Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Mae'n bleser gen i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018, wedi cael y Cydsyniad Brenhinol heddiw.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, John Griffiths.

Arian Cyfalaf

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniad Llywodraeth Cymru o arian cyfalaf? OAQ51619

Diolch, Lywydd. Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllidebau cyfalaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £5 biliwn i gefnogi blaenoriaethau seilwaith ledled Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, darparu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a diogelu dyfodol ein hamgylchedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Coleg Gwent yn bwriadu adleoli eu campws yng Nghasnewydd i leoliad ar lannau'r afon yng nghanol y ddinas, a allai fod yn drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach yng Nghasnewydd, byddai'n golygu cydweithio â Phrifysgol De Cymru a'u campws hwy yng nghanol dinas Casnewydd, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Dinas Casnewydd o ran cynlluniau adfywio ehangach. Yn gyffredinol, tybed a allech ddweud wrthyf pa fath o cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y math hwnnw o brosiect, o ran cyllid cyfalaf uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a hefyd, efallai, o ran modelau amgen, dielw o ddarparu cyllid angenrheidiol.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gyfarwydd iawn â phresenoldeb Prifysgol De Cymru ar lannau'r afon ar y campws yng nghanol dinas Casnewydd, sy'n hynod lwyddiannus, ac rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau eraill y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd, ochr yn ochr â chyngor y ddinas. Rydym yn buddsoddi dros £50 miliwn yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ardal Casnewydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu £25.5 miliwn o hwnnw. A hynny i gyd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn erbyn cefndir lle mae ein cyllidebau cyfalaf £400 miliwn yn llai yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag yr oeddent yn 2009-10, gyda'r holl effaith y mae hynny'n ei gael ar ein gallu i ariannu cynlluniau pwysig. Rydym yn bwrw ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Bydd hynny'n gwneud cyfraniad at fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac nid oes gennyf amheuaeth, wrth i'r cynllun y mae'r Aelod yn cyfeirio ato symud ymlaen, y byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud, drwy gyfalaf confensiynol neu drwy ffyrdd arloesol o ariannu, pe bai'r cynllun hwnnw'n dod i'n sylw.

Byddwch wedi fy nghlywed yn gofyn i'r Prif Weinidog ddoe am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, yn ymchwiliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roedd arwydd bod cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect penodol hwn. Fel Ysgrifennydd Cyllid, sydd a chyfrifoldeb am gyllidebau cyfalaf, ymhle y credwch y mae'r pwynt tyngedfennol ar gyfer y cynllun hwn, gyda'r costau ychwanegol a ragwelir ar hyn o bryd? Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd wedi dynodi, pan gafodd ei holi gan yr Aelod dros Lanelli, fod yna bwynt tyngedfennol. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r cynllun hwn a'r gallu i fwrw ymlaen ag ef mewn gwirionedd?

Wel, Lywydd, byddai penderfyniad o'r fath yn benderfyniad polisi; fy nghyd-Aelod, Ken Skates fyddai'n cymryd y cyfrifoldeb dros hynny. Fel y Gweinidog cyllid, fy ymagwedd i tuag at ffordd liniaru'r M4 erioed yw parchu annibyniaeth yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, nid gwneud dyraniadau uniongyrchol i'r adran ar gyfer ffordd liniaru'r M4 hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol hwnnw. Mae arian wedi'i gadw mewn cronfeydd canolog, digon i fwrw ymlaen â'r prosiect, ond hyd nes y byddwn yn gwybod beth fydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol yn ei ddweud, credaf ei bod yn fwy synhwyrol i ni gadw'r arian hwnnw'n ganolog a gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu yng ngoleuni adroddiad yr ymchwiliad. 

13:35

Wrth gwrs, mae'r cynnydd yn y costau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod £136 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i ateb pryderon ynglŷn â'r porthladd yng Nghasnewydd, ac mae hynny, mae'n debyg, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhywbeth rydych wedi'i gymeradwyo, neu wedi cytuno iddo o leiaf. Nawr, rydych wedi sôn am yr arian sydd gennych yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Fel rwy'n deall, mae gennych £150 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a'r gallu i fenthyca £125 miliwn arall, felly mae hynny'n gwneud cyfanswm o £275 miliwn y gellid ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf fel arian cyfalaf tuag at yr M4 newydd, fel y dylem ei galw. A allwch chi gadarnhau nad ydych yn gallu, ac na fyddwch yn ceisio, gwario'r arian hwnnw hyd nes y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus wedi adrodd, ie, ond hefyd hyd nes y bydd pleidlais wedi bod ar gyllideb atodol yn y Cynulliad hwn?

Wel, Lywydd, fel y mae'r Aelod wedi fy nghlywed yn dweud, rwy'n bwriadu caniatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus adrodd cyn i mi wneud penderfyniadau dyrannu. Byddai'n rhaid i'r penderfyniadau dyrannu hynny gael eu hadrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y ffordd arferol, a lle byddant yn galw am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, byddai'n rhaid ceisio'r gymeradwyaeth honno.

Gwendidau yn y System Dreth

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system dreth yng Nghymru? OAQ51625

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd newydd o atal osgoi trethi, osgoi artiffisial a gwella lefelau cydymffurfio ar gyfer yr holl drethi Cymreig. Mae hynny’n cynnwys trethi lleol a’r trethi cenedlaethol fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.

Mater y trethi tai haf a thai gwyliau sydd gennyf i dan sylw. Mi anfonodd Steffan Lewis a minnau lythyr atoch chi cyn y Nadolig er mwyn nodi ein pryderon ynglŷn â'r mater o dai haf yn trosglwyddo i gategori tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth cyngor. Mae yna dros 500 o eiddo wedi trosglwyddo o'r dreth cyngor i drethi busnes yng Ngwynedd, gan arwain at golled o dros £1.7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Mi wnaethoch chi ymateb drwy egluro bod yna beth gweithredu wedi digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ond pa mor hyderus ydych chi fod y rheolau yr ydych chi wedi eu cyflwyno i'r system am daclo'r broblem yn llawn? Onid oes gwneud llawer mwy, mewn gwirionedd? 

Wel, Llywydd, a gaf i ddweud gair o ddiolch i Siân Gwenllian am y wybodaeth y mae hi wedi ei rhoi i mi a'r llythyron rydym wedi eu derbyn oddi wrth Steffan Lewis a hithau? Rydw i wedi derbyn cyngor oddi wrth fy swyddogion i. Ar hyn o bryd, rydw i'n meddwl bod rheolau yno i ddelio â'r sefyllfa mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw ati. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa lle rydym yn gallu bod yn hyderus ynghylch sut bydd pethau yn troi mas ar y tir ledled Cymru. Rydw i wedi ysgrifennu yn ôl, heddiw, i'r Aelod, ar ôl yr ail lythyr rwyf wedi ei dderbyn, i ddweud, ar ôl ystyried beth mae hi wedi ei ddweud, fy mod i wedi newid cynllun gwaith y polisi trethi newydd rwyf yn mynd i'w gyhoeddi, gobeithio, ym mis Chwefror, i roi'r mater hwn ar y cynllun gwaith ac i wneud mwy dros y flwyddyn sydd i ddod i gasglu gwybodaeth, i weithio gyda'r Valuation Office Agency a gyda'r awdurdodau lleol. Felly, cawn ni weld. Os, ar ddiwedd y dydd, gallwn ni weld drwy'r dystiolaeth fod problem fawr yno, bydd rhaid i ni wneud pethau. Os yw'r pethau sydd gennym ar hyn o bryd yn ddigon cryf i ddelio â'r broblem, wel, bydd y wybodaeth y byddwn ni'n gallu ei chasglu dros y flwyddyn i ddod yn gallu dangos hynny hefyd. 

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod holl dalwyr y dreth incwm yng Nghymru yn cael eu nodi cyn bod treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol, ac nad ydym eisiau wynebu'r un anawsterau a gododd wrth ddatganoli treth incwm yn yr Alban, pan gafodd nifer o bobl eu camddosbarthu?

Wel, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn a diolch i Mike Hedges am ei godi. Mae'n gywir yn dweud, pan ddatganolwyd cyfrifoldebau treth incwm i'r Alban, fod yna rai problemau cychwynnol wedi'u profi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi o ran nodi'n gywir pa unigolion a oedd bellach yn ddarostyngedig i gyfraddau treth incwm yr Alban. Mae CThEM yn dweud wrthym eu bod wedi dysgu o'r profiad hwnnw a'u bod mewn sefyllfa well i sicrhau, pan fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn dod yn realiti o fis Ebrill eleni ymlaen, y bydd modd iddynt osgoi rhai o'r anawsterau a gawsant y tro cyntaf. Mae yna fanteision, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mewn dod yn ail gyda rhai o'r pethau hyn. Fodd bynnag, mae'r swyddog gweithredol sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am y materion hyn yn CThEM yn dod i'r Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher yr wythnos nesaf fel y gallwn graffu arno mewn perthynas â'r materion hyn. Byddaf yn ei gyfarfod ar yr un diwrnod, a byddaf yn sicr yn edrych am sicrwydd pellach ganddo, wrth i gyfrifoldebau treth incwm Cymru ddod yn realiti, y bydd CThEM yn gallu cyflawni eu hochr hwy o'r fargen honno.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn absenoldeb y llefarydd ar gyllid, rydw i'n gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi am grybwyll iechyd. Ond peidiwch â phoeni—yng nghyd-destun dyraniad cyllidebau mae fy nghwestiynau i.

Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu arian i gyrff cyhoeddus mawr fel y gwasanaeth iechyd, yn sicrhau bod yr arian yna yn cael ei wario mewn modd sydd yn gyson efo'r egwyddorion sydd wedi cael eu nodi gan y Llywodraeth?

Wel, Lywydd, mae hwnnw, yn y bôn, yn fater i'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n ddigon cyfarwydd â'r maes hwnnw i wybod y bydd ganddo ffyrdd uniongyrchol iawn o olrhain, drwy ei gysylltiadau â chadeiryddion, ac yna gyda phrif weithredwyr, y ffordd y mae'r arian y gallwn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio'n briodol gan y cyrff mawr hynny, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddweud—eu bod yn defnyddio'r arian y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob mis fel fy mod, yn unol â fy nghyfrifoldeb dros reoli'r gyllideb gyffredinol, yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'n rheoli'r darn sylweddol iawn hwnnw o Lywodraeth Cymru y mae'n gyfrifol amdano.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i yn gweld yr ateb yna yn ddefnyddiol. Mae hi yn nod, er enghraifft, gan y Llywodraeth i gynyddu gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, ond mae hi'n anodd gwirio a ydy hynny'n digwydd o ran lle mae'r arian yn mynd oherwydd mai un llinell gyllid yr ydym ni'n ei chael gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet. Onid ydych chi'n credu bod yna le i roi rhagor o is-linellau cyllid, os liciwch chi, er mwyn i chi fel Llywodraeth allu gwirio a ydy'r gwasanaeth iechyd yn gwneud yr hyn yr ydych chi yn dymuno iddyn nhw ei wneud, ond hefyd er mwyn ei wneud yn haws i ni fel Aelodau Cynulliad eich dal chi i gyfrif fel Llywodraeth?

Wel, rydw i'n gyfarwydd, Llywydd, gyda'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac yn y broses yr ydym ni wedi'i defnyddio i greu'r gyllideb y flwyddyn yma, rydym ni wedi rhoi mwy o fanylion ar lefel is na'r lefel yr ŷm ni wedi'i roi o'r blaen yn yr ail gam yn y broses newydd. Ble rŷm ni yn gallu gwneud mwy i roi mwy o fanylion i helpu'r Aelodau i graffu ar beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth, rŷm ni'n agored i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a phobl arall i weld sut ŷm ni'n gallu ei wneud. Rydw i'n meddwl yr ŷm ni wedi mynd cam ymlaen yn y broses yna, yn y broses newydd yr ŷm ni wedi'i defnyddio dros yr hydref.

Mae cyfrifoldeb, wrth gwrs, arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario mor effeithiol â phosibl, ac rydw i'n gwerthfawrogi, o'ch ateb cynharach chi, eich bod chi yn cael cyfarfodydd efo'r Ysgrifenyddion Cabinet yn y gwahanol feysydd er mwyn trio pwyso a mesur a ydy pethau yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond mae yna un enghraifft arall benodol: rydym ni'n gwybod bod gwariant ar ofal sylfaenol, primary care, wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf—mae'n rhyw 7 y cant o'r cyfanswm o wariant iechyd rŵan o gymharu ag 11 y cant flynyddoedd yn ôl. Rydw i'n meddwl y dylid mynd yn ôl i 11 y cant, ac mae eich cydweithiwr yr Ysgrifennydd dros iechyd yn dweud bod angen cryfhau gofal sylfaenol. Ond sut ydych chi, fel yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn gallu pwyso ar eich cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod gofal sylfaenol, yn y cyd-destun yma, yn cael y gefnogaeth rydym ni'n ei glywed y mae fod i'w chael, a bod y gefnogaeth yna'n dod yn ariannol?

13:45

Lywydd, roedd yr Aelod yn ofalus i nodi gwahaniaeth, ond mae'n wahaniaeth pwysig, rhwng y gyfran o'r gyllideb sy'n mynd at ofal sylfaenol a'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol, oherwydd mae'r buddsoddiad absoliwt mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu dros y blynyddoedd, er ei fod wedi cymryd llai fel cyfran o'r gyllideb gyfan. Nawr, gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Dyna pam ein bod yn ariannu clystyrau gofal sylfaenol yn uniongyrchol. Dyna pam ein bod wedi cynnal y gronfa gofal integredig eto eleni.

Ond rwy'n nodi wrth yr Aelod, mai un o'r rhesymau pam nad yw gofal sylfaenol, fel cyfran o'r gyllideb iechyd, wedi cael y gyfran y mae rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd wedi'i gael yw oherwydd y ffordd y mae dadleuon cyhoeddus, a dadleuon yma hefyd, yn rhoi cymaint o bwyslais ar wasanaethau ysbyty, ac rydym yn siarad llawer llai am wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Felly, bob tro y ceir dadl am wasanaethau y gellid eu newid mewn lleoliad ysbyty, cawn ddadleuon enfawr. Pan fo newidiadau'n digwydd ar lefel gofal sylfaenol, mae llawer llai o sylw yn cael ei roi iddynt. Yn rhannol, y rheswm y mae ysbytai wedi cymryd cyfran fwy o gyllideb gynyddol yw oherwydd y ffordd y cynhelir dadleuon ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd Cyllid, ddoe, ni wnaeth y Prif Weinidog ateb cwestiwn arweinydd yr wrthblaid ar gap ariannu uchaf ar gyfer ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn llawn. A ydych yn barod i roi manylion y cap, neu a yw Llywodraeth Cymru yn hapus i'r costau godi i'r entrychion?

Wel, Lywydd, ceisiais ddweud yn gynharach nad fy nghyfrifoldeb i yw gwneud y penderfyniadau polisi mewn perthynas â ffordd liniaru'r M4. Fy nghyfrifoldeb i yw rheoli'r gyllideb a gwneud yn siŵr bod arian ar gael i fynd ar drywydd blaenoriaethau allweddol. Yn yr achos hwn, mae'r M4 newydd yn cael ei hystyried drwy ymchwiliad lleol annibynnol, a hyd nes y bydd yr ymchwiliad hwnnw'n adrodd ni fyddaf yn gwneud dyraniadau uniongyrchol, oherwydd bydd yr angen am ddyraniadau yn dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad.

Diolch. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd Cyllid, ac rwy'n deall bod ymchwiliad cyhoeddus ar y gweill ar hyn o bryd sy'n edrych ar wahanol atebion a llwybrau posibl ar gyfer yr M4 a dylid caniatáu iddo ddilyn ei gwrs. Rwyf hefyd yn deall bod mater polisi i'w drafod yma, ac nad chi yw'r Ysgrifennydd i drafod hynny. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i chi'n benodol ynglŷn ag ariannu'r cynllun, ac fel Ysgrifennydd cyllid, mae gennych farn gyffredinol ar gyflawni a sicrhau gwerth cyhoeddus am arian i'r trethdalwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gost amcangyfrifedig gyfredol oddeutu £1.4 biliwn. Fodd bynnag, mae'n debyg nad yw hyn yn cynnwys amcangyfrifon o'r TAW, chwyddiant, na chostau cynnal a chadw yn y dyfodol. A oes unrhyw un o'r rhain wedi cael eu cynnwys a beth yw eich amcangyfrif cyfredol o gyfanswm cost ffordd liniaru'r M4?

Wel, Lywydd, mae'r ffordd y cyflwynir y costau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r Cynulliad yn cydymffurfio'n llwyr â'r confensiynau a ddefnyddir ar draws Llywodraethau ar gyfer adrodd ar symiau o'r fath. Felly, nid oes unrhyw beth yn anghyffredin yn y ffaith ein bod yn adrodd y symiau mewn prisiau cyfredol, yn hytrach na'r prisiau fel y gallant fod yn nes ymlaen. Yr hyn y gallaf ei adrodd wrth yr Aelodau yw: lle mae angen arian ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymchwiliad cyhoeddus eleni, er enghraifft, a rhywfaint o waith galluogi angenrheidiol, rwyf mewn sefyllfa i ddarparu'r arian hwnnw i'r Ysgrifennydd Cabinet priodol, ac rwy'n parhau'n ffyddiog, pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo o ganlyniad i'r ymchwiliad cyhoeddus lleol annibynnol, y byddaf yn gallu defnyddio'r dulliau sydd ar gael i mi i roi'r cynllun ar waith.

Diolch i chi, Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n gynyddol bryderus, oherwydd ymddengys bod diffyg ffigurau pendant unwaith eto heddiw. Nid oes llawer o amser ers i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y Cynulliad y byddai'r gost yn llai na £1 biliwn. Credaf ein bod wedi cael rhyw fath o warant, neu beth bynnag oedd y gair a ddefnyddiwyd, bryd hynny. Ond mae'n ymddangos bellach fod yr amcangyfrif hwnnw'n llawer rhy isel. Nawr, os edrychwch ar enghreifftiau o gynlluniau ffyrdd mawr eraill yng Nghymru, megis lledu'r A465 ym Mlaenau'r Cymoedd—ac unwaith eto, gan roi polisi i'r naill ochr ar hynny—mae llawer o oedi wedi bod mewn perthynas â'r cynllun hwnnw ac mae'n costio tua 25 y cant yn fwy na'r gyllideb wreiddiol ar hyn o bryd. Felly, gallwch ddeall pryder y cyhoedd ynghylch y mathau hyn o brosiectau. Bydd llwybr du'r M4, os caiff ei ddewis, yn mynd drwy safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ar draws gwlyptir, gan wneud y cynllun yn fwy cymhleth nag y byddai llawer o gynlluniau ffyrdd eraill. Onid ydych yn credu, ar wahân i'r ymchwiliad cyhoeddus, ei bod yn bryd cynnal adolygiad llawn o gostau posibl y prosiect hwn er mwyn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr?

13:50

Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y ddau fater yn yr union ffordd honno, Lywydd, oherwydd bydd y costau'n dibynnu ar gasgliadau'r ymchwiliad. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y materion yn yr union ffordd honno. Gadewch i mi ddweud yn gyffredinol wrth yr Aelod fy mod, wrth gwrs, yn rhannu ei awydd bob amser i weld cynlluniau gwariant ar draws Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol, a byddai hynny'n wir am y cynllun hwn yn yr un ffordd yn union ag y byddai'n wir am bob ffordd arall y bydd buddsoddiad cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei dalu'n ymarferol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn disgwyl gyda diddordeb i weld penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ar y rhestr fer ar gyfer trethi newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ond a yw'n cytuno â mi, er na fydd unrhyw dreth yn boblogaidd byth, y bydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd os gallant wneud cysylltiad rhwng y costau y byddant yn eu talu â'r manteision y byddant yn eu cael? Mae rhai o'r trethi hyn, wrth gwrs, yn ymgorffori'r egwyddor honno'n well nag eraill. O ystyried y pwysau ar wariant cyhoeddus a'r cynnydd anochel yn y costau a welir ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod, gellid hyrwyddo'r cynnig am ardoll gofal cymdeithasol, cyhyd â bod y cynllun sy'n mynd law yn llaw â'r dreth yn un synhwyrol, mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar y gefnogaeth gyhoeddus i dreth.

Wel, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae neilltuo arian, yn yr ystyr y gall pobl weld beth y maent yn ei gael am yr hyn y maent yn ei dalu, yn dylanwadu ar ba mor dderbyniol ydyw i'r cyhoedd. Fe fydd yn gwybod bod Cangellorion olynol ar lefel y DU bob amser wedi gwrthwynebu neilltuo arian yn y ffordd honno, ond credaf fod yr Aelod yn iawn i gyfeirio, yn y cynllun y mae'r Athro Gerry Holtham wedi'i gyflwyno, sef y sail ar gyfer y trafodaethau hyn, at dderbynioldeb y cyhoedd mewn mannau eraill, ac mae'n defnyddio'r enghraifft yn Japan lle y ceir treth heb ei neilltuo tuag at ofal cymdeithasol, ond nid ydych yn dechrau ei thalu nes eich bod yn 40. Nawr, mae'n debyg, yn fras, y gallech ddweud nad yw pobl o dan 40 oed yn credu y byddant yn heneiddio nac yn credu y bydd hyn byth yn berthnasol iddynt hwy. Pan drowch y gornel honno, rydych yn dechrau sylweddoli y gallai buddsoddi yn y gwasanaethau hyn fod yn rhywbeth y bydd gennych ddiddordeb ynddo heb fod yn rhy hir, ac yn wir, ym model Japan, fel rwy'n ei gofio, mae faint rydych yn ei dalu tuag at y dreth yn codi wrth i chi fynd yn hŷn. Felly, mae cyfrannu at y dreth yn ymddangos yn fwyfwy derbyniol wrth i chi agosáu at y pwynt lle y gallech elwa ohoni. Felly, yn yr ystyr hwnnw, credaf fod gwaith Holtham yn tueddu i gadarnhau'r gosodiad cyffredinol a wnaeth Mr Hamilton.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn fythol ifanc—rydym yn gweld y gorwel yn mynd yn bellach oddi wrthym wrth i ni fynd yn hŷn—ond rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud. O gofio bod costau gofal cymdeithasol oedolion, yn ôl rhagfynegiadau'r Sefydliad Iechyd, yn debygol o godi 4 y cant bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf, a bod costau'n debygol o godi i tua £2.5 biliwn erbyn 2030, mae'n amlwg y gallai hon fod yn broblem ariannu enfawr i Lywodraeth Cymru. Ac felly mae'n hanfodol, yn fy marn i, os bydd ardoll o'r fath, ein bod yn creu cronfa nad yw Llywodraethau'n gallu ei hysbeilio at ddibenion eraill. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio Deddf Yswiriant Gwladol 1911—nid cofio am ei fod yno ar y pryd, ond oherwydd ei fod wedi astudio hanes—a sail gyfan y cynllun hwnnw, a greodd yswiriant gwladol ym Mhrydain, oedd i greu cronfa yswiriant gwladol. Yn anffodus, mae'r gronfa honno wedi cael ei hysbeilio gan y Trysorlys yn rheolaidd ers hynny ac mae'r holl egwyddor o gyfrannu wedi cael ei thanseilio gan Lywodraethau Ceidwadol yn ogystal â Llywodraethau Llafur dros y blynyddoedd, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi anffurfio'r modd y caiff yswiriant cymdeithasol ei ariannu yn y wlad hon yn barhaol, a byddai'n llawer gwell pe baem yn neilltuo arian at ddiben penodol. Gwn fod llaw farw'r Trysorlys wedi atal hyn yn San Steffan, ond rwy'n gobeithio, o ganlyniad i ddatganoli, y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy goleuedig wrth ystyried y materion hyn.

13:55

Wel, Lywydd, Marx a ddywedodd, 'Po hynaf yr af, yr hynaf rwyf am fod'—ond wrth gwrs, Groucho Marx oedd hwnnw, nid Karl Marx. Mae'r Aelod yn llygad ei le pan ddywed fod y gronfa yswiriant gwladol wedi peidio â bodoli i bob pwrpas oddeutu 1957, pan benderfynodd Llywodraeth Macmillan ar y pryd ei bod am dyrchu i mewn iddi a thalu am wariant cyfredol o'r derbyniadau a oedd wedi cronni yn y gronfa. Ers hynny, mae yswiriant gwladol, mewn gwirionedd, yn system talu wrth ddefnyddio yn hytrach na system wedi'i hariannu gan yswiriant. Mae adroddiad yr Athro Holtham yn glir iawn mai'r math o gynllun y mae am ei hyrwyddo fyddai un lle byddai'n rhaid i arian y gallai dinasyddion Cymru ei dalu at ddibenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol fynd i gronfa bwrpasol y tu allan i'r Llywodraeth, gyda sicrwydd cryf i aelodau'r cyhoedd na allai'r Llywodraeth gael mynediad ati ar adegau o anhawster, a lle byddai trefniadau llywodraethu cryf yn ei chylch i roi hyder i bobl, os yw eu harian yn cael ei dalu at y dibenion hyn, y bydd yr arian hwnnw yno i'w dynnu allan at y dibenion hyn yn y dyfodol.

Ffordd arall y cafodd y gronfa yswiriant gwladol ei disgrifio, wrth gwrs, yw fel 'cynllun Ponzi mwyaf y byd', fel y mae wedi datblygu. Gobeithiaf na fyddwn yn ail-greu rhywbeth felly yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod gennym gyfle yma i wneud rhywbeth tebyg i'r hyn a wnaed yn Norwy, er enghraifft, mewn perthynas â'r arian annisgwyl a ddaeth i'w rhan pan ddechreuodd olew Môr y Gogledd lifo ac aethant ati i greu cronfa gyfoeth sofran, sydd bellach yn cynhyrchu difidendau helaeth i bobl Norwy, ac ar y sail honno y mae eu safon byw uchel iawn a'u hyswiriant cymdeithasol a'u darpariaeth iechyd ac ati yn cael ei gyllido i raddau helaeth. Nid oes gennym gyfoeth o olew, ond mae gennym gyfoeth yng ngallu creadigol ein pobl. Os gallwn neilltuo cyfran fach o incwm cenedlaethol ar gyfer cronfa gyfoeth sofran o'r math hwn, yna efallai y gallem helpu i gau cylch ariannu anghenion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio a system iechyd a fydd yn gallu gwella cymaint yn fwy o gyflyrau sydd, yn y gorffennol, wedi arwain at farwolaethau cynnar. Felly, y naill ffordd neu'r llall, rhan o ffyniant cynyddol cenedl yw iechyd a lles ei phobl ac mae hyn yn cyd-fynd yn daclus â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried trethi gyda'r Ddeddf honno, rwy'n credu, os ydym eisiau sicrhau bod datganoli yn y maes penodol hwn yn llwyddiant.

Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma? Pan gyhoeddasom ein rhestr fer o drethi posibl o dan Ddeddf Cymru 2014, yr union reswm dros wneud hynny oedd er mwyn ysgogi trafodaeth am y modd y gellid defnyddio'r pwerau newydd hyn i Gymru at ddibenion a fydd o bwys i bobl yng Nghymru yn y dyfodol. Credaf fod rhai o'r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma yn helpu i greu trafodaeth o'r fath ac maent wedi gwneud hynny mewn maes, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, o ystyried strwythur oedran ein poblogaeth a beth y mae hynny'n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, lle mae dadl o'r fath yn anochel os ydym am baratoi'n briodol ar gyfer y dyfodol hwnnw.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ51607] yn ôl, felly cwestiwn 4—Angela Burns.

Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ51620

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dyraniad y gyllideb ar gyfer portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y flwyddyn nesaf yn uwch nag erioed ar hyn o bryd, gyda gwerth £7.3 biliwn o refeniw a £294 miliwn mewn cyfalaf.

14:00

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf mewn gwirionedd yn gofyn am eglurder ar y broses a ddefnyddiwch i bennu dyraniadau'r gyllideb. Gwrandewais ar eich ateb blaenorol i lefarydd Plaid Cymru. Nid oes gennyf gymaint o ddiddordeb mewn gwybod sut rydych yn mesur y canlyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdanynt, ond yn hytrach sut y byddwch chi eich hun yn mynd ati i bennu'r ganran o gyllideb gyffredinol y Llywodraeth. Pa ragdybiaethau rydych chi'n eu defnyddio? Er enghraifft, a ydych yn dweud yn syml, 'Y llynedd, roedd gennych x biliwn o bunnoedd; rwyf am ychwanegu canran chwyddiannol a dyna beth a gewch', neu a ydych yn edrych ar yr achos busnes a adeiladwyd yn ariannol o'r gwaelod i fyny ac yna'n asesu yn ôl y balans hwnnw? Ac os ydych, a yw'r rhagdybiaethau hynny'n gyhoeddus?

Lywydd, mae'r ffordd y pennir dyraniadau ar draws y Llywodraeth yn dechrau gyda chyfres o drafodaethau dwyochrog rhyngof fi a holl gyd-Aelodau eraill y Cabinet lle mae'r cyd-Aelodau'n gwneud cynigion i ddangos sut y gellir bodloni blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth a beth fyddai goblygiadau ariannol gwneud hynny. Fy swydd i drwy'r trafodaethau hynny yw ceisio gwneud i'r swm o arian sydd gennym—a bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn ystyried ei fod yn annigonol i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru—sut y gallwn wneud y gorau o'r arian sydd gennym. Yn benodol ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, rydym yn ceisio cyflawni'r ymrwymiadau rydym wedi eu gwneud fel Llywodraeth. Dyna pam fod gennym gronfa triniaethau newydd; gallodd Ysgrifennydd y Cabinet esbonio llwyddiant y gronfa honno yn gynharach yr wythnos hon. Dyna pam fod £7 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â'n penderfyniad i godi'r terfyn cyfalaf mewn perthynas â gofal preswyl i £50,000.

Ac yn y gyllideb iechyd yn gyffredinol, rydym yn ceisio cau'r hyn rydym yn ei alw yn fwlch Nuffield. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r adroddiad a gyhoeddwyd yn y Cynulliad diwethaf a oedd yn dangos, hyd yn oed pe bai'r gwasanaeth iechyd ei hun yn parhau i wneud yr enillion effeithlonrwydd y mae'n rhaid i ni ofyn iddo eu gwneud, byddai angen buddsoddiad ychwanegol o £200 miliwn gan Lywodraeth Cymru o hyd oherwydd pwysau demograffig a'r ffaith bod triniaethau newydd yn dod ar gael. Byddwn wedi cyflawni hynny ym mhob blwyddyn o dymor y Cynulliad hwn ac wedi mynd ymhell y tu hwnt iddo.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod dyled mentrau cyllid preifat yng Nghymru tua un rhan o bump o gost y pen y DU yn ei chyfanrwydd? Ac a fyddech yn cytuno bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein rhaglen cyfalaf cyhoeddus i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn ffordd egwyddorol a chyfrifol ymlaen ar gyfer adeiladu ysbytai newydd yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, ac a allwch chi, unwaith eto, nodi pa ffordd ymlaen fyddai orau gennych chi ar gyfer ariannu'r ystâd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hi, wrth gwrs, yn hollol gywir fod gennym lawer llai o gysylltiad â chynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae cost flynyddol gyfartalog y pen y cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru gryn dipyn yn is na £40 y pen, ac mae hynny oddeutu un rhan o bump o gost y pen ar gyfer y DU gyfan. Lle roedd gan weinyddiaethau safbwynt gwahanol, mae yna, yn anochel, ganlyniad sy'n rhaid iddynt ddarparu ar ei gyfer. Yng Nghymru, mae'r tâl blynyddol am ddyledion mentrau cyllid preifat yn is nag 1 y cant o'n cyllideb. Yn yr Alban, mae'n rhaid i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ddod o hyd i 5 y cant o'i gyllideb bob blwyddyn i dalu dyledion mentrau cyllid preifat. Lywydd, yn nyddiau cynnar iawn y Cynulliad, rwy'n cofio'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid i fy nghyd-Aelod Jane Hutt eu gwneud ym maes mentrau cyllid preifat o ganlyniad i etifeddu cynlluniau pan gafodd y Cynulliad ei sefydlu gyntaf.

Rwyf wedi egluro i'r Pwyllgor Cyllid o'r blaen fod gennyf hierarchaeth mewn cof bob amser mewn perthynas â gwariant cyfalaf. Fy ymateb cyntaf, bob tro, yw defnyddio cyfalaf cyhoeddus, am mai dyna'r arian rhataf a fydd gennym byth, a byddaf bob amser yn defnyddio hwnnw yn gyntaf. Mae gennym ddulliau eraill y gallwn eu mabwysiadu wedyn—pwerau benthyca sydd gennym yn awr, ariannu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fenthyca yn y ffordd a sefydlwyd gan Jane Hutt, ac yna, y tu hwnt i hynny, y model buddsoddi cydfuddiannol. Ond cyn belled ag y bo modd, rydym yn defnyddio cyfalaf cyhoeddus ym maes iechyd fel ein dewis cyntaf, a phan nad ydym yn gallu bodloni'r holl anghenion y gwyddom eu bod yn bodoli yng Nghymru, fel ein penderfyniad, er enghraifft, i greu canolfan ganser newydd yn Felindre, yna byddwn yn defnyddio dulliau eraill i sicrhau bod y Cymry'n cael y gwasanaethau y maent eu hangen.

14:05

Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ51629] yn ôl. Cwestiwn 6—David Melding.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

6. Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51613

8. Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet? OAQ51612

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 6 ac 8 gael eu grwpio gyda'i gilydd.

Ymhlith y newidiadau a ddaeth yn sgil cyllideb 2018-19, mae'r buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer digartrefedd dros ddwy flynedd, gan gynnwys £10 miliwn yn benodol ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2019-20, yn dangos effaith y Ddeddf, a'r pum ffordd o weithio a nodir ynddi, gan gynnwys cyfranogiad ac atal, ar ein proses o gynllunio'r gyllideb.

Ysgrifennydd Cabinet, tybed a ydych yn sylweddoli bod teimlad cyffredinol, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Cynulliad, y dylem fod yn fwy heriol o ran sut y cyflwynir y wybodaeth hon ac felly, o'r modd y caiff ei chraffu a'i chysylltu â'r nodau llesiant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth y Pwyllgor Cyllid—a dyfynnaf:

Yn hytrach na theimlo bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael effaith ar y Gyllideb ddrafft, roedd yn agosach at fod yn debyg i gyllideb y llynedd, ond gydag ychydig eiriau ychwanegol.

Mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy deinamig, onid oes, o ran sut y defnyddiwn y Ddeddf hon, a nodi ble y mae wedi effeithio ar benderfyniadau a lle yr aethpwyd i mewn i'r gyllideb neu gynyddu'r gyllideb ac eitemau a dynnwyd o'r gyllideb. Dyna beth y mae'r Ddeddf hon yn ei fynnu mewn gwirionedd.

Yn sicr, rwy'n rhannu uchelgais yr Aelod ac rwyf wedi cael cyngor gan y Pwyllgor Cyllid ar ffyrdd y gallwn wneud mwy i ddangos effaith y Ddeddf ar ein gwaith o lunio cyllideb. Dyna pam, yn y cylch cyllidebol hwn, yn y trafodaethau dwyochrog hynny y soniais amdanynt ychydig funudau yn ôl wrth Angela Burns, fy mod wedi sicrhau bod yna aelod o staff â chyfrifoldeb am y Ddeddf yn y cyfarfod bob amser, fel bod rhywun yno gyda briff penodol i ofyn y cwestiynau hynny ac i herio Gweinidogion pan fo angen o ran sut y gallai eu cynigion gael eu gweld yn deillio o'r Ddeddf. Dyna pam y cytunwyd ar dri maes arbennig gyda'r comisiynydd, meysydd y byddwn yn mynd ar eu trywydd yn ystod y cylch cyllidebol hwn i'w galluogi i weld lle roedd y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth, neu lle roedd hi'n teimlo bod mwy y gallwn ei wneud. Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud bob amser fod y Ddeddf, yn anochel, yn rhywbeth a fydd yn esblygol yn y ffordd y gallwn wreiddio ei hegwyddorion yn ein proses o gynllunio cyllideb. Rwy'n derbyn bod mwy y gallwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at chwarae unrhyw ran y gallaf er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Rwyf innau hefyd yn derbyn ei fod yn waith sydd ar y gweill, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd, ac wrth wneud hynny, anfon neges at y sector cyhoeddus cyfan y gallai hwn fod yn gyfle arloesol i weld cydweithio a chyllidebau cyfun ar waith o'r diwedd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 ac mae wedi bod yn alwad gyson fod angen i ni wella ein hymdrechion drwy fabwysiadu'r dull cyffredinol hwn o ymdrin â gwariant cyhoeddus, ac mae'r meddylfryd seilo hwn yn niweidiol tu hwnt. Gallai'r byrddau gwasanaethau lleol, er enghraifft, ddefnyddio'r Ddeddf fel arf hynod ddeinamig i sicrhau bod y bunt Gymreig yn cael ei gwario'n effeithiol yn y ffordd hon.

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Aelod—fod yna rôl arweiniol i Lywodraeth Cymru o ran dangos bod y ffordd y defnyddiwn y Ddeddf yn gallu bod yn esiampl ar gyfer y ffyrdd y gall pobl eraill edrych ar y gwersi hynny yn ogystal. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod o hyd i ychydig o amser i edrych ar un neu ddau o'r asesiadau llesiant a gynhyrchwyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r cynlluniau ymarferol y maent yn eu llunio o'r asesiadau hynny bellach. Fel erioed, maent yn dangos rhychwant o ansawdd ar draws ystod o wahanol agweddau ar yr asesiadau hynny, ond mae'r rhai da, rwy'n credu, eisoes yn dangos y ffordd y mae'r nodau a'r pum ffordd o weithio yn cael effaith ar benderfyniadau gweithredwyr lleol, ac yn benodol, yn y ffordd a awgrymodd David Melding, yn eu galluogi i gyfuno adnoddau, cyfuno ymdrechion a gwneud gwahaniaeth yn y modd y byddai'r Ddeddf yn ei awgrymu.

14:10

Rydw i'n credu ei bod hi'n dal yn wir i ddweud bod y Ddeddf megis cysgod ar y gyllideb o ran y dylanwad mae wedi ei chael hyd yma. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn, eleni, wrth ateb cwestiynau fel hyn—nid wyf eisiau ei demtio fe i restru, er bod gyda fe restr yn y fanna, mae'n siŵr, o brojectau sy'n cwrdd â phob un o amcanion y Ddeddf. Nid wyf i eisiau ei demtio fe i wneud hynny. Rydw i eisiau gofyn yn benodol, felly, gan fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi bod ynghlwm ag agweddau ar y gyllideb eleni, gan weithio'n benodol ar un pwnc, sef datgarboneiddio, a gan fod hefyd fwriad i gyflwyno cyllidebau carbon o dan Ddeddf arall, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y flwyddyn nesaf, ym mha ffordd y gallwn ni ddisgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf adlewyrchu ffrwyth a phenderfyniad yn sgil y gwaith yna?

Wel, mae beth mae Simon Thomas yn ei ddweud yn wir: mae yna restr hir o bethau gyda fi fan hyn rwy'n gallu ei defnyddio i ddangos yr effaith mae'r Ddeddf wedi ei chael ar hyn o bryd. Ond ar y pwnc mae e wedi ei godi, rydw i wedi cwrdd dros y pythefnos diwethaf â Lesley Griffiths i ddechrau'r broses o gynllunio sut ydym ni'n gallu, dros y flwyddyn sydd i ddod, ddod â'r broses o greu'r cyllideb gyda'i gilydd â'r broses o carbon budgeting, fel rydym ni'n ei alw fe. So, rydym ni wedi dechrau ar y broses. Mae'r gweision sifil yn gweithio ar y manylion. Mae cyfarfod gyda fi â'r comisiynydd wythnos nesaf i drafod yr un pwnc. Rydym ni'n awyddus fel Llywodraeth, ac rydw i'n gwybod bod Lesley Griffiths yn awyddus, i wneud mwy i uno'r ddwy broses ac i gael cyfle i roi adborth yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar sut ydym ni'n gallu dod â'r ddau beth gyda'i gilydd a chael mwy o effaith drwy wneud hynny.

Ardrethi Busnes

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yng Nghymru?

Lywydd, bydd cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2018. Mae cynlluniau ar gyfer datblygu ardrethi annomestig ymhellach yn cynnwys adolygu'r system apelio a mynd i'r afael â thwyll ac osgoi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn mewn gwirionedd o weld bod eich cyllideb yn cynnwys £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i gefnogi ein busnesau lleol. Fodd bynnag, llwyddodd y cynllun tebyg yn 2014-15, a ddylai fod wedi darparu cymorth tebyg i'n busnesau, i gefnogi rhai busnesau mewn gwirionedd, ar gost o £2.765 miliwn, ac eto nid yw hwn ond yn 79 y cant o ddefnydd ar y pecyn cyffredinol o £3.5 miliwn. Dywedir mai'r rheswm am hyn oedd cymhlethdod y canllawiau i'r busnesau anghenus hyn ynghyd ag amserlenni tynn ar gyfer gwneud cais. Wrth symud ymlaen y flwyddyn hon, sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr amserlenni sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a busnesau wneud cais am y grantiau hynny yn rhesymol fel y gallwn weld 100 y cant o ddefnydd o'r arian hwn, a ddyrannwyd yn benodol ar gyfer busnesau sydd mewn angen?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Lywydd. Roeddwn yn falch o allu darparu swm y gwn ei fod yn swm bach o arian wrth edrych ar y darlun mawr, £1.3 miliwn, i awdurdodau lleol gryfhau eu gallu i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau yn eu hardaloedd eu hunain. Y ffordd rwyf wedi ceisio ateb y cyfyng-gyngor y mae'r Aelod wedi'i grybwyll yw drwy sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn y modd disgresiynol hwnnw gyda'u gwybodaeth eu hunain am anghenion ac amgylchiadau lleol. Credaf fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well i allu defnyddio'r swm hwnnw o arian sydd wedi'i dargedu'n fanwl i ymateb i fusnesau nad yw eu hamgylchiadau yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer y cynlluniau mwyaf sydd gennym ym maes ardrethi annomestig, a thrwy beidio â chlymu'r arian wrth lawer o reolau a rheoliadau ychwanegol er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, rwy'n gobeithio, allu ymateb yn gyflym ac yn gydymdeimladol i fusnesau lle y ceir achos priodol dros wneud hynny.

14:15
Metro De Cymru

9. Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru?

Lywydd, mae cyllideb 2018-19 yn cynnwys £173 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf a ddyrannwyd i brif grŵp gwariant yr economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru. Golyga hyn fod cyfanswm o £433 miliwn wedi cael ei ddyrannu yn ystod y tymor hwn tuag at gyfanswm disgwyliedig o £734 miliwn o fuddsoddiad yn y prosiect. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, y bydd y modd yr ariennir prosiectau seilwaith mawr yn cael ei effeithio'n andwyol gan yr ansicrwydd dros gyllid Brexit y byddem wedi'i ddisgwyl o ran cronfeydd strwythurol, a hefyd materion fel mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop a ffynonellau tebyg. Pa gamau a gymerwyd i ddod o hyd i ffynonellau cyllid amgen, a pha gamau mwy hirdymor a gymerwyd ar gyfer ariannu'r prosiect metro yn y tymor hwy, prosiect yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai'n costio tua £3 biliwn?

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod y symiau o arian a amlinellais—y £734 miliwn, sef buddsoddiad a gynlluniwyd ar gyfer metro de Cymru—yn cynnwys £106 miliwn rydym yn ei ddisgwyl drwy gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd y gwariant hwnnw o fewn y gwarantau y bydd Canghellor y Trysorlys yn eu darparu wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n parhau i weithio gyda swyddogion, a chydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio pob ceiniog y gallwn ei chael o'r Undeb Ewropeaidd tra'n bod mewn sefyllfa i wneud hynny.

Daw £125 miliwn arall gan Lywodraeth y DU, ac rydym wedi cael sicrwydd y byddwn yn ei dderbyn, a bydd £503 miliwn o'r £734 miliwn yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae darpariaeth wedi cael ei wneud ar gyfer hwnnw yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd angen y gweddill honno ar ôl hynny.

Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir ein bod yn dadlau'n gryf, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, na ddylai hynny olygu na all Cymru elwa o sefydliadau Ewropeaidd allweddol, sydd wedi gwneud cymaint o ddaioni yng Nghymru. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn sicr yn y categori hwnnw. Mae'r Deyrnas Unedig wedi cyfrannu cyfalaf mawr at y banc hwnnw, ac roeddem yn dadlau y dylem barhau i fod yn bartner i'r Banc. Gwn fod Canghellor y Trysorlys hefyd wedi dweud ei fod yn dymuno y bydd gan y Deyrnas Unedig berthynas gref â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol, ac os nad yw'n bosibl i ni fod yn bartner, bydd yn chwilio am ffyrdd eraill y gallwn barhau i gael perthynas gynhyrchiol.

Ffyniant yn y Cymoedd Gogleddol

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd strwythurol i hybu ffyniant yn y cymoedd gogleddol?

Lywydd, rydym yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar gronfeydd strwythurol yr UE sydd ar gael i gefnogi ein hamcanion ar gyfer twf a swyddi ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y Cymoedd gogleddol. Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £1.4 biliwn i'r diben hwnnw, ac mae hwnnw'n cefnogi cyfanswm buddsoddiad o £2.6 biliwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi awgrymu y dylai cronfa datblygu rhanbarthol newydd ar gyfer y DU fod yn ganolog i unrhyw bolisi rhanbarthol yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi bod angen i hwn gael ei reoli ar sail ddatganoledig, ac y dylai unrhyw arian a ddyrennir fod y tu hwnt i'r hyn sy'n ddyledus drwy fformiwla Barnett. Mae cael hyn yn iawn yn allweddol i ffyniant y Cymoedd gogleddol, felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen cadw'r addewidion a gafodd eu gwneud yn ystod ymgyrch refferendwm yr EU, na fydd Cymru yn colli yr un geiniog?

Wel, yn hollol, Lywydd. Mae'n rhaid cadw'r addewidion hynny. Byddai'n eironi rhyfedd iawn yn wir pe bai'r bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweld bod Cymru yn waeth ei byd o fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig nag o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam fod yn rhaid i'r arian sydd wedi dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd—arian a gawn, fe gofiwch, oherwydd ein bod yn gymwys i'w gael yn ôl y rheolau—lifo yma wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyflwyno achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn perthynas â sut y gellid gwneud hynny. Byddaf yn ailddatgan yr achos hwnnw pan fyddaf yn ei chyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon. Rydym yn credu'n gryf iawn fod datblygu rhanbarthol yn gyfrifoldeb datganoledig i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mai ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud hynny'n llwyddiannus yn y dyfodol, ond rydym angen i'r arian sydd wedi dod i Gymru at y diben hwnnw tra buom yn aelod o'r UE barhau y tu hwnt i hynny, ac rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU sicrhau bod hynny'n digwydd.

14:20
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i arweinydd y tŷ, a'r cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Band Eang Cyflym Iawn

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn? OAQ51624

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n bwriadu cynnal ymarfer caffael yn fuan, gyda golwg ar y prosiect newydd sy'n dechrau yn y gwanwyn eleni. Byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y mis hwn i nodi mwy o fanylion am y cynllun newydd.

Diolch am hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynllun, wrth gwrs, achos rŷm ni’n gwybod bod y cynllun blaenorol, sydd wedi dod i ben, heb gyrraedd pob man. Rwy’n gwybod nad oes gyda chi’r ffeithiau llawn—yr adroddiad llawn—eto, ond mae yna bentrefi di-ri sydd wedi adrodd nôl fod yna cables yn dal i hongian oddi ar y polion ac nad yw’r gwaith wedi cyrraedd pen y daith, a hefyd bod yna rannau o Gymru, nad oedd byth yn mynd i gael eu cyrraedd o dan y cynllun blaenorol, sydd angen ateb, efallai, gwahanol, mwy clyfar er mwyn eu cyrraedd nhw.

Dau gwestiwn, felly, os caf i fod yn glir: rwy’n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am £80 miliwn ar gyfer hyn—ai dyna’r swm sydd gyda ni o hyd, ac a ydych chi’n credu bod hynny’n ddigonol, neu a fydd angen ychwanegu at hynny? A faint o gyfle go iawn sydd i ddarparwr arall ddod i mewn i helpu yn y broses yma, achos rwy’n ofni bod rhoi ein hwyau i gyd ym masged BT Openreach wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol, lle nad ydym ni, yn syml iawn, yn gallu cyrraedd yr wyau i wneud yr omlet?

Mae Simon Thomas yn gwneud nifer o bwyntiau da y mae wedi'u gwneud ar nifer o achlysuron ynglŷn â'r ffordd y mae band eang cyflym iawn wedi gweithio. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cynllun Cyflymu Cymru wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus i'r bobl sydd wedi cael band eang cyflym iawn o ganlyniad iddo, ac maent yn nifer enfawr o bobl ledled Cymru. Mae'n rhan o natur pethau nad ydym yn derbyn llu o lythyrau gan bobl sy'n ddiolchgar amdano. Yn hytrach, rydym yn cael llawer o lythyrau gan y bobl sydd ar ben arall y prosiect, ac mae hynny'n ddealladwy iawn.

Ni fyddwn yn gwybod am nifer o wythnosau eto pa un a gafodd y cytundeb ei gyflawni'n llawn, ond mae gennym arwyddion da eu bod wedi gwneud yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn eu bod wedi cyflawni'r cytundeb mewn gwirionedd. Ond daeth y cytundeb i ben ar 31 Rhagfyr, am hanner nos, ac felly, yn amlwg, os na chafodd y gwaith ei wneud erbyn hynny, nid yw Llywodraeth Cymru yn talu amdano. Felly, mae hynny'n gadael pobl mewn sefyllfa rwystredig iawn.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ddechrau'r wythnos nesaf, felly rwyf am osgoi'r demtasiwn o achub y blaen arnaf fi fy hun drwy ei gyhoeddi cyn hynny, ond rydym yn ymwybodol iawn o helynt cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl, ac o nifer y bobl a gafodd addewid y byddent yn cael band eang cyflym iawn o dan y cynllun cyntaf, ac a gafodd eu gadael ar ôl am amryw o resymau. Yn sicr, byddwn yn cadw'r bobl hynny mewn cof pan fyddwn yn edrych ar y cyhoeddiadau rwy'n gobeithio eu gwneud ddechrau'r wythnos nesaf, fel y mae'n digwydd.

Os gwelwch yn dda, peidiwch â thalu BT am Princes Gate. Yn ystod yr amser dywedwyd wrthyf ar sawl achlysur y bydd Princes Gate yn cael band eang cyflym. Yn wir, y llynedd, ysgrifennodd pennaeth Cyflymu Cymru ataf—nid wyf am ei enwi—yn dweud y byddai ail gynllun yn sicrhau bod Princes Gate yn cael ei uwchraddio i fand eang cyflym iawn erbyn hydref 2017. Dyma'r ymateb gan arweinydd Openreach:

Mae'r seilwaith sy'n gwasanaethu eich cymuned yn rhan o raglen roeddem yn ei chynnal a ddaeth i ben ar ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017. Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben—

nid ydym yn gwneud rhagor. Ac nid Princes Gate yn unig. Mae Cynwyl Elfed, Hermon, Lawrenny, Martletwy, darnau o Benfro—maent i gyd wedi cael eu siomi. Cawsant addewid, dywedwyd wrthynt yn bendant—a Llanpumsaint—y byddent yn ei gael, ac ni fyddant yn ei gael bellach. Nid wyf yn credu eich bod yn bersonol gyfrifol am hyn, Weinidog, oherwydd gwn eich bod yn credu'n gryf mewn cyflawni'r cynllun hwn, ond buaswn yn hoffi i chi siarad yn go gadarn â BT ac Openreach. Ni allant wneud addewidion i bobl ac yna dweud, 'Anlwcus. Mae wedi dod i ben. Trueni', oherwydd mae gan y bobl hyn fywydau i'w byw, busnesau i'w cynnal, plant i'w haddysgu. Mae band eang cyflym iawn yn ddarpariaeth gyffredinol sydd ei hangen ar bawb heddiw, ac ni allaf weld pam y dylai fy etholaeth fod o dan gymaint o anfantais.

Credaf fod yr Aelod wedi gwneud nifer o bwyntiau sy'n werth eu hystyried. Fel y dywedais, wrth ystyried yr hyn y byddwn yn ei wneud ar gyfer y cynlluniau olynol, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r bobl a gafodd addewidion mewn gwahanol amgylchiadau ac na chafodd eu bodloni, am amrywiol resymau peirianyddol cymhleth, o dan y cynllun cyntaf.

Angela Burns fydd y person cyntaf i ddweud na ddylwn dalu am rywbeth sy'n groes i'r cytundeb, ac wrth gwrs mae'r cytundeb wedi dod i ben, ac rydym wedi bod yn bendant iawn ynglŷn â hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymddwyn mewn ffordd ariannol briodol mewn perthynas â'r cytundeb ac yn y blaen. Ond ein prif fwriad yma yw cysylltu pobl â band eang—nid ymarfer ariannol yw hwn, ond ymarfer i gael y seilwaith yno. Felly, rydym wedi cael nifer o sgyrsiau gyda BT Openreach ynglŷn â lle aeth y gwaith ar adeiladu'r seilwaith, a chofiwch, maent yn buddsoddi eu harian yn hwnnw—nid ydynt yn cael eu talu hyd nes y bydd y safleoedd hynny wedi'u cysylltu. Felly, maent wedi buddsoddi arian mewn adeiladu allan at y safleoedd hynny ac mae gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu cysylltu o fudd masnachol iddynt hwy yn gymaint ag unrhyw beth arall.

Rydym wedi cael cryn dipyn o sgyrsiau gyda hwy am bobl yn y sefyllfa a grybwyllwyd gennych, ar ran nifer o'ch etholwyr, a phobl ledled Cymru yn wir sy'n perthyn i'r 4 y cant o bobl sy'n weddill ar ddiwedd y cytundeb. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau yr wythnos nesaf, a chredaf y gallent fod yn rhywfaint o gysur i rai o'r cymunedau a grybwyllwyd gennych.

14:25

A yw arweinydd y tŷ, gyda'i chyfrifoldebau dros fand eang a chydraddoldeb, yn cytuno â mi nad oes gan gydraddoldeb priodas, mewn gwirionedd, fawr ddim i'w wneud â chyflwyno band eang cyflym iawn? A yw hi hefyd yn cytuno â mi fod y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon, a oedd yn cysylltu'r ddau beth yn hollol ddifeddwl, yn fawr mwy nag enghraifft arall o ba mor dwp, ansensitif ac allan ohoni yw Llywodraeth Dorïaidd y DU?

Credaf fod y sylwadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn eithaf syfrdanol, mewn gwirionedd. Yn amlwg, nid yw cydraddoldeb priodas yr un peth â chysylltedd band eang mewn unrhyw fodd. Yn amlwg, mae bod yn aelod o'r gymuned LGBT+ yn nodwedd warchodedig a dylid ei thrin mewn modd sensitif fel y cyfryw.

Nid yw cydraddoldeb priodas yng Ngogledd Iwerddon yn fater ar gyfer y Llywodraeth ddatganoledig hon wrth gwrs, ond mae cymharu'r peth â chyflwyno seilwaith yn amlwg yn ansensitif iawn ac nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei weld o dan unrhyw amgylchiadau.

Cofrestr o Droseddwyr Trais Domestig

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariaf ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru ar sefydlu cofrestr o droseddwyr trais domestig? OAQ51618

Rwyf wedi gofyn i swyddogion am gyngor mewn perthynas â chofrestr o droseddwyr trais domestig. Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno cofrestr stelcwyr a throseddwyr ond mae'n bwriadu gwella trefniadau amlasiantaethol i ddiogelu'r cyhoedd a threfniadau ar gyfer cynllun datgelu trais domestig yn lle hynny.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Ym mis Medi y llynedd, cefais fy nghalonogi gan ymateb Carl Sargeant i mi ynglŷn â chreu cofrestr troseddwyr trais domestig. Roedd Carl yn ymgyrchydd brwd ac yn hyrwyddo gwaith i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod. Mae'r ystadegau ar gam-drin domestig yn llwm: amcangyfrifir bod mwy na 75 y cant ohonom yn adnabod rhywun sy'n dioddef trais domestig, mae un o bob pump o fenywod yn cael eu stelcio, mae un o bob pedair yn dioddef ymosodiad rhywiol neu'n cael eu treisio, mae un o bob pedair yn dioddef cam-drin domestig, mae 10 o fenywod yn cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin bob wythnos, ac mae dwy fenyw yr wythnos yn y DU yn cael eu llofruddio gan y sawl sy'n eu cam-drin.

Ers y tro diwethaf i mi godi'r mater hwn yn y Siambr, mae'r adroddiad blynyddol cyntaf a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 wedi cael ei gyhoeddi, ac un amcan a nodwyd yn y Ddeddf yw ffocws cynyddol ar ddwyn troseddwyr i gyfrif. Pa asesiad a wnaethoch o fanteision cofrestr o droseddwyr trais domestig a pha fecanweithiau eraill a allai chwarae rhan hollbwysig er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng sefydliadau ac unigolion i ddiogelu ac atal troseddwyr trais domestig rhag aildroseddu?

Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Nid oes cofrestr benodol ar gyfer stelcwyr a throseddwyr trais domestig yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y mae'r Aelod yn gwybod. Mae'r cynllun datgelu trais domestig, a elwir hefyd yn gyfraith Clare, yn caniatáu i'r heddlu rannu gwybodaeth am droseddau treisgar blaenorol unigolyn lle y gall hyn helpu i atal trais domestig neu atal rhywun rhag mynd i sefyllfa o'r fath. Mae gennym wasanaethau a phrosesau da iawn ar waith yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio i godi safonau gwasanaeth i ddioddefwyr a goroeswyr. Ond rydym hefyd yn edrych ar gyfres Cryfhau Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi cyhoeddi fideo i godi ymwybyddiaeth, Beth yw stelcio?, sy'n tynnu sylw at gamau gweithredu i leihau risg ac i gefnogi ac amddiffyn y staff a'r cleientiaid y bydd sefydliad yn gweithio gyda hwy.

Ceir nifer o bethau eraill y gallwn edrych arnynt hefyd. Yn ddiweddar iawn, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ymwelais â'r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd—trefniant rhwng yr holl asiantaethau sy'n gweithio ar draws Caerdydd a de-ddwyrain Cymru, sy'n ceisio rhannu gwybodaeth a data ar yr union fater hwn. Cefais gyfarfod da iawn yno ynglŷn â sut y mae hwnnw wedi gweithio a pha mor effeithiol y bu a sut y mae wedi lleihau troseddau, ac mae wedi helpu goroeswyr yn ogystal. Ac mae'r trefniant asiantaeth gyfan yno—os nad ydych wedi llwyddo i ymweld â'r ganolfan, rwy'n ei argymell yn fawr, ac unrhyw un arall yn y Siambr nad ydynt wedi ei gweld. Cawsom drafodaeth hir a diddorol ynglŷn â sut y gallem gyflwyno rhywfaint o hynny ledled gweddill Cymru, a bydd y drafodaeth yn parhau, ac fel y dywedais, rwyf wedi gofyn i swyddogion am gyngor mewn perthynas â'n sefyllfa o ran cymhwysedd deddfwriaethol ac effeithiolrwydd cyflwyno cofrestr o'r fath.

14:30

Wel, yn amlwg, gall mesurau fel y rhain, a rhaglenni cyn carchar i droseddwyr, gyfrannu at yr agenda atal ac ymyrraeth gynnar. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd buddsoddiad ariannol gan fyrddau iechyd ac arweinwyr iechyd cyhoeddus rhanbarthol mewn atal ac ymyrraeth gynnar, o ystyried y gost yn y pen draw i'r GIG pan fydd cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi digwydd. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr, daethant ataf i leisio pryderon, er eu bod wedi derbyn dros £355,000 gan adran iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn 2016-17 tuag at wasanaethau arbenigol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fod y ffigur hwnnw wedi gostwng i ychydig dros £34,000 yn 2017-18, ac maent yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i fyrddau iechyd rhanbarthol ei ddyrannu yn lle hynny, ond maent yn dweud nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'r cyllid wedi'i golli i'r sector arbenigol.

Sut, felly, rydych yn ymateb i'r pryder a fynegwyd yn y llythyr a anfonwyd atoch gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 11 Ionawr, sy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad yn 2016 ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn dweud y byddai canllawiau'n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017, ond ymddengys nad yw hwn wedi cael ei gyhoeddi? Ac yn olaf, mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu, ymddengys nad yw strategaeth llesiant Caerdydd a'r Fro yn sôn gair am gam-drin domestig neu rywiol a sut i fynd i'r afael ag ef, na strategaeth Betsi Cadwaladr ar gyfer y dyfodol, ac nid yw cynllun strategaeth Hywel Dda ond yn sôn am gam-drin domestig mewn perthynas â digartrefedd, ac nid yw'n sôn am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, na sut y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu gweithredu ei nodau.

Wel, rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, gyda Chymorth i Fenywod Cymru, ac rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn yn ddiweddar iawn gydag Eleri Butler i drafod nifer fawr o faterion mewn perthynas â'r agenda hon. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fel y mae'r Aelod yn nodi, ein bod yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae gennym nifer o fentrau trawslywodraethol yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos iawn â'r maes iechyd a maes tai, yn ogystal ag awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu dull rhanbarthol a di-dor mewn perthynas â'r gwasanaethau hyn. Fel rhan o'r broses o adolygu rhai o'r trefniadau rhanbarthol hynny, mae gennym gydgysylltwyr rhanbarthol, er enghraifft, ar draws awdurdodau lleol, sy'n gwneud gwaith da iawn ar lawr gwlad yn cydgysylltu gwasanaethau. Mae gennyf nifer o gyfarfodydd—rwyf naill ai wedi cael, neu wedi trefnu, cyfarfodydd—gyda nifer o'r sectorau, i wneud yn siŵr fod cydlynu gwell yn digwydd yn gyffredinol yn hyn o beth.

Yr hyn rydym angen ei wneud, mewn gwirionedd, yw gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ar rai o'r gwasanaethau a'r prosesau rhagorol sydd gennym, ond rydym yn parhau i weithio'n galed iawn i godi safonau ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, ac wrth ganolbwyntio ar y ddau beth hynny, nid ydym yn colli golwg ar y ffaith bod angen i ni weithio ar flynyddoedd cynnar bywyd, gyda'r holl gwestiynau sy'n ymwneud â rhywedd a stereoteipio ar sail rhywedd, a rhai o'r pethau sy'n codi'n gynnar iawn yn ein bywydau. Oherwydd mae yna gysylltiad diamwys rhwng trais rhywiol, trais domestig a stereoteipio ar sail rhywedd, a'r holl broblemau sydd gennym yn ddiwylliannol yn hynny o beth. Ond mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o faterion ar draws y Llywodraeth, a gallaf ei sicrhau ein bod yn gweithio'n galed iawn; bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn cyfarfod cyn bo hir i drafod hyn, a nifer o faterion eraill yn y maes hwn.

Fe sonioch eich bod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n meddwl tybed pa Weinidogion eraill rydych yn ymgysylltu â hwy. Rwy'n meddwl yn benodol ynglŷn â chanfod cynnar, ac arwyddion o ymddygiad yn rhywun a fyddai'n cam-drin anifail, er enghraifft. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, oherwydd mae ymchwil yn dangos, os ydynt yn cam-drin anifail, y gallant fynd ymlaen i gam-drin oedolion a phobl yn y dyfodol. Felly, a fyddwch yn rhoi tystiolaeth i'r grŵp gorchwyl a gorffen y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i gyflwyno drwy'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid i geisio gweithio gyda'r sector hwnnw i leddfu'r problemau y maent yn dod ar eu traws gydag anifeiliaid sydd wedi'u cam-drin, a gallai hynny wedyn helpu pobl fel yr heddlu a sefydliadau sy'n helpu menywod ac eraill sy'n dioddef cam-drin domestig i fynd i'r afael go iawn â'r digwyddiadau hyn i'w hatal rhag digwydd, cyn iddo droi'n ymosodiad difrifol iawn neu'n achos difrifol o gam-drin domestig?

14:35

Ie, credaf fod Bethan Jenkins yn gwneud cyfres ragorol o bwyntiau. Fel y dywedais mewn ymateb i Mark Isherwood, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni edrych arno yw bod y tueddiadau ym mywyd rhywun—. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'n cyd-Ysgrifenyddion Cabinet, gan fod yr agenda hon yn ymestyn ar draws gwaith Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mathau hyn o ymddygiad yn y dull cyfannol hwnnw, ac felly, er enghraifft, ein bod yn dysgu pethau mewn ysgolion, yn dysgu pethau drwy'r fframwaith ymgysylltu ar gyfer diogelu pobl ifanc ac yn dysgu pethau gan nifer o asiantaethau sy'n rhannu gwybodaeth yn gywir er mwyn sicrhau bod yr agenda atal a'r agenda diogelu a goroesi yn gweithio'n well gyda'i gilydd. Felly, rwyf wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd dwyochrog. Nid wyf yn siŵr a wyf i fod i roi tystiolaeth yn y ffordd y mae hi'n awgrymu mewn gwirionedd, ond efallai y gallaf wneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny os ysgrifennwch ataf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, faint o aelwydydd a oedd gynt yn gymwys ar gyfer uwchraddio o dan raglen Cyflymu Cymru, ac a oedd yn disgwyl cael eu huwchraddio erbyn diwedd mis Rhagfyr sydd wedi cael eu siomi?

Wel, nid dyna fel y buaswn i'n ei roi. Fel y dywedais, mae gennym darged ar gyfer cynnwys 690,000 o safleoedd yn y prosiect cyntaf. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, nid wyf eto mewn sefyllfa i allu dweud yn bendant ein bod wedi cyrraedd y targed hwnnw. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Yn amlwg rydym yn monitro hyn yn ofalus. Nid fydd BT Openreach yn cael eu talu hyd nes y byddant wedi cwblhau'r broses brofi drwyadl ac yna byddwn yn gwybod a ydynt wedi cyrraedd y targed. Rydym yn gwybod faint o safleoedd a geir yng Nghymru. Felly, drwy broses ddileu, fe wyddom felly faint sydd heb gael eu cynnwys, a hwy yw'r bobl y byddwn yn edrych arnynt ar gyfer y prosiectau olynol. Ond nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd rydych yn awgrymu.

Wel, fe ateboch gwestiwn, ond nid yr un a ofynnais, iawn. Gofynnais faint—

Nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd honno, mae'n ddrwg gennyf.

Gofynnais faint o bobl a oedd wedi cael eu siomi a dylech wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd fe fyddwch yn gwybod bod llawer o bobl yn gofyn y llynedd, a chawsant wybod y byddai eu heiddo'n cael eu cynnwys erbyn 31 Rhagfyr. Nawr, ar ôl gofyn, cânt neges wahanol yn dweud eu bod yn archwilio atebion. Felly, ni ddylai fod mor anodd â hynny i ganfod faint o bobl sydd wedi cael eu siomi a chyfrif beth yw'r nifer.

Mae'n rhaid i mi ddweud, o safbwynt cyfathrebu, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb llwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod digon o enghreifftiau ohonoch yn ysgrifennu llythyrau at bobl, neu bobl yn ysgrifennu atoch chi, yn gofyn, 'Pa bryd y caf fy nghynnwys?' Yna, rydych yn ysgrifennu nôl gyda dyddiad penodol. Nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac rydych yn ysgrifennu'n ôl yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, dyma fydd y dyddiad yn awr.' Nid ydynt yn ei gael erbyn y dyddiad hwnnw, maent yn ysgrifennu atoch, ac rydych yn ysgrifennu nôl eto yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, 31 Rhagfyr 2017 yw'r dyddiad yn awr.' Ym mis Ionawr, nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac yna rydych yn ysgrifennu nôl a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, daeth y prosiect i ben.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da a dyna beth sydd wedi bod yn digwydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi, pa wersi rydych wedi'u dysgu o'r cytundeb hwn ar gyfer cynllunio'r nesaf, yn enwedig mewn perthynas â chyfathrebu?

Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod, fel y mae'n gwybod. Rwyf wedi bod ar daith o amgylch Cymru ac rwyf wedi clywed llawer gan aelodau o'r cyhoedd sy'n rhwystredig iawn oherwydd y llythyrau y maent yn eu cael mewn perthynas â'r amserlen. Nid wyf eisiau ymroi i semanteg, oherwydd mae hynny'n codi gwrychyn pobl, ond yn amlwg nid ydym yn gwneud addewidion. Rydym yn sôn am waith sydd wedi'i drefnu ac mae nifer o resymau peirianyddol cymhleth pam nad yw'n gweithio bob amser.

Y rheswm pam nad wyf yn gwybod am bawb a oedd ar yr amserlen honno ac na lwyddodd i gael y gwaith wedi ei wneud erbyn y dyddiad terfynol yw mai'r unig bobl y gwn amdanynt yw'r bobl sydd wedi ysgrifennu ataf ac mae'n dra phosibl fod rhai eraill nad wyf yn ymwybodol ohonynt. Felly, gallwn roi is-adran i chi, ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Nid wyf yn ceisio osgoi gwneud hynny; ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw faint o bobl a gafodd eu cynnwys ac felly, faint o bobl sydd ar ôl. Y bobl sydd ar ôl yw'r rhai rydym eisiau canolbwyntio arnynt fwyaf. Fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns yn gynharach, nid yw hyn yn ymwneud â'r arian, ond yn amlwg nid ydym eisiau talu am rhywbeth nad ydym wedi'i gael; mae hyn yn ymwneud â defnyddio'r arian i gysylltu pobl.

Rwy'n derbyn y broblem ynglŷn â chyfathrebu yn llwyr. Roedd rhesymau cymhleth dros hynny, sy'n ymwneud â'r ffaith ein bod wedi gwneud hyn ar sail codau post, ac nid yw pob cod post a phob person yn cael eu cysylltu ar yr un pryd, ac mae rhesymau cymhleth dros hynny, ac nid wyf am eu trafod yn awr, ond maent wedi arwain at y sefyllfa hynod rwystredig hon.

Pan fyddaf yn gwneud y cyhoeddiadau am y cyfnod nesaf, fe welwch ein bod yn targedu safleoedd unigol mewn gwirionedd. Ni fydd gennym y broblem hon o gael carfan o bobl, gyda rhai ohonynt yn cael eu cysylltu ac eraill nad ydynt yn cael eu cysylltu. Bydd gennym ystod o ymatebion i hynny i wneud yn siŵr ein bod yn weddol hyderus ynglŷn â lle y gallwn gysylltu, a'n bod yn cael sgyrsiau da gyda phobl lle rydym yn credu y gallai fod anawsterau mwy technegol.

14:40

Rwy'n ddiolchgar i chi am gydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi bod. Mae'r adolygiad marchnad agored, a gynhaliwyd gennych wrth gwrs, yn nodi'r safleoedd ar gyfer y cynllun nesaf. Ni fyddai'r safleoedd hynny a oedd yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru ac a gafodd eu siomi yn cael eu cynnwys yn rhan o'r dadansoddiad hwnnw oherwydd, wrth gwrs, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu huwchraddio erbyn diwedd y llynedd. Felly, dyna ddatganiad ffeithiol; dywedwch wrthyf a yw hynny'n gywir, yn eich barn chi. Ond a gaf fi ofyn, ac rwyf wedi gofyn hyn nifer o weithiau, ac rwyf am ofyn eto: a ydych yn gallu rhoi sicrwydd pendant i mi heddiw y bydd y safleoedd hynny'n cael eu trosglwyddo i'r cynllun newydd yn awtomatig ac yn cael blaenoriaeth?

Na, ni allaf wneud hynny, oherwydd hyd nes y byddaf yn gwybod beth oedd yr anhawster peirianyddol neu anhawster arall a oedd yn eu hatal rhag cael eu cynnwys, ni allaf roi sicrwydd pendant i chi y byddwn yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny. Gallaf ddweud wrthych eu bod yn brif flaenoriaeth i ni—pobl sydd wedi bod yn y sefyllfa honno—ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny, ond mae yna nifer fawr o resymau pam. Felly, er enghraifft, gwyddom fod gennym nifer fawr o safleoedd lle na ellir symud ymlaen oherwydd anawsterau fforddfraint. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i allu dweud ein bod yn gallu datrys anawsterau fforddfraint mewn pryd i sicrhau ein bod yn gallu cysylltu pobl, ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny.

Mae mater yn codi mewn perthynas â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â rhywfaint o hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o hyn, ac mae'n ymwneud â sut rydym yn ystyried y band eang. Ac mae arnaf ofn ei fod yn cael ei ystyried yn foethusrwydd o hyd, er gwaethaf y sgyrsiau am y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Oherwydd nid yw'n gyfleustod, nid oes gennym hawl i groesi tir pobl ac nid oes gennym hawl i fynnu eu bod yn caniatáu fforddfreintiau ac ati, ac mae hynny'n achosi anawsterau mewn nifer fawr o ardaloedd. Dyna un o'r rhesymau—nid yr unig un—pam na allaf roi'r sicrwydd pendant hwnnw i chi. Pe bawn yn gallu, buaswn yn gwneud hynny, ond nid oes gennym bwerau i fy ngalluogi i wneud hynny. Fodd bynnag, gallaf ddweud ein bod yn ymwybodol iawn o'r problemau y mae'r Aelod yn eu crybwyll, ac y mae pawb arall yn eu crybwyll, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd cynifer o'r bobl hynny ag y gallwn.

Diolch, Lywydd. Yn dilyn y thema a archwiliwyd gan ambell i Aelod Cynulliad yn gynharach yn eu cwestiynau hwy, a yw arweinydd y tŷ yn credu bod yr asiantaethau ymyrraeth sy'n ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru yn ddigon cadarn i fynd i'r afael â'r drosedd enbyd hon?

Fel y dywedais mewn ymateb i nifer o Aelodau eraill, ceir nifer o fentrau gwirioneddol ddiddorol ledled Cymru. Maent i gyd yn gysylltiedig â nifer o fentrau cymhleth yn ymwneud â phrotocolau a rhannu data, ond bûm yn ymweld â'r ganolfan ddiogelu amlasiantaethol yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd yn ddiweddar iawn, ac roeddwn yn edmygu'r modd roedd yr asiantaethau yno wedi dod at ei gilydd i oresgyn rhai o'r anawsterau technegol, yn ogystal â sicrhau bod gweithiwr cymdeithasol yn eistedd ochr yn ochr â swyddogion yr heddlu, lle roedd ganddynt systemau ar wahân ar ddwy sgrin wahanol fel y gallent wneud penderfyniadau ar unwaith, ac yn y blaen. Mae'n drefniant trawiadol iawn, ac os nad yw'r Aelod wedi ymweld â'r ganolfan, buaswn yn sicr yn argymell ymweliad fel y gall weld y gwaith da y gellir ei wneud.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o droseddau domestig yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru wedi cynyddu 23 y cant, ac gwelwyd cynnydd enfawr o 48 y cant yn ardal Heddlu De Cymru. Er y gellid priodoli llawer o'r cynnydd hwn i gydnabyddiaeth gan yr heddlu a hyder cynyddol i adrodd am droseddau o'r fath, onid yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y rhain yn gyfres o ystadegau sy'n peri gofid?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ydw, wrth gwrs, mae'r holl ystadegau ar drais domestig yn peri gofid, ac mae'n felltith yn ein cymdeithas, ac mae gennym ystod o opsiynau ar gyfer atal hyn ac ymdrin â dioddefwyr a'u troseddwyr a'r materion amrywiol sy'n codi. Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae gennym safonau i awdurdodau perthnasol eu gosod ar hyfforddiant sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn codi proffil y materion hyn, ac yn gwella sgiliau gwasanaethau cyhoeddus i ymateb yn fwy effeithiol i'r rheini sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dros 70,000 o bobl yng Nghymru wedi cael yr hyfforddiant o dan y fframwaith hyfforddi cenedlaethol, felly dyna 70,000 yn fwy o weithwyr proffesiynol sy'n fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus wrth ymateb i'r rheini sy'n profi'r math hwn o drais. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn codi safonau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi sôn am rai o'r pethau eraill rydym yn eu gwneud mewn perthynas â gwaith amlasiantaethol ac ati, ond mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod pob agwedd ar yr agenda honno yn gywir yma yng Nghymru.

Unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, ond mae Cymorth i Fenywod Cymru, un o'r asiantaethau rhagorol—rwy'n siŵr eich bod wedi cyfeirio atynt yn gynharach—sy'n ymdrin â throseddu domestig, a rhan o'u cylch gwaith yw darparu llochesau ar gyfer dioddefwyr, yn hynod bryderus am y toriadau i'w cyllid, a chyfeiriant at y ffaith nad oeddent wedi gallu darparu lloches i 388 o oroeswyr cam-drin domestig yn 2016. Mae'r llochesau hyn yn aml yn elfen hanfodol ar gyfer rhoi dewrder i ddioddefwyr cam-drin domestig adael y partner sy'n eu cam-drin. Felly, sut yn y byd y gellir cyfiawnhau torri cyllid i'r asiantaethau hyn a darparu lloches? Mae'r ffigurau uchod yn dangos awydd cynyddol ymhlith dioddefwyr i geisio ymyrraeth. Yn sicr, arweinydd y tŷ, dylem fod yn cynyddu'r cyllid ar gyfer darparu lloches, nid ei dorri.

14:45

Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw edrych i weld sut y gallwn reoli ein cyllideb ein hunain yn y maes hwn, sy'n mynd yn llai ac yn llai—o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth bresennol y DU—er mwyn gwneud y gorau o hynny. Rydym yn gwneud hynny drwy gynyddu hyblygrwydd ein partneriaid gwasanaethau lleol i ddefnyddio eu grant mewn ffyrdd mwy creadigol ac i gydweithio'n well ar raddfa ranbarthol. Rydym yn ariannu'r cydgysylltwyr rhanbarthol yn benodol er mwyn eu galluogi i wneud hynny. Rwy'n deall pryderon y sefydliadau yn iawn, gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru, sy'n darparu'r llochesau. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r arian sydd ar gael inni.

Diolch yn fawr. Gan eich bod chi'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb, a allwch chi egluro sut yr ydych chi'n sicrhau bod holl adrannau Llywodraeth Cymru a'r cyrff yr ydych chi'n eu hariannu yn cymryd materion cydraddoldeb o ddifrif?

Rwy'n cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar draws yr holl gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, a ddechreuodd pan ymgymerais â'r swydd hon ychydig wythnosau yn ôl yn unig, er ei bod yn teimlo ychydig yn hirach. Dyna ddiben y cyfarfodydd dwyochrog: sicrhau bod yr agenda gydraddoldeb, sy'n amlwg yn cysylltu â phob rhan o Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru fel cyflogwr, Llywodraeth Cymru fel sefydliad a Llywodraeth Cymru fel llywodraeth—yn cael ei hymgorffori yn briodol yn yr holl waith a wnawn.

Mi fyddwch chi wedi gweld dros y penwythnos fod Cymdeithas Feddygol Prydain, BMA Cymru, wedi mynegi pryderon am ymddygiad swyddogion a byrddau iechyd sy'n ymwneud â datblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru, mater a oedd yn rhan o'r fargen gyllideb gyntaf rhyngoch chi a ni, wrth gwrs. Mae adroddiad diweddar gan Stonewall wedi darganfod nad ydy 36 y cant o bobl drawsryweddol yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at y gofal iechyd y maen nhw ei angen—ffigur uwch nag yn Lloegr a'r Alban—a bod hanner y cleifion traws yn dweud nad ydy staff iechyd yn deall eu hanghenion iechyd penodol. Felly, pa mor bryderus ydych chi am ymddygiad honedig ac agweddau fel hyn o fewn y byrddau iechyd, a pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd, ar y cyd â'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, er mwyn cael gwared ar wahaniaethu yn erbyn pobl draws o fewn y byrddau iechyd?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau i fod i gael ein cyfarfod dwyochrog ar y materion hyn. Hoffwn ddweud y byddaf—ac rwyf am achub y blaen arnaf fi fy hun yma i raddau—yn lansio'r ymgyrch Dyma Fi yr wythnos nesaf, ymgyrch a gynlluniwyd i drafod stereoteipio ar sail rhywedd a thrin unigolion fel unigolion. Mae'n ymgyrch rymus iawn i wneud i bobl weld yr unigolyn o dan y croen a welant ar y tu allan mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys materion trawsryweddol. Pan fydd yr Aelod yn gweld yr ymgyrch, credaf y bydd yn deall yr hyn rydym yn ceisio'i wneud.

Mae hyn oll, fel y dywedais o'r blaen, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhywedd. Dyna sydd wrth wraidd nifer fawr o'r materion a godwyd gan yr Aelodau heddiw ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef o'r pwynt cynharaf ym mywydau pobl. Mae gennyf focs sebon mawr, ac mae'r Dirprwy Lywydd yn fy ngwylio yn ei dynnu allan yn awr ac fe ŵyr y gallaf siarad am oddeutu awr a hanner ar y pwnc—er enghraifft, ar agenda Let Toys be Toys a'r ffordd y caiff pobl eu llunio o ran eu rhywedd yn gynnar iawn am ddim rheswm o gwbl. Bydd yr ymgyrch gyfan yn cael ei chynllunio o amgylch gadael i bobl fod yn bobl, gadael i bobl fod yn pwy ydynt a beth y maent yn dymuno bod heb ofni gwahaniaethu na chamdriniaeth. Felly, byddaf yn cael y cyfarfodydd dwyochrog hynny ar draws y Llywodraeth a byddwn yn lansio ymgyrch gyhoeddus rymus yr wythnos nesaf.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed hynny i gyd. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn rŵan am sut mae penderfyniadau gan fyrddau cyhoeddus yn gallu cael effaith ar wasanaethau ar gyfer pobl draws, ond hefyd mae yna enghreifftiau o benderfyniadau yn effeithio'n wael ar grwpiau eraill na fyddent, efallai, wedi digwydd petai gennym ni fwy o amrywiaeth ymhlith rheolwyr uwch y sector gyhoeddus. Byddwch chi’n gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi hyn yn glir, ac wedi gweld nad oedd yna welliant cyffredinol mewn cynrychiolaeth mewn rolau uwch, a bod merched a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn llai tebygol o fod mewn rolau uwch. Er bod cyfran y menywod mewn rolau uwch wedi gwella mewn rhai sectorau, fel addysg, mae hi wedi gwaethygu mewn rhai eraill, fel y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Felly, beth ydych chi am ei wneud er mwyn gwella amrywiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac yn benodol yn y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau na fyddwn ni’n cael sefyllfaoedd lle mae swyddogion a rheolwyr yn rhwystro datblygiad gwasanaethau i grwpiau lleiafrifol? Ac yn fwy cyffredinol, a ydych chi’n cefnogi cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd ar fyrddau cyhoeddus yng Nghymru?

14:50

Felly, yr ateb syml iawn i'r cwestiwn diwethaf hwnnw yw 'ydw'. Mewn gwirionedd, rwyf newydd gomisiynu darn o waith ar y cyd gyda fy swyddogion yn Chwarae Teg i weld sut y gallwn sicrhau bod cynrychiolaeth dda o ran rhywedd—hanner a hanner, nid 40 y cant—ar yr holl fyrddau cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Gobeithiaf allu adrodd yn ôl wedi iddynt gwblhau'r darn bach hwnnw o waith i roi'r agenda honno ar waith. Y rheswm y mae hynny'n bwysig yw mai hwy yw cyrff llywodraethu llawer o'r sefydliadau rydych newydd sôn amdanynt, a gwyddom fod sicrhau bod y byrddau hynny'n cynnwys gwell cydraddoldeb rhywiol, gwell amrywiaeth, yn annog peth o'r ymddygiad rydym yn awyddus i'w weld.

Roedd yr Aelod yn llygad ei lle wrth nodi'r agenda honno. Bydd yn rhan o'r cyfarfodydd dwyochrog rwy'n eu cael gyda fy holl gyd-Aelodau, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ond mae problem fawr yn hyn o beth sy'n ymwneud â sicrhau bod arweinyddiaeth sefydliadau yn adlewyrchu'r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu, gan gynnwys materion rhywedd ond materion amrywiaeth eraill hefyd, a bod hynny'n llywio ymddygiad y sefydliad. Felly, rwy'n rhannu'r nod hwnnw gyda nifer fawr iawn o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, a byddwn yn rhoi cryn bwyslais ar yr agenda honno yn y dyfodol.

Trais Domestig

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais domestig? OAQ51607

Rydym yn parhau i roi ein strategaeth genedlaethol ar waith, sy'n nodi ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thrais domestig. Mae lleisiau goroeswyr yn gwbl flaenllaw yn ein gwaith. I gydnabod hyn, mae fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hymateb, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed yn gynharach y mis hwn ynglŷn â phenodi dau ymgynghorydd cenedlaethol rhan-amser newydd ar drais domestig. Rwy'n siŵr y byddant yn dod â chryn dipyn o brofiad i'r swydd hon, ond wrth gwrs, bu bwlch o chwe mis ac maent yn wynebu her fawr bellach o ran cyflwyno'r ddeddfwriaeth.

Gwn fod y Bil trais domestig sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn bwriadu penodi comisiynydd cam-drin a thrais domestig, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn rhagweld y bydd unrhyw gyswllt rhwng ein cynghorwyr a'r comisiynydd newydd pan gânt eu penodi.

Rwy'n ategu croeso cynnes Julie Morgan i benodiad diweddar ein cynghorwyr cenedlaethol newydd, Yasmin Khan a Nazir Afzal. Credaf ein bod wedi gwneud yn dda iawn i sicrhau gwasanaethau dau unigolyn mor ardderchog. Rhyngddynt, maent yn gweithio amser llawn, yn hytrach na dau unigolyn rhan-amser, felly mae'n swydd a rennir, ac rwy'n hapus iawn am hynny hefyd. Yn wir, yr ymgynghorydd blaenorol, Rhian—ni ddaeth ei chontract i ben tan fis Hydref, felly mae bwlch o dri mis wedi bod ers iddi adael y swydd, a threuliwyd y cyfnod hwnnw o dri mis yn trefnu'r broses o benodi'r cynghorwyr newydd a sicrhau y gall y trefniadau rhannu swydd weithio'n iawn. Felly, rwy'n hapus iawn gyda hynny. Credaf ein bod yn falch iawn, yng Nghymru, o gael dau gynghorydd mor flaenllaw ac ardderchog. Maent yn fwy na pharod i gydweithio er mwyn pennu blaenoriaethau a dulliau o weithredu'r rôl, gan wneud defnydd, yn amlwg, o'u cryfderau a'u profiadau unigol, a dyna pam rydym mor falch o'u cael. Byddant yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref i drafod y cynigion ar gyfer rôl comisiynydd newydd ar gyfer y DU, a byddwn yn ceisio dylanwadu ar y datblygiadau yn y DU i adlewyrchu'r cyd-destun Cymreig, oherwydd credaf ei bod yn deg dweud ein bod ar flaen y gad yma yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod gweddill y DU yn manteisio ar ein profiad.

Arweinydd y tŷ, mae trais domestig yn un o'r pethau mwyaf atgas y gellid meddwl amdanynt. Rwy'n ddigon ffodus i gynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, sef un o'r ardaloedd mwyaf amrywiol yng Nghymru o ran ethnigrwydd yn ôl pob tebyg. I rai teuluoedd, nid y Saesneg na'r Gymraeg yw'r iaith gyntaf, ac mae'r gwasanaeth cyfieithu yn hanfodol bwysig i roi hyder i bobl roi gwybod am drais domestig a cheisio lloches rhag y cam-drin y maent yn ei wynebu. A ydych wedi cael cyfle, yn y cyfnod byr ers i chi gael eich penodi, i asesu pa wasanaethau cyfieithu sydd ar gael ar gyfer unigolion a allai fod yn dioddef o ganlyniad i drais domestig, lle nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf, a gallai iaith yn hawdd fod yn rhwystr iddynt rhag dod allan o'r sefyllfa honno?

14:55

Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt hynod o bwysig. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl ynglŷn â hynny. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, a sicrhau bod gan bobl sy'n dod i fyw yma yng Nghymru fynediad at addysg Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae cael y sgwrs honno ar fy agenda. Rwy'n ymwybodol iawn, hefyd, gan fy mod yn cynrychioli canol Abertawe—felly, cyfansoddiad ethnig tebyg iawn—a bydd hyn yn berthnasol i'r rheini ohonom sy'n dod o Gymru, fod gennym nifer fawr o bobl yng Nghymru sy'n siarad ail iaith eu gwlad yn hytrach na'r brif iaith. Felly, mae gennym broblem benodol yn y gwasanaethau cyfieithu o ran sicrhau bod pobl nad ydynt yn siarad prif iaith eu gwlad, ond sy'n siarad ail iaith, hefyd yn cael eu gwasanaethu gan hynny. Rwy'n cael sgwrs gynhwysol iawn gydag amryw o bobl yn fy etholaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddarparu ar gyfer hynny, ac rwy'n bwriadu gwneud defnydd o'r profiadau hynny yn y rôl hon pan fyddaf yn cael y sgyrsiau rwyf i fod i'w cael cyn bo hir.

Cynhwysiant Digidol yn Aberafan

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018? OAQ51609

Ein blaenoriaeth yn Aberafan, fel yng ngweddill Cymru, yw sicrhau bod pobl yn cael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd trawsnewidiol y gall technolegau digidol eu cynnig, gan sicrhau gwell canlyniadau economaidd, canlyniadau dysgu a chanlyniadau iechyd ar draws ein holl gymunedau.

Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall yw hygyrchedd y dechnoleg. Yn aml iawn, yn ein cymunedau difreintiedig, cyflawnwyd hynny drwy ganolfannau cymunedol a llyfrgelloedd. Mae llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i ideoleg cyni Llywodraeth Doraidd San Steffan, bellach o dan fygythiad neu wedi diflannu, neu rai, efallai, wedi eu trosglwyddo i ofal y cymunedau, gyda'u horiau agor wedi crebachu o ganlyniad.

Felly, beth a wnewch i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hyn yn gallu cael mynediad at y dechnoleg fel y gellir eu cynnwys, fel y gallant ennill sgiliau? Oherwydd mae popeth yn symud tuag at dechnoleg ddigidol, ac os na allwn gynnig y gallu iddynt fynd i rywle a chael mynediad, rydym yn gwneud cam â'r bobl hynny.

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt hynod o bwysig. Rydym yn ymwybodol iawn o'r problemau sydd ynghlwm wrth gau cyfleusterau cymunedol, ac ati. O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio'n benodol gyda grwpiau sydd wedi'u hallgáu i ymgysylltu â setiau penodol o gleientiaid. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o bartneriaeth Dewch Ar-lein Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, yn ei etholaeth, sy'n annog pobl, grwpiau cymunedol a mentrau i wneud y gorau o dechnoleg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n cynnwys sesiynau blas ar dechnoleg ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol a sesiynau mewn llyfrgelloedd er mwyn chwilio am swyddi.

Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud, fel y dengys y fenter honno, yw edrych ar ffyrdd gwahanol o gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, rydym wedi bod yn gweithio, er enghraifft, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau mynediad ar gyfer tenantiaid mewn cymunedau tai penodol, ac mae gennym un enghraifft lwyddiannus iawn ym Merthyr Tudful, lle rydym wedi adnewyddu a darparu nifer o hen liniaduron Llywodraeth Cymru, gan ddisgwyl y byddai'r galw yn gymharol isel a bu'r galw yn aruthrol. Rydym wedi ymestyn y trefniant hwnnw yno gydag oddeutu 20 o liniaduron ychwanegol a dau gymhorthydd ychwanegol. Ond rydym yn dibynnu i raddau helaeth ar gymorth gwirfoddolwyr a phobl ifanc, felly rwy'n falch iawn gyda'n menter, lle mae gennym 500 o arwyr digidol sy'n wirfoddolwyr ifainc i gynorthwyo pobl hŷn i fynd ar-lein a dysgu sgiliau, a gallwn wneud hynny mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau iechyd, gan fod yr agendâu hyn yn bwysig iawn.

Rydym yn gwario £4 miliwn ar hyn o bryd drwy Cymunedau Digidol Cymru, gan gefnogi sefydliadau eraill—felly, model hyfforddi'r hyfforddwr—er mwyn darparu rhai o'r sgiliau hyn, ac mae gennym amrywiaeth o wahanol drefniadau ar waith i geisio cyrraedd pobl.

Ond mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig ac rwyf am ychwanegu un arall ato: un o'r anawsterau sy'n ein hwynebu yw bod ein gwirfoddolwyr, weithiau, yn cael eu hatal rhag gwirfoddoli am yr oriau yr hoffent wirfoddoli am fod hynny'n ymyrryd â'u trefniadau credyd cynhwysol. Rwyf wedi cael trafodaethau cadarn iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â pham ar wyneb daear rydym yn atal pobl rhag gwirfoddoli oherwydd rhai o'r gofynion mwy beichus ar gyfer chwilio am swyddi ar-lein, ac ati, a orfodir arnynt. Felly, rwy'n cytuno bod y rhaglen cyni yn effeithio ar yr agenda hon i raddau, ond rydym yn gwneud ein gorau glas i fod yn greadigol er mwyn goresgyn rhai o'r anawsterau hynny.

15:00
Mesurau Gwrth-gaethwasiaeth

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am fesurau gwrth-gaethwasiaeth yng Nghymru? OAQ51583

Gwnaf. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn gwrthwynebu caethwasiaeth. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid amlasiantaethol i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, darparu hyfforddiant amlasiantaethol, cefnogi dioddefwyr a chynorthwyo i ddod â'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae Wendy Williams, arolygydd cwnstabliaeth EM, wedi dweud:

Er y gall achosion o gaethwasiaeth fodern fod yn gymhleth a galw am weithlu sylweddol, mae llawer o'r methiannau i ymchwilio i'r achosion hyn yn adlewyrchu diffygion mewn arferion plismona sylfaenol. Gwelsom ddulliau anghyson, a hyd yn oed aneffeithiol, o nodi dioddefwyr,

a arweiniodd at gau ymchwiliadau cyn pryd.

O ganlyniad, cafodd dioddefwyr eu gadael heb eu diogelu, gan adael troseddwyr yn rhydd i barhau i ecsbloetio pobl

fel pe baent yn ddim mwy na nwyddau. A allwch roi sicrwydd inni, os gwelwch yn dda, nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru, o gofio bod grŵp atal caethwasiaeth Cymru yn dweud wrthym fod 10,000 o lysgenhadon atal caethwasiaeth yng Nghymru, ac eto mae gennym yr ystadegyn moel hwnnw mai dim ond un erlyniad a fu drwy Cymru gyfan hyd yma?

Wel, ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, ac rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth Cymru ar gaethwasiaeth i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod caethwasiaeth yn faes cymhleth iawn i'w ymchwilio ac i'w erlyn, a dyna pam rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch-swyddogion ymchwilio ym maes gorfodi'r gyfraith ac erlynwyr y goron ac eiriolwyr y goron. Gan gweithio gyda'n partneriaid yn 2017, fe lwyddasom i gyflwyno safon gyson o hyfforddiant atal caethwasiaeth i bron 8,000 o bobl ledled Cymru, a hoffwn gymryd y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gaethwasiaeth i roi gwybod i'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiadau hynny, gan fod pob digwyddiad y rhoddir gwybod i'r heddlu amdano yn cael ei ymchwilio, ac mae adroddiadau blaenorol wedi arwain at ddod â phobl o flaen eu gwell, neu roi terfyn ar y gweithgarwch yn gyfan gwbl.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorwyr cenedlaethol yn y broses o helpu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ51606

Gwnaf. Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n falch iawn fod Yasmin Khan a Nazir Afzal wedi cael eu penodi yn ymgynghorwyr cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy. Mae ganddynt gryn dipyn o brofiad a byddant yn cynghori Gweinidogion ac yn gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a rhanddeiliaid eraill i wella ein gwasanaethau ac i adrodd ar ein cynnydd.

Diolch, arweinydd y tŷ. Wrth i ni nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru yr wythnos hon, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod hanes, effaith a gwerth y trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys nid yn unig Cymorth i Fenywod Cymru ond Bawso, Hafan Cymru, Llamau, grwpiau cymorth i fenywod lleol a rhanbarthol, Atal y Fro? Mae'r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr cam-drin domestig, ond maent hefyd yn gweithio gyda'r asiantaethau cyfiawnder troseddol a statudol sydd â phŵer mewn statud i wneud newidiadau drwy weithredu'r gyfraith a sicrhau bod trais yn y cartref yn flaenoriaeth. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y ceir ymdrech unedig—gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn; credaf fod hyn wedi cael ei ddangos y prynhawn yma ar draws y Cynulliad hwn—i atal y 40 mlynedd nesaf rhag parhau â'r ystadegau sy'n dangos bod un o bob tair menyw yng Nghymru yn dioddef trais a chamdriniaeth?

Ymunaf â Jane Hutt i gydnabod hanes, effaith a gwerth y sector yng Nghymru, ac yn wir, ei hanes blaenorol ei hun yn y sector hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru a phawb arall sydd wedi gwneud safiad i gael gwared ar y math hwn o gam-drin o'n cymdeithas. Yn sicr, maent yn cynnig cefnogaeth hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr. Rwy'n falch iawn o ddweud y byddaf yn siarad yfory yn y digwyddiad i ddathlu 40 mlynedd o fudiad Cymorth i Fenywod Cymru.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau a goroeswyr i ddeall eu profiadau a sut y gellir datblygu'r system i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol. Edrychaf ymlaen at gyfraniad y cynghorwyr cenedlaethol at y strategaeth hon, ac rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan amryw o sefydliadau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau arbenigol annibynnol a sefydliadau ehangach yn y sector gwirfoddol. Roedd yr Aelod yn llygad ei lle wrth ofyn beth arall rydym yn ei wneud i ystyried beth y gallwn ei wneud, ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol a nodir yn y Ddeddf—awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau tân ac achub. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda'r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, y gwasanaethau addysg, sefydliadau tai, gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod yn y trydydd sector, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, goroeswyr a'r asiantaethau troseddu a chyfiawnder sydd heb gael eu datganoli.

Felly, mae'n ddull gweithredu cwbl amlasiantaethol. Rydym hefyd yn  gwneud yn berffaith siŵr ein bod yn ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector drwy gydol y broses gomisiynu fel y gallant gyfrannu'n adeiladol at y gwaith o gynllunio, cyflwyno ac adolygu'r broses gomisiynu ac i sicrhau bod gennym ymdriniaeth ranbarthol addas a chydweithredu priodol ar draws y sector. Mae'r sector bob amser wedi bod yn dda iawn am wneud hyn, ac rwy'n siŵr y byddant yn parhau i gydweithredu â ni wrth inni gyhoeddi ein canllawiau comisiynu yn y dyfodol agos, ond rwy'n talu teyrnged i'r 40 mlynedd o hanes hyd yma. Ni allaf ddweud fy mod yn edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf, gan fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at adeg lle na fydd angen y gwasanaethau hyn, ond rwy'n sicr, cyhyd ag y bo angen y gwasanaethau hyn, y bydd sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru yno i ateb yr angen hwnnw.

15:05
Band Eang Cyflym Iawn yng Nghaerffili

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili? OAQ51610

Gwnaf. O dan brosiect Cyflymu Cymru rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 27,206 o safleoedd yng Nghaerffili. Y tro diwethaf i'r data gael ei wirio, roedd y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar gyfer y safleoedd lle y rhoddwyd Cyflymu Cymru ar waith yn 64.4 Mbps yng Nghaerffili.

Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei hymdrechion arwrol yn sicrhau bod y problemau gyda band eang ar ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili wedi cael eu datrys. Mae wedi gweithio'n hynod o galed, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi digwydd. Ond roeddwn yn awyddus i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, yn groes i'r hyn a ddywedodd Russell George yn gynharach. Roeddwn yn awyddus i godi mater y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a'r ffaith nad yw band eang yn cael ei grybwyll yn y cynllun cyflawni, ond bydd yn hanfodol o ran cysylltu busnesau ledled etholaeth Caerffili. Rwy'n pryderu nad oes cyfeiriad penodol at hynny, felly a wnaiff arweinydd y tŷ roi sicrwydd y bydd yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i gyflawni'r cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a sicrhau'n benodol fod y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ac o amgylch ystadau diwydiannol yn ardaloedd gogleddol cymunedau'r Cymoedd yn elwa o ddarpariaeth band eang?

Yn sicr. Nid oes sôn am hynny am ei fod yn rhan sylfaenol o'r seilwaith. Rwy'n aelod o fwrdd tasglu'r Cymoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd. Mae rhan fawr o'r cynllun economaidd ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn seiliedig ar y math hwnnw o ddatblygu seilwaith, a chredaf ei fod yn rhan o ble rydym yn mynd gyda hyn, ac mae'n dod yn rhan o'r cefndir. Felly, mae rhannau helaeth o gymunedau'r Cymoedd yn cael eu gwasanaethu'n dda eisoes gan y seilwaith. Y mater pwysig bellach yw sicrhau bod y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y seilwaith yn cael eu rhoi ar waith. Felly, ni wnelo hyn â'r teclynnau; mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth gynyddol o wasanaethau y gallwn ddefnyddio'r teclynnau ar eu cyfer . Felly, mae'r Cymoedd yn rhan fawr o ddefnyddio'r seilwaith yn briodol gan ei fod bellach ar waith. Felly, lle nad yw'r seilwaith ar waith, ac nid yw hynny'n cynnwys llawer o ardaloedd y Cymoedd, byddwn yn disgwyl i'r prosiectau olynol lenwi'r bwlch hwnnw wrth gwrs. Felly, o ran yr ystadau a grybwyllodd yr Aelod, byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn cyrraedd ystadau diwydiannol a datblygiadau eraill o'r fath yn y prosiectau olynol y soniais amdanynt yn gynharach, a bydd hynny'n rhan bwysig o gynllun y Cymoedd lle maent yn y Cymoedd, ac wrth gwrs, yn rhan o'r broses gyflwyno ehangach lle nad ydynt.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd Caroline Jones, Comisiynydd diogelwch ac adnoddau’r Cynulliad, yn ateb cwestiwn 1. Cwestiwn 1—Simon Thomas.

Plastig Untro

1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad? OAQ51614

Diolch, Simon. Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau plastig ar yr ystâd, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi erbyn 2018. Rydym yn gweithio i leihau plastig untro ar yr ystâd, gan newid i ddeunyddiau y gellir eu compostio lle bo hynny'n bosibl o fewn y chwe mis nesaf, yn ogystal â gweithio gyda chyflenwyr i chwilio am atebion amgen.

A gaf fi ddiolch i'r Comisiynydd am ei hymateb cadarnhaol? Yn amlwg, mae'r Cynulliad wedi rhoi rhai camau ar waith yn ddiweddar, er enghraifft drwy gael gwared ar gwpanau coffi untro yma a newid i gwpanau ceramig, sy'n rhywbeth y mae gan y cyhoedd gryn ddiddordeb ynddo erbyn hyn. Felly, roeddem ar flaen y gad yn hynny o beth. Rwy'n awyddus inni aros ar flaen y gad. Rydym yn dal i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro ac ati, ac wrth edrych ar y siop yma, mae rhai o'n nwyddau mewn cynwysyddion plastig o hyd ac rydych yn edrych arnynt ac yn meddwl—wel, nid oes angen iddynt fod, mewn gwirionedd; mae'n rhywbeth sydd wedi tyfu'n arfer inni dyna i gyd. Felly, rwy'n falch o glywed bod gennych gynllun chwe mis, eich bod yn ceisio dileu cymaint o hyn â phosibl. Mae'n rhywbeth y credaf y gall pob un ohonom ddod at ein gilydd yn ei gylch. Ddydd Gwener, byddaf yn ymweld ag Aber-porth, un o gymunedau di-blastig Cymru, ond nid honno yw'r unig un bellach. Mae llawer o gymunedau yn dweud eu bod yn awyddus i baratoi i fod yn ddi-blastig, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod ninnau yn y Cynulliad—nid y Llywodraeth, ond ni yn y Cynulliad—yn gosod y safon ac yn dangos rhywfaint o arweiniad hefyd.

Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac rydym yn annog pobl i'w defnyddio. Mae'r gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cael gwared â rhai o'r biniau gwastraff cyffredinol ger y desgiau i sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl o'r opsiynau ailgylchu. Diolch am gydnabod y defnydd o gwpanau plastig, nad yw'n digwydd bellach. Diolch.

15:10

Ar y mater hwn, roeddwn yn siomedig o weld, ym mrecwast briffio'r meddygon teulu, a fynychwyd gennych chi hefyd, fod gwellt plastig wedi eu darparu ar gyfer bwyta iogwrt, ac roeddwn yn meddwl tybed a allwch newid hynny i sicrhau eu bod yn rhai papur, oherwydd mae angen inni wahardd gwellt plastig; maent yn un o'r pethau gwaethaf. Yn ychwanegol at hynny, nid yw'r ffreutur yn darparu finegrét mewn powlenni neu jygiau mwyach, a bellach mae ganddynt gynwysyddion bach plastig gwirion, rhai maint unigol. Ychwanegu at y plastig a ddefnyddir ar yr ystâd y mae hynny'n ei wneud. Mae hyn yn gwbl warthus ac nid yw'n gynaliadwy. Tybed a allwch wneud rhywbeth ynglŷn â hyn.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Hoffwn roi sicrwydd i chi fod y gwaith yn mynd rhagddo ac y byddwn yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gennych. Diolch.

Bydd cwestiynau 2 i 5 yn cael eu hateb gan Joyce Watson, y comisiynydd cydraddoldeb a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Cwestiwn 2—Darren Millar.

Gwasanaethau Caplaniaeth

2. Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad? OAQ51600

Nid oes unrhyw gynlluniau gan y Comisiwn i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth. Fodd bynnag, rydym yn darparu ystafelloedd tawel yn Nhŷ Hywel a'r Senedd ar gyfer gweddïo, myfyrio, neu amser tawel ar sail aml-ffydd—

Mae rhaglen cymorth i weithwyr y Comisiwn hefyd yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, ac mae ar gael i'r holl Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn.

Diolch am eich ateb, Gomisiynydd. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar ffydd drafodaeth ar y pwnc 'Caplaniaeth yn seiliedig ar ffydd: A yw'n werth ei wneud?' a chlywsom gan bobl sy'n gwasanaethu fel caplaniaid mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus, a chlywsom gan unigolion sydd wedi elwa o wasanaethau caplaniaeth, sydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo i leihau anghydfod ac anghytuno rhwng darparwyr y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau, maent yn darparu cysur i bobl ar adegau anodd, ac wrth gwrs, maent yn gallu darparu gofal bugeiliol, waeth beth yw ffydd neu gredoau pobl, neu os nad oes ganddynt unrhyw ffydd o gwbl. Roeddem yn teimlo bod y rhain yn fanteision pwysig a allai fod o ddefnydd i Aelodau'r Cynulliad, staff Aelodau'r Cynulliad, ac yn wir, i staff y Comisiwn yma ar ystâd y Cynulliad. Er y gwaith da a wneir i gefnogi staff ac Aelodau'r Cynulliad yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, credaf fod rhywbeth hollol unigryw o ran y gofal bugeiliol y gall gwasanaethau caplaniaeth ei gynnig, ac roeddwn yn meddwl tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallai'r Comisiwn ei drafod yn fanwl i weld a oes cyfle i ddatblygu gwasanaeth caplaniaeth, gan y buaswn i, yn sicr, yn croesawu hynny, a gwn y byddai rhai Aelodau eraill o'r Cynulliad yn croesawu hynny hefyd, yn arbennig o ystyried y math o drawma a ddioddefodd y Cynulliad yn ystod tri mis olaf y llynedd.

Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod yna gaplan yn arfer gwasanaethu Bae Caerdydd, yn fwyaf diweddar y Parchedig Peter Noble. Fodd bynnag, daeth hynny i ben yn ystod haf 2017, a chawsom wybod nad oes gan y grŵp o eglwysi ar gyfer y lle hwn unrhyw fwriad neu arian i lenwi'r rôl. Os yw aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn dymuno trefnu cymorth caplaniaeth drostynt eu hunain heb unrhyw gost i'r Comisiwn, gellid gwneud trefniadau iddynt ddefnyddio ystafell ar ystâd y Cynulliad at y diben hwnnw. Caniateir hyn o dan y rheolau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol.

Teuluoedd a Phlant

3. Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y Senedd yn lle mwy cyfeillgar i deuluoedd a phlant? OAQ51593

Cydnabyddir y Senedd eisoes fel lle croesawgar, ac mae wedi derbyn gwobrau am yr ymdrechion a wneir i ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfleusterau newid. Mae'r caffi bellach yn croesawu bwydo ar y fron, ac mae arwydd ger y fwydlen sy'n nodi hynny. Mae arwydd hefyd ar y sganwyr wrth i chi ddod i mewn i'r Senedd. Prynwyd cadair ar gyfer bwydo ar y fron, ac rydym yn gwerthuso, gyda defnyddwyr y gwasanaeth, y lleoliad mwyaf addas ar ei chyfer. Mae'r staff bob amser yn ceisio sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol, gan gynnwys teuluoedd â phlant.

15:15

Diolch i'r Comisiynydd am ei hymateb, ac rwy'n falch iawn o glywed bod cadair ar gyfer bwydo ar y fron wedi cael ei phrynu. Ar 3 Mai y llynedd, gofynnais gwestiwn tebyg ynghylch pa gynnydd a wnaed i sicrhau bod y Senedd yn fwy cyfeillgar tuag at blant a theuluoedd, ac yn benodol, at famau sy'n bwydo ar y fron—ac yn enwedig mamau sy'n dymuno bwydo ar y fron mewn gofod preifat. Roeddwn yn awyddus i glywed pa gynnydd a wnaed o ran nodi man o'r fath. Roeddwn yn bryderus fod yr ystafell deulu wedi cael ei throi'n ystafell gyfarfod, a gwn mai'r unig le preifat ar gyfer bwydo ar y fron ar hyn o bryd yw'r toiled, ac nid yw hynny i'w weld yn addas. Felly, tybed a ellid ystyried lleoedd fel hen ystafell y wasg, nad yw'n cael ei defnyddio o gwbl ar hyn o bryd, hyd y gwelaf, er mwyn gwneud popeth a allwn i annog menywod i deimlo eu bod yn rhydd i fwydo ar y fron yma. Oherwydd, yn amlwg, mae cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn isel, a dyma ein cyfle i ddangos esiampl.

Rwy'n croesawu eich diddordeb yn hyn, gan y byddai o fudd i bawb pe gallai cynifer o bobl â phosibl fwydo eu plant ar y fron lle bynnag y dymunant. Fel rwyf wedi dweud, rydym wedi edrych ar leoliad y gadair honno. Nid yw hynny wedi'i benderfynu. Mae'r broses honno'n mynd rhagddi mewn ymgynghoriad â'r bobl a fydd yn awyddus i'w defnyddio. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, bydd yn dilyn o reidrwydd y byddwn yn edrych ar ddarparu ystafell i fynd law yn llaw â hynny.

Y Cyflog Byw Go Iawn

4. Pa gynnydd a wnaed tuag at sicrhau bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Comisiwn yn cael y cyflog byw go iawn? OAQ51603

Mae'r Comisiwn wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ers mis Rhagfyr 2012 ac mae'n mynnu bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol yn cael y cyflog byw fan lleiaf. Rydym hefyd yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod yr holl staff a gyflogir drwy gontractwyr yn cael y cyflog byw fan lleiaf drwy ei wneud yn rhwymedigaeth gytundebol. Mae gofyn i'n contractwyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn cadw at y gyfradd ddiweddaraf o gyflog byw.

Wel, diolch am eich ateb, a chroesawaf y gwaith a wnaed o ran talu'r cyflog byw i weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol—y cyflog byw go iawn—ond mae cryn bryder o hyd ynglŷn â phobl a gyflogir yn anuniongyrchol, gan ei bod yn amlwg nad yw rhai ohonynt yn ennill y cyflog byw go iawn. Tybed a fyddai modd dosbarthu datganiad i roi gwybodaeth inni ynglŷn â faint yn union o bobl ar y contractau anuniongyrchol hyn sydd ddim yn ennill y cyflog byw go iawn, a beth fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni hynny a sicrwydd fod y sefyllfa honno'n newid. Oherwydd mae'n achos cryn bryder. Rydym yn hyrwyddo'r cyflog byw go iawn yma; rydym yn ceisio dangos esiampl. Gwn nad yw'r Cynulliad yn cyflogi, ond mae gennym atebolrwydd uniongyrchol dros Gomisiwn y Cynulliad, ac ymddengys i mi nad ydym wedi cyflawni'r amcan canmoladwy a osodwyd gennym y dylid talu'r cyflog byw go iawn i bawb a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Cyn i mi ddod i'r swydd hon—y rheswm dros ymgymryd â'r swydd hon oedd am fy mod yn awyddus iawn i hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, boed hynny drwy gyflog neu unrhyw ddull arall. Nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau sy'n dweud nad ydym yn talu'r cyflog byw. Felly, os oes gennych achos penodol yr hoffech dynnu fy sylw ato, byddaf yn croesawu hynny. Yr hyn rwyf wedi'i wneud—ac rydym wedi bod yn gweithio tuag at hyn—yw trefnu cyfarfodydd gyda phobl a gyflogir yn uniongyrchol ac sy'n staff asiantaeth neu staff a gyflogir yn gytundebol fel y gallaf gyfarfod a thrafod eu telerau ac amodau gyda hwy wyneb yn wyneb, neu gyda'u cynrychiolwyr, oherwydd fel gwleidyddion, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddangos ymrwymiad go iawn tuag at y bobl a gyflogwn, yn enwedig pan fyddwn yn derbyn gwobrau ac yn ceisio bod yn esiampl dda.

15:20
Hygyrchedd ar Ystâd y Cynulliad

5. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i'r holl ymwelwyr? OAQ51621

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i bawb ac rydym yn adolygu hygyrchedd pob adeilad yn rheolaidd. Cynhelir asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn unrhyw waith ailwampio neu welliannau, ac rydym bob amser yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn ymdrechu i gynnal arferion gorau.

Diolch, Gomisiynydd. Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Anfonodd yr ymrwymiad hwn neges gref at bobl â dementia a'u gofalwyr fod croeso cynnes iddynt ymweld â'r ystâd hon. Dywedai y byddai sesiynau Cyfeillion Dementia yn cael eu darparu i'r holl staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd, i'w hymbaratoi i ymateb i ymwelwyr allanol sy'n byw gyda dementia. Yn ychwanegol at hyn, credaf fod 21 o Aelodau'r Cynulliad a'u staff wedi dod yn gyfeillion dementia. Ond credaf y dylem anelu at fod yn Senedd gyntaf y byd i ddeall dementia, pe bai'r 60 Aelod yn cwblhau'r hyfforddiant. A all y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynnydd tuag at sicrhau bod ystâd y Cynulliad a'r staff yn mynd ati'n weithredol i gyflawni eu rôl fel Senedd sy'n deall dementia?

Gallaf, ond ni allaf orfodi pobl i ymrwymo. Felly, fel Comisiynydd, ymunaf â chi i apelio ar Aelodau'r Cynulliad i ddeall dementia, oherwydd credaf y bydd hynny nid yn unig yn ein helpu yma, ond bydd yn ein helpu wrth i ni ymgysylltu â phobl, waeth lle bo hynny'n digwydd. Mae sgwrs wedi cychwyn gyda thîm amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Maent wedi ymgysylltu â phrosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia er mwyn edrych ar ddatblygu canllaw i ymwelwyr â dementia. Mae'n ganllaw tebyg i'r rhai a gynhyrchwyd eisoes ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth. Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol. Er enghraifft, gallai'r sganwyr sy'n bipian wneud i rai pobl nad ydynt yn eu deall deimlo'n anesmwyth. Felly, maent yn edrych ymlaen ac yn gweithio'n galed iawn i geisio edrych ar yr hyn y gallant ei wneud.

Wrth gwrs, cafwyd—mae'r tîm amrywiaeth a chynhwysiant wedi darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i nodi sut y mae byw gyda dementia yn teimlo, a'r ffyrdd bach y gall pobl helpu, a sut i droi'r ddealltwriaeth honno'n weithredu, gan mai dyna rydym yn awyddus i'w gefnogi mewn gwirionedd. Hysbysebir y sesiynau, fel y gwyddoch, i holl staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad bob blwyddyn yn ystod wythnos amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Felly, rydym yn symud ymlaen. Rwy'n sicr fod cynnydd y gallwn ei wneud, ac rwy'n sicr y byddwn yn derbyn unrhyw gyngor y gall pobl ei roi i'n cynorthwyo i gyflawni ein nod o ddod yn sefydliad sy'n deall dementia, gyda'r holl Aelodau, gobeithio, wedi ymrwymo i hynny.

Diolch. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, Elin Jones, fel y Comisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu. Cwestiwn 6, Mandy Jones.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn y Gogledd

6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51616

Mae'r Comisiwn yn cyflawni nifer o fentrau gyda'r nod o ymgysylltu â phobl y gogledd. Mae pobl o bob oed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, ymgynghoriadau pwyllgor a gweithdai. Rydym hefyd yn falch o'r ffaith bod gennym swyddfa Mae Colwyn, sy'n fan cyhoeddus i aelodau o staff y Comisiwn gyflawni eu gwaith yn y rhanbarth. Rydw i ar ddeall eich bod chi wedi cymryd eich llw yn swyddfa yna wrth gymryd eich sedd yn y Senedd yma.

Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth drosof fy hun. Gomisiynydd, pa gamau ychwanegol y bydd Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i ddangos i bobl gogledd Cymru beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, sut y gallant gymryd rhan, ac annog canran fwy na 43.5 y cant i bleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad?

15:25

Diolch am y cwestiwn atodol. Mae'r Comisiwn, ac rwy'n siŵr pob Aelod yn y Siambr yma, yn ymwybodol iawn fod yna her barhaol i sicrhau bod pobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn deall yn iawn yr hyn sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad yma nawr a'r hyn sydd yn bwerau sydd yn gweithredu mewn mannau eraill. Felly, yn ymateb i'r her yna, fe wnaeth y Comisiwn benderfynu comisiynu darn o waith a gafodd ei arwain gan Leighton Andrews a phanel i edrych ar sut y gall y Comisiwn, ar ran y Cynulliad yma, fod yn cyfathrebu ein gwaith ni yn well gyda phob cymuned yng Nghymru. Mae yna gyfleon wrth gwrs i gyfathrebu yn ddigidol nawr i bob man o Gymru—gan obeithio bod y band llydan yn cyrraedd pob man yng Nghymru, wrth gwrs. Mae yna argymhellion diddorol, arloesol o bosib hefyd, yn yr adroddiad yna o'r comisiwn yna, ac fe fyddwn ni fel Comisiwn yn edrych i wireddu rhai o'r camau yna nawr wrth inni sicrhau ein bod ni'n cynyddu drwy'r amser y ddealltwriaeth sydd gan y bobl yng Nghymru—ac mae hyn yn wir am bob cymuned, nid dim ond y gogledd—y ddealltwriaeth hynny o'r gwaith dydd i ddydd rŷm ni'n ei wneud yn y Senedd yma ar ran pobl Cymru.

A gaf i gytuno fod cyfathrebu yn gwbl allweddol? Ond nid oes curo mynd mas ac ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl. Rwy'n canmol y fenter Senedd Casnewydd fel roedd hi yn 2016, a Senedd Delyn, a gafodd ei ohirio oherwydd amgylchiadau trist. Mae'r model yna o gyfnod dwys o ymgysylltu'n uniongyrchol mewn gwahanol rannau o Gymru yn un rwy'n meddwl y dylem ni fod yn edrych i wneud mwy ohono fe. Felly, a gaf i ofyn a fyddai'r Comisiwn yn barod i ystyried dim jest cynnal un bob blwyddyn, ond mynd ati yn fwy bwriadol i gael yr ymgysylltiad dwys yna yn gyson, o fis i fis, gan dargedu ardaloedd penodol? Oherwydd dyna'r ffordd orau, yn fy marn i, i addysgu pobl am yr hyn rŷm ni'n ei wneud. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau mae'r Aelod wedi'u gwneud. Yn sicr, mae ein profiad ni o fod wedi gwneud Senedd@ mewn gwahanol gymunedau—ac rwy'n meddwl am yr un wnes i ymweld â'n fwyaf diweddar, Senedd@Casnewydd—yn dangos fod gwirioneddol werth i waith pwyllgorau, gwaith Aelodau, a gwaith y Senedd gyfan i fod yn ymgysylltu ag ardaloedd penodol, a gwella dealltwriaeth Aelodau o bob rhan o Gymru o'r union ardal yna, yn ogystal â gwella dealltwriaeth yr ardal yna o'r gwaith mae'r Cynulliad yma yn ei wneud. Felly, rydym ni yn edrych nawr, yn dilyn y ffaith ein bod ni wedi yn anffodus gorfod gohirio Senedd@Delyn, i weld sut gallwn ni fod yn cynllunio'r rhaglen yma nawr o weithgaredd dwys mewn cymunedau penodol ar hyd a lled Cymru dros weddill tymor y Cynulliad yma.

Efallai eich bod yn cofio, pan oedd gennym y pwyllgorau rhanbarthol gynt, eu bod yn hynod boblogaidd a llawer yn eu mynychu, yn enwedig yng ngogledd Cymru—hyd yn oed pan nad oedd hynny'n wir o reidrwydd ledled Cymru gyfan. Ers iddynt ddod i ben, mae'r grwpiau trawsbleidiol a gadeirir gennyf fel arfer yn cwrdd bob blwyddyn yng ngogledd Cymru, a phan fyddant yn gwneud hynny, ceir cryn dipyn o ymgysylltiad cyhoeddus â hwy, ymhlith sefydliadau a phobl sydd â diddordeb yn y meysydd allweddol ac sy'n ystyried y grwpiau hyn yn wyneb i'r Cynulliad yn absenoldeb unrhyw ryngweithio uniongyrchol arall y gallant gymryd rhan ynddo. Sut y gallech chi a'r Comisiwn ystyried felly sut y gallech weithio gyda'r grwpiau trawsbleidiol ar yr agenda honno o leiaf, er gwaethaf y ffaith na ellir, yn gyffredinol, eu diffinio fel un o gyrff ffurfiol y Cynulliad?

Rwyf wedi sylwi eich bod wedi bod yn arbennig o ragweithiol fel arweinydd eich grwpiau trawsbleidiol o ran sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal y tu allan i Fae Caerdydd, ac yn arbennig yn y gogledd ar gyfer eich grwpiau trawsbleidiol. Credaf fod hwnnw'n fodel y buaswn yn awyddus i'w annog a'i hwyluso a hoffwn weld y Comisiwn yn ei gefnogi. Rwy'n awyddus hefyd i ddarparu cymorth i bwyllgorau, wrth iddynt gyfarfod y tu allan i Fae Caerdydd. Gall hynny fod yn her logistaidd i'r pwyllgorau hynny, gan fod llawer o'r Aelodau yn aelodau o bwyllgorau eraill hefyd, ac mae hynny'n ei gwneud yn eithaf anodd cyfarfod mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond mae'r egwyddor o annog y gwaith a wnawn i fynd rhagddo mewn ardaloedd eraill o Gymru yn un rwy'n ei chefnogi'n gryf, a hoffwn weld y comisiwn yn ei hwyluso ar draws y pleidiau a'r pwyllgorau hefyd.

15:30
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a daw'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Angela Burns, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Angela.

Ysbyty Llwyn Helyg

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn Helyg yn y dyfodol? 108

Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wrthi'n cynnal profion ac yn mireinio opsiynau ar gyfer eu rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol. Bydd rhestr fer o opsiynau yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, wedi'i dilyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a fydd yn sail i benderfyniadau terfynol y bwrdd iechyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwrandewais yn ofalus ar yr atebion a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru ddoe, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Paul Davies, yn y datganiad busnes. A chyflwynais y cwestiwn heddiw gan fy mod wedi fy nychryn gan yr haerllugrwydd ffroenuchel a gafwyd mewn ymateb i'n pryderon.

A ydych yn derbyn bod gan y cyhoedd hawl i fynegi eu pryderon wrth eu cynrychiolwyr etholedig, oherwydd roedd eich Aelodau ar y meinciau cefn—ymddengys bod nifer ohonynt yn meddwl ei bod yn dra chwerthinllyd fod pobl yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn bryderus ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig? A ydych yn derbyn nad yw hwn, yr adolygiad seneddol, yn dweud 'cau ysbyty Llwynhelyg'? A ydych yn derbyn bod hanes blaenorol ysbyty Llwynhelyg o ymgynghoriadau wedi eu bwnglera ers 2006, wedi golygu bod pobl Sir Benfro yn sensitif tu hwnt ynglŷn â'r pwnc hwn? Ac a ydych yn cytuno ag argymhelliad 4 yr adolygiad seneddol, sy'n dweud, 'Rhoi’r rheolaeth yn nwylo'r bobl', ac yn sôn am fod yn agored, am onestrwydd, am dryloywder ac am ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â ffurf eu gwasanaethau yn y dyfodol? Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi annog Hywel Dda i sicrhau bod eu hymgynghoriad yn agored, yn onest ac yn dryloyw, gan nad yw sgrialu o gwmpas gorllewin Cymru yn cynnal cyfarfodydd mewn neuaddau pentref bychan iawn, a pheidio â gadael i bobl fynd â'r papurau allan, yn edrych yn onest, yn agored nac yn dryloyw i mi, ac nid yw cysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol pan fo'r diarhebol yn taro'r ffan, a phethau'n cael eu datgelu'n answyddogol, yn edrych yn agored, yn onest nac yn dryloyw i mi.

A allwch wneud sylwadau ar yr effaith y gall y gyfres ddiweddaraf hon o ddigwyddiadau ei chael ar 'Lle gwych i weithio ynddo'—argymhelliad 5—a pha niwed y gallai hynny ei wneud i'n problemau recriwtio yng ngorllewin Cymru? Byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau yn dilyn argymhelliad 3. A'r rheswm pam y cyfeiriaf at hyn yw fy mod yn arbennig o ddig ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog, yn fy marn i, wedi bradychu'r gwaith rwyf fi, fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig, ac a bod yn deg, Aelodau eraill y gwrthbleidiau, wedi'i wneud wrth ymdrin yn onest ac yn aeddfed â'ch ymdrechion i gefnogi'r panel gyda'u hadolygiad o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ddoe, fe gollodd fy holl ewyllys da fwy neu lai, gan fod yr adolygiad yn ymwneud â sut rydym yn siarad â phobl, sut rydym yn ymgysylltu â phobl, sut yr awn â phobl gyda ni, sut rydym yn sicrhau dyfodol cynaliadwy, a sut rydym yn ceisio gostegu'r frwydr mewn perthynas â'r GIG. Nid yw'n amddiffyniad, cyn iddo sychu hyd yn oed, i ddweud yn sydyn 'Ha, ond wyddoch chi beth? Hen dro, gorllewin Cymru—unwaith eto, 15 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn mynd i ddechrau malu awyr am ysbyty Llwynhelyg.'

Felly, rwy'n gofyn i chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod Aelodau eraill eich plaid a'ch Llywodraeth, yn parchu pobl gorllewin Cymru. A wnewch chi sicrhau bod Hywel Dda yn siarad gyda ni mewn ffordd agored, onest a thryloyw? Mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, a minnau wedi llwyddo i drefnu cyfarfod gyda'r prif weithredwr a'r cadeirydd ddydd Iau. Mae hyn mor bwysig, ac mae wedi fy nghythruddo, y tu hwnt i bob disgrifiad, fod hwn, y bûm yn edrych ymlaen at ei weld fel eich gweledigaeth, wedi ei ddifenwi yn y fath fodd. Nid ydym yn disgwyl yr haerllugrwydd ffroenuchel hwnnw gan y Prif Weinidog. Rydym yma i gynrychioli'r bobl rydym yn eu cynrychioli ac mae gennym bob hawl i ofyn i chi graffu ar fwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau eu bod yn ymgymryd â hyn mewn ffordd wirioneddol deg, ac am unwaith, yn mynd â'r bobl gyda hwy yn hytrach na pharatoi pethau i fod yn faes brwydr.

15:35

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn cytuno â'i disgrifiad o'r ffordd y bu'r Aelodau yn y Siambr hon yn ymddwyn ddoe. Yn sicr, ni chredaf fod unrhyw ymgais neu fwriad i ddangos haerllugrwydd ffroenuchel neu ddifenwi ymdrechion Aelodau o bob plaid i gael sgwrs aeddfed iawn ynglŷn â dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd yr adolygiad seneddol yn ymgais onest i geisio cael dadl aeddfed a deallus ynglŷn â'n dyfodol. Ac ym mhob rhan o Gymru, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, bydd dewisiadau anodd iawn i'w gwneud.

Ni allaf ac nid wyf am wneud sylwadau ar fanylion proses anghyflawn ym mwrdd iechyd Hywel Dda a'u rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol, oherwydd fel y gwyddoch, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn gwybod hyn, gallai fod angen i mi wneud penderfyniadau ar ddiwedd y broses hon. Felly, ni allaf wneud sylwadau ar argymhellion, ond mae proses yn mynd rhagddi ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi y bydd rhestr fer yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn. Ac mae'n bwysig iawn cael ymgynghoriad cyhoeddus priodol ar hyn. Mae'n bwysig fod staff yn cymryd rhan yn briodol yn y broses hefyd, oherwydd waeth beth rydych chi neu fi neu unrhyw un arall yn ei ddweud ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd, os oes brwydr yn mynd i fod rhwng gwleidyddion, bydd pobl yn dewis eu hochrau. Mewn gwirionedd, credaf y bydd llawer o bobl yn cerdded i ffwrdd a chredu nad yw'n ddim mwy na gwleidyddion yn dadlau ynglŷn â rhywbeth yn hytrach na, 'Beth am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?'

Fel y gŵyr pob un ohonom, o'r hyn a ddywedodd yr adolygiad, nid yw'r ffordd rydym wedi ein trefnu ar hyn o bryd yn addas ar gyfer ein dyfodol, felly bydd angen sicrhau ffordd o gyflawni newidiadau a diwygiadau yn ein system, ac mae hynny'n anodd yng nghyswllt gwneud penderfyniadau lleol. Nid yw'n fater ar gyfer un safle arbennig yng Nghymru; mae pob safle yn wynebu her ynghylch yr ymlyniad at wasanaethau fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd, at frics a mortar, ac nid yng ngorllewin Cymru yn unig y ceir y farn honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymgynghoriad sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd, a gweld barn staff gofal iechyd eu hunain hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, yr ymddiriedaeth go iawn yw'r hyn sy'n bodoli rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny.

Mae'n rhaid ystyried yn ddifrifol a ydym yn credu bod y ffordd rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau ar hyn o bryd ym mhob rhan o Gymru yn mynd i bara, ac os nad ydyw, sut y bydd y sgwrs honno'n digwydd fel y gall y cyhoedd gymryd rhan yn briodol a chael y wybodaeth cyn bod unrhyw ddewis yn cael ei wneud. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, ac mae honno'n broses rwy'n disgwyl cymryd rhan ynddi yn y lle hwn, ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd pobl yn gofyn cwestiynau i mi er mwyn ceisio fy hoelio at farn benodol yn ystod y broses. Gwn y bydd hynny'n rhan o'r hyn y bydd yr Aelodau yn ceisio'i wneud, ond fe fyddaf yn onest ac yn blaen a byddaf yn parhau i ddweud, 'ni allaf roi barn i chi'. Ac nid wyf am roi barn i chi ynglŷn â'r ymgynghoriad. Nid oes unrhyw gynigion eto, ond efallai y bydd gofyn i mi wneud penderfyniadau, felly mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn gwneud y peth iawn.

Mae'r Aelodau yn y Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy marn ynglŷn â'r mater hwn. Mae'n gwbl annerbyniol fod unrhyw opsiynau a allai arwain at gau ysbyty Llwynhelyg hyd yn oed yn cael eu hystyried gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Mae pobl Sir Benfro wedi gweld gwasanaethau yn crebachu'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r newyddion diweddaraf hwn yn anfon neges arall fod gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro o dan fygythiad unwaith eto.

Yn wir, byddai hyd yn oed yn anos recriwtio gweithwyr proffesiynol meddygol os nad oes unrhyw sefydlogrwydd ynghylch pa wasanaethau sy'n aros a pha rai a allai gael eu diddymu. Felly, yn dilyn cwestiynau Angela Burns, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn nad yw'r cyhoeddiad hwn yn gwneud unrhyw beth i helpu i ddenu meddygon a staff meddygol i'r ardal pan fyddant yn parhau i weld gwasanaethau'n cael eu diddymu o'r ysbyty? Yn sgil yr argymhellion niweidiol hyn, a all ddweud wrthym pa gamau uniongyrchol y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn?

Mae'n ddrwg gennyf, un funud—rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau. Dangoswch gwrteisi tuag at Ysgrifennydd y Cabinet a gwrando ar y ddadl i gyd os gwelwch yn dda. Ysgrifennydd y Cabinet.

Nodir y newid yr hoffem ei weld ym maes iechyd a gofal yn yr adolygiad. Bydd rhai gwasanaethau arbenigol yn cael eu crynhoi ar nifer lai o safleoedd er mwyn darparu gwell gofal. Bydd hynny'n golygu pellter teithio hirach at rai o'r gwasanaethau hynny. Y cyfaddawd pendant yn hynny o beth yw y bydd mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref—rydym yn gweld hynny eisoes. Mae nifer eang o wasanaethau yn cael eu darparu o fewn y gymuned, a gofal iechyd lleol a fyddai wedi cael ei ddarparu o dan amodau theatr o'r blaen. Felly, rydym yn gweld newid ledled y wlad i gyd o ran y ffordd y caiff gofal ei ddarparu.

Ein her yn y dyfodol o ran iechyd a gofal, nid yn unig yn Sir Benfro, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond ym mhob cwr o'r wlad, fydd sut rydym yn newid ac yn diwygio er mwyn diogelu dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal, yn hytrach nag aros tan y bydd rhywbeth wedi torri go iawn cyn ei gyweirio, gan nad yw peidio â newid o gwbl yn opsiwn, ac nid oes modd peidio â bod yn onest ynglŷn â hynny. Dyna un o negeseuon craidd yr adolygiad seneddol. Yr her yw sut rydym yn cydnabod y ffordd rydym yn anfon ac yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd, sut rydym yn cydnabod ein gwendidau a'n cryfderau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'n gwendidau, yn ogystal ag adeiladu ar ein cryfderau, ac mewn gwirionedd, mae heriau gwirioneddol yn wynebu pob bwrdd iechyd o ran gwariant ar asiantaethau a gwasanaethau locwm. Mae rhai o'n gwasanaethau yn wynebu gwir heriau ariannol o ran y ffordd y caiff arian ei wario. Dyna pam fy mod wedi cymryd camau ar y bil cyflog, mewn gwirionedd, o ran gwariant ar wasanaethau locwm yn arbennig dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae cap cyflog wedi'i gyflwyno ar wariant ar wasanaethau locwm ar y telerau a oedd ar gael ym mis Tachwedd y llynedd, gan fod angen inni fynd i'r afael â rhai o'r costau hynny, neu byddwn yn tanseilio cynaliadwyedd y gwasanaeth hwnnw. Mae hynny'n effeithio ar recriwtio i'r gwasanaethau ym mhob rhan o'r wlad.

Yng ngorllewin Cymru, yn benodol, rwy'n dal i ddisgwyl i'n hymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' werthu nid yn unig y cyfle i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ond i fyw yma hefyd. Ac mewn gwirionedd, credaf fod gan orllewin Cymru gryn dipyn i'w gynnig i bobl fel lle i weithio, ond yn sicr fel lle i fyw hefyd, a'r cyfleoedd hyfforddi ochr yn ochr â hynny.

Nid oes modd cael sgwrs hawdd ynglŷn â thrawsnewid unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd barn resymol i'w chael bob amser—yn enwedig ar lefel leol ac unigol—ynghylch pam na ddylai newid ddigwydd; byddwch yn gweld hynny ym mhob rhan o'r wlad. Ond os nad oes lle i staff y gwasanaeth iechyd a'r cyhoedd gael sgwrs onest ynglŷn â rhesymau dros geisio newid y gwasanaeth er mwyn gwella ansawdd y gofal ac ansawdd y canlyniadau, ni fyddwn yn cyrraedd pwynt lle y gallwn fod yn sicr ac yn hyderus ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn sicr, dyna yw safbwynt yr adolygiad seneddol. Dyna sut rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ymddwyn gyda'u poblogaethau eu hunain, ond hefyd wrth weithio gyda'i gilydd ar nifer o heriau sy'n ein hwynebu o ran y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.

Fel y dywedaf, fe fyddaf mor agored ac mor onest ag y gallaf, gan warchod, wrth gwrs, y realiti y gallai fod yn rhaid i mi wneud penderfyniadau. Ni allaf drafod rhai o'r manylion yn y cwestiynau a ofynnwyd gennych, oherwydd, fel arall, buaswn yn rhoi fy hun mewn sefyllfa lle y gallwn danseilio'r ymgynghoriad nad yw wedi agor i'r cyhoedd eto—bydd hynny'n digwydd yn y gwanwyn. Ac nid yw hyn yn fater o un rhan o Gymru yn cael y sgwrs hon; mae sgwrs genedlaethol i'w chael a rhai dewisiadau cenedlaethol gwirioneddol anodd sy'n rhaid inni eu gwneud.

15:40

Rydych wedi rhoi pwys mawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, ar yr adolygiad seneddol, ond wrth gwrs, cyhoeddwyd yr adolygiad seneddol yn rhy hwyr i ddylanwadu ar yr argymhellion hyn gan Hywel Dda. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i annog Hywel Dda i dynnu'r cynigion hyn yn ôl hyd nes y byddwn wedi cael amser i ystyried yr adolygiad seneddol—sut y gellid ei roi ar waith ledled Cymru, a sut y gellir cael y sgwrs aeddfed hon rydych yn awyddus inni ei chael ar y sail honno heb i ni fynd i'r afael ag argymhellion unigol i gau ysbytai, na fydd, i fod yn onest, yn caniatáu i unrhyw un ohonom gymryd rhan mewn dadl aeddfed fel rydych yn ein hannog i wneud? Oni fyddai'n well o lawer pe baem yn ystyried yr adolygiad seneddol hwnnw, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yn gwneud hynny ac yn annog pob bwrdd iechyd i edrych ar sut rydym yn ystyried yr adolygiad cyn rhoi cyfres o ymgynghoriadau ar waith gyda'u poblogaethau lleol, yn seiliedig ar egwyddorion yr adolygiad hwnnw? Byddech yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl pe baech yn caniatáu i Hywel Dda fwrw ymlaen gyda chyfres o ymgynghoriadau, rhai ohonynt yn hynod ddadleuol, nad oes modd i'r adolygiad seneddol ddylanwadu arnynt o gwbl. Ac rydych mewn perygl, felly, o golli peth o'r cyd-awydd a'r gefnogaeth eang a gafodd ei meithrin gennych yng nghyswllt yr adolygiad seneddol.

Hoffwn eich gwahodd hefyd i ymuno â'ch cyd-aelodau Llafur ym Mhreseli, Sir Benfro. Roedd Paul Miller, yr ymgeisydd yn 2015, yn sefyll dros adfer y gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg; yn wir, rwy'n ei gofio'n dweud ei fod wedi cael tri chyfarfod gyda Steve Moore—rhyfeddol; tri chyfarfod, dychmygwch, gyda Steve Moore—i drafod sut y gellid eu hadfer. Roedd pob un ohonom yn aros i'r gwasanaethau pediatrig hynny gael eu hadfer. Roeddent wedi cael eu diddymu dros dro, os caf eich atgoffa—nid o ganlyniad i benderfyniad ymgynghoriad, ond eu diddymu dros dro oherwydd anawsterau recriwtio. Er mwyn adfer rhyw fath o ymddiriedaeth ymysg pobl leol i ganiatáu inni gael y ddadl ddifrifol rydych yn gofyn i'r adolygiad seneddol esgor arni, does bosibl na fyddech yn adfer gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg yn gyntaf fel y gellir adfer ymddiriedaeth pobl, a gofyn i Hywel Dda beidio â bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad hwn hyd nes y byddwn wedi ystyried yr adolygiad seneddol yn llawn.

15:45

Ar ddechrau'r adolygiad seneddol, roedd yna drafodaeth ynglŷn â faint fyddai'n aros tan ddiwedd proses yr adolygiad seneddol a faint fyddai angen iddo ddigwydd o ran trafodaeth. Fe fyddwch wedi gweld y datganiad hirfaith gan y cyfarwyddwr meddygol, Dr Phil Kloer o fwrdd iechyd Hywel Dda, am y sgwrs a'r ymgynghoriad parhaus y mae'r gymuned glinigol wedi bod yn eu cael yn Hywel Dda ynglŷn ag amryw o ddewisiadau anodd y maent yn teimlo bod angen iddynt eu trafod gyda'r cyhoedd.

Nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod yr adolygiad seneddol yn golygu bod rhaid i bopeth stopio a bod rhaid ailgychwyn yr ymgynghoriad ar ryw adeg yn y dyfodol. Credaf fod yr adolygiad seneddol yn tynnu sylw at nifer o bwyntiau ynglŷn â'r angen i gael sgwrs, ynglŷn â pheidio â gadael pethau am y tro, ac mewn gwirionedd mae'n rhaid i hyn gael ei wneud yn agored gan y bwrdd iechyd a'i weithwyr. Rhaid i'r gymuned glinigol gymryd rhan yn y sgwrs honno gyda'i gilydd a chyda'r cyhoedd y maent yn byw yn eu mysg ac a wasanaethir ganddynt.

Nid wyf yn meddwl mai'r peth cywir i mi ei wneud yw cyfarwyddo, neu geisio cyfarwyddo'r bwrdd iechyd i roi'r gorau i'w ymgynghoriad yn awr. Credaf mai'r prawf yw a fydd ganddynt ymgynghoriad sy'n agored gyda'r cyhoedd, lle y gallant egluro'n onest beth sy'n digwydd a lle mae'r staff yn teimlo wedi eu grymuso i gymryd rhan yn iawn yn hynny gyda'u cymunedau. Oherwydd pa un a ydynt i gynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd yn y gwanwyn, neu yn yr haf neu yn yr hydref, ni ellir osgoi'r realiti y bydd yna bob amser ddewisiadau dadleuol i'w gwneud yng ngorllewin Cymru, yng ngogledd Cymru, yn ne Cymru a chanolbarth Cymru. Mae gennym ddewis rhwng dweud bod y gwasanaeth iechyd gwladol a gofal cymdeithasol yn gorfod cymryd rhan yn y ddadl honno yn awr ac wynebu rhai o'r heriau hyn a chael sgwrs anodd a gwneud dewisiadau wedyn, neu a ydym yn oedi rhag hynny a'i gwneud hyd yn oed yn llai tebygol y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol, tan y bydd rhywbeth yn mynd o'i le ar ryw bwynt. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r peth cywir i'w wneud.

Rwy'n deall pam y mae Aelodau'r wrthblaid yn arbennig yn fy annog i ymyrryd ac atal pethau rhag digwydd. Rwy'n deall hynny. I fod yn onest, pe bai fy mhlaid yn wrthblaid, gallem yn hawdd fod yn gofyn cwestiynau lletchwith o natur debyg i unrhyw un yn y Llywodraeth hefyd. Mewn gwirionedd, credaf mai'r rheswm pam y mae Gweinidogion yma i wneud eu gwaith yw er mwyn gwneud gwahaniaeth i'r wlad, ac mae peth o hynny'n ymwneud â chaniatáu i ddewisiadau anodd ddigwydd. Nid wyf am geisio cyfarwyddo Hywel Dda nac unrhyw fwrdd iechyd arall i roi'r gorau i ymgynghori â'i staff neu gyda'r cyhoedd. Rwy'n meddwl bod yn rhaid i'r ymgynghoriad ddigwydd, rhaid ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd, bydd rhaid gwneud dewis ac yn y pen draw, gallai'r dewis hwnnw lanio ar fy nesg.

Rydym wedi cael y ddogfen hon sydd wedi'i datgelu'n answyddogol, gwyddom y bydd yn sail i ymgynghoriad ac rydym yn gwybod bod yna sôn ynddi am gau ysbyty Llwynhelyg. Mae eisoes wedi creu cryn dipyn o fraw yn fy etholaeth i, yr un rwy'n byw ynddi. Credaf mai ein gwaith ni yma fel gwleidyddion yw cael sgwrs sy'n dechrau tawelu'r ofnau hynny. Oherwydd wrth i mi ddarllen hyn yn awr ar ei ffurf bresennol, mae yna amryw o opsiynau—naw i gyd, rwy'n meddwl—yn cael eu cynnig, ac maent yn ceisio sgwrs a chytundeb gyda'r cyhoedd ehangach, ac mae hynny'n ein cynnwys ni, ar sut i fwrw ymlaen â hyn, o ran rhoi'r dewisiadau gorau posibl i bobl i ddarparu'r math mwyaf diogel o ofal a gwasanaethau, yn feddygol ac yn gymdeithasol, yn yr ardal honno.

Felly, mae dau beth yn rhedeg ochr yn ochr â hynny. Credaf mai'r peth cyntaf yw ein bod yn rhoi sicrwydd ar unwaith i'r bobl yn Sir Benfro nad yw ysbyty Llwynhelyg yn cau yn awr. Rwy'n meddwl mai dyna rwy'n ei weld ar Twitter, ar Facebook ac yn y negeseuon e-bost rwy'n eu cael. Credaf mai dyna'r peth cyntaf sy'n rhaid inni ei wneud. Yn amlwg, yr ail beth yw y bydd hwn yn ymgynghoriad ystyrlon lle y gwrandewir ar safbwyntiau pobl yn gyntaf oll ac yna eu hystyried. Oherwydd credaf mai dyna lle rydym ar hyn o bryd, a dyna y byddaf yn galw amdano—i'r ddau beth hynny gael eu datgan yn gadarn.

15:50

Diolch i chi am y sylwadau a'r pwyntiau. Credaf ei bod yn bwysig dweud—a rhaid i mi ddweud ar goedd yn awr—nad oes unrhyw gynllun i gau ysbyty Llwynhelyg ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos. Mae her yn ein hwynebu o ran beth fydd y dyfodol i unrhyw ysbyty. Nid yw'n ymwneud â glasganmol unrhyw safle, oherwydd gallech ddweud yr un peth am Langwili a Llanelli yn ogystal. Ac mewn gwirionedd, o weld y ffordd yr adroddwyd ar y mater, er bod mater Llwynhelyg wedi cael sylw wrth gwrs, yn ddigon dealladwy, gan gynrychiolwyr Sir Benfro, mae'r rhestr hir a ddatgelwyd yn answyddogol hefyd yn cynnwys opsiynau ynghylch safleoedd ysbytai eraill yn ogystal, felly mae'n edrych ar amrywiaeth eang o gynlluniau gwahanol. Dyna pam rwy'n dweud bod y bwrdd iechyd yn dilyn proses. Byddant yn cyflwyno rhestr fer yn y gwanwyn a bydd modd cael ymgynghoriad ystyrlon ar honno.

Rwy'n hapus iawn i gadarnhau mewn gwirionedd fy mod yn disgwyl cael ymgynghoriad ystyrlon. Wrth gwrs rydym wedi buddsoddi yn safle Llwynhelyg. Ceir amrywiaeth o wasanaethau sy'n darparu gofal da iawn i bobl. Felly, mae yna heriau bob amser ynglŷn â sut y gallwch gael sgwrs synhwyrol ac ystyrlon a sut rydych yn parchu ac yn deall y bydd rhai pobl yn poeni am y dyfodol, ac yn chwilio am dawelwch meddwl, ac am bethau pendant na all unrhyw Weinidog cyfrifol eu rhoi mewn gwirionedd os ydym yn mynd i wneud penderfyniadau o ddifrif ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd.

Yn dilyn 80 o ddigwyddiadau lleol gwahanol dros yr haf, gwn fod y bwrdd iechyd wedi cynnal 14 o ddigwyddiadau pellach yn yr hydref, ac mae mwy i ddod a mwy i'w wneud, ond rwy'n disgwyl y bydd ymgysylltu clinigol yn digwydd yn y drafodaeth honno rhyngom a'n gilydd ac yn y drafodaeth gyda'r cyhoedd ac ymgynghoriad diffuant ac ystyrlon i'r cyhoedd a phobl gorllewin Cymru, ac rwy'n disgwyl i'r un math o sgyrsiau ddigwydd yng ngweddill y wlad wrth inni geisio ail-greu dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn fath o flanced dân broffesiynol ar gyfer methiannau byrddau iechyd ledled Cymru ac nid yw Hywel Dda yn eithriad. Wrth gwrs, nid yw Llwynhelyg yn mynd i gau yn y dyfodol agos, ond y cwestiwn go iawn yw: a yw'n mynd i gau maes o law yn dilyn toriadau dinistriol diddiwedd? Yr hyn a welsom yn ddiweddar yw lleihad cynyddol y ddarpariaeth iechyd, yn enwedig yn Sir Benfro, ac nid oes unrhyw hyder, yn fy marn i, gan unrhyw un y siaradais â hwy fod Hywel Dda yn mynd i fod yn ymatebol go iawn i anghenion pobl leol.

Llwyddais i gael cyfarfod gyda phrif weithredwr a chadeirydd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, a chawsom drafodaeth gyffredinol, ac mae'n eithaf clir beth yw'r cyfeiriad teithio yma. Maent am gau ysbytai cyffredinol a chael canolfannau cymunedol llai nad ydynt yn mynd i allu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Wrth gwrs mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd newid gyda'r oes ac mae Hywel Dda yn gorfod ymdrin â phroblemau hanesyddol penodol—mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'u cyfyng-gyngor—ond sut y gall fod yn iawn i gau ysbytai llai neu gau ysbytai cyffredinol a cheisio sianelu popeth i un uned fwy canolog? Heb fod yn hir iawn yn ôl roedd yna ofnau fod Bronglais yn mynd i gau yn Aberystwyth. Bellach, rydym yn ofni bod Llwynhelyg yn mynd i gau. O ystyried daearyddiaeth bwrdd iechyd Hywel Dda, lle mae'r boblogaeth yn denau, ni allwch ganoli pethau mewn un lle; mae hynny'n amhosibl.

Y pwynt arall a ddeilliodd o fy nhrafodaethau gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr oedd nad ydynt yn gweld yr angen am gymaint o welyau mewn ysbytai. Fe'ch clywais funud yn ôl yn dweud bod y gwasanaeth iechyd wedi newid fel bod mwy o bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt erbyn hyn nag o'r blaen, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond mae cyfraddau defnyddio gwelyau yn uwch nag erioed—wyddoch chi, 88 y cant, ond 85 y cant yw'r lefel ddiogel. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, ni all fod yn iawn i ystyried lleihau'r ddarpariaeth o welyau mewn ysbytai ymhellach.

Rwy'n deall na allwch ddweud heddiw beth fydd canlyniad yr adolygiad a'r ymgynghoriad, a bod cyfyngiadau cyfreithiol ar eich gallu i ateb cwestiynau, ond gallaf ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Joyce Watson funud yn ôl: rhaid ystyried bod y cynnig i gau Llwynhelyg yn un hurt—hyd yn oed yn y tymor canolig, heb sôn am y tymor byr. Pan fo'n cynhyrchu'r rhestr o opsiynau i bobl eu trafod, dylai'r bwrdd iechyd osgoi achosi ofn a dryswch diangen drwy gynhyrchu cynigion eithafol nad ydynt yn mynd i gael eu gwireddu.

Ond yn y bôn, yr hyn a welwn yma yw diffyg camau democrataidd wrth wneud penderfyniadau yn y gwasanaeth iechyd. Ni chaiff aelodau byrddau iechyd eu hethol, ni chaiff aelodau cynghorau iechyd cymunedol eu hethol. Yn y pen draw, caiff popeth ei sianelu at yr Ysgrifennydd iechyd yn y Cynulliad, a gallwn, fe allwn geisio dwyn yr Ysgrifennydd iechyd i gyfrif yn y Siambr hon, ond cyfyngir ar ein gallu i wneud hynny, wrth gwrs, gan strwythur y Cynulliad a'r system pleidiau o'i fewn. Mae pobl ar lawr gwlad yn teimlo nad oes ganddynt lais go iawn o gwbl. Oes, mae gennym ni lais, ond a yw ein llais yn cael ei glywed, a hyd yn oed os caiff ei glywed, a oes rhywun yn mynd i wrando arno?

15:55

Rwyf am ymdrin â'ch pwynt ynglŷn â gwelyau a buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffigurau o arian a fuddsoddwn yn y gwasanaeth iechyd—[Anghlywadwy.]—y niferoedd o staff sydd gennym; rydym yn trin mwy o bobl nag erioed o'r blaen, yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n cynnwys yng ngorllewin Cymru, fel yng ngweddill y wlad.

Ein her yw sut y trefnwn ein gwasanaethau i sicrhau'r gwerth gorau, o ran gwerth am arian, ond hefyd o ran y gwerth y byddwn yn ei gyflawni o ran ansawdd a chanlyniadau gofal. Ac mae hynny o ddifrif yn mynd yn ôl i pam y cawsom adolygiad i weld a ydym ar y trywydd iawn a beth arall sydd angen inni ei wneud. Rwy'n dweud na allwch ddianc rhag y ffaith bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd, neu fel arall, byddwch yn dychwelyd at bwynt arall yn y dyfodol pan ofynnir i'r Llywodraeth, 'Pam na wnaethoch rywbeth am ran o'r gwasanaeth sydd wedi mynd o chwith go iawn?' Buasai'n llawer gwell gennyf fod mewn sefyllfa lle rydym yn cael dadl ynglŷn â sut y caiff dewisiadau anodd eu gwneud na pheidio.

Rwy'n ailadrodd nad oes unrhyw fwriad i gau ysbyty Llwynhelyg. Ni fydd unrhyw gynigion i ymgynghori yn eu cylch tan y gwanwyn hwn, a'r bwrdd iechyd fydd yn gwneud hynny. Mae angen i'r bwrdd iechyd gael y sgwrs honno gyda'i glinigwyr a'r cyhoedd a dyna'n bendant yw'r peth cywir i'w wneud. Wrth gwrs, bydd llais y cyhoedd yn ffactor pwysig; gwrandewir ar bobl, ond gadewch inni fod yn glir, mae yna amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r hyn a allai ac a ddylai ddigwydd ar draws ardal y bwrdd iechyd.

Gwelsom fod gan gynrychiolwyr yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llwynhelyg ac mewn rhannau eraill o'r bwrdd iechyd safbwyntiau gwahanol iawn ar yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae angen inni gael proses sy'n deg, yn briodol ac yn ystyrlon ac yna fe wneir penderfyniad, ac wrth gwrs, os yw'n benderfyniad y mae'r bwrdd iechyd yn dymuno ei wneud, gallai'n hawdd gael ei gyfeirio ataf fi yn y pen draw a glanio ar fy nesg a byddaf yn derbyn y cyfrifoldeb sy'n mynd gyda hynny.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rydym yn mynd i symud ymlaen at yr ail gwestiwn amserol, ond cyn imi alw am y cwestiwn, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod achos ar waith ar y mater hwn, a bod Rheol Sefydlog 13.15 ar sub judice yn weithredol felly. O ganlyniad i hynny, dylai'r Aelodau osgoi gwneud unrhyw sylwadau am ymddygiad y partïon neu'r unigolion sy'n gysylltiedig, neu roi unrhyw awgrym ynglŷn â beth ddylai canlyniad yr achos fod.

Galwaf ar Neil McEvoy i ofyn ei gwestiwn amserol i gael ei hateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Neil McEvoy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cwestiwn i'r Prif Weinidog oedd hwn, ond nid yw yma, felly—

Na, na. Na, mae'n ddrwg gennyf. Yr Aelodau sydd i awgrymu neu ddynodi pwy fyddent yn dymuno iddynt ymateb, ond mater i'r Llywodraeth yw penderfynu pa Weinidog sydd yn y sefyllfa orau i'w ateb. Fe sylwch fod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, ddydd Llun, ac felly, ystyrir mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog a fydd yn ateb eich cwestiwn amserol.

Ie, ond fe gafodd ei gyflwyno a'i dderbyn fel y Prif Weinidog.

Na, na, nid oes gwahaniaeth i bwy y cafodd ei gyflwyno. Rwyf newydd egluro.

Felly, naill ai gofynnwch eich cwestiwn i'r Gweinidog, neu fe symudwn ymlaen.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? 113

Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 22 Ionawr 2018 ynghylch camau cyfreithiol yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio. Gallaf gadarnhau bod achos cyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â thorri contract ac esgeuluster proffesiynol yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton Group Ltd. Byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar y cam hwn yn yr achos hwnnw.

Neil Hamilton—mae'n ddrwg gennyf, Neil McEvoy. [Chwerthin.] Roeddwn yn edrych draw acw. Mae'n ddrwg gennyf, Neil.

Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith ynglŷn â'r sgandalau gwerthu tir a ddigwyddodd yn 2012, ond rwy'n bryderus iawn ei bod wedi cymryd cymaint â chwe blynedd i gyrraedd y pwynt hwn. Dyna chwe blynedd ers i fy etholwyr golli £39 miliwn yn Llys-faen, pan werthwyd y tir yn rhad i gwmni tramor, a £7 miliwn yn y Rhws ym Mro Morgannwg.

Caf fy nghyfyngu, fel y dywedwyd wrthym, o ran beth rwy'n cael ei ofyn, oherwydd yr achos cyfreithiol, ond mae'n amlwg eich bod wedi casglu corff o dystiolaeth er mwyn erlyn y cwmnïau a oedd yn cynghori ar werthu'r tir. Felly, a fyddwch yn darparu'r dystiolaeth honno i Heddlu De Cymru a'r Swyddfa Twyll Difrifol, ac a fyddwch yn galw am ailagor yr ymchwiliad troseddol?

Diolch i chi am eich cwestiynau. Fe ddywedaf, o ran yr amserlen dan sylw, fod pob mater sy'n ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio wedi cael ei ystyried yn fanwl iawn gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y gwaith hwnnw yn arbennig yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 17 o argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, mae'r camau cyfreithiol hyn yn ymateb i un o'r argymhellion hynny, sy'n awgrymu y dylid rhoi camau ar waith mewn perthynas â thorri contract ac esgeuluster proffesiynol.

Am bob un o'r rhesymau a amlinellodd y Dirprwy Lywydd, rwy'n gyndyn iawn i wneud unrhyw sylw pellach ar fanylion y broses gyfreithiol sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn sicr ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar unrhyw dystiolaeth a gasglwyd gennym. Fodd bynnag, fe ddywedaf, er mwyn helpu'r Aelodau, fy mod yn gwybod bod yna bryderon mewn perthynas â'r achos cyfreithiol a'r mater ar wahân ynglŷn â'r taliadau gorswm yn ogystal. Felly, credaf y byddai gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod bod mwy na £5 miliwn wedi dod i law hyd yn hyn fel taliadau gorswm, a disgwylir taliadau ychwanegol yn y dyfodol. Unwaith eto, mae'n rhy gynnar i ddweud beth yw'r union ffigur o ran y cronfeydd hynny, ond buaswn yn sicr yn hapus i roi newyddion pellach i'r Aelodau ynglŷn â hyn a materion eraill wrth i bethau fynd rhagddynt.

16:00
5. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Jane Hutt.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon nodir deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Rwy'n cynnal digwyddiad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen yn y Pierhead o dan faner 'Fe Godwn Ni', i gydnabod y cynnydd a wnaed a'r gwaith sydd angen ei wneud o hyd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Llond llaw o lochesi yn unig a oedd pan ddechreuais weithio fel cydlynydd cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru, ond roeddem yn benderfynol o ymgyrchu dros newid yn ogystal â darparu lloches a chymorth. Mae cynnydd wedi'i wneud, ond y ffaith syfrdanol yw bod un o bob tair menyw yng Nghymru yn profi trais a cham-drin.

Monica Walsh, un o'r siaradwyr yn y digwyddiad yfory, oedd un o'r menywod cyntaf yn lloches Caerdydd, a agorodd ym 1975. Mae hi wedi dangos dewrder mawr yn ei bywyd, daeth yn gynrychiolydd undeb llafur rheng flaen, yn gynghorydd Llafur ac yn Arglwydd Faer Caerdydd, gan barhau i ymgyrchu dros hawliau menywod hyd heddiw. Mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i'w chefnogi hi a gwaith pawb sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn ddyddiol.

Cysegrodd Santes Dwynwen, santes o'r bumed ganrif, ei bywyd i hyrwyddo perthynas gariadus ar ôl goroesi trais rhywiol gan ei phartner a dianc rhag ymdrech ei thad i'w gorfodi i briodi dyn nad oedd hi'n ei garu. I gydnabod dewrder Santes Dwynwen a phen-blwydd Cymorth i Fenywod, fe godwn ni.

Y digwyddiad Holocost Sipsiwn a Theithwyr—dechreuodd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr drefnu digwyddiad blynyddol dair blynedd yn ôl i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost oherwydd diffyg gwybodaeth am ddioddefaint y Sipsiwn yn yr Holocost. Er bod y digwyddiad yfory wedi'i drefnu gan Sipsiwn a Theithwyr, byddwn hefyd yn cofio'r bobl Iddewig, y bobl anabl, y bobl hoyw a ddioddefodd; byddwn yn cofio pawb.

Targedwyd y Roma gan y Natsïaid ar draws Ewrop yn yr un modd ag y targedwyd y boblogaeth Iddewig, a'r nod oedd dinistrio'r boblogaeth gyfan. Roedd rhaglenni systematig ar gyfer symud y Roma i wersylloedd neu ardaloedd ar wahân yn bodoli ym mhob gwlad o dan y Natsïaid a llofruddiwyd cannoedd o filoedd o Roma Ewropeaidd. Amcangyfrifir, ar ddechrau'r ail ryfel byd, fod tua 1 filiwn Roma yn Ewrop. Erbyn diwedd y rhyfel, nid oedd ond tua 20 i 30 y cant o hynny. Ar ôl yr hil-laddiad, ni chafodd goroeswyr Roma o'r gwersylloedd eu cydnabod ar unwaith; ni chawsant eu digolledu ac ni ofynnwyd iddynt dystio yn nhreialon Nuremberg. Cymerodd fwy na 30 mlynedd i Lywodraeth Gorllewin yr Almaen gyfaddef fod y Natsïaid wedi targedu'r boblogaeth Roma.

Dioddefodd llawer o bobl a oroesodd yr Holocost greithiau erchyll—creithiau nad ydynt wedi gwella i lawer o bobl. Byddwn yn cofio pob un ohonynt. Y llynedd, defnyddiodd y digwyddiad gelf weledol i'n helpu i gofio, gyda choeden a'r cerflun llyfr i gynrychioli cryfder goroeswyr ac ewyllys y bobl i ddal ati. Eleni, y gwaith celf ar gyfer y digwyddiad yw'r 'Wal o Eiriau'. Pobl ifanc a ddewisodd y geiriau pŵer a ddangosir yno, a gobeithiaf y byddwch yn ei gweld yfory ar risiau'r Senedd am 1 o'r gloch.

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid i'w hymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw—Simon Thomas.

Cynnig NDM6632 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydw i'n meddwl mai dyma fydd y ddadl fwyaf cyffrous y byddwn ni’n ei chynnal yn y Cynulliad heddiw, neu, yn sicr, yn ystod y tymor, efallai, ond mae hi’n ddadl bwysig. Mae yn ddadl pwysig. Os caf i ddweud beth yw pwrpas yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyllid, efallai bydd rhai Aelodau wedyn yn gweld ei bod hi’n bwysig. 

Beth wnaethom ni oedd edrych ar bedwar darn o ddeddfwriaeth a oedd wedi'u pasio gan y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod y dull o asesu faint o gostau oedd wrth gyflwyno Bil a throi Bil yn Ddeddf yn ddigonol ac yn effeithiol. So, beth yr ydym ni wedi trio ei wneud yw edrych ar a yw'r asesiad o gostau wrth gyflwyno Bil yn rhai cywir, a yw'r dulliau y mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i asesu'r costau yna yn dal dŵr, ac a oes modd i ni wella prosesau er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael gwell canfyddiadau yn y dyfodol. Wrth gwrs, pwrpas hwnnw, yn syml iawn, yw gwarchod ac edrych ar ôl y pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr bod arian cyhoeddus sy'n cael ei wario gan y Llywodraeth ar ddeddfwriaeth yn cael ei asesu'n gywir ac yn cael ei wario'n gywir. Felly, er nad yw'r disgrifiad yna ddim yn ei wneud e'n fwy cyffrous, gobeithio ei fod e'n esbonio pam rydym ni wedi gwneud yr ymchwiliad yma. Ac roedd yn werth ei wneud, rydw i'n meddwl, yn sicr i aelodau'r Pwyllgor Cyllid.

Nawr, y sefyllfa, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i bob Bil sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad fod ag asesiad sy'n cynnwys yr amcangyfrif gorau o faint o arian fydd yn cael ei wario neu yn cael ei arbed—ond gwario fel arfer—o ganlyniad i roi’r ddeddfwriaeth ar waith. Fel Pwyllgor Cyllid, rydym bob amser yn adrodd ar oblygiadau ariannol Biliau yn ystod Cyfnod 1. Yn y cyd-destun ariannol presennol yn arbennig, mae angen craffu ar y defnydd o arian cyhoeddus yn fwy nag erioed. Hefyd, mae'r costau sy'n gysylltiedig â rhoi deddfwriaeth ar waith yn rhan hanfodol o ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n rhesymol i gefnogi'r Bil. Felly, yn aml iawn, byddai rhywun, efallai, yn gweld Bil ac yn meddwl, 'Wel, mae'r Bil yn syniad da, ond, os yw e'n costio gormod, mae gwerth yr effaith rydych chi'n ei chael yn cael ei golli.' Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n deall yn iawn ar ddechrau'r broses faint mae'r Bil yn mynd i gostio.

Rydym, gobeithio, fel pwyllgor, yn ofalus iawn bod ein gwaith craffu’n digwydd yn gynnar yn y broses ddeddfwriaethol er mwyn ei wneud yn haws i Aelodau'r Cynulliad benderfynu a yw Bil yn werth ei gefnogi ai peidio. Rydym yn ymchwilio i'r amcangyfrifon ariannol a ddarperir ar ddechrau'r broses, ond nid ydym bob amser yn cael cyfle i ystyried yn ffurfiol unrhyw newidiadau a allai ddeillio o asesiadau effaith a ddiweddarwyd neu welliannau a allai gael eu gwneud i Fil yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad. Mewn geiriau eraill, rydym ni'n edrych ar gostau llawn y Bil wrth iddo ef gael ei gyflwyno. Bydd rhai Aelodau yn gwybod bod Biliau yn newid yn sylweddol iawn erbyn iddyn nhw droi'n Ddeddf. Nid ydym ni wastad wedi cael y cyfle i weld a yw hynny yn effeithio ar y costau ac a ddylid ystyried yn llawn ail-asesu, efallai, gwerth y Bil oherwydd bod y costau wedi newid wrth i'r Bil newid ei hunan yn y Cynulliad. Felly, roedd hwn yn ymchwiliad gan y pwyllgor a oedd yn bwysig i ni i sicrhau bod gyda ni yr arfau wrth fynd ymlaen drwy weddill y Cynulliad hwn i wneud hynny, a phetasai'n rhaid, newid barn ar y Bil gan fod y costau wedi newid o'i gwmpas ef. 

Nawr, gwnaethom ni 16 o argymhellion yn ein hadroddiad ac rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn—neu yn rhannol derbyn, beth bynnag—15 o’r rhain, ac nid ydw i eisiau mynd drwyddyn nhw fesul un, ond gwnaf i sôn am ychydig o rai sydd yn bwysig, rydw i'n meddwl, i'r pwyllgor, ac, wrth gwrs, am yr un wnaeth y Llywodraeth ddim ei dderbyn. Mae yn bwysig, ac mae'n rhaid i ni—ac mae'n bwysig i ni yn y Pwyllgor Cyllid—sicrhau bod pobl yn cael deall yn rhwydd beth yw goblygiadau ariannol Biliau sy'n dod gerbron y Cynulliad. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â chyflwyno'r wybodaeth hon mewn ffordd glir a chyson, felly rydym ni yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i roi argymhelliad a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, sef y dylid cyflwyno costau’n glir mewn tabl cryno—ddim yn y Bil, ond yn y memorandwm esboniadol, wrth gwrs. Mae’n nodi o waith craffu ar Filiau a gyflwynwyd yn ystod y Pumed Cynulliad fod hyn wedi ychwanegu at dryloywder. Felly, rydym ni o'r farn ein bod ni wedi gweld gwelliant, yn sicr, gan y Llywodraeth yn cyflwyno'r wybodaeth yna.

Nawr gwnaf i droi at un peth, efallai, sydd yn arwain nifer ohonom ni i dybio sut mae'r Biliau yma'n cael eu rhoi at ei gilydd. Mae'n amlwg bod unrhyw Fil sy'n cael ei gyflwyno yn cynnwys llawer iawn o asesiadau. Rydw i'n credu fod hyd at 26—rhywbeth tebyg—o asesiadau posib yn gallu cael eu gwneud ar Filiau. Felly, un o'r pethau gwnaethom ni ofyn yn yr ymchwiliad ac i'r Llywodraeth oedd, 'Wel, beth yw rôl Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?'—dyma'r tro cyntaf i'r Ddeddf gael ei chrybwyll heddiw, ond beth yw rôl y Ddeddf yna i geisio cydlynu'r asesiadau sydd yn digwydd o gwmpas Bil, a gwneud yn siŵr bod yr asesiadau, mewn perthynas â'r gyllideb, yn berthnasol, yn berthnasol iawn, i weld a yw'r asesiadau niferus sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd yn gallu cael eu cyfeirio at broject sydd yn Ddeddf mae Llywodraeth Cymru am ei defnyddio, wrth gwrs, i lunio polisi tuag at y dyfodol. Felly, rŷm ni'n edrych ymlaen at weld a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu addasu fframwaith y Ddeddf er mwyn cydlynu—dim torri i lawr, fel y cyfryw, ond gwneud mwy o sens, efallai, o'r gwahanol asesiadau. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yn gwneud darn o waith i ymchwilio i mewn i hyn, ac rwy'n gwybod bod y sefydliad polisi cyhoeddus wedi gwneud darn o waith ar hynny, ac rŷm ni'n edrych ymlaen fel pwyllgor i weld sut bydd y Llywodraeth yn gallu ymateb.

Nawr, fel y dywedais i eisoes, nid ydym fel Pwyllgor Cyllid, bob tro, yn cael y cyfle i ailystyried y goblygiadau ariannol ar ôl cyflwyno adroddiad fel rhan o broses Cyfnod 1. Felly, ni fyddai unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol a ddiweddarwyd ac a gyhoeddwyd ar ddiwedd Cyfnod 2 bob tro yn destun yr un lefel o waith craffu. Nid yw hynny'n bwysig bob tro. Weithiau nid oes fawr o newid rhwng Cyfnod 1 a Chyfnod 2, ond weithiau mae yna newid sylweddol—er enghraifft, Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), sydd heddiw wedi ei gyhoeddi ddim yn Fil bellach, ond yn Ddeddf, wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. Roedd yn rhaid inni, ac roeddem ni'n teimlo bod dyletswydd arnom ni, fel pwyllgor, ailedrych yn ofalus iawn ar gostau'r Bil yna, neu'r Ddeddf erbyn hyn, oherwydd bod y ffigurau wedi newid mor sylweddol. Wel, a dweud y gwir, gwnaethon nhw newid yn sylweddol yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2, felly roedd hi'n bwysig ein bod ni'n ailedrych ar y Bil yna. Mae'r ymateb gan y Llywodraeth i'n hadroddiad ni mewn perthynas â hynny yn cydnabod bod lle i wella'r prosesau presennol. Felly, rwy'n gobeithio bod modd dysgu o'r broses yna. Felly, dylai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol ddrafft hefyd fel rhan o ymgynghoriad wrth gyflwyno Bil ychwanegu at y broses o ddeall costau Bil yn fuan iawn.

Mi drof i nawr at yr un argymhelliad na dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn deillio o'r ffaith, wrth gwrs, fod nifer o Filiau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cynulliad yn cynyddu'r baich ar y rheini mae'n ofynnol arnynt i weithredu'r darpariaethau, yn enwedig ym maes llywodraeth leol. Nid oes sicrwydd bob tro sut mae'r costau hynny yn mynd i gael eu cwrdd â nhw, ai Llywodraeth Cymru sy'n mynd i ymateb i'r galw ar y costau hynny, ynteu a ydy'r costau'n cael eu pasio ymlaen yn llwyr i lywodraeth leol neu gyrff eraill sydd wedi eu hariannu gan y Llywodraeth. Roeddem ni o'r farn y dylid cynnwys cyfeiriad penodol mewn unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol at sut y byddai unrhyw gostau a nodwyd yn cael eu hariannu a chan bwy. Nid yw Lywodraeth Cymru yn derbyn hynny, gan ddibynnu, wrth gwrs, ar y cyd-destun ehangach, rydw i'n meddwl, o gwmpas deddfwriaeth, a'r ffaith bod unrhyw Bil yn cael cydsyniad ariannol yn ystod y broses. Ond mae'n sicr yn faes y bydd y Pwyllgor Cyllid yn dal i gadw llygad barcud arno ac yn dychwelyd ato maes o law, mae'n siŵr gen i.

Os caf i bennu drwy jest dynnu sylw at bwysigrwydd adolygu deddfwriaeth ar ôl ei rhoi ar waith, felly, os ydym ni'n mynd i ddysgu sut i wneud deddfwriaeth yn well a sut i asesu costau deddfwriaeth yn well, mae'n bwysig, weithiau, cymryd darn o ddeddfwriaeth ac edrych nôl i weld sut oedd e wedi cael ei weithredu ac ym mha ffordd mae'r costau go iawn, neu'r arbedion go iawn, yn cyd-fynd â'r hyn yr amcangyfrifwyd yn y lle cyntaf, ond hefyd i ddeall a oedd y methodolegau a'r dulliau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r asesiad effaith rheoleiddiol yn gweithio. Dyma gyfle lle mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd â ni a deall bod honno yn broses a fyddai'n werthfawr i'r Llywodraeth yn ogystal â ni fel Senedd sydd yn deddfu, ac mae'n faes y gall Llywodraeth Cymru ei wella. Rwy'n falch bod y gydnabyddiaeth yna yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ac yn edrych ymlaen at weld mwy o asesiadau priodol—heb orwneud, ond yn briodol—o dro i dro, i weld sut oedd costau Biliau wedi troi allan yn y pen draw.

Os caf i ddweud i gloi, ar lefel bersonol iawn, Dirprwy Lywydd, gan fy mod i'n mynd â Bil drwy'r lle yma ar hyn o bryd ar ran y Pwyllgor Cyllid, rydw i'n boenus o ymwybodol fy mod i wedi gwneud gwialen i'm cefn fy hunan wrth gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr o argymhellion ar sut i wella'r broses o gyflwyno Bil. Ond rwy'n barod i wynebu'r gosb yna os yw'r Llywodraeth hithau'n barod i wynebu'r gosb.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau, neu efallai nad llongyfarchiadau, i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am gael y dasg feichus o symud y Bil hwnnw ymlaen. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau yn ei gylch, ac mae wedi cael cefnogaeth y pwyllgor.

Rwy'n falch o fod yma i ddadlau heddiw ynglŷn ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth—efallai nad yw'n destun sgwrs mewn bariau a thafarndai ar draws y wlad, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Wel, yn eich rhan chi o'r wlad efallai, Dai Lloyd. Serch hynny, mae'n fater pwysig i ni ei drafod am ei fod yn mynd at wraidd yr hyn a wnawn yma o ran llunio deddfwriaeth a sicrhau y cedwir at y costau perthnasol. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, nod yr adroddiad oedd archwilio costau deddfwriaeth gan gyfeirio'n benodol at y costau sy'n gysylltiedig â sampl o Ddeddfau dethol y buom yn edrych arnynt. Hefyd, ein cyfrifoldeb oedd archwilio'r trefniadau adrodd a monitro presennol ar gyfer costau deddfwriaethol ar ôl gweithredu, a sefydlu effeithiolrwydd ac ansawdd yr asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhyrchwyd, a sut y mae hyn yn llywio monitro. Aeth asesiadau effaith rheoleiddiol i wraidd ein hymchwiliad. Er y gwnaed cynnydd ar asesiadau effaith rheoleiddiol—ac mae hynny i'w groesawu—dengys adroddiad y Pwyllgor Cyllid ei bod yn amlwg fod angen rhagor o waith, megis sicrhau bod crynodeb o'r wybodaeth ariannol i'w gynnwys yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer pob un o'r Biliau a gyflwynir.

Roeddem hefyd yn teimlo bod yn rhaid nodi'n benodol pa un a yw'r costau'n gyfalaf neu'n refeniw, ac roedd hynny'n allweddol i argymhelliad 1. Os caf droi at dryloywder, yn ystod taith cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd y dystiolaeth a gafodd sawl pwyllgor yn dangos y problemau gyda chraffu ar newidiadau arfaethedig i grantiau, newidiadau i linellau cyllideb a gwahanol gyfrifiadau a gynhwyswyd i danlinellu'r cynnydd tybiedig yn y cyllid i ysgolion a gofal cymdeithasol. Roedd y rhain yn faterion a godais yn ystod y gyllideb ddrafft a'r ddadl ar y gyllideb derfynol, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr fod y broses hon mor dryloyw â phosibl.

O ran rhanddeiliaid, roedd pryder ehangach—neu roedd y goblygiadau i randdeiliaid, dylwn ddweud, yn peri pryder arbennig. Maent wedi cael eu taro gan gostau uwch oherwydd materion o fewn yr asesiadau effaith rheoleiddiol. Er enghraifft, clywodd y pwyllgor fod aelodau'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi eu taro gan gostau uwch o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 na'r rhai a amlinellwyd yn wreiddiol gan yr asesiad effaith rheoleiddiol. Honnodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl mewn tystiolaeth fod y newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ddirybudd, ac at hynny, o ran costio'r cynllun Rhentu Doeth Cymru, roedd cyngor Caerdydd, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran y 22 awdurdod lleol, wedi creu eu model ariannol eu hunain a ddangosai fod asesiad effaith rheoleiddiol Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif cyfanswm y landlordiaid yng Nghymru. Felly, dyna un mater a gafodd sylw yn ein hymchwiliad. Un o'r argymhellion sy'n ymwneud â rhanddeiliaid yw argymhelliad 5, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn drylwyr y goblygiadau ariannol ar gyfer pob rhanddeiliad mewn asesiadau effaith rheoleiddiol, gan gynnwys sicrhau bod y goblygiadau ariannol ar gyfer y sector preifat yn cael eu hystyried yn llawn. Nid yw hynny bob amser yn syml, ond teimlem ei fod yn bwysig iawn.

Rwy'n siomedig hefyd—mae'r Cadeirydd eisoes wedi crybwyll hyn—fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 10, sy'n argymell bod y wybodaeth gryno mewn asesiadau effaith rheoleiddiol yn cyfeirio'n benodol at sut y bydd unrhyw gostau a nodir yn yr asesiad yn cael eu hariannu a chan bwy. Er fy mod yn gweld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy ddweud bod hyn yn ddefnydd ehangach o'r asesiad effaith rheoleiddiol nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ac y gallai achosi cymhlethdodau, wel, ydy, mae'n bosibl y gallai, ond yn y pen draw, teimlem fod hon yn ffordd dda o gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol, gan eu gwneud yn fwy ystyrlon a chyflwyno'r wybodaeth honno yn nhermau'r cyllid a'r Biliau y teimlwn eu bod yn hanfodol—yn sicr mae'n mynd i fod yn ddefnyddiol—wrth benderfynu a yw'r ddeddfwriaeth honno yw mynd i gyflawni ei nodau ai peidio.

Cyfeiriodd Simon Thomas hefyd at faterion yr aethpwyd i'r afael â hwy yn neddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Pe bai Steffan Lewis yma heddiw, rwy'n siŵr y byddai'n neidio i fyny ac i lawr yn ei sedd ac yn rhoi sylwadau ar y pwynt hwn. Roedd ganddo ei bryderon ynglŷn â'r ddeddfwriaeth honno, ac rydym yn gyfarwydd iawn â'r rheini. Os na allwn gael hyn yn iawn o ran llunio deddfwriaeth symlach, yna mewn perthynas â deddfwriaeth mor gymhleth â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, buaswn yn dweud y bydd yna broblemau difrifol i'r Cynulliad hwn. Felly, gadewch inni edrych ar ffyrdd y gallwn wella'r broses ddeddfu hon yn gyffredinol.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod hi'n dda fod Llywodraeth Cymru'n credu bod lle i wella'r prosesau fel bod unrhyw wallau neu fylchau yn y dadansoddiad yn cael eu nodi cyn cyflwyno Bil gerbron y Cynulliad. Credaf fod pawb ohonom yn gytûn ar hynny. Rydym oll am wneud y broses hon yn well. Rydym am inni ddilyn proses ragorol yma yn y Cynulliad, proses y gall pobl ar draws gweddill y DU, ac ar draws y byd yn wir, edrych arni a dweud, 'Dyna sut y maent hwy yn ei wneud. Credwn fod hynny'n well na'r ffordd rydym ni yn ei wneud. Rydym eisiau cael hyn yn iawn'.

Rwy'n gobeithio, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y goblygiadau. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn nifer o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym. Mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi gwrthod un o'r argymhellion hynny yn arbennig, ond rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd y gellir gwella'r broses hon fel y gallwn gael gwell ffordd o lawer o ddeddfu yn y dyfodol.

16:20

Croesawaf y cyfle i gael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth'. Mae hwn yn bwnc eithriadol o bwysig, oherwydd mae arian sy'n cael ei wario wrth weithredu deddfwriaeth newydd yn arian nad yw ar gael ar gyfer gwasanaethau presennol. Weithiau rydym yn trafod yma fel pe bai arian newydd o ryw fath yn dod o rywle—coeden arian Theresa May efallai—ar gyfer deddfwriaeth newydd. Nid yw hynny'n wir. Mae'n dod oddi wrth wasanaethau sy'n bodoli'n barod. Felly, mae'n bwysig iawn cyfrifo cost yr holl ddeddfwriaeth. Credaf fod Nick Ramsay yn llygad ei le ynghylch cyfalaf a refeniw, ond mae angen costau sefydlu ar yr ochr refeniw hefyd, oherwydd bydd yna gostau refeniw yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer sefydlu na fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn aml, bydd rhywbeth sy'n werth ei wneud am £1 filiwn yn aml yn anfforddiadwy os yw'n £1 biliwn. Rwy'n credu'n gryf mewn dau beth: edrych ar gostau cyfle ac edrych ar ddadansoddiad cost a budd. Pan fyddwch yn gwario arian ar un peth, rydych yn colli cost y cyfle i'w wario ar rywbeth arall.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr asesiadau effaith rheoleiddiol yn glir yn eu rhaniad rhwng costau arian parod ac arbedion a chostau yn nhermau ariannol. Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng arian parod ac arbedion nad ydynt yn arian parod. Enghraifft o un lle yr aeth Bil yn anghywir yw'r Bil anghenion dysgu ychwanegol, lle roedd yr arbedion nad ydynt yn arian parod, amser gwirfoddolwyr yn yr achos hwn, wedi eu cyfrif fel arbediad arian parod. Er y gellid defnyddio amser gwirfoddolwyr yn y gymuned er budd arall i'r gymuned, ni ellir ystyried ei gost wrth gyfrifo cost net Bil. Roedd hyn yn camystumio arbedion costau'r Bil yn ddifrifol. Roedd yn effeithio ar gost net y Bil, ac o ganlyniad, bu'n rhaid ailgyfrifo'r gost. Yn sgil hynny, roedd costau arian parod yn sylweddol uwch. Hefyd, mae'n bwysig nodi pwy sy'n mynd i orfod talu'r costau, pwy sy'n mynd i dalu amdano, a lle bydd y manteision yn cronni. Credaf fod gwir angen, pan ydym yn pasio deddfwriaeth—. Ac rydym yn pasio deddfwriaeth oherwydd ei bod yn dda, ond a fyddem yn pasio deddfwriaeth sy'n dda iawn, ond sy'n mynd i olygu na fydd modd gwneud rhywbeth y teimlwn yr un mor gryf neu'n gryfach yn ei gylch am fod yr arian wedi'i wario ar hyn?

Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn drylwyr y goblygiadau ariannol ar gyfer pob rhanddeiliad mewn asesiadau effaith rheoleiddiol, gan gynnwys sicrhau bod goblygiadau ariannol y sector preifat yn cael eu hystyried. Pasiwyd deddf yn y Cynulliad diwethaf lle y talwyd y costau gan y sector cyhoeddus ac roedd y manteision yn y sector preifat, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn canfod pwy sydd ar eu hennill a phwy sydd ar eu colled. Ceir perygl bob amser wrth greu deddfwriaeth y bydd yn creu galw ychwanegol am wasanaeth, rhyw fath o alw cudd. Mewn gwirionedd, bydd siarad am y peth yn y lle hwn, ei gael ar y BBC ac yn y Western Mail yn creu galw ychwanegol am wasanaethau na fydd pobl o bosibl yn gwybod y gallant eu cael.

Hoffwn dynnu sylw at argymhelliad 7, lle roedd y pwyllgor yn argymell y dylai'r Aelod sy'n Gyfrifol roi crynodeb i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgor craffu perthnasol o unrhyw newidiadau i asesiad effaith rheoleiddiol ar  ôl Cyfnod 2, gan gynnwys y goblygiadau ariannol. Mae hyn yn mynd â mi'n ôl at y pwynt cyntaf: mae perygl, pan fydd Bil wedi pasio Cyfnod 1, fod ganddo rywbeth o'r enw momentwm, ac mae'n mynd ymlaen, ac mae pawb o blaid hynny. Oherwydd gyda'r rhan fwyaf o Filiau yma, ceir ychydig o ddadlau drostynt, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl eu bod at ei gilydd yn syniad da ac yn mynd i wneud pethau'n well. Ac ystyrir ei fod yn rhoi gwerth am arian pan fo'n costio £5 miliwn neu £10 miliwn, ond pan fydd y gost yn cynyddu yng Nghyfnod 2, mae'r momentwm hwnnw'n ei yrru ymlaen. Mae pawb yn ei gefnogi, ac mae hyd yn oed y bobl sydd yn mynd i bleidleisio yn ei erbyn ac yn feirniadol ohono yn feirniadol o ddarnau ohono, ond mewn gwirionedd yn hoffi'r syniad cyffredinol sy'n sail iddo. Felly, mae'r hyn na fyddai wedi mynd drwy Gyfnod 1 gyda'r costau deddfwriaethol cywir yn dal ati i fynd yn ei flaen. Mae'r gost yn cynyddu, ond mae'n anodd rhoi'r gorau i fwrw ymlaen â deddfwriaeth. Faint fyddai'n rhaid i ddeddfwriaeth gynyddu cyn i ni wneud safiad yng Nghyfnod 2 mewn gwirionedd a dweud y dylai'r Llywodraeth ei thynnu'n ôl, neu ein bod ni fel Cynulliad yn dweud, 'Edrychwch, mae'n mynd yn rhy ddrud'? Credaf mai dyna pam y mae ei angen iddo fynd i bwyllgor: er mwyn i ni edrych arno'n ddiduedd. Mae angen i bobl y tu allan i'r Llywodraeth ailystyried, yn y pwyllgor pwnc a'r Pwyllgor Cyllid.

Rwy'n derbyn hefyd fod cynhyrchu costau ac arbedion costau ar gyfer deddfwriaeth yn gymhleth, ac yn galw, yn aml, am ddealltwriaeth fanwl o'r gwasanaeth a sut y mae'n cael ei ariannu a phwy sy'n ei ddefnyddio. Yn realistig, bydd costau ac arbedion o fewn ystod yn seiliedig ar y tybiaethau a wnaed. Rwyf bob amser wedi credu—nid bod llawer o bobl eraill yn fy nghefnogi—y dylem gyhoeddi ystod o gostau ac ystod o arbedion, ac mai'r pwyntiau canol sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau, oherwydd mae'n rhaid mai dyna fydd pobl yn ei wneud mewn gwirionedd. Maent yn gwneud rhagdybiaethau ac maent yn dweud, 'Wel, fe gymerwn 50 y cant o hynny, a 75 y cant o hynny'. Bydd hyn yn caniatáu i'r rhai sy'n ystyried deddfwriaeth gael gwell dealltwriaeth o gostau a buddion. Yn olaf, i ddatgan yr amlwg, os yw'r costau'n uwch na'r disgwyl a'r arbedion yn llai, bydd llai o arian ar gyfer gwasanaethau eraill y mae llawer ohonom yn dibynnu arnynt.

16:25

Fel rhywun sydd ddim yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ar hyn? Rwy'n credu bod y Cadeirydd bach yn galed ar ei hunan yn awgrymu nad hon yw'r ddadl mwyaf cyffrous heddiw. Yn sicr, nid hi fydd y lleiaf cyffrous. Ond mi roeddwn i'n cael fy nghyffroi o ddarllen yr adroddiad ac o edrych ar yr argymhellion, oherwydd, fel mae e wedi cyfeirio, y profiadau a gawsom ni gyda'r Bil, nawr y Ddeddf, anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r hyn sy'n cael ei grynhoi yn yr adroddiad a'r argymhellion sy'n dod o'r adroddiad yn siarad yn uniongyrchol at rai o'r problemau a'r rhwystredigaethau a brofom ni fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth graffu ar y Ddeddf benodol honno, yn enwedig rhai o'r argymhellion o gwmpas yr asesiadau effaith rheoleiddiol o safbwynt sicrhau ansawdd yr asesiadau, bod yna ddrafft o asesiad effaith rheoleiddiol ar gael fel rhan o'r ymgynghori a'r broses o greu deddfwriaeth, a hefyd y rôl bwysig yma mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, a bod angen gwella'r ymwneud y mae rhanddeiliaid yn ei gael yn y datblygu ac yn yr adnabod a chreu'r costau sydd yn dod yn sgil deddfwriaeth. Mae hynny i gyd yn bwysig ac mae hynny i gyd yn berthnasol iawn i'n profiadau ymarferol ni o safbwynt craffu ar y Bil.

Mae'n eironig fy mod i'n gorfod codi'r grachen yna ar y diwrnod y mae'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, ond dyna ni. Achos dim ond wrth graffu yng Nghyfnod 1 y Bil yna y daeth llawer o'r gwendidau a'r camgymeriadau ariannol i'r golwg o safbwynt y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Yn wreiddiol, roedd y Llywodraeth yn rhagweld arbedion dros gyfnod o bedair blynedd o £4.8 miliwn. Mi ddaeth hi'n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad oedd arbedion, ond bod costau o bron i £8 miliwn. Roedd hynny'n wahaniaeth o £12 miliwn. Felly, rwy'n meddwl bod hynny wedi codi'r gorchudd ar rai o'r risgiau a rhai o'r problemau sydd yn rhan o'r broses yma—rhai y mae'n rhaid inni warchod yn eu herbyn nhw nawr yn sgil yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan y pwyllgor.

Roedd hynny hefyd yn golygu, wrth gwrs, ein bod ni wedi gorfod trafod a dadlau a phleidleisio ar Gyfnod 1 y Bil yna gyda'r asesiad effaith rheoleiddiol gwreiddiol oddi ar y bwrdd, i bob pwrpas, wrth ei fod yn cael ei ailysgrifennu, ac wedyn gohirio'r penderfyniad ariannol a oedd fod digwydd ar ôl y bleidlais, neu'r un pryd â'r bleidlais ar Gyfnod 1. Nid oedd modd wedyn gwaredu gwelliannau Cyfnod 2 nes bod y materion ariannol yna wedi'u setlo, ac mi wnaethom ni hynny 24 awr yn unig cyn ein bod ni'n eistedd lawr i bleidleisio ar welliannau Cyfnod 2. Felly, fe fuodd yn dipyn o smonach o broses. Mi roedd yna ddryswch ac nid oedd yn rhoi'r eglurder y byddwn i'n ei ddymuno—nac unrhyw un ohonom ni, rwy'n siŵr—wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma, a fyddai'n caniatáu ein bod ni i gyd yn hapus fod y broses yn gydnerth, yn gyhyrog, ac yn ennyn hyder, nid yn unig fan hyn yn y Siambr, ond tu hwnt, wrth gwrs, o blith y rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. 

Mi allech chi ddadlau nad yw'n bosib gwarchod rhag pob sefyllfa. Mae hynny'n ddigon rhesymol. Rydym ni i gyd yn fodau dynol ac mae yna gamgymeriadau yn anochel yn digwydd ar adegau. Mi allech chi ddadlau hefyd fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gwneud eu gwaith wrth graffu ar y Bil ac wedi amlygu rhai o'r cwestiynau yma a arweiniodd at ailweithio’r ffigurau o gwmpas y Bil. Byddwn i fy hun yn cytuno â hynny. Mae hynny i gyd yn ddilys ac i gyd yn bosibl. Ond, wrth gwrs, mae'n rhesymol hefyd inni gyd ddisgwyl fod pob peth yn cael ei wneud i osgoi sefyllfa o'r fath yn y lle cyntaf, ac mae'n rhesymol i ni i gyd ddisgwyl bod yna wersi wedyn yn cael eu dysgu os yw'r camgymeriadau yna yn digwydd, ac nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol.

Dyna pam fy mod i yn croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a'r argymhellion mae'r pwyllgor wedi'u gwneud. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, er mai dim ond derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad mwyaf perthnasol, o'm safbwynt i, sef y mater yma o gysylltu digonol gyda rhanddeiliaid wrth greu y costau. Felly, diolch i'r pwyllgor am daflu goleuni ar wendidau'r broses. Diolch hefyd am gynnig datrysiadau penodol i rai o'r problemau hynny. A gaf i annog y Llywodraeth—fel y byddan nhw, rwy'n siŵr—i ymateb yn bositif a derbyn yr holl argymhellion, ond fel man lleiaf wrth gwrs i ddysgu'r gwersi?

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid? Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am yr adroddiad ac yn falch o'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen asesiad o oblygiadau ariannol sy'n dryloyw ac yn gywir er mwyn i'r Cynulliad a rhanddeiliaid allu craffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth newydd. 

Fel y mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl wedi dweud, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes eithaf technegol ac arbenigol, ond mae'n wirioneddol bwysig o ran gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhai sy'n ymddiddori mewn deddfau penodol allu deall goblygiadau'r ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Siambr hon.

Y bwriad wrth ddatblygu'r asesiad effaith rheoleiddiol bob amser yw cyflwyno asesiad mor llawn a manwl ag sy'n bosibl, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â newid diwylliannol a nodau'r ddeddfwriaeth, er nad yw hi bob amser yn broses syml, fel y cydnabuwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth, i fesur y costau a'r manteision hynny. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr angen i gyflwyno asesiad ariannol o gostau a risgiau cyflwyno ffigurau anghywir neu gamarweiniol.

Er y bydd yr asesiad ariannol yn ystyried yr effaith ar bob grŵp, rwyf am sicrhau Aelodau'r Cynulliad a'r pwynt a godwyd gan Mike Hedges y telir sylw arbennig i effaith bosibl deddfwriaeth ar fusnesau preifat yng Nghymru, ac a yw'r cynigion yn cael effaith andwyol, o bosibl, ar gystadleurwydd busnesau Cymru.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a gofynion y Rheolau Sefydlog yn darparu fframwaith addas ar gyfer paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym hefyd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth ddatblygu'r polisïau y byddwn yn mynd ar eu trywydd a'r opsiynau polisi y byddwn yn eu hystyried. O ganlyniad, ac fel y nododd Simon Thomas, mae prosiect yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o gyflawni asesiadau effaith, gan ddefnyddio'r fframwaith a ddarperir gan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Nid diben hynny yw cyfyngu ar asesiadau pwysig, ond yn hytrach, ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn eu cyfanrwydd yn fwy na'u rhannau cyfansoddol. Er nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol o fewn cwmpas y prosiect hwnnw, byddant yn cael eu llywio gan ganlyniadau'r asesiad effaith integredig.

Ddirprwy Lywydd, ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad ac mewn ymateb i gyhoeddi'r adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru', ac ymchwiliad etifeddiaeth y Pwyllgor Cyllid blaenorol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu datblygiad a chyflwyniad yr effaith ariannol, a cheir gorgyffwrdd sylweddol rhwng argymhellion y pwyllgor a'r gwaith a wneir ac sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol o ganlyniad i'r gwaith blaenorol hwnnw. Mae fersiwn ddiweddaraf y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau'r Cynulliad, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, yn cynnwys pennod sy'n nodi canllawiau diwygiedig ar ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'n cynnwys nifer o newidiadau gyda'r nod o wella eglurder a hygyrchedd asesiadau effaith rheoleiddiol.

Mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi datblygu tabl cryno safonol i'w cynnwys ar ddechrau pob asesiad effaith rheoleiddiol, fel yr awgrymodd Nick Ramsay. Mae'r tabl cryno hwnnw, a ddefnyddiwyd yn y memorandwm esboniadol ar gyfer pob Bil a gyflwynwyd yn ystod y pumed Cynulliad, wedi'i lunio ar gyfer cyflwyno'r holl wybodaeth sy'n ofynnol yn y Rheolau Sefydlog yn eglur. Ac mewn pwynt a nododd Mike Hedges, adolygwyd y canllawiau mewn ymateb i bryderon y gallai cyflwyno manteision â gwerth ariannol ochr yn ochr â chostau arian parod fod yn gamarweiniol.

Yn olaf, cryfhawyd y canllawiau i'w gwneud yn glir y dylai asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer Bil, cyn belled ag y bo'n ymarferol, gynnwys amcangyfrif gorau o gostau unrhyw is-ddeddfwriaeth gysylltiedig. Roeddwn yn falch o glywed aelodau'r Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys ei Gadeirydd, yn nodi tystiolaeth gan randdeiliaid, a adlewyrchwyd yn adroddiad y pwyllgor ei hun, yn cydnabod bod y dull o gyflwyno asesiadau effaith rheoleiddiol wedi gwella yn ystod y pumed Cynulliad o ganlyniad i'r gwaith cynharach hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn mynd i allu ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid chwaith. Rwyf am dynnu sylw at nifer fach, os caf, gan ymdrin yn gyntaf oll â mater ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac mae nifer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hyn. Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan randdeiliaid i'r ymchwiliad yn glir na fu digon o ymgysylltu â rhanddeiliaid bob amser yn y gorffennol wrth ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, a lle bu ymgysylltiad, yn aml byddai'n digwydd yn hwyr yn y broses.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol ac mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi dull fesul cam wedi'i ddiffinio'n fwy clir o ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, ac un cam o'r dull yw cynnwys asesiad effaith rheoleiddiol drafft fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. A bwriedir i hynny ymateb i bwyntiau a wnaeth Simon Thomas a Nick Ramsay y prynhawn yma er mwyn darparu cyfle i randdeiliaid gymryd rhan yn y broses ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu amgen cyn inni gyrraedd y pwynt dadansoddol terfynol hwnnw. Y nod wrth gysylltu cyhoeddi drafft o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y broses ymgynghori yw sicrhau bod ymgysylltu'n digwydd yn gynnar yn y broses o lunio polisi. Disgwylir i gyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol drafft ddod yn norm yn y dyfodol.

Trof at y goblygiadau ariannol, a dyma fater arall y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno wrth gynnwys y goblygiadau ariannol yn yr adolygiad ôl-weithredu o ddeddfwriaeth. Nodais yn ymateb y Llywodraeth fod y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau Cynulliad wedi'i ddiwygio a bellach yn cynnwys ystyriaethau ariannol fel un o'r materion i'w hystyried mewn unrhyw gyfnod ôl-weithredu. Adlewyrchir y farn gyffredin ar sut y gellir cryfhau a gwella amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth yn ein hymateb i argymhellion y pwyllgor. Nid wyf ond yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y ddogfen honno mai'r unig argymhelliad y teimlem na allem ei dderbyn yw'r argymhelliad y dylid ymestyn asesiadau effaith rheoleiddiol i ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn y dadansoddiad a chan bwy, a'r rheswm am hynny yw oherwydd bod asesiadau effaith rheoleiddiol yn asesiad gwerth am arian ac mae ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau'n mynd y tu hwnt i ddiben a chynllun yr asesiad hwnnw. Nid yw'n dweud bod materion cyllid a fforddiadwyedd yn ddibwys—dim o gwbl—yn syml, ystyrir arian a fforddiadwyedd yn ystod rhannau gwahanol o'r broses o ddatblygu deddfwriaeth a chânt eu cynnwys yn rhan o unrhyw benderfyniad ariannol.

Ddirprwy Lywydd, roeddwn am ddod i ben drwy ddarparu—

16:35

Ar y pwynt penodol hwnnw—oherwydd fe soniais am y ffaith eich bod wedi gwrthod yr argymhelliad hwnnw. Rwy'n derbyn pwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â pham nad oeddech yn gallu derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond a wnewch chi o leiaf ymrwymo i edrych ar ffyrdd y gellid cryfhau'r broses fel bod modd dod ag arian a fforddiadwyedd, er y deallaf eu bod yn cael sylw mewn meysydd eraill, at ei gilydd rywsut, fel nad yw'n cael ei adael i wahanol agweddau ar y broses hon a bod yna edrych ar y cyd? Os nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn mynd i roi'r ffocws hwnnw iddo, yna efallai fod ffyrdd eraill o'i wneud.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater. Fel y dywedais, y rheswm na dderbyniwyd yr argymhelliad gennym oedd nad oeddem yn credu mai'r asesiad effaith rheoleiddiol oedd y lle gorau i wneud hynny. Nid yw'n dweud na fyddem yn barod i edrych ar ffyrdd eraill y gellid mynd ar drywydd y mater.

Ddirprwy Lywydd, os caniatewch i mi, fe ddof i ben drwy nodi ar gyfer yr Aelodau rai o'r ffyrdd y bwriadwn fwrw ymlaen ymhellach â'r argymhellion hyn. Mae swyddogion yn adolygu'r canllawiau ar asesiadau effaith rheoleiddiol o ganlyniad i adroddiad y pwyllgor a byddant yn eu diwygio yn unol â hynny. Gwn eu bod eisoes wedi bod yn trafod yr adroddiad gyda thimau polisi'n gweithio ar gynigion deddfwriaethol presennol. Bydd fy swyddogion yn edrych hefyd ar y prosesau sicrwydd ansawdd a ddilynir ar hyn o bryd gan adrannau polisi a'r ffordd y caiff costau deddfwriaeth eu cofnodi a'u monitro i weld lle y gellir gwella'r broses.

Bwriadaf ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau eu bod yn llwyr ymwybodol o'r materion a godwyd yn yr adroddiad wrth iddynt fwrw ymlaen â deddfwriaeth y maent yn gyfrifol amdani. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am sicrwydd y bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu hystyried yn y drafodaeth ar barodrwydd a gynhelir cyn i bob Bil gael ei osod ac mewn pwyllgor a gadeirir gan y Prif Weinidog ei hun.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gweld bod y Llywodraeth eisiau ymateb yn gadarnhaol iawn i'r adroddiad, yn credu ei fod wedi gwneud cyfraniad defnyddiol iawn i'r ystyriaethau ar y mater hwn, ac y byddwn yn edrych am ffyrdd ymarferol o fanteisio ar y cyngor y mae wedi ei ddarparu.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Rydw i'n credu er ei bod hi'n ddadl dechnegol ei natur, mae'r ffaith ein bod ni wedi dod â hi i lawr y Siambr yn bwysig gan ei bod yn ymwneud â'r Biliau y mae pob un ohonom ni yn delio gyda nhw. Rwy'n arbennig o falch, yn y cyd-destun hwn, ei bod wedi rhoi cyfle i Llyr Gruffydd fynegi ei brofiad yntau o bersbectif arall, o bwyllgor arall, ac rwy’n credu bod nifer o’r pethau roedd Llyr yn sôn amdanyn nhw yn tanlinellu pam fod angen yr adroddiad yma ar rai o’r argymhellion rydym ni wedi eu gwneud.

Nid af i ailadrodd gormod o'r ddadl. Yn syml, rwyf am fynd ar drywydd cwpl o themâu y credaf eu bod yn bwysig iawn a diolch i Nick Ramsay a Mike Hedges hefyd am gymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n meddwl mai'r hyn rydym eisiau ei weld mewn gwirionedd, neu ei ystyried o leiaf, yw y byddai'n bosibl i Fil gael ei gefnogi yng Nghyfnod 1 yma—i bob plaid ei gefnogi, o bosibl—ond erbyn iddo gyrraedd Cyfnod 2, erbyn inni fynd drwy'r broses hon, erbyn yr adeg y bydd gwelliannau wedi'u gwneud a newidiadau wedi'u gwneud a mwy o ddealltwriaeth wedi'i gael, y byddai modd ystyried peidio â bwrw ymlaen â'r Bil hwnnw am fod y dadansoddiad cost a budd wedi newid. Credaf fod angen inni o leiaf ddarparu digon o offer a gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad i'w galluogi i ffurfio barn o'r fath. Ar bob cam o'r—dyma pam y mae gennym gyfnodau, os caf ddweud, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bosibl peidio â bwrw ymlaen â Bil ar ôl cyfnodau penodol. Pan aiff y tu hwnt i Gyfnod 1, nid yw'n golygu ei fod ar ryw fath o drên di-droi'n-ôl. Oherwydd bod gennym y cyfnodau hyn, mae'n bosibl ailystyried natur y Bil. Byddai hwnnw, yn amlwg—wel, mae'n debyg—yn Fil nad oedd wedi mynd drwy'r broses gywir ar ryw gam, ond rhaid inni wneud yn siŵr o leiaf fod ein prosesau'n ddigon cadarn i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac yn wir i ganiatáu i ffeithiau newydd ddod i'r amlwg sy'n newid y ffordd yr edrychwn ar y Bil.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, fel y mae bellach, yn enghraifft dda iawn o ble y gallai hynny fod wedi digwydd. Ni wnaeth hynny yn y diwedd oherwydd, a bod yn onest, y mater arall nad yw'r Llywodraeth yn ei dderbyn fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol—ac rwy'n gweld o ble mae'r Llywodraeth yn dod, ond wrth gwrs yn achos y Bil hwnnw, fel yr oedd bryd hynny, roedd y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad ariannol, nid yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ond ymrwymiad polisi ariannol cyffredinol, a oedd yn goresgyn unrhyw amheuon a oedd gan bobl ynglŷn â manylion ariannol y Bil.

Yr ail thema rwy'n ei hystyried yn bwysig inni ei chofio yw, er bod hwn yn adroddiad ac argymhelliad Pwyllgor Cyllid a dadl Pwyllgor Cyllid gydag ychydig o fewnbwn ychwanegol, mae'n tanlinellu mewn gwirionedd pa mor bwysig yw cynnwys rhanddeiliaid wrth baratoi ein Biliau. [Anghlywadwy.]—yn dweud tap ar y cefn; roeddwn yn dweud bod gennyf wialen ar gyfer fy nghefn fy hun yn gynharach, ond tap ar y cefn yn awr. Ar ôl bod mewn mannau eraill ac edrych ar Filiau, rydym yn gwneud pethau'n well yma. Mae Biliau sy'n dechrau yn y Cynulliad yn denu mwy o wybodaeth, mwy o ddadansoddiadau effaith, mwy o ddealltwriaeth o'r effaith ariannol na Bil a fyddai'n mynd drwy San Steffan, er enghraifft. Felly, rydym yn gallu defnyddio hynny mewn ffordd sy'n cyfoethogi ein ymgynghoriad â rhanddeiliaid, y ffordd y dônt i mewn—a phwyllgorau eraill yn ogystal, fel yn enghraifft Llyr. Mae pwyllgorau eraill yn bwydo i mewn; nid y Pwyllgor Cyllid yn unig a ddylai fod yn edrych ar yr agwedd honno o'r Bil.

A gaf fi orffen drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr am dderbyn bron bob un o'r argymhellion? Rwy'n deall pam nad yw wedi ei berswadio ynghylch yr un, er bod hynny'n rhywbeth i ni ei gadw dan adolygiad o ran deall pwy sy'n talu'r costau, ond hoffwn ddiolch iddo'n arbennig am nodi heddiw sut yr aeth â'r argymhellion hyn drwy broses, proses fewnol, Llywodraeth Cymru. Mae cyflwr parod yn swnio'n ffordd briodol o feddwl am unrhyw Fil a gyflwynir i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio bod yr adroddiad hwn wedi helpu i lywio a sicrhau bod unrhyw Fil a gyflwynir mewn cyflwr parod i gael ei drafod gan y ddeddfwrfa gyfan.

16:40

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw—Russell George. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Mawredd mawr.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Ac i fy nghlwb cefnogwyr bach ar yr ochr hon i'r Siambr. [Chwerthin.]

Cynnig NDM6634 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i.

Dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd £2.5 biliwn ar ei ffordd i ddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth Abertawe fel rhan o'r bargeinion dinesig, a lofnodwyd wrth gwrs gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn ogystal. Yng ngogledd Cymru, mae'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cyflwyno ei gais ar gyfer cytundeb tebyg i wasanaethu ei ardal.

Yn adroddiad ein pwyllgor, roeddem yn argymell y dylai canolbarth Cymru hefyd gael bargen,

'i gwblhau'r jig-so yng Nghymru',

fel y'i nodwyd yn ein hadroddiad. Roeddwn yn falch o glywed y Canghellor yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer bargen dwf canolbarth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol, nid yn lleiaf yn ei hymateb i'n hadroddiad, ond wrth gwrs, ni fydd geiriau mwyn yn gwella economi canolbarth Cymru, a heb fwy o fewnbwn gan y ddwy Lywodraeth, rwy'n ymwybodol o'r perygl y caiff calon canolbarth Cymru ei hanghofio. Felly, rwy'n falch fod yna gonsensws y dylid cael cytundeb ar gyfer canolbarth Cymru, ac yn awr, wrth gwrs, mae angen inni roi cnawd ar yr esgyrn ac adeiladu consensws ymhlith busnesau, y sector cyhoeddus a phobl canolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod eu bargen yn diwallu eu hanghenion ac yn gwneud hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am ganiatáu i'w swyddog ddod i gyfarfod a drefnwyd gennyf yr wythnos diwethaf gyda rhanddeiliaid. Roedd y cyfarfod yn fwy technegol mae'n debyg o ran pa ardaloedd y dylid eu cynnwys a phwy ddylai reoli bargen, oherwydd credaf ei bod ychydig bach yn rhy gynnar efallai i fynd i fanylu.

Wrth gwrs, mae bargeinion dinesig eisoes yn ail-lunio blaenoriaethau datblygu economaidd de Cymru, ac mae dull rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru a amlinellir yn 'Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi' yn cefnogi hyn. Fel pwyllgor, cyflawnwyd yr ymchwiliad hwn oherwydd bod arnom eisiau gweld pa effaith yr oedd y bargeinion hyn yn eu cael, sut roeddent yn datblygu a chymharu'r bargeinion yng Nghymru â'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU. Mae bargeinion yn destun trafod mynych fel sbardun allweddol i weithgarwch economaidd yng Nghymru yn y dyfodol, felly mae angen inni sicrhau eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd, pwy sy'n gyfrifol am y cynlluniau a beth sy'n digwydd os na chyrhaeddir y targedau. 

Rhoddaf un enghraifft. Roeddem yn teimlo bod angen mwy o sicrwydd y gellir cyflawni ymgyrch Llywodraeth y DU i gynyddu cynnyrch domestig gros ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gynaliadwy ar yr un pryd.

Tra oeddem ni yng Nghymru yn edrych ar ein bargeinion dinesig, yn Senedd yr Alban mae'r Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi bod yn gwneud rhywbeth tebyg iawn. Mae eu hadroddiad, a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl, yn dod i lawer o'r un casgliadau â ninnau, a chredaf fod hynny'n galonogol. Yn ddiddorol, teimlent hefyd fod tensiwn rhwng amcanion y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU.

Mae eu hadroddiad yn dweud,

mae angen eglurhad pellach ynglŷn ag a ddylai'r ffocws fod ar dwf economaidd pur neu dwf cynhwysol.

Felly, mae'n amlwg fod hwn yn fater nad yw wedi'i datrys yn llawn mewn unrhyw un o'r bargeinion datganoledig hyd yn hyn, ac yn yr un modd, mae'n amlwg fod angen iddo fod.

Datgelodd ein hymchwiliad bryderon ynglŷn ag a fyddai effeithiau cadarnhaol unrhyw fargeinion yn cyrraedd y mwyaf difreintiedig yn yr ardal, ac a allai cystadleuaeth rhwng rhanbarthau olygu bod rhai mannau yn ffynnu ar draul eraill. Mae'n galonogol gweld bod arweinwyr y bargeinion yn ymwybodol o'r materion hyn, a bod rhywfaint o dystiolaeth o gydweithredu rhwng rhanbarthau Cymru, ond nid yw'n glir a fydd hynny'n ddigon i sicrhau y gall bargeinion osgoi creu enillwyr a chollwyr.

Sylwaf fod y pwyllgor llywodraeth leol yn yr Alban hefyd yn sôn yn fanwl am y risg y bydd gweithgarwch economaidd yn cael ei adleoli o un ardal i ardal arall. Fel ninnau, maent yn poeni y gallai ardaloedd nad ydynt wedi eu cynnwys mewn bargen dwf fod ar eu colled mewn dwy ffordd. Yr hyn rwy'n ei olygu yw eu bod ar eu colled unwaith drwy beidio â chael bargen eu hunain, ac eilwaith drwy weld eu busnesau cynhenid yn symud i ardal arall sydd â bargen dwf. Nid yw hyn, wrth gwrs, ond yn atgyfnerthu ein dadl y dylai pob rhan o Gymru gael bargen.

Mae'r un maes lle mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â'r hyn a alwn yn 'ffiniau aneglur'. Ein nod yn yr argymhelliad hwn oedd sicrhau bod gan awdurdodau lleol neu bartneriaid eraill hyblygrwydd i gyfrannu at fwy nag un ardal sydd â bargen dwf. Enghraifft o hynny, efallai, yw bod Gwynedd a Sir Benfro yn rhannu rhai o elfennau gwledig Powys a Cheredigion, a buaswn yn annog y Gweinidog i ailedrych ar hyn.

Yn yr Alban, mae nifer o ardaloedd awdurdodau lleol yn rhan o fwy nag un fargen. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na allai trefniadau tebyg weithio'n effeithiol yma yng Nghymru. Pe bai awdurdodau lleol yn dewis dilyn y trywydd hwnnw, rwy'n derbyn yn llwyr y byddai cwestiynau'n codi o ran atebolrwydd ac eglurder, a byddai angen eu datrys.

Mae'r bargeinion ar gam cynnar iawn wrth gwrs ac mae'r teilwra ar gyfer anghenion lleol sy'n ganolog i'r bargeinion yn ei gwneud yn anodd dysgu gwersi pendant o fannau eraill. Ond un broblem gyson yw'r angen am bartneriaeth a gweledigaeth gytûn ar gyfer y rhanbarth. Mae'r elfen hon o fargen ddinesig de Cymru wedi digwydd, ond bydd angen ei chynnal. Efallai fod y symiau ariannol sydd dan sylw yn y bargeinion hyn yn llai sylweddol nag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf, oherwydd eu bod, wrth gwrs, ar gyfer cyfnod hir o amser. Ond credaf fod modd i'r hyn y gellid ei ennill drwy gydweithio rhwng sectorau, a datblygu nodau datblygu strategol, fod yn garreg sylfaen ac yn etifeddiaeth barhaus i ddull y fargen ddinesig o weithredu.

Felly, edrychaf ymlaen at y ddadl hon y prynhawn yma ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddadl ddiddorol. Gobeithio y byddwn yn clywed gan Aelodau nad ydynt yn rhan o'r pwyllgor hefyd, a gobeithio, yn gyffredinol, y bydd consensws ynglŷn â rhai o'r argymhellion a wnaeth adroddiad y Pwyllgor.

16:50

Mae'r adroddiadau pwyllgor hyn yn ddefnyddiol iawn, ac maent yn datgelu'r Russell George go iawn, rwy'n credu, yr un a welsom yn cadeirio'r pwyllgor, nid y Russell George a welwn, efallai, yn y ddadl nesaf. Credaf yn wir mai dyna yw personoliaeth go iawn yr Aelod Cynulliad rhesymol, Russell George.

Mae'n werth cofio bod Adam Price wedi cyfeirio at y fargen ddinesig, yn ystod y ddadl economaidd flaenorol, fel olew neidr dinas-ranbarthau, ac mewn rhai ffyrdd, gallwch fod yn feirniadol o fargeinion dinesig oherwydd y ffaith nad ydynt yn debygol o lwyddo os nad ydynt wedi'u cysylltu â rhywbeth arall. Fodd bynnag, mae gennym gynllun cyflenwi tasglu'r Cymoedd hefyd ac mae gennym gynllun economaidd Ysgrifennydd y Cabinet. Os yw'r pethau hynny wedi'u clymu wrth ei gilydd, rydych yn cael llawer gwell arbedion maint a all gyflawni rhai o'r pethau a adlewyrchir yn yr adroddiad. Felly, gallaf weld pam, efallai, fod y Llywodraeth wedi gwrthod rhai o argymhellion yr adroddiad. Felly, y rheswm pam y gwrthodir argymhelliad 10 ar faterion atebolrwydd, ond hefyd y ffocws rhanbarthol, yw oherwydd bod yn rhaid iddynt gysylltu â'r cynllun economaidd a thasglu'r Cymoedd. Gallaf ddeall hynny, er ei bod ychydig yn siomedig na allwch gymylu'r ffiniau hynny wedyn ar draws ardaloedd.

Yn fy marn i, mae'r bargeinion dinesig ynddynt eu hunain, ar eu pen eu hunain, yn annigonol, ond mae gweithio gyda'r rheini'n gwneud synnwyr perffaith, a'r hyn sy'n bwysig i mi yw bod y fargen ddinesig yn darparu ar gyfer yr ardal hon a ddisgrifiais fel y Cymoedd gogleddol, yng ngogledd fy etholaeth—y cymunedau sydd wedi'u gwthio o'r neilltu i ffwrdd oddi wrth yr M4 a'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, mannau nad ydynt, efallai, wedi mwynhau'r un lefel o fuddsoddiad â rhai o'r lleoedd sy'n agosach at y canolfannau trafnidiaeth. Dyna pam rwyf wedi ceisio datblygu'r cysyniad hwn. Unwaith eto, mae'n galonogol fod y Llywodraeth yn cydnabod yn rhai o'i hymatebion i'r argymhellion y gallwn wasanaethu'r ardaloedd hynny'n well drwy gael y ffiniau hynny.

Gall y fargen ddinesig hwyluso cynlluniau datblygu strategol, er enghraifft, a chredaf fod cynlluniau datblygu strategol yn bedwerydd arf y gellir ei ychwanegu i ddenu pethau fel tai, buddsoddi a busnesau tua'r gogledd, i mewn i gymunedau'r Cymoedd gogleddol. Ni ddylai Swyddi Gwell yn Nes at Adref olygu bod y cymunedau hyn wedi'u datgysylltu, ac felly, yn ogystal â chynlluniau datblygu strategol, mae cynllunio trafnidiaeth yn allweddol hefyd. Bydd metro de Cymru hefyd yn ffactor allweddol ar gyfer cyflawni hyn.

Rwy'n falch fod y ddau Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad. Rhaid inni ddarparu mecanwaith a strwythur ar gyfer gweithio cydgysylltiedig, a chredaf ei fod yn seiliedig ar y cynllun hwn gan fod materion yn ymwneud ag atebolrwydd a ffocws rhanbarthol yn ganolog iddo. Os gallwn gadw hyn mewn cof a chael pethau'n iawn, yna gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iddo weithio, a byddaf yn eu cynorthwyo i wneud hynny, ond ar yr un pryd, yn bod yn ffrind beirniadol ac yn dod â materion lle rwy'n teimlo nad yw'r fargen ddinesig yn gweithio gerbron y Siambr hon.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma, er nad ydwyf yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ond yn derbyn gwahoddiad y Cadeirydd, rydw i'n ddigon bodlon cyfrannu i'r ddadl.

Mae Llywodraeth Prydain drwy eu bargeinion dinesig, a hefyd Llywodraeth Cymru drwy eu strategaeth economaidd sydd yn ymrwymo i fodel datblygu economaidd ar sail ranbarthol, wedi gosod cyfeiriad newydd i bolisïau economaidd i Gymru. Gyda chenedl ble mae cyfoeth a gwariant cyhoeddus yn tueddu i gael eu canolbwyntio mewn un cornel o'r wlad ar draul mannau eraill, mae rhoi ystyriaeth i ddatblygu economaidd ar sail ddaearyddiaeth mewn ymdrech i ddenu buddsoddiad a chyfleoedd i ardaloedd difreintiedig i’w groesawu, felly. Ond drwy wneud hynny, mae yna beryglon sydd yn rhaid i ni eu hystyried. Mi ddatgelodd yr ymchwiliad bryderon ynghylch a fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol y bargeinion dinesig yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf difreintiedig mewn ardal, ac a allai cystadleuaeth rhwng rhanbarthau weld rhai lleoedd yn ffynnu ar draul eraill.

Ond un elfen sydd yn rhaid ei chroesawu am ymdrechion y ddwy Lywodraeth i ranbartholi datblygu economaidd ydy’r cydweithio y mae'n rhaid iddo fodoli rhwng busnesau, awdurdodau lleol, y pwyllgorau dinesig newydd, Llywodraeth Cymru a hefyd y Deyrnas Unedig. Mae’r bargeinion dinesig yn ei gwneud hi’n haws i gydweithio gydag ardaloedd dros y ffin yn Lloegr. Mae cydweithio drawsffiniol yn bwysig, nid ond i Gymru, ond i unrhyw wlad mewn byd byd-eang.

Nid oes neb, wrth gwrs, yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu creu cysylltiadau masnach, er enghraifft rhwng Caerdydd a Bangor, o fewn Cymru, sydd dros 190 o filltiroedd i ffwrdd, o’i chymharu â Bryste sydd ddim ond 40 milltir i ffwrdd. Ond rydym ni mewn peryg o edrych i’r dwyrain yn rhy aml am atebion i’n problemau. Drwy wneud hynny, mae penderfyniadau megis buddsoddiad mewn isadeiledd yn cael eu gwneud ar sail y flaenoriaeth hon.

Fe gynhaliodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns, uwch-gynhadledd twf Hafren yr wythnos yma, a welodd fusnesau, awdurdodau lleol ac academyddion yn ymuno ynghyd i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil diddymu tollau Hafren. Gallai'r penderfyniad i ddiddymu’r tollau ar bont Hafren arwain at bwerdy gorllewinol sy'n ymestyn o Gaerfaddon a Bryste i Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac yn arwain at hwb mewn ffyniant a swyddi, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Fel y dywedais yn gynharach, mae cydweithio trawsffiniol yn hanfodol, ond bod yn rhaid i hynny gael ei wneud ar sail partneriaeth deg, sydd yn fuddiol i gymunedau ar ddwy ochr Clawdd Offa. Mae’n rhaid i hynny olygu ymdrechion i sicrhau bod buddsoddiad yn dod i Gymru, i Gaerdydd, i Gasnewydd ac i Abertawe er mwyn creu swyddi o ansawdd da, ac nid hwyluso’r daith i'r bobl sydd yn byw yma i gyrraedd swyddi ym Mryste neu Gaerfaddon yn unig.

Ond nid yn unig hynny, beth am i’r gorllewin o Abertawe? Gyda phenderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe, y cysyniad y mae hynny yn ei greu i fuddsoddwyr ydyw nad oes pwrpas ystyried buddsoddi mewn ardaloedd y tu hwnt i Gaerdydd, heb sôn am y tu hwnt i Abertawe. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn pryderu y gall rhanbartholi arwain at greu enillwyr a chollwyr, gyda rhai ardaloedd yn manteisio ar draul eraill. Ond mae’n amhosib crybwyll digon pa mor beryglus yw’r syniad o fargeinion dinesig a rhanbarthau economaidd i gymunedau yng ngorllewin eithaf Cymru, o ystyried mai datblygu economi drawsffiniol yw blaenoriaeth y Llywodraeth ar ddwy ochr yr M4. Diolch yn fawr.

16:55

Yn ei ymateb i'n hadroddiad, dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod gan fargeinion dinesig a bargeinion twf rôl gref i'w chwarae yn ein dull sy'n canolbwyntio ar ranbarthau o ddatblygu'r economi. Mae'n derbyn ein hargymhellion 5 a 9 ynghylch bargen dwf gogledd Cymru, cais a gyflwynwyd yn ffurfiol iddo ef ei hun ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru y DU gan chwe chyngor sir gogledd Cymru a'u partneriaid y mis diwethaf. Roedd y rhain yn datgan,

'Dylai trafodwyr Bargen Dwf Gogledd Cymru barhau i weithio'n adeiladol gyda phartneriaid ac awdurdodau cyfagos yng Nghymru ac ar draws y ffin',

ac y dylai,

'Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi cynlluniau ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru a defnyddio'r dylanwad sydd ganddi i gyflymu'r broses hon.'

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016, a chyhoeddodd, fel y clywsom, ei hymrwymiad parhaus i hyn yng nghyllideb yr hydref 2017. Er bod cyfradd ddiweithdra y DU yn is nag y bu ers pedwar degawd, a bod ffigurau newydd ar gyfer y DU heddiw yn dangos gostyngiad pellach yn lefel diweithdra a swyddi'n cael eu creu'n gyflymach nag a ragwelwyd, yn anffodus mae diweithdra yng Nghymru ar gynnydd a'r gyfradd ddiweithdra yw'r uchaf o blith gwledydd y DU. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur a gwario biliynau ar adfywio, Cymru yw rhan dlotaf y DU o hyd, a hi sy'n cynhyrchu'r gwerth isaf y pen mewn nwyddau a gwasanaethau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU.

Yng nghyd-destun gogledd Cymru, mae'r ffigur y pen o'r boblogaeth yn is-ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gan gynnwys pedair o'r siroedd yng ngogledd Cymru, yn dal ar y gwaelod drwy'r DU, ar 64 y cant yn unig o gyfartaledd y DU, ac mae Ynys Môn yn dal i fod yn isaf yn y DU, ar 52 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae Sir y Fflint a Wrecsam hyd yn oed wedi gweld eu gwerth ychwanegol gros cyfunol yn disgyn bron 100 y cant o lefel y DU ar adeg datganoli, i 89 y cant yn 2016.

Felly, nod y fargen dwf yw manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd trawsffiniol a ddaw yn sgil Pwerdy Gogledd Lloegr, a lledaenu ffyniant tua'r gorllewin wrth gwrs. Mae ein hadroddiad yn nodi mai'r cynllun dros dro yng ngogledd Cymru yw sefydlu bwrdd o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, ond gyda chynrychiolwyr cyfetholedig hefyd o addysg uwch ac addysg bellach a'r gymuned fusnes. Wel, bellach sefydlwyd bwrdd twf gogledd Cymru i gwblhau'r fargen dwf a rheoli'r modd y caiff ei chyflawni ar ôl sicrhau cytundeb y ddwy Lywodraeth.

Mae trafodaethau gyda'r ddwy Lywodraeth i fod i gychwyn yn gynnar eleni, ac felly mae arnom angen eglurder gan Mr Skates ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru. A yw'n cefnogi'r cynigion a sut y bydd yn ymateb wrth i'r trafodaethau ar y fargen dwf fynd rhagddynt yn awr?

17:00

A wnewch hi dderbyn ymyriad? Yn gyflym iawn—diolch i chi am dderbyn ymyriad. A yw'r Aelod yn ymwybodol—a sylwaf eich bod wedi galw Pwerdy'r Gogledd yn Bwerdy Gogledd Lloegr— a ydych yn ymwybodol fod gogledd Cymru wedi'i gynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer Pwerdy'r Gogledd, nid fel partner i Bwerdy Gogledd Lloegr weithio gyda hwy?

Wel, y peth allweddol yw ein bod yn elwa'n economaidd ac yn gymdeithasol ar y cysylltiad gan ledaenu'r ffyniant hwnnw'n amlwg yr holl ffordd i Gaergybi.

Dywedodd cydlynydd gogledd Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthyf yn y pwyllgor,

Mae'n ymwneud â mwy na phobl sy'n ddi-waith, mae hefyd yn ymwneud â mater cyflogau isel, a'r gallu hefyd i symud at fwy o waith sy'n talu'n well.

Dywedodd cadeirydd cyngor busnes gogledd Cymru wrthyf:

Rhaid inni wneud popeth a allwn i becynnu ein heconomi yn y rhanbarth yn gadarn, gan gynnwys gyda phartneriaid trawsffiniol, a rhaid inni ei wneud yn awr.   

Er mwyn caniatáu ar gyfer gweithio ar sail gyfartal gydag ardaloedd ar draws y ffin o ogledd Cymru, roeddent hefyd yn galw am ddatganoli adnoddau a phwerau ar lefel ranbarthol. Dywedodd prif weithredwr arweiniol bargen dwf gogledd Cymru, Prif Weithredwr Sir y Fflint:

Ceir rhai meysydd cyllid... pe bai'r mesurau rheoli'n cael eu llacio a'u bod yn cael eu datganoli i ogledd Cymru gyda chytundeb ynghylch rhai o'r amcanion gyda Llywodraeth Cymru, gallem greu mwy o atyniad gyda'r arian hwnnw.

A nododd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

Mae datganoli swyddogaethau i ogledd Cymru sy'n cyfateb i'r hyn a geir yn y rhanbarthau cyfagos yn Lloegr yn anghenraid amddiffynnol ac yn elfen a ddymunir ar gyfer hwyluso twf.

Eu gweledigaeth yw creu 120,000 o swyddi a chynyddu'r economi leol i £20 biliwn erbyn 2035.

Ddoe, gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i wahoddiad cais bargen dwf gogledd Cymru i Lywodraeth Cymru gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol gyda phwerau wedi'u dirprwyo i'r corff gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddo weithredu mewn cymhwyster gweithredol a gyda chronfa o £150 miliwn dros 10 mlynedd, gan gynnwys £50 miliwn presennol Llywodraeth Cymru i ymrwymiad metro gogledd Cymru. Yn lle hynny, roedd ei ymateb yn un a allai beri pryder, sef:

Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio metro gogledd Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru.

A fydd yn ddigon dewr felly i ddatganoli'r pwerau y mae gogledd Cymru yn galw amdanynt, neu a allai mecanwaith gorchymyn a rheoli Caerdydd beryglu'r prosiect cyfan?

Fel y nodwyd eisoes, mae bargeinion dinesig yn cynnig cyfle newydd i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i hybu economïau Cymru go iawn. Mae'n cynnig ffordd newydd, gydgysylltiedig o weithio. Yn bwysicach, cânt eu hategu gan chwistrelliad o gyfalaf a allai helpu i gyflawni manteision seilwaith mawr. Ond mae'n bwysig inni gael bargeinion dinesig yn iawn, fod y dull o'u llywodraethu yn ddealladwy ac yn hawdd ei adnabod. Rhaid iddynt hefyd fodloni amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynnig y cyfleoedd y mae cymunedau eu hangen.

Dyma'r pwyntiau rwyf am eu gwneud heddiw. Yn gyntaf, argymhelliad 2: mae atebolrwydd democrataidd yn allweddol i sicrhau bod bargeinion dinesig yn cyflawni eu potensial i roi hwb i'n heconomi. Rhaid i'r llywodraethu fod yn dryloyw, y disgwyliadau'n glir, a'r canlyniadau'n hawdd eu monitro. Mae'n bwysig fod cymunedau yn gwybod sut y gwerir eu harian. Mae hefyd yn hanfodol eu bod hwy, a'u cynrychiolwyr, boed wedi eu hethol i'r Cynulliad hwn, i siambrau cynghorau, neu i'r Senedd, yn gallu ymgysylltu'n bwrpasol a chraffu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Bydd hyn oll yn helpu i bennu perchnogaeth. Rwy'n deall bod pwyntiau tebyg wedi'u gwneud gan bwyllgor llywodraeth leol Senedd yr Alban wrth iddo ystyried bargeinion dinesig yn yr Alban.

Credaf fod yna debygrwydd pwysig o bosibl i'r sefyllfa gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom fod cyllid yr UE wedi helpu i gyflawni prosiectau buddiol iawn ar draws ardaloedd fel fy un i, ond nid oedd llawer o bobl yn y cymunedau hynny erioed wedi teimlo'r ymdeimlad hwnnw o berchnogaeth. Nid oeddent yn gwybod i ble roedd yr arian yn mynd, beth oedd yn ei gyflawni neu'n ei ddarparu. Taniodd hyn y teimlad gwrth-wleidyddiaeth a amlygwyd ym mhleidlais Brexit 2016. Ni allwn i'r bargeinion dinesig syrthio i'r un fagl. Croesawaf ymateb cryf Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhelliad hwn. Yn yr un modd, o ran argymhelliad 3, dylai fod cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth glir o beth yn union y mae llwyddiant a methiant yn ei olygu. Fodd bynnag, fel rwy'n dweud, mae angen inni fod yn feiddgar a deinamig a sicrhau nad partneriaid y bargeinion yn unig sydd â'r wybodaeth hon, ond ei bod yn cael ei rhannu a'i deall ar lawr gwlad hefyd.

Mae'r chweched argymhelliad yn bwysig iawn hefyd. Mae nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail briodol i waith ac amcanion menter y fargen ddinesig. Er enghraifft, o ran y nodau ffyniant a chydraddoldeb, mae'n dda nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Mae'r sylw fod lledaenu manteision economaidd ar draws y rhanbarthau yn allweddol i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn bwysig. Fel sosialydd, rwy'n argyhoeddedig fod ailddosbarthu economaidd yn allweddol i fesur llwyddiant y bargeinion dinesig. Yn ystod y dystiolaeth, clywsom bryderon gan Colegau Cymru am y posibilrwydd y bydd y Cymoedd yn cael eu diberfeddu. Rhaid inni wneud yn siŵr na fydd y diberfeddu hwn yn digwydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth, fel y crybwyllwyd eisoes, yn hanfodol i hyn, a rhaid iddynt fod yn wirioneddol ddwy ffordd. Rhaid iddynt ddod â buddsoddiad a ffyniant i'r Cymoedd, fel y maent yn mynd â gweithwyr o'r Cymoedd i swyddi yng Nghaerdydd neu rywle arall. Bydd prosiect metro de Cymru yn gwbl allweddol i hyn.

Hefyd yn fyr, rwyf am grybwyll argymhelliad 10. Pan glywsom gan dystion, daeth manteision sicrhau ymgysylltiad awdurdodau lleol a phartneriaid sector preifat â nifer o fargeinion dinesig yn eithaf amlwg. Felly, mae ein hargymhelliad y dylai ffiniau fod yn aneglur ac yn hyblyg yn gwneud synnwyr. Mae hon hefyd yn ardal lle y gwn yn uniongyrchol o fy etholaeth y byddai dull o'r fath yn gweithio orau. Er enghraifft, mae cymunedau fel Hirwaun yn edrych tuag at, ac yn meddu ar gysylltiadau cyfathrebu cryf ag Abertawe, er eu bod yn rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig prifddinas Caerdydd. Gallai'r ardaloedd hyn ar y ffiniau elwa o allu ymgysylltu mewn ffordd bwrpasol â dinas-ranbarthau Caerdydd ac Abertawe. Rwy'n teimlo felly fod ymateb Llywodraeth Cymru ar yr argymhelliad hwn yn siomedig. Crybwyllais hyn yn flaenorol yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog a chroesewais safbwyntiau clir y Prif Weinidog na fyddai unrhyw ffiniau cryf. Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd pellach i ni ynglŷn â'r pwynt hwn wrth ymateb i'r ddadl heddiw.

Rwyf wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r ymchwiliad ehangach a gynhaliwyd gan bwyllgor yr economi. Diolch i'r Cadeirydd, i'r Aelodau eraill, a'r tîm clercio, a hoffwn adleisio diolchiadau a roddwyd yn gynt i bob un o'n tystion hefyd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y bargeinion dinesig yn gweithio er mwyn inni allu gweld datblygiad yr economïau rhanbarthol y mae Cymru eu hangen yn ddi-os er mwyn cystadlu a ffynnu yn y dyfodol.

17:05

Rwyf wedi ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus iawn, a chyda'r ddealltwriaeth fod pawb yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, am i Lywodraeth Cymru lwyddo yn ei nod datganedig o ddarparu ffyniant i bawb. Fodd bynnag, cyn i mi wneud sylwadau ar yr adroddiad hwn, rhaid i mi ei roi mewn persbectif o ran bod y Blaid Lafur wedi bod mewn grym yng Nghymru dros holl fodolaeth y Cynulliad hwn, ac yn yr amser hwnnw, rydym wedi gweld llawer o strategaethau a Gweinidogion yn mynd a dod. Fy ofn yw nad oes gennym gynllun economaidd cydgysylltiedig ar gyfer Cymru o hyd. Mae'n ymddangos bod unrhyw gynllun cydlynol—. Yr hyn a welir o'r adroddiad hwn yw ei bod yn ymddangos bod unrhyw gynllun economaidd cydgysylltiedig wedi ei ddileu gan amryw haenau gwahanol a gofodol cyrff cyflawni sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun economaidd hwn, sefyllfa a waethygir gan nifer o rai eraill a ragwelir. Prin mai dyma yw'r goelcerth o gwangos a addawyd gan Rhodri Morgan 13 mlynedd yn ôl.

Un o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn oedd y dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd ar gyrff rhanbarthol i hyrwyddo datblygiad economaidd a thwf cynhwysol, gyda disgresiwn i wario swm sylweddol o arian, boed gan Lywodraeth Cymru neu arian a godwyd o fewn y rhanbarth. Ond mae'n anodd dychmygu hyn yn digwydd gyda'r 22 o awdurdodau lleol cyfredol hen ffasiwn. Nid bai'r awdurdodau eu hunain yw hyn, mae'n ymwneud yn unig â maint y cyllidebau y maent yn eu rheoli a natur gyfyngedig eu cymwyseddau. Nid oedd y newidiadau diweddar i lywodraeth leol ond yn sôn am gydweithredu trawsranbarthol, heb unrhyw uno awdurdodau yn uniongyrchol, sy'n cymell y cwestiwn: a oedd y strategaeth hon yn un o hwylustod gwleidyddol yn hytrach na hyfywedd economaidd? Onid yw'n bryd archwilio llywodraeth ranbarthol yn seiliedig ar bum rhanbarth y Cynulliad, gyda'r eithriad posibl o rannu canolbarth a gorllewin Cymru yn ddau ranbarth, o ystyried yr ehangder daearyddol mawr? Yn sicr byddai hyn yn fwy tebygol o blethu i gysyniad rhanbarthol cynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth.

Os yw'r cynllun gweithredu economaidd i roi ffyniant i bawb mae'n rhaid sylweddoli bod angen lleihau'r baich trethi ar deuluoedd gweithgar yng Nghymru. Ni ellir cyflawni hyn heb dorri drwy haenau o fiwrocratiaeth a llywodraethu diangen sydd bellach yn bodoli. Mae'r model economaidd aml-gorff ac amlhaenog hwn hefyd yn golygu bod craffu ar nodau datganedig yn cael ei wneud yn llawer anos. O ran ymyriadau pwy sydd wedi arwain at unrhyw lwyddiant neu fethiant, bydd gwerthuso hynny bron yn amhosibl. Gadewch inni greu economi yng Nghymru sy'n seiliedig ar sylfaen fusnes ddeinamig a sylfaen weithgynhyrchu, nid sector cyhoeddus wedi ei orlethu. Gyda'r cyfoeth economaidd ychwanegol a ddaw yn sgil hyn, bydd gennym allu gwell i ariannu gwasanaethau hanfodol sy'n creu'r sector cyhoeddus hwnnw.

Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru i sicrhau'r newid sylfaenol hwn ym mholisi economaidd Cymru. Byddant yn hanfodol i ddarparu'r cyllid a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i adeiladu'r economi entrepreneuraidd hon a arweinir gan fusnes. Mae'r byd y tu allan i Gymru yn newid yn ddramatig ac mae angen inni groesawu yr hyn a elwir bellach yn bedwerydd chwyldro diwydiannol, amrywiaeth o dechnolegau newydd sy'n effeithio ar bob disgyblaeth, economi a diwydiant, a hyd yn oed yn herio syniadau ynglŷn â'r hyn y mae bod yn fodau dynol yn ei olygu. Mae Syr Terry Matthews yn credu y dylem symud tuag at sbarduno arloesedd a dylid canolbwyntio ar gysylltu busnes gyda'r gwaith ymchwil gorau fel ffordd o fanteisio ar y pethau newydd anhysbys hyn. Rydym yn cydnabod bod gan ein prifysgolion rôl bwysig i'w chwarae yn y datblygiadau hyn, felly croesawn y ganolfan arloesi £135 miliwn ar gyfer Prifysgol Caerdydd, ond gan ofyn: a ddylem fod yn ailadrodd hyn yng ngogledd Cymru?

Lywydd, os ydym am weld economi Cymru sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n rhaid inni gael cynllun cyflawni sy'n ddarbodus, yn ddeinamig a heb ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth.

17:10

Mae hwn yn adroddiad byr defnyddiol i dynnu sylw at rai o'r manteision, ond rhai o'r peryglon hefyd, o bosibl, sydd o'n blaenau. Rwy'n credu ei bod hi'n wych fod gennym 10 awdurdod lleol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd yn cydweithio, oherwydd yn amlwg, pan fyddwn yn ceisio datrys ein cysylltedd a threfniadau trafnidiaeth eraill y mae angen i ni eu gwneud ar gyfer ein cymunedau, rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Mae'n hurt cael ffiniau artiffisial. Felly, mae hynny'n iawn, a nodaf sylwadau cadarnhaol Andrew Morgan, sy'n dweud, oherwydd bod awdurdodau lleol wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd, fod hynny hefyd wedi annog Llywodraeth Cymru i weithio'n effeithiol gyda'r 10 awdurdod lleol. Felly, mae hynny'n dda iawn.

Credaf fod rhai o fy mhryderon yn ymwneud â rhai o'r pethau y mae'r adroddiad yn sôn amdanynt mewn perthynas â llywodraethu a thryloywder, oherwydd buaswn yn hoffi meddwl fy mod yn rhoi llawer o sylw i brifddinas-ranbarth Caerdydd, nid yn lleiaf oherwydd, ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd i fynd tuag at y trefniadau trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth, ac mae hynny'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Ond nodaf bryderon Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree ynghylch y diffyg tryloywder, ac rwy'n profi peth o hynny fy hun i raddau. Nid wyf yn gwybod sut y gwneir penderfyniadau ynglŷn â sut y penderfynir ar y £734 miliwn ar gyfer cam 2 y metro. Os yw ond yn mynd i fynd tuag at uwchraddio rheilffyrdd sy'n bodoli eisoes, mae'n newyddion da i gymunedau sydd eisoes yn elwa ar y rheilffyrdd hynny, ond ni fydd yn newyddion da o gwbl i'r cymunedau nad ydynt yn cael unrhyw fudd o'r rheilffyrdd a gaewyd amser maith yn ôl o dan Beeching. Mae diffyg eglurder yn fy meddwl ynglŷn â sut rydym yn mynd i gael dull gwirioneddol gynhwysfawr o sicrhau bod ein holl gymunedau wedi'u cysylltu fel nad oes gennym gymunedau yn cael eu gadael ar ôl. Dyna un o'r pethau eraill y tynnodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree sylw atynt—bydd gennych effaith twnnel drwy fod adnoddau'n cael eu tynnu i mewn i ardaloedd penodol gan sugno adnoddau o ardaloedd eraill. Mae'r rheini'n bethau sy'n rhaid inni ochel rhagddynt.

Ceir pryderon mawr ynglŷn â'r ffactorau anhysbys. Yn amlwg bydd o fudd i Gymru gael rheolaeth ar ei thynged ei hun o ran trafnidiaeth, oherwydd mae'n ddiddorol cofio, yn y fanyleb allbwn lefel uchel a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth yn San Steffan, un o'r ddau amcan oedd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth a ddigwyddodd gyda hynny. Felly, ar ba bwynt y maent yn symud y pyst gôl mewn perthynas â Trafnidiaeth Cymru a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd? Credaf fod risgiau yn hyn oll, a hefyd ceir risgiau eraill a welsom mewn mannau eraill yn y DU, mewn perthynas â masnachfraint gogledd-ddwyrain Lloegr y gwnaed cais amdani gan Virgin a Stagecoach ac yna, ychydig amser i mewn i'r contract maent wedi penderfynu ei ddychwelyd. Yn amlwg, ceir risgiau ariannol enfawr os yw'r cynigydd a ffafrir gennym ar gyfer masnachfraint Cymru yn ei gael yn anghywir.

Rwy'n croesawu'r adroddiad oherwydd mae'n amlygu rhai o'r pethau sydd angen inni ganolbwyntio arnynt o ddifrif. Mae'n arbennig o bwysig fod yr archwilydd cyffredinol yn amlygu pwysigrwydd olrhain perfformiad prosiect cam 2 y metro fel ein bod yn gallu gweld lle mae'r llithriant a lle mae pethau'n mynd o'i le a lle nad yw pethau'n cael eu cyflawni. Eisoes, rydym wedi gweld amcangyfrifon ynghylch ffordd liniaru'r M4 yn cynyddu i'r entrychion ac mae hynny'n peri pryder, ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau ein bod yn glir ynghylch yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud gyda'r £734 miliwn a beth yw'r cerrig milltir rydym i fod i'w cyflawni gyda'r arian hwnnw. Ond fy hun, nid wyf yn teimlo bod unrhyw un wedi ymgynghori â mi na fy etholwyr o gwbl ynglŷn â siâp y metro ar hyn o bryd.

17:15

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn? Rwy'n credu ei fod yn archwiliad gwerthfawr iawn o'r cynnydd a'r rhwystrau a nodwyd hyd yma. Fel y bydd Aelodau yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn gwybod, rydym wedi cael amser ofnadwy yn ceisio cael y bwrdd cysgodol i gyfarfod â ni mewn sesiwn friffio ar y cynnydd a wnaed. Tueddaf i gytuno gyda Jenny a Vikki Howells, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaed am dryloywder yn yr adroddiad hwn; mae'n werth i'r holl arweinwyr bargeinion dinesig gofio mai elwa'n unig a wnânt o ymgysylltu â'r holl bartïon ar y cyd. Bydd bod yn agored ac yn onest gyda ni yn awr, yn enwedig gyda'r rhai ohonom a fydd â diddordeb mewn craffu ar hyn wrth iddo fynd rhagddo, yn help i adeiladu ymddiriedaeth.

Cefais fy nharo gan ganfyddiadau'r adroddiad ar anhryloywder y strwythurau llywodraethu yn gyffredinol. Fel rhywun sy'n gymharol newydd i fyd y bargeinion hyn, buaswn wedi gobeithio gweld rhywfaint o dystiolaeth o gyrff Cymru'n dysgu gwersi gan y rhai a aeth o'u blaenau. Nid yw'r ffaith fod pob bargen â strwythurau gwahanol yn broblem i mi o gwbl. Mae ymdrechion i sicrhau dulliau unedig yn enw cysondeb neu hunaniaeth Cymru gyfan wedi arwain at fethiant sawl polisi addawol wrth iddo gael ei gyflawni ac wrth i ganlyniadau gorau yn lleol gael eu haberthu ar allor prosesau unffurf. Er hynny, mae rhai, neu efallai bob un o'r bargeinion hyn fel y maent yn awr wedi profi'r casgliad y deuthum iddo dros fy mlynyddoedd fel Aelod Cynulliad.

O ran atebolrwydd ac yn groes i'r ddoethineb gyffredin, rwy'n aml wedi'i chael hi'n haws cael atebion gan gyrff hyd braich—cyrff annibynnol ar wahân, beth bynnag—na chan y Llywodraeth ei hun, a hyd yma, nid yw'r bargeinion hyn yn cyd-fynd â'r casgliad hwnnw. Felly, rwy'n falch o weld bod argymhellion 2, 3, 6 ac 8 yn trafod craffu, deall, asesu a monitro, nid mewn ffordd sy'n ymwneud â sicrhau bod byrddau'n cadw at broses a bennir gan Lywodraeth, ond mewn ffordd sy'n ein galluogi i weld yn glir beth y mae bwrdd yn gobeithio ei gyflawni, a bod y ffordd a ddewisant o gyrraedd yno yn effeithiol a theg. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn arbennig o bwysig pan fydd y bargeinion hyn yn nesu at eu pumed pen-blwydd.

Mae gwybod sut beth yw cynnydd digon da yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt ar y garreg filltir hon yn gorfod bod yn flaenoriaeth, rwy'n credu. Gallai'r risg na fydd arian yn dod gan y Llywodraeth ganolog, o'r ddwy ochr, ar y pwynt pum mlynedd hwn fod yn uchel, ac mae'n peri pryder i mi fod bron un rhan o bump o'r amser, yn achos bae Abertawe o leiaf, wedi llithro heibio ac nid ydym wedi sefydlu strwythur llywodraethu hyd yn oed. Mae 'pêl-droed wleidyddol' wedi ei ysgrifennu ar hyd cyfnod yr asesiad porth os yw'r cynnydd yn araf, a byddai'n well gennyf fi, yn sicr, fod yn canmol y ffordd y mae bywydau fy etholwyr yn dechrau gwella o ganlyniad i dwf economaidd, na chicio'r bêl honno o gwmpas mewn gêm ystrydebol a thraddodiadol o fwrw bai.

Ceir dau ganfyddiad yr hoffwn edrych arnynt yn benodol, gan eu bod yn arbennig o berthnasol i fy rhanbarth i, ac maent yn cael eu crybwyll mewn nifer o argymhellion, a'r cyntaf yw aliniad—rwy'n poeni braidd am y gair 'alinio', ond gadewch i ni ddefnyddio hwnnw—gyda strategaethau Cymru a'r DU. Rwy'n dechrau o'r pwynt fod ymreolaeth gynhenid y bargeinion hyn yn cynnig cyfle i ragori ar y strategaethau amrywiol hyn o ran canlyniadau mewn gwirionedd, ond nid oes fawr o synnwyr mewn gweithio ar ddibenion cwbl groes i'w gilydd a glanio mewn powlen sbageti o fentrau sy'n cystadlu. Mae angen i dasglu'r Cymoedd, er enghraifft, fod mewn cytgord ond nid o reidrwydd wedi'i glymu'n sownd wrth y bargeinion dinesig o ran gweledigaeth a throsoledd cydfuddiannol.

Credaf y gallai'r strwythurau a ymgorfforir yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol hwyluso rhai amcanion cyffredin, neu gallent fod yn fwy o sbageti mewn powlen; nid wyf yn gwybod. Ond credaf fod yn rhaid i'r Ddeddf ddylanwadu ar greu rhywfaint o hyblygrwydd o ran llesiant fel canlyniad i'r fargen, yn ogystal â chynnyrch domestig gros, oherwydd nid yw'r olaf o bwys enfawr mewn gwirionedd os nad yw'n gwella'r cyntaf. Hefyd, hoffwn weld, fel uchelgais craidd, symudiad amlwg tuag at gydgynhyrchu, lle mae buddiolwyr twf economaidd, sef ein hetholwyr, yn cymryd rhan weithredol yn y broses. Mae'n gyfle gwirioneddol i sicrhau ymagwedd fwy cytbwys tuag at gyflawni nodau cyffredin.

Yn ail ac yn olaf, argymhelliad 10. Rwyf innau yn eich annog hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, i ailystyried eich safbwynt ar hyn. Nid yw cytgord gweledigaeth yn ymwneud â marcwyr ar fapiau, ac rwy'n wirioneddol bryderus fod y ffin rhwng y ddwy fargen ddinesig yn rhedeg drwy ganol Gorllewin De Cymru mewn modd artiffisial sy'n gwrthdaro yn erbyn hunaniaeth leol a llif gwaith posibl yn lleol. Ac nid y gofid yw y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael y gorau o ddau fyd, ond na fydd yn elwa o'r naill na'r llall, ar yr un pryd ag y bydd y cyngor yn ysgwyddo risg ariannol o fethiant i gyrraedd heibio i'r asesiad porth. Ar bob cyfrif awgrymwch systemau i ddiogelu rhag diffyg atebolrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gadewch i'r bargeinion fabwysiadu cyfrifoldeb dros reoli ffiniau aneglur yn hytrach na mynnu eu bod yn taro eu pennau ar waliau solet. Diolch i chi.

17:20

A gaf fi hefyd ymuno ag eraill i ddiolch i Russell George ac i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Yn sicr, mae'r adroddiad yn amlygu nifer o faterion pwysig iawn ynghylch yr angen i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer ein cymunedau o'r bargeinion, ac i osgoi baich biwrocratiaeth sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwnnw. Ac nid yw hynny byth yn hawdd oherwydd, er enghraifft, ers i'r gwaith craffu penodol hwn ddechrau, gwelsom gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', sy'n haen arall o ddisgwyliadau sydd i'w cyflwyno gan lawer o'r un cyrff. Eto i gyd, nid yw'n ymddangos bod y berthynas hollbwysig rhwng y fargen ddinesig a strategaeth y Cymoedd wedi ffurfio unrhyw ran glir o ystyriaethau'r pwyllgor, o leiaf nid yr hyn a adlewyrchir ar wyneb yr adroddiad, a oedd yn bwynt a wnaeth Hefin rwy'n credu. Ac rwy'n derbyn y gallai hynny fod yn fater o amseru'n unig, oherwydd ceir tystiolaeth yn yr adroddiad—o gyflwyniadau Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree a TUC Cymru, ac yn wir, cyfeiriodd Russell George ato ei hun yn ei sylwadau agoriadol—fod anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig wedi cynyddu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut roedd y materion hynny'n cyfrannu at drafodaethau'r pwyllgor.

Lywydd, nid yw'r sylwadau rwyf am eu gwneud wedi eu hanelu yn benodol at unrhyw argymhellion penodol, ond maent yn ymwneud yn fwy cyffredinol â chasgliadau'r adroddiad. Ond eto, i adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaeth Hefin, a Vikki Howells hefyd, i gyrraedd y nod hwnnw, mae'n rhaid i'r fargen sicrhau manteision pendant i'r holl ddinasyddion yn y rhanbarth. Felly, os yw Caerdydd a Chasnewydd yn cael buddsoddiadau newydd sgleiniog o'r fargen, ni fyddaf yn cwyno am hynny—byddant yn asedau rhanbarthol a bydd pawb ohonom yn eu defnyddio. Ond yn amlwg, ni fydd hynny ynddo'i hun yn ddigon i ddweud ei fod wedi bod yn llwyddiant. Llwyddiant fydd uwchraddio sgiliau a chyfleoedd economaidd mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, gan ddarparu cysylltiadau gwell byth o'r rhanbarth ehangach i Ferthyr Tudful, y gellid dadlau ei bod yn un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol y Cymoedd. Bydd hynny'n hollbwysig, oherwydd gyda gwell cysylltiadau i mewn i leoedd fel Merthyr, bydd penderfyniadau buddsoddi cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer buddsoddiad sector cyhoeddus, nid yn unig yn gwneud synnwyr ond gellir eu cyfiawnhau gyda chanlyniadau pendant fel swyddi a thwf economaidd.

Llwyddiant fydd ardaloedd fel cwm Rhymni uchaf yn teimlo hwb am y bydd llawer o'r partneriaid ar draws y rhanbarth ehangach, gan gynnwys y naw awdurdod lleol arall sydd mewn partneriaeth â Chaerffili yn awr, wedi gweld ac wedi adnabod anghenion y cymunedau hyn. Llwyddiant fydd gweld ardaloedd fel ardal gyfagos Blaenau Gwent yn elwa, am mai echel ogleddol Blaenau'r Cymoedd, sef Merthyr, Rhymni a Blaenau Gwent yw'r union ardaloedd sydd fwyaf o angen yr hyn y buaswn yn ei alw'n fargen well, nid bargen ddinesig yn unig. Os caf ddyfynnu o ragair y Cadeirydd i'r adroddiad,

'Os bydd bargeinion yn rhan allweddol o weithgarwch economaidd yn y dyfodol yng Nghymru, yna mae angen inni sicrhau bod eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd'.

Wel, mae gan y rhai ohonom sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd farn glir iawn ynglŷn â'r hyn sydd angen digwydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhaid i fargen ddinesig helpu i wella'r lleoedd sydd angen y fargen well honno. Ni fydd yn llwyddiant hyd nes y bydd hynny'n digwydd.

17:25

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates. 

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad wrth yr Aelodau am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a chofnodi fy niolch hefyd i aelodau'r pwyllgor yn enwedig am eu hadroddiad craff, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George, y cytunaf ei fod wedi dangos graddau clodwiw o gydbwysedd a gwrthrychedd yn arwain yr ymchwiliad hwn?

Rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor a'u cydnabyddiaeth fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn cynnig cyfle pwysig i Gymru a'n rhanbarthau ryddhau arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi ymyriadau a all sicrhau twf economaidd cynhwysol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor. Croesawaf hefyd y gydnabyddiaeth yn yr adroddiad fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn ymwneud â mwy nag arian yn unig. Nid ffrwd ariannu arall ydynt i fynd ar drywydd prosiectau unigol, annibynnol nad ydynt yn gallu sicrhau cefnogaeth mewn unrhyw ffordd arall. Gyda'n cynllun gweithredu economaidd, maent yn ffordd y gallwn ddatblygu agenda economaidd gryfach a mwy strategol a all gefnogi'r cymunedau, y busnesau a'r unigolion yn yr ardal honno.

Nawr, fel Llywodraeth, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd dull rhanbarthol ac rydym yn falch o'n record ar swyddi, gyda dros 185,000 wedi eu cefnogi yn y chwe blynedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd, neu wedi bod yn agos at gyrraedd, y lefelau uchaf erioed gyda mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen. Fel y dywedais ar sawl achlysur bellach, nid yw manteision twf economaidd wedi bod yn gyfartal. Mae gwahaniaethau mawr o hyd rhwng gwahanol rannau o Gymru. Rydym yn cydnabod nad yw pob rhan o Gymru wedi cael ei chyfran deg o dwf ac rydym yn cydnabod bod Cymru yn cynnwys rhanbarthau sydd â'u cyfleoedd penodol eu hunain, eu hunaniaeth unigryw, yn ogystal â'u heriau neilltuol wrth gwrs.

Felly, drwy gyflwyno dimensiwn rhanbarthol i ddatblygu economaidd drwy gynllun gweithredu economaidd, credaf y gallwn ddatblygu cryfderau unigryw pob rhanbarth yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth ag ardaloedd bargeinion dinesig a bargeinion twf. Felly, bydd gan bob rhanbarth o Gymru ffocws penodol yn y model datblygu economaidd rhanbarthol newydd hwn. Mae prif swyddogion rhanbarthol wedi'u penodi ac eisoes yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y rhanbarthau ac wrth gwrs, gyda'i gilydd, i sicrhau bod gweithgareddau ar draws y rhanbarthau yn ategu ei gilydd ac yn gydgysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i lunio darpariaeth Llywodraeth Cymru, fel y gallwn ymateb yn well i'r cyfleoedd penodol ym mhob rhanbarth.

Lywydd, mae gan y ddwy fargen ddinesig yng Nghymru sylfeini cadarn eisoes a sail gref i gyflawni eu huchelgais economaidd, ac ym mhob rhanbarth, mae'n amlwg fod cynnydd yn cael ei wneud. Mae metro de Cymru yn ganolog i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n werth £1.2 biliwn, a dyna yw ein cyfraniad mawr i'r fargen arbennig honno. Dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae'r broses gaffael yn mynd rhagddi'n dda, gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i gytuno rhwng Llywodraeth Cymru a chyd-gabinet y fargen ddinesig. Ond fel y dywedodd Vikki Howells, ni ddylai bargen ddinesig arwain at dwf mewn rhai ardaloedd ac at ddiffyg twf, neu at ddirywiad yn wir, mewn ardaloedd eraill. Dylai bargeinion dinesig arwain at dwf cynhwysol, gan ddarparu cyfleoedd i greu cyfoeth ar draws rhanbarthau, a chredaf fod y metro wedi'i gynllunio i wneud hyn—i ddod â bywyd newydd i gymunedau marwaidd. Rwy'n credu y gall ein dull o ddatblygu Merthyr Tudful yn y blynyddoedd diwethaf weithredu fel glasbrint ar gyfer adfywio llawer iawn mwy o gymunedau ar draws de-ddwyrain Cymru.

Rydym wedi croesawu'r cynlluniau i fuddsoddi £37 miliwn i greu clwstwr technoleg sy'n arwain y byd yng Nghasnewydd fel y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan y fargen hon sy'n werth £1.2 biliwn. Disgwylir i hyn greu mwy na 2,000 o swyddi a chaiff ei gefnogi gan £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl llofnodi bargen dinas-ranbarth bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn, mae achosion busnes manwl yn cael eu datblygu ar gyfer 11 o brosiectau. Mae trefniadau llywodraethu yn cael eu cytuno hefyd i ddarparu arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd dros gyflawni'r fargen yn llwyddiannus, ac wrth gwrs, rydym yn parhau i weithio gyda rhanbarth gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ystyried sut y gall bargen dwf ar gyfer gogledd Cymru gefnogi eu dyheadau yn y ffordd orau ar gyfer creu twf economaidd pellach—rhagor o dwf economaidd i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi ei ysgogi yng ngogledd Cymru.

Nid oes ond angen inni edrych ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng ngogledd Cymru i sylweddoli potensial y rhanbarth hwnnw os yw Llywodraeth y DU yn agor ei phocedi ac yn buddsoddi yng ngogledd Cymru hefyd. Mae £600 miliwn yn barod gan Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi mewn seilwaith, megis yr A494, trydydd croesiad y Fenai, ffordd osgoi Bontnewydd i Gaernarfon, yr A55, sefydliad gweithgynhyrchu uwch Cymru, pencadlys Banc Datblygu Cymru, canolfan Busnes Cymru, M-SParc. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n llawn a chefnogi cynigion sydd wedi'u cynnwys yng nghais gogledd Cymru.

Ond wrth gwrs, y peth mawr yng ngogledd Cymru y bydd pobl yn siarad yn gyson â mi yn ei gylch yw trafnidiaeth. Rwy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn sawl ffordd, ond mae galw mawr ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd, sydd wedi llusgo ar ôl cyfartaledd y DU. Mae wedi llusgo ar ôl ers llawer gormod o amser. Nid ydym ond wedi cael oddeutu 1 i 1.5 y cant o'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, gan fod gennym 5 y cant o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Nawr, yng nghanolbarth Cymru, mae Powys a Cheredigion yn datblygu Tyfu Canolbarth Cymru—

17:30

Ar y pwynt hwnnw, beth oedd y ffigur pan oedd Llafur yn Llywodraeth?

Pan oedd Llafur yn Llywodraeth, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn sylweddol, ond mae yna bob amser le i fuddsoddi ymhellach, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y metro yn ne Cymru—mwy na £700 miliwn—a dyna pam rydym yn buddsoddi ym metro gogledd Cymru gyda chyllid sbarduno cychwynnol o £50 miliwn. Buaswn yn annog yr Aelod i gefnogi, nid i ddifrïo, y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod metro gogledd Cymru yn llwyddiant mawr.

Fel y dywedaf, yng nghanolbarth Cymru—[Torri ar draws.]—mae Powys a Cheredigion yn datblygu Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n dod â llywodraeth leol a'r Llywodraeth genedlaethol at ei gilydd i greu gweledigaeth ar gyfer twf canolbarth Cymru yn y dyfodol. Rydym wedi croesawu'r manylion gan bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ar sut y gallai bargen gefnogi'r weledigaeth hon. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sbarduno twf economaidd yng nghanolbarth Cymru, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi twf cyflym busnesau yn y Trallwng, gan gynnwys Zip-Clip a Charlies, a seilwaith y Drenewydd, gyda'r gwariant ar y ffordd osgoi fawr ei hangen. Rwy'n credu y gallai bargen adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol hwn.

Ond i ateb heriau heddiw a chyfleoedd yfory, mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i dyfu'r economi a lledaenu cyfle, ac wrth wneud hynny, yn rhoi llais cryfach i'n rhanbarthau. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu bargeinion llwyddiannus ledled Cymru fel rhan o'r weledigaeth honno yn y cynllun—cynllun ar gyfer gyrru twf cynhwysol.

Mae gan fargeinion dinesig a bargeinion twf botensial i gael effaith barhaol ar ein rhanbarthau, cyhyd â'u bod yn parchu'r setliad datganoli. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol gref a ddangoswyd eto yn y ddadl hon heddiw.

17:35

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, yn enwedig Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor? Mae hi bob amser yn braf cael cyfraniadau gan Aelodau sydd heb gymryd rhan yn ein pwyllgor yn ogystal.

Fe wnaf sylwadau ar rai o'r eitemau a grybwyllwyd heddiw. Siaradodd Hefin David a Dai Lloyd, yn arbennig, am sicrhau bod y cydweithredu'n iawn a chael y bargeinion priodol, ac wrth gwrs, gwnaethant bwyntiau am y nodau a osodir gan yr ardaloedd lleol a bod hwnnw'n fater arbennig o bwysig i'r holl fargeinion dinesig. I mi, rwy'n credu y buaswn yn cytuno'n bendant â hynny, ac ymddengys y byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno gyda'r safbwynt hwnnw yn ogystal. Wrth gwrs, siaradodd Dai Lloyd, Hefin David, a Jenny Rathbone hefyd yn wir, am yr angen i weithio gyda'i gilydd, ac fe wnaeth i mi feddwl, wrth i'r tri siarad, ei bod hi'n eithaf rhyfeddol y gall 10 awdurdod lleol wneud hynny—. Mae'n anodd cael dau awdurdod lleol i weithio gyda'i gilydd, ond mae 10 o awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd—o liwiau gwleidyddol gwahanol—ac yn dod ynghyd i lunio cynllun ar y cyd, ond gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd, a phawb yn cytuno ar gynllun gyda'i gilydd ac yn llofnodi'r cynllun hwnnw—dyna ddylai gwleidyddiaeth fod yn fy marn i, wrth gwrs, a dyna y credaf fod y cyhoedd am ei weld.

Siaradodd Mark Isherwood hefyd, fel y byddech yn disgwyl, am gynnig twf gogledd Cymru a'r angen i gysylltu a gweithio gyda Phwerdy'r Gogledd. Ac wrth gwrs, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cyflwyno ei gynnig a gobeithiwn y byddwn yn gallu siarad cyn hir am drydedd bargen i Gymru, wedi'i dilyn gan bedwaredd bargen ar ôl hynny.

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad ac am ehangu'r ddadl i feddwl am feysydd eraill diddorol hefyd? Ac wrth gwrs, siaradodd Dawn Bowden yn ei chyfraniad am feysydd eraill y gallai'r pwyllgor edrych arnynt yn y dyfodol o bosibl—dyna a gymerais o gyfraniad Dawn i'r ddadl. Rhaid i mi ddweud, roedd ein cylch gorchwyl yn dynn iawn. Mae'n fater mawr i edrych ar yr holl fargeinion twf a'r potensial i greu bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru, felly roedd ein cylch gwaith yn dynn, i raddau. Ond rwy'n credu bod lle i wneud gwaith pellach ar rai o'r materion a grybwyllwyd gennych, Dawn—gwaith y gallwn ei wneud fel pwyllgor.

Rwyf am siarad yn awr am y ffiniau aneglur. Soniodd Suzy Davies am hyn ac am farcwyr ar y map, a rhoddodd enghraifft o'r anawsterau posibl i leoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr yn hyn o beth. Ac wrth gwrs, gwnaeth Suzy bwynt am awdurdodau lleol yn gallu gwneud y penderfyniad hwn a nodi'r materion hyn drostynt eu hunain. Rwy'n gobeithio y gallwn berswadio Ysgrifennydd y Cabinet i newid ei safbwynt ar yr argymhelliad ynghylch ffiniau aneglur. Gwnaeth Vikki Howells y pwynt ei bod wedi dwyn hyn i sylw'r Prif Weinidog, wrth gwrs, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'i fod ef yn gefnogol iawn i'r model ffiniau aneglur. Felly, mae gennym gynghreiriad o amgylch bwrdd y Cabinet, ond mae gennym gynghreiriaid eraill yn ogystal, oherwydd dylwn ddweud bod gennym Hannah Blythyn a Jeremy Miles, a oedd hefyd yn rhan o'r pwyllgor hwn, a dylwn ddiolch iddynt am eu rhan a'u gwaith gyda'r pwyllgor. Ond wrth gwrs, maent hwy hefyd yn frwd iawn ac yn gefnogol iawn i'r argymhelliad penodol hwn hefyd. Felly, mae gennym o leiaf dri o gynghreiriaid o amgylch bwrdd y Cabinet. Ar nodyn difrifol, rwy'n gobeithio y bydd y rhesymeg a roesom mewn perthynas â'n ffiniau aneglur yn newid meddwl Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ar ryw bwynt.

Rwy'n falch hefyd —

17:40

A wnewch chi hefyd dderbyn ymyriad ar ffiniau aneglur? [Chwerthin.]

Fel Aelod o etholaeth lle mae pobl yn edrych tua'r de at eich etholaeth chi, yn edrych tua'r de-orllewin at etholaeth Owen Paterson, i'r gogledd tuag at Wrecsam a Delyn, i'r dwyrain i Gaer, ac i'r gorllewin i ardal fy nghyd-Aelod o Gymru, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parchu'r ffaith nad oes unrhyw ffiniau i ddatblygu economaidd. Ond hefyd mae angen trefniadau llywodraethu sy'n glir iawn.

Fy nghred yw na fydd unrhyw angen am ffiniau aneglur, cyhyd â bod y bargeinion yn ategu ei gilydd, ac o gofio ein bod yn sefydlu rolau prif swyddogion rhanbarthol i sicrhau bod y bargeinion hynny'n ategu ei gilydd ac i wneud yn siŵr fod cymunedau a busnesau ar draws pob un o'r rhanbarthau'n gallu elwa, nid yn unig o ymyriadau a phrosiectau yn eu hardaloedd bargeinion twf neu fargenion dinesig eu hunain, ond hefyd yn y rhai cyfagos—. Buaswn yn dweud hynny nid yn unig ar gyfer y datblygiadau sydd wedi digwydd o fewn Cymru, ond hefyd ar sail drawsffiniol yn Lloegr yn ogystal. Felly, dyna pam rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y prosiectau sydd wedi eu cynnwys o fewn y bargeinion twf ar ochr Lloegr i'r ffin yn ategu'r rhai sydd wedi'u cynnwys o fewn y bargeinion twf yma yng Nghymru yn llawn.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y fargen dwf newydd bosibl ar gyfer canolbarth Cymru, ceir gwaith trawsgydweithredu yno gyda pheiriant canolbarth Lloegr, ond rwy'n sylweddoli, fel Aelod Cynulliad etholaeth fel finnau, eich bod chi hefyd yn cynrychioli etholaeth sy'n gorfod gweithio ar draws ffiniau. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu bod ein llinellau wedi croesi i'r fath raddau o bosibl nes ein bod yn cytuno â'n gilydd. Yn sicr, yn yr Alban, rydym wedi gweld enghraifft yno o fargeinion dinesig yn gorgyffwrdd ar draws eu ffiniau hefyd. Ond rwy'n derbyn y ddadl dros lywodraethu clir yn llwyr. Efallai nad ydym yn bell iawn o gytuno o bosibl; efallai mai mater o derminoleg yn unig ydyw.

A gaf fi ddod i ben, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw? Rwyf am gofnodi fy niolch hefyd i'r rhai a roddodd amser i'r ymchwiliad ac a roddodd eu harbenigedd i'r ymchwiliad, yn enwedig staff bargen ddinesig Glasgow, Ffederasiwn Busnesau Bach yr Alban ac RSPB yr Alban, a'n croesawodd ni'n garedig i ddinas fwyaf yr Alban. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod y pwyllgor a'r tîm integredig am bob cefnogaeth a roddwyd inni fel Aelodau wrth roi'r adroddiad hwn at ei gilydd. Wrth gwrs, rwy'n diolch i'r Llywodraeth am dderbyn y mwyafrif llethol o'n hargymhellion.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb'

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM6631 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser codi i wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw Paul Davies, gan edrych, yn amlwg, ar gynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', a osodwyd gerbron y Cynulliad a'i gyflwyno i bobl Cymru ychydig cyn toriad y Nadolig. Bu cryn dipyn o waith craffu ar y ddogfen hon, a chafwyd tair dogfen flaenorol cyn hon a aeth ati'n llwyddiannus, yn amlwg, i osod polisi economaidd Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol a geisiai amlinellu gweithgarwch economaidd, cyfle economaidd a ffyniant i Gymru. Mae'n deg dweud bod pob un o'r tair wedi methu bodloni'r disgwyliadau y ceisient eu cyflawni. Pan edrychwch ar ffeithiau caled gwerth ychwanegol gros, er enghraifft, yn yr 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gwerth ychwanegol gros wedi codi 0.5 y cant yn y cyfnod o 20 mlynedd. Os edrychwch ar gyflogau, er enghraifft, sy'n ddangosydd allweddol arall, byddai gweithiwr yn yr Alban wedi dechrau ar yr un lefel cyflog â gweithiwr yng Nghymru yn 1999; heddiw, mae'r un gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yr wythnos yn fwy adref yn ei becyn cyflog na gweithiwr yng Nghymru.

Nid oes neb eisiau anweithgarwch economaidd, nid oes neb eisiau methiant economaidd. Rôl bwysig i Lywodraeth yw gweithio gyda chymunedau a gweithio gyda busnesau i ddarparu'r cyfleoedd hynny, ond mae'n deg dweud ei bod yn anodd dychmygu sut y bydd y ddogfen hon yn wahanol i'r tair a'i rhagflaenodd, a geisiodd ryddhau llawer o'r cymunedau ar draws Cymru a lledaenu cyfoeth Cymru'n fwy cyfartal ledled Cymru fel nad yw cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Wrth i mi edrych ar draws y Siambr, gallaf weld yr Aelod dros Ynys Môn o fy mlaen, ac yn anffodus, Ynys Môn, er enghraifft, sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf yn y wlad. Os dowch i lawr i'r de, ardal rwy'n ei chynrychioli, y brifddinas, Caerdydd, sydd wedi elwa o adlinio cyfleoedd, drwy'r gwaith ar adfywio Bae Caerdydd, â'r sectorau gwasanaethau ariannol—. Ond os edrychwch ar Gaerdydd fel prifddinas yn erbyn prifddinasoedd eraill y DU—Belfast, Caeredin a Llundain—mae gan Belfast, ein cystadleuwr agosaf, os mynnwch, o ran mesur gwerth ychwanegol gros, mae ganddi £5,000 y pen o fantais dros Gaerdydd. Os ydych yn cymharu â Chaeredin, rydych yn sôn am £7,000 y pen o fantais. Ac yna os cymharwch â Llundain, yr ystyriaf ei bod yn economi gyfan gwbl ar wahân, £10,000 i £12,000 y pen o fantais. Ni ddylai'r mathau hynny o symiau fodoli ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, ac mewn gwirionedd dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy dychmygus ac yn fwy beiddgar yn y ffordd y mae'n cyflwyno ei pholisïau economaidd i geisio adennill peth o'r tir hwnnw.

Y rheswm dros y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd yw nodi'n union pam fod y ddogfen hon mor brin o hyder. Pan ydych yn sôn—ac mae'n deg dweud, ers ei chyflwyno, rwyf wedi cael cyfle da i siarad â llawer o fusnesau a llawer o sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Maent hwy hefyd yn brin o'r hyder y dylai'r ddogfen hon fod wedi'i wreiddio ynddynt y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cau rhai o'r dangosyddion economaidd caled hyn sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer.

Gallai'n hawdd fod yn wir nad yw'r ddogfen gyfan yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth economaidd arwyddocaol oherwydd, yn amlwg, mae'r rhain yn gwestiynau a ofynnais i'r Prif Weinidog ynglŷn â pham nad yw Llywodraeth Cymru, wrth ddatblygu polisi economaidd, wedi datblygu uned wybodaeth economaidd i edrych ar dablau mewnbwn/allbwn, fel eich bod yn gwybod beth a rowch i mewn a beth rydych yn mynd i'w gael o'r rhaglenni a'r mentrau a rowch ar waith. Mae llawer o wledydd eraill ledled y byd yn dibynnu ar y math hwnnw o ddata, ac yn dibynnu ar y math hwnnw o ddealltwriaeth o weithgarwch economaidd, i lunio polisïau a ffurfio'r mentrau sydd wedi symud y dangosyddion yn gadarnhaol i'r cymunedau y mae'r Llywodraethau hynny'n eu cynrychioli. A bod yn deg, o ran yr Alban, er enghraifft, maent wedi comisiynu uned bwrpasol ym Mhrifysgol Strathclyde i wneud yn siŵr fod y gweithgaredd hwn yn llywio polisi Llywodraeth yr Alban ym maes datblygu economaidd a chyfle economaidd.

Ond rwy'n dychwelyd at y pwynt, wrth wrando ar y ddadl flaenorol, y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdano o ran sut y mae'n gweld bod ei weledigaeth ynghylch y cyfarwyddwyr rhanbarthol y mae wedi'u rhoi ar waith, ac y sonnir amdanynt yn ganmoliaethus yn y ddogfen hon, yn newid y modd y cyflawnir polisi economaidd yma yng Nghymru yn sylfaenol. Sut y mae'n gwneud hynny? Oherwydd pan fyddwch yn darllen y ddogfen hon, nid oes unrhyw ddangosyddion ynghylch pa gynnydd a fydd mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros; nid oes unrhyw ddangosyddion i ddynodi ble fydd cyflogau'n mynd dros oes y ddogfen hon. Sut y gall gredu y bydd y strwythurau newydd yn gallu rhoi'r cryfder unigryw hwnnw y sonia amdano i ranbarthau Cymru? Sut y bydd y cyfarwyddwyr rhanbarthol, sy'n amlwg yn mynd i gael pwerau—buaswn yn gobeithio—gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bwrw ymlaen â mentrau'r Llywodraeth, yn cael effaith pan fo'u rhagflaenwyr wedi methu yn y gorffennol?

Cofiaf yn dda yn awr, gyda 10 mlynedd o brofiad o'r Cynulliad hwn, lawer o'r siarad am yr ardaloedd menter a ddarparwyd yma yng Nghymru—ardaloedd menter a oedd, ar yr wyneb, i'w gweld yn addo cyflawni llawer ac sydd wedi sugno llawer o gyfoeth gan Lywodraeth Cymru: £221 miliwn o arian cyhoeddus; ond pan edrychwch ar eu heffaith ledled Cymru mewn gwirionedd, canlyniadau hynod o amrywiol a gafwyd ganddynt. Ac yn yr ardaloedd lle y dylent gyflawni gwell canlyniadau, lle mae'r heriau'n fwy, mae eu heffaith wedi bod yn fach iawn. Sylwaf fod y ddogfen yn sôn ychydig am yr ardaloedd menter a chreu neu ddatblygu—neu ddatblygu parhaus—y fenter honno a oedd yn sail i lawer o'r datblygu economaidd a gafodd Llywodraeth Cymru yn y tymor diwethaf. Felly, unwaith eto, o ymarfer gwersi a ddysgwyd, sut y mae'r ddogfen hon yn rhoi hyder i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael y cyrhaeddiad o amgylch ac ar hyd a lled Cymru y mae mentrau blaenorol megis yr ardaloedd menter wedi methu ei gyflawni?

Hefyd, yr un peth, unwaith eto, y credaf nad yw'r ddogfen hon yn ei gydnabod yw datganoli cyfrifoldeb o ran datblygu economaidd yn Lloegr. Nid oes un cyfeiriad yn y ddogfen hon at feiri metro neu feiri dinasoedd yn Lloegr a sut y gallai gweithio trawsffiniol wella mwy o gyfleoedd ar hyd a lled Cymru. Os edrychwch ar Fryste, er enghraifft, os edrychwch ar y maer ar gyfer gorllewin canolbarth Lloegr, Andy Street, os edrychwch, yn amlwg, ar Lerpwl, ac os edrychwch ar Fanceinion—pedwar sbardun economaidd enfawr ar hyd a lled Clawdd Offa—ceir cystadleuaeth—mewn un anadl—i unrhyw fuddsoddiad a allai fod yno, ond mae yna hefyd—mewn anadl arall—gyfle gwych i gydweithio, ac eto ar ôl darllen y ddogfen hon, nid yw'n crybwyll y cyfleoedd hynny unwaith ynddo. Nid unwaith. Mae hynny, yn sicr, yn gyfaddefiad, Ysgrifennydd y Cabinet, o'r hyn y gallech ei gyflawni pan fyddwch yn gweithio ar draws Glawdd Offa.

Rwyf hefyd yn gwneud y pwynt yn fy sylwadau agoriadol ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud y gwahaniaeth o fod, yn anffodus, yn economi gyflogau isel i fod yn economi sy'n darparu cyflogau sy'n cymharu'n well â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi defnyddio'r enghraifft o'r £49 yr wythnos yn mynd i becynnau cyflog yn yr Alban, ond gallwn fod wedi dewis unrhyw ranbarth yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd, yn anffodus, gennym ni y mae'r cyflog mynd adref isaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Nid yw'r ddogfen hon, unwaith eto, ond yn defnyddio'r gair 'cyflogau' ddwywaith. Mae'n crybwyll y gair 'cyflogau' ddwywaith, ac o ran trethi, sy'n arf newydd gan Lywodraeth Cymru, mae mewn gwirionedd yn sôn am 'drethi' unwaith. Yn sicr, mae'r rheini'n feysydd mawr y dylai unrhyw ddogfen economaidd edrych arnynt, os yw'n edrych ar wella bywydau pobl Cymru.

Ac yna yr her fawr i ni o ran creu swyddi a chadw swyddi, sydd wedi'i drafod yn y Siambr hon, ynghylch awtomatiaeth, os edrychwch ymhen wyth mlynedd, yr amcanestyniadau yw y bydd 25 y cant o'r swyddi yn cael eu colli yma yng Nghymru oherwydd awtomatiaeth—neu eu haddasu i rolau newydd os ydym yn ddigon gwybodus i wneud yn siŵr ein bod yn cadw gyda'r cynnydd hwnnw. Erbyn 2035, bydd 35 y cant o swyddi yma yng Nghymru yn cael eu colli neu eu haddasu. Gobeithio mai addasu fydd yn digwydd, nid colli. Ond unwaith eto, nid yw'r ddogfen yn cynnig unrhyw gyfeiriad ynglŷn â sut y byddwn yn gweithio gyda diwydiant a sut y bydd polisi Llywodraeth yn ceisio gweithredu'r newid a helpu busnesau i weithredu'r newid. Yn sicr, unwaith eto, dylai unrhyw ddogfen sydd â gweledigaeth ar gyfer lle rydym yn mynd i fod yn y dyfodol fynd i'r afael a hynny'n uniongyrchol.

Os caf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb—efallai'n wir mai camgymeriad argraffu ydyw, ond rwy'n sylwi, lle mae'n sôn am brosiectau seilwaith trafnidiaeth a gaiff eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru ar dudalen 37, mae'n sôn yn benodol iawn am borth y gogledd-ddwyrain ar yr A494, mae'n sôn am drydydd croesiad y Fenai; nid yw'n crybwyll y llwybr du, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n dweud 'M4', atalnod llawn. O ystyried yr hyn a wyddom am y costau cynyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwnnw, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mai amryfusedd yw hynny a'i fod mewn gwirionedd yn rhan allweddol o bolisi Llywodraeth i ddarparu llwybr du yr M4—nid gwelliannau ar yr M4 yn unig, ond llwybr du yr M4? Rwy'n cymryd mai amryfusedd ydyw, ond mae'n rhywbeth y sylwais arno wrth ddarllen y ddogfen. Er gwaethaf y disgrifiad manwl o brosiectau trafnidiaeth eraill, ceir nodyn braidd yn amwys o ran yr M4, a chredaf y byddai llawer o bobl yn dymuno deall yn union sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â phwysau'r costau hynny o fewn ei gyllideb.

Felly, byddai wedi bod yn dda sefyll yma heddiw a chymeradwyo'r ddogfen hon, ond gydag ychydig neu ddim—[Torri ar draws.] Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn amlwg yn ochneidio. Fel y dywedodd Hefin David yn gynharach, roedd y Russell George go iawn yn y ddadl ddiwethaf. Mae'r Andrew Davies go iawn yn angerddol ynghylch gwneud yn siŵr fod datblygu economaidd yn cyrraedd pob cymuned yng Nghymru, ac rwy'n derbyn yn llwyr—rwy'n derbyn yn llwyr—fod gan y Llywodraeth fandad tan 2021, ac y bydd y penderfyniadau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn effeithio ar gymunedau ar hyd a lled Cymru. Byddai'n dda sefyll yma a chael hyder bod y ddogfen hon yn gwneud gwahaniaeth o gymharu â'r tair a'i rhagflaenodd.

Ond fel y dywedais, gydag ond ychydig neu ddim gwybodaeth economaidd yn mynd i mewn i'r ddogfen hon y gallwn ei weld neu y gallwn ddod o hyd i nodiadau ymchwil yn ei gylch, gydag ond ychydig neu ddim dangosyddion i fesur cynnydd a chyfeiriad y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gyflawni, a chydag ond ychydig neu ddim cyfeiriadau at y tair her fawr y credaf y dylai unrhyw ddogfen economaidd fynd i'r afael â hwy—sef codi cyflogau yma yng Nghymru; gweithio gyda diwydiant i wneud yn siŵr fod agenda awtomatiaeth yn canolbwyntio ar ddiogelwch swyddi, a bod swyddi'n cael eu diogelu a'n bod yn parhau i greu swyddi o safon; ac uwchlaw popeth ein bod yn gweithio ar draws ein ffiniau gyda'r cyfleoedd economaidd sydd yno gyda'r cyfleoedd datblygu economaidd datganoledig sydd gan y meiri a meiri metro yn Lloegr; nid yw'r ddogfen hon yn cyffwrdd ag unrhyw un o'r materion hynny—sut y gallwch gael hyder fod y ddogfen yn wahanol i'r tair a'i rhagflaenodd mewn gwirionedd? A dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies heddiw, yn dweud nad oes gennym hyder y bydd y ddogfen hon yn gwneud y newidiadau yr hoffai pawb ohonom eu gweld yma yng Nghymru.

17:50

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Caroline Jones.

Gwelliant 1. Neil Hamilton

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu:

a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;

b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a

c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn fordd fwy cymesur.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Cyflwynodd UKIP welliant 1 i dynnu sylw at y sefyllfa rydym ynddi o ran economi Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn beio'i gilydd am y sefyllfa economaidd enbyd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw bod y ddwy blaid ar fai. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru ers bron 20 mlynedd, ond wedi methu gwella ein perfformiad economaidd. Arweiniodd yr ymwneud di-glem â chronfeydd strwythurol yr UE at gwymp Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru. Yn anffodus, ni ddysgwyd gwersi o hyn ac o ganlyniad, gwastraffwyd biliynau o bunnoedd a methodd wella ein ffawd economaidd. Roedd arian Amcan 1 i fod yn gyfle unigryw i wella economi Cymru. Mae'n feirniadaeth ddamniol o Lywodraethau Llafur Cymru olynol, wedi eu cynnal gan lywodraethau eraill, fod Cymru wedi parhau i fod yn gymwys i gael arian yr UE.

Addawodd strategaeth economaidd gyntaf y Blaid Lafur y byddai'n cau'r bwlch cynnyrch domestig gros rhwng Cymru a gweddill y DU. Aethant ati hyd yn oed i osod targed o 90 y cant o gynnyrch domestig gros y DU erbyn 2010. Nid yn unig ei bod wedi methu cyflawni'r twf hwnnw, aeth ein heconomi tuag yn ôl. Daeth y targed i fod yn ddyhead, ac yn rhan o hanes pan gafodd ei anghofio'n dawel bach.

Mae amryw o Weinidogion Llafur bellach yn beio Llywodraeth Dorïaidd y DU am dlodi Cymru, ond yn ystod degawd cyntaf y Cynulliad hwn roedd gennym Lywodraeth Lafur a Changhellor a gredai mewn benthyca a gwario enfawr, ac yn yr amser hwnnw aeth ein heconomi tuag yn ôl.

Bellach mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd wedi cyfyngu'n aruthrol ar wariant cyhoeddus oherwydd y llanastr ariannol a adawyd ar ôl gan Gordon Brown. Fodd bynnag, maent hefyd yn rhannol gyfrifol am y llanastr rydym ynddo. Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi gosod mwy o faich dyled ar ein heconomi. Ie—dyled a ddefnyddiwyd i ariannu—

17:55

Oedd, roedd hi. Dyna pam y gadawodd.

Dyled a ddefnyddir i ariannu prosiectau balchder fel HS2, a fydd yn costio dros £70 biliwn i drethdalwyr y DU ac sydd wedi ei gamreoli'n aruthrol—a'r ffrae sy'n ymwneud â staff sy'n gadael yn cael gordaliad o bron £2 filiwn yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o enghreifftiau o wastraff, sydd wedi arwain at fwy na dyblu'r costau, ac mae rhai adroddiadau'n awgrymu y gallai dreblu'r costau cychwynnol erbyn y caiff ei gwblhau. Dyled a ddefnyddir i ariannu cyllideb gymorth tramor ddireolaeth, cyllideb sydd bellach dros £12 biliwn.

Na, na, na. Mae'n ffaith. Mae'n ffaith. Y ffaith hon.

Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf clywsom am brosiect—[Torri ar draws.] Na. Clywsom am brosiect sydd i fod i ddarparu ffynhonnau, pympiau dŵr a systemau dyfrhau ledled Affrica ddeheuol, ac eto, ni chyrhaeddodd bron 70 y cant o'r cyllid hwnnw y bobl roedd i fod i'w cyrraedd. Aeth ar ffioedd ymgynghori, gyda staff yn cael eu talu £600 y diwrnod.

Sut y gallwn gyfiawnhau cyllideb gymorth tramor lle mae'r buddiolwr uchaf, Pacistan, yn gwario dros £2 biliwn y flwyddyn ar arfau niwclear, a'r degfed buddiolwyr mwyaf, India, yn gwario £1 biliwn ar raglen ofod? Dewch wir. Gadewch i ni wneud pethau'n iawn. Rhaid inni ddefnyddio cymorth tramor er budd y bobl sydd angen y cymorth hwnnw mewn gwirionedd, ac nid yw'n eu cyrraedd.

Rwy'n ansicr a ydych yn dadlau dros ddefnyddio'r gyllideb gymorth tramor mewn ffordd wahanol neu a ydych am dorri'r gyllideb gymorth tramor. Oherwydd mae eich cyd-Aelod sy'n eistedd wrth eich ymyl yn aml yn dweud wrthym sut y byddech chi'n hoffi i'r rhan honno o gyllideb y DU gael ei lleihau'n helaeth.

Ie, ond mae wedi bod yn y papur, David, ac ar y newyddion, fod eich plaid chi hefyd am ei thorri.

Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r gorau i wastraffu trethi trethdalwyr gweithgar a chanolbwyntio yn hytrach ar sicrhau bod cwmnïau amlwladol mawr yn talu eu cyfran deg. Dylent gael gwared ar HS2 a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sydd o fudd go iawn i'r DU, megis band eang cyflym iawn a chysylltedd symudol ym mhobman.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae angen iddynt ddarparu polisi economaidd hirdymor yn seiliedig ar economi dreth isel a rheoleiddio busnes yn fwy cymesur, yn hytrach na mynd ar drywydd agenda wrth-fusnes. Mae gan bob person yng Nghymru, ac yn y DU yn wir, hawl sylfaenol a hawl ddynol i cael to uwch eu pennau ac nid yw hyn yn wir a dyma y byddaf yn ymladd i'w newid.

Rhaid i'r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd er lles a budd Cymru yn hytrach na pharhau i feio ei gilydd a gwneud dim am y peth. Mae eich dwy blaid ar fai ac mae gennych eich dwy yr offer i drwsio ein heconomi, ac mae'n bryd i chi roi pobl Cymru o flaen gwleidyddiaeth plaid.

18:00

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 2: Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Ers dod i rym yn 1999, mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi cyflwyno trioleg o dair strategaeth economaidd bwysig, a gwelwn un arall yma. Ugain mlynedd yn ôl, roedd cyflogau wythnosol yng Nghymru a'r Alban ar yr un lefel. Heddiw, mae trigolion yn yr Alban yn ennill £49 yr wythnos yn fwy. Ugain mlynedd yn ôl, roedd Cymru ar waelod y tabl cynghrair ar gyfer gwerth ychwanegol gros yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Heddiw, mae'n dal i fod yno. Mae gennym y canolrif isaf o enillion wythnosol gros yn y DU drwyddi draw, y gyfradd dwf gydradd isaf o incwm aelwydydd gros y pen, ac mae anghydraddoldeb rhanbarthol yn dal yn amlwg iawn ar draws Cymru. Anhygoel.

Ceir gwahaniaethau anhygoel o ran gwerth ychwanegol gros y pen—gwahaniaeth o £9,372 rhwng Ynys Môn yng ngogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro yn ne Cymru. Felly, yn eithaf aml, bydd fy etholwyr yn gofyn i mi, 'Janet, pam y ceir yr anghydraddoldebau hyn?', 'Janet, pam y mae'r holl arian yn aros yn ne Cymru?', ac mae'n ffaith bod yn rhaid i ni fel Aelodau yng ngogledd Cymru, weiddi'n uwch ac ymladd yn galetach.

Ond rydym yn barod i herio'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i gael yr un manteision economaidd i'n busnesau a'n trigolion yng ngogledd Cymru sy'n haeddu yr un peth. Nid yw'n fawr o syndod fod llawer o bobl yno yn edrych yn amheus ar y cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb'. Efallai y dylem gwestiynu brwdfrydedd y Llywodraeth hon dros ysgrifennu cynlluniau yn hytrach na chefnogi prosiectau ystyrlon a gweladwy, megis y gwaith aruthrol gan gynifer o bobl ar fargen dwf gogledd Cymru. Ond unwaith eto, geilw hyn ar Lywodraeth Cymru i roi eu dwylo yn eu pocedi a sicrhau eu cefnogaeth er mwyn sicrhau nad yw hon yn y pen draw yn mynd i fod yn fargen arall mewn dogfen yn unig, yn gaeth i silffoedd llychlyd Bae Caerdydd.

Mae'r gyllideb ddiweddar wedi tanseilio'r cynllun gweithredu drwy dorri £1.2 miliwn o gyllid ar gyfer arloesedd busnes, £1.7 miliwn oddi ar ganolfannau arloesi, ymchwil a datblygu, a dros £1 filiwn oddi ar y ddarpariaeth seilwaith TGCh. I mi, mae hynny'n gwrth-ddweud yn llwyr yr hyn a ddywedir am uchelgais. Prin y ceir cyfeiriad at Fanc Datblygu i Gymru. Yn hytrach na hynny, tynnwyd dros £1.7 miliwn yn awr o'i grant gweithredu y flwyddyn nesaf. Ardaloedd menter yn cael dros £221 miliwn o arian cyhoeddus, mewn rhai ardaloedd yn cyfateb i greu un swydd yn unig ar gost i'r trethdalwr o tua £250,000 am y swydd honno. Mae'n warthus. Mae gwariant blynyddol ar ardaloedd menter wedi cynyddu dros bedair gwaith mewn tair blynedd, ac eto mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi codi 0.8 y cant—yr uchaf o holl wledydd y DU.

Yn y cyfamser, mae ein perchnogion busnes gweithgar yn wynebu ardrethi busnes sy'n codi'n barhaus; mae un o fy etholwyr yn awr yn wynebu cynnydd o bron 2,000 y cant, gan gyfrannu'n gyflym at wneud Cymru y lle drutaf ym Mhrydain i redeg busnes—lluosydd 51.4c sy'n golygu y bydd busnesau'n gorfod talu dros hanner eu rhent blynyddol amcangyfrifedig mewn ardrethi, tra bo busnesau yn yr Alban a Lloegr ond yn talu 48c yn y bunt.

Pa mor anghywir yw hi, felly, i Lywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed led-awgrymu, heb sôn am argymell cynigion i gyflwyno treth dwristiaeth sydd eisoes wedi llwyddo i dolcio llawer o hyder yn ein sector twristiaeth yng Nghymru. Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Lletygarwch Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru—dim ond rhai o'r bobl sydd wedi gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon, ynghyd â busnesau eraill di-rif. Lywydd, mae economi Cymru yn hynod ddibynnol ar dwristiaeth, gan gyfrannu £8.7 miliwn bob blwyddyn a chefnogi 242,000 o swyddi. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi diwedd ar y cynnig disynnwyr hwn a chadarnhau nad oes gennych unrhyw fwriad o gwbl i fynd ar drywydd treth mor ddinistriol i iechyd economaidd Cymru? Mae ein busnesau a'n trigolion yn dibynnu arnoch i roi diwedd ar hyn unwaith ac am byth. Gadewch inni gael ffyniant ledled Cymru ac i'n sector twristiaeth.

18:05

Yn absenoldeb fy nghydweithiwr a llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fy mhleser i ydy cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ac i wneud ychydig o sylwadau.

Mae yna, heb os, rai elfennau o'r strategaeth sydd i'w croesawu: y pwyslais newydd ar yr economi sylfaenol, datgarboneiddio, er enghraifft, a'r penderfyniad hefyd i hybu busnesau i fod yn fwy cyfrifol os ydyn nhw am dderbyn cefnogaeth gan y Llywodraeth. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfeirio droeon at awtomatiaeth, yr heriau y gall awtomatiaeth eu creu i'n heconomi ni. Mae gan awtomatiaeth y potensial i ddadleoli swyddi mewn sectorau pwysig iawn i ni yng Nghymru, fel gweithgynhyrchu a phrosesu, ond hefyd manwerthu, sef y sector fwyaf yng Nghymru o ran nifer y gweithwyr.

Er mwyn i'n heconomi ni dyfu a datblygu, mae'n rhaid i ni ddeall beth ydy ein manteision cystadleuol unigryw ni fel cenedl. Gan wisgo fy het llefarydd iechyd am eiliad, efo poblogaeth sy'n heneiddio ar raddfa gyflymach na gweddill y Deyrnas Unedig, mae Cymru mewn sefyllfa dda i arloesi yn y maes hwnnw, o bosibl, wrth hybu mwy o ddefnydd o dechnoleg, er enghraifft, i wella'r gofal sydd ar gael. Ond nid yma fel llefarydd iechyd ydw i heddiw. O ddarllen y strategaeth, mi welwch chi fod yna fethiant yma, rydw i'n meddwl, i nodi lle mae a sut mae gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd unigryw economaidd sydd gan ein cenedl ni. Yn hytrach, mae'n teimlo rhywsut fel dogfen sy'n sylwebu yn hytrach na chynnig strategaeth gynhwysfawr sy'n egluro sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwrthdroi ein dirywiad economaidd ni. 

Er mwyn i strategaeth economaidd lwyddo, mae'n rhaid cael sefydliadau cryf i weithredu'r strategaeth honno. Pan oeddwn i'n llefarydd Plaid Cymru ar yr economi cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, mi gefais i gyfle i amlinellu yn glir ein gweledigaeth ni ar gamau y byddem ni'n dymuno eu gweld ar gyfer adeiladu economi Cymru. Mi oedd cael asiantaeth ddatblygu economaidd newydd yn rhan ganolog o'r weledigaeth y bûm i'n sôn amdani bryd hynny, ac o hyd braich, rydw i'n meddwl, y mae'r lle gorau i greu y capasiti a chrynhoi hefyd, rhoi ffocws i'r arbenigedd sydd ei angen i lunio a gweithredu strategaeth o'r fath.

Ar ôl yr etholiad, yn benodol yn dilyn y bleidlais ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd, mi wnaethom ni alw wedyn am roi ffocws rhanbarthol ar yr her o ddatblygu'r economi er mwyn canolbwyntio ar ffyrdd o wella economïau ardaloedd yng Nghymru sy'n syml iawn wedi cael—ac yn gwybod eu bod nhw wedi cael—eu gadael ar ôl. Mae'r strategaeth gan y Llywodraeth yn ymrwymo i fodel datblygu economaidd ar sail rhanbarthol, ac er mwyn gwireddu hynny mae'r Llywodraeth am sefydlu tri phrif swyddog rhanbarthol i arwain y strategaethau yn y rhanbarthau newydd. Ond heblaw am hynny, nid oes yna ddim sôn am yr haenau eraill sydd eu hangen; y sefydliadau economaidd cenedlaethol a fydd, mewn partneriaeth, yn gweithredu amcanion y strategaeth. Rwy'n meddwl bod y diffeithwch sefydliadol sy'n bodoli yng Nghymru—mae banc datblygu Cymru yn eithriad efallai—yn golygu ein bod ni, fel cenedl, yn methu â tharo'r traw cywir. Tan i'r Llywodraeth greu y mathau o sefydliadau economaidd sydd gan wledydd eraill—asiantaethau datblygu a hyrwyddo, masnach a buddsoddiad, corff arloesi cenedlaethol—sef rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo, nid oes gan unrhyw strategaeth o unrhyw safon ddim gobaith, rydw i'n meddwl, o gyflawni ei nod.

Gwnaf i gloi os caf i drwy wneud ychydig o sylwadau a allai fod wedi bod yr un mor berthnasol yn y ddadl ddiwethaf gawsom ni yma y prynhawn yma, sef y ffocws diddiwedd a digyfaddawd gan Lafur a’r Ceidwadwyr ar uno rhanbarthau Cymru efo rhanbarthau yn Lloegr. Dros y byd i gyd, mae perthynas economaidd trawsffiniol yn bwysig iawn, iawn, ac mae hynny'n wir yng Nghymru rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ardal dde-ddwyrain Cymru a gorllewin Lloegr, ond peidiwch â chael eich twyllo mai—

18:10

Yn fyr iawn, rwy'n meddwl bod honno'n ergyd rad iawn ac rydych yn well na hynny. Nid oes neb yn sôn am uno'r Gymru economaidd â rhanbarthau economaidd Lloegr; mae hyn yn ymwneud â chydweithio'n agosach, ac fe wyddoch yn y bôn fod hynny'n dra gwahanol.

Dyma'r pwynt a wnaf: mae cydweithredu agos yn bwysig tu hwnt. Gallwch edrych ledled y byd ar bwysigrwydd cydweithredu trawsffiniol, ond gadewch inni gofio beth yw'r ffocws yma, a bod yn realistig am y ffaith nad buddiannau Cymru sydd wrth wraidd rhai o'r datblygiadau hyn, fel y rhai y bu mawr sôn amdanynt gan Alun Cairns yr wythnos hon. Rwy'n credu bod y ffaith ei fod yn cael ei alw'n 'bwerdy gorllewinol' yn dweud wrthyf mai rhywbeth sy'n cael ei ystyried o safbwynt Prydeinig ydyw, oherwydd i mi, mae Bryste i'r dwyrain, ac rwy'n mynd ymhellach na dweud 'safbwynt Prydeinig', ond safbwynt Seisnig. A gellir dweud yr un peth am Bwerdy'r Gogledd—pwerdy Gogledd Lloegr ydyw, yn union fel y dywedodd Mark Isherwood. Gofynnwch i rywun o'r Alban beth y maent yn ei wneud o'r term 'Pwerdy'r Gogledd' ac a ydynt yn credu bod hwnnw'n gyd-destun Prydeinig.

Felly, gadewch inni gael strategaeth sy'n edrych ar economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ie, chwilio am bartneriaethau newydd, ond edrych ar sicrhau nad oes unrhyw ran o economi Cymru yn cael ei gadael heb ei chyffwrdd.

Wel, mae'n ddogfen fain. Mae Andrew R. T. Davies eisoes wedi rhoi esboniad go dda o beth allai fod wedi mynd i mewn iddi, ond mae wedi cymryd tan dudalen 4 er hynny i Lywodraeth Cymru dderbyn bod y strategaeth hon yn cynrychioli newid sylweddol. Rhaid i mi ofyn, mewn gwirionedd a yw hi wir wedi cymryd 19 mlynedd i ddod i'r casgliad fod angen newid sylweddol?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gofyn i chi newid tac ers degawdau yn llythrennol bellach, ac am reswm da: y cyflogau isaf yn y DU, y gwerth ychwanegol gros isaf yn y DU, y twf isaf yn y DU, yr incwm gwario isaf yn y DU, y lefelau buddsoddi isaf yn y DU, a'r canlyniadau PISA salaf yn y DU, yn ogystal ag ystadegau anghyffyrddus ynghylch anghydraddoldeb rhanbarthol o fewn Cymru, busnesau newydd ac ati, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed rhagor am hynny yn ystod y ddadl hon.

Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau Llafur a hyd yn oed chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dod yn ôl ac yn pwyntio at yr holl wario a wnaethoch ac yn ymosod ar Lywodraeth y DU am yr holl doriadau a diwygio Barnett. Ond a gaf fi achub y blaen arnoch yn y fan honno? Rydych wedi cael symiau uwch o lawer gan yr Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o'r DU yn ystod y cyfnod hwn. Gwnaed y toriadau hynny ar draws y DU, nid yng Nghymru'n unig, ac er ein bod yn cytuno nad yw Barnett yn iawn, rydych wedi elwa o gyllid gwaelodol drwy garedigrwydd y Ceidwadwyr ac mae'n dal i fod gennych incwm y pen uwch drwy Barnett nag sydd gan Lloegr. Ni allwch ddefnyddio'r dadleuon hynny'n ddarbwyllol i egluro pam y mae perfformiad Cymru yn cymharu mor wael â rhannau eraill y DU pan ydych wedi cael mantais uniongyrchol, neu fan lleiaf, heb fod dan fwy o anfantais na gwledydd a rhanbarthau eraill.

Felly, gadewch i ni edrych ar y newid sylweddol rydych yn ei addo. Wrth wraidd y strategaeth hon, rydych yn dweud bod yna gydnabyddiaeth fod gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid gwirfoddol eisiau gweithio gyda'i gilydd tuag at amcanion cyffredin. Wel, yn bendant nid wyf am ddadlau yn erbyn yr egwyddor hon, gan y dylai unrhyw strategaeth, economaidd neu fel arall, gasglu talent a syniadau o bob ffynhonnell. Dyna pam fy mod eisiau eich sicrwydd nad cod gan Lywodraeth Cymru yw 'gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid gwirfoddol' i olygu'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn unig. Mae'r Llywodraeth hon yn ymatal fwyfwy rhag darparu gwasanaethau cyhoeddus traws-sector ac rwy'n credu bod hynny'n gamgymeriad. Nid yw mentrau cyllid preifat gwael yn hanesyddol a'r gwallgofrwydd proffil uchel a welsom gyda Carillion yn arwydd o sector preifat cwbl ddi-hid a rheibus yn y genedl hon o fusnesau bach a chanolig. Ac yn y wlad hon o fusnesau bach a chanolig, nid oes unrhyw strategaeth economaidd yn mynd i lwyddo os ydym yn ofni neu'n pardduo ein sector preifat.

Rydym wedi cael digon o wallgofrwydd lefel uchel yn y sector cyhoeddus dros y blynyddoedd, boed ar ffurf bysiau plygu yn Abertawe neu daflu arian i lawr y draen oherwydd oedi i welliannau'r M4, ond nid oes neb yn awgrymu ein bod yn troi ein cefnau ar y sector cyhoeddus. Os rhywbeth, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd ei angen yw perthynas fwy hyderus gyda'r sector preifat ac arbenigedd negodi difrifol. Ni ddylem byth boeni mai Eira Wen sy'n eistedd wrth y bwrdd gyda Darth Vader. Ac rydych yn gwybod ein bod o blaid mentro'n ofalus wrth fuddsoddi arian y trethdalwyr ac rydym yn derbyn y bydd rhywfaint o fuddsoddiad yn methu, ond bydd ein hetholwyr—cyfranddalwyr yng Nghymru ccc, os hoffwch—yn awyddus i chi ddiogelu eu cyfran, ond ni fyddant yn diolch i chi am gyfyngu ar eich opsiynau ar gyfer gwella eu bywydau.

Ni fyddant yn diolch i chi am hyrwyddo syniadau sy'n peryglu twf ychwaith. Mae'r ddogfen hon yn crybwyll pwerau codi ac amrywio trethi. Rydym wedi sôn am ardrethi busnes a'r dreth wely ymwelwyr. Rydych yn gwybod beth yw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig a'r diwydiant ar yr olaf.

18:15

O ran polisi economaidd, y bore yma roedd nifer ohonom yn lansiad yr adroddiad o'r maes awyr, a gymerwyd i berchnogaeth gyhoeddus, sy'n dangos ffigurau perfformiad anhygoel mewn gwirionedd ond sydd, yn bwysicach na hynny, yn cynnal miloedd o swyddi. A yw plaid y Ceidwadwyr Cymreig yn dal i gredu mai camgymeriad ar ran Llywodraeth Cymru oedd dod â'r maes awyr i berchnogaeth gyhoeddus?

Wel, beth am fenter breifat? Mae mwy nag un opsiwn. Dyna'r pwynt rwy'n ei wneud yma. Yr hyn rwy'n ei weld yn y Llywodraeth hon yw mai un opsiwn yw'r unig ffordd ar hyn o bryd.

Roeddwn am orffen yn fyr ar y dreth dwristiaeth oherwydd, mewn gwirionedd, treth wely yw honno, treth wely ymwelwyr. Ac nid wyf yn meddwl ei fod—. Os ydych yn ceisio denu busnes i Gymru, nid wyf yn meddwl y dylai eich prif neges ddweud, 'O gwych, gallwn gael pumpunt ychwanegol o'ch croen tra ydyn ni'n siarad.' A allwch ddweud wrthym heddiw o leiaf pa bryd fydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad ar y cynigion treth y bydd yn bwrw ymlaen â hwy, a sut y gwneir y penderfyniad hwnnw? Credaf y byddai hynny'n dod â rhywfaint o sicrwydd i mewn i hyn.

Mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi ymdrin â'r pwynt roeddwn am wneud ar ardrethi busnes. Credaf eich bod yn twyllo eich hunain os credwch fod busnesau o'r farn mai toriad treth oedd eich cynnig, ac rwy'n gobeithio'n fawr, er mwyn yr etholwyr, y byddwch yn ailystyried sefyllfa'r lluosydd a sut y mae holl fusnesau Cymru yn debygol o fod ar eu colled yn sgil hynny.

Hoffwn orffen ar bwynt o gytundeb, er hynny. Nid yw twf economaidd yn nod ynddo'i hun, ond nid yw llesiant canlyniadol yn ganlyniad goddefol i dwf economaidd. Swyddi da, gwasanaethau cyhoeddus a ariennir yn dda, cymdogaethau diogel, ffydd yn ein system ofal—mae'r rhain i gyd yn galw am ddinasyddion hyderus a galluog wedi eu grymuso drwy addysg, rhyddid ac anogaeth i unigolion fod yn weithredwyr pwysig yn eu dyfodol cyfunol, gan gysylltu cyfranogiad mewn twf economaidd â manteision hynny. Ein pobl ddylai fod yn brif ased i ni—byddant yn dod ag enillion mawr i Gymru. Defnyddiwch y strategaeth economaidd i fuddsoddi mewn grymuso cymdeithas sifil, oherwydd mae cyfalaf cymdeithasol hefyd yn talu ar ei ganfed. Diolch i chi.

Hoffwn rannu'r siom ddifrifol iawn a fynegwyd yn y Siambr hon heddiw nad ydym erioed wedi cael Llywodraeth Lafur fwyafrifol yng Nghymru. Credaf fod hynny'n rhannol yn egluro rhai o'r sylwadau a ddaeth gan UKIP a'r Ceidwadwyr, yn arbennig. A gallaf weld na chyfrannodd Russell George—nid wyf yn gwybod a yw'n bwriadu gwneud hynny yn y ddadl hon—

O, dyna ni. Wel, edrychwn i weld a yw am chwarae plismon da, ond yn sicr fe gawsom y plismon drwg i ddechrau, a wrthododd y cynllun economaidd, y credaf ei fod yn gynllun economaidd da, mewn un frawddeg yn y cynnig. A chredaf fod dadansoddiad sy'n—. I fod yn deg â Suzy Davies, mae hi wedi mynd ati'n fanwl a thrylwyr—nid dyna fy safbwynt ideolegol i yn ôl pob tebyg, ond dadansoddiad manwl a thrylwyr yn sicr o'r cynllun economaidd sy'n gwneud cyfiawnder ag ef. Nid wyf yn meddwl bod y cynnig yn gwneud hynny, a dyna pam y bydd hi'n bleser pleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw heddiw.

Ac mae wyneb gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, sydd wedi gwrthod trydaneiddio prif reilffordd y Great Western, datganoli toll teithwyr awyr, a morlyn llanw bae Abertawe eto i'w gytuno—. Gallai'r Llywodraeth hon yn y DU wneud cymaint i economi Cymru ac mae'n methu gwneud hynny, a gallai hynny fod wedi cael ei gydnabod yn eu cynnig hefyd o bosibl. Ac yna, fe gewch feirniadaeth UKIP. Wyddoch chi, rwyf fi mor bell oddi wrth UKIP fel na fydd modd pontio'r pellter hwnnw byth, ond mae UKIP eu hunain yn sôn am reoli'r economi pan nad ydynt prin yn gallu rheoli eu grŵp eu hunain ac wrth i'w plaid chwalu. [Torri ar draws.] Rydych yn meddwl lle mae—[Torri ar draws.]—lle mae—[Torri ar draws.]—lle mewn gwirionedd mae'r ideoleg o fewn UKIP, sy'n egluro'r ffordd y mae'r blaid yn chwalu.

Felly mae meincwyr cefn Llafur wedi bod yn gweithredu'n eithaf adeiladol hefyd, ond fel ffrindiau adeiladol a beirniadol i'r Llywodraeth hon. A'r hyn rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth ei wneud yw cynnwys yn y strategaeth economaidd y pethau roeddem am eu gweld, ac un o'r pethau hynny oedd yr economi sylfaenol, a chydnabu Rhun ap Iorwerth hynny yn y pethau a ddywedodd, a chroesawodd yr agweddau hynny, ac mae'n braf gweld bod yr economi sylfaenol yn cael ei chydnabod ynddi. Dywedodd Russell George wrthyf y diwrnod o'r blaen, 'Rydych bob amser yn sôn am fusnes; dylech fod yn y Blaid Geidwadol', ond mewn gwirionedd—ar ddiwedd yr araith hon, ni fyddwch fy eisiau—buaswn yn dweud bod cymorth i fusnesau, busnesau bach, y busnesau bach sy'n bodoli yn ein cymunedau yn y Cymoedd, a hunangyflogaeth yn ymwneud yn llwyr mewn gwirionedd â pherchnogaeth ar y dulliau cynhyrchu. Ac yn yr ystyr hwnnw, buaswn yn dweud mai cyfluniad sosialaidd yw busnes bach a chydnabyddir hynny yn y cynllun economaidd hwn.

18:20

Diolch i chi, Hefin, rwy'n ddiolchgar am hynny. Oni allwch weld y diffyg sylfaenol yn y ddogfen hon, os darllenwch hi, nad oes unrhyw gynllun i ddweud ble fyddwn ni arni ar ddiwedd y broses hon? Yn fy sylwadau agoriadol, soniais ble rydym yn mynd i fod ar gyflogau, ble rydym yn mynd i fod ar werth ychwanegol gros—nid oes paramedrau i'r hyn rydym yn gweithio tuag ato, felly sut y gallwch ddweud y gall y ddogfen hon ennyn hyder pan nad oes llwybr clir o ran lle y byddwn ymhen pum mlynedd neu ymhen 10 mlynedd?

Byddai gennyf fwy o barch at y ddadl honno pe bai wedi'i adlewyrchu yn y cynnig a roddwyd gerbron y Siambr hon, yn hytrach na'i ddiystyru'n unig er mwyn rhoi llinell dda ar Twitter. Ond mae'n rhyfedd fod eich beirniadaeth o'r cynllun economaidd hwn mor gryf pan oedd y ddadl flaenorol ar y fargen ddinesig mor adeiladol. Nid wyf yn deall, oherwydd mae'r pethau hyn yn mynd law yn llaw, a'r unig ffordd y mae'r fargen ddinesig yn mynd i fod yn effeithiol yw os yw'r cynllun economaidd hwn yn gweithio law yn llaw â hynny, ac rwy'n credu yn sicr y gwnaiff.

Ochr yn ochr â hynny, mae gennym fetro de Cymru, a fydd yn rhan ohono. Mae gennym fargen ddinesig, ac mae gennym gynllun gweithredu'r Cymoedd. Un o'r pethau y buaswn yn ei ddweud am elfen yr economi sylfaenol, a beirniadaeth fach yw hi, un a grybwyllais wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor, yw bod yna bedwar sector sylfaenol yn y cynllun gweithredu economaidd, ond ceir saith sector sylfaenol yn adroddiad cyflawni'r Cymoedd. A chredaf fod angen—. Efallai yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y pethau hynny'n gweithio gyda'i gilydd, ac efallai hefyd y bydd hynny'n mynd rywfaint o ffordd, rwy'n credu, tuag at fynd i'r afael â phryderon y Ceidwadwyr, a hyd yn oed eu perswadio, yn y pen draw efallai, i bleidleisio yn erbyn eu cynnig gwirion eu hunain.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, a rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn siomedig gyda rhai o'r cyfraniadau hyd yma. Roeddwn yn synnu na wnaeth Rhun ap Iorwerth, yn ei feirniadaeth o Lywodraeth Cymru, ystyried y ffaith ein bod, am bedair blynedd yn ystod y degawd diwethaf, wedi cael Gweinidog yr economi a oedd yn Ddirprwy Brif Weinidog o Blaid Cymru, ac yn ystod ei gyfnod yn y swydd, dioddefasom y dirywiad economaidd gwaethaf yn hanes y Cynulliad.

Nid yw'r ffigurau'n dangos hynny, a charwn eich atgoffa, yn y blynyddoedd hynny, fod Cymru wedi cymryd rhai o'r camau y methodd Llywodraeth y DU eu cymryd i wrthsefyll y problemau gwaethaf a achoswyd gan y dirywiad ariannol.

Mae'n ddrwg gennyf, fe ildiais er mwyn derbyn ymddiheuriad, ond yn amlwg ni chefais un. Rhaid i mi ddweud fy mod hefyd yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru i'w gweld yn deall mai busnesau sy'n creu'r cyfoeth, sy'n talu'r trethi ac yn talu'r aelodau o'r cyhoedd, sydd wedyn yn talu am wasanaethau cyhoeddus. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i chi gael sylfaen fusnes, busnesau bach, canolig a mawr, Hefin—nid busnesau bach yn unig—ac mae pob un ohonynt yn gwneud daioni i gymdeithas.

Nawr, un agwedd bwysig ar fusnes yng Nghymru, y cyfeiriwyd ati yn y ddadl hon, yw pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth, ac mae'n arbennig o bwysig yng ngogledd Cymru, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, oherwydd buddiannau ei etholaeth ei hun. Mae'r diwydiant twristiaeth wedi cael ei frawychu'n llwyr gan yr awgrym hwn y gallai fod treth ar lety ledled Cymru ar adeg pan nad oes unrhyw drethi o'r fath mewn mannau eraill yn y DU, ac ar adeg pan fo busnesau twristiaeth eisoes yn talu treth gorfforaeth, TAW, yswiriant gwladol cyflogwyr, a llu o drethi eraill megis ardrethi busnes. Mae hynny wedi brawychu llawer o'r busnesau hynny. Mae llawer ohonynt yn fy etholaeth i bellach yn ymatal rhag buddsoddi yn eu busnesau. [Torri ar draws.] Nid yw'n nonsens; fe anfonaf y negeseuon e-bost atoch. Fe anfonaf y negeseuon e-bost atoch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pobl yn ymatal rhag buddsoddi yn eu busnesau oherwydd nad oes ganddynt unrhyw syniad beth sy'n mynd i ddod nesaf gan Lywodraeth Cymru. 'Pam eu bod yn pigo arnom ni?', dywedant. Rydych wedi eu brawychu. Rydych wedi eu brawychu, ac rwy'n tybio'n gryf fod eich Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fy safbwynt. Felly, pan fyddwch yn cael gwared ar y cynnig hurt hwnnw, byddwch yn clywed llawer o weiddi hwrê ar y meinciau hyn, oherwydd mae angen ei roi yn y bin sbwriel cyn gynted â phosibl.

Ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw seilwaith er mwyn creu ffyniant, pwysigrwydd mynediad gweddus at fand eang, rhywbeth y mae llawer o fusnesau a llawer o gartrefi yn dal i aros amdano, yn enwedig yng ngogledd Cymru ac yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru. Mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw seilwaith trafnidiaeth addas—cyfeiriwyd ato yn y ddadl ddiwethaf—fel y gallwn gyfeirio peth o'r ffyniant o'r ardaloedd hynny o'r wlad sy'n gwneud yn dda iawn, pa un a ydynt dros y ffin yn Lloegr, Rhun, neu yng Nghymru. Ond rwy'n dweud wrthych: nid wyf o blaid cau llen o lechi ar draws ein ffin, a cheisio anwybyddu'r ffaith bod llawer o bobl yn croesi'r ffin honno—[Torri ar draws.] Nid wyf yn cyhuddo'r Llywodraeth o fod eisiau hyn; rwy'n cyhuddo Rhun ap Iorwerth o fod eisiau hyn. At hyn y cyfeiriai. Y realiti yw bod cysylltiadau economaidd cryf rhwng gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru, a rhwng ardal Birmingham ac ardal Sir Amwythig a chanolbarth Cymru, a rhwng de Cymru a Lloegr o ran Bryste a'r ardal ddaearyddol ehangach yno. Pam na allwch gydnabod bod hynny'n rhoi cyfleoedd i ni? Rydych yn barod i wneud busnes gyda gwledydd filltiroedd lawer i ffwrdd ac eto mae'r wlad lle y ceir y cyfle mwyaf i'n busnesau yng Nghymru ychydig dros y ffin ac nid ydych eisiau cysylltu â hi.

18:25

Pa ran o 'mae'r cysylltiadau hynny ar draws y ffin yn hanfodol' nad oeddech yn ei deall?

Wel, rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn o'ch cyfraniad nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod cydweithio a thrafod yn digwydd gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Lloegr, o ran ceisio creu ffyniant yng Nghymru. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith—[Torri ar draws.] Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei safbwynt yn eithaf clir. Mae'n awyddus i gael cysylltiadau ag ardaloedd yn Lloegr a fydd yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru o ran hybu ein ffyniant. Croesawaf hynny ac rwy'n eich cefnogi ar hynny fel Ysgrifennydd Cabinet oherwydd credaf mai dyna'r ffordd iawn ymlaen. Ond yr hyn rwy'n bryderus yn ei gylch yw nad ydym wedi cael ein seilwaith trafnidiaeth yn iawn, nid ydym wedi cael ein seilwaith band eang yn iawn. Rwy'n bryderus iawn am gyflwr yr A55, rwy'n bryderus iawn am y gwahaniaeth yn y buddsoddiad yn y de o gymharu â'r buddsoddiad yn y gogledd. Un enghraifft amlwg o hynny yw metro de Cymru, rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rydym yn ei gefnogi—gwariant o £2 biliwn, ac eto y swm rydych wedi ei ddyrannu ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru yw £50 miliwn. Hanner can miliwn yn hytrach na dwy fil miliwn o bunnoedd. Beth allai fod yn fwy o wrthgyferbyniad na hynny? Mae angen buddsoddiad arnom.

Un pwynt terfynol, os caf, Lywydd, ar Faes Awyr Caerdydd, y cyfeiriwyd ato yn gynharach. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd i gyrraedd sefyllfa yn y diwedd lle bydd yn gwneud elw yn hytrach na cholledion i'r trethdalwr. Pan brynwyd Maes Awyr Caerdydd am £52 miliwn, o ran y buddsoddiad cyffredinol, roedd yn seiliedig ar fod y busnes yn gwneud elw yn llawer cynharach nag y mae'n mynd i wneud elw. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn edrych ar y rhagolygon a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ein hymchwiliad—

—roedd yn eithaf clir y dylent fod yn cael tua 1.75 miliwn o deithwyr bob blwyddyn ar y pwynt hwn, a'r gwir amdani yw eu bod i lawr ar oddeutu 1.4 miliwn. Iawn? Felly mae hwnnw'n wahaniaeth go sylweddol. Rwy'n croesawu peth o'r newid sydd wedi digwydd ym Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n cefnogi'r maes awyr ac am iddo ffynnu er lles economi Cymru. Ond rhaid inni wynebu ffeithiau fod prisiad y maes awyr yn seiliedig ar lefel hollol wahanol o berfformiad nag a welwn ar hyn o bryd.

Diolch. Lywydd—[Torri ar draws.] Lywydd, bwriadaf godi uwchlaw crochlefain cellweirus rhad yr wrthblaid. Gallaf hawlio'r tir moesol yn awr—[Torri ar draws.] Gallaf hawlio'r tir moesol yn awr a bwriadaf ei gadw.

Hoffwn—[Torri ar draws.] Hoffwn siarad am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad gan y credaf fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddogfen hon yn bethau y buom yn gweithio arnynt am y ddwy flynedd diwethaf ym Mhontypridd ac ardal Taf Elái, ac yn Rhondda Cynon Taf. Yn wahanol i'r cellwair a glywsom, rwy'n gobeithio darparu ychydig bach o ddata a rhai ystadegau ar hyn yn ogystal. Oherwydd credaf fod partneriaeth gyffrous wedi digwydd rhwng cyngor dan reolaeth sosialaidd Llafur a Llywodraeth Lafur sosialaidd sy'n cyflwyno dull Llafur sosialaidd o weithredu polisi, adfywio'r economi a datblygu ffyniant.

Credaf fod buddsoddiad a phartneriaeth Rhondda Cynon Taf gyda Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn un o'r modelau llwyddiant y dylem edrych arnynt. Mae datganoli Trafnidiaeth Cymru i ardal Taf Elái eisoes yn cael effaith sylweddol yn economaidd ac o ran adfywio. Credaf fod hwnnw'n fodel pwysig. Yn rhan o hynny a'r fasnachfraint, rwy'n credu bod datblygiad posibl unedau cynnal a chadw yn Ffynnon Taf a'r rhaglen brentisiaethau o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng Ngholeg y Cymoedd yn arwyddocaol ac yn gyffrous iawn.  

A gaf fi ddweud hefyd—? O ran addysg a sgiliau a hyfforddiant a dyhead, erbyn 2020, gyda'r prosiect ysgolion unfed ganrif ar hugain, bydd Rhondda Cynon Taf, dros y cyfnod hwnnw o 10 mlynedd, wedi buddsoddi tua £0.5 biliwn mewn ysgolion newydd, gan foderneiddio ysgolion a seilwaith addysgol newydd. Rwy'n credu mai dyma'r datblygiad mwyaf a mwyaf cyffrous o ran adnoddau a chyfleusterau addysgol ers cenedlaethau.

Ers 2012, mae yna bellach 2,017 yn fwy o fusnesau yn fy etholaeth, cynnydd o 53 y cant yn y nifer. Mae'n hen ardal lofaol, ardal a gafodd ei tharo gan holl broblemau diwydiannu a dad-ddiwydiannu wedyn, ac eto mae'n un o'r ardaloedd lle y ceir fwyaf o dwf busnes. Cynyddodd cyflogau gros yn fy etholaeth 10 y cant o'i gymharu â chyfartaledd o 5 y cant ar lefel y DU. Mae gwerth ychwanegol gros yn dal i fod yn broblem, mae'n is na chyfartaledd y DU, ond cynyddodd 21 y cant o gymharu ag 17 y cant ar gyfer gweddill y DU.

Mae diweithdra ymhlith rhai dros 16 oed wedi gostwng 2.6 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf a 5.1 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Ceir sawl her sylweddol yn ardal Taf Elái, Pontypridd a Rhondda Cynon Taf, ond mae'r bartneriaeth ei hun gyda Llywodraeth Cymru, partneriaeth o fuddsoddi mewn datganoli gwasanaethau a defnyddio hynny fel targed ar gyfer adfywio, datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r metro, datblygiadau addysgol, yn trawsnewid y gymuned honno. Credaf fod yr optimistiaeth bellach yn dechrau dod yn amlwg yno.

A gaf fi ddweud—? Efallai ar yr ochr negyddol, wrth gwrs, un o'r heriau mawr ar draws y DU—a gwyddom fod llawer wedi bod am hyn ar y cyfryngau yn ddiweddar—yw symudedd cymdeithasol. Rhaid inni gydnabod y gallwn wneud llawer o bethau o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig a'r adnoddau sydd gennym, ond ni allwn ynysu ein hunain neu dynnu ein hunain allan yn llawn o'r ysgogiadau mega-economaidd a macro-economaidd sydd gan y DU.

Felly, a gaf fi ddweud—? Pan oedd cymaint i'w ddisgwyl gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, comisiwn a oedd wedi canmol a chydnabod y cynnydd a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â thlodi plant, comisiwn a oedd wedi siarad am fwced sy'n gollwng o doriadau lles a'r effaith a gafodd hynny, pan welwch y comisiwn cyfan yn ymddiswyddo am nad oes ganddo hyder fod gan Lywodraeth y DU unrhyw ddiddordeb go iawn mewn symudedd cymdeithasol, pan fydd gennych rywun yn dweud—y cadeirydd a'r is-gadeirydd Ceidwadol—yn y bôn yn beirniadu Llywodraeth y DU am ei hamhendantrwydd, am gamweithredu ac am ei diffyg arweiniad, a phan fydd Alan Milburn, y cadeirydd a benodwyd gan y Ceidwadwyr i arwain y comisiwn hwnnw, yn dweud yn ei lythyr ymddiswyddo,

Nid wyf yn amau eich cred bersonol mewn cyfiawnder cymdeithasol, ond ni welaf fawr o dystiolaeth o'r gred honno'n cael ei throi'n gamau gweithredu ystyrlon,

dyna'r cefndir y gweithiwn yn ei erbyn i adfywio a datblygu ffyniant yng Nghymru—yn erbyn cefndir lle mae Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r fath raddau i bolisi cyni fel bod y DU bellach yn ail o'r gwaelod yn yr ardal Ewropeaidd gyfan o ran twf economaidd a chynnydd y ddyled heb ei diogelu ar gyfer y DU gyfan i £392.8 biliwn. Dyna'r cefndir economaidd rydym yn gweithio yn ei erbyn—[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro, buaswn wedi—

18:30

Mae eich amser ar ben.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r Aelodau yn y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniad. Hoffwn yn arbennig ddiolch i Mick Antoniw am hawlio'r tir moesol ac am gael gwared ar rywfaint o'r gwres o'r hyn sydd wedi bod yn ddadl fywiog a thynnu sylw at rai o'r pethau go iawn y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn ein cymunedau.

Cyn i mi ymdrin â rhai o'r pwyntiau penodol a grybwyllwyd gan yr Aelodau, hoffwn gywiro rhai o'r gwersi hanes y mae un neu ddau o'r Aelodau wedi ceisio eu rhoi. Fe wnaf hynny drwy dynnu sylw at rywfaint o'r data sydd ar gael i'r holl Aelodau—data'n ymwneud â'r cyfnod ers datganoli. Wrth gwrs, mae llawer yn cyfeirio'n ôl at yr 1980au a'r 1990au fel pe bai'n orffennol godidog yng Nghymru. Yr hyn a gofiaf fi yw bod y 1980au a'r 1990au yn gyfnod hynod o enbyd. Ers hynny, ers datganoli, mae Cymru wedi gweld y pedwerydd cynnydd uchaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU. Yn ogystal, ers datganoli, rydym wedi gweld y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn gostwng yn gynt na chyfartaledd y DU. Mae wedi gostwng 3 y cant yn y cyfnod hwnnw o gymharu ag 1.7 y cant ar draws y DU. Yn ystod y—

18:35

Fe wnaf mewn eiliad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflymach nag yn y DU, ers datganoli eto: 6.5 y cant yn uwch o gymharu â 3.1 y cant ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ers datganoli wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd: gostyngiad o 4.5 y cant o gymharu ag 1.9 y cant ledled y DU. O ran swyddi'r gweithlu, rydym wedi gweld cynnydd cyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd ers datganoli: 21.5 y cant o gymharu ag 19.1 y cant. Mae gennym 100,000 o fusnesau, y nifer fwyaf erioed. Rydym wedi gweld gwariant ar ymchwil a datblygu gan fentrau yn codi 5 y cant mewn termau real, sy'n uwch na chyfartaledd y DU o 2 y cant. Mae pob un o'r ystadegau hyn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn, a rhaid cofio hefyd, dros y cyfnod ers datganoli, rydym wedi gweld rhai o'r diwygiadau lles mwyaf creulon, yn enwedig i bobl sydd mewn gwaith, cyflwyno'r credyd cynhwysol a chyfnod estynedig o gyni y mae'r Ceidwadwyr, mae arnaf ofn, yn dal i wrthod ymddiheuro amdano. Fe ildiaf yn awr.

Diolch yn fawr iawn. Ar y diwrnod y dengys ffigurau newydd fod diweithdra ledled y DU wedi gostwng, ond wedi codi yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod diweithdra ar draws y DU yn is nag y bu ers pedwar degawd, onid oes arnoch gywilydd mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi gweld diweithdra'n codi, o gymharu â flwyddyn yn ôl?

Credaf y dylai'r Aelod edrych eto ar yr ystadegau rwyf newydd eu hamlinellu a hefyd y ffaith bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn 72.7 y cant. Dyna 0.2 y cant yn uwch na'r chwarter diwethaf a 0.3 y cant yn uwch na'r flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn dymuno hawlio llwyddiant bob mis pan fo'r ystadegau'n dangos bod gwelliannau, ond sylwais heddiw fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi bod yn eithaf tawel ar y mater hwn, yr un tawelwch efallai a glywsom ynghylch morlyn llanw bae Abertawe a'r doll teithwyr awyr hefyd.

Nawr, fel economïau datblygedig eraill, rydym yn wynebu nifer o faterion yma yng Nghymru, materion sydd wedi llywio ein cynllun gweithredu economaidd. Maent yn cynnwys heriau a chyfleoedd y pedwerydd chwyldro diwydiannol—y rheidrwydd economaidd ac amgylcheddol i ddatgarboneiddio, poblogaeth sy'n heneiddio, y newid yn natur gwaith lle mae cyflogau wedi aros yn llonydd ac ansicrwydd cynyddol. Gwaethygir y rhain gan yr her o adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel Llywodraeth Cymru, ni allwn ac ni fyddwn yn aros yn segur a gadael i'n cymunedau a'n heconomi wingo yn wyneb yr hyn sydd o'n blaenau. Mae'r bygythiadau a wynebwn yn galw am ddull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, ond sydd hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion heddiw—gweithredu ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Gan adlewyrchu'r dysgu a ddarparwyd gan sefydliadau rhyngwladol fel y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phrofiad economïau llwyddiannus megis Canada, mae'r cynllun gweithredu yn nodi dull o weithredu ar gyfer twf cynhwysol sydd, ydy, yn anelu at gynyddu twf o'i gydgrynhoi ond sydd hefyd yn cydnabod bod mynd i'r afael â chyfoeth a lles unigolion yn cyfrannu at dwf drwy wella cynhyrchiant a chystadleurwydd. Mae rôl tegwch, Lywydd, i gefnogi twf wedi ei fynegi'n glir yn y contract economaidd. Mae hyn yn gyrru'r egwyddor o fuddsoddi cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol drwy geisio cynyddu argaeledd gwaith teg, lleihau allyriadau carbon a chynnal amgylchedd cystadleuol i fusnesau. Yn gyfnewid, byddwn yn symleiddio cyllid i fusnesau ac yn darparu cynnig ehangach cystadleuol.

Nawr, un rhan allweddol o hyn yw ein hymateb i alwad gan fusnesau ac eraill am fwy o symlrwydd, ac rydym yn rhoi sylw i hyn drwy greu cronfa dyfodol yr economi. Bydd y gronfa yn cyd-fynd â chymorth ariannol rydym yn ei ddarparu drwy ein galwadau i weithredu, a lluniwyd y rhain er mwyn paratoi busnesau a'r economi ar gyfer y dyfodol, i fynd i'r afael â'r bwlch cynhyrchiant, ac i wella cyflogau a safonau byw. Bydd y contract economaidd, ein galwadau i weithredu a'n cronfa dyfodol yr economi—[Torri ar draws] fe wnaf cyn bo hir—a'n cronfa dyfodol yr economi yn dod ynghyd i newid y ffordd rydym yn gweithredu, yn asesu ac yn monitro'r modd y darparwn gymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau, ac ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd bydd gennym y contract hwnnw, bydd gennym y galwadau i weithredu, a bydd gennym y gronfa yn ei lle.

Ond gadewch i ni fod yn glir: nid yw ateb yr heriau economaidd a'r cyfleoedd a wynebwn yn ymwneud yn unig â'r hyn a wnawn yng Nghymru. Credaf fod Llywodraeth y DU, drwy ei phwerau macro-economaidd, ei hymagwedd tuag at adael yr UE a'i pholisi lles, yn ddylanwad sylweddol yn wir.

18:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais wrth Hefin David yn fy ymyriad, nid yw'r ddogfen yn cynnig unrhyw le i ddeall lle y bydd cyflogau yn y dyfodol yma yng Nghymru, ac nid yw'n cynnig unrhyw le i ddeall sut y bydd y polisïau hyn yn ysgogi gwerth ychwanegol gros, sydd ond wedi codi—gwneuthum y pwynt—0.5 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Sut y gall unrhyw un gael hyder pan nad ydych hyd yn oed yn darparu'r paramedrau y mae'r Llywodraeth yn gweithio iddynt? Rhowch rifau i ni weithio iddynt fel y gallwn ddweud wedyn a yw'n 'llwyddiant' neu'n 'fethiant'.

Yn gyntaf oll, rwyf wedi cyfleu'n glir iawn fod y dangosyddion llesiant cenedlaethol yn ddull cyson i ni ei fabwysiadu ar draws y Llywodraeth. Ond rwyf wedi dweud ar sawl achlysur hefyd y gall gosod targedau arwain at gymhellion gwrthnysig, ac o ganlyniad, gall arwain at dwf economaidd anwastad. Gall gosod targedau ar gyfer cyflogaeth, er enghraifft, lle nad ydych yn cydnabod yr anghydraddoldebau ar draws rhanbarthau, arwain at greu swyddi lle y ceir lefel uchel iawn o gyflogaeth eisoes. Yn lle hynny, yr hyn rydym yn ei wneud yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol drwy gymhwyso dull gweithredu rhanbarthol newydd, a thrwy gymhwyso contract economaidd sy'n ceisio hybu eu gwaith—sy'n ceisio hybu sicrwydd gwaith. Mae'r rhain yn faterion y credaf eu bod wedi deillio o ymgysylltiad eang gyda'r gymuned fusnes, ond hefyd gyda phobl yn y mudiad undebau llafur sy'n cynrychioli degau o filoedd o bobl sy'n dymuno gweld safonau cyflogaeth yn gwella.

Rwy'n mynd i roi sylw i rai o'r pwyntiau penodol a fynegwyd gan Aelodau, gan ddechrau yn gyntaf oll gyda'r cwestiwn ynghylch gweithio trawsffiniol. Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr nad ydym yn sôn am hyn unwaith. Mewn gwirionedd, sonnir amdano ddwywaith ar dudalen 23 yn unig. Pam y cyfeiriaf at dudalen 23? Mae hynny oherwydd ein bod hefyd yn sôn am forlyn llanw ar gyfer bae Abertawe ar y dudalen honno, sef rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn aros yn dawel yn ei gylch. Ar y dudalen honno, rydym yn dweud:

'Yn y Gogledd ac yn y Canolbarth a'r De-orllewin, byddwn yn gallu defnyddio'r ffordd newydd o weithio i gryfhau ac i ddatblygu trefniadau pwysig ar gyfer datblygu'r economi a chynllunio trafnidiaeth ar draws ffiniau.'

Nawr, nododd Darren Millar yn hollol gywir yn ei gyfraniad fod cydweithredu trawsffiniol yn hanfodol o ran trafnidiaeth a chynllunio a datblygu economaidd, ac o'm rhan ni, yng ngogledd Cymru ac ar hyd y ffin, rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymrwymo i liniaru tagfeydd ar yr A494. Rydym yn buddsoddi'n drwm yn yr A55. Rydym yn mynd i liniaru man cyfyng sef cylchfan Halton ar yr A5. Rydym hefyd yn mynd i fod yn buddsoddi'n drwm yng ngorsafoedd rheilffordd Shotton a Wrecsam. Hoffem weld Llywodraeth y DU yn ategu ein buddsoddiad drwy fuddsoddi mewn seilwaith ar ochr Lloegr i'r ffin yng Nghaer, ar yr M56 yn Helsby, ac yn hollbwysig, ar yr A5 yn ardal yr Amwythig. Mae'r rhain yn broblemau enfawr y mae'n rhaid ymdrin â hwy.

Lywydd, wrth i mi gyrraedd diwedd fy nghyfraniad, bydd yr Aelodau, yn ddiau, yn ymwybodol o strategaeth ddiwydiannol y DU, a hoffwn ddweud bod angen i Lywodraeth y DU gefnogi'r geiriau mwyn am ailddosbarthu yn y strategaeth honno gyda buddsoddiad ar draws y DU gyfan, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Galwaf ar Russell George i ymatab i'r ddadl—Russell George.

Diolch i chi, Lywydd. Nid yw'r Andrew R.T. Davies go iawn ond wedi gadael tair munud i mi gloi'r ddadl hon, felly ni fyddaf yn gallu cyfeirio at bawb a gymerodd ran wrth eu henwau, ond hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Gobeithio y gallaf sicrhau Hefin David mai'r Russell George go iawn a rhesymol y soniodd amdano yn y ddadl ddiwethaf ydw i, a chredaf fod y gwir Hefin David yn Geidwadwr hefyd. Rhaid i mi ddweud hynny.

Ond credaf ein bod i gyd yn rhannu'r un nodau yma yn y Siambr hon: rydym am weld Cymru ffyniannus yn y dyfodol, ond fel y nododd Andrew R.T. Davies yn ei sylwadau agoriadol, y farn yw nad oes gan Lywodraeth Cymru fap, wrth gwrs, ar gyfer bwrw ymlaen â datblygu economaidd hirdymor ledled Cymru. Nawr, mae strategaeth economaidd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn cynnwys digon o eiriau—17,000 i gyd. Soniais yn ddiweddar fy mod wedi ei wneud yn ddeunydd darllen dros gyfnod y Nadolig. Yr hyn y mae'n methu ei wneud yw cyflwyno uchelgais. Dyna y mae'r ddogfen hon yn methu ei wneud. Un peth sy'n hollol hanfodol—yr hyn y mae'n ei wneud: nid yw'n rhoi unrhyw dargedau. Dyna yw gwaith gwrthblaid ac Aelodau o feinciau cefn Llafur: craffu ar waith y Llywodraeth, ac mae'n anodd iddynt wneud hynny os nad oes unrhyw dargedau yn y ddogfen. Felly, yn fyr, rwy'n credu eu bod yn methu darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd ledled Cymru.

Wrth gwrs, soniodd Andrew R.T. Davies hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, am werth ychwanegol gros. Rydym ar waelod y tabl cynghrair o ran enillion wythnosol, ac rydym ar waelod y tabl cynghrair o ran anghydraddoldeb rhanbarthol.

Nawr, os dof at gyfraniad a gwelliannau UKIP, buaswn yn dweud y gallaf gytuno â rhai o welliannau UKIP. Roedd eich gwelliannau'n well na'ch cyfraniad, rhaid i mi ddweud. Siaradodd Caroline Jones am y strategaeth economaidd hirdymor, ac rwy'n falch o ddweud mai dyna'n union a wnaeth Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi ei strategaeth ddiwydiannol. Siaradodd Caroline Jones hefyd am dyfu economi Cymru. Tyfu economi Cymru—rydych yn gwneud hynny drwy gefnogi rheilffordd cyflymder uchel 2, sy'n tyfu economi gogledd a chanolbarth Cymru mewn gwirionedd. Credaf fod hynny'n bwysig.

Gwnaeth Janet Finch-Saunders a Darren Millar gyfraniadau eithriadol. Aeth Darren yn well ac yn well, ac wrth iddo fynd yn well ac yn well, aeth yn gochach ac yn gochach, ond roedd hynny oherwydd ei rwystredigaeth gyda'r dreth dwristiaeth. Nododd Janet Finch-Saunders restr o sefydliadau sy'n galw ar y Llywodraeth i ddiystyru'r dreth dwristiaeth. Felly, buaswn yn dweud: os gwelwch yn dda, Lywodraeth, diystyrwch hi, a bydd hynny, wrth gwrs, yn galluogi'r economi i dyfu.

O ran y ddogfen hon yma, ceir digon o eiriau mwyn ynddi—17,000 o eiriau mwyn—ond mae'r ddogfen yn gwneud—. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am bethau'n cael eu hepgor. Un peth y mae wedi ei hepgor yn y ddogfen hon yw unrhyw gyfeiriad at ardaloedd menter a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru. Efallai fod hynny'n gyfaddefiad ynglŷn â diffyg llwyddiant y mesurau er gwaethaf y cannoedd o filiynau o bunnoedd a roddwyd i'r prosiectau hyn dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Lywydd, rwy'n meddwl bod fy amser ar ben ond a gaf fi awgrymu'n syml y dylai Llywodraeth Cymru neilltuo yr un faint o amser ag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i'r strategaeth ddiwydiannol er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer gwella safonau byw, twf economaidd a Chymru fwy ffyniannus a chyfartal? Cymeradwyaf ein cynnig i'r Cynulliad.

18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwyf i'n symud i'r bleidlais, a'r bleidlais honno ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun gweithredu ar yr economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6631 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1. Caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol os derbynnir gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.

18:50

NDM6631 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 5, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6631 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Ac felly galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM6631 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dau ddeg wyth o blaid, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6631 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 6

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd?

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl fer, ac rydw i'n galw ar Siân Gwenllian i gyflwyno'r ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw hi. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Mi fyddaf i yn gwahodd Jane Hutt, Joyce Watson, Suzy Davies a Julie Morgan i gymryd rhan hefyd. Diolch iddyn nhw rhag blaen am eu cyfraniadau. 

Canrif ers i ferched gael y bleidlais, a ydy Cymru yn wlad gydradd? Mi fyddaf i yn cyflwyno tystiolaeth i ddangos bod Cymru ymhell, bell o fod yn gydradd o ran rhywedd. Mi fyddaf i yn dadlau bod angen rhoi blaenoriaeth i'r ymdrechion i gyrraedd at gyfartaledd, ac mi fyddaf i hefyd yn cynnig un ffordd ymarferol ynglŷn â sut y gall ein Senedd ni yng Nghymru arwain y ffordd.

Yn 1918, fe gafodd merched y bleidlais am y tro cyntaf, ond cofiwch chi, dim ond merched dros 30 a oedd efo ychydig bach o dir. Serch hynny, roedd pob dyn yn 1918 dros 21 oed yn cael pleidleisio. Anodd credu pam y byddai unrhyw un eisiau un set o reolau i ddynion a set arall i ferched, gan fychanu hanner y boblogaeth. Felly, wrth gofio'r canmlwyddiant, mae'n werth nodi nad oedd cydraddoldeb o ran pleidleisio tan 1928, mewn gwirionedd.

Wrth ddathlu gwaith y syffrajéts, mae'n amlwg ein bod ni bell, bell o fod yn wlad gydradd o ran rhywedd. Nid oes ond angen edrych ar y bwlch cyflogau rhwng dynion a menywod, yr ystadegau ynglŷn â thrais a chamdriniaeth ddomestig yn erbyn menywod, y diwylliant o aflonyddu rhywiol, a'r ganran fechan o ferched sydd mewn swyddi uchel yn y byd cyhoeddus. Fe wnawn ni ddechrau drwy edrych ar y bwlch cyflog.

Mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a merched yng Nghymru tua 15 y cant, yn codi i 25 y cant mewn rhannau o'r wlad. Mae nodi cyfartaledd cyflogau dynion a merched yn dangos yr anghydbwysedd rhwng y swyddi mae dynion yn eu gwneud, gan amlaf ar dop y pyramid, a'r swyddi mae'r merched yn eu gwneud, sy'n tueddu i fod yn is i lawr y pyramid cyflogau. Un cam sylweddol ymlaen ydy bod rhaid i gyflogwyr mawr yn y sector preifat a gwirfoddol gyhoeddi gwybodaeth am gyflogau ar sail rhywedd. Dim ond 6 y cant o gyflogwyr sydd wedi cyhoeddi eu manylion hyd yma, ac erbyn y dyddiad cau yn Ebrill, efallai y cawn ni ddarlun gwell. Ond eisoes, mae cwmnïau fel y BBC, EasyJet a Virgin wedi dangos bod bylchau mawr yn bodoli, a dyna i chi un arwydd ein bod ni'n bell o gyrraedd cydraddoldeb. 

Fe drown ni at drais yn erbyn merched a chamdriniaeth yn y cartref. Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae un o bob pedair merch yng Nghymru a Lloegr—27 y cant—yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig yn ystod eu hoes—ffigur sydd dros ddwywaith cymaint ag ydyw i ddynion—13 y cant—ac mae'r ffigur yn cynrychioli tua 350,000 o ferched yng Nghymru. 

Mae astudiaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos bod 68 y cant o ferched ar gampws coleg neu brifysgol wedi profi aflonyddu rhywiol, ac un o bob saith wedi dioddef ymosodiad rhywiol treisgar. Mae'r continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd, ac yn ganolog i'r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mae datrys y broblem yn gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol cymdeithasol ehangach. Mae'r sylw diweddar i aflonyddu rhywiol yn sgil sgandal Weinstein wedi agor y llifddorau, gyda merched o'r diwedd yn dechrau trafod eu profiadau yn gyhoeddus. Mae fy nghenhedlaeth i wedi bod yn euog o ysgubo rhai mathau o aflonyddu o dan y carped. Rydym angen sgwrs genedlaethol amdano ar frys er mwyn egluro beth ydy aflonyddu a pham nad ydy o'n dderbyniol. 

Wrth ddadlau bod diffyg cydraddoldeb yng Nghymru heddiw, fe drown at ddiffyg cydraddoldeb mewn bywyd cyhoeddus. Dau ddeg wyth y cant o gynghorwyr Cymru sydd yn fenywod. Yr un ffigur, 28 y cant, o Aelodau Seneddol Cymru sydd yn fenywod. Ac yma yn y Cynulliad, 42 y cant ohonom ni sydd yn fenywod—lle roedd cyfartaledd yn ôl yn 2003, a lle roedd y Cynulliad yn arloesi yn y byd. Ac yn anffodus, mae fy mhlaid i wedi cyfrannu at y cwymp yma, ond rwy'n falch ein bod ni wedi cytuno polisi newydd yn ein cynhadledd ni ym mis Hydref a fydd yn creu mecanweithiau newydd er mwyn cael nifer cyfartal o ymgeiswyr etholiadol. 

Mae ymchwil yn dangos bod merched yn y Cynulliad yn codi pynciau fel gofal plant, trais yn erbyn merched, bwlch cyflog a thâl cyfartal, a diffyg cydraddoldeb yn gyffredinol. Ac mae merched yn gwneud hynny lawer mwy nag mae dynion yn gwneud. Er mwyn tegwch cwbl naturiol, ond hefyd er mwyn tynnu'r rhwystrau sy'n wynebu merched yn gyffredinol, mae'n rhaid inni gael cynrychiolaeth 50:50, hanner a hanner, ymhlith y rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau yma yng Nghymru. A dyna pam rwy'n cytuno yn llwyr efo cynigion diweddar y panel arbenigol ar ddiwygio'r Cynulliad, sy'n argymell, wrth gwrs, ei gwneud hi'n ofynnol drwy Ddeddf i bleidiau gwleidyddol ddewis ymgeiswyr ar sail gyfartal o ran rhywedd.

Mae sut fecanwaith yn union sydd ei angen i gyrraedd yno yn fater i ni hoelio sylw arno dros y misoedd ac efallai'r blynyddoedd nesaf yma. Wrth ddechrau yma wrth ein traed yma yn y Cynulliad, mae yna gyfle inni wneud gwahaniaeth. Mi fyddai cael mwy o ferched yn fan hyn yn arwain at well polisïau i greu cydraddoldeb yng Nghymru. Mi fyddai hefyd yn dangos yr arweiniad angenrheidiol ar gyfer creu cydraddoldeb ar draws ein gwlad. Mae tystiolaeth ar draws y byd yn dangos bod cwotâu a deddfwriaeth rhywedd yn gwneud gwahaniaeth, ond mae o'n gorfod bod law yn llaw â newid diwylliannol anferth hefyd, a dyna pam fod cynnwys addysg gynhwysfawr ar berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd yn hanfodol. 

Fy mwriad i wrth ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ydy rhoi ffocws unwaith eto ar ddiffyg cydraddoldeb, ond gan gynnig sut medrwn ni yn y Cynulliad gyfrannu at y gwaith o ddileu anghydraddoldeb, ac yn y lle cyntaf drwy gyflwyno cwota 50:50 drwy Ddeddf, a pheidio dibynnu ar y pleidiau yn unig i arwain y ffordd. Ers 1918, mae nifer o gamau wedi cael eu cymryd tuag at gydraddoldeb, gan gynnwys gwaith y syffrajéts, ac mae llawer iawn o waith ar ôl i'w wneud. Nid oes yna ddigon o bwyslais ar y gwaith yma, a dim digon o synnwyr o frys. Mae nifer ohonom ni yn y Cynulliad wedi bod yn brwydro dros gydraddoldeb i fenywod ers blynyddoedd maith—llawer yn rhy hir, efallai—ond rŵan ydy'r amser. Mae angen i ferched Cymru gymryd yr awenau. Mae merched wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Mae'n bryd i ni fynnu cydraddoldeb ac mae'n bryd i ni, yma, ddangos yr arweiniad sydd ei angen. Dyma ydy'n cyfle ni, mae'n rhaid i ni ei gymryd o.

Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau yr Aelodau Cynulliad eraill ac, yn fwy na hynny, efallai, rwy'n edrych ymlaen at drafod efo'n gilydd sut yr ydym ni yn mynd i symud hyn ymlaen dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr.

19:00

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy'n hapus iawn i siarad hefyd heddiw. 

Yr wythnos hon, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Wrth ddechrau gweithio gyda Cymorth i Fenywod Cymru, roeddem yn benderfynol o gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan drais yn y cartref, ond hefyd i ymgyrchu dros newid. Rydym wedi gwneud cynnydd ers 1978, gyda Chymru'n arwain y ffordd yn y DU gyda Deddf nodedig trais yn erbyn menywod a phenodi ymgynghorwyr cenedlaethol; ond fel bob amser, mae'n un cam ymlaen ac un cam yn ôl. Mae adroddiad newydd brawychus gan Gymdeithas Fawcett yn honni bod cam-drin ac aflonyddu yn erbyn menywod yn endemig yn y DU a bod cyfiawnder i fenywod wedi dioddef yn sgil toriadau i gymorth cyfreithiol a chyflwyno credyd cynhwysol.

Fel y nododd Siân, mae'n ymddangos bod cynnydd yn arafu ar gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae gennym Davos yr wythnos hon—mae Fforwm Economaidd y Byd wedi rhagweld y bydd yn rhaid i fenywod aros am 217 o flynyddoedd cyn eu bod yn ennill cymaint â dynion. Gan symud ymlaen, llwyddodd Harriet Harman i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 yn y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, gan arwain at gymal, a ddaw i rym ym mis Ebrill, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni o 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau. Croesawaf y cam hwnnw ymlaen, ond rwy'n cefnogi eich galwad, Siân, am gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein Senedd, a byddaf yn gweithio gyda chi a menywod ar draws y Siambr i gyflawni hynny.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn longyfarch Siân Gwenllian ar gael y ddadl hon. Mae cydraddoldeb yn agos iawn at fy nghalon ac fe'ch cefnogaf yn llwyr yn y pethau rydych wedi eu dweud.

Pan oeddwn yn San Steffan, gwnaethom drafod y posibilrwydd bryd hynny—y menywod yn San Steffan—o geisio cael y gyfraith i benderfynu y dylai fod cwotâu, ond nid oedd yr ysbryd cyffredinol o'n plaid. Felly, yn hytrach, pasiwyd y ddeddfwriaeth a alluogodd y pleidiau gwleidyddol i ddefnyddio camau cadarnhaol i helpu menywod i ddod yn Aelodau Seneddol ac yn Aelodau Cynulliad. Golygai hynny, yn y Blaid Lafur, ein bod yn gallu defnyddio rhestrau byr o fenywod yn unig ac roeddem yn gallu defnyddio gefeillio ar ddechrau'r Cynulliad hwn, a olygai ein bod wedi dod i mewn i'r Cynulliad gyda nifer gyfartal o ddynion a menywod.

Roedd honno'n broses boenus. Roedd yn broses lwyddiannus iawn, ond credaf ein bod wedi cyrraedd y cam yn awr lle mae'n rhaid inni gael deddfwriaeth. Credaf fod y cynigion gan y grŵp sydd wedi edrych ar y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer y Cynulliad wedi cyflwyno'r hyn yr ystyriaf ei bod yn ffordd ymlaen gwbl hanfodol er mwyn cael 50:50 i bob plaid wleidyddol gyflwyno niferoedd cyfartal o ymgeiswyr. Nid wyf yn meddwl ei fod yn syml oherwydd, yn amlwg, mae gennych yr holl gwestiynau ynghylch pa seddi sy'n enilladwy a phob math o bethau felly i edrych arnynt, ond credaf fod yr hanes wedi bod mor hir a'r ymdrech wedi bod mor hir fel bod arnom ddyletswydd i bawb yng Nghymru—yn fenywod a dynion—i wneud yn siŵr fod gennym gynrychiolaeth gyfartal yma. Rwy'n meddwl na ddylem byth anghofio bod yr hyn a wnawn yma yn y Cynulliad yn gweithio er lles pobl Cymru, ac rydym yn ceisio gwella bywydau pobl yng Nghymru, ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen cynrychiolaeth gyfartal. Rydym angen i fenywod gael eu cynrychioli yma, ac mae angen yr holl bobl arnom i fod yn Siambr wirioneddol dda a chynrychiadol. Felly, rwy'n eich cefnogi'n llwyr.

Diolch, Siân. Diolch yn fawr am gyflwyno'r ddadl hon. Y ffigur ar gyfer llywodraeth leol, cynrychiolaeth menywod, yw 28 y cant os cofiaf y ffigur yn iawn. Ar adeg pan fo cyni'n taro'n galed iawn, yr holl ffordd i lawr i gyllidebau llywodraeth leol, mae prinder menywod o amgylch y bwrdd yn y lle cyntaf a phrinder difrifol menywod i yrru agendâu economaidd mewn cabinetau yn destun mwy byth o bryder, gan mai'r canlyniad yw nad yw'n edrych fel pe bai gan fenywod lais hyd yn oed—mae'n gwbl dawel. Felly, pan fyddwch yn torri'r cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau y mae menywod yn dibynnu arnynt fwyaf, mae'n eithaf hawdd gwneud hynny—neu beidio â meddwl am y peth hyd yn oed—os nad yw menywod yn eistedd o amgylch y bwrdd.

19:05

A gaf fi ddiolch i chi? Diolch, hefyd, Siân. Gwnaethoch bwyntiau pwerus iawn heddiw, yn enwedig mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod ac yn amlwg yr agwedd tuag at sylw di-eisiau.

Weithiau, mae pethau fel hyn yn dod i'r berw go iawn, a'r hyn yr hoffwn ei weld yn dod i'r berw yn awr yw sut y mae cymdeithas yn gwerthfawrogi cryfderau a briodolir yn draddodiadol—ac rwy'n golygu fel stereoteip bron—i fenywod. Yn sicr rwy'n parchu eich dadl, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi eto mai statud yw'r ffordd o wneud hynny, byddai'n llawer gwell gennyf gefnogi sefydliadau fel Women2Win a Chwarae Teg, sy'n helpu cymdeithas, a menywod eu hunain lawn cymaint, i ddeall mai cryfderau menywod sydd eu hangen arnom mewn gwleidyddiaeth. Dyna fyddai fy hoff lwybr, nid yn lleiaf oherwydd fy mod yn poeni braidd y  byddai cwota statudol yn cyfyngu ar y cyfle mewn gwirionedd i fwy na 50 y cant o fenywod ddod i'r lle hwn. Ac rwy'n credu bod y cryfderau sydd gan fenywod yn gyffredinol yn ddadl dda iawn dros gael mwy na 50 y cant. Diolch.

Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl eithriadol o bwysig hon. Pleser o'r mwyaf yw bod yma i dystio iddi. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod i'n bersonol wedi fy ethol oddi ar restr fer a gynhwysai fenywod yn unig—rhywbeth y brwydrodd fy mhlaid drosto am flynyddoedd, ac mae llawer o'r menywod a frwydrodd drosto gyda ni yn y Siambr. Mae'n rhywbeth yr oeddwn yn hynod o falch fod fy mhlaid yn yr etholaeth wedi ei gefnogi i'r carn, oherwydd gallent weld drostynt eu hunain pa mor anodd yw hi i fenywod gamu ymlaen ym myd cystadleuol dethol ymgeiswyr, ac yn y blaen.

Gall y broses ddethol ynddi ei hun weithio yn erbyn y cryfderau sydd gan fenywod o ran cydweithio ac ati. Bob tro yr awn drwy un o'r prosesau dethol hynny yn ein plaid ein hunain, rydym yn brwydro unwaith eto yn erbyn y broblem o ddewis rhwng cydweithwyr a ffrindiau ac ati. Credaf fod cydweithio a'r holl ysbryd sydd ynghlwm wrth hynny yn rhywbeth y mae angen i ni ei gynnwys yn ein pleidiau gwleidyddol er mwyn hyrwyddo'r agenda hon. Ond rwy'n sefyll yma yn bendant fel rhywun a etholwyd oddi ar restr fer o fenywod yn unig ac rwy'n falch iawn mai felly y bu.

Gwibiodd Siân drwy nifer fawr o faterion y mae angen inni eu symud ymlaen o hyd, a chredaf fod y rhan fwyaf ohonom yn ddig ac yn drist fel ei gilydd ynghylch rhai o'r pethau a drafodwyd gennym yma heddiw. Felly, fe wibiaf drwyddynt hefyd. Cyflog cyfartal: wrth gwrs y dylem gael cyflog cyfartal. Mae blynyddoedd ers Deddf Cyflog Cyfartal 1970 ac roedd y Ddeddf cyflog cyfartal yn beth gwych, ond nid yw'n cael ei gweithredu. Roedd angen Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn gorfodi'r Ddeddf Cyflog Cyfartal i gael ei gweithredu. Mae'n warthus mewn gwirionedd. Mater tryloywder—rhaid i chi orfodi pobl i fod yn dryloyw, rhywbeth a wneuthum yn fy mywyd fy hun sawl gwaith pan oeddwn yn negodi fy nghyflog fy hun mewn cwmnïau cyfreithiol yn y sector preifat a byddent yn dweud wrthyf beth fyddai fy monws neu beth bynnag y byddai, a byddwn innau'n dweud, 'Beth y mae'r dynion yn ei gael?' Mewn cwmnïau lle nad yw'n broblem, maent yn dweud wrthych ar unwaith a lle na fyddant yn dweud wrthych, nid yw byth oherwydd nad ydynt yn cael cymaint â chi.

Felly, rhaid i mi ddweud mai un o'r pethau rwyf wedi hoffi hefyd ers bod yma yw prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg. Mae'n dysgu menywod ifanc i wneud yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Ac roedd y codiad cyflog cyfartalog o ganlyniad i'r prosiect hwnnw yn £3,000 y flwyddyn i'r menywod hynny, oherwydd yr hyn y maent yn ei wneud yn dda yw eu dysgu sut i sefyll dros eu hawliau, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud.

Ceir yr agenda aflonyddu rhywiol, y pethau a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol, y rhywiaeth bob dydd y bydd rhai ohonoch chi'n ei ddilyn mae'n siŵr, #ThisIsMe ac ati. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau diddorol iawn o amgylch Cymru am #ThisIsMe, gyda phobl yn dweud, 'Nid yw pob menyw yn cael profiad felly' ac nid wyf erioed wedi bod mewn ystafell lle mae menyw wedi dweud, 'Wel, nid wyf fi wedi cael profiad felly.' Erioed. Efallai mai fi'n unig yw hynny, ond ni chlywais hynny erioed. A'r rheswm am hynny yw bod menywod wedi cael eu dysgu i gadw'n ddistaw am bethau o'r fath, ac yn awr mae yna fenywod ifanc nad ydynt yn cael eu dysgu i gadw'n ddistaw yn codi llais ac rwy'n eu cymeradwyo am wneud hynny ac mae angen inni eu cefnogi bob cam o'r ffordd.

Lywydd, os nad ydych wedi ei weld—nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwylio rhaglenni o'r fath, neu wedi gwneud hynny—mae yna raglen o'r enw Have I Got News For You ac mae gwylio Jo Brand, y digrifwr, yn dweud wrth Ian Hislop pam nad yw ei sylwadau dibwys am aflonyddu rhywiol yn dderbyniol yn rhywbeth rwy'n ei argymell i'r Siambr gyfan. Mae'n werth ailedrych arno. Fe ddywedodd hynny'n rymus iawn a hyn ydoedd yn syml: gallai patrwm o ymddygiad ymddangos yn ddibwys ar y cychwyn, ond gall gronni hyd nes ei fod yn tanseilio'r person sy'n dioddef yr ymddygiad hwnnw yn llwyr. A hyd nes y deallwn fod y gyfres o bethau dibwys yn arwain at y pwynt hwnnw lle y cânt eu tanseilio, yna nid oes gennym unrhyw synnwyr o sut brofiad y gallai hwnnw fod. Amlygwyd hyn gan Siân Gwenllian, a'r holl fenywod a siaradodd mewn gwirionedd: heb leisiau menywod i wneud hynny'n glir, ni chaiff y pethau hynny eu deall, a dyna pam rydym yn bwysig. Mae'n bwysig ein bod ni yma.

Ceir pentwr cyfan o agendâu eraill sy'n bwysig hefyd. Ceir llawer o 'faterion menywod' mewn dyfynodau ac mae wedi fy ngwylltio ar hyd fy oes eu bod yn 'faterion menywod'. Mae fy mhlant yn perthyn i fy mhartner lawn cymaint ag y maent yn perthyn i mi. Mae gofal plant yn llawn cymaint o fater iddo ef ag y mae i mi. Mae hynny yr un fath ar gyfer pob un o'r hawliau hynny: maent yn faterion ar gyfer pob bod dynol. Nid yw'r ffaith mai menywod sy'n ysgwyddo'r beichiau hynny yn iawn ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Dyna pam y mae ein lleisiau'n bwysig o ran cael y rheolau hynny ar waith a'r ddeddfwriaeth ar waith sy'n galluogi pobl i gymryd eu lle cywir yn ein cymdeithas.

Felly, rwy'n hollol benderfynol, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, o weld pob bwrdd cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth 50:50. Dechreuodd fy nghyd-Aelod, Lesley, yma, y frwydr dros hynny, a llawer o gyd-Aelodau eraill—gwnaeth Jane hynny ei hun pan oedd yn y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau eraill yn gwneud hynny hefyd. Ond rwy'n dweud y byddwn yn gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ei wneud. Fe allwn wneud hynny. Mae gennyf Chwarae Teg yn gweithio arno ar hyn o bryd.

19:10

Bethan Jenkins a gododd—

Roeddwn yn meddwl tybed a allech wneud gwaith i edrych ar sut y mae menywod sydd wedi cael plant ac wedi dod yn ôl i weithio yn dioddef gwahaniaethu. Cyn i Siân gael y ddadl hon, dywedodd un o aelodau ein plaid ei bod wedi wynebu gwahaniaethu lle na allai gael dyrchafiad yn ei gweithle oherwydd y math hwnnw o—weithiau gan fenywod di-blant neu fenywod nad ydynt yn deall yr heriau hynny. Felly, pa waith pellach y gallwch ei wneud fel Llywodraeth, naill ai gyda Chwarae Teg neu sefydliadau eraill, i geisio annog menywod sydd wedi cael plant i allu camu ymlaen yn eu gyrfa?

Yn bendant. Mae hynny'n rhan fawr o'r agenda gwaith teg, ac mae Chwarae Teg yn cynnal rhaglen ar hyn o bryd sy'n achredu cyflogwyr sydd ag ethos gwaith teg, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r ethos hwnnw: gwneud yn siŵr nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy'n cymryd absenoldeb rhiant—yn amlwg, menywod yn bennaf sy'n gwneud hynny, ond dim gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n cymryd absenoldeb rhiant—ac mewn gwirionedd, fod dynion yn cael eu hannog i gymryd absenoldeb rhiant er mwyn iddynt gael yr un seibiant gyrfa â menywod, ac yna fe fyddwch yn cael peth cydraddoldeb, oherwydd mae llawer o faterion yn codi mewn perthynas â hynny. Ond yn sicr, Bethan Jenkins—rydych yn hollol iawn am hynny. Mae angen i ni wneud hynny.

Felly, rwy'n mynd i wneud un neu ddau o gyhoeddiadau cyn gorffen, Lywydd, os maddeuwch i mi. Rwy'n falch iawn ein bod yn mynd i wario oddeutu £300,000 ar ddathlu canmlwyddiant y swffragetiaid. Dywedodd Siân mai pleidlais rannol yn unig oedd hi. Tynnwyd fy sylw at y ffaith fod menywod Cymru, mae'n debyg, wedi cael y bleidlais yn 18 oed o 1865 ymlaen ym Mhatagonia—drwy garedigrwydd fy ffrind, Jeremy Miles, sydd newydd nodi hynny i mi. Felly, mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond gwyddom hefyd mai pleidlais rannol yn unig sydd gan fenywod yn Saudi Arabia yn awr, felly mae yna ffordd bell i fynd gyda hynny o gwmpas y byd.

Byddwn yn dathlu pen-blwyddi allweddol ar hyd y flwyddyn hon mewn perthynas â'r bleidlais. Rydym yn mynd i gael rhaglen 100 o Gymraësau nodedig a noddir gennym dan arweiniad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn cymryd rhan yn hynny, ac yna fe gawn bleidlais gyhoeddus dros y rhai y dylid eu cydnabod. Rydym yn mynd i gael cerfluniau newydd o fenywod go iawn o hanes Cymru, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny. Rydym yn mynd i gyfrannu tuag at ymgyrch y plac porffor, ac rydym yn mynd i gael grant ar gyfer gweithgarwch cymunedol arloesol i ddilyn hynny.

Felly, mae nifer o bethau'n mynd i ddigwydd, a'r rheswm pam rydym yn mynd i wneud y pethau hyn i gyd, ac rwy'n gorffen gyda hyn, Lywydd, yw bod hanes menywod yn anweledig. Rydych yn teithio o gwmpas y wlad ac yn siarad â menywod ifanc, ac nid ydynt yn gwybod mai menywod a wnâi'r gwaith y tu cefn i'r arfau rhyfel, nid ydynt yn gwybod mai menywod a wnâi'r gwaith a oedd yn sail i'r rhyngrwyd. A wyddoch chi mai menyw oedd yr unig berson erioed a basiodd y profion i gyd i fynd i mewn i'r—ni allaf gofio beth y mae'n cael ei alw yn awr—rhwydwaith ysbiwyr yn y rhyfel byd? Yr unig berson a basiodd yr holl brofion—gwnaeth y lleill fethu rhai ohonynt—ac ni enwyd y fenyw honno hyd yn oed. Pan ewch i Bletchley Park—dyna chi; fe ddaeth i mi—nid yw ond yn dweud 'menyw', er ein bod yn gwybod pwy oedd pob un o'r dynion. Felly, rhaid siarad am yr hanesion tawel hynny. Mae'r ymgyrch plac porffor, gyda'r teclyn bach lle rydych yn dal eich ffôn a bydd yn dweud llawer wrthych am y fenyw dan sylw a'i lle mewn hanes, yn gwbl hanfodol fel bod ein menywod ifanc yn deall y cyfraniad y mae menywod eisoes wedi ei wneud yng Nghymru, y cyfraniad y gallant hwy ei wneud a'r cyfraniad y byddant yn ei wneud yn y dyfodol i wneud Cymru yn gymdeithas gyfartal fel rydym eisiau iddi fod. Diolch, Lywydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.