Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, David Rowlands.

Gwerthu Tir i South Wales Land Developments Cyf

1. Pryd fydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad i werthu tir i South Wales Land Developments Cyf yn cael ei gyhoeddi? OAQ(5)0735(FM)

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2015 a chyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei adroddiad ym mis Ionawr 2016.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Prif Weinidog, rydych chi wedi sefydlu ymchwiliad i'r hyn a ddisgrifiwyd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn fel dull di-hid o gael gwared ar asedau cyhoeddus, a oedd yn gywilyddus. A disgrifiwyd y cytundeb hwn hefyd fel un o’r camgymeriadau mwyaf yn y cyfnod diweddar yng Nghymru. Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yr ymchwiliad hwn yn brawf o gymhwysedd y fframwaith cyfan o graffu a gweinyddu sy'n ffurfio gweinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru? Yn ogystal â hyn, onid yw'n wir fod camgymeriad mor fawr â hwn yn mynnu bod cydbwysedd angenrheidiol yn cael ei gadw cyn gynted â phosibl i sicrhau nad yw’r math hwn o lanast yn digwydd eto? Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod tybiaeth fod y mater hwn wedi cael ei roi o’r neilltu.

Wel, nac ydy. Cydnabu’r archwilydd cyffredinol ein bod ni wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ar ôl i bryderon gael eu mynegi. Comisiynwyd adolygiad gennym o ran llywodraethu cronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, yn ogystal ag adolygiad gan gymheiriaid o'r cyngor proffesiynol, a gynhaliwyd gan Deloitte, a sicrhawyd bod canlyniadau'r ddau adolygiad hyn ar gael i'r archwilydd cyffredinol.

Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad bod CBCA a Llywodraeth Cymru wedi colli degau o filiynau o bunnoedd i’r trethdalwr. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi honni nad yw'n bosibl dangos bod y tir wedi cael ei werthu am lai na’i werth. Wrth ymateb i'r PCC, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod proses gyfreithiol wedi ei chychwyn, a dywedodd bod camau cyfreithiol pellach yn cael eu hadolygu. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw’r broses honno a'r camau pellach hynny yn sifil, yn rheoleiddiol neu’n droseddol? Ac, os yw'n mynd i geisio iawndal, a all ef gadarnhau bod angen iddo dderbyn yn gyntaf ei fod wedi gwneud colled?

Mae achosion cyfreithiol sy'n parhau, ac, o ganlyniad, ni allaf wneud sylw pellach.

Ffeithiau’r mater hwn, dim ond i gymryd Llys-faen, yw bod tir wedi cael ei werthu am £2 filiwn, y dywedwyd wythnosau’n ddiweddarach ei fod yn werth £41 miliwn. Mae'r mater yn staen ar ddatganoli, ac rwy'n credu ei fod yn staen ar eich Prif Weinidogaeth chi. A ydych chi'n cefnogi penderfyniad Heddlu De Cymru i ailagor yr ymchwiliad i gytundeb tir Llys-faen?

Yn gyntaf oll, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus gan fod Gweinidogion o’i blaid ei hun yn rhan o hyn hefyd. Ond, gan ddiystyru’r ffaith honno, nid oedd hon yn bennod a adlewyrchodd yn dda ar y rhai a oedd yn rhan ohoni. Rwy’n derbyn cymaint â hynny. Serch hynny, ceir achosion cyfreithiol sy'n dal heb eu cwblhau ac, fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau ar yr achosion hynny tra eu bod yn parhau i fod yn gyfredol.

Coleg Cymunedol y Dderwen

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad monitro diweddar Estyn ar Goleg Cymunedol y Dderwen? OAQ(5)0733(FM)

Rwy'n falch iawn o weld bod Coleg Cymunedol y Dderwen wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn ei argymhellion o'r arolygiad craidd ym mis Hydref 2015 i gael ei dynnu o'r categori mesurau arbennig. Ac rwy’n gobeithio, wrth gwrs, bod yr ysgol yn cynnal hynny ac yn parhau i wella.

Rwyf wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gweld yr adroddiad hwnnw, a bydd yn nodi mai sylwadau Nick Brain, pennaeth gweithredol yr ysgol, oedd eu bod nhw wedi hedfan allan o fesurau arbennig. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn ddigynsail hyd yn oed—mae’r newid wedi bod yn anhygoel. Rwy’n cofio yn fuan ar ôl y sefyllfa ‘bron iawn yn argyfwng’ yr aeth yr ysgol iddi, y pennaeth yn sefyll ar ei draed mewn seremoni wobrwyo yn yr ysgol honno, pan roedd eu pennau’n isel, ac yn dweud, ‘rwy’n dweud wrthych chi, byddwn ni’n gweddnewid yr ysgol hon yn gyflym iawn’ ac, erbyn yr haf hwnnw, roedden nhw wedi sicrhau’r canlyniadau TGAU gorau erioed. A wnaiff ef ymuno â mi i ganmol nid yn unig y pennaeth, ond holl staff yr ysgol, y staff cymorth, yr athrawon, pawb sy'n ymwneud â'r ysgol yno, ond hefyd y llywodraethwyr yn ogystal, a’r disgyblion hefyd? Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r ysgol, ond mae hedfan allan o fesurau arbennig yn y modd hwn, gyda chymorth awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyllid Her Ysgolion Cymru, wedi bod yn weddnewid anhygoel, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag arweinyddiaeth ar bob lefel er lles ein disgyblion a'n myfyrwyr.

Rwy'n credu bod y dadansoddiad yn hollol gywir. Mae gan Nick Brain hanes o lwyddiant mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol. Ond mae'n dangos y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth ei wneud i sefydliad sy'n mynd trwy gyfnod anodd. Mae'r staff fwy neu lai yr un rhai, mae'r disgyblion fwy neu lai yr un rhai, ond, yn amlwg, nid oedd yr arweinyddiaeth yno, yn y modd y byddai pobl wedi ei ddisgwyl. Mae yno nawr, ac mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud.

A gaf i ychwanegu fy llais innau at y teimladau hynny hefyd? Rwy'n credu bod hyn yn newyddion gwych i Goleg Cymunedol y Dderwen. Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y cwricwlwm yn cyfyngu ar barhad datblygiad sgiliau Cymraeg ac ieithoedd tramor modern y disgyblion ar hyn o bryd, a bod bwriad i fynd i'r afael â hynny yn 2017-18. Wel, gallai sgiliau dwyieithog a thairieithog hyd yn oed, fel yr wyf yn gobeithio eich bod yn derbyn, fod yn fodd o wireddu symudedd cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr. Felly, a oes unrhyw gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i’r ysgol, neu'r consortiwm sy'n gysylltiedig â hyn, neu gyngor neu gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau eu bod wir yn llwyddo yn hyn o beth yn ystod y flwyddyn i ddod?

Rydym ni’n barod, wrth gwrs, i roi cyngor, fel y bydd yr awdurdod addysg lleol. Ond rwy’n ffyddiog, gyda'r arweinyddiaeth sydd ar waith yn yr ysgol nawr, y byddant yn gallu ymateb i'r heriau a osodwyd arnynt ac, wrth gwrs, parhau â'r cynnydd da sydd wedi ei wneud.

Prif Weinidog, mae'n newyddion da bod Coleg Cymunedol y Dderwen allan o fesurau arbennig, a dylid llongyfarch y staff a'r disgyblion ar wneud cynnydd cryf yn erbyn y rhan fwyaf o argymhellion Estyn. Prif Weinidog, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd gwell o ran gwella rhifedd a llythrennedd disgyblion, a sut wnaiff eich Llywodraeth sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn cael ei effeithio gan doriadau i’r gyllideb a orfodwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol? Diolch.

Wel, yn bennaf, wrth gwrs, mater i'r Awdurdod Addysg Lleol yw darparu cymorth i ysgolion. Ond, yn y pen draw, mae ysgol angen tîm arweinyddiaeth cryf, ac mae hynny wedi ei sefydlu yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen. Mae'r canlyniadau yno i bawb eu gweld. Ac rydym ni’n disgwyl, wrth gwrs, i ysgolion, a'r Awdurdod Addysg Lleol, gydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor ar y sail honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod economi Cymru werth tua £60 biliwn y flwyddyn, ac, o hynny, gwariant cyhoeddus yw £38 biliwn ohono, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru—tua dwy ran o dair o'r cyfanswm. A yw'n cytuno â mi bod angen dirfawr am fwy o arallgyfeirio? Mae angen i ni gael mwy o gyfalaf preifat i mewn i Gymru, i greu mwy o gyfoeth i godi’r sylfaen dreth, ac, felly, i gael y cyfle i wario mwy ar ysgolion, ysbytai, ac ati. A dyna pam roedd y penderfyniad ar Gylchffordd Cymru yn arbennig o siomedig, oherwydd roedd hwnnw’n brosiect a oedd yn cynnig gwerth £315 miliwn o gyfalaf preifat i ddod i Gymru, a nawr nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, ac yn hytrach rydym ni’n mynd i wario gwerth £100 miliwn arall o arian trethdalwyr ar barc diwydiannol gwag. Onid yw hyn yn feirniadaeth ar Lywodraeth Cymru, ar ôl 20 mlynedd, ein bod ni wedi symud tuag at yn ôl yn hytrach nag ymlaen?

Wel, y pwynt rwy’n ei wneud am y gylchffordd yw bod y gylchffordd angen gwarant y Llywodraeth ar y lleiaf un. Nawr, pe byddai’r gylchffordd mewn sefyllfa ariannol gryfach, ni fyddai angen y warant arni. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw symud ymlaen gyda'r parc technoleg. Mae'n seiliedig ar drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda darpar fuddsoddwyr. Mae'n seiliedig ar y ffaith ei bod wedi bod yn anodd, ers cryn amser, denu buddsoddiad i mewn i rai rhannau o Gymru oherwydd diffyg adeiladau lle gall pobl leoli eu hunain mewn gwirionedd. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, bydd ganddo bwyslais mawr ar sgiliau. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw i swyddi gael eu creu, ond bod pobl leol yn methu â chael y swyddi hynny. A bydd y parc technoleg yn cyflawni ym mhob un o'r meysydd hynny.

Wel, y cwbl y bydd y parc technoleg yn ei wneud yw darparu cyfres o adeiladau gwag. Nid oes unrhyw ddiddordeb yn yr adeiladau hynny y gall y Prif Weinidog gyfeirio ato sy’n rhoi unrhyw sicrwydd y byddan nhw’n cael eu meddiannu gan unrhyw gwmni modurol, nac unrhyw gwmni arall, mewn gwirionedd, ond, o leiaf gyda thrac rasio o’r radd flaenaf, yng ngoleuni penderfyniadau a allai gael eu gwneud yn Silverstone, lle gallai fformiwla 1 symud i ffwrdd, yna mae hon yn ganolfan amlwg i ffurfio clwstwr o ddiwydiannau cysylltiedig. Heb hynny, nid oes fawr o obaith y bydd hyn yn ddim mwy llwyddiannus nag ardal fenter Glynebwy o ran denu swyddi i ran o'r byd sydd eu hangen yn daer.

Wel, fel y dywedais, y gwir amdani yw hyn: rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr ac mae diddordeb. Nid ydym ni’n bwriadu codi adeilad yno na fydd yn cael ei lenwi. Y rheswm pam yr ydym ni’n symud ymlaen yw oherwydd ein bod ni wedi gwrando ar safbwyntiau, ac rydym ni wedi gwrando ar gwmnïau—cwmnïau fel TVR, sy'n dod i Lynebwy, ac eraill—sydd â diddordeb mewn creu’r clwstwr modurol hwnnw. Dywedodd pob un ohonynt wrthym nad oedd cylchffordd yn hanfodol i’w cynlluniau busnes, a’u bod nhw’n dal yn awyddus i weithio gyda ni i ddarparu'r swyddi hynny. Cofiwch, wrth gwrs, mai prin iawn yw’r swyddi y byddai'r gylchffordd ei hun wedi eu creu. Cam 2—y parc technoleg, yr ydym ni’n bwriadu ei adeiladu—fyddai wedi creu mwyafrif y swyddi.

Wel, wrth gwrs, dywedwyd gan y datblygwyr o’r cychwyn mai mantais fawr y cyfleuster hwn oedd bod yn ganolfan i gasgliad llawer mwy o gwmnïau a fyddai'n cynhyrchu swyddi yn economi go iawn gweithgynhyrchu am flynyddoedd lawer iawn i ddod. Mae’r swyddi hynny yn llawer llai pendant nag o'r blaen erbyn hyn, ond yn hytrach na gwarant gan y Llywodraeth, efallai na fyddai fyth galw amdani, mae gennym ni addewid gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru nawr i wario arian go iawn—arian trethdalwyr; hyd at £100 miliwn dros 10 mlynedd—heb unrhyw sicrwydd bod yr un swydd yn dod allan o hynny y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu. Felly, oni ddylem ni fod yn gwneud llawer mwy nag yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddiad sector preifat, fel y dywedais i yn fy nghwestiwn cyntaf, er mwyn codi’r sylfaen dreth fel bod gan Lywodraeth Cymru fwy o adnoddau ar gael iddi i'w gwario ar yr holl amcanion cymdeithasol hynod ddymunol yr ydym ni i gyd yn eu rhannu?

Wel, nid wyf yn anghytuno â'r pwynt y mae'n ei wneud. Rwy’n ei atgoffa, wrth gwrs, am gyhoeddiad Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yr wythnos diwethaf o greu 300 o swyddi yng Nghasnewydd. Rydym ni newydd weld ein ffigurau buddsoddiad uniongyrchol tramor gorau ers bron i 30 mlynedd. Mae'n arwydd bod Cymru yn lle y mae busnesau eisiau buddsoddi ynddo, ein bod ni’n cael gwell swyddi. Ar ddechrau’r 1990au, denwyd buddsoddiad i Gymru ar y sail bod gennym ni’r cyfraddau cyflog isaf yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd ac ni ddylent fyth ddod yn ôl. Rydym ni’n gallu denu swyddi i Gymru yn gynyddol ar y sail bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen, bod gennym ni, i ddyfynnu Aston Martin, Lywodraeth â balchder ac angerdd o ran gwerthu Cymru i'r byd, ac mae'r canlyniadau a welwn i fuddsoddiad uniongyrchol tramor yn siarad drostynt eu hunain.

Diolch, Llywydd. A ydych chi’n credu bod Cymru yn symud tuag at addysg uwch rhad ac am ddim neu ymhellach i ffwrdd oddi wrth hynny?

Rwy’n credu ein bod ni wedi cyflwyno pecyn teg o gyllid ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni’n falch, fel Llywodraeth, o’i wneud. Bydd y pecyn sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru yn fwy hael na'r rheini yn Lloegr.

Rwy’n gwybod ei bod hi’n ddiwedd y tymor, Prif Weinidog, ond nid oedd hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn. Rwyf i wedi clywed amrywiaeth o wahanol ymdrechion i gyfiawnhau y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon ac y tu allan iddi gennych chi ac aelodau'r Cabinet, ond mae’r hyn yr wyf i’n ei glywed gan fyfyrwyr yn wahanol iawn. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr o’r farn y dylai ffioedd dysgu gael eu rhewi ac maen nhw’n dweud bod y cyhoeddiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn gam enfawr at yn ôl. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn rhwystro mynediad at addysg yn hytrach na’i helpu, ac maen nhw’n dweud y dylai fod camau ymarferol tuag at addysg uwch rhad ac am ddim. Roedd y myfyrwyr hynny yn dyfynnu yr hyn a oedd, hyd at yr wythnos diwethaf, yn bolisi’r Blaid Lafur. Pam ydych chi wedi troi eich cefn arnynt?

Wel, cytunodd UCM i adolygiad Diamond, felly mae'n syndod eu bod nhw’n dweud nawr nad ydyn nhw’n cefnogi'r hyn a gynigir. Wrth gwrs, byddan nhw eisiau cynrychioli myfyrwyr—rydym ni’n deall hynny. Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud yw darparu cyllid hefyd — [Torri ar draws.] Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud hefyd yw darparu, am y tro cyntaf, cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, sy’n eithriadol o bwysig. Rydym ni’n cadw at, wrth gwrs, yr addewidion maniffesto a wnaed gennym yn 2016.

Ni argymhellodd adolygiad Diamond gynnydd i ffioedd, Prif Weinidog. A hefyd, cytunodd nifer o bartïon i gymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw, ond ni wnaethant gytuno i weithredu pa bynnag ganlyniad a argymhellwyd. Eich Llywodraeth chi sy’n gyfrifol am hynny. Prif Weinidog, rydych chi wedi troi eich cefn ar fyfyrwyr, ac mae’n rhaid eich bod chi’n clywed yr un negeseuon yr ydym ni wedi bod yn eu clywed. Mae Plaid Cymru o’r farn bod addysg uwch yn fudd cyhoeddus ac y dylid ei hariannu ar draws y gyllideb addysg gan gymdeithas gyfan. Mae myfyrwyr eisiau i'w prifysgolion gael eu hariannu’n well trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a thrwy eich Llywodraeth chi, nid o'u pocedi eu hunain. Ni ddylai myfyrwyr gymryd baich y galw hwnnw am well cyllido oherwydd mae bwlch cyllido hanesyddol yn bodoli oherwydd eich diffyg buddsoddiad chi fel Llywodraeth. Rydych chi eisiau i fyfyrwyr dalu am y bwlch cyllido. Rydym ni’n credu bod hynny'n anghyfiawn.

Nawr, rwy’n nodi—[Torri ar draws.]—y gwnaed y cyhoeddiad yn ystod gwyliau’r haf—

A gawn ni ganiatáu i arweinydd Plaid Cymru barhau os gwelwch yn dda? Nid ydym ni angen i gyhuddiadau gael eu taflu o gwmpas y Siambr. Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Gwnaed y cyhoeddiad hwnnw yn ystod gwyliau'r haf, pan roedd myfyrwyr eisoes wedi gadael y campws. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, a wnewch chi roi rhywfaint o newyddion da haeddiannol i’r myfyrwyr hynny nawr a throi eich cefn ar y cynnydd hwnnw i ffioedd dysgu neu onid yw’r Blaid Lafur yn credu mewn addysg uwch rhad ac am ddim mwyach?

Wel, yn gyntaf oll, rwy’n synnu o glywed ei bod hi'n ymbellhau ei hun o adolygiad Diamond, sy'n newyddion i mi, mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn. Yn ail, nid yw'n ddigon iddi ddweud ei bod hi eisiau i ffioedd dysgu gael eu diddymu heb ddweud o ble mae'r arian yn mynd i ddod. Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud hynny—[Torri ar draws.] Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud, yng Nghymru, eich bod chi eisiau diddymu ffioedd dysgu ac yna peidio â dweud o ble mae'r arian yn dod. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r byd go iawn. [Torri ar draws.] Yn ail—

Gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn ymateb. Gadewch i ni ganiatáu i'r Prif Weinidog ymateb.

Yn ail, a yw hi'n dweud ffioedd ar gyfer israddedigion, neu i ôl-raddedigion hefyd? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen iddi ei egluro. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw cydnabod nad yw cyllid ôl-raddedig wedi bod ar gael ar lefelau digonol yn y gorffennol, ac felly mae'r pecyn yr ydym ni’n ei gynnig i israddedigion ac ôl-raddedigion yn deg ac yn well na’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol yr adroddiad hwn ar gysylltiadau cytundebol bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates, sydd, i’r anghyfarwydd, yn gwmni adnoddau dynol. Yn y 10 mlynedd yr wyf i wedi bod yn y Cynulliad hwn—ac rwyf i wedi gweld cryn dipyn o adroddiadau, er tegwch, yn y 10 mlynedd hynny—mae hwn yn amlwg yn un o'r adroddiadau mwyaf damniol a welais. Byddwn yn ddiolchgar o ddeall eich safbwynt chi arno, o ystyried y crybwyllir Llywodraeth Cymru mewn sawl cyfeiriad ynglŷn â rhoi caniatâd i’r contractau gael eu cytuno â’r unigolyn hwn ac, yn anad dim, bod ar y panel dethol a ganiataodd i’r unigolyn symud ymlaen a chymryd y lle hwn gyda bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn y pen draw.

Wel, mae'r rhain yn faterion, yn y pen draw, i’r bwrdd eu hesbonio, ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn siarad â'r bwrdd iechyd er mwyn cael esboniad ganddyn nhw a bydd, wrth gwrs, yn hysbysu’r Cynulliad maes o law.

Prif Weinidog, roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi cael eich briffio’n llawer gwell na hynna. Nid dim ond mater i fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yw hwn o bell ffordd. Mae hwn yn fwrdd sy’n destun rhyw fath o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru—craffu ariannol, yn arbennig, gan ei fod yn wynebu diffyg ariannol enfawr o £30 miliwn i £35 miliwn, yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, yn y flwyddyn ariannol hon. Roedd y contract a gytunwyd a’r telerau cyflogaeth mewn rhai agweddau yn talu £1,000 y dydd a threuliau, a TAW, yn ôl yr archwilydd cyffredinol. Nid oes unrhyw dryloywder neu ddim ond ychydig iawn; Nid oes unrhyw ymatebolrwydd neu ddim ond ychydig iawn. Ceir anallu i'r archwilydd cyffredinol ddeall mewn gwirionedd sut y gwnaed y penodiadau, oherwydd mae hi’n ymddangos, ymhlith cyn uwch swyddogion y bwrdd iechyd, bod pwyntio bys at rywun arall o ran bod wedi gwneud penderfyniad yn digwydd, ac felly dim ond mynd rownd a rownd mewn cylchoedd mae pethau. Yr un person eglur sy’n rhan o hyn, gan ei bod hi ar y panel dethol pan wnaed y penodiad terfynol, yw cadeirydd y bwrdd iechyd, a oedd yn rhan o’r dethol hwnnw. A oes gennych chi ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd o ystyried y cyhuddiadau a wnaed—nid y cyhuddiadau, mae’n ddrwg gen i—y cynigion a wnaed yn yr adroddiad hwn gan yr archwilydd cyffredinol ei hun? Oherwydd rydym ni wedi ei weld dro ar ôl tro: pan fydd y pethau hyn yn mynd allan o reolaeth, gallant arwain at ganlyniadau trychinebus i’r gwaith o redeg a rheoli'r bwrdd iechyd wrth ddarparu gwasanaethau yma yng Nghaerdydd a'r Fro.

Wel, yn gyntaf oll, nid yw'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Dywedodd ei fod yn fath o fesurau arbennig, ond nid yw'n destun mesurau arbennig mewn gwirionedd o ran y diffiniad o'r term. Yn ail, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn mynd i’r afael â’r mater gyda'r bwrdd iechyd, yn mynnu atebion, a bydd yr atebion hynny yn cael eu rhannu â'r Cynulliad.

Sylwaf na wnaethoch chi roi pleidlais o ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd, a chynigiais y cyfle hwnnw i chi. Oni allwch chi ddeall pa mor rhwystredig a pha mor ddig y mae aelodau'r bwrdd iechyd yn teimlo pan fyddant yn gweld adroddiad fel hwn sy'n nodi ymgynghorwyr yn cael eu cyflogi am £1,000 y dydd a threuliau? Dros y 18 mis o gyflogaeth, £26,000 a TAW mewn treuliau yn unig—mae hynny'n fwy nag y mae nyrs yn dechrau arno, hynny. Ac yna, pan gynigiwyd contract terfynol, daethant at Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i godi'r uchafswm o £136,000 y flwyddyn i £150,000 y flwyddyn. Nawr, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod yn y newyddion oherwydd yr achos llys ddydd Gwener diwethaf—bod staff yn wynebu erlyniad a hefyd gofynion am daliadau o ddirwyon a gafwyd. Ond, yn bwysicach, bydd dicter mawr ymhlith aelodau allweddol o'r bwrdd iechyd a chleifion sy'n defnyddio'r bwrdd iechyd pan fyddant yn deall y natur ddi-hid y mae’r sefyllfa hon wedi codi ynddi. Ni ellir caniatáu iddo barhau. Fel y dywedais, gofynnwyd am ganiatâd Llywodraeth Cymru i alluogi’r trefniadau hyn i symud ymlaen, a rhoddodd Llywodraeth Cymru ei chaniatâd. Felly, mae gennych chi swyddogaeth allweddol i ddeall hyn a gwneud yn siŵr na fydd yn digwydd eto. Nodaf hefyd fod cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth iechyd wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i ddarganfod a oes unrhyw drefniadau fel hyn mewn byrddau iechyd eraill. A ydych chi mewn sefyllfa i egluro'r sefyllfa o ran eich dealltwriaeth o'r trefniadau, yn enwedig pan ddaw i ymgyngoriaethau fel hyn mewn rhannau eraill o Gymru a allai ddod ag anfri ar y gwasanaeth iechyd?

Wel, yn gyntaf oll, mae gen i ffydd yn y cadeirydd. Yn ail, mae’r mater hwn yn rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo ymhellach, a bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hysbysu am beth fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw mewn gwirionedd.

Soniodd am y mater o barcio ceir staff. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Mae'n bwysig, rwy’n credu, fod y rhesymeg sy’n sail i'r achos llys yn cael ei ddeall. Y rheswm pam y cymerwyd camau gorfodi oedd oherwydd y bu marwolaeth ar y safle, yn rhannol o ganlyniad i barcio anghyfreithlon ac yn rhannol oherwydd llif y traffig sy'n mynd drwy'r safle. Mae tua 16,000 o symudiadau traffig yn mynd trwy Ysbyty Athrofaol Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n iawn y ceir gorfodaeth briodol ar gyfer parcio anghyfreithlon ac anniogel. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd ar safle sydd mor brysur â hyn. Mae’n anodd gwybod pam yr aeth yr unigolion hyn i'r llys a pha gyngor a gawsant. Gwn fod un ohonynt yn benodol wedi cael 59 o docynnau parcio. Unwaith eto, ni roddir unrhyw esboniad pam mae hynny’n bod. Mae'n anffodus i’r unigolion hynny—rwy’n deall hynny—ond mae'n hynod bwysig bod gorfodaeth briodol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru o ran diogelwch, ac i atal pobl rhag parcio yno drwy'r dydd, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan gleifion sy'n cyrraedd y safle leoedd i barcio. Felly, mae’n rhaid i orfodi ddigwydd. Fel arall, a ydym ni’n dweud y gall pobl barcio yno heb ofni unrhyw fath o gosb? Mae pethau wedi mynd yn bell iawn o ran tri unigolyn; mae'n anodd gwybod pam mae hynny’n bod. Gallaf ddweud bod y syniad eu bod yn wynebu costau o £150,000 yn lol. Nid ydym yn gwybod o ble mae’r ffigur hwnnw wedi dod ac nid oes unrhyw sail iddo mewn gwirionedd. Ond mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn safle lle mae llawer iawn o draffig yn symud, ac mae angen gorfodaeth ar gyfer y symud hwnnw.

