Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/04/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, David Melding. 

Cefnogi Pobl sydd mewn Dyled

1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae cyllid ychwanegol ar gyfer undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol wedi'i gynnwys yn y gyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer 2018-19. Pan fydd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn cwblhau ei daith drwy Senedd y DU, rydym yn rhagweld y bydd cyfrifoldeb a chyllid cyngor ar ddyledion yn cael eu trosglwyddo i Gymru.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ei ateb? Efallai y gwyddoch ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Straen cenedlaethol y mis hwn, ac yn ôl y Debt Support Trust, o’r rheini sydd â dyledion difrifol, mae oddeutu hanner y bobl yn y sefyllfa honno yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl ac yn ystyried hunanladdiad. Mae'n straen aruthrol ar bobl. Yn 2017, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 28,500 o bobl â phroblemau dyled ledled Cymru, ac roedd llawer o'r problemau hynny yn ymwneud â chardiau a dyledion benthyciadau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar faint y gallwn ei roi i'r maes cyngor a chymorth. Gwn fod £4.4 miliwn wedi’i nodi yn y Cynulliad diwethaf ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, a chan mai ni bellach fydd yn bennaf gyfrifol am gyngor ar ddyledion yn y dyfodol agos, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn flaenoriaeth uchel yn ystyriaethau'r Gweinidog.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Rydym yn darparu bron i £6 miliwn eleni i gefnogi sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, Shelter ac Age Cymru, i ddarparu cyngor ledled Cymru ar faterion lles cymdeithasol, gan gynnwys gwella incwm aelwydydd a rheoli dyledion aelwydydd. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 43,000 o bobl yn y categori hwnnw, gan helpu i sicrhau incwm ychwanegol o £28 miliwn i'r teuluoedd hynny yma yng Nghymru.

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod cysylltiad anochel rhwng dyled a lefelau uchel o straen ac anawsterau mewn rhannau eraill o fywydau pobl. Rwy’n cymryd rhan mewn trafodaethau â llywodraeth leol yng Nghymru ynglŷn â dyled y dreth gyngor. Mae dyled y dreth gyngor i fod i nodi a yw aelwydydd yn fregus mewn meysydd eraill. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud hyn yn dda iawn. Nid oes gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru unrhyw bolisi o gwbl ar fregusrwydd, felly yn sicr, mae mwy y gellir ei wneud, nid yn unig o ran cyllid, ond o ran y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu cyflawni ar lawr gwlad.

Un peth sy'n debygol o achosi i fwy o bobl fynd i ddyled ydy'r cyfnod y bydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl ar gyfer eu taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Bydd derbyn taliadau bob mis ar ôl y taliad cyntaf yn creu problemau mawr, problemau dyled i lawer. Methu deall ydw i pam mae eich Llywodraeth chi mor gyndyn i gymryd rheolaeth o elfennau o weinyddu'r system budd-daliadau a'r fframwaith gyllidol a fyddai'n dilyn hynny. Byddai modd wedyn i Gymru symud i system o wneud taliadau credyd cynhwysol bob pythefnos, gan liniaru rhai o'r problemau dyled y mae awdurdodau lleol Cymru yn mynd i'w hwynebu yn sgil credyd cynhwysol. 

Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno gyda hi am yr effaith mae'r problemau yn y byd budd-daliadau yn cael ar bobl sy'n dibynnu ar fudd-daliadau. Mae'r cwestiwn ai'r peth gorau i'w wneud yw trosglwyddo cyfrifoldebau am fudd-daliadau i Gymru yn rhywbeth bach yn fwy eang na'r cwestiwn sydd gyda ni heddiw, ac mae lot o bethau, yn fwy na'r pwynt roedd yr Aelod yn ei godi, i'w hystyried os ydym ni'n mynd i fynd lawr y llwybr yna. Ar hyn o bryd, nid wyf yn meddwl bod yr achos wedi cael ei wneud yn ddigon cryf i gytuno ar y llwybr yna. 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar y ffaith mai un o'r prif resymau dros ddyledion cynyddol yn y DU yw effaith andwyol toriadau pellach Llywodraeth y DU i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill? Dyma’r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn y degawd diwethaf. Maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd, gyda thoriadau o £2.5 biliwn i fudd-daliadau oedran gweithio, a budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu rhewi, ar gyfer y flwyddyn hon, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i'r teuluoedd hynny. A wnaiff roi sylwadau pellach hefyd ar y rôl fuddiol y soniwyd amdani heddiw, ac y gallai'r gwasanaethau cynghori, yr undebau credyd, a mabwysiadu'r cyflog byw go iawn ei chwarae er mwyn cefnogi pobl mewn dyled, gyda chymorth Llywodraeth Cymru?

13:35

A gaf fi gytuno'n llwyr â Jane Hutt? Dywedais yn fy ateb gwreiddiol fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynghori. Ond mae'n warthus fod yn rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny i bobl y mae Llywodraeth y DU yn lleihau eu hincwm yn fwriadol pan fo’r bobl hynny'n byw ar ymylon tlodi.

Yn y Cynulliad ddoe, ceisiodd nifer o Aelodau benywaidd gael trafodaeth ynglŷn ag adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd yn ystod y toriad, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru, gan fod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw yn hollol syfrdanol, a dylent beri pryder i bob Aelod o'r Cynulliad hwn. Caiff 50,000 o blant ychwanegol eu gorfodi i fyw mewn tlodi yng Nghymru, nid drwy ddamwain, nid oherwydd bod rhywun wedi colli eu gwaith, nid oherwydd bod dirywiad wedi bod yn yr economi, ond o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol Llywodraeth y DU i rewi budd-daliadau’r teuluoedd sy’n byw ar y lleiaf oll. A bydd hynny’n effeithio nid yn unig ar blant, ond bydd yn effeithio'n anghymesur ar fenywod hefyd. Awgrymai'r amcangyfrifon yn yr adroddiad hwnnw y bydd menywod yn colli £350 y flwyddyn ar gyfartaledd o ganlyniad i’r toriadau hyn i’r budd-daliadau, tra bydd dynion yn ennill oddeutu £15. Mae'r Aelod yn berffaith iawn i nodi'r achosion sydd wrth wraidd yr angen am gyngor ar ddyledion yng Nghymru, ac i nodi'r atebion, megis y cyflog byw go iawn, a fyddai'n cael effaith wirioneddol ar amgylchiadau'r teuluoedd sy'n byw yn yr amgylchiadau gwaethaf, mewn tlodi cynyddol, a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol o dan y fath fygythiad.

Trethi Datganoledig Newydd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018? OAQ51976

Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae’r arwyddion cychwynnol yn awgrymu dechrau llwyddiannus i’r gwaith o weinyddu trethi datganoledig ers 1 Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru y cyntaf mewn cyfres reolaidd o ddatganiadau ystadegol. Mae’n dangos bod 1,100 o sefydliadau wedi cofrestru gyda’r awdurdod ar gyfer y dreth trafodiadau tir.

Diolch am y diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n diolch i Awdurdod Cyllid Cymru am ei waith ac am beth sydd yn ymddangos, felly, yn gychwyn llwyddiannus, fel mae e'n ei ddweud, ar gyfnod newydd yn hanes cyfansoddiadol Cymru. Byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod y pethau yma yn broses yn hytrach na digwyddiad, ac, fel rhan o'r broses, rydych chi wedi gosod allan hefyd yn y rhaglen waith drethiannol syniadau ar gyfer trethi newydd, neu ddatblygiadau trethi yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar lefi plastig o bosibl, a gweithio fan hyn yng Nghymru ar dreth ar dir gwag. A fedrwch chi ddiweddaru'r Siambr ynglŷn â'r broses yna a'r rhaglen waith yna, ac ym mha ffordd rydych chi wedi llwyddo i drafod, ai peidio, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r trethi newydd yma hefyd.

Diolch i Simon am y cwestiwn yna. Jest i ddweud, mae'r llwyddiant y mae'r awdurdod yn ei gael ar hyn o bryd yn dod mâs o'r gwaith caled sydd wedi bod ar y gweill dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwaith y pwyllgor hefyd, sydd wedi bod yn rhan o baratoi'r awdurdod am y gwaith maen nhw nawr yn ei wneud. Ar y trethi newydd a'r awgrymiadau yna, rydym ni'n bwrw ymlaen i wneud gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fwy nag un ochr. Rydym ni'n siarad gyda nhw am beth maen nhw'n ei wneud ym maes plastig, ac rydym ni wedi cytuno i helpu arwain y ddadl yma yng Nghymru, ac i fwydo i fewn am y galw am evidence—rydw i wedi anghofio'r gair am 'evidence'. Tystiolaeth, wrth gwrs—yr alwad am dystiolaeth y mae'r Trysorlys wedi ei gwneud ym mis Mawrth.

Rydym ni hefyd eisiau dechrau trafod pethau gyda nhw am waith Gerry Holtham a beth mae e wedi awgrymu ym maes gofal. Ond rydw i wedi ysgrifennu—ac rydw i wedi rhannu'r llythyr gyda'r Pwyllgor Cyllid—yn swyddogol nawr at y Trysorlys i ddechrau'r broses ym maes tir gwag. Dyna'r un rydym ni eisiau ei dreialu i ddefnyddio'r system newydd sydd gyda ni yn Neddf 2014. Rydw i wedi ysgrifennu at y Trysorlys. Rydym ni'n paratoi ar lefel swyddogol y gwaith sydd i'w wneud gyda nhw, ac rydw i'n edrych ymlaen i gael ateb positif ganddyn nhw ac i ddechrau'r gwaith yma yn y Cynulliad—y gwaith mwy manwl ar y polisi—ac i weld a fydd e'n bosibl i ddod â'r Bil ymlaen ar lawr y Cynulliad ac i greu'r dreth gyntaf jest i Gymru drwy'r broses sydd gyda ni. 

13:40

Yn ei ddadansoddiad diweddaraf o swyddfeydd Caerdydd, dywed Ross Griffin, cyfarwyddwr buddsoddi y DU yn Savills, y bydd cynyddu’r dreth stamp i 6 y cant ar ddatblygiadau swyddfeydd sylweddol yn rhwystro buddsoddiad drwy wneud Cymru yn lle drytach wrth i fuddsoddwyr dargedu dinasoedd rhanbarthol yn Lloegr yn lle Caerdydd, gan dorri llif y cyfalaf i farchnad Caerdydd. Daw i'r casgliad y bydd hyn yn cyfyngu ar dwf marchnad swyddfeydd Caerdydd yn y dyfodol a thwf cyflogaeth yn y ddinas yn y dyfodol. Sut y bydd hyn o gymorth i fy etholwyr a phobl eraill sy'n awyddus i weithio yng Nghaerdydd?

Wel, Lywydd, byddwn bellach yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth yn hytrach na chyfnewid damcaniaethau. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud y penderfyniad ar lefelau trethiant eiddo annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd 90 y cant o'r trafodion masnachol yng Nghymru yn denu'r gyfradd isaf o drethiant ledled y Deyrnas Unedig, gan fod 90 y cant o drafodion masnachol yn digwydd ar lefel o £1.1 miliwn neu lai, ac mae gennym y cyfraddau treth isaf ar gyfer y rhan honno o’n heconomi o gymharu ag unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Clywais y ddadl a wnaed gan Mr Reckless ac eraill sy'n ei gwneud. Rwyf wedi cyfarfod â'r cwmnïau a'r unigolion hynny fy hun. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â hwy wedi hynny. Nid oedd y dadansoddiad a wnaed gan Fangor fel rhan o'n paratoadau yn awgrymu mai dyna fyddai’r canlyniadau, ond byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod y canlyniadau a awgrymir yn yr erthygl honno'n rhywbeth a ddylai ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, wrth gwrs, byddaf yn ystyried hynny mewn penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

A gaf fi groesawu'r atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i Simon Thomas? A gaf fi ychwanegu fy llais, unwaith eto, at y galwadau am dreth ar blastigion, sy'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn ei ddweud ar fwy o achlysuron nag y byddai wedi hoffi gwrando arnynt, yn ôl pob tebyg?

Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: a yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu proffil o dderbyniadau treth disgwyliedig o'r trethi datganoledig fel y gallwn wirio, yn y Pwyllgor Cyllid neu yn y Cynulliad yn llawn, sut y mae'r proffil yn gweithio yn erbyn yr hyn a ddisgwylir?

Lywydd, rydym wedi cynhyrchu amcangyfrifon o'r fath. Fe’u cyhoeddwyd gennym ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr y llynedd. Roeddent yn dangos, er enghraifft, ein bod yn rhagweld y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn darparu £26 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan ostwng, fel y bwriedir i’r dreth honno ei wneud, i £20 miliwn yn y flwyddyn 2021-2022. Ategir ein rhagolygon gan waith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Cyhoeddwyd rhagolygon wedi'u diweddaru ganddynt ar gyfer dwy dreth ddatganoledig Cymru a chyfraddau treth incwm Cymru ym mis Mawrth eleni. Maent yn debyg ar y cyfan i'r ffigurau a gynhyrchwyd gennym ym mis Rhagfyr, a bydd y ddwy set o ffigurau ar gael i’r Pwyllgor Cyllid allu craffu ar berfformiad gwirioneddol y trethi hyn wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael eleni a thu hwnt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton. 

Diolch, Lywydd. Ar 13 Chwefror eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai bwriad y dreth ar dir gwag yw effeithio ar ymddygiad yn hytrach na chodi refeniw. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, prin y mae'r dreth yn talu am gost ei chasglu, sy'n rhywbeth y dylid ei gadw mewn cof. Tybed i ba raddau y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud bod bancio tir yn broblem wirioneddol yng Nghymru, yn hytrach na chanfyddiad yn unig, gan y dywed Laura Harry, ymgynghorydd cynllunio gyda Barton Willmore, ymgynghoriaeth gynllunio a dylunio annibynnol,

tra bwriedir, mewn egwyddor, i Dreth ar Dir Gwag arwain at gynnydd o ran adeiladu tai, fe all gael yr effaith groes i hynny a gwneud Cymru'n lle llai deniadol i adeiladwyr tai a thanseilio dyheadau tai Llywodraeth Cymru,

sy'n amlwg yn rhywbeth na fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w weld. Felly, tybed a yw'r dreth hon wedi'i chyfeirio at broblem sy'n fwy dychmygol na gwirioneddol?

13:45

Ni chredaf fod hynny'n wir. Credaf fod tystiolaeth fod bancio tir yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwyf eisoes wedi cyfeirio yn y Siambr at ein cronfa safleoedd segur, sy'n dangos bod yna dros 400 o safleoedd yng Nghymru na ellir eu cyflwyno i'w defnyddio at ddibenion cynhyrchiol, gan fod angen gwaith adfer, neu am fod yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y tir hwnnw yn golygu nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Mae ein cronfa safleoedd segur, gyda £40 miliwn o fuddsoddiad ar gael gan Lywodraeth Cymru ar ei chyfer, wedi'i chynllunio i helpu i unioni'r sefyllfa honno.

Credaf ei bod yn bwysig iawn i mi nodi nad diben treth ar dir gwag yw cosbi unrhyw un sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio, ond darparu cymhelliad ychwanegol i bobl sy'n eistedd ar dir gan obeithio y bydd y gwaith y mae'r cyhoedd wedi'i wneud yn darparu caniatâd cynllunio iddynt ac ati yn arwain at gynyddu gwerth y tir, a heb wneud unrhyw beth o gwbl eu hunain, byddant yn gallu elwa ar hynny drwy werthu'r tir yn y dyfodol.

Fodd bynnag, Lywydd, mae'r broses yn bwysig iawn, oherwydd ar hyn o bryd rydym megis dechrau'r broses hon a bydd llawer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod a chwestiynau manwl eraill yn rhan o'r gwaith y byddwn yn awyddus i'w wneud pan fyddwn yn gwybod bod y grym wedi'i drosglwyddo inni fwrw ymlaen ymhellach â'r syniad hwn.

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd cyllid yn llwyr. Yn amlwg, os ydym am gael treth o'r fath, mae angen inni sylweddoli y gall yr effeithiau ymddygiadol y gallai eu hachosi fod yn groes i hynny hefyd—pwynt y dof ato yn y man. Er y credir yn gyffredinol fod hon yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi mewn ardaloedd trefol, mae effaith bosibl ar ardaloedd gwledig hefyd. Yn ôl syrfëwr gwledig ar gyfer Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, Charles De Winton,

Efallai na fydd datblygu rhai plotiau gwledig bach yn ymarferol. Mae'n anochel y bydd treth sy'n eu gorfodi i gael eu datblygu yn cynyddu cost eu datblygu—cost a fydd yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr terfynol. Nid yw hyn o gymorth inni fynd i'r afael â'r argyfwng o ran argaeledd cartrefi gwledig.

Awgrymai ymchwil y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru fod mwy na thraean o'r £1.3 biliwn sy'n mynd i mewn i'r economi'n flynyddol gan dirfeddianwyr gwledig eisoes yn mynd i mewn i ddatblygu preswyl. Un o'r problemau mawr gyda safleoedd datblygu, wrth gwrs, yw caniatâd cynllunio a'r oedi a all ddeillio o hynny weithiau. Felly, mae datblygwyr posibl yn aml mewn sefyllfa lle maent yn eistedd ar dir gwag yn erbyn eu hewyllys. Gwyddom fod llawer o safleoedd o'n cwmpas yma ym Mae Caerdydd sy'n edrych fel safleoedd ardderchog ond sy'n parhau i fod heb eu datblygu am nad oes prynwyr am ba reswm bynnag. Felly, mae hwn yn fater y dylid mynd i'r afael ag ef mewn ffordd sensitif a gofalus.

Mae'r holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn rhai pwysig ac yn bwyntiau y byddem yn dymuno bod o ddifrif yn eu cylch. Ni fyddai unrhyw Weinidog cyllid, pan fydd y gwaith manwl wedi'i gwblhau, os yw'r gwaith hwnnw'n dangos y byddai treth bosibl yn creu mwy o broblemau nag y byddai'n eu datrys—ni fyddai unrhyw un yn awyddus i fwrw ymlaen â hi. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig, ac yn sicr, maent yn rhai y byddwn yn awyddus i'w hystyried.

Rwy'n cydnabod pwynt yr Aelod ynglŷn â chymunedau gwledig a bod datblygu'n aml yn cymryd mwy o amser am resymau penodol. Ond fe ailadroddaf y pwynt a wneuthum ar y dechrau un: nid bwriad treth ar dir gwag yw cosbi'r bobl sy'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cynhyrchiol. Mae'n rhaid i chi ei chynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau nad yw pobl sy'n gwneud popeth yn eu gallu yn cael eu cosbi ganddi, gan ddarparu cymhelliad ychwanegol—a chredwn fod hyn yn bodoli yn economi Cymru, yn yr un modd ag yr oedd Canghellor y Trysorlys yn bryderus ei fod yn bodoli yn economi Llundain—ar gyfer y bobl a ddylai fod yn cyflwyno tir at ddibenion cynhyrchiol, ond sy'n dewis peidio â gwneud hynny, yn y gobaith o wneud elw hawdd.

Hoffwn droi at dreth arall yn awr i archwilio'r effaith ar ymddygiad. Yn achos y dreth siwgr, a orfodir bellach gan Lywodraeth San Steffan, ymddengys y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £47 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd o ganlyniad i wariant sy'n gysylltiedig â hynny yn Lloegr. Mae'r rhagolygon o faint y byddai'r ardoll yn ei godi wedi gostwng o £520 miliwn i £240 miliwn. Gwelir newidiadau mewn ymddygiad eisoes o ganlyniad i'r dreth siwgr wrth i Coca-Cola, er enghraifft, leihau maint eu caniau Coke arferol o 330 ml i 250 ml, er nad yw hynny wedi arwain at ostyngiad tebyg yn y pris mewn llawer o achosion. Felly, erbyn hyn, gallem fod mewn sefyllfa lle mae pobl, yn hytrach na phrynu un rhan o dair o litr mewn can, yn prynu dau gan chwarter litr. Felly, mewn gwirionedd, maent yn prynu mwy o ddiod llawn siwgr nag o'r blaen, am bris uwch. Felly, byddai hyn yn ganlyniad gwrthnysig i dreth o'r fath. Ond mae gan Gymru broblem sylweddol gyda gordewdra—gwaeth nag unrhyw ran arall o'r DU—gyda 59 y cant o oedolion, mae'n debyg, dros eu pwysau—mae'n debyg fy mod i'n un ohonynt—a 23 y cant wedi'u categoreiddio'n ordew. O ran dyraniad yr arian a godir, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r arian hwn yn bennaf ar gyfer datrys gordewdra, heb ei hystyried yn dreth a neilltuwyd yn gyfan gwbl? Os yw'r arian yn cael ei godi er mwyn newid ymddygiad, dylid cyfeirio'r arian a fydd yn cael ei wario o'r refeniw hwnnw at y broblem y bwriedir iddo'i datrys.

13:50

Wel, Lywydd, fe ddechreuaf drwy groesawu'r ffaith bod gweithgynhyrchwyr wedi cymryd camau i leihau faint o siwgr sydd yn eu cynnyrch, ac i ailffurfio'r ffordd y caiff cynhyrchion eu dwyn i'r farchnad er mwyn dylanwadu ar ordewdra. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y dreth siwgr wedi'i chyhoeddi mewn cyllideb heb unrhyw gyfeiriad at y gweinyddiaethau datganoledig, er ei bod yn effeithio'n uniongyrchol ar ein cyfrifoldebau. Felly, nid oedd modd inni gyfrannu at ddadl a allai fod wedi tynnu sylw at rai o ganlyniadau anfwriadol posibl y dreth fel y mae ar hyn o bryd.

Mae arian wedi'i drosglwyddo i gyllideb Cymru o ganlyniad i hynny. Bydd o gymorth, yn rhannol, i fwrw ymlaen â chynlluniau megis y rhaglen ordewdra ataliadwy y mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ei rhoi ar waith, ond mae'n caniatáu inni wneud pethau eraill hefyd. Mae'n caniatáu inni gefnogi'r rhaglen brecwast iach am ddim yn ein hysgolion cynradd; mae'n ein cynorthwyo i gyflwyno'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol newydd, sy'n helpu i fwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol, a fyddai'n mynd heb fwyd fel arall; ac mae'n caniatáu inni wneud sawl peth arall yn y maes a grybwyllwyd gan yr Aelod, i'n helpu i ddylanwadu ar broblemau gordewdra, sy'n dra hysbys ac yn dra chyfarwydd.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wedi gweld fy nghyn gyd-aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Peter Black, i fyny yn yr oriel? Cefais fy atgoffa o etholiad diwethaf y Cynulliad, pan oeddem yn edrych ymlaen at ddatganoli treth fel rhywbeth anochel a phell, er ei fod yn agosáu. Rydym bellach ar ochr arall y datganoli hwnnw.

Wrth ateb Mark Reckless yn gynharach, mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir, ac rwyf am eich holi ynglŷn â hynny hefyd, fe ddywedoch chi ein bod ar hyn o bryd mewn cyfnod o gasglu tystiolaeth ynghylch cyflwyno'r trethi, ac effaith y trethi hynny, yn hytrach na dim ond dyfalu. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg, fel y dywedoch chi wrth ateb Mark Reckless, fod problem gyda chyfraddau'r dreth trafodiadau tir, pryd y byddwch yn cymryd camau gweithredu i sicrhau bod y cyfraddau hynny yn cael eu gostwng er mwyn iddynt fod yn debycach i'r rhai dros y ffin?

Wel, Lywydd, fel y dywedais, rydym yn y broses o gasglu tystiolaeth ar hyn o bryd. Byddwn yn edrych ar sut y mae'r farchnad eiddo amhreswyl yn datblygu dros y flwyddyn. Byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw dystiolaeth fod y cynnydd bach iawn yn y dreth yn ffactor tyngedfennol mewn penderfyniadau enfawr gwerth miliynau o bunnoedd a wneir gan gwmnïau. Fy namcaniaeth i—sef yr un a gefnogwyd yn adroddiad Bangor—yw y bydd gan gwmni a fydd yn gwario miliynau lawer o bunnoedd wrth benderfynu ble i leoli ddiddordeb mewn pethau fel pris tir, pris eiddo, sydd ill dau yn rhatach yng Nghymru nag mewn dinasoedd sy'n cystadlu ar hyd y ffin; byddant yn edrych ar gyflenwad sgiliau, ac mae gennym boblogaeth fedrus iawn; byddant yn chwilio am sefydlogrwydd hirdymor, ac rydym yn cynnig hynny yma yng Nghymru; ac ni chredaf y bydd swm bach mewn cost untro wrth brynu'r eiddo yn ffactor tyngedfennol ym mhenderfyniadau'r bobl hyn i ddod yma ai peidio, ond fy marn i yw hynny. Mae safbwyntiau eraill i'w cael. Nawr, bydd gennym dystiolaeth, a byddaf yn ystyried hynny yn y broses o wneud penderfyniadau a fydd gennym yma bob blwyddyn wrth inni osod cyfraddau treth ar gyfer y dyfodol.

13:55

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych feddwl agored, ac mae'n ddiddorol fod eich tôn heddiw yn wahanol i'r hyn ydoedd cyn datganoli treth. Fe ddywedoch chi o'r blaen—fe ofynnoch chi gwestiwn rhethregol a'i ateb:

'A wyf o'r farn mai'r swm bychan ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir fydd y prif ffactor mewn cytundebau busnes…? Nac ydw.'

Er y byddech yn dal i ddweud mai dyna yw eich barn bersonol, o'ch ateb heddiw rwy'n casglu nad ydych yn cau'r drws ar y ffaith y gallai fod yn achosi problemau i rai busnesau. Cyn ichi ateb, hoffwn grybwyll rhai prosiectau, megis y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, er enghraifft, lle byddai'r cynnydd ymylol o 1 y cant yn y cyfraddau'n golygu bod buddsoddwyr yn talu oddeutu 20 y cant yn fwy ar eu heiddo nag y byddent gyda'r dreth stamp, ac o leiaf 32 y cant yn fwy na'r dreth trafodiadau tir ac adeiladau. Felly, gofynnais ichi yn flaenorol pryd y byddech yn gweithredu ar y dystiolaeth honno. A ydych yn barod i dderbyn bod yna achosion eisoes ar hyn o bryd, mewn prosiectau o'r fath, lle nid yn unig y gallai hyn wneud gwahaniaeth, ond y bydd yn gwneud gwahaniaeth? Efallai ei fod yn ymylol, ond mewn termau economaidd, mae gwahaniaethau ymylol yn aml yn gwneud gwahaniaeth o ran elw neu golled.

Ni chredaf y gall yr Aelod ddisgwyl cyfeirio at yr achosion hynny a dweud eu bod yn dystiolaeth go iawn. Rydym gwpl o wythnosau i mewn i gyfundrefn dreth newydd, ac ni chredaf y gall ef nac unrhyw un arall nodi un penderfyniad lle y gallai cwmni ddweud, 'Rydym wedi penderfynu peidio â dod i Gymru oherwydd y gyfradd o 6 y cant.' Mae'n gallu cynhyrchu'r canrannau uchel hynny am fod ganddo rifau isel, a dengys y rhifau isel fod effaith wirioneddol yr 1 y cant hwnnw'n fwy cymedrol o lawer nag y mae'n ei awgrymu.

Rwy'n glynu wrth y farn a oedd yn sail i'r penderfyniad a wneuthum ac a gyflwynais ar lawr y Cynulliad hwn, na fydd y gyfradd yn atal pobl rhag dod yma i Gymru, ac y bydd gostwng trethi i'r 90 y cant o drafodiadau eiddo masnachol yng Nghymru, gan sicrhau mai hwy yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig, yn cael effaith ysgogol fwy o lawer ar fusnesau yng Nghymru na'r agwedd y mae'n cwyno amdani.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw unigolyn synhwyrol fod yn agored i'r dystiolaeth a cheir safbwyntiau gwahanol o ran sut y gall hyn effeithio ar y farchnad, a bellach, dros y misoedd nesaf, byddwn yn darganfod a oes effaith o'r fath, ac os cadarnheir hynny ac y ceir tystiolaeth go iawn, yna rwy'n ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud, Lywydd, a byddai unrhyw un yn ystyried hynny wrth i'r penderfyniadau hyn gael eu hadolygu.

A bod yn deg ag Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn llygad eich lle, mae'n ddyddiau cynnar, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ac yn amlwg, mae'n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth. Byddem yn awyddus i gael ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth at hyn, a buaswn hefyd yn derbyn fy mod wedi nodi ac wedi siarad cryn dipyn am un dreth, ond un dreth yn unig o becyn cyffredinol yw honno, ac mae'r economi yn cynnwys ysgogiadau gwahanol, ac efallai wir nad yw hyn ond yn un agwedd ar hynny. Fodd bynnag, ni ellir diystyru'r un agwedd honno wrth ymdrin â sefyllfaoedd ar ymylon economi. Gall hynny wneud gwahaniaeth. Rwy'n falch, mewn gwirionedd, eich bod wedi gadael y drws ar agor o ran newid cyfundrefn y dreth stamp o bosibl—cyfundrefn y dreth trafodiadau tir, dylwn ddweud—yn y dyfodol, os yw'r dystiolaeth honno'n peri problem.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, fod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai eich bwriad yw bod yn gyfeillgar i fusnesau, gan mai gwallgofddyn yn unig na fyddai'n dymuno hynny. Fodd bynnag, pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn, buaswn yn dweud bod busnesau'n bryderus. Felly, a allwch ddweud wrthym, os edrychwch ar y lluosydd ardrethi yng Nghymru, er enghraifft, o gymharu â rhannau eraill o'r DU, mae'n sylweddol uwch. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mewn perthynas ag ardrethi busnes. A allwch ddweud wrthym pa ryngweithio a fu rhyngoch hyd yn hyn, er ei fod yn gyfnod byr, ond pa ryngweithio a fu rhyngoch chi a busnesau hyd yn hyn, ac a oes unrhyw fusnesau wedi mynegi pryderon go iawn na fyddant yn buddsoddi yng Nghymru oherwydd y newidiadau hyn?

Wel, rwyf wedi ateb y cwestiwn hwnnw, ond fe ailadroddaf unwaith eto: cyfarfûm â grŵp o fusnesau a oedd yn dadlau'r achos a wnaed yn blwmp ac yn blaen gennych chi y prynhawn yma, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyfarfod â hwy wedi hynny fel y gallwn barhau mewn cysylltiad â hwy ac mewn sefyllfa dda i gasglu'r dystiolaeth y soniais amdani y prynhawn yma.

Mae ei bwynt ynglŷn a'r lluosydd yn un rhyfedd oherwydd yn Lloegr, lle mae ei blaid ef mewn grym, mae ganddynt luosydd ardrethi uwch, wrth gwrs, ar gyfer yr union fath o fusnesau y sonioch amdanynt y prynhawn yma. Mae'r busnesau mwyaf yn Lloegr yn talu cyfradd lluosydd uwch ac nid oes gennym y gyfradd lluosydd uwch honno yma yng Nghymru. Ac mae hynny oherwydd yn Lloegr, wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt gasglu arian gan y busnesau ar y gyfradd uwch am fod y busnesau hynny ar y gyfradd uwch yn talu am y cynlluniau rhyddhad ardrethi y mae'r busnesau llai yn eu mwynhau yn Lloegr, tra bo'n cynlluniau rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

14:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg yn sgil adroddiad yr archwilydd cyffredinol, er enghraifft, ac wedyn y dystiolaeth y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi ei derbyn yn ddiweddar, bod un o gonglfeini polisi caffael Llywodraeth Cymru, sef y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn tangyflawni a dweud y lleiaf. Hynny yw, y targed, os ydy’r Aelodau’n ei gofio, yn ôl yn 2012, pan grëwyd y gwasanaeth, oedd creu £25 miliwn o arbedion ar wariant o £4.3 biliwn o fewn y sector cyhoeddus. Ond, yn y flwyddyn mwyaf cyfredol sy’n cael ei dangos yn adroddiad yr archwilydd, dim ond £15 miliwn sydd yna, felly 60 y cant, ar wariant o £6 biliwn, felly. Ac, wrth gwrs, rŷm ni’n darganfod hefyd yn yr adroddiad mai dim ond 19 y cant o aelodau’r gwasanaeth sydd yn datgan eu bod nhw yn cael cynilon ariannol a thraean, dim ond traean, o’r holl awdurdodau lleol sydd yn fodlon gyda’r gwasanaeth. Ac mae hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n anfodlon gyda’r gwasanaeth y maen nhw eu hunain wedi ei greu. Onid yw e’n glir, Ysgrifennydd, fod polisi caffael Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn methu?

Wel, Lywydd, rwyf wedi croesawu'r gwaith a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â chaffael, a chroesawaf y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn hefyd. O ganlyniad i bryderon ynglŷn â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, nid y gwasanaeth ei hun, ond y cyd-destun newidiol y mae'n rhaid i wasanaeth o'r fath weithredu ynddo—Brexit, cyni parhaus, modelau newydd ar gyfer gweithio'n rhanbarthol, er enghraifft—cyhoeddais yn ôl ym mis Medi ein bod yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth. Nawr, ers hynny, fel y dywedodd Adam Price, mae gwybodaeth wedi dod i'r amlwg ynglŷn ag i ba raddau y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gallu cyrraedd y meincnodau a nodwyd ar ei gyfer yn wreiddiol ac ynglŷn â lefel yr hyder y mae wedi'i ennyn ymysg y rhai sy'n ei ddefnyddio. Dyna pam fod cynllun i ailffocysu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru yn bwysig. Dyna pam fy mod yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef. Mae arnom angen gwasanaeth sy'n gallu defnyddio grym caffael er budd economi Cymru i'r graddau mwyaf posibl, ond mae'n rhaid iddo ennyn hyder ei randdeiliaid allweddol, ac mae angen gwneud newidiadau i sicrhau y gall hynny ddigwydd.

Un o brif wendidau, fel y'i welaf i, caffael ar hyn o bryd yng Nghymru yw’r diffyg staff â chymwysterau priodol a’r gallu i gyrff cyhoeddus gadw’r staff profiadol hynny. Yn 2012, dywedodd Prifysgol Caerdydd, mewn adroddiad gan yr Athro Kevin Morgan, fod prinder sgiliau difrifol wrth galon y sector cyhoeddus yng Nghymru yng nghyswllt â chaffael cyhoeddus. Roedd e wedyn yn amcangyfrif bod angen swyddog gyda chymhwyster sefydliad siartredig prynu a chyflenwi i bob £15 miliwn o wariant cyhoeddus. Nawr, roedd Llywodraeth Cymru wedi mynd un cam ymhellach na hynny wrth gwrs a dilyn argymhelliad McClelland, ac yn eu polisi nhw ar gaffael cyhoeddus yn sôn am ffigur o £10 miliwn o wariant ar draws y sector cyhoeddus fel y meincnod. Wel, ar y sail honno, wrth gwrs, rŷm ni ryw 274 o reolwyr caffael proffesiynol yn brin yng Nghymru, felly pa gamau gweithredol y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i recriwtio a hyfforddi mwy o staff ac arbenigwyr caffael?   

Wel, a gaf fi ddechrau drwy gydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod? Mae'r angen am gapasiti a galluogrwydd priodol ym maes caffael yn her. Siaradais â Kevin Morgan ynglŷn â hyn, ac roedd yr Aelod yn llygad ei le wrth nodi bod methodoleg McClelland yn awgrymu diffyg yng Nghymru i'r graddau a nodwyd ganddo. Nawr, rydym eisoes wedi gwneud rhai pethau am hyn yng Nghymru. Cawsom brosiect Doniau Cymru, sydd wedi llwyddo i ddod â phobl newydd i mewn i'r system. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r gronfa o weithwyr caffael proffesiynol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth o gaffael fel proffesiwn dymunol. Ond mae angen inni weithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus hefyd er mwyn iddynt roi'r un ymdeimlad o statws a chydnabyddiaeth i weithwyr caffael proffesiynol ag y gwnânt i eraill. Yn rhy aml, ymddengys i mi, mae sefydliadau cyhoeddus yn ystyried caffael yn ymarfer troi handlen braidd, lle nad ydych yn meddwl bod y bobl sy'n ymwneud â chaffael yn gwneud cyfraniad arloesol i waith y sefydliad. Ond gwyddom—rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan Adam Price—am allu caffael i hybu gwerth ar gyfer y cyhoedd, ac nid gwerth yn unig, ond gweithgarwch o ran cyflogaeth a buddion cymunedol ac ati. Mae angen gwell cydnabyddiaeth i statws y proffesiwn, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith rydym yn awyddus i'w wneud i geisio mynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw staff a nodwyd gan Adam Price.

14:05

A gaf fi droi, i gloi, at enghraifft benodol, gan y credaf ei bod yn codi cwestiynau pellach ynglŷn ag a yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a fframwaith ehangach polisi caffael yn addas at y diben? Yn ddiweddar, dyfarnodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gontract tair blynedd o'r enw Arbed 3, sef contract Cymru gyfan i inswleiddio miloedd o gartrefi, i gwmni o'r Alban, Everwarm, sy'n is-gwmni i gwmni llawer mwy o'r enw Lakehouse, o Essex, rwy'n credu—cwmni sydd wedi cael ei gymharu â Carillion oherwydd ei ffyrnigrwydd wrth wneud cynigion am gontractau yn y sector cyhoeddus ar sail ei allu i dorri costau. Mae hyn wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â safonau ac uniondeb, a dylid nodi mai'r cwmni hwn oedd yn gyfrifol am y contract ar gyfer gosod larymau tân yn Nhŵr Grenfell.

Nawr, yn y datganiad y cyfeirioch chi ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ar addasu polisi caffael Llywodraeth Cymru y llynedd, roeddech yn pwysleisio gwerth cymdeithasol. A yw'r ymrwymiad hwn yn cydweddu â phenderfyniad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i benodi cwmni a fu'n destun cyfres o adroddiadau negyddol, o rybuddion elw i honiadau o dwyll a phryderon ynghylch diogelwch—o gymharu â Cartrefi Melin, a lwyddodd, ynghyd â phartneriaid eraill yng Nghymru, yn y rhaglen flaenorol, i sicrhau cyfraddau caffael o 100 y cant gan fusnesau bach a chanolig Cymru? Yn hytrach nag addasu polisi caffael Llywodraeth Cymru, onid oes angen inni ailfeddwl yn llwyr ynglŷn â hyn?

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw, ac fe'i codwyd hefyd yn y Siambr ddoe gan Mark Isherwood yn ystod y cwestiynau busnes. Lywydd, heddiw fe ysgrifennais at bob un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi gohebu â mi ar y mater hwn. Gan na fydd rhai o'r Aelodau yma wedi cael yr atebion hynny, tybed a gaf fi ddarllen dau baragraff olaf y llythyr hwnnw, fel y gallaf gofnodi'r safbwynt cyfredol ar gyfer yr Aelodau. Felly, mae'r llythyr yn nodi'r broses a arweiniodd at nodi cynigydd llwyddiannus. Dywed wedyn, o dan Reoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015, ei bod yn ofynnol inni ganiatáu cyfnod segur gorfodol o 10 niwrnod fan lleiaf. Yn ystod y cyfnod cychwynnol, cododd un o'r cynigwyr nifer o bwyntiau o esboniad yn ffurfiol drwy eu cynghorwyr cyfreithiol, a gofynasant i Lywodraeth Cymru ymestyn y cyfnod segur. Mae'r cyfnod segur hwnnw wedi cael ei ymestyn. Bellach, bydd yn para tan 30 Ebrill a bydd hynny'n rhoi amser i ganiatáu ystyriaeth glir a chynhwysfawr o'r pwyntiau a godwyd fel rhan o'r ymarfer hwn.

Bydd yr Aelodau'n deall, gyda'r mater hwnnw o dan ystyriaeth bellach, na fyddai'n briodol imi wneud sylwadau pellach ar ganlyniad y broses gaffael, ond byddaf yn gwneud datganiad pellach pan ddaw proses y cyfnod segur i ben.

Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52006

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn? Diau y caf i’r ateb iddo unrhyw eiliad nawr. Lywydd, bydd y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn gwario £5.4 biliwn yn 2018-19, yn cynnwys £3.7 biliwn mewn refeniw, £209 miliwn mewn cyfalaf ac £1.1 biliwn mewn gwariant a reolir yn flynyddol. Mae’r buddsoddiad hwnnw yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol bwysig, gan gynnwys tai, digartrefedd, gofal plant a chynllun lleihau’r dreth gyngor.

14:10

Iawn. Diolch am eich ateb. Byddai goblygiadau ariannol i wariant y Llywodraeth pe bai carchar arfaethedig ym Mhort Talbot neu mewn man arall yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. A ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r effaith o ran sut y byddai angen i chi ddyrannu adnoddau ychwanegol i adrannau? Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud datganiad yn ystod y toriad, lle y nodwyd yr effeithiau ar agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus a pholisi fel rhan o'r rheswm dros gyhoeddi gohiriad. Felly, rwyf wedi cael peth gwybodaeth sy'n dangos effaith sylweddol ar adnoddau cyhoeddus mewn perthynas â charchardai sy'n bodoli eisoes, felly hoffwn ofyn: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, yn benodol, i'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus yn ne Cymru a sut y byddai angen ichi newid y gyllideb, o bosibl, pe bai angen gwneud hynny?

Diolch iddi am ei chwestiwn pellach. Wrth gwrs, gwelais y datganiad ar bolisi cyfiawnder a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ystod y toriad. Pa bryd bynnag y ceir datblygiadau yn y maes hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau, os yw gweithgarwch heb ei ddatganoli yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, y daw'r adnoddau angenrheidiol gydag ef. Rydym yn gwneud hynny, fodd bynnag, ar yr adeg pan wneir cynnig penodol y gellir cynnal y trafodaethau hynny yn ei gylch. Felly, yr ateb cyffredinol i gwestiwn yr Aelod yw, pe bai unrhyw gynigion, wrth gwrs y byddai'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, ond nid ydynt yn mynd rhagddynt yn yr achos penodol hwn, gan nad oes unrhyw beth ar y bwrdd y gellir canolbwyntio arno mewn trafodaethau o'r fath.

Ysgrifennydd y Cabinet, dadneilltuwyd oddeutu £100 miliwn o grantiau yn y gyllideb ar gyfer awdurdodau lleol a llywodraeth leol eleni, ac wrth gwrs, rydym yn ystyried hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen. Yn amlwg, mae'r costau gweinyddol yn uchel iawn. Fodd bynnag, mae nifer o awdurdodau lleol wedi mynegi pryderon difrifol fod y £13 miliwn a ddyrannwyd yn flaenorol ar gyfer elfen leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn/Teithwyr a Roma y grant gwella addysg wedi'i ddal yn ôl mewn gwirionedd a heb ei drosglwyddo i'r llinell gyllideb benodol hon. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd addysg wedi cyfaddef bod gwall wedi digwydd yn hyn o beth, ac o ganlyniad wedi trosglwyddo'r cyllid ychwanegol hwn i wneud iawn am y diffyg. Fodd bynnag, unwaith eto, hepgorwyd ein hawdurdodau lleol mwy gwledig yn llwyr o'r cywiriad hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn ennyn hyder yng ngallu Llywodraeth Lafur Cymru i bennu'r gyllideb. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi imi y bydd unrhyw gyllid a ddadneilltuir yn y dyfodol yn cyrraedd yr awdurdodau hynny a'r cyllidebau y bwriedir iddynt eu cyrraedd?

Wel, rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn ynglŷn â'i chefnogaeth i egwyddor gyffredinol dadneilltuo, ac roeddwn yn awyddus iawn, yn y cylch cyllidebol ar gyfer y flwyddyn hon, i gymryd cam ymlaen yn hynny o beth, oherwydd, ar adeg pan fo cyllidebau awdurdodau lleol o dan y fath bwysau, rydym yn ymateb i'r sylwadau a wnânt inni, os aiff arian i mewn i'r grant cynnal refeniw, y gallant wneud defnydd mwy hyblyg, a mwy effeithiol ac effeithlon felly, ohono.

O ran y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig, rydym wedi dod i gytundeb, Lywydd, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwnnw. Rwyf wedi darparu £5 miliwn ychwanegol o gronfeydd canolog i helpu gydag addysg plant o'r cefndiroedd hynny, ac mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams wedi ychwanegu £2.5 miliwn ychwanegol at y swm hwnnw i sicrhau y gellir datblygu'r ddarpariaeth hon ar sail ranbarthol yn y dyfodol. Roeddem yn falch o ddod i'r cytundeb hwnnw gyda CLlLC. Wrth inni symud rhagor o grantiau i'r grant cynnal refeniw, rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol a wnaed gan yr Aelod—fod yn rhaid gwneud hynny'n ofalus a thrwy drafodaeth drwyadl ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr elfen benodol honno yn y fformiwla gyllido a ddefnyddiwn yn golygu bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf.

Arian Strwythurol Ewropeaidd

4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am beth fydd yn cymryd lle arian strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn dilyn Brexit? OAQ51987

14:15

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae cyllid yn lle cronfeydd strwythurol yn fater rydw i wedi codi gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion eraill Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw wedi rhoi unrhyw fanylion am eu cynigion. Mae ein safbwynt ni am y cyllid hwn, a rheolaeth dros dro, i'w weld yn glir yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.

Diolch yn fawr. Mae'n ymddangos o'r papur hwnnw mai prif ddadl y Llywodraeth ydy bod angen codi'r gwaelodlin ar gyfer y cyllid mae Cymru yn ei gael o San Steffan er mwyn unioni'r golled o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r Undeb Ewropeaidd. Ond gyda phob parch, nid ydw i'n eich clywed chi yn gweiddi yn uchel iawn ynglŷn â hyn ar hyn o bryd. Mae Cymru yn wynebu colli arian sylweddol iawn—£2 biliwn—efo cymunedau tlawd a bregus y gorllewin a'r cymoedd yn cael eu taro waethaf, er mai fanna mae'r angen mwyaf. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch chi yn cynnal y trafodaethau penodol yma sydd eu hangen efo Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau'r cyllid ar ôl Brexit? Buaswn i hefyd yn hoffi gwybod pa sicrwydd sydd yna y bydd Llywodraeth Cymru, o gael yr arian, yn dosbarthu'r cyllid hwnnw ar sail angen, fel na fydd cymunedau yn y gorllewin a'r cymoedd yn colli allan.

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn yna. Safbwynt y Llywodraeth yma yng Nghymru yw'r un gafodd ei roi mas yn y ddogfen a gyhoeddwyd rhwng Plaid Cymru a ni nôl ym mis Ionawr y flwyddyn diwethaf. Hynny yw, pob punt rydym ni'n ei gael yma yng Nghymru o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i'r arian yna ddod i ni ar ôl Brexit, fel roedd y bobl a oedd yn trio perswadio pobl i bleidleisio yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud bob tro. So, dyna ein polisi ni, ac rydw i'n gallu dweud wrth yr Aelod: pob cyfle sydd gyda fi i wneud y pwynt yna gyda Gweinidogion yn San Steffan yn y Trysorlys, a mwy na hynny hefyd—rydw i'n cymryd pob cyfle sydd gyda fi i wneud yr achos yna. A ydym ni'n hyderus yr ŷm ni'n mynd i gael yr arian? Nid ydw i'n gallu dweud hynny ar hyn o bryd, achos nid ydym ni wedi cael manylion o gwbl mas o Lywodraeth y Deyrnas Unedig am beth maen nhw'n mynd i wneud ar ôl y cyfnod o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Ar y pwynt roedd Siân Gwenllian yn ei godi am sut ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r arian os bydd arian yn dod i ni, dyna pam rŷm ni wedi cyhoeddi'r papur ar y polisi rhanbarthol, i fod yn glir gyda phobl sy'n gweithio yn y maes rŷm ni eisiau cael eu syniadau nhw ac rŷm ni eisiau rhedeg y polisi yn y dyfodol ar sail angen, ond hefyd ar y basis y bydd rheoliadau gyda ni lle mae pobl yn gallu gweld yn glir sut bydd y system yn rhedeg ac yn gallu bod yn hyderus y bydd tegwch yn y system yma yng Nghymru.

Buddsoddi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

5. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd arian a godir gan y ddwy dreth ddatganoledig newydd yn cyfrannu tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ52000

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Bydd y refeniw a godir drwy drethi datganoledig yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae cymunedau a busnesau ledled Cymru yn dibynnu arnynt, gan gefnogi ein hamcanion cymdeithasol a helpu i sicrhau twf economaidd teg.

Diolch. A pha arsylwadau cynnar y gellir eu gwneud ar Awdurdod Cyllid Cymru, a'u gwaith rheoli a choladu?

Diolch i'r Aelod. Os caf wneud ychydig o bwyntiau ar hynny, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bodoli bellach ers rhwng dwy a thair wythnos, ac roedd y dyddiau cynnar bob amser yn mynd i gynnwys rhywfaint o bryder y byddai'r broses o newid o'r system bresennol i'r un newydd yn mynd rhagddi'n rhwydd. Credaf y gallaf adrodd bod yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Gwnaed y cofrestriadau cyntaf ar gyfer trethi newydd yng Nghymru erbyn 3 Ebrill. Mae'r adborth gan ddefnyddwyr hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r buddsoddiad mewn systemau digidol, a oedd yn un o bwyntiau allweddol y Pwyllgor Cyllid, a fu'n ein hatgoffa drwy gydol y broses o ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru y dylem sicrhau, gyda'r cyfle i greu system o'r newydd, ei bod yn gwbl ddigidol. Mae ochr ddigidol gwaith Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, o ran y ffordd y mae'n rhyngwynebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac o ran y ffordd y mae'n gallu defnyddio data o fewn yr awdurdod cyllid hefyd.

14:20
Cynnydd mewn Trethi Cyngor

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn trethi cyngor ar drigolion Gorllewin De Cymru? OAQ51993

Mae awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd yn gyfrifol am bennu'r dreth gyngor bob blwyddyn. Mae awdurdodau lleol yn atebol i'w poblogaethau lleol am y penderfyniadau a wnânt, gan gynnwys pennu cyfraddau'r dreth gyngor. Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae trigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cynnydd o 4.5 y cant, Castell-nedd wedi cael 3.7 y cant ac Abertawe wedi cael cynnydd syfrdanol o 4.9 y cant. Ar yr un pryd ag y mae fy etholwyr yn gorfod talu'r codiadau hyn sy'n uwch na chwyddiant, nid yw cyflogau ond wedi codi hanner cymaint â'r symiau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gellir cyfiawnhau'r codiadau hyn pan fo gwasanaethau'n cael eu torri? Sut y gallwn gyfiawnhau gofyn i fy etholwyr dalu mwy o'u hincwm prin am lai o gasgliadau biniau, ffyrdd heb eu trwsio, goleuadau stryd sydd wedi torri a thoriadau i wasanaethau?

Mae arnaf ofn, Lywydd, fod yr ateb yn syml iawn: y cyfiawnhad yw effaith wyth mlynedd o gyni ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru—wyth mlynedd lle bu llai o arian ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, i'r Llywodraeth hon ac i awdurdodau lleol wneud y gwaith hanfodol y cyfeiriodd yr Aelod ato. Gwn fod awdurdodau lleol o bob plaid ledled Cymru yn meddwl yn galed iawn am effaith eu penderfyniadau ar eu poblogaeth leol. Yma yng Nghymru, o leiaf, mae'n gysur i'r aelwydydd tlotaf nad ydynt yn talu'r dreth gyngor, tra bo dros 2 filiwn o'r aelwydydd tlotaf dros y ffin yn Lloegr bellach yn gorfod gwneud cyfraniadau sylweddol, nid o'u hincwm nad yw'n codi, ond o'u hincwm budd-daliadau sydd wedi'i rewi, am wasanaethau cyhoeddus lleol.

Cyllidebau'r Heddlu

7. Beth yw'r goblygiadau posibl ar gyfer penderfyniadau ariannu Llywodraeth Cymru o'r gostyngiad yng nghyllidebau'r heddlu gan Lywodraeth y DU? OAQ51974

Lywydd, mae trefniadau partneriaeth cryf ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a holl heddluoedd Cymru. Mae'n anochel fod gostyngiadau mewn cyllidebau ar y ddwy ochr yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein gallu cyfunol i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi gweld y ddadl gynyddol ar ddiogelwch cymunedol, yn enwedig y digwyddiadau, yn Llundain er enghraifft, i grybwyll un ardal yn unig, y twf mewn troseddu â chyllyll, a'r ddadl ynghylch effaith y toriadau i gyllideb yr heddlu mewn perthynas â hynny. Wrth gwrs, dadl Llywodraeth y DU yw nad yw toriadau'r Torïaid i blismona wedi arwain at y cynnydd hwnnw mewn troseddu treisgar. Wel, a gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y sefyllfa yng Nghymru? O ganlyniad i golli 682 o heddweision dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddu â chyllyll yn ne Cymru, cynnydd o 25 y cant mewn troseddu â chyllyll yng Nghymru ac 84,000 o droseddau heb eu datrys, ac rydym wedi gweld y cynnydd uchaf mewn troseddau o'r mathau hyn. Onid yw'n wir na ellir dadlau bellach fod toriadau'r Torïaid i blismona dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf iddynt fod mewn grym wedi arwain at ganlyniad uniongyrchol, nid yn unig o ran llai o heddweision a llai o arian ar gyfer yr heddlu, ond cynnydd uniongyrchol mewn troseddu treisgar, troseddu â chyllyll a throseddu yn gyffredinol ledled Cymru, a bod hon yn broblem na all barhau?

Lywydd, mae hanes trychinebus Prif Weinidog y DU fel Ysgrifennydd Cartref yn dod yn ôl ar ei phen. Mae ei phenderfyniad—gadewch inni gofio mai ei phenderfyniad hi ydoedd—flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn i leihau'r cyllid ar gyfer yr heddlu—[Torri ar draws.] Rydych yn anghofio'r troeon pan fynychodd gynadleddau'r Ffederasiwn Heddlu a rhoi pregeth iddynt ar y ffordd y dylent wneud eu gwaith, pan oedd hi, ar yr un pryd, yn cael gwared ar yr adnoddau a oedd yn galluogi awdurdodau'r heddlu ledled Cymru a Lloegr i wneud y gwaith hanfodol a wnânt. Nid oes gwahaniaeth sawl gwaith y mae Gweinidogion Ceidwadol yn ymddangos ar y teledu a'r radio i honni nad yw'r toriadau llym i gyllidebau awdurdodau'r heddlu wedi cael unrhyw effaith ar droseddu, gan fod y bobl sy'n byw bywydau go iawn mewn cymunedau go iawn yn gwybod nad yw hynny'n wir, ac amlygir hynny'n dda iawn gan y ffigurau a amlinellwyd gan Mick Antoniw. Yn ymgyrch etholiadol drychinebus y Prif Weinidog y llynedd, un o'r materion na chafodd unrhyw sylw ganddi drwy gydol yr ymgyrch oedd addewid y Blaid Lafur, pe baem yn cael ein hethol, i adfer y cyllidebau hynny a sicrhau bod niferoedd yr heddlu'n cael eu hadfer i ble roeddent cyn i'r Prif Weinidog ddechrau ar ei hymgyrch i'w lleihau. Wrth gwrs bod lleihau cyllidebau awdurdodau'r heddlu yn effeithio ar y gwaith y gallant ei wneud, ac wrth gwrs bod y gwaith y gallant ei wneud yn effeithio ar fywydau pobl mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

14:25
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi)

Y cwestiynau nesaf i arweinydd y tŷ. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas. 

