Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
10/07/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch? OAQ52519
Roedd ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn rhoi sylw i effaith Brexit ar addysg ôl-orfodol ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau. Rydym ni’n parhau i bwyso am y blaenoriaethau hyn mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yr wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, dywedasoch wrthym nad oedd gennych chi na'ch Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar gyfer GIG Cymru pe byddai, fel sy'n gynyddol debygol erbyn hyn, wrth gwrs, Brexit dim cytundeb. Mewn gwirionedd, eich union eiriau oedd
'Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl ar ei gyfer.'
Nawr, nid wyf i'n siŵr ai dyna'r math o arweinyddiaeth yr oedd pobl Cymru yn ei disgwyl gan rywun a safodd ar sail addewid o sefyll dros Gymru, ond os nad oes gennych chi gynllun ar gyfer y GIG, a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny hefyd yn wir ar gyfer prifysgolion a cholegau Cymru yn wyneb Brexit 'dim cytundeb', ac, os ydyw, pryd yn union fyddech chi'n disgwyl i'r sector addysg uwch ac addysg bellach ddechrau rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian?
Mae'r Aelod yn bod yn ddireidus. Mae'n gwybod yn iawn mai cyfeirio at Lywodraeth y DU oeddwn i ac nid Llywodraeth Cymru—fel y mae'n gwybod, ond dyna'r direidi. Ond gofynnodd gwestiwn: beth yw'r sefyllfa o ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud? Wel, mae gennym ni grŵp cynghori Ewropeaidd, sy'n dod ag arweinyddion busnes, cynrychiolwyr o brifysgolion, undebau llafur, amaethyddiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddion a'r trydydd sector at ei gilydd. Mae gennym ni weithgor Brexit addysg uwch, gydag uwch gynrychiolwyr o'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Maen nhw'n darparu cyngor i ni ar oblygiadau Brexit i'r sector addysg uwch. Mae gennym ni is-grŵp Brexit Cyngor Adnewyddu'r Economi, gydag arweinyddion busnes uwch a sefydliadau, wedi ei gadeirio gan Ysgrifennydd yr economi. Mae gennym ni grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Brexit yr amgylchedd a materion gwledig, a sefydlwyd ar ôl y refferendwm. Fforwm yw hwnnw ar gyfer ymgysylltiad a chydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a'r sectorau bwyd, pysgodfeydd, ffermio, coedwigaeth a'r amgylchedd. Ac fe wnaethoch sôn am iechyd. Wel, rydym ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid iechyd a gofal allweddol drwy'r prif gyrff cynrychioliadol, ac rydym ni hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau penodol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Coleg Nyrsio Brenhinol a chyfarwyddwyr meddygol y GIG, er mwyn i ni ddeall ganddyn nhw beth yw'r heriau sy'n eu hwynebu.
A wnaiff y Prif Weinidog a'i blaid gefnogi cytundeb gyda'r UE ar addysg neu unrhyw beth arall? Yn Chequers, aeth Prif Weinidog y DU ymhell iawn tuag at y math o Brexit y mae Llafur yn honni ei fod ei eisiau. [Torri ar draws.] Ond yn hytrach na chroesawu hynny, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb yn seiliedig arno i geisio cael etholiad cyffredinol yn hytrach. Gan y gallai'r agwedd honno arwain atom ni'n gadael yr UE heb gytundeb, a wnewch chi fel Prif Weinidog gefnogi Llywodraeth y DU nawr i gyflymu paratoadau ar gyfer canlyniad o'r fath?
Wel, fe wnaeth Boris Johnson a David Davis sefyll y tu ôl i Brif Weinidog y DU gyda chyllell ac fe welsom i gyd yr hyn a wnaethant. Hynny yw, mewn gwirionedd, nid dyma'r sail gryfaf i'w blaid arwain arni, o ystyried y rhaniadau anhygoel sy'n bodoli o fewn y Blaid Geidwadol. Nawr, o ran yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei wneud, mae'n ceisio, rwy'n gobeithio, llywio'r DU tuag at Brexit meddal. Yn hynny o beth, byddaf yn cefnogi'r egwyddor gyffredinol honno. Ond mae angen i ni weld mwy o fanylion. Nid ydym ni'n gwybod eto beth fydd yn y Papur Gwyn masnach; nid yw wedi ei rannu gyda ni yn ei gyfanrwydd. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd y manylion. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd safbwynt yr UE, ond yr hyn sy'n gwbl eglur yw hyn: bod y Blaid Geidwadol yn gwbl ranedig. Ni welwyd ymddiswyddiad dau Ysgrifennydd Cabinet uwch ar yr un diwrnod ers 1979, rwy'n deall. Ac mae hynny'n dangos dyfnder y rhaniad sy'n bodoli yn Whitehall. Mae'n amser mewn gwirionedd i'r Blaid Geidwadol gallio a dangos rhywfaint o arweinyddiaeth i'r wlad hon.
Prif Weinidog, mae gan y DU dair prifysgol yn 10 uchaf y byd. Nid oes gan weddill yr UE unrhyw un; nid ydyn nhw yn y 30 uchaf hyd yn oed. A yw'r Prif Weinidog wedi gwneud unrhyw asesiad o'r effaith ar fyfyrwyr yr UE, asiantaethau a sefydliadau Llywodraeth ac anllywodraethol, fel yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, pe bydden nhw'n colli mynediad at ein hacademyddion mwyaf blaenllaw y byd mewn sefydliadau addysgol?
Nid wyf i'n credu ei fod yn gweithio i neb. Y peth cyntaf y bydd academyddion yn eu ddweud wrthych yw eu bod nhw'n dibynnu'n llwyr ar y gallu i weithio mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd. Ac os bydd y DU yn cael ei hystyried yn hunangynhwysol, bydd hynny yn anfantais i'r DU, ac os caiff ei hystyried yn ddigroeso, bydd hynny yn anfantais i'r DU. Mae'n gwbl hanfodol bod cydweithredu yn parhau yn y dyfodol, gyda chynlluniau fel Erasmus a Horizon 2020 yn gallu darparu hyd eithaf eu gallu.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghwm Cynon? OAQ52482
Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu cynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru yn ei datganiad llafar ar 21 Mehefin.
Diolch, Prif Weinidog. Yfory, gyda fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, rwy'n cyd-noddi digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o sut y gallai cyfraith Lucy wella lles anifeiliaid trwy sicrhau bod pobl yn cael cŵn bach o ganolfannau achub neu fridwyr cyfrifol yn unig, ac rwyf yn annog holl Aelodau'r Cynulliad i ddod. Mae mynd i'r afael â ffermio cŵn bach yn hollbwysig, ac mae llawer o'm hetholwyr wedi dioddef y torcalon o dalu cannoedd o bunnoedd am gi bach sâl a fridiwyd mewn amodau annerbyniol. Yn ystod ei datganiad ar les anifeiliaid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai cael ci bach o'r ffynhonnell gywir yw'r cam hanfodol cyntaf tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hyn, a pryd y gallwn ni ddisgwyl diweddariad ar drafodaethau ar gyflwyno gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti?
Wel, bydd y cod lles cŵn wedi'i ddiweddaru yn cael ei osod gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf. Bydd yn atgoffa perchnogion o'u cyfrifoldebau wrth ofalu am eu ci neu gi bach, ac wrth gael gafael arnynt. O ran y mater penodol o werthiannau trydydd parti, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol yn nigwyddiad cyfraith Lucy ddydd Mercher, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn helpu i lywio'r trafodaethau hynny gyda hi. Byddaf yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig i gael ei gyhoeddi, i ddiweddaru'r Aelodau ar ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd.
Rwyf i'n teimlo'n freintiedig heddiw o fod yn eistedd wrth ymyl achubwr y clwb bridwyr draenogod yn y fan yma, Darren Millar. Byddai unrhyw un sydd wedi dilyn ei gyfrif Twitter yn gweld y genhadaeth achub a lansiwyd ganddo yr wythnos diwethaf. Ond rwyf yn gofyn i chi, Prif Weinidog—. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu llawer o wasanaethau yn y sector cyhoeddus, yn amlwg—gwasanaethau bws a rheoleiddio tacsis. Mae'n bwysig pan fydd pobl â chŵn anwes, yn arbennig, yn ceisio defnyddio'r gwasanaethau hynny, bod dealltwriaeth ymhlith y gweithredwyr o beth yw eu rhwymedigaethau, ac nad ydynt yn cael eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaethau hynny. Pa mor ffyddiog ydych chi bod gan y rheoliadau, ac yn enwedig y gwasanaethau yr ydych chi'n eu comisiynu, y trefniadau diogelu ar waith fel bod pobl sydd angen cŵn tywys, ac anifeiliaid anwes eraill, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau cyhoeddus hynny?
Wel, wrth gwrs, mae'n ofynnol i'r holl weithredwyr weithredu o fewn ffiniau'r gyfraith, yn enwedig Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Byddwn yn disgwyl i bob gweithredwr sicrhau, pan fo rhywun angen cymorth ci tywys, er enghraifft, eu bod nhw'n gallu cael mynediad at wasanaethau bws, gwasanaethau trên, ac unrhyw wasanaeth arall. Dyna fyddai'r gyfraith yn disgwyl iddyn nhw ei wneud, a dyna fyddwn i'n credu y byddai safonau gweddus yn disgwyl iddyn nhw ei wneud hefyd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl ac yn benderfynol, mae'n ymddangos, o wneud cymaint o lanastr llwyr o Brexit fel nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf dymuniadau etholwyr y DU. Cefnodd David Cameron ar y DU, yn amharod i gyflawni dymuniadau democrataidd yr etholwyr. Mae Theresa May wedi gwneud cawl o bob trafodaeth gyda'r UE, ac mae gan Weinidogion Torïaidd uwch fwy o ddiddordeb mewn edrych ar eu cyfleoedd arweinyddiaeth na thynged ein gwlad. Ac mae hyn i gyd wedi cyrraedd cresendo erbyn hyn, gyda chynllun ar gyfer Brexit nad yw'n cyflawni Brexit. Mae cynigion Chequers yn golygu ein bod ni'n parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r UE, heb allu eu newid na dylanwadu arnynt, ac ni fyddem yn gallu cynnal polisïau masnach annibynnol, gan lesteirio ein gallu i ddod i gytundebau masnachol y tu allan i'r UE. Byddai hyn yn ein gadael yn ddarostyngedig i reolau'r UE a Llys Cyfiawnder Ewrop a byddem yn cael ein gorfodi i dderbyn rheolau sydd o fudd i'n cystadleuwyr cyfandirol. Nid dyma wnes i bleidleisio drosto ac nid dyma bleidleisiodd mwyafrif pleidleiswyr y DU drosto. Mae allan yn golygu allan. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r safbwynt a fabwysiadir gan gytundeb Chequers, neu a ydych chi'n cytuno â mi ei fod yn gytundeb mor ddi-drefn fel bod yn rhaid i ni ddechrau o'r dechrau?
Nid wyf yn cytuno gyda'r un o'r ddau. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ateb synhwyrol sy'n golygu ein bod ni'n aros yn yr undeb tollau, gyda mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ac, yn anad dim, mae hi'n iawn—mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl. Dyna pam mae angen Llywodraeth Lafur arnom ni yn Whitehall.
Prif Weinidog, yn anffodus, mae safbwynt y Blaid Lafur yn ddryslyd. Mae'r AS Llafur dros Aberafan yn credu'n gryf y dylai Llafur ymrwymo'n llwyr i fodel Brexit a fyddai'n golygu bod y DU yn parhau i wneud cyfraniadau ariannol i'r UE a derbyn llawer o'i ddeddfau. Mae'n amlwg nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn siŵr beth y mae ef ei eisiau—un diwrnod, mae angen i ni aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a'r diwrnod wedyn mae'n rhaid cael perthynas fasnach ddi-dariff gydag Ewrop a datblygu undeb tollau i fynd ochr yn ochr â hynny. Mae Cabinet yr wrthblaid wedi gweld mwy o ymddiswyddiadau na phenodiadau, ac mae Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid yn galw am ail refferendwm Brexit erbyn hyn, wedi ei ddylanwadu yn ôl pob golwg gan aelodau allweddol o undeb Unite. Prif Weinidog, beth yw safbwynt eich plaid chi ar Brexit? Ai'r safbwynt a amlinellwyd gennych chi gydag arweinydd Plaid Cymru? Ai dyna'r safbwynt? Neu, ai safbwynt y Blaid Lafur yw eich safbwynt, os gwelwch yn dda?
Y cyntaf.
Mae'n ddrwg gen i?
Caroline Jones.
Yn ôl eto, aie? Dim ateb. Iawn. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?
Y cyntaf—yr hyn a gytunwyd gennym gyda Phlaid Cymru.
Fe wnaeth ef ateb, a dweud—
Gyda Phlaid Cymru. Diolch. Mae'n ddrwg gen i, ni wnes i ddim clywed hynna'n iawn. Diolch, Prif Weinidog.
Sylwaf bod eich Llywodraeth wedi amlinellu heddiw cynigion ar gyfer cymorthdaliadau fferm pe byddem ni fyth yn gadael yr UE, a chroesawaf y cynigion, sydd, yn ôl yr RSPB, yn nodi ffordd newydd o weithio. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin wedi rhoi cadwraethwyr a ffermwyr benben â'i gilydd yn y frwydr am dir, felly bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr agwedd hon. Yn ôl eich Ysgrifennydd Cabinet, mae Brexit yn gyfle unigryw i gyflwyno polisi wedi'i deilwra i Gymru sy'n cyflawni ar gyfer ein heconomi, ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn.
Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i allu dylanwadu ar y trafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn anwybyddu ein safbwyntiau’n llwyr, ond gallwn geisio manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ein hymadawiad â'r UE: felly, polisïau amaethyddiaeth a chadwraeth wedi'u teilwra, polisïau pysgodfeydd wedi'u teilwra a pholisïau masnach wedi'u teilwra. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac yn agored i ni, yn hytrach na phwysleisio'r risgiau? Wedi'r cyfan, roeddem ni i fod mewn dirwasgiad dwfn erbyn hyn. Yn hytrach, mae buddsoddiad mewn busnes yn ffynnu, a ddylai fynd gryn ffordd i roi teimlad cadarnhaol i ddarpar fuddsoddwyr. Felly, sut gwnewch chi annog mewnfuddsoddiad i Gymru, os gwelwch yn dda?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n gwbl eglur bod llawer o fusnesau yn pryderu am y posibilrwydd o Brexit caled. Rydym ni wedi clywed Airbus yn ei ddweud, rydym ni wedi clywed JLR yn ei ddweud, ac rydym ni wedi clywed pobl eraill yn ei ddweud. Iddyn nhw, nid yw Brexit caled yn gweithio. Mae'n iawn i ddweud bod gennym ni gyfle i lunio polisi ffermio fel y byddem yn dymuno, yn amodol, wrth gwrs, ar gael fframwaith wedi'i gytuno'n gyffredin—sy'n bwysig—ar draws y DU gyfan. Ac arian. Y gwir amdani yw nad oes gennym ni unrhyw sicrwydd ynghylch yr arian. Mae dau gant a thrigain miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn cael ei roi mewn cymorthdaliadau ffermio yng Nghymru. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Gallaf ddweud hynny nawr. Mae'n amhosibl. Mae'n rhaid iddo gael ei neilltuo, yn fy marn i, mewn pot ar wahân gan Lywodraeth y DU, a'i ddosbarthu fel a wneir ar hyn o bryd tan fod cytundeb i newid pethau. Mae hynny'n hynod o bwysig. Ond, nid oes dim o hyn yn golygu unrhyw beth heb farchnad.
Y gwir amdani yw bod 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad sengl. Daearyddiaeth sy'n dylanwadu ar hynny. Mae llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei gynhyrchu—os edrychwn ni ar bysgod, er enghraifft—yn ddarfodus. Yn syml, mae'n haws ei werthu yn y farchnad Ewropeaidd nag y mae hi i'w gludo hanner ffordd ar draws y byd i farchnad arall. Felly, y gwir yw, gallwn, mi allwn ni edrych ar sicrhau bargen well i'n ffermwyr yng Nghymru, cyhyd ag y bydd yr arian ar gael gan San Steffan. Ond, nid yw dim o hyn yn golygu unrhyw beth oni bai ei bod yn gallu gwerthu eu cynnyrch. Oni bai eu bod yn gallu cael pysgod a chynhyrchion darfodus, er enghraifft, ar draws drwy Dover ac i mewn i borthladdoedd Ffrainc cyn gynted â phosibl, allan nhw ddim gwerthu unrhyw beth, a dyna pam mae'n hynod bwysig ein bod ni'n osgoi Brexit caled.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ar y cofnod eich bod chi wedi dweud bod pawb yn rhedeg o gwmpas yn sgrechian, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf beth yw eich cynllun ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae San Steffan mewn anhrefn, ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn edrych yn fwy tebygol nag erioed erbyn hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddatblygu cynllun 'dim cytundeb' i ddiogelu swyddi a chyflogau Cymru, a chyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn yna. Nid oes unrhyw fesurau lliniaru yn erbyn dim cytundeb. Ni fyddai'n iawn i ddweud hynny. Y gwir amdani yw, os byddwn ni'n cael Brexit 'dim cytundeb', byddwn yn colli swyddi, a byddwn yn colli buddsoddiad. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna pam yr wyf i wedi brwydro'n galed yn erbyn Brexit 'dim cytundeb'. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth o ran paratoi ar gyfer Brexit. Bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rydym ni hefyd wedi sefydlu, wrth gwrs, cronfa bontio'r UE—£50 miliwn sy'n helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer a pharatoi ar gyfer effaith Brexit. Felly, oes, mae gennym ni nifer o grwpiau lle'r ydym ni'n siarad â rhanddeiliaid. Mae gennym ni arian ar y bwrdd hefyd. Ond does bosib y gall neb esgus y gellir lliniaru'n llawn yn erbyn Brexit 'dim cytundeb', oherwydd ni ellir gwneud hynny.
Prif Weinidog, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanastr go iawn o Brexit, ac mae'r sefyllfa mor wan. Yr wythnos diwethaf, cydsyniodd Plaid Cymru—. Mae'n ddrwg gen i, nid Plaid Cymru wnaeth gydsynio i brif Fil Brexit San Steffan, nage? Ac nid Plaid Cymru wnaeth atal y pleidleisiau a allai fod wedi ein cadw yn y farchnad sengl. Ac nid Plaid Cymru bleidleisiodd i sbarduno erthygl 50 heb gynllun. Prif Weinidog, y Blaid Lafur wnaeth yr holl bethau hynny—dim mewnbwn, a dim golwg ar bapur Brexit San Steffan hyd yn oed. Nawr, ai dyma oedd yr Ysgrifennydd dros gyllid yn ei olygu pan ddywedodd bod y cytundeb hwn gyda'r Ceidwadwyr, a dyfynnaf, yn gam sylweddol tuag at weithio rhynglywodraethol teg, neu, o edrych yn ôl, a oedd eich Llywodraeth chi yn anghywir i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a fydd yn helpu i ychwanegu at yr anhrefn yr ydym ni eisoes yn ei weld yn San Steffan?
O ran yr hyn a ddywedodd am y ffaith fod hwn yn gam pwysig at gydweithredu rhynglywodraethol, rwy'n credu bod Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud yr un peth. Felly, ydy, mae'n gam pwysig, ond yn amlwg mae gan Lywodraethau'r Alban a Chymru wahanol safbwyntiau. Y gwir amdani yw na allaf i fod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan; Prif Weinidog Cymru wyf i. A bydd hi'n gwybod, gan weithio gyda'i phlaid, ein bod ni wedi datblygu'r hyn yr wyf i'n ei gredu yw'r polisïau a ystyriwyd yn fwyaf trylwyr a synhwyrol o unrhyw fan yn y DU. Rydym ni wedi gweithio trwy bolisïau, wedi gweithio gyda'i phlaid hi, sy'n darparu ar gyfer, ie, darparu canlyniad y refferendwm, ond hefyd Brexit meddal, polisi masnach synhwyrol, perthynas synhwyrol â'r UE, mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl—rydym ni wedi rhannu'r holl bethau hyn gyda'n gilydd. Rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU. Mae'n ymddangos, rydym ni'n gobeithio, eu bod nhw'n gwrando i ryw raddau, o gofio bod y cytundeb Chequers yn mynd ymhellach o lawer tuag at lle'r ydym ni'n credu y dylai'r DU fod na'r hyn a oedd yn wir yn flaenorol.
Sut gallwch chi ddisgwyl i Lywodraeth y DU wrando ar yr hyn yr ydym ni ei eisiau ar y cyd pan na allwch chi hyd yn oed gael eich plaid eich hun i dderbyn y safbwynt hwnnw? Mae eich ASau yn pleidleisio yn erbyn y safbwynt a gytunwyd ar y cyd y mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi ei gytuno yn y Cynulliad hwn.
Prif Weinidog, rydym ni'n wynebu ansicrwydd yn y fan yma fel nad ydym ni erioed wedi ei wynebu o'r blaen. Gyda dim ond wythnosau o amser trafod yn weddill, a San Steffan mewn mwy o anhrefn nag erioed, pam ydych chi'n gwrthod derbyn realiti? Mae Brexit 'dim cytundeb' ar fin ein taro, ac nid wyf i'n credu bod eich Llywodraeth yn gwneud hanner digon i amddiffyn y wlad hon. Nawr, fel democrat, rwy'n credu y dylai pobl gael lleisio eu barn ar y cytundeb terfynol, felly, Prif Weinidog, nawr ein bod ni'n gwybod ei fod yn edrych fel naill ai cytundeb gwael neu 'ddim cytundeb', a wnewch chi gefnogi pleidlais i'r bobl nawr, fel y gallwn ni gael cyfle i wrthod y Brexit eithafol yr ydych chi a minnau'n gwybod fydd yn achosi cymaint o niwed i bobl ac i economi'r wlad hon?
Wel, fy marn i erioed fu y dylai unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan Seneddau—lluosog—y DU. Os na fydd hynny'n digwydd, byddai'n rhaid penderfynu'r mater naill ai drwy etholiad neu, yn wir, o bosibl, drwy refferendwm ar y cytundeb ei hun. Oherwydd, os nad oes unrhyw ffordd arall o'i ddatrys, yna mae gan y bobl a bleidleisiodd yn 2016 berffaith hawl i benderfynu pa fath o gytundeb y maen nhw eisiau ei gymeradwyo o 2018 ymlaen. Mae'n ymddangos yn briodol y dylai hynny ddigwydd. Ond mae'n ymddangos i mi mai'r peth cyntaf i'w wneud yw i Seneddau'r DU archwilio unrhyw gytundeb a phenderfynu ar ba un a ddylid cefnogi'r cytundeb hwnnw ai peidio. Os bydd wedyn, er enghraifft, etholiad cyffredinol os caiff y cytundeb hwnnw ei wrthod, a bod hwnnw'n arwain at ganlyniad amhendant, wel, sut arall y gellir ei ddatrys heblaw drwy refferendwm ar y cytundeb? Rwy'n credu bod hynny'n dod yn anochel ar yr adeg honno.
Ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?
Rydym ni wedi gwneud llawer iawn, fel y bydd ef yn gwybod—er enghraifft, y ffaith ein bod ni wedi helpu awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau ar gyfer gofal plant; y ffaith, er enghraifft, ein bod ni wedi cyfrannu cymaint o arian at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, lle mae cymaint o bobl ifanc wedi elwa ar yr £8 miliwn ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i CAMHS; ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r comisiynydd plant yno, sy'n gallu ein cynghori ni o ran beth arall y gallai fod angen i ni ei wneud.
Wel, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad sy'n peri pryder mawr a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddangosodd, ar sawl cyfrif, bod Llywodraeth Cymru yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 83 y cant o rieni a holwyd yn dweud eu bod yn poeni bod eu plant wedi'u hynysu yn gymdeithasol, a tynnodd llawer sylw at bryderon am fwlio. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r pryderon a amlygwyd gan y comisiynydd plant a chynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?
Wel, mae'n hynod bwysig gydag adroddiad fel hwn bod ymateb priodol yn cael ei roi gan Lywodraeth, a bydd yr ymateb hwnnw'n cael ei roi, wrth gwrs, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r hyn y mae'r comisiynydd plant wedi ei ddweud mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru, ond eto rydym ni wedi gweld nifer o adroddiadau diweddar yn y misoedd diwethaf lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi plant a phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo plant a phobl ifanc yn well a chynnal eu hawliau yw trwy gefnogi fy mil Awtistiaeth arfaethedig, sydd wedi cael cefnogaeth cyrff annibynnol fel y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wir ac a gefnogir gan lawer yn y Siambr hon. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr felly i gefnogi'r Bil awtistiaeth, a fydd yn anfon neges eglur i blant a phobl ifanc ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cynorthwyo?
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo rhieni ac, yn wir, pobl ifanc ag awtistiaeth. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid ei wneud trwy gyfrwng Bil. Mae'n hynod bwysig bod adnoddau ar gael ac rydym ni wedi gwneud hynny o ran cymorth. Mae hefyd yn hynod bwysig ein bod ni'n gallu gweithio gyda sefydliadau i ddarparu'r pecyn gorau ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth. Felly, er fy mod i'n argyhoeddedig y byddai Bil yn llwyddo i'w wneud, mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n edrych i weld pa adnoddau ychwanegol y gellir eu nodi er mwyn helpu'r bobl hynny sy'n byw gyda'r cyflwr bob dydd.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithgareddau hamdden awyr agored yng Nghymru? OAQ52509
Rydym ni'n gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, i gynnig cyfleoedd i bobl o bob oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn yr awyr agored. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud defnydd o'n tirwedd naturiol i annog pobl i fod yn fwy egnïol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae etholwr sy'n feiciwr oddi ar y ffordd brwd wedi ysgrifennu ataf i o Gydweli i gwyno bod darn mawr o dir ger Merthyr Tudful sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei brydlesu i gwmni preifat ac yn masnachu o dan yr enw BikePark Wales, ac o ganlyniad i hynny bu cyfyngiad ar fynediad cyhoeddus i'r tir hwnnw. Ac edrychais ar wefan BikePark Wales y bore yma, sy'n dweud:
Bydd unrhyw dresmasiad ar y llwybrau heb drwydded ddilys yn destun dirwy yn y fan a'r lle, a bydd hyn yn cael ei orfodi gan ein swyddogion.
Agwedd braidd yn unbenaethol i'w mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hyn. A all y Prif Weinidog ddweud wrthyf beth yw'r polisi ar fynediad cyhoeddus i dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru at ddibenion cerdded a beicio, a sut y gallai'r polisi newydd hwn o breifateiddio effeithio ar fenter Cymru egnïol trwy wahardd pobl leol rhag cael mynediad rhydd ac anghyfyngedig?
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r darn o dir y mae'n sôn amdano, ond, yn sicr, ni allaf weld unrhyw ffordd gyfreithiol y gall pobl gael arian wedi ei wasgu oddi wrthynt dim ond am eu bod yn sefyll ar ddarn o dir. Ni allaf weld unrhyw ffordd lle y gellir gorfodi hynny mewn unrhyw ffordd gyfreithlon. Ond, os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf, wrth gwrs, yn falch o edrych ar hyn yn fanylach.
Prif Weinidog, ar yr un pryd ag y mae cynllun beiciau cymunedol noddedig Santander wedi bywiogi o'r diwedd—rwy'n falch iawn am hynny—a bod mwy a mwy o lwybrau beicio yn dod i'r amlwg yn Abertawe, mae'r awdurdod lleol yn bwriadu tyrchu'r cyrtiau tenis y mae pobl yn hoff iawn ohonynt ac sy'n cael llawer o ddefnydd yn y Mwmbwls, a'u disodli gyda maes parcio dros dro. Gwrandawodd cyngor Abertawe ar gwynion trigolion am hyn o leiaf, ac maen nhw wedi tynnu eu cynlluniau yn ôl am y tro. Ar adeg pan ein bod ni'n ceisio cael pobl allan o'u ceir a bod gennym ni'r agenda teithio llesol, fel yr ydym ni newydd ei glywed, a'n bod ni eisiau pobl i ymweld â Chymru a rhai o'n mannau twristiaeth pwysicaf, rwy'n credu bod hwn yn dipyn o gynllun rhyfedd a dryslyd gan gyngor Abertawe. Felly, a ydych chi'n cytuno, ar adeg pan fo'r ddinas-ranbarth yn dod â chynghorau at ei gilydd i ystyried y darlun mawr o ran adfywio'r ardal, y dylen nhw fod yn ystyried teithio llesol yn union yr un ffordd ac osgoi penderfyniadau annoeth fel hyn, sydd mewn gwirionedd yn lleihau'r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau egnïol?
Wel, mater i gyngor Abertawe fydd hynny, ond rydym ni'n disgwyl, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac i chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu beicio a beicio'n ddiogel. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r mater cynllunio penodol y mae'r Aelod yn sôn amdano, ond gallaf ei sicrhau mai barn y Llywodraeth yw ein bod ni eisiau gweld mwy o gyfleoedd yn ymddangos i feicio a cherdded yn y dyfodol.
A chwarae tenis.
A thenis. Mae'n ddrwg gen i.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymhwystra i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru? OAQ52479
Gwnaf. I fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Cymru mae angen i chi fod yn gofrestredig ac yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio. Rwyf yn bwriadu, fodd bynnag, cefnogi cais i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl 16 a 17 mlwydd oed.
Diolch, Prif Weinidog. Mae cyn-etholwr wedi cysylltu â mi sydd wedi ysgrifennu ataf i ddweud ei fod yn teimlo wedi'i ddifreinio o fethu â gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru. Fe'i ganwyd yng Nghymru a chafodd ei fagu'n lleol ac mae ganddo deulu helaeth yn y canolbarth. Symudodd o ganolbarth Cymru i swydd Amwythig, lle'r aeth ei swydd ag ef, ac yna aeth i weithio dramor. O gysylltu â'r swyddfa etholiadau ym Mhowys, maen nhw wedi ei gynghori, fel preswylydd tramor, mai dim ond yn y man lle'r oedd yn byw ddiwethaf y caiff gofrestru i bleidleisio. Felly, fel dinesydd Cymru, mae'n cael pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU, ond ni chaiff bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. Felly, mae'n ymddangos i mi bod hwn yn anghyson. A gaf i ofyn pa un a ydych chi'n ymwybodol o'r mater hwn? Os ydych chi, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud ac a allai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Etholiadol?
Rwy'n credu bod hynny'n anodd iawn. Mae dwy ffordd y gallwch chi ddarganfod hawl rhywun i bleidleisio. Preswyliad yw un, wrth gwrs; a dinasyddiaeth yw'r llall. Nid oes gennym ni ddinasyddiaeth Gymreig. Mae rhai yn y Siambr, mi wn, a fyddai'n ceisio hyrwyddo hynny, ond, yn absenoldeb dinasyddiaeth Gymreig, preswyliad yw'r unig ffordd o'i wneud. Y cwestiwn wedyn yw: pa mor bell yn ôl ydych chi'n mynd? Beth os bydd rhywun yn byw yng Nghymru am wythnos neu ddwy? A yw hynny'n golygu ei fod yn gymwys? Rwy'n credu bod llawer o anawsterau yn y fan yna y byddai angen eu datrys er mwyn i newid i'r gyfraith fod yn ymarferol.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â'r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad y byddai gostwng yr isafswm oed pleidleisio i 16 yn ffordd rymus o godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc?
Byddwn. Mae'n rhaid imi ddweud, rydym ni wedi gweld un digwyddiad etholiadol yn y DU, sef refferendwm yr Alban, pryd y caniatawyd i bobl 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio. Ar ôl sefydlu'r cynsail hwnnw, ni welaf pam na all hynny weithredu yn y dyfodol ar gyfer pob un ohonyn nhw—ar gyfer etholiadau a refferenda. Ymddengys iddo weithio'n dda iawn yn yr Alban; roedd y nifer a bleidleisiodd yn ymddangos yn uchel iawn ymhlith y rhai a oedd yn 16 a 17 mlwydd oed, sy'n dangos eu bod yn cymryd rhan, ar y naill ochr neu'r llall, yn y materion yn 2014. Dyna pam yr wyf i'n cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiadau llain las yng Nghanol De Cymru? OAQ52496
Gwnaf. Nid yw'r awdurdodau cynllunio lleol yn rhanbarth Canol De Cymru wedi dynodi lleiniau glas yn eu cynlluniau datblygu lleol priodol.
Ie, diolch am yr ateb yna. Rydym ni wedi cael adroddiadau diweddar yn y wasg bod arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas, eisiau uno â Chyngor Bro Morgannwg, yn bennaf fel y gall Caerdydd adeiladu mwy o dai ar dir yn y Fro. Rydym ni eisoes wedi cael datblygiadau tai yn tresmasu ar y llain las ac rydym ni'n colli tir amaethyddol o ansawdd da oherwydd hyn. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, nad cais cyngor Caerdydd i droi'r Fro yn safle adeiladu yw'r ffordd ymlaen?
Rwy'n siŵr nad yw wedi dweud hynny. Rwy'n ei chael hi'n anodd credu y byddai Cyngor Bro Morgannwg yn cytuno i uno ar y sail honno. Nid wyf i'n credu bod y Cynghorydd Huw Thomas wedi cysylltu â Bro Morgannwg a dweud, 'Unwch â ni fel y gallwn ni adeiladu ar eich tir.' Mae'n ymddangos i mi nad dyna'r enghraifft orau o ddiplomyddiaeth yn yr amgylchiadau hynny.
Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal CDLl, wrth gwrs, ac mae'n dda gweld nawr bod cynnydd yn cael ei wneud o ran datblygu cynllun datblygu strategol hefyd i reoli yn well y galw diamau sy'n bodoli am dai.
Prif Weinidog, mae mynediad at fannau gwyrdd yn bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni. Mae 96 y cant o drigolion Copenhagen yn byw o fewn taith gerdded 15 munud o ardal werdd neu las sylweddol, ac mae gwaith ar y gweill yn wir i wella'r cyfraddau mynediad hynny hyd yn oed. Mae gan y ddinas wirfoddolwyr bioamrywiaeth sy'n chwarae rhan hanfodol o ran meithrin ardaloedd gwyrdd y ddinas ac mae'r ddinas wedi plannu mwy na 3,600 o goed, llawer ohonynt wedi eu mabwysiadu gan bobl leol a chwmnïau neu sefydliadau. A ydych chi'n cytuno â mi y gall mynediad at ardaloedd gwyrdd dymunol iawn fod y tu mewn i'r ddinas yn ogystal â dim ond o'i chwmpas?
Yn sicr. Rydym ni'n ystyried y syniad o goridorau gwyrdd i weld sut y gellir eu datblygu yn y dyfodol. Rydym ni'n gwybod bod Caerdydd, er enghraifft, wedi ei bendithio'n weddol dda gyda pharciau, a'r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld, er enghraifft, wrth i'r ddinas dyfu, yw gweld datblygiadau heb fynediad at fannau gwyrdd, heb fynediad at lwybrau beicio, heb fynediad at amgylchedd gwledig. Mae hynny'n hynod bwysig o ran llesiant, er enghraifft. Rydym ni'n gwybod bod y ffordd y mae pobl yn gweld eu hamgylchedd yn cael effaith uniongyrchol ar eu hiechyd a'u llesiant ac mae hynny'n golygu ei bod hi'n hynod bwysig nid yn unig i gynllunio ar y sail o, 'Beth am i ni adeiladu tai yn y fan yna', ond mwy o, 'Beth am i ni greu cymunedau sy'n gynaliadwy, y mae'n hawdd teithio i mewn ac allan ohonynt, a chael mynediad at ardaloedd gwyrdd.'
Prif Weinidog, yn 2012, fe wnaethoch chi wadu cyhoeddi i'r South Wales Echo na fyddai adeiladu ar y caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd yn rhan o gynllun datblygu lleol honedig y Blaid Lafur. Safodd eich cyd-Aelodau Llafur yn y caeau gwyrdd, a dyfynnaf, ar gyfer y cofnod, 'Nid yw Llafur eisiau adeiladu yn nghaeau Waterhall nac ar unrhyw fannau gwyrdd.'
Mae adeiladu yn digwydd ar y caeau hynny erbyn hyn, a bydd adeiladu ar y cefn gwlad hardd o amgylch Danescourt hefyd oni bai ein bod yn gallu ei atal. Cafodd pobl yng Nghaerdydd eu camarwain. A ydych chi'n derbyn nawr bod adeiladu ar y caeau gwyrdd hynny, a'i fod yn digwydd gan fod y Blaid Lafur wedi rhoi'r caniatâd i'r corfforaethau tai enfawr hyn wneud hynny?
