Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/12/2017

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Lee Waters.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

1. Pa fesurau sydd ar waith i graffu ar y cynlluniau y mae awdurdodau lleol yn eu cyflwyno o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ51489

Mae swyddogion wrthi'n caffael diweddariad o'r canllawiau dylunio teithio llesol ar hyn o bryd, a fydd yn adeiladu ar y tair blynedd gyntaf o ddefnyddio'r canllawiau ac yn cymryd arfer gorau a rheoliadau newydd i ystyriaeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod pob awdurdod lleol ac eithrio un wedi cyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig cyntaf erbyn y dyddiad penodedig ac maen nhw'n cael eu gwerthuso erbyn hyn, ac mae'r awdurdod sydd ar ôl wedi ei gyfarwyddo i gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig erbyn diwedd mis Chwefror. Felly, rydym ni wrthi'n ystyried dewisiadau ar gyfer dilysu canlyniadau'r gwerthusiad yn annibynnol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ac i'r Cynulliad pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud.

Diolch, Prif Weinidog. Nos Wener, cynhaliais y diweddaraf o'm cyfarfodydd cyhoeddus misol, ac ar frig rhestr pryderon pobl yn Nhycroes, yn union fel yr oedd ym Mhontyberem a Llangennech a Chydweli, oedd maint y traffig. Nawr, mae'r dyddiad terfyn wedi mynd heibio'n ddiweddar i gynghorau gyflwyno eu cynlluniau tymor hir ar gyfer rhwydwaith o lwybrau teithio llesol yr hoffent eu creu dros 15 mlynedd, ac, o'u gwneud a'u hariannu'n iawn, mae gan y rhain y potensial o leihau traffig yn ogystal â gwella iechyd a chymdogaethau lleol. Ond yr adborth y mae'r grŵp trawsbleidiol newydd ar deithio llesol wedi ei glywed o bob cwr o Gymru yw nad yw cynghorau yn bod yn ddigon uchelgeisiol. Ni fydd ychydig o lwybrau yma ac acw yn annog pobl i ddod allan o'u ceir. Felly, a wnewch chi longyfarch Cyngor Caerdydd am gydnabod y gallan nhw wella ar eu drafft ac am fod yn fodlon i gyflwyno cynllun mwy uchelgeisiol o fewn blwyddyn, a beth wnewch chi i wneud yn siŵr bod y cynlluniau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn ein rhoi ar lwybr gwahanol?

Wel, yr un peth y gallaf ei ddweud yn eglur iawn yw nad yw hyn yn rhyw fath o ychwanegiad dewisol. Rydym ni'n disgwyl cydymffurfiad â'r Ddeddf, nid yn unig o ran y ddamcaniaeth sy'n sail iddi, ond yn ymarferol hefyd. Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau i gyngor Caerdydd. Gobeithiaf y bydd eraill yn dysgu o'u hesiampl dda, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rwydwaith priodol ledled Cymru ac nid llwybrau ar wahân yn unig—dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd—ond eu cyfuno a gallu dweud yn y dyfodol bod pobl yn gallu cyrraedd y gwaith a'u bod nhw'n gallu beicio at ddibenion hamdden hefyd ar rwydwaith lwybrau beicio y gellir eu cymharu â rhai o'r goreuon yn Ewrop. Mae cryn ffordd i fynd, gan fy mod i wedi gweld yr hyn sydd ar gael, er enghraifft, mewn gwledydd fel Awstria. Ond, gallaf, gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni'n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr bod mapiau'r rhwydwaith integredig yn gadarn, yn gydnerth ac y byddant yn hybu teithio iach a theithio llesol yn y dyfodol.

Roedd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddarn o ddeddfwriaeth a groesawyd yn eang iawn, ac mae'r aelod yn hollol iawn i godi pryderon yn y fan yna am sut y mae'n cael ei roi ar waith yn llawn a'i ddatblygu. Ac rwyf i wedi clywed yn union yr un pryderon hynny bod awdurdodau lleol wedi bod yn eithaf araf i flaenoriaethu hynny, yn amlwg gyda'r pwysau ar y gyllideb a phopeth. Gwn fod yr Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi dweud yn aml, 'O, mae gan awdurdodau lleol eu hymreolaeth eu hunain.' Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yw hon, a deddfwriaeth Llywodraeth sy'n mynd i wneud bywydau'n well i'n pobl ifanc ac i'n holl bobl ledled Cymru. Felly, sut gallwch chi gynnig rhywfaint o arweinyddiaeth gref iawn, Prif Weinidog, i wneud yn siŵr nad dymuniad yn unig yw'r Ddeddf teithio llesol, ond ei bod yn dod yn ddeddfwriaeth lawn, ac yn gwbl gymwys, a'n bod ni'n cael mwy o bobl yn teithio'n llesol yn feunyddiol o hyn ymlaen?

Wel, dyna'r gyfraith ac mae'n rhaid cydymffurfio â hi, ond, o ran arian, gallaf ddweud bod y gronfa trafnidiaeth leol a'i rhagflaenydd, y grant consortia trafnidiaeth rhanbarthol, wedi bod yn brif ffynhonnell o gyllid ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol, yn enwedig llwybrau newydd, gan gynnwys y rheini i safleoedd cyflogaeth. Mae'r gyfran sy'n cael ei gwario ar gynlluniau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar geisiadau, ond wedi dod i gyfanswm o tua £6 miliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan helpu i ddatblygu cynlluniau a phecynnau mwy uchelgeisiol. Mae hynny yn ogystal, wrth gwrs, â'r grant sydd wedi bod ar waith ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r grant diogelwch ar y ffyrdd.

Ond mae'n wir, onid yw e, Brif Weinidog, fod rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddangos mwy o uchelgais, achos o feddwl am y ffigurau mae e newydd eu dyfynnu, os ydym yn cymharu'r rheini â'r ffigur cyfatebol ar gyfer yr Alban, maen nhw newydd ddyblu'r buddsoddiad y maen nhw'n ei roi i mewn i deithio llesol—hynny yw, cerdded a seiclo—o £40 miliwn—sy'n llawer mwy na ni i ddechrau—lan i £80 miliwn. Dyna Lywodraeth sydd yn rhoi priod le i'r maes yna o bolisi nad ydym ni'n ei wneud ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.

13:35

A oes yna gyfraith yn yr Alban sy'n mynnu y dylai fod rhwydwaith mewn lle er mwyn hybu cerdded a seiclo? Na, o beth rydw i'n deall. Ni, wrth gwrs, yw'r wlad sy'n gwneud hwn. Y cam nesaf yw sicrhau bod y mapiau rhwydwaith integredig—maen nhw wedi, fwy neu lai—wedi cael eu rhoi mewn i ni fel Llywodraeth. Mae'n rhaid i'r rheini, wrth gwrs, gael eu hystyried, ac rydym ni'n moyn sicrhau bod y mapiau hynny yn gadarn fel sylfaen i adeiladu teithio llesol yn y pen draw. 

Gwasanaethau Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51454

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi tua £200 miliwn mewn rhaglen o welliannau i'r rheilffyrdd, gan gynnwys gwell seilwaith a gwasanaethau rheilffordd ychwanegol yn y canolbarth a'r gorllewin.

Prif Weinidog, rwyf i wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan deithwyr rheolaidd ar reilffordd y Cambrian a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Bu nifer fawr o achosion o ganslo neu ganslo rhannol heb ddarparu unrhyw wasanaeth bws amgen, gan adael teithwyr mewn twll llwyr. Mae'r canslo yn aml yn digwydd funudau cyn bod y trên i fod i adael, sydd, wrth gwrs, yn ei gwneud bron yn amhosibl i deithwyr i wneud trefniadau eraill. Mae un o'm hetholwyr, Christopher Banks, yn fyfyriwr sy'n byw yn y Drenewydd, yn astudio yn Amwythig, a dywed mewn e-bost i mi:

Effeithiodd penderfyniadau i ganslo'r gwasanaeth 7.38 ym mis Tachwedd arnaf i ar y trydydd ar ddeg, yr ail ar bymtheg, yr ugeinfed, yr unfed ar hugain, y seithfed ar hugain a'r nawfed ar hugain.

A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod hyn yn dderbyniol, ac, os nad ydych, a wnewch chi godi'r mater hwn, fel yr wyf i wedi ei wneud, gyda Threnau Arriva Cymru?

Nac ydy, nid yw'n dderbyniol. Wrth gwrs, mae hwn yn wasanaeth nad yw wedi ei ddatganoli. Bu rhai gwasanaethau a ganslwyd ar reilffordd y Cambrian am amryw o resymau: mae rhai oherwydd prinder cerbydau, sydd, pan fydd y fasnachfraint newydd yn dechrau, yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn dod i ben, a bu problemau trwsio yr wyf i'n eu deall. Ond, na, gallaf ddeall y rhwystredigaeth ddwys a deimlir gan gwsmeriaid ar y gwasanaethau rheilffyrdd, ac mae'n rhaid i Drenau Arriva Cymru sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn a allant i osgoi achosion o ganslo ac, os bydd achosion o ganslo, cynnig cludiant arall. Dyna'r hyn y byddai pobl yn ei ddisgwyl, a dyna'r math o wasanaeth y byddem yn eu hannog i'w ddarparu.

Wrth gwrs, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ddatganoli cyn bo hir a byddwch chi'n gyfrifol am y fasnachfraint newydd. Gan fod Arriva ei hunan wedi tynnu allan o'r broses yna, pa sicrwydd medrwch chi ei roi i'r bobl yn y gorllewin a'r canolbarth, drwof fi, fod y buddsoddiad staff presennol yn mynd i aros, o safbwynt yr orsaf trwsio a chadw a chynnal sydd ym Machynlleth, ac, wrth gwrs, y staff yn y gorsafoedd ar draws y rheilffordd? Rydw i'n gwybod bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r ffaith bod staff ar gael ar y rheilffordd fel hyn ac, wrth gwrs, yn ei dro, mae hynny wedi arwain at fwy o ddefnydd o'r rheilffordd.  

Byddem ni'n erfyn, wrth gwrs, i Arriva sicrhau eu bod nhw'n cadw at delerau'r franchise tra'u bod nhw'n gyfrifol amdani, ac na fyddwn ni'n gweld unrhyw fath o leihad yn y gwasanaeth, o ran y gwasanaeth trenau na lefelau staff, tra'u bod nhw yn gyfrifol.  

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaeth o Lynebwy i Gaerdydd yn cael ei ddyblu o un trên yr awr i ddau. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf—

Gwn ei bod hi'n Nadolig, ond, hyd yn oed yn ysbryd y Nadolig, nid wyf yn siŵr y gallaf ganiatáu i gwestiwn am y canolbarth a'r gorllewin gynnwys rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd.

Ceisiwch ei droi ac rwy'n siŵr y cewch chi ateb. [Chwerthin.]

Diolch. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Islwyn ar hynt y gwaith sy'n cael ei wneud gan Network Rail a phryd y disgwylir i'r gwaith sydd wedi ei drefnu gael ei gwblhau? [Chwerthin.]

Ie, rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i allu teithio ar draws Cymru gyfan—[Chwerthin.]—gan gynnwys Islwyn a chan gynnwys, wrth gwrs, y canolbarth a'r gorllewin. Mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gallu defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd i deithio rhwng y gogledd a'r de ac i lawr ac ar draws ein gwlad. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth gwrs, yn rhan o'r fasnachfraint y cytunir arno o'r gwanwyn y flwyddyn nesaf ymlaen, y darperir gwasanaethau ar lefel uwch o lawer ar gyfer ei hetholaeth hi, ac yn wir y canolbarth a'r gorllewin.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. 

Prif Weinidog, rwyf i wedi codi'r cwestiwn o ddigartrefedd gyda chi sawl gwaith eleni, yn y gobaith y byddech chi'n cymryd camau pellach. Mae'r tymheredd diweddar sydd wedi gostwng yn sydyn yn rhoi lefel newydd o bwys i'r pwnc hwn. Ym mis Hydref, gofynnais i chi ddiddymu prawf Pereira, a fyddai'n rhoi terfyn ar angen blaenoriaeth fel bod gan bawb sy'n cael eu canfod yn ddigartref hawl i lety wedyn. Bryd hynny, fe ddewisoch ateb gwahanol gwestiwn. Fe wnaethoch ateb trwy ddweud nad oeddech chi'n credu y dylid datganoli lles. A allaf i gael ateb i'r cwestiwn a ofynnais mewn gwirionedd heddiw felly? A wnewch chi ddiddymu prawf Pereira, a fyddai'n rhoi terfyn ar angen blaenoriaeth a digartrefedd bwriadol?

13:40

Wel, rwy'n credu y dylwn i fod yn ofalus o ran edrych ar brofion. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, wedi cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â digartrefedd. Rydym ni'n gwybod bod miloedd lawer o bobl wedi osgoi digartrefedd gan fod dyletswydd erbyn hyn i fod yn rhagweithiol o ran osgoi digartrefedd. Serch hynny, mae'n dal i fodoli. Roeddwn i yn y bws porffor neithiwr gyda Byddin yr Iachawdwriaeth. Gwelais a chlywais straeon am bobl sy'n ddigartref a'r anawsterau lluosog y mae llawer iawn ohonyn nhw yn eu hwynebu. Fe'i gwnaed yn eglur i mi bod angen pecyn unigol, wedi'i deilwra ar gyfer unigolion er mwyn mynd i'r afael â'r broblem digartrefedd iddyn nhw.

Wrth gwrs, gwelsom y newyddion trist am y ferch ifanc a fu farw yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddai pob aelod yn mynegi eu hedifeirwch amdano. Ond o ran ceisio ymdrin â digartrefedd, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi mynd i'r afael ag ef trwy ddeddfwriaeth.

Wel, mae hynna'n newid tôn i bryd y gwnaeth fy nghyd-Aelod, Bethan Jenkins, ofyn cwestiwn tebyg i'r Llywodraeth, pan ddywedwyd wrthi y byddai angen blaenoriaeth yn cael ei adolygu. Mae diddymu angen blaenoriaeth a bwriadoldeb yn un o'r camau y mae angen i ni eu cymryd tuag at symud tuag at ddull tai yn gyntaf. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael â digartrefedd yn yr hirdymor, ac yn y cyfamser mae gennym ni argyfwng cysgu ar y stryd. Mae pobl yn marw ar y strydoedd, Prif Weinidog. Mae pobl yn dal i syrthio drwy'r bylchau. Mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn wynebu peryglon mawr, ac nid yw'n cael ei helpu gan rai o'r straeon yr wyf i wedi eu clywed, er enghraifft, lle mae sachau cysgu wedi cael eu cymryd oddi wrth bobl sy'n cysgu ar y stryd. Nawr, ni allaf gadarnhau hynny, ond os yw'n digwydd, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio'r rheini sy'n gyfrifol?

Gan droi at eich cyfrifoldebau fel Llywodraeth, a ydych chi wir yn credu bod eich Llywodraeth yn gwneud digon i fynd i'r afael â digartrefedd y gaeaf hwn?

Wel, o wrando ar yr hyn a ddywedodd pobl wrthyf neithiwr, roedd yn amlwg bod rhai pobl wedi byw ar y strydoedd ers blynyddoedd, ac i rai pobl mae'n ymddangos ei fod yn ddewis y maen nhw'n ei wneud. Nid yw hynny'n wir i'r mwyafrif, wrth gwrs; mae'n rhywbeth y maen nhw'n canfod eu hunain yn gorfod ymdopi ag ef. Yr hyn a glywais neithiwr yw bod llawer o bobl yn canfod eu bod yn gallu cael llety o fewn wythnosau, o fewn wythnos weithiau. A gaf i dalu teyrnged yn y fan yma i waith Byddin yr Iachawdwriaeth a'r gwaith allgymorth y maen nhw'n ei wneud gyda'r bobl sy'n dod i'r bws porffor?

Gofynnodd hi i mi yn benodol: beth sy'n drugarog am gymryd sachau cysgu oddi wrth bobl, yn enwedig pan fo'r tywydd mor oer? Mae pobl angen cymaint o inswleiddiad, os caf ei alw'n hynny, â phosibl er mwyn osgoi marw yn y tywydd oer. Ni allai neb, does bosib, gytuno â'r weithred honno.

Gofynnodd beth ydym ni'n ei wneud. Rydym ni eisoes yn darparu £460,000 i gynorthwyo amrywiaeth o wasanaethau trydydd sector sy'n helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd, gan gynnwys llochesi nos, gwasanaethau allgymorth a chanolfan ddydd. Ym mis Awst, cyhoeddwyd £218,000 ychwanegol gennym ar gyfer gwasanaethau yng Nghaerdydd i gynorthwyo pobl sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys llety brys gwell a chyllid ar gyfer rhaglen tai yn gyntaf newydd yn y ddinas. Rydym ni wedi cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau digartrefedd dros y ddwy flynedd nesaf yn ein cyllideb ddrafft, a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu yn fuan i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, a ddatblygwyd gyda gwasanaethau rheng flaen.

Mae'n fy syfrdanu i eich clywed yn dweud bod rhai pobl ar y strydoedd o ddewis. Os ydyn nhw yno o ddewis, rydym ni'n sôn am nifer bach iawn o bobl, ac mae hynny oherwydd nad oes unrhyw ddewisiadau eraill ar eu cyfer.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd maer Manceinion, Andy Burnham, ei fod yn cryfhau'r protocol brys ar gyfer tywydd garw. Nawr, mae hyn yn golygu y bydd lloches tywydd oer brys i bobl ddigartref ar gael cyn gynted ag y mae'r tymheredd yn gostwng yn is na sero am un noson yn hytrach na chyfnod gofynnol Llywodraeth y DU o dri diwrnod. Nawr, rwyf i wedi cael gwybodaeth sy'n cadarnhau nad yw'r cyfnod tri diwrnod hwnnw hyd yn oed yn berthnasol i Gymru, heb sôn am y protocol cryfach sy'n mynd i gael ei gyflwyno ym Manceinion, ac rwyf i wedi cael fy hysbysu bod gan Lywodraeth Cymru ganllawiau yn gofyn i awdurdodau lleol lunio cynllun ysgrifenedig ond nad yw dim o hyn yn rheidrwydd arnynt. Nawr, mae hynny'n amlwg yn annigonol. Nid yw'n iawn bod pobl ddigartref yng Nghymru yn wynebu protocol gwannach nag y maen nhw ym Manceinion o dan Lywodraeth Lafur. A wnewch chi gadarnhau bod y wybodaeth honno'n gywir—nad yw'r canllawiau'n orfodol—ac os felly, a wnewch chi eu cryfhau i leihau'r peryglon y mae pobl yn eu hwynebu o gael eu gorfodi i fyw ar y strydoedd, yn enwedig dros y Nadolig?

13:45

Cefais fy synnu'n fawr neithiwr o gael fy hysbysu, o ran rhai pobl, mae dyna'r oeddent yn dewis ei wneud. Rwy'n credu ei fod yn fwy i'w wneud â'r ffaith ei bod nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag unrhyw amgylchiad arall y maen nhw'n canfod eu hunain ynddo. Maen nhw'n lleiafrif, mae hynny'n wir, ac roeddwn i'n synnu braidd o glywed hynny neithiwr. Mae'r mwyafrif llethol o bobl—nac ydyn, wrth gwrs nad ydyn nhw'n dewis bod yn byw ar y strydoedd. Iddyn nhw, yr argraff a gefais neithiwr oedd ei bod yn haws eu helpu nhw, oherwydd iddyn nhw—. Wel, dyna ddywedwyd wrthyf i. Gallwn ddamcaniaethu ynghylch pam mae hynny'n wir, ond dyna ddywedwyd wrthyf i. Serch hynny, rydym ni'n gwybod bod pobl yn cysgu allan ar y strydoedd, ac mae ymdrin â nhw yn hynod bwysig er mwyn gallu eu helpu ar gyfer y dyfodol.

O ran y canllawiau, mae hynny'n rhywbeth y gallaf ysgrifennu ati yn ei gylch. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw, os na fydd canllawiau yn cael eu dilyn yna wrth gwrs byddwn yn ceisio cymryd camau i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i bobl ddigartref. Bydd hynny, wrth gwrs, yn rhan o'r cynllun gweithredu yr ydym ni'n ei ddatblygu yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r Cyfarfod Llawn olaf cyn toriad y Nadolig, a gaf i ddymuno cyfarchion y tymor i'r Prif Weinidog a'r Aelodau eraill? Ac yn arbennig, gobeithio, blwyddyn newydd hapus a heddychlon hefyd, Prif Weinidog.

Prif Weinidog, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rwyf i wedi gofyn sawl cwestiwn yn y Siambr hon ac rwyf i wedi bod yn adolygu'r cwestiynau hynny dros y diwrnod neu ddau diwethaf. Gan ein bod ni'n mynd i doriad nawr, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi rhywfaint o eglurder i rai o'r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, sef: a wnaethoch chi gyfarfod â chyn aelod o'ch Cabinet ym mis Hydref 2014 i drafod ei bryderon am ymddygiad un o'ch cynghorwyr arbennig?

Rwy'n credu bod yr amser wedi dod bellach i adael hyn i'r cynghorydd annibynnol ei ystyried, a'r ymchwiliadau eraill. I gael cwestiynau unigol am ddyddiadau unigol dair blynedd yn ôl—hynny yw, yn amlwg, mae hwnnw'n ddull tameidiog. Rwy'n credu mai'r dull rhesymol o ymdrin â hyn nawr yw gadael i'r cynghorydd annibynnol fwrw ymlaen â'i waith, gadael i'r ymchwiliad fwrw ymlaen â'i waith, ac wrth gwrs, yn y pen draw, y cwest.

Rwy'n ddiolchgar bod yr ymchwiliadau hynny wedi cychwyn, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n briodol yn y Siambr hon lle'r ydym ni'n cael ein hethol i ofyn y cwestiynau hyn, oherwydd os nad ydym ni'n gofyn y cwestiynau hynny, yna beth yw ein swyddogaeth? Dyna ddiben cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod i wedi siarad â phobl nad ydynt yn dangos fawr o ddiddordeb yn nemocratiaeth Cymru fel rheol, mae hwn yn fater y maen nhw wedi cymryd diddordeb mawr ynddo, fel minnau, ac mae angen eglurder ynghylch rhai o'r atebion. Roedd hwnna'n gwestiwn cwbl syml, a ofynnwyd yn gryno, a'r cwbl yr oeddwn i ei eisiau oedd ateb syml iddo. Felly, efallai os rhoddaf gynnig ar gwestiwn arall i chi: a gawsoch chi, ar unrhyw adeg ym mis Hydref 2014, eich hysbysu naill ai gan Weinidogion neu gynghorwyr arbennig am bryderon am ymddygiad un o'ch cynghorwyr arbennig, ac a wnaethoch chi ofyn i gynghorydd arbennig arall wneud ymholiadau ynghylch yr haeriadau hyn?

Unwaith eto, mae datganiadau llafar dair blynedd yn ôl yn bethau yr wyf i—. Ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau ynghylch hyn heb edrych ar y darlun cyfan. Fel y dywedaf, rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol, o ystyried y ffaith bod gennym ni nifer o ymchwiliadau ar waith erbyn hyn, mai cyfrifoldeb yr ymchwiliadau hynny—ac maen nhw'n ymchwiliadau annibynnol—yw ystyried y materion hyn yn eu cyfanrwydd nawr. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull cwbl resymol.

Rwy’n gresynu unwaith eto nad ydych chi wedi gallu rhoi ateb i'r ail gwestiwn i mi.[Torri ar draws.] Gyda'r parch mwyaf, dyna allu Aelod etholedig, i ddod i'r Siambr hon—dyna'r fraint sydd gennym ni fel Aelodau etholedig—i ofyn y cwestiynau hynny. Dyna yw diben cwestiynau i'r Prif Weinidog a chwestiynau a datganiadau gweinidogol. Rydym ni'n dewis y cwestiynau, rydym ni'n ceisio cael yr atebion. Rwy'n gresynu, ar ddau gwestiwn syml braidd, sy'n amserol, nad ydych chi wedi gallu rhoi ateb mwy cryno i mi, i egluro, yn benodol, rai o'r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi dros y pum wythnos diwethaf.

Ar ddau achlysur arall, rwyf wedi gofyn i chi, ac nid ydych chi wedi rhoi ateb i mi: a fyddech chi'n diddymu cyfrifoldeb cyfunol Gweinidogion y Cabinet pan fyddant yn rhoi tystiolaeth i'r person annibynnol yr ydych chi wedi ei benodi i wneud ymholiadau? Ar y ddau achlysur, ac ar drydydd achlysur pan ofynnodd Darren Millar y cwestiwn i chi, nid ydych chi wedi rhoi ateb 'byddwn' neu 'na fyddwn' o hyd. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n diddymu cyfrifoldeb cyfunol Gweinidogion i wneud y sylwadau hynny i'r person annibynnol os byddant yn dymuno?

Mae cyfrifoldeb cyfunol yn berthnasol i bolisi, nid yw erioed wedi bod yn berthnasol i unrhyw beth arall, ac fe wnes i hynny'n arbennig o eglur. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, gyda'r holl faterion hyn—a gofynnwyd cwestiynau difrifol, rwy'n deall hynny, ac mae angen atebion iddynt, a byddant yn cael atebion. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yr atebion hynny'n cael eu darparu yn rhan o'r darlun cyfan. Nid yw'n iawn y dylai pobl dynnu darnau bach allan, eu crybwyll, a pheidio â rhoi'r cyd-destun llawn iddyn nhw o ran pa atebion a roddir, er enghraifft, neu gyd-destun yr hyn a ddigwyddodd rai blynyddoedd yn ôl. Nawr, mae ef wedi gofyn cwestiynau, ac rwy'n deall ei fod eisiau atebion. Bydd yr holl faterion hyn yn cael sylw yn rhan o'r ymchwiliad annibynnol. Ni allaf weld y byddai unrhyw un rhesymol allan yna yn gweld bod unrhyw beth o'i le ar hynny. Mae'n bwysig dros ben bod yr ymchwiliadau'n gallu bwrw ymlaen â'u gwaith nawr. Os yw pobl o ddifrif am ymgysylltu â'r ymchwiliadau hynny yna, wrth gwrs, dylent gyflwyno eu sylwadau i'r bobl sy'n eu cynnal.

13:50

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n amlwg nad oes unrhyw bwynt mynd ar drywydd y cwestiynau y mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi ei gychwyn, gan eich bod chi'n benderfynol o roi'r mater hwn cyn belled o'r neilltu â phosibl, felly hoffwn droi at rywbeth arall.

Tybed a welodd y Prif Weinidog yn The Times ddydd Iau diwethaf stori newyddion o dan y pennawd 'End of wind turbine "blight" after Lake Distric campaign', sy'n cyfeirio at ddymchwel datblygiad fferm wynt fawr. Dyma'r tro cyntaf erioed y mae hyn wedi digwydd ar ôl 25 mlynedd, oherwydd y gwrthodwyd caniatâd cynllunio ar gyfer estyniad ar y sail bod y fferm wynt yn halogi ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae hyn yn dilyn nifer o enghreifftiau yn Lloegr ac, yn wir, yng Ngogledd Iwerddon lle rhoddwyd blaenoriaeth uwch i ddiogelu tirweddau mawreddog na lleihau allyriadau carbon deuocsid. Tybed a wnaiff y Prif Weinidog, felly, ddilyn yr esiampl hon i Gymru a rhoi mwy o amddiffyniad i'n tirweddau mawreddog ein hunain, yn hytrach na lleihau allyriadau carbon deuocsid.

Mae nodyn cyngor technegol 8 yn gwneud hynny, wrth gwrs, oherwydd pan ddatblygwyd TAN 8 gyntaf, roedd yn cydnabod, er enghraifft, bod amodau arbennig mewn parciau cenedlaethol a bod ardaloedd penodol lle disgwyliwyd i geisiadau gwynt ddod. Mae'n crybwyll tyrbinau gwynt ond dim byd arall. A yw'n dweud, er enghraifft, bod cloddio glo brig yn iawn? A yw'n dweud bod mathau eraill o ynni fel ynni niwclear—? Rydym ni'n cefnogi ynni niwclear; rydym ni eisiau gweld gorsaf pŵer niwclear newydd ar Ynys Môn. Ond nid wyf yn meddwl ei bod hi'n iawn dethol ffermydd gwynt a dweud eu bod nhw'n fwy o falltod ar y dirwedd yn arbennig nag unrhyw beth arall. Mae rhai pobl yn hoff iawn ohonynt, mae rhai pobl yn eu casáu. Dyna'r wyf i wedi ei ddarganfod dros y blynyddoedd. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod angen mwy o ffynonellau ynni arnom. Rydym ni angen ein gorsafoedd niwclear, mae hynny'n wir, ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym ni ffynonellau ynni adnewyddadwy sy'n creu diogelwch ynni—neu a ydym ni'n dweud bod angen i ni fewnforio ynni o wledydd eraill, sy'n rhywbeth y byddwn i'n synnu pe byddai e'n ei annog? Un ffordd o wneud hynny yw harneisio adnodd naturiol adnewyddadwy fel y gwynt, a hefyd y morlyn llanw. Dydyn ni ddim callach o hyd a fydd Llywodraeth y DU yn cefnogi'r morlyn llanw. Mae gennym ni yma ym Môr Hafren un o'r hydoedd llanw uchaf y byd. Mae'n ynni a fydd bob amser yno cyhyd â bod y lleuad uwch ein pennau, ac eto dim penderfyniad eto gan Lywodraeth y DU. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n harneisio'r adnoddau adnewyddadwy sydd gennym ni, ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad, a chefnogi'r morlyn llanw.

Ymatebaf i'r her a roddodd y Prif Weinidog i mi. Na, byddwn o'r un farn un union ynghylch datblygiadau glo brig arfaethedig sy'n tarfu ar ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a chyda gorsafoedd pŵer niwclear yn yr un modd. Yn wir, ni fyddai unrhyw orsaf bŵer Hinkley Point yn yr arfaeth oni bai am benderfyniad Llywodraeth y DU i dalu symiau gwirion o arian i ynni gael ei gynhyrchu ymhen blynyddoedd lawer, mwy na dwywaith y gyfradd sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog yn hynny o beth.

Bydd yn gwybod y bu llawer o brosiectau dadleuol yn ymwneud â ffermydd gwynt yn y canolbarth. Ceir un ar hyn o bryd, y mae apêl yn ymwneud ag ef, ar fferm wynt Hendy ger Creigiau Llandeglau yn Sir Faesyfed. Mae cadeirydd yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig ym Mrycheiniog a Maesyfed yn dweud

Bydd fferm wynt Hendy yn cael effeithiau difrifol, yn enwedig ar dirwedd leol, diwylliant hanesyddol, ecoleg a thwristiaeth. Gadewch i ni gofio bod un o bob chwech o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar dwristiaeth.

Felly, mae cydbwysedd i'w sicrhau yn yr achosion hyn bob amser, ond credaf fod y cwestiwn o gymesuredd yn berthnasol yn y fan yma. Mae Cymru yn amherthnasol, mewn gwirionedd, yng nghyd-destun lleihau allyriadau carbon deuocsid dros y blaned gyfan. Rydym ni'n cynhyrchu 0.1 y cant efallai o allyriadau carbon deuocsid byd-eang. Mae'r DU gyfan yn cynhyrchu dim ond 1 y cant, felly nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth o ran allyriadau carbon deuocsid yn fyd-eang os yw Cymru'n cymryd rhan yn y prosiect gwyrdd mawr hwn ai peidio, ond mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl y canolbarth os yw eu tirweddau'n cael eu halogi trwy gael coedwigoedd o felinau gwynt ar hyd y lle, ac mae hynny hefyd yn effeithio ar yr economi dwristiaeth. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn amdano, Prif Weinidog, yw mwy o gymesuredd ym mholisi Llywodraeth Cymru ar ynni gwyrdd.

Mae'r cymesuredd yno eisoes. Nid yw'r cwbl wedi ei ganolbwyntio ar un math o ynni. Ni allaf wneud sylwadau, wrth gwrs, ar unrhyw apêl sy'n dal i fynd rhagddi. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw hyn: nid yw Cymru byth yn amherthnasol. Nid yw Cymru byth yn amherthnasol, ac mae gennym ni ran i'w chwarae o ran lleihau nwyon tŷ gwydr er lles y ddynoliaeth gyfan.

13:55

Mae'r effaith ar y blaned o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru yn amherthnasol i bob pwrpas—dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud—o gofio bod ein hallbwn mor fach, tra bod yr effaith ar dirweddau yn uniongyrchol ac yn amlwg.

Ond ar y nodyn hwnnw, hoffwn ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd lwyddiannus i'r Prif Weinidog, ei longyfarch ar ei ddeheurwydd wrth osgoi neu fwrw i'r naill ochr y rhan fwyaf o'r cwestiynau yr wyf i wedi eu gofyn iddo yn ystod y flwyddyn, ac edrychaf ymlaen at ailadrodd heddiw lawer gwaith yn ystod y 12 mis nesaf.

Wel, 'glasganmol' fyddwn i'n galw hynna. Dychwelaf y cyfarchion iddo yntau. Edrychaf ymlaen at gwestiynau mwy perthnasol ganddo yn y dyfodol. Serch hynny, ni fydd ef a minnau yn cytuno pan ddaw i'r newid yn yr hinsawdd. O ran allyriadau carbon, rwyf i o'r farn bod y rhan helaethaf o lawer o wyddoniaeth yn dangos bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd a bod bodau dynol yn cael effaith ar y newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhaid i ni yng Nghymru chwarae ein rhan, yn union fel unrhyw wlad arall.

Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl yn y gweithle yng Nghymru? OAQ51476

Mae gweithio gyda busnesau i hybu iechyd yn y gweithle, gan gynnwys iechyd meddwl, yn un o egwyddorion allweddol y cynllun gweithredu economaidd a lansiwyd heddiw. Hefyd, mae Cymru Iach ar Waith a rhaglenni cymorth yn y gwaith yn cynnig cymorth i gyflogwyr a chyflogeion ledled Cymru.

Prif Weinidog, mae Caerdydd wedi cael ei henwi'n ddiweddar fel y ddinas lle dioddefir y mwyaf o straen ym Mhrydain, sy'n ganfyddiad anhygoel. Mae'r adroddiad yn dweud bod pwysau yn y gwaith, pryderon ariannol a phryderon am iechyd yn gadael Prydain yng ngafael epidemig o straen, ac rwy'n meddwl bod llawer ohonom ni'n gweld hyn drwy ein gwaith achos hefyd. Canfu arolwg o 4,000 o oedolion gan y cwmni yswiriant AXA bod pedwar o bob pump yn teimlo dan straen yn ystod wythnos arferol a bod bron un o bob 10 o dan straen drwy'r amser. Mae hyn yn ddifrifol iawn. Mae Unsain Cymru hefyd wedi galw'n ddiweddar am well gwasanaethau iechyd meddwl yn y gweithle. A gaf i groesawu'r ffaith bod y cynllun gweithredu economaidd yn mynd i roi sylw i hyn? A ydych chi'n cytuno â mi mai rheolwyr canol sy'n aml mewn sefyllfa i ddarganfod y problemau hyn a bod angen hyfforddiant effeithiol arnynt fel y gallant nodi pan fo'r rheini y maen nhw'n gyfrifol am eu goruchwylio o dan straen?

Ydw, mae hynny'n hollol gywir. Y rhai sydd agosaf at y rheini a allai ddioddef straen sydd yn y sefyllfa orau i ymdrin ag ef, ond mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gallu ei adnabod. Yn enwedig gyda rhai pobl, mae'n anodd iawn adnabod arwyddion o straen. Ni fyddan nhw byth yn dangos arwyddion o straen nac yn achwyn am straen, ond yn aml, wrth gwrs, y rheini yw'r bobl sy'n dioddef y straen fwyaf yn fewnol, felly rwy'n cytuno'n llwyr. Er mwyn cael gweithlu mwy iach, mae'n bwysig bod y rhai sydd mewn swyddi rheoli yn gallu adnabod straen mewn ffordd na fyddai'n amlwg i'r cyhoedd yn gyffredinol ac i ymdrin ag ef, er lles y rhai sy'n dioddef straen, wrth gwrs, ac i'w gwneud yn weithwyr hapusach a mwy cynhyrchiol.

Mae David Melding newydd grybwyll yn gryno iawn y digwyddiad UNSAIN a gynhaliwyd yn ddiweddar. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu mentrau llwyddiannus fel cynhadledd iechyd meddwl yn y gweithle Unsain a drefnwyd yn adeilad y Pierhead, a ddangosodd unwaith eto, yn fy marn i, swyddogaeth ganolog y gall undebau llafur ei chyflawni i helpu i fynd i'r afael â materion anodd yn y gweithle, ac mae'n dangos swyddogaeth werthfawr partneriaeth gymdeithasol i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer materion fel mynd i'r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle.

Gwnaf, rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae Unsain wedi ei wneud. O ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, Cymru Iach ar Waith yw ein rhaglen iechyd a gwaith. Ei nod yw gwella iechyd yn y gwaith trwy ganolbwyntio ar atal a chadw neu adsefydlu ar gyfer y rheini a wnaed yn sâl yn y gwaith. Mae cyllid wedi ei ymrwymo tan 2020 yn rhan o'n hymrwymiad 'Ffyniant i Bawb' i ganolbwyntio ar gefnogi iechyd a llesiant cyflogeion. Gallaf ddweud bod Cymru Iach ar Waith yn cael ei darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Busnes Cymru i dargedu'r rhaglen ar gyfer BBaChau ac i gynyddu allgymorth, a bydd hynny'n cynnwys canolbwyntio ar yr angen i wella iechyd meddwl a llesiant staff trwy gyflwyno polisïau ac arferion sy'n diogelu iechyd meddwl yn y gweithle.

Prif Weinidog, rydym ni'n colli cyfartaledd o 2.5 diwrnod fesul cyflogai i absenoldeb sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl bob blwyddyn. Amcangyfrifir hefyd bod presenoldebaeth,pan fo materion iechyd meddwl yn gwaethygu perfformiad gwaith, yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i'r DU. Amcangyfrifir na fydd y driniaeth orau ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ddim ond yn lleihau effaith salwch meddwl gan 28 y cant. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar atal.

Gall y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl roi cymorth i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu'n gyflwr mwy difrifol. Prif Weinidog, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog mwy o fusnesau i hyfforddi eu staff mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl yn yr un modd ag y maen nhw'n cyflogi swyddogion cymorth cyntaf i drin anhwylderau corfforol?

14:00

Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae eisoes yn digwydd trwy Cymru Iach ar Waith—mae 3,549 o sefydliadau yng Nghymru sy'n cyflogi 503,914 o bobl wedi cymryd rhan yn yr amrywiaeth o raglenni Cymru Iach ar Waith ers mis Gorffennaf 2011, ac mae hynny'n cynrychioli 36 y cant o boblogaeth weithio Cymru. Mae'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn rhan o'r contract economaidd, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei esbonio yn ddiweddarach, yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd.

Y Sector Iechyd a'r Sector Chwaraeon a Hamdden

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru? OAQ51484

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn gwneud ein disgwyliadau o ran cydweithredu yn eglur iawn. Rydym ni wedi gofyn i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru nodi sut y byddant yn adeiladu ar enghreifftiau presennol o arfer da ac yn gweithio gyda'i gilydd ar bolisïau ar y cyd.

Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i ymateb i'r heriau o sicrhau dull mwy rhagweithiol ac ataliol o gael gwell iechyd yng Nghymru, mae angen poblogaeth sy'n gwneud mwy o ymarfer corff arnom. Mae hynny'n rhan bwysig o wneud y newid angenrheidiol hwnnw. Yng Nghasnewydd, mae adran iechyd y cyhoedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ynghyd â Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, grwpiau chwaraeon lleol a llawer o grwpiau eraill wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers cryn amser i geisio sicrhau poblogaeth leol sy'n gwneud mwy o ymarfer corff fel ein bod ni'n cael yr iechyd gwell hwnnw. Yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu yn eich ateb cychwynnol, Prif Weinidog, gwn yn lleol—ac rwy'n siŵr ei fod yn berthnasol i lawer o fentrau eraill o'r fath ledled Cymru—bod diddordeb mawr ym mha gamau pellach, pa gymorth pellach, y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu i gynorthwyo'r mentrau hynny, i wneud y newid sylfaenol hwnnw i ddull mwy rhagweithiol ac ataliol o ymdrin ag iechyd yng Nghymru.

Wel, gallaf ddweud wrth fy nghyfaill yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd bod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofyniad ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra, a bydd cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael â ffyrdd eisteddog o fyw yn chwarae rhan bwysig. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan y prif swyddog meddygol, ac mae'r sector chwaraeon a'r sector iechyd yn cymryd rhan lawn yn y gwaith sy'n datblygu. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddatblygwyd i safoni cyfleoedd atgyfeirio ymarfer corff ar draws holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol Cymru. Mae'n targedu cleifion sydd â chyflwr cronig, neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig, ac roedd dros 28,000 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2016.

O ran Casnewydd, gallaf ddweud bod cyfanswm y buddsoddiad yng Nghasnewydd gan Chwaraeon Cymru, er enghraifft, yn fwy na £610,000—dros £0.5 miliwn o arian craidd, sydd ar gyfer gwaith gydag ysgolion, cyfranogiad cymunedol, nofio am ddim a gwaith rhanbarthol arall gyda a thrwy Dyfodol Cadarnhaol, a £100,000 yn fras, sy'n gyllid cist gymunedol, y mae panel cist gymunedol lleol yng Nghasnewydd yn ei oruchwylio.

Prif Weinidog, gwrandewais ar eich ateb cychwynnol i John Griffiths. Rwy'n derbyn yn llwyr, ac roedd yn amlwg iawn yn ystod proses Bil iechyd y cyhoedd, bod y Gweinidogion yn ymwybodol iawn o'r angen i wella ein hiechyd a'n llesiant trwy ddefnyddio chwaraeon a hamdden. Fodd bynnag, ceir lefel druenus o ryngweithio o hyd rhwng y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu chwaraeon a hamdden er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn a'r rheini sy'n gyfrifol am ddatblygu'r agenda iechyd a llesiant. Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, hoffwn ofyn am (1) mwy o ddychymyg yn yr hyn yr ydym ni'n ei ddarparu oherwydd nid yw hamdden yn golygu chwaraeon yn unig, ac os ydych chi'n oedrannus ac yn fethedig, a bod yn onest, nid yw neuadd chwaraeon i lawr y ffordd gyda phêl-droed yn mynd i wneud unrhyw ddaioni i chi, ac yn ail, beth all eich Llywodraeth ei wneud i geisio cael yr asiantau comisiynu hyn ar lefel leol, y rheini sydd â dyletswydd i ddarparu a'r rheini sydd eisiau cael llesiant a byw'n iach i'n dinasyddion, i weithio gyda'n gilydd mewn gwirionedd yn feunyddiol, yn wythnosol ac yn fisol?