Derbyniad Ffôn Symudol

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51977

Diolch am eich cwestiwn. Er nad oes gennym wybodaeth benodol am dderbyniad ffonau symudol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, rwy'n cydnabod bod yr ardal yn dioddef. Rydym wedi llwyddo i lobïo Ofcom i gynnwys rhwymedigaethau cysylltedd yn eu harwerthiant sbectrwm sydd ar y ffordd ar gyfer y band 700 MHz, a gobeithiwn y bydd hynny'n arwain at wella argaeledd gwasanaethau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf yn siŵr beth yw hi pan fydd hi'n gwneud hyn, arweinydd y tŷ neu Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n Aelod o'r Cabinet, beth bynnag. Diolch am eich ateb. Rwy'n cael cryn drafferth deall sut y gallwn symud ymlaen mewn sawl rhan o'r Gymru wledig i'r dyfodol awtomataidd, y dyfodol roboteg rydym wedi bod yn sôn amdano ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw os nad oes gennym signal ffôn symudol hyfyw a dibynadwy. Ni allwch gael fferm awtomataidd, er enghraifft, os nad oes gennych hynny. Ni allwch gael ceir awtomataidd os nad oes gennych hynny. Ni allwn gael datblygiadau, hyd yn oed os cawn reilffordd newydd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, heb signal ffôn symudol dibynadwy ar gyfer peirianneg y trac a phopeth arall.

Rydych yn dweud na wyddoch beth yw ei argaeledd, ac rwy'n deall nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae ffyrdd o lenwi'r bwlch. Mae gan Lywodraeth yr Alban raglen fewnlenwi 4G. Maent wedi ystyried newid rheoliadau cynllunio, a gwneud eu gorau glas gyda rhannu mastiau, gorfodi cwmnïau i weithio gyda'i gilydd, ac yn wir, peth buddsoddiad cyhoeddus gan y Llywodraeth er mwyn llenwi'r mannau gwan. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac a allem weld rhaglen 4G/5G genedlaethol, yn debyg i'r rhaglen band eang rydych wedi'i rhoi ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Rwy'n siŵr fod eich bag post yn haeddu ychydig mwy o lythyrau ar y materion hyn hefyd.

Mae'r setliad datganoli yn gymhleth iawn yma ac mae'r ymylon yn anodd, ac felly mae beth yn union sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli yn destun sgwrs gyson rhyngom ni, Llywodraeth y DU, Ofcom a'r diwydiant o ran pwy sy'n gallu gwneud beth. Felly nid yw lawn mor syml â'r sefyllfa yn yr Alban, yn anffodus, a gresyn na fyddai mor syml â hynny. Mae rhai gwelliannau wedi bod. Nid wyf yn honni o gwbl fod pethau'n wych, ond cafwyd rhai gwelliannau o ganlyniad i'n sgyrsiau gydag Ofcom a'u pwysau ar y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 90 y cant o safleoedd ledled Cymru signal ffonau symudol y tu allan. Rydym wedi gweld cynnydd o 33 pwynt canran mewn argaeledd 4G y tu allan rhwng 2015 a 2016, gan gyrraedd 53 y cant.

Dyfarnwyd trwydded arwerthiant diwethaf y sbectrwm 4G, y soniais amdani, i Telefónica O2, ac roedd yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu cysylltedd i 95 y cant o boblogaeth Cymru fan lleiaf erbyn diwedd 2017, a bu'n rhaid inni ymladd yn gryf i sicrhau ei bod yn sicrhau hynny. Yn hwyr yn 2015, cyhoeddodd Ofcom fod ganddynt arwerthiant sbectrwm ar y ffordd yn y bandiau 2.3 GHz a 3.4 GHz. Mae hwnnw'n sbectrwm capasiti mawr iawn a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti'r cysylltedd 4G presennol. Rydym yn pwyso ar Ofcom i gynnwys rhwymedigaeth cysylltedd daearyddol yn yr arwerthiant sydd ar y ffordd ar gyfer y sbectrwm 700 MHz, neu os nad yw'n ei gynnwys, i gynnwys rhwymedigaeth amser cyfyngedig i'w roi'n ôl i ni os na chaiff ei gyflawni. Rwyf wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am effaith bancio tir yr arwerthiannau sbectrwm, a pha mor anodd yw hynny i ni.

Felly, rydym yn rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae rhai pethau eraill yn digwydd. O ran cyflwyno system y Swyddfa Gartref, deallwn fod y ceisiadau cynllunio wedi cyrraedd yr awdurdodau lleol bellach ac yn mynd rhagddynt yn dda. Bydd hynny'n darparu gallu ychwanegol i ymdrin ag ef. Hefyd, wrth gwrs, y fasnachfraint reilffyrdd. Byddwn yn gosod rhwymedigaethau ar ddeiliad y fasnachfraint reilffyrdd i ledaenu signal ffonau symudol ar hyd y rhwydwaith hwnnw, ac rydym yn edrych hefyd ar ein rhwydwaith ffyrdd. Felly, rydym yn defnyddio'r setliad datganoli, fel y mae, hyd eithaf ein gallu ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU ac Ofcom o ran y ffordd y mae'r diwydiant yn rhoi pethau ar waith. Rydym hefyd yn parhau i gynnal fforwm y cynllun gweithredu ar gysylltedd symudol, a gadeirir gennyf, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn destun ymgynghori ar hyn o bryd ar leoliad a maint mastiau. Felly, ceir llawer o weithgarwch, ond rwy'n rhannu rwystredigaeth yr Aelod o ran yr arafwch a'r anawsterau.

Y peth olaf a ddywedaf yw ein bod wedi targedu pobl sydd wedi'u hallgáu o'r sbectrwm 4G yn ein prosiect band eang Cyflymu Cymru 2, er mwyn ceisio rhoi hwb iddynt mewn ffordd wahanol.

14:30

Arweinydd y tŷ, rwy'n gwerthfawrogi'r ateb a roddwyd gennych i Simon Thomas yn awr, ond wrth gwrs, y realiti yw bod ardaloedd helaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru lle nad oes gan bobl fynediad at fand eang na signal ffôn symudol. A bod yn deg, rwy'n llwyr gydnabod eich ymrwymiad i fynd i'r afael â hyn, a gwn eich bod wedi ymrwymo i gynorthwyo bron i 100, yn llythrennol mae'n debyg, o fy etholwyr i geisio datrys eu problemau.

Fodd bynnag, mae 90 y cant o gysylltedd ffôn symudol yn swnio'n wych, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu 90 y cant o un darparwr. Ac felly, weithiau, gallwch gael ychydig o signal gydag un darparwr, ond nid yw eich darparwr chi'n gweithio. Felly, er enghraifft, mae gennyf aelwyd lle—nid wyf yn gwybod a ddylwn enwi'r darparwyr—pe baent ar EE, gallant gael signal yn llythrennol wrth eu drws, ond dyna ni, ddim yn unman arall yn eu hardal. Felly, mewn gwirionedd, nid dyna'r darparwr gorau ar eu cyfer hwy. Tybed a allai ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen fod yn ffordd ymlaen, fel y gallant edrych yn benodol ar sut y gallwn roi darnau o'r holl fethodolegau cyfathrebu at ei gilydd fel jig-so mewn ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion wedi'u galluogi'n ddigidol yn y dyfodol, gan fod hynny'n hanfodol ar gyfer busnesau ac ar gyfer gwaith cartref, plant, pawb. Mae pob un ohonom angen ein ffics ddigidol.

Ie, dyna'n union y mae'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol yn ceisio'i wneud, dod â'r gweithredwyr at ei gilydd a sicrhau bod y jig-so'n ffitio, os mynnwch. Nid wyf yn dymuno gwneud hwn yn fater gwleidyddol, ond mae rhai pethau sylfaenol yn codi. Un o'r materion mawr yw trawsrwydweithio. Nid yw'r cwmnïau ffôn symudol yn hoff o'r syniad o drawsrwydweithio, ac mae Ofcom yn eu cefnogi ar hynny. Ac rydym yn deall yn iawn pam, yn fasnachol, nad ydynt yn awyddus i ganiatáu trawsrwydweithio mewn canolfannau poblogaeth mawr ac ati. Ond mewn ardaloedd gwledig, mae'n debyg mai dyna'r unig obaith gan nad ydych byth yn mynd i gael cysylltedd i bum rhwydwaith gwahanol ledled holl dir gwledig Cymru a mannau eraill yn y DU. Ac felly, rydym wedi bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar drawsrwydweithio y tu hwnt i'r cytrefi mawr, er enghraifft. A'r peth rhwystredig yw, os oes gennych SIM o'r tu allan i Brydain—os oes gennych SIM Ffrengig, bydd yn trawsrwydweithio'n ddigon diffwdan. Felly, bydd yn gweithio'n ddiffwdan gan fod yr UE yn gwneud trawsrwydweithio'n ofynnol. Yn yr un modd, os ewch â SIM o Brydain i Ewrop, mae'n trawsrwydweithio'n ddiffwdan. Felly, rydym yn pwysleisio hynny, a rhannaf rwystredigaeth yr Aelod yn ei gylch.

Bydd gennym gysylltedd daearyddol gan un darparwr—cysylltedd daearyddol o 98 y cant, dylwn ychwanegu; bydd 2 y cant heb gysylltedd o hyd—a fydd yn wych gan y gobeithiaf y bydd y trigolion yn siarad â'u traed ac yn newid i'r darparwr hwnnw. Ond nid yw hynny o gymorth i'r diwydiant twristiaeth. Ni allwch ddweud wrth eich twristiaid, 'Croeso i Gymru, os gwelwch yn dda, defnyddiwch y darparwr hwn neu fel arall ni allwch gael mynediad at unrhyw beth.' Mae hynny'n amlwg yn ddiwerth. Felly, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor ddiwerth yw hynny i raddau helaeth ac i ddefnyddio ein rhwydweithiau cyhoeddus a'n seilwaith cyhoeddus i'w ymestyn cyn belled ag y gallwn. Mae yna broblemau, fel rwy'n dweud, gyda'r setliad datganoli mewn perthynas â hynny.

Y Cynllun Gweithredu Digidol

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru? OAQ51970

Gwnaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr holl themâu: arweinyddiaeth, trawsnewid, sgiliau a gweithlu, gwasanaethau platfform, ymgysylltu a deialog ddigidol, a data. Mae'n bwysig iawn i mi gan ei fod yn hybu gwelliannau wrth gyflawni gwaith y Llywodraeth, ac wrth gwrs, rwy'n goruchwylio cynnydd y cynllun, sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Parhaol, yn y grŵp digidol a data, a gadeirir gennyf.

Diolch am eich ateb. Arweinydd y tŷ, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ddiwedd y tymor diwethaf. Yno, nodwyd rhwystr i weithio'n fwy effeithiol a chyfathrebu ar draws disgyblaethau, sef anallu gwahanol systemau technoleg gwybodaeth i siarad â'i gilydd, er fy mod yn deall bod gwelliannau ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau iechyd rhywiol, amlygwyd diffyg systemau TG effeithiol fel problem unwaith eto. Rwy'n sylweddoli nad yw systemau iechyd yn rhan o'ch cylch gwaith, ond mae hyn wedi gwneud imi feddwl am arloesedd y gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn addas ar gyfer y presennol, heb sôn am y dyfodol.

Mae fy ymchwil wedi fy arwain i ddarllen eich cynllun gweithredu digidol ar gyfer 2017-20, enghraifft wych o syllu ar eich bogail, os gwelais un erioed, gydag un paragraff yn unig—29—yn sôn am un o'r prif resymau pam rydym yma: ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Cefais fy arwain wedyn at yr adroddiad 'digidol yn gyntaf' yn 2012. Dyma'r cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru, lle yr ystyriwyd bod arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon yn y dyfodol. Nawr, mae hi bellach yn 2018—dyma'r dyfodol. Wedi 20 mlynedd o ddatganoli, mewn gwlad fechan iawn, a allwch amlinellu pa arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dangos yn y maes allweddol hwn?

14:35

Fe geisiaf fynd i'r afael â hynny. Mater y gwasanaethau iechyd: mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn cydweithio ar faterion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd, ac yn wir, rwy'n mynychu'r bwrdd rheoli gwybodeg cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, a elwir yn NIMBY—sydd bob amser yn gwneud imi wenu, mae arnaf ofn, ond nid yw'n golygu'r hyn y mae'n ei olygu fel arfer; dyna yw'r enw ar system y bwrdd gwybodeg. A holl bwynt hynny yw cydgysylltu cynnydd TG ar draws y gwasanaeth iechyd, ar sail unwaith i Gymru, ac i sicrhau bod gennym systemau sy'n gweithio—wel, (a) bod gennym gyn lleied o systemau â phosibl, er mwyn sicrhau bod gennym systemau tebyg ar draws pob bwrdd iechyd, ac yn wir, eu bod yn siarad gyda'i gilydd, ac mae'r gwaith o wneud hynny'n mynd rhagddo. Ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ein cynnydd mewn perthynas â hynny. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw drwyddi ar hynny, ac rydym yn cael sgyrsiau bywiog iawn yn ei gylch.

O ran Llywodraeth Cymru ei hun, credaf fod tair agwedd ar eich cwestiwn. Un yw busnes mewnol Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd gennyf yn awr yn nhermau'r cynllun gweithredu digidol, sy'n ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn gweithio. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod ein bod newydd ddod i ben ag un o'r prif gontractau TG mawr, Atos, a'n bod yn newid i system fwy hyblyg. Roedd y comisiwn sawl blwyddyn ar y blaen i'r Llywodraeth yn hyn o beth, ac mae'n ffordd wahanol o weithio. A dyna roeddwn yn ei amlinellu, a byddaf yn adrodd ar gynnydd ar y cynllun hwnnw cyn bo hir. Ac yna, mae'r gwaith a wnaf gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, ar arloesi digidol a gwella ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym agenda enfawr yn hynny o beth, lle'r ydym yn cysylltu â'r holl wasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru—er mwyn sicrhau, unwaith eto, fod gennym system unwaith i Gymru â chyswllt digidol, lle'r ydym yn rhoi'r systemau ar waith gyda'i gilydd. A soniodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei atebion yn awr am y llwyddiant gwirioneddol rydym wedi'i gael gydag Awdurdod Cyllid Cymru, a ddaeth yn weithredol yn gynharach y mis hwn—a gwn ei fod wedi'i amlinellu yn gynharach—gyda'r holl broses ar-lein o gasglu a rheoli'r trethi trafodiadau a thirlenwi wedi'i galluogi'n ddigidol, a chyda'r holl gyfreithwyr a thrawsgludwyr, ac yn y blaen, yn gallu mewngofnodi ar y system, a chwblhau eu trafodion yn ddigidol.

Felly, rydym ar flaen y gad yn hynny o beth. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ac mae problem fawr yma o ran deall sut y mae'r dyfodol yn edrych, o ran yr agenda sgiliau hefyd. Ond heb os, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw drwyddi'n dda gyda'r agenda honno.

Arweinydd y tŷ, ymddengys bod gan gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru ddau nod—Cymru fwy cysylltiedig a Chymru fwy cyfartal. Nawr, fe gyhoeddoch ddiweddariad i'ch cynllun cynhwysiant digidol y bore yma, ac rwyf wedi ei ddarllen, ac mae'n nodi cynnydd da. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cysylltedd band eang miloedd o fy etholwyr, yn Sir Drefaldwyn, yn dal i fod yn araf neu heb fodoli o gwbl. Felly, golyga hynny, wrth gwrs, na allant gael mynediad at wasanaethau Llywodraeth Cymru ar-lein. Nid ydynt yn teimlo'n fwy cysylltiedig, ac nid ydynt yn teimlo'n rhan o Gymru fwy cyfartal yn y cyswllt hwn, ac ni fydd yn syndod, wrth gwrs, fy mod yn dweud hyn wrthych. Ond a gaf fi ofyn am ddiweddariad ar gaffael cam 2 y prosiect Cyflymu Cymru, a phryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr gyflawn o'r 88,000 o safleoedd a fydd yn elwa ar y cynllun nesaf?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, hoffwn longyfarch yr Aelod am lwyddo i sicrhau bod band eang yn rhan o'r sgwrs am gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru, a chredaf fod nifer o gwestiynau eraill ar hynny yn ddiweddarach ar yr agenda. Ond yr ateb byr yw: byddaf yn gwneud datganiad tuag at ddiwedd mis Mai ar gynnydd prosiect Cyflymu Cymru 2, y tri phrosiect a dendrwyd, a mater y gymuned benodol, a byddaf yn ymhelaethu ar hynny mewn cwestiynau diweddarach, Lywydd.

14:40

Mae e yn deg i ddweud, wrth gwrs, fod llawer mwy o ryngwyneb rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac etholwyr yn digwydd ar-lein, felly rydw i'n meddwl bod y cwestiwn yn ddilys. Mae'n rhaid i mi ddweud: mae nifer o'm hetholwyr i wedi cael llond bol ar yr addewidion gwag maen nhw wedi bod yn eu cael yn y gorffennol gan bobl fel BT Openreach gynt, Openreach erbyn hyn. Mae pentrefi fel Ysbyty Ifan, i bob pwrpas, wedi cael eu camarwain gan gwmni sy'n amlwg â mwy o ddiddordeb mewn gwarchod buddiannau eu cyfranddalwyr nag mewn darparu gwasanaethau i'r cymunedau maen nhw fod i'w gwasanaethu. Ac yn waeth na hynny, mae Llywodraeth Cymru, hyd yn oed, wedi rhoi addewidion ffals i etholwyr, gyda chopïau o lythyrau rydw i wedi eu gweld yn dyddio yn ôl i Dachwedd 2015 yn addo datrysiadau yn y maes yma—un ohonyn nhw gennych chi, gyda llaw, mewn cyd-destun neu mewn rôl flaenorol fel Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, dros ddwy flynedd yn ôl. Felly, pryd fydd y cymunedau gwledig yma, fel Ysbyty Ifan, o'r diwedd yn cael y gwasanaethau maen nhw'n eu haeddu, yn hytrach na'r addewidion gwag maen nhw wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf? 

Mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod yn teimlo eu bod yn addewidion gwag. Rydym yn pwysleisio y gall y dyddiadau a grybwyllir yn y llythyrau newid ac na allwn addo mai dyna fydd y dyddiadau cysylltu. Ond rwyf wedi dweud sawl tro yn y Siambr hon fy mod yn rhannu ei rwystredigaeth a rhwystredigaeth y bobl y trefnwyd iddynt fod yn rhan o'r rhaglen, ac yna, am ba bynnag reswm cymhleth, ni chawsant eu cynnwys yn y diwedd. Bydd rhaglen Cyflymu Cymru 2 yn ceisio ymdrin â phobl a fu'n rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 1 ac na chawsant eu cynnwys am ba reswm bynnag. Ni allaf addo y gellir ymdrin â phob un ohonynt. Mae yna faterion cymhleth ynghlwm wrth hyn.

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu rhwystro gan broblemau sy'n ymwneud â fforddfreintiau, er enghraifft. Credaf fod gennym oddeutu 10,000 o safleoedd sydd wedi'u rhwystro gan fforddfreintiau ar hyn o bryd, ac yn anffodus, gan nad yw hyn yn cael ei ystyried yn gyfleustod, nid oes gan Lywodraeth Cymru na'r contractwyr y mae Llywodraeth Cymru yn eu caffael unrhyw hawl i groesi tir. Os yw perchennog tir yn gwrthod mynediad i dir, nid oes gennym unrhyw ffordd o fynnu ein bod yn cael mynediad, ac un enghraifft yn unig yw honno o blith llawer sy'n bodoli ledled Cymru.

Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rwy'n ymweld â nifer fawr o gymunedau yng Nghymru i drafod a oes ateb cymunedol yn bosibl ar gyfer pentrefi, fel yr un a grybwyllwyd gennych yn awr, ac a allwn ddarparu un o'n hatebion pwrpasol i grŵp o bobl sy'n ddaearyddol agos neu a fyddai ateb arall yn well, a byddaf yn mynd i Geredigion yr wythnos nesaf, rwy'n credu.

Byddwch, ddydd Iau. Pedwar o'r gloch. [Chwerthin.] Llanina Arms.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.  

Diolch yn fawr iawn. Ac mae yna wahoddiad wedi mynd i'ch swyddfa chi i ddod i Arfon hefyd, os caf ddweud? 

Yn ystod y mis diwethaf, yn ystod araith yn Rhydychen, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd yn cynnal adolygiad o bolisïau rhywedd a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ystyried sut i symud rhywedd i'r blaen wrth wneud bob penderfyniad, gofalu bod cynllunio economaidd yn cyd-fynd â'r rhethreg ar rywedd, a gwneud Cymru, drwy ddeddfwriaeth newydd, y lle diogelaf i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan—swnio'n wych, onid ydy, ond beth ydy'r manylion? Pryd fydd yr adolygiad yma yn cychwyn? Pwy fydd yn ei gynnal o? A fydd yna dargedau penodol a deilliannau penodol, a beth fydd pwrpas yr adolygiad yma? 

Wel, mae'r cwestiynau i'w croesawu'n fawr ac yn amserol iawn. Rydym newydd gwblhau cytundeb y cylch gorchwyl, ac fe'i rhoddwyd gennyf heddiw yn llyfrgell yr Aelodau, fel y gall pob Aelod eu gweld o heddiw ymlaen. Felly, mae'r cwestiwn yn un amserol iawn. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cytuno ar y cylch gorchwyl. Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad cychwynnol i randdeiliaid, un ar 26 Ebrill ac un ar 3 Mai, lle byddwn yn dod â phob un o'r rhanddeiliaid sy'n weithgar yn y maes hwn ynghyd—un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—i geisio denu cynifer o bobl â phosibl, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr holl grwpiau rydym yn ymwybodol ohonynt. Os gwyddoch am unrhyw rai nad ydynt wedi cael unrhyw beth gennym, hoffwn pe baech yn eu hannog i ymateb—nid y bobl y gwyddom amdanynt yn unig rydym yn ceisio eu cyrraedd—a gofynnwch iddynt, pe baent yn gallu gwneud un peth yn y tair blynedd nesaf yn y maes hwn, beth fyddai hwnnw, fel y gallwn gychwyn trafodaeth yn y ddau ddigwyddiad i randdeiliaid ynglŷn â'r blaenoriaethau y mae pobl yn eu nodi. Ac rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn fuan, yr hyn y gallwn ei wneud yn y tymor canolig a'r hyn a allai gymryd mwy o amser i'w gyflawni fel rhan o'r adolygiad hwn rwy'n falch iawn o'i wneud.

Diolch yn fawr. Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth yna. Yng nghyswllt y pwynt a wnaed yn araith y Prif Weinidog yn Rhydychen am greu Cymru fel y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan drwy ddeddfwriaeth, rydych yn gwybod, wrth gwrs, mai dyna beth oedd un o'r bwriadau y tu ôl i'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydw i'n falch iawn fod yna ychydig o gynnydd rŵan yn digwydd yn sgil materion rydw i wedi eu codi yn y Siambr yma ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf honno. Ond mae yna un prif wendid o hyd ynglŷn â'r Ddeddf, onid oes, sef y penodi addysg am berthynas iach? Ac er gwaethaf gwaith diweddar gan y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n edrych fel pe na baem ni'n dal i fod yn nes i'r lan efo hyn, felly. Nid oes dim sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd o ran dysgu sylfeini perthynas iach a gosod trafodaeth ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol, ac yn y blaen. Felly, mi gollwyd cyfle efo'r Ddeddf. Gobeithio bod yna gyfle rŵan, ond nid wyf i'n gweld cynnydd ar hyn. Beth sydd yn dal pethau yn ôl efo hyn?

14:45

Felly, mae'r Aelod, yn briodol, yn nodi mater sydd wedi bod ar feddyliau llawer ohonom ers peth amser. Cyn bo hir bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad ar addysgu—ni allaf gofio'r union deitl—addysg rhyw a pherthnasoedd, i bob pwrpas. Mae'n bosibl nad dyna'r union deitl, maddeuwch i mi, ond dyna ydyw yn ei hanfod. Rydym wedi bod yn adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus a gyflawnir gan Hafan Cymru mewn llawer o ysgolion yng Nghymru mewn perthynas ag addysg rhyw a pherthnasoedd iach. Cefais y fraint o fynychu sesiwn yn un o'n hysgolion cynradd yn y Cymoedd, ac roedd yn anhygoel. Roedd y gwahaniaeth yn y grŵp ar ddechrau'r sesiwn ac ar y diwedd, a'r fenyw ifanc a oedd yn ei addysgu, yn ysbrydoledig. Felly, rydym wedi bod yn edrych i weld a allwn adeiladu ar hynny. Ond bydd fy nghyd-Aelod—nid wyf am ddwyn ei chlodydd—Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud rhai cyhoeddiadau yn fuan iawn.

Wel, rydw i'n falch iawn o glywed hynny ac mae'n hen bryd, os caf fi ddweud. Mae addysg yn allweddol, wrth gwrs, i daclo'r maes penodol yma.

Ddoe, fe soniodd rhai Aelodau yn y Siambr am yr adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol, sy'n tynnu sylw at y loteri cod post sy'n bodoli o ran gwasanaethau erthylu yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn dweud hyn: mae gwasanaethau erthylu yng Nghymru yn anghyfartal ac fe all hyn arwain at erthyliadau hwyr neu i fenywod fod mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddewis ond parhau â beichiogrwydd na fwriadwyd ganddynt. Yn glir, nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol. A fydd yr adolygiad mawr yma rydych chi'n mynd i fod yn ei wneud yn mynd ar ôl hyn yn benodol o ystyried bod y ddarpariaeth yn hollol anghyfartal ar hyn o bryd? Mae o'n fater sydd rhaid ymdrin ag o os ydy'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif, neu fel arall fe fydd pobl yn meddwl mai geiriau gwag—dataganiad tocenistaidd—i'r wasg a wnaed yn fyrfyfyr yn Rhydychen?

Un o ddibenion yr adolygiad yw edrych ar bolisïau sy'n canolbwyntio ar rywedd ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, dyna un enghraifft rydych newydd ei rhoi. Mae llawer o rai eraill yn ymwneud â sut a pham y mae gwasanaethau fel ag y maent yng Nghymru. Un o'r rhai rwy'n ei dyfynnu'n aml yw eich bod yn aml yn gweld gwasanaethau ar gyfer llochesau, er enghraifft, yn datblygu lle mae nifer o bobl wedi gweld yr angen ac wedi dod at ei gilydd ddegau o flynyddoedd yn ôl ac yna rydym wedi parhau â'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na dull sy'n seiliedig ar anghenion ledled Cymru. Nid bod unrhyw beth o'i le ar y gwasanaethau sydd yno, ond nid wyf yn gwbl argyhoeddedig fod gennym y cyrhaeddiad a bod pobl yn cael yr un profiad lle bynnag y maent yn defnyddio'r gwasanaethau hynny, oherwydd y ffordd y cânt eu datblygu a'r ffordd rydym—. Felly, mae hynny'n rhan o bwrpas yr adolygiad. Felly, rydych wedi tynnu sylw at un arall. Mae yna wasanaethau eraill—tynnwyd fy sylw at wasanaethau endometriosis, er enghraifft, ac mae nifer o rai eraill. Felly, ie, diben yr adolygiad yw edrych ar bolisïau ar draws Llywodraeth Cymru ac argaeledd gwasanaethau a chanolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud i wella hynny.

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â'ch cyfrifoldebau dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Ddydd Llun, cynhaliais a siaradais yn nigwyddiad Going for Gold Autistic Acceptance yn y Senedd. Roedd yn ddigwyddiad a arweiniwyd gan oedolion awtistig, lle roeddent hwy—oedolion awtistig huawdl a deallus iawn—yn trafod y meysydd sy'n peri pryder iddynt, ond hefyd yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd yn gydgynhyrchiol, yn eu geiriau hwy, i sicrhau ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu sy'n wynebu pobl awtistig

sydd bellach yn arferol yn hytrach nag yn eithriad.

Mynegwyd pryder ganddynt yn benodol nad yw ymwybyddiaeth yn gyfystyr â derbyniad na chydraddoldeb, a dyna lle mae eich rôl chi'n berthnasol i hyn, ac eto ceir pryder cynyddol fod hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth yn gyffredinol, a hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd yn ehangach, ar draws Cymru, yn cael ei arwain yn gynyddol gan bobl nad ydynt yn anabl, sy'n weithwyr proffesiynol mewn proffesiynau meddygol neu ofal gyda ffocws meddygol, sy'n hysbysu pobl am namau pobl anabl a ffyrdd o oresgyn anabledd, tra bod hyfforddiant cydraddoldeb awtistiaeth, fel y dywed y sector, bob amser yn cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl anabl, gyda ffocws ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y gymdeithas, gan gydnabod y bydd cael gwared ar y rhwystrau corfforol, ariannol ac ymagweddol yn creu cymdeithas fwy cynhwysol a hygyrch.

Sut y byddwch, drwy weithio gyda'ch cyd-Aelodau, yn mynd i'r afael â'r pryderon cynyddol yn y gymuned awtistig, ac yn ehangach ymhlith pobl anabl yng Nghymru, fod yr hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn yn cael ei ddarparu hebddynt neu er eu gwaethaf ar fodel meddygol, yn hytrach nag ar y cyd â hwy ar sail gydgynhyrchiol i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu?

14:50

Nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw yn uniongyrchol, Mark Isherwood, a buaswn yn croesawu sgwrs hirach gyda chi ynglŷn â lle y codwyd y pryderon hynny. Rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Yn sicr, ein polisi datganedig yw bod gennym fodel cydgynhyrchu; ein bod yn gweithio gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cael eu darparu gyda hwy a chyda'u mewnbwn hwy. Felly, mae eich clywed yn dweud hynny yn peri pryder i mi a buaswn yn croesawu sgwrs gyda chi ynglŷn â lle y codwyd pryderon hynny gan nad ydynt wedi cael eu dwyn i fy sylw'n uniongyrchol.

Wel, diolch i chi am hynny. Edrychaf ymlaen at y sgwrs honno. Efallai y gallech, yn eich ateb, ddweud wrthyf a ydych eisiau i mi gysylltu gyda chi neu fod eich swyddfa'n cysylltu—

Diolch yn fawr iawn.

Wel, ar bwnc tebyg, ac unwaith eto, ar fater cydraddoldeb, yn gynnar y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r—gair rwy'n gobeithio y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio; 'cyflwr' ddylai'r gair fod—sbectrwm awtistig: adroddiad interim, a gwelodd fod gwendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a'r gwasanaethau diagnostig i oedolion ag awtistiaeth a'r gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant sydd ag awtistiaeth, ac er bod llwyddiant yn galw am ddull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn y modd y caiff y gwasanaeth ei gynllunio, ei weithredu a'i werthuso, dywedodd:

Mae yna bryderon bod y dull "o'r brig i'r bôn"...wedi mygu hyn

Unwaith eto, o'r digwyddiad ddydd Llun, ac yn fwy cyffredinol, mae'r gymuned yn teimlo bod hyn yn tanseilio eu cydraddoldeb a'u hawliau dynol. Mae'n fwy na systemau; mae'n fwy na gwasanaethau; mae'n fater sy'n seiliedig ar hawliau. Unwaith eto, felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i ystyried y mater hwn yn ehangach ac o bosibl, yn y cyfarfod rydych yn ei gynnig.

Yn sicr. Nid yw'r gwasanaethau a grybwyllwyd gennych yn fy mhortffolio mewn gwirionedd, ond rwy'n fwy na pharod i drafod gyda'r Aelod sut y gallwn ddatblygu hynny gyda nifer o Ysgrifenyddion Cabinet sy'n cymryd rhan.

Ac mae fy nghwestiwn olaf, unwaith eto, yn dilyn thema debyg, mae gennyf—mae llawer mwy o bobl yn dwyn hyn i fy sylw, oherwydd fy mod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth mae'n debyg—lwyth achosion cynyddol o deuluoedd lle y gwrthodir asesiad a diagnosis awtistiaeth i blant, yn enwedig merched, a hynny oherwydd camsyniadau ynghylch sut y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun. Mae gennyf enghraifft yma gan yr Inns of Court College of Advocacy, y mae eu canllawiau eu hunain yn dweud y gall menywod sydd ag awtistiaeth ymddangos yn fwy cymdeithasol na'u cymheiriaid gwrywaidd. Awgrymwyd bod menywod a merched ag awtistiaeth yn cymryd rhan yn well mewn sefyllfaoedd cymdeithasol oherwydd eu bod yn debygol o arsylwi a dynwared eraill yn eu sgiliau cymdeithasol a'u defnydd o iaith. Gall strategaethau o'r fath guddio unrhyw anawsterau sydd ganddynt a gwneud iddynt ymddangos yn fwy abl nag y maent mewn gwirionedd.

Mae gennyf nifer cynyddol o achosion, lle mae byrddau iechyd ac ysgolion yn gweld y mwgwd yn hytrach na'r person, ac mae mwy a mwy o'r merched hyn a'u teuluoedd—mae rhieni rhai ohonynt ar y sbectrwm yn ogystal—yn dioddef problemau gorbryder difrifol, iselder, absenoldeb o'r ysgol, tangyflawni, ac er gwaethaf hynny, maent hwy, a minnau pan fyddaf yn eu cynrychioli, yn cael ymateb cwerylgar ac anghynhyrchiol gan y cyrff statudol. Gwn fod hyn yn cwmpasu briffiau ar wahân i'ch rhai chi, ond unwaith eto, mae'r rhieni hyn, a'r plant pan fyddaf yn eu cyfarfod, yn dweud wrthyf fod hyn yn tanseilio eu hawliau dynol. Ac unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddwch yn cadarnhau y byddwch yn ystyried mynd i'r afael â'r pryderon hyn oherwydd maent yn achosi niwed go iawn i fywydau go iawn.

Rwy'n ymwybodol iawn o gamsyniadau ynglŷn â sut y mae plentyn sydd ar y sbectrwm awtistig yn ymddangos. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennyf achos yn fy nheulu fy hun, sydd ar flaen fy meddwl.

Rwy'n fwy na pharod, fel rhan o'n trafodaeth, i gynnwys fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau addysg yn ogystal mae'n debyg. Felly, os cawn y sgwrs honno, rwy'n fwy na pharod i fwrw ymlaen â hynny.

Hoffwn ailadrodd nad yw'r pryderon hynny wedi cael eu dwyn i fy sylw yn uniongyrchol, ond rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy.

14:55

Diolch, Lywydd. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy nghwestiwn yn dilyn rhai o'r pethau a godwyd gan Sian Gwenllian yn gynharach.

Ym mis Ebrill 2015, pasiodd y Cynulliad Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd hon yn ddeddfwriaeth ganmoladwy a luniwyd i ddiogelu, yn benodol, dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig. Fel gydag unrhyw ddeddfwriaeth, mae'n ddyletswydd arnom i gwestiynu ei heffeithiolrwydd ar ôl cyfnod o amser. A yw arweinydd y tŷ yn credu bod y Ddeddf yn cyflawni ei nodau?

Mae'n ddyddiau cynnar ar y Ddeddf o hyd, wrth gwrs; nid ydym ond newydd benodi'r ymgynghorwyr cenedlaethol newydd. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd hynod o ddefnyddiol ac adeiladol gyda hwy, gan gynnwys cyfarfod hanner diwrnod pan fuom yn trafod yr ystod o wasanaethau sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a beth sydd angen ei wneud i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd fwy cydweithredol. Yr wythnos hon, cefais y fraint o fynychu lansiad Consortiwm Seren Fôr ym Mae'r Gorllewin, sy'n croesawu'r dull cydweithredol hwnnw o ganlyniad i'n canllawiau cenedlaethol newydd. Felly, credaf fod y Ddeddf yn profi ei gwerth.

Roedd y cychwyn yn araf, fel y crybwyllodd Sian Gwenllian, ond credaf ein bod wedi cyrraedd bellach. Rydym ar fin cyhoeddi ein canllawiau ariannu cynaliadwy yn ogystal. Felly, credaf fod y Ddeddf yn un y gallwn fod yn falch iawn ohoni, ac mae'n dechrau gwneud y gwahaniaeth rydym yn disgwyl ac eisiau iddi ei wneud.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb cynhwysfawr, ond nid yw'r ffigurau mewn perthynas â thrais rhywiol a cham-drin domestig yn galonogol o gwbl. Ym mis Mawrth 2017, dangosodd y data gynnydd o 23 y cant yn y math hwn o droseddu dros y tair blynedd flaenorol. Hyd yn oed o ystyried bod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, mae'n dal i ddangos tueddiadau sy'n peri pryder. Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri llawer mwy o bryder yw'r diffyg arian ar gyfer ymyriadau wedi i ddioddefwr wneud y penderfyniad dewr i adael y cartref lle y digwyddodd y cam-drin domestig, weithiau dros flynyddoedd lawer. Mae ffigurau'n dangos bod 47 y cant o ddioddefwyr o'r fath wedi cael eu gwrthod gan lochesau oherwydd diffyg llety. O ystyried bod y llochesau hyn yn chwarae rôl hanfodol yn helpu pobl i ddianc rhag trais domestig, a yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y cyllid yn ddigonol?

O na bai'n ddigonol. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn, canlyniad blynyddoedd o gyni Llywodraeth Geidwadol yw hyn. Mae gennym lai a llai o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gennym lai a llai o arian. Nid oes unrhyw ddewisiadau hawdd. Nid ydym byth yn torri rhywbeth nad yw'n gweithio. Mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn hanfodol. Nid ydym mewn unrhyw—. Ni allaf ddweud bod y cyllid yn ddigonol, gan ei bod yn hollol amlwg nad yw'n ddigonol, ac ar ôl y nifer fawr o doriadau y bu'n rhaid i ni eu hysgwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw'n syndod.

Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond y gwir cas amdani yw bod asiantaethau megis Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Cymorth i Fenywod Cymru yn datgan, ymhell o fod cyllid yn ddigonol i ariannu llochesau ychwanegol, maent bellach yn ofni y bydd rhai llochesau'n gorfod cau. Felly, a yw symud cyllid o'r prosiectau hyn i awdurdodau lleol yn ddewis amgen synhwyrol, o ystyried y posibilrwydd o frigdorri'r ffynhonnell hanfodol hon ar gyfer costau gweinyddol?

Iawn, nid dyna a wnawn; nid ydym yn symud y cyllid i awdurdodau lleol. Yr hyn rydym yn ei wneud yw bod gennym ddull rhanbarthol cydgysylltiedig o ariannu'r gwasanaethau hyn. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol ac yn ddigonol ar draws Cymru, i bob un o fenywod Cymru heb ddibynnu ar loteri cod post o unrhyw fath. Felly, fel rhan o'n hadolygiad cyflym, byddwn yn dadansoddi pam a lle mae'r gwasanaethau hynny, ac a ydynt yn ddigonol i gyflawni eu tasg.

Rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn datrys yr holl broblemau eraill yn ogystal. Felly, mae'n broblem sy'n ymwneud â goroeswyr, mae yna broblem sy'n ymwneud ag amddiffyn pobl sy'n ffoi rhag trais domestig uniongyrchol, ond mae yna broblem fawr mewn perthynas â hyfforddiant, mewn perthynas ag atal, ac mewn perthynas â throseddwyr yn ogystal, problemau sy'n rhaid rhoi sylw iddynt yn rhan o'r agenda hon hefyd. Felly, mae 70,000 o bobl wedi astudio ein cwrs e-ddysgu codi ymwybyddiaeth hyd yma, ac rydym yn cyflwyno ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen. Roedd yn fraint fawr cael ymweld â'r gwasanaeth tân yn ddiweddar, sef y gwasanaeth tân Rhuban Gwyn cyntaf yn y DU, a chael gweld, drosof fy hun, eu hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer pob un o'u gweithwyr proffesiynol rheng flaen, oherwydd atal yw'r ateb go iawn i hyn, er fy mod yn derbyn yn llwyr fod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl mewn perygl uniongyrchol o niwed yn ogystal.

15:00
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo? OAQ51978

Gwnaf, gyda phleser. Ers i'r Ddeddf ddod i rym, mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael ei drawsnewid. Mae gweithredu'r Ddeddf wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid arferion a chyfeiriad strategol clir yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru drwyddi draw. Mae'r trydydd sector yn parhau i chwarae rôl bwysig iawn yn hyn oll.

Wel, wrth gwrs, fel rydym wedi'i glywed heddiw, mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn faes hollbwysig yn eich portffolio, ac rwy'n croesawu'r ffordd rydych yn ymgysylltu mor llawn yn y maes polisi hanfodol hwn. Mae gan y Ddeddf hon dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac ym mis Tachwedd siaradais yn nigwyddiad aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll BAWSO yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a thynnais sylw at y ffaith bod dwy fenyw yr wythnos, ar gyfartaledd, yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Felly, o ystyried cymaint o drais sy'n parhau yn erbyn menywod a merched, a wnewch chi roi sylw pellach ar y cynnydd mewn perthynas â gweithredu'r ddeddfwriaeth arloesol hon, o ystyried yr heriau sy'n wynebu sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i fenywod, y pwysau ar ddarparwyr amlasiantaethol fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd, y mae pob un â rôl i'w chwarae, a'r GIG, yn enwedig o ganlyniad i gyni a'r pwysau y mae'r Llywodraeth hon yn ei wynebu o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU?

Gwnaf, yn wir. Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr er gwaethaf yr heriau, ac mae sefydliadau ledled Cymru wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i'r Ddeddf ac i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Nid yw hyn yn syndod i ni; gwyddom fod pobl yn ymroddedig iawn yn y maes hwn.

Rydym, fel y gŵyr Jane Hutt, yn y broses o symud i sylfaen gomisiynu ranbarthol gydgysylltiedig, a arweinir gan anghenion, ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gwnawn hynny er mwyn gwella'r ffordd y bydd gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u cydgysylltu, fel y dywedais mewn atebion blaenorol, yn ogystal ag arbedion maint. Ond mae gennym wasanaethau trydydd sector arbenigol a fydd yn rhan hanfodol o'r dull rhanbarthol cydweithredol hwnnw, ac er mwyn ymhelaethu rhywfaint, mynychais lansiad consortiwm Seren Fôr bae'r gorllewin, sef consortiwm o bum sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd i weithio ar y cyd. Rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni wneud yn siŵr nad yw'r ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau yn esgor ar ganlyniadau anfwriadol o ran lleihau cydweithio, ac rydym yn gobeithio y bydd y dull rhanbarthol hwn yn allweddol wrth ddwyn y gwasanaethau hynny ynghyd â sicrhau eu bod yn cydweithio mewn modd cydlynol ac yn rhannu eu data i gyd, yn hytrach na'n bod yn caffael gwasanaethau unigol a'u bod yn cystadlu â'i gilydd, ac yn tynnu eu data'n ôl yn naturiol. Felly, rydym yn ymrwymedig iawn i wneud hynny.

Mae ein fframwaith hyfforddiant cenedlaethol yn sicrhau bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn rhan greiddiol o'r gwasanaeth y mae ein cydweithwyr iechyd, tân ac achub ac awdurdodau lleol yn ei gynnig. Fel y dywedais yn gynharach, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dangos eu hymrwymiad i'r hyfforddiant ac mae dros 70,000 o bobl wedi'u hyfforddi hyd yma. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol erbyn dechrau'r mis nesaf. Mae'n ymrwymiad allweddol yn y Ddeddf, ac mae'n ei rhoi ar sail strategol newydd, a fydd, yn ein barn ni, yn sicrhau'r arweinyddiaeth a'r cyfeiriad cryfach y mae'r sector eu hangen. Rydym yn falch iawn o fod wedi cyhoeddi ein canllawiau ein hunain, wrth i'r trydydd pen-blwydd agosáu.

Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n credu bod yr arweiniad a ddangoswyd gan gomisiynwyr yr heddlu yn allweddol yn y maes hwn, ond cafodd comisiynydd heddlu De Cymru grant o £1.4 miliwn gan y Swyddfa Gartref y llynedd i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ddiogelu ac atal, ac rwy'n deall mai hwn oedd y grant mwyaf a roddwyd i gomisiynydd yr heddlu. Credaf fod rhywfaint o waith gwych yn digwydd yn awr, ond mae'n dasg enfawr, ac mae llawer ohono'n ymwneud ag addysgu pobl, atal ymddygiad cyn iddo waethygu, ac ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gam-drin.

15:05

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Cefais y pleser mawr o fynd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu o amgylch y ganolfan wasanaeth amlasiantaethol, yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd. Ni wn a yw'r Aelod wedi cael cyfle i wneud hynny, ond buaswn yn ei argymell i bob Aelod, os nad ydych wedi cael cyfle. Mae'n dangos yr arweiniad go iawn y mae gwasanaeth yr heddlu, yn arbennig, wedi'i roi i'r dull cydweithredol hwnnw. Roeddwn yn gallu gweld drosof fy hun sut y gallent wneud yn siŵr eu bod yn ymateb yn llawer cyflymach ac yn fwy priodol i'r holl ddigwyddiadau roeddent yn ymdrin â hwy, a gwneud defnydd llawer gwell o'r cyfoeth o ddata, a'r gweithwyr proffesiynol gwahanol i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y canlyniad gorau posibl o dan yr amgylchiadau a wynebent.

Buom yn cydweithio gyda hwy, a—fel y dywedais—gyda nifer fawr o'n partneriaid statudol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn cyflwyno ein hyfforddiant a'n cwrs e-ddysgu 'gofyn a gweithredu', a lansiwyd gennym yn gynharach y llynedd, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ogystal. Y syniad yw sicrhau bod pob un o'n hymatebwyr cyntaf a'r bobl sy'n ymdrin â phobl o ddydd i ddydd yn sylwi ar arwyddion cynnar y math hwn o gam-drin domestig. Felly, mae ein staff addysgu, ein cynorthwywyr addysgu, ein gwasanaethau tân ac achub, ein gwasanaethau heddlu, ein gwasanaeth ambiwlans ac ymatebwyr eraill, i gyd yn cwblhau'r hyfforddiant 'gofyn a gweithredu'. Mae sawl haen i'r hyfforddiant, felly mae'r ymatebwyr rheng flaen yn cael pecyn hyfforddiant penodol, ac mae yna becynnau hyfforddiant cydgysylltiedig i bobl sy'n ymdrin â'r canlyniadau—gyda digwyddiadau byw go iawn, er enghraifft, yn y ganolfan ddiogelu amlasiantaethol.

Mae gennym nifer o ymgyrchoedd eraill hefyd oherwydd rydym yn ceisio mynd i'r afael ag achos llawer o hyn yn ogystal. Felly, lansiwyd ein hymgyrch Dyma Fi ym mis Ionawr. Roeddwn yn falch iawn o allu ei lansio yng Ngholeg Gŵyr, gyda chriw brwdfrydig iawn o bobl ifanc yng nghanol eu harddegau a gymerodd ran frwdfrydig iawn ynddi. Mae honno'n un o'r ymgyrchoedd sydd wedi cael y derbyniad gorau o'r holl ymgyrchoedd a gynhaliwyd gennym fel Llywodraeth, rwy'n credu. Mae'r ymateb iddi wedi bod yn anhygoel. Oherwydd bod hwn yn fater cymdeithasol mawr yn ogystal, a diben hynny—. Rydym yn gwybod bod stereoteipio ar sail rhywedd yn rhan fawr o'r hyn sy'n gyrru trais domestig, wrth i bobl geisio cydymffurfio â stereoteipiau nad ydynt yn realistig nac yn bosibl eu gwireddu. Rydych yn gweld y pwynt rwy'n ei wneud. Mae'n bwysig dros ben nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn gryf a beth bynnag arall, ac nad yw menywod yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn ostyngedig mewn sefyllfaoedd lle mae trais domestig yn digwydd. Dyna un enghraifft yn unig. Ceir ystod fawr o rai eraill. Felly, mae honno wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus iawn.

Gobeithio bod yr holl Aelodau wedi cael cyfle i weld yr ymgyrch. Mae i'w gweld ar lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi cael mwy o ymateb i'r ymgyrch hon nag i unrhyw ymgyrch arall, rwy'n credu. Mae wedi bod yn rhyfeddol. Oherwydd fe welwn hyn fel angen i newid. Mae angen newid cymdeithasol er mwyn newid rhai o'r pethau, ac yn y cyfamser wrth gwrs, rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n cael eu heffeithio.

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithredu ei pholisi ar geiswyr lloches a ffoaduriaid? OAQ52009

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i gydgynhyrchu cynllun i wella canlyniadau ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae drafft 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' yn mynd i'r afael â materion a godwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y llynedd, ac yn destun ymgynghoriad tan 25 Mehefin.

Diolch i chi am hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, yn fwy cyffredinol, a minnau wedi cael fy magu yng Nghasnewydd, rwy'n adnabod llawer o bobl sy'n rhan o genhedlaeth Windrush, a ddaeth i Gymru o'r Caribî yn dilyn yr ail ryfel byd, a gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymunedau, ein heconomi ac yn wir, i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rhannaf y dicter presennol tuag at y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn cynnal gwiriadau ar statws y rheini a ymfudodd i'r DU o wledydd y Gymanwlad rhwng 1948 a 1971, gan arwain at nifer ohonynt yn cael gwybod nad oes ganddynt hawl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn wir, y gallent gael eu halltudio. A wnewch chi, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau hyn fel mater o frys, ac i atal y sefyllfa bresennol, a gwrthdroi'r sefyllfa bresennol, lle mae'r aelodau hyn o'n cymunedau yn destun amarch dybryd a llawer iawn o ansicrwydd a phryder?

Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Credaf fod y mater hwn yn destun nifer o gyfraniadau ddoe, yma yn y Senedd yn ogystal. Rwy'n cefnogi safbwynt y Prif Weinidog yn llwyr, fel yr amlinellir yn y llythyr y mae'r holl Aelodau bellach, rwy'n gobeithio, wedi gweld copïau ohono. Mae'n hanfodol fod yr Ysgrifennydd Cartref yn rhoi proses syml, effeithiol a chyflym ar waith i gefnogi pob un o'r aelodau hyn yn ein cymunedau. Rwyf wedi gweld y wefan newydd sydd wedi cael ei chyhoeddi, ac nid wyf yn credu ei bod yn gyflym, yn hawdd na'n syml, mae arnaf ofn, felly byddwn yn ysgrifennu unwaith eto i ddweud ei bod yn wych fod y wefan wedi cael ei chyhoeddi, bod pobl yn cael mynediad ati, ond y dylid ei gwneud yn llawer mwy hygyrch. Ni wn a yw Aelodau wedi cael cyfle i edrych arni, ond mae'n anhygyrch iawn ac yn eithaf brawychus o ran peth o'r iaith a ddefnyddir, felly mae angen ei gwneud yn llawer mwy syml.

Ac yna, wrth gwrs, y bore yma, daeth yn amlwg fod y dogfennau cyrraedd wedi cael eu dinistrio, gan golli rhai o'r darnau olaf o ddogfennaeth a oedd gan rai o'r bobl a gafodd eu dal yn y llanastr hwn, a bod y rhai y dinistriwyd eu dogfennau cyrraedd wedi cael neges yn dweud, 'Nid oes unrhyw gofnod ohonoch yn ein cofnodion, yn ein ffeiliau', ac nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol o gwbl. Felly, gan fod hynny wedi dod yn amlwg, byddwn yn ysgrifennu ymhellach i nodi ein syndod bod hynny wedi cael ei wneud ac i ofyn am ragor o fanylion mewn perthynas â'r hyn sy'n cael ei wneud i unioni hynny.

15:10

Un o flaenoriaethau cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ceiswyr lloches oedd dod o hyd i fwy o gyfleoedd i geiswyr lloches gael mynediad at addysg uwch, ac roedd yn dweud yn benodol iawn yn y cynllun hwnnw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i roi cyngor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar lwybrau posibl i brifysgolion. Gallwch weld i ble rwy'n mynd, mae'n debyg, a chithau'n cynrychioli Abertawe eich hun: a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno hyn mewn rhannau eraill o Gymru?

Yn ddiddorol iawn, cododd hyn—. Bûm yn cadeirio'r fforwm rhyng-ffydd yn gynharach yr wythnos hon ac fe gafwyd sgwrs ynglŷn ag adnewyddu'r strategaeth hon a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod ceiswyr lloches sydd â chymwysterau proffesiynol, sydd yn amlwg o ddefnydd enfawr iddynt hwy ac i'n heconomi, yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cymwysterau hynny. Tynnwyd sylw yn y drafodaeth at yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau bod cymwysterau meddygon cymwysedig yn cael eu cydnabod yn gyflym a'u bod yn gallu gweithio yng Nghymru, ac mae nifer o—maddeuwch i mi, ni allaf gofio faint yn union—mae nifer fawr o bobl wedi cwblhau'r rhaglen honno'n llwyddiannus. Felly, rydym wrthi'n edrych i weld beth y gallwn ei wneud i adnewyddu'r rhaglen honno, nid yn unig yn y prifysgolion, ond yn gyffredinol ar gyfer pobl sydd â chymwysterau proffesiynol a chymwysterau eraill y gallent eu defnyddio.

Rwy'n gwneud llawer gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o broblemau o hyd mewn perthynas ag arwahanrwydd a thrafnidiaeth. Mae rhai o'r bobl rwy'n cyfarfod â hwy yn famau sengl gyda thri neu bedwar o blant ac maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cludo gwahanol blant i wahanol leoedd ar wahanol adegau, ac ymrestru wedyn ar gyfer dosbarthiadau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill neu gyrsiau mynediad coleg.

Felly, tybed a allech chi gael golwg arall ar y mater hwn, yn ogystal â'r ail fater yr hoffwn ei ddwyn i'ch sylw, sef y ffaith bod gwaith ymchwil rwyf wedi'i wneud yn dangos nad yw ceiswyr lloches yn gallu gwneud gwaith gwirfoddol yn y sector preifat. Rwyf wedi siarad â rhai ceiswyr lloches yn Abertawe sy'n dymuno gwirfoddoli mewn salon gwallt lleol oherwydd bod ganddynt ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes hwn, ond dywedwyd wrthynt, oherwydd rheoliadau'r Swyddfa Gartref, eu bod yn cael gwirfoddoli mewn elusen ond ni chânt wirfoddoli mewn busnes. Mae hynny'n cyfyngu ar eu hymdrechion personol i ehangu eu gorwelion. Maent yn gwybod yn iawn na allant weithio am arian, ond maent eisiau gallu gweithio ar sail wirfoddol mewn busnes lleol. Felly, buaswn yn falch iawn pe gallech edrych ar y ddwy agwedd hon.

Ie, rwy'n ymwybodol o'r agweddau hynny eisoes. Yn ddiweddar, mewn grŵp ffoaduriaid a cheiswyr lloches yr wyf, unwaith eto, yn gadeirydd arno, tynnwyd sylw at hyn a gofynnwyd i'r Swyddfa Gartref ynghylch canlyniadau anfwriadol rhai o'u polisïau, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn yn digwydd oherwydd nad oes gan bobl hawl i arian cyhoeddus hyd nes bod ganddynt wahanol lefelau o statws. Yn anffodus, rydym yn ceisio ymestyn trafnidiaeth am ddim i'r holl geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ond mae angen i ni fod yn siŵr na fydd hynny'n cael ei ychwanegu wedyn at y rhestr o gronfeydd cyhoeddus nad oes gennych hawl iddo cyn gynted ag y gwnawn y datganiad hwnnw. Rydym yn y broses o geisio datrys peth o gymhlethdodau hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau hyn.

Yn fy etholaeth, mae gan nifer o'r bobl rwy'n gweithio gyda hwy broblem debyg iawn. Yn yr un modd, gyda'r gwaith gwirfoddol, rydym yn credu ei fod yn ganlyniad anfwriadol i'r amgylchedd gelyniaethus, a elwir bellach yn amgylchedd cydymffurfio, y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi ar waith, ond rydym yn credu ei fod, mewn gwirionedd, yn ganlyniad anfwriadol, felly rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i dynnu eu sylw at hynny a sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu newid.

15:15
Menywod mewn Diwydiant

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynrychiolaeth menywod mewn diwydiant? OAQ52007

Mae ein camau gweithredu yn canolbwyntio ar ddarparu'r cyfleoedd a'r gefnogaeth y mae menywod eu hangen i ddod o hyd i swydd, i ddychwelyd i'r gwaith a chamu ymlaen yn y gweithle er mwyn cyflawni a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys ein cynnig gofal plant, annog menywod i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, rhaglenni gwella sgiliau a hyfforddiant, prentisiaethau i bobl o bob oed a mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle.

