Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
21/11/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Neil Hamilton.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau diweithdra yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51339
Gwnaf. Yn 2017, roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru 4 y cant yn is na chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn gwybod bod ardal teithio i'r gwaith Abertawe yn cynnwys rhannau helaeth o Sir Gaerfyrddin ac, felly, bydd croeso mawr i'r cyhoeddiad gan Amazon yn ddiweddar eu bod yn creu 2,000 o swyddi ar gyfer masnach y Nadolig. Ond ceir llai o groeso i'r ffaith eu bod nhw'n gwneud llawer o'u recriwtio trwy gwmni o'r enw the Central European Recruitment and Contract Services Ltd, ac mae hynny er mwyn dod â phobl ar fysiau o Hwngari yn hytrach nag o Sir Gaerfyrddin yn y bôn. Mae un o'm hetholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud bod y cwmni hwn wedi cysylltu â hi, eisiau gwybod a oedd ganddi hi ystafelloedd preswyl i'w rhentu y gellid eu defnyddio fel gwelyau poeth dros dair shifft i'r gweithwyr hyn. Onid yw hyn yn tueddu i danseilio diben y grantiau a gafodd Amazon gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cyfleuster warysau yn Abertawe?
Wel, byddai'r grantiau hynny wedi cael eu rhoi rai blynyddoedd yn ôl, yn sicr cyn fy amser i fel Prif Weinidog, ond mae gen i ddiddordeb mewn edrych ymhellach ar yr hyn y mae ef wedi ei godi. Pe gallai ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio ar ei ran.
Prif Weinidog, mae diweithdra yn y canolbarth yn isel iawn, ond mae gwerth ychwanegol gros fesul pen ar ei hôl hi o'i gymharu â dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe, a cheir bwlch sylweddol pan ddaw i gyflogau cyfartalog y rheini yng nghefn gwlad y canolbarth. Nawr, mae cytundeb twf posibl i'r canolbarth yn un o'r ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n meithrin y sgiliau a'r hyfforddiant priodol i fusnesau ffynnu. Yn rhan o'r cytundeb twf posibl, a ydych chi'n cytuno â mi y gallai cyfleuster statws prifysgol ym Mhowys roi'r hwb sydd ei angen i sicrhau bod gan y canolbarth y gymysgedd iawn o sgiliau ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau cyflogau uwch a darparu economi fwy ffyniannus yn y canolbarth?
Mae'n awgrym diddorol. Ceir prifysgol yn Aberystwyth, wrth gwrs. Nid yw ym Mhowys, rwy'n deall, y bydd llawer ohonom ni'n ei wybod, ond mae'n gwneud y pwynt am Bowys yn benodol. Bydd hwnnw'n fater i'w drafod rhwng, rwy'n amau, Coleg Powys fel y darparwr addysg bellach ac unrhyw brifysgol benodol. Mae'n iawn i ddweud mai'r ffordd i gynyddu Gwerth Ychwanegol Gros yw trwy fuddsoddi mewn sgiliau. Rydym ni'n gwybod bod cynhyrchiant yn broblem yn y DU ac yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod mai po fwyaf o sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf cynhyrchiol y maen nhw'n dod, a'r mwyaf y gallan nhw ei roi yn eu pocedi eu hunain o ran eu hincwm. Felly, pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud, byddai'n rhywbeth, rwy'n credu, a fyddai o gymorth i'r economi leol.
Diolch, Llywydd. Wel, un peth a fyddai'n gweddnewid yr economi yn y gorllewin yn sicr fyddai gweld morlyn llanw yn cael ei ganiatáu ym mae Abertawe, o ran cyflogaeth, o ran sgiliau, o ran gweddnewid y ffordd yr ydym ni'n ymwneud ag ynni yng Nghymru, ac, wrth gwrs, creu llwybrau ar gyfer ein pobl ifanc ni i aros yn y gorllewin ac aros yn ein cymunedau Cymraeg yn ogystal. Dydd Mercher yw'r cyfle olaf yn realistig, efallai, i'r Llywodraeth yn San Steffan roi'r golau gwyrdd i'r prosiect yma. A ydych chi wedi cysylltu â nhw yn ddiweddar? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi gwneud yn y gorffennol, ond a ydych chi'n dal i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i wneud y cyhoeddiad ddydd Mercher yn y gyllideb fod y morlyn llanw yn mynd yn ei flaen, a bod cytundeb ynglŷn â'r ffordd o dalu amdano, a'r ffordd wedyn y bydd e'n dod â budd i economi Cymru?
Rydym ni wedi, sawl gwaith. Fe wnes i ei godi e yn bersonol gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig tua thair wythnos yn ôl, pan gwrddais i â hi, i ddweud pa mor bwysig, hollbwysig, oedd y morlyn ei hunan, a pha mor bwysig oedd e i economi nid dim ond y bae, ond yn fwy eang hefyd. Rydym ni wedi cadw'r pwysau ymlaen. Mae hwn yn her nawr, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Gwladol, er mwyn dangos bod digon o ddylanwad gydag e i sicrhau bod y prosiect hwn yn mynd ymlaen er lles yr economi leol ac economi'r gorllewin.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sy'n gyfeillgar i bobl â dementia? OAQ51303
Mae 'Symud Cymru Ymlaen' yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl ystyriol o ddementia trwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd. Rydym yn gobeithio cael cytundeb ar hynny gyda rhanddeiliaid erbyn y Nadolig, gyda'r nod o'i gyhoeddi mor fuan â phosibl yn y flwyddyn newydd.
Diolch. Y mis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o gyflwyno'r wobr ystyriol o ddementia i ysgol gynradd Griffithstown, yr ysgol gyntaf yng Ngwent, ac un o'r ysgolion cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr. Mae pob un dosbarth yn yr ysgol wedi cymryd rhan yn y fenter o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, ac mae disgyblion hŷn hefyd yn ymweld â chleifion yn yr Ysbyty Sirol ac yn cymryd rhan mewn cynllun arloesol o'r enw 'Shimmer my Zimmer', pryd y gwnaethant addurno a phersonoli fframiau Zimmer fel y gallai pobl â dementia adnabod eu Zimmer a'i ddefnyddio'n amlach. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Griffithstown ar y cyflawniad ardderchog o ennill y wobr hon, a hefyd ar y gwaith rhyng-genhedlaeth gwych y maen nhw'n ei arloesi, y gwyddom sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mor enfawr i fywydau pobl sy'n byw gyda dementia?
Yn sicr felly, yn sicr felly. Rwy'n meddwl ei bod yr arloesedd a ddangoswyd yn anhygoel, mewn ffyrdd na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl amdanynt, i helpu pobl â dementia. Mae'n hynod bwysig hefyd—nid yw'n ymadrodd efallai y byddwn i'n ei ddefnyddio yn gyffredinol—bod dealltwriaeth rhyng-genhedlaeth yn cael ei hybu, lle mae pobl ifanc yn deall beth yw effeithiau dementia, sut y gallant helpu pobl â dementia, ac, wrth gwrs, gallu deall yr hyn y mae teuluoedd ac unigolion yn ei wynebu fel heriau os yw rhywun yn cael diagnosis o ddementia. Rwy'n meddwl ei fod yn syniad gwych, yn gysyniad gwych, ac rwy'n llongyfarch yr ysgol yn fawr iawn.
Prif Weinidog, yn ogystal â Chymru yn heneiddio fel cenedl, mae'r tueddiadau yn dra gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae gan y Cymoedd, er enghraifft, dueddiad heneiddio demograffig llawer mwy na'r wlad yn ei chyfanrwydd. A ydych chi'n ffyddiog, Prif Weinidog, bod ein darpariaeth o wasanaethau dementia wedi ei datganoli'n ddigonol, a hefyd bod yr adnoddau ar ei chyfer wedi eu targedu'n ddigonol at yr ardaloedd hynny lle mae'r duedd i heneiddio yn fwyaf difrifol?
Ydw, mi ydwyf. Os oes unrhyw anhawster yn hynny o beth, byddwn i'n disgwyl i hynny wrth gwrs i fod yn rhan o'r trafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda rhanddeiliaid ynghylch y cynllun gweithredu ar ddementia, a byddwn yn disgwyl i hynny gael ei adlewyrchu yn y cynllun pe byddai hynny'n cael ei nodi fel her. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen, er enghraifft, sydd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer, gyda'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso yng Nghyswllt Dementia, a'r Comisiynydd Pobl Hŷn hefyd. A chaiff ein cynllun ei lywio gan yr ymatebion a gafwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Fel y dywedais, rydym ni'n gobeithio bod mewn sefyllfa lle gallwn gytuno'r cynllun erbyn diwedd eleni, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi cyn gynted â phosibl ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Brif Weinidog, yr un pwnc sy'n codi dro ar ôl tro pan fyddaf i'n siarad efo teuluoedd rhai sydd â dementia ydy'r diffyg yng Nghymru o gael gweithiwr cyswllt penodol ar gyfer teuluoedd sydd angen rhywun i droi atyn nhw pa bynnag bryd y maen nhw'n dymuno gwneud hynny. Mi fyddai cael y math yna o addewid, o sicrhau gweithiwr cyswllt, yn caniatáu i Gymru allu bod yn arloesol yn y gofal y mae'n ei roi i bobl â dementia a'u teuluoedd nhw. A ydy'r Prif Weinidog yn rhannu fy marn i fod angen hynny fel rhan o'r strategaeth derfynol, ac a ydy o'n hyderus y bydd hynny yn rhan o'r strategaeth?
Wel, mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy'n gorfod cael ei ystyried fel rhan o'r ymgynghori sydd wedi cymryd lle. A gaf i ddweud y bydd y cynllun ei hunan yn cael ei adeiladu ar sylfaen o gydnabod y ffaith bod yna hawliau gyda phobl â dementia? Ac felly, ym mha ffordd y gallwn ni weithredu'r hawliau hynny? A bydd hwn yn rhan o'r trafod—mae hwn wedi bod yn rhan o'r trafod, rwy'n siŵr, sydd wedi digwydd lan at nawr, a bydd hwn yn rhan o'r trafod ynglŷn â'r cynllun ei hunan. A gaf i ddweud hefyd y bydd y cynllun ei hunan yn cael ei ystyried hefyd gan grwp gweithredu er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithio yn y ffordd y dylai fe?
Prif Weinidog, yn ôl Iechyd yng Nghymru, mae dementia yn effeithio ar dros 42,000 o bobl dim ond yng Nghymru, ac amcangyfrifir, mewn ychydig flynyddoedd yn unig, gallai hyn gynyddu gan o leiaf traean. Mae'n hanfodol felly bod Cymru'n dod yn genedl ystyriol o ddementia cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr ofnadwy hwn, a'u teuluoedd, yn cael eu cefnogi ar bob cam. Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch dementia a sut i leihau'r perygl o ddatblygu'r cyflwr dinistriol hwn?
Wel, mae'r angen i sicrhau y gall pobl aros mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl wrth wraidd ein dull o weithredu. Mae hynny'n golygu gweithio gyda sefydliadau i hyrwyddo amgylcheddau ystyriol o ddementia. Rydym ni wedi gweld enghraifft gan fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, o sut y gellir gwneud hynny gydag ysgolion. Ac mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn deall nad yw dementia yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn yr un ffordd ac i'r un graddau. Ac felly rydym ni'n gwybod y bydd anghenion pobl yn newid dros amser, ac mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn deall hynny. Ac yn rhan o hyrwyddo Cymru ystyriol o ddementia, mae cynyddu dealltwriaeth pobl o'r cyflwr yn amlwg yn rhan bwysig o hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Yn ystod yr wythnos nesaf, rydym ni'n disgwyl pleidlais i ymgynnull cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ynghylch honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru a pha un a yw'r Cynulliad hwn wedi cael ei gamarwain ai peidio. Rydych chi wedi gwadu i chi dderbyn honiadau o fwlio yn benodol, ond dywedasoch hefyd yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda chi. Os na wnaethoch chi ymdrin â materion o fwlio, a allwch chi ddweud wrthym ni pa faterion yr ymdriniwyd â nhw a sut y gwnaethoch ymdrin â nhw?
Gwnaf. Wel, bydd yr Aelodau, rwy'n gobeithio, yn deall os yw'n ymddangos fy mod i'n dewis fy ngeiriau'n ofalus, neu'n ymddangos yn ormodol fel cyfreithiwr yn fy atebion, nid yw hynny oherwydd fy mod i'n amharod i ateb; mae oherwydd bod hwn yn gyfnod anghyffredin iawn, ac yn gyfnod ofnadwy. Mae'n foment yn ein bywyd gwleidyddol sy'n llawn dolur a dicter. Mae pobl yn galaru a'r peth olaf yr wyf i eisiau ei wneud yw gwneud pethau'n waeth. Ond rwy'n deall yr angen am gwestiynau a chraffu, ac nid oes gennyf i unrhyw anhawster â hynny.
Gadewch i mi nodi yn y ffordd orau y gallaf beth yw fy esboniad am yr anghysondebau tybiedig, fel y mae pobl yn eu gweld, rhwng yr ateb ym mis Tachwedd 2014 a'r atebion yr wyf i wedi eu rhoi ers hynny ar faterion bwlio. Rwy'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg. Y cwbl y gallaf ei ddweud am y sylwadau hynny yw, yn eu cyswllt nhw, ni chyflwynwyd unrhyw gyhuddiad penodol o fwlio i mi erioed, yn ffurfiol nac yn anffurfiol, ni roddwyd tystiolaeth i mi, ac ni ddefnyddiwyd y gair 'bwlio' yn y ffordd honno erioed ychwaith. Ond os ydych chi eisiau i mi fod yn eglur ynghylch beth oedd y materion, gallaf ddweud fod pobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd y digwyddodd pethau. A oedd blaenoriaethau a oedd yn cystadlu a chwynion o'r math hwnnw? Wrth gwrs. A oedd pobl weithiau'n teimlo bod pobl eraill yn cael eu ffafrio'n fwy? Wrth gwrs. Mae hynny'n digwydd mewn unrhyw sefydliad. Ac ym myd gwleidyddiaeth, lle caiff y materion hyn eu teimlo'n fwy dwys nag yn y rhan fwyaf o fannau eraill hyd yn oed, ac y mae pobl yn frwd iawn ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei gredu, yna dyna fydd y sefyllfa. Mae'r syniad o gystadleuaeth wrth wraidd ein democratiaeth. Bydd tensiwn bob amser, a bydd pawb yn y Siambr hon yn cydnabod hynny, yn enwedig fy nghyd-arweinwyr y partïon. Byddaf yn parhau i ymdrin â'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg â phosibl, ac, er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol yma, rwy'n gobeithio pan fydd pobl yn edrych ar fy hanes gwleidyddol y byddant yn gweld rhywun sydd bob amser wedi ceisio bod yn deg. Ond rwy'n ailadrodd y pwynt a'r cynnig a wnes yn ystod y pythefnos diwethaf, os bydd pobl yn credu y bu achosion o fwlio, naill ai'n hanesyddol neu'n gyfredol, yna mae fy nrws i yn agored. Os yw'n well ganddyn nhw beidio â dod ataf i, gallant, wrth gwrs, fynd at yr Ysgrifennydd Parhaol.
Prif Weinidog, dyma eich cyfle i egluro'r sefyllfa. Mae'n edrych fel pe byddech chi wedi rhoi dau ateb sy'n gwrthddweud ei gilydd: rydych chi'n dweud na dderbyniwyd unrhyw honiadau, ond hefyd bod materion wedi codi a'ch bod chi wedi ymdrin â nhw. Gofynnaf i chi eto: beth oedd y materion a godwyd gyda chi, a sut y gwnaethoch chi ymdrin â nhw?
Wel, weithiau, fel y dywedais, roedd pobl yn anhapus â'r ffordd y digwyddodd pethau, roedd pobl yn teimlo bod pobl eraill yn cael eu ffafrio'n fwy, ond mae hynny'n digwydd mewn unrhyw sefydliad. Ymdriniais â nhw wrth iddyn nhw godi. Pan fyddwch chi'n ymdrin â Chabinet, mae gennych chi bobl sy'n dalentog iawn, mae gennych chi bobl sy'n teimlo'n gryf iawn am yr hyn y maen nhw'n ei hyrwyddo, ac, wrth gwrs, mae'n gwbl amhosibl datrys gwahaniaethau pan eu bod yn codi. Os gofynnwch chi i mi y cwestiwn, 'A yw'n wir fod Cabinetau bob amser yn gytûn, lle mae pawb yn cytuno bob amser?' Nac ydynt, a byddai'n afrealistig dweud yn wahanol. Pan gododd y materion hynny, ymdriniais â nhw.
Nid ydych chi'n ateb y cwestiwn, Prif Weinidog, mae arna i ofn. Roedd honiadau penodol am fwlio, yr ydych chi wedi eu gwadu, ac eto rydych chi wedi dweud bod materion yn bodoli a'ch bod wedi ymdrin â nhw. Nawr, nid ydych chi wedi esbonio i ni beth oedd y materion hynny, sut yr ymdriniwyd â nhw na pha un a oedd, er enghraifft, adroddiadau wedi eu llunio. A wnewch chi roi'r eglurder y mae'r Cynulliad hwn yn ei haeddu i ni nawr, gan esbonio i ni pa faterion a godwyd gyda chi yn ôl yn 2014 a beth union wnaethoch chi i ymdrin â'r materion hynny? Os nad oeddent yn faterion o fwlio, mae hynny'n ddigon teg. Beth oedden nhw felly? Eglurwch hyn nawr os gwelwch yn dda.
Roedden nhw'n faterion o flaenoriaethau a oedd yn cystadlu, o bobl yn teimlo bod rhai pobl yn cael mwy o wrandawiad nag eraill a phobl yn teimlo eu bod nhw eisiau eich gweld chi fel y Prif Weinidog i esbonio eu sefyllfa. Mae'r rhain i gyd yn brosesau Cabinet a Llywodraeth arferol. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai unrhyw Gabinet ar waith lle nad oedd neb yn anghytuno byth. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai Cabinet ar waith lle'r oedd pobl mewn sefyllfa lle nad oeddent yn teimlo eu bod eisiau lleisio eu barn mewn ffordd benodol, ac, fel Prif Weinidog, dyna'r ffordd yr ymdriniais i â Llywodraethu bob amser. Os edrychwn ni ar yr hyn a wnaethom, fel Llywodraeth, cyflawnwyd ein holl addewidion maniffesto gennym yn y blynyddoedd hyd at 2016 ac rydym ni'n parhau i'w cyflawni nawr. Felly, oes, mae tensiynau mewn unrhyw Gabinet bob amser ac yn sicr bydd unrhyw arweinydd plaid yn cydnabod hynny. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad yw'r tensiynau hynny yn rhwystro llywodraethu da, ac nid ydynt wedi rhwystro llywodraethu da, fel y mae pobl Cymru wedi ei weld.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar am y ffordd yr ydych chi wedi ymgysylltu â'r cwestiynau hyd yn hyn y prynhawn yma—yn gwbl wahanol i'r ffordd y gwnaethoch chi ymgysylltu ddydd Mercher diwethaf gyda'r cwestiwn a ofynnais i chi yn y cwestiynau amserol. Ond ceir y mater hwn lle mae dau naratif yn cyd-redeg yn y fan yma. Ceir y naratif yr ydych chi'n ei gydnabod—ac, unwaith eto, roeddwn i'n ddiolchgar eich bod wedi cydnabod yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf—y codwyd materion gyda chi yn ôl ym mis Tachwedd 2014, a'ch bod chi wedi ymdrin â'r materion hynny. Ac yna ceir mater y cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Darren Millar a'r gwahaniaeth yn yr ateb a ddywedodd na fu unrhyw broblemau ar yr adeg honno. Nawr, a allwch chi ddeall sut gall pobl gael eu drysu gan y ddau ateb hynny? A godwyd materion o fwlio yn benodol gyda chi ym mis Hydref/Tachwedd 2014, ac a wnaethoch chi ymdrin â nhw?
Fel yr wyf i wedi dweud eisoes—wel, mi wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais, dim ond i'w wneud yn eglur eto. Dywedais fy mod i'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg. Y cwbl y gallaf i ei ddweud am y sylwadau hynny yw na chyflwynwyd unrhyw gyhuddiad penodol o fwlio i mi erioed o ran y sylwadau hynny, yn ffurfiol nac yn anffurfiol. Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i mi, ac ni ddefnyddiwyd y gair 'bwlio' erioed yn y ffordd honno. Ni allaf fynd y tu hwnt i'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud, unwaith eto, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach.
Mae gen i ddiffyg dealltwriaeth o hyd o ba mor anodd yw hi i ateb y cwestiwn hwn. Rwyf wedi gofyn yn eithaf rhesymol i chi: a gyflwynwyd honiadau o fwlio i chi? Oherwydd mae'n ymddangos mai dyna'r haeriad a wnaed gan ddau ffigwr blaenllaw o'ch Llywodraeth ar y pryd—ac eraill, dylwn ychwanegu. Nid yw'n afresymol i ni ofyn y cwestiynau i chi fel Prif Weinidog, oherwydd mae'r cyhuddiadau yn cael eu cyfeirio at eich swyddfa chi ac, yn wir, eich swyddogaeth fel Prif Weinidog. Ac felly, a allwch chi fod yn gwbl eglur o ran cadarnhau a—ac nid wyf yn arbennig—? Rwy'n sylweddoli bod gennych chi'r nodiadau ysgrifenedig o'ch blaen, ond rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cofio pe byddai honiadau penodol o fwlio wedi eu gwneud a'u cyflwyno iddyn nhw ymdrin â nhw. Felly, y cwbl rwy'n ei wneud yw ceisio cael y mater yn gwbl eglur yn fy meddwl fy hun: a gyflwynwyd honiadau yn ymwneud â bwlio i chi yn ystod y cyfnod amser a nodwyd gan eich cyn uwch-gynghorydd arbennig, a chan eich cyn-Weinidog y Cabinet, Leighton Andrews?
Wel, rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn. Nid oedd unrhyw gyhuddiadau penodol o fwlio. Ni chawsant eu cyflwyno i mi yn ffurfiol nac yn anffurfiol ganddyn nhw. Ni ddefnyddiwyd y gair erioed yn y ffordd honno. Nid wyf yn credu y gallaf i fynd y tu hwnt i'r ateb yr wyf i wedi ei roi.
Iawn. Bydd cynnig yn cael ei roi gerbron y Cynulliad yfory—yr wythnos nesaf, mae'n ddrwg gen i—i gael ymchwiliad i'r mater hwn. Bydd pobl wedi gwrando ar yr atebion yr ydych chi wedi eu rhoi. Rwy'n credu bod y ddau gyfle a roddais i chi yn eithaf syml—atebion 'Do' neu 'Naddo', fel y cyfryw. Fe wnaethoch ddewis peidio â rhoi'r ateb 'Do' neu 'Naddo'. A yw'n wir y byddwch chi'n cefnogi'r cynnig a fydd yn dod gerbron y Cynulliad yr wythnos nesaf i ganiatáu craffu manwl ar y mater penodol hwn? Mae diddordeb cyhoeddus enfawr yn y mater penodol hwn. Ceir straeon a naratifau sy'n gwrthdaro yma. Nid yw'n afresymol i fod eisiau mynd at wraidd y mater, ac os na allwn ni gael at ei wraidd yn y sefydliad penodol hwn, yna beth ar y ddaear yw diben y sefydliad hwn? Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a fyddwch chi'n cefnogi'r cynnig hwnnw a ddaw gerbron y Cynulliad ddydd Mercher nesaf?
Ceir nifer o ffyrdd y gellir ymdrin â'r mater hwn. Rydym ni'n cadw ein safbwynt yn ôl o ran y bleidlais yr wythnos nesaf tan y byddwn ni wedi astudio'n ofalus, wrth gwrs, ehangder cylch gorchwyl y cynnig hwnnw. Ond serch hynny, rwy'n derbyn bod hwn yn fater y bydd angen craffu arno ymhellach. Nid wyf i'n ofni'r craffu hwnnw, a chredaf ei fod yn gwestiwn o ddarganfod beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud y gwaith craffu hwnnw, ac nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei ofni.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn teimlo bod ganddo ddyletswydd o onestrwydd i'r Cynulliad o ran y mater hwn, ond mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i fynd dim pellach yn ei gylch heddiw ac y bydd yn rhaid aros am y ddadl yr wythnos nesaf i weld a allwn ni wneud cynnydd, felly hoffwn i droi at fater arall.
Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai'n hoffi gweld tollau teithwyr awyr yn cael eu datganoli i Gymru fel y gallai eu diddymu ar gyfer teithiau awyr hir, a chroesawaf y Prif Weinidog i rengoedd y torwyr trethi a'r diddymwyr trethi yn y Cynulliad. Mae'n newid o'r holl drethi eraill y mae ef eisiau eu cyflwyno. Ond mae hwn, wrth gwrs, yn fodd o osgoi trethi y mae e'n gefnogol iddo mewn ffordd, gan y bydd yn rhoi mantais fach ond arwyddocaol i feysydd awyr Cymru dros feysydd awyr ar ochr arall y ffin yn Lloegr y bydd tollau teithwyr awyr yn dal i fod yn berthnasol iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio i mi sut y gall gysoni ei farn ar dollau teithwyr awyr â'i safbwyntiau eraill na ddylid defnyddio'r system dreth ar gyfer cystadleuaeth dreth o fewn y Deyrnas Unedig neu, yn wir, â gwledydd eraill?
Oherwydd bod cystadleuaeth o ran trethi eisoes. Mae'r Alban eisoes yn rheoli tollau teithwyr awyr, ac mae elfen o ddatganoli tollau teithwyr awyr yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'n gwneud synnwyr i mi, felly, y gwrthodir yr un manteision i Gymru â'r rheini mewn mannau eraill yn y DU. Rydym ni wedi cyflwyno tystiolaeth i Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud yn eglur nad yw hyn yn unrhyw fygythiad i Fryste; nid ydym ni'n ei gweld hi felly. Mae hyn yn ymwneud â datblygu, yn benodol, teithiau awyr pell o Gaerdydd, ac rydym ni'n credu bod Caerdydd mewn sefyllfa dda iawn i allu gwneud hynny a, thrwy hynny, datblygu meysydd awyr eraill, meysydd awyr rhanbarthol ledled Cymru, sy'n gallu cysylltu â Chaerdydd fel canolfan. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y dystiolaeth honno, rydym ni'n deall, heb gynnig unrhyw dystiolaeth ei hunan ar unrhyw adeg.
Rwy'n gobeithio nad yw'r Prif Weinidog yn fy nghamddeall. Rwyf yn sicr o blaid yr hyn y mae'n ei gynnig ac yn sicr o blaid datganoli trethi i Gymru fel y gallwn eu torri neu eu diddymu ac yna rhoi mantais i ni dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gwneud iawn am yr anfanteision hanesyddol y mae'n rhaid i ni ymladd yn eu herbyn.
Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yn y fan yma yw'r anghysonderau o ran safbwynt y Blaid Lafur yn gyffredinol. Diben y tollau teithwyr awyr, pan gawsant eu cyflwyno, oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac felly nid yw eu diddymu wir yn ymddangos fel pe byddai'n cyd-fynd â diddordebau eraill y Blaid Lafur o ran diogelu'r amgylchedd. Felly, sut mae diddymu'r tollau teithwyr awyr ar deithiau awyr pell—sut gellir ei gysoni â safbwyntiau'r Blaid Lafur ar ynni gwyrdd a'r angen i leihau allyriadau carbon?
Mae'n eithaf syml. Ceir nifer fawr iawn o bobl, nid yn unig o dde Cymru ond o dde-orllewin Lloegr, sy'n teithio i Heathrow ar hyn o bryd i hedfan ar deithiau awyr pell. Pe byddent yn teithio pellter byrrach, byddai eu hôl-troed carbon eu hunain yn llai. Felly, mae'n gwneud synnwyr felly i roi pobl mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw'n gyrru mor bell, lle nad ydyn nhw'n cynyddu eu hôl-troed carbon eu hunain trwy roi'r dewis iddynt o allu hedfan yn nes at gartref.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod hynna'n dwyllresymu pur. Ceir agwedd arall ar hyn hefyd y mae'n werth ei ystyried, oherwydd bydd wedi gweld bod Monsieur Barnier, yn ei ddatganiad diweddaraf ar berthynas fasnachu Prydain gydag Ewrop yn y dyfodol, wedi dweud diwrnod neu ddau yn ôl:
Ni fydd unrhyw bartneriaeth uchelgeisiol heb dir cyffredin o ran cystadleuaeth deg, cymorth gwladwriaethol, dadlwytho treth.
Wel, wrth gwrs, dadlwytho treth yw'r ffordd y mae gwleidyddion Ffrainc yn arbennig yn cyfeirio at gystadleuaeth treth rhwng gwledydd, ac maen nhw'n ei wrthwynebu'n fawr. Tuedd gyfan yr Undeb Ewropeaidd yw cysoni trethi fel nad oes unrhyw bosibilrwydd o wneud yr hyn y mae'r Gwyddelod wedi ei wneud o ran treth gorfforaeth, gan roi mantais sylweddol iddynt, sydd wedi bod o fudd mawr i'w heconomi.
Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn gweld bod gadael yr UE yn rhoi'r rhyddid y gallem ni yng Nghymru ei ddefnyddio, pe byddem yn ei ddefnyddio gyda dychymyg, i gynyddu allbwn economi Cymru a'r sail drethi a rhoi mwy o arian i Lywodraeth Cymru felly i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus da eraill yr ydym ni eu heisiau?
Wel, mae honno'n agwedd naïf oherwydd, fel y mae e'n gwybod yn iawn, os ydym ni eisiau allforio i farchnadoedd a bod y marchnadoedd hynny'n teimlo bod gennym ni gystadleuaeth dreth annheg, byddant yn gorfodi tariffau yn ein herbyn. Felly nid yw fel pe byddai gan y DU law rydd yn hyn i gyd. Mae'r DU yn wlad o faint canolig, ac nid yw mewn sefyllfa i fynnu telerau masnach i wledydd eraill.
Fe'i cyfeiriaf at yr hyn a ddywedodd Aston Martin dim ond yr wythnos diwethaf—y byddai Brexit caled yn achosi iddynt roi'r gorau i weithgynhyrchu ceir. Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau cwmni a fydd yn gyflogwr sylweddol yng Nghymru yn fuan, ac rwy'n tybio y byddwn ni'n gweld mwy o hynny, a dyna pam mae angen i ni ddarganfod ble mae Llywodraeth y DU yn sefyll, ac mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth y DU ac mae angen i hynny fod yn fuan, oherwydd os nad ydym ni mewn sefyllfa, yn fy marn i, lle gall busnesau weld bod ffordd ymlaen erbyn y flwyddyn newydd, yna byddwn ni'n dechrau gweld, mae arna i ofn, cyhoeddiadau a fydd yn negyddol cyn belled ag y mae economi Prydain yn y cwestiwn.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai newydd yng Nghymru yn ystod tymor y pumed Cynulliad? OAQ51311
Mae adeiladu tai yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, sydd wedi ei hadlewyrchu yn ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae ystadegau yn dangos tuedd gynyddol i nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu cwblhau, y byddwn yn parhau i'w gefnogi gyda'n rhaglenni llwyddiannus, gan gynnwys y grant tai cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Gweinidog. Y llynedd, dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi bod cynllunio gwael a'r costau uwch sy'n gysylltiedig ag adeiladu cartrefi yng Nghymru wedi peryglu buddsoddiad. Nawr, mae adeiladwyr tai yn mynegi pryder y gallai diffyg manylion ynghylch y dreth newydd bosibl ar dir datblygu gwag ddarbwyllo datblygwyr ymhellach rhag buddsoddi yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na fydd cynyddu baich treth a rheoleiddio ar adeiladwyr tai yn cynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd y mae Cymru eu hangen yn daer ar hyn o bryd? Diolch.
Wel, os yw'n sôn am y systemau chwistrellu, a gaf i ei atgoffa na wnaeth ei blaid ei hun wrthwynebu cyflwyno'r ddeddfwriaeth systemau chwistrellu? Wrth gwrs, ymddengys ein bod ni bob amser yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n rheoleiddio priodol ac yna, wrth gwrs—[Torri ar draws.] Roedd mewn plaid wahanol ar y pryd—mae'r Aelod yn gywir—felly bydd rhaid i mi ddiwygio'r pwynt a wneuthum. Cefnogodd y rheoliad systemau chwistrellu, rwy'n credu, ar y sail honno.
Ein nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng rheoleiddio priodol ac annog adeiladu tai. Rydym ni wedi ei wneud drwy'r grant tai cymdeithasol. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr nad ydym ni'n colli tai cyngor drwy eu gwerthu, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cadw yn y stoc tai cyhoeddus. Rydym ni wedi sicrhau hefyd, wrth gwrs, bod dewisiadau, trwy Cymorth i Brynu Cymru, ar gael i bobl i brynu tai, na fyddai'r dewis ganddynt i'w wneud fel arall. Felly, mae gennym ni hanes da pan ddaw i dai, ac rydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed.
Byddwn yn dadlau ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi llawer mwy o sylw i anghenion tai, mewn gwirionedd, nag yr ydym ni'n ei roi i alw am dai. Ac anghenion tai yw'r bobl hynny â'r incwm isaf nad ydynt hyd yn oed yn cael eu cydnabod ar y gromlin galw. Mae cynlluniau datblygu lleol yn methu'n anobeithiol â mynd i'r afael ag anghenion tai, ac yn hytrach yn darparu llety uwchraddol drud mewn ardaloedd fel Caerffili, yn ardal ddeheuol fy etholaeth i. Nid ydynt yn darparu tai fforddiadwy. A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod angen gwneud mwy i ddarparu tai fforddiadwy, ac yn enwedig gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu tai fforddiadwy yn ardaloedd gogleddol y cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli, a chydnabod bod CDLl, ar hyn o bryd, yn methu â gwneud hynny?
Mae'n rhaid i CDLl fod yn gyfredol. Yr anhawster o redeg awdurdod lleol yw os oes gan unrhyw awdurdod lleol gynllun datblygu lle nad yw'r cyflenwad tai pum mlynedd yn berthnasol mwyach, maen nhw mewn perygl o ddatblygiadau tai hapfasnachol, ac mae'n bwysig dros ben bod cynllun datblygu ar waith. Ond mae'n gwneud ei bwynt yn dda. Mae'n bwysig dros ben bod cydbwysedd priodol rhwng tai a bod tai ar gael yn ôl yr hyn y gall pobl ei fforddio. Dyna pam, wrth gwrs, y gall awdurdodau lleol gadw'r arian ac adeiladu tai cyngor newydd, yn dilyn diddymiad llwyddiannus y system cymhorthdal cyfrifon refeniw tai, fel y gall awdurdodau lleol adeiladu tai cyngor unwaith eto. Mae gennym ni'r grant tai fforddiadwy, wrth gwrs, sydd â'r nod o helpu pobl i gael llety sy'n fforddiadwy iddyn nhw, ac, wrth gwrs, mae gwneud yn siŵr nad yw pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf—mae Cefnogi Pobl yn enghraifft o hynny. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr—ac rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud hynny—nad yw pobl yn dod yn ddigartref mewn gwirionedd. Ond mae'n iawn y dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol, wrth iddyn nhw ddatblygu eu cynlluniau datblygu, o'r angen i sicrhau'r cydbwysedd cywir o dai; ni allant oll fod yn dai ar un pen y farchnad yn unig—mae hynny'n wir.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch beicwyr yng Nghymru? OAQ51337
Ar gyfer 2017-18, rydym ni wedi dyrannu £592,102 i awdurdodau lleol ddarparu hyfforddiant beicio i oddeutu 15,000 o bobl. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth i adolygu'r safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant beicio dros y misoedd nesaf.
Prif Weinidog, mae hi'n wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos hon, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cymeradwyo'r holl fesurau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Hefyd, yng Nghanol De Cymru, yn anffodus, mae'n rhaid i ni fyfyrio ar ddwy ddamwain angheuol ym mis Hydref, ac rydym ni'n anfon ein cydymdeimlad at deuluoedd y dioddefwyr.
Rwy'n meddwl tybed a yw'n bryd nawr i gael dull llawer mwy integredig ac uchelgeisiol o ymdrin â'r materion hyn, yn debyg i'r hyn a welwn yn yr Iseldiroedd, yr Almaen a Denmarc, lle y gwneir llawer mwy o ddefnydd o barthau 20 mya mewn ardaloedd trefol, yn ogystal â dynodiad mwy eglur o lwybrau beicio oddi ar y ffordd ac ar y ffordd, a signalau traffig blaenoriaethol mewn mannau allweddol. Mae gwir angen i ni gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r mater pwysig hwn.
Rwy'n cytuno. Digwyddodd un o'r digwyddiadau y mae'n cyfeirio atynt nid yn hir iawn cyn i mi deithio ar hyd yr un ffordd, ar yr un pryd, ond ni wnes i ei weld. Mae'n iawn i ddweud bod angen cymryd gofal mawr pan fo beicwyr a cheir yn defnyddio'r un ffordd. Mae'n bwysig bod ceir, wrth gwrs, sydd â'r prif gyfrifoldeb, yn fy marn i, yn ystyried diogelwch beicwyr, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, i bob gyrrwr.
Wedi dweud hynny—ac rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr—rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig os ydym ni'n mynd i annog mwy o bobl i feicio, y bydd bob amser pobl sy'n rhy nerfus i feicio mewn traffig. Bydd rhai nad ydynt, ond bydd eraill yn dweud, 'Wel, hoffwn i feicio mwy, ond nid wyf yn awyddus i gymysgu gyda cheir ar y ffyrdd.' Dyna pam mae'n bwysig, wrth gwrs, darparu lonydd beicio pwrpasol. Sut ydym ni'n gwneud hynny? Mae gennym ni Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, wrth gwrs, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ariannu seilwaith teithio llesol trwy gynlluniau ei hun a thrwy roi arian ar gael i awdurdodau lleol. Mae'r canllawiau dylunio teithio llesol yn darparu safonau eglur y mae'n rhaid i seilwaith eu bodloni, a byddwn yn diweddaru'r canllawiau y gaeaf hwn i ymgorffori arferion gorau sy'n dod i'r amlwg. Rwy'n deall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ar yr alwad ariannu ar y gronfa trafnidiaeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi wedi sôn am y canllawiau dylunio rhagorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghyd â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oherwydd yn amlwg mae wedi cael clod gan Lywodraeth San Steffan fel rhywbeth sy'n addas i'w ddiben ledled Prydain. Ac felly, mae gennym ni'r canllawiau dylunio rhagorol hyn, ond pa waith monitro mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o sylw y mae awdurdodau lleol yn ei roi i'r canllawiau dylunio pan fyddant yn darparu'r cynlluniau teithio llesol y mae angen iddynt eu darparu i fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd gan David Melding o ran brwydro lefelau'r damweiniau sy'n digwydd, yn enwedig ar gyffyrdd?
Wel, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r gyfraith, wrth gwrs. Ond yn rhan o'r gwaith diweddaru canllawiau a fydd yn digwydd, yna yn rhan o'r canllawiau hynny byddwn yn rhoi sylw i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru fel y gellir cryfhau'r canllawiau, os yw'n wir fod problemau mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r Aelod yn hollol gywir i ddweud bod gennym ni'r Ddeddf ar waith, ond mae'n bwysig dros ben bod y Ddeddf yn cael ei hufuddhau, ac mae llawer iawn o gwmpas o hyd yng nghanol llawer o'n dinasoedd a'n trefi i wneud mwy pan ddaw i lonydd beicio yn arbennig, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn rhan o ddiweddaru'r canllawiau.
Ceir materion o ran diogelwch beicwyr, fel y codwyd gan y ddau Aelod diwethaf, ac mae angen i ni gymryd camau i annog pobl i feicio'n ddiogel. Yn anffodus, pan ddaw beicwyr oddi ar y ffordd ac ar y palmant, gallant hefyd ddod yn beryglus i gerddwyr. Yn Peterborough, mae'r cyngor wrthi'n cyflwyno hysbysiadau GGMC, sef gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus, i atal beicwyr peryglus. Mae mil o feicwyr wedi cael dirwy mewn tri mis. Mae gennym ni bwerau i gyflwyno GGMC yng Nghymru hefyd, felly a ddylem ni annog cynghorau Cymru i ddefnyddio hysbysiadau tebyg i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o feicio peryglus?
Wel, mae hyn yn rhywbeth y gwn fod Llywodraeth y DU yn ei ystyried. Mae'r gyfraith gyfredol sy'n ymdrin â beicio peryglus yn gyfraith sy'n dyddio'n ôl i yrru ceffyl a chart yn wyllt yn oes Fictoria, nad yw wedi cael ei diweddaru, er y bu erlyniad yn llwyddiannus, wrth gwrs, ar y sail honno. Mae'n peri pryder i mi. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei bod hi'n bwysig i ni ddeall, yn union fel y rhan fwyaf o yrwyr, bod y rhan fwyaf o feicwyr yn feicwyr cyfrifol, sydd wedi'u goleuo'n dda yn ystod y nos hefyd. Ond rwyf wedi gweld beicwyr ar balmentydd, rwyf wedi gweld pobl yn beicio yn y nos heb oleuadau ac maen nhw'n anweledig, a dweud y gwir. Nid oes unrhyw beth arnynt yn llythrennol a fydd yn eu harddangos i geir. Ond lleiafrif yw'r rhain. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n hynod bwysig yw ein bod ni'n parhau i bwysleisio, ar gyfer diogelwch beicwyr eu hunain, ei bod yn eithriadol o bwysig bod ganddyn nhw oleuadau yn y nos, nad ydyn nhw'n gwisgo dillad cwbl dywyll fel na ellir eu gweld, ar gyfer eu diogelwch eu hunain ac i alluogi ceir i'w gweld nhw, wrth gwrs. Ond rydym ni'n sôn am leiafrif bach o bobl. Ceir dyletswydd ar yrwyr ceir, yn amlwg, i ystyried diogelwch beicwyr, ond mae'n bwysig hefyd bod beicwyr yn cymryd camau i sicrhau bod modd eu gweld.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o wasanaethau ataliol i helpu grwpiau sy'n agored i niwed yng Nghymru? OAQ51316
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi ein hymrwymiad i gymunedau cryf a diogel sy'n diogelu ac yn cynorthwyo pobl agored i niwed. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, wrth gwrs, yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chynorthwyo pobl agored i niwed, ac mae ein cyllideb ddrafft, rwy'n credu, yn dangos yr union ymrwymiad hwnnw.