Mae'n hollol iawn i ddweud nad yw'n fater o chwaraeon yn unig a'i fod yn fwy i'w wneud â gweithgarwch ac ymarfer corff, wrth gwrs. Gallaf ddweud bod gwaith yn cael ei wneud rhwng Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cynnwys sefydlu fframwaith canlyniadau newydd ar gyfer gweithgarwch corfforol, rhai mesurau perfformiad, camau gweithredu a dulliau a rennir i werthuso effaith a gwerth am arian. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i ymestyn cyllid i Dewch i Gerdded Cymru, a ddarperir drwy Ramblers Cymru, am 16 mis, ac mae hynny'n gweithio gyda chydgysylltwyr awdurdod lleol i ddatblygu amrywiaeth o deithiau a llwybrau cerdded ledled Cymru ar gyfer pobl â lefelau amrywiol o alluoedd. Ac rydych chi'n hollol iawn i ddweud ei bod yn hanfodol i bobl hŷn a phobl ag anableddau gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni hamdden a diwylliant. Wrth gwrs, mae gemau Olympaidd yr henoed diweddar yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau yn gweithio ar y cyd tuag at y nod a rennir o wella iechyd y boblogaeth. Rwy'n falch bod y digwyddiad hwnnw'n llwyddiant ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau y flwyddyn nesaf.

14:05

Rydw i'n grediniol mai drwy'r system addysg y mae cael pobl ifanc ar y trywydd iawn tuag at weithgarwch corfforol er mwyn gwella eu hiechyd nhw. Mae cyfle fan hyn i dynnu sylw at ddechrau'r ymchwiliad gan y pwyllgor iechyd yma i mewn i weithgarwch corfforol gan blant a phobl ifanc. Rŵan, mae Iwerddon newydd gyflwyno gweithgaredd corfforol fel arholiad leaving certificate yno; i ba raddau ydych chi a’ch Llywodraeth yn credu bod angen elfen o brofi neu hyd yn oed arholi gorfodol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc, drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, yn sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn uchel ar eu hagenda?

Wel, wrth gwrs, mae hynny’n digwydd yn yr ysgol yn barod, ynglŷn â’r ffaith bod addysg gorfforol yn rhywbeth y maen nhw’n gorfod ei wneud. Mae rhai yn cael eu harholi arni, mae hynny’n wir, ar lefel TGAU a lefel A, ond mae’n rhan o’r cwricwlwm i bawb. Mae’n wir i ddweud, rwy'n credu, ei bod yn hollbwysig sicrhau bod plant ifanc yn datblygu ffordd o fihafio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cario ymlaen i wneud chwaraeon yn y pen draw, ond rŷm ni yn colli pobl, wrth gwrs; mae oedran yn dod lle nad yw rhai pobl ifanc eisiau gwneud unrhyw fath o chwaraeon. I fi, dyna’r amser i ni ystyried pa fath o bethau eraill y bydd o ddiddordeb iddyn nhw. Efallai nad ydyn nhw’n moyn cystadlu; efallai eu bod nhw’n moyn gwneud pethau fel cerdded neu redeg, ond ddim cystadlu yn erbyn pobl eraill.

So, rwy’n credu bod yna sawl ffordd i ystyried hyn. Bydd rhai, wrth gwrs, yn moyn gwneud addysg gorfforol, byddan nhw’n moyn gwneud chwaraeon, ond beth mae’n rhaid inni sicrhau yw ein bod ni’n edrych, gydag ysgolion, ar beth y gallwn ni ei wneud i hybu’r rheini sydd efallai eisiau gwneud pethau, eisiau gwneud pethau corfforol, ond ddim eisiau gwneud chwaraeon. Yn fanna, rwy’n credu, mae’r ateb ynglŷn â sicrhau bod mwy o ferched ifanc, yn enwedig, yn cario ymlaen gyda, nid chwaraeon, ond ymarfer corfforol yn y pen draw.

'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'? OAQ51491

Gwnaf. Mae'r cynllun cyflawni'r tasglu yn nodi camau gweithredu a cherrig milltir i gyflawni tair blaenoriaeth: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau cymunedau. Mae'n enghraifft ardderchog o weithio cydgysylltiedig a chydweithredol—yr holl eiriau poblogaidd yn y fan yna—yn cynnwys partneriaid o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ac, yn bwysicaf oll, cymunedau'r Cymoedd.

Gyda hynny mewn golwg, croesawaf yn arbennig yr agwedd sy'n cefnogi mentrau bach a chanolig eu maint lleol i wneud cais am gontractau caffael y sector cyhoeddus. Treialwyd prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer BBaChau lleol i gynnig am gontractau yn rhan o raglen safon ansawdd tai Cymru, a daeth â phedwar o BBaChau ynghyd a weithiodd gyda'i gilydd i gyflwyno pecyn gwaith ailwampio allanol gwerth £1.2 miliwn.

Cwblhawyd y gwaith yn llwyddiannus, ond roedd y cyngor yn siomedig bod y consortiwm o BBaChau wedi chwalu yn fuan wedyn, ac nad oedd yn gallu cynnig ymhellach am gontractau a oedd ar gychwyn. Felly, y pryder sydd gan y cyngor yw mai prin yw'r cymorth sydd ar gael i helpu'r busnesau bach hynny i barhau i weithio gyda'i gilydd. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa gymorth pellach y gellir ei ddarparu i fynnu ac annog cysylltiadau o'r fath yn y dyfodol a sut y bydd hynny'n cael ei ymgorffori wedyn yn y cynllun economaidd?

Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n hynod bwysig i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Heb ddull gweithredu cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, ni fyddwn yn llwyddo. Gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyfarfod â'r holl Weinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill i drafod gwaith y tasglu a'r cynllun cyflawni, a bydd yn sicr yn rhan o gyflawniad gwaith y tasglu i weithio gyda'r BBaChau hynny sy'n gonglfaen cymaint o enghreifftiau o fentergarwch yn ein cymunedau.

Prif Weinidog, mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gwneud adduned i fanteisio ar botensial creu swyddi buddsoddiad seilwaith mawr, fel ffordd liniaru'r M4 a phrosiect metro de Cymru. Mae ffordd liniaru'r M4 yn sownd mewn ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac mae un o aelodau eich meinciau cefn eich hun wedi honni bod prosiect metro de Cymru yn cael ei drefnu i fethu. Prif Weinidog, pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi os bydd eich Llywodraeth yn methu â darparu'r prosiectau hyn, sy'n hanfodol i lwyddiant strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', ac y mae eu hangen yn daer yno? Diolch.

14:10

Bydd yn gwybod bod ffordd liniaru'r M4 yn rhywbeth, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi bod o'r safbwynt y bod wir ei hangen. Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd mae'n eithriadol o bwysig bod y materion hyn yn cael eu profi. Nid wyf yn credu y byddai neb yn anghytuno â'r angen i wneud hynny, i wneud yn siŵr bod unrhyw benderfyniad yr ydym ni'n ei wneud yn y dyfodol yn seiliedig ar yr hyn y mae'r ymchwiliad wedi ei ganfod.

Yn ail, o ystyried mai fi oedd y person cyntaf i siarad am fetro de Cymru, yng nghlwb rygbi Bedwas, os cofiaf yn iawn, yn ôl yn 2009, gallaf sicrhau nad yw wedi cael ei drefnu i fethu. Rwyf i eisiau i'r metro weithio. Mae'n bwysig dros ben, cyn belled ag y mae de Cymru yn y cwestiwn. Mae'n cynnig cyfleoedd enfawr, nid yn unig i gael pobl i'r gwaith yn gyflymach, ond i gael buddsoddiad i gymunedau sydd, hyd yma, wedi cael trafferth i gael y lefelau priodol o fuddsoddiad oherwydd eu lleoliad daearyddol. Felly, mae metro de Cymru yn sicr yn rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn llwyddo ar gyfer pobl Cymru.

Prif Weinidog, mae'r cynllun gweithredu economaidd sydd newydd ei gyhoeddi yn dweud y bydd y Llywodraeth yn gallu:

defnyddio'r dull rhanbarthol fel modd o gyfuno ac integreiddio ymyraethau Tasglu'r Cymoedd a'r Fargen Ddinesig.

Nawr, yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf i yw y bydd y pwyslais unigol ar broblemau a chyfleoedd unigryw'r Cymoedd yn cael ei golli. Mae Tasglu'r Cymoedd wedi dod i ben, ni roddwyd unrhyw arian newydd ar y bwrdd yr wyf i'n ymwybodol ohono ar hyn o bryd, ac felly, heb strwythur i'w chyflawni, heb gyllideb benodol, onid yw'n wir mai'r cwbl fydd y strategaeth hon, unwaith eto, yw rhestr hir o fwriadau da iawn na fyddant, yn anffodus, yn cael eu gwireddu?

Nac ydy. Os cymerwn ni'r Cymoedd gorllewinol, er enghraifft, y bydd ganddo ef ddiddordeb ynddynt, yn naturiol, o ran yr ardal y mae'n ei chynrychioli, rydym ni'n gwybod bod y Cymoedd gorllewinol wedi eu cysylltu ag economi ehangach y de-orllewin, yn enwedig dinas Abertawe. Felly, sut dylid cyflawni hynny? Wel, mae'r tasglu'n gweithio'n agos gyda bargen ddinesig bae Abertawe i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i gymunedau'r Cymoedd ac i sicrhau bod fargen ddinesig. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, wrth i ni edrych ar ddatblygu canolfannau strategol, er enghraifft, yn y dyfodol, y bydd angen i ni ystyried beth yw'r rhwymedigaethau ariannol er mwyn cyflawni argymhellion y tasglu.

Datganoli Pwerau dros Ynni

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer datganoli pwerau dros ynni o dan Ddeddf Cymru 2017? OAQ51486

Bydd cymhwysedd gweithredol dros y pwerau yn ymwneud â rhoi caniatâd ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu ynni a llinellau trydan uwchben yn cychwyn ar 1 Ebrill 2019. Bydd darpariaethau yn ymwneud â thrwyddedu olew a nwy yn cychwyn ar 1 Hydref 2018.

Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Pan wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Ddeddf yma, fe ddywedon ni ein bod ni'n gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n colli grym yn ogystal ag ennill grym. Rwy'n eich cofio chi'n dweud a'r Llywodraeth yn dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud hyn achos ein bod ni'n ennill y grym yma rydych chi newydd ei amlinellu dros bwerau ynni yng Nghymru. Pam, felly, nad ydych ch'n manteisio ar y cyfle cyntaf, fis Ebrill y flwyddyn nesaf, i ymgymryd â'r pwerau hyn, er enghraifft i wahardd ffracio yng Nghymru, rhywbeth a fyddai'n cael croeso eang iawn gan y boblogaeth? Mae'r Cynulliad hwn yn barod ar gyfer y pwerau hyn, mae pobl Cymru yn barod ar gyfer y pwerau hyn, pam nad ŷch chi?

Wel, mae'n hollbwysig bod y strwythur mewn lle er mwyn inni allu defnyddio'r pwerau. Ni sydd wedi gofyn am hyn—bod y pwerau'n cael eu dodi bant am gwpwl o fisoedd—er mwyn bod y strwythur mewn lle inni allu gweithredu. Beth nad ydym ni'n moyn ei wneud ydy bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n cymryd y pwerau ac, wedi hynny, nad ydym ni'n barod amdanyn nhw. Maen nhw'n gymhleth iawn. Maen nhw'n bwerau nad ydym ni wedi eu cael o'r blaen, ond rydym ni'n hyderus iawn, wrth gwrs, ynglŷn â'r amserlen rydym ni wedi ei chytuno â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod hwn yn rhywbeth sydd yn rhoi cyfle inni ddodi strwythurau mewn lle er mwyn bod y pwerau'n dod.

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr hyn sy’n gyfystyr â siaradwr Cymraeg yn y cynlluniau i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ51445

Wel, dyna beth yw cwestiwn. A gaf i ddiolch i Mike am ofyn ei gwestiwn yn Gymraeg?

Data'r cyfrifiad yw sail y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Roedd cyfrifiad 2011 wedi cofnodi bod 562,000 o ddinasyddion Cymru yn eu hadnabod eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, ond mae e'n anodd ynglŷn ag ym mha ffordd mae rhywun yn diffinio ei hun fel rhywun sydd yn siarad Cymraeg. Rwyf i wedi cwrdd â phobl sydd â Chymraeg digon da, Cymraeg pob dydd, sydd ddim yn cyfrif eu hunain fel siaradwyr Cymraeg o achos y ffaith eu bod nhw'n clywed yr hyn maen nhw yn Gymraeg ar y teledu a'r radio a'n meddwl, 'Wel, os taw dyna beth yw Cymraeg, nid yw fy Nghymraeg i'n ddigon da.' So, i fi, mae yna dasg dros y blynyddoedd i fagu hyder gyda phobl—pobl sydd ddim ag unrhyw fath o gefndir llenyddol, pobl sydd ddim yn darllen pethau yn Gymraeg ond sy'n gallu siarad Cymraeg ar lafar, er mwyn eu bod nhw'n gallu ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg ac i ddiffinio eu hunain fel siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad.

14:15

Diolch am eich ateb, Brif Weinidog. Nawr, yn Saesneg.

Ceir tair lefel ar gyfer datblygu tair lefel o siaradwyr Cymraeg: yn dilyn y gwelliant aruthrol i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, ni ddylai unrhyw blentyn adael yr ysgol gynradd fel siaradwr uniaith Saesneg, nad oedd yn wir pan oeddwn i yn yr ysgol; y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg; a'r rhai sy'n astudio'r Gymraeg yn y brifysgol. Pa strategaeth sy'n cael ei dilyn i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Ac, yn bwysicach, fel y dywedasoch yn gynharach, sut ydych chi'n cael pobl sy'n siarad Cymraeg yn feunyddiol, ond nid i lefel dechnegol, nodi eu hunain fel siaradwyr Cymraeg?

Wel, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl sydd wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol i safon uchel neu—. Yn gyntaf oll, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae'n hynod bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif. Wrth gwrs, mae'r cwrs Cymraeg cryno wedi bod yn anhawster, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n rhoi sylw iddo, ac i gael gwared ar hyn y credaf sy'n rhwystr artiffisial rhwng iaith gyntaf ac ail iaith. Sut ydych chi'n diffinio hynny gydag unrhyw iaith? Ac i ystyried a yw hynny wir yn gweithio o ran y Gymraeg.

Yn ail, mae'n hynod bwysig nad yw'r rhai sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac nad ydynt yn byw mewn cymuned lle siaredir y Gymraeg yn eang, nad ydynt yn dod o gefndir teuluol sy'n siarad Cymraeg, yn colli eu Cymraeg o ganlyniad i adael yr ysgol, oherwydd diffyg ymarfer a diffyg cyfle i'w defnyddio. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi buddsoddi mewn canolfannau ledled Cymru fel y gall pobl fynd yno a defnyddio eu Cymraeg mewn ffordd naturiol mewn rhannau o Gymru lle nad yw'n cael ei siarad ar y stryd. Felly, mae hynny'n rhan ohono.

Sut ydych chi'n cael pobl i ddod yn fwy hyderus? Mae hwnnw'n gwestiwn mwy cymhleth. Mae unigolion yn gweld eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, o edrych ar arolygon eraill, y gall nifer y siaradwyr Cymraeg mewn arolygon eraill fynd i fyny i gymaint â 750,000, gan fod pobl o'r farn bod yr arolygon yn llai ffurfiol na'r cyfrifiad, tra yn y cyfrifiad, mae pobl yn tueddu i ganolbwyntio'n gryf iawn ar beth maen nhw'n ei feddwl yw lefel eu hyfedredd yn yr iaith. Efallai y byddent yn ateb am eu hyfedredd yn y Saesneg, ond eu hyfedredd yn y Gymraeg—. Rwy'n meddwl bod llawer o bobl, ac mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd, yn tueddu i nodi eu hunain fel 'deallwyr Cymraeg' yn hytrach na siaradwyr Cymraeg, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru—Caergybi, rhannau o dde Sir Gaerfyrddin—er bod eu Cymraeg yn ddigon da i gael eu hystyried yn siaradwr brodorol. Mae annog y bobl hynny i wneud y naid honno i ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yn rhan bwysig o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, rwy'n cytuno 100 y cant â'r Prif Weinidog: mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers datganoli, felly mae yna nifer fawr o bobl gyda sgiliau Cymraeg ond sydd ddim yn eu defnyddio, neu sydd ddim yn ystyried bod gyda nhw sgiliau Cymraeg.

Mae gan athrawon rhaglen sabothol, wrth gwrs. A oes gyda chi syniad eto am sut y gellid cefnogi'n ystyrlon unigolion allweddol mewn gweithluoedd eraill?

Wel, dyna un o'r pethau, wrth gwrs, rydym ni'n ystyried fel rhan o'r strategaeth rydym ni wedi ei dodi mewn lle. Mae'n hollbwysig eu bod nhw'n cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae hi hefyd yn bwysig dros ben fod pobl yn gallu gloywi eu Cymraeg nhw. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ddes i fan hyn yn 1999, ni fyddwn i fyth wedi sefyll ar fy nhraed a siarad yn Gymraeg—byth—achos y ffaith nad oedd hyder o gwbl gyda fi yn Gymraeg, yn yr eirfa oedd gyda fi. Nid oedd unrhyw fath o gefndir llenyddol gyda fi o gwbl. Ac felly, mae'n hollbwysig i roi'r cyfle i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Ar un adeg, mae'n rhaid imi ddweud, nid oeddwn o blaid pobl yn gwisgo bathodyn, ond erbyn hyn rydw i wedi newid fy meddwl, achos rydw i'n credu ei fod e yn bwysig bod pobl yn gallu gweld bod rhywun yn siarad Cymraeg, ac yn gallu defnyddio'r Gymraeg gyda rhywun er mwyn rhoi'r cyfle i'r person yna i ddefnyddio'r Gymraeg hefyd. Felly, un o'r pethau hoffwn eu gweld yw mwy o bobl yn hybu eu staff i wisgo bathodynnau os maen nhw eisiau, er mwyn eu bod nhw'n gallu dangos i bobl eraill eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg, er mwyn, wrth gwrs, eu bod nhw'n gallu defnyddio eu Cymraeg yn y gweithle.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar Julie James, arweinydd y tŷ, i wneud y datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar y cynllun gweithredu economaidd. Fel arall, dangosir busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Mae iechyd yn fwy nag ysbytai ac achosion brys; mae'n ymwneud â dewisiadau o ran ffordd o fyw. Mewn treialon, cafodd hanner y bobl a oedd wedi bod â diabetes math 2 ers llai na chwe blynedd eu gwella gan ddeiet yn unig. Rydym ni'n gwybod pa mor niweidiol yw ysmygu a pha mor bwysig yw deiet ac ymarfer corff. Trwy weithio gyda meddygon teulu, gallwn wella iechyd. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar gamau'r Llywodraeth i wella iechyd y cyhoedd, gan gynnwys swyddogaeth gofal sylfaenol.

Diolch am y sylwadau pwysig iawn yna. A dweud y gwir, mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod pobl yn deall sut y gallant helpu eu hunain orau yn y materion hyn. Roedd yr Ysgrifennydd iechyd yma yn gwrando arnoch chi, a gwn ei fod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r materion hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn diweddaru'r Senedd maes o law.

14:20

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar ddarparu gwasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru, os gwelwch yn dda? Mae'r cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gau'r ward dementia yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent yn achosi cryn bryder ymhlith y gymuned yn yr ardal. Os bydd y ward hon yn cau, byddai'n rhaid i gleifion deithio i Lyn Ebwy neu Gasnewydd am driniaeth, a fyddai'n achosi anawsterau enfawr mewn sir wledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn achlysurol, yn ddrud ac yn araf. Adroddir bod y cynnig hwn o ganlyniad i broblemau staffio ym maes gofal iechyd meddwl oedolion hŷn. Hon yw'r adran â'r broblem go iawn, ac maen nhw'n mynd i'w chau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar yr ad-drefnu niweidiol hwn, os gwelwch yn dda? Diolch.

Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r gymuned dementia i lunio strategaeth dementia newydd ar gyfer Cymru, ac yn wir cododd hyn mewn datganiad busnes dim ond ychydig o wythnosau yn ôl, pan y cadarnhaodd y byddai'r strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Rwy'n siŵr y bydd yn ystyried y materion yr ydych chi wedi eu codi o ran y gwasanaeth pwysig hwn pan fydd yn gwneud hynny.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd iechyd gynllun gwerth £68 miliwn yr wythnos diwethaf, ar gyfer canolfannau iechyd a gofal, gan gynnwys 11 o ganolfannau a meddygfeydd teulu newydd, yn ogystal ag adnewyddu clinigau a chanolfannau iechyd presennol, sydd i'w groesawu'n fawr. Ond mae trefi mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael cyfran deg o adnoddau'r gwasanaeth iechyd. O ran Sir Drefaldwyn, bydd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn arwain at ailddatblygu'r cyfleusterau ym Machynlleth a chanolfan gofal iechyd sylfaenol newydd yn Llanfair Caereinion, ond mae'r Drenewydd yn teimlo ei bod wedi'i hesgeuluso'n fawr iawn a'i bod yn cael ei hanghofio bob amser. Bu prosiect ailddatblygu ysbyty anferth yn Llandrindod i'r de o'r Drenewydd, felly mae'n un o'r trefi y gellir eu galw'n drefi sinderela yng Nghymru. Mae Blaenau Ffestiniog yn un arall yr wyf i wedi sôn amdani droeon yn y Siambr hon. Tybed a allwn ni gael dadl ar y pwnc trefi sinderela hyn sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu cyfran deg o adnoddau gan y GIG.

Nid wyf yn cyd-fynd â diffiniad yr aelod bod unrhyw dref yng Nghymru yn dref sinderela. Rwy'n siŵr bod yr holl drefi yng Nghymru yr un mor bwysig â'i gilydd, i Gymru gyfan, pob un o'i chymunedau ac i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylid caniatáu i'r Aelod barhau gyda disgrifiad o'r fath.

Mae gennyf ddau gwestiwn i chi, arweinydd y tŷ. Rhan o'r ymrwymiad i'r 'Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi' yw i gyflogwyr symud ymlaen tuag at ddod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn. A ydych chi'n croesawu'r ymrwymiad Cyngor Tref y Barri i fod y dref cyflog byw go iawn gyntaf yng Nghymru? Pa gefnogaeth a roddir i'r ymgyrch cyflog byw go iawn yng Nghymru a arweinir gan Citizens Cymru Wales a Cynnal Cymru?

Fy ail gwestiwn yw: a wnewch chi hefyd groesawu Patrick Oketcho o Tororo yn Nwyrain Uganda, myfyriwr yng Ngholeg yr Iwerydd sydd yma gyda ni heddiw, gyda chefnogaeth cyrff Anllywodraethol Uganda Tocida a'r elusen Vale for Africa, yr wyf i'n ymddiriedolwr iddi? Roedd Patrick yn gallu ymuno â mi yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol heddiw, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu rhyngwladol, a gadeiriwyd gan Rhun ap Iorwerth. A fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y rhaglen Cymru o blaid Affrica sy'n cefnogi mentrau sydd o fudd i Gymru ac Affrica?

Ie, o ran y peth Cymru o blaid Affrica, rwy'n croesawu Patrick yn fawr. Patrick yw'r pedwerydd myfyriwr o Uganda i elwa ar ysgoloriaeth ddwy flynedd yng Ngholeg yr Iwerydd o dan y cynllun gwych hwn, a ariennir gan y gwirfoddolwyr yn Vale for Africa. Yn wir, roedd y ddau ohonom ni mewn derbyniad ar gyfer Coleg yr Iwerydd yn ddiweddar yn y Senedd, ac roedd hi'n wych i gwrdd â rhai o'r myfyrwyr a'r rhieni a rhai o'r athrawon yno hefyd.

Mae Vale for Africa yn un o fwy na 350 o grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd â chysylltiad ag Affrica is-Sahara ac rydym ni'n falch iawn o'r rhaglen a'r holl fanteision sydd iddi, nid yn unig i bobl Affrica, ond mewn gwirionedd i bobl Cymru hefyd, o ran y cyfnewid diwylliannol rhyngddynt. Rydym ni'n annog mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiectau datblygu rhyngwladol a helpu'r prosiectau hynny i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel yr wyf yn dweud, yma ac yn Affrica hefyd.

Yn y tair blynedd diwethaf, mae cyfanswm o £640,000 wedi'i ddosbarthu trwy 131 o grantiau i 89 o sefydliadau yng Nghymru i gefnogi'r gwaith partneriaeth yn Affrica is-Sahara drwy Hub Cymru Affrica, a ariennir drwy'r rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mewn gwirionedd, y llynedd gwnes i agor uwchgynhadledd datblygu rhyngwladol Cymru yn Abertawe, y daeth dros 200 o bob iddi, ar gyfer Cymru o blaid Affrica hefyd. Felly, mae'n rhaglen hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru ac i bobl Affrica. Rwy'n llongyfarch Patrick yn fawr iawn am fod yma gyda ni heddiw. Efallai y caf i gyfle i gwrdd ag ef—byddai hynny'n wych.

O ran cyflog byw go iawn, rwy'n llongyfarch Cyngor Tref y Barri yn fawr iawn am hynny. Mewn gwirionedd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio cyn bo hir ei gynllun gweithredu economaidd, gan ddweud rhywbeth ynddo ynghylch yr angen i gydnabod gwaith teg ledled Cymru. Mae ein sector cyhoeddus yn amlwg yn mynd i arwain y ffordd yn hynny o beth, ac mae'n braf iawn gweld bod Cyngor Tref y Barri wedi cytuno i'r ymrwymiad hwnnw yn y ffordd honno. Wrth gwrs, lansiodd y Prif Weinidog y cyflog byw gwirioneddol newydd fan hyn yn y Senedd yn ddiweddar, ac yn wir mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddan nhw i gyd hefyd yn talu cyflog byw go iawn, ac rwy'n croesawu'r datblygiad hwnnw hefyd. Felly, mae'n ddatblygiad rhagorol a dylid eu llongyfarch yn fawr iawn.

14:25

Bu'n 15 mis ers i'r mater o danau naddion pren a dympio naddion pren yn anghyfreithlon gael ei godi yn y Siambr, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, neu o bosibl gan Weinidog yr Amgylchedd nawr, i'n diweddaru ar y cynnydd: ar y meysydd rheoleiddio sydd angen eu diwygio, y dystiolaeth sydd wrth wraidd y penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud, a pha gynnydd a wnaethpwyd ar ddrafftio gwell rheoliadau a fydd yn helpu i atal y digwyddiadau difrifol hyn rhag digwydd eto. Gofynnais am y datganiad yn ôl ym mis Mehefin, a hyd y gwelaf i, nid oes unrhyw arwydd bod hynny i ddod. Felly, os gallech chi symud ymlaen â hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol rwy'n credu, yn newydd i'r swydd ac rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw cyn gynted ag y mae'n gallu yn ei phortffolio. Byddaf yn sicr o'i hatgoffa am hynny.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu saith deg pump o flynyddoedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—un o'r sefydliadau gwareiddio gorau a sefydlwyd gan Lywodraeth erioed. Mae'n amlwg yn drist iawn gweld y ffordd y mae'r GIG yn cael ei danseilio a'i breifateiddio dros y ffin yn Lloegr, ond yng Nghymru rydym ni wedi cynnal ethos ac egwyddorion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Tybed a wnewch chi amlinellu beth yw bwriad Llywodraeth Cymru i ddathlu'r llwyddiant mawr hwn, ac i ddathlu'r sefydliad hwn a'i ddyfodol.

Yn sicr, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu saith deg pum mlynedd ers sefydlu'r GIG mewn digwyddiadau yn Nhredegar, wrth gwrs—cartref y GIG ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan—ac yn wir dathliadau ledled Cymru. Mae'r flwyddyn 2018 yn rhoi cyfle ardderchog i ni ddathlu penderfyniad y bobl i greu gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer yr holl bobl, ac yn wir i ddathlu ein penderfyniad i gadw at egwyddorion ac ethos sefydlu'r GIG yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud llawer o waith gyda grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i gynllunio a chydgysylltu'r dathliadau, a hefyd i achub ar y cyfle i edrych ar ddyfodol y GIG a sut y gallwn ni ei wneud yn GIG mwy integredig a chynaliadwy i gyflawni ein hymrwymiad 'Byw yn Iach ac Egnïol' a amlinellir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar Nant y Rhath. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gwaith arfaethedig yn cael ei ohirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os aiff yn ei flaen wedyn bydd pobl yn y rhan hon o Ben-y-lan yn colli hanner eu parc a nifer fawr o goed aeddfed. Y rheswm a roddwyd yw atal llifogydd, ond ni fu llifogydd yn y parc penodol hwn am fwy na 70 mlynedd yn sicr, os erioed, ac roedd y modelu a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar yr ardal gyfan ac roedd y data a ddosbarthwyd gyda'r ymgynghoriad yn anghywir—roedd yn anghywir iawn. Felly, tybed a oes polisi Llywodraeth ar ailwneud ymgynghoriadau sy'n ddiffygiol, ac a gaiff pobl Pen-y-lan yn ardal Nant y Rhath eu clywed neu beidio.

Wel, mae'r ymgynghoriad yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n siŵr bod atal llifogydd yn bwysig iawn ym mhob ardal o Gymru. Mae'n achosi niwed gwirioneddol drychinebus, ac wrth inni nesáu at y gaeaf mae angen inni fod yn barod mewn gwirionedd ar gyfer y gaeaf. Mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd i gymryd hyn o ddifrif. Os oes gan yr Aelod broblemau penodol o ran yr ymgynghoriad, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at noddwyr yr ymgynghoriad ac yn nodi'r materion penodol.

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar effaith tywydd y gaeaf ar drafnidiaeth ar ôl y penwythnos o darfu a gawsom. Ddoe, ynghyd â miloedd o bobl eraill, fe gymerodd hi saith awr a hanner, a llawer o newid trenau, i mi deithio o Wrecsam i Gaerdydd. Roedd y staff ar y trên, mae'n rhaid i mi ddweud, yn wych, yn cynnig coffi am ddim a dyn a ŵyr beth arall. Ni allan nhw fod yn gyfrifol am eira ac ni allan nhw fod yn gyfrifol am goed yn cwympo. Cafwyd methiannau signalau yn ogystal â threnau a oedd mynd tuag yn ôl yn ogystal ag ymlaen. Cyd-destun deall sut gallai hyn fod wedi digwydd yn y ffordd a wnaeth; y graddau yr oedd hyn y tu hwnt i reolaeth unrhyw un; a'r graddau y gallwn ni gynllunio'n well pe byddai'r math hwn o dymheredd, eira a rhew yn digwydd eto, wrth i'r gaeaf fynd yn ei flaen.

Yn ail ac yn olaf, mewnblaniadau rhwyll. Rwy'n gwybod bod Neil McEvoy wedi galw arnoch chi, yr wythnos diwethaf, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fewnblaniadau rhwyll a gwnaethoch chi ateb bod yr Ysgrifennydd iechyd eisoes wedi gwneud ymrwymiad i gyflwyno datganiad ar fewnblaniadau rhwyll, ac roeddech chi'n siŵr y byddai'n gwneud hynny yn fuan iawn. Hyd yn hyn, mae ei ddatganiad, gan gynnwys ymatebion ysgrifenedig ataf i ar ran etholwyr, wedi dangos ei fod yn dal i gredu bod y manteision yn gwrthbwyso'r risgiau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod y datganiad yn ystyried datblygiadau diweddar yn y cyd-destun hwn. Yn Awstralia, mae eu corff rheoleiddio yn adran iechyd, y weinyddiaeth nwyddau therapiwtig, wedi dod i'r casgliad nad yw manteision defnyddio cynhyrchion rhwyll drwy'r wain i drin brolaps organau'r pelfis yn gwrthbwyso'r risgiau y mae'r cynhyrchion hyn yn eu hachosi i gleifion. Maen nhw hefyd yn ystyried bod diffyg tystiolaeth wyddonol ddigonol ar gael iddyn nhw i fod yn fodlon bod y risg i gleifion sy'n gysylltiedig â defnyddio cynhyrchion rhwyll, fel slingiau bach un endoriad ar gyfer trin anymataliad wrinol cysylltiedig â straen, yn cael ei wrthbwyso gan eu manteision, ac mae Awstralia yn tynnu'r cynhyrchion hyn oddi ar eu cofrestr o nwyddau therapiwtig. Ac, yn y DU, adroddir bod y corff gwarchod iechyd, NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, wedi datgan y dylid gwahardd llawdriniaethau rhwyll drwy'r wain, ac yn y dogfennau sydd i'w cyhoeddi ar ôl ymgynghori y mis hwn, yn dweud bod pryderon diogelwch difrifol ond gwybyddus. Ac, wrth gwrs, mae defnyddio'r mewnblaniadau i drin prolaps organau ac anymataliad wrinol eisoes wedi'i atal yn yr Alban. Byddwn i felly'n ddiolchgar, pan ddaw'r datganiad a addawyd, pe gallai'r datblygiadau hyn gael eu hystyried. Diolch.

14:30

O ran eich cais cyntaf am ddatganiad, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi cael anhawster sylweddol yn dod i lawr o'r gogledd, fel nifer fawr o Aelodau eraill yn y Siambr, ac mae wedi nodi ei barodrwydd i gyflwyno datganiad am yr hyn y gellir ei wneud yn y modd y mae'r Aelod yn ei amlinellu—yr hyn na ellir bod wedi ei osgoi, yr hyn y gellir ei osgoi yn y dyfodol ac ati. Mae ef wedi nodi ei barodrwydd i wneud hynny.

O ran mewnblaniadau rhwyll drwy'r wain, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn a oedd gennych chi i'w ddweud. Yn amlwg, mae materion difrifol iawn i'w hystyried yn y fan hyn ar ddwy ochr y ddadl honno, ac rwy'n siŵr y bydd yn ystyried y rhai hynny pan fydd yn cyflwyno ei ddatganiad maes o law.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, efallai eich bod chi'n ymwybodol—dylech chi fod yn ymwybodol—o'r pryderon ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain a'r cyngor y mae gweithwyr dur yn ei gael mewn gwirionedd, a'r ffaith bod rhai gweithwyr dur wedi colli arian, mewn gwirionedd, oherwydd cyngor gwael. Nawr, un o'r cwmnïau sydd wedi'i nodi yw Celtic Wealth Management, a gafodd arian gan Lywodraeth Cymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a seilwaith i drafod sut y maen nhw'n sicrhau bod yr arian y maen nhw'n ei fuddsoddi mewn cwmnïau fel hyn yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth, ac felly nad yw gweithwyr dur, sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn cronni eu potiau pensiwn, ar eu colled oherwydd cyngor gwael sy'n dod naill ai gan gwmnïau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru neu gan gwmnïau y maen nhw'n eu pasio ymlaen o ganlyniad?

Rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch pensiynau gweithwyr dur, ac roedd rhai o'r straeon yn fy nychryn i yn fawr iawn. Nid oes gennyf syniad o'r—. Nid wyf wedi cael unrhyw gyfle i gadarnhau rhai o'r storïau, ond mae gennyf etholwyr sydd wedi'u heffeithio hefyd. Byddwn i'n hapus iawn i drefnu cyfarfod rhyngoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac unrhyw Aelodau eraill sydd â diddordeb etholaethol yn hyn, i ystyried y mater ymhellach.

Datganiad Personol: Darren Millar

Rwyf wedi cytuno y gall Darren Millar wneud datganiad personol. Galwaf felly ar Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi'r cyfle imi wneud y datganiad personol hwn heddiw. Mae'n ddatganiad yr wyf yn ei wneud ar ôl llawer o hunanholi, ond rwy'n teimlo bod gennyf ddyletswydd foesol i'w gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo ymddangos ar Gofnod y Trafodion. Ddydd Mawrth diwethaf, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nodais y byddwn i'n gofyn i gael cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol, James Hamilton, ynghylch yr honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2014 a pha un a oedd y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Cofnod y Cynulliad yn tystio i'r ffaith i mi gyflwyno, ar 4 Tachwedd 2014, y tri chwestiwn canlynol:

'A yw'r Prif Weinidog erioed wedi derbyn unrhyw adroddiadau neu wedi'i wneud yn ymwybodol o unrhyw honiadau o fwlio gan gynghorwyr arbennig a/neu arbenigol ar unrhyw adeg yn ystod y tair blynedd diwethaf ac, os felly, pryd a pha gamau a gymerwyd, os bu rhai?'

'A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a gynhaliwyd unrhyw gyfweliadau ymadael gyda chynghorwyr arbennig a/neu arbenigol ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf ac, os felly, beth oedd canlyniad y rhain?'

ac

'A wnaiff y Prif Weinidog ddweud faint o unigolion y daeth eu cyflogaeth fel cynghorwyr arbennig a/neu arbenigol i ben ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf, gan gynnwys y dyddiad y daeth eu cyflogaeth i ben a'r rheswm dros adael?'

Y rheswm yr wyf i'n dymuno cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol yw oherwydd y gofynnwyd imi gyflwyno'r cwestiynau hynny gan rywun arall. Y person hwnnw oedd ein cyn gyd-Aelod Cynulliad, Carl Sargeant. Cefais sgwrs breifat gyda Carl ddechrau mis Hydref 2014, i ffwrdd o adeilad y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ystod y sgwrs honno dywedodd Carl wrthyf ei fod yn anhapus, oherwydd bod bwlio yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru, a oedd yn dod gan unigolyn yn swyddfa Prif Weinidog Cymru, a bod hynny'n cael effaith arno ef yn bersonol, ynghyd ag eraill. Ni fyddaf heddiw yn enwi'r unigolyn y nododd Carl wrthyf, ond hoffwn ei gwneud yn gwbl glir nawr na wnaeth Carl, ar unrhyw adeg, yn ei drafodaethau â mi erioed gyhuddo y Prif Weinidog ei hun o fwlio. Cynigiais i helpu, ond roeddwn i'n teimlo'n gwbl ddi-rym i wneud hynny. Ymatebodd Carl drwy ddiolch i mi a dywedodd y byddai'n ystyried fy nghynnig ac yn dod yn ôl ataf. 

Ryw bythefnos yn ddiweddarach, ar 22 Hydref 2014, daeth Carl ataf i yn ystafell de yr Aelodau yn ystod y Cyfarfod Llawn gyda nodyn mewn llawysgrifen a oedd yn cynnwys cwestiynau drafft i mi ystyried eu cyflwyno i'r Prif Weinidog. Esboniodd ei fod yn gobeithio y byddai cyflwyno'r cwestiynau yn ddigonol i ysgogi gweithredu mewnol yn Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r broblem bwlio. Dewisais i ailddrafftio rhywfaint ar y cwestiynau, a rhannais y rhain yn breifat gyda Carl. Roedd yn fodlon â'r ailddrafftio ond gofynnodd i mi beidio â chyflwyno'r cwestiynau ar unwaith. Yn hytrach, gofynnodd i mi aros tan ei fod wedi siarad â mi unwaith eto am y mater. Yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd 2014, dywedodd Carl wrthyf bod yr amser yn addas erbyn hyn i mi gyflwyno'r cwestiynau, gan fod cwyn mewn gwirionedd wedi ei gwneud, i'r Prif Weinidog, am ymddygiad cynghorydd arbennig. Cyflwynais y cwestiynau wedyn ar 4 Tachwedd 2014, ac mae'r atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog bellach ar y cofnod cyhoeddus. Ar ôl i mi dderbyn yr ymatebion ysgrifenedig, trosglwyddais nhw i Carl cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad. Roedd wedi ei synnu, ac roedd yn siomedig ag atebion y Prif Weinidog, a phenderfynodd bod yn rhaid iddo dderbyn y byddai'r sefyllfa'n parhau.

Gadewch imi fod yn glir: roedd Carl Sargeant yn aelod ffyddlon o Lywodraeth Cymru ac yn aelod ffyddlon o'r Blaid Lafur. Roedd yn cymryd ei ddyletswyddau Cabinet a'i gyfrifoldeb ar y cyd o ddifrif. Ei unig ysgogiad wrth ddatgelu'r problemau o fewn Llywodraeth Cymru wrthyf i a gofyn am fy nghymorth yn y modd hwn oedd i geisio datrys y rhwystredigaeth a straen y sefyllfa a oedd yn parhau ar yr adeg honno er ei fwyn ef a'i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Ei deyrngarwch i'r Llywodraeth a'r blaid yr oedd yn ei charu oedd y rheswm pam yr oedd eisiau i'r problemau gael eu datrys, ac ni wnaeth Carl gysylltu â mi yn y ffordd hon na gofyn i mi wneud unrhyw beth o'r math hyn ar unrhyw adeg arall yn y 10 mlynedd y gwnaethom ni wasanaethu gyda'n gilydd fel Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ôl yn 2014, gwnaed Paul Davies yn ymwybodol o'r rhesymau pam y cyflwynais y cwestiynau ac mae'n barod i gadarnhau'r ffeithiau yn y datganiad hwn. Rwy'n deall bod pobl eraill hefyd wedi cael gwybod gan Carl Sargeant ei hun ei fod wedi gofyn imi gyflwyno'r cwestiynau ac am yr amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â nhw. Fel parch at deulu Carl, nid oeddwn i eisiau gwneud y datganiad hwn cyn angladd Carl na heb roi gwybod iddyn nhw. Gallaf i gadarnhau eu bod yn ymwybodol fy mod yn gwneud y datganiad hwn heddiw ac mae copi wedi'i rannu â nhw ymlaen llaw.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu imi wneud y datganiad personol byr hwn heddiw. Ynddo rwyf wedi nodi'r ffeithiau yn syml i chi fel fy nghyd-Aelodau Cynulliad—ffeithiau yr oedd fy nghydwybod yn fy ngorfodi i i'w rhannu gyda chi ac i'w rhoi ar y cofnod cyhoeddus, ac rwyf eisiau i'r datganiad personol hwn gael ei ystyried fel tystiolaeth gan James Hamilton i'w gynorthwyo â'i ymchwiliad. Ni fyddaf yn trafod y mater hwn ymhellach y tu allan i'r ymchwiliad hwnnw nac yn siarad â'r wasg. Diolch yn fawr.

14:35
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y cynllun gweithredu economaidd, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad, Ken Skates. 

Diolch i chi, Llywydd. Ers datganoli, rydym ni wedi cryfhau sylfeini economi Cymru. Mae ein perfformiad yn y farchnad lafur yn gryf, ac mae mwy o bobl yn gweithio nag erioed o'r blaen. Mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau gweithredol ac mae nifer busnesau newydd ar y lefel uchaf ers dros ddegawd. Mae ein hallforion a lefelau buddsoddi uniongyrchol o dramor yn parhau i greu argraff, gan ddangos hyder byd-eang yn ansawdd busnes, cynnyrch a gwasanaethau Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

14:40

Fodd bynnag, nid dyma'r amser i sefyll yn stond. Rydym yn byw mewn oes o newid na welwyd ei fath o'r blaen yn ogystal â chyfnod o gyfleoedd heb eu hail. Yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae'r ffordd yr ydym ni'n gweithio, yn byw ac yn treulio ein hamser hamdden yn newid o flaen ein llygaid. 