Mae ei safbwynt wedi bod braidd yn rhyfedd erioed. Nid wyf i'n credu fy mod i erioed wedi cyhoeddi unrhyw beth i'r Echo ar unrhyw adeg mewn amser. Yn ail, nid wyf i, nac ychwaith erioed wedi bod, yn arweinydd cyngor dinas Caerdydd, ac nid fi oedd y Gweinidog cynllunio yn 2012, felly ni allwn roi unrhyw fath o ganiatâd ar gyfer datblygiad yng Nghaerdydd nac mewn unrhyw le arall yng Nghymru beth bynnag. Mae hynny'n amlwg ynddo'i hun. Ond mae'n bwysig bod awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gallu rheoli'r galw. Y gwir amdani yw bod llawer o bobl eisiau byw yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig dros ben bod y ddinas yn gallu rheoli'r galw hwnnw, ond hefyd, wrth gwrs, gweithio gydag awdurdodau o amgylch Caerdydd er mwyn eu rheoli nhw fel y gall pobl fyw mewn mannau eraill hefyd. Mae'r syniad y dylai awdurdod lleol gynllunio ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yn eu hardal eu hunain yn unig yn amlwg yn hurt, oherwydd nid dyna'r ffordd y mae'n gweithio o ran yr economi ac ni ddylai weithio felly o ran y system gynllunio, a dyna pam mae cynlluniau datblygu strategol yn bwysig.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr asthma? OAQ52484
Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar iechyd anadlol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cymru ym mis Ionawr. Mae'n nodi'r dull o fynd i'r afael â chlefyd anadlol dros y flwyddyn nesaf. Mae buddsoddiad mewn gofal anadlol yng Nghymru wedi cynyddu o £338 miliwn yn 2009-10 i £432 miliwn yn 2016-17.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'r ddarpariaeth o lefel sylfaenol o ofal asthma, fel y nodir yn y canllawiau clinigol, yn cyfrannu at gadw dioddefwyr allan o'r ysbyty ac, yn y pen draw, at achub bywydau. Yn ôl Asthma UK, Cymru yw'r lle gwaethaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn ddioddefwr asthma, gydag ychydig dros chwarter y bobl yn derbyn pob elfen o ofal sylfaenol, o'i gymharu â dros draean yn Lloegr, a bron i hanner yng Ngogledd Iwerddon. Pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr asthma fel bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael pob elfen o ofal sylfaenol?
Mae'r grŵp gweithredu anadlol cenedlaethol yn amlwg yn cydnabod arwyddocâd asthma fel salwch. Mae wedi sefydlu ffrwd gwaith cenedlaethol ac wedi penodi clinigydd arweiniol ar gyfer Cymru i gydgysylltu gweithgarwch byrddau iechyd. Mae'n hynod bwysig bod cleifion yn cael adolygiad asthma cynhwysfawr; mae hynny'n flaenoriaeth i ni. Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu canllawiau rhagnodi Cymru gyfan, canllawiau asthma pediatrig a sefydlu grŵp asthma anodd ar gyfer rheoli achosion mwy cymhleth. Ceir pwyslais ehangach hefyd ar yr adolygiad cenedlaethol o farwolaethau oherwydd asthma a mesur safonau drwy'r rhaglen genedlaethol ar gyfer archwilio asthma ac afiechydon ysgyfeiniol rhwystrol cronig .
7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i blant ag epilepsi? OAQ52488
Mae cynllun cyflawni ar gyflyrau niwrolegol Cymru yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer darparu gofal diogel, cynaliadwy ac o ansawdd 7 uchel i bobl sydd â chyflyrau niwrolegol. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, cynorthwyo plant a phobl ifanc â chyflyrau niwrolegol fel epilepsi.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a chadeiriais y digwyddiad blynyddol Codi Ymwybyddiaeth o Epilepsi Epilepsi Cymru yn y Cynulliad, a chlywsom nad oedd pobl ag epilepsi cymhleth yn gallu cael gafael ar driniaeth, gan gynnwys deiet keto, er ei fod yn cael ei argymell fel triniaeth llinell gyntaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Roedd hyn yn cynnwys plant ag epilepsi ar ôl rhoi cynnig aflwyddiannus ar ddau gyffur llinell gyntaf, a argymhellir gan NICE hefyd—plant sydd wedi cael diagnosis GLUT1. Sut ydych chi'n ymateb felly i'w galwad am ddarpariaeth yng Nghymru o'r triniaethau a'r lefelau gofal angenrheidiol fel yr amlinellir yn y canllawiau NICE, tîm ketogenic, a derbyn y cynnig gan sefydliad Daisy Garland i ariannu deietegydd yng Nghymru am flwyddyn i ddechrau ar unwaith, ochr yn ochr â chynigion tebyg yn y rhestr o syniadau a fyddai, yn y pen draw, pe byddent yn cael eu darparu yng Nghymru, yn diwallu anghenion y bobl hyn ac, fel maen nhw'n dweud, yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid y GIG?
Mae'r Aelod yn gwbl gywir i ddweud, ar hyn o bryd, bod gwasanaethau ar gyfer cleifion yn ne Cymru sydd angen mynediad at gymorth ar gyfer deiet ketogenic yn cael eu darparu ym Mryste. Mae hynny'n wir. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth trwy gais am gyllid ar gyfer cleifion unigol. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod swyddogion yn gwybod am drafodaethau rhwng bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y posibilrwydd o ddarparu'r gwasanaethau hynny yn fwy lleol bellach. Felly, mae'r materion hynny yn parhau cyn belled ag y mae de Cymru yn y cwestiwn, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol o'r trafodaethau hynny i weld pa un a allwn ni ddarparu'r gwasanaeth yn nes at dde Cymru ar yr adeg hon na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r triniaethau yr ydym ni wedi sôn amdanynt, ond un o'r problemau mawr mewn gwirionedd yw mynd â phlentyn sy'n cael ffit difrifol i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Mae gen i etholwyr sydd wedi ffonio am ambiwlansys ac, yn wir, cyrhaeddodd aelodau o'r teulu a oedd yn byw dros hanner awr i ffwrdd cyn i'r ambiwlans gyrraedd yno. Ni all rhiant sengl fynd â phlentyn i'r ysbyty gyda'i blentyn yn cael ffit yng nghefn y car; mae'n beryglus. Maen nhw angen yr ymateb gan yr ambiwlans yn gyflym gan fod y plentyn weithiau'n peidio ag anadlu o ganlyniad i hyn. A wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd edrych ar y trafodaethau gyda'r gwasanaeth ambiwlans i sicrhau, ar gyfer y plant hyn, eu bod yn gallu cael ymatebion yn gyflym fel nad oes rhaid i riant weld plentyn yn dioddef tra ei fod yn aros am ambiwlans?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r system asesu i bennu blaenoriaeth glinigol claf. Bydd y math o ymateb a anfonir i blentyn sydd wedi dioddef ffit yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y person sydd wedi deialu 999, ond gallaf ddweud mewn ymateb i'w bryder penodol bod y prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans yn goruchwylio adolygiad o'r categori ambr ar hyn o bryd, a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn yr hydref, ac mae'n bwysig bod y mater hwn y mae wedi ei godi yn rhan o archwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Prif Weinidog, er efallai nad yw Mark Isherwood a minnau yn cydweld ar lawer o faterion gwleidyddol, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'n gilydd ar y cwestiwn o ganabis meddyginiaethol gyda'r Gymdeithas MS. Felly, tybed a gaf i ofyn a oes asesiad wedi ei gynnal o faint o blant yng Nghymru sydd ag epilepsi difrifol, ond a allai elwa hefyd ar gael olew canabis ar gael fel Billy Caldwell. Ac a wnewch chi hefyd sicrhau bod paratoadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn fodlon ymateb i'r galw am ganabis meddyginiaethol ac yn fodlon ei ragnodi i gleifion os a phryd y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio gan Lywodraeth y DU?
Mae'n anodd rhoi ffigur oherwydd mae'n dibynnu ar yr unigolyn, wrth gwrs, ond mae hi'n gofyn cwestiwn pwysig. Mae hyn yn gysylltiedig, fel y bydd hi'n gwybod, â Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, nad yw wedi ei datganoli, yng Nghymru nac yn yr Alban. Felly, mae materion yn y fan yna ynghylch gallu ymarferwyr i ragnodi cyffuriau sydd wedi eu cynnwys o dan y Ddeddf honno. Rydym ni'n gwybod y gall deilliadau canabis chwarae rhan wrth drin rhai cyflyrau meddygol. Dyna pam mae Sativex, wrth gwrs, ar gael yng Nghymru. Gallaf ddweud, ar 18 Mehefin, bod Gweinidog y Swyddfa Gartref Nick Hurd, gan dybio mai ef yw Gweinidog y Swyddfa Gartref o hyd, wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu panel clinigwyr arbenigol, dan arweiniad prif swyddog meddygol y DU, i gynghori Gweinidogion ar unrhyw geisiadau i ragnodi meddyginiaethau seiliedig ar ganabis. Bydd y panel hwnnw'n ystyried rhinweddau pob achos unigol ac yn gwneud asesiad clinigol o angen clinigol eithriadol ac nas ddiwallwyd. Nawr, yr hyn nad yw'n eglur i ni ar hyn o bryd yw sut y bydd hynny'n effeithio arnom ni o ran rhagnodi. Fodd bynnag, mae'r prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, yn aelod heb bleidlais o'r panel. Felly, er ein bod ni'n sôn am faes datganoledig, oherwydd nid yw camddefnyddio cyffuriau yn faes datganoledig, mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfyngiadau yn cael eu diddymu o Lundain fel y gallwn ni ragnodi yma yng Nghymru. Ond rwy'n gobeithio y bydd archwiliad priodol o bosibiliadau olew canabis a'r hyn y gallai ei ddarparu ar gyfer lles rhai cleifion.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau treftadaeth ar Ynys Môn? OAQ52516
Mae’r Llywodraeth yn ariannu cyfres o brosiectau treftadaeth ar Ynys Môn. Mae’r rheini’n amrywio o brosiectau cymunedol sy’n cynnwys nifer o wirfoddolwyr lleol, fel y rhai yn Niwbwrch a Bryn Celli Ddu, i fuddsoddiadau mawr fel gwella gwasanaethau i ymwelwyr yng nghastell Biwmares.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni, fel pob etholaeth, rwy’n gwybod, yn falch iawn o’n treftadaeth. Mae yna nifer o gynlluniau cyffrous ar y gweill ar hyn o bryd i ailagor Tŵr Marcwis, er enghraifft, yn Llanfairpwllgwyngyll, ac i ailagor llinell drên Amlwch. Mae yna sawl cynllun eisoes yn gweithredu i ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol a thrafnidiaeth—rwy’n meddwl am y Deyrnas Gopr yn Amlwch a pharc y Morglawdd yng Nghaergybi. Ond, un cynllun pwysig iawn arall, ac un sydd angen help Llywodraeth Cymru, ydy hwnnw i agor amgueddfa yn dweud hanes y pontydd ym Mhier y Tywysog ym Mhorthaethwy. Wel, mi oedd yna ergyd i’r cynllun hwnnw yn ddiweddar pan glywodd yr ymddiriedolaeth nad oedden nhw’n gymwys am arian o raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol. Rwy’n gobeithio y byddwch chi fel Prif Weinidog yn cytuno â fi bod hwn yn amser da iawn i edrych ar fuddsoddi mewn amgueddfa o’r fath, o ystyried y camau sy’n cael eu cymryd tuag at ddeuoli Pont Britannia, ac mi fyddwn i’n ddiolchgar iawn am air o gefnogaeth gennych chi fel Prif Weinidog y gallwch chi, mewn cydweithrediad â'r Gweinidog dros dreftadaeth, edrych ar bob modd posib arall o fuddsoddi yn y cynllun hwn, a fyddai'n goron, yn wir, yn natblygiad diweddar tref Porthaethwy.
Rydym wastad, wrth gwrs, yn edrych i fuddosoddi, pan mae'r arian ar gael, mewn prosiectau treftadaeth sydd yn bwysig. Un enghraifft yw Llys Rhosyr, a'r ffaith ein bod ni'n moyn sicrhau bod pobl yn mynd yna, yn deall treftadaeth yr ardal a hanes yr ardal. Ond, wrth gwrs, byddai unrhyw fath o fìd yn gorfod dod i'r Llywodraeth er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni gefnogi'r bìd yna.
Mark Isherwood. Mark Isherwood.
Wrth gwrs, mae Ynys Môn yn lle anhygoel ac mae ei hanes yn mynd yn ôl ymhell iawn. Sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnwys yn neunydd hyrwyddo'r ynys honno y cyfnod pan mai hi oedd Rhufain y byd cyfreithyddol, y ffaith ei bod ar y llwybr masnachu ymerodrol Rhufeinig hyd yn oed cyn i Rufain oresgyn yr ynys hon, ei chysylltiadau Arthuraidd gwych a'i chysylltiadau â chwedlau Afallon ac Afallach, y ffaith iddi gael ei meddiannu gan y Llychlynwyr—meddiannwyd hanner yr ynys gan y Llychlynwyr am ddwy ganrif, gan gael effaith enfawr ar ddiwylliant lleol a dadleoliad ar y pryd—a llawer mwy, yn cyd-fynd â'r hanes yr ydym ni'n clywed llawer mwy amdano hefyd?
Os cafodd yr Aelod ei synnu gan y cwestiwn yna, fe wnaeth waith rhagorol, mae'n rhaid i mi ddweud, o werthu Ynys Môn o ganlyniad i'r hyn a ddywedodd. Mae'n hynod bwysig i ni sicrhau bod pobl yn ymweld â phob rhan o Gymru i ddeall yr hanes cyfoethog sydd gennym ni. Gwn, er enghraifft, os byddwn ni'n siarad am Lys Rhosyr, y cyfeiriais ato'n gynharach, bod y Gweinidog yn paratoi—neu mae Cadw, yn hytrach, yn paratoi taflen ar gais y Gweinidog ar gestyll a safleoedd arglwyddi a thywysogion Cymru, a bydd hynny'n cynnwys Llys Rhosyr hefyd. Mae'n rhan o'n hanes y credaf sydd wedi ei hesgeuluso, a dweud y gwir, dros y blynyddoedd, oherwydd rydym ni'n gwybod na chafodd hanes Cymru ei addysgu'n dda mewn ysgolion am flynyddoedd maith, ac mewn rhai ffyrdd, fel cenedl, nid ydym ni'n ymwybodol iawn o'n hanes ein hunain. Felly, mae popeth y gallwn ni ei wneud i annog nid yn unig ein hunain ond eraill hefyd i ddeall mwy am ein hanes canoloesol, rwy'n credu, yn rhywbeth i'w groesawu.
Nid yw Lynne Neagle yma i ofyn cwestiwn 9 [OAQ52517], felly cwestiwn 10—Andrew R.T. Davies.
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru? OAQ52512
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2017, yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.
Diolch, Prif Weinidog. Un o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hyrwyddo, trwy Gyngor Bro Morgannwg, yw'r ffordd newydd o gyffordd Meisgyn, fel y'i gelwir, ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. A all y Prif Weinidog gadarnhau os bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo y bydd angen i arian gan Lywodraeth Cymru fod ar gael i'w adeiladu a bod yr arian hwnnw o fewn y gyllideb fel y mae wedi ei phennu ar hyn o bryd?
Wel, y sefyllfa ar hyn o bryd yw ein bod ni wedi dyrannu grant o £60,000 i'r cyngor yn 2017 i gynnal gwerthusiad ar gyfer darparu'r gwelliannau hynny. Comisiynwyd Peter Brett Associates gennym i asesu'r achos dros newid ar gyfer mynd i'r afael â materion cysylltedd ar gyfer safleoedd cyflogaeth strategol yn y Fro. Mae pethau ar gam cynnar iawn, iawn ar hyn o bryd. Rwy'n deall bod y cyngor ei hun wedi ymestyn yr ymgynghoriad hyd at 17 Gorffennaf. Felly dylid cyfeirio unrhyw sylwadau, wrth gwrs, at y cyngor, ond yn anochel, pe byddai'n symud yn ei flaen, byddai'n brosiect mawr, ac mae'n anodd gweld sut y gallai Bro Morgannwg ariannu prosiect o'r fath ei hun.
11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru? OAQ52494
Gwnaf. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig ystod lawn o wasanaethau mamolaeth i fenywod o'r gogledd o enedigaeth yn y cartref neu yn yr ysbyty, gan gynnwys gofal a arweinir gan fydwreigiaeth ac obstetreg a chyfleusterau arbenigol, a chefnogwyd y gwasanaethau hyn gan fuddsoddiad £18 miliwn Llywodraeth Cymru yn y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol, a ddaeth yn weithredol fis diwethaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith bod y gwasanaeth hwnnw ar gael i bobl yn fy etholaeth i fy hun. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, fodd bynnag, bod rhai pobl o'r gogledd yn manteisio ar wasanaethau mamolaeth yng Nghaer yn Ysbyty Iarlles Caer. Bu sgandal diweddar yno gyda nyrs sydd wedi ei harestio ar amheuaeth o ladd wyth o fabanod. Mae rhai rhieni yn y gogledd sydd wedi colli plant yn amlwg yn bryderus iawn am y newyddion hynny ac eisiau gweld ymchwiliadau i farwolaethau eu plant. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith ar gyfer rhieni o'r gogledd sydd wedi colli plant ac sy'n bryderus iawn ynghylch y ffordd y'u collwyd a pha un a oes goblygiadau iddyn nhw o ganlyniad i'r ymchwiliad parhaus hwn?
Wel, fel y bydd yr Aelod yn deall, mae hwn yn ymchwiliad gan yr heddlu sy'n parhau. Nid oes llawer iawn y gallaf i ei ddweud amdano. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw pe byddai unrhyw drigolion Cymru wedi bod yn rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yno, byddem ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddarparu cymorth i'r teuluoedd yr effeithir arnynt ac i geisio'r sicrwydd priodol gan yr ymddiriedolaeth GIG dan sylw ynghylch unrhyw drigolion Cymru y mae'n gofalu amdanynt ar hyn o bryd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma byddaf yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Fel arall mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr adroddiad gan Centre for Cities sy'n dweud y dylai canol dinasoedd sy'n ei chael hi'n anodd roi diwedd ar eu dibyniaeth ar fanwerthu drwy newid siopau i swyddfeydd a thai? Yn ôl yr adroddiad hwn, mae swyddfeydd yng nghanol dinasoedd llwyddiannus fel Bryste a Manceinion yn ddwy ran o dair o'r gofod masnachol sydd ar gael, ac roedd manwerthu yn 18 y cant o hynny. Yng nghanol dinas Casnewydd, roedd 54 y cant o ofod masnachol yn lleoedd manwerthu, ac mae 28 y cant o'r siopau yn wag. Hefyd, mae nifer y bobl sy'n byw yng nghanol dinas Caerdydd wedi cynyddu gan 88 y cant rhwng 2002 a 2015. Canol dinas Abertawe, 63 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yng Nghasnewydd, cynnydd o 20 y cant yn unig, Gweinidog.
A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn, ac ar sut y gallwn ni roi bywyd yn ôl i ddinasoedd a threfi fel Casnewydd, os gwelwch yn dda?
Ie, adroddiad diddorol iawn, ac mae llawer o waith wedi'i wneud ar y ffordd y mae natur canol dinasoedd yn newid. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud nifer o gyfraniadau at y ddadl honno, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid ar y bargeinion dinesig er mwyn ystyried yr hyn y mae'r Aelod yn ei amlinellu, sef y newid sylfaenol yn y ffordd y mae pobl yn siopa, yn amlwg, effaith siopa ar y rhyngrwyd ar ofod manwerthu, a'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y lleoedd bywiog hynny y mae pobl eisiau mynd iddyn nhw yn rhywbeth heblaw profiad manwerthu. Mae'r Aelod wedi pwysleisio'n helaeth ar ganfyddiadau'r adroddiad. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn ohonyn nhw.
Yn gyntaf oll, arweinydd y tŷ, a gaf i ddweud fy mod i'n synnu braidd nad ydym ni wedi cael datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar reoli'r defnydd o dir a dyfodol taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin, sy'n mynd i fod yn eithriadol o bwysig dros yr haf? Rwy'n deall ei fod yn ymgynghoriad hir, ond bydd hyn yn rhan bwysig o sioeau'r haf. Rwy'n credu y byddai datganiad llafar wedi bod yn addas ar gyfer ymgynghoriad o'r fath, a byddaf yn sicr yn dod yn ôl at hyn yfory pan mae Ysgrifennydd y Cabinet i fod i ateb cwestiynau. Ond rwyf i'n credu ei fod yn haeddu sesiwn arbennig yn y Siambr hon, i edrych ar yr ymgynghoriad hwnnw a'i archwilio.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad posibl arall? Yn gyntaf, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud datganiad ar ddŵr rywbryd yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf? Nid ydym ni mewn sefyllfa o sychder yng Nghymru eto—dim ond er mwyn sicrhau ein bod yn glir iawn ynglŷn â hyn—fodd bynnag, mae gennym ni sefyllfa lle yr ydym ni'n dechrau edrych ar y sefyllfa a allai godi oherwydd sychder. Mae dau fis olynol o lawer llai o law llawer na'r cyfartaledd yn un o'r trothwyon o ran nodi sychder—rydym ni bron â chyrraedd hynny. Rydym ni'n fwy parod o lawer nag yn haf 1976, rwy'n credu y gall y ddau ohonom ni ei gofio, ond mae'n sicr yn wir bod rhywfaint o bryder erbyn hyn ynghylch defnyddio dŵr yng Nghymru—prinder dŵr posibl—ac, wrth gwrs, byddwn ni ar doriad dros yr haf, felly os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi unrhyw fath o gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr, neu fod angen gwneud hynny, gan y gallem yn wir gael glaw, ond os na fydd digon ohono, gallai problemau barhau i fodoli ym mis Awst—. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad, ac yn benodol, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad ar ddefnyddio pwerau newydd Deddf Cymru 2017 ar y cyd â Llywodraeth y DU ynghylch adnoddau dŵr yng Nghymru? Rwy'n gwbl fodlon bod ein dŵr yn cael ei rannu ledled y Deyrnas Unedig; rwy'n credu ei bod yn iawn a phriodol bod adnodd cyffredin yn cael ei rannu. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn iawn a phriodol i dalu'r pris cywir am ddefnyddio adnoddau. Rwy'n credu y byddai'n anodd iawn yn wleidyddol pe byddem ni'n gweld unrhyw gyfyngiadau sychder yng Nghymru a bod dŵr yn llifo, dyweder, drwy ffatrïoedd a threfi Lloegr heb fod gennym delerau cyfatebol. Mae angen yn syml i ni ddeall pryd y caiff pwerau newydd Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cymru eu defnyddio i gael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch rheoli ar y cyd, a rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru yn briodol.
Y sefyllfa arall yr hoffwn i ofyn am ddatganiad arni yn benodol, neu efallai y byddai llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn briodol, yw sefyllfa deintyddiaeth yng Nghymru, ac yn enwedig deintyddiaeth ar lefel dan arweiniad deintyddion ymgynghorol. Mae gennyf i etholwr sy'n hapus i mi ei enwi, Mr Boff, sydd wedi bod yn aros am ddwy flynedd a hanner i gael deintyddiaeth adferol, ar ôl colli ei ddannedd i gyd. Nid yw'n gallu cael hynny wedi ei wneud gan ddeintydd adferol yn Betsi Cadwaladr, oherwydd nad ydyn nhw erioed wedi llwyddo i gadw deintydd adferol, ond dydyn nhw ddim yn fodlon, ychwaith, talu am iddo gael hyn wedi ei wneud ym mhle yr aeth eu deintydd adferol blaenorol, sef yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Felly, dydyn nhw ddim yn fodlon talu am iddo fynd yno, ond nid oes ganddyn nhw ddeintydd a allai ei wneud yn ardal y bwrdd iechyd, ac anfonwyd £1 miliwn yn ôl i Lywodraeth Cymru ganddynt ar gyfer deintyddiaeth y llynedd, oherwydd nad oedden nhw'n gallu gwario'r arian. Yn y cyfamser, mae fy etholwr a dweud y gwir wedi ei rybuddio gan ei feddyg teulu ei fod bellach yn wynebu diffyg maeth oherwydd nad oes ganddo yn llythrennol y dannedd i fwyta yn briodol.
Mae hyn yn rhywbeth y byddai mor hawdd ei ddatrys mor pe byddai gan y byrddau iechyd ffordd o ddefnyddio adnoddau y maen nhw wedi eu cael gan Lywodraeth Cymru i'w gwario y tu allan i'w hardal, i wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yn cael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Nawr, y tro diwethaf—gallaf ddarllen hyn yn uchel; mae gennyf i restr hir iawn o gyfathrebiadau ar hyn, ac mae llawer o bobl wedi cyfranogi—ond y tro diwethaf, y tro diweddaraf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd ymateb oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos ychydig o frys a sylweddiad na all y bwrdd iechyd barhau i anfon llythyrau ateb dros dro ataf i—ychydig wythnosau yn ôl—ar y mater hwn, a bod Mr Boff angen ei driniaeth lawn. Byddwn i'n gwerthfawrogi rhyw ymateb cyn y toriad o ran beth sy'n cael ei wneud i adfer y gwasanaeth hwn, y mae'n rhaid ei fod yn effeithio ar etholwyr eraill, oherwydd ni fu gan Betsi ddeintydd adferol ers o leiaf blwyddyn erbyn hyn, ac nid yw'n gallu darparu gwasanaeth hanfodol iawn.
Llywydd, yn ôl yr arfer traddodiadol, gan fynd o'r diwedd at yn ôl, byddaf yn gwneud yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r mater, ac yn canfod ar ran yr Aelod sut y mae o arni o ran ei ymateb i bryderon ei etholwr.
O ran dŵr, nid ydym ni eto wedi cyrraedd y sefyllfa y mae rhai ohonom ni yn ei chofio o haf hir, poeth 1976. Mae'n rhaid i mi ddweud, nad oedd llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, wrth gwrs, wedi eu geni bryd hynny, ond, yn anffodus, mi roeddwn i. Ond rydym ni'n cadw—maddeuwch y gair mwys—llygad tywydd arno ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad os byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa pan fydd angen gwneud rhywbeth. Nid wyf i eisiau amharu ar y tywydd hyfryd, Llywydd, gan fod gennyf briodas deuluol bwysig, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yn para tan hynny, yn union ar ôl toriad yr haf.
O ran rheoli tir, yn amlwg rydym ni mewn ymgynghoriad, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl i ni gael yr ymgynghoriad, yn dod yn ôl ac yn rhoi amlinelliad o'r ymgynghoriad hwnnw. Nododd yr Aelod ei hun y bydd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr haf pryd y caiff ei drafod yn fanwl, a'r amser i ddod â datganiad ymlaen fydd pan fo gennym ni ganlyniadau'r ymgynghoriad.
Arweinydd y tŷ, rwy'n arbennig o bryderus i ddiogelu fy etholwyr yn rhan orllewinol Bro Morgannwg, lle ceir arfer hirsefydlog o ddefnyddio gwasanaethau ysbyty Tywysoges Cymru. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newid arfaethedig i ffin y Bwrdd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Yn ail, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai arweinydd y tŷ gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb, fel mater o frys, i adroddiad gan yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, sydd wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid rhoi'r gorau i ddefnyddio rhwyll lawfeddygol i drin anymataliad wrinol straen ar unwaith. Byddwch chi'n gwybod y cynhaliais gyfarfod yr wythnos diwethaf y grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. A yw hyn yn gydnaws â datganiad a wnaethpwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, ar 8 Mai, pan dynnodd sylw at ei gefnogaeth ar gyfer canllawiau newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Rhagfyr y llynedd, sy'n datgan na ddylid atgyweirio prolaps wal y wain â rhwyll drwy'r wain ond yng nghyd-destun ymchwil? A hefyd, yn ei ddatganiad, dywedodd ei fod yn cefnogi argymhelliad y gweithgor bod y GIG yn cefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd pelfis, gan symud i ganolbwyntio ar atal a therapïau ceidwadol, gydag ymyrraeth lawfeddygol fel dewis olaf.
Mae'n fater pwysig iawn, ac fel y dywedodd Jane Hutt yn gywir, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi gwneud rhai sylwadau ar hynny. Rydym ni'n argymell y GIG i gyfyngu ar y defnydd o rwyll y wain yng Nghymru, gan sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei ddefnyddio dim ond ar gyfer y rhai hynny sydd ag angen penodol iawn ac sy'n deall y risgiau yn llwyr. Mae hynny'n unol ag argymhellion diweddar yr adroddiad gan y panel adolygu, y mae Jane Hutt newydd ei grybwyll, ac mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr meddygol yn ailadrodd y cyngor hwnnw.
Rydym ni'n disgwyl bod lefelau digonol o lywodraethu clinigol, cydsyniad, archwilio ac ymchwil ar waith mewn byrddau iechyd i sicrhau y gall pob menyw fod yn ffyddiog fod y mesurau diogelwch priodol ar waith. Mae gennym ni dystiolaeth o ostyngiad sylweddol yn nifer y triniaethau rhwyll y wain yng Nghymru. Felly, mae hyn yn awgrymu i raddau helaeth, Llywydd, bod pwyllo eisoes ar waith, wedi ei ysgogi gan y newid o ran gwneud penderfyniadau clinigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ein disgwyliad ni yw y bydd hynny'n parhau i fod yn wir nes bod y gofynion ar gyfer gwell drefniadau diogelu wedi eu bodloni. Felly, rwy'n credu bod cyhoeddi gwaharddiad ar unwaith yn Lloegr yn adlewyrchu sefyllfa Cymru i raddau helaeth. Felly, yn y bôn, maen nhw'n dilyn ein harweiniad ni wrth weithredu'r mesurau diogelu hynny.
O ran ffiniau'r byrddau iechyd, rwy'n gwybod bod—Llywydd, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn un o'r rhai yr effeithir arnynt, dim ond i atgoffa Aelodau am hynny—cadeiryddion y byrddau iechyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar y newid hwn ac wedi gwahodd yr holl aelodau etholedig i godi unrhyw bryderon uniongyrchol â nhw. Os nad ydych chi wedi cael hwnnw, byddaf yn sicrhau bod gennych chi gopi a bod y gwahoddiad wedi ei estyn i chi, os nad yw hynny wedi digwydd. Does dim bwriad i newid gwasanaethau iechyd rheng flaen yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym ni'n amlwg yn awyddus iawn i leihau dyblygu a biwrocratiaeth, ac i annog symlrwydd. Bwriedir i'r cynigion ar gyfer ail-gyfochri ffiniau byrddau iechyd gynnig cyfleoedd o'r fath, gan rymuso llywodraeth leol i fod yn gryf ac yn fedrus ac i wneud penderfyniadau lleol yn seiliedig ar linellau atebolrwydd clir a gweithio'n effeithiol gyda chyfres gyson o bartneriaid, felly mae'n ailosod y ffiniau,a gwn fod Jane Hutt eisoes yn ymwybodol o hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill wrth i baratoadau ddatblygu ar gyfer y newid i'r ffin, a chaiff y ddeddfwriaeth berthnasol ei chyflwyno maes o law. Yn amlwg, bydd unrhyw gynigion pellach i newid gwasanaeth iechyd yn destun ymgysylltiad cyhoeddus ar wahân a, phan fo hynny'n briodol, yn destun ymgynghori yn unol â gweithdrefnau arferol ar gyfer ystyried ffiniau o'r fath. Felly, nid yw hyn yn arwydd o gyfres arall o newidiadau i ddod.
Rwy'n cefnogi'r alwad am ddatganiad ar weithrediadau rhwyll. Nid yw Lloegr wedi dilyn Cymru. Mae'r GIG yn Lloegr wedi cyhoeddi terfyn i driniaethau'r GIG—yn bendant iawn. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn i'n croesawu datganiad.
Yn ail, byddwn i'n croesawu datganiad ar y cyfraniad y gall rheilffyrdd treftadaeth ei wneud ac y gall ei wneud ymhellach i Gymru ac i'n heconomïau lleol a rhanbarthol. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddigwyddiad â Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru gyda'r Ensemble Cymru godidog o Brifysgol Bangor yn perfformio yn Venue Cymru, Llandudno, a chlywsom yn y digwyddiad hwnnw fod Cadeirydd y Cwmni Anrhydeddus yn perthyn i'r teulu a achubodd reilffordd yr Wyddfa. Ddydd Gwener diwethaf, yng Ngwobrau Tywysog Cymru PRIME Cymru yn Llandudno, roeddwn yn sgwrsio â chynrychiolydd Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru. Ddydd Sadwrn diwethaf, gwelsom Channel 4 yn dangos y bumed bennod, a'r olaf, o'r gyfres Great Rail Restorations, gan yrru'r trên amser ar Reilffordd Llangollen, gan hyrwyddo'r lleoliad rheilffyrdd gwych rhwng Llangollen a Charrog, ond sydd wrth gwrs erbyn hyn yn mynd i Gorwen hefyd, yn ogystal â'u gallu i weithredu'r trên treftadaeth, ac ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig. Ers blynyddoedd lawer, rydym ni wedi bod yn clywed am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i rai rheilffyrdd treftadaeth, dathliad o reilffyrdd treftadaeth Cymru, ond mae arnom angen swyddog twristiaeth cydgysylltiedig i werthu tocynnau cyffredinol, gan alluogi ymwelwyr rhanbarthol i ymestyn eu harhosiad yma a chael yr amser gwych yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ei gael. Felly, rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Mae'r Aelod yn amlygu rhan wirioneddol wych o dreftadaeth Cymru, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi bod yn Llangollen yn ddiweddar ar gyfer eu digwyddiad rheilffordd treftadaeth yno, ac roedd wir yn hwyl gweld hynny, ac roedd hefyd yn wych gweld brwdfrydedd yr holl dyrfa a ddaeth i gyfarch y trên. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wir o ddifrif ynglŷn â hyn, a byddaf yn ystyried sut y gallwn ni gydgysylltu'r gwasanaethau hynny orau i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau i fanteisio ar y cynnig sydd gennym. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn frwdfrydig iawn dros y rheilffyrdd hynny, fel yr wyf innau. Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad wyf wedi bod ar reilffordd yr Wyddfa yn ddiweddar iawn, ond rwy'n gobeithio newid hynny yn ystod yr haf. Felly, byddaf yn siarad â'r Gweinidog ynghylch y ffordd orau i sicrhau bod pryderon yr Aelod yn cael eu hamlygu yn briodol.
O ran rhwyll y wain, fel y dywedais eisoes, nid oes gennyf mewn gwirionedd unrhyw beth i'w ychwanegu, Llywydd, at yr hyn a ddywedais yn gynharach am fater y rhwyll. Yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.
Arweinydd y tŷ, fe fyddwch yn ymwybodol o ymchwil ddiweddar y Cyngor Prydeinig sy'n cymharu grym meddal is-genedlaethol gwledydd a rhanbarthau, ac yn archwilio sut y gallan nhw adeiladu eu proffil rhyngwladol. Roedd cyfarfod yma yn ddiweddar a oedd yn cynnwys Rhun ap Iorwerth. Edrychodd yr ymchwil ar bobl, brandiau, gwerthoedd gwleidyddol, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â saith rhanbarth a gwlad arall sy'n debyg yn fras. O ran canlyniadau cyffredinol, daeth yr Alban yn ail ar ôl Québec, a Chymru yn y chweched safle.
Nawr, yn amlwg, mae canfyddiad a brandio yn bwysig i'n sector twristiaeth o ran denu ymwelwyr rhyngwladol. Y llynedd, cafodd holl genhedloedd y DU brofiad o gynnydd yn nifer y teithiau rhyngwladol, ond dangosodd yr Alban a Llundain ganlyniad arbennig o gryf. Er bod nifer y teithiau i Gymru wedi cynyddu hefyd, cafwyd gostyngiad o 8 y cant mewn gwariant yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, mewn cyferbyniad â thwf gwariant ar draws gweddill y Deyrnas Unedig o ryw 11 y cant. Felly, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg y gellir gwneud mwy i gynyddu proffil a nifer yr ymwelwyr rhyngwladol sy'n dod i Gymru, ac felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog twristiaeth yn cyflwyno datganiad ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwn, ei ymateb i adroddiad y Cyngor Prydeinig, sy'n nodi'r heriau a'r cyfleoedd posibl, a hefyd i nodi ei weledigaeth o sut y mae'n gweld y strategaeth twristiaeth ryngwladol yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.
Ie, roeddem ni'n falch iawn o weld y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ac roeddwn i'n arbennig o falch gyda'r trefniadau llongau mordeithio yn Ynys Môn, yr ydym ni'n gobeithio, yn fawr iawn, y byddwn ni'n gallu eu dyblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn dangos i mi y bydd yn fwy na pharod i gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw, felly byddaf yn cysylltu ag ef ynghylch yr amseru gorau ar gyfer hynny.
Arweinydd y tŷ, bob chwe munud mae rhywun yn y DU yn dioddef ataliad sydyn ar y galon ac mae ei siawns o oroesi yn llai na 10 y cant. Yng Nghymru, mae hyn yn llai na 3 y cant, ond mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd byddai gan y person hwnnw siawns o 50 y cant i fyw. Yn anffodus, gall plant a phobl ifanc ddioddef ataliad sydyn ar y galon yn ogystal â'r genhedlaeth hŷn. Mae arbenigwyr meddygol yn credu y gellid achub llawer o blant pe byddai diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio o fewn munudau ar ôl y llewyg. Rwy'n gwybod bod elusen Calonnau Cymru wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i geisio gosod diffibrilwyr ym mhob un clwb rygbi ledled Cymru, sy'n fenter wych, a gwn fod yr aelod gyferbyn yn y Siambr, Suzy Davies, wedi gwneud rhywfaint o waith yn y gorffennol ar y mater hwn. Ond a gawn ni ddiweddariad arall, gan ein bod ni wedi cael diweddariad defnyddiol iawn gan Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Rhagfyr 2016? Ond a gawn ni ddiweddariad arall ar y mater hynod bwysig hwn?