Diolch. Mae prinder peirianwyr yn y DU ynghyd ag anawsterau i ddenu menywod i fyd diwydiant. Yn ddiweddar, mynychais ffair recriwtio yng Nghasnewydd ar gyfer prosiect newydd arloesol CAF Rail yn adeiladu trenau a thramiau. Maent yn cynnig amrywiaeth o rolau, gan gynnwys rolau rheoli, technegol a gweithredol. Mae 40 y cant o weithdy CAF Rail yn Sbaen yn fenywod. Yn y DU, 11 y cant yn unig o'r gweithlu peirianneg sy'n fenywod—y ganran isaf o weithwyr proffesiynol benywaidd ym maes peirianneg yn Ewrop. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o waith cadarnhaol gyda phobl ifanc ac ysgolion, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ymgysylltu â busnesau sy'n awyddus i gynyddu nifer y menywod yn y sector hwn?

Fel y mae'n digwydd, rwyf wedi dod yn syth o gadeirio cyfarfod y bwrdd Menywod ym meysydd STEM ac rydym newydd ehangu aelodaeth y bwrdd i gynnwys pobl o fyd diwydiant am yr union reswm hwnnw. Felly, mae'r Aelod yn gwneud pwynt da ac amserol iawn. Ac un o'r pethau y mae'r bwrdd wedi bod yn ei bwysleisio yw'r holl fater hwn sy'n ymwneud ag arferion cymdeithasol, os mynnwch. Pam fod mwy o beirianwyr mewn rhai gwledydd Ewropeaidd na sydd yma? A'r rheswm yw ei bod yn fwy derbyniol yn gymdeithasol i fenywod wneud y mathau hynny o swyddi, ond yn anffodus, mae wedi bod yn llai derbyniol yn gymdeithasol yma. Felly, rydym yn edrych ar ystod o bethau sy'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Soniais ychydig am yr ymgyrch Dyma Fi, sy'n herio stereoteipiau ar sail rhywedd. Felly, os ydym yn meddwl am y peth, mae hynny'n rhan bwysig iawn o hyn. Hefyd, mae gennym ein rhaglen STEM Cymru II, sy'n annog mwy o fenywod ifanc i gamu ymlaen i yrfaoedd ym maes peirianneg, a hyd yma, mae dros 3,000 o fenywod ifanc wedi ymgymryd â'r rhaglen honno. Ni wn a oes llawer ohonoch wedi cyfarfod â Jessica Jones o Gaerdydd, sef un o'r llwyddiannau cyntaf a aeth ymlaen wedyn i fod y fenyw gyntaf i ennill gwobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn y DU yn sgil ei rhan yn dyfeisio system optegol ar gyfer monitro cyfyngiadau.

Mae Jessica yn llysgennad da ar ran myfyrwyr peirianneg benywaidd ac mae hi newydd gwblhau ei gradd mewn astroffiseg. Roedd ein rhaglen yn gymorth iddi ar y ffordd, ac rydym yn ymgysylltu â menywod ifanc fel Jessica i sicrhau bod cynifer ag y bo modd o lysgenhadon yn ymweld â'n hysgolion ac rwyf wedi bod yn cael trafodaethau hir gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â sut y gallwn annog busnesau, fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd, i ymgysylltu'n llawnach â'r rhaglen honno.

Gwella Cysylltedd Rhyngrwyd Symudol

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd rhyngrwyd symudol yn y Rhondda? OAQ52008

Rydym yn parhau i ymgymryd â nifer o fesurau i hwyluso'r broses o wella cysylltedd rhyngrwyd symudol ar draws pob rhan o Gymru, gan gynnwys darparu'r cynllun gweithredu cysylltedd symudol, treialu technolegau celloedd bach, trafodaethau parhaus ynghylch 5G a darparu'r rhwydwaith ffibr cysylltiol hanfodol.

Mae llawer o leoedd yng Nghymru sydd â chysylltedd rhyngrwyd symudol eilradd, fel y clywsom yn gynharach, ac nid yw fy etholaeth yn ddiogel rhag y broblem hon. Mae llawer o gymunedau wedi'u heffeithio, ond yn ddiweddar, yn y Porth, er enghraifft, nid oedd y cyngor yn gallu casglu data ar nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref oherwydd nad oedd y rhifydd yn gallu cael signal cyson. Wrth gwrs, mae hyn yn ddrwg i drigolion lleol, ond mae hefyd yn ddrwg i fusnesau. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'r polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond mae yna ddulliau ar gael i chi ac rydych wedi amlinellu rhai ohonynt mewn atebion i gwestiynau yn gynharach. A wnewch chi gytuno i edrych ar leoedd, fel y Porth yn y Rhondda, sydd ar ei hôl hi mewn perthynas â'r hyn sy'n dderbyniol o ran cysylltedd rhyngrwyd symudol? Ac a wnewch chi ddefnyddio'r pwerau a'r dylanwad sydd gennych i ddatrys y problemau lleol hyn cyn gynted ag y bo modd?

Yn bendant. Rwy'n hapus iawn i gytuno â hynny ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn llwyr. Fel y mae'n digwydd, rwy'n cadeirio cyfarfod tasglu'r Cymoedd fore Llun sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â chysylltedd digidol a bydd y mater hwnnw'n cael sylw blaenllaw yn y cyfarfod hwnnw gyda'r bwriad o wneud yn union hynny. Ac ymhlith y nifer o bethau y dywedais yn gynharach ein bod yn eu gwneud, rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda seilwaith cyhoeddus—felly, rhedeg signalau Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus ac ati. Felly, mae cryn dipyn o waith ar y gweill mewn perthynas â chymhlethdodau'r gyfraith yn hynny o beth, oherwydd, yn anffodus, mae yna broblemau sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol yn codi o'i ddefnyddio, ond rwy'n hyderus y gallwn ddatrys y rheini a darparu Wi-Fi da ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru pan fyddwn wedi gwneud hynny. Ond yn ddigon diddorol, mae'r cyfarfod i drafod hynny ar gyfer y Cymoedd ddydd Llun.

15:20
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rydw i’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. A gaf i gydnabod cyn dechrau ar y datganiad y cwestiynau sydd wedi’u cynnig gan Aelodau â diddordeb yn y testun pwysig a chyfredol hwn?

Pasiwyd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gan y Cynulliad ar 21 Mawrth. Rydym wedi bod yn glir, cyn cyflwyno'r Bil, yn ystod ei daith ac yn dilyn hynny, mai dewis wrth gefn yw'r Bil. Drwy gydol y broses, rydym wedi ffafrio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) diwygiedig sy'n parchu datganoli, ac rydym yn parhau i ffafrio hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r Bil, ac yn wir, ar ôl pasio'r Bil, mai dyna yw ein prif ffocws o hyd. Mae cyd-Aelodau o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion, sy'n parhau, i ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar welliannau a fyddai'n gwneud Bil y DU yn dderbyniol i ni. Byddai cytundeb o'r fath yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE, a fyddai'n cael gwared ar yr angen am ddeddfwriaeth ein hunain.

Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw gytundeb, roeddem yn teimlo bod angen gwneud trefniadau cyfrifol ar gyfer y posibilrwydd na fyddai'r Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE. Cefnogwyd y dull hwn o weithredu gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad hwn pan basiodd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gyda mwyafrif mawr.

Fodd bynnag, yn amlwg, nid yw pasio Bil yw ddiwedd ar y broses. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol, ar ôl cyfnod 4 pob Bil Cynulliad, mae cyfnod hysbysu yn dilyn ar unwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gan y Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol bŵer i gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynglŷn ag a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu arfer y pŵer mewn perthynas â'r Bil hwn, a ddoe, cyfeiriodd y Bil at y Goruchaf Lys. Yn yr un modd, mae'r Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban wedi cyfeirio Bil parhad yr Alban at y Goruchaf Lys.

Er ei fod yn anffodus, nid wyf yn credu y dylem wneud môr a mynydd o'r datblygiad. Cyflwynasom ein deddfwriaeth ein hunain er mwyn osgoi cyrraedd sefyllfa lle nad oedd cytundeb wedi'i gyrraedd ar welliannau a lle nad oedd gennym Fil parhad mwyach fel dewis amgen. Yn yr un modd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y cyfeiriad ar ddiwedd y cyfnod hysbysu, oherwydd nad oes cytundeb wedi'i gyrraedd eto ar gynnwys y Bil ymadael â'r UE ac oherwydd y byddent wedi colli'r hawl i wneud cyfeiriad pe na baent wedi gwneud hynny yn awr.

Mae trafodaethau'n parhau, ac rydym ni a Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cytundeb. Felly, mae hwn yn fesur amddiffynnol ar ran y Twrnai Cyffredinol. Yn wir, nodaf ei fod, yn ei ddatganiad i'r wasg, yn pwysleisio:

Mae'r Llywodraeth yn mawr obeithio y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys heb fod angen parhau â'r ymgyfreitha hwn.

Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio'r Bil yn ei gyfanrwydd at y Goruchaf Lys am benderfyniad, yn hytrach na chyfyngu'r cyfeiriad i adrannau penodol. Mae wedi dyfynnu nifer o seiliau yn y cyfeiriad, yn cynnwys nad yw'r Bil yn ymwneud â'r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, fod y Bil yn anghydnaws â chyfraith yr UE, yn gosod swyddogaethau nas caniateir ar Weinidogion y Goron, yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn deall mai ychydig o amser yn unig a gawsom i ystyried y dadleuon hyn, ond rydym yn parhau i fod yn glir yn ein safbwynt fod y Bil a basiwyd gan y Cynulliad o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i ystyried y cyfeiriad a'r dadleuon mwy manwl y bydd angen i'r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi ei benderfyniad i gyfeirio fel rhan o'r trafodion, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn, os bydd angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn. Yn benodol, rydym yn cymryd camau i geisio cael gwrandawiad cyflym a byddwn yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn.

Fel y pwysleisiais eisoes, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE. Os ceir cytundeb o'r fath, bydd angen gwneud gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE. Yna, bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Bil terfynol fel rhan o'r broses o gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Os yw'r Cynulliad yn y pen draw yn cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE, ni fydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn angenrheidiol mwyach, a byddwn yn rhoi camau ar waith yn sgil hynny i ddiddymu'r Bil. Bryd hynny, byddem yn disgwyl i'r cyfeiriad gael ei dynnu'n ôl.

15:25

A gaf fi ddechrau drwy nodi tôn bwyllog y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n croesawu hyn fel arwydd fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu o ddifrif i sicrhau cytundeb ar y materion hyn. Rwyf hefyd yn credu y dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys fel ymgais i egluro'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol. Wedi'r cyfan, roedd Llywydd yr Alban yn credu bod eu Bil y tu hwnt i'w cymhwysedd hwy, ac rydych wedi pwysleisio, Lywydd, wrth fynegi barn bendant mewn perthynas â'n Bil ni, fod y mater yn gytbwys iawn. Felly, ymddengys i mi fod ceisio'r eglurder hwn, o dan yr amgylchiadau hyn, yn beth rhesymol i'w wneud.

Fel y Cwnsler Cyffredinol, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, credwn fod sicrhau cytundeb er mwyn gallu pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn hanfodol ac yn sicr ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio, ac yn amlwg mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Bil ymadael â'r UE gael ei ddiwygio'n briodol, mewn perthynas â chymal 11 yn benodol, er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd, ac rydym wedi cefnogi pob ymdrech resymol i gyflawni hyn a dyna fydd ein hagwedd. Mae sut y bydd y fframweithiau a'r dull o'u llywodraethu yn gweithredu yn berthnasol iawn i'r mater hwn. Unwaith eto, rydym wedi ceisio rhoi cymorth adeiladol i Lywodraeth Cymru wrth fynd ar drywydd y materion hyn yn seiliedig yn gyffredinol ar ryw fath o gysyniad o gydlywodraethu. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i'r cyfansoddiad Prydeinig, i ddatblygiad datganoli, tra bôm yn y sefyllfa ryfedd hon o ymwahanu â'r Undeb Ewropeaidd.

Felly, er ein bod yn gwrthwynebu'r Bil parhad, rydym yn barod yn awr i weld y sefyllfa gyffredinol ac rydym yn annog pob plaid i fod yn bwyllog ac yn adeiladol. Tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi unrhyw arwydd pellach i ni o sefyllfa'r trafodaethau ar hyn o bryd. Ymddengys i mi, yn ôl y dôn ar y ddwy ochr, y gallem fod yn eithaf agos at sicrhau cytundeb ac rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n ddarlleniad teg o'r sefyllfa—neu a oes cymhlethdodau mwy nag y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd, efallai, sy'n gysylltiedig ag awdurdodaethau eraill a'u hagweddau hwy? Ond rwyf am gloi gyda hyn: o ystyried y datganiad hwn y prynhawn yma a'i naws adeiladol, byddwn yn annog pob plaid i weithio a dyblu eu hymdrechion i groesi'r llinell, fel y gallwn gael cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n amddiffyn y setliad datganoli yn briodol ac un y gall pob plaid gytuno arno.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Dylwn fod yn glir, yn amlwg, y byddai wedi bod yn well gennym pe na bai'r mater hwn wedi cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, ond yn sicr, rydym yn deall pam y gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw ar y pryd, heddiw—ddoe, yn hytrach—sef y diwrnod olaf yr oedd y dewis hwnnw ar gael i'r Twrnai Cyffredinol.

Fe gyfeirioch chi at y trafodaethau mewn perthynas â chymhwysedd. Rydym yn credu o hyd fod gennym y cymhwysedd yn y lle hwn i weithredu'r Bil rydym wedi'i basio. Yr hyn y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'i nodi yn y cyfeiriad yw ei seiliau dros geisio barn y llys ar hynny. Nid yw wedi nodi'r rhesymau dros y seiliau hynny eto, felly nid ydym wedi gallu ymgysylltu â'r rhesymau dros hynny eto, er ein bod yn amlwg yn ystyried y seiliau rydym wedi'u cael. Byddwn yn cael y rhesymau llawnach maes o law.

Yn amlwg, mae trafodaethau wedi bod, ac yn parhau i fod, rhwng y tair Llywodraeth mewn perthynas â gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Rydym yn mawr obeithio y byddant yn dod i ben mewn ffordd gadarnhaol. Rwyf am ailadrodd, rhag ofn bod unrhyw rithyn o amheuaeth, ein bod yn gobeithio'n gryf y bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei ddiwygio'n briodol drwy gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, ac yn yr achos hwnnw, wrth gwrs, ni fydd y Bil, a gyfeiriwyd at y Goruchaf Lys ddoe, yn angenrheidiol mwyach.

Rydw i'n croesawu'r ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud hyn: fe wnaed addewid gan Weinidog y Goron ar lawr Tŷ'r Cyffredin cyn Nadolig, ganol mis Rhagfyr, y byddai hwn yn cael ei sortio. A dyma ni, mae'r Lady Boys of Bangkok wedi cyrraedd y bae, fel maen nhw'n ei wneud pob gwanwyn, ac nid ydym wedi cael ateb i'r broblem yma. Mae wedi bod yn glir, ers i'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gyflwyno, bod angen gwella adran 11, ac mae yna o leiaf bedwar mis wedi mynd heibio heb unrhyw arwydd bod y Ceidwadwyr yn deall beth yw natur y datganoli maen nhw'n gyfrifol amdano fe.

Fe ddywedodd, heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, Jeremy arall, Jeremy Wright, nad oedd cytundeb ynglŷn ag ystyr y gair continuity. Ai dyna ddehongliad y Cwnsler Cyffredinol o'r problem fan hyn yn ogystal? Ac os ydym ni yn gweld bod y Bil bellach wedi cael ei gyfeirio i'r Goruchaf Lys, pa sefyllfa ydyn ni ynddo nawr o ran gwariant gan y Llywodraeth hyn, a Llywodraeth San Steffan, i baratoi tuag at achos llys, i gymryd cwnsel, i ddechrau ymwneud a pharatoi? Achos rydym yn dechrau gwario arian cyhoeddus am rywbeth a ddylai fod wedi cael ei benderfynu yn wleidyddol dim jest heddiw, ond bedwar mis yn ôl. Ac felly, rwyf eisiau clywed gan y Cwnsler Cyffredinol, os yn bosib, mwy o syniad o amserlen fan hyn. Mae'n dweud bod e'n gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn cyflymu'r broses, achos mae yna broses yn bodoli, wrth gwrs, i'r Goruchaf Lys wneud hynny, ac mae'n ymddangos i mi y gallem ni gael penderfyniad ar y Bil yma cyn ein bod ni'n cael penderfyniad a chytundeb yn wleidyddol ynglŷn â natur datganoli a chymal 11.

Felly, beth yw'r cynlluniau sydd gan y Llywodraeth nawr i baratoi ar gyfer yr achos llys yma, a pha wariant cyhoeddus fydd yn rhan o hynny? A ydych chi am wneud hyn mewn unrhyw ffordd ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban? Ond wrth gwrs, rhaid cydnabod o bosib bod achos Cymru yn gryfach y tro yma nag achos Llywodraeth yr Alban, oherwydd ein bod ni wedi gwasgu'r Bil yma drwy'r darn olaf o'r toothpaste tube o dan y pwerau diwethaf, ac felly, o bosib, ein bod ni mewn sefyllfa gryfach. Ond a ydyn ni'n cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban? A beth yn union nawr bydd y trefniadau os yw hwn yn mynd i'r Goruchaf Lys? Os oes yna wedyn gytundeb gwleidyddol, a oes yna wedyn welliannau yn cael eu gwneud i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi neu efallai yn cyfeirio yn ôl at Dŷ'r Cyffredin? Ac wedyn, wrth gwrs, rhywbryd, bydd rhaid i ni gael penderfyniad fel Llywodraeth, os yw hyn yn digwydd—neu fel Senedd dylwn i ddweud; mae Llywodraeth yn dod mewn tair blynedd—os yw hyn yn digwydd, i rhoi cydsyniad deddfwriaethol, fel mae David Melding wedi dweud. A fyddai sicrwydd gyda ni, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd i ni, y byddwn ni fel Cynulliad yn meddu ar yr holl wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad ar gydsyniad deddfwriaethol os daw at hynny?

15:30

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. I fod yn hollol amlwg am y peth, wrth gwrs, nid fy newis i oedd danfon y Mesur, y Bil, i'r Goruchaf Lys. Felly, y cwestiwn i Lywodraeth Cymru yw beth yw'r camau sydd yn briodol i'w cymryd yng nghyd-destun y ffaith bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer bod hyn yn mynd i'r Llys. Bydd rhaid i ni baratoi. Mae gyda ni broses gyfreithiol nawr i'w ddilyn, ac maen rhaid i ni sicrhau bod buddiannau y lle hwn yn cael eu gwarchod drwy wario yr hyn sydd angen er mwyn sicrhau bod yr hawliau a bod y Mesur yn cael eu hamddiffyn yn y broses gyfreithiol sydd o'n blaenau ni. 

Y cam nesaf un yw ein bod ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y broses o gael dyddiad cynnar am unrhyw achos llys fydd angen. Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn â hynny. Dyna'r cam nesaf un. O ran y cwestiwn ynglŷn â'r berthynas gyda'r Alban, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio ac wedi bod yn gweithredu ar y cyd drwy'r broses yma, ac mae'r camau rydym ni wedi'u llwyddo i'w cael ar hyd y broses wedi digwydd yn sgil cydweithio fel yna. A'r bwriad yw, wrth ein bod ni'n mynd yn ein blaenau, ein bod ni'n dal yn gweithio mewn partneriaeth. Fel y gwnaeth yr Aelod gydnabod, mae sefyllfa yr Alban yn wahanol i sefyllfa Llywodraeth Cymru yn nhermau sut mae Bil yr Alban wedi'i strwythuro a'r dadansoddiad cyfansoddiadol sydd yn dod yn sgil hynny, ond, er hynny, rydym yn mynd i gydweithio gyda Llywodraeth yr Alban.

Ynglŷn â'r camau gyda chydsyniad yn y Senedd, yn y Cynulliad, bydd angen sicrhau amryw o bethau cyn ein bod ni'n gallu argymell bod y Cynulliad yn derbyn y Mesur yn San Steffan—hynny yw, bod cytundeb wedi ei gyrraedd, bod gwelliannau wedi eu cyrraedd a'u bod nhw wedi eu cynnig. Wedyn byddwn yn dod a gofyn am gydsyniad y Cynulliad yn y cyd-destun hwnnw. Buaswn i'n tybio, ar ôl hynny, y buasai camau'n cael eu cymryd i dynnu'r Mesur hwn yn ôl, ond mae angen edrych ar y camau hynny yn sgil beth sy'n digwydd ar hyn o bryd. 

15:35

A gaf fi longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ddull digyffro a phwyllog o fynd i'r afael â'r mater hwn, yn ogystal â chanmol y ffordd y disgrifiodd y sefyllfa rydym ynddi bellach fel datblygiad na ddylid gwneud môr a mynydd ohono? Os oes amheuon cyfreithiol dilys ynglŷn â chydnawsedd y Bil parhad â'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n sefydlu'r Cynulliad hwn ac yn datganoli pwerau, mae'n debyg ei bod hi'n iawn y dylid rhoi barn ar y mater, er mor anffodus yw hynny. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, sef bod hwn, yn y bôn, yn fater gwleidyddol a ddylai fod wedi ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac a yw'n rhannu fy nryswch parhaus ynglŷn ag arafwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â'r mater hwn a bod Llywodraeth sydd i bob golwg yn ymrwymedig i warchod y Deyrnas Unedig yn ceisio ysgogi argyfwng cyfansoddiadol diangen sy'n bygwth ei rhannu? Os gall arweinydd UKIP ddweud hynny, rydym bellach mewn sefyllfa ryfedd iawn yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.

Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl cymeradwyo'r setliad deddfwriaethol sy'n gyfrifol am ein bodolaeth—ni ddylai hwnnw gael ei danseilio, yn uniongyrchol na'n anuniongyrchol, gan ei ddeddfau na'i fwriadau ei hun. Ni allaf ddeall, felly, pam fod Llywodraeth y DU wedi bod mor araf, ac yn parhau i fod yn araf mae'n ymddangos, yn ei hymateb i'r dadleuon a gyflwynwyd dros yr hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni yn y pen draw. Mae un o'r seiliau hynny a ddyfynnwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn peri dryswch i mi, sef anghydnawsedd â chyfraith yr UE, o ystyried na fydd y Bil parhad yn dod i rym hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Felly, ni wn a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth ynglŷn â safbwynt y Twrnai Cyffredinol ar hyn, neu a yw hyn yn enghraifft o daflu sinc y gegin atom rhag ofn.

Mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn broblemus ac anghyffredin, ond rwy'n falch y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn lliniaru'r mater yn y ffordd y mae wedi'i nodi, oherwydd mae'n angenrheidiol fod unrhyw ansicrwydd neu amwysedd yn cael ei ddatrys. Ni allwn gael ein rhoi mewn sefyllfa, sef yr hyn y lluniwyd y Bil parhad ei hun i ymdrin ag ef, lle y ceir rhyw fath o fwlch deddfwriaethol yn y gyfraith fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Felly, mae'n eithaf rhyfedd. Mae gennym sefyllfa yn awr lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgyfreitha ar Fil rydym wedi'i basio yn y lle hwn ac a gafodd ei lunio er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd amheuon cyfreithiol yn bodoli pan fyddwn yn gadael yr UE. Felly, mae'n baradocs a fydd, o bosibl, yn cael ei ddatrys gan hyn yn y pen draw.

Rhannaf y farn sydd wedi cael ei mynegi gan nifer o'r Aelodau sef bod hwn yn fater y dylid ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac er mwyn bod yn glir, dyna yw dull Llywodraeth Cymru o weithredu; mae wedi cadw hynny mewn cof wrth fynd ati i drafod â llywodraethau eraill drwy gydol y broses. Yr amcan drwy'r adeg oedd dod i gytundeb mewn perthynas â'r Bil a oedd yn mynd drwy Senedd y DU, fel na fyddai'r broses rydym wedi'i dilyn drwy broses frys yn y lle hwn yn angenrheidiol yn y pen draw. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol, mewn ymateb i gwestiynau eraill, fod amser wedi bod yn brin ers peth amser mewn perthynas â chytuno ar y gwelliannau hynny. Ond fel rwy'n dweud, rydym yn obeithiol y byddwn yn croesi'r llinell ac yn cytuno ar welliannau rydym ni fel Llywodraeth yn teimlo'n hapus i'w hargymell i'r Cynulliad, gyda'r ddwy Lywodraeth arall.

Mae'n tynnu sylw at un o'r seiliau y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'u nodi, sy'n ymwneud ag anghydnawsedd â chyfraith yr UE. Fel rwy'n dweud, rydym yn ystyried y dadansoddiad ar hyn o bryd a byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach iddo pan fyddwn yn cael dadleuon llawnach maes o law, er, yn amlwg, roedd yn un o'r seiliau a gafodd eu hystyried yn y trafodaethau yn y Siambr hon ac yn nadansoddiad y Llywydd yn ei datganiad. Mae'n ymddangos i mi mai'r hyn rydym wedi'i wneud yn y lle hwn yw cymryd camau o fewn y pwerau sy'n bodoli i'n paratoi ar gyfer cyfnod pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd, os caf ddweud, ag y mae Tŷ'r Cyffredin wedi'i wneud gyda'u Bil hwy.

15:40

Rwyf am osgoi ailadrodd gormod o'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud eisoes, ond rwyf am eich llongyfarch ar y ffordd rydych wedi cyflwyno dadl bwyllog y prynhawn yma. A gaf fi hefyd gofnodi'r ddadl bwyllog a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid pan fo'n cynnal y trafodaethau? Efallai fod hynny'n fwy rhwystredig o ran pam nad yw Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb eto mewn gwirionedd, oherwydd ymddengys eu bod yn peri rhwystredigaeth i ni'n gyson. 

Mae gennyf ychydig o bwyntiau. Rwy'n derbyn nad oeddem eisiau cyflwyno Bil parhad, ond rydym wedi gwneud hynny oherwydd mai dyna'r peth cywir i'w wneud, ac mae'n rhaid i ni gofio hynny. Felly, pe bai'n dod i achos llys yn y pen draw, rwy'n gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n frwd i amddiffyn hawliau'r sefydliad hwn i gyflwyno'r Bil hwn a gadael iddo weithio, oherwydd gwelsom yr angen am y Bil ac nid yw'r angen hwnnw wedi diflannu. Rydym yn rhagweld, o'r hyn a ddywedwyd, y byddwn yn cael trafodaeth gadarnhaol ynghyd â gwelliannau, ond fel y crybwyllodd Simon Thomas yn gynharach, dywedodd y Gweinidog Cabinet hynny o'r blaen yn San Steffan ac rydym yn dal heb ei chael. Felly, hyd nes y cytunir ac y cymeradwyir y gwelliannau, a hyd nes y byddant yn y Bil, rydym mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwnnw'n dal i gyflawni'r hyn rydym ei eisiau.

Yn yr ystyr hwnnw, a allwch roi eglurhad—? Fe wnaethoch sôn ychydig am yr hyn a fyddai'n digwydd. Yn gyntaf oll, os ceir cytundeb ac os gwelwn y gwelliannau hynny'n cael eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Bil, beth fydd y broses a fydd yn digwydd i'r Bil penodol hwn? Oherwydd rydym ni, fel Cynulliad, wedi cytuno ac wedi pasio'r Bil, felly beth yw'r broses wedyn ar gyfer diddymu'r Bil fel rydych newydd ei ddweud? Ac o ran amseru—heb fwrw sen ar gyfreithwyr, ond dyma ni eto—mae'r gyfraith yn cymryd amser hir iawn; nid yw'n broses gyflym. Gallem fod mewn sefyllfa lle bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei gymeradwyo, heb ei ddiwygio, cyn i hyn fynd i'r llys. Beth fydd y sefyllfa os yw hynny'n digwydd? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hynny fel y gallwn sicrhau bod yr hyn a gymeradwywyd gennym ym mis Mawrth yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am gydnabod gwaith fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n ategu hynny'n llwyr, os caf. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pwysigrwydd amddiffyn y trafodion hyn yn egnïol, ac yn sicr dyna yw fy mwriad i a bwriad Llywodraeth Cymru.

O ran yr hyn a fydd yn digwydd maes o law gyda diddymu, os mynnwch, bydd yr Aelod yn cofio bod y Bil, fel y'i pasiwyd gan y Cynulliad, yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r Ddeddf, ar ôl iddi gael ei phasio, i gael ei diddymu o dan amgylchiadau o'r fath. Er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, byddai angen iddi gael Cydsyniad Brenhinol yn gyntaf. Felly, byddai cyfres o gamau, os mynnwch, y byddem angen cytuno arnynt gyda'r Twrnai Cyffredinol pe baem ni yma, maes o law, yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'n bod yn ystyried y gwelliannau i Fil Tŷ'r Cyffredin yn dderbyniol yn y lle hwn. Ond yn amlwg, byddai angen i'r camau gynnwys diddymu'r cyfeiriad i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol ac yna byddai'r pwerau hynny ar gael i Weinidogion Cymru yn y lle hwn ymdrin â'r broses honno o ddiddymu'r Bil.

Pwynt o Drefn

Diolch, Llywydd. Hoffwn i godi pwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog, ac yn benodol Rheol Sefydlog 13.9, ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr. Wrth ymateb i Angela Burns ac wedyn Adam Price ddoe, fe gyfeiriodd y Prif Weinidog ddwywaith ataf fi a'm gwaith fel ymgynghorydd arbennig i Weinidogion Plaid Cymru rhwng 2007 a 2010. Dywedodd e, o ran y gweithredoedd a ddisgrifiwyd gan Angela Burns, ac rwy'n dyfynnu:

Mae hynny'n arferol. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru, fel y bydd Simon Thomas yn gallu dweud wrthych chi, yn union yr un fath pan oedden nhw mewn Llywodraeth.

Rwyf eisiau ei wneud yn glir na wnes i, fel ymgynghorydd arbennig, byth gysylltu ag unrhyw gorff cyhoeddus i holi am gynnwys neu natur gohebiaeth gydag Aelodau'r Cynulliad, ac nid oedd hynny yn rhan o ddiwylliant Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n Un hyd fy ngwybodaeth i. Felly, nid yw honiad y Prif Weinidog yn gywir.

15:45

Nid yw hynny'n bwynt o drefn i fi wneud dyfarniad arno, ond mae'r Aelodau wedi clywed beth oedd gyda chi i'w ddweud, Simon Thomas, ac mae bellach yn rhan o'r cofnod.

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan Leanne Wood i wneud cynnig am ddadl frys, ac rydw i'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried yr ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fore dydd Sadwrn, 14 Ebrill, ymunodd lluoedd y DU â byddinoedd yr Unol Daleithiau a Ffrainc i gyflawni cyrchoedd awyr yn erbyn targedau yn Syria. Cafodd safleoedd y credid eu bod yn gysylltiedig â chynhyrchu a storio arfau cemegol gerllaw Damascus a Homs eu taro mewn ymateb i ymosodiad cemegol honedig ar 7 Ebrill. Ni ymgynghorodd Llywodraeth y DU ag unrhyw un o Seneddau eraill y DU i geisio eu cymeradwyaeth i'r ymosodiad. Rwyf wedi cyflwyno cais am ddadl frys ar y mater hwn cyn gynted â phosibl. Lywydd, ni ellir gorbwysleisio brys a difrifoldeb y pwnc hwn, ac ni ellir ei grynhoi mewn araith fer fel hon. Fodd bynnag, mae fy nghais am ddadl yn seiliedig ar dair elfen allweddol.

Yn gyntaf, heb y mymryn lleiaf o gyfreithlondeb democrataidd, heb un bleidlais yn Senedd y DU, cymeradwyodd Llywodraeth y DU yr ymosodiad. Yn dilyn cyhoeddi manylion yr ymosodiad, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn dangos ei gefnogaeth iddo. Mae'n rhaid i'r ACau gael cyfle i graffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas â'r datganiad hwn a'i resymau dros gefnogi'r ymosodiad. At hynny, mae'n rhaid i'r Aelodau gael cyfle i drafod rôl ein sefydliadau democrataidd yn cymeradwyo ymosodiad milwrol.

Yn ail, Lywydd, mae cyfran sylweddol o rengoedd milwrol y DU yn cynnwys menywod a dynion Cymru. Yn wir, rydym yn gwneud cyfraniad mwy na chyfran ein poblogaeth. Felly, nid yw ond yn iawn i'r Cynulliad hwn gael cyfle i drafod goblygiadau posibl y penderfyniad hwn, ac unrhyw ymosodiad milwrol dilynol, i aelodau o'r lluoedd arfog o Gymru ac yng Nghymru.

Yn olaf, Lywydd, mae'r gwrthdaro yn Syria eisoes wedi arwain at ddadleoli degau o filoedd o bobl. Rwy'n falch fod Cymru wedi cynnig diogelwch a lloches i rai o'r bobl hyn. Mae'r ffaith bod y rhyfel cartref yn Syria yn dwysáu yn debygol o orfodi mwy o bobl i ffoi o'u cartrefi a'r ardal. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon flaenoriaethu ymdrechion i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ac i ddarparu ar gyfer y bobl hyn sydd mewn angen dybryd. Gwaith y Cynulliad hwn yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ac yn barod i gynorthwyo'r ffoaduriaid a greodd y gwrthdaro hwn.

Lywydd, mae yna lawer mwy o resymau cymhellol pam y mae'n rhaid i ni drafod y mater hwn, boed yn ymwneud â diffyg democratiaeth y penderfyniad i ymosod, datganiad y Prif Weinidog, yr effaith ar filwyr Cymru, y gost, nad yw'n ymddangos ei bod yn cael ei chwestiynu'n aml, er gwaethaf cyni, neu, yn syml, ein dyngarwch fel cenedl. Buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi'r cais a rhoi cyfle i ni drafod y mater difrifol hwn.

Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb ar ran y Llywodraeth. Julie James.

Diolch, Lywydd. Mae materion rhyngwladol a phenderfyniadau ynglŷn ag a ddylid rhoi camau milwrol ar waith yn erbyn cenedl sofran arall yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac o ganlyniad, maent fel arfer yn cael eu trafod yn nau Dŷ'r Senedd yn hytrach nag yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae trafod cyrchoedd awyr y DU yn Syria yn y Siambr hon yn bygwth pylu'r ffin rhwng yr hyn a drafodir yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r hyn a drafodir yn y Senedd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru ddoe ynglŷn â'r ymyrraeth filwrol yn Syria; roedd yna gwestiynau hefyd yn ystod y datganiad busnes.

Mae gan bawb ohonom ein safbwyntiau personol am rinweddau a gwendidau penderfyniad Llywodraeth y DU i lansio ymosodiad cosbol ar y cyd ochr yn ochr â'r Unol Daleithiau a Ffrainc yn erbyn y gyfundrefn yn Syria dros y penwythnos. Fel pleidiau gwleidyddol, y fforwm ar gyfer lleisio'r safbwyntiau hyn yw dau Dŷ'r Senedd. Cafwyd naw awr o ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, ac roedd llawer o'n cydweithwyr yn cymryd rhan. Am y rhesymau hyn, bydd y Llywodraeth yn ymatal yn y bleidlais ar y cais am ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU yn Syria, a bydd gan Aelodau Cynulliad Llafur y meinciau cefn bleidlais rydd.

Y cwesitwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oni bai, felly, fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais ar y cynnig. Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig am ddadl frys. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 15 yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

15:50

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: O blaid: 27, Yn erbyn: 9, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Gan fod y Cynulliad wedi penderfynu ystyried y mater yma, yn unol â Rheol Sefydlog 12.70, rwyf wedi penderfynu y bydd y ddadl yn cael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio heddiw.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf o fusnes, felly, yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a'r cwestiwn cyntaf—Julie Morgan. 

Dileu Eitemau Plastig Untro

1. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad? OAQ51992

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau gwastraff plastig untro ar yr ystâd. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i leihau'r swm o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i sero erbyn 2018. Ym mis Ionawr, gwnaethom ymrwymiad i ddefnyddio dewisiadau amgen yn lle plastig untro, lle bo'n bosibl, o fewn chwe mis. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hyn, gan gynnwys dileu cynwysyddion dresin salad unigol, a chyn hir, byddwn yn newid i ddefnyddio cyllyll a ffyrc y gellir eu compostio ar gyfer bwyd tecawê. Mae amrywiaeth o opsiynau eraill yn cael eu harchwilio.

Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Sylwaf eich bod wedi sôn am gyllyll a ffyrc plastig untro, felly bydd hwnnw'n gam da, ond hefyd beth am y cwpanau plastig ar gyfer yfed dŵr, nad ydym wedi rhoi unrhyw gamau ar waith i'w dileu eto? Potiau salad, a'r caeadau plastig ar gyfer cwpanau coffi tecawê—mae llawer o'r eitemau hyn yn parhau i gael eu defnyddio yn y ffreutur, a gwn fod gennych gynllun. Credaf eich bod wedi cyhoeddi'r cynllun hwnnw ym mis Ionawr, felly rwy'n ceisio eich annog i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, i wneud cynnydd, a phryd y byddwch yn mynd i'r afael â'r eitemau rwyf wedi sôn amdanynt?

Diolch i'r Aelod eto, a hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar un neu ddau o bethau. Rydym bellach wedi cael gwared ar gwpanau coffi untro, ac rydym yn defnyddio cynwysyddion diodydd alwminiwm yn awr. Mae'r hidlyddion dŵr o gwmpas yr ystâd yn lleihau'r defnydd o boteli dŵr—poteli plastig. Mae prydau poeth ac oer mewn cynwysyddion y gellir eu compostio bellach. Mae nifer helaeth o arwyddion ailgylchu deunyddiau ar draws yr ystâd. Cafodd gwellt plastig sylw y tro diwethaf hefyd—y defnydd o wellt plastig—ac er nad ydynt wedi cael eu defnyddio'n aml iawn, roeddent yn cael eu defnyddio, ac rydym bellach wedi newid i ddefnyddio gwellt papur, felly hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar hynny. O ran dod o hyd i ddewis amgen yn lle cwpanau plastig ar gyfer y ffynhonnau dŵr—rydym yn chwilio am ddewis amgen ar gyfer y rheini, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny cyn bo hir. Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i chi.

Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yn hyn, ac mae yna rywfaint o newyddion calonogol mewn perthynas â'r ymdrechion i leihau'r defnydd o blastig untro yn y Cynulliad. Roeddwn eisiau gofyn pa gamau pellach y gellir eu cymryd fel prynwr mawr yng Nghaerdydd a de Cymru, ac fel arweinydd yn hyn o beth. A yw'r Comisiwn yn siarad â'i gyflenwyr? Oherwydd, yn ogystal â'r plastig untro rydym yn ei ddefnyddio, y gadwyn gyflenwi sy'n darparu'r bwyd a phopeth arall a ddefnyddiwn yn y lle hwn sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o blastig. Mae pawb yn ceisio lleihau hyn, ac o bosibl, yn ceisio ei ddileu'n llwyr dros gyfnod o amser. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich pŵer prynu i ddylanwadu ar gyflenwyr yn ogystal?

Wel, yn amlwg, Simon, mae gennym rywfaint o stoc y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio. Ni fyddai'n ymarferol i daflu stoc, felly rydym yn lleihau ein stoc ar hyn o bryd, ac rydym bob amser yn edrych ar gyflenwyr amgen sy'n cynhyrchu'n union beth rydym ei eisiau i leihau ein hôl troed carbon yma, ac i leihau'r plastig rydym yn ei ddefnyddio. Felly, byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw, a gallaf eich sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl gyflenwyr i edrych ar y ffordd orau o ateb y cwestiwn rydych newydd ei ofyn.

15:55
Cyfathrebu â'r Cyhoedd yng Nghymru

2. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffyrdd y mae Cynulliad i cyfathrebu â'r cyhoedd yng Nghymru? OAQ51973

Mae'r Cynulliad yn ymgysylltu â phobl Cymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymgysylltu â phobl ar-lein, yn cyfathrebu ar brint ac yn cwrdd â hwy mewn digwyddiadau a gweithdai i'w hannog i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad. Llynedd, siaradom â bron i 50,000 o bobl mewn ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac mewn digwyddiadau ledled y wlad.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gyda phob dyledus barch i'r Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno cwestiynau heddiw, mae'r math o gwestiynau rydym yn eu gofyn i'r Comisiwn yn eithaf cyfyngedig ac mae'n ymddangos i mi eu bod yn canolbwyntio ar faterion mewnol y Comisiwn i raddau helaeth, ac nid oes amheuaeth mai croeso oer a gaiff hynny gan lawer o aelodau'r cyhoedd. Nodaf fod yr ymgynghoriad ar greu Senedd i Gymru wedi dod i ben yn ddiweddar, ac mai pedwar cyfarfod cyhoeddus yn unig a gynhaliwyd ledled y wlad. Ni fyddai llawer o bobl wedi bod yn ymwybodol o'r cyfarfodydd hyn hyd yn oed, ac o'r rheini a oedd yn ymwybodol ohonynt, ni fyddai llawer—y rhai sy'n gweithio, yn gofalu neu'n edrych ar ôl plant—wedi gallu mynychu'r sesiynau hynny. Gwn fod ffyrdd eraill o geisio casglu barn, ond maent yn teimlo fel yr un hen bethau i mi. O ystyried datblygiadau mewn technoleg, ymgynghori a dulliau casglu gwybodaeth, a yw'r Comisiwn yn bwriadu ceisio gwthio ffiniau o ran ei ddulliau ymgysylltu a sut y mae'n gwerthuso ei ddulliau cyfredol? Sut y gwyddom eu bod yn gweithio?

Peidiwch â theimlo'n gyfyngedig o gwbl wrth ofyn cwestiynau i mi, Mandy Jones. Rwy'n croesawu'r cwestiwn rydych wedi'i ofyn. Cynhaliwyd pedwar cyfarfod cyhoeddus i drafod yr ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ledled Cymru. Mynychais bob un o'r cyfarfodydd a fynychwyd gan nifer weddol o bobl, yn enwedig y cyfarfod diwethaf a fynychais, yn Wrecsam yn eich rhanbarth chi, ac roedd yn nos Wener fywiog yn Wrecsam. Mwynheais fy hun yn fawr iawn a dysgais lawer gan bobl yr ardal honno am eu barn ar ddiwygio etholiadol a nifer o faterion diddorol eraill yn ogystal.

Ond rydych yn nodi pwyntiau pwysig iawn ynglŷn â'r angen bob amser i fod yn arloesol yn y ffordd rydym yn cyflawni ein gwaith ymgynghori. Nid ydym yn gallu cynnal cyfarfodydd ym mhob neuadd bentref yng Nghymru i drafod unrhyw fater—ni fel Comisiwn neu Lywodraeth Cymru neu unrhyw un—ond mae angen i ni feddwl a chwestiynu ein hunain drwy'r amser, fel rydych chi wedi'i wneud yn y cwestiwn hwn heddiw, mewn perthynas â sut rydym yn cyfathrebu â phobl Cymru ac yn caniatáu iddynt fynegi eu barn wrthym yn fwy uniongyrchol, yn fwy egnïol, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Mae honno'n her i mi ac yn her i bob un ohonom, fel aelodau etholedig, sydd yma'n cynrychioli cymunedau ledled Cymru, ac rydym eisiau gwella hynny drwy'r amser.

Diolch. Bydd y ddau gwestiwn nesaf yn cael eu hateb gan y Comisiynydd Caroline Jones. Cwestiwn 3—Simon Thomas.

Lleihau Allyriadau Carbon

3. Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? OAQ51979

Diolch, Simon. Mae'r Comisiwn yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi ein bod wedi ennill ardystiad yn ddiweddar i'r safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol, ISO 14001. Fel rhan o'r system amgylcheddol hon, mae gennym darged lleihau carbon hirdymor o ostyngiad o 30 y cant yn ein hôl troed ynni erbyn 2021. Mae hyn yn adeiladu ar darged blaenorol oedd gennym am ostyngiad o 40 y cant yn ein hôl troed carbon erbyn 2015. Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'r targed newydd hwn drwy ystod o gamau gweithredu, ac rydym wedi cyflawni gostyngiad o 23 y cant hyd yn hyn, fel rhan o'n KPI. Mae camau diweddar i gefnogi cynaliadwyedd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar yr ystâd.  

16:00

A gaf i ddiolch i'r Comisiynydd am ateb, ac am ateb yn Gymraeg? Nid y jargon gorau a'r iaith orau mewn unrhyw iaith yw iaith amgylcheddol, rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny.

A gaf i longyfarch y Comisiwn ar ddau beth, yn gyntaf oll am ennill yr ISO ac am y safon amgylcheddol yna ac, yn ail, am y newyddion bod pwyntiau gwefru ceir trydan bellach wedi eu gosod? Rwy'n edrych ymlaen at edrych arnyn nhw fy hun, ac i fanteisio arnyn nhw.

Y cwestiwn ehangach roeddwn am ei ofyn heddiw oedd ynglŷn â sut mae'r Cynulliad yn annog teithio i'r Cynulliad mewn ffordd fwy cynaliadwy. Rwy'n sylwi wrth ymweld â phrif ddinasoedd eraill sydd â seneddau ynddyn nhw fod llwybrau cerdded neu seiclo i'r senedd wedi eu marcio gyda'r amseroedd arnyn nhw—'20 munud o gerdded i'r senedd hwn a'r llall'. Os ydych chi yng nghanol Caerdydd fyddech chi ddim yn gweld unrhyw arwydd yn dweud, 'Ffordd hyn lawr i gerdded at Senedd Cymru'. Ac rwy'n gofyn a fydd y Comisiwn efallai yn siarad â Chyngor Dinas Caerdydd, sydd yn cynllunio llwybrau diogel a hefyd llwybrau cynaliadwy o gerdded a seiclo, i wneud yn siŵr bod y ddinas yn gwneud llawer mwy o hysbysebu y ffyrdd amgen o deithio i fan hyn i'r Senedd ac, wrth gwrs, i Fae Caerdydd yn ogystal.  

Diolch, Simon, ac rydych yn nodi pwynt dilys iawn am gysylltu â meysydd eraill, megis y cyngor, i egluro ein bod yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, ac yr hoffem edrych ar y gwahanol ffyrdd drwy deithio llesol, ac ati, o ddod i'r Senedd a mynd oddi yma, a hoffem annog ffyrdd amgen i Aelodau, teuluoedd yr Aelodau ac ymwelwyr â'r Senedd i ddod yma drwy ddulliau eraill o deithio, neu ffyrdd amgen. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i chi.

Rydym yn cynhyrchu adroddiad amgylcheddol blynyddol ac fe'i cyhoeddir ar y wefan, felly tybed a ydych chi'n manteisio ar hynny, ac mae ein system amgylcheddol yn cael ei gwirio'n flynyddol. Mae gennym dargedau carbon hirdymor a chynlluniau gweithredu ar waith lle'r ydym yn gobeithio cyflawni hyn. Felly, byddaf yn ystyried eich cwestiwn ymhellach a dof yn ôl atoch gydag ateb. Diolch yn fawr.

Rheoli Asbestos

4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar ystâd y Cynulliad? OAQ52003

Un eiliad. Diolch ichi am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau ar gyfer rheoli asbestos, ac mae'n cadw cofrestr asbestos ar gyfer pob adeilad ar ei ystâd. Cynhaliwyd arolygon ac adolygiadau asbestos manwl yn 2002 a 2014, ac mae'r cofrestr asbestos yn cadarnhau nad oes deunydd asbestos yn bresennol ar yr ystâd. Adolygir y gofrestr yn flynyddol a chyfeirir ati cyn cychwyn ar waith neu brosiectau perthnasol.

Iawn, diolch ichi am yr ateb hwnnw, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn ymwybodol fod yna 3,000 o wahanol ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos ar draws y wlad, ac rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar asbestos, sy'n edrych yn bennaf ar asbestos mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Felly, roeddwn o'r farn ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y dylid ei wneud ar ein hystâd ein hunain os ydym yn edrych ar hyn mewn mannau eraill. Felly, rwy'n falch o glywed yr hyn a ddywedwch am y gofrestr; mae angen inni reoli'r risg yn briodol. Mae'r risg yn galw am weithdrefnau manwl i sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu gosod mewn cynlluniau rheoli asbestos, ac nid wyf yn siŵr mai am hynny roeddech chi'n sôn, ond os mai dyna ydyw, a allech gadarnhau hynny, a bod gennym gynlluniau rheoli o'r fath ar waith.

Hoffwn ddweud wrth Dawn fod y gofrestr asbestos yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel rhan o gydymffurfiaeth a gweithdrefnau statudol, felly credaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn. Yn ôl yr adolygiadau a'r arolygon manwl a gynhelir, y diweddaraf yn 2014, ni chanfuwyd unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos naill ai yn Nhŷ Hywel nac yn y Senedd, nac mewn unrhyw ddeunyddiau adeiladu chwaith. Diolch.

16:05
5. Cwestiynau Amserol

Eitem 5 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae gennym gwestiwn amserol gan Neil McEvoy.

Yr Ail Bont Hafren

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 159

Gwnaf. Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU i hysbysu'r Prif Weinidog ynglŷn â newid yr enw ym mis Medi 2017, ac nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r cynnig.

Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae bron 40,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru. Roedd pobl Cymru yn siomedig iawn, i ddweud y lleiaf, nad ymgynghorwyd â hwy, ond mae'n ymddangos, fel rydych wedi cadarnhau, eu bod wedi ymgynghori â'ch Llywodraeth, ond nad oedd gennych unrhyw wrthwynebiad. Ac nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, oherwydd rai misoedd yn ôl yn unig cawsom ffiasgo'r 'fodrwy haearn' fel y'i gelwid a dathlu'r goncwest, y teimlai cynifer o bobl ei fod yn sarhaus. Roeddwn i'n meddwl mai'r syniad wrth wraidd cael Cynulliad Cenedlaethol i Gymru oedd adeiladu democratiaeth fodern, felly pam y credech ei bod yn syniad da gadael i Alun Cairns ailenwi'r bont yn 'bont Tywysog Cymru'? Pam na wnaeth eich Llywodraeth wrthwynebu, a hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y byddem yn hoffi i'r brif fynedfa i'n gwlad gael ei henwi ar ôl rhywun o Gymru, sydd wedi cyflawni rhywbeth dros ein gwlad mewn gwirionedd? Mae gennym gynifer o bobl dalentog yn Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol, felly pam nad ydynt yn ddigon da i gael y bont wedi'i henwi ar eu hôl?

Wel, mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod llawer o bobl ddawnus a galluog o'n gorffennol drwy enwi, er enghraifft, byrddau iechyd a darnau eraill o seilwaith ar eu holau, ond mae'n werth ailadrodd y pwynt fod hon yn bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac mae ei hanner mewn gwlad arall, ac rwy'n poeni mwy am ddiddymu'r tollau dros y bont i leddfu llif y traffig nag am enwi'r bont ei hun. Ac er y credaf fod y bont wedi cael ei henwi i anrhydeddu a chydnabod y Tywysog Cymru presennol, ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, ni welaf unrhyw reswm pam na ellir ei dathlu fel cofeb i holl dywysogion Cymru yn y gorffennol hefyd.

Mae'n ymddangos i mi, rwy'n credu, ei bod yn deyrnged briodol i nodi'r berthynas bwysig ac arbennig sydd gan Dywysog Cymru â'n cenedl drwy ailenwi'r bont ar achlysur ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, ac i nodi hanner can mlynedd ers i'r Frenhines ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae mwyafrif llethol y cyhoedd yng Nghymru yn ei groesawu.

A fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, ei bod yn llawer pwysicach i bobl Cymru ein bod yn sicrhau bod pontydd yr Hafren yn parhau i fod yn symbol o gyfraniad economaidd cryf Cymru i'r Deyrnas Unedig, ac y dylem fod yn hyrwyddo diddymu'r tollau ar bont Hafren, a fydd, wrth gwrs, yn hwb enfawr i economi Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar fater cymharol ddibwys ailenwi'r bont?

Wel, buaswn yn wir. Credaf y bydd cael gwared ar y tollau ar bont Hafren yn anfon neges glir fod Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac wrth inni adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, ac mae'n ffaith mai ychydig iawn o ffigurau eraill sy'n fwy adnabyddus o gwmpas y byd na'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ac felly credaf y dylem nid yn unig gydnabod y gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud, a llawer o aelodau eraill o'r teulu brenhinol—ac nid wyf yn dweud hyn fel breniniaethwr, ond fel gweriniaethwr—a'n bod yn parhau i wneud popeth a allwn i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang.

A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y pwynt ehangach ynglŷn â sut y mae'r Cynulliad hwn, Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, neu beidio, a sut y gallwn ni fel Cynulliad graffu ar berfformiad yr Ysgrifennydd Gwladol? Nawr, nid wyf am ddychwelyd at yr hen ddyddiau o gael ymddangosiad blynyddol gan y rhaglaw yma, ond mae gennym gynifer o faterion lle rydym wedi bod angen cymorth pwrpasol, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru deinamig: fel cael morlyn llanw ym Mae Abertawe, fel trydaneiddio prif linell reilffordd De Cymru, fel cael carchar mawr ym Maglan. Cymaint o faterion lle y gallai cefnogaeth ymroddedig, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Yn lle hynny, cawn ailenwi dibwrpas pont ffordd na fydd yn gwneud dim i helpu sefyllfa economaidd Cymru a gwneud dim ond atgyfnerthu'r farn y dylai Cymru fach wrando ar ei meistri yn Llundain.

Ai dyn Cymru yn San Steffan yw'r Ysgrifennydd Gwladol neu ddyn San Steffan yng Nghymru? Hynny yw, lle mae diwedd hyn? Mae cymaint o bontydd ffyrdd yng Nghymru heb enw; mae cynifer o aelodau o'r teulu brenhinol yn parhau i fod heb gysylltiad ag unrhyw strwythurau o'r fath. Er hynny, cafwyd ymdrechion glew dros y blynyddoedd i rwbio ein trwynau ynddo fel cenedl a orchfygwyd drwy eneinio sawl ysbyty ag enwau brenhinol.

Felly, ai dyna ni? Neu a all y Prif Weinidog, neu unrhyw un arall, ddefnyddio eu dylanwad i ddylanwadu mwy ar ymddygiad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn sicrhau'r penderfyniadau rydym o ddifrif am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru, fel y morlyn llanw ym Mae Abertawe? Diolch yn fawr.

16:10

Nid ydym bellach—. Mae fy nghyd-Aelod a'm cyfaill, Dafydd Elis-Thomas, yn llygad ei le, nid ydym wedi ein goresgyn mwyach; rydym yn genedl falch, rydym yn genedl hyderus, a dylai fod gennym hyder yn ein hunaniaeth yn ogystal. Drwy gael hyder, gallwn estyn allan yn fyd-eang, gallwn fod yn oddefgar, gallwn fod yn agored i bobl, a gallwn gydnabod, fel cenedl hyderus, y cyfraniad a wna pobl megis ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i'n lles a'n ffyniant.

Mae'r Aelod yn iawn, ceir nifer enfawr o bontydd sydd heb eu henwi eto, ac roedd hi'n ddiddorol fod yna ymgyrch gyhoeddus enfawr ynghanol y 1990au, ymgyrch gyhoeddus enfawr, gyda degau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi'r bont newydd yn Sir y Fflint yn bont y Foneddiges Diana. Ni ddigwyddodd hynny, ond mae'n dangos, er efallai fod 30,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb a nodwyd heddiw, fod dros 3 miliwn o bobl heb lofnodi'r ddeiseb. Yn wir, roedd llawer o ddegau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi pont yng ngogledd y wlad ar ôl aelod o'r teulu brenhinol yn y 1990au.

Er nad oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i enwi'r bont ar ôl Tywysog Cymru, sydd â chysylltiadau Cymreig hysbys—bu ef a minnau yn cydfyw unwaith mewn rhyw ffordd fel preswylwyr yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth pan oeddem yn fyfyrwyr yn ôl yn 1969—rwy'n cytuno gyda Russell George fod angen inni hysbysebu rhan Cymru yn y Deyrnas Unedig yn cael ein rheoli gan frenhiniaeth hynafol.

Ond mae gennym ail bont, wrth gwrs, i'w henwi ar draws afon Hafren, ac oni fyddai'n syniad da, felly, inni gydnabod y traddodiad arall, sy'n eistedd ar fy ochr chwith yma yn y Cynulliad hwn? Efallai y gellid enwi honno ar ôl Owain Glyndŵr neu Lywelyn Ein Llyw Olaf.

Gallai hynny fod, ac unwaith eto, mae llawer iawn o bontydd o amgylch Cymru yn dal heb eu henwi. O ran rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i leoedd, cymunedau, a gwella ansawdd lle, ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi rhagor o bontydd ar ôl unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'n gorffennol, ac yn wir, i'n presennol. Buaswn yn croesawu enwi ein pontydd ar ôl unigolion o Gymru, ac yn wir, unigolion o dramor.

Mae yna nifer enfawr o bobl sydd naill ai wedi eu geni dramor neu sy'n byw dramor ar hyn o bryd, neu sydd wedi byw dramor, sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi mwy o asedau i'w hanrhydeddu.

Fodd bynnag, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall cyd-destun ehangach hyn? Mae'n Ysgrifennydd Gwladol sydd mewn gwirionedd yn gweld de-ddwyrain Cymru fel maestref i Fryste, sydd eisiau—ynghyd â'i gyfaill a'i gydweithiwr—ailgategoreiddio Cymru fel tywysogaeth. Mae'n rhan o ymgais fwriadol i ailintegreiddio Cymru mewn rhyw fath o gysyniad hiraethus o Brydain nad yw erioed wedi bodoli yn ôl pob tebyg; ymdrech i ailgoloneiddio yw hi. Dyna pam y mae wedi taro nerf oherwydd nid yw mewn gwirionedd yn cyd-fynd â'r syniad o Gymru fel y mae heddiw, heb sôn am y Gymru rydym am ei hadeiladu yn y dyfodol. Gallwn weld mai 15 parti stryd yn unig a gynhelir ledled Cymru gyda'r briodas frenhinol. Roedd 15 parti stryd yn fy mhentref i 40 mlynedd yn ôl. Mae Cymru wedi symud ymlaen, ac mae enwi pethau—. Mae symbolau'n bwysig oherwydd maent yn dweud rhywbeth am y genedl ydym ni, a dyna pam y mae hyn wedi corddi'r bobl. A gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru—rydych yno i gynrychioli pobl Cymru—oni wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto?

16:15

Na wnaf, ni wnawn ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto. Credaf ei bod hi'n hollol iawn fod Tywysog Cymru yn cael ei gydnabod, a chredaf fod enwi'r bont ar ei ôl, er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hynny, yn rhywbeth y bydd llawer iawn o bobl yng Nghymru yn ei gefnogi. Ond hoffwn ddweud hefyd fod yna nifer enfawr o bontydd eraill y gallem eu henwi i anrhydeddu pobl eraill. Buaswn yn annog yr Aelod i ailystyried y defnydd o'r term 'ailgoloneiddio', oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth fod hynny'n digwydd, a buaswn hefyd yn dweud bod fy ffrind da a'm cyd-Aelod yn gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan gwych i dwristiaid, ac i bobl fyw ynddo.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Mick Antoniw.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae 'canlyniad syfrdanol' yn derm a orddefnyddiwyd mewn chwaraeon o bosibl. Mewn gwirionedd, mae enghreifftiau o dimau'n goresgyn sefyllfaoedd sy'n ymddangos yn anorchfygol yn gymharol brin. Mae buddugoliaeth Olympaidd yr USSR dros dîm pêl-fasged UDA yn 1972 yn enghraifft ddadleuol. Mae Dinas Caerlŷr yn ennill uwchgynghrair Lloegr yn dyst, mewn chwaraeon, i sut y gall gwaith tîm wneud y canlyniadau mwyaf annhebygol yn realiti. Felly, mae'n eithaf rhyfeddol fod gorchest chwaraeon wedi cael eu chyflawni gan dîm o Gymru, ond ymddengys mai ychydig iawn o bobl sy'n gwybod amdani.

Y llynedd, aeth tîm codi hwyl newydd ei ffurfio o Gymru i'r UDA a'u curo yn eu camp eu hunain ar eu tir eu hunain i ddod â'r fedal aur adref i Gymru. Hyfforddwyd y tîm o Drefforest yn fy etholaeth i, sef tîm Cymru ParaCheer, gan wirfoddolwyr, ac mae'n cynnwys athletwyr ifanc anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Dyma o bosibl yw ein trysor chwaraeon mwyaf cudd.

Ddydd Sadwrn, mae'r tîm yn hedfan i'r UDA i amddiffyn eu teitl, ac roedd yn wych croesawu'r tîm i'r Senedd fis diwethaf i roi rhagflas o'u hact, fel y dangosir ar y sgriniau. Ni allech gael grŵp mwy trawiadol o bobl ifanc. Maent yn athletwyr gwych, ac maent hefyd yn llysgenhadon gwych dros chwaraeon a thros Gymru.

Er bod ParaCheer wedi'i restru dros dro gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol fel camp, nid yw'n denu llawer o sylw yn y cyfryngau. Dyna pam roedd y tîm wrth eu bodd yn cael y Gweinidog Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas yn dymuno 'pob lwc' iddynt ddoe. Roedd yn golygu llawer iawn i'r tîm gael eu cydnabod yn y ffordd hon, ac rwy'n siŵr, heddiw, yr awn gam ymhellach ac anfon ein dymuniadau gorau i'r tîm gan y Cynulliad Cenedlaethol cyfan ar gyfer y pencampwriaethau byd sydd i ddod.

7. Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?'

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw, David Rees, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6704 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, a hefyd i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i.

Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, nodwyd un flwyddyn hyd nes y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, ar ôl i'r Prif Weinidog rhoi erthygl 50 o gytundeb Lisbon mewn grym. Yn ystod cam cyntaf y drafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, cytunwyd bod cynnydd digonol wedi'i wneud ar ddwy agwedd allweddol ar ymadawiad y DU, a bod llawer i'w drafod o hyd. Mae llawer o gwestiynau am sut y mae Cymru am baratoi ar gyfer Brexit wedi dod yn gliriach.

Ac yn ystod yr ymchwiliad hwn, aethom ati i archwilio sut y dylai Cymru, a Llywodraeth Cymru yn benodol, fod yn paratoi ar gyfer Brexit. Cafodd ansawdd ein sylfaen dystiolaeth ei wella'n fawr gan ein proses ymgynghori draddodiadol a sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd, ac ymweliadau â rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Calsonic Kansei yn Llanelli. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y rhanddeiliaid yr aethom i gyfarfod â hwy, y rhai a ddaeth i roi tystiolaeth a'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig. Ac fel pwyllgor, rydym bob amser yn ddiolchgar i'n tîm pwyllgor sy'n darparu'r cymorth i'n galluogi i gwblhau ein gwaith.

Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r saith. Fel arfer, nid wyf yn mynd drwy bob un o'r saith, ond y tro hwn fe wnaf hynny.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio ar frys beth yw paramedrau tebygol senarios Brexit amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen', ac adrodd i'n pwyllgor o fewn chwe mis. Nawr, wrth baratoi'r adroddiad hwn, rydym wedi gweithio yn y gobaith diffuant y bydd y negodiadau erthygl 50 yn dod i ben gyda chanlyniad llwyddiannus i bawb, ac mae cynnydd wedi'i wneud yn ddi-os, yn enwedig ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad. Ond mae'n bwysig i ni beidio â chilio rhag mynd i'r afael â chanlyniad 'dim bargen' a allai ddigwydd o hyd. Er ein bod yn glir nad yw hwn yn ganlyniad yr ystyriwn ei fod yn ddymunol mewn unrhyw ffordd, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran cynllunio senarios er mwyn paratoi Cymru. Yn ei hymateb, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen am hyn, a dywedir wrthym yn aml ei fod ar y gweill.

Roedd ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymchwil ar effaith gwahanol senarios Brexit ar economi Cymru, ac rydym yn falch o ddarllen dadansoddiad Ysgol Fusnes Caerdydd o'r effeithiau ar fusnesau mwy yng Nghymru. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, sylwaf fod ymchwil pellach ar y gweill ar hyn o bryd. Hoffwn gofnodi'r ffaith bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld canlyniad y gwaith ymchwil hwnnw maes o law. Mae'n hanfodol fod gennym fynediad at wybodaeth a thystiolaeth sy'n llywio gwaith y Llywodraeth a'r ddadl gyhoeddus ehangach am ffurf canlyniad ymadael. Mae hynny'n ein galluogi i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth a gwneud penderfyniadau mewn mwy o fanylder.

Mae'r trydydd argymhelliad yn ymwneud ag agwedd allweddol ar ein hymchwiliad, sef cyfathrebu. Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom bryderon gan rai rhanddeiliaid nad oes gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi ar gyfer Brexit. At hynny, clywsom fod diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU a'r amrywiaeth eang, o bosibl, o senarios a allai ddigwydd o hyd yn llesteirio gallu gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill i gynllunio a pharatoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Er inni glywed bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel gynrychioliadol, clywsom hefyd fod yna heriau mewn perthynas â rhaeadru'r wybodaeth honno i lawr i sefydliadau a chyrff unigol a staff rheng flaen. I helpu i fynd i'r afael â hyn, mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei gwaith cyfathrebu â sefydliadau unigol drwy annog cyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i lawr, ac ymhellach, i sefydliadau unigol edrych ar ymgysylltu dwy ffordd, oherwydd ceir gwybodaeth sy'n dod i fyny o'r gwaelod y dylid ei ystyried yn bwysig.

Yn ein hadroddiad, roeddem hefyd yn cydnabod bod gennym ein rôl ein hunain i'w chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd a chymdeithas sifil yng Nghymru â mynediad at wybodaeth ddibynadwy ac awdurdodol ar Brexit. Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn—ac  rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn caniatáu i mi wneud hynny—i atgoffa pawb am y newyddion rheolaidd ynghylch Brexit ac adroddiadau monitro a gynhyrchir gan Wasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad sydd ar gael ar wefan y Cynulliad ac yn arbennig, hefyd, ar wefan ein pwyllgor. Felly, defnyddiwch y cyfle i gadw llygad ar yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r adroddiadau monitro yn rhagorol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r staff sy'n cynhyrchu'r adroddiadau hynny.

Yn yr un modd, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â mater gwybodaeth a chyfathrebu ac yn benodol, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ac arweiniad i fusnesau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar oblygiadau senarios amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen'. Yn ei hymateb, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno â'n hargymhelliad i raddau, ond mae'n dadlau nad yw'r amseru'n iawn. At hynny, mae ymateb y Llywodraeth yn codi mater pwysig o gyfnod pontio a beth y gall hynny ei olygu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwy'n derbyn hynny i gyd, ac rwy'n cytuno ag ef. Byddwn yn cadw llygad ar sut y mae'r trafodaethau ar bontio'n datblygu, ond fel pwyllgor, nid ydym wedi dod i gasgliad pendant ynghylch pryd yn union y dylid cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rwy'n cydnabod y dadleuon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar yr angen i osgoi sbarduno mwy o ansicrwydd. Ond mae ansicrwydd yn bodoli, a rhaid inni ymdrin â'r ansicrwydd hwnnw gystal ag y gallwn. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ddadl heddiw ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer y canllawiau'n datblygu, yn enwedig o ystyried cyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd tuag at ddiwedd mis Mawrth.

I droi at argymhelliad 5, clywsom bryderon gan randdeiliaid am golli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol a'r her y byddai hyn yn ei chreu i wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Dyna pam y galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU ar sut y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei dyrannu a'i gweinyddu. Gwn y gallai hyn fod yn heriol oherwydd ar hyn o bryd nid wyf yn meddwl bod gan unrhyw un syniad beth y mae'n ei olygu hyd yn oed y tu hwnt i'r tri gair 'cronfa ffyniant gyffredin', ond mae'n bwysig eich bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fanylion pellach ar hynny. Fel y mynegwyd gennym eisoes mewn gwaith cynharach ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru, mae'n hanfodol nad yw Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i DU yn gadael yr UE nag y byddai wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Mae bod heb y wybodaeth honno yn peri anhawster i lawer o gyrff cyhoeddus yn benodol.

Mae ein chweched argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar y cyd â'r gweithgor addysg uwch, i gyhoeddi unrhyw waith a wnaeth o ran ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch ac i ystyried goblygiadau Brexit yn y sector hwnnw. Gwn ei fod wedi'i roi ar waith, ond nid ydym wedi gweld unrhyw gyhoeddiadau o hynny.

Clywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr a'r sector prifysgolion am rôl hollbwysig cyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil, cydweithio ac arloesi yn y gorffennol, a'r angen i sicrhau bod y sector prifysgolion yn chwarae rôl yn paratoi Cymru ar gyfer cyfleoedd posibl ar ôl Brexit. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y DU yn dymuno parhau i gymryd rhan mewn meysydd ymchwil ac arloesedd ledled yr UE, ac rydym yn croesawu hynny, ond dylai gwaith paratoi cynnar yng Nghymru sicrhau ein bod ar y flaen y gad yn hyn o beth.

Mae ein seithfed argymhelliad, a'r un terfynol, yn ymwneud â'r arian canlyniadol Barnett disgwyliedig y mae Llywodraeth Cymru i fod i'w gael o ganlyniad i'r arian ychwanegol a werir ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit. Rydym yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad am y gronfa bontio o £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi ar gyfer ei ddefnyddio er mwyn paratoi busnesau a sefydliadau ar gyfer Brexit. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i baratoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i adolygu'r sefyllfa ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen at graffu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio.

Ond mae hefyd yn cydnabod bod y Canghellor yn ei ddatganiad ym mis Tachwedd wedi nodi y byddai £3 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer Brexit. Edrychwn ymlaen at ddysgu pa arian canlyniadol a ddaw i Gymru a sut y caiff ei wario i gefnogi busnesau a chyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y paratoadau ar gyfer Brexit a'i effeithiau, ond hefyd efallai, sut y caiff y busnesau a'r sefydliadau hynny eu cynorthwyo i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi o ganlyniad i Brexit er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw mewn gwirionedd.

Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn atgoffa'r Siambr y bydd gan Brexit oblygiadau pwysig i lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru ac wrth i'r broses fynd rhagddi'n gyflym—ac mae'n mynd rhagddi'n gyflym; mae'n newid bron bob wythnos—mae'n ddyletswydd ar y Siambr hon i sicrhau, mewn meysydd lle mae gan Gymru ei phwerau a'i chyfrifoldebau ei hun, ein bod yn barod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau, nid yn unig er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol, ond hefyd er mwyn bachu ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit.

16:25

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion ein hadroddiad yn honni ei bod wedi symud

'yn gyflym yn dilyn canlyniad y refferendwm i greu’r gallu ar draws y Llywodraeth i ymateb i’r heriau ac i archwilio’r cyfleoedd y mae ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.'

Fodd bynnag, gwyddom o'r adborth a gafwyd yn ystod ymweliadau pwyllgorau'r Cynulliad sy'n gysylltiedig â Brexit â Brwsel, Dulyn a mannau eraill mai ni, y pwyllgorau, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, a arweiniodd yr ymgysylltu a'r agenda hon. Rydym yn croesawu'r ffaith eu bod yn dilyn ein harweiniad.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, dywed Llywodraeth Cymru y byddai senario 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond mae'n methu ymrwymo i ddarparu adroddiadau cynnydd ar ei harchwiliad o senarios Brexit amrywiol.

Yn ei haraith Mansion House y mis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog:

Nid yn unig y mae'n rhaid i ni negodi ein hymadawiad o sefydliad sy'n cyffwrdd â chynifer o rannau pwysig o'n bywyd cenedlaethol, rhaid inni hefyd adeiladu perthynas newydd barhaol gan baratoi ar gyfer pob sefyllfa.

Ac fel y dywedodd yn Fflorens,

rydym yn rhannu'r un set o gredoau sylfaenol; cred mewn masnach rydd, cystadleuaeth drwyadl a theg, hawliau defnyddwyr cryf, a bod ceisio trechu diwydiannau gwledydd eraill drwy sybsideiddio eich diwydiant eich hun mewn modd annheg yn gamgymeriad difrifol.

Dywedodd hefyd:

Bydd angen i gytundeb dwfn a chynhwysfawr gyda'r UE gynnwys ymrwymiadau sy'n adlewyrchu i ba raddau y mae economïau'r DU a'r UE ynghlwm wrth ei gilydd.

Wel, dechreuodd cam olaf y trafodaethau yr wythnos hon, gyda'r wasg yn datgan bod cysylltiadau rhwng yr UE a'r DU wedi'u normaleiddio lawer mwy a bod rhai o fewn yr UE yn credu y bydd llawer o'r manylion a'r sylwedd sy'n llywodraethu perthynas yr UE a'r DU yn y dyfodol yn cael eu datrys wedi i'r DU adael y bloc ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf mewn gwirionedd.

Wrth dderbyn ein hail argymhelliad mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi gweithio'n agos gyda'i

'holl dimau sy’n ymwneud â’r sectorau, er mwyn... [c]ael gwell dealltwriaeth o’r darlun ar draws pob un o’r sectorau y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio arnynt.'

Ac wrth dderbyn ein trydydd argymhelliad, dywed ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gydag

amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, ffermwyr, undebau llafur, cyrff addysg, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r cyhoedd... i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'u blaenoriaethau, eu pryderon a'u mannau gwan, gan gyfathrebu â safbwynt Llywodraeth Cymru ar ystod o faterion Brexit a bydd y gweithgarwch hwn yn parhau.

Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, dywedodd Michael Trickey o Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 wrthym:

Nid wyf yn meddwl ein bod yn llawer iawn mwy datblygedig o ran ein dealltwriaeth o oblygiadau Brexit nag yr oeddem flwyddyn yn ôl mewn gwirionedd.

Cydnabu Mr Trickey a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, fod unrhyw waith cynllunio senarios a wnaed hyd yma i'w weld yn gymharol gyfyngedig. At hynny, er bod y sefydliadau ymbarél yn ymwneud â Brexit, dywedodd Mr Trickey fod y mater—rwy'n dyfynnu—'yn teimlo'n bell iawn, iawn' ar lefel sefydliadau unigol.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi

'Bydd angen meddwl yn ofalus cyn darparu canllawiau ar gyfer busnesau a’r trydydd sector, o ystyried pa mor eang yw ystod y buddiannau.'

Fodd bynnag, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrthym y byddent yn hoffi gweld cyngor penodol ar gynllunio busnesau fferm yn ymwneud â'r gwahanol senarios masnachu ar ôl Brexit. Galwodd Undeb Amaethwyr Cymru ar Lywodraeth Cymru i 

fesur effeithiau posibl senarios ôl-Brexit gwahanol.

Ac er bod Conffederasiwn GIG Cymru o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi anfon negeseuon e-bost at Aelodau ddoe yn datgan ei fod wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried ac asesu maint yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru ar ôl Brexit, dywedodd y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol y cyfarfuom â hwy ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yng Nghaerllion wrthym fod

diffyg eglurder a chyfeiriad

mewn perthynas â Brexit

yn gwneud cynllunio wrth gefn yn anodd, ac o ganlyniad, nid yw'r sgyrsiau ynghylch cynllunio senarios wedi dechrau eto.

Fel y dywed Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'n hargymhelliad 5, rhaid i'r hyn a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE weithio o fewn cyd-destun datganoledig. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, rydym hefyd yn nodi mai bwriad y cronfeydd hyn oedd cau'r bwlch ffyniant cymharol, ond yn wahanol i nifer o rai eraill sy'n eu derbyn ledled Ewrop, mae hyn wedi ehangu yng Nghymru.

Wrth dderbyn ein chweched argymhelliad, mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at

'oblygiadau Brexit i ymchwil ac arloesedd a gomisiynir gan y Llywodraeth yng Nghymru'.

Rhaid inni felly groesawu datganiad y Prif Weinidog sy'n dweud bod

y DU hefyd wedi ymrwymo i sefydlu cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi pellgyrhaeddol gyda'r UE, i hwyluso cyfnewid syniadau ac ymchwilwyr. Byddai hyn yn galluogi'r DU i gymryd rhan mewn rhaglenni allweddol ochr yn ochr â'n partneriaid yn yr UE.

Rydym yn dymuno'n dda i Lywodraeth Cymru yn ei gwaith ymgysylltu yn y dyfodol ar y mater hwn ond yn gobeithio y bydd yn ailystyried rhai agweddau ar ei hymateb ac yn ystyried ymhellach y dystiolaeth a gawsom. Diolch.

16:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor materion allanol am eu gwaith ar yr adroddiad hwn a hoffwn hefyd ddiolch i Steffan Lewis, nad yw'n gallu bod yma i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ond sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y pwyllgor a bydd yn parhau i wneud hynny pan fydd yn gallu ymuno â hwy eto yn y dyfodol. Efallai nad oedd Brexit yn bolisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, ond bydd goblygiadau sylweddol yn deillio o weithredu canlyniad refferendwm yr UE i ddyfodol ein cenedl. Ein heconomi, ein hamgylchedd, ein gwasanaethau cyhoeddus—ychydig iawn a fydd heb ei effeithio gan delerau'r cytundeb gwahanu rhwng y DU a'r UE. Mae'r ansicrwydd y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n creu her go iawn i barodrwydd y Llywodraeth, busnes a'r sector cyhoeddus fod ein dyfodol yng Nghymru yn nwylo negodwyr o'r DU a'r UE ac yn dibynnu i'r fath raddau ar siâp y fargen derfynol.

Mae'r adroddiad hwn yn datgelu nifer o fylchau sy'n peri pryder yn y gwaith sy'n cael ei wneud i gael Cymru'n barod ar gyfer y nifer o ganlyniadau terfynol posibl a fydd yn deillio o'r negodiadau Brexit. Mae'n hanfodol fod craffu priodol yn digwydd ar waith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit. Mae angen inni weld gwell cyfathrebu ac arweinyddiaeth fel y gall Cymru fod yn barod ar gyfer Brexit mewn pryd ar gyfer gwahanu oddi wrth yr UE. Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i hyd yn oed ystyried y camau angenrheidiol ar gyfer paratoi ar gyfer senario Brexit 'dim bargen' yn peri pryder mawr. Rwy'n derbyn y byddai 'dim bargen' Brexit yn drychinebus. Pan wnaeth Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ymchwil ar Brexit 'dim bargen', ni allent weld unrhyw fantais bosibl. Gallem weld silffoedd gwag mewn uwchfarchnadoedd a chynnydd o 20 y cant ym mhrisiau bwyd, gallai teithiau hedfan i Ewrop gael eu canslo ar y diwrnod ymadael, a gallem weld milltiroedd o dagfeydd yn ein porthladdoedd. Mae'n dra esgeulus ar ran y Torïaid i chwarae gyda dyfodol economaidd y DU drwy ystyried Brexit 'dim bargen' fel opsiwn. Rwy'n deall mai'r syniad yw y byddai Brexit 'dim bargen' yn llanastr a wnaed gan y Torïaid ac mai cyfrifoldeb y Torïaid yn San Steffan fyddai ei glirio, ond lle yr effeithir ar feysydd cymhwysedd datganoledig, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud beth bynnag sy'n bosibl i liniaru'r effeithiau. Rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynllunio ar gyfer y canlyniad hwn sydd bron y tu hwnt i amgyffred.

I sefydliadau unigol, y mae llawer ohonynt eisoes yn teimlo dan bwysau, nid oes ganddynt gapasiti i feddwl am Brexit pan fo cymaint o waith o ddydd i ddydd i'w wneud. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r canllawiau a sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd y bobl iawn, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n frawychus fod yr adroddiad hwn yn canfod bod nifer o sectorau yn teimlo eu bod yn brin o'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi'n ddigonol. Gwyddom y gallai goblygiadau Brexit i'n gwasanaethau cyhoeddus fod yn enfawr. Bydd colled o £680 miliwn o arian Ewropeaidd bob blwyddyn, heb unrhyw sicrwydd gwirioneddol eto gan Lywodraeth y DU y byddwn yn cael cyllid yn ei le.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y felin drafod Global Future yn awgrymu y byddai cytundeb terfynol yn unol â'r fargen benodol a ddymuna Llywodraeth y DU yn torri £615 miliwn yr wythnos oddi ar y swm o arian a fyddai ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y DU—sy'n cyfateb i 22 y cant o'r hyn a werir ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym yn gwybod y gallai ein mynediad at feddyginiaethau ac ymchwil feddygol gael eu amharu. Cafodd apêl Theresa May i gael parhau'n aelod cysylltiol o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ar ôl Brexit ei gwrthod gan y Comisiwn oherwydd ei bod hefyd am adael y farchnad sengl. Gallai cleifion Cymru gael eu hamddifadu o driniaethau sydd eu hangen arnynt a'r ymchwil fwyaf arloesol. Mae Canada yn aml yn cael cyffuriau newydd chwech i 12 mis ar ôl yr UE. Os mai bargen debyg fydd gan y DU, a fyddwn ninnau yn yr un cwch?

Ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â maint yr her a allai ein hwynebu, ond mae'r ansicrwydd parhaus a wynebwn ynghylch canlyniad y negodiadau Brexit yn gwneud unrhyw waith paratoi yn anodd iawn. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ynglŷn â sut y gall Cymru ddechrau paratoi ar gyfer effaith bosibl Brexit, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar ei argymhellion.

16:35

Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r cyfraniad pwysig iawn y mae'r pwyllgor wedi'i wneud i'n dealltwriaeth o'r heriau rydym yn mynd i'w hwynebu wrth inni nesáu at Brexit. Mae yna ddau faes yr hoffwn gyfeirio atynt yn benodol.

Un yw bod Cadeirydd y pwyllgor, Dai Rees, a minnau wedi mynychu'r fforwm rhyngseneddol yng Nghaeredin, sef corff o bron holl bwyllgorau seneddol cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi, San Steffan, yr Alban a Chymru. Ac un o'r meysydd allweddol a oedd yn peri pryder yno, ar nifer o'r materion hyn, yw beth fydd yn digwydd, ar ôl Brexit, o ran y strwythur cyfansoddiadol sydd gennym mewn perthynas â'r angen am gytundebau ar faterion megis cymorth gwladwriaethol, amaethyddiaeth ac ati. Ac roedd yn beth prin iawn ar draws y pleidiau, ar draws yr holl bwyllgorau hyn, gyda'r amrywiaeth o ymchwil a thystiolaeth a'r adroddiadau a gynhyrchwyd, eu bod yn cytuno'n unfrydol nad yw'r cyd-bwyllgor Gweinidogion, ar ei ffurf bresennol, yn addas at y diben. 'Anaddas at y diben'—sylw dinistriol ac un y mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi sylw iddo, ond gwn fod Llywodraeth Cymru yn un sydd wedi tynnu sylw ato'n barhaus. Mae'n faes hollbwysig sy'n galw am ei ddatrys.

Yr un arall, wrth gwrs—a chyfeiriodd Leanne Wood at gyllido ac arian a gollir—yw sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn tystiolaeth yn ymwneud â'r gronfa ffyniant gyffredinol. Mae'n ymddangos bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i wneud hon yn gronfa a reolir o San Steffan. Beth yw'r pwynt inni ennill y ddadl ar ddeddfwriaeth parhad, ennill y ddadl ar gymal 11, os yw Llywodraeth y DU yn cymryd rheolaeth ar y cronfeydd hynny ac yn gallu dweud wrthym, 'Gallwch gael yr holl bwerau a ddymunwch, ond ni chewch yr arian sy'n mynd gyda'r pwerau oni bai eich bod yn gwneud pethau fel rydym ni'n dweud'? Dyna wneud llanastr o ddatganoli. Mae'n tanseilio egwyddorion sylfaenol datganoli, ac mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef.

16:40

Ynddo'i hun, mae'r adroddiad hwn a'r ffaith bod ei holl argymhellion wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru yn un peth, ac mae'n iawn fod yna lefel uchel o ddadansoddi a chraffu wrth inni anelu tuag at Brexit. Pe bai cymaint o graffu wedi bod ar y newid a oedd yn digwydd wrth arwain tuag at unol daleithiau Ewrop, byddai'r DU wedi gwneud y penderfyniad synhwyrol i adael amser maith yn ôl. Ond nid oedd fawr ddim craffu neu ddadleuon, os o gwbl, yn y fan hon neu yn San Steffan pan oedd pwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i ffwrdd, i raddau helaeth am fod pob plaid yn y Siambr hon ar y pryd yn cefnogi integreiddio pellach, er ei bod hi bellach yn amlwg nad oedd y cyhoedd yng Nghymru yn ei gefnogi.

Mae'r adroddiad yn synhwyrol ac yn werthfawr, wrth gwrs, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar gynnwys prosesau cyfathrebu'r Llywodraeth hon â'r rhanddeiliaid perthnasol a'r cyhoedd. Ceir llawer yn y lle hwn ac eraill a fydd yn gwneud popeth a allant i anwybyddu ewyllys y pleidleiswyr a cheisio gwrthdroi'r penderfyniad democrataidd a wnaed yn y refferendwm, neu'n ceisio gadael yr UE mewn enw'n unig. Fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth yn defnyddio ei chysylltiad â rhanddeiliaid i barhau ei phrosiect ofn i ennyn cefnogaeth i'r Brexit mwyaf meddal a diystyr sy'n bosibl. Yn eu trafodaethau, rwy'n tybio y byddant yn ceisio paentio darlun o sefydlogrwydd o fewn yr UE nad yw'n bodoli o gwbl.

Mae'r rhai sydd am aros yn ceisio dadlau y byddai gadael yn creu ansicrwydd, tra'n anwybyddu'r gwir amlwg y byddai aros hefyd yn creu ansicrwydd. Gyda'r holl symudiadau tuag at fwy o integreiddio gwleidyddol, mwy o bwerau'n cael eu hildio i Frwsel, byddin yr UE ac ati, nid oedd opsiwn 'status quo' ar y papur pleidleisio, ac nid oes opsiwn o'r fath yn awr chwaith.

Mae'r syniad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau gwrthrychol a diduedd ar oblygiadau'r senarios Brexit amrywiol yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Nid ydynt wedi llwyddo i ddweud unrhyw beth cywir am y senarios Brexit amrywiol hyd yn hyn, ac maent wedi rhoi eu hunain yn y sefyllfa hon drwy gychwyn ar brosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Aethant dros ben llestri i'r fath raddau gyda'u darlun o anobaith fel bod yn rhaid iddynt barhau gyda'r naratif hwnnw wrth adrodd yn ôl i'r lle hwn neu rywle arall rhag inni weld eu bod yn anghywir unwaith eto. Os ânt yn ôl at fusnesau a dweud, 'Gwyddom ein bod wedi dweud wrthych y byddai pleidleisio dros adael yn drychinebus, ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir,' byddent yn colli'r ychydig hygrededd a allai fod yn weddill ganddynt.

Nid yw'r Llywodraeth hon byth yn cyfaddef ei bod yn anghywir, ac mae hyn ar ei fwyaf amlwg pan fyddant yn ceisio dweud dros beth y pleidleisiodd y bobl a beth na phleidleisiodd y bobl drosto. Yn hytrach na derbyn bod y cyhoedd yn anghytuno â hwy, maent yn ceisio ailddiffinio beth oedd pobl Cymru yn ei fynegi drwy'r bleidlais i adael i'w gadw'n unol ag agenda wleidyddol eu plaid.

Felly, yn olaf, pa un a yw'n fater o archwilio senario 'dim bargen', cyhoeddi'r naw dadansoddiad sector, gwell cyfathrebu â sefydliadau, cyhoeddi canllawiau neu unrhyw un o'r argymhellion eraill, mae'r adroddiad a'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yn un peth, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr ei bod yn rhoi ewyllys pobl Cymru o flaen ei balchder cleisiog ac agenda wleidyddol eu plaid wrth gyflawni'r argymhellion. Diolch.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac o gofio natur anrhagweladwy'r canlyniadau yn y negodiadau Brexit, ceir meysydd, wrth gwrs, lle mae argymhellion a safbwyntiau'r pwyllgor eisoes wedi cael eu goddiweddyd. Roedd hi'n ddefnyddiol cael cadarnhad ynghylch cyfnod pontio ym mis Mawrth, gan fod hyn yn ansicr ar yr adeg y cynhaliodd y pwyllgor ei ymchwiliad. Rwy'n credu y gallwn weld bod y pwyllgor eisoes wedi dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, ond rwy'n cytuno â datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i'n hadroddiad, pan ddywed fod ei ymateb i argymhellion y pwyllgor yn dangos

'ein bod wedi dwysáu ein gwaith o baratoi ar gyfer Brexit'.

Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig. Mae hyn wedi'i grybwyll fwy nag unwaith y prynhawn yma. Mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer o sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, gan nodi eu pryderon ynghylch goblygiadau ariannol Brexit, gyda Chymru ar hyn o bryd yn elwa ar £680 miliwn o gyllid Ewropeaidd bob blwyddyn, a hefyd gan edrych ar randdeiliaid megis Cytûn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thynnu sylw at yr angen i unrhyw gronfa yn y dyfodol gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y DU, ac i fod yn seiliedig ar angen yn hytrach na chyfran o'r boblogaeth. Felly, byddai o gymorth pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y defnyddir y dystiolaeth gan y pwyllgor yn yr achos y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros drefniadau ariannu yn y dyfodol, sydd wedi eu hamlinellu'n glir iawn yn eich adroddiad 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', ac a all gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd na fydd Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i adael yr UE.

Nawr, mae Mick Antoniw eisoes wedi rhoi adborth oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryderon sy'n codi o ganlyniad i'r dystiolaeth a roddwyd a sylwadau gan Lywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'n peri pryder, ac mae angen inni ddod â'r lleisiau at ei gilydd yng Nghymru a chynrychioli buddiannau Cymru yma yn y Siambr hon er mwyn sicrhau y mabwysiedir y cynigion ar ddull partneriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu cyllid.

Mae'n berthnasol i dynnu sylw at safbwyntiau'r pwyllgor yn yr adroddiad ar yr angen i ymdrin â materion cydraddoldeb a pharodrwydd ar gyfer Brexit. Nododd rhanddeiliaid eu pryderon yn yr ymchwiliad hwn am y goblygiadau i gydraddoldeb, gan ddweud bod yr UE wedi gwasanaethu fel rhwyd ddiogelwch, a mynegwyd pryderon ynghylch diffyg darpariaethau yn y Bil ymadael i drosi siarter yr UE ar hawliau sylfaenol i gyfraith ddomestig ar ôl Brexit. Rhoddodd y pwyllgorau sylw pellach i'r pryderon hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn croesawu'r llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog gan David Rees a John Griffiths, Cadeiryddion y pwyllgorau perthnasol, ar oblygiadau Brexit i gydraddoldeb a hawliau dynol. Yn y llythyr at y Prif Weinidog mae Cadeiryddion ein pwyllgorau'n cyfeirio at y gronfa ffyniant gyffredin ac yn nodi mai Llywodraeth Cymru a ddylai weinyddu'r gronfa mewn perthynas â Chymru er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion anghydraddoldebau lleol. Maent hefyd yn dweud y dylid targedu arian tuag at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ddoe gofynnais gwestiwn i arweinydd y tŷ ynglŷn â'n pŵer newydd i gychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010. Gofynnaf unwaith eto i Lywodraeth Cymru ystyried hyn fel mater o flaenoriaeth, a chydnabod y byddai hon yn ffordd y gallai Lywodraeth helpu i sicrhau parodrwydd ar gyfer Brexit o ran mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi cael sylw gan fuddsoddiad drwy'r rhaglenni Ewropeaidd. Mae'r rhaglenni hyn wedi helpu i wrthdroi'r anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi difetha cymunedau a rhoi grwpiau yng Nghymru dan anfantais a'r anghydraddoldebau cynyddol o ganlyniad i gyni ariannol, cyflogau isel a pholisïau treth a budd-daliadau ymosodol Llywodraeth y DU sydd ond yn mynd i waethygu oni bai ein bod yn defnyddio'r holl bwerau sydd gennym at ein defnydd i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n siŵr fod hyn yn rhan o'r modd y dylai Llywodraeth Cymru baratoi ar gyfer Brexit.

16:45

Fel y dywedodd David Rees eisoes, yr addewid yn ystod y refferendwm oedd na fyddem yn waeth ein byd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a mater i Senedd y DU yw sicrhau bod pa fargen bynnag a gytunir gan Mrs May, ac y daw â hi'n ôl i Senedd y DU, yn bodloni'r meini prawf hynny. Fel arall, dylent wybod beth i'w wneud â'r fargen honno. Ein gwaith ni yw mynegi anghenion Cymru a sut nad yw Cymru'n mynd i oddef colli ei phwerau datganoledig o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi trafod y problemau sy'n ymwneud â'r gyfraith sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd a'r cyfeiriad i'r Goruchaf Lys, felly dyma drafodaeth sy'n mynd i barhau. Ond credaf fod angen inni fod yn ddoeth yn wyneb y rhethreg sydd ynghlwm wrth hyn yn erbyn y realiti.

Pan ymwelodd aelodau'r pwyllgor â Toyota yng Nglannau Dyfrdwy ym mis Chwefror, dywedwyd yn glir iawn wrthym y byddai'n drychineb pe bai'r nwyddau mewn union bryd y maent yn eu mewnforio i Felixstowe yn mynd i gael eu dal yn ôl o ganlyniad i'r ffaith na fyddai gennym drefniant marchnad sengl bellach, a phe bai gwiriadau tollau ychwanegol yn Felixstowe, byddai'n amlwg yn codi cwestiwn ynglŷn ag a fyddai Toyota yn parhau yn y DU ai peidio. Felly roedd hi'n braf iawn gweld bod Toyota wedi cytuno i adeiladu'r injan ddiweddaraf ar Lannau Dyfrdwy, cyhoeddiad a wnaed ar ôl ein hymweliad.

Credaf mai un o'r problemau i mi yw nid yn unig yr amser y mae'r holl ymenyddiau mawr yn Llywodraeth Cymru yn gorfod ei dreulio ar y pwnc hwn pan allem fod yn ymdrin â materion eraill mwy taer fel dileu tlodi neu ddatrys digartrefedd, ond hefyd y gallai'r gost o adael yr UE fod yn enfawr. Yn ei haraith Mansion House, er enghraifft, nododd Mrs May nifer o asiantaethau'r UE yr oedd am i'r DU barhau i gymryd rhan ynddynt fel aelod cyswllt. Soniodd am yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop fel rhai a oedd ganddi mewn golwg.

Gwnaeth ein trafodaethau â rhanddeiliaid hi'n glir fod y tair asiantaeth honno'n bwysig iawn i weithrediad parhaus sefydliadau Cymreig. Rhybuddiodd maes awyr Caerdydd os na fyddent yn rhan o Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, y byddai'n effeithio'n sylweddol ar eu gallu i gystadlu â meysydd awyr Ewropeaidd eraill a byddai'n sicr yn creu costau newydd ac oedi newydd i'w gweithrediadau. Roedd Cydffederasiwn y GIG, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain oll yn glir fod angen inni fod yn rhan o'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau yn ogystal â'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio at y ffaith y byddwn yng nghefn y ciw o ran cael meddyginiaethau newydd os nad ydym yn rhan o'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, gan na fydd gennym economi ddigon mawr mwyach i'w gwneud hi'n werth rhoi blaenoriaeth i feddyginiaethau newydd yn ein gwlad, felly mae hynny'n amlwg yn fater difrifol iawn.

Un o'r bobl a welsom pan oeddem ym Mrwsel ddiwedd y mis diwethaf oedd Mr Stanislav Todorov, cynrychiolydd parhaol Bwlgaria, sy'n ffigur eithriadol o bwysig ar hyn o bryd, oherwydd mai Bwlgaria sy'n dal llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, felly mae'r hyn a oedd ganddo i'w ddweud yn bwysig iawn. Roedd yn berffaith glir gyda ni—roedd yn braf ei weld yn bod mor glir a gonest gyda ni mewn gwirionedd—ynglŷn â'r disgwyliadau sy'n cael eu codi gan Mrs May ac eraill. Dywedodd hyn: 'Edrychwch, nod yr asiantaethau hyn i gyd yw cryfhau'r farchnad sengl, ac os nad yw'r DU yn rhan o'r farchnad sengl, nid ydynt yn mynd i fod yn aelodau o'r asiantaethau hyn.' Yn amlwg, gallwn negodi rhyw fath o statws sylwedydd, ond nid yw'n edrych yn addawol iawn os yw'r ymagwedd ddiwyro a fabwysiadwyd gan Fwlgaria yn cael ei hailadrodd ar draws gweddill yr UE. Felly, mae'n rhaid inni ofyn beth fydd y gost o sefydlu cyrff rheoleiddio tebyg yn y DU, sef arian na fydd gennym, felly, i'w wario ar bethau eraill fel inswleiddio ein holl gartrefi.

Felly, credaf fod yna duedd wirioneddol i fod eisiau ei chael hi bod ffordd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn grynodeb defnyddiol o rai o'r materion y mae angen inni barhau i fynd ar eu trywydd er mwyn diogelu buddiannau Cymru.

16:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau gweithgar iawn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Rwyf am ddiolch yn gyntaf am eu hadroddiad ac yn ail am y cyfle a gynigiwyd i mi a'r Prif Weinidog i roi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit.

Ddirprwy Lywydd, fel y gwelaf fi, dyma'r sefyllfa: lle mae materion yn ein dwylo ni, credaf y gallwn ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n brydlon ac yn gyson i gasglu'r dystiolaeth a nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer Cymru wrth i ni symud tuag at Brexit. Lle mae gwaith paratoi'n dibynnu'n llwyr ar benderfyniadau a wneir gan eraill, mae ein gallu i baratoi yn anochel yn llai sicr—fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, mae y tu allan i'n rheolaeth ni.

Hyd yn oed pan fyddwn yn ymdrin â'n cyfrifoldebau ein hunain, mae'r cyd-destun newidiol yn golygu bod yn rhaid inni adnewyddu ein hymdrechion ac ail-lunio ein camau gweithredu yn ôl y stori sy'n datblygu. Mae adroddiad y pwyllgor yn arbennig o ddefnyddiol yn casglu safbwyntiau ystod eang o sefydliadau sydd â diddordeb uniongyrchol yn Brexit a dod i gasgliadau ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda'n gilydd hyd yn oed yn fwy agos yn y dyfodol.

Mae popeth a wnaethom fel Llywodraeth ers Mehefin 2016 wedi bod drwy ymgysylltu ag ystod mor eang o safbwyntiau a lleisiau Cymreig ag y gallasom eu crynhoi. Mae'r grŵp cynghori ar Ewrop, er enghraifft, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn union ar ôl y refferendwm, yn dwyn ynghyd ystod eang a dwfn o arbenigeddau. Mae'r cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd ar Brexit a gadeirir gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi bod yn fforwm uchel ei barch y gwnaed defnydd da iawn ohono yn y Gymru wledig. Mae gweithgor ymadael â'r UE cyngor datblygu'r economi, dan gadeiryddiaeth Ken Skates, wedi creu cyd-destun lle mae buddiannau economaidd allweddol yng Nghymru yn siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ar waith paratoi ar gyfer Brexit. A gallwn fynd o gwmpas bwrdd y Cabinet i gyd, Ddirprwy Lywydd, yn nodi'r ymgysylltiad uniongyrchol y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddatblygu â'r sector addysg, y sector iechyd ac ati, a byddwn yn parhau i wneud hyn ac i wneud mwy yn y cyfnod nesaf.

O'r cychwyn cyntaf, a'r papur ar y cyd a gynhyrchwyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr y llynedd, rydym wedi dadlau na ellid paratoi'n briodol ar gyfer bywyd y tu hwnt i Brexit o fewn dwy flynedd proses erthygl 50. Ar y cychwyn, ni yn unig a ddadleuodd dros gytundeb pontio. Wrth gwrs, erbyn hyn rydym yn croesawu'r cytundeb dros dro ar gyfnod pontio, hyd yn oed os ydym yn parhau i gredu y bydd angen ymestyn y gwaith paratoi ymhell y tu hwnt i'r 21 mis sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.

Nodwyd yr ymateb gan y Llywodraeth i saith argymhelliad yr adroddiad gan y Prif Weinidog ar 12 Ebrill, ac mae'r cyd-destun hwn yn dylanwadu arnynt. Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi dwyn rhan o fy araith drwy fynd drwy bob un o'r saith argymhelliad, ond bu'n ddadl eang ei chwmpas, Ddirprwy Lywydd, a chyffyrddodd ar gyfres o faterion pwysig iawn. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw ar weithrediad y cyd-bwyllgor Gweinidogion a'r angen am brosesau rhynglywodraethol llawer cryfach i'r Deyrnas Unedig allu ffynnu ar yr ochr draw i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Jane Hutt ac eraill yn tynnu sylw at y gronfa ffyniant gyffredin. Gadewch imi ei gwneud yn gwbl glir unwaith eto, Ddirprwy Lywydd: mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r gronfa ffyniant gyffredin yn llwyr. Mae'n enghraifft arall eto o gipio pŵer yn ôl i San Steffan. Yma y mae'r cyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd rhanbarthol yn perthyn, ac mae pawb sydd wedi adrodd yn ei gylch yn annibynnol yn dadlau'r un fath. Mae'n hanfodol bwysig fod datblygu economaidd rhanbarthol yn cyd-fynd â'r sefydliadau sydd â phresenoldeb ar lawr gwlad yma yng Nghymru, sy'n gallu ymateb i'n partneriaid, yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae datblygu economaidd yn dibynnu arnynt, ac mae cronfa ffyniant gyffredin a roddwyd mewn maniffesto na chafwyd mwyafrif o'i phlaid mewn etholiad, a lle'r aeth y Llywodraeth a'i cynigiodd tuag yn ôl yn gyflym yma yng Nghymru, yn brin o gydlyniad deallusol a mandad democrataidd.

Aeth Jenny Rathbone at wraidd cyfres o faterion yn ymwneud â pharodrwydd ar gyfer Brexit mewn perthynas â rhwystrau masnach y bydd busnesau Cymru yn eu hwynebu os ydym y tu hwnt i gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl a'r tu allan i undeb tollau. Nododd hi a Leanne Wood gyfres o bwyntiau penodol yn y fan honno: hedfan—y posibilrwydd real na fyddwn yn gallu hedfan allan o'r wlad hon yn y ffordd y gallwn ei wneud heddiw; mynediad at feddyginiaethau newydd a niwclear—trefniadau iechyd cyhoeddus hanfodol. Rydym yn rhan o gyfres ar draws Ewrop o drefniadau sy'n diogelu iechyd pobl yma yng Nghymru bob dydd, ac os nad oes gennym fynediad at yr arolygiaeth honno, y wybodaeth honno, i'r bygythiadau i iechyd y cyhoedd y gwyddom y gallant ddigwydd yn unrhyw le ar draws y cyfandir, byddwn yn dlotach o ganlyniad.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ychydig am funud ar un thema allweddol yn argymhellion y Pwyllgor—y cynllunio senarios. Eisoes, rydym wedi cynhyrchu costau perthnasol cynllunio senarios i economi Cymru, canlyniadau gweithdai cynllunio senarios y grŵp bwrdd crwn Brexit, y senarios gwahaniaethol a gyhoeddwyd gennym ar gyfer dyfodol y diwydiant pysgota, y papur manwl yn nodi posibiliadau ar gyfer dyfodol datblygu economaidd rhanbarthol, gwaith dadansoddi opsiynau gwahanol ôl-Brexit Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer cwmnïau mawr a chanolig yng Nghymru, gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar oblygiadau Brexit i amaethyddiaeth, ardaloedd gwledig a defnydd tir yng Nghymru—mae hyn i gyd yn dangos ein penderfyniad i barhau i gynllunio, paratoi a llunio'r dyfodol, dyfodol a wynebwn ar yr ochr draw i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Ond fel y dywedais ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, ceir cyfyngiadau gwirioneddol ar y cyngor dibynadwy a phendant y gellir ei ddarparu pan fo cymaint o ansicrwydd yn parhau. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ar oblygiadau senarios Brexit amrywiol. Y broblem yw bod cyn lleied o eglurder yn bodoli.

Dychmygwch pe bawn wedi cynhyrchu canllawiau o'r fath ar sail araith Lancaster House y Prif Weinidog ym mis Ionawr y llynedd. Byddem wedi dweud wrth y nifer yr oedd yr adroddiad yn ymwneud â'u buddiannau i gynllunio ar gyfer Brexit yn seiliedig ar na i gyfnod pontio; na i dalu unrhyw fil ymadael; na i unrhyw rôl ar gyfer Llys Cyfiawnder Ewrop; na i barhau i gymryd rhan yn sefydliadau'r UE, a na i fargen dros hawliau dinasyddiaeth. Erbyn diwedd yr un flwyddyn, a'r cytundeb yn y Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, byddem yn cyhoeddi set hollol wahanol o ganllawiau. Bellach, byddwn yn dweud wrth rai sydd â buddiannau yng Nghymru i baratoi ar gyfer cyfnod pontio, ar gyfer dyfodol ariannol, a byddwn, yn gwbl briodol, yn talu ein biliau mewn biliynau o bunnoedd, sy'n mynd i bara hyd at 2064. Byddwn yn dweud wrth bobl am baratoi ar gyfer rôl warantedig ar gyfer Llys Cyfiawnder Ewrop, heb ei lleihau drwy'r cyfnod pontio ac i barhau ymhell y tu hwnt iddo. Byddwn yn dweud wrthynt am baratoi ar gyfer parhau i ymwneud â sefydliadau allweddol lle y gallwn berswadio'r UE 27 i ganiatáu i hynny ddigwydd, a chyfres o hawliau dinasyddiaeth sydd, diolch byth, yn mynd ymhell y tu hwnt i ddim yr oedd Mrs May yn barod i'w ystyried lai na blwyddyn yn gynharach. Nid yw'n fawr o syndod fod gweithwyr proffesiynol iechyd Caerllion wedi dweud wrth Mr Isherwood fod cynllunio senarios yn achosi problemau.

Y pwynt rwy'n ei wneud, Lywydd, yw hwn: wrth gwrs ein bod am y cyngor gorau posibl i ddinasyddion yng Nghymru, ond rhaid inni wneud hynny mewn amgylchiadau sy'n anorfod yn ansicr. Ni ellir cynllunio'n syml i gael gwared ar Brexit 'dim bargen', ni waeth pa mor soffistigedig yw'r dadansoddiad neu ba mor ronynnog yw'r treiddgarwch sectoraidd. Dyna pam yr ydym yn benderfynol o barhau i weithio gydag eraill yma yng Nghymru, gan ddilyn gwaith a chyngor y pwyllgor yn agos, fel ein bod yn paratoi gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol gwahanol iawn a dyfodol sy'n gweithio i Gymru.

17:00

Diolch, Dirprwy Llywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac i Ysgrifennydd y Cabinet.

Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn egluro rhai o'r pwyntiau. Ac ar gyfer Leanne Wood: a wnewch chi hefyd drosglwyddo'r neges ynglŷn â pha mor bwysig yw'r rôl y mae Steffan Lewis yn ei chwarae yn y pwyllgor? Byddwn ninnau hefyd yn edrych ymlaen at ei weld yn dychwelyd i'r pwyllgor oherwydd mae ganddo rôl bwysig ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y materion hyn ac mae'n helpu'r pwyllgor yn aruthrol. Felly, edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl hefyd.

Mae wedi bod yn glir fod llawer o'r Aelodau wedi amlygu materion tebyg. Rydym wedi cael y cwestiynau ynghylch ariannu, ac rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlygu pa mor gryf yw gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i fwriadau posibl cronfa a reolir yn San Steffan, lle y dylai ganolbwyntio mwy mewn gwirionedd ar anghenion Cymru a dylid ei dyrannu i Gymru fel bloc i ganiatáu i hynny ddigwydd.

Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Mick am ei eiriau caredig ac am ei gyfraniad i'r pwyllgor, i'r gwaith ar Brexit? Ac mae'n hollol iawn: nid ydym ar ein pen ein hunain yn y mater hwn, mae'n digwydd ar draws y gwahanol sefydliadau o fewn y DU oherwydd roedd y cyfarfodydd a fynychwyd gennym yn cynrychioli'r Alban, Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ac roedd teimlad unfrydol ynghylch methiant y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac ni allwn adael i Llywodraeth y DU reoli unrhyw gyllid a ddylai fod wedi bod yn dod i ni beth bynnag.

Pwysleisiodd Mark y pwynt ei fod yn siomedig iawn mai rhai yn unig a dderbyniwyd mewn egwyddor—a finnau hefyd. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond rydym yn symud ymlaen, ac mae angen inni gael eglurder ar y canllawiau i ganiatáu i gyrff sefydlu cynlluniau wrth gefn. Mae hynny'n hollbwysig. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi bod terfynau i allu gwybod faint y gall ei roi oherwydd bod cymaint o ansicrwydd yn dal i fodoli, ac rwy'n sylweddoli hynny, ond rhaid inni baratoi ar gyfer hyn. Mae angen inni wybod yn awr fod yna gyfnod pontio, er mwyn inni ddechrau gweithio tuag at baratoi ar gyfer y cyfnod pontio hwnnw a beth bynnag sy'n digwydd wedyn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet ar farn bersonol: nid wyf yn credu y cawn bopeth wedi'i ddatrys cyn mis Hydref, pan fydd yn rhaid iddynt fynd at y Seneddau ar gyfer ystyried unrhyw gytundeb ymadael. Felly, mae hon yn mynd i fod yn gêm hir i'w chwarae.

A gaf fi hefyd atgoffa pawb o bencampwriaeth agenda cydraddoldebau Jane Hutt ar hyn? Mae hi wedi bod ar y blaen, yn gwthio'r pwyllgor i edrych ar y materion hyn a'r goblygiadau o ganlyniad i Brexit i gydraddoldebau a'r hyn y mae angen inni ei wneud ynglŷn â hynny, ac ni fyddwn yn pasio heibio i'r materion hynny.

Amlygodd Jenny Rathbone rywbeth am y cynrychiolydd o Fwlgaria, a soniwyd am yr asiantaethau. Cawsom ein hatgoffa ganddo, mewn gwirionedd, ynglŷn â chwestiwn diddorol: fod aelodaeth o asiantaethau yn gymhleth oherwydd bod rhai asiantaethau'n gysylltiedig â'r farchnad sengl, ac fel y cyfryw, rhaid inni edrych yn ofalus iawn. Os nad yw Theresa May am fod yn y farchnad sengl, mae hynny'n cyfyngu ar ein mynediad at asiantaethau. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU feddwl o ddifrif, ac mae angen inni gael y trafodaethau hynny, a'r paratoadau, o ran beth fydd eu goblygiadau i Gymru.

Trof yn awr at Michelle Brown, a rhaid imi fynegi fy siom enfawr ei bod hi wedi defnyddio'r cyfle i ailddatgan dadleuon y refferendwm yn ôl yr hyn a welwn. Nid oes prosiect ofn, nid oes ond edrych ar sut y gallwn ddarparu'r gorau ar gyfer Cymru; dyna rydym yn ceisio ei wneud. Yn fy marn i, credaf ei bod wedi camddisgrifio gwaith y Llywodraeth. Ac maent yn ymateb; y nifer o weithiau y maent wedi sôn eu bod yn ymateb i ewyllys y bobl. Tybiaf y byddai'r Arlywydd Trump wedi galw'r rhan honno'n debycach i newyddion ffug na newyddion go iawn.

Felly, gadewch i ni gyfeirio'n ôl at yr hyn rydym yn canolbwyntio arno: sut y mae Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? Ac mae hynny'n hollbwysig. Rydym yn wynebu llawer mwy o fisoedd i ddod—11 mis bellach, mewn gwirionedd, hyd nes y byddwn yn gadael, mae'n debyg mai tua chwe mis o negodi a fydd tan y cytundeb ymadael, ac yna y trafodaethau ar y cytundeb ymadael. Ac yn yr amser hwnnw, bydd yna lawer iawn o faterion a fydd yn codi, ar lefel yr UE a lefel y DU, y bydd yn rhaid eu negodi er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael y fargen orau. Ac rydym yn paratoi ein busnesau, rydym yn paratoi ein cyrff cyhoeddus, rydym yn paratoi ein trydydd sector i sicrhau, pan fydd yn digwydd, ein bod mewn sefyllfa gref i symud ymlaen, a bod yr effaith arnom o ganlyniad i unrhyw beth sy'n codi o Brexit cyn lleied ag y bo modd.

Byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyfrif, oherwydd hoffwn ganmol Robin Walker, sydd wedi mynychu'r pwyllgor, ac mae wedi ymrwymo i ddod yn ôl. Byddwn yn eu dwyn i gyfrif. Byddai'n braf pe bai David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol, hefyd yn mynychu oherwydd gallai hynny ddangos, efallai, fod ei ddealltwriaeth o ddatganoli yn ogystal—mae'n ymddangos yn ddiffygiol ar hyn o bryd. Ond byddwn yn parhau â'n gwaith i ddiogelu buddiannau pobl Cymru. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau felly yn derbyn yr adroddiad a gadewch inni symud ymlaen, gan gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Brexit. A pheidiwch â thynnu eich llygaid oddi arno oherwydd os blinciwch, fe gollwch chi rywbeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol.

Cyn inni drafod y cynnig yma, rwyf am wneud fy safbwynt yn glir ynghylch ei gyfreithlondeb. I ddechrau, mae'r cynnig hwn mewn trefn ac, yn ail, mae'r pŵer yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, heb amheuaeth, yn eang, a dyna pam mai dim ond o ganlyniad i bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yma y gellir ei weithredu. Rwy'n disgwyl i Aelodau i barhau i ddefnyddio adran 37 yn gymesur, felly, ac yn rhesymol. Rwy'n galw nawr ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM6702 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.

2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.

3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y ddadl sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Ac yn benodol, mae'n werth myfyrio'n fyr iawn ar ddigwyddiadau ddoe—ein bod wedi wynebu'r posibilrwydd na fyddai'r ddadl hon yn digwydd mewn gwirionedd.

Yn benodol, os caf dynnu sylw'r Cynulliad at y llythyr a anfonwyd at y Llywydd, yn enwedig pwynt tri a nododd fod y Llywodraeth yn credu nad oedd y Swyddfa Gyflwyno a'r Llywydd yn gweithredu'n anghyfreithlon yn derbyn y cynnig hwn. Dyna oedd yn y llythyr a gyflwynwyd. Fel rwy'n deall, cafodd ei ddatgelu heb ganiatâd i'r wasg wedyn, sydd braidd yn eironig a dweud y lleiaf, ein bod yn cael ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd a dyma lythyr wedi'i ddatgelu heb ganiatâd, y credaf iddo ddod o'r Llywodraeth, fel rwy'n deall, i'r cyfryngau. Felly, tybed a gawn ni ymchwiliad Ysgrifennydd Parhaol i'r llythyr penodol hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd. Ond mae'n werth myfyrio ar y math o iaith a welwch ar y dudalen gyntaf—nid 'o'r farn' ei fod yn anghyfreithlon; mae'n dweud wrth y Llywydd ei 'fod yn' anghyfreithlon. Mae hynny, yn bendant, yn amgylchedd bygythiol iawn i fynd i geisio'i greu ynghylch dadl yma yn y Cynulliad.

Hoffwn ganolbwyntio ar dri maes, os caf. Dros y tri mis diwethaf, y dadleuon amrywiol a gyflwynodd y Llywodraeth i geisio atal yr adroddiad hwn rhag cael ei gyhoeddi wedi'i olygu. Daeth y gyntaf ym mis Ionawr gan y Prif Weinidog, pan holais ef mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch preifatrwydd a chyfrinachedd tystion a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw—ac rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid glynu wrth hynny, a dyna pam ein bod, yn y cynnig heddiw, wedi dweud y dylai'r adroddiad fod ar gael ar ffurf wedi'i golygu, i wneud yn siŵr fod y cyfrinachedd hwnnw'n cael ei sicrhau ac uwchlaw popeth, sicrwydd a diogelwch tystion sy'n teimlo y gallent gael eu bygwth pe bai eu henwau'n cael eu rhoi, er fy mod braidd yn amheus o ble y gallai'r bygythiadau ddod pe bai'r enwau hynny'n dod yn gyhoeddus. Ac rwy'n gresynu at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud, yn ei ddewis ef o iaith yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar y pryd, pan oedd yn ymateb i mi,

'Yr hyn y mae e'n gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei wneud—oherwydd ei phenderfyniad hi yw hwn—yw datgelu pwy yw'r bobl hynny, i'r dystiolaeth gael ei rhoi ar gael a'u henwau. Byddai cam o'r fath, mae'n rhaid i mi ddweud, yn waradwyddus ac yn anonest, a byddai'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.'

Rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr, a chyfeiriaf y Cynulliad at adroddiad ymchwiliad Hamilton a ryddhawyd, yn arbennig cymal 22 yn adroddiad ymchwiliad Hamilton ddoe, a ddangosai'n glir sut yr aeth Hamilton ati i ddiogelu cyfrinachedd tystion yn yr adroddiad hwnnw. Felly, yn amlwg mae hynny'n ateb y pwynt y gallwch ddarparu adroddiad a diogelu cyfrinachedd tyst lle y darparwyd enw'r tyst.

17:10

A all yr Aelod nodi unrhyw enghraifft o Lywodraeth San Steffan yn cyhoeddi adroddiad i ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd? Rwy'n tybio na all, oherwydd mae'n gwybod yn iawn nad yw unrhyw Lywodraeth yn San Steffan, o unrhyw blaid, yn cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelwyd heb ganiatâd. Felly, pam y mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw Llywodraeth ei blaid ei hun yn Llundain yn ei wneud?

Buaswn yn awgrymu wrth yr Aelod dros Lanelli fod y rhain yn amgylchiadau unigryw. Gofynnais i'r Llywydd roi enghreifftiau i mi y mae'n cyfeirio atynt yn ei llythyrau at Aelodau Cynulliad ynghylch yr anallu i ddarparu'r adroddiad. Mae'r rhain yn set unigryw o amgylchiadau a arweiniodd, yn anffodus, at edrych ar farwolaeth unigolyn. Mae'n hanfodol bwysig, fel Aelodau Cynulliad, ein bod yn gallu craffu ar weithredoedd yr ymchwiliadau hyn a bod yn fodlon fod yr ymchwiliadau wedi edrych ar ac wedi dilyn pob trywydd posibl. A thynnaf sylw'r Aelodau at y cynnig heddiw sy'n datgan yn benodol 'at ddibenion y Cynulliad', h.y. Aelodau'r Cynulliad. Ceir llawer o ddarpariaethau y gellid eu rhoi ar waith er mwyn i'r adroddiad hwn fod ar gael i Aelodau'r Cynulliad ddarllen ac ystyried yr adroddiad hwn, mewn fersiwn wedi ei golygu, a fyddai'n diogelu cyfrinachedd unigolion sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Nawr, dyna un ddadl a gyflwynwyd yn ôl ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, pan gawsom y cynnig yma a gymeradwywyd gan Aelodau'r Cynulliad, y ddadl nesaf a ddefnyddiwyd gan arweinydd y tŷ yn ei hateb i mi—mewn ateb byr iawn, hoffwn ychwanegu, i'r ddadl honno. A dyma oedd ei hymateb i mi:

Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adroddiad hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd; mae'n ymwneud â chywirdeb ymchwiliadau yn y dyfodol ac adroddiadau a ddatgelir heb ganiatâd yn y dyfodol.

Ond yma, ceir yr elfen ychwanegol o ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau posibl pellach i gywirdeb cyffredinol y broses os caiff gwybodaeth ei gwneud yn gyhoeddus ar sail dameidiog.

Wel, ddoe, daeth adroddiad Hamilton gerbron. Rwy'n croesawu'r ffaith fod yr adroddiad hwnnw wedi ei ryddhau'n gyhoeddus i Aelodau ei ddarllen a'i weld, ond rhaid imi ddweud, os mai dyna'r ail ddadl i'r Llywodraeth ei defnyddio i atal yr adroddiad hwn rhag cael ei gyhoeddi, yna rydych wedi gwneud niwed mawr iddo, yn amlwg, drwy sicrhau bod adroddiad ymchwiliad Hamilton ar gael. Rwy'n croesawu canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, sy'n dweud nad yw'r Prif Weinidog wedi gwneud dim o'i le o ran ffocws penodol yr ymchwiliad hwnnw ar gamarwain y Cynulliad. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith nad erlid y Prif Weinidog yw hyn, fel y mae pwynt 48 yr adroddiad hwnnw'n nodi'n glir, pan ddywed na chafodd unrhyw honiad—ni chafodd unrhyw honiad—ei wneud yn erbyn y Prif Weinidog am fwlio neu weithredu difrïol ar ei ran. Ac felly, nid yw hyn yn ymwneud ag erlid y Prif Weinidog, ond hefyd hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith, os mai honno oedd yr ail ddadl a wnaed, sef y byddai rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd yn ddull tameidiog o ymdrin â hyn ac y byddai'n peryglu ymchwiliadau yn y dyfodol, pam y cafodd Hamilton ei drin yn wahanol?

Rwy'n awgrymu mai'r trydydd pwynt, yn amlwg, yw'r pwynt a wnaed ddoe mewn perthynas â'r dadleuon cyfreithiol a wnaeth y Llywodraeth ynghylch arfer darpariaeth Llywodraeth Cymru. A gellir rhoi hynny, unwaith eto, i un ochr yn sgil y cyngor cyfreithiol a roddwyd i'r Aelodau yma yn y Cynulliad. Ceir gwahaniaeth barn yma. Mae'r Llywodraeth yn credu y byddai llywodraeth yn dod i stop pe bai'r cynnig hwn, yn amlwg, yn pasio y prynhawn yma, ac na fyddent yn gallu gwneud eu gwaith mewn gwirionedd. Y cyngor cyfreithiol a roddwyd—ac fe ddarllenaf hyn air am air—yw na roddodd y Senedd bŵer cwbl benagored i'r Cynulliad. Rhoddodd fesur diogelu lle mae'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid cynnig. O dan adran 37(8), nid yw person yn gorfod dangos unrhyw ddogfen y byddai hawl ganddo ef neu ganddi hi i wrthod ei dangos at ddibenion achosion llys yng Nghymru a Lloegr. Ceir nifer o amgylchiadau lle y gallai hyn fod yn berthnasol. Er enghraifft, ni fyddai'n rhaid datgelu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru yn unol â'r ddarpariaeth hon, na chyfrinachedd masnachol chwaith. Gallwn fynd ymlaen. A gallwn fynd ymlaen i ddweud, fel rwyf wedi nodi wrth yr Aelod dros Lanelli, y ceir amgylchiadau megis amgylchedd ystafell ddarllen y gellid ei sicrhau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad i ateb darpariaethau a gofynion y cynnig ger ein bron. Oherwydd mae'r cynnig ger ein bron yn gofyn am gynhyrchu'r adroddiad at ddibenion y Cynulliad. Felly, mae defnyddio'r ddadl gyfreithiol y byddai'r Llywodraeth yn dod i stop pe bai'r cynnig hwn yn cael ei dderbyn heddiw yn nonsens—yn nonsens pur.

Nawr, efallai y bydd chwip y Llywodraeth yn sicrhau'r bleidlais heddiw i atal y cynnig hwn rhag cael ei dderbyn. Gobeithio na wnaiff. Gobeithio y bydd Aelodau unigol yn pleidleisio ar gryfder y ddadl sydd ger eu bron, ond os yw'r chwip yn sicrhau'r bleidlais honno, ni fydd yn cyflawni'r hyn sy'n foesol gywir yma, sef y gallu i gael yr adroddiad hwn ochr yn ochr ag adroddiadau eraill a gomisiynwyd fel y gallwn fod yn fodlon fod pob llwybr ymchwilio wedi'i ddihysbyddu er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn fynd at wraidd y ddadl a'r drafodaeth, a gwneud rhywfaint o synnwyr yn y pen draw o'r drychineb a arweiniodd at farwolaeth aelod o'r sefydliad hwn. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw, sy'n ceisio'r tryloywder hwnnw yma yng nghartref democratiaeth Cymru.

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw, felly, ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Mae hon yn ddadl fer y gallai ei chanlyniad arwain at effeithiau hirdymor. Nawr, yn ôl pob golwg, mae'n ymwneud â chyhoeddi adroddiad penodol—set benodol o amgylchiadau—sydd, wrth gwrs, yn seiliedig ar drasiedi bersonol. Fodd bynnag, mae ei harwyddocâd hefyd yn mynd yn llawer pellach na hynny. Dylwn ddweud, ar y cychwyn, nad oes gennyf unrhyw ddisgwyliadau afrealistig y bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn ateb yr holl gwestiynau ynghylch yr achos hwn, na hyd yn oed yn yr agwedd hon ar yr achos. Mae ymchwiliadau i ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd yn tueddu, oherwydd eu natur, i fod yn yn amhendant. Fel y dywedodd Syr Humphrey Appleby wrth Jim Hacker yn Yes Minister, rwy'n credu, gorchwyl ymchwiliad mewnol a gynhaliwyd yn broffesiynol yw datgelu llwyth mawr o ddim tystiolaeth. Nawr, er gwaethaf hynny—. Mae Lee Waters yn iawn, wrth gwrs. Nid yw llywodraethau byth yn hoffi—. Maent yn hoffi cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelir heb ganiatâd, nid ydynt yn hoffi cyhoeddi'r adroddiad, gan fod y cynnwys bron bob amser yn fwy diddorol na'r casgliadau. Yn lle crynhoi'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd wrth wraidd mater Westland wrth siarad yn Nhy'r Cyffredin, pe bai Margaret Thatcher wedi cyhoeddi'r adroddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yna mentraf ddweud y byddai Geoffrey Howe wedi dod yn Brif Weinidog erbyn 6 o'r gloch, fel yr oedd hi wedi'i ddarogan i'w chydweithwyr. Nawr, ceir rhai eithriadau. Damian Green—yr adroddiad gan y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ynghylch yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd yn 2009, fe gredaf. Ymchwiliad Alistair Carmichael i'r datgelu heb ganiatâd yn 2015—ni chawsom yr adroddiad llawn gan y Llywodraeth, ond roedd yna grynodeb fanwl tu hwnt mewn gwirionedd, a nodai'r broses a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Nawr, rwy'n derbyn mai adroddiad wedi'i olygu fydd hwn drwy ddiffiniad, ond hyd yn oed wedyn, drwy ddiffiniad, bydd hi bron yn bosibl casglu o leiaf fwy o wybodaeth nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r ddau baragraff byr a gawsom gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Nawr, rwy'n credu bod y dadleuon o blaid cyhoeddi yn fwy sylfaenol. Maent yn ymwneud ag egwyddorion Llywodraeth agored, maent yn ymwneud ag atebolrwydd seneddol, ac maent yn cyffwrdd â'r bennod dywyll, rwy'n credu, yng ngwleidyddiaeth Cymru y cawn ein hunain ynddi ar hyn o bryd.

Ar werth tryloywder, Louis Brandeis—yr unig sosialaidd erioed i gael ei benodi i'r Goruchaf Lys, dyn a raddiodd yn y gyfraith o Harvard, ond peidiwch â gadael i ni ddal hynny yn ei erbyn—a lefarodd y geiriau enwog:

Dywedir mai golau haul yw'r diheintydd gorau; a golau trydan yw'r plismon mwyaf effeithlon.

Os ceir amheuon dilys ynghylch mater pwysig sy'n destun trafod a dadlau cyhoeddus, y ffordd orau o chwalu'r amheuon hynny yw cyhoeddi, a'r ffordd sicraf o gynnal yr amheuon yw gwrthod. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi cynnig y ddadl y bydd yna bob amser gategori o wybodaeth na ellir ei ryddhau oherwydd ei natur, ac yn gyffredinol, mae hynny'n wir wrth gwrs, ond mae'n wir hefyd, ar faterion mawr sydd wedi dod yn destun dadl genedlaethol, y dylai buddiannau sylfaenol tryloywder ac atebolrwydd ennill bob amser yn y pen draw dros awydd y weithrediaeth am gyfrinachedd. Ac yn achlysurol, mae'n rhaid i Seneddau atgoffa Llywodraethau, fel y dadleuodd Ralph Nader yn gyntaf, mai:

Gwybodaeth sy'n gyrru democratiaeth. Rhaid i unrhyw gamau i'w gwrthod godi amheuon.

Nawr, mae'r hawl i alw am bobl a phapurau wedi'i hymgorffori yn y traddodiad seneddol. Yn ein hachos ni, mae wedi'i ysgrifennu mewn statud yn hytrach nag Erskine May, ond yr un egwyddor ydyw ag a ysgogwyd gan yr wrthblaid swyddogol yn San Steffan wrth wneud cynnig fis Tachwedd diwethaf a orfododd Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei hastudiaethau o effaith Brexit, a chydsyniodd y Llywodraeth â hynny pan dderbyniwyd y cynnig. Ni ellid dychmygu swyddogion y gyfraith yn gorymdeithio i swyddfa'r Llywydd yn San Steffan, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol i'n Llywydd ni, i gyhoeddi bygythiad o achos cyfreithiol. Am y rheswm hwnnw'n unig, buaswn yn dadlau bod yn rhaid inni dderbyn y cynnig hwn fel symbol ein bod yn gwrthod cael ein bwlio i gyfaddawdu gan Weithrediaeth drahaus.

Nawr, y rheswm olaf pam y mae'n rhaid derbyn y cynnig hwn yw er mwyn gwella'r clwyfau dwfn presennol yng nghorff gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r rhain yn amseroedd tywyll. Mae Hamilton yn cyfeirio at yr awyrgylch gwenwynig yn Llywodraeth Cymru. Beth bynnag yw eich barn am y cyhuddiad penodol hwnnw, rydym yn sicr mewn lle tywyll, mewn cyfnod tywyll. Mae coctel gwenwynig yn erydu ymddiriedaeth oddi mewn a chan y cyhoedd yn sefydliadau ein democratiaeth, pa un a yw'n onestrwydd neu uniondeb Llywodraeth, natur ddiduedd y gwasanaeth sifil, neu allu'r Senedd hon i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif—mae'r cwestiynau hyn yn chwyrlïo drwy feddyliau pobl.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, ac mae'n bwysig inni fod yn deg ynglŷn â hyn, fod ymchwiliad Hamilton yn rhyddhau'r Prif Weinidog o fai ar y cwestiynau a roddodd i Mr Hamilton. Fodd bynnag, credaf ei bod hi'n deg dweud hefyd nad yw'r adroddiad yn peintio darlun hapus iawn o ddiwylliant Llywodraeth, a buaswn yn dweud mai'r cam cyntaf wrth symud ymlaen yw diwylliant newydd o onestrwydd, waeth pa mor boenus, ac anghyfleus weithiau, y gallai'r gonestrwydd hwnnw fod.

17:20

Roeddwn yn meddwl bod arweinydd yr wrthblaid, gyda sgiliau fforensig, wedi chwalu dadleuon tila'r Llywodraeth yn erbyn cyhoeddi'r adroddiadau hyn. Yn sicr roedd yn syfrdanol darllen y llythyr a ddatgelwyd heb ganiatâd a gefais ychydig funudau cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, yn bygwth camau cyfreithiol yn erbyn y Llywydd. Eto, clywais wedyn, ychydig funudau ar ôl imi ddarllen y dudalen honno, y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn derbyn nad oes unrhyw bŵer i atal y lle hwn rhag cael y ddadl yr oedd yn ceisio'i hatal drwy gyfrwng camau cyfreithiol.

Nid wyf yn gwybod sut y byddai camau cyfreithiol wedi cael eu rhoi ar waith pe bai wedi llwyddo i berswadio barnwr o gywirdeb ei achos, barnwr a fyddai wedi ymddangos yma, fel tipstaff uchel lys, i arestio'r Llywydd neu unrhyw rai eraill a geisiai arfer ein hawliau democrataidd i roi ein barn ar sut yr oedd y Llywodraeth yn ymddwyn ar unrhyw fater o gwbl. Roeddwn yn meddwl ei fod yn atgynhyrchiad eithriadol o'r math o agwedd a welsom ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn y 1640au, pan gollodd brenin trahaus ei ben yn y pen draw oherwydd ei fod yn amharod i dderbyn hawl y bobl i drafod drostynt eu hunain yr hawliau yr oeddent wedi'u hetifeddu gan y cenedlaethau blaenorol.

Rwy'n credu ei bod yn berffaith amlwg o adroddiad James Hamilton y gellir golygu'r materion hyn mewn ffordd sy'n diogelu cyfrinachedd unigolion, er nad yw eu henwau'n gyfrinachol mewn gwirionedd beth bynnag, gan ein bod i gyd yn gwybod am bwy rydym yn sôn yn yr achos hwn a phwy yw'r bobl a ddrwgdybir fwyaf. Ond yr anhawster yn aml yw profi hyn o ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth, oherwydd, mewn diwylliant omertà, nid oes neb yn barod i siarad a dweud y gwir.

Nid wyf yn gweld pam na allwn gael rhywbeth yn debyg i'r system o ddarllen dogfennau a chael trafodaethau ar delerau'r Cyfrin Gyngor yn y Cynulliad hwn, lle'r ydym yn ymddiried yn ein gilydd i wneud y peth iawn, ac mewn ymateb i ymyriad Lee Waters yn gynharach i ddweud bod Llywodraethau San Steffan yn cadw'r pethau hyn yn gyfrinach fel mater o drefn, oni ddylem anelu, mewn gwirionedd, i fod yn well na'r rhai yn San Steffan? Oni ddylai Cymru geisio arwain yn hytrach na dilyn yn yr amgylchiadau hyn? Nid fy mod yn disgwyl y bydd unrhyw ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd byth yn cyrraedd y gwir; byddai'n annhebygol iawn—er fy mod yn Nhŷ'r Cyffredin pan gynhaliwyd yr ymchwiliad i ddatgeliad Westland a'r gyfres hynod ddramatig o ddigwyddiadau a ddatblygodd wedyn—ond yr hyn y gallwch ei wneud gyda chyhoeddi dogfennau o'r fath, wrth gwrs, yw gwerthuso pa mor drwyadl y mae'r ymchwiliadau wedi bod, a gellid rhoi pob math o ddarnau o wybodaeth y gellid eu cael at ei gilydd yn jig-so, yn enwedig pan allai fod cyfres o ymchwiliadau fel y ceir yn yr achos arbennig hwn, ac ar y sail honno gallwn ddod i gasgliadau mwy gwybodus ar ddiwedd y prosesau hyn.

Mae'r pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud yn ymwneud â sylwedd y llythyr hwn gan y Llywodraeth at y Llywydd, sy'n ceisio rhoi'r Prif Weinidog mewn sefyllfa hynod freintiedig. Y ddadl gyfreithiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yw bod unrhyw benderfyniadau neu gamau gweithredu a wneir gan y Llywodraeth yn gyfunol, ac y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud o dan y pwerau a ddatganolir yn y Ddeddf hon, ar gael i'r Cynulliad hwn i gael eu gwneud yn destun ymchwiliad, ond nad oes gennym unrhyw bŵer i ymchwilio i weithredoedd y Prif Weinidog lle mae ganddo ef yn unig bŵer i wneud penderfyniadau o'r fath neu i gymryd camau o'r fath. Ymddengys bod hyn yn dyrchafu'r Prif Weinidog yn rhyfeddol yn rhyw fath o frenin absoliwt, ac yn sicr ni fyddem byth wedi rhagweld hyn pan oedd y Bil hwn yn cael ei ddatblygu yn 2005, 2006, ac mae'n gamddehongliad llwyr o'r adran berthnasol i roi'r Prif Weinidog yn y sefyllfa freintiedig honno. Credaf mai'r hyn a wna yn syml yw gwahaniaethu rhwng pwerau Gweinidogion. Nid yw'r is-Weinidogion, gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet, o reidrwydd yn gyfrifol ar y cyd am ei benderfyniadau yn yr ystyr gyfreithiol, ond mae ef yn gyfrifol, oherwydd ei fod yn gyfrifol am y Llywodraeth gyfan, am yr holl benderfyniadau y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud. Fel arall, byddai wedi ei eithrio mewn modd unigryw o waith craffu'r Cynulliad, a chredaf ei bod hi'n hanfodol bwysig felly fod y Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma i ddangos ein gwrthwynebiad i'r Llywodraeth ac i ddangos ein bod yn gwrthod yr egwyddor wenwynig honno.

17:25

Rhoddais y cynnig i ddefnyddio adran 37 i gael yr adroddiad wedi'i gyhoeddi gan fod anwybyddu'r Cynulliad hwn yn sarhad ar ddemocratiaeth. Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn hoffi fy nghynnig cymaint fel eu bod wedi ei gynnwys eu hunain, ac rwy'n falch eu bod wedi gwneud hynny oherwydd rydym yn trafod hyn yn gynt nag y byddem wedi ei wneud fel arall.

Dro'n ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog gyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio lobïwyr. Sylwaf heddiw ei fod yn absennol o'r ddadl hon. Mae'n rhywbeth y gelwais amdano ers cael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwledydd democrataidd mawr o amgylch Cymru. Roedd ei ateb yn y ddadl honno'n ddiddorol iawn. Dywedodd ei bod yn iawn i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fel hon; mater i'r Cynulliad yn gorfforaethol ydyw. Felly, yma rydym yn penderfynu'n gorfforaethol, fel Cynulliad, ar y mater hwn ynglŷn ag a ddylid cyhoeddi ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth, ond yn hytrach na gadael inni benderfynu ar y mater hwn mae'r Prif Weinidog wedi ymateb gyda bygythiadau a heriau cyfreithiol. Rwy'n credu bod hynny'n dangos blaenoriaethau Llywodraeth: gwneud dim ynghylch lobïwyr ond ceisio ymyrryd i atal Llywodraeth agored rhag digwydd.

Mae'r Prif Weinidog yn honni y byddai rhyddhau'r ddogfen hon yn atal llywodraethu rhag gallu digwydd, ac ymddengys ei fod yn credu na all lywodraethu oni bai ei fod yn gallu gweithredu yn y cysgodion a chadw pethau wedi eu cuddio rhag y cyhoedd. Efallai fod hynny'n wir i'r Llywodraeth Lafur hon, oherwydd pe bai pobl Cymru'n cael cyfle byth i weld beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, nid wyf yn meddwl y byddai yn ei swydd yn llawer hirach. Hefyd nid yw fel pe bai'n rhoi llawer o ffydd yng nghynrychiolwyr Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd i ddefnyddio adran 37 yn ddoeth. Mae wedi bod ar gael ers blynyddoedd—blynyddoedd—a nawr yn unig y caiff ei ddefnyddio am y tro cyntaf, a hynny ar fater o ddiddordeb i'r cyhoedd sy'n hynod o bwysig.

Pe bai'r Prif Weinidog yn gweithredu ei Lywodraeth mewn ffordd fwy tryloyw, ni fyddai angen inni ei ddefnyddio o gwbl. Ar y mater hwn, gobeithio y gallwn, fel Cynulliad, bleidleisio er mwyn i'r cyhoedd weld canlyniad yr ymchwiliad. Mae'n rhaid inni amddiffyn pobl Cymru ac uniondeb y sefydliad hwn. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn, oherwydd mae'n ymwneud ag atebolrwydd democrataidd a chywirdeb democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr.

17:30

Lywydd, mae adran 37 yn faes cymhleth, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio yw eglurder. Byddai hyn wedi bod yn well, yn ein barn ni, cyn i'r ddadl heddiw gael ei chynnal. Yn anffodus, nid oes gwahaniaeth barn amlwg rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad. Rhaid inni symud yn awr i ddatrys y mater hwn, a hynny heb orfod troi at y llysoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig hwn ac yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn ei erbyn am y rhesymau canlynol. Yn gyntaf, mae'r cynnig y tu allan i gwmpas pwerau'r Cynulliad, fel y'u nodir yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y rheswm am hyn yw bod y ddarpariaeth hon yn cynnwys materion sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn unig, yn hytrach na'r nifer gyfyngedig o swyddogaethau y gellir eu harfer gan y Prif Weinidog yn unig. Comisiynwyd a chyflawnwyd yr adroddiad dan sylw yn unol â swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig, ac felly, ym marn Llywodraeth Cymru, mae y tu allan i gwmpas y pŵer adran 37.

Yn ail, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y cynnig yn codi cwestiynau ynglŷn â'r dull priodol o gynnal busnes y Cynulliad—un o'r seiliau lle y ceir disgresiwn i wrthod y cynnig. Ceir arfer hirsefydlog o beidio â datgelu adroddiadau ymchwiliadau i achosion o ddatgelu heb ganiatâd, sy'n ymestyn, fel y clywsom, ar draws Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn oherwydd y perygl o niweidio cyflawniad a chyfrinachedd ymchwiliadau yn y dyfodol. Hefyd, pe bai'n ofynnol datgelu adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgelu heb ganiatâd i'r Cynulliad, ceir risg glir yn y dyfodol, efallai na fydd unigolion yn barod i wirfoddoli gwybodaeth neu gydweithredu mewn ymchwiliadau dilynol, ac nid oes yr un ohonom am weld y canlyniad hwnnw.

Ym marn Llywodraeth Cymru, nid yw'r cynnig heddiw yn ddull priodol o ddatrys y mater hwn. Hoffwn bwysleisio mai'r hyn a fyddai orau gan y Llywodraeth yw gallu perswadio'r Cynulliad ynglŷn â'i safbwynt a chytuno ar sail ar gyfer gweithredu adran 37. Fodd bynnag, yn absenoldeb cytundeb gyda'r Cynulliad ynghylch cwmpas adran 37, efallai fod angen inni ofyn i lys ddehongli'r gyfraith inni a dyna sail y Prif Weinidog dros ysgrifennu at y Llywydd yn gynharach yr wythnos hon.

Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a allwch rannu gyda'r Cynulliad eich safbwyntiau ar is-adran (8), sydd i'w weld yn datrys llawer o'r problemau rydych wedi'u codi eisoes yn eich ateb i'r ddadl.

Nid wyf yn credu ei fod. Mae'n nodi egwyddor, ond mae'n amlwg, pan edrychwch i weld pryd y gallai'r egwyddor fod yn gymwys, nad yw'n sefydlu ym mha amgylchiadau y gallai fod yn gymwys, ac os oes gwahaniaeth barn, sut y gellid datrys y gwahaniaeth barn hwnnw. Ond mae hyn yn rhywbeth y dof ato mewn eiliad, os caf.

Byddai'n llawer gwell gennym weithio gyda'r Cynulliad i gytuno ar brotocol neu fecanwaith arall ar gyfer gweithredu pob rhan o adran 37 yn briodol yn y dyfodol. Rydym wedi rhannu cynnig gyda'r Cynulliad yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â sut y gellid datblygu'r drafodaeth hon a gobeithio y bydd y Comisiwn yn ymgysylltu â ni i ddatrys y mater mewn ffordd sy'n bodloni nodau cyfreithlon y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i bawb a gyfrannodd. Os caf ganolbwyntio'n bennaf, yn yr amser sydd gennyf, ar ymateb i ateb y Cwnsler Cyffredinol. Credaf fod rhan gyntaf y ddadl yn ceisio gosod y Prif Weinidog uwchben y gyfraith, os cymerwch y dehongliad a roddodd inni nad yw, mewn gwirionedd, yn atebol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru am y swyddogaethau y mae'n eu harfer, er bod Gweinidogion, a bod yn deg, yn atebol o dan y gyfraith honno. Unbennaeth yw hynny, ac fel y dywedais wrthych, yr unig enghraifft y gallasom ddod o hyd iddi yn unrhyw le yw'r Aifft. Dyna'r unig enghraifft y gallem ei chanfod.

Darllenais—ac ni wnaethoch ei herio, Gwnsler Cyffredinol—darllenais y nodyn cyfreithiol rydym yn seilio ein dadl arno, ac ni wnaethoch ei herio. Rwy'n fwy na bodlon i chi fy herio ar yr hyn a gyflwynais gerbron y Cynulliad heddiw yn y nodyn cyfreithiol. Na? Iawn.

Fe ddywedoch chi wedyn fod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at y Llywydd ddoe i geisio cael consensws. Fe ddarllenaf eto yr hyn yr agorais fy sylwadau ag ef y prynhawn yma, sef pwynt 3 yn y llythyr:

Yn gyntaf, mae'r Swyddfa Gyflwyno, ar ran y Llywydd, wedi

nid 'gallai fod wedi'—

gweithredu'n anghyfreithlon drwy dderbyn y cynnig.

4. Yn ail, mae'r Llywydd wedi—

nid 'gallai fod wedi'—

gweithredu'n… anghyfreithlon, drwy beidio â thynnu'r cynnig yn ôl.

Roeddech yn dweud wrth y Llywydd beth y dylai ei wneud ddoe a thrwy gysylltiad, rydych yn dweud wrth y Cynulliad beth y dylai ei wneud. Carwn awgrymu na all unrhyw ddemocratiaeth weithredu o dan y lefel honno o bwysau, a bydd hi'n ddiwrnod tywyll iawn pe bai'r Aelodau ar feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynais heddiw, yn dilyn y chwip ac yn gwrando ar eich dadleuon, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn rydych wedi ei awgrymu yw anwybyddu'r gyfraith a sathru ar yr hyn sy'n ein llywodraethu, sef democratiaeth.

Ni chlywais un wrthddadl gennych heddiw, Gwnsler Cyffredinol, i herio unrhyw bwynt a gyflwynais gerbron y Cynulliad hwn. Dim un. Euthum yn systematig drwy'r tair dadl a ddefnyddiodd y Llywodraeth dros y tri mis diwethaf ynglŷn â pham na ddylai'r adroddiad hwn weld golau dydd: (1) diogelu cyfrinachedd unigolion sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad; (2) gallai ei ryddhau beryglu ymchwiliadau pellach; (3) arfer y gyfraith a darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru. Nid ydych wedi ceisio tanseilio unrhyw un o'r dadleuon hynny. Galwaf felly ar feinciau cefn y llywodraeth i ymateb i'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd, yn y pen draw, os na wnewch hynny, yna fel y dywedais, gallai chwip y Llywodraeth ennill, ond yn foesol fe fyddwch yn gwneud cam mawr.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf, felly, yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, ar y cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Rydw i'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig—Darren Millar.

Cynnig NDM6703 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:

a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;

b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac

c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. A gaf fi wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw Paul Davies mewn perthynas â'r argyfwng cynyddol sydd gennym yma yng Nghymru o ran recriwtio athrawon? Os yw uchelgais Llywodraeth Cymru i bob dysgwr gyrraedd ei botensial llawn yn mynd i gael ei wireddu byth, rhaid i ni gael gweithlu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn barod i gyflawni'r nod hwnnw. Ond gwyddom fod arwyddion o argyfwng cynyddol yn ein hysgolion, ac ni fu digon o weithredu hyd yma i fynd i'r afael ag ef.

Mae gan Gymru y nifer isaf o athrawon a fu ganddi erioed ers y flwyddyn 2000. Mae nifer yr athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru drwy addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon wedi gostwng o bron 2,000 yn 2003 i 1,060 ym mis Awst 2017. Nawr, yn dilyn adolygiad yn 2006, aeth Llywodraeth Cymru ati, yn gibddall braidd, i dorri niferoedd myfyrwyr hyfforddiant i athrawon, ac yn ychwanegol at y toriadau hyn, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon wedi methu cyrraedd targedau recriwtio Llywodraeth Cymru ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae tua un o bob tair swydd uwchradd ôl-raddedig a thua 8 y cant o'r swyddi cynradd heb eu llenwi.

Gwyddom fod ffactorau penodol sy'n effeithio ar nifer yr ymgeiswyr newydd, gan gynnwys gofynion mynediad at gymwysterau, gwell cymhellion i hyfforddi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, anawsterau i athrawon newydd allu sicrhau swyddi parhaol ar ôl cymhwyso, pryderon ynghylch ansawdd addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ac wrth gwrs, pryderon ynghylch llwyth gwaith, gydag 88 y cant o'r athrawon a ymatebodd i arolwg gweithlu cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu baich gwaith, ac ar gyfartaledd, athrawon yn gweithio dros 50 awr yr wythnos. Nawr, o ganlyniad i hyn, bu newidiadau yn y cymysgedd staffio yn ein hysgolion. Mae'r gymhareb athrawon cofrestredig i weithwyr cymorth dysgu bron yn 1:1 bellach. Mae gofyn i'r holl athrawon ysgol newydd gwblhau cyfnod sefydlu statudol cyn cael eu cofrestru'n llawn gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ac ers y gofyniad hwn, o safbwynt ansawdd, mae llai nag 1 y cant o'r 16,000 o athrawon newydd wedi methu cyrraedd y safonau hynny. Rwy'n tybio bod hynny'n codi cwestiynau ym meddyliau pawb ynglŷn ag a ydynt yn ddigon trylwyr.

Ac wrth gwrs mae'n ymwneud â mwy na staff addysgu'n unig. Mae penaethiaid hefyd dan bwysau. Yn ôl Cyngor y Gweithlu Addysg, o 1 Mawrth roedd ychydig o dan 1,500 o benaethiaid cofrestredig, sy'n ostyngiad o bron i chwarter ers 2003. Nawr, mae rhywfaint ohono wrth gwrs yn deillio o ganlyniad i gau ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru a'i rhagflaenwyr record dda o gau ysgolion—ceir dros 160 yn llai, yn ôl Estyn, rhwng 2011 a 2017. Ond mae'n bryderus nodi hefyd fod nifer y ceisiadau am swyddi penaethiaid yng Nghymru wedi gostwng i lai na chwech ar gyfartaledd. Mae hyn o'i gymharu â dros 20 ar gyfartaledd yn ôl yn 2012, ac mae llawer o ysgolion yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio penaethiaid. Unwaith eto, gwyddom fod yna bryderon ynghylch llwyth gwaith, ceir pryder ynghylch diffyg cyllid yng Nghymru, pryder am gyflymder y newid yng Nghymru, yn y maes addysg yng Nghymru, a'r baich sy'n gysylltiedig â thasgau rheoli a gweinyddu pan fo'r penaethiaid hyn eisiau cymorth. Ac wrth gwrs maent yn nodi pryderon am yr haenau lluosog o atebolrwydd sydd gennym yma yng Nghymru—awdurdodau addysg lleol, y consortia, Llywodraeth Cymru, y corff llywodraethu, disgwyliadau rhieni. Mae hyn i gyd yn ychwanegu pwysau ar benaethiaid ac yn arwain at wneud iddynt beidio â bod eisiau ymgeisio am swyddi newydd.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym bwysau mawr o ran recriwtio athrawon addysg cyfrwng Cymraeg. Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos yn gyson fod nifer gyfartalog y ceisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg wedi bod yn is. Yn 2015 roedd y nifer gyfartalog o geisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg o dan bump o'i gymharu â thua 10 ar gyfer pob swydd yn hanesyddol, a gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer swyddi uwchradd yn ogystal. Chwarter yr holl athrawon a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym i fod i gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni, neu helpu i gyflawni'r nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad oes digon o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y cymysgedd yn iawn.

Hefyd mae gennym brinder mawr yn ein pynciau uwchradd, yn enwedig mewn rhai pynciau fel Saesneg, mathemateg, addysg grefyddol a Chymraeg, yn ogystal â'r pynciau STEM. Mae hynny'n arwain at nifer o ddosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc, ac o ganlyniad i hynny, mae'r safonau'n dechrau llithro. Nid oes ond raid ichi edrych ar y canlyniadau PISA i weld ein bod yn llithro ymhellach ac ymhellach i lawr y raddfa. Felly, rhaid inni roi trefn ar y llanastr hwn, a dyna pam y gwnaethom yr awgrym fod angen inni gael cynllun gweithlu addysg cenedlaethol sy'n gynhwysfawr, sy'n edrych ar recriwtio, sy'n edrych ar gadw athrawon ac sy'n creu ac yn sefydlu llwybrau newydd i addysgu ar gyfer categorïau sydd ar hyn o bryd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Felly, am ryw reswm rhyfedd ni ystyrir bod darlithwyr addysg bellach, sydd wedi meithrin enw da am ddarparu canlyniadau TGAU a safon uwch rhagorol mewn addysg bellach, yn gymwys i addysgu yn ein hysgolion. Pam hynny? Mae'n gwbl wallgof.

Yn ogystal, mae gennym athrawon a hyfforddwyd dramor yma yng Nghymru a gellid eu hychwanegu hwy at rengoedd athrawon hefyd. Mewn rhannau eraill o'r DU cânt eu hystyried yn addas i allu addysgu, ond yng Nghymru, am ryw reswm, rydym wedi codi rhwystrau i'w hatal rhag addysgu yn ein hysgolion. Gwn am bennaeth o ysgol yn Awstralia, ysgol gyhoeddus yn Awstralia, na châi ei ystyried yn addas i allu addysgu yng Nghymru ac mae'n golled i'r gweithlu addysg yma. Nid yw'n dderbyniol. Wedyn wrth gwrs mae gennym gyfoeth o dalent yn ein hysgolion a'n colegau annibynnol a ddylai gael eu hystyried yn addas i allu addysgu yn ein hysgolion heb rwystrau diangen neu raglenni sefydlu sy'n cael eu gosod yn eu ffordd.

Gallwn barhau, Lywydd, ond mae amser yn brin. Hyderaf y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig y prynhawn yma fel y gallwn gael y cynllun cynhwysfawr hwn ar waith a chefnogi'r diwygiadau addysg y mae pawb ohonom am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru.

17:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

17:45

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;

b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;

c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;

d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a

e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig yn ffurfiol.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:

Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Rydw i'n falch iawn o fedru cynnig gwelliant 2 yn enw Plaid Cymru.

Mi gychwynnaf i drwy gyfeirio at adroddiad gan y BBC yn ôl ym mis Rhagfyr a oedd yn dangos bod cyllidebau ysgolion wedi disgyn tua £370 y pen am bob disgybl mewn termau real dros gyfnod o chwe blynedd. Nawr, nid oes rhyfedd, felly, fod rhai o'r undebau athrawon yn rhybuddio, fel gwnaeth yr NEU yn ddiweddar, fod yna crisis ariannu cudd yn ein hysgolion ni, er efallai y byddai rhai'n dadlau nad yw e mor gudd â hynny erbyn hyn. Mae Estyn hefyd, yn ei hadroddiad blynyddol cyfredol diweddaraf, a gyhoeddwyd rhyw fis yn ôl, yn pwyntio at effaith uniongyrchol y toriadau yna, drwy amlygu bod yna lai o athrawon cymwysedig yn ymwneud â'r cyfnod sylfaen yn ysgolion Cymru erbyn hyn. Ond rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, mai beth y mae toriadau i gyllidebau ysgolion yn golygu yw diswyddo athrawon, ac wedyn, fel rŷm ni'n ei ffeindio mewn peth o'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel pwyllgor, mae yna orfod defnyddio potiau eraill, fel y grant datblygu disgyblion ac yn y blaen, i drio cau ychydig ar y bwlch yna.

Ond yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, oherwydd y toriadau yma, yw bod yna golli capasiti yn digwydd yn ein hysgolion ni—colli athrawon a cholli cymorthyddion dosbarth, sy'n gorfod cael eu diswyddo oherwydd y wasgfa ariannol. Wedyn, mae hynny, wrth gwrs, yn naturiol yn gadael mwy o bwysau ar y rheini sydd yn weddill. Nid yw hi felly ddim yn syndod bod yr undebau yn dweud wrthym ni hefyd fod yna grisis llwyth gwaith ymhlith athrawon yng Nghymru, ac rŷm ni eisoes wedi clywed cyfeiriad at rai ffigurau. Sut allwch chi anghytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol pan fo'r Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydyn nhw'n gallu rheoli llwyth gwaith o fewn eu horiau gwaith presennol, neu'r oriau gwaith sydd wedi'u cytuno? Fel y crybwyllwyd hefyd, ar gyfartaledd mae athrawon llawn-amser yng Nghymru yn gweithio 50 awr yr wythnos, ac athrawon rhan-amser yn gweithio 35 awr. Felly, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni? Pa syndod, felly—fel rŷm ni'n cyfeirio ato fe yn ein gwelliant ni—fod yr 21,000 o ddyddiau dysgu a gollwyd drwy absenoldebau yn sgil stres yn 2009 wedi mwy na dyblu i 52,000 yn 2015, gyda hefyd, wrth gwrs, niferoedd cynyddol o athrawon yn gadael y proffesiwn cyn amser? Gyda'r cyfrifoldeb, wrth gwrs, am dâl ac amodau athrawon yn cael ei ddatganoli i Gymru yn nes ymlaen eleni, mae'r amser wedi dod i edrych eto ar faint o amser sydd gan athrawon i wneud eu gwaith—ailedrych ar y cydbwysedd yna rhwng amser dysgu, amser paratoi ac amser hyfforddi a datblygu proffesiynol. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cychwyn ar y broses o edrych ar rai o'r meysydd yma, a byddwn i'n pwyso'n drwm arni i ddefnyddio'r cyfle i fynd i'r afael â nifer o'r ffactorau yma.

Felly, pa ryfedd, o dan yr amgylchiadau presennol yma, ei bod hi'n anodd denu pobl i ddod i ddysgu, pan eu bod nhw'n gweld sefyllfa'r proffesiwn fel y mae hi. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod y targedau denu myfyrwyr i wneud ymarfer dysgu yn cael eu methu'n sylweddol. Dwy ran o dair o'r athrawon uwchradd sydd angen inni eu hyfforddi sydd yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, felly mae hynny'n golygu y bydd yna broblemau dybryd ymhellach i lawr y lein, o safbwynt digonolrwydd y proffesiwn dysgu. Dyna pam y byddwn ni'n cefnogi galwad canolog y cynnig yma am gynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Mathemateg, cemeg, ffiseg, bioleg, ieithoedd modern, technoleg gwybodaeth, technoleg dylunio, cerddoriaeth—oll o dan eu targed recriwtio ar gyfer ymarfer dysgu. Gyda nifer yr athrawon Cymraeg newydd ar ei isaf ers degawd, gyda llaw, pa obaith, fel y clywsom ni, sydd yna i ni gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg os nad oes gennym ni'r athrawon i'w dysgu nhw?

Mae'n werth, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, cydnabod y ddibyniaeth gynyddol sydd yn ein hysgolion ni ar gymorthyddion dysgu, ac mae yna gymaint ohonyn nhw, fel y clywsom ni, bron iawn yn awr ag sydd yna o athrawon cofrestredig erbyn hyn. Maen nhw'n rhan allweddol o'r gyfundrefn addysg, ond yn gweithio'n aml, wrth gwrs, am gyflogau pitw a ddim bob tro'n cael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu. Ond rŷm ni yn gwybod bod 10 y cant ohonyn nhw—rhyw 3,000 o gymorthyddion dysgu cofrestredig yng Nghymru—yn raddedigion, ac mae angen, fel yr ymrwymon ni, fel plaid, rai wythnosau yn ôl yn ein cynhadledd flynyddol, i edrych ar y cyfleoedd sydd yna i greu cyfleoedd i'w hyfforddi nhw. Maen nhw eisoes wedi dewis yr ystafell ddosbarth fel eu gweithle, felly byddai rhywun yn tybio bod yna gynsail cryf yn fanna i gyfrannu tuag at gryfhau y gweithlu a sicrhau digonolrwydd y gweithlu i'r blynyddoedd i ddod. Ond, wrth gwrs, ar ben ei hunan nid yw hynny'n ddigon, ac mae'n rhaid taclo'r sefyllfa ariannu a llwyth gwaith neu, wrth gwrs, yn anffodus, fyddwn ni ddim nes i'r lan. 

17:50

Hoffwn wneud ymyriad byr i dynnu sylw at y rôl a allai fod gan dechnoleg i'n helpu i ddatblygu cynllun gweithlu cadarn ar gyfer y dyfodol. Heddiw ddiwethaf, daeth y newyddion y bydd un o bob tair swydd yng Nghymru mewn perygl yn sgil awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar, a dengys y dadansoddiad hwnnw fod swyddi gyda thasgau cyffredinol ac ailadroddus—bydd modd i algorithmau a deallusrwydd artiffisial gymryd lle llawer ohonynt o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Ac mae Bill Gates wedi gwneud sylwadau ein bod yn aml yn gorbwysleisio cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld dros y ddwy flynedd nesaf, ond yn synied yn rhy isel ynghylch cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld dros y 10 mlynedd nesaf. Yn sicr, yn y degawd neu fwy nesaf, effeithir ar bob agwedd ar gymdeithas gan botensial deallusrwydd artiffisial, ac mae addysg yn sicr yn ganolog i hynny.

Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn dyfynnu ffigurau gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon sy'n dangos bod 50,000 o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen ac yn eu barn hwy, mae'r sefyllfa'n gwaethygu gyda thraean yn ystyried gadael y proffesiwn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ond mewn gwirionedd, gall harneisio technoleg helpu i leddfu'r straen ar athrawon a bod o gymorth mawr iddynt yn eu tasgau yn yr ystafell ddosbarth—tasgau cyffredinol—gan eu rhyddhau i wneud yr hyn y daethant i'r byd addysg i'w wneud—sef addysgu, meithrin, hyfforddi, arwain, ac mae gwir angen i ni fod yn meddwl, pan fyddwn yn trafod cynlluniau ar gyfer y gweithlu addysg yn y dyfodol, am y lle canolog sydd i dechnoleg ar gyfer rhyddhau potensial athrawon.

Fe soniaf am ychydig o enghreifftiau sy'n defnyddio'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd. Un yw rhywbeth o'r enw Zzish, sef cynorthwyydd addysgu rhithiol sy'n helpu athrawon ar amrantiad i weld pa rai o'u myfyrwyr sydd angen help mewn amser real, beth sy'n peri anhawster iddynt drwy gymhwysiad asesu, sy'n caniatáu wedyn i'r athrawon olrhain perfformiad unigolion, y dosbarth cyfan, a gweld gwelliant amlwg dros amser. Dyna un enghraifft yn unig o'r technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac fel rwy'n dweud, gyda chyflymder y datblygiadau rydym yn debygol o'u gweld drwy ddatblygiadau artiffisial dros y 10 mlynedd nesaf, bydd y potensial hyd yn oed yn fwy.

Felly, fy apêl i'r holl Aelodau ac i'r Llywodraeth yw rhoi technoleg wrth wraidd eu syniadau ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'r sector addysgu fel nad ydynt yn teimlo eu bod wedi eu gorlwytho gan dasgau diflas, ailadroddus, sy'n peri straen, a bod modd eu rhyddhau mewn gwirionedd i wneud yr hyn y daethant i'r proffesiwn i'w wneud. Diolch.

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno bod yna broblem gyda recriwtio a chadw athrawon. I ryw raddau, mae'r materion sy'n ymwneud â'r broblem hon yn gyffredin i Gymru a Lloegr, ond ceir rhai materion penodol yng Nghymru hefyd.

Mewn rhai ffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud bywyd yn anos iddi ei hun o ran recriwtio athrawon oherwydd gorddibyniaeth ar gymwysterau penodol. Oes, mae angen inni sicrhau bod gennym y bobl iawn yn mynd i'r proffesiwn addysgu, ond rydym hefyd yn gwybod na allwch fesur pethau, ac yn sicr ni allwch fesur pobl, drwy gymwysterau yn unig. Nawr mae gennym Weinidog addysg sy'n aml wedi gwneud y pwynt synhwyrol na allwn edrych ar ystadegau drwy'r amser; rhaid inni edrych ar bopeth yn ei gyd-destun. Rhaid inni weld y darlun ehangach. A chredaf y gallwn gymhwyso peth o'r meddylfryd hwnnw i recriwtio athrawon mewn gwirionedd. Felly, bydd y Gweinidog yn dilyn ei gwireb ei hun yn y mater hwn, gobeithio.

Yn ein barn ni, mae gorddibyniaeth ar gymwysterau'n golygu na all llawer o bobl brofiadol mewn bywyd, y byddai rhai ohonynt o leiaf yn addas ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu oherwydd nad oes ganddynt y cymwysterau perthnasol, a byddai'n costio gormod mewn arian ac amser iddynt ailhyfforddi. Gallem lacio'r rheolau ychydig mewn gwirionedd i'w gwneud yn haws i bobl ailhyfforddi.

Wrth edrych ychydig yn fwy manwl ar y cynnig heddiw, rydym yn cefnogi'r syniad o Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion ar gyfer Cymru. Byddem yn ychwanegu'r cafeat fod angen mewnbwn gan bobl sydd wedi cael trafferth mynd yn rhan o'r byd addysg, neu sydd wedi cychwyn yn y proffesiwn ac wedi ei adael wedyn yn gynnar, fel bod unrhyw gynllun o'r fath wedi'i deilwra i anghenion darpar athrawon addas sydd wedi methu mynd yn athrawon neu aros yn y byd addysg. Rydym am ei gwneud yn haws i ysgolion recriwtio athrawon, ac rydym yn credu bod llawer o alluoedd cyffredin amlwg yn mynd i fod gan diwtoriaid coleg ac athrawon mewn ysgolion annibynnol. Felly, dylid ei gwneud yn haws i'r grŵp hwn o bobl gael yr achrediad sy'n ofynnol fel y gallant ddod â'u set sgiliau i mewn i'r ystafelloedd dosbarth.

Mae'r Ceidwadwyr yn sôn hefyd am lwybr i addysgu ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Rydym wedi crybwyll mater cynorthwywyr addysgu mewn cwestiynau blaenorol i'r Gweinidog addysg. Credaf fod problem weithiau gyda chynorthwywyr addysgu yn yr ystyr eu bod yn canfod, ar ôl bod ar y cyrsiau perthnasol a chael eu cymwysterau, eu bod yn ddamcaniaethol yn cael eu symud i lefel uwch ond nid ydynt yn cael eu huwchraddio'n awtomatig i'r statws hwnnw o ran eu cyflogau, ac felly mae gennym gynorthwywyr addysgu ar lefel benodol nad ydynt yn gallu cael swyddi ar y lefel honno, ac mae hynny'n arwain at wneud rhai ohonynt yn sinigaidd ac i feddwl tybed ai'r unig reswm y cawsant eu hanfon ar y cyrsiau hyn yw er mwyn i'r cwmnïau neu'r cyrff sy'n cynnal y cyrsiau gael rhywbeth ohonynt yn hytrach na'r bobl sy'n cael eu hyfforddi. Gall cynorthwywyr addysgu fod yn ased gwerthfawr i ysgol. Weithiau, gallant fod mor effeithiol â rhai o'r athrawon sydd eisoes yn gymwysedig, ond nid oes ganddynt y peth sylfaenol hwnnw: y darn o bapur sy'n dweud bod ganddynt gymhwyster penodol. Felly, credaf y byddai llwybr gyrfa ar gyfer cynorthwywyr addysgu sy'n caniatáu iddynt fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu yn fwy hwylus yn syniad da iawn.

Felly, rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym hefyd yn cytuno â gwelliant Plaid Cymru, oherwydd fel y mae Plaid Cymru yn ei ddatgan yn eu gwelliant, rhaid inni edrych hefyd ar y gyfradd drosiant yn y proffesiwn addysgu, ac rwy'n siŵr eu bod yn gywir i gysylltu problemau cadw staff â phwysau gwaith. Yn ein barn ni, gallai nifer o ffactorau achosi'r pwysau hwn, ond ceir rhai sy'n eithaf cyffredin, gan gynnwys maint dosbarthiadau, ac rydym yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd y Gweinidog addysg yn y gorffennol—mae angen i ni gael dosbarthiadau llai o faint. Hefyd, mae angen inni symud oddi wrth y ffocws gormodol ar dargedau ac asesiadau. Yn y pen draw, pan fydd gennych ormod o'r rhain, byddant yn dod yn nod ynddynt eu hunain. Mewn geiriau eraill, yr hyn a fydd gennym fydd athrawon yn hyfforddi disgyblion i basio profion ac arholiadau yn hytrach na dysgu rhywbeth defnyddiol iddynt. Felly, un pwynt terfynol yw y byddai'n helpu pethau'n fawr pe bai addysgwyr bellach yn treulio amser yn meddwl am ysgrifennu cwricwla sydd, yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar gael disgyblion i basio arholiadau, yn ceisio dysgu rhywbeth defnyddiol i'r bobl hynny mewn gwirionedd. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Hyd yn hyn, mae'n deg i Lywodraeth Cymru ddweud nad ydynt wedi meddu ar yr holl ddulliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â phrinder athrawon, ond o'r flwyddyn nesaf, Llywodraeth Cymru fydd yn pennu cyflog ac amodau athrawon. O hynny ymlaen, ni all fod unrhyw esgus os na welwn welliant o ran recriwtio athrawon.

Yn ogystal â gwella telerau ac amodau, mae angen inni gynyddu nifer y llwybrau i mewn i'r byd addysg. Soniodd Darren am athrawon addysg bellach, athrawon o wledydd tramor, athrawon o ysgolion annibynnol. Soniodd Llyr am gynorthwywyr addysgu. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i ganmol Teach First, a fu'n gwneud gwaith ardderchog yn ddiweddar gyda Chonsortiwm Canolbarth y De. Maent wedi cynnig ffordd newydd i mewn i'r byd addysg, ac yn fwy diweddar maent wedi ei gymhwyso hefyd i'r rhai sy'n dod i mewn drwy newid gyrfa na fyddent fel arall o bosibl wedi gallu ymrwymo amser i dystysgrif addysg i raddedigion. Dylem geisio lledaenu'r model hwnnw ymhellach ar draws Cymru, a hyderaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithredu i wneud hynny yn awr.

Mae angen inni hefyd edrych ar gadw athrawon. Mae llawer gormod o athrawon yn gadael y proffesiwn yn gynnar yn eu gyrfa a byth yn dychwelyd, ac fel y mae Plaid Cymru yn nodi yn eu gwelliant, mae traean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn yn y dyfodol agos. Adroddodd arolwg ComRes diweddar fod bron dri chwarter yr athrawon sy'n dweud eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn yn gwneud hynny oherwydd llwyth gwaith gormodol.

Nawr, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet uchelgais, rwy'n deall, i leihau maint dosbarthiadau i 25 ar gyfer dosbarthiadau babanod, ond sut ar y ddaear y gellir gwneud hynny mewn amgylchedd lle mae gennym y pwysau a'r methiant i recriwtio'r nifer o athrawon o ansawdd sydd eu hangen arnom? A fydd yr athrawon hyn yn dysgu mwy o ddosbarthiadau am fod llai o ddisgyblion mewn dosbarthiadau ar gyfartaledd, neu o ble y daw'r arian? Efallai y gallem weld cyfran uwch o'r hyn a gedwir yn Llywodraeth Cymru neu yn yr awdurdodau addysg lleol yn mynd i'r ysgolion i gefnogi addysgu'n uniongyrchol.

Tybed hefyd i ble'r ydym yn mynd o ran y cynorthwyydd addysgu a'r model cymorth. Mae gennym y gymhareb un i un y cyfeiriodd Darren ati yn awr, ac eto cawn lawer mwy o gwynion ynghylch llwyth gwaith gormodol nag a gawsom erioed o'r blaen, ac ymddengys ei fod yn gwaethygu o un flwyddyn i'r llall. Sut y mae denu rhagor o athrawon at y proffesiwn o gofio hynny? A yw'r cynorthwywyr addysgu hyn a'r addysgu mewn grwpiau bach yn hytrach na dosbarth cyfan am fwy o amser—a ydynt yn ychwanegu at y beichiau y mae athrawon yn eu hwynebu y tu allan i'r amser addysgu dosbarth uniongyrchol? Ac yn y pen draw, ai'r ffordd o ddenu mwy o bobl i addysgu yw rhoi codiad cyflog sylweddol i athrawon? Ond sut y gallem fforddio hynny, a beth a welwn o fodelau tramor, lle nad yw'r dystiolaeth a'r astudiaethau academaidd yn cefnogi uchelgais yr Ysgrifennydd Addysg yn arbennig o ran maint dosbarthiadau fel ffactor allweddol sy'n sbarduno perfformiad.

Ceir systemau addysg—mae Singapôr yn un a ddaw i'r meddwl yn glir—lle y gallai maint dosbarthiadau fod yn fwy ond lle mae gennych athrawon o ansawdd uchel iawn o'r sefydliadau uchaf, yn cael y graddau gorau, ac yn cael eu denu i addysgu, yn aml drwy gyflogau uwch, ac mewn rhai systemau mae ganddynt ddosbarthiadau mwy o faint nag sydd gennym ni yma. Nid wyf yn cyflwyno hwnnw fel y model y buaswn yn ei roi ar gyfer y dyfodol, ond rwy'n gofyn y cwestiwn: ai drwy ffocws yr Ysgrifennydd Addysg ar leihau maint dosbarthiadau babanod i 25 y mae denu mwy o bobl at y byd addysg, neu drwy dalu cymaint ag sydd angen i ni ei wneud i athrawon o ansawdd uwch er mwyn eu denu at y proffesiwn, hyd yn oed os golyga hynny nad oes gennym gymaint o'r cymorth a'r gefnogaeth addysgu rydym wedi'i weld yn datblygu ond nad yw'n ymddangos ei fod wedi lleihau'r cwynion gan athrawon ynghylch llwyth gwaith gormodol sy'n parhau i gynyddu?

Mae arolwg ComRes hefyd yn awgrymu mai un o'r camau cadarnhaol y gellid eu cymryd i gadw mwy o athrawon yn y proffesiwn yw mwy o ddatblygiad proffesiynol a mwy o gyfleoedd i ymgymryd â rolau arwain. Pe baem yn cyfeirio mwy o arian tuag at wella safonau addysgu a gwella datblygiad proffesiynol, efallai y gallem gadw mwy o athrawon, yn ogystal â'i wneud yn broffesiwn mwy deniadol i bobl fod yn rhan ohono. Yn hynny o beth, rwy'n croesawu academi newydd yr Ysgrifennydd Addysg a'i hangerdd amlwg yn ei chylch, a'r ymateb cadarnhaol a glywais gan addysgwyr. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau newydd dros delerau ac amodau ac yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i atal yr argyfwng mewn addysg yng Nghymru.

18:00

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf mewn gwirionedd mai dadl hanner awr yn unig yw hon, sy'n golygu mai cwta bedair munud sydd gennyf i grynhoi, oherwydd mae yna rai pethau rwy'n cytuno'n angerddol â'r hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud yn eu cylch y prynhawn yma, ac mae yna rai pethau rwy'n anghytuno'n chwyrn â hwy y prynhawn yma.

Gareth, a gaf fi fod yn gwbl glir, mae yna werth cynhenid mewn plant yn gadael ein hysgolion ag arholiadau a chymwysterau sy'n caniatáu iddynt symud ymlaen at rywbeth arall? Gall ein system addysg ymwneud â mwy na hynny, ond nid yw dweud nad ydym yn gwneud rhywbeth defnyddiol i'n plant drwy eu cael i basio profion, arholiadau ac i ennill cymwysterau yn un ohonynt. A rhaid i mi ddweud bod yn rhaid inni, Mr Reckless, weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol y caiff ei ddarparu ynddo. Ac nid wyf yn meddwl y byddai llawer o rieni yng Nghymru eisiau gweld yr effeithiau ar les plant mewn llawer o'r gwledydd, gan gynnwys Singapôr, y sonioch chi amdanynt yn y system addysgol yma. Yn wir, aeth grŵp o rieni i'r dwyrain pell yn ddiweddar i edrych ar ddulliau addysg yno, a dywedodd un rhiant wrthyf, 'Beth bynnag a wnewch i wella'r sefyllfa yng Nghymru, os gwelwch yn dda, peidiwch â gwneud i fy mhlentyn wneud yr hyn a welsom pan ymwelsom â'r gwledydd hynny.' Felly, rhaid inni weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol, ond a yw hynny'n golygu y gallwn wneud yn well? Wrth gwrs ei fod, ac fe wyddoch fy mod yn benderfynol o wneud yn well gan mai dyna yw fy nghenhadaeth i, dyna yw cenhadaeth genedlaethol y Llywodraeth hon, sef darparu system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus yng Nghymru ar gyfer ei phobl ifanc. System addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac rwy'n cydnabod, yn anad dim arall, mai ansawdd yr addysgu sy'n trawsnewid bywydau pobl ifanc, ac felly mae'n hanfodol fod ein diwygiadau'n cynnal cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da yn sail i'n taith ddiwygio genedlaethol.

Mae athrawon yfory yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol, ac rwyf wedi datgan yn glir iawn fy ymrwymiad i ddenu a chadw mwy o raddedigion â chymwysterau da yn y byd addysg gan nad yw ein pobl ifanc—eich plant, fy mhlant i, ein plant i gyd—yn ei haeddu dim llai. Dyna pam y mae angen i bob athro yng Nghymru fod yn gymwysedig, yn wahanol i wledydd eraill fel Lloegr, lle mae'r defnydd o bobl heb gymhwyso yn yr ysgolion yn tyfu'n gyflym. Mae'r gyfradd o swyddi athrawon gwag yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i fod yn gymharol isel, er mai fi fyddai'r gyntaf i gyfaddef y gall fod anawsterau lleol weithiau wrth recriwtio i rai pynciau a rhai cyfnodau penodol.

Nawr, mae gwelliant Plaid Cymru yn datgan bod arolwg diweddar y gweithlu cenedlaethol yn dangos bod 34 y cant o athrawon wedi dweud eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn. Mater o ffaith yw hynny. Eto i gyd, o roi hyn mewn persbectif, o gyfanswm o 30,610 o addysgwyr, dywedodd ychydig dros 1,600 eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn, ac yn achos rhai ohonynt gallai fod o ganlyniad i ymddeol. Ar y llaw arall, rwy'n falch fod 47 y cant o athrawon yn datgan eu bod yn ystyried parhau i ddatblygu a chryfhau eu gwaith, gydag eraill yn awyddus i symud ymlaen i rolau arwain. Buaswn yn cytuno â chi, Mark, fod sicrhau bod gennym ymagwedd genedlaethol gyson tuag at ddysgu proffesiynol a datblygu gyrfa yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod hefyd fod mater llwyth gwaith yn bwysig iawn hefyd, ac rydym parhau i weithio gyda'r undebau ac arbenigwyr mewn perthynas â llwyth gwaith, yn enwedig drwy brism datganoli cyflog ac amodau athrawon.

O ran recriwtio, Ddirprwy Lywydd, ym mis Hydref cyhoeddais gynllun cymhelliant gwell ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, a chynllun cymhelliant newydd yn targedu myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg i fynd i'r afael â rhai o'r cymhlethdodau sy'n ein hwynebu. Mae llawer o'r pwyntiau a godwyd y prynhawn yma eisoes ar y gweill. Mae'r bwrdd cynghori ar recriwtio a chadw athrawon a sefydlwyd gennyf yn adolygu tystiolaeth ryngwladol i ystyried sut y gallwn gynorthwyo pobl i ddod yn rhan o'r proffesiwn—pawb sy'n dymuno dod yn rhan o'r proffesiwn drwy lwybrau amgen. Mae hynny'n golygu pobl sy'n dymuno newid gyrfa. Mae'n golygu athrawon tramor. Yn wir mae'n golygu cynyddu sgiliau pobl sydd eisoes yn y gweithlu addysg ond am gael statws athro cymwysedig. Ond wrth wneud hynny, ni fydd ar draul gostwng safonau. Rwy'n benderfynol o gynnal safon sy'n ofynnol gan bobl sy'n mynd yn rhan o'r proffesiwn. Ni fyddem yn dweud rhai o'r pethau hyn am y proffesiwn meddygol, fyddem ni? Ni fyddem yn ei dderbyn ar gyfer y proffesiwn hwnnw, a pham y byddem yn ei dderbyn yn yr achos hwn?

Ond mae yna ffyrdd y gallwn ganfod ffyrdd newydd i bobl gyrraedd yr ystafelloedd dosbarth os mai dyna yw'r alwedigaeth a ddymunant, oherwydd rwyf am i addysgu yng Nghymru fod yn broffesiwn dewis cyntaf, fel y gallwn ddenu'r goreuon, a bydd ein cynnig addysg gychwynnol athrawon diwygiedig yn sicrhau y bydd mwy o bobl eisiau hyfforddi yng Nghymru a bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn eu gyrfaoedd. Mae'r diwygiadau hyn yn galluogi'r proffesiwn i chwarae rôl ganolog yn cyflawni ac yn arwain newid, yn ogystal â chreu system sefydlog o ansawdd uchel sy'n galluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu. A bydd yn gwneud yn union hynny, Gareth: bydd ein hathrawon yn rhan hanfodol o ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Byddant ar y blaen yn hynny.

Rwyf wedi sefydlu'r academi arweinyddiaeth a fydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, fel bod arweinwyr ac arweinyddiaeth yn cael eu cynorthwyo i wireddu amcanion ein cenhadaeth genedlaethol—cefnogi penaethiaid presennol a meithrin rhai sydd am fynd ymlaen i arwain ysgolion Cymru. Bydd yr academi yn ymgysylltu ag arweinwyr, yn nodi tystiolaeth ryngwladol ac yn creu rhwydwaith ar gyfer cydweithio i helpu i lywio'r proffesiwn a gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc.

Ddirprwy Lywydd, mae amcan cyffredinol ein cenhadaeth genedlaethol yn syml, yn glir ac yn uchelgeisiol. Gan weithio gyda'n holl bartneriaid, byddwn yn codi safonau, byddwn yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel y dywedais, byddwn yn darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn helpu pawb, gan gynnwys pawb sy'n addysgu yn ein hysgolion, i fod y gorau y gallant fod, fel y gallant hwy, a'r plant y maent yn eu haddysgu, gyrraedd eu potensial llawn.

18:05

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Gwn nad oes gennyf lawer o amser, felly hoffwn gyfeirio'n unig, os caf, at sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet. Clywais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud, ac rwy'n cydnabod bod rhywfaint o waith yn digwydd yn Llywodraeth Cymru ar geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Rwy'n falch eich bod o leiaf yn cydnabod bod gennym broblem, hyd yn oed os nad ydych yn cydnabod ei fod yn argyfwng. Yr hyn sy'n peri penbleth i mi yw pan oeddech yn yr wrthblaid, fe wnaethoch ddatblygu darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth ar lefelau staff nyrsio, gwaith a alwai am gynllun gweithlu ac ymdrech genedlaethol. Pam y gwrthodwch gynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer ein system addysg, ar gyfer ein hysgolion? Pam y dywedwch nad ydych eisiau gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar ddatblygu un? Oherwydd dyna a wnewch drwy wrthod ein cynnig heddiw. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Rydych yn dweud mai ansawdd yr addysgu yw'r hyn sy'n bwysig, ac nad ydych yn barod i ostwng yr ansawdd a chael athrawon heb gymhwyso yn ein hystafelloedd dosbarth, ac eto dyna'n union sydd gennym. Mae gennym bobl nad ydynt yn gymwys i gyflwyno gwersi Saesneg, ac eto mae 20 y cant o'n gwersi Saesneg yn cael eu dysgu gan bobl sydd heb gymhwyster i ddysgu Saesneg fel eu pwnc penodol. Mae'n 17 y cant mewn mathemateg; mae'n 27 y cant mewn addysg grefyddol; ac nid yw 23 y cant o'r athrawon sydd mewn gwersi Cymraeg yn gymwys i ddarparu gwersi Cymraeg.

Felly, y realiti yw bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn cefnogi system sy'n parhau i fod â phobl nad ydynt yn gymwys i gyflwyno'r pynciau penodol hynny yn y meysydd hynny. Felly, gwrandewch ar synnwyr cyffredin, gadewch inni gael cynllun gweithlu addysg cenedlaethol, gadewch inni wneud yn siŵr eich bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i'w ddatblygu, gadewch inni edrych ar y llwybrau newydd hyn i mewn i'r proffesiwn addysgu ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu, i bobl mewn addysg bellach a phobl sy'n gymwys drwy brofiad. Gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau rhyngwladol da, gwael a chymedrol yn rhan o'r broses ddysgu honno, a gwneud yn siŵr fod gennym weithlu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

18:10

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Julie James. 

Eitem 10 ar yr agenda yw dadl UKIP ar ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality. Galwaf ar Caroline Jones i wneud y cynnig. Caroline.

Cynnig NDM6697 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:

a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;

b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;

c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a

d) iawndal i fuddiolwyr yr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd: rwy'n fenyw yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, ac yn un o'r menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI).

Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd Ddeddf Pensiynau newydd, a fyddai wedi codi oedran ymddeol i fenywod i 65—yr un oedran â dynion—erbyn 2020. Byddai hyn wedi rhoi o leiaf 15 mlynedd i fenywod newid eu cynlluniau ymddeol—15 mlynedd yn fwy o gynilion i helpu i ateb y diffyg yn eu cronfeydd pensiwn. Fodd bynnag, newidiodd Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cynlluniau hyn. Cyflymodd Deddf Pensiynau 2011 y newidiadau, a olygodd y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 63 yn 2016 i 65 ym mis Tachwedd eleni, ac mae'n parhau. Roedd y Ddeddf hefyd yn datgan y dylai oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a menywod godi i 66 erbyn 2020. Fel miloedd o fy nghydwladwyr, ni chefais fy hysbysu'n bersonol ynghylch y newidiadau hyn. Ni chefais lythyr; ni chefais unrhyw esboniad. Ni ddywedodd neb wrthyf y byddai fy nghynlluniau ymddeol yn gorfod newid, ond yn wahanol i lawer o fenywod eraill yn y sefyllfa hon, rwy'n ffodus: rwy'n dal mewn gwaith; nid wyf yn wynebu tlodi. Yn anffodus, effeithiodd y newidiadau hyn yn ddrwg ar lawer o fenywod, ac rwyf wedi clywed am o leiaf un fenyw a gyflawnodd hunanladdiad o ganlyniad i'r twll du ariannol roedd hi ynddo. Ni ddylid trin neb fel hyn—neb. Nid oes neb yn anghytuno na ddylai oedran dynion a menywod fod yr un fath. Fodd bynnag, ni ddylid bod wedi cyflwyno'r newidiadau hyn heb ddegawdau o rybudd, blynyddoedd i gynllunio ac amser i wneud trefniadau ariannol ychwanegol.

Fel y mae pethau, cyflwynwyd y newidiadau i bensiynau menywod yn rhy gyflym, ac yn rhy ar hap. Digwyddais glywed am y newidiadau drwy sylw didaro a wnaed wrthyf un diwrnod, ac mae fy sefyllfa ymhell o fod yn unigryw. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd diffyg rhagwelediad a chynllunio gan Lywodraethau olynol y DU. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd polisi cyni'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. A gwneir i fenywod ddioddef oherwydd bod Llafur wedi camdrin arian cyhoeddus a'u methiant i ddiddymu Deddf 1995. Gofynnaf i'r gwleidyddion Llafur sy'n cefnogi mudiad WASPI—roeddech yn Llywodraeth rhwng 1997 a 2010—pam na roesoch gamau ar waith bryd hynny? Yn anffodus, ni allwn gywiro camgymeriadau'r gorffennol, ond gallwn liniaru'r effeithiau y mae'r camgymeriadau hynny yn eu cael ar fenywod a anwyd yn ystod y 1950au.

Mae ein cynnig sydd ger eich bod heddiw yn galw am bensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd, iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r menywod sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd, a iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio. Nid yw hyn yn ormod i'w ofyn, a gobeithio y bydd yr Aelodau yma'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n ymladd dros fenywod WASPI, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweld synnwyr.

Mae yna bethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru heb aros i Lywodraeth y DU gydnabod y boen a'r dioddefaint y mae'r polisïau wedi eu creu. Mae menywod a aned yn ystod y 1950au bellach yn gorfod gweithio am chwe blynedd arall a gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith a sicrhau bod cyflogwyr yn cyflogi gweithwyr sy'n agos at oed ymddeol, gan ymladd dros sicrhau ar yr un pryd fod menywod y 1950au yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Cafodd arian ei ddwyn oddi wrthynt.

Soniwyd wrthyf am enghreifftiau niferus o fenywod yn methu cael gwaith oherwydd eu hoedran. Cysylltodd menyw â mi, a dywedodd, 'Rwy'n 62 oed, nid wyf yn cael pensiwn a oedd wedi'i addo i mi. Rwy'n anghyflogadwy oherwydd fy oedran. Rwy'n dlawd ac yn dibynnu ar ffrindiau a theulu.' Ni ddylai fod fel hyn, ond yn sicr, nid yw'n unigryw.

Rhaid inni annog cyflogwyr i weld manteision cyflogi pobl ym mlynyddoedd olaf eu bywyd gwaith. Bydd y menywod hyn yn cynnig oes o brofiad, cyfoeth o wybodaeth ac etheg gwaith a ffurfiwyd drwy ddegawdau o waith caled. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn menywod WASPI, i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gwaith ystyrlon ar gael ar gyfer y rhai a orfodir i weithio am gyfnod hirach, ond sydd hefyd yn brwydro i oroesi ac eisiau'r hyn sy'n ddyledus iddynt.  

Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i fenywod WASPI drwy gefnogi'r cynnig hwn sydd ger eich bron heddiw. Dangoswch eich cefnogaeth i fenywod WASPI drwy ddweud wrth Lywodraeth y DU fod y modd y mae'r menywod hyn yn cael eu trin yn annerbyniol. Ni fyddai newidiadau pensiwn wedi cael llawer o effaith ar fenywod yn eu 30au a'u 40au efallai, ond maent wedi cael effaith ddinistriol ar fenywod yn eu 50au a'u 60au. Yn amlwg, nid yw Llywodraeth y DU yn poeni am effaith y polisïau hyn, fel yr amlygwyd gan eu gwrthodiad pendant i ddiddymu'r newidiadau.

Bellach mae'n fater i bob un ohonom yma heddiw sicrhau bod effaith y newidiadau hyn yn cael eu lliniaru a bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Nid wyf am weld unrhyw fenyw arall yn cael ei gorfodi i ddewis rhwng byw mewn tlodi dybryd neu gyflawni hunanladdiad. Mae'r menywod hyn wedi gweithio'n galed ers degawdau, ni ddylent orfod wynebu tlodi wrth iddynt ymddeol. Dylent gael y pensiwn a addawyd iddynt am ddegawdau o waith caled.

Ni ddylai fod gan unrhyw Lywodraeth hawl i dorri'r addewidion a gorfodi'r menywod hyn i fyw mewn tlodi. Cynlluniodd y menywod hyn eu hymddeoliad yn ôl yr addewidion, a thorwyd yr addewidion hynny. Nid oes gan neb hawl i fynd â'u harian. Mae'n werth nodi, ar ôl 43 mlynedd o waith corfforol caled, na all rhai menywod weithio rhagor, a chânt eu gadael heb eu pensiwn. Felly, rhaid inni weithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu. Rhaid gorfodi Llywodraeth y DU i weithredu. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig a gyflwynais ger eich bron heddiw.

18:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

Gwelliant 2. Julie James

Ym mhwynt 2, dileu 'weithio gyda' a rhoi 'annog' yn ei le.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw. Mae penderfyniadau a wnaed yn San Steffan gan Lywodraeth allan o gysylltiad ac angharedig wedi effeithio'n ofnadwy ar filiynau o fenywod Prydain, gan gynnwys oddeutu 200,000 o fenywod yma yng Nghymru. Mae menywod WASPI, sydd wedi cyfrannu ar hyd eu hoes i fywyd ein gwlad, wedi cael eu hamddifadu i bob pwrpas. I lawer ohonom, y menywod hynny yw ein ffrindiau, ein cydnabod, teulu agos a'r menywod a welwn o'n hamgylch yn ein cymunedau bob dydd.

Gyda'r newyddion diweddar am genhedlaeth Windrush, mae'n ymddangos mai torri'r ymrwymiad cymdeithasol sydd wedi cadw ein gwlad at ei gilydd ers degawdau yw unig uchelgais y Torïaid yn San Steffan. Fodd bynnag, oherwydd mai Gweinidogion y DU sydd wedi achosi'r broblem hon, ac yn wir, mewn ysbryd o gyfiawnder a thegwch, dyna pam y mae angen inni roi camau unioni ar waith ar frys. Dyna pam rwy'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth heddiw. Y canlyniad gorau o'r ddadl heddiw i fenywod WASPI fydd ein bod yn anfon neges glir a diamheuol i San Steffan fod yr hyn a wnaeth Gweinidogion y DU yn anghywir.

Dylai pawb ohonom fod yn gyfarwydd â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Roedd deddfwriaeth yn 1995 yn nodi bwriad i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod godi i 65 erbyn 2020. Cafodd y newidiadau hyn eu gorfodi drwy'r Senedd gan Iain Duncan-Smith, sy'n brolio ei fod yn gallu byw ar £53 yr wythnos ond a hawliodd bron i £100 mewn treuliau am staplwr newydd. Cyflymodd ei Ddeddf Pensiynau 2011 yr amserlen, gan symud y newid i fis Tachwedd eleni a chodi'r oed eto i 66 oed erbyn 2020. Ni chadwyd ei addewidion ar gyfer trefniadau pontio. Ac ar gyfer pwy y sicrhawyd y trefniadau pontio hyn? Byddent wedi helpu'r miliynau o fenywod a aned yn y 1950au sydd bellach yn wynebu codi'r oedran pan oeddent yn disgwyl gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth—pensiynau y maent wedi'u talu, wedi gweithio'n galed amdanynt, ac wedi cyfrannu tuag atynt ar hyd eu hoes.

Yr hyn sy'n waeth yw bod y newidiadau hyn wedi'u gwneud heb fawr o rybudd os o gwbl, a'u gorfodi drwodd heb amser i wneud cynlluniau amgen. Felly, erbyn hyn, rhaid i fenywod WASPI weithio am gyfnod hirach, neu ddod o hyd i waith newydd yn wir. Dangosodd tystiolaeth gan Age UK yr heriau i rai mewn swyddi corfforol sy'n gorfod gweithio am gyfnod hirach, y pwysau ychwanegol, y straen a'r salwch. Er nad yw newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth yn cynnig unrhyw her bersonol i'r Prif Weinidog, Theresa May, nid yw hynny'n wir i'r rhan fwyaf o fenywod eraill, yn enwedig rhai sy'n gweithio mewn rolau corfforol, er enghraifft, gofalwyr, glanhawyr neu swyddi manwerthu. Ar ben hynny, ceir heriau mewn perthynas â sgiliau yn y gweithle. Clywais am y rhwystrau sy'n wynebu un fenyw WASPI yn fy ardal leol. Ar ôl ymddeol ar sail gwybodaeth gamarweinol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae angen iddi ddychwelyd i'r gweithle yn awr, ond nid yw'n cael unrhyw lwyddiant. Fel y dywed, 'Ni allaf ddefnyddio cyfrifiadur a phwy sydd eisiau cyflogi rhywun 62 oed heb sgiliau sydd wedi blino'n lân?'

Ffactor arall sy'n cymhlethu pethau ymhellach yw bod llawer o'r menywod hyn hefyd wedi eu caethiwo gan faich dwbl. Mae cyfrifoldebau gofalu di-dâl am wyrion, eu priod neu efallai eu rhieni oedrannus eu hunain hyd yn oed yn mynd â gormod o amser ac egni. Yn fyr,

cafodd cynlluniau ymddeol eu chwalu gyda chanlyniadau trychinebus.

Daw'r geiriau hyn o ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality.

Yr unig beth cadarnhaol a ddeilliodd o hyn yw'r ffordd y mae menywod y 1950au wedi brwydro'n ôl mor drawiadol, gan drefnu ac ymgyrchu i dynnu sylw at yr anghyfiawnder a wnaed iddynt. Bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr a byddant wedi creu argraff arnynt drwy eu penderfyniad a'u dewrder, yn enwedig pan fo hon yn rôl nad oedd llawer ohonynt yn disgwyl y byddai'n rhaid iddynt ei chwarae.

Siaradais yn ddiweddar mewn digwyddiad i nodi 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn Amgueddfa Cwm Cynon. Gyda mi ar y panel roedd cydgysylltydd y grŵp WASPI lleol. Dywedodd wrthyf am yr ystod o weithgareddau codi proffil y maent yn eu cynnal, ond hefyd am y gwaith ymarferol caib a rhaw a wnânt yn cefnogi cyfoedion drwy eu helpu i gwblhau ffurflenni technegol a gwaith papur diddiwedd, a chynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth. Wrth i ni ddathlu canmlwyddiant menywod yn ennill y bleidlais, mae'n dda gweld ysbryd y swffragetiaid yn dal yn fyw.

Yn 1918, rhoddodd Llywodraeth y DU y bleidlais i gydnabod gwaith ymgyrchu a gwaith ymarferol menywod yn ystod y rhyfel. Dyletswydd Llywodraeth y DU yn awr yw gwneud newidiadau, gweithredu'r trefniadau pontio y gweithiodd y genhedlaeth hon o fenywod ar hyd eu hoes amdanynt, er mwyn iddynt gael yr hyn sy'n ddyledus iddynt, eu gobaith a'u dyfodol.

18:20

Rwy'n croesawu'r ffaith bod UKIP wedi wedi cyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr y prynhawn yma, a rhaid imi ddweud ei bod hi'n anodd ychwanegu at gyfraniad angerddol a rhagorol Caroline Jones wrth agor, cyfraniad a oedd yn cwmpasu cymaint o wahanol feysydd ac agweddau, nid yn unig o ran sut y daethom i'r sefyllfa hon, ond hefyd y dioddefaint go iawn y mae rhai menywod yn mynd drwyddo yn y sefyllfa hon. Fe roesoch eich profiad personol yn ogystal.

A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod gennyf gydymdeimlad mawr, fel pob AC, â'r menywod yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau hyn i bensiwn y wladwriaeth ac fel y dywedais, yr hyn y maent yn mynd drwyddo ar hyn o bryd? Mae un o aelodau fy staff mewn sefyllfa debyg i'r un a nodwyd gan Caroline Jones mewn gwirionedd, felly mae'n fater sensitif yn fy swyddfa ac yn agos at adref i mi. Felly, nid siarad am y mater hwn o bell rwyf fi heddiw, gan nad wyf yn WASPI fy hun wrth gwrs—[Anhyglywadwy.]—ond o brofiad personol ffrindiau a chydweithwyr.

Rwy'n siŵr fod yr holl ACau yma wedi clywed ar ryw bwynt gan fenywod yn y sefyllfa hon, ac fel y gwnaeth Caroline Jones heddiw, mae menywod WASPI yn dadlau eu hachos yn gryf ac angerddol, felly mae'n anodd iawn i ni beidio â chael ein cymell gan yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Ac fel gwleidyddion, Aelodau'r Cynulliad, dyna yw ein gwaith. Mae rhai o'r straeon a grybwyllodd Vikki Howells yn cyffwrdd â'r galon.

Wrth gwrs, nid yw'n wir dweud mai mater a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth hon yn y DU yw hwn. Yn sicr, rydych yn gywir i dynnu sylw at rai o'r newidiadau a ddigwyddodd yn 2010-11, ond fel y dywedoch, mae'r newidiadau, mewn gwirionedd, yn deillio o gyfnod mor bell yn ôl â Deddf Pensiynau 1995, a osododd y pethau hyn ar waith. Bryd hynny, cafodd y newidiadau eu dal yn ôl yn fwriadol am gyfnod o amser gyda'r bwriad, o leiaf, i roi amser i'r menywod yr effeithiwyd arnynt gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Nawr, wrth gwrs, gwyddom fod y broses honno—. Wel, mae dweud ei bod ymhell o fod yn berffaith yn bell iawn o'r gwir; mae'n amlwg nad yw wedi gweithio.

Er mai Llywodraeth Geidwadol sydd mewn grym ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae hyn wedi digwydd o dan nifer o Lywodraethau. Digwyddodd o dan Lywodraeth glymblaid, ac mae'n mynd yn ôl at y 1990au o dan Lywodraeth Geidwadol a'r Llywodraeth Lafur yn y canol wrth gwrs. Felly, ar hyd y cyfnod, gwelwyd methiant olynol i gyfathrebu'n effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a menywod WASPI ac mae hynny'n destun gofid, ond fel rydych wedi dweud, Caroline, mae'n anodd, er nad bob amser yn amhosibl, ond mae'n anodd cywiro camgymeriadau'r gorffennol, ac felly yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud, fel y dywedodd Vikki Howells hefyd, yw gweld sut y gallwn gefnogi'r menywod hynny yn y ffordd orau.

Nawr, nid yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli; nid yw Julie James wedi bod ag unrhyw ran, wel, fawr iawn o ran yn y newidiadau yn y ddeddfwriaeth ar lefel y DU. Rhaid imi ddweud, er hynny, roeddwn yn teimlo bod gwelliant y Llywodraeth, sy'n newid yr alwad ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, i Lywodraeth Cymru i 'annog' Llywodraeth y DU ychydig yn bedantig. Rwy'n siŵr fod rhyw—. Wel, mae'n debyg y gallwch egluro'r rheswm dros y drafftio. Ond credaf na fyddai gwahaniaeth gan y cyhoedd, Julie, pe bai Llywodraeth Cymru, er nad yw'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn yr achos hwn mewn gwirionedd. Mae gennym ddwy Lywodraeth, fel y gwyddom—mae gennym Lywodraeth y DU ar ben arall yr M4, fel y mae Plaid Cymru'n aml yn awyddus i nodi, ac mae gennym Lywodraeth Cymru yma. Felly, credaf fod angen cydweithredu. Er bod y grym i weithredu ar hyn yn San Steffan, credaf fod angen ymdrech gyfunol yma i gael Llywodraeth y DU—

18:25

Yn y man.

I gael Llywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa.

Diolch ichi am hynny. A gaf fi ofyn, felly, o ran hynny, pa ymyriadau a wnaethoch, fel Ceidwadwyr Cymreig—a chyflwyno sylwadau—iddynt ynglŷn â'r mater hwn?

Ie. Fel y dywedais yn gynharach, Rhianon, fel ACau eraill, mae etholwyr benywaidd WASPI wedi cysylltu â mi ac rwyf wedi bod yn hapus i ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Edrychwch, nid yw hyn i'w weld fel pe bai wedi gweithio'n dda iawn, a chredaf y dylech edrych eto ar hyn.' Fel pob un ohonom yma, nid wyf yn rhan o Lywodraeth y DU. Rwyf yma fel Aelod o Gynulliad Cymru, felly gan nad oes rhan uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae yn hyn, nid oes gennyf fi ychwaith, ond serch hynny, mae gan bawb ohonom Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli ein hardaloedd, felly gobeithio ein bod i gyd yn mynd i leisio ein pryderon.

Roedd yna sail resymegol dros y newidiadau ar y pryd, sef cydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb yr UE—nad yw'n mynd i fod mor bwysig am lawer iawn o amser mwyach, ond dyna oedd y rheswm bryd hynny. Roedd angen cadw pensiynau ar sail gynaliadwy gyda phoblogaeth a oedd yn heneiddio a chredaf mai dyna oedd rhan o'r rheswm a oedd yn sail i rai o'r newidiadau a wnaed yn 2010-11. Felly, roedd yna resymau, ond yn amlwg aeth rhywbeth o'i le ar y cyfathrebu drwy'r broses hon. Rwy'n fwy na pharod, Rhianon—a hoffwn i'r Aelodau eraill wybod—i drosglwyddo fy mhryderon i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, ond gadewch inni ddal ati i bwyso er mwyn sicrhau bod y menywod yr effeithir arnynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, eu bod yn cael eu caniatáu i weithio yn y ffyrdd ac am y cyfnod o amser sydd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau nad ydynt yn dioddef wrth wynebu eu blynyddoedd hŷn, wrth dyfu'n hŷn, gan nad dyna oedd y bwriad gwreiddiol ac yn sicr nid felly y dylai fod.

Hoffwn i, i ddechrau, longyfarch WASPI am eu hymgyrch rymus yn dwyn sylw at yr annhegwch rydym ni'n ei drafod heddiw. Yn fy ardal i, mae nifer o ferched wedi dod at Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, a minnau, ac rydym ni wedi bod yn gweithio efo'r merched yna i sefydlu grwpiau WASPI lleol. Erbyn hyn, mae gennym ni grŵp WASPI Arfon a Môn a grŵp WASPI Dwyfor Meirionnydd. Rydym ni'n parhau i gefnogi eu hymdrechion nhw ac yn parhau i dynnu sylw at yr annhegwch sydd wedi cael ei greu gan y newidiadau i'r Ddeddf pensiynau gwladol. Rydw i'n gwybod bod yna grwpiau WASPI eraill hefyd ar draws Cymru, ac rydw i'n eich llongyfarch chi ar eich gwaith.

Mae'r newidiadau yn bryder i filiynau o bobl ar draws y Deyrnas Gyfunol, ac mae yna fwy a mwy yn dod yn ymwybodol o'r effaith. Nid ydy pawb, hyd heddiw, yn ymwybodol o'r effaith pellgyrhaeddol y gall hyn ei gael ar fywydau nifer fawr o fenywod a'u teuluoedd nhw hefyd.

Mae'n bwysig nodi bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o greu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran derbyn y pensiwn gwladol. Nid oes yna reswm pam fod disgwyl i fenyw ymddeol yn gynharach na dyn. Nid ydy hynny yn briodol nac yn berthnasol mewn oes o gydraddoldeb cyfoes. Nid oes gwrthwynebiad i'r egwyddor, felly, ond rwyf yn gwrthwynebu'n gryf y broses sydd wedi cael ei mabwysiadu i yrru'r newid yma ymlaen. Beth sydd ei angen ydy cyfnod trosiannol teg ar gyfer pob menyw sydd wedi cael ei geni yn y 1950au ac sy'n cael ei heffeithio gan y newidiadau yma. Nid ydy'r amserlen fel y mae hi ar hyn o bryd yn rhoi amser i ferched sy'n cael eu heffeithio i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad, ar gyfer y gostyngiad yn y pensiwn, yn wahanol i'r hyn oedden nhw'n cynllunio ar ei gyfer o, a dyna ydy'r neges rydw i'n ei glywed tro ar ôl tro gan y menywod yr wyf i'n gweithio efo nhw yn ein grŵp lleol ni yn Arfon. 

A gawn ni oedi am funud hefyd ar sefyllfa merched yn gyffredinol? Fe fydd merched yn Arfon, ac, yn wir, merched yng Nghymru, yn cael eu taro yn arbennig o galed gan y newidiadau yma. Mae pobl yn byw yn hirach yn Lloegr nac ydyn nhw yng Nghymru. Mae incwm y pen yng Nghymru yn is nac ydy o yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, ac, ar ben hynny, mae merched Cymru yn ennill llai ar gyfartaledd na dynion Cymru—bron i £5,000 y flwyddyn yn llai. Pum mil ar hugain o bunnoedd ydy'r cyfartaledd cyflog i ddynion, £20,000 i ferched—anghydraddoldeb mawr yn fanna.

Felly, tra ydym ni'n croesawu trin menywod yn gydradd o ran oed derbyn pensiwn, mae angen trin menywod yn gydradd ym mhob maes, yn y gweithle, o ran cyflogau, ac o ran cyfleon bywyd. Mae'n ddiddorol gweld, onid ydy, fod Llywodraeth San Steffan yn ddigon bodlon gwthio ymlaen yr agenda cydraddoldeb pan fo hynny yn eu siwtio nhw, pan fo'n golygu torri'r gyllideb lles, ond beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â chydraddoldeb yn gyffredinol, ynglŷn â'r diffygion cyffredinol? Beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â datblygu agweddau eraill o gydraddoldeb a dileu anghydraddoldeb? Ac, efo pob parch, os caf i ofyn i UKIP: faint o bwyslais maen nhw'n ei roi ar gydraddoldeb yn gyffredinol i ferched? Mae'n hawdd dod â mater fel hwn gerbron, sydd yn eu siwtio nhw, ond beth am yn gyffredinol?

Rydym ni felly yn cytuno â WASPI. Mae angen cyflwyno creu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran pensiwn, ond gwneud hynny dros amser hirach—rhoi amser i ferched baratoi yn iawn ar gyfer eu dyfodol. Mae'r merched yma yn haeddu cael eu trin yn deg. Gwnaf i gloi efo hyn: mae gen i achos yn fy etholaeth i o ddynes a gafodd ei geni 24 awr yn rhy hwyr, a rŵan, mae'n rhaid iddi weithio dwy flynedd a thri mis yn ychwanegol. Nid dyna oedd ei dymuniad hi, ond dyna mae hi'n gorfod ei wneud. Nid ydy hynny'n deg, ac mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am drefniadau trosiannol, a byddai pensiwn pontio ac iawndal yn mynd yn bell iawn i leddfu'r newid ac i greu sefyllfa lawer iawn mwy derbyniol. Ond cofiwch fod Plaid Cymru hefyd yn benderfynol o sicrhau gwir gydraddoldeb i fenywod Cymru ym mhob maes. Diolch.

18:30

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r sefyllfa y mae menywod WASPI ynddi yn seiliedig ar frad. Drwy gydol eu bywydau gwaith, cawsant addewid y byddent yn cael pensiwn yn gyfnewid am eu trethi a'u hyswiriant gwladol ac y byddent yn ei gael o'r adeg y byddent yn 60 oed ymlaen. Mae menywod wedi adeiladu bywydau o amgylch y disgwyliad y byddai Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair. Mae dweud wrth fenywod sydd eisoes wedi bod yn gweithio mwy na 25 mlynedd yn 55 oed, yn hytrach na bod gofyn iddynt weithio am bum mlynedd arall, y bydd yn rhaid iddynt weithio ddwywaith mor hir â hynny'n ddigon anodd, ond i waethygu pethau, ni chafodd menywod WASPI eu hysbysu mewn digon o amser i allu rhoi trefniadau amgen ar waith. Fel y clywsom eisoes heddiw, ni chafodd rhai wybod o gwbl.

Mae'n ymddangos bod y newidiadau wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU heb fawr o ystyriaeth o'r effaith ar y menywod dan sylw, os o gwbl. Dywedodd comisiwn Turner y dylai'r cyfnod rhybudd fod yn 15 mlynedd; dywedodd Saga y dylai fod yn 10 mlynedd. Ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi eu hanwybyddu hwythau yn ogystal. Nid ydym yn sôn am fenywod sy'n ennill cyflogau mawr. Rydym yn sôn am fenywod sydd wedi dioddef anghydraddoldeb cyflog drwy gydol eu bywydau gwaith yn y lle cyntaf, menywod nad oeddent yn cael eu talu ddigon am eu gwaith yn ôl pob tebyg o ran ei werth i gymdeithas, megis y nyrsys WASPI sydd wedi ymddeol y datblygwyd y GIG ar eu llafur. Rydym hefyd yn sôn am fenywod a oedd yn annhebygol o allu fforddio pensiwn preifat.

Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa ni i gyd mai yn San Steffan y mae'r pwerau sydd eu hangen i unioni'r anghyfiawnder hwn ac nid ym Mae Caerdydd, ac wrth gwrs byddent yn gywir. Fodd bynnag, nid yw gweithgaredd milwrol tramor wedi ei ddatganoli fwy nag yw darpariaeth pensiwn, ac os gall Prif Weinidog Cymru roi gwybod i'r byd ei fod yn cefnogi bomio Syria, gall adael i Lywodraeth y DU wybod yn blwmp ac yn blaen beth yw barn Llywodraeth Cymru am yr anghyfiawnder i fenywod WASPI yng Nghymru. Gall hefyd weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ateb.

Efallai fod Llafur yn teimlo y gallant anwybyddu'r anghydraddoldeb hwn gan na fydd y menywod yr effeithiwyd arnynt yn gwneud cymaint o sŵn â sêr y cyfryngau a'r byd chwaraeon sy'n ceisio cydraddoldeb. Neu efallai nad oes digon ohonynt i wneud gwahaniaeth i gyfrifiadau etholiadol y Blaid Lafur. Eto dyma'r gweithwyr heb lais y mae Llafur yn dweud eu bod yno i'w gwasanaethu, i ymladd drostynt. Ond byddai'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth o gwbl. Mae'r ffaith bod gwelliant Llafur yn nodi'r geiriau 'annog Llywodraeth y DU' yn lle 'gweithio gyda Llywodraeth y DU' yn enghraifft ohonynt yn gwneud dim. Mae'n hawdd annog eraill i weithredu, a thrwy wneud hynny maent yn gwneud y synau iawn ac yn chwifio'r faner iawn. Ond os ydych am helpu menywod WASPI Cymru rhaid i chi fod yn barod i weithredu eich hunain.

Yr unig beth y gall fy mhlaid ei wneud yn y lle hwn ar ran menywod WASPI yw gwneud y cynnig hwn a lobïo. Ond mae gan Lywodraeth Lafur Cymru y dulliau a'r sianeli cyfathrebu i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i weithredu'n deg ar y mater hwn. Pensiwn pontio a/neu iawndal ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran ymddeol yw'r unig ffordd ystyrlon o unioni'r cam, ac rwy'n gobeithio o ddifrif eich bod i gyd yn cytuno â mi. Nid oes amheuaeth mai rhoi iawndal i fuddiolwyr ystadau yr effeithir arnynt—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn—yw'r peth cywir i'w wneud. Fel y dywedais ar y dechrau, mae menywod WASPI wedi'u bradychu yn y modd mwyaf sinigaidd gan eu Llywodraeth.

Yn olaf, rwy'n derbyn na all Llywodraeth Cymru ddeddfu ei hun i unioni'r cam hwn, ond mae menywod WASPI Cymru yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i fynd i weithio ar Lywodraeth y DU ar eu rhan yr un mor galed ag y maent yn gweithio i gyflawni nodau eraill, mwy rhyngwladol. Yn syml, nid yw unrhyw beth sy'n llai na hynny yn ddigon, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.

18:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Siân Gwenllian, a gaf fi ddechrau, cyn gwneud fy nghyfraniad, drwy dalu teyrnged i lawer o gydweithwyr, yn y byd gwleidyddol ac fel arall, dros gyfnod sylweddol o amser—nid yw hynny'n cynnwys UKIP, a dweud y gwir—sydd wedi bod mor weithgar yn yr ymgyrch WASPI sy'n ceisio cyfiawnder i'r menywod hyn? Mae yna gynifer o agweddau ar—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na wnaf.

Mae yna gynifer o agweddau ar y busnes truenus hwn y gallwn siarad amdanynt: y caledi ariannol a ddioddefwyd, y llu o gwynion ynghylch camweinyddu, y ffordd annheg y cyflwynwyd y newidiadau, y gwahaniaethu digywilydd a chamreoli newidiadau, ond gan i mi gael fy ngalw'n hwyr yn y ddadl hon, rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffordd warthus y cafodd menywod wybod, neu yn hytrach, yn fwy cywir, y ffordd na chawsant wybod am newidiadau yn eu trefniadau pensiwn y wladwriaeth a'r effaith ar un o fy etholwyr i ddangos pa mor eang a chyffredinol y mae'r effaith wedi bod.

Fel Aelodau eraill, rwy'n gwybod, rwyf wedi cyfarfod â menywod sydd wedi dweud wrthyf na chawsant fawr o rybudd gan Lywodraeth y DU am y penderfyniad hwn sy'n newid bywydau, ac yn wir, fel y gwyddom, ni chafodd rhai rybudd o gwbl, oherwydd ym mis Mawrth 2011 rhoddodd y Llywodraeth y gorau i ysgrifennu at fenywod yr effeithiwyd arnynt oherwydd newidiadau pellach a oedd yn yr arfaeth, ac nid aethant ati i ailddechrau ysgrifennu at y menywod yr effeithiwyd arnynt tan fis Ionawr 2012. Effaith hyn oedd bod llawer o fenywod WASPI wedi cael llythyr yn rhoi gwybod iddynt fod oedran pensiwn y wladwriaeth yn mynd i godi'n sylweddol pan oeddent yn 59, sef o fewn blwyddyn i godi oedran pensiwn y wladwriaeth yn sylweddol a blwyddyn yn unig o'r dyddiad yr oeddent wedi disgwyl cael eu pensiwn. Na foed unrhyw gamargraff: fel y clywsom sawl cyfrannwr yn dweud, mae'r newid hwn yn arwain at galedi gwirioneddol. Mae'n golygu colli incwm disgwyliedig i gymaint o fenywod, sydd, ar gymaint o fyr rybudd, heb gael amser i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Ond gadewch i mi amlinellu hanes un o fy etholwyr, a gafodd ei heffeithio gan y newidiadau nid drwy orfod gweithio am gyfnod hwy ond oherwydd ei hanabledd. Fe'i ganed yn 1954 ac mae ganddi anableddau dysgu sylweddol. Yn 63 oed, mae'n methu darllen, ysgrifennu, dweud yr amser na rheoli arian—dibynnai ar ei rhieni fel gofalwyr. Ar ôl i'w thad farw 10 mlynedd yn ôl, ei phrif ofalwr oedd ei mam, y bu'n rhaid iddi ymdrin â'i holl faterion ariannol a biwrocratiaeth y Llywodraeth ynghylch budd-daliadau ac ati. Yn ddealladwy, roedd ei mam yn ymdrin â'i holl faterion, ac roedd y rhan fwyaf o'r gwaith papur yn enw ei mam. Yn anffodus, bu farw ei mam hefyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar ôl colli ei mam, daeth chwaer fy etholwr i gymryd rhan yn ei chynorthwyo gyda'i hanghenion. Ychydig ddyddiau'n unig ar ôl marwolaeth eu mam, daeth chwaer fy etholwr adref i'w gweld yn ofidus iawn, yn dweud bod rhywun wedi ei ffonio i ddweud bod yn rhaid iddi fynd i rywle. Ond gan nad oedd hi'n gallu cofio gwybodaeth yn dda, ni allai ddweud i ble roedd yn rhaid iddi fynd, na hyd yn oed pwy oedd wedi cysylltu â hi, ac aeth yn fwyfwy gofidus.

I dorri stori hir iawn yn fyr, yn y pen draw llwyddodd ei chwaer i sefydlu mai'r Adran Gwaith a Phensiynau a oedd wedi ffonio fy etholwr ynglŷn ag asesiad addasrwydd i weithio. Ar y pwynt hwn dechreuodd chwaer fy etholwr sylweddoli nad oedd ei chwaer anabl ei hun yn cael pensiwn y wladwriaeth eto, fel roedd hi bob amser wedi cymryd y byddai. Wrth gwrs, pe bai hi wedi bod ar bensiwn y wladwriaeth yn 60 oed, ni fyddai'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn ei ffonio ynghylch asesiad addasrwydd i weithio. Dyna pryd y dechreuodd hunllef o asesiadau ar gyfer pennu addasrwydd i weithio, lle'r oedd fy etholwr yn mynd yn fwy a mwy ofnus, pryderus a gofidus. Nid oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd iddi—roedd yn hunllef na fyddai byth wedi gorfod ei ddioddef pe bai wedi cael ei phensiwn yn 60 oed.

Felly, er iddynt dderbyn nad oedd hi'n addas ar gyfer gweithio yn y diwedd, a newid ei budd-daliadau yn unol â hynny, nid yw'n ddigon hen o hyd i gael pensiwn y wladwriaeth. Ar adeg o drallod emosiynol mawr, ar ôl colli ei mam—ei chydymaith cyson, ei hunig ffrind a'i phrif ofalwr—a heb fod wedi byw'n annibynnol erioed, o fewn mater o ddyddiau roedd yn rhaid iddi ymdopi â biwrocratiaeth Llywodraeth ynghylch addasrwydd i weithio, a'r cyfan oherwydd ei bod hi ar oedran pn nad oedd menywod yn cael pensiwn y wladwriaeth mwyach ac nid oedd neb yn gwybod hynny. Dyn a ŵyr beth fyddai wedi digwydd iddi pe na bai ganddi chwaer a ddaeth i'r adwy i fabwysiadu'r rôl gofalu ac chefnogi honno.

Dyma un enghraifft yn unig o'r nifer o anawsterau a achosir gan y newid yn oedran pensiwn y wladwriaeth, newid nad oedd fy etholwr na'i theulu yn gwybod amdano, ac felly ni wnaed unrhyw gynlluniau na darpariaeth ar gyfer ymdopi â'r peth. Digwyddodd o ganlyniad i ddiffyg gofal wrth gyfathrebu pwysigrwydd y newidiadau hyn a beth fyddai'r effaith ariannol ar lawer o unigolion, a chafodd hyn oll ei waethygu gan y ffaith nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ddatrys y sefyllfa drwy gyflwyno trefniadau pontio teg i'r menywod hyn, nad oeddent yn barod am y fath galedi ariannol, yn gallu ymddeol.  Sut y gall —

18:40

—hynny fod yn iawn? Sut y gall hynny fod yn iawn? Sut y gallwn beidio â chefnogi'r menywod yn yr ymgyrch hon? Sut bynnag y cyraeddasom y fan hon—

—mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom, beth bynnag y gallwn ei wneud, i unioni'r anghyfiawnder hwn.

Hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn fy etholaeth, Bro Morgannwg, yr effeithir arnynt gan anghydraddoldeb pensiwn, ac ymrwymo eto heddiw i barhau i'w cefnogi, a'u croesawu yma heddiw yn yr oriel.

Roeddwn yn falch iawn o gynnal cyfarfod yn y Barri y llynedd, yng Nghanolfan Gymunedol Highlight Park, a chefnogi ymgyrchwyr fel Kay Ann Clarke, a ddaeth â menywod at ei gilydd i ddysgu mwy am yr ymgyrch ac effaith y newidiadau annheg hyn—newidiadau sy'n effeithio'n andwyol ar eu bywydau ar ôl blynyddoedd o gyfrifoldebau gofalu a gweithio.

Nawr, mae Kay Clarke wedi tynnu sylw Ysgrifennydd Gwladol Cymru at nifer o bwyntiau'n ymwneud â'i neges ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, pan godwyd y mater hwn yn lleol ac yn genedlaethol. Yn ei neges, dywedodd Kay wrth yr Ysgrifennydd Gwladol: Fe ddywedoch fod 44,000 yn rhagor o fenywod mewn gwaith yng Nghymru bellach nag a oedd yn 2010, a bod Llywodraeth y DU yn gwneud camau breision yn sicrhau'r newidiadau a chreu'r amodau sy'n ofynnol i fenywod o bob cefndir sydd am ehangu eu gorwelion a gwella'u huchelgais. A gaf fi awgrymu wrthych fod nifer helaeth o'r menywod hyn mewn gwirionedd yn cael eu gorfodi i barhau i weithio am fod y Llywodraeth wedi symud y pyst gôl mewn perthynas ag oedran pensiwn y wladwriaeth? Fe sonioch chi hefyd y bydd dynion a menywod fel ei gilydd ym mhob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn rhaglenni trawiadol o ralïau, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau i gyfleu'r neges fod angen cynnal ymwybyddiaeth a gweithgarwch i sicrhau bod cydraddoldeb menywod yn cael ei ennill a'i gynnal ym mhob agwedd ar fywyd. Trefnwyd y ralïau y cyfeirioch chi atynt yn bennaf i brotestio wrth y Llywodraeth am y modd annheg y caiff menywod eu trin mewn perthynas â newidiadau i bensiwn y wladwriaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol fod WASPI wedi trefnu un o'r ralïau hyn, ac ar ôl clywed am y rali hon ar y cyfryngau cymdeithasol, ymunodd llawer o sefydliadau â ni yng nghanol y ddinas i roi gwybod i'r cyhoedd am yr anghyfiawnder mawr a ddioddefodd y menywod a aned yn y 1950au. Er bod ganddynt nifer o ymrwymiadau ar y diwrnod hwnnw, daeth nifer fawr o wleidyddion i siarad yn ein rali.

18:45

Diolch i'r Aelod am ildio. A gaf fi dynnu ei sylw at y cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngogledd Caerdydd ac a drefnwyd gan Anna McMorrin AS, pan fu'n rhaid i fenywod giwio ar hyd y ffyrdd sy'n arwain at glwb rygbi'r Eglwys Newydd oherwydd cryfder y teimlad? Yn wir, bu'n rhaid cynnal y cyfarfod mewn dwy ystafell a'r cyntedd am fod pobl yn teimlo mor angerddol ynglŷn â hyn. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod at hynny.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod, yn y rali a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, wrth gerflun Nye Bevan, lle y cynhelir cymaint o ralïau pwysig yn ein prifddinas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fod llawer o bobl a'r cyhoedd wedi ymuno yn y rali honno. Siaradodd Julie Morgan yn y rali yn ogystal â fi, i gefnogi achos WASPI.

Ond credaf ei bod yn bwysig fod Kay wedi dweud yn ei neges i Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 'Roeddech chi yng Nghaerdydd y bore hwnnw mewn gwirionedd ar fusnes gweinidogol, yn gwrthod ein gwahoddiad i annerch menywod Cymru, pan gawsoch gyfle i esbonio pam y mae'r Llywodraeth yn parhau i symud y pyst gôl yng nghyswllt y ddadl a'r camau priodol i liniaru'r camweinyddu cyfiawnder hwn i fenywod Cymru. Hoffwn ofyn pam na wnaethoch fanteisio ar y cyfle i wneud hynny.'

Felly, diolch i Kay heddiw am y cwestiynau hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ac am ganiatáu imi rannu'r rhain heddiw yn y ddadl bwysig a difrifol hon, lle y credaf ein bod yn ymrwymedig i barhau i ymladd yr achos hwn ar ran y menywod yr effeithir arnynt. Wrth gwrs, mae llawer o gefnogaeth i'r achos, a rhaid i ni sicrhau bod pob un ohonom yn cyflwyno ein sylwadau i Lywodraeth y DU ar y mater hollbwysig hwn i fenywod Cymru.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o godi yn y ddadl hon. Mewn gwirionedd, rwy'n ddiolchgar iawn i UKIP am gyflwyno'r ddadl. Mae'n fater o gryn bwys i bob un ohonom. Mae angen i minnau hefyd ddatgan buddiant gan fy mod yn un o'r menywod yr effeithiwyd arnynt, gan i mi gael fy ngeni yn y 1950au. Yn ffodus, fel Caroline Jones, rwy'n dal i fod mewn gwaith ac felly heb gael fy effeithio mor wael ganddo, ond mae nifer fawr iawn o fy ffrindiau, teulu, etholwyr a chydweithwyr wedi'u heffeithio gan hyn. Mae llawer ohonynt bellach yn dioddef caledi a thlodi parhaus o ganlyniad i'r newidiadau na wyddent ddim oll amdanynt. Ni all hyn fod yn iawn ac ni ddylid gadael iddo barhau. Bydd llawer o'r menywod yn y grŵp oedran hwn wedi gweithio mewn swyddi rhan amser ac ar gyflogau isel, neu wedi cymryd amser o'r gwaith i ofalu am blant neu berthnasau oedrannus, ac wedi bod yn destun anghydraddoldeb rhwng y rhywiau am lawer o'u bywydau fel oedolion, gan mai dyma'r menywod yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y newidiadau a gyflwynwyd gan fudiad y menywod yn syth ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, mae'n eironig braidd mai dyma'r grŵp yr effeithir arnynt fwyaf gan hyn.

Gofynnodd Nick Ramsay i mi pam yr oeddem yn rhoi 'annog' yn lle 'gweithio gyda', ac rwy'n dweud wrtho'n syml iawn: oherwydd ein bod wedi ei chael hi'n amhosibl gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Ysgrifennais at Guy Opperman, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Bensiynau a Chynhwysiant Ariannol, ddiwedd mis Chwefror i ailadrodd ein pryderon, ac yn eu hannog i ailystyried trefniadau pontio, ar ôl ysgrifennu'n gyntaf at Lywodraeth y DU yn ôl yn 2016 i fynegi ein pryderon am y ffordd y cafodd y newid i gymorth pensiwn y wladwriaeth cyfartal ei gyfathrebu a'i weithredu. Rwyf wedi ychwanegu fy llais hefyd ar nifer o blatfformau a sawl rali yn fy etholaeth ac mewn mannau eraill yng Nghymru at leisiau'r rhai sy'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried y trefniadau pontio yn ddi-oed, fel bod y system yn deg i bawb ac nad yw'n gwaethygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau i leiafrif o bobl. Mae ei ymateb yn cyfeirio at gynnydd mewn disgwyliad oes, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd fel rhesymau pam nad oes gan Lywodraeth y DU gynlluniau i ailedrych ar y polisi a pham nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw gonsesiynau pellach. Felly, mae arnaf ofn nad wyf yn gweld pwynt gweithio gyda rhywun sydd mor wrthwynebus i ymgyrch dros gyfiawnder, a dyna pam y newidiais y cynnig i 'annog', oherwydd rydym yn parhau i'w hannog yn gryf i newid eu meddwl ac ailedrych ar y trefniadau pontio y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi'r angen amdanynt yn y Siambr hon heddiw. Yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mawrth, ailadroddais fy ymrwymiad i dynnu sylw Llywodraeth y DU unwaith eto at bryderon Llywodraeth Cymru a'r Siambr hon, ac rwy'n adnewyddu'r ymrwymiad hwnnw eto heddiw a byddaf yn ysgrifennu ar unwaith i fynegi ein safbwyntiau yn dilyn y ddadl hon.

Credaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hefyd nad y newid i gydraddoldeb o ran oedran pensiwn y wladwriaeth sydd dan sylw yma ond y modd y cafodd y newidiadau eu cyfathrebu, cyflymder eu gwneud, a chael gwared ar y trefniadau pontio yn 2011 sy'n peri problem ddifrifol i ni. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb tuag at y menywod y maent wedi'u rhoi yn y sefyllfa hon, i unioni cam a sicrhau na chaiff cydraddoldeb rhwng y rhywiau ei beryglu. Mae oddeutu 195,000 o fenywod yng Nghymru yn fenywod WASPI yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau yn y Ddeddf hon. A chredaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hyn hefyd, ond mae rhai pethau calonogol iawn yma hefyd, oherwydd, fel y mae Jane Hutt a Siân Gwenllian a llawer o rai eraill wedi nodi, mae'n anhygoel meddwl cymaint y mae'r grŵp hwn o fenywod yn gweithredu gyda'i gilydd wedi'i gyflawni eisoes, o gael y neges wedi'i chynnwys yn y cyfryngau prif ffrwd, yr ymgyrch ariannu torfol a gododd dros £100,000 mewn tair wythnos, ffurfio grwpiau ledled y wlad, a bod yn allweddol yn y broses o ffurfio'r grŵp hollbleidiol seneddol ar anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth i fenywod.

O ganlyniad i'w hymgyrch, mae menywod ledled y wlad wedi cyflwyno cwynion camweinyddu yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch yr hyn a welant fel cyfathrebu annigonol ynglŷn â newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth. Araf iawn fu'r cynnydd ar y cwynion a gyflwynwyd i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ond fis Tachwedd diwethaf, cafodd y cwmni cyfreithiol a logir gan WASPI lwyddiant, a chamodd yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd i mewn a chytuno gyda'r Archwilydd Achosion Annibynnol y bydd yn symleiddio'r broses yn uniongyrchol yn y dyfodol, a soniaf am hynny yn y Siambr er mwyn dangos cryfder yr ymgyrch a'r ymgyrchu.

Soniodd Julie Morgan, wrth ymyrryd ar Jane Hutt, am y ciw o fenywod y tu allan i'r cyfarfod a drefnwyd gan Anna McMorrin, ac rydym wedi cael profiadau tebyg yn ogystal. Mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, yn gwbl briodol felly, oherwydd mae'n anghyfiawnder ofnadwy. Bu nifer o ddadleuon yn y Tŷ Cyffredin, er nad ydynt yn rhwymol ar y Llywodraeth, a chyflwynodd Carolyn Harris Fil Aelod preifat ym mis Medi ar ran y grŵp seneddol hollbleidiol, sy'n galw am adolygu'r sefyllfa, ac yn benodol am wneud gwaith costio ar gyfer y cynllun iawndal. Mae ei Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio yn anffodus, ond mae ganddynt ymgynghoriad ar-lein sy'n gwahodd grwpiau sy'n ymgyrchu ar y mater hwn i ymateb, felly os oes unrhyw un yn gwybod am grŵp sydd heb ymateb, os gwelwch yn dda anogwch hwy i wneud hynny. Gwn eu bod wedi cael dros 100 o ymatebion hyd yn hyn. Maent yn mynd i gyflwyno canlyniadau'r arolwg hwnnw ar 25 Ebrill, a'i ddiben yw ceisio nodi ateb y gall nifer fawr o'r Aelodau ei gefnogi, a gall hynny lywio'r Bil Aelod preifat, a bydd y Llywodraeth hon hefyd yn ceisio cefnogi mewn unrhyw ffordd a allwn.

Oherwydd bod Michelle Brown wedi dweud nad oedd yn credu ein bod yn gwneud unrhyw beth, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan wasanaethau cynghori lles cymdeithasol yn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ac arfer eu hawliau i gyfiawnder sifil o ran y mathau hyn o broblemau. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo darparwyr cyngor di-elw sydd wedi bod yn allweddol iawn yn rhoi cyngor i fenywod ynghylch sut i gyflwyno cwyn, oherwydd teimlwn yn hyderus y dylai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gael mynediad at gyngor annibynnol am ddim ar ddyled, rheoli arian a materion pensiwn, ac y dylent gael eu cefnogi yn y modd hwn. Felly, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £5.97 miliwn mewn arian grant i wasanaethau cynghori di-elw sy'n helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i gyngor annibynnol am ddim ar broblemau'n ymwneud â chael budd-daliadau lles, cyngor ar ddyledion, tai ac ati.

Y rheswm pam rwy'n nodi hynny yw oherwydd bod nifer o'r Aelodau wedi cysylltu'r anghyfiawnder i fenywod WASPI yn gwbl briodol â mater tlodi a menywod sy'n byw mewn tlodi. Dengys ffigurau fod nifer y menywod dros 60 oed sy'n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth ym Mhrydain wedi cynyddu 410 y cant rhwng mis Awst 2013 a mis Awst 2017. Nid yw'n anodd deall pam. Roedd y cynnydd ymhlith menywod dros 60 oed sy'n hawlio credyd cynhwysol a lwfans ceisio gwaith yn 110 y cant. Canfu data a gasglwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei adroddiad ar gyfer 2017, 'Can't wait to get my pension: the effect of raising the female state pension age on income, poverty and deprivation', fod incwm aelwydydd menywod rhwng 60 a 62 oed wedi gostwng oddeutu £32 yr wythnos ar gyfartaledd. Mae'r gostyngiad yn debyg yn nhermau arian parod ar gyfer aelwydydd cyfoethocach a thlotach, sy'n golygu, er bod y gostyngiad cyfartalog mewn termau cyfrannol yn 12 y cant, mae'r gostyngiad yn sylweddol fwy, ar gyfartaledd, ar gyfer cartrefi incwm isel: gostyngiad o 21 y cant, o'i gymharu ag aelwydydd incwm uwch, lle mae oddeutu 4 y cant. Felly, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai'r rhai sydd eisoes o gwmpas y ffin tlodi sydd eisoes wedi gweld y colledion mwyaf yn eu hincwm o ganlyniad i effeithiau diwygio lles, o gymharu â grwpiau incwm eraill.

Siaradais yn gynharach yn y Siambr, Ddirprwy Lywydd, wrth ateb cwestiynau, am ganlyniadau anfwriadol nifer o bolisïau'n dod at ei gilydd ac yn cael effaith lawer mwy nag a fwriadwyd, a byddwn yn gwneud y pwynt hwnnw unwaith eto wrth Lywodraeth y DU, gan fod y modd y cyflwynodd y credyd cynhwysol, y ffordd y mae'n ymateb i geiswyr gwaith a'r ffordd y mae'n ymateb i'r newid i daliadau personol annibynnol, ynghyd â chodi oedran pensiwn y wladwriaeth, yn cael yr effaith gronnol fwyaf anffodus ar nifer fawr o fenywod yng Nghymru, ac mae'n iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny.

Mae credyd cynhwysol bellach wedi'i gyflwyno mewn wyth awdurdod lleol yng Nghymru, gyda Sir Ddinbych yn mynd yn fyw ym mis Ebrill. Rwy'n falch o ddweud bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi diwygio'u hamserlen gyflwyno i gynnwys mwy o amser i'r system ar-lein Gymraeg lawn fod ar gael, ond mae'n golygu bod y menywod sy'n cael eu dal yn y sefyllfa hon hefyd yn cael eu dal yn y trefniadau pontio, sy'n anffodus iawn. Rydym yn dal i fod yn bryderus iawn ynglŷn â diffygion sylfaenol y system, ac rydym yn siomedig iawn fod Llywodraeth y DU yn parhau â'r cyflwyno, er gwaethaf ein galwadau ni ac eraill arnynt i atal y cyflwyno a mynd i'r afael â'r nifer o broblemau, yn cynnwys y broblem hon, y dylid ymdrin â hwy yn rhan o'r broses gyflwyno.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cefnogi'r menywod WASPI yn llwyr yn eu hymgyrch. Byddaf yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid ei meddwl a pheidio â gwrthwynebu trefniadau pontio a threfniadau eraill, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ymgyrchoedd dewr ac effeithiol iawn menywod WASPI ledled y wlad. Diolch.

18:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac mewn modd mor gadarnhaol gan mwyaf? A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y rhai sy'n gysylltiedig â WASPI am y gwaith a wnaethant, ac y maent yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y sefyllfa gwbl anfoddhaol hon?

Mae deddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth y DU wedi golygu bod oddeutu 2.6 miliwn o fenywod ym Mhrydain wedi wynebu oedi o hyd at chwe blynedd yn oedran pensiwn y wladwriaeth. Digwyddodd y newid hwn heb i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gael eu hysbysu'n ddigonol ynghylch y canlyniadau a heb rybudd priodol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu gadael heb ddigon o amser i baratoi'n ddigonol ar gyfer eu dyddiad ymddeol hwyr. Yn wir, ar ôl y ddeddfwriaeth yn 1995, roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i anfon gohebiaeth yn nodi mai 60 oedd yr oed ymddeol i fenywod. Nodai'r ddeddfwriaeth wreiddiol y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 60 i 65 oed erbyn y flwyddyn 2020, ond cafodd ei newid gan Ddeddf bellach yn 2011, yn ei gyflwyno'n gynt yn 2018 a'i godi i 66. Mae'r newidiadau i'r gyfraith a methiant i gyfathrebu canlyniadau'r newidiadau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt wedi arwain at lawer o fenywod ar draws y wlad yn cael eu gadael heb bensiynau digonol ar ôl ymddeol. Mae llawer bellach heb fawr o arian neu'n byw ar incwm pitw.

Gwnaeth Vikki Howells y pwynt fod y menywod hyn o'n cwmpas ym mhobman, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, a nododd y wybodaeth anghywir sydd ar gael i fenywod WASPI. Nododd Nick Ramsay fod hyn i gyd wedi dechrau yn 1995. Cyfeiriodd eto hefyd at y wybodaeth anghywir, ac fel y byddem yn disgwyl, dywedodd fod hyn wedi'i wneud o dan Lywodraethau Toraidd a Llafur. Yn briodol iawn, llongyfarchodd Siân Gwenllian y gwaith a wneir gan grwpiau WASPI ledled Cymru a mynegodd ei chefnogaeth i'r grwpiau hynny. Dywedodd Michelle Brown fod menywod wedi adeiladu eu bywydau o gwmpas ymddeol yn 60 oed, i ganfod yn hwyr iawn, mewn llawer o achosion, fod y pyst gôl wedi cael eu symud gan beri anfantais fawr i fenywod WASPI.

Canolbwyntiodd Dawn Bowden ar y wybodaeth anghywir, neu'r diffyg gwybodaeth. Rhaid imi ddweud—ac mae gennyf barch mawr tuag at Dawn—fod ei beirniadaeth o 'ddiffyg ymwneud' honedig UKIP yn anwybyddu'r ffaith nad oedd y Blaid Lafur yn ymwneud â hyn hyd nes i WASPI ddod i fodolaeth, ac wrth gwrs, cafodd y Blaid Lafur 13 blynedd i ddiddymu Deddf 1995 ac ni wnaeth hynny. Siaradodd Jane Hutt hefyd am grwpiau WASPI a disgrifiodd y rali yng Nghaerdydd a'i hawydd i helpu i barhau i ymladd yr achos. Dywedodd Julie James y byddai llawer o'r menywod WASPI—ac nid oedd neb wedi cyfeirio at hyn, mewn gwirionedd—wedi bod mewn gwaith rhan amser ar gyflogau isel, sy'n gwneud eu sefyllfa o ran pensiynau hwyr hyd yn oed yn fwy trychinebus. Roedd hi'n dda clywed y bydd—a chredaf y gallaf ddefnyddio'r ymadrodd hwn—yn dyblu ei hymdrechion i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, ac roedd hi'n nodi'n eithaf manwl rai o'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu gwneud i wneud bywyd yn haws i fenywod WASPI.

Rydym ni yn UKIP yn galw ar y Siambr hon i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi adnoddau ar waith a/neu newid y ddeddfwriaeth i leddfu dioddefaint y menywod hyn y mae llawer ohonynt wedi gweithio ar hyd eu hoes ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at gyfoeth y wlad. Rwy'n eich annog i gefnogi'r ddadl hon.

19:00

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Symudwn yn awr at y ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU ar Syria, a galwaf ar Leanne Wood i agor y ddadl frys. Leanne Wood.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. 'Gwaith ar ben'—dyna oedd geiriau'r Arlywydd Trump yn dilyn yr ymosodiadau awyr gan yr UDA, Ffrainc a Phrydain ar y cyd ar Syria y penwythnos diwethaf. Lladdwyd 400,000 amcangyfrifedig o Syriaid ers dechrau'r rhyfel yn 2011. Mae dros 5.6 miliwn o Syriaid wedi ffoi o'r wlad yn ôl y Cenhedloedd Unedig, a chafodd 6.1 miliwn o bobl eu dadleoli o fewn y wlad. Mae cyfundrefn Assad yn parhau i fod mewn grym, ac mae uwch-gadfridogion, gan gynnwys y Cyd-bennaeth Staff yn y Pentagon, wedi dweud bod Assad yn dal i allu defnyddio arfau cemegol ar ôl yr ymosodiad. Nid yw hynny'n swnio fel 'gwaith ar ben' mewn unrhyw fodd.

Hoffwn ymdrin â thri mater canolog yng Nghynulliad Cymru a'n rôl yn cefnogi ac yn rheoli canlyniadau ofnadwy rhyfel Syria. Yn gyntaf hoffwn geisio eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â'i safbwynt ynghylch yr ymosodiadau awyr ar y penwythnos. Yn ail, hoffwn drafod cost ariannol a pherthnasol yr ymosodiad, cyn symud ymlaen i drafod sut y gallwn ddyblu ein hymdrechion i gynnig hafan ddiogel i'r rhai sy'n ymdopi â chanlyniadau rhyfel cartref Syria.

Cyn imi symud ymlaen at fy araith go iawn, hoffwn ailadrodd fy siom fod Aelodau o fainc flaen Llafur yn teimlo nad oedd hwn yn fater digon arwyddocaol i gyfiawnhau dadl. Mae methu cefnogi galwadau Plaid Cymru am ddadl ar y mater hwn nid yn unig yn siomedig ond yn rhyfedd, o ystyried galwadau eu cydweithwyr am fwy o graffu seneddol ar y mater yn San Steffan.

Ddoe, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, holais gwestiwn syml i'r Prif Weinidog: a yw'n ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i'r ymyrraeth filwrol yn Syria? Roedd ei ateb yn ochelgar fel arfer. Heb i unrhyw bleidlais gael ei gwneud yn unrhyw un o Seneddau'r DU, fore Sadwrn rhoddodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i phenderfyniad i ymuno yn y bomio a arweiniwyd gan America. Roeddwn am roi cyfle arall, heddiw, i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw. Heb unrhyw gymeradwyaeth seneddol, a yw'r Prif Weinidog yn ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i hymosodiad awyr, gan iddi honni ei fod er budd cenedlaethol Prydain? Ac o wybod yn awr nad yw'r ymosodiad awyr wedi lliniaru gallu cyfundrefn Syria i ddefnyddio arfau cemegol na newid cwrs y gwrthdaro, a yw'n dal i gefnogi'r ymosodiad? Ond nid yw yma ar gyfer y ddadl hon. Rwy'n mawr obeithio y caiff hyn ei ddwyn i'w sylw, a'i fod yn gallu ateb y cwestiynau pwysig hyn maes o law.

Nid yw ymosodiadau symbolaidd yn gwneud llawer i helpu pobl druenus Syria sydd angen ateb i'r hyn sy'n argyfwng gwleidyddol a thrychineb ddynol yn hytrach na rhagor o fomiau.

Mae rhyfel yn weithgarwch drud. Wrth gwrs, i rai, mae'n broffidiol. Mae gweld cyfrannau cwmnïau fel BAE Systems yn codi gyda'r posibilrwydd o ragor o wrthdaro yn dangos y strwythurau corfforaethol ffiaidd sy'n sail i'r sefydliad amddiffyn.

Lansiodd awyrennau Typhoon a Tornado Prydain wyth o daflegrau Storm Shadow. Yn ôl cwestiwn seneddol yn 2011, mae pob un o'r taflegrau hyn yn costio £790,000. Dengys cyfrifiad bras ein bod yn edrych ar gost o fwy na £6.3 miliwn ar gyfer yr un ymosodiad a gyflawnwyd ar y penwythnos. Nid yw hyn yn cynnwys costau'r awyrennau a ddefnyddiwyd i danio pob un o'r bomiau gwerth £0.75 miliwn hyn. Pan fo angen arian i dalu pensiwn teg i'n menywod WASPI, mae'r coffrau'n wag. Pan fo diwygiadau lles crintachlyd a chreulon yn peri i bobl gyflawni hunanladdiad oherwydd anobaith, dywedir wrthym nad oes arian ar ôl. Mae pob un ohonom yma wedi colli asedau a gwasanaethau gwerthfawr yn y cymunedau a gynrychiolwn oherwydd cyni, ond yn achos arfau rhyfel, ymddengys bod gan y wladwriaeth Brydeinig bocedi dwfn iawn. Mae'n warthus fod San Steffan yn gallu honni bod gwario miliynau ar fomio gwledydd tramor o fudd yn genedlaethol tra bo menywod a dynion digartref yn cael clywed nad oes arian ar gael i roi llety iddynt.

Mae gennyf gywilydd dweud bod record Cymru ar ffoaduriaid o Syria yn parhau i fod yn siomedig. Wrth ollwng bomiau ar y genedl hon sydd wedi ei rhwygo gan ryfel, mae'n bosibl iawn fod y wladwriaeth Brydeinig yn creu mwy o ffoaduriaid ar yr un pryd ag y mae'n gwrthod cyflawni ei rhwymedigaethau presennol. Cymerodd Cymru ychydig dros 300 o ffoaduriaid y llynedd, ac rwy'n falch o ddweud mai cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin a roddodd gartref i'r rhan fwyaf—51—pob un ohonynt o Syria. Eto i gyd nid oedd rhai cynghorau—gweinyddiaethau Llafur ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot—wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid hyd at ddiwedd y llynedd. Cywilydd. Rwy'n erfyn ar y Prif Weinidog i siarad â'i gyd-Aelodau yn y blaid a'u cael i symud ar y mater hwn. Yma, yn ein Senedd genedlaethol, yn ein cynghorau ac yn ein cymunedau, gallwn achub bywydau. Gallwn gynnig hafan ddiogel i'r bobl druenus hyn. Mae gennym ddyletswydd foesol i weithredu, ac rwy'n dweud eto wrth y Prif Weinidog fod yn rhaid iddo weithredu yn awr i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth a all i helpu pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn.

I gloi, fe ellid ac fe ddylid dweud llawer mwy am y mater hynod o gymhleth a phwysig hwn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, hoffwn gloi gyda'r un safbwynt ag a roddais ar y cychwyn: nid yw Plaid Cymru yn cefnogi'r ymosodiad awyr symbolaidd hwn dan arweiniad America ar Syria, ac unwaith eto rwy'n atgoffa'r Aelodau nad yw'r llwybr i heddwch byth wedi ei balmantu ag arfau rhyfel.

19:05

A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod wedi pleidleisio o blaid cael y ddadl hon? Yr ail beth yw hyn: rwy'n falch iawn o weld bod Theresa May wedi dod o hyd i'r goeden arian ddrwgenwog hon er mwyn gallu ariannu bomio Syria. Rwy'n credu hefyd, os ydym yn byw mewn democratiaeth seneddol, y dylai Senedd San Steffan fod wedi cael cyfle i bleidleisio ar y penderfyniad i fynd i ryfel ac ymosod ar wlad arall neu beidio, ac nid oedd yn rhaid inni weithio yn ôl amserlen Donald Trump. Os edrychwch ar yr hyn a wnaethom hyd yn hyn, roeddem eisiau bomio Syria, a fyddai ond wedi helpu Assad, a fyddai ond wedi helpu Isis. Yna, fe fomion ni Isis i helpu Assad. Nawr, rydym yn ôl yn bomio Assad, a fyddai ond yn helpu Isis. Mae bron fel pe bai gennym bolisi , 'A allwn gadw'r rhyfel cartref hwn i fynd cyhyd ag y bo modd?'

Ni wnaethom fomio safle arfau cemegol, diolch byth. Sut y gwn i hynny? Oherwydd na fu farw miloedd a miliynau o bobl. Oherwydd pe baech yn bomio ffatrïoedd arfau cemegol, mae'r cemegau'n cael eu gollwng i'r atmosffer. Gallai''r dwyrain canol i gyd fod wedi cael ei orchuddio gan ba arfau cemegol bynnag oedd i fod yno. 'A', rydych yn dweud, 'nid ydynt wedi cael eu cymysgu eto'. Wel, gadewch i ni ddweud nad ydynt wedi cael eu cymysgu—pan fyddwch yn eu bomio, beth rydych chi'n ei wneud gyda'r cemegau ond eu cymysgu? Pe baech wedi bomio ffatri glorin byddem wedi creu hafoc llwyr. Ond mae'n ymddangos bod gennym bolisi o fomio dros heddwch. Mae'n fy atgoffa o'r syniad canoloesol o waedu bobl er mwyn eu gwella. Nid oes yr un ohonynt yn gweithio.

Mae gwir angen inni ymyrryd yn Syria. Gweithiodd yn dda iawn yn Irac ac fe weithiodd mor dda yn Libya. Ar ôl cymaint o lwyddiant—. Dywedodd rhywun unwaith, pan oeddem yn arfer rhannu gwledydd, 'Nid oedd wedi gweithio hyd hynny, ond roeddem yn gobeithio y byddai'n gweithio'r tro nesaf.' Nid oedd y tro nesaf byth yn gweithio. Nid yw bomio gwledydd byth yn gweithio. Yr unig ffordd o ddatrys hyn yw drwy negodi, a rhaid i ni gael heddwch yn y dwyrain canol ac mae angen inni gael heddwch yn Syria. A'r peth arall yw hyn: mae achos gwaeth yn digwydd yn y byd heddiw, sef Yemen: yr ardal na feddylir amdani, na siaradir amdani, lle mae plant yn marw bob dydd, ond oherwydd bod Saudi Arabia ynghlwm wrth hynny, mae'r gorllewin ofn mynd i'r afael â hynny.

19:10

Rwy'n falch o ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr wedi pleidleisio dros ganiatáu i'r ddadl fynd rhagddi y prynhawn yma. Credaf ei bod yn bwysig pan ddaw cynigion mor ddifrifol â hyn gerbron—neu mor bwysig â hyn yn hytrach na difrifol—fod y Cynulliad yn cael cyfle i fynegi ei farn. Rwy'n anghytuno â barn arweinydd Plaid Cymru. Rwy'n anghytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe y prynhawn yma. Ond yn y pen draw, democratiaeth ydym ni, Siambr drafod yw hon, dyna yw ein rôl.

Rwy'n cefnogi'r pwynt a wna arweinydd Plaid Cymru ei bod hi'n anffodus nad yw Prif Weinidog Cymru wedi dod yma ar gyfer dadl bwysig arall heddiw. Ac mae hon yn ddadl bwysig, oherwydd dros y penwythnos, fel yr amlinellwyd yn y sylwadau agoriadol, fe wnaeth y Prif Weinidog—. Ac ni ffoniodd Theresa May Carwyn Jones oherwydd mai Mr Jones o Ben-y-bont ar Ogwr ydoedd. Fe ffoniodd hi Carwyn Jones oherwydd mai ef oedd Prif Weinidog Cymru ac oherwydd hynny, siaradai ar ran y Llywodraeth. Rwy'n tybio bod y gymeradwyaeth a roddodd y Prif Weinidog, sydd i'w chroesawu am fy mod yn credu bod y camau a gymerwyd gan y Prif Weinidog yn gywir, yn briodol ac yn gymesur—. Ond rwy'n mynd yn ôl at y pwynt am y Prif Weinidog yn rhoi'r gymeradwyaeth honno, a'i gymeradwyaeth oedd, 'Fe gynigiais fy  nghefnogaeth i unrhyw ymyrraeth', a dyna oedd y geiriau a ddywedodd, felly roedd yn amlwg yn siarad ar ran y Llywodraeth, a phleidlais y Llywodraeth yma heddiw, rwy'n tybio. Ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth honno, ydw, ond byddai wedi bod yn dda clywed ganddo yma heddiw ynghylch ei ddadleuon a'i bwyntiau ynglŷn â pham y gallodd roi'r gefnogaeth honno, oherwydd mae yna gyd-Aelodau yn y Blaid Lafur—Jo Stevens, er enghraifft, ac Arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan—sydd wedi gwneud pwynt teg nad ydynt yn credu bod yr ymosodiadau'n gyfreithlon. Nawr, rwy'n anghytuno â hynny, ond fel y dywedais, rydym yn byw mewn democratiaeth ac mae'n rhaid i bwyntiau gael eu gwneud, a phan fyddwch yn gwneud y pwynt rhaid i chi esbonio wedyn pam yr ydych yn arddel y pwynt a wnaethoch a'r ymrwymiad a wnaethoch.

Fel y dywedais, o feinciau'r Ceidwadwyr, fe bleidleision ni dros gael y ddadl y prynhawn yma. Fel grŵp, rydym yn cefnogi'r modd cymesur a phendant y mae Prif Weinidog y DU wedi gweithredu ar fater penodol. Nid yw'n ymwneud â newid y gyfundrefn, ond â'r defnydd erchyll o arfau cemegol a'r lluniau a welsom yn dod o Syria dros y penwythnos—y penwythnos yn syth ar ôl y Pasg—lle'r oedd plant yn sgrechian mewn poen, lle'r oedd oedolion yn sgrechian mewn poen, a gwyddom fod o leiaf 70 a mwy o bobl wedi marw oherwydd yr ymosodiad cemegol hwnnw.

Gwyddom fod Senedd y DU wedi pleidleisio yn 2013 dros beidio ag ymyrryd yn filwrol i atal rhyfela pellach neu ryfel cemegol yn Syria. Yn anffodus, ataliodd y bleidlais honno, yn fy meddwl i a meddyliau llawer o bobl eraill, ledaeniad rhagor o ymosodiadau cemegol yn y cyfamser hyd at y penwythnos diwethaf.

Mike Hedges a gododd. 

Buaswn yn dweud—[Anghlywadwy.]—bod gwneud yr ymyrraeth honno wedi atal Isis rhag cael rheolaeth ar y wlad.

Wel, dyna farn y gallech ei chyflwyno, ond rwyf wedi sylwi yr wythnos hon fod llawer o bobl a bleidleisiodd i atal y cyrchoedd awyr hynny—cyrchoedd awyr penodol, gallwn ychwanegu, oherwydd nid oedd yn fandad penagored—cyrchoedd awyr penodol, bellach yn difaru eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Ond bydd hanes yn dangos inni beth a gyflawnwyd, a'r hyn a wyddom yw bod Assad wedi parhau i ddefnyddio arfau cemegol yn ddiwahân yn erbyn y boblogaeth sifil i hyrwyddo ei amcanion, ei amcanion barbaraidd.

Nid wyf yn gwybod a oedd yr Aelod yn mynd i roi sylw i'r pwynt hwn, sef—. Cyfeiriodd yn awr at y bleidlais yn 2013, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, ac rwy'n cymeradwyo David Cameron am alw'r bleidlais honno, ac am alluogi'r Senedd i benderfynu hyn. A yw'n teimlo bod Prif Weinidog y DU yn iawn i roi'r camau hyn ar waith? Mae'n cytuno gyda'r ymosodiadau—rwy'n derbyn ei bwynt ar hynny—ond a yw'n teimlo bod y Prif Weinidog yn gywir i weithredu heb ailymgynnull y Senedd a chael pleidlais yn y Senedd, fel y cafodd gyfle i'w wneud ddydd Gwener?

19:15

Rwy'n credu, yn y sefyllfa hon, ei bod yn gywir i weithredu fel y gwnaeth, oherwydd roedd yn gynghrair rhwng Ffrainc, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Nid oedd yn weithredu unochrog. Pe bai'n weithredu unochrog, rwy'n credu y byddai'n fater cwbl ar wahân a byddai angen cymeradwyaeth seneddol yn fy marn i. Yr wythnos hon, cawsom bleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin a enillwyd gan y Llywodraeth. Yn wir, trodd yr wrthblaid swyddogol ei chefn ar y pleidleisiau hynny, sy'n rhyfeddol o ystyried y gwres a fynegwyd dros y penwythnos ynglŷn â beth oedd arweinydd yr wrthblaid yn mynd i'w wneud pan fyddai'r Senedd yn ailymgynnull ar ôl y Pasg.

Felly, rwy'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wneuthum: o'r meinciau hyn, rydym yn ddiamwys ein cefnogaeth i gymesuredd a nodau'r cyrch awyr a gyflawnodd Llywodraeth y DU gyda Ffrainc ac America. Rydym yn cefnogi gallu'r sefydliad hwn i drafod y pwynt pwysig hwn, ac mae'n werth pwysleisio eto fy mod yn gresynu'n fawr nad yw Prif Weinidog Cymru yma i gymryd rhan yn y ddadl hon ac esbonio'n llawn—roedd yn gefnogaeth i'w chroesawu yn ein barn ni—pam y gallodd roi cymaint o gefnogaeth ddiamod i'r ymosodiad, o gofio bod ffigurau blaenllaw o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan wedi mynegi amheuon difrifol. Credaf fod y cwestiynau hynny'n haeddu atebion, a dyma'r fforwm ar gyfer cael yr atebion hynny.

Diolch. Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod wedi fy siomi gan agwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr alwad am y ddadl frys hon yn enw Leanne Wood. Mae llawer o fy etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru eisiau gwybod beth yw barn ACau ar hyn, a hefyd cafwyd deiseb mewn perthynas ag ymateb y Prif Weinidog yn datgan y byddai'n cefnogi 'unrhyw ymyrraeth'—ei eiriau ef, nid fy rhai i: 'unrhyw ymyrraeth'. Pan fydd Prif Weinidog gwlad, neu genedl, yn gwneud sylwadau o'r fath heb ymgynghori â ni fel Senedd, credaf ei bod yn agwedd beryglus iawn i'w chael. Ond nid wyf yn synnu, yn y dyddiau diwethaf, ei fod wedi gweithredu yn y fath fodd.

Rwyf hefyd yn synnu oherwydd gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw beth oedd hi'n ei wneud mewn perthynas â ffoaduriaid o Syria, ac mae hynny'n rhan bwysig o sut yr ydym yn ymdrin â'r argyfwng hwn. Er enghraifft, ceir 5.64 miliwn o ffoaduriaid y tu allan i Syria ar hyn o bryd. O'r rhain, 500,000 yn unig sy'n byw mewn gwersylloedd i ffoaduriaid. Ceir bwlch cyllido rhwng rhoddion a dderbyniwyd a rhoddion sydd eu hangen o dros £2.1 biliwn ar gyfer darparu gofal dyngarol priodol. Mae 6.1 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o fewn Syria, ddwywaith maint poblogaeth Cymru, ac mae 13.1 miliwn o bobl o fewn y wlad angen cymorth dyngarol. Roeddwn am ailadrodd y ffigurau hyn oherwydd maent yn anhygoel, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried fod y boblogaeth cyn y rhyfel yn 22 miliwn. Mae Syria wedi'i distrywio'n llwyr. Mae ei heconomi bron iawn wedi'i dinistrio'n llwyr, fel y mae rhannau sylweddol o'i seilwaith. Mae'n wlad sydd mewn sawl ffordd bellach yn hunllef o ddinistr a marwolaeth.

Rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r gwrthdaro rhwng safbwyntiau pobl ar Syria. Yn foesol, gwn fod pobl yn teimlo y dylid ymateb i'r defnydd o arfau cemegol gan gyfundrefn Assad, ond dylid ei wneud â diplomyddiaeth yn ganolog iddo. Teimlaf y dylem ganolbwyntio ar ganlyniadau gweithredu milwrol hefyd i bobl Syria a beth y mae'n ei olygu i'r bobl sy'n byw yno a'r rhai sy'n cael eu gwneud yn amddifad o ganlyniad i'r rhyfel. O ystyried bod y wlad wedi'i dinistrio i'r fath raddau, rwy'n methu gweld manteision dyngarol hirdymor ymosodiadau milwrol. Ni welsom unrhyw gynllun strategol gan y Prif Weinidog hyd yn hyn ac nid cheir unrhyw strategaeth ymadael. Hyd yn oed pe bai'r ymosodiadau milwrol wedi eu targedu'n ofalus, po fwyaf o daflegrau sy'n hedfan dros bennau pobl Syria, po fwyaf o ffrwydradau, y mwyaf yw'r perygl o ddial, a'r mwyaf y cânt eu hunain ynghanol tensiynau'r byd rhwng pwerau niwclear awdurdodaidd byd-eang.

Dylem fod yn ymwybodol hefyd, gyda Ffederasiwn Rwsia bellach yn gadarn o fewn Syria, nad yw'r bygythiad o ymosodiadau milwrol gan wledydd NATO yn ffactor ataliol hirdymor realistig bellach yn fy marn i. Felly, mae angen inni gynllunio a hwyluso trafodaethau heddwch a diwallu anghenion dyngarol pobl Syria. Rhaid inni roi cynllun priodol ar waith drwy gyfrwng yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a chynnig cymorth o Gymru lle bo'n bosibl, fel y gwnaethom mewn amgylchiadau blaenorol—Palesteina, er enghraifft—i helpu i dalu am y bwlch cyllido rhwng rhoddion sydd eu hangen a rhoddion a dderbyniwyd. Rhaid inni baratoi i gymryd rhagor o ffoaduriaid o Syria er mwyn cyflawni a chydnabod ein rôl briodol yn yr argyfwng hwn ac fel y gallwn wneud rhywbeth gwirioneddol fuddiol i bobl Syria. A phan fyddwn yn cymryd ffoaduriaid, rhaid inni ddarparu ar eu cyfer yn briodol fel nad ydynt yn dod i wlad elyniaethus heb ffordd o gael cymorth neu gyllid cyhoeddus.

19:20

Nid oes gennyf lawer o amser, mae arnaf ofn.

Mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi'i nodi, mai'r rhai mwyaf awyddus i orymdeithio i ryfel am wahanol resymau, yn enwedig y rhai sydd dan ddylanwad jingoistiaeth Brydeinig, yw'r rhai lleiaf awyddus i helpu'r rhai sydd ar y pen arall i ymosodiadau milwrol. Y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffoaduriaid Irac ar ôl y rhyfel yn Irac a oedd fwyaf o blaid rhyfel yn y lle cyntaf. Felly, buaswn yn annog y rhai sydd fwyaf o blaid ymyrraeth yn Syria i arddel safbwynt gonest a chydnabod bod ymosodiadau milwrol, hyd yn oed ymosodiadau wedi'u targedu, yn gwaethygu'r sefyllfa yn Syria.

Credaf ei fod yn destun cywilydd yn y wlad hon fod y DU wedi gwrthod cymryd cyfran briodol o ffoaduriaid o Syria. Gwn fod Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud hynny; y llynedd oedd yr unig adeg na wnaethant hynny, felly fe gywiraf hynny i chi, David, hyd yn oed ar sail dros dro. Mae'r ffaith ein bod wedi gadael i rai o'n cynghreiriaid Ewropeaidd weithredu'n gadarnhaol mewn perthynas â ffoaduriaid o Syria a'u hintegreiddio'n greiddiol i'n cymdeithas yn gyfystyr ag amddifadu ein rôl ryngwladol. Felly, buaswn yn annog y Cynulliad hwn o leiaf i arddel safbwynt gwahanol, safbwynt sy'n cydnabod ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn annog symud tuag at bolisïau adeiladol wedi'u gyrru gan ystyriaethau dyngarol, a helpu i sicrhau cadoediad o'r diwedd.

Credaf y dylwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan lawer yn y Siambr, hyd yn oed os ydym yn anghytuno ar y mater hwn. Buaswn wedi hoffi pe bai'r Prif Weinidog yma, o ystyried iddo wneud y penderfyniad hwnnw. Nid wyf yn siŵr a ymgynghorodd â'r Cabinet, a ymgynghorodd â'r grŵp Llafur yn y Cynulliad hwn, ond fe wnaeth y penderfyniad hwnnw drosom yn ein henw ni, ond hoffwn ddweud yma heddiw: ni wnaeth hynny yn fy enw i.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn gyntaf, hoffwn nodi mai UKIP yw'r unig blaid DU gyfan i wrthwynebu unrhyw weithredu milwrol yn y dwyrain canol, gan gynnwys ymosod ar Affganistan ac Irac. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod bod y senarios gwleidyddol ym mhob un o wledydd yr ardal bron yn llawer rhy gymhleth i wledydd y gorllewin fynd yn rhan o bethau. Hyd yn oed lle y cafwyd rhywfaint o lwyddiant, er enghraifft yn Affganistan, mae'r hyn a enillwyd yn llawer rhy ansicr i ni ei alw'n llwyddiant pur.

Er na fyddem yn gwneud dim i gynorthwyo Assad, gallwn lwyr gondemnio'r ymosodiadau a gyflawnwyd yr wythnos hon gan lywodraethau'r UDA a'r DU. Rydym yn derbyn efallai nad yw cyfundrefn Assad yn dderbyniol i wledydd democrataidd y gorllewin, ond rhaid inni gydnabod ei fod yn arweinydd a etholwyd yn ddemocrataidd sydd, mae'n ymddangos, yn cael cefnogaeth helaeth yn ei wlad. Beth bynnag yw ei ddrygau wrth reoli Syria, nid yw wedi arwain at unrhyw beth tebyg i effaith ddinistriol y rhyfel ar ei bobl a'i seilwaith, rhyfel a gafodd ei chynorthwyo a'i hannog yn rhannol gan y gorllewin: dros chwe miliwn o bobl wedi'u dadleoli a channoedd o filoedd o sifiliaid a milwyr wedi'u lladd.

Mae cyfryngau'r DU wedi canolbwyntio'n helaeth ar gondemnio gweithgareddau Assad yn ystod y rhyfel hwn, gan anwybyddu'n llwyr y ffaith bod y gwrthryfelwyr, er eu bod yn gwybod eu bod wedi colli'r rhyfel mewn rhannau penodol o faes y frwydr, wedi parhau i ymladd er gwaethaf y fath golli bywyd erchyll a'r difrod i'r seilwaith, gan arwain yn aml at y dinistr llwyr y mae'r gwrthsafiad parhaus hwn wedi'i achosi. Rhaid i arweinwyr y gorllewin dderbyn llawer iawn o gyfrifoldeb am y marwolaethau a'r distryw yn Syria. Dylai'r Cynulliad hwn gondemnio'r holl weithredu milwrol yn y dwyrain canol.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud pa mor falch yr wyf ein bod yn trafod y cyrchoedd ar Syria yma yn y Siambr hon. Mae'n ymddangos yn hynod bwysig i mi ein bod yma wrth galon democratiaeth Cymru a'n bod yn trafod y mater pwysig iawn hwn. Yn amlwg, nid yw materion rhyfel a heddwch wedi eu datganoli, fel y nododd arweinydd y tŷ yn glir yn gynharach yn y dydd. Gwneir y penderfyniadau hynny, yn amlwg, yn San Steffan. Fodd bynnag, credaf fod pobl Cymru am inni drafod y materion hyn sydd o bwys enfawr yma yn y Siambr hon. Maent am glywed beth yw ein barn. Ac wrth gwrs, mae gennym Syriaid yn byw yma gyda ni yng Nghymru, ac mae hi mor bwysig, rwy'n meddwl, ein bod yn rhoi ein safbwyntiau yma.

Hoffwn ailadrodd y pwynt ynglŷn â'r modd y mae'r ymosodiadau hyn yn digwydd heb un bleidlais yn y Senedd. Galwyd y Cabinet ynghyd. Pam na chafodd y Senedd ei galw? Gellid bod wedi galw'r Senedd yn hawdd, ac mae'n gwneud ichi deimlo na chafodd y Senedd ei galw yn fwriadol; fod yr amseru wedi digwydd yn y fath fodd fel bod y Senedd wedi cael ei hanwybyddu. Oherwydd datblygwyd confensiwn gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn ymgynghori â'r Senedd ar faterion yn ymwneud â rhyfel a heddwch. Digwyddodd hyn pan oeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin a chafwyd dadl a phleidlais ar ryfel Irac yn 2003, a dyna un o'r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol i mi gymryd rhan ynddi erioed. Cafwyd pleidlais o blaid safbwynt y Llywodraeth Lafur ar y pryd, er bod llawer o bobl yn edifar ynglŷn â sut y gwnaethant bleidleisio yn ddiweddarach. Ond o leiaf cafwyd dadl, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonoch yn gwybod beth a ysgrifennwyd ar garreg fedd Robin Cook:

Efallai na lwyddais i atal y rhyfel, ond fe sicrheais hawl y Senedd i benderfynu ar y rhyfel.

Ond fel y digwyddodd, ni chafwyd dadl y tro hwn. Ni phenderfynwyd yn gadarn o blaid yr hawl honno. Ond ers hynny, bu nifer o achlysuron pan gafodd y Senedd ei hailymgynnull, a chyfeiriwyd eisoes heddiw at 2013.

Ar ôl i'r ymosodiadau awyr ddigwydd yr wythnos diwethaf, ddydd Sadwrn, euthum at gerflun Aneurin Bevan yng nghanol Caerdydd lle'r oedd llawer o bobl wedi ymgynnull yn teimlo braidd yn ddiobaith ac yn bryderus ynglŷn â'r hyn a oedd wedi digwydd, a rhoddodd llawer o bobl eu barn ar yr hyn a deimlent ynglŷn â'r cyrchoedd awyr. Clywyd amryw o safbwyntiau, ac un o'r prif resymau oedd ofn y byddai'r sefyllfa'n dwysáu'n gynyddol—yr ofn y byddai hyn yn arwain at rywbeth mwy. Pryder arall oedd natur anrhagweladwy Trump, a'r ffaith ein bod yn y sefyllfa hon gyda Trump, a'r pryder mawr ynghylch ei arfer o lunio polisi drwy drydar. Cefais fy syfrdanu heddiw—rydym wedi siarad heddiw am y cymorth dyngarol a roddir gan wahanol wledydd—wrth ddarllen mai 11 yn unig o ffoaduriaid o Syria a gafodd eu derbyn i'r Unol Daleithiau ers mis Tachwedd diwethaf, a dim ond 44 yn y chwe mis diwethaf. Mae hynny'n cymharu â 6,000 yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Felly, ble mae'r teimladau dyngarol gan Trump o ran peidio â chroesawu neb i mewn, ond mae wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad hwn.

Heddiw, mae llawer o bobl wedi sôn am y ffoaduriaid o Syria yn dod i Gymru. Yn sicr, o ran yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU, teimlaf y gallem fod wedi cymryd llawer iawn mwy o ffoaduriaid o Syria, a chredaf hefyd fod y diffyg gweithredu ynghylch plant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid ar ôl pasio gwelliant Dubs yn destun cywilydd enfawr—ein bod yn anffodus wedi gwneud cam â'r holl blant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid.

Felly, rwy'n credu mai ofn dwysáu cynyddol yw un o'r pryderon mawr ynghylch yr ymosodiadau hyn, ac mae'n bwysig nodi'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, oherwydd, wrth gwrs, fe ddywedodd fod y defnydd o arfau cemegol yn gwbl wrthun ac erchyll. Gwn fod pawb ohonom yn cytuno'n llwyr â hynny. Ond fe ddywedodd,

Rwy'n annog yr holl aelod-wladwriaethau i ymatal yn yr amgylchiadau peryglus hyn, ac i osgoi unrhyw weithredoedd a allai ddwysáu'r sefyllfa a gwaethygu dioddefaint pobl Syria.

Nid wyf yn meddwl y gellir cael ateb milwrol i'r broblem hon byth. Mae ateb diplomyddol yn anodd, a gwyddom ei fod wedi cael ei geisio, ac mae'n anodd tu hwnt ond rhaid inni barhau i fynd ar drywydd sefyllfa ddiplomyddol, waeth pa mor anodd yw hynny. Mae hon yn sefyllfa mor gymhleth fel na fydd ymosodiadau awyr ar eu pen eu hunain yn y ffordd hon byth yn arwain at heddwch.

19:25

Rydw i'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, ac yn diolch am y cyfle, yn wir, i mi allu datgan fy anfodlonrwydd efo penderfyniad Theresa May, y gwnaeth hi ei gymryd heb ymgynghori efo Aelodau Seneddol San Steffan.

A gaf i dalu teyrnged, yn y lle cyntaf, i arweiniad grymus Leanne Wood yn y drafodaeth yma, a hefyd llongyfarch Mike Hedges a Julie Morgan ar eu cyfraniadau bendigedig y prynhawn yma? Fel mae nifer wedi dweud, mae'n sefyllfa gymhleth iawn yn Syria. Rydym ni i gyd wedi gweld y lluniau erchyll o ddioddefaint yn y wlad a’r dioddefaint diweddaraf yma, wrth gwrs, wedi ei bentyrru ar erchyllterau blynyddoedd o ryfel mileinig tu hwnt yn Syria.

Yn fy amser sbâr, rydw i’n ymddiriedolwr elusen o’r enw Christian Rebuild, sydd yn ariannu ac yn cefnogi ymdrechion dyngarol drwy law eglwysi yn Syria a gwledydd cyfagos yn y dwyrain canol. Mae gwaith arwrol yn cael ei wneud gan nifer fawr o fudiadau o dan amgylchiadau hollol, hollol dorcalonnus yn y wlad, gyda dioddefaint ar bob llaw. Mae’r peth yn ddiddiwedd ac eglwysi’n ymdrechu’n arwrol i leddfu’r dioddefaint drwy ddarparu gwasanaethau ar y llawr.

Yn aml iawn, mae’r Senedd yma’n cael ei alw’n talking shop, yn cynnal nifer fawr o drafodaethau—wel, yn union fel pob Senedd arall, yn amlwg—ond yn Senedd San Steffan, ni chafwyd y cyfle i fod yn talking shop yr wythnos diwethaf wrth i Theresa May gymryd y penderfyniad i fomio targedau yn Syria heb drafod efo Aelodau Seneddol San Steffan. Dyna un o brif bwyntiau’r drafodaeth y prynhawn yma, a hefyd ymyrraeth ein Prif Weinidog ni yn y penderfyniad yna—neu’r diffyg ymyrraeth, efallai, yn y penderfyniad yna—achos mae yn sefyllfa gymhleth ar y llawr yn Syria, yn union fel y sefyllfa gymhleth yn Yemen, lle mae Saudi Arabia yn hyrwyddo dinistr yno, heb ddim beirniadaeth o San Steffan.

Felly, i gloi, yn wir, mae angen pwyllo a meddwl am gynllun tymor hir i ddyfodol Syria, fel y mae eraill wedi’i ddweud, drwy ddefnyddio dulliau diplomyddol. Diolch yn fawr.

19:30

Mae'n syndod i mi, ond rwy'n falch o allu trafod y mater hwn, oherwydd rwyf wedi bod yn codi materion yn ymwneud ag Yemen ac â Kurdistan yn gyson yn y Siambr hon. Gwelsom eto heddiw mai'r ateb gan arweinydd y Siambr oedd nad ydym yn siarad am bolisi tramor. Mae'n amlwg ein bod, oherwydd rydym yn gwneud hynny yn awr a chredaf fod hynny'n beth gwych.

Nid wyf yn meddwl bod gan y Prif Weinidog unrhyw hawl i ddweud yr hyn a ddywedodd, a siarad ar ran pobl Cymru, heb droi at y Siambr hon, ac mae cadair wag yno. Prif Weinidog Cymru—rydym yn trafod y mater pwysig hwn i Gymru ac nid yw yma.

Ble mae Carwyn? 

Syfrdanol. Syfrdanol. A gafodd gyngor cyfreithiol? Hoffwn glywed ganddo.

Mae yna ateb hawdd iawn, yn fy marn i, i ymosodiadau tramor treisgar a rhyfygus. Dyma fe—croeso, Brif Weinidog. Fe ddywedaf hynny eto. Mae yna ateb hawdd iawn i ymosodiadau tramor treisgar a rhyfygus sy'n lladd pobl. Yr hyn sydd arnom ei angen, cyn cyflawni unrhyw weithredoedd milwrol ar ran pobl yr ynysoedd hyn, yw penderfyniad gan Senedd sofran yng Nghymru, penderfyniad gan Senedd sofran yn yr Alban a phenderfyniad gan Senedd sofran yn Lloegr. Pe bai gennym Seneddau sofran ar yr ynysoedd hyn, yn cydweithredu ac yn rhannu sofraniaeth ar amddiffyn, yna rwy'n siŵr na fyddai'r penderfyniadau ofnadwy hyn sy'n arwain at farwolaeth a dinistr tramor yn cael eu gwneud.

Ac fe ddywedaf i gloi, y tro nesaf y gofynnaf yn y Siambr hon am farn gan y Llywodraeth ar yr Yemen, wrth siarad ar ran fy etholwyr yn y ganolfan Yemeni lle'r oeddwn ddydd Sadwrn, hoffwn i'r Llywodraeth hon ddangos digon o gwrteisi i ateb.

O bryd i'w gilydd, rydym wedi trafod materion rhyngwladol. Yn y gorffennol, gwn ein bod wedi edrych ar fater apartheid yn Ne Affrica a Nelson Mandela. Trafodasom Gatalonia yn ddiweddar ac yn sicr, rwyf wedi crybwyll materion yn ymwneud â'r Ukrain, ac yn ystod y sesiwn ddiwethaf, cawsom drafodaethau ar faterion yn ymwneud ag arfau niwclear. Rwy'n cytuno, er hynny, fod yn rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â thrafod materion rhyngwladol yma. Nid oes gennym bwerau i wneud penderfyniadau uniongyrchol na chyfrifoldebau datganoledig mewn rhai meysydd, ond rwy'n credu, fel Senedd, na allwn anwybyddu'r effaith a gaiff rhai digwyddiadau rhyngwladol a'r effaith ar ein hetholwyr, yn enwedig yn y meysydd lle mae pobl eisiau gwybod beth yw ein barn, yn enwedig lle y ceir cwestiynau moesol  a gwleidyddol pwysig iawn. Credaf fod hyn yn un o'r rheini.

A gaf fi ddweud nad wyf yn beirniadu Prif Weinidog Cymru ynglŷn â hyn? Mae wedi mynegi barn sy'n un a goleddir gan lawer o bobl. Nid yw'n farn neu'n ymagwedd y cytunaf â hi, ond credaf fod hwn yn faes lle mae'n rhaid i ni barchu safbwyntiau a barn wahanol. Y cwestiwn i mi—y cwestiwn sylfaenol i mi yw hyn: y methiant i ymgysylltu â'r Senedd a sicrhau cefnogaeth. Ac mae'n duedd—mae'n duedd anffodus sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan o symudiadau i fynd heibio i'r Senedd. Roedd holl fater erthygl 50 yn ymwneud â mynd heibio i'r Senedd. Mae materion ynghylch y Bil ymadael yn ymwneud â mynd heibio i'r Senedd. Mater o dristwch mawr oedd bpd y mater hwn, pan gododd, unwaith eto yn ymwneud ag osgoi a pheidio ag ymddiried yn y Senedd; peidio ag ymddiried yn y bobl a etholwyd gan bobl y DU i wneud y penderfyniadau hyn mewn gwirionedd.