Mae gan hyn oblygiadau i bob un ohonom—ar gyfer pob busnes a phob cymuned. Mae'n rhaid inni achub y blaen ar y newid hwnnw i sicrhau bod ein pobl, ein lleoedd a'n busnesau yn barod i wynebu'r dyfodol yn hyderus, a dyna pam yr wyf i'n cyhoeddi 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi'. Mae'r cynllun yn gosod gweledigaeth glir—gweledigaeth ar gyfer twf cynhwysol, economi sydd wedi ei hadeiladu ar sylfaeni cadarn, diwydiannau grymus ar gyfer y dyfodol, ac i alluogi rhanbarthau i fod yn fwy cynhyrchiol. Wrth ymateb i'r hyn y mae busnesau, undebau llafur a chymunedau wedi ei ddweud wrthym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hwn yn gynllun Llywodraeth gyfan ar gyfer twf. Rwyf yn ddiolchgar am waith y Cabinet a chyd-Weinidogion, oherwydd mae eu cyfraniad i'r fframwaith hwn wedi bod yn hanfodol a bydd yn hollbwysig ar gyfer ei gyflawni ar lawr gwlad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae hwn yn gynllun ar gyfer pawb yng Nghymru, cynllun sy'n diwallu'r anghenion presennol a chyfleoedd y dyfodol, cynllun sy'n ysgogi newid mewn polisi, darpariaeth a'r ffordd yr ydym yn gweithio yn y Llywodraeth a gydag eraill. Ymhlith ei newidiadau allweddol, mae contract economaidd newydd i lunio perthynas newydd a deinamig gyda busnesau, yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol. Yn rhan o'r berthynas gytbwys, rydym ni'n disgwyl i fusnesau ymrwymo i dwf, gwaith teg, lleihau yr ôl troed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn symleiddio ein cynnig cyllid ac yn darparu cynnig ehangach cystadleuol i fusnesau.

Byddwn yn helpu busnesau i oresgyn heriau allweddol y dyfodol, drwy ein pum maes gweithredu: datgarboneiddio, oherwydd ein bod eisiau helpu mwy o fusnesau Cymru i fod yn garbon-ysgafn neu'n ddi-garbon. Arloesi, entrepreneuriaeth a phencadlys—rydym ni eisiau cefnogi busnesau i arloesi, ac i gyflwyno cynnyrch a gwasanaethau newydd. Allforion a masnach—rydym ni eisiau mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi cyfleoedd masnachu â gweddill y DU a gweddill y byd. Swyddi o'r ansawdd gorau, datblygu sgiliau a gwaith teg – rydym ni eisiau gwella ein sylfaen sgiliau a sicrhau bod gwaith yn cael ei gydnabod yn deg. Ymchwil a datblygu, awtomeiddio a digideiddio—rydym ni eisiau helpu i ddatblygu cynhyrchion newydd, i awtomeiddio ac i ddigideiddio i sicrhau bod Cymru yn parhau yn gystadleuol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol. 

Byddwn yn newid ein mecanweithiau cymorth sylfaenol i ganolbwyntio ar y meysydd gweithredu hyn. Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes sy'n gofyn am gymorth ariannol uniongyrchol ddatblygu cynigion sy'n ymateb i o leiaf un o'r rhain, ac yn cyd-fynd ag un ohonyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn darparu cymorth ariannol i'r busnesau sy'n paratoi ar gyfer y dyfodol. Ac er bod ein contract economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud y pethau iawn heddiw, mae ein meysydd gweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ymateb i heriau'r dyfodol. Gyda'i gilydd, maen nhw'n sicrhau bod y buddsoddiadau yr ydym yn eu cynnig i fusnesau yn darparu ar gyfer y presennol a'r dyfodol. 

Yn rhan o'n cynnig, rydym ni'n ymateb i'r alwad gan fusnes ac eraill, am fwy o symlrwydd. Byddwn yn moderneiddio ac yn symleiddio ein dull i un gronfa, dyfodol yr economi gyfunol. Bydd y gronfa yn cyfochri'r cymorth ariannol yr ydym yn ei ddarparu i fusnesau, i'n pum maes gweithredu a'r contract economaidd. Am y tro cyntaf, byddwn yn annog ac yn gweithio yn rhagweithiol gyda grŵp o fusnesau i ddatblygu cynigion heriol sy'n cyflawni yn erbyn ein meysydd gweithredu. Byddwn yn ystyried cynigion sy'n cael effaith drawsnewidiol ar y busnesau hynny eu hunain, yn ogystal ag effeithiau rhanbarthol ehangach. Mae'r dull hwn yn grymuso'r gymuned fusnes i ysgogi newid, gyda chynigion beiddgar ac uchelgeisiol. Yn ogystal, byddaf yn sefydlu grŵp trawsbleidiol sy'n cynnwys Aelodau Cynulliad i helpu i nodi cynigion heriol sy'n canolbwyntio ar y themâu allweddol a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, a'i feysydd gweithredu yn arbennig.

 I sicrhau'r effaith gorau, mae angen inni hoelio ein hadnoddau ariannol a thargedu ein cymorth—ni allwn weithio mewn modd rhagweithiol â phob sector yn yr economi. Felly, mewn ymateb i'r amgylchedd economaidd sy'n newid yn gyflym, gan gynnwys cydgyfeirio ffiniau sectorau, rydym yn symleiddio ein ffordd o weithio gan ymdrin â thri sector thematig a phedwar sector sylfaen. Ein sectorau thematig cenedlaethol yw: gwasanaethau y gellir eu masnachu, gan gynnwys gwasanaethau technoleg ariannol, yswiriant ar-lein a chreadigol; gweithgynhyrchu uchel ei werth, gan gynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd a gweithgynhyrchu cyfansoddion newydd; a galluogwyr, gan gynnwys y sector digidol, arbed ynni ac ynni adnewyddadwy. Ein sectorau sylfaen yw twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal. Byddwn yn gweithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth ar amryw o faterion yn y sectorau sylfaen hyn, gan gynnwys datblygu sgiliau, modelau busnes newydd a seilwaith. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r sectorau i ddatblygu cynlluniau galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesedd, ac i ymdrin â materion allweddol.

Er mai gwlad fach yw Cymru, nid ydym yn llai amrywiol. Mae pob un ohonom yn cynrychioli gwahanol rannau o Gymru sydd â'u cyfleoedd a'u heriau unigryw eu hunain. Mae'n bryd i ni gydnabod ac ymateb i'r rhain. Yn hytrach na defnyddio un dull ar gyfer pawb, byddwn yn atgyfnerthu trefniadau cydweithio rhanbarthol ac yn defnyddio gwybodaeth leol i deilwra'r ffordd yr ydym yn darparu cymorth yn genedlaethol. Bydd prif swyddogion rhanbarthol yn hyrwyddo buddiannau rhanbarthol yn y Llywodraeth. Bydd hyn yn ategu'r gweithgarwch da sydd eisoes yn digwydd ar sail ranbarthol, gan gynnwys cytundebau dinas a thwf. Er mwyn sicrhau bod y datblygiad economaidd lleol a rhanbarthol yn llwyddiannus, bydd angen cydweithio yn fwy effeithiol ar lawr gwlad, ac rwyf yn awyddus bod y cynllun hwn yn gweithio gydag, ac yn ategu cyhoeddiadau cysylltiedig megis y model newydd ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr wythnos hon. 

Mae ôl-troed rhanbarthol y cynllun yn gyson â'n hagenda i ddiwygio Llywodraeth Leol a'r rhai a ddefnyddir gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Nid ydym yn diystyru pwysigrwydd y canolbarth, ac rydym yn ymrwymo yn y cynllun i weithio gyda phartneriaid yno, ar gynnig bargen twf. Byddwn yn gwella ein seilwaith a, thrwy'r cynllun, rydym yn ymrwymo i raglen pum mlynedd ar gyfer cyllid cyfalaf trafnidiaeth gyda'r nod o gyflawni prosiectau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol. Prif darged hyn fydd sicrhau arbedion effeithlonrwydd o 15 y cant i 20 y cant ym mhob rhan o'r portffolio buddsoddi pum mlynedd ar gyfer prosiectau newydd. Gan ddefnyddio ffigurau a geir yn y gyllideb ddrafft 2018-19 ar gyfer cyfalaf trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf fel cyfartaledd y gwariant blynyddol, gellid cyflawni arbedion effeithlonrwydd o hyd at £630 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd. Bydd gwario'r arbedion helaeth hyn ar fusnesau, sgiliau a datblygu seilwaith yn gwella ein twf a'n cystadleurwydd ymhellach.

Mae hon yn agenda cyffrous ar gyfer newid yr hyn a wnawn a sut yr ydym yn ymateb i heriau a chyfleoedd. Rydym yn deall yr angen i fesur y cynnydd yr ydym yn ei wneud drwy'r dull gweithredu newydd hwn, gan nodi bod y canlyniadau economaidd yn cael eu dylanwadu gan amrywiaeth o faterion y tu hwnt i'n rheolaeth. Mae polisi Llywodraeth y DU, trafodaethau gadael yr UE a chyflwr yr economi fyd-eang yn ddylanwadol iawn. Mae'r dangosyddion lles yn darparu fframwaith mesur clir a chyson i ni ar draws y Llywodraeth. Byddwn yn defnyddio'r rhain i olrhain cynnydd yn y tymor hwy, yn unol â mesurau strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'.

Rwyf yn awyddus, wrth ddatblygu'r cynllun hwn, ein bod yn gweithio o fewn fframwaith rhyngwladol, gan ddysgu o'r arferion gorau ledled y byd. Yng nghyd-destun Brexit, mae'r her hon yn bwysicach nag erioed. Mae hyn yn golygu bod yn agored fel gwlad i her adeiladol gan gyrff rhyngwladol sydd ag arbenigedd ym maes datblygu economaidd. Am y rheswm hwn, rwy'n awyddus i ddechrau deialog gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid rhyngwladol eraill yn y maes hwn, a byddaf yn ceisio gwneud mwy o ymgysylltu yn y dyfodol.

Anaml y mae newid yn rhwydd, ond gall fod yn angenrheidiol. Oni fyddwn yn newid ein dyfodol heddiw, ni fyddwn ni'n gallu manteisio ar gyfleoedd yfory. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain fodd bynnag. Galwaf ar bob un ohonom—y gymuned fusnes, ein sefydliadau dysgu, yr undebau llafur a'r gymdeithas ehangach—i ymuno â ni. Gadewch inni uno ar gyfer Cymru sy'n tyfu, Cymru decach, a Chymru sy'n achub ar gyfleoedd ar gyfer ffyniant i bawb.

14:45

Diolch, Dirprwy Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch eich bod wedi lansio eich cynllun gweithredu economaidd o'r diwedd. Byddwn i'n dweud bod y cynllun wedi cyrraedd 19 mis ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016, pryd, wrth gwrs, y gwnaethoch chi ddatgan mai'r economi fyddai prif flaenoriaeth eich Llywodraeth. Dim ond y bore yma y derbyniodd Aelodau'r Cynulliad y ddogfen hon, ond fe wnes i fy ngorau i ddarllen cymaint ag sy'n bosibl yn yr amser a gefais y bore yma.

Rwyf braidd yn siomedig yn eich dull goddefol. Nid yw'r cynllun hwn yn adlewyrchu'n ddigonol yr heriau economaidd sy'n wynebu Cymru. Yn 1999, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bwriad i godi gwerth ychwanegol gros yng Nghymru i 90 y cant o gyfartaledd y DU er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn gryf a bod cyflogau y gweithiwr cyffredin yng Nghymru yn uwch. Nawr, y cynllun gweithredu economaidd heddiw yw'r bedwaredd strategaeth economaidd a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ers 1999—bron i 20 mlynedd o'r strategaethau economaidd hyn. Mae gwerth ychwanegol gros Cymru wedi gostwng o 72 y cant o gyfartaledd y DU yn 1999 i 71 y cant yn 2015. Canlyniadau ymarferol y methiannau hyn o ran strategaethau, yn fy marn i, yw bod cynhyrchiant Cymru yr isaf o'r holl wledydd a rhanbarthau cartref, ac mae Cymru, felly, yn wynebu argyfwng cynhyrchiant difrifol, ac enillion wythnosol Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig. Nid oes syndod bod Llywodraethau Cymru olynol wedi anwybyddu'n dawel targed y GYG o 90 y cant fel nod datganedig ar gyfer lefel perfformiad economi Cymru.

Gan edrych ar y cynllun gweithredu, ceir uchelgeisiau canmoladwy iawn, yn fy marn i, yn y cynllun gweithredu, ond nid yw'r strategaeth yn cynnwys unrhyw ddealltwriaeth strategol na dulliau cyflawni, ac er fy mod i'n croesawu'r bwriad, wrth gwrs, yn y cynllun gweithredu, mae'n ymddangos mai uchelgeisiau a geiriau yn unig yw'r ymrwymiadau, heb fawr o ddealltwriaeth a chyfarwyddyd ynghylch sut y bydden nhw'n cael eu datblygu, a phrin yw'r cymorth i fusnesau.

Fel y byddech yn disgwyl, ac fel sy'n iawn hefyd, rwyf eisiau craffu ar ddatblygiad yr uchelgeisiau yn fanwl, wrth iddynt newid o eiriau i realiti, ond bydd hyn bron yn amhosibl, gan nad yw'r cynllun gweithredu yn cynnwys unrhyw fesurau nac unrhyw ganlyniadau mesuradwy. Felly, a gaf i ofyn: beth yw'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r uchelgeisiau hyn a sut y byddwch chi'n mesur y llwyddiant? Rydych chi'n dweud bod eich uchelgais yn enfawr. Dyna'r hyn a ddywedwch yn y ddogfen. Ond beth yw'r nod terfynol? Beth yw llwyddiant, yn eich barn chi?

Gan droi at fanylion y cynllun gweithredu, nid yw'r ddogfen yn sôn am yr adnoddau a fydd yn ategu'r cynllun na pholisïau economaidd blaenllaw Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ardaloedd menter a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru. Mae hepgor y polisïau hyn, efallai, o'r cynllun gweithredu, byddwn i'n awgrymu, yn dweud llawer wrthym am ddiffyg llwyddiant y mesurau hyn.

Drwy'r contract economaidd a'r meysydd gweithredu, ymddengys hefyd eich bod yn newid eich dull o dargedu nifer o sectorau blaenoriaeth i brif sectorau ehangach, ond nid yw'n darparu unrhyw fanylion ystyrlon ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi busnesau yn y dyfodol. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw beth i gynyddu na chyflymu'r benthyciadau i fusnes, yn fy marn i, ac yn gwneud dim ond ychwanegu at y baich gweinyddol sy'n wynebu cwmnïau sy'n ceisio cymorth i dyfu a ffynnu.

O safbwynt busnes, mae gennyf bryderon ynghylch pa un a fydd busnesau yn gallu adnabod pa sector y maen nhw'n perthyn iddo. Gan nad ydych chi bellach yn dilyn sectorau, byddwn yn croesawu mwy o fanylion ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r newid hwn mewn agwedd.

Gan droi at gronfa dyfodol yr economi, deallaf y bydd y gronfa yn gweithredu fel cyfuniad o grantiau a benthyciadau, a'r cydbwysedd rhwng y ddau yn newid, yn dibynnu ar y cylch economaidd. Felly, nid yw'n ymddangos bod hyn yn wahanol iawn i'r system cyllid ad-daladwy. Felly, byddwn i'n croesawu mwy o fanylion am y meysydd canlynol. Beth ydych chi'n ei ragweld fydd y gymysgedd o grantiau a benthyciadau ym mlwyddyn gyntaf y gronfa? Beth fydd y cerrig milltir adrodd o ran asesu'r cydbwysedd rhwng y gymysgedd o grantiau a benthyciadau? A pha gronfeydd presennol a fydd yn cael eu symleiddio a'u hymgorffori yn y gronfa hon?

Yn olaf, croesawaf y symudiad tuag at ymagwedd fwy rhanbarthol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyfeiriad hwnnw yn y cynllun gweithredu. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn amheus ynghylch y ffordd yr ydych chi wedi llunio'r map, gan grwpio'r canolbarth a'r de-orllewin gyda'i gilydd. Nid oes gan rannau o Bowys fawr ddim yn gyffredin, yn fy marn i, gydag Abertawe a Phort Talbot. Mae'r economïau yn wahanol iawn, iawn. Felly, hoffwn ddeall mwy am eich rhesymeg o ran sut yr ydych chi wedi datblygu'r map.

Gan ddarllen ar dudalen 23 y cynllun—

14:50

Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n credu eich bod chi wedi dweud 'yn olaf' yn y fan yna, felly rwyf yn mynd i ddweud eich bod wedi cael 'yn olaf', diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.

14:55

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o gyfleoedd i gwestiynnu'r cynllun ymhellach. Rwy'n fodlon cynnig sesiwn briffio ar y cynllun gweithredu economaidd i unrhyw Aelod yn y Siambr hon. Bydd gweithredu'r cynllun yn hanfodol bwysig a bydd hyn yn cael ei wneud wrth ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys busnesau ac undebau llafur, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill. Ond rwy'n falch iawn bod y cynllun gweithredu hwn wedi'i gyhoeddi, yn dilyn cyhoeddi, wrth gwrs, y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'.

Mae'r Aelod hefyd yn gofyn inni fyfyrio ar heriau economi Cymru. Rwy'n credu eu bod nhw wedi'u trafod yn helaeth, ond yr hyn sy'n glir, yn enwedig o gyfraniad yr Aelod ei hun, yw mai bwlch mewn cynhyrchiant rhyngom ni a'r DU, ac yn wir llawer o'r byd gorllewinol, yw ein prif bryder, ond hefyd yn yr un modd, y lefel o anghydraddoldeb.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mwy neu lai, mae'r economi wedi perfformio'n eithriadol o dda o ran twf swyddi ac o ran lleihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd, ond yr hyn sy'n eithaf amlwg yw nad yw manteision y twf economaidd wedi bod yn gyfartal ledled Cymru. Dyna pam yr ydym yn awyddus i ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar leoliad wrth ddatblygu'r economi, a dyna pam, yn ei dro, yr ydym ni'n awyddus i sicrhau bod ethos datblygu rhanbarthol yn rhan o bob peth yr ydym ni'n ei gynnig.

Ond ceir rhai mannau amlwg lle y gellid ymyrryd i wella cynhyrchiant economi Cymru. Rydym ni wedi eu harchwilio ac rydym wedi canfod, yn bennaf, y bydd gwella sylfaen sgiliau gweithwyr Cymru, gwella seilwaith Cymru, gwella'r arweinyddiaeth mewn busnesau, gwella sut yr ymestynnir arloesedd i bob rhan o economi Cymru a gwella arferion gwaith yn cyfrannu at wella cynhyrchiant. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'r meysydd gweithredu a'r cynllun cyflogadwyedd, ac, wrth gwrs, y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae ein holl ymyraethau bellach wedi'u cynllunio i wella cynhyrchiant economi Cymru.

Nawr, fel yr wyf yn dweud, bydd y gweithredu yn hollbwysig, ac mae hwn yn gynllun ar gyfer yr hirdymor. Byddai'n hawdd mynd ar drywydd targedau, ond y broblem gyda nifer o dargedau yw eu bod yn hawdd eu cyflawni os byddwch chi'n dewis pethau gweddol rwydd. Bellach mae angen inni ymdrin â'r problemau strwythurol mawr yn economi Cymru, a dyna pam mae gennyf bob ffydd yn Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd er enghraifft, i ddarparu her allanol ac arbenigol, i allu monitro ein llwyddiant neu unrhyw fethiant i berfformio yn erbyn arferion gorau rhyngwladol. Rwyf hefyd yn ffyddiog y dylem ni farnu ein llwyddiant a chynnydd yn erbyn dangosyddion lles hefyd. Fy marn i yw bod llwyddiant yn digwydd ar ffurf syml iawn: ein bod yn gwella ac yn cynyddu lefel y lles a chyfoeth ledled Cymru, ac ar yr un pryd yn lleihau lefelau anghydraddoldeb ledled Cymru.

Nid yw hyn, o reidrwydd, yn ymwneud â gwario mwy o arian ar ein hymyraethau; mae'n ymwneud â sicrhau bod yr arian a wariwn ar draws y Llywodraeth, yn cyd-fynd yn well â'n blaenoriaethau, a dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn hanfodol inni gyflwyno 'Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol' cyn y cynllun gweithredu penodol hwn. Er nad yw'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ddyraniad penodol o adnoddau i gronfa dyfodol yr economi, gan y bydd sawl gronfa yn cael eu huno yn llythrennol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y gronfa dyfodol yr economi newydd yn cael ei lansio ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, mae'r cynllun yn nodi y gellid buddsoddi oddeutu £630 miliwn yn ystod y degawd nesaf yn ôl i'r broses gyflawni, a gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr i'n gallu i gystadlu a'n lefelau cynhyrchiant.

Credaf fod y cydbwysedd o grantiau a chyllid ad-daladwy yr ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd yn addas ar gyfer y cylch economaidd, a chredaf fod angen i ni allu addasu'n briodol i barhau i fod yn gystadleuol, ar unrhyw gyfnod o'r cylch economaidd. Ar hyn o bryd, mae ein cyfraddau allforio a'n buddsoddiadau tramor uniongyrchol i gyd yn iach. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod ein buddsoddiad yn y meysydd hynny sy'n sbarduno cynhyrchiant yn parhau yn iach ac yn briodol ar gyfer unrhyw gyfnod penodol.

O ran y sectorau, wel, mae sectorau yn yr ystyr traddodiadol eisoes yn cyfuno, a chredaf fod hyn wedi'i gydnabod hefyd gan Lywodraeth y DU yn strategaeth ddiwydiannol ddiweddar y DU. Mae'n anodd iawn penderfynu, er enghraifft, os yw technoleg ariannol yn gorwedd yn dwt yn yr un sector â digidol neu a yw'n gorwedd yn dwt yn y sector gwasanaethau cyllid a phroffesiynol. Y gwir amdani yw bod nifer o ddiwydiannau newydd y dyfodol yn gorgyffwrdd â'r sectorau presennol yr ydym ni'n eu gweithredu ac yn eu cefnogi, felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych tuag at y dyfodol, ac ein bod ni'n neidio at y dyfodol, yn hytrach na chael ein llusgo i'r dyfodol neu nad ydym yn dilyn eraill yn y ffordd newydd o gefnogi datblygiad busnes. Felly, yn fy marn i, ein sectorau thematig, gydag arbenigwyr a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i gefnogi twf y meysydd thematig newydd hynny mewn busnes, yw'r llwybr cywir i'w ddilyn.

O ran ein heconomi sylfaenol, fe wnaethom ni benderfynu mai'r pedwar maes penodol hwnnw o'r economi sylfaenol yw'r rhai mwyaf arwyddocaol oherwydd y nifer a gyflogir yn y sectorau penodol hynny, oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi ym mhob rhanbarth yng Nghymru—y rhain, mewn sawl ffordd, yw sylfeini yr economi ym mhob cymuned yng Nghymru, yn enwedig yn yr economi wledig—ac fe wnaethom ni eu nodi nhw hefyd oherwydd eu bod nhw'n cynrychioli rhai o'r newidiadau cymdeithasol ac iechyd pwysicaf, hefyd, yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn enwedig os ydych chi'n ystyried, er enghraifft, gofal a bwyd a manwerthu. Mae manwerthu yn un maes y byddwn yn rhoi pwyslais newydd arno, pwyslais wedi'i adnewyddu, o ran adeiladu lle, hefyd. Mae'r dull yr ydym yn ei weithredu yn yr economi sylfaenol felly, yn cyd-fynd yn dda iawn â'r cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, ynghylch y cynllun adfywio gwerth £100 miliwn a fydd yn ychwanegu llawer at y potensial i wella ansawdd lleoliadau ac, yn sgil hynny, y potensial manwerthu mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.

Fel y dywedais, bydd cyfle i ymgynghori ymhellach yn ystod y cam gweithredu. Credaf ei bod yn hanfodol i ni barhau i weithio mewn partneriaeth â busnesau ac undebau llafur a phartneriaid cymdeithasol eraill, fel yr ydym wedi'i wneud wrth lunio'r cynllun gweithredu economaidd. Ond cynllun ar gyfer yr hirdymor yw hwn. Mae hwn yn gynllun ar gyfer y ddau ddegawd nesaf neu fwy.

15:00

Mae rhai agweddau ar y cynllun gweithredu economaidd hwn sydd i'w croesawu—y pwyslais newydd ar yr economi sylfaenol a datgarboneiddio, er enghraifft. Ond, wrth gamu yn ôl ac edrych ar y strategaeth economaidd yn gyffredinol, rwy'n credu ei bod yn bwysig i'w meincnodi o'i chymharu â'r tri chynhwysyn allweddol yr ydym yn gwybod, o bob rhan o'r byd, sydd yn ffurfio strategaethau economaidd llwyddiannus. Mae angen i strategaeth ganfod beth sy'n ein dal ni yn ôl, mae angen iddi nodi gweithgareddau newydd yr ydym mewn sefyllfa arbennig o dda i'w datblygu, ac mae angen iddi adeiladu sefydliadau sydd â'r gallu cydlynol i sbarduno cydweithio o fewn ac ar draws sectorau. O'i chymharu â phob un o'r tri o'r meincnodau hynny, mae'n anodd gweld sut y mae'r strategaeth hon yn ein symud ymlaen. Yn wir, gellid dadlau, rwy'n credu ei bod yn mynd â ni gam yn ôl.

Gadewch i ni gymryd un ohonyn nhw, y mater hwnnw o: a ydym ni'n deall ein mantais gystadleuol unigryw, y meysydd hynny y gallwn eu tyfu a'u datblygu? Ar y gorau, mae'r strategaeth yma yn aneglur. Nid wyf yn credu bod y ffaith fod y Llywodraeth yn cael gwared ar y dull blaenoriaethu sectorau a fabwysiadwyd yn gyntaf yn 2009 am un llawer ehangach, yn ein hargyhoeddi. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch gyfeirio at eich erthygl yn y Western Mail sy'n dangos tystiolaeth fod gwasanaethau masnachadwy, gweithgynhyrchu gwerth uchel a'r categori hollgynhwysol 'galluogwyr' yn cynnig cyfleoedd arbennig i dyfu diwydiannau y dyfodol. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed: a ydych chi'n sôn yn y fan yna am dystiolaeth fyd-eang neu dystiolaeth sy'n benodol i Gymru? Oherwydd, mae'r sectorau, neu'r themâu eang yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn y fan yna, yn gyffredinol iawn. Fe allen nhw fod yn berthnasol i fwy neu lai unrhyw economi ddatblygedig yn y byd, ac rydym ni'n gwybod nad yw'r math honno o ymagwedd unffurf at ddatblygiad economaidd yn gweithio. Mae angen i chi ddeall mewn gwirionedd ble mae eich manteision cystadleuol.

Nawr, fe gawsom ni'r ymgais honno, rwy'n credu, gyda'r rhestr sectoraidd a oedd gennym yn flaenorol. Yn wir, roedd yn rhannol lwyddiannus. Rydych chi'n dweud mewn gwirionedd yn y cynllun gweithredu economaidd:

Ers 2009, ein dull fu cefnogi sectorau unigol, ac mae llawer ohonynt, fel y diwydiannau creadigol...wedi dod yn hanesion o lwyddiant mawr.

Cymaint o hanes o lwyddiant fel nad oes sôn am hynny eto yn y cynllun gweithredu economaidd. Roedd gwyddorau bywyd, eto, yn sector twf a oedd yn gonglfaen, fe'i nodwyd yn y strategaeth arloesi o dim ond tair blynedd yn ôl, ond mae wedi diflannu, ar wahân i gyfeiriad digyswllt i roi pwyslais newydd i'r ganolfan gwyddorau bywyd y tu ôl i ni yn y fan yma, sydd wedi bod yn hanner gwag ers i chi ei chreu.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at arloesi—derbyniol iawn fel thema, ond mae eich Llywodraeth chi yn gweithredu toriad o 78 y cant ar y gwariant ar arloesi y flwyddyn nesaf. Fe wnaethoch chi israddio'r swydd cyfarwyddwr arloesedd o fewn Llywodraeth Cymru. Rydych chi'n diddymu'r cyngor cynghorol ar arloesi ac rydych chi'n mynd i'w ddisodli gan is-bwyllgor o'r corff addysg drydyddol newydd, er bod ymchwil a ddyfynnwyd gan y fenter Creu Sbarc, yr ydych chi'n ei chefnogi, yn nodi nad yw 97 y cant o arloesi yng Nghymru yn digwydd ar feinciau labordai ein prifysgolion, mae'n digwydd ar feinciau gweithio ein busnesau.

Rwy'n credu mai dyna'r maes, Ysgrifennydd y Cabinet, lle mae'r strategaeth ar ei gwanaf, yn fy marn i: mae'n gynllun gweithredu â phum galwad i weithredu ond heb unrhyw esboniad ynghylch pwy fydd yn gweithredu. Pwy sy'n mynd i weithredu? Rydych chi'n diddymu'r 48 o baneli cynghori; mae'n fath o goelcerth fach o'r cwangos, unwaith eto. Rydych chi'n eu disodli gydag un bwrdd cynghori gweinidogol. Dydw i ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng hynny a'r cyngor adnewyddu'r economi. Efallai y gallwch chi egluro wrthym ni. Dim ond tri swyddog rhanbarthol ledled Cymru, ac o dan yr haen honno, ac eithrio'r banc datblygu, anialwch sefydliadol.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid y ffaith eu bod yn fach yw'r broblem sy'n wynebu busnesau bach mewn cenedl fach, ond bod yn unig, a gwaith y Llywodraeth yw adeiladu'r cyfalaf cymdeithasol hwnnw i greu'r math o sefydliadau economaidd sydd gan wledydd eraill: asiantaeth hyrwyddo masnach a buddsoddiad, mudiad siambr fasnach ar y model cyfandirol, corfforaethau datblygu rhanbarthol, corff arloesi cenedlaethol. Rydym ni'n wynebu'r hyn sy'n cyfateb i newid yn yr hinsawdd yn y maes economaidd, a heriau byd-eang enfawr o Brexit i awtomeiddio, ond rwy'n ofni, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ein gadael ni'n ddiymgeledd yng nghanol y storm honno.

15:05

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y ganmoliaeth a roddodd i'r cynllun—yr elfennau o'r cynllun y mae ef wedi'u croesawu, y newid y mae ef wedi'i groesawu? Ac o ran y feirniadaeth y mae ef hefyd yn ei nodi, ceisiaf ymdrin â hynny.

Yn gyntaf oll, rwy'n credu yn ei eiriau olaf iddo gyflwyno yr hyn y mae o'r farn sy'n ffordd ymlaen i Gymru, sef creu mwy o gyrff, boed hynny o ran masnach ryngwladol neu asiantaethau datblygu Cymru newydd bach ar draws rhanbarthau Cymru. Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn glir yn ei gylch yw bod angen symleiddio a gwella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn dda. Rydym ni wedi cyflawni'r lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, rydym wedi gostwng diweithdra i'r lefel isaf mewn cenhedlaeth, ond rydym yn cydnabod er mwyn ymdrin â phroblemau strwythurol ystyfnig, bod angen i ni newid cyfeiriad yn awr, ac mae'n rhaid mynd i gyfeiriad y dyfodol.

Rwy'n gwybod ei bod yn anodd iawn i rai Aelodau werthfawrogi bod symud o naw sector blaenoriaeth i dri sector cenedlaethol thematig yn newid cyfeiriad sylweddol, ond mae'n un a fydd yn golygu, pryd bynnag yr oedd busnes yn sefyll yn y seilos traddodiadol, ar yr amod eu bod yn gweithredu mewn ffordd a fydd yn eu diogel at y dyfodol, ar yr amod eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'r galwadau i weithredu, y byddant yn gallu cael y cymorth priodol gan y Llywodraeth a chymorth gyda'r Llywodraeth er mwyn dod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol yn y dyfodol. Mae diwydiannau'r dyfodol yn cyd-fynd â'r meysydd thematig hynny ac yn cyd-fynd â—ac, yn wir, mae'n rhaid iddyn nhw gofleidio; os ydyn nhw'n mynd i oroesi, mae'n rhaid iddyn nhw gofleidio—egwyddorion y galwadau i weithredu.

Nawr, rwy'n cytuno; rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod ar y dechrau bod yn rhaid i unrhyw economi, i fod yn llwyddiannus, gynnwys tri ffactor allweddol. Mewn gwirionedd, mae'r tri ffactor allweddol hynny hefyd yn ymwneud â busnesau eu hunain, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, eu bod wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad gan Jim Collins yn ei lyfr Good to Great. Gwnaeth ef ei fframio mewn ffordd ychydig yn wahanol. Dywedodd fod yn rhaid ichi wynebu'r ffeithiau creulon, bod angen draenog arnoch chi—yr hyn yr ydych chi'n ei wneud orau, y peth unigryw yr ydych chi'n ei gynnig—a hefyd bod angen i chi fod â'r bobl iawn ar y bws.

O ran y ffeithiau creulon, rydym ni'n gwybod bod ein cynhyrchiant yn llusgo y tu ôl oherwydd bod angen inni wella ein sylfaen sgiliau. Rydym ni'n mynd i gyflawni hynny drwy ein cynllun cyflogadwyedd newydd. Rydym ni hefyd yn gwybod bod angen inni wella ein seilwaith. Rydym ni'n mynd i wneud hynny drwy adeiladu mwy nag erioed o'r blaen. Rydym ni hefyd yn gwybod bod angen inni wella sgiliau arwain o fewn busnes, ac, unwaith eto, mae'r galwadau i weithredu wedi'u cynllunio i wneud hynny: i gynnig y cymorth ariannol hwnnw, i gynnig y cymhelliant hwnnw i wella sgiliau arweinyddiaeth. Ac, wrth gwrs, gan fod y pwyslais yn benodol—a gwn fod Aelodau yn y Siambr eisoes wedi ei godi heddiw—ar iechyd meddwl a lles yn y gweithle, os oes gennym bwyslais ar hynny, drwy ganolbwyntio ar hynny, os ydym ni'n llwyddiannus, os yw busnesau yn llwyddiannus, yna byddan nhw hefyd wedi cyflawni gwelliant, gwelliant amlwg, o ran arferion arweinyddiaeth.

O ran y meysydd eraill y gallech chi eu hystyried yn ffeithiau creulon—y ffactorau hynny sy'n ein dal yn ôl, y rhwystrau—fel y dywedais wrth Russell George, mae'n rhaid bod gennych y cyfrwng datblygu economaidd rhanbarthol cywir er mwyn cefnogi busnesau, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod gennym y rhanbarthau yn gweithredu fel dylanwadwyr allweddol gydag un prif swyddog rhanbarthol. Ond nid un swyddfa; ystod gyfan o swyddfeydd ar draws y rhanbarthau, yn gweithio, hefyd, gyda'r swyddogion hynny mewn llywodraeth leol a gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n gallu, yn eu tro, ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth ac, yn eu tro, gweithio hefyd gyda, pan fo angen, partneriaid traws-ffiniol. Bydd hyn yn nodwedd newydd o'n hamcan i rymuso a thyfu economïau rhanbarthol Cymru.

O ran sicrhau bod y bobl iawn ar y bws, mae Cymru yn wlad fach iawn, iawn, a phan ddechreuais i yn y swydd hon, roeddwn i'n synnu braidd, o ystyried maint bach ein gwlad, bod cynifer o fyrddau cynghori, grwpiau a phaneli yn bodoli ar hyn o bryd—mwy na 40. Rwy'n credu, pa bynnag ffordd yr ydych yn eu mesur, y byddai unrhyw un rhesymol yn awgrymu bod hynny'n ormod. Cydgrynhoi llawer o'r arbenigedd mewn bwrdd cynghori gweinidogol, yn fy marn i, yw'r peth iawn i'w wneud er mwyn peidio â gwastraffu amser pobl, ond hefyd er mwyn dwyn ynghyd arbenigwyr o'r holl sectorau ac o'r holl ranbarthau i weithio gyda'i gilydd i allu rhannu syniadau ac arloesedd.

A sôn am arloesi, cododd yr Aelod hyn hefyd fel ffactor hollbwysig yn natblygiad economïau cynaliadwy a chydnerth—economïau cynhyrchiol iawn. Wel, mae ein galwad i weithredu yn cynnwys arloesedd ymhob rhan ohono. Mae'r cynigion her wedi'u cynllunio i echdynnu'r arloesi gorau a'r galwadau gorau am arloesedd o bob rhan o'r gymuned fusnes. O ran y gweithredwyr, wel, y gweithredwyr yw ein partneriaid gyda ni: mewn busnes, mewn undebau llafur, mewn mentrau cymdeithasol. Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd—rydym ni i gyd yn weithredwyr. Ac o ran beth yw ein cynnig unigryw, mae'n rhaid mai ein pobl yw hwnnw, ein cyfalaf dynol.

Dyna pam yr wyf yn benderfynol, drwy'r contract economaidd, i sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn deffro bob diwrnod gwaith yn ofni'r diwrnod gwaith sydd o'u blaenau, ond yn codi yn edrych ymlaen at fynd i'r gwaith, bod yn gynhyrchiol yn y gweithle. Roedd Caroline Jones yn iawn; mae £15 biliwn yn cael ei golli mewn cynhyrchiant o ganlyniad i bobl yn dod i'r gwaith ond heb fod yn gallu gweithredu hyd eithaf eu gallu. Rwyf i eisiau i Gymru gael ei hadnabod fel man lle mae pobl eisiau gweithio, lle nad ydyn nhw ond yn cyflawni digon yn ystod y diwrnod gwaith, ond lle maen nhw'n rhagori, lle mae ganddyn nhw sgiliau unigryw—pob un ohonyn nhw—a'u bod yn gallu defnyddio eu sgiliau, lle mae ganddyn nhw sgiliau trosglwyddadwy, lle mae ganddyn nhw gyflogaeth sicr, ond hefyd eu bod yn gwybod, a bod ganddyn nhw y sicrwydd o wybod, bod ganddyn nhw y sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n rhwydd i alwedigaethau eraill pe bydden nhw'n colli eu man cyflogaeth. Ac rwyf i eisiau gobaith unigryw ychwanegol arall i Gymru fod yn wlad gwaith teg. Mae'n rhaid i'r nod fod yn uchel ar gyfer Cymru, ei gwerthoedd a'i hegwyddorion, a nod y cynllun gweithredu hwn yw gwneud yn union hynny.

15:10

Diolch. Ond mae'n rhaid i mi ofyn am atebion byrrach, Gweinidog. Rydym ni wedi cael dau ateb hir iawn i ddau gwestiwn yn unig, ac rydym ni ymhell i mewn i drydedd rhan y datganiad hwn. Mae gennyf bedwar siaradwr, felly mae'n mynd i fod—. Mae'n rhaid i ni gael atebion mwy cryno. Hefin David.

Rwy'n croesawu’r cynllun economaidd, ac mae Adam Price eisoes wedi cyfeirio yn y Siambr at fy sesiwn briffio gan Brifysgol Caerdydd yn ôl ym mis Medi. Ni chefais weld y cynllun gweithredu cyn yr embargo, ond byddwn i'n dweud nad yw'n adlewyrchu rhai o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu trafod fel Aelodau meinciau cefn ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr y cyflwyniad ac yn arbennig yr economi sylfaenol. Gwnaethoch chi sôn am gyfalaf dynol, soniodd Adam Price am gyfalaf cymdeithasol, ac rwy'n credu bod hynny'n allweddol. Dydw i ddim yn credu eich bod yn ateb y cwestiwn hwnnw, fodd bynnag, drwy adeiladu sefydliad, mae'n rhaid i mi ddweud; rwy'n credu eich bod yn ei ateb drwy adeiladu sgiliau, sef hanfod fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach. Rwy'n credu mai dyna y dylid canolbwyntio arno, yn enwedig yn y sector sylfaenol.

Felly, er mwyn cydnabod y cyfyngiadau amser a bod yn gryno, hoffwn i fyfyrio ar y cwestiwn hwnnw a ofynnais i'r Prif Weinidog yn gynharach. Pan fo gennych chi gwmnïau micro a phobl hunangyflogedig yn cynnig am gontractau ar y cyd, sut ydych chi'n sicrhau—a sut y bydd y cynllun hwn yn sicrhau—bod y sectorau sylfaenol hynny yn gallu parhau a chynnal eu gwaith ar y cyd drwy ddatblygu sgiliau, cynnal y gwaith ar y cyd hwnnw y tu hwnt i'r contractau y maen nhw'n gwneud cais ar eu cyfer, er mwyn sicrhau nad ydych chi ond yn creu dull cydweithredol tymor byr, ond eich bod yn cynnal hynny ar gyfer y tymor hwy?

Rwy'n credu bod Creu Sbarc, er ei bod yn fenter newydd, yn un sydd eisoes yn gwneud cynnydd mawr o ran dwyn ynghyd rhanddeiliaid o bob rhan o'r byd academaidd, cyllid a Llywodraeth, ac sy'n sicrhau bod y cydweithio yn ymestyn dros y tymor hir, ac yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau traddodiadol a seilos. Ond rwy'n credu hefyd os bydd yr Aelod yn edrych ar—tudalen 16 yn benodol, rwy'n credu—mae pwyslais penodol ar ddadgyfuno cydrannau o ymarferion caffael mawr er mwyn i ni allu bod o fwy o fudd i fentrau bach a chanolig. Mae'n gwbl hanfodol, fodd bynnag, bod microfusnesau a phobl sy'n hunangyflogedig yn cael cyfleoedd i gamu ar yr ysgol gaffael a thyfu o ganlyniad i hynny, ac rydym ni'n gweithio i sicrhau—gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fy nghyd-Aelod Mark Drakeford—bod pobl sy'n hunangyflogedig a phobl sy'n gweithredu microfusnesau yn gallu manteisio ar bob cyfle i gaffael yn eu hardal leol. Mae llawer o waith y gellir ei wneud yn y misoedd nesaf i weithredu'r cynllun hwn, ond hefyd o ran cymryd mantais lawn o'r diwygiadau y gwnaeth Mark Drakeford fwrw ymlaen â nhw, a allai ac a ddylai fod o fudd i gwmnïau maint micro ledled Cymru. Rwy'n credu yn arbennig bod y cynlluniau treialu sydd ar waith yn ardal tasglu'r Cymoedd ynghylch swyddi gwell yn nes at y cartref yn cynnig templed ar gyfer y math hwn o gyfle gwell ledled Cymru, ac yn sicr rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r cynlluniau treialu hynny. Mae gennyf bob ffydd y byddan nhw'n llwyddiannus ac y bydda nhw'n ein galluogi i ymestyn yr un egwyddorion ar draws economi Cymru.

15:15

Rydym ni yn UKIP yn croesawu'r cynllun hwn ac yn cydnabod pethau fel parth menter canol Caerdydd, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr i sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd yn fodel ar gyfer rhagor o ehangu ar draws pob sector o'r economi. Nodwn hefyd gyfaddefiad Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol, o ystyried yr holl heriau yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru, y gallwn lwyddo dim ond mewn partneriaeth â'r sector busnes. Mae'r heriau hynny yn cynnwys digideiddio, awtomatiaeth a phoblogaeth sy'n heneiddio, pob un ohonyn nhw'n rhwystrau anodd eu goresgyn. Ond os ydym ni'n llwyddiannus wrth ymdopi â'r newid cyflymdra hwn yn ein heconomi, bydd yn sefydlu dyfodol Cymru am genedlaethau i ddod.