Trafnidiaeth Gyhoeddus (Sir Benfro)

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn sir Benfro? OAQ(5)0729(FM)

Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer 2015-20 ym mhob rhan o Gymru.

Brif Weinidog, yn ddiweddar mae eich Llywodraeth chi unwaith eto wedi penderfynu peidio â blaenoriaethu unrhyw orsafoedd trenau yn sir Benfro, er gwaethaf bod rhai gorsafoedd, fel gorsaf Aberdaugleddau er enghraifft, angen gwelliant sylweddol. Nawr, rydw i’n gwerthfawrogi, pan fyddwch chi fel Llywodraeth yn buddsoddi arian mewn prosiectau rheilffyrdd, y byddwch chi’n gwneud hyn gyda rhanddeiliaid fel Network Rail, Arriva Trains ac ati, ond i ystyried eich bod chi’n gwario arian sylweddol, a allech chi ddweud wrthym ni beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu gwelliannau yn cael ei ddosbarthu’n deg, fel bod pob rhan o Gymru o leiaf yn cael ei ystyried?

Mae yna griteria, wrth gwrs, sy’n agored ac sy’n gallu cael eu gweld, sydd yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau pa orsafoedd ddylai gael eu cefnogi dros y blynyddoedd. Mae hon yn broses hollol agored. Nid yw hi’n rhoi unrhyw fath o bwyslais ar un rhan o Gymru neu’r llall. Mae’n ystyried pa lefydd sydd eisiau’r buddsoddiad. Wrth gwrs, trwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru agorodd gorsaf tref Abergwaun, wrth gwrs, ar ôl sawl blwyddyn wedi cau. Mae yna fwy o wasanaethau hefyd ar y rheilffordd hwnnw, ac rŷm ni wastad, wrth gwrs, yn ystyried ym mha ffordd y gallwn ni helpu i wella’r gwasanaeth rheilffordd a hefyd y gwasanaeth bysiau yn sir Benfro.

Brif Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau ddydd Gwener yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Wenidog na fydd y fasnachfraint yn un lle mae elw yn dychwelyd i gyd i’r Llywodraeth, ond yn un lle rydych chi’n gorfod contractio gyda chwmni preifat. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd, felly, i sicrhau bod unrhyw elw sydd yn dod o dwf a’r buddsoddiad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y fasnachfraint yna yn cael ei ddychwelyd i bobl yn sir Benfro a thu hwnt, ac nad ydym yn gweld y sefyllfa bresennol lle mae un cwmni yn gwneud elw ar gefn arian cyhoeddus?

Byddai hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn i’n ei dderbyn. Gallaf ddweud hynny a dim byd arall, rwy’n credu. Nid yw’r cyfle gyda ni i redeg y gwasanaeth rheilffordd ein hunain neu drwy gwmni rydym ni’n ei reoli. Ond, wrth gwrs, mae’n hollbwysig bod gyda ni fodel sydd mor agos ag sy’n bosib at fodel sydd yn ailfuddsoddi unrhyw elw yn ôl yn y gwasanaeth ei hunan, a hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod pobl Cymru yn gweld cynnydd yn y lefel o wasanaeth—nid dim ond ynglŷn â mwy o drenau, ond mwy hefyd, wrth gwrs, o drenau sydd yn drenau da i deithio arnyn nhw. Mae hynny yn rhywbeth sydd yn hollbwysig fel rhan o’r ‘franchise’.

Ardaloedd Menter

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ardaloedd menter? OAQ(5)0732(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo wyth ardal fenter bresennol sydd wedi eu lleoli ledled Cymru, a bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi’n fuan i roi manylion sut y mae hynny'n cael ei gyflawni.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd ardaloedd menter y 1980au yn llwyddiannus yng Nghymru, gyda'r fwyaf yn Abertawe yn troi’n ardal siopa fawr y tu allan i'r dref. Yn wir, defnyddir y term 'ardal fenter' yn Abertawe i ddiffinio ardal siopa y tu allan i'r dref. Pryd mae’r ardaloedd presennol yn mynd i gael eu hadolygu, a beth fydd yn cynrychioli llwyddiant?

Wel, mae llwyddiant, wrth gwrs, yn golygu creu mwy o swyddi. Nid yw'n golygu creu parc siopa arall, a ddigwyddodd, fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir, yng Nghwm Tawe isaf ddechrau’r 1980au. Gallaf ddweud, o ran llywodraethu, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeiryddion byrddau ardaloedd menter ar 12 Mehefin i gael trafodaeth gychwynnol ynghylch llywodraethu ardaloedd menter a chyfeiriad y rhaglen ardaloedd menter yng Nghymru yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyfarfod â'r cadeiryddion eto ddiwedd yr haf i barhau â’r trafodaethau hynny, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn bodloni gofynion y Llywodraeth a pholisi Llywodraeth sy'n dod i'r amlwg.

Prif Weinidog, ceir wyth ardal fenter ledled Cymru. Nid oes yr un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Byddwn i’n dweud, yn y canolbarth, bod diddordeb mawr mewn entrepreneuriaeth a bod lefel uwch o fusnesau newydd nag efallai mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: a ydych chi’n credu bod achos dros ardal fenter, neu gytundeb twf, ar gyfer y canolbarth, sy’n canolbwyntio'n arbennig ar dyfu busnesau a chreu swyddi sy'n talu'n well?

Byddwn bob amser yn archwilio’r achos hwnnw. Hynny yw, mae dau beth yn bwysig i’w etholaeth ef. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ceir seilwaith, gyda band eang yn un elfen o hynny. Yn ail, ceir problem gyda'r grid trydan, sy’n ddadleuol, rwy’n deall, yn ei etholaeth ef, ond nid yw’r grid presennol yn arbennig o gryf pan ddaw i ddatblygu gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae e'n gwybod, fel y gwn innau, pa mor ddadleuol yw peilonau yn ei etholaeth, felly fe wnaf i ei gadael hi yn y fan yna. Ond, mae'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol. Ond, rwy'n fwy na pharod i ystyried sut y gallai cytundeb twf o'r fath edrych, sut y byddai'n gweithio yn ddaearyddol, hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rwy’n rhannu ei awydd i weld mwy o swyddi a gwell swyddi yn nes at y cartref.

Mae llawer o bobl yn teimlo bod Cylchffordd Cymru yn gyfle enfawr a gollwyd i ardal fenter Glynebwy. Yr wythnos diwethaf, gan gyfeirio at gyfarfod a drefnwyd ymlaen llaw gyda'r cwmni, dywedasoch

fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Martin Whitaker,

Yn amlwg mae’r datganiad hwnnw yn anghywir.

Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oeddem yn cytuno â'r asesiad hwn.

Prif Weinidog, pa un ohonoch chi sy’n dweud celwydd?

Mae’r hyn a ddywedais yn gywir. Rwy’n cadw at fy ngeiriau.

Mae’r olaf o’r wyth ardal fenter hynny ym Mhort Talbot mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, a hi yw'r unig un yng Ngorllewin De Cymru. Ond mae'n bwysig ein bod ni’n gweld hynny’n cael ei ddefnyddio nawr i wir dyfu'r economi leol a thyfu busnesau lleol. Sut ydych chi'n monitro’r cynnydd yn yr ardal fenter honno i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd a bod diben yr ardal fenter yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd?

Rydym ni’n ffyddiog bod yr ardal fenter yn gweithio'n dda ym Mhort Talbot. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod cyfle ar gyfer gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf; y datblygiad, er enghraifft, o seilwaith TGCh llawn a fydd yn datblygu perthynas i ni gyda Tata Port Talbot; datblygu gallu ynni ac amgylchedd yr ardal fenter; adeiladu unedau busnes ac unedau swyddfa priodol; a chynorthwyo'r gwaith o adeiladu canolfan arloesi bae Baglan. Gallaf ddweud, ers sefydlu’r ardal, bod nifer o ymholiadau wedi eu derbyn, yn gofyn am wybodaeth am gymorth ar gyfer twf neu leoliadau newydd. Mae'r rhain ar y camau datblygu cynnar, ond ceir rhai mewnfuddsoddiadau sylweddol, o bosibl.

Dysgu Cynhwysol sy'n Seiliedig ar Waith

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dysgu cynhwysol sy'n seiliedig ar waith? OAQ(5)0736(FM)[R]

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth agenda'r Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Mae Cymru’n Gweithio yn cydnabod ymrwymiad y Llywodraeth hon i sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yn parhau i fod yn gynhwysol i bawb, waeth beth fo'r angen.

Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd, sy'n gweithio ar brosiect Engage to Change, a sefydlwyd gan ddefnyddio arian o gyfrifon banc segur ac sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru. Y nod yw cael pobl 16 i 25 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i mewn i waith hirdymor. Un o'r sefydliadau sy'n gweithio gydag ef yw Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn fy etholaeth i, lle rwy'n llywodraethwr, ac rwy’n datgan buddiant. Rwy'n credu bod ganddo swyddogaeth bwysig, y prosiect hwn, o ran cynorthwyo hyfforddiant swydd a phrofiad gwaith i’r bobl ifanc hynny. Rwy'n credu y gallai hefyd fod â goblygiadau i drefniadau pontio o dan y trefniadau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol. A fyddai'r Prif Weinidog felly yn cefnogi model o'r math hwn os bydd y cynllun arbrofol trwy Brifysgol Caerdydd yn llwyddiannus?

Byddwn, byddwn yn edrych i weld, wrth gwrs, sut y mae'r model yn gweithio, a byddwn yn gwerthuso'r model, ond rydym ni’n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni gymaint ar gael i gael pobl i mewn i waith, yn enwedig y rhai sydd ag anableddau a'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig, ac wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r prosiect.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno y dylai addysg uwch ymgysylltu â dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â'r rheidrwydd economaidd o gyflenwi gweithwyr sydd â’r sgiliau a'r wybodaeth briodol i'w paratoi ar gyfer natur newidiol gwaith yn yr hinsawdd swyddi bresennol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i annog mwy o gydweithredu rhwng cyflogwyr, sefydliadau cyflogwyr ac addysg bellach ac uwch i ddarparu ac ehangu’r dysgu perthnasol yn y gweithle yng Nghymru?

Rydym ni’n gweithio'n agos iawn, wrth gwrs, gyda chyflogwyr gan ein bod ni’n gwybod bod dysgu seiliedig ar waith yn hynod bwysig i ddatblygu sgiliau pobl yn y dyfodol. Rydym ni’n ystyried sut i ddatblygu cyflogadwyedd pobl a sut yr ydym ni’n gweithio gyda busnesau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo bod pobl ifanc yn gadael y system addysg heddiw heb y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y farchnad lafur. Mae gan lawer o bobl radd, er enghraifft, ond nid yw cyflogwyr o’r farn eu bod yn barod ar gyfer gwaith. A ydych chi'n meddwl y dylid ailwampio’r system prifysgolion yng Nghymru?

Rwy'n credu bod prifysgolion wedi gwella dros y blynyddoedd o ran y ffordd y maen nhw’n gweithio gyda busnesau. Mae'n wir i ddweud bod y cysylltiad yn denau iawn tua 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd Prifysgolion o’r farn bod angen iddyn nhw weithio gyda busnesau yn y ffordd y maen nhw nawr. Rwyf i’n sicr wedi gweithio gyda phrifysgolion ac wedi mynd i brifysgolion lle maen nhw’n gweithio'n agos iawn gyda byd busnes, a lle maen nhw’n gweld eu hunain fel sbardun economaidd i greu busnesau newydd. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr.

Lleisiau Cleifion

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd lleisiau cleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0743(FM)[W]

Mae’n hollol allweddol bod llais dinasyddion yn cael ei glywed yn barhaus wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel.

Wel, ydy, mae, ac wrth gwrs mae’ch Llywodraeth chi yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chael gwared â chynghorau iechyd cymunedol statudol. Rydw i’n gweld hwn yn gam yn ôl, ac yn gam peryglus, a dweud y gwir, yn enwedig i ni yn y gogledd, oherwydd mae angen llais cryf, annibynnol gyda phresenoldeb lleol sy’n gallu herio’r byrddau iechyd a herio’r Llywodraeth hefyd pan fod angen gwneud hynny. Mae’r cyngor iechyd yn y gogledd wedi gwneud dros 500 o ymweliadau ward yn y flwyddyn diwethaf, sef rhyw 500 yn fwy nag y mae Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru wedi’u gwneud yn y gogledd. Mae angen ehangu rôl y cyngor iechyd nid ei ganoli i mewn i ryw gorff genedlaethol annelwig. Nawr, mae’r model newydd sydd yn cael yn grybwyll yn eich ymgynghoriad chi wedi’i seilio ar gyngor iechyd yr Alban, sydd wedi’i ddisgrifio yn ddiweddar fel ‘toothless hamster’. A ydych chi’n cytuno y byddai dilyn y trywydd hwnnw yng Nghymru yn gamgymeriad mawr?

Wel, rydym ni’n gwybod bod sawl un wedi dadlau bod eisiau model newydd er mwyn sicrhau bod yna gynrychiolaeth effeithiol o ddinasyddion ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw hwn yn rhywbeth sy’n mynd i wanhau llais y dinasyddion. Rydym ni’n moyn clywed beth yw barn pobl ynglŷn â’r cynlluniau sydd gyda ni ar gyfer corff annibynnol newydd, ac wrth gwrs rydym ni’n hapus iawn i glywed beth sydd ag Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddweud i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy’n cryfhau llais cleifion.

Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r penderfyniad i adeiladu ysbyty newydd â’r dechnoleg ddiweddaraf gwerth £350 miliwn yng Nghwmbrân, o’r enw Ysbyty Athrofaol y Grange? Bydd yn helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd ledled Gwent i’m hetholwyr yn Islwyn hefyd. Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, a dyfynnaf,

Rydym ni wedi cael cefnogaeth wych gan bobl leol sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn deall y manteision y bydd yr ysbyty hwn...yn eu cynnig.

Prif Weinidog, onid dyma Lywodraeth Llafur Cymru a gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn synergedd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn gwrando ar gleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? Sut gallwn ni barhau â'r arfer da hwn er budd ein pobl, sy'n gwybod mai yn nwylo Llafur Cymru i mae’r GIG fwyaf diogel?

Ni chroesawyd y datganiad hwnnw gan feinciau'r Ceidwadwyr. Roedden nhw’n cwyno amdano. Rwy'n synhwyro brwdfrydedd yr Aelod, sy'n wych, ond nid yw cymaint â’r Aelod dros Dorfaen, y mae ei frwdfrydedd yno i bawb ei weld yn y Siambr ei hun. Ond mae hyn yn dangos, wrth gwrs, ein bod ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd modern i’n pobl, ac mae hon yn enghraifft wych o hynny'n digwydd o dan Lywodraeth Llafur Cymru.

I ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol, dywedodd Cyngor Undebau Llafur Bro Clwyd, wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin, ansawdd a llywodraethu gofal iechyd yng Nghymru, yn cynnig diddymu cynghorau iechyd cymuned, mai Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, oherwydd ei gyfansoddiad, yw'r corff delfrydol i fod yn llais a chorff gwarchod ein cleifion. Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad hwnnw ac i'r ymateb gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru y byddai'r cynigion yn arwain at ddiwedd trefniadau hirsefydlog a sefydlwyd i roi grym yn nwylo pobl leol i fonitro sut y mae eu gwasanaethau GIG yn gweithio, ac, er enghraifft, ni fyddai gan y corff llais y dinesydd newydd arfaethedig hawliau cyfreithiol i ddwyn sefydliadau iechyd i gyfrif am y ffordd y maen nhw’n darparu eu gwasanaethau?

Wel, byddwn ni’n archwilio’r ymateb hwnnw, ynghyd â llawer o rai eraill, a bydd hynny’n hysbysu’r penderfyniad terfynol y byddwn yn ei wneud. Nid yw'r ffaith bod rhywbeth wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer yn golygu o reidrwydd y dylai barhau yn y dyfodol, ond edrychwn ymlaen at ganlyniadau'r ymatebion a gawn drwy'r ymgynghoriad.

Digartrefedd (Gogledd Cymru)

7. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0741(FM)

Wel, mae ein pwyslais ar atal yn cael effaith gadarnhaol yn y gogledd a'r de, ac mae bron i 8,800 o aelwydydd wedi eu hatal rhag bod yn ddigartref.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod tua 15,000 o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 2,800 o blant. O'r rheini, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y strydoedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddodd fy swyddfa i helpu i ddod o hyd i lety ar gyfer cyn-filwr y lluoedd arfog a ddaeth, oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ddigartref. Yn ôl elusennau digartrefedd, amcangyfrifir bod 7,000 o gyn-filwyr yn byw ar y strydoedd yn y Deyrnas Unedig. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cysylltiedig eraill i sicrhau bod eich cyfamod lluoedd arfog yng Nghymru yn cael ei gyflawni?

Wel, rydym ni wedi datblygu nifer o ddulliau ar wahân i gynorthwyo rhai o'r aelodau hynny o'n cymuned sydd yn y perygl mwyaf o fod yn ddigartref. Mae hynny'n cynnwys y llwybr tai newydd i helpu cyn-filwyr; y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-droseddwyr; y llwybr i helpu pobl ifanc osgoi digartrefedd a fframwaith llety i bobl sy'n gadael gofal er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i lety addas. Mae’r llwybr hwnnw ar waith, oherwydd ein bod ni’n cydnabod, wrth gwrs, bod llawer o aelodau o'r lluoedd arfog, ynghyd, wrth gwrs, ag eraill sy'n arbennig o agored i niwed, sydd angen y cymorth penodol hwnnw.

Disgwylir i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ôl eich Llywodraeth, ddarparu rhyw fath o ddarpariaeth tywydd oer ar gyfer unigolion digartref a’r rheini sy'n cysgu ar y stryd, pa un a oes dyletswydd statudol arnynt ai peidio. Fodd bynnag, mae’r canllawiau ar y polisi hwn, Prif Weinidog, yn amwys iawn. Yn sicr, yn fy awdurdod fy hun, nid oes unrhyw dymereddau nac arwyddion sefydlog o ba fath o amodau tywydd sydd wedi eu cynnwys yn y polisi. Felly, gall sut y mae hyn yn cael ei gymhwyso amrywio ar sail feunyddiol bron yn ystod tywydd eithafol iawn. Pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cynnal o ran cyflwyno canllawiau mwy unffurf ar draws Cymru, fel nad yw ein pobl ddigartref mwyaf agored i niwed a phobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael eu gadael, yn syml iawn, allan yn yr oerfel eithafol?

Mae'r broses honno wedi dechrau. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw beth yn atal awdurdodau lleol rhag gwneud hyn eu hunain a dweud mewn gwirionedd beth fydd eu canllawiau, pa dymereddau y byddant yn eu cydnabod. Nid oes unrhyw beth yn eu hatal rhag gwneud hynny, ond, er hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen â'r broses o ddechrau edrych ar gryfhau'r canllawiau i gyflwyno mwy o gysondeb ledled Cymru.

A gaf i dynnu eich sylw chi at achos diweddar etholwr oedd heb gartref, ac y bu Cyngor ar Bopeth a minnau yn ceisio ei helpu i sicrhau cartref argyfwng tan bod cartref mwy parhaol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer o? Rydw i’n deall y pwysau sydd yna ar awdurdodau lleol, wrth reswm, ond yn yr achos yma, nid oedd y cyngor yn ystyried eu bod nhw’n gallu gweld yr unigolyn yma fel blaenoriaeth. Ond yn yr achos yma, beth oedd gennym ni oedd unigolyn oedd wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl ac a oedd wedi cael gweithiwr cefnogi wedi ei neilltuo ar ei gyfer o. Mewn achos o’r math yna, felly, a ydych chi, fel Prif Weinidog, yn cytuno bod yn rhaid ystyried y rhai sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl fel blaenoriaeth?

Anodd iawn wrth gwrs i—. Ynglŷn â phobl sydd â problemau iechyd meddwl, ni fyddai neb yn dadlau yn erbyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei eisiau arnyn nhw. Pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf i gyda manylion ei etholwr, byddwn i’n ddigon hapus, wrth gwrs, i ystyried y sefyllfa i weld beth allwn ni ei wneud i helpu.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

8. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthgydbwyso rhaglen canoli swyddi Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau? OAQ(5)0742(FM)

Cafodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyfarfod gyda Damian Hinds AS, y Gweinidog dros gyflogaeth, ddydd Iau diwethaf. Pwysleisiodd ein Gweinidog ni ein pryderon dwys ac anogodd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried atebion eraill, gan gynnwys cyd-leoli pan fo hynny'n ymarferol, i sicrhau y gellir cadw swyddi da yn lleol.

Diolch, Prif Weinidog. Cefais innau hefyd gyfarfod â Damian Hinds ddydd Mercher diwethaf, ynghyd â'r AS dros Lanelli, Nia Griffith, a chanfuwyd gennym unwaith eto ei fod yn foneddigaidd, ond yn ddifater ynghylch ffawd y gweithwyr yn Llanelli, lle bydd y 150 o swyddi yn cael eu hadleoli. Amcangyfrifir na fydd 50 ohonynt yn gallu manteisio ar y cynnig i adleoli gan nad yw’n ymarferol, yn syml, i allu teithio i Gaerdydd ar gyfer gwaith rhan-amser. Bydd yr effaith yn sylweddol mewn ardaloedd fel Llanelli. Er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU yn rhan o'i strategaeth ddiwydiannol i ledaenu’r cyfoeth, ac, fel y dywedwch, er gwaethaf cynnig Llywodraeth Cymru i helpu i adleoli’r swyddfeydd i gynorthwyo'r Adran Gwaith a Phensiynau, nid oedd unrhyw fwriad i ymgysylltu o ddifrif gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei strategaeth economaidd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a wnewch chi sicrhau bod darpariaethau penodol i ail-gydbwyso'r economi i wneud iawn am y rhaglen ganoli hon y mae'r Torïaid yn ei gwthio drwyddo?

Wel, ein mantra ni yw 'gwell swyddi, yn nes at y cartref'. Mae hynny’n llywio’r hyn a wnawn. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n hynod bwysig bod swyddi Llywodraeth ar gael ledled Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny; rydym ni wedi agor ein swyddfeydd ledled Cymru. Y swyddfeydd hynny a oedd yn bodoli yng Nghaerfyrddin, yng Nghaernarfon ac yn Llandrindod, rydym ni wedi gwrthwynebu erioed y pwysau i gael gwared arnynt. Maen nhw’n dal i fod yno, gan ein bod ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw i'r economi leol. Yn anffodus, nid yw’r un egwyddorion a gwerthoedd yn cael eu rhannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’n siomedig iawn, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yn Llanelli, yn benodol y ffaith bod cynifer o bobl, efallai, ddim yn gallu symud ac ail-leoli. Ond gan droi at eich ymateb chi i Lee Waters, mae eich strategaeth swyddfeydd chi yn sôn am gau swyddfeydd hefyd. Rydych chi’n sôn am ostwng nifer y swyddfeydd i rywbeth fel 14 neu 15. Felly, ym mha ffordd, a dweud y gwir, a ydych chi yn wahanol i’r DWP?

Wel, mae yna rai swyddfeydd wedi cau dros y blynyddoedd—bach iawn o bobl oedd yn gweithio ynddyn nhw ac roedden nhw’n agos iawn at swyddfeydd eraill. Beth wnawn ni fyth yw canoli swyddi yn y dyfodol. Dyna pam, wrth gwrs, mae swyddi wedi symud mas o Gaerdydd dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth rŷm ni’n moyn sicrhau sy’n datblygu eto yn y pen draw.

Mynediad at Wasanaethau Iechyd (Mynwy)

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd ym Mynwy? OAQ(5)0730(FM)

Mae ysbyty newydd y Grange, wrth gwrs, yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol o £350 miliwn a fydd yn darparu gwasanaethau i bobl Mynwy ac, wrth gwrs, yr hen sir Gwent. A bydd hwnnw, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen o ran gofal iechyd i bobl Sir Fynwy a thu hwnt.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roedd yn bleser ymuno â'r Ysgrifennydd iechyd ar safle Ysbyty Athrofaol newydd y Grange—enw llawer gwell, rwy’n meddwl, na'r hen 'SCCC' fel yr ydym ni wedi bod yn ei alw ers cyhyd. Mae wedi cymryd amser maith i ddigwydd. Rwy'n credu mai yn 2007 wnes i fynd i gyfarfod am y tro cyntaf ynghylch adeiladu'r ysbyty newydd. Bryd hynny, rwy’n cofio bod y drafodaeth am hyn nid yn unig am y ganolfan gofal critigol, ond y ffordd y byddai'n rhyddhau lle mewn ysbytai presennol fel Ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall hefyd, ac y byddai hynny'n caniatáu ar gyfer ad-drefnu yn y dyfodol. Yn ôl yn 2007, rhagwelwyd y byddai Nevill Hall newydd erbyn hyn yn 2017-18. Mae hynny’n amlwg wedi llithro'n ôl. Beth yw'r amserlen ar gyfer ailfodelu'r gwasanaethau iechyd o amgylch y ganolfan gofal critigol—yr ail ddarn o'r pyramid, fel petai? Oherwydd mae’r ganolfan gofal critigol yn bwysig iawn, ond mae'n un rhan o'r jig-so iechyd cyffredinol yn y de-ddwyrain.