A hefyd, a gaf i ofyn am ail ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar wasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion? Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei buddsoddiad o £1.4 miliwn i gryfhau cefnogaeth i ysgolion gan wasanaethau arbenigol ar gyfer iechyd meddwl plant a'r glasoed, a byddai'n ddefnyddiol tu hwnt eto i gael diweddariad ar ba waith sy'n cael ei wneud i wella'r gwasanaethau o fewn ein system ysgolion.
Mae Jack Sargeant yn codi dau fater pwysig iawn. Nid oes rhaglen benodol ar gyfer ysgolion yn gallu cael gafael ar ddiffibriliwr fel y cyfryw, ond wrth gwrs, dylai fod, ym mhob ysgol, drefniadau ar waith ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd brys. Yn rhan o'r cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Mehefin 2017, mae gwaith ar y gweill gyda phartneriaid i fapio'r sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd o fewn cymunedau ledled Cymru. Mae gennym ni drefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol, a fydd yn golygu bod pobl o bob oedran yng Nghymru yn cael pob cyfle i oroesi ataliad y galon, ond darperir hefyd y sgiliau a'r adnoddau CPR iddyn nhw, fel diffibrilwyr, i'w galluogi i helpu i achub bywyd. Ac, fel y dywedodd Jack Sargeant nawr, mae darparu diffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus priodol, gan gynnwys clybiau rygbi, ynghyd â buddsoddi mewn hyfforddi ymatebwr cyntaf ar gyfer adfywio cardio-pwlmonaidd, a sicrhau'r amseroedd ymateb ambiwlans cyflymaf posibl, yn cynyddu'n sylweddol y siawns o oroesi a gwella ar ôl ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i hyrwyddo CPR a defnyddio'r diffibrilwyr drwy fentrau megis Shocktober a Diwrnod Adfywio Calon. Cymerodd 53 ysgolion uwchradd ran yn y Diwrnod Adfywio Calon y llynedd, a chafodd 10,622 o ddisgyblion ysgol uwchradd eu hyfforddi mewn CPR. Cymerodd 32 o ysgolion cynradd ran yn Shocktober 2017, ac addysgwyd CPR i 2,146 o ddisgyblion o ganlyniad i hynny. Roedd hyn hefyd yn cynnwys pryd i ffonio 999 a beth i'w wneud mewn argyfwng megis mygu hefyd. Felly, mae'n fater pwysig iawn ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld ymestyn hynny eleni yn rhan o'r ymgyrch.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y cathod mawr gwyllt a welwyd yng Nghymru? Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod cath fawr wedi ei gweld erbyn hyn yn y gogledd ychydig dros 10 diwrnod yn ôl ar yr A5, ac mae hyn yn ogystal, wrth gwrs, â 10 hysbysiad o weld cath fawr a wnaed i Heddlu Gogledd Cymru rhwng 2011 a 2016—ac mae nifer o'r rhain wedi eu cofnodi gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni wybod pa un a oes poblogaeth o gathod mawr gwyllt yng nghefn gwlad Cymru. Bu adroddiadau o weld cath fawr yn fy etholaeth i fy hun yng nghoedwig Clocaenog a'r cyffiniau ac, wrth gwrs, mae llawer o ffermwyr yn poeni am ddiogelwch eu da byw yn sgil yr anifeiliaid hyn, pe bydden nhw yng nghefn gwlad Cymru. Felly, tybed a all Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar ba un a fydd yn comisiynu unrhyw ymchwil arall i'r pwnc hwn, fel y gallwn ni gadarnhau pa un a oes poblogaeth o'r cathod hyn yng Nghymru a pha risg y gallen nhw ei achosi i dda byw ac i'r cyhoedd.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos ei bod, yn amlwg, wedi ateb cwestiwn gennych chi, ac yn disgwyl y bydd llythyr oddi wrthi atoch chi yn eich cyrraedd yn fuan iawn.
A gawn ni ddatganiad ar fater pensiynau Dur Prydain, y cafodd gweithwyr eu twyllo ohonynt gan Celtic Wealth Management a'u partneriaid? Rwyf wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog, ond ymddengys ei fod yn osgoi ymateb. Rydym ni'n gwybod nad yw Celtic yn gwmni cyngor ariannol, felly nid ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac felly nid yw ceisio honni bod yr FCA yn archwilio i'r mater hwn yn rhywbeth yr wyf yn ei dderbyn. Rydym ni'n gwybod bod y cwmni wedi bod yn cynnig tocynnau chwaraeon i ddeiliaid pensiwn, i'w perswadio i gymryd eu pensiwn o gynllun pensiwn Dur Prydain a'r Gronfa Diogelu Pensiynau. Ac mae angen ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i sut y rhoddwyd y grant hwn, ar ba sail y'i rhoddwyd, ac, ers mis Tachwedd, rydych chi'n gwybod am y problemau sydd wedi deillio o'r o'r cwmni penodol hwn, a hoffwn i weld ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru cyn i ni fod yn disgwyl mwy o broblemau ddeillio ynglŷn â deiliaid pensiwn eraill yn ardal Port Talbot.
Hefyd, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall, yn ymwneud â'ch cyfathrebu â'r heddlu o ran marwolaeth dyn Swdanaidd ifanc yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf—sef Mustafa. Yn amlwg, rwy'n deall bod angen i'r gyfraith gael eu gorfodi, ond pan fo digwyddiad difrifol fel hyn, sy'n arwain at farwolaeth, ar ôl neu yn ystod gweithrediad gorfodi, mae angen i ni fod yn drylwyr, ac mae angen i ni sicrhau, yn y dyfodol, nad yw achosion fel hyn yn digwydd eto. Nid ydym ni eisiau gweld neb yn marw yn y modd hwn. Er na wyddom ei statws mewnfudo, roedd y dyn hwn yn gyflogedig a daeth i'r wlad hon i gael bywyd gwell, ac ni ddylai fod wedi dod i ben gyda'i farwolaeth. Rwy'n gwybod nad yw mewnfudo o fewn cyfyngiadau pwerau Llywodraeth Cymru, ond byddwn i wir yn eich annog i roi sicrwydd i boblogaeth Cymru, sydd wedi cysylltu â mi, sydd eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn hyn o beth, er mwyn i ni beidio â gweld pethau fel hyn yn digwydd eto.
Mae hwnna'n fater pwysig iawn. Mewn gwirionedd, hoffwn i roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi gofyn am fwy o fanylion fy hun, fel y Gweinidog cydraddoldeb, i ganfod yn union beth a ddigwyddodd yno. Pan fydd gennyf y manylion hynny, byddaf yn hapus i—byddaf mwy na thebyg yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad pan fyddan nhw gennym. Rwyf wrthi'n cael y sgwrs honno ar hyn o bryd.
Ac o ran pensiynau Dur Prydain, os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth ychwanegol—gwybodaeth benodol—yr hoffai ef ei rhannu â mi, byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi sylw o ddifrif i hynny.
A gaf i gefnogi'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant yn gynharach? Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn y mae wedi ei godi, ac rwyf yn falch eich bod chi wedi ei gymryd mor gadarnhaol. Yn y ffigurau a roesoch i ni, fodd bynnag, ni welais unrhyw beth am ail-benodi myfyrwyr dros gyfnod nid yw ymgyrch untro yn mynd i greu cenedl o achubwyr bywyd, mae arna i ofn. Felly, os oes datganiad i ddod ar ben-blwydd hwyr erbyn hyn y cynllun ataliad y galon o'r tu allan i'r ysbyty, yna efallai y gellid cynnwys yr wybodaeth honno ynddo.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda—gan y Gweinidog Twristiaeth mae'n debyg—wel, diweddariad mewn gwirionedd ar sefyllfa twristiaeth mordeithio, yn benodol, o fewn y darlun yng Nghymru ar hyn o bryd? Rydym ni wedi clywed llawer am hyn yn y Cynulliad diwethaf, ond nid wyf i'n credu fy mod i wedi clywed amdano o gwbl yn y Cynulliad hwn. Ac nid dim ond niferoedd ymwelwyr y mae gennyf i ddiddordeb ynddynt, ond hefyd datblygiad busnesau lleol, a darpariaeth leol—ansawdd y darparwyr, ac ati—i fodloni disgwyliadau teithwyr mordeithio, sy'n amlwg yn eithaf uchel, a pha fath o fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn y maes hwnnw o weithgarwch, yn ogystal â marchnata Cymru i gwmnïau mordeithiau. Diolch.
Mae'n bwynt pwysig iawn. Fel y dywedais, rwy'n gwybod y bu cynnydd mawr mewn mordeithiau sy'n ymweld ag Ynys Môn. Mae Suzy Davies yn iawn wrth gwrs: fe glywsom lawer am dwristiaeth mordeithio yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y gallem ni gael man cychwyn yng Nghymru, a dyna fyddai greal sanctaidd y diwydiant mordeithio. Pan fydd y sgyrsiau hynny wedi eu datblygu, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n helpu'r Gweinidog i roi diweddariad i'r Cynulliad ar y trafodaethau hynny.
Ac o ran y diffibrilwyr, fy nealltwriaeth i yw mai rhaglen dreigl yw hon. Os wyf i'n anghywir yn hynny o beth, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi gwybod i'r Aelod.
Arweinydd y tŷ, rydych chi eisoes wedi crybwyll enw'r Gweinidog diwylliant heddiw, neu a ddylwn i ddweud mai Aelod arall wnaeth hynny. Roeddwn i'n falch iawn o groesawu'r Gweinidog i'm hetholaeth ar gyfer cyfarfod â Cadw a'r trigolion lleol yng nghastell Rhaglan yr wythnos diwethaf. Roedd y cyfarfod yn ymwneud yn bennaf ag olynydd cynllun tocyn trigolion Cadw, ond trodd y sylw yn gyflym at y peryglon i drigolion lleol wrth groesi'r A40 brysur o'r pentref i'r castell, gan fod terfyn cyflymder cymharol uchel, ac heb groesfan na phont, nac unrhyw fodd o groesi'n ddiogel yn y man hwnnw. A fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar gael adolygiad o bosib o ran mynediad i safleoedd Cadw ledled Cymru, cyn gynted â phosib? Rwy'n siŵr nad castell Rhaglan yw'r unig safle Cadw yr effeithir arno gan faterion tebyg. Mae'n wych, ar y naill law, i adolygu cynllun mynediad i drigolion a chynyddu gallu trigolion lleol, ac yn wir, trigolion o ardaloedd eraill, i gael mynediad i safleoedd Cadw, ond os yw'r mynediad corfforol i'r safleoedd hynny yn gyfyngedig i gerddwyr, yna rydych chi naill ai'n gofyn am drwbl, gyda'r tebygolrwydd cynyddol o ddamweiniau, neu ni fydd pobl yn gallu cyrraedd yno yn y lle cyntaf er mwyn cael mynediad i'r safleoedd a'r mannau treftadaeth a diddordeb bendigedig hyn sydd i'w gweld ledled Cymru.
Ie, mae hwnnw'n bwynt da iawn. Mae llawer o sôn yn wir am y Gweinidog heddiw. Rwy'n siŵr na fydd ganddo unrhyw broblem â hynny o gwbl, ac mae yntau hefyd yn nodio'n hapus i ddangos ei fod yn edrych ar y mater hwnnw ac y bydd yn cyflwyno rhywbeth maes o law.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: adroddiad cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Alun Davies.
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed gan dasglu'r Cymoedd ers cyhoeddiad y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' fis Gorffennaf y llynedd. Hoffwn ddechrau drwy fynegi ar goedd fy niolch personol am waith a chymorth aelodau'r tasglu yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Sefydlwyd tasglu'r Cymoedd ar gyfer creu newid hirhoedlog yng Nghymoedd y de: maes sydd â chyfleoedd aruthrol, ond mwy na'i siâr o heriau hefyd. Rwy'n falch o adrodd heddiw bod y tasglu wedi plannu hadau'r newid hwnnw. Wrth galon y cynllun gweithredu a'r cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd â hwnnw a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd y llynedd, ceir tair blaenoriaeth allweddol: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni, gwasanaethau cyhoeddus gwell, a'm cymuned leol i. Ceir mwy na 60 o gamau gweithredu unigol i'r blaenoriaethau hyn, a ddatblygwyd yn dilyn gwaith ymgysylltu eang â phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de. Rydym ni o'r farn y bydd y camau hyn yn sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol i gymunedau yn y Cymoedd.
Mae'r tasglu yn cyhoeddi adroddiad heddiw ar gynnydd y flwyddyn gyntaf, yn nodi ehangder y gwaith dros y 12 mis diwethaf, a hoffwn i, Llywydd, gyda'ch cydsyniad chi, rannu peth o'r cynnydd hwnnw gyda chi heddiw. Flwyddyn yn ôl, gosododd y tasglu darged heriol o gau'r bwlch cyflogaeth rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 yn fwy o bobl i gael gwaith teg a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd. Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn ardaloedd tasglu'r Cymoedd wedi dechrau gweithio drwy raglenni cyflogaeth a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd bron 1,000 o bobl a busnesau bach eu helpu drwy gael cyngor a chymorth busnes. Ac mae mwy na 100 o fentrau newydd wedi cael eu creu o fewn ardal tasglu'r Cymoedd.
Lluniwyd y saith canolfan strategol yn wreiddiol fel ardaloedd lle byddai arian cyhoeddus ac adnoddau yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd da i ddatblygu'r canolfannau hyn. Mae awdurdodau lleol ym mhob un o'r ardaloedd wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau, sy'n unigryw i'w hardal leol. Mae pob ardal wedi bod yn datblygu glasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, ac rydym yn nodi'r prosiectau allweddol i gefnogi trawsnewid hirdymor. Mae'r gwaith cynnar ar y canolfannau yn tynnu sylw at y budd y gall dull cydgysylltiedig o weithredu'r math hwn o fuddsoddiad ei gynnig. Rydym wedi gweld hyn eisoes gyda phrosiect Bro Taf, a fydd yn rhoi pencadlys newydd i Drafnidiaeth Cymru, ac yn helpu i adfywio stryd fawr Pontypridd. Cyhoeddwyd Cynllun Strategol Cymoedd Technoleg, gan roi cyfeiriad strategol i fuddsoddiadau a gweithgarwch rhaglen yng Nglynebwy, ochr yn ochr ag ymrwymiad o £25 miliwn rhwng 2018 a 2021.
Llywydd, mae pawb yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r metro ac yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaeth fy nghyd-Weinidog Ken Skates am y fasnachfraint rheilffyrdd newydd a'r cynlluniau sy'n flaenllaw yn fyd-eang ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd ar frig Cwm Dulais. Mae'r metro nawr yn cael ei wireddu, ond fel yr eglurwyd ar hyd y daith, mae angen inni sicrhau ei fod yn cyflawni llawer mwy na manteision trafnidiaeth yn unig. Ar gyfer hynny bydd angen cefnogaeth weithredol amrywiaeth o sefydliadau, ac rydym yn gweithio ledled y rhanbarth eisoes i gyflawni er budd cymunedau'r Cymoedd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi Linda Dickens, Athro Emeritws mewn cysylltiadau diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick, yn gadeirydd ein comisiwn gwaith teg. Ar ran y tasglu, hoffwn fynegi fy niolch innau i'r Athro Dickens am gytuno i'n cefnogi ni ar y daith hon. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i Gymru fod yn genedl gwaith teg, ac mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn y Cymoedd. O'r cychwyn cyntaf, mae tasglu'r Cymoedd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau'r Cymoedd. Mae hynny wedi parhau i fod yn elfen hanfodol o'n gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ochr yn ochr â'n dulliau traddodiadol o ymgysylltu, mae'r tasglu wedi bod yn gweithio'n agos gyda thair chymuned—yn Llanhiledd, Glynrhedynog, ac yng Nglyn-nedd a Banwen. Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau lleol a'u gwneud nhw'n fwy integredig. Mae pob un o'r cynlluniau braenaru hyn wedi cytuno ar nifer o gamau gweithredu neu weithgareddau, a bydd yr hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn yn ychwanegu at ddull ehangach y tasglu o weithredu.
Llywydd, bydd y tasglu yn datblygu tri chynllun peilot digidol ar gyfer y Cymoedd. Byddwn yn ystyried ymestyn rhwydweithiau band eang y sector cyhoeddus i greu dilyniant o lecynnau Wi-Fi rhad ac am ddim sy'n agored i bawb ledled cymunedau'r Cymoedd. Rydym yn gwneud ymchwil i lunio ap ar ddull Uber, a fyddai'n dwyn ynghyd ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol, gan ei gwneud yn haws i bobl i drefnu trafnidiaeth ar gyfer eu hapwyntiadau iechyd. Rydym yn awyddus i gynyddu'r defnydd o dechnolegau mapio data ar-lein fel cyfrwng i hyrwyddo'r Cymoedd. Mae'r gwaith hwn yn cydfynd yn agos â'r blaenoriaethau a nodwyd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae hefyd yn faes arall lle y mae'r tasglu yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ehangach. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd technolegau digidol yn natblygiad swyddi o ansawdd uchel.
Mae parc tirwedd y Cymoedd yn allweddol o ran traean y blaenoriaethau yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae wrth galon ein huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i ddathlu a gwneud y mwyaf o'n hadnoddau naturiol a'n treftadaeth. Rydym yn awyddus i weld cymunedau yn y Cymoedd yn teimlo eu bod yn ardal y gallwn fod yn falch o'i galw yn 'gartref' ac y bydd busnesau yn dewis gweithredu ynddi. Rydym yn awyddus i gymunedau ennill hyder a dangos balchder yn eu hamgylchedd sydd yn rhwydd i'w gyrraedd a'r defnydd ohono yn helaeth.
Mae'r tasglu wedi treulio llawer o amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gweithio ar ddatblygu'r dull cyffrous a deinamig hwn a fydd yn cydgysylltu, yn gyrru ac yn hybu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a thwristiaeth ledled Cymoedd y de. Rydym ni i gyd yn gwybod cymaint sydd gan y Cymoedd i'w gynnig, ond rwy'n dymuno y bydd gweddill Cymru, y DU a'r byd yn dysgu mwy am ein hanes, ein diwylliant, a'n golygfeydd syfrdanol.
Rydym wedi datblygu'r syniad ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd gyda chymunedau lleol, gyda rhanddeiliaid allweddol a gwahanol grwpiau buddiant. Y nod yw cyflawni cynlluniau uchelgeisiol a fydd yn cysylltu'r hyn yr ydym yn ei alw yn 'lleoliadau darganfod' ledled y Cymoedd â llwybrau cerdded a llwybrau beicio. Fy mwriad i yw y bydd hyn yn datblygu o fewn ffiniau diffiniedig a chaiff ei gefnogi gan statws tir dynodedig ar gyfer y Cymoedd. Rydym yn eiddgar i'r Cymoedd fod yn gyrchfan gydnabyddedig i dwristiaid. Rydym yn awyddus i feithrin yr economi twristiaeth yn y Cymoedd ar gyfer elwa ar yr effaith economaidd y gwyddom sy'n bosibl. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o ddatblygiadau twristiaeth arfaethedig o ansawdd uchel, a fydd, pe digwydd hynny, yn denu ymwelwyr newydd i'r Cymoedd a fydd yn gwario llawer o arian.
Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cyhoeddi cymeradwyaeth i ddau brosiect yr wythnos hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w hardaloedd yn y Cymoedd. Bydd y prosiect £4.6 miliwn Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn datblygu gweithgarwch twristiaeth a hamdden yn yr awyr agored ar hyd camlas sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhor-faen a Chaerffili, a bydd yn gallu cysylltu ag ardal ucheldirol Mynydd Maen. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Cyngor Caerffili, Ymddiriedolaeth yr Afonydd a'r Camlesi, ac Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a'r Fenni. Bydd yn canolbwyntio ar ymwelwyr sydd â diddordeb mewn gweithgareddau hamdden awyr agored a chwaraeon antur, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o gyfleusterau i ysgogi ymwelwyr i aros dros nos, a bydd yn helpu i fanteisio ar botensial economaidd rhan ddeheuol y gamlas nad yw'n cael ei defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd, a'r ucheldir cyfagos.
Ceir manylion hefyd yn yr adroddiad cynnydd am uwchraddio Neuadd Llechwen, gwesty gwledig tair seren ger Pontypridd, a leolir mewn chwe acer o dir. Cynigiwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu maint y gwesty, ychwanegu cyfleusterau campfa a sba ac uwchraddio i westy pedair seren.
Mae gwaith cymunedol ysbrydoledig yn digwydd ledled y Cymoedd. Rydym yn dymuno adeiladu ar hyn a chefnogi pobl i fynd gam ymhellach.
Llywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llawer iawn i'w wneud eto, ond, gan weithio gyda'n partneriaid a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, byddwn yn gwireddu'r canlyniadau.
Yn ystod dadl mis Ionawr ar y cynllun cyflenwi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', nodais fod gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yn y gorllewin ac yn is-ranbarth y Cymoedd yn parhau ar y gwaelod ledled y DU, gyda chymoedd Gwent, yn ail yn unig i Ynys Môn, yr isaf yn y DU. Nodais hefyd fod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough times ahead? What 2018 might hold for Wales' wedi dweud bod y perfformiad diweithdra yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae cyfradd diweithdra ymhell uwchlaw ffigur y DU, fel Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Roedd yn dweud hefyd nad oes dim i'w ennill o esgus fod popeth yn dda, ac y byddai'r perfformiad hwnnw yn annhebygol o helpu oedolion ifanc, gyda mwy nag un mewn wyth o'r rhai rhwng 16 a 24 oed yn ddi-waith yng Nghymru gyfan.
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys cam gweithredu: gweithio gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de, a hefyd gweithio â bargeinion dinesig dinas-ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe, Llywodraeth y DU, busnesau a'r trydydd sector. Ym mis Ionawr, gofynnais sut yr oeddech yn monitro i sicrhau, os credwch y dylech chi, bod hyn yn golygu gwir gydgynhyrchu, gan wyrdroi mater pŵer, os nad yw Llywodraeth Cymru am ailadrodd dulliau'r 18 mlynedd diwethaf, gan alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a gweithio mewn partneriaeth gyfartal.
Achos pryder yw'r datganiad heddiw gan Sefydliad Bevan sy'n dweud mai diafael yw'r rhaglen i gael adferiad i Gymoedd y de 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ac nid yw'n cyrraedd y rhai hynny sydd â'r angen mwyaf. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad heddiw bod hyn yn gyfystyr â mwy o'r un peth? Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad nad oedd buddsoddiad yn ddiweddar yn Ffynnon Taf a Nantgarw yn ardaloedd craidd y Cymoedd? Rydych yn dweud bod 1,000 o bobl wedi cychwyn rhaglenni cyflogaeth. Faint o'r rheini sydd wedi eu cwblhau nhw? Faint o'r 1,000 hynny gafodd gyflogaeth? Sut ydych yn ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan heddiw fod y targed o gael 7,000 o bobl mewn cyflogaeth yn swnio'n drawiadol iawn? Os edrychwch chi ar hynny ychydig yn fanylach, nid yw'n uchelgeisiol iawn o gwbl. Mae'n golygu'r niferoedd a gyflawnwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac os parhawn i wneud mwy o'r un peth, ni fydd y Cymoedd yn newid. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad bod diweithdra yn 25 y cant ymysg dynion ifanc mewn rhai ardaloedd, ac y collwyd swyddi mewn manwerthu a ffatrïoedd bach? A sut wnewch chi ymateb i'w datganiad eu bod yn synnu sut y gallai Llywodraeth Cymru fyw gydag amddifadedd fwy neu lai ar garreg y drws, heb ddigon o gynigion i hybu buddsoddiad a sgiliau?
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y cwestiynau hyn. A gaf i ddweud yn gyntaf un fy mod i wedi darllen ymateb Sefydliad Bevan? Mewn gwirionedd cefais fwynhad ohono. Roeddwn o'r farn ei fod yn ateb da iawn, a dweud y gwir. Roeddwn yn credu ei fod wedi ei fynegi'n dda iawn, a'i fod yn gwneud rhai pwyntiau teg iawn. A gaf i ddweud yn fwy na dim fy mod yn rhannu'r un rhwystredigaeth? Rwy'n eiddgar i weld newid cyflymach. Rwy'n eiddgar i weld amseriad cyflymach a sicrhau newid gwirioneddol yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ac mewn mannau eraill. Credaf ei bod yn deg a phriodol i'r ymdeimlad hwnnw o fod yn ddiamynedd fod yn sail i lawer o'n trafodaethau a llawer o'r hyn a ddywedwn. Nid wyf yn credu am funud, ac nid wyf yn ceisio honni bod pethau'n fêl i gyd, ac nid wyf yn ceisio honni ein bod, mewn ychydig dros 18 mis, wedi gwyrdroi bron canrif o ddirywiad. Credaf y byddai'n hurt pe byddwn yn dod i'r Siambr ac yn gwneud honiadau fel hyn, a chredaf y byddai'n hurt pe byddai'r Llywodraeth yn ceisio gwneud yr honiadau hynny ar ein rhan ni. Nid ydym yn dweud hynny. Yn fy natganiad, dywedais ein bod yn plannu hadau'r trawsnewid cynaliadwy, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud.
Rwy'n gwrthod unrhyw honiad nad ydym yn ddigon uchelgeisiol. Pan edrychaf ar brosiectau fel y parc tirwedd, rwy'n edrych ar rywbeth gwirioneddol drawsnewidiol a thrawsnewidiol yn yr ystyr nid o fuddsoddi mewn seilwaith neu ganolfan ddiwydiannol benodol yn unig, ond yn ysbrydoledig yn y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain a'n cymunedau. Un o'r trychinebau gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf yw bod gormod o bobl yn y Cymoedd yn teimlo nad oes fawr ddim gobaith i'r dyfodol. Mae angen inni droi hynny ar ei ben, ac mae angen inni droi hynny ar ei ben nid yn unig drwy wneud y buddsoddiadau materol y mae angen inni eu gwneud—ac y mae'n rhaid inni, ac fe wnawn ni—ond hefyd drwy fuddsoddi yn ein pobl, ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hamgylchedd. Mae'r parc tirwedd yn dwyn ynghyd yr holl wahanol agweddau hynny ar yr hyn a geisiwn ei gyflawni, ac yn ceisio ei becynnu mewn ffordd sydd nid yn unig yn trawsnewid y mynegiant corfforol o bwy ydym ni, ond ein dealltwriaeth ddiwylliannol o bwy ydym ni hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n siarad dros uchelgais yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.
Nawr, rwy'n deall y dadleuon ynghylch a yw Ffynnon Taf neu Nantgarw yn ddigon o 'Gymoedd' o ran eu hanian. A ydyn nhw'n ddigon isel mewn cwm arbennig neu beidio? A ydyn nhw yn y Cymoedd o gwbl? Mae'n rhaid imi ddweud nad yw honno'n ddadl y bwriadaf ymuno ynddi, y prynhawn yma nac unrhyw bryd arall.
Credaf fod y pwynt mwy sylfaenol a wnaeth Sefydliad Bevan yn bwysicach, a hwnnw yw pwysigrwydd buddsoddi yn ardal Blaenau'r Cymoedd a rhannau o ranbarth y Cymoedd uchaf lle ceir problemau ac anawsterau mawr a dwfn. I'r rhai ohonom a ymgyrchodd dros ddeuoli'r A465—ffordd Blaenau'r Cymoedd—ryw ddegawd yn ôl, roeddem yn gwneud hynny nid i adeiladu ffordd ar gyfer osgoi ein cymunedau, ond i greu cyfle ar gyfer cysylltedd gwirioneddol rhwng ardal Blaenau'r Cymoedd a'r economi yn ehangach. Roeddem yn ystyried y byddai hwnnw'n ddull o ddatblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Rwyf eisoes wedi cynnal un seminar ar sut yr ydym yn gwneud hynny a sut y gallwn gynyddu'r budd o'r buddsoddiad hwnnw. Byddwn yn dychwelyd at hynny ym mis Medi, oherwydd, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi ar waith y buddsoddiadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith i greu gwaith cynaliadwy sy'n talu'n dda, ond ein bod hefyd yn rhoi buddsoddiadau ar waith i sicrhau bod y gyflogaeth a bod y ffordd honno o fyw yn gynaliadwy i'r dyfodol. Felly, yn sicr ni fyddwn yn cydfyw ag amddifadedd. Nid ydym yn dymuno cydfyw ag amddifadedd, a dywedaf wrth yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru fy mod yn gweld amddifadedd yn rhy aml o lawer pan fyddaf yn dychwelyd i fy etholaeth i wedi gorffen fy nyletswyddau yn y fan hon. Rwy'n dyheu am newid hynny. Dyna pam y deuthum i mewn i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf, a dyna'r hyn yr wyf i a'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.
Mae Alun Davies yn iawn, wrth gwrs, yn ystod bron canrif o argyfwng economaidd a welwyd mewn cyn-ardaloedd glofaol, ers cwymp pris glo ym 1924, rydym wedi cael cyfres o ymyriadau a mentrau a strategaethau a chredaf y gellid crynhoi'r cyfan, yn wir, fel cynnydd bach a dirywiad mawr. Y cwestiwn y mae'n rhaid i ni ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn ei ofyn iddo'i hun, yw: sut y gall y fenter hon ddianc rhag y dynged honno? Rydym wedi gweld, dro ar ôl tro, godi disgwyliadau a chwalu gobeithion, a'r anghymwynas fwyaf fyddai honno i'r cymunedau hyn.
Felly, croesawaf yr adroddiad ar y cynnydd. Mae llawer o bethau ynddo sydd yn anodd peidio â'u hoffi ar y lefel micro, ond, os yw am fod yn wirioneddol drawsnewidiol, rwy'n credu bod angen inni wedyn ymgysylltu gyda'r math o her feirniadol—ac rwy'n falch ei fod yn gadarnhaol am y feirniadaeth a roddir gan Sefydliad Bevan, oherwydd fy mod yn rhannu peth—. A ydym ni'n targedu'r pethau iawn, a yw'r ffocws yn gywir? Roeddech yn cyfeirio at ddaearyddiaeth, a dyna gwestiwn hollbwysig hefyd. A yw'r ymyriadau ar y cyd ar raddfa ddigonol o'i chymharu â'r her, ac a yw'r strwythurau yn iawn? Rwyf am ddilyn peth o'r trywydd hwn yn fyr iawn.
Swyddi: yr unig ffigur—y ffigur mawr sydd gennym mewn targedau—yw'r 7,000 o swyddi. Mae ychydig o ddryswch yn y fan hon oherwydd, mewn gwirionedd, os edrychwn ar y record o ran creu swyddi, neu nifer y swyddi yn ardal tasglu'r Cymoedd, mewn gwirionedd, dros y cyfnod o bum mlynedd hyd 2016, aeth i fyny i 22,000. Felly, o leiaf ar y wyneb, oni bai i chi fy nghywiro i, ymddengys bod y targed yn llai uchelgeisiol na thuedd y gyfradd dros y pum mlynedd flaenorol. A chan dilyn ychydig mwy ar y trywydd na hynny, onid y mater gwirioneddol yw ansawdd y swyddi hynny? Erbyn hyn y broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd hyn yw nid nifer y swyddi fel y cyfryw; ond eu hansawdd, sef natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny. Problem cynhyrchiant yw hon, ac yna mae'n ymwneud â buddsoddi mewn sgiliau.
O ran a yw'r raddfa'n ddigonol, os edrychwch ar rai o'r mentrau cynharach—yr ardaloedd adfywio strategol, er enghraifft, dan weinyddiaeth flaenorol, Llywodraeth Cymru'n Un—roedd cronfeydd o arian dynodedig mewn gwirionedd yn y fersiynau o'r canolfannau strategol a grëodd. Nid oes gennym unrhyw eglurder o hyd ynghylch maint y buddsoddiad cyfan sydd yn mynd i'r rhaglen hon neu, yn wir, sydd ynghlwm wrth y canolfannau strategol hynny. Pryd y cawn ni'r sicrwydd ein bod, mewn gwirionedd, am gael buddsoddiad sylweddol dros gyfnod cenhedlaeth, sydd, mewn gwirionedd, yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau newid?
Ac, yn olaf, pan ydym yn cymharu tasglu'r Cymoedd—. A hoffwn innau dalu teyrnged i'r ymgysylltu hynod drawiadol sydd wedi digwydd a'r gwirfoddolwyr sy'n eistedd ar y tasglu, ond pan fyddwch yn cymharu hynny â strwythurau'r dinas-ranbarthau—y dinas-ranbarthau, sydd, drwy eu strwythurau llywodraethu, yn cynnwys llawer o asiantaethau allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Leol, ac mae ganddyn nhw gyllidebau enfawr ynghlwm wrthyn nhw—yna hafaliad annheg yw hwnnw ar hyn o bryd ac nid yw'n syndod fod pryder ynghylch yr hyn sy'n digwydd, sef bod magnet coridor yr M4 o fewn y dinas-ranbarthau yn parhau i arfer ei rym anferthol. A sut all tasglu'r Cymoedd yrru'r buddsoddiad angenrheidiol mewn cyfeiriad arall i ardaloedd craidd y Cymoedd hynny y cyfeiriodd ato yn gynharach?
Llywydd, cyn ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru, credaf y byddai'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn hoffi ymuno â mi i'w groesawu ef yn ôl i'r lle hwn a'i longyfarch a dymuno'n dda i'w deulu i'r dyfodol. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau da i chi.
A gaf i ddweud hyn? O ran ein sefyllfa heddiw, rydych wedi gofyn rhai cwestiynau sylfaenol iawn ac, os byddaf yn gwbl onest gyda chi wrth eu hateb, rwy'n dweud wrthych, 'A yw'r ffocws yn iawn? A yw'r ymyriadau yn iawn? A yw'r strwythurau yn eu lle?' Rwy'n gobeithio hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n awchu am weld newid. Nid wyf i'n fodlon ac nid ydwyf am ddod i'r fan hon yn unig er mwyn dweud y bydd yr hyn yr ydym wedi ei roi ar waith dros y 18 mis diwethaf yn parhau i fod ar waith. Rwy'n edrych yn barhaus ar y strwythurau a'r prosesau sydd ar waith gennym, ac, os nad wyf yn credu eu bod yn cyflawni'r newid yr ydym yn ei ddymuno, yna ni fyddaf yn petruso o gwbl wrth wneud newidiadau i sicrhau y gallwn gyflawni'r newid yr ydym yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n gobeithio—.
Mae ei bortread o fentrau blaenorol—cynnydd bach a dirywiad mawr—yn feirniadaeth deg ac yn feirniadaeth y gobeithiwn y byddwn yn dysgu oddi wrthi yn hytrach na'i hailadrodd. Nid fy nymuniad i y prynhawn yma yw dod yma a dweud, 'Mae gennym ni adroddiad, a, doed a ddelo, pa feirniadaethau beth bynnag a wneir o'r adroddiad hwnnw, byddaf yn ei amddiffyn hyd yr eithaf'. Nid dyna fy mwriad. Fy mwriad i yw dod yma ac adrodd yn onest ac eglur a dysgu o'r feirniadaeth, gan Aelodau yma a chan y gymuned yn ehangach, a dyna pam, fel chithau—. Mae'n debyg na chefais i lawn cymaint o fwynhad o ddarllen adroddiad Sefydliad Bevan ag y cawsoch chi, os wy'n gwbl onest, ond roeddwn o'r farn fod y dadleuon yn dda a theg.
Felly, o ran cynyddu ein dyhead, dyna'r her allweddol sy'n ein hwynebu. Yr her allweddol yw sicrhau y gallwn roi'r buddsoddiadau ar waith mewn canolfannau strategol, a fydd wedyn yn denu buddsoddiad y sector preifat yn llwyddiannus. Mae sicrhau bod gennym ni'r berthynas â'r dinas-ranbarthau a'r cyrff strategol eraill yn her allweddol. Ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd, os wy'n gwbl onest yn fy ymatebion.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: y tasglu ei hun —. Ac mae hwn yn un maes yr wyf yn pryderu yn ei gylch o ran cyfeiriad y ddadl hon weithiau. Yn rhy aml, mae pobl yn credu bod y tasglu ynddo'i hun yn un o gyrff y Llywodraeth sydd â'i fywyd ei hun—gyda'i bapur ysgrifennu a phennawd iddo, a baner a phencadlys yn rhywle. Nid felly y mae. Ffordd o ganolbwyntio dull a pholisi Llywodraeth Cymru ar Gymoedd y de yw'r tasglu. Felly, pan fyddwn yn sôn am y tasglu, yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw dull a pholisi Llywodraeth Cymru ac nid dim ond grŵp o weision sifil neu un Gweinidog neu grŵp o Weinidogion sy'n gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth. Felly, yr holl adnoddau sydd gennym ni yw adnoddau'r Llywodraeth ac mae angen i'r adnoddau hynny gael eu rhoi ar waith i bwyso ar yr achosion o amddifadedd a ddisgrifiwyd yn dda iawn gan Mark Isherwood.