Er bod rhai gwahaniaethau gwleidyddol rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr nid wyf am iddo fethu yn ei uchelgeisiau cynhwysfawr ar gyfer economi Cymru. Ond a gaf i ofyn iddo nodi bod yn rhaid i alluogwyr allweddol llwyddiant economaidd gynnwys cymorth busnes ar gyfer y sector preifat, a dylai hyn gynnwys y gallu i gael cyllid a chyn lleied o reoleiddio, trethi ac ymyrraeth gan y sector cyhoeddus â phosibl; cyfundrefn cymorth gadarn ar gyfer arloesedd ac entrepreneuriaeth mewn partneriaeth â'n prifysgolion; ac efallai yn fwy na dim, buddsoddi yn ein pobl ifanc ar ffurf yr addysg gorau posibl, yn academaidd ac yn alwedigaethol? Yn anad dim, mae'n rhaid inni ennyn dyhead yn ein pobl ifanc, sy'n bartneriaid yn y fenter hon. Dim ond trwy godi lefelau addysg a hyfforddiant ein pobl y gallwn fod ar y ffordd i welliant tymor hir, yn enwedig o ran sicrhau bod lefelau llythrennedd a rhifedd digonol gan bawb. Ond mae'n rhaid nodi na fydd hyd yn oed y polisïau addysgol iawn ar eu pennau eu hunain yn ddigon i newid sefyllfa economaidd Cymru. Fodd bynnag, mae'n elfen angenrheidiol na fyddai braidd neb, os o gwbl, yn dadlau yn ei chylch.

Er mwyn cyflawni ei hamcanion economaidd, mae angen i Lywodraeth Cymru fod â system o dargedu cwmnïau sy'n darparu gwerth uwch a mwy o ddeiliadaeth gynaliadwy yng Nghymru nag sydd wedi bod yn y gorffennol. Mae'n rhaid inni symud oddi wrth ymagwedd is-gwmnïau i un sy'n annog y rhai hynny a fydd yn lleoli eu pencadlys yng Nghymru.

Nid yw datblygu economaidd yn digwydd ar ei ben ei hun. Nid oes unrhyw rym anweledig sy'n creu swyddi, yn darparu buddsoddiad newydd neu'n ehangu awdurdod sylfaen drethu Llywodraeth Leol. Pobl a sefydliadau sy'n gwneud i ddatblygu economaidd ddigwydd, naill ai drwy benderfyniadau preifat neu ar y cyd. Mae angen pwyslais trwm ar fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu gwyddoniaeth a thechnoleg fel amcanion hunansefydledig y wlad hon, ac mae angen inni ddeall methiannau'r gorffennol—yr ideoleg 'dŵr coch clir' sydd wedi ein harwain at yr hyn a elwir y blynyddoedd a wastraffwyd, pan wariwyd biliynau o bunnoedd o'r hyn a elwir yn arian Ewropeaidd gydag ychydig iawn neu ddim gwelliant i ffyniant economaidd y genedl na'i phobl.

Ni all Cymru bellach fforddio economi sy'n seiliedig ar sector cyhoeddus chwyddedig sy'n ychwanegu ychydig iawn neu ddim manteision ariannol i'r economi. Mae angen ystyried a chymhathu polisi economaidd yng Nghymru gydag addasiadau priodol i amodau lleol. Rydym ni'n cydnabod y gellir disgrifio sefyllfa bresennol economi Cymru fel bod yn heriol: mae gwerth ychwanegol gros sy'n is na chyfartaledd y DU, sefyllfa ymylol ein gwlad, diffyg cytrefi mawr a lefelau sgiliau cymharol isel yn y boblogaeth gyffredinol i gyd yn gwaethygu'r anawsterau y mae Cymru yn eu hwynebu. Rydym ni yn UKIP yn croesawu'r uchelgeisiau economaidd, gan gynnwys y cynlluniau, ac rydym ni'n edrych ymlaen at yr economi gryfach y maen nhw'n ei haddo a fydd, gobeithio, er lles bob rhan o gymdeithas Cymru.

15:20

Dydw i ddim yn credu fy mod i wedi clywed cwestiwn gan lefarydd UKIP, mewn gwirionedd, ond rwy'n siŵr y bu rhai sylwadau  y gallech chi efallai ymateb yn fyr iddyn nhw.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am groesawu'r cynllun gweithredu economaidd, ac am roi dymuniadau gorau ei blaid iddo. Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau pwysig ynghylch addysg a'r swyddogaeth sydd gan addysg a hyfforddiant sgiliau wrth ddatblygu economi fodern a diogel.

Hefyd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi crybwyll—. Rwy'n meddwl, mewn gwirionedd, ei bod werth i mi fyfyrio ar y pwynt a wnaethpwyd ynghylch rheoleiddio priodol. Ceir gwasanaeth busnes Gweinidogion Cymru sy'n bodoli ar hyn o bryd, ond byddwn yn ceisio cryfhau'r gwasanaeth hwnnw, gan weithio gyda chyngor datblygu'r economi a'r bwrdd cynghori'r Gweinidog newydd wrth lunio rheoliadau priodol—rheoliadau sy'n addas i'w diben, cyn lleied o reoliadau â phosibl, wrth gwrs, ond hefyd rheoliadau sy'n diogelu pobl yn ogystal â sicrhau bod busnesau mor gystadleuol ag y gallant fod. Ac rwyf i'n credu, er bod y niferoedd a gyflogir yn y sector cyhoeddus wedi gostwng yn ddiweddar, bod y sector cyhoeddus yn dal i gynnig £6 biliwn o gyfleoedd caffael ar gyfer y sector preifat, ac mae'n hanfodol bod cwmnïau o Gymru yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd hynny.

O ran y potensial i dyfu, wel, bydd hynny'n rhan o'r contract economaidd: os ydych chi'n mynd i gyrraedd y cam cyntaf, mae'n rhaid i chi brofi bod gennych chi'r potensial i dyfu. Ac yna, yn rhan o'r daith i'r copa, byddwn yn cynnig, drwy'r galwadau i weithredu, cyfle i ddefnyddio cyllid a chymorth Llywodraeth Cymru os ydych chi'n barod i leoli eich pencadlys yng Nghymru, oherwydd fy mod i'n credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn cydnabod yr angen i gael mwy o bencadlysoedd yn ein gwlad.

Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyhoeddi eich cynllun gweithredu economaidd hir-ddisgwyliedig, ac o weld y ffordd y mae'n drawsbynciol ar draws pob agwedd ar Lywodraeth, rwy'n credu y bu'n sicr werth aros amdano.

Rwy'n croesawu, yn benodol, yr ymrwymiad i ddatblygu strwythurau newydd i gefnogi agweddau sylfaenol allweddol ar economi Cymru. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i, ynghyd ag ACau Llafur eraill o'r meinciau cefn, wedi bod yn galw amdano ers peth amser. O ystyried bod tua phedwar o bob 10 o swyddi Cymru yn yr economi sylfaenol, byddwn yn dadlau nad yw'r maes hwn erioed wedi'i integreiddio'n briodol ym mholisi economaidd Cymru hyd yn hyn. Felly, rwy'n falch iawn eich bod chi wedi unioni hyn.

Mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, gwyddom y gall fod heriau o ran ansawdd swyddi yn y sectorau sylfaenol hyn. Sut ydych chi'n bwriadu gweithio gyda chyflogwyr sylfaenol i wella gofynion cymdeithasol eu cwmnïau a gwella'r hyn y maen nhw'n ei gynnig o ran cyflogaeth? Ac yn ail, rwy'n croesawu eich cyfeiriad at symleiddio'r strwythurau cymorth busnes hefyd. Rwy'n gwybod bod tystiolaeth sydd eisoes wedi'i chlywed yn rhan o ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach i entrepreneuriaeth wedi cefnogi hyn yn gryf, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud ynghylch cynorthwyo'r entrepreneuriaid hynny sydd â syniad gwych, efallai, ond sy'n brin o amser, adnoddau neu sgiliau i wneud cais am arian?

A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau a chofnodi fy niolch iddi, ac i gyd-Aelodau, am yr anogaeth a roddir i ddatblygu dull a fydd yn cefnogi'r economi sylfaenol ledled Cymru—yr unig fath o economi mewn sawl rhan o Gymru. Rwy'n credu mai llawer o'r cymunedau mwyaf ymylol yng Nghymru yw'r rhai sydd â photensial mawr i ddatblygu'r economi sylfaenol yn hytrach na rhannau eraill o'r economi, sectorau eraill yr economi. Mae'n mynd i fod yn anhygoel o bwysig, wrth inni symud ymlaen, i gydnabod bod rhai o'r heriau cymdeithasol mawr sy'n ein hwynebu—poblogaeth sy'n heneiddio a gofynion gofal plant a wynebir ar draws cymunedau—hefyd yn gyfleoedd enfawr i dyfu'r economi sylfaenol.

Ond mae gan bob un o'r pedwar sector sylfaenol a nodwyd gennym eu heriau unigryw eu hunain, eu cyfleoedd unigryw ei hunain, ac felly bydd gwahanol ymyraethau yn cael eu defnyddio. Ar gyfer y sector gofal, er enghraifft, mae angen penodol i fynd i'r afael â'r her sgiliau a'r angen am fodelau busnes mwy cynaliadwy. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu—eto drwy waith gorchwyl a gorffen cyflym, sydd wedi'i gyfochri â bwrdd cynghori'r Gweinidogion—byddwn yn ystyried atebion sy'n ymdrin â'r heriau hynny.

Ym maes manwerthu, rydym yn gwybod mai problem fawr sy'n wynebu'r sector manwerthu yw cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein, ond hefyd y diffyg lleoedd o ansawdd da lle y gall pobl deimlo'n ddiogel, lle y gall pobl deimlo'n dda wrth siopa. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn rhan o'r ymyrraeth i gefnogi'r sector manwerthu, ein bod yn ystyried gwella ansawdd lleoedd ledled cymunedau yng Nghymru.

Ar gyfer twristiaeth—wel, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi'n helaeth mewn twristiaeth, ond mae potensial enfawr i hynny o hyd. Yn ôl pob tebyg, o gofio'r newidiadau i'r ffordd yr ydym ni'n gweithio, bydd gan bobl fwy o amser hamdden yn y blynyddoedd i ddod, ac felly mae potensial mawr i lenwi'r amser hamdden hwnnw â chyfleoedd busnes yn y sector twristiaeth.

Ac yna gyda bwyd—wel, mae stori dda i'w hadrodd am y sector bwyd yng Nghymru. Rwy'n credu y bu cynnydd o ryw 95 y cant mewn allforion yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym ni wedi creu hunaniaeth wahanol iawn, o ansawdd uchel fel cenedl sy'n cynhyrchu bwyd. Rydym ni'n dymuno gwelliant a chynnydd mewn ansawdd cynnyrch bwyd a'r bwyd sydd ar gael i ni, eto gan weithio gyda'r sector yn y cyswllt hwn.

Bydd pob un o'r dulliau felly yn wahanol, ond er mwyn cynyddu—ac roedd Vikki yn hollol iawn, mae rhai o'r meysydd hyn o weithgarwch economaidd, mae arna i ofn, yn cynnig cyfleoedd am swyddi sydd yn talu'n wael ar hyn o bryd ac nid ydyn nhw'n ddiogel. Ond bydd ymyraethau yn y sectorau sylfaenol hefyd yn berthnasol i'r contract economaidd, ac yn dibynnu ar fodloni'r meini prawf hynny. Pan na ellir bodloni'r meini prawf hynny, cynigir cymorth drwy ddulliau eraill, ac yn arbennig ar gyfer mentrau llai a chanolig—ac mae nifer fawr o'r rheini yn yr economi sylfaenol—bydd cymorth gan Busnes Cymru, y banc datblygu, wrth gwrs, a gwasanaethau eraill y tu allan i'r Llywodraeth.

Ein bwriad ni yw cynnig cymhelliant i ddod yn gyflogwr cyfrifol, yn lle gweithio teg, a dylai hynny fod yn berthnasol nid yn unig i weithgynhyrchu uwch a thechnoleg ariannol a gwyddorau bywyd, dylai fod yn wir hefyd, Dirprwy Lywydd, i'r sectorau hynny yn yr economi sylfaenol.

15:25

Diolch. Ac yn olaf, gyda chwestiwn—un cwestiwn yn unig—Rhianon Passmore.

Diolch. Er hynny, mae'n amlwg, hoffwn groesawu'r ddogfen arbennig o bwysig ac arloesol hon, a hefyd yr arloesi o ran y contractau economaidd newydd. Mae fy nghwestiwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r posibiliadau ar gyfer cymunedau Islwyn o ran twristiaeth. Tybed sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld dyfodol y daith hyfryd mewn car trwy goedwig Cwmcarn—mae hon yn ardal drawiadol o dirwedd Cymru, yn hanesyddol ac i ddyfodol y gymuned honno. Hefyd, sut byddech chi'n disgrifio cynllun Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i bawb' o ran sectorau allweddol, fel yn y diwydiant dur, o'i gymharu â'r diffyg gweledigaeth a ddaw i'r amlwg ym mynegiant Llywodraeth Dorïaidd y DU o strategaeth ddiwydiannol? Diolch.

A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau a ofynnodd, a hefyd am y penderfyniad a ddangoswyd ganddi i ailagor y llwybr i geir drwy goedwig Cwmcarn? Credaf y byddai hynny'n cyfrannu at amcanion yr awdurdod lleol i feithrin mangreoedd, ac yn wir yr Aelod ei hun—. Rwy'n awyddus i'm cyd-Weinidog yn y Llywodraeth Dafydd Elis-Thomas a minnau fwrw ymlaen â'r cynigion, os oes modd, i ailagor y llwybr i geir drwy'r goedwig, o bosibl drwy gyfrwng buddsoddiad i gyd-fynd â Blwyddyn Darganfod yn 2019.

O ran dur, ni waeth faint o arian yr ydym yn ei daflu at y sector dur, oni bai y gall fod yn gystadleuol drwy'r byd, yn y pen draw, ar ryw adeg, bydd yn methu. Gan hynny, bydd yn rhaid i'n buddsoddiad i'r dyfodol fod yn gyson â'r galwadau hynny i gymryd camau i ddatgarboneiddio, ac felly ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yn dod â chynhyrchion newydd i'r farchnad yn gynt ac mae cynhyrchion yn wynebu oes fyrrach: mae oes cynnyrch yn byrhau fesul diwrnod. Felly, bydd yn rhaid i'n buddsoddiad yn y sector, fel yn achos llawer o sectorau eraill, fod yn seiliedig ar ei gwneud yn fwy cystadleuol a'i diogelu i'r dyfodol rhag cystadleuaeth ledled y byd.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am weithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies, i wneud y datganiad.

Member
Alun Davies 15:29:51
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi ugain mlynedd ers  Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n rhoi partneriaeth statudol ar waith wrth wraidd yr ymdrechion i fynd i'r afael â materion diogelwch cymunedol.

Er bod yr egwyddor o bartneriaeth yn y Ddeddf wreiddiol yn parhau, mae'r amgylchiadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru heddiw yn amlwg yn wahanol iawn i'r rhai a gafwyd pan sefydlwyd y partneriaethau diogelwch cymunedol yn y 1990au. Mae heriau heddiw yn cynnwys amrywiaeth o fathau newydd o droseddau, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a throseddau casineb, y bygythiad cynyddol o derfysgaeth ryngwladol, dylanwad sylweddau seicoweithredol newydd ac effeithiau troseddau a gyflawnir ar y we.

Mae strwythurau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi esblygu ers 1998 o ganlyniad i ddatganoli, a chafwyd nifer o newidiadau i'r ddeddfwriaeth sylfaenol ei hun. Roedd adroddiad beirnidaol Archwilydd Cyffredinol Cymru 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016, yn awgrymu nad oedd partneriaethau diogelwch cymunedol Cymru mor effeithiol ag y dylen nhw fod. Tynnodd sylw at faterion pwysig, gan gynnwys y dirwedd polisi gymhleth a dryslyd y mae partneriaid bellach yn gweithredu ynddi, ac at bryderon o ran arweinyddiaeth ac atebolrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau diogelwch cymunedol. Fodd bynnag, nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'n llawn ein gwaith i greu dulliau o bartneriaeth sy'n gynaliadwy i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r argymhellion hefyd yn annhebygol o fynd i'r afael â'r heriau a'r materion y mae'r Archwilydd Cyffredinol ei hun yn eu nodi.

Gan adeiladu ar waith blaenorol, rydym bellach wedi ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr ac eang o bartneriaeth diogelwch cymunedol fel y mae'n gweithio yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymhellach ar lwyddiannau niferus dull Llywodraeth Cymru o weithredu. Mewn partneriaeth â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydym wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol a pharhaus yn nifer y rhai sy'n dod gerbron y system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Rydym wedi haneru nifer y rhai sy'n marw oherwydd tân a thanau, gan gynnwys tanau glaswellt bwriadol. Mae heddluoedd Cymru wedi recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol yn ychwanegol, y talwyd amdanyn nhw gan Lywodraeth Cymru, tra bo llawer o ardaloedd yn Lloegr yn colli'r asedau cymunedol gwerthfawr hyn. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac rydym yn dangos y ffordd gyda'n gwaith arloesol i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern. 

Wrth gyhoeddi natur a chwmpas yr adolygiad ym mis Mawrth, dywedodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau a phlant, Carl Sargeant, ei fod yn awyddus i'r adolygiad fod yn uchelgeisiol ei feddylfyd a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi rhoi inni gyfle hollol newydd i sefydlu dull cynaliadwy o greu cymunedau mwy diogel. Rwy'n falch o ddweud bod yr adolygiad wedi gwireddu ei obeithion ef, gan osod egwyddor datblygiad cynaliadwy wrth wraidd ei ddull o weithredu. Mae wedi cynnwys yr ystod ehangaf bosibl o randdeiliaid, wedi eu cynorthwyo gan grŵp goruchwylio gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth Leol, gwasanaethau tân ac achub, comisiynwyr heddlu a throseddu, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, a phenaethiaid yr heddlu, gwasanaethau prawf a charchardai, y trydydd sector ac adrannau o Lywodraeth y DU.

Gan y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, nid wyf i'n bwriadu ymarfer ei gasgliadau o flaen llaw yma y prynhawn yma. Er hynny, rwyf am ddweud fy mod i wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y canlyniad pwysicaf sef, er gwaethaf y materion a'r heriau a nodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, fod gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac i adeiladu arno wrth sefydlu gweledigaeth newydd a chyffredin i gydweithio ar gyfer cymunedau mwy diogel. Caiff y weledigaeth hon ei chyflawni drwy weithgareddau aml-asiantaeth integredig a chydweithredol sy'n yn seiliedig ar dystiolaeth a gaiff ei thywys gan wybodaeth, a gefnogir gan sgiliau a gwybodaeth briodol, a gaiff ei hadnoddau mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn cyfateb i anghenion lleol, sydd yn ymgysylltu ac yn cynnwys dinasyddion, yn mabwysiadu dull ataliol ac ymyrryd mor gynnar â phosibl, ac sy'n canolbwyntio ar welliannau a manteision hirdymor. Gweledigaeth yw hon a ategwyd gan ein uchelgais yn Llywodraeth Cymru i greu ffyniant i bawb.

Mae Llywodraeth Cymru felly wedi ymrwymo i raglen waith hirdymor o gymunedau mwy diogel mewn partneriaeth â'n partneriaid datganoledig a heb eu datganoli, a rhanddeiliaid. Bydd y rhaglen waith cymunedau mwy diogel yn: gweithio gyda chomisiwn cyfiawnder Cymru i ystyried sut y gallwn wneud pethau'n wahanol yng Nghymru a nodi dewisiadau i ddatblygu system cyfiawnder benodol i Gymru; datblygu perthynas wahanol a dull gweithredu strategol gyda phartneriaid diogelwch cymunedol nad ydyn nhw wedi'u datganoli, sy'n sefydlu swyddogaeth arweinyddiaeth diogelwch cymunedol fwy effeithiol ar gyfer Llywodraeth Cymru; sefydlu polisi partneriaeth diogelwch cymunedol ac ymarfer swyddogaeth arweiniol o fewn Llywodraeth Cymru; ac yn olaf, datblygu canllawiau newydd penodol i Gymru sy'n adeiladu ar yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy ac ar nodweddion partneriaeth effeithiol. Byddwn yn ystyried sut i sefydlu rhwydwaith diogelwch cymunedol cenedlaethol newydd a chynhwysol ar gyfer Cymru i gefnogi datblygiad polisi ac arferion diogelwch cymunedol Cymru i'r dyfodol, ac i helpu i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth briodol sydd yn angenrheidiol. Byddwn yn edrych ar gyfleoedd i dreialu trefniadau arolygu ar y cyd ar themâu, gan weithio mewn partneriaeth ar thema lleihau aildroseddu, a byddwn yn ystyried sut i wella rhaglenni sy'n ariannu diogelwch cymunedol er mwyn sicrhau ariannu hirdymor a mwy hyblyg sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, y rhai datganoledig a heb eu datganoli. i arwain y rhaglen hon i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cymunedau mwy diogel a ffyniant i bawb ledled Cymru.

15:35

Diolch am y datganiad yna ac rydych yn nodi neu'n cyfeirio at adroddiad beirniadol yr Archwilydd Cyffredinol, 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. Pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros gymunedau a phlant, Carl Sargeant, ei adolygiad o ddiogelwch cymunedol, ar 7 Chwefror mewn gwirionedd, dywedodd ei fod yn sefydlu grŵp goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol, a dywedodd y byddai'n helpu i ddatblygu argymhellion y weledigaeth ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru a hefyd yn cymryd argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol i ystyriaeth. Roedd yn awyddus hefyd i'r adolygiad ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol i'r hirdymor. Rydych chi'n defnyddio'r gair 'hirdymor' yn eich datganiad. Ond sut yr ydych chi'n ymateb i argymhelliad yr Archwilydd Cyffredinol bod angen inni wella gwaith cynllunio strategol drwy ddisodli'r fframwaith cynllunio presennol gan strategaeth genedlaethol a gefnogir gan gynlluniau rhanbarthol a lleol; a'i ddatganiad bod angen inni greu byrddau diogelwch cymunedol ffurfiol effeithiol i ddisodli'r strwythurau diogelwch cymunedol presennol; a'i ddatganiad bod angen inni sicrhau bod rheoli perfformiad diogelwch cymunedol yn effeithiol drwy osod mesurau priodol ar bob lefel, sicrhau bod gwybodaeth am berfformiad yn ymdrin â gwaith yr holl asiantaethau perthnasol, a sefydlu mesurau i farnu mewnbwn, allbwn ac effaith i allu deall dylanwadau penderfyniadau buddsoddi a chymorth trosolwg a chraffu?

Yn flaenorol, rwyf wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro—nid gyda chi yn uniongyrchol, ond gydag aelodau eraill o Lywodraeth Cymru—a fynegwyd gan y pedwar prif gwnstabl a'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru am eu hanallu i gael gafael ar y £2 filiwn y maen nhw wedi eu dalu am yr ardoll prentisiaethau a'u datganiad y bydd hynny'n arwain at lai o swyddogion heddlu a recriwtiaid sy'n dewis ymuno'n gwneud hynny dros y ffin yn lluoedd Lloegr. Pan godais i hynny gyda'r Prif Weinidog, dywedodd,

"Rydym wedi cael cyfran o hwnnw a byddwn yn defnyddio'r arian i dalu am brentisiaethau, ond ni allwn...dalu tuag at...gynlluniau sy'n aros mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli."

Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn £128 miliwn, a oedd mewn gwirionedd yn swm o £8 miliwn ychwanegol dros ben y gostyngiadau a wnaed mewn meysydd eraill. Dywedodd swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wrthyf i bythefnos yn ôl fod oedi yn y sefyllfa gan mai Carl Sargeant oedd yn mynd i ddwyn rhanddeiliaid Llywodraeth San Steffan a Chaerdydd at ei gilydd. Dywedodd nad oedd hynny wedi'i ddwyn ymlaen oherwydd y digwyddiadau trist a sensitif iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dywedodd mai penderfyniad Ysgrifennydd newydd y Cabinet fydd hi nawr i benderfynu a yw am barhau ag ymrwymiad  Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet i'r mater hwn. A wnewch chi ddweud, ochr yn ochr â'r gwaith sydd i'w groesawu gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, y bydd Llywodraeth Cymru, y byddwch chi yn ymgymryd â, neu yr ydych chi eisoes yn ymgymryd â'r gwaith yr oedd Carl yn ei ddatblygu yn y maes hwn? Beth bynnag fo'r rhesymau, beth bynnag fo'r achosion, bydd rhaid datrys hyn os ydym yn mynd i osgoi effaith negyddol.

Rydych chi'n cyfeirio droeon at bartneriaeth mewn gwahanol gyd-destunau ac rydych yn cyfeirio at y trydydd sector yn un o'r rhai sydd wedi gweithio yn y grŵp adolygu. Ond sut neu a fyddech chi'n cydnabod y swyddogaeth allweddol y bydd y trydydd sector a phartneriaid yn ei chael yn y gwaith o sicrhau diogelwch cymunedol wrth inni symud ymlaen? Caiff swyddogaeth allweddol rheng flaen, uniongyrchol ei chyflawni gan elusennau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru: sefydliadau fel gwasanaeth lles y Groes Goch Brydeinig—euthum gyda nhw i Wrecsam ychydig wythnosau yn ôl; bugeiliaid y stryd; sefydliadau fel y Wallich sy'n ymdrin â materion digartrefedd, ac ati, ac ni allai cyrff statudol wneud eu gwaith oni bai amdanyn nhw.

Yn olaf, yng nghyd-destun y Gogledd, byddwch yn ymwybodol o lawer o gyfeiriadau at y sefyllfa yng nghanol tref Wrecsam, sy'n cael ei achosi'n bennaf gan gyffuriau synthetig fel mamba ddu a sbeis. Flwyddyn yn ôl, yma yn y ddadl ar gamddefnyddio sylweddau, roeddwn i'n dyfynnu cadeirydd bwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd a ddywedodd fod llawer gormod yn cael ei wario ar ddiffodd tân a dim digon ar ymyrryd ac atal tân. Ef yw'r dirprwy arweinydd bellach ac aelod arweiniol dros y bobl, cymunedau, partneriaeth, amddiffyn y cyhoedd a diogelwch cymunedol yn Wrecsam. Dywed ei fod wedi dysgu o'u profiadau nhw, ac mae'r cyngor hwnnw yn dwyn ynghyd gorff o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn ffordd sy'n cael ei gweld bellach yn esiampl ddisglair. Felly, pa ymgysylltiad fydd gennych chi neu sydd gennych chi eisoes, efallai, â'r esiampl ddisglair honno er mwyn gweld sut y gallwch chi ddysgu gyda'ch gilydd am ffyrdd a allai fod o fudd i bawb yn y dyfodol?

15:40

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau. Byddaf yn dweud ar y dechrau mai dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael fel Ysgrifennydd y Cabinet i sôn am fy null i o weithredu a dull gweithredu'r Llywodraeth o ran y maes hwn ers i'r datganiadau a'r ymrwymiadau hynny gael eu gwneud. Felly, byddaf, gyda'ch amynedd chi, Dirprwy Lywydd, yn ceisio sôn  am y dull yr hoffwn ei gymryd i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaeth ein cyfaill Carl Sargeant.

Roeddwn yn teimlo bryd hynny, ac felly hefyd yn awr, fod gweledigaeth Carl wrth iddo sefydlu grŵp i edrych ar y materion hirdymor hynny erbyn hyn yn dechrau dwyn ffrwyth. Credaf fod gwaith y grŵp a fu'n goruchwylio'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dod i'r amlwg wrth gynhyrchu adroddiad heddiw, ond hefyd o ran y ffordd y caiff ei ddwyn yn ei flaen. Rwy'n cydnabod y beirniadaethau a gafwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ond hefyd y dadansoddiad ehangach yn sail y beirniadaethau hynny, ac rwy'n croesawu adroddiad yr archwilydd cyffredinol wrth iddo roi goleuni, os mynnwch, ar y materion hyn a'r ffordd yr oedd yn dadlau dros newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn darparu diogelwch cymunedol yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y grŵp sy'n goruchwylio a'r gwaith a wnaed yn parhau dros y misoedd nesaf gan gyflawni'r weledigaeth a amlinellir yn yr adroddiad, sef gweledigaeth a fydd yn cyflawni o ran cynllunio strategol ond hefyd o ran darparu'r gweledigaethau hynny yn y tymor hwy.

A byddaf yn rhoi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn a ofynnodd i mi am gyrff trydydd sector. Yn sicr rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi gwerth y trydydd sector, o ran gweithredu'r strategaeth, ond hefyd wrth reoli ac adolygu'r strategaeth honno hefyd. Rydym yn dymuno i'r trydydd sector fod yn rhan o ddatblygiad, rheolaeth a darpariaeth y rhaglen gyffredinol.

O ran rhai o'r materion ehangach y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn eu codi, byddwn yn dweud wrtho, er ei bod yn debygol y byddem yn anghytuno ar rai agweddau ar yr hanfodion polisi gwahanol hyn, gobeithio y gallem gytuno bod hwn yn un maes lle mae'r setliad datganoli yn fwyaf toredig. Nid wyf i am eiliad yn anghytuno â'r heriau y mae wedi'u rhoi ar gofnod y prynhawn yma, a'i her i mi fel Gweinidog. Ond dywedaf wrtho fod llawer o'r materion yr ydym yn eu hwynebu o ran diogelwch cymunedol ac agweddau ehangach polisi cyfiawnder yn cael eu gwneud yn fwy anodd, a'u bod yn fwy anodd yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, oherwydd nad oes gennym yr adnoddau ar gael i ddwyn ynghyd feysydd a swyddogaethau datganoledig a'r rhai sydd heb eu datganoli i ddarparu ymateb cyfannol a chynhwysfawr i'r heriau hynny. A mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw dangos bod eu gweledigaeth nhw ar gyfer setliad datganoli, nad yw'n cael ei gefnogi gan y mwyafrif yn y Siambr hon, na chan y mwyafrif yn y wlad hon, credaf, yn un sydd yn gynaliadwy, cadarn a chydlynol. Fy mhryder i yw nad yw'r setliad presennol yn gydlynol, yn gynaliadwy nac yn gadarn, ac ar y pwynt hwn o bolisi y mae'n fwyaf toredig. Felly, credaf y byddai'n rheidrwydd ar bob un ohonom i ddangos y byddwn yn gweithio o fewn y setliad i gyflawni ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid iddo gydnabod hefyd mai'r hyn sydd wrth wraidd llawer o'r materion yr ydym yn ceisio eu datrys yw methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi adnoddau i'r heddlu a hefyd i ddarparu ar gyfer setliad cyfansoddiadol i'r wlad hon, sy'n caniatáu dull cyfannol o ymateb eang i'r heriau y mae ef yn eu hamlinellu'n briodol yn ei gyfraniad.

Diolch ichi am y datganiad hwn. Yr hyn y mae'n ei ddangos i ddechrau, rwy'n credu, yw cymhlethdod y trefniadau yng Nghymru a bod llinellau atebolrwydd yn amlwg yn wahanol. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, rwyf i o'r farn bod y setliad datganoli yn astrus iawn yn hyn o beth. Rydym yn gweld sefyllfa lle mae gan yr heddlu, y comisiynwyr heddlu, Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, pob un ohonyn nhw, mewn rhyw ffordd, gyfrifoldeb neu ran i'w chwarae. Eu dal nhw i gyfrif pan geir y prosesau datganoli gwahanol hynny sy'n ei gwneud yn fwy cymhleth i gyflawni ac i ninnau graffu ar y gwasanaethau hynny. Felly, mae bob amser yn mynd i fod yn fwy anodd wrth inni edrych ar y darlun sydd ohoni nawr. Dyna pam na ddylech chi synnu pan fyddwch yn ein clywed yn dweud, fel plaid, bod angen inni gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a datganoli cyfiawnder i Gymru fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Rwy'n gobeithio mai dyna y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei olygu wrth sôn am 'system gyfiawnder benodol i Gymru', oherwydd mae'n anodd iawn i ni ddod i gasgliadau cadarn heb yr holl offer yn y blwch.

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud o ran y datganiad penodol hwn yw y dylid ei alw'n danddatganiad gan ei fod yn amlwg yn tanddatgan y materion a godwyd gan adolygiad yr archwilydd cyffredinol ac adolygiad Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Rwy'n gweithio'n galed i weld y datrysiadau i'r casgliadau hynny nad oeddech chi'n dymuno eu hymarfer o flaen llaw. Mae eich datganiad yn hoff iawn o ddefnyddio geiriau fel 'datblygu', 'ystyried', 'archwilio' wrth restru rhaglenni gwaith sy'n deillio o'r adolygiad hwn. Felly, os caf, hoffwn ofyn am fwy o gig ar yr esgyrn am yr hyn yr ydych yn ei ystyried?

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â chasgliad yr adolygiad hwnnw, ac rwy'n dyfynnu:

Ceir tystiolaeth o wrthdaro a dryswch o ran strwythur ac adnoddau a achoswyd gan amrywiaeth o "olion traed" partneriaeth weithredol a strategol rhanbarthol a lleol yn weithredol o fewn yr agenda diogelwch cymunedol.

A gaf i ofyn sut y bydd y rhaglen waith yn egluro ac yn symleiddio'r partneriaethau hyn i fynd i'r afael â'r gwrthdrawiadau hynny?

Yn ail, noda'r adolygiad, ac rwy'n dyfynnu:

Gwelwyd hefyd bod dryswch o ran ffrydiau ariannu diogelwch cymunedol o nifer o ffynonellau llywodraethol, gyda llawer o grantiau wedi'u clymu i delerau ac amodau tra rhagnodol ac anhyblyg sy'n gofyn am lefelau sylweddol o ymdrech weinyddol, monitro ac adrodd am yr hyn sydd fel arfer yn symiau o arian cymharol fach a byrdymor.

Sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, Ysgrifennydd y Cabinet?

Gan symud ymlaen at y trydydd mater sydd gennyf yma heddiw, ac rwy'n dyfynnu:

Prin yw'r dystiolaeth am unrhyw newid sylweddol mewn buddsoddi partneriaeth tuag at egwyddorion "buddsoddi i arbed", gan gefnogi mwy o wasanaethau atal ac ymyrraeth  gynnar, ac ymddengys bod y rhan fwyaf o adnoddau diogelwch cymunedol wedi'u cyfeirio tuag at rheoli argyfwng a "thriniaeth".

Yn amlwg, yn unol â blaenoriaethau eraill y Llywodraeth, rydym yn eiddgar i weld buddsoddi rhagweithiol yn hytrach na rheoli argyfwng yn unig. Felly, a ydych chi'n credu mai un o gyfyngiadau annatod caledi yw hyn neu a ydych yn credu ei fod yn ymwneud â'r ffaith nad oes gennym ni rym dros y gwasanaethau i gyd? Hoffwn glywed eich barn.

Fy marn olaf ar hyn, rwy'n credu, yw fy mod yn cofio siarad gyda Carl Sargeant am y ffaith ei fod yn teimlo'n angerddol am y modd y gwnaethom ni integreiddio gwasanaethau yn Abertawe. Rhoddodd enghraifft o sut yr oedd gwasanaethau ambiwlans yn rhoi cyfle i bobl a oedd yn feddw ar noson allan i fynd a chael triniaeth. Ariannwyd hynny wedyn gan gomisiynydd yr heddlu. Roedd yn awyddus iawn i weld sut y gallai'r gwasanaethau hynny gael eu hintegreiddio'n well fel y gellid rhannu'r gost rhwng llawer ac ni fyddai un gwasanaeth o fewn y Llywodraeth yn cymryd yr ergyd gyfan yn sgil hynny. Roedd hynny'n rhywbeth a glywais yn eithaf clir ganddo ef ac roeddwn yn meddwl tybed a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n mynd i'w ddatblygu hefyd.

15:45

Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei geiriau caredig iawn ar ddechrau ei datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu fod yna gryn dipyn o gytundeb ledled y Siambr, mae'n debyg, ar y materion hyn.

Rwy'n dechrau trwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf, os nad oes ots gennych chi. Rwyf i yn sicr yn cefnogi hyn a byddaf yn rhoi ateb sy'n atgyfnerthu fy ymrwymiad i'r pwyntiau a wnaed gan Carl Sargeant. Fy mwriad i yn sicr yw bwrw ymlaen â'r gwaith a'r amcanion a osododd ef ar y pryd yn y modd yr amlinellodd hynny i chi. Rwy'n credu bod y sgwrs a gawsoch chi a Carl yn adlewyrchu'n dda iawn ei ymrwymiad i lawer o'r materion hyn ac yn sicr mae hynny'n ymrwymiad y byddwn yn ceisio ei gynnal a'i ailadrodd y prynhawn yma.

O ran sylwadau ehangach a'r cwestiynau a wnaethoch chi eu gofyn am y datganiad hwn, fe ddechreuoch chi eich ymateb, wrth gwrs, drwy ddisgrifio rhai o'r cymhlethdodau yn y strwythurau sydd ar gael i ni. Mae hwn yn gymhlethdod yr oeddwn yn ceisio ei amlinellu fy hun yn fy ateb i Mark Isherwood. Ac mae llawer o'r cymhlethdod hwnnw yn cael ei osod arnom yn hytrach na'n bod ni'n ei greu ein hunain. Yr hyn yr wyf yn ceisio ei wneud yn y datganiad hwn y prynhawn yma yw ceisio dod o hyd i ffordd drwy'r cymhlethdod hwnnw drwy ddod â phobl ynghyd, cytuno ar ein hamcanion ac yna nodi rhaglen waith glir iawn a fydd yn cyflawni'r amcanion hynny.

Wrth ateb dadl Pwyllgor Deisebau ar y carchar ym Maglan yr wythnos diwethaf, ceisiais  amlinellu fy null gweithredu i yn y maes polisi hwn. Ac, mewn sawl ffordd, mae gennych chi—. Rwy'n cael fy nhemtio eto, Dirprwy Lywydd, i fynd ymhellach efallai nag y mae fy meddwl wedi caniatáu imi ei wneud yn ystod yr ychydig wythnosau byr yr wyf wedi bod â'r cyfrifoldeb hwn. Ond gadewch i mi ddweud hyn: Rwyf i o'r farn bod y gwaith sydd wedi'i wneud gan y grŵp sy'n goruchwylio'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, dros y naw mis diwethaf, wedi bod yn rhagorol. Defnyddiodd adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn gynsail, ond ni chafodd ei gyfyngu gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol, na'i ganfyddiadau na'i argymhellion. Aeth ymhellach ac weithiau mewn cyfeiriad gwahanol i'r un a amlinellwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac rwy'n ddiolchgar am y tensiwn hwnnw, os hoffech chi, sydd wedi cyflawni yr hyn yr wyf yn gobeithio sy'n ddull rhesymol ac ystyriol o weithredu polisi.

Rwy'n awyddus i gyfarfod â'r grŵp goruchwylio yn y flwyddyn newydd er mwyn deall eu meddylfryd ar hyd llinellau gwahanol a deall sut y gallwn ni symud ymlaen â'r gwaith hwn. Fy marn i yw bod y gwaith wedi bod yn arloesol yn y ffordd y ceisiodd ddwyn y gwahanol feysydd hyn a'r gwahanol feysydd polisi hyn ynghyd ond bod hefyd eisiau inni allu gosod targedau clir iawn ar gyfer yr hyn yr ydym yn dymuno ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'n fwriad gennyf i wneud hynny.

Hefyd, fy mwriad yw bwrw ymlaen â'r gwaith a ddechreuwyd gyda'r comisiynwyr heddlu. Roeddech chi'n cyfeirio at waith gwahanol gomisiynwyr yr heddlu, fel y gwnaeth Mark Isherwood. Fe gawson nhw eu cynrychioli, wrth gwrs, yn y grŵp sy'n goruchwylio'r gwaith, ac rydym wedi gallu cyfarfod â rhai comisiynwyr heddlu ers fy mhenodiad i fis diwethaf. Rwy'n bwriadu parhau'r sgyrsiau gyda chomisiynwyr yr heddlu i sicrhau bod gennym y safbwynt cyfannol mwy eang ar bolisi.

O ran y dull cyffredinol, gadewch i mi orffen drwy ddweud hyn: rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro wrth ateb cwestiwn gan Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf fy mod yn ystyried troseddau ieuenctid a menywod yn flaenoriaeth, yn un lle byddai dull cyfannol yn disodli dulliau blaenorol ac yn un lle byddwn yn ceisio dwyn ynghyd y gwasanaethau datganoledig, ynghyd â gwasanaethau sydd heb eu datganoli a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, wrth geisio arloesi gyda ffordd wahanol o weithio. Rwy'n credu bod hynny yn un o egwyddorion sylfaenol y maes polisi hwn. Mae'n rhy gymhleth—rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad chi a'ch beirniadaeth chi—ond i ni nid yw'n hi ddigon beirniadu strwythurau'n unig. I ni, mae'n rhaid inni greu strwythurau newydd, amcanion newydd, gweledigaeth glir a ffordd o gyflawni'r uchelgeisiau hynny.

15:50

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Mae diogelwch cymunedol yn bwnc diddorol. Genhedlaeth yn ôl, pan oeddwn yn tyfu i fyny, roedd yna lawer mwy o blant yn chwarae yn y strydoedd ac, yn yr haf, mewn parciau cyhoeddus heb oruchwyliaeth o gwbl gan oedolion. Roeddwn innau'n gwneud hynny fy hunan mae'n debyg pan oeddwn yn ifanc iawn. Sylwais rai blynyddoedd yn ddiweddarach fod rhieni yn mynd yn fwy ac yn fwy cyndyn i ganiatáu i blant chwarae yn y strydoedd oherwydd yr ofn ynghylch gormod o draffig a gormod o geir wedi'u parcio yno, a hefyd mewn parciau cyhoeddus oherwydd, i raddau helaeth, ofn dieithriaid. Y peth rhyfedd yw fod plant wedi'u caethiwo fwyfwy i'w cartrefi, ac rydym bellach yn darganfod rai blynyddoedd yn ddiweddarach y gallan nhw hefyd fod mewn perygl yn eu cartrefi oherwydd bod pobl yn cysylltu â nhw ar y rhyngrwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Yr unig ateb allasai fod i hyn yw annog rhieni i dreulio rhagor o amser yn trefnu tripiau i barciau mewn grwpiau i sicrhau amgylchedd diogel i blant gael bod gyda'i gilydd yn yr awyr agored. Felly, tybed, Gweinidog, pan fyddwch chi yn ystyried y cynlluniau newydd ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, a oes cyfle ar gyfer y math hwn o gynllun i ganiatáu chwarae cymunedol sy'n fwy diogel.

Problem arall sy'n cyffwrdd â hyn yw camddefnyddio sylweddau, oherwydd nid yw'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau bob amser yn chwistrellu'r cyffuriau yn eu hystafelloedd gwely; weithiau maen nhw'n gwneud hynny mewn mannau lled-gyhoeddus, a bu pryderon ynglŷn â nodwyddau yn cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus. Rydym wedi cael adroddiadau papur newydd am hynny'n weddol ddiweddar yn ardal Butetown Caerdydd ac mae trigolion mewn trefi yn y cymoedd hefyd yn cwyno am y mater hwn. Mae perygl y bydd plant yn codi'r nodwyddau ac yn peri niwed i'w hunain yn anfwriadol. Bu galwadau hefyd mewn rhai mannau am fangreoedd arbennig lle gallai rhai sy'n gaeth i gyffuriau chwistrellu yn ddiogel, ac fe'u gelwir yn barthau chwistrellu diogel. Felly, rwy'n holi tybed beth yw eich barn chi ar y pwnc hwn, Gweinidog. A fyddai parthau chwistrellu diogel yn arwain at gymuned fwy diogel, yn eich barn chi, neu a yw darpariaeth ryddfrydol fel hon yn debygol o wneud dim ond annog mwy o gam-drin cyffuriau?