Wel, diolch. Mae cymorth cysylltiedig â thai a ariennir drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl ac a ddarperir trwy gymdeithasau tai a chyrff trydydd sector wedi bod yn gwella bywydau ac yn arbed symiau sylweddol i ddarparwyr sector statudol—byrddau iechyd, awdurdodau lleol—ers blynyddoedd lawer. Yn eich cytundeb ar y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, cytunwyd gennych y byddech chi'n neilltuo cyllid Cefnogi Pobl am ddwy flynedd—£124 miliwn. Ond datgelodd llythyr at brif weithredwyr awdurdodau lleol ar 24 Hydref y byddai saith awdurdod lleol yn cael hyblygrwydd gwariant 100 y cant, a'r 15 arall yn cael hyblygrwydd gwariant 15 y cant, ar draws Cefnogi Pobl a phedwar grant arall nad ydynt yn gysylltiedig â thai. Sut ydych chi'n ymateb, felly, i bryder bod hyn yn cael gwared ar y neilltuo yn 2018-19 i bob pwrpas, sy'n golygu nad oes sicrwydd bod cyllid Cefnogi Pobl wedi ei ddiogelu ar lefelau 2017-18, a bod y diffyg llinell gyllideb bendant ar gyfer Cefnogi Pobl yn rhoi dim sicrwydd y bydd y cyllid yn cael ei ddiogelu i £124 miliwn yn 2019-20?
Wel, rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol, wrth gwrs, gydymffurfio â'r gyfraith, ac yn Neddf Tai (Cymru) 2014, mae'n eglur bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i atal digartrefedd. Ar y cyfan, maen nhw wedi perfformio'n dda o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth honno. Nid yw cynnydd wedi bod mor gyson ag yr hoffem, ac wrth gwrs byddwn yn parhau i fonitro cynnydd i wneud yn siŵr bod y cynnydd da a wnaed ledled Cymru yn parhau yn y dyfodol, oherwydd wrth gwrs, bod Cefnogi Pobl wedi cael y cyllid drwy'r cytundeb cyllideb sy'n angenrheidiol.
A gaf innau hefyd gefnogi pwysigrwydd gwasanaethau ataliol, ond ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus? Er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, maen nhw wedi bod yn treialu archwiliadau iechyd am ddim wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i'r rhai sydd dros 50 oed, ac o ganlyniad, yn canfod arwyddion cynnar o broblemau iechyd sy'n caniatáu camau gweithredu ataliol, cost-effeithiol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod y math hwn o waith atal cynnar yn hanfodol i ddiwygio ein gwasanaethau iechyd a chyhoeddus ehangach, yn ogystal â sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus?
Ydw, mi ydwyf. Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig ein bod ni'n gallu gwneud hynny. Rwy'n clywed o feinciau'r Ceidwadwyr nad yw hynny'n ddigon. Wel, mae'n rhaid i mi eu hatgoffa eu bod nhw wedi cael saith mlynedd o gyni cyllidol; nid oes ganddyn nhw unrhyw hawl i feirniadu pan ddaw i iechyd, addysg neu dai, nac unrhyw beth arall o ran hynny. Os ydyn nhw'n poeni gymaint am gynyddu cyllid ym mhob un maes, y maen nhw'n honni eu bod yn ei wneud bob blwyddyn, yna efallai y gallent bwyso ar eu cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i ddarparu mwy o arian, neu, yn wir, darparu'r hyn sy'n cyfateb i'r £1.67 biliwn y mae Gogledd Iwerddon wedi ei gael. Nid ydyn nhw mewn unrhyw sefyllfa i gwyno, o ystyried y ffaith eu bod nhw wedi bod mor aneffeithiol o ran lobïo eu cydweithwyr eu hunain yn San Steffan.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ51306
Mae pwyslais ein gwaith rhyngwladol yn eglur: creu Cymru fwy llewyrchus a chynaliadwy trwy fwy o allforio a buddsoddiad gan gynyddu dylanwad a chydnabyddiaeth ryngwladol Cymru.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae'n ymwybodol o fy marn i, wrth gwrs, bod angen polisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd i Gymru erbyn hyn, sy'n cwmpasu popeth o fasnach i ddatblygu rhyngwladol. Rwy'n credu bod llawer o wersi y gallwn ni eu dysgu gan wledydd is-wladwriaethol eraill. Gwn ei fod yn amharod i wneud hynny ar hyn o bryd, oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch ein gwahaniad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ond onid yw'n cytuno, fel cam cyntaf tuag at bolisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd i Gymru, bod angen i ni wybod beth yw enw da ein gwlad yn fyd-eang? Ar hyn o bryd, un o'r diwydiannau brand byd-eang blaenllaw ar gyfer cenhedloedd yw Mynegai Brand Cenhedloedd Anholt-GfK, ac maen nhw'n mesur enw da yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU fel tri endid gwahanol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog geisio cael cynnwys Cymru ar y mynegai brand byd-eang cenhedloedd hwnnw, fel y gallwn gael cam cyntaf, o leiaf, at ganfod ein henw da byd-eang a allai wedyn lywio polisi rhyngwladol ar gyfer y dyfodol yn ein gwlad.
A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, nad ydym ni'n aros i weld beth fydd yn digwydd gyda Brexit o ran datblygu, fel y byddai ef yn ei ddisgrifio, polisi rhyngwladol? Un o'r pethau y gwyddom fod angen i ni ei wneud yw cynyddu ein presenoldeb staff dramor, gan weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn weithio gyda nhw, ond gwn y bydd angen i ni gynyddu ein presenoldeb mewn gwahanol wledydd ledled y byd. Mae'r gwaith hwnnw yn parhau, ac rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad am hynny yn y dyfodol agos iawn.
Mae'n sôn yn benodol am fynegai brandiau cenhedloedd agored Anholt-GfK. Rydym ni wedi cymryd rhan yn yr arolwg hwnnw yn y gorffennol. Mae'n ddrud. Y cwestiwn i ni oedd, 'beth mae'n ei gyflawni i ni?' Nid oedd yn glir beth yr oedd yn ei gyflawni i ni am yr hyn yr oedd yn ei gostio i ni, ond yr hyn a wnaf yw ysgrifennu at yr aelod gyda mwy o fanylion, dim ond i'w hysbysu am y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad hwnnw ac er mwyn iddo ddeall pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw ac a oes cyfle i ystyried ailymuno â'r mynegai ar ryw adeg yn y dyfodol.
Prif Weinidog, rwyf newydd glywed eich ymateb blaenorol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fod yn ystyried penodi cynrychiolwyr masnach i roi hwb i allforion i wledydd y tu allan i'r UE? Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynyddu presenoldeb masnachol a phroffil rhyngwladol Cymru.
Wel, bydd yn rhaid i fasnachu ag unrhyw wlad y gallwn ledled y byd, o fewn rheswm. Ond y gwir yw mai marchnad sengl Ewrop yw'r rhan fwyaf o'n marchnad allforio. Ni ellir disodli honno dros nos. Ni allwn ddechrau, er enghraifft, allforio cynnyrch llaeth i'r Unol Daleithiau yn sydyn, oherwydd y materion sy'n bodoli yno, ac ni ddylem ychwaith geisio anwybyddu ein marchnad fwyaf, sydd ar garreg ein drws. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym yn rhagweithiol o ran datblygu marchnadoedd mewn mannau eraill. Mae'r dwyrain canol yn un enghraifft. Mae'r union ffaith, gan weithio gyda'r maes awyr, ein bod ni wedi sefydlu cysylltiad â Doha o'r flwyddyn nesaf; y ffaith ein bod ni wedi bod yn gweithio i ennill masnach, er enghraifft, yng ngwledydd y dwyrain canol. Mae gennym ni, er enghraifft, sefyllfa lle mae cig oen Cymru yn arwain y farchnad yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, rhywbeth y gwnes i ac, yn wir, y Llywydd weithio amdano er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, nid yw'n wir ein bod ni'n canolbwyntio ar Ewrop yn unig, ond Ewrop yw ein marchnad bwysicaf o bell ffordd, ac nid yw'n realistig meddwl y gellir ei disodli gydag unrhyw beth arall, yn enwedig yn y tymor byr.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ51317
Wel, mae gwella iechyd meddwl y genedl yn un o bum blaenoriaeth a gafodd eu cynnwys yn benodol yn 'Ffyniant i Bawb', ac rydym ni wedi ymrwymo yn ein cyllideb ddrafft i ddarparu £40 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf.
Prif Weinidog, rwy'n wirioneddol falch bod cefnogi ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn elfen o 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf sydd â'r nifer fwyaf o bobl sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder—un o bob chwech o'r boblogaeth—ac mae hynny'n cyrraedd cyfran syfrdanol o un o bob tri yn nhref Aberpennar yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â Valley Steps, sefydliad yr wyf i wedi bod yn ei hyrwyddo ers cael fy ethol yn AC dros Gwm Cynon. Maen nhw'n cynnal treial yn seiliedig ar hyrwyddo dewisiadau ar wahân i feddyginiaeth, ond yn pryderu efallai na fydd cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei barhau. A all Llywodraeth Cymru ymrwymo i barhau'r cyllid ar gyfer y prosiect hwn am gyfnod digonol i'w alluogi i hyrwyddo dewisiadau ar wahân i feddyginiaeth?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Gallaf ddweud fy mod i'n deall bod bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf yn gweithio ar y cyd â rhaglen Valleys Steps, ac mae fy swyddogion mewn trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ynghylch ei waith parhaus gyda'r rhaglen. Rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ateb yn fuan.
Prif Weinidog, roeddwn i'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a'r Ysgrifennydd dros addysg wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed mewn ysgolion. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o'r budd hwn mewn mannau fel Aberdâr.
Ie. Wrth gwrs, ceir cwnselydd ysgol ym mhob ysgol uwchradd, ond mae amharodrwydd ymhlith rhai i fynd i weld y cwnselydd hwnnw rhag ofn y bydd pobl eraill yn dod i wybod. Credaf fod hwnnw'n fater sy'n—. Wel, rwy'n ymwybodol bod honno'n broblem i rai pobl yn eu harddegau. Felly, mae gallu ymestyn cyrhaeddiad CAMHS y tu hwnt i'w feysydd traddodiadol i ystyried gwaith ataliol, rwy'n credu, yn eithriadol o bwysig. O ystyried y pwysau sydd ar bobl yn eu harddegau—. Pan oeddwn i yn fy arddegau, nid oedd yr hyn a oedd yn digwydd yn yr ysgol yn eich dilyn chi adref gyda'r nos; mae hynny'n digwydd nawr—trwy gyfryngau cymdeithasol. Rwyf wedi ei weld â'm llygaid fy hun gyda fy mhlant fy hun, y math o bethau sydd allan yno ar gyfryngau cymdeithasol. Dyna pam, wrth gwrs, mae hi mor bwysig bod gennym ni system nad oedd yn bodoli pan oeddwn i yn yr ysgol, ond sydd ei hangen nawr i lawer o bobl yn eu harddegau, i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, yn yr ysgol a'r tu allan iddi.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OAQ51338
Mae pum cynllun datblygu lleol wedi’u mabwysiadu yn y gogledd, ac mae disgwyl i'r ddau awdurdod arall—sef Wrecsam a sir y Fflint—fabwysiadu eu cynlluniau nhw erbyn y flwyddyn 2020.
Wel, mae hi yn bum mlynedd erbyn hyn ers i'r Arolygiaeth Gynllunio fynnu bod Wrecsam, neu wrthod cynnig cynllun datblygu lleol Wrecsam, a hefyd ddweud wrth sir Ddinbych a Chonwy nad oes digon o dai yn eu cynlluniau datblygu nhw. Roedd y penderfyniad hwnnw, wrth gwrs, wedi'i seilio ar ragolygon poblogaeth gan y Llywodraeth, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r cyfrifiad wedi dangos i ni fod y rhagolygon hynny yn wallus ac nad oedd angen cynyddu y nifer o dai yn y cynlluniau datblygu hynny. Yn wir, mae'n debyg bod cynllun datblygu lleol gwreiddiol Wrecsam yn reit agos ati o safbwynt y niferoedd, ond mae'r gost o orfod ailgynnal cynllun datblygu lleol, yn Wrecsam yn unig, wedi bod dros £200,000. Felly, pwy, yn eich barn chi, a ddylai fod yn digolledu cyngor Wrecsam am y broses yna ac am eu gorfodi nhw i fynd yn ôl a rhedeg proses a oedd yn amlwg yn ddiangen, a oedd yn wallus, ac a oedd yn wastraff amser llwyr?
Wel, mae yna broses, yn ôl yn gyfraith, sydd yn rhaid ei dilyn. Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, os cofiaf i'n iawn, ei bod hi'n bosib i awdurdodau lleol ddod â'u ffigyrau eu hunain ymlaen ynglŷn â thai os maen nhw'n meddwl bod y targed maen nhw wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru yn anghywir. Roedd hynny'n wir ar un adeg; rwy'n dal i gredu ei fod e'n wir nawr. Ond, wrth gwrs, nawr mae Wrecsam mewn sefyllfa lle, os deallaf i'n iawn, maen nhw'n targedu gwanwyn 2019 er mwyn mabwysiadu'r cynllun ei hun. Mae e'n hollbwysig, wrth gwrs, fod cynlluniau gan awdurdodau lleol.
Mae Llyr yn gwbl gywir i godi hyn, oherwydd mae gennym ni broblemau yn Aberconwy erbyn hyn o ganlyniad i bolisi eich Llywodraeth ynghylch nodyn cyngor technegol 1, lle mae swyddogion cynllunio yn dehongli bod gan y TAN 1 hwnnw bwysoliadau llawer cryfach nag unrhyw un o'r nodiadau cyngor technegol eraill. Mae gennym ni geisiadau sy'n cael eu cyflwyno nawr ar dir nad yw hyd yn oed yn ein CDLl, sy'n gwneud y ffaith fod Cyngor Conwy wedi adneuo ei CDLl gyda Llywodraeth Cymru yn destun sbort. Hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi edrych ar hyn? Oherwydd mae wir yn effeithio ar yr ychydig safleoedd maes glas sydd gennym yn weddill, ac a dweud y gwir, mae datblygwyr yn ceisio bancio tir erbyn hyn, sy'n anfanteisiol i gymunedau lleol. Nid yw'r gwasanaethau iechyd gennym ni. Nid yw'r cyfleusterau addysg gennym ni, ac nid oes lleoedd yn yr ysgolion. Mae'r holl beth yn llanast, ac rwy'n gofyn i chi, fel eich cyfrifoldeb chi fel Prif Weinidog, i ystyried hyn o ddifrif ac efallai rhoi rhai ffyrdd ymlaen i'r Siambr hon eich bod chi'n mynd i newid pethau o ran y pwysoliadau a roddwyd i TAN 1.
Wel, mae TAN 1 yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, materion i'r cyngor yw'r rhain i raddau helaeth. Os oes ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno ar dir lle nad yw'r tir hwnnw wedi ei ddyrannu ar gyfer y defnydd penodol hwnnw yn y CDLl, nid yw'r cyngor o dan unrhyw rwymedigaeth i roi caniatâd cynllunio. Mae'n rhaid i'r cynghorau gymryd cyfrifoldeb eu hunain am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, ond, fodd bynnag, fe wnaeth hi grybwyll TAN 1, ac mae'r Gweinidog yn fy hysbysu bod TAN 1 yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.
9. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Benfro? OAQ51304
Wel, er enghraifft, mae dros 1,400 o bobl yn sir Benfro wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy am wella proffidioldeb, cystadleurwydd a pherfformiad amgylcheddol eu busnesau. Wrth gwrs, rydym ni'n dal i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau o gwbl ynglŷn â gallu ffermwyr sir Benfro i werthu yn y farchnad sengl.
Prif Weinidog, un ffordd i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yn sir Benfro yw peidio â chyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru. O ystyried pwysigrwydd y mater hwn, a’r effaith negyddol y gall polisi fel hwn ei gael ar y diwydiant amaethyddol, a allwch chi roi diweddariad inni ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau yng Nghymru? A allwch chi gadarnhau y bydd datganiad ynglŷn â’r mater yma yn cael ei gyflwyno yn y Siambr hon, ac, felly, pryd y bydd hynny?
Roedd yna lawer o ymatebion i’r ymgynghoriad—dros 250. Mae yna lot fawr o—. Maen nhw’n fwy manwl hefyd na beth a fyddai’n arferol mewn sefyllfa fel hon. Bydd crynodeb o’r ymatebion hynny yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae adolygiad o’r NVZ yn rhywbeth sydd yn statudol o dan y gyfarwyddeb nitrates, ac mae’n rhaid, wrth gwrs, i hyn gael ei ystyried yn fwy eang ynglŷn â llygredd hefyd. Felly, creu’r cydbwysedd sy’n hollbwysig fan hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod y penderfyniad sy’n cael ei wneud yn sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw yn digwydd, sef y cydbwysedd rhwng lleihau llygredd, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad oes unrhyw newidiadau yn ormodol ynglŷn â ffermio.
Ac, yn olaf, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Fe ddywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet chi dros gyllid a llywodraeth leol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe eich bod chi’n agos at gytuno fframwaith ar gyfer amaeth wrth fynd allan o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd gan ffermwyr yn sir Benfro a thu hwnt ddiddordeb mawr mewn deall beth yw’r fframwaith hwnnw, a beth yw’r cytundeb hwnnw. Pryd y clywn ni’r manylion hyn, os gwelwch yn dda, yn hytrach na jest rhyw sibrydion mewn pwyllgor?
Unwaith y bydd y fframwaith wedi cael ei gytuno, fe ddywedwn ni, wrth gwrs, wrth y Cynulliad. Ond nid yw’n gyfrinachol beth yw ein sefyllfa ni fel Llywodraeth, sef: yn gyntaf, dylai pwerau ddod i'r lle y dylen nhw, sef y Cynulliad hwn, yn ail, sicrhau bod dim byd yn newid heb fod yna gytundeb i newid pethau, ac, yn drydydd, wrth gwrs, sicrhau bod yr un faint o arian ar gael i dalu taliadau yn y pen draw ag sydd yno yn awr, a bod y taliadau hynny yn cael eu talu i Lywodraeth Cymru yn yr un ffordd â nawr. Ni fyddai’n iawn pe buasai’r taliadau hynny yn dod drwy fformiwla Barnett. Byddai hwnnw’n doriad enfawr i’r gyllideb. Dyna’r safbwynt yr ydym ni wedi ei chymryd, ac, wrth gwrs, dyna’r safbwynt sydd wedi ein harwain ni yn ystod y trafodaethau hyn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn gwneud datganiad llafar ar ddyfodol Cadw yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Galwaf am un datganiad ar nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref sydd ar y sbectrwm awtistiaeth neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol eraill. Efallai y byddwch chi'n ymwybodol bod BBC Wales wedi adrodd, ddydd Gwener diwethaf, ar waith ymchwil yn dangos bod nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref wedi dyblu yn y pedair blynedd flaenorol, a chredir fod llawer o'r disgyblion hynny ar y sbectrwm awtistig. Mae hyn yn dilyn datgeliadau blaenorol bod nifer y disgyblion yn y categorïau Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol ar waharddiadau tymor byr wedi dyblu, er ei fod yn gostwng ymhlith y boblogaeth ysgol yn gyffredinol.
Rydym ni wedi clywed pryder yn y cyd-destun hwn gan Gomisiynydd Plant Cymru, a fynegodd bryder bod rhai rhieni wedi dweud wrthi eu bod wedi cael eu hannog i addysgu yn y cartref oherwydd y gallai eu plant fod yn effeithio ar ddata perfformiad yr ysgol neu'r awdurdod lleol. Clywsom gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru bod teuluoedd â phlant awtistig yn cyflwyno mwy o apeliadau ynghylch y diffyg cymorth yr oedd eu plentyn yn ei gael yn yr ysgol na'r rheini ag anghenion dysgu eraill. A chlywsom gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru bod llawer o rieni yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle nad oes ganddynt unrhyw ddewis, a'r unig beth y gallant ei wneud i helpu eu plant yw eu haddysgu yn y cartref, er efallai nad ydynt yn teimlo eu bod yn gwbl gymwys i wneud hynny nac eisiau gwneud hynny.
Nawr, gwn eich bod yn mynd i ddweud wrthyf, neu efallai eich bod chi'n mynd i ddweud wrthyf, y bydd y Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru), a fydd yn cael ei drafod yn ddiweddarach, yn rhoi sylw i hyn ac yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr, ond mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru wedi galw am hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion, gan gydnabod ei bod yn debygol mai'r un bobl yn union mewn ysgolion sy'n cael pethau mor anghywir gyda'r plant hyn ar hyn o bryd fydd y bobl a fydd yn cael dylanwad mawr ar eu cynlluniau datblygu unigol yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio felly y byddwch yn dod o hyd i amser i Lywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar y darn pwysig iawn hwn o waith gan BBC Wales.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mewn gwirionedd, gwelais y rhaglen, a oedd yn ddiddorol iawn, ac rwyf wedi cael cyfle i siarad â nifer o grwpiau fy hun am y peth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn y Siambr, hefyd yn gwrando ar eich sylwadau chi. Byddaf yn achub ar y cyfle, wrth gwrs, i ddweud y bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol, sy'n uchelgeisiol iawn, os caiff ei basio y prynhawn yma, yn ailwampio'n llwyr y system ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a bydd yn cyflwyno dyletswyddau i sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol mewn ysgolion. Yn amlwg, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i greu system addysg gynhwysol sy'n gweithio ar gyfer pob un o'n dysgwyr, ac rydym bob amser yn agored iawn i dystiolaeth ychwanegol neu sylwebaeth sy'n dangos bod angen edrych ar ryw ran o'r system eto. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi clywed eich sylwadau ac rwy'n siŵr y bydd hi'n eu hystyried, ac os byddwn yn nodi unrhyw dueddiadau neu batrymau o'r fath, neu os oes tystiolaeth ar gael, rwy'n siŵr bydd hi'n cymryd hynny i ystyriaeth maes o law.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol ar y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Roedd hwnnw, wrth gwrs, i fod yn ddatganiad llafar cynharach ond, am resymau clir a phriodol iawn, ni allai hynny ddigwydd. Ond mae'r cynllun gweithredu'n bwysig iawn, ac mae goblygiadau gwirioneddol i gyllideb y Cynulliad ac i ragolygon economaidd y cymunedau yn y Cymoedd eu hunain. Gwn fod gan lawer o aelodau'r cyhoedd a llawer o'r Aelodau yma, gan gynnwys fi fy hun, bryderon mawr ynghylch y cynlluniau gweithredu. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i ddadl neu ddatganiad llafar cyn gynted ag y bo modd yn amser y Llywodraeth ar y cynllun gweithredu.
Yr ydym ni i gyd yn ymwybodol o'r amgylchiadau trist iawn, sy'n dal i effeithio ar fusnes y Llywodraeth, a gwn fod yr Aelod, fel y mae'r holl Aelodau, yn llawn cydymdeimlad wrth i ni geisio ymdopi â hynny. Yn amlwg, mae cyfleoedd i holi'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am frîff y Cymoedd. Rwy'n deall pwynt yr Aelod, ond credaf y bydd cyfleoedd yn y cwestiynau ac ar adegau eraill, ac, mewn gwirionedd, yn ystod y ddadl ar y gyllideb, i ymateb i unrhyw un o'r pryderon. Wrth gwrs, gall yr Aelod bob amser gyflwyno'r pryderon hynny yn ysgrifenedig os yw'n dal i bryderu.
Arweinydd y Tŷ, yr wythnos diwethaf cadeiriais gyfarfod lle'r oedd Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau yn bresennol, grŵp a sefydlwyd yn y Barri. Yn y cyfarfod hwnnw hefyd roedd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Diane McCrea, a'i huwch swyddogion. Yn y cyfarfod, dywedodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn bwriadu gwneud penderfyniad drafft i roi trwydded amgylcheddol gydag amodau ar gyfer y llosgydd biomas Rhif 2 ynghanol y Barri. Cafwyd llawer o wrthwynebiad iddo gan y gymuned, cynrychiolwyr etholedig trawsbleidiol, gan gynnwys fi fy hun, a chyrff statudol. Rwyf wedi galw am gyfnod ymgynghori estynedig o wyth wythnos o leiaf ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar y penderfyniad drafft hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad ar benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn?
Diolch ichi am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw, Jane Hutt. Rydych chi bob amser yn cymryd pryderon eich etholaeth ym Mro Morgannwg o ddifrif, a gwelaf nad ydych chi wedi newid mewn unrhyw ffordd o ran y penderfyniad pwysig iawn hwn. Ni fyddwn, yn amlwg, yn gwneud sylw manwl ar y cais oherwydd gallai fod yn rhywbeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gorfod gwneud penderfyniad arno o ran apêl yn y pen draw. Ond rwyf ar ddeall bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cyhoeddiad, fel y gwnaethoch ddweud, ei fod yn bwriadu cyflwyno trwydded amgylcheddol. Cyn iddo gyflwyno unrhyw drwydded o'r fath mae'n rhaid iddo ymgynghori ar y ddogfen benderfyniad ddrafft ac ar amodau'r drwydded ddrafft, a fyddai'n esbonio'r rhesymeg dros y penderfyniad.
Mae'r ymgynghoriad yn para am o leiaf pedair wythnos o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen, ac mae hwn yn gyfle arall i bobl gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd nad ydynt wedi'i hystyried o'r blaen ac i roi sylwadau pellach ar y penderfyniad drafft. Credaf fod hynny'n gyfle i'r etholwyr ac i chi eich hun wneud y sylwadau pellach hynny, os oes angen.
Ymhellach at hynny, mae'r Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Siambr yn gwrando, ac rwy'n siŵr ei bod yn ystyried eich sylwadau.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd brawychus mewn tipio anghyfreithlon mewn rhannau o'r de-ddwyrain? Y llynedd, roedd cynnydd o 6 y cant mewn tipio anghyfreithlon ar draws Cymru—fodd bynnag, 15 y cant oedd y cynnydd ym Merthyr Tudful, ac yng Nghasnewydd roedd 3,258 o achosion o dipio anghyfreithlon, cynnydd o 44 y cant. Mae'r nifer yn syfrdanol, Gweinidog, ac mae'r ffaith bod yr achosion o dipio asbestos ar eu huchaf ers 10 mlynedd yn destun pryder, gyda Merthyr Tudful â'r gyfradd uchaf yng Nghymru. Mae hynny'n berygl gwirioneddol i iechyd. A gaf i ofyn am ddatganiad ar frys ar y mater hwn, sydd â goblygiadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau pwysig iawn hynny. Credaf fod tipio anghyfreithlon yn fater pwysig iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae cymdeithasau llywodraeth leol ac, yn wir, Gweinidogion dros yr Amgylchedd wedi'i drafod dros beth amser. Ceir arferion da iawn ar draws Cymru, a chredaf mai'r ffordd ymlaen yw annog cydweithwyr ym maes Llywodraeth Leol i rannu'r arferion da hynny a'u lledaenu, fel y gall rhai cynghorau sy'n cael problemau ddysgu o'r arferion da hynny a'u cymryd i ystyriaeth wrth lunio eu polisïau eu hunain.
A yw'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ymchwil a wnaed gan Goleg Prifysgol Llundain a gyhoeddwyd yn y BMJ yr wythnos ddiwethaf ar y cysylltiad rhwng marwolaethau diangen a pholisïau cyni? Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwnnw yn Lloegr, ond roedd yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwariant a chyni a marwolaethau cynnar. Canfuwyd, yn Lloegr, fod marwolaethau cynnar wedi bod yn gostwng hyd at 2010, ond ers hynny mae'r sefyllfa wedi'i gwrthdroi'n llwyr. Ar gyfer pob gostyngiad o £10 y pen i wariant ar ofal cymdeithasol, dangoswyd bod pum marwolaeth ychwanegol mewn cartrefi gofal fesul 100,000 o'r boblogaeth yn Lloegr. Gyda'i gilydd, maen nhw'n amcangyfrif mai cost polisïau cynilo yw 120,000 o farwolaethau cynnar. Felly, mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae cyni'n creu argyfwng iechyd cyhoeddus ar sail y ffigurau hyn ar gyfer Lloegr yn unig.
Credaf y byddai'n ddadlennol i'r Cynulliad gael dehongliad tebyg yng Nghymru—dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Ysgrifennydd y Cabinet roi eu dehongliad nhw o'r hyn y mae'r ffigurau hyn yn ei olygu yng nghyd-destun Cymru, a hefyd y goblygiadau i'n penderfyniadau llunio polisi yma yng Nghymru.
Wel, mae Simon Thomas yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Yn ein gwaith etholaeth ni ein hunain rwyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi gweld bod mwy o bobl yn wynebu anawsterau difrifol oherwydd cyni, a'r budd-daliadau a'r polisïau eraill cysylltiedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Yn benodol, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn am yr oedi wrth dalu credyd cynhwysol, a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu pobl i fwydo eu hunain a chadw'n gynnes ac ati. Yn wir, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn, fel y mae fy nghyd-aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, hefyd, rwy'n siŵr, sy'n gwrando ar eich pwyntiau chi. Credaf y byddai'n syniad gwych gweld beth yw'r union sefyllfa yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio ei ben wrth i mi ddweud hyn, felly rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu ymchwilio i hynny ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad maes o law.
A gaf i achub ar y cyfle ffurfiol cyntaf hwn i longyfarch Arweinydd y Tŷ yn ei swyddogaeth newydd a dymuno'n dda iddi yn ei gwaith? A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyflwyno datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater pwysig o asbestos mewn adeiladau ysgolion? Gwyddom o sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau a hefyd o ohebiaeth berthnasol fod Llywodraeth Cymru erbyn hyn wedi ffurfio gweithgor ar y mater ac rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno y byddai o fudd i bawb glywed mwy am y gwaith hwn fel rhan o fusnes y Cyfarfod Llawn.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar asbestos, yr wyf yn ei gadeirio, hefyd yn awyddus i sicrhau bod gwaith y gweithgor yn seiliedig ar yr egwyddorion o bartneriaeth gymdeithasol sy'n bodoli yng ngwaith y Llywodraeth hon. Felly a gaf i ofyn hefyd fod y datganiad yn ymdrin ag aelodaeth y gweithgor, y cylch gorchwyl a'r rhaglen waith yn y dyfodol?
Mae'r Aelod wedi ymddiddori’n frwd yn hyn—a diolch yn fawr iawn am eich sylwadau caredig ar y dechrau. Fy nealltwriaeth i yw bod y gweithgor ar reoli asbestos mewn ysgolion wedi penderfynu y dylid cynnal ymgynghoriad yn gynnar yn 2018 ar ganllawiau diwygiedig ar reoli asbestos mewn ysgolion yng Nghymru, ac ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori bydd yr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr undebau, yn ymgynnull mewn cyfarfod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gallu cymryd rhan yn hynny. Ac rwy'n siŵr, pan fydd hynny wedi digwydd, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y sefyllfa pan fydd y gweithgor a'r ymgynghoriad wedi cael cyfle i symud ymlaen.
Arweinydd y Siambr, hoffwn eich llongyfarch hefyd, ar y dechrau.
A fyddai modd cael datganiad am Ddiwrnod Rhyngwladol Dynion a beth wnaeth y Llywodraeth yng Nghymru i'w gydnabod.
Yr ail bwynt yw'r farn gyfreithiol a roddir i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd yn y Western Mail heddiw, a ganfu fod gwahaniaethu yn erbyn dynion ym maes cam-drin domestig yng Nghymru. Tybed sut y mae hyn yn mynd i lywio polisi'r Llywodraeth, a sut y byddech yn cydnabod y gwahaniaethu. Er enghraifft, caiff dynion eu trin yn awtomatig fel troseddwyr wrth ddatgan eu bod yn ddioddefwyr. Ystyrir bod hyn yn wahaniaethol ac yn anghyfreithlon erbyn hyn, ac mae hynny'n digwydd yng Nghaerdydd. Gallwn enwi sefydliadau yma, ond wnaf hynny nawr. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynghylch y gwahaniaethu hwn y mae dynion yn ei wynebu ym maes cam-drin domestig? Mae tri deg pump y cant o'r holl ddioddefwyr yn ddynion y dyddiau hyn.
Diolch ichi am y sylwadau caredig hynny ar y dechrau. Yn wir, rwyf i wedi cymryd cyfrifoldeb dros frîff cydraddoldebau. Bydd yr Aelodau yn deall bod nifer o faterion wedi digwydd yn ddiweddar sy'n golygu nad wyf wedi llwyddo i fynd i'r afael â hynny mor gyflym â phosibl. Cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud hynny, byddaf wrth gwrs yn ateb cwestiynau ar lawr y Tŷ, a byddaf yn cyflwyno fy nealltwriaeth fy hun o rai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros ddysgu gydol oes ar ddathlu llwyddiant y sector colegau yng Nghymru? Heb os, bydd pawb yn y Siambr yn dymuno estyn eu llongyfarchiadau i fyfyrwyr a staff Coleg Cambria, a enillodd wobrau WorldSkills UK yr wythnos ddiwethaf. Mae nifer ohonyn nhw hefyd wedi cynrychioli'r DU dramor yn Abu Dhabi yn y rowndiau byd terfynol y mis diwethaf—cafodd Ethan Davies a Joe Massey lwyddiant gan ennill gwobrau yno. Mae'r Coleg hwn nid yn unig wedi llwyddo i sicrhau 10 medal a chael yr ail sgôr uchaf o ran darparwyr yn y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol, ond hefyd cafodd 13 o'i ddysgwyr eu dewis yn y garfan sy'n cystadlu yn WorldSkills 2019 yn Kazan yn Rwsia. Hefyd, llwyddodd Rona Griffiths, un o aelodau staff y coleg, i guro 77 o gystadleuwyr eraill i ennill gwobr Arwr WorldSkills UK ar gyfer 2017. Mae hyn yn llwyddiant aruthrol, ond nid yw pawb yn ymwybodol o hynny, a dylem ni roi sylw i'r math hwn o lwyddiant a'i ddathlu mewn modd mwy amlwg yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mewn mannau eraill. Felly, byddai'n dda cael crynodeb, os mynnwch chi, o leiaf yn flynyddol, o'r math hwn o lwyddiant yn y sector addysg bellach yng Nghymru er mwyn i ni allu rhoi sylw mwy amlwg iddynt fel Cynulliad.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau da iawn. Bydd yn gwybod fy mod i bob amser yn awyddus iawn i ddathlu llwyddiant Cymru yn fy swydd flaenorol, ac rwyf ychydig yn rhwystredig nad ydym yn gallu tynnu sylw haeddiannol gan y cyfryngau ac ati at y llwyddiant anhygoel mewn sioeau sgiliau ac o ran perfformiad sgiliau. Mae'r Gweinidog newydd yn eistedd ac yn gwrando arnoch chi; rwy'n siŵr y bydd hi yr un mor frwdfrydig â minnau i sicrhau bod y dathlu'n digwydd ar y lefel gywir. Mae'r coleg yr ydych yn sôn amdano wedi gwneud yn dda iawn. Mae colegau eraill ledled Cymru hefyd wedi gwneud yn dda iawn. Yn fy swydd flaenorol, cefais y fraint a'r pleser o gwrdd â llawer o gystadleuwyr mewn cystadlaethau sgiliau ac ni chewch gwrdd â chriw o fenywod a dynion ifanc gwell na nhw yn unrhyw le. Gadewais y rhan honno o fy hen bortffolio gan deimlo ychydig yn drist oherwydd ei bod yn bleser ac yn fraint cael bod yn dyst i rai o'r cystadlaethau sgiliau ar waith, ac, yn wir, gael gweld y gwaith gwych a wneir mewn colegau addysg bellach. Felly, mae'r Gweinidog newydd wedi gwrando ar eich sylwadau. Rwy'n siŵr y byddai eisiau parhau gyda'r digwyddiad dathlu, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd hyn maes o law.
Ddydd Gwener, ymwelais â chanolfan ymchwil a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe. Gwn fod arweinydd y tŷ yn gyfarwydd iawn â hi. Yn anffodus, symudodd o Brifysgol Caerdydd, ond mae'n amlwg yn gwneud yn dda iawn ym Mhrifysgol Abertawe. Dysgais eu bod yn gwneud gwaith ymchwil arloesol yno mewn gwirionedd, a'r unig le yn y byd sy'n gwneud hynny—ymchwilio i afreoleidd-dra cynnar y galon a ddioddefir gan blant, ac edrych yn gyffredinol ar broblem enfawr clefyd y galon yn y boblogaeth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, pryd gawn ni ddatganiad, neu ddadl—rhywbeth i gatalogio'r llwyddiannau gwyddonol eithriadol yng Nghymru, ac yn enwedig yr hyn sy'n digwydd yn ysgol feddygol Abertawe?
Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Mae'n gyfle imi ddweud, wrth gwrs, fy mod yn falch iawn bod y ganolfan yn gwneud cystal ym Mhrifysgol Abertawe, sydd, Llywydd, yng nghanol fy etholaeth i, rhag ofn nad yw Aelodau yn ymwybodol o hynny. Mewn gwirionedd, mae gwaith ymchwil yng Nghymru yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl, a dylem ymfalchïo yn y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud yn y maes hwn gan Sefydliad Prydeinig y Galon a chan y tîm ymchwil cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Credaf fod cynnal partneriaethau o'r fath a'n buddsoddiad i gyflawni gwaith ymchwil mewn lleoliadau iechyd yn ffactorau pwysig iawn er mwyn i Gymru allu cystadlu'n dda yn hyn o beth. Unwaith eto, yn fy swydd flaenorol, cefais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd nifer o drafodaethau am sut y gallem gael y canlyniadau gorau, o ganfyddiadau'r ymchwil, ar gyfer triniaethau gwirioneddol ac ar gyfer datblygiadau yng Nghymru mewn meysydd penodol, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd y galon. Ceir cyfres gyfan o arbenigeddau sy'n codi yn sgil y gwaith ymchwil arloesol a welsoch, a byddwn yn annog Aelodau eraill i fynd a chael golwg arno os nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i wneud hynny, gan ei fod yn hynod o drawiadol. Ar ôl i bortffolios newydd y Gweinidogion ymsefydlu, credaf y bydd cyfle i gael rhyw fath o ddadl neu ddatganiad ar lawr y tŷ hwn ynghylch gwaith ymchwil a'i ryng-gysylltiad ag iechyd. A byddaf yn siŵr o sicrhau y bydd y ddau Weinidog yn symud y gwaith ymchwil hwn yn ei flaen ac yn ymweld â'r cyfleuster cyn gynted â phosibl.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet—arweinydd y tŷ.
Ac felly rydym ni'n mynd ymlaen i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ddyfodol Cadw. Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser arbennig i mi gael gwneud fy natganiad cyntaf—gobeithio nid yr olaf—fel Gweinidog, ar ddyfodol Cadw.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr argymhellion yn adroddiad y grŵp llywio, 'Cymru Hanesyddol—Ar drywydd Llwyddiant, Cadernid a Chynaliadwyedd ar gyfer Treftadaeth Cymru'. Roedd yr adroddiad yma yn cynnwys argymhelliad penodol ynglŷn â dyfodol trefniadau llywodraethiant Cadw, ac y dylid paratoi achos busnes i nodi’r opsiynau gorau. Fe ddaeth yr achos busnes i law ddiwedd mis Medi, fe’i cyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w gydweithwyr ym mis Hydref, ac rwyf innau'n hapus iawn i weithredu penderfyniad y Cabinet, ac i dderbyn yr argymhelliad craidd y dylai Cadw barhau yn rhan o’r Llywodraeth.
Yn yr achos busnes, fe gafwyd ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp llywio y gallai Cadw ddod yn gorff elusennol neu’n asiantaeth weithredol y tu allan i Lywodraeth Cymru. Wedi ystyried hyn yn ofalus, a mesur yr achos busnes gerbron y sefyllfa bresennol, a dadansoddi'n fanwl swyddogaethau Cadw a’r gwahanol ffactorau sy’n sbarduno newid, fe welwyd bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn cadw Cadw yn rhan o’r Llywodraeth yn weddol gytbwys. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd o heriau ariannol sydd gyda ni—o ddiffygion amser deddfwriaeth, ac o adnoddau dynol yn gysylltiedig â chreu sefydliad newydd—roedd yn rhaid i ni edrych hefyd ar y ffaith bod Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu lefelau incwm o fewn y Llywodraeth, a chyfrannu tuag at ddeddfwriaeth flaengar a blaenoriaethau polisi. Un mater allweddol, wrth gwrs, yw'r costau ychwanegol o greu sefydliad ar wahân. Hefyd, drwy barhau o fewn y Llywodraeth, fe fyddai Cadw wedi gallu gwneud mwy o gyfraniad at nod canolog ein polisi creiddiol, 'Ffyniant i Bawb'.
Ac, felly, er bod yna fanteision posib wedi cael eu hadnabod o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich, rwyf am bwysleisio pa mor eithriadol o dda mae Cadw wedi perfformio, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, o fewn y Llywodraeth—y perfformiad masnachol yn cael ei ysgogi gan welliannau mawr i brofiad ymwelwyr. Rwyf wedi cael profiad arbennig ohonynt, wrth gwrs, yn enwedig yn y gogledd, yn y gwaith sydd wedi'i wneud yn y cestyll. Y flwyddyn 2016-17 oedd y flwyddyn mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Cadw, gyda £6.6 miliwn o incwm. Yn dilyn hyn, mae'r arwyddion cynnar am ffigurau ymwelwyr y flwyddyn yma yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn ar gyfer blwyddyn lwyddiannus arall. Mae Cadw wedi cynnal sawl ymgyrch farchnata lwyddiannus, wedi ennill gwobrau sy’n annog ymwelwyr i fynd i safleoedd hanesyddol o dan ofal Llywodraeth Cymru, ac mae Cadw wedi cyflawni hyn hefyd ac wedi trawsnewid diwylliant ymgysylltu â'r cyhoedd. Wrth wneud hynny, mae wedi ein helpu ni i sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar gyfer pobl Cymru.