Ac, o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni, y targed yw 7,000 o bobl yn hytrach na 7,000 o swyddi. Ond mae'r feirniadaeth gyffredinol a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn gymen unwaith eto. Rydym yn edrych ar ansawdd y gwaith ac rydym yn edrych ar Gymru fel cenedl gwaith teg. Y rheswm dros gydnabod yn benodol waith yr Athro Dickens yn fy natganiad agoriadol oedd gwneud yr union bwynt hwnnw. Rydym yn cydnabod ac yn gwybod, pe byddem yn edrych yn unig ar lefelau cyflogaeth yn y Cymoedd ni fyddem yn adrodd y stori wirioneddol. Yn wir, rydym yn dysgu'r gwersi anghywir. Yn rhy aml o lawer, mae pobl mewn cyflogaeth mewn llawer rhan o'r Cymoedd, gan gynnwys fy etholaeth i, a rhannau o etholaeth yr Aelod yn sir Gaerfyrddin hefyd, rwy'n siŵr, yn gweithio mewn swyddi sy'n talu'n wael ac yn ansicr ac nid oes ganddyn nhw'r cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau yr hoffem eu gweld. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw hyn–nid sicrhau bod gan bobl y math hwnnw o waith sgiliau isel ac ansicr, sy'n talu'n wael, ond y bydd y math o swyddi sydd gennym yn arwain at yrfaoedd yn y Cymoedd ac ym Mlaenau'r Cymoedd ac ym mhob rhan o'r Cymoedd. Dyna yw ein huchelgais ni. Ac wrth ddatblygu'r targed o 7,000 o bobl, yr hyn yr oeddem yn dymuno ei wneud—. Nid ymddangos o'r awyr wnaeth y targed; roedd yn tarddu o'r dymuniad i ddod â'r rhannau o'r awdurdodau lleol dan sylw yn y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru, a chyflawni hynny o fewn pum mlynedd. Dyna yw maint ein huchelgais.
Mae'r Aelod yn hanesydd economaidd da a medrus iawn; mae'n gwybod am yr anawsterau a wynebwyd gan y Cymoedd dros y degawdau. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw plannu hadau'r newid, a bydd hynny'n cymryd mwy na 18 mis a bydd yn cymryd mwy na dwy flynedd. Ond rwy'n gobeithio mai'r hyn y gallwn ei wneud yw dangos bod y sylfeini gennym ni ar gyfer dyfodol gwahanol iawn i'n Cymoedd.
Diolch i'r Gweinidog am yr adroddiad cynnydd heddiw ar fenter y Cymoedd bresennol Llywodraeth Cymru. Pan fydd llefarwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau yn trafod eich cynlluniau, fel arfer mae gennym ychydig o ragarweiniad am lawer o gynlluniau'r Cymoedd sydd wedi bod o'r blaen, ac mae Adam wedi rhoi'r rhagarweiniad hwnnw inni unwaith eto heddiw—un hyddysg iawn—ond rydym yn gwybod bod angen inni ddianc oddi wrth fethiannau'r gorffennol.
Rydym ni yn UKIP yn obeithiol y bydd y fenter hon yn arwain at rywfaint o gynnydd yn y Cymoedd a cheir pethau da yn y diweddariad heddiw. Rydym ni'n credu, yn gyffredinol, wrth gwrs, bod unrhyw fenter yn un dda cyn belled ag y bo ganddi fwriadau da a'i bod yn ystyrlon. Dywedasoch y tro diwethaf mai'r hyn nad oeddech yn dymuno ei wneud oedd creu unrhyw fiwrocratiaeth newydd. Nid oeddech yn awyddus i gael dirgel-gyngor o wleidyddion, ond roeddech yn dymuno sicrhau bod pobl y Cymoedd yn rhan o'r drafodaeth, ac rwy'n cytuno â chi nad ydym yn dymuno creu pethau sy'n ymddangos eu bod yn haenau ychwanegol o Lywodraeth. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod yn clywed llais y Cymoedd yn y drafodaeth hon a'n bod yn caniatáu i bobl y Cymoedd ddweud eu barn yn ystyrlon ar y cynlluniau ar gyfer eu dyfodol nhw eu hunain. Felly, rwyf wedi cael fy nghalonogi o glywed am yr awdurdodau lleol yn cymryd rhan, gan ddod â digwyddiadau fel uwchgynadleddau a gweithdai i mewn i'r peth, a'n bod felly yn cael yr ymgysylltu hwnnw â phobl leol.
Ond, wrth gwrs, mae Adam wedi codi'r mater bod hwn, mewn rhai ffyrdd, yn adweithio yn erbyn, o bosib, y cynlluniau dinas-ranbarth, a fydd yn canolbwyntio ar y ffaith bod y Cymoedd yn agos i goridor yr M4, tra mai'r hyn yr ydych yn dymuno ei wneud gyda chynllun y Cymoedd yw ennyn buddsoddiad i'r Cymoedd uchaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried beth a olygir gan y Cymoedd mewn gwirionedd a bod gwahaniaeth ystyrlon rhwng pen y coridor deheuol a'r Cymoedd uchaf. Rwy'n gwybod eich bod wedi cydnabod y gwahaniaeth. Nid ydym yn dymuno mynd ar ôl y pwnc yn ormodol, oherwydd mae buddsoddiad yn y Cymoedd yn beth da ar y cyfan. Ond rwyf i o'r farn bod gwahaniaeth eglur rhwng dau ben y Cymoedd. Felly, bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ychydig yn fwy ar ble y byddwn yn buddsoddi.
Nawr, gan fynd yn ôl at yr ymgysylltiad â'r cyhoedd, sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd llais pobl leol yn parhau i gael ei gynrychioli yn eich cynlluniau, ac a fydd y llais hwnnw yn arwain at newid ystyrlon? Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas â'r dinas-ranbarthau ac nad yw'r berthynas fel y mae ar hyn o bryd fel y byddech yn hoffi iddi fod, felly, pe gallech chi daflu ychydig mwy o oleuni ar hynny, byddai'n dda o beth. Y prif angen yw cael swyddi o ansawdd da a chynaliadwy. Ie, mae angen iddyn nhw fod yn swyddi o ansawdd uchel, nid—. Mae angen inni symud oddi wrth sgiliau isel a cheisio cael pobl i swyddi sgiliau uwch. Felly, yn amlwg, mae hynny'n golygu bod angen ailhyfforddi pobl, a ffactor mawr yw rhoi mwy o gyfle i hyfforddi ac ailhyfforddi pobl fel y gall pobl o bob oedran yn y Cymoedd gael gwaith mewn swyddi fel y rheini. Pa ymrwymiadau penodol a roddir i ailhyfforddi? Bydd yn rhaid ichi weithio gyda chyflogwyr, â cholegau lleol a'r cynghorwyr gyrfaoedd, felly beth fydd eich ymgysylltiad â chyflogwyr a cholegau a Gyrfa Cymru wrth ichi ddatblygu eich cynlluniau? Codwyd pwyntiau penodol y tro diwethaf, mewn gwirionedd, gan Hefin David, sydd wedi cael llawer o brofiad, yn amlwg, o addysg bellach ac uwch—roedd ef yn sôn am yr angen am fwy o astudio rhan-amser a mwy o astudio breiniol a byddai'n rhaid i golegau lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Felly, beth yw eich barn ar y pwyntiau penodol hynny?
Bydd trafnidiaeth yn allweddol. Mae Mick Antoniw ac Adam Price fel ei gilydd yn y gorffennol wedi cyfeirio at yr angen am lein gylch o amgylch y Cymoedd, y mae'r cynlluniau cyfredol ar gyfer metro de Cymru, i ryw raddau, yn darparu ar ei chyfer. Credaf, felly, fod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r metro yn y pen draw yn golygu dim ond un llwybr ychwanegol i mewn i Gaerdydd; mae angen iddo fod â'r rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng y Cymoedd. Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y syniad o gael y rhyng-gysylltiad hwnnw'n parhau wrth i'r cynlluniau ddatblygu ar gyfer y metro, ac a allwch chi gynnig unrhyw beth i'n sicrhau ni neu i helpu i rwystro'r metro rhag efallai osgoi'r cynlluniau hyn yn y dyfodol? O bosib, pe bai maint y buddsoddiad yn cael ei leihau, mae perygl y gallai'r syniad o ryng-gysylltiad ddiflannu.
Mae gennym gynlluniau lleol hefyd; cafodd un neu ddau ohonyn nhw eu crybwyll heddiw. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r cynllun camlas yn swnio fel menter dda. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â nifer o bobl sy'n ymwneud â chynllun y twnnel yn y Rhondda. Felly, tybed pa ran fydd gan gynlluniau fel hynny yn eich barn chi, ac a ydych yn bwriadu datblygu mwy o gynlluniau trafnidiaeth lleol wrth inni symud ymlaen? Diolch yn fawr.
Llywydd, un o'r materion a godwyd gyda ni ym mhob digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd bron dros yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yw mater trafnidiaeth leol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn codi materion yn ymwneud â bysiau lleol yn hytrach na'r system fetro, ac rwyf i o'r farn y bydd yn bwysig inni gydnabod, wrth ddatblygu'r metro, ein bod yn datblygu ac yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn mynd y tu hwnt i'r trenau hynny sydd gan amlaf yn cael y sylw mwyaf yn hynny o beth. Felly, byddwn yn sicrhau y bydd cysylltiadau trafnidiaeth wrth galon yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Pan nodwyd y saith canolfan strategol, nodwyd ardaloedd a oedd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ardaloedd a fyddai'n cael eu gwasanaethu gan y metro yn y dyfodol. Felly bydd gennym olwg strategol a gofodol o'r mannau y byddwn yn canolbwyntio ein buddsoddiad yn y dyfodol, a bydd y metro yn rhan gwbl hanfodol o hynny.
O ran y materion y mae llefarydd UKIP yn eu codi ar brentisiaethau a hyfforddiant, yn amlwg, byddwn yn sicrhau bod y rhaglen gyflogadwyedd y mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi ei lansio yn weithgar yn y Cymoedd, a'i bod yn canolbwyntio ar y Cymoedd. Rydym hefyd yn datblygu model rhannu prentisiaeth ym Merthyr Tudful a fydd yn sicrhau y gallwn ddatblygu a dysgu gwersi yn sgil rhai o'r prosiectau eraill, fel prosiect Aspire, yn fy etholaeth i, a fydd yn sicrhau bod gennym ffordd o ddarparu sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau sy'n gynaliadwy ac a fydd yn cyrraedd y gwahanol rannau o'r Cymoedd, a'r gwahanol sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd.
Ond a gaf i ddweud bod llefarydd UKIP yn gwneud pwynt o sicrhau bod pobl leol yn cymryd rhan yn nyluniad yr holl wahanol brosiectau a rhaglenni hyn? Rydym wedi gwreiddio popeth a wnaethom yn y dyheadau a rannwyd â ni gan bobl yng nghymunedau'r Cymoedd a'r cyffiniau. Ni chafodd hyn ei gyd-gynhyrchu yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud, ond cafodd ei wreiddio yn nyheadau a gweledigaethau'r bobl ledled rhanbarth y Cymoedd yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi treulio amser ac rydym wedi buddsoddi ein hamser nid yn unig yn siarad â phobl, ond yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd y bobl hynny wrthym ni. Ac un o'r pethau allweddol a ddywedwyd wrthym—ac roedd llefarydd Plaid Cymru yn cyfeirio at hyn yn ei sylwadau—yw y codwyd disgwyliadau yn rhy aml o lawer dim ond i'r gobeithion hynny gael eu chwalu. Yr hyn yr wyf yn dymuno gallu ei wneud drwy'r rhaglen hon o wrando a siarad, a thrwy gyhoeddi cynllun cyflenwi, yw cael fy nwyn i roi cyfrif o'r addewidion a wnawn, fel bod pobl yn y fan hon—yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yma—yn gallu ein dal ni i gyfrif am yr hyn a gyflawnwn a'r hyn a ddywedwn ein bod yn ei gyflawni, yr amserlenni a'r targedau a osodir gennym, ond, ar yr un pryd, bydd pobl ledled y Cymoedd yn gallu ein dal ni i gyfrif hefyd. Ac o ran ennill ac ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, credaf fod hynny'n hanfodol i'r dyfodol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth ddiweddaraf? Credaf fod yna lawer i'w groesawu yn y datganiad yr ydych wedi ei gyflwyno heddiw, Alun. Fel chithau, sy'n cynrychioli cymuned yn y Cymoedd, rwyf wedi bod yn gefnogol dros ben i waith y tasglu, yr hyn y mae wedi ceisio ei gyflawni a'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chymunedau'r holl ffordd ar hyd y Cymoedd i gyrraedd ein sefyllfa ar hyn o bryd. Ond byddwch yn gwerthfawrogi nad wyf i am ymddiheuro am fy mod i, unwaith eto, yn achub ar gyfle fel hwn i wneud pwynt plwyfol am gwm Rhymni uchaf. Er fy mod yn croesawu'r math o fuddsoddiad a welsom mewn pethau fel cyflenwi ysgol newydd Idris Davies yn Abertyswg, er enghraifft, rwy'n parhau i fod yn bryderus bod Rhymni yn mynd yn gwr angof o'r Cymoedd. Nid oes unrhyw fuddsoddiad economaidd amlwg neu sylweddol i ddod ar ei gyfer, er ei fod wedi ei leoli mor strategol wrth ymyl ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Fel y crybwyllwyd eisoes, rwy'n credu mai dyma'r pwynt yr oedd Sefydliad Bevan yn ceisio ei wneud yn ei ddatganiad, yn enwedig o ran buddsoddiad y metro yn Ffynnon Taf. Gwn nad ydych chi yn awyddus i drafod hynny a gwn fod eraill wedi sôn am hyn, ond rwyf am ei ailadrodd: mae'n nes at Gaerdydd nag y mae at y Cymoedd. Rwyf i wedi crybwyll hyn o'r blaen a chredaf ei fod yn fater o flaenoriaethau economaidd o ran buddsoddiad, a dyna'r rheswm pam yr wyf yn amheus o hynny. Oherwydd rwy'n credu y byddai buddsoddiad o'r fath, pe byddai wedi bod yng Nghwm Rhymni, wedi bod yn drawsnewidiol o ran y swyddi o ansawdd da y byddai wedi eu darparu, y sgiliau a fyddai wedi dod yn ei sgil, a'r effaith gadarnhaol ar yr economi ehangach, nid yn Rhymni yn unig, ond ledled Blaenau'r Cymoedd. Byddai wedi ticio pob blwch yn amcanion tasglu'r Cymoedd, yn ogystal ag yn rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref y Llywodraeth.
Felly, o ystyried ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru arwain ar ddarparu buddsoddiad yng nghymunedau ein Cymoedd a'i bod yn dal yr awenau economaidd mewn cynifer o feysydd, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am ddod i Rhymni ddydd Iau, pan gynhelir cyfarfod â chynrychiolwyr lleol a rhai busnesau yno. Bydd yn gallu gweld yn uniongyrchol a chlywed ganddyn nhw beth sy'n ddisgwyliedig. Felly, fy nghwestiwn i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yw: a wnewch chithau hefyd ymweld â Rhymni gyda mi a thrafod y cynnydd yn ein strategaeth ar gyfer y Cymoedd er mwyn y cymunedau hyn a rhoi rhywfaint o sicrwydd na fydd y Cwm hwn yn cael ei adael ar ôl? Oherwydd a dweud y gwir, er fy mod yn deall yn iawn na all pethau ddigwydd dros nos, a gwn y byddwch yn cytuno â hyn, os nad yw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn cyflawni mewn lleoedd fel Rhymni, yna bydd wedi ffaelu.
Llywydd, mae gan Gwm Rhymni rai eiriolwyr gwych yn siarad ar ei ran. Gwn fod Dawn Bowden, yr aelod ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn siarad ar ran Cwm Rhymni uchaf ac mae ein cyd-Aelod Hefin David yn siarad am rannau isaf Cwm Rhymni gyda ffyrnigrwydd cyffelyb. Deallaf y pwyntiau a wnaed, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i ddod draw i Rhymni ar unrhyw adeg i siarad ac i ymweld a chael y trafodaethau hyn. Ond rwyf i o'r farn fod y pwynt sylfaenol a wnewch am gymunedau'r Cymoedd uchaf, Blaenau'r Cymoedd, yn gwbl gywir. Credaf i chi fod mewn seminar yn ôl ym mis Ebrill i drafod rhai o'r materion penodol hynny. Yn rhy aml, rydym yn edrych ar y Cymoedd fel cyfanrwydd heb ddeall y gwahaniaethau rhwng y cymunedau amrywiol a phwysigrwydd bod â strategaeth fanwl iawn i ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol.
I mi, bydd Blaenau'r Cymoedd yn brawf litmws i weld a fyddwn yn llwyddo neu'n methu. Roedd y pwyntiau a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn dda, ac os ydym am lwyddo yn y profion sydd wedi eu gosod gennych chi ac eraill yma, mewn lleoedd fel Pontlotyn neu Rhymni y gwelir hynny. Felly, gadewch imi ddweud hyn: daethom â grŵp o bobl at ei gilydd yn y gwanwyn i edrych ar sut y gellir defnyddio gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, fel catalydd ar gyfer newid, a chredaf fod angen inni edrych nawr ar y camau a pha fuddsoddiadau y mae angen eu gwneud yn seilwaith y Cymoedd uchaf i wireddu'r uchelgais hwnnw. Gallaf weld bod yr Aelod dros Gwm Cynon yma hefyd, ac rydym yn gwybod bod ein cymunedau, o Hirwaun a throsodd i Frynmawr, yn wynebu rhai heriau sylweddol iawn sydd y sydd tu hwnt i'r rhai a wynebir gan ardaloedd eraill—a gallwn ddadlau ynghylch a ydyn nhw'n rhan o'r Cymoedd neu beidio rywbryd arall efallai.
Mae mater allweddol y Cymoedd uchaf yn sicr yn ystyriaeth ganolog yn fy meddwl i, a gobeithiaf, yn gynnar yn yr hydref, y gallwn sefydlu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cymunedau'r Cymoedd uchaf—strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn edrych ar sut y gallwn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn ardal safle Glofa'r Tŵr yng Nghwm Cynon uchaf a throsodd i Ferthyr ei hunan. Credaf y bydd prosiect y Pair yr ydym wedi ei drafod o'r blaen yn rhoi hwb gwirioneddol i Ferthyr ar gyfer y ffordd ymlaen, ac mae ar Gwm Rhymni uchaf angen yr union fath o fuddsoddiad yr ydych wedi ei ddisgrifio. Yn fy etholaeth i fy hunan, mae'n golygu datblygu lleoedd fel stad ddiwydiannol Tafarnaubach neu stad ddiwydiannol Rasa, yn sicrhau nad yw buddsoddiad Cymoedd Technoleg yn aros yng Nglynebwy yn unig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel hwb i fuddsoddiadau ledled ardal Blaenau'r Cymoedd. Dyna'r uchelgais sydd gennym i gyd, rwy'n credu, ac mae angen inni wireddu hynny. Felly, rwy'n cytuno'n fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich diweddariad yma heddiw. Byddwch yn gwybod fy mod yn gefnogwr brwd o dasglu'r Cymoedd a'i gynllun cyflawni, fel y mae llawer o'm hetholwyr hefyd. Mae'n dda eich clywed yn cyfeirio at hen safle Glofa'r Tŵr, y credaf fod ganddo bosibiliad ardderchog oherwydd ei gysylltiadau unigryw o ran cysylltedd. Edrychaf ymlaen at weld beth y gellir ei wneud gyda'r safle hwnnw gyda help Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Mae gennyf i ychydig o gwestiynau i chi heddiw. Yn gyntaf, o ran parciau tirwedd y Cymoedd, ac yn benodol eu cysylltu â'i gilydd, efallai i chi weld yn ddiweddar yn y newyddion y penodwyd cyngor Rhondda Cynon Taf yn awdurdod arweiniol i ddatblygu'r gwaith o ailagor hen dwnelau rheilffordd, gan gynnwys twnnel Abernant, sy'n cysylltu Cwmbach yn fy etholaeth i â Merthyr Tudful. O ystyried eich sylwadau ar dreftadaeth a thwristiaeth, a ydych yn cytuno â mi y gellid defnyddio'r strwythurau hyn, gan gynnwys twnnel Abernant a gynlluniwyd gan Brunel, yn ysgogiadau i gefnogi denu twristiaeth i'r ardal ac i annog teithio llesol hefyd? Ym mha ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad y prosiectau hyn?
Yn ail, cafodd nifer o ymyriadau iechyd eu crybwyll yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. O ystyried y dathliad amserol yr wythnos diwethaf o ddengmlwyddiant a thrigain y GIG, a chysylltiadau cryf y sefydliad hwnnw â'r Cymoedd, a allwch ddweud mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fodloni'r nodau hyn?
Yn drydydd, ac yn olaf, siaradais yn ddiweddar mewn cynhadledd a drefnwyd o dan ymbarél cynghrair y cymdeithasau cydfuddiannol, a oedd yn tynnu sylw at ba fodelau cydweithredol a chydfuddiannol y gellid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau mewn amrywiaeth o feysydd. Sut ydych yn cysylltu â'r sector hwn ac yn annog datblygiad dewisiadau cydweithredol gwirioneddol ar lawr gwlad?
Llywydd, mae'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn rhai da iawn. O ran iechyd a mentrau cydweithredol, wrth gwrs, rydym newydd ddathlu'r hyn yr oedd llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel dengmlwyddiant a thrigain y gwasanaeth iechyd gwladol. Wrth gwrs, i'r rhai ohonom ni sydd o Dredegar, Llywydd, y cyfan yw hyn yw dengmlwyddiant a thrigain y Ddeddf Seneddol a grëodd y gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym ni wedi dathlu cant ac wyth ar hugain o flynyddoedd ers sefydlu Cronfa Cymorth Meddygol a Lliniaru Tostrwydd Tredegar a arweiniodd at greu'r gwasanaeth iechyd. Ac mae hwnnw'n bwynt da iawn, oherwydd mae rhai ohonom sy'n aelodau o'r blaid gydweithredol yn cydnabod bod ffyrdd y gellir defnyddio dinasyddiaeth weithredol ar gyfer cyflawni newid sylweddol yn ein cymunedau, sy'n mynd â ni yn ôl at nifer o themâu sydd fel edafedd drwy ein trafodaeth y prynhawn yma.
Nid fy uchelgais i ar gyfer y Cymoedd yw gwneud pethau i'r Cymoedd, boed y Cymoedd yn hoffi hynny neu beidio, ond cael dinasyddiaeth weithgar i benderfynu ar ein dyfodol ledled y Cymoedd. Efallai'n wir y byddai'r dyfodol y byddem yn dymuno ei weld yn nyffryn Sirhywi ac ym Mlaenau Gwent yn wahanol iawn i farn yr Aelod dros Gastell-nedd ar gyfer Cwm Nedd a Chwm Dulais, lle buom yn ddiweddar iawn, lle byddai gennym setiau gwahanol o flaenoriaethau a setiau gwahanol iawn o uchelgeisiau. Ond mae'n iawn a phriodol ein bod yn rhoi dull ar waith i alluogi dinasyddion gweithredol i gymryd rheolaeth o'u dyfodol eu hunain a sicrhau ein bod yn darparu'r modd a'r arian a'r strwythurau i ganiatáu pobl i wneud hynny.
Pan feddyliaf am hanes a threftadaeth wych y Cymoedd—soniasom am dwnnel Abernant y prynhawn yma, ond hefyd siaradwyd am y twnnel yng nghymoedd y Rhondda ar achlysuron blaenorol—mae cyfleoedd yma i ni newid dyfodol y Cymoedd. Credaf fod parc tirwedd y Cymoedd yn un o'r mentrau a'r cysyniadau cyffrous iawn hynny a allai wneud llawer mwy nag a ragwelir. Yn wir, gall newid y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain, sydd yn gwbl hanfodol yn fy marn i. Pan oeddwn yn siarad â phobl yn Aberdâr, ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ychydig fisoedd yn ôl, am eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, roedd yn taro tant gyda mi o ran fy uchelgeisiau fy hunan, a'n bod yn rhannu'r weledigaeth honno am y dyfodol.
Pan feddyliaf am y parc tirwedd, rwy'n meddwl hefyd am y pyrth—ardaloedd yn arwain i'r Cymoedd—ac rwy'n credu y gallai Parc Gwledig Cwm Dâr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf y gallai Merthyr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf hefyd y gallai ardaloedd o amgylch fy etholaeth i, sydd â threftadaeth y gwasanaeth iechyd gwladol, fod yn un o'r rhai hynny, a gallwch ddwyn Blaenafon i mewn gyda'r Big Pit, ac ardaloedd eraill hefyd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn drawsnewid y dyfodol, ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid inni wreiddio ein gweledigaethau ni â gweledigaethau'r bobl sy'n byw yn y Cymoedd ar yr un pryd. Pan oeddem yn trafod economi Blaenau'r Cymoedd, roedd yn hyfryd gweld Tyrone O'Sullivan, arweinydd mawr y glowyr, yn sôn am ei ddyheadau ar gyfer dyfodol safle'r Tŵr, a'r hyn y gall hynny barhau i'w gynnig i bobl nid yn unig yn Hirwaun ac Aberdâr, ond y bobl drwy holl ardal Blaenau'r Cymoedd. Gobeithio mai'r uchelgais hwnnw y gallwn ei wireddu yn y dyfodol.
Yn olaf, David Rees.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Croesawaf yn fawr y tasglu a'i uchelgeisiau, ac rwy'n dymuno ei weld yn gweithio. Yn amlwg, rwyf eisiau gallu gweld y gwersi a ddysgwyd o hynny yn berthnasol i bob cwm yn ne Cymru, oherwydd, fel y gwyddoch, ni chynhwysir cwm Afan yn eich canolfannau. Mewn gwirionedd rydych wedi nodi parc tirwedd y Cymoedd fel un cyfle, ac mae Vikki Howells wedi sôn am dwnnel Abernant. Yr un na wnaeth sôn amdano oedd twnnel y Rhondda i Blaengwynfi—i sicrhau bod hynny i gyd yn gweithio hefyd.
Ond mae datblygiadau yng nghwm Afan, nad ydynt yn cael eu cynnwys, sydd wedi edrych ar brosiectau a fydd yn datblygu'r diwydiant twristiaeth yno, gyda phrosiect man gwyliau cwm Afan neu brosiect twnnel y Rhondda. Mae'r rhain yn brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddenu twristiaeth. A wnewch chi gadarnhau i mi yn awr, na fyddwn yn colli allan ar gyfleoedd i elwa o barc tirwedd y Cymoedd, fel y gallwn adeiladu ar hynny a gweithio gyda'n gilydd?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gallaf yn bendant gadarnhau hynny heddiw. Pan ydych yn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi strategol, rydych chi'n creu'r math hwnnw o sefyllfa lle mae rhai pobl yn teimlo eu bod nhw i mewn ac mae eraill yn teimlo nad ydynt. Rwy'n cydnabod hynny, a gwn fod eraill wedi gwneud pwyntiau tebyg iawn i mi ar adegau gwahanol. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n credu bod pawb ohonom sydd wedi teithio drwy gwm Afan ac wedi teithio hyd at Blaengwynfi, a thros y grib yno, wedi gweld tirwedd sydd yn cymharu ag unrhyw le yn y byd. Mae'n lle gwych i fod ynddo; mae'n gynnig gwych, os mynnwch, ar gyfer twristiaeth. Mae'n dwyn ynghyd rai cyfleoedd gwych, ac yn sicr, mae'r sgyrsiau a gawsom am ddyfodol twristiaeth yng nghwm Afan, yn fy marn i, yn rhai o'r sgyrsiau mwyaf cadarnhaol a gefais am ddyfodol y Cymoedd. Yn sicr, bydd y buddsoddiadau yr ydym wedi eu trafod a dadlau amdanynt yng Nghwm Afan, yn fy marn i, yn trawsnewid nid yn unig gwm Afan, ond y canfyddiad o'r cymoedd a lle'r cymoedd, o ran twristiaeth o Gymru a gweddill y DU, ond hefyd ein canfyddiad ni ein hunain ohonom ni ein hunain.
Credaf fod gan y Cymoedd, o ran twristiaeth, fwy o botensial na bron unrhyw ran arall o Gymru; mae'r potensial hwnnw heb ei gyffwrdd ar hyn o bryd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi'r strwythurau ar waith sy'n galluogi twristiaeth i fod yn rhan allweddol o'n dyfodol, ond hefyd—ac mae hyn yn bwysig i mi wrth orffen, Dirprwy Lywydd—bod manteision twristiaeth yn aros o fewn y Cymoedd, a'n bod yn gweld cymunedau yn y Cymoedd yn elwa o hynny mewn ffordd real iawn, a hefyd, gan ddychwelyd at y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon, ein bod hefyd yn sicrhau ei fod yn rhan o'r hyn ydym yn y dyfodol o ran iechyd y cyhoedd, ac o ran darparu cyfleoedd i bobl archwilio a deall mewn ffordd a gollwyd dros y degawdau diwethaf. Felly, mae ailagor y twnnel yn un ffordd, mae deall ein treftadaeth yn ffordd arall. Mae agor mynediad at y bryniau a'r mynyddoedd a chefn gwlad o gwmpas y Cymoedd, ac yn y Cymoedd, mi gredaf, yn ffordd inni ailgysylltu â'n gorffennol i greu dyfodol gwahanol iawn.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyhoeddodd y Prif Weinidog adolygiad cyflym o'n polisïau rhyw a chydraddoldeb, ac roedd yn awyddus i roi symbyliad newydd i'r gwaith hwnnw. Cefnogwyd cam cychwynnol yr adolygiad hwn gan yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rwy'n falch iawn heddiw o allu rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a nodi'r camau nesaf.
Mae Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad pwysig, yn casglu tystiolaeth o Gymru, y DU a gwledydd eraill. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith, a hefyd yn estyn fy niolch i lawer o randdeiliaid a gyfrannodd at gasglu tystiolaeth, ac sy'n cyflwyno cynigion i'w hystyried. Mae adroddiad Chwarae Teg yn nodi mecanweithiau i gryfhau'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio, ac i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch datblygu ein polisïau mewn ffyrdd sy'n mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb mewn perthynas â rhywedd.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, y cyntaf yw gweledigaeth ac arweinyddiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei herio i fod yn gliriach am ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae rhywedd wrth wraidd gwneud polisi. Mae angen inni nodi gweledigaeth glir o gydraddoldeb yng Nghymru, nodi amcanion a chanlyniadau dymunol, a gwneud yn siŵr bod ddealltwriaeth dda o hynny o fewn y Llywodraeth, â'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae gan Gymru rywfaint o ddeddfwriaeth sy'n arwain y byd, ac rydym wedi cael ein herio i wneud mwy i ddefnyddio hyn yn gyson i'w lawn botensial i gael mwy o effaith. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth arwain drwy esiampl fel cyflogwr a lluniwr polisi i sbarduno newid parhaol.
Mae'r ail thema, polisi ar waith, yn edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dylunio ac yn gweithredu polisïau a deddfwriaeth. Nododd yr adroddiad feysydd o arfer da, a gwnaeth argymhellion ynghylch sut y gellir cyflenwi hyn yn fwy cyson. Mae'n canolbwyntio ar feysydd fel y broses o bennu'r gyllideb, sut yr ydym yn ymgysylltu, a phwysigrwydd asesiadau effeithiol o'r effaith ar gydraddoldeb .
Mae'r thema olaf, craffu allanol ac atebolrwydd, yn canfod y croesewir craffu allanol, a bod gwaith craffu effeithiol yn sbarduno newid ymddygiad. Mae'r adroddiad yn nodi bod lle i gryfhau a gwella integreiddio mecanweithiau atebolrwydd presennol ar draws y fframwaith deddfwriaethol a rheoliadol.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd rhoi camau o'r fath yng nghyd-destun cydraddoldeb yn fwy eang, gan gydnabod bod ffactorau croestoriadol, megis anabledd, hil a thlodi yn cael effaith fawr ar ganlyniadau bywyd. Ar y llaw arall, mae ffocws cryf ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn meddu ar y potensial i sbarduno cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn, yn edrych ar ddulliau gweithredu rhyngwladol i ymgorffori persbectif rhywedd mewn penderfyniadau a llunio polisïau. Mae gwledydd Llychlyn a Nordig yn sgorio'n gyson dda yn y mynegeion sy'n mesur pa mor dda y mae gwledydd hyn yn cau bylchau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod rhai polisïau ar waith gan y gwledydd na ellir yn hawdd eu cludo i Gymru, lle mae gennym gyfundrefn les wahanol iawn, gan amlaf wedi'i phennu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, maent yn werth eu hystyried o ran beth y gallwn ei ddysgu oddi wrth eu hymdrechion parhaus i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydnabod yr heriau o gynnwys safbwynt o ran rhywedd wrth wneud pob penderfyniad, gan ganfod bod arnom angen yr amodau diwylliannol ac ymddygiadol iawn, gweithio Llywodraeth trawsbynciol, arbenigedd cydraddoldebau a chynnwys lleisiau pobl yr effeithir arnynt gan bolisïau prif ffrwd y tybir fel arall eu bod yn niwtral o ran rhywedd. Daw Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'r casgliad y bydd defnydd rhagweithiol, creadigol a chydweithredol o egwyddorion ac offer prif ffrydio rhywedd yn helpu gyda gosod gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb yng Ngham 2 yr adolygiad cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yn argymell meysydd i'w harchwilio yn ein cam nesaf.
Mae'r adroddiadau hyn wedi gofyn cwestiynau heriol y mae angen inni eu gofyn inni ein hunain, ac wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer camau gweithredu i gryfhau blociau adeiladu ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Mae'r argymhellion hyn yn darparu meysydd gweithredu cam 2 y gallwn symud ymlaen arnynt ar unwaith, ac eraill y bydd angen eu harchwilio ymhellach. Byddaf yn cyhoeddi ymateb llawn yn yr Hydref. Bydd ail gam yr adolygiad yn dechrau cyn gynted â phosibl, ac yn rhoi cyfle i archwilio'r argymhellion hyn mewn mwy o ddyfnder. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi am hynny, Llywydd; roeddwn yn meddwl ei fod wedi ei osod i fod yn fud, ond mae'n dirgrynu mewn ffordd annefnyddiol iawn. A dwi wedi llwyr golli fy ffocws bellach. Bydd hyn yn cynnwys eglurhad o'r costau, y materion a'r risgiau sy'n gysylltiedig, a symud i weithredu. Byddaf yn sefydlu grŵp llywio i hwyluso hynt cam 2, a dadansoddiad o argymhellion cam 1.
Rydym wedi sicrhau llwyddiannau pwysig o ran cydraddoldeb yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Serch hynny, mae'n amlwg bod rhaid inni wneud gwell defnydd o ysgogiadau'r Llywodraeth os ydym i gyflawni'r uchelgais o fod yn Llywodraeth gyfartal rhwng y rhywiau sy'n rhoi rhywedd wrth wraidd ein polisïau mewn gwirionedd.
Mae angen inni gryfhau gweledigaeth ac arweinyddiaeth bresennol yng Nghymru, ac adeiladu ar ein fframwaith deddfwriaethol a rheoliadol presennol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir nad yw'r fframwaith hwn, a sut mae gwahanol eitemau yn ffitio gyda'i gilydd, yn cael ei ddeall yn dda gan randdeiliaid, ac o ganlyniad, ystyrir nad yw wedi'i integreiddio'n llawn. Gallwn a byddwn yn gwneud yn well.
Diolch yn fawr am y datganiad. Rwy'n hapus, mewn gwirionedd, i ymuno â chi i longyfarch eich llwyddiant, fel Llywodraeth, yn amlwg yn cael ei gefnogi gan y Cynulliad hwn, yn y ddwy Ddeddf y soniasoch amdanynt ar ddiwedd eich datganiad. Credaf fod yno gryn dipyn i fod yn falch ohono.
I droi at weddill y datganiad, fodd bynnag, tybed a allwch chi ymdrin â'r rhain i mi: y cyntaf yw—tybed a fwriedir hyn i fod yn rhyw fath o arloeswr ar gyfer y sector preifat a mentrau cymdeithasol hefyd? Derbyniaf fod gennym sector mentrau bach a chanolig bach iawn yng Nghymru a bydd llawer o fusnesau sy'n rhy fach i ystyried llawer o'r hyn yr ydym yn sôn amdano yma. Ond tybed beth yw eich cynlluniau ar gyfer efallai gyflwyno hyn, neu rannu'r arfer da y byddwn yn ei weld o ganlyniad i hyn, gobeithio, gyda'r sector preifat, ac a allai fod unrhyw gynlluniau i gymell rhai busnesau i ymgymryd â hyn. Hynny yw, fy nadl i yw na ddylai fod angen eu cymell nhw, ond mae'n werth ei ystyried, onid yw?
I fynd yn ôl at eich pwynt cyntaf, polisi ar waith—na, mae'n ddrwg gennyf, cafodd rhan gweledigaeth ac arweinyddiaeth eich datganiad, cydraddoldeb a chynaliadwyedd, eu hymgorffori yn y Cynulliad hwn pan gafodd ei greu, felly roeddwn ychydig yn bryderus o glywed nad yw gweledigaeth glir o gydraddoldeb o bosib yn ddealledig o fewn y Llywodraeth gystal â'r disgwyl. A oes gennych unrhyw bolisi mewnol ar y mater hwn? Does bosib nad oes gennych, oherwydd mae gan y Cynulliad ei hun bolisi, ond os oes gennych, a allwch chi ddweud a oes bylchau yn weladwy mewn unrhyw gyfarwyddiaeth arbennig neu faes polisi penodol, a beth fyddwch chi'n disgwyl, o'r weledigaeth a'r arweiniad, ei bennu yn union?