Wel, cofiwch, wrth gwrs, bod ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri gan 40 y cant, felly roedd hi'n anodd i ni fwrw ymlaen gyda'r rhaglen fel y byddem ni wedi dymuno ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, bu nifer o welliannau i’r gwasanaeth lleol eisoes, gan gynnwys mynediad uniongyrchol at ffisiotherapi yn Nevill Hall. Mae deietegydd cymunedol a gwasanaethau rheoli pwysau ar gael yno erbyn hyn, gwasanaethau diabetes cymunedol gwell a rheolaeth fferylliaeth well o feddyginiaeth cleifion. Felly, rydym ni eisoes yn gweld datblygiad gwasanaethau newydd yn Nevill Hall, a bydd y datblygiad hwnnw’n parhau, wrth gwrs, yn y dyfodol, ac ar ôl i ysbyty’r Grange agor.

Tynnwyd cwestiwn 10 [OAQ(5)0739(FM)] yn ôl.

Cwestiwn 11, Neil Hamilton.

Cwestiwn 12, Mark Reckless.

Cwestiwn 13, Rhun ap Iorwerth.

Diogelu Cofebau Rhyfel

13. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelu cofebau rhyfel Nghymru? OAQ(5)0734(FM)[W]

Mae cofebau rhyfel yn rhan bwysig o’n treftadaeth, ac yn atgof parhaol o’r aberth a wnaed ac o’r golled a ddioddefwyd gan gymunedau. Rwy’n falch bod cynllun grant Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio yn 2014 fel rhan o’n gweithgareddau i gofio’r rhyfel byd cyntaf, wedi helpu i ddiogelu cofebau rhyfel ledled Cymru.

I will remember today as the day when we reached question 13, and I thank Neil Hamilton and Mark Reckless for failing to get to their files swiftly enough. I’m very grateful to have the opportunity to ask the question, and it is a matter I feel quite strongly about. Major war memorials—you will know about them—on village squares are things that are protected, and Cadw do excellent work in protecting them.

But there are other war memorials around Wales—in chapels, for example, or even in old factories—that commemorate people who’ve lost their lives in wars. Those need protection too, and may I make an appeal to the Welsh Government to ensure that work is done—I can put the Government in touch with people who carry out research in this area—in order to assist us to safeguard our heritage for the future and commemorate those who lost their lives?

May I say that I have previously reached question 15, but not for some time—I was accused of giving answers that were too short, so I decided that I had to lengthen my answers. I know that the Llanrhyddlad memorial on Ynys Môn is now being considered for listing as a special memorial. It’s quite an unusual one, as I understand it, because it was redesigned after the second world war, and it has the figure of a soldier from the second world war on it.

One of the things that we had to do when we started this scheme was to ensure that we knew how many memorials we had, because no-one had a list and no-one knew exactly where they were. But what has happened up to now is that more and more people have considered that they have a memorial, and, of course, that they want some money to maintain that memorial in the appropriate manner. So, if there are some on Ynys Môn, it’s important that we know their location and, of course, that they know in what ways they can get some help.

Diolch i’r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw’n galw ar Jane Hutt i wneud y datganiad.

Llywydd, rwy’n awyddus i chi ystyried pwynt o drefn.

Ie, felly. Pwynt o drefn yw hwn, nid eich datganiad. Iawn. Pwynt o drefn—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Rwy’n awyddus i chi ystyried pwynt o drefn a wnaed am gwestiwn Adam Price, yr oeddwn o’r farn ei fod yn amhriodol o ran Rheol Sefydlog 13.9, i’r Prif Weinidog o ran Cylchdaith Cymru y prynhawn yma.

Gwrandewais ar y cwestiwn yn astud. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw gyhuddiad yr oedd angen ei ddyfarnu allan o drefn yn y cwestiwn hwnnw. Cwestiwn i'r Prif Weinidog ydoedd yn amlwg, ac atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn yn eglur. Nid wyf yn ystyried bod angen i mi ddweud rhagor ar hyn o bryd.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudaf ymlaen at alw’r Gweinidog am ei datganiad—Jane Hutt.

Rwyf wedi gwneud ychydig o newidiadau i'r agenda heddiw, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud cynnig gyda hyn i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn ein galluogi ni i gynnal dadl ar gyhoeddiad yr wythnos diwethaf o Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Encilio) Llywodraeth y DU. Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn cyflwyno datganiad llafar ar fanc datblygu Cymru. Mae'r busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref yn ymddangos ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais gyda'r Prif Weinidog yr adroddiad damniol hwn a ddaeth i law oddi wrth yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi recriwtio rhywun i swydd uwch o fewn ei strwythurau ar lefel cyfarwyddwr, wedi mynd ati i drosglwyddo symiau sylweddol o arian cyhoeddus—dros £300,000 o arian cyhoeddus—a’i bod yn ymddangos nad oes fawr ddim neu ddim atebolrwydd o gwbl o ran yr anallu i ddarparu anfonebau ar ei gyfer. Byddwch yn gweld gwir ddicter ymhlith gweithlu ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro. Rwyf o’r farn fod yr adroddiad hwn yn gofyn am ymateb ar unwaith gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ddeall yn union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â’r ymatebion hyn sydd yn angenrheidiol i adfer ffydd eto yn y Bwrdd Iechyd Lleol.

Fel y dywedais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol hwn yn wynebu diffyg yn y flwyddyn ariannol hon hyd at £30 miliwn i £35 miliwn. A phan ystyriwch ei fod yn mynd ati yn y lle cyntaf i gyflogi ymgynghorwyr ar £1,000 y dydd ynghyd â threuliau a TAW, ac yna’n cytuno ar gontract cyflogaeth ac yn ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyflog bandio hyd at £150,000 o uchafbwynt Llywodraeth Cymru ei hun o £136,000, mae angen cael ymateb gan Lywodraeth Cymru i adfer yr hyder y gallai’r staff, oherwydd yr adroddiad hwn, fod wedi ei golli yng ngallu'r rheolwyr a'r cyfarwyddwyr i ddangos llywodraethu da a gofalu am les y Bwrdd Iechyd Lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ pe gallai ysgogi naill ai ddatganiad neu lythyr at Aelodau'r Cynulliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i amlinellu'n glir sut y mae’r adran iechyd yn Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r adroddiad hwn.

Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb, sydd yn rhywbeth pwysig, sef mai mater i fwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro yw hwn. Yn wir, wrth gwrs, rydym wedi cael—rwy'n siwr eich bod chi, Andrew R.T. Davies—. Mae'r cadeirydd wedi ysgrifennu ac mae gennym ddatganiadau clir iawn oddi wrth y prif weithredwr newydd ym mwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â’r mater hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd bod prif weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall, ar y pwynt ehangach, wedi ysgrifennu at bob un o'r byrddau iechyd i ofyn am sicrwydd ar fyrder fod trefniadau llywodraethu da o ran caffael a recriwtio ar waith ledled Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ, ym mis Mai dathlwyd pumlwyddiant llwybr arfordir Cymru. Mae llawer o bobl wedi cerdded ar hyd y llwybr hwnnw a mwynhau manteision y daith, ond, fel y cyfryw, nid ydyn nhw’n cael unrhyw gydnabyddiaeth am gerdded y daith. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn dibynnu ar bwy fydd yn cymryd yr awenau yn hyn o beth, o ran sut y gallwn annog mwy o bobl mewn gwirionedd i fynd ar y daith honno, rhoi tystysgrif iddynt, fel sy’n digwydd ar deithiau cerdded gwych eraill ledled y wlad hon, fel bod pobl yn cael eu cydnabod am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni? Efallai y gellid defnyddio hynny hefyd fel agwedd fuddiol ar dwristiaeth, sef cael tystysgrifau ar gyfer agweddau neu elfennau o’r daith.

Rwy'n credu ei bod yn briodol iawn inni achub ar y cyfle hwn, a diolch i chi, Dai Rees, am godi hyn. Wrth gwrs, mae llwybr yr arfordir wedi bod yn llwyddiant mawr. Yn wir, mae'r adroddiad ar gyfer 2014-15 yn dangos bod effaith economaidd llwybr yr arfordir yn cynhyrchu tua £16 miliwn o werth ychwanegol crynswth i economi Cymru, a thua 715 o flynyddoedd unigolyn o gyflogaeth bob blwyddyn. Yn wir, mae ymchwil ddiweddar yn dangos ei fod yn uwch na hynny. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, am y manteision iechyd a ddaeth i’r amlwg yn asesiad 2014. Ond rwy'n credu hefyd mai’r cysylltiadau sy’n bwysig—i'r llwybrau eraill, fel llwybr Taf, a llwybr yr arfordir i'r Cymoedd. Ac mae rhoi tystysgrifau am hynny a'r llwybrau, wrth gwrs, yn fater, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried.

Arweinydd y Siambr, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar daliadau parcio i staff y GIG. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r achos llys yr wythnos diwethaf, ac nid oes neb yn awyddus i weld nyrsys yn gorfod gwario miloedd o bunnoedd ar gael lle i barcio i fynd i’w gwaith. Mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n gyfiawn ychwaith fod cwmni o Ffrainc yn cymryd miliynau o bunnoedd allan o Gymru fel bod modd i bobl sâl a staff gyrraedd yr ysbyty.  Byddem yn hoffi pe bai eich Llywodraeth yn gweithredu fel eiriolwr ar y mater hwn, a hoffem wybod beth sy'n digwydd i wella cludiant cyhoeddus i ysbyty’r Heath, fel nad oes raid i bobl yrru yno. Yn olaf, hoffwn i chi fynd i'r afael â mater meysydd parcio yn cael eu dwyn i berchnogaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, neu eu prynu'n orfodol, efallai, gan eich cydweithwyr ar draws y ffordd yng Nghyngor Caerdydd.

Diolch. Mae Neil McEvoy yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o bolisi Llywodraeth Cymru—polisi clir iawn—o ddim ffioedd am barcio ceir ar safleoedd ysbytai ledled Cymru. Rydym wedi ein siomi’n arw, a gwn y byddai ef yn deall hynny. Bu’n rhaid cynnal contract Ysbyty Athrofaol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i drefniadau cytundebol a oedd wedi eu rhoi ar waith, a byddai’r gost yn afresymol pe byddem yn ceisio tynnu'n ôl o hynny. Ond bydd y contract yn dod i ben yn 2018, ac o hynny ymlaen ni fydd unrhyw gost ar staff na chleifion. Bydd Aelodau'r Cynulliad i gyd ar draws y Siambr yn ymwybodol fod y cadeirydd, Maria Battle, wedi ysgrifennu at yr Aelodau am deithio cynaliadwy a pharcio ceir yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gydnabod y sefyllfa anodd iawn, wrth gwrs. Ymatebodd y Prif Weinidog hefyd iddi yn gynharach, o ran yr effaith ar staff.

A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y diffyg ariannol y mae ein hysgolion uwchradd yn ardal Casnewydd yn ei wynebu? Wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2017-18, rhybuddiwyd Cyngor Dinas Casnewydd fod yna argyfwng ariannu, gyda'r holl ysgolion uwchradd mewn dyled ariannol a rhai heb gronfeydd wrth gefn. Rwyf wedi cael gwybod bod un o'r ysgolion yn yr ardal honno yn wynebu diffyg o bron £0.75 miliwn, sy’n arian mawr. Os bydd y sefyllfa hon yn parhau, gallai arwain at golli swyddi a gweithgareddau fel chwaraeon, cerddoriaeth, drama yn diflannu o'n hysgolion am byth. A gawn ni ofyn am ddatganiad ar y mater hwn ar frys, os gwelwch yn dda? Diolch.

Wel, mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru yr hyblygrwydd i bennu cyllidebau priodol ar gyfer anghenion eu cymunedau. Mae cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cynyddu, er gwaethaf y toriadau i'n grant bloc gan eich Llywodraeth Dorïaidd y DU. Y llynedd, darparwyd £35 miliwn yn ychwanegol gennym i’r cynghorau ar gyfer gwasanaethau ysgol ac, yn wir, mae data yn dangos bod y cyllid a ddirprwyir i ysgolion wedi cynyddu y llynedd o £2.123 biliwn i £2.142 biliwn eleni. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wario £100 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Cynulliad i godi safonau. Ond byddwn hefyd yn gofyn i'r Aelod, Mohammad Asghar, a fyddai ef yn hoffi gofyn i Justine Greening a allwn gael cyfran deg o'r cyllid a gyhoeddwyd ganddi hi. Yn ôl a ddeallwn, mae’n cael ei gymryd o gyllidebau eraill o fewn y dyraniad addysg yn Lloegr. Heb yr un bunt na’r un geiniog i’n Llywodraeth ni yng Nghymru. A yw wedi mynd—? A yw hynny am ei fod wedi mynd yn gildwrn i'r DUP?

Fel y gŵyr pawb, achoswyd y tân angheuol yn Nhŵr Grenfell, a laddodd o leiaf 80 o bobl, gan dân a ddechreuodd mewn cyfarpar trydanol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddiogelwch trydanol, gan gynnwys cynigion am brofion ar nwyddau gwyn, yn enwedig mewn tŵr uchel o fflatiau, ond rwy’n credu bod pob nwydd gwyn—? A gaf i atgoffa arweinydd y tŷ y bydd yn rhaid i unrhyw eitem a gymerir i Dŷ Hywel, er enghraifft, gael prawf dyfeisiadau cludadwy cyn i chi gael caniatâd i’w osod yn ei le?

Wel, rydym wedi ymrwymo, fel y dywedodd Carl Sargeant, i ddysgu’r holl wersi perthnasol o dân trasig Tŵr Grenfell, a chymryd yr holl gamau priodol. Dyna pam mae Carl Sargeant wedi cynnull grŵp cynghori ar ddiogelwch tân. Nid ydym am ragfeddiannu gwaith y grŵp hwnnw, ond mae angen i ni nodi achos cryfach na’r hyn sydd gennym nawr dros brofion gorfodol.

Mae dau fater yr wyf yn awyddus i’w codi. Amser cinio heddiw, cynhaliodd teuluoedd yng Nghymru, yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal y gwaed halogedig, gyfarfod ar risiau'r Senedd i dynnu sylw at yr effaith a gafodd hyn ar bobl yng Nghymru. Yn amlwg, dros yr haf bydd negodi a thrafodaethau’n digwydd ar ffurf yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn amlwg mae hyn wedi bod yn achos brwydr galed iawn gan deuluoedd yng Nghymru. A fyddai arweinydd y tŷ yn ymrwymo i sicrhau y bydd gan y Cynulliad ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd pan fyddwn ni’n dychwelyd ar ôl toriad yr haf?

Roedd gennyf ail fater. Roeddwn eisiau codi—yr ail fater yw cronfa ddŵr Llanisien yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae brwydr faith wedi bod ynghylch y gronfa hon ac mae pawb sy’n byw yn lleol wrth eu bodd fod Dŵr Cymru bellach wedi cymryd drosodd ac yn cynllunio i fuddsoddi ynddi. Ond, yn y lle cyntaf, mae angen draenio'r gronfa ac mae hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru. A fyddai'n bosibl i Ysgrifennydd y Cabinet drefnu ei fod yn adrodd i'r Cynulliad, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, am gynnydd y cynllun cyffrous hwn, a hefyd am y swyddogaeth fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn hyn yn y dyfodol?

Rwy’n diolch i Julie Morgan am ei chwestiynau ac roeddwn hefyd yn falch o gael ymuno â Julie Morgan a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan sgandal y gwaed halogedig ar risiau'r Senedd, gydag Aelodau Cynulliad eraill o’r grŵp trawsbleidiol, y prynhawn yma. Rydym yn croesawu yn llwyr y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am yr ymchwiliad i’r sgandal gwaed heintiedig a arweiniodd at bobl yn cael hepatitis C a / neu HIV. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, yn nodi’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl. Ac, wrth gwrs, mae hynny i raddau helaeth iawn wedi ei yrru gan y gwaith yr ydych chi wedi ei arloesi, Julie, a'r grŵp trawsbleidiol. Ein disgwyliad ni ydyw y bydd yr ymchwiliad yn y DU yn ymgysylltu ac yn gwrando ar y rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru, wrth bennu’r cylch gwaith a chymryd tystiolaeth—daeth hynny i'r amlwg y prynhawn yma. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r 10 pwynt a nodwyd gan y Gymdeithas Haemoffilia, a bydd ymgysylltiad ystyrlon rhwng y pedair Llywodraeth wrth fwrw ymlaen ag ymchwiliad y DU. Byddwn yn diweddaru Aelodau'r Cynulliad am y datblygiadau pan ddychwelwn ni ar ôl toriad yr haf.

O ran eich ail gwestiwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd cynllun cronfa ddŵr Llanisien yn yr hydref.

Mae meddygfa yn fy etholaeth i, ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, yn cau ddiwedd y mis, gan adael yr ardal efo un doctor yn llai. Rwyf wedi bod yn ceisio cael gwybodaeth am hyn ers clywed y sibrydion bod y gwasanaeth i’w golli. Mi wnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd ar 24 Ebrill, gyda chopi i brif weithredwr Betsi Cadwaladr—dim ateb. Fe wnes i ysgrifennu eto ar 23 Mehefin at Vaughan Gething i ofyn am ateb—dim ateb. Rwyf wedi codi’r mater efo cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd mewn cyfarfod ar 19 Mai. Addawyd y bydden nhw yn edrych i mewn i’r mater. Fe wnes i ysgrifennu eto at y bwrdd iechyd ar 29 Mehefin—dim ateb. Yn y cyfamser, fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb i ymholiad gan y wasg ar y pwnc, ond mae'n ymddangos erbyn hyn fod yr wybodaeth honno yn anghywir. Mae’n amlwg bod yna broblemau cyfathrebu o fewn y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd. Mae hyn yn golygu ansicrwydd mawr i gleifion yn fy etholaeth i. A wnewch chi felly edrych ar y diffyg cyfathrebu amlwg yma ac yna adrodd yn ôl i mi cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda?

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn hwn oherwydd ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd y cyfathrebu hwnnw, nid yn unig rhyngoch chi a'r bwrdd iechyd, ond hefyd gyda’ch etholwyr o ran cau practis, fel yr un yr ydych yn ei ddisgrifio ym Mhen y Groes. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod arian yn cael ei roi i sicrhau a chefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel, o ganlyniad i newidiadau y cytunwyd arnynt i gontract meddygon teulu, a hefyd fuddsoddiad o £95 miliwn yn becyn cymorth o ran addysg, hyfforddiant gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, a £40 miliwn i wella ystadau gofal sylfaenol. Felly, yn amlwg, bydd rhoi hyn ar gofnod heddiw fel rhan o'r datganiad busnes yn golygu y bydd rhywfaint o gynnydd, rwy’n gobeithio, yn digwydd.

A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ei gweithredoedd i gefnogi ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i gael cyfiawnder i'r menywod di-ri yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau annheg Llywodraeth y DU i'r system pensiynau? Ac, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddai ymgyrchwyr WASPI hefyd yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi ei bod yn condemnio’r sylwadau annifyr, ansensitif a sarhaus gan Weinidog dros Bensiynau y DU y dylent yn syml chwilio am gyfleoedd prentisiaeth er mwyn lliniaru eu caledi ariannol.

Mae Vikki Howells wedi codi’r ymgyrch bwysig hon yn gyson, ac er nad yw materion pensiwn wedi eu datganoli, a’u bod yn gyfrifoldeb Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith anghymesur a gaiff y newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Pensiynau 2011 ar nifer sylweddol o fenywod. Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r materion hyn. Pwysleisiwyd hyn gan ein pryderon yn y Cyfarfod Llawn. Yn wir, gwn fod menywod o ymgyrch WASPI yn dod i mewn i gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad yr wythnos hon. Byddwn yn dal i gynnig ein cefnogaeth i ymdrechion yr ymgyrch hon, i dynnu sylw at effaith ddifrifol y newidiadau hyn, ac yn dilorni’r sylwadau sarhaus a wnaed. Unwaith eto, yn anffodus, mae hyn yn rhoi syniad o’r agwedd a’r diffyg gofid neu ddiddordeb yn anghenion pwysig y menywod hyn yr effeithiwyd arnyn nhw mor andwyol gan y newidiadau hyn o ran cydraddoldeb a newid oedran pensiwn y wladwriaeth.

Arweinydd y tŷ, yfory byddaf yn noddi dathliad o ddiwylliant perfformiad cerddorol Cymreig yn y Senedd, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am ganol dydd yn y Neuadd. Rwy’n gwahodd arweinydd y tŷ, chithau, Llywydd, a'r holl Aelodau i’r achlysur dathlu. Yn ogystal ag amrywiaeth o berfformiadau gan bobl ifanc, prif berfformiwr y digwyddiad fydd un o fawrion y genedl, Bryn Terfel, ac nid cyfres operâu’r 'Fodrwy' mohoni. [Chwerthin.] Arweinydd y tŷ, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud datganiad i'r Siambr ar y gwaith o ddatblygu strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru, strategaeth perfformio genedlaethol a fydd yn gallu cyflwyno a chynnig gwersi offerynnol a chyfle i fod yn rhan o gerddorfa, heb ystyriaeth i fodd ariannol, a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad y gân?

Wel, rwy’n credu y bydd pawb ohonom ni, ledled y Siambr hon, yn awyddus i longyfarch Rhianon Passmore ar y ffordd y llwyddodd—gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, wrth gwrs—i ddenu’r fath ffigurau nodedig. A bydd eraill, a fydd yn gallu treulio rhywfaint o amser yn dod i’r digwyddiad pwysig iawn hwnnw, yn gwneud hynny, rwy’n gwybod. Ond rwy’n credu mai’r pwynt pwysicach a wnewch yw cysylltu hynny â phwysigrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwylliant, addysg gerddorol ac, fel y dywedwch chi'n eglur, gwneud yn siŵr bod Cymru ar flaen y gad o ran gallu addysgu ein plant, a mwynhau Cymru fel gwlad y gân.

Arweinydd y tŷ, rwy’n codi gyda chryn ddicter am fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi dwy ergyd i fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, heb roi cyfle i unrhyw Aelod arall ychwanegu at hynny. Er, yn amlwg, y tanseiliwyd cydymffurfiaeth, dywedodd prif weithredwr bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn glir iawn na fydd yna unrhyw danseilio pellach o ran cydymffurfiaeth gan staff dan ei oruchwyliaeth ef, ac mae hyn wedi amlygu camgymeriad yn y ffordd y cynhaliwyd y gwaith caffael. Ond mae'n ymddangos i mi fod modd cael cydbwysedd yma, o ran deall, yn amlwg, fod diffyg cydymffurfiaeth wedi bod, ond yn gyffredinol mae'r gwaith a wnaiff Caerdydd a'r Fro i’w werthfawrogi yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar am y sylw yna gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd.

3. 3. Datganiad: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Ac felly dyma ni’n cyrraedd eitem 3, ac mae’r datganiad gan y Prif Weinidog ar y Bil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi ei dynnu yn ôl.

4. Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro er mwyn Caniatáu Cynnal Dadl ar yr Eitem Nesaf o Fusnes

Mae yna gynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Ac rwy’n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6373 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6374 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy’n cynnig.

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 4. Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

A dyma ni, felly, yn symud at y ddadl ar y Bil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.

Cynnig NNDM6374 Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.

2. Yn credu:

a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a

b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Wel, mae cyhoeddi Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn cynrychioli eiliad arwyddocaol iawn yn natblygiad y drafodaeth am y ffordd y bydd y DU yn gadael yr UE. Does dim amheuaeth bod angen deddfwriaeth arnom ni, er mwyn sicrhau effaith barhaol y gyfraith sy'n deillio o’r UE ar ôl i ni adael yr UE. Ond mae’n ddadleuol iawn ai’r Bil hwn yw'r hyn sydd ei angen arnom.

Er y gall Llywodraeth y DU fod wedi newid teitl y ddeddfwriaeth, a elwid gynt y Bil diddymu mawr, mae hwn yn enghraifft brin ac, mae'n ymddangos, yn enghraifft unigryw o ostyngeiddrwydd y Llywodraeth yn ei dull o wynebu Brexit. Unwaith yr ewch y tu hwnt i'r dudalen flaen, nid oes llawer os o gwbl o dystiolaeth o barodrwydd tybiedig y Prif Weinidog, ar ôl yr etholiad cyffredinol, i ymgynghori'n eang, ac i wrando ar farn eraill ar y cwestiynau hanfodol sy'n wynebu'r DU. Ond mae llawer o faterion, wrth gwrs, y gallwn eu codi yma, er enghraifft: a yw'n iawn cael gwared ar y siarter hawliau sylfaenol, os mai diben honedig y ddeddfwriaeth yw cynnal yr hawliau sydd gennym yn rhinwedd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd; a yw cymal 6, a fyddai'n diweddu unrhyw bwerau Llys Cyfiawnder Ewrop ar y diwrnod yr ydym yn gadael, yn ddarn o rodres gwleidyddol, nad oes ganddo le yn yr hyn gaiff ei bortreadu fel darn technegol o ddeddfwriaeth—a bydd pethau eraill hefyd.

Ond rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n fy esgusodi heddiw os byddaf yn canolbwyntio ar yr her anferth y mae’r Bil yn ei gynrychioli i'r setliad datganoledig fel y cafodd ei ddatblygu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae hyn wedi ei wreiddio, gadewch i ni atgoffa ein hunain, mewn cydsyniad poblogaidd. Gwelodd refferendwm 2011, er enghraifft, bleidlais mwyafrif helaeth o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Er gwaethaf y rhybuddion clir a mynych iawn gennyf i, a Llywodraeth Cymru gyfan, na fyddem yn fodlon derbyn unrhyw ymgais i ddefnyddio ymadael â’r UE i gyfiawnhau ail-ganoli pŵer, dyna'n union y mae’r Bil hwn, fel y'i drafftiwyd, yn anelu at ei gyflawni. Mae'n ymgais i dynnu rheolaeth yn ôl dros bolisïau datganoledig megis yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd—nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd, Caeredin a Belfast.

Yn awr, mae hyn yn bwysig—mae’n bwysig gan fod datganoli yn ymwneud â chael y cyfle yma yng Nghymru i benderfynu ar ein polisïau ein hunain sy'n briodol i Gymru, ac sydd yn amlwg wedi cael cydsyniad y pleidleiswyr yma yng Nghymru. Ni allwn droi'r cloc yn ôl i oes pan oedd modd i Lywodraeth â mwyafrif tila yn San Steffan, a heb unrhyw fandad o gwbl gan Gymru a'r Alban, osod polisïau fel treth y pen yn wyneb gwrthwynebiad y mwyafrif helaeth o gynrychiolwyr etholedig o Gymru a'r Alban.