Felly, wrth ystyried yr achos yma o blaid cadw'r sefydliad Cadw yn rhan o’r Llywodraeth, fe argymhellwyd nifer o welliannau busnes a fydd yn ffordd bwysig o fynd i’r afael â'r materion a nodwyd gan adolygiadau blaenorol, o ran staff a rhanddeiliaid. Felly, bydd y rhain yn ei gwneud yn bosibl i Cadw weithredu’n well gan ymateb i’r potensial a godwyd mewn adolygiadau diweddar, gan gynnwys yr angen i gynhyrchu mwy o incwm eto a gweithio’n fwy effeithiol o fewn gofynion llywodraethu yn y sector cyhoeddus.
Rwyf am weld llwyddiant Cadw yn parhau, ac mae'r gwelliannau hyn yn mynd i roi mwy o eglurder i bawb trwy sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol yn parhau gyda ni fel Gweinidogion Cymru a'r gwaith o ddydd i ddydd gyda swyddogion. Mae hefyd yn caniatáu gwell cynllunio a hyblygrwydd o ran recriwtio o fewn cyllidebau. Bydd Cadw hefyd yn parhau i fod yn aelod gweithgar yn ei hawl ei hun yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth. Mae'r bartneriaeth yma yn cynnal nifer o weithgareddau cydweithredol sy’n caniatáu i’r sefydliadau treftadaeth cenedlaethol rannu arbenigedd a dod yn fwy effeithiol, yn wydn ac yn graff yn fasnachol yn yr hinsawdd heriol yr ydym ni ynddi hi. Mi fydd y trefniadau newydd ar gyfer Cadw, yn fy marn i, yn caniatáu iddo adeiladu ar ei lwyddiant presennol a manteisio i'r eithaf wrth gyfrannu at y bartneriaeth ehangach yn hanes treftadaeth Cymru a ffyniant y genedl. Diolch i chi am wrando.
A gaf i ddechrau drwy groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwyf yn ffyddiog wrth ddweud fy mod i'n rhagweld llwyddiant gwleidyddol mawr o'ch blaen. Ond bydd angen eich holl sgiliau arnoch chi, oherwydd eich bod efallai nawr yn gorfod ystyried penderfyniad, yr oedd yn ymddangos o'r hyn a ddywedasoch ym mis Ebrill, a oedd yn awgrymu nad dyna'r cyfeiriad y byddai'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn y pen draw, o ran ei bod hi'n ymddangos eich bod yn gwbl o blaid gosod Cadw y tu allan i'r Llywodraeth. Rwyf yn deall eich bod chi bellach wedi cael achos busnes ac yn amlwg mae archwilio'r achos hwnnw yn bwysig. Ond mae heriau anodd iawn yn wir yn wynebu'r Llywodraeth ac rwyf yn dymuno'r gorau i chi gyda nhw.
Ym mis Ebrill, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl adolygu strwythur Cadw, mai ei
nod yw rhoi cymaint o ryddid a hyblygrwydd i'r sefydliad i'w galluogi i wireddu ei botensial masnachol.
Rwyf bellach yn meddwl tybed sut y bydd y potensial masnachol hwn yn cael ei wireddu. Yn amlwg, rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa ariannu yn heriol, a bod cyllid yn cael ei rewi yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Felly, a yw'r penderfyniad hwn mewn unrhyw ffordd yn mynd i atal ychydig o'r potensial masnachol a nodwyd yn flaenorol yn adroddiad y grŵp llywio, a oedd yn argymell symud Cadw y tu allan i'r Llywodraeth? Rwy'n credu bod hyn yn gwestiwn pwysig iawn: a yw penderfyniad Llywodraeth Cymru bellach yn benderfyniad cyfleus a dros dro? Oherwydd yn fy marn i, mae geiriad y datganiad yn ofalus iawn. Tybed os mai dyma'r gair olaf a geir ynghylch dyfodol Cadw.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill ei bod hi'n werth ystyried modelau eraill, yn arbennig ad-drefnu mewnol neu gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n debyg, y bydd ad-drefnu mewnol bellach yn dechrau o ddifrif. Fe hoffwn i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny os yw'n bosibl, ac, yn y dyfodol, os, fel y tybiaf, na fydd y penderfyniad presennol yn un barhaol, a fydd rhyw fath o gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn debygol o gael ei ystyried.
Fe hoffwn i hefyd wybod beth yw'n sefyllfa o ran datblygu partneriaethau strategol ar gyfer y sector treftadaeth. A yw rhai mentrau a datblygiadau bellach yn hen hanes gan y bydd Cadw yn parhau i fod yn rhan o'r Llywodraeth? Roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu y byddai mwy o hyblygrwydd ar gyfer y partneriaethau hyn ac y byddai Cadw yn cael swyddogaeth flaenllaw os oedd hi y tu allan i'r Llywodraeth. Nid dyna'r sefyllfa erbyn hyn, ac a fydd mwy o gyfyngiadau nag yr oeddem ni efallai wedi eu rhagweld?
Ac yn olaf, ar fater ychydig yn wahanol, pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r strategaeth sgiliau diwylliannol, ac a yw'r strategaeth yn dal ar y trywydd iawn i fod ar waith erbyn mis Hydref 2018? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am eich llongyfarchion caredig ac am eich saith cwestiwn dilynol. Pan oeddwn i'n gwneud swydd flaenorol yn y Cynulliad hwn, roeddwn i o'r farn y byddai Gweinidogion yn gyffredinol yn gwneud yn dda iawn i ateb dau gwestiwn a hanner. Felly, byddaf yn ceisio, os gallaf i, ymateb i'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.
Yr hyn yr ydym ni'n edrych amdano yn y Llywodraeth a'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ac yn hyderus y bydd Cadw yn ei gyflawni yw ffordd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y maes treftadaeth ac adeiladau treftadaeth sylweddol, sydd wrth gwrs yn faes unigryw ac atyniadol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Ac yn ogystal â hyn, darparu ffordd o wneud busnes o fewn y Llywodraeth sy'n flaengar ac yn arloesol.
Dengys perfformiad Cadw, a gyfeiriais ato yn flaenorol o ran brwdfrydedd ei staff a'r incwm a gynhyrchwyd eisoes, bod y sylfaen wedi'i gosod. Nawr, nid yw hyn o reidrwydd yn fodel y gellid ei defnyddio ym mhob rhan o'r weinyddiaeth dreftadaeth a diwylliant, ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu ceisio datblygu'r model hwn ymhellach, yn dilyn llwyddiant model Cadw.
Felly, nid yw cyfeirio'n ôl at drafodaethau'r gorffennol na'r safbwyntiau a oedd gan rhai ohonom ni ar yr adeg honno o reidrwydd yn berthnasol i'n sefyllfa erbyn heddiw. Ni ellir dweud bod unrhyw benderfyniad gan y Llywodraeth, nac o bosib hyd yn oed mewn bywyd, yn derfynol, ond o'm safbwynt i o ran y penderfyniad penodol hwn, bydd y penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i Cadw o hyn ymlaen. Nid wyf yn bwriadu adolygu sefyllfa Cadw ymhellach.
Fy mwriad, drwy'r Cynulliad hwn a thrwy gyfnod y Llywodraeth hon, os oes gennyf i gyfrifoldeb o hyd, neu beth bynnag a fydd yn digwydd yma—rwyf yn ceisio dangos mai dyma yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan Cadw: eu bod yn ymateb i'r fframwaith newydd yr ydym ni wedi ei roi iddynt. Rwyf yn credu y bydd yr achos busnes a'r holl bethau a ddeilliodd o'r drafodaeth ar yr achos busnes, a'r potensial masnachol yn fuddiol.
Mae'n rhaid imi ddweud bod y swyddogion sy'n arwain Cadw yn y Llywodraeth wedi creu cryn argraff arnaf gyda'u parodrwydd i arloesi. Yn yr un modd, mae parodrwydd staff Cadw a'r undebau llafur sy'n rhan o Cadw i gydweithredu â'r ad-drefnu hwn, sydd o bosib yn angenrheidiol, wedi creu argraff arnaf, ac rwy'n credu y byddwn ni wedyn yn sicrhau mwy o ganlyniadau o ran yr incwm a gynhyrchir.
Diolch am y datganiad. Nid yw'r newyddion yn dod yn sioc—i rai ohonom ni beth bynnag—achos fe wnaethoch chi sôn am hyn ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf. Mae'n hollbwysig bod ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol yn cael eu hamddiffyn, eu cefnogi a'u datblygu. Mae'r sefydliadau yma yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ein cenedl. Mae'r datganiad heddiw yn dweud y bydd Cadw yn parhau yn rhan o'r Llywodraeth ond nid yw'n sôn am weddill ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol. Rydych chi'n eu crybwyll drwy sôn am rôl Cadw yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth, ond mi fyddai'n ddefnyddiol cael eich cadarnhad chi, neu fel arall, ynglŷn ag unrhyw ad-drefnu neu gyfuno o unrhyw sefydliadau diwylliannol neu gadwraethol. Hynny yw, a fydd Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfeydd cenedlaethol yn parhau yn sefydliadau ar wahân? Hynny ydy, a ydy syniad eich rhagflaenydd chi ar gyfer Cymru Hanesyddol wedi mynd rŵan? Mi oedd hwnnw, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac mae'n wir dweud ei fod o wedi codi nyth cacwn, ond a ydy'r datganiad heddiw yn arwydd o ddechrau'r diwedd ar gyfer y cysyniad o Cymru Hanesyddol?
Yn ogystal â gwarchod ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol yn ariannol, mae o hefyd yn bwysig bod eu hannibyniaeth nhw'n cael ei gwarchod. Rydw i yn sylwi bod llawer o'r pwyslais yn y datganiad ar sut y bydd Cadw'n gweithredu'n ariannol—llawer o bwyslais ar hynny—ac mae hynny i mi'n codi'r cwestiwn ai arian yn unig sydd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru. Mi fyddai'n ddefnyddiol, felly, cael gweld yr achos busnes sydd y tu ôl i'r penderfyniad. A fedrwch chi roi dyddiad i ni ar gyfer pryd y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi ac am gylch gwaith yr adroddiad? Hynny yw, a oes ystyriaeth o sefydliadau cadwraethol a diwylliannol eraill ynddo fo? Ac a oes yna ystyriaeth o faterion gweithredol heblaw sut mae cyrff yn cael eu hariannu?
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod perfformiad masnachol Cadw wedi gwella'n sylweddol a bod ffigurau ymwelwyr yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn. Ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad y bydd prisiau tocynnau Cadw yn codi, er dim cadarnhad o faint fydd y cynnydd yna. O wneud hynny, onid ydy o'n mynd i danseilio peth o'r gwaith sydd wedi digwydd, ac efallai y byddwn ni'n gweld llai o ymwelwyr, a fydd yn gweithio yn erbyn y cynnydd sydd wedi digwydd? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiynau. Ynglŷn â'r prisiau mynediad, ein bwriad ni ar hyd yr amser ydy cadw cydbwysedd rhwng mynediad agored hyd y mae hynny'n bosib—ac yn rhad ac am ddim i sefydliadau megis amgueddfeydd—a hawl neu gyfle dinasyddion sydd yn byw yn agos i henebion sylweddol—. Byddwch chi'n gyfarwydd â'r sefyllfa yng Nghaernarfon, fel rydw i, lle mae'r prisiau mynediad i'r adeiladau yma'n cael eu tymheru gan gyfle i ddinasyddion lleol gael mynediad. Mi ddywedaf i ragor fory, rydw i'n credu, gan fod yna gwestiwn wedi'i ofyn ar y pwnc yma, ynglŷn ag adrefnu y cynllun i drigolion lleol i gael mynediad haws i mewn i'r adeiladau yma a gwneud y cynllun yn llai cymhleth.
Na, nid oes dim bwriad gen i i gyfuno unrhyw sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae hynny'n glir. Efallai fod gen i fwriad, nad yw'n rhy gyfrinachol, i greu, o bosib, neu i roi cyfle i sefydliad cenedlaethol arall ailenwi ei hun yn sefydliad cenedlaethol mewn iaith ddealladwy, ond mater i'r sefydliadau eu hunain fydd hynny. Nid ydw i'n bwriadu bod yn ymyrrol fel Gweinidog, ond, wrth gwrs, mi fyddaf i'n defnyddio fy sefyllfa—fel y bydd, yn sicr, y pwyllgorau perthnasol yn y Cynulliad yma—i graffu ar yr hyn y mae'r cyrff yma yn ei wneud.
Nid ystyriaethau ariannol sydd yn pennu polisi diwylliannol. Ystyriaethau sydd yn pennu polisïau diwylliannol yw ystyriaethau o ddiwylliant, ac, yn arbennig yn achos sefydliadau Cadw, y pleser rydym ni'n gallu ei roi i ni'n hunain fel dinasyddion a thrigolion i fwynhau ein hetifeddiaeth a'r ysbrydoliaeth y gallwn ni ei chael ohonyn nhw, a'r diddordeb aruthrol sydd yn cael ei fynegi gan ymwelwyr â Chymru yn y modd rydym ni'n gwarchod ein treftadaeth. Felly, dyna ydy'r cymhelliant.
Ynglŷn â Chymru Hanesyddol, mae Cymru Hanesyddol yn fyw ac yn iach fel partneriaeth rhwng sefydliadau treftadaeth, ac mi fydd arfer da Cadw, yn enwedig ei harfer hi o ran cynhyrchu incwm, rydw i'n gobeithio, yn ysbrydoliaeth i sefydliadau cenedlaethol mawr sydd yn creu llawer llai o incwm nag y mae Cadw a lle mae canran uchel iawn o'u cyllid nhw yn dod yn syth allan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Wnaf i ddim enwi neb heddiw, ond byddwch chi'n deall beth rydw i'n sôn amdano fo, a'r ymgais yma gan fy rhagflaenydd, chwarae teg iddo fo, i ysgwyd y caetsh sydd wedi dod â ni i'r lle yma gan sicrhau dyfodol i Cadw mewn Llywodraeth ond ar yr un pryd yn gorff busnes.
Rwyf yn falch o longyfarch fy hen ffrind ar dderbyn swydd fel Gweinidog. Rwyf wedi dilyn ei ddatblygiad drwy'r nifer o sefydliadau Seneddol y mae wedi bod yn Aelod ohonyn nhw dros ddegawdau lawer, ac rwyf yn falch fod ganddo o hyd y gallu i'n synnu, hyd yn oed mor hwyr â hyn. A, gyda llaw, gallaf ddweud fy mod i'n falch bod y wlad hon yn ymddangos fel y petai'n mwynhau math o flodeuad geriatrig. Mae'r Rhyddfrydwyr bellach o dan arweiniad unigolyn 74 mlwydd oed, ac rwyf i yr un oedran â Jeremy Corbyn—69 oed—ac mae eraill sydd o'r un oed yn dal i wneud eu rhan mewn gwleidyddiaeth, ac rwy'n falch iawn bod Dafydd Elis-Thomas yn awr yn aelod o'r Llywodraeth.
Mae Cadw yn cyflawni dwy swyddogaeth, wrth gwrs. Hi yw'r asiantaeth dreftadaeth wladol ar un llaw, ond mae ganddi hefyd swyddogaeth arall, fyddai'n gallu bod yn un masnachol, fel corff sy'n cynnal atyniadau treftadaeth i ymwelwyr. Yn y dystiolaeth a roddodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i'r pwyllgor diwylliant, fe ddywedason nhw bod angen i Cadw fod yn rhydd i fod yn fwy entrepreneuraidd a masnachol, sy'n golygu bod yn rhaid rhoi sylw i'r cyfyngiadau presennol ar recriwtio, caffael, cyllidebu a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Ac rwy'n meddwl tybed a all y Gweinidog efallai ymhelaethu ychydig ar yr hyn a ddywedodd wrth ateb David Melding ynglŷn â galluogi Cadw i fanteisio ar y cyfleoedd masnachol, ond, serch hynny, o fewn y Llywodraeth, oherwydd dyna fu pwrpas yr ymchwiliad diweddar. Rwy'n sylweddoli bod yr adroddiad yn dweud bod y ddadl yn gryf iawn ar y ddwy ochr, ond, yn amlwg, mae'n rhaid galluogi Cadw i ddatblygu ac rwy'n meddwl tybed sut y gallan nhw lwyddo i wneud hynny.
Diolch am eich sylwadau caredig iawn, ac mae gennyf atgofion melys o'ch cyfnod chi mewn Llywodraeth, ond nid wyf i'n credu y byddai'n briodol imi gyfeirio yn ôl at hynny gan gofio lle yr wyf i'n sefyll heddiw. Ond yn wir rydych chi wedi deall swyddogaeth Cadw yn glir iawn, a dyma beth yr ydym ni'n ceisio sicrhau sy'n datblygu o dan ein cyhoeddiad a'n cynigion heddiw.
O ran recriwtio, os yw Cadw yn rhan o'r Llywodraeth, yna yn amlwg bydd cyfle i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus i geisio dyrchafiad a cheisio datblygu eu gyrfa yn y sefydliad. Ond bydd hi wastad yn hanfodol bod y sefydliad yn wir yn gweithio yn y ffordd fasnachol, ddiffwdan yr ydym ni wedi ei hamlinellu heddiw. Yn ystod y blynyddoedd pan oeddwn i'n ymwneud â ffurfiau eraill o reoli'r sector cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Geidwadol wych, wrth gwrs, y 1990au, dysgais ei bod hi'n hanfodol, pan rydych chi'n ymdrin â sefydliadau, bod gennych chi bobl yn y Llywodraeth, neu led braich o'r Llywodraeth neu led braich rhannol o'r Llywodraeth, sy'n gallu ymdrin â busnes ac ymdrin â sefydliadau trydydd sector mewn modd sy'n eu cynnwys nhw, wrth ichi ddatblygu newid, a dyma beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud gyda Cadw.
Nawr, yn amlwg, nid wyf i'n mynd i wneud unrhyw sylwadau manwl o ran sut y trefnir y strwythur recriwtio, oherwydd er, fel y dywedais i, bod Cadw yn parhau i fod yn rhan o'r Llywodraeth, bydd ganddi'r hyblygrwydd yn ei chynlluniau datblygu a'i strwythur rheoli i'w galluogi i weithio mewn modd masnachol ac fel busnes.
A gaf i hefyd longyfarch Dafydd Elis-Thomas ar ei benodiad fel Gweinidog? Fe hoffwn i hefyd ddiolch iddo am y datganiad a wnaeth ac am eglurder y penderfyniad i gadw Cadw yn rhan o'r Llywodraeth. Fodd bynnag, rwyf yn siomedig nad achubwyd ar y cyfle i archwilio beth yw ei ddiben a beth y mae wedi ei gyflawni o ran diogelu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol.
Rhoddaf dwy enghraifft i chi o Ddwyrain Abertawe. Yn gyntaf, gwrthododd Cadw restru eglwys o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n gysylltiedig â theulu'r Morrisiaid. Fodd bynnag, restrwyd eglwys o'r 1960au ar ystâd Portmead, er syndod mawr i'm hetholwyr. Nid yn unig y gwrthodwyd rhestru Plasty Maes-y-Gwernen, a oedd ar un adeg yn gartref i'r teulu tunplat enwog ac a gynhyrchodd ddau AS, ac y mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Lloyd George, a'i deulu, wedi aros yno, ond mae ar fin cael ei ddymchwel. Mae Tŷ Danbert, adeilad anghyfannedd oedd yn gartref i fab perchennog tunplat, wedi'i restru. Yn olaf, yn fy marn i, mae'n well gan Cadw weld adeilad rhestredig yn dadfeilio yn hytrach na'i addasu—. Ond mae'n ymddangos, gyhyd â'i bod yn cynhyrchu mwy o incwm, yna nad yw'r uchod yn bwysig. Yr hyn nad wyf i'n gallu ei ddeall yw pam na ellir rhoi'r cyfrifoldeb dros adeiladau rhestredig i awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu hardal.
Diolch i chi, Mike, am eich sylwadau caredig. Ac yna rydych chi'n ceisio fy arwain i lawr i gors orllewinol, rwy'n credu, rhywle ger eich etholaeth. Nid mater i Weinidogion yw hi i wneud penderfyniadau ynghylch rhestru. Nid yw hi chwaith yn fater i Weinidogion wneud penderfyniadau ynghylch beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n credu bod angen inni chwilio am bartneriaethau.
Nid wyf i'n mynd i drafod yr agweddau o'ch cwestiwn ynglŷn â chynllunio, oherwydd, yn amlwg, nid wyf i'n gyfrifol, diolch byth, am faterion cynllunio.
Ond o ran Cadw, o ganlyniad i'r penderfyniad hwn fe orfodwyd iddi weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau eraill hynny sy'n rhan o'r Llywodraeth ac, yn arbennig, i weithio'n rhanbarthol gyda llywodraeth leol. Ac am hynny yr ydym ni'n edrych. Mae'n ffordd o alluogi'r cynlluniau marchnata i gysylltu'r potensial twristiaeth yn ogystal â'r diddordeb mewn cadwraeth, gyda swyddogaeth y sefydliad, megis Cadw, er mwyn datblygu ymhellach. Felly, rwyf yn mynd i'ch siomi chi, drwy beidio â mynegi barn ar faterion sydd y tu hwnt i fy mhortffolio.
A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog newydd ar ei swydd? Rydym ni wedi cael perthynas waith ardderchog mewn pob math o wahanol swyddogaethau dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith rhagorol yn ei swydd newydd. Fel y gŵyr y Gweinidog newydd, mae gen i ddiddordeb brwd yn nhreftadaeth Cymru ac, yn benodol, yn ei threftadaeth ysbrydol a'i threftadaeth ffydd, ac fe wnaeth y cynnydd a gyfeiriodd ato yn nifer yr ymwelwyr a llwyddiant masnachol Cadw yn ystod y blynyddoedd diwethaf greu argraff fawr arnaf. Tybed i ba raddau y mae hynny'n gysylltiedig â'r ymgyrchoedd y mae Croeso Cymru wedi'u cynnal ar y thema Cymru Sanctaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd yn gwybod mai un o'r meysydd sy'n tyfu'n gyflym yn y farchnad dwristiaeth yw twristiaeth sy'n gysylltiedig â ffydd, yn enwedig o ran rhai o'r llwybrau pererinion sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae nifer ohonyn nhw yn mynd trwy ac yn arwain at nifer o safleoedd pwysig Cadw. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni, a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n disgwyl y bydd Cadw yn gallu manteisio arno yn fasnachol yn y dyfodol?
A gaf i hefyd ofyn am ffioedd aelodaeth blynyddol Cadw? Yn amlwg, ceir rhai trefniadau manteisiol gyda sefydliadau treftadaeth eraill ledled y DU, yn Lloegr ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd, ac mae'r rhain o fantais i bobl sy'n ymaelodi â Cadw, ond yn fy marn i, efallai un o'r sefydliadau mawr sy'n llwyddiannus yn fasnachol sy'n ymwneud â threftadaeth, wrth gwrs, yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd hefyd yn gyfrifol am lawer o adeiladau yma yng Nghymru. Tybed pa gysylltiadau y mae'r Gweinidog efallai yn disgwyl i Cadw eu datblygu gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel partner posibl, fel y gall pobl efallai fwynhau bod yn aelod o'r ddau sefydliad yn gyfnewid am eu ffi aelodaeth, er mwyn hybu mwy o wario ar safleoedd Cadw ac i helpu i wneud y sefydliad yn fwy hyfyw yn fasnachol.
Unwaith eto, diolch ichi am eich sylwadau caredig iawn. Mae hi bob amser yn bleser i'ch clywed chi yn traethu am ryfeddodau treftadaeth, yn enwedig rhai'r Gogledd, lle, fel y gwyddoch chi, rwy'n dal i dreulio cymaint o amser ag y bo modd ac yn parhau i wneud hynny. Yn wir, byddaf yn gweithio yn y swyddfa yng Nghyffordd Llandudno yn ystod yr wythnos hon, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwn ni gwrdd yna yn y dyfodol.
Ond nid wyf yn mynd i drafod gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf yn aelod unigol o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel yr wyf yn dal yn aelod unigol o Cadw rwy'n credu—bydd yn rhaid imi wirio p'un a ydw i wedi talu fy ffioedd. Ond mae pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, ar lawr gwlad yn enwedig, rhwng ein sefydliadau a'n sector masnachol, gwirfoddol a thrydydd sector—ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymysgedd diddorol o'r hyn sy'n fudiad gwirfoddol, gydag aelodaeth wirfoddol, sydd â sail statudol. Felly, mae'r holl bartneriaethau hyn yn gyfrifol, yn fy marn i, am gydweithio ar lawr gwlad yn eu rhanbarthau. Ac wrth inni ddatblygu strategaethau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, a gyda'r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig, mae angen inni annog y cydweithio sydd eisoes yn digwydd.
Nawr, o ran materion ysbrydol, rwy'n tueddu i adael hynny i'r archesgobion. [Chwerthin.] Fodd bynnag, pan fyddaf yn mynd i orseddiad Archesgob newydd yr eglwys yr wyf yn perthyn iddi, sef, fel y gwyddoch chi, yr Eglwys yng Nghymru, byddaf yn sicr yn ceisio cyfle i sicrhau bod y bartneriaeth sydd gennym ni rhwng bob math o sefydliadau yn parhau i fod yn un cydradd—gan barchu ar yr un pryd, wrth gwrs, natur ddatgysylltiedig yr Eglwys yng Nghymru, a hawl pobl i beidio â pherthyn i gymuned ffydd o gwbl ac eto i gymryd rhan fel dinasyddion yng Nghymru. Felly, ni fydd yr holl arian yn mynd i un enwad yn unig, gallaf eich sicrhau.
Diolch i'r Gweinidog.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, ac rydw i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6559 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg.
Cynigiwyd y cynnig.
Prynhawn da a diolch, Llywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw a chynnig y cynnig ger ein bron ynglŷn ag ymdrin â chamddefnyddio sylweddau. Gwnaf sôn i ddechrau am y gwelliannau ac yna gwnaf fy sylwadau—yn fras am ein sefyllfa yng Nghymru heddiw.
Rwy’n hapus i gadarnhau y byddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Blaid Cymru—gwnaf sôn am hynny’n nes ymlaen. O ran gwelliant 2, ni fyddwn yn gallu cefnogi hwn, oherwydd mae anghytundeb ffeithiol am yr honiadau a wneir. Y gwir yw bod y data diweddaraf gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn dangos bod nifer y bobl sy’n cwblhau eu triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi cynyddu, nid gostwng, fel mae’r geiriad yn ei nodi—bu cynnydd o 3,288 yn 2015-16 i 3,604 o bobl yn cwblhau eu triniaeth yn rhydd o sylweddau yn 2016. Rwy’n derbyn bod yr elfennau eraill yn y gwelliant yn gywir.
Rwyf hefyd yn fodlon derbyn y trydydd gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr. Rydym yn cytuno bod adsefydlu preswyl a dadwenwyno cleifion mewnol yn chwarae rhan bwysig i helpu pobl i sicrhau adferiad hirdymor, er nad yw'r rhain yn ddewisiadau amgen i adsefydlu cymunedol, sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig.
Mae camddefnyddio sylweddau ei hun, wrth gwrs, yn broblem iechyd fawr sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn ogystal â’r pryderon cynyddol sydd gennym dros effaith camddefnyddio alcohol, mae natur newidiol camddefnyddio cyffuriau’n cyflwyno heriau newydd a newidiol i lunwyr polisïau, i Gomisiynwyr ac i asiantaethau triniaeth. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi bron £50 miliwn bob blwyddyn i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein cynllun cyflawni diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau sy'n rhedeg hyd at 2018.
Mae ein cynllun yn dal i fod yn seiliedig ar ddull lleihau niwed. Dyna pam yr ydym yn cydnabod bod camddefnyddio sylweddau’n fater iechyd a gofal ac nid dim ond yn fater cyfiawnder troseddol. Dyna pam yr ydym yn hapus i dderbyn gwelliant 1. Nod cyffredinol Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau, ac yn gwybod lle y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth os bydd arnynt angen.
Mae heriau sylweddol yn gysylltiedig â’r darlun sy'n newid yn gyflym, i gefnogi rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, rydym yn gwneud cynnydd go iawn. Yn 2015-16, cafodd 83.3 y cant o’r bobl a oedd yn dechrau triniaeth eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith. Yn 2016-17, gwelsom 16,406 o bobl yn dechrau triniaeth, a chafodd 86.7 y cant o'r bobl hynny eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith—cynnydd sylweddol o ran cyflymder triniaeth. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl aelodau staff rheng flaen hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny am y cyflawniad hwnnw.
Rydym hefyd yn gweld gwelliannau i ganlyniadau triniaeth—roedd 77 y cant o bobl yn dweud eu bod yn camddefnyddio llai o sylweddau ar ôl triniaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 69.2 y cant yn 2013. Nawr, er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi cynnydd sy'n peri pryder mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Ac mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod ymdrin â’r materion hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon a'n partneriaid, oherwydd mae alcohol a chyffuriau’n parhau i achosi llawer o farwolaethau a salwch, ac, yn wir, marwolaethau a salwch y gellir eu hosgoi. Mae'r data’n dangos y cynnydd yn nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yn 2016, ac mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i weithredu. Dyna pam mae ein Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) yn rhan hanfodol o ymateb i’r mater iechyd cyhoeddus pwysig hwn. A bydd y ddeddfwriaeth honno, a drafodwyd yn y lle hwn y mis diwethaf, yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sy'n yfed yn beryglus ac yn niweidiol yn yfed llai o alcohol. A bydd hefyd yn lleihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar wasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau, yn ddatganoledig ac yn annatganoledig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Bydd isafswm pris fesul uned yn ffurfio rhan o’n gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau, a bydd yn ategu’r gwaith hwnnw. Rydym eisoes yn gweithio i ymdrin â goryfed alcohol drwy ddarparu gwell gwasanaethau addysg, atal a thriniaeth i gefnogi’r yfwyr mwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda theuluoedd, wrth gwrs, pobl sy'n camddefnyddio alcohol. Ac rydym hefyd yn gweithio mewn nifer o feysydd i ymdrin â’r cynnydd diweddar yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Rhan o hynny yw ein prosiect arloesol WEDINOS, sy'n parhau i chwarae rhan allweddol wrth ddadansoddi amrywiaeth o gyffuriau. Felly, mae profi’r sylweddau newydd hynny’n ein galluogi i archwilio cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna yn hollbwysig i ledaenu’n eang y ffactorau risg pan fydd unigolion yn eu cymryd, a hyd yma mae WEDINOS wedi cael dros 7,000 o samplau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Nawr, mae dosbarthu naloxone, cyffur sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau dros dro, wedi bod yn elfen allweddol yn ein dull o leihau niwed, ac rydym yn credu bod hynny’n ffactor real a phwysig yn y gostyngiad mewn marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau rhwng 2011 a 2014 yma yng Nghymru. Felly, rydym yn rhoi mwy fyth o bwyslais ar ein gwaith naloxone i helpu’r duedd gynyddol o ran ei ddefnyddio. Mae cyfanswm o dros 15,000 o becynnau wedi'u dosbarthu ledled Cymru ers 2009, ac rydym wedi clywed bod dros 1,600 ohonynt wedi cael eu defnyddio. Felly, mae naloxone ar gael ym mhob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol ac ym mhob carchar yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos ag ardaloedd yng Nghymru i ehangu presenoldeb naloxone ymhellach, yn enwedig mewn perthynas â phobl sydd ddim yn cael triniaeth ar hyn o bryd, ac mae hynny’n arbennig o bwysig pan ystyriwn nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau sy’n digwydd ymhlith pobl sydd ddim wedi defnyddio ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Er enghraifft, mae swyddogion yn fy adran i yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys i ddechrau dosbarthu pecynnau naloxone mewn dalfeydd. Ond gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill, fel y cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad, ac rydym yn gwybod bod pwysau mawr heddiw o ran cymdeithas a barn am ddelwedd corff sy’n parhau ar gyfer dynion a menywod. Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill, symposiwm cenedlaethol ar gamddefnyddio cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad a'u heffaith ar chwaraeon a'r gymuned ehangach, ac mae grŵp wedi’i sefydlu nawr i fwrw ymlaen ac ystyried sut i ymateb i argymhellion y symposiwm hwnnw.
Rydym hefyd yn parhau i gefnogi DAN 24/7, ein llinell gymorth camddefnyddio sylweddau ddwyieithog, ddi-dâl, sy'n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth neu help ynglŷn â’u problemau â chyffuriau neu alcohol. Ac yn y flwyddyn diwethaf, ymatebodd DAN 24/7 i dros 4,000 o alwadau, a chafodd y wefan dros 75,000 o ymweliadau. Felly, mae DAN 24/7 hefyd wedi ffurfio rhan o nifer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf i dargedu meysydd her penodol. Yr ymgyrch fwyaf diweddar—rwy’n gobeithio eich bod wedi ei gweld yn y gyfres rygbi rhyngwladol hydref bresennol sy’n parhau—yw’r ymgyrch It's Nothing Trivial sy'n canolbwyntio ar beryglon cymysgu alcohol a chyffuriau.
Nawr, o ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn bwysig dros ben. Dyna pam yr wyf wrth fy modd ein bod wedi sicrhau £11.6 miliwn gan gronfa gymdeithasol Ewrop i gynnal gwasanaeth mentora cymheiriaid ar gamddefnyddio sylweddau i bobl ddi-waith, ac mae’r arian cyfatebol yr wyf wedi cytuno arno ar gyfer y gwasanaeth hwnnw’n golygu y byddwn yn buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn yn y rhaglen hyd at haf 2020. A bwriad y rhaglen honno yw helpu dros 14,000 o bobl dros 25 oed sy'n ddi-waith yn hirdymor neu’n economaidd anweithgar i wella o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau a dychwelyd i'r gwaith, neu bobl 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ac yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen honno, mae dros 1,500 o gyfranogwyr wedi cofrestru â’r gwasanaeth ac elwa ohono.
Rydym yn gwybod bod camddefnyddio sylweddau’n un o’r prif bethau sy’n achosi i bobl fod yn sâl, colli swyddi a theimlo na allant gael gwaith. Felly, mae’r rhaglen hon yn uno rhai o'n hamcanion allweddol ym maes iechyd a chyflogadwyedd, ac yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl i chwalu'r rhwystrau hynny rhag cyflogaeth sy’n cael eu hachosi gan afiechyd. Rwy’n gobeithio bod hynny wedi helpu i amlinellu rhai o'r camau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd eisoes, ond hefyd y meddwl agored a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnom i ymrwymo o'r newydd i’r maes gwaith hwn ac ystyried yr hyn sydd fwyaf effeithiol a gweithgar yma yng Nghymru, wrth inni symud ymlaen, fel yr wyf yn dweud mewn maes sy'n newid yn gyson ac sy’n her gyson ym mhob cymuned ledled y wlad.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig ac rwy’n galw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf i, fel yr amlinellodd y Dirprwy Lywydd, yn rhoi sylw i welliant Plaid Cymru sy'n nodi mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chamddefnyddio sylweddau yn gyffredinol, nid mater cyfiawnder troseddol.
Nawr te, rwyf i wedi bod yn feddyg teulu ers amser hir iawn, ac mae caethiwed yn broblem gyson. Mae rhai pobl wedi cael bywydau erchyll. Maent wedi dioddef esgeulustod fel plant, cam-drin plant, cam-drin rhywiol. Dydyn nhw ddim wedi cael cariad. Bydd babanod bach annwyl yn fy nghlinig babanod dros y blynyddoedd yn cael eu cam-drin yn fwyfwy wrth iddynt gael eu magu mewn amgylchiadau ofnadwy. Does ryfedd bod pobl eisiau llethu’r boen, dod o hyd i unrhyw gyffro yn unrhyw le, mewn alcohol a chyffuriau—cyffuriau cyfreithlon, cyffuriau anghyfreithlon, cyffuriau presgripsiwn, cyffuriau heb bresgripsiwn—unrhyw gyffro, yn unrhyw le, i ddianc rhag realiti oer amodau annioddefol, gan fethu â dianc rhag y cam-drin, y casineb a’r atgasedd.
Ar ben hynny, gall damweiniau a digwyddiadau trasig ddigwydd. Heb gefnogaeth na chariad gan deulu, mae hynny i gyd yn pentyrru poen ar ein pobl. Ychwanegwch faterion iechyd meddwl ar raddfa gynyddol, a phobl yn ymateb mewn modd na ellir ei ragweld, gyda gelyniaeth a thrais, oherwydd nad ydynt yn gwybod am ffordd arall.
Fel gweithiwr iechyd proffesiynol yn y maes, rhaid ichi wynebu heriau enfawr sy’n eich gwthio i'r eithaf. Rwy’n talu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn y prynhawn yma. Mae'n hynod o anodd a heriol, oherwydd rydym yn sôn am ymdrin â phobl sydd â bywydau anhrefnus, heb ddim trefn o gwbl. Dydyn nhw ddim yn gallu helpu eu hunain, yn aml, gyda heriau ariannol aruthrol ac mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn gymdeithion cyson i gaethiwed i gyffuriau ac alcohol.
A sut yr ydym yn ymateb fel cymdeithas? Gyda charedigrwydd, goddefgarwch, parodrwydd i helpu, i archwilio’r materion sylfaenol a arweiniodd at yr anhrefn presennol hwn, neu a yw cymdeithas yn ymateb drwy wthio pobl o'r fath i'r ymylon? 'Maent yn gaeth, eu bai nhw ydyw.' Wir? Eu harestio nhw—sut y mae hynny'n mynd i helpu? Beth am ddod i wybod stori’r unigolyn hwnnw, y drychineb, y loes, y rhwygau yn y teulu, y diffyg maddeuant, yr hunan-atgasedd, yr hunan-niwed ac, ie, yr ymddygiad ceisio sylw gan bobl sydd yn anaml iawn wedi cael unrhyw gariad neu sylw erioed yn eu bywydau?
Mae llawer o waith ardderchog yn cael ei wneud. Fel Jenny Rathbone, rwy’n ymddiriedolwr i Stafell Fyw Caerdydd, canolfan adsefydlu alcohol ac adsefydlu cyffuriau. Rwyf hefyd yn gwybod am waith da Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed ac eraill yn Abertawe, ac uned adsefydlu alcohol Brynawel ger Llanharan a llawer iawn mwy—gwaith ardderchog o dan yr amgylchiadau anoddaf.
Ond mae angen, a rhaid, gwneud llawer mwy o ran iechyd cyhoeddus, i archwilio’r materion go iawn, cwnsela, ymdrin nid yn unig â’r diddyfnu cemegol, ond â’r encilio seicolegol a’r newidiadau cymdeithasol sy’n gorfod digwydd, a sefydlu dull o ymdopi llai dinistriol i fywyd yn lle’r alcohol neu’r cyffuriau. Ie, ymdrin â digartrefedd, dod o hyd i ystyr mewn bywyd, darganfod bod bywyd yn werthfawr, darganfod bod pob eiliad yn gallu bod yn gofiadwy, ffurfio perthynas ag eraill eto, dod o hyd i hunangred—mae pob un o'r rhain yn brosiect tymor hir—a thrin y problemau iechyd meddwl, nid dim ond y diddyfnu cemegol tymor byr a llithro'n ôl yn anochel.
Yn y cyd-destun hwnnw, beth am ddatganoli plismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder troseddol fel y gallwn ymdrin yn iawn â phroses barhaus o aildroseddu drwy gydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau sydd nawr wedi'u rhannu rhwng meysydd datganoledig a heb eu datganoli? Gwasanaethau datganoledig iechyd, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, tai, addysg a hyfforddiant, yn wirioneddol yn gweithio ynghyd â phlismona a’r gwasanaeth prawf a'r llysoedd—byddai hynny'n wych.
Beth am fod yn arloesol ar ben hynny, hefyd, drwy dreialu canolfannau chwistrellu diogel i leihau niwed, lle byddai meddygon fel fi’n chwistrellu heroin glân mewn amgylchedd clinigol, gan leihau’r dosiau’n raddol a defnyddio nodwyddau glân i atal firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed rhag lledaenu? Dyna arloesol ichi. Mae'n gweithio mewn gwledydd eraill, yn atal pobl rhag marw, yn rhoi sylw go iawn i gaethiwed fel mater iechyd cyhoeddus. Gadewch eich rhagfarnau. Ac eto, o hyd, mae'r niwed yn mynd ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark.
Gwelliant 2 Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith:
a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;
b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng; ac
c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.
Gwelliant 3 Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Rwy’n cynnig gwelliant 2, sy'n gresynu wrth y ffaith bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth 10 mlynedd camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', yn dangos y bu cynnydd mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol a chysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru. Er bod yr adroddiad hwn hefyd yn honni cynnydd da o ran darparu triniaeth yn gyflymach, mae ein gwelliant 2 hefyd yn dyfynnu ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng—yn wir, i lawr yn Ebrill i Fehefin ar y chwarter blaenorol i’r lefel isaf ers blwyddyn—a bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod ar ôl cael eu hatgyfeirio na ddwy flynedd cyn hynny. Roedd nifer yr achosion a gafodd eu cau o ganlyniad i farwolaeth yn ystod Ebrill i Fehefin yr uchaf ar gofnod; cynyddodd nifer y marwolaethau sy'n benodol i alcohol yng Nghymru 7 y cant yn 2016—y nifer uchaf ers 2012; cynyddodd marwolaethau cysylltiedig ag alcohol 9 y cant—y nifer uchaf ers 2008. Felly mae'n destun pryder bod cyfanswm y nifer a aseswyd gan ddarparwyr arbenigol camddefnyddio sylweddau wedi gostwng 5 y cant a bod cyfanswm y nifer yn dechrau triniaeth i lawr 4.6 y cant. Cynyddodd derbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon 3.8 y cant ar ôl 2015-16, a chynyddodd marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru 14.3 y cant yn 2015 i'r lefelau uchaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion cymaradwy ym 1993.
Mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti dadwenwyno cleifion mewnol haen 4 a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar wella yn y gymuned. Rwy’n dweud hynny, ar ôl bod yn hyrwyddo’r model gwella yma ers y dyddiau pan roedd Llywodraeth Cymru’n dal i flaenoriaethu rheoli meddygol a thriniaethau cynnal dros wella ar gyfer pobl sy'n gaeth. Mewn gohebiaeth ddiweddar â’r Gweinidog iechyd y cyhoedd blaenorol ynghylch dadwenwyno cleifion mewnol haen 4 ac adsefydlu preswyl, dywedodd fod mwy o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar wella wedi gostwng yr angen am wasanaethau adsefydlu preswyl. Mewn gwirionedd, dylent ategu ei gilydd. Mewn dadl gyfatebol bron i ddegawd yn ôl yma, cyfeiriais at golli gwelyau yng Nghymru sydd ganddynt mewn un uned dadwenwyno yn Wrecsam, ac at yr adolygiad annibynnol o driniaeth dadwenwyno a phreswyl yn y Gogledd, a gomisiynwyd gan y Gweinidog ar y pryd, a ragwelodd y byddai hyn yn cefnogi dadwenwyno yn y gymuned. Ar ôl i’r adroddiad hwn gael ei gladdu, cafodd ei ddatgelu imi a’i wneud yn gyhoeddus. Canfu fod y gwasanaeth cyfan, gan gynnwys gwelyau cleifion mewnol, wedi’i danariannu. Pan ddywedais hyn wrth y Gweinidog, ni fyddai'n ei dderbyn.
Cafodd adolygiad annibynnol arall, yn edrych ar wasanaethau triniaeth haen 4 camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, hefyd ei gladdu, ei ddatgelu imi a’i wneud yn gyhoeddus. Roedd yn nodi nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu er mwyn gallu cael eu dadwenwyno yn y carchar, ac am dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd dadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl ar gael. Roedd yn galw am gynnydd sylweddol mewn capasiti ac am ddatblygu tair uned dadwenwyno ac adsefydlu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, yn gweithio gyda darparwyr trydydd sector. Roedd adroddiad arall yn 2010 yn atgyfnerthu’r neges hon, a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd eu bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar ddatblygu’r tair uned. Yn hytrach, rydym ar ddeall bod toriadau Llywodraeth Cymru i ddadwenwyno preswyl ddegawd yn ôl yn dal i fod ar waith, a bod nifer y mannau adsefydlu yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y chwe blynedd diwethaf.
Ym mis Hydref, dywedodd y Gweinidog wrthyf ei bod wedi cael clywed mai’r prif reswm dros y gostyngiad yn y galw am leoedd adsefydlu preswyl oedd cryfhau’r meini prawf cymhwysedd yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fodd bynnag, fel y dywed canllaw NICE 115,
'mae achosion mwy difrifol a llai cymdeithasol sefydlog yn gwneud yn well fel cleifion mewnol'.
Mae'r sector yn dweud wrthyf fod niferoedd yn gostwng oherwydd bod llai o leoedd adsefydlu preswyl yng Nghymru, a bod pobl yn cael eu symud i mewn i'r gymuned heb dystiolaeth o angen. O ran fframwaith adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, dim ond saith o leoedd sydd gan Gymru yn Nhy'n Rodyn ym Mangor a tua 20 ym Mrynawel ger Caerdydd; mae’r olaf o’r rhain yn cynnwys niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Ers y dechreuodd y fframwaith, dim ond wyth o'r 24 o atgyfeiriadau i Dy'n Rodyn oddi mewn i Gymru a gyrhaeddodd drwy'r fframwaith. O ran iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig, mae Brynawel yn dal i weld canlyniadau negyddol anghydfodau am gyllid rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Yn y cyfamser, aeth lleoliadau adsefydlu preswyl y tu allan i Gymru y llynedd i dri sefydliad ar y fframwaith a chwe sefydliad y tu allan iddo.
Oes, rhaid manteisio i'r eithaf ar botensial triniaethau cymunedol i ddefnyddwyr cyffuriau dibynnol ac yfwyr ag anghenion cymharol lai cymhleth, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi mewn ymyriadau haen 4, eu hintegreiddio gyda haenau eraill o driniaeth alcohol a chyffuriau, a gwella’r cysylltiadau rhyngddynt a gwasanaethau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned, gwasanaethau ôl-ofal a gwasanaethau cofleidiol. Byddai gwneud fel arall yn costio mwy o fywydau a mwy o arian.
Tybed a gaf i ddechrau drwy godi rhai pryderon ynglŷn â’r arian cyfalaf sydd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod bod pryderon y gallai cyfyngiadau ar gyfalaf arwain at gau swyddfeydd a diffyg staff i ddarparu gwasanaeth mewn ardaloedd penodol. Er enghraifft, pan fydd prydlesau’n dod i ben, os nad oes digon o gyfalaf i gael safle ac, yn wir, offer, efallai y bydd crynodiad o ddarpariaeth gwasanaeth mewn ardaloedd daearyddol penodol, fel Casnewydd, er enghraifft, sydd eisoes yn ganolbwynt ar gyfer darparu gwasanaethau i ardal ehangach. Ond y pryderon yw, os bydd hynny’n cynyddu, y bydd lefel y ddarpariaeth gwasanaeth a'r niferoedd sy'n mynd at ddarparwyr gwasanaeth yng Nghasnewydd yn cyrraedd y lefel lle mae'n creu mwy o bryder nag sydd eisoes yn bodoli o ran y problemau ymddangosiadol, o leiaf, sy’n cael eu creu os yw gormod o bobl yn ceisio defnyddio’r gwasanaethau hynny mewn ardal ddaearyddol weddol gul. Felly, tybed a ellid rhoi rhywfaint o sicrwydd o ran arian cyfalaf ac osgoi’r problemau hynny.
Pryder arall oedd bod newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd yn golygu nad yw pobl sy'n gadael carchar bellach yn cael y math o flaenoriaeth ar gyfer llety a oedd ganddynt unwaith, sydd wedi arwain at gynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd. Mae’r bobl hynny sy’n gadael carchar yn cynnwys rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Rwy’n gwybod bod rhai o'r darparwyr gwasanaeth yn pryderu bod y newid hwnnw wedi arwain at gynnydd yn y problemau a brofir gan y bobl hynny sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau—a, drwy estyniad, a brofir gan ddarparwyr gwasanaeth.
Roeddwn hefyd, Dirprwy Lywydd, yn awyddus i sôn ychydig am Alcohol Concern Cymru a gofyn rhai cwestiynau am eu cyngor ar rianta da, yn enwedig o ran materion alcohol; rhoddwyd sylw i ychydig o hyn yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol ddiweddar, ac mae taflenni ffeithiau defnyddiol ar gael. Mae'n ymddangos i mi mai barn llawer o rieni, fel yr wyf yn meddwl bod Alcohol Concern Cymru yn ei atgyfnerthu, yw ei bod yn synhwyrol cyflwyno eu plant i alcohol mewn ffordd gyfrifol, o fewn lleoliad teuluol, ac mae hyn yn aml yn digwydd ar gyfandir Ewrop, er enghraifft, cael gwydraid o win gyda phryd o fwyd, a bod hynny’n ffordd dda o gyflwyno plant i alcohol, yn hytrach na’u bod nhw’n ei ddarganfod, fel petai, ei brofi y tu allan i’r cartref ac efallai’n ei orwneud. Ond y cyngor, rwy’n meddwl, yw ei bod a dweud y gwir yn fuddiol i blant beidio â chael dim alcohol, yn sicr cyn eu bod yn 15 oed, ac, os ydynt yn cael eu cyflwyno iddo ar ôl bod yn 14 oed, er enghraifft, y dylai hynny fod mewn modd cyfyngedig iawn. Hefyd, mae'n debyg, mae mater amlwg o ran rhieni fel modelau rôl. Mae’n rhaid i rieni fod yn ofalus iawn ynghylch pa mor aml y maen nhw’n yfed alcohol o flaen eu plant, a bod yn ofalus iawn i beidio â’i gorwneud hi, oherwydd rwy’n meddwl bod llawer o dystiolaeth, os na allant osgoi’r peryglon hynny o fod yn fodel rôl negyddol yn hyn o beth, bod hynny’n arwain at yfed trwm mewn blaenlencyndod, neu fwy o duedd i’w plant yfed yn drwm yn eu blaenlencyndod.
Felly, dim ond rhai o'r materion yw’r rheini. Yn amlwg, mae yna amrywiaeth o faterion pwysig iawn ynghylch rhianta a rhianta da i osgoi problemau camddefnyddio alcohol a phroblemau camddefnyddio sylweddau yn gyffredinol yn y dyfodol, ac rydym yn sôn mwy a mwy am atal. Tybed a allem glywed ychydig am beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth a sicrhau rhianta cadarnhaol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yng ngŵyl fwyd Casnewydd, sy'n dod yn ddigwyddiad pwysig iawn ac yn tyfu mewn nerth a phroffil. Roedd ganddyn nhw stondin cwrw di-alcohol, a oedd yn boblogaidd iawn, ac roedd amrywiaeth o wahanol gwrw, sawl cwrw gwahanol, heb ddim alcohol, ac, yn amlwg, roeddent yn defnyddio hynny hefyd i hyrwyddo rhai negeseuon da ynghylch osgoi goryfed. Ond maent yn dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod am ddim bragwyr yng Nghymru sy’n cynhyrchu cwrw di-alcohol, er bod marchnad dda iddo a bod honno'n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Tybed a allai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru gynnig ychydig o sylwadau yn hynny o beth.
Wrth sôn am ymdrin ag effaith defnyddio sylweddau'n broblemus ar iechyd dynol, ychydig iawn sydd i'w ddathlu o hyd. Mae cynnig y Llywodraeth heddiw’n nodi, ac rwy’n dyfynnu,
'y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.'
Ond y gwir yw bod yr adroddiad yn dangos y gwrthwyneb i gynnydd. Mae'r data yn awgrymu bod trychineb gymdeithasol wedi dod i'r amlwg yn ein gwlad yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf yn defnyddio'r term hwnnw’n ysgafn. Ychydig wythnosau yn ôl, codais gyda'r Prif Weinidog y ffaith bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed sef 168 yn 2015. Mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn dangos, yn 2016, bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd record newydd o 192. Mae marwolaethau cysylltiedig ag alcohol hefyd wedi cynyddu i 504, fel y nodwyd yn y gwelliant yn enw Paul Davies. Ac mae'r ystadegau hyn yn atgyfnerthu, rwy’n siŵr, yr hyn y mae llawer ohonom yn ei glywed gan fudiadau cyffuriau, elusennau, ein comisiynwyr heddlu a throseddu, a'm cyn-gydweithwyr yn y gwasanaeth prawf. Ychwanegwch yr argyfwng digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn gysylltiedig â llymder a diwygio budd-daliadau, ac mae gennym sefyllfa sy'n creu cost enbyd i'n cymdeithas, i’n gwasanaethau cyhoeddus, i’n cymunedau ac i fywyd dynol.
Mae llawer o'r marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn digwydd i bobl sy'n ddigartref ar y stryd. Mae gennym y pwerau dros ddigartrefedd, wrth gwrs, ond rhaid inni fod yn glir nad yw rhai o'r ysgogiadau polisi sydd eu hangen i ddatrys problem ddyrys camddefnyddio sylweddau yn llawn wedi'u datganoli eto. Mae'r gair 'eto' yn bwysig yma. Mae angen inni fod â’r agwedd bod angen y pwerau i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a bod cyfyngiad ar amser o ran cadw’r pwerau hynny yn San Steffan. Y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, am atal digartrefedd, ac am rai agweddau ar ddiogelwch cymunedol. Am gyhyd ag y bydd pwerau cyfiawnder, lles a diogelwch cymdeithasol wedi’u dal yn ôl yn San Steffan, bydd dull cwbl gydgysylltiedig yn amhosibl.
Dydy Llywodraeth bresennol Cymru ddim wedi dangos agwedd flaengar bob amser at ddatganoli cyfiawnder, nawdd cymdeithasol a meysydd cysylltiedig. Ond rwy’n credu bod potensial i newid hynny. A rhaid inni newid hynny, oherwydd mae'r ffigurau hyn yn rhoi darlun llwm a dirdynnol. Nawr, rwy’n cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw—wel, mae’n siŵr bod hynny’n amlwg, ond am ei fod yn fater o egwyddor mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio sylweddau ac nid mater cyfiawnder troseddol, ac rwy’n falch bod y Llywodraeth yn barod i gefnogi hynny hefyd. Ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen y pwerau arnom dros y system cyfiawnder troseddol i ddiwygio polisïau cyffuriau. Un peth, er enghraifft, yr hoffwn i ei weld yw bod pobl â sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gallu defnyddio canabis yn gyfreithiol, ond allwn ni ddim gwneud hynny oherwydd does gennym ni mo’r pwerau. Ond, hyd yn oed heb y pwerau dros gyfiawnder troseddol, gallem ddal i gael effaith ar leihau nifer y marwolaethau oherwydd defnyddio cyffuriau drwy ddefnyddio datrysiadau iechyd cyhoeddus. Mae un o'r datrysiadau hynny'n cael ei hyrwyddo gan Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu Gogledd Cymru, sydd wedi dod yn un o’r lleisiau mwyaf blaengar ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Mae wedi ennill parch gan bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol am ei safiad ar drin pobl sydd â phroblemau â chyffuriau anghyfreithlon fel bodau dynol ac nid fel troseddwyr.
Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y safbwynt hwn yn cael ei ystyried yn un eithafol a radical, ond erbyn hyn mae’n cael ei dderbyn mewn gwledydd ledled Ewrop. Mae Arfon wedi cynnig y gallai cyfleusterau chwistrellu diogel, mewn lleoliadau addas, leihau nifer y marwolaethau cyffuriau, troseddau cysylltiedig â chyffuriau, a defnyddio cyffuriau yn gyhoeddus. Mae’r dull hwn wedi cael ei roi ar waith yn y Swistir, ynghyd â mesurau iechyd cyhoeddus eraill, ac mae wedi lleihau nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau. Ym Mhortiwgal, mae dad-droseddoli rhai cyffuriau, ynghyd â rhaglenni atal a thriniaeth, wedi cael effaith debyg. Y llynedd, roedd llai o farwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal, gwlad o dros 10 miliwn o bobl, nag yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, sydd â phoblogaeth o lai na 1 miliwn o bobl.
Yn union fel y gwelir mesurau iechyd cyhoeddus fel ffordd o leihau niwed alcohol, dylid eu defnyddio hefyd i leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau. Ac mae'n werth nodi yma na fydd pawb sy'n yfed alcohol yn datblygu problem, ac mae'r un peth yn wir am gyffuriau. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn fan cychwyn, fel y gallwn ganolbwyntio ar leihau niwed oherwydd defnydd problemus.
Gadewch i ni beidio ag edrych yn ôl yn y blynyddoedd i ddod a gresynu wrth fwy o fywydau, mwy o deuluoedd yn wynebu tor calon, oherwydd polisïau cyffuriau annoeth ac aneffeithiol. Gadewch inni greu ymagwedd newydd, eofn at y broblem hon yng Nghymru—gadewch inni ddechrau gydag arbed bywydau.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw.
Mae camddefnyddio sylweddau yn difetha bywydau—nid dim ond bywyd yr unigolyn sy'n defnyddio'r sylwedd ond mae’r uned deuluol gyfan i gyd yn dioddef. Does neb yn ennill o dan yr amgylchiadau hyn, oni bai bod yr unigolyn yn cael y cymorth sydd ei angen. Yn ystod fy amser yn gweithio mewn carchar, gallaf eich sicrhau fy mod wedi gweld cynifer o wahanol unigolion—unigolion a oedd wedi dangos addewid yn eu bywydau cynharach—wedi’u difetha o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd, yr hyn y maent wedi’i gymryd. A pam mae eu bywydau wedi dirywio fel hyn, all neb wybod yn iawn, ond mae’r hyn sydd wedi eu harwain i deimlo bod eu bywyd mor negyddol yn rhywbeth y mae angen ei ymchwilio cyn i bobl gael eu carcharu.
Y llynedd, yng Nghymru, bu farw 192 o bobl o gamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, cafodd dros 11,000 o droseddau eu cyflawni yn gysylltiedig â chyffuriau, a chafodd bron 24,000 o bobl eu cyfeirio at wasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Mae Cymru yn unigryw yn y DU gan fod gennym strategaeth camddefnyddio sylweddau unedig sy'n ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £50 miliwn y flwyddyn i leihau camddefnyddio sylweddau ar lefel y boblogaeth. I ryw raddau, mae’r strategaeth yn gweithio. Bu gostyngiad yn y niferoedd sy'n cymryd cyffuriau anghyfreithlon ac yn camddefnyddio alcohol. Fodd bynnag, mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd camddefnyddio sylweddau’n cynyddu, yn ogystal â marwolaethau yn sgil camddefnyddio sylweddau.
Mae derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol wedi gostwng dros 6 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ond cynyddodd derbyniadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon bron 4 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Ymysg pobl hŷn, cododd hyn dros 15 y cant.
Dydy’r strategaeth bresennol ddim yn lleihau marwolaethau camddefnyddio sylweddau. Yn y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom gynnydd 8.9 y cant yn nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol, a chynnydd 13.8 y cant mewn marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau, y lefel uchaf ers 1993. Mae’r lefel yn llawer uwch nag yn Lloegr.
Mae’r gyfradd safonedig ar gyfer oed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn dangos, yn Lloegr, bod 44.1 o farwolaethau i bob 1 miliwn o'r boblogaeth, a bod y gyfradd marwolaethau ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn parhau i gynyddu, o 58.3 o farwolaethau i bob 1 miliwn o'r boblogaeth yn 2015, i 66.9 o farwolaethau i bob 1 miliwn yn 2016; erbyn hyn, mae gan Gymru gyfradd uwch o farwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau nag wyth o ranbarthau Lloegr. Mae hyn yn cyd-daro â chynnydd enfawr mewn camddefnyddio canabinoidau synthetig. Y llynedd, roedd cynnydd bron 50 y cant yn nifer y bobl ifanc a gafodd eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cannabinoid.
Mae ysbytai Cymru yn gweld tri o bobl y dydd ar gyfartaledd yn cael eu derbyn o ganlyniad i ddefnyddio canabinoidau synthetig fel Spice. Mae fy mwrdd iechyd lleol i wedi cymryd y mesur eithafol o roi anesthetig cyffredinol i gleifion sydd wedi cymryd Spice er mwyn eu hatal rhag brathu a chicio staff. Mae’r cyffuriau hyn yn fygythiad cynyddol yn ein cymunedau, ein trefi a’n dinasoedd ac mae’n rhaid inni wella addysg gyhoeddus am y niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau o'r fath.
Ond, gwaetha'r modd, nid dim ond cyffuriau anghyfreithlon sy’n achosi niwed. Mae nifer cynyddol o bobl yn camddefnyddio meddyginiaeth bresgripsiwn a meddyginiaeth dros y cownter, ac yn mynd yn gaeth iddynt. Y llynedd, bu cynnydd yn nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i gymryd paracetamol, fentanyl ac oxycodone. Mae prif ddarparwr adsefydlu’r DU yn adrodd eu bod yn trin mwy o bobl am gamddefnyddio meddyginiaeth bresgripsiwn nag am heroin. Credir mai un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw mynediad i glinigau rheoli poen. Yng Nghymru, bu cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n aros am wasanaeth reoli poen. Yn y pum mlynedd diwethaf mae’r nifer sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi gweld cynnydd syfrdanol 1,500 y cant. Yn y gogledd, mae cleifion yn gorfod aros tua 72 wythnos. Mae hyn yn gwbl druenus. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i leihau amseroedd aros am wasanaethau rheoli poen er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar boenladdwyr cryf a’r niwed cysylltiedig a ddaw o'u defnyddio’n hirdymor.
Mae’r strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi cael ei hadolygu a bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr adroddiad terfynol fis nesaf. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld hyn fel cyfle i fireinio'r strategaeth hon. Rwy’n edrych ymlaen at weld strategaeth wedi’i diweddaru sy’n rhoi sylw i nifer y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau ac yn ymdrin â’r heriau newydd sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr.
Dydw i ddim yn meddwl y gwnaf byth anghofio y tro cyntaf imi gyfarfod â bachgen 10 mlwydd oed a oedd yn amlwg wedi meddwi. Roedd ei anadl yn arogleuo'n gryf o alcohol ac roedd ei ymddygiad yn dangos ei fod—. Roedd y risgiau roedd yn eu cymryd, a’i hyfdra, yn arwydd clir ei fod wedi meddwi. Dydw i ddim yn meddwl y bydd isafswm pris alcohol o gymorth i blant fel hwn, oherwydd dydyn nhw byth yn mynd i allu prynu’r alcohol eu hunain, ond mae'n dangos ichi sut, mewn rhai cartrefi, mae lefel yr oruchwyliaeth mor wael nes nad ydyn nhw mewn sefyllfa i atal eu plant rhag meddwi fel hyn. Yn amlwg, mewn llawer o achosion, mae eu rhieni hefyd yn gaeth i alcohol neu gyffuriau ac mae hynny'n codi cwestiynau enfawr i unrhyw blentyn sy'n canfod ei hun yn byw mewn aelwyd felly. Felly, hoffwn nodi ei fod yn peri pryder, ac y dylem oll fod yn bryderus bod dros 400 o atgyfeiriadau y llynedd ar gyfer plant 10 i 14 mlwydd oed.
Croesawaf yn fawr waith y SchoolBeat gan swyddogion cymorth cymunedol mewn ysgolion. Rydym yn gwybod bod alcohol ym mhob man, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ac yn amlwg mae’n rhaid inni addysgu plant ynglŷn â sut yr ydym yn rheoli ein perthynas gydag alcohol, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pan mae alcohol ym mhobman ac mae llawer o bobl yn cael eu hannog i gamddefnyddio alcohol—ac ymhell dros y canllawiau 14 uned—a'r ffaith bod llawer gormod o bobl drwy gydol y flwyddyn yn yfed lefelau niweidiol o alcohol a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau canser a chlefyd yr iau y mae’r gwasanaeth iechyd yn gorfod ymdrin â nhw.
Mae'n debyg mai un o’r pryderon yr oeddwn am eu codi heddiw yw'r ffaith bod gweithwyr ieuenctid yn fy etholaeth i yn dweud bod pobl ifanc yn llawer mwy tueddol ar hyn o bryd o ddefnyddio cyffuriau yn hytrach nag alcohol, ac, yn enwedig, mae defnyddio Spice—y canabinoidau synthetig hyn—yn gryn destun pryder, oherwydd mae’n rhaid ei bod hi’n eithriadol o anodd olrhain y coctel o amffetaminau a sylweddau eraill mae gwerthwyr cyffuriau’n eu coginio yn eu ceginau cefn, i gynyddu eu helw a bachu cenhedlaeth newydd gaeth. Mae’n destun gofid mawr gweld pobl ifanc ar y llawr yng nghanol Dinas Caerdydd ac mae hyn wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar yn y cyfryngau lleol. Dywedodd un defnyddiwr yng Nghaerdydd fod Spice wedi cymryd gafael ar ei fywyd: 'Mae fel heroin; rydych chi’n colli gafael ar realiti.'
Dywedodd un gwerthwr cyffuriau yng Nghaerdydd wrth WalesOnline y gallai, wrth weithio yn Adamsdown neu yng nghanol y ddinas, wneud £300 yr awr. Felly, gallwch weld yr anawsterau sydd gan yr heddlu i geisio rheoli'r broblem. Yn anffodus, mae hyn, yn amlwg, wedi’i adlewyrchu yn y cynnydd bron 50 y cant mewn derbyniadau i ysbytai yn gysylltiedig â chanabinoidau dros y pedair blynedd diwethaf. Cymeradwyaf yn gryf waith WEDINOS, sy'n gyson yn profi’r sylweddau seicoweithredol newydd, oherwydd, yn amlwg, allwn ni ddim amddiffyn pobl oni bai ein bod yn gwybod beth maen nhw’n ei gymryd, ac mae angen inni fod yn gyson ar y blaen i’r gwerthwyr cyffuriau.
Yn amlwg, mae’n ddarlun mwy cymhleth na dim ond pobl ifanc sy’n daer am foddi eu gofidiau. Fel y dywedodd Dai Lloyd eisoes, rwy’n ymddiriedolwr ac yn gyfarwyddwr yn Stafell Fyw Caerdydd. Nid dim ond pobl dlawd iawn sy’n profi caethiwed. Mae llawer o gleientiaid y Stafell Fyw yn bobl sy'n cadw swyddi cyfrifol; yn feddygon, yn ficeriaid ac yn weithwyr proffesiynol eraill sy'n canfod bod gofynion emosiynol y swydd yn eu hannog i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol fel ffordd o ddianc rhag pwysau a baich y gwaith maen nhw’n ei wneud.
Rwy’n cymeradwyo’n gryf y gwaith dyfal a chyson y mae angen iddo barhau i unrhyw un sy'n gweithio mewn gwasanaethau triniaeth. Rwy’n nodi bod 15 y cant o bobl yn rhoi’r gorau i fynychu cyn dechrau triniaeth, neu fod pobl yn gadael cyn i’r driniaeth ddechrau ar ôl asesiad. Mae hynny oherwydd bod pobl yn ofni gorfod ymdrin â’r drwg yn eu bywydau sydd wedi eu harwain i mewn i’r caethiwed hwn yn y lle cyntaf. Rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn glir iawn am yr heriau sydd o'n blaenau, ac mae'n broblem gymhleth ac anodd iawn.
Diolch. Ac yn olaf, David Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ategu'n llawn yr holl deimladau a fynegodd Dai Lloyd mor huawdl yn gynharach? Fel ynad a fu’n eistedd am 13 blynedd, gwelais yr effaith ddinistriol y gall cyffuriau ac alcohol ei chael ar fywydau unigolion ac, yn aml iawn, roedd yr unigolion hynny’n dod o gefndiroedd anhrefnus heb y math o gychwyn mewn bywyd y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi’i fwynhau. Felly, fel ynad, a gyda’r ynadon arall, roeddem bob amser yn chwilio am ymyriadau nad oeddent yn troseddoli’r bobl hyn, os yn bosibl. Ond roeddem yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y ffaith, pe byddem yn rhoi rhywbeth fel gorchmynion adsefydlu cyffuriau, na fyddent yn dod i rym am tua phedwar mis, ac erbyn hynny, wrth gwrs, roedd y bobl, mwy na thebyg, wedi cyflawni mwy o droseddau yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, rwy’n cymeradwyo’n llawn bopeth a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach.
Rwyf am droi yn awr, os caf i—. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Tŷ Brynawel yn Llanharan yn un o ddim ond dau gyfleuster adsefydlu preswyl yng Nghymru, ac mai’r llall yw Ty'n Rodyn ym Mangor; soniodd Mark Isherwood am y ddau yn gynharach. Mae Brynawel yn cynnig triniaeth sy’n newid bywyd i bobl sy'n cael trafferth â dibyniaeth ar alcohol, gan hyd yn oed ymdrin â phobl sydd wedi cael niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae eu technegau triniaeth unigryw wedi cael cydnabyddiaeth gan lawer o awdurdodau lleol y tu allan i Gymru, ac eto mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yma yng Nghymru’n eu hesgeuluso, i'r fath raddau nes bod posibilrwydd gwirioneddol y gallai Brynawel gau.
Yn wir, nid yw awdurdod lleol Merthyr Tudful, er enghraifft, wedi atgyfeirio un claf i Brynawel yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod pob cyngor yn gallu cael y £1 filiwn sydd wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer triniaeth gofal preswyl. Dywedodd un o'm hetholwyr wrthyf ei bod wedi erfyn ar Gyngor Merthyr i dderbyn ei gŵr i ofal preswyl, ond dywedwyd wrthi’n ddigamsyniol nad oedd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn atgyfeirio pobl sy’n camddefnyddio alcohol i gael y math hwn o driniaeth. Mae'n ymddangos bod hwn yn safbwynt y mae llawer o awdurdodau lleol yn ei fabwysiadu, o ystyried cyn lleied sy’n manteisio ar y cyfleusterau a gynigir gan Brynawel. Does bosib, gan fod yr ystadegau'n dangos nad yw ymyriadau eraill yn cael rhyw lawer o lwyddiant, nad yw hi’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i archwilio pob math o ymyriad, gan gynnwys triniaeth breswyl. Rwy’n galw ar y Gweinidog i archwilio'r rhesymau dros amharodrwydd awdurdodau lleol i ddefnyddio triniaeth breswyl fel un o'r arfau i drin camddefnyddio alcohol a chyffuriau, yn enwedig os yw ymyriadau eraill wedi methu.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am ddadl adeiladol ac ystyriol ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau. Fel y nodwyd yn fy sylwadau agoriadol a gan y rhan fwyaf o'r Aelodau a siaradodd, mae’r dirwedd hon yn newid drwy’r amser, sy'n gwneud ein gwaith yn heriol iawn. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae hon yn broblem gymhleth ac anodd, felly does dim ateb syml sy’n hollol amlwg ac o dan ein trwynau. Mae rhywbeth yn ymwneud â deall natur yr her sy’n ein hwynebu a’i maint hefyd, ac yn fy sylwadau byddaf yn ceisio ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth pob siaradwr, ond maddeuwch imi os na wnaf roi sylw i bob un o'r pwyntiau a wnaeth pob unigolyn.
Rwy’n mynd i ddechrau gyda Mark Isherwood a’r pwynt am wasanaethau cleifion mewnol, gwasanaethau haen 4, ac yn benodol pwyntiau am wasanaethau haen 4 a dadwenwyno hefyd. Mae Mark wedi amlinellu un farn am hanes o ran ble'r ydym wedi bod a ble'r ydym nawr. O ran rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd am yr ystod o driniaethau yn Brynawel—soniodd David Rowlands yn benodol am hynny—rwy’n falch o ddweud nad dim ond i bobl yn etholaeth fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, mae Brynawel, ond mae’n gwasanaethu pobl mewn ardal eang o leoedd. Mae'r rhagolygon ar gyfer Brynawel wedi gwella, ac mae hyn wedi digwydd oherwydd bu ymgysylltu gwirioneddol rhwng Brynawel a Llywodraeth Cymru i ariannu cynllun peilot niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol—mae mwy i'w wneud ar hynny—ond hefyd mewn sgyrsiau nid dim ond ynglŷn â’r fframwaith ar gyfer gwasanaethau haen 4, ond y berthynas ymarferol ei hun rhwng comisiynwyr a Brynawel fel y darparwr gwasanaeth, deall yr ystod o wasanaethau y gall Brynawel eu cynnig, a bod comisiynwyr yn gallu lleoli pobl yno hefyd. Rwy’n meddwl, o'r diwedd, bod mwy o ddealltwriaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael o bosibl. Fel y dywedaf, o ran dadwenwyno cleifion mewnol, rwy’n meddwl bod mwy o waith i'w wneud i ddeall ble yw'r lle mwyaf priodol i rywun gael y gwasanaeth hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae rhai pobl yn cael y gwasanaeth hwnnw mewn lleoliad ysbyty, ac efallai nad dyna’r lle cywir iddynt.
Rwy’n mynd i geisio ymdrin â sylwedd y pwyntiau a wnaeth Dai Lloyd a Leanne Wood, nid dim ond o ran nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, ond hefyd potensial rhai o'r datrysiadau. A dweud y gwir, ar rywfaint o hyn, dydyn ni ddim yn anghytuno. Mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu, er enghraifft, i gyd yn cytuno’n unfrydol y dylid datganoli plismona, ond mae’n fater o pryd, nid os, o’u safbwynt nhw. Dydyn ni ddim yn rhannu'r farn a fynegodd Leanne Wood yn llawn. Dydw i ddim ar fin ceisio newid polisi Llywodraeth Cymru ar ddyfodol datganoli a’r holl feysydd pwerau hynny. Ond mae rhywbeth o hyd yn ein dealltwriaeth o sut yr ydym yn cydbwyso’r hyn y gallwn ei wneud ac yna i farnu gwerth hynny. Soniais am rôl naloxone a'r ffaith bod y pecynnau wedi cael eu defnyddio ar dros 1,600 o achlysuron. Mae hynny, rwy'n meddwl, yn dangos, os yw gorddos wedi digwydd a’i fod wedi cael ei defnyddio, gallwch chi ddweud yn onest ei bod yn annhebygol y byddai’r unigolyn dan sylw yno pe na bai hynny wedi digwydd.
Felly, mae rhywbeth ynghylch deall effeithiolrwydd yr hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, ond hefyd maint yr her sy'n ein hwynebu. Mae dadl anodd inni ei chael, ond un onest i’w chael, i’w chymryd o ddifrif, gan ei fod yn fater difrifol iawn, ynghylch cyfleusterau chwistrellu neu lyncu dan oruchwyliaeth. Rwy’n meddwl bod hyn yn anodd iawn, yn bennaf oherwydd y gyfraith sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr. Ceir anghytundeb rhwng comisiynwyr heddlu a throseddu, ond mae prif gwnstabliaid eu hunain i gyd yn bwyllog iawn am hyn yng Nghymru. Mae rhywbeth yma ynghylch deall y gyfraith a sut y caiff ei gorfodi, ac i gael man chwistrellu diogel byddai angen cytundeb gyda'r heddlu am sut y byddent a sut na fyddent yn gorfodi'r gyfraith, ac mae hynny'n anodd. Byddech yn gofyn i’r heddluoedd hynny beidio â gorfodi'r gyfraith yn y maes hwnnw.
Yn benodol, ceir yr her sydd yna'n bodoli gyda'r gymuned hefyd—oherwydd mae pob un ohonom sydd â chyfleusterau yn ein hetholaeth, p'un a ydynt yn gyfnewid nodwyddau neu’n wasanaethau eraill, yn gwybod bod cryn amheuaeth bron bob amser. Hefyd, mae pobl yn gweld y niwed y mae cyffuriau’n ei wneud, nid dim ond i unigolion a'u teuluoedd, ond i gymuned ehangach. A cheir dealltwriaeth, lle bynnag y mae unrhyw fan triniaeth yn debygol o fod, eich bod yn debygol o wynebu ymgyrch gymunedol, wedi’i hysgogi'n rhannol gan ofn, difaterwch, ac a dweud y gwir rhai o elfennau llai trugarog y cymeriad dynol, yn ogystal â phobl sy’n poeni tipyn mwy am y posibilrwydd y bydd hynny'n dod yn fagnet ar gyfer gwerthu cyffuriau hefyd. Felly, ceir dealltwriaeth am y rhannau hynny, ond rwyf hefyd yn wirioneddol bryderus ynghylch dyfodol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, oherwydd os byddwn yn gofyn iddynt oruchwylio gweithgaredd sy’n anghyfreithlon ar hyn o bryd, rwy’n meddwl bod risg ynghylch eu cofrestru eu hunain yn y dyfodol. Rwy’n meddwl bod dadl briodol i'w chael ac adolygiad o dystiolaeth.
Rwy’n gobeithio ei bod yn ddefnyddiol i'r bobl sydd o blaid hyn fel datrysiad, er fy holl bryderon a’m pwyll ynghylch lle yr ydym yn awr, bod y grŵp adolygu arbenigol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru yn edrych ar dystiolaeth, nid dim ond yn rhyngwladol, i adeiladu ar deithiau byrddau iechyd i’r ardaloedd y soniodd Leanne Wood amdanynt, ond hefyd Denmarc, ac edrych ar y dystiolaeth bresennol ynghylch beth sydd neu beth nad yw’n digwydd yn Durham, i roi cyngor pellach inni am effeithiolrwydd yr hyn a ddarperir, ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru yn ogystal. Fel y dywedaf, mae hon yn ddadl ddifrifol i’w chymryd o ddifrif, oherwydd gallai fod ffordd, os gallwn ddod o hyd iddi, o arbed mwy fyth o fywydau.
I roi sylw i rai o'r pwyntiau a gododd John Griffiths ynghylch defnyddio cyfalaf a chyfleusterau priodol, bu pryder gwirioneddol rhyngof fi a'r Gweinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, fel yr oedd hi ar y pryd, ynglŷn â sut i ddefnyddio cyfalaf, ond hefyd ynglŷn â’r enillion a gawn ar hynny a diogelwch ein buddsoddiad cyhoeddus mewn cyfleusterau, i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod ar gael at y diben hwnnw hefyd. Rydym wedi bod yn pryderu am y ffordd nad ydym wedi cael ein hamddiffyn yn briodol yn y gorffennol, ond rwy’n meddwl ein bod mewn gwell sefyllfa bellach i wneud yn siŵr bod cyfalaf yn cael ei fuddsoddi’n ddoeth.
Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnaethoch chi a Jenny Rathbone am rianta ac ymddygiad fel esiampl mewn amrywiaeth o feysydd. Yr hyn sydd wir yn galonogol rhwng y pwyntiau a wnaethoch chi a Jenny Rathbone yw, o ran alcohol o leiaf, ein bod yn gweld cyfraddau is o gamddefnyddio alcohol ymhlith pobl iau. Mae elfen ronc i hynny o hyd, ond, yn gyffredinol, mae pobl ifanc yn fwy tebygol o beidio ag yfed neu beidio â goryfed. Rwy’n meddwl bod rhywbeth ynghylch y ddealltwriaeth o pam yr ydym yn bwrw ymlaen ag isafswm pris fesul uned, oherwydd mae hynny'n rhan o'n dull gweithredu. Ond ni ddylem esgus bod hynny ynddo'i hun yn datrys pob helbul, oherwydd ni wnaiff. Mae rhywbeth wir am addysg a’r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i bobl i wneud eu dewisiadau, ac mae hynny'n rhoi rhywfaint o anogaeth imi am y materion sydd heb eu datrys eto ynghylch camddefnyddio sylweddau yn yr ystyr ehangach, ac ynghylch defnyddio cyffuriau, ac yn benodol y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am ddefnyddio canabinoidau a sylweddau seicoweithredol newydd.
Ceir diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth am y peryglon y mae’r sylweddau hynny'n eu peri i ddefnyddwyr a'r bobl o'u hamgylch, ac mae angen i ni geisio dod o hyd i ffordd drwy hynny i geisio galluogi pobl unwaith eto i wneud dewisiadau doethach a mwy gwybodus. Oherwydd dyna sydd wrth wraidd ein dull gweithredu—sut yr ydym yn galluogi pobl i wneud dewisiadau a sut yr ydym yn cynnal ein dull lleihau niwed. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn cefnogi'r cynnig a naill ai’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth neu, beth bynnag, yn cefnogi’r cynnig terfynol a fydd ger ein bron ar ddiwedd busnes heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno â gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 5 ar ein hagenda ein y prynhawn yma yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6568 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017.
Mae’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud y Gorchymyn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma wedi’i gynnwys yn adran 6(1)(b) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. Mae adran 65(7) y Ddeddf yn ei gwneud yn glir na chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn heb gael cymeradwyaeth gan y Cynulliad. Diben y Gorchymyn yw galluogi ystadegau sydd wedi’u cynhyrchu neu’n mynd i gael eu cynhyrchu gan y cyrff a restrir i gael eu dynodi fel ystadegau swyddogol. Bydd gwneud hynny'n golygu y bydd yr ystadegau hyn wedyn yn destun monitro ac adrodd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Cafodd y pŵer hwn i wneud Gorchmynion ei arfer gyntaf gan Weinidogion Cymru yn 2013 pan gafodd pum corff eu rhestru. Y tro hwn, mae’r Gorchymyn yn ehangach ei gwmpas ac yn enwi 14 o gyrff ychwanegol ar draws gwahanol sectorau. Mae rhai ohonynt wedi dod i fodolaeth ers 2013, pan wnaethpwyd y Gorchymyn gwreiddiol. Mae pob un o’r 14 o gyrff wedi cytuno i gael ei enwi yn y Gorchymyn. Dydyn ni ddim yn disgwyl, Dirprwy Lywydd, y bydd yr holl gyrff a restrir yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ar unwaith. Mae’r Gorchymyn yn eu galluogi i gyhoeddi data fel ystadegau swyddogol pan fyddant yn ystyried bod hynny’n briodol a bod ganddynt y trefniadau cadarn ar waith i wneud hynny.
Mae ystadegau swyddogol yn rhoi ffenestr ar ein cymdeithas, yn llywio penderfyniadau ac yn galluogi'r cyhoedd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau mwy o gysondeb wrth gyhoeddi ystadegau a'n bod yn dangos yma yng Nghymru egwyddorion y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o ddidwylledd, ansawdd a gwerth ar draws ystod ehangach o awdurdodau cyhoeddus. Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r Gorchymyn y prynhawn yma.
Diolch. Steffan Lewis.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn gyntaf, am roi'r cyfle i mi dderbyn briff technegol buddiol iawn gan un o swyddogion y Llywodraeth ar y Gorchmynion hyn yr wythnos diwethaf.
Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gen i'r prynhawn yma. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gynhyrchu adroddiad blynyddol sydd yn dangos eu cynnydd ar gyrraedd nodau a amlinellir yn eu cynlluniau lles lleol. Er bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chynnwys o dan y Gorchymyn hwn, nid yw awdurdodau lleol, ond nhw sydd yn gyfrifol am yr ystadegau. Sut, felly, y mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod yr ystadegau a gynhyrchir yn yr adroddiadau blynyddol hyn yn bodloni a chydymffurfio â'r safon o fod yn annibynnol ac yn gadarn, fel yr amlinellir yn y Gorchymyn hwn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol i sicrhau y bydd awdurdodau lleol, sydd yn cyhoeddi'r ystadegau, hefyd yn cydymffurfio â chod ymarfer ystadegau swyddogol?