Gan droi at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, tybed a yw'r broses ar gyfer llunio'r rhain wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd. Cofiaf ddarllen dogfennau cyllideb ac yn sicr roedd adeg pan gyfeiriwyd at y rhain ac yna roeddent yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau. Felly, os bu unrhyw symudiadau ymlaen yn yr hyn a ystyrir yn ystod gwneud asesiadau effaith, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn i bawb gael gwybod hynny.
Nid wyf wedi gweld yr adroddiad ei hun—byddaf yn onest â chi—ond roedd gen i ddiddordeb mawr yn eich sylwadau ar graffu ac atebolrwydd, nid yn unig yn swyddogaeth y Cynulliad hwn—. Yn amlwg, swyddogaeth y Cynulliad hwn ydyw, ond mae gan gymdeithas sifil yng Nghymru fel cyfangorff ran enfawr i'w chwarae yma hefyd, yn enwedig ein cyfryngau. A oes gennych unrhyw bryderon y gallai rhai fod yn nerfus am feirniadu canlyniad polisi Llywodraeth Cymru, rhag ofn iddynt gael eu derbyn yn llai ffafriol ar gyfer cefnogaeth Cymru yn y dyfodol?
Ac yna, gan edrych ar brif ffrydio'r egwyddorion a'r offer, a grybwyllwyd gennych, hoffwn ddod yn ôl at faes arbennig o ddiddordeb i mi, sef y dewisiadau galwedigaethol sy'n tueddu i gael eu gwneud gan fenywod ifanc, ôl-16. Un o'r pethau yr oeddwn am sôn amdano yn benodol oedd y diffyg brwdfrydedd ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybr prentisiaeth i therapi galwedigaethol, fel sy'n bodoli yn Lloegr. Nawr, mae hwn yn faes gwaith sydd eisoes yn ddeniadol iawn i fenywod, a chredaf fod y diffyg llwybr prentisiaeth hwn mewn gwirionedd yn rhwystr i fenywod sy'n dod i faes gwaith lle, mewn gwirionedd, mae ganddyn nhw gyfle gyrfa enfawr, gyda digon o lwybrau i symud ymlaen o fewn y proffesiwn.
Yn yr un modd, rydym wedi trafod pwysau gan gymheiriaid o'r blaen, am y dewisiadau y mae menywod ifanc yn eu gwneud yn 16 oed. Ochr yn ochr ag unrhyw waith sy'n eu hannog i fynd i mewn i'r meysydd llai traddodiadol nag iechyd a harddwch a gofal cymdeithasol ac ati, sut fydd eich grŵp llywio yn ystyried hyrwyddo'n well y cyrsiau addysg bellach sydd yn draddodiadol yn denu menywod ifanc fel eu bod yn edrych ar hyn fel dechrau ar raglen yrfa uchelgeisiol, yn hytrach na dim ond derbyn disgwyliadau cyfyngedig, sy'n nodweddu rhai o'r cyrsiau hyn yn annheg efallai, rhaid i mi ddweud hynny, fel eu bod nhw'n edrych arnynt o safbwynt uchelgeisiol, yn hytrach na dim ond, 'Wel, dyma beth alla i ei wneud, oherwydd nid oedd fy nghymwysterau academaidd yn wych'? Diolch.
Cyfres o gwestiynau rhagorol iawn. Byddaf yn ceisio siarad amdanynt wrth inni fynd ymlaen. Ymddiheuriadau—cyhoeddwyd yr adroddiad heddiw. Nid wyf yn synnu o gwbl, felly, na chafodd Suzy Davies gyfle i'w ddarllen yn fanwl. Fodd bynnag, mae adroddiad cryno wedi'i gynnwys. Fe'i cyhoeddir ar wefan Chwarae Teg. Hefyd, mae atodiad polisi Cymru hefyd yn ddiddorol iawn o ran enghreifftiau rhyngwladol, os hoffech chi. Credaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud—ac rwyf wedi dweud hyn wrth gydweithwyr yn y Cabinet hefyd—wrth ddarllen yr adroddiad hwnnw, profais epiphani bron yn y ffordd yr oeddwn yn meddwl am rywedd. Mae'n ddiddorol iawn a gobeithio y bydd yr Aelodau yn gallu ei ddarllen.
Mae'r datganiad heddiw yn ddechrau proses, felly nid ydym yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad. Gallaf ateb rhai o'r cwestiynau o'r hyn y gwn bellach, ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw lansio adroddiad. Yr hyn yr wyf yn gobeithio'n fawr y gallwn ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cael sgwrs dda ar draws y Siambr hon a chymdeithas ddinesig, a'r gymdeithas gyfan yng Nghymru, am beth ar y ddaear i'w wneud am y peth. Yr epiphani yw hyn—yn y gwledydd Llychlyn a Nordig, maent yn dechrau o fan y cytunwyd arno bod menywod yn dioddef gwahaniaethu ar bob lefel mewn cymdeithas. Felly, yn amlwg, mae'r gwahaniaethu a ddioddefir yn cyfateb i'w safle yn y gymdeithas honno, felly bydd menyw ddosbarth canol â chroen gwyn yn dioddef llai o wahaniaethu na menyw o leiafrif ethnig neu fenyw anabl ac ati. Ond, serch hynny, mae'r gwahaniaethu hwnnw yno, o'i gymharu â'r gwryw cyfatebol. Felly, maent yn edrych ar bob un o'u polisïau, nid i weld nad ydynt yn gwahaniaethu, ond ar yr hyn y maent ei wneud i hyrwyddo achos cydraddoldeb, sef yr ochr arall. A chyn gynted ag y dechreuwch edrych arno fel hynny, mae'n edrych yn wahanol iawn. Felly, gofynnwch i chi eich hun nid 'A fydd y polisi hwn yn gwahaniaethu yn erbyn menywod?', oherwydd dyna beth y mae'n ei ddisgrifio fel niwtral o ran rhywedd. Mewn geiriau eraill, ni fydd yn gwneud dim am safle cymharol menywod ar hyn o bryd. Ni fydd yn gwahaniaethu yn eu herbyn, ond ni fydd yn eu hybu chwaith. Credaf fod angen cael sgwrs ynghylch a ydym am droi hynny y ffordd arall rownd. Felly, credaf fod hynny'n wahaniaeth gwirioneddol yn y ffordd y mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ei hun i ni. Ac wedyn, wrth i chi edrych ar ein polisïau drwy'r fframwaith hwnnw, maent yn edrych yn wahanol.
Rydym wedi gwneud yn dda iawn i ddileu gwahaniaethu. Yr hyn nad ydym wedi ei wneud yn dda yw hyrwyddo cydraddoldeb, a chredaf fod y rheini'n bwysig iawn. Felly, yn eich cyfres o gwestiynau, dyna beth yw'r weledigaeth glir. Nid yw'n fater o fod heb weledigaeth glir am atal gwahaniaethu, mae'n fater o fod heb weledigaeth glir ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, os ydych yn ei droi fel yna, yr holl ffordd drwyddo gallwch ei weld. Felly, pan edrychwch ar ein hasesiadau o effaith cydraddoldeb a'u troi, rydych chi'n cael canlyniad ychydig yn wahanol a pholisïau ychydig yn wahanol, ac mae hynny'n mynd yr holl ffordd drwyddo. Os ydych yn gwneud y gwaith craffu ar y sail honno, cewch ganlyniad gwahanol. Felly, mae'r adroddiad yn ddiddorol iawn, Llywydd, ac mae sail ynddo inni ei wneud yn wahanol, fel y gwna gwledydd sydd yn llawer mwy datblygedig na ni yn eu niferoedd o hyd, oherwydd nid oes unman yn y byd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, lle mae merched mewn gwirionedd yn gyfartal i'w cymheiriaid gwrywaidd yn y gymdeithas y maent yn byw ynddi.
Rydw innau hefyd yn croesawu cyhoeddi rhan gyntaf yr adolygiad rhywedd a pholisïau cyfartal, ond mae'n rhaid cydnabod, wrth gwrs, fod y gwaith yma yn un cyfyngedig ac mae'r ffocws ar brosesau'r Llywodraeth. Maen nhw yn bwysig ac mae materion fel asesiadau cydraddoldeb yn hollbwysig, ond mae o'n gyfyngedig, onid ydy, o ran hyrwyddo cydraddoldeb ar draws cymdeithas yng Nghymru, a hynny, yn y pen draw, sydd yn mynd i arwain at wlad lle mae merched yn gallu byw eu bywydau yn ddiogel a lle mae cydraddoldeb yn cael blaenoriaeth?
Rydw i'n cytuno â chi pan ydych chi'n dweud yn eich datganiad fod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae drwy arwain drwy esiampl fel cyflogwr ac fel gwneuthurwr polisi i greu newid parhaol. Mae argymhelliad 24 o'r adroddiad gan Chwarae Teg yn dweud bod angen i gam 2 ddechrau gyda thrafodaeth gyhoeddus er mwyn gosod gweithredoedd ymarferol—tangible actions—er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb. I mi, mae hwn yn argymhelliad pwysig. Oes, mae angen trafodaeth, ond, plis, nid un sydd yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Beth sy'n bwysig ydy gweithredu ar feysydd polisi allweddol, ac mae yna eisoes lwyth o dystiolaeth amdanyn nhw. Rydym ni'n gwybod yn barod beth sydd angen ymrafael ag o er mwyn creu gwelliant. Beth sydd eisiau ydy creu'r gwelliant yna.
Un o'r meysydd yna, wrth gwrs, ydy gofal plant, ac mae pawb yn cydnabod bod cael darpariaeth gofal plant rhad, safonol sydd ar gael ymhob rhan o Gymru yn allweddol i hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, rydych chi'n gwybod beth rydw i'n mynd i ofyn nesaf: a ydych chi'n credu bod cynnig gofal plant presennol eich Llywodraeth chi yn ffit i'w bwrpas? Tybed a oes angen ailystyried y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) sy'n mynd drwy bwyllgor ar hyn o bryd, oherwydd mae o'n ein symud ni tuag at un cyfeiriad penodol, ac mae rhanddeiliaid—y rhan fwyaf ohonyn nhw—yn dadlau bod y cyfeiriad hwnnw yn un anghywir, ac yn dadlau bod angen i'r cynnig gofal plant fod yn weithredol pan mae'r plentyn yn un oed, nid yn ddwy oed, ac mai hynny fyddai'n gwneud y gwir wahaniaeth er mwyn caniatáu i fwy o ferched ddod yn ôl i mewn i'r gweithle. Felly, y cwestiwn rydw i'n ei ofyn ydy: onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well oedi'r Bil, ailystyried, ac ailgyflwyno cynnig a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth rydym ni'n dymuno ei weld?
Yn troi at ail faes, tra bod yr adolygiad yma'n digwydd, a thra bydd Cam 2 yn digwydd hefyd, mi fydd y trafodaethau am Brexit yn parhau ac yn dwysáu, ac mae'n hollbwysig bod hawliau menywod yn cael eu cynnal a'u datblygu yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hawliau megis yr hawl i dâl cyfartal; hawl i amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau antenatal; hawliau yn y gweithle i fenywod beichiog neu i fenywod sydd ar gyfnod mamolaeth; iechyd a diogelwch menywod beichiog yn y gweithle; hawliau pensiwn ac ati—hawliau, fel rydych chi'n gwybod, sy'n deillio yn uniongyrchol o'n haelodaeth ni o'r Undeb Ewropeaidd, ond hawliau y mae perygl gwirioneddol iddyn nhw gael eu colli, o gofio'r hinsawdd gynyddol ymosodol yng nghylch hawliau rydym ni'n byw ynddi hi. Ac mae'n rhaid inni wynebu'r posibilrwydd yna y bydd yna ymgais i danseilio rhai o'r hawliau sydd wedi cael eu hennill hyd yma, heb sôn am drio rhwystro symud ymlaen a datblygu hawliau ymhellach. Un ffordd o ddiogelu'r hawliau yma fyddai i wreiddio egwyddorion cydraddoldeb yng nghyfraith Cymru: egwyddorion confensiwn Istanbwl a'r confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod, er enghraifft.
Felly, hoffwn i wybod, a chymryd y cyfle yma—. Rydw i'n gwybod fy mod i'n crwydro oddi wrth yr adolygiad, ond rydw i'n meddwl bod hwn yn bwysig yn y cyfnod rydym ni ynddo fo. A ydy'r Llywodraeth yn ystyried gwreiddio'r egwyddorion cydraddoldeb yn ein cyfraith ni yma yng Nghymru? Mae yna arbenigwyr, fel yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, o'r farn y byddai hi'n briodol i wneud hynny, ei bod hi o fewn ein cymhwysedd ni, ac efallai i gyflwyno Bil i ddiogelu hawliau menywod, a hawliau gweithwyr hefyd, wrth gwrs—Bil penodol Cymreig.
Rydych chi'n sôn yn—
Ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ydw. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad eich bod chi eisiau dangos gweledigaeth ac arweinyddiaeth yng Nghymru ar faterion rhywedd, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gwneud hynny. Rydw i'n meddwl y byddai dod â Bil ymlaen i ddiogelu ein hawliau ni fel merched yn ffordd dda iawn o ddangos y weledigaeth a'r arweinyddiaeth hynny. Diolch.
Ie. Cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn fan'na. O ran pam y mae'n gyfyngedig yn y ffordd y mae, ar gyfer cam cyntaf yr adolygiad, er mwyn ei gychwyn, gofynnwyd iddynt wneud adolygiad cyflym o'r Llywodraeth a'i pholisïau yn fwriadol, fel lle i ddechrau—dyna i gyd. Felly, yn amlwg, rydym eisiau ei dynnu allan oddi yno, ac mae'r argymhellion yn gwneud hynny'n glir. Fodd bynnag, ceir rhai argymhellion i ni, fel y dywedais, fel cyflogwr ac fel arweinydd polisi, i wneud yn siŵr bod ein tŷ ni ein hunain yn y cyflwr gorau y gall fod, er mwyn gallu bod yn esiampl. Byddai'n anodd iawn gofyn i rannau eraill o'n cymdeithas gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, er enghraifft, os nad ydym ni ein hunain yn gallu ei wneud. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau pwysig y gellir eu gwneud yn fewnol, os mynnwch, ond yna, yn amlwg, y syniad yw mynd ag ef allan i'r byd. Mae nifer fawr o argymhellion cam 2 yn ymwneud â hynny ac mae'r grŵp llywio a minnau yn croesawu swyddogaeth y grŵp trawsbleidiol ar fenywod wrth weithredu'r adolygiad hefyd, oherwydd yn y lle hwn, rwy'n credu, mae gennym lawer o bethau a rannwn ar draws y Senedd gyfan ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â hyn. Ac mae rhai pethau cyffrous iawn yma y bydd angen rhywfaint o sbardun i'w gwthio ymlaen.
Soniasoch am un neu ddau o bethau penodol iawn. Mae'r Bil ar y cynnig gofal plant, ar hyn o bryd mewn gwirionedd yn ymwneud yn unig â threfniadau Cyllid a Thollau EM ar gyfer profi cymhwysedd ar gyfer rhieni sy'n gweithio, felly dwi ddim yn credu bod hynny'n ein cyfyngu o ran yr hyn a wnawn ar y cynnig gofal plant. Mae hwnnw'n Fil gwahanol. Bydd craffu'r pwyllgor ar gyfer y Bil ar y cynnig gofal plant gwirioneddol yn ddiddorol iawn i'w weld. Rwy'n siŵr y byddwn yn ystyried amrywiaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid, ac ati, ac mae sgwrs i'w chael ynghylch beth yw'r ffordd orau ymlaen ar rai o'r cynigion. Credaf fod y cynnig yn ein maniffesto yn gynnig hael iawn, ond mae angen rhoi ystyriaeth lawn i faterion yn ymwneud â phob cynnig gofal plant.
O ran Brexit ac ymgorffori hawliau, rydym wrthi yn edrych i weld a oes modd cynnwys rhannau neu holl gonfensiwn Istanbul. Yn amlwg, nid y ni yw'r genedl-wladwriaeth, ond gallem ymgorffori hynny yn ein cyfraith, a hefyd holl stwff y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisiau dal ein gafael ar yr hawliau hynny a gwneud yn siŵr eu bod wedi'u hymgorffori yn ein cyfraith ni. Felly, mae ymgysylltiad yn digwydd gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch sut y gallwn gyflawni hynny yn ein deddfwriaeth ni, a'r ffordd orau o wneud hynny, a oes angen Bil ar wahân neu a oes modd ei wneud mewn ffordd arall. Bydd hynny'n rhan bwysig iawn o gam 2 hefyd, wrth inni symud ymlaen. Byddwn yn ceisio sefydlu grŵp llywio ochr yn ochr â grŵp trawsbleidiol ar fenywod, y gwn, Siân Gwenllian, yr ydych chi â diddordeb arbennig iawn ynddo, ochr yn ochr â Jane Hutt a Suzy Davies. Rwy'n gobeithio yn fawr iawn, y gallwn, gyda'n gilydd, gael consensws ynghylch sut i weithredu rhai o rannau cyffrous iawn yr adolygiad hwn.
Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn gallu pleidleisio mewn etholiadau seneddol, a 90 mlynedd ers inni gael y bleidlais ar yr un telerau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi dod ymhell yn y 90 mlynedd hynny, ond nid yw wedi dod yn ddigon pell. Mae bwlch enfawr rhwng cyflogau, rhwystrau diangen i fenywod gymryd swyddogaethau arwain allweddol, ac rydym yn dal yn brwydro casineb at wragedd yn ddyddiol.
Ffrwyth bioleg yw rhywedd ac ni ddylai fod yn berthnasol i gyfleoedd bywyd unigolyn. Yn anffodus, yn 2018, mae'n dal yn berthnasol. Gall menywod Cymru ddisgwyl ennill dros £1.80 awr yn llai na dynion. Dim ond 6 y cant o brif weithredwyr y 100 cwmni gorau, a llai na 14 y cant o'r prif weithredwyr llywodraeth leol sy'n fenywod. Menywod yw 51 y cant o boblogaeth Cymru, ac eto dim ond 42 y cant o uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru. Dim ond 28 y cant o gynghorwyr lleol sy'n fenywod. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n anelu at wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond fel yr amlygwyd gan yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, nid ydynt yn gweithio'n ddigon da.
Ni fydd deddfwriaeth yn mynd i'r afael â chasineb at wragedd. Ni fydd gwahaniaethu cadarnhaol yn dileu rhagfarn. Rhaid inni newid agweddau. Rhaid inni ddangos i'r byd nad yw'n iawn gwneud sylwadau ar ymddangosiad menyw yn hytrach na'r hyn y mae'n ei ddweud. Rhaid inni ddangos i'r byd nad yw dynion yn well na merched, y gall merched wneud unrhyw beth y gall bechgyn ei wneud; a rhaid inni ddangos i'r byd na oddefir bygwth treisio rhywun ar Twitter.
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau ar eich datganiad. Arweinydd y tŷ, sut y byddwch chi'n sicrhau y cymerir camau ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y Llywodraeth? A pha drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg am y camau y gall hi eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ynghylch bod yn ddall o ran rhywedd, ac annog merched a bechgyn ifanc i herio stereoteipiau? Ni ddylai fod y fath beth â swydd dyn neu swydd menyw. Dylai pobl ifanc fod yn rhydd a chael eu hannog i wneud pa bynnag swyddi a ddymunant. Yn olaf, arweinydd y tŷ, pryd fyddwch chi mewn sefyllfa i amlinellu amserlenni ar gyfer cwblhau cam 2?
Mae gennym oll ran i'w chwarae i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rhaid inni ymladd casineb yn erbyn gwragedd, herio trais domestig, a herio stereoteipiau rhywedd. Nid ffeministiaeth yw hynny, dyneiddiaeth yw hynny. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu mewn unrhyw ffurf. Diolch yn fawr.
Wel, diolch yn fawr am y sylwadau hynny. Roeddwn yn cytuno'n llwyr â llawer ohonynt. Credaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn werth sôn am ddyfyniad gan ferch ifanc a oedd gyda ni yn sefyll y tu allan gyda phlac Val Feld, a ddywedodd ei bod yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddai cael ei chanmol am ei ffigur yn cyfeirio at ei chyrhaeddiad mewn mathemateg ac nid at siâp ei chorff. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth sy'n werth ei gofio, ac rydym ymhell oddi wrth hynny, rwy'n ofni.
Ond credaf hefyd ei bod yn werth dyfynnu ychydig o'r adroddiad—ac rwy'n sylweddoli na fydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen o gwbl hyd yn oed, neu yn sicr ddim yn fanwl—oherwydd fy mod yn credu bod yr epiphani hwn y siaradais amdano'n gynharach yn crynhoi hyn. Felly, mae'n dweud:
Mae dull niwtral o ran rhywedd yn rhagosod trin dynion a menywod yr un fath, nad yw'n arwain at gydraddoldeb canlyniad ar gyfer dynion a menywod. Disgrifir y dull hwn yn aml fel "bod yn ddall o ran rhywedd". Mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei ddiffinio fel anallu i ganfod bod gwahanol swyddogaethau rhywedd, angen, cyfrifoldebau dynion, menywod, bechgyn a merched, ac o ganlyniad methiant i sylweddoli y gall polisïau, rhaglenni a phrosiectau gael effaith wahanol ar ddynion, menywod, bechgyn a merched.
Credaf fod hynny'n crynhoi'r adroddiad. Felly, mae'n union fel y dywedais mewn ymateb i Suzy Davies: Os ydych yn gwrth-droi'r ffordd yr ydych yn meddwl amdano ac yn dweud nad niwtraliaeth o ran rhywedd yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano; rydym yn edrych am gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac nid yw hynny'r un peth, oherwydd nid ydym yn gyfartal pan fyddwn yn dechrau. Felly, mae polisi sy'n niwtral o ran rhywedd yn arwain at yr un anghydraddoldeb ar yr ochr arall ag yr oedd pan ddechreuodd. Dyna'r sbardun, mi gredaf, ar draws y Llywodraeth.
Yn amlwg, rydym wedi mynd â'r adroddiad hwn drwy'r Cabinet cyn imi wneud fy natganiad llafar. Cawsom sgwrs gadarn yno am yr hyn y gellir ei wneud. Wrth fynd â cham 2 ymlaen ac wrth ddatblygu ein hymateb llawn i hyn, a roddaf i'r Senedd yn yr Hydref, byddwn yn sôn am beth y gall pob Ysgrifennydd Cabinet a'u hadrannau gyfrannu at hyn. Ceir argymhellion yn yr adroddiad, nad wyf eto wedi gallu eu trafod gyda phob rhan o'r strwythur hwn o Lywodraeth, os gallaf ei alw'n hynny. Mae rhai ohonynt ar gyfer y Comisiwn. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â'r ffyrdd y mae pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ati. Dyna pam yr oeddwn yn siarad am y gweithgor trawsbleidiol yn datblygu rhai o'r rheini. Bydd angen inni ddod o hyd i rai strwythurau ar gyfer sut i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o hynny, a'r holl weledigaeth gliriach honno, nid yn unig i'r Llywodraeth ond ar draws cymdeithas ddinesig—credaf fod Siân Gwenllian wedi canolbwyntio ar hynny yn fawr iawn hefyd—ein bod yn derbyn lle'r ydym yn dechrau ac yna'r hyn yr ydym eisiau ei wneud i symud ymlaen. Credaf fod hynny yn hanfodol ar gyfer hynny.
O ran canlyniadau, rydyn ni'n disgwyl cyrraedd pwynt lle mae modd cytuno ar sut i ddatblygu hyn ymhen y flwyddyn. Rwyf eisiau egluro'r hyn a olygaf gan hynny. Yn amlwg, dwi ddim yn disgwyl y byddwn wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhen y flwyddyn. Gresyn na allwn ddisgwyl hynny, ond yn amlwg ni allwn. Yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw sefydlu rhaglen gynhwysfawr yn ein bywydau yng Nghymru ymhen y flwyddyn, yr ydym i gyd yn cytuno arni ac y gallwn ei datblygu.
Gaf i groesawu eich datganiad, arweinydd y tŷ, ar yr adolygiad rhywedd? Mae'n arbennig o berthnasol i eleni, gyda chanmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Ddydd Sadwrn diwethaf, siaradais mewn digwyddiad dysgu oedolion, a fy thema oedd: 'Enillon ni'r bleidlais 100 mlynedd yn ôl. Dewch inni ennill cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru heddiw.'
Roedd yr opera Rhondda Rips it Up, y gwelodd rhai ohonom ni hi— opera Opera Cenedlaethol Cymru—yn dweud wrthym am fywyd Margaret Mackworth, neu Arglwyddes Rhondda fel y daeth hi i fod, a osododd y blwch post yng Nghasnewydd ar dân fel rhan o'i phrotest fel swffragét. Cafodd ei hanfon i'r carchar ac aeth ar streic newyn, ond rhyddhawyd hi dan Ddeddf y gath a'r llygoden. Y brif thema ar ddydd Sadwrn, unwaith yr oeddem wedi sôn ychydig am swffragetiaid yn ein cymunedau a ffigurau hanesyddol a gafodd effaith o'r fath ac a'n galluogodd i fod yno ac i drafod y ffordd ymlaen—. Y prif bwynt trafod ddydd Sadwrn oedd ar faterion sy'n ymwneud â Chymru heddiw, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a dyna lle bydd fy nghwestiynau yn codi mewn perthynas â'ch adolygiad.
Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiadau a gyhoeddwyd gennych heddiw. Nid wyf ond wedi gallu darllen crynodeb adolygiad rhywedd Chwarae Teg. Ond yn arbennig, gwnaed argraff arnaf gan faniffesto Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, ac mae hynny'n datgan bod ganddo—y maniffesto a'r rhwydwaith—weledigaeth ar gyfer Cymru lle caiff pob menyw a merch ei thrin yn yr un modd, byw yn ddiogel rhag trais ac ofn, ac yn gallu cymryd rhan yn llawn yn yr economi. Felly, arweinydd y tŷ, ydych chi'n credu y bydd canlyniadau'r adolygiad rhywedd, cam 1 ac yna symud ymlaen i gam 2, yn ein helpu i symud i gyflawni—? Ni allwn ond symud, cymryd camau i gyflawni'r weledigaeth honno. Rydym yn cydnabod hynny. A fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau a amlygwyd yn y maniffesto hwnnw?
Mae'n werth edrych unwaith eto ar yr anghydraddoldebau hynny. Mae 55 y cant o ferched saith i 21 oed yn dweud bod stereoteipio ar sail rhyw yn effeithio ar eu gallu i ddweud eu barn. Mae 52 y cant o fenywod yn adrodd am ddioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Rydym yn gwybod bod gennym gyfrifoldeb, nid yn unig y Llywodraeth ond yma yn y Cynulliad hwn i fynd i'r afael â'r materion Me Too sydd wedi dod allan eleni. Bydd un o bob tair menyw yng Nghymru yn dioddef trais corfforol neu rywiol ar ryw adeg yn eu bywydau. A'r un sydd mor anodd inni i fynd i'r afael ag ef, ac na allwn ymdrin ag ef ar ein telerau ein hunain o ran Llywodraeth Cymru: mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 15 y cant yng Nghymru. Mae tâl fesul awr cyfartalog menywod yng Nghymru yn £10.57, o'i gymharu â £12.75 ar gyfer dynion. A ydych yn credu y bydd eich adolygiad yn ein helpu i symud ymlaen o ran sicrhau ymrwymiad i haneru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, fel y cynigir gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn eu maniffesto? Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru—yn wir, mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb yma—a sut y gallwn ymdrin â hynny'n uniongyrchol?
Yn awr, rydych wedi dweud, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, bod Siân Gwenllian a minnau yn cyd-gadeirio, a Suzy Davies yn ogystal—y grŵp trawsbleidiol newydd ar fenywod. Ddydd Iau croesawyd Laura McAllister i siarad ar ei phanel arbenigol ar 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Rwy'n falch o weld yr argymhelliad yn adroddiad cryno cam 1 Chwarae Teg, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer gweithredu'r panel arbenigol ar gyfer diwygio'r Cynulliad. Wel, gwyddom, unwaith eto, mai mater i'r Cynulliad yw bwrw ymlaen â hyn. Gobeithiaf y bydd yr adolygiad rhywedd yn ein galluogi i fynd â hyn ymlaen o ran rhai o'r argymhellion sy'n canolbwyntio ar y rhywiau, a byddwn yn sôn am adennill cynrychiolaeth 50/50 dynion a menywod yn y Cynulliad hwn. Cyflawnwyd hynny yn 2003. Rhaid i ni adennill hynny, ac os yw hynny'n cynnwys edrych ar yr argymhellion hynny ynghylch cwotâu, rhannu swyddi, yna felly y bo. Mae angen inni symud ymlaen.
Yn olaf ar y maes hwn, rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â melltith trais yn erbyn menywod yng Nghymru, ond mae realiti trais yn erbyn menywod yn llym. Rwyf yn noddwr ar Atal y Fro, fy grŵp Cymorth i Fenywod lleol a Bawso. A allwch fy sicrhau y bydd yr argymhellion yn yr adolygiad rhywedd yn cael eu datblygu? Rwy'n meddwl bod hyn yn berthnasol i'r pwynt a wnaethoch yn eich datganiad am wneud gwell defnydd o ysgogiadau Llywodraeth. Gallwn gael deddfwriaeth, gallwn gael arian, gallwn gael polisi y byddwn yn ei gymeradwyo, ond mae'n ymwneud â sut y defnyddiwn y liferi hynny o'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn rhoi rhywedd wrth wraidd ein polisïau. A allwn ni weld newid sylweddol yn Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn? Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys yr argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a, lle bo angen, atgyfnerthu deddfwriaeth a dyletswyddau presennol, gan gynnwys Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (2015).
Felly, yn olaf—mae'n ddrwg gennyf, diolch i chi, Ddirprwy Lywydd—mae llawer mwy y gallwn ei ddatblygu, ond byddwn yn falch iawn ar gyfer yr hyn y gobeithiaf y cytunir arno yn ein grŵp trawsbleidiol, y gallwn eich helpu chi i ddatblygu hyn o ran yr adolygiad rhywedd.
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau a sylwadau. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedasoch. Mae llawer i'w ystyried yn yr adroddiad. Roeddwn am gyflwyno hyn i'r Aelodau fel y gallant weld yr adroddiad fel y mae. Nid ydym eto wedi ymateb yn ffurfiol. Byddwn yn gwneud hynny yn yr hydref. Byddwn yn croesawu'n fawr iawn ymwneud y grŵp trawsbleidiol yn hynny, oherwydd credaf fod hon yn agenda, Dirprwy Lywydd, yn amlwg na all y Llywodraeth ei chyflawni ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid inni gytuno yn drawsbleidiol yma ar gyfres o bethau i fynd ymlaen er mwyn mynd â chymdeithas ddinesig, cymdeithas yn gyffredinol, gyda ni. Oherwydd fel arall nid ydym hyd yn oed yn mynd i allu cychwyn.
Mae gennym ddeddfwriaeth arloesol, yr ydym yn iawn i fod yn falch iawn ohoni. Mae wedi chwarae ei rhan, mae'n gwneud y datganiadau, mae'n cychwyn y camau gweithredu, ond mae angen mwy na hynny. Mae angen ymchwydd barn arnoch. Mae angen yr hyn sydd yng ngwledydd Llychlyn arnoch: derbyniad absoliwt yn gyffredinol fod hyn yn rhywbeth y mae'r wlad yn dymuno mynd i'r afael ag ef.
Felly, dim ond i gymryd rhai o'r manylion a grybwyllwyd gan Jane Hutt, mae'r rhain yn gylch o broffwydoliaethau hunangyflawnol, mewn gwirionedd. Mae merched yn gwneud dewisiadau ar sail rhywedd oherwydd maent yn disgwyl bod yn brif ofalwyr yn eu cartref. Un o'r argymhellion yn yr adroddiad yr wyf yn edrych ymlaen at ei archwilio yw y dylem ystyried y gofal di-dâl sy'n digwydd yn economi Cymru o ran ein gwerth ychwanegol gros. Mae hwnnw'n rhywbeth diddorol iawn, oherwydd rydym yn gwybod bod y merched ifanc sy'n rhanddeiliaid a gafodd eu cyfweld fel rhan o'r broses hon yn gwybod y bydd eu dyheadau yn cael eu llywio gan eu hangen i fod yn brif ofalwr, oherwydd nid ydym wedi symud yr agenda honno o gwbl. Rydym hefyd yn gwybod bod anfantais economaidd yn chwarae rhan—nid yr unig achos, ond mae'n chwarae rhan—mewn trais rhywiol. Gwyddom fod dyheadau rhywedd yn effeithio ar ddewisiadau pobl. Rydym yn gwybod bod y pethau hyn yn digwydd. Mae angen ymgyrch fawr i dderbyn fel cymdeithas ein bod yn dymuno gwneud rhywbeth am hynny, a datblygu modelau rôl sy'n caniatáu i hynny ddigwydd.
Dirprwy Lywydd, gwn eich bod yn rhannu gyda mi y rhwystredigaeth fod hon yn sgwrs yr ydym yn dal i'w chael. Cawsom y sgwrs ein hunain fel merched ifanc, a dylem fod yn symud ymlaen â hyn. Felly, nid oes gennyf gywilydd sefyll yma a dweud nad yw'r holl atebion i hyn gennyf. Ond, rhyngom ni, gyda'n gilydd, gallwn symud yr agenda hon ymlaen.
Diolch. Rydym wedi cael siaradwr o bob un o'r partïon mawr. Gallaf yn awr—? Ar gyfer gweddill y siaradwyr—mae sawl un o hyd—bydd cyflwyniad byr ac un cwestiwn fel bod cyfle i bawb. Bethan Sayed.
Ceisiaf fod yn gryno. [Chwerthin.] Yn eich maniffesto 2011, roedd adran lle'r oedd Llafur yn amlinellu'r hyn yr oeddent am ei wneud i wneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn realiti ac arwain at newidiadau sylweddol o ran diwylliant, nid yn unig o fewn y Llywodraeth, ond hefyd yn y sector preifat. Dwi ddim yn teimlo bod hyn wedi'i wneud i lefel ddigon sylweddol. Rwy'n gwerthfawrogi eich ymrwymiad personol, ond mae'n swnio i mi fel nad ydych erioed wedi bod mewn Llywodraeth am faint bynnag sydd o flynyddoedd yn ôl y ffordd yr ydych yn siarad yma heddiw.
Cafwyd addewidion, er enghraifft, i sicrhau bod penodiadau cyhoeddus o leiaf 40 y cant o fenywod. Roedd hyn yn ôl yn 2011. Pa mor dda mae hyn yn mynd? Roedd ymrwymiadau ar ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i sicrhau bod cyflogwyr yn nodi meysydd gwendid mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i gymryd camau i ymdrin â hyn. Mae gwahaniaethu ar sail mamolaeth yn y sir hon yn codi. Ystyrir bod gweithio hyblyg yn fater ymylol o hyd. Credaf fod y dyfyniad o'r adroddiad ger ein bron yn glir lle mae'n dweud bod diffyg uchelgais amlwg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gwneud datganiadau cyffredinol uchelgeisiol ond nid ydym yn gweld cyflawni yn dilyn o hynny. Felly, mae cael y Prif Weinidog yn awr, ar ddiwedd ei gyfnod, yn dweud wrthyf ei fod am gael Llywodraeth ffeministaidd yn rhywbeth, a dweud y gwir, rwy'n ei gymryd â phinsiad o halen, oherwydd dylem fod wedi gweld hyn yn digwydd ynghynt. Ni ddylai merched fod yn y sefyllfa hon yn awr. Pe byddai ei Lywodraeth ffeministaidd yn gweithredu pan ddyfarnwyd ei swyddogaeth fel Prif Weinidog iddo, yna ni fyddem yn cael yr union ddadl hon yma heddiw.
Hoffwn hefyd ofyn pam na chafodd yr adolygiad hwn ei roi i dendr yn y lle cyntaf. Rwyf wedi ysgrifennu atoch am hyn, a gwn nad yw o fewn eich maes i orfod gwneud hynny. Ond, o ran sicrhau bod yn agored mewn Llywodraeth, credaf ei fod yn rhywbeth y dylid bod wedi ei ystyried a byddem yn eich annog i wneud hyn ar gyfer cam 2. Nid yw cael dau gyfarfod—un yn y de ac un yn y gogledd—am £44,000 o arian Llywodraeth Cymru yn rhywbeth y credaf sy'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, ac, yn benodol, ymddengys nad ydym yn gwybod faint o bobl sy'n cymryd rhan, amrywiaeth y bobl dan sylw, sut y gwnaethant eu hargymhellion, ac mae'r rhain yn argymhellion y gwyddem amdanynt beth bynnag fwy na thebyg.
Felly, byddaf yn gorffen drwy ddweud—. Wel, dywedodd Siân Gwenllian fod angen inni weld gweithredu yn awr. Byddai'n well gennyf i gael mwy o weithredu na mwy o adolygiadau, oherwydd gwyddom beth yw'r materion, ac mae'n rhaid inni eu rhoi ar waith.
Wel, cytunaf yn llwyr fod angen inni gael mwy o weithredu. Mae'n ddrwg gennyf fod Bethan Sayed yn teimlo y ffordd y mae am y peth. Rwy'n credu ein bod wedi rhoi sylw, mewn gohebiaeth, i faterion yn ymwneud â chaffael. Yr holl bwynt ynghylch hyn, Dirprwy Lywydd, oedd ein bod yn dymuno cael adolygiad cyflym. Gallwn fod wedi mynd i gaffael chwe mis a byddem wedi cael llawer mwy o amser. Roeddem eisiau gwneud rhywbeth yn gyflym i wneud yn siŵr y gallem dynnu’r camau gweithredu y mae'n siarad amdanynt at ei gilydd.