Mae'r Bil yn ceisio rhoi ar waith, heb unrhyw gyfyngiadau, gymwysterau neu’r hyn a elwir yn gymalau machlud, gyfyngiadau newydd ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddeddfu yn effeithiol ar ôl Brexit ar faterion lle’r ydym yn gweithredu ar hyn o bryd o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a ddatblygwyd gan yr UE. Os yw’r Bil hwn yn cael ei basio yn ei ffurf bresennol, byddwn yn cael ein hatal rhag deddfu mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE a gedwir. Bydd cyfraith bresennol yr UE yn cael ei rhewi, a dim ond Senedd y DU fydd yn cael caniatâd i’w dadrewi. Yn ymarferol, bydd hyn yn darparu ffenestr i Lywodraeth y DU geisio cymeradwyaeth seneddol i osod fframweithiau newydd ar draws y DU mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd.

Yn awr, Llywydd, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n taro at wraidd datganoli. Dyma flaen main cyllell fawr iawn. Os byddwn yn derbyn hyn, pa mor hir y bydd cyn i Lywodraeth y DU ddechrau dadlau am fframweithiau ar draws y DU ar gyfer iechyd ac addysg ar sail ei swyddogaeth unigryw yn cynrychioli'r DU gyfan a phwysigrwydd datganoli ddim yn amharu ar Brydain fyd-eang? Wedi'r cyfan, os mai’r pris y mae’r Unol Daleithiau yn ei fynnu am fargen masnach gyflym yw rhoi hawliau i gwmnïau preifat estynedig i ddarparu gofal y GIG, pam ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gael caniatâd i sefyll yn y ffordd? Dyna fyddai eu dadl.

Diolch i chi am ildio. Tybed a wnaiff rannu ei farn ynghylch pam mae rhai elfennau o'r Bil yn ei ffurf bresennol, o safbwynt Llywodraeth y DU, yn cynnwys cymalau machlud. Bydd rhai swyddogaethau a gaiff eu rhoi i Weinidogion y DU yn dod i ben. Ond pan ddaw at ddatganoli, er gwaethaf y datganiadau cyhoeddus mai mesur dros dro yw hwn er mwyn cadw trefn dda ar bethau, nid oes cymal machlud yn ymwneud â chipio grym dros feysydd cyfrifoldeb datganoledig.

Mae ei sylwadau yn eithaf cywir. Nid wyf yn gallu esbonio’r rhesymeg, ond yn sicr mae'n iawn i ddweud nad oes—. Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn gyhoeddus, nid oes mewn gwirionedd unrhyw beth yn ysgrifenedig yn y Bil sy'n awgrymu sail dros dro am yr hyn y maent yn ei gynnig, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder mawr i ni. Bydd Llywodraeth y DU yn dadlau nad yw hyn yn cyfyngu ar ein rhyddid i weithredu mwy nag sy'n wir heddiw—yr unig beth a wna yw disodli pwerau'r Undeb Ewropeaidd a'r Comisiwn Ewropeaidd gan y rhai sydd i gael eu harfer gan Senedd y DU a gwasanaeth sifil y DU. Ond mae fframweithiau UE yn cael eu datblygu ar sail cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd nad yw’n greadur un Llywodraeth, yn aml ar ôl trafodaethau dwys rhwng 28 aelod-wladwriaeth a Senedd Ewrop, ac maent yn cael eu goruchwylio’n annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd. Ar ben hynny, ar hyn o bryd, mewn trafodaethau yn yr UE am, er enghraifft, ddyfodol y polisi amaethyddol cyffredin, rydym yn siŵr o gael swyddogaeth, trwy femorandwm dealltwriaeth, wrth lunio safbwynt y DU sy'n adlewyrchu anghenion pob rhan o’r DU, nid dim ond Lloegr.

Yn awr, wrth gwrs, ar ôl gwrthod yn lân â gwrando ar y negeseuon cyson iawn—ni all neb honni bod hyn yn annisgwyl—gennyf i, Mark Drakeford, a swyddogion, am natur gyfan gwbl annerbyniol unrhyw gynigion fel y rhai y maent wedi eu gwneud yn awr yn y Bil, ymddengys fod Llywodraeth y DU bellach yn newid ei meddwl. Wrth gwrs, rwy’n croesawu hynny, ond maddeuwch imi os wyf yn gwneud hynny yn ofalus yn unig. Dywedwyd wrthym mai dim ond mesur dros dro yw’r rhewi, er nad oes dim byd yn y Bil sy'n rhoi unrhyw hyder i ni y gellid dibynnu ar hyn. Dywedwyd wrthym mai bwriad y cynigion yw darparu ffenestr i feithrin ymddiriedaeth a rhoi lle ar gyfer trafodaethau i ddod i gytundebau ar y fframweithiau sydd eu hangen ar ôl i ni adael yr UE a beth y dylent ei gynnwys. A dywedwyd wrthym fod y Gweinidogion yn awyddus i ddechrau’r trafodaethau hyn ar frys. Nawr, dydw i ddim yn siŵr iawn sut mae dal gwn i ben rhywun a dweud nad ydych yn bwriadu tanio yn mynd i feithrin ymddiriedaeth. Ac os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â dechrau trafodaethau ar fframweithiau, ni allaf ddeall pam nad ydynt wedi gwneud dim am y peth yn y chwe mis diwethaf ers i ni wneud y cynnig hwn yn ein Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru’—Papur Gwyn, a gynhyrchwyd, wrth gwrs, ar y cyd â Phlaid Cymru.

A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Rwy'n ddiolchgar. Dim ond ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, nid yw'n meithrin ymddiriedaeth pan nad ydych yn cwrdd â Gweinidogion ac nad oes gennych Gyd-bwyllgor Gweinidogion ac yn y blaen. Ond hyd yn oed pe byddai gan y Bil hwn gymal machlud wedi’i fewnosod yn y rhannau datganoledig ohono, a fyddai hynny'n ddigonol, yn ei farn ef, i feithrin yr ymddiriedaeth honno?

Na, byddai hynny'n torri ar draws yr hyn yr ydym wedi'i ddweud erioed, sef y dylai'r pwerau ddod i Gymru ac yna dylai pob Llywodraeth gytuno y dylai’r pwerau hynny gael eu rhewi, ond, drwy gydsyniad, hyd nes y caiff y fframweithiau newydd eu datblygu. Yr egwyddor allweddol yma yw caniatâd, nid gorfodi. Felly, 'na' yw'r ateb. Ni fyddai'n ddigonol.

Nid yw'r cyngor gweinidogol ar y cyd, sy’n goruchwylio trafodaethau o'r fath, wedi cyfarfod hyd yn oed ers mis Chwefror oherwydd osgoi atebion gan Weinidogion yn Llundain. Cafodd y pwerau y mae Llywodraeth y DU eu heisiau i gymryd drosodd gymhwysedd deddfwriaethol yn y dyfodol, er eu bod yn anghyfartal ac yn anghywir, o leiaf eu hawgrymu yn natganiadau blaenorol Llywodraeth y DU a'i Phapur Gwyn. Ond, mae'r Bil hefyd yn cynnwys sioc o ran y pwerau Harri’r VIII fel y'u gelwir, y cynigir y dylid eu cymryd gan Weinidogion i gywiro deddfwriaeth bresennol i'w gwneud yn ymarferol yn y cyd-destun newydd.

Yn awr, mae’r pwerau hynny y mae'r Bil yn cynnig y dylid eu breinio i Weinidogion Cymru yn gyfyngedig mewn ffyrdd eithriadol o ddi-fudd. Mae'r pwerau i ddiwygio cyfraith uniongyrchol gymwys neu reoliadau'r UE, ac yn y blaen, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o fframwaith deddfwriaethol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth, er enghraifft, yn cael eu cadw yn unig gan Lywodraeth y DU. Gan fod Gweinidogion y DU yn awyddus i gadw eu pwerau eu hunain ochr yn ochr â rhai Gweinidogion Cymru, er mwyn diwygio unrhyw ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, mae hyd yn oed yn ymddangos y bydd Gweinidogion y DU yn gallu diwygio deddfwriaeth o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol i egluro beth maen nhw'n ei wneud a pham. Unwaith eto, ers cyhoeddi'r Bil hwn cawsom wybod y bydd Gweinidogion y DU yn defnyddio pwerau o'r fath ar ôl ymgynghori—ymgynghori—â Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond does dim byd yn y Bil hynod gymhleth hwn i ddweud hynny, a byddai hyd yn oed hynny'n annigonol. Ac os yw hynny'n wir, ni allaf weld pam y byddai'n fwy anodd, yn achos rheoliadau'r UE sydd angen yr un ateb ar draws y DU, i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gytuno ar y ffordd fwyaf priodol ymlaen, ac yna bob un yn ymgynghori'n briodol â'u deddfwrfeydd eu hunain. Yn sicr, dyna'r ymateb a’r dull gweithredu democrataidd.

Llywydd, rydym wedi mynegi’n glir iawn ein bod yn deall ac yn cefnogi'r syniad o Fil i ddarparu eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i Brexit ddod i rym. Rydym yn derbyn, hefyd, y bydd angen gwneud rhai newidiadau fel bod y gyfraith bresennol yn ymarferol yn y cyd-destun newydd o’r DU y tu allan i’r UE. Rydym yn barod i chwarae ein rhan yn hynny. Roedd ein papur 'Brexit a Datganoli' yn cyflwyno dull clir ac ymarferol i'r cwestiwn o sut i sicrhau chwarae teg ar draws y DU o ran polisïau lle mae fframweithiau rheoleiddio'r UE ar hyn o bryd. Mae'r dull wedi derbyn cefnogaeth eang yn y Cynulliad hwn, gan sylwebyddion academaidd yn ogystal â chydweithwyr yn yr Alban. Ond, mae ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn gymysgedd o addewidion, ymddygiad nawddoglyd a diffyg parch. Mae arnom angen gwell na hynny.

Rydym yn dal heb gael gwybod a yw Llywodraeth y DU yn ystyried y dull yr ydym wedi ei gynnig yn un ymarferol, ac os na, pam ddim. Pam eu bod wedi dod i'r casgliad heb hyd yn oed geisio symud ymlaen trwy gytundeb mai dyna y maent am ei wneud? O ran y broses, nid yw’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a ddylai fod wedi cael rhan hanfodol yn hyn i gyd wedi cyfarfod ers mis Chwefror ac, o ganlyniad, nid yw goruchwylio datblygiad y Bil. Ar ben hynny, mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu heb unrhyw ymgynghori priodol â Llywodraeth Cymru. A gaf i ddweud, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o ddrafftio'r Bil? Mae hynny'n gwbl anghywir. Nid ydym wedi cael ymgynghoriad priodol naill ai ar lefel wleidyddol neu swyddogol, a dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd darpariaethau drafft eu rhannu â'n swyddogion ar y sail na fyddai dim yn newid. 'Dyma’r hyn yr ydych yn ei gael a, gyda llaw, ni fydd dim yn newid o ganlyniad'. Mae'n hynod bwysig bod hynny'n cael ei ddeall. Nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, fel y dywedais yn gynharach, wedi bod yn rhan o ddrafftio'r Bil. Nid wyf yn credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio bod yn fwriadol gamarweiniol, ond mae'n dangos cymaint o draed moch yw’r cyfathrebu mewnol o fewn Llywodraeth y DU.

O ran sylwedd, fel yr eglurais, mae'r Bil yn annerbyniol ar ei ffurf bresennol yn y ffordd y mae'n ymdrin â datganoli. Pan ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 12 Mehefin—ac nid wyf wedi cael ateb gan y Prif Weinidog i’r llythyr hwnnw—fe’i hanogais i beidio â dechrau brwydr â'r gweinyddiaethau datganoledig nad oedd ei hangen arni ar adeg pan, fel DU, yr oeddem yn wynebu heriau nas gwelwyd o'r blaen. Dim ymateb. Cafwyd ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond ni chafodd y llythyr, â phob parch, ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol; cafodd ei anfon at y Prif Weinidog ac ni ddaeth ateb.

Yn awr, gadewch i mi fod yn glir: byddwn yn mynd ati i frwydro i’r eithaf er mwyn atal rhannau annerbyniol o’r Bil hwn rhag bod yn gyfraith. Ni fyddwn yn argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ei fod yn darparu cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n tanseilio ein pwerau ein hunain yn sylfaenol. Byddwn yn gweithio ar draws y Cynulliad ac â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i amddiffyn ein setliad datganoli. Ac, i'r perwyl hwn, rydym yn parhau i wneud gwaith dwys ar Fil parhad posibl, y byddwn yn ei gyflwyno os nad yw Llywodraeth y DU yn newid y Bil ymadael mewn modd sy’n mynd i'r afael â'n pryderon. Nid yw hyn yn ymwneud â cheisio atal, tanseilio neu gymhlethu Brexit. Mae'n ymwneud â gwrthsefyll ymgais i ail-ganoli pŵer i San Steffan a Whitehall a throi'r cloc yn ôl i'r 1980au. Felly, gofynnaf i'r Cynulliad cyfan ein cefnogi ni yn y frwydr hon i amddiffyn datganoli a hawl y sefydliad hwn a'i holl Aelodau i benderfynu polisïau priodol ar gyfer pobl Cymru ac, felly, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig hwn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw. Neil Hamilton.

Gwelliant 1—Neil Hamilton

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i’r setliad datganoli presennol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch Llywydd. Mae’r Prif Weinidog yn aml yn dweud ei fod yn derbyn canlyniad y refferendwm, ond, wrth gwrs, nid ydyw’n ei dderbyn mewn gwirionedd. Mae'n debyg i’r milwyr hynny o Japan yr oeddent i’w canfod yn achlysurol yn y jyngl yn Borneo flynyddoedd wedi 1945 yn dal i ymladd y rhyfel fel petai heb ddod i ben. Mae hwn yn gyfle arall i Brif Weinidog Cymru fod yn rhodresgar ar fater lle mae'r Cymry wedi pleidleisio yn wahanol iddo ef yn ymgyrch y refferendwm. Nid oes dim yn y Bil a fydd yn lleihau pwerau'r Cynulliad hwn, nac yn tanseilio'r setliad datganoli. Yr hyn yr ydym yn ei wneud drwy gyfrwng y Bil hwn mewn gwirionedd yw datganoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac, yn y pen draw, i Gaerdydd, a’u datganoli oddi wrth bobl yr ydym nid yn unig ddim yn eu hethol ac na allwn eu diswyddo, ond bobl na allwn hyd yn oed eu henwi—y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau yn y pen draw yn yr UE drwy brosesau didraidd— [Torri ar draws.] —prosesau didraidd sy'n wahanol iawn i brosesau sefydliad democrataidd fel hwn.

Heddiw soniodd y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad i’w araith am y siarter hawliau sylfaenol. Mae hwn yn enghraifft dda iawn o hyn. Pan oedd Tony Blair yn Brif Weinidog, hon, gyda llaw, oedd y ddogfen a ddisgrifiwyd gan y Gweinidog dros Ewrop ar y pryd, Mr Keith Vaz, fel un oedd heb fwy o rym rhwymo mewn cyfraith na 'The Beano'. Dywedodd hynny yn 2000, ac eto i gyd wedyn penderfynodd y Llys Ewropeaidd ei fod mewn gwirionedd yn ein rhwymo mewn cyfraith Ewropeaidd, ac eto roedd Tony Blair wedi dweud yn gwbl bendant yn 2007, 'Gadewch i ni wneud yn gwbl glir ein bod wedi sicrhau optio allan o'r siarter’—optio allan a oedd yn ffug. Felly, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio ymgynefino â phenderfyniad a wnaed ychydig dros flwyddyn yn ôl nad oedd ef yn ei gymeradwyo.

Yng nghymal 11 y Bil dywedir nad oes dim y gallai’r sefydliad hwn ei wneud cyn ymadael na fydd yn gallu ei wneud yn y dyfodol. Ac oes, wrth gwrs, mae cyfnod o drawsnewid. Mae’r Prif Weinidog bob amser yn dweud bod y broses o gyflwyno Brexit mor gymhleth fel bod angen cyfnod estynedig o newid er mwyn sicrhau hyn. Wel, mae hynny, i raddau, yn iawn, a dyna beth mae’r Bil hwn yn ei gynnig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ar sawl achlysur, a Gweinidogion eraill, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud sawl gwaith nad oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i danseilio neu dynnu oddi wrth y setliad datganoli. Ar 29 Mawrth eleni, dywedodd y Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin,

ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu tynnu oddi wrthynt.

Yn awr, mae hwnnw’n ddatganiad pendant, ac ni welaf unrhyw dystiolaeth o gwbl dros ddweud nad oedd y Prif Weinidog yn bwriadu i hynny gael ei wneud ac nid yw'n bwriadu hynny yn awr chwaith. Yn wir, ffansïol yw dychmygu y gallai newid trychinebus o'r math y mae’r Prif Weinidog yn ei ofni ddigwydd heddiw. Mae'n cwyno na allwn ymddiried yn y Llywodraeth. Wel, ni allwn ymddiried yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi fel tai'r Senedd. Wel, mae hynny'n wir am y setliad datganoli presennol. Mae bob amser wedi bod yn bosibl i Senedd y Deyrnas Unedig ddiddymu holl ddeddfau datganoli os yw'n dymuno, ond nid oes neb o ddifrif yn disgwyl i’r canlyniad hwnnw godi byth, yn sicr nid yn ystod ein hoes ni. Felly, mae hwn yn argyfwng cyfan gwbl ffug a gynhyrchwyd er mantais wleidyddol dros dro fel y mae’r Prif Weinidog yn ei weld.

Mae'r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i fod yn un gymhleth oherwydd swm y ddeddfwriaeth a gynhyrchwyd gan yr UE, fel arfer trwy ddulliau hollol annemocrataidd, dros y 44 mlynedd diwethaf. Mae rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd—a darddodd yng Nghyngor y Gweinidogion, mae'n wir, ac y pleidleisiwyd arnynt gan Gyngor y Gweinidogion, ond nad oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol drostynt o sefydliadau deddfwriaethol y Deyrnas Unedig—yn berthnasol i Gymru. O leiaf yn awr, drwy ddatganoli’r pwerau hyn dros dro i San Steffan ac, yn y pen draw, i Gaerdydd, y gwleidyddion sydd wedi cael eu hethol sy'n atebol am y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd, a bydd gennym ffordd o gymryd rhan yn y broses. Rwy’n derbyn bod gan y Prif Weinidog bwynt pan ddywed y dylid fod wedi cael ymgynghoriad trylwyr rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru yn y misoedd diwethaf. Mae'n hollol gywir i ddweud hynny, ac rwy’n credu ei bod yn amharchus i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn na wnaed hynny. Serch hynny, nid wyf yn credu y dylem ddrysu rhwng hynny â’r realiti gwleidyddol bod pobl Prydain, a phobl Cymru, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin y llynedd, ac mae'n rhaid cael proses ddeddfwriaethol i sicrhau hynny. Oherwydd swm y ddeddfwriaeth a chymhlethdod y ddeddfwriaeth dan sylw yma, nid oes modd gwneud yr holl newidiadau manwl yn yr amser byr sydd ar gael i ni cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 14:55:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Rwy'n ofni na allaf. Rwyf dros amser yn barod ac mae'n rhaid i mi eistedd i lawr. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog—

Do, yr hyn y byddwn yn dweud wrth y Prif Weinidog—i gloi, Llywydd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Prif Weinidog, i gloi, yw: derbyniwch hyn, yn hytrach na cheisio brwydro yn ei erbyn, oherwydd ni fyddwch yn cael eich cymryd o ddifrif os byddwch yn parhau i geisio gwrthsefyll proses sy'n anochel ac y mae’r Cymry eu hunain wedi pleidleisio drosti.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Fe wnaf gloi drwy ddweud gadewch i ni ddod o hyd i atebion gyda'n gilydd. Mae'r Bil Ewropeaidd am Ymadael yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bydd yr un rheolau a chyfreithiau yn berthnasol ar y diwrnod ar ôl ymadael â’r diwrnod cynt, gan ddarparu'r sicrwydd a’r parhad mwyaf posibl i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr ledled y DU gyfan na fyddant yn ddarostyngedig i newidiadau annisgwyl, a sicrhau bod y llyfr statud yn gallu gweithredu ar y diwrnod ar ôl i ni adael yr UE. Mae'r Bil felly yn dechnegol eu natur, yn hytrach na chyfrwng ar gyfer newidiadau polisi mawr—gan wneud deddfwriaeth anymarferol yn ymarferol a rhoi pŵer â therfyn amser i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gywiro cyfreithiau drwy is-ddeddfwriaeth na fyddent fel arall yn gweithio'n iawn ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phwerau yn mynd i Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, a Gweinidogion y DU ond yn gallu gwneud newidiadau ar faterion datganoledig gyda chaniatâd.

Bydd y Bil hwn yn sicrhau y gall busnesau Cymru, gan gynnwys ffermwyr a chynhyrchwyr dur, barhau i fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd yn syth ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i'r DU gyfan allu gwarantu egwyddorion yr UE er mwyn sicrhau bargen fasnachu gyda'r UE. Bydd yr un rheolau a chyfreithiau yn berthnasol i fusnesau a’r un hawliau i weithwyr wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er y byddai'r Bil yn sicrhau cyfraith yr UE a gedwir y diwrnod ar ôl gadael yr UE, bydd hyn ond yn batrwm dros dro o fewn trefniant trosiannol a fydd yn rhoi sicrwydd ar ôl ymadael ac yn caniatáu ar gyfer trafodaethau dwys â Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol a'r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig eraill ar fframweithiau cyffredin, er enghraifft, i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i weithio a masnachu o fewn y DU ac nad oes unrhyw risgiau i gytuno cytundebau masnach yn y dyfodol. O ganlyniad i—

A gaf i ofyn iddo ystyried? Ymddengys fod gwelliant UKIP yn fwy cefnogol i'r Llywodraeth Geidwadol na gwelliant y Ceidwadwyr. [Chwerthin.] A gaf i ofyn pa fath o falu awyr ddigwyddodd o fewn y grŵp Ceidwadol i gytuno iddo?

Wel, arhoswch i glywed gweddill fy araith. Nid wyf wedi trafod hyn gyda'r grŵp UKIP. [Chwerthin.] Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd cynnydd sylweddol ym mhŵer gwneud penderfyniadau pob gweinyddiaeth ddatganoledig. Gan fod y Bil yn effeithio ar bwerau’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig, bydd Llywodraeth y DU yn ceisio caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig ar gyfer y Bil.

Mae'n anffodus bod y Prif Weinidog yn disgrifio'r Bil fel, ac rwy’n dyfynnu, 'cipio grym' ddydd Iau diwethaf, ac yna dywedodd y diwrnod wedyn fod Ysgrifennydd Cymru wedi ei sicrhau y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y sefyllfa yn dderbyniol pan oedd y sicrwydd hwn eisoes wedi'i ddarparu cyn iddo wneud ei ddatganiad 'cipio grym'. Fel y cadarnhaodd ffynhonnell Llywodraeth y DU yng Nghymru ddydd Iau diwethaf, roedd ei ymateb cychwynnol yn hollol wahanol i'r hyn yr oeddent yn ei weld mewn trafodaethau y tu ôl i'r llenni.

Fodd bynnag, gobeithio y bydd yn cefnogi ein gwelliant, sy'n cydnabod bod y Senedd a Chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, a dylid eu cynnwys yn llawn —

[Yn parhau.] —â Theyrnas Unedig fywiog yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n brin o amser. Rwyf eisoes wedi cael un ymyriad.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithio'n agos â gweinyddiaethau datganoledig i nodi meysydd nad oes angen fframweithiau cyffredin arnynt ac a allai, felly, gael eu rhyddhau o'r trefniant trosiannol. Tu hwnt i hynny, fodd bynnag, mae angen fframweithiau ar draws y DU sy'n parchu'r setliad datganoledig y cytunwyd arno. Wedi'r cyfan, os cytunir ar y fframweithiau, ni fydd unrhyw broblem gyfansoddiadol. Er nad yw’r Bil hwn yn cymryd cymwyseddau presennol yn ôl oddi wrth y Cynulliad, nid oes, fel y clywsom, ddyddiad terfyn ar gyfer y cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig a grëwyd gan fodel cyfraith yr UE a gedwir y bydd yn ei gyflwyno. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai hyn yn cael gwared ar gymhellion i Weinidogion Cymru gytuno ar fframwaith y DU. Ar y llaw arall ac mewn gwirionedd, fodd bynnag, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn wedi galw'n gyson am fframwaith y cytunwyd arno. Felly nid oes unrhyw reswm pam na allai’r Bil ddatgan y byddai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig yn dod i ben pan fydd fframweithiau y cytunwyd arnynt yn dod i rym. At hynny, er bod cytundebau rhyngwladol ym meysydd datganoledig amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd yn cael eu neilltuo i Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i'r egwyddorion sy'n berthnasol i'r meysydd hyn ddarparu sylfaen ar gyfer cytundebau yn y dyfodol ar fframweithiau cyffredin rhwng Llywodraethau’r DU fel sail i unrhyw gytundeb masnach rydd.

Felly, mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn mynd i'r afael â’r materion hyn ac eraill, ac rwy’n croesawu, felly, gadarnhad gan Lywodraeth y DU ar y mater o welliannau. Trefnwyd Ail Ddarlleniad y Bil ar gyfer tymor yr hydref yn San Steffan, yn benodol er mwyn rhoi amser i’r gweinyddiaethau datganoledig fynd drwy'r Bil yn fanwl yn ystod yr haf. Felly, gadewch i ni fynd trwy'r Bil hwnnw mewn modd cyfrifol, nodi'r gwelliannau y gallwn i gyd gytuno arnynt, ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i’w cyflwyno nhw ar yr Ail Ddarlleniad. Diolch.