Wrth gwrs, y mater arall o bwys yw'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd: bydd hyn yn cael effaith ar yr ystadegau sydd ar gael, megis y ffigurau iechyd, amaethyddol a rhai yn ymwneud â'r economi. Er enghraifft, dim ond yr Undeb Ewropeaidd sydd yn casglu data GDP ar lefel ranbarthol neu is-wladwriaethol, ac mae'n bwysig bod y ffigyrau hyn yn parhau i gael eu casglu wedi ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd. Ond hefyd, oherwydd mi fydd angen dylunio polisïau rhanbarthol newydd—ac rydw i'n deall bod yna gyhoeddiad yn mynd i ddod yn fuan gan y Llywodraeth—mae yna gyfle yma inni ail-ddylunio’r rhanbarthau ystadegol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod unrhyw bolisi rhanbarthol newydd wir yn cynrychioli cyfoeth gwirioneddol. Sut, felly, mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod yr ystadegau yma ar gael ac yn cael eu casglu a'u cyhoeddi yn dilyn ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd? Ac a oes bwriad i ailystyried ail-ddylunio rhanbarthau ystadegol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod unrhyw ddadansoddi data sydd yn cael ei wneud ar gyfer polisïau cyhoeddus yn cael ei wneud ar sail rhanbarthau ystyrlon?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, gwelaf nad yw byrddau iechyd chwaith wedi eu cynnwys dan y Gorchymyn hwn, ond eto mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi ei chynnwys. Mae'n bolisi gan y rhan fwyaf o bleidiau yn y Cynulliad yma y dylai holl gleifion ar hyd a lled Cymru gael ystadegau ystyrlon. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffigurau wedi dangos bod y Llywodraeth wedi methu â chyflawni hyn, ond ymateb y Llywodraeth i hynny oedd nad oedd y data sy'n cael ei gasglu gan fyrddau iechyd yn ddigonol nac yn ddigon da, ac nad yw byrddau iechyd yn berffaith siŵr beth oedd y diffiniad, er enghraifft, o weithiwr allweddol, neu ddim yn casglu'r data o gwbl. Felly, mae hyn yn enghraifft o'r angen, rydw i'n meddwl, i ddod â'r byrddau iechyd i gyd i mewn i'r Gorchymyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau cysondeb ystadegol ar hyd y genedl. A ydych chi'n cytuno y byddai hyn yn ffordd ymlaen? Ac a ydych chi'n agored i gynnwys y byrddau iechyd i gyd o dan y Gorchymyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau safon uchel o ddata sydd ar gael i bawb yn y wlad?
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl honno.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A diolch i Steffan Lewis am y cwestiynau. Gwnaf ddechrau gyda'r trydydd—jest i ddweud, rydym ni wedi rhoi'r ymddiriedolaeth ambiwlans a hefyd Felindre i mewn i'r Gorchymyn achos maen nhw'n cymryd cyfrifoldebau ledled Cymru. Mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn rhywbeth cenedlaethol, ac mae Felindre yn gyfrifol am ei shared services centre, sy'n rhoi gwasanaethau ledled Cymru, so maen nhw'n paratoi ffigurau a data ar y lefel yna. Nid ydym wedi rhoi byrddau iechyd i mewn achos nad ydyn nhw ar yr un lefel, ond i fod yn glir—nid yw'r Gorchymyn ar ddiwedd y daith. Mae'n gam ymlaen—rydym ni wedi rhoi mwy o gyrff cyhoeddus i mewn i'r Gorchymyn, ac, wrth gwrs, rydym ni yn agored i feddwl am fwy na hynny yn y dyfodol.
Mae un pwynt yn berthnasol i'r pwynt cyntaf roedd Steffan Lewis yn ei godi am awdurdodau lleol. Yn yr Alban ac yn Lloegr, nid ydynt wedi rhoi awdurdodau lleol i mewn yn y system fel rydym ni yn siarad amdano heddiw. Rydym wedi rhoi i mewn am y tro cyntaf y local government data unit sy'n gyfrifol am bethau pan mae pobl yn casglu pethau at ei gilydd gan awdurdodau lleol, a chyhoeddi pethau ar lefel genedlaethol. So, mae hwnnw'n gam ymlaen, ond rydym yn agored i siarad â'r awdurdodau lleol ac i gadw'r posibilrwydd o'u rhoi nhw i mewn i Orchymyn yn y dyfodol hefyd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, i droi jest at y pwynt am yr Undeb Ewropeaidd—.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yn y fan yma yw, wrth gwrs, nad dim ond mater o bwys i Gymru yw hwn, a bod deialog reolaidd yn digwydd rhwng prif ystadegwyr y gweinyddiaethau datganoledig a’r ystadegydd cenedlaethol i wneud yn siŵr nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at leihad yn y gallu i ddarparu gwybodaeth gan ddinasyddion Cymru yn yr oes ar ôl Brexit. Mae fframweithiau ystadegol yr UE yn darparu manteision o ran cysoni—mae pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn gweld hynny—ac mae hyn yn cyfrannu at ddefnyddioldeb a thryloywder ystadegau ledled y DU. Mae’r ystadegydd gwladol a’r prif ystadegwyr yn gweithio’n galed ar y mater hwn, a gallwn wneud yn siŵr bod y pwyntiau a gododd Steffan Lewis yn cyfrannu at y trafodaethau parhaus hynny.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl mai dyma’r ffordd orau o ymateb i’r pwyntiau a gododd Steffan Lewis, ond mae’r Gorchymyn hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran y Gorchymyn a oedd gerbron y Cynulliad yn 2013. Nid yw’n ddiwedd y daith o gwbl. Rwy’n gwybod bod uchelgais i barhau i ddatblygu'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yn y maes hwn, a'i bod yn ddigon posibl y caiff rhagor o gyrff eu hychwanegu yn y dyfodol. Dydw i ddim yn meddwl bod rheswm dros beidio â chefnogi'r Gorchymyn, fel y mae gerbron y Cynulliad heddiw, i wneud yn siŵr ein bod yn dal y cynnydd sydd ynddo, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn barod i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). A galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM6552 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2-6
b) Atodlen 1
c) adrannau 7-12
d) adran 1
e) Teitl Hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Wedi’i gynnig yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Mae'r cynnig hwnnw felly wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.
Rydym ni'n symud i'r cyfnod pleidleisio, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—mae'n ddrwg gen i, dylwn fod wedi dweud mai hon yw'r ddadl ynglŷn â mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 33, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.
NDM6559 - Gwelliant 1: O blaid: 33, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 21, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 yn methu.
NDM6559 - Gwelliant 2: O blaid: 21, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.
NDM6559 - Gwelliant 3: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6559 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg.
2. Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 37, wyth yn ymatal, dim yn erbyn. Felly, cytunir ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM6559 - Dadl: Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau (wedi'i ddiwygio): O blaid: 37, Yn erbyn: 0, Ymatal: 8
Derbyniwyd cynnig NDM6559 wedi'i ddiwygio
Cyn inni symud at y ddadl am Gyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), rwyf nawr yn cynnig atal y trafodion am 15 munud. Caiff y gloch ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:10.
Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:25, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Galwaf yr Aelodau i drefn. Felly, dyma ni'n cyrraedd y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau'n ymwneud â chyngor a gwybodaeth. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 a byddaf yn ceisio siarad am y gwelliant hwnnw, ynghyd â gwelliannau eraill yn y grŵp hwn a gyflwynwyd yn fy enw i. Ond cyn i mi wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Ysgrifennydd y Cabinet a deilydd blaenorol y portffolio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, am y trafodaethau hynod gadarnhaol a gawsant gyda mi a'm swyddfa wrth i'r ddeddfwriaeth bwysig hon ddirwyn ei ffordd drwy'r Cynulliad hyd yma. Mae hi wedi bod yn braf iawn, mae'n rhaid imi ddweud, gallu trafod mewn modd diffuant a thraws-bleidiol i lunio, diwygio a gwella'r Bil hwn, ac rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y trafodaethau a gefais gyda'r ddau ohonynt yn unigol a chyda'u swyddfeydd a'u swyddogion.
Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd, ar ddechrau'r ddadl hon, i'r clercod, yr ymchwilwyr a'r ymgynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gefnogaeth a gafwyd ganddyn hwythau hefyd i ddrafftio'r gwelliannau a gyflwynais ar gyfer y ddadl heddiw. Mae eu cyngor hwythau hefyd wedi bod yn amhrisiadwy.
Diben gwelliant 1 yw sicrhau bod y cod anghenion dysgu ychwanegol, y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei baratoi er mwyn sicrhau darpariaeth y system anghenion dysgu ychwanegol newydd y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chyflwyno, yn hygyrch i blant a phobl ifanc. Yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, mae Llywodraethau ym mhob rhan o'r DU wedi bod yn euog o gynhyrchu dogfennau sydd yno i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant, ac eto maent mewn diwyg sydd yn amhosib i blant a phobl ifanc eu hunain ei ddeall ac yn aml yn annirnadwy i bawb ond llond llaw o arbenigwyr.
Fel mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi tynnu sylw ato'n gwbl briodol, mae'n amlwg bod drafft presennol y cod ymarfer newydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae'n bwysig bod teuluoedd yn cael gwybod am broses y cynllun datblygu unigol, boed hynny drwy gyfrwng cod hygyrch ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd, neu drwy fersiwn deuluol ar wahân o'r cod ymarfer.
Os caiff ei basio, bydd gwelliant 1 o'm heiddo yn sicrhau y bydd y cod ar gael mewn diwyg y gall plant a phobl ifanc ei ddeall. Bydd yn eu galluogi nhw i ddeall a gwerthfawrogi eu hawliau ac i sicrhau y bydd yr hawliau hynny yn cael eu cyflawni gan y rhai sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.
Mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio diwygio adran 7 y Bil, sy'n ymwneud â chyngor a gwybodaeth. Mae adran 7 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i roi gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, a'r system sydd ar waith i ddarparu ar eu cyfer.
Yng Nghyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn mynegi pryder bod, yn wahanol i'r gofynion ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth a datrys anghydfod, nad oedd gofyniad mewn gwirionedd y dylai cyngor a gwybodaeth gan awdurdodau lleol fod yn annibynnol. Roedd hi'n amlwg o'r ddadl yng Nghyfnod 2 yn y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r farn y dylai'r cyngor hwn fod yn annibynnol, oherwydd, wrth gwrs, yn ystod y ddadl honno, gwnaeth y Gweinidog ar y pryd hi'n glir bod disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ddarparu a dyfynnaf 'gwybodaeth a chyngor gwrthrychol a diduedd'.
Felly, mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio gosod yr union eiriau hynny, a gymerwyd o enau'r Gweinidog ar y pryd, ar wyneb y Bil i'w gwneud yn glir i awdurdodau lleol nad disgwyliad yn unig yw hyn, y mae hefyd yn ddyletswydd. Rwyf yn sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno gwelliant arall, a fydd, i bob pwrpas, yn cael yr un effaith—gwelliant 28—ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud ynghylch hynny.
Gan droi, felly, at welliant 5, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cyflawni argymhellion 29 a 30 adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, a oedd eisiau i wybodaeth a chyngor am y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc fod ar gael ym mhob cyfnod allweddol o'r broses anghenion dysgu ychwanegol, ac ar adegau trosglwyddo allweddol yn eu haddysg, fel symud i ysgol arall. Gan fod gwelliant 5 yn cyflawni'r argymhellion hyn, a gefnogwyd gan y pwyllgor ar sail traws-bleidiol, rwy'n gobeithio'n fawr y cawn nhw eu cefnogi heddiw hefyd.
Yn olaf, o ran gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15, mae'r Bil, fel y mae wedi ei ysgrifennu ar hyn o bryd, yn gofyn i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol wneud asesiad o anghenion dysgu ychwanegol pan ei bod yn ymddangos bod gan berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ac os gwelir bod angen, yna bydd gofyn iddyn nhw hefyd baratoi a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc hwnnw.
Fodd bynnag, ceir disgwyliadau o'r gofynion hyn. Un ohonynt yw na ddylai'r dyletswyddau hyn fod yn berthnasol—. Mae eithriadau, dylwn ddweud, yn hytrach, o'r gofynion hyn, ac un ohonynt yw nad yw'r dyletswyddau yn berthnasol os nad yw'r person ifanc yn cydsynio iddynt gael eu cyflawni. Y broblem gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd yw nad oes unrhyw ofyniad i hysbysu person ifanc mewn gwirionedd am ganlyniadau gwrthod cydsynio. Er na chafodd y mater hwn ei drafod yn fanwl yn ystod Cyfnodau 1 na 2 o'r ddeddfwriaeth, rwyf yn pryderu, oni bai y caiff y Bil ei ddiwygio, y gallai pobl ifanc wrthod rhoi cydsyniad heb lawn sylweddoli effaith posibl penderfyniad o'r fath ar eu cyfleoedd dysgu a'u rhagolygon. Mae hyn yn arbennig o bwysig, rwy'n credu, gan y bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn ddysgwyr agored i niwed, felly mae'n rhaid i'r rheini sy'n gwrthod Cynllun Dysgu Unigol wneud hynny ar sail dewis gwybodus ac nid oherwydd eu bod nhw wedi eu perswadio'n amhriodol i wrthod cydsyniad, sydd, rwy'n ofni, yn bosibilrwydd gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd.
Felly, dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny sy'n weddill, sy'n ceisio amddiffyn pobl ifanc agored i niwed rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio'r eithriadau hyn, drwy sicrhau eu bod yn cael gwybod am arwyddocâd a goblygiadau eu penderfyniad cyn penderfynu pa un ai i wrthod rhoi cydsyniad. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau yn cefnogi'r holl welliannau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
A gaf innau hefyd ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu crybwyll i'r Ysgrifennydd Cabinet ac yn sicr i'r cyn-Weinidog am y modd adeiladol y mae ef a'i swyddogion wedi gweithio gyda nifer ohonom ni ar y Bil yma? A hynny wrth gwrs gyda chefnogaeth swyddogion y pwyllgor ac ystod eang iawn o fudd-ddeiliaid sydd yn sicr wedi dod â llawer o gefnogaeth i ni fel Aelodau, ac wedi cyfoethogi yn sicr y drafodaeth sydd wedi bod o gwmpas y Bil yma wrth iddo fe wneud ei ffordd drwy'r Cynulliad.
Rwy'n hapus i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp yma ac yn cefnogi yn ffurfiol welliannau 1, 4, 5, 7, 8, 9, 14 ac 15 am y rhesymau rydym ni wedi'u clywed eisoes. Mae sicrhau bod y cod yn hygyrch ac yn ddealladwy, a bod unrhyw gyngor a gwybodaeth yn wrthrychol ac yn ddiduedd, ac ar gael gydol gyrfa addysgiadol person ifanc, yn enwedig ar gyfnodau allweddol, yn gwbl greiddiol yn fy marn i i integriti y Bil yma ac i lwyddiant y ddeddfwriaeth, ac, yn wir, y pecyn ehangach o ddiwygiadau. Felly, fe fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi'r holl welliannau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau hefyd ddechrau, fel Darren Millar, drwy oedi am ennyd i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â chael y Bil at y pwynt hwn? Yn arbennig, fe hoffwn ddiolch i'r Gweinidog blaenorol. Rwy'n gwybod y bu cyflwyno'r Bil a'r rhaglen weddnewid yn flaenoriaeth iddo. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r pwyllgor Cynulliad sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil, ac i'r holl bartneriaid a'r rhanddeiliaid sy'n ymwneud â datblygiad y Bil a'r rhaglen weddnewid ehangach. Rydym ni, rwy'n credu, mewn sefyllfa gref ac mewn lle cadarn o ganlyniad i'r cydweithio hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau'r gwaith i ddarparu system well ar gyfer ein dysgwyr mwyaf agored i niwed, fel y cânt eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial. Ac rwy'n credu y bydd consensws hir-ddisgwyliedig yn ffurfio yn y maes hwn.
Gan droi'n ôl at y grŵp o welliannau, nid yw'r Llywodraeth yn cefnogi y rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp. Mae hynny naill ai oherwydd eu bod yn amhriodol neu'n ddiangen oherwydd darpariaethau presennol yn y Bil, neu oherwydd bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant arall yn ymdrin â'r un mater.
Mae amcan gwelliant 28 y Llywodraeth yr un fath â gwelliant 4 Darren Millar o ran ei egwyddor, ond rydym ni wedi mynd ati mewn ffordd wahanol. Mae gwelliant y Llywodraeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol wrth wneud trefniadau ar gyfer cyngor a gwybodaeth i roi sylw dyledus i'r egwyddor bod yn rhaid ei ddarparu mewn modd diduedd. Mae hyn yn golygu y bydd awdurdod lleol yn gorfod ystyried nid yn unig pa wybodaeth a chyngor y mae'n eu darparu, ond sut y mae'n darparu yr wybodaeth a'r cyngor hynny. Er bod amcan gwelliant 4 Darren gwelliant yn debyg, fy marn i yw nad yw'r geiriad yn gweithio'n arbennig o dda mewn cyd-destun deddfwriaethol. Yn gyntaf, mae'r termau 'diduedd' a 'gwrthrychol' yn golygu yr un peth fwy neu lai yn y cyd-destun hwn, felly nid oes dim i'w ennill drwy ddefnyddio'r ddau air. Hefyd, mae defnyddio'r naill derm yng nghyd-destun gwybodaeth yn amhriodol. Dylai gwybodaeth fod yn ddim amgenach na mynegiant o ffaith, ond yr hyn sydd yn hollbwysig yw y caiff gwybodaeth ei dethol a'i chyflwyno mewn modd diduedd, ac mae gwelliant y Llywodraeth yn darparu ar gyfer hyn.
Gan droi at yr elfen o gyngor yn y ddyletswydd, mae'r Bil eisoes yn glir bod yn rhaid iddo fod yn ddiduedd. Mae adran 6, ynghyd ag adran 7, yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol, wrth wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor, i ystyried pwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i blant, rhieni a phobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau. Rwy'n fodlon bod y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â gwelliant 28 yn fwy priodol, ac rwyf yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn yn hytrach na gwelliant 4 yn enw Darren Millar.
Gan droi at welliannau eraill Darren, ni allaf gefnogi gwelliant 1, sy'n cynnig bod yn rhaid i'r cod fod yn hygyrch i blant. Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r cod yn ddogfen gyfreithiol a fwriadwyd ar gyfer ymarferwyr. Nid yw, ac ni ddylai fod, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r Bil yn glir y bydd y cod yn rhoi canllawiau i bobl sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ac yn rhoi gofynion arnynt. Yn ei hanfod, bydd yn ddogfen dechnegol sy'n disgrifio llawer o fanylion y system ADY statudol. Bydd hefyd yn ffurf ar is-ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Cynulliad hwn ei chymeradwyo. Nid yw'n briodol, felly, iddo gael ei ysgrifennu mewn iaith addas i blant fel y mae'n ymddangos bod y gwelliant yn ei awgrymu.
Fodd bynnag, serch hynny, yn rhan o'u dyletswydd i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth am y system ADY y mae'r cod yn ei chwmpasu. Mae'n rhaid darparu'r wybodaeth hon mewn ffyrdd sy'n addas i oed a lefel dealltwriaeth y gynulleidfa honno. Hefyd, yn rhan o'r rhaglen weddnewid, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd gwybodaeth i helpu plant ddeall y system, fel yr amlinellir yn y Cod, yn cael ei hatgynhyrchu mewn ffordd hygyrch ac addas i blant.
Rwy'n ofni hefyd na allaf gefnogi gwelliant 5 Darren. Cytunaf y dylai plant a phobl ifanc gael gwybodaeth a chyngor am wasanaethau eirioli bob tro y bydd angen iddyn nhw o bosib ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Mae adran 7 y Bil eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y system ADY. Yn rhan o hyn, mae'n rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud ei drefniadau yn hysbys ynglŷn ag osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol.
Mae adran 4(5) y Bil yn caniatáu i'r cod gynnwys gofynion gorfodol ar y materion hyn, a defnyddir y cod i nodi'r adegau amrywiol y mae'n rhaid — a dywedaf eto, y mae'n rhaid darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn berthnasol yn enwedig wrth roi gwybod am benderfyniadau. Mae'r cod drafft eisoes yn cynnwys deunydd ynglŷn â hyn, gan gynnwys templed llythyrau hysbysu i'w defnyddio yn dilyn penderfyniadau allweddol. Caiff hyn ei ystyried ymhellach wrth i ni barhau i ddatblygu'r cod—a bydd ymgynghoriad llawn ynghylch hyn yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Felly, mae'r Bil a'r cod eisoes yn ymdrin mewn ffordd gynhwysfawr gyda'r pwynt a gynigir yn y gwelliant. Felly, nid oes angen gwelliant 5, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w wrthod.
Yn olaf, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi a chytuno bod angen inni wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 o eiddo Darren. Mae'r Bil, ynghyd â darpariaethau'r Cod, eisoes yn darparu ar gyfer hyn. Nid yw addysg ôl-16 yn orfodol. Ar ddiwedd addysg orfodol, mae pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu haddysg: lle maen nhw yn astudio, beth maen nhw yn ei astudio a sut y maen nhw yn astudio. Dyna pam mae'r Bil yn galluogi pobl ifanc, pan fo ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny, i benderfynu a ydyn nhw'n fodlon i benderfyniadau gael eu gwneud ynghylch a oes ganddyn nhw ADY ai peidio ac a ddylen nhw gael cynllun CDU ai peidio.
Cytunaf yn llwyr â Darren y dylai pobl ifanc sydd o bosib â'r hawl i gael CDU gael yr holl wybodaeth a chymorth priodol i'w galluogi nhw i lawn ddeall y goblygiadau os byddant yn penderfynu gwrthod cydsyniad yn y broses hon. Mae adran 6 y Bil eisoes yn cynnwys y pwynt hwn. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r bobl hynny sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ystyried pwysigrwydd y cyfle i'r person ifanc gymryd rhan mor llawn â phosib mewn penderfyniadau, a phwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n galluogi'r cod i osod gofynion ynglŷn â threfniadau o'r fath ac ynglŷn â phenderfyniadau ynghylch ADY a pharatoi CDU. Mae'r darpariaethau hyn sy'n bodoli yn gwneud gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 Darren yn ddiangen, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w gwrthwynebu ar y sail honno.
I ymateb i'r ddadl, galwaf ar Darren Millar.
Dyna ddechrau gwych, Llywydd—dyna ddechrau gwych. [Chwerthin.] A gaf i ddiolch i Llyr Huws Gruffydd am gefnogi pob un o'r gwelliannau yr wyf wedi eu cyflwyno yn y grŵp hwn? Ac a gaf i ddechrau ar agwedd y mae cytundeb yn ei gylch, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf? A hynny yw, oherwydd bod gwelliant 28 yn cyflawni union nod polisi gwelliant 4, rwyf yn fwy na pharod i beidio â chynnig fy ngwelliant 4 ac i gefnogi gwelliant 28 yn hytrach. Rydych chi a minnau yn cytuno ar un peth, a hynny yw bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod cyngor annibynnol ar gael ac nad awdurdodau lleol wedi dylanwadu ar hwnnw mewn modd sy'n gwneud anghymwynas â phlant a phobl ifanc yr ydym ni eisiau i'r Bil hwn eu cefnogi a'u helpu. O ran fersiwn hygyrch o'r cod, fe wnaethoch chi egluro'n glir iawn bod y cod ar gyfer gweithwyr proffesiynol, nid ar gyfer plant a phobl ifanc; mae i'w ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol. Ond y gwir amdani yw, os ydym eisiau i bobl wybod beth yw eu hawliau, os ydym eisiau i bobl allu manteisio ar y cymorth y dylai fod ganddyn nhw'r hawl iddo, yna mae'n rhaid i bobl allu deall yr holl system yn ei chyfanrwydd, ac weithiau fe allai hynny olygu yr hoffen nhw weld mwy o fanylion, nid yn unig yr wybodaeth a'r taflenni cyngor, er enghraifft, a allai fod ar gael gan yr awdurdod lleol. Felly, mae arnaf ofn fy mod yn dal i ddymuno cynnig gwelliant 4 a gofyn am bleidlais ar hynny, oherwydd rwy'n credu ei fod yn egwyddor bwysig. Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno y dylai gwybodaeth fod ar gael, ond rwyf yn credu bod cael fersiwn hygyrch o'r cod yn un ffordd o wneud yn siŵr bod yr wybodaeth honno ar gael yn hawdd i blant a phobl ifanc mewn fformat cenedlaethol, sydd ar gael ledled y wlad. Oherwydd gadewch i ni beidio ag anghofio: ar hyn o bryd, fel y mae hi, bydd pob awdurdod addysg lleol unigol yn gallu cynhyrchu fersiynau gwahanol o'r cod—o'r wybodaeth a'r cyngor yr hoffen nhw o bosib eu dosbarthu, yn hytrach—a bydd hynny, rwy'n credu, yn ei gwneud hi'n fwy anodd cael y tir cyffredin a fyddai'n bodoli drwy gael fersiwn hygyrch, cenedlaethol o'r cod ar gyfer plant a phobl ifanc.
Rwyf hefyd braidd yn siomedig eich bod wedi gwrthod argymhelliad 5 ynglŷn ag adegau pontio allweddol, a gwneud yn siŵr y caiff pobl eu hatgoffa o'r ffaith bod system anghenion dysgu ychwanegol ar gael ar yr adegau pontio allweddol hynny, oherwydd, wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, roedd hwn yn argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fe wnaethom ni astudio'r cod yn fanwl, fe glywsom ni dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, ac roedden nhw'n glir iawn eu bod yn teimlo ei bod hi'n werth atgoffa pobl, ar yr adegau pontio allweddol hynny—ac nid dim ond ar adeg y penderfyniadau allweddol, sef yr ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych chi—bod yna gwasanaethau cymorth ar gael, gwasanaethau eiriolaeth yn arbennig, pe byddai arnyn nhw eu hangen. Nawr, fe allai hynny olygu rhywun yn symud o un ardal i'r llall; gallai olygu rhywun symud i fyny'r ysgol mewn ardal awdurdod lleol; fe allai olygu pobl yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd neu o addysg uwchradd ymlaen i sefydliad addysg bellach. Ac rwy'n credu ei bod hi yn bwysig, mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu hatgoffa o'r wybodaeth fydd ar gael ynglŷn â'r system dysgu ychwanegol y bydd gennym ni, gobeithio, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth bwysig hon ar yr adegau pontio allweddol hynny.
Nodaf hefyd y byddwch chi'n annog pobl i wrthod gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15. Rydych chi wedi cytuno'n gwbl briodol â'm hamcan polisi yn y fan yma, a hynny yw bod pobl yn meddu ar yr holl wybodaeth cyn gwneud dewis i naill ai wrthod cydsynio i gael asesiad neu i dderbyn unrhyw gymorth anghenion dysgu ychwanegol. Ond yn anffodus nid yw'r ffordd yr wyf yn darllen adrannau 6 a 7 yn rhoi imi yr un sicrwydd hyderus sydd gennych chi. Mae'n sôn, ydy, am roi gwybodaeth i bobl, ond nid yw o reidrwydd yn dweud unrhyw beth am wybodaeth benodol ar yr adeg mae person ifanc yn dewis peidio â chydsynio. Felly, mae'r Bil, fel y'i hysgrifennwyd ar hyn o bryd, o bosib yn caniatáu camarfer rhai o'r cymalau hynny, a dyna pam yr wyf i wedi ceisio eu gwella drwy fewnosod y geiriau hynny bod yn rhaid i'r person hwnnw
'gael ei hysbysu am arwyddocâd a goblygiadau ei benderfyniad'
cyn yr adeg honno o beidio â rhoi eu cydsyniad. Felly, rwyf yn dal i fod eisiau cynnig y rheini hefyd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cytuno â'r dadleuon yr wyf i wedi eu cyflwyno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 1: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf yw grŵp 2. Mae’r grŵp yma yn ymwneud â gwelliannau sy’n rhoi sylw dyledus i gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig. Gwelliant 26 yw’r prif welliant, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliant a’r gwelliannau eraill yn y grŵp—Kirsty Williams.
Cynigiwyd gwelliant 26 (Kirsty Williams).
Diolch i chi, Llywydd. Ni fu erioed unrhyw anghydweld ynghylch ein cefnogaeth ar y cyd i egwyddorion y ddau gonfensiwn. Mae'r ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant, pobl ifanc a'r rhai ag anabledd yn flaenoriaeth y gwn ein bod ni gyd yn ei rhannu. Mae'r Bil wedi'i ddrafftio gyda hawliau plant wrth ei wraidd. Mae'r dyletswyddau cyfreithiol mae'n eu cynnwys eisoes yn diogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sylweddol a chynhwysfawr.
Barn y Llywodraeth oedd, ac mae hi'n dal i gredu hyn, fod y Bil yn ymgorffori egwyddorion y confensiynau ac yn darparu fframwaith cyfreithiol newydd sy'n seiliedig ar hawliau yng ngwir ystyr hynny. Yr hyn a fu dan sylw wrth graffu ar y Bil hwn yw pa un a yw dyletswyddau sylw dyledus yn angenrheidiol, yn briodol neu'n ychwanegu gwerth. Rwyf wedi rhoi cryn ystyriaeth i'r mater hwn, fel y gwnaeth y Gweinidog blaenorol, wrth i'r Bil fynd ar ei hynt. Rwyf wedi pendroni'n ddwys ynglŷn â chryfder y teimlad ar bob ochr i'r Siambr, ac rydym ni wedi ymateb i farn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arbennig.
Yn unol ag ymrwymiad y cyn-Weinidog wrth graffu yn ystod Cyfnod 2, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i ddod â bywyd deddfwriaethol i egwyddorion y confensiynau. Rwy'n credu y bydd y gwelliannau hyn yn caniatáu inni sicrhau gwell cydbwysedd a, gobeithio, osgoi'r canlyniadau anfwriadol yr ydym ni wedi bod yn pryderu yn eu cylch, sef, yn bennaf, gorlethu athrawon gyda biwrocratiaeth.
Bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 gan Darren Millar, ond ar y sail y caiff gwelliannau'r Llywodraeth i'r gwelliannau hyn hefyd eu derbyn. Rydym ni wedi meddwl yn ofalus am y gwelliannau a gyflwynwyd gan Darren Millar, a chroesawaf y camau y mae'r aelod wedi eu cymryd i geisio datblygu'r gwelliannau ers Cyfnod 2, gyda'r dyletswyddau bellach yn berthnasol i gyrff perthnasol yn hytrach nag ar lefel unigol. Mae hyn yn bwysig, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell i liniaru'r perygl o ganlyniadau anfwriadol. Rwyf, felly, wedi cyflwyno gwelliannau i welliannau Darren.
Mae wyth gwelliant sylweddol a saith gwelliant drafftio ychwanegol, sydd yn berthnasol dim ond i'r testun Cymraeg. Yn benodol, mae gwelliannau 2E, 2F, 3D a 3E i gyd yn ymwneud â beth y mae'r dyletswyddau yn ei olygu. Diben gwelliannau 2E a 3D yw ei gwneud yn glir nad yw hi'n ofynnol rhoi ystyriaeth benodol i'r confensiynau bob tro y caiff swyddogaeth ei gweithredu. Felly, ni fyddai'r dyletswyddau yn uniongyrchol berthnasol i benderfyniadau unigol ynghylch dysgwyr unigol, gan leihau'r peryglon biwrocratiaeth yr wyf wedi bod yn pryderu yn eu cylch. Mae gwelliannau 2F a 3E yn galluogi'r cod i wneud darpariaeth ynghylch beth sydd ei angen ar gyrff perthnasol i gyflawni'r dyletswyddau, ac y caiff y dyletswyddau hynny sy'n ymwneud â sylw dyledus, gan gynnwys yr eithriad rhag ystyriaeth benodol, eu dehongli yn unol â'r cod. Y bwriad yw gwneud yn siŵr y bydd y dyletswyddau i ystyried confensiynau yn rhywbeth a fydd wrth wraidd penderfyniadau strategol a wneir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn hytrach na gorchwyl i'w chwblhau bob tro y gwneir penderfyniad gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac athrawon a staff cymorth unigol.
Bydd gwelliant 26 yn caniatáu i'r cod wneud gwahanol ddarpariaethau ar gyfer gwahanol ddibenion. Mae gwelliannau 2G a 3F yn diddymu cyrff llywodraethu ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach oddi ar y rhestr o gyrff y mae hi'n ofynnol iddyn nhw roi sylw dyledus i'r confensiynau. Barn y Llywodraeth yw y dylai'r ddyletswydd ddim ond bod yn berthnasol i'r sefydliadau hynny sydd â swyddogaeth fwy strategol i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddigonol ac fe ddylai hyn ddigwydd ar lefel strategol. Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithredu ar y raddfa hon ac mae ganddyn nhw'r strwythur ar waith i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn fwy effeithiol, ac mae'r effaith ar staff rheng flaen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc o ran cynyddu biwrocratiaeth yn debygol o fod cyn lleied â phosibl.
Yn olaf, mae gwelliant 25 yn diwygio trosolwg y Bil, gan roi sylw amlwg i'r dyletswyddau newydd pwysig i ystyried y confensiynau a gyflwynwyd gan welliannau Darren. Mae'n golygu bod y Bil yn glir ac yn eglur ynglŷn â phwysigrwydd y ddau gonfensiwn yng ngweithrediad y system ADY newydd.
Fel yr wyf i eisoes wedi ei ddweud, mae gwelliannau 2A i 2D a 3A i 3C yn newidiadau i fersiwn Gymraeg gwelliannau Darren. Ar y cyfan, hyderaf y bydd yr Aelodau'n gweld bod gwelliannau 2 a 3 o eiddo Darren, fel y'u diwygiwyd gan y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr awydd amlwg i weld cyfeiriad amlwg a phendant at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil ac y byddant yn cael eu hystyried heb orlethu ymarferwyr rheng flaen, ac rwyf yn annog yr Aelodau yn y Siambr heddiw i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Rwy'n codi i siarad ynglŷn â gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn fy enw i, a'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae gwelliannau 2 a 3 o'm heiddo yn ymateb uniongyrchol i alwadau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnwys dyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ar wyneb y Bil ac i geisio gweithredu argymhellion 31 a 32 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor.
Roedd yr argymhelliad hwnnw'n glir iawn: roedd yn argymell bod yn rhaid i'r holl gyrff perthnasol sy'n gweithredu swyddogaethau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd roi sylw dyledus i'r ddau gonfensiwn hynny a drefnwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Nawr, roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol ar adeg ystyried y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn ôl yn 2011, a oedd yn gosod dyletswydd glir ar Weinidogion Cymru, a Gweinidogion Cymru yn unig ar y pryd, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth; mae'n un a gefnogwyd gan bob plaid wleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ond nid oedd y Mesur, na'r egwyddor sylw dyledus a sefydlodd, yn ymestyn i unrhyw gorff arall nac unrhyw unigolion hyd nes y cafodd ei ymestyn gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y treuliodd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, unwaith eto, gryn amser yn ei ystyried. Ac, wrth gwrs, ar y pryd, cafodd y Ddeddf honno ei diwygio i'w gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un, gan gynnwys unigolion ar y rheng flaen, sy'n gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno—o Weinidogion hyd at yr unigolion rheng flaen hynny—i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a llawer o gonfensiynau a datganiadau eraill y Cenhedloedd Unedig hefyd, wrth ymarfer eu gwaith.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud na fu unrhyw anghydweld erioed ynghylch gosod yr egwyddorion hyn gan y Cenhedloedd Unedig wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon, ond, wrth gwrs, cafwyd gwrthwynebiad ac anghytundeb sylweddol ar y cychwyn gan ddeiliad blaenorol y portffolio i awgrymiadau bod—
Na, doedd yna ddim.
Roedd yna wrthwynebiad, i awgrymiadau bod—[Torri ar draws.] Os gwnewch chi ganiatáu imi orffen, ac wedyn byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad. Roedd gwrthwynebiad sylweddol i symud y gwelliannau hyn ymlaen yn ystod Cyfnod 1. Cynigiwyd y gwelliannau hyn gan y comisiynydd plant ac amryw o randdeiliaid eraill, ac roedd gwrthwynebiad bryd hynny i ganiatáu cyflwyno unrhyw welliannau. Ac fe ddadleuodd y Gweinidog, yn yr un modd ag y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, nad oedd angen ailadrodd y dyletswyddau hyn yn slafaidd ar wyneb y Bil, ac, wrth wneud hynny, y byddai'n creu'r problemau hynny i staff rheng flaen ac yn rhoi sefydliadau mewn perygl o wynebu achosion cyfreithiol. Ond, wrth gwrs, mae'r ofnau hynny yn gwbl ddi-sail. Ni fu unrhyw broblem gyfreithiol o ganlyniad i gynnwys y dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, er enghraifft — nid oes unrhyw achos cyfreithiol wedi'i ddwyn. Nawr, er nad yw'r gwelliannau hyn yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn cyrraedd nod y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno, rwyf yn hyderus, os cawn nhw fynd ymlaen, y byddant yn sicrhau y bydd y pwyslais ar hawliau yr ydym ni yn briodol wedi ei mabwysiadu yma yng Nghymru yn cael ei atgyfnerthu, a byddant hefyd yn arwain at newidiadau i arferion ar lawr gwlad. Dyna pam yr wyf i'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei throedigaeth ddiweddar, os mynnwch chi, i'r achos o fod angen gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei diwygio i gynnwys cyfeiriadau at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil.
Wedi dweud hynny, rwy'n bryderus, ac rwy'n bryderus ynghylch dau o welliannau Llywodraeth Cymru yn arbennig. Tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ceisio gwneud mân ddiwygiadau i ddrafftio gwelliannau 2 a 3, mae arnaf ofn bod rhai eraill yn peri gofid. Rwy'n ofni na allaf argymell i'r Cynulliad hwn gefnogi gwelliannau 2G a 3F yn arbennig, oherwydd eu bod yn ceisio dileu'r ddyletswydd i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig—dau gorff sydd â swyddogaethau hynod o bwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gweithredu. Rwy'n credu bod dileu dyletswyddau sylw dyledus oddi ar ysgolion a cholegau yn y modd hwn braidd yn rhyfedd.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dadlau nad yw ysgolion a cholegau o raddfa na maint digon mawr i sicrhau y gall y sefydliadau hynny fod yn gyfarwydd â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a bod â'r adnoddau i allu sicrhau y byddant yn rhoi sylw dyledus iddyn nhw yn yr un ffordd ag y gallai sefydliadau mwy o faint fel awdurdod addysg lleol neu'r GIG. Ond y gwir amdani yw bod ysgolion eisoes yn gyfarwydd â'r agenda hawliau. Maen nhw eisoes yn gyfrifol am hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau plant, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion ledled y wlad. Ac yn ychwanegol at hynny, mae ein colegau addysg bellach yn sefydliadau mawr iawn, gwerth miliynau o bunnoedd y mae hi eisoes yn ofynnol iddyn nhw gydymffurfio â darnau cymhleth iawn o ddeddfwriaeth ac yna eu gweithredu, ac maen nhw'n gwneud hynny'n llwyddiannus bob dydd. Maen nhw'n fwy nag abl i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig.
Fel y dywedais yn gynharach, mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eisoes yn disgwyl ac yn rhoi gofyniad ar weithwyr cymdeithasol rheng flaen ac unigolion eraill sy'n darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i roi sylw dyledus i egwyddorion a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, felly pam na ddylem ni ddisgwyl i athrawon ac unrhyw un arall sy'n darparu rhyw fath o swyddogaeth o dan y Ddeddf hon, ac yn enwedig cyrff llywodraethu ysgolion a cholegau addysg bellach wneud hynny hefyd?
Felly, byddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno yn y grŵp hwn gan y Gweinidog, gan gynnwys gwelliannau 2D a 3D, sy'n rhoi cyfle i mi fynd ati mewn modd cymesur i roi sylw dyledus i ddibenion y Ddeddf hon. Rwy'n credu eu bod yn synhwyrol, ond mae arnaf ofn na allaf i gefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno, gwelliannau 2G a 3F, ac rwy'n annog holl Aelodau'r Cynulliad i'w gwrthod.
Rydw i'n cefnogi yn ffurfiol nifer o'r gwelliannau yn y grŵp yma. Y mwyaf allweddol o'r rheini, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi'i gasglu erbyn hyn, rydw i'n siŵr, yw gwelliannau 2 a 3, sy'n gosod dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant ac ar hawliau pobl ag anableddau.
Nawr, fel rŷm ni wedi clywed yn barod, rydw i'n gwybod, mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn un fyw iawn wrth i'r Bil yma deithio drwy'r Cynulliad, ond mae'r pwyllgor wedi bod yn glir yn ein hadroddiad ni ar ddiwedd Cyfnod 1 ar yr angen i sicrhau dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiynau yma ar wyneb y Bil. Mae'r comisiynydd plant, wrth gwrs, wedi bod yn daer iawn ei thystiolaeth ac yn gyson ac yn glir ar hynny, ac wrth gwrs mwyafrif y budd-ddeiliaid hefyd sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni yng nghwrs datblygu'r Bil yma.
Rŷm ni wedi clywed am y cynsail sydd wedi'i osod yng nghyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac nid oes dim i amau hynny. Mae'r Llywodraeth yn flaenorol wedi mynegi gofid ynglŷn â'r risg o ymgyfreithiad—litigation—yn erbyn cyrff perthnasol ar sail methiant trefniadol i ddangos sut maen nhw'n rhoi sylw dyledus i'r confensiynau yma. Ond wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed, nid oes yna ddim heriau tebyg wedi bod yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol. Mi ddefnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet y term—neu mi gyfeiriodd hi at y gofid y byddai athrawon yn cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth. Nid ydw i'n meddwl bod pobl wedi cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, felly pam ddylen nhw yn y cyd-destun yma? Fel mae Barnardo's Cymru yn ein hatgoffa ni, ni ddylai'r Llywodraeth jest cael dewis a dethol pa hawliau i'w hamddiffyn a hyrwyddo, a phryd maen nhw'n dewis gwneud hynny. Mae'n rhaid eu cynnwys nhw yn gyson, ac yn gyfartal.
