, gan etholwr yng ngogledd Cymru a ddywedodd, 'Bydd rhwyll yn cael ei wahardd yn Lloegr. Gwn eich bod yn deall pa mor bwysig yw hi fod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl.' Wedi'i atodi wrth y neges, roedd y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ddoe yn dweud bod adolygiad y Farwnes Cumberlege wedi galw am wahardd y defnydd o rwyll lawfeddygol ar unwaith, a dyfynnodd Owen Smith AS, cadeirydd y grŵp seneddol hollbleidiol yn San Steffan, a oedd yn dweud bod hwn yn newyddion gwych a hirddisgwyliedig.

Heddiw, rydych wedi dweud wrthym eich bod yn awr yn bwriadu dilyn y penderfyniad a wnaed gan y GIG yn Lloegr i wahardd llawdriniaethau rhwyll ar unwaith, ond gyda golwg ar y posibilrwydd o'u parhau o dan amgylchiadau penodol neu ar ôl i amodau penodol gael eu bodloni. Mae bioleg ddynol yr un peth ar y ddwy ochr i'r ffin. Sut, felly, y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn pan fo'r Farwnes Cumberlege wedi argymell gwaharddiad na ellir ond ei ddiddymu os bodlonir amodau penodol, gan gynnwys cadw cofrestr o bob llawdriniaeth a'r holl gymhlethdodau? A fyddwch yn mynnu yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege yn galw amdano? Os na fyddwch, pa amodau, os o gwbl, y byddech yn eu cymhwyso cyn diddymu unrhyw waharddiad yma?

15:15

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y gydnabyddiaeth o'r niwed sylweddol a achoswyd pan fo llawdriniaethau rhwyll wedi mynd o chwith. Rwyf wedi cyfarfod â phobl yn y sefyllfa honno eu hunain ac mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan y dystiolaeth real iawn a roddwyd ganddynt. Y sefyllfa yma yng Nghymru yw ein bod wedi mabwysiadu dull mwy gwyliadwrus ers yr adroddiad a gyhoeddwyd a'r datganiad a wneuthum i'r lle hwn ym mis Mai, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwyliadwriaeth debyg yn parhau. Mae'n bwysig—nid wyf eisiau mynd ar goll yn y broses o ail-ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr neu geisio dweud bod mwy neu lai o wyliadwriaeth, ond credaf fod gwyliadwriaeth debyg ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig ar y mater hwn. Os edrychwch ar yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege ei hun wedi'i ddweud, dywedodd,

Ar y pwynt hwn yn ein hadolygiad nid ydym yn argymell gwaharddiad.

Yn yr ymateb gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr, yn ei gohebiaeth â'r Farwnes Cumberlege, cyfeiriodd hithau hefyd at sgwrs gyda'r Farwnes Cumberlege pan ddywedodd, 'Byddai'n anghywir i mi weithredu gwaharddiad llwyr. Hoffwn bwysleisio y dylem gofio y gall y driniaeth hon fod yn ddewis olaf i rai cleifion sy'n dioddef anhwylder gwanychol.'

Felly, dyna'r her. Nid lle gwleidyddion yw penderfynu, 'Dyma restr o driniaethau lle y gallwch ddefnyddio rhwyll a rhestr o driniaethau eraill lle na allwch ddefnyddio rhwyll'; mae hyn yn ymwneud â'r cyngor a'r canllawiau a roddir i weithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn a'r gofal y maent yn ei roi i'w cleifion, ac yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth ddilys am y risgiau sy'n bodoli yn ogystal. Felly, dylai hwn fod yn faes lle mae gwleidyddion yn petruso cyn dweud, 'Rwyf wedi penderfynu drosoch chi pa driniaeth sy'n briodol', gan gynnwys os yw triniaeth yn ddewis olaf go iawn, sef y sefyllfa roeddem eisoes ynddi yng Nghymru gyda'r adolygiad arbenigol a gawsom.

Byddwn yn parhau i weithio ar sail amhleidiol rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, ond yn allweddol, gyda'r rheoleiddiwr a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a hefyd gyda'r gymuned glinigol ac yn hollbwysig, gyda'r unigolion eu hunain sydd naill ai wedi'u niweidio o ganlyniad i ddefnyddio rhwyll yn y gorffennol, ond yn yr un modd, gyda'r bobl y gallai'r driniaeth fod yn ddewis olaf iddynt. Dyna'r pwynt—ei fod yn ddewis olaf go iawn a'n bod yn rhoi camau ar waith yng Nghymru mewn perthynas â thriniaethau eraill, triniaethau mwy ceidwadol, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i wneud llawdriniaeth.

Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd go iawn i'r Aelodau y gwn eu bod, yn y gwahanol bleidiau, yn pryderu am y mater hwn. Nid yw'r dull o weithredu rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru yn llai gwyliadwrus nag unrhyw un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae sicrhau bod rhagor o gamau yn cael eu cymryd i wella gofal yn y maes hwn o fudd i bob un ohonom, a dyna pam fod gennym grŵp o arbenigwyr a fydd yn parhau ac yn bwrw ymlaen â'r mater hwn, a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf, fel y dywedais yn fy ateb i Jack Sargeant, ddechrau mis Awst.

Ar ôl cyfarfod â grŵp mawr o oroeswyr llawdriniaethau rhwyll yma gyda Jane Hutt ddydd Llun, yn fenywod a dynion, mae'n amlwg i mi fod mater cydsyniad ar sail gwybodaeth yn broblem go fawr, gan na chafodd pobl wybod am gymhlethdodau posibl ac mae'n siomedig ei bod wedi cymryd cynifer o flynyddoedd i'r proffesiwn meddygol wrando'n iawn ar eu cleifion a deall lefel y dioddefaint y mae pobl wedi'i brofi. Clywais yn uniongyrchol gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael llawdriniaeth ymchwiliol fawr o dan anesthetig cyffredinol, ac wedi deffro wedyn i glywed bod y rhwyll wedi'i mewnosod heb unrhyw drafodaeth flaenorol, yn amlwg, ynglŷn â manteision ac anfanteision llawdriniaeth o'r fath. Felly, a fyddech yn cytuno â mi mai'r wers o'r saga wael hon yw bod angen i'r proffesiwn meddygol fod yn llawer gwell wrth ofyn a chael cydsyniad ar sail gwybodaeth pan fo llawdriniaethau newydd yn cael eu treialu, fel y gall cleifion wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynglŷn â'r hyn sydd orau iddynt hwy?

15:20

Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud. Roedd yn rhan o'r cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp arbenigol a'r adolygiad a gawsom yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn nad ydym yn bychanu pwysigrwydd cydsyniad ar sail gwybodaeth, oherwydd bydd gwahanol bobl sy'n cael yr un wybodaeth yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y risgiau y maent yn barod i'w cymryd mewn perthynas â thriniaeth ac yn wir, mewn perthynas â'r cyflwr sydd ganddynt ar hyn o bryd a'r effaith a gaiff ar eu bywydau. Wrth gwrs, mae wedi bod yn hynod o siomedig a diflas, mewn gwirionedd, i glywed pobl yn disgrifio'r llawdriniaethau rhwyll a gawsant, a'u bod heb gydsynio iddynt, neu eu bod wedi cydsynio iddynt ond nad ydynt yn credu ei fod yn gydsyniad ar sail gwybodaeth. Ac mae hynny i gyd yn bwysig; ni ddylem geisio diystyru hynny. Ond y pwynt yw, gyda phob math o ymyrraeth feddygol, mae'n ymwneud â chael sgwrs go iawn ac mae'n ymwneud â'r penderfyniad y mae'r claf yn ei wneud, yn hytrach na bod y clinigydd yn ei wneud drostynt, a deall, 'Beth sy'n bwysig i mi fel yr unigolyn a fydd, o bosibl, yn cael y driniaeth honno.'

Pan edrychwch ar yr adroddiad arbenigol rydym wedi'i wneud yng Nghymru, mae'n ystyried arferion y gorffennol yn fanwl, ac mae rhan o'u hargymhellion yn ymwneud â sicrhau bod yna gydsyniad dilys ar sail gwybodaeth ar gyfer unrhyw lawdriniaethau sy'n digwydd, yn ogystal â sicrhau, ar y llwybr tuag at lawdriniaeth bosibl, fod yr holl opsiynau triniaeth eraill yn cael eu darparu yn gyntaf fel ei fod yn ddewis olaf go iawn, os caiff ei ddefnyddio o gwbl. Ac yn wir, dylai roi cysur i bobl fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y llawdriniaethau rhwyll yng Nghymru, gan fod ein cymuned glinigol wedi cydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli. Bydd hynny'n parhau i fod yn wir, wrth i ni weithio gyda chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig ar yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'n bosibl o hyd y bydd y rheoleiddiwr yn penderfynu gweithredu mewn modd gwahanol a diddymu hwn fel dewis ar gyfer triniaeth, ond mae hwnnw'n fater ar gyfer y rheoleiddiwr, nid gwleidydd etholedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. 

Mae'r cwestiwn nesaf i chi hefyd, a bydd yn cael ei ofyn gan Joyce Watson.

Addysg a Hyfforddiant Meddygol yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon? 203

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch o gyhoeddi cynnydd yn nifer y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ar unwaith. Bydd y 40 o leoedd ychwanegol yn dod â manteision i Gymru gyfan, gan gynnwys gorllewin a gogledd Cymru, gydag 20 lle yn ysgol feddygol Abertawe ac 20 yn ysgol feddygol Caerdydd, i'w darparu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru. Mae prifysgolion Caerdydd a Bangor yn cydweithio ar gynlluniau a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â'u holl addysg feddygol yng ngogledd Cymru yn y dyfodol agos.

Credaf fod hwn yn gyhoeddiad defnyddiol iawn, oherwydd rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r un heriau â gweddill y DU o ran hyfforddi a recriwtio ymarferwyr meddygol, ac rwy'n falch y bydd y cynllun hwn yn helpu i ddarparu a hyrwyddo hynny. Deallaf fod lawer o waith a manylion i ddilyn, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor. Rwy'n cefnogi dull pragmataidd o ddarparu'r budd mwyaf posibl o gyllideb gyfyngedig, a'r ffaith na fydd yr holl arian yn cael ei wario ar fuddsoddiad cyfalaf.

Bydd cynyddu'r niferoedd yn Abertawe, a hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, rwy'n credu ac rwy'n gobeithio, yn rhoi cyfleoedd ehangach a mwy amrywiol i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae pawb ohonom yn gwybod, ac mae wedi'i gofnodi'n helaeth, fod y gorllewin yn arbennig yn wynebu heriau recriwtio mawr, ac edrychaf ymlaen at y cynnydd hwn, neu unrhyw gynnydd arall o ran hynny, sy'n darparu ar gyfer pobl gorllewin Cymru, sydd angen elwa, wrth gwrs, ar wasanaeth ymarferwyr meddygol mewn amgylchedd sy'n newid o hyd.

Diolch. Mae'n bwysig nodi bod y penderfyniad hwn yn cadw'r addewid a wnaethom i ddychwelyd â phenderfyniad, a'r awgrym a roddais ein bod yn credu y gallem wneud rhywbeth i'w hymestyn—ymestyn cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru—mewn cwestiynau blaenorol. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i siarad am y ffaith bod hwn yn newydd da i ogledd Cymru ond hefyd i orllewin Cymru, oherwydd, fel rydych yn nodi, mae yna heriau recriwtio yng ngorllewin Cymru yn ogystal â'r gogledd. Mae yna swm bach o gyfalaf y byddwn angen ei ddefnyddio i wneud i hyn ddigwydd, ond bydd ei wneud yn y ffordd hon, ar y cyd rhwng pedair prifysgol, yn golygu y gallwn wneud cynnydd cyflymach o ran cynyddu niferoedd a chynyddu cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd ceir llawer o dystiolaeth ein bod yn fwy tebygol o weld pobl yn aros yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru os byddant yn cael cyfran fawr o'u hyfforddiant yno.

Mae hyn yn dilyn cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru ar sut rydym yn defnyddio rhywfaint o arian yn y gyllideb, ond ni fydd y swm dwy flynedd hwnnw'n ddigon i hyfforddi rhywun drwy gydol eu gradd feddygol. Felly, rydym wedi gwneud y dewis yn y Llywodraeth i gefnogi'r rhaglen astudio hon yn ei chyfanrwydd a sicrhau cynnydd parhaol yn y niferoedd ychwanegol o leoedd hyfforddi meddygol. Felly, mae'n mynd y tu hwnt i'r cytundeb a wnaethom i ymchwilio i'r mater gyda Phlaid Cymru. Mae'n ychwanegiad parhaol, ac edrychaf ymlaen at ddeall mwy, nid yn unig o ran pryd y bydd pobl yn gallu cwblhau eu hastudiaethau i gyd yng ngogledd a gorllewin Cymru, ond hefyd o ran ein gallu i weld beth arall y gallwn ei wneud i gael y math cywir o weithwyr proffesiynol meddygol a chydweithwyr proffesiynol gofal ac iechyd yma yn y gwasanaeth yng Nghymru.

15:25

Rwy'n croesawu'r penderfyniad i ehangu lleoedd ysgol feddygol, er rwy'n gresynu na wnaethoch ddewis cyhoeddi'r ehangu hwn yma o ystyried bod hwn yn bwnc sydd wedi'i drafod gan gymaint ohonom ar gynifer o achlysuron. Mae gennym brinder meddygon, fel rydych yn gwybod, mewn rhai disgyblaethau megis ymarfer cyffredinol, pediatreg a rhewmatoleg. A ydych, drwy'r lleoedd hyn, yn gallu datblygu cynlluniau'r gweithlu yn y dyfodol a sicrhau bod gennym bobl a fyddai'n gallu dilyn y mathau hynny o arbenigeddau wedyn? Ac o ystyried y prinder meddygon, hoffwn wybod sut y gwnaethoch werthuso mai 40 o leoedd ychwanegol rydym eu hangen. A ydym angen mwy? Ai dyna'r cyfan o arian a oedd ar gael, neu a ydych yn credu mai 40 rydym eu hangen, ac y bydd hynny'n ddigon yn y dyfodol?

Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon, sylwais ar y bwriad i alluogi hyfforddeion i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol i gyd yng ngogledd Cymru, a'u hyfforddiant ôl-raddedig. Er bod cydweithio pellach rhwng Caerdydd a Bangor yn gwbl allweddol i sicrhau bod hynny'n digwydd, pa drafodaethau, os o gwbl, sydd wedi bod â darparwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig yr ysbytai a allai gynhyrchu neu ganiatáu gwaith ar batrwm cylch fel rhan o'r hyfforddiant ôl-raddedig? Hoffwn wybod a ydych yn credu y gallwn wneud ein hyfforddiant ôl-raddedig i gyd yng ngogledd Cymru ei hun ai peidio, oherwydd clywsom yn ein hymchwiliad blaenorol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â rhai o'r anawsterau o ran cynhyrchu neu allu gwneud rhywfaint o'r hyfforddiant hwnnw, oherwydd nad oes gennym yr arbenigeddau hynny i gyd o fewn ein strwythur cyfredol yng ngogledd Cymru. Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt defnyddiol ynglŷn â gwahaniaethu rhwng y radd feddygol a hyfforddiant arbenigol y radd feddygol ôl-raddedig wedyn. Wrth gwrs, mae yna sgyrsiau parhaus ar y gweill gyda chydweithwyr yn neoniaeth y gogledd-orllewin yn Lloegr ynglŷn â sut y gellid trefnu cyrsiau astudio gwahanol, yn ogystal â'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Rwyf am gael sgwrs ymarferol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth i ansawdd yr hyfforddiant a chwmpas yr hyfforddiant y gellir ei ddarparu mewn gwirionedd, yn hytrach na sgwrs Cymru yn erbyn Lloegr. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd gwleidyddion yn anghytuno, ond mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â hyfforddi meddygon i roi gyrfa iddynt o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn gwasanaethu ein cymunedau.

O ran y pwynt am y radd feddygol a'r dewis ymarferol ynghylch lleoedd ac arian, maent yn ddewisiadau ymarferol ynglŷn â'n gallu i ehangu, os ydym eisiau ariannu'r ehangu hwnnw, oherwydd fel y dywedaf, ni allwch wneud hynny ar gytundeb cyfyngedig dros ddwy neu dair blynedd, oherwydd mae'r radd yn cymryd mwy o amser a byddai'n beth eithaf anarferol pe baem yn penderfynu ehangu cwrs gradd ar gyfer un cohort ac yna'n tynnu'r cyllid yn ôl ar y diwedd. Ni fyddai unrhyw ffordd o gynllunio a chynyddu'n briodol y niferoedd y byddem eisiau eu gweld o fewn ein gweithlu meddygol. Ni fydd yn cael gwared ar ein hangen i barhau i recriwtio o blith gwledydd y DU yn ogystal ag o'r tu allan i'r DU, o Ewrop a thu hwnt, ond mae hon yn enghraifft ohonom ni yn gwneud penderfyniad ymarferol gyda'r adnoddau sydd gennym i wneud y gwahaniaeth yn yr ardal y gallwn ei wneud gyda'r ddwy ysgol feddygol sydd gennym ar hyn o bryd, er mwyn cyflawni yn erbyn rhai o'r heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Bydd hynny hefyd yn wir mewn perthynas â hyfforddiant arbenigol yn ogystal, oherwydd, bob blwyddyn, rydym yn edrych ar y niferoedd sy'n cael hyfforddiant arbenigol ac mae angen i ni ddeall sut a ble rydym yn llenwi'r lleoedd hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach o ran y cysylltiadau â gweddill Cymru ac yn wir, y ddeoniaeth ar draws ein ffin lle mae gwahanol leoedd hyfforddi ar gael ar gyfer y lleoedd hyfforddi arbenigol hynny. Felly, mae gennym rywfaint o'r un heriau â gweddill y Deyrnas Unedig a rhai sy'n fwy unigryw. Mae hyn yn rhan o'r ateb, yn hytrach nag ateb hollgynhwysol i'r heriau y byddwch chi a minnau yn parhau i'w trafod yn awr ac yn y dyfodol.

15:30

Ym mis Mai y llynedd, fe gyhoeddwyd yr adroddiad yma gan Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, a minnau, yn gosod allan yr achos dros ysgol feddygol i'r gogledd. Mae eich cyhoeddiad chi am ehangu addysg feddygol yn y gogledd yn gam arwyddocaol a phwysig i'r cyfeiriad cywir, ac yn ffrwyth ymgyrch leol gref yn Arfon.

Yn eich datganiad, mi rydych chi'n dweud hyn:

'bydd y trefniadau newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.'

A fedrwch chi ymhelaethu ar hynny, ac ar sut yn union fydd hynny yn digwydd?

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n bwysig ein bod yn gweld cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r sgiliau sydd ganddynt i fod yn feddygon, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Rhan o'r her i ni, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn droeon yn y gorffennol, yw nad dewisiadau yw anghenion iaith Gymraeg, maent yn anghenion gofal gwirioneddol mewn amryw o'n cymunedau a chydag unigolion a'u teuluoedd. Rhan o'r her i ni oedd sut i gael digon o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal er mwyn gallu cyflawni yn erbyn hynny, a buaswn yn dal i hoffi ein gweld yn gallu gwneud ymdrechion mwy llwyddiannus i ddenu pobl sydd wedi gwneud rhan o'u hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol meddygol neu fel arall yn Lloegr yn ôl i Gymru. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael cynnig deniadol iddynt weithio yma yng Nghymru, yn hytrach na dweud yn syml fod ganddynt ymdeimlad o gyfrifoldeb cenedlaethol i ddychwelyd i ddilyn gyrfa o'r newydd.

Ond rwy'n disgwyl y bydd hynny'n real ac yn bosibl yn y rhaglenni astudio sy'n bodoli eisoes. Rydym yn gwneud ymdrechion bwriadol i geisio annog pobl sy'n siarad Cymraeg i ddod i mewn i addysg feddygol fel gyrfa bosibl ar eu cyfer. Siaradais, er enghraifft, ar raglen astudio sydd gennym i geisio cael nifer o rai 16 i 18 oed yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru i ddod i ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Felly, rydym yn fwriadol yn mynd i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn yrfa ddeniadol i wahanol bobl ei dewis, yn ogystal â'r man astudio ei hun, fel—[Anghlywadwy.]—cwrs astudio, a'r cyfrwng iaith ar gyfer ei gyflwyno.

Rwy'n falch o ailddatgan bod y penderfyniad hwn a wneuthum yn ganlyniad i  gadw ein gair am y penderfyniad y byddem yn ei ystyried, yr amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad, a'n huchelgais i ehangu cyfleoedd i ymgymryd â mwy o addysg a hyfforddiant meddygol, a'n huchelgais i sicrhau bod pobl yn treulio eu holl gyfnod astudio yng Nghymru hefyd.

Rwyf wedi cefnogi'r cysyniad o ysgol feddygol ym Mangor ers i'r is-ganghellor blaenorol, Merfyn Jones, ei ddwyn i fy sylw yn gyntaf ddegawd neu fwy yn ôl, ac mae hyn wrth gwrs, wedi cael ei godi mewn Cynulliadau blaenorol hefyd. Ond o ystyried bod pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru—y bu llawer ohonynt eu hunain yn astudio yn ysgol feddygol Lerpwl, neu ysgol feddygol Manceinion, a rhai ohonynt yn dod o ogledd Cymru, a rhai wedi dewis adeiladu eu bywydau a'u gyrfaoedd yng ngogledd Cymru—wedi galw am i'r model hwn ymgorffori ac adfer cysylltiadau uniongyrchol â Lerpwl, ac ysgol feddygol Manceinion o bosibl, nid yn unig dros y ffin, ond yn benodol yno, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru, a luniwyd o ymarferwyr cyffredinol lleol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â hynny?

Rwyf wedi gwneud cyhoeddiad sy'n adeiladu ar ein dwy ysgol feddygol a'r ddarpariaeth a'r bartneriaeth â phrifysgolion mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ni chredaf y byddai o gymorth o gwbl i mi i geisio amharu ar hynny, a minnau newydd ei gyhoeddi ers wythnos, a dweud wedyn fy mod yn disgwyl iddynt ailffurfio gwahanol gysylltiadau ag ysgolion meddygol gwahanol. Wrth gwrs, rydym am gyfleoedd i bobl astudio meddygaeth a gallu caffael sgiliau i ddarparu'r rhaglen astudio lawn i ddod yn feddygon a'u cadw yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Byddaf bob amser yn edrych am gyfleoedd i'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru ddenu pobl i ddod yma, ac i gadw pobl yma, ac i weithio gyda phartneriaid eraill ar draws ein ffin i wneud hynny hefyd. Dyna fydd y ffocws. Bydd yn ymwneud â gwneud y partneriaethau rydym wedi'u cytuno, gwneud iddynt weithio, a'r bartneriaeth a'r cydweithredu sydd â buddsoddiad ac amser go iawn i bobl yn ysgolion meddygol Abertawe a Chaerdydd, ac rwy'n falch iawn o ddweud, ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf groesawu'r datganiad yma heddiw, sydd wedi cymryd llawer rhy hir i ddod, wrth gwrs? Rydw i'n meddwl yn ôl am fy nghyfarfod cynnar i, ar ôl i mi gael fy ethol, efo'r Athro Dean Williams o Brifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd, yn plannu'r syniad yma, a'r sylweddoliad buan iawn ei bod hi'n hollol amlwg bod rhaid inni fwrw ymlaen â chyflwyno addysg feddygol ym Mangor, fel yr oedd pobl fel Dr Dai Lloyd yn sylweddoli bod angen cyflwyno addysg feddygol yn Abertawe flynyddoedd yn ôl, ac, wrth gwrs, mae hi'n ysgol feddygol lawn yn Abertawe erbyn hyn. Rydw i'n meddwl am yr holl feddygon hynny, y rhai sydd eisiau bod yn feddygon, yn bobl ifanc, yn rhieni, yn gyn-feddygon, yn nyrsys, sy'n gweld y budd o ddatblygu addysg feddygol ym Mangor, ac rydw i'n diolch iddyn nhw heddiw am fod yn gefn i ni sydd wedi ymgyrchu mor galed dros hyn, er mwyn troi hyn yn realiti.

Gadewch inni gofio pam fod hyn yn digwydd. Mae hyn yn gorfod digwydd oherwydd prinder meddygon mewn ardaloedd o'r gorllewin a'r gogledd. Mi fydd hyn yn help, rydw i'n hyderus, i recriwtio ac i lenwi'r tyllau. Mae o'n digwydd oherwydd bod rhy ychydig o feddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru, a rhy ychydig o'r rheini yn dod o Gymru. Felly, mae hyn yn agor y drws, gobeithio, i fwy o'n pobl ifanc ni allu dilyn gyrfa mewn meddygaeth.

I'r Ceidwadwyr, os caf i ddweud: ar ddiwrnod lle rydym ni'n dathlu cael coleg meddygol, i bob pwrpas, yng Nghymru, rydych chi'n penderfynu canolbwyntio ar, 'Ond beth am y cysylltiadau efo gogledd-orllewin Lloegr?' Gwrandewch: wrth gwrs bod y cysylltiadau hynny yn bwysig, ond gadewch inni heddiw ganolbwyntio ar yr hyn rydym ni'n gallu ei wneud yma yng Nghymru, er mwyn cynyddu capasiti addysg feddygol ein hunain.

I chi, Ysgrifennydd y Cabinet, cwestiynau syml: a allwch chi gadarnhau mai dim ond dechrau ydy hyn ar dwf mewn addysg feddygol yng Nghymru, ac a allwch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n rhannu fy nymuniad i o weld y coleg meddygol newydd ym Mangor yn datblygu i fod yn ganolfan o ragoriaeth, nid yn unig mewn dysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mewn darpariaeth o ofal iechyd gwledig hefyd? Mae heddiw'n gam pwysig ymlaen.

15:35

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn, rydym wedi bod yn glir gyda'n partneriaid prifysgol a'r ddwy ysgol feddygol ein bod am barhau i weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i hyfforddi i ddod yn feddygon fel rhan o hyn. Rydym am weld rhagoriaeth, wrth gwrs, ond nid wyf yn meddwl bod angen ichi ostwng safonau, a bod yn onest, i roi cyfleoedd i fwy o bobl o Gymru i—

Dyna'n union yw fy mhwynt. Nid oes angen ichi ostwng safonau i roi mwy o gyfleoedd i bobl yng Nghymru.

Ni awgrymwyd hynny. Pam rydych chi'n dweud hynny? Mae hynny'n ofnadwy.

Y rheswm rwy'n dweud hynny yw ei fod yn rhywbeth a grybwyllir y tu allan i'r lle hwn o bryd i'w gilydd ynglŷn â dweud, 'Mewn gwirionedd mae angen i chi newid safonau.' [Torri ar draws.] Credaf eich bod yn camddeall—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy'n meddwl eich bod yn camddeall y pwynt rwy'n ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod digon o bobl ifanc o Gymru â gallu i ddod yn feddygon. Mae a wnelo hyn â sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweithredu system o ddeall pwy fydd wedyn yn cael cynnig y lleoedd sy'n gwahardd pobl ifanc rhag y lleoedd hynny. Rwyf am weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru, ac mae'n rhaid ehangu'r cyfleoedd i bobl o Gymru fanteisio ar y lleoedd hynny i gyd-fynd â'r cynnydd yn y niferoedd. Oherwydd credaf fod digon o dalent ar gael yng Nghymru a fydd yn dymuno gwneud hynny. A dyna pam, i ateb cwestiynau cynharach, y ceir ymdrechion i wneud yn siŵr fod mwy o bobl yn cael eu hannog i ystyried gyrfa mewn meddygaeth mewn gwirionedd. Felly, bydd yn rhaid i'r gwaith hwnnw barhau, yn hytrach na dweud yn unig, 'Cynyddwch y nifer o leoedd a bydd y bobl yn dod.' Mae angen i'r bobl ddod o'r tu mewn i Gymru yn ogystal.

Rwy'n fwy na pharod i nodi fy mod am gael trafodaeth barhaus ynglŷn â nifer y bobl sydd gennym o fewn y proffesiwn meddygol, ynglŷn â sut a ble y cânt eu hyfforddi. Bydd bob amser angen i ni gael sgwrs ymarferol ynglŷn â hynny, i ddeall yr adnoddau sydd ar gael gennym, a gallu ein hysgolion meddygol, mewn partneriaeth â'u prifysgolion i wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, credaf fod y cydweithredu a ddigwyddodd ar hyn, a'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn gan bedair prifysgol, yn rhoi rheswm da i ni gredu y gallent hyfforddi mwy o bobl. Yr her yw ein gallu i ariannu'r hyfforddiant hwnnw, ac i wneud yn siŵr y bydd yr ehangu presennol a gyhoeddais eisoes yn llwyddiant.

Ac wrth gwrs rwyf am weld partneriaethau newydd a gyhoeddwyd gennym yn sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn iechyd a gofal, gan gynnwys gofal iechyd gwledig. Ceir cyfle gwirioneddol inni sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn gofal iechyd, oherwydd mae nifer o feddygon eisiau gweithio mewn cyd-destun dinesig, mae nifer o feddygon eisiau gweithio yng nghyd-destun y Cymoedd, ac mae llawer o bobl am fod yn feddygon mewn meddygaeth wledig yn ogystal, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol i roi mwy o gyfleoedd i'r bobl hyn wneud hynny.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae un datganiad gan Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y cerflun ar ochr ddwyreiniol y bae, o'r enw 'Pit to Port'. Roedd yn uchelgais gydol oes i Donald Ronald Harris, a oedd yn preswylio yn ne Cymru ar hyd ei oes, ac roedd yn frocer llongau siartredig ac yn allforiwr glo. Mewn gyrfa a rychwantodd 45 mlynedd, daeth yn rheolwr ardal de Cymru i Powell Duffryn International Fuels. Yn ystod ei gyfnod yn y dociau, roedd Ron yn gyfrifol am gludo miliynau o dunelli o lo o dde Cymru i'r cyfandir a gweddill y byd. Chwaraeodd Ron ran allweddol mewn prosiect ar gyfer cynhyrchu teyrnged i lowyr de Cymru, a'r diwydiant yn yr ardal, ond yn anffodus bu farw cyn i'r cynllun fynd rhagddo. Roedd Ron yn arbennig o awyddus i bwysleisio'r cyswllt rhwng diwydiant glo de Cymru a dociau Caerdydd. Roedd eu llwyddiant yn cydblethu ac ni fyddai'r naill na'r llall wedi goroesi neu ffynnu heb y llall.

Yn dilyn ei farwolaeth, ysgwyddodd gwraig Ron, Margaret, yr her o gyflawni'r prosiect. Ynghyd â thîm o gefnogwyr ymroddedig, a gododd £55,000 ar gyfer cerflun 'Pit to Port'. Ddydd Llun nesaf, bydd tair mlynedd ar ddeg ers ei ddadorchuddio ar 16 Gorffennaf 2005 ac yn addas, mae'n dangos glöwr, lori lo a llong ager. Saif ychydig funudau i ffwrdd ar droed oddi yma ym Mae Caerdydd, gyferbyn â'r eglwys Norwyaidd ym Mharc Brittania. Rwy'n siŵr y gwnaiff bob Aelod ymuno â mi i dalu teyrnged i Margaret a Ron am eu rôl yn sicrhau heneb addas i dreftadaeth ddiwydiannol Caerdydd a de Cymru.

15:40
5. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies. 

Cynnig NDM6767 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18—Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Nick Ramsay.  

Cynnig NDM6766 Nick Ramsay

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect CylchfforddCymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, diolch ichi am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru. Roedd cynllun arfaethedig Cylchffordd Cymru yn brosiect unigryw a sylweddol, a oedd i'w weld fel pe bai'n cynnig posibilrwydd o adfywio ardal ddifreintiedig yn economaidd. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru'n iawn i archwilio posibiliadau ar gyfer gwneud i'r prosiect hwn weithio, ac yn briodol iawn nid swyddogaeth y pwyllgor oedd gwneud sylwadau ar rinweddau penderfyniad y Cabinet yn y pen draw i beidio â darparu'r cymorth cyllid cyhoeddus y gofynnwyd amdano. Rydym yn bryderus iawn, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru ati ar y prosiect hwn. Rydym am i Gymru fod yn ddewis cyntaf ar gyfer buddsoddi, ac er mwyn cyflawni hyn mae angen i'r prosesau penderfynu a ddilynir gan y rhai sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr yn y modd hwn fod yn gydlynol ac wedi'u dogfennu'n briodol.

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar ariannu cychwynnol Cylchffordd Cymru ym mis Ebrill 2017, ac amlygodd ddiffygion sylweddol yn y modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect. Darparodd yr adroddiad sylfaen gadarn i'n hymchwiliad, a ymestynnodd y tu hwnt i gwmpas y cyllid cychwynnol i brosesau penderfynu Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynnig terfynol.

Gwelsom fod dull Llywodraeth Cymru o fynd ati ar y prosiect hwn yn un o ddau hanner: gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy yn ystod proses gyllid cychwynnol y prosiect hwn, fel awdurdodi taliad ar gyfer prynu FTR, cwmni beiciau modur yn swydd Buckingham, fel rhan o'r grant datblygu eiddo a fwriadwyd ar gyfer prynu tir yng Nglyn Ebwy. Yna, ar ôl gwneud y penderfyniad cychwynnol i beidio â darparu'r warant y gofynnwyd amdani, dewisodd Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei chyfiawnhad dros hynny ar fater cyfrifyddu technegol yn hytrach na chrybwyll y diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr a gomisiynwyd ganddi. Arweiniodd hyn at ddryswch ymhlith y cyhoedd ac ni wnaeth fawr ddim i hybu hyder yng ngallu'r Llywodraeth i  drin arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn dda.

Y teimlad cyffredinol oedd gennym, fel pwyllgor, oedd bod y penderfyniad polisi wedi'i wneud i gychwyn i gefnogi'r prosiect ac roedd yn rhaid cyflawni hyn doed a ddêl. Ein rôl ni, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yw gwneud yn siŵr nad yw brwdfrydedd gwleidyddion i gyrraedd pa bynnag nod polisi sydd ganddynt yn arwain at dorri corneli, oherwydd mae hynny'n arwain at wneud penderfyniadau gwael.

Wrth inni symud i ail hanner ein hymchwiliad, buom yn archwilio'r prosesau a arweiniodd at y penderfyniad terfynol i beidio â chytuno i warant Llywodraeth Cymru, a oedd yn hanfodol i sicrhau bod y prosiect yn digwydd. Nawr, sylweddolwn y gall llywodraethau newid eu meddyliau ar benderfyniadau, ac y dylent wneud hynny weithiau, ond mae'n bwysig nad yw prosesau'n cael eu llunio o gwmpas y polisi. Mae yna reswm pam fod prosesau ar gael ar gyfer llywodraethu da: i ddiogelu arian cyhoeddus ac enw da am lywodraethu da ac uniondeb. Mae gennym bryderon difrifol nad oedd Llywodraeth Cymru mor dryloyw a chynhwysfawr ag y gallai fod yn egluro ei phenderfyniad i gyflawni'r hyn a ymddangosai fel tro pedol ar brosiect Cylchffordd Cymru. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei safbwynt cadarnhaol ynglŷn â'r prosiect a'i bod wedi gosod ei meini prawf pendant ei hun ar gyfer gwneud ei phenderfyniad terfynol. Felly roedd hi'n sioc pan wrthododd y Cabinet y prosiect ar yr unfed awr ar ddeg.

Ni chafodd erioed ei wneud yn glir i ni, fel pwyllgor, pam y gwnaed y penderfyniad hwn. Ai oherwydd mater technegol yn ymwneud ag a fyddai'r prosiect ar y fantolen ai peidio? Neu rywbeth arall? Canfuom ei fod yn ymwneud â nifer o faterion ac mae'n ddirgelwch o hyd sut y bu i Lywodraeth Cymru, a oedd wedi treulio cryn amser ac wedi gwario arian sylweddol ar y prosiect, ei ddirwyn i ben yn y pen draw ar sail yr hyn a ymddangosai fel trafodaeth 20 munud yn y Cabinet. Mae'r cwestiynau hyn yn dal i fod heb eu hateb.

Felly, beth y gallwn ei ddysgu o hyn i gyd? Wel, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol ar arian cyhoeddus Cymru ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mewn ymateb i adroddiadau olynol yn y blynyddoedd diweddar gan yr archwilydd cyffredinol, a chan y pwyllgor hwn a a'i ragflaenwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu sicrwydd inni ar sawl achlysur fod gwersi wedi'u dysgu. Ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi. Bwriedir i'n gwaith craffu fod yn adeiladol a'n nod yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu'n well er budd pawb, yn enwedig y trethdalwr, ond rhaid i'r Llywodraeth ddysgu a datblygu o'n hadroddiadau er mwyn i'n gwaith craffu fod yn effeithiol.

Yn sicr nid ydym yn disgwyl gweld camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a chrebwyll gwael yn cael eu hailadrodd ar ran swyddogion fel y daeth yn amlwg o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Yn anffodus, mae stori drist Cylchffordd Cymru yn amlygu diffygion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr. Cymerodd y prosiect penodol hwn saith i wyth mlynedd i ddatblygu cyn cael ei ddirwyn i ben. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy doeth wrth wneud penderfyniadau. Mae angen iddi fod yn gyflymach ac mae angen iddi fod yn fwy hyblyg. Fel arall, ceir risg i Gymru yn ehangach fel lleoliad ar gyfer buddsoddi. Nid yw ein beirniadaeth wedi'i chyfeirio tuag at unigolion, ond yn hytrach tuag at fethiant yn y system ehangach ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny. Mae angen buddsoddiad ar Gymru ac mae angen gallu mewnol i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr.

Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei mesurau rheoli i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus mewn perthynas â deall cysylltiadau rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr; fod ariannu pryniant FTR Moto Ltd yn cael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos at ddibenion hyfforddiant mewnol gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y penderfyniadau anghyffredin iawn a wnaed ar lefel swyddogol, y diffyg dogfennau cysylltiedig a methiant ymddangosiadol swyddogion i geisio cael y cymeradwyaethau angenrheidiol gan eu Gweinidog priodol; ac yr atgoffir holl Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion ac uwch-weision sifil Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gofynion yn y codau gweinidogol a chodau'r gwasanaeth sifil ar gyfer sicrhau cywirdeb yr holl wybodaeth a gaiff ei rhyddhau.

Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor. Fodd bynnag, mewn mannau, mae'r derbyniad i'w weld yn cuddio bwriad y Llywodraeth ac wedi'i guddio yn y manylion cysylltiedig, mae'n ymddangos nad yw'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn yr ysbryd y'u gwnaethpwyd. Mae hon wedi bod yn thema gyson mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion, ac rydym wedi mynegi'r pryderon hyn o'r blaen, a hynny'n gyson.

Mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ar Gylchffordd Cymru, rydym yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru'n ddiffygiol mewn nifer o fannau allweddol. Wrth dderbyn argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn, mewn amgylchiadau penodol, fod angen iddi gryfhau ei mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian. Rydym yn teimlo bod angen gwneud rhagor i sicrhau bod swyddogion yn arfer crebwyll proffesiynol, ac roedd ein hargymhelliad yn canolbwyntio ar yr angen am well dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr. Roeddem am weld diwedd ar naïfrwydd masnachol cyson Llywodraeth Cymru, ac nid ymdrinnir â hyn yn yr ymateb i'n hargymhelliad, nac yn wir yn yr ymatebion i adroddiadau blaenorol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sydd wedi galw am ddysgu gwersi.

Mae'r pwyllgor yn pryderu hefyd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 o'n hadroddiad, lle rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod wedi adfer y £100,000 o'r cyfrif ysgrow ers hynny. Nid yw'r ymateb yn ei gwneud yn glir pa bryd y dechreuodd camau i adfer y cronfeydd hyn, neu yn wir, a oedd unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i adfer yr arian tan iddi gael ei hysgogi i wneud hynny gan ein hargymhelliad. Mae hon yn enghraifft dda o naïfrwydd masnachol ymddangosiadol Llywodraeth Cymru. Pan wnaed y penderfyniad i beidio â buddsoddi, dylai adfer yr arian fod wedi digwydd fel mater o drefn, a dylai'r ymateb i'n hargymhelliad fod wedi dweud yn syml, 'Rydym wedi adfer yr arian hwn.'

Yn olaf, mewn perthynas ag argymhelliad 6, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn mynegi bod ganddi brosesau cadarn ar waith eisoes ar gyfer ymdrin â phryderon am gyfarwyddiadau gan swyddogion awdurdodi i wneud taliadau: maent yn abl ac yn hyderus i ddwyn y pryderon i sylw'r uwch-reolwr annibynnol. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi, a byddem yn croesawu mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â faint o achosion a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle y mynegwyd pryderon fel y rhain, a rhyw eglurhad ynglŷn â sut y mae'r prosesau hyn wedi profi'n gadarn. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl heddiw. Diolch.

15:50

Mae'n bleser cael dilyn y Cadeirydd i gyflwyno, rwy'n credu, yn gynhwysfawr ac yn gadarn iawn yr hyn sydd, rwy'n credu—rhaid i ni dderbyn—yn adroddiad go ddamniol. Ac yn wir, mae'n anodd meddwl am adroddiad pwyllgor mwy damniol nac yn wir adroddiad archwilydd cyffredinol a ddaeth gydag ef sy'n fwy damniol. Ar yr wyneb, fel y dywedodd, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion i gyd, ond pan edrychwch yn iawn ar y manylion, wrth gwrs, mae yna amheuaeth o hyd a yw'r gwirionedd sy'n sail i'r feirniadaeth wedi gwneud argraff ac yn mynd i newid yr arferion a ddatgelwyd gennym.

Rwyf mewn penbleth. Y £100,000 yn y cyfrif ysgrow, hynny yw, beth, nid oedd y Llywodraeth yn gwybod? Roeddent wedi anghofio? Un posibilrwydd, wrth gwrs, yw mai blaendal nad oedd yn ad-daladwy ydoedd, opsiwn i bob pwrpas, a gweld bod yr opsiwn felly'n ddi-rym oherwydd bod y Llywodraeth wedi penderfynu dirwyn y prosiect i ben. Mae hynny'n bosibl, ond byddent wedi gwybod, does bosib, oherwydd byddai hynny wedi'i gynnwys yn y papurau ar y pryd. Felly, efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ein goleuo ar y pwynt hwnnw.

Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddatgelu, rwy'n credu, yw diffygion sylfaenol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gwneud ei phenderfyniadau, a'r tryloywder, sy'n ffinio ar anhryloywder, sy'n ffinio ar—i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw—ddiffyg ystyriaeth rhyfygus ynghylch y gwirionedd ar adegau. Mae'n rhaid iddo fod yn onest am hynny. Mae'r penderfyniadau gwael hyn yno, wrth wraidd y ffordd y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â llu o fuddsoddiadau, bach a mawr, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ganolog iawn i waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Hoffwn ganolbwyntio ar un o'r ymatebion i'r argymhellion oherwydd, fel y dywedodd y Cadeirydd, yr hyn sy'n allweddol mewn gwirionedd, yw beth sy'n digwydd yn awr, mewn ymateb. Os ydym yn parhau i wneud yr un camgymeriadau, ni fyddwn byth yn dod allan o'r mathau o drafferthion rydym ynddynt mewn perthynas â'r prosiect hwn.

Dywed y Llywodraeth, mewn ymateb i argymhelliad 13, am y ddyled sydd heb ei thalu i'r Llywodraeth gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, ei bod yn ymwybodol o nifer o gynigion i atgyfodi'r prosiect, ac mae'n ymwybodol yn arbennig, o hyrwyddwr newydd y mae'n dweud ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu rhyddhau o'r atebolrwydd sy'n gysylltiedig â'r benthyciad hwnnw o £7.3 miliwn. Nawr, credaf fod angen inni wybod mwy am hynny, onid oes?

Credaf y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio'r cyfle hwn i ddweud mwy wrthym am y cynnig hwnnw, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n gynnig gan fuddsoddwyr neu ddatblygwyr eiddo tirol sy'n gweithio yn yr Unol Daleithiau, Rocksteady Partners—enw rhyfedd, fe gredaf, ar gwmni buddsoddi. Rwy'n credu eu bod yn protestio gormod, o bosibl. Mae Rocksteady, sy'n rhestru casinos mawr fel un o'i feysydd profiad allweddol ac yn wir, sydd ag un o'i nifer o swyddfeydd, mae'n deg dweud, yn Las Vegas, Nevada, yn hyrwyddo cynnig sy'n cyfuno'r trac rasio gyda datblygu cyrchfan hamdden ac mae'n cynnwys casino fel rhan o'i gynnig.

Mae'r Llywodraeth, yn ei hymateb, yn dweud, yn gyfnewid am eu rhyddhau o'r rhwymedigaeth, mai'r quid pro quo yw bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfran ecwiti. A yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn dweud ei bod yn agored i unrhyw gynnig a fyddai'n golygu ei bod hi, ac felly'r cyhoedd yng Nghymru, yn dal cyfran ecwiti mewn casino yn un o'r rhannau tlotaf o Gymru? Hynny yw, mae'n gwbl annerbyniol y gellid ystyried hynny fel cynnig hyd yn oed. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn codi i gyfrannu at y ddadl hon, gadarnhau mai'r hyrwyddwr newydd y mae'n sôn amdano yw Rocksteady Partners?

Y gwir mwy, rwy'n meddwl, a ddatgelwyd yma, yw pa mor echrydus o wael yr ydym am ymdrin â phrosiectau mawr. Rydym yn gwegian, mewn gwirionedd, o un prosiect sy'n creu newid sylfaenol i'r llall, ac ychydig iawn ohonynt sy'n cyflawni unrhyw beth. LG Semicon, Legend Court, Valleywood, Pinewood, nawr, wrth gwrs, Sain Tathan a'r morlyn llanw—rhesymau gwahanol dros fethiant y prosiectau hyn, ond mae'r map o Gymru yn frith o sbwriel breuddwydion briw, a rhaid inni dorri'r cylch hwnnw. Ceir rhai eithriadau: campws arloesedd bae Abertawe, Celtic Manor, y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd. Y gwahaniaeth yw pan fyddwn yn penderfynu creu rhywbeth ein hunain yn hytrach na dibynnu ar weithredwyr allanol, pa un a ydynt wedi'u lleoli yn Nevada ai peidio. Bydd hi bob amser yr un fath oni bai ein bod ni'n mynd y tu ôl i'r llyw. Os na wnawn hynny, ni chyrhaeddwn unman, a charwn apelio ar Lywodraeth Cymru: mae angen inni edrych ar adeiladu ein gallu i gyflawni prosiectau mawr, oherwydd yr hyn a ddatgelwyd yn hwn yw nad oes gan Lywodraeth Cymru mo'r sgiliau na'r profiad i wneud hynny ar hyn o bryd.

15:55

Roeddwn i'n meddwl bod ein Cadeirydd nodedig, mewn araith bwyllog a digyffro, wedi dangos gyda chywirdeb angheuol fethiant y Llywodraeth hon i gefnogi'r hyn a fyddai wedi bod yn brosiect ysbrydoledig a allai fod wedi trawsnewid de-ddwyrain Cymru gyfan. Pan ddechreuodd hyrwyddwyr Cylchffordd Cymru ar eu taith felancolaidd i gael cefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer y prosiect hwn, nid wyf yn tybio eu bod wedi meddwl, yn y pen draw, mai hwy fyddai'r unig rai a fyddai'n cael tro o gwmpas y gylchffordd, a hwnnw’n dro trwstan, ond dyna'n union a ddigwyddodd. Mae'n hanes brawychus o fyopia gwleidyddol, anghymhwysedd gweinyddol, gochelgarwch a dauwynebogrwydd hyd yn oed. A chytunaf ag Adam Price yn yr hyn a ddywedodd, na allai adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ac yn wir, adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod yn fwy damniol o Lywodraeth yn y ffordd y mae wedi ymdrin â hyn, neu unrhyw brosiect yn wir.

Roedd hyn yn mynd i sicrhau newid sylfaenol i'r Cymoedd gogleddol ac i dde Cymru yn ei gyfanrwydd, gan ddod â swm enfawr o arian y sector preifat—£410 miliwn—ar sail gwarant gyfyngedig gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi ymrwymo uchafswm o £8 miliwn y flwyddyn, am 30 mlynedd bosibl rhaid cyfaddef, rywbryd yn y dyfodol, ond gwarant a fyddai wedi'i diogelu ar asedau a fyddai, erbyn hynny, eisoes wedi cael eu hadeiladu. Felly, ni fyddai'n arian gwastraff; byddai rhywbeth i'w gael yn gyfnewid amdano. A chan dybio y byddai'r prosiect yn llwyddiannus, byddai'r Llywodraeth yn cael £3 miliwn y flwyddyn am ei gwarant. Felly, o ystyried bod y gwrthwynebiadau sydd wedi'u cynhyrchu gan y Llywodraeth ar wahanol gamau i gyd wedi bod yn wahanol eu hunain ac wedi cael rhywbeth yn y pen draw na fyddai neb wedi meddwl amdano ar y cychwyn hyd yn oed, ond a ddylai fod wedi bod yn hysbys mewn perthynas â dosbarthu dyled y sector preifat mor effeithiol ar fantolen y Llywodraeth am resymau sy'n parhau i fod yn aneglur, credaf fod hon yn stori warthus a ddylai fod yn destun ymddiheuriad mawr gan y Llywodraeth, er nad wyf yn siŵr y cawn unrhyw beth tebyg i hynny.

Nid oes amser i fanylu ar bob beirniadaeth a wnaed yn yr adroddiad hwn, ond gadewch inni edrych ar y £9.3 miliwn o gyllid prosiect a ddarparwyd, ar y cychwyn cyntaf, i sefydlu potensial datblygu'r prosiect hwn. Cefnogais y penderfyniad ar y sail fod hwn yn syniad gwerth ei gefnogi, ond ni fyddwn byth wedi cefnogi'r penderfyniad hwnnw pe bawn yn gwybod, yn y pen draw ac wedi dwy flynedd o waith ychwanegol a gwerth £50 miliwn o gostau datblygu a ysgwyddwyd gan hyrwyddwyr y sector preifat, fod y Llywodraeth yn mynd i roi diwedd ar y cynllun oherwydd dyfais gyfrifyddu yn llyfr rheolau'r Trysorlys. Roedd llyfr rheolau'r Trysorlys yno ar y dechrau. Os oedd posibilrwydd y byddai'r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel dyled Llywodraeth, ac yn amlwg, os na allai'r Llywodraeth ysgwyddo dyled bosibl o £400 miliwn, o ystyried y cyfyngiadau ar ei phwerau benthyca, dylai hynny fod ar y bwrdd o'r dechrau un. Nid ydym wedi cael unrhyw esboniad o hyd, hyd yn oed ar ôl hyn i gyd, pam na chafodd y ddyled sector preifat honno ei dosbarthu fel un a oedd ar lyfrau'r Llywodraeth.

Un peth na chawsom gan y prosiect hwn oedd unrhyw ddatganiad clir gan y Llywodraeth ynglŷn â pham y credent fod hwn yn brosiect nad oedd yn hyfyw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, mewn datganiadau amrywiol, wedi dweud nad oedd yn gwneud synnwyr o safbwynt masnachol, ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth yn deillio o'r broses diwydrwydd dyladwy a wnaed gan y Llywodraeth a allai ddangos hynny. Wrth gwrs mae'n brosiect hapfasnachol, mae'n brosiect sy'n dechrau o'r dechrau gyda safle moel, ond prosiect cyffrous a allai fod wedi trawsnewid Cymru gyfan, mewn gwirionedd, fel atyniad i dwristiaid a chyda'r parc modurol y gobeithiai'r datblygwyr ei ddenu ar sail y gylchffordd. Yn lle hynny, roedd y risgiau y cyfeiriais atynt yn awr yn ormod i'r Llywodraeth, ond yn y boced ôl, pan gafodd y cynllun ei lofruddio gan benderfyniad Cabinet—cawsant hyd i £100 miliwn yn y boced ôl o unman i adeiladu cyfres o siediau gwag heb unrhyw gwsmeriaid y gwyddys amdanynt ar eu cyfer. Nawr, mae hynny i'w weld yn baradocs rhyfeddol iawn—nad oeddent yn gallu derbyn £400 miliwn o arian preifat i adeiladu prosiect heb sail resymegol masnachol drosto, ond roeddent yn gallu dod o hyd i £100 miliwn o arian cyhoeddus i adeiladu rhywbeth nad oes unrhyw alw amdano, ar hyn o bryd o leiaf. Felly, dyfalu pur yw hynny.

Felly, credaf fod hon yn enghraifft warthus o gamreoli gan y Llywodraeth am yr holl resymau a nodwyd yn ogoneddus o amlwg, neu fel arall, yng nghwrs yr adroddiad. Ond am gyhuddiad ysgytiol yn erbyn y Llywodraeth—am hysbyseb echrydus i Gymru fel cartref posibl ar gyfer buddsoddiad sector preifat. Mae taer angen lleihau dibyniaeth Cymru ar y sector cyhoeddus a chael arian preifat i mewn, oherwydd mae angen inni gynyddu potensial creu cyfoeth yr economi i godi lefel incwm yn y wlad hon. Heb hynny, byddwn yn parhau â stori tlodi a dirywiad o dan Lywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan ymestyn yr hyn yr aethom drwyddo yn y 100 mlynedd diwethaf.

16:00

Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol ac mewn rhai achosion, at benderfyniadau anesboniadwy ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ariannu prosiect Cylchffordd Cymru. Croesawyd y prosiect yn eang, a rhoddai gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i ystyried ymarferoldeb y syniad o Gylchffordd Cymru, ond yn eu hawydd i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth, gwnaeth swyddogion gamgymeriadau a hepgoriadau sylfaenol ac arfer crebwyll gwael.

Y ffaith amdani yw bod prosiect Cylchffordd Cymru wedi cael ei drefnu'n ofnadwy. Gwastraffwyd miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr, a chafodd pobl Blaenau Gwent eu gobeithion wedi'u codi yn gyntaf, ac yna'u chwalu gan y modd carbwl yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect hwn. Conglfaen unrhyw ddemocratiaeth effeithiol yw goruchwyliaeth weinidogol, ac eto, yn yr achos hwn, roedd ar goll. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun o adran mewn anhrefn. I bob pwrpas, roedd swyddogion yn rhedeg y sioe ac yn gwneud penderfyniadau allweddol heb gymeradwyaeth weinidogol, ac ymhlith y camgymeriadau amlwg a wnaed gan y swyddogion, roedd y penderfyniad i gymeradwyo pryniant cwmni beiciau modur yn Lloegr. Prynwyd y cwmni, FTR, gydag arian a ddarparwyd gan grant datblygu eiddo Llywodraeth Cymru—grant y gellir ei ddefnyddio i ariannu pryniant tir ac eiddo gan y sector preifat i ysgogi datblygiad economaidd. Defnyddiodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd y grant o £300,000 i brynu FTR, sydd bellach wedi mynd i'r wal. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu egluro sut y cymeradwywyd y pryniant hwn pan nad oedd yr un o'r rhesymau a nodwyd yn cyd-fynd ag amcanion cymeradwy y cynllun grant datblygu eiddo. Yn wir, nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r penderfyniad hyd yn oed. Pan godwyd y mater gan yr Aelod Seneddol, cyhoeddwyd datganiad i'r wasg anghywir a chamarweiniol, yn dweud na ddefnyddiwyd unrhyw arian Llywodraeth Cymru i brynu FTR—datganiad i'r wasg a oedd yn tarddu o'r un tîm o swyddogion a oedd yn gyfrifol am gytuno'r gwariant cymwys ac awdurdodi taliad y cais am grant ar gyfer y caffaeliad.

Un enghraifft syfrdanol yw hon o'r nifer o bryderon a fynegwyd gan y pwyllgor ynghylch cadernid y broses o wneud penderfyniadau—pryderon am y seiliau rhesymegol ar gyfer gwahanol benderfyniadau a wnaed gan swyddogion, diffygion wrth gadw cofnodion a thystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a oedd yn osgoilyd ym marn y pwyllgor. Mae hyn i gyd yn arwydd o adran allan o reolaeth. Rhaid cymryd camau effeithiol i sicrhau na all hyn ddigwydd eto.

Mae'r pwyllgor yn galw am lywodraethu a sianeli cyfathrebu mewnol cadarn ac effeithiol i warantu nad yw pethau o'r fath yn digwydd eto. Fodd bynnag, ymddengys bod yna ddiwylliant o wobrwyo methiannau. Yn hytrach na gweithredu clir a chadarn gan y Prif Weinidog, methodd roi unrhyw sicrwydd y byddai swyddogion y gwelwyd eu bod yn gyfrifol am fethiannau a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cosbi. Lywydd, mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi methu goruchwylio ei buddsoddiad arian cyhoeddus ym mhrosiect Cylchffordd Cymru. Maent wedi methu dangos gwerth am arian y buddsoddiad hwn. Wrth wneud hynny, maent wedi gwneud cam â phobl Blaenau Gwent, a cham mawr ar hynny; maent wedi gwneud cam â'r trethdalwr; maent wedi gwneud cam â Chymru. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i siarad—Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn benodol, a gaf fi ddiolch i Nick Ramsay, Cadeirydd y pwyllgor, am roi cyfle i mi ymateb i'r argymhellion? Credaf ei bod yn deg dweud, er gwaethaf llawer iawn o ymdrech a gwaith ar bob ochr, nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gefnogi Cylchffordd Cymru gyda chyllid cyhoeddus. Gweithiasom yn anhygoel o galed gyda hyrwyddwyr y prosiect i gefnogi'r prosiect drwy gyfnod sylweddol o amser wrth inni lawn gydnabod yr effaith economaidd gadarnhaol bosibl a allai fod i brosiect cynaliadwy o'r math hwn mewn ardal ddifreintiedig. Roedd yn ymrwymiad mawr. Gall y pwyllgor a'r Aelodau yn y Siambr weld y gwaith a wnaeth y Llywodraeth ar archwilio ei hyfywedd. Fodd bynnag, roeddem bob amser yn glir fod angen i unrhyw gymorth a ddarperid gan y trethdalwr fod yn gymesur a theg. Er gwaethaf yr amser a'r cymorth a ddarparwyd, ni allodd hyrwyddwyr y prosiect ddarparu cynnig a oedd yn bodloni meini prawf penodol Llywodraeth Cymru, ac aseswyd bod cynnig terfynol y prosiect yn creu risg uchel iawn, gyda'r rhan fwyaf o'r risg, i bob pwrpas, yn cael ei hysgwyddo gan y Llywodraeth, ac felly gan y trethdalwr.

Aseswyd hefyd fod manteision honedig y prosiect, yn enwedig y swyddi a gâi eu creu, yn ansicr ar y gorau. Oherwydd yr holl ffactorau hyn a'r ffaith, er gwaethaf blynyddoedd o ymdrech, fod hyrwyddwyr y prosiect wedi methu llunio cynnig cadarn gyda chydbwysedd risg a gwobr priodol ar gyfer y trethdalwr, daeth y Cabinet i'r casgliad na allai ddarparu cymorth pellach. Yn gyffredinol, nid oedd fersiwn derfynol y prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian i drethdalwyr Cymru.

16:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nawr, rydym wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor ar gyllid cychwynnol Cylchffordd Cymru, a gobeithio y gallaf ddangos i'r Cadeirydd heddiw fy mod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r argymhellion hynny. Fe nodaf nifer o'r argymhellion y mae'r Aelodau eisoes wedi'u crybwyll, a gobeithio y gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd pellach.

Yn gyntaf oll, tynnodd y Cadeirydd sylw at argymhelliad 6. Buaswn yn hapus i roi ffigurau gan y Llywodraeth y gwnaed cais amdanynt gan Gadeirydd y pwyllgor. O ran argymhelliad 13, gadewch imi ddweud ar goedd nad ydym yn agored o gwbl i bresenoldeb casino yn un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o'r Deyrnas Unedig. Ceir nifer o hyrwyddwyr prosiectau, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae llawer o drafodaethau wedi digwydd—maent yn fasnachol gyfrinachol—ac nid cynnig Rocksteady yw'r unig gynnig sy'n cael ei ystyried.

Argymhelliad 3: nawr, mae darpariaeth y contract yn cyd-fynd ag arferion masnachol cyffredin, er y bydd swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi i gyngor cyfreithiol gael ei ddarparu a'n bod yn gallu canfod beth yw sefyllfa'r cyfrif ysgrow. Rydym eisoes wedi cydnabod bod gwersi i'w dysgu o elfennau'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect, mae hynny'n sicr, ac rydym wedi sefydlu prosesau newydd i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Rydym yn derbyn yr angen i gryfhau ein mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus. Rhaid i gamau gweithredu fod yn gymesur â'r risg sydd ynghlwm wrth y peth, yn ogystal â bod wedi'u dogfennu'n glir. Er enghraifft, rydym eisoes wedi gweithredu newidiadau i broses ymgeisio am y grant cyllid busnes. Rhaid i ymgeiswyr—mae'n rhaid iddynt bellach—egluro a yw cyllid Llywodraeth Cymru i gael ei dalu i gwmnïau cysylltiedig am nwyddau neu wasanaethau. Mae ymarfer ar y gweill hefyd i ystyried ein mesurau rheoli ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn fwy manwl, a rhoddir ystyriaeth i'r prosesau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod prosiectau cymhleth yn dangos gwerth am arian lle y caiff gweithgareddau eu caffael. Rhaid nodi y bydd prosesau diwydrwydd dyladwy priodol yn cael eu cyflawni ar unrhyw gwmnïau cysylltiedig a nodwyd yn y cam ymgeisio. A chyda lansio cronfa dyfodol yr economi newydd, adnewyddwyd yr holl ganllawiau ar gyfer swyddogion, a diweddarwyd y canllawiau risg. Hefyd rydym wedi diweddaru ein canllawiau mewnol i sicrhau y cynhwysir yr holl wybodaeth berthnasol y gellid ei hystyried yn newydd, yn ddadleuol neu'n arwyddocaol mewn cyngor gweinidogol a ddarparwyd yn rhan o'r broses gymeradwyo. Rydym hefyd yn derbyn y gellid bod wedi gwneud rhagor o waith ar gam arfarnu'r prosiect cyn cynnwys pryniant FTR o fewn costau cymwys y grant datblygu eiddo. Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, bydd pryniant FTR yn cael ei ddatblygu'n astudiaeth achos i'w defnyddio mewn sesiynau hyfforddi mewnol.

Nawr, nodir canllawiau ar bwysoli risg prosiectau o'r math hwn yn llawlyfr Eurostat ar ddiffygion a dyledion llywodraeth a gynhyrchir gan Drysorlys ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Nawr, rwy'n cydnabod y byddai'n werth i'r canllawiau hyn gael eu gwneud yn gliriach. Felly, i'r perwyl hwnnw, byddwn yn ymgysylltu ag eraill yn y DU a chyda'r ystadegwyr i bwyso arnynt i egluro a symleiddio'r rheolau dosbarthu. Mae'n eglur mai'r ystadegwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat sy'n gwneud penderfyniadau ffurfiol ar ddosbarthiad. Mae proses y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn un a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus ar sawl achlysur, pan fo Gweinidogion am fwrw ymlaen â ffordd benodol o weithredu. Er fy mod yn credu bod ein prosesau mewnol yn gadarn, rwy'n cydnabod y gellid gwella'r prosesau hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod na wnaed y defnydd gorau o'r berthynas rhwng swyddogion yng Nghymru a'u cymheiriaid datganoledig ac yn Llywodraeth y DU. Rwy'n hapus i ymrwymo i gamau a fydd yn egluro'r berthynas waith a'r prosesau hynny'n well.

Ddirprwy Lywydd, rhybuddiodd Nick Ramsay yn ystod ei gyfraniad fod yna berygl i dorri corneli pan fo brwdfrydedd gwleidyddion ynglŷn â rhai prosiectau yn tyfu'n ormodol. Mae rhai gwleidyddion yn parhau i fod yn rhyfeddol o gefnogol i'r cynnig a gafodd ei wrthod yn anffodus. Ond os caf ddweud un peth i orffen am brosiectau mawr a ddarparwyd yng Nghymru: achub maes awyr Caerdydd; dyfodiad CAF; Aston Martin Lagonda; yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, gyda chyfraniad o £4 biliwn at yr economi leol; y fasnachfraint reilffordd newydd sy'n werth £5 biliwn, a ganmolwyd ledled y DU; y clwstwr o led-ddargludyddion cyfansawdd; Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru—mae pob un o'r rhain yn brosiectau enfawr a gyflawnir gan y Llywodraeth hon.   

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl heddiw?

Os caf gyfeirio at rai o'r cyfraniadau—yn gyntaf, Adam Price. Adam, fe nodoch fod proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn wael, a dangoswyd hynny gan yr hyn a welsom yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth edrych ar y dystiolaeth o broses Cylchffordd Cymru a'r problemau. Ac rydych yn iawn: rhaid inni ddod allan o'r llanastr hwn. Credaf mai dyna'r brif neges a ddaw gan y pwyllgor. Rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, fel sy'n cael ei ddweud yn aml, ac mae angen edrych yn awr i'r dyfodol a gwneud yn siŵr fod y problemau sydd wedi digwydd yn y gorffennol—y camgymeriadau, os ydych am eu galw'n hynny, sydd wedi digwydd yn y gorffennol ar sawl lefel wahanol—yn cael eu hunioni fel na chaiff yr un camgymeriadau eu hailadrodd os ceir prosiect o'r math hwn eto yn y dyfodol. Fe ddefnyddioch chi'r ymadrodd, 'tirwedd o freuddwydion briw', a rhaid inni beidio ag anghofio ar ddiwedd hyn i gyd fod yna ardal o Gymru sy'n ddifreintiedig iawn, ac angen ei hadfywio, lle mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru roi gobaith ar gyfer y dyfodol, ar gyfer adfywio, ar gyfer ailddatblygu, ac roeddent yn disgwyl i'r prosiect hwn fod yn ffordd o godi eu hunain allan o'r problemau y maent ynddynt ac y maent wedi bod ynddynt ers amser hir iawn. Ac ni allwch ond deall bod y bobl hynny'n teimlo bod cyfle wedi'i gipio oddi wrthynt ar ôl y fath ddisgwyl hir pan oeddent yn meddwl y byddai'r prosiect hwnnw'n mynd rhagddo.

Neil Hamilton, fe ddisgrifioch chi brosiect Cylchffordd Cymru fel un ysbrydoledig ac fe sonioch chi am anghymhwysedd syfrdanol ar hyd y llwybr a gymerwyd. Fel y dywedoch, gallai Cylchffordd Cymru fod wedi newid pethau'n sylfaenol, ac rydych chi'n iawn, ni allai'r pwyllgor ddirnad pam y rhoddwyd y prosiect o'r neilltu yn y pen draw, pam y cafodd ei ddirwyn i ben yn y pen draw, o ganlyniad i ddyfais gyfrifyddu yn llyfr rheolau'r Trysorlys. Ac fel y dywedoch chi, wrth gwrs, nid oedd y ddyfais gyfrifyddu'n ychwanegiad newydd i lyfr rheolau'r Trysorlys. Roedd wedi bod yno o ddiwrnod cyntaf y prosiect hwn, o gamau cyntaf y prosiect hwn. Felly, ni allem ddeall—a chredaf ar ddiwedd ein trafodaethau na allai'r pwyllgor ddeall—pam na chrybwyllwyd y ddyfais gyfrifyddu yn llawer cynharach fel rheswm dros beidio â bwrw ymlaen gyda'r prosiect, fel rheswm dros fynd at y datblygwyr a dweud, 'Edrychwch, mae hyn yn rhywbeth na all Llywodraeth Cymru ei fforddio.' Ni allem ddeall hynny. Nid oedd diwydrwydd dyladwy, a gafodd ei gyflawni, i'w weld ar y diwedd yn rhan o'r broses benderfynu derfynol. Felly, mae'n peri i ni ofyn: 'Pam y gwnaethoch chi'r diwydrwydd dyladwy?' Wel, wrth gwrs, rhaid ichi wneud y diwydrwydd dyladwy; mae hynny i gyd yn rhan o roi caniatâd i brosiect. Felly, mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le yn yr achos hwnnw.

Mohammad Asghar, fe gyfeirioch chi at broses wneud penderfyniadau 'anesboniadwy'—a dyna'r term sy'n ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwyddo draw—a arweiniodd at wastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac roedd hi'n ymddangos, o'n safbwynt ni, fod yna ddiffyg goruchwyliaeth weinidogol neu ddiffyg trywydd papur fan lleiaf i benderfynu a oedd goruchwyliaeth weinidogol ai peidio ac yn fy marn i, dyna oedd un o'r pethau a berai fwyaf o bryder o'r cyfan. Ni allem weld a oedd—nid chi, nid y Gweinidog presennol; y Gweinidog blaenorol a oedd ynghlwm wrth hyn. Ni allem benderfynu a oedd hi wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ariannu rhan FTR y cynllun ai peidio. Ni chafwyd trywydd papur. Am swm o £300,000, ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol. Efallai fod yna gytundeb ar lafar, ond ni all hynny fod yn ddigon. Fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rhaid inni allu dangos, pan fydd prosiectau ac arian yn cael eu cymeradwyo, fod yna reswm dilys dros wneud hynny. Felly, roedd hynny'n amlwg yn rhan wael o'r broses hon.

Yn olaf, a gaf fi groesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet? Gwnaethoch nifer o bwyntiau da iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y materion a nodais a'r materion y mae Aelodau eraill wedi'u crybwyll ac a nodwyd gan yr adroddiad, a'ch bod yn bwriadu unioni rhai o'r rhain—yr holl bethau hyn. A gadewch i ni fod yn glir, mae rhai o'r Aelodau yma wedi bod yn llafar iawn eu cefnogaeth i Cylchffordd Cymru ers amser maith ac yn parhau i fod. Nid yw rhai Aelodau wedi bod yn hoff o'r prosiect o gam cynnar iawn. Nid dyna oedd diben y pwyllgor. Nid oeddem yn edrych ar hyn er mwyn dweud a oedd hwn yn benderfyniad polisi cywir gan Lywodraeth Cymru ai peidio. Rydym yno i ddweud, ar hyd y ffordd, wrth wneud penderfyniadau a phan gâi arian ei ryddhau, fod hynny wedi'i wneud am y rhesymau cywir. Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud na allai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddweud bod gwerth am arian wedi'i gyflawni wrth wario arian ar y prosiect hwn mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym yn gobeithio o ddifrif, yn y dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru'n dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yma. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod y gwersi hynny wedi'u dysgu. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi'u dysgu'n gyfan gwbl eto. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd y gwersi wedi'u dysgu ac na fydd cadeirydd cyfrifon cyhoeddus yn sefyll yma yn y dyfodol, yn dweud am brosiect yn y dyfodol, 'Onid yw'n drueni na ddysgwyd y gwersi hyn?' Mae angen inni wneud hyn ar gyfer Cylchffordd Cymru. Gadewch i ni unioni hyn a gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, nad yw'r camgymeriadau hyn yn cael eu gwneud.

16:20

Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM6765 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf i agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad hwn mewn ymateb i’r pryderon cynyddol ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn lleoliadau cartrefi gofal i reoli ymddygiad heriol pobl sydd â dementia. Fel y gwyddom i gyd, caiff meddyginiaeth wrthseicotig ei defnyddio fel arfer wrth drin cyflyrau iechyd meddwl megis sgitsoffrenia, a dim ond un feddyginiaeth, sef risperidone, mewn rhai amgylchiadau, sy’n drwyddedig yn y Deyrnas Unedig i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia.

Fodd bynnag, yn ystod ein gwaith craffu ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia, dywedwyd wrthym fod y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig yn peri pryder mawr i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd. Mae meddyginiaeth wrthseicotig yn gysylltiedig â risg gynyddol o ddigwyddiadau niweidiol serebro-fasgwlaidd a mwy o farwolaethau pan gaiff ei defnyddio gyda phobl sydd â dementia. Mae astudiaethau’n amcangyfrif bod o leiaf 1,800 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn ym Mhrydain ymhlith pobl sydd â dementia o ganlyniad iddynt gymryd meddyginiaeth wrthseicotig a bod y tebygolrwydd o farw cyn pryd yn cynyddu os bydd pobl yn cymryd y cyffuriau hyn am fisoedd neu flynyddoedd yn hytrach nag am wythnosau. Felly, mae’n bwysig mai dim ond lle y bo’n hollol angenrheidiol y defnyddir meddyginiaeth wrthseicotig, y caiff ei hadolygu’n rheolaidd, ac mai’r dosau lleiaf posibl yn unig a roddir i’r claf.

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym. Cawsom 18 o ymatebion ysgrifenedig a oedd yn cynrychioli ystod o sefydliadau gofal iechyd a grwpiau proffesiynol. At hynny, clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o dystion. Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ac rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r bobl y mae defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig wedi effeithio arnynt am rannu eu profiadau â ni. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom. A diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb a’i lythyr dilynol yn y dyddiau diwethaf yma a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion am ei ymateb i rai argymhellion.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â chasglu data. Dywedwyd wrthym fod y diffyg data a chofnodion yn golygu bod anhawster mawr wrth bennu darlun cenedlaethol o nifer yr achosion a phatrymau rhagnodi meddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal. Rydym yn gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i wneud gwelliannau a chasglu data newydd, ond bydd yn dal i fod cyfyngiadau gyda'r data newydd a gesglir a bylchau yn ein dealltwriaeth o nifer y bobl hŷn mewn cartrefi gofal sy'n cael meddyginiaeth wrthseicotig amhriodol ar bresgripsiwn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, o fewn 12 mis, fod pob bwrdd iechyd yn casglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn ar y cynnydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 12 mis. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn unig.

Wrth basio, yn amlwg, o'r 11 o argymhellion a wnaeth y pwyllgor, cafodd chwech eu derbyn mewn egwyddor, cafodd pedwar eu derbyn, a chafodd un ei wrthod, a chafodd yr argymhelliad hwn ynglŷn â chasglu data ei dderbyn mewn egwyddor. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, yn nodi bod cyfyngiadau sylweddol gyda data rhagnodi a gesglir fel mater o drefn, sy'n golygu, mae'n dweud,

'nad yw’n bosibl priodoli presgripsiynau’n rhwydd i breswylwyr mewn cartrefi gofal'.

Fodd bynnag, clywsom mewn tystiolaeth ei fod eisoes yn digwydd mewn rhai byrddau iechyd, sy'n arwain at y cwestiwn: os gall rhai ei wneud, pam na all pob un ei wneud? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gynnull grŵp o arbenigwyr perthnasol i edrych ar ddefnyddioldeb ffynonellau data amrywiol a chynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi. Ymddengys bod hyn yn awgrymu y byddant yn archwilio ffynonellau data presennol ac yn cynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi, ac nid yw hynny'n rhoi'r argraff y bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei dderbyn o gwbl. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y cylch gorchwyl a'r amserlen ar gyfer y grŵp arbenigol hwn.

Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â chydymffurfio â chanllawiau NICE. Mae'r canllawiau NICE ar ddementia yn cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol neu ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn trallod difrifol neu fod risg uniongyrchol o niwed iddynt hwy neu i eraill. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym y defnyddir meddyginiaeth wrthseicotig fel mesur diofyn mewn cartrefi gofal a rhai wardiau ysbyty pan fydd pobl â dementia yn anodd eu trin. Dywedwyd wrthym hefyd nad yw ymarfer presennol yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau NICE. Rydym yn cytuno â thystion ei bod yn hanfodol cael cydymffurfiaeth lawn â chanllawiau clinigol NICE. Felly, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn ynglŷn â chyfraddau cydymffurfio o fewn 12 mis. Felly, er ei fod yn rhannu pryderon y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer rheoli symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia pan nad yw defnydd o'r fath yn cydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddwyd gan NICE, mae'n siomedig nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, sydd unwaith eto'n awgrymu na chaiff ei weithredu'n llawn.

Mae ein trydydd argymhelliad yn ymwneud â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dywedwyd wrthym fod meddyginiaeth wrthseicotig yn cael ei defnyddio fwyfwy fel mater o drefn mewn ymateb i ymddygiad heriol, yn lle bod staff yn gweithio i ganfod yr hyn sydd wrth wraidd yr ymddygiad hwnnw. Yn aml, bydd gan unigolyn sy'n byw gyda dementia sy'n arddangos ymddygiad heriol angen nas diwallwyd nad yw'n gallu ei gyfathrebu o bosibl, ac os gellir canfod yr angen, gellir gwella'r sefyllfa'n fawr heb feddyginiaeth wrthseicotig. Felly, mae'n bwysig edrych ar yr unigolyn cyfan i ddeall beth sy'n achosi ymddygiad penodol. Teimlai'r pwyllgor yn gryf iawn ynglŷn â'r angen i edrych ar yr unigolyn cyfan er mwyn deall beth allai fod yn achosi ymddygiad penodol, a chlywsom lawer o enghreifftiau o restrau gwirio arfer da y gellid eu defnyddio gan staff mewn cartrefi gofal i nodi achosion posibl dros ymddygiad yr unigolyn. Un adnodd o'r fath yw'r proffil adwaith niweidiol i gyffuriau—ADRe—offeryn cyfleus a chryno sy'n gofyn i nyrsys archwilio eu cleifion yn systematig am arwyddion a symptomau'n ymwneud ag effeithiau annymunol meddyginiaethau a rhannu'r wybodaeth gyda rhai sy'n rhagnodi a systemau adolygu meddyginiaethau fferyllwyr.

Felly rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pawb sydd â dementia sy'n arddangos ymddygiad heriol yn cael asesiad gofal cyfansawdd o anghenion yr unigolyn. Dylai weithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol i ddatblygu offeryn rhestr wirio safonol fel yr un a amlinellwyd, i'w ddefnyddio gan staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi a thrin, neu ddiystyru achosion posibl o ymddygiad heriol, gan gynnwys anghenion corfforol neu emosiynol heb eu diwallu, a chynnwys gofyniad i ymgynghori â'r unigolyn a'u gofalwyr neu eu teulu. Dylai'r rhestr wirio fod ar gael o fewn chwe mis a rhaid iddi gofnodi'r camau a gymerwyd i ddangos bod pob opsiwn arall wedi'u hystyried cyn ystyried y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig fel y'u rhagnodir ar gyfer pobl â dementia. Unwaith eto, derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan eu bod wedi dechrau rhoi sylw eisoes fel rhan o'r broses o gyflwyno fframwaith addysg a hyfforddiant 'Gwaith Da' i ddatblygu asesiad cynhwysfawr a chynlluniau gofal i gefnogi'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth i'r pwyllgor yn awgrymu bod lefel yr ymwybyddiaeth o'r fframwaith 'Gwaith Da' yn isel ac nid yw eto'n cael ei ddefnyddio gan lawer o gartrefi gofal.

Yn ei lythyr dilynol yr wythnos hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn atgyfnerthu ei gefnogaeth i'r dull bras o deilwra'r gofal y mae person â dementia yn ei gael yn ôl asesiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'u hanghenion. Dywed hefyd ei fod yn credu na all y defnydd o un offeryn safonol adlewyrchu'n gywir beth yw anghenion ac amgylchiadau pob unigolyn, ac mae'n ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o egwyddorion. Rwy'n deall pwynt Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'i amharodrwydd i gymeradwyo un dull gweithredu neu offeryn penodol, felly buaswn yn croesawu mwy o fanylion ynglŷn â sut y mae'n bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid, a sut beth fydd y gwaith hwn.

Er bod chwech allan o 11 o argymhellion wedi'u derbyn mewn egwyddor, rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad 7 a'i sicrwydd mai un rhan annatod o rôl yr ymgynghorydd dementia proffesiynol perthynol i iechyd fydd gwella mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal. Yn yr un modd, mae derbyniad argymhelliad 8 a chydnabod rôl allweddol therapyddion lleferydd ac iaith yn gwella canlyniadau i bobl â dementia i'w groesawu'n fawr hefyd.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, rwy'n siomedig iawn ynglŷn ag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, mae'r naratif cysylltiedig yn awgrymu fel arall, gyda diffyg ymrwymiad gwirioneddol ac amserlenni clir ar gyfer mynd i'r afael â'r mater fel blaenoriaeth.

Fel pwyllgor, credwn fod angen newidiadau diwylliannol a systemig sylweddol i sicrhau bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi'n briodol ac nid fel opsiwn cyntaf. Mae rhoi meddyginiaeth ddiangen i bobl agored i niwed mewn gofal yn fater hawliau dynol sylfaenol, ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym a'r argymhellion a wnaethom i ysgogi cynnydd a sicrhau'r atebion sydd eu hangen i ddiogelu rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Diolch yn fawr.

16:30

Rwy'n ddiolchgar i'r holl dystion a ddaeth i roi tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae rhai o'r straeon personol a glywsom yn gwbl ddirdynnol ac wedi bod yn agoriad llygad mawr i lawer ohonom.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol fod meddyginiaeth bwerus yn cael ei defnyddio'n amhriodol neu heb ei hadolygu fel mater o drefn—meddyginiaethau sy'n llethu'r meddwl, y corff a'r ysbryd. Eto, ar y llaw arall, mae pawb ohonom yn dweud ein bod am lynu wrth egwyddorion urddas a pharch, a dyna pam y teimlwn fod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yn hollol dorcalonnus, oherwydd credaf fod adroddiad ein pwyllgor wedi nodi'n glir y ffaith bod yna grŵp o bobl sy'n agored i niwed nad ydynt yn cael eu trin ag urddas a pharch. Mae pobl yn bwysig, mae pob unigolyn yn bwysig, a'r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas a'r mwyaf agored i niwed sydd fwyaf pwysig, gan mai eu lleisiau hwy a ymyleiddiwyd fwyaf ac a glywir leiaf yn aml, ac mae rhai o'r lleisiau distawaf mewn cartrefi gofal preswyl.

Roeddwn yn teimlo bod gwrthod argymhelliad 9 yn diystyru grŵp o bobl agored i niwed. Yma rydym yn gofyn am ddull o asesu'r cymysgedd sgiliau priodol sydd ei angen ar gyfer staff gofal cartref ac yn gofyn i chi, Lywodraeth Cymru, gynhyrchu canllawiau ar hyn i sicrhau bod yna lefelau staffio diogel a phriodol ym mhob cartref gofal. Y bore yma, yn ein pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, roeddech chi a'ch cyd-Aelod y Gweinidog gofal cymdeithasol yno'n sôn wrthym ynglŷn â sut y mae pob unigolyn yn haeddu triniaeth holistaidd, ein bod am edrych ar yr unigolyn yn naratif cyfan eu bywydau, ein bod am sicrhau eu bod yn y lle iawn, yn cael y driniaeth iawn, ar yr adeg iawn. Eto i gyd, mae'r ffaith eich bod yn gwrthod yr argymhelliad fod gan bobl mewn cartrefi gofal yr hawl honno hefyd yn peri pryder mawr i mi.

Rwy'n teimlo ei fod yn destun pryder mawr am mai un o'r rhesymau a roddwyd gennych oedd bod llu o reoliadau ar waith yn barod yn sôn am y mathau o staff a ddefnyddir a nifer y staff a ddefnyddir, felly nid ydych yn ystyried bod angen mecanwaith ychwanegol. Eto i gyd, mae gennym Arolygiaeth Gofal Cymru eu hunain yn dweud eu bod yn poeni am gartrefi gofal sydd â'r dosbarthiad cofrestru henoed eiddil eu meddwl, neu ddementia heb fod ganddynt staff sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn gwirionedd. Suzy.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn meddwl tybed ai'r rheswm dros amharodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo i'r argymhelliad penodol hwn yw y byddant yn dileu nyrsio parhaol mewn cartrefi gofal preswyl ac na fydd nyrsys yno am 24 awr, fel y mae rhai ohonynt ar hyn o bryd?

Gallai hynny fod yn ffactor. Ond gwn, er enghraifft, fel rhywun sydd â pherthnasau sydd wedi dioddef dementia, y buaswn yn arswydo pe bawn yn meddwl fy mod yn mynd i roi rhywun sy'n annwyl i mi mewn cartref gyda dosbarthiad sy'n dweud, 'Dyma gartref gofal sy'n gallu ymdrin mewn modd cyfannol a chyflawn ag unigolion sydd â dementia', a buaswn yn credu hynny, ac yn dweud, 'O gwych, mae'r un sy'n annwyl i mi mewn lle diogel'—nid yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru.

Aeth Gofal Cymdeithasol Cymru ymlaen i ddweud ei bod yn hanfodol fod cartrefi gofal yn cael eu staffio gan bobl sy'n meddu ar sgiliau digonol i ddarparu dull o ofalu ataliol sy'n sensitif i anghenion yr unigolyn. Rwy'n credu'n gryf na allwch ddweud, 'Mae argymhelliad 9 yn ddiangen', oherwydd mae rhai o'r cyrff gwarchod a roddwyd ar waith gennych i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn yn dweud nad ydym yn gwneud y peth iawn. Yn sicr, eich dyletswydd absoliwt chi, Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â hynny a gwneud yn siŵr fod cartrefi gofal wedi eu hasesu'n briodol yn ôl y safonau cywir fel bod pobl yn gwybod lle y dylent allu teimlo'n ddiogel i roi pobl y maent yn eu caru.

Argymhellion eraill a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig—mae'r rhain yn peri dryswch hefyd. Mae gennyf rai, ond rwy'n mynd i sôn am argymhelliad 2.

Mae argymhelliad 2 o adroddiad y pwyllgor yn dweud ein bod yn bryderus nad yw pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau NICE sy'n cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol ar gyfer ymddygiad heriol oherwydd dementia. Nawr, rydych yn dweud yn eich ymateb eich bod yn rhannu ein pryderon ynghylch y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Rydych yn dweud hefyd, ac rwy'n dyfynnu:

'Fodd bynnag, nid mater hawdd yw penderfynu a yw meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi yn unol â chanllawiau NICE.'

Wel, iawn, lleygwr wyf fi—pam nad yw'n fater hawdd? Proffesiwn yw hwn. Mae'n llawn o weithwyr proffesiynol. Rhaid iddynt ufuddhau i'r rheolau. Pam na allwn sicrhau bod unigolyn agored i niwed nad oes ganddo lais, nad yw'n cael ei glywed, rhywun sy'n cael ei gau mewn cartref gofal, heb eiriolwr, rhywun nad oes ganddo aelod o'r teulu i hyrwyddo ei achos, rhywun na fydd yn gallu dweud, 'A wyf i'n cael y pethau iawn?', sydd wedi colli'r llais hwnnw, neu rywun y mae ei lais mor wan fel nad ydym yn ei glywed—? Pam, o pam, nad yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd wybod a yw'r holl bobl hynny'n cael eu trin yn briodol yn ôl y canllawiau NICE a luniwyd gan yr holl arbenigwyr?

Ceir argymhellion eraill—rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd—ond rwy'n poeni'n fawr, oherwydd rwy'n credu bod 'derbyn mewn egwyddor' yn golygu, 'Ni feddyliwyd amdano yma, nid ydym yn barod iawn i'w wneud, ond fe dwyllwn ni chi ychydig bach a dweud, "Iawn, fe edrychwn arno".' Ni allwn beidio ag edrych arno. Mae hwn yn adroddiad da iawn, ac mae'r bobl hyn yn haeddu peidio â chael meddyginiaeth amhriodol pan nad oes ei hangen arnynt.

16:35

I mi, mae hwn yn fater sy'n ymwneud yn llwyr â hawliau dynol. Dywedir weithiau mai'r hyn sy'n dynodi cymdeithas wâr yw sut rydym yn trin ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac i mi, mae hynny'n mynd at wraidd y mater hwn.

Fel y dywedodd y Cadeirydd, un cyffur gwrthseicotig yn unig, risperidone, a drwyddedwyd i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia, ac eto gwyddom fod meddyginiaethau gwrthseicotig eraill yn cael eu rhagnodi'n eang i'r rheini sy'n byw gyda dementia, a bod sgil-effeithiau peryglus i'r meddyginiaethau gwrthseicotig hyn, risg o godymau a'r risg o farwolaeth gynnar. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch yr arfer hwn gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur, ac mewn adroddiadau eraill i Lywodraeth Cymru. Tynnir sylw at yr union fater hwn yn adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor iechyd yn y pedwerydd Cynulliad.

Felly, y cwestiwn i mi heddiw yw a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn darparu'r sicrwydd y mae'r pwyllgor yn chwilio amdano: ein bod yn mynd i weld gweithredu cyfunol i atal rhagnodi meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol. A rhaid imi ddweud, yn anffodus, nad yw'n gwneud hynny i mi. Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn yr alwad y dylai'r holl fyrddau iechyd gasglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o'r feddyginiaeth hon mewn cartrefi gofal mewn egwyddor yn unig? Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod rhai byrddau iechyd eisoes yn gwneud hyn. Pam nad oes modd i bob un ohonynt wneud hynny? Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig yr alwad i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia? Y cwestiwn y dylem ei ofyn heddiw yw: pam nad ydynt yn gwneud hynny'n barod?

Nawr, mae'n gas gennyf yr ymadrodd 'ymddygiad heriol' i ddisgrifio ymddygiad y bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn ei arddangos, yn amlach na pheidio, pan na fydd eu hanghenion yn cael eu diwallu—pan fyddant mewn poen, pan fyddant angen y toiled, pan fyddant yn unig neu wedi diflasu. Yn amlach na pheidio, yr anghenion nas diwallwyd hynny sy'n arwain at ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol. Dyna pam fod nifer o argymhellion y pwyllgor yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod gofal safonol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda.

Nawr, fel y nodwyd, gwrthodwyd argymhelliad 9, a gynlluniwyd i sicrhau bod gennym y nifer gywir o staff gyda'r cymysgedd priodol o sgiliau mewn cartrefi gofal. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi eglurhad pellach ar y rhesymau y tu ôl i hynny, ond hoffwn gael sicrwydd pellach ganddo heddiw fod y mesurau y cyfeiriodd atynt, y rheoliadau sy'n mynd drwodd, ond hefyd y Ddeddf lefelau staff nyrsio, nad yw'n berthnasol i gartrefi gofal—sut y mae honno'n mynd i wella'r sefyllfa ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Mae argymhelliad 10 yn galw am ddatblygu safonau cenedlaethol i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl â dementia yn cael hyfforddiant ar gyfer rheoli ymddygiad heriol. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Unwaith eto, rydym wedi gwybod ers blynyddoedd fod hon yn broblem. Roedd yn adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'Lle i'w Alw'n Gartref?' Ni ddylai fod y tu hwnt i'n gallu i sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio gyda'n dinasyddion agored i niwed sydd â dementia y lefel sylfaenol honno o hyfforddiant dementia, ac mae gennym fodel ardderchog ar ei gyfer yn ein hyfforddiant Cyfeillion Dementia. Hefyd mae'n hanfodol cofio bod yna arferion da iawn i'w cael fel y gwelir gyda phethau fel gwaith pontio'r cenedlaethau. Gwahoddais Ysgol Gynradd Griffithstown i ymweld â'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia y diwrnod o'r blaen, ac roeddent yn siarad yn frwdfrydig iawn am y gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl sy'n byw gyda dementia, sy'n sicrhau manteision mawr i'r bobl hynny ac mae wedi bod yn drawsnewidiol i'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd.

Roeddwn am orffen drwy sôn am yr argymhelliad olaf, sy'n ymwneud â'r angen i wneud gwaith pellach i edrych ar raddau rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig i bobl ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru. Mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen. Dyma rai o'n dinasyddion mwyaf di-lais yng Nghymru, a chredaf fod gennym ddyletswydd arbennig i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Derbyniwyd yr argymhelliad penodol hwnnw mewn egwyddor, ond mae'n swnio, o ddarllen y naratif, fel pe bai'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i edrych arno o ddifrif, ond buaswn yn erfyn arno i wneud hynny ar fyrder yn awr.

Mae'n hanfodol hefyd ei fod yn bwrw iddi ar fyrder i wneud y gwaith ar ymestyn y ddeddfwriaeth lefelau staff nyrsio i gynnwys wardiau ysbytai ar gyfer pobl â dementia oherwydd maent angen y gofal hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gennym ddyletswydd, bob un ohonom, i wrando ar leisiau'r bobl sy'n byw gyda dementia er mwyn sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed ac i gynnal eu hawliau.

16:40

Rydw i'n meddwl y gallaf i siarad ar ran pob un ohonom ni sy'n Aelod o'r Cynulliad yma drwy ddweud ein bod ni'n dysgu llawer yn aml iawn wrth ymwneud â gwahanol ymgynghoriadau, ac mi wnaf i ddechrau fy nghyfraniad i efo cyfaddefiad: nid oeddwn i wedi sylweddoli cymaint oedd graddfa y mater yma oedd dan sylw. Nid oeddwn i wedi sylweddoli maint y broblem. Ond unwaith i ni ddechrau cymryd tystiolaeth fel pwyllgor, mi ddaeth hi'n amlwg iawn i fi a fy nghyd-Aelodau fod y dystiolaeth yr oeddem ni'n ei chlywed ac yn ei darllen yn bwerus ac yn ddirdynnol, ac mi oedd hi fel gwylio sgandal yn ymddangos o flaen fy llygaid—neu fel yna roeddwn i'n teimlo—gyda thyst ar ôl tyst yn adrodd wrthym ni stori a oedd yn gyson iawn ac yn ddirdynnol tu hwnt.

Nid ydw i'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn ein cartrefi gofal ni ag ysbytai yn digwydd oherwydd esgeulustod neu falais yn gyffredinol, ond mi ydw i'n grediniol, ar ôl ein gwaith ymchwil ni, mai camdriniaeth ydy'r hyn sydd yn digwydd. Dyna ydy'r canlyniad, a'r hyn sy'n digwydd ydy ein bod ni wedi caniatáu i'r defnydd o feddyginiaethau diangen, sydd gyfystyr i fi â cham-drin difrifol, ddod yn rhywbeth normal, ac mae'n rhaid rhoi pen ar hynny. Y gwir amdani ydy bod rhoi meddygaeth ddiangen i bobl fregus yn fater difrifol, ac fel rydym ni fel pwyllgor yn ei ddweud yn glir iawn yn yr adroddiad yma, mi oedd hi'n bryderus iawn clywed pa mor aml roedd hyn yn cael ei ddewis fel opsiwn cyntaf, nid fel dewis olaf. A dyna pam—oherwydd y difrifoldeb yma—rydym ni'n ystyried hyn. Dyna pam rydym ni wedi gwneud argymhellion ar wneud yn siŵr bod yna gydymffurfiaeth â chanllawiau NICE, bod angen datblygu rhestr wirio i staff gofal, bod angen rhoi sgiliau angenrheidiol i’r staff gofal i ymdrin ag ymddygiad heriol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Rydw i mor siomedig yn ymateb y Llywodraeth. Er mai dim ond un argymhelliad maen nhw wedi’i wrthod, o edrych ar y rhai maen nhw yn eu derbyn mewn egwyddor, waeth iddyn nhw fod wedi eu gwrthod nhw ddim. Yn ymarferol, mae ymateb y Llywodraeth yn golygu eu bod nhw am drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros weithredu i bobl eraill. Er enghraifft, yn argymhelliad 2, mae’r Llywodraeth yn dweud mai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am gydymffurfio efo canllawiau NICE. Mewn argymhellion eraill, mae’r Llywodraeth jest yn dweud y byddan nhw’n gofyn i randdeiliaid neu grwpiau cynghori i ystyried yr adroddiad yma wrth gynnal adolygiadau a diweddaru canllawiau. Mae fel pe baen nhw’n credu nad oes yna rôl i’r Llywodraeth rhywsut wrth gyhoeddi canllawiau a darparu arweinyddiaeth yn y maes yma.