Mae'r ddadl hon yn digwydd ar frys. Ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU—a gafodd ei alw’n Fil diddymu. Nid yw’n ddim llai nag ymgais i dynhau gafael Llundain ar Gymru. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fater o benderfynu sut i weithredu pleidlais refferendwm. Mae'n rhaid i ni i gyd gofio hefyd y bu dau refferendwm ar ddatganoli, Ym 1997 ac yn 2011 ymladdodd fy mhlaid yn galed yn rhan o’r ymgyrchoedd hynny, ar roedd y ddau yn llwyddiannus. Mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio ddwywaith i rymuso ein democratiaeth Gymreig ein hunain a'n sefydliadau cenedlaethol ein hunain. Mae'r Bil ymadael â’r UE yn diystyru ac yn deddfu yn erbyn y pleidleisiau hynny mewn ffordd sy'n annerbyniol.

Lle mae'n rhaid i fframweithiau ar gyfer gweithredu marchnad y DU fodoli, dylid cyd-benderfynu arnynt gan y Llywodraethau datganoledig. Mae gennym ddiddordeb clir mewn amaethyddiaeth, mewn diogelu'r amgylchedd, mewn cronfeydd strwythurol ac mewn meysydd eraill o reoleiddio sydd o fudd i bobl yn ein cymdeithas. Rhaid rhoi sylw clir i lais Cymru wrth benderfynu sut mae fframweithiau a phwerau newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn gweithredu, ac ni ddylai’r pwerau hynny gael eu rhyng-gipio gan San Steffan a'u gosod mewn rhyw fath o batrwm dros dro amhenodol lle mai ymddiried yn ewyllys da Whitehall fydd ein hunig amddiffyniad

Rydym yn dibynnu ar air y Llywodraeth mai dim ond trefniant dros dro fydd hwn. Fel y clywsom, nid oes cymal machlud yn y Bil i gyfraith yr UE a gedwir sy'n dod o dan gymwyseddau datganoledig. Nid oes darpariaeth ychwaith yn y Bil i ganiatáu i weinyddiaethau datganoledig ddod i gytundeb ffurfiol â Llywodraeth y DU. Ymddengys fod pob un o'r materion hynny yn amodol ar drafodaethau dwyochrog a byddant yn cael eu datrys yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU.

Felly, beth all y Cynulliad hwn ei wneud yn ymarferol? Mae cynnwys Bil parhad yn y cynnig hwn yn hanfodol. Mae Plaid Cymru yn credu ei bod yn hanfodol bod gennym Fil o'r fath i ddiogelu statws cyfansoddiadol Cymru. Mae'n haeddu cael ei ailadrodd ar gyfer y cofnod fod fy nghydweithiwr Steffan Lewis o blaid y Bil hwn gyntaf yn ôl ym mis Tachwedd 2016. Roedd hyn cyn i Bapur Gwyn y Bil diddymu gan Lywodraeth y DU gael ei gyhoeddi. Hyd yn oed cyn i fwriadau Llywodraeth y DU ddod yn amlwg, roedd Plaid Cymru yn credu y dylid cymryd camau i sicrhau bod modd cadw fframweithiau rheoleiddio’r UE yng nghyfraith Cymru. Cymerwyd y safbwynt hwnnw oherwydd ein bod yn rhagweld beth fyddai bwriadau Llywodraeth y DU. Eglurwyd y bwriadau hynny ym Mhapur Gwyn Bil diddymu Llywodraeth y DU, a basiwyd yn ystod y gwanwyn diwethaf, ond mae'n deg dweud bod Plaid Cymru wedi gweld y bygythiad hwn yn dod.

Felly, wrth gefnogi'r cynnig hwn, mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn y byddai’r wlad hon mewn sefyllfa gryfach heddiw pe byddai Bil parhad eisoes wedi cael ei osod. Ond rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi, ac felly mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi yn awr heb oedi pellach. Wrth gefnogi'r cynnig heddiw, mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen a chyhoeddi’r Bil.

Mae'r cynnig hefyd yn ei gwneud yn glir y byddai camau eraill yn cael eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn parhau i fynd i lawr y llwybr hwn. Mae'n rhaid i bob llwybr seneddol, llywodraethol a chyfreithiol gael ei ddilyn er mwyn eu dal i gyfrif. Ni allwn gael math penodol o ymadael â’r UE lle mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, Senedd Cymru’r dyfodol, yn cael ei danseilio neu ei fychanu, a gwn fod gwledydd datganoledig eraill yn teimlo'r un fath. Mae'n werth ystyried a chydnabod ei bod yn bosibl nad yw’r materion technegol a chyfansoddiadol hyn yn destun sgwrs yn y dafarn, ar y stryd neu yn y gweithle. Mae hynny'n ddigon teg. Ond mae pobl yng Nghymru yn disgwyl cael parch i’w gwlad ac i gael gwrandawiad. Rhaid bod cymryd rheolaeth yn ôl yn golygu pwerau yn dod i Gymru, ac i ni mae'n rhaid i hyn olygu bod yn rhaid i San Steffan drin y wlad hon gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu.

Y drafferth gyda Bil hwn yw nad yw'n ymwneud ag ymadael â’r UE, ond mae'n ymwneud â thynnu'n ôl oddi wrth y setliad datganoli. Gadewch i ni fod yn glir: byddai wedi bod yn gwbl bosibl i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil sy'n mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd tra hefyd yn parchu trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Ond yr hyn a wna'r Bil mewn gwirionedd yw datgelu dau beth: yn gyntaf, yn anffodus, natur fregus ein setliad datganoli, ac yn ail, ein bod yn dal ynghlwm wrth yr hyn sydd erbyn hyn yn safbwynt hollol hen ffasiwn o oruchafiaeth seneddol. Mae gennym sefyllfa lle mae Senedd y DU yn deddfu i roi pwerau i Weinidogion Cymru. Nawr, rydym yn cydnabod—ac roedd y pwyllgor materion allanol yn ei drafodaethau yn cydnabod hyn yn benodol—y gallai cyfyngiadau amser a chyfyngiadau ymarferol olygu bod hynny’n angenrheidiol. Ond dylai Llywodraeth y DU, os yw'n gweithredu ar ran y Siambr hon wrth gymryd y camau hynny, wneud hynny yn unol â gofynion ac ystyriaethau’r Cynulliad hwn, ac nid oes dim yn y Bil sy'n darparu ar gyfer hynny.

Mae goruchafiaeth Seneddol yn gysyniad ar gyfer oes arall, ac yn yr oes ddemocrataidd hon, lle mae pobl Cymru wedi mynegi barn yn glir mewn refferendwm y dylai’r corff hwn gael pwerau deddfu sylfaenol, ni ddylai hyn gael ei roi o'r neilltu gan Senedd y DU mewn unrhyw ffordd , ac yn sicr ni ddylai gael ei roi o'r neilltu gan Weinidogion y DU. Eto i gyd, dyna beth y mae'r Bil yn ei wneud. Wrth wneud hynny, mae'n mynd â ni ymhell y tu hwnt hyd yn oed i’r syniad o sofraniaeth seneddol, gan roi'r gallu i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig a basiwyd yn ddemocrataidd yn y Cynulliad—yn wir, yn groes i'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood, heb y gofyniad i gael caniatâd. Nid yw'n syndod i mi fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn frwd dros y Bil hwn. Mae'n ei droi ef yn rhaglaw, a dweud y gwir.

Rydym yn edrych ar sefyllfa nid yn unig lle mae gan y Cynulliad hwn bwerau sy’n cael eu tynnu oddi arnynt neu ddeddfwriaeth sy’n cael ei diwygio gan Weinidogion y DU, ond mae dan anfantais yn erbyn yr hyn yw Senedd Lloegr wrth weithredu mewn cysylltiad â materion a gedwir. Ni all Cynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon newid y ddeddfwriaeth cyn-Brexit y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â hi, ac eto i gyd nid yw Senedd Lloegr, wrth neidio ar gefn sofraniaeth seneddol Senedd y DU, i bob pwrpas, yn cael ei chyfyngu yn y modd hwnnw. Felly mae annhegwch sylfaenol yn rhan o ddarpariaethau'r Ddeddf hon. Pa gyfiawnhad posibl allai fod yn bosibl i ni dderbyn y diffyg tegwch cyfansoddiadol hwnnw?

Yn olaf, ar y cwestiwn o Ddeddf parhad, rwy’nn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno hynny cyn gynted ag bo modd. Rwy'n credu ei fod yn gyfle i ni ddatgan ein barn am y pwerau yr ydym yn eu cadw yn y lle hwn, ond mae hefyd yn gyfle i ni fynnu gweledigaeth arall, ac un nad yw'n cael ei seilio’n bennaf ar y syniad hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol ond ar natur gyfansoddiadol ac atodolrwydd.

Gadewch i ni fod yn glir: mae cynigion Llafur a Phlaid ynghylch Brexit, gan gynnwys y Bil parhad hwn, yn ymgais i aros yn yr UE mewn popeth ond enw gan y rhai a ymgyrchodd i aros yn yr UE ac nad ydynt yn barod i dderbyn y canlyniad a llais mwyafrif y pleidleiswyr yng Nghymru. Ond ymddengys fod yr ochr 'aros' yn anghofio eu llwybr ymosod ar adegau. Mewn un anadl, byddant yn dweud na ellir cyfiawnhau gadael y farchnad sengl gan fod y diffyg cwestiwn refferendwm manwl yn golygu nad oes neb yn gwybod beth yw barn y cyhoedd, ac eto yn yr anadl nesaf maent yn honni eu bod yn gwybod na wnaeth pobl bleidleisio am fwy o reolaethau ar fewnfudo. Mae Llafur a'r arhoswyr eraill hefyd yn hoff iawn o'r ddadl bod ein sector nyrsio, gofal cymdeithasol, milfeddygol ac eraill yn dibynnu ar lafur mewnfudwyr, ond mae’r ddibyniaeth honno yn gynhenid, wedi’i hachosi gan lywodraethau olynol yn y DU ac yng Nghymru yn methu’n druenus ag ariannu'r hyfforddiant ar gyfer ein pobl ein hunain i wneud y gwaith hwn.

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, yn ei ddadl â Nigel Farage, egluro sawl gwaith y byddai pleidlais i adael yr UE yn golygu gadael—gadael—y farchnad sengl. A all y Prif Weinidog a'r arhoswyr yn y lle hwn am eiliad yn unig dderbyn efallai bod pobl wedi clywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud am adael y farchnad sengl, ond yn syml yn anghytuno ag ef? [Torri ar draws.] Na. Roedd Mr Jones yn arfer meddwl—ac yn dal i feddwl—y byddai llawer o'r penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yn well gan was sifil yn Ewrop na’i ​​Lywodraeth Lafur Cymru ef ei hun. Er fy mod yn cytuno ag ef na ddylid gadael penderfyniadau pwysig i Lafur, nid wyf yn credu y dylent gael eu gadael i'r UE chwaith. Mae Llafur wedi gwneud cawl o bopeth sydd wedi cael ei ddatganoli i'r lle hwn hyd yn hyn, boed yn addysg, y GIG neu dai. Ond mae hwn yn fater o atebolrwydd democrataidd, a'r gallu i ddiswyddo’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau gwael. Os yw’r gwneuthurwr penderfyniadau hunanfodlon, sydd allan o gysylltiad a heb unrhyw ddealltwriaeth o sut beth yw bywyd i’r person cyffredin yng Nghymru, yn gwneud camgymeriadau’n gyson, gall pobl roi'r gorau i bleidleisio Llafur a gadael i rywun arall roi cynnig arni, ond dim ond ar faterion datganoledig i’r fan hyn, neu mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer materion sy'n dal yn gymwyseddau’r DU.

Mae'r cynnig Bil parhad yn enghraifft arall o Lafur yn penderfynu eu bod yn gwybod orau ac yn anwybyddu ewyllys y Cymry: y byddwn eisiau aros yn rhan o'r DU, gan gael rhai penderfyniadau wedi’u gwneud ar lefel y DU gyfan, ond i adael yr UE. Mae Llafur a Phlaid am i ni aros yn yr UE a'r Bil parhad yw eu ffordd o ymdrin â'r dicter yr oeddent yn ei deimlo pan ddaeth yn amlwg nad oedd yr etholwyr yn cytuno â nhw. Mae Llafur yn anwybyddu dymuniadau'r pleidleiswyr yn syml oherwydd bod y pleidleiswyr wedi anwybyddu dymuniadau Lafur. Ni all Carwyn Jones a'r arhoswyr eraill yn y lle hwn ddweud un eiliad nad oedd yr etholiad cyffredinol yn ymwneud â Brexit, fel y gwnaeth cyn y diwrnod pleidleisio, ac yna’r eiliad nesaf ddefnyddio’r canlyniad a dweud bod y pleidleiswyr wedi gwrthod gwir Brexit wedyn.

Pa mor galed bynnag y mae’r pleidiau eraill yn ymdrechu i blygu canlyniadau'r etholiad a’u haddasu i’w syniadaeth nhw eu hun, ni allwch wadu’r ffaith fod mwyafrif pobl Cymru yn cytuno ag UKIP pan mae’r drafodaeth yn ymwneud â Brexit. Soniodd y Prif Weinidog y byddai'n golygu gadael y farchnad sengl, ac roedd y llyfryn propaganda a anfonwyd allan gan y Llywodraeth Dorïaidd ar ran y fintai 'aros' yn gwneud cyfeiriad at adael y farchnad sengl ar y rhan fwyaf o’i dudalennau wrth godi bwganod. Os ydych yn dweud na allwn wybod yn union beth yr oedd pobl yn pleidleisio drosto oherwydd bod y cwestiwn yn brin o fanylion, yna mae'n rhaid i ni fynd yn ddiofyn i’r rhagdybiaeth symlaf, sef bod y bleidlais i adael yn golygu hynny’n union: pleidlais i adael yn gyfan gwbl. Pe byddai pleidleisiwr wedi bod eisiau cadw unrhyw ran o aelodaeth o'r UE, boed hynny yn rhyddid i symud neu aelodaeth o'r farchnad sengl neu unrhyw beth arall, byddent wedi pleidleisio i aros. Ond ni wnaethant. Roedd y bobl eisiau gadael, gyda'r holl ganlyniadau yr oedd hynny yn ei olygu.

Mae’r Bil parhad—cam tuag at gadw aelodaeth o’r farchnad sengl, yn fy marn i—gan gynnwys ei holl reolau a chyflwyno i'r llys Ewropeaidd— [Torri ar draws.] Cawn weld. Cawn weld. Ni wnaeth y bobl bleidleisio i’r UE barhau i wneud ein cyfreithiau drwy'r drws cefn drwy Fil parhad. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud ei bod yn sefyll dros bobl sy'n gweithio, ond mae difa popeth sydd wedi cael ei ddatganoli iddi yn frad sy'n dangos mai’r unig beth y mae gwleidyddion Llafur a Phlaid mewn gwirionedd yn sefyll o’i blaid yw etholiad. Diolch.

Croesawaf y ddadl hon y mae angen ei thrafod yn fawr yng ngoleuni cyhoeddi'r Bil ymadael â’r UE, a elwid gynt y Bil diddymu, a elwid gynt y Bil diddymu mawr. O'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs, nid oes gan Blaid Cymru unrhyw broblem gyda'r egwyddor o Ddeddf sy'n trosglwyddo i awdurdodaethau’r DU holl ddeddfau a rheoliadau’r UE, fel nad ydym ar ddiwrnod gwahanu yn syrthio dros ymyl y clogwyn. Dewis Plaid Cymru ar gyfer y broses honno, fodd bynnag, oedd negodi ar unwaith i ddechrau ar ôl y refferendwm rhwng Llywodraethau'r ynysoedd hyn i gytuno ar fframwaith deddfwriaethol fel y gellid trosglwyddo deddfau'r UE yn ddomestig mewn ffordd sy'n cynnal ac yn parchu trefniadau cyfansoddiadol ein gwledydd. Gallai hyn fod wedi cael ei gwblhau cyn sbarduno erthygl 50, wrth gwrs.

Mae nifer o gymalau yn y Bil ymadael â’r UE sy'n achosi pryder mawr, ond o bryder arbennig, yn amlwg, y mae cymal 11, sy'n ymwneud â datganoli, a chymalau 7 (1) a 7 (2). Ni ddylai Cymal 11 fod yn syndod i neb, yn anffodus. Mae'n diwygio ein cyfansoddiad er mwyn sicrhau nad oes gan ein Senedd unrhyw gymhwysedd dros reoliadau’r UE a fyddai fel arall yn dod yn awtomatig o fewn ein cymhwysedd ar ddiwrnod gwahanu. Rhoddwyd rhybudd i ni am y bwriad hwn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU. Yn y Papur Gwyn, roeddent yn fwriadol yn cam-gyfleu trefniadau presennol ar gyfer cytuno ar fframweithiau’r UE fel modd o osod y seiliau ar gyfer y cipio pŵer y maent bellach yn bwriadu ei lunio mewn cyfraith.

Llywydd, rwy’n cofio llawer o ddathlu yn y Siambr hon pan ddaeth y Bil Cymru diwethaf yn Ddeddf oherwydd ymgorffori confensiwn Sewel yn ein cyfansoddiad. Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) wedi cael gwared ag unrhyw amheuaeth, os oedd un yn bodoli, nad yw'n werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno. Mae San Steffan yn oruchaf, a gellir diystyru dau refferendwm datganoli yng Nghymru gan un cymal mewn un Bil yn San Steffan.

Ond er mor annerbyniol yw cymal 11, ni ddylem golli golwg ar gymalau 7 (1) a 7 (2), a byddwn yn annog y Prif Weinidog i beidio â gadael i’w sylw gael ei dynnu gan gymal 11 yn unig. Hyd yn oed pe byddai cymal 11 yn cael ei dynnu oddi yno, mae’r pwerau dirprwyedig i Weinidogion y DU yn 7 (1) a 7 (2) mor bellgyrhaeddol ac eang y gall Gweinidogion y DU gyhoeddi rheoliadau ac, yn wir, ddiwygio neu ddiddymu unrhyw gyfraith, fel y gwelant yn dda, a basiwyd gan unrhyw Senedd yn y Deyrnas Unedig er mwyn lliniaru unrhyw fethiant neu ddiffyg, fel y maent yn ei weld, mewn cyfraith Undeb Ewropeaidd a gedwir.

Mae hynny'n caniatáu ar gyfer gosod cyrff newydd, polisïau newydd a rheoliadau newydd ar faterion sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Rwy’n disgwyl y bydd y pwerau hyn, hefyd, yn cael eu defnyddio i ddiwygio elfennau o'r 759 cytuniad rhyngwladol na fydd gan y DU mwyach ran uniongyrchol ynddynt o’r diwrnod gwahanu ymlaen. O'r 759 cytundeb hynny, mae 34 yn ymwneud â bwyd ac amaeth, 69 â physgodfeydd, 65 â thrafnidiaeth, 202 â chydweithrediad rheoleiddio a 295 â masnach—bob un o'r rhain naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn cyfansoddiad presennol Cymru.

Croesawaf y ffaith bod y cynnig heddiw yn ein hymrwymo ni i gyhoeddi Bil parhad i Gymru, ac nid wyf yn tanbrisio am funud arwyddocâd yr ymdrech honno. Rwy'n siomedig na chafodd Bil fframwaith ar gyfer Bil parhad ei gyhoeddi y llynedd—pwy a ŵyr, gallai fod wedi codi’r arian betio gwleidyddol i lefel lle gallai Llywodraeth y DU fod wedi meddwl ddwywaith am gyhoeddi'r Bil nonsens a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn flaenorol, wrth gwrs, wedi cyhoeddi Bil Cymru amgen gydag amcan gwleidyddol clir, a gallai Bil parhad wneud rhywbeth tebyg, yn ogystal â mynd i'r afael â'r budd ymarferol o ddarparu eglurder a dilyniant i ddinasyddion Cymru, sectorau allweddol o'n heconomi a’n cymunedau ar ôl diwrnod gwahanu. Byddai peidio â gwneud hynny—peidio â bwrw ymlaen â'r Bil parhad—yn fy marn i yn esgeuluso ein dyletswydd i gynnal dymuniadau clir pobl Cymru o ran sut y maent yn penderfynu y maent yn dymuno cael eu llywodraethu. Rydym wedi aros 600 mlynedd am hunanlywodraeth. Ni allwn ganiatáu iddo gael ei erydu o fewn y chwe mis nesaf gan giwed yn San Steffan heb unrhyw fandad i wneud hynny.

Gadewch i mi yn y lle cyntaf ailadrodd ymrwymiad llwyr a diamod ACau UKIP i gael unrhyw bwerau datganoledig sy'n dychwelyd o Ewrop wedi’u pasio i gyd i'r Cynulliad hwn. Fodd bynnag, rwy’n ei chael yn eithaf annealladwy bod dwy blaid yn y Cynulliad hwn sydd wedi bod mor groch o ran y cipio pwerau hynny sydd i'w datganoli i'r DU o Ewrop, pan maent yn eithaf bodlon gadael i’r union bwerau hynny fyw ym Mrwsel hyd dragwyddoldeb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes ond—

Rwy'n ddiolchgar iddo am ildio. Bydd yn gwybod, wrth gwrs, ar hyn o bryd, yng Nghyngor y Gweinidogion, mae Gweinidogion Cymru yn annerch Cyngor Gweinidogion Ewrop a chytunir ar fframweithiau Ewropeaidd ar y cyd rhwng yr aelod-wladwriaethau, gyda Llywodraethau datganoledig yn cael swyddogaeth. O dan y bartneriaeth wych o rai cyfartal sydd gennym yn yr ynysoedd hyn, ni fydd gan ein Llywodraeth unrhyw lais mewn unrhyw reoliad neu fframwaith y DU yn y dyfodol y maent yn penderfynu eu gosod arnom.

Wel, arhoswch funud. Does dim ond un o bob 27 cyn belled ag y mae'r Comisiwn yn ymwneud â Llywodraeth y DU yn Ewrop, ac mae’r Comisiwn, fel y gwyddoch, yn gwneud yr holl benderfyniadau o ran pwerau a fydd yn dod allan o'r Ewrop ac yn effeithio ar bobl Cymru.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith—a byddaf yn mynd ymlaen i wneud y pwynt hwn—mae hyn er gwaethaf y ffaith mai dim ond pedwar ASE cynrychioliadol oedd gennym mewn Senedd annemocrataidd yn yr UE, yn hytrach na 40 o gynrychiolwyr yn San Steffan, Senedd ddemocrataidd—y mwyafrif ohonynt fe nodaf, yn ASau Llafur. Ac mae hyn i gyd yn erbyn cefndir tymor olaf Senedd Ewrop, pan bleidleiswyd yn erbyn pob un o'r 14 gwelliant i Ddeddfau Ewropeaidd a osodwyd gan UKIP, a fyddai wedi bod o fantais i Gymru, gan ASEau Llafur a Phlaid trwy ragfarn plaid wleidyddol yn unig. Rwy'n ofni bod rhethreg y Blaid Lafur a Phlaid ar y materion hyn yn eiriau gwag amlwg.

Tua blwyddyn yn ôl—blwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf—cymerais ran mewn dadl ar stondin y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn Sioe Frenhinol Cymru gydag arweinydd UKIP, Neil Hamilton, lle’r oeddwn yn nodi’n glir iawn bod Plaid Cymru yn cytuno â'r angen am fframweithiau’r DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn awyddus i weithio i adeiladu’r fframweithiau hynny ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd. Ond, gadewch i ni fod yn glir: nid yw’r Bil hwn yn cyflwyno fframwaith; mae'n darparu arddodi. Nid oes dim yn bradychu cymhellion y rhai a oedd am fynd â ni allan o'r UE yn well na'r dull o adael yr UE, gan eu bod wedi achub ar bob cyfle i beidio â datrys materion, fel y mae’r Blaid Geidwadol yn ei honni, nid i ddatrys ansicrwydd, ond i greu dryswch, i hau a chuddio eu diffyg cynllun, eu diffyg uchelgais a’u diffyg syniadau, ac, yn syml, i dynnu pŵer yn ôl o'r Senedd hon.

Mae hwn yn mynd i fod yn un o'r Bilau pwysicaf y bydd y Senedd yn San Steffan yn ei ystyried am rai degawdau. Mae'n sicr yn Fil pwysig i ni ei ystyried, ond gadewch i ni gymryd trosolwg o'r Bil. Os ydym yn seneddwyr yma, ac rwy’n gobeithio ein bod i gyd, yna'r egwyddor sylfaenol yw bod y Senedd yn gwneud y gyfraith ac mae Llywodraeth yn gweinyddu'r gyfraith yn unol â barn y Senedd. Rhaid cyfaddef, o bryd i'w gilydd, byddwch yn dirprwyo pwerau i Weinidogion drwy ddeddfwriaeth ddirprwyedig benodol, ond yr hyn sy’n drawiadol am y Bil hwn yw nerth a chwmpas y pwerau a roddwyd yn uniongyrchol i Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau Harri’r VIII enwog sydd nid yn unig yn ceisio diwygio neu ddiddymu cyfraith yr UE a gedwir, ond Ddeddfau Seneddol eraill a Deddfau’r Senedd hon hefyd. Mae hynny’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a fynnir o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus.

Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a ddywedodd mewn adroddiad diweddar ei fod yn ofni y byddai’r Bil, pan gâi ei gyhoeddi, yn peri ‘trosglwyddiad enfawr’—eu dyfyniad nhw—‘trosglwyddiad enfawr’ o bŵer o'r Senedd i'r Llywodraeth. Dyna'n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud, ond nid dim ond o Senedd San Steffan i Lywodraeth San Steffan, ond o’r Senedd hon i Lywodraeth San Steffan.