Yr unig gwestiwn i fi fan hyn—cwestiwn ehangach, efallai—yw pam y dylem ni orfod cynnwys y dyletswyddau yma ym mhob un Bil unigol. Fe gyfeiriwyd at sylwadau'r Gweinidog blaenorol a oedd yn dweud pam fod rhaid i ni wneud hyn yn slafaidd bob tro. Mae yna wirionedd yn hynny. Mae'n amlygu diffyg o safbwynt y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Er bod y Mesur hwnnw yn garreg filltir bwysig, wrth gwrs, at weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae'r ddyletswydd i dalu sylw dyledus i'r confensiwn yn cyfeirio'n uniongyrchol at Weinidogion Cymru yn unig.
Mi fyddai'n amserol yn fy marn i—a dweud y gwir, mae'n hen bryd—i ni gael proses graffu ôl-ddeddfwriaethol o'r Mesur hawliau plant a mynd ati wedyn, os oes angen, trwy ddeddfwriaeth i gywiro'r sefyllfa yna, fel nad oes rhaid i ni ailadrodd y math yma o welliannau bob tro mae Bil perthnasol yn cael ei gyflwyno. Dadl ar gyfer rhywbryd arall yw hynny, efallai, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod y pwynt yn cael ei wneud.
Ni fyddaf innau chwaith yn cefnogi gwelliannau 2G a 3F gan y Llywodraeth oherwydd mi fyddai hynny yn eithrio cyrff llywodraethu a sefydliadau addysg bellach rhag rhoi sylw i'r confensiynau, gan danseilio, i bob pwrpas, llawer o fwriad nifer o'r gwelliannau eraill yn y grŵp yma.
Dim ond cyfraniad byr yr wyf i eisiau ei wneud ynglŷn â'r grŵp hwn o welliannau, ond cyn imi wneud hynny fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon ar goedd i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wedi gwneud gwaith hollol wych ar yr hyn sydd wedi bod yn ddarn cymhleth a hir-ddisgwyliedig o ddeddfwriaeth.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae gosod y ddyletswydd sylw dyledus i'r CCUHP wedi bod yn fater y mae'r pwyllgor wedi teimlo'n gryf iawn yn ei gylch drwy gydol y broses. I mi, roedd hynny yn ymwneud ag anfon neges glir a diamwys i'r rhai sy'n gweithredu'r ddeddfwriaeth hon fod hawliau plant wrth wraidd y gyfraith newydd.
Wedi dweud hynny, rwy'n falch iawn y bu rhywfaint o newid. Croesawaf y consesiwn a wnaeth eich rhagflaenydd yng Nghyfnod 2 o'r ddeddfwriaeth hon a'r ffaith bod gwelliannau gan y Llywodraeth wedi'u cyflwyno heddiw, y byddaf yn amlwg yn eu cefnogi. Byddai'n well gennyf pe byddai'r diwygiadau wedi bod yn fwy pellgyrhaeddol, rwyf am fod yn gwbl onest ynghylch hynny, ond credaf ein bod ni wedi gwneud cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn wedi cael canmoliaeth o bedwar ban byd am eu hagwedd at hawliau plant, ond credaf fod yn rhaid inni fod yn gwbl glir na allwn ni orffwys ar ein rhwyfau ar y mater hwn a bod yn rhaid inni fwrw ymlaen yn barhaus i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu prif ffrydio. Ac fel y dywedodd Darren Millar, mae llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud mewn ysgolion a cholegau ar hyn hyd yn oed ar y funud hon.
Ond gobeithiaf os byddwn ni'n mabwysiadu'r ddeddfwriaeth hon heddiw yn y modd sydd wedi ei awgrymu, y bydd yn gyfle inni wneud gwaith pellach ar hyn yn y pwyllgor a, phan fyddwn ni'n craffu ar y Cod, y gallwn ni edrych eto ar sut y gallwn ni weld y gweithredu hwnnw'n cael ei gyflawni ar lawr gwlad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. A gaf i sicrhau'r Aelodau fy mod i wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedwyd mewn trafodaethau pwyllgor blaenorol ar y pwnc hwn, ac yn wir ar y sylwadau yma heddiw? Nid oes unrhyw amheuaeth ein bod ni i i gyd yn cytuno bod hawliau plant a phobl anabl, fel y cawn nhw eu nodi yng nghonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, yn sylfaenol bwysig. Fe hoffwn i atgoffa'r Aelodau bod hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys rhai plant a phobl ifanc anabl, eisoes wedi eu hymgorffori i'r dyletswyddau cyfreithiol yn y Bil. Yn wir, byddwn yn dadlau eu bod wrth wraidd y darn hwn o ddeddfwriaeth. Gadewch imi hefyd fod yn gwbl glir: Nid oes neb wedi awgrymu bod unrhyw agwedd ar y Bil hwn yn anghydnaws â'r confensiynau hynny. Os yw gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Bil hwn, yna byddant yn cydymffurfio ag egwyddorion a bwriadau'r confensiynau. Nawr, rwy'n sylweddoli bod dymuniad i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn y Confensiwn yn cael amlygrwydd penodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei gwelliannau heddiw. Mae gwelliant 25 yn arbennig yn cynnwys cyfeiriad uniongyrchol at hyn yn nhrosolwg y ddeddfwriaeth—fel y dywedais i, mae'n rhoi lle blaenllaw iddo ar ddechrau'r ddeddfwriaeth.
Fodd bynnag, rwyf, unwaith eto, yn dweud nad wyf i eisiau gweld athrawon, staff cymorth ac eraill yn gorfod ymdrin â rhagor o fiwrocratiaeth—biwrocratiaeth sydd o bosib yn tynnu eu sylw oddi ar y dasg hollbwysig sydd ganddyn nhw o ddysgu ac addysgu. Mae'n rhaid inni osgoi'r angen i athrawon, ysgolion—[Torri ar draws.] Os gallwch chi fod yn amyneddgar. Mae'n rhaid inni osgoi'r angen i athrawon, ysgolion a chyrff llywodraethu orfod rhoi tystiolaeth eu bod wedi ystyried y confensiynau yn eu rhyngweithio unigol gyda'r holl blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. A Darren, yn gwbl briodol, rydych chi a Llyr, yn fy nwyn i gyfrif yn barhaus ar y mater o lwyth gwaith athrawon a biwrocratiaeth. Rydych chi wastad yn fy herio i yn y Siambr hon, yn gwbl briodol, ynghylch yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud a beth yr wyf innau'n ei wneud i leihau llwyth gwaith athrawon a biwrocratiaeth sy'n tynnu eu sylw oddi ar ddysgu ac addysgu. Ac er fy mod i'n llwyr ddeall bod eich amcanion yn rhai anrhydeddus, rwyf yn wirioneddol bryderus y bydd canlyniadau anfwriadol yr hyn sydd wedi'i gynnig yma heddiw yn golygu y bydd ymarferwyr yn gorfod cofnodi bob dydd mewn rhyw fodd neu'i gilydd, a dangos, petai her gyfreithiol, eu bod nhw wedi ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn. Os byddan nhw'n gwneud hynny'n iawn, bydd hynny'n faich biwrocrataidd. Os na fyddan nhw, rydym ni'n diraddio'r confensiynau i fod yn ymarferiad ticio blychau syml. Mae'n ddrwg gen i, Darren.
Dim ond eisiau gofyn oeddwn i pam ydych chi'n teimlo—os mai dyna'r ddadl yr ydych chi'n ei chyflwyno— pam ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol y dylai pobl mewn awdurdodau addysg lleol ysgwyddo'r baich hwnnw, fel yr ydych chi'n ei ddisgrifio, ac y dylai pobl yn y GIG ysgwyddo'r baich hwnnw i ddangos eu bod yn cydymffurfio gyda chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, ond nad ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol i'r bobl hynny sy'n gweithio ar y rheng flaen yn uniongyrchol gyda'r plant hynny—y bobl sydd eisoes yn dysgu ac yn addysgu'r plant hynny ynglŷn â'u hawliau.
Wel, wrth gwrs eu bod nhw, ac rwy'n deall hynny. Ac os ydyn nhw'n gwneud eu dyletswyddau o dan y telerau hyn, yna bydd yr hawliau hynny fel ail natur iddyn nhw. Rwyf yn barod, wrth wrando ar y pryderon a fynegwyd yn ystod y ddadl ac yn y pwyllgor, i edrych ar y sefydliadau hynny sydd â throsolwg strategol o'r gwasanaethau sy'n cael eu datblygu. Felly, teimlaf ei bod hi yn briodol fod awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd sydd â throsolwg strategol ar gyfer y darpariaethau hyn, ac sydd yn ddigon mawr, yn gallu rhoi sylw dyledus, ac y dylen nhw wneud hynny hefyd.
Oherwydd gadewch i mi ddweud, Darren, er fy mod i yn derbyn y sylw a wnaethoch chi fod rhai ysgolion a rhai sefydliadau AB yn sefydliadau mawr, y pwynt yw nad ydyn nhw i gyd yn sefydliadau mawr. Rydych chi a minnau ar dân dros ysgolion bach a gwledig. Gadewch inni fod yn glir: Mae gan hai o'r ysgolion bach a gwledig hynny ddwy neu dair athrawes. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw eisoes yn pryderu am sut y byddan nhw'n ymdopi â gweithredu'r ddeddfwriaeth hon, a bydd yn rhaid inni roi llawer o gefnogaeth iddyn nhw wrth iddyn nhw wneud hynny. Does arna i ddim eisiau ei gwneud hi'n fwy anodd i'r ysgolion bach a gwledig hynny i oroesi a bod yn rhaid iddyn nhw dynnu eu sylw oddi ar ddysgu ac addysgu.
Mae'r Bil hwn yn bwriadu lleihau biwrocratiaeth a chreu'r system rwyddach, llai andwyol hon nag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd eithrio cyrff llywodraethu o'r dyletswyddau sylw dyledus yn symleiddio dull y mae'r Bil hwn yn ceisio ei ategu. Bydd plant yn dal i gael eu trin mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r confensiwn oherwydd mae'r Bil yn ymgorffori egwyddorion y Confensiwn yn ei ddyletswyddau.
Nawr, mae Lynne Neagle yn hollol gywir, Llywydd; Mae mwy o waith eto i'w wneud yn y maes hwn, a byddaf yn gwneud hynny wrth inni weithio ar y Cod, er enghraifft, a thrwy broses y cynllun datblygu unigol. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd Plant, yn ogystal ag Aelodau'r gwrthbleidiau a'r pwyllgor, fel y gallwn ni gael hyn yn gywir. Llywydd, gyda hynny, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth ac i wrthwynebu'r rhai a amlinellwyd eisoes. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf yw grŵp 3. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â gwelliannau canlyniadol a mân welliannau drafftio. Gwelliant 27 yw'r prif welliant. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Kirsty Williams.
Cynigiwyd gwelliant 27 (Kirsty Williams).
Llywydd, fel y dywedwch chi'n gwbl briodol, mae'r grŵp hwn o welliannau i gyd yn rhan o'r categori mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol. Yn y bôn, mae gwelliannau 27 a 32 yn tacluso'r Bil yng ngoleuni gwelliannau Cyfnod 2. Mae gwelliant 27 yn dileu adran 5(6), nad oes mo'i hangen mwyach ers newid gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer y cod yng Nghyfnod 2 o fod yn ddrafft negyddol i fod yn gadarnhaol. Mae gwelliant 32 yn diweddaru'r croesgyfeiriad yn dilyn diwygiadau a wnaed yng Nghyfnod 2. Mae gwelliannau 44, 45 a 49 yn dileu'r gofynion ar gyfer cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau—hwrê—[Chwerthin.]—mae'n ddrwg gen i, nid yw hynny'n briodol iawn ar gyfer Llywodraeth, nac ydyw, i ddweud y gwir, ond mae'n anodd diosg hen ragfarnau—yn benodol ynglŷn â phwerau o ran rheoliadau presennol sy'n ymwneud â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, o dan Ddeddf Addysg 1996, a phwerau cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r tribiwnlys addysg sydd wedi'u nodi yn y Bil hwn. Mae'r gwelliannau hyn yn unol â chytundebau a wnaed gyda Llywodraeth y DU. Mae gwelliannau 48, 50 a 51 yn deillio o'r gwelliannau hyn. Yn olaf, mae gwelliannau 52 a 53 yn ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 a Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n deillio o'r Bil hwn. Mae gwelliant 52 yn dileu cyfeiriad diangen o Atodlen 6 at Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007, tra bod gwelliant 53 yn gwneud y gyfraith ynglŷn â'r hawliau i apelio i'r uwch dribiwnlys o'r tribiwnlys addysgol mewn cysylltiad â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd yn fwy tryloyw. Diolch, Llywydd.
Nid oes siaradwyr ar y gwelliannau yma. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog yn moyn ymateb, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 27.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 2.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Cyn gwaredu gwelliant 2, byddwn yn ymdrin â'r gwelliannau i'r gwelliant hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2A.
Cynigiwyd gwelliant 2A (Kirsty Williams).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2A? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 2A.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2B.
Cynigiwyd gwelliant 2B (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2B? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2B.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2C.
Cynigiwyd gwelliant 2C (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2C? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2C.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2D.
Cynigiwyd gwelliant 2D (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2D? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2D.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2E.
Cynigiwyd gwelliant 2E (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2E? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2E.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2F.
Cynigiwyd gwelliant 2F (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2F? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2F.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 2G.
Cynigiwyd gwelliant 2G (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2G? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig, felly, ar welliant 2G. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 17 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y gwelliant.
Gwelliant 2G: O blaid: 33, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2 fel y'i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 2.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 3.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Cyn gwaredu gwelliant 3, byddwn yn ymdrin â'r gwelliannau i'r gwelliant hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3A.
Cynigiwyd gwelliant 3A (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3A? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3A.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3B.
Cynigiwyd gwelliant 3B (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid gwelliant 3B? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 3B.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3C.
Cynigiwyd gwelliant 3C (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3C? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3C.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3D.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3D? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3D.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3E.
Cynigiwyd gwelliant 3E (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3E? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3E.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 3F.
Cynigiwyd gwelliant 3F (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3F? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Gwelliant 3F: O blaid: 32, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3 fel y’i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 3.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 4.
Ni chynigiwyd gwelliant 4 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Nid yw gwelliant 4 yn cael ei gynnig. Felly, Darren Millar, gwelliant 5.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 5: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 28.
Cynigiwyd gwelliant 28 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad. Derbyniwyd gwelliant 28.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol. Gwelliant 54 yw’r prif welliant yn y grŵp yma, ac rwy’n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliannau yn y grŵp. Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 54 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 54 ac yn dymuno siarad amdano ynghyd â gwelliant 61, a gyflwynwyd hefyd yn fy enw i, a gwneud rhai cyfeiriadau hefyd at welliannau 56, 57 a 58, sydd i gyd yn cael fy nghefnogaeth, yn enw Llyr Gruffydd.
Mae gwelliant 54 yn ceisio diwygio'r Bil fel y bydd angen i'r cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant y gall fod eu hangen o ganlyniad i'r anghenion hynny. Yn ystod Cyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth bod y system gymorth bresennol yn aml yn anwybyddu anghenion cludiant dysgwyr sydd angen cymorth. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y pwyllgor eu bod yn credu y dylid ystyried gofynion cludiant dysgwyr yn rhan o'r cynlluniau datblygu unigol.
Rhoddodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon enghraifft o fyfyriwr ag awtistiaeth a allai fod ag anawsterau gydag amserlenni bysiau ac ymdrin ag arian. Gall hyn olygu y byddai angen trefnu cludiant amgen ar gyfer disgyblion yn y mathau hynny o sefyllfaoedd. Mynegodd Diabetes UK bryderon tebyg, fel y gwnaeth y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Maen nhw'n credu bod y risg o gymhlethdodau difrifol sy'n deillio o rai cyflyrau yn golygu nad yw cludiant ysgol safonol efallai yn briodol ar gyfer pob unigolyn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hwy rhwng y cartref a'r ysgol.
Cadarnhaodd yr Ymgyrch Anaffylacsis y gallai pobl ifanc sy'n dioddef o anaffylacsis wynebu problemau teithio tebyg. Dywedasant y buont mewn cysylltiad â rhieni oedd wedi tynnu eu plant o'r ysgol oherwydd darpariaeth cludiant annigonol rhwng y cartref a'r ysgol. Mae elusennau epilepsi wedi mynegi pryderon tebyg hefyd.
Felly, mae gwelliant 54 yn ceisio ymateb i'r pryderon hynny drwy sicrhau bod y trefniadau cludiant ysgol sydd eu hangen o ganlyniad i anghenion dysgu unigol yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd yn y cynlluniau datblygu unigol. Bydd hyn yn sicrhau nad ôl-ystyriaeth mohonyn nhw gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol ond y cawn nhw eu hystyried yn briodol yn rhan o'r cynllun.
Yn ogystal, bydd cynnwys trefniadau cludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn caniatáu iddyn nhw fod yn destun dyfarniadau tribiwnlys os cyfyd anghytundeb. Bydd hyn yn fodd pellach o hoelio sylw y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i sicrhau nad anghofir am drefniadau cludiant. Does dim byd fel dyfarniad tribiwnlys posib i sicrhau bod trefniadau cludiant yn cael sylw priodol gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Nawr, rwy'n deall bod adolygiad o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hwn yn adolygiad i'w groesawu'n fawr gan fod pob un ohonom ni yn ein hetholaethau o bryd i'w gilydd wedi derbyn llond ein bagiau post o bryderon ynghylch y ffordd y caiff canllawiau weithiau eu dehongli gan awdurdodau lleol. Ond mae arnaf ofn, hyd yn oed gyda'r canllawiau o dan adolygiad, nad yw hynny'n ateb pryderon sylfaenol rhanddeiliaid yn yr un modd ag y bydd fy ngwelliant i yn ei wneud.
Dim ond drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gynlluniau datblygu unigol gynnwys gwybodaeth am gludiant, gan gynnwys i sefydliadau addysg bellach, a thrwy ei gwneud hi'n bosib cael dyfarniadau tribiwnlys yn eu cylch y bydd unrhyw obaith, rwy'n credu, o ymdrin â'r mater hwn unwaith ac am byth.
Gan symud ymlaen felly at welliant 61, mae hwn yn welliant sy'n ceisio sicrhau y rhoddir canllawiau i ysgolion a cholegau ynglŷn â darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol cyn paratoi cynlluniau datblygu unigol. Nawr, diben y gwelliant hwn yw sicrhau y caiff anghenion eu diwallu tra bod pobl yn aros, efallai, am asesiadau ffurfiol ar gyfer y cynllun datblygu unigol. Nawr, fe wyddom ni mai un o'r problemau gyda'r system bresennol yw, yn aml iawn, ei bod hi'n cymryd amser hir i bobl gael pecyn cymorth sy'n briodol i'w hanghenion. A hwyrach mai dyna fyddai'r sefyllfa o hyd, ar adegau, o ran ceisio dod i drefniadau ffurfiol wrth drafod gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol, awdurdodau addysg lleol ac eraill i drefnu pecyn cymorth ar gyfer unigolion, hyd yn oed o dan y system newydd.
Felly, bwriad gwelliant 61 yw mynd i'r afael â'r twll posib y gall pobl ddisgyn drwyddo wrth i'r trefniadau hynny gael eu gwneud, fel bod modd, i bob pwrpas, gwneud darpariaeth dros dro. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo y gallan nhw gefnogi gwelliant 54 a 61.
Dywedais yn gynharach yr hoffwn i ddweud ar goedd fy mod i'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn welliannau sy'n ceisio sicrhau bod ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn ystyried yn hytrach na dim ond penderfynu ar ba un a ddylid cynnig darpariaeth dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwelliannau eraill wedi eu cyflwyno y byddwn yn eu trafod yn y man, sydd hefyd yn ategu'r tri gwelliant hyn. Ond, yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw, credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cryfhau'r darpariaethau Cymraeg yn y darn hwn o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn gwireddu'r cyfleoedd y dylai fod ganddyn nhw i gael gwasanaethau gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl.
Mae gen i dri gwelliant yn y grŵp yma, sef gwelliannau 56, 57 a 58, ac rydw i'n diolch i Darren Millar am ei gefnogaeth ffurfiol ef i'r rheini.
Fel y mae'r Bil yn sefyll, wrth gwrs, y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol sy'n penderfynu a ddylai darpariaeth dysgu ychwanegol gael ei darparu i blentyn neu berson ifanc yn Gymraeg ai peidio, ac wedyn yn nodi hynny yn y cynllun datblygu unigol. Nawr, nid mater i'r awdurdodau i benderfynu arno fe ddylai hyn fod, yn fy marn i; mater o ddewis iaith yr unigolyn yw hwn. Felly, mi ddylai'r broses gychwyn gyda'r plentyn neu'r person ifanc yn penderfynu a ddylai darpariaeth gael ei gynnig iddyn nhw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd nifer o Aelodau, rydw i'n siŵr, wedi derbyn gohebiaeth yn cefnogi'r gwelliannau yma gan nifer o fudiadau, yn cynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Mudiad Meithrin, Cymdeithas yr Iaith, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg a Mudiadau Dathlu'r Gymraeg. Nawr, mi dderbyniodd y cyn-Weinidog, yng Nghyfnod 2, yr angen i edrych eto ar hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud hynny, ac mi fuaswn i'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yma.
I ddod at y mater o drafnidiaeth, rydw i'n cefnogi'n ffurfiol welliant 54. Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor, yng Nghyfnod 1 y Bil yma, alw ar i'r Llywodraeth ystyried sut y gellir cynnwys trefniadau ar gyfer darpariaeth cludiant i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y cynlluniau datblygu unigol. Fe syrthiodd gwelliant fel hwn yng Nghyfnod 2, ond er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi esbonio'i rhesymeg a'i bwriad yn ei llythyr diweddar i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf, rydw i o'r farn bod angen rhoi hyn ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau gweithredu ar hyn ac, fel y clywsom ni'n gynharach, nad yw'n rhyw fath o afterthought, ond ei fod yn cael y sylw a'r ystyriaeth y mae'r pwnc pwysig yma, sy'n cael cymaint o effaith ar fynediad plant ag anghenion dysgu ychwanegol i addysg, yn ei haeddu.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Efallai y caf i ddechrau gyda gwelliant 54 a gyflwynwyd gan Darren, sy'n ymdrechu, fel yr ydym ni wedi clywed, sicrhau bod gwybodaeth am drefniadau cludiant yn elfen ofynnol o bob CDU. Mae'r gwelliant yn cynnig dull anghymesur, drwy roi blaenoriaeth i gludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn hytrach na mathau eraill o gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae nod y gwelliant yn amhriodol, gan nad yw cludiant yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Nid oes gan lawer o ddysgwyr ag ADY unrhyw ofynion cludiant penodol, ac ni fyddai cynnwys anghenion cludiant yn y CDU yn arwain at ddyletswydd i sicrhau'r ddarpariaeth honno.
Gan ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn neu berson ifanc, efallai y bydd angen i'r CDU gynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth arall ar wahân i ddarpariaeth dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant. Ond nid yw hi'n briodol rhestru'r rhain i gyd, neu dim ond rhai ohonyn nhw, ar wyneb y Bil. Byddai rhestru gwybodaeth dim ond am gludiant yn anghymesur. Yn wir, rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn cytuno, nad oes gan y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol unrhyw anghenion cludiant penodol, felly mae gwneud trefniadau cludiant yn elfen ofynnol o'r cynllun yn anghymesur. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddai mewn gwirionedd unrhyw beth i'w ddweud, ac ni fyddai hyn yn ddim byd ond ymarfer ticio blychau arall a grëwyd yn y system addysg.
Yn ystod trafodiadau Cyfnod 2, ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd i ystyried ymhellach y sefyllfa gludiant o ran y system ADY newydd, gan nodi y byddai'n cyflwyno gwelliant pe na fyddai pwerau presennol yn ddigonol i roi canllawiau priodol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac yn y cod ADY. Ysgrifennais, fel y clywsom ni, at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf i amlinellu ein casgliadau yn dilyn yr ystyriaethau hyn. Ac yn y llythyr hwnnw, ymrwymais y Llywodraeth i ddau gam gweithredu penodol. Yn gyntaf, i wneud y diwygiadau angenrheidiol i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ac i gynnwys, yn rhan o'r cod ADY, arweiniad priodol ynglŷn ag ystyriaethau teithio mewn cynlluniau datblygu unigol, gan gynnwys y broses o'u cynhyrchu. Bydd canllawiau penodol ynglŷn â'r materion hyn yn helpu i sicrhau y cawn nhw ystyriaeth briodol gan bartneriaid cyflenwi mewn ffordd sy'n rhan o, ac nid ar wahân i, ystyriaethau a phrosesau ehangach y system ADY newydd. O dan ddarpariaethau'r Bil, bydd Aelodau yn cael cyfle i ddylanwadu ar gynnwys y Cod. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r cod yn ystod y flwyddyn nesaf a bydd y Cynulliad yn craffu arno. Bydd ymgynghori hefyd ynglŷn â'r diwygiadau a wneir i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ynglŷn ag ADY, oherwydd rwy'n cydnabod rhai o'r materion achos a amlygwyd gan Darren a Llyr.
Roedd yr ail ymrwymiad a wnes i yn ymwneud ag adolygiad ar ôl gweithredu'r Ddeddf. Rwyf eisiau cynnwys yr ystyriaeth benodol hon o faterion cludiant yn rhan o hynny. Bydd hyn yn fodd inni wirio sut mae elfennau cludiant y system newydd yn gweithio, ac ystyried unrhyw broblemau yn gyffredinol a phenderfynu bryd hynny ar unrhyw gamau pellach priodol. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw materion cludiant o fewn y system AAA bresennol a system ADY y dyfodol, ond nid yw rhoi'r gofyniad hwn ar wyneb y Bil yn briodol, ac rwyf felly yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 54.
Gan symud ymlaen, Llywydd, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58 o eiddo Llyr Gruffydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr am gyflwyno'r rheini heddiw. Credaf eu bod nhw'n cryfhau'r ffordd y mae'r Bil yn ymdrin â'r sefyllfa o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddai'r diwygiadau yn sicrhau bod dyletswydd barhaus i ystyried pa un a ddylid darparu yn y Gymraeg, ac na fyddai hynny'n gyfyngedig i'r cyfnod pan fydd y corff yn paratoi'r CDU. Yn benodol, byddai'r ddyletswydd i ystyried darpariaeth yn y Gymraeg yn parhau tra bod y corff yn cynnal CDU a phan fydd yr awdurdod lleol yn ailystyried CDU ysgol. Rydym ni wedi pendroni'n hir ynglŷn â gweithredu darpariaethau yn Gymraeg yn y Bil, ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn cynrychioli gwelliant defnyddiol, ac rwy'n annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58.
Rwyf hefyd yn hapus iawn i gefnogi gwelliant 61 gan Darren Millar. Mae is-adran 2 o adran 43 eisoes wedi'i ddrafftio gyda golwg ar sicrhau y diwellir anghenion plant a phobl ifanc mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol, tra bod y CDU yn cael ei baratoi. Elfen sylfaenol o'r polisi sy'n sail i'r Bil yw bod gweithredu'n digwydd ar yr adeg gynharaf bosib. Rydym ni eisiau symud oddi wrth yr hyn sydd weithiau yn digwydd yn y system gyfredol, pan fo'r plant a'r bobl ifanc yn gorfod aros am asesiadau statudol neu ddiagnosis cyn y caiff cymorth ei drefnu. Mae adran 43 wedi ei chynllunio i fynd i'r afael â hyn, a'n bwriad oedd, a'n bwriad o hyd, yw ategu'r canllawiau yn y cod beth bynnag sy'n digwydd. Felly, gan y bydd gwelliant 61 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynnwys canllawiau ar y mater hwn yn y Cod, rwy'n hapus iawn i'w gefnogi, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i wneud hynny hefyd.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb rhesymol iawn i'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno? Ac ar sail y sicrwydd a roddodd hi ynghylch y ddarpariaeth cludiant, ac o wybod pa mor angerddol mae hi'n teimlo bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn datrys rhai o'r problemau a gawsom ni yn y gorffennol o ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol, rwy'n gobeithio gallu tynnu gwelliant 54 yn ôl, ar sail y sicrwydd y bydd hwn yn fater sy'n cael sylw yn y cod ac y bydd yn cael sylw yn yr adolygiad ar ôl gweithredu'r Ddeddf.
Mae Llyr Gruffydd yn llygad ei le o ran y gwelliannau ynglŷn â'r Gymraeg. Dylai dewis y dysgwr fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ynghylch pa un a ddylid darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr roi mwy o ystyriaeth i ddewis y dysgwyr wrth edrych ar becynnau cymorth. Felly, rwy'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn derbyn ei welliannau yntau hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich ymateb i welliant 61 a gyflwynais ynglŷn â'r cyfnod dros dro hwnnw, os mynnwch chi, cyn cwblhau cynlluniau datblygu unigol, oherwydd problem sydd gennym ni gyda'r system AAA bresennol yw bod nifer o bobl ifanc a nifer o ddisgyblion wedi llithro drwy'r rhwyd a, gobeithio, bydd yn ceisio mynd i'r afael â hynny. Felly, rwy'n croesawu eich cefnogaeth, a hyderaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliannau.
Tynnwyd gwelliant 54 yn ôl. Ond mewn gwirionedd, mae wedi ei gynnig, felly, a oes unrhyw Aelod yn awyddus i weld pleidiais arno? Gan nad oes, ni fydd pleidlais arno.
Tynnwyd gwelliant 54 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Darren Millar, gwelliant 6.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 7.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhryw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 7: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Llyr Gruffydd, gwelliant 56.
Cynigiwyd gwelliant 56 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 56? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 56.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 8.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 8: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf yw grŵp 5. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â hawl i gynlluniau datblygu unigol. Gwelliant 29 yw'r prif welliant, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau. Kristy Williams.
Cynigiwyd gwelliant 29 (Kirsty Williams).
Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau 29, 30, 31, 33, 34, 35 a 47 i gyd yn ymwneud â phenderfyniad awdurdodau lleol ar ba un a yw'n angenrheidiol paratoi neu gynnal CDU. Dyma'r penderfyniadau yn adran 12 ynglŷn â pha un a yw hi'n angenrheidiol paratoi a chynnal cynllun ar gyfer person ifanc nad yw mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru; mae adran 29 yn ymwneud ag a yw hi'n angenrheidiol cynnal cynllun ar gyfer person ifanc; ac adran 38 yn ymwneud ag a fydd hi'n angenrheidiol cynnal cynllun ar gyfer person dan gadwad, gan gynnwys plentyn dan gadwad, pan gaiff y person ei ryddhau.
Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn darparu ar gyfer gwneud y penderfyniadau hyn yn unol â rheoliadau. Mae gwelliannau 29, 31, 33 a 35 yn dwyn y pwerau rheoleiddio hynny ynghyd mewn un adran newydd, sy'n nodi'r materion amrywiol y gall rheoliadau ddarparu ar eu cyfer. Mae gwelliant 47 yn gwneud addasiad canlyniadol i adran 91, gan gadw'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau o'r fath.
Bydd penderfyniadau ynghylch a yw cynllun yn angenrheidiol, mewn llawer o achosion, yn ymwneud â phobl ifanc y mae eu hanghenion yn golygu bod angen, lleoliadau ôl-16 arbenigol, preswyl yn aml. Ond byddant hefyd yn ymwneud â phobl ifanc a phlant dan gadwad y mae eu hamgylchiadau yn eithaf gwahanol ac amrywiol. Mae hi'n bwysig bod y pŵer yn briodol i ymdrin yn deg ag ystod eang o sefyllfaoedd tebygol lle y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn ag a yw cynllun yn angenrheidiol, ac mae'r gwelliannau yn sicrhau mai dyna fydd yn digwydd.
Os caf i droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp a gyflwynwyd gan Aelodau'r wrthblaid. Mae arnaf ofn dweud nad wyf i yn cefnogi gwelliant 13 gan Darren Millar. Bwriad y system ADY yw ei bod yn berthnasol i blant a phobl ifanc, gyda phobl ifanc wedi eu diffinio fel rhywun sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol ond o dan 25. Mae'r Bil eisoes yn darparu ar gyfer ystod oedran estynedig sylweddol o'i gymharu â'r rhai sydd â hawliau ac amddiffyniadau statudol o dan y system bresennol. Mae'r Bil yn ymdrin mewn modd clir a rhesymol â'r amgylchiadau pan fo dysgwr â CDU yn cyrraedd 25 mlwydd oed. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu SAB barhau i gadw'r CDU tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fo'r person yn cyrraedd 25 oed. Mae gwelliant 13 yn ymddangos, mewn gwirionedd, o fod yn darparu ar gyfer estyniad amhenodol yn hyn o beth, er mai dim ond ar gyfer dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Nid yw'n darparu terfyn oedran uchaf ynglŷn â phryd y gallai rhywun fod â CDU, oherwydd mae'n ymddangos bod hyn yn dibynnu ar hyd y cwrs y mae'r person ifanc yn cychwyn arno pan fydd o dan 25 a phryd fydd y person yn ei orffen. Byddai hyn yn ymestyn y dyletswyddau a osodir ar sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol mewn modd nad yw wedi ei drafod gyda'r sefydliadau hyn na'i brisio.
Mae'n bosib y gallai'r cymorth i'r dysgwyr hyn fod yn ddrud iawn. Byddai ei gynnwys yn y Bil yn y modd hwn mor ddiweddar â hyn yn rhywbeth na allaf i ei gefnogi. Mae'r system newydd yn mynd o ddim i 25 mlwydd oed, ac mae'r trefniadau a ddarperir yn y Bil yn briodol ac yn rhesymol yn hyn o beth. I gloi, felly, Llywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthwynebu gwelliant 13.
Fe hoffwn i ddweud ar goedd, yn gyntaf oll, fy mod i'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Maen nhw'n welliannau synhwyrol, ac rwy'n bwriadu eu cefnogi a gobeithiaf y bydd pobl eraill yn gwneud hynny hefyd, ond rwyf fymryn yn siomedig gyda'r ymateb a roddodd y Gweinidog i welliant 13 o'm heiddo
Fel y dywedodd y Gweinidog yn gwbl briodol, ar hyn o bryd, bydd y Bil yn caniatáu parhau i ddarparu cymorth i rywun y tu hwnt i'w ben-blwydd yn bump ar hugain, ond nid y tu hwnt i'r flwyddyn academaidd y mae person ifanc yn troi 25 ynddi. Y broblem gyda hyn yw bod llawer o gyrsiau coleg, yn enwedig yn ein sefydliadau addysg bellach, yn gyrsiau coleg sy'n hwy na blwyddyn academaidd mewn hyd. Felly, fe allai fod gennych chi unigolyn sy'n dechrau cwrs coleg yn 24 oed, ac fe allai fod yn gwrs dwy flynedd. Byddai’n cael cymorth yn y flwyddyn academaidd gyntaf, ond nid yr ail, ac nid wyf yn credu mai dyna yw bwriad y Llywodraeth, ac yn sicr nid dyna'r sefyllfa yr wyf innau eisiau ei gweld, y byddai gennych unigolion yn colli cymorth hanner ffordd drwy eu cwrs. Ac wrth gwrs, gall rhai cyrsiau bara hyd yn oed yn hwy, yn enwedig os ydych chi'n astudio'n rhan-amser. Credaf felly ei bod hi'n bwysig iawn os yw rhywun yn dechrau cwrs gyda chefnogaeth bod y cymorth hwnnw yn parhau drwy gydol y cwrs. Felly, nid sôn yr ydym ni yma am gyfnod amhenodol, fel yr awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi'n sôn am gyfnod sy'n dod i ben pan ddaw y cwrs i ben. Felly, ni allaf weld pam mae gwrthwynebiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r gwelliant penodol hwn. Fyddai neb eisiau gweld y cymorth hwnnw'n cael ei dynnu'n ôl. Yn wir, yr union reswm dros gynnwys y ddarpariaeth hon oedd er mwyn gallu ymestyn y tu hwnt i ben-blwydd rhywun yn bump ar hugain oed i ddiwedd y flwyddyn academaidd. Holl ddiben hynny oedd ceisio sicrhau na chai unrhyw gymorth ei dynnu'n ôl yn ystod cyfnod y cwrs academaidd. Yr anhawster yw inni fethu ag ystyried cyrsiau academaidd a fyddai'n para am fwy na blwyddyn academaidd. Felly, rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi'n myfyrio ar y ffeithiau hynny, ac ar yr her sylweddol y byddai hynny yn ei roi i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a allai fod yn falch iawn o fynd i'r coleg ar eu pen-blwydd yn dair ar hugain i ddechrau cwrs dwy flynedd gyda chymorth y gallai fod ei angen arnynt, dim ond i ganfod yn sydyn fod yr holl beth yn dymchwel ac na fyddan nhw'n gallu cadw eu lle yn y coleg hwnnw a chwblhau eu cwrs addysg. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ystyried hynny, yn hytrach na dim ond wfftio'r gwelliant amhleidiol hwn sy'n seiliedig ar fwriadau ac amcanion da. Mae'n ymateb yn syml i rai o'r pryderon a ddygwyd i fy sylw gan nifer o randdeiliaid rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
A gaf i roi sicrwydd i Darren, wrth ymdrin â'r ddeddfwriaeth ger fy mron, nad wyf i'n sicr wedi cymryd yr agwedd o ddiystyru pethau yn llwyr oherwydd iddyn nhw gael eu cyflwyno gan Aelodau o'r gwrthbleidiau? Rwy'n ddiolchgar iawn am ymgysylltiad Aelodau'r gwrthbleidiau drwy gydol y broses hon, ac, fel y gwelsom ni gyda llawer o'r pleidleisiau yma y prynhawn yma, rydym ni wedi gallu dod i gonsensws ynglŷn â sut i wella'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, o ran gwelliant 13 o eiddo Darren, rydym wedi ei gwneud hi'n glir iawn na fyddem ni eisiau gweld cymorth yn terfynu'n sydyn ar ben-blwydd rhywun yn un ar hugain. Dyna pam mae adran 32 wedi ei chynnwys yn y ddeddfwriaeth: i ganiatáu i'r person hwnnw barhau â'i gwrs hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd. Rwy'n credu bod y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth, fel y'i drafftiwyd, yn deg i'r dysgwr dan sylw a dysgwyr eraill, y rhai nad ydyn nhw mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru a dysgwyr hŷn sydd o bosib ag ADY ond na allen nhw gael CDU. Rwy'n annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 29, 30, 31, 33, 34, 35 a 47, a gyflwynwyd yn fy enw i, a gwrthod gwelliant 13.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 29.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 9.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 9: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Llyr Gruffydd, gwelliant 57.
Cynigiwyd gwelliant 57 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 57? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 57.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6. Y grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r diffiniad o blant sy'n derbyn gofal. Gwelliant 10 yw'r prif welliant—yr unig welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar Darren Millar i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Diben gwelliant syml a hawdd iawn rhif 10 yw newid y diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal ar wyneb y Bil. Ar hyn o bryd mae adran 13 y Bil yn diffinio plentyn sy'n derbyn gofal at ddibenion darpariaeth dysgu ychwanegol fel plentyn nad yw'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol.
Ond mae Comisiynydd Plant Cymru wedi codi pryderon bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi diffinio plentyn sy'n derbyn gofal ac y mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol amdano fel plentyn hyd at 18 oed. Mae hi wedi dadlau y gallai'r gwahaniaeth rhwng y ddau ddiffiniad hyn arwain at rywfaint o ddryswch, ac fe allai olygu bod plant sy'n derbyn gofal ac a ddylai fod yn elwa ar ddarpariaethau anghenion dysgu ychwanegol ar eu colled pan fyddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn un ar bymtheg. Rwy'n gwybod nad dyna'r bwriad. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei phen, ond y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw ailadrodd y dadleuon a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Roedd y Comisiynydd hefyd yn pryderu y gallai dyletswyddau i baratoi a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ddod i ben yn awtomatig ar ôl oedran ysgol gorfodol, hyd yn oed pan na fyddai hynny'n briodol. Fe wnaeth hi argymell newid y diffiniad i'w wneud yn gyson â diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliant heddiw. Anogaf yr Aelodau i'w gefnogi.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Llywydd. Fel y dywedodd y Gweinidog blaenorol, yn ystod Cyfnod 2, mae'r gwelliant hwn yn seiliedig ar fwriadau da yn ei nod o ymdrin â phryderon y Comisiynydd Plant, y mae Darren newydd eu hailadrodd yn ddefnyddiol iawn, ond mae hwn, serch hynny, yn gyfeiliornus.
Mae'r Bil, rwy'n credu, eisoes yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd gywir. Gwnaed y penderfyniad i ddiffinio plentyn sy'n derbyn gofal at ddibenion y Bil hwn fel person nad yw'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol ar ôl ystyriaeth ofalus iawn. Mae'r oedran y mae plant sy'n derbyn gofal yn peidio â derbyn gofal wrth iddyn nhw dyfu yn oedolion yn gallu amrywio. Fe all ddigwydd yn 16 oed, neu dim ond pan fydd y plentyn yn dod yn oedolyn yn 18, neu rhywle yn y canol. Felly, nid oes ffin glir yn y system gwasanaethau cymdeithasol. Mewn cyferbyniad, mae'r llinell derfyn yn y Bil yn cyd-fynd yn dda â'r system addysg, gan ddefnyddio pwynt clir a sefydlog o derfynu cymorth, sef oedran ysgol gorfodol.
Oherwydd bod y llinell derfyn yn ddyddiad hysbys sy'n cyd-fynd â throsglwyddo o addysg orfodol i addysg ôl-16, mae'n caniatáu ar gyfer gwell cynllunio ymlaen llaw ac yn osgoi newidiadau yn y cyfrifoldeb dros y CDU hanner ffordd drwy'r cwrs ôl-16. Er bod hynny weithiau'n briodol, fel rheol nid yw gwneud newidiadau yng nghanol cwrs yn ddelfrydol. Hefyd, mae'n golygu bod y system yr un fath ar gyfer pob person ifanc, boed nhw'n blant sy'n dal i dderbyn gofal, neu wedi gadael gofal, neu yn ddim un o'r rhain.
Mae hi hefyd yn bwysig cofio bod y llinell yr ydym ni wedi ei thynnu yn effeithio dim ond ar y prosesau penodol cysylltiedig ac nid—ac rwy'n ailadrodd, Llywydd—nid ar sylfaen hawliau pobl ifanc sy'n dal i fod yn derbyn gofal. Os oes ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol a'u bod nhw yn yr ysgol neu mewn addysg bellach, mae ganddyn nhw'r hawl i gael CDU.
Mae'r dull a ddisgrifir yng ngwelliant Darren Millar, ar y llaw arall, yn codi anhawster sylfaenol. Bydd llawer o blant sy'n derbyn gofal—a, gobeithiaf, llawer iawn mwy—yn mynd ymlaen i fynychu sefydliadau addysg bellach ar ôl gadael yr ysgol. Felly, byddai newid diffiniad y Bil o blentyn sy'n derbyn gofal fel mae'r gwelliant yn ei gynnig yn golygu y byddai awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal CDU a sicrhau darpariaeth ar gyfer person sy'n derbyn gofal sydd mewn sefydliad addysg bellach.
O ran y rhan fwyaf o blant sy'n derbyn gofal plant sydd ag anghenion lefel is, byddai'n rhaid i awdurdod lleol ddibynnu ar y sefydliad addysg bellach i gynnig y ddarpariaeth dysgu ychwanegol gyda ffyrdd cyfyngedig iawn o sicrhau bod hynny'n digwydd neu, yn wir, o fonitro pan fo hynny yn digwydd. Mae hyn oherwydd nad oes gan awdurdodau lleol unrhyw swyddogaeth mewn llywodraethu neu oruchwylio o ran eu hariannu. Mae'r berthynas fwy llac hon, o'i gymharu ag ysgolion a gynhelir, yn ei gwneud hi'n fwy cymhleth i awdurdod lleol gynnal CDU ar gyfer person ifanc os yw'r person hwnnw mewn SAB. O ganlyniad, gallai trefniadau o'r fath mewn gwirionedd olygu bod y ddarpariaeth hawliau ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal fod mewn gwirionedd yn llai effeithiol yn ymarferol na'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc eraill, ac rwy'n gwybod nad dyna mae Darren Millar eisiau ei weld yn digwydd.
Rwy'n deall pryderon Darren Millar am yr ymarferydd rheng flaen yn wynebu dryswch ynghylch y diffiniad o blant sy'n derbyn gofal, ond, fel rwy'n dweud, mae'r llinell derfyn a nodir ar hyn o bryd yn y Bil yn glir ac yn ddiamwys. Os yw'r person sy'n derbyn gofal o fewn oedran ysgol gorfodol neu'n iau na hynny, bydd yr awdurdod sy'n darparu'r gofal fel arfer yn gyfrifol am faterion ADY o dan ddarpariaethau penodol y Bil ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Os yw'r person yn berson ifanc, yna mae'r dyletswyddau cyffredinol yn berthnasol. Bydd hyn yn gliriach i'r rhai sy'n darparu addysg ôl-16 na'r dewis arall a gynigir gan welliant Darren, a fyddai'n gweld cyfrifoldeb ar gyfer cynlluniau datblygu unigol yn trosglwyddo yn aml yn ystod astudiaethau ôl-16 y dysgwr. Fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n awyddus i'w osgoi.
Bydd modd cynnwys canllawiau clir yn y cod i gynorthwyo ymarferwyr gyda'r dyletswyddau a'r darpariaethau yn y Bil ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc. Yn wir, bydd cyfle gan ymarferwyr ac arbenigwyr i gyfrannu at ddatblygiad y cod, fel y dywedais i'n gynharach yn y ddadl, er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd pan gaiff ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad y flwyddyn nesaf. Am yr holl resymau hyn, rwy'n credu mai'r rhaniad clir rhwng trefniadau cyn- ac ôl-16 a nodir yn y Bil yw'r un cywir, ac rwy'n annog Aelodau i wrthwynebu gwelliant Rhif 10.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog, ac yn sicr nid fy mwriad yw achosi dryswch os yw rhywun wedi mynd i'r coleg i wneud eu hastudiaethau ôl-16. Ond rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei gofio, er hynny, yw bod potensial ar gyfer dryswch yn dal i fodoli os bydd yr unigolyn hwnnw yn aros yn yr ysgol i wneud addysg ôl-16 o dan drefniadau'r Bil, oherwydd, wrth gwrs, bydd y ddyletswydd yn trosglwyddo o'r awdurdodau addysg lleol, o bosib, i gorff llywodraethu ysgol, a all o bosib achosi rywfaint o wrthdaro. Felly, wyddoch chi, rwy'n credu bod y ddau ohonom ni'n cytuno nad yw'r un o'r pethau hynny yn foddhaol ac, yn amlwg, bydd angen datganiad clir iawn yn y cod i allu ymdrin â'r cyfnodau pontio hyn, fel petai, o fod yn blentyn sy'n derbyn gofal i fod yn berson ifanc pan ddaw hi i sicrhau bod darpariaeth anghenion ychwanegol ar gael.
O ystyried y sicrwydd a roddodd y Gweinidog, rwyf yn barod, gyda chaniatâd y Cynulliad, i dynnu'r gwelliant penodol hwn yn ôl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? Gwelliant 10 sydd yn cael ei dynnu yn ôl, ac, felly, os ydy hynny gyda chydsyniad yr Aelodau, fe geith y gwelliant yna ei dynnu yn ôl.
Tynnwyd gwelliant 10 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Llyr Gruffydd, gwelliant 58.
Cynigiwyd gwelliant 58 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 58? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 58.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 7, felly. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r tribiwnlys addysg, a gwelliant 11 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 11 ac fe hoffwn i siarad am welliannau 19 a 20 a 21, a gyflwynwyd yn fy enw i hefyd, ac fe hoffwn i siarad hefyd am welliannau 42 a 46, a gyflwynwyd yn enw Ysgrifennydd y Cabinet.
Fe hoffwn i ddweud ar goedd ar ddechrau'r ddadl hon y byddwn ni'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth a gallu'r tribiwnlys i allu penodi dirprwy gadeirydd. Rwy'n credu bod y ddau welliant yn rhai synhwyrol.
Diben gwelliant 11 yw diddymu gallu'r gwasanaeth iechyd gwladol i anwybyddu dyfarniad Tribiwnlys Addysg Cymru pan fo'r dyfarniad hwnnw yn ymwneud â rhywbeth y mae'n rhaid i'r GIG ei ddarparu i gefnogi dysgwr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar hyn o bryd, nid yw'r Bil, fel yr ysgrifennwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG fod yn atebol i ddyfarniadau'r tribiwnlys addysg, ac ni ellir gorfodi cyrff y GIG i roi argymhelliad gan y tribiwnlys ar waith.
Nawr, yn ystod Cyfnodau 1 a 2, awgrymodd y Gweinidog ar y pryd hwnnw fod y mesurau a oedd mewn bodolaeth i gywiro camarfer y GIG yn ddigonol i sicrhau bod unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag ymgysylltiad y GIG yn y broses anghenion dysgu ychwanegol am fethu â darparu gwasanaethau a chymorth penodol yn fesurau priodol. Ond mae arnaf ofn ein bod i gyd yn gwybod o'n profiadau ni ein hunain gyda'r rhai sy'n ymgodymu â'r system anghenion addysgol arbennig sy'n bodoli, a lleisiau di-ri eraill a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, fod y dystiolaeth yn awgrymu fel arall.
Rydym wedi clywed tystiolaeth ysgubol gan randdeiliaid, bob un ohonyn nhw'n cytuno, ac eithrio'r Gweinidog bryd hynny, y dylai fod gan y tribiwnlys y gallu i gyfarwyddo'r GIG i ddarparu cymorth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei bod yn credu nad oedd y pwerau a roddir i'r tribiwnlys ar wyneb y Bil fel y mae'n sefyll yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod ei gorchmynion i gyd cael eu cyflawni gan y rhai sydd â dyletswydd i wneud hynny. Dywedodd y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig cyfredol ar gyfer Cymru, TAAAC, wrth y pwyllgor y bydden nhw'n aml yn gofyn i fyrddau iechyd lleol roi'r gefnogaeth ychwanegol, a phan oedden nhw'n gwrthod diwallu anghenion y plentyn, gan nad oedd gan y tribiwnlys presennol ychwanegol bwerau i orfodi byrddau iechyd, yn syml, ni chafodd yr anghenion hynny eu diwallu. Roedden nhw'n dweud mai dyna un o wendidau sylfaenol y system bresennol sy'n gwneud newid yn angenrheidiol.
Dywedodd Cynghrair Anghenion Dysgu Ychwanegol y Trydydd Sector, y gynghrair a ddaeth ynghyd o wahanol sefydliadau yn y trydydd sector i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod Cyfnod 1, fod angen cael un system unioni ar gyfer yr holl gymorth a allasai fod ei angen ar ddysgwr, fel y gallai pob rhan o gynllun datblygiad unigol feddu ar yr un cadernid cyfreithiol. Dywedodd UCAC hefyd eu bod o'r farn y byddai sicrhau rhyw fath o fecanwaith unioni ar gyfer unigolion i herio cyrff iechyd sy'n methu ag ymdrin ag anghenion iechyd yn un o'r meysydd allweddol sydd yn dal heb ei ddatrys. Dywedodd hyd yn oed y byrddau iechyd eu hunain wrth y pwyllgor eu bod yn teimlo'n gyfforddus iawn o ran gallu Tribiwnlys Addysg Cymru i gyfarwyddo cyrff y GIG cyn belled â bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu cymryd rhan—ac yn gallu rhoi tystiolaeth wrth i'r tribiwnlys wneud ei benderfyniadau.
Nawr, fe geisiodd y cyn-Weinidog fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, yn enwedig o ran y diffyg ymgysylltu, o bryd i'w gilydd, gan y gwasanaeth iechyd gwladol drwy wneud rhai diwygiadau i'r Bil a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth iechyd gwladol adrodd yn ôl ar yr hyn yr oedden nhw wedi'i wneud o ganlyniad i benderfyniad a gorchymyn a wnaed gan dribiwnlys. Ond roedd y gwelliannau hynny a wnaed yng Nghyfnod 2 wedi methu â gorfodi'r byrddau iechyd i weithredu eu penderfyniadau, ac mae hynny'n golygu bod gennym system sydd â dwy system unioni: un ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, ac un ar gyfer yr awdurdod addysg lleol ac eraill. Nid wyf i o'r farn fod hynny'n foddhaol o gwbl.
Rydym ni i gyd yn gwybod o'n profiad ni ein hunain, yn anffodus, fod problemau gyda'r system i unioni camweddau'r GIG. Mae'n bell o fod yn berffaith. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod ymhell o fod yn berffaith pan gafodd darn o waith ei gomisiynu ar system unioni camweddau'r GIG. Adroddiad oedd 'Defnyddio cwynion yn rhodd' a ystyriwyd gan y Cynulliad hwn, ac nid ydym wedi clywed dim o ran unrhyw waith yn ei ddilyn. Nid ydym wedi gweld unrhyw newidiadau i'r system unioni o ganlyniad i hynny, er y nodwyd rhai diffygion sylweddol, ac nid oedd y GIG yn dysgu digon am gwynion.
Nid wyf yn awyddus i weld system gymhleth yn cael ei rhoi i blant a phobl ifanc, ac i rieni ledled Cymru, o ganlyniad i'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Nid wyf yn awyddus i gael dwy system unioni. Os oes ganddyn nhw broblem o ran unioni, rwy'n awyddus iddyn nhw allu mynd drwy un sianel i ddatrys hynny, a'r sianel honno, yn gwbl briodol, ddylai fod Tribiwnlys Addysg Cymru, a dylai ei ddyfarniadau sefyll. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn y gwelliannau a gyflwynais i—19 a 20.
Ac ond yn fyr iawn ar welliant 21, mae'r gwelliant hwn ychydig yn wahanol o ran ei natur. Nid yw'n ymwneud â'r GIG. Mae'n gofyn yn syml fod yn rhaid i'r tribiwnlys addysgol, a gaiff ei sefydlu o ganlyniad i'r system newydd hon, gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei waith a rhoi'r adroddiad hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, ar hyn o bryd, mae'r tribiwnlys anghenion addysgol arbennig sy'n bodoli eisoes yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei wefan, ond dogfen eithaf sych yw honno. Yn y bôn, crynodeb ydyw o'i weithgaredd, crynodeb o'i wariant yn ystod y flwyddyn. Nid yw'n ofynnol ar hyn o bryd fod y tribiwnlys yn cyflwyno'r adroddiadau hynny ar fformat sy'n fwy hygyrch i'r cyhoedd. Nid yw ychwaith yn ofynnol iddo adrodd ar y materion a'r pynciau sy'n codi dro ar ôl tro yn yr achosion sy'n dod gerbron yn y ffordd y mae'n ofynnol i gomisiynwyr Cymru neu ombwdsmon ein gwasanaethau cyhoeddus ei wneud.
Rwyf i o'r farn fod ei gwneud yn ofynnol i'r tribiwnlys newydd gynhyrchu adroddiad blynyddol a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a gosod gofyniad yn y Bil fod yn rhaid i'r adroddiad fod ar fformat y gofynnir amdano gan y Cynulliad Cenedlaethol yn un ffordd o fynd i'r afael â rhai o'r diffygion hynny sydd yn y system bresennol. Gallwn sicrhau bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn ddefnyddiol, eu bod yn ddealladwy i'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol, ac felly rwy'n mawr obeithio ei fod hefyd yn welliant y bydd yr Aelodau yn gweld yn dda i'w gefnogi.
Rwy'n codi i gefnogi holl welliannau'r grŵp yma, nifer ohonyn nhw'n ffurfiol, yn enwedig y gwelliant arweiniol—gwelliant 11. Mae'n rhaid cydnabod bod y Llywodraeth wedi symud ar rôl y tribiwnlys ac wedi cyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i geisio ymateb i'r dystiolaeth gref a dderbyniom ni ar yr angen i'r tribiwnlys addysg gael y pŵer i gyfarwyddo cyrff iechyd mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Maen nhw wedi symud yn nes at yr hyn rwyf am ei weld, a beth mae'r mwyafrif llethol o'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor hefyd am ei weld, ond mae'r Llywodraeth yn dal yn fyr o'r nod yn fy marn i.
Mae Gweinidogion wedi ein hatgoffa ni yn gyson mai naratif y Bil yma a'r pecyn ehangach o ddiwygiadau o safbwynt anghenion dysgu ychwanegol yw ei gwneud hi'n haws ac yn fwy syml i blentyn, person ifanc a'u teuluoedd i lywio eu ffordd trwy'r maes anghenion dysgu ychwanegol, bod gwasanaethau wedi'u canoli ar y plentyn, bod y gyfundrefn yn gweithio o gwmpas y plentyn, ac nad yw'r plentyn yn gorfod gweithio ei ffordd o gwmpas cyfundrefn sy'n gymhleth ac yn amlhaenog.
Nawr, mae cadw dwy gyfundrefn ar wahân ar gyfer apêl neu geisio iawn am rywbeth yn tanseilio hynny'n llwyr yn fy marn i. Mi fyddai estyn cyfrifoldeb y tribiwnlys addysg i gynnwys cyrff y gwasanaeth iechyd—dim ond, wrth gwrs, mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol—yn symleiddio pethau yn sylweddol, gan fod pob dim perthnasol, wrth gwrs, wedyn yn dod o dan un tribiwnlys. Mi fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi gwelliant 11 yn benodol.
Rwy'n ofni na allaf i gefnogi gwelliannau 11, 19, 20 a 21. A siarad yn gyffredinol, o ran gwelliannau 11, 19 ac 20 Darren Millar, maen nhw'n ceisio tanseilio'r safbwynt yr ydym wedi ei gyrraedd o ran cylch gorchwyl y tribiwnlys o ran y GIG. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn ynghylch ei safbwynt yma. Rydym wedi gwrando'n ofalus iawn ar farn y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc ac ar farn rhanddeiliaid wrth graffu ar y Bil, ac rwy'n credu ein bod ni wedi ymateb mewn dull cadarnhaol.
Yn wir, os edrychir ar y Bil drafft, bu symudiad mawr oddi wrth y darpariaethau o ran y GIG yn y Bil drafft sydd ger ein bron heddiw. Cafodd hynny ei gydnabod yn deg, rwy'n credu, gan Darren a Llŷr yn eu cyfraniadau nhw.
Bydd y gwelliannau y cytunwyd arnyn nhw yng Nghyfnod 2, ynghylch y tribiwnlys yn gwneud argymhellion ar gyrff y GIG ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG adrodd yn ôl i'r tribiwnlys, yn cael effaith gadarnhaol ac maen nhw wedi cael croeso mawr gan lywydd y tribiwnlys. Maen nhw'n cyflwyno lefel newydd o graffu ar weithredoedd cyrff y GIG ac mae hynny i'w groesawu. Mae'r Llywydd wedi nodi y bydd y gwelliannau yng Nghyfnod 2, wrth eu cymryd yn gyfochrog â rhai a wnaed i adran 73 o'r Bil ar ddiffyg cydymffurfio â gorchmynion y tribiwnlys—ac rwy'n dyfynnu—yn rhoi cipolwg gwirioneddol ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl i'r tribiwnlys wneud ei orchymyn.
Mae gwelliant 42 y Llywodraeth, y byddaf yn dod ato, yn uniongyrchol berthnasol yma. Mae'r Llywodraeth wedi gwrando ar aelodau'r pwyllgor ac wedi symud at sicrhau bod gan y GIG swyddogaeth lawn a phriodol yn ystod pob cyfnod allweddol yn y system newydd, gan gynnwys yn ystod ac yn dilyn apeliadau i'r tribiwnlys.
Gyda hynny mewn golwg, mae hi'n werth sôn am adran 18, nad yw'n bodoli yn y system bresennol ac sydd yn golygu cryfhau swyddogaeth y GIG yn fawr. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un o gyrff y GIG, pan gaiff atgyfeiriad, ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth sy'n debygol o fod o fudd wrth ymdrin a'r plentyn neu'r person ifanc o ran ei anghenion dysgu ychwanegol. Os bydd y corff yn nodi triniaeth neu wasanaeth o'r fath, mae'n rhaid iddo sicrhau bod hynny'n digwydd.
Fel y dywedodd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, rydym wedi ceisio ail-lunio'r berthynas rhwng iechyd ac addysg drwy ddarpariaeth y Bil oherwydd y dystiolaeth a roddwyd inni a'r profiad y bydd Aelodau'r Cynulliad wedi ei gael yma ar ran eu hetholwyr. Bydd y cam nesaf yn cyflwyno hyn ar lawr gwlad, a dyna lle y bydd gweithgareddau'r rhaglen drawsnewid ehangach yn ymddangos.
Gan droi at y gwelliannau penodol, nid ydym yn cefnogi gwelliant 11 Darren Millar. Mae'n ceisio dileu is-adran (9) o adran 19. Mae is-adran hon yn ei gwneud yn eglur yn ein polisi nad yw gorchmynion y tribiwnlys yn rhwymo'r GIG. Nid wyf yn derbyn y dylid ei dileu, ac felly ni allwn gefnogi'r gwelliant.
Byddai gwelliant 19 a gwelliant 20 gyda'i chanlyniadau i welliant 19 yn llwyr danseilio ein safbwynt ar gylch gorchwyl y tribiwnlys o ran cyrff y GIG. I bob pwrpas bydden nhw'n golygu bod argymhellion y tribiwnlys o dan adran 72 yn rhwymo'r GIG, ac oherwydd y rhesymau a nodais eisoes, ni allaf eu cefnogi. Mae'r sefyllfa y darperir ar ei chyfer hi nawr yn y Bil yn egluro y gall y tribiwnlys wneud argymhellion y mae'n rhaid i'r GIG eu hystyried a bod yn rhaid i'r GIG roi adroddiad i'r tribiwnlys ar ganlyniadau ei ystyriaethau. Bydd y rheidrwydd hwn i adrodd yn ôl i'r tribiwnlys yn gofyn am ystyriaeth fanwl o'r mater ac esboniad o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo. Ar y sail honno, byddwn yn annog Aelodau i wrthwynebu gwelliannau 11, 19 a 20.
Ni allaf i gefnogi gwelliant 21 chwaith gan nad wyf i o'r farn ei fod yn angenrheidiol. Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru eisoes yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, ac mae hwn ar gael i'r cyhoedd ar eu gwefan. Byddai gwelliant Darren Millar yn cyflwyno gorchymyn i adrodd sy'n wahanol ar gyfer adroddiadau'r tribiwnlys o'i gymharu â'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd eraill Cymru. Nawr, rwy'n derbyn pwynt Darren am ddeallusrwydd, ac y dylai'r adroddiad blynyddol fod yn hawdd ei ddeall. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod y tribiwnlys yn gorff barnwrol annibynnol ac mae'r adroddiad blynyddol yn fater ar eu cyfer nhw. Ond, wedi dweud hynny, byddwn yn croesawu cynnwys rhagor o wybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o'r achosion tribiwnlys yn yr adroddiad blynyddol fel y gall y partneriaid cyflenwi eraill ddysgu'r gwersi hynny. O gofio natur unigol yr achosion, ni fyddai modd efallai ddod i gasgliadau ehangach bob amser. Ond byddaf i'n ysgrifennu, Darren, at y llywydd i ofyn a fyddai'n ymarferol i roi mwy o sylwadau yn adroddiadau blynyddol y dyfodol. Byddai unrhyw symudiad i'r cyfeiriad hwnnw'n cael ei gefnogi'n llawn gennyf i pe byddai'r tribiwnlys yn penderfynu gwneud hynny, ond, yn y pen draw, mater i'r tribiwnlys a'r llywydd ei ystyried yw hwn, a byddwn yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 21.
Gan droi at welliant 42 y Llywodraeth, mae hwn yn adeiladu ar y gwelliannau y cytunwyd arnyn nhw yng Nghyfnod 2 ynghylch cydymffurfio â gorchmynion y tribiwnlys, sef adran 73 y Mesur erbyn hyn. Bydd y gwelliant hwn yn galluogi'r tribiwnlys i rannu gyda Gweinidogion Cymru adroddiadau a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a chyrff iechyd am eu cydymffurfiaeth â rheolau ac am y camau a gymerwyd i ymateb i argymhellion, ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall. Gellid rhannu hefyd wybodaeth ynghylch methiant i gydymffurfio â rheolau, neu fethiant cyrff iechyd i gymryd camau mewn ymateb i argymhellion. Yr wybodaeth hon fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru fonitro sut y mae'r system yn gweithio a hefyd i gymryd camau lle bo hynny'n briodol mewn ymateb i ddiffyg cydymffurfio, er enghraifft drwy bwerau ymyrryd amrywiol Gweinidogion Cymru. Mae monitro a gwerthuso'r system a gaiff ei hwyluso gan y gwelliant hwn yn berthnasol o ran cydymffurfiaeth i orchmynion tribiwnlys gan awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach. Bydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer darganfod a yw argymhellion tribiwnlys ar gyrff iechyd ac adroddiadau dilynol gan y cyrff iechyd i'r tribiwnlys yn cael yr effaith a ddymunir. Mae llywydd y tribiwnlys wedi nodi pa mor ddefnyddiol oedd y gwelliannau yng Nghyfnod 2, a byddai'r gwelliant pellach hwn yn sicrhau y caiff potensial llawn adran 73 ei wireddu.
Mae gwelliant 46 y Llywodraeth yn creu swydd newydd 'Dirprwy Lywydd y tribiwnlys'. Eglurodd y cyn-Weinidog ein bwriad i gyflwyno gwelliannau i greu dirprwy lywydd yn ystod camau cynharach y Bil, a gwnaed hyn mewn ymateb uniongyrchol i achos gweithredol cryf o'i blaid gan lywydd presennol y tribiwnlys. Mae'r llywydd wedi dweud y byddai dirprwy lywydd y tribiwnlys—ac, eto, rwy'n dyfynnu—yn gwella effeithlonrwydd gweithredol, parhad busnes a chynaliadwyedd y tribiwnlys yn sylweddol. Yn ymarferol, bydd y dirprwy lywydd yn cael ei benodi gan y llywydd o'r gronfa bresennol o gadeiryddion cyfreithiol. Rwyf wedi clywed gan y llywydd ar y mater hwn, ac mae hi'n falch iawn ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant. O ystyried y manteision gweithredol a gyflwynir ynddo, byddwn yn annog yr Aelodau i'w gefnogi.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig gydag ymateb y Llywodraeth. Rwy'n sylwi fod yna lawer o gyfeirio at farn llywydd y tribiwnlys mewn cysylltiad â safbwynt y Llywodraeth o ran croesawu'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud hyd yn hyn. Ond dyma'r unigolyn a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor ni ac fe wnaeth yn gwbl glir ei bod yn awyddus i gael y pwerau cyfarwyddo i'r tribiwnlys hwnnw fel bod ganddo allu i wneud y gwaith ar ran plant a phobl ifanc sydd ag angen ychwanegol am ddarpariaeth addysg wedi ei sicrhau gan y GIG. Ac ar hyn o bryd, nid yw hynny'n digwydd yn ddigon aml. Rydyn ni'n cael problemau wrth ddarparu cymorth i'r bobl sydd ei angen ac mae hynny'n arwain at anfantais sylweddol i'r plant a'r bobl ifanc.
Fel y dywedodd Llŷr Gruffydd yn gwbl briodol, mae'n rhaid inni gael gwared ar gymhlethdod diangen. Dyna oedd un o nodau allweddol y Bil hwn ac, yn anffodus, mae arnaf ofn ei fod yn gadael llawer iawn o gymhlethdod o ran cael dwy system unioni i geisio llywio trwyddyn nhw. Hynny yw, mae gennyf i achosion yn fy etholaeth sydd yn mynd drwy system unioni camweddau'r GIG sydd wedi para dwy flynedd. A yw hynny'n dderbyniol i blant a phobl ifanc sydd angen y cyfle i gael y cymorth sydd ei eisiau arnynt yn y lle y cânt eu haddysg? Nid wyf yn credu hynny, a gwn nad ydych chwithau'n credu bod hynny'n dderbyniol chwaith.
Fel y dywedaf, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod beth ar y ddaear sydd wedi digwydd i'r gwelliannau a awgrymwyd gan Keith Evans yn ei adroddiad, 'Defnyddio'r Rhodd o Gwynion', o ran y gwasanaeth iechyd gwladol fel y gallwn ddatrys y problemau sydd ganddo wrth ymdrin â gofidiau sy'n cael eu mynegi a chwynion a wneir iddo. I bob pwrpas, mae gennym wyth o gyrff unigol yn y GIG a phob un ohonyn nhw gyda'i systemau unioni sy'n gweithio ychydig yn wahanol, ond gallem gael un corff, y tribiwnlys, yn gwneud penderfyniadau a fyddai'n gyson ledled Cymru gyfan, a dyna mae fy ngwelliannau i yn yr adran hon yn ceisio ei gyflawni.
Roeddech chi'n dweud yn gwbl briodol fod y tribiwnlys yn gorff barnwrol annibynnol. A mater i'r tribiwnlys yw ei adroddiadau. Ond rwyf i'n croesawu'r ohebiaeth yr ydych wedi ymrwymo i'w chael gyda'r tribiwnlys i wneud yn siŵr ei fod yn ymwybodol o rai o'r pethau—ac roeddech chi'n gallu gwneud awgrymiadau am rai o'r pethau—efallai y byddai'n ddefnyddiol eu cynnwys yn eu hadroddiadau yn y dyfodol. Rwyf i'n credu mai ffordd well o wneud yn siŵr bod yr adroddiadau'n mynd i fod yn fwy defnyddiol yw trwy ganiatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol y dylai pethau sy'n cael eu hadrodd fod mewn fformat a ystyrir yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac yna dylid dwyn yr adroddiad hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel bod cyfle priodol i graffu arno. Ar hyn o bryd, rhoddir yr adroddiad hwnnw yn aml iawn ar y wefan. Buaswn i'n cael fy synnu, a dweud y gwir, pe byddai'n cael ei lawrlwytho cwpwl o gannoedd o weithiau dros gyfnod o 12 mis. Rydw i wedi bod ar y wefan ac wedi cael golwg arno: 'does 'na fawr o werth ynddo, a bod yn onest gyda chi. Ac yn sicr nid yw o unrhyw ddefnydd i'r plant a'r bobl ifanc a'u rhieni a fyddai am ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ohono.
Felly, rwy'n siomedig iawn eich bod chi'n gwrthod gwelliannau 11, 19 a 20. Rwyf i o'r farn fod pobl yn dymuno gweld y pŵer hwn i gyfarwyddo. Fel y dywedais, roedd un tyst yn neilltuol a ymddangosodd gerbron y pwyllgor yng Nghyfnod 1 nad oedd yn teimlo ei bod yn briodol i roi'r pŵer hwn i gyfarwyddo, a'r cyn-Weinidog oedd hwnnw. Roedd pob unigolyn arall yn cytuno—. A hwnnw oedd deiliad blaenorol y portffolio. Roedd pob unigolyn arall a wnaeth ymddangos gerbron y pwyllgor hwnnw a phob unigolyn a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor yn unfryd eu barn y dylai'r tribiwnlys gael mwy o bwerau gyda chyfle i gyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd genedlaethol. Felly, rwyf yn annog pob aelod yn y Siambr hon i fod yn ymwybodol o hynny pan fyddan nhw'n dod i bleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 11: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 30.
Cynigiwyd gwelliant 30 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 30.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 31.
Cynigiwyd gwelliant 31 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 31.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 32.
Cynigiwyd gwelliant 32 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 32.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd gwelliant 13.
Gwelliant 13: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 33.
Cynigiwyd gwelliant 33 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33.? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 33.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 34.
Cynigiwyd gwelliant 34 (Kirsty Williams).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 34.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 14.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 14.
Gwelliant 14: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 15.
Cynigiwyd gwelliant 15 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 15.
Gwelliant 15: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 35.
Cynigiwyd gwelliant 35 (Kirsty Williams).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 35.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp hynny am gadw'n gaeth am resymau iechyd meddwl. Gwelliant 62 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill—Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 62 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i gynnig gwelliant 62 ac i siarad am welliant 63. Cyflwynwyd y ddau yn fy enw i. Yn ystod y ddadl yng Nghyfnod 2, mynegais bryderon am oblygiadau posibl adran 42 y Bil, sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc dan gadwad. Mae adran 42 yn caniatáu ar gyfer rhoi'r gorau i'r dyletswyddau a roddir gan y Bil ar ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau datblygu unigol a'u cynnal pan fydd pobl ifanc yn agored i orchmynion cadw.
Nod yr adran hon yw bod yn gymwys i'r rhai a gedwir am resymau cyfiawnder troseddol. Ond, yn ystod Cyfnod 2, roedd yn amlwg na roddwyd llawer o ystyriaeth i'r rhai a gedwir am resymau iechyd meddwl. Ar ôl atal trafodion Cyfnod 2, cytunodd cyn-ddeiliad y portffolio i ystyried y mater ymhellach a gweithio gyda mi, pe byddai angen, i roi sylw i'r mater hwn.
Nawr, yn amlwg, mae amgylchiadau'n gallu codi lle bydd angen darpariaeth addysg ychwanegol ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol pan fyddant yn cael eu cadw o dan y Ddeddf iechyd meddwl am gyfnod yn yr uned iechyd meddwl. Yn wir, yn ddiweddar, ymwelodd aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ag unedau gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru lle'r oedd yna unedau addysg yn rhan gyfansawdd o'r unedau CAMHS hynny. Mae'n ddigon hawdd deall y gellid cael adegau pan fo rhywun ifanc yn mynd i un o'r unedau hynny a bod angen peth darpariaeth dysgu ychwanegol arno. Felly, dyma'r mathau o leoliadau y dylai'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol barhau i gael ei darparu ynddyn nhw ar gyfer y rhai sy'n derbyn cymorth cyn iddyn nhw fod dan gadwad.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am y cysylltiad a fu rhyngof i â'ch swyddfa a swyddogion y Llywodraeth, sydd wedi arwain at gyflwyno gwelliant 62. Rwyf wedi bod yn hapus iawn i ymgysylltu ac yn falch o'r cymorth sydd wedi bod gyda'r drafftio.
Felly, mae'r gwelliant yn ceisio darparu ar gyfer pwerau i wneud rheoliadau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymhwyso'r dyletswyddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n cael eu cadw o ganlyniad i iechyd meddwl gwael yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae gwelliant 63 yn ganlyniadol i welliant 62, ond 62 yw'r un pwysig iawn, ac rwy'n annog pob aelod i gefnogi'r ddau welliant.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn yn llawn. Ac, os y caf i ddweud, Llywydd, maen nhw'n enghraifft wych o'r craffu gwerthfawr a ymgymerir yn y lle hwn, gan gynnwys arbenigedd ei bwyllgorau pwnc, a sut y mae'r gwaith craffu hwn yn gwasanaethu i wella deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Fel y clywsom ni, mae'r gwelliannau yn ymwneud â mater a godwyd gan Darren Millar yn ystod pwyllgor yng Nghyfnod 2. Pwynt pwysig a gafodd ei godi yw hwn, ac rwy'n falch ei fod wedi gwneud hynny a'n bod wedi gallu gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gydag esboniad o sut y mae'r Bil yn berthnasol lle mae plant a phobl ifanc dan gadwad o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Yn fyr, ar gyfer plant a phobl ifanc a gedwir yn sifilaidd dan Ddeddf 1983, mae'r Bil yn berthnasol yn yr un modd fel ag y mae'n gymwys yn gyffredinol, ac roedd fy llythyr yn ymdrin yn fwy manwl â'r canlyniadau i hynny.
Ond nid yw hynny'n berthnasol o ran cadwad dan y Ddeddf honno ar gyfer y rhai yn y system cyfiawnder troseddol, ac mae gwelliant 62 yn mynd i'r afael â hyn. Mae'n rhoi pŵer rheolaethol fydd yn berthnasol i awdurdodau lleol a dyletswyddau i gorff llywodraethu yn y Bil a fyddai fel arall yn cael ei ddiffodd o ran plant a phobl ifanc sydd yn destun gorchymyn cadwad a gedwir mewn ysbyty o dan ran 3 y Ddeddf 1983, a gall fod yn berthnasol i'r dyletswyddau gydag addasiad neu fel ag y mae.
Mae gwelliant 63 yn berthnasol i'r weithdrefn gadarnhaol sydd i reoliadau o'r fath. Bydd y diwygiadau yn caniatáu cymhwysiad priodol y dyletswyddau yn y Bil mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n cael eu cadw mewn ysbyty o dan ran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae hwn yn faes cymhleth y mae angen ystyried yn ofalus iawn. Bydd cael gallu i wneud rheoliadau yn caniatáu i'r ystyriaeth honno ddigwydd ac i wneud darpariaeth addas. Rwy'n gwbl fodlon fod gwelliant Darren Millar yn angenrheidiol a'i fod yn ein rhoi mewn sefyllfa dda, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i'w gefnogi.
Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig rhoi sylw i'r mater hwn a dyna pam yr wyf wedi bod yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i wneud hynny mewn modd sy'n caniatáu ystyriaeth bellach o'r mater drwy ragor o graffu, os mynnwch chi, i sicrhau y rhoddir sylw i'r materion pwysig hyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliannau.
Os na dderbynnir gwelliant 62, bydd gwelliant 63 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 62? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 62.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 61.
Cynigiwyd gwelliant 61 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 61? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 61.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 9, sydd yn ymwneud â chodi tâl o dan ddarpariaethau Rhan 2. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Kirsty Williams).
Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn ymwneud â'r mater o godi tâl am y pethau a ddarperir o dan y Bil hwn. Gadewch imi ddechrau trwy ddweud fy mod yn cytuno â'r egwyddor y tu ôl i welliannau 59 a 60 Llŷr Gruffydd. Ni ddylai awdurdodau lleol fod yn gallu codi tâl am wasanaethau eiriolaeth. Mae gwelliannau 36, 37 a 41 y Llywodraeth yn tynhau'r Bil yn hyn o beth, ac yn gwneud hynny y tu hwnt i wasanaethau eiriolaeth yn unig. Mae gwelliannau 36 a 37 yn gwneud newidiadau i adran 45, sy'n cynnwys gwahardd codi tâl, felly mae'r gwaharddiad yn cynnwys unrhyw beth y mae awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc dan ran 2 y Bil.
Byddai hyn yn cynnwys darpariaeth yr awdurdod lleol o wasanaethau eirioli annibynnol, yn ogystal â materion eraill y mae'r awdurdod lleol yn eu sicrhau ar gyfer plant a phobl ifanc fel rhan o'r trefniadau y mae'n rhaid eu gwneud o dan ran 2. Mae'r gwelliannau hefyd yn egluro nad yw plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc yn rhwymedig i dalu unrhyw dâl a ofynnir gan unrhyw berson am bethau y mae'r awdurdod neu'r corff llywodraethu yn eu sicrhau i'r plentyn neu'r person ifanc o dan ran 2.
Mynegodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ei adroddiad Cyfnod 1, bryder y gallai adran 65(4) ganiatáu i dderbynnydd gwasanaethau eiriolaeth orfod talu am y gwasanaeth. Mae gwelliant 41 yn gwneud adran 65(4) yn fwy eglur. Mae'n caniatáu i drefniadau'r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth gynnwys taliadau gan yr awdurdod lleol, er enghraifft i ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae'r ailddrafftio hwn yn dileu unrhyw amwysedd. Ni all ganiatáu codi tâl ar y plentyn neu'r person ifanc am y gwasanaeth.
Mae gwelliannau Llŷr Gruffydd yn canolbwyntio ar adran 65 yn unig. Er nad oes gennyf i broblem gyda'r bwriad y tu ôl iddyn nhw, byddent yn cael eu gwneud yn ddiangen gan welliant ehangach y Llywodraeth. Byddwn hefyd yn awgrymu bod dull y Llywodraeth yn well. Nid yw'n ddymunol cynnwys darpariaeth benodol yn adran 65 yn gwahardd codi tâl ar y sawl sy'n derbyn y gwasanaeth pan geir gwaharddiad cyffredinol sy'n cwmpasu hynny a materion eraill yn rhan 2. Gallai godi amheuaeth ynghylch ehangder y gwaharddiad cyffredinol. Gan hynny, byddwn yn gofyn yn barchus i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 36, 37 a 41 y Llywodraeth, a gwrthwynebu gwelliannau 59 a 60.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr eglurder mae hi wedi ei roi ar hyn? Mi wnes i godi'r angen am well eglurder yn adran 65 ar y mater o dalu am wasanaethau eirioli annibynnol yn ystod Cyfnod 2, ac fe gytunodd y Gweinidog ar y pryd i edrych eto ar y geiriad. Yn sgil sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, rydw i'n ddigon hapus i beidio â chynnig gwelliannau 59 a 60 pan ddown ni atyn nhw.
Yr Ysgrifennydd Cabinet.
Dim rhagor o sylwadau, dim ond diolch i Llyr am ei waith yn y maes hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 37.
Cynigiwyd gwelliant 37 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 37.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next group of amendments is group 10, these amendments relate to work-based learning. The lead amendment in this group is amendment 16, and I call on Darren Millar to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Cynigiwyd gwelliant 16 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 16 a hefyd rwyf eisiau siarad am welliannau 22, 23 a 24, sydd i gyd wedi'u cyflwyno yn fy enw i.
Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 16, ac mae'n ceisio darparu ar gyfer pŵer i wneud Gorchymyn i alluogi Gweinidogion Cymru i ymestyn cwmpas y system anghenion dysgu ychwanegol newydd i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn y dyfodol. Mae'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd dim ond yn mynnu bod y cyrff hynny sydd â dyletswyddau ar wyneb y Bil, h.y. ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol, yn darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith. Ond bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod llawer o ddarparwyr eraill, yn y sector preifat a'r trydydd sector, hefyd yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith.
Yn ystod Cyfnod 1 o graffu ar y Bil, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy'n cynrychioli mwy na 100 o ddarparwyr hyfforddiant ar draws y wlad, ac fe nododd y Ffederasiwn yn glir ei fod yn awyddus i weld cwmpas y Bil yn cael ei ymestyn i brentisiaethau ac amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith eraill i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arno i ddatblygu ei sgiliau a'i gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth. Roedd yn ystyried hyn yn elfen allweddol o gyflawni nod datganedig Llywodraeth Cymru, a rennir ar draws y Siambr hon, wrth gwrs, o greu parch cydradd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd. Pwysleisiodd hefyd bod dysgwyr ag anghenion mwy cymhleth, gan gynnwys anawsterau dysgu, yn fwy tebygol o ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith na phobl ifanc eraill ac, o ganlyniad i hynny, bod llawer o ddarparwyr hyfforddiant eisoes yn brofiadol iawn mewn darparu cymorth yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer unigolion.
Ond, hyd yma, er gwaethaf y gefnogaeth ar gyfer ymestyn y system newydd i bob darparwr dysgu seiliedig ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i wneud hynny. Awgrymodd deiliad blaenorol y portffolio fod ganddo rai pryderon ynghylch goblygiadau ymestyn y darpariaethau i'r sector preifat. Ond fy marn i, a barn y pwyllgor yng Nghyfnod 1, oedd y dylai fod yn ofynnol i unrhyw ddarparwr dysgu seiliedig ar waith sy'n derbyn arian cyhoeddus ddarparu cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau chwarae teg i bob dysgwr.
Nawr, rwy'n cydnabod y gallai fod rhywfaint o waith i'w wneud i sicrhau bod estyniad o'r fath i gwmpas y Bil yn gymesur, yn enwedig o gofio bod llawer o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yn sefydliadau bach iawn weithiau. Dyna pam y mae fy ngwelliant yn ceisio pŵer i wneud Gorchymyn y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol i ganiatáu ar gyfer ystyriaeth briodol o oblygiadau'r estyniad.
Mae gwelliannau 22, 23 a 24 i gyd yn welliannau canlyniadol i welliant 16 ac yn cyfeirio at y pwerau hynny i wneud Gorchmynion mewn mannau eraill ar wyneb y Bil. Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r gwelliannau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, rwy'n cydnabod bod cyfran o bobl ifanc ag ADY yn mynd ymlaen i gael dysgu seiliedig ar waith ar ôl iddynt adael yr ysgol neu addysg bellach. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn parhau i dderbyn cefnogaeth briodol ar gyfer eu hanghenion. A byddwn yn sicrhau bod y cysylltiadau priodol yn cael eu gwneud rhwng y system ADY newydd a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau priodol a gynigir gan drefniadau cytundebol, yn fy marn i, yn ysgogiad mwy pwerus o bosibl na'r gwelliant. Os na chymerir camau, bydd canlyniad ariannol ar gyfer darparwyr, ac mae hyn yn debygol o fod yn offeryn mwy effeithiol i sicrhau cydymffurfiaeth. Safbwynt y Llywodraeth drwy gydol hynt y Bil hwn yw y byddai'n anghymesur i osod dyletswyddau statudol ar ddarparwyr yn hyn o beth.
Fodd bynnag, mae'r pŵer sydd wedi'u cynnwys yn y gwelliannau hyn yn annhebygol o fod yn ddigon eang i fod yn effeithiol. Ni fydd, er enghraifft, yn darparu ar gyfer apeliadau nac ar gyfer gosod gofynion drwy'r cod. Ac ni allem gadw trefn ar y system o dan y gwelliant a gynigir, gan nad oes unrhyw bwerau i gyfarwyddo darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Ar y llaw arall, gall cytundebau contractiol, o bosibl ddarparu dull effeithiol o fynnu cydymffurfiaeth.
Mae'n debygol hefyd y bydd materion eraill o ran dibynnu ar y pŵer. Er enghraifft, o ran effeithiolrwydd gweithredol, gallai fod problem o ran sut y byddai'r ddarpariaeth hon yn cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Yn benodol, mae yna gwestiwn ynghylch a fyddai is-gontractwyr, er enghraifft, sy'n darparu dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu dal gan eiriad y gwelliant. Ar yr wyneb, nid yw'n ymddangos fod unrhyw beth y byddai'r pŵer hwn yn ei ganiatáu na fyddem yn gallu ei gyflawni drwy gontract gyda darparwyr. Mae'r gofynion cytundebol presennol ar gyfer dysgu seiliedig ar waith eisoes yn darparu ar gyfer cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith, ac mae cyllid i gontractwyr i dalu am y costau sy'n gysylltiedig â hynny. Rwy'n fodlon—yn fodlon iawn—ailadrodd ymrwymiad blaenorol y Llywodraeth i ystyried pa welliannau y gellir eu gwneud i'r trefniadau presennol yn rhan o'r symudiad tuag at Cymru'n Gweithio o 2019 ymlaen. Bydd cynlluniau datblygu unigol yn adnodd sylfaenol ar gyfer darparwyr wrth benderfynu sut i gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac ystyriaeth allweddol yma yw bod yn rhaid iddo fod gyda chydsyniad y person ifanc. Ond rwyf am sicrhau bod y cyfleoedd yn cael eu gwireddu'n llawn ar gyfer integreiddio gydag offer y bydd Cymru'n Gweithio yn eu defnyddio i nodi rhwystrau i gyflogaeth a chyflenwi darpariaeth ddilynol. Ac am yr holl resymau a amlinellwyd gennyf, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthwynebu'r gwelliannau hyn.
Rydw i newydd sylwi fy mod i heb alw Llyr Gruffydd yn y grŵp yma, felly Llyr Gruffydd.
Efallai mai fi yw'r unig Aelod sy'n flin ynglŷn â hynny, efallai, nid ydw i'n gwybod. Diolch, Llywydd. Rydw i jest eisiau rhoi ar record fy mod i'n hapus i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma ac wedi gwneud hynny yn ffurfiol. Ni wnaf i ailadrodd y pwyntiau sydd eisoes wedi cael eu cyffwrdd â nhw, dim ond i ddweud: yn flaenorol, mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw'n gyndyn i estyn agweddau ar y Bil yma i mewn i'r sector preifat pan mae'n dod i ddarparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith, ond, wrth gwrs, maen nhw wedi gwneud hynny o safbwynt meithrinfeydd, sydd yn derbyn arian cyhoeddus, a'r un egwyddor sydd yn y fan hyn. Hynny yw, mae yna ddarparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith sydd yn derbyn arian cyhoeddus hefyd, felly rydw i yn meddwl y byddai ychydig o gysondeb yn rhywbeth i'w groesawu. Ac mae Estyn, wrth gwrs, hefyd wedi dweud wrthym mi, yng nghwrs y dystiolaeth rydym ni wedi'i derbyn, os ydych chi'n edrych ar yr egwyddor y tu ôl i'r Bil yna, meddai Estyn, mae'n anodd gweld pam na ddylid cynnwys y grŵp penodol yma o ddysgwyr hefyd. Felly, mi fyddwn i yn gofyn i Aelodau ystyried yn ofalus yr angen i gefnogi'r gwelliannau yma—nid i gynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith o fewn y Ddeddf o reidrwydd, ond o leiaf er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud hynny drwy Orchymyn ar ryw bwynt yn y dyfodol.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei gefnogaeth a dweud pa mor siomedig yr wyf i gydag ymateb y Llywodraeth? Rwy'n gwerthfawrogi y gallwch chi ddefnyddio ysgogiadau cytundebol i sicrhau newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ond mae gennych y corff sy'n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith—llawer ohonynt yn ddarparwyr sector preifat, rhai yn ddarparwyr trydydd sector, eraill yn ddarparwyr sector cyhoeddus—yn dweud, 'Rydym ni eisiau'r dyletswyddau hyn wedi'u gosod arnom ni.' Maen nhw'n gofyn am y pethau hyn mewn gwirionedd oherwydd eu bod eisiau darparu'r gwasanaethau y mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen, ac yn ogystal â hynny, mae llawer ohonyn nhw eisoes yn arbenigo mewn darparu cymorth mewn ffyrdd a allai fod yn ddefnyddiol i'r sector preifat eu dysgu. Felly, dywedodd llawer ohonyn nhw: 'Rydym ni eisoes yn helpu pobl ag anghenion dysgu ychwanegol; rydym ni eisiau gweld y dyletswyddau hyn yn cael eu hymestyn i ni.' Fel y mae Llyr Gruffydd wedi dweud yn gwbl briodol, rydych chi wedi ymestyn y gofynion hyn i'r sector preifat eisoes ym maes darparwyr y blynyddoedd cynnar, ac ni allaf yn fy myw weld pam y dylai fod dull gwahanol ym maes darparwyr seiliedig ar waith. Yn y pen draw, y trethdalwr sy'n talu am y pethau hyn a dylai fod cysondeb o ran y ddarpariaeth honno.
Erbyn hyn, rydym ni i gyd yn gwybod, pan fo cytundebau contract yn cael eu rhoi ar waith, ei bod yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod contractau yn cael eu gorfodi, a bod contractau yn cael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel na all pobl weld bai arnynt a dianc rhag y cyfle i gael eu dwyn i gyfrif am y ddarpariaeth o'i gymharu â'r contractau hynny. Nid oes gan y sector cyhoeddus hanes da o ran gallu gwneud hynny bob amser, ac rydym ni'n mynd i fod mewn sefyllfa bosibl lle gallai colegau a sefydliadau addysg bellach, os ydyn nhw'n darparu dysgu seiliedig ar waith, o bosibl is-gontractio'r gwaith hwnnw i ddarparwr sector preifat, i ddarparwr trydydd sector, nad oes ganddynt unrhyw gyfrifoldebau o dan y trefniadau newydd hyn a llwyr ddianc rhag y system reoli—llwyr ddianc rhag y system reoli—yr ydych chi'n ceisio ei chyflwyno. Nid wyf yn gofyn i chi weithio allan yr holl ffyrdd y mae angen i ni wneud yn siŵr bod y system honno yn gweithio ar hyn o bryd. Y cyfan yr wyf yn ei wneud yw rhoi cyfle i chi fel Gweinidogion Cymru fod â phwerau i wneud Gorchmynion er mwyn i chi allu ymestyn darpariaethau'r Bil yn y dyfodol. Nid wyf yn gwybod pam nad ydych chi'n achub ar y cyfle hwn gyda'r ddwy law, a dyna pam yr wyf i'n dal i fod yn awyddus i wthio'r gwelliannau hyn i bleidlais.
Os na dderbynnir gwelliant 16, bydd gwelliant 24 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 16.
Gwelliant 16: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 24.
Y grŵp nesaf yw grŵp 11. Mae'r gwelliannau yma yn ymwneud ag addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach. Gwelliant 38 yw'r prif welliant. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau.
Cynigiwyd gwelliant 38 (Kirsty Williams).
Rwyf yn annog yr Aelodau, Llywydd, i gefnogi gwelliannau 38 a 43. Rydym ni wedi bod yn glir drwy gydol y broses y bwriedir i'r system anghenion dysgu ychwanegol fod yn berthnasol i bobl ifanc sy'n dal yn yr ysgol neu sy'n derbyn addysg bellach. Nid yw'r system hon wedi'i bwriadu i fod yn berthnasol i bobl ifanc mewn addysg uwch.
Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud y Bil yn gwbl gyson â'r polisi hwnnw. Byddant yn dileu'r anghysondeb presennol yn y Bil, ac felly er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch, rwyf yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno yng Nghyfnod 3, oherwydd nid oedd neb yn galw am eithriad—nid oedd neb yn galw, o gwbl, mewn unrhyw ran o'r dystiolaeth a gawsom, i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach gael eu heithrio o'r system gymorth newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Nawr, o'm safbwynt i—ac mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddatgan y nod hwn ei hun: mae hi eisiau mynediad cyfartal at gymorth ar gyfer pob dysgwr. Nid yw hi eisiau ymestyn hyn i brifysgolion. Nid wyf yn gofyn iddo gael ei ymestyn i brifysgolion, cwmpas y Bil hwn. Ond o fewn sefydliad unigol, rwy'n credu y dylai fod rhywfaint o gydraddoldeb o ran gallu cael cymorth ag anghenion dysgu ychwanegol. Os bydd y gwelliannau hyn yn cael eu pasio, mae gennych y potensial y bydd dau unigolyn yn mynd i sefydliad addysg bellach—un yn gwneud cwrs addysg uwch heb gael unrhyw gymorth ag anghenion dysgu ychwanegol, a'r llall yn gwneud cwrs addysg bellach ac yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arno. Ni all hynny fod yn iawn. Mae angen i ni wneud yn siŵr y ceir chwarae teg. Nid yw'n degi eithrio grŵp o fyfyrwyr o'r system anghenion dysgu ychwanegol dim ond oherwydd eu bod yn dilyn cwrs addysg uwch mewn coleg lleol, a chredaf fod y gwelliannau hyn yn annoeth iawn.
Dylai pawb sy'n ymrestru mewn sefydliad addysg bellach gael mynediad cyfartal at gymorth. Rydych chi'n cymryd peth o'r gallu hwnnw i gael cymorth oddi arnynt drwy'r gwelliannau hyn, ac yn sicr ni fyddaf i'n eu cefnogi.
Rwy'n rhannu'r pryderon hynny, mae'n rhaid imi ddweud. Rydych chi'n dweud y buoch yn glir o'r cychwyn—fy nealltwriaeth i drwy'r amser oedd mai ar y sefydliad oedd y pwyslais, ac nid ar y math o ddarpariaeth a oedd ar waith. Yn sicr, ni chafwyd tystiolaeth yn galw am eithrio addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach, ac yn sicr nid ydym wedi cael cymaint o ddadl a thrafodaeth ag y byddwn wedi gobeithio eu cael, pe byddwn i'n gwybod y byddai hyn yn dod ar y cam hwyr iawn hwn.
Yn wir, fy nealltwriaeth i oedd nad oedd y Bil yn ymestyn i gynnwys addysg uwch mewn prifysgolion oherwydd strwythurau llywodraethu sefydliadau AU, a chan fod y systemau a'r strwythurau wedi'u sefydlu ar gyfer sefydliadau addysg bellach i ddarparu cynlluniau datblygu unigol, mae'n afresymegol, yn fy marn i, i beidio â defnyddio hyn er budd pob dysgwr yn y sefydliad addysg bellach, ni waeth pa gwrs y maen nhw'n ei ddilyn. Felly, rwyf yn annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn, oherwydd nid wyf yn meddwl bod hyn yn iawn.
Galwaf ar Ysgrifennyd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau datgan yn gwbl glir nad yw hwn ynghylch gwrthod cymorth ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n astudio cwrs addysg uwch. Rwy'n cydnabod, yn gynyddol, bod sefydliadau addysg bellach yn darparu cyrsiau addysg uwch, ac wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau, y tebygolrwydd yw y bydd y gwahaniaeth rhwng sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch yn parhau i gael ei gymylu. Ond rhaid inni gydnabod, wrth wneud y gwahaniaeth hwn, bod system ar wahân ond gwahanol o gymorth ar gyfer dysgwyr addysg uwch sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er enghraifft, mae'r lwfans myfyrwyr anabl ar gael ar eu cyfer, ac mae dulliau cymorth ar wahân ar waith.
Bu bob amser yn fwriad y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn cyfeirio at addysg bellach yn unig ac i addysg orfodol ac nid y sector addysg uwch. Ac os bydd y Bil yn mynd ymlaen yn y modd hwn, byddai gennych wahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o ddysgwyr addysg uwch sydd â hawl i lefelau gwahanol o gymorth.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod oherwydd y llif sylweddol dros y ffin ym maes addysg uwch, y byddai'n gwneud creu system ar wahân o gymorth yn eithaf anodd ei fonitro a'i orfodi. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal ac 19 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 38.
Gwelliant 38: O blaid: 32, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf yw grŵp 12, ac mae'r gwelliannau yma yn ymwneud ag adolygiadau awdurdodau lleol. Gwelliant 39 yw'r prif welliant, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau.
Cynigiwyd gwelliant 39 (Kirsty Williams).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau ymhellach ac yn egluro'r ddyletswydd bresennol yn y Bil ar awdurdodau lleol i gadw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad.
Mae gwelliant 39 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, yn rhan o'u dyletswyddau ehangach, ystyried pa mor ddigonol yw eu trefniadau ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc yn eu hardal, ac i ystyried yn benodol maint a gallu'r gweithlu sydd ar gael.
Ein bwriad bob amser oedd y byddai ystyriaethau gweithlu yn agwedd sylfaenol ar weithrediad adran 59, ac mae'r gwelliant hwn yn gwneud darpariaeth benodol ar ei gyfer. Rwyf i o'r farn bod hon yn ffordd briodol iawn o ymgorffori dyletswydd cynllunio gweithlu yn benodol yn y Bil . Mae'n ymateb uniongyrchol i ymrwymiad a wnaed gan ddeiliad blaenorol y portffolio yng Nghyfnod 2 i weithio tuag at welliant ar gynllunio gweithlu.
Mae gwelliant 40 yn sicrhau dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd pob cam rhesymol i wneud iawn am unrhyw annigonolrwydd yn eu trefniadau ar gyfer diwallu ADY a nodwyd drwy eu hadolygiadau adran 59. Mae'n diwygio adran 59(4) y Bil, a oedd yn deillio o welliant gan Llyr Gruffydd yng Nghyfnod 2. Mae'r is-adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, os ydynt yn eu hadolygiad wedi nodi annigonolrwydd yn y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn y Gymraeg, i gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater.
Mae gwelliant 40 yn ceisio sicrhau bod y ddyletswydd yn ymestyn i unrhyw annigonolrwydd a nodwyd yn eu trefniadau ADY. Mae'n cadw effaith gwelliant gwreiddiol Llyr. Rwyf yn annog yr Aelodau i'w cefnogi.
Hoffwn estyn fy nghefnogaeth i'r gwelliannau hyn a hefyd diolch i ddeiliad blaenorol y portffolio am y cyfle a roddodd i Aelodau'r gwrthbleidiau i gymryd rhan wrth lunio'r holl welliannau o ran y Gymraeg yn y grŵp hwn a grwpiau eraill pan yr ymddangosodd gerbron y pwyllgor yng Nghyfnod 2.
Mae'r rhain yn welliannau i'w croesawu'n fawr yn wir, ac mae'n gwbl hanfodol, wrth gwrs, bod gennym ni weithlu sy'n gallu darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i'r bobl ifanc hynny sy'n dewis defnyddio gwasanaethau yn y ffordd honno.
Rydym ni'n dod at rai gwelliannau yng ngrŵp 13 sy'n pwysleisio ac yn tanlinellu pwysigrwydd mawr sicrhau bod dewis y dysgwr wrth wraidd pob penderfyniad ym maes darparu gwasanaethau yn Gymraeg. Ac mae'n rhaid i'r dewis hwnnw, yn y bôn, fod wedi'i ategu gan gynllun gweithlu priodol, gyda phobl yn y lleoedd cywir ar yr adeg gywir, yn gweithio gyda'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd angen cymorth ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, rwy'n croesawu gwelliannau 39 a 40 yn fawr a byddaf yn eu cefnogi.
Rydw innau hefyd yn hapus i gefnogi gwelliannau 39 a 40, ac rydw i'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am eu cyflwyno nhw. Mae gen i welliannau pellach i'r adran yma o'r Bil yn y grŵp nesaf a fydd hefyd, gobeithio, yn fy marn i, yn cryfhau'r sefyllfa hyd yn oed ymhellach.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Llywydd, hoffwn ddim ond nodi'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau am welliannau 39 a 40 a chroesawu eu cefnogaeth iddynt
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 39.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 40.
Cynigiwyd gwelliant 40 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbyniwyd gwelliant 40.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf, felly, yw grŵp 13. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â darpariaeth Gymraeg. Gwelliant 64 yw'r prif welliant, ac rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill.
Cynigiwyd gwelliant 64 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, gydol y broses ddeddfu yma, rŷm ni wedi cael ein hatgoffa yn gyson o'r diffygion sydd yna o safbwynt gallu'r gweithlu yn y sector yma i gwrdd yn ddigonol â'r anghenion o safbwynt darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nawr, mae'n hen gŵyn, y bydd nifer o'r Aelodau fan hyn yn gyfarwydd â chael gwaith achos cyson ar hyn, sef diffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, methu cael diagnosis am wahanol gyflyrau drwy gyfrwng y Gymraeg, diffyg arbenigwyr, efallai, sy'n medru'r Gymraeg, a diffyg darparwyr gwasanaethau penodol hefyd er mwyn cwrdd â'r anghenion sydd wedi eu hadnabod. Yr un cwynion a'r un diffygion a oedd yn cael eu hadrodd i nifer ohonom ni bum, efallai 10 mlynedd yn ôl, ac nid yw hynny yn dderbyniol. Fy ngofid i yw os nad achubwn ar y cyfle i weithredu ar hyn yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol, byddwn ni'n dal i drafod yr un rhwystredigaethau a'r un problemau ymhen pum neu 10 mlynedd i ddod. Cyfunwch chi hynny, wrth gwrs, ag uchelgais y Llywodraeth o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae yna gyfle fan hyn i greu ysgogiad newydd, rhyw fath o fomentwm newydd, a fydd, o'r diwedd, gobeithio, yn wirioneddol yn mynd i'r afael â'r broblem yma.
Mae'r Llywodraeth wedi cryfhau'r Bil i'r perwyl yma, ac rwy'n cydnabod hynny. Trafodwyd rhai gwelliannau ynghynt ac, wrth gwrs, rŷm ni hefyd wedi dod i gytuno ar welliannau eraill yn ystod Cyfnod 2. Mae angen i Weinidogion adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg bob pum mlynedd, ac mae hynny'n gam positif eithriadol, er bod y posibilrwydd o orfod aros hyd at bum mlynedd ar ôl pasio'r Bil yma am yr adolygiad cyntaf yn oedi gormodol o bosib yn fy marn i hefyd. Mae'r ddyletswydd i gadw darpariaeth dysgu ychwanegol o dan adolygiad, yn cynnwys y Gymraeg yn adran 59, ond yn ddyletswydd i awdurdodau lleol.
Nawr, mae llawer o'r hyn sy'n greiddiol i lwyddiant y Bil yma—y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ehangach—yn ddibynnol ar rôl a darpariaeth cyrff iechyd. Mae fy ngwelliant i, gwelliant 64, felly yn galw ar i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn unol â'r rheoliadau y bydd y Llywodraeth yn eu creu, yn gallu asesu faint y galw tebygol a fydd yna am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, fel cam cyntaf, ac wedyn gymharu hynny â'r capasiti sydd ganddyn nhw i gwrdd â'r galw hwnnw, ac wedyn, wrth gwrs, fynd ymlaen i amlinellu camau y maen nhw am eu cymryd i ddarparu'r hyn sydd ei angen.
Mae'n rhaid inni greu sefyllfa lle mae'r cyrff perthnasol yn fwy rhagweithiol ar y mater yma neu, fel rwy'n dweud, byddwn ni yn ôl lle rŷm ni wedi bod flynyddoedd yn ôl ac yn dal i fod yn rhy aml o lawer o safbwynt argaeledd y ddarpariaeth, yn lle dweud y bydd y Llywodraeth yn asesu'r sefyllfa rhywbryd yn y pum mlynedd nesaf, gyda risg yn y cyfamser y bydd cenhedlaeth arall o blant yn colli hawl i dderbyn gwasanaethau a darpariaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Creu impetus i weithredu a bod yn rhagweithiol; dyna yw'r nod o safbwynt y gwelliant penodol yna.
Mae gwelliannau 65 a 66 yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau eirioli, ac y dylai gwasanaethau fel arfer fod ar gael yn Gymraeg ym mhob achos lle y bydd person yn gwneud cais am hynny. Mae hon yn hawl sylfaenol, ac nid yw'n afresymol disgwyl y gellir cwrdd â'r gofyniad yma trwy gydweithio a hyfforddi, oherwydd os yw'r ewyllys yno i sicrhau bod hynny'n digwydd, yna mae'r amser wedi dod, yn fy marn i, inni fynnu o hyn ymlaen fod hynny yn digwydd. Mae'r Aelodau Cynulliad, rwy'n gwybod, wedi derbyn gohebiaeth gan ystod o gyrff, a gwnes i gyfeirio atyn nhw yn gynharach, yn cynnwys UCAC, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith, CyDAG a Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, yn gofyn i chi gefnogi'r gwelliannau hyn, ac fe fyddwn innau hefyd yn gofyn ichi wneud hynny y prynhawn yma.
A gaf innau hefyd siarad i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd? Roedd gennym ni Fil a oedd yn eithaf byr, mewn gwirionedd, o ran dyheadau pawb am ddarpariaethau'r Gymraeg a oedd ynddo ar y cychwyn, ond drwy gydweithio â deiliad blaenorol y portffolio a'r Ysgrifennydd Cabinet presennol, credaf fod cyfres o welliannau yma a fydd yn cyfrannu'n sylweddol at sicrhau bod gennym system sy'n gadarn ac sydd â'r gallu i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Fel Llyr, rwyf innau wedi profi déjà vu ar sawl achlysur yn y Siambr hon pan ein bod wedi edrych ar annigonolrwydd cynllunio gweithlu, nid yn unig yn y gwasanaethau addysg, nid yn unig yn y gwasanaethau iechyd, ond mewn pob math o feysydd gwasanaeth cyhoeddus eraill. Mae angen inni ddatrys hyn unwaith ac am byth, ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn—gwelliant 64 yn sicr—yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny gyda'r gofyniad hwn i asesu'r galw tebygol ac yna i sicrhau bod y gallu yno i ddarparu gwasanaethau i ateb y galw hwnnw.
Credaf hefyd ei bod yn amlwg yn gwbl hanfodol bod pobl yn gallu cael gwasanaethau eiriolaeth yn eu hiaith o ddewis. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn ceisio mynegi dadleuon, mae'n anodd gwneud hynny mewn ail iaith. Credaf ei bod yn hollol iawn, bob amser, y dylai iaith o ddewis y dysgwr, a'r rhieni, fod yn rhan hollbwysig o'r penderfyniadau hyn, ac mae gwelliannau 65 a 66 yn ceisio cyflawni yr egwyddorion hynny. Felly, rwy'n annog bob aelod i gefnogi pob un o’r tri gwelliant yn y grŵp hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, rwy'n llwyr gefnogi'r bwriad i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ar lawr gwlad a sicrhau bod y Bil yn gwneud popeth posibl i ysgogi cynnydd yn hyn o beth, ac rwy'n gobeithio bod y camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd i gryfhau'r agweddau Cymraeg ar y Bil hwn yn dangos y pwysigrwydd yr wyf i a'r Llywodraeth yn ei roi i'r iaith yn y system newydd.
Fodd bynnag, yn fy marn i, ni fydd y gwelliannau hyn yn gwella'r Bil ymhellach. Mae gwelliannau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 eisoes wedi cwmpasu llawer o'r materion y mae gwelliannau Llyr Gruffydd yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Yn achos gwelliant 66, credaf hefyd bod perygl ei fod yn gwanhau'r dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol.
Mae gwelliant 64, drwy reoliadau, yn ceisio gwneud rhywbeth y mae cyfuniad o adrannau presennol ar wyneb y Bil eisoes yn darparu ar ei gyfer. Mae adran 59, fel yr ydym newydd ei drafod yn y grŵp blaenorol, yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gadw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad, ac mae'n gwneud cyfeiriad penodol at yr angen i ystyried digonolrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater os ydynt o'r farn nad yw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn y Gymraeg yn ddigonol.
Wrth adolygu'r trefniadau yn ei ardal, bydd yr awdurdod lleol yn rhoi sylw i'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gellid ei threfnu yn rhesymol gan eraill, gan gynnwys byrddau iechyd.
Mae adran 83, a fewnosodwyd yn ystod Cyfnod 2, yn gosod dyletswydd ychwanegol ar Weinidogion Cymru i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y Gymraeg bob pum mlynedd. Pe byddai gwelliant 64 yn cael ei basio, byddai'r sefyllfa gyfreithiol o ran y materion hyn yn aneglur a byddai'n tanseilio'r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli yn y Bil.
Rwy'n derbyn y pwynt, Llyr, fod pum mlynedd yn ymddangos fel amser hir i ffwrdd, ond mae rhai o'r gweithwyr proffesiynol y gwyddom fod prinder ohonynt i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, mewn gwirionedd, pe byddem yn dechrau eu hyfforddi heddiw, byddai'n cymryd o leiaf tair blynedd, os nad mwy, i sicrhau'r arbenigedd proffesiynol hwnnw. Felly, nid yw'n fater ei fod yn cael ei roi o'r neilltu. Y gwir yw, ar gyfer rhai o'r gweithwyr proffesiynol yr ydym yn sôn amdanynt, a'r hyfforddiant proffesiynol y mae'n ofynnol iddynt ei ddilyn, mewn gwirionedd, pe byddem yn dechrau heddiw, byddai'n tair, pedair neu bum mlynedd cyn y byddai'r person hwnnw yn canfod eu hunain yn y system hon.
Mae gwelliannau 65 a 66 Llyr Gruffydd yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu darparu yn y Gymraeg fel arfer pan ofynnir am hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor hon. Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod y gwelliannau yn angenrheidiol i gyflawni'r nod a gallent arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae awdurdodau lleol eisoes o dan rwymedigaethau o ganlyniad i safonau'r Gymraeg. Mae adran 84, a fewnosodwyd hefyd o ganlyniad i'r gwelliant Cyfnod 2, yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer drwy reoliadau i wneud yn absoliwt y gofynion cymwysedig presennol ar gyrff yn y Bil i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Os nad yw'r Llywodraeth yn fodlon â'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol sydd ar gael yn y Gymraeg, bydd yn gallu gwneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaeth benodol fod ar gael yn y Gymraeg, ac mae hwn yn bŵer cryf, sydd eisoes yn bodoli yn y Bil. Mae'r adrannau hyn, wrth weithio ar y cyd â'i gilydd, yn gwneud yr un peth ag y mae'n ymddangos bod gwelliant 64 yn ceisio ei wneud, felly byddwn yn dadlau nad oes angen gwelliant 64.
Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio hefyd yw y byddwn hefyd yn defnyddio'r cod i roi arweiniad a sicrhau bod eglurder o ran cyfrifoldeb. Byddai gwneud unrhyw beth ychwanegol yn y Bil yn achosi i'r gyfraith yn y maes hwn fod yn aneglur ac o bosibl yn anghyson. Yn wir, gallai'r defnydd o'r ymadrodd 'fel arfer' wanhau, mewn gwirionedd, y ddyletswydd ar awdurdodau lleol penodol y mae eisoes yn ofynnol iddynt ddarparu gwasanaeth eiriolaeth cwbl ddwyieithog o dan y drefn safonau. Ac am y rhesymau hynny, er fy mod yn deall bwriad yr Aelod wrth eu cyflwyno, a'i ddiffuantrwydd ac, yn wir, yr angen i wella perfformiad yn y maes hwn ar lawr gwlad ar gyfer pobl ifanc a phlant, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthwynebu gwelliannau 64, 65 a 66, gan eu bod yn ddiangen ac y gallent o bosibl wneud pethau'n waeth.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rydw i'n clywed llawer o'r hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, ac rydw i yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi cryfhau yn sylweddol sawl agwedd ar y maes yma. Fe fyddwn i yn dweud, wrth gwrs, roeddech chi'n cyfeirio at awdurdodau lleol a dyletswyddau'r awdurdodau lleol a'r pwyslais ar edrych ar y ddarpariaeth mewn perthynas â darparwyr eraill—pwynt digon teg—ond fe fuaswn i'n licio cryfhau hynny a rhoi pwyslais mwy penodol ar y byrddau iechyd, oherwydd nhw sydd yn ganolog i lawer o hyn, a darpariaethau iechyd, fel roeddwn i yn sôn amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, sydd yn greiddiol i lawer o'r problemau yma. Roeddech chi'n sôn am y bum mlynedd o oedi—hynny yw, efallai bod hynny yn ormodol, ond mae'n gorfod digwydd o fewn pum mlynedd—ac rydw i'n cydnabod mi fyddai rhai disgyblaethau lle mi fyddai angen nifer o flynyddoedd i hyfforddi'r gweithlu, ond yn eich geiriau chi'ch hunan, 'rhai disgyblaethau'. Hynny yw, mae yna rai eraill lle petai'r ewyllys yna, fe fyddai modd troi pethau o gwmpas lawer iawn ynghynt, ac felly fe fyddwn i yn gobeithio ein bod ni'n gweld y Bil yma, yn yr un modd ag ewyllys y Llywodraeth i symud yn gynt tuag at 1 miliwn o siaradwyr, fel cyfle i roi sbardun cryfach i'r ymdrech yna. Ac mewn ymateb i'r hyn a ddywedoch chi ynglŷn â gwelliant 66, os ydw i'n cofio'n iawn, ynglŷn â'r ffaith bod safonau'r Gymraeg yn cynnwys darpariaeth ar wasanaethau eirioli, mae hynny'n bwynt a wnaeth y Gweinidog—y cyn Weinidog—yng Nghyfnod 2 y Bil yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud yn bendant nad yw hynny'n gywir. Nid yw darpariaeth ar wasanaethau eirioli yn dod o dan y safonau iaith, felly mae angen cryfhau'r Bil i sicrhau'r hawl hwnnw. Cefnogwch y gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 64? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 64: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 14 yw'r grŵp nesaf, yn ymwneud â'r gwasanaethau eirioli. Gwelliant 17 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad am hwn a'r gwelliannau eraill. Darren Millar.
Cynigiwyd gwelliant 17 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Diolch, Llywydd. Pwrpas gwelliannau 17 a 18 yw diwygio adran 65 y Bil i sicrhau y bydd rhieni plentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol bob amser yn cael cyfle i gael ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae'r gwelliannau hyn yn gweithredu argymhelliad 26 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, a oedd yn awgrymu y dylid diwygio'r Bil i sicrhau ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i rieni, ar gais, hyd yn oed os nad yw'r rhiant hwnnw yn gyfaill achos. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a gafwyd bod angen eiriolaeth ar gyfer rhieni yn ogystal â dysgwyr a chyfeillion achos, ac roedd pryderon, oherwydd na roddwyd yr hawl i eiriolaeth annibynnol i rieni yn benodol yn y Bil, y gallai beidio â bod ar gael i rai rhieni neu ddim ond ar gael o dan amgylchiadau eithriadol. Nododd TSANA nad oedd y Bil yn
darparu'n benodol ar gyfer darparu eiriolaeth i rieni,
ac nad oedd rhieni o reidrwydd yn cael eu diffinio fel cyfeillion achos yn y Bil, ac felly'n gymwys ar gyfer eiriolaeth. Roedd Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn cytuno. Dywedodd pe byddai awdurdodau lleol a chyrff yn gwybod bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael ar gyfer rhieni, yna byddai hynny ynddo ei hun yn helpu i reoli pethau. Felly, byddai darparu eiriolaeth annibynnol i rieni plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn fy marn i, yn helpu i osgoi gofid; bydd yn helpu i osgoi oedi; a bydd yn helpu i osgoi, yn bwysig iawn, camau unioni costus yn ddiweddarach yn y broses, pryd y gallen nhw, er enghraifft, fod yn cymryd rhan mewn tribiwnlys. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi hefyd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 17 a 18, sy'n ceisio gorfodi awdurdodau lleol i gyfeirio rhieni at wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae'r Bil yn darparu bod yn rhaid i wasanaethau eiriolaeth annibynnol fod ar gael ar gyfer plant, pobl ifanc a chyfeillion achos. Mae'n iawn mai'r plentyn neu'r person ifanc ei hun—neu gyfaill achos ar ran plentyn nad oes ganddo alluedd—ddylai fod yn defnyddio'r gwasanaeth. Mae hyn yn sicrhau y clywir lleisiau plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed. Nid yw disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer rhieni hefyd yn cyd-fynd â'n polisi y dylai'r system ganolbwyntio ar y plentyn neu'r person ifanc. Felly, nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau ar egwyddor.
Ond nid wyf yn argyhoeddedig ychwaith y byddai'r gwelliannau mewn gwirionedd yn gweithredu'n effeithiol yn ymarferol. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n awgrymu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gyfeirio rhieni at wasanaethau eiriolaeth, gan hefyd beidio â'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau ar gyfer rhieni. Felly, ymddengys bod problemau o ran y gallu i gyflawni pe byddai'r gwelliannau yn cael eu cytuno.
Pe byddai'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i rieni, byddai goblygiadau ariannol posibl iddyn nhw, ac nid yw hynny wedi'i gostio na'i drafod gydag awdurdodau lleol. Dylai'r Aelodau nodi bod dyletswydd awdurdod lleol o dan y Bil i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac i sefydlu trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau, yn cynnwys rhieni. Felly, mae'r Bil yn darparu ar gyfer rhoi cyngor i rieni a sicrhau eu bod yn gallu codi pryderon pan fo hynny'n briodol.
Mae hefyd yn werth i'r Aelodau gofio, yn y rhan fwyaf o achosion, y byddai rhieni a phlant yn gweithio gyda'i gilydd er lles gorau'r plentyn. Felly, byddai eiriolwr dros y plentyn hefyd, mewn gwirionedd, yn mynegi barn y rhieni.
Am yr holl resymau hyn, rwyf yn annog yr Aelodau i wrthwynebu'r gwelliannau.
Darren Millar i ymateb.
Mae ymateb y Llywodraeth yn siomedig i mi. Mae'n amlwg iawn bod adegau pan nad yw cyfeillion achos plant a phobl ifanc yn rhieni, a cheir hefyd adegau pan fydd barn y rhieni yn gwrthdaro weithiau â barn cyfaill achos, a allai fod â dylanwad sylweddol dros blentyn. Ac rwy'n credu, oherwydd y tensiwn hwnnw, o bosibl, yn y system, ei bod yn bwysig iawn, mewn gwirionedd, bod rhieni yn cael cyfle i ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn uniongyrchol. Ar hyn o bryd, ar y Bil, rydych chi wedi awgrymu y gallai hyn ychwanegu cymhlethdod i'r Bil yn y ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Ni allaf weld hynny o gwbl. Ar y naill law, rydych chi'n ddweud ei fod yn ychwanegu cymhlethdod ac ar y llaw arall rydych chi'n dweud y bydd llawer o'r ffrindiau achos yn rhieni beth bynnag, ac eisoes yn gallu cael gafael ar rywfaint o gefnogaeth drwy'r gwasanaethau eiriolaeth annibynnol y bydd yn ofynnol i'r awdurdodau lleol eu darparu. Mae gan rieni hawl i wybodaeth a chyngor. Pam na ddylai fod ganddynt hawl i wasanaethau eiriolaeth hefyd? Nid yw'n ymddangos yn iawn fod rhieni yn cael eu heithrio o un rhan ond yn cael eu cynnwys mewn un arall.
Felly, er cysondeb, ac i sicrhau bod rhieni yn cael y cyfle hefyd i herio'r system, credaf ei bod yn hanfodol bod hawl gan rieni, ar wyneb y Bil, i gael defnyddio'r gwasanaethau eiriolaeth annibynnol hyn fel bod modd iddyn nhw herio'r system pan y gallai fod angen iddyn nhw sicrhau bod eu plentyn neu berson ifanc yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Felly, rwy'n annog pobl i gefnogi'r gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dau ddeg tri o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 17.
Gwelliant 17: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 18.
Cynigiwyd gwelliant 18 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 18.
Gwelliant 18: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Llyr Gruffydd, gwelliant 65.
Cynigiwyd gwelliant 65 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 65? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 65.
Gwelliant 65: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Llyr Gruffydd, gwelliant 66.
Cynigiwyd gwelliant 66 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 66? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 66.
Gwelliant 66: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Llyr Gruffydd, gwelliant 59.
Nid ydw i'n bwriadu cynnig y gwelliant.
Gyda chydsyniad y Cynulliad, felly, ni fyddwn ni'n rhoi gwelliant 59 i bleidlais.
Ni chynigiwyd gwelliant 59 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 41.
Cynigiwyd gwelliant 41 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 41.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Llyr Gruffydd, gwelliant 60.
Nid ydw i'n bwriadu cynnig gwelliant 60.
Gyda chydsyniad y Cynulliad, felly, ni fyddwn ni'n pleidleisio ar welliant 60.
Ni chynigiwyd gwelliant 60 (Llyr Gruffydd, gyda chefnogaeth Darren Millar).
Darren Millar, gwelliant 19.
Cynigiwyd gwelliant 19 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 19: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 20.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 20: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 42.
Cynigiwyd gwelliant 42 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 42.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf a'r grŵp olaf yw'r grŵp sy'n ymwneud â phersonau ifanc nad oes ganddynt alluedd. Gwelliant 67 yw'r prif welliant ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 67 (Kirsty Williams).
Diolch i chi, Llywydd. Fel y dywedwch, hwn yw'r grŵp olaf o welliannau a'r gwelliant olaf y byddwn yn ei drafod y prynhawn yma. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Darren Millar a Llyr Gruffydd am eu cyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma. Credaf ein bod wedi gallu gwneud cynnydd gwirioneddol ac wedi ychwanegu gwerth at y ddeddfwriaeth drwy'r ymgysylltu a gawsom ar draws y Siambr.
Rwyf yn gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 67. Ei ddiben yw rhoi tu hwnt i amheuaeth y caiff y rheoliadau y mae'n rhaid eu gwneud ar gyfer pobl ifanc nad oes ganddynt alluedd gynnwys cyfeiriad at riant person ifanc neu gynrychiolydd ar ran y rhiant. Byddai'n caniatáu i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer cyfranogiad rhieni pobl ifanc a'u cynrychiolwyr mewn ffordd briodol.
Byddai hyn yn galluogi'r rheoliadau i adlewyrchu'r gyfraith achosion ddiweddar ac sy'n datblygu o ran cynnwys rhieni pan nad oes gan bobl ifanc 16 neu 17 oed alluedd, gan gynnwys penderfyniad diweddar iawn, iawn yn y Llys Apêl, sydd wedi arwain at gyflwyno'r gwelliant hwn i fod y tu allan i'r prosesau arferol. Ond, o ystyried y penderfyniad gan y Llys Apêl, roedd angen gweithredu yn unol â hynny, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant.
Nid oes siaradwyr, felly rydw i'n siŵr nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 67? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 67.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 43.
Cynigiwyd gwelliant 43 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y gwelliant.
Gwelliant 43: O blaid: 30, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 44.
Cynigiwyd gwelliant 44 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 44.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 45.
Cynigiwyd gwelliant 45 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 45.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 46.
Cynigiwyd gwelliant 46 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 46.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 21.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 21.
Gwelliant 21: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 22.
Cynigiwyd gwelliant 22 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 22.
Gwelliant 22: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Darren Millar, gwelliant 23.
Cynigiwyd gwelliant 23 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Ydw, rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Pleidlais, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 23: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 47.
Cynigiwyd gwelliant 47 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 47.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Darren Millar, gwelliant 63.
Cynigiwyd gwelliant 63 (Darren Millar, gyda chefnogaeth Llyr Gruffydd).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 63? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 63.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 48.
Cynigiwyd gwelliant 48 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 48.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 49.
Cynigiwyd gwelliant 49 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Os na dderbynnir gwelliant 49, bydd gwelliannau 50 a 51 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 49.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 50.
Cynigiwyd gwelliant 50 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 50.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 51.
Cynigiwyd gwelliant 51 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 51.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 52.
Cynigiwyd gwelliant 52 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 52? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 52.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 53.
Cynigiwyd gwelliant 53 (Kirsty Williams).
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 53.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 25.
Cynigiwyd gwelliant 25 (Kirsty Williams).
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 25.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rydym ni felly wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegu a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Datganaf y bernir pob adran o'r Bil yma a phob Atodlen wedi'u derbyn, a daw hynny â'r trafodion am heddiw i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:08.