16:45

Ar eich pwynt ynglŷn â gwadu cyfrifoldeb, wrth ddweud efallai mai'r byrddau iechyd a ddylai fod yn gyfrifol am weithredu canllawiau NICE, a gredwch fod angen inni roi mwy o rym i sefydliad fel Arolygiaeth Gofal Cymru ar ran y Llywodraeth, neu ar ein rhan ninnau, fel y gallant wneud yn siŵr fod y rheini sy'n torri'r canllawiau hynny'n cael eu cosbi'n briodol?

Credaf fod hwnnw'n awgrym cwbl ddilys. Y casgliadau y daethom iddynt oedd bod angen amrywiaeth eang o gyrff â dannedd, a chyrff sy'n cael eu grymuso i helpu i roi diwedd ar y cam-drin systematig hwn, sef yr hyn ydyw bellach.

Os edrychwn ni ar argymhelliad 9, yr un sy’n cael ei wrthod, mae rhesymeg y Llywodraeth yn ddryslyd iawn, rwy’n meddwl. Mae hwnnw’n argymell bod  Llywodraeth Cymru’n datblygu dull ar gyfer asesu'r cyfuniad priodol o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer staff y cartrefi gofal, a llunio canllawiau ar hyn i sicrhau bod lefelau staffio diogel a phriodol ym mhob cartref gofal. Mae’r Llywodraeth yn gwrthod hyn drwy ddadlau nad oes angen mecanwaith ychwanegol arnyn nhw am fod rheoliadau yn eu lle yn barod sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr cartrefi gofal ddangos sut maen nhw wedi dod i benderfyniad ynglŷn â’r math o staff sydd eu hangen arnyn nhw. Ond mae’n eithaf clir nad ydy’r rheoliadau yna’n cyflawni yr hyn mae yr argymhelliad yma yn ein hadroddiad ni yn gofyn amdano fo. Rŷm ni’n gofyn i’r Llywodraeth ddweud wrth gartrefi gofal beth ddylen nhw fod yn ei wneud a rhoi'r canllawiau mewn lle i helpu’r cartrefi gofal hynny. Yr un peth ddaeth yn amlwg i fi oedd gymaint o rôl sydd gan fferyllwyr i’w chwarae, ac maen nhw eisiau chwarae rhan llawer mwy blaengar mewn datrys y sefyllfa hon. Mae eisiau eu grymuso nhw, a dyna’r math o weithredu rhagweithiol rŷm ni angen ei weld gan y Llywodraeth. Felly, ydw, rwy’n siomedig yn y Llywodraeth yma.

Mi wnaf gloi drwy atsain geiriau Cadeirydd y pwyllgor, Dr Dai Lloyd, a geiriau sydd wedi cael eu dweud gan eraill. Rŷm ni’n sôn am dramgwyddo hawliau dynol yn fan hyn. Rwy’n gwbl grediniol o hynny. Nid yw bod eisiau mynd i’r afael â’r math yna o dramgwyddo hawliau dynol yn rhywbeth y gallwch chi ei dderbyn mewn egwyddor. Mi ddylai pob un ohonom ni fod yn benderfynol o wneud popeth sydd ei angen er mwyn edrych ar ôl rhai o’r bobl fwyaf bregus sydd gennym ni.

Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor, staff Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a'r tystion amrywiol sydd wedi ein helpu i gynnal yr ymchwiliad hwn. Roedd adroddiadau'r tystion yn aml yn ddirdynnol ac yn anodd gwrando arnynt.

Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus pwysig yng Nghymru; credir ei fod yn effeithio ar oddeutu 42,000 o bobl yng Nghymru ac mae i'w weld yn fwyaf cyffredin ymysg pobl hŷn. Mae dementia yn effeithio ar un ym mhob 20 o bobl dros 65 oed, ac oddeutu un o bob pump o bobl dros 80 oed. Yn fyd-eang, rhagwelir y bydd niferoedd y bobl sy'n byw gyda dementia yn codi 204 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, dros y tri degawd nesaf. Yn anffodus, dementia yw'r unig gyflwr yn y 10 achos marwolaeth uchaf na cheir triniaeth i atal, gwella neu arafu ei gynnydd. Felly mae'n rhaid inni reoli'r symptomau cystal ag y gallwn, a thrwy sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl sy'n deall dementia, gallwn wneud yn siŵr fod pobl â dementia yn byw'n annibynnol cyhyd ag sy'n bosibl mewn amgylchedd cefnogol. Mae pobl â dementia yn agored i niwed ac mae'n bwysig fod staff wedi'u hyfforddi'n gywir yn rhoi'r gofal gorau posibl i unigolyn â dementia er mwyn diwallu'r anghenion penodol hyn, a bod yr urddas a'r parch hwnnw'n weladwy ac yn cael ei gynnal bob amser wrth helpu'r bobl hyn, sydd heb lais yn aml.

Wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd angen mwy a mwy o ofal arbenigol ar y rheini sy'n byw gyda dementia, ac wrth i nifer yr achosion o'r clefyd gynyddu, rydym yn dibynnu mwy a mwy ar gartrefi gofal i ofalu am y rhai sy'n byw gyda'r clefyd hwn, a dyna pam y mae'n peri pryder fod cynnydd wedi bod yn y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal er mwyn trin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia. Nid yw'r cyffuriau hyn wedi'u trwyddedu ar gyfer defnydd o'r fath a chredir bod eu defnydd yn cyfrannu at farwolaethau cynnar bron i 2,000 o gleifion dementia bob blwyddyn. Mae hwn yn ystadegyn syfrdanol. Daeth yn amlwg, yn ystod ein hymchwiliad, fod y cyffuriau hyn yn cael eu rhoi fel mater o drefn mewn ymateb i ymddygiad heriol rhai cleifion sydd â dementia, er bod yr ymddygiad heriol yn ganlyniad i angen heb ei ddiwallu nad yw'r unigolyn â dementia yn gallu ei fynegi. Roedd hi hefyd yn amlwg fod diffyg mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gwaethygu'r sefyllfa.

Yn ystod ein sesiynau gyda thystion, daeth yn amlwg fod casglu'r dystiolaeth ar y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig yn anodd, gan nad oedd y data wedi'i chasglu nac ar gael yn rhwydd oherwydd hynny. Galwodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyfadran Seiciatreg yr Henoed am archwiliadau i gasglu data ar arferion rhagnodi, y dywedant eu bod yn hanfodol i ddeall nifer yr achosion a phatrymau defnydd o'r cyffuriau hyn. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau'r arfer o ragnodi'r cyffuriau hyn yn amhriodol. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, hoffwn gael sicrwydd na fydd cynnull y grŵp perthnasol o arbenigwyr i edrych ar yr argymhelliad hwn a'r argymhellion cysylltiedig yn cymryd gormod o amser, ac na fyddwn yn edrych ar rai blynyddoedd eto cyn y gweithredir yr argymhellion hyn.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu ein barn fod y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer rheoli symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia yn annerbyniol. Rwy'n ddiolchgar ei fod wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, ond rwy'n ei annog i sicrhau y cânt eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Pobl â dementia yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a dylent gael eu diogelu rhag niwed, nid eu rhoi mewn perygl er mwyn gwneud gwaith rhywun yn haws. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y camddefnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer cleifion sydd â dementia yn cael ei ddileu, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cyflym ar ein hargymhellion.

16:50

Diolch ichi am fy ngalw i siarad am yr adroddiad pwysig iawn hwn. Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chredaf mai dyma un o'r adroddiadau pwysicaf a gynhyrchwyd gennym.

Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon rwy'n siŵr, ddydd Sadwrn dathlais ben-blwydd y GIG yn 70 oed yn fy etholaeth gyda stondin a cherdyn pen-blwydd i'r y GIG yn yr Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd. Roedd yn brofiad gwych, oherwydd roedd pobl yn ciwio i'w lofnodi, roeddent mor frwdfrydig ynglŷn â'r GIG, roedd pobl yn dweud wrthyf fod eu bywydau wedi'u hachub ar dri achlysur a siaradodd pobl eraill am weithio yn y GIG ers 40 mlynedd, ac roedd yn fore calonogol iawn mewn gwirionedd. Roedd cymaint o straeon am ofal gwych, ond drwy'r holl amser hwnnw yn ystod y bore, ni chlywsom unrhyw hanesion am bobl oedrannus mewn cartrefi gofal, neu bobl hŷn yn cael gofal gan y GIG, a chredaf mai dyna un o'r pwyntiau allweddol—na all y bobl hynny ddweud eu straeon wrthym, a dyna pam y mae'r adroddiad hwn mor bwysig. Mae angen inni siarad ar eu rhan gan na allant siarad drostynt eu hunain. Mae angen inni glywed lleisiau cleifion ac mae angen inni ganfod beth yw anghenion gofal y bobl sydd yn ein gofal.

Credaf fod Lynne, pan oedd hi'n siarad, wedi crybwyll 'ymddygiad heriol' fel ffordd o ddisgrifio'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn, ac unwaith eto, rwy'n teimlo'n amharod i ddefnyddio siarad o'r fath. Ond y peth pwysig yw darganfod beth yw gwir anghenion pobl, y dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a pheidio â rhagnodi meddyginiaeth sy'n gwneud dim ond eu tawelu i bob pwrpas. Clywsom rai ymholiadau a oedd yn peri pryder a'r un sy'n aros yn fy meddwl yw'r dyn yn y cartref gofal a oedd yn gyson yn taro ei ben yn erbyn drws gwydr. Yn hytrach na gofyn am bresgripsiwn ar gyfer cyffuriau gwrthseicotig, darganfu gofalwr ei fod yn taro ei ben ar y drws oherwydd ei fod yn gallu gweld drws tŷ gwydr y dymunai fynd allan iddo, oherwydd ei fod wedi bod yn arddwr, a garddio oedd ei hobi wedi bod ar hyd ei oes. Teimlai y byddai'r lle hwnnw'n hafan ddiogel. Dyna enghraifft sy'n aros gyda mi o ran sut y mae'n rhaid inni edrych ar yr unigolyn ac nid cymryd yr hyn a allai fod yn ddim ond ateb hawdd.

Roeddwn am siarad ychydig am yr argymhellion gan y pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth. Roeddwn yn mynd i ddechrau gydag argymhelliad 3, i atgyfnerthu'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd yn ei gyflwyniad mewn gwirionedd, oherwydd fe wnaethom argymell y dylid datblygu offeryn rhestr wirio safonol i'w ddefnyddio gan staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi achos ymddygiad heriol.

Mae cryn dipyn wedi'i ddweud eisoes am yr ymadrodd 'derbyn mewn egwyddor' a sut y mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y gallwn symud oddi wrtho, ond gwn fod y Llywodraeth yn dweud yn ei hymateb,

'nid ydym yn ystyried bod datblygu un rhestr wirio safonol yn briodol.'

Ni allaf ddeall y rheswm dros beidio â datblygu offeryn safonol, oherwydd derbyniwyd argymhelliad 6, lle mae'n dweud

'Dylai monitro meddyginiaethau fod yn rhan allweddol o arolygu cartrefi gofal, a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn mandadu tystiolaeth wedi’i dogfennu'.

Felly, ni allaf weld pam na allwch gael offeryn safonol i'w ddefnyddio ar gyfer pob cartref gofal, pob lleoliad lle mae'r unigolyn wedi bod. Byddai'n rhoi offeryn i staff allu gwirio pob posibilrwydd a gwneud yn siŵr nad oeddent yn rhagnodi rhywbeth pan oedd rheswm arall dros yr ymddygiad, megis y ddannodd, neu broblemau gyda'u golwg—wyddoch chi, llawer o bethau sy'n peri gofid.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y dystiolaeth a gawsom gan yr Athro Sue Jordan o goleg gwyddorau dynol ac iechyd Prifysgol Abertawe, sydd wedi datblygu'r offeryn proffil adwaith niweidiol i gyffuriau a gafodd ei brofi ac y dangoswyd ei fod yn lleihau'n sylweddol y meddyginiaethau gwrthseicotig a ddefnyddir. Cynhaliwyd adolygiad gan gymheiriaid ar yr offeryn ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy'n meddwl nad oes unrhyw bwynt mewn ailddyfeisio'r olwyn; gwyddom fod yna becynnau cymorth wedi'u datblygu, megis yr un gan yr Athro Sue Jordan, a chredaf y byddai'n gwneud synnwyr perffaith i ddatblygu'r pecyn cymorth hwn i'w ddefnyddio fel mater o drefn ym mhob cartref gofal, ym mhob lleoliad lle mae unigolyn hŷn yn cael gofal. Felly, mae'n fater o drefn, mae'r gwaith wedi'i wneud, gwyddom am waith yr Athro Sue Jordan a gwaith arall a gyflwynwyd i ni, ac rwy'n meddwl y byddai honno'n ffordd amlwg ymlaen i Lywodraeth Cymru.

16:55

Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond a gaf fi ddiolch yn fawr iawn iddynt am yr adroddiad hwn? Un o'r pethau rwy'n eu hoffi amdano yw ei fod yn bendant yn cyfleu ymdeimlad o frys, o leiaf o ran gwneud penderfyniadau gwleidyddol, er mwyn sicrhau ymateb cyflym a chymharol syml i broblem na ddylai fod gennym. Rhaid imi ddweud fy mod yn credu ei fod yn dadlennu ystod gyfan o hepgoriadau eraill y credaf eu bod yn eithaf brawychus a dweud y gwir.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud o brofiad teuluol y gall y defnydd cywir o gyffuriau gwrthseicotig fod yn ddefnyddiol iawn? Pan arweiniodd rhithdyb fy mam-gu, o ganlyniad i ddementia a waethygodd yn gyflym, at achosi iddi fygwth fy nhad-cu a oedd yr un mor oedrannus â hi â chyllell cegin, gallai pawb ohonoch weld pam y gallai fod angen ymateb cyflym fel mesur brys. Er hynny, ac rwy'n cyfaddef nad wyf yn siŵr sut y mae rhai o'r meddyginiaethau hyn yn gweithio, pam nad yw'r adroddiad hyd yn oed yn gryfach ar y cyfnodau ar gyfer adolygu defnydd—. Oherwydd i mi, mae tri mis i'w weld yn amser hir iawn i rywun fod ar y math hwn o gyffur o gwbl os ydynt wedi'u rhagnodi i ymdrin ag episod o seicosis acíwt yn hytrach na phatrwm cronig sy'n gwaethygu. Gydag unigolyn sy'n arddangos patrwm cyson o ymddygiad, mae gan yr unigolyn hwnnw eisoes hawl i asesiad llawn o'i anghenion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel eu gofalwr yn wir, os ydym yn sôn am ofal yn y cartref.

Mewn perthynas ag argymhelliad 3, hoffwn wybod pam ein bod yn rhoi chwe mis i unrhyw un lunio rhestr wirio. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn bedair blwydd oed—pedair blynedd pan ellid bod wedi llunio rhestr gan bawb fwy neu lai, gan ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau rhwng unigolion gyda chyflyrau penodol, ac a wyddoch chi, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—rwyf wedi diflasu ar ddarllen ymatebion sy'n dweud, 'Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid.' Rydych wedi cael pedair blynedd ers i Ddeddf y gwasanaethau cymdeithasol ddod i rym. Pam nad yw hyn ar waith eisoes?

Yn yr un modd, mewn perthynas ag argymhelliad 5, a wyf fi o ddifrif yn darllen nad yw Arolygiaeth Gofal Cymru—neu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, fel yr arferai fod, a bod yn deg—wedi bod yn herio'r gwaith o fonitro meddyginiaeth unigolion yn fwy cadarn fel rhan o edrych ar gydymffurfiaeth cartrefi gofal â chynlluniau gofal? Nid wyf yn disgwyl iddynt wneud penderfyniadau meddygol, ond buaswn yn disgwyl iddynt ymholi ynghylch cyfnodau hir heb unrhyw newid yn y feddyginiaeth, neu gynnydd neu ostyngiad sydyn yn y feddyginiaeth, yn enwedig os yw'r cynnydd yn cynnwys cyffuriau gwrthseicotig neu gyffuriau eraill sy'n peri pryder, ac yn enwedig pan fyddwch yn gwybod bod y cyffuriau hyn yn cael eu rhagnodi ar gyfer cyflyrau ar wahân i'r rhai y cafodd ei gymeradwyo ar eu cyfer yn swyddogol. Hynny yw, a oedd yn glir yn y dystiolaeth a gawsoch—o ddifrif, nid wyf yn gwybod—pam nad yw NICE wedi cymeradwyo'r cyffuriau hyn ar gyfer y pethau y cânt eu defnyddio ar eu cyfer yn aml bellach? Gwelais yr hyn a ddywedoch chi am y canlyniadau hirdymor yn fwy na'r manteision mewn rhai achosion, ond mae'r adroddiad yn sôn dro ar ôl tro am ddefnydd amhriodol heb egluro dim beth y mae 'amhriodol' yn ei olygu. Nid yw'n ymddangos i mi, o'r adroddiad, fod rhagnodi ar gyfer pethau na chawsant eu cymeradwyo i'w trin ynddo'i hun yn amhriodol, felly beth sy'n amhriodol?

Rwy'n deall mai beth sydd ei angen arnoch i ateb hyn yw data dibynadwy, ac felly rwy'n falch o weld argymhelliad 1. Ond a gaf fi awgrymu, fodd bynnag, fod yna gasglu data ansoddol cyflenwol o gartrefi gofal yn digwydd yn ogystal â chasglu data meintiol gan fyrddau iechyd, gan fod cartrefi gofal yn gweld effaith ddyddiol defnydd parhaus o'r cyffuriau hyn ar drigolion dros gyfnod o amser? Gallai'r dystiolaeth ansoddol gynnwys nid yn unig a yw'r ymddygiad heriol i'w weld wedi gwella neu beidio, ond pa elfennau eraill o gymeriad, diddordebau a galluoedd yr unigolyn sydd wedi newid o ganlyniad i'r defnydd hwnnw.

Nawr, peth arall sy'n fy syfrdanu yw argymhelliad 10. A yw'n iawn, o ystyried nad yw dementia yn ffenomen newydd o bell ffordd, nad yw canllawiau NICE ar gyfer hyfforddi staff cartrefi gofal i ymdrin â phreswylwyr heriol eisoes wedi eu prif-ffrydio mewn hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd cartrefi gofal? Nawr, rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, fod yna broblemau gyda recriwtio a chadw staff mewn gwaith gofal lefel mynediad. Efallai fod eu teimlad o fod yn agored i niwed oherwydd hyfforddiant annigonol yn rhan o'r rheswm pam y maent yn gadael. Ac mae'n iawn i Ofal Cymdeithasol Cymru ystyried datblygiad proffesiynol a llwybrau gyrfa, ond sut y gallodd AGGCC yn y gorffennol roi sêl bendith i gartrefi os nad yw eu staff wedi eu hyfforddi yn yr elfen hanfodol hon o ofal dementia?

Trafodais annigonolrwydd cyffredinol meini prawf a phrosesau adrodd AGGCC  gyda Gwenda Thomas ymhell yn ôl yn ystod y Cynulliad diwethaf. Heddiw mae Lynne Neagle wedi sôn am adroddiad etifeddiaeth o'r Cynulliad diwethaf. Faint o strategaethau dementia fydd eu hangen arnom? Pam y mae hon yn dal i fod yn broblem? Oherwydd, hyd yn oed gyda'r hyfforddiant dementia sylfaenol a gefais i, gallaf ddeall y gall dryswch posibl, ac anawsterau cyfathrebu yn sicr, fod yn eithriadol o rhwystredig i unrhyw un. Os na allwch egluro anghysur arteithiol—a'r rhithweledigaethau—yn sgil heintiau'r llwybr wrinol twymynol neu eich gofid o golli urddas fel sy'n anochel pan fydd yn rhaid i rywun arall eich helpu gyda gofal personol, rydych chi'n mynd i fod yn heriol. Felly, mae derbyn yr argymhellion hyn a'u gweithredu yn hawdd i Lywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Cawsoch eich llabyddio yr wythnos diwethaf, fel gweddill Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a chredaf eich bod yn gwneud yr un camgymeriad gyda hwn, gyda'ch ymatebion. Rwy'n dweud wrth reolwyr cartrefi gofal: peidiwch ag aros i Lywodraeth Cymru weithredu, rhowch hyfforddiant i'ch staff yn awr. A feddygon teulu, peidiwch ag aros am ddata: gofynnwch fwy o gwestiynau pan fydd perchnogion cartrefi gofal yn gwasgu arnoch i ragnodi. Diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond peidiwch â gadael i garedigrwydd a dealltwriaeth ddod yn ail gwael yn y sefyllfa erchyll hon.

17:00

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

17:05

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am y gwaith y maent wedi'i wneud yn cynhyrchu'r adroddiad hwn ar feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod cywair y ddadl a'r siom a fynegodd rhai o'r Aelodau, ond rwy'n credu mewn gwirionedd fod cryn dipyn o gytundeb ar flaenoriaeth y camau gweithredu y mae angen eu rhoi ar waith ar hyn. Mewn gwirionedd, nid ymgais faleisus i geisio osgoi argymhellion neu i egluro pam na fydd unrhyw beth yn digwydd yw 'derbyn mewn egwyddor'. Mae'n ymwneud â rhai o'r manylion a sut rydym am weithio drwy hynny. Nid ydym yn cytuno ar yr yr union eiriad, ond mewn gwirionedd rydym yn derbyn ac yn deall y cyfeiriad teithio y mae'r pwyllgor am fynd iddo yn yr argymhellion. Mae gennyf fwy i'w ddweud wrth gloi ynglŷn â sut rwyf am fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw mewn gwirionedd a darparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n mynd i fod yn bosibl yn yr amser sydd ar gael yn y ddadl heddiw.

Ond roedd canfyddiadau'r pwyllgor yn darparu cadarnhad ychwanegol fod angen i'n ffocws fod ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sut y defnyddiwn ymatebion nad ydynt yn rhai ffarmacolegol cyn ystyried ymateb ffarmacolegol. Ac mae'n rhaid bod hynny'n briodol—rhagnodi priodol ym mhob achos. Ceir ffocws clir ar hynny yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia a lansiwyd gennyf ym mis Chwefror—unwaith eto, cynllun a luniwyd ac a gyflawnwyd gan weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, eu gofalwyr, yn ogystal â darparwyr. Felly, mae wedi cael cefnogaeth gan bobl ar draws y gymuned ddementia mewn perthynas â'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy.

Mae'r Llywodraeth wedi cytuno, neu wedi cytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 o argymhellion, ac mae'n ymwneud â sut y datblygwn y rheini. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod y pwyllgor yn deall bod yna gamau rydym eisoes yn eu cymryd i wella argaeledd data, sy'n bwynt allweddol a gododd mewn nifer o gyfraniadau, mewn perthynas â rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig ymhlith pobl hŷn. Rydym yn cydnabod yn onest yn ein hymateb fod cyfyngiadau ar hyn o bryd yn ein dull o gasglu data, yn enwedig o ran sut y gallwch briodoli presgripsiynau i breswylwyr mewn cartrefi gofal. Mae'r posibilrwydd o or-ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn peri pryder, ni waeth a yw'n unigolyn sy'n preswylio mewn cartref gofal, oherwydd, yn wir, byddai lleihau cyfraddau rhagnodi ymysg pobl hŷn yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o'r meddyginiaethau hyn ymhlith preswylwyr cartrefi gofal hefyd. Hoffwn ailadrodd y pwynt y byddwn o ddifrif ynglŷn â'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud. Felly, mewn perthynas ag argymhelliad 1, y grŵp arbenigol y dywedais y byddwn yn ei sefydlu, rwy'n disgwyl iddo gyflwyno adroddiad yn rhoi cyngor i mi cyn diwedd y flwyddyn galendr—felly, nid yw'n cael ei wthio ddwy neu dair blynedd yn ei flaen er mwyn ceisio osgoi ymdrin â'r mater, ond o fewn y flwyddyn galendr hon, i gael cyngor ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y disgwyliwn eu cymryd o ganlyniad i hynny.

Mae nifer o'r argymhellion a wnaeth y pwyllgor yn ymwneud ag argaeledd ac adrodd ar ddata rhagnodi. Wrth gwrs, mae rhagor i'w wneud, ac felly rydym wedi derbyn ystod o'r argymhellion hynny. Rwyf wedi ystyried argymhelliad 11 eto wrth gwrs, ac rwyf wedi newid yr ymateb i 'derbyn' yn hytrach na 'derbyn mewn egwyddor'. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnull grŵp o'r arbenigwyr perthnasol hynny i edrych ar ddefnyddioldeb ffynonellau data amrywiol. Mae rhywbeth yno am—. Diben hynny yw ein helpu i leihau'r arfer o ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol.

Mae'r pwyllgor hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd sicrhau y cynhelir asesiadau cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn galluogi i ofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei ddarparu yn gyffredinol. Mae hynny, wrth gwrs, yn ffocws allweddol yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia—nid dim ond cynllun, ond cynllun a gefnogir gan £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol o'r flwyddyn hon i helpu ei gyflawni. Mae llawer o bwyntiau gweithredu'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn gyson ag argymhellion y pwyllgor, ac ni ddylai hynny fod yn syndod—er enghraifft, y cyfeiriad at yr angen i alluogi pobl sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n byw gyda dementia i feddu ar sgiliau i deimlo'n hyderus ac yn gymwys i ofalu am, a chefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Felly, yn ein hymateb, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i gyflwyno 'Gwaith da: Fframwaith dysgu a datblygu dementia i Gymru' mewn cartrefi gofal. Mae'r fframwaith hwnnw'n darparu canllawiau ar hyfforddiant ac egwyddorion ymddygiad heriol, ac rwy'n cydnabod y disgrifiad a roddodd Lynne Neagle. Mae'n ymwneud â deall beth sy'n sail i'r ymddygiad hwnnw yn hytrach na dweud yn syml fod angen i chi ymdrin ag ef yn y ffordd rydym yn cydnabod y caiff ei drin yn llawer rhy gyffredin, sef drwy ragnodi meddyginiaeth yn amhriodol. Felly, nid oes unrhyw anghytundeb ynghylch hynny. Mae'n ymwneud â deall y gofid ymddygiadol a chael strategaethau amgen ar gyfer staff, pa un a ydynt yn weithwyr proffesiynol iechyd a gofal gyda chymhwyster proffesiynol neu aelodau eraill o staff sy'n gweithio yn y cartref gofal yn wir. Deellir y pwynt am hyfforddiant yn dda hefyd.

Er hynny, rwy'n falch o weld ffocws yn yr adroddiad ar y defnydd o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan gynnwys therapyddion lleferydd ac iaith. Felly, rydym yn cydnabod bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i alluogi pobl i fyw'n dda gyda'u dementia. Mae'r proffesiynau hynny'n nodi ac yn mynd i'r afael ag achosion posibl ymddygiad a elwir yn 'heriol', gan gynnwys anghenion corfforol, gwybyddol ac emosiynol nas diwallwyd ac anghenion cyfathrebu a sut y gallwn ddarparu ymyriadau i leihau lefel y straen a'r pryder ac yn wir y rhwystredigaeth y gwyddom ei bod yn aml yn digwydd ochr yn ochr â hyn. Dyna pam, o ran cael y nifer iawn o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd, y bydd cam nesaf ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gwaith. Byw.' yn cael ei ymestyn i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Gyda'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu timau amlddisgyblaethol o amgylch yr unigolyn i helpu i ddarparu gofal, cymorth a thriniaeth sy'n gydgysylltiedig ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod cysylltiadau da rhwng cartrefi gofal a gwasanaethau yn y gymuned gyda thimau o amgylch yr unigolyn. Bydd cylch gwaith y swydd ymarferydd ymgynghorol dementia perthynol i iechyd Cymru gyfan, pan gaiff ei recriwtio, yn cynnwys gweithio gyda chartrefi gofal, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i hyrwyddo a dangos tystiolaeth o arferion gorau gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws ein holl system iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwyf am geisio rhoi sylw i'r argymhelliad a wrthodwyd, ar ddatblygu

'asesu’r cyfuniad priodol o sgiliau... ar gyfer staff cartrefi gofal'

ac i ddarparu canllawiau ar gyfer sicrhau lefelau staffio diogel a phriodol. Nid yw nod yr argymhelliad yn rhywbeth rwy'n ei wrthwynebu, ond mae'n ymwneud â'r ffaith fy mod yn credu bod gennym fframweithiau cywir ar waith drwy Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor gyda rhagor o fanylion am y gwaith rydym wedi ei wneud ac yn ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys y gwaith dan arweiniad Prifysgol Bangor, a daeth eu gwaith i'r casgliad nad oes un offeryn yn seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn nodi niferoedd a mathau o staff sydd i'w cyflogi yn y sector cartrefi gofal, ond mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru'n comisiynu gwaith pellach ar osod canllawiau a chefnogi comisiynwyr ar gyfer lleoliadau o fewn y sector. Bydd hynny'n dysgu o'r gwaith sydd ar y gweill eisoes ar weithredu'r Ddeddf staff nyrsio ac uned gomisiynu gydweithredol genedlaethol y GIG.

Nawr, mae rhywbeth yma ynghylch deall y gwaith rydym eisoes yn ei wneud a deall beth a wnawn i wneud y fframwaith deddfwriaethol sydd gennym eisoes yn addas i'r diben a sicrhau gwahaniaeth real ac ymarferol. Ond rwy'n derbyn, wrth gwrs, y bydd y pwyllgor a'r Aelodau am ddod yn ôl i weld a yw hynny'n digwydd yn ymarferol. Felly, byddwn yn monitro ein cynnydd ar yr argymhellion ochr yn ochr â'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Rydym wedi sefydlu goruchwyliaeth ddementia o'r grŵp gweithredu ac effaith, a bydd yn cynnwys pobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia ymhlith eu haelodau; maent yn ymwneud yn weithredol â monitro ein llwyddiant neu fel arall, ac maent eisoes wedi cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mehefin. Felly, nid y Llywodraeth yn asesu ei gwaith ei hun fydd hyn.

Rwy'n cydnabod ac yn cytuno gyda'r pwyllgor fod rhagnodi amhriodol—ac mae hynny'n cynnwys methu adolygu rhagnodi yn rheolaidd—yn achosi niwed go iawn. Ni cheir diffyg pryder ar ran y Llywodraeth, nac ymagwedd gan y Llywodraeth sy'n diystyru'r pryderon hynny neu hunanfodlonrwydd ynghylch yr angen i wella. A byddaf yn ystyried eto y pwyntiau a wnaed gan Aelodau yn y ddadl hon mewn nifer o feysydd a dderbyniwyd gennym mewn egwyddor, a byddaf yn ysgrifennu unwaith eto i amlinellu'r camau rydym yn eu gweithredu er mwyn ceisio cyflawni diben yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, oherwydd rydym yn edrych yn ddidwyll ar sut rydym yn diwallu amcanion a rennir, er nad ydym yn cytuno ar yr holl fanylion. Ac wrth gwrs byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed wrth ymdrin â'r argymhellion a'r amserlenni ar gyfer gweithredu a gwaith yn y dyfodol ar roi'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia ar waith.

17:10

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd fel Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i ymateb i'r ddadl. Bu'n ddadl ardderchog, ac rwy'n meddwl bod hynny'n dyst i ansawdd y cyfraniadau; yn amlwg, mae'n dyst i ansawdd y dystiolaeth a gymerasom dros y misoedd gan nifer o dystion—yn ysgrifenedig ac ar lafar—ac yn amlwg mae'n dyst i ansawdd y cymorth a gawn fel pwyllgor gan ein clercod a'n hymchwilwyr. Dyma ymdrech tîm yn wir, ac ymdrech tîm y gellir ei chyfiawnhau am ein bod yn ceisio mynd i'r afael ag anghyfiawnder tuag at grŵp o bobl agored iawn i niwed, fel y clywsom.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dechreuasom gydag Angela Burns a chyflwyniad grymus am yr anesmwythyd ynglŷn ag argymhellion 9 a 2. Lynne Neagle wedyn—perfformiad arall gwirioneddol ardderchog gan Lynne yr wythnos hon eto am y newid perfformiad sylfaenol sydd ei angen yma. Nid dyma'r adroddiad beirniadol cyntaf ynglŷn â meddyginiaeth wrthseicotig. Gallwn gymryd rhai o'r argymhellion 'derbyn mewn egwyddor' pe bai hwn y tro cyntaf inni gael adroddiad am yr union bwnc hwn. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi dweud yr un peth fwy neu lai—ein bod yn gwneud cam â'n pobl fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal. Mae angen gwneud rhywbeth am y peth, a dyna pam na allwn dderbyn pethau mewn egwyddor mwyach. Rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Clywaf yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond clywais yr hyn a ddywedodd y comisiynydd pobl hŷn hefyd. Mae angen newid—newid sylweddol—mewn diwylliant a pherfformiad, ac mae angen inni fynd i'r afael â lefelau staff nyrsio yn ein cartrefi gofal, ac ar ein wardiau ysbyty, fel roedd Lynne Neagle yn dweud.

Cyfraniad ardderchog arall hefyd gan Rhun am yr holl fater ynghylch 'derbyn mewn egwyddor', a chredaf, fel y dywedodd sawl un, nid yn unig yn y ddadl hon ond mewn dadleuon eraill, fod angen ymdrin â'r mater yn nhermau derbyn neu wrthod.

Diolch hefyd i Caroline Jones am ei chyfraniad, a hefyd i Julie Morgan, a bwysleisiodd eto y pwynt a wneuthum ar y dechrau: mae yna offer ar gael, mae yna restrau gwirio ar gael i asesu beth sy'n achosi'r hyn a labelwn fel ymddygiad heriol. Mae angen inni edrych i weld pam y mae pobl â dementia yn adweithio yn y ffordd y maent yn ei wneud weithiau. Mae angen inni edrych ar yr unigolyn ei hun, ac mae yna offer rhestr wirio amrywiol sy'n ein galluogi i wneud hynny. Un enghraifft ragorol yw proffil adwaith niweidiol i gyffuriau Prifysgol Abertawe y cyfeiriwyd ato eisoes gennyf fi a chan Julie Morgan, ac a ddatblygwyd gan dîm yr Athro Sue Jordan ym Mhrifysgol Abertawe.

Hefyd, diolch i Suzy Davies am gyfraniad rhagorol, a hefyd am nodi'r angen am frys. Oherwydd, fel rwyf eisoes wedi dweud, ac rydych chi wedi'i ddweud hefyd, buom yma o'r blaen, ac yn awr yw'r amser i weithredu, nid i gael adroddiad arall i feirniadu perfformiad presennol. Felly, cafwyd adroddiadau blaenorol, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi mynegi pryderon ar sawl achlysur, ac mae gennym adroddiad etifeddiaeth gan bwyllgor iechyd blaenorol, fel rydym wedi sôn a phob un yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Ni ddylai byth fod yn ddewis cyntaf.

Yn dilyn y ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae wedi ein sicrhau, yn rhoi ystyriaeth bellach i'r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn a'r hyn a fynegwyd yn y cyfraniadau llafar heddiw, ac yn ystyried hefyd yr argymhellion a wnaed gennym er mwyn darparu'r atebion hirdymor sydd eu hangen. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gofal. Nid ymwneud â chadw pobl dan reolaeth y mae. Mae'n ymwneud â thrawsnewid gofal pobl â dementia yng Nghymru. Nid yw ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn haeddu dim llai. Diolch yn fawr.

17:15

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?

Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6768 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae Cadeirydd y pwyllgor newydd golli ei bapurau i gyd ar lawr mewn trefn wahanol. Diolch byth, mae'r nodiadau wedi'u rhifo.

Rwy'n cynnig y cynnig y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad byr i'r ardaloedd menter yng Nghymru. Roedd pum mlynedd ar ôl sefydlu'r ardaloedd i'w gweld yn adeg synhwyrol ar gyfer pwyso a mesur. Bum mlynedd yn ôl, dywedwyd wrthym y byddai ardaloedd menter yn hybu swyddi a thwf. A ydynt wedi gwneud hynny? Yn anffodus, nid 'do' neu 'naddo' syml yw'r ateb. Clywodd ein hymchwiliad dystiolaeth gan chwech o gadeiryddion byrddau'r wyth ardal fenter a chan Ysgrifennydd y Cabinet. Hefyd, teithiodd tri aelod o'r pwyllgor i Eryri ac Ynys Môn i gyfarfod â chadeiryddion y byrddau hynny.

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech yn llwyr, a phedwar mewn egwyddor—sydd i'w gweld yn thema y prynhawn yma i nifer o adroddiadau pwyllgor lle y cafodd argymhellion eu derbyn mewn egwyddor. Dechreuodd y polisi ardaloedd menter presennol yng Nghymru fel ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2011 ynglŷn â chreu ardaloedd menter yn Lloegr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi creu saith ardal fenter yng Nghymru erbyn mis Ionawr 2012, a phob un yn datgan amcanion i greu swyddi a thwf. Roedd yr ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu dulliau amrywiol o weithredu. Dewiswyd rhai, megis Caerdydd a Glannau Dyfrdwy, i fanteisio ar gryfderau economaidd amrywiol. Bwriadwyd i eraill, fel Ynys Môn ac Eryri, fynd i'r afael â heriau lleol sylweddol.

Credaf fod yna gwestiwn dilys yn codi ynglŷn ag a oedd angen ardaloedd menter mewn rhai o'r ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig Caerdydd, lle y clywodd y pwyllgor fod yr ardal yn gwthio yn erbyn drws agored mewn termau economaidd. Ar y llaw arall, clywodd y pwyllgor gan gadeirydd bwrdd ardal fenter Eryri fod y bwrdd wedi sylweddoli'n fuan iawn eu bod yn annhebygol iawn o allu cyflawni effeithiau tymor byr sylweddol ar dwf neu swyddi. Yn lle hynny, newidiodd eu ffocws i ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer datblygu'r ardaloedd yn hirdymor, a chlywodd y pwyllgor fod nifer o ardaloedd eraill mewn sefyllfa debyg hefyd.

Roeddem yn teimlo nad oedd y newid yn y ffocws i rai o'r ardaloedd yn cael ei gyfleu'n eang, ac efallai'n fwy pwysig, ni châi ei adlewyrchu yn y dangosyddion perfformiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cychwyn ar lefel Cymru gyfan. Mae adeiladu ar waith y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Menter a Busnes y pedwerydd Cynulliad wedi gwthio Llywodraeth Cymru i ryddhau gwybodaeth fanwl ar berfformiad pob ardal o ran creu swyddi—yr amcan a nodwyd, wrth gwrs—ynghyd â gwybodaeth fanwl ar wariant Llywodraeth Cymru ar bob ardal. Croesawodd y pwyllgor benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ryddhau'r wybodaeth fwyaf manwl o'r natur hon hyd yn hyn, er bod hynny ar ôl y sesiwn dystiolaeth olaf.

Mae ein hadroddiad yn datgan:

'Dyma enghraifft, dros y pump neu’r chwe blynedd diwethaf, o’r modd y gall rhannu gwybodaeth yn dameidiog ac yn achlysurol gydag Aelodau’r Cynulliad a’r Pwyllgorau atal proses graffu glir a gwrthrychol rhag digwydd, a hefyd creu argraff o dangyflawni ac aneffeithlonrwydd. Ni ddylai fod mor anodd â hyn, na chymryd cymaint o amser, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth er mwyn inni allu deall yn iawn berfformiad a gwerth am arian un o’i pholisïau economaidd blaenllaw, a chraffu’n briodol arno. Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r feirniadaeth adeiladol hon wrth lunio a gweithredu polisïau yn y dyfodol.'

Fel pwyllgor, cytunwn fod rhinwedd yn y dull rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd, a bod y pwyslais ar gynorthwyo ardaloedd difreintiedig yn beth da, a dylai barhau. Fodd bynnag, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, ar gyfer pob rhanbarth ac ardal leol unigol, fod nodau unrhyw ddulliau rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd yn y dyfodol yn glir ac yn realistig, yn ddigon manwl i ganiatáu dealltwriaeth o'r heriau a wynebir, yn ogystal â data monitro manwl, agored, tryloyw a phriodol. Cafodd argymhelliad 6, ynghyd â dau arall a oedd hefyd â'r nod o gynyddu tryloywder a gwella argaeledd data monitro, eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, a rhaid aros i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn yn ymarferol.

Roedd y pwyllgor yn cydnabod ymrwymiad, ysgogiad a phroffesiynoldeb pawb a oedd yn gysylltiedig â byrddau'r ardaloedd menter. Roedd pob un o'r cadeiryddion yn hyrwyddo'u hardaloedd yn bwerus ac yn angerddol. Fodd bynnag, teimlai'r pwyllgor ar y cyfan nad yw'r cysyniad o ardal fenter wedi profi ei hun hyd yma yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth a glywsom yn awgrymu mai'r ardaloedd sydd wedi cyflawni yn erbyn nodau datganedig Llywodraeth Cymru oedd y rhai a oedd eisoes yn y sefyllfa orau i wneud hynny—er enghraifft, Canol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy—ac nad oedd mentrau ardaloedd menter penodol ond wedi chwarae rhan fach yn eu llwyddiant.

Gwelodd ardaloedd eraill a ddechreuodd o fan gwahanol iawn fod y cymhellion o ryw fudd. Cydnabu'r pwyllgor fod yr ardaloedd hyn, megis Ynys Môn, Eryri a Glynebwy, yn dal i fod ar daith, ac rydym wedi canolbwyntio ar roi'r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer y tymor hwy. Daethom i'r casgliad nad yw amcanion gwreiddiol y polisi ardaloedd menter i greu swyddi a thwf wedi eu cyflawni ym mhobman. Ar yr un pryd, roeddem yn cydnabod bod y rhain yn afrealistig ar y cychwyn yn ôl pob tebyg, o ystyried mannau cychwyn amrywiol pob ardal fenter.

Defnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ymddangosiad gerbron y pwyllgor i gyhoeddi cyfres o newidiadau i'r ffordd y bydd yr ardaloedd menter yn gweithredu. Aeth ati i fapio dyfodol, ac rydym yn cefnogi hynny'n rhannol, ond ceir ardaloedd lle y credwn y dylai ailystyried. Mae rhywfaint o apêl i uno arfaethedig ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri. Mae'r ddwy'n dibynnu ar ddatblygiadau niwclear y tu allan i reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ac mae'r ddwy wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn pryderu bod perygl y bydd yr uno yn colli'r ffocws penodol ar yr heriau gwahanol iawn y mae pob ardal yn eu hwynebu. Mae ffordd arall ymlaen yn bosibl.

Yn ei ymateb, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn fater o amseru. Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn egluro beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yna byth amser cywir ar gyfer yr uno hwn. Mae'n ymddangos i mi y gallai gadael i'r ddwy barhau, yn y tymor byr o leiaf, ganiatáu i'r ddau fwrdd gyflawni eu hamcanion mewn ffordd gliriach a mwy effeithiol. Ar gyfer ardal fenter Port Talbot, mae ein hadolygiad wedi dod yn rhy fuan i fod yn ystyrlon. Iddynt hwy, rydym yn gobeithio bod cymryd rhan yn y broses hon wedi canolbwyntio meddyliau ar sut y maent yn adrodd ar eu llwyddiannau a'u huchelgeisiau wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Edrychaf ymlaen at ddadl dda y prynhawn yma ymhlith yr Aelodau ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad heddiw.

17:25

Mae'n bleser i ddilyn Cadeirydd y pwyllgor. Mae'n anodd i wybod beth i ddweud ynglŷn â'r polisi yma, achos mae'n bolisi oedd ag amcanion cymysg mewn ardaloedd cymysg, ac yn sicr mae'r canlyniadau wedi bod yn gymysg iawn, fel roedd y Cadeirydd yn cyfeirio atyn nhw. At ei gilydd, fe allwn ni wahaniaethu rhwng ardaloedd menter a oedd wedi cael eu creu fel canlyniad i gyfleoedd penodol, ac wedyn ardaloedd menter a oedd wedi cael eu creu fel adwaith i grisis economaidd. Rhaid dweud, ar gyfer y saith ardal, ni allwn ni ddim dweud gydag unrhyw sicrwydd fod y polisi yma wedi llwyddo yn un o'r ddwy achos yna, a dweud y gwir. Yn yr achosion fel Canol Caerdydd, mae'n anodd iawn, er bod y canlyniadau o ran creu swyddi ac yn y blaen yn well—mae'n anodd iawn i briodoli hynny i'r ardaloedd menter. Wedyn, wrth gwrs, yn yr ardaloedd eraill, mae'r ffigurau yn siarad drostyn nhw eu hunain. 

Beth sydd yn wir—ac mae'r Cadeirydd yn iawn yn hynny o beth—yw bod yr ardaloedd menter, fel unrhyw ymyriad economaidd lleol sydd yn esgor ar greu partneriaethau, yn medru creu brwdfrydedd a momentwm, ac fe welsom ni hynny yn ein hymweliad ni, er enghraifft, i ardal menter Ynys Môn. Ond, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn ai'r polisi yma a'r incentives ac yn y blaen sy'n gysylltiedig ag ardaloedd menter sydd wedi creu hynny, neu a fyddai modd adlewyrchu neu greu yr un fath o effaith a momentwm economaidd lleol trwy ddulliau eraill.

Rhaid dweud, yr hyn rwy'n credu sy'n glir oedd bod yr ardaloedd menter fel polisi wedi cael eu creu bron â bod yn adwaith i'r datblygiad dros y ffin yn Lloegr, a chreu y partneriaethau economaidd lleol oedd yn bodoli yn bobman. Rhaid dweud, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld, dros flynyddoedd maith nawr, methiant yng Nghymru i ddod lan â pholisi economaidd gofodol, naill ai ar y lefel leol neu ar y lefel rhanbarthol. Rwy'n credu ein bod ni'n dal i ymrafael â hynny, er bod yna bwyslais mawr yn strategaeth economaidd newydd y Llywodraeth ar ranbarthedd, ar bolisi gofodol. Nid wyf yn credu ein bod ni wedi ffeindio'r cyfrwng cywir ar gyfer hynny,  ac, wrth gwrs, mae'r newidiadau fydd yna ar gyfer yr ardaloedd menter sydd wedi cael eu cyhoeddi yn adlewyrchu hynny. Wrth edrych ymlaen, rydw i'n credu mai un o'r prif wersi ydy i ffocysu ar incentives penodol ar gyfer yr ardaloedd—ar gyfer maint yr ardaloedd menter. 

Gan feddwl yn benodol am senario ôl-Brexit, roedd y dystiolaeth a glywsom gan gadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a soniai am y potensial o borthladdoedd rhydd ac ardaloedd economaidd rhydd yn ddiddorol iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, dyna syniad polisi lle y ceir tystiolaeth gref yn fyd-eang ei fod yn gweithio. Mae'n llawer mwy penodol na'r syniad bras o ardal fenter. Yn arbennig, beth bynnag sy'n digwydd dros yr ychydig ddyddiau ac wythnosau nesaf, os cawn ein hunain mewn sefyllfa 'dim bargen' yn y pen draw, gallai porthladdoedd rhydd fod yn offeryn pwysig iawn i lawer o rannau o Gymru, gyda rhai ohonynt yn perthyn i'r ardaloedd menter. Byddai'n lliniaru rhywfaint o'r difrod economaidd gwaethaf a allai ein hwynebu.

Felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych yn rhagweithiol ar hyn. Mae sawl un o feiri gogledd Lloegr wedi datblygu cynigion manwl ar gyfer porthladdoedd rhydd. Maent yn lobïo Llywodraeth y DU yn weithredol iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, pe ceid dynodiad gan Lywodraeth y DU, dylai Cymru gael ei chyfran deg. Mae angen inni wneud yn well na hynny. Mae angen inni fod yn datblygu'r achosion busnes yn awr. Ac wrth gwrs, gallai porthladdoedd rhydd gynnwys meysydd awyr—gallai gynnwys Maes Awyr Caerdydd, gallai gynnwys Airbus, wrth gwrs, lle y gallem ddynodi bod gan safle Airbus ym Mrychdyn ei borthladd rhydd ei hun. Mae ganddo'r maes awyr, wrth gwrs, ac mae'n ei ddefnyddio i gludo ei adenydd i Toulouse. Gallai dynodi'r safle Airbus fel porthladd rhydd fod yn ffordd o ymdrin ag unrhyw niwed economaidd o ganlyniad i bolisïau gan Lywodraeth y DU.

17:30

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r tîm cymorth am lunio'r hyn y credaf ei fod yn adroddiad diddorol a defnyddiol. Yn groes i'r hyn y mae'r pennawd yn ei awgrymu o bosibl, roedd yr ymchwiliad yn gyfle i ailedrych ar wyth ardal fenter Cymru, yn hytrach na mynd i ble nad oedd unrhyw un wedi bod o'r blaen. Drwy wneud hynny, roeddem yn gallu asesu eu cynnydd hyd yma a helpu i egluro'r ffordd ymlaen, rwy'n gobeithio.

Rwyf am gyfyngu fy mhwyntiau y prynhawn yma i brosiect Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ac mae'r prif ffigurau yn hynod o galonogol, gyda mwy na 1,000 o swyddi wedi'u creu, eu diogelu neu eu cefnogi drwy'r cymorth a roddwyd, ac mae hynny'n newyddion rhagorol. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau i ni, bydd bwrdd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn parhau am dair blynedd arall, hyd at fis Gorffennaf 2021, a'r math hwnnw o sefydlogrwydd sy'n galluogi'r math o gynllunio strategol sy'n sail i lwyddiant y model ardal fenter o ddatblygu economaidd.

Pan roddodd cadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau dystiolaeth i ni ym mis Ionawr, gofynnodd am waith penodol—ac rwy'n mynd i'w ailadrodd—i edrych ar botensial porthladdoedd rhydd ar ôl Brexit. Dyna oedd argymhelliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol hefyd, pan ddaeth i ben â'i waith ar borthladdoedd yn yr ymchwiliad Brexit yr haf diwethaf. A gwn ei fod wedi'i grybwyll eisoes, ond rwyf am ailadrodd hynny.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd ati'n rhagweithiol i sefydlu tîm porthladdoedd dynodedig gyda'r Llywodraeth, ac yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor cadarnhaodd ei fod wedi comisiynu gwaith penodol mewn perthynas â photensial porthladdoedd rhydd, a chynnig unigryw ar gyfer Cymru ar ôl Brexit. Tybed a yw'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yma heddiw.

Os caf symud ymlaen at ddatblygiad arall, y parth arddangos ynni newydd—gwerthwyd safle Waterstone ac mae'r cwmni'n ceisio caniatâd cynllunio i'w droi'n ganolfan rhagoriaeth ynni adnewyddadwy, ac rwy'n siŵr ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol. Mae ganddo botensial ar gyfer swyddi, hyfforddiant a mewnfuddsoddiad i orllewin Cymru, ond hefyd i'r economi ehangach. Ac yn sgil ffiasgo morlyn llanw Abertawe, credaf ei bod yn hanfodol fod Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni gwyrdd o'r fath a ddatblygwyd yng Nghymru, prosiectau na allwn eu hymddiried i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, mae'n amlwg.

17:35

Un o'r ffactorau mwyaf diddorol i ddeillio o waith craffu'r pwyllgor ar yr ardaloedd menter oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. Roedd ardal fenter Glannau Dyfrdwy ac ardal fenter Caerdydd wedi datblygu'n dda eisoes yn eu sectorau eu hunain, tra bod Ynys Môn, Eryri a Glynebwy yn dechrau o'r dechrau i bob pwrpas, gyda Phort Talbot yn dod iddi'n hwyr yn y dydd. Felly rhaid inni fod yn ochelgar iawn yn ein dadansoddiad o lwyddiant un ardal yn erbyn y llall. Ffactor arall sy'n rhaid inni ei ystyried yw diffyg manylder cymharol y ffigurau a roddwyd yn y lle cyntaf, ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd. Er enghraifft, awgrymwyd bod Glynebwy wedi derbyn £94 miliwn i sicrhau 390 o swyddi'n unig, neu £241,000 ar gyfer pob swydd. Mae'r ffigurau hyn yn gamarweiniol iawn, gan fod dadansoddiad y Llywodraeth o ble y dyrannwyd arian yn yr ardal fenter, yn rhoi ffigur o £88 miliwn ar gyfer trafnidiaeth i ardal fenter Glynebwy. Gan mai cyfeirio at ymestyn y rheilffordd o safle parc yr ŵyl i ganol y dref oedd hwn yn ei wneud, dylid ei ystyried felly fel gwelliant seilwaith cyffredinol ar gyfer y rhanbarth cyfan, nid ar gyfer yr ardal fenter ei hun. Felly, mae'n gamarweiniol iawn inni gyferbynnu'r ffigur hwn ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd â Glannau Dyfrdwy, dyweder, lle'r oedd y gost yn ddim ond £4,822. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'n bwriadu dadansoddi effeithiolrwydd ardaloedd menter yn y dyfodol?

Daeth yn amlwg i'r pwyllgor, ac yn wir i aelodau'r byrddau menter, y byddai'n rhaid diwygio nodau gwreiddiol yr ardaloedd yn sylweddol. Sylweddolodd byrddau'r rhan fwyaf o'r ardaloedd y byddai eu rolau'n tyfu i fod yn alluogwyr twf economaidd yn hytrach na chreu swyddi uniongyrchol. Mewn llawer o achosion, maent wedi gosod y seilwaith ffisegol a gofodol ar gyfer caniatáu i'r twf hwn ddigwydd. Cyfeiriodd llawer ohonynt at y ffactor amser sydd ynghlwm wrth sicrhau bod rhai o'r prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth. Dywedodd Mark Langshaw, o fwrdd ardal fenter Glynebwy, y dywed Ysgrifennydd y Llywodraeth y bydd yn cau eleni, fod ganddynt nifer o brosiectau yn yr arfaeth a mynegodd ei bryder ynglŷn â phwy fyddai'n cyflawni'r rhain. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ein hysbysu sut y caiff y prosiectau hyn, ac yn wir y gwaith cyffredinol a wnaed gan yr ardaloedd menter sydd i gau, eu diogelu yn y dyfodol.

Os gofynnwn i ni ein hunain, 'A yw'r ardaloedd menter wedi bod yn llwyddiant?', mae'n anodd dod i gasgliad cadarn oherwydd y gwahanol elfennau sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd a'u hamcanion cyffredinol. Efallai mai un o'r pethau cadarnhaol go iawn yw'r mewnbwn a gafwyd gan y byrddau eu hunain, sydd i'w gweld wedi gweithio'n dda gyda llawer o randdeiliaid ac wedi creu rhwydweithiau a mentrau cadarnhaol iawn ar sail leol.

I gloi, credaf fod yn rhaid i bawb ohonom ystyried eu cyflawniad yn erbyn y cwestiwn, 'Beth fyddai wedi digwydd pe na baent wedi'u creu?' Mae yna enghreifftiau o rai, yn enwedig rhai sy'n agos at y ffin â Lloegr, a fyddai wedi bod dan anfantais pe na baent wedi'u gwneud yn ardaloedd menter. Mae Glannau Dyfrdwy, a Glynebwy i ryw raddau, yn enghreifftiau o'r fath. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod yr ardaloedd menter hyd at y 2000au yn brosiectau gwahanol iawn i'r rhai yn yr 1980au, ac felly rhaid ystyried eu cyflawniadau neu eu methiannau o bersbectif gwahanol iawn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dal i fod yn argyhoeddedig fod gan yr ardaloedd menter a fydd yn aros ran i'w chwarae o hyd yn natblygiad economaidd Cymru, ac a yw'n fodlon rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r hyn a ddylai fod yn nodau diffiniedig eglur ganddynt bellach?

Fel y mae ein hadroddiad ar hyn yn nodi, ychydig o dystiolaeth a geir i ddangos bod wyth ardal fenter Cymru wedi bod yn drawsnewidiol o ran creu swyddi, ond mae gwahanol ganlyniadau'n anochel oherwydd mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol ac amgylchiadau lleol gwahanol. Mae'n bosibl y gellid ystyried ymddygiad Ysgrifennydd y Cabinet pan fynychodd y pwyllgor ar gyfer ei sesiwn graffu derfynol gyda ni ar yr ymchwiliad hwn, a chyhoeddi ei fwriad i ad-drefnu ardaloedd menter, gan gynnwys uno byrddau Eryri a Môn cyn i ni ei holi a chyn ei fod yn gwybod am ein hargymhellion seiliedig ar dystiolaeth, yn amharchus i'r pwyllgor, yn anffodus. Gan gyfeirio at y gyfatebiaeth â Star Trek yn nheitl Saesneg ein hadroddiad, nid camu'n eofn i fannau lle nad aeth dyn o'r blaen oedd hyn, ond o leiaf mae'n ymddangos ei fod wedi ailfeddwl am yr ad-drefnu yn rhannol bellach.

Wrth dderbyn ein argymhelliad 2, mae'n disgrifio cynnydd rhagorol yn argaeledd gofod llawr masnachol modern. Felly rwy'n ei annog i ailddarllen ein hadroddiad a nodi bod y datganiadau gan dystion yn dweud mai thema gyfredol ymhlith cadeiryddion ardaloedd menter oedd diffyg argaeledd eiddo ar gyfer busnesau a bod yna brinder gofod llawr modern ledled Cymru.

Rwy'n gobeithio y bydd ei ddatganiad y bydd yn gofyn am gyngor gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn canfod y potensial ar gyfer cronfa eiddo masnachol yn rhoi sylw i'r dystiolaeth yn ein hadroddiad fod yna brinder unedau yn gyffredinol, ac ar draws Cymru, fod yna, efallai, ac rwy'n dyfynnu,

ddau neu dri o adeiladau diwydiannol gwag yn unig, ac ar wahân i 1 filltir sgwâr ein prifddinas, ni cheir datblygiad hapfasnachol mawr yn unman.

Roedd yn anffodus nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at adroddiadau blynyddol ar yr ardaloedd menter gyda data clir wedi'i ddarparu ar gyfer pob ardal, ac y dylai wneud ei blaenoriaethau ar gyfer pob un o'r ardaloedd menter yn eglur, gan gyhoeddi targedau blynyddol clir.

Mae derbyniad mewn egwyddor Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried ei chynnig i uno byrddau Môn ac Eryri o leiaf yn welliant ar ei safbwynt blaenorol. Mae'n cyfiawnhau hyn drwy ddatgan ei fod wedi cymryd cyngor gan gadeiryddion byrddau cynghori ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri, a chyda'i swyddogion, bydd yn ystyried priodoldeb ac amseru uno'r ddau fwrdd ymhellach. Wel, yr wythnos cyn ei ddatganiad i'r pwyllgor ei fod yn bwriadu uno'r ddau fwrdd, cadeiriais y pwyllgor yng ngogledd-orllewin Cymru pan glywsom dystiolaeth gan y byrddau hyn. Mae'n drueni nad oedd ef hefyd wedi cymryd y dystiolaeth hon cyn cyhoeddi ei fwriad rhy gynnar i'w huno.

Yn Nhrawsfynydd, yn ogystal â chynnydd bwrdd Eryri gyda Chanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr, clywsom ei fod yn gyfrifol am liniaru'r gostyngiad cynyddol yn y lefelau cyflogaeth lleol yn hen orsaf niwclear Trawsfynydd. Ar nodyn cadarnhaol, clywsom hefyd fod y safle'n ymgeisydd ar gyfer datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU yn y dyfodol. Pwysleisiodd y bwrdd yn gadarn ei angen i barhau mewn bodolaeth, ac yn annibynnol oddi ar Ynys Môn gerllaw, er y byddai'n cadw ac yn datblygu ei gysylltiadau cryf â datblygiadau ar Ynys Môn. Roedd lansiad cytundeb sector niwclear newydd £200 miliwn Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd bythefnos yn ôl yn atgyfnerthu pwysigrwydd hyn, gydag awgrym fod Trawsfynydd yn geffyl blaen ar gyfer datblygu adweithyddion modiwlar uwch, gan rannu hyd at £44 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu, a Pharc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn yn lleoliad a ffafrir ar gyfer cyfleuster hydroleg thermol gwerth £40 miliwn. Pan gyfarfuom â bwrdd Ynys Môn, roeddent hwy hefyd yn pwysleisio eu hangen i aros yn annibynnol fel y gallant fwrw ymlaen â'u gwaith ar ardal arddangos ynni llanw Morlais gorllewin Ynys Môn, ar ehangu porthladd Caergybi, ac ar yr orsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.

Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018 yn cadarnhau manteision economaidd sylweddol posibl ynni ffrwd lanw. Gall Ynys Môn fod yn ganolbwynt i arweinyddiaeth fyd-eang ym maes ynni'r llanw, ac mae cynnig twf gogledd Cymru yn cynnwys cyllid ar gyfer Morlais. Clywsom hefyd y mis diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau ffurfiol gyda Hitachi ar ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn. Ac fel y dywedodd cadeirydd ardal fenter Ynys Môn, Neil Rowlands, wrth Ysgrifennydd y Cabinet a minnau,

Cyfansoddir y bwrdd o bobl Ynys Môn yn bennaf, ac mae'r safon yn eithriadol o uchel ac yn uniongyrchol gysylltiedig. Mae'n hanfodol fod bwrdd ardal fenter Ynys Môn yn parhau.

Diolch yn fawr.

17:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw? Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ar ardaloedd menter. Roeddwn yn falch o allu cynorthwyo'r pwyllgor yn ei ymchwiliad, fel roedd cadeiryddion byrddau cynghori'r ardaloedd menter. Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod gwaith byrddau cynghori'r ardaloedd menter wedi ei gydnabod mor gadarn yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r cadeiryddion a'r byrddau wedi bod yn allweddol, rwy'n credu, wrth sicrhau llwyddiant a chyflawniadau'r rhaglen hyd yn hyn, ac rwyf innau hefyd yn diolch iddynt am eu holl ymdrechion.

Mae fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn nodi fy ymateb manwl i argymhellion yr adroddiad. Rwyf wedi derbyn y 10 argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor, ac rwy'n falch o nodi y gwneir cynnydd da yn erbyn pob un ohonynt. Yn benodol, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am ymestyn lwfansau cyfalaf uwch yng Nghymru am bum mlynedd arall tan fis Mawrth 2025, fel y gallwn gadw'r cymhelliant pwysig hwn i ddenu neu gyflwyno buddsoddiad o fewn ein hardaloedd menter ac ar hyn o bryd rwy'n aros am eu hymateb.

Er fy mod yn falch o'ch hysbysu bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ar draws pob un o'r ardaloedd menter, gyda 1,550 o swyddi'n cael eu cefnogi yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rwyf wedi gwrando ar argymhellion y pwyllgor nad yw'r dangosyddion perfformiad cyhoeddedig yn adlewyrchu'r sefyllfa cystal ag y gallent o bosibl. Felly, mewn ymateb, byddaf yn cyhoeddi data perfformiad allweddol cyn hir ar gyfer yr ardaloedd menter yn y flwyddyn ariannol 2017-18 gan gynnwys dadansoddiad manylach fel rhan o adroddiad blynyddol ehangach. Gan edrych tua'r dyfodol, er na all dangosyddion byth gyfleu'r cynnydd a wneir ar draws yr wyth ardal wahanol yng Nghymru yn llawn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried dangosyddion ymhellach fel rhan o'r adolygiad ehangach o'r rhaglen ardaloedd menter.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r argymhelliad ar y cynnig i uno byrddau Eryri ac Ynys Môn. Gan ystyried barn y cadeiryddion, rwyf wedi cytuno i ymestyn tymor y ddau fwrdd presennol am gyfnod pellach o 12 mis i helpu i hwyluso proses uno amserol ac effeithiol maes o law.

Rwy'n parhau'n falch o'r cyflawniadau a'r llwyddiant ar draws y rhaglen ardaloedd menter ers ei chychwyn yn 2012. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gan y rhaglen hanes cryf o gyflawni. Cefnogwyd mwy na 12,250 o swyddi ers sefydlu'r ardaloedd, ac rwy'n derbyn bod cyflymder y gwaith wedi amrywio ar draws yr ardaloedd. Rwyf wedi siarad o'r blaen ynglŷn â sut y mae hyn yn adlewyrchu dull o weithredu sy'n seiliedig ar le a mannau cychwyn gwahanol pob ardal a'u gwahanol gyfleoedd a heriau, fel y nodwyd yn glir gan David Rowlands. Mae ymdeimlad o le a sicrhau gwahanolrwydd rhanbarthol yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd newydd.

Fel y cyfle a gafwyd yn sgil y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth, pan oeddem yn dewis lleoliadau'r ardaloedd, ni ddewiswyd yr opsiynau hawsaf. Roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf y byddai'r ardaloedd mwy parod ar gyfer buddsoddiad yn gallu cyflawni yn y tymor byr, a byddai eraill angen canolbwyntio ar osod sylfeini ar gyfer twf economaidd a chanlyniadau yn llawer mwy hirdymor. Dangoswyd enghraifft dda o hyn y mis diwethaf pan lansiwyd cytundeb twf ynni niwclear Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd. Deilliodd hyn i raddau helaeth o ymdrech barhaus y bwrdd a John Idris Jones yn arbennig i hyrwyddo'r achos dros adweithwyr modiwlar bach.

Gwnaed sylwadau parhaus ynghylch gwerth am arian y rhaglen hon. Rwy'n credu bod y rhaglen nid yn unig wedi darparu gwerth am arian yn gyson, mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer ffyniant yn y dyfodol mewn ardaloedd ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, er enghraifft, a'r cysylltiadau ffordd newydd pwysig yn Ynys Môn, Glannau Dyfrdwy, Maes Awyr Caerdydd, Sain Tathan a Glynebwy, a hefyd, wrth gwrs, gorsaf reilffordd newydd yn ardal Glynebwy yn hwyluso datblygiad swyddi cynaliadwy yn yr ardal ac wrth gwrs, gan ddefnyddio'r ardal fel canolbwynt yn yr ardal leol ehangach, nid yn unig yn y tymor byr, ond hefyd yn llawer mwy hirdymor.

Hefyd mae'n bwysig cydnabod y prosiectau pwysig ac arwyddocaol iawn sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r rhaglen hon—prosiectau sy'n creu newid sylfaenol a fydd yn cyfrannu'n enfawr at ein heconomïau rhanbarthol, er enghraifft datblygu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy a rhaglen y Cymoedd Technegol ym Mlaenau Gwent. Bydd y ddwy raglen hon yn sicrhau newid sylfaenol yn eu hardaloedd, ac yn sicr ni fyddent wedi digwydd heb fewnbwn y byrddau. Rhagwelir y bydd y prosiectau'n cynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn gwerth ychwanegol crynswth ar gyfer economïau rhanbarthol Cymru ac ni fyddai wedi digwydd oni bai am fodolaeth rhaglen yr ardaloedd menter.

Rwy'n falch fod Adam Price wedi croesawu gwaith ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn archwilio potensial creu porthladd rhydd, gan mai fi a ofynnodd iddynt wneud hynny. Credaf fod y syniad o borthladd rhydd yn Airbus, er ei fod efallai'n swnio'n syniad newydd a beiddgar iawn, y ffaith amdani yw ei fod yn anymarferol oherwydd mae'r maes awyr ym Mrychdyn yn cael ei gadw ar gyfer gweithgareddau Airbus. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod Airbus yn gwbl ganolog yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy a bod y bwrdd yno, o fewn yr ardal, wedi penderfynu mai'r cyfrwng gorau ar gyfer twf yn ardal Glannau Dyfrdwy yw creu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch, a fydd, yn wir, yn cyfrannu oddeutu £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth dros y ddau ddegawd nesaf.

Fel y gwyddoch, fel rhan o weithredu'r cynllun gweithredu economaidd, rwyf wedi adolygu'r holl gyrff cynghori yn fy mhortffolio, ac rwyf wedi nodi cyfleoedd i symleiddio'r tirlun. O dan fwrdd cynghori'r Gweinidog trosfwaol sydd newydd ei ffurfio, mae strwythur llywodraethu'r ardaloedd ar gyfer y dyfodol wedi'i gynllunio yn y ffordd orau ar gyfer y cam y mae pob ardal arno, a'u cyfleoedd a'u hanghenion unigryw. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr ardaloedd menter adolygu eu cynlluniau strategol, er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau a'u dyheadau ar gyfer yr ardaloedd hynny dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cynlluniau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ac ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi gofyn hefyd i fy swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen ardaloedd menter yn ei chyfanrwydd, adolygiad a fydd yn ystyried yr amodau economaidd cyfredol, blaenoriaethau'r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth a chynllun diweddaraf pob ardal a'u cyfeiriad yn y dyfodol. Ni ddylem ofni cau'r drws ar y gorffennol pan fo atebion mwy effeithiol yn bodoli ar gyfer y dyfodol.

Rwyf am inni ddatblygu ffocws strategol clir ar gyfer y rhaglen wrth symud ymlaen, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynnig y cymhellion iawn i fusnesau, a hefyd ein bod yn parhau'n gystadleuol mewn perthynas ag ardaloedd menter eraill yn y DU, yn enwedig, fel y nododd David Rowlands, y rhai gerllaw ar ochr Lloegr i'r ffin. Bydd yr adolygiad rwyf wedi gofyn i swyddogion ei gynnal yn rhoi sylw i'r materion hyn ac yn ystyried canfyddiadau adroddiad y pwyllgor mewn meysydd megis argaeledd eiddo masnachol, a gallaf sicrhau Mark Isherwood ein bod eisoes yn cael trafodaethau gyda Banc Datblygu Cymru yn hynny o beth.

Mae'r ardaloedd menter yn cofleidio pwysigrwydd cydnabod ymdeimlad o le, ac mae gan fy uwch-swyddogion, ac yn benodol, y prif swyddogion rhanbarthol sydd newydd eu penodi, rôl glir iawn fel llais pob rhanbarth yn Llywodraeth Cymru, ac maent eisoes yn adeiladu cysylltiadau cryf gyda'r gymuned fusnes, ardaloedd menter a rhanddeiliaid allweddol eraill i greu cynlluniau rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Heb os, mae presenoldeb ardaloedd menter ym mhob un o'n rhanbarthau yn rhan bendant o'r sylfaen asedau y byddwn yn adeiladu arni yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni weithredu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau twf cynhwysol ledled Cymru.

17:50

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos i mi fod ardaloedd menter wedi bod, efallai, yn gyfres o arbrofion sy'n seiliedig ar le a byddant yn parhau i gael eu hastudio ymhellach dros y blynyddoedd nesaf. Y wers glir hyd yma, rwy'n credu, yw bod budd gwirioneddol i wybod eich cryfderau a dod â phartneriaid at ei gilydd o amgylch gweledigaeth a rennir, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i'r wers hon fod yn sylfaen ar gyfer y dull newydd rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.

Y cwestiwn a gyflwynais gyntaf yn y sylwadau agoriadol oedd hwn: a yw ardaloedd menter wedi hybu swyddi a thwf fel y cynlluniwyd iddynt ei wneud? Roedd peth ansicrwydd ai 'do' neu 'naddo' oedd yr ateb a chredaf fod Adam Price, yn ei gyfraniad, wedi manylu ychydig ar hynny, a hefyd o ran cael gafael ar y wybodaeth gan y Llywodraeth er mwyn craffu ar y maes hwn yn effeithiol. Rwyf am ddweud mai Adam Price, Mark Isherwood a David Rowlands a aeth i ymweld ag ardaloedd Eryri ac Ynys Môn, felly rwy'n falch iawn fod pob un o'r Aelodau wedi rhoi sylw helaeth i'w hymweliadau yn eu cyfraniadau. Nid yw'n syndod fod Joyce Watson wedi tynnu sylw at brosiect a bwrdd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn y rhan honno o'r rhanbarth y mae'n ei gynrychioli.

Sylwais fod David Rowlands wedi canolbwyntio ychydig ar fater creu swyddi yn erbyn costau, sy'n rhywbeth na fanylais arno yn fy sylwadau agoriadol, ond mae hyn yn rhywbeth yr edrychodd y pwyllgor arno'n eithaf helaeth. Roedd gan Ysgrifennydd y Cabinet, efallai, ffigurau gwahanol a gyflwynodd o ran hynny, ond credaf efallai fod hyn yn tynnu sylw at y modd na fu'r dull tameidiog o rannu gwybodaeth yn ddefnyddiol iawn. Ond roeddwn yn fodlon iawn gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ar wella dangosyddion a mesurau perfformiad. Credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr iawn wir, ac rwy'n hapus iawn gyda'r sylwadau hynny.

Canolbwyntiodd Mark Isherwood ar nifer o feysydd. Roeddwn yn arbennig o falch iddo ganolbwyntio ar fater yr unedau masnachol sydd ar gael, ac argaeledd eiddo a thir. Mae hwn yn fater a godwyd gan nifer o ardaloedd menter, er syndod i mi, oherwydd mae hon yn broblem benodol yn fy etholaeth i, ac roeddwn yn meddwl efallai ei bod yn un sy'n perthyn i ganolbarth Cymru, ond nid yw hynny'n wir, mae'n broblem ledled Cymru—yn y gogledd, yn y de, yn y gorllewin. Gwn fod y pwyllgor yn awyddus iawn i ddod yn ôl at fater argaeledd tir, argaeledd eiddo, unedau masnachol a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu unedau masnachol yn ogystal. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dod i fy etholaeth yr wythnos ar ôl nesaf i gyfarfod â busnesau sy'n wynebu'r anhawster hwn—busnesau sydd eisiau ehangu ond na allant ehangu am nad oes unedau masnachol ar gael ar eu cyfer.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i holl gadeiryddion yr ardaloedd menter am eu cydweithrediad, ac yn enwedig i John Idris Jones a Neil Rowlands am eu cymorth wrth drefnu ymweliadau â'u hardaloedd. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma, a holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith; a hefyd, wrth gwrs, diolch am y gefnogaeth wych a gawsom gan y gwasanaethau pwyllgor, fel bob amser, a gyfrannodd tuag at ein adroddiad. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar. Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:55

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cyfnod Pleidleisio

Nid oes gennym unrhyw eitemau yn y cyfnod pleidleisio heddiw. Rwy'n cynnig ein bod yn gohirio am bum munud. Mae gennym rai problemau technoleg gwybodaeth, felly byddwn yn gohirio am bum munud, ond ni fyddaf yn canu'r gloch, felly rwy'n disgwyl i'r Aelodau fod yn ôl yn y Siambr yn fuan ar ôl 6.00.p.m, os gwelwch yn dda.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:57.

18:00

Ailymgynullodd y Cynulliad am 18:03, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

10. Dadl Fer: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch am eich amynedd chi a'ch cymorth chi yn wyneb trafferthion cyfrifiadurol.

Mi fydd pobl Môn a glannau'r Fenai yn gyfarwydd iawn efo testun fy nadl i heddiw. Mae llong y Prince Madog a'i rhagflaenydd, y Prince Madog gwreiddiol, wedi bod yn olygfa gyfarwydd iawn, wedi'i rhaffu i bier Porthaethwy ers degawdau. Rwy'n falch o gael ei dangos hi ar y sgriniau o'n cwmpas ni yma yn y Siambr heddiw. Hi ydy'r llong fwyaf i'w gweld yn gyson ar y Fenai, ac i bawb sy'n falch ohoni hi, sy'n gwybod ei bod hi'n symbol o ragoriaeth adran gwyddorau eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy, wel, rwy'n gobeithio y gallaf eich gwneud chi'n fwy balch byth ohoni hi yn y 10 munud nesaf, a'ch perswadio chi o bwysigrwydd y Prince Madog rŵan, a'i photensial cenedlaethol hi mewn blynyddoedd i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Llywodraeth, ac a gaf i ddweud hefyd fy mod i wedi cytuno i roi amser i Mark Isherwood ymateb i'm sylwadau i hefyd?

Mi ddechreuwn ni efo rhywfaint o gyd-destun. Yn 34m o hyd, yr RV Prince Madog ydy'r llong ymchwil fwyaf yn y sector addysg uwch ym Mhrydain gyfan. Yn 2001 y cafodd hi ei hadeiladu, ond mae'r buddsoddi sydd wedi bod ynddi hi ers hynny yn golygu ei bod hi'n llong fodern iawn, sy'n gallu ymgymryd efo ystod eang o dasgau ymchwil yn nyfroedd Cymru a thu hwnt o fewn ffiniau'r silff gyfandirol. Mae'n cynnwys offer sonar multibeam ar gyfer mapio safon uchel, neu high resolution. Mae'n cynnwys side-scan sonar ar gyfer morffoleg gwely'r môr, offer proffilio dan wely’r môr, neu sub-bottom profiler, i astudio strwythur gwely’r môr. Mae’n cario offer ADCP ar gyfer mesur cerrynt, CTD i wneud mesuriadau yn y dŵr, ac mae'n cario offer i asesu popeth sy’n byw ar y gwaelod ac yn y golofn ddŵr, o blancton i bysgod. Mae’n gallu gweithio 24 awr y dydd am 10 diwrnod yn ddidor. Ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gan Brifysgol Bangor y gallu gwyddonol i ddadansoddi a defnyddio’r holl ddata sy’n cael ei gasglu. I grynhoi, mae’r Prince Madog, felly—y llong, ei hoffer, a’r bobl sydd y tu cefn iddi—yr union beth sydd ei angen i astudio moroedd Cymru. Ac mae yna lot i’w astudio.

Mae gennym ni 2,200 km o arfordir. Ond, wrth gwrs, mae’n cyfrifoldebau ni, a chyfrifoldebau’r Llywodraeth, yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r arfordir hwnnw—200 milltir. Arwynebedd Cymru—y tir, hynny ydy—ydy rhyw 21,000 km sgwâr, ond mae gennym ni 32,000 km sgwâr o wely môr, ond ychydig iawn o hwnnw yr ydym ni’n ei adnabod yn dda—cyfran fechan iawn ohono fo sydd wedi cael ei hastudio a’i mapio.

Mi gafodd cynllun morol i Gymru ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2015. Hen bryd cael un, mae’n rhaid dweud, ac ynddo mae’n dweud bod ardal forol Cymru’n cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all gynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol ac sy’n cyfrannu at les y genedl a lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ddatganiad rwy’n cytuno’n llwyr ag o, ond, mewn difrif, rydym ni’n gwybod fawr ddim manylion am yr adnoddau yna. Mae’n rhyfeddol cyn lleied o’n gwely môr ni sydd wedi cael ei fapio o ystyried manylder mapio’r tir. Ac mae mapio o’r math yma’n flaenoriaeth ar lefel Undeb Ewropeaidd ers tro. Dyma a ddywedodd comisiynydd dros faterion morwrol a physgodfeydd:

bydd ein menter—

menter yr UE—

i greu map digidol o wely'r môr holl ddyfroedd Ewrop yn cynyddu lefel y rhagweladwyedd er mwyn i fusnesau fuddsoddi, gan ostwng costau ac ysgogi arloesedd pellach ar gyfer twf glas cynaliadwy.

Ar lefel Ewropeaidd, mae yna feddwl strategol wedi bod ynglŷn â sut i wneud y mapio yna. Ond nid oes yna gynllun wedi’i gydlynu ar gyfer y Deyrnas Unedig—dim cynllun ar gyfer Cymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid ydy o wedi cael ei gydlynu’n iawn, ac mae’n rhaid i hynny newid. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r adnodd sydd ei angen i wneud y gwaith. Rydym ni’n ei gweld hi ar y sgrin: y Prince Madog.

Felly, beth ydy’r broblem? Wel, mae model cyllido’r llong wedi bod yn effeithiol iawn yn y gorffennol. Mae wedi galluogi i Brifysgol Bangor gael y llong. Mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan y brifysgol a chwmni P&O Marine fel cydberchnogion. Mae’r brifysgol yn defnyddio’r llong ar gyfer ymchwil a dysgu am 125 diwrnod y flwyddyn, ac mae P&O Marine yn chwilio am siarteri ar gyfer gweddill yr amser i wneud y project yn hyfyw a chynaliadwy. Mae wedi bod yn enghraifft ragorol o bartneriaeth rhwng y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Ond—a dyma’r rheswm dros y ddadl—nid oes yna addewid y bydd yr adnodd gennym ni ar ôl 2021. Dyna pryd mae’r cytundeb presennol yn dod i ben. Mae yna gwymp sylweddol wedi bod yn y farchnad am wasanaethau masnachol P&O yn defnyddio’r llong arbennig hon, ac mae hynny’n peryglu’r bartneriaeth. Ac fel mae’n edrych ar hyn o bryd, mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd P&O yn gallu adnewyddu’r cytundeb. Felly, mae angen ateb amgen. Yr un yr wyf i am ei weld yn digwydd ydy dyrchafu’r Prince Madog o long ymchwil Prifysgol Bangor i statws llong ymchwil forwrol genedlaethol. Ac, yn syml iawn, rydym ni angen un.

Oddi ar arfordir Môn ar hyn o bryd mae yna waith cyffrous iawn yn digwydd o ddatblygu ardal arddangos technolegau cynhyrchu trydan o’r llanw. Beth sy’n gwneud y parth arddangos yn ddeniadol i gwmnïau ynni ydy bod y gwaith paratoi wedi cael ei wneud ar eu cyfer nhw gan Morlais yn barod—nhw sy’n rhedeg y fenter, yn cynnwys yr holl waith mapio a darparu gwybodaeth sydd ei angen arnyn nhw ynglŷn â chyflwr gwely’r môr a lle y cân nhw roi eu peiriannau. Os ydym ni’n wirioneddol o ddifrif am fanteisio i'r eithaf ar y llanw a'r cerrynt sy'n llifo o gwmpas Cymru, i ddod â budd economaidd a budd amgylcheddol hefyd i genedlaethau'r dyfodol, yna rydym ni angen gwneud y gwaith mapio i ddangos beth yn union ydy'r cyfleoedd. Ac os nad ydym ni'n ei wneud o, mae gwledydd eraill am ei wneud o.

Mi soniais i yn gynharach am waith strategol y Comisiwn Ewropeaidd. Gadewch i ni edrych ar beth sy'n digwydd yn y wlad Ewropeaidd agosaf atom ni—ein cymdogion draw yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae ganddyn nhw ddwy long ymchwil genedlaethol yn barod. Mae'r prif un, y Celtic Explorer, yn llong 65m o hyd, wedi'i chomisiynu yn 2003. Yn gynharach eleni, mi ddywedodd Llywodraeth y Weriniaeth eu bod nhw'n bwriadu prynu llong ymchwil newydd i gymryd lle llong arall sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, sef y Celtic Voyager. Mae Iwerddon yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gael yr adnoddau yma er mwyn iddyn nhw allu manteisio ar eu hadnoddau morol nhw. Mae'r adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth', a gyhoeddwyd yn ôl yn 2012, yn cynnig strategaeth uchelgeisiol sy'n dangos cymaint mae Iwerddon yn cymryd y cyfleoedd yma o ddifri. Nid ydw i wedi gweld pris ar gyfer y llong newydd—mi gostiodd y Celtic Explorer, o ran diddordeb, rhyw €23 miliwn yn ôl yn 2003.

Yn y Prince Madog, mae gennym mi long yno yn barod, ac mae yno i Gymru, ond ni all Prifysgol Bangor fforddio ei rhedeg hi ei hunan. Mae angen cefnogaeth. Nid degau o filiynau o gyfalaf, ond cefnogaeth, a heb y gefnogaeth honno, nid dim ond Bangor ond Cymru fyddai'n colli'r adnodd rhagorol yma. Nid oes yna'r un brifysgol arall ym Mhrydain yn berchen ar long fel hon. I brifysgol, mae'n adnodd drud iawn, ond i wlad sydd angen buddsoddi yn ei dyfodol, rydym ni'n sôn am symiau cymharol fychan o arian. Dyma ichi enghraifft o sut allai fo weithio, yn cadw partner masnachol, preifat, o bosibl, fel rhan o'r fargen hefyd. O gofio bod yna werth blynyddoedd o waith mapio angen ei wneud—angen ei wneud er lles economaidd Cymru—petasai Llywodraeth Cymru yn dod yn bartner yn y Prince Madog fel llong ymchwil forwrol genedlaethol, a buddsoddi mewn dim ond—beth ddywedwn ni—50 o ddyddiau'r flwyddyn, mi allai hynny fod yn ddigon i achub y llong. Efallai dim ond dechrau byddai hynny—50 o ddyddiau, rhyw £5,000 y dydd, £250,000 y flwyddyn. Dyna'r cyfan rydym ni'n sôn amdano fo, o bosibl, ar gyfer gwaith mapio a allai fod â'r potensial, waeth inni fod yn onest, i ryddhau ac agor y ffordd at werth biliynau o bunnau o brosiectau ynni, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gwybodaeth allweddol ym meysydd cadwraeth, twristiaeth, hamdden, pysgodfeydd a chynhyrchiant bwyd.

Mae'n ffordd, byddwn i'n dadlau, gost-effeithiol iawn o ddelifro'r data sydd ei angen at y dyfodol, o ddarparu'r dadansoddiad gwyddonol angenrheidiol, ac, o edrych arno fo fel cymorth i adran gwyddorau eigion o safon fyd-eang, mae hefyd yn fodd o gynnal a chryfhau'r sylfeini ar gyfer ymchwil morwrol yn ei ystyr ehangach, sydd hefyd, wrth gwrs, yn hwb economaidd i Gymru. Mae'r llong yma yn denu myfyrwyr gorau'r byd i Gymru.

I grynhoi, mae ffyniant a buddsoddiad yn yr economi las yng Nghymru yn dibynnu ar ein dealltwriaeth o'r moroedd sydd o'n cwmpas ni. Mi ydym ni mewn sefyllfa freintiedig fod y gallu gennym ni i wneud yr ymchwil yma. Rydym ni'n lwcus bod y Prince Madog yn ein meddiant ni'n barod, ond fiw inni ei chymryd hi yn ganiataol. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fydd yna fwy o gyfrifoldebau ar ein hysgwyddau ni dros reoli ein hadnoddau naturiol. Ond i wneud y rheoli yna, mi fydd angen y math o dystiolaeth wyddonol sydd ddim gennym ni ar hyn o bryd. Mae gan Gymru'r gallu i fod yn arweinydd mewn technoleg ynni llif llanw. Mae targedau yn eu lle gan y Llywodraeth ar gyfer cynyddu cynhyrchiant oddi ar ein harfordir o fewn y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen gwneud y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni yn hawdd iawn, ac, er mwyn hynny, mae angen data ac mae angen mapio.

Uchelgais yr Undeb Ewropeaidd, fel dywedais i, yw mapio ei holl foroedd. Mae Iwerddon, fel dywedais i, yn buddsoddi yn hyn. Ond nid oes yn dal i fod gan Gymru, ar hyn o bryd, raglen o'r fath, a'r Prince Madog ydy'r allwedd.

Y Prince Madog yw'r allwedd i ymchwil forol Cymru yn y dyfodol. Mae'n allweddol ar gyfer darparu'r wyddoniaeth, darparu'r data, y dystiolaeth, i wneud y mwyaf o'n hadnoddau morol. Rhaid inni fapio ein glannau a gwely'r môr, neu fe gawn ein gadael ar ôl. Lluniwyd y rhan fwyaf o'r delweddau eglur iawn o wely'r môr yng Nghymru hyd yma gan y Prince Madog. Dyma'r llong orau ar gyfer y gwaith. Gwnaethpwyd hynny drwy weithgarwch SEACAMS a ariannwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ond bydd y gweithgarwch hwnnw'n dod i ben cyn bo hir.

Mae gwledydd eraill yn comisiynu llongau ymchwil newydd, ac mae Iwerddon wedi penderfynu adnewyddu ei fflyd yn ddiweddar. Mae gennym y llong sydd ei hangen arnom yn barod. Byddai buddsoddi a datblygu gweithgareddau morol masnachol yn y dyfodol yn cael hwb sylweddol drwy sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer casglu data morol a ddatblygir ar y cyd ag asiantaethau a busnesau bach a chanolig, a gallai hyn fod yn seiliedig ar gydnabod y Prince Madog a buddsoddi ynddi fel ein llong ymchwil forol genedlaethol. Mae'n debygol y bydd yr adnodd gwerthfawr hwn fel y mae yn cael ei golli yng Nghymru os na fydd gennym strategaeth genedlaethol o'r fath.

'Tra môr yn fur i'r bur hoff bau'

—cyhyd â bod y môr yno, medd ein hanthem genedlaethol, bydd yn gofalu am ein cenedl hen. Rwy'n aralleirio ychydig. Ond gadewch inni edrych ar ôl, ac edrych i mewn i'n môr fel na wnaethom erioed o'r blaen. Mae gennym blatfform i wneud hynny. Ei henw yw'r Prince Madog. Gallai fod yn llong ymchwil forol genedlaethol i ni.

18:15

Ymwelais ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ar y Fenai. Fe holais i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn ym mis Chwefror, pan ddywedais:

'Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r gwaith o reoli pysgodfeydd wrth inni edrych at y dyfodol. Ond ni fydd yn cael ei ariannu wedi 2020. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, i sicrhau cyllid hanfodol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac i ymgorffori ymchwil gwely'r môr mewn cynllun strategol cenedlaethol?'

Atebodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn

'ymwybodol fod Prifysgol Bangor yn awyddus i nodi gwaith gwyddonol strategol ar gyfer y Prince Madog yn y dyfodol'

ond, dywedodd:

'Mae'n fater masnachol ar gyfer y prifysgolion a sefydliadau eraill yn y consortiwm'

felly ni allai roi unrhyw sylw pellach. Wel, dywedodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion wrthyf, er bod y llong mewn cydberchnogaeth ac yn cael ei rhedeg ar y cyd, bydd arian Llywodraeth Cymru a datblygu cynllun strategol cenedlaethol yn y dyfodol yn hollbwysig. Felly, rydym yn sôn am ased strategol cenedlaethol allweddol, nid trafodaethau preifat neu fasnachol sensitif. Gobeithiaf, felly, y bydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn fwy ystyriol o'r bygythiad, ond hefyd o'r cyfle rydym yn ei drafod yn awr.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 18:17:54
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl fer hon ynghylch y Prince Madog a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth, a hefyd i gael cyfle i drafod y rhan o fy mhortffolio sy'n ymwneud â'r môr, testun nad wyf yn meddwl ein bod yn trafod digon arno yn y Siambr hon o bosibl.

Rydym i gyd yn rhannu ymrwymiad i foroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol ac amrywiol yn fiolegol. Golyga hyn fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'n holl randdeiliaid i gael tystiolaeth gadarn er mwyn gallu cael asesiad deallus a chyfunol o gyflwr ein moroedd. Fel y nododd Rhun, credaf y bydd yr ymchwil yn bwysicach byth wrth inni adael yr UE a chynllunio sut rydym yn rheoli cyflwr a defnydd o'n moroedd yn y dyfodol.

Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion i'n cynllun morol cyntaf ac mae'n nodi ein polisïau a'n rheolaeth forol, a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Mae'r Llywodraeth eisoes yn rhan o amrywiaeth o raglenni gwaith i fonitro ac asesu'r môr, gan gynnwys cyflawni statws amgylcheddol da drwy strategaeth forol y DU. Mae'r rhaglenni hyn yn bodoli i ddarparu'r dystiolaeth i ddeall ac ymateb i iechyd, cyflwr, cynhyrchiant a gwydnwch moroedd Cymru. Maent hefyd yn darparu dealltwriaeth o'r pwysau allweddol ar ecosystemau morol a'r rhyngweithio a geir â gweithgaredd dynol.

Mae meysydd blaenoriaeth penodol ar gyfer casglu data yn cynnwys data ar fioamrywiaeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig ac yn yr amgylchedd morol ehangach, data biolegol a data glanio ar gyfer stociau a ddaliwyd gan bysgodfeydd masnachol a hamdden, data i asesu effaith gweithgareddau dynol ar yr ecosystem forol, data manwl ar gapasiti a gweithgarwch pysgota a data cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar bysgodfeydd a dyframaeth.

Wrth ddatblygu polisi, rydym hefyd yn ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd drwy 'Adroddiad Tystiolaeth Morol Cymru', yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' ar gyfer Cymru a'r porth tystiolaeth cynllunio morol ar-lein. Rydym hefyd yn comisiynu ac yn cefnogi gwaith ymchwil wedi'i dargedu ar amrywiaeth eang o bynciau morol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys adroddiadau ar reolaeth a chyflwr ardaloedd morol gwarchodedig, adolygiadau o garthu agregau, asesu effeithiau gweithgareddau pysgodfeydd, astudiaethau treillio am gregyn bylchog ac asesiadau o botensial dyframaethu. Hefyd mae gennym gryn dipyn o weithgaredd pellach sy'n gysylltiedig â thystiolaeth ar y gweill neu wedi'i gynllunio, ac mae rhai o'r enghreifftiau'n cynnwys datblygu rhaglen fonitro bioamrywiaeth forol newydd, amrywiol astudiaethau dyframaeth, ac ymchwil ar ddatblygu ynni morol.

Gyda golwg ar adael yr UE yn fuan ar ôl y refferendwm, sefydlais grŵp bwrdd crwn o randdeiliaid cynrychioliadol i ofyn am eu help i nodi a deall yr heriau a'r cyfleoedd posibl y mae Brexit yn eu cynnig i Gymru. Mae is-grŵp y moroedd a'r arfordir, a ffurfiwyd o aelodau o'r bwrdd crwn a grŵp cynghori a gweithredu presennol Cymru ar faterion morol, wedi helpu i roi ffocws ar ein hystyriaeth o Brexit a'n moroedd. [Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf am hyn. Diolch yn fawr iawn.

Felly, mae'r aelodau wedi gweithio gyda mi a gweddill y Llywodraeth i lunio'r pum thema allweddol i weithio tuag atynt wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd i arwain ein datblygiadau polisi ymhellach, ac un o'r themâu hyn yw sefyll ar ein traed ein hunain drwy wella ein gallu mewn gwyddoniaeth forol a chasglu data. Felly, mae gweithio gyda'r byd academaidd ar lefel strategol a gweithredol yn bendant yn elfen bwysig o'n gwaith ymchwil, ac mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn bartner gwerthfawr iawn i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

O gymharu â'r amgylchedd ar y tir, weithiau mae'r dystiolaeth ar statws yr amgylchedd morol ac effaith gweithgareddau dynol arno'n brin, a gall tystiolaeth o'r fath fod yn gostus a heriol yn dechnegol i'w chasglu, a dyna pam rwy'n deall y gall cychod ymchwil fel y Prince Madog chwarae rôl bwysig. Credaf fod y pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth am beidio â cholli ased mor werthfawr yn bwysig iawn.

Felly, yn y lle cyntaf, yr hyn rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ei wneud yw cyfarfod â Phrifysgol Bangor i weld pa broblemau y maent yn eu hwynebu, ac i weld sut y gallwn helpu. Hoffwn innau ymweld â hwy hefyd er mwyn i mi gael llun ohonof ar y llong fel Rhun. Clywais eich galwad am statws llong forol genedlaethol. Mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno wrth gwrs. Unwaith eto, ynglŷn â chyllid, yn amlwg ni allaf ymrwymo, ond buaswn yn hapus iawn i gael y trafodaethau hynny gyda hwy. Yn ystod sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad y prynhawn yma, dywedais wrth Rhun fod Ynys Môn yn tyfu'n ganolbwynt go iawn ar gyfer ynni llanw, ac rwy'n meddwl bod y rhan honno o ogledd-orllewin Cymru yn dod yn bwysicach byth i'r rhan o fy mhortffolio sy'n ymwneud â'r môr.

Felly, buaswn yn hapus iawn i wneud hynny, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Rhun a'r Aelodau eraill maes o law. Diolch.

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.