A phryd oedd y tro diwethaf y cafodd darn o offeryn statudol ei wrthod gan Senedd San Steffan? Pryd oedd y tro diwethaf y cafwyd craffu ar y darnau hyn o is-ddeddfwriaeth ddirprwyedig ac y’u gwrthodwyd gan San Steffan? Wel, byddaf yn dweud wrthych pryd: 1979. Dyna oedd y tro diwethaf i offeryn statudol gael ei wrthod. Rydym wedi gwrthod offerynnau statudol yma, ond dyna'r tro diwethaf i San Steffan eu gwrthod. Felly, rydych yn rhoi’r holl bŵer hwn i Weinidogion San Steffan heb unrhyw reolaeth; i bob pwrpas, dim rheolaeth seneddol. Ac, wrth gwrs, mae'r Bil yn codi materion gwirioneddol yma, ac yma rwy’n credu mai’r peth gorau y gallaf ei wneud yw dyfynnu o ddadansoddiad cyfraith gyhoeddus y Bil. Ac rwy’n dyfynnu i ddechrau:

Ar hyn o bryd, mae deddfwrfeydd datganoledig yn cael eu gwahardd rhag gwneud pethau sy'n torri cyfraith yr UE—

sydd wedi’i ysgrifennu yn ein Deddfau Cymru sylfaenol ni wrth gwrs—

hyd yn oed os yw’r peth y maent yn dymuno ei wneud yn ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, yn ddiofyn, bydd y cyfyngiad hwnnw yn mynd—i bob pwrpas gan achosi pwerau i lifo o Frwsel i'r prifddinasoedd datganoledig .... Ond—

mae’r dadansoddiad yn parhau

mae’r Bil yn codi gwyriad, yn darparu bod pwerau a ddychwelwyd, hyd yn oed pan maent yn ymwneud â phynciau datganoledig, yn lle hynny yn mynd i Lundain.

Nid dadansoddiad Plaid Cymru yw hynny. Nid dadansoddiad y Blaid Lafur yw hynny. Dyna ddadansoddiad athro cyfraith gyhoeddus o'r hyn y mae’r Bil hwn yn ei wneud. A dyna pam, wrth gwrs, mae angen cymal—wel, nid wyf i ei angen—ond dyna pam y mae'r Ceidwadwyr eisiau cymal 11 yn y Bil. Os nad oedd y Bil yn gwneud unrhyw beth, os nad oedd gadael yr UE yn adennill y pwerau hyn yn uniongyrchol i ni, pam rhoi cymal 11 i mewn yna? Rydych ond yn rhoi cymal 11 i mewn yna, oherwydd eich bod yn gwybod yn iawn beth sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn gadael yr UE. Ni fydd y pwerau hynny yn stopio yn rhif 10 neu rif 11 Downing Street, neu unrhyw le yn Whitehall; byddant yn dod yn syth i lawr y Tafwys, drwy'r Cotswolds ac yn syth i lawr afon Hafren atom ni. Dyna beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Dyna pam mae cymal 11 yno, gan fod y Llywodraeth Geidwadol yn gwybod beth fyddai'n digwydd.

Gadewch i ni droi yn fyr iawn at effaith amgylcheddol hyn. Os byddwn yn caniatáu i’r Bil hwn fynd drwyddo yn ei ffurf bresennol, Michael Gove fydd yn penderfynu ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Gellid yn hawdd penderfynu ar gnydau GM, na chaniateir ar hyn o bryd yng Nghymru trwy fframwaith yr UE, drwy'r fframwaith hwn. Gellid yn hawdd ganiatáu neonicotinoids, y plaladdwyr gwenyn a waharddwyd ers 2011. Mae Michael Gove yn awyddus i ddod â nhw yn ôl, mae e’n dymuno caniatáu i blaladdwyr gwenyn gael eu chwistrellu; gallai wneud hynny dan y fframwaith hwn. Llygredd aer—yr ymladdon ni yn ei erbyn yma yng Nghymru—mae gan y Llywodraeth Geidwadol agwedd wael iawn tuag at lygredd aer a allai yn hawdd wrthwneud dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop sydd wedi arbed ac wedi helpu i lanhau llygredd aer yma yng Nghymru. Ac mae TB mewn gwartheg, a godais gyda'r Prif Weinidog ddydd Gwener, yn rhan o raglen UE y cytunwyd arni ar gyfer dileu TB. Os bydd Llywodraeth San Steffan yn credu y byddai'n well ar gyfer bargen fasnach gael difa moch daear ledled Cymru, gallai wneud hynny yn rhwydd o dan y Bil hwn. Mae'r Bil hwn yn fygythiad gwirioneddol, nid yn unig i’n cyfansoddiad, mae'n fygythiad gwirioneddol i'n bywydau bob dydd.

Diolch i chi, Llywydd. Wrth wrando ar Simon Thomas yn y fan yna, rhoddodd rhai enghreifftiau pendant iawn o’r hyn all ddigwydd—o’r hyn fydd yn digwydd, yn wir—os bydd y Bil yn aros fel y mae. Byddwn yn cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Bil yn ei gynnwys. Byddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood, o ran yr hyn yr oedd yn ei gymell: sef, dim newid; sicrwydd—rwy’n cytuno ag ef; gwneud yn siŵr nad oes newid sydyn pan fyddwn yn gadael yr UE; a gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y gall fod, lle mae’n briodol, fframweithiau ar draws y DU yn y dyfodol. Nid wyf yn anghytuno â dim o hynny. Y ffordd y mae'n cael ei wneud yw’r broblem. Wrth wraidd y Bil hwn y mae gwrthod yr egwyddor o gydsyniad a derbyn yr egwyddor o osod. I’w roi yn amrwd, yr hyn sydd gan y Bil hwn ar hyn o bryd yw cynnig y gall Lloegr wneud yr hyn y mae’n dymuno ei wneud, ond ni all Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn awr, mae naill ai yn un rheol i bawb, neu dim rheolau o gwbl. Does bosib, rhaid iddo fod yn y ffordd honno.

Bydd rhai, rwy'n siŵr, ar feinciau'r Ceidwadwyr sy'n rhannu fy anesmwythyd. Heddiw, gallaf ddeall pam y maent yn credu nad nawr yw’r amser i fynegi'r farn honno. Ond, a gaf i ddweud, nid yw hon yn sefyllfa lle’r ydym yn ceisio gwrthwynebu rhywbeth heb gynnig rhywbeth arall fel dewis amgen? Rydym wedi gwneud hyn am wythnosau ar y tro. Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU: rydym yn deall yr angen am barhad, rydym yn deall yr angen am sicrwydd. Gadewch i ni wneud yn siŵr—fel y dywed Simon Thomas, na fyddai cymal 11 yno pe na bai am y ffaith bod y pwerau hyn yn dod yn syth atom—gadewch i ni gyd gytuno na fyddwn yn newid pethau nes ein bod i gyd yn gytûn. Dyna'r dull partneriaeth aeddfed y dylid ei gymryd yn y DU yn awr. Yn hytrach, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd yr agwedd bod Llywodraeth y DU yn oruchaf ac mae'n rhaid i bawb arall ddilyn. Ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod am ganiatâd y ddeddfwrfa hon. Yn awr, ni all y caniatâd hwnnw fod yn amodol. Ni all ddweud, os nad ydym yn rhoi caniatâd, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym yn mynd i’ch anwybyddu chi.' Nid yr athrawiaeth o gydsyniad cyfyngedig ydyw—estyniad o athrawiaeth Brezhnev. Mae hon does bosib yn enghraifft lle dylai fod caniatâd priodol. Rwyf yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyrraedd pwynt lle gall fod caniatâd, ond nid ydym yn y sefyllfa honno eto.

Mae'n wir dweud bod amryw o Weinidogion y DU wedi ysgrifennu atom a dweud, 'Rydym eisiau gweithio gyda chi, cael eich caniatâd a chael fframweithiau cytûn.' Wel, mae dau beth yn fy nharo: yn gyntaf oll, pam na wnaed hyn o'r blaen? Yn ail, pam nad ydyw ar wyneb y Bil? Nid oes dim o hyn ar wyneb y Bil. Does dim byd ar y Bil am gymalau machlud o ran cymal 11. Does dim byd yn y Bil yn ymwneud â sicrhau mai patrwm dros dro yw hwn am gyfnod dros dro. Mae'n amhenodol, a dyna'r broblem. Nid yr hyn sy'n cael ei ddweud gan Weinidogion y DU yw’r hyn yr ydym yn ei weld ar wyneb y Bil, ac mae’n rhaid i’r hyn a ddywedir ymddangos ar wyneb y Bil i’w wneud yn gymeradwy.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton. Mae wedi, yn y Siambr hon, bod yn gyson yn ei farn y dylai’r pwerau hynny sy'n dychwelyd o Frwsel ddod yma. Ond yn awr rydym yn clywed ei gefnogaeth i’r dyn yn y canol, i bob pwrpas—y dylai pwerau gael eu cadw yn Llundain, sef y Brwsel newydd am gyfnod, ac yna dod yma. Pam? Pam na ddylen nhw ddod yma yn y lle cyntaf? Ein pwerau ni ydyn nhw i ddechrau. Ein pwerau ni fydd yn dychwelyd i ni. Ydy, mae'n iawn dweud nad ydym yn colli pwerau yn hynny o beth, ond mae'r rhain yn bwerau a ddylent, drwy hawl, ddod i Gymru. Felly, pam y dylent fynd i rywle arall yn gyntaf? Dyna'r ddadl. Gresynaf ei fod yn ymddangos i fod wedi newid ei safbwynt ar hynny ac mae wedi dod yn nes at farn y Blaid Geidwadol ar hyn.

Fel y dywedais, os mai dros dro y mae hyn, pam nad yw’n dweud hynny ar wyneb y Bil? Ac nid yw'n gwneud hynny. Mae'n rhaid i ni ochel rhag hynny. Oni bai ei fod yn ysgrifenedig, pam y dylem ei dderbyn? Y peth arall y mae'n rhaid i ni ei gofio yw nad oes cyfyngiad o gwbl ar Lywodraeth y DU yma. Gall wneud fel y gwêl yn dda, nid yn unig ar gyfer Lloegr, ond ar gyfer Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon hefyd. Mae hynny’n torri ar draws egwyddor sylfaenol datganoli, ac nid yw’n rhywbeth, yn amlwg, y gallem ei gefnogi. Mae yna fannau llwyd. Mae Simon Thomas wedi cyfeirio atynt. Beth sy'n digwydd os bydd gofyniad mewn trafodaethau masnach i wneud rhywbeth mewn cysylltiad ag iechyd anifeiliaid? Beth os, mewn cytundeb masnach, fel y soniais yn gynharach, bydd gofyniad y dylem orfod preifateiddio rhannau o'n gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud cytundeb masnach derbyniol i wlad arall? Mae mannau llwyd, a dyna pam ei bod mor bwysig, er mwyn osgoi’r math hwn o wrthdaro yn y DU, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd o'r cychwyn, ac mae'r egwyddor yn cael ei sefydlu o'r cychwyn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth er lles pob un o'r pedair cenedl, ac nid dim ond yn meddwl bod yr holl bŵer a’r holl ddoethineb yn gorffwys yn San Steffan. Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir.

Gyda golwg ar y Bil parhad—hollol iawn i ddweud mai Steffan Lewis oedd yr un cyntaf i godi'r mater. Roeddwn heb fy narbwyllo ar y pryd. Ni allwn weld beth y byddai'n ei gyflawni. Darbwyllodd fi. Rhoddaf y credyd hwnnw iddo. Ac mae'n iawn i ddweud ein bod yn symud ymlaen â'r Bil. Byddem yn ceisio cyhoeddi Bil. Ein nod yw cyhoeddi yn ystod yr hydref. Nid yw heb ei gymlethdodau, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid yw'n glir pa mor gymhleth y byddai Bil fel hwnnw, ond mae'n rhywbeth, fel y dywedais, y byddem yn ceisio ei wneud. Byddai'n well gennym pe byddai Llywodraeth y DU yn derbyn gwelliannau y byddem yn eu drafftio fel Llywodraeth yn Senedd y DU. Byddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn dileu'r angen am Fil, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gadw hynny fel rhan o'n harfogaeth, os caf ei roi felly, er mwyn cadw pwerau pobl Cymru a'r sefydliad y maent hwy eu hunain wedi ei ethol.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Michelle Brown, oedd, roedd yr etholiad yn ymwneud â Brexit. Cymerodd ei phlaid 1.8 y cant o'r bleidlais—1.8 y cant o'r bleidlais. Roeddent yn gwrthod heb gwestiwn—heb gwestiwn—y fersiwn o Brexit a roddwyd gerbron gan UKIP, a dywedodd UKIP—eich arweinydd, Paul Nuttall, os oes unrhyw un yn ei gofio— bod yr etholiad yn ymwneud â sicrhau nad oedd unrhyw lithro’n ôl ar Brexit. Ac edrychwch ar beth ddigwyddodd i chi. Nid oedd y cyhoedd yn cytuno â'ch safbwynt chi oherwydd y bleidlais a gawsoch. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig o glywed aelod o UKIP yn simsanu pan ddaw at amddiffyn pwerau'r sefydliad hwn. Holl ddadl UKIP fu, 'Rydym am ddod â’r pwerau adref’. Dyna, er tegwch, fu eu dadl, ond nid yw'n cyfrif cyn belled ag y mae Caerdydd neu Gymru yn y cwestiwn, mae'n rhaid cael rhyw fath o fan aros, ac mae hynny'n dangos, wrth gwrs, fod eu barn bob amser yn ymwneud â dod â phwerau i Lundain ac nid o reidrwydd i Gaerdydd. Mae'n drueni, oherwydd nid dyna lle’r oeddent ychydig wythnosau yn ôl. Nawr, rydym yn gweld, yn anffodus, wir liwiau UKIP.

Mae Steffan Lewis yn iawn i sôn am y cymalau eraill. Nid yw ond yn ymwneud â chymal 11 yn unig. Mae cymalau eraill, fel y soniodd, sy'n ymdroelli, sy'n gwau eu ffordd, drwy'r Bil cyfan, y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, cyn belled ag y mae David Rowlands yn y cwestiwn, nid yw Senedd Ewrop yn llai democrataidd na Senedd y DU. Mae’n cael ei hethol yn yr un ffordd, felly does dim gwahaniaeth rhwng y ffyrdd y mae’r Seneddau hyn yn cael eu hethol. Nid yw hyn—dwi ddim yn mynd i'w darbwyllo, gadewch i ni wynebu hynny—. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, pan fydd Brexit yn digwydd, bod hawliau a phwerau pobl Cymru, fel y pleidleisiwyd drostynt mewn refferendwm—fel y pleidleisiwyd drostynt mewn refferendwm—yn aros gyda phobl Cymru. Dyma beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Gellir cyflawni hyn, gan dderbyn, wrth gwrs, yr angen am gyfranogiad y DU mewn rhai meysydd, trwy gytundeb a thrwy bartneriaeth. Beth allai fod yn fwy aeddfed, yn fwy synhwyrol, yn fwy democrataidd, ac yn fwy rhesymegol na hynny? A dyna’r safbwynt y byddwn yn ei roi i Lywodraeth y DU. Gadewch inni weld a ydynt yn gallu bodloni’r geiriau y maent wedi eu rhoi i ni hyd yn hyn.

Hoffwn fod mewn sefyllfa lle’r ydym yn dod i bwynt yn y Bil lle gallai'r Bil o bosibl gael ei argymell i'r Cynulliad. Rydym yn bell o fod yn y sefyllfa honno—yn bell o’r sefyllfa honno. Gellir ei wneud, ond mae'n rhaid i’r egwyddor o ganiatâd a’r egwyddor o gyfreithlondeb democrataidd y Siambr hon a’r genedl hon gael eu derbyn yn rhan o'r trafodaethau hynny. Os yw hynny'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, yna, i ddyfynnu David Davis ddoe, gadewch i ni ddechrau o ddifrif arni, gadewch i ni wneud yn siŵr, pan fydd Brexit yn digwydd, bod gennym fecanwaith i wneud penderfyniadau priodol rhwng Llywodraethau’r DU, bod gennym ffordd briodol o wneud penderfyniadau, bod gennym broses ddyfarnu annibynnol i archwilio’r penderfyniadau hynny, a gadewch i ni edrych i'r dyfodol fel rhan o’r DU sy'n bartneriaeth gywir o'r cenhedloedd, ac nid y DU yn ôl pob golwg sy’n credu bod ei phresennol cyfansoddiadol wedi'i leoli yn rhywle yn y 1950au.

Felly, heddiw, fel y mae Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, eraill yn y Siambr hon, wedi dweud hefyd, rydym yn edrych ymlaen at gymryd gair Gweinidogion y DU i wneud y Bil hwn yn dderbyniol nid yn unig i'r Llywodraeth ond i'r Cynulliad, er mwyn sicrhau, pan fydd Brexit yn digwydd, bod hawliau pobl Cymru yn cael eu cadw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 5. Datganiad: Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd a'r Metro

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd a’r metro. Ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:35:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Llywydd. Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaethpwyd o ran gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a chaffael y metro. Ein gweledigaeth yw gwasanaeth rheilffyrdd modern, effeithlon, sy’n defnyddio technoleg fodern ac arferion gwaith modern i wneud gwelliant sylweddol i wasanaethau i deithwyr ledled Cymru.

Mae'r agenda hon yn ddi-os yn cyflwyno heriau, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd gwych i gyflawni ein dyheadau ehangach ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig amlfodd sy’n fwy ac yn well, gan wasanaethu anghenion teithwyr, cerddwyr, a beicwyr ar hyd a lled Cymru, p'un a ydynt yn dod o Gymru ynteu’n ymwelwyr sy’n ceisio gweld cymaint â phosibl o’n gwlad brydferth. Cefnogir yr agenda gan nifer o ymyriadau uchelgeisiol, gan gynnwys cynlluniau i drydaneiddio a gwella’r rheilffyrdd, metro’r gogledd, gwelliannau i'r rhwydwaith ffyrdd a'r M4, a gwelliannau parhaus i wasanaethau bws.

Rydym yn darparu’r ymyriadau hyn mewn cyd-destun rhannol ddatganoledig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn foddhaol. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli rheolaeth a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru, fel yr argymhellodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Ac, yn absenoldeb cyllid a rheolaeth ddatganoledig, mae’n rhaid i Gymru dderbyn ei chyfran deg o fuddsoddiad mewn seilwaith, gan nodi’r tanfuddsoddi hanesyddol yma yng Nghymru, ac rydym yn parhau i wneud yr achos hwn. Rydym, fodd bynnag, wedi gwneud cynnydd da.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Yn 2014, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am fanyleb gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau, ac am ei gaffael, i Lywodraeth Cymru. Yn 2015, gwnaethom sefydlu cwmni dielw, Trafnidiaeth Cymru, i helpu i’n cynghori a’n cefnogi â phrosiectau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i helpu i gaffael gwasanaethau rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i ddiwallu anghenion teithwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd hyn yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym yn bwriadu creu gwasanaeth rheilffyrdd sydd o fudd i Gymru gyfan, i gymunedau ar hyd y ffin ac yn Lloegr. Mae gennym gyfle unigryw drwy fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys £734 miliwn ar gyfer metro’r de. Bydd y gallu a'r dulliau y byddwn yn eu datblygu wrth gyflawni metro’r de yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gyflwyno cysyniad y metro yn y gogledd, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru, mewn ffordd sy'n gweddu orau i anghenion lleol. Ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu, gwnaethom nodi ein blaenoriaethau, sy'n adlewyrchu'r gwasanaeth rheilffyrdd sydd ei eisiau ar bobl yng Nghymru. Yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny, a gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rydym yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer contract nesaf y gwasanaeth rheilffyrdd. Rydym wedi llwyddo i ddenu pedwar o gynigwyr o ansawdd uchel.

Rwy'n falch bod rhanddeiliaid wedi cymryd rhan ac wedi ymgysylltu’n gadarnhaol ac yn rhagweithiol i'n helpu i ddatblygu ein syniadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol. Mae Trafnidiaeth Cymru heddiw yn cyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Rwy'n croesawu'r adroddiad diweddar gan aelodau'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am y gwasanaeth rheilffordd nesaf. Mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol yr heriau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi fy ymateb i argymhellion yr adroddiad maes o law. Hoffem i bawb yng Nghymru elwa o wasanaethau rheilffyrdd mwy effeithlon ar drenau gwell, mwy modern. Drwy'r broses gaffael hon, hoffem sicrhau model cynaliadwy sy'n bodloni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y dull hwn yn ein galluogi i wneud y gorau o bob ceiniog sy'n cael ei buddsoddi, i ddarparu dyfodol tymor hir i’n cymunedau.

Rydym yn disgwyl nifer o ganlyniadau o'n hymarfer caffael ac i wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn y dyfodol. Drwy'r broses gaffael, rydym wedi cymell cynigwyr i ddatblygu ceisiadau o safon uchel sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Rydym hefyd wedi cynnwys targedau lleihau carbon, gyda chymhellion i wella dros oes y contract. O leiaf, rwy’n disgwyl y caiff gwasanaethau ac amlderau presennol eu cynnal, yn ogystal â thwf mewn gwasanaethau mewn ardaloedd a flaenoriaethir a lle mae llawer o angen. Ochr yn ochr â hyn, hoffem weld gwelliannau yn ansawdd y cerbydau, fel darparu mannau gwefru wrth y sedd, mannau storio mwy effeithiol ar gyfer bagiau a beiciau, a thoiledau allyriadau rheoledig i greu rhwydwaith glanach. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddarparu Wi-Fi am ddim i deithwyr yn y 50 gorsaf brysuraf yng Nghymru ac ar y trenau hynny lle nad oes yr offer angenrheidiol eisoes.

Ddoe, cyhoeddais y byddwn yn ychwanegu pum trên pedwar cerbyd ychwanegol i gynyddu faint o gerbydau sydd ar gael yn y fasnachfraint bresennol. Bydd cyflwyno'r trenau hyn yn caniatáu inni wneud gwaith cydymffurfio ar gyfer pobl â llai o symudedd ar y cerbydau dosbarth 150 a 158 presennol ac yn darparu opsiynau i gynyddu capasiti ar lwybrau prysur. Bydd y trenau ychwanegol hefyd yn darparu cyfleoedd i ddeiliad newydd y fasnachfraint gyflwyno gwelliannau yn gynnar yn ystod contract newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau.

Rwy’n disgwyl y darperir cerbydau newydd gwell yn gynnar yn y contract gwasanaethau rheilffyrdd newydd fel bod teithwyr yn cael y budd cyn gynted â phosibl a bod trenau’n gwbl hygyrch i bobl sydd â diffyg symudedd. Rwy’n disgwyl y cyflwynir gwelliannau i amser teithiau a gwelliannau i wasanaethau, gan gynnwys gwell gwasanaethau o'r gogledd i'r de i’r ddau gyfeiriad yn y bore a gyda'r nos gyda cherbydau o ansawdd gwell, a hefyd mwy o wasanaethau trên ar ddydd Sul ledled Cymru.

Ar ddiwedd y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a metro’r de-ddwyrain. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drosglwyddo'r pwerau perthnasol sydd eu hangen i gyflawni a chynnal gwasanaethau rheilffyrdd yn llwyddiannus yn y dyfodol. Tra bod hyn yn digwydd, rydym yn bwrw ymlaen â chaffael gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan gytundeb asiantaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru. Oherwydd natur draws-ffiniol gwasanaethau rheilffyrdd, bu cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill rhwng swyddogion, a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru, a Network Rail ynghylch trosglwyddo llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyfle inni i ofyn i'n cynigwyr gyflwyno datrysiadau rheilffyrdd arloesol a chost-effeithiol yn y rhanbarth.

Mae gwasanaeth rheilffyrdd dibynadwy o safon, sy'n rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru, yn ganolog i'n gweledigaeth. Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y daflen ‘Symud Gogledd Cymru Ymlaen—Ein Gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru a Metro Gogledd Ddwyrain Cymru’. Bydd metro’r gogledd-ddwyrain yn rhan o raglen ehangach o foderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd sy'n cydnabod y cyfleoedd i sicrhau twf economaidd a lles y gellir eu gwireddu drwy wella cysylltedd i bob math o drafnidiaeth o fewn y rhanbarth ac ar draws ffiniau.

Mae gwaith effeithiol ar draws ffiniau yn hanfodol os ydym am ddenu buddsoddiad a sicrhau'r manteision mwyaf posibl, ac rydym yn ceisio canfod ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, canolig, a hir, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o ran cysylltedd ar draws y ffin i mewn i Loegr, Iwerddon, a thu hwnt.

Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a dros y ffin i nodi a datblygu’r mentrau pellach hyn ac, yn enwedig, i wella integreiddiad trafnidiaeth ar draws pob dull, gan gynnwys tocynnau integredig.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ynglŷn â gwaith y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn derbyn, rwy’n gobeithio, pob un o'n hargymhellion.

Yn gyntaf, o ran y broses gaffael, mae eich llythyr dyddiedig 12 Gorffennaf ataf am y rhinweddau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi’r fanyleb ddrafft lawn i Aelodau'r Cynulliad, yn nodi na fyddwch yn cyhoeddi’r manylebau drafft yn llawn. Fodd bynnag, nid ydych wedi ei gwneud yn glir yn eich llythyr nac yn eich datganiad heddiw a gaiff y fanyleb derfynol ei chyhoeddi, pryd gaiff ei chyhoeddi, pryd—. Gwnaf ddechrau hynny eto. Nid ydych wedi ei gwneud yn glir yn eich llythyr ataf fi nac yn eich datganiad heddiw a gaiff y fanyleb derfynol ei chyhoeddi pan gaiff ei rhoi i gynigwyr yn y cam caffael olaf, wedi i’r gwahoddiad i dendro gael ei gyhoeddi. Rydych wedi cadarnhau cyn hyn na fyddwch ychwaith yn cyhoeddi'r meini prawf gwerthuso yn llawn. Mewn tystiolaeth lafar ar 6 Ebrill, roedd yn ymddangos bod cyfarwyddwr trafnidiaeth Llywodraeth Cymru hefyd wedi dynodi na fyddai'r fanyleb derfynol yn cael ei gwneud yn gyhoeddus pan gaiff ei rhoi i gynigwyr, a’i fod yn hytrach wedi dweud y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cyhoeddi'r fanyleb derfynol unwaith y bydd y contract wedi'i ddyfarnu y flwyddyn nesaf.

Nawr, rwy’n deall mai’r arfer caffael arferol yw bod yr awdurdodau cyhoeddus hynny sy’n caffael masnachfreintiau rheilffyrdd ym Mhrydain yn cyhoeddi'r fanyleb, a rhof enghraifft ichi, cafodd gwahoddiad i dendro’r Adran Drafnidiaeth ar gyfer masnachfraint East Anglia ei gyhoeddi’n llawn ym mis Medi 2015. Hefyd, cyhoeddodd Transport Scotland y gwahoddiad llawn i dendro ar gyfer masnachfraint ScotRail ym mis Ionawr 2014. Felly, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru’n dangos ymagwedd wahanol at gaffael ac yn symud oddi wrth, efallai, arferion sefydledig. Nid ydych wedi egluro’n ffurfiol pa un a bydd y fanyleb derfynol yn cael ei chyhoeddi ai peidio, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi hyn ar y cofnod heddiw a dweud yn benodol a gaiff y gwahoddiad i dendro, gan gynnwys y fanyleb derfynol, ei gyhoeddi pan gaiff ei roi i gynigwyr yr haf hwn. Ac, os na chaiff, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud pam ddim, ac ystyried bod gwahoddiadau i dendro a manylebau ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd Prydain fel rheol yn cael eu cyhoeddi ac yn aml yn destun craffu cyhoeddus unwaith y byddant wedi cael eu cyhoeddi.

Gwnaf ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hwn yn gontract yr amcangyfrifir ei fod yn werth dros £4 biliwn am y fasnachfraint ei hun a'r seilwaith metro. Hwn, wrth gwrs, yw’r mwyaf a ddyfarnwyd erioed gan Lywodraeth Cymru ac mae llawer iawn o ddiddordeb yn ei gynnwys. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â hynny. Felly, a ydych, gan hynny, yn cytuno â mi bod tryloywder mewn contract mor fawr er budd y cyhoedd, yn enwedig o ystyried y dystiolaeth gan randdeiliaid sy'n awgrymu bod y broses gaffael wedi bod yn afloyw o'r cychwyn cyntaf?

Hoffwn ofyn rhai cwestiynau byr am gerbydau. Rwy'n meddwl ei bod yn newyddion da bod Cymru’n mynd i gael y trenau dosbarth 319 newydd i'w defnyddio ar fasnachfraint Cymru a'r gororau o 2018 hyd 2021, ond a wnewch chi amlinellu, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaiff y pum uned eu cyflwyno ar yr un pryd ai peidio, faint o unedau a fydd yn cael eu cymryd allan o wasanaeth a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r DDA, ar ba ran o'r rhwydwaith fydd y trenau hyn yn gweithredu, a pha gapasiti ychwanegol a gaiff ei greu yn sgil y cerbydau newydd?

Yn olaf, Llywydd dros dro, rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cynnal hyder y cyhoedd bod y fasnachfraint newydd wedi'i chynllunio'n benodol i sicrhau gwerth i ddefnyddwyr rheilffyrdd yng Nghymru. Rwy’n gobeithio felly y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ateb fy nghwestiynau mewn ffordd sy'n dangos sut y bydd masnachfraint newydd Cymru a'r gororau’n gwarantu y gwireddir y galw cyhoeddus am wasanaeth rheilffyrdd sy'n cynnig prisiau teg a fforddiadwy, trenau newydd, trenau modern, rhwydwaith integredig a gwasanaeth mwy ecogyfeillgar.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i gwestiynau, a diolch iddo, unwaith eto, am gadeirio ymchwiliad y pwyllgor i'r fasnachfraint newydd? Roedd yn ddarn rhagorol o waith, yn adroddiad trylwyr a chynhwysfawr iawn. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb iddo yn llawn. Yn y cyfamser, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod yr argymhellion yn sicr yn cyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd gwell a mwy integredig, un sy'n integreiddio'n dda â theithio bws a theithio llesol.

Dylwn ddweud ar y dechrau, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored, ac i ddiogelu uniondeb y broses gaffael, na fydd bob amser yn bosibl rhyddhau manylion penodol am gaffael neu wneud sylwadau amdanynt, oherwydd byddai gwneud hynny’n rhoi Llywodraeth Cymru mewn perygl o her gyfreithiol. Nawr, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig am y fanyleb ddrafft a’r fanyleb derfynol—darnau cymhleth dros ben o waith, anhygoel o gymhleth, ac mae angen inni sicrhau'r gwerth gorau i drethdalwyr a'r canlyniadau gorau posibl mewn proses gystadleuol. Am y rheswm hwnnw, mae angen cydbwyso tryloywder y broses â’r gwerth gorau a'r canlyniadau gorau. Felly, er na fyddwn yn cyhoeddi’r fanyleb, ac er bod ein dull deialog gystadleuol yn wahanol iawn i lawer sy'n cael eu mabwysiadu mewn ardaloedd eraill, fel y dywedais yn fy natganiad byddaf yn cyhoeddi crynodeb o ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau ac ar gyfer y metro hefyd.

O ran y cerbydau, roeddwn yn falch o allu cyhoeddi cerbydau ychwanegol. Caiff manylion yr union broses o gyflwyno pob cydran eu cyflwyno maes o law i Aelodau, ond fe’u defnyddir mewn ffordd sy'n ein galluogi i addasu rhannau eraill o'r catalog cerbydau’n briodol i bobl sydd ag anawsterau symud. Ac o ran y capasiti ychwanegol, cyflwynir hynny lle bynnag y bydd y capasiti presennol wedi’i ymestyn. Caiff ei ddefnyddio, felly, ar sail ymateb i'r galw.

Fel teithiwr rheilffordd rheolaidd a chymudwr, rwyf wedi cymryd diddordeb brwd yn y fasnachfraint nesaf ac rwy’n gwybod bod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr yn yr un sefyllfa. Nawr, rydym yn gwybod, o ran pwy fydd yn cynnal masnachfraint Cymru a'r gororau, bod pedwar o gynigwyr o’r sector preifat wedi cyflwyno eu hunain. Mae diddordeb mewn gwladoli rheilffyrdd a pherchenogaeth gyhoeddus o bob cwr o farn y cyhoedd. Mae’r rheswm arferol pam mae pobl am i’r rheilffyrdd fod mewn dwylo cyhoeddus yn ymwneud ag elw’n diflannu o’r rhwydwaith, ac mewn llawer o achosion ddim hyd yn oed yn mynd i ddwylo preifat, ond i mewn i reilffyrdd gwladwriaethol gwledydd eraill—ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld yr eironi hwnnw.

Hyd yn oed yng Nghymru, lle mae elw ar reilffyrdd yn isel a chymorthdaliadau’n uchel, mae elw’n dal i adael rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a mynd i'r Almaen. Nawr, rydym yn gwybod ei bod yn ymddangos nad yw’r sefyllfa ddeddfwriaethol ar lefel y DU yn caniatáu i gynigwyr o’r sector cyhoeddus gystadlu am y masnachfreintiau hyn, ac mae Deddf Cymru 2017, a gefnogwyd gan y Blaid Lafur yma ond nid gan fy mhlaid i, yn parhau i wrthod perchenogaeth gan y sector cyhoeddus. Felly, rwyf am droi fy sylw at fodelau di-ddifidend neu ddielw. Rydych wedi ymrwymo dro ar ôl tro i’r rhain yn eich gwahanol faniffestos. A yw'n wir nad yw rheilffordd ddielw, yn unol â'ch maniffesto, yn digwydd ac na all hynny ddigwydd nawr o fewn y fasnachfraint nesaf?

I symud ymlaen at fater gorlenwi ac ansawdd y cerbydau, sylwais ar y cyhoeddiad a wnaethoch ddoe bod pum trên newydd yn cael eu darparu y flwyddyn nesaf—pump. Rydym yn gwybod mai’r broblem fwyaf gyda'r fasnachfraint bresennol yw y cafodd ei dyfarnu ar sail dim twf. Cafodd y camgymeriad hwnnw ei gydnabod gan Lywodraethau Cymru blaenorol, ond doedd dim llawer y gellid ei wneud yn ei gylch. Nawr mae'n rhaid inni osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gofalu bod gennym ffordd o ymdrin ag unrhyw heriau sy'n codi yn y dyfodol. Byddai cymal terfynu’n caniatáu inni adolygu’r fasnachfraint nesaf yn rheolaidd yn ystod cyfnod y contract. Byddai hefyd yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys Llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol, yr opsiwn i fynd â’r rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus pe byddai’r ddeddfwriaeth yn newid a bod hynny’n dod yn gyfreithlon. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys cymal terfynu i alluogi hynny i ddigwydd?

Mae fy nghwestiwn olaf ynglŷn â thrydaneiddio, ac mae'n gysylltiedig â chyhoeddiad ddoe am gerbydau. Bydd trenau trydan, ar ba ffurf bynnag, yn darparu profiad glanach, gwyrddach a mwy cyfforddus i deithwyr. A yw trydaneiddio’n dal i fod ar y trywydd iawn yng Nghymru, ac a gaiff ei gyflwyno yn unol â'r amserlen?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am ei diddordeb brwd mewn trafnidiaeth rheilffyrdd ledled Cymru? Nes inni gael pwerau cywerth â'r Alban, mae’r Aelod yn iawn, ni fyddem yn gallu galluogi cyrff cyhoeddus i gynnal ein gwasanaethau rheilffyrdd. Ond gallaf ddweud wrthi bod y fasnachfraint newydd—rwy’n meddwl fy mod ar gofnod cyhoeddus yn dweud bod yr elw a gafodd ei ennill yn y cyfnod cyfredol wedi bod yn ormodol, ond byddant yn cael eu capio yn y fasnachfraint nesaf, a bydd cymhellion hefyd i’r partner gweithredwr sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu gwella, o ran ansawdd ac o ran rheoleidd-dra gwasanaethau.

O ran Trafnidiaeth Cymru, sefydlwyd hwn gan Lywodraeth Cymru fel cwmni dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Nawr, er bod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn dylunio ac yn ymgymryd â'r broses gaffael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a'r metro, ar ran Llywodraeth Cymru, cyn gynted ag y caiff y fasnachfraint ei gosod, Trafnidiaeth Cymru fydd yn goruchwylio prosesau rheoli ac uno gwasanaethau, fel marchnata a thocynnau integredig, a allai, unwaith eto, gael ei ddarparu ar sail egwyddorion dielw. Ond dros amser y dyhead yw sicrhau’r pwerau angenrheidiol a fyddai'n galluogi Trafnidiaeth Cymru i ymgymryd ag ystod lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn wir yn debyg o ran natur i weithrediadau Transport for London, a'r ffordd y maen nhw’n rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ym mhrifddinas y DU.

Mae’r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud bod y fasnachfraint a fabwysiadwyd gennym yn simsan ar y gorau, ac nad yw heddiw’n addas i'r diben. Roedd yn seiliedig ar dybiaeth o ddim twf ar adeg pan oedd llawer o arbenigwyr yn rhagweld lleihau nifer y teithwyr ar wasanaethau rheilffyrdd. Mae hynny wedi profi i fod yn gwbl anghywir. Dros gyfnod y fasnachfraint nesaf rydym yn disgwyl i nifer y teithwyr gynyddu 74 y cant, ac mae'n hanfodol, fel rhan o'r broses fasnachfraint, i allu dangos sut y bydd cynigwyr yn ymdrin â'r cynnydd yn nifer y teithwyr. Ond bydd yna gymalau terfynu a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth i adolygu gweithrediad effeithiol y fasnachfraint ac a fyddai'n rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r Llywodraeth asesu llwyddiant enillydd y broses gynnig yn y pen draw.

O ran trydaneiddio, rydym wedi bod yn glir iawn bod rhaid darparu trydaneiddio mewn ffordd amserol i Gaerdydd a bod rhaid iddo ymestyn ar draws i Abertawe, fel y cytunwyd. Ydy, mae'n golygu cost sylweddol, ond y ffaith amdani yw, yn ystod y cyfnod rheoli presennol, bod Cymru wedi gwneud yn anhygoel o wael o ran y swm sydd wedi’i wario ar ardal masnachfraint Cymru Network Rail. Dim ond tuag 1 y cant o fuddsoddiad y DU sydd wedi’i wario ar y rhwydwaith yn ardal masnachfraint Cymru a’r gororau—mae hynny’n gwbl annigonol o ystyried bod y fasnachfraint oddeutu 6 y cant o rwydwaith y DU. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y broses o foderneiddio rheilffordd y de’n parhau drwodd i Abertawe. Yn wir, mae'n hanfodol ein bod yn cael ein cyfran deg o fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd, ac os nad yw hynny'n bosibl, dylid ei ddatganoli inni gyda setliad ariannu teg. Mae hefyd yn werth dweud, rwy’n meddwl, bod moderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac yn arbennig o ran, unwaith eto, trydaneiddio, yn hanfodol o ran cyflawni ein hamcanion i leihau ein hôl troed carbon. O ran yr agenda datgarboneiddio, os na all Llywodraeth y DU foderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd drwy dde Cymru i gyd, bydd hynny’n cael effaith fawr ar ein hamcanion carbon, a byddai hynny'n rhywbeth na fyddem yn fodlon ag ef o gwbl.

Mae hefyd yn hanfodol, pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu na fyddai trydaneiddio’n parhau drwodd i Abertawe, bod rhaid i’r arian, yn ein barn ni, ddal i ddod i Gymru. Ni ddylid ei wario yn rhywle heblaw Cymru. Fel y dywedais, os nad yw Llywodraeth y DU yn credu y dylent drydaneiddio’r rheilffordd honno, neu foderneiddio'r rhwydwaith cyfan, rhowch y pwerau a'r adnoddau i ni ac fe wnawn ni hynny.

Mae gan lawer o fy etholwyr ddiddordeb mawr yn natblygiad y metro a dyfarnu’r fasnachfraint newydd, ac maent wedi mynychu cryn dipyn o gyfarfodydd sydd wedi cynnwys trafod y manylebau ac ymgynghoriadau eraill a gynhaliwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Roeddent yn gobeithio gweld y ddogfen fanyleb yn gyhoeddus, ac rwy’n nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn gynharach na fyddai'n cyhoeddi'r ddogfen fanyleb, ond crynodeb o'r gofynion. Felly, maent wedi gofyn imi roi eu safbwynt, sef eu bod wir yn teimlo y dylent weld bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd, yn amlwg, nid ydynt yn disgwyl gweld dim byd sy’n sensitif yn fasnachol, ond maent yn disgwyl gweld manylebau cynnig a meini prawf clir iawn yn y parth cyhoeddus, gan ei fod o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd imi am faint fydd ar gael i’r cyhoedd. Hefyd, rwy’n meddwl mai un o’r argymhellion gan y pwyllgor busnes oedd y dylid bod disgrifiad sy’n addas ar gyfer teithwyr, gan fod hyn yn ffordd unigryw o gaffael, ac rwy'n meddwl yn ôl pob tebyg mai dyma’r tro cyntaf iddo gael ei wneud yn y DU. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn wir yn amlwg bod y ffaith ei bod yn unigryw, nad yw'n symud mewn unrhyw ffordd oddi wrth fod yn agored ac yn dryloyw—. Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i hynny.

Yna y mater arall yw fy mod wir yn croesawu'r arian ar gyfer y cerbydau newydd, y trenau newydd, a gyhoeddwyd ddoe. Nodaf fod Arriva wedi cyfrannu £1 filiwn, sydd i'w groesawu'n fawr o ystyried y ffaith y bydd proses o gynnig am y fasnachfraint yn fuan iawn. Hoffwn sicrwydd y bydd y trenau hynny’n parhau i fod ar gael i bwy bynnag sy'n ennill y fasnachfraint newydd.

A gaf i gymryd y pwynt olaf yn gyntaf? Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y cerbydau ar gael fel y bydd teithwyr, cyn gynted ag y bo modd yn y fasnachfraint newydd, yn gallu profi gwelliannau o ran ansawdd y trenau sy’n eu cludo. O ran y fanyleb, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y gofynion, pan gânt eu cyhoeddi fel dogfen gryno, mor llawn ac mor hygyrch i deithwyr ag y bo modd. Mae’r Aelod wedi cynrychioli ei hetholwyr yn gyson ag angerdd a phenderfyniad dros drafnidiaeth rheilffyrdd a metro’r de yn benodol, a byddwn yn edrych ymlaen at gyfathrebu ymhellach gyda hi yn seiliedig ar ei hymgysylltiad â’i hetholwyr. Rwy'n meddwl ei bod yn werth dweud eto bod Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi'r ymateb i'w hymgynghoriad diweddaraf heddiw, ac rwy'n meddwl y bydd hwnnw'n ddefnyddiol i dynnu sylw at y meysydd hynny sydd wedi peri’r pryder mwyaf i deithwyr ledled Cymru, ac y bydd hynny wedyn, pan gaiff y ddogfen i grynhoi’r gofynion ei chyhoeddi—eu bod yn cyd-fynd yn dda iawn. Mae dau ymgynghoriad wedi digwydd yn ystod y broses hon. Maent wedi denu nifer sylweddol o ymatebion o bob cwr o Gymru, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd gwaith yr Aelod ac eraill yn y Siambr hon o hyrwyddo pwysigrwydd y fasnachfraint nesaf a datblygiad metro’r de-ddwyrain.

Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’n croesawu'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o'r arian i ychwanegu cerbydau newydd, yn enwedig gan ein bod wedi clywed sawl gwaith yn ein hymholiadau am broblemau â phrinder cerbydau addas. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae rheilffyrdd canol y Cymoedd yn rhan hanfodol o'r jig-so a fydd yn gwneud metro’r de. Felly, a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw ymrwymiad cadarn i'r math o gerbydau ar gyfer y rheilffyrdd hyn, yn enwedig o ran a fyddant yn cynnwys opsiynau rheilffordd ysgafn? Oherwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod, ni ellir cludo nwyddau ar reilffordd ysgafn. Felly, a all roi ymrwymiad inni y bydd cludo nwyddau’n dal i fod yn rhan o'r strategaeth rheilffordd ar gyfer rheilffyrdd craidd y Cymoedd, a hefyd, wrth gwrs, ar gyfer y rheilffyrdd eraill?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, o ran rheilffyrdd craidd y Cymoedd, ei bod yn gwbl hanfodol cael gwasanaethau mor aml ag y bo modd, ac nid yn unig yn aml, ond hefyd yn ddibynadwy? Rydym yn agnostig i foddau yn ystod y broses hon, ond yr hyn yr ydym wedi ei ddweud wrth y cynigwyr yw ein bod yn disgwyl i’r drafnidiaeth a ddarperir o fewn ardal y metro fod yn gwbl integredig, a byddem yn disgwyl i ba bynnag ddatrysiadau a defnyddir fod yn ddibynadwy a bodloni’r niferoedd mwy o deithwyr sy'n cael eu rhagweld, ac y cydnabyddir gan fwyaf nawr, rwy’n meddwl, eu bod yn gywir.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. A gaf i ddechrau drwy groesawu cyhoeddiad ddoe, ynghyd â’m cydweithwyr, am y cerbydau ychwanegol i gynyddu capasiti? Fel llawer o’m cydweithwyr yma, rwy'n siŵr, roedd fy mewnflwch yn llawn o ohebiaeth gan etholwyr am gyfyngiadau ein cerbydau presennol, yn enwedig pan fyddwch yn teithio o'r gogledd i'r de neu i'r gwrthwyneb, naill ai ar drên un cerbyd neu ar drên dau gerbyd gorlawn. Rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn gyfarwydd â'r profiad hwnnw. Yn wir, yn eich datganiad heddiw rydych yn sôn am well gwasanaethau rhwng y gogledd a’r de i’r ddau gyfeiriad yn y bore a gyda'r nos, ac am gerbydau o well ansawdd fel rhan o hynny, ac am sut y bydd yr ymarfer caffael yn chwilio am wasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol, ac yn edrych ar welliannau sy'n cynnwys pethau fel ei wneud yn deithio modern mewn gwirionedd—felly, darparu pwyntiau gwefru. Er ei bod yn wych gweld y Wi-Fi ar lawer o drenau Arriva, ac mae wedi chwyldroi fy mhrofiad ar y trên, rwy’n meddwl y byddai’n eithaf braf pe gallech blygio i mewn eich iPad, gan fod Wi-Fi nawr ar gael iddo, a’i wefru tra ar y daith. Rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n cael ei gyflwyno ar yr holl gerbydau yn y dyfodol.

Er bod gwelliannau rhwng y gogledd a'r de yn allweddol, rwy’n meddwl, fel y byddwch yn ei wybod, bod cysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin ac i'r gwrthwyneb yn hanfodol i economi gogledd-ddwyrain Cymru. Roeddwn yn falch o weld y gwaith yn dechrau o'r diwedd ar dro Halton yr wythnos yma. Tybed a allech ymhelaethu ar yr hyn a ddywedwch yn eich datganiad am y cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ond hefyd, yn wir, pa waith y mae Trafnidiaeth Cymru wedi ei wneud ac yn mynd i’w wneud o ran gweithio gyda’r gweithredwyr hynny dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr, fel Merseytravel, i wneud yn siŵr bod gennym wasanaeth gwirioneddol gydgysylltiedig ar draws y ffin yn y gogledd.

Dim ond un peth olaf. Rydych yn dweud yn y datganiad

‘Bydd metro’r gogledd-ddwyrain yn rhan o raglen ehangach o foderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd sy'n cydnabod y cyfleoedd i sicrhau twf economaidd a lles y gellir eu gwireddu â gwell cysylltedd ar gyfer pob math o drafnidiaeth yn y rhanbarth ac ar draws ffiniau.’

Mae hynny’n gwbl allweddol i etholaeth fel fy un i, lle dim ond un orsaf prif linell sydd ar hyn o bryd, felly mae cynnwys bysiau, a gwneud hynny’n gydgysylltiedig, wir yn hanfodol. Hefyd, er fy mod yn croesawu cyhoeddi gorsafoedd ychwanegol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a fydd yn allweddol i fy etholwyr yn y gorllewin i gyrraedd y gwaith—rwy’n gwybod ein bod wedi gwneud y cyhoeddiadau hynny’n ddiweddar, ond, efallai, yn y dyfodol y gellid rhoi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o orsafoedd ychwanegol ar y rheilffordd honno, efallai yn Greenfield, a fyddai nid yn unig yn cysylltu pobl sy'n mynd i weithio o orllewin Sir y Fflint i'r dwyrain, ond hefyd yn fodd i gysylltu â'r bysiau i, efallai, adfywio tref Treffynnon, a gallai hefyd ddarparu cysylltiadau da â dociau Mostyn, lle yr wyf yn teimlo ei fod yn ymgorffori’r cysylltiad rhwng egni gorllewin gogledd Cymru a gweithgynhyrchu uwch y dwyrain.

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau, yn benodol am y pwynt pwysig a gododd am gydweithio traws-ffiniol o ran teithio ar y trên. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r prosbectws Trac Twf 360, sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan y tasglu rheilffyrdd trawsffiniol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymru yn ogystal ag o ardal partneriaeth menter lleol Swydd Gaer a Warrington a Glannau Mersi. Rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol, wrth ddatblygu cynnig cytundeb twf i ogledd Cymru, ac, yn yr un modd, cytundebau twf ar ochr Lloegr, bod uchelgeisiau prosbectws y Trac Twf 360 yn cael eu cynnwys yn y gofynion a wneir i Lywodraeth y DU yn arbennig i sicrhau bod y gwelliannau i'r seilwaith ar ochr Lloegr i'r ffin yn cyd-fynd yn dda â gwelliannau ar ochr Cymru i'r ffin hefyd.

Rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig, wrth inni ddatblygu'r weledigaeth ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain, ein bod yn ystyried y cymunedau hynny nad ydynt ar hyn o bryd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith rheilffyrdd na’r rhwydwaith bysiau. Mae'r Aelod yn sôn am ddwy gymuned benodol: un yw Mostyn, lle ceir porthladd sy'n tyfu ac yn ehangu, a’r llall yw Greenfield, cymuned hanesyddol sy'n gartref i nifer sylweddol o bobl. Byddai'r ddwy mewn sefyllfa well â system metro integredig lle mae gwasanaethau bysiau dibynadwy a mynych yn gweithio gyda gwasanaethau rheilffyrdd sydd, unwaith eto, yn fwy mynych ar draws prif reilffordd y gogledd.

Mae’r Aelod hefyd yn iawn pan ddywed bod rhaid i ansawdd profiad y teithwyr fod yn ddigon da i annog mwy o bobl i deithio’n fwy rheolaidd ar y trên yn hytrach na bod yn ataliad—mae hynny hefyd yn wir am wasanaethau bysiau. Rydym wedi gweld buddsoddiad da mewn bysiau yn ddiweddar. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi Trenau Arriva Cymru yn y cyhoeddiad ddoe, ond rydym yn credu, yn y fasnachfraint nesaf, na ddylai disgwyliadau teithwyr o fasnachfraint Cymru a'r gororau fod yn ddim llai na’r disgwyliadau a fyddai gennych yn unman arall yng ngorllewin Ewrop. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r cynigwyr fod mor uchelgeisiol ag sy'n bosibl o ran sicrhau bod y cerbydau o'r safon uchaf ac yn cynnig yr holl dechnoleg fodern a chysuron i deithwyr.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe am ddefnydd arian o’r pwrs cyhoeddus i helpu i sicrhau cerbydau trên newydd i gledrau Cymru, sut fedrwn ni fagu unrhyw hyder y gall Llywodraeth Cymru gaffael masnachfraint gwerth chweil i Gymru tra bod y trenau newydd hyn a gyhoeddwyd ddoe mewn gwirionedd yn cyfateb i ychwanegiad o ychydig o drenau ail-law o’r 1980au, ac felly ond yn ychwanegiad i’r stoc reilffordd anaddas o’r oes o’r blaen sy’n bla yng Nghymru nawr? Mae gennym ni staff iau na’r rhain.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn. Ond rwy'n meddwl bod y sail ychydig yn anghywir. Y rheswm pam yr ydym wedi ymyrryd i gefnogi'r rhwydwaith rheilffyrdd ar hyn o bryd yw oherwydd y tanariannu hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd, a hefyd oherwydd bod y cytundeb masnachfraint a ffurfiwyd dros ddegawd yn ôl wedi’i lunio mor wael. Caiff y fasnachfraint newydd ei chynllunio i ymdrin â’r niferoedd teithwyr sy’n cynyddu—rydym yn disgwyl iddynt gynyddu dros 70 y cant—ac yna, o ganlyniad, rydym yn disgwyl gweld mwy o drenau'n gweithredu ac rydym yn disgwyl gweld trenau o ansawdd gwell yn cael eu defnyddio cyn gynted â phosibl yn y fasnachfraint nesaf. Rydym wedi ymyrryd o ddyletswydd i deithwyr a ddylai gael eu rhoi’n gyntaf gan y gweithredwr nesaf a gan y gweithredwr hwn, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu budd teithwyr dros elw a sicrhau bod y profiad o deithio ar drenau Cymru’n cael ei wella.

Mae gen i nifer o siaradwyr sydd am gael eu galw, felly os gall unigolion gyrraedd eu cwestiynau, efallai y gallaf gwblhau’r rhestr, ac os gall Gweinidogion fod yn gryno hefyd. Jenny Rathbone.

Diolch, Llywydd dros dro. Tri phwynt. Un: rwy'n falch iawn o weld eich bod yn mynd i roi targedau lleihau carbon yn eich proses gaffael. Mae hynny’n cyd-fynd â chynyddu cefnogaeth i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, y sonnir amdano yn yr arolwg WWF a gyhoeddwyd heddiw, 'Neges mewn Potel'. Mae hynny'n golygu bod angen gwneud pethau’n haws i bobl i allu cwblhau eu teithiau ar y metro. Felly, hoffwn wneud ple am orsafoedd yng Nghaerdydd fel rhan o'r metro, felly os ydych am ail-leoli eich busnes i Bontypridd, does dim rhaid ichi fynd yn ôl i mewn i Gaerdydd Canolog neu Heol y Frenhines er mwyn mynd i Bontypridd; gallwch fynd o ble bynnag rydych chi'n byw. Ac, fel y dywedodd Julie Morgan, dydy’r cyhoedd ddim wedi cael llawer iawn o gyfleoedd i ymgysylltu, ond rwy’n meddwl bod hynny’n un o'r pethau sy'n cael ei fynegi’n gwbl glir gan fy etholwyr—bod rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bobl lle maent yn byw ac yn sicrhau bod dewisiadau eraill ar gael yn hytrach na theithio mewn car modur.

Yr ail bwynt sy’n fy nrysu i ychydig—. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod wedi prynu’r cerbydau newydd hyn a gyhoeddwyd ddoe, ond roeddwn yn meddwl tybed pwy sy'n berchen ar y trenau hyn, oherwydd roeddwn yn meddwl mai holl bwrpas y masnachfreintiau oedd mai nhw oedd yn gwneud y buddsoddiad. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth y DU wedi gwneud smonach llwyr wrth benderfynu na fyddai yna ddim twf yng Nghymru, sydd braidd yn nodweddiadol o’u hagwedd tuag at Gymru, a'r diffyg buddsoddiad anffodus yr ydym wedi’i gael—felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny ychydig.

Rwy'n meddwl mai’r peth arall sy'n fy mhryderu yw'r diffyg cynnydd parhaus ar ddatganoli pwerau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i allu caffael y fasnachfraint rheilffyrdd a'r metro. Rwyf ar ddeall o adroddiad y pwyllgor economi bod ansicrwydd hyd yn oed dros y £125 miliwn hwn y mae Llywodraeth y DU, yn ôl y sôn, yn ei addo. A ydynt yn dal i fynnu ein bod yn mynd drwy boen trydaneiddio llawn a ninnau wedi gweld yn union pa mor hir y mae wedi’i gymryd ar reilffordd Llundain i Gaerdydd? Mae llawer o ffyrdd eraill y gallem wneud hyn sy’n cyd-fynd yn llawer gwell â thechnolegau modern, gan gynnwys batri a gan gynnwys pŵer hydrogen. Nid oes angen inni drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawn er mwyn cyflawni'r hyn yr ydym am ei gyflawni. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r diffyg buddsoddiad hirsefydlog yn y system reilffyrdd yng Nghymru bod adeilad, yn anffodus, wedi cwympo ar y llinell y prynhawn yma, a bod rheilffordd Caerdydd i Gasnewydd wedi’i chau’n llwyr. Gwelais yr adeilad hwn wrth imi fynd heibio ddoe ac roeddwn yn meddwl ei fod yn edrych ychydig yn amheus, ond rwy'n falch na wnaeth gwympo wrth imi fynd heibio. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, a’r siom nad ydym yn mynd i gael dim symiau canlyniadol Barnett o’r cyhoeddiad HS2.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Gwnaf geisio bod mor gryno â phosibl, ond mae'r Aelod yn llygad ei lle i ddweud bod rhaid bod targedau lleihau carbon yn ymestyn, a bydd hynny’n digwydd drwy gydol y fasnachfraint. Mae'n hanfodol bod y metro yn galluogi, fel yr amlinellodd yr Aelod, cymunedau i fod yn fwy cysylltiedig fel y gall pobl deithio mor gyflym a di-dor â phosibl rhwng eu cartrefi, eu mannau gwaith a gwasanaethau. Mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau’n ddeniadol ac yn gyfleus am yr un rhesymau ag a roddais i Aelodau eraill.

Rydym yn gwneud cynnydd da, o ran yr ymarfer caffael, wrth ymwneud â'r Adran Drafnidiaeth, yn enwedig yn y tri maes allweddol hynny sydd wedi peri pryder i swyddogion: amser, yn bennaf oll, gan gynnwys trosglwyddo asedau rheilffyrdd craidd y Cymoedd; cyllid priodol; a’r Gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau, y cytundeb asiantaeth. Maent i gyd yn gwneud cynnydd da, gan gynnwys y cwestiwn o ariannu a'r £125 miliwn yr ydym wedi cael sicrwydd y bydd ar gael ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd. O ran yr opsiynau, soniodd yr Aelod am ddau ddatrysiad arloesol fel dewisiadau amgen yn lle rheilffyrdd confensiynol—un oedd hydrogen a'r llall oedd batri—mae’r cynigwyr yn cael eu hannog i ddatblygu opsiynau sy'n arloesol ac sy’n gweddu i anghenion teithwyr yn anad dim arall. Unwaith eto, o ran y cerbydau, byddant ar gael ar ddechrau'r fasnachfraint nesaf. Mae'n gwbl hanfodol bod gan deithwyr ffydd yn y gweithredwr masnachfraint newydd ac, felly, bydd yn bwysig defnyddio cerbydau newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r fasnachfraint gael ei dyfarnu a dechrau gweithredu.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sylwadau a wnaethoch am wasanaethau dydd Sul. Mae hwn yn fater pwysig iawn i fy etholwyr, sydd ar hyn o bryd yn wynebu gwasanaethau dim ond unwaith bob dwy awr ar y cyswllt rheilffordd drwodd i Aberdâr. Byddwn yn croesawu unrhyw fanylion pellach y gallech eu rhoi am ddarparu gwasanaethau dydd Sul. Nid ydym yn byw yn yr 1870au yng Nghymru mwyach, lle’r oedd pobl yn mynd i'r capel ar fore Sul, ac yna roedd gweddill y dydd yn ddiwrnod o orffwys. Rwy’n ymdrin â gwaith achos gan etholwyr sy'n methu â manteisio ar gyfleoedd gwaith ar hyn o bryd oherwydd y diffyg gwasanaethau rheilffyrdd ar y Sul.

Yn ogystal â hynny, hoffwn ddweud, drwy edrych ar gaffael y metro drwy lens y fasnachfraint rheilffyrdd yn unig, rwy’n meddwl weithiau ein bod yn colli'r cyfle i drafod pwysigrwydd y ddarpariaeth bysiau’n iawn. Felly, byddwn yn croesawu rhagor o fanylion am hynny hefyd. Yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar godi safonau byw ein cymunedau yn y Cymoedd, yr ardaloedd hynny sydd bellaf o'r farchnad swyddi â’r lefelau uchaf o dlodi fel arfer yw’r ardaloedd hynny sydd bellaf yn ddaearyddol o'r rhwydwaith rheilffyrdd eu hunain. Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd darpariaeth bysiau’r metro yno.

Unwaith eto, dim ond i orffen, os caf gysylltu â’r hyn a ddywedais yn gynharach am wasanaethau dydd Sul, mae llawer iawn o gymunedau yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr ledled Cymoedd y de, lle nad oes dim gwasanaethau bws ar ddydd Sul. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol o ran trenau a bysiau ein bod yn ceisio sicrhau’r agwedd honno ar wasanaethau Sul. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau, nid yn unig heddiw, ond y cwestiynau y mae hi wedi eu gofyn droeon wrth inni geisio datblygu cytundeb masnachfraint sy'n fwy addas i anghenion ei hetholwyr hi a phobl ledled Cymru. Mae’r Aelod yn llygad ei lle: mae natur gwaith a'r ffordd o fyw wedi newid yng Nghymru a ledled y byd yn y degawdau diwethaf, i'r fath raddau nes y dylem nawr ddisgwyl bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar ddiwrnodau’r penwythnos yn llawer, llawer gwell nag yr oeddent yn yr 1980au a'r 1990au ac yn rhai rhannau o'r byd hyd yn oed heddiw. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd gwell gwasanaethau ar y Sul, nid yn unig o ran gwasanaethau rheilffyrdd o dan y fasnachfraint newydd, ond hefyd gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud ochr yn ochr â hynny i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

Bydd yr Aelod yn gwybod y bu ymgynghoriad diweddar lle amlinellwyd nifer o argymhellion. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn iach. Rydym bellach yn gweithio drwy’r ymatebion hynny. Yn fy marn i, nid yw gwasanaethau bws, ers dadreoleiddio, wedi gwasanaethu’r diben o sicrhau y gall pobl fynd yn ôl ac ymlaen i wasanaethau ac i’r gwaith, yn gyflym ac yn llyfn, y tu hwnt i gymhellion elw gweithredwyr. Rydym yn gweld tua 100 miliwn o deithiau teithwyr yn digwydd ar fysiau bob blwyddyn, ac eto rydym ni, fel gwasanaeth cyhoeddus cyfunol—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol—yn gwario dros £200 miliwn ar wasanaethau bws lleol bob blwyddyn. Felly, mae'n amlwg y dylem ddisgwyl gwell darpariaeth bysiau ledled Cymru a darpariaeth sy'n fwy cydnaws ag anghenion teithwyr.

O ran gallu pobl i fynd i’r gwaith ac yn ôl, mae'n ffaith eithaf rhyfeddol, yn ardal Trac Twf 360 o Brydain, bod tua chwarter o'r holl bobl sy’n cael cyfweliad am swydd yn gwrthod mynd ar y sail syml na allant gael trafnidiaeth i gyrraedd eu cyfweliad am swydd. Dyna ystadegyn brawychus. Gall teithio ar fws fod yn un o'r galluogwyr mwyaf o ran symud pobl allan o ddiweithdra ac i'r gweithle, sydd, yn ei dro, yn un o'r prif ddulliau o ddileu tlodi.

Diolch, Gadeirydd. Rwy'n siŵr yr hoffai’r Siambr gyfan gydnabod yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd gyda chwymp yr adeilad yn Sblot a chau’r llinell o Gaerdydd i Gasnewydd, ac anfon dymuniadau gorau i'r gwasanaethau brys a'r unigolyn a anafwyd.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod y pwyllgor economi, yn eu hymchwiliad, wedi gofyn—. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU yn 2011 am fwy o gerbydau diesel a’r ateb a ddaeth yn blwmp ac yn blaen oedd na allent eu cael oherwydd trydaneiddio’r rheilffyrdd, sydd wedi ein harwain yn rhannol at y broblem hon heddiw. Felly, cymerodd Llywodraeth Cymru gamau amserol.

Ond, hoffwn roi mwy o sylw i ddau gwestiwn a ofynnodd Russell George a gofyn am ychydig bach mwy o fanylion. Mae'r cerbydau ychwanegol yn bump gwaith pedwar, sy'n cael ei hysbysebu fel 20 o drenau ychwanegol. Sut y gallant rannu, ac a ellir eu rhannu mewn ffordd a fydd yn sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl? Ynteu a oes rhaid eu defnyddio mewn blociau o bedwar? Mae rheilffordd Rhymni i Gaerdydd yn daer eisiau trenau ychwanegol ar adegau prysur, a byddai dim ond dau o'r trenau hynny, er enghraifft, yn ddefnyddiol ar y rheilffyrdd hynny, ond byddai rhagor o wybodaeth am sut y gallant rannu yn ddefnyddiol iawn. Yn ei ddatganiad dywedodd y bydd y cerbydau newydd yn caniatáu datblygu cerbydau presennol ar gyfer pobl sydd ddim yn symud cystal. A all roi rhagor o wybodaeth inni am sut yn union y caniateir hynny?

Gallaf, wrth gwrs. Fe wnaf edrych ar sut yn union y gellir ffurfweddu’r cerbydau. Maent yn cael eu cyflwyno fel pum trên pedwar cerbyd, ond fy nealltwriaeth i yw bod modd eu hisrannu a’u hymestyn neu eu byrhau fel y bo'n briodol, ond holaf am hynny ac ysgrifennaf at yr Aelodau. O ran sut y gellir eu defnyddio wedyn i sicrhau bod cerbydau eraill yn cydymffurfio, wel, yn y bôn, gallant gymryd lle—. Gellir cymryd rhai cerbydau oddi ar y rheilffordd i wneud gwaith arnynt i sicrhau eu bod yn cydymffurfio o ran symudedd. Felly, nid unig ddiben y cerbydau ychwanegol fydd gwasanaethu’r diben o gynyddu capasiti lle mae capasiti wedi’i ymestyn ar hyn o bryd; byddant hefyd yn cael eu defnyddio i gymryd lle’r cerbydau sy'n cael eu cymryd oddi ar y rheilffordd er mwyn i’r gwaith gael ei wneud.

7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Symudwn ymlaen yn awr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud datganiad. Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 16:23:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Ar ddiwedd mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol. Roedd hwn yn nodi cynigion i sicrhau cadernid ac adnewyddiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys trefniadau ar gyfer gweithio’n rhanbarthol a rhoi mwy o rôl i gynghorau a chynghorwyr. Heddiw, fe gyhoeddais adroddiad yn crynhoi bron i 170 o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a gosodais y trywydd ar gyfer diwygio llywodraeth leol.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a fu’n craffu ar y cynigion diwygio. Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ystyriodd nifer o faterion yn ymwneud ag agweddau ar y Papur Gwyn a rhoi eu barn.

Dirprwy Lywydd dros dro, there are three main threads to our proposals on which I aim to update Members today. Firstly, there is the reform of our town and community councils. Town and community councils are an integral part of local government. Geographically, they are closest to people and communities and can be uniquely placed to see and provide a range of services that can have a significant impact on the well-being of their communities. The White Paper described practical reforms we are taking now to strengthen the role of town and community councils and to improve their operation and governance, enabling them to take on a wider provision of a wider group of services and assets.

However, if the potential of town and community councils is to be more widely realised, we need a root-and-branch review of the sector. That review is now under way. In broad terms, it will explore the potential part to be played by local government below principal council level. It will define the most effective model and structure to deliver this contribution effectively and it will consider how this can be applied across Wales. I expect the review to reach out to all relevant stakeholders and for it to be completed in a year. I’m very grateful to Gwenda Thomas and to Rhodri Glyn Thomas for agreeing to co-chair the review. They bring a wealth of experience of government at all levels in Wales and a particular grasp of the issues at stake in strengthening and reinvigorating this most local tier of democracy in Wales.

Chair, earlier today, I issued a written statement on a series of proposals for reform to the local government electoral system, and this has now been formally launched for consultation. Proposals include extending the franchise, the registration of voters, the electoral process, as well as proposals about who can stand as a candidate and who can act as a returning officer. The purpose of reforming the electoral system is to make it easier for people to vote and to extend the entitlement to vote. The proposals include extending the franchise to 16 and 17-year-olds and to all those who live, work and study in Wales. It explores options to make it easier for people to vote, such as all-postal voting, electronic voting and voting at places other than polling stations, such as supermarkets, libraries, leisure centres and bus and railway stations.

The consultation paper also proposes that individual councils should have the option to choose their system of election between the first past the post and the single transferable vote methods. Responding to clear views during the White Paper consultation, I now propose that this would require a two-thirds majority vote of a council’s membership, in line with the threshold for such a change to the National Assembly’s own electoral system.

Following consultation, Chair, I will seek to make legislative changes through a local government Bill. It is important for me to emphasise that any changes would apply to local government elections only. The National Assembly is considering reforms in respect of its own elections separately to this consultation, which the Llywydd herself is leading.

Chair, the third element in my statement today focuses on the reform of our principal councils, including a new approach to systematic and mandatory regional working to ensure that they are resilient, both financially and in terms of the services they provide. I intend to proceed with proposals that would see regional working becoming, over time, the norm in many areas of local government activity. This will build on the city and growth deals and will require economic development, strategic transport and strategic land-use planning to be undertaken on these footprints. These arrangements will operate under the direction of a joint governance committee for the area, comprising elected members of the constituent local authorities. Sufficient flexibility will allow the Swansea city bay region and Growing Mid Wales areas to operate with distinctive identities, but with a requirement for them to come together to consider the coherence of their plans across the south-west region as a whole.

For other services, mandated regional working, such as on education improvement, will be for regional joint governance committees to determine and to decide upon the most suitable collaborative footprint, within a statutory framework. There will also be scope for authorities to work across regions, for example, in developing the linguistic economic strategy for west Wales, as recommended by the report of the task and finish group on the Welsh language and local government.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Chair, as set out in the reforming local government White Paper, there is a need to give clarity and simplicity to the partnership arrangements for Bridgend County Borough Council in particular. Together with ministerial colleagues, discussions have taken place with the council and with local health boards. As a result, and in order to focus discussions over the summer, we propose that the Cwm Taf Local Health Board boundary should be adjusted to include the Bridgend local authority area. Working with our partners in local government and health boards, the Government will discuss that proposition and develop a formal consultation document, which will be the subject of a further statement in the autumn.

Llywydd, knitting together our reform proposals will be a new set of relationships between the Welsh Government and local government, based on mutual respect, and a new relationship between local authorities and their citizens, which recognises people as valuable assets and which enables them to co-design the future of their services and their communities.

As announced by the First Minister in the legislative programme statement on 27 June, a local government Bill is to be introduced into the Assembly during 2018 to give effect to these reform proposals and bring forward other supporting provisions. In order to maximise the opportunity to continue the dialogue and discussions with local government and other partners, I intend that the Bill will be introduced towards the end of the second year of the legislative programme.

Llywydd, ymdrech ar y cyd yw diwygio llywodraeth leol. Bydd y mesurau rwyf wedi eu hamlinellu heddiw yn rhoi amrywiaeth o ddulliau a system a fydd yn galluogi llywodraeth leol i feithrin cadernid a bod yn fwy effeithiol drwy weithio’n well a gweithredu’n fwy hyblyg fel awdurdodau unigol. Rwy’n edrych ymlaen nawr at glywed barn yr Aelodau.

Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gwybod ein bod wedi cyfarfod ac wedi cael sgyrsiau am ddatblygu’r cynigion hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n sicr yn gefnogol iawn i lawer–. Ceir llawer o uchelgais yma, ac, wrth gwrs, mae uchelgais a deddfwriaeth a chyflawni yn golygu adnoddau, ac rwy’n ofni na fydd digon o adnoddau gennych chi, ond nid wyf yn credu y byddai neb mewn gwirionedd yn dilorni’r weledigaeth yr ydych chi’n ceisio ei gwireddu. Yn amlwg, byddaf yn dechrau–. Edrychaf ar bob elfen yn ei thro a dweud y gwir.

Mae angen dybryd i ddiwygio cynghorau tref a chymuned. Dyma haen o ddemocratiaeth sy’n gost i’n trethdalwr ac fe ddylai fod yn dryloyw ac yn atebol, ac fe ddylai fod modd gwireddu’r amcanion mewn gwirionedd. Ond, yn anffodus, ar sawl achlysur, rwyf wedi derbyn cwynion a phryderon gan drigolion ynghylch didwylledd ac eglurder ar yr haen honno o lywodraeth, ac rwy’n ymwybodol bod yr aelodau ar y bwrdd, wrth gwrs, yn gyn Aelodau Cynulliad: Gwenda Thomas, Rhodri Glyn Thomas, ac, wrth gwrs, mae gennym ni William Graham. Felly, dyma dri pherson y mae gen i bob ffydd ynddyn nhw, wrth symud ymlaen.

Mae seddi diwrthwynebiad yn broblem nid yn unig ar gynghorau tref ond hefyd mewn prif awdurdodau. Yn yr etholiadau lleol diwethaf cafodd 92 ymgeisydd awdurdod—ymgeiswyr prif awdurdod—sedd heb gystadleuaeth, ac rwy’n gwybod bod hyn wedi ei grybwyll sawl gwaith yn Aberconwy, sef pam roedd pobl yn mynd i bleidleisio ac nad oeddent yn ymwybodol nad oedd unrhyw etholiad yn digwydd, oherwydd bod rhywun wedi hawlio’r sedd ar y cyngor yn ddi-wrthwynebiad. Felly, mae a wnelo eich prif nod cyffredinol â hygyrchedd, â chaniatáu gwell cyfle i bobl bleidleisio, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni gofio bod angen ymgeiswyr ar bobl y gallan nhw bleidleisio drostynt, felly mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni weithio arno o bosib, wrth symud ymlaen.

Mae'r ymgynghoriad ynghylch y posibilrwydd o ddiwygio system etholiadol llywodraeth leol yn ddiddorol, ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â bod yn agored ac ennyn diddordeb pobl, gwneud pethau’n fwy hwylus i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Pwy allai ddadlau â hynny?

Rwy’n cefnogi nifer o'r cynigion a amlinellwyd. Mae angen i ni fod yn fwy hyblyg er mwyn galluogi gweithwyr mewn cynghorau i sefyll etholiad fel cynghorwyr. Fe wn i am sefyllfa—ac rwyf wedi codi'r mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—lle roedd rhywun ar gytundeb o bedair awr yr wythnos ac na châi sefyll i fod yn ymgeisydd ar gyfer y cyngor. Yn amlwg, ni fyddai achos o wrthdaro buddiannau heblaw ar ôl person i’r hwnnw gael ei ethol, petai yn cael ei ethol, felly mae angen i ni edrych ar hynny.

Mae angen i ni symleiddio pleidleisio drwy'r post. Rwy'n siŵr bod Aelodau eraill—hyd yn oed gydag etholiadau’r Cynulliad neu Seneddol, mae’r system bleidleisio trwy'r post, yn ôl pob tebyg ar draws y DU, ond rwy’n gwybod ei fod yn wir yng Nghymru, yn ddryslyd iawn ar gyfer yr henoed, pan eu bod yn gorfod rhoi pethau mewn gwahanol amlenni, ac yna, wyddoch chi, eu llofnodion ac ati. Rwyf wedi gweld cymaint o bapurau pleidleisio wedi eu difetha, pan fo pobl yn meddwl eu bod wedi pleidleisio yn gywir. Felly, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—a ydych chi’n bwriadu rhoi mwy o gig ar yr asgwrn ynglŷn â hyn.

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn elfen arall. Mae'n ffordd o alluogi rhywun i bleidleisio pan nad yw’n bresennol ar y diwrnod hwnnw mewn gwirionedd. Rwy’n gwybod bod eich cynlluniau ar gyfer pleidleisio electronig a chael un gofrestr etholiadol yn syniad da, ond serch hynny mae mecanwaith yn bod ar hyn o bryd o’r enw pleidleisio drwy ddirprwy, ac rwy’n gwybod pryd bynnag yr wyf i wedi sôn wrth bobl, nid ynghylch pleidleisio drwy'r post, ond am bleidleisio drwy ddirprwy, maen nhw wedi edrych arnaf gydag elfen o anghrediniaeth, heb ddeall beth yw pleidleisio drwy ddirprwy. Nid wyf yn sicr ai’r gair 'procsi' yw'r ffordd orau i'w ddisgrifio mewn gwirionedd. Felly, pe gallech chi ystyried symleiddio'r broses honno, mae'n ddull arall o’i gwneud yn haws i bobl bleidleisio os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

Nodaf eich cynnig i awdurdodau gael dewis rhwng systemau etholiadol—y cyntaf i’r felin neu bleidlais sengl drosglwyddadwy. Meddwl oeddwn i tybed a fyddai rhywfaint o ddryswch rhwng gwahanol awdurdodau. Ydych chi mewn gwirionedd yn ystyried cyflwyno hyn ar sail awdurdod lleol, yn unigol? Neu a yw hyn yn mynd i fod yn unffurf ledled Cymru?

Gan symud ymlaen at y mater o feiri wedi eu hethol yn uniongyrchol, rwyf eisoes wedi datgan yn glir fy mod i o blaid hyn, o ran awdurdod lleol—nid yn rhanbarthol—. Yn Lloegr, mae gofyniad o 10 y cant ar gyfer refferendwm. Nac oes, fel arall y mae hi: 5 y cant yn Lloegr, 10 y cant yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl, unwaith eto, tybed a oes modd efallai inni ystyried gostwng y trothwy hwnnw er mwyn i awdurdodau lleol—neu bobl, y gymuned o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, y gallan nhw mewn gwirionedd efallai fynd allan a—.Mae'n ffigur gwell i’w ddewis, onid yw, 5 y cant?

Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi o'r blaen—mae cynghorau ar draws y ffin yn talu cyflogau sydd ar gyfartaledd tua hanner yr hyn a delir yng Nghymru, ac mae cynghorwyr yn cynrychioli mwy na dwywaith y nifer o etholwyr. Dyma enghraifft: Yn Lloegr, cyfartaledd o £6,893, ac maen nhw’n cynrychioli 8,959. Yng Nghymru, gallan nhw fod ar £13,300 a’u cyfartaledd yw 3,300. Felly, mae angen i ni edrych mewn gwirionedd ar gynnig gwerth i’n hetholwyr a’n pleidleiswyr, ac mae yna gydbwysedd yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Nawr, diwygio'r prif gynghorau—yn sicr, rwy’n cytuno ac yn croesawu cydweithio ar swyddogaethau cefn swyddfa. Mae yna lawer o arfer da, ac fe wnes i ddarganfod hynny fy hun mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf. Mae pum cyngor dosbarth yng Ngwlad yr Haf yn rhannu canolfan alwwadau ganolog ar gyfer ymholiadau a thaliadau. Nawr, os gellir gwneud hynny dros y ffin, gellir ