Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
13/03/2018Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, David Rees.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r nifer sy'n astudio pynciau STEM yng Nghymru? OAQ51913
Bu cynnydd i'r niferoedd a safodd arholiadau TGAU ar draws pob pwnc gwyddoniaeth unigol y llynedd. Mae'r cynnydd hwnnw'n galonogol gan ein bod ni'n gwybod y bydd mwy o bobl ifanc yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth wyddonol sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i astudiaeth ôl-16.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae hi'n Wythnos Gwyddoniaeth Prydain yr wythnos hon, sy'n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg i economi Cymru. Roeddech chi gyda mi yr wythnos diwethaf yng ngweithfeydd Tata, pryd yr amlygwyd ganddynt eto y swyddi sydd ganddynt ar gyfer prentisiaid a'u bod nhw eisiau cyflogi mwy o brentisiaid peirianneg. Ond bu gostyngiad i nifer y merched sy'n astudio pynciau gwyddoniaeth a phynciau peirianneg. Beth allwch chi ei wneud i annog mwy o fenywod ifanc i astudio gwyddoniaeth, i astudio peirianneg, fel y gallant gymryd rhan yn yr agenda a'n heconomi ar gyfer peirianneg, gwyddoniaeth a dod yn brentisiaid ac yn raddedigion i'n symud ni ymlaen mewn gwirionedd?
Wel, rydym ni'n gwybod bod angen i ni sicrhau bod mwy o fenywod ifanc yn mynd i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym ni'n gweithio i fynd i'r afael â'r camau a nodwyd gennym yn 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Amlygwyd gwell cydbwysedd mewn pynciau STEM mewn gwaith ar ddiwygio'r cwricwlwm, yn y ddarpariaeth dysgu proffesiynol, a thrwy raglenni cyfoethogi ac ymgysylltu. Gofynnwyd hefyd i'r rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth ystyried cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gwyddom fod gan athrawon ddylanwad mawr ar ddewisiadau astudio pobl ifanc, felly mae'n hanfodol bod ein hysgolion yn cael eu cynorthwyo i wella profiadau merched o ddysgu STEM.
Prif Weinidog, roedd yn ddiddorol iawn clywed eich ymateb nawr, oherwydd wnaethoch chi ddim sôn am y cyfraniad cadarnhaol y mae'r sector addysg bellach yn ei wneud i annog gyrfaoedd STEM a dysgu STEM. A wnewch chi fy llongyfarch i, er enghraifft—. A wnewch chi longyfarch Coleg Cambria yn hytrach [Chwerthin.] a minnau am ei godi? [Chwerthin.] A wnewch chi longyfarch Coleg Cambria, er enghraifft, ar y gwaith rhagorol y mae'n ei wneud i hyrwyddo gyrfaoedd STEM? Mae'n gwneud gwaith rhagorol gyda'i fyfyrwyr cemeg, sydd yn annog pobl i fod yn genhadon ar gyfer swyddi yn y diwydiant cemeg, ac, yn ogystal â hynny, mae'n gwneud gwaith gwych gyda chymdeithasau gwyddoniaeth a mathemateg sydd yn cynnal cystadlaethau ac yn dod â siaradwyr i mewn i ennyn brwdfrydedd pobl ifanc i fanteisio ar yrfaoedd STEM a gynigir yn y gogledd-ddwyrain ac mewn mannau eraill.
Pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'r sector addysg bellach yn arbennig i hyrwyddo llwybrau galwedigaethol i yrfaoedd STEM?
Wel, mi wnaf i gynnig fy llongyfarchiadau iddo, os ydynt yn ddyledus. Byddaf hefyd yn cynnig llongyfarchiadau i Goleg Cambria gan ein bod ni'n gwybod bod addysg bellach yn aruthrol o bwysig, yn enwedig pan ddaw i ystyried prentisiaethau. A gwyddom fod angen i ni gael gafael ar bawb o ran y doniau sydd ar gael ganddynt. Ni ddylid caniatáu i unrhyw ddawn fynd yn ofer. Mae'n bwysig hefyd ymgysylltu â merched cyn iddyn nhw fynd i goleg addysg bellach, felly dyna pam mae hi mor bwysig edrych ar ffyrdd y gall athrawon gwyddoniaeth yn arbennig wneud yn siŵr bod merched yn teimlo eu bod yn rhan lawn o wersi. Dyna pam yr ydym ni'n siarad ag athrawon ffiseg am sut y gallant wneud eu gwersi yn fwy cynhwysol o ran y rhywiau, fel eu bod yn barod yn 16 oed i ystyried pynciau gwyddoniaeth mewn coleg addysg bellach ac yna symud ymlaen i brentisiaethau. Ond, yn sicr, rwy'n hapus i ymuno ag ef i gynnig llongyfarchiadau am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngholeg Cambria.
Wrth gwrs, un o'r problemau sydd efallai yn gwneud y sefyllfa yma'n waeth yw methiant eich Llywodraeth chi i recriwtio digon o bobl i gyrsiau ymarfer dysgu ar gyfer rhai o'r pynciau STEM yma. Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn yn dangos yn glir mai dim ond tri chwarter y targed ar gyfer mathemateg a chemeg sydd wedi'i gyrraedd o ran denu pobl i gofrestru ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu yn y pynciau yna—dwy ran o dair yn ffiseg, a phrin hanner y targed wedi'i gwrdd o ran pobl yn dod i ddysgu bioleg. Felly, pa obaith sydd yna i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o safbwynt y pynciau STEM pan rŷm ni'n methu hyd yn oed recriwtio'r athrawon i'r dysgu nhw?
Wel, mae'n wir i ddweud bod cefnogi'r proffesiwn dysgu yn rhywbeth sydd yn hollbwysig i'r newidiadau sy'n mynd i gymryd lle yn y byd addysg, ac, wrth gwrs, rydym ni'n sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â'r safon o ddysgu mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg, yn para i wella ymhlith y gweithlu o ran athrawon. Felly, mae'n wir i ddweud, tra'n bod ni'n symud ymlaen i'r cwricwlwm newydd, ein bod ni'n deall ei bod hi'n hollbwysig i sicrhau bod digon o bobl ar gael er mwyn dysgu nid dim ond gwyddoniaeth mewn ysgolion Saesneg, ond beth sydd weithiau yn fwy anodd, sef dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o ran gwyddoniaeth. Wnawn ni ddim cyrraedd y targed, er enghraifft, o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon os nad ydym ni, wrth gwrs, hefyd yn sicrhau bod digon o athrawon gyda ni er mwyn inni allu ehangu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pellach i Gymru yn sgil trosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn dilyn Brexit? OAQ51879
Nid yw iaith Llywodraeth y DU ar ddatganoli pellach na phwerau newydd yn gwbl gywir, oherwydd byddai'r pwerau hynny'n dod i ni beth bynnag. Ein blaenoriaeth gyntaf yw diogelu meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli, fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Ac, fel y nodwyd yn helaeth, nid ydym yn cytuno ag unrhyw ymgais, heb gytundeb, i gymryd pwerau oddi ar y Cynulliad Cenedlaethol hwn wrth iddyn nhw ddod yma o Frwsel.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydych chi a minnau yn cytuno y dylai'r pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ddod i Gymru yn eu cyfanrwydd. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i'r DU a Chymru fod allan o farchnad sengl yr UE. A wnewch chi nawr, o'r diwedd, amlinellu safbwynt eich Llywodraeth: aelodaeth o'r farchnad sengl neu reolaeth lawn dros feysydd datganoledig?
Wel, nid wyf i'n siŵr fy mod i wedi bod yn arbennig o dawel ynghylch beth yw safbwynt y Llywodraeth. Dyma ein safbwynt yn syml: rydym ni angen mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ceir dadl ynghylch pa un a allwch chi fod yn aelod o'r farchnad sengl ai peidio. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ein busnesau'n gallu cael mynediad at y farchnad sengl yn yr un modd ag y maen nhw nawr. Ond, yn ôl pob rheswm, nid ydym ni eisiau gweld rhwystrau yn cael eu codi rhyngom ni a'n marchnad unigol fwyaf. Felly, o'n safbwynt ni, yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yw, pan fyddai pwerau yn dychwelyd o Frwsel, y dylen nhw ddod yma, yn naturiol—dyna fyddai'n digwydd mewn ystyr cyfansoddiadol—ac ni ddylent gael eu dargyfeirio i lawr tuag at Whitehall oni bai a hyd nes bod cytundeb rhwng Llywodraethau—lluosog—y DU i wneud hynny.
Prif Weinidog, ar ôl closio mor agos at Lywodraeth yr Alban, a allwch chi sicrhau'r Cynulliad hwn, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory, na fyddwch chi'n cael eich gwyro oddi wrth geisio'r dewis mwyaf adeiladol sydd ar gael i Gymru nawr?
Wel, fel y mae'n digwydd, mae Llywodraeth yr Alban a ninnau yn unfrydol ar hyn, gan fod yr her yr ydym ni'n ei hwynebu yn union yr un fath. Rydym ni wedi cynnig ffordd ymlaen. Rydym ni'n deall safbwynt Llywodraeth y DU nad oes angen unrhyw darfu ar farchnad sengl fewnol y DU—rydym ni'n deall hynny. Mae angen cael sicrwydd i fusnesau—rydym ni'n deall hynny. Y gwahaniaeth yw hyn: rydym ni eisiau creu'r sicrwydd hwnnw trwy gytundeb ac nid trwy orfod. A dyna lle'r ydym ni angen Llywodraeth y DU i fod yn, i gydnabod nad un Llywodraeth yn unig yn y DU sy'n rheoli Brexit; ceir gwahanol Lywodraethau, a fydd yn cynrychioli eu gwahanol wledydd. Ac rydym ni a'r Alban wedi bod yn yr un sefyllfa, ac rydym ni wedi gwneud awgrymiadau ar y cyd y credwn y byddent yn helpu i greu'r sicrwydd y mae pawb eisiau ei weld.
Wrth gwrs, cyn i ni siarad am bwerau newydd i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r mater bach o bwerau yn cael eu tynnu yn ôl o Gymru yn y cyfamser, rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan wedi cyfaddef fydd yn digwydd dros y penwythnos. Nawr ein bod ni wedi gweld gwelliannau Llywodraeth San Steffan i gymal 11 y Mesur, rydym ni'n gwybod y bydd gan Lywodraeth San Steffan yr hawl i ddod â Gorchmynion newydd i Senedd San Steffan, heb ganiatâd y Senedd hon, a fydd yn ymyrryd â materion sydd wedi eu datganoli, a gallai'r Gorchmynion hynny hyd yn oed droi mewn i ffurfio rhannau o fframweithiau Prydeinig yn y dyfodol, eto heb ganiatâd y Senedd yma. Ac rwyf wedi sylwi y bore yma fod iaith y Llywodraeth yma yng Nghymru wedi dechrau meddalu ynglŷn â'r materion yma, a hoffwn i gael sicrwydd gan y Prif Weinidog nad yw e ar fin cytuno i gyfaddawdu a fydd yn dirywio ar gyfansoddiad Cymru.
Na, ni fyddai'r sefyllfa yna yn dderbyniol i ni, ac fe wnes i drafod hwn gyda Nicola Sturgeon ddoe. Rydym ni yn gwmws yn yr un lle, sef nad yw hi'n ddigonol bod y pwerau yn aros mewn un lle, gan wedyn gweld y pwerau hynny yn cael eu defnyddio mewn ffordd sydd ddim o les i Gymru na'r Alban. Felly, nid oes yna obaith o gwbl ein bod ni'n cytuno i unrhyw beth a fyddai'n rhoi unrhyw fath o ganiatâd, neu law rydd, i Lywodraeth San Steffan newid cyfreithiau eilradd heb unrhyw fath o ganiatâd gan Gymru neu'r Alban.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ran amseroedd ymateb ambiwlansys, gyda'r categorïau newydd, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd. Ond rydym ni'n gwybod dros y ddeufis diwethaf, ledled y Deyrnas Unedig, bod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi bod o dan bwysau. Yn y wasg yn ddiweddar, bu enghreifftiau o arosiadau eithafol y bu’n rhaid i gleifion a phobl aros am ambiwlansys. Cyfeiriaf at ŵr bonheddig yn Ninas Powys, a arhosodd 16 awr am ambiwlans, cyfeiriaf at enghraifft ddoe yn y South Wales Evening Post, lle'r aethpwyd â gwraig i'r ysbyty ar ôl aros mor hir am ambiwlans, a dychwelyd adref dim ond i ganfod ambiwlans yn ymddangos 20 awr yn ddiweddarach yn y gorllewin. Yn fy rhanbarth fy hun, ddoe, yn y Bont-faen, bu gwraig yn aros 10 awr a hanner i'r ambiwlans ymddangos ddydd Sul, gan gael ei derbyn i'r adran damweiniau ac achosion brys am 01:15 yn y bore fore dydd Llun. Rwy'n gobeithio y gallwch chi gydnabod bod yr achosion hyn yn bodoli. Nid wyf yn disgwyl i chi wneud sylwadau ar yr achosion unigol hynny, gan fy mod i'n sylweddoli na allwch chi wneud hynny, ond a yw'r Llywodraeth yn cydnabod bod problem wirioneddol pan ddaw i amseroedd aros penodol ar draws Cymru gyfan i wasanaeth ambiwlans Cymru ymateb? Ac, os ydych chi'n cydnabod hynny, pa fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r amseroedd aros gofidus dros ben y mae'n rhaid i deuluoedd, cleifion ac, yn wir, parafeddygon a gweithredwyr y gwasanaeth ambiwlans ymdopi â nhw?
Wel, nid oes gen i unrhyw reswm i amau yr enghreifftiau a nodwyd gan arweinydd yr wrthblaid, ac mae angen ymchwilio i'r enghreifftiau hynny, wrth gwrs, ac ymchwilio iddynt yn llawn. A gaf i ddweud bod y model amseroedd ymateb ambiwlansys wedi ei ddyfeisio gan glinigwyr? Bwriedir iddo sicrhau bod y rhai sydd fwyaf angen ambiwlans yn cael ambiwlans. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella'n fawr dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ers dros flwyddyn erbyn hyn, yn wir, ond bydd enghreifftiau y mae wedi cyfeirio atynt y bydd angen eu hystyried i weld pam mae sefyllfa o'r fath wedi codi.
Mae'n iawn i ddweud y bu llawer iawn o bwysau ar y GIG ac, yn wir, ar ambiwlansys ledled y DU dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig, ac, wrth gwrs, cafodd y cyfnod oer yr wythnos diwethaf effaith, yn enwedig ar dderbyniadau strôc , lle bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl a oedd wedi cael strôc oherwydd y tywydd oer.
Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio sicrhau bod achosion unigol yn cael eu hystyried. Pan ddaw i'r model gwirioneddol a ddefnyddir, mae'n fodel a ddyfeisiwyd gan glinigwyr.
Gwneuthum y pwynt penodol hwn wrth agor fy sylwadau gan ddweud y bu cynnydd o ran amseroedd ymateb ambiwlansys mewn rhai categorïau, ond ni ellir gwadu, wythnos ar ôl wythnos, ein bod ni'n gweld achosion, yn y wasg ac a adroddir yma yn y Siambr, o amseroedd aros eithafol sy'n peri gofid aruthrol i'r parafeddygon, i'r timau sy'n rheoli'r gwasanaeth ambiwlans ac yn bwysicach, i'r cleifion a'r teuluoedd sydd wedi galw'r ambiwlans i ddod ar eu hadeg o angen.
Y mater a godais gyda chi ynghylch yr etholwr yn y Bont-faen—a dweud y gwir, fore dydd Llun, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, roedden nhw'n defnyddio'r ystafell profedigaeth i bentyrru trolïau â chleifion arnynt gan fod y pwysau yn yr adran damweiniau ac achosion brys mor fawr. Nawr, tynnwyd eich sylw gennym dros y penwythnos bod nifer sy'n cyfateb i 1,000 o nyrsys wedi cael eu colli i GIG Cymru dros y tair blynedd diwethaf, a daw hynny o gais rhyddid gwybodaeth yr ydym ni wedi ei dderbyn gan y byrddau iechyd lleol. Os nad oes gennych chi'r staff ar y rheng flaen, sut ar y ddaear ydych chi'n gallu ymdrin â'r cleifion sy'n dod drwy'r drws ffrynt a'r galw cynyddol ar y GIG, er mwyn sicrhau, yn y pen draw, y gall y gwasanaeth 999 ymateb yn lle parcio mewn meysydd parcio ledled y wlad?
Wel, gallaf ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid bod mwy o nyrsys cofrestredig yn gweithio yn y GIG nag erioed o'r blaen. Er enghraifft, ers 2014, mae nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd wedi cynyddu gan 68 y cant. Mae hynny, ochr yn ochr â'n hymgyrch recriwtio ryngwladol, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod y GIG yn parhau i fod â gweithlu o ansawdd uchel. Rydym ni'n ymwybodol o achosion lle mae nyrsys wedi gadael y proffesiwn. Mae'r rhesymau sy'n gysylltiedig â hynny yn amrywiol ac yn gymhleth. Bydd niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond rydym ni'n gwybod, fel y dywedais, bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig nag erioed o'r blaen. Rydym ni'n buddsoddi £107 miliwn mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eleni. Mae hynny wedi arwain at gynnydd o 10 y cant i'r lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Felly, mae'r nyrsys yno, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall, wrth gwrs, pan ddaw i dderbyniadau adrannau damweiniau ac achosion brys, eu bod nhw'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan oedi wrth drosglwyddo gofal, er enghraifft. Pan na all pobl adael ysbyty pan eu bod yn barod i wneud hynny ac felly'n gallu—rwy'n ei roi mewn ffordd sy'n llym efallai—gadael gwely, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod pwysau yn cael ei leddfu drwy'r system gyfan yr holl ffordd i flaen yr ysbyty yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Felly, mae'n hynod bwysig recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—rwyf i wedi nodi sut yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny—ond hefyd i ganolbwyntio ar symud pobl drwy'r ysbyty pan eu bod yn barod, ac allan o'r ysbyty pan eu bod yn barod, er mwyn gwneud yn siŵr bod lle ar gael i bobl eraill sydd angen y gwelyau hynny.
Amlygodd y cwestiwn cyntaf fy nghyfyng-gyngor, yr argyfwng y mae rhai pobl yn ei wynebu pan fyddant yn ffonio am ambiwlans yma yng Nghymru. A dyna oedd fy mhwynt yn union: nid yw'r system yn caniatáu'r llif cleifion fel bod yr ambiwlansys, yn hytrach na'u bod wedi parcio mewn meysydd parcio ysbytai gyda chleifion ynddynt, allan yn y gymuned yn ymdrin â galwadau 999 sy'n gofyn am eu cymorth. Rwyf i wedi nodi, o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BILlau—eu ffigurau eu hunain yw'r rhain—y collwyd 1,000 o nyrsys i'r GIG yma yng Nghymru trwy fethu â gallu cadw nyrsys yn ein gwasanaeth. Mae'r bwrdd iechyd sydd o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, Betsi Cadwaladr, wedi colli 493 o nyrsys yn y cyfnod hwnnw. Nhw oedd â'r nifer uchaf o nyrsys na chawsant rai eraill yn eu lle o bob un o'r saith bwrdd iechyd yma yng Nghymru. Nid yw'n afresymol, Prif Weinidog, i ofyn i chi, ac fe'i gofynnwyd i mi yn ystod y ddiwrnod neu ddau diwethaf, yn enwedig gan y teulu hwn o'r Bont-faen: a yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhedeg allan o syniadau pan ddaw i fynd i'r afael â'r pwyntiau o bwysau yn ein GIG? Felly, a allwch chi roi rhywbeth i mi i fynd yn ôl ag ef at fy etholwyr, a llawer o bobl eraill yng Nghymru, i ddeall beth yn union yw'r amserlen ar gyfer gweld cynnydd yn GIG Cymru, fel nad yw'r arosiadau 10, 12, 14, 16 awr hyn yn ddigwyddiad rheolaidd yn ein gwasanaeth ambiwlans?
Wel, os edrychwn ni ar y ffigurau, fe welwn fod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella, ac mae ef wedi cydnabod hynny. Rydym ni'n gweld gwelliannau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, yn gweld gwelliannau o ran diagnosteg, yn gweld gwelliannau o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth, ond bydd adegau pan fydd rhai pobl yn cael eu heffeithio'n andwyol, ac mae angen edrych arnyn nhw'n ofalus iawn a'u hymchwilio, a dysgu gwersi o'r achlysuron hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y pwysau ariannol ar y GIG yn sylweddol bob amser, ac mae'r rhain yn bwysau ariannol sy'n bodoli ar draws y DU gyfan. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod digon o arian ar gael ar gyfer GIG Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa lle, yn weddol fuan, y byddai'r GIG yn cymryd hanner ein hadnoddau, ac, fel pleidiau gwleidyddol, rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych yn ofalus iawn—ac mae'r arolwg seneddol, a bod yn deg, wedi gwneud hyn—ar sut yr ydym ni'n dyrannu adnoddau i'r GIG yn y dyfodol, sut yr ydym ni'n cael gwared ar dagfeydd, os oes rhai, a sut yr ydym ni'n datblygu GIG sydd â chefnogaeth y cyhoedd ar draws y pleidiau gwleidyddol.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Bydd yr holl Aelodau wedi eu dychryn gan yr ymosodiad asiant nerfol diweddar yn Nghaersallog. Mae'n ymddangos mai'r farn gyffredinol yw bod y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe rhwng Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog y DU ymhell islaw lefel y digwyddiadau. Dywedodd Chris Leslie, cyn Ganghellor yr wrthblaid dros y blaid Lafur, nad oedd yn briodol gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol pan
fo'n gwlad o bosibl yn destun ymosodiad.
Dywedodd AS Llafur arall, John Woodcock,
Byddai'n rhoi ein diogelwch cenedlaethol mewn perygl sylweddol pe byddem ni'n cael ein harwain gan unrhyw un nad oedd yn deall difrifoldeb bygythiad Rwsia i'r wlad hon.
A yw'r Prif Weinidog yn credu bod Jeremy Corbyn yn unigolyn o'r math hwnnw?
Nid wyf i yma i ateb dros unrhyw un arall, ddim mwy, rwy'n siŵr, nag y mae ef yma i esbonio sut y mae Nigel Farage yn credu bod cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau yn bosibl mewn 48 awr, sef yr hyn a ddywedodd ddoe. Mae hwn yn fater difrifol iawn. Mae gennym ni bobl sydd wedi cael eu heffeithio'n ofnadwy, mae gennym ni swyddog heddlu sydd wedi cael ei effeithio'n ofnadwy. Yn ffodus, mae'n ymddangos fel pe byddai'n gwella. Wrth gwrs mae angen ymchwiliad llawn, a bydd gan yr awdurdodau ymchwilio gefnogaeth, rwy'n siŵr, gwleidyddion, nid yn unig yn San Steffan, ond gwleidyddion ar bob ochr yn y Siambr hon.
Sylwais fod y Prif Weinidog wedi ochrgamu'r cwestiwn. Ond mae Nicola Sturgeon wedi dweud
Mae angen pennau pwyllog yn sicr, ond ymateb cadarn hefyd. Ni ellir caniatáu i Rwsia lansio ymosodiadau ar ein strydoedd yn ddi-gosb.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â hynny?
Wrth gwrs fy mod i'n cytuno â hynny. Mae'n ceisio awgrymu yn y fan yma nad wyf i, rywsut, yn derbyn bod yn rhaid cael ymchwiliad llawn neu nad wyf i'n derbyn bod Rwsia yn rhan o hyn. Wrth gwrs bod y ffactorau hynny ar waith. Mae'n bwysig dros ben bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal. Gwn, ar sail amhleidiol, fod cefnogaeth i hynny, yn Nhŷ'r Cyffredin ac, yn wir, rwy'n siŵr, yma yn y Cynulliad. Ni all fod yn iawn bod pobl yn cael eu hanafu neu waeth o ganlyniad i'r defnydd o'r hyn sy'n ymddangos fel asiant nerfol gradd milwrol. Mae angen cosbi pwy bynnag oedd yn gyfrifol am hynny.
Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb rhesymol iawn yna. Un peth yr oeddwn i'n cytuno â Jeremy Corbyn yn ei gylch o ganlyniad i'r ddadl ddoe oedd hyn: dywedodd fod yn rhaid cael
deialog gadarn â Rwsia ar yr holl faterion—domestig a rhyngwladol—sy'n rhannu ein gwledydd ar hyn o bryd, yn hytrach na thorri cysylltiad.
Os yw hynny'n wir am Rwsia, mae'n fwy gwir fyth efallai am ein perthynas â'r Unol Daleithiau. Yr Unol Daleithiau yw ein cynghreiriad pwysicaf, ac er bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi newid yn ystod heddiw, dywedodd Rex Tillerson yn ddiweddar
Rydym ni'n sefyll fel un gyda'n cynghreiriaid yn y Deyrnas Unedig
a bod yr hyn a ddigwyddodd yn Nghaersallog yn weithred ddybryd iawn a bod Rwsia'n dod yn fwy ymosodol yn peri gofid mawr iddo. Nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd polisi gweinyddiaeth America yn newid gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd.
Onid yw'n ddyletswydd, felly, ar bob gwleidydd Llafur uwch roi'r ystyriaeth fwyaf gofalus i'n buddiannau gyda'r Unol Daleithiau a'n perthynas ddiplomataidd â nhw, ac i roi terfyn ar y galw enwau plentynnaidd ar yr Arlywydd ac eraill yn ei weinyddiaeth y maen nhw'n digwydd anghytuno â nhw yn wleidyddol? Buddiannau Prydain ddylai ddod yn gyntaf.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n cymeradwyo dulliau Arlywydd yr Unol Daleithiau a'r ffordd y mae'n cyfathrebu. Mae swydd arlywyddiaeth Unol Daleithiau America yn un a ddylai ennyn parch, hyd yn oed ymhlith y rhai na wnaethant bleidleisio dros yr Arlywydd presennol, ac nid wyf i'n siŵr bod yr Arlywydd presennol yn y sefyllfa honno. Mae'r ffaith fod Rex Tillerson, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cefnogi'r DU ac yn gwbl gefnogol o safbwynt y Prif Weinidog, a'i fod wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i hynny, yn peri gofid i mi. Mae hynny'n peri gofid i mi. Beth mae hynny'n ei olygu o ran pa gymorth fydd yn dod gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau i safbwynt Llywodraeth y DU o ran yr ymosodiad erchyll hwn? A cheir llawer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn o ganlyniad i hynny. Nid wyf i erioed wedi bod o'r farn y dylem ni dorri cysylltiad â'r Unol Daleithiau mewn rhyw ffordd. Roeddwn i yno bythefnos yn ôl, a threuliais amser yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada. Fy marn i yw y dylem ni estyn allan i bob gwlad ac endid democrataidd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs—endid y mae e'n llai awyddus i gadw cysylltiadau ag ef.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu swyddogaeth Aelodau'r Cynulliad—y swyddogaeth sydd gennym ni—o ran craffu ar gynllun metro de Cymru a'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf?
Wel, mae'n agored i'r Aelodau, wrth gwrs, i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth yn y ffordd arferol.
Wel, mae'r gymhariaeth o fetro de Cymru ag anghenfil Loch Ness gan un o aelodau eich meinciau cefn yn crynhoi sut y mae llawer ohonom ni'n teimlo amdano. Ni wnaiff eich Llywodraeth esbonio beth sy'n digwydd, ac mae pobl eisiau eglurder. Nid ydych chi'n fodlon cyhoeddi'r ddogfen gwahoddiad i dendro hyd yn oed, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ei wneud gan bob gwlad arall yn y DU, a chadarnhawyd erbyn hyn bod Trafnidiaeth Cymru yn credu bod trydaneiddio rheilffordd Glynebwy, a dyfynnaf, wedi cael ei ddiystyru o unrhyw ystyriaeth bellach. A allwch chi gadarnhau nad oes gennych chi unrhyw fwriad i drydaneiddio rheilffordd Glynebwy erbyn 2023 erbyn hyn?
Wel, nid oedd rheilffordd Glynebwy wedi ei chynnwys yn y fanyleb wreiddiol ar gyfer trydaneiddio. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na fydd gwasanaethau amlach ar y rheilffordd. Bydd hynny'n digwydd. Nawr, pan ddaw i'r Metro ei hun, fel yr wyf yn siŵr y mae'r Aelodau wedi cael llond bol o fy nghlywed i'n dweud, mae'r metro yn rhywbeth a godais gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl, yng nghlwb rygbi Bedwas—o bobman. Mae map wedi ei gyhoeddi, sy'n cynnwys y gwahanol gamau o sut y bydd y metro yn cael ei ddatblygu. Nid yw'n fater syml o uwchraddio'r hyn sydd yno eisoes. Mae'n golygu ystyried, er enghraifft, cysylltiadau rheilffordd ysgafn newydd, yn enwedig lle ceir rheilffyrdd trwm eisoes, nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae'n golygu ystyried y ffordd y mae bysiau yn rhyngweithio â rheilffyrdd ysgafn a rheilffyrdd trwm. Rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad, wrth gwrs, trwy wneud yn siŵr bod gennym ni reolaeth dros y trac ei hun, i wneud yn siŵr nad ydym ni yn nwylo Network Rail, nad oes gennym ni unrhyw rym drostynt o gwbl i'w cyfeirio. Rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen—ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r diben hwn—gyda threnau gwell, trenau mwy cyfleus, pris rhesymol, rhwydwaith integredig ac, wrth gwrs, trenau amlach, a dyna'n union y bydd y metro yn ei ddarparu.
Mae hyn yn swnio llawer iawn i mi fel gêr tuag at yn ôl, Prif Weinidog. Roedd eich achos busnes gwreiddiol yn cynnwys rheilffordd Glynebwy. Roedd yn dweud, a dyfynnaf:
yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, mae'r achos dros drydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd, ar y sail bod yr holl reilffyrdd yn cael eu cynnwys o Lynebwy i Faesteg a chyda rheilffordd Bro Morgannwg wedi ei chynnwys hefyd.
Nawr, mae'r dogfennau a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017—ddau fis ar ôl y gwahoddiad terfynol i dendro. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog: pa wybodaeth wnaeth Trafnidiaeth Cymru ei chael, a arweiniodd atyn nhw'n ddatgan bod rheilffordd Glynebwy, rheilffordd Maesteg a chynlluniau Bro Morgannwg wedi eu terfynu?
Wel, dydyn nhw ddim wedi eu terfynu, oherwydd bydd gwasanaethau amlach ar y rheilffyrdd hynny, fel yr ydym ni wedi ei ddweud. Er enghraifft, os edrychwch chi ar Faesteg—. [Torri ar draws.] Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft—. Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft—. [Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau fy holi am drenau, yna pob lwc. Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft, gwasanaeth ddwywaith yr awr yw'r hyn sy'n cael ei gynnig, pa un a yw hynny'n golygu yr holl ffordd i Gaerdydd neu'n golygu un i Ben-y-bont ar Ogwr ac un i Gaerdydd. Wrth gwrs, y broblem gyda Maesteg yw bod trydaneiddio'r prif reilffordd wedi diflannu i'r gorllewin o Gaerdydd. Mae hynny'n ychwanegu'n sylweddol at y gost o drydaneiddio i Faesteg. Yn wreiddiol, pan edrychasom ar y cynlluniau metro, roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n trydaneiddio cyn belled ag Abertawe. Mae hynny wedi diflannu erbyn hyn.
Ond gadewch i ni fod yn gwbl eglur am hyn. Mae dau beth i'w pwysleisio yn y fan yma: yn gyntaf, beth bynnag yw'r dull tynnu, bydd gwasanaeth gwell a gwasanaeth amlach; ac yn ail, mae'n amlwg nad yw awgrymu'r hyn a awgrymwyd yr wythnos diwethaf, y gallwch chi wahanu Caerdydd oddi wrth gweddill rheilffyrdd y Cymoedd, yn gweithio. Mae llawer iawn o bobl yn dod i weithio i Gaerdydd o'r Cymoedd. Mae hynny'n golygu pan eu bod yn cyrraedd Caerdydd ei bod hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu symud o gwmpas Caerdydd yn briodol, a symud o gwmpas Caerdydd yn y ffordd rwyddaf bosibl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, integreiddio'r system yng Nghaerdydd gyda rheilffyrdd y Cymoedd. Unwaith eto, gadewch i mi fod yn gwbl eglur: bydd gwasanaethau amlach; bydd gwasanaethau gwell.
Wedi'u trydaneiddio?
Bydd rhai rheilffyrdd yn cael eu trydaneiddio yn gyntaf. Bydd yr achos busnes dros eraill yn cael ei ystyried yn y dyfodol. Ni allwn drydaneiddio'r cwbl ar unwaith. Rydym ni'n edrych ar y rheilffyrdd ac yn datblygu trydaneiddio wrth i amser fynd yn ei flaen.
Ond y pwynt y mae Plaid Cymru yn ceisio ei wneud yw hyn: y bu, rywsut—rwy'n gwybod nad ydyn nhw'n gwrando—symudiad oddi wrth ddarparu gwasanaeth trenau gwell i bobl yn ardal metro de Cymru. Nid yw hynny'n wir. Bydd y trenau'n well ac yn amlach. Yn y camau cyntaf, bydd rhai'n cael eu trydaneiddio, a bydd rhaglen barhaus ar gyfer gwneud hynny. Bydd pobl yn gallu dal bysiau sy'n cysylltu â gwasanaethau trên. Byddant yn rhan o rwydwaith integredig mewn ffordd na fu erioed yn bosibl o'r blaen. Bydd y metro yn digwydd. Bydd yn symud ymlaen ar hyd y rheilffyrdd yr ydym ni wedi eu hawgrymu, yn unol â'r cynlluniau yr ydym ni wedi eu hawgrymu, a bydd y bobl yn ardal metro de Cymru yn cael gwasanaeth gwell.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision economaidd sy'n deillio o reilffyrdd treftadaeth i Gymru? OAQ51884
Rydym ni'n llwyr gydnabod gwerth economaidd ein holl reilffyrdd treftadaeth ac rydym ni wedi helpu i gefnogi estyniad a datblygiad nifer o reilffyrdd treftadaeth ledled Cymru.
Diolch. Wel, wrth ysgrifennu yn rhifyn mis Tachwedd diwethaf o gylchgrawn 'Heritage Railway', cyfeiriodd ei olygydd, Robin Jones, at ymgyrch fawr Rheilffordd Llangollen i Gorwen Canolog, yn ogystal â'r estyniad i Reilffordd Llyn Tegid, gan amlygu'r manteision economaidd lu i gynghorau lleol ac eraill y gall rheilffyrdd treftadaeth eu sicrhau. Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd felly i sicrhau gwell dealltwriaeth, ar bob lefel o weithgarwch llywodraeth a busnes, y manteision y gall rheilffyrdd treftadaeth, fel Rheilffordd Llangollen, eu cynnig i'r ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu?
Ni allwn i glywed y rhan fwyaf o'r cwestiwn yn iawn. Soniasoch am Reilffordd Llangollen, rwy'n meddwl, ar y diwedd. Wel, mae Rheilffordd Llangollen yn bwysig iawn, nid yn unig o ran yr atyniad twristiaid sydd yno, ond hefyd fel modd o deithio. Ond y prentisiaethau a welais pan oeddwn i yno—ceir gweithrediadau cynnal a chadw ar gyfer nifer o reilffyrdd treftadaeth eraill hefyd, ac maen nhw, wrth gwrs, yn gallu cynnig cyfleoedd cyflogaeth. Rydym ni'n meddwl yn aml bod rheilffyrdd treftadaeth yn cyflogi gwirfoddolwyr yn bennaf. Wel, nid yw hynny'n wir mwyach, ac yn enwedig yr hyn a welais yn Llangollen.
Rydym ni'n gwybod bod rheilffyrdd treftadaeth yn atyniad enfawr i dwristiaid, wedi eu marchnata, wrth gwrs, ar un adeg, fel trenau bach gwych Cymru. Wel, mae Llangollen yn reilffordd safonol, yn hytrach na rheilffordd gul. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, bod Rheilffordd yr Wyddfa yn aruthrol o bwysig ac yn atyniad enfawr i dwristiaid yn y fan honno. Rydym ni'n gweld, wrth gwrs, y cysylltiad rhwng Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru a'r ffordd y gwnaed hynny. Felly, o'n safbwynt ni, rydym ni wedi ariannu rheilffyrdd treftadaeth yn y gorffennol. Er enghraifft, mae Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi cael £420,000, Rheilffordd yr Wyddfa £300,000 a Rheilffordd Llyn Llanberis £400,000 ar gyfer estyniad i'r rheilffordd. Felly, rydym ni yn deall pa mor bwysig yw rheilffyrdd treftadaeth, a byddwn yn mynd ati i'w cefnogi yn y dyfodol.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y papur gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol? OAQ51890
Fel y dywedais i wrth yr Aelod, pan ofynnodd hi gwestiwn tebyg yr wythnos diwethaf, mae’r dull gweithredu o ran cryfhau llywodraeth leol yn cael ei ystyried, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad maes o law.
Roeddech chi’n sôn fy mod i wedi gofyn yr wythnos diwethaf. Pan wnes i ofyn am hyn, am yr u-bedol y mae eich Llywodraeth chi wedi ei wneud, fe ddywedoch chi
'nid yw'r sefyllfa wedi newid ynglŷn â'r ffordd ymlaen.'
Roedd hyn yn awgrymu i mi nad oeddech chi’n ymwybodol o ddatganiadau diweddar eich Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies, ac mae hyn yn rhyfeddol i mi, ac yn awgrymu 1) nad ydych chi’n cymryd llawer o ddiddordeb mewn llywodraeth leol, sef y rhwyd sy’n cadw ein pobl fwyaf bregus yn ddiogel, a 2) nad oedd unrhyw drafod wedi bod yn eich Cabinet chi am y newid cyfeiriad presennol. Felly, a fedrwch chi ein goleuo ni ychydig bach yn fwy nag yr ydych chi wedi ei wneud yn barod ynglŷn â’r cyfeiriad y byddwch chi’n ei gymryd fel Llywodraeth?
Wel, fel un a oedd yn gynghorydd ar un adeg, cyn dod i’r lle yma, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw llywodraeth leol a’r gwaith, wrth gwrs, y mae aelodau yn ei wneud yn lleol i gynrychioli eu cymunedau. Ond, os caf ddweud, un peth sydd ddim yn mynd i newid yw na all y system bresennol barhau fel y mae ar hyn o bryd. Yn ail, mae’n hollbwysig sicrhau bod cydweithio rhanbarthol yn dal i ddigwydd. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr, er enghraifft, i addysg, lle'r ydym wedi gweld gweithredu ynglŷn â myfyrwyr yn gwella’n fawr iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae yna ddadl i’w chael, wrth gwrs, ynglŷn â beth y dylai’r ffordd ymlaen fod yn y pen draw. Ni allwn sefyll lle'r ydym ni, ond dyna beth fydd y ddadl dros y misoedd nesaf, sef beth, felly, yw’r cyfeiriad gorau ymlaen. Ac, wrth gwrs, mae hynny’n agored i Aelodau fynegi barn amdano.
Prif Weinidog, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol wedi dweud bod cymryd rhan yn hollbwysig i ddemocratiaeth leol—y perlau arferol o ddoethineb yr ydym ni wedi dod i'w disgwyl gan fy ffrind Alun Davies. Mae Alun Davies hefyd wedi dweud ei fod eisiau i gynghorau dreialu ffyrdd arloesol o bleidleisio sy'n adlewyrchu bywydau prysur pobl, rhywbeth y byddwn i'n sicr yn cytuno ag ef mewn egwyddor. Wrth gwrs, yn ymarferol, pan fyddwch chi'n newid systemau pleidleisio, mae'n ehangu'r posibilrwydd o fwy o dwyll. Felly, sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr na fydd y system newydd o etholiadau llywodraeth leol a fydd yn dilyn y diwygiadau hyn yn agor y drws i fwy o dwyll na allwn gadw golwg arno yn yr un modd ag y gallwn ni gyda'r patrymau pleidleisio presennol?
Rwy'n credu, o ran y mater o bleidleisio electronig, fod y mater o ddiogelwch yn un pwysig. Nid oes gennym ni sefyllfa yn y wlad hon lle mae'n rhaid i bobl ddangos prawf adnabod pan eu bod yn pleidleisio, ac rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i hynny fyth ddigwydd yn y dyfodol. Felly, pan ddaw i bleidleisiau post a phan ddaw i bobl yn pleidleisio yn bersonol, rwy'n credu bod gennym ni system mor gadarn ag y gallwn ni ei chael. Nawr, mewn egwyddor, rwyf o blaid y syniad o bleidleisio electronig, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y diogelwch yn bodoli eto i wneud yn siŵr bod y system honno'n gadarn, ac rwy'n credu mai dyna lle mae angen i ni fynd. Felly, ni fyddwn i'n gwrthwynebu pleidleisio electronig yn y dyfodol, ond rwy'n credu y byddai angen argyhoeddi'r cyhoedd, yn enwedig yn y byd sydd ohoni, na fyddai unrhyw siawns y byddai systemau yn cael ei hacio neu, yn wir, unrhyw siawns o rywun yn esgus bod yn bleidleisiwr arall. Dyna lle, yn fy marn i, y mae angen gwneud y gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb, mae diwygio llywodraeth leol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd—neu bydd yn destun ymgynghoriad. Ond seiliwyd y newidiadau i ffiniau PABM ar un awdurdod lleol yn dweud ei fod eisiau newid i gyd-fynd yn well â'i wasanaethau. A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n ddoeth nawr mewn gwirionedd i fwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau o ran y newid i'r ffin honno tra ein bod ni'n aros am yr ailystyriaeth o ddiwygio awdurdodau lleol, ac felly y dylid ei ohirio nawr tra bod diwygio awdurdodau lleol yn cael ei ystyried?
Wel, mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben. Byddwn yn edrych, wrth gwrs, ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw, a bydd hynny'n rhan o'n hystyriaethau ar gyfer llywodraeth leol.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr mai un peth y byddai pob AC yn y Siambr hon yn cytuno ag ef yw'r angen i gynyddu ymgysylltiad pobl â'r broses ddemocrataidd a chynyddu nifer y pleidleiswyr mewn etholiadau. Gwn fod pleidleisio electronig yn un syniad a ystyriwyd yn rhan o becyn Llywodraeth Cymru o ddiwygiadau. Wrth lunio fy nghwestiwn atodol heddiw, roeddwn i eisiau cyfeirio at enghraifft lle'r oedd pleidleisio electronig wedi cynyddu nifer y pleidleiswyr. Ond, mewn gwirionedd, o edrych ar brofiadau Norwy ac Estonia, prin yw'r effaith a gafodd pleidleisio electronig ar gynyddu cyfranogiad. Yn hytrach, nodwyd bod angen i ni bwysleisio pam mae pleidleisio'n bwysig. Beth yw myfyrdodau'r Prif Weinidog ar y dystiolaeth hon, a sut orau allwn ni amlygu'r rhesymau pam mae cyfranogiad gwleidyddol mor hollbwysig?
Ydy, mae'n anodd gwybod, heb edrych ar y dystiolaeth yn llawn, pam y cafwyd y sefyllfa honno yn Norwy ac Estonia. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw cynnig cymaint o ddulliau pleidleisio i bobl ag sy'n rhesymol, i roi cymaint o gyfle â phosibl iddyn nhw bleidleisio. Rydym ni wedi pleidleisio ar ddydd Iau yn y wlad hon yn hanesyddol—nid bob amser, fel y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwybod. Ond, er enghraifft, mae gwledydd eraill yn pleidleisio ar y penwythnos. Y rheswm pam nad ydym ni erioed wedi cael pleidleisiau ar ddydd Sul yw na fyddai fy nhad-cu wedi pleidleisio ar ddydd Sul, i fod yn blwmp ac yn blaen—Sabathyddiaeth. Nid wyf i'n siŵr ein bod ni mewn sefyllfa debyg i honno nawr. Felly, rwy'n meddwl bod angen i ni ystyried pa un ai pleidleisio ar y penwythnos yw'r ffordd ymlaen. Wrth gwrs, ceir rhai pobl sy'n gweithio ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, ond byddai hyblygrwydd yno, pleidleisio electronig, pleidleisio drwy'r post—mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar gynifer o ddulliau â phosibl i alluogi pobl i bleidleisio cyn belled â bod y dulliau hynny yn ddiogel.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i wasanaethau iechyd i fenywod? OAQ51918
Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd Cymru ddarparu ystod lawn o wasanaethau iechyd diogel a chynaliadwy i fenywod, gan gymryd canllawiau a thargedau amseroedd aros y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ystyriaeth.
Diolch am yr ateb yna. Mae mwy na thri o bob pedwar erthyliad yng Nghymru—bron i 80 y cant—yn driniaethau meddygol yn hytrach na llawfeddygol, sy'n golygu cymryd dau ddos o dabledi o fewn 72 awr i'w gilydd. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae'n rhaid cymryd y ddwy dabled hyn mewn clinig, tra, yn yr Alban, caniateir i fenywod gymryd yr ail ddos o misoprostol gartref erbyn hyn. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai menywod yng Nghymru yn well eu byd pe bydden nhw'n cael cymryd yr ail ddos hwn gartref, gan osgoi apwyntiadau meddygol diangen a hefyd y peryglon o deithio, yn aml ar gludiant cyhoeddus, ar ôl cymryd yr ail ddos?
Wel, gallaf hysbysu fy ffrind, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd fod clinigwyr wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn. Rydym ni'n ystyried y dystiolaeth, yn enwedig, wrth gwrs, am y posibilrwydd o wasanaeth mwy effeithlon, ac, wrth gwrs, mwy diogel, gwell canlyniadau i fenywod, cyn ymrwymo i unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Ceir adolygiad barnwrol, gyda llaw, yn yr Alban sy'n parhau ac sy'n herio'r polisi hwnnw. Yn amlwg, rydym ni'n cymryd diddordeb yn hwnnw. Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi yw ein bod ni'n edrych ar y sefyllfa yn yr Alban, yn edrych i weld, o ran diogelwch, pa un a ddylai hynny fod yn berthnasol yng Nghymru, ac wrth gwrs, yn edrych i wneud yn siŵr bod yr adolygiad barnwrol—edrych i weld beth fydd canlyniad yr adolygiad barnwrol mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, dros y degawd diwethaf, mae tua 70 y cant o fenywod a alwyd i gael profion sgrinio'r fron wedi derbyn y gwahoddiad hwnnw ac wedi cael y profion sgrinio sydd weithiau wedi achub eu bywydau. Fodd bynnag, ceir cnewyllyn caled o 30 y cant nad ydym ni'n gallu eu cyrraedd i'w darbwyllo am y budd o fanteisio ar y math hwn o sgrinio. A ydych chi'n credu y byddai'n adeg briodol nawr, ar ôl degawd, i ni gynnal rhyw fath o arolwg i geisio deall beth yw'r rhwystrau sy'n atal y 30 y cant hynny rhag manteisio ar wasanaeth sgrinio a allai achub bywydau o bosibl, a sut y gallwn ni wedyn roi sylw i'w pryderon fel y gallwn ni gael mwy i gymryd rhan yn yr elfen hanfodol iawn hon o iechyd menywod?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud awgrym hollol synhwyrol, ac un y mae ei angen iddo hysbysu'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda thimau iechyd y cyhoedd, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i gynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio. Mae hi'n gwbl gywir yn y ffigurau y mae hi'n eu dyfynnu. Yn fwy pryderus, mae Bron Brawf Cymru wedi gweld gostyngiad graddol i'r niferoedd ers 2007, sy'n peri pryder—nid yw'n duedd tymor hir eto, ond yn ddigon iddo beri pryder o ran ein tuedd dros y naw mlynedd diwethaf. Cynhelir mwy na 110,000 o brofion yn rhan o'r rhaglen. Mae angen mwy ohonynt, ac mae'n rhaid i archwilio pam nad yw menywod yn manteisio ar y cyfle o gael eu sgrinio fod yn rhan bwysig o wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd y tu hwnt i'r ffigur hwnnw o 70 y cant.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51912
Wel, mae adolygiad annibynnol yn ystyried swyddogaeth cynghorau cymuned a thref yn y dyfodol a'r hyn y mae angen iddo fod ar waith i'w galluogi i gyflawni'r swyddogaeth honno, a bydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni.
Diolch. Dros y saith mlynedd diwethaf, codwyd llawer o bryderon gyda mi ynghylch swyddogaethau'r cynghorau cymuned a thref, ac rwyf i hefyd wedi eu codi nhw yma yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu dau adolygiad arall, felly rydym ni'n canfod ein hunain yng nghanol adolygiad wrth symud ymlaen.
Nawr, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod 65 o gynghorau cymuned nad ydynt hyd yn oed wedi mabwysiadu cod ymddygiad i'w haelodau eto—ni all 99 gynnig tystiolaeth eu bod nhw'n cadw ac yn cyhoeddi cofrestr o fuddiannau. Methodd wyth deg wyth â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi cyfrifon wedi eu harchwilio, cyflwynodd 260 ddatganiadau blynyddol a oedd yn anghyflawn neu'n cynnwys gwallau syml, ac nid oes gan 108 wefan ac nid ydynt wedi gwneud trefniadau eraill i gyhoeddi gwybodaeth, ac rydym ni'n gwybod bod 81 y cant o seddi cynghorau tref a chymuned yn ddiwrthwynebiad neu'n wag y llynedd.
Nawr, rwyf i a llawer o bobl eraill o'r farn bod cynghorau cymuned yn lefel bwysig iawn yn ein pum haen, ar hyn o bryd, o lywodraethu democrataidd. Sut gallwn ni fod yn sicr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n dangos rhyw fath o gyfranogiad yn hyn ac y bydd yr adolygiad hwn wir yn darparu ffordd newydd o symud ymlaen i'n cynghorau cymuned fel y gall ein trigolion a'n cynghorwyr cymuned fod yn dawel eu meddwl bod yr holl brosesau perthnasol hynny ar waith o ran tryloywder, atebolrwydd democrataidd a gonestrwydd ariannol?
Wel, fel rhywun a oedd yn gynghorydd cymuned ar un adeg, beth amser yn ôl, gwn pa mor bwysig yw cynghorau cymuned. Rwy'n credu bod sawl mater yn y fan yna y mae'r Aelod yn eu codi y bydd angen eu hystyried yn rhan o'r broses. Yn gyntaf oll, mae gennym ni lawer o gynghorau cymuned. Ceir 700 ohonyn nhw. Maen nhw'n amrywio'n eang o ran maint. Mae rhai yn cynrychioli fawr mwy na 100 o bobl, eraill miloedd lawer o bobl. Nid wyf i'n meddwl ei bod hi'n realistig i ni ddisgwyl yr un peth gan bob un ohonynt, o ystyried eu gwahaniaethau o ran maint. Er enghraifft, ceir gwahaniaeth enfawr o ran maint rhwng Cyngor Tref y Barri o'i gymharu â Chyngor Cymuned Merthyr Mawr yn fy rhan i o'r byd, a cheir rhai rhannau o Gymru, y Rhondda, er enghraifft, lle nad oes unrhyw gynghorau cymuned o gwbl. Felly, yn rhan o'r adolygiad, rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig edrych ar niferoedd, edrych ar gapasiti, edrych ar sut y gallwn ni roi mwy o bwerau i gynghorau tref a chymuned—gallai fod yn anghymesur, oherwydd y gwahaniaeth o ran maint—a sut y gallwn eu grymuso yn y dyfodol. Bydd hyn i gyd yn ffurfio, mae yn ffurfio, rhan o'r adolygiad sy'n symud ymlaen.
Rwy'n credu fy mod i'n iawn yn dweud—bydd yr Aelod dros Drefynwy yn fy ngoleuo ar hyn—ceir un Cyngor Cymuned, rwy'n credu, yn Sir Fynwy lle mae'n rhaid i un o bob wyth o'r boblogaeth yn llythrennol fod yn aelodau o'r cyngor er mwyn i'r cyngor gael cwota llawn o aelodau. Dyna ddywedwyd wrthyf i. Wel, o dan yr amgylchiadau hynny, mae'n hynod anodd cael sefyllfa lle ceir cystadleuaeth am bob sedd. Ac mae'n iawn i ddweud, mewn democratiaeth fywiog—nid ar sail pleidiau gwleidyddol o reidrwydd, ond, mewn democratiaeth fywiog, eich bod chi eisiau cymaint â phosibl o bobl i sefyll etholiad i gynghorau cymuned.
Prif Weinidog, yn Nhaf Elái a Phontypridd, wrth gwrs, mae gennym ni chwech o gynghorau cymuned ardderchog sy'n cael eu rhedeg yn dda iawn sydd wedi gwneud y cyflwyniad hwn tuag at yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill—Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Pontyclun, Pontypridd, Ffynnon Taf a Nantgarw, a Thonyrefail. Maen nhw wedi cyflwyno nifer o argymhellion o ran sut y maen nhw'n gweld swyddogaeth cynghorau cymuned yn datblygu. Rwy'n mynd i ofyn i chi am un o'r rheini, oherwydd un o'r pethau y maen nhw'n eu hawgrymu yw ei bod yn bosibl iawn y gallai cynghorau tref a chymuned sy'n cael eu rhedeg yn dda fod yn hwyluswyr effeithiol iawn ar gyfer prosiectau treftadaeth, chwaraeon a diwylliannol lleol. A ydych chi'n meddwl bod hwn yn faes y dylem ni fod yn ei archwilio o ran cynghorau cymuned yn cymeradwyo, yn cefnogi ac yn cynnal y gymuned leol, y dreftadaeth leol, lle mae ganddyn nhw wybodaeth lawr gwlad wirioneddol?
Yn sicr. Rwy'n credu bod cynghorau tref a chymuned gweithgar a gweithredol yn rhan eithriadol o bwysig o'n democratiaeth. Ni ellir tanbrisio gwybodaeth leol. Er enghraifft, pan oeddwn i'n gynghorydd cymuned, roedd gennym ni bobl yno â gwybodaeth drwyadl am lwybrau troed lleol. Roeddem ni'n gyfrifol amdanyn nhw ac roedden nhw'n cael eu cynnal o ganlyniad i hynny. Roedd y gymuned yn teimlo'n dda iawn am hynny, gan eu bod yn gallu gweld y llwybrau troed yn cael eu cynnal a'u cadw. Felly, mae'n bwysig gweld beth allwn ni ei wneud, yn gyntaf oll, i sicrhau cysondeb o ran cynaliadwyedd y cynghorau cymuned a thref, ac edrych wedyn i weld pa bwerau y gellir eu rhoi iddynt—fel y dywedais, mae'n siŵr y bydd gwahaniaethau mawr o ran maint—i weld pa bwerau sy'n briodol ar gyfer pa bynnag faint o gyngor cymuned neu dref y gallen nhw fod.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Rwydwaith Mamolaeth Cymru? OAQ51916
Ers ei lansio yn 2015, mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ynghyd i weithio ar dri maes blaenoriaeth: lleihau marw-enedigaethau, gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau, a gweithio mewn partneriaeth â menywod a'u teuluoedd. Mae cynlluniau ar y gweill eleni i gyfochri'r rhwydwaith hwn â'r rhwydwaith newyddenedigol.
Diolch, Prif Weinidog. Gall marw-enedigaeth gael effaith ddinistriol a hirfaith ar deuluoedd. Mae'r ymgyrch beichiogrwydd mwy diogel, a lansiwyd gan y rhwydwaith mamolaeth ym mis Mawrth y llynedd, wedi ceisio lleihau'r risg o farw-enedigaeth. Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Emma Mills o ganolfan ymchwil ac arloesedd clinigol ysbyty Gwynllyw bod gofal ymyraethol yn arwain at ostyngiad pendant i gyfraddau marw-enedigaeth. Chwaraeodd Emma ran hollbwysig i ddod â'r astudiaeth i Went a gostyngodd cyfraddau marw-enedigaeth rhwng 25 y cant a 50 y cant yn y flwyddyn gyntaf. 4.3 o bob 1,000 o enedigaethau oedd y gyfradd marw-enedigaeth ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan y llynedd, sy'n sylweddol is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 5.8. A all y Prif Weinidog ganmol y gwaith gan Emma Mills a sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei ddosbarthu i bob bwrdd iechyd ledled Cymru? Ac a all ef ymuno â mi i ganmol y gefnogaeth ragorol a ddarperir gan fydwragedd a gwirfoddolwyr fel Sands, sy'n helpu teuluoedd o'r oriau cynnar yn dilyn marwolaeth babi drwy'r wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd i ddod?
Rydym ni'n gwybod bod achosion marw-enedigaeth yn amlochrog, gyda rhai ffactorau nad ydym yn eu deall o hyd. Felly, mae'r gwaith a wnaed gan Emma Mills ac eraill yn hanfodol os ydym ni'n mynd i sicrhau gostyngiad sylweddol i nifer y marw-enedigaethau. Ceir gwaith ar y cyd, sy'n cynnwys y rhwydwaith mamolaeth, Sands a gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru, ac mae hynny wedi arwain at ddatblygu amrywiaeth o ymyraethau. Mae'r arwyddion cynnar yn dangos gostyngiad i nifer y marw-enedigaethau—arwyddion cynnar ar hyn o bryd, ond mae'n ymddangos eu bod nhw'n rhoi darlun sy'n gwella i ni.
Un peth yr wyf i'n ei gredu sy'n bwysig hefyd yw ei bod hi'n bwysig bod gan bobl sy'n dioddef effeithiau marw-enedigaeth wasanaethau cymorth profedigaeth ar gael iddynt. Rwyf i wedi gweld hyn gyda'm llygaid fy hun, lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw wedi colli rhywun—nid ydyn nhw'n ei weld fel marw-enedigaeth, maen nhw'n ei weld fel plentyn. Mae'n hynod bwysig felly bod gwasanaethau profedigaeth ar gael. Mae'n rhan o'r rhan graidd o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu sy'n aruthrol o bwysig i'r rheini sy'n dioddef cymaint o ganlyniad i farw-enedigaeth.
A yw'n hi'n iawn i fenywod gael eu cyfeirio mor aml at unedau geni dan arweiniad bydwragedd fel dewis diofyn, yn hytrach nag at wardiau esgor dan arweiniad meddygon ymgynghorol?
Wel, mae'r menywod o'm hamgylch ar y fainc flaen i gyd wedi dweud 'ydy' i hynny. Maen nhw'n fwy na hapus i fod yn nwylo bydwraig, ac mae bydwragedd, wrth gwrs, yn hollol gymwys i ymdrin â'r mwyafrif llethol o enedigaethau. Pan fo achosion pan fydd genedigaethau yn fwy anodd, yna, wrth gwrs, bydd mamau fel rheol—mae'n cael ei gynllunio, a dweud y gwir; mae hyn yn cael ei gynllunio fel rheol—yn cael eu trosglwyddo i unedau mamolaeth sydd â gwasanaethau mwy arbenigol. Ond mae bydwragedd yn darparu gwasanaeth ardderchog i ni.
8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin ag iechyd gwael yng Nghymru? OAQ51891
Bydd dulliau ataliol yn parhau i fod yn ganolog i'n dull gweithredu ar gyfer gwella a diogelu iechyd y boblogaeth. Beth mae hynny'n ei olygu? Wel, edrych ar raglenni fel rhoi'r gorau i ysmygu, rhaglenni imiwneiddio ac ysgolion iach, a rhaglenni yn y gweithle.
Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, rhoddodd Sophie Howe yn ei swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru dystiolaeth wrth wynebu craffu gan y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Soniodd ei bod yn cynnig i Lywodraeth Cymru y dylid clustnodi arian newydd i faes iechyd ar gyfer yr agenda ataliol, ac yn amodol ar waith ar y cyd rhwng cyrff iechyd a chyrff eraill mewn ymgais i roi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sylfaen mwy ataliol a rhagweithiol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ymddengys bod consensws fod angen i ni fod yn fwy rhagweithiol ar gyfer atal iechyd gwael, gan hefyd, wrth gwrs, ymdrin â phwysau iechyd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos y mae pobl yn disgwyl i ni ymdrin â nhw. A fyddech chi'n cefnogi'r cynnig hwnnw i ddefnyddio arian newydd yn y ffordd honno?
Nid wyf yn credu y gallwn ni ddefnyddio'r holl arian newydd yn y ffordd honno oherwydd, wrth gwrs, mae yna bwysau mewn mannau eraill yn y GIG. Yn synhwyrol, wrth gwrs, nid wyf yn anghytuno â hyn y mae e'n ei ddweud. Mae atal clefydau, fel y dywedir, yn well na'u hiacháu, ond mae'n rhaid inni hefyd ymdrin â phwysau sy'n cael eu roi ar y GIG, yn enwedig pwysau mewn gwasanaethau aciwt, a gwneud ymdrech i dalu amdanyn nhw. Wedi dweud hynny, dyrannwyd £88 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu — y flwyddyn ariannol hon, mae'n ddrwg gennyf i—amrywiaeth o fesurau â'r nod o atal afiechydon. Mae hynny'n golygu rhoi'r gorau i ysmygu— rydym ni'n gwybod bod ysmygu yn ffactor sylweddol mewn iechyd gwael, yn arbennig wrth i bobl fynd yn hŷn, ac yn aml iawn pan fo pobl yn rhoi'r gorau i ysmygu mae'r effeithiau yn dal yno; mae'n dibynnu ar ba mor hir y maen nhw wedi bod yn ysmygu ac arnyn nhw fel unigolion. Sgrinio—rydym ni eisoes wedi sôn am sgrinio yn y Siambr, a pha mor bwysig yw sgrinio i atal a chanfod y cyfnodau cynnar o salwch difrifol. Brechu, imiwneiddio plant—mae hynny'n bwysig iawn. A hefyd teithio llesol—y gallu i roi'r cyfleoedd hawddaf i bobl allu cerdded, gallu seiclo. Mae'n dda gweld awdurdodau—os caf i sôn am Ben-y-bont ar Ogwr yn y fan yma—yn buddsoddi mewn llwybrau seiclo, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu seiclo o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr yr holl ffordd ar hyd Cwm Ogwr a Chwm Garw ar y llwybrau seiclo sy'n bodoli, heb fyth orfod mynd ar ffordd brysur. Ac mae'r gallu i annog pobl i fod yn egnïol ac i gynnal yr arfer hwnnw o fod yn egnïol yn eithriadol o bwysig ar gyfer atal clefydau. Ac rwy'n gwybod fy mod yn pregethu i'r cadwedig o'i ran ef.
Ac yn olaf, Mohammad Asghar.
Diolch i chi, Madam Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi dyblu bron yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwent sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru, gan fod gwaith ymchwil yn dangos bod 8 y cant o boblogaeth ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn byw â diabetes. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y strategaeth gordewdra genedlaethol yn cwmpasu dulliau atal yn ogystal â thriniaeth, ac a wnaiff ef ymrwymo ei Lywodraeth i dargedu arian yn enwedig i ardaloedd â chanran uchel o ddiabetes fel y de-ddwyrain?
Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, nad yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rhoi pwyslais deddfwriaethol clir ar gymryd camau i fynd i'r afael â'r mater iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, sef gordewdra, sydd, wrth gwrs, yn achosi diabetes math 1. Bydd y strategaeth ar ordewdra —. Diabetes math 2, rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud. Byddaf yn cael fy nghywiro gan y meddygon yn y Siambr, neu, yn wir, gan gyd-gyfreithwyr. Bydd ein strategaeth gordewdra yn dwyn ynghyd yr holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi i fynd i'r afael â'r hyn sy'n her fawr i iechyd y cyhoedd a'i roi ar sail statudol. Mae bwrdd datblygu strategaeth, dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Meddygol, yn goruchwylio cyflawniad, a bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio yn gynnar yn yr haf.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fasnach deg? Ar hyn o bryd mae'n bythefnos masnach deg, fel yr wyf yn siŵr—. Gallaf weld Jeremy Miles yn nodio ei ben yn frwd. Roeddwn yn falch o gynnig fy nghefnogaeth fy hun i'r fenter drwy fynd i frecwast masnach deg yng Nghanolfan Gymuned y Fenni yn fy etholaeth i ddydd Gwener diwethaf. Cafodd y brecwast gefnogaeth eithriadol o dda gan aelodau o'r cyhoedd, a hefyd gan grwpiau cymunedol, megis Love Zimbabwe y Fenni, a sefydlwyd gan Dave a Martha Holman—mae Martha'n dod o Zimbabwe. Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol gwych, y gwn fod llawer o Aelodau Cynulliad eraill yn ei gefnogi hefyd, sy'n dwyn ynghyd cymunedau ledled Cymru, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallem ni gael diweddariad gennych chi ar sut yr ydych chi'n cefnogi hynny.
Yn ail ac yn olaf, beth amser yn ôl, ymrwymodd rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, yn ystod y Cynulliad diwethaf i gynnal adolygiad o gefnffyrdd. Tybed a gawn ni ddiweddariad ar ble'r ydym ni arni gyda'r adolygiad hwnnw neu, dylwn i ddweud, y gwaith dilynol ar yr adolygiad hwnnw. Yn rhan o hynny, rwy'n credu fy mod i'n cofio ei bod wedi dweud wrthyf y byddai hi'n ystyried y posibilrwydd o dynnu statws cefnffordd oddi ar yr A40 drwy'r Fenni. Rwy'n gwybod bod cyfarfod i fod wedi ei gynnal gyda'r awdurdod lleol am hynny. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallem ni glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba un a wnaed unrhyw gynnydd yn y maes hwnnw ar wneud ein ffyrdd drwy'r canol tref penodol hwnnw ychydig yn fwy diogel.
Ar fasnach deg, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae'n fenter wych, ac rydym ni'n gefnogol iawn ohoni, yn wir. Yn wir, Llywydd, byddaf yn plesio fy mympwy fy hun drwy ddweud, pe na byddai cynhyrchion masnach deg, y byddai fy nheulu yn brin iawn o ran anrhegion Nadolig gan fy mod i'n awyddus iawn i gefnogi'r mudiad masnach deg. Yn wir, mae'n rhan bwysig iawn o fod yn un o'r democratiaethau datblygedig y byd ein bod ni'n cefnogi pobl nad ydynt mewn sefyllfa economaidd cystal â ni drwy ddefnyddio arferion gwaith da a theg, er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw safon byw well, ac rydym ninnau, wrth gwrs, cael y pleser mawr o rannu llawer o'u creadigrwydd a'u cynhyrchiant, a ddaw drwy hynny. Byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn cyflwyno diweddariad ar ble'r ydym ni arni gyda'n cymorth i fasnach deg. Llywydd, rwy'n credu bod y Comisiwn yn gwneud cryn dipyn gyda masnach deg. Mae gennym ni ddigwyddiadau ar ystâd y Comisiwn yn eithaf aml hefyd, felly byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar sut y gallwn ni gynnal mwy o'r digwyddiadau hynny yn y dyfodol.
O ran yr adolygiad o gefnffyrdd, mae Ysgrifennydd y Cabinet i fod i wneud datganiad ar faterion trafnidiaeth yn gyffredinol yn ystod tymor haf y Cynulliad hwn, a byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn cynnwys rhai o'r materion penodol a grybwyllwyd gennych chi yn y datganiad hwnnw pan ddaw ymlaen.
Dim ond i gofio, wrth gwrs, nad yw masnach deg ar gyfer y Nadolig yn unig, ond ar gyfer siocled y Pasg hefyd.
A gaf i ofyn am ddwy eitem gan y rheolwr busnes? Yn gyntaf oll, mae nifer o adroddiadau yn y wasg y bore yma bod cylch gorchwyl wedi'i gytuno ar gyfer yr ymchwiliad a arweinir gan Paul Bowen QC ynghylch gweithredoedd y Prif Weinidog o ran diswyddiad Carl Sargeant o'r Llywodraeth. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld unrhyw lythyr na datganiad a wnaed i Aelodau hyd yn hyn. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod beth yw'r amserlen ar gyfer hysbysu'r Aelodau bod cylch gorchwyl yr ymchwiliad—os yw wedi ei gytuno mewn gwirionedd—wedi ei gytuno, a'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad hefyd. Rwy'n arbennig o awyddus i gael gwybod a fydd yr ymchwiliad yn cynnwys yn ei gylch gorchwyl nid yn unig gweithredoedd y Prif Weinidog ond gweithredoedd pobl sy'n gweithredu ar ran, ac ar gais y Prif Weinidog, gan fy mod yn credu bod honno'n elfen bwysig iawn wrth inni edrych ar sut y gwnaeth y Llywodraeth gyfan ymdrin â'r mater hwn. Felly, hoffwn i gael cadarnhad o ran beth yw'r camau nesaf i hysbysu'r Aelodau ynglŷn â'r ymchwiliad hwnnw.
Mae'r ail fater wedi codi heddiw, fel mae'n digwydd, yn Nhŷ'r Cyffredin, hefyd, a hynny yw'r ymateb gan Greg Clark ar forlyn llanw Bae Abertawe. Dywedodd ei bod ddwywaith cyn ddryted â gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C. Mae'n amlwg nad yw Greg Clark yn gwybod beth yw cyllideb ei adran ei hun. Neu fel arall, byddai'n gwybod ei fod yn gwario llawer iawn o'i arian ei hun ar lanhau ar ôl gorsafoedd ynni niwclear, nad yw'n cael ei adlewyrchu yn y pris trydan o gwbl, na'r cymhorthdal sy'n cael ei ystyried o safbwynt y morlyn llanw. Ond hefyd, nid yw ffigurau Greg Clark yn cymryd i ystyriaeth y cynnig o gymorth cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn. Nawr, nid ydym yn gwybod yn gyhoeddus, wrth gwrs, faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig, er y dywedir ei fod yn swm sylweddol. Nawr, nid ydym ni'n gwybod sut y caiff hynny ei ddatblygu, ond rydym yn gwybod bod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn cyflwyno datblygiad arloesol a sefydlu diwydiant ynni llanw yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer y morlyn ond ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol. Felly, er mwyn i ni efallai oleuo Greg Clark ac eraill sydd yn araf i fwrw ymlaen â phenderfyniad ar hyn, a gawn ni ddadl y Llywodraeth, nid yn unig ar y morlyn llanw ond ar y cyfle technoleg cyfan i Gymru, wedi ei harwain, wrth gwrs, gan ddiddordeb y Llywodraeth ei hun yn y mater hwn? Rwy'n nodi bod Greg Clark hefyd wedi dweud wrth Dŷ'r Cyffredin heddiw ei fod yn credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cydnabod y cyfyngiadau—beth bynnag yn union y mae'n ei olygu ynglŷn â nhw—ac yna mae'n dweud
Dyna'r hyn yr wyf i wedi ymrwymo iddo gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, nid ydym ni wedi clywed, mewn gwirionedd, pa un a oes trafodaethau o ddifrif yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd ar lefel uwch swyddogion ynghylch y cynnig sylweddol hwn yr ydych wedi'i wneud. Bu trafodaeth gychwynnol; er hynny, rwy'n awyddus i ddeall pa un a yw hynny nawr yn parhau. Mewn gwirionedd, a yw San Steffan yn eich cymryd o ddifrif ac a yw'n ymdrin â'r cynnig a wnaed gennych chi o ddifrif? Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cyrraedd sefyllfa lle nad ydym ni'n poeni pa Lywodraeth sy'n cymryd y clod am wireddu hyn ar ddiwedd y dydd. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw trafodaeth ac ymrwymiad gan y ddwy ochr, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos hynny, i fod yn deg. Rydym ni eisiau deialog ac ymrwymiad gan y ddwy ochr. Felly, a allwch chi gadarnhau bod trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, a bod ymgysylltu o ddifrif yn digwydd ac, fel y dywedaf, efallai cyflwyno dadl fel y gallwn ni i gyd—? Yn y gorffennol, dros flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ymuno â'n gilydd yn ein cefnogaeth ar gyfer y morlyn. Byddai'n dda atgyfnerthu hynny unwaith eto.
O ran yr ymchwiliad dan arweiniad QC, mae gan yr Aelod fantais arnaf, mae arna' i ofn. Fy nealltwriaeth i yw bod hynny yn cael eu cytuno gyda'r teulu, ac rwy'n siŵr, pan fydd y teulu'n hapus ac ati, y byddwn ni'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ond ymddengys ei fod ef yn gwybod mwy na mi, felly byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Siambr yn cael ei diweddaru cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny.
O ran y morlyn llanw, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant, Lywydd, a dweud, yn amlwg, fy mod yn Aelod Cynulliad dros Abertawe, ac rwy'n hollol gandryll oherwydd y sylwadau a wnaethpwyd heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin. Maen nhw'n cyflwyno gwybodaeth anghywir. Mae'r Llywodraeth yn anwybyddu ei hadroddiad ei hun gan Charles Hendry i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ysgogi'r diwydiant morlyn llanw yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n ymwneud ag ynni. Rydym ni wedi gwneud y cynnig i'w gefnogi, ond, hefyd, yn amlwg, mae'n ymwneud â diwydiant sy'n cyd-fynd â hynny ac mae hynny i gyd yn deillio o gael dechrau diwydiant byd-eang yma yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn cael sgwrs gadarn gyda San Steffan, er bod yn rhaid dweud, mai ar ein hochr ni y mae'r sgwrs yn gadarn ac nid cymaint ar eu hochr nhw. Mewn gwirionedd, mae Prif Weinidog Cymru yn gweld Prif Weinidog y DU yfory, a byddwn ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn codi'r pwynt am y sylwadau a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw.
Ond hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddweud ei bod chi'n amlwg nad ydyn nhw'n cymryd i ystyriaeth y ffaith mai prosiect arbrofol yw hwn hefyd ac na all—. Mae adroddiad Hendry wedi ei gwneud yn glir iawn bod edrych arno fel contract ar gyfer gwahaniaeth ac nid fel prosiect arbrofol yn amlwg yn wallus, a byddwn ni'n gwneud y pwyntiau hynny eto yn rymus iawn. Rwy'n credu hefyd—mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio ei ben—y byddai'n ddefnyddiol iawn cael dadl ynglŷn â'r holl fater o ynni adnewyddadwy ac ynni adnewyddadwy darpariaeth barhaus a'i bwysigrwydd ym marchnadoedd ynni'r byd.
Yn gyntaf, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddarparu datganiad sy'n nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi busnesau o faint canolig yng Nghymru i dyfu i fod yn fusnesau mawr. Rydym ni'n gwybod, yng Nghymru, mai ychydig iawn o gwmnïau mawr sydd gennym, a phan ddaw cwmnïau yn ganolig eu maint, maen nhw naill ai yn cael eu gwerthu neu'n aros yn ganolig eu maint, ond yn ardaloedd mwyaf llwyddiannus y byd, maen nhw'n parhau i dyfu.
A gaf i hefyd godi'r morlyn llanw gan ei fod yn bennaf yn fy etholaeth i? A yw arweinydd y tŷ yn credu na fyddem ni erioed wedi cael ynni niwclear pe byddai'r un rheolau y mae'n rhaid i ni eu bodloni nawr ar gyfer adeiladu'r morlyn llanw wedi'u pennu ar gyfer Calder Hall yn y lle cyntaf?
O ran busnesau bach a chanolig, rydym ni'n ymrwymedig i gefnogi entrepreneuriaid, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, yn ogystal â mentrau cymdeithasol; dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi £86 miliwn hyd at 2020 er mwyn sicrhau bod gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth busnes ar gal i entrepreneuriaid a busnesau yng Nghymru, drwy raglenni a ariennir gan Ewrop, drwy Busnes Cymru a thrwy Busnes Cymdeithasol Cymru. Rydym ni'n cynnwys cyngor cymorth busnes gan Busnes Cymru mewn buddsoddiad ar gyfer endidau canolig drwy Banc Datblygu Cymru. Mae gennym ni wasanaeth cymorth busnes dwyieithog, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2013 a'i adnewyddu ym mis Ionawr 2016, i'w gwneud yn haws i fusnesau Cymru a darpar entrepreneuriaid gael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddechrau a thyfu eu busnesau. Rydym ni hefyd wedi gwella'r rheolaeth perthynas benodedig o gymorth arbenigol, wedi'i dargedu, megis cynllunio ar gyfer olyniaeth, ac rydym hefyd yn ceisio sicrhau twf a sefydlogrwydd.
Mae Mike Hedges yn hollol iawn; ceir dau ddarn o ran twf—y masnacheiddio cychwynnol cyntaf a dod ynghyd fel busnes, ac yna wrth i fusnes gyrraedd rhywle sydd ychydig o dan 30 o weithwyr, pan eu bod angen chwistrelliad o arian i dyfu yn y cyfnod hwnnw. Felly, byddwn ni'n canolbwyntio ac yn edrych o ddifrif ar y modd o gael busnesau drwy'r ddau gam twf hollbwysig hynny ac, yn bwysicach, yn gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd alltraeth ar yr adeg honno, sydd yn broblem fawr i lawer o wledydd ledled y byd, fel bod gennym ni fynediad da at fuddsoddiad ecwiti ar gyfer ein busnesau o'r fath. Felly, mae gennym ni nifer fawr o gynlluniau ar waith i wneud hynny, yn ogystal â masnacheiddio peth o'n gwaith ymchwil gwyddonol rhagorol yng Nghymru.
O ran y morlyn llanw, mae'n un o'r rhwystredigaethau, onid yw, bod rheol wahanol yn cael ei chymhwyso i'r morlyn llanw nag sydd erioed wedi'i chymhwyso i unrhyw gynllun ynni dichonol arall, ac eto nid yw'r Llywodraeth yn fodlon bwrw ymlaen gydag awgrym Charles Hendry i gymhwyso model ariannu hollol wahanol os ydyn nhw'n credu ei fod yn gynllun arbrofol â chymaint o risg iddo. Rydym ni wedi gwneud y pwynt hwnnw dro ar ôl tro iddynt. Byddaf yn gwneud hynny eto yma yn y Senedd: ni ddylid ystyried hyn dim ond fel cynllun sydd angen contract ar gyfer gwahaniaeth; dylid ystyried hwn fel cynllun arbrofol sydd ar gyfer diwydiant byd-eang y dylai Llywodraeth Prydain fod yn ei gefnogi.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am y budd posibl a gynigir gan ddyfrffyrdd Cymru i dwristiaeth yng Nghymru. Mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wedi cyhoeddi cynlluniau i ailagor rhan segur o gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, rhwng Five Locks yng Nghwmbrân, i Barrack Hill yng Nghasnewydd. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a thwristiaid o dramor sy'n ymweld â'r gamlas o 3 miliwn i 4.5 miliwn, a byddai nifer fwy o ymwelwyr yn gwario o £17 miliwn i bron i £25 miliwn, a fyddai o fudd mawr i'r ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio ar ddyfrffyrdd hanesyddol Cymru fel atyniad sylweddol i dwristiaid os gwelwch yn dda?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn. Roeddwn i'n falch o weld bod darn newydd yn Sir Fynwy, neu y Mon a Brec, fel y'i gelwir yn annwyl gan y rhai sy'n hoff o gamlesi—. Unwaith eto, Llywydd, mae'n ymddangos fel fy mod i'n datgan buddiant bob amser fel rheolwr busnes, ond bydd y rhai ohonoch chi sy'n fy adnabod yn gwybod fy mod i'n hynod frwdfrydig o ran cychod camlas. Rwy'n hoff iawn o gamlas Mon a Brec, ac wedi cael llawer iawn o wyliau teuluol hapus ar gychod camlas yn yr ardaloedd hynny. Felly, rwy'n falch iawn o weld y cyhoeddiad am ailagor darn newydd y gamlas, ac, yn wir, un o drasiedïau'r ffaith na wnaethom ni edrych ar ôl ein hanes ar ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd llenwi llawer o'r llwybrau camlas pan nad oedd pobl yn deall mewn gwirionedd y manteision yr oeddent yn eu cynnig ar draws llawer o gymunedau. Rwyf wedi cymryd rhan mewn brwydr deilwng yn fy ardal fy hun i gadw camlesi Castell-nedd a Thennant i fynd, ac rwy'n falch iawn o weld y buddsoddiad hwnnw yn cael ei wneud. Dylid cymeradwyo'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd am hynny.
A allaf i ddechrau drwy hefyd gefnogi sylwadau Simon Thomas, a hefyd Mike Hedges, ar y morlun llanw ym mae Abertawe? Mae'n hen bryd i'r prosiect yna gymryd lle.
Ond, yn sylfaenol, arweinydd y tŷ, yn ogystal â diolch i chi am eich datganiad, mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yr ymgynghoriad ynglŷn â lleoli canolfan trawma difrifol de Cymru wedi cau fis diwethaf. Mae hyn yn benderfyniad pwysig iawn, yn enwedig i drigolion de-orllewin, gorllewin a chanolbarth Cymru. Mae yna ddadl gref, fel rydych chi'n gwybod, gan fod Ysbyty Treforys mewn man canolog yn ne Cymru, taw yn y fan hyn y dylai'r ganolfan drawma gael ei lleoli. Oherwydd pwysigrwydd y penderfyniad yma i Abertawe, ac i holl dde-orllewin a chanolbarth Cymru, byddwn i'n ddiolchgar petai'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yn fodlon dod â dadl gerbron y Siambr yma, er mwyn i ni fel Aelodau etholedig gael cyfle i drafod y mater, ac i drafod gweledigaeth y Llywodraeth yma ar gyfer safle Ysbyty Treforys fel canolfan feddygol ranbarthol.
Diolch. Ie, mae'r Aelod yn hollol iawn—mae'r ymgynghoriad pwysig iawn ar leoliad y gwasanaeth newydd ar gyfer trawma mawr yn ne Cymru newydd gau, ac roeddwn i'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth wedi cael nifer fawr iawn o ymatebion. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw a chynnwys yr ymatebion i'r ymgynghoriad, cyn bo hir.
Cafodd pobl yng Nghaerdydd, ac mewn sawl dinas arall ledled y DU, lythyrau Islamoffobig ddoe ynglŷn â'r hyn a elwir yn 'diwrnod cosbi Mwslimiad', sy'n annog trais a cham-drin geiriol. Rwy'n deall bod yr heddlu yn trin hyn fel trosedd casineb bosibl. Beth ellir ei wneud i dawelu meddyliau pobl yng Nghymru, gan mai Caerdydd oedd un o'r mannau a grybwyllir? A oes unrhyw beth y gallai'r Llywodraeth ei wneud, naill ai i gyhoeddi datganiad, neu rywbeth i dawelu meddyliau pobl sydd efallai bellach yn ofni mynd allan oherwydd yr ofn o'r hyn a elwir yn 'diwrnod cosbi Mwslimiad'?
Mae'n ymgyrch gwbl warthus. Mae'r llythyr yn erchyll. Mae Heddlu Gwrthderfysgaeth yn ymchwilio iddo ac yn ei gymryd yn hynod o ddifrif, ac yn galw ar bawb sy'n cael llythyrau i gadw'r llythyr a'r amlen a chyffwrdd cyn lleied â phosib â nhw i gadw tystiolaeth ac i fynd at yr heddlu cyn gynted ag y gallant, er mwyn i ni gael y cyfle gorau o ddal y drwgweithredwyr sydd wedi dosbarthu'r neges hollol echrydus hon. Dylen nhw gysylltu â'u heddlu lleol ar 101, neu gysylltu â Tell MAMA drwy eu gwefan neu ar 0800 4561226, Llywydd.
Rydym ni'n cymryd Islamoffobia a throseddau casineb yn hynod o ddifrif. Rydym ni'n gweithio gyda'r pedwar heddlu, a chyda bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb Cymru. Mae gennym ni ddeddfwriaeth a systemau cadarn ar waith i ymchwilio i droseddau casineb, a byddwn ni'n mynd drywydd yr un yma yn rymus, gan fod hon yn enghraifft arbennig o echrydus.
A gaf i alw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig, yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mawrth 2018, ' Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a Chynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig: Adroddiad Interim'? Mae'r canfyddiadau yn hwn yn cynnwys gwendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu diagnostig i oedolion ag awtistiaeth, ac mewn gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth. Mae'n nodi y disgwylir i'r pwyslais ar gyd-gynhyrchu ac atal yn helpu i wella effeithiolrwydd a lleihau galw, a disgwylir y bydd integreiddio yn helpu i sicrhau'r cydweithrediad gorau posibl a chreu gwasanaethau mwy di-dor. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o'r effaith a'r effeithlonrwydd a gynhyrchir gan integreiddio yn dal i fod yn wan. A dyma ddyfyniad terfynol:
'Mae llwyddiant yn gofyn am ddull cyd-gynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddylunio, gweithredu a gwerthuso'
y gwasanaeth, ond ceir
'pryderon bod y dull "o'r brig i lawr" ... wedi mygu hyn.'
Gan gydnabod mai pobl sy'n byw yn y gymuned awtistiaeth, pa un a ydynt ar y sbectrwm, neu eu teuluoedd neu eu gofalwyr, yw'r arbenigwyr go iawn yn eu bywydau eu hunain, ac er bod pob un yn unigryw fel unigolyn, fel pawb arall, dim ond nhw sy'n gallu wir gyflawni ymwybyddiaeth effeithiol o awtistiaeth i helpu darparwyr y sector cyhoeddus, ac eraill, i weld y byd trwy eu llygaid hwy. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny, gan fod yr adroddiad hwn yn sylweddol, ac yn haeddu craffu priodol gan y tŷ hwn.
Ydy, mae'n adroddiad pwysig iawn, ac mae'r Aelod yn gwbl briodol yn tynnu sylw at yr angen am gyd-gynhyrchu ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n effeithio ar unigolion a theuluoedd. Mae'r Aelod yn gwybod bod gennyf i nai sydd ar y sbectrwm awtistig, ac felly rwy'n gyfarwydd iawn â llawer o'r materion a godir ganddo. Rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad, ac y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ymateb y Llywodraeth maes o law.
Mae yna beth pryder ynglŷn â'r amserlen ar gyfer craffu, ac yna i bleidleisio, ar y rheoliadau ar gyfer safonau'r Gymraeg ym maes iechyd. Rydym ni wedi bod yn disgwyl dros ddwy flynedd bellach ers i Gomisiynydd y Gymraeg gyflwyno'r rheoliadau i'r Llywodraeth yn y maes iechyd. Mae hynny wedi digwydd, ac maen nhw wedi cael eu cyhoeddi bythefnos yn ôl. Ond mae'r amserlen o hyn ymlaen yn dynn iawn. Rydym ni angen eu craffu nhw yr wythnos yma, ac wedyn cynnal pleidlais yn fan hyn yr wythnos nesaf.
Mae yna gonfensiwn, ond nid rheol, fod disgwyl i'r rheoliadau gael eu cadarnhau gan y Cynulliad o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad dod i rym, gan olygu cynnal y ddadl a'r bleidlais o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw. Y dyddiad sydd wedi cael ei roi ar gyfer i'r safonau yma ddod i rym ydy 29 Mehefin, sydd felly yn rhoi ffenest o bron i ddau fis ar gyfer eu craffu nhw yn iawn, a chael tystiolaeth gan ystod eang o arbenigwyr, a defnyddwyr gwasanaeth hefyd. Felly, a gaf i ofyn i chi: a fyddwch chi'n fodlon ailystyried yr amserlen bresennol, er mwyn sicrhau bod y safonau pwysig yma yn cael eu craffu mewn ffordd drwyadl ac effeithiol?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da. Rwy'n deall y bu ymgynghori helaeth pan mai Alun Davies oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am hyn. Mae'r amserlen ar gyfer craffu yn brin. Rydym ni'n dioddef gwir anawsterau o ran amserlennu busnes yn y Senedd ar hyn o bryd, ond byddaf yn trafod hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac, yn wir, gyda'r Llywydd a rheolwyr busnes, ddydd Mawrth nesaf, i weld beth y gellir ei wneud, yng sgil sylwadau'r aelod.
Arweinydd y tŷ, a gaf i groesawu unwaith eto y datganiad a wnaed gan Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yr wythnos diwethaf ar y polisi urddas a pharch? Ac a wnewch chi egluro pa un a oes dyddiad wedi'i neilltuo ar gyfer y ddadl ar y polisi, er i'r holl Aelodau ei chefnogi? Ac a fydd arweinydd y tŷ yn ystyried cyllido arolwg Cymru gyfan ar aflonyddu rhywiol, fel a gynigiwyd gan Siân Gwenllian, yn rhan o'r sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol, a groesawyd gan Jayne Bryant hefyd yr wythnos diwethaf yn ei hymateb i'w datganiad?
Ac, yn ail, a wnewch chi egluro gyda Gweinidog yr Amgylchedd pa un a yw'r asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi ei ddechrau, y cytunodd hi y byddai'n ofynnol ar gyfer y cais cynllunio diweddaraf ar gyfer y llosgydd biomas yn y Barri? Tarfwyd yn ddifrifol ar drigolion dros y penwythnos gan waith cyn-gomisiynu swnllyd ar y llosgydd, a ryddhaodd fwg. Ac a yw'r cwmni biomas wedi ateb i lythyr 14 Chwefror gan Lywodraeth Cymru ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol sy'n gofyn am ymateb erbyn 7 Mawrth 2018?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gan ddechrau â'r olaf o'r rheini yn gyntaf: mae'r datblygwr, rwy'n deall, wedi ymateb i'r llythyr a anfonwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae swyddogion wrthi'n ystyried y sylwadau a wnaed cyn gwneud penderfyniad terfynol ar yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol. O ran y trigolion yr effeithiwyd arnynt gan y gweithgareddau y mae Jane Hutt wedi eu crybwyll sawl gwaith yn y Siambr hon—ein cyngor ni yw y dylent godi eu pryderon gyda Chyngor Bro Morgannwg, a fydd yn gallu ymchwilio iddynt.
O ran y datganiad gan Gadeirydd y pwyllgor safonau, nid wyf yn credu bod gennym ddyddiad pendant, ond rydym yn ystyried hynny yn rhan o amserlen y Llywodraeth ar gyfer y tymor nesaf, gan nad oes ond wythnos cyn toriad y Pasg. Rwyf mewn gwirionedd wedi comisiynu astudiaeth o aflonyddu rhywiol a throseddau casineb gwreig-gasaol drwy gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru. Pan ddaw'r astudiaeth honno i law, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran arolwg ehangach ynghylch aflonyddu rhywiol, a byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda Chadeirydd y pwyllgor safonau i wneud yn siŵr y gallwn ni gynnwys hynny yn unrhyw un o'r camau a gymerwn yn y dyfodol.
Diolch. Ac, yn olaf, Adam Price.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A ydym ni'n gallu cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r anghydfod o fewn ein prifysgolion ar hyn o bryd? Bydd nifer o Aelodau y Cynulliad wedi mynychu'r rali a oedd wedi cael ei gynnal y prynhawn yma gan aelodau Undeb y Colegau a Phrifysgolion, ac mae'r Llywodraeth wedi mynegi cydymdeimlad a chefnogaeth i'w hachos nhw, ond gyda'r anghydfod nawr o bosib yn mynd mewn i bennod newydd—fel ddigwyddodd yng Nghaerdydd y bore yma—gyda changhennau lleol yn gwrthod y ddêl ddiweddaraf, a ydyw'n amser i Lywodraeth Cymru symud o ddweud i wneud, ac efallai cynnig cynnull, er enghraifft, gyfarfod brys o'r holl is-gangellorion yng Nghymru? Rŷm ni'n ariannu'r sector, felly mae modd inni ddylanwadu arnyn nhw a dweud, 'Beth am ddangos mwy o arweiniad nag yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd?', a gwneud yr un peth wedyn ar draws y Deyrnas Gyfunol drwy gynnull cyfarfod o'r Gweinidogion addysg ar draws Prydain.
Ie, gresynus iawn yw ein bod yn y sefyllfa hon o hyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi datgan ei pharodrwydd i hwyluso unrhyw gyfarfod o'r fath—i'w lywyddu a gwneud unrhyw beth angenrheidiol i'w ddwyn ynghyd. Rwy'n siwr y buasai hi'n gallu ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaerdydd y bore yma, a byddaf yn siŵr o ofyn iddi wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr iawn ichi, Arweinydd y Tŷ.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar dirweddau dynodedig ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Mehefin 2017, trafododd y Cynulliad hwn swyddogaeth ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol, pan siaradodd Aelodau gydag angerdd am yr hyn y mae'r tirweddau hyn yn ei olygu iddyn nhw a'u hetholwyr. Roeddem yn cytuno'n unfrydol y dylai ein tirweddau dynodedig chwarae eu rhan yn y gwaith o reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy er mwyn gwarchod natur a chefnogi cymunedau gwledig llewyrchus.
Yn ystod y ddadl honno a'r adolygiadau blaenorol, taflwyd amheuaeth ar ddyfodol diogelu'r ardaloedd hyn o dan y Llywodraeth hon. Heddiw, gallaf gadarnhau yn ddigamsyniol y bydd tirweddau dynodedig yn cael eu cadw ac na fydd eu diben o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau.
Rwy'n croesawu adolygiadau ac adroddiadau trylwyr ac ysgogol yr Athro Marsden a'i banel ac Arglwydd Elis-Thomas a gweithgor Tirweddau'r Dyfodol. Ar fy rhan fy hun a'm rhagflaenwyr, hoffwn fynegi ar goedd heddiw fy niolch iddyn nhw a'r holl randdeiliaid am eu hamser a'u hymdrechion pwysig.
Mae tirweddau dynodedig mewn cyflwr o adolygiad ers ymgynghori ar ddatganiad polisi drafft yn 2013. Heddiw rwy'n awyddus i ddechrau ateb rhai o'r cwestiynau allweddol ar safbwynt y Llywodraeth a rhoi cyfle i'r Cynulliad hwn gael syniad o fy mlaenoriaethau i. Yn y misoedd nesaf, rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad polisi a fydd yn dwyn y broses adolygu i ben.
Mae tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd yn dod â chryn ansicrwydd yn ei sgil, ond gyda hynny daw cyfle i wella ein rheolaeth o dir a gwydnwch ein tirweddau. Mae'n newid y cyd-destun ar gyfer ein tirweddau dynodedig a sut y mae'n rhaid inni fynd ati nawr i ddehongli canfyddiadau'r adolygiadau hyn sydd wedi bod.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth i reoli tir yn y dyfodol a cheir swyddogaeth bwysig i bartneriaethau AHNE ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae angen iddyn nhw chwarae eu rhan i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i aros ar y tir, yn ogystal â gwneud cyfraniad allweddol at y blaenoriaethau o fewn y polisi adnoddau naturiol.
Os ydym am fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid i dirweddau dynodedig wneud mwy i nodi, diogelu a gwireddu'r manteision sy'n deillio o'r nwyddau cyhoeddus y maent yn eu amddiffyn ar gyfer holl bobl Cymru. A phan wyf yn dweud, 'ar gyfer holl bobl Cymru', rwy'n golygu ar gyfer holl bobl Cymru; rwy'n awyddus i weld trawstoriad mwy amrywiol ac eang o gymdeithas yng Nghymru yn teimlo bod ganddyn nhw gyfran yn y tirweddau cenedlaethol pwysig hyn ac yn adnabod y manteision a gawn yn eu sgil.
Rwyf wedi gallu gweld â'm llygaid fy hun sut y gall hyn ddigwydd. Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gorwedd ar fin fy etholaeth i a, chyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cefnogi'r prosiect Actif Woods. Mae'r bartneriaeth hon gyda'r Gymdeithas Alzheimer a Macmillan wedi defnyddio gweithgareddau coetir ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl agored i niwed na fydden nhw wedi cael y cyfle fel arall i ymgysylltu â'r tirlun hwn. Dim ond un enghraifft yw hon o ystod eang o gyfleoedd y gellir eu gwireddu a phwysigrwydd cyfraniad yr amgylchedd i'n hiechyd a'n ffyniant fel cenedl.
Fe all, ac fe fydd yn rhaid i holl barciau ac AHNE wneud mwy i estyn allan y tu hwnt i'w cynulleidfa draddodiadol a gwireddu eu llawn botensial. Yn y cyd-destun hwn yr wyf wedi ystyried y cynigion a geir yn Marsden a 'Thirweddau'r Dyfodol', ac rwyf wedi seilio fy ystyriaeth ar dair egwyddor. Yn gyntaf, mae'n rhaid i unrhyw gynigion beidio â thanseilio safon y warchodaeth a roddir i'r tirweddau gwerthfawr hyn a dylent ddarparu ar gyfer mwy o gydraddoldeb rhwng yr AHNE a'r Parciau Cenedlaethol. Yn ail, dylai unrhyw newid leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau a phartneriaethau, gan eu galluogi i ganolbwyntio eu hegni a'u hadnoddau ar gyflawni. Yn drydydd, dylen nhw fynd ati'n barhaus i gynnal datblygiad cydweithrediad effeithiol.
Prif destun y sylwadau a ddeilliodd o'r adolygiad ydoedd pa un a ddylid newid dibenion statudol tirweddau dynodedig Cymru ai peidio. Mae hyn wedi arwain at ddadl sylweddol ar swyddogaeth egwyddor Sandford, sydd yn gymwys i barciau cenedlaethol yn unig, yn rhoi uchafiaeth i gadwraeth harddwch naturiol pe byddai unrhyw wrthdaro rhwng hynny â hybu mwynhad o nodweddion arbennig y parciau. Mae'r ddadl wedi canolbwyntio ar berthnasedd parhaus yr egwyddor hon yng nghyd-destun ein fframwaith cyfreithiol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'r egwyddorion ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Bu cefnogaeth eang yn ystod yr adolygiad i uchelgais Cymru o sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy o fewn y ddeddfwriaeth, a chydnabyddir ei bod ar flaen y gad yn hynny o beth ar lefel fyd-eang. Mae tirweddau dynodedig yn y sefyllfa orau i ddatblygu hyn yn eu hardaloedd. Mae gan dirweddau dynodedig amrywiaeth fawr o adnoddau naturiol. Mae ganddyn nhw hefyd arbenigedd, profiad a cysylltiadau helaeth â chymunedau buddiant, gan gynnwys pobl sy'n byw ac yn gweithio y tu mewn i'w ffiniau. Fodd bynnag, nid chafwyd unrhyw gonsensws o ran pa un a oes angen newid dibenion Parciau neu AHNE er mwyn cyflawni hyn.
Er nad wyf i'n dibrisio arwyddocâd diben economaidd newydd, nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod y dibenion presennol yn rhwystr i ddarpariaeth ymarferol. Am y rheswm hwnnw, ac o ystyried y cyd-destun ansicr, nid wyf yn barod i fynd ar drywydd newid o'r fath ar hyn o bryd heb gefnogaeth ehangach. Gan hynny, rwy'n bwriadu cadw dibenion presennol parciau cenedlaethol, ynghyd â'r egwyddor Sandford a chadw diben presennol yr AHNE. Nid yw hyn yn golygu nad oes angen i awdurdodau'r parciau neu bartneriaethau AHNE fynd ar drywydd gweithgarwch sy'n cynorthwyo cydnerthedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn eu hardaloedd. Fe ddylen nhw wneud hynny, ac nid oes rhwystr rhag iddynt wneud hynny o fewn eu diben presennol. Wedi dweud hynny, mae angen gwella'r cysylltiad rhwng y dibenion presennol, gan gynnwys cadwraeth bioamrywiaeth a'r fframwaith o fewn Deddf yr amgylchedd. I gyflawni hyn, fy mwriad yw cyflwyno deddfwriaeth rywbryd eto i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau'r parciau a'r AHNE i gymhwyso egwyddorion rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, yn arbennig wrth baratoi eu cynlluniau rheoli statudol.
Hoffwn hefyd weld cryfhâd yn statws cynlluniau rheoli, a'r gwaith o graffu arnynt, gan ei gwneud yn ofynnol i'r cynlluniau nodi'r nodweddion arbennig. Credaf y bydd y dull hwn yn alinio'r parciau a'r AHNE â'n deddfwriaeth ni yma yng Nghymru, a'r rhwymedigaethau rhyngwladol y mae'n deillio ohonynt, mewn ffordd sy'n dod â nhw yn gwbl gydnaws â'r ddealltwriaeth gyfoes o ecosystemau a thirweddau, a hynny gan barhau i gydnabod gwerth parhaus eu diben gwreiddiol. Bydd yn cryfhau pwysigrwydd y nodweddion arbennig wrth wneud penderfyniadau ynghylch holl weithgareddau parciau cenedlaethol ac AHNE.
Gyda setliad ariannol anodd i'w reoli, rwy'n cydymdeimlo â'r ddadl a gyflwynwyd gan awdurdodau'r parciau i leihau eu costau gweinyddu, ac rwyf yn bwriadu tynnu rhywfaint o'r baich hwn oddi arnynt cyn belled ag y bo'n gyson â llywodraethu da. Yn ogystal â hynny, byddaf yn cefnogi eu hymdrechion i gael y refeniw mwyaf o weithgarwch masnachol priodol. Gall ein Parciau Cenedlaethol wneud mwy i estyn allan heb gyfaddawdu ar eu hegwyddorion.
Ceir cydraddoldeb bras rhwng yr AHNE a'r Parciau Cenedlaethol o ran polisi cynllunio, ond mae yna ddiffyg pan ddaw i statws, proffil ac adnoddau. Mae Marsden a 'Thirweddau'r Dyfodol' fel ei gilydd yn sylwi ar hyn. Er fy mod yn cydnabod y gall hyblygrwydd o ran llywodraethu a phartneriaethau gydag AHNE fod yn gryfder, y mae hefyd yn wendid posibl o ran stiwardiaeth y tirweddau hyn, sydd yr un mor werthfawr. Rwy'n bwriadu parhau i drafod ag AHNE ar yr hyn y gellir ei wneud yma. Fy mwriad yn yr ychydig fisoedd nesaf yw nodi'r manylion ar wella cyflawniad ac atebolrwydd mewn ffyrdd sy'n gyson â Deddf yr amgylchedd a'r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol yng Nghymru.
Mae'r broses adolygu wedi ymgorffori ffordd newydd o weithio rhwng parciau, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a rhanddeiliaid, ac maent erbyn hyn yn rhannu dealltwriaeth lawer gwell o'r heriau a'r blaenoriaethau y gallant helpu i fynd i'r afael â nhw drwy weithio gyda'i gilydd, gan fanteisio'n arbennig ar y profiad sydd gan y naill a'r llall i atal y dirywiad ym myd natur, gan gydnabod yr angen am wydnwch economaidd yn ein cymunedau gwledig.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r parciau cenedlaethol yn cael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol gan ein pobl, ein cymunedau a'n gwlad, a bod ein tirweddau dynodedig yn darparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau bywiog a gwydn, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored ar gyfer holl bobl Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n falch o gael ymateb i'r datganiad hwn, fel aelod y mae ei etholaeth yn gorwedd yng nghalon ardal parc cenedlaethol arfordir Penfro. Mae tirweddau dynodedig Cymru yn fannau disglair o harddwch naturiol a chadwraeth. Maen nhw'n gyrchfannau i filiynau o ymwelwyr, yn hyrwyddo a gwarchod ein diwylliant, yn helpu i feithrin cymunedau mwy cydlynol, ac yn chwarae rhan sylweddol wrth greu Cymru fwy iach a gwydn, fel yr amlinellir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Gan hynny, mae'n hollbwysig bod y gwaith o'u rheoli a'u goruchwylio yn cael ei ystyried yn ofalus, a bod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen mewn cydweithrediad â'r tirweddau hyn a'r cymunedau oddi mewn iddynt.
Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cydnabod yn gywir y bu tirweddau dynodedig mewn cyflwr o adolygiad ers 2013, ac felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflwyno cynlluniau i reoli'r tirweddau hyn. Mae'n siomedig nad yw datganiad Llywodraeth Cymru yn gwneud dim mwy na chadarnhau y bydd datganiad arall yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig fisoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog yw hyn: pam y mae'r broses hon yn cymryd cymaint o amser, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw'r adolygiad parhaus o'r tirweddau dynodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud dim i'w helpu i gynllunio a chydgysylltu eu gweithgareddau i'r tymor canol a hwy?
Wrth gwrs, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau o leiaf y bydd egwyddor Sandford yn parhau i gael ei chymhwyso ar draws yr holl dirweddau dynodedig am y tro. Mae'r pryder ynghylch cael gwared ar yr egwyddor Sandford wedi bod yn aruthrol ymysg rhanddeiliaid, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog gynnig rhywfaint o eglurhad o ran sefydlogrwydd egwyddor Sandford, fel y gall y rhanddeiliaid hynny fod yn hyderus na fydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried y mater hwn yn y dyfodol agos.
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at y dewis o gyflwyno deddfwriaeth pan ddaw cyfle i wneud hynny yn y dyfodol, i'w gwneud yn ofynnol i'r tirweddau dynodedig gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy. Felly, efallai wrth ymateb i'r datganiad hwn y bydd y Gweinidog yn cadarnhau pa amserlenni y mae hi yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth, ac a yw hi yn bwriadu dwyn ymlaen deddfwriaeth sylfaenol neu weithredu mesurau rheoliadol eraill i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ystyriodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru y llynedd hefyd roi'r gallu i drefniadau llywodraethu adlewyrchu amgylchiadau lleol yn well, gan gynnwys amrywiaeth eang o fodelau cyflawni, fel partneriaethau a chyfrifoldebau dirprwyedig neu gyfrifoldebau a rennir. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r tirweddau dynodedig ymgysylltu â lefel o ymgynghori a chynrychiolaeth gymunedol, ac mae'n bwysig y bydd unrhyw drefniadau llywodraethu newydd yn gweithio ar gyfer pob ardal unigol ac nad ydynt yn ddull unffurf o weithredu ym mhob achos. Yng ngoleuni'r farn a fynegwyd gan randdeiliaid ar y mater penodol hwn, efallai gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa gynlluniau cychwynnol sydd ganddi i hwyluso'r ymgysylltiad lleol hwn ymhellach, ac efallai y gallai hi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu system o ethol aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol yn uniongyrchol fel ffordd o atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol.
Mae datganiad heddiw hefyd yn cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau parciau cenedlaethol i leihau eu costau gweinyddu cyn belled ag y bo hynny'n gyson â llywodraethu da. Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro sut y mae hi'n bwriadu mynd ati i leihau'r costau hyn, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol, a allai ychwanegu mwy o feichiau ar awdurdodau parciau cenedlaethol.
Nawr, roedd adolygiad Marsden hefyd yn argymell camau gweithredu o ran economïau'r tirweddau cenedlaethol. Er enghraifft, roedd yn argymell bod angen i dirweddau cenedlaethol ddeall eu heconomïau lleol a rhanbarthol yn well, ac yn enwedig eu heconomïau twristiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn cytuno'n llwyr ag ef. Yn fy ardal dirwedd ddynodedig fy hunan, mae'r diwydiant twristiaeth lleol ar hyn o bryd yn cynhyrchu dros £570 miliwn y flwyddyn ac mae'n sail i hyfywedd economaidd llawer o wasanaethau a busnesau lleol, sydd, yn ei dro, yn bwysig i gynaliadwyedd a lles cymunedau lleol. Yn wir, mae'r gadwyn gyflenwi honno o weithgarwch busnes yn elfen hanfodol o'r holl dirweddau dynodedig, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am ei gweledigaeth ar gyfer economïau'r tirweddau dynodedig, a hefyd sut y mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â chonglfeini polisïau a rhaglenni eraill y Llywodraeth.
Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd eu cyflwyno i'n tirweddau dynodedig a'r cyfleoedd y gallai eu cyflwyno hefyd. Felly, fy nghwestiwn terfynol, Dirprwy Lywydd, yw gofyn pa asesiadau sydd wedi eu gwneud o effaith Brexit ar dirweddau dynodedig Cymru, ac a fyddai'r Gweinidog yn barod i rannu unrhyw ddata newydd ag Aelodau fel y gallwn ddeall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru yn well.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i eto ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac ailadrodd, wrth symud ymlaen, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'n tirweddau dynodedig ac nid yn syml geisio gorfodi newid er ei fwyn ei hun yn unig? Mae pwysigrwydd ein tirweddau dynodedig yn hanfodol o ran ein hiechyd, ein haddysg a lles ein heconomi, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â thirweddau dynodedig wrth ddatblygu'r polisïau hyn. Diolch.
Diolch i chi am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy gydnabod y parc cenedlaethol o fewn eich etholaeth chi sef Sir Benfro, ac roeddwn yn falch iawn, fel pan ddechreuais yn fy swydd, fy mod i wedi ymrwymo i ymweld â'r holl barciau cenedlaethol, sydd yn dipyn o galedi—mynd ar ymweliadau—ond roedd yr ymweliad cyntaf â Sir Benfro. Pan oeddwn i yno, gwelais y rhan y mae twristiaeth yn ei chwarae, a hefyd iechyd a lles, y prosiect 'Walkability', yn ogystal ag addysg a chynnwys ysgolion lleol hefyd.
I ateb eich cwestiwn olaf, efallai, cyn eich cwestiwn cyntaf, a oedd ynglŷn â hyd y broses, credaf fod llawer o hynny yn ymwneud mewn gwirionedd â'r sefyllfa y cawn ein hunain ynddi o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gwybod y bydd yna heriau, yn ogystal â chyfleoedd, o ran rheoli tir. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wneud yn awr, o ran y broses hon, fel y dywedais heddiw, yw tynnu llinell oddi tani, ac mewn gwirionedd sicrhau sefydlogrwydd i'r parciau cenedlaethol a'r AHNE fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddwyn hynny ymlaen mewn gwirionedd a gwella mewn gwirionedd y natur sydd gennym ni ar flaenau'n bysedd.
O ran yr asesiad o'r effaith ar dirweddau dynodedig, fel y gallwch ei ddychmygu, mae hwn yn edrych, ar y cyfanwaith, o ran effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar bortffolio'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd ac ar bortffolio fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Mae hwn yn ddarn mawr o waith, ac mae tirweddau dynodedig yn rhan o hynny. Rwy'n amlwg yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r lle hwn ac i'r Aelod maes o law, gydag unrhyw wybodaeth a data fydd gennym o ran yr effaith y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ein tirweddau dynodedig.
Rydych chi'n amlwg yn gywir o ran pwysigrwydd ateb unffurf i bawb a chydnabod nodweddion gwahanol ac unigryw pob un o'r tirweddau, a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio er lles y gymuned leol.
O ran ethol aelodau bwrdd yn uniongyrchol, ar hyn o bryd, fel yr oeddech chi'n dweud, mae pwysau ariannol ar y tirweddau dynodedig. Byddwn yn tueddu i beidio ag ystyried cyflwyno unrhyw gynigion a fyddai'n effeithio ymhellach arnynt yn ariannol, ond rydym ni, yn amlwg, yn edrych ar sut y gallwn ni mewn gwirionedd wneud yn siŵr o ran gwir—. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr bod yna dirweddau wedi eu dynodi ar gyfer Cymru gyfan ac ar gyfer gwahanol gymunedau ac, ar yr un pryd, i wneud yn siŵr eu bod yn gynrychioliadol o'r cymunedau hynny hefyd, a bod pob bwrdd ym mywyd cyhoeddus Cymru yn cynrychioli ein cymunedau amrywiol a'n cymunedau lleol hefyd.
Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad, gan ddweud y bydd llawer, rydw i'n meddwl, yn croesawu’r ffaith ei bod hi'n ymddangos, o leiaf, y bydd sefydlogrwydd yn y maes yma o hyn ymlaen. Rydw i'n nodi ei bod yn bum mlynedd ers dechrau trafod dyfodol tirweddau dynodedig, ac rydym ni wedi bennu lan bum mlynedd wedyn heb ddim byd wedi newid o gwbl, a dweud y gwir, a hyd yn oed dim un o dri phrif argymhelliad Terry Marsden yn cael eu gweithredu fel hyn. Mae'r gwaith caled, mae’n siŵr gen i, i Dafydd Elis-Thomas yn edrych yn fwyfwy fel prentisiaeth ar gyfer darpar aelod o’r Llywodraeth yn hytrach nag unrhyw beth sydd wedi arwain at newid yn y maes yma. Nid oes dim byd wedi newid. Nid oes dim byd wedi newid o gwbl.
Ond, a throi at gynnwys y datganiad gan y Gweinidog heddiw, mae hi, wrth gwrs, wedi dweud y bydd yna ddatganiad polisi i ddilyn. Rydw i'n gobeithio ein bod ni, serch hynny, yn gallu derbyn beth sydd yn ei datganiad hi heddiw. Mae wedi cadarnhau bod egwyddor Sandford yn aros, a bod egwyddorion statudol y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch eithriadol yn aros yr un peth. Felly, a gawn ni jest cadarnhau hynny? Os mai dyna yw'r sefyllfa, mae'n rhoi golau gwyrdd i bobl weithredu o hyn ymlaen.
Mae wedi sôn, serch hynny, am ddeddfwriaeth bosibl ar gyfer sicrhau bod parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch eithriadol yn rheoli eu hadnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy eu cynlluniau statudol. Nid oes gen i wrthwynebiad o gwbl i hynny, wrth gwrs, ond ai deddfwriaeth benodol a fydd hynny, fel y mae'r Cynulliad wedi gofyn amdani yn y gorffennol, neu a fydd hi'n cynnwys hynny mewn deddfwriaeth ehangach ynghylch llywodraeth leol, gan fod parciau cenedlaethol yn un math o awdurdod lleol, er enghraifft? Felly, ai gyda'i chyd-Weinidog Alun Davies y dylwn fod yn chwilio am y ddeddfwriaeth honno?
Mae hefyd yn bwysig jest cael ateb gan y Gweinidog ynglŷn â sut y mae hyn i gyd yn awr yn plethu gyda'r ymgynghoriad ehangach ar reolaeth gynaliadwy o'n hadnoddau naturiol, yn enwedig mynediad. Mae mynediad yn bwysig iawn i'r ymgynghoriad hwnnw ac, wrth gwrs, mae mynediad at dirweddau dynodedig yn rhan hanfodol o'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol. Felly, sut mae mynediad yn ffitio i mewn i hynny?
Ac mae'n rhaid nodi, os ydym ni am weld y tirweddau yma yn perfformio fel y mae'r Gweinidog yn dymuno iddyn nhw ei wneud—nid yn unig ar gyfer cadwraeth, nid yn unig ar gyfer bioamrywiaeth, ond hefyd ar gyfer twristiaeth a datblygu economaidd—mae'n rhaid cael adnoddau priodol i wneud hynny. Mae'r arian ar gyfer y parciau cenedlaethol eleni, ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd ar fin dechrau, ar y lefel isaf y mae wedi bod ers 2001. Nid oes modd ichi ofyn i'r parciau cenedlaethol wneud y gwaith hwn o ddatblygu eu hardaloedd nhw os nad ydych chi'n fodlon buddsoddi yn yr hyn y maen nhw'n ei gyflawni. Wrth gwrs, un o'r atebion i hyn yw bod y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch eithriadol yn cydweithio yn nes at ei gilydd er mwyn cael mwy o werth am yr arian. Ond, mae'n rhaid i chi fuddsoddi hefyd. Felly, beth sydd gennych chi, Weinidog, i sicrhau bod yr arian yn mynd i fod yn ddigonol i weithredu eich cynlluniau?
Y pwynt olaf rwyf eisiau gofyn amdano yw: mae'n amlwg, o edrych dros Gymru i gyd, fod yna bartneriaethau eisoes yn eu lle sy'n llwyddiannus iawn, sy'n gweithio gydag ystadau tirfeddianwyr preifat, parciau cenedlaethol, a chyrff statudol. Mae partneriaeth defnydd tir y mynyddoedd Duon yn fy rhanbarth i yn dod i'r meddwl, ac mae nifer o rai eraill y byddai Aelodau yn gallu eu crybwyll. Ym mha ffordd y byddwch chi'n sicrhau bod y partneriaethau yma hefyd yn gallu ffynnu o dan y drefn newydd yr ydych chi wedi'i gosod allan heddiw?
Diolch am eich cwestiynau.
Rwyf am ddechrau trwy ddiolch unwaith eto am waith yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar hyn. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud, bum mlynedd yn ddiweddarach—wyddoch chi, fe ddechreuodd, bum mlynedd yn ôl. Roedd hynny, mewn gwirionedd, cyn i mi hyd yn oed fod yn Aelod Cynulliad. Ond, fy ddywedasoch nad oes dim byd wedi newid. Efallai nad oes unrhyw beth wedi newid ar lefel statudol—[torri ar draws.] Ie. Wyddoch chi, rydych chi'n dweud mai 'dim newid' ydyw hyn, ond mewn gwirionedd, gellid dadlau ein bod wedi gweld newid o ran, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym wedi ei weld yn digwydd yn ymarferol yw fod y Parciau Cenedlaethol a'r AHNE mewn gwirionedd yn cydweithio yn llawer mwy cydweithredol ac mewn partneriaeth â'i gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd yn mynd i fod bwysig iawn, iawn wrth fynd ymhellach.
Gyda'r parciau cenedlaethol yr oedd fy ail gyfarfod allanol fel Gweinidog, ac roedden nhw eu hunain yn dweud wrthyf i bryd hynny, ac maen nhw wedi ailadrodd hynny wedyn, eu bod wedi gweld gwerth y cydweithio hwnnw a'r gweithio mewn partneriaeth. Felly, gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni barhau ag ef, a hynny o ran rhannu arbenigedd, ond hefyd, wrth geisio gweithio gyda rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â chyllid hefyd.
Methais â chlywed un o'r ymatebion i fy nghyd-Aelodau sy'n eistedd fan acw mewn gwirionedd, o ran yr egwyddor Sandford. Ni allaf ddarllen fy ysgrifen blêr fy hun nawr. Hoffwn ei rhoi ar gofnod yma nad ydym yn disgwyl edrych eto ar adolygiad o'r egwyddor Sandford neu ailedrych ar y dibenion statudol, a'n bod yn cynnig sefydlogrwydd i'n parciau cenedlaethol a'r AHNE.
Ar ba ffurf y gallai'r ddeddfwriaeth fod: yn amlwg, mae yna nifer o ddewisiadau, fel y dywedasoch chi. Dyna'r hyn y byddwn yn ei ystyried wrth fwrw ymlaen dros yr ychydig fisoedd nesaf, pa un a allai'r pethau hyn sefyll ar eu traed eu hunain, neu fe allem ni edrych ar sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r datganiadau ardal mewn gwirionedd. Fe allem ni hyd yn oed edrych ar y cynlluniau ar gyfer parc tirwedd i'r Cymoedd.
O ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, soniasoch chi am fynediad. Mae dwy ran i fynediad, mewn gwirionedd: ceir y mynediad llythrennol, y mynediad corfforol i'n parciau a'n AHNE, ac yna mewn gwirionedd eu gwneud yn haws eu cyrraedd yn gyffredinol i fwy o bobl ledled cymunedau Cymru. Mae'r ddeubeth yn yr un mor bwysig â'i gilydd. Byddwch yn ymwybodol iawn ein bod ni wedi cael nifer aruthrol o ymatebion i'r ymgynghoriad ar reoli cynaliadwy adnoddau naturiol, dros 16,000, ac rwy'n disgwyl y bydd rhai o'r ymatebion yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn.
Gallaf groesawu'r datganiad hwn yn fras. Ychydig iawn sydd ynddo y gallai unrhyw un anghytuno ag ef. Rwy'n sicr yn falch iawn fod y Gweinidog wedi cadarnhau y bydd egwyddor Sandford wrth wraidd polisi'r Llywodraeth o ran parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Wedi'r cyfan, beth yw'r pwynt o ddynodi ardaloedd yn rhai o harddwch naturiol eithriadol, neu'n barciau cenedlaethol, os na roddir blaenoriaeth i egwyddor cadwraeth? Dyna'r egwyddor sylfaenol wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth wreiddiol, gyda chefnogaeth pob plaid, ac mae wedi'i chynnal hyd y dydd heddiw.
Ond hoffwn wneud apêl yn hyn o beth, yr wyf wedi ei gwneud cyn hyn a byddaf yn ei gwneud eto, mae'n siŵr. Mae pawb yn deall bod amcanion polisi gan lywodraethau weithiau'n gwrthdaro y naill yn erbyn y llall, ac ni allwn gadw parciau cenedlaethol rhag pob newid yn dragywydd, ac er fy mod yn deall yn llwyr fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i egwyddor ynni adnewyddadwy, a bod ffermydd gwynt yn rhan fawr o hynny, byddwn yn pledio o blaid dangos cymesuredd gydag egwyddor Sandford mewn cof, yn gymaint ag y gall y cyfraniad y gall gwynt ei wneud at bolisi cyffredinol y Llywodraeth yn y parciau cenedlaethol fod ond yn gymharol fychan, ond ar ôl i fferm wynt gael ei chodi, am 25 mlynedd neu fwy, yno y bydd, yn ddolur llygad ar y dirwedd. Credaf mai dim ond pobl ecsentrig allai ystyried ffermydd melinau gwynt yn welliant ar y dirwedd naturiol. Felly, os mai cymharol fychan yw cyfraniad cyffredinol y ffermydd gwynt at gyflawni amcan polisi'r Llywodraeth o ran ynni adnewyddadwy, ond y gwneir difrod i'r polisi arall y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo—sef gwarchod harddwch yng nghefn gwlad, ac yn y blaen—yna byddwn yn gobeithio y buasai'r Llywodraeth yn ochri o blaid yr olaf yn hytrach na'r cyntaf, ar gyfer rhoi mynegiant ymarferol i'w hymrwymiad i egwyddor Sandford.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â'r cyfleoedd a ddaw yn sgil ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, y cyfeirir atynt yn y Bil, yn enwedig o ran gwella gwydnwch ein tirweddau a rheoli tir. Yn hyn o beth, hoffwn dynnu sylw at y problemau a grëwyd gan y gyfarwyddeb cynefinoedd o ran gwneud bryniau Cymru yn anghyfannedd. O ganlyniad rydym wedi gweld cynnydd trychinebus yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr a dirywiad, weithiau hyd at ddifodiant, mewn llawer o rywogaethau bregus sy'n ysglyfaeth. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni, gan mai'r amgylchedd yn amlwg yw un o'r materion datganoledig o'r pwys mwyaf, ac fe roddir inni bwerau yma, fel y gobeithiwn, i ddilyn dull o weithio gwahanol iawn i'r hyn a fabwysiadwyd hyd yn hyn.
Yn arbennig, rydym yn gweld cynnydd mewn gordyfiant glaswellt annymunol sy'n bla o drogod, o ganlyniad i grug aeddfed na chafodd ei losgi, sydd hefyd yn dod o dan bla chwilod y grug. Mae rhedyn allan o reolaeth hefyd wedi creu tirweddau anffrwythlon sy'n beryglus i dwristiaid a cherddwyr, a hefyd yn gludwyr clefyd Lyme. Felly, gobeithiaf, o ganlyniad i'r cyfleoedd a gyflwynir i ni erbyn hyn, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun i fynd i'r afael â'r materion hyn, a chydnabod nad yw'r dirwedd naturiol yr ydym yn eiddgar i'w gweld yn debygol o ddod i'r golwg heb weithrediad dynol hefyd. Bydd polisi'r Llywodraeth yn y cyswllt hwn yn hanfodol bwysig. Yn gyffredinol, bydd diwygiadau i'r polisi amaethyddol yn anochel yn canolbwyntio ar gyfraniad y ffermwyr at reoli tir. Rydym yn symud oddi wrth gymorthdaliadau cyffredinol yn seiliedig ar ardal, ac fe'i rhoddir yn y dyfodol ar gyfer y pethau buddiol y mae ffermwyr yn eu gwneud yng nghefn gwlad. Felly, tybed a allai'r Gweinidog wneud datganiad ar anghyfannedd-dra'r bryniau a'r cyfleoedd a roddir inni i wella'r gwaith o reoli tir yn ein hardaloedd gwyllt.
Diolch i'r Aelod am ei groeso cyffredinol ac am ei gwestiynau. Dechreuodd drwy sôn eto am yr egwyddor Sandford, a'r posibilrwydd o amcan polisi yn gwrthdaro. Wel, gwyddom fod egwyddor Sandford dim ond yn gymwys pan fo gwrthdaro digymod rhwng diben presennol y parciau cenedlaethol, ond mewn gwirionedd, wrth i ni edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd, drwodd a thro, ac ar ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, mae gennym ein hymrwymiad hefyd i reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a dyna'r cyd-destun y byddwn yn edrych ar hyn ynddo.
O ran yr hyn a ddywedodd ef am weithrediad dynol, wel, mewn gwirionedd, mae bodau dynol wedi dylanwadu ar lawer o'n tirwedd naturiol dros gannoedd a miloedd o flynyddoedd. Felly, o ran ystyried mynd i'r afael â dirywiad mewn bioamrywiaeth yn ein cynefinoedd naturiol, sydd wrth gwrs yn nodwedd ganolog o'n polisi adnoddau naturiol ac yn ein rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, fel y dywedais yn y datganiad, bydd hynny'n rhan o'n cyfeiriad polisi i'r dyfodol, a sut y byddwn yn cysoni orau'r tirweddau dynodedig a'n gwaith yn y fan honno gyda'n huchelgeisiau o ran rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ledled Cymru gyfan.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad ar dirweddau dynodedig gan y Gweinidog. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi cadarnhau yn ddigamsyniol y bydd yr holl dirweddau dynodedig presennol yn cael eu cadw ac na fydd eu diben o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau. Croesawaf hefyd y gydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r parciau cenedlaethol. Ymunaf â phawb arall i groesawu'r ffaith y bydd egwyddor Sandford yn cael ei chynnal.
Mae gennyf i, er hynny, ddau gwestiwn. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r ardaloedd o harddwch naturiol a'r parciau cenedlaethol rhag planhigion goresgynnol anfrodorol? Ac, yn 2014, roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried uno tri pharc cenedlaethol yn un. A wnaiff y Gweinidog ddiystyru hyn a chadarnhau ymrwymiad i oruchwyliaeth a rheolaeth leol y parciau cenedlaethol?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn ac am ei ddiddordeb yn y mater hwn a'i ymrwymiad? Oherwydd gwn fod eich etholaeth yn agos iawn at ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn union fel y mae f'un i.
O ran rhywogaethau goresgynnol, mewn gwirionedd yn fuan iawn y bydd hi'n Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol—wythnos nesaf, rwy'n credu—pan fyddwn ni'n edrych ar sut—. Eto, mae hynny'n mynd i fod yn rhan mewn gwirionedd o sut y byddwn yn bwrw ymlaen i'n halinio ein hunain â Deddf yr Amgylchedd a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mewn gwirionedd nid yn unig cynnal ein bioamrywiaeth ond mewn gwirionedd mae angen inni atal y dirywiad. Mae hynny'n rhan hanfodol o hynny ac yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y maes hwnnw.
O ran, roeddech chi'n sôn am uno tri pharc cenedlaethol—
Cafodd ei ystyried yn 2014.
Diolch i chi am yr help gyda hynny. Nid oes unrhyw gynlluniau i uno'r parciau cenedlaethol.
Gweinidog, ers cryn amser erbyn hyn yn y Siambr hon, mae parciau cenedlaethol wedi bod yn ganolog i'r syniad o gynaliadwyedd, gweledigaeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru yn rhan o gyfansoddiad y lle hwn. Rwy'n falch bod rheol Sandford yn cael ei chynnal.
Roedd gennyf i ddau beth yr oeddwn eisiau gofyn i chi amdanyn nhw. Yn gyntaf, o ran parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn fy amser i yn Aelod Cynulliad, fe wnaethom ni lwyddo i gael statws geoparc i hwnnw rai blynyddoedd yn ôl, i wneud yn siŵr bod y rhan orllewinol o'r parc yn agored i dwristiaeth yn yr un ffordd ag yr oedd y rhan ddwyreiniol. Bu hynny'n hynod o lwyddiannus.
Yn ail, y fenter ffurfafen dywyll, a gyflwynais i'r Siambr hon mewn dadl fer, rwy'n credu, ar ôl taro ar glwb seryddiaeth Caerdydd o flaen y Senedd. Rai blynyddoedd wedi hynny, fe wnaethom ni ennill statws ffurfafen dywydd i'r parc cenedlaethol, a ddaeth â mwy o seryddwyr i'r parc o bob cwr o Ewrop. Roedd y ddwy fenter hynny ymhell o fod yn anghydnaws â chynaliadwyedd ac egwyddor Sandford. Yn wir, roedd y ddeubeth yn mynd law yn llaw. Felly, beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i wneud yn siŵr, yn dilyn y datganiad hwn—a chytunaf â llawer ohono—y byddwch yn annog y math hwnnw o dwristiaeth sydd yn gweithio law yn llaw ag egwyddor Sandford ac sydd yn bodloni holl nodau Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd?
Ni feddyliais fyth y byddwn yn dweud y geiriau 'Cytunaf yn llwyr â Nick Ramsay yn hyn o beth.' Mae'r ddwy fenter y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, roeddwn mewn gwirionedd yn mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog wythnos diwethaf—hwnnw sydd yn geoparc, a hefyd â'r statws ffurfafen dywyll, a gwyddom fod gan rai o'r AHNE y statws hwnnw hefyd mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut y gall y parciau estyn allan. Ceir cyfleoedd aruthrol yn y fan yna i gysoni cyfleoedd twristiaeth ag eco-dwristiaeth a denu ymwelwyr newydd i'n parciau, ond ar yr un pryd i wneud yn siŵr ein bod yn eu cynnal a'u rheoli ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd.
Felly, dyna rywbeth yn sicr—. Efallai nad ydym ni'n newid diben y parciau cenedlaethol neu'r AHNE, ond nid yw hynny'n golygu—. Yn wir, byddant yn cael eu hannog yn weithredol, a byddwn yn gweithio gyda nhw, i wneud yn siŵr y gallwn ni edrych mewn gwirionedd ar nodi ac i rannu'r arferion gorau mewn gwirionedd. Un o'r pethau, o'r cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yr ydym ni wedi ei weld yn rhan o'r broses hon, yw bod yna gyfleoedd nid yn unig i rannu adnoddau ond hefyd i ddysgu oddi wrth ein gilydd a gweld yn union beth y gallwn ni ei wneud. Un o'r pethau yr wyf wedi sylwi arnyn nhw wrth ymweld â pharciau yw'r gydnabyddiaeth erbyn hyn fod angen esblygu o ran ein harlwy, ond ar yr un pryd aros yn driw i'r egwyddorion hynny o ddiogelu harddwch naturiol ein parciau.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, ac, unwaith eto, heb fod yn rhy ailadroddus, hoffwn ddiolch i chi am eich ystyriaethau. Yr un peth sydd yn aros yn fy nghof yn hyn o beth yw eich bod chi nid yn unig wedi gwrando ar Aelodau'r Cynulliad, ond eich bod wedi gwrando ar y pryderon gwirioneddol a chyffredinol a geir yn hyn o beth. Wrth gwrs, mae Parc Cenedlaethol Eryri gennyf i o fewn fy etholaeth innau sef Aberconwy, ac rydych wedi gweld cadwraeth yno, ond rydym wedi gweld datblygiad economaidd hefyd. Ond, yn gyffredinol, egwyddorion trosfwaol y pryderon a godwyd gyda mi oedd cynaliadwyedd, cadwraeth a phethau o'r fath wrth fynd ymlaen.
Nawr, drwy gydol y trafodaethau hyn, cafwyd llawer o sylwadau gan wirfoddolwyr, aelodau o'r cyhoedd ac, yn wir, Cymdeithas Eryri, sydd yn adnodd gwerthfawr ynddynt eu hunain. Ac roeddwn i'n meddwl tybed sut yr ydych chi'n bwriadu symud ymlaen, efallai wrth weithio gyda'n parciau cenedlaethol a'r grwpiau hyn sydd yn wirioneddol rhoi o'u hamser yn wirfoddol, ac y maen nhw'n hynod wybodus, mewn gwirionedd. Roedd y dystiolaeth a gefais ganddyn nhw wedi fy ngrymuso i ddeall er mwyn i mi wneud sylwadau ar eu rhan nhw. Felly, hoffwn i roi hynny ar gofnod—fy niolch i'r bobl sydd wedi ysgrifennu atom, ein cymdeithasau sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd eisiau gweithio gyda'r Llywodraeth, ac eisiau gweithio gyda ni Aelodau'r Cynulliad. Sut fyddwch chi'n cynnwys hynny ydyw ystyr hyn, ac yn gwerthfawrogi ac yn gweithio gyda'r adnodd gwerthfawr hwnnw mewn gwirionedd.
Diolch, ac fe wnaethoch siarad yn huawdl iawn nawr am angerdd pobl ledled Cymru o ran faint y mae ein parciau cenedlaethol a'n tirweddau dynodedig yn ei olygu i bob un ohonom, ac rwy'n meddwl ei fod yn arwydd o hynny bod bron pawb yn y Siambr sydd wedi codi ac wedi siarad am y tirweddau dynodedig naill ai yn ffinio ar eu hetholaethau neu o fewn eu hetholaethau, felly gwyddom pa mor anhygoel ac annwyl yw'r ased hon i bob un yn ein plith.
Rydych yn sôn am Gymdeithas Eryri. Rwyf wedi bod yn gohebu'n ddiweddar â'r Gynghrair ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru, y mae Cymdeithas Eryri yn aelodau ohoni, ac yn amlwg, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ac eraill i fynd â hyn yn ei flaen. Byddaf, os yw'r dyddiadau yn iawn gen i, yno ddydd Llun ym Mhen y Gwryd i lansio partneriaeth Eryri yn y fan honno.
David Melding.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar ichi am eich goddefgarwch, ac a gaf innau hefyd groesawu'n fras ddatganiad y Gweinidog, yn enwedig y modd y mae hi wedi gwrando o ran egwyddor Sandford, a'r ymagwedd fwy cynnil rwy'n credu na'r hyn yr ydym wedi ei chlywed mewn datganiadau blaenorol? Rhywbeth nad yw wedi ei grybwyll y prynhawn yma—ac yn y fan hon rwyf i o'r farn bod angen mwy o uchelgais arnom ni, ac mae angen inni wthio'r parciau cenedlaethol yn yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol—ac mae hynny'n ymwneud â chydraddoldeb mynediad. Mae'r rhain yn amgylcheddau gwych. Maen nhw'n perthyn i ni i gyd. Rydym ni i gyd yn talu amdanyn nhw mewn un ffordd neu ei gilydd, ac rwyf yn credu y dylai fod llawer mwy o fynediad ar gyfer grwpiau sydd yn draddodiadol yn cael hynny'n beth anodd. Gall hyn gysylltu hefyd, rwy'n credu, â rheolaeth gyffredinol tir wedi Brexit, pan fyddwn ni'n cysylltu pa bynnag gefnogaeth a roddwn i'r rhai sy'n rheoli tir yn fwy uniongyrchol â daioni cyhoeddus, ac mae hi'n ymddangos i mi y gallai'r meysydd hyn o bolisi cyhoeddus ddod at ei gilydd yn daclus dros ben.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am eich cyfraniad, a chredaf eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny yn gwbl huawdl, yn ôl eich arfer, ac yn llygad eu lle? Diolch ichi am eich croeso cyffredinol a'ch cydnabyddiaeth fod egwyddor Sandford yn cael ei chynnal. Mae cydraddoldeb o ran mynediad—rydych chi'n taro'r hoelen ar ei phen, mae'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol hyn yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru, ac mae a wnelo mewn gwirionedd, fel y dywedais yn y datganiad, â gwneud yn siŵr ein bod yn ymestyn y tu hwnt i'r rhai y byddem yn eu hystyried yn draddodiadol yn rhai y bydden nhw efallai yn defnyddio ein parciau cenedlaethol. Credaf mai gweithio gyda pharciau a gweithio mewn partneriaeth yw hynny, a dysgu o'r enghreifftiau fel y prosiect 'Walkability', sy'n dod â phobl—sydd yn gwneud mwy na dim ond cynnig mynediad at y parciau i bobl nad ydyn nhw efallai fel arfer yn cael mynd yno, mewn gwirionedd mae'n gymorth i'w hiechyd a'u lles ar yr un pryd. Rwy'n credu bod cysylltu mwy ag ysgolion, fel rhywun sydd—. A mynd ati mewn gwirionedd i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'r parciau i gysylltu â'r gwaith y maen nhw'n ei wneud gydag ysgolion ac adeiladu arno mewn gwirionedd o fewn yr ardal, oherwydd credaf mai'r hyn a welwch chi yn aml yw y bydd ysgolion yn dod o rywle arall i ymweld, sydd i'w groesawu a'i annog, ond gwneud yn siŵr bod ysgolion sydd oddi mewn ac a gyrion a ffiniau'r parciau cenedlaethol a'r AHNE yn gallu cyfrannu'n llawn yn hynny ac yn barod i allu mwynhau'r parciau, a deall a gweld mewn gwirionedd bod y parciau ar gyfer pawb, mae'r parciau ar gyfer pawb—. Rwy'n credu'n wir mai eu gwneud nhw mor hygyrch â phosibl yw ystyr hynny, ac mor berthnasol â phosibl i holl gymunedau a phobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch ichi.
Eitem 4 ar yr agenda ein yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar ymchwiliad y DU ar waed heintiedig. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y datganiad hwn ar ôl y datganiad ysgrifenedig ar 8 Chwefror eleni gan Swyddfa Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Rwy’n croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff yn Gadeirydd ymchwiliad y DU i sgandal gwaed heintiedig. Fel yr ydym i gyd yn ei wybod, roedd sgandal gwaed heintiedig yr 1970au a'r 1980au yn drasiedi na ddylai byth fod wedi digwydd ac na ddylai byth ddigwydd eto. Mae llawer o'r bobl yr effeithiodd hyn arnynt yng Nghymru wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed dros gynnal ymchwiliad ystyrlon. Mae Hemoffilia Cymru a grŵp trawsbleidiol y Cynulliad wedi cydweithio'n agos i gefnogi pawb sydd wedi dioddef hepatitis C a/neu HIV yma yng Nghymru ac maen nhw'n rhanddeiliaid allweddol i sicrhau y clywir lleisiau pobl yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.
Rwy’n falch o nodi, yn unol â dymuniadau'r bobl yr effeithiwyd arnynt, yr arweinir yr ymchwiliad gan farnwr. Bydd Ustus Langstaff yn Gadeirydd amser llawn ar yr ymchwiliad o 1 Mai eleni ymlaen, wedi iddo ymddeol o'r Uchel Lys. Fodd bynnag, mae eisoes wedi dechrau ar ei waith drwy ysgrifennu yr wythnos diwethaf at y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, eu teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i ymgynghori ynglŷn â chylch gorchwyl yr ymchwiliad. Mae’r ymgynghoriad ynglŷn a chylch gorchwyl yr ymchwiliad nawr yn fyw ar wefan yr ymchwiliad. Y wefan yw www.infectedbloodinquiry.org.uk, ac mae pawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw neu unrhyw un sydd â barn yn cael eu hannog i ymateb. Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 26 Ebrill eleni.
Mae'n bwysig y bydd yr ymchwiliad yn arwain at adroddiad llawn o fewn yr amser byrraf posibl, gan ystyried yr angen am ofal a diwydrwydd priodol. Mae angen taro cydbwysedd a chyfaddawdu o ran cylch gorchwyl a hyd yr ymchwiliad.
Rwyf wedi ysgrifennu at Mr Ustus Langstaff i ailadrodd fy mhryderon blaenorol a phryderon y grŵp trawsbleidiol a Hemoffilia Cymru. Rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod i eisiau i’r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yng Nghymru fod yn sicr a theimlo’n ffyddiog y bydd yr ymchwiliad yn rhoi ystyriaeth lawn i’w tystiolaeth ac yn ateb eu cwestiynau hirsefydlog.
Ein disgwyliad ni ar y cyd yw y bydd casglu gwybodaeth a gwrando ar y dystiolaeth yn digwydd mewn mannau addas ym mhob gwlad yn y DU ac y bydd yr ymchwiliad yn ystyried unrhyw ofynion o ran y Gymraeg yn llawn wrth wneud hynny. Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn oedrannus ac yn fethedig, a gallai teithio i Lundain, er enghraifft, fod yn anodd ac yn anghyfleus, a pheri straen. Rwyf felly’n falch o glywed ei fod wedi cysylltu â holl dderbynwyr y cynllun yng Nghymru. Rwyf innau newydd gael copi o'r llythyr yn uniongyrchol ganddo hefyd. Bydd fy swyddogion i a staff ein gwasanaeth gwaed heintiedig Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i dîm yr ymchwiliad i sicrhau bod anghenion y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yng Nghymru’n cael eu diwallu cystal â phosibl.
Tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt. Felly, mae'n amserol imi gymryd y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, neu’r WIBSS. Buom yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i gynllunio’r WIBSS a’i roi ar waith ym mis Tachwedd y llynedd. Cafodd y cynllun ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Ar ôl imi fod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod Julie Morgan, clywais yn uniongyrchol straeon personol y bobl a oedd yn bresennol. Mae hyn, ynghyd â digwyddiadau rhanddeiliaid ledled Cymru, wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o effaith y drasiedi ar fywydau pobl ac, mewn llawer o achosion, wrth gwrs, ar eu teuluoedd. Roedd hynny'n hanfodol wrth ddylanwadu ar natur a chwmpas ein trefniadau newydd. Mae ein cynllun yn darparu cymorth ychwanegol at gymorth ariannol i'r bobl yr effeithiwyd arnynt ac i'w teuluoedd. Mae adborth cynnar yn awgrymu bod hyn yn gwella ymdeimlad ein buddiolwyr o ddiogelwch, eu hansawdd bywyd a’u gofal ac maen nhw'n cael eu trin gyda'r urddas y mae ganddyn nhw'r hawl i'w ddisgwyl.
Mae cynghorwyr y WIBSS yn gallu eu cynorthwyo i fanteisio ar wasanaethau gofal iechyd a buddion ariannol a gwasanaethau cyhoeddus eraill priodol. Rydym wedi lleihau'r angen i dderbynwyr y cynllun wneud cais am arian dewisol drwy gynnwys symiau yn y taliadau rheolaidd tuag at gostau ychwanegol, fel costau tanwydd uwch yn y gaeaf, costau cysylltiedig â theithio ac unrhyw lety dros nos sydd ei angen wrth gael triniaeth, a chymorth gyda phremiymau yswiriant. Daeth hynny o wrando’n uniongyrchol ar bobl yr effeithiwyd arnynt yn ystod yr ymgynghoriad.
Mae'r cynllun hefyd yn darparu cymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar pan fo trallod ac anhawster ariannol yn debygol o fod ar eu gwaethaf. Nawr bod y cynllun yn cael ei weinyddu yng Nghymru, dylem ni allu cael gwell dealltwriaeth o anghenion yr unigolion yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir parhau i adolygu’r trefniadau’n rheolaidd.
Roedd hefyd yn glir iawn imi wrth gyfarfod ag unigolion a theuluoedd y bobl yr effeithiwyd arnynt bod ymchwiliad yn bwysig iawn iddynt. Roeddent wedi bod yn lobïo ers blynyddoedd lawer, yn unigol a drwy Hemoffilia Cymru a’n grŵp trawsbleidiol ni, ac, yn wir, grwpiau trawsbleidiol ar draws Seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd, i gael y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Rwy’n gobeithio y gallant nawr gael rhywfaint o gysur o’r ffaith bod eu hymdrechion wedi dwyn ffrwyth a bod yr ymchwiliad y maen nhw wedi ymladd amdano ers amser maith yn mynd i ddigwydd. Hoffwn hefyd roi sicrwydd iddynt y byddaf yn dilyn hynt yr ymchwiliad yn agos ac y byddaf yn gofyn am sicrwydd bod barn y bobl yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru yn cael ei hystyried yn llawn.
Byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau ymhellach pan fydd mwy o wybodaeth ar gael a phan fydd cytundeb ynglŷn â’r cylch gorchwyl.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae croeso mawr iddo, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r ymgyrchwyr sydd wedi gweithio mor galed i ddod â’r ymchwiliad hwn i fod, ac yn enwedig Hemoffilia Cymru a’r grŵp trawsbleidiol a arweinir gan Julie Morgan.
Mae gennyf gwpl o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn ichi ar ôl y datganiad hwn, oherwydd yn amlwg mae'n adeiladu ar y cwestiwn amserol a gawsom y llynedd. Rwyf mor falch o gynllun cymorth gwaed wedi'i heintio Cymru a’r hyn y mae’r staff sy'n gweithio i’r cynllun hwnnw’n gallu ei ddarparu. Efallai y cofiwch chi mai un o'r cwestiynau a ofynnais y llynedd oedd pa gymorth y byddwn ni'n gallu ei roi i bobl sy’n dymuno rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad—a fyddwch chi'n gallu ehangu eu cylch gwaith fel y bydd WIBSS hefyd yn gallu cefnogi'r bobl sy'n mynd atynt i fynd ymlaen i’r ymchwiliad hefyd? Oherwydd rwy’n siŵr, a dweud y gwir, bod yr holl fater o roi tystiolaeth i ymchwiliad, hyd yn oed os bydd hynny ar ein tir ni yma, yn mynd i fod yn eithaf trawmatig a chodi pob math o atgofion ofnadwy. Felly, tybed ai nhw fydd yn gallu darparu'r cymorth hwnnw?
Yn ein llythyr ar y cyd at Jeremy Hunt ar 19 Gorffennaf 2017, llythyr o dan eich arweiniad chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaethom ofyn pa gamau y byddai’n eu rhoi ar waith i sicrhau y bydd GIG Cymru, y GIG yn Lloegr a'r GIG ledled y DU yn cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad. Tybed a fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw gamau y gallwn ni eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod GIG Cymru yn cydweithredu ym mhob ffordd bosibl o ran rhoi tystiolaeth, dod o hyd i unrhyw lwybrau papur a allai fodoli, ac ati. Rwy’n gwybod mai newydd gael ei benodi y mae Mr Ustus Langstaff, ond a allwch chi ddweud a fydd ganddo bŵer ai peidio yn yr ymchwiliad hwn i orfodi tystion i ddod ymlaen i sicrhau y datgelir yr holl ddogfennau?
Mae fy mhwynt olaf yn un yr ydych chi wedi ei godi eich hun ynglŷn ag amseroldeb yr ymchwiliad. Byddwch chi'n gwybod bod ymchwiliad yr Arglwydd Morris o Fanceinion wedi cymryd dros ddwy flynedd. Tybed a allech chi ehangu ar yr hyn y byddech chi'n ei ystyried yn gyfnod rhesymol o amser, yn enwedig gan fod yr holl sgandal hwn, un o'r sgandalau gwaethaf a welodd y GIG erioed, dros 30 mlwydd oed, ac na all y bobl yr effeithiwyd arnynt aros yn ddiddiwedd i amser fynd heibio cyn cael y cyfiawnder sydd ei angen mor daer arnynt.
Diolch am eich holl sylwadau a chwestiynau. Rwy’n mynd i ddechrau â’ch un cyntaf ynghylch sut y gellir cefnogi pobl i roi tystiolaeth. Ni chafodd cynllun gwaed heintiedig Cymru ei sefydlu’n benodol i gynorthwyo pobl i roi tystiolaeth i ymchwiliad, ond rwy’n meddwl bod angen inni ystyried anghenion pobl y bydd angen iddynt roi tystiolaeth a ble y gallant roi’r dystiolaeth honno. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw bod yr ymchwiliad yn gweithredu ar sail lle bydd yn cymryd tystiolaeth ledled gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig i'w gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
I fod yn deg, nodais yn gynharach fy mod wedi cael ymateb gan Mr Ustus Langstaff i fy llythyr cynharach ac rwy’n meddwl ei fod yn adeiladol. Rwy’n meddwl ei fod yn awgrymu y byddant yn ystyried sut i ddiwallu nid dim ond gofynion iaith pobl o Gymru, ond, yn benodol, yn sicrhau sut y byddant yn clywed gan bobl yn y gwledydd datganoledig, ac yn meddwl am sut i wneud hynny tra'n ystyried y cylch gorchwyl. Felly, mae'n—. Yn sicr, dydy’r llythyr ddim yn cau'r drws drwy ddweud, 'Na, rhaid i bawb deithio i fan canolog,' ac rwy’n meddwl bod angen inni barhau i fynd ar drywydd hynny. Mae hefyd wedi nodi yr hoffai gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol yn y lle hwn, ac rwy’n meddwl bod hwnnw'n gynnig defnyddiol ac adeiladol iawn gan y Cadeirydd yn ogystal. Rwy’n gobeithio y byddai cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—rwy’n disgwyl—yn croesawu hynny hefyd.
Felly, mae angen inni ystyried gydag unigolion, ond hefyd gyda Hemoffilia Cymru, y grŵp cymorth mwyaf, beth yw’r ffordd orau inni gydweithio i gefnogi unigolion. Felly, nid wyf am ddiystyru dim byd, ond, yn yr un modd, nid wyf am roi ymrwymiad penagored na fyddaf efallai’n gallu ei gyflawni. Ac, a dweud y gwir, rwy’n meddwl mai’r peth gorau yw gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad yn symud o gwmpas y wlad i'w gwneud yn haws i bobl fod yn bresennol yn y lle cyntaf.
Cyfeiriasoch at y llythyr â chymeradwyaeth drawsbleidiol a aeth o'r blaen i Jeremy Hunt. Rwy’n meddwl bod hwnnw’n ddefnyddiol i ailadrodd bod hon yn ymgais drawsbleidiol ddiffuant i gael y gwir. Yn hynny o beth, rydym wedi nodi bod GIG Cymru wedi cydweithredu, ac nid yw'r sefyllfa honno wedi newid. Rwy’n disgwyl i GIG Cymru gydweithredu. Os oes unrhyw fater penodol am wybodaeth yn cael ei ddarparu, byddaf yn sicr yn ystyried gallu’r Llywodraeth i gyfeirio gwybodaeth i’w darparu, ond nid wyf yn rhagweld dim rhwystrau sefydliadol i ddarparu tystiolaeth ddogfennol. Yn wir, byddai hynny'n cynnwys dogfennau a gadwyd gan y Llywodraeth. Rwy’n meddwl, yn y gorffennol, er enghraifft, bod newyddiadurwyr wedi cael gweld dogfennau sy’n bodoli ac sy’n cael eu cadw gan y Llywodraeth ac na wnaethant ddod o hyd i ddim byd o ddiddordeb arbennig, ond mae’r mynediad yno ac mae ar gael. Ac mae hynny’n cyfrannu at rai o'r pwyntiau am y cylch gorchwyl a beth sy’n amserlen resymol.
O ran gorfodi tystion, rwyf ar ddeall bod gan y barnwr sydd wedi’i benodi o dan yr ymchwiliad y gallu i orfodi tystion. Ond mae cysylltiad rhwng y cylch gorchwyl a'r amserlen, oherwydd bydd y sgwrs am yr hyn y bydd y termau’n ei gwmpasu’n helpu i benderfynu beth sy'n debygol o fod yn gyfnod rhesymol. A bydd gwahaniaethau barn. Byddai’n well gan rai pobl weld ymchwiliad byr a miniog sy'n canolbwyntio ar un neu ddau o faterion i gael y gwir yn gyflym. Wedi'r cyfan, mae hyn wedi bod yn digwydd ers amser maith ac efallai na fydd rhai pobl eisiau amser hir o fynd dros hanes sy’n boenus ac yn anodd. Efallai yr hoffai rhai pobl weld ymchwiliad yn ffurfio casgliad yn ystod eu bywydau. A bydd eraill yn dweud 'Rhaid ichi gynnal yr ymchwiliad llawnaf posibl, ac os yw hynny'n cymryd mwy o amser, wel dyna ni.' Dyna pam mae’r ymgynghoriad am y cylch gorchwyl yn wirioneddol bwysig, ac wrth ofyn y cwestiynau hynny—. Efallai nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y wefan, ond rwy’n meddwl mai un peth sy’n gymorth mawr yw mai ei bwriad yw canolbwyntio meddyliau pobl ar beth i’w ofyn a pham, ac mae'n rhoi’r syniad i bobl y bydd ymchwiliad â mwy o bwyslais yn gallu bod yn fyrrach, ond y bydd ymchwiliad ehangach yn gorfod bod yn hirach. Felly, mae angen i bobl feddwl am yr hyn sydd bwysicaf iddynt wrth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, ac wrth helpu i lunio’r cylch gorchwyl. Ond rwy’n meddwl bod y ffaith bod cadeirydd yr ymchwiliad yn dechrau â’r meddwl agored hwnnw ac yn gofyn i bobl beth yw eu barn yn arwydd da o'r ffordd y dylem ddisgwyl i’r ymchwiliad gael ei gynnal.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna. Mi hoffwn innau ddatgan fy niolch a'm edmygedd i'r grŵp o ymgyrchwyr sydd wedi bod mor ddygn dros gyfnod llawer rhy hir yn cyflwyno'u dadl efo penderfynoldeb ac urddas y dylid cael yr ymchwiliad rydyn ni ar fin ei gael. Mi rydw i wedi dod i nabod sawl un ohonyn nhw drwy'r grŵp trawsbleidiol. Mi liciwn i dalu teyrnged i'r unigolion hynny sydd wedi siarad drwy eu poen oherwydd yr hyn maen nhw wedi byw drwyddo fo dros y degawdau diwethaf. Mi wnaf enwi Lynne Kelly yn benodol am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud yn arwain a chydlynu'r ymgyrch. Ac rwy'n falch eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet wedi gallu dod i, o bosib, y cyfarfod lle daeth y mwyaf o unigolion iddo fo, a lle roedd y neges mor glir fel na allech chi fel Ysgrifennydd Cabinet beidio ag ymuno a bod yn gefn iddyn nhw yn eu hymgyrch. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithredu yn drawsbleidiol, nid yn unig drwy'r grŵp trawsbleidiol, ond hefyd chithau a ninnau fel llefaryddion yn siarad ag un llais.
Hefyd, mae'n werth pwysleisio bod y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn, oherwydd arweiniad yr ymgyrchwyr, y dylid cael aelod o'r farnwriaeth—y dylid cael barnwr yn arwain yr ymchwil. Nid oedd eraill yn meddwl bod hynny'n gwbl bwysig. Rwy'n siŵr bod rhesymau da iawn ganddyn nhw dros gymryd barn wahanol, ond mi roedd yr ymgyrchwyr yma yng Nghymru yn benderfynol, ac mi roeddwn i'n falch o glywed y datganiad ynglŷn â phenodiad Mr Justice Langstaff.
Dau gwestiwn. Yn gyntaf, a ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i ystyried eich hunain yn rhanddeiliaid yn y broses sy'n digwydd rŵan? Oherwydd mae eisiau i'r rhanddeiliaid i gyd, yn cynnwys, rwy'n gobeithio, Llywodraeth Cymru, a ninnau fel Aelodau o'r Senedd yma, drio cyfrannu at y gwaith a fydd yn mynd ymlaen drwy'r ymchwiliad. Ac mi hoffwn i weld sut fyddwch chi'n bwydo i mewn i'r gwaith o helpu'r barnwr Mr Justice Langstaff i lunio'r cylch gorchwyl.
Ac o ran y cylch gorchwyl ei hun, un cwestiwn penodol: a ydych chi'n credu y dylid edrych y tu hwnt i'r hyn ddigwyddodd yn ôl yn y 1970au a'r 1980au, sef gwraidd y sgandal? Oedd, mi roedd hi'n sgandal beth ddigwyddodd bryd hynny o ran heintio gwaed, ond mae wedi bod yn sgandal, wrth gwrs, sut rydym ni wedi gallu peidio â dod at y pwynt yma tan y flwyddyn 2018. Felly, mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod sut rydych chi am drio dylanwadu fel Llywodraeth ar ffurfio'r cylch gorchwyl yna. Ond, unwaith eto, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae'r ymgyrchwyr yng Nghymru yn cadw'r maen i'r wal ac yn cadw'r pwysau ymlaen wrth iddyn nhw chwilio am yr atebion maen nhw'n eu haeddu.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn wir, bûm yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol, ac roedd llawer o bobl yno i adrodd eu straeon. Fel y nodais yn fy natganiad, cyfarfûm hefyd â nifer o randdeiliaid Hemoffilia Cymru ddwywaith yn fy swyddfa yn ystod y trafodaethau a arweiniodd at greu cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru. Felly, rydym wir wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud, ac fel y nodais, daeth y cynllun sydd gennym heddiw yng Nghymru o wrando ar bobl. Cawsom gynigion cychwynnol a newidiodd y rheini yn ystod yr ymgynghoriad, am ein bod wedi gwrando a newid y ffordd y byddai’r cynllun hwnnw’n defnyddio arian, oherwydd roedd y rhan fwyaf o'r teuluoedd unigol yr effeithiwyd arnynt yn meddwl bod ffordd fwy priodol o flaenoriaethu defnyddio arian. Felly, rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig am sut y mae Llywodraeth yn disgwyl ymddwyn, sut y mae GIG Cymru yn disgwyl ymddwyn a sut yr hoffem hefyd i’r ymchwiliad ymddwyn, yn ogystal â drwy fynd ati i wrando ar farn teuluoedd a gweithredu arni. Am wn i, mae hyn yn ymwneud â’r hyn a ddywedais wrth Angela Burns fod y Llywodraeth yn barod i wneud yn siŵr y darperir gwybodaeth, os gofynnir inni amdani, ac mae hynny hefyd yn wir am y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ond hefyd ein cyfraniad at yr ymchwiliad i geisio gwneud yn siŵr bod y ffordd y cynhelir yr ymchwiliad—i wneud yn siŵr ei fod wir yn rhoi cyfleoedd go iawn i bobl i gymryd rhan mewn darparu tystiolaeth, a hefyd y gallwn ni fod yn gyfrwng defnyddiol er mwyn darparu gwybodaeth i gael ei deall a’i lledaenu mor eang ag y bo modd.
Ond rwy’n meddwl ei bod yn werth i Aelodau edrych ar y ddogfen ymgynghori. Mae'n syml, ond, rwy’n meddwl, yn bwysig. Rwy’n meddwl ei bod wedi’i hysgrifennu'n dda iawn, a dweud y gwir, gan ofyn i bobl am sut yr hoffen nhw gyfrannu at yr ymchwiliad, ac mae'n ymdrin â'ch pwynt penodol chi am y cyfnod amser hefyd, ac yn gofyn i bobl pa gyfnod o amser y dylai’r ymchwiliad bwysleisio arno. Mae hynny’n cyfrannu at hyd amserlen yr ymchwiliad. Mae pobl eisiau cael y gwir am y mater, nid dim ond am yr hyn a ddigwyddodd yn yr 1970au a'r 1980au, ond hefyd beth ddigwyddodd wedyn pan oedd y Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—Llywodraeth y DU oedd hi ar y pryd; doedd gennym ni ddim datganoli bryd hynny—beth yr oeddent yn ei wybod, neu beth dylent fod wedi’i wybod, a beth ddigwyddodd wedyn â’r wybodaeth honno a ddylai fod wedi bod yno, neu a oedd yno, ac a weithredwyd arni, a beth ddigwyddodd wedyn bryd hynny. Mae hynny'n glir, rwy’n meddwl: bydd rhaid i’r ymchwiliad ystyried hynny, ac yn amlwg bydd hynny'n arwain at ymchwiliad sydd ddim yn mynd i gael ei wneud mewn cyfnod o rai wythnosau. Felly, bydd yn cymryd amser sylweddol. Yn y llythyr i randdeiliaid, yn union fel y mae Langstaff wedi’i nodi—hyd yn oed cyn y clywir tystiolaeth lafar, bydd yn rhaid bod wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes, a’r angen i fynd drwy ddogfennau a deall yr hyn sydd eisoes yn bodoli ac sydd ar gael, yn ogystal â gwrando ar randdeiliaid, yn ogystal â gwrando ar bobl fel Hemoffilia Cymru, unigolion, a’r grwpiau trawsbleidiol yn y gwahanol seneddau a chynulliadau ledled y Deyrnas Unedig.
O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl cyfrannu’n ffurfiol at ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud y peth iawn i bobl yma yng Nghymru, a dyna pam, pan ydym ni wedi gwneud ein hymyriadau ar sail drawsbleidiol, neu, yn wir, pan mae’r Llywodraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym ni wedi gwneud hynny drwy wrando ar bobl yng Nghymru yn gyntaf yn hytrach na phenderfynu dros bobl beth yr ydym yn meddwl sydd orau ar eu cyfer. Mae gennym grŵp mor amlwg o deuluoedd ac unigolion yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol; rhaid iddo fod yn iawn ein bod yn gwneud ein gorau i eirioli ar eu rhan a cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn cael y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Felly, byddaf yn gwrando cyn i Lywodraeth Cymru ymateb yn ffurfiol i'r cylch gorchwyl. Byddwn yn ei gweld yn ddefnyddiol cael clywed gan y grŵp trawsbleidiol ac, yn wir, gan Hemoffilia Cymru a phartïon eraill â diddordeb ynghylch beth y maen nhw'n ei feddwl, a gweld yr ateb a roddir, cyn i’r Llywodraeth, wrth gwrs, roi sylw. Ac fel y dywedais yn fy natganiad cychwynnol, rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw wybodaeth sydd gennym, ac am hynt yr ymchwiliad, ond rwy’n mawr obeithio bod cyfraniadau uniongyrchol, nid dim ond ar adeg y cylch gorchwyl, ond drwy gydol oes yr ymchwiliad, fel y caiff yr Aelodau eu hysbysu’n uniongyrchol am amserlenni a chynnydd.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch i'r unigolion sydd wedi dioddef ac ymgyrchu’n frwd ar y pwnc hwn.
Rwy’n croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff a'r ffaith y bydd yn gadeirydd llawn-amser ar yr ymchwiliad. Y sgandal gwaed halogedig yw un o'r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith bod pobl a oedd yn ceisio cymorth gan y gwasanaeth iechyd wedi dod i gysylltiad â firysau marwol yn ddigon brawychus, ond mae'r ffaith nad ydynt wedi cael esboniad priodol ynglŷn â sut y caniatawyd i hynny ddigwydd yn anfaddeuol. Mae Mr Ustus Langstaff yn amlwg yn bwriadu unioni'r cam. Mae wedi addo archwiliad trylwyr o'r dystiolaeth y tu ôl i'r sgandal mawr. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith ei fod wedi dweud bod angen i’r broses arwain at adroddiad llawn o fewn yr amserlenni byrraf posibl i gael y fath drylwyredd. Mae hyn i'w groesawu'n fawr iawn. Mae'n siomedig ei bod yn dal i fod wedi cymryd bron i flwyddyn i gychwyn yr ymchwiliad ar ôl i’r Llywodraeth wneud y cyhoeddiadau. Mae dioddefwyr y sgandal yn dal i farw, a’r hiraf y bydd hyn yn parhau, y mwyaf o ddioddefwyr fydd ddim yn cael atebion a chyfiawnder. Yn wir, yn yr un amser ers y cyhoeddwyd yr ymchwiliad, yn anffodus mae 60 o ddioddefwyr eraill wedi marw. Rwy’n ddiolchgar bod Mr Ustus Langstaff yn cydnabod hyn ac wedi dechrau’r ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl cyn iddo gymryd y swydd lawn-amser ar 1 Mai. Rwyf hefyd yn ddiolchgar ei fod yn ymgynghori â’r dioddefwyr a'u teuluoedd—rhai fel fy ffrind Faye Denny; mae ei brawd hi nawr yn anffodus wedi marw. Mae hynny'n golygu na chaiff Owen Denny yr atebion na’r cyfiawnder y mae'n eu haeddu, ond gobeithio y caiff Faye.
Mae gennyf gwpl o gwestiynau, Ysgrifennydd Cabinet. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl eraill a gafodd waed halogedig a ddaliodd haint ond sydd heb gael diagnosis eto. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu i ganfod y dioddefwyr hyn, ac a ydych wedi trafod hyn gyda Mr Ustus Langstaff? Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i roi cyhoeddusrwydd i'r ymchwiliad a hwyluso sesiynau tystiolaeth yng Nghymru? Beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo'r ymchwiliad i ymchwilio i’r rhan a chwaraeodd yr Athro Arthur Bloom a chanolfan hemoffilia Caerdydd o ran dod â phobl â hemoffilia i gysylltiad â HIV a hepatitis C? Roedd yr Athro Bloom yn ymwybodol iawn o risgiau rhoi ffactor halogedig. Dywedodd:
'Felly mae'n bwysig iawn canfod drwy gynnal astudiaethau ar fodau dynol i ba raddau mae heintusrwydd y gwahanol grynodiadau wedi gostwng. Y ffordd gliriaf o wneud hyn yw drwy roi’r crynodiadau hynny i gleifion sydd angen triniaeth sydd ddim wedi dod i gysylltiad yn flaenorol â chrynodiadau cronfa fawr.'
Credir ei fod wedi arbrofi ar gleifion yn y ganolfan hemoffilia yng Nghaerdydd sydd heddiw’n dwyn ei enw. Ni ellir galw ar yr Athro Bloom i roi tystiolaeth, oherwydd bu farw yn 1992, ond a allwch ein sicrhau y bydd ei holl nodiadau a’i gofnodion o'r ganolfan ar gael i'r ymchwiliad?
Diolch unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy’n gwerthfawrogi popeth yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod y dioddefwyr a'u teuluoedd yn cael yr atebion sydd eu angen arnynt a’r cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r ddau faes penodol o gwestiynau. O ran canolfan hemoffilia Caerdydd a’i hymarfer, ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Angela Burns a Rhun ap Iorwerth: y bydd unrhyw gofnodion neu wybodaeth y mae GIG Cymru yn eu cadw ar gael i'r ymchwiliad. Does dim ymgais i geisio cuddio oddi wrth hyn o gwbl, a rhaid i’r ymchwiliad a’r rhanddeiliaid unigol a fydd yn rhoi eu tystiolaeth roi hynny o flaen yr ymchwiliad, ac yna rhaid i’r ymchwiliad ffurfio casgliadau.
O ran y pwynt am ddioddefwyr heb gael diagnosis, ac ystyried faint o amser y byddai wedi mynd heibio ers y posibilrwydd iddynt ddod i gysylltiad â hyn, byddwn yn disgwyl y byddai'n weddol anarferol i bobl fod heb symptomau ar hyn o bryd a heb gael diagnosis. Allwch chi ddim osgoi'r posibilrwydd o reidrwydd, ond o gofio ein bod yn sôn am gymuned benodol o bobl a fydd wedi cael cynhyrchion gwaed, byddwn yn disgwyl y byddai pobl yn ymwybodol. Os daw pobl eraill ymlaen, byddwn yn gwybod, ond does dim rhaglen benodol ar hyn o bryd i geisio mynd drwy hynny a chwilio am ddioddefwyr sydd heb gael diagnosis. Nid yw hynny'n fater yr wyf wedi’i drafod gyda Mr Ustus Langstaff. A dweud y gwir, rwy’n meddwl, o ystyried yr hyn yr ydym yn gwybod ei fod wedi digwydd a nifer y bobl y mae wedi effeithio arnynt, mae gennym lawer o waith i'w wneud eisoes, a byddai unrhyw wersi o'r ymchwiliad hwn yr un mor berthnasol i unrhyw un sy'n dod ymlaen yn ddiweddarach y gallai fod y sgandal a ddigwyddodd yn yr 1970au a'r 1980au wedi effeithio arnynt ond heb iddynt gael diagnosis.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, sydd i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros ymchwiliad cyhoeddus ers 20 mlynedd, ac mae'r ffaith ei fod wir yn digwydd nawr yn fater o—wyddoch chi, rwyf mor falch ei fod yn digwydd. A'r peth allweddol nawr yw gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn dod allan ohono, i ddiweddu pethau i'r holl bobl hynny yr ydym wedi gwrando arnynt gynifer o weithiau yn yr adeilad hwn, a’r holl emosiwn a fu yno sy'n gwneud i chi sylweddoli, bron iawn ag anobaith, beth sydd wedi ei wynebu. A diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am rannu hynny ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rwy’n meddwl ein bod wedi gallu gweithio mewn ffordd wirioneddol drawsbleidiol, ac mae'n dda iawn, rwy’n meddwl, bod y Llywodraeth a'r grŵp trawsbleidiol, a Hemoffilia Cymru—fel, rwy’n meddwl, y dywedodd Rhun yn ei gyfraniad—i gyd wedi cymryd safiad unedig, ac rwy’n meddwl ein bod wedi bod yn allweddol iawn o ran sicrhau ei fod yn ymchwiliad statudol a’i fod wedi’i arwain gan farnwr, ac rwy’n sicr yn croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff.
Mae wedi’i nodi eisoes bod cynifer o bobl wedi marw yn ystod y cyfnod hwn—70 o bobl yng Nghymru—a bydd Hemoffilia Cymru yn mynd i fyny i San Steffan yfory i gwrdd â Mr Ustus Langstaff i gyflwyno eu hachos. Wrth edrych yn ôl ar hanes Hemoffilia Cymru, cafodd ei ddechrau yn 2003, ond yn 2010, roedd rhaid iddo ddod i ben oherwydd roedd y chwe aelod sefydlol i gyd wedi marw, a dyna fu hanes y bobl yr wyf wedi eu gweld yn ystod yr ymgyrch hon sydd wedi marw ar y ffordd. Ond wedyn, wrth gwrs, cafodd ei ailsefydlu yn 2014 gan Lynne Kelly, sydd wedi arwain yn ysbrydoledig ers hynny, rwy’n credu.
Felly, rwy’n meddwl ein bod ar adeg hollbwysig ac nawr rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y pethau cywir yn dod allan o'r ymchwiliad hwn. Rwy’n gwybod bod rhai o'r materion y mae Hemoffilia Cymru yn pryderu amdanynt—mae rhai o'r rhain wedi cael eu crybwyll eisoes—yn bryderus iawn am swyddogaeth y Swyddfa Gymreig ar y pryd; Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cymru; Prif Swyddog Meddygol Cymru; rhaid ystyried ystyriaethau iaith Gymraeg, yr ydych chi wedi sôn yn benodol amdanynt; y dogfennau coll; cofnodion meddygol; camymddwyn gan gyrff a sefydliadau cyfrifol; gwrthdaro buddiannau a buddiannau masnachol sydd gan gyrff cyfrifol. Dyma rai o'r materion y bydd Hemoffilia Cymru yn eu codi gyda'r Cadeirydd, Mr Ustus Langstaff.
Felly, nid wyf yn gwybod a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall i'w ychwanegu ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â'r materion penodol hynny. Rwy’n falch y byddwn yn cael grŵp trawsbleidiol arall ar 24 Ebrill, pan rwy’n gobeithio y cawn holl fanylion yr hyn y mae gan y bobl yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan hyn i’w ddweud am sut y dylem ni symud ymlaen yn yr ymchwiliad hwn. A hoffwn orffen, a dweud y gwir, drwy ddweud fy mod i'n meddwl ei bod yn gwbl deg mai nhw yw’r bobl a ddylai ein tywys a’n harwain yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rwy’n meddwl, hyd yma, bod hynny wedi digwydd, a hoffem i hynny barhau i ddigwydd tra mae'r ymchwiliad hwn yn mynd ymlaen.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, Julie Morgan. Mae angen inni wrando ar safbwyntiau'r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, a chael ein harwain ganddynt. Mae hyn yn ymwneud â’r hyn sydd wedi digwydd i’w bywydau nhw, gan gynnwys y teuluoedd a gafodd eu gadael ar ôl, yn ogystal â’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma a nawr. Mae’r pwynt ynghylch y ffaith bod pobl wedi marw eisoes yn un teg, ac rwy’n ei ddeall, ac mae'n rhywbeth yma am feddwl am y cylch gorchwyl unwaith eto, ac yn wir, yn ei lythyr ataf, dywedodd Ustus Langstaff ei fod yn ymwybodol iawn o'r angen i daro cydbwysedd rhwng ymchwiliad trylwyr a’r hyn y gellir ei gyflawni mewn cyfnod rhesymol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r ymchwiliad hwn, o ystyried iechyd gwael llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt, a rhaid inni feddwl am y pwynt hwnnw, a dweud y gwir, a chyflwyno barn am yr amser a gymer yr ymchwiliad, ar hyd a lled y cylch gorchwyl. Ond y ffordd orau o ddeall sut i gydbwyso'r rheini yw drwy wrando ar y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol, a phe byddai’n well ganddyn nhw gael ymchwiliad hirach, mwy trylwyr, dyna beth rwy’n credu y dylem ni fod yn gofyn amdano. Os mai eu barn nhw, yw, fodd bynnag—a bydd y farn hon yn amrywio, fel yr wyf wedi’i ddweud yn gynharach; ni allwch ddisgwyl i bawb gytuno ar bob agwedd ar y telerau a hyd yr amser. Os mai’r farn amgen gan y rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid yma yng Nghymru, y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, yw y byddai'n well ganddynt ymchwiliad sydyn, penodol a fydd yn digwydd dros gyfnod byrrach, gan dynnu sylw at nifer llai o faterion, yn amlwg dyna beth y dylem ni ofyn amdano. Ond fy ofn i yw nad yw’n debygol y bydd gennym gymuned a fydd eisiau deall y gwir. Ar ôl brwydro cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn, rwy'n meddwl eu bod yn fwy tebygol o ofyn inni fynd a gofyn am ymchwiliad llawnach yn hytrach nag un byrrach a chliriach. Ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n ddewis hollol resymol i’w wneud.
Unwaith eto, pan ddywedaf y bydd swyddogaeth cyfranogwyr yma yng Nghymru yn rhan o'r ymchwiliad hwn, byddwn yn darparu’r wybodaeth sydd gennym ac y gallwn ei darparu i'r ymchwiliad. Rhan o'r hyn y mae’r ymgynghoriad yn ei ofyn—mae'n gofyn am y perygl posibl o wrthdaro masnachol wrth wneud penderfyniadau yn y gorffennol. Felly, mae’r meysydd ymchwilio hynny eisoes wedi cael sylw, a'r her yw sut i ysgrifennu'r rheini mewn cylch gorchwyl mewn ffordd lle y maent yn ystyrlon ac wedyn gall yr ymchwiliad roi sylw iddynt, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd yn hawdd wedyn rhoi sylw i rywbeth sydd ddim o fewn y cylch gorchwyl. Bydd yn rhaid inni ddiwygio'r telerau drwy gytuno eto gyda'r Gweinidog yn nes ymlaen, ac rwy'n meddwl bod hynny'n anodd. Felly, mae angen inni fod ychydig yn ofalus am y peth.
Unwaith eto, hoffwn i ailddatgan i bobl bod yr ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl yn rhywbeth y byddwn yn sicr yn disgwyl i’r grŵp trawsbleidiol roi sylw iddo, a rhoi cyflwyniad amdano. Bydd y Llywodraeth yn gwneud cyflwyniad i’r ymchwiliad hefyd. Y grŵp trawsbleidiol y byddwch yn ei gynnal ar 24 Ebrill—wrth gwrs, mae ymgynghoriad y cylch gorchwyl yn cau ar 26 Ebrill, felly mae'n bosibl y gallai'r grŵp trawsbleidiol gytuno ar ymateb i'r ymgynghoriad yn eu cyfarfod ar 24 Ebrill. Byddai’n ymddangos yn briodol gwneud hynny gyda nifer llawn o bobl o amgylch bwrdd o'r partïon a rhanddeiliaid allanol hefyd.
Ailadroddaf fy ymrwymiad i barhau i fod mor gymwynasgar a chadarnhaol, o safbwynt y Llywodraeth, i barhau i roi gwybodaeth yn rheolaidd i Aelodau, ond yn arbennig, fel yr ydych wedi ei ddweud, Julie Morgan, i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi gwneud cymaint i wneud yn siŵr bod yr ymchwiliad yr ydym ni nawr yn mynd i’w gael wedi digwydd yn y lle cyntaf.
Diolch. Ac, yn olaf, Jane Hutt.
Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a chroesawu’r canlyniad cadarnhaol iawn, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu. Yn wir, rwy’n cofio’r ymgyrchu’n dechrau pan oeddwn i'n Weinidog iechyd yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwyf wedi bod yn cefnogi fy etholwyr, fel y mae llawer ar draws y Siambr hon, ac rwyf eisiau sôn dim ond am Pat a Tony Summers—eu cefnogi dros y blynyddoedd, ar ôl marwolaeth drist a chynamserol eu mab gwych, Paul, yn 2008; ac, wrth gwrs, eu hurddas drwy eu galar, a'u hymrwymiad i gefnogi cyfiawnder, nid dim ond o ran eu mab a'i deulu, ond ar ran pawb sydd wedi dioddef oherwydd y sgandal hon.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd erbyn hyn, ond gynt yr Aelod Seneddol dros yr etholaeth; mae hi wedi gwasanaethu’r etholaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hi wedi cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Rwy’n credu, Rhun ap Iorwerth, eich bod yn llygad eich lle mai’r disgwyl oedd y dylai fod yn wirioneddol drawsbleidiol, a dyna sut y mae Julie wedi ei arwain, ond gyda'r canlyniad pwysig hwnnw, gan weithio'n agos iawn â Hemoffilia Cymru.
Rwy’n falch bod Tony Summers yn rhan o'r ddirprwyaeth gyda Hemoffilia Cymru yfory i gyfarfod â’r barnwr yr Ustus Langstaff, a fydd yn cynnal yr ymchwiliad i’r sgandal gwaed heintiedig. Rwy’n croesawu eich ymateb heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol o'r grŵp trawsbleidiol nesaf, eich bod eisiau ystyried yr adborth, a byddwn yn gofyn ichi gadarnhau unwaith eto y byddwch eisiau cyfarfod i glywed gan y ddirprwyaeth honno yn hytrach nag aros tan y grŵp trawsbleidiol nesaf, oherwydd rwy'n siŵr y byddan nhw eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac ysgrifennu atoch. Ac, yn sicr, byddant yn hysbysu Julie Morgan ac aelodau'r grŵp trawsbleidiol. A gaf i hefyd ddiolch ichi am sôn yn eich datganiad am yr holl rannau eraill o'r gwaith y mae’r grŵp trawsbleidiol hwnnw wedi’i wneud, gan gynnwys cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru? Efallai y gallech chi hefyd ddweud rhywbeth am sut y mae'r cynllun hwnnw wedi cynorthwyo perthnasau mewn profedigaeth hefyd.
Ydy, rydych chi'n iawn, mae hi wedi bod yn ymgyrch hir, i feddwl yn ôl at y dyddiau pan oeddwn yn ddyn hyd yn oed yn iau —hyd yn oed yn iau: dim blew gwyn yn fy marf—pan grëwyd y lle hwn yn gyntaf. Mae’r ymgyrch wedi bod yn mynd ymlaen ers amser hir iawn. Fel y nododd Julie Morgan, pan oedd y sylfaenwyr wedi mynd, roedd yn rhaid ailgychwyn yr ymgyrch. Mae Julie yn berffaith iawn bod nifer o bobl wedi sôn am Lynne Kelly a'r gwaith y mae hi wedi'i wneud—unwaith eto, enghraifft dda o rywun nad yw wedi bod ofn bod yn anodd, o bryd i'w gilydd, i wneud yn siŵr nad yw'r mater yn cael ei anghofio—ac ymrwymiad anhygoel unigolion i wneud yn siŵr nad yw’r mater yn cael ei anghofio a’i oddiweddyd gan hanes fel nad yw’n bwysig mwyach. Mae llawer o bobl yn dal i fyw gyda'r hyn a ddigwyddodd, ac yn byw gyda’r etifeddiaeth, yn uniongyrchol fel unigolion, neu eu teuluoedd, yn sicr, hefyd. Rwy’n gwybod y bydd gan y rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom, yn yr ystafell hon etholwyr yr effeithiwyd arnynt. Mae gen i yn sicr, ac rwy’n meddwl y byddai bron pawb yn yr ystafell hon yn dod o hyd i rywun hefyd. Unwaith eto, bydd pobl fel Julie Morgan ac eraill sy'n dal i fod yn y Senedd nawr yn parhau i ymgyrchu dros y mater hwn, ac unwaith eto, un o gryfderau’r ymgyrch yw ei bod yn wirioneddol drawsbleidiol.
O ran y cyfarfod â Hemoffilia Cymru, wrth gwrs, rwy’n disgwyl i swyddogion barhau i gwrdd â Lynne Kelly a Hemoffilia Cymru. Rwy’n disgwyl cyfarfod â nhw eto cyn i’r Llywodraeth ymateb i gylch gorchwyl yr ymgynghoriad hefyd. Mae hynny'n gyson â’r ffordd yr ydym ni wedi ceisio ymddwyn dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig ers imi fod yn fy swydd. Rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn siarad ac yn gwrando. Nid yw'n golygu ein bod bob amser wedi cytuno ar bob mater, ond rydym wedi gwrando. Mae cymorth mewn profedigaeth yn enghraifft dda o faes lle’r ydym ni wedi newid cynigion gwreiddiol yn ein cynllun i wneud yn siŵr bod pobl sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar yn cael mwy o gefnogaeth. Roedd hwnnw’n ddewis bwriadol gennym oherwydd bod barn mor gryf ac unffurf, gan gynnwys gan bobl nad oedd hyn wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt—roeddent yn meddwl mai dyna oedd y ffordd iawn i geisio gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei flaenoriaethu i gefnogi pobl. Felly, cefnogi pobl oedd ein man cychwyn ar y rhan benodol honno o'r daith. Dyna sut y dylem ni barhau i ymddwyn wrth inni barhau i symud tuag at wrandawiadau ffurfiol yr ymchwiliad hwn. Ond, cynnydd hyd yn hyn— ac rwy’n siŵr y byddwn yn edrych ymlaen at glywed am fwy o gynnydd gweithredol wedi i'r Ustus Langstaff ddechrau’n iawn, ar ôl cytuno ar y cylch gorchwyl.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Galwaf ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6686 Mark Drakeford
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i agor y drafodaeth hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) drwy gydnabod yr her sylweddol a oedd yn wynebu Aelodau'r Cynulliad wrth geisio mynd i'r afael â darn mor gymhleth o ddeddfwriaeth arfaethedig mewn cyfnod mor fyr o amser.
A gaf i ddechrau, yn erbyn y cefndir hwnnw, Dirprwy Lywydd, drwy dalu teyrnged i waith y ddau bwyllgor Cynulliad sydd wedi cael cyfle i ystyried rhywfaint ar y Bil? Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ac Aelodau'r pwyllgor hwnnw am fod yn barod i roi sylw i gyfres o faterion pwysig iawn yn y Bil ar sail y Bil drafft a gyhoeddwyd. Rwy'n credu y bydd yr ystyriaeth honno yn helpu'r Aelodau y prynhawn yma, ac roeddwn i'n falch iawn o'r cyfle i'w drafod gyda nhw.
A gaf i ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n credu bod y Cynulliad hwn wedi elwa'n fawr ar wasanaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil hwn? Llwyddodd i ymgymryd â chyfres o sesiynau craffu manwl ddoe, ond yn fwy na hynny mae wedi llwyddo i gynhyrchu adroddiad er budd Aelodau lai na 24 awr ar ôl cynnal y gwrandawiadau hynny. Gofynnir imi yn yr adroddiad hwnnw i ymateb i dri mater yn benodol yn ystod y ddadl hon yng Nghyfnod 1. Rwy'n hapus iawn i geisio gwneud hynny. Ceir nifer o argymhellion eraill. Gyda swyddogion a chydweithwyr yn y Cabinet, byddaf yn edrych ar yr argymhellion hynny gyda chryn frys. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw gan nodi ymateb y Llywodraeth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Llywydd, wedi dweud bod y Bil yn ddarn cymhleth o gyfraith, dylwn ddweud, yn ei amcanion eang—yn wir, yn ei egwyddorion cyffredinol—fy mod yn credu ei fod yn glir ac yn syml. Ei fwriad yw ymdrin â'r canlyniadau anochel mewn cyfraith ddomestig a ddaw yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd gan gadw cyfraith yr UE sy'n cwmpasu meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru. Bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud addasiadau angenrheidiol i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n cwmpasu'r meysydd hyn yn gweithio'n effeithiol pan ddaw hi'n bryd i ymadael.
Llywydd, nid yw'r amser sydd ar gael yn caniatáu esboniad manwl o bob darpariaeth yn y Bil, ond er mwyn ceisio llywio dadl heddiw, soniaf yn fras am rai o'r prif gynigion a osodwyd ynddo.
Mae Adrannau 3, 4 a 5 yn hanfodol i ddeall y Bil. Cyfeirir at yr hyn sy'n tarddu ohonynt gyda'i gilydd wrth yr enw 'Cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE', sef fersiwn Gymreig ddatganoledig yr hyn sy'n cyfateb i 'gyfraith yr UE a ddargedwir' Bil (Ymadael) yr Undeb Ewropeaidd. Mae Adran 3 yn galluogi gwneud rheoliadau sy'n cynnwys darpariaeth sy'n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE. Byddai'r pŵer yn adran 3, er enghraifft, yn golygu cymryd Rheoliadau'r UE a'u haddasu fel eu bod yn gweithio mewn cyd-destun domestig, ac wedyn eu cynnwys mewn cyfres o Reoliadau ar gyfer Cymru.
Mae adran 4 yn darparu ar gyfer ailsefydlu deddfwriaeth ddomestig sydd wedi deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, mae rhan 5 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Pysgodfeydd Môr (pysgod cregyn) 1967 i sicrhau gwarchodaeth barhaus y safleoedd morol Ewropeaidd. O dan adran 4, byddem yn ailddatgan darpariaethau perthnasol y Ddeddf honno, sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Unwaith eto, efallai y byddai angen gwneud rhai addasiadau angenrheidiol yn rhan o'r broses honno, ac mewn ymateb i argymhelliad 1 adroddiad y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol, gallaf gadarnhau y prynhawn yma bod modd defnyddio'r pŵer yn adran 4 i wneud addasiadau neu ddarpariaethau pellach dim ond i sicrhau bod y ddeddf sy'n cael ei hailddatgan yn gweithio'n effeithiol.
Gallwn ddweud hefyd, Llywydd, o ran argymhelliad 2 adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ein bod ni wedi rhoi ystyriaeth ofalus i farn y Pwyllgor a'r Cynulliad ehangach wrth baratoi ein Bil. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngu ar gwmpas y pwerau, gan ystyried y pryderon a grybwyllwyd ynglŷn â hyd a lled pwerau ym Mil ymadael yr UE. Felly, i ateb yn uniongyrchol y cwestiwn a ofynnwyd yn yr ail argymhelliad hwnnw, yn gyffredinol, mae'r pwerau yn y Bil hwn yn fwy cyfyngol na'r pwerau ym Mil ymadael yr UE.
Mae adran 5 y Bil yn ymdrin â deddfwriaeth sydd wedi bod o dan y pwerau sy'n gysylltiedig â'r UE. Y prif bŵer a ddefnyddir ar gyfer gweithredu'r rhwymedigaethau i'r UE yw adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Caiff y Ddeddf honno ei diddymu gan Fil ymadael yr UE. Bydd y pŵer yn adran 5 yn fodd o gadw'r holl ddeddfwriaeth a wnaed o dan adran 2(2) mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.
Mae adrannau 6, 7 ac 8 y Bil wedyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE a luniwyd o ganlyniad i adrannau 3, 4 a 5. Maen nhw'n cynnwys darpariaethau ar gyfer heriau cyfreithiol mewn cysylltiad â'r gyfraith honno, dehongliad o'r gyfraith honno, a rheolau tystiolaeth i gynorthwyo llysoedd wrth ystyried y gyfraith honno.
Trof yn awr, Llywydd, at adran 11 o'r Bil. Mae hon yn darparu pŵer caniataol i'n galluogi i gynnal cyfochri rheoleiddiol â'r Undeb Ewropeaidd. Mae busnesau wedi dweud wrthym ni'n gyson pa mor bwysig iddyn nhw yw mynediad parhaus at farchnad yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ein polisi, a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru yn ein dogfen sylfaenol, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn hysbys iawn. Diben y polisi hwnnw yw sicrhau cyfochri rheoleiddiol parhaus ar ôl Brexit er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn a dilyffethair yn y farchnad sengl. Bydd adran 11 y Mesur yn galluogi hynny i ddigwydd yn ddidrafferth mewn achos cyfraith sydd o fewn y cymhwysedd datganoledig.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Ie, fe roddaf saib i'ch llais; ymyriad meddygol yw hwn.
Ond wrth gyfeirio at argymhelliad 3 o adroddiad ardderchog y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a gaf i ofyn i chi ddilyn y geiriad yn argymhelliad 3, a gofyn i chi gyfiawnhau, yn ystod y ddadl hon, pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri rheoleiddiol ar sail achos wrth achos, yn hytrach na'r is-ddeddfwriaeth a ragwelir ar hyn o bryd o dan yr adran 11 hon?
A gaf i ddiolch i Dr Lloyd am yr ymyriad yna? Fe wnaf i ateb y pwynt hwnnw'n uniongyrchol ac ar unwaith, Llywydd, oherwydd o ran argymhelliad 3 adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol sy'n gofyn am gyfiawnhad o'r pwerau yn adran 11 y Bil, cyfiawnhad mawr dros fod angen y pwerau hyn ar hyn o bryd yw oherwydd swmp yr is-ddeddfwriaeth yr ydym yn debygol o'i wynebu.
Bydd y Cynulliad hwn yn ymwybodol o nifer yr offerynnau statudol a wneir bob blwyddyn yng Nghymru i roi Cyfarwyddebau'r UE ar waith. Os ydych chi wedyn yn ychwanegu rheoliadau niferus yr UE, penderfyniadau yr UE a deddfwriaeth drydyddol yr UE sy'n cael ei mabwysiadu bob blwyddyn gan yr UE, yna yn gyflym iawn bydd gennym ni ddarlun gwell o'r nifer fawr o newidiadau deddfwriaethol y byddai eu hangen bob blwyddyn os ydym ni'n mynd i lwyddo yn ein nod o sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i farchnadoedd yr UE ar gyfer busnesau Cymru.
Er mwyn bod yn sicr y gallwn ni ddarparu'r parhad hwnnw a'r mynediad parhaus hwnnw i farchnadoedd yr UE ar gyfer ein busnesau, rwy'n credu bod y pwerau yn adran 11 yn angenrheidiol yn y dyfodol agos. Gwelaf argymhellion pellach yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â gosod terfyn amser ar y pwerau hynny, a gallaf ragweld adeg yn y dyfodol, fel y dywedodd Dr Lloyd, ble y gallai hi fod yn bosibl drwy ddeddfwriaeth sylfaenol i gydymffurfio â'r newidiadau hynny yng nghyfraith yr UE y byddem yn dymuno cydymffurfio â nhw yn y dyfodol. Yn y tymor byr, fodd bynnag, bydd llawer o waith i'w wneud ble rwy'n credu bod modd cyfiawnhau'r pwerau yn adran 11.
Diben adrannau 13 a 14 y Bil, Llywydd, yw mynd i'r afael â mater sydd wedi dod i'r amlwg yn y ddadl ynglŷn â Bil ymadael yr UE, sef y risg y gellid rhoi pwerau Harri'r VIII i Weinidogion y Goron i newid deddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig heb unrhyw sylwadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru na'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r adrannau hyn yn creu sefyllfa sylfaenol pryd y byddai'n rhaid i Weinidogion y DU geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru wrth lunio is-ddeddfwriaeth ar faterion datganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE. Fel y dywedodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn hollol gywir, rydym wedi bod yn llunio'r ddeddfwriaeth hon dros yr 20 mlynedd diwethaf. Felly, mae gennym ni'r wybodaeth yn y fan yma i wneud y cywiriadau synhwyrol a fydd yn ofynnol i gyfraith yr UE mewn meysydd datganoledig.
A gaf i droi yn olaf at fater craffu, Llywydd? Credaf fy mod yn iawn wrth ddweud bod Atodlen 2 y Bil yn rhoi cyfle i graffu yn fwy manwl nag a wnaed erioed o'r blaen ar Ddeddf gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn nid yn unig yn amlygu'r amgylchiadau anarferol yr ydym yn canfod ein hunain ynddyn nhw, ond mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i swyddogaeth hanfodol craffu o ran sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth orau bosibl ei llunio yn y fan yma.
Wrth gwrs, mae ffordd arall y gellid cael sicrwydd cyfreithiol ac osgoi dryswch: y ffordd honno fyddai i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn ffordd sy'n rhoi dilyniant cyfreithiol ac sydd ar yr un pryd yn parchu ein setliad datganoledig yn briodol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir drwy gydol y broses mai dyma fyddai ein canlyniad delfrydol, ond ni fydd angen atgoffa dim ar yr Aelodau bod Bil ymadael yr UE Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn siomedig o ddiffygiol o ran parchu datganoli. Mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Alban, rydym ni wedi gweithio'n ddiflino i wneud i Lywodraeth y DU ddeall a chanolbwyntio ar bwysigrwydd y setliadau datganoledig ac i gytuno ar y gwelliannau angenrheidiol i Fil ymadael yr UE, a byddwn yn parhau i weithio yn y ffordd honno hyd yr eiliad olaf bosib.
Llywydd, yn olaf, o ran y ddadl ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol, tybed a gaf i ddarllen, ar gyfer Aelodau nad ydyn nhw efallai wedi cael cyfle i'w weld hyd yn hyn, dim ond tri pharagraff o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sydd rwy'n credu yn crynhoi'r rheswm pam yr wyf credu y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn barod i'w gefnogi ar y cam hwn.
Yn gyntaf oll, derbyniodd y Pwyllgor
'bod angen am y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd'
Cyfeiriodd at y ffaith bod
'Gadael yr UE wedi codi cwestiynau cyfansoddiadol difrifol'.
Mae'n nodi bod
'Yn ei ffurf bresennol, mae Bil yr UE (Ymadael) yn methu â diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn meysydd datganoledig'
Ac yn y cyd-destun hwnnw, dywed y Pwyllgor,
'rydym yn derbyn bod angen Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd er mwyn amddiffyn pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn meysydd datganoledig.'
Yn olaf, dywed y Pwyllgor
'nodwn fod y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn ddull o lenwi'r bwlch deddfwriaethol os na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i Fil yr UE (Ymadael).... Yn ein barn ni'—
mae'r pwyllgor yn dweud—
'gan nad oes unrhyw gynllun arall ar gyfer ymdrin â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i beidio â rhoi cydsyniad, mae hyn'—
sef y Bil—
'yn ddull synhwyrol a chyfrifol'.
Gobeithio y bydd yr Aelodau yn fodlon ei gefnogi y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Llywydd. Ers cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf y llynedd, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi gwneud rhywfaint o waith craffu manwl ar y Bil ymadael a'i oblygiadau ar gyfer Cymru. Yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru baratoi Bil parhad fel sefyllfa wrth gefn pe na byddai Llywodraeth y DU yn parchu'r setliad datganoli yn y Bil ei hun. Roeddem ni, bryd hynny, yn gobeithio'n ddiffuant na fyddai hyn yn angenrheidiol. Mae'n anffodus iawn bod y sefyllfa wrth gefn hon bellach yn angenrheidiol, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddrafftio'r Bil ymadael mewn modd sy'n parchu datganoli mewn gwirionedd ac, ymhellach, yn dilyn gwrthod gwelliannau i'r Bil wrth iddo fynd ar ei hynt drwy'r Tŷ Cyffredin.
Mae'r Pwyllgor Materion Allanol eisoes wedi nodi chwe amcan ar gyfer diwygio'r Bil ymadael, y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn i'r Bil gael cydsyniad y sefydliad hwn. Y dasg o'n blaenau y prynhawn yma, wrth gwrs, yw ystyried egwyddorion y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Llywydd, i gynorthwyo Aelodau yn eu trafodaethau, hoffwn yn fyr gymharu rhai o'r amcanion a nodwyd gennym ni, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael cyfatebiaeth iddynt.
Y gyfres gyntaf gan y Pwyllgor Materion Allanol yw y dylid diwygio'r Bil i ddileu'r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a geir yng nghymal 11 y Bil ymadael. Ein hail amcan oedd sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro cyfreithiau sy'n deillio o'r UE yn yr holl feysydd cymhwysedd sydd wedi'u datganoli.
Mae'r Bil dan sylw y prynhawn yma yn cyflawni'r ddau amcan hyn i ryw raddau, yn y ffaith y bydd unrhyw gyfreithiau'r UE sy'n cael eu trosi i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE y tu hwnt i gwmpas y Bil ymadael a'r cyfyngiadau y mae'n ei osod. Fodd bynnag, nid yw'r Bil fel y'i drafftiwyd yn awtomatig yn cynnig yr amddiffyniad hwn i holl gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE. Mae'n dibynnu ar Weinidogion Cymru yn dewis defnyddio'r pwerau a roddwyd iddynt gan y Bil hwn i drosi, cadw neu ailddatgan cyfreithiau'r UE fel y cânt eu diogelu. Mae honno'n ffordd wahanol o fynd ati yng Nghymru i'r hyn y dewisiwyd ei wneud yn yr Alban, lle mae arnyn nhw eisiau gweld holl gyfreithiau'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma sicrhau'r Cynulliad y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau a ddarperir gan y Bil hwn i drosglwyddo holl gyfreithiau'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE, a byddaf yn rhoi ichi'r rhesymau dros hynny maes o law.
Mae'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a'r DU gan y Bil ymadael yn hynod o eang a phellgyrhaeddol. Er enghraifft, maent yn cynnwys y pŵer i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth, a elwir yn bwerau Harri'r VIII, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei nodi. Er ein bod yn derbyn yr angen i roi'r pwerau eang hyn i Weinidogion, rydym hefyd wedi galw ar i'r pwerau hynny fod yn fwy cyfyng eu cwmpas ar gyfer Gweinidogion Cymru, ac o dan reolaeth. Mae'r Bil hwn yn bodloni'r gofynion llym hynny i ryw raddau, os ydynt yn dymuno newid cyfraith yr UE wrth ei throsglwyddo i gyfraith Cymru o dan adrannau 3, 4 a 5 y Bil hwn, fel mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlygu yn ei sylwadau agoriadol. Fodd bynnag, mae hi'n dal yn bosibl i'r rhain fod yn fwy cyfyng eu cwmpas, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y mater hwn ychydig ymhellach.
Mae'r pwerau a ddarperir i Weinidogion Cymru yn adrannau 9 a 10 y Bil yn adlewyrchu'r pwerau a ddarperir i Weinidogion y DU gan adrannau 8 a 9 y Bil ymadael. Byddent yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth a ystyrir yn briodol ganddynt i weithredu'r cytundeb ymadael, ac i atal achosion o dorri rhwymedigaethau rhyngwladol. Yn amcan 3 y Pwyllgor ynghylch y Bil ymadael, daethom i'r casgliad y dylai'r iaith fod yn fwy penodol a diwygio'r geiriad fel ei fod yn darllen i 'wneud yr hyn sy'n hanfodol', yn hytrach nag 'ystyried yn briodol', er fy mod i yn cydnabod bod llawer o arbenigwyr eraill hefyd yn gwneud sylwadau ar 'fel bo angen', ond mae hynny'n dal yn rhoi rheolaeth dynnach i chi nag y mae 'fel y bo'n briodol'.
Datganodd Amcan 4 o adroddiad y Pwyllgor y dylid diwygio'r Bil ymadael i atal Gweinidogion y DU rhag diwygio cyfreithiau sy'n deillio o'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Fel gydag amcanion 1 a 2, mae'r Bil hwn yn cyflawni'r amcan hwn i ryw raddau, ond mae'n dibynnu yn y pen draw ar Weinidogion Cymru yn dewis trosi holl gyfreithiau'r UE i gyfreithiau sy'n deillio o'r UE, oherwydd os na fyddan nhw'n gwneud hynny gyda'r cyfreithiau i gyd, bydd y rhai na fyddant yn eu trosi yn dod o dan gylch gorchwyl Bil ymadael yr UE. Mae hynny'n golygu na fydd ganddynt y pwerau i'w diwygio yn ddiweddarach, gan y byddant wedi eu trosglwyddo i'r pwerau o dan Fil ymadael yr UE.
Croesawaf gynnwys adrannau 13 a 14 yn y Bil, a fyddai'n ei gwneud hi'n angenrheidiol i Weinidogion Llywodraeth y DU geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn diwygio deddfau sy'n deillio o'r UE mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, fel y mae'r Pwyllgor wedi nodi ar sawl achlysur, byddai'n gyfansoddiadol well pe byddai angen cydsyniad y Cynulliad, ac nid Gweinidogion Cymru, ar Weinidogion y DU.
Roedd amcan 6 o adroddiad y Pwyllgor yn galw ar i'r Cynulliad gael cyfrifoldeb am bennu ei weithdrefnau craffu ei hun ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Bil ymadael. Nid yw'r ffaith fod y Bil hwn ger ein bron i'w ystyried yn rhoi sylw i'r mater hwnnw. Fodd bynnag, mae yn caniatáu i'r Cynulliad benderfynu ar y gweithdrefnau craffu ar gyfer is-ddeddfwriaeth o dan y Bil hwn. Croesawaf y ffaith na fyddai'r weithdrefn negyddol yn cael ei defnyddio o gwbl ar gyfer y rheoliadau a wneir o dan y Bil hwn ac rwy'n credu ei fod yn welliant sylweddol ar yr hyn a gynigir gan y DU, a oedd â llawer iawn, iawn o weithdrefnau negyddol, ac nad oedd yn rhoi cyfle inni graffu ar yr agweddau hynny mewn gwirionedd.
Croesawaf y ffaith fod y Llywodraeth wedi cynnwys gweithdrefn uwchgadarnhaol yn y Bil, a byddaf yn rhoi sylw gofalus iawn i farn cyd-Aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â pha mor briodol neu beidio yw'r cynigion yn hynny o beth. Ac a gaf i hefyd ddiolch ar goedd i'r Pwyllgor hwnnw am y gwaith y mae wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn ar y Bil hwn sydd ger ein bron heddiw?
Serch hynny, nodaf y gofynion ar gyfer rhoi gwybodaeth ychwanegol i Senedd y DU mewn memoranda esboniadol i gynorthwyo gyda'r gwaith o graffu ar offerynnau statudol—mae'n gryfach mewn gwirionedd erbyn hyn yn y Bil ymadael. Yn y Bil hwn, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried efelychu'r pwynt hwnnw.
Llywydd, gobeithiaf yn wir fod Llywodraeth y DU yn gwrando ar farn gyson y Senedd hon ynglŷn â diffygion Bil ymadael yr UE ac a bydd yn gweithredu'n gyflym i wneud y diwygiadau angenrheidiol i'r Bil hwnnw, er nid yw sylwadau a chamau gweithredu diweddar yn rhoi llawer o obaith imi y bydd hynny yn digwydd mewn gwirionedd. Wedyn, os na fydd hynny'n digwydd, bydd y Bil yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma yn hanfodol i warchod cymwyseddau datganoledig y sefydliad hwn, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Bil hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch ichi, Llywydd. A diolch i chi am sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Ar ôl sylwadau manwl iawn Ysgrifennydd y Cabinet a'r Cadeirydd, rwy'n teimlo ychydig fel gwas priodas mewn priodas pan fo'r priodfab wedi dwyn eich araith a gwneud yr holl bwyntiau hynny yr oedd arnoch chi eisiau eu gwneud. Ond a gaf i ddweud, yn ein pwyllgor ni, fe wnaethom ni drin y Bil hwn fel y byddem yn trin unrhyw un arall, sef drwy graffu mor fanwl â phosibl ar y Bil ac i ganolbwyntio mor fanwl â phosibl ar y bwriad yn y Bil ac o ran ei fod yn cyflawni yr hyn y mae yn bwriadu ei wneud? Yn hynny o beth, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith sylweddol y mae'r Clerc ac aelodau o staff cymorth y Pwyllgor wedi ei wneud ac yn wir i'r drafftwyr deddfwriaethol, oherwydd bu hwn yn fater a gafodd ei gwblhau mewn amser byr iawn. Ond rwyf yn credu bod yr adroddiad yn fanwl ac yn ymdrin â'r holl faterion craffu allweddol yr oeddem ni eisiau eu codi.
Dylwn ddweud ar y cychwyn nad oedd ein hadroddiad yn unfrydol. Roedd un aelod nad oedd yn cytuno ag ef, a wna' i ddim achub y blaen ar unrhyw sylwadau y mae fy nghyd-Aelod yn dymuno eu gwneud, felly wna' i ddim dweud mwy ar y pwynt penodol hwnnw. Fe wnaethom ni wyth argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad, fel y dywedais, yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud y penderfyniadau angenrheidiol ynglŷn â'r Bil penodol hwn.
Mae gadael yr UE wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â pha ddeddfwrfa ddylai arfer pwerau mewn meysydd datganoledig ar ôl i'r DU adael yr UE. Hyd nes y gwelwn ni newidiadau i Fil ymadael yr UE, rydym ni wedi derbyn bod angen ar gyfer y Bil hwn, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, ac rydym yn gweld y Bil hwn yn darparu modd o lenwi gwagle deddfwriaethol posibl.
Yn ein barn ni, mae absenoldeb unrhyw gynllun amgen ar gyfer ymdrin â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i wrthod cydsyniad yn golygu bod cyflwyno'r Bil hwn yn ffordd gyfrifol a synhwyrol o fynd ati. Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru hefyd mai'r dewis delfrydol fyddai parhau i warchod datganoli drwy gyfrwng Bil ymadael yr UE, ac rydym yn annog pob plaid i barhau i gydweithio er mwyn sicrhau canlyniad lle y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol fod mewn sefyllfa i roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael. Os na fydd cytundeb, bydd y Bil hwn yn un o'r Biliau pwysicaf erioed i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn graffu arno.
Mae'r un materion o egwyddor yn berthnasol i'r pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil ag sy'n berthnasol i Fil ymadael yr UE, sef na cheir defnyddio pwerau gwneud rheoliadau i newid y cydbwysedd pŵer yn ormodol tuag at lywodraethau ac oddi ar y deddfwrfeydd, mae'n rhaid bod cyfiawnhad clir i bwerau Harri'r VIII ac, o leiaf, dylent fod yn ddibynol ar y weithdrefn gadarnhaol, ac yr ystyrir pwerau gwneud rheoliadau yng nghyd-destun sut y gellid eu defnyddio, nid y bwriad o'u defnyddio.
Dychwelaf yn fyr at rai o'r casgliadau a'r argymhellion a wnaed gennym. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at rai o'r rheini, a byddwn yn ystyried yn ofalus ei ymateb ysgrifenedig maes o law yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae adrannau 3, 4 a 5 yn ffurfio craidd y Bil drwy roi pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cadw cyfraith uniongyrchol yr UE, ailddatgan deddfiadau sy'n deillio o'r UE, a sicrhau bod darpariaethau a wnaed o dan y pwerau sy'n gysylltiedig â'r UE yn parhau i fod mewn grym. Fe wnaethom ni ofyn nifer o gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y defnydd o'r pwerau hyn, ac, yng ngoleuni ei ymatebion, fe wnaethom ni argymell ei fod yn cadarnhau ein dealltwriaeth o'r defnydd o bwerau o dan adran 4 y Bil yn gywir, ac mae wedi gwneud hynny, a pha un ai a yw'r ordinhadau hunan-gyfyngol a geir yn y Bil yn fwy cyfyngol na'r rhai a geir ym Mil ymadael yr UE, ac mae wedi rhoi sicrwydd o ran hynny.
Gan droi at adran 7, rydym yn croesawu hefyd bod y siarter hawliau dynol sylfaenol yn dylanwadu ar sut y dehonglir yr holl reoliadau a wneir o dan adrannau 3, 4 a 5 y Bil. Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad a roddwyd ynghylch hynny hefyd.
Mae adran 11 yn cynnwys pŵer eang iawn, gan alluogi Gweinidogion Cymru i adlewyrchu cyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol uwch. Mae adran 11 felly yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i adlewyrchu cyfraith yr UE sy'n cael ei basio gan Senedd Ewrop a chyngor yr Undeb Ewropeaidd ond ni fydd modd i'r DU ddylanwadu ar hynny mwyach. Gellir dadlau bod adran 11 yn ddull cyfansoddiadol newydd ac yn un y bu gennym ni bryderon yn ei gylch o ran pa un a oedd yn foddhaol ai peidio.
O dan yr amgylchiadau, er mwyn cyfiawnhau yn gyntaf ac yna cryfhau'r dull, fe wnaethom ni argymhellion: yn gyntaf, bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfiawnhau pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri rheoleiddiol fesul achos, yn hytrach na'r is-ddeddfwriaeth a ragwelir o dan adran 11—ac, wrth gwrs, dyma oedd y sylwadau a wnaeth Dai Lloyd, a bu ymateb, a byddwn, unwaith eto, yn rhoi ystyriaeth bellach iddo maes o law—yn ail, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried gwelliant i adran 11, os cedwir hwnnw, i gyfyngu ar ei gwmpas fel ei fod yn berthnasol dim ond i faterion ble mae cyfochri rheoleiddiol yn parhau gyda'r Undeb Ewropeaidd, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaed, ac, unwaith eto, byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny. Yn olaf, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliannau i'r Bil i gynnwys cymal machlud a fyddai yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddiddymu adran 11 pum mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael oni bai bod rheoliadau, y mae a wnelon nhw â'r weithdrefn gadarnhaol, yn darparu fel arall. Cyn gwneud rheoliadau o'r fath, rydym yn argymell eu seilio ar adolygiad a gynhelir gan bwyllgorau'r Cynulliad.
Nid yw adrannau 13 a 14 yn rhoi swyddogaeth cydsyniad i'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd yn oed pan fo Gweinidogion y DU yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau a Mesurau'r Cynulliad Cenedlaethol. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell yn ein hadroddiad ei fod wedi cyfiawnhau'r dull hwn ac wedi esbonio sut y mae'r swyddogaeth cydsyniad yn cyd-fynd â'r broses cydsyniad offeryn statudol a nodir yn Rheol Sefydlog 30A. Dyna argymhelliad 6.
Mae'r holl reoliadau a wneir o dan y Bil yn ddarostyngedig i'r fframwaith craffu sydd i'w weld yn Atodlen 2, sy'n darparu ar gyfer tair gweithdrefn graffu wahanol: y weithdrefn gadarnhaol safonol, y weithdrefn frys a'r weithdrefn gadarnhaol uwch. Rydym yn argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliannau yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Memoranda Esboniadol sy'n mynd gyda'r rheoliadau a wnaed o dan y Bil fod yn glir ac yn dryloyw wrth egluro, er enghraifft, pam mae angen defnyddio'r gweithdrefnau cadarnhaol a brys, pa newidiadau a wneir gan y rheoliadau a pham, a'r effaith y gall y rheoliadau eu cael ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Edrychwn ymlaen at gael yr ymatebion ysgrifenedig a manwl maes o law, ond rwyf hefyd yn ddiolchgar am y graddau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymdrin â rhai o'r materion hyn cyn y cyfarfod llawn penodol hwn.
Llywydd, nid oes unrhyw argyfwng, nid oes unrhyw angen am y Bil hwn, a'n barn ni ar yr ochr hon i'r tŷ yw mai Bil ffug, mewn gwirionedd, yw hwn. Mae'n rhaid imi ddweud, pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud ei araith ar egwyddor y Bil hwn, fod saith aelod o'r grŵp Llafur yma yn y Siambr, neu chwech ar wahân iddo ef. Bu dylifiad enfawr ers hynny o un aelod ychwanegol yn dod i mewn. Efallai fod hwn yn Fil brys wedi'r cyfan—roedd ymadawiad y grŵp Llafur o'r Siambr yn sicr yn gynhwysfawr ac yn effeithlon. Ond rwy'n credu bod hyn mewn gwirionedd yn dangos i chi mai'r hyn sy'n digwydd yma yw ymgais, ymgais dila, i ddifetha — [torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wel, roedd y Gweinidog—. Iawn, iawn. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet—
Ysgrifennydd y Cabinet, chewch chi ddim troi a dechrau siarad â'r Aelod pan ei fod ar ei draed.
Wel—. [Torri ar draws.] Na, rwy'n mynd i'w ateb ef yn gyntaf. Trodd Ysgrifennydd y Cabinet a dweud, 'Wel, does gennych chi fawr i'w ddweud, nac oes? Edrychwch faint o'ch cyd-Aelodau chi sydd yma.' Rydym yn sylweddoli bod hyn yn ffug: rwyf wedi rhoi seibiant iddyn nhw, fy nghyd-Aelodau, oherwydd doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw orfod eistedd trwy'r parodi hwn sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Lafur Cymru.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gydnabod nad oedd yr adroddiad a wnaed ganddynt yn unfrydol? Caniatewch imi ddweud: dyma adroddiad cyntaf y Pumed Cynulliad hwn na chafwyd cytundeb consensws arno, ac, yn y Pedwerydd Cynulliad, cytunwyd ar bob un o adroddiadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol drwy gonsensws. Nid wyf yn cytuno y bu craffu llawn a phriodol gan y Pwyllgor. Craffwyd cystal ag y gellid yn yr amser oedd ar gael, ond, mewn gwirionedd, mae cael cwmni'r Gweinidog am awr ac wedyn treulio hanner awr ar adroddiad na phendronir drosto ar ffurf ddrafft dros nifer o wythnosau, sef yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda deddfwriaeth arferol—ac rydym ni'n cynnig rhoi sêl bendith i gyfraith gyfansoddiadol, sylfaenol gyfansoddiadol yn y modd hwn. Nid ydym yn mynd i fod yn unrhyw ran o hyn.
A, beth bynnag, yr amddiffyniad cyfansoddiadol sydd gennym ni yn y weithdrefn sensitif hon—wyddoch chi, rwy'n cydnabod bod gadael yr UE yn achosi llawer o heriau cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig, ond yr amddiffyniad sydd gennym ni yw proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac mae'r Llywodraeth wedi gwneud camgymeriad mawr yn cefnu ar hynny, ac efelychu Llywodraeth yr Alban, lle mae cenedlaetholdeb—
A wnaiff yr Aelod ildio?
—yw eu prif nod, nid undod y Deyrnas Unedig.
Gwelais David yn gyntaf. Hynny yw, byddaf yn ceisio ildio i Simon wedyn.
Rwy'n siŵr y gallwch chi ildio i fy nghyd-Aelod yn syth ar fy ôl i, ond rydych yn nodi—. A diolch am yr ymyriad. Rydych chi'n nodi'r ffaith eich bod wedi dweud nad ydych chi'n gweld yr angen am y Bil hwn, nad yw'n gyfansoddiadol briodol, rydych chi'n sôn am yr Alban ac rydych chi'n apelio dros yr Alban, ond onid y gwir amdani yw—? Os caiff cynnig cydsyniad deddfwriaethol ei drechu yn y tŷ hwn, yna beth yw'r dewis arall yr ydych chi'n ei awgrymu? Oherwydd, os deallaf yn iawn, caiff ein cynnig cydsyniad deddfwriaethol ei drechu ac mae Llywodraeth y DU yn derbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, fe allem ni fod yn gadael heb unrhyw fath o amddiffyniad ar gyfer ein cyfreithiau o gwbl. Felly, beth ydych chi'n ei argymell y dylem ni ei wneud wedyn?
Y gwir amdani yw, os gwrthodir cynnig cydsyniad deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn ôl pob tebyg, ar yr un pryd yn Senedd yr Alban, bydd y Deyrnas Unedig mewn argyfwng cyfansoddiadol. Dyna pam mae'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn amddiffyn ein hawliau a'n sefyllfa yn briodol. Mae'r hyn yr ydych chi'n rhan ohono yn dacteg negodi, ac ni ddylem ni fod yn rhan, fel deddfwrfa, o'r gemau hyn. A gaf i ddim ond dweud—? Bil ymadael yr UE yw'r ddeddfwriaeth briodol gan y DU i fwrw ymlaen â'r mater hwn. Gwladwriaeth y DU sy'n ymadael â'r UE, nid y gwledydd cartref yn unigol, ac, fel y dywedais, mae'r ddeddfwriaeth hon ar lefel y DU yn gofyn am broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, nid ydym yn credu y gellir craffu yn effeithiol ar Fil Llywodraeth Cymru, a byddwn yn amlwg yn pleidleisio yn erbyn y cynnig y prynhawn yma. A gaf i ddweud, Llywydd, rydym ni wedi penderfynu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rydym ni wedi penderfynu cymryd y cam anghyffredin o beidio â chynnig unrhyw welliannau pe byddai'r Bil hwn yn parhau i'w gyfnod nesaf, oherwydd nid ydym ni eisiau bod yn rhan o'r parodi anochel a fyddai'n digwydd wedyn. A yw Dai Lloyd eisiau ymyrryd?
Rwy'n siomedig yn eich cyfraniad, a dweud y gwir, oherwydd mae pwyllgorau deddfwriaethol yn amlwg ar hyd y blynyddoedd yn y lle hwn, rydym ni newydd fod yn craffu ar y broses. Ni waeth beth yw eich barn am y ddeddfwriaeth, mae llawer ohonom ni wedi bod yn rhan o graffu ar broses Bil nad ydym ni mewn gwirionedd yn cytuno ag ef. Roeddwn yn siomedig, a dweud y gwir, eich bod wedi ymbellhau o'r broses graffu honno oherwydd y penderfyniad rhagarfaethedig hwn nad ydych chi'n hoffi'r syniad o fil parhad.
A gaf i ddweud, Llywydd, wnes i ddim ymbellhau fy hun o unrhyw broses? Mynychais bob sesiwn cyhoeddus o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'ch holl drafodaethau oni bai am yr ychydig funudau diwethaf. Fe wnes i ymbellhau pan ddywedais, mewn egwyddor, na allwn i gefnogi'r adroddiad. Felly, roeddwn yn gadael fel y gallai Aelodau eraill y pwyllgor wedyn fwrw ymlaen a chytuno ar y rhannau yna y soniasant amdanynt wedyn yn eu hadroddiad, ac a ddyfynnwyd gan y Gweinidog. Wnes i ddim ymyrryd er mwyn tanseilio, efallai, rhai o'r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud sef bod hwnnw'n adroddiad a oedd yn unfrydol—oherwydd nid oedd wedi gwneud hynny'n glir, er nad oedd angen iddo wneud hynny. Felly, nid wyf yn ei gyhuddo o unrhyw beth amhriodol. Rwyf wedi cydweithredu'n effeithiol. Rydym ni i gyd yn gwybod na ellir dod yn agos at graffu ar y Bil hwn mewn modd cyflawn a phriodol, ac ni ddylem fod yn chwarae â deddfwriaeth, ac yn sicr nid deddfwriaeth gyfansoddiadol, yn y modd hwn.
Rwyf hefyd yn ofni, Llywydd, bod y Bil brys hwn mewn perygl o danseilio'r trafodaethau hynny sydd wedi bod yn mynd rhagddynt ers sawl mis gyda Llywodraeth y DU. Nawr, nid wyf yn ddiniwed ynglŷn â beth sy'n digwydd—rwy'n siŵr bod cryn ddyfalbarhad y naill ochr a'r llall i'r M4—ac rwy'n wirioneddol obeithio y bydd hynny'n parhau, oherwydd mae angen cytundeb arnom ni ar ddiwedd hyn, a gadewch i ni obeithio y byddwn yn anghofio am hanes trist y prynhawn yma pan gawn ni gytundeb priodol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ceisio cytundeb ar fframweithiau'r DU a'r broses honno ar ôl Brexit. Mae'n bwysig iawn y rhoddir gwrandawiad llawn i achos Llywodraeth Cymru, oherwydd mae sefydlu trefniadau cydlywodraethu dros fframweithiau cyffredin yn egwyddor sylfaenol, ac mae'n un yr ydym ni yn ei derbyn yn y fan yma. Rydym yn sylweddoli eich bod wedi cael rhai trafferthion yn ennill y brwydrau penodol hynny, ac nid wyf yn credu bod yr hyn yr ydych chi'n rhan ohono yn y fan yma yn helpu mewn gwirionedd. A bu rhai llwyddiannau gwirioneddol. Mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni llawer o ran y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe. Nawr, rwy'n sylweddoli nad ydynt yn mynd cyn belled ag yr hoffech chi, ac na ddarparwyd rhai o'r pethau y mae arnoch chi eu heisiau. Ond mae'n broses barhaus a fydd yn wir yn parhau yfory drwy'r cyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru â Phrif Weinidog y DU, a dyna'r adeg briodol i symud pethau ymlaen a gweld pa un a allwn ni ddod i gytundeb llawn.
Ein safbwynt ni, i gloi, gan fod amser fy amser yn prysur ddod i ben, yw mai Bil ar gyfer y DU yw'r unig ffordd i symud ymlaen; yr unig ffordd y gallwn ni gael eglurder priodol yn y broses hon. Ac mae gennym yr amddiffyniad a roddir gan broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Byddai cael dwy statud wrthwynebus yn llywodraethu Brexit yn creu dryswch llwyr. Mae arnom ni angen eglurder, nid dryswch; nid yw hyn o fudd i neb. Rwy'n gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi symud mor agos at Lywodraeth yr Alban. Rwy'n ofni y bydd hyn efallai yn dargyfeirio Llywodraeth Cymru rhag ceisio cyflawni buddiannau Cymru er mwyn sicrhau Brexit eglur a fydd yn cryfhau trefniadau llywodraethu y DU. Mae arnaf ofn hefyd os bydd Bil Cymru, ac, yn ôl pob tebyg, Bil yr Alban, yn mynd rhagddynt, yna bydd llwyddiant Bil ymadael yr UE yn y fantol, ac mae'n debygol y bydd y mater hwn wedyn yn mynd gerbron y Goruchaf Lys. Dryswch, dryswch, dryswch; Gadewch i ni roi terfyn ar y ffwlbri hwn a phleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.
Teimlaf dan anogaeth unwaith eto i siarad yr wythnos hon ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Bil yn sgil ei gyflwyno yr wythnos diwethaf. Bydd Plaid Cymru wrth gwrs yn pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ac rydym wedi bod yn gyson wrth alw am y Bil hwn. Rydym ni wedi bod yn galw am y Bil hwn ers yr haf diwethaf gan ragweld y byddai San Steffan yn ceisio cipio pwerau. O ran cynnwys, bydd y weithdrefn frys bellach yn mynd rhagddi'n gyflym iawn, felly bydd angen ystyried unrhyw welliannau dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Rwy'n cydnabod yr adroddiad a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a gobeithiaf y gellir gwneud gwelliannau i'r Bil o ran materion fel cynnwys cymal machlud, gan sicrhau'r angen i'r Bil hwn ddod yn gyfraith.
Ers dadl yr wythnos diwethaf, pryd y cyflwynwyd y Bil, mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef mewn neges fewnol nad yw wedi llwyddo i wrthbrofi'r honiadau o geisio cipio pwerau. Mewn gwirionedd, mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi cyfaddef bod y ddadl nad oes ymgais i gipio pwerau wedi bod yn aneffeithiol. A gwyddom fod gwelliannau Llywodraeth y DU, a gawsant eu cyflwyno heb gytundeb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn hwyluso cipio pwerau. Maent yn gwneud hynny drwy roi grym i Lywodraeth y DU i osod cyfyngiadau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli. Wrth weithredu'r cyfyngiadau hynny, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig. Ni fyddai gan y gweinyddiaethau a'r seneddau datganoledig, gan gynnwys y Cynulliad hwn, y gair olaf dros ddefnydd Llywodraeth y DU o'r pwerau hynny. Byddai Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau hynny i greu fframweithiau newydd ar gyfer y DU. Ni fyddai'r Fframweithiau hynny wedi eu cyd-gynhyrchu, fel eu bod yn fframweithiau gwir amlwladol, ond byddent yn cael eu gwneud yn San Steffan gyda pheth ymgynghori datganoledig—ac nid yw hynny'n ddigon da.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar. Bydd hi wedi clywed, fel y gwnes innau, David Melding yn dweud y byddai proses y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy'n ymwneud â'r Bil yn amddiffyniad inni yn hyn o beth, ond wrth gwrs nid yw hynny yn rhoi unrhyw amddiffyniad inni o ran yr holl reoliadau hyn a luniwyd gyda phwerau Harri'r VIII, nad oes ond angen ymgynghori arnyn nhw â Llywodraeth Cymru—nid hyd yn oed y Cynulliad. Nid yw'r Bil hwn sydd ger ein bron heddiw yn un ffug o gwbl. Mae'n weithred gyfansoddiadol sylfaenol o amddiffyn ein setliad datganoledig yn y fan yma, a fydd yn rhoi'r Llywodraeth mewn sefyllfa gryfach, gobeithio, ar gyfer negodi. Ond os nad, rydym yn egluro, yn glir iawn, sut y byddem yn diogelu datganoli yng Nghymru. Yn anffodus, mae'r Ceidwadwyr wedi troi eu cefn ar hynny.
Rydych chi'n hollol gywir.
Gallai fframweithiau wedi eu llunio yn y modd hwn ymdrin â meysydd o'r pwys mwyaf, wrth gwrs, i economi Cymru. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE hefyd yn awgrymu y byddai angen fframweithiau mewn llu o feysydd sy'n ymwneud â bwyd, ffermio a'r amgylchedd. Gallent hefyd gynnwys cymorth gwladwriaethol, caffael cyhoeddus a dangosyddion daearyddol. Dyma'r materion ymarferol gwirioneddol sydd yn y fantol, yn ychwanegol, wrth gwrs, i'r mater o ddemocratiaeth.
Mae'r angen am Fil parhad felly sy'n cynyddu yn hytrach na lleihau. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu Bil cryf ac effeithiol i ddiogelu buddugoliaethau ein dau refferendwm ac i gadw rheolaeth dros ein pwerau datganoledig ein hunain. Ac yn y dyddiau nesaf, mae'n hanfodol nad yw Llywodraeth Cymru yn ildio. Mae gan y sefyllfa sydd ohoni gefnogaeth aruthrol yn y Cynulliad, ac ni ddylai fod unrhyw gonsesiwn sy'n troi'r cloc yn ôl ar ddatganoli. Mae hon yn ddadl ynghylch lle mae pŵer yn bodoli yn y wladwriaeth hon ar ôl Brexit. A gaiff fframweithiau'r DU eu gosod yn ganolog o San Steffan neu a gawn nhw eu cyd-gynhyrchu gan lywodraethau cyfartal, gan genhedloedd cyfartal? Mae Plaid Cymru yn gobeithio y byddwn ni yng Nghymru yn parhau i ddal ein tir, oherwydd mae'r mater hwn yn llawer mwy nag unrhyw blaid wleidyddol unigol.
Mae'r Bil parhad hwn wedi gweld ein gwlad, gyda chefnogaeth o leiaf tair o'r pedair plaid, yn dod yn berthnasol mewn dadl ar lefel y DU. Ac mae'n werth nodi nad yw hyn yn ymwneud â pha un a ydych chi'n cefnogi aros neu adael, fel arall ni fyddai hyn wedi sicrhau cefnogaeth UKIP. Mae hyn yn ymwneud â Chymru. Mae'n hanfodol nad yw Llywodraeth Cymru yn esgeuluso'r sefyllfa honno y mae cryn gefnogaeth iddi, a bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn sefyll drosto'i hun a thros ein gwlad.
Gwrandewais mewn peth dryswch ar araith David Melding. Roedd yn ymddangos ei fod yn siarad mewn rhyw fath o wagle, fel petai gan y rheswm pam yr ydym ni yma heddiw ddim i'w wneud â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid Mesur ffug yw hwn, ac os oes argyfwng cyfansoddiadol ar y gorwel, mae hynny oherwydd bod rhywbeth a oedd yn gwbl ragweladwy wedi digwydd oherwydd esgeulustod Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fod o ddifrif ynglŷn â'r broses hon. Rydym ni wedi bod yn aros am dri mis ar gyfer gwelliannau i Fil ymadael yr UE, a doedd dim wedi cyrraedd tan yr ychydig oriau terfynol. Wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn wir baratoi ar gyfer y posibilrwydd nad yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn pasio'r Cynulliad hwn ac wedyn bod bwlch deddfwriaethol. Byddai'n hurt pe byddai'n ymddwyn fel arall. Rydym ni'n Gynulliad sydd yma i ddeddfu ac i ddiddymu deddfau, ac i beidio â chaniatáu i wagleoedd deddfwriaethol ddod i fodolaeth.
Wrth gwrs, mae Theresa May a'i gweinyddiaeth wedi cyflawni'r gamp fwyaf rhyfeddol o uno pleidiau mor amrywiol â Phlaid Cymru ar un llaw, y Blaid Lafur a UKIP yn y Cynulliad hwn. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru eiliad yn ôl, nid yw hyn ynglŷn ag aros neu adael, oherwydd rydym ni'n coleddu barn cwbl groes ynglŷn â'r dymunoldeb o aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Y tro diwethaf y crybwyllwyd hyn yn y Cynulliad dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru a minnau y pwynt sylfaenol nad yw hyn yn ymwneud â refferendwm yr UE yn unig; Mae a wnelo hefyd â dau refferendwm a sefydlodd ddatganoli ac a ddaeth â'r Cynulliad hwn i fodolaeth. Fy safbwynt i bob amser yw y dylid parchu refferenda, neu y dylid parchu canlyniadau'r refferenda hynny, pa un a ydynt yn berthnasol i faterion mewnol y Deyrnas Unedig neu, yn wir, rai allanol, a pharch ar gyfer y broses honno sydd wrth wraidd yr hyn y mae a wnelo'r Bil ag ef. Mae'n Fil am ddemocratiaeth — unwaith eto, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru funud yn ôl.
Y rheswm pam, yn bennaf, yr wyf i wedi bod o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd erioed—yn wir, gwrthwynebais ymuno ag ef yn y lle cyntaf—oedd oherwydd bod prosesau ddeddfwriaeth o fewn yr UE yn ddemocrataidd ddiffygiol. O ganlyniad i ailwladoli'r prosesau hyn i San Steffan neu Gaerdydd, Caeredin neu Belfast, bydd barn y bobl, fel y'i cynrychiolir gan y rhai sy'n cael eu hethol i'w cynrychioli, yn hanfodol i greu cyfraith, neu ddiddymu cyfraith, yn y dyfodol. Mae'r Undeb Ewropeaidd, wrth iddo ddatblygu, wedi creu corpws o gyfraith a oedd ar wahân i'r broses ddemocrataidd. Rhoddodd y Llys Ewropeaidd yn wir, mewn dyfarniadau yn dyddio'n ôl cyn belled â 1963, y grym iddo'i hun i ddiystyru prosesau democrataidd, ac mewn achos ym 1970—achos Internationale Handelsgesellschaft—rhoddodd y pŵer iddo'i hun i ddiystyru cyfansoddiadau cenedlaethol, hyd yn oed, na chafodd ei dderbyn erioed gan lys cyfansoddiadol yr Almaen, na'r Iseldiroedd, ond y mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dweud erioed ei fod yn sylfaenol i waith mewnol yr UE. O ganlyniad i hynny, o ran y Deyrnas Unedig, pa un a yw'n fesur cyfansoddiadol, sef yr hyn yr oedd David Melding yn poeni yn ei gylch, neu a yw'n unrhyw fath arall o ddeddfwriaeth, yna bydd y rhai sy'n cael eu hethol i gynrychioli pobl yn gallu gwneud y gwaith craffu nad oes modd ei wneud ar hyn o bryd gyda'r deddfau y mae'n rhaid inni ufuddhau iddyn nhw, oherwydd iddynt gael eu llunio naill ai gan brosesau biwrocrataidd—oherwydd y Comisiwn Ewropeaidd sydd â'r unig hawl i gynnig deddfau yn yr Undeb Ewropeaidd—neu o ganlyniad i achosion yn Llys Cyfiawnder Ewrop, na ellir eu diwygio na'u diddymu gan unrhyw broses syml.
Felly, o ganlyniad i Fil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn ailwladoli'r pwerau hynny i Senedd-dai y Deyrnas Unedig—ac wrth ddweud hynny rwy'n golygu'r senedd-dai datganoledig yn ogystal â Senedd y DU yn San Steffan. Rwy'n ystyried hynny yn broses gwbl ddiniwed. Wrth gwrs, mae'r broses hon yn esgor ar anawsterau cyfansoddiadol tymor byr—ac mae cymal 11 y Bil hwn yn un ohonynt, gyda'r mater o gymalau pwerau Harri'r VIII. Rwy'n barod i dderbyn, yn y tymor byr, bod y cymal hwn yn angenrheidiol er mwyn rhoi'r sicrwydd deddfwriaethol sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol, ond mae'n egwyddor na fyddem yn dymuno ei osod, yn gyffredinol, a gobeithiaf y bydd cymal machlud, neu rywbeth tebyg, a fydd yn sicrhau na fydd hyn yn parhau am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol.
Mae'r dasg ddeddfwriaethol ger ein bron, i ystyried neu ailystyried 44 neu 45 mlynedd o ddeddfwriaeth, yn enfawr. Ni ellir gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon heb y pwerau eithriadol hyn. Yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, bydd gennym y cyfle i ddiddymu a diwygio fel bo'r angen, ond rwy'n credu bod hwn yn Fil hanfodol angenrheidiol i ddiogelu buddiannau pobl Cymru, yn ogystal â phobl Prydain. Ni welaf unrhyw anghysondeb na gwrthdaro rhwng y ddau beth hyn, ac rwy'n gresynu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu rhywfaint o wrthdaro cwbl ddiangen o ran yr hyn y byddai, fel arall, rwy'n credu, y rhan fwyaf o Geidwadwyr wedi ei ystyried yn broses gwbl fuddiol o adfer democratiaeth i bobl Prydain a phobl Cymru.
Rwy'n falch o siarad heddiw yn rhinwedd fy swyddogaeth o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rydym ni wedi bod yn ystyried y goblygiadau hawliau dynol o adael yr Undeb Ewropeaidd dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ni amlinellu nifer o egwyddorion craidd a nodwyd gennym. Ein prif flaenoriaeth yw nad oes unrhyw gwtogi mewn amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Galwasom am ddiogelu'r siarter hawliau sylfaenol ar ryw ffurf ar ôl ymadael, ac rydym yn cydnabod dadansoddiad cyfreithiol y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a wrthbrofodd honiad Llywodraeth y DU bod holl hawliau'r siarter wedi'u gwarchod eisoes gan gyfraith ddomestig y DU. Felly, Llywydd, rwyf yn falch o weld adran 7 wedi'i chynnwys yn y Bil sydd ger ein bron heddiw, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol dehongli cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE yn unol â'r siarter hawliau sylfaenol. Mae hi hefyd yn bwysig i ni, ynghyd â chadw'r hawliau sy'n bodoli ar hyn o bryd, bod Cymru yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang a bod lefel yr amddiffyniadau yn parhau i gyfateb i ddatblygiadau ledled yr Undeb Ewropeaidd ar ôl inni adael. Fe wnaethom ni alw am fecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau yn y dyfodol mewn hawliau dynol a chydraddoldeb yn yr UE i sicrhau y caiff dinasyddion Cymru eu hamddiffyn i'r un graddau â dinasyddion yr UE. Rwyf felly yn falch o weld adran 11 wedi'i chynnwys yn y Bil hwn, a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gyflwyno deddfwriaeth newydd, neu addasu deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, er mwyn galluogi Cymru i gynnig cyfatebiaeth i unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn yr UE yn sgil ein hymadawiad.
Ymhellach, Llywydd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pa gyfryngau bynnag y gall hi er mwyn sicrhau y bydd cydraddoldeb a hawliau dynol yn parhau i gael eu diogelu yng Nghymru, gan gynnwys ystyried gweithredu'r ddyletswydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, ac yn ystyried ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol i gyfraith Cymru. Fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol, cyflawnwyd hyn yn llwyddiannus gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Llywydd, rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r Bil hwn i helpu amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol. Wrth gamu i'r dyfodol, fel Pwyllgor, byddwn yn parhau i ddangos diddordeb brwd yn yr elfen hon o'r negodi a'r broses ymadael. Diolch yn fawr.
Roedd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar negodiadau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ynglŷn ag Ewrop yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn ddefnyddiol iawn, ac rydym yn sylweddoli pa mor bwysig, mewn gwirionedd, fydd cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yfory. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad fod pawb ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) mewn hwyliau cadarnhaol, ond y byddai Llywodraeth y DU yn dal i gyflwyno eu gwelliannau. Ac yn yr ysbryd hwnnw yr ydym ni'n trafod y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)—y Bil parhad fel yr ydym ni yn ei alw—yn y fan yma heddiw.
Roedd yn ddefnyddiol iawn unwaith eto cael eglurhad ynglŷn â'r argymhellion hynny o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan ystyried, wrth gwrs, amheuon David Melding, y mae wedi eu mynegi heddiw fel Aelod. Ond sylwais hefyd bod Geraint Talfan Davies wedi dweud yr wythnos hon—a dyfynnaf—bod y Bil parhad wedi ei lunio i sicrhau nad oes gwagle deddfwriaethol enfawr yn dod i'r amlwg o dan Lywodraeth Cymru os nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu rhoi ei gydsyniad i Fil ymadael yr UE sy'n teithio drwy San Steffan.
Felly, Llywydd, er fy mod i'n derbyn y cefndir gwleidyddol i'r Bil parhad, ac yn gobeithio, fel Llywodraeth Cymru, y bydd Llywodraeth y DU yn callio ac yn cefnogi ein gwelliannau—diwygiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban—a dderbyniwyd mor wresog yn Nhŷ'r Arglwyddi, fe hoffwn i hefyd ategu John Griffiths a chroesawu adran 7 y Bil parhad, sy'n nodi sut y dylai'r llysoedd ddehongli corff cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE a grëwyd gan y Bil. Dywed adran 7 fod y Bil parhad yn gwneud darpariaethau tebyg i Fil ymadael yr UE, ond gydag un gwahaniaeth nodedig, a hynny yw ei fod yn caniatáu dehongli cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE yn unol â'r siarter hawliau sylfaenol, nad yw'n cael ei drosi i gyfraith y DU gan Fil ymadael yr UE. Fel sy'n amlwg, nid yw'r Bil parhad yn ceisio trawsosod yr hawliau a gynhwysir yn y siarter yn rhan o gyfraith Cymru fel hawliau sefydlog annibynnol, ond byddai yn sicrhau, pan fydd y llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystyried darpariaethau cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE, y byddant yn parhau ar ôl Brexit i ddehongli'r darpariaethau hynny yn unol â'r hawliau a'r egwyddorion a nodir yn y Siarter.
Fe wnaethom ni dderbyn tystiolaeth yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar—fel, John Griffiths, y gwnaeth eich pwyllgor chi—ynglŷn ag effaith Brexit ar gydraddoldeb. Tynnodd tystion arbenigol sylw at siarter yr UE ar hawliau sylfaenol. Un o'r prif bryderon am effaith Brexit ar hawliau dynol a chydraddoldeb yw'r posibilrwydd o golli'r siarter. Os aiff Bil ymadael yr UE rhagddo fel y cynlluniwyd, ni fydd yn rhaid i'r DU gydymffurfio â'r siarter wrth lunio cyfreithiau a gwneud penderfyniadau gweinyddol mewn meysydd a oedd o'r blaen o fewn cymwyseddau'r UE, megis diogelu defnyddwyr neu hawliau gweithwyr. Mae hawliau'r siarter yn fwy pellgyrhaeddol na'r rhai yn y Ddeddf Hawliau Dynol a'r Ddeddf Cydraddoldeb, ac yn cynnwys amrywiaeth o hawliau cymdeithasol a hawliau gweithwyr, megis yr hawl i amodau gwaith teg, amddiffyniad rhag diswyddo heb gyfiawnhad, a gallu manteisio ar ofal iechyd, cymorth cymdeithasol a chymorth tai. Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, dywedodd yr Athro Simon Hoffman na allai weld unrhyw reswm pam na ellid ymgorffori siarter yr UE i gyfraith y DU, fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i wneud y siarter yn berthnasol i'r DU ar ôl Brexit. Yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sylwaf fod yr Athro Thomas Glyn Watkin wedi amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU ar y diwrnod ymadael fel 'fferru'r ffrâm', tra gallai diogelu yng ngwledydd yr UE gynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn y DU. Felly, mae'n rhaid inni weithio er mwyn osgoi hynny.
Rwy'n ddiolchgar bod John Griffiths wedi tynnu sylw at adran 11. Mae'n rhaid inni barhau i symud ymlaen gyda diogelu a gwella cydraddoldeb yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd ein tystion hawliau dynol a chydraddoldeb, a phobl Cymru, yn croesawu'r darpariaethau hynny yn ein Bil heddiw. Rwyf hefyd yn glir bod crybwyll y materion hyn yn unol ag ysbryd y cymalau yn y ddeddfwriaeth hon o eiddo Llywodraeth Cymru o ran cydymffurfio â gofynion cyfle cyfartal.
Felly, rwy'n cefnogi cyfnod hwn y Bil ac rwyf yn ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y pwyntiau hyn i gefnogi adran 7 y Bil.
Ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid annerch y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y Bil hwn. Hoffwn ddiolch iddo am fod mor adeiladol ac agored gyda'r Pwyllgor.
Mae gennyf innau, hefyd, bryderon mawr iawn ynghylch adran 11 ac rwy'n mawr obeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri rheoleiddiol ar sail achos wrth achos yn lle'r is-ddeddfwriaeth a ragwelir o dan adran 11 fel y mae ar hyn o bryd.
Un o'r argymhellion yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Pwyllgor yw diddymu adran 11 bum mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael oni bai bod rheoliadau, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, yn darparu fel arall. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell cynnal adolygiad ynghylch yr angen parhaus am y pwerau a ddarperir gan adran 11—yr adolygiad hwn i'w gynnal gan Bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol ac yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Rwy'n cefnogi'r Bil hwn mewn egwyddor, ond rwyf yn awgrymu nad ydym ni fel Cynulliad wedi cael cyfle i drafod y Bil hwn a'i oblygiadau yn ddigon manwl. Nid dylid byth cyfaddawdu ar oruchwylio a chraffu effeithiol ac maent yn rhan hanfodol o'n prosesau gwneud penderfyniadau yma yn y Cynulliad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i Gadeiryddion y tri phwyllgor sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Mae'n ddefnyddiol dros ben i'r Cynulliad gael y farn arbenigol y mae'r gwahanol bwyllgorau yn ei chyfrannu at y pwnc hwn, ac rwy'n credu bod pob un o'r tri chadeirydd wedi gallu egluro safbwyntiau eu pwyllgorau.
Tynnodd John Griffiths sylw at y siarter hawliau sylfaenol, a buom yn falch iawn o allu cyfeirio at y siarter honno yn ein Bil. Ond yr ateb mewn difrif yw diwygio Bil ymadael yr UE y mae'r DU yn ei lunio i wneud y siarter yn berthnasol i'r holl gyfraith ddomestig. Bu ymdrech wirioneddol yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y mater hwn, a bu'n rhaid i Weinidog y DU gytuno y bydd yn dychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi yn y Cyfnod Adrodd gyda chynigion pellach ar y mater hwnnw. Nid oes rheswm cyfreithiol o gwbl, fel y dywedodd Jane Hutt, gan ddyfynnu'r Athro Hoffman, pam na ellir gwneud hynny, a phe byddai hynny'n cael ei wneud yn y ffordd honno, yna nid yn unig y byddai cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE yn elwa ar rai o fesurau diogelu'r Siarter, ond byddai'r holl gyfraith ddomestig sy'n trosi o gyfraith yr UE i gyfraith y DU yn elwa ar y siarter.
Ailadroddodd David Rees a Mick Antoniw ill dau y safbwynt y bu'r Llywodraeth yn ei goleddu ers amser—mai'r Bil hwn yw ein dewis ail orau. Nid dyma'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Rydym ni eisiau cael cytundeb gyda Llywodraeth y DU—Llywodraeth esgeulus y DU, fel y dywedodd Neil Hamilton—sydd wedi methu â rhoi'r amser a'r egni angenrheidiol i ddod i gytundeb gyda ni. Gellid bod wedi gwneud hynny, a dylid bod wedi gwneud hynny, cyn hyn. Byddwn yn mynd ati gan wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cytundeb tra bod Bil ymadael yr UE yn dal ger bron y Senedd-dai. Os byddwn yn dod i gytundeb, yna, ni waeth pa gyfnod y mae'r Bil hwn wedi cyrraedd, byddwn yn dibynnu ar y Bil hwnnw, yn hytrach nag ar y diogelwch wrth gefn hwn.
Serch hynny, mae'n amddiffyniad sylfaenol, fel y cadarnhaodd Leanne Wood wrth ymateb i ymyriad Simon Thomas. Rwy'n ddiolchgar am gymorth parhaus a chyson Plaid Cymru wrth ddatblygu'r Bil hwn. Edrychaf ymlaen at rai trafodaethau pellach ynghylch rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood, yn enwedig o ran argymhelliad 5 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r cymal machlud mewn cysylltiad ag adran 11 y Bil.
Rwy'n credu eich bod wedi clywed achos eithaf cryf gan Jane Hutt ynghylch pam mae adran 11 yn angenrheidiol yn y tymor byr, oherwydd y ffordd y bydd yn caniatáu inni wneud yn siŵr y gall yr amddiffyniadau cymdeithasol sydd ar gael i ddinasyddion yr UE, ac y caent eu hatal fel arall i ddinasyddion Cymru, barhau i fod ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Ond byddaf yn ystyried yn ofalus yr hyn a ddywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch am ba hyd y dylem ni ddibynnu ar yr adran hon, ac rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach gyda'r rhai sydd â diddordeb yn y mater hwn.
Trof at yr hyn a ddywedodd David Melding. Tybiaf ei fod yn dibynnu ar yr hen fantra gwleidyddol mai ymosod yw'r ffordd orau o amddiffyn, ac os oes gennych chi achos arbennig o wan i'w ddadlau, cyhyd â'ch bod chi'n gwneud hynny gyda digon o arddeliad, bydd rhai pobl yn credu bod rhyw sylwedd yn yr hyn a oedd yn cael ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn anghywir. Nid oedd llawer o'r pwyntiau a wnaeth heddiw yn berthnasol i ddadl heddiw. Roedden nhw'n berthnasol iawn i benderfyniad yr wythnos diwethaf ynghylch ar ba un a ddylid cyflwyno'r Bil hwn drwy'r weithdrefn frys, ai peidio, ond cawsom y ddadl honno a chytunodd y Cynulliad Cenedlaethol, drwy fwyafrif sylweddol iawn, gyda'r holl gyfaddawdu sydd ynghlwm â hynny, ei bod hi'n angenrheidiol cyflwyno'r Bil hwn ar ffurf Bil brys. Nid wyf yn credu ei fod yn Fil ffug am eiliad. Beth mae'n ei wneud yw llenwi'r gwacter deddfwriaethol, darparu amddiffyniad sylfaenol, i roi sicrwydd i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6687 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd yr Aelodau wedi nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yr ansicrwydd presennol ynghylch costau gweinyddol a chostau eraill y Bil. Mae'r Bil yn gweithredu i gadw cyfraith yr UE drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Nid yw'n bosibl, yn yr amgylchiadau ansicr y cawn ein hunain ynddynt, i nodi'n fanwl gywir faint o is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol, costau cywiro’r diffygion, a natur ac effaith deddfwriaeth a fframweithiau newydd y DU. Rydym ni felly wedi penderfynu dilyn y safbwynt o ran ansicrwydd ynghylch costau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU o ran Bil Ymadael â'r UE a Llywodraeth yr Alban o ran ei Bil Parhad.
Bydd costau gweinyddol yn dod atom ni, Llywydd, sy'n codi pa un ai'r Bil Ymadael â'r UE neu'r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd sy'n darparu parhad cyfreithiol mewn perthynas â Chymru. Mae'r costau hyn yn un o ganlyniadau anochel y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n meddwl nad oes gennym ni unrhyw ddewis ond eu hysgwyddo, os yw'r penderfyniad hwnnw i gael ei weithredu mewn ffordd drefnus. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r penderfyniad ariannol y prynhawn yma.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
Ydw, wrth gwrs.
Rydych chi'n hael iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. Dim ond ar y pwynt hwn: rydych chi wedi nodi y byddai'r costau hyn yn digwydd pa un a ydym ni'n dilyn trywydd San Steffan neu'r trywydd hwn. Mae yna gostau gweinyddol i Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer yr hyn y mae pobl wedi pleidleisio drosto, felly mae hynny'n iawn, ond a ydych chi wedi gallu cael gwybod o gwbl pa un a yw'r opsiwn yn y Bil hwn, mewn gwirionedd, yn opsiwn mwy drud neu'n opsiwn sydd wedi'i gostio'n wahanol i hwnnw a fyddai'n codi yn sgil y Bil Ymadael â'r DU? Ac o ran—rwy'n siŵr bod y Ceidwadwyr yn dymuno arbed arian cyhoeddus, oni fyddai'n fwy priodol, felly, i ddilyn yr opsiwn rhataf a mwyaf effeithiol wrth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus ym mhob achos?
Rwy'n credu bod honno’n egwyddor y byddem ni'n hapus i'w chymeradwyo. Llywydd, mae'r ateb yn mynd â mi yn ôl at bwynt a godwyd gan David Rees yn ei gyfraniad gwreiddiol, sef, er bod y Bil hwn yn ein caniatáu ni i drawsosod holl gyfreithiau Cymru sy'n deillio o'r UE drwy gyfrwng y Bil hwn, nid yw'n ei gwneud yn ofynnol inni wneud hynny. Ac os byddai enghreifftiau lle y byddai'n fwy cost-effeithiol i ganiatáu i'r DU ddeddfu ar ein rhan gan nad oedd yn fater dadleuol ac nad oedd gennym unrhyw anhawster â'r hyn a oedd yn cael ei gynnig, gallaf ddychmygu dod yn ôl i lawr y Cynulliad hwn i ofyn i bobl gytuno i hynny. Yn yr achosion pan na fyddai hynny'n bosibl, fodd bynnag, byddai gennym ni wedyn gyfrwng a fyddai'n caniatáu inni wneud pethau, a byddem ni'n gwneud hynny yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl.
Nid oes siaradwyr eraill. Rwy'n cymryd nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymateb iddo fe'i hunan. Ac felly, gan fod y bleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil yma wedi ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf yn gohirio'r bleidlais hefyd ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton.
Daw hyn â ni felly at y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Vaughan Gething.
Cynnig NDM6683 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl heddiw a chynnig y cynnig ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol fis Hydref diwethaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y Bil penodol hwn am nifer o flynyddoedd. Gwnaethom ymgynghori i ddechrau ar isafbris ar gyfer alcohol yn 2014 yn rhan o Bapur Gwyn iechyd y cyhoedd cyn yr etholiad diwethaf. Fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd, cyhoeddais Fil drafft ar isafbris fesul uned. Hoffwn ddiolch i'm cyd-Weinidogion Mark Drakeford a Rebecca Evans am eu gwaith wrth helpu i lunio'r darn hwn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd pwysig.
Rwy'n ddiolchgar i aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu ar y Bil. Dydw i ddim yn mynd i geisio ymdrin â phob un o'r argymhellion yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, ond bydd y Llywodraeth yn ystyried pob un ohonyn nhw'n ofalus wrth i ni symud tuag at Gyfnod 2. Yn benodol, byddaf yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud heddiw, oherwydd y gallai yn sicr effeithio ar fy ymateb i ac ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion. Byddaf hefyd yn ei gwneud yn glir y byddaf yn cyhoeddi ymateb i'r argymhellion cyn toriad y Pasg, fel y gall Aelodau weld y rheini cyn ein bod ni'n rhy bell i mewn i Gyfnod 2, pe byddai'r Cynulliad yn bwrw ymlaen beth bynnag.
Ni ddylai fod yn syndod y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant UKIP. Credwn y bydd y Bil hwn yn cael canlyniad cadarnhaol ar leihau yfed peryglus a niweidiol, a'r niwed cysylltiedig y mae hynny'n ei achosi i gymunedau ledled Cymru. Nid Bil yw hwn sy'n ceisio cosbi yfwyr drwy wneud alcohol yn eithriadol o ddrud. Mae'r Bil hwn yn cymryd agwedd synhwyrol a dargedir at broblem go iawn ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw. Fel cymaint o wledydd eraill yn y gorllewin, mae gennym ni broblem ag alcohol rhad, cryf sydd ar gael yn rhwydd.
Mae effaith y niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn anodd ei ddarllen. Yn 2015-16 yn unig, roedd 54,000 o dderbyniadau i'r ysbyty i'w priodoli i alcohol yma yng Nghymru. Amcangyfrifwyd bod y derbyniadau hynny'n costio £120 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Yn 2016, bu farw 504 o bobl oherwydd alcohol, ac roedd pob un o'r marwolaethau hynny yn un y gellid bod wedi'i hatal. Mae'r Bil hwn yn ymwneud â helpu i leihau'r niweidiau hynny, ond nid yw'n ateb hawdd neu'n fwled arian hud i'r holl heriau. Mae'n un ffordd arall a fydd gennym i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, a'i atal.
Mae yna dystiolaeth sylweddol o amgylch y byd ar y berthynas rhwng pris alcohol a faint o alcohol sy'n cael ei yfed. Rydym ni'n gwybod hefyd fod yna berthynas gref rhwng faint y mae rhywun yn ei yfed a'r niwed y maen nhw'n ei brofi. Mae pobl sy'n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol yn llawer mwy tebygol hefyd o yfed alcohol rhatach. Felly, er gwaethaf gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu alcohol islaw lefel treth a threth gwerth ychwanegol, rydym ni'n parhau i weld alcohol yn cael ei werthu am brisiau arian poced. Mae rhai diodydd yn costio llai na photel o ddŵr.
Rydym ni'n gweld effeithiau yfed niweidiol bob dydd yn ein GIG, yn ein gweithleoedd, yn ein cymunedau ac yn ein teuluoedd. Rydym ni o'r farn y bydd cyflwyno isafbris uned yn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig ag yfed peryglus a niweidiol ac yn cryfhau ymhellach ein mesurau i leihau niwed sy'n bodoli eisoes. Mae yna nifer o faterion y bydd angen eu hystyried ymhellach, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am dynnu sylw at y rheini wrth graffu ar y Bil.
Mae un o'r rhain yn ymwneud ag effaith bosibl isafbris uned ar yfwyr dibynnol, fel yr amlygwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Bydd cyflwyno isafbris uned yn effeithio ar yfwyr dibynnol. Maen nhw ymhlith y grwpiau o yfwyr peryglus a niweidiol y mae'r Bil hwn yn eu targedu'n benodol. Ac rwy'n cydnabod rhai pryderon na fydd yfwyr dibynnol, o bosibl, yn gallu lleihau eu lefelau yfed heb gymorth neu, fel arall, os byddan nhw yn lleihau faint y maen nhw'n ei yfed efallai y bydd hynny'n achosi iddynt ddioddef symptomau rhoi'r gorau i yfed alcohol.
Rydw i wedi nodi galwadau a wnaed am adnoddau ychwanegol i'w dyrannu i wasanaethau camddefnyddio sylweddau wrth ragweld cynnydd posibl mewn galw wrth i bobl geisio cael triniaeth neu gymorth. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i sicrhau, pan gyflwynir y ddeddfwriaeth hon, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad, bod y gwasanaethau hyn yno ar gyfer y rhai mewn angen, oherwydd rydym ni'n parhau i gynnal ein buddsoddiad o bron i £50 miliwn y flwyddyn i gefnogi pobl ag anawsterau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau. Mae £17.1 miliwn ychwanegol wedi'i neilltuo ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o fewn byrddau iechyd, a bydd hwnnw'n cynyddu ar gyfer gwasanaethau rheng flaen i £18 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill eleni. Rydym ni hefyd yn gweithio i ostwng amseroedd aros am driniaeth fel yr wyf wedi pwysleisio mewn dadleuon blaenorol yn y Siambr hon.
Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 o'r Bil, codwyd pryderon ynghylch pa un a fyddai'r Bil yn cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol a'r rheini o deuluoedd incwm isel, a gofynnodd rhai a fyddai yfwyr trwm yn dewis gwario incwm ar alcohol drutach yn hytrach na gwres a bwyd. Dengys y gwaith modelu wedi'i ddiweddaru o Brifysgol Sheffield na fydd effaith ar yfwyr cymhedrol i raddau helaeth yn sgil cyflwyno isafbris uned. Mae hynny oherwydd nad yw yfwyr cymedrol yn yfed llawer iawn o alcohol yn rheolaidd a'u bod yn llai tebygol o yfed alcohol rhad.
Rydym ni'n disgwyl y bydd effaith ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed lefelau peryglus neu niweidiol, ond dyna hefyd lle'r ydym ni'n rhagweld gwneud y cynnydd mwyaf o ran iechyd. Mae pobl sydd â'r lleiaf o adnoddau sy'n yfed ar lefelau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol a bod ag angen gofal iechyd sylweddol a hirdymor, ac a dweud y gwir hefyd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o farw oherwydd alcohol. Mae'r ystadegau ar hyn yn drawiadol. Felly, ni allwn anwybyddu'r lefel honno o anghydraddoldeb iechyd.
Mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn tynnu sylw at y risg posibl o amnewid alcohol â sylweddau niweidiol eraill. Mae'r sail dystiolaeth ar gyfer hynny yn gyfyngedig, ond rwy'n cydnabod y pryder. Dyna pam yr wyf i'n hapus i gadarnhau eto fy mod wedi gofyn i banel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar y mater hwnnw ac adrodd yn ôl yn yr wythnosau nesaf. Ac, yn amlwg, caiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi a'i ddarparu i'r Aelodau a'r cyhoedd ehangach i graffu arno.
Rwyf hefyd yn dymuno ymdrin â chyd-destun materion traws-ffiniol. Mae rhai pobl wedi dadlau y gellid anwybyddu isafbris uned mewn rhannau mawr o Gymru gan eu bod mor agos at y ffin â Lloegr, neu gan y bydd pobl yn troi at alcohol anghyfreithlon. Mae rhai pobl wedi sôn am criwsiau cwrw i Fryste. Byddai cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn golygu gwahanol gyfundrefnau prisiau rhwng Cymru a Lloegr, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod costau teithio dros unrhyw bellter a chost amser person yn debygol o wrthbwyso arbedion posibl. Rwy'n parhau i fod yn obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hesiampl ni ac arweiniad yr Alban ac yn cyflwyno isafbris uned, yn union fel y gwnaeth ddilyn ein harweiniad ar y gwaharddiad ar ysmygu a'r taliadau am fagiau siopa hefyd.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi unrhyw effeithiau i'r isafbris uned ar werthu neu yfed alcohol anghyfreithlon—eto, mater a godwyd yn adroddiad y pwyllgor iechyd.
Yn y misoedd diwethaf, bu trafodaeth ynghylch pa un a ddylai lefel yr isafbris uned fod ar wyneb y Bil ai peidio. Mae barn y Llywodraeth yn parhau i fod yr un peth: mae pennu lefel mewn rheoliadau yn rhoi cyfle inni barhau i fod yn hyblyg ac ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Cefnogwyd y safbwynt hwnnw gan y pwyllgor iechyd a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond rwy'n cydnabod bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i farn wahanol yn eu argymhellion nhw. Felly, byddwn yn parhau ar y sail o bennu lefel isafbris uned mewn rheoliadau, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y weithdrefn gadarnhaol.
Gan droi at sut y caiff y lefel ei phennu, byddwn yn edrych ar effeithiau gwahanol lefelau o isafbris uned sydd wedi'u modelu, ac wedyn yn gwneud penderfyniad cytbwys. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd y byddaf yn ymgynghori ar y lefel arfaethedig ac yn cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol gydag asesiad ariannol trylwyr o'r effeithiau ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft. Gofynnodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i mi nodi ein cyfiawnhad gan gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil. Dyna'n union yw'r rhain. Maen nhw'n esbonio sut i gyfrifo'r isafbris perthnasol ar gyfer alcohol. Yn benodol, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar sut yr ydym yn bwriadu osgoi dryswch, os yw lefel yr isafbris yn wahanol yn y pen draw i'r un a geir yn yr enghreifftiau yn y Bil. Mae hyn yn rhan o geisio gwneud y ddeddfwriaeth yn hygyrch ac yn hawdd ei deall. Maent yn cynnwys cyfrifiadau mathemategol ac roeddem ni o'r farn y byddai enghreifftiau ar y Bil yn helpu pobl i ddeall. Mae hynny hefyd wedi'i groesawu yn gyffredinol gan randdeiliaid mewn ymateb i'r Bil drafft. Felly, mae'r Bil a'r dogfennau ategol yn nodi'n glir iawn mai'r isafbris uned fydd pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb cadarnhaol y Cynulliad hwn, a byddwn hefyd yn gwneud hynny'n glir yn y canllawiau ac wrth gyfathrebu yn y dyfodol.
Trof yn awr at y mater ynghylch ardoll gwirfoddol. Mae'r mater hwn wedi codi yn adroddiadau dau bwyllgor o leiaf, felly gallai peth o'r refeniw ychwanegol yr ydym yn disgwyl ei godi gael ei roi o'r neilltu i gael ei fuddsoddi yn iechyd y cyhoeddus. Rwy'n agored i ymchwilio i'r mater hwn. Nid wyf yn meddwl bod gennym bwerau i godi ardoll orfodol, ond rwy'n hapus i edrych ar waith ymchwil i roi dealltwriaeth lawnach i ni o ganlyniad cyflwyno'r ddeddfwriaeth a deall yn well unrhyw gynnydd yn y refeniw i fanwerthwyr a lle y byddai llwythi'r gadwyn gyflenwi yn cwympo, i geisio deall a fyddai cynllun gwirfoddol yn cynhyrchu adenillion gwirioneddol i'w buddsoddi yn iechyd y cyhoedd.
Fel y dywedaf, nid yw isafbris uned yn fwled arian, Llywydd. Mae'n rhaid ei weld fel rhan o'n dull ehangach o leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed ac i fod â pherthynas iachach ag alcohol. Felly, mae polisi yma yng Nghymru yn mynnu amrywiaeth o ymagweddau, a all, o'u defnyddio gyda'i gilydd, esgor ar newid go iawn ac ystyrlon a budd iechyd gwirioneddol ac ystyrlon. Felly, rydym yn bwriadu defnyddio'r holl gymorth sydd ar gael ledled Cymru i ddatblygu perthynas iachach ag alcohol a rhoi diwedd ar yr hanesion trist o bobl yn marw o ganlyniad i yfed.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor. Mae ein gwaith craffu ar y Bil wedi bod yn hynod drylwyr, ac rydym wedi llwyddo i ddatblygu argymhellion clir ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni mewn un o'n cyfarfodydd ffurfiol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r bobl a roddodd o'u hamser er mwyn caniatáu i Aelodau a staff y pwyllgor siarad â hwy mewn lleoliadau llai ffurfiol.
Dyma'r ail Fil ar iechyd y cyhoedd a gafwyd yn y Cynulliad hwn, a'r ail Fil y mae ein pwyllgor ni wedi craffu arno. Er ei fod yn ymdrin efo materion polisi gwahanol i'r rhai a oedd wedi'u cynnwys yn y Bil cyntaf, mae gan y Bil hwn hefyd y potensial i gyfrannu at y nod o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Er gwaethaf y sylwadau hynny, credwn fod angen rhoi ystyriaeth bellach i'r Bil a'r polisi ehangach. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd inni yn awgrymu bod angen cymryd camau pellach i wella’r Bil, i baratoi ar gyfer ei gychwyn, ac i gefnogi’r broses o’i weithredu. Mae angen cymryd camau pellach hefyd i sicrhau bod effeithiau isafbris uned yn cael eu monitro a’u deall. Rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r broses o'i gweithredu. Byddant hefyd yn fodd o osgoi rhai canlyniadau anfwriadol posibl, yn enwedig mewn perthynas ag yfwyr dibynnol. Yn fy sylwadau, byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r pethau yma.
Er ein bod yn cytuno efo'r cynnig i bennu'r isafbris uned drwy reoliadau eilaidd, credwn y dylid rhoi cyfleoedd craffu mwy helaeth i'r Cynulliad yma a'i bwyllgorau. Mae lefel yr isafbris uned yn ganolog i lwyddiant y Bil, wedi'r cwbl. Credwn y dylai'r rheoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol, a hynny er mwyn caniatáu digon o amser i'r pwyllgorau graffu arnynt, gan gynnwys gwahodd sylwadau gan randdeiliaid a holi’r Gweinidog perthnasol, cyn ei bod yn ofynnol i’r Cynulliad bleidleisio arnynt.
Rydym ni wedi clywed amheuon ynghylch y grwpiau y bydd y ddeddfwriaeth yn cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael yr effaith fuddiol fwyaf ar yfwyr peryglus a niweidiol. Fodd bynnag, cawsom dystiolaeth glir y bydd cynyddu’r pris gwaelodol, sef y pris nad oes modd gwerthu alcohol islaw iddo, yn cael effaith andwyol ar yfwyr sy’n ddibynnol ar alcohol rhad a chryf fel seidr gwyn. Felly, rydym ni'n pryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau triniaeth a chymorth digonol i’r rhai sy’n camddefnyddio alcohol. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn cychwyn y ddeddfwriaeth, yn cynnal asesiad cadarn o’r angen presennol am wasanaethau triniaeth a chymorth yng Nghymru i sicrhau bod darpariaeth ddigonol, sydd wedi’i diogelu ar gyfer y dyfodol, ar gael. Dyna argymhelliad 7.
Rydym ni hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fonitro effeithiau'r gyfundrefn sydd ar fin cael ei gweithredu yn yr Alban er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgir yn gallu llywio'r modd y cyflwynir y gwasanaethau hyn yma yng Nghymru. Dyna ydy argymhelliad 8.
Rydym ni hefyd yn pryderu mai un o ganlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth fydd peri i rai pobl â chanddynt broblem yfed ddefnyddio sylweddau mwy peryglus ac anghyfreithlon yn lle alcohol. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno. Dyna argymhelliad 9.
Argymhellodd nifer o randdeiliaid fod Llywodraeth Cymru yn codi ardoll ar fanwerthwyr neu’n cyflwyno cynllun cyfraniad gwirfoddol er mwyn cyfeirio cyfran o unrhyw gynnydd mewn elw o ganlyniad i isafbris uned at wasanaethau gofal iechyd a chymorth. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ymarferoldeb cyflwyno ardoll orfodol, neu gynllun talu gwirfoddol, i fanwerthwyr. Dyna argymhelliad 10, a gwnaeth nifer o bobl sôn am hynny. Dylid defnyddio’r arian a godir gan yr ardoll yn gyfan gwbl at ddibenion mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyfrannu at y nod ehangach o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Wrth graffu ar y Bil hwn, roeddem yn ymwybodol iawn bod llawer yn amheus ohono. Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod llawer o gamsyniadau ynghylch yr effaith y bydd y ddeddfwriaeth yn ei chael ar rai grwpiau. Yn sgil hyn, credwn y bydd cyfathrebu pwrpas y ddeddfwriaeth i’r cyhoedd a’r busnesau yr effeithir arnynt yn hollbwysig i’w llwyddiant fel mesur gwella iechyd. Rydym ni'n nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyrannu arian ar gyfer cynllun cyfathrebu, ond nid ydym ni'n credu bod £100,000 yn swm digonol i ariannu’r gwaith yma. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amcangyfrifon o’r costau sydd wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y gweithgarwch cyfathrebu arfaethedig gyda’r nod o gynyddu cyfanswm y cyllid sydd ar gael i roi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau ymysg busnesau ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Dyna argymhelliad 2.
Mae gan y Bil botensial mawr i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon iechyd hirsefydlog ynghylch effaith yfed alcohol yn ormodol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae isafbris uned yn parhau i fod yn theori—yn ddamcaniaeth—sydd heb ei phrofi, ac rydym wedi clywed rhai amheuon ynghylch ei effaith debygol. Yn sgil hynny, mae gwerthuso effaith cyflwyno isafbris uned yng Nghymru yn elfen hanfodol ac angenrheidiol o’r ddeddfwriaeth yma. Credwn y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth fwy manwl ynghylch y gwerthusiad sy’n ofynnol, ac rydym wedi argymell bod yn rhaid i'r gwerthusiad gyfeirio at nifer o bethau, gan gynnwys effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol, yfwyr dibynnol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, a masnach drawsffiniol. Dyna argymhellion 13 ac 14.
Mae’r dystiolaeth a gawsom wedi pwysleisio na fydd isafbris yn effeithiol ar ei ben ei hun, a bod angen ystod o fesurau i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol. Credwn ei bod yn werth cymryd camau mewn perthynas â rhai o’r mesurau ychwanegol a nodwyd gan randdeiliaid, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod rhybuddion iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth gan gorff rheoleiddio annibynnol yn cael eu rhoi ar labeli pob cynnyrch alcohol, a chyfyngu ar hysbysebu alcohol. Rydym ni'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio'n llawn i'r holl gyfleoedd, gan gynnwys pwyso am gamau gweithredu ar lefel y DU, i sicrhau bod set gynhwysfawr o fesurau ar waith i leihau niwed oherwydd alcohol.
I gloi, yn gyffredinol, rydym, fel pwyllgor, yn croesawu'r cynigion yn y Bil, ac rydym o'r farn y bydd y Bil yn cyfrannu at y dull strategol ehangach o fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf oll a gaf i atgoffa'r Aelodau, wrth gwrs, nad diben adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw ymdrin â'r polisi penodol a'r materion tystiolaethol cysylltiedig ynghylch polisi, ond yn hytrach i edrych ar y grym technegol a deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â'r Bil a chydbwysedd y pwerau a'r ffordd y caiff y pwerau hynny eu harfer yn y Bil?
Felly, gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 5 Mawrth a gwnaethom chwe argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio bod ein hadroddiad yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud penderfyniadau ar y Bil hwn. Mae ystyried hawliau dynol yn un o'r gofynion pwysig wrth asesu materion cymhwysedd deddfwriaethol. O ystyried hyn, mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â materion hawliau dynol yng nghyd-destun adran 16 o'r Bil, ac mae'r adran hon yn galluogi swyddogion awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre o dan adrannau 13, 14 a 15 o'r Bil i gymryd
'personau eraill o'r fath...y mae'r swyddog yn eu hystyried yn briodol'.
Yn ystod ein gwaith craffu, gwnaethom ystyried ehangder yr ymadrodd hwn, ac yn arbennig i sicrhau na chaiff y pŵer yn adran 16 ei gamddefnyddio. Nodwyd yn Neddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984—PACE—fod cod B yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog sy'n mynd i mewn i fangre gyflwyno ei hun ac unrhyw un sydd gydag ef. Ar y llaw arall, o dan adran 16(2) o'r Bil hwn, y cyfan y mae'n rhaid i'r swyddog wneud yw
'hysbysu'r meddiannydd o enw'r swyddog'.
Ni welwn unrhyw reswm paham na ddylai gofyniad o'r fath fod yn gymwys i bersonau eraill sy'n dod gyda'r swyddog i'r safle. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliant i adran 16 o'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gael gwybod enw'r personau sydd gyda'r swyddog pan fyddant yn mynd i mewn i'r safle. Credwn y dylid gosod dyletswydd ar y swyddog i roi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae ein hail argymhelliad, felly, yn awgrymu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliannau i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ar arfer yr holl bwerau a'r dyletswyddau o dan y Bil ac i sicrhau bod y Bil yn cynnwys dyletswyddau priodol i roi sylw i'r canllawiau hynny. Fel yn achos ein gwaith craffu ar bob Bil, rydym yn ystyried y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil hwn a'r hyn sydd ar ôl ar gyfer is-ddeddfwriaeth.
Bydd Aelodau yn ymwybodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eisoes wedi ei ddweud, fod yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael ei osod gan ddefnyddio pŵer gwneud rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Drwy roi'r isafbris uned yn y rheoliadau, byddai'n golygu na allai Aelodau'r Cynulliad gyflwyno gwelliannau i'r Bil i osod pris uwch neu is na'r hyn a awgrymwyd. Yn yr unig ddewis a fyddai ar gael i Aelodau'r Cynulliad fyddai derbyn neu wrthod yr isafbris uned fel y nodir yn y rheoliadau, oherwydd ni ellir eu diwygio. Ac, fel y cyfryw, rydym ni'n credu y gallai'r dull hwn mewn gwirionedd gyfyngu ar bŵer y ddeddfwrfa. Rydym ni'n credu felly y byddai'n well gosod yr isafbris uned ar wyneb y Bil a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ffigur hwnnw gan ddefnyddio rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Yn ein barn ni, byddai hyn yn arwain at ddadl lawer mwy trylwyr ar egwyddor ganolog y Bil, sef yr hyn y dylai'r isafbris uned ar gyfer alcohol fod. Mae argymhellion 3 a 4 yn ein hadroddiad yn adlewyrchu ein safbwynt ar y pwyntiau hyn.
Wrth wneud argymhelliad 3, gwnaethom nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch gwelliannau deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth, sef pwerau Harri VIII, fel y'u gelwir. Mae'r pwyllgor hwn wedi mynegi pryder am y defnydd gormodol o bwerau o'r fath yn gyson. Rydym wedi derbyn bod yna amgylchiadau lle maent yn cynrychioli cyfaddawd synhwyrol a phriodol, ar yr amod eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Nid ydym felly yn ei hystyried yn briodol i ddadlau y dylai materion sylweddol o bolisi cyhoeddus gael eu neilltuo i bwerau gwneud rheoliadau oherwydd efallai y bydd angen newid y polisi yn y dyfodol ac oherwydd nad yw deddfwrfeydd yn hoffi pwerau Harri'r VIII. Dylid penderfynu a yw mater yn ymddangos ar wyneb y Bil gan ei arwyddocâd polisi yn hytrach nag a yw'n bosibl y bydd angen ei newid neu beidio yn y dyfodol.
Hoffwn gloi, felly, drwy grynhoi ein barn ar gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil, ac ar gynnwys cymal machlud. Gallwn weld rhinwedd mewn cynnwys enghreifftiau darluniadol o gyfrifiadau o'r isafbris alcohol perthnasol ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, ein barn ni oedd y gallai fod yn ddryslyd pe byddai'r isafbris uned wedi'i gynnwys yn y rheoliadau a'i fod yn wahanol i'r gwerth a ddefnyddir yn yr enghraifft ddarluniadol. Nid yw'n glir ychwaith pam nad oes enghraifft ddarluniadol wedi'i chynnwys, mewn gwirionedd, ar gyfer 7.1. Rwy'n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi codi ac ymdrin â'r mater hwn yn ei gyfeiriadau at hygyrchedd, ac, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y dehongliad o hygyrchedd o'i gymharu â'r pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o ran dryswch posibl.
Yn gyffredinol, nid ydym o'r farn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi esbonio'n ddigon clir pam y mae'n meddwl ei bod orau ac yn angenrheidiol rhoi enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil yn hytrach na dewis amgen—[torri ar draws.] Mae'n flin gen i. Iawn.
Diolch am ildio. Rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am bwysigrwydd bod â ffigurau ar wyneb y Bil yn y lle cyntaf. A fyddech chi'n dweud bod yna fater ehangach gyda Llywodraeth Cymru? Yn sicr, yn natblygiad y trethi yn ddiweddar, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, roedd y Llywodraeth yn amharod i roi ffigurau ar wyneb y Bil hefyd. Er mwyn bod yn dryloyw, oni fyddai hynny'n fuddiol yn y dyfodol, yn yr holl faterion hyn?
Wel, rwy'n credu bod yna wahaniaethau rhyngddyn nhw. Rwy'n credu bod yna amgylchiadau penodol iawn yma, oherwydd mae gosod isafbris gwirioneddol ar wyneb y Bil, sef y mater yr ydych yn ei godi rwy'n credu, yn mynd i union wraidd pa mor effeithiol yw'r ddeddfwriaeth ynddi'i hun mewn gwirionedd, ac, yn absenoldeb hynny, bydd hynny'n penderfynu sut y gallai'r Cynulliad hwn ystyried beth yw'r lefel honno a beth fyddai'r effaith ar faint o alcohol yn union sy'n cael ei yfed, a'r holl bethau y mae'r ddeddfwriaeth yn dymuno ymdrin â nhw mewn gwirionedd.
Rydym ni'n credu mai dewis amgen, o ran yr enghreifftiau darluniadol, er hynny, fyddai defnyddio'r canllawiau a'u diweddaru fel sy'n ofynnol. Byddai hyn yn sicrhau dull cyson rhwng yr isafbris uned a'r ffigur a ddefnyddir yn yr enghreifftiau darluniadol. Felly roedd ein hargymhelliad 5 yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'n pryderon yn y ddadl hon. Rwy'n deall y pwyntiau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet, felly yr hyn yr wyf yn ei wneud yw amlinellu'r pryderon fel y cawsant eu cyfleu yn y pwyllgor, ac rydym yn edrych ymlaen at ystyried eich ymatebion ysgrifenedig.
Yn olaf, rydym wedi cofnodi ein cytundeb i ddefnyddio'r cymal machlud, fel y nodir yn adran 22. Rydym wedi nodi y gallai'r rheoliadau o dan adran 22(3) wneud darpariaeth 'fel y gall fod yn angenrheidiol neu'n hwylus' a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â'r materion hyn, gan eu bod yn cael eu codi yn gyson gan y pwyllgor hwn: pe byddai'r Bil yn cael ei ddirymu, byddai'r pŵer, yn ein barn ni, i wneud newidiadau 'angenrheidiol' yn ddigon. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad 6 yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' o adran 22(3). Diolch ichi, Llywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton.
Gwelliant 1. Neil Hamilton
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na fydd y Bil yn arwain at y canlyniadau iechyd cadarnhaol a ddymunir ar gyfer pobl Cymru ac y gallai gael effaith niweidiol ar rannau o'n cymunedau sy'n agored i niwed.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton.
Yn dilyn ein hadroddiad yn y Pwyllgor, mae llawer o sefydliadau wedi ysgrifennu ataf, ynghyd ag etholwyr, â phawb yn gwrthwynebu'r isafbris uned. Felly, ni allaf rannu yn y cynsail mai cyflwyno isafbris uned yw'r ffordd gywir i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Ni fydd gwneud alcohol yn ddrutach yn atal pobl rhag yfed yn ormodol, a cheir y canfyddiad ei fod yn annheg ac yn cosbi'r rhai hynny sy'n yfed mewn ffordd gyfrifol, yn enwedig y rhai hynny ar incwm isel. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r grŵp mwyaf o bobol sy'n goryfed mewn pyliau yw'r bobl canol oed sy'n ennill llawer o arian ac, yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae 47 y cant o'r bobl lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn yfed mwy na'r swm a argymhellir ac mae 28 y cant o'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn goryfed mewn pyliau. Roedd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod wedi yfed mwy na'r terfynau a argymhellir ar un diwrnod o leiaf yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd sydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm o'u cymharu ag oedolion yn y braced incwm isaf. Roedd tystiolaeth ar ymddygiad prynu a gyflwynwyd i Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban yn dangos y rhagwelir y bydd yfwyr niweidiol yn y cwintel incwm uchaf yn prynu 80 o unedau yr wythnos o alcohol rhad. Ni fydd cynyddu prisiau yn gwneud fawr ddim i atal y bobl hyn. Mae'r bobl hynny sydd o blaid isafbris uned ar gyfer alcohol yn aml yn cyfeirio at Ganada fel enghraifft wych o'r polisi'n gweithio, ond dengys tystiolaeth o British Columbia, rhwng 2002 a 2011, bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu, mewn gwirionedd, fel y gwnaeth derbyniadau i ysbytai a briodolir i alcohol. Dylem fod wedi dysgu o'r mesurau i reoli tybaco nad yw cynyddu prisiau yn atal ysmygwyr trwm; y cyfan mae'n ei wneud yw eu gwneud nhw'n dlotach. A'm pryder i yn y fan yma bob amser yw trafferthion plant mewn teulu lle mae rhieni yn yfed yn drwm. Yn aml, gyda chynnydd ym mhris alcohol, mae'r plant yn mynd heb bethau hanfodol, ac mae ganddynt ansawdd bywyd tlotach, gan felly gynyddu anghydraddoldeb.
Mae arnaf i ofn y bydd isafbris uned yn gwneud dim ond arwain at fwy o elw i'r archfarchnadoedd, ac na fydd yn gwneud llawer i annog yfed yn gyfrifol. Mae pryderon a amlygwyd gan y Ganolfan Huggard y gallai deddfwriaeth o'r fath achosi i'r bobl hynny sy'n cael trafferthion â chaethiwed i alcohol gael eu gwthio tuag at gyffuriau anghyfreithlon rhatach sydd ar gael yn rhwydd, fel sbeis. Hefyd, ceir pryder y gallai'r ddeddfwriaeth hon sbarduno symudiad at farchnad anghyfreithlon ar gyfer alcohol, fel y gwelwyd gyda'r fasnach tybaco, sydd wedi gweld y fasnach mewn sigaréts ffug sy'n cynnwys cemegau niweidiol iawn yn ffynnu.
Mae'n rhaid inni hefyd ystyried y ffaith bod yna fanteision iechyd i yfed alcohol yn gyfrifol, ac mae mwy na 100 o astudiaethau wedi dangos bod yfed un neu ddwy o unedau o alcohol y dydd, mewn gwirionedd, yn gallu lleihau'r risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd gan gymaint â 45 y cant. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gall yfed mwy na'r hyn a argymhellir gynyddu eich risg o glefyd yr afu, gall niweidio eich calon a chynyddu eich siawns o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae'n gydbwysedd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei reoli, ond yn anffodus, mae sawl un nad ydynt yn gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod yn rhaid inni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r cannoedd o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r degau o filoedd o dderbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn. Nid isafbris uned, yn fy marn i, yw'r ffordd o wneud hynny. Mae'n rhaid i ni addysgu'r cyhoedd yn well am niwed alcohol, a helpu'r rhai hynny sy'n gaeth i alcohol yn well, ond nid cosbi'r rhai sy'n yfed yn gyfrifol. Diolch.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy nodi y bydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi'r Bil hwn yng Nghyfnod 1. Fodd bynnag, rydym yn gwneud hynny gyda rhestr hir iawn o gafeatau a phryderon y byddem ni'n hoffi eu gweld yn cael sylw dros y cyfnodau nesaf, ac yn y gwelliannau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno.
Credwn y dylai'r Llywodraeth fod yn ddoeth wrth ddeddfu. Dydych chi ddim yn deddfu dim ond er mwyn deddfu. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glir ynghylch buddion pasio deddfwriaeth sydd wedi'i thargedu at nifer bach iawn o bobl, a dylem gofio, yn ein holl sgyrsiau, nad yw alcohol ei hun yn broblem. Mae'n gwbl gyfreithlon, ac mae'n cael ei ddefnyddio'n gwbl iawn gan nifer fawr o bobl ledled y byd. Yr hyn sydd dan sylw yw bod gan rai pobl broblem o ran sut y maen nhw'n ymdrin ag alcohol, ac mae angen inni fod yn benodol iawn yn ein pwyslais o ran sut y gallwn gynorthwyo'r bobl hynny a'u rhoi yn ôl ben y ffordd er mwyn iddynt gael gwell canlyniad ar gyfer eu hiechyd yn y tymor hir.
Wrth adolygu hyn yn ystod dadl Cyfnod 1, un o'r pryderon i mi—ac roeddwn yn falch iawn o nodi bod y Pwyllgor Cyllid hefyd wedi ei nodi—yw bod diffyg tystiolaeth ystadegol, mewn gwirionedd, ynghylch beth fydd manteision isafbris uned ar gyfer alcohol. Wrth wrando ar y dystiolaeth sydd ger ein bron, Ysgrifennydd y Cabinet, meddyliais am ddau beth. Roedd un grŵp sydd wedi seilio set fawr iawn a rhagfarnllyd iawn o baramedrau, os mynnwch chi, ar fodelu yn gyfan gwbl, ac roedd y grŵp gyferbyn, a oedd mewn gwirionedd yn nodi pam na ddylem ni ei wneud, pam na ddylem ni fwrw ymlaen â hyn. Ond roedden nhw'n oddrychol iawn yn eu tystiolaeth. Yr hyn na chefais i oedd unrhyw ymdeimlad clir o 'Dyma'r dystiolaeth; gwnewch chi eich penderfyniad'. Roedd y cyfan mor rhagfarnllyd, y naill ffordd neu'r llall, drwy gydol y sesiwn dystiolaeth, felly byddwn i'n hoffi gweld llawer o ymhelaethu yn y cyfnod nesaf er mwyn cael ymdeimlad llawer cliriach o ymchwil empirig, dilys, go iawn sy'n dangos lle mewn gwirionedd y gall isafbris uned helpu i dynnu pobl oddi ar lwybr trychinebus o ran eu perthynas gymhleth ag alcohol.
Mewn gwirionedd, dywedodd y Pwyllgor Cyllid—ac rwy'n dyfynnu—
'nid oes unrhyw dystiolaeth ystadegol sy'n dangos y bydd cyflwyno isafbris uned yn arwain at ostyngiad o ran faint o alcohol sy'n cael ei yfed.'
O ystyried yr hyn a ddywedais ar y dechrau ynghylch pan fyddwch chi'n gwneud deddfwriaeth mae'n rhaid i chi ei gwneud yn gyfrifol, mae'n rhaid bod gennych ddarlun clir iawn o'r hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni. Dyna, rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, yw un o'r cyfrifoldebau clir y mae'n rhaid i chi fel Llywodraeth ei gyflawni yng nghyfnod nesaf y Bil hwn. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glîr ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni a sicrhau bod gennym y dystiolaeth ar ei gyfer. Os nad yw'r dystiolaeth honno yno, mae angen inni feddwl yn hir ac yn ofalus ynghylch pa un a ddylem ni eistedd yn ôl ac aros i weld beth fydd yr arbrawf yn yr Alban yn ei wneud cyn inni ei dilyn. Ac rwy'n deall bod llawer o resymau eraill pam y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno prosesu hyn—oherwydd yr amserlenni sy'n gysylltiedig â Brexit ac ati—ond rwyf i'n credu mai ein cyfrifoldeb ni yw edrych ar hynny. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, maddeuwch imi. Rwy'n credu ein bod ni yn cytuno'n llwyr, y Ceidwadwyr Cymreig—[torri ar draws.] Mae gen i ddŵr, diolch—gyda'r ymateb gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a sut y dylem ni ystyried rhoi ar wyneb y Bil baramedrau allweddol penodol ynghylch sut y byddwn ni'n symud ymlaen gyda hyn, a hoffwn weld hynny'n cael ei archwilio yng Nghyfnod 2 wrth i'r Llywodraeth fwrw ymlaen.
Hoffwn inni ystyried yn hir ac yn ofalus iawn yr effaith amnewid. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd wedi ei anwybyddu. Unwaith eto, pan wnaethom edrych ar y sail dystiolaeth a oedd gennym ger ein bron, gwnaethom ofyn fel pwyllgor, dro ar ôl tro, y dylem ni fod yn gallu dod o hyd i dystiolaeth gan elusennau cyffuriau a grwpiau eraill sy'n ymdrin â phobl yn camddefnyddio sylweddau ynghylch beth fyddai'r daith i rywun sydd â phroblem caethiwed. Doedd y dystiolaeth ddim ar gael. Mae'n rhywbeth nad yw pobl wedi gwneud ymchwil arno, ac roeddwn i'n bersonol o'r farn bod hynny'n eithaf rhyfeddol. Doedd dim digon o ddeunydd deifiol a allai ddweud, os oes rhywun yn gaeth i alcohol neu â pherthynas gymhleth ag alcohol, sy'n eu galluogi i fynd allan a goryfed mewn pyliau neu unrhyw arfer niweidiol arall, na fyddant o reidrwydd yn mynd ar daith a allai eu harwain at sylwedd arall. Rwy'n credu, yn ystod Cyfnod 2, y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn hoffi gweld llawer iawn mwy o waith yn cael ei wneud ar y ddamcaniaeth amnewid gyfan honno. Aethom ni allan a siarad â'r Ganolfan Huggard. Rydym ni wedi siarad â rhai o'r elusennau eraill. Mae'n rhaid i'r dystiolaeth fod ar gael. Llywodraeth Cymru: eich dyletswydd chi yw mynd allan a dod o hyd i'r dystiolaeth honno, fel y gallwn, yma yn y ddeddfwrfa hon, wneud penderfyniad clir iawn ynghylch a yw hyn, mewn gwirionedd, yn mynd i dargedu y bobl sydd ei angen fwyaf.
Yn olaf—mae yna lawer o bwyntiau yr hoffwn i eu gwneud, ond rwy'n ymwybodol iawn fy mod yn brin o amser—Llywydd, hoffwn i sôn am yr effaith ar incwm teulu i'r rhai hynny sydd prin yn ymdopi. Rydym ni'n sôn, fel yr wyf wedi darganfod—. Byddaf i'n onest â chi: doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y gair 'seidr'—roeddwn i bob amser yn meddwl ei fod yn golygu bod yn rhaid bod afal ynddo. Rydym ni wedi canfod bod yna fathau o seidr allan yno sydd erioed wedi gweld afal, byth wedi bod ar gyfyl afal, ac maen nhw'n ddim ond cemegau pur. Dyma'r math o bethau yr ydych chi'n ceisio ei ddileu drwy'r Bil hwn, a wyddoch chi, rwy'n credu bod hwnnw'n nod gwerth chweil iawn. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sydd prin yn ymdopi a fydd yn mynd allan ac yn prynu brandiau rhad. Maen nhw'n yfed yn gyfrifol. Wyddoch chi, mae'n un o'r pleserau sydd ganddyn nhw mewn bywyd. Ond, bydd brand rhad hefyd yn dioddef oherwydd y Bil isafbris uned ar gyfer alcohol. Gallech chi ystyried efallai person hŷn sy'n mynd allan ac yn prynu pecyn pedwar o seidr—nid y rhai nad wyf yn cael sôn amdanyn nhw nad ydynt erioed wedi gweld afal, ond y rhai sydd ychydig yn uwch na hynny, ond maen nhw'n frandiau rhad. Byddai eu bil yfed nhw yn cynyddu rhyw £150 y flwyddyn. Mae'r bobl hyn yn rai heb lawer iawn o arian, mae'n bleser bach iawn, dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth o'i le, a dydyn nhw ddim yn bod yn anghyfrifol. Rwy'n credu, fel y dywedodd Caroline o bosibl yn ei chyfraniad hi, bod yn rhaid inni sicrhau bod y Bil hwn yn gyfiawn ac yn deg. Nid yw'n golygu bod y rhai hynny sydd ag arian ond sy'n yfed yn anghyfrifol yn gallu parhau i wneud hynny, a'r rhai hynny sydd ddim yn yfed yn anghyfrifol ond y mae diod fach yn rhan angenrheidiol o'u bywydau—eu bod, yn y diwedd, yn cael eu cosbi'n annheg. Rwy'n credu y byddai hynny'n mynd yn groes i'r holl amcanion tegwch y byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru am eu lledaenu.
Felly, rwy'n gofyn am eich maddeuant am fy anallu i gyflawni hyn mewn ffordd fwy cyflym ac amserol. Byddwn ni'n ei gefnogi ar hyn o bryd, ond mae llawer mwy o gwestiynau i'w gofyn. Llywodraeth Cymru: mae dyletswydd arnoch chi i ddarparu rhai o'r atebion hyn os ydych chi'n dymuno i'r Ceidwadwyr Cymreig barhau i gefnogi'r Bil hwn tan iddo ddwyn ffrwyth.
'Egwyddor' ydy'r gair pwysig heddiw. Mi ddechreuaf i drwy gadarnhau fy mod i yn cytuno efo'r egwyddor sylfaenol yn y Bil yma, sef bod yna le i edrych ar gymelliadau ariannol er mwyn ceisio lleihau'r defnydd peryglus o alcohol. Mae alcohol yn costio'n ddrud iawn inni fel cymdeithas. Mae'n costio bywydau. A phan mae tystiolaeth o'ch blaen chi yn awgrymu y gallai'r Bil yma, pe bai'n Ddeddf, arbed 65 o fywydau y flwyddyn, rydych chi'n cymryd y math yna o dystiolaeth o ddifri. Mae yna sgil-effeithiau positif posibl ar gyfer tafarndai yma, efo prisiau mewn tafarndai ddim yn mynd i godi. Mae hynny yn apelio. Rydw i'n gobeithio hefyd y gallai fo annog cynhyrchwyr i greu diodydd efo cynnwys alcohol is. Mae hynny hefyd yn beth da. Mae'r nod yn anrhydeddus, felly, ac mi fyddwn ni, felly, fel Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddor heddiw.
Ond, fel rydym ni wedi clywed gan sawl un yn barod, mae angen cryfhau'r Bil, ond hefyd cryfhau, rydw i'n meddwl, y sail dystiolaeth sydd yna yn gefn i'r hyn sydd o'n blaenau ni. I raddau helaeth, rydym ni wedi bod yn dibynnu, yn llwyr, bron, ar waith ymchwil gan grŵp ymchwiliadol Sheffield. Nid oes gennyf reswm i amau dilysrwydd y gwaith hwnnw o gwbl, ond mae ein hanallu ni i astudio modelau eraill yn ddigonol, dysgu o brofiadau eraill o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn anfantais—nid oes yna ddianc rhag hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i herio'r dystiolaeth yno yn ystod taith y ddeddfwriaeth yma drwy'r Cynulliad. Mae'n rhaid perswadio'r cyhoedd o effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth a thegwch y ddeddfwriaeth hefyd. Mae eisiau edrych yn fanwl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Rhun, am dderbyn fy ymyriad, ond roeddwn i eisiau ailadrodd unwaith eto yr hyn yr ydych newydd ei ddweud. Nid yw modelu yr un peth â thystiolaeth. Mae tystiolaeth wedi'i seilio ar beth sydd wedi digwydd. Mae modelu bob amser yn cynnwys rhagdybiaethau, a gall rhagdybiaethau bob amser gael eu gwyro un ffordd neu'r llall.
Mae'r ddau'n ddefnyddiol mewn gwirionedd, ac mae diffyg gennym yn y ddau beth—boed modelu damcaniaethol neu dystiolaeth.
Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae angen perswadio'r cyhoedd am effeithlonrwydd a thegwch yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Mae eisiau edrych yn fanwl ar y casgliad yma y byddai cyflwyno'r Mesur ond yn costio £3 y flwyddyn i yfwr cymedrol—£3 y flwyddyn. Ni allwn ni anwybyddu senarios lle gallai'r Ddeddf daro mwy o lawer ar yfwyr cymedrol sydd ag incwm is, ac sydd, o'r herwydd, ar hyn o bryd, yn dewis diodydd rhatach, fel rydym ni wedi clywed yn cael ei grybwyll gan Aelodau eraill. Yn ychwanegol, efo canolfan Sheffield yn awgrymu mai dim ond 2.4 uned yn llai fyddai'r yfwr cymedrol yna yn ei yfed mewn blwyddyn, mae angen i'r Llywodraeth brofi bod y gost ychwanegol o werth iddyn nhw o ran eu hiechyd.
Mae'n amlwg, serch hynny, bod y ddeddfwriaeth yma wedi'i llunio yn bennaf i dargedu yfwyr peryglus, a mwy felly yfwyr niweidiol. Mae yna dystiolaeth gryf iawn, heb os, y gallai fo arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd alcohol gan y grwpiau yma. Mae hynny yn beth da. Rydw i'n siŵr y gallem ni gytuno ar hynny, ond—ac mae yna 'ond' yma—eto, mae yna ofnau y gallai rhai o'r defnyddwyr alcohol hynny droi at gyffuriau eraill. Eto, mae angen i ni fod yn gwbl eglur am y dystiolaeth. Mi fyddwn ni angen sicrwydd y byddai rhagor o adnoddau yn cael eu buddsoddi mewn helpu'r defnyddwyr yna, eu helpu nhw i frwydro yn erbyn eu camddefnydd o alcohol a'r effaith y mae hynny yn ei gael ar eu teuluoedd nhw, ar eu plant nhw. Ni allwn ni edrych ar gyflwyno cymhelliad ariannol i drio cael pobl i yfed llai heb ystyried yr holl ystod o wasanaethau cefnogi sydd angen eu datblygu a'u buddsoddi ynddyn nhw hefyd.
Sy'n dod â ni at fater arall: drwy godi prisiau rhai diodydd, mi fydd cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhydd i wneud rhagor o elw. Rydw i'n credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth amlinellu llwybr tuag at sefyllfa lle gellid cael gafael ar yr arian ychwanegol sydd yn newid dwylo er mwyn gallu gwneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn gwasanaethau taclo camddefnydd a helpu'r bobl hynny sydd yn yfed gormod o alcohol. Y gwir amdani, rydw i'n meddwl, ydy mai'r ffordd mwyaf effeithiol i wneud beth rydym ni'n trio ei wneud yn fan hyn fyddai i ni yng Nghymru gael pwerau i drethu alcohol. Mi allwn ni wedyn ailddiffinio yn llwyr, os mynnwn ni, sut y mae trethu alcohol yng Nghymru yn gweithio, a helpu tafarndai, o bosibl, os ydym ni eisiau. Gallwn drethu a thargedu diodydd volume uchel sydd yn uchel eu canran o alcohol, fel y seidr di-afal rydym wedi clywed yn cael ei grybwyll, tra'n cadw'r arian yn y pwrs cyhoeddus.
Ac efo'r ddadl yna ynglŷn â'r angen inni yng Nghymru gael y pwerau i weithredu fel rydym ni wir angen ei wneud, fe wnaf i orffen, Llywydd. Deddfwriaeth yn erbyn y cloc ydy hwn, a hynny oherwydd yr hyn y rhybuddiom ni ar y meinciau yma ynglŷn ag o ar y pryd, sef bod Deddf Cymru, Deddf San Steffan, a ddaeth i rym yn erbyn ein hewyllys ni, yn tynnu y pwerau a oedd gennym ni i ddeddfu yn y maes yma oddi arnom ni yn y dyfodol agos. Os ydym am weithredu, rydym ni'n gorfod gweithredu rŵan, neu golli'r hawl. Rydym ni yn cefnogi'r egwyddor. Beth rydym ni angen bod yn sicr ohono fo ydy ein bod ni yn cymryd y camau cywir i warchod iechyd a buddiannau eraill ein dinasyddion ni yma yng Nghymru. Senedd Prydain sydd wedi ein rhoi ni mewn cornel.
Rwy'n dymuno siarad yn fyr i gefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig. Rwy'n credu bod llawer wedi'i gofnodi ynghylch sgil-effeithiau yfed gormod o alcohol a'r effeithiau ar iechyd pobl ac mae'r salwch a ddaw yn sgil hynny, unwaith eto wedi'i nodi a'i dderbyn yn helaeth. Ac wrth gwrs, mae'n effeithio hefyd ar y teulu ehangach, yn ogystal â'r unigolyn sy'n yfed gormod. Ceir perthynas rhwng hyn a niwed i'r economi o ran amser a gollir o'r gwaith, a cheir llawer o dystiolaeth bod gormod o alcohol yn arwain at droseddau treisgar, trais yn erbyn menywod, a llawer iawn o droseddau eraill. Felly, mae unrhyw beth sy'n lleihau'r camddefnydd o alcohol, yn werthfawr iawn yn fy marn i.
Rwy'n credu bod llawer o dystiolaeth bod pris yn perthyn yn agos i yfed, ac yn wir gor-yfed. Felly, rwy'n credu bod y sail resymegol i'r ddeddfwriaeth hon yn gryf iawn yn wir, Llywydd, i gydnabod bod problem gydag alcohol rhad, cryf. Ac os byddwn yn cynyddu pris yr alcohol rhad, cryf hwnnw, byddwn yn gwneud rhywbeth arwyddocaol a phwysig i fynd i'r afael â'r problemau a'r materion hyn. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ymwybodol, bob un ohonom, nad hwn yw'r unig ateb i ymdrin â phroblemau goryfed alcohol yng Nghymru. Ceir amrywiaeth o ddulliau a fydd yn ein helpu ni i gyflawni'r cynnydd angenrheidiol, ond mae hyn yn rhan sylweddol a phwysig o hynny.
Yr unig beth arall yr hoffwn ei ddweud, Llywydd, yw, fel y mae eraill wedi'i grybwyll, ei bod yn amlwg mai rhan bwysig o wneud y cynnydd angenrheidiol fydd sicrhau bod y gwasanaethau cymorth priodol gennym ledled Cymru i helpu pobl i fynd i'r afael â'u problemau goryfed alcohol, o ystyried y pwyslais y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei roi ar y materion hynny. Rwy'n gyfarwydd iawn â gwaith Kaleidoscope, er enghraifft, a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol Gwent. Rwy'n credu bod y rhain yn bwysig ac yn fuddiol iawn yn fy ardal i, ac rwy'n yn gwybod bod gwasanaethau tebyg ledled Cymru, ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau eraill mwy cyffredinol yn ein sector iechyd. Bydd yn bwysig iawn i ni sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn ddigonol i ymdrin â'r galw cynyddol posibl ar y gwasanaethau pe rhoddir y ddeddfwriaeth hon ar waith, fel yr wyf yn gobeithio y bydd yn digwydd. Unwaith eto, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r materion hynny hefyd.
Bydd UKIP yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwn heddiw. Mae'n ddrwg gen i weld na fydd yr un o'r pleidiau eraill yn y Cynulliad yn gwneud hynny hefyd. Yn ei gyflwyniad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai Mesur wedi'i dargedu yw hwn. Mae hyn yn wir mewn un ystyr oherwydd ei fod yn targedu'r llawer heb fod yn fuddiol mewn gwirionedd i'r ychydig sy'n yfed yn anghyfrifol. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn hoffi diod ac yn yfed mewn ffordd gyfrifol, ceir lleiafrif bach iawn sy'n achosi problemau i'w hunain ac i weddill y gymdeithas. Y cwestiwn allweddol yw—. Nid oes neb yn amau effeithiau niweidiol yfed gormodol, fel y mae John Griffiths newydd gyfeirio atynt, ond y cwestiwn yw a yw Mesur o'r fath yn debygol o fod yn effeithiol o ran targedu'r bobl hynny. Mae'r dystiolaeth, fel ag y mae, yn profi i'r gwrthwyneb, mewn gwirionedd, a daw hyn i'r amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd ac, yn wir, yn y dystiolaeth a gawsom yn y Pwyllgor Cyllid hefyd.
Mae arnaf ofn bod Angela Burns yn mynd ar drywydd y greal sanctaidd os yw hi'n credu y bydd unrhyw astudiaeth fathemategol neu astudiaethau econometrig yn debygol o daflu llawer o oleuni ar y mater hwn. Mae cymariaethau rhyngwladol bron yn amhosibl i gymharu â'r sefyllfa mewn unrhyw wlad arall, oherwydd bod rhagdybiaethau diwylliannol gwahanol wledydd yn amrywio'n sylweddol, ac mae'r byd sefydliadol y mae pobl yn yfed ynddo yn wahanol iawn, iawn o un wlad i'r llall. Mae astudiaeth Sheffield y cyfeiriwyd ato yn gynharach mewn gwirionedd yn gwneud rhagdybiaeth sy'n peri syndod, mai'r yfwyr trymaf fydd yn ymateb mwyaf i gynnydd yn y pris. Mae hynny'n groes i bob greddf mewn gwirionedd. Y bobl sydd lleiaf tebygol o gael eu heffeithio gan gynnydd mewn pris yw'r rhai sydd fwyaf dibynnol ar alcohol, felly byddan nhw'n parhau i yfed—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Felly, pan godwyd pris sigaréts, a wnaeth hynny gynyddu neu leihau y defnydd o dybaco mewn gwirionedd?
Wel, nid dyna'r cwestiwn. Mae'r cwestiwn ynghylch y rhai sy'n wirioneddol gaeth: adictiaid. Nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, beth fydd yr isafbris. Wrth gwrs, pe byddech yn ychwanegu £5 at isafbris alcohol yn hytrach na 50c, fe fyddai'n cael effaith sylweddol, ond hyd nes y gwyddom beth fydd isafbris uned, ni allwn ond siarad mewn termau cyffredinol. Ond yr hyn y gallwn ei ddweud, rwy'n credu, yn weddol ffyddiog yw mai'r bobl sydd leiaf tebygol o newid eu hymddygiad o ganlyniad i gynnydd cymedrol yn y pris yw'r rhai sydd fwyaf dibynnol ar alcohol. Mewn gwirionedd, byddan nhw'n gwario llai ar bethau eraill er mwyn bwydo eu dibyniaeth. Rwy'n credu mai dyna yw natur y ddibyniaeth.
Gwnaethpwyd astudiaeth o British Columbia, a wnaeth gyflwyno isafbris, ac fe nodwyd hyn fel cyfiawnhad dros y Bil hwn, ond, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn dioddef o bob math o ddiffygion methodolegol. Yn un peth, mae gwerthiant diod feddwol yn British Columbia yn fonopoli llwyr i'r wladwriaeth ac mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn y wlad hon. Priodolwyd y gostyngiad mewn troseddu yn British Columbia i'r isafbris ar gyfer alcohol a gyflwynwyd heb, wrth gwrs, nodi y gwelwyd gostyngiadau tebyg mewn troseddu ym mhobman arall yng Nghanada lle nad oedd isafbris ar gyfer alcohol.
Yn wir, ceir tueddiadau fel hyn ar draws y byd hefyd. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, mewn gwirionedd, yn lefelau yfed alcohol yn gyffredinol yn y wlad hon yn y blynyddoedd diwethaf—gostyngiad o 12 y cant rhwng 2004 a 2011. Felly, mae gwahanu'r holl effeithiau gwahanol hyn o un achos unigol bron yn amhosibl ei gyflawni. Felly, rwy'n credu y dylem ddadlau am hyn mewn termau cyffredinol, yn hytrach na cheisio cyflwyno rhyw fath o fanyldeb fathemategol ffug sy'n debygol o gynnal neu danseilio'r rhagfarnau y deuwn gyda ni i'r ddadl.
Gwyddom fod lefelau yfed alcohol mewn rhai gwledydd yn llawer uwch nag yn y wlad hon, ac eto mae ganddyn nhw lai o broblemau goryfed. Un ohonynt yw Ffrainc y cyfeiriwyd ati yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd ym mharagraff 73. Ym mharagraff 75 yn yr adroddiad hwn hefyd, dywedir bod y defnydd o alcohol yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond na fu gostyngiad cyfochrog yn y niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, nid yw'r ddau beth hyn o reidrwydd yn gysylltiedig â'i gilydd. Os yw hwn yn mynd i fod yn fesur wedi'i dargedu, mae'n rhaid iddo dargedu'r bobl sy'n creu'r broblem, nid y mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed alcohol nad ydynt yn broblem o gwbl i neb, hyd yn oed i'w hunain.
Bydd cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yn effeithio'n wael ar y rhai tlawd a'r rhai sydd ar yr incwm isaf, fel y nodwyd gan lawer o bobl yn ystod y ddadl hon. Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar yfwyr siampên, ond bydd yn effeithio ar y rhai sy'n mynd i brynu ychydig o ganiau o lager yn Aldi neu Lidl neu ble bynnag, ac rwy'n credu ei fod yn fesur annheg na all fod yn unrhyw beth ond mesur atchweliadol.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at baragraff 178 o adroddiad y pwyllgor iechyd am yr effaith debygol ar y digartref a'r rhai sydd â phroblem yfed sy'n byw ar y stryd, a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd i'r rheini. Mae hynny'n dangos, mewn gwirionedd, y gall mesurau o'r fath greu problemau gwaeth iddynt. Does gen i ddim amser i fanylu ar hyn nawr, ond bydd gennym ddigon o amser yn ystod taith proses y Bil hwn i archwilio'r pethau hyn yn fanwl. Yn sicr, credaf mai'r pwynt sydd wedi codi yn araith bron pawb heddiw yw bod angen inni gael sail dystiolaeth i unrhyw benderfyniad a wneir yn y pen draw.
Hoffwn siarad o blaid y Bil hwn. Mae'n Fil pwysig sydd â'r nod o fynd i'r afael â drwg cymdeithasol sydd wedi bod o gwmpas yn rhy hir o lawer. Mae hefyd yn Fil y gwnaethpwyd ymrwymiad iddo ym maniffesto Llafur Cymru 2016, maniffesto yr oeddwn i'n falch o gael fy ethol ar ei sail.
Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Credaf eu bod wedi gwneud gwaith pwysig wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru a hefyd awgrymu meysydd lle gellid cryfhau'r Bil.
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r achos dros isafbris uned yn eithaf clir, ond mae'n ffaith bod goryfed alcohol yn achosi niwed. Mae'n ffaith y bu 463 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2015. Ac mae hefyd yn ffaith bod dros 50,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yn 2015-16 wedi eu priodoli i gamddefnydd o alcohol.
Mae camddefnyddio alcohol yn achosi troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n niweidio ein heconomi ac yn niweidio bywyd teuluol hefyd. Mae'r grŵp hollbleidiol yn San Steffan ar blant pobl sy'n gaeth i alcohol wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, gwaith sydd wedi bod yn wirioneddol hanfodol o ran dangos ei effaith. Maen nhw'n awgrymu bod un ym mhob pump o blant ledled y DU yn byw gyda rhiant sy'n yfed gormod. Mae hynny dros 2.5 miliwn o blant. Mae'r grŵp hollbleidiol yn nodi bod y plant hyn ddwywaith yn fwy tebygol o brofi anawsterau yn yr ysgol na'u cyfoedion, dair gwaith yn fwy tebygol o ystyried hunanladdiad, bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau bwyta, a phedair gwaith yn fwy tebygol o ddod yn gaeth i alcohol eu hunain.
Mae'n rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir pam mai isafbris uned yw'r ffordd ymlaen. Mae hefyd wedi nodi rhai o effeithiau manteisiol isafbris o 50c. Bob blwyddyn, gallai hyn arwain at 53 yn llai o farwolaethau, 1,400 yn llai yn cael eu derbyn i'r ysbyty, a gallai, mewn gwirionedd, arbed £882 miliwn i economi Cymru.
Fodd bynnag, rwyf eisiau tynnu sylw at un neu ddau o faterion heddiw. Yn gyntaf, tra'r oeddwn yn ymchwilio ar gyfer heddiw, deuthum ar draws ystadegyn diddorol arall. Y llynedd, gwerthwyd 51 miliwn o boteli o jin yn y DU. Mae hynny bron i 10 miliwn yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i drafodaeth am jin crefft, ond drwy ragdybio bod hyn yn gysylltiedig â phatrymau yfed mwy dosbarth canol, mae hyn yn fy helpu i egluro fy mhwynt cyntaf. Mae'n ymddangos bod mesurau'r Bil yn canolbwyntio ar y mathau rhataf a chryfaf o alcohol. Os gall pobl fforddio i dalu mwy, oni fyddant ond yn gwario mwy ar alcohol? A fydd gosod isafbris uned yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblem yfed y rhai mwy cefnog? Neu a fydd ond yn taro'r rhai nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r codiad mewn pris?
Yn ail, hoffwn grybwyll mater a godwyd yn ystod y gweithdy Cefnogi Pobl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Codwyd pryderon yno y gallai gosod isafbris, yn anfwriadol, hybu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod pobl mewn cyfyngder—y rhai sy'n gaeth—yn troi at gyflawni gweithredoedd difrifol i fwydo eu dibyniaeth. Rwy'n awyddus i gael sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gallwn ni wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd.
Yn y dyfodol, byddwn yn gobeithio y byddai gosod isafbris o unrhyw fath yn cael ei adolygu'n flynyddol. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r craffu a wnaed gan bwyllgorau ar yr egwyddorion cyffredinol wedi ei awgrymu. [Torri ar draws.]
Fel y gwnaethoch chi sôn, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—ac yn amlwg roedd y ddau ohonom yn rhan o'r sesiwn dystiolaeth honno ar Gefnogi Pobl—. A ydych chi'n cytuno â mi pan ddywedaf fod pawb yn y Siambr hon yn unfryd yn eu hawydd i fynd i'r afael â'r problemau yr ydych chi wedi eu nodi'n glir iawn yn eich araith? Y cwestiwn yw: a fydd y mesur penodol hwn yn cyflawni'r newid hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd credaf ar hyn o bryd o beth rwy'n synhwyro nad oes argyhoeddiad yn y Siambr hon y bydd yn gwneud hynny.
Rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid i'r Bil gael ei weld fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â hynny, a ni fydd gennym ni amser i drafod hynny heddiw.
Ond byddai gosod hyn o dan adolygiad blynyddol hefyd yn helpu i dawelu meddyliau'r rhai o'm hetholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil. Byddai yn ein galluogi i fonitro ei effaith. Byddai hefyd yn caniatáu i ni gadw llygad arno i weld os oes unrhyw broblemau a achosir gan y ffin dyllog rhyngom ni a Lloegr, a byddai hefyd yn caniatáu inni adolygu pa un a allai'r arian a godir drwy osod isafbris, mewn amser, ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.
Argymhellodd y pwyllgor iechyd fod y Llywodraeth yn ceisio canfod a fyddai sefydlu ardoll orfodol neu gynllun taliad gwirfoddol i fanwerthwyr yn bosibl. Byddai'r arian a godid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn unig. Petai hyn yn bosib, byddai'n sicr yn rhywbeth y byddwn i yn ei gefnogi'n llawn.
I gloi, hoffwn ailadrodd eto fy nghefnogaeth i'r Bil. Mae dadleuon wedi'u datgan yn erbyn y Bil yn y Siambr hon, ond nid wyf yn credu eu bod mewn unrhyw ffordd yn argyhoeddi yn fwy na'r rhai a ddefnyddiwyd yn erbyn y gwaharddiad ysmygu, a bu hwnnw'n llwyddiannus o ran lleihau'r nifer o oedolion sy'n ysmygu. Gobeithio caiff y Bil hwn gystal llwyddiant gyda phroblem goryfed alcohol.
Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn gryno gan fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eisoes wedi'u gwneud. Mae caethiwed i alcohol yn salwch difrifol sy'n arwain at effeithiau andwyol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar y teulu ehangach a ffrindiau hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r problemau mewn cymdeithas a achosir gan y salwch hwn, ond rwyf yn meddwl bod y syniad o ddeddfwriaeth ar bris alcohol braidd yn annoeth.
Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yn dweud am y mesur, ac rwy'n dyfynnu,
'nid yw'n fwled arian'
a fydd yn ymdrin â'r holl niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac, mewn gwirionedd, gallai gael canlyniadau anfwriadol. A'r canlyniadau hynny yr hoffwn i roi sylw iddynt yn awr.
Ceir perygl posibl y bydd yfwyr trwm yn troi at fathau eraill o ymddygiad a fydd yn effeithio'n andwyol ar eu hiechyd, gan gynnwys dargyfeirio arian i ffwrdd o fwyd a'u cartref er mwyn prynu alcohol, neu amnewid alcohol â sylweddau anghyfreithlon nad ydynt wedi'u rheoleiddio. Gallai hyn hefyd effeithio ar eu plant a'r teulu ehangach. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ofyn i'r Llywodraeth, fel y mae llawer o bobl eraill wedi'i wneud eisoes, edrych ar ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r ddibyniaeth hon, fel addysg a chefnogaeth, yn hytrach nag, ac yn sicr ochr yn ochr ag, isafbris alcohol.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Diolch ichi, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Bu galwadau ers tro ar Gymru i newid ei pherthynas ag alcohol, a hynny o du'r holl bleidiau gwleidyddol, ac rwy'n disgwyl y bydd y Bil hwn yn gwneud cyfraniad gwirioneddol a sylweddol at leihau yfed peryglus a niweidiol ac, yn y pen draw, at achub bywydau.
Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau o'r gwahanol bleidiau—y grŵp Ceidwadol, grŵp Plaid Cymru ac, yn wir, y pwyllgor iechyd—am nodi eu cefnogaeth ar gyfer y Bil heddiw, ac rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud wrth i ni symud i Gyfnod 2 i weld rhai o'r manylion, rhai o'r pwyntiau, ac wrth gwrs ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth i'r argymhellion yr wyf wedi'u nodi.
Hoffwn i geisio esbonio ac ymdrin â rhai o'r materion a godwyd yn y ddadl, ac yn arbennig rhai o'r pwyntiau a wnaed yng nghyfraniad Dai Lloyd, ond hefyd gan Vikki Howells ac, rwy'n credu, yn rhannol yng nghyfraniad Angela Burns hefyd, sef y pwynt ynghylch y pwynt yn y pen draw pan fydd gennym fwy o dystiolaeth. Dyna pam ein bod yn cydnabod bod hwn yn ymagwedd arloesol at ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Mae wedi'i seilio ar y gwaith modelu a helpodd yr Alban i gymryd y cam hwn ymlaen hefyd ar gyfer eu Bil isafbris uned hwy, ac maen nhw wedi defnyddio ystod o dystiolaeth ystadegol i fodelu'r effaith bosibl yn sgil hyn, ac rwy'n credu bod hynny yn sail gwbl resymol i fwrw ymlaen, ac mae gen i ffydd yn eu tystiolaeth wedi'i modelu. Ond rydym yn cydnabod ei fod yn arloesol ac rydym yn dymuno deall ei effeithiau. Dyna pam, ym Mil y Llywodraeth, yr ydym ni wedi cynnig cymal machlud. Rydym yn cynnig bod yn rhaid i ni gael gwerthusiad ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o bum mlynedd i ddeall effaith isafbris uned os bydd y Llywodraeth wedyn yn gofyn i'r Cynulliad gytuno y dylai'r drefn isafbris uned barhau yn y dyfodol. Felly, mae rhywbeth yma ynghylch a ydym ni'n fodlon cymryd y cam hwn i gyflwyno'r drefn hon, ond, beth bynnag, hyd yn oed os ydym yn gwneud hyn—ac rwy'n gobeithio y gwnawn ni—fe fyddwn ni'n cyrraedd pwynt pan fydd gennym werthusiad o'r effaith wirioneddol yma yng Nghymru yn ein cyd-destun ni.
Rwy'n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaed gan y pwyllgor iechyd ac, yn wir, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr hyn a ddylai fod ac na ddylai fod ar wyneb y Bil. Byddaf yn ystyried eto rai o'r sylwadau a wnaed ynghylch yr hyn a ddylai fod ar wyneb y Bil ac yn arbennig am y gwerthusiad. Rwy'n credu yr hoffwn i bwyllo, serch hynny, rhag ceisio rhagnodi ar wyneb y Bil y materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn y gwerthusiad ar y pwynt hwn, yn hytrach na rhedeg drwy'r hyn a ddylai fod yn y gwerthusiad ymhen pum mlynedd neu fwy ar ôl y profiad hwnnw o'r Bil ar waith—byddwn i'n nerfus ynghylch rhagnodi amryw o faterion ar wyneb y Bil ar y pwynt hwn. Ond rwy'n credu y byddwn i'n gallu rhoi rhywfaint o hyder i Aelodau am y dull y byddai'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio o bennu beth i'w gynnwys mewn unrhyw werthusiad i wneud yn siŵr ei fod yn real ac yn ystyrlon ar gyfer Aelodau a bydd gofyn iddyn nhw wedyn—o bosibl—barhau â'r drefn isafbris uned. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni ei drafod trwy Gyfnod 2 ac, rwy'n gobeithio, y tu hwnt.
Rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau technegol a wnaed gan CLAC. Rwy'n meddwl am y pwynt am swyddogion a enwir. Byddaf yn ystyried hynny ac yn arbennig y darpariaethau cyfatebol yr ydych yn cyfeirio atynt yn PACE. Rwy'n dal i anghytuno y dylai'r isafbris uned fod ar wyneb y Bil. Ac eto, ceir anghytundeb rhwng y pwyllgor cyfansoddiad, ac yn wir y pwyllgor iechyd, hefyd, ar y pwynt hwnnw, a cheisiais i ymdrin â hynny yn fy sylwadau agoriadol. Ond, â phob parch, nid wyf yn derbyn y bydd cael y pris ar wyneb y Bil yn helpu i benderfynu ar ei lwyddiant. Mae'n ymwneud â mwy na hynny.
O ran UKIP, rydym yn syml yn anghytuno, ac nid wyf yn credu bod llawer o bwynt treulio llawer o amser yn egluro hynny eto heddiw. Rydym yn deall ein bod yn anghytuno. Ar y pwynt ynghylch deddfwriaeth gyfrifol, Angela, unwaith eto, rwy'n cydnabod eich pwynt, yn arbennig y pwyntiau a wnaed gennych chi ac eraill ynghylch amnewid. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i'r panel cynghori ar gamddefnyddio sylweddau gynnal adolygiad o dystiolaeth yn y maes hwn a'i chyhoeddi hefyd, felly bydd Aelodau yn gweld hynny wrth i ni symud drwy Gyfnod 2, a dylai hynny fod o fewn yr wythnosau, nid misoedd, nesaf, er mwyn i Aelodau ei weld.
Credaf fod pwynt mewn rhai o'r cyfraniadau o ran yr egwyddor o bennu isafbris uned, ond ar ba lefel y dylai hynny fod, ac wedyn deall effaith hynny ar yfwyr cymedrol hefyd. Unwaith eto, mae mwy i ni ei wneud, wrth i'r Bil fynd rhagddo, o ran sut y gall hynny ddigwydd, o ran y dystiolaeth sydd ar gael o'r broses fodelu a faint o ystyriaeth y dylai Aelodau ei rhoi i hynny pan ofynnir iddynt gymeradwyo'r darn hwn o ddeddfwriaeth mewn gwirionedd.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau gan Rhun am effaith y ddeddfwriaeth hon a allai achub bywydau ac, unwaith eto, y pwyntiau a wnaed gan John Griffiths a Vikki Howells hefyd. Rwyf wedi nodi y byddwn yn ceisio rhoi mwy o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Rydym ni'n dymuno cael mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gwasanaethau rheng flaen i'w helpu gyda heriau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Bydd yn rhaid i ni bob amser feddwl am lefel yr angen sy'n dod at y gwasanaethau hynny a gwneud yn siŵr eu bod wedi eu rheoli'n dda, ond hefyd wedi'u hariannu'n briodol.
 phob parch, rwyf yn anghytuno mai trethiant yw'r ateb. Mae hyn yn rhan o'r hyn a aeth drwy'r achosion llys, pan ddywedodd y diwydiant alcohol y dylid troi at drethiant. Y broblem yw y gall manwerthwyr weithio o amgylch trethi, ac maent yn gwneud hynny ar hyn o bryd; maen nhw'n osgoi'r effaith y dylai trethiant ei chael ar y pris a delir ac yn gwerthu alcohol am golled er mwyn denu prynwyr. Mae isafbris uned yn pennu llawr ac nid oes modd mynd o dan hwnnw, a dyna pam yr ydych yn sicrhau bod yn rhaid cael isafbris uned, fel arall byddem mewn sefyllfa nid anhebyg i'r hyn yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
Ond rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Vikki Howells ynghylch maint yr her i ni a'n perthynas ag alcohol. Bwriad y Bil hwn yw bod yn rhan o'r ateb, nid yn fwled arian. Nid yw'n cael gwared ar yr angen am well addysg a dealltwriaeth o'r dewisiadau a wnawn fel dinasyddion, ond mae yn rhan o'n hamrywiaeth eang o ddulliau i geisio sicrhau buddion gwirioneddol ar gyfer pob cymuned ledled Cymru a pherthynas wahanol ag alcohol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r Bil hwn yma heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, dyma ni'n dod i'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6684 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Er bod adroddiad y Pwyllgor Cyllid wedi cael ei grybwyll yn ystod y drafodaeth y buom yn ei chael ar egwyddorion cyffredinol y Bil, nid oes gan y Pwyllgor Cyllid lawer i'w ddweud am bolisi fan hyn, ond mae gennym ni nifer o bethau i'w dweud ynglŷn â chostau a manteision y Bil, a dyna pam rydw i'n sefyll i siarad ar y penderfyniad ariannol.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod cyflwyno isafbris fesul uned ar gyfer alcohol yn gysyniad newydd, ac nad oes eto lawer o gynsail o ran llefydd eraill a all roi syniad cadarn i ni o gostau a manteision polisi o'r fath. Rydym yn deall, felly, pam mae amcangyfrif y costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â'r Bil yn seiliedig ar fodelu, ond roedd hynny'n golygu ei bod yn anoddach inni ystyried goblygiadau go iawn ariannol y Bil. Dim ond rhagdybiaethau yr oedd y modelu yn gallu eu rhoi i ni ynghylch sut y byddai isafbris yn effeithio ar ymddygiad defnyddwyr. Nid oes sicrwydd mai dyna sut y bydd pobl yn ymddwyn mewn gwirionedd, felly nid ydym yn gwybod a fydd y costau a'r buddion gwirioneddol yr un fath â'r amcangyfrifon.
Mae'n anffodus bod yr amcangyfrifon yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn seiliedig ar fodelu a gyhoeddwyd mor bell yn ôl â 2014 ac nad yw'r modelu sydd wedi'i ddiweddaru ar gael tan gamau olaf ein cyfnod craffu. O'r herwydd, nid yw'r wybodaeth ariannol yn y memorandwm esboniadol wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r costau a'r buddion diwygiedig. Felly, byddem yn disgwyl i'r fersiwn wedi'i diweddaru gael ei chyhoeddi yn dilyn trafodion Cyfnod 2 ac i gynnwys y newidiadau hyn. Rydym yn argymell, felly, fod hyn yn cael ei wneud cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 3.
Honnir mai nod y Bil hwn yw lleihau'r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol, ond nid nhw yw'r unig grwpiau a gaiff eu heffeithio drwy gynyddu cost alcohol cryf. Bydd yfwyr dibynnol yn arbennig yn gweld cynnydd sylweddol yn y pris y byddant yn ei dalu am alcohol, a gallai'r grwpiau hyn flaenoriaethu gwariant ar alcohol dros fwyd a rhent a allai waethygu problemau cymdeithasol yn y pen draw, ac mae i'r problemau cymdeithasol hyn eu goblygiadau cost eu hunain, wrth gwrs. I rai, gallai isafbris fod yn ysgogiad i ofyn am gymorth ar gyfer dibyniaeth ar alcohol, felly dylai fod adnoddau digonol ar gael i wasanaethau cymorth i ymateb i gynnydd posibl yn y galw.
Bydd cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu rhoi ar awdurdodau lleol wrth orfodi darpariaethau'r Bil, felly mae angen i safonau masnachu awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian a ddyrennir ar gyfer y cyfrifoldebau ychwanegol—sef rhyw £300,000 dros dair blynedd—yn y modd mwyaf effeithiol. Wrth gwrs, mae'r gost amcangyfrifedig i lywodraeth leol yn seiliedig ar isafbris o 50c yr uned, ond os yw'r isafbris gwirioneddol yn uwch gallai'r goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol fod yn llawer uwch yn ogystal.
Mae'r amcangyfrifon yn rhagweld y byddai'r gostyngiad mewn gwerthiant alcohol yn arwain at ostyngiad o £5.8 miliwn y flwyddyn mewn trethi ar alcohol, er bod hyn wedi'i ddiwygio i lawr i £1.9 miliwn yn ôl y ffigurau diweddaraf a gawsom. Rydym yn arbennig o bryderus nad yw goblygiadau gostyngiad o'r fath mewn refeniw wedi cael ei ystyried yn briodol yng ngoleuni'r cytundeb fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Gyfunol. Byddem wedi disgwyl y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod effaith y gostyngiad posibl mewn trethi ar alcohol gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi. Yn y bôn, nid ydym ni'n meddwl y bydd y Trysorlys yn anwybyddu'r ffaith eu bod nhw'n colli arian drwy'r Bil hwn. Byddem yn disgwyl felly fod penderfyniad ar yr effaith ar y fframwaith cyllidol wedi ei wneud cyn pleidlais derfynol y Cynulliad ar y Bil yng Nghyfnod 4.
Rydym o'r farn y bydd isafswm pris yn cynyddu refeniw manwerthwyr yn yr hirdymor. Mae'r pwyllgor yn amheus am y posibilrwydd o fanwerthwyr, yn enwedig y rhai sydd ag elw uchel eisoes, yn elwa ymhellach o gyflwyno mesur iechyd y cyhoedd. Credwn felly fod digon o amser i Lywodraeth Cymru weithredu mecanwaith lle gellid ailgyfeirio refeniw a gesglir o ardoll ar fanwerthwyr mawr at ddibenion gwella iechyd y cyhoedd, er enghraifft i elusennau alcohol neu gamddefnyddio sylweddau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym nad oedd yn disgwyl i'r Bil gael effaith sylweddol ar gynhyrchwyr alcohol yng Nghymru nac y byddai llawer o gwsmeriaid yn croesi'r ffin i brynu alcohol yn Lloegr. Er hynny, bydd y ddau fater hyn yn dibynnu ar ba lefel y gosodir yr isafbris—yr uchaf y pris, po fwyaf fydd yr effaith ar gynhyrchwyr alcohol a masnach drawsffiniol.
Bydd lefel yr isafbris yn hollbwysig felly, ond bydd hynny yn cael ei osod trwy reoliadau yn ddiweddarach yn hytrach nag ar wyneb y Bil. Beth bynnag yw'r rhesymau am hynny, rydym yn credu y dylai asesiad ariannol cadarn gael ei gynnwys gyda'r rheoliadau a bod yn destun craffu trylwyr gan y Cynulliad. Credwn mai cyhoeddi rheoliadau drafft, gyda digon o amser i'r rhain gael eu harchwilio gan bwyllgorau perthnasol y Cynulliad, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau hynny. Felly, rydym wedi argymell bod y drefn ar gyfer gwneud y rheoliadau yn cael ei newid i weithdrefn uwchgadarnhaol i ganiatáu i graffu ddigwydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n hapus i ddweud y byddwn, wrth gwrs, yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol. Ceisiais ymdrin â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y ddadl egwyddorion cyffredinol, yn enwedig y pwyntiau ynghylch y ardoll wirfoddol a'r materion trawsffiniol hefyd.
Ar eich pwynt ynghylch gostyngiad refeniw, mae swyddogion y Llywodraeth eisoes wedi codi'r mater hwn mewn trafodaethau â'r Trysorlys, ac ni chodwyd pryderon hyd yma gan y Trysorlys, ond byddaf wrth gwrs yn gwneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Rwy'n disgwyl craffu pellach yn ystod y broses ac rwy'n edrych ymlaen at ymdrin â'r pwyntiau hyn eto wrth inni brofi gwelliannau yng Nghyfnod 2, i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn ymdrin â'r hyn yr wyf i'n credu sy'n sail resymegol i bolisi a dderbynnir yn eang ar gyfer y Bil ac i wneud yn siŵr y cawn y manylion yn gywir yn ymarferol.
Gan fod y bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio, rwyf hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.] Tri ohonoch chi? Felly, fe ganwn ni'r gloch.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, un yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6686 - Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig yna, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, un yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6687 - Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, 13 yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6683 - Gwelliant 1: O blaid: 5, Yn erbyn: 36, Ymatal: 13
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, saith yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6683 - Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): O blaid: 46, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, un yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6684 - Penderfyniad ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): O blaid: 47, Yn erbyn: 6, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.
Mae gennym oll reswm i ddiolch am y ffyrdd niferus y caiff ein bywydau eu cyfoethogi drwy’r hyn a ddysgwn gan bobl eraill. Drwy gyfnewid syniadau a gweld bywyd o safbwyntiau gwahanol, gallwn wella ein dealltwriaeth a chydweithio mwy tuag at ddyfodol cyffredin. Mae cysylltiadau'r Gymanwlad yn cynnig rhywbeth arbennig o werthfawr i ni; mae ein hetifeddiaeth a rennir yn ein helpu i edrych y tu hwnt i wahaniaethau a gweld amrywiaeth fel rhywbeth i'w dathlu yn hytrach na rywbeth sy'n ein gwahanu.
Fe welwn hynny ar waith yng Nghyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad a gynhelir yn y Deyrnas Unedig fis nesaf, gan ddod â phobl ifanc, busnesau ac aelodau o'r gymdeithas ddinesig o bob rhan o'r Gymanwlad at ei gilydd.
Mae'r digwyddiadau hyn yn enghreifftiau rhagorol o'r ffyrdd y gall consensws ac ymrwymiad helpu i greu dyfodol sy'n decach, yn ddiogelach, yn fwy llewyrchus ac yn fwy cynaliadwy. Ar ôl mwynhau croeso cynnes gan gynifer o wledydd y Gymanwlad dros y blynyddoedd, rwy'n edrych ymlaen at gael croesawu arweinwyr ein teulu o 53 o wledydd i'm cartrefi yn Llundain a Windsor.
Mae chwaraeon hefyd yn helpu i greu heddwch a hybu datblygiad. Bydd holl gyffro a photensial cadarnhaol cystadleuaeth gyfeillgar i'w gweld fis nesaf wrth i ni fwynhau Gemau'r Gymanwlad ar y Traeth Aur, Awstralia. Ynghyd â'r athletwyr a'r swyddogion, bydd miloedd o wirfoddolwyr hefyd yn cyfrannu at lwyddiant y Gemau.
Mae ymdrech wirfoddol gan bobl sy'n cyfrannu fel unigolion, grwpiau a sefydliadau mwy o faint yn aml yn rhan greiddiol o'r Gymanwlad a'n holl gymunedau. Drwy addo i weithio er lles pawb mewn ffyrdd newydd, gallwn sicrhau bod cwmpas a statws y Gymanwlad yn parhau i dyfu, er mwyn cael hyd yn oed fwy o effaith ar fywydau pobl heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.