Mae hwn yn fater perthnasol, gan fod nifer o daleithiau gorllewinol UDA yn symud yn awr tuag at gyfreithiau mwy rhyddfrydol o ran cyffuriau yn gyffredinol. Ond mae'r symudiadau hyn wedi rhannu barn llunwyr polisi. Mae rhywfaint o dystiolaeth ystadegol ar gael eisoes yn nodi, lle bynnag y byddwch chi'n llacio rheolau'r cyfreithiau cyffuriau, yr hyn a gewch chi o fewn ychydig flynyddoedd yw dim ond rhagor o rai sy'n camddefnyddio cyffuriau. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl i'w trin gan weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae mwy o faich ar gymdeithas.

Nawr, byddwn yn cael dadl yma yn y flwyddyn newydd am y defnydd meddyginiaethol o ganabis. Nid yw pobl sy'n cymryd canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn gyfystyr â phobl sy'n gaeth i heroin ac n chwistrellu gyda nodwyddau, rwy'n deall hynny'n iawn, ond mae'n rhaid dechrau llacio'r polisi cyffuriau yn rhywle. Felly mae'n debyg y bydd gan bobl sydd yn awyddus i gyfreithloni cyffuriau caled fan cychwyn da wrth argymell y defnydd meddyginiaethol o ganabis. Tybed beth yw eich barn chi ar y pwnc hwn a beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Rydym wedi cael dadl neu ddwy yma yn ddiweddar am yr archgarchar, fel y'i gelwir, yr oeddech chi'n sôn amdano yn eich sylwadau diwethaf. Roedd gwrando ar rai o'r cyfraniadau yn y ddadl yr wythnos diwethaf yn ennyn fy niddordeb, a'r ffaith bod mwyafrif y bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar yn gwneud hynny yn rhannol ar y sail nad oedden nhw'n cytuno gydag archgarchardai yn eu hanfod. Roeddwn yn gweld hynny'n ddiddorol oherwydd nid oeddwn yn ymwybodol fod gennym ni allu cyfreithiol dros yr agwedd hon ar y system cyfiawnder troseddol yma yn y Cynulliad. Ond, wrth gwrs, efallai y bydd rhai o'r bobl sy'n gwrthwynebu'r archgarchardai hefyd yn dymuno inni gael gallu cyfreithiol dros agweddau ar y system cyfiawnder troseddol. Bethan, rwy'n cymryd mai hwnnw yw eich safbwynt chi a safbwynt Plaid Cymru ac rwyf innau hefyd yn cymryd, o'ch sylwadau chi, Gweinidog, mai dyna yw eich safbwynt chithau hefyd o bosibl. Roeddech chi'n dweud nad yw'r setliad datganoli presennol yn gydlynol. Beth yw eich gweledigaeth chi o ran sut y byddai pethau'n gweithio pe bai gennych chi'r gallu cyfreithiol, yr ydych yn awyddus i'w gael, dros y system cyfiawnder?

15:55

Nid wyf yn siŵr ble i dechrau, Dirprwy Lywydd, ond gadewch i mi ddechrau gyda'i gwestiwn olaf, eto—ymddangys fy mod wedi dod i'r arfer â gwneud hynny. Mae fy ngweledigaeth i yn eglur iawn, iawn: rwy'n credu y dylid datganoli plismona i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn gyfochrog â pholisi cyfiawnder, o fewn awdurdodaeth gyfreithiol unigryw i Gymru, a fydd yn rhoi eglurder a gallu i gyflawni dulliau cyfannol o weithredu polisi ac i wneud hynny o fewn strwythurau setliad datganoli clir lle mae gennym ni eglurder o ran atebolrwydd—i'r lle hwn fod yn gyfrifol am yr holl wahanol orchmynion a dulliau polisi hynny. A gadewch i mi ddweud pam wrthych chi: o ran ein safle ar hyn o bryd, nid dadl gyfansoddiadol sych yw hon fydd yn digwydd ymysg cyfreithwyr yn hwyr y nos; dyma sut y byddwn yn cyflwyno polisi ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad.

Treuliodd cynrychiolydd UKIP gryn amser yn sôn am gamddefnyddio sylweddau a gweithgarwch arall a allai fod yn droseddol. Nid ydych yn ymdrin â'r materion hynny drwy ymateb gan yr heddlu yn unig. Un wers y gwnaethom ni ei dysgu, dro ar ôl tro—ac wedi ei hanghofio yn rhy aml—yw, os ydym am fynd i'r afael â throseddu ar ei lefel mwyaf sylfaenol, yna mae angen inni ddefnyddio dull llawer mwy cynhwysfawr a chyfannol sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill, yn ogystal ag asiantaethau plismona ac asiantaethau gorfodi eraill. Nid oes modd—ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli hyn; a yw UKIP yn sylweddoli hynny ai peidio, nid wn—inni fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol a throseddu gan ddefnyddio plismona a charchar neu ddulliau cosb yn unig. Yn sicr nid dyna farn y Llywodraeth hon o ran y modd y byddwn yn mynd i'r afael â materion hyn. Felly, rydym yn awyddus i weld dull mwy cyfannol a chynhwysfawr o sicrhau cymunedau mwy diogel o fewn polisi cyfiawnder lle mae adsefydlu'n rhan ganolog ohono.

Dywedaf hyn o ran pwyntiau gwreiddiol y cyflwyniad a wnaeth llefarydd UKIP y prynhawn yma. Un o ddiddordebau angerddol Carl Sargeant yn ei swydd, os mynnwch chi, oedd creu amgylchedd lle'r oedd plant yn tyfu, ond hefyd yn cael eu meithrin—eu meithrin mewn teuluoedd cynnes, cariadus mewn cymunedau lle roedden nhw'n gallu mynd allan i chwarae a thyfu i fyny gan deimlo'n ddiogel ac yn saff.

Daeth â holl fater ACEs—profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—i mewn i galon y Llywodraeth, a bûm yn eistedd o gylch byrddau lawer yn siarad ag ef, wrth iddo fynd â'r maen i'r wal o ran pwysigrwydd plentyndod a sicrhau plentyndod hapus a diogel i blant ledled y wlad. Yn ei hanfod, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud wrth ddatblygu polisi ar gyfer cymunedau mwy diogel yw galluogi pob un ohonom i fyw bywydau diogel lle gallwn deimlo'n ddiogel yn ein cartrefi, yn ddiogel yn ein strydoedd a lle gallwn dyfu'n oedolion a thyfu'n hen mewn cymuned sy'n gofalu am bawb.

16:00

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ar un neu ddau o'm profiadau diweddar yn fy ardal i, sydd yn fy marn i yn atgyfnerthu nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi yn eich datganiad. A gaf i ddechrau trwy ddweud—? Hoffwn gymryd munud, mewn gwirionedd, i bwysleisio nad Merthyr Tudful yw'r dref a gafodd ei phortreadu yn y gyfres deledu Valley Cops. Rwyf i o'r farn y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn yr ardal yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf ac sydd wedi gweld ymateb y gymuned i'r tywydd mawr— mae wedi dangos unwaith eto mai tref â chalon gynnes yw hon sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir ar gyfer ei chymdogion pan ddaw adfyd ar eu traws nhw. Credaf fod angen i'n hymateb ni i'r angen am gymunedau sydd yn fwy diogel adlewyrchu'r ysbryd hwnnw.

Wrth wraidd y gwaith hwnnw mae'n rhaid cael plismona â chydsyniad y gymuned, a dull partneriaeth cydweithredol ac ymatebol. Fel yr ydych chi eisoes wedi'i nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid i'r cydweithrediad fod rhwng y gymuned, yr heddlu a phartneriaid eraill. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydweithredu, mae gan bob un gyfrifoldeb ac mae gan bob un ei ran i'w chwarae. Mae'n rhaid i'r gymuned gymryd y cyfrifoldeb dros adrodd am droseddau ac anhrefn, honno yw'r unig ffordd y gall yr heddlu gasglu tystiolaeth ar gyfer eu gwaith. Ond, yn gyfnewid am hynny, mae cymunedau yn gofyn am ymateb effeithiol gan yr heddlu i'r wybodaeth a roddir iddyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys presenoldeb amlwg gan yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol sy'n magu hyder y gymuned. Ond, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich ymateb i Mark Isherwood, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol—yn wahanol i Loegr, lle maen nhw wedi'u cwtogi—nid yw presenoldeb amlwg gan swyddogion yr heddlu yn hawdd pan mae cwtogi wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ar eu niferoedd, a dim ond cymorth cyfyngedig y gall swyddogion cymorth cymunedol ei gynnig mewn gwirionedd.

 Fodd bynnag, rhoddaf i un enghraifft o waith partneriaeth diogelwch cymunedol yn fy ardal i. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o weld comisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn ymateb yn gadarnhaol i bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a godwyd gan drigolion yng Nghwm Rhymni uchaf. Galwodd ef bartneriaid at ei gilydd i drafod y materion hyn, ac rydym bellach yn dilyn hynny gyda chamau gweithredu sy'n seiliedig ar y pryderon hynny. Daw rhai o'r camau gweithredu a'r ymatebion hynny oddi wrth bartneriaid yn ogystal â'r heddlu, oherwydd mae'n amlwg mai gêm i'r tîm cyfan yw gweithio gyda'i gilydd er diogelwch ein cymunedau, ac rydym ni oll yn rhan o'r tîm hwnnw. Ac mae angen yr ymateb hwnnw gan bartneriaid eraill. Mae rhai o'r materion hyn, er enghraifft camddefnyddio sylweddau, yn gofyn am ymyrraeth a chymorth nad ydyn nhw wedi'u canoli ar yr heddlu. Yn yr un modd, gyda phroblemau iechyd meddwl, ni fydd yr ateb gorau yw'r ymateb sy'n seiliedig ar drosedd, ond gall partneriaid eraill helpu. Felly, rwy'n awyddus i gael gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y credwch chi y gallwn ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn fwy effeithiol i wneud yn siŵr y gall y modelau o bartneriaeth leol y mae eu hangen arnom sicrhau cymunedau mwy diogel yn erbyn y cefndir o rwystrau niferus a gydnabyddir yn eich datganiad.

Mae'r Aelod dros Ferthyr Tudful a minnau yn cynrychioli cymunedau tebyg iawn ym Mlaenau'r Cymoedd, a gwelais ei hymateb i'r rhaglen deledu Valley Cops. Roeddwn innau'n rhannu llawer o'r un rhwystredigaethau â chi. Weithiau, mae awydd y gwneuthurwyr rhaglenni i greu drama ar ein sgriniau yn golygu nad ydyn nhw bob amser yn cynrychioli realiti bywyd yn ein cymunedau, ble bynnag y maen nhw'n digwydd bod. Credaf mai achos sicr o hynny sydd yma.

A gaf i ddweud hyn? Rwyf i wedi cyfarfod â chomisiynwyr yr heddlu o Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Fe wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos ddiwethaf i drafod yr adroddiad hwn, ond hefyd sut y byddwn ni'n datblygu'r materion hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Roedd yn braf iawn clywed y ddau gomisiynwr heddlu yn sôn am sut y maen nhw'n awyddus i weithio ochr yn ochr â'u cydweithwyr yn Nyfed-Powys ac yn y Gogledd, a hefyd sut roedden nhw'n gweld eu hunain yn rhan o'n cymunedau, yn awyddus i weithio gyda'r rhwystrau, ar eu traws a thrwyddynt, sydd wedi'u creu drwy statud, ac sy'n effeithio ar bob un ohonom ni. Roeddwn i'n teimlo bod honno'n enghraifft gadarnhaol iawn o'r modd y gall comisiynwyr heddlu helpu fel catalyddion eu hunain i ddwyn ynghyd y gwahanol grwpiau cymunedol i gyflwyno diogelwch cymunedol o fewn a ledled ein holl gymunedau, fel y dangoswyd gan rai o'r materion a godwyd gan yr aelod dros Ferthyr sydd yn amlwg yn effeithio ar fywydau llawer gormod o bobl ar hyn o bryd.

 Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu parhau gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu catalydd ac arweiniad, gan ddwyn ynghyd sefydliadau ac asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli i sicrhau bod gennym weledigaeth gyffredin eglur iawn o'r ffordd y bwriadwn gyflawni ar gyfer ein cymunedau, ac yna i sefydlu—ac mae hyn yn gwbl allweddol, Dirprwy Lywydd, i'r hyn yr hoffwn ei ddweud y prynhawn yma—mae angen inni sefydlu cynllun gweithredu clir iawn a chreu proses y gallwn symud ymlaen ynddi gyda chyflymder ac ar fyrder er mwyn cyflawni rhai buddiannau gwirioneddol i'r gymuned. Credaf ein bod wedi gweld rhywfaint o hynny'n barod: mae gwaith arloesol y Llywodraeth hon a'r Cynulliad blaenorol yn y Ddeddf ar drais yn erbyn menywod wedi dwyn gwasanaethau at ei gilydd nad oedd yn bosibl cyn hynny ac heb arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio bod hynny wedi sefydlu patrwm ar gyfer symud ymlaen yn y dyfodol i gyflwyno dull cyfannol o ymdrin â rhai o'r problemau sydd wedi'u gwreiddio ddyfnaf yn ein cymunedau, ac rwy'n gwbl argyhoeddedig fod y dull cyfannol hwnnw yn un a fydd yn darparu budd gwirioneddol i bobl ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yn y wlad.

16:05
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cysylltu Cymru, agwedd strategol tuag at Drafnidiaeth

Symudwn yn awr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gysylltu Cymru, ymagwedd strategol at drafnidiaeth, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i wneud y datganiad. Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan drafnidiaeth ran ganolog i'w chwarae i wella ffyniant Cymru, gan gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau, gwasanaethau a marchnadoedd. Mae ganddi swyddogaeth allweddol i sicrhau cymunedau cydlynol a bodloni ein nodau lles 'iachach' a 'mwy cyfrifol' drwy ddewisiadau pobl a newid moddol at ddulliau teithio mwy cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.

Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn rhoi dyletswydd arnom ni i ddatblygu polisïau i hyrwyddo ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac economaidd i Gymru, o Gymru ac o fewn Cymru. Mae’r polisïau hyn wedi'u nodi yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, ynghyd â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni'r polisïau hyn. Cyhoeddwyd y strategaeth gyfredol yn 2008 a chafodd ei hadolygu yn 2013, pan benderfynwyd bod y polisïau a’r ymyriadau o fewn y strategaeth yn dal i fod yn berthnasol ac yn briodol i ddiwallu anghenion trafnidiaeth pobl Cymru. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, mae nifer o ddatblygiadau allweddol o ran polisïau a deddfwriaeth wedi digwydd yng Nghymru, sy’n golygu bod angen inni ailedrych ar y strategaeth i sicrhau bod ein polisïau a'r camau a gymerwyd i wella trafnidiaeth yng Nghymru yn dal i gyfrannu’n gadarnhaol at ddarparu ffyniant i bawb.

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn darparu mwy o swyddi, a swyddi gwell, drwy economi gryfach, decach, yn gwella ac yn diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. I gefnogi ein rhaglen lywodraethu, sy'n nodi’r prif ymrwymiadau y byddwn yn eu cyflawni rhwng nawr a 2021, mae ein strategaeth genedlaethol yn dwyn ynghyd ymdrechion y sector cyhoeddus cyfan tuag at genhadaeth ganolog y Llywodraeth hon o ddarparu ffyniant i bawb. Bydd y rhaglen lywodraethu a'r strategaeth genedlaethol yn ein helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfraniad at y nodau llesiant cenedlaethol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae angen inni hefyd ystyried y bydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn dod i rym, ac yn arwain at dargedau statudol i leihau carbon ac allyriadau yng Nghymru; yma, trafnidiaeth yw’r trydydd sector mwyaf o ran allyriadau, ac mae’n gyfrifol am tua 13 y cant o allyriadau carbon yng Nghymru.

Mae’r galw am berchnogaeth a defnydd o gerbydau preifat yn parhau i gynyddu. Cerbydau preifat yw’r grym mwyaf o hyd ar gyfer teithiau ac i gludo nwyddau. Yn wir, mae 85 y cant o’r teithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru yn digwydd mewn ceir, ac mae teithiau mewn bysiau ac ar y rheilffyrdd yn gyfrifol am tuag 8 y cant yr un. Cerdded yw’r modd uchaf a ddewiswyd ar gyfer y daith i ysgol gynradd, a theithio mewn bysiau yw’r uchaf ar y lefel uwchradd. Rhagwelir y bydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat yn cynyddu’n sylweddol dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'r rhagolygon yn dangos cynnydd o 150 y cant o leiaf yn y galw am y moddau trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau preifat erbyn 2030. Mae’r effaith bosibl ar ein hamgylchedd, ynghyd ag iechyd a lles pobl, yn golygu bod angen inni fireinio ein dulliau polisi sy'n ein galluogi i ymdrin yn well â’r heriau y mae angen inni roi sylw iddynt yn y degawd i ddod.

Mae cyfrifoldebau newydd o ran cofrestru gwasanaethau bysiau lleol, trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, a sefydlu swyddfa’r comisiynydd traffig yma yng Nghymru, yn realiti newydd, ynghyd â chyfrifoldebau ychwanegol i reoli gwasanaeth rheilffyrdd Cymru; disgwylir i hynny ddigwydd yn gynnar yn 2018. Felly, nid yn unig y mae angen i’n strategaeth drafnidiaeth adlewyrchu’r realiti hwn, ond mae angen ei fframio yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a manteisio ar y cyfleoedd y gellir eu hennill drwy fasnachu yn yr economi fyd-eang newydd, a harneisio datblygiadau technolegol yn y sector trafnidiaeth wrth ddatblygu cerbydau ag allyriadau isel iawn, cerbydau ymreolus a thechnolegau newydd eraill. Mae angen inni gynllunio offer i’n galluogi i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn.

Ac felly, rwy’n falch o gyhoeddi y caiff ein canllawiau arfarnu newydd ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru eu cyhoeddi yfory; bydd y rhain yn ei gwneud yn haws i gynllunwyr trafnidiaeth ddatblygu a gweithredu ymyriadau sy'n diwallu anghenion trafnidiaeth pobl sy'n byw yng Nghymru yn well. Bydd y canllawiau hyn yn hollbwysig i lwyddiant y tair rhaglen metro, ac i gyflawni prosiectau trafnidiaeth allweddol megis ar yr M4 ac ar hyd coridor yr A55, a’r A40 yn y gorllewin. Rwy’n ystyried yr holl ffactorau hyn wrth ddatblygu strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, ac rwy’n cynnig dull dwy haen, sy'n cynnwys datganiad polisi cyffredinol wedi’i ategu gan nifer o ddatganiadau polisi thematig. Bydd y datganiad cyffredinol yn nodi ein nodau a'n hamcanion ehangach ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Bydd yn ymdrin â sut rydym yn bwriadu ystyried newidiadau ac, yn hollbwysig, agenda polisi ehangach y Llywodraeth o ran cynllunio defnyddio tir, cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo a datblygu cynaliadwy.

Rwy’n cydnabod y bydd strategaeth drafnidiaeth uchelgeisiol yn golygu bod angen newid radical i bolisïau defnyddio tir, cynllunio a darparu gwasanaethau; mae’r cynllun gweithredu economaidd yn nodi hynny. Efallai y bydd angen llawer o uchelgais i daro’r targed i ddatgarboneiddio 80 y cant erbyn 2050, a bydd yn dibynnu ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i gyrraedd y targed hwn. Bydd y dull dwy haen hwn yn caniatáu inni fabwysiadu dull mwy deinamig, ymatebol a blaengar drwy gyflwyno datganiadau polisi newydd neu fireinio polisïau presennol yn y dyfodol i ymateb i dechnolegau a blaenoriaethau newydd.

Rwy’n cynnig y bydd strategaeth trafnidiaeth Cymru yn agwedd fwy hyblyg at ddatblygu polisïau a gosod amcanion, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac yn gallu cael ei mireinio i adlewyrchu amgylcheddau newydd a rhoi sylw i flaenoriaethau newydd, fel ein hawydd i wella hygyrchedd a chynhwysiant ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Flwyddyn yn ôl addewais weithio gyda grwpiau cydraddoldeb i ddatblygu amcanion seiliedig ar ganlyniadau gyda’r bwriad o wella hygyrchedd a chynhwysiant, ac rwy’n falch o ddweud, heddiw, fy mod wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa polisi, sy'n nodi chwe amcan seiliedig ar ganlyniadau er mwyn gwella hygyrchedd a chynhwysiant y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Cafodd yr amcanion hyn eu datblygu gyda chymorth sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau pobl anabl yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y byddant yn cyfrannu’n gadarnhaol at hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb sy'n byw yng Nghymru. Bydd y safbwynt polisi hwn yn un o gonglfeini ein strategaeth drafnidiaeth newydd. Rwy’n hyderus y bydd y strategaeth ddiwygiedig, ynghyd â’n ffordd newydd o weithio i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy sydd o fudd i holl bobl Cymru, yn cyfrannu’n sylweddol at gyflawni ein hamcanion o ddarparu ffyniant i bawb.

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn lansio ein diweddariad am y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Mae'r cynllun, er nad yw’n ddogfen bolisi, yn nodi sut yr ydym yn cynnig cyflawni'r canlyniadau a ddisgrifir yn ein strategaeth drafnidiaeth Cymru. Yn dilyn ceisiadau gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’u barn am ba mor aml y dylid diweddaru'r cynllun, rwyf wedi cytuno â’u hargymhelliad o adolygiad blynyddol. Mae’r fersiwn hwn wedi'i ddiweddaru o'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am y cynnydd a wnaethpwyd ers 2015, y cynlluniau newydd a fydd yn ymddangos yn y rhaglen am y tair blynedd nesaf, ac mae hefyd yn amlinellu’r rhaglen a ddarperir, ei chostau a’i ffynonellau cyllid. Fel yn achos cynllun 2015, mae’r rhaglen yn un uchelgeisiol ac mae’n cynnwys ymyriadau pwysig fel cyflwyno'r cysyniadau metro yn y gogledd-ddwyrain, yn y de-orllewin ym Mae Abertawe ac yng ngorllewin y Cymoedd. Mae symudiad clir hefyd at ymgymryd ag ymyriadau llai, mwy fforddiadwy a fydd yn dal i allu cael effaith fawr a thargedu mwy o gymunedau, fel y rhaglen mannau cyfyng i ymdrin â thagfeydd ar y ffyrdd a gwella dibynadwyedd gwasanaethau bysiau.

Mae mathau cynaliadwy o drafnidiaeth yn amlwg yn ein rhaglen hefyd—targedu gorsafoedd rheilffordd newydd, gwella gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd a hybu cerdded a beicio a datrysiadau trafnidiaeth integredig. Mae strategaeth newydd, pecyn arfarnu trafnidiaeth ar newydd wedd a chynllun cyflenwi blynyddol yn fan cychwyn da i ddarparu system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy i Gymru.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i roi croeso cyffredinol i ddiweddaru strategaeth trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru? Rwy’n meddwl ei bod yn briodol i ddiweddaru’r strategaeth er mwyn ystyried pwerau newydd a deddfwriaeth ddiweddar. Rwyf hefyd yn cytuno bod seilwaith trafnidiaeth di-dor yn allweddol i dwf economaidd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd rydym ni wedi clywed sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwyf i braidd yn bryderus am ychydig o droi’n ôl ar rai ymrwymiadau ynghylch gwella cysylltedd mewn rhannau eraill o Gymru, fel yr A40 a'r A55, felly rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o sicrwydd y caiff y gwelliannau hanfodol hyn eu hystyried yn flaenoriaeth fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth newydd.

Mae gennyf i bryderon go iawn, fodd bynnag, bod ein seilwaith traffig yn siomi aelodau o'r cyhoedd. Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog y bore yma ynglŷn â gwasanaethau trenau Arriva, ac ynglŷn â’r llinell Cambria. Rwyf i hefyd yn gwybod bod nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Ac wrth gwrs, effaith economaidd ymarferol ein rhwydwaith trafnidiaeth annigonol yw tagfeydd difrifol, sy'n costio biliynau i yrwyr a chymunedau Cymru bob blwyddyn. Nodweddir masnachfraint bresennol Cymru a'r gororau gan orlenwi a thanfuddsoddi—rwy’n gwybod hynny o fy nheithiau fy hun ar y rhwydwaith—cafodd cyfanswm o £2.1 miliwn ei dorri, wrth gwrs, o gyllid bysiau gyda chymorth yn 2015-16. Mae hynny'n ostyngiad o 11.3 y cant. A rhaid i unrhyw strategaeth trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol ymdrin â'r materion trafnidiaeth acíwt hyn.

Rwy’n croesawu cyhoeddi’r datganiad sefyllfa polisi i wella hygyrchedd a chynwysoldeb y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch a fyddwn ni'n cyflawni'r rhwymedigaethau deddfwriaethol: erbyn 2020, mae'n rhaid i bob gorsaf a phob trên fod yn gwbl hygyrch, ac ar hyn o bryd dim ond 53 y cant o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod masnachfraint Trenau Arriva wrth gwrs yn dod i ben y flwyddyn nesaf, does dim rhwymedigaeth gyfreithiol arnyn nhw i gyflawni'r gwelliannau hyn, felly fy nghwestiwn i yw: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r gwelliannau hyn, ac i gyflawni’r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn i sicrhau bod gan bobl anabl ledled Cymru fynediad cwbl hygyrch i'r rhwydwaith rheilffyrdd?

Gwnaethoch chi hefyd gyfeiriad at swyddfa’r comisiynydd traffig yng Nghymru yn eich datganiad. Dywedodd y Comisiynydd wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau rai wythnosau'n ôl nad oes ganddo swyddfa na staff hyd yn oed. Felly, gan eich bod wedi sôn am ei swyddfa yn eich datganiad, tybed a allech chi gynnig unrhyw gymorth yn y maes hwnnw.

Rydych chi hefyd yn nodi’r cynnydd yn y galw am gerbydau preifat a'r heriau y bydd hynny’n eu hachosi o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Felly, a gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth newydd hon, i sicrhau bod ein gwlad yn amlwg yn addas ar gyfer y dyfodol? Hoffwn i eich atgoffa eich bod wedi dweud wrthyf o'r blaen nad oes gennych unrhyw gynlluniau uniongyrchol i ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer seilwaith cerbydau trydan. Cyn belled ag y gallaf i ei ddeall, nid oes gan lywodraeth Cymru unrhyw bolisi ar waith ar hyn o bryd ar y mater hwn. Felly, o ystyried, wrth gwrs, cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn nodi eu dymuniadau i gael gwared yn raddol ar geir diesel erbyn 2040, rwy'n gofyn a allech chi efallai newid eich safbwynt yn hyn o beth. Byddwn yn croesawu unrhyw newid agwedd gan Lywodraeth Cymru drwy’r strategaeth drafnidiaeth hon, fel y gallwn fodloni rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylw ar hynny.

Rwy’n falch y byddwch yn diweddaru’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn flynyddol. Rwy’n croesawu hynny'n fawr. Ac rwyf wedi osgoi, Dirprwy Lywydd, dweud y geiriau 'Ac yn olaf' y tro hwn. [Chwerthin.]

16:20

Rydych chi'n dda iawn. Cewch chi seren am ddysgu’n gyflym iawn. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet.

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a'r ffaith ei fod yn gyffredinol yn croesawu’r cyhoeddiadau yr wyf wedi’u gwneud heddiw? Rydym ni'n ailystyried y strategaeth newydd, wrth gwrs, yn ystod cyfnod o newid technolegol aruthrol, newid o ran deddfwriaeth, newid o ran pwerau, a newid o ran sut y mae pobl yn cysylltu â'i gilydd ar draws Cymru ac ar draws y DU. Ond gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod yn benderfynol na fydd unrhyw leihad yn y buddsoddiadau ar yr A40 na’r A55—i'r gwrthwyneb. Yn ddiweddar, cyhoeddais astudiaeth gwydnwch ynghylch yr olaf o'r cefnffyrdd hynny ac mae’r astudiaeth gwydnwch yn amlinellu ymyriadau dros y tymor byr, canolig a hir, os ydym ni am uwchraddio'r A55 a sicrhau ei bod yn dal i fod yn brif ffordd ar gyfer gogledd ein gwlad.

Rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol ein bod yn cysylltu Cymru gyfan yn well. Amlinellodd yr Aelod rai o'r rhaniadau sy’n effeithio ar y gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru ar hyn o bryd, ynghyd â rhai o'r heriau â thagfeydd sy'n effeithio ar lawer o gymunedau a llawer o gefnffyrdd ledled Cymru. Bwriad y rhaglen mannau cyfyng yw ymdrin nid yn unig â’r mannau cyfyng hysbys sy'n achosi tagfeydd sy'n effeithio ar ffyrdd, ond hefyd tagfeydd sy'n effeithio ar wasanaethau bysiau hefyd. Rwy’n meddwl mai un o'r ffactorau pwysicaf wrth i bobl benderfynu teithio ar y bws ai peidio yw pa un a ydyn nhw'n gwybod y gallan nhw deithio i’r lleoedd, y cyrchfannau a’r mannau ymadael dan sylw ac oddi yno mewn pryd ac ar wasanaeth dibynadwy a phrydlon. Felly, mae datrys tagfeydd yn gwbl hanfodol, ac mae'r rhaglen mannau cyfyng wedi'i chynllunio i wneud hynny.

Wrth gwrs, o ran problemau â’r rheilffyrdd, sydd wedi bod yn glir iawn yr wythnos hon, nid yw'n helpu bod Cymru yn hanesyddol wedi cael ei thanariannu mor wael o ran y seilwaith yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Er bod Trenau Arriva Cymru a Network Rail wedi ceisio gwneud eu gorau o ran sicrhau bod y traciau’n aros yn glir, nid yw'r problemau a wynebwn yn unigryw i Gymru, ac os yw hyn yn effeithio ar wasanaethau wrth iddynt groesi’r ffin, mae hynny’n effeithio ar ddibynadwyedd a phrydlondeb y teithiau pan fyddan nhw'n gadael Cymru neu’n cyrraedd yma. Felly, mae angen inni fuddsoddi nid yn unig yng Nghymru—mwy o fuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru—ond ar draws ardal y gororau hefyd. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi gofyn amdano gan Lywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer.

O ran gwasanaethau bysiau, maen nhw ar fin cael eu diwygio a bydd cynigion manwl yn cael eu cynnig yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf o ganlyniad i’r ymgynghoriadau sydd eisoes wedi digwydd a rhai sy’n dal i ddigwydd hefyd. O ran y rhwymedigaethau y mae'n rhaid eu bodloni erbyn 2020 o ran mynediad i bobl anabl, wel, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o orsafoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau y mae’n rhaid eu bodloni yn 2020. Rydym wedi darparu buddsoddiad ychwanegol fel rhan o'r rhaglen genedlaethol i wella hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd, ac, wrth gwrs, fel rhan o'r broses o gyflwyno rhaglen metro’r de-ddwyrain. Ond, yn ogystal â hynny, rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i'r rheini sy’n gwneud cais am y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf bod yn rhaid i’w rhwymedigaeth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig sefyll erbyn 2020, a bod yn rhaid i'r cerbydau fod wedi’u paratoi'n ddigonol â’r holl ddarpariaethau sydd eu hangen er mwyn bodloni’r gofynion hynny.

O ran y comisiynydd trafnidiaeth, cefais y pleser o gyfarfod ag ef yn ddiweddar, ac rwy’n meddwl y byddai'n deg dweud, yn hytrach nag amlinellu unrhyw gefnogaeth a allai fod ar ei ffordd gan Lywodraeth Cymru, mai ein safbwynt yw y byddwn ni'n ymateb i unrhyw geisiadau gan y Comisiynydd. Ond, yn sicr, os cawn ni unrhyw geisiadau am gymorth, byddaf yn eu hystyried â llawer iawn o gydymdeimlad.

Ac o ran mannau gwefru cerbydau trydan, o ganlyniad i'r fargen ar y gyllideb â Phlaid Cymru, rwy’n falch iawn o ddweud y bydd swm sylweddol o arian ar gael i ddarparu mannau gwefru ledled Cymru. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal gwaith i archwilio ble mae’r methiant mwyaf yn y farchnad. Hyd yn hyn, rydym ni wedi canfod bod darpariaeth mannau gwefru trydan ar hyd yr A55 a'r M4 yn ddigonol. Fodd bynnag, rhwng yr M4 a'r A55, ychydig iawn sydd, felly hoffem ddatrys y rhan gyfan honno i’r gogledd i'r M4 ac i'r de i'r A55, a sicrhau bod pobl yn gallu gyrru rhwng y gogledd a'r de ac ar draws y canolbarth heb boeni a fyddan nhw'n gallu defnyddio man gwefru cerbydau trydan. Rydym ni hefyd yn ystyried a ddylid eu gosod ar safleoedd fel henebion Cadw, lle mae profiadau i ymwelwyr ar gael, mewn ysbytai ac hefyd, Dirprwy Lywydd, ar safleoedd cyflogaeth mawr. Mae swyddogion yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn fy adran i ac hefyd o dan arweiniad Lesley Griffiths, ac rydym yn gobeithio dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y 12 mis nesaf. Rydym yn benderfynol o sicrhau na wnaiff Cymru golli allan ar gymorth gan Lywodraeth y DU ychwaith, a dyna pam yr ydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am adnoddau mannau gwefru cerbydau trydan, ond dyna hefyd pam yr ydym yn mynd i barhau i roi pwysau ar yr holl randdeiliaid yng Nghymru i groesawu technoleg cerbydau newydd ac i wneud yn siŵr bod ein seilwaith yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

16:25

Mae bob amser yn bleser cael datganiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond—mae 'ond' yma—rhaid imi ddweud fy mod yn ddryslyd yma ac ychydig yn siomedig, oherwydd yr hyn a gawsom gan Ysgrifennydd y Cabinet—cywirwch fi os ydw i'n anghywir, ar bob cyfrif—oedd datganiad ynghylch datganiad sefyllfa-un-polisi y mae wedi’i wneud heddiw, canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru y mae’n mynd i’w cyhoeddi yfory, cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol y bydd yn ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y mis, a strategaeth trafnidiaeth a fydd yn cyrraedd rywbryd yn y dyfodol pell efallai. Ac, wyddoch chi, nid yw hynny'n ddigon da. Mae rhai Aelodau Cynulliad wedi dweud heddiw, yn gwbl briodol yn fy marn i, nad oes digon o amser yn y dydd. Wel, does bosib, yr hyn yr ydym ni ei eisiau mewn gwirionedd gan y Llywodraeth yw datganiad am ddogfennau sydd wedi’u cyhoeddi y gallwn ni graffu arnyn nhw. Nid rhyw sylwebaeth neu awgrymiadau ynghylch ffurf polisi yn y dyfodol—mae angen inni weld y dogfennau eu hunain.

Felly, a gaf i ofyn iddo ynglŷn â’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, y mae’n dweud y caiff ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis, a gawn ni gyfle yn y dyfodol i gael datganiad fel y gallwn ymateb mewn gwirionedd, yn hytrach na sôn am—? Y cyfan yr ydym ni'n ei wybod nawr yw y caiff un ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis. Sut ydym ni i fod i ymateb i hynny? A yw'n gallu dweud wrthym ni, mewn gwirionedd—efallai y gall ddweud wrthym ni—ychydig ynghylch beth yw'r newidiadau? Beth yw’r cyfeiriad teithio—heb chwarae ar eiriau—yn y strategaeth honno?

O ran strategaeth trafnidiaeth Cymru yn gyffredinol, a all o leiaf roi syniad inni—mwy nag y mae wedi’i ddweud wrthym ni—am rai o'r paramedrau bras, pethau sy'n bwysig iawn, iawn i'm plaid i, er enghraifft? Roedd pwysigrwydd y cysylltiad rhwng y gogledd a'r de yn ganolog i’r strategaeth trafnidiaeth Cymru wreiddiol ac, yn anffodus, yn y diwygiad yn 2013, ac yn sicr byth ers hynny, mae hynny wedi cael ei anghofio’n dawel, ac yn hytrach na pholisi trafnidiaeth sy’n ymwneud â chydlynu Cymru fel cenedl, mae'n ymwneud â’n glynu at y genedl drws nesaf, gyda’r pwyslais i gyd ar gysylltiadau dwyrain-gorllewin. Dyna'r math o beth lle mae gwir angen inni weld y strategaeth trafnidiaeth ei hun, Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gallu gwneud ein gwaith o graffu arnoch.

Ychydig iawn o Aelodau yn y Siambr hon sy’n disgrifio clywed fy natganiadau fel pleser mawr, ond rwy’n falch mai dyna sut y mae Adam Price yn ymateb iddyn nhw. Byddwn i'n dweud fy mod yn ei gweld yn rhyfeddol ei fod yn awgrymu y dylai fod llai o graffu ar fy ngwaith i a gwaith fy swyddogion. Rwy’n meddwl bod y diweddariad heddiw’n rhoi cyfle gwerthfawr i graffu ar ddogfen bwysig a safbwynt polisi pwysig. A dweud y gwir, mae dweud nad yw hyn yn bwysig yn sarhad llwyr i’r bobl ifanc hynny o Whizz-Kidz sydd wedi cyflwyno deiseb bwysig ynghylch y darn sylweddol hwn o waith. Mae yna bobl ar hyd a lled Cymru, sydd yn aml heb lais, ond serch hynny mae angen cynrychiolaeth gref arnynt. Mae ar bobl anabl angen i’r Llywodraeth weithredu mewn ffordd sy'n rhoi mwy o gyfleoedd cysylltiol iddynt.

Rwy’n meddwl ei bod yn gwbl briodol fy mod yn cyflwyno’r datganiad polisi hwn heddiw. Er bod, oes, arwyddion o’r gwaith sydd i ddod, gallaf hefyd roi sicrwydd i'r Aelod y bydd rhagor o gyfleoedd i graffu arnaf i ar y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ar y strategaeth, ar WelTAG 17, ac ar y weledigaeth ar gyfer y metro yn y gogledd-ddwyrain. O ran cysylltiadau gogledd-de, gorllewin-dwyrain yng Nghymru, dwi ddim yn gwybod pam mae’r Aelod a'i gydweithwyr yn aml yn cynhyrfu ynglŷn â blaenoriaethu un neu'r llall o’r rhain. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cysylltu Cymru yn well o’r gorllewin i’r dwyrain, o’r dwyrain i'r gorllewin, o’r gogledd i'r de, o’r de i'r gogledd ac yn lletraws hefyd.

16:30

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau gwerthuso a gyhoeddir yfory’n fwy nag adolygiad oherwydd mae'n ymddangos i mi, ar ôl 10 mlynedd, bod gwir angen inni ailysgrifennu'r strategaeth drafnidiaeth yn llwyr. Oherwydd, un o nodau allweddol strategaeth 2008 oedd y byddai newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus: parcio a theithio, cerdded a beicio. Nid ydym ni wedi gweld hynny. Rwyf wedi fy mrawychu braidd gan y frawddeg yn eich datganiad sy'n dweud,

'Mae rhagolygon yn dangos cynnydd yn y galw o 150% o leiaf am foddau trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau preifat erbyn 2030.'

Mae hwn yn edrych fel datganiad niwtral, wyddoch chi, a’ch bod yn segur. Onid ydyn ni’n mynd i wneud rhywbeth am hynny? Yn sicr, yn fy marn i, rhaid inni wneud rhywbeth i sicrhau’r newid moddol hwnnw a addawyd yn 2008 ond nad yw wedi digwydd. Fel arall bydd Llywodraeth Cymru yn y llys yn y pen draw oherwydd y lefelau anghyfreithlon o lygredd aer y mae fy etholwyr yn eu dioddef.

Felly, a ydym yn mynd i barhau i foddio’r lobi ceir yn oddefol, a fydd yn ddi-os yn parhau i fynnu cinio am ddim, a gofyn i drethdalwyr dalu am fwy a mwy o ffyrdd, ac yn gwrthod talu amdanynt eu hunain, tra bo pobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i weld cynnydd ar ôl cynnydd yn y swm y mae’n rhaid iddyn nhw ei dalu i deithio arni? Dyna’r esboniad pam mae pobl yn dal i ddefnyddio ceir i fynd i’r gwaith. Nid mater o ddefnyddio amser yn effeithlon ydyw; mae'n digwydd oherwydd nad oes ganddyn nhw drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ac integredig sy’n ddibynadwy ac yn eu cludo yno mewn pryd.

Yr hyn yr wyf i am ei wybod yw: a fydd y newid radical hwn i gynllunio defnydd tir y gwnaethoch chi gyfeirio ato’n golygu na fyddwn ni'n gweld dim mwy o ganolfannau siopa ar gyrion trefi, sy’n cynyddu teithiau mewn ceir yn artiffisial ac yn achosi i ganol trefi ac economïau lleol golli punnoedd o Gymru? Ac a fydd y newid radical hwn i gynllunio defnydd tir yn golygu na fyddwn yn caniatáu i adeiladwyr tai preifat ddatblygu ystadau tai mawr ar safleoedd tir glas, oni bai bod ganddynt gysylltiad â’r metro neu drafnidiaeth gyhoeddus sylweddol arall? Oherwydd dyna beth sydd ei angen os ydym ni wir yn mynd i gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd; nid bod yn segur a chaniatáu i fwy a mwy o deithiau mewn ceir foddi'r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus a arferai fod yno cynt.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n cytuno â honiad yr Aelod bod angen inni sicrhau bod y buddsoddiad yn y metros yn y de, y gogledd, ac o bosibl ym mae Abertawe a gorllewin y Cymoedd yn arwain at sefyllfa lle mae mwy o gartrefi, mwy o wasanaethau a mwy o fusnesau wedi’u lleoli o gwmpas canolfannau ac o gwmpas datblygiadau gorsafoedd. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cymryd y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn i’n seilwaith—buddsoddiad seilwaith enfawr—i ddatblygu cymunedau sy'n fwy cydlynol, sydd wedi’u cysylltu’n well ac sy'n annog newid yn y dulliau trafnidiaeth a ddefnyddir gan ddinasyddion.

Hoffwn sôn am fater y galw am drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat. Mae’n debygol y caiff cerbydau awtonomaidd a cherbydau cysylltiedig eu cyflwyno mewn blynyddoedd i ddod, ac felly mae’n debygol y bydd perchnogaeth ar gerbydau yn lleihau. Mae hefyd yn hollol debygol y bydd y galw am gerbydau awtonomaidd yn fwy na’r galw am gerbydau i’w gyrru. O ganlyniad i lai o berchnogaeth, bydd cerbydau ar y ffordd yn fwy rheolaidd a byddan nhw, yn ôl pob tebyg, yn fwy hygyrch hefyd. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni gynllunio'r seilwaith mewn ffordd sy'n sicrhau bod pobl wedi’u cysylltu, boed hynny drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu gerbydau preifat awtonomaidd. Ond, hefyd, mae yna rywbeth rhwng y ddau, sef yn y bôn trafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth drefol hefyd, sydd rhwng ffurfiau traddodiadol o drafnidiaeth gyhoeddus, fel bysiau a threnau, a thacsis, a gallai’r rhain fod yn fysiau mini awtonomaidd neu led-awtonomaidd hefyd.

Mae llu o ymyriadau y gellid eu cynllunio a'u defnyddio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, ac rwy’n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous. Mae angen y bobl fwyaf creadigol a phenderfynol i greu’r math o newid a fydd o fudd nid yn unig i unigolion, ond hefyd i'r economi a'r amgylchedd. Gallaf i sicrhau'r Aelod bod WelTAG 17 yn rhywbeth sy'n wahanol i’r gorffennol. Mae'n wahanol oherwydd rydym ni wedi cynllunio hyn a datblygu hyn law yn llaw â'r comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac yfory, rwy'n gobeithio gallu rhoi sicrwydd i’r Aelodau bod WelTAG 17 yn gyfres wahanol o gynigion canllawiau i’r rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd.

16:35

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad wedi'i ddiweddaru? Rydym ni i gyd yn cydnabod bod trafnidiaeth, ar ba ffurf bynnag, yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd bob dydd. Mae'n darparu cyfleoedd i bobl fynd i swyddi, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol, yn ogystal â gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys iechyd ac addysg. Mae'n hollbwysig fel sbardun i ffyniant economaidd, gan gysylltu busnesau â'u cwsmeriaid a’u cyflenwyr. Gall hefyd gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, cymunedau a hyd yn oed ein hiechyd. Gall trafnidiaeth hygyrch sydd ar gael yn rhwydd ddylanwadu ar ble mae pobl yn byw ac yn gweithio, eu gweithgareddau hamdden a'u cyfleoedd i ryngweithio gyda ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach.

Ydy Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y cymorth ariannol a roddir i gwmnïau bysiau yn ddigonol iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau yn y sector hwn? Mae’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth da yn achosi tagfeydd, sy'n costio miliynau o bunnoedd i’r economi bob blwyddyn, a dyna pam mae busnesau Cymru yn gyson yn nodi gwella cysylltiadau trafnidiaeth a’u dibynadwyedd ymysg eu prif flaenoriaethau. Hefyd, mae pryderon yn cynyddu am effaith trafnidiaeth ar ein hiechyd a'n lles. Rydym ni'n nodi yn y fan yma y ddeddfwriaeth a’r mentrau, megis teithio llesol, sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru gyda nodau canmoladwy iawn. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod digon yn cael ei wneud i hyrwyddo teithio llesol, o ystyried ei botensial i liniaru—mae'n ddrwg gennyf, rydw i wedi colli’r gair; rydw i wedi colli’r gair go iawn y tro hwn—'tagfeydd' yw'r gair yr wyf yn chwilio amdano—[Chwerthin.]—tagfeydd yn ein dinasoedd ac yn ein trefi?

Mae angen system drafnidiaeth ar Gymru sy'n adlewyrchu natur ddaearyddol a hanesyddol unigryw ein gwlad. Roedd y diwydiannau traddodiadol fel glo a dur yn golygu nad oedd angen i lawer o’r boblogaeth deithio rhyw lawer; roedd llawer ohonyn nhw'n gallu cerdded i'r gwaith. Mae dirywiad y diwydiannau hyn wedi golygu bod y boblogaeth yn aml yn gorfod defnyddio rhyw fath o drafnidiaeth i fynd i’r gwaith, a llawer yn gwneud teithiau canolig neu hir. Mae’r cynnydd mewn cyfoeth wedi golygu mai ceir yw’r prif ffurf o deithio. Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu gwaith caled i ddisodli'r ffurf rad, hyblyg a chyfleus hon o drafnidiaeth. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai dim ond drwy sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad, yn ddibynadwy ac ar gael yn rhwydd y gall obeithio hwyluso'r newid mawr hwn i’n dulliau o fynd i’r gwaith?

Mae’r newid enfawr i batrymau gwaith i’w weld yn y llifoedd traffig i mewn ac allan o'n cytrefi mawr—y prif lifoedd i mewn yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn y de, a Chaernarfon, Bangor a Wrecsam yn y gogledd; a’r llifoedd allan o Fro Morgannwg, Caerffili a Chymoedd y de yn y de, ac o Ynys Môn a’r gogledd-orllewin yn y gogledd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod dulliau cyfannol digon cryf yn bodoli i hwyluso ateb cynhwysfawr i broblemau trafnidiaeth Cymru? Rydym ni'n cydnabod y bwriedir i'r metro, yn y gogledd ac yn arbennig yn y De, ddatrys llawer o'r problemau y soniwyd amdanynt uchod. Pam, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydym yn gweld y metro yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad?

Er gwaethaf y cwestiynau a godwyd, rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet i gyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol hyn, sydd mor hanfodol i sicrhau economi ffyniannus i Gymru.

16:40

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Y pwynt a wnaeth yr Aelod am argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, efallai, yw’r pwynt pwysicaf un. Caf fy atgoffa o ystadegyn eithaf dychrynllyd o ardal Mersi a Dyfrdwy, lle mae 20 y cant o bobl ifanc ddi-waith yn methu â mynd i gyfweliadau swydd am nad ydynt yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu am nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw i gyrraedd y cyfweliadau hynny—gormod o bobl ifanc, ac mae hynny mewn ardal drefol. Mae llawer gormod o bobl ifanc yn cael eu cau allan o'r farchnad swyddi, oherwydd na allan nhw hyd yn oed gael cyfleoedd i gael eu cyfweld am swyddi.

Felly, rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwalu'r rhwystr penodol hwnnw rhag cyflogaeth i bobl ifanc i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy'n digwydd ar hyn o bryd ar docynnau teithio rhatach i bobl ifanc. Ond mae angen gwneud mwy, a byddwn yn gwneud mwy. Rwy’n meddwl nad oedd dadreoleiddio yn 1986 yn ddim llai na thrychineb i wasanaethau bws lleol ledled Cymru a gweddill Prydain, ond y flwyddyn nesaf, caiff diwygiadau eu cyflwyno a chaiff newid radical ei gynnig i sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n gwasanaethu pobl Cymru yn well, yn hytrach na'r cymhelliad i wneud elw.

Gofynnodd yr Aelod yn ddigon teg a wyf yn meddwl bod digon o adnoddau ariannol yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru ar hyn o bryd i'w gwneud yn addas at eu diben, yn addas i’r teithwyr y maen nhw i fod i’w gwasanaethu. Byddwn i'n dweud, ‘oes’; rwy’n credu bod digon o adnoddau’n cael eu buddsoddi ar hyn o bryd—o gwmpas £0.25 biliwn y flwyddyn. Mae tua 100 miliwn o deithiau teithwyr yn cael eu cymryd ar wasanaethau bysiau, felly gallwch chi amcangyfrif faint sy’n cael ei wario fel cymhorthdal i bob teithiwr. Ond yr hyn yr wyf i’n meddwl ei fod yn hanfodol yw ein bod yn cael mwy o werth am ein harian o wasanaethau bysiau a bod darparwyr gwasanaethau bysiau’n gwneud mwy i gynyddu nifer y teithwyr sy'n talu hefyd, i’w gwneud eu hunain yn fwy cynaliadwy.

A ydym ni'n cymryd ymagwedd ddigon cyfannol at integreiddio trafnidiaeth? Byddwn yn awgrymu, hyd yn ddiweddar, efallai nad ydym, ond ers creu Trafnidiaeth Cymru, gyda’n pwyslais penderfynol ar greu teithio integredig, ar deithio llesol, rwy’n meddwl ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen gwneud llawer mwy, ac rwy’n meddwl yn enwedig ym maes annog pobl i fanteisio ar ddewisiadau teithio llesol yn lle cerbydau modur.

Rydym ni'n adolygu'r fframwaith diogelwch ffyrdd i roi sylw i un o'r pryderon allweddol sydd gan bobl ifanc yn enwedig ynglŷn â defnyddio teithio llesol fel dewis amgen i wasanaethau bysiau neu fathau eraill o gerbydau modur. Mae'n eithaf arwyddocaol, hyd at ysgol uwchradd, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cerdded i'r ysgol, ac yn yr ysgol uwchradd eu bod yn mynd ar fws. Nawr, mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn rhy bell o gartrefi i bobl gerdded, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn rhy bell i feicio. Un rhwystr mawr yw'r ofn—nid dim ond ofn y bobl ifanc, ond hefyd ofn eu rhieni na fyddan nhw'n ddiogel ar y ffyrdd. Er mwyn ymdrin â hyn, oes, mae angen gwneud mwy i addysgu pobl ifanc a’u rhieni, ond hefyd mae angen hyfforddi pobl ifanc yn well ac yn fwy cyson nid dim ond ynglŷn â diogelwch a hyfedredd beicio, ond hefyd diogelwch wrth gerdded. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni drwy’r fframwaith diogelwch ffyrdd newydd diwygiedig. Bydd hyn yn cwmpasu pob person ifanc rhwng tair ac 16 oed.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad pwysig hwn? Cyn imi gyrraedd y prif faterion yr hoffwn i ofyn ichi amdanynt, hoffwn i wneud rhai sylwadau ynglŷn â sut y mae’n rhaid i’r ymagwedd strategol at drafnidiaeth adlewyrchu ein dyheadau ehangach ar gyfer y Cymoedd. Oherwydd nid dim ond mater o drafnidiaeth effeithiol ac effeithlon yw hwn, er bod hynny’n bwysig; mae hefyd yn fater o ddatgloi potensial pellach ledled ein cymunedau yn y Cymoedd, boed hynny o ran ein pobl, yr economi neu’r diwydiant twristiaeth, ac rwy’n gwybod bod hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n cytuno ag ef.

Fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen, un o lwyddiannau allweddol Llywodraeth Cymru yw buddsoddi i amddiffyn ffabrig cymdeithasol ein cymunedau, ac mae gennym ni nifer o strategaethau i'r perwyl hwnnw. Ond rydym yn amddiffyn y ffabrig cymdeithasol hwnnw er mwyn darparu’r cyfleoedd i bobl mewn cymunedau ffynnu, ac er mwyn ffynnu, mae angen gwell cysylltedd trafnidiaeth arnynt. Felly, gwers hanes gyflym: ar 21 Chwefror 1804 gwnaethpwyd y daith reilffordd gyntaf erioed yn y byd dros naw milltir o waith haearn Penydarren i gamlas Merthyr-Caerdydd mewn locomotif ager a ddyluniwyd gan Richard Trevithick. Ond, ar ôl cyflawni’r gamp honno yn 1804, rwy’n siŵr y byddai Trevithick wedi disgwyl i daith o ddim ond 30 milltir o Ferthyr i Gaerdydd gymryd llai na’r awr y mae'n ei gymryd i drên yn 2017. Dyma pam mae’n rhaid i olwg strategol ar drafnidiaeth adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer y Cymoedd a sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth yn cael eu huwchraddio i ddarparu’r systemau sydd eu hangen ar bobl a chymunedau.

Ar y pwynt hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch chi'n cofio’r trafodaethau yr ydym ni wedi’u cael ynglŷn â fy mhryderon am Gwm Rhymni uchaf. Rwy’n gwybod bod Cyngor Caerffili wedi pwyso achos da iawn o blaid depo metro yn yr ardal honno, ac mae ganddyn nhw fy nghefnogaeth frwd i hynny, oherwydd mae angen inni sicrhau bod ein holl gymunedau yn y Cymoedd yn elwa yn economaidd ac yn gymdeithasol o’r metro. Does gennyf i ddim amheuaeth y gallai uwchraddio llinell Rhymni, gyda gwasanaethau amlach, ddod â chymorth mawr ei angen i wneud cymunedau’n llai ynysig yng Nghwm Rhymni uchaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid i’n gweledigaeth drafnidiaeth hefyd gynnwys cwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, gan ddatblygu'r cynlluniau o Ddowlais i Hirwaun ac yna ymlaen, oherwydd mae’n rhaid i ddarparu’r cysylltiadau ffyrdd effeithiol hynny o’r dwyrain i'r gorllewin yn y Cymoedd fod yn flaenoriaeth uchel mewn unrhyw strategaeth drafnidiaeth.

Ond, nawr rwyf am ddod at fy mhrif bwynt heddiw, sef, wrth inni edrych ar ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, na allwn ni anwybyddu pwysigrwydd hanfodol dileu'r problemau strategol sydd yn ein rhwydweithiau presennol nawr. Un broblem o'r fath, yr wyf i wedi’i chodi o’r blaen—ac rwy’n gwybod eich bod wedi’i chydnabod—yw’r diffyg gwasanaethau bysiau gyda'r nos yn ardal Merthyr Tudful a Rhymni, ac mae mwy o wasanaethau’n cael eu torri ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhwystr mawr i bobl heb geir sy’n ceisio sicrhau cyflogaeth mewn swyddi sy'n gweithredu y tu allan i oriau gwaith safonol, ac mae’n ffactor mawr sy’n cyfrannu at unigedd cymdeithasol os nad oes gennych chi brin ddim siawns o gyrraedd unrhyw le ar ôl 5.30 p.m.

Mae hyn, byddwn i'n awgrymu, hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu at y broblem nesaf, sef yr anhrefn traffig rheolaidd ar yr A470 ym mharc adwerthu Cyfarthfa, a’r ofn y bydd hyn yn gwaethygu wedi i’r datblygiad Trago Mills newydd agor fis Ebrill nesaf. Er bod Trago Mills yn ddatblygiad arall i economi Merthyr Tudful a groesewir yn fawr, mae’r datblygiad yn seiliedig ar ganiatâd cynllunio 20 mlwydd oed, pan oedd y traffig yn llawer, llawer ysgafnach nag ydyw nawr. Felly, mae angen ymyriadau cynnar a strategol ar y rhwydwaith ffyrdd yno er mwyn ceisio osgoi poen i ddefnyddwyr y ffordd erbyn gwanwyn a haf y flwyddyn nesaf, pan fydd Trago Mills yn agor, o amgylch cyffordd sydd eisoes yn dagfa yn rheolaidd ar benwythnosau a gwyliau.

Felly, rwy’n croesawu’r ymateb cychwynnol a wnaethoch chi ar y materion hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig y rhaglen mannau cyfyng ar dagfeydd, ond, i gloi, a allwch chi roi imi eich sicrwydd bod y problemau trafnidiaeth penodol, allweddol a brys hyn yn cael sylw ar unwaith ac y gallwn ni ddisgwyl cynnig atebion cynnar adeiladol i'r problemau hyn?

16:45

A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiynau a dweud hefyd fy mod i'n siŵr fy mod wedi dysgu mwy am Ferthyr yn ystod y 18 mis diwethaf gan yr Aelod nag a wnes o unrhyw lyfrau neu wersi hanes? Ac, unwaith eto, heddiw, rhoddodd Dawn Bowden gipolwg hynod ddiddorol ar hanes yr ardal y mae'n ei chynrychioli, ac rwy’n meddwl ei bod yn hollol gywir i ddweud bod trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod ffabrig cymdeithasol ein cymunedau’n aros yn gryf.

Rwy’n meddwl bod hierarchaeth anghenion Maslow yn nodi, er mwyn i bobl fyw bywydau â chyn lleied â phosibl o straen a phryder a chymaint â phosibl o fodlondeb, bod angen inni deimlo’n gysylltiedig—cysylltiedig yn emosiynol, ond hefyd cysylltiedig yn gorfforol. Mae swyddogaeth trafnidiaeth, felly, yn gwbl hanfodol. Os nad oes gennym ni gysylltedd trafnidiaeth da, yn aml gall pobl a chymunedau deimlo eu bod ar y cyrion neu wedi'u heithrio—wedi’u heithrio, yn benodol, o dwf economaidd—ac mae arnaf ofn mai dyna beth mae llawer o gymunedau, yn enwedig yn yr etholaeth y mae Dawn Bowden yn ei chynrychioli, wedi’i deimlo dros y degawd neu fwy diwethaf, ers i ddad-ddiwydiannu ddigwydd. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr bod y cymunedau hynny wedi'u cysylltu’n well, nid dim ond â'i gilydd, ond hefyd â chanolfannau trefol mawr Caerdydd, Casnewydd a dinasoedd mawr eraill. I gael swyddi gwell yn agosach at adref, mae angen inni fuddsoddi mwy yn y cymunedau hynny lle nad yw'r rhagolygon am swyddi’n dda ac mae hefyd yn golygu sicrhau, os ydych chi'n gweithio yng Nghaerdydd ond yn dymuno byw mewn cymuned y tu allan i'r ddinas, eich bod yn gallu mynd i’r gwaith yn amlach—gwasanaethau yn amlach ac yn amserol. Felly, bwriad y weledigaeth metro yw cysylltu'r holl bobl ar draws y rhanbarth cyfan yn well. Y nod yw sicrhau cymaint â phosibl o fuddsoddiad gan y sector preifat yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd ac, yn ogystal â llunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer ailddatblygu’r Cymoedd, roeddem hefyd yn benderfynol o ddefnyddio gweledigaeth y metro yn y tymor byr fel ffordd, ochr yn ochr â gwaith tasglu’r Cymoedd, o ddatblygu’r Cymoedd fel lle deniadol i fuddsoddwyr i ddatblygu eu busnesau.

Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod bob amser yn ystyried symud swyddi sector cyhoeddus o'r ardaloedd lle nad oes dim diweithdra i ardaloedd lle ceir llawer o ddiweithdra, ac rwy’n gwybod bod swyddogion yn edrych nid dim ond ar y depo cynnal a chadw sydd wedi ei godi heddiw, ond ar gyfleoedd eraill i gael gwaith sector cyhoeddus yn uwch i fyny yng ngogledd y Cymoedd. Byddwn hefyd yn dweud, yn y tymor byr, ein bod wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o uwchraddio seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a theithio llesol a gynlluniwyd yn benodol i ddiwallu anghenion pobl ar draws y rhanbarth a gaiff eu gwasanaethu yn y tymor canolig ac yn hirdymor gan y metro.

16:50

Rwyf i, yn sicr, yn edrych ymlaen at weld strategaeth drawsnewid ledled Cymru ar gyfer trafnidiaeth a fydd nid yn unig yn chwyldroi sut yr ydym ni'n symud o gwmpas ein gwlad, ond yn newid agweddau tuag at sut yr hoffem ni symud o gwmpas ein gwlad. Ond rwy'n meddwl bod gennym ni i gyd hefyd, yn ein hetholaethau, elfennau penodol ar gynllunio trafnidiaeth yr hoffem ganolbwyntio arnyn nhw heddiw.

Rwy’n gweld yn eich datganiad—neu clywais i yn eich datganiad—eich bod wedi dweud y bydd cynaliadwyedd yn sbardun allweddol i symud tuag at agor gorsafoedd rheilffordd newydd. Roeddwn i'n falch pan gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar bod Llangefni ar restr o orsafoedd y gellid eu hailagor—yn synnu braidd, oherwydd nid dim ond mater o ailagor gorsafoedd yw hwn; does dim rheilffordd agored i Langefni, felly byddai angen ymdrin â hynny’n gyntaf oll. A gaf i ofyn am sicrwydd bod hynny’n dal i fod ar y gweill, ac a gaf i eich annog i symud yn gyflym tuag at yr hyn yr wyf i'n gobeithio y bydd yn ganlyniad cadarnhaol o ran y posibilrwydd o agor y rheilffordd i Langefni, agor gorsaf Llangefni, ond hefyd—ac yn hollbwysig—y tu hwnt i Langefni ac ymlaen i Amlwch? Oherwydd byddai agor llinell i Amlwch wir yn drawsnewidiol i dref sydd wedi cael trafferth yn ddiweddar, ac mae gennym gyfle unigryw yma gan fod gennym reilffordd yno eisoes sydd mewn cyflwr da iawn, iawn, a dim ond ychydig bach o uwchraddio a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sydd ei angen. Felly, rwy’n edrych ymlaen at ymateb cadarnhaol ar hynny.

Un rheswm pam yr wyf i'n gofyn am broses gyflym yw, er fy mod yn tybio eich bod chi’n edrych ar hyn fel ffordd gadarnhaol ymlaen, gallai oedi arwain at arafu cynnydd y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes ar agor, dyweder, rheilffordd treftadaeth o Langefni i Amlwch, oherwydd—. Mae’n ansicrwydd da, mewn ffordd, oherwydd nawr mae gennym y posibilrwydd o gynllun wedi’i gefnogi gan y Llywodraeth i agor y llinell, ond serch hynny mae'n ansicrwydd, ac mae’n ansicrwydd y byddwn i, yn sicr, yn hoffi ei weld yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau yn gyffredinol am sut y mae angen inni newid agweddau ac ymddygiad o ran sut y mae pobl yn symud o gwmpas Cymru? Rwy’n meddwl, o ran newid agweddau ynghylch sut yr ydym ni'n symud o gwmpas Cymru, bod angen inni sicrhau bod ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yn gwella fel bod agweddau pobl tuag at wasanaethau rheilffordd yn newid. Mae angen inni hefyd sicrhau bod agweddau pobl at deithio llesol yn newid drwy wneud yn siŵr ei bod yn fwy diogel i ddefnyddio beiciau a cherdded o A i B.

Mae'r Aelod wedi bod yn angerddol am ailagor yr orsaf yn Llangefni, ac yn wir y llinell i Amlwch, ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n ei gefnogi hefyd. Rydym yn ceisio sicrhau bod gorsafoedd yng Nghymru mewn sefyllfa i ddenu buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ond, o ran yr enghraifft benodol hon, byddwn yn hapus i gyfarfod â’r Aelod i drafod cynnydd, os yw’n digwydd, oherwydd rwy’n meddwl bod ganddo botensial enfawr yn y tymor byr tymor, efallai, fel rheilffordd treftadaeth, ond yn fwy hirdymor fel rheilffordd lawn i deithwyr. Rwy'n meddwl hefyd bod potensial cyffrous i wella cysylltiadau rhwng y brif reilffordd a Maes Awyr Ynys Môn.

16:55

Ysgrifennydd y Cabinet, pan eich bod yn gwneud yr un peth, rydych yn disgwyl yr un canlyniadau, ac, fel y mae fy ffrind Dawn Bowden newydd ei grybwyll, pan fyddwch chi'n caniatáu datblygiadau siopa ar ddatblygiadau ar y ffordd, byddwch yn gweld mwy o draffig. Sylwaf o'ch datganiad fod Llywodraeth Cymru yn rhagweld cynnydd o 150 y cant yn y galw o ran trafnidiaeth yn ystod y 17 mlynedd nesaf fwy neu lai. A ydych chi'n ystyried sut yr ydym am atal galw, mae sut yr ydym yn lleihau galw, sut yr ydym yn rheoli galw, yn hytrach na pharhau ag arferion y gorffennol, y model rhagweld a darparu hwn, pan ein bod yn modelu twf yn y dyfodol ac wedyn yn ceisio adeiladu gallu i'w gyrraedd? Oherwydd nid yw hynny'n gweithio ac nid yw'n gyson ag egwyddorion Deddf yr Amgylchedd na Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae angen i ni ailfeddwl ein polisi trafnidiaeth ar gyfer yr atebion hynny, yn hytrach na cheisio cadw dulliau'r gorffennol.

Rwyf yn derbyn y pwynt gan yr Aelod nad yw dibynnu ar fodel rhagweld a darparu traddodiadol bob tro yn darparu'r canlyniadau a ddymunir yr hoffem eu gweld yn ein cymunedau. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, fel y dywedais i'n gynharach wrth Jenny Rathbone, gallai datblygu a chyflwyno cerbydau awtonomaidd a lleihau perchnogaeth ond cynyddu'r defnydd o gerbydau arwain yn wir at gynnydd yn y galw, ac felly am fwy o le ar y ffordd yn fwy rheolaidd. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio tystiolaeth, ond, yn yr un modd, ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i newid ymddygiad ac agweddau tuag at drafnidiaeth. Gall hynny fod yn amcan tymor hwy, ond serch hynny, yn un yr ydym yn awyddus i fynd ar ei drywydd. Mae'n un yr ydym yn awyddus i fynd ar ei drywydd o'r oedran cynharaf, a dyna pam y dywedais yn gynharach ein bod yn newid y fframwaith ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru i annog mwy o bobl ifanc, o dair oed i fyny, i ystyried teithio llesol fel y ffurf fwyaf dymunol o deithio. Rwy'n credu bod y math o newid ymddygiad sydd ei angen er mwyn lleihau'r defnydd o gerbydau preifat a'r ddibyniaeth arnyn nhw yn rhywbeth y dylem ei sefydlu ar yr oedran cynharaf. Bron fel y newid mewn agweddau tuag at ailgylchu, rwyf yn credu y gall newid agweddau tuag at deithio llesol gael ei lunio a'i ysbrydoli gan bobl iau. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr wyf i'n benderfynol o'i wneud.

6. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM6609 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2017. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Cafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio ac fe ddaeth yn Ddeddf, yn unfrydol, bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ceir sawl eitem o is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Ddeddf, ac rydych chi, yr Aelodau yma heddiw, eisoes wedi pasio nifer o'r rheoliadau hyn. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr, a gyda'r sector, i ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, sy'n gadarn, ac sy'n addas i'w diben. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, yn arfer nifer o'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf. Maen nhw wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus eang.

Un o amcanion y Ddeddf yw rhesymoli maint y ddeddfwriaeth a sicrhau lefel briodol o gysondeb ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau rheoleiddedig. Felly, o ganlyniad i hyn, mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i gartrefi gofal, gwasanaethau cymorth yn y cartref, llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd. Maen nhw'n cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol, sy'n nodi'n fanylach sut y gall darparwyr a'r unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion.

Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddedig, ac mae'r rheoliadau hyn yn darparu eglurder a sicrwydd drwy nodi'r gofynion hynny yn fanwl. Maen nhw'n canolbwyntio ar ganlyniadau a lles, ac yn cwmpasu materion a fydd yn sail i ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu'r gwasanaeth, sut y darperir y gwasanaeth, sut y caiff ei staffio, a sut y mae hyn yn diogelu pobl sydd dan ei ofal. Hefyd, mae gofynion o ran gwasanaethau yn llety'r defnyddiwr er mwyn sicrhau bod y safle yn addas i'r bobl sy'n byw ynddo. Ar gyfer safleoedd newydd, ceir mwy o ragnodi er mwyn cefnogi gwelliant cyffredinol dros amser yn yr ystâd adeiledig.

Mae ansawdd y gofal wedi'i gysylltu'n anorfod ag ansawdd a sefydlogrwydd y gweithlu sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, er mwyn cefnogi hyn, rwyf i wedi achub ar y cyfle hwn i osod gofynion penodol ar ddarparwyr gwasanaethau cymorth yn y cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr yn cael dewis o drefniadau cytundebol a bod amser gofal wedi'i gynllunio'n briodol, heb fod amser teithio yn ei leihau. Mae'r Ddeddf yn atgyfnerthu atebolrwydd corfforaethol drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddynodi unigolyn cyfrifol yn rhan o'u cofrestriad. I gyd-fynd â hynny, mae'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswyddau ar yr unigolyn cyfrifol hwnnw. Mae'r rheoliadau yn gosod gofynion penodol ar unigolion cyfrifol o ran ansawdd a chydymffurfiaeth y gwasanaeth, ac rwy'n disgwyl i unigolion cyfrifol fod yn rhan o'r gwasanaeth, yn hytrach na bod wedi datgysylltu oddi wrtho. Felly, mae hyn yn cynnwys gofyniad i ymweld â'r gwasanaeth.

Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi pa wasanaethau sydd wedi eu heithrio o'r rheoleiddio. Mae'n bwysig bod eglurder yn hyn o beth, fel bod darparwyr yn sicr pa un a ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghwmpas y Rheoliadau hyn ai peidio. Mae'r rhain yn efelychu'r eithriadau o dan y ddeddfwriaeth bresennol i raddau helaeth, ond maen nhw hefyd yn nodi trefniadau eraill, y bwriedir iddyn nhw fod y tu allan i reoleiddio. Mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr allu gweithredu pe byddai darparwyr yn ddiffygiol. Felly gall y rheoleiddiwr orfodi'r gofynion yn y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu eglurder ynglŷn â pha achosion o dorri’r gofynion a gaiff eu trin fel trosedd. Mae'r rheoliadau hefyd yn ymdrin â materion eraill, megis y gofynion hysbysu a'r trefniadau a fydd yn berthnasol pe byddai datodwr yn cael ei benodi neu pe byddai darparwr sy'n unigolyn yn marw. Maen nhw hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru, yn hytrach na darparwr gwasanaethau, ddynodi unigolyn i fod yr unigolyn cyfrifol. Mae natur y rheoliadau penodol hyn yn dechnegol i raddau helaeth, ond serch hynny, yn hanfodol i weithrediad llyfn y system gyffredinol.

Bydd y rheoliadau yn eu cyfanrwydd yn dylanwadu ar y ffordd y darperir y gwasanaethau gofal a chymorth hyn am flynyddoedd i ddod. Roeddwn i'n falch iawn o lefel yr ymgysylltu yn ystod proses yr ymgynghoriad cyhoeddus ac, yn naturiol, roedd agweddau penodol wedi denu diddordeb arbennig. Felly, rwyf i wedi ystyried yr adborth o'r ymgynghoriadau yn ofalus, ac wedi gwneud ambell i newid o ganlyniad i hyn. Mewn rhai achosion, bu hyn yn angenrheidiol i egluro'r bwriad gwreiddiol. Mewn achosion eraill, mae'r diwygiadau mewn ymateb i faterion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Felly, rwyf i, er enghraifft, wedi achub ar y cyfle i egluro'r gofynion o ran nyrsys cofrestredig. Rwyf hefyd wedi addasu'r gofynion o ran ystafelloedd a rennir ar gyfer oedolion, ac amlder archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Yn yr un modd, ar ôl ystyried amlder yr ymweliadau gan yr unigolyn cyfrifol, rwyf i wedi diwygio'r gofyniad hwn.

Rwy'n fodlon, Llywydd, bod angen y newidiadau hyn i sefydlu system sy'n gweithio'n effeithiol yn gyffredinol heb amharu ar ein bwriadau. Rwyf wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad ein hymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol i ddarparu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Byddan nhw'n sicrhau bod yr un safonau uchel a'r un pwyslais ar wella ac arfer da yn berthnasol i'r ystod gyfan hon o wasanaethau a reoleiddir, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau heddiw.

17:00

Diolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad agoriadol yna, Weinidog. Mae gen i lawer o gwestiynau ynghylch hyn. Nid oeddwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ddwy Ddeddf y cyfeirir atyn nhw yn hyn pan gawson nhw eu pasio, felly maddeuwch imi am ddweud fy mod i'n credu bod rhai o'r Rheoliadau hyn wedi'u defnyddio fel cyfle i ddatblygu polisi yn hytrach na'i roi ar waith—a dyna pam mae mor bwysig ein bod yn cael y cyfle yn y lle hwn drwy'r weithdrefn gadarnhaol i graffu ar y rheoliadau. Un o'r pethau yr oeddwn i'n dymuno ei ddweud ar y cychwyn, mewn gwirionedd, yw ei bod yn bleser o'r mwyaf i weld bod rhai o'r rheoliadau hyn yn egluro i bobl sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau hynny sut y dylen nhw gydymffurfio â'r rheoliadau, o ran y dystiolaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu er mwyn cydymffurfio. Rwy'n credu bod hynny wedi'i hepgor mewn peth o'r ddeddfwriaeth gynharach y gwnaethom ei llywio drwy'r lle hwn, ond rwy'n credu bod hyn yn welliant enfawr o ran y pwynt penodol hwnnw.

Mewn ffordd, Gweinidog, rwyf i'n dymuno trin hyn ychydig yn fwy fel datganiad yn hytrach na dadl, felly rwy'n gobeithio y caf i ofyn dim ond ambell i gwestiwn i chi. Y cyntaf yw bod y ddogfen sydd gennym heddiw,—ac mae'n un eithaf swmpus, mae'n rhaid imi ddweud—dim ond yn effeithio ar bedwar math o wasanaeth rheoleiddiedig, fel y'u diffinnir yn Neddf rheoleiddio ac arolygu 2016. Tybed a oes gennych chi unrhyw fwriad o gyflwyno rheoliadau ar wahân ar gyfer y gwasanaethau rheoleiddiedig nad ydynt wedi'u cynnwys y tro hwn. Efallai nad oes eu hangen mewn gwirionedd, ond byddai'n eithaf defnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac, wrth nodi'r gofynion hynny yr wyf i wedi'u crybwyll i ddarparu tystiolaeth, yn yr achos hwn ar gyfer safonau da o ofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth, mae'n rhaid i Weinidogion roi ystyriaeth i les unigolion, fel y gallech ddisgwyl, ac unrhyw  safonau penodol a nodir mewn cod a gyflwynwyd o dan Adran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014—yn amlwg, Deddf wahanol. Ar hyn o bryd, deallaf nad oes unrhyw godau o dan y Ddeddf honno. Nid ydyn nhw wedi'u cyflwyno. Ond, fel y gwyddom gyda safonau ac ad-drefnu ysgolion, roedd bodolaeth a dehongliad y codau yn hollbwysig i gefnogi safbwynt un blaid neu'r llall. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yw pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd unrhyw godau yn deillio o Ddeddf 2014, ac os bydd, a fydd y rheoliadau hyn yr ydych yn edrych arnyn nhw heddiw yn cael eu hailystyried er mwyn rhoi sylw i unrhyw beth a allai fod yn y codau hynny yn y dyfodol?

O ran staffio, fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi rhoi ystyriaeth i wybodaeth a ddaeth i chi drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus. Efallai y byddwch yn cofio yn arbennig, bod rhywfaint o bryder—codais y mater hwn gyda'ch rhagflaenydd, mewn gwirionedd—ynghylch cael gwared ar y gofyniad am ofal nyrsio 24 awr mewn rhai cartrefi, er gwaethaf y ffaith bod disgwyliadau gan y bobl yn y cartrefi hynny mai dyna beth y bydden nhw'n ei gael, ac yn wir, mewn rhai achosion, rhwymedigaethau cytundebol i ddarparu hynny. A wnewch chi ddweud wrthyf pa mor agored i erlyn fyddai'r unigolyn cyfrifol o dan y Rheoliadau hyn mewn sefyllfa pan fyddai angen annisgwyl am ofal nyrsio ar rywun nad yw mewn gwirionedd wedi'i asesu fel bod angen gofal nyrsio parhaus—naill ai am y rheswm hwnnw, neu oherwydd y nodwyd bod angen nyrs ond nad oes un ar gael am ryw reswm, neu pa un a oes prinder staff dros dro, yn hytrach nag anwybyddu'r rheolau yn fwriadol? Oherwydd mae'n rhaid i gefnogi unigolion cyfrifol a allai ganfod eu hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n ddigon hapus i dderbyn atebion ysgrifenedig i'r rhain, oherwydd fy mod i'n gwerthfawrogi bod rhai ohonyn nhw'n eithaf manwl.

O ran contractau dim oriau, rwy'n falch iawn o weld bod sôn am hynny yn y Rheoliadau yma, er, fel y dywedais, mae hyn mewn gwirionedd yn teimlo fel datblygiad polisi yn ogystal â rhoi rhywfaint o eglurder i'r sefyllfa. Rwy'n dymuno gofyn i chi ar y mater hwn: mewn achos pan allai gweithiwr gofal ar gontract dim oriau ddewis mynd ar gontract, pe byddem ni'n edrych ar y dewis cyntaf o gontract, sy'n seiliedig ar y nifer cyfartalog o oriau a weithiwyd yn y misoedd blaenorol, a ydych chi wedi cynnal asesiad o'r perygl y bydd darparwyr gofal yn lleihau yn artiffisial faint o amser y mae gweithiwr gofal wedi ei weithio yn ystod y tri mis blaenorol er mwyn lleihau yn artiffisial y nifer cyfartalog o oriau y mae'n eu gweithio ar gyfer contract newydd? Ac, mewn achos o gontract a fyddai am lai o oriau na'r cyfartaledd hwnnw, sydd hefyd yn ddewis sydd ar gael i weithiwr gofal, beth fyddai'r budd i'r bobl sy'n derbyn gofal yn yr amgylchiadau hynny? Oherwydd mae'n bosibl y gallai ddewis contract ar ffurf 'Rhowch i mi ddwy awr yr wythnos', a fyddai, mwy na thebyg, mewn rhai achosion, hyd yn oed yn lleihau dilyniant y gofal ar gyfer rhai o'r bobl sy'n derbyn gofal. Fel y dywedais, efallai nad oes gennych chi atebion ar gyfer y rhain heddiw, ond rwy'n wirioneddol awyddus i wybod sut y mae hynny'n cael ei ystyried.

Yna yn olaf—ydw i'n cael dweud 'yn olaf'? Y tynnu llinell rhwng amser teithio ac amser gofalu—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn cydnabod bod angen edrych arno, ac rwy'n croesawu, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud yn hyn o beth. Mae Paragraff 41(3)(b) mewn gwirionedd yn ceisio ateb rhai o'm cwestiynau ynglŷn â hyn, ond mewn sefyllfa pan fo darparwr gofal wedi asesu'r amser teithio ar gyfer unigolyn penodol a bod hynny yn profi i fod yn annigonol yn y pen draw, a oes hawl gan y gweithiwr gofal hwnnw i fynd yn ôl at y darparwr gwasanaeth a mynnu ei fod yn edrych eto ar y cyfnod hwnnw o amser sydd wedi'i asesu? Nid oeddwn i'n gallu dod o hyd i hynny yn y rheoliadau. Rwy'n gobeithio bod rhywbeth. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

17:05
17:10

Diolch. [Torri ar draws.] Gwnaf. Gwnaf i fy ngorau i ateb cyfres o gwestiynau, ond a gaf i'n gyntaf ddiolch i chi, Suzy, am y croeso bras yr ydych chi wedi'i roi i'r manylion yn y rheoliadau hyn, a hefyd i'r eglurder y mae'r rheoliadau yn ei roi i ddarparwyr? Rwy'n credu bod rhywfaint o'r eglurder hwnnw wedi deillio, mae'n rhaid i mi gydnabod, o'r craffu ar y rheoliadau ar eu hynt i'r pwynt hwn, gan gynnwys o dan y Bil blaenorol gan Aelodau'r Cynulliad, ond hefyd y gwaith a wnaethpwyd gan fy nghyn gyd-Aelod y Gweinidog ar fy chwith, hefyd. Bu llawer o ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac rwy'n credu bod hynny wedi llywio'r cynnydd i gyflawni'r lefel hon o fanylder. Mewn rhai ffyrdd, er y bu'r pwyslais ar y gwelliant parhaus hwnnw a gwella safonau'r gwasanaeth a'r gweithlu, bu pwyslais hefyd ar atebion ymarferol a fydd yn gweithio, hefyd, gyda'r sector. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd man eithaf da.

Gadewch imi geisio troi at rai o'r materion y cyfeiriodd hi atyn nhw. Yn gyntaf, un o'r materion a oedd yn eithaf diddorol o ran yr ymgynghoriad a'r adborth ehangach oedd yr union bwynt hwnnw am lety neu wasanaethau eraill nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghwmpas y gyfres gyfredol o reoliadau. Wel, mae cwmpas mewn gwirionedd o fewn y Ddeddf i ailystyried hynny. Felly, er enghraifft, un o'r rhai a grybwyllwyd yn flaenorol yw'r mater o ganolfannau dydd. Nawr, ceir gwahanol fathau o ganolfannau dydd. Mae yna ganolfannau dydd a all weithredu bron fel clwb cinio—cyrraedd am awr neu ddwy a chyfrwng gwych i ymgysylltu'n gymdeithasol a phethau ehangach. Ceir eraill sydd, i bob pwrpas, ar gyfer pobl sy'n mynychu am ddau neu dri diwrnod yr wythnos am gyfnod helaeth o amser. Nawr, nid yw'r rhai hynny wedi'u cynnwys, ar sail yr adborth yr ydym ni wedi'i gael, ar hyn o bryd, ond mae'r Ddeddf yn caniatáu'r hyblygrwydd hwnnw i ailystyried ac adolygu, wrth i amser fynd heibio, gwasanaethau eraill y gellid ystyried eu bod o fewn y ddarpariaeth gofal yn gyffredinol yn hynny o beth.

O ran y codau y gwnaethoch chi sôn amdanynt, gallaf ddweud wrthych fod y codau sy'n berthnasol i'r meysydd hynny wedi, mewn gwirionedd eu cyhoeddi eisoes yn deillio o Ddeddf 2014, ond byddaf i'n hapus i ysgrifennu i roi rhagor o fanylion am hynny. [Torri ar draws.] A, iawn, iawn. Wel, felly, i egluro, byddaf i'n hapus i ysgrifennu i egluro hynny, Suzy, os ydych chi'n cael rhywfaint o wybodaeth wahanol yn y fan yna.

O ran y dull gweithredu, pa un ai o ran y gofynion nyrsio—sydd, gyda llaw, yn canolbwyntio'n helaeth iawn ar ganlyniadau unigolion erbyn hyn; mae'n canolbwyntio yn helaeth iawn ar y person, yn hytrach na bod yn fwy rhagnodol, normadol mewn unrhyw ffordd sy'n dweud bod yn rhaid i chi gael hyn a hyn o nyrsys i hyn a hyn o bobl, ac ati. Mae hyn yn ymwneud llawer yn fwy â—mae yna ofyniad yma ar y rheolwyr a'r unigolion cyfrifol sy'n goruchwylio rheolwyr y gwasanaethau unigol hynny i wneud yn siŵr bod anghenion y bobl unigol hynny ym mhob gwasanaeth unigol wedi eu hystyried, ac os oes angen presenoldeb nyrsio llawn amser ar un neu ddau, neu beth bynnag, bydd hynny'n cael ei ddarparu.

Y cwestiwn a godwyd gennych chi oedd, 'Beth sy'n digwydd os oes methiant yn hynny?' Dyma yn union lle y byddai'r rheoleiddiwr yn mynd ati i weithredu, ond gan ddefnyddio, mae'n rhaid imi ddweud, dull cymesur, oherwydd os oedd yn rhan o batrwm clir a bwriadol, rwy'n amau y byddai'r rheoleiddiwr yn gweithredu mewn modd gwahanol iawn i rywbeth a ddigwyddodd dros dro, mewn argyfwng, pan oedd proses yn cael ei defnyddio er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw'n gyflym. Felly, byddai dull cymesur yn cael ei ddefnyddio, rwy'n credu, gan y rheoleiddiwr.

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y mater o amser teithio a'r swyddogaeth o ran hynny o beth hefyd, yr eglurder a roddir i hyn bellach a'r rheoleiddiwr. Unwaith eto, mae goruchwyliaeth y—. Yr hyn nad ydym ni wedi'i wneud yma, yn fwriadol ar sail yr ymgynghoriad, yw dilyn, unwaith eto, ffordd rhy ragnodol sy'n dweud wrth ddarparwr, 'Mae'n rhaid i chi ddilyn y model hwn yn union i gyfrifo eich amser teithio a'ch amser gofal'. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yw, 'Mae'n rhaid bod gennych, yn ôl y Rheoliadau hyn, gynllun ar waith, mae'n rhaid bod gennych chi ddull wedi'i gynllunio o lunio rota i'ch staff'. Rydym yn cydnabod y bydd yn amrywio mewn gwahanol leoliadau a gwahanol fathau o wasanaeth a ddarperir, ond rydym ni eisiau gweld hynny, a bydd y rheoleiddiwr eisiau gweld hynny. Ac os nad yw hynny ar waith, mae gan y rheoleiddiwr y gallu yn y fan yma i gamu i mewn, mewn gwirionedd, ac os nad oes model priodol ar waith, ni fydd y rheoleiddiwr yn fodlon â hynny, ac mae ganddo bwerau yn hyn o beth.

Felly, mae gofyniad yma ar reolwr y gwasanaeth hwnnw, ond hefyd ar yr unigolyn cyfrifol hwnnw, i wneud yn siŵr bod y cynlluniau hynny ar waith a bod amser teithio ac amser gofal yn cael eu gwahanu. Ar hyn o bryd, fel y gwyddom, yn anffodus, yr hyn sydd gennym weithiau—nid yr holl ddarparwyr, oherwydd bod arferion da iawn ar waith—ond mae rhai yn mynd â gormod o amser ei gilydd, ac nid yw hynny o reidrwydd yn dda i ofal yr unigolyn, ond nid yw'n ffordd dda ychwaith ar gyfer ymdeimlad y staff eu hunain o'u gwerth yn eu proffesiwn. Rhan allweddol o fy null gweithredu i yw gwneud yn siŵr ein bod—mae rhan o'r rheoliadau yn gwneud hyn, pa un a yw'n hyn neu'r agwedd yr ydym yn ei chymryd tuag at gontractau dim oriau o fewn hyn—gan ddweud wrth y proffesiwn mewn gwirionedd 'Rydym yn gwerthfawrogi'r proffesiwn hwn, rydym ni eisiau eich gweld yn cael eich dyrchafu.'

Os oes unrhyw beth o ran y codau y mae angen imi ysgrifennu atoch i'w egluro, byddaf i'n hapus i wneud hynny. A oedd unrhyw agweddau eraill? Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â—

17:15

—pob un o'ch pwyntiau. Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniadau hynny. Byddaf yn ysgrifennu i egluro'r hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i Ddeddf 2014 o ran cyhoeddi codau. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Paul Davies. 

Dyma ni'n dod, felly, i'r ddadl ar adolygiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17. Rwy'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM6608 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle heddiw i drafod 'Adolygiad Blynyddol 2016-17 Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'. Croesawaf adolygiad blynyddol y Comisiwn yn fawr ac rwy'n ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiwn i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig y mae'n tynu sylw atynt. Rydym ni eisoes wedi cysoni amcanion allweddol ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2016-20 gyda'r saith her cydraddoldeb a hawliau dynol a nodir yn adroddiad cyffredinol y Comisiwn, 'A yw Cymru'n decach?' Mae'r saith her allweddol hyn yn tynnu sylw at y gwelliannau sydd eu hangen yng Nghymru. Mae cysoni ein cynllun a'n hamcanion gyda heriau'r Comisiwn yn sicrhau ein bod yn mynd ati mewn modd cydlynol a phenodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. 

Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn cynnig sylfaen hyblyg ar gyfer y gwaith amrywiol iawn yr ydym ni'n ei wneud mewn sawl agwedd ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, buddsoddi'n helaeth mewn safleoedd newydd a gwell ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ein rhaglen cyllid cydraddoldeb a chynhwysiant newydd, cydweithio clos er mwyn mynd i'r afael â phob math o droseddau casineb a chael mwy o bobl i roi gwybod am droseddau o'r fath, mwy o gymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda mwy o arian i gefnogi plant sy'n ceisio lloches sy'n teithio ar eu pen eu hunain. Ym mhob rhan o'r gwaith hwn, ac mewn enghreifftiau eraill y byddaf yn sôn amdanynt cyn hir, rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i gyngor ac ymchwil y Comisiwn. Byddwn yn parhau gyda'r dull hwn drwy weithio gyda'r Comisiwn a thrwy wrando ac ymateb panfgyddan nhw yn ein herio.

Mae'n deg dweud bod adolygiad blynyddol eleni yn cwmpasu cyfnod digynsail o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU. Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn digwydd cyn hir, wedi esgor ar sawl ansicrwydd ynghylch llawer o bethau, gan gynnwys dyfodol y ffynonellau ariannol Ewropeaidd pwysig. Mae degawdau o aelodaeth o'r UE wedi creu gwaddol o fanteision sy'n cwmpasu sawl agwedd ar fywyd bob dydd yng Nghymru, er enghraifft yr hawliau cyflogaeth yr ydym ni'n eu coleddu. Ein nod yw diogelu'r buddiannau hyn sy'n elfennau o fywyd bob dydd yng Nghymru a byddwn yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais i dorri corneli a chreu amodau gwaeth wrth inni adael yr UE.

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio hawliau dynol ar hyn o bryd wedi eu rhoi o'r neilltu nes y bydd cytundeb terfynol ynglŷn ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud ei bod hi'n yn bwriadu parhau i fod yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy gydol y Senedd bresennol. Rydym ni'n effro iawn i natur dros dro y datganiad hwn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon ein bod ni'n wrthwynebus iawn i unrhyw ddiwygio ar yr hawliau y mae pobl Cymru yn eu mwynhau ar hyn o bryd ac yn mynd â ni gam yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Er gwaetha'r modd y dychenir y Ddeddf weithiau, mae hi'n ddarn cynhwysol o ddeddfwriaeth sy'n diogelu ein dinasyddion ac yn galluogi pobl i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb a dwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif. Dangoswyd hyn yn ddiweddar yn ystod yr ail gwest i drychineb Hillsborough, lle roedd teuluoedd y dioddefwyr yn gallu defnyddio'r Ddeddf Hawliau Dynol i geisio cael cyfiawnder. 

Dydd Sul diwethaf oedd diwrnod hawliau dynol, sy'n coffáu'r diwrnod ym 1948 pan fabwysiadwyd y datganiad cyffredinol o hawliau dynol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Roedd y datganiad wedi'i ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob rhanbarth yn y byd a hwn oedd y diffiniad rhyngwladol cytunedig cyntaf o hawliau pob person. Cafodd ei ysgrifennu yn dilyn y tramgwyddo erchyll ar hawliau yn ystod yr ail ryfel byd, a gosododd y sylfeini ar gyfer system gytundebau y Cenhedloedd Unedig, y mae Llywodraeth Cymru'n rhan flaenllaw ohoni. Mae'r flwyddyn nesaf yn nodi dengmlwyddiant a thrigain y garreg filltir hon o ddogfen, ac mae'n atgof amserol o'r rheswm pam y dylem werthfawrogi hawliau dynol ac o bwysigrwydd hyrwyddo a diogelu hawliau pawb.

Mae'n parhau i fod yn amser heriol ar gyfer hawliau dynol yn y DU a thramor. Mae adrannau o'r cyfryngau a rhai gwleidyddion sy'n benderfynol o hau amheuaeth o hawliau dynol, a hyd yn oed yn cwestiynu'r angen amdanynt. Yn y cyfnod heriol hwn, mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mor bwysig ag erioed.

Bu'n flwyddyn brysur arall i'r comisiwn. Ym mis Ebrill, penodwyd Ruth Coombs yn bennaeth newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod Ruth yma. Rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'r swyddogaeth hon ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol. Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle i longyfarch Kate Bennett, a fu'n arwain gwaith y Comisiwn yng Nghymru am flynyddoedd lawer cyn ei hymddeoliad ddiwedd 2016, am gael ei gwobrwyo â'r OBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines — mae hi'n llwyr haeddu'r anrhydedd. 

Eleni, roedd y comisiwn yn rhan fawr o archwiliad y Cenhedloedd Unedig o'r DU ynglŷn â gweithredu'r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl. Rydym yn croesawu beirniadaeth Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Aeth Cadeirydd y Pwyllgor mor bell â dweud bod polisïau Llywodraeth y DU wedi arwain at 'drychineb ddynol' ar gyfer pobl anabl sy'n byw yn y DU. Daw'r feirniadaeth hon lai na blwyddyn ers i'r Cenhedloedd Unedig gynnal ymchwiliad i ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU a'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod tramgwyddo dwys a systematig ar hawliau pobl anabl yn y DU. Dyma'r realiti creulon ar gyfer rhai pobl anabl yn y DU, a byddwn yn parhau yn ein hymdrechion i liniaru effaith y mesurau cyni ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae system adrodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn gyfle i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau dynol. Roeddem yn falch bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn ei sylwadau terfynol yn croesawu'r ffaith ein bod wedi cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl anabl, ac rydym yn gwerthfawrogi'r

Byddwn nawr yn ystyried sut i weithredu ar argymhellion y Pwyllgor fel y maen nhw'n berthnasol i Gymru. Rydym hefyd yn ystyried adroddiad y Comisiwn 'Bod yn anabl ym Mhrydain', a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Drwy gydol y flwyddyn hon, buom yn gweithio'n agos â phobl anabl ledled Cymru i adolygu ein fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, a gyhoeddwyd yn 2013. Hoffwn yn fawr iawn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys aelodau o'r grŵp llywio sydd wedi goruchwylio'r broses.

Byddwn cyn hir yn disgrifio o'r newydd sut y bydd ein strategaeth genedlaethol yn cefnogi pobl anabl yng Nghymru, gan ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn darparu'r sylfeini ar gyfer dull newydd a chadarnach o weithio. Byddwn yn parhau i ddibynnu'n fawr ar ymgysylltiad cyhoeddus wrth inni ddatblygu ein polisïau, nawr yng nghyd-destun 'Ffyniant i Bawb'. Mae ein pwyslais ar gydraddoldeb ledled Llywodraeth Cymru a thu hwnt yn helpu i sicrhau bod ein strategaeth genedlaethol mewn gwirionedd yn cynnwys pawb.

Ym mis Medi, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'r adduned Gweithio Ymlaen, sef ymgyrch genedlaethol y Comisiwn i sicrhau bod gweithleoedd y gorau y gallant fod ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd. Sefydlodd y Comisiwn yr addewid yn dilyn ei ymchwil sy'n dangos bod gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac anfantais yn y gwaith yn effeithio ar tua 390,000 o fenywod beichiog a mamau newydd ledled Prydain bob blwyddyn. Mae'r addewid yn cefnogi Amcan Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru i ddod yn esiampl i'w efelychu yn yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant erbyn 2020.

O ran y Comisiwn ei hun, roedd hi'n flwyddyn arall o ddigwyddiadau poblogaidd. Roedd y rhain yn cynnwys ei ddarlith flynyddol gyda'r bargyfreithiwr hawliau dynol, Adam Wagner, a'i gynhadledd flynyddol a ddenodd dros 120 o bobl i Stadiwm Dinas Caerdydd. Unwaith eto, mae'r Comisiwn wedi rhyddhau nifer o gyhoeddiadau defnyddiol a heriol dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ychwanegol at yr adroddiad ar anabledd yr wyf i wedi ei grybwyll eisoes. Bu adroddiadau ar weithleoedd sy'n ystyriol o ffydd pobl, lleihau'r bwlch cyflog, ac adroddiad o'r enw 'Healing the divisions' ynglŷn â diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r cyhoeddiadau hyn a llawer o rai eraill i gyd ar gael ar-lein ac rwy'n eu hargymell i bob Aelod.

Eleni, mae'r comisiwn yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Cynhaliodd y Comisiwn ddigwyddiad yn y Senedd fis diwethaf i nodi'r garreg filltir hon a hefyd i lansio'r adolygiad blynyddol ffurfiol. Hoffwn i ddiolch felly i'r Comisiwn am ei waith nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf ond hefyd am ddegawd o ymroddiad i wella bywydau pobl yn y DU. Mae'r Comisiwn yn gwerthuso, yn gorfodi, yn dylanwadu ac yn gatalydd ar gyfer newid. Rydym ni'n parhau'n ddiolchgar am ei arweiniad ac yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb cadarn ac unigryw yma yng Nghymru. Diolch.

17:20

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Siân Gwenllian.

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith pwysig yn yr hinsawdd wleidyddol heriol presennol, a hoffwn innau hefyd ddiolch iddyn nhw am eu gwaith. Ddydd Sul oedd Diwrnod Hawliau Dynol—cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid rhag trais ydy rhai o’r themâu mawr. Mae cwmpas gwaith y comisiwn yn eang, ac felly heddiw rydw i wedi penderfynu canolbwyntio ar un agwedd benodol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, sef rhyddid rhag trais, ac, yn fwy penodol, rhyddid merched a genethod i fyw heb ofni trais a chamdriniaeth ddomestig.

Yn ôl Byw Heb Ofn, sy’n ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, mae 7.7 y cant o ferched wedi adrodd eu bod nhw wedi profi rhyw fath o drais yn y cartref—tua 1.2 miliwn ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ffigur yn debygol o fod llawer uwch, o gofio natur guddiedig y math yma o drais.

Nid wyf am ymddiheuro am ddefnyddio’r ddadl prynhawn yma i hoelio sylw ar yr un agwedd yma. Mae trais yn erbyn merched ar gynnydd ac yn arwydd o ddiffyg cydraddoldeb systemig o fewn ein cymdeithas heddiw. Mae’n gwelliant ni yn gresynu am y diffyg cynnydd wrth weithredu’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae’r gwelliant yn debyg i un y Ceidwadwyr. Y gwahaniaeth ydy bod y gwelliant hwnnw’n nodi bod angen gweithredu, tra bod ein gwelliant ni yn gresynu nad ydy’r gweithredu wedi digwydd yn ddigonol. Mater o eiriau, efallai, ond mae yna wahaniaeth pendant.

Yr wythnos diwethaf, wrth holi’r Gweinidog cydraddoldeb, mi wnes i amlinellu rhes o broblemau gyda gweithredu’r ddeddfwriaeth bwysig yma, ac mi oeddwn i’n falch o glywed y Gweinidog cydraddoldeb yn cydnabod y problemau ac yn dangos awydd i symud ymlaen efo’r materion. Dyma sydd wedi dod i’r amlwg: nid oes yna gynllun gweithredu o hyd ar gyfer gweithredu’r strategaeth trais yn erbyn merched, dros flwyddyn wedi’i chyhoeddi. Roedd y strategaeth ei hun yn wan ac wedi’i chyhoeddi ar frys er mwyn cydymffurfio â’r amserlenni a gafodd eu rhestru yn y Ddeddf. Ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol. Nid yw’r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion ar y cwricwlwm newydd. Roedd y rheini i fod allan yn yr hydref. Yr wythnos diwethaf, clywyd mai yn y flwyddyn newydd y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi. Ni wnaf i ymhelaethu—mae yna fwy ac mi wnes i restru’r rheini’n llawn yr wythnos diwethaf.

Mae’n hollol amlwg, felly, fod yna gryn lusgo traed. Yn anffodus, mae rhai o fewn y Llywodraeth yn dal i feddwl bod popeth yn iawn ac yn clodfori’r Ddeddf. Yn gynharach heddiw, cawsom ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd yn honni, unwaith eto, fod y Ddeddf yn torri tir newydd. Un peth ydy torri tir newydd drwy ddeddfwriaeth, peth arall ydy’i gweithredu. Nid ydy hi'n ddigon i yrru deddfwriaeth drwy’r Siambr yma ac wedyn eistedd nôl yn disgwyl i bopeth ddisgyn i'w le. Yn wir, unwaith bod sêl bendith frenhinol wedi cael ei chyflwyno, bryd hynny ydy’r amser i weithredu er mwyn cyflawni’r newid rydym ni am ei weld.

Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol ac yn torri tir newydd tan imi weld bod yr ystadegau ynglŷn â cham-drin domestig yn dechrau gostwng. Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol tan imi ddechrau gweld newid ymddygiad gwirioneddol gan ein sefydliadau ac yn ein cymdeithas. Mae rhyddid merched i fyw heb drais ac i fyw heb ofni trais yn hawl dynol sylfaenol, di-gwestiwn. Rydw i’n mawr obeithio y gwelwn ni weithredu buan gan y Llywodraeth er mwyn symud yr agenda yma ymlaen ar ôl y llusgo traed rydym ni wedi ei weld. Mi fyddaf i’n craffu’r gwaith yn ofalus ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni adrodd stori llawer mwy cadarnhaol wrth inni drafod adroddiad blynyddol y comisiwn y flwyddyn nesaf, ac rwy'n hapus iawn i gydweithio efo’r Gweinidog cydraddoldeb ar hyn. Diolch.

17:25

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 2. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addweidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  

Gwelliant 3. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.  

Gwelliant 4. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen 'deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus' yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch, Llywydd. Wrth i'r adolygiad blynyddol hwn ddechrau, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma i wneud Cymru yn lle tecach, ac fel y dywed, un o'i heriau allweddol yw dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.

Gan weithio ochr yn ochr â Jocelyn Davies o Blaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black, roeddwn i'n un o'r tri Aelod Cynulliad yn y Cynulliad diwethaf a ddaliodd Llywodraeth Cymru yn atebol ynglŷn â phasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. A bellach mae Cymorth i Ferched Cymru yn pryderu mai prin iawn yw'r arian o'r gyllideb iechyd a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y cyrff hynny sy'n darparu gwasanaethau arbenigol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Byddwn felly yn cefnogi gwelliant 1 ac, yn y cyd-destun hwn, rwyf hefyd yn cynnig gwelliant 2, gan nodi bod angen gweithredu addewidion ehangach Llywodraeth Cymru a wnaed yn ystod hynt y Ddeddf er mwyn cyflawni nod y Comisiwn o gael gwared ar drais yn y gymuned.

Cynigiais welliannau wedyn yn galw am strategaethau cenedlaethol a lleol i ddiwallu anghenion  rhyw-benodol o ran menywod a dynion. Roedd Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion penodol dynion a menywod fel ei gilydd. Fe wnaeth y Gweinidog wedyn wrthwynebu'r gwelliannau hyn, gan ddweud y bydd awdurdodau eisoes yn ystyried hyn wrth baratoi a gweithredu strategaethau cenedlaethol a lleol.

Wrth bwysleisio yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan drais, mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton hefyd yn darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd maen nhw'n dweud bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar y ddau ryw. Pan ymwelais â nhw yn ddiweddar, dywedwyd wrthyf fod pum person wedi eu cyfeirio at eu lloches dynion ar y diwrnod cyntaf er mai dim ond dau le oedd ar gael, ac y bu'n llawn byth ers hynny ac maen nhw ar hyn o bryd yn cadw rhestrau aros. Deallaf mai hwn yw'r unig loches i ddynion yn y Gogledd. Caiff ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor. Bydd yn cynorthwyo dioddefwyr tan fis Mawrth nesaf, gyda'r cyllid ar gyfer cefnogi dioddefwyr benywaidd dim ond ar gael am flwyddyn arall. Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ateb ysgrifenedig ataf fis diwethaf fod arolwg 2015 yn dangos bod 274 o leoedd lloches ar gael ledled Cymru, gyda phedwar yn Sir Drefaldwyn ar gyfer dynion.

Wedyn fe wnes i gynnig gwelliannau sy'n galw ar i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darpariaeth ar gyfer o leiaf un rhaglen droseddwyr. Fel y dywedodd Relate Cymru wrth y Pwyllgor, roedd 90 y cant o'r partneriaid y gwnaethon nhw eu cwestiynu beth amser ar ôl diwedd eu rhaglen yn dweud

bod y trais a'r bygythiadau gan eu partner wedi peidio'n llwyr.

Ymatebodd y Gweinidog nad oedd yn ystyried bod fy ngwelliannau i'n briodol, ond ei fod wedi cydariannu ymchwil i helpu i benderfynu sut yr eir ati yn y dyfodol i ymdrin â throseddwyr. Wel, fel y pwysleisiwyd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, rhaglen Relate - Choose 2 Change - yw'r unig raglen wedi ei achredu gan Respect sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Yfory, byddaf yn cadeirio cyfarfod y grŵp trawsbleidiol a fydd yn tynnu sylw at safon achrededig Respect ar gyfer gwaith gyda throseddwyr, ei bwyslais ar newid ymddygiad a rheoli risg, a hwnnw'n seiliedig ar dystiolaeth niferus, a'i bwyslais ar ddiogelwch goroeswyr a phlant.

Fe wnaethom frwydro'n galed i gynnwys addysg am gydberthnasau iach yn y Ddeddf. Fel y dywedais yn y ddadl ar Gyfnod 4, roedd y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd

i sicrhau consesiynau gan y Gweinidog,

a dywedodd yntau wedyn y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid  o'r sector trais yn erbyn menywod yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer addysg am gydberthnasau iach o fewn y cwricwlwm. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, y Llywodraeth hon, gofio am addewid y Gweinidog wedyn i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ynglŷn â hyn a rhaglenni i droseddwyr.

Rwy'n cynnig gwelliant 3, gan nodi'r cynnydd yn y troseddau casineb yng Nghymru sy'n cael eu cofnodi, gyda'r mwyafrif yn rhai sy'n ymwneud â hiliaeth, ond y cynnydd mwyaf yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl a thrawsrywiol, er bod hyn yn rhannol oherwydd cofnodi troseddau'n well a mwy o bobl yn dod ymlaen.

Yn olaf, rwy'n cynnig gwelliant 4, sy'n nodi bod

'ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'

2015—mae gwall ar y papur, dylai ddweud 2015—yr ymdrechion y manylir arnyn nhw yn eu hadroddiad blynyddol, a bydd angen, ac rwy'n dyfynnu,

'deialog wirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus'

—diwedd y dyfyniad—y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdani yn ei chynllun strategol drafft.

Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi dyletswydd benodol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo'r elfen o gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gofal a gwasanaethau cymorth. Ond dywedwch hynny wrth y gymuned fyddar yng Nghonwy na chawsant eu hannibyniaeth, wrth ddefnyddwyr cadair olwyn yn Sir y Fflint a gawsant eu hatal rhag defnyddio llwybr yr arfordir, ac wrth ddysgwyr anabl yng Nghymru a gawsant eu hamddifadu rhag gwneud prentisiaethau, pan ddechreuwyd 1.3 y cant o'r holl brentisiaethau ganddyn nhw, o'i gymharu â 9 y cant yn Lloegr. Mae llawer eto i'w wneud.

17:30

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw â minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn un o randdeiliaid allweddol y Pwyllgor. Rydym ni wedi mwynhau perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sawl darn o'n gwaith ni, gan gynnwys ein hadroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Yn fwy diweddar, roeddem yn falch o groesawu'r Prif Weithredwr i Gaerdydd, yn gynharach y tymor hwn, i glywed ei safbwynt ar hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit.

Rwy'n croesawu adolygiad blynyddol 2016-17 y Comisiwn, a gyhoeddwyd wrth i'r Comisiwn ddathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu. Yn ystod yr amser hwnnw, mae eu gwaith yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol, ac rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n parhau. Hoffwn i hefyd, Llywydd, dalu teyrnged i'r rhan ganolog a chwaraeodd Kate Bennett, cyfarwyddwr cyntaf Cymru, yn ystod y 10 mlynedd hynny, a chroesawu hefyd Ruth Coombs, olynydd Kate. Rydym eisoes wedi cael y pleser o weithio gyda Ruth ers ei phenodi i swydd y cyfarwyddwr.

Felly, roedd yr adolygiad blynyddol ar gyfer 2016-17 yn manylu ar rai o lwyddiannau mwyaf arwyddocaol y Comisiwn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud y cawson nhw eu gwireddu mewn hinsawdd wleidyddol heriol ac, yn wir, ansefydlog. Cyn symud ymlaen at rai o'r llwyddiannau hynny, roeddwn i eisiau sôn yn fyr am rai o'r ystadegau sy'n dangos yr heriau sy'n ein hwynebu: mae 32 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae 32 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi; mae gweithwyr croenddu gyda gradd yn ennill 23.1 y cant yn llai ar gyfartaledd na gweithwyr croenwyn; ac yn 2014-15 roedd dysgwyr anabl wedi dechrau ar 1.3 y cant yn unig o'r holl brentisiaethau yng Nghymru. Felly, mae cynnydd sylweddol i'w wneud—rhagor o gynnydd i'w wneud. Ac, wrth gwrs, mae Brexit yn fframwaith hanfodol o ran sut yr ydym yn symud ymlaen ar y materion hyn a'r holl faterion sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.

Ar lefel y DU, roedd adroddiad y Comisiwn, 'Healing the Divisions' yn ymateb cadarnhaol i rai o'r materion allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wedi dod i'r amlwg ers refferendwm 2016, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n gymorth i lywio ein gwaith ar hawliau dynol. Rydym yn cefnogi galwad y Comisiwn y dylid parhau i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU i'r un graddau ag y gwneir yn awr, ac, yn y dyfodol, y dylai'r DU barhau i fod yn arweinydd byd-eang ar hawliau dynol a chydraddoldeb.

Fel pwyllgor, un o elfennau allweddol ein gwaith yn ystod y Cynulliad hwn yw tlodi yng Nghymru. Rydym yn edrych ar hyn mewn darnau amrywiol o waith ymchwil sy'n rhoi sylw i wahanol agweddau. Nododd yr ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn fis diwethaf bod effaith gyffredinol y newidiadau i dreth a pholisi lles wedi bod yn gam yn ôl o ran cydraddoldeb. Mae aelwydydd lleiafrifol ethnig; aelwydydd gydag un neu fwy o bobl anabl; rhieni sengl; menywod; a phobl hŷn wedi gweld y gostyngiadau mwyaf sylweddol mewn incwm cartref o ganlyniad i'r polisïau hyn. Rydym hefyd yn gwybod o adroddiad 'UK poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod Cymru yn gyson wedi gweld y lefelau uchaf o dlodi o blith pedair gwlad y DU. Yn ystod cyfnod adolygu 2016-17, cynhyrchodd y Comisiwn eu hadroddiad 'A yw Cymru'n decach?', a oedd yn nodi'r saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â'r gwaith y mae'r pwyllgor, fy mhwyllgor i, yn gweithio arno o ran tlodi. Mae heriau penodol ynghylch yr angen i annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg ym maes cyflogaeth; gwella amodau byw a chreu cymunedau cydlynus, a dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned; a bydd y pwyllgor yn gwneud gwaith pellach o ran ein gwaith craffu yn sgil pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Llywydd, mae sawl peth felly sy'n hynod o bwysig a sylweddol o ran gwaith y Comisiwn a'r gwaith y mae fy Mhwyllgor yn bwrw ymlaen ag ef, ac rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â nhw yn fawr iawn. Wedi ei gynnwys yn y gwaith y maen nhw'n ei gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac sy'n berthnasol i'n gwaith ni, mae eu cyhoeddiad diweddar o ymchwiliad i drasiedi Tŵr Grenfell. Credaf ei bod yn arwyddocaol y byddan nhw'n sicrhau na chaiff agweddau ynglŷn â hawliau dynol a chydraddoldeb mewn perthynas â'r tân a'r amgylchiadau cysylltiedig eu hanwybyddu, a gobeithio y bydd hynny'n helpu i atal trychinebau rhag digwydd yn y dyfodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld perthynas y Pwyllgor gyda'r Comisiwn yn parhau, Llywydd, dros y flwyddyn sydd i ddod ynglŷn â'r materion hyn sydd o ddiddordeb i ni ein dau. 

17:35

Diolch i Bwyllgor Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes llawer ohonom ni yn UKIP yn rhannu yr un brwdfrydedd dros hawliau dynol, fel y'u gelwir nhw, â phobl mewn pleidiau eraill.

Ydy. Rydym yn pryderu'n benodol y bydd y pwyslais cynyddol ar hawliau lleiafrifoedd yn y pen draw yn cael effaith negyddol ar hawliau'r boblogaeth fwyafrifol. Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng—[torri ar draws.] Na, nid wyf yn mynd i dderbyn unrhyw ymyriadau—

Diolch am y cynnig, Joyce, ond nid oes amser.

Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng yr hawliau gwirioneddol ac ystyrlon iawn sydd gennym ni yma yn y Deyrnas Unedig sydd wedi esblygu dros 1,000 o flynyddoedd a mwy, a'r peth hawliau lleiafrifoedd cyfyng iawn yma y dywedir wrthym ni, heddiw, sy'n gyfystyr â  hawliau dynol.

Mae gennym ddemocratiaeth sy'n gweithio yma yn y DU. Mae gennym  ryddfreiniau sylfaenol, ac mae'r pethau hyn wedi bodoli mewn gwirionedd ers amser maith—ni waeth a ydyn nhw'n ysgrifenedig ai peidio. Yn amlwg, nid oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, ond mae gennym Fesur Hawliau, ymhlith pethau eraill. Gallwch olrhain yr hawliau hyn yn ôl i'r Magna Carta ym 1215, ond maen nhw'n mynd yn ôl hyd yn oed cyn hynny i Alfred Fawr, a roddodd gyfraith i Loegr, i ryw raddau. Nid oes gan yr hawliau hyn unrhyw beth i'w wneud â Llys Cyfiawnder Ewrop neu Lys Hawliau Dynol Ewrop, nac ag unrhyw sefydliad rhyngwladol arall. Maen nhw'n hawliau a esblygodd yma yn y Deyrnas Unedig, ac ni fyddwn yn colli'r hawliau hyn gyda Brexit. Hefyd nid oes a wnelo nhw ddim ag Amnest Rhyngwladol na Liberty nac unrhyw grŵp arall sydd ag obsesiwn ynglŷn â hawliau lleiafrifoedd.

Yr hyn sy'n rhaid inni ei ddeall, o ran hawliau lleiafrifoedd, yw bod lleiafrifoedd yn aelodau o gymdeithas. Felly maen nhw—

17:40

Oes, da iawn, Simon. Felly, fe ddylen nhw fwynhau rhai hawliau. Ond ni allwn ddal ati fel cymdeithas i gytuno'n dragwyddol â galwadau lleiafrifoedd. Rywbryd, mae'n rhaid inni gydnabod y bydd rhoi mwy o hawliau i grŵp lleiafrifol penodol yn cael effaith negyddol ar hawliau y rhan fwyaf o bobl yn ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Mae gennym enghraifft berffaith o hyn gyda'r dadleuon diweddar dros hawliau pobl drawsryweddol. Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cynnig rhai diwygiadau eithaf cynhwysfawr i hawliau pobl drawsryweddol. Gallai hyn olygu y gallai unrhyw un sy'n dymuno nodi bod eu rhyw yn wahanol i'w rhyw corfforol wneud hynny o bosibl, dim ond drwy ddiffinio eu hunain fel y cyfryw. Felly, gallem weld dynion yn mynd i mewn i doiledau cyhoeddus menywod oherwydd mae'r dynion hyn yn honni eu bod nhw'n diffinio eu hunain fel menywod. Gallem weld troseddwyr gwrywaidd yn mynnu cael eu hanfon i garchardai i fenywod oherwydd maen nhw'n diffinio'u hunain fel menywod. Gallem yn y diwedd weld mudiad y 'Girl Guides' yn gorfod derbyn dynion sy'n diffinio eu hunain fel menywod yn arweinwyr, oherwydd os yw mudiad y 'Girl Guides' yn gwrthod gwneud hyn, efallai yn y pen draw y byddan nhw'n wynebu cael eu herlyn oherwydd maen nhw rywsut wedi torri hawliau dynol honedig rhywun. Rydym yn mynd i gael llawer o hwyl gyda hyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf os ydym yn parhau i roi sylw fel cymdeithas i'r math hwn o ffwlbri sydd ag obsesiwn am leiafrifoedd.

Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cael trafodaeth aeddfed am yr elfen o hawliau lleiafrifoedd a derbyn bod yn rhaid cael terfynau iddynt. Dim ond hyn a hyn o wyro oddi wrth y norm y gall unrhyw gymdeithas ei dderbyn cyn bod cymdeithas yn ymffrwydro'n llwyr. Ac os parhawn ni ar hyd y ffordd hon o geisio plesio elfennau mwyaf gwallgof y mudiad trawsryweddol, yna'r hyn y byddwn ni'n ei wynebu fel cymdeithas, o fewn dim o dro, fydd chwalfa lwyr.

Nawr, ar ôl gwneud y sylw cyffredinol hwn, nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw waith da yn digwydd ym maes hawliau dynol yng Nghymru. Mae rhywfaint o waith da yn digwydd. Ond mae rhai o'r pryderon a fynegir yn yr adroddiad hwn yn sicr, yn fy marn i, yn gyfeiliornus. Er enghraifft, dyna'r mater o roi'r bleidlais i garcharorion. I ddyfynnu o'r adroddiad,

'Mae carcharorion yng Nghymru, fel sy'n wir yng ngweddill Prydain, yn parhau i fod yn destun gwaharddiad cyffredinol ar bleidleisio mewn etholiadau, ac mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi canfod ei fod yn groes i'w hawliau Confensiwn.'

Diwedd y dyfyniad. Fy ymateb i hynny fyddai bod carcharorion yn y carchar oherwydd eu bod nhw wedi troseddu—hynny yw, ar wahân i nifer cymharol fychan sydd wedi eu collfarnu ar gam. Maen nhw felly wedi ymddwyn yn groes i fuddiannau'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi ildio rhai hawliau eithaf sylweddol, megis yr hawl i'w rhyddid eu hunain. Felly, maen nhw dan glo. Mae'r hawl i ryddid yn fwy o hawl na'r hawl i bleidleisio. Felly, os ydyn nhw'n ildio'u hawl i'w ryddid eu hunain, pa wallgofddyn a gafodd y syniad y dylen nhw gael yr hawl i bleidleisio?

Rydym ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd yn union oherwydd ffwlbri fel hyn. Nid oes unrhyw gydsyniad poblogaidd i'r cynnig hwn i sicrhau bod carcharorion yn cael pleidleisio. Os mai dyma beth mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn ceisio'i ddweud, yna gorau po gyntaf y byddwn ni'n cefnu arno a'r holl sefydliadau eraill cysylltiedig. Diolch.

17:45

Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a diolch iddyn nhw am y gwaith pwysig iawn y maen nhw yn ei wneud yng Nghymru, gan dynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar gynifer o wahanol grwpiau mewn cymdeithas. Hoffwn i hefyd ddiolch i Kate Bennett, un o'm hetholwr am flynyddoedd lawer, am y gwaith y mae hi wedi'i wneud yno, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Ruth Coombs.

Credaf ei bod yn arbennig o ddiddorol yn eu hadroddiad sut maen nhw'n nodi y byddan nhw'n gweithio'n strategol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant, ac rwy'n credu bod y gwaith gyda'r gwasanaeth carchardai yn bwysig iawn hefyd. Credaf hefyd fod yr hawliau dynol y byddan nhw'n gweithio i'w hamddiffyn pan rydym ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn falch iawn eu bod nhw'n tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a wynebir gan Sipsiwn a Theithwyr ac yn hyrwyddo'u hawliau. Rwy'n croesawu hyn yn fawr, â minnau'n Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. A sylwaf eu bod yn sôn yn yr adroddiad ynghylch sut y mae iechyd meddwl Sipsiwn a Theithwyr yn waeth na gweddill y boblogaeth. Credaf fod hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd y pwynt pwysig arall i'w nodi yw bod y rhan fwyaf o Sipsiwn a Theithwyr mewn gwirionedd yn byw mewn tai, ac mae effaith byw mewn tai ar bobl nad yw eu ffordd o fyw yn gydnaws â hynny yn cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl. Felly, rwy'n falch iawn bod y pwyntiau hynny yn cael sylw yn eu hadroddiad.

Fe wnes i edrych ar welliant Plaid Cymru a gwrando ar araith Siân Gwenllian, ac achubais ar y cyfle i drafod gyda'r bobl sy'n weithgar yn y maes cam-drin domestig i weld pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Ac, yn amlwg, mae pawb yn croesawu egwyddorion y Ddeddf a'r datganiad o fwriad, ond maen nhw yn gytûn mai gweithredu'r Ddeddf yw'r mater allweddol. Felly, o edrych ar fy awdurdod lleol fy hun, Caerdydd, cefais drafodaeth gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd i weld sut roedden nhw'n teimlo bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod mewn gwirionedd yn effeithio ar y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud. Maen nhw o ddifrif yn teimlo bod Cyngor Caerdydd wedi gwneud gwaith da iawn, yn wir, o gynnwys egwyddorion y Bil yn eu strategaeth gomisiynu, y mae cefnogaeth frwd iawn iddo o du asiantaethau trydydd sector, ac maen nhw mewn gwirionedd wedi mynd ati mewn modd cynhwysfawr iawn. Felly, gwelais yn fy awdurdod i fy hun fod elfen gadarnhaol iawn tuag at y ffordd yr oedd y Ddeddf yn cael ei gweithredu. Ond, wrth gwrs, dim ond un awdurdod lleol yw hwnnw, felly mae gwir angen inni ddal ati i graffu ar sut mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, ac i gadw hyn yn gadarn ar yr agenda wleidyddol, oherwydd mae'n dibynnu cymaint ar sut y mae awdurdodau unigol yn gweithredu. Ond, fel y dywedais, roedd hynny yn adborth da.

Hefyd trafodais hyn â'r 'Black Association of Women Step Out', ac roedd Bawso yn teimlo bod peth dryswch wedi bod ar y cychwyn, ond maen nhw bellach yn gwbl grediniol fod pethau yn dod at ei gilydd a'u bod nhw'n mynd i'r afael â'r problemau. A dim ond eisiau sôn oeddwn i yn fyr am enghraifft o arfer da iawn ar ffurf y prosiect Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch, y mae Cymorth i Fenywod Caerdydd, Atal y Fro a Bawso yn ei ddarparu ac sy'n cael ei ariannu hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Mae'r cynllun hwn yn targedu meddygon teulu, oherwydd dyna ble y dywed 80 y cant o fenywod sydd wedi cael eu cam-drin eu bod nhw'n teimlo'n gyfforddus yn mynd i siarad am gam-drin, a dyma'r un lle y gallan nhw fynd heb i'w partner amau neu geisio eu hatal. Ac mae meddygon teulu yn cael cynnig sesiynau hyfforddiant i'w helpu i adnabod dioddefwyr cam-drin domestig, ac mae llwybr cyfeirio clir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd enfawr yn nifer y menywod y mae meddygon teulu yn y cynllun peilot wedi eu cyfeirio am gymorth—mae wedi codi o bedair neu bump bob blwyddyn i 202 y llynedd. Mae'r cynllun hwn yn rhagflaenydd i'r hyfforddiant 'holi a gweithredu', sydd i'w roi ar waith fel rhan o'r Ddeddf. Felly, roeddwn i eisiau tynnu sylw at yr arferion da hynny sy'n digwydd mewn gwirionedd.

Mae dau bwynt yr hoffwn i eu codi gyda'r Gweinidog. Rwy'n gwybod bod oedi wedi bod wrth benodi ymgynghorydd cenedlaethol. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynglŷn â phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd. Ac, wrth gwrs, mae'r DU yn penodi comisiynydd ar gyfer y DU, a meddwl oeddwn i tybed a oedd hi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y byddai'r ymgynghorydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn ymwneud â chomisiynydd y DU, a fyddai yn ôl pob tebyg yn gweithio ar faterion nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Ond mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n faes eithaf pwysig.

Ac yna mae'r pwynt olaf yn bwynt y cododd Siân Gwenllian ynglŷn â'r grŵp arbenigol ar ryw a pherthnasoedd iach, yr wyf i, rwy'n gwybod, wedi holi yn ei gylch lawer tro. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynghylch pryd mae'r grŵp hwnnw'n debygol o adrodd yn ôl, ac, yn amlwg, mae'r mater allweddol a godwyd eisoes ynglŷn â sut y gweithredir unrhyw argymhellion gan y grŵp hwnnw.

17:50

Rwy'n croesawu'r adolygiad blynyddol hwn, sy'n nodi saith prif her o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Hoffwn i roi sylw yn fy nghyfraniad byr heddiw i un o'r heriau hynny: dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned, a hoffwn yn benodol fynd i'r afael â'r agwedd o Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth yn yr un modd.

Roedd 500 yn fwy o droseddau casineb yng Nghymru eleni o'i gymharu â'r llynedd. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol, ac mae'n rhaid inni roi terfyn arno. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o fwy na 22 y cant yng Nghymru, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n hiliol—mwy na 2,000 o ddigwyddiadau ledled Cymru, yn bennaf yn ardal Heddlu De Cymru. Mae troseddau yn tueddu i gynyddu yn dilyn ymosodiadau terfysgol fel y rhai ar bont Westminster a'r bomio yn nhiwb Parsons Green. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n naturiol i bobl edrych at y gwleidyddion a gofyn beth ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru.

Weithiau rydym yn anghofio am yr hyn y mae ein cymunedau Mwslimaidd yn ei wneud i dawelu meddyliau pobl ac annog mwy o gydlyniant rhwng y cymunedau. Yn dilyn yr ymosodiadau yng ngorsaf tiwb Parsons Green cafodd nifer o bobl eu harestio ledled y wlad, gan gynnwys yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Aeth aelod o fosg Al Noor yng Nghasnewydd ati i dawelu meddyliau pobl nad oedd ganddyn nhw ddim byd i boeni yn ei gylch, y byddai ysbryd cymunedol lleol cryf ac amrywiol yn parhau. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y mosg, Mr Abdul Rahman Mujahid, ddatganiad grymus yn llwyr gondemnio'r bomio, ac aeth ymlaen i ddweud, o gyfieithu ei eiriau i'r Gymraeg:

'Nid yw'r bobl hyn yn cynrychioli ein barn ni, mae pob un ohonom ni'n Brydeinwyr, a Phrydain yw ein cartref, lle rydym wedi dewis byw a magu ein teuluoedd. Rydym ni'n cefnogi ac yn gwella amrywiaeth.'

Aeth yn ei flaen i ddweud:

'Mae'r holl gymunedau yn cyd-fyw yn hapus yng Nghasnewydd ac yn parchu cred a ffydd ei gilydd. Ni ddywedir yn unman yn y grefydd Foslemaidd...y dylid brifo pobl ddiniwed.

Nid Islam yw hynny, ac nid ydym yn cytuno â hynny.

Llywydd, rwy'n llwyr gymeradwyo'r teimladau hyn. Dyma enghraifft o'r pethau cadarnhaol a wneir gan gymuned i dawelu'r argraff negyddol sy'n cael ei chyfleu. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, trefnodd Cyngor Mwslimiaid Cymru ddigwyddiad ardderchog yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd rhai o'm cyd-Aelodau yno. Rhoddwyd gwobr i Jane Hutt yno am wasanaeth cymunedol gwych. Y ffaith yw bod Iddewon, Mwslimiaid, Cristnogion a phob hierarchaeth arall yn cynrychioli lleiafrifoedd ethnig yno— roedd Archesgob Cymru yno, roedd y Prif Imam Mwslimaidd o Ewrop yno, ac roedd gwesteion eraill yno. I ddweud y gwir, dylem ddathlu ein gwyliau gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid inni o'r haenau uchaf i lawr fynd i'r ysgolion ac mae'n rhaid i'r plant ddeall a mwynhau ein dathliadau, fel y Nadolig yn agosáu—felly, mae'r rhaid i'r Mwslimiaid, Iddewon, Cristnogion a phawb ei fwynhau. Yn yr un modd, ein gwyliau Eid a'n—. 

Felly, mae'r hyn a welais i yr wythnos diwethaf yn un enghraifft. Mae Saleem Kidwai a Chyngor Mwslimiaid Cymru yn gwneud gwaith gwych. Fy mhwynt yma yw: pam na allwn ni gael rhyw fath o gysylltiad, fel mae Julie newydd ei ddweud? Comisiynydd, neu ryw gyswllt neu linyn tuag at un man canolog lle gall cymunedau nid yn unig deall ei gilydd, ond dysgu oddi wrth ei gilydd a dathlu gwyliau ei gilydd. Dyna'r pwynt yr wyf i eisiau ei wneud, Llywydd. Rwy'n llwyr gymeradwyo'r teimladau hyn, ac mae hon yn enghraifft a grybwyllwyd eisoes gan Imamiaid Casnewydd. Rwy'n galw ar gymunedau Mwslimaidd ledled Cymru i estyn allan ac ymwneud â chrefyddau eraill a chymunedau eraill i hyrwyddo mwy o gydlyniant. Ac nid Mwslimiaid yn unig—rwy'n golygu pob cymuned arall. Yn y modd hwn, Llywydd, gallwn fynd i'r afael â'r ymchwydd o droseddau casineb yng Nghymru am byth, ac ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf.

Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gyfeirio'n arbennig at y bennod ynglŷn â gwella gweithleoedd Cymru. Nod penodol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw gwella gweithleoedd drwy weithio gyda chyflogwyr a thrwy hyrwyddo arferion effeithiol yn y gweithle o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n croesawu'r glymblaid Gweithio Ymlaen a sefydlwyd gan y Comisiwn, gyda mwy nag 20 o sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i ddenu, datblygu a chadw menywod yn y gwaith. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 18.1 y cant ym Mhrydain. Dyma rai ystadegau eraill y maen nhw'n eu rhoi yn eu hadolygiad: mae 86 y cant o gyflogwyr Cymru yn dweud eu bod nhw'n gefnogwyr cadarn o staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, ond mae 71 y cant o famau yn dal i ddweud eu bod nhw'n cael profiadau negyddol neu, o bosibl, wahaniaethol yn y gwaith.

Mae'r ystadegau hyn yn dangos pa mor bell y mae angen inni fynd o hyd, a chefais fy atgoffa o hyn yn nathliad pen-blwydd Chwarae teg yn bump-ar-hugain mlwydd oed, yr oeddwn i ynddo yr wythnos diwethaf. Roedd y Prif Weithredwr, Cerys Furlong, yn edrych yn ôl i'r cyfnod y sefydlwyd Chwarae Teg pan gefais i fy mhenodi'n gyfarwyddwr cyntaf y mudiad, yn dilyn arolwg mawr o swyddogaeth menywod yn y gweithle yng Nghymru. Bryd hynny, nid oedd un o bob pum menyw yn gweithio; erbyn 2010, y ffigur oedd un o bob 10. Ond dywedodd Cerys wrthym fod menywod yn dal i wneud, ar gyfartaledd, 60 y cant yn fwy o waith di-dâl na dynion, sef 26 awr yr wythnos o'i gymharu ag 16 awr. Atgoffodd ni fod Chwarae Teg wedi bod yn gweithio dros y 25 mlynedd diwethaf gyda menywod, busnesau, ysgolion a llunwyr polisi i sicrhau y gall menywod yng Nghymru weithio, meithrin eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil. 

A gaf i dynnu eich sylw at raglen Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg a sefydlwyd er mwyn helpu i wella safle menywod yn y gweithlu? Caiff y rhaglen ei hariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru a chafodd ei datblygu fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth, sy'n dangos angen clir am fesurau cadarnhaol y mae angen eu gweithredu i gefnogi cynnydd menywod yng Nghymru. Er enghraifft, mae'r ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 7 y cant o fenywod yng Nghymru mewn swyddi rheoli, o'i gymharu ag 11 y cant o ddynion. Ac mae merched wedi eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM allweddol— gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Bydd Cenedl Hyblyg 2 yn cefnogi 2,207 o fenywod a 500 o fusnesau yn ystod ei gylch oes arfaethedig. 

Ar y pwynt hwn, hoffwn i dalu teyrnged i Val Feld, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe. Hi arweiniodd y ffordd i sefydlu Chwarae Teg pan oedd yn gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Rwy'n gwybod y bydd y Cynulliad hwn yn falch o glywed ein bod ni wedi gwneud cynnydd gyda'r cynllun i osod plac porffor ar y Senedd hon yn y flwyddyn newydd, pryd y gallwn ni roi amser a sylw dyledus i'w gwaddol sylweddol cyn ei marwolaeth annhymig ar ôl brwydr ddewr yn erbyn canser. Er cof am Val ac i gefnogi Chwarae Teg, a chyda Chwarae Teg yn uchelgeisiol ynghylch ei nod i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gaf i groesawu meincnod newydd chwarae teg y mudiad a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf? Rwy'n gwybod y byddai Val yn eithriadol o falch o glywed am hyn ac am eu huchelgais.

Bydd y meincnod cyflogwr chwarae teg yn helpu cyflogwyr i weld sut maen nhw wedi eu graddio o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhoi cynllun gweithredu iddyn nhw fel y gallan nhw wneud cynnydd o ran datgelu cyflog merched a dynion. Bydd y fenter chwarae teg ar gael i gyflogwyr sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i'w helpu i gael cydnabyddiaeth fel cyflogwr chwarae teg. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a all Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r fenter newydd ysbrydoledig hon? Rwy'n credu bod yn rhaid ymgorffori hyn yn y cynllun gweithredu economaidd, y cafwyd datganiad yn ei gylch gan Ken Skates y prynhawn yma. Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn benderfynol o sbarduno newid o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru i fynd â ni ymlaen ac rwyf yn diolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol diddorol. 

17:55

Dyna eiriau da iawn o ochr arall y Siambr. Fe wnes i wenu pan wnaeth yr aelod o UKIP gyfeirio at 'hawliau dynol honedig'. Wel, mae hawliau dynol yn hawliau dynol. Ac rwy'n anghytuno â'r ymadrodd 'hawliau lleiafrifoedd'; buaswn i, gorau oll, yn dweud 'hawliau i bawb'. Mae angen parchu pawb a dylai pawb gael hawl, oherwydd, pan fydd pawb yn cael eu parchu, daw hynny â chytgord i'n cymdeithas.

Y ddeddfwriaeth sy'n destun y diwygiadau yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Wel, cwestiwn amlwg iawn gen i yw: beth am ddynion? Beth am fechgyn? A beth am ychydig o gydraddoldeb? Mae'r ddeddfwriaeth yn dweud bod trais yn erbyn menywod a merched yn golygu trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol lle mae dioddefwyr yn fenywod. Wel, mae un o bob tri dioddefwr yn ddyn, dynion ydyn nhw, a 10 y cant —dim ond 10 y cant—o ddynion fydd yn rhoi gwybod am gam-drin domestig.

Rwy'n ymwneud â llawer o waith achos gyda llawer o dadau yn dod i'r feddygfa sy'n dioddef cam-drin domestig, ac mae'n anodd iawn yn y De i gael dynion wedi eu cydnabod fel y cyfryw, a dim ond drwy imi ymyrryd mewn nifer o achosion y llwyddwyd i gydnabod y bobl hynny fel dioddefwyr. Nid oes unman yn y ddinas hon, neu yn y rhanbarth hwn i ddweud y gwir, i anfon y bobl hynny i gael cymorth anfeirniadol—dim un man. Asesir dynion oherwydd maen nhw'n cael eu cyfrif fel y rhai sy'n cyflawni'r trais oherwydd mai dynion ydym ni, a dim rheswm arall. Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi barn gyfreithiol sy'n datgan mai gwahaniaethu yw hyn, a byddaf yn gofyn i'r Llywodraeth a ydynt yn bwriadu symud ymlaen o ran hynny.

Bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod dwy fenyw yr wythnos yn cael eu llofruddio drwy drais yn y cartref. Mewn gwirionedd, mae'r ffigur o ddau yr wythnos yn cynnwys dynion, a'r dadansoddiad yw 29 dyn a 79 menyw ar gyfer 2015-6. Dywedasoch hefyd fod angen inni gael ein blaenoriaethau'n iawn. Nawr, onid yw'r 29 person hynny'n flaenoriaeth? Wrth gwrs, mae hwn yn ffigur ar gyfer y DU. Onid yw dynion a bechgyn yn flaenoriaeth? Dylen nhw fod, felly rwy'n gofyn ichi a ydych chi eisiau eu cynnwys nhw yn eich rhestr o flaenoriaethau, fel yr ydych chi wedi dweud.

Rwyf wedi fy ethol yma i gynrychioli pawb. Does dim ots beth yw eich rhyw, p'un a ydych chi'n wryw, benyw neu heb ryw neu yn drawsryweddol. Rwyf yma i'ch cynrychioli chi, ac mae hynny'n wir am bob un ohonom ni, a dylem ni i gyd siarad yn erbyn gwahaniaethu. Mae trais domestig yn effeithio ar bawb, gall effeithio ar bawb—pob dosbarth, pob galwedigaeth, ac mae'n rhywbeth y mae angen ei gydnabod.

Rwyf eisiau sôn am yr hyn a ddywedodd Mohammad Asghar am Islamoffobia—roedd yna rai sylwadau gwych ganddo. A chredaf mai John Griffiths a soniodd am bobl groenddu, pobl groendywyll. Rwy'n gofyn i holl Aelodau'r Cynulliad gerdded o amgylch y Cynulliad hwn a gweld a allwch chi ddod o hyd i lawer o bobl groendywyll nad ydyn nhw'n gweithio yn y maes diogelwch neu lanhau. Does dim llawer o bobl o gwbl. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r Cynulliad hwn roi sylw iddo, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynigion i wneud hynny. Os edrychwch chi ar yr ardal gerdded i'r gwaith o amgylch y Cynulliad hwn—Butetown, Glan yr Afon, Grangetown — hi yw'r ardal fwyaf amrywiol yng Nghymru, ond ni welwch chi hynny'n cael ei adlewyrchu yn y bobl a gyflogir yma y tu ôl i'r llenni yn y Cynulliad hwn, oni bai eich bod chi'n sôn am lanhau a diogelwch. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen gweithio arno a dylid gwneud yr ymdrech.

Rwy'n dychwelyd at fy mhwynt gwreiddiol, mewn gwirionedd, oherwydd mae'n hen bryd—yn hen bryd—cydnabod y gall dynion fod yn ddioddefwyr trais domestig hefyd. Mae rhai ohonom ni'n gwybod hynny yn iawn. Diolch yn fawr.

18:00

Yr wythnos diwethaf, roeddwn i yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Gallech ddisgwyl y byddai llawer o'r materion hyn ar eu hagenda, ac roedd hynny'n wir. Wrth drafod cydraddoldeb a hawliau dynol, yn anochel mae'r sgwrs yn troi at Brexit. Felly, mae'n galonogol iawn bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyngor i Grŵp Ymgynghorol Brexit Llywodraeth Cymru a hefyd, fel y clywsom ni, i Aelodau drwy eu pwyllgorau. Mae Brexit yn sylfaenol i'r sgwrs oherwydd, pan fyddwn yn gadael yr UE, byddwn yn gadael y siarter hawliau sylfaenol. Mae hynny'n golygu hawliau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn Neddf Hawliau Dynol 1998 y DU, fel hawliau gweithwyr amrywiol, a gellid diddymu rheolau sy'n ymwneud â gwahaniaethu, ar rydym eisiau deall ac mae angen inni ddeall hynny.

Mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, wedi addo eu hamddiffyn o dan y Bil Diddymu Mawr. Mae'n swnio'n ardderchog, ond rwy'n amau a fydd Plaid Geidwadol a wrthwynebodd lawer o'r hawliau a'r rhyddfreiniau yn y lle cyntaf yn eu hamddiffyn hyd yr eithaf unwaith i'r inc sychu ar y papurau ysgaru. A hyd yn oed—

18:05

Mewn munud.

Ac, hyd yn oed os diogelir hawliau, rwy'n poeni y bydd cynlluniau i israddio hawliau ym Mhrydain ar ôl Brexit. Er enghraifft, mae cyfraith yr UE yn dweud na ddylid gosod terfyn ar iawndal i bobl sy'n dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw. Ond mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi dweud ar goedd eu bod nhw eisiau cyfyngu ar y taliadau hynny, ac mae hynny eisoes wedi digwydd gyda diswyddo annheg, nad yw wedi ei amddiffyn gan gyfraith yr UE.

Diolch. A yw hi'n cofio bod Llywodraeth Lafur, o dan Tony Blair, hefyd wedi gwrthwynebu'r Siarter, ac y gwnaethon nhw ei dderbyn yn y pen draw dim ond ar y sail na ellid ei orfodi yn ôl y gyfraith, ac na fyddai ganddo fwy o rym cyfreithiol na'r Beano, yn ôl y Gweinidog Ewrop ar y pryd?

Fy ateb i chi yw hyn: Byddaf yn amddiffyn ac rwyf wastad wedi amddiffyn hawliau dynol. Dyna fy ateb i chi. Nid wyf yma i drafod Tony Blair. Rwyf yma i drafod yr hyn a ystyriaf  yn egwyddorion sylfaenol bywyd, ac un o'r rheini yw hawliau dynol.

Felly, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y gost o gyflwyno achosion diswyddo. Yn wir, os nad oes gennych chi £1,500 yn eich poced gefn, bydd gennych chi broblem enfawr yn dwyn achos o ddiswyddo annheg. A'r Llywodraeth Geidwadol a sicrhaodd mai dyna fyddai ei angen arnoch chi. Felly, rwy'n credu bod angen i Gymru fod yn effro i lastwreiddio hawliau yn ystod ac ar ôl Brexit, a bydd goruchwyliaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn aruthrol bwysig yn hynny o beth. Ni allwn fforddio syrthio y tu ôl i Ewrop, ac mae rhybuddion. Wrth i'r DU ymrafael â thrafodaethau Brexit—a bu hynny'n ymrafael fawr—mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi bod yn trafod pecyn newydd o hawliau i wella'r cydbwysedd bywyd-gwaith gyda'r undebau llafur a sefydliadau cyflogwyr. Mae'n cynnwys gwyliau gofalwyr, gweithio hyblyg a mwy o amddiffyniad i famau newydd rhag cael eu diswyddo. Y gwir amdani yw, y tu allan i'r UE, y bydd yn rhaid inni ymladd yn galetach am hawliau newydd ac yn galetach i amddiffyn y rhai sydd eisoes yn bodoli. Ond dylem fod yn uchelgeisiol. Gallwn ni fod yn dangnefeddwyr. Rhaid inni beidio â llusgo ar ei hôl hi beth bynnag arall sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae Julie—na, Jane o bosibl—eisoes wedi sôn am y ffaith bod staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd yn dioddef yn anghymesur. Mae tystiolaeth bod bron un o bob pum dyn sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag adnoddau dynol yn amharod i gyflogi menywod ifanc sydd efallai'n mynd i gael plant, er ei bod yn anghyfreithlon ystyried y ffactor honno wrth recriwtio. Cafwyd arolwg YouGov o 800 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau adnoddau dynol, a chanfuwyd bod un o bob 10 aelod o staff adnoddau dynol benywaidd yn gyndyn i gyflogi menywod yn eu 20au a'u 30au. Dywedodd chwarter y bobl sy'n gwneud penderfyniadau eu bod nhw'n gweithio i gwmnïau sy'n ystyried a yw menyw yn feichiog neu a oes ganddi blant ifanc wrth wneud penderfyniad ynghylch dyrchafiad, a dywedodd Carole Easton, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Menywod Ifanc, sy'n cynrychioli menywod rhwng 16 a 30 mlwydd oed sydd ar gyflog bychan neu ddim cyflog, ac a gomisiynodd yr arolwg, ei bod hi'n sefyllfa syfrdanol, ac yn wir, yn gwbl syfrdanol.

Rwyf eisiau gorffen trwy ddweud fy mod i'n datgysylltu fy hun yn llwyr ac yn gyfan gwbl o'r holl sylwadau a wnaed gan UKIP yma heddiw. Ni wnaf i ddim aros yn dawel, oherwydd aros yn dawel a ganiataodd anghyfiawnder a thramgwyddo hawliau dynol yn y lle cyntaf.

Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl—Julie James.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan heddiw. Mae un Aelod yn benodol, efallai drwy amryfusedd, wedi dangos yn gryf pam ei bod yn bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf ac unigryw yng Nghymru er mwyn gwrthsefyll y math o ragfarn a gwahaniaethu, yn anffodus, yr ydym ni wedi ei glywed yn y Siambr. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i am gyfeirio at fy ffrind Lily, a gollodd ei brwydr i fyw y llynedd, a'r modd heriol y bu hi'n hyrwyddo hawliau pobl drawsryweddol. Buaswn wedi hoffi iddi fod yma i glywed y cyhuddiadau ffiaidd a wnaeth Gareth Bennett, ac rwy'n argymell iddo ddarllen ei blog hi, lle mae'n disgrifio pam mae pobl drawsryweddol yn bobl fel pawb arall ac yn haeddu'r un hawliau dynol â phawb arall. Rwy'n canmol Joyce am ddatgysylltu ei hun;  hoffwn innau ddatgysylltu fy hun o hynny.

Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1. Rydym yn parhau i wneud cynnydd wrth weithredu mesurau i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae gennym nifer o bethau sydd eisoes ar y gweill. Nododd Julie Morgan un ohonyn nhw ac, mewn ymateb i'w chwestiwn am y Cynghorydd Cenedlaethol, rwyf yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn fuan am y Cynghorydd Cenedlaethol, a fydd, wrth gwrs wedyn yn gweithio'n agos iawn gyda'r DU, wrth inni symud yr agenda hon ymlaen. Er enghraifft, rwy'n gwybod y bydd Kirsty Williams cyn hir yn gwneud datganiad am sefydlu ei grŵp arbenigol i'w chynghori ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a'r dyfodol o ran addysg ryw a pherthnasoedd yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at glywed ganddi hi am hynny.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod meysydd y mae angen eu datblygu o hyd a byddwn yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi'u gosod. Rwy'n arbennig o awyddus i groesawu cynnig Siân Gwenllian i weithio ochr yn ochr â ni i ddatblygu'r agenda hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn hynny o beth. Felly, mae llawer iawn mwy i'w wneud.yn datblygu'r agenda hon ymlaen yn y ffordd orau bosibl.

Rwyf hefyd yn croesawu sylwadau Mark Isherwood. Amlinellodd rai meysydd o bryder, ond  gofynnaf iddo ystyried effaith agenda gyni y Llywodraeth Dorïaidd yn y maes hwn oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod hynny'n llesteirio'r ymdrechion i helpu rhai o'r bobl y cyfeiriodd atyn nhw'n sy'n llwyr haeddu ein cymorth.

Rydym yn cefnogi gwelliant 2. Mae atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ganolog i wella iechyd a lles, lleihau troseddu a'r niwed a achosir gan droseddau treisgar, diogelu plant ac oedolion, hyrwyddo dysgu ac addysgu, a hyrwyddo cydraddoldeb. Rwy'n cytuno bod llawer iawn mwy i'w wneud, fodd bynnag, ac mae llawer o'r Aelodau, ac yn enwedig Jane Hutt, wedi ein hatgoffa pam mae angen inni wneud llawer iawn mwy o'r gwaith hwnnw ac am yr holl ffyrdd amrywiol y mae angen inni fynd i'r afael â hynny.

18:10

A ydych chi'n cydnabod bod y pwyntiau a wnes i—ac nid wyf yn mynd i sôn am le arall—pe baen nhw wedi cael eu gweithredu, y byddai hynny mewn gwirionedd yn arbed arian ar gyfer gwasanaethau eilaidd oherwydd maen nhw'n gynigion ymyraethol ataliol yn hytrach na chostau ychwanegol wrth ymdrin â symptomau?

Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond rwyf yn credu y dylai'r Aelod sylweddoli hefyd bod rhai o effeithiau cyni ar allu pobl sy'n byw yn annibynnol, er enghraifft, gydag anabledd ac ati, yn cael effaith fawr iawn ar y gwasanaethau hynny sydd eu hangen arnynt. Ond rwy'n fwy na pharod i weithio gydag ef i ddod o hyd i unrhyw feysydd lle mae'n credu y gallwn ni fuddsoddi er mwyn arbed, oherwydd mae hynny o ddiddordeb mawr i ni.

Ond, fel y dywedais, amlygodd Jane Hutt yn briodol iawn pam bod angen dull integredig i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, o'r arweinyddiaeth hyd at y gweithwyr rheng flaen. Mae hyn yn blaenoriaethu'r materion ac yn dod â nhw i olau dydd, gan ei gwneud hi'n gyfrifoldeb pawb yma yng Nghymru yn ddiwahan.

Tynnodd Mohammad Asghar sylw hefyd at fater Islamoffobia, ac rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch hyn ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'w farn ynghylch darparu cydlyniant cymunedol ehangach mewn rhai o'r syniadau a amlinellodd.

Rydym yn cefnogi gwelliant 3, ond dylem fod yn glir y gwnaed camau breision i gynyddu hyder dioddefwyr i ddod ymlaen a gwneud adroddiad. Roedd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2016-17 22 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Ond mae rhan o'r cynnydd o 22 y cant yn ganlyniad i gynnydd yn y cyfraddau adrodd. Mae hyn yn adlewyrchu faint o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, yr heddlu, y trydydd sector a'n partneriaid i annog dioddefwyr i ddod ymlaen. Mae cynnydd i'w groesawu, oherwydd fe wyddom o waith ymchwil nad yw bron 50 y cant o droseddau casineb yn cael eu dwyn i sylw'r awdurdodau. Fodd bynnag, mae'n debygol iawn bod rhan o'r cynnydd hwnnw oherwydd cynnydd gwirioneddol yn y troseddau casineb adeg refferendwm yr UE ac yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol a fu yn ystod y cyfnod adrodd. Rwy'n credu bod Mohammad Asghar wedi amlinellu rhai o'r problemau yn fedrus iawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb, trais a cham-drin. Byddwn yn parhau i gyflawni ein fframwaith gweithredu gyda'n partneriaid ledled Cymru. Hoffwn i dynnu sylw at ymyriad Neil McEvoy. Wrth gwrs, rydym eisiau gweithio gyda phawb sy'n dioddef unrhyw fath o drosedd casineb, trais a cham-drin ble bynnag y bônt a ble bynnag y maent yn digwydd yng Nghymru.

Rydym yn cefnogi gwelliant 4. Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gofyniad yn ei bum ffordd o weithio ar i gyrff cyhoeddus gynnwys pobl yn eu holl amrywiaeth ym mhopeth a wnânt. Felly, mae'n gwbl gydnaws â fframwaith ac ysbryd presennol y Ddeddf bod deialog ystyrlon rhwng cymunedau, unigolion a'u gwasanaethau cyhoeddus yn ddisgwyliedig wrth ymgorffori gwaith y Comisiwn. Mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyfrannu mewn modd uniongyrchol iawn at yr amcanion o greu Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru fywiog ei diwylliant ble mae'r Gymraeg yn ffynnu. Ond, oherwydd eu cyd-ddibyniaeth, mae hefyd yn amlwg yn hanfodol gwneud cynnydd tuag at y nodau hyn i gyd gyda'i gilydd. 

Rwy'n cloi'r ddadl hon drwy ddiolch unwaith eto i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ers y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Comisiwn wedi gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r Comisiwn wedi darparu ei raglen waith benodol a pherthnasol i adlewyrchu tirwedd wleidyddol, gyfreithiol a chymdeithasol unigryw Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfaill beirniadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—yma i'n harwain ni i gyd a sicrhau newid cadarnhaol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Comisiwn yn y dyfodol ac i barhau â'n perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol iawn. Diolch.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6613 Kirsty Williams

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol ar bapur y drefn y prynhawn yma.

Bydd gan bron i chwarter yr holl blant a phobl ifanc ryw fath o anghenion dysgu ychwanegol yn ystod eu haddysg. Mae'r system bresennol o gymorth yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, ac rydym yn gwybod nad yw bellach yn addas at y diben. Ers dros ddegawd, mae adroddiadau ac adolygiadau wedi herio'r Llywodraeth i ddod o hyd i ffordd fwy effeithiol a llai gwrthwynebus i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iawn ac yn ei gael yn gyflym, er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu potensial llawn. Y Bil hwn yw sylfaen ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid y system bresennol. Mae wedi bod yn hir iawn yn cyrraedd. Dyna pam y mae heddiw, pen-blwydd ei gyflwyno, mor bwysig; yn bwysig ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ie, ond yn bwysicach fyth, ar gyfer y cannoedd ar filoedd o bobl ifanc a theuluoedd y bydd y system anghenion dysgu ychwanegol newydd o fudd iddyn nhw.

Mae'r Aelodau yn ymwybodol o 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl', ein cynllun ar gyfer darparu system addysg sy'n ffynhonnell o falchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Mae ein rhaglen drawsnewid ADY yn agwedd allweddol ar hyn ac rwy'n falch ei bod wedi cyrraedd y cyfnod hwn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy rhagflaenwyr yn hyn o beth a'r Cynulliad diwethaf am gyflwyno'r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i gyn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, am arwain y Bil drwy'r cyfnodau craffu. Mae'n fraint gennyf i allu helpu i'w lywio drwy ei gyfnodau terfynol ac i'r llyfrau statud, ac, yn hollbwysig, tuag at ei weithredu.

Dywedodd y Gweinidog ar y pryd ddau beth ar ddechrau'r daith ddeddfwriaethol hon. Dywedodd 

'Hoffwn gael Deddf dda, ac nid Bil cyflym'

ac nad oedd gan y Llywodraeth fonopoli ar syniadau da. Mae digwyddiadau y llynedd, fel y mae'r Bil hwn wedi symud yn ei flaen, wedi ei brofi'n iawn ynghylch y ddau beth yma. Mae'r Bil yn gynnyrch blynyddoedd o gyd-adeiladu, datblygu ar y cyd, ymgysylltu, profi a dysgu, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud yn ddwfn ac, yn wir, yn aml yn arwain y ffordd trwy gydol y broses. Pan gafodd ei gyflwyno flwyddyn yn ôl, roedd y Bil eisoes wedi'i ystyried a'i gefnogi'n dda, ond nid oes unrhyw amheuaeth ei fod wedi elwa ar y gwaith craffu a wnaed gan y Cynulliad hwn.

Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeiryddion, aelodau a staff y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Cyllid am eu hystyriaeth ddiwyd, sydd wedi cryfhau cydnerthedd y Bil. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i lefarwyr Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru yn arbennig am eu cymorth a'u her. Bu eu cyfraniadau  o fudd uniongyrchol i'r Bil mewn meysydd allweddol, gan gynnwys swyddogaeth y gwasanaeth iechyd a safle'r Gymraeg yn y system newydd.

Hoffwn i sôn yn gyflym am ddatblygiad diweddar iawn a fydd yn mynnun mân ddiwygiad i'r Bil pan ddaw'n Ddeddf. Nid oedd penodiadau i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn rhan o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn flaenorol, a oedd yn rhyfedd. Gwnaeth gorchymyn a wnaed gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr, datrys hynny am y tro cyntaf ac mae hynny i'w groesawu. O ganlyniad, rydym yn cynnig diwygio adran 91 o'r Bil drwy orchymyn. Bydd hyn yn dileu swyddogaeth gytuno yr Arglwydd Brif Ustus a'r llywydd. Bydd yn cysoni penodiadau i'r tribiwnlys addysg yn y dyfodol ac yn normaleiddio sefyllfa, fel sydd wedi digwydd i TAAAC. Mae cytundeb â Llywodraeth y DU ar gyfer ymdrin â hyn, sydd mewn gwirionedd yn fater technegol, bach.

Hoffwn i ganolbwyntio ar y dyfodol nawr wrth inni symud i gyfnod newydd a chyffrous. Mae'r rhaglen drawsnewid yn flaenoriaeth yr ydym ni i gyd yn ei rhannu, mi wn. Ddoe, nodais sut yr ydym yn bwriadu gweithredu'r Bil a'r diwygiadau ehangach. Bydd heriau o'n blaenau, ond rydym mewn sefyllfa dda gyda phartneriaid cyflawni allweddol sy'n ein cefnogi ni i sbarduno'r newid. Bydd yr arweinwyr trawsnewid newydd a fydd yn dechrau eu swyddi yn y flwyddyn newydd yn helpu i gyflymu'r cynnydd hyd at 2020, a thu hwnt. 

I gloi, Llywydd, gadewch imi bwysleisio'r cyfle gwirioneddol a dilys sydd gennym ni heddiw. Bydd pasio'r Bil hwn yn gam enfawr tuag at wella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai eu bod yn lleiafrif yn ein system addysg, ond mae ganddyn nhw hawl i degwch yn eu haddysg, gan sicrhau dyfodol llwyddiannus ar eu cyfer, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom ni yn y Siambr hon eisiau ei weld.

18:20

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad agoriadol heddiw yn y ddadl bwysig hon? Rwy'n rhannu ei huchelgais y dylai fod gennym system anghenion dysgu ychwanegol sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac sy'n ymdrin â rhai o ddiffygion y system anghenion addysgol arbennig presennol, sydd i'w gweld yn amlwg iawn yn llawer o'r gwaith achos a gawn fel Aelodau Cynulliad. Nid oes yn rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod gwelliannau eraill y gellid bod wedi'u gwneud i'r Bil, a dyna pam y cyflwynais i welliannau yng Nghyfnod 3, yn enwedig ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol a'r ffaith nad yw ei system unioni yn cyd-fynd yn llwyr ac yn gynnil â'r system ADY newydd a fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r Bil hwn.

Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod y Bil hwn yn rhywbeth yr ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno ei ganmol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n dymuno ei weld yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl er mwyn i ni fod â'r system honno y mae rhai pobl eisoes yn elwa arni oherwydd y cynlluniau treialu a gychwynnwyd gan ddeiliad blaenorol y portffolio. A hoffwn i dalu teyrnged i ddeiliad blaenorol y portffolio am y modd yr ymgysylltodd ef â'r pwyllgor yn ystod Cyfnodau 1 a 2, a hefyd am y modd y gwnaeth yn siŵr bod rhai o'i swyddogion ar gael ar ein cyfer hefyd o bryd i'w gilydd, a'r trafodaethau a gawsant gyda mi a'm swyddfa i helpu i ddatblygu ein syniadau ni hefyd, o ran y modd o fwrw ymlaen â'r Bil.

Roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion a gwelliannau yn ymwneud â sicrhau bod confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phersonau anabl yn cael eu hymgorffori ar wyneb y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y system newydd hon yn gweithredu mor fuan â phosibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at y broses graffu a sut y mae honno wedi helpu i wella'r Bil hwn. A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r pryderon a godais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2 ynghylch pobl ifanc sy'n cael eu rhoi dan gadwad am resymau iechyd meddwl, a gwneud yn siŵr bod gennym y ddarpariaeth ddigonol ar eu cyfer pe bai gan y bobl ifanc hyn anghenion dysgu ychwanegol hefyd? Ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu a'r sicrwydd yr ydych chi wedi'i roi inni, drwy'r gwelliannau sydd bellach wedi eu gwneud, na fydd eu hanghenion yn cael eu hesgeuluso.

Ac yn olaf, rwyf i ychydig yn siomedig, yn amlwg, y bu'r cyfeiriad at orchymyn Llywodraeth y DU mor hir yn cael ei nodi, ac ond newydd ei godi ar gam mor hwyr. Rwy'n credu bod hyn yn bwrw amheuaeth, mewn gwirionedd, ar sut y mae adrannau yn y fan yma yn gwirio beth sy'n digwydd yn San Steffan a goblygiadau posibl hynny i ni yn y fan hyn yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn wir sut y mae'n effeithio ar y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Gallaf glywed pobl yn rhygnu yn y Siambr ar y sylwadau hynny, ond rwy'n credu o'n trafodaeth ddydd Gwener, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn sylweddoli bod hwn yn bwynt y mae angen ei wneud, ac yn wir, eich bod yn rhannu rhai o'r pryderon hynny. Rwy'n credu felly ei bod yn bwysig, pan fo pethau yn digwydd yn San Steffan a allai fod â goblygiadau ar gyfer ein deddfwriaeth ni, ein bod yn codi'r rheini cyn gynted â phosibl. Gallwn ni achub yr un hwn—dyna pam yr ydym ni'n cefnogi Cyfnod 4 heddiw, ac rydym ni'n mawr obeithio y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru gyfan.

A gaf i ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu talu i bawb sydd wedi chwarae eu rhan, o'r budd-ddeiliaid i gynrychiolwyr y Llywodraeth ac aelodau'r pwyllgor, a swyddogion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith drwy'r Senedd? Nid oes yna amheuaeth fod yna gonsensws wedi bod o'r cychwyn am yr angen i ddiwygio y maes anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi clywed yn barod am y teimlad fod y ddeddfwriaeth bresennol wedi dyddio a'i bod wedi arwain at system orgymhleth a oedd yn creu gormod o wrthdaro ac anghydweld, ac hefyd fod y darlun yn anghyson ar draws Cymru. Mae 'loteri cod post' yn derm sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun, ond mae'n sicr yn wir yn yr achos yma o safbwynt y darlun o ddarpariaeth sydd ar gael ar draws Cymru. 

Mi oedd deddfwriaeth newydd, mwy addas ei phwrpas yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, yn etholiad y Cynulliad. Mi oedd hefyd yn rhan o'r cytundeb rhwng fy mhlaid i a'r Llywodraeth, ac rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd fan hyn heddiw a'n bod ni mewn sefyllfa i gwblhau'r broses, o safbwynt y Senedd, beth bynnag, a throi y Bil yn Ddeddf. Rwyf hefyd eisiau cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog blaenorol yn sicr wedi gwrando ar y materion a godwyd gan y budd-ddeiliad, gan y pwyllgor, gen i ac eraill, ac wedi ymateb yn bositif ar lawer iawn o'r rheini yn ogystal. Nid yw hynny i ddweud bod y Bil yn union fel y byddwn i yn dymuno iddo fe fod, ond yn sicr mae e yn wahanol a thipyn yn well na'r un a osodwyd ar y cychwyn. 

Fe lwyddom ni i gryfhau yn sylweddol, fel rydym wedi clywed, dyletswyddau o safbwynt confensiynau'r cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn a phobl anabl. Roedd hynny'n argymhelliad cryf gan y pwyllgor ac yn rhywbeth roedd Plaid Cymru yn ei arddel o'r cychwyn. Hefyd, fel rydym wedi clywed, mi fydd awdurdodau lleol, byrddau llywodraethu ysgolion, ac yn y blaen, hefyd angen ystyried anghenion penodol siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n falch hefyd ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau bod darpariaeth cynllunio gweithlu hirdymor yn ei lle yn y Bil er mwyn sicrhau bod yna weithlu digonol ar gael i gwrdd ag anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ym mha bynnag iaith, mewn blynyddoedd i ddod.

Mae cynnwys cyflyrau meddygol yn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol yn sicr yn ganlyniad cadarnhaol, ac mae templed Cymru gyfan ac amserlenni clir ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu annibynnol, darpariaeth ar gyfer plant cyn oed ysgol a phobl ifanc mewn addysg bellach, a darparu eiriolaeth a chyngor annibynnol i gyd yn elfennau cadarnhaol.

Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn y maes ADY yn fêl i gyd. Roeddem ni'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi rhoi pwerau llawn dros iechyd i'r tribiwnlys addysg, sy'n amlwg yn un maes yr ydym ni'n anghytuno arno. Y bwriad ar gyfer y Bil a'r diwygiadau ehangach oedd creu system symlach, haws ei llywio, sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cadw dwy system o unioni—un ar gyfer addysg, un ar gyfer iechyd—ar gyfer sector lle ceir gorgyffwrdd rhwng y ddau yn aml, rwy'n credu, yn tanseilio hynny rhywfaint ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd, fel y mae peidio â chynnwys dysgu seiliedig ar waith yn narpariaethau'r Bil. Rydym ni'n sôn yn aml am barch cydradd, a dywedir wrthym gan randdeiliaid bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o fynd i addysg alwedigaethol. Rwy'n credu bod hepgor dysgu seiliedig ar waith yn gyfle arall a gollwyd.

Byddwn yn ymgynghori ar y cod anghenion dysgu ychwanegol, wrth gwrs, yn yr hydref, a bydd hynny'n hollbwysig o ran gweithredu'r Bil. Mae llawer o addewidion wedi'u gwneud ynglŷn â chynnwys y cod a gwaith pob un ohonom ni nawr fydd gwneud yn siŵr ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr addewidion hynny. Mae trafnidiaeth, hefyd, yn ffactor pwysig na chafodd le ar wyneb y Bil, ond bydd yn sicr yn rhan allweddol o'r cod. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod yn helaeth yn y Pwyllgor yn rheolaidd ac mae angen rhoi llawer o sylw iddo yn y Cod.

Nawr, nid yw hynt y ddeddfwriaeth wedi bod yn ddi-her, yn amlwg. Ddwywaith y flwyddyn hon bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ail-gyfrifo faint y byddai'r ddeddfwriaeth yn gostio i'w gweithredu, ac arweiniodd hynny at rywfaint o oedi yn y broses, ac, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn y dyddiau diwethaf, mae materion sy'n ymwneud â phenodiadau Tribiwnlys wedi dod i'r amlwg. Felly, gallaf ond dweud, yn amlwg, y bydd angen dysgu gwersi o'r profiadau hynny. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, byddwn i'n dweud ei bod hi'n hanfodol bellach bod digon o adnoddau yn cael eu darparu i dalu'r costau gweithredu a bod y gweithlu yn gwbl barod ar gyfer yr hyn a fydd yn newid sylfaenol, ac mae'n rhaid imi ddweud, ar y cyfan, newid er gwell i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn wneud un pwynt olaf. Dywedodd un blaid yn y Cynulliad hwn wrthym ni pan ddaethant yma eu bod yn dod yma i chwyldroi pethau. Mae'r blaid honno wedi bod yn anweledig i raddau helaeth dros y 12 mis diwethaf o graffu a diwygio'r ddeddfwriaeth hon. Trwy gydol y cyfnod pwyllgor, ni chafwyd yr un gwelliant. O'r cannoedd o welliannau a gyflwynwyd, ni chafwyd yr un gwelliant gan UKIP. Ar adeg y cyfarfod llawn, dim un gwelliant. Ni ddywedwyd yr un gair o blaid na fel arall ar unrhyw agwedd ar y ddeddfwriaeth hon. Mae hynny'n fy arwain i ddod i'r casgliad naill ai nad oes ganddyn nhw unrhyw farn ar hyn, sy'n anodd ei gredu am blaid sydd fel arfer yn eithaf cryf ei barn ar y rhan fwyaf o faterion, neu nad ydyn nhw wedi cymryd rhan yn y broses hon o gwbl, sy'n gwneud anghymwynas â'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf angen y ddeddfwriaeth hon, mae'n anghymwynas â'ch etholwyr, ac mae'n anghymwynas â'r sefydliad hwn. Mae hyn wedi fy ngwneud i, a llawer o'r rhanddeiliaid sydd wedi codi'r mater hwn gyda mi, i deimlo'n rhwystredig, wedi ein siomi ac yn flin iawn, iawn.

18:30

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl. Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Y cyfan y gallaf i ei ddweud, Llyr, mewn ymateb i'r sylwadau a wnaethoch chi, yw nad yw'r mater yn ymwneud â faint weithiau, mae'n ymwneud ag ansawdd, ac rwyf i'n ddiolchgar iawn i grŵp Plaid Cymru ac i grŵp y Ceidwadwyr am ansawdd eu gwaith ar y ddeddfwriaeth hon wrth iddi fynd yn ei blaen. Rwy'n credu y dylid cydnabod hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy'n credu bod hwn yn well darn o ddeddfwriaeth oherwydd y cyfraniadau sydd wedi'u cyflwyno gan y ddwy blaid, a dyna sut y dylai fod.

Mae Llyr yn hollol gywir: roedd cefnogaeth drawsbleidiol yn etholiadau'r Cynulliad a chydnabyddiaeth nad oedd y sefyllfa bresennol yn ddewis a bod angen newid. Rwy'n gobeithio, wrth inni symud ymlaen â'r broses hon, y byddwn ni'n cyflawni'r newid hwnnw yr oedd ei angen ar gymaint o blant, eu rhieni, eu gofalwyr ac, yn wir, y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny.

Darren, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged hefyd i Angela Burns, a gymerodd ddiddordeb mawr yn y mater hwn yn y Cynulliad blaenorol sydd, oherwydd newidiadau i bortffolios, heb allu bwrw ymlaen â'r darn hwn o deddfwriaeth. Ond rwy'n gwybod ei bod hi'n cadw llygad agos ar yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud yn y pwyllgor a'r hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud wrth i chi gysgodi'r darn hwn o ddeddfwriaeth ar ei hynt, oherwydd gwn am ei hymrwymiad personol i'r agenda hon.

Mae Darren yn llygad ei le: nid ydym ni'n eistedd yn ôl ac yn aros am gydsyniad Brenhinol; mae newid eisoes yn digwydd mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyllido prosiectau arloesi amlasiantaeth rhanbarthol i ddatblygu a phrofi agweddau ar y dull newydd hwn. Felly, mae newid yn digwydd yn awr.

Llyr, byddwch chi wedi clywed yn y ddadl Cyfnod 3 ymrwymiadau'r Llywodraeth ynghylch y mater o drafnidiaeth a'r mater dysgu seiliedig ar waith. Efallai bod cyfleoedd, fel yr ydym ni wedi dweud o'r blaen, rhwng contractau gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cychwyn ar gyfres ehangach o ddiwygiadau i hyfforddiant ac addysg ôl-orfodol, felly mae yna gyfleoedd i edrych ar y materion hyn.

Mae'n iawn, Llywydd, nad yw deddfwriaeth yn rhwydd weithiau. Wrth gwrs, mae'r hen ddywediad cyfarwydd hwnnw am ddeddfwriaeth a selsig—mewn gwirionedd dydych chi ddim eisiau bod yn rhy gyfarwydd â'r broses o beth sy'n digwydd; yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y prosiect a gewch chi yn y pen draw. A hoffwn i gymeradwyo'r cynnyrch penodol hwn i'r Cynulliad. Rwy'n gobeithio, gyda chefnogaeth Aelodau ar draws y Siambr heddiw, y gallwn ni greu diwrnod hanesyddol arall, y tro hwn ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn, ond gadewch inni beidio â chael ein twyllo: dim ond dechrau'r broses yw'r Bil hwn, oherwydd y cod a'r is-ddeddfwriaeth a newidiadau mewn agwedd ac arferion ar lawr gwlad fydd mewn gwirionedd yn gwneud y gwahaniaeth, ond ni allwn symud ymlaen heb y ddeddfwriaeth hon. Felly, rwy'n ei chymeradwyo i gyd-Aelodau ar draws y Siambr.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rwy'n gohirio'r pleidleisio ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar adolygiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Dau yn ymatal—rwy'n cywiro fy hun. Dau yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6608 - Gwelliant 1: O blaid: 22, Yn erbyn: 27, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais, felly, ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r pleidlais. O blaid 40, tri yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6608 - Gwelliant 2: O blaid: 40, Yn erbyn: 8, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r pleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 3.

NDM6608 - Gwelliant 3: O blaid: 47, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.

18:35

NDM6608 - Gwelliant 4: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6608 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017.

2. Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

3. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.  

4. Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio. 

NDM6608 - Cynnig (wedi'i ddiwygio): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar Gyfnod 4 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Kirsty Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6613 - Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:36.