Rydym wedi cyflawni tipyn ers 2011 yn y Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon. Rydym wedi gwneud llawer iawn o ran deddfwriaeth ac o ran agwedd. Yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud yw y gallem wneud mwy. Ac, fel y dywedais yn gynharach yn fy nghyflwyniad, mae'n eithaf amlwg nad ydym wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond hefyd yr hyn sy'n amlwg yw nad oes cenedl ar y blaned sydd wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gennym lawer i'w ddysgu gan y gwledydd eraill hynny, ac nid oes gennyf gywilydd dweud y byddwn yn dwysáu ein hymdrechion yn hynny o beth.
Rwyf wedi darllen drwy adolygiad cyflym Chwarae Teg ac rwy'n falch o weld bod arweinydd y tŷ yn cael ei chanmol am ei harweinyddiaeth a'i hangerdd dros gydraddoldeb, ac roeddwn am godi ambell bwynt cyflym.
Yn gyntaf, mae argymhelliad y dylai fod pwyllgor menywod a chydraddoldeb o'r Cynulliad, a oedd yn ymddangos i mi yn ffordd dda o symud ymlaen. Tybed beth oedd hi'n feddwl am hynny. Ceir cryn dipyn ynghylch absenoldeb rhiant a rennir a'r defnydd isel iawn ohono ledled y DU. Ac mae'n broblem gyffredinol. Ond tybed a yw arweinydd y tŷ wedi cael cyfle i ddarllen am arferion Sweden a sut y maent yn ceisio symud tuag at absenoldeb o bum mis ar gyfer dynion. A tybed a oedd ganddi unrhyw sylw ar hynny.
Ac yna asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb—sy'n gwbl hanfodol. Ond y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn y dogfennau hyn, fe ymddengys, yw y cânt eu gweld fel ymarfer ticio blychau. Ac rydym wedi cael newidiadau eithaf anodd i grantiau, er enghraifft, ar gyfer y gwasanaeth addysg i Deithwyr, yr wyf wedi ei godi sawl gwaith, ac mae'n anodd canfod beth oedd ansawdd yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb os, yn wir, y digwyddodd unrhyw beth. Felly, a fydd arweinydd y tŷ yn edrych ar yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb i weld eu bod yn cael eu defnyddio'n ystyrlon?
Ac, yn olaf, croesawaf y dull strategol a ddefnyddir.
O ran absenoldeb rhiant a rennir, ceir rhai argymhellion da yma, y mae angen inni eu trafod, yn amlwg, gyda'r gwasanaeth sifil yn Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn fel y ddau gyflogwr mawr yn yr adeilad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Yn fy ymateb ffurfiol i hyn yn yr hydref, byddwn yn cyflwyno canlyniad rhai o'r trafodaethau hynny. Nid wyf wedi'u cael nhw eto, Dirprwy Lywydd, felly nid wyf mewn sefyllfa i ddweud; rydym wedi cael yr adroddiad hwn i'r Cynulliad cyn gynted â phosib. Ond mae rhai astudiaethau achos diddorol iawn ac ati yma, ac rwyf yn gobeithio'n fawr eu harchwilio.
O ran yr asesiadau effaith, rydym yn symud at ffurf wahanol o asesu'r effaith ar gydraddoldeb, ac yn wir asesiad effaith gyfunol ar draws y Llywodraeth i nifer o ddarnau. Ond, fel y dywedais yn fy ymateb i Suzy Davies ar y dechrau, credaf fod gwahaniaeth rhwng gofyn a yw'r polisi'n effeithio ar fenywod mewn unrhyw ffordd ac a yw'n gwella cydraddoldeb menywod, a dwi ddim yn credu ein bod wedi gwneud yr ail beth hwnnw o gwbl, mewn gwirionedd. Ond mae'n rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn rhan annatod o'n hasesiadau cydraddoldeb cyfun yn y dyfodol.
Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau gyfarfod yr wythnos nesaf o'n grŵp cyllideb cydraddoldeb—badge neu bage neu rywbeth, ni allaf gofio; BAGE yw e, ynte—ac rwy'n gobeithio trafod rhai o'r materion hynny hefyd, ac, fel y dywedais, fel rhan o'r gweithgor trawsbleidiol wrth symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael consensws ar beth yn union yw rhagorol, wrth symud yr agenda hon yn ei blaen.
Wel, 90 mlynedd ar ôl i bob menyw gael y bleidlais, nid ydym wedi'i defnyddio mor dda â hynny i wneud y newidiadau angenrheidiol wrth hyrwyddo cydraddoldeb economaidd menywod. Mae hynny'n ymwneud yn benodol â phrif swyddogaeth menywod yn gofalu am blant, oherwydd mae merched a dynion yn derbyn yr un tâl fwy neu lai hyd nes bod ganddynt blant. Ar ôl cael plant—ar gyfer y rhan fwyaf o fenywod mae'n fater o suddo i fyw mewn tlodi. Mae lefel y gwahaniaethu a ddatgelwyd yn ein hymchwiliad gwaith mamolaeth, y byddwn yn ei thrafod ar ôl y toriad, yn dangos bod hyd yn oed gyfreithwyr cyflogaeth yn gwahaniaethu yn erbyn menywod. Anhygoel.
Felly, yn amlwg mae'n rhaid inni wneud rhywbeth, ac rwy'n hoff iawn o'r weledigaeth sydd yn natganiad Chwarae Teg, y datganiad cam 1, bod yn rhaid i Gymru fod yn arweinydd byd ar gyfer yr holl fenywod a merched. Yn hollol, mae'n rhaid inni, ond mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud. Yn amlwg, mae menywod yn tueddu i fod mewn swyddi cyflog isel dim oriau, a dynion yn y swyddi sy'n talu'n well o lawer. Hoffwn ganmol gwaith Sarah Jones, sy'n gadeirydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Dim ond 12 y cant o fyfyrwyr peirianneg a thechnoleg sy'n ferched ac mae llawer iawn o waith i'w wneud gyda merched ysgol i sicrhau eu bod yn credu fod hon yn yrfa y gallant ei dilyn, oherwydd nid yw bod yn beiriannydd yn ymwneud â nerth bôn braich; mae'n ymwneud â sgiliau trachywir.
Felly, yn amlwg mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud. Mae gennym ddeddfwriaeth ragorol; ond nid ydym mor wych am ei gweithredu. Felly, rwy'n wirioneddol gobeithio y byddwn yn symud cam 1 yr adolygiad hwn ymlaen ac yn mynd i'r afael â'r brycheuyn yn ein llygaid ein hunain cyn inni ddechrau mynd i'r afael â'r trawst yn llygaid pobl eraill.
Ie, credaf fod hwnnw'n bwynt ardderchog. Fel y dywedais, mae llawer y gallwn ei wneud i roi trefn ar ein tŷ ein hunain. Mae'r adroddiad yn rhoi llawer iawn inni gnoi cil arno. Pan fydd cyfle gennych i'w ddarllen yn drylwyr, mae'r drafodaeth ynghylch absenoldeb mamolaeth a thadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir ac ati, yn un wnaeth daro tant gyda mi mewn gwirionedd. Oherwydd, yn sicr, rhaid inni sicrhau y gall menywod sy'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant wneud hynny, ond hyd nes inni symud i sefyllfa lle mae'r dynion yn cymryd cyfran gyfartal o hynny bydd menywod bob amser dan anfantais, oherwydd, cyn gynted ag y byddwch yn tybio mai'r fenyw yw'r gofalwr, yna bydd y ferch ifanc honno yn tybio hynny wrth iddi wneud ei dewisiadau i'r dyfodol. Rydym yn gwybod o'n cyfarfodydd rhanddeiliaid mai dyna sy'n digwydd, ac felly maent eisoes yn diystyru eu hunain ar gyfer y gyrfaoedd a allai olygu anhawster gyda hynny, oherwydd maent yn gwybod yn anochel na fyddant yn gallu gwneud hynny. Ac mae'n anodd iawn iddynt ddweud fel arall pan mae'r holl ystadegau yn dangos hynny iddynt. Felly, mae rhai pethau ar y cyd, fel y dywedais, hyd yn oed yng ngwledydd Llychlyn, sydd wedi bod yn llawer mwy blaengar yn edrych ar hyn ers blynyddoedd lawer, maent wedi cofnodi deunydd darllen sy'n brofiad syber am rai o'r mannau y mae'n rhaid iddynt fynd yno o hyd.
Ond cytunaf yn llwyr fod angen inni roi trefn ar ein tŷ ein hunain a bod yn enghraifft ddisglair, fel y dylem fod, ac rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau hynny gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ac eraill dros yr haf fel y gallwn ymateb o ran hynny yn yr hydref.
Diolch. Ac, yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Ar ôl cyfarfod â chi neithiwr, cafodd Jan Logie, Is-Ysgrifennydd Seneddol yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth Seland Newydd, ei chroesawu gennyf i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant mewn cyfarfod bord gron i drafod trais ar sail rhywedd ac atal. Yn amlwg, mae elfen ryngwladol yn ogystal ag elfen genedlaethol i hyn, a gallwn ddysgu a symud ymlaen gyda'n gilydd drwy ymgysylltu â'n gilydd. Ond ar lefel ddomestig—ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn am hyn o'r blaen—yn ystod tymor diwethaf llywodraeth leol, roedd fy ngwraig, a oedd yn gynghorydd sir bryd hynny, yn destun ymgyrch fwlio casineb yn erbyn gwragedd, rywfaint ohono ar-lein, gan ddirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint. Awgrymodd yr ombwdsmon gyfryngu lleol a chytunwyd ar rai camau gweithredu, ond dywedwyd wrth fy ngwraig pan dorrodd y dirprwy arweinydd ei addewid i ymddiheuro'n gyhoeddus yn y Siambr, mai'r unig gam gweithredu y gallai hi ei gymryd oedd gwneud cwyn ffurfiol i'r ombwdsmon. Erbyn hynny, roedd hi'n dioddef gorbryder ac iselder difrifol, ac mae'n dal heb adfer yn llawn. Ac, wrth gwrs, mae'r unigolyn hwnnw yn dal yn ddirprwy arweinydd y cyngor. Pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod cyrff fel awdurdodau lleol yn cadw trefn ar eu tai eu hunain, ac nad oes angen i'r dioddefwr geisio gwneud iawn?
Heb grybwyll yr amgylchiadau penodol, mae'n amlwg bod angen rhoi sylw i effaith hyn a sut y mae modd ei orfodi. Rwy'n falch iawn o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru ac agweddau Cymreig penodol hynny, ond mae angen rhoi sylw i'r hyn y dylem ni ei wneud os na chydymffurfir â hynny. Gallai rhai o'r adroddiadau fod yn well. Mae'r rhain yn bethau yr ydym ni'n dysgu wrth fynd rhagddom. Felly, bydd hi'n bwysig iawn, iawn inni ddysgu gwersi—. Wyddoch chi, mae bod â'r ddeddfwriaeth yn iawn, ond beth ydych chi'n ei wneud os gaiff ei thorri, neu beth yw ei heffaith, beth ydych chi'n ei wneud am—? Wyddoch chi, mae gennym ni wasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghymru, ond mae gennym ni rai sy'n llusgo'u traed. Bydd yr hyn y gallwn ni ei wneud ynghylch hynny yn rhan o'r adolygiad hwn, a byddwn i'n croesawu'n fawr iawn eich cyfraniad chi at hynny, Mark Isherwood.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 5 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion), a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6760 Mark Drakeford
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y cynnig ac am ei adroddiad. Mae'r pwyllgor yn credu nad oes rhwystr i'r Cynulliad gytuno i'r cynnig.
Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) ar 23 Mai i gyflwyno nifer o fesurau ardrethu annomestig yn dilyn cyhoeddiad yng nghyllidebau a datganiadau hydref y Canghellor. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau penodol i gyflwyno mesur ar gyfer adeiladau sy'n cael eu defnyddio fel meithrinfa blanhigion, neu sy'n rhan o adeilad o'r fath. Bwriad y darpariaethau yn y Bil yw parhau i eithrio'r adeiladau hyn rhag ardrethu annomestig yng Nghymru a Lloegr wedi i benderfyniad y llys apêl wyrdroi dull blaenorol Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae'r Mesur hwn yn sicrhau y bydd talwyr ardrethi ar gyfer meithrinfeydd planhigion yn parhau i beidio â thalu ardrethi annomestig. Bydd y gyfraith yn cydfynd â dull gweithredu blaenorol Asiantaeth y Swyddfa Brisio a pholisi'r Llywodraeth, gyda'r bwriad polisi o eithrio tir a ddefnyddir ar gyfer dibenion amaethyddol a garddwriaethol o ardrethi.
Rwyf o'r farn bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er hynny, rwy'n fodlon y dylai'r darpariaethau hyn gael eu gwneud yn y Bil ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn mynd ati yn yr un ffordd i ymdrin â meithrinfeydd planhigion ar draws y ddwy wlad. Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig ac yn gofyn i'r Cynulliad gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl hon. Felly, y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl ar gyllideb atodol gyntaf 2018-19, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6748 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 19 Mehefin 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig arferol ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cyfyng ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Un o natur weinyddol yw hi'n bennaf. Mae hi'n rheoleiddio nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn a throsglwyddiadau rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roesom ni i Drysorlys Ei Mawrhydi. Serch hynny, mae hi'n cynrychioli rhan bwysig o system gyllideb a chraffu y Cynulliad Cenedlaethol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon a'r adroddiad a ddarparwyd ganddo gyda'i saith casgliad a gyhoeddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf. Fe wnaf i ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad hwnnw, wrth gwrs, yn y ffordd arferol.
Mae nifer o'r newidiadau a nodir yn y gyllideb atodol gyntaf hon yn rheoleiddio'r sefyllfa o ran dyraniadau o'r cronfeydd cyfalaf a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ddadl ar y gyllideb derfynol ac yn rhan o adolygiad man canol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r dyraniadau hyn yn defnyddio cyfalaf cyffredinol a chyllidebau cyfalaf trafodion ariannol. Dyrennir dros £70 miliwn i brif grŵp gwariant y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i gefnogi gwelliannau i'r GIG, megis gwasanaethau newyddenedigol yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ac i helpu i gael fflyd ambiwlans newydd i Gymru. Caiff tri deg-pum miliwn o bunnoedd ei ddyrannu i'r portffolio addysg i gyflymu'r gwaith o weithredu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac i dreialu model newydd ar gyfer canolfannau dysgu, yn enwedig mewn cymunedau yn y Cymoedd.
Caiff mwy na £55 miliwn ei ddyrannu i MEG trafnidiaeth a'r economi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun teithio llesol integredig, datblygiadau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r Cymoedd Technoleg, band eang y genhedlaeth nesaf a gwella profiad pobl sy'n ymweld â safleoedd Cadw. Gwnaed nifer bach o ddyraniadau o'r cronfeydd refeniw wrth gefn yn y gyllideb atodol hon, gan gynnwys £7.2 miliwn drwy'r gordal iechyd mewnfudo, £5 miliwn i gefnogi cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, £1.8 miliwn i ehangu'r grant datblygu disgyblion, a fydd yn disodli'r grant gwisg ysgol, a £1 miliwn i barhau â theithiau bws am ddim dros y penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru. Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r cronfeydd refeniw wrth gefn yn £129 miliwn, gyda'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £126 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol ac yn £127 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol.
Dros y misoedd nesaf byddaf yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus, wrth gwrs. Rydw i’n bwriadu gosod ail gyllideb atodol yn unol â’r amserlen arferol. Rydw i’n parhau i archwilio gyda chydweithwyr yr achos dros ddyrannu o gronfeydd yn ystod y flwyddyn, wrth barhau i gadw lefel adnoddau sy’n ddigonol ar gyfer y cyfnod ariannol ansicr rydym ni’n gweithio ynddo. Bydd hyn yn caniatáu inni ymateb lle bo angen i bwysau pellach posibl ar y gyllideb ac i gario cyllid ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Bydd unrhyw ddyraniadau pellach o’r cronfeydd wrth gefn eleni yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y gyllideb atodol hon ac rydw i’n gofyn i’r Aelodau ei chefnogi.
Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas?
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl fer yma. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, nid yw’r gyllideb atodol hon yn un sylweddol. Ond wedi dweud hynny, rydym fel pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle bob tro i ystyried unrhyw newidiadau yn y gyllideb ac yn gwneud hynny’n ffurfiol drwy drefn y gyllideb atodol.
Rydym, felly, wedi defnyddio’r gyllideb atodol hon fel cyfle i nodi lle’r hoffem weld mwy o fanylion wrth symud ymlaen—ac rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb yn yr hydref, wrth gwrs—felly, meysydd megis y cyfalaf trafodiadau ariannol mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano, cyllid iechyd, y cytundeb masnachfraint rheilffordd, datgarboneiddio ac effaith deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol ar y gyllideb. Ac, wrth gwrs, rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb garbon gyntaf hefyd—a pholisïau benthyciadau myfyrwyr. Dyma’r meysydd y byddwn ni yn craffu ymhellach arnynt a byddaf yn cyfeirio jest yn fyr iawn at dri o’r materion hyn yn awr.
Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn faes y bu'r pwyllgor yn ei ystyried wrth graffu ar y gyllideb yn ystod yr hydref diwethaf, pan roeddem ni’n pryderu efallai na allai'r Llywodraeth ddefnyddio'r ffrwd ariannu hon yn llawn. Rydym yn falch o nodi bod y rhan fwyaf o'r cyfalaf trafodiadau ariannol wedi cael ei ddefnyddio, ac er gwaethaf cyfyngiadau'r Trysorlys, mae tystiolaeth o beth defnydd arloesol o'r cyllid. Byddem yn awyddus i weld rhagor o fanylion ynghylch sut y dyrennir yr arian hwn, a dylid cynnwys hyn yn y darlun cyffredinol o ddyled Llywodraeth Cymru yn y gyllideb maes o law.
Mae'r pwyllgor yn bryderus o weld nad yw rhai byrddau iechyd yn dal heb fodloni eu gofynion o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, er ei fod yn galonogol nodi y bydd y portffolio iechyd ar hyn o bryd yn ymdopi o fewn yr arian sydd wedi'i ddyrannu iddo. Ond, mae'n dal i fod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol, felly byddwn yn parhau i ddangos diddordeb yng nghyllid y byrddau iechyd. Rydym wedi nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei wneud mewn perthynas â chyfrifon y bwrdd iechyd yn ogystal, ac yn edrych ymlaen at eu hadroddiad hwythau.
Fel pwyllgor, mae gennym hefyd ddiddordeb yng nghytundeb cyllidol y masnachfraint rheilffordd. Rydym yn awyddus i ddeall sut mae'r holl drefniadau ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyngweithio, a hoffem weld manylion ychwanegol yn yr hydref ar sut mae'r cytundeb rheilffyrdd yn dylanwadu ar y gyllideb yn fwy eang. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma, ac rydw i’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau eraill yn ogystal.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon hefyd, ac roeddwn yn falch o gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid o graffu ar y gyllideb atodol. Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch am gyfeirio at waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'r gwaith ar y byrddau iechyd lleol a'u hariannu yn dal ar y gweill, felly wnaf i ddim dweud gormod ar hyn o bryd, ac eithrio dweud, yn amlwg, bod pryderon parhaus unwaith eto eleni am ddiffygion cyllidebol y byrddau iechyd. Nid yw hyn yn broblem newydd; mae'n broblem sydd wedi bodoli mewn un ffordd neu'r llall yn y rhan fwyaf o'r byrddau ers peth amser. Mae'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru, dros amser, fynd i'r afael ag ef, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith, y bydd Mike Hedges yn siŵr o'i grybwyll cyn bo hir, bod gwariant ar iechyd yn cynyddu a'i fod ar hyn o bryd yn cyfrif am hanner—efallai ychydig yn fwy yn awr—cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae diffygion cyllidebol y byrddau iechyd hynny yn dod yn broblem gynyddol bob blwyddyn ac yn faich cynyddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyllid, bu newidiadau sylweddol mewn adnoddau a chyfalaf dyraniadau yn y gyllideb atodol hon, gyda chynnydd o £15 miliwn a £134 miliwn ers cyllideb 2018-19. Ond, wedi dweud hynny, mae'n wir dweud, er eu bod yn sylweddol, nad ydynt yn faterion sydd o bwys aruthrol i ni boeni'n ormodol yn eu cylch yn ystod yr amser hwn o bennu'r gyllideb. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith bod symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU o oddeutu £2,761,000 wedi dod i'n rhan o gyllideb 2016 y DU mewn perthynas â gwaith ymchwil a datblygu. Yna ceir y newidiadau yng nghyllideb 2017 y Deyrnas Unedig ac, fel y gwyddom ni, bydd Cymru yn elwa ar £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol yn deillio o fformiwla Barnett. Nid ydym ni eto wedi cael ymrwymiad, neu yn wir, awgrym, gan Lywodraeth Cymru pa un a ydyn nhw'n bwriadu i'r arian hwnnw fynd i'r gwasanaeth iechyd. Byddai hynny i'w groesawu rywbryd, Ysgrifennydd y Cabinet.
Er bod angen inni wneud arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaeth iechyd a cheisio gwyrdroi diffyg cyllidebol y byrddau iechyd lleol, mae'n dal yn bwysig hefyd i gydnabod bod arian ychwanegol o ryw gyfran, o leiaf, wedi dod gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru i'w wario yn y maes hwnnw. Nid wyf yn credu i Ysgrifennydd y Cabinet sôn am y fframwaith cyllidol yn ystod y gyllideb atodol hon. Rydym ni'n aml yn sôn amdano yn y Siambr hon. Mae wedi'i groesawu gan bob plaid, ac mae'n dda gwybod y bydd Cymru yn derbyn arian o 120 y cant o'i gymharu â'r gwariant fesul pen o'r boblogaeth yn Lloegr o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol hwnnw y brwydrwyd mor galed i'w sicrhau, ac mae hynny'n gyflawniad y dylid ei gydnabod.
Os caf i droi at rai o'r manylion—ychydig o fanylion y gyllideb—mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi sôn am lawer o hyn. Fe wnaethoch chi sôn am addysg a chrybwyll arian i ddisodli'r grant gwisg ysgol, a hefyd newidiadau yn y gyfran o'r grant gwella addysg fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Roedd hynny'n destun peth trafod. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl ifanc wedi bod yn pryderu am doriadau, yn sicr yn achos y gyfran o'r grant gwella addysg a fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Sut caiff hynny ei gydnabod yn y gyllideb hon? A yw'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol o ran diddymu arian heb gyflwyno unrhyw arian newydd yn cael eu hunioni? A gywirwyd hynny yn y gyllideb hon, ac a yw hynny wedi'i ddatrys erbyn hyn?
O ran yr economi a thrafnidiaeth, mae'r dyraniad o £10 miliwn o gronfeydd cyfalaf ar gyfer llwybrau teithio llesol i'w groesawu. Ond mae yn amlygu sut yr ydym ni'n dal i aros, mae'n bum mlynedd rwy'n credu ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n cofio gweithio arno yn y Cynulliad diwethaf ar y Pwyllgor Menter a Busnes, fel yr oedd bryd hynny. Deddfwriaeth dda iawn mewn egwyddor, ond dyma ni yn dal i aros am y canlyniadau ers peth amser bellach. Felly, a allwn ni fod yn hyderus gyda'r gwariant cyfalaf ychwanegol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwn ni o'r diwedd yn gweld golau ar ddiwedd y twnnel o ran gwireddu rhai o'r amcanion hyn o'r Ddeddf Teithio Llesol?
Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydym ni'n cadw golwg fanwl ar y newidiadau a wnaed, gan ddefnyddio hwn, i raddau helaeth iawn mae'n debyg, yn astudiaeth achos ar gyfer craffu ar y gyllideb yn y dyfodol. Mae newidiadau i'r gwaith craffu hwnnw ar y gweill, y mae angen inni edrych arnyn nhw wrth ddatganoli pwerau treth y flwyddyn nesaf. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddwch yn synnu i wybod, yn ymatal ar y gyllideb atodol hon, gan nad oeddem ni'n cefnogi'r gyllideb wreiddiol, a gwelliannau i honno yw hyn. Ond ar y cyfan, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i wneud gwaith craffu ychwanegol ar gyfer y gyllideb hon.
Y cyfan yr wyf i am wneud yw tri phwynt byr iawn yn y ddadl hon. Yn gyntaf, nid yw'r gyllideb atodol gyntaf ddim ond fymryn yn wahanol i'r gyllideb wreiddiol. Pe byddai newidiadau sylweddol ynddi, mae'n debyg y byddai gennym ni broblem, a byddai'n rhyfedd iawn pe byddai talpiau mawr o arian yn symud o gwmpas. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddisgwyl gan y gyllideb atodol gyntaf.
Ond er nad yw'r newidiadau sylweddol, rwy'n credu ei bod hi yn arfer da bod yr Ysgrifennydd Cyllid yn dod gerbron y Pwyllgor Cyllid er mwyn sicrhau y gellir craffu ar y gyllideb ac inni gael dadl arni yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod hynny yn wirioneddol bwysig ein bod ni'n parhau i wneud hynny yn hytrach na chaniatáu, fel y mae'r rheolau'n gwneud, lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet a llythyr yn ôl gan y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi credu erioed nad anfon llythyrau rhwng dwy blaid yw'r ffordd orau o gael sgwrs, a gall pethau fynd ar goll. Felly, rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi parhau i fod yn agored a thryloyw ac yn barod i drafod, fel yr oedd ei ragflaenydd, gyda'r Pwyllgor Cyllid.
Credaf hynny'n arfer da iawn, ond ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd gennym ni Ysgrifennydd Cyllid gwahanol ac mae'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu'r cyfnewid drwy lythyr yn unig. Gobeithiaf y bydd yr arfer hwn, a gyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol ac y mae'r Ysgrifennydd Cabinet presennol bellach yn ei dilyn, o lunio cyllideb atodol ac ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid, yn rhywbeth y bydd pob Ysgrifennydd Cyllid yn ei wneud yn y dyfodol, ac wedyn mae gennym ddadl mewn cyfarfod llawn arno, hyd yn oed os yw'r cyfarfod llawn yn bennaf yn cynnwys pobl, neu dim ond yn cynnwys pobl sydd ar y Pwyllgor Cyllid yn y lle cyntaf. Ond mae'n bwysig ein bod yn cael dadl yn ei gylch mewn cyfarfod llawn a'n bod ni'n craffu yn y manylder hwnnw.
Yn ail, mae trafodiad cyfalaf, sy'n ymddangos i fod yn ddull gan y Trysorlys o gadw benthyca oddi ar ddyled y Llywodraeth, yn creu anawsterau enfawr. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Trysorlys wedi cytuno i gais Llywodraeth Cymru i ddwyn ymlaen £90 miliwn o gyllid trafodion ariannol heb ei wario oedd wedi ei gynnwys yng nghyllideb tymor yr hydref y DU, yn ogystal â threfniadau cronfeydd wrth gefn Cymru. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw arian wedi ei ddychwelwyd i Drysorlys San Steffan. Os ydym yn rhoi arwyddion o lwyddiant i unrhyw Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, mae'n rhaid bod peidio ag anfon unrhyw arian yn ôl i Drysorlys San Steffan yn un o'r pethau hynny yr ydych chi'n ei farcio â nodyn cadarnhaol, oherwydd anfon arian yn ôl i San Steffan yw'r peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud.
Dyfynnaf yr Ysgrifennydd cyllid, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Cyllid
fod cyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn gwneud hyn yn offeryn anhylaw.
Yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gymdeithasau tai a'r angen am ddeddfwriaeth o ganlyniad i hynny i ddynodi nad yw cymdeithasau tai yn sefydliadau sector cyhoeddus, mae hynny wedi golygu, am gyfnod byr, na ellid defnyddio cyfalaf trafodion i gefnogi cymdeithasau tai i adeiladu cartrefi.
Croesawaf y gyfran gyntaf o arian sy'n cael ei ddefnyddio i roi cymorth i undebau credyd yng Nghymru. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni, ym mhob plaid, sy'n gefnogol iawn i undebau credyd, sy'n rhoi cyfle i lawer o bobl fenthyca ar lefel na allen nhw yn unrhyw le arall, lle na allan nhw gael arian gan fanciau'r stryd fawr, ond does dim prinder o fenthycwyr ar garreg y drws sy'n barod i fenthyca arian iddyn nhw ar gyfraddau anhygoel. Felly, mae'n swm bach o arian, a fyddai'n ddefnyddiol iawn i undebau credyd unigol yn y trawsnewid y maen nhw'n gorfod ei wneud o ran y rheolau newydd sy'n berthnasol iddyn nhw, ac o ran cymarebau cyfalaf i fenthyciadau. Mae'n debyg mai dyna'r gwahaniaeth mewn rhai achosion rhwng eu gallu i barhau i fasnachu neu beidio, ond mewn gwirionedd mae'n bwysig ein bod ni yn cefnogi'r undebau credyd hyn, oherwydd i lawer gormod o bobl mae'n ddewis rhwng undebau credyd a benthycwyr carreg y drws.
Y broblem arall gyda chyfalaf trafodion yw nad yw'r cyhoedd yn deall na ellir gwario'r arian ar ysgolion ac ysbytai. Mae gennych chi'r arian hwn, pam nad ydych chi'n ei wario ar ein blaenoriaethau allweddol—ffyrdd, ysgolion ac ysbytai?
Yn olaf, mater nad yw'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllideb Llywodraeth Cymru ond sy'n effeithio ar gyfanswm benthyca'r Llywodraeth, yw'r gronfa benthyciadau myfyrwyr. Mae benthyciadau myfyrwyr yn rhan o'r gwariant a reolir yn flynyddol, sydd wedi cynyddu £22.5 miliwn—£19.1 miliwn cyfalaf a £3.4 miliwn refeniw. Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet bod Trysorlys ei Mawrhydi yn darparu'r cyllid ar gyfer y llyfr benthyciadau myfyrwyr yng Nghymru a bod gwaith yn cael ei wneud ar lefel y DU ynghylch dosbarthiad benthyciadau myfyrwyr. Bydd hyn yn effeithio llai arnom ni yng Nghymru, gan fod gennym ni system wahanol o roi cymorth i fyfyrwyr, sydd yn fwy hael o ran y grantiau yr ydym ni yn eu rhoi, yn hytrach na benthyciadau y mae'n rhaid eu had-dalu. Ond, i mi, mae'r llyfr benthyciadau myfyrwyr fel cynllun Ponzi enfawr—mae'n dal ati i gynyddu. Rydych chi'n benthyca arian i bobl na fydd bron yn sicr yn talu'r cyfan yn ôl, ac na fydd y rhan fwyaf yn llwyddo i'w dalu. Mae'r gyfradd dreth sylfaenol ar gyfer cyn-fyfyrwyr gyda benthyciadau 8 y cant yn uwch na gweddill y boblogaeth. Pe ychwanegid 8 y cant at dreth incwm pawb arall, byddai stŵr ofnadwy, ond ymddengys ei bod hi'n iawn ei ychwanegu ar bobl sy'n raddedigion. Pryd fydd Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli nad yw'r cynllun benthyciadau myfyrwyr yn gweithio ac nad yw'n gallu parhau yn ariannol heb gronni dyledion mwy a mwy? Nid yw'n gweithio. Mae angen inni gael system newydd o ariannu myfyrwyr.
A gaf i groesawu'r gyllideb atodol gyntaf yn y flwyddyn ariannol hon? Mae'r Pwyllgor Cyllid, fel y dywedodd y Cadeirydd a Mike Hedges eisoes, wedi canfod fawr ddim i sôn amdano—newidiadau bychain, fel y dywedodd Mike Hedges—ar ei chwarter cyntaf. Ond gobeithio y cawsoch chi'r casgliadau yn ddefnyddiol hefyd.
Roeddwn i'n falch o groesawu cyhoeddiad y GIG yn adolygiad canol tymor cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a fydd yn cael effaith fuddiol ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac fel Mike Hedges, rwyf i, sy'n noddwr ar gyfer undebau credyd yng Nghymru, yn croesawu'n arbennig y trafodion ariannol yr ydych chi'n eu cyhoeddi i gynorthwyo undebau credyd â chyfrifoldebau rheoleiddiol newydd pwysig—sy'n hanfodol i gefnogi benthyca moesegol ledled Cymru.
A gaf i hefyd achub ar y cyfle heddiw i gydnabod llwyddiannau'r degawd diwethaf o ran datblygu fframwaith cyllidol i Gymru, wrth fabwysiadu ein pwerau newydd? Yn wir, soniodd Nick Ramsay am hyn yn ei gyfraniad. Y trethi cyntaf i'w codi yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd, addasiad cadarnhaol parhaol i fformiwla Barnett, darpariaethau benthyca refeniw a chyfalaf a pharatoadau ar gyfer cyflwyno cyfradd treth incwm i Gymru—wrth ichi wneud datganiad, credaf fod gennym ni'r cyfle i gydnabod y pwynt pwysig hwn heddiw.
Mae'n siomedig, mae'n rhaid imi ddweud, Nick Ramsay, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, eich bod yn cefnogi'r gyllideb atodol hon heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod cefnogi'r gyllideb atodol hon—[Torri ar draws.] Iawn.
Cyfeiriwyd ataf ddwywaith, felly mae gen i hawl i ymateb.
Yn neis iawn hefyd.
Do, ac mae yna lawer o bethau yn hyn—. Credaf fy mod drwy gamgymeriad wedi dweud 'newidiadau sylweddol' yn gynharach—newidiadau pwysig yr oeddwn i'n ei olygu, yn hytrach na newidiadau sylweddol. Ond, ydym, rydym ni bob amser yn ymatal ar y gyllideb atodol, oherwydd mae'n cynrychioli newid i gyllideb flaenorol nad oeddem ni'n ei chefnogi, felly nid oes arnom ni eisiau achosi dryswch yn ddi-angen.
Wel, rydych chi wedi dweud hynny ar goedd yn awr, Nick Ramsay. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud yw bod hyn yn gamp ryfeddol y bydd gennym ni, mae'n siŵr, gefnogaeth ar gyfer y gyllideb atodol heddiw, ac yn wir, fel y gwnaethoch chi ddweud, Nick Ramsay, ar gyfer y fframwaith ariannol a sicrhawyd, a byddwn i'n ei ddweud er gwaethaf wyth mlynedd o gynni a orfodwyd arnom ni yn Llywodraeth Lafur Cymru gan Lywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod hyn yn un o lwyddiannau hyn—. O ran cael y gyllideb drwy gamau'r gyllideb atodol, y gyllideb lawn a'r fframwaith ariannol, mae hyn o ganlyniad i ewyllys gwleidyddol, ewyllys gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru, ond hoffwn hefyd gydnabod cydweithrediad gwleidyddol, sydd yn berthnasol iawn, byddwn i'n ei ddweud, o ran y Pwyllgor Cyllid—y cydweithrediad gwleidyddol yr ydym ni wedi'i gyflawni i ddatblygu'r pwerau cyllidol hyn yng Nghymru.
Ni fyddaf yn cefnogi'r gyllideb hon yn y fan yma heddiw. Doeddwn i ddim yn cefnogi'r gyllideb derfynol, felly ni fyddaf yn gwneud hynny, fel y dywedais, heddiw. Yr hyn sydd gennym ni yma, mewn gwirionedd, yw rhywfaint o arian yn symud o gwmpas, dim unrhyw newid mawr gwirioneddol. Yn wir, mae'r ymadrodd 'canu crwth tra llosgo Rhufain' yn dod i'r meddwl. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig sy'n talu'r dreth ystafell wely. Nawr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad mater iddo ef oedd hynny. Wel, mae'n fater i wleidyddion yr Alban, mae'n fater i wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon, lle maen nhw wedi cael gwared ar y dreth ystafell wely, sy'n dreth niweidiol sy'n effeithio ar y lleiaf breintiedig.
Os edrychwch chi ar Gaerdydd yn lleol, Cyngor Caerdydd, maen nhw'n dweud y ceir diffyg o £91 miliwn yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf, ac fe wnaf i ddyfynnu'r hyn a ddywedodd y cyngor:
bydd yna wasanaethau na fyddwn ni, yn syml, yn gallu eu cynnig i drigolion yn y dyfodol.
Mae'n beth difrifol iawn, iawn. A beth sy'n cael ei wneud? Dim llawer. Os edrychwch chi ar y diffyg eto, £91 biliwn, wel, o leiaf bod hynny'n llai na'r cyllidebau—yn llai na'r bonws y dyfarnodd Prif Weithredwr Persimmon i'w hun, neu a roddwyd iddo ym mis Ionawr: £110 miliwn. Rwyf eisiau pwysleisio bod Persimmon yn un o'r cwmnïau, un o'r endidau corfforaethol, sy'n annhreithio ein cefn gwlad yn yr ardal hon ac yn gwneud elw trybeilig.