Gallaf ddweud o ran yr hyn rwy'n ei wybod am y cyrchoedd taflegrau a ddigwyddodd, targedu tomenni cemegol penodol a gallu cemegol, pe bawn i'n AS yn San Steffan ac wedi cael manylion ymosodiad a ganolbwyntiai'n benodol ar ddinistrio'r rheini, buaswn wedi cymeradwyo hynny mewn gwirionedd. Ond y pwynt sylfaenol yw eu bod wedi mynd heibio i'r Senedd ac ni chafodd ran yn hyn. Mae'n gynsail gwleidyddol mor beryglus, yn ffordd beryglus i ni fynd ar hyd-ddi, yn enwedig yn yr hinsawdd ryngwladol bresennol.

Euthum yn ôl i edrych ar y datganiad a wnaeth Robin Cook, a sefydlodd y confensiwn y dylid gofyn i'r Senedd gymeradwyo ymosodiad, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio ar hynny. Dyma'r hyn a ddywedodd: '

O ddechrau'r argyfwng presennol—

mae hyn yn 2003,

—fel arweinydd y tŷ, rwyf wedi pwysleisio hawl y lle hwn i bleidleisio ar ba un a ddylai Prydain fynd i ryfel. Bu'n hoff thema sylwebwyr nad oes gan y Tŷ hwn rôl ganolog mwyach yng ngwleidyddiaeth Prydain. Ni allai dim ddangos yn well eu bod yn anghywir nag i'r Tŷ hwn ymatal rhag anfon milwyr i ryfel nad oes cytundeb rhyngwladol iddo na chefnogaeth yn y wlad hon. Rwy'n bwriadu ymuno â'r rheini nos yfory a fydd yn pleidleisio yn erbyn ymosodiadau milwrol yn awr. Am y rheswm hwnnw, ac am y rheswm hwnnw'n unig, a chyda chalon drom, rwy'n ymddiswyddo o'r Llywodraeth.

Roedd y pwynt a sefydlodd Robin Cook yn un o egwyddor sylfaenol, sef mai sefydliadau democrataidd yn y pen draw, yn y byd modern hwn, y byd peryglus hwn rydym yn byw ynddo, ddylai fod y cyrff sy'n cymeradwyo mynd i ryfel, sy'n cymeradwyo ymosodiadau milwrol. Os trown ein cefnau ar hynny, rydym yn dilyn llwybr peryglus iawn. Beth y mae'n ei ddweud am ddemocratiaeth os yw gweithredoedd Prif Weinidog yn seiliedig ar, 'Ni allaf ymddiried yn y bobl a etholwyd i wneud y penderfyniadau hyn gan bobl y Deyrnas Unedig, felly, fe ddefnyddiaf fraint hen ffasiwn er mwyn gweithredu.' Mae'n tanseilio ac yn difrïo ein sefydliadau democrataidd. Gweithred o lwfrdra ar ran y Prif Weinidog ydoedd a dyna pam yr oedd hi'n sylfaenol anghywir a dyna pam y mae cymaint o ddicter, nid ynglŷn â'r penderfyniad—nid ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd—ond y penderfyniad a'r ffordd y cafodd ei wneud a'r ffaith ei bod wedi osgoi gwrando ar lais pobl y wlad hon.

19:35

Diolch, Lywydd. Rwyf am fod yn gwbl glir fod y Llywodraeth wedi ymatal yn y bleidlais i fwrw ymlaen â'r ddadl frys hon, nid oherwydd nad ydym yn credu bod hwn yn fater pwysig iawn—oherwydd mae'n amlwg yn bwnc pwysig dros ben o'r arwyddocâd dyfnaf a mwyaf dwys—ond oherwydd ein bod yn credu bod materion rhyngwladol a phenderfyniadau ynglŷn ag a ddylid lansio ymosodiadau milwrol yn erbyn cenedl sofran arall yn faterion heb eu datganoli ac fel y cyfryw, dylid eu trafod yn y nau Dŷ'r Senedd yn hytrach nag yma yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Fel y mae'r ddadl hon wedi dangos, ceir nifer fawr o safbwyntiau angerddol, cryf a moesol ar y sail hon. Fe'u coleddir ar draws y Siambr a dangoswyd eu hamrywiaeth yn y ddadl hon heddiw. Rydym yn falch fod yr Aelodau wedi cael cyfle i wneud hynny a dyna pam yr ymataliodd y Llywodraeth yn y Cynulliad rhag gwneud y penderfyniad. Rwy'n falch iawn o fod wedi clywed barn pawb ar y mater, ond mae ein sefyllfa ffurfiol yr un fath, nad mater i'r Llywodraeth hon yw gwneud sylwadau ar weithredoedd Senedd arall ac mai'r lle priodol i drafod y materion hyn yw dau Dŷ'r Senedd. Diolch.

19:40

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ddwys, a chredaf fod naws y ddadl, o ran y rhai a gefnogodd yr ymosodiadau a'r rhai nad ydynt yn cefnogi'r ymosodiadau, wedi adlewyrchu'n dda ar y Cynulliad a'r angen i drafod y materion sydd ger ein bron.

A gaf fi ddechrau gyda barn y Llywodraeth, er mwyn cael yr ysgyfarnog honno o'r ffordd ar un ystyr? Ni allaf gredu eu bod yn dweud wrthym, yn syth ar ôl i ni drafod WASPI, nad ydym yma i ddadlau am bethau sy'n faterion ar gyfer San Steffan. Ni allaf dderbyn hynny o gwbl. Wrth glywed yr areithiau angerddol—nid oeddwn yn y Siambr, ond roeddwn y tu allan yn gwylio—gan rai o'r Aelodau Llafur o blaid hawliau pensiwn menywod, a dweud wedyn nad ydym yma i drafod materion San Steffan, mae'n gwbl amhosibl derbyn hynny. Ac mae'r Llywodraeth dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi diflannu i fyny ei chynffon ei hun yn ei dadleuon cyfreithyddol ynglŷn â'r materion hyn. Mae'n bwynt difrifol, hyd yn oed os na ddefnyddiais yr iaith hollol gywir i'w fynegi. Mae'n bwynt difrifol.

Mae gan y Prif Weinidog ei hun ychydig o hanes yma. Mae yma ar gyfer y bleidlais, rwy'n nodi. Nid oedd yma ar gyfer y ddadl. Ond mae gennym Brif Weinidog sy'n barod, benwythnos ar ôl penwythnos, i ymddangos ar y cyfryngau i wneud pwyntiau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru, boed yn ddiswyddo Gweinidog Cabinet i ymateb i ymosodiad ar Syria, ac yna mae'n ceisio osgoi unrhyw graffu yn y Siambr hon ynglŷn â pham y gwnaeth y penderfyniadau hynny, sut y cafodd y penderfyniadau hynny eu gwneud, ac nid yw'n bresennol ei hun i ateb cwestiynau am hynny. [Torri ar draws.] Mae croeso iddo ymyrryd yn awr. Croeso iddo wneud hynny.

Rydych yma bob dydd Mawrth. Rydym i gyd yma bob dydd Mawrth. Ond wrth gwrs, rydym hefyd yn gwneud y pwynt mwy cyffredinol eich bod chi yma, ac fe siaradoch o blaid ymosodiadau'r Prif Weinidog Ceidwadol yn Syria, a byddem yn disgwyl ichi fod yma i ddweud wrthym pam y gwnaethoch hynny. A chredaf y byddai llawer o'ch Aelodau Llafur yn disgwyl i chi ddweud wrthym pam y gwnaethoch hynny hefyd.

Nid ni yw'r bobl sy'n eich dwyn i gyfrif am hyn. Rydym yma ar ran pobl Cymru, a phan fo Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid, fel y nododd Leanne Wood ar ddechrau'r ddadl hon, yn ymrwymo ein milwyr a'n dynion a'n menywod yn y lluoedd arfog, o Gymru o bosibl, ac yn peryglu diogelwch y wlad hon drwy gyflawni ymosodiadau dramor, sy'n bwynt y mae Jeremy Corbyn wedi ei wneud dro ar ôl tro, yna does bosibl nad yw hynny'n effeithio arnom yma yng Nghymru, a'n bod ni'n iawn i drafod hynny. Nid ni sy'n penderfynu'r pethau hyn, ond rydym yn iawn i'w trafod oherwydd rydym yn anfon neges yn ôl at ein hetholwyr sydd, fel y nododd nifer o'r Aelodau—fe wnaeth Bethan Sayed, a Mick Antoniw hefyd, y pwynt hwn rwy'n credu—fod nifer o etholwyr wedi cysylltu â ni i ddweud , 'Ble mae eich moesoldeb? Beth yw eich safbwynt ar y materion hyn?' Efallai na fyddwch bob amser yn plesio eich etholwyr pan fyddwch yn Aelod Cynulliad yn ymdrin â materion San Steffan, ond maent eisiau clywed gennych. Felly, o'r Siambr hon rydym yn anfon y negeseuon hynny'n ôl, a byddwn yn anfon yn ôl naill ai ein cefnogaeth neu beidio fel y bo'n berthnasol.

Credaf fod dwy thema wedi dod i'r amlwg o'r ddadl hon. Yn gyntaf oll, mae'r mater ynglŷn ag a ddylai'r Senedd fod wedi'i galw'n ôl i benderfynu hyn, a'r confensiwn a wnaed mor rymus gan Robin Cook—ac roeddwn gyda Julie Morgan, fel yr oedd Adam Price hefyd, yn San Steffan pan wnaeth ei araith ymddiswyddo, a phan wnaeth y confensiwn enwog hwnnw. Ond fel y mae Mick Antoniw wedi nodi, wedi ein hatgoffa mewn gwirionedd, mae confensiynau'n bethau rhyfedd iawn yn y cyfansoddiad Prydeinig. Gellir eu torri yn ogystal â'u gosod, a'r hyn rydym yn pryderu amdano yma yw bod confensiwn Cook wedi'i dorri gan y penderfyniad hwn i gyflawni ymosodiad—nid gweithred amddiffynnol, ond ymosodiad—mewn gwlad dramor fel rhan o gynghrair heb droi at y Senedd. Pan fyddwch yn gweld confensiynau'n cael eu torri yn y fath fodd, beth yw gwerth confensiwn Sewel? Pa werth sydd i'n dadleuon ynghylch fframweithiau a Brexit a phopeth a ddaw o hynny, pan welwn fod Llywodraeth San Steffan yn gweithredu mewn ffordd benodol? Felly, rwy'n credu bod y mater hwnnw wedi ei roi gerbron yn gryf iawn.

Yna mae'r ymosodiad ei hun. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mike Hedges a Julie Morgan am eu cyfraniadau ar hyn. Caiff ei grisialu mewn cwestiwn syml: a ydym yn teimlo heddiw fod y bobl yn Syria yn cael eu diogelu'n well, yn cael gofal gwell, yn edrych ymlaen at ddyfodol mwy diogel yn dilyn yr ymosodiad? [Torri ar draws.] Mae ymyriad ar eich eistedd yn nodi efallai eu bod. Nid wyf yn derbyn hynny, ond mae'n ddadl i'w gwneud. Ond credaf mai barn y mwyafrif yma, rwy'n synhwyro, fyddai nad ydym yn derbyn hynny mewn gwirionedd. Felly mae angen inni ofyn: pam y cyflawnwyd yr ymosodiad hwn? Wel, mewn gwirionedd fe'i cyflawnwyd am resymau geowleidyddol. Fe'i cyflawnwyd i gefnogi Trump, i edrych fel pe baem wedi ein cysylltu â Trump. Pan aeth llaw farw Trump i law Theresa May i'w thywys ar gyfeiliorn—dyna lle y dechreuodd y syniad hwn fod yn rhaid inni fod wedi ein cysylltu â pholisi tramor Americanaidd anwadal iawn. Nawr, beth bynnag yr oeddech yn ei feddwl o'r neoconiaid yn Irac ac Affganistan, ac nid oeddwn yn meddwl llawer ohonynt—. [Torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf. Nid oeddwn i'n meddwl llawer ohonynt. Roedd hi'n glir beth oedd y polisi tramor hwnnw. Yr anhawster, wrth gwrs, oedd nad oedd ganddynt unrhyw bolisi ar gyfer yr hyn a ddigwyddai i'r gwledydd ar ôl ymyrraeth filwrol, ond roedd hi'n glir beth oedd llwybr ymyrraeth filwrol. Nid wyf yn meddwl y gwelwn hynny gan yr Arlywydd Trump ac felly, nid wyf yn credu y dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gysylltu'n rhy agos â pholisi tramor afreolus o'r fath. Fe ildiaf i David Melding.

19:45

Rhaid imi ddweud, o'r hyn a welaf o'r digwyddiadau diweddar, Llywodraeth Ffrainc a oedd yn mynnu bod angen ymateb i'r defnydd o arfau cemegol ac roeddent yn barod i roi camau unochrog ar waith. O'r fan honno y daeth y pwysau o blaid yr ymyrraeth.

Clywais rywbeth tebyg, ac rwy'n meddwl bod gennym broblem wahanol gyda'r Arlywydd Macron a'r hyn y mae'n ceisio ei gyfleu o ran statws Ffrainc. Ac nid wyf am fynd ar hyd y llwybr a awgrymwyd i mi sotto voce yno. Ond os yw hynny'n wir, dylai pennau doethach fod wedi dylanwadu ar yr Arlywydd Macron. Ni allai fod wedi cyflawni ymyrraeth unochrog yn Syria mewn gwirionedd. Gwn fod ganddynt hanes yno, gwn fod ganddynt safbwynt ymosodol yno, ond mewn gwirionedd, byddai hynny wedi bod yn hynod o beryglus, fel y mae David Melding yn sylweddoli, rwy'n credu, a byddai'r Rwsiaid wedi teimlo'n wahanol iawn ynglŷn ag ymateb i ymyrraeth unochrog gan Ffrainc, yn hytrach na'r hyn a ddarbwyllodd yn y pen draw—. Roedd y ffaith bod pedair gwlad wedi dod at ei gilydd yn galluogi hyn i ddigwydd ar un ystyr, ac ni ddylem fod wedi ei gefnogi; ni ddylem fod wedi caniatáu i hynny ddigwydd.

Mae hi wedi bod yn ddadl ddifrifol. Credaf fod y pwyntiau cyffredinol ynglŷn ag a ydym yn trafod digon ar bolisi tramor sy'n effeithio ar ein dinasyddion—crybwyllwyd Yemen; hoffwn ychwanegu Afrin ac ymosodiadau Twrci yn Irac at hyn hefyd, oherwydd mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n amharu'n uniongyrchol ar deuluoedd a ffoaduriaid sydd yma yng Nghymru. Ni allwn eu trafod bob tro. Ie, San Steffan sy'n penderfynu ar y materion hyn. Ond o bryd i'w gilydd, rhaid inni wneud rhywbeth syml iawn. Rhaid i ni fod y Senedd i Gymru, rhaid i ni fod y Senedd sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei drafod ar y strydoedd a'r hyn sy'n peri pryder i bobl. Weithiau nid ydym yn gallu ateb yr holl gwestiynau hynny ac weithiau rydym yn teimlo'n rhwystredig efallai ynghylch yr hyn y mae Prif Weinidog Cymru yn ei wneud neu'r hyn y mae aelodau eraill o'r Llywodraeth yn ei wneud ar ein rhan. Ond y quid pro quo yn hynny o beth yw bod yn rhaid i ni gael ein caniatáu i drafod hyn a rhaid i ni gael ein caniatáu o leiaf i fynegi ein pryderon a'u gwneud yn glir iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi siarad—roeddwn yn credu ei bod yn ddadl weddus ac yn ddadl dda a chredaf o leiaf y bydd modd i'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi ddweud wrth eu hetholwyr a'r rhai sy'n pryderu ynghylch ymosodiadau milwrol, ac unrhyw weithredu milwrol posibl yn y dyfodol—. Oherwydd, ar ôl gosod cynsail, rhaid inni ofyn i ni ein hunain beth sy'n digwydd yn awr os rhyddheir mesur cyfyngedig o nwy clorin mewn un rhan o Syria neu ddefnydd arall o arf arbennig o ymosodol. Ar ôl cael hynny, o leiaf rydym bellach mewn sefyllfa well ac yn deall safbwyntiau ein cyd-Aelodau'n well, ond hefyd, efallai ein bod yn gofyn i ni ein hunain beth yn union yw ein safbwynt ar y materion hyn.

11. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, pleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, un yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6702 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.

NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y bleidlais nesaf ar ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Rydw i'n gallu felly am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

19:50

NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Cynnig NDM6703 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;

b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;

c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;

d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a

e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 30, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 30, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 1: O blaid: 39, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 2: O blaid: 32, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6697 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

2. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:

a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;

b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;

c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a

d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 44, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Os gwnaiff Aelodau adael y Siambr os ydyn nhw'n dymuno gwneud, ond gwneud hynny yn dawel. 

12. Dadl Fer: Sepsis—Y Cameleon

Mae un eitem o fusnes eisoes eto i'w trafod, sef y ddadl fer yn enw Angela Burns ar Sepsis—Y cameleon'. Ac rydw i'n galw ar Angela Burns i gyflwyno'r ddadl. Angela Burns.

Diolch, Lywydd. Rwy'n mynd i siarad yn gyflym iawn, oherwydd rwyf wedi addo rhoi munud i Julie Morgan, i Janet Finch-Saunders ac i Suzy Davies hefyd, ac mae gennyf lawer i'w ddweud ar y pwnc hwn.

Penwythnos gŵyl y banc lai na blwyddyn yn ôl oedd hi pan gurodd Rachel ar ddrws ystafell wely y fenyw oedd yn rhannu fflat â hi yn oriau mân y bore a gofyn iddi fynd â hi i'r ysbyty oherwydd ei bod yn teimlo'n sâl iawn. Roeddy fenyw fywiog 29 oed hon wedi teimlo ychydig yn sâl y noson cynt, ond bedair awr yn ddiweddarach roedd hi'n dweud wrth ei ffrind, 'Rwy'n meddwl fy mod yn marw'. Cyrhaeddodd Rachel ysbyty'r Heath, ac ar ôl ychydig o wiriadau cyflym gan nyrs frysbennu, dywedwyd wrthi fod yn rhaid iddi aros am bum awr a hanner i weld meddyg, ac y dylai hi fod yn iawn ac mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd mynd adref, cymryd paracetamol a gorffwys. Nid oedd Rachel yn yr adran damweiniau ac achosion brys am fwy na 30 munud i gyd, ond y gwir ofnadwy oedd fod Rachel eisoes mewn sioc septig.

Penderfynodd ei mam a'i thad, Bernie a Steve, ar fympwy i gael coffi ger fflat Rachel a'i ffonio. Llwyddodd eu merch annwyl i sgrechian i lawr y ffôn, a rhuthrodd ei rhieni gofidus ati. Galwyd am ambiwlans ac roedd y parafeddyg ymateb cyntaf ychydig yn ddifater, yn gwrthod gadael i'r fenyw sâl orwedd, am na allai gymryd ei phwysedd gwaed. Y gwir amdani oedd bod ei phwysedd gwaed bellach mor isel fel ei bod hi'n anodd iawn ei ganfod, a dylai'r ffaith honno, yn anad yr un arall, fod wedi gweiddi rhybudd: 'Gallai hyn fod sepsis'. Aethpwyd â Rachel i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn yr uned ddadebru dywedwyd wrthi hi a'i theulu y byddai angen iddi gael ei rhoi mewn coma meddygol, a'i bod mewn sioc septig.

Gofynnodd Rachel a oedd sioc septig yn bygwth bywyd, a dywedodd y meddyg wrthi hi a'i theulu y byddai'n iawn am ei bod hi'n cael ei thrin. Ni siaradodd Steve a Bernie â'u merch eto. Nid oedd gan y teulu normal hwn unrhyw ddealltwriaeth go iawn beth oedd sepsis yn ei olygu na beth oedd y canlyniadau posibl. Aethpwyd â Rachel i'r theatr i gael toriadau yn ei breichiau a'i choesau er mwyn ysgafnhau'r pwysau oedd yn cronni. Ond ar ôl y driniaeth, dywedwyd wrth ei theulu y byddai'n rhaid i Rachel golli ei choesau a gwaelod ei braich dde. Erbyn hynny, roeddent wedi dysgu sut yr oedd goroeswyr sepsis eraill, fel Jayne Carpenter, nyrs yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi ymdopi â cholli dwy goes a braich, ac felly teimlent y byddai cytuno i'r llawdriniaeth hon yn dal i roi cyfle i Rachel gael bywyd da ac y byddai am ymladd i gael hynny.

Aethpwyd â Rachel i gael ei llawdriniaeth, ond ar ôl ychydig oriau, dywedodd y meddygon wrthynt y byddai'n rhaid iddi golli ei braich chwith hefyd. Ymdrechodd y teulu i brosesu'r holl wybodaeth erchyll hon; dywedwyd wrthynt feddwl am y peth dros nos. Fodd bynnag, y bore wedyn, dywedodd y meddygon wrthynt nad oedd yn benderfyniad iddynt hwy i'w wneud. Dywedasant y byddai Rachel hefyd yn colli rhan o'i hwyneb, fod amheuaeth ynglŷn â gweithrediad ei hymennydd, ac y byddai ei dyfodol yn golygu blynyddoedd o lawdriniaethau a grafftiadau croen. Ac felly gwnaed y penderfyniad i adael iddi farw'n dawel.

Mae Bernie a Steve yn aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar sepsis ac maent wedi rhoi caniatâd llawn imi ddweud y stori hon. Nid adrodd stori drist yn unig ydw i, ond ceisio gwneud i bawb sylweddoli realiti enbyd a milain sepsis, ac oherwydd bod stori Rachel yn amlygu'r nifer o fylchau yn ein dealltwriaeth o beth yw sepsis a pha mor bwysig yw hi ei fod yn cael ei drin yn gyflym ac yn effeithiol gyda lefelau diwydiannol o wrthfiotigau.

Rwyf wedi rhoi'r pennawd 'Sepsis—y cameleon' i'r ddadl hon oherwydd gall sepsis guddio tu ôl i fathau eraill o salwch—sepsis, salwch sy'n bygwth bywyd, a achosir gan ymateb eich corff i heintiau megis haint wrinol neu niwmonia, neu gwt ar eich corff, neu fewnblaniad o ryw fath. Mae'r rhestr yn faith ac yn aml y broblem sylfaenol yn unig a nodir. Mae sepsis yn datblygu pan fydd y cemegau y mae'r system imiwnedd yn eu rhyddhau i lif y gwaed i ymladd llid yn achosi haint drwy'r corff cyfan yn lle hynny. Mae'r llid yn amrywio'n fawr o ran ei ddifrifoldeb a'i hyd, ac ar asesiad arwynebol, caiff ei gamgymryd yn aml am ffliw.

Fe gefais i sepsis. Cafodd ei ddal yn gynnar iawn gan y rheolwr nyrsio yn Ysbyty Llwynhelyg a wrthododd adael i'r ymgynghorydd locwm damweiniau ac achosion brys fy anfon adref. Yr hyn a welai'r meddyg ymgynghorol oedd menyw â niwmonia; gwelai'r rheolwr nyrsio goes a oedd wedi chwyddo i'r fath raddau fel na allwn roi fy nhroed ar lawr, gwelodd greithiau'r pen-glin newydd, gwelodd y cryndod, clywodd y poen ac achubodd fy mywyd oherwydd cefais fy nghadw i mewn a fy rhoi ar wrthfiotigau ar unwaith. Er hynny, treuliais wyth neu naw wythnos mewn tri ysbyty gwahanol ac nid wyf yn cofio llawer o'r hyn a ddigwyddodd.

Aeth Rachel i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, cafodd ei hanfon adref a dywedwyd wrthi am gymryd paracetamol, ond gwnaeth y 12 awr honno wahaniaeth rhwng byw a marw, oherwydd aeth Rachel i mewn i sioc septig. Rwyf fi yma, ac nid yw hi, oherwydd fy mod i wedi cael y cyffuriau achub bywyd. Cefais sepsis, ond nid euthum i mewn i sioc septig.

Mae sioc septig yn gyflwr sy'n peryglu bywyd a all ddigwydd o ganlyniad i sepsis. Mae eich pwysedd gwaed yn gostwng i lefelau peryglus o isel. Mae faint o ocsigen a gwaed sy'n cyrraedd organau'r corff yn lleihau'n sylweddol, ac mae hynny, yn ei dro, yn atal eich organau rhag gweithio'n iawn. Mae sepsis a sioc septig yn digwydd yn y bôn pan fydd adwaith eich corff i haint yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau mewnol y corff; caiff eich corff ei lethu, rydych yn ymladd ar bob ffrynt, ac os ydych yn goroesi, mae'r tebygolrwydd y bydd gennych ryw fath o niwed arhosol yn uchel.

Roeddent yn arfer dweud y bydd traean o'r rhai sy'n cael sepsis yn marw, traean yn goroesi gyda chyflyrau sy'n newid bywyd, a thraean yn iawn. Ond mae ymchwil bellach yn dangos nad yw hynny'n wir hyd yn oed. Ceir llawer mwy o berygl o afiachedd seicolegol a briodolir yn uniongyrchol i niwed sepsis.

Cofiaf yn glir eistedd wrth fwrdd y gegin ychydig ddyddiau wedi i mi adael yr ysbyty, ac fel y digwyddodd, roedd stori am sepsis mewn papur newydd cenedlaethol yn sôn am y traean, y traean a'r traean, a fy rhyddhad euog wrth sylweddoli fy mod yn y traean lwcus. Ond roedd hynny cyn imi deall, fel rwy'n deall yn awr, yr effaith wanychol y mae sepsis wedi'i chael ar fy iechyd—o fy esgyrn brau, fy ngwaed simsan, i golli miniogrwydd meddwl. Gwn fy mod yn gweithredu mewn niwl ar rai dyddiau. Gwn fy mod yn cael fy llenwi â thristwch ac ymdeimlad o golled ar rai dyddiau ac ni allaf ei esbonio na'i ddisgrifio. Roeddwn yn arfer bod yn wydn iawn ac yn glyfar, ac yn meddu ar gof o'r radd flaenaf. Nid y person hwnnw wyf fi mwyach, ac ni allaf ddychwelyd i fod yn honno; aeth sepsis â hi.

Ychydig iawn o symptomau corfforol sepsis oedd i'w gweld gan John hefyd, ond mae'n sôn am yr amser anodd a gafodd yn yr ysbyty pan gafodd ei drosglwyddo o'r uned gofal dwys. Mae'n dweud nad oedd y rhan fwyaf o'r staff meddygol yn ymwybodol o daith y goroeswr sepsis, o'i anallu i gofio beth oedd wedi digwydd iddo i'w orbryder, ei ddiffyg awydd a'i anallu i ffurfio brawddegau. Bellach, mae'n dioddef o ddryswch ac anawsterau lleferydd. Nid yw'n gallu cysgu ac mae'n ei chael hi'n anodd clywed. Mae'r dyn hyderus hwn yn gorfod dibynnu ar ei wraig i'w helpu drwy fywyd, a byddai'n dadlau gydag argyhoeddiad nad oes unrhyw un yn dianc rhag sepsis yn ddianaf.

Byddai Gemma Ellis, sy'n nyrs sepsis arweiniol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac sy'n rheoli eu tîm allgymorth, yn dweud wrthych fod yna ddau fater yma: syndrom ôl-sepsis ac anhwylder straen wedi trawma. Mae'n debyg fod gennym oll ddealltwriaeth o anhwylder straen wedi trawma, ond mae syndrom ôl-sepsis yn gyflwr sy'n effeithio ar hyd at 50 y cant o oroeswyr sepsis. Cânt eu gadael gydag effeithiau corfforol a/neu seicolegol hirdymor, megis anhunedd—bois bach, rwy'n gwybod am hwnnw—anhawster mynd i gysgu, hunllefau, poenau sy'n anablu yn y cyhyrau a'r cymalau, blinder eithafol, canolbwyntio gwael, lleihad yn y gallu i resymu a gweithrediad gwybyddol a graddau helaeth o golli hunan-barch a hunan-gred. Gellir esbonio'r problemau parhaol hyn, ond mae mwy i syndrom ôl-sepsis sydd eto i'w ddeall, megis y blinder sy'n anablu a'r poen cronig y mae llawer o oroeswyr yn ei brofi ac nid yw'r rhain wedi eu deall yn llawn. Mae goroeswyr sepsis wedi ei ddisgrifio fel: 'Nid ydych byth yn teimlo'n ddiogel. Bob tro y mae rhywbeth bach yn digwydd i chi, mae "A oes angen imi fynd i'r ysbyty, neu a yw hyn yn ddim byd?" yn mynd drwy eich meddwl.'

Sy'n dod â mi at stori menyw a anfonodd e-bost ataf ddydd Sadwrn y Pasg, mewn gofid mawr—nid yw'n un o fy etholwyr, ond roedd hi wedi dod o hyd i mi rywsut. Roedd hi wedi colli ei phlentyn wrth esgor a hefyd wedi cael sepsis. Cafodd ei thrin ac fe wellodd. Naw wythnos yn ddiweddarach, ddydd Sadwrn y Pasg, roedd hi'n teimlo'n sâl iawn, ac roedd ganddi yr un set o symptomau ag o'r blaen ac roedd arni ofn mai sepsis oedd hyn unwaith eto. Mae darllen ei stori'n syfrdanol. Nid yn unig ei bod hi wedi cael ei throi ymaith gan yr adran ddamweiniau ac achosion brys a'r gwasanaeth y tu allan i oriau, ond nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth y gallai fod yn sepsis eto, ac yn anad dim, ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o'r trawma roedd hi wedi bod drwyddo a'i chyflwr meddwl. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â hi. Nid oedd ganddi sepsis, ond roedd hi'n sâl iawn. Am sefyllfa, pan fo person sâl yn troi at rywun fel fi am help ar benwythnos y Pasg am eu bod wedi dweud wrthi am fynd adref ac ymbwyllo. Dyma ddarn bach iawn o'i negeseuon e-bost: 'Dywedodd meddygon ei fod wedi'i ganfod yn gyflym cyn iddo allu gwneud unrhyw niwed, ond ni allaf help ond meddwl "Beth os yw wedi dod yn ôl?" Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau o'r e-bost hwn hyd yn oed, ond o wybod eich bod chi wedi bod drwy hyn eich hun, efallai y gallwch helpu i dawelu fy meddwl. Nid wyf yn gwybod llawer am sepsis. Ni wnaeth y meddygon esbonio llawer mewn gwirionedd, ac mae pob math o straeon ar Google. Diolch ichi am roi amser i ddarllen fy e-bost'.

Ysgrifennydd y Cabinet, i mi mae hyn yn crynhoi'r diffyg ymwybyddiaeth sy'n bodoli o'r hyn yw sepsis yn y boblogaeth gyffredinol, a'r bylchau enfawr yn sylfaen wybodaeth a dealltwriaeth llawer iawn o bobl yn y proffesiynau meddygol a gofalu. Cefais fy sepsis i dair blynedd yn ôl, a Rachel y llynedd, a digwyddodd profiad y wraig hon adeg y Pasg, 11 wythnos yn ôl. Beth sydd wedi newid? Oes, mae mwy o ymwybyddiaeth ymhlith rhai, ac rwy'n cydnabod bwriad Llywodraeth Cymru, ond ar lawr gwlad, mae newidiadau a hyfforddiant yn araf i ddigwydd. Mae rhai timau penodedig yn arwain yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, ond rwyf fi ac eraill yn y grŵp trawsbleidiol heb ein hargyhoeddi fod yr ymdrech hon yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Mae'r timau hyn yn cael eu cefnogi'n helaeth gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy'n cael ei arwain yng Nghymru gan Terence Canning, sydd hefyd â phrofiad uniongyrchol o golli rhywun annwyl oherwydd sepsis.

Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn ceisio helpu goroeswyr sepsis drwy eu cyfeirio at wasanaethau a gosod cynlluniau hunanreoli ar waith, ond mae goroeswyr sepsis angen llawer mwy o gymorth penodol na hynny. Soniais yn gynharach am Jayne Carpenter, sy'n ddynes anorchfygol. Ar ôl goroesi'r trawma o golli ei braich a'i choesau, aeth hi a'i gŵr drwy bob math o uffern wedyn yn ceisio cael cymorth fel y gallent barhau i fyw yn eu cartref teuluol. Yn syml iawn, nid oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn deall y broblem. Bu'n rhaid ymladd am addasiadau i'w chartref, ac mae Jayne yn disgrifio system brawf modd sy'n lladdfa. Y realiti yw mai eu rhwydwaith gwych o deulu a ffrindiau sydd wedi talu am bron bob un o'r addasiadau a oedd eu hangen ar Jane i barhau gyda normalrwydd newydd ei bywyd bellach.

Mae yna gamau y gellir eu cymryd, ac rwy'n talu teyrnged i Ymddiriedolaeth Sepsis y DU am y gwaith y maent wedi ei wneud yn gwthio'r agenda hon, ond rwy'n galw am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod yna oblygiadau o ran costau a staff, ond mae ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a llawer mwy o hyfforddiant i bawb, o weithwyr gofal cartref i feddygon ymgynghorol, yn hanfodol. Dengys y llun hwn y GIG yn Lloegr yn annog ambiwlansys i arddangos poster 'Just ask: Could it be sepsis?' Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Gallem wneud rhywbeth tebyg. Mae'r prif swyddog deintyddol yn Lloegr wedi cytuno i fynnu bod pob practis deintyddol yn Lloegr yn dangos posteri rhybudd sepsis. A gawn ni wneud yr un peth yma? Dangosodd arolwg y grŵp trawsbleidiol o ymarfer cyffredinol ddiffyg truenus o ran adnabod a dealltwriaeth o sepsis. A gawn ni gynnal ymgyrch ar gyfer ymarfer cyffredinol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen inni hefyd gael clinigau ôl-sepsis, a dealltwriaeth fod sepsis yn salwch difrifol gydag effeithiau sylweddol ar bobl. Mae angen inni gefnogi goroeswyr a theuluoedd a'r rhai sy'n galaru mewn ffordd well o lawer, a chynnwys gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis tai a gofal cymdeithasol. Mae'r GIG yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag elusennau megis Tenovus a Macmillan i ddarparu cymorth ar gyfer rhai sydd â chanser. Gallai'r GIG weithio mewn dull o'r fath gyda sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hynny?

Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn gweithio ar gofrestrfa sepsis genedlaethol yn Lloegr, gyda lle wrth y bwrdd ar gyfer y GIG yn Lloegr, NHS Digital ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, ymhlith eraill. Ac yma, gwn fod Dr Paul Morgan yn arwain ar ddatblygu cofrestrfa sepsis ar gyfer Cymru. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd? Oherwydd os gallwn gael data dibynadwy, gallwn dargedu adnoddau'r GIG yn fwy effeithiol. A gawn ni edrych ar fodelau eraill y mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU eisoes wedi ymwneud â hwy a gweld a oes unrhyw rai'n addas ar gyfer Cymru? Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un llais, mae pawb ohonom yn gofyn am ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd wedi'i hariannu'n briodol mewn ysgolion, mewn grwpiau mam a'i phlentyn, mewn cartrefi gofal, meddygfeydd, unrhyw le a phob man, oherwydd mae angen i bawb ohonom ofyn, 'A allai fod yn sepsis?'

20:05

Hoffwn longyfarch Angela am gael y ddadl hon ac am ei haraith bwerus a theimladwy. A hoffwn ei llongyfarch hefyd ar sefydlu'r grŵp hollbleidiol, y grŵp trawsbleidiol, ac am waith Terence Canning, sy'n un o fy etholwyr o Ystum Taf, a'r cyntaf i roi gwybod i mi am y mater hwn.

Y pwynt yr hoffwn ei godi yw'r effaith ar deuluoedd pobl sydd â sepsis, oherwydd mae hwn yn salwch mor sydyn, mor ddinistriol, sy'n peri trallod llwyr, dryswch llwyr, i deuluoedd, a throi eu bywydau wyneb i waered. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r bobl y cyfeiriodd Angela atynt yn ei haraith ac wedi gweld yr effeithiau trychinebus ar eu bywydau. Felly, hoffwn i Weinidog y Cabinet, pan fydd yn ymateb, ddweud pa gynlluniau sydd ar gael i helpu teuluoedd cyfan i ymdopi â'r sefyllfa ofnadwy hon, a hefyd i helpu'r bobl sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i sepsis, oherwydd, unwaith eto, mae hwnnw'n ddigwyddiad trawmatig a sydyn iawn. Mae Angela wedi disgrifio'n glir yr effaith ar yr unigolion y mae'n eu cyffwrdd a beth y gallem ei wneud i helpu pobl sy'n dioddef profedigaeth yn sgil afiechyd creulon sepsis, ond rwyf innau hefyd yn ategu'r alwad am fwy o ymwybyddiaeth, oherwydd nid wyf yn credu bod digon o bobl ar hyn o bryd yn adnabod sepsis pan fo'n digwydd.

Rydym yn brin o amser, ond fe gymeraf ddau gyfraniad cyflym iawn gan Janet Finch-Saunders a Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Unwaith eto, hoffwn gefnogi a thalu teyrnged i Angela am ei chyfraniad a soniodd am gymaint o agweddau ar sepsis. Yn ddyddiol, rydym yn darllen bellach ynglŷn â pha mor greulon yw'r clefyd hwn, a sut y mae pobl yn dal i fod heb fawr o ymwybyddiaeth ohono. Hoffwn sôn am bobl 'ysbyty yn y cartref', sydd mewn amgylchedd lle maent yn dibynnu ar ofalwyr sy'n dod i mewn, a pha mor gyflym y gall pethau waethygu, megis haint wrin. Ac yna, pan gânt eu cludo i'r ysbyty, hyd yn oed yn awr, rwy'n clywed am achosion lle nad yw wedi cael ei adnabod. A all fod yn sepsis pan fydd pobl yno? Ac yn llythrennol, mae eu bywydau'n diffodd. Mae sepsis yn beth erchyll. A phan fyddwch wedi cael sepsis, mae'n ffaith na allwch chi byth feddwl y byddwch chi—. Mae'n gadael ei farc arnoch a gall ddychwelyd ar unrhyw adeg pan fo'ch lefelau protein c-adweithiol yn codi, ar unrhyw adeg y mae eich ymwrthedd yn isel. Felly, mae hon yn ddadl bwysig yma heno, ac mae'n un rwy'n llwyr gefnogi Angela Burns yn ei chylch. Lluniwch ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Gwnewch yn siŵr fod yr addysg ar gael mewn ysgolion, mewn ysbytai, mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai yn y cartref, yng nghartrefi pobl. Ac os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet; mae gennych y dulliau, defnyddiwch hwy a gadewch i ni beidio â gweld sefyllfaoedd mor erchyll y gwn amdanynt fy hun yn rhy dda, ond hefyd gyda ffrindiau, cydweithwyr a fy etholwyr yn Aberconwy. Diolch.

20:10

A gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn, Angela? I mi, dros y 40 mlynedd diwethaf, gair yn unig ar waelod tystysgrif marwolaeth fy nhad-cu oedd 'septisemia', sef yr un peth. A phan fu farw, yn hollol annisgwyl yn yr ysbyty, ef oedd gofalwr fy mam-gu, ac fel y nododd Julie, bu'n rhaid iddi fynd i gartref, fe gafodd strôc a chafodd y teulu ei lethu o fewn ychydig fisoedd. Er bod Ymddiriedolaeth Sepsis y DU wedi gwneud llawer iawn o waith yn codi ymwybyddiaeth, rwy'n meddwl ei fod yn dweud llawer ei bod hi wedi cymryd opera sebon ar y radio mewn gwirionedd, a oedd yn rhedeg stori ofidus iawn i godi ymwybyddiaeth yn y boblogaeth yn gyffredinol. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn hwb i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod o ddifrif ynghylch y galwadau arnoch heddiw i gynnal ymgyrch genedlaethol, neu o leiaf ymgyrch godi ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru, ac ar gyfer gofalwyr a gweithwyr gofal yn enwedig. Fel y dywedodd Angela, cameleon yw'r clefyd hwn, ac fel y dywed eich Gweinidog, nid ydym mewn sefyllfa eto i allu cadarnhau bod ein holl ofalwyr a gweithwyr gofal yn cael hyfforddiant llawn ar ymwybyddiaeth sepsis. Diolch.

Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd, a diolch i Angela Burns am barhau i godi'r mater difrifol hwn. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod y gall sepsis fod yn salwch anodd i wneud diagnosis ohono, yn arbennig mewn pobl oedrannus, ond hefyd mewn plant. Ac mae hynny'n rhan o'r her wrth ymdrin â hyn yn llwyddiannus. Amcangyfrifodd Ymddiriedolaeth Sepsis y DU fod sepsis yn achosi marwolaethau tua 44,000 o bobl bob blwyddyn yn y DU, a byddai hynny'n cyfateb i oddeutu 2,200 o bobl yma yng Nghymru. Dengys y ffigurau, dros y pum mlynedd diwethaf, fod nifer y bobl sydd wedi marw'n flynyddol mewn lleoliad ysbyty yng Nghymru o ganlyniad i sepsis wedi gostwng o 2,112 i 1,687, felly gostyngiad go iawn ond nifer dda o bobl o hyd sydd wedi marw yn ein hysbytai.

Mewn gwirionedd, fe gynyddodd nifer yr achosion o sepsis yn ysbytai Cymru yn yr un cyfnod o 6,950 i 8,313. Felly, mae hynny'n dangos bod yna fwy o ymwybyddiaeth o'r salwch gyda mwy o bobl yn cael diagnosis, ond mae canran y marwolaethau'n gostwng. Yn anffodus, ni fydd modd osgoi pob un o'r marwolaethau hynny, ond gallwn fod yn hyderus fod modd gwneud hynny yn achos nifer ohonynt. Dyna pam, ers 2013, y mae Llywodraeth Cymru, gyda'r GIG, wedi gwneud lleihau niwed y gellir ei osgoi a marwolaethau a achosir gan sepsis yn flaenoriaeth uchel ar gyfer GIG Cymru. Rwy'n cofio'n iawn, ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, penderfynodd Mark Drakeford ei fod am wneud digwyddiad i geisio codi ymwybyddiaeth ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, i godi proffil y cyflwr o fewn y gwasanaeth.

Nawr, rydym yn cydnabod, yn agored ac yn onest, fod yna bob amser fwy sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â'r hyn a all fod yn afiechyd marwol, ond rwyf am gydnabod peth o'r cynnydd a wnaed gennym ar fynd i'r afael â'r cyflwr hwn sy'n bygwth bywyd. I fod yn deg, mae Angela Burns yn cydnabod hyn hefyd. Dylem fod yn falch o'r ffaith ein bod yn cael ein gweld yn arwain y ffordd yn y DU o ran gwneud adnabod a thrin sepsis yn brif flaenoriaeth. Mae ein brwydr yn erbyn sepsis yn parhau, ac mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ers 2012, pan oeddem y wlad gyntaf yn y byd yma yng Nghymru i weithredu'r system sgorio rhybudd cynnar cenedlaethol a elwir yn NEWS. Dylai hon sicrhau bod cleifion y gwelir eu bod yn gwaethygu yn cael sylw cynnar. A dylai'r cam syml hwnnw sicrhau ein bod yn defnyddio iaith gyffredin drwy'r GIG yng Nghymru i gyfathrebu ynghylch dirywiad a sepsis. Cyflwynwyd NEWS a sgrinio sepsis ym mhob maes clinigol acíwt, yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mewn llawer o leoliadau cymunedol a sylfaenol. Dylem fod yn falch o'r ffaith bod NEWS wedi ei safoni ym mhob un o'n hysbytai yng Nghymru ers 2013.

Y prif gyfrwng ar gyfer y newid hwnnw yma yng Nghymru oedd cyfranogiad gweithredol byrddau iechyd ac unigolion yn set ddysgu ymateb cyflym i salwch acíwt gwasanaeth gwella 1000 o Fywydau sy'n cael ei adnabod yn gyffredinol fel RRAILS—ac rwy'n falch fod ganddynt acronym o fewn y gwasanaeth o leiaf. Ond mae'n amlwg fod llawer o waith ganddynt i'w wneud o hyd. Maent yn rhan bwysig o'r gwaith o helpu i geisio sbarduno gwelliant ar draws y system gyfan, oherwydd rhaid inni barhau i geisio cyfiawnhau'r gydnabyddiaeth a gawsom yn 2016, pan gafodd y cynnydd yr oedd GIG Cymru wedi'i wneud yn gwella triniaeth sepsis ei gydnabod â gwobr gan Gynghrair Sepsis y Byd yn y categori 'llywodraethau ac awdurdodau gofal iechyd'.

Ond fel gyda phopeth, ni allwn ragdybio bod cynnydd yn amlwg, yn hawdd nac yn anochel. Rhaid inni adolygu'n gyson yr hyn a wnawn i sicrhau gwelliant parhaus. Mae yna bob amser ragor y gallwn ei wneud er mwyn dal ati i ddysgu a gwella, ac mae adolygiadau gan gymheiriaid yn rhan ddelfrydol a phwysig o hynny. Mae'r rhaglen RRAILS yn cynnwys adolygiadau gan gymheiriaid o'r drefn ar gyfer rheoli cleifion sy'n dangos dirywiad acíwt, ac fe'u datblygwyd i alluogi pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd i ddatblygu cynllun priodol i gymeradwyo'r gwasanaethau dirywiad acíwt sydd ganddynt. Mae'n dda clywed bod y gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo, gyda chyfres o ymweliadau â byrddau iechyd wedi digwydd yn barod, a rhagor wedi'u cynllunio. Mae adolygwyr a staff a fu'n rhan o'r adolygiad gan gymheiriaid yn cydnabod ei bod yn sgwrs bwysig a buddiol i bawb ohonynt.

Yn ddiweddar, canmolodd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus y gwaith 1000 o Fywydau ar yr adolygiad gan gymheiriaid, a chydnabu'r effaith y mae'r gwaith hwnnw'n ei gael ar wella gwasanaethau ac achub bywydau. Mae pethau eraill ar y gweill, gan gynnwys gwaith ar ddatblygu'r gofrestrfa sepsis y cyfeiriodd Angela Burns ati. Ond mae canlyniadau treial yn astudiaeth '6 blwch sepsis' Cwm Taf yn awgrymu bod gwelliannau yn y canlyniadau i gleifion yn gysylltiedig â defnyddio'r blwch hwnnw. Mae'n cynnwys llai o farwolaethau a derbyniadau i unedau gofal dwys, a gostyngiad sylweddol mewn NEWS ar ôl 24 awr, sy'n arwydd pwysig o adferiad cleifion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at werthusiad pellach o ganlyniadau'r prawf, fel y gellir dod i gasgliadau terfynol er mwyn gweld a allem ac a ddylem gyflwyno hynny ar draws y wlad gyfan.

Rwyf am geisio ateb y cwestiwn anodd ynghylch ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rwy'n dweud ei fod yn 'anodd' am fy mod yn deall y ddadl a wneir ynghylch codi ymwybyddiaeth ehangach ymhlith y cyhoedd yn y gobaith a'r disgwyliad y byddai hynny'n achub mwy o fywydau. Y broblem ymarferol a'r cwestiwn i mi yw a fyddai'r arian a'r adnoddau y byddem yn eu rhoi tuag at ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn cyflawni'r canlyniadau y dymunwn eu cael o ran gwella canlyniadau i bobl.

20:15

Rydych yn sôn am achub bywydau, ac rydych yn hollol gywir, mae hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, y peth am sepsis yw'r dinistr y mae'n ei achosi i bobl sy'n ei oroesi. Felly, os gallwch fynd i ysbyty yn gyflymach, rydych yn llai tebygol o golli eich coesau neu eich breichiau, rydych yn llai tebygol o gael eich ymennydd wedi'i sgramblo yn y bôn gan y sepsis, rydych yn llai tebygol o gael eich gadael gyda chyflyrau hirdymor sy'n anablu. Felly, pan soniwch fod lefelau marwolaethau wedi disgyn, sy'n wych, a phan soniwch eich bod yn ceisio eu gwella, rwy'n dweud wrthych fod gormod lawer o bobl o hyd yn mynd at feddygon teulu neu i ysbytai gyda symptomau nad ydynt yn cael eu hadnabod yn ddigon cyflym. Felly, hyd yn oed os ydynt yn byw, maent yn byw gyda chanlyniadau trychinebus sy'n newid eu bywydau'n llwyr.

Rwyf o ddifrif yn cydnabod y ddadl dros fod eisiau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ond ceir adegau pan fydd yn rhaid i chi edrych i fyw llygaid pobl a dweud, 'Nid wyf yn siŵr fod yr achos wedi'i wneud dros wneud hynny', a dyna adlewyrchiad gonest ar y cyngor a gaf ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar draws amrywiaeth o gyflyrau. Dyna realiti'r hyn y mae fy swydd yn ei gynnwys, yn rhannol: nifer weddol reolaidd o bobl sydd am i'r gwasanaeth iechyd gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o gyflyrau unigol, ac ar amrywiaeth o gyflyrau eithaf cyffredin mewn gwirionedd, gyda niferoedd mawr, fel sepsis, a chyflyrau difrifol hefyd. Rwyf bob amser yn gorfod ystyried, nid yn unig derbyn y cyngor hwnnw, a gwneud dewisiadau wedyn, ond lle mae modd sicrhau'r budd mwyaf—lle y gellir sicrhau'r budd mwyaf i iechyd—ac mewn gwirionedd, credaf mai dyna ran o'r her i ni yw fy mod yn credu, ar hyn o bryd, fod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn awgrymu—bydd codi ymwybyddiaeth ymysg ein gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn helpu i adnabod symptomau yn gynharach, gyda mwy o gysondeb, ac yna mwy o gysondeb, nid yn unig o ran adnabod, ond wedyn wrth roi triniaeth a chymorth i bobl. Fodd bynnag, rwy'n cadw meddwl agored, ac ni fuaswn yn dweud 'na' a 'byth', ond yr hyn rwy'n ei ddweud ar hyn o bryd yw nad wyf yn meddwl y gallwn gefnogi gyda'r cyngor rwy'n ei gael ynglŷn â'r ffordd gywir i sicrhau gwelliant pellach yn y canlyniadau i bobl yng Nghymru. Ond rwy'n fwy na pharod i ddal ati i siarad a gwrando, a gwn fod yna ymgyrch benderfynol dros fod eisiau parhau i adolygu'r dystiolaeth. Ac mewn gwirionedd, os mai'r dystiolaeth yn Lloegr yw mai dyma'r peth cywir i'w wneud nid yn unig o ran y brwdfrydedd amlwg iawn y mae pobl yn ei deimlo am y mater, ond ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r canlyniadau—[Torri ar draws.]—yna, buaswn yn fwy na pharod i wrando ac edrych eto.

Mae ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn rhywbeth rydym yn cydnabod ei fod yn bwydo rhan o'r anghysondeb yn ymateb ein gwasanaeth. Dyna pam y mae'r gwaith rydym yn ei wneud wedi'i anelu i raddau helaeth at weithwyr proffesiynol iechyd a gofal, nid codi eu hymwybyddiaeth yn unig, ond o ran meddwl beth y maent yn ei wneud wedyn ar y pwynt hwnnw mewn amser. Ceir grŵp sepsis cyn mynd i'r ysbyty, sef is-grŵp y rhaglen RRAILS. Cafodd ei sefydlu, ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i gynllunio ar gyfer gwella ymarfer y tu allan i'r ysbyty. Mae nifer o'r prosiectau a gychwynnwyd gan y gwaith hwnnw yn cynnwys cydweithio gyda chlystyrau meddygon teulu mewn perthynas ag anaf acíwt i'r arennau a gwella sepsis, sut i roi cyngor i grwpiau y tu allan i oriau ac 111 ar fabwysiadu NEWS a sgrinio sepsis mewn lleoliadau y tu allan i'r ysbyty, cyflwyno offer sepsis ac anaf acíwt i'r arennau yng ngwaith nyrsys ardal a thimau gofal canolraddol, a chydweithio gyda'r ddeoniaeth yma yng Nghymru ar leoliadau gwaith clinigol ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant.

Mae safoni arferion gorau wedi arwain at safoni tebyg mewn dulliau hyfforddi a'r cwricwlwm. Offeryn e-ddysgu modiwlar yw RRAILS ar-lein a ddatblygwyd gan fwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg mewn cydweithrediad gyda, ac wedi'i ariannu gan Gwella 1000 o Fywydau. Mae ar gael i sicrhau y bydd holl staff GIG Cymru, gan gynnwys myfyrwyr meddygol a gofal iechyd, yn gallu cael gafael ar yr un lefel o hyfforddiant. Mae'r data ar y defnydd a'r gyfradd sy'n llwyddo yn y modiwl hwnnw hyd yma eisoes wedi dangos bod 477 wedi llwyddo ar un o bob un o'r pum modiwl. Wrth gwrs, mae yna bob amser fwy i'w wneud, ond mae yna staff sy'n ei ddefnyddio. Ar fy ymweliadau rheolaidd o amgylch y sector ysbytai yn ogystal â'r tu allan i ysbytai, rwy'n gweld bod mwy o ymwybyddiaeth ymysg ein staff ynglŷn â sepsis ac ymwybyddiaeth ohono ac o'i ganlyniadau. Ond bydd y wybodaeth a gasglwyd o hyn yn cyfrannu at y data a gasglwyd yn rhan o broses barhaus yr adolygiadau gan gymheiriaid.

Rwy'n falch fod gennym berthynas waith dda iawn gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy'n aelod o grŵp llywio RRAILS. Mae gennym uchelgais cyffredin i godi ymwybyddiaeth a gwella'r ymateb i sepsis. Roeddwn yn hapus iawn i gael fy ngwahodd gan Angela Burns, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol newydd, i fynychu'r cyfarfod ym mis Mawrth, pan gawsom gyfle i glywed drosom ein hunain rai o hanesion personol pobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan sepsis, yn debyg iawn i'r hanes a roesoch wrth agor y ddadl hon, ac wrth gwrs, eich profiad eich hun hefyd.

Rwy'n gwybod bod cost erchyll ynghlwm wrth sepsis, nid yn unig o ran marwolaethau, ond fel y sonioch chi ac eraill, o ran yr effeithiau y mae'n rhaid i oroeswyr eu dioddef. Ac felly mae'n bwysig gwrando ar oroeswyr sepsis i glywed eu bod yn aml yn gorfod ymdopi â heriau corfforol a gwybyddol, sydd unwaith eto wedi cael sylw yn y ddadl, ac sy'n gallu newid eu bywydau mewn ffordd radical, a deall eu profiad fel rhan o'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud wedyn er mwyn ymateb i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i helpu'r person hwnnw i fyw eu bywydau mor llawn ag y bo modd.

Felly, rwy'n awyddus i ddeall yr anghenion ehangach a pha fath o drefniadau sydd angen eu rhoi ar waith i helpu i'w diwallu. Buaswn yn hapus i ddod i gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol i barhau'r sgwrs agored rwy'n ceisio ei sefydlu a'i pharhau. Rydym yn cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio gyda'r holl bartneriaid allweddol i gyflawni'r amcanion a rannwn. Dyna pam rwy'n falch fod yna brosiect cydweithredol rhwng Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, rhaglen RRAILS, a rhaglen addysg i gleifion 1000 o Fywydau, gyda'r nod o gynnig cefnogaeth i bobl sydd â syndrom ôl-sepsis.

Hoffwn orffen drwy gydnabod a mynegi fy edmygedd personol o'r holl bobl sydd wedi siarad am eu profiadau o sepsis, pobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, pobl sydd wedi goroesi, gofalwyr, anwyliaid ac rwy'n cydnabod ymgyrch ddiflino'r bobl hyn i geisio sicrhau bod camau pellach yn cael eu rhoi ar waith, ond yn y pen draw, dylai hynny arwain at welliant pellach, fel bod mwy o fywydau'n cael eu hachub a mwy o bobl sy'n byw trwy sepsis yn cael eu cefnogi ar eu taith tuag at wellhad. Mae honno'n elfen hanfodol o'r frwydr a ymladdwn ar y cyd yn erbyn sepsis ac i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein dysgu drwy Gymru gyfan ac na fyddwn byth yn cymryd y cynnydd a wnaed gennym yn ganiataol, a'n bod yn canolbwyntio ar beth arall y gallem ac y dylem ei wneud.

20:20

Daeth y cyfarfod i ben am 20:23.