Mae'n gyllideb wael gan Lywodraeth wael nad oes ganddi unrhyw syniadau ar ôl, a gorau po gyntaf y gwelwn ni gefn y weinyddiaeth hon.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i'r holl Aelodau hynny a wnaeth gyfraniadau perthnasol i'r ddadl hon. Fel y dywedodd Mike Hedges, er bod y gyllideb atodol gyntaf yn gymharol gyfyngedig ei natur, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu sôn am unrhyw newidiadau wrth y Cynulliad, ac i'r Cynulliad graffu arnynt. Mae'n siŵr y bydd yn rhybuddio Gweinidogion cyllid yn y dyfodol am ddiffygion arferion epistolaidd, pe bydden nhw byth yn gwyro oddi wrth yr arfer honno.
Cyfeiriodd Mike hefyd at y ffordd yr ydym ni wedi trin cyfalaf trafodion ariannol yn y gyllideb atodol. Rydym ni wedi gallu dwyn ymlaen y £90 miliwn a ddyrannwyd yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac er bod y cyfyngiadau o ran sut y gellir defnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn rhai gwirioneddol, mae ein gallu i wneud rhai pethau arloesol, er enghraifft, ariannu undebau credyd, yn enghraifft o'r math o ddefnydd dychmygus yr wyf wedi ymrwymo i geisio ei wneud o bob ceiniog sy'n dod i Lywodraeth Cymru.
Ailadroddodd Mike y rhybuddion a wnaeth yn y Pwyllgor Cyllid o ran y llyfr benthyciadau myfyrwyr. Rydym ni, fel y dywedodd, yn llai agored i rai o'r peryglon hynny nag ar draws y ffin. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'i swyddogion yn dangos diddordeb mawr yng nghanfyddiadau'r adolygiad o gyllid myfyrwyr sydd ar y gweill yn Lloegr, i weld, pan gaiff ei gyhoeddi, a fydd yn effeithio ar Gymru mewn unrhyw fodd.
Soniodd Nick Ramsay am y mater o wariant ar iechyd. Mae gwariant ar iechyd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a'm gwaith i yw gwneud yn siŵr bod digon o arian wastad ar gael i ddarparu gwasanaethau ac i dalu biliau ym mhob rhan o Gymru. Nid yw'r dyraniadau ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ddiweddar, wrth gwrs, ar gyfer y gyllideb atodol hon neu hyd yn oed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Unwaith inni gael rhywfaint o sicrwydd ynghylch y swm gwirioneddol o arian a fydd ar gael i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiadau hynny, yna byddwn yn falch o gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ynglŷn â sut yr ydym ni'n bwriadu eu defnyddio.
Mae'r gyllideb atodol yn wir yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant gwisg ysgol, a fydd bellach yn gynllun grant estynedig, yn gwneud mwy na'r un blaenorol. Roeddwn yn awyddus i wneud yn siŵr bod gan yr Ysgrifennydd Addysg y cyllid oedd ei angen arni i roi'r cynllun newydd hwnnw ar waith, ac roeddwn yr un mor eiddgar i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud darpariaeth ar gyfer y grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig.
Diben y dyraniadau llwybrau teithio llesol yw cyflymu'r rhaglen, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n deg dweud nad oes dim byd wedi digwydd o ran teithio llesol, ond mae'r £10 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd yn y gyllideb atodol hon, £20 miliwn y flwyddyn nesaf, £30 miliwn y flwyddyn ar ôl hynny yn fuddsoddiad sylweddol i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud mwy nag yr ydym wedi gallu'i wneud o'r blaen o ran y maes polisi pwysig iawn hwnnw.
Gwrandawais yn astud iawn ar yr hyn a ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Diolch iddo eto am yr adroddiad. Mae casgliadau'r adroddiad yn gosod agenda glir ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud yn y gwaith cyllideb a fydd o'n blaenau yng ngweddill y flwyddyn hon, ac mae'n ddefnyddiol iawn i mi fod wedi gweld sut y mae'r Pwyllgor Cyllid yn bwriadu mynd i'r afael â hyn.
Dirprwy Lywydd, a gaf i orffen drwy adleisio'r sylw a wnaeth Jane Hutt, fod y gyllideb ar gyfer eleni wedi'i gosod yn erbyn y cyfnod hwyaf o gyni parhaus o fewn cof? Mae'n cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb. Er gwaethaf hynny, nod y gyllideb atodol gyntaf yw gosod y sylfeini ar gyfer y flwyddyn gyfredol, ac i fraenaru'r tir ar gyfer penderfyniadau cyllidebol anodd a allai eto fod o'n blaenau.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni’n pleidleisio ar yr eitem hon pan ddaw hi'n amser pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliannau 2 a 5 yn enw Caroline Jones a gwelliannau 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannnau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM6764 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon—mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4. Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rydym ni i gyd yn Llywodraeth Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw tai. Oherwydd eu heffaith ar fywydau pobl, rydym ni wedi gwneud tai yn un o'n pum maes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ein huchelgais yw i bawb fyw mewn cartref o ansawdd da sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, fe wnaethom ni gyrraedd ein targed i adeiladu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy eraill yn ystod y tymor Llywodraeth hwn. Er mai megis dechrau yr ydym ni, ac na allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon, rwy’n hyderus y gallwn ni gyflawni hyn drwy barhau i gydweithio'n agos gyda'r partneriaid sy'n ymwneud â darparu tai.
Rydym ni'n gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed, sef £1.7 biliwn, mewn tai yn y tymor Cynulliad hwn tuag at wella cartrefi sy'n bodoli eisoes a datblygu cartrefi newydd. Y llynedd yn unig, fe wnaethom ni fuddsoddi £124 miliwn yn ein rhaglen grantiau tai cymdeithasol, a chyfalaf cyfwerth â £55 miliwn yn ein grant cyllid tai. Hefyd, rydym ni wedi diogelu tai cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf, gan ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael.
Rydym ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin ag amrywiaeth o wahanol anghenion tai. Rydym ni’n gwybod mai yr hyn sydd ar rai pobl ei eisiau yw cymorth i brynu eu cartref eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi amrywiaeth o gynhyrchion sy'n anelu at helpu pobl i ddod yn berchnogion tai: cynnig a gafodd ei ehangu ddiwedd mis Chwefror pan lansiais i’r cynlluniau Rhentu i Brynu—Cymru a Rhanberchenogaeth—Cymru. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018, roedd y cynllun wedi cefnogi adeiladu a gwerthu bron i 6,900 o gartrefi, a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Rydym ni'n cydnabod bod angen inni barhau i fuddsoddi mewn tai, gan fod hyn yn creu manteision amlwg i’r economi ac yn cefnogi'r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Rwy’n gweithio gydag awdurdodau tai lleol i'w helpu i ddechrau adeiladu niferoedd mawr o dai cyngor yn gyflym am y tro cyntaf ers degawdau. Hoffwn i awdurdodau lleol fod yn fwy uchelgeisiol yn y maes hwn. Mae ganddyn nhw ran hanfodol i’w chwarae o ran canfod yr angen am dai ychwanegol, ond maen nhw hefyd mewn sefyllfa dda i ganfod dulliau creadigol o ymateb i'r angen hwn a chryfhau ein cymunedau.
Un o'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu fel cenedl yw lleihau carbon ym mhob sector, ac nid yw tai’n ddim gwahanol. Os ydym ni eisiau cyflawni ein cyfrifoldebau o ran newid hinsawdd, mae angen inni weithredu ar fyrder i weld sut y gallwn ni gyflwyno cartrefi carbon isel a di-garbon i’r cyflenwad prif ffrwd cyn gynted â phosibl. Mae ein rhaglen dai arloesol wedi dechrau’n dda gan edrych ar atebion posibl i rai o'r heriau hyn. Mae rhai o'r prosiectau rydym ni eisoes wedi eu hariannu yn gyffrous iawn. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys datblygu gwell dealltwriaeth o'r materion ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu ac adeiladu oddi ar y safle, ac rwy’n edrych ymlaen at weld dyluniadau arloesol a syniadau arloesol hyd yn oed mwy beiddgar yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn i ddod, a bydd gen i fwy i'w ddweud wrth yr Aelodau yn ddiweddarach eleni cyn gynted â bod gwaith craffu wedi’i wneud ar y cynigion hyn.
Ers dod i'r swydd, rwyf wedi cael y cyfle i wrando ar lawer o safbwyntiau am y cyfleoedd sydd gennym ni i gydweithio â phartneriaid i wella darpariaeth yn y sector tai. Mae hyn wedi bod yn hynod ddiddorol ac wedi peri imi feddwl, ac mae wedi rhoi golwg go iawn imi ar rai o'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu. Rydym ni eisoes wedi cyflawni llawer, ac mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, ond wrth inni edrych at y dyfodol rwy’n glir bod angen gwneud mwy i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai o bob math.
Rydym ni'n wynebu heriau penodol wrth geisio ymateb i'r angen cynyddol o ran darparu tai fforddiadwy. Felly, mae'n bwysig ein bod ni weithiau’n camu’n ôl i ystyried a ydym ni’n mynd ati yn y ffordd orau bosibl, ac a ydym ni’n defnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol, yn enwedig o ystyried effaith barhaus cynni. Dyma pam, ym mis Ebrill, y cyhoeddais adolygiad o'r trefniadau presennol yn y sector tai fforddiadwy.
Rwyf wedi sefydlu panel annibynnol sylweddol i oruchwylio'r gwaith hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod yr adolygiad yn dryloyw ac yn gadarn, a bydd y panel yn argymell newidiadau, fel y gwelant orau, ac rwy’n disgwyl i'r panel lunio adroddiad erbyn diwedd Ebrill 2019. Fy mwriad yw y dylai’r adolygiad ddiogelu ein polisïau cyflenwi tai ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod ni’n buddsoddi yn y rhaglenni cywir yn fwy hirdymor, gan ddefnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau. Tasg y panel adolygu yw datblygu barn annibynnol, ond rwyf wedi pwysleisio bod angen i’w canfyddiadau fod yn seiliedig yn llwyr ar ymgysylltiad eang â’r sefydliadau tai ac â phawb sy'n poeni am dai yng Nghymru, ac sy’n gwerthfawrogi ein hamgylchiadau unigryw.
Mae arbenigedd a brwdfrydedd enfawr, yn ogystal â llawer o egni a syniadau, yn y sector tai ac ymhlith tenantiaid, ac mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar hynny er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen. Rwy’n falch ein bod wedi gallu ffurfio panel sy'n cynnig croestoriad mor gryf o sgiliau ac arbenigedd sy'n rhychwantu ehangder y meysydd y bydd yr adolygiad yn eu hystyried. Fel rwyf fi wedi ei ddweud o'r blaen wrth y Siambr, cadeirydd y panel fydd Lynn Pamment, uwch bartner yn swyddfa Caerdydd PricewaterhouseCoopers. Mae gan yr aelodau wir ddirnadaeth o ran y problemau cyflenwi tai yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd, ac atebion i'r problemau hynny.
Mae’r panel yn y broses o sefydlu cyfres o feysydd ffrwd gwaith. Bydd y ffrydiau gwaith hyn yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r sector tai er mwyn cyfrannu at waith yr adolygiad. Bydd meysydd i’w hymchwilio’n fanwl yn cynnwys yr angen am dai, dulliau adeiladu modern, cyfraddau ymyrraeth grantiau, polisïau rhent, a defnyddio tir y sector cyhoeddus. Anfonwyd y rhestr lawn o’r holl ffrydiau gwaith a nodwyd gan y panel at holl Aelodau'r Cynulliad yr wythnos diwethaf.
Yn ogystal â’r grwpiau gwaith, bydd y panel adolygu’n ymgysylltu'n helaeth â sefydliadau tai sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy, yn ogystal â grwpiau tenantiaid. Mae aelodau'r panel yn awyddus i gyfrannu at ddigwyddiadau a chynadleddau lle bo hynny'n bosibl. Hoffen nhw hefyd fanteisio ar yr wybodaeth helaeth yr ydym ni’n gwybod sy'n bodoli mewn sefydliadau tai, ac ymhlith y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli.
Felly, byddwn yn annog yr Aelodau hefyd i fod yn rhan o'r adolygiad ac i gynnig eu barn. Rwy’n gwybod bod pob plaid yn y Siambr hon yn poeni am ddiwallu anghenion tai. Rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi’r her o wneud y gorau â’n hadnoddau cyfyngedig, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn achub ar y cyfle i roi eu barn a darparu tystiolaeth i’r panel ei hystyried.
Mae’r panel adolygu yn y broses o alw am dystiolaeth. Caiff yr hysbysiad hwn ei anfon at restr eang o randdeiliaid y penderfynwyd arni ac at bobl y credir y bydd yr adolygiad o fudd iddyn nhw. Rwy’n gwybod bod y Cadeirydd yn awyddus i’r adolygiad fod yn fodd i bawb a hoffai gyfrannu at y drafodaeth ar y pwnc hollbwysig hwn gael y cyfle i wneud hynny.
I gloi, Llywydd, hoffwn ychwanegu y bydd y panel yn sicr yn edrych yn agos iawn ar y cyfraniadau yn y ddadl heddiw wrth gamu i'r dyfodol. Diolch.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Ac os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
2. Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
3. Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holmans, 'Future Need and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. 15,841; 20,158; 17,236. Nid rhifau haniaethol yw’r rhain. Gadewch imi egluro. Yn 1954, nifer y tai a gwblhawyd, neu’r anheddau a gwblhawyd, gan yr holl asiantaethau oedd 15,841: roedd 13,197 o'r rheini yn y sector cyhoeddus, y nifer mwyaf o dai a adeiladwyd erioed gan y sector cyhoeddus. 1954 oedd hynny. Yn 1967—ac rwy’n mynd i orffen y darn hwn—cwblhawyd 20,158 o anheddau, a 10,936 ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus. Yn 1975, cwblhawyd 17,236 o anheddau, ac 8,336 ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus, er bod y sector preifat wedi adeiladu ychydig bach mwy na’r sector cyhoeddus y flwyddyn honno. Fe wnaf i ildio os oes gennych chi sylw.
Dim ond i egluro: ffigurau ar gyfer Cymru yw’r rhain.
Ie, ffigurau ar gyfer Cymru ydyn nhw, oherwydd Cynulliad Cymru ydym ni, diolch ichi. Mae’r cwestiwn, am wn i, oherwydd y raddfa y mae'r rhain yn ei dangos, yn un da i’w ofyn, oherwydd y niferoedd yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwethaf—dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol, mae’n rhaid cydnabod. Ond mae'n dangos yn union faint mae angen inni gynyddu ein huchelgais.
Tai, tai fforddiadwy, uchelgais ar gyfer darparu tai: mae'r rhain i gyd yn feysydd polisi lle'r ydym ni, yn syml, yn methu yng Nghymru ar hyn o bryd ac yng ngweddill y DU. Rwy’n credu y byddai'n farc du cywilyddus yn erbyn pob un ohonom ni pe baem ni’n caniatáu i hyn barhau.
Felly, rwyf yn croesawu sefydlu’r adolygiad tai fforddiadwy i ryw raddau. Gallai wneud gwaith defnyddiol a’n galluogi ni i symud ymlaen a meithrin yr uchelgais sydd ei hangen arnom ni. Nid wyf i eisiau rhygnu ymlaen yn ormodol ynglŷn â hyn, ond mae’r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd mewn rhaglen bum mlynedd yn un eithaf bychan. Gallai fod yn gam cyntaf rhesymol, ond mae angen llawer mwy o uchelgais arnom ni yn ystod y 2020au—adeg y gallwn ni nawr baratoi ar ei chyfer yn rhesymol—nag a oedd gennym ni yn yr 20 mlynedd diwethaf neu fwy. Felly, rwyf yn credu bod yn rhaid inni edrych ar hyn mewn ffordd radical a dwys iawn.
Y lle gorau i ddechrau yw adroddiad y diweddar Athro Holmans—a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn 2015—ac nad yw Llywodraeth Cymru, hyd y gwn i, erioed wedi ymateb iddo. Felly, rwy’n credu mai un peth da i’r adolygiad ddechrau ag ef fyddai eich ymateb i adroddiad Holmans, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud hynny. Y prif reswm yr wyf yn dweud hynny yw, yn y rhestr o ffrydiau gwaith a chwmpas yr adolygiad, teitl y ffrwd waith gyntaf yw, 'Deall yr Angen am Dai.' Mae'r ffrwd waith hon yn nodi y bydd
yr adolygiad yn ystyried sut y gallwn wella ein dealltwriaeth o faint yn union o gartrefi y mae eu hangen ledled Cymru, ym mha ardaloedd, a pha ddeiliadaethau sy’n briodol.
Tybed pam nad ydych chi wedi edrych ar adroddiad Holmans? Allaf i ddim deall pam yr ydym ni'n rhygnu ymlaen ar yr un hen dant eto fyth. Eisoes mae gennym ni ddarn rhagorol o waith gan brif arbenigwr y byd ar y pryd yn yr angen am dai, a dyna lle y dylem ni ddechrau.
Roedd yr adroddiad hwnnw, gadewch imi eich atgoffa, yn dadlau’n glir ac yn uniongyrchol, er mwyn diwallu’r angen a'r galw yn y dyfodol am dai yng Nghymru, bod angen dychwelyd at gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd, a chynyddu cyfradd twf tai fforddiadwy. Mae’r prif amcangyfrif yn awgrymu bod angen inni ddychwelyd at y math o gyfraddau adeiladu a oedd gennym ni ddiwethaf yn y 1990au cynnar. Mae hynny i gyrraedd targedau presennol Llywodraeth Cymru. Nid yw hynny i gyrraedd y rhai newydd, o ran angen. Dydym ni ddim yn adeiladu 7,000. Rydym ni’n fyr iawn o'r 7,000 ar hyn o bryd, a’r targed gwirioneddol yw 8,700. Mae’r amcangyfrif amgen, yng ngwaith yr Athro Holmans, yn awgrymu bod angen 12,000 o unedau ychwanegol y flwyddyn. Dydym ni ddim wedi gweld dim byd ar y raddfa honno ers y 1970au. Unwaith eto, mae hynny'n cynnwys cyfnodau o Lywodraeth Geidwadol yn ogystal â Llafur.
Wrth gwrs, gallai’r adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadwy roi ysgogiad i wella polisi cyhoeddus, efallai drwy edrych yn realistig ar ffrydiau ariannu, a'r angen i adeiladu efallai o fewn y sector cyngor eto, ac ehangu yng ngweddill y sector cymdeithasol, yn ogystal ag ysgogi adeiladu tai preifat. Rwy’n gweld bod fy amser i ar ben yn barod, ac mae hwn yn bwnc sydd wir yn fy nghynhyrfu i, oherwydd—. Gadewch imi orffen ar hyn—ni allaf orffen fy araith; mae yna gymaint mwy o ddata. Ond dylem ni gofio, yn y 1950au, roedden nhw'n ystyried tai a'r hawl i dai da yn hawl sylfaenol i bawb. Roedd yn gydradd â’r hawl i ofal iechyd gweddus. Mae angen hynny unwaith eto. Fel y mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi dweud,
‘mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb’,
ac rwy’n eu canmol nhw am godi eu huchelgais. Rwy’n gobeithio y gallwn ni fynd hyd yn oed ymhellach na’r 75,000 o dai fforddiadwy maen nhw eisiau eu gweld yn cael eu hadeiladu erbyn 2036 yn y sector.
Yn syml, ein huchelgais—a dylai hyn ein huno ni i gyd; does dim angen pleidgarwch yma—yr uchelgais sydd ei angen arnom ni yw cartrefi i bawb. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliannau 2 a 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Gareth Bennett.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Ym mhwynt 1, dileu 'ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon—mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw' a rhoi 'ac yn gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar eu cyfer' yn ei le.
Gwelliant 5—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn darparu unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn gyflym.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 5.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliannau. Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw.
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod tai fforddiadwy yn bwnc pwysig, ac rydym ni eisiau gwneud yr hyn a allwn ni yn y Cynulliad i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i fwy o bobl yng Nghymru. Wrth edrych ar y cynnig heddiw, rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth, oherwydd mae'n hunanglodforus braidd, ac rydyn ni’n nodi bod llawer o’r bobl sy'n rhan o’r diwydiant tai o’r farn bod angen gwneud mwy. Allwn ni ddim, felly, cytuno â phwynt 1 o'u heiddio, sy'n dweud bod 'cynnydd da yn cael ei wneud' tuag at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, oherwydd ceir cytundeb cyffredin yn y sector bod angen i’r targed fod yn llawer mwy uchelgeisiol. Mae gwelliant 2 o'n heiddo yn adlewyrchu hynny. Mae gwelliant 5 o'n heiddio yn cynnig defnyddio mwy o dai modiwlaidd. Byddai hynny'n un ffordd bosibl o adeiladu a darparu unedau tai fforddiadwy newydd yn gyflym.
Mae’r gwrthbleidiau eraill wedi crybwyll rhai pwyntiau dilys gyda’u gwelliannau, ond, yn anffodus, er mwyn i'n gwelliannau ni lwyddo, rydym ni’n ymatal ar y rheini, oherwydd, os bydd y gwelliannau eraill yn llwyddo, bydd ein gwelliannau ni’n cael eu diddymu. Dyna sut mae pethau heddiw. Er gwaethaf hynny, rwy’n credu y gall y gwrthbleidiau i gyd ddweud bod unfrydedd ynglŷn â'r syniad bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy yn y maes hwn.
Ynglŷn â beth ddylai’r targed fod, mae gennym y mater dyrys hwn o darged Holmans, y mae David Melding wedi sôn amdano unwaith eto heddiw. Rydym ni’n tueddu i gytuno ar yr ochr hon, gyda thwf poblogaeth wedi ei ragamcanu ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn effeithio arnon ni yng Nghymru yn ein trefi mawr a'n dinasoedd, fel Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, bod angen targed uwch. Felly, nid ydym ni'n credu bod amcan Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i ddechrau. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cynlluniau rhanberchnogaeth, a all weithio hyd at bwynt. Fel y dywedais y tro diwethaf inni drafod hyn—ac roedd y Gweinidog yn cytuno â mi ar y pwynt hwn—dydy hyd yn oed cynlluniau cymorth morgais fel Cymorth i Brynu ddim bob amser yn fforddiadwy i lawer o bobl yng Nghymru, hyd yn oed i bobl sy'n gweithio mewn swyddi llawn-amser. Mae hyn oherwydd bod Cymru yn economi â chyflogau eithaf isel, ac fel rydym ni’n gwybod, mae’r cynydd mewn prisiau tai yn fwy na chodiadau cyflog. Felly, yn y pen draw, mae gennym ni broblem sylfaenol â galw a chyflenwad, sy'n arwain at gynnydd cyflymach a chyflymach ym mhrisiau tai. Mae hyn yn golygu na fydd cynlluniau cymorth morgais yn llawer o gymorth i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy.
I ryw raddau, rwy'n credu bod yn rhaid inni gadw at y syniad mai lle rydych chi'n byw yw tŷ. Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth rydych chi’n berchen arno. Mae'n rhaid inni wynebu’r realiti bod mwy o bobl yng Nghymru heddiw’n symud i'r sector rhentu preifat, ac y bydd llawer o bobl yn byw yn y sector tai cymdeithasol. Felly, mae angen inni gadw llygad ar renti hefyd. Un mater sydd wedi codi yw'r mater bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol weithiau’n gallu cynyddu mwy nag y maent yn y sector rhentu preifat. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi esbonio yn ddiweddar bod grŵp o arbenigwyr yn cynghori ar fformiwla newydd ar gyfer pennu codiadau rhent mewn tai cymdeithasol, ac rwy’n credu bod hynny'n beth da, ond mae angen inni gadw llygad ar y mater hwnnw o renti cynyddol yn y sector tai cymdeithasol.
Nawr, ceir cyfleoedd ym maes tai ac ym maes adeiladu tai. Rydym ni’n gwybod mai un o'r problemau sy'n wynebu'r sector adeiladu tai yw diffyg sgiliau. Mae llawer o’r bobl sy’n gweithio yn y sector adeiladu’n mynd yn hŷn. Rwy’n credu bod ffigurau'n dangos bod oedran cyfartalog y bobl a gyflogir yn y diwydiant adeiladu tua 53, ac mae angen inni sicrhau bod digon o bobl iau yn cael eu hannog i ymuno â'r diwydiant hwn. Mae'n rhaid inni nawr roi sylw i'r broblem o hyfforddi ein pobl ein hunain i gymryd rhan yn y sector hwn. Rwy’n credu y gallai Llywodraeth Cymru gysylltu elfennau amrywiol â’i gilydd, pe bai’r Gweinidog tai yn gweithio ar y cyd â’r Gweinidog sgiliau a hefyd y Gweinidog sy'n gyfrifol am fenter y Cymoedd, yr oeddwn i’n siarad amdani’n gynharach heddiw. Rwy’n credu bod llawer o'r pethau hyn yn gydgysylltiedig. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog tai wedi bod yn gweithio gyda Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a chyrff eraill ar y mater hwn. Mae hi hefyd wedi canmol enghraifft Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, gyda'u cynlluniau prentisiaeth. Ac rwy’n credu bod angen inni annog mwy o gwmnïau i fanteisio ar yr arfer da hwn. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud gwaith ymchwil yn ddiweddar i ddangos bod cyflogau yn y diwydiant adeiladu, yng nghyd-destun Cymru, yn gymharol dda iawn.
Fe allwn ni hefyd annog mwy o fenywod i fynd i’r diwydiant adeiladu yn ogystal oherwydd, gyda thai modiwlar, does dim angen rhyw lawer o gryfder neu elfen gorfforol ar gyfer y swyddi i gyd—mater y soniodd Jenny Rathbone amdano y tro diwethaf. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi sôn heddiw am weithgynhyrchu oddi ar y safle ac rwy’n credu bod angen inni annog mwy o dai modiwlar, gan fod hyn yn ffordd gyflym i annog mwy o dai fforddiadwy i Gymru. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni’n cynnal safonau ansawdd uchel ar yr un pryd.
Dylem ni hefyd annog mwy o fusnesau bach a chanolig i allu symud ymlaen â'u cynlluniau tai, yn enwedig safleoedd mewnlenwi, fel y mae Mike Hedges wedi ei argymell yn y gorffennol. Mae'n debyg y bydd yn gwneud hynny eto heddiw. Ac rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi sôn am gronfa datblygu eiddo Cymru yn benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid, ac rwy’n credu bod angen datblygu’r syniad hwnnw. Diolch.
Galwaf ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu 'uchelgeisiol' o bwynt 1.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cyngor a dadansoddiad annibynnol wedi dangos na fydd 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros dymor y Cynulliad hwn yn bodloni'r anghenion presennol na'r anghenion yn y dyfodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gellir cyflawni hyn mewn ffyrdd gwahanol.
Yn galw ar yr holl dai cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl, i gael paneli solar wedi'u gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni is.
Yn gresynu bod nifer y cartrefi gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
Yn galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy i ystyried y cyd-destun ehangach o ran mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain at gynnydd sylweddol yn y costau y mae pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau o'r fath yn eu hwynebu.
Yn galw ar yr adolygiad i gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat, fel y gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn y dyfodol yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae hi yn bwysig ein bod ni yn dadansoddi sut y mae'r adolygiad hwn yn mynd i ddatblygu ac archwilio rhai o'r materion presennol o ran tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn awyddus i gydweithredu ar yr agenda tai ehangach gan fy mod yn teimlo bod y Gweinidog tai yn rhannu llawer o'n pryderon ac rwy’n ddiolchgar ei bod wedi gwneud ymdrech i’n cynnwys ni wrth feddwl am y materion hyn. Fodd bynnag, mae’n anochel y byddwn yn anghytuno mewn rhai meysydd ac mae arnaf ofn bod defnyddio'r term 'uchelgeisiol' yng nghyd-destun strategaethau tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru yn un o'r meysydd hynny.
Yn gyntaf, mae dealltwriaeth eang nad yw 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn yn ddigon; nododd Cartrefi Cymunedol Cymru y llynedd fod angen dros 4,000 o unedau tai cymdeithasol bob blwyddyn yn unig er mwyn ymdopi â’r cynnydd sylfaenol yn y boblogaeth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn cynnwys y farchnad tai preifat, sydd wedi bod o dan bwysau cynyddol, yn enwedig ynglŷn â materion fforddiadwyedd.
Rwyf hefyd yn pryderu bod anawsterau â diffiniad Llywodraeth Cymru o beth yw fforddiadwy. Un o'r problemau mwyaf â’r diffiniad o 'fforddiadwy' ac, felly, beth mae’r Llywodraeth hon yn ei ystyried yn llwyddiant wrth adeiladu’r cartrefi hyn, yw cartrefi a brynwyd o dan gynlluniau fel Cymorth i Brynu. Dim ond 75 y cant o dai a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth i Brynu a aeth i brynwyr tro cyntaf. Aeth chwarter i bobl a oedd yn prynu cartref gwahanol neu well, sy’n golygu, i dros chwarter y bobl a brynodd o dan y cynllun, nad oedd ganddynt broblemau â fforddiadwyedd o reidrwydd. Un broblem ddifrifol a nodwyd yw bod 2,277 o’r cartrefi a gafodd eu prynu o dan y cynllun—traean o'r rhai a brynwyd—yn werth dros £200,000. Ac rydym ni’n gwybod bod hwnnw'n swm eithaf swmpus. Felly, pam mae’r cartrefi hyn wedi’u cynnwys mewn ystadegau tai fforddiadwy? Sut yn y byd y gallwn ni ddweud bod y swm hwnnw’n fforddiadwy? Dim ond 701 o gartrefi a gafodd eu prynu am lai na £125,000—ffigur sy'n dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl.
O ran y sector rhentu, mae tai rhent canolradd yn dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, yn enwedig pobl sy’n teimlo effeithiau newidiadau lles a thoriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy’n credu bod angen rhoi sylw yn yr adolygiad hwn i’r manylyn hwn o beth yw fforddiadwyedd a sefydlu diffiniad manylach, cliriach o’r hyn a olygir wrth fforddiadwy. Heb ddiffiniadau clir, allwn ni ddim dechrau gallu asesu’n realistig beth mae gwir angen inni ymdrin ag ef yn rhan o'r argyfwng hwn.
Rydym ni yn nodi bod nifer yr unedau tai cymdeithasol newydd y flwyddyn yn cynyddu ond, pan ystyriwch y duedd gyffredinol dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r niferoedd sy’n cael eu cwblhau’n dal i fod yn isel. Rydym ni ar yr un lefel ar hyn o bryd â diwedd yr 1990au o ran niferoedd cwblhau blynyddol. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cartrefi gwag, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi y Llywodraeth. Yn wir, bu cynnydd o tua 5,000 yn nifer y tai—roeddwn i’n mynd i ddweud noeth—y tai gwag yng Nghymru ers 2012-13. Byddai hynny'n ddiddorol, oni fyddai? [Torri ar draws.] Mae hynny wedi deffro pawb, onid yw? Mae'n amlwg i ni a dylai fod yn amlwg i bawb yn y Senedd hon, er gwaethaf sylwadau bachog a bwriadau da Llywodraeth Cymru, nad ydym ni’n agos at osod agenda ddigon eofn yn y maes hwn o ran y tai sydd ar gael yn y sector rhentu cymdeithasol, ac nad oes gennym ni’r diffiniadau cywir ar waith o ran hyd yn oed beth yw fforddiadwyedd.
Hoffwn droi yn fyr at rai agweddau eraill ar fforddiadwyedd, y mae’r Gweinidog wedi sôn amdanynt. Mae effeithlonrwydd ynni'n elfen allweddol i'r hyn sy'n fforddiadwy. Mae'n bwysig oherwydd gall cartref sy’n aneffeithlon o ran ynni ei wneud yn gartref anfforddiadwy hefyd. Caiff hyn ei gydnabod yn y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru gynllun Arbed, a bod gan lywodraethau eraill ledled y DU eu cynlluniau eu hunain, ond dydyn nhw heb ddyrannu’r adnoddau sydd eu hangen i uwchraddio tai cymdeithasol yn llawn, ac ni chaiff y targedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd eu bodloni. Mae eu hymdrechion wedi bod yn llawer llai uchelgeisiol nag yn yr Alban, ac felly mae'n debygol nad yw rhywfaint o'r stoc tai fforddiadwy presennol yn fforddiadwy.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn addasu mewn gwahanol ffyrdd i'r broblem hon. Cawsom ddadl yn ddiweddar lle gwnaethom ni sôn am beth sy'n digwydd yn Wrecsam o ran gosod paneli solar, ond dim ond un enghraifft yw hyn. Mae angen llawer mwy. Ceir problem ledled y DU wrth adeiladu datblygiadau newydd hefyd, sef nad ydym ni’n cynnwys hygyrchedd gwasanaethau canolfannau cyflogaeth yn rhan o'n hystyriaethau, a dyna pam rwy'n credu bod gwrthwynebiad i lawer o'r datblygiadau tai hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae effeithiau llymder wedi golygu llai o safleoedd cynaliadwy, llai o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus a llai o wasanaethau wedi'u cynnwys yn rhan o ddatblygiadau newydd. Mae hyn nid yn unig yn ei gwneud hi’n anodd i bobl sydd ar incwm isel i adeiladu bywyd cynaliadwy a fforddiadwy mewn cartref newydd, ond hefyd yn ei wneud yn llai derbyniol i eraill mewn ardal leol lle mae datblygiad newydd yn seiliedig.
Yn yr amser sydd gen i ar ôl—. Rwy'n credu bod angen inni wella’r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â hawliau tenantiaid, a hoffwn i weld Bil i'r perwyl hwnnw yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus yn y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ein bod ni’n pasio sawl darn o ddeddfwriaeth ynglŷn â thai ond dydw i ddim yn gweld digon ar hawliau tenantiaid, ac yn amlwg mae gan hynny lawer i'w wneud ag ailddosbarthu, ond rwy’n credu bod angen ymgysylltu llawer mwy â nhw. Rwyf wedi bod yn ymweld â llawer o gymdeithasau tai lleol ac mae pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys gymaint ag y byddent yn ei hoffi mewn ffioedd rheoli a sut maen nhw'n cael eu pennu, yn y codiadau rhent y mae landlordiaid cymdeithasol wedi’u rhoi iddyn nhw. Felly, rwy'n annog y Gweinidog yn hyn i gyd i ystyried bod hawliau tenantiaid wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir yn rhan o'r adolygiad parhaus hwn.
Mae tai yn angen sylfaenol ac yn hawl sylfaenol. Rwyf wir yn credu bod hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei gadw yn flaenllaw yn ein meddyliau bob tro y byddwn ni’n trafod tai. Does dim wythnos yn mynd heibio heb i fy etholwyr ei gwneud hi’n glir imi fod angen mwy o dai fforddiadwy—yn y saith diwrnod diwethaf, teulu o bedwar, gan gynnwys plentyn anabl, yn byw mewn fflat un ystafell wely; rhywun sydd i bob pwrpas yn ddigartref, yn mynd o soffa i soffa, gan ddefnyddio soffas yn nhai ffrindiau, gan nad oes ganddo gartref sefydlog ar hyn o bryd, a gallai’r man nesaf fod ar y stryd; menyw newydd ysgaru sy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd talu’r rhent a godir gan landlord preifat. Dyma realiti byw yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Mae pob un yn drasiedi bersonol. Y peth trist yw, pe bawn i’n gwneud yr araith hon yr wythnos nesaf, byddwn i’n sôn am dri neu bedwar achos gwahanol o bobl â’r un angen am dŷ yn union. Sut rydym ni wedi cyrraedd y fath sefyllfa?
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, doedd dod o hyd i dŷ fforddiadwy ddim yn broblem. Efallai na fyddech chi wedi cael tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai yn ardal eich dewis cyntaf, ond roedd llety ar gael. Mae nifer o bethau wedi digwydd, rhai ohonynt o dan ein rheolaeth ni, a rhai heb fod. Mae maint aelwydydd wedi lleihau. Mae’r boblogaeth wedi cynyddu. Mae’r ddau ffactor hyn wedi rhoi pwysau ar fod angen mwy o dai.
Cawsom ymchwydd yn y 2000au cynnar, lle'r oedd pobl yn cael morgeisi 110 y cant, lle'r oedd gennym ni dwf economaidd cyson. Roedd pobl yn credu bod popeth yn mynd i fod yn iawn am byth, nes inni gyrraedd problem y cwymp bancio. Ym Mhrydain, roedd pris cyfartalog tŷ yn £100,000 yn y flwyddyn 2000 ac yn £225,000 yn 2007, cyn i’r chwalfa ariannol ddod â’r ffyniant i ben. Roedd hyn yn anghynaliadwy.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
A ydych chi’n gresynu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd wedi anwybyddu’r rhybuddion gan ymgyrch ar y cyd gan y sector tai drwy gydol y 2000au cynnar y byddai argyfwng o ran cyflenwad tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi eu toriadau o 70 y cant mewn tai fforddiadwy? Roedd hynny’n bell cyn y wasgfa gredyd ac fe wnaethon nhw ei anwybyddu—dyna pam rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw.
Roedd hefyd cyn i mi fod yma. Yr hyn y gwnaf fi ei ddweud yw bod cynghorau bryd hynny’n dal i werthu tai cyngor o dan y cynllun hawl i brynu—ac rwy’n siŵr bod Mark Isherwood yn gresynu at werthu tai cyngor. Tan yn ddiweddar, doedd cynghorau ddim yn adeiladu. Mae eiddo perchen-feddiannydd rhad wedi troi’n eiddo prynu i rentu. Mae hynny’n rhywbeth gwirioneddol sydd wedi effeithio ar lawer o'm hetholwyr—mae llawer iawn o bobl sydd ar enillion canolrifol, sy'n gweithio, nawr yn methu fforddio prynu tŷ, pan fyddai hynny wedi bod yn hawdd iddyn nhw 25 neu 30 mlynedd yn ôl, oherwydd bod pobl sy’n prynu i rentu wedi eu prynu nhw i gyd.
Mae er budd i adeiladwyr tai mawr adeiladu llai na'r galw, oherwydd mae’r gwrthwyneb yn golygu y bydd ganddyn nhw eiddo heb eu gwerthu. Mae Cymorth i Brynu yn cynyddu’r galw, ond nid yw’n gwneud dim byd i’r cyflenwad. Nid yw'r prinder tai ar yr un raddfa ag yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Yn 1945, roeddem ni wedi colli tai i'r bomio, a chafodd slymiau eu clirio ar raddfa fawr yn y 1940au a'r 1950au. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding, ond rwy’n credu ei fod yn gwneud pwynt hynod bwysig nad yw adeiladu llawer o dai ac adeiladu llawer o dai sector cyhoeddus yn beth unigryw ac nad yw'n anodd. Mae wedi digwydd yn y gorffennol. Mae Llywodraethau Llafur a Cheidwadol wedi gwneud hynny, ac ym Mhrydain ar y cyfan roedd tai cyngor ar eu lefel uchaf o dan Lywodraeth Geidwadol y 1950au. Roedd maniffesto Ceidwadol 1959 yn sôn am faint o dai cyngor yr oedd y Llywodraeth Geidwadol yn mynd i’w hadeiladu.
Roedd llawer o ehangu. Cefais i fy magu mewn tŷ cyngor ar gyrion Abertawe. Cafodd llawer o dai cyngor eu hadeiladu ar gyrion llawer o drefi a dinasoedd ar y pryd, er bod cyrion y trefi a’r dinasoedd yn ôl pob tebyg wedi cynyddu'n llawer pellach erbyn hyn. Rydym ni wedi cael cyfnodau o ffyniant prisiau tai a chyfnodau o fethiant, ond roedd y rhain ar ôl y 1960au. Yn y 1960au, adeiladwyd 400,000 eiddo ym Mhrydain. Byddai’r ffigur cyfatebol yng Nghymru wedi bod tuag 19,000 neu 20,000. O ran ansawdd, y safon y sonnir amdani fel arfer yw safon Parker Morris, a oedd yn pennu maint priodol y tai. Roedd y safon yn dweud ei bod yn well adeiladu fflatiau a thai sy’n rhy fawr, yn hytrach nag yn rhy fach. Dychmygwch adeiladwr yn dweud hynny heddiw.
I adeiladu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion pobl Cymru, mae angen rhyddhau mwy o dir i adeiladwyr bach mewn lleiniau sy’n llai na throthwy’r cynllun datblygu lleol, gan gynnwys safleoedd mewnlenwi, ac mae angen ariannu a grymuso cynghorau i adeiladu tai cyngor unwaith eto. Os na ddechreuwn ni adeiladu tai cyngor, allaf i ddim gweld unrhyw ffordd y gallwn ni gyrraedd nifer y tai yn y sector fforddiadwy sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. Mae angen gwneud mwy i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Os nad yw dyblu'r dreth gyngor yn gweithio, beth am ei gwneud bedair gwaith yn fwy? Mae'n rhaid bod rhyw bwynt ar swm y dreth gyngor maen nhw’n ei thalu lle bydd pobl yn fodlon ailddechrau defnyddio’r tai hynny. Yn olaf, rwy’n credu mai’r peth allweddol yw gwneud yn siŵr bod ein polisïau wedi'u hanelu at y cyflenwi, nid at y galw. Yr oll y bydd cyflwyno arian ar ochr y galw’n ei wneud yw cynyddu prisiau.
Fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwahanol ffrydiau gwaith sydd yn y ddogfen adolygu’r cyflenwad tai fforddiadwy yr ydym ni wedi ei chael, ac rwy’n mynd i fyfyrio ar rai pethau a ddywedodd Mike Hedges, rhai pethau a ddywedodd Bethan Sayed a rhai pethau a ddywedodd David Melding.
Yn gyntaf oll, rydym ni wedi sôn am yr angen am dai, ac mae’r angen, fel y dywedodd Mike Hedges, sy’n bodoli o dan y gromlin galw yn golygu nad ydym ni, drwy fecanwaith y farchnad, yn darparu’r tai hynny. Felly, mae'n eithaf braf ailddechrau o ble y gorffennodd Mike Hedges. Mae angen inni adeiladu’r tai cywir yn y lleoedd cywir. Os gadawn ni hyn i fecanwaith y farchnad, dydw i ddim yn meddwl y gwnaiff hynny ddigwydd. Fe rof i enghraifft ichi. Mae datblygiad tai yn fy etholaeth yn Hendredenny wedi cael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth i adeiladu 260 o gartrefi. O hynny, yn y cais cychwynnol, mae 60 ohonyn nhw’n fforddiadwy, a dydw i ddim yn meddwl y bydd y safon fforddiadwyedd honno’n cyfateb i unrhyw beth y byddai neb yng ngogledd fy etholaeth yn ei ystyried yn fforddiadwy. O’r 60 hynny, mae’r nifer yn debygol o ostwng pan gaiff y tai eu hadeiladu mewn gwirionedd. Felly, os ydych chi’n mynd i ateb y galw am dai a’r angen am dai drwy’r adeiladwyr tai mawr, dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd; mae angen i bethau gwahanol ddigwydd. Felly, mae adeiladu yn y de a'r gogledd yn ddau fater gwahanol iawn.
Rydw i wedi dadlau ers tro nad yw cynlluniau datblygu lleol yn diwallu’r angen am dai o gwbl beth bynnag. Rwy’n credu eu bod nhw’n fethiant, ac rwy’n credu bod y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno’r adolygiad hwn yn dangos eu bod nhw’n derbyn y ffaith honno, a hefyd y ffaith ein bod ni nawr yn sôn, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, am gynlluniau datblygu strategol yn hytrach na chynlluniau datblygu lleol. Rwy’n credu bod hynny’n dangos ein bod ni’n teimlo nad yw mecanwaith y farchnad yn cyflawni’r hyn sydd ei angen arnom ni. Hefyd, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddatgymhwyso paragraff 6.2 TAN 1 yn dangos y ffaith nad ydym ni’n cyflawni tai drwy gyfrwng y model presennol.
Os caf i edrych ar ffrwd gwaith 6 yn y papur adolygu, sy'n sôn am gadwyn gyflenwi adeiladu sy'n cynnwys dulliau adeiladu modern. Yn rhy aml, fel rwy'n dweud dro ar ôl tro, mae’r pedwar datblygwr tai mawr yng Nghymru yn tra-arglwyddiaethu ar y farchnad dai, ac yna dydym ni ddim yn adeiladu yn ôl yr angen. Rwyf wedi sôn am yr enghraifft yn ystâd Cwm Calon yn fy etholaeth i ble mae ansawdd adeiladu ac ansawdd y gwaith cynnal a chadw, ansawdd y gwaith gofal, yn wael iawn, iawn. Ac yna rwy’n troi at ffynhonnell annhebygol i ategu fy marn am y cartél hwn, yr oligopoli hwn sy'n bodoli: yr 'Independent Review of Build Out Rates’ gan Oliver Letwin AS. Nawr, dyw ef ddim yn gefnogwr i fecanwaith y farchnad—ac rwy’n gallu gweld Nick Ramsay yn nodio: 'ie, am ffynhonnell dda.' Wel, dewch imi ddarllen ichi yr hyn mae’n ei ddweud ar dudalen 26 ei adroddiad. Mae hyn ym Mehefin 2018:
Fel yr wyf wedi’i ddadlau, mae’r adeiladwyr tai mawr yn sicr yn "bancio tir": maen nhw’n bwrw ymlaen ar safle mawr...ar gyfradd a luniwyd i ddiogelu eu helw drwy adeiladu a gwerthu cartrefi ar gyflymder sy'n cyfateb i allu’r farchnad i amsugno'r cartrefi hynny ar y prisiau a bennir drwy gyfeirio at y farchnad ... leol.
Felly, dydyn nhw ddim yn rhuthro i adeiladu.
Yr esboniad i’r ffaith bod adeiladwyr tai mawr yn cadw llawer o dir yw’r ffaith bod angen i’r adeiladwyr tai mawr gynnal busnes cynaliadwy…sicrhau mai ganddyn nhw, yn hytrach na’u cystadleuwyr, mae cymaint o dir â phosibl,
a fydd yn lleihau mynediad i’r farchnad.
Beth maen nhw’n ei wneud yw dal tir i gynnal prisiau ac atal cwmnïau bach rhag cael mynediad i’r farchnad. Ymddygiad oligopoli cwmni mawr clasurol yw hynny, ac fel sosialydd mae'n troi arnaf.
Wel, mae'n troi arnaf fi a minnau'n gyfalafwr.
Ac mae'n troi ar David Melding, ac yntau'n gyfalafwr. [Chwerthin.] Felly, rwy’n credu bod hynny’n dangos, hyd yn oed os ydych chi wedi eich rhannu ar delerau ideolegol, ei bod hi'n dal yn bosib dod o hyd i rai elfennau cyffredin o arfer—rhai elfennau cyffredin o arfer.
Mae angen i’r model traddodiadol o adeiladu tai newid. Fe wnes gyfarfod yn fy nghymhorthfa, fore Sadwrn, â Cerianne Thorneycroft. Cafodd hi ei geni yng Nghaerdydd, mae hi'n bensaer siartredig ac yn amgylcheddwr, ond mae hi bellach yn byw yn swydd Gaerloyw. Mae hi’n ceisio hyrwyddo'r cyniad o hunan-adeiladu, a hithau wedyn yn gweithredu yn rheolwr prosiect. Dywedodd hi nad oes angen, yn ei model hi, cynnwys unrhyw ddatblygwr tai. Does dim costau i’w harbed, dim cyfleoedd i’w colli yn seiliedig ar elw’r nod terfynol. Mewn e-bost imi, meddai hi, 'Wrth hunan-adeiladu, rwy’n golygu bod perchnogion y cartrefi yn y dyfodol yn cymryd rhan o'r dechrau, cyn y ceir safle hyd yn oed.' Felly, mae’r bobl hynny’n cael eu cynnwys ac mae hi’n hwyluso hynny. Mae'n fodel arloesol. Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru siarad â Cerianne Thorneycroft a thrafod gyda hi y busnes hwn o'r enw Green Roots E-cohaus. Rwy’n credu ei bod hi’n werth gwrando arni.
Ac yn olaf, o ran ffrwd gwaith 9, pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n credu bod problemau, fel y dywedodd Bethan Sayed, â thaliadau rheoli ystadau, ac rydym ni wedi trafod y rheini. Rwy’n credu bod angen ombwdsmon eiddo annibynnol yng Nghymru a bod angen addasu a chryfhau Rhentu Doeth Cymru fel corff achredu a rheoleiddio hyd braich i’r cwmnïau rheoli ystadau hynny, oherwydd yr hyn y mae’r cwmnïau rheoli ystadau’n ei wneud yw ychwanegu costau ar ben eich morgais, ar ben eich treth gyngor, sy'n gwneud tai’n llai fforddiadwy. Does neb yn eu rheoleiddio nhw. Dewch imi ddweud wrthych: pe baen ni i gyd am ddod at ei gilydd a sefydlu cwmni rheoli ystadau yfory, fe allem ni, ac fe allem ni flingo pobl, ond wrth gwrs fyddem ni ddim yn gwneud hynny. Ond mae yna bobl allan yna a fyddai, ac rwy’n credu bod angen corff rheoleiddio. Rwy’n credu, yn unol â ffrwd gwaith 9—rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru adnodd, sef Rhentu Doeth Cymru, a allai weithredu fel corff hyd braich, ac mae Cymdeithas yr Asiantau Rheoli Preswyl yn credu bod hynny'n gwbl bosibl.
Felly, mae hwn yn gam mawr i Lywodraeth Cymru, ond rwy’n credu bod angen gwneud mwy yn unol â byrdwn y ddadl hon.
Mae Llafur yn siomi Cymru yn llwyr o ran tai. Mae'r cynnig hwn yn honni bod Llafur yn gosod y sylfeini ar gyfer mwy o dai fforddiadwy, ond does ond rhaid ichi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd i weld pa mor hurt yw hyn. Yn syml, mae Llafur yn gwerthu ein dinas. Mae bron bob darn o dir glas yng ngorllewin y ddinas a llawer yn y dwyrain yn cael eu hadeiladu arnynt ar hyn o bryd, ac nid tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan gwmnïau lleol yw’r rhain; ond tai drud iawn yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr tai enfawr, corfforaethol. Dydyn nhw ddim yn poeni am ein diwylliant, ein hiaith na'n ffordd ni o fyw. Mae cefn gwlad hardd o amgylch Danescourt ar fin cael ei golli. Fydd rhedwyr â phobl sy'n mynd â'u cŵn am dro ddim yn gallu mynd yno mwyach os na allwn ni atal yr adeiladu. Mae Regency Park yn cael ei adeiladu; mae adeilad y Ledger yn mynd i fyny yn y datblygiad Cei Canolog newydd. Nawr, gallai’r rhain fod yn unrhyw le, a dydyn nhw ddim yn swnio'n Gymreig o gwbl. A allwn ni o leiaf gael rhyw gydnabyddiaeth o’r ffaith bod y Cymry wedi byw yma ers miloedd o flynyddoedd?
Dydy’r tai ddim wir yn fforddiadwy ychwaith. Fyddai gan y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf ddim cyfle o ddod o hyd i £283,000 i brynu tŷ tair ystafell wely ym Mhentre-baen. All fy etholwyr i ddim fforddio hynny, a bydd yn rhaid iddyn nhw eistedd yn ôl a gwylio wrth i bobl gyfoethocach symud i mewn a byw yn y mannau lle’r oedd eu plant nhw’n arfer chwarae yn y caeau. A fyddwch chi ddim yn gallu cael apwyntiad meddyg ychwaith—dim mwy o leoedd mewn meddygfeydd hyd nes bod 3,000 o dai wedi’u hadeiladu. Pymtheg mil o geir ychwanegol ar y ffordd—peidiwch â siarad â mi am lygredd aer os gwelwch yn dda. Dim gobaith o unrhyw ddewis amgen teilwng o ran trafnidiaeth gyhoeddus.
Nawr, mae'r awgrym a’r emosiwn bod Llywodraeth Cymru rywsut yn gyrru effeithlonrwydd tai yn hurt hefyd, oherwydd rydym ni i gyd yn cofio Llafur yn troi eu cefnau’n llwyr ar dargedau effeithlonrwydd ar gyfer tai newydd, ac eto rydych chi wedi gadael i’r datblygwyr mawr, corfforaethol wneud yn union fel y mynnant. Felly, dyma rai awgrymiadau: gwnewch fwy am yr eiddo gwag hirdymor sy'n difetha ein cymunedau. Mae rhai wedi bod yn wag ers degawdau—degawdau—rhowch nhw’n ôl ar y farchnad. Cyflogwch bobl leol i’w hadnewyddu nhw. Mae pawb yn ennill. Dydw i wir ddim yn deall pam nad yw cynghorau’n gwneud peth mor syml pan mae mor amlwg ac mor fuddiol i'r economi leol. Pam nad ydym ni’n datblygu safleoedd tir llwyd? Mae cymaint o ormodedd tir cyflogaeth yn y de, ac eto mae'r safleoedd hyn yn dal yno ac rydym ni’n gweld y mannau gwyrdd mawr yn cael eu datblygu.
Dylai datblygiadau newydd hefyd adlewyrchu Cymru—enwau Cymraeg i’r datblygiadau newydd, ac fe ddylen nhw fod yn gwbl ddwyieithog. Dylai’r tai fod yno i bobl leol ac nid i apelio at ryw farchnadoedd eiddo rhyngwladol. Mae Llafur wedi gwneud cymaint o lanast o dai. Mae angen tai lleol i ddiwallu’r angen lleol fel y gall pobl leol fforddio byw yn eu cymunedau. Mae angen polisi tai arnom ni sy'n lleol yn ei hanfod ac sy’n adlewyrchu hanes balch ein gwlad hefyd. Diolch yn fawr.
Mae'n anodd iawn anghytuno â David Melding. Mae tai da yn hawl i bawb, a dyna oedd barn Aneurin Bevan. Ef oedd yn gyfrifol am y tai cymdeithasol o safon uchel iawn y cawsom ni ein bendithio â nhw ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au. Yn amlwg, byddai’n beth da inni allu cyrraedd y safonau uwch hynny unwaith eto, oherwydd mae’r tai hynny wedi goroesi treigl amser ac maen nhw’n gynaliadwy.
Er y byddwn i’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru raglen uchelgeisiol ar dai, nid yw'n ddigon i ddiwallu’r anghenion, oherwydd i’r rhan fwyaf o bobl dydy tai preifat ddim yn fforddiadwy a does dim digon o dai cymdeithasol i ateb y galw. Rwy'n cytuno â Hefin David na allwn ni ddibynnu ar y chwe adeiladwr tai mawr i ddiwallu ein hanghenion. Yn syml, dydyn nhw ddim yn mynd i adeiladu ar gyfer y bobl sydd fwyaf angen eu cartrefu.
Roeddwn i eisiau edrych ar y rhaglen tai arloesol a gymeradwywyd gan Carl Sargeant ym mis Hydref y llynedd. Cafodd 30 o wahanol brosiectau eu dyfarnu, rhai ohonyn nhw yng Nghaerdydd, ac rwy’n credu bod y math hwn o brosiect (a) yn dweud wrthym ni bod llawer o bobl eisiau adeiladu tai arloesol a (b) y gall hyn fod yn ffordd o ddarparu tai sy'n hyblyg i fodloni anghenion pobl ac sydd hefyd yn effeithlon o ran ynni. Er enghraifft, mae cyngor Caerdydd yn adeiladu wyth cartref teuluol sy’n effeithlon o ran ynni ar dir Hostel Greenfarm yn Nhrelái, sydd ar hyn o bryd yn mynd i gael ei ddefnyddio fel llety dros dro tra bod teuluoedd yn aros am ateb mwy parhaol o ran tai. Ond bydd y rhain yn symudol fel bod modd eu symud nhw i safle arall os nad oes eu hangen mwyach ar gyfer y diben y maen nhw'n mynd i gael eu hadeiladu ar ei gyfer ar hyn o bryd.
Mae'n arwydd o ba mor hir mae'n ei gymryd i roi prosiectau ar waith, oherwydd mae cyngor Caerdydd yn gwbl gefnogol i’r cynllun hwn o'u heiddio. Mae nawr wedi cael caniatâd cynllunio, ond does ganddyn nhw ddim pobl sy'n gallu byw yn y prosiectau hyn o hyd. Serch hynny, mae defnyddio’r cynwysyddion llongau y mae hyn yn seiliedig arno yn ffordd o ddarparu tai yn gyflym er mwyn ateb yr angen dybryd sydd gennyn ni. Mae Cymdeithas Tai Cadwyn yn datblygu prosiect tebyg gan ddefnyddio cynwysyddion môr yn gartrefi un a dwy ystafell wely gyda systemau solar ffotofoltäig—12 cartref yma yng Nghaerdydd yn Stryd Bute, ar ddarn gwag o dir. Mae'r rhain yn gyfraniadau ardderchog at yr angen dirfawr, ond yn amlwg yn annigonol i ateb y galw aruthrol.
Fe allwch chi weld bod llawer o brosiectau eraill o mewn gwahanol rannau o Gymru: Pentre Solar, sydd eisoes wedi adeiladu tai rhagorol mewn rhannau o sir Ddinbych, ac sydd nawr yn adeiladu cartrefi gan ddefnyddio coed lleol yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Mae sefydliadau eraill yn adeiladu i safonau'r hyn a adwaenir wrth yr enw tŷ goddefol, a dyma’r mathau o bethau sydd eu hangen, ond rwy’n credu bod angen inni wneud llawer iawn mwy ohonynt.
O ran y ffordd y mae’r adeiladwyr tai mawr yn bancio tir, rwy’n gobeithio y bydd y dreth ar dir gwag y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyflwyno yn y sesiwn nesaf yn helpu i ymdrin â hynny. Ond yn y cyfamser rwy’n credu bod yna bethau eraill y gallem ni eu croesawu yn ogystal. Mae elusen yng Nghasnewydd o'r enw Amazing Grace Spaces sy’n creu cartrefi o gynwysyddion, ac yn ddiweddar maen nhw wedi cyflenwi dau gynhwysydd wedi’u cyfarparu’n llawn i Gartrefi Cymoedd Merthyr i deuluoedd fyw ynddyn nhw, ac maen nhw wrthi'n trosi pedwar cynhwysydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Felly, rwy’n gobeithio y gellir croesawu’r math hwnnw o beth.
Sefydliad arall sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf i yw Down to Earth, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, ac felly gobeithio bod y Gweinidog yn gwybod amdano. Maen nhw'n gwneud tai hollol syfrdanol—wel, nid tai, ond datblygiadau adeiladu, gan weithio gyda phobl sy'n agored i niwed o ryw fath neu'i gilydd—rhai ohonyn nhw yn geiswyr lloches, rhai ohonyn nhw yn bobl â phroblemau iechyd meddwl—ac mae'r cynllun helpu i drawsnewid bywydau’r bobl hynny. Maen nhw’n caffael y sgiliau i godi'r adeiladau sy’n mynd i wella eu lles, ac mae Down to Earth bellach ar restr gaffael gymeradwy Llywodraeth Cymru, felly rwy’n gobeithio y bydd cyrff iechyd yn croesawu prosiectau fel Down to Earth.
Rwy'n annog y Gweinidog i ystyried addasu’r rheoliadau adeiladu i adfer y safonau di-garbon a gyflwynwyd gan Gordon Brown pan roedd yntau'n Brif Weinidog ac yna a ddiddymwyd gan George Osborne, oherwydd allwn ni ddim adeiladu mwy o gartrefi y bydd angen inni wedyn ôl-osod cyfarpar ynddyn nhw. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog.
Roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. Yn gynharach eleni, es i i ymweld â Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe, lle y gwelais ystafell ddosbarth effeithlon o ran ynni gyntaf y DU, sy'n dangos sut y gellir dylunio adeiladau i fod yn gynhyrchwyr ynni neu'n orsafoedd pŵer yn y cartref. Mae gan yr ystafell ddosbarth do solar integredig a storfa fatri, ac mae'r waliau sy'n wynebu'r de yn casglu ynni solar. Dim ond ers chwe mis y mae hi wedi bod yno, ond yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi wedi cynhyrchu mwy o ynni nag y mae hi wedi ei ddefnyddio. Yn y Cynulliad blaenorol, roeddwn i'n falch o ymweld, gydag Aelodau eraill yn y fan yma, â Thŷ SOLCER ar Stormy Down, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n credu, a gostiodd £125,000 i'w adeiladu. Gwnaeth hwnnw argraff fawr arnaf i a gwnaethpwyd argraff hyd yn oed fwy arnaf i ar ôl ymweld â SPECIFIC yn Abertawe ychydig o wythnosau yn ôl.
Rwy'n credu bod llawer o'r dulliau newydd, arloesol hyn o adeiladu yn digwydd, a cheir pocedi o ddylunio da iawn. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn am rai ohonynt yn ei chyfraniad hi ac mae hi wedi sôn am yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud. Pan oeddwn i ym Mhrifysgol Abertawe, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod y cysyniad hwn o fod yn bwerdy yn cael ei ddylunio i mewn i ddatblygiad newydd yng Nghastell-nedd gan gymdeithas dai—Pobl, rwy'n credu. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys toeon solar, rhannu storfa fatri, y potensial i drydanu cerbydau trydan—oherwydd, yn amlwg, wrth fynd i'r afael â'r broblem carbon, mae'n rhaid i ni wneud mwy am geir trydan—gwresogi dŵr gan gasglwr gwres solar ar waliau sy'n wynebu'r de, a gwres gwastraff yn cael ei ddal a'i ailgylchu yn yr adeilad, a bydd yr holl dechnolegau cyfunol hyn hefyd yn helpu i gadw biliau yn isel, gan fod y mathau hyn o adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn gallu gostwng biliau tanwydd aelwydydd cymaint â £600 y flwyddyn a lleihau'r defnydd o ynni cymaint â 60 y cant.
Felly, beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau hyn o dechnolegau arloesol mewn cartrefi newydd ac, yn benodol, mewn cartrefi fforddiadwy? Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe wnes i gwrdd ag un o'r adeiladwyr tai preifat mawr sy'n adeiladu 2,200 o gartrefi yn fy etholaeth i, a bydd 30 y cant ohonyn nhw'n gartrefi fforddiadwy, a chawsom drafodaeth dda ynglŷn â'r manteision cymunedol a fydd yn dod i'r ardal yn sgil hynny—wyddoch chi, llwybrau beicio, a thocynnau bws i bobl, a'r mathau hynny o bethau—ond dydyn nhw ddim yn cyflwyno dim o'r dechnoleg cynhyrchu ynni yma, ac maen nhw'n adeiladu, wyddoch chi, 2,200 o gartrefi, ac mae'n rhan o ddatblygiad mwy o lawer, gan fod y boblogaeth yng Nghaerdydd yn tyfu ac mae gennym ni 8,000 o bobl ar y rhestr dai, felly mae angen y cartrefi newydd hyn arnom ni. Ond mae'n torri fy nghalon i braidd i weld y datblygiad tai eang hwn, lle y dylem ni fod â'r dechnoleg newydd hon wedi'i chynnwys ym mhob un. Meddyliwch cymaint o wahaniaeth y byddai hynny'n ei wneud i'r bobl sy'n mynd i fyw yno—fel yr wyf yn ei ddweud, mae 30 y cant ohonyn nhw wedi'u cynllunio i fod yn dai fforddiadwy—meddyliwch sut y byddai'n helpu pobl â'u biliau a sut y byddai'n arbed arian yn y dyfodol—wyddoch chi, i genedlaethau'r dyfodol. Byddai'n cyd-fynd â'n holl bolisïau, ond mae'r holl dai hyn yn mynd i gael eu hadeiladu yng Nghaerdydd nawr, a byddwn i'n tybio bod hyn yn digwydd â'r holl ddatblygwyr tai mawr, nad oes dim o'r dechnoleg newydd hon yn cael ei chynnwys ynddynt.
Felly, roeddwn i eisiau gofyn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, beth y gallem ni ei wneud am hyn. Beth y gallwn ni ei wneud i ddwyn perswâd ar adeiladwyr tai preifat? Yr adeiladwyr tai preifat mawr. Beth y gallwn ni ei wneud i'w darbwyllo i feddwl am y dyfodol? A byddwn i'n ategu'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y rheoliadau adeiladu. Yn amlwg, gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw drwy newid y rheoliadau adeiladu yn ôl i'r hyn a gafodd ei ddiddymu. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a oes unrhyw gynlluniau i edrych ar y rheoliadau adeiladu a'r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio adeiladu ar gyfer y dyfodol.
Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn ddadl ddefnyddiol iawn a fydd yn sicr yn llywio'r panel i'r cyfeiriad iawn o ran deall y pryderon a geir yma yn y Siambr hon. Rwy'n mynd i geisio ymateb i gynifer o'r pwyntiau ag y gallaf, ac fe wnaf i ddechrau â materion sy'n ymwneud â dulliau modiwlar a chyfoes o adeiladu, oherwydd codwyd hynny gan y rhan fwyaf o'r Aelodau a siaradodd yn y ddadl. Wrth gwrs, mae ein rhaglen tai arloesol eisoes wedi cefnogi 21 o wahanol brosiectau ledled Cymru sydd yn sicr yn ysbryd y math o brosiect y mae Julie Morgan newydd ei ddisgrifio. Yn wir, mae ein prosiect yng Nghastell-nedd yn un o'n prosiectau rhaglen tai arloesol a gymeradwywyd o dan gyllideb y llynedd.
Mae'r ffenestr ar gyfer ceisiadau i'r cylch ariannu presennol yn dod i ben yr wythnos hon. Felly, rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o syniadau arloesol yn cael eu cyflwyno. Felly, syniadau newydd, ond hefyd syniadau sy'n datblygu'r rhaglenni yr ydym eisoes wedi eu gweld yn gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae llawer mwy o gyfle i wella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yno.
Mewn gwirionedd, mae angen inni gyrraedd pwynt lle y gallwn ni gyflwyno'r arloesedd hwn ar raddfa fawr, a phan fo'n ymarferol yn fasnachol i sicrhau ei fod mewn mwy o dai ar y fath o raddfa a ddisgrifiwyd gan Julie. Mae rhan o hynny yn cynnwys edrych ar reoliadau adeiladu, a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths sy'n gyfrifol am hynny. Ond gallaf gadarnhau y bydd Rhan L o'r rheoliadau adeiladu yn cael ei hadolygu, a bydd hynny'n cychwyn yn ddiweddarach eleni. Roedd yn llwyddiannus o'r blaen o ran sicrhau gostyngiad o 8 y cant ac 20 y cant mewn allyriadau carbon o'i chymharu â safonau 2010 ar gyfer tai newydd ac adeiladau annomestig, yn y drefn honno. Felly, rwy'n credu mai nawr yw'r amser inni ystyried sut y gallwn ni fod yn fwy uchelgeisiol yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen tai arloesol hefyd yn rhoi cyfle inni weld beth arall y gallwn ni ei wneud gan ddefnyddio pren o Gymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon, ac yn sicr ar draws y Llywodraeth, yn frwdfrydig iawn ynghylch ei wneud. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol mai un o'r heriau sydd gennym pan fyddwn ni'n sôn am dai arloesol yw sut y gallwn ni sicrhau bod y diwydiant yn barod i ymateb yn nhermau sgiliau. Unwaith eto, roedd hyn yn rhywbeth a godwyd yn y ddadl heddiw.
Mae yna awydd i sicrhau ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Felly, soniwyd am dasglu'r Cymoedd, er enghraifft, a gallaf gadarnhau bod tasglu'r Cymoedd yn edrych ar brosiect cyffrous iawn sy'n cynnwys yr hyn a elwir yn siop llain, ac mae Rhondda Cynon Taf yn ei arwain ar y prosiect ar ran y ddinas-ranbarth. Mae hynny'n ymwneud â hunan-adeiladu a chartrefi a adeiladir yn bwrpasol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r tir. Mae'n dod gyda'r caniatâd cynllunio eisoes ar waith. Mae'r person sydd â diddordeb mewn hunan-adeiladu neu adeilad pwrpasol yn dewis o lyfr patrwm o gartrefi, felly mae hynny hyd yn oed wedi'i wneud ar eu cyfer, ac yna maen nhw'n bwrw ymlaen ac yn adeiladu'r tŷ neu'n gofyn i'w hadeiladwyr adeiladu i'r safonau hynny. Felly, mae'n gwneud hunan-adeiladu ac adeiladu pwrpasol mor hawdd ag y gallan nhw fod, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n awyddus i'w archwilio yn y camau cychwynnol yn rhan o dasglu'r Cymoedd, ond rwy'n credu bod potensial enfawr i hynny ledled Cymru hefyd.
Roedd llawer o ddiddordeb yn y ddadl o ran cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig. Gofynnwyd yn arbennig sut y gallwn ni ehangu'r cymorth gan gronfa datblygu eiddo Cymru. Wel, rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Dechreuodd y gronfa honno fel cronfa o £10 miliwn, ond roedd mor boblogaidd ymhlith busnesau bach a chanolig, ein bod ni nawr wedi ychwanegu £30 miliwn arall i'r gronfa honno. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y cyllid hwnnw mewn gwirionedd yn cael ei ailgylchu dro ar ôl tro, felly mae llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig i elwa ar hynny, ochr yn ochr â'r gronfa safleoedd segur yr ydym wedi ei chyflwyno i ryddhau rhai o'r safleoedd hynny nad yw, am ba bynnag reswm—gallai fod yn adferiad neu efallai oherwydd llif arian—nad yw busnesau bach a chanolig wedi adeiladu ar y safleoedd hynny hefyd. Felly, mae llawer o waith cyffrous yn digwydd yn y maes penodol hwnnw.
Codwyd mater y polisi rhent yn y ddadl, a dyna un o'r ffrydiau gwaith y mae'r panel wedi'i nodi sy'n bwysig i fwrw ymlaen ag ef. Pan fyddwn ni'n sôn am bolisi rhenti, rwyf bob amser yn ymwybodol bod angen inni fod yn meddwl am fforddiadwyedd i'r tenantiaid, a dyma pam mai hon yw'r flwyddyn olaf bellach o'r cytundeb pum mlynedd a fu gennym â'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran pennu polisi rhent. Felly rydym wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt i'n cynghori ni ar fodelau posibl ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, a gofynnais iddynt ymgymryd â gwaith bwrdd crwn gyda thenantiaid i ddeall fforddiadwyedd o'u safbwynt nhw, i sicrhau bod gennym y cydbwysedd iawn o wneud y peth iawn i denantiaid, ond, yn yr un modd, drwy roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cyllid sydd ei angen arnyn nhw er mwyn parhau i adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol yn arbennig, oherwydd bod hyn oll yn rhan o'r darlun ehangach. Mae popeth ym maes tai yn gydgysylltiedig yn y ffordd honno.
Mater y cyfle i awdurdodau lleol adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym—wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o awyddus i'w ysgogi o fewn Llywodraeth Cymru, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yw drwy edrych ar derfyn benthyca awdurdodau lleol. Mae gennym £17 miliwn o fewn y terfyn benthyca presennol sydd eto i'w ddyrannu, ac rydym wedi gallu negodi cynnydd o £56 miliwn i'r terfyn benthyca gan y Trysorlys hefyd, felly mae hynny'n golygu bod gennym £73 miliwn i'w ddyrannu ymhlith awdurdodau lleol. Felly, mae rhywfaint o waith terfynol yn mynd rhagddo erbyn hyn gydag awdurdodau lleol i ddrafftio'r gweithdrefnau i alluogi awdurdodau tai lleol i ymgeisio am gapasiti benthyca ychwanegol, ac rydym yn gwneud hynny gan weithio ar y cyd â chynrychiolwyr tai a chyllid awdurdodau tai lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gytuno ar y dogfennau terfynol yn y fan yno.
Rydym ni wedi sôn yn y ddadl am yr angen am dai, a hwn oedd y cyntaf o'r ffrydiau gwaith a nodwyd gan y panel yn rhai yr oedd angen bwrw ymlaen â nhw. Ceir barn bod angen diweddaru adroddiad Holmans, oherwydd, fel y deallaf i, roedd rhywfaint o'r data a ddefnyddiwyd ynddo yn dyddio'n ôl i sut yr oedd aelwydydd yn ffurfio yn ôl yn y 1990au, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl ddilys i geisio diweddaru y gwaith hwnnw o ran hysbysu'r ffordd ymlaen, oherwydd mae'r adolygiad hwn yn sicr yn ymwneud â'r tymor hwy. Nid yw hyn yn ymwneud â chreu atebion cyflym i broblemau tai, mae'n ymwneud â bodloni'r galw tymor hir. [Torri ar draws.] Gwnaf wrth gwrs.
Os gallan nhw adeiladu ar y model Holmans a'i wneud yn gyfredol, mae hynny'n iawn, ond fe'i cyhoeddwyd dair blynedd yn unig yn ôl. Rwy'n credu y gallwn ni orliwio pa mor gyfredol yr ydyw, yn eich barn chi.
Fel rwy'n dweud, mae rhywfaint o'r data ynddo yn mynd yn ôl i'r 1990au. Rwy'n credu, beth bynnag y bydd ein data ni yn ei ddweud, beth bynnag y mae data Holmans yn ei ddweud, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod angen inni fod yn adeiladu mwy o gartrefi a'n bod ni eisiau adeiladu mwy o gartrefi. Felly, yn sicr mae gennym ni hynny yn gyffredin.
Fe wnaf i orffen ar y mater o dai fel hawl ddynol. Mae hyn yn rhywbeth y soniodd amryw Aelodau amdano hefyd yn y ddadl heddiw. Er na all Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud tai yn hawl ddynol, fe allwn ni, serch hynny, yn sicr ei gydnabod a gweithredu o fewn yr ysbryd hwnnw. Rydym yn gwneud hynny mewn un ffordd, er enghraifft, yn ein hegwyddorion tai yn gyntaf. Egwyddor gyntaf yr egwyddorion tai yn gyntaf hynny yw bod tai yn hawl ddynol, ac mae hynny yn sicr yn nodi'r ysbryd yr ydym yn gweithredu ynddo yn ein huchelgeisiau tai ar gyfer Cymru.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, sy'n dod â ni i'r cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2018-19. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 23 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
NDM6748 - Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19: O blaid: 30, Yn erbyn: 0, Ymatal: 23
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y ddadl ar yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6764 - Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2, felly, ac os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
NDM6764 - Gwelliant 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 3. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, dau yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
NDM6764 - Gwelliant 3: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4—os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, dau yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
NDM6764 - Gwelliant 4: O blaid: 22, Yn erbyn: 29, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 5, felly. Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
NDM6764 - Gwelliant 5: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio—galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Heb ei ddiwygio—wnes i ddim sgrapo mas un o'r gwelliannau. Felly, ymddiheuriadau am hynny. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
NDM6764 – Adolygiad o r Cyflenwad Tai Fforddiadwy - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni ar ddiwedd ein cyfnod y prynhawn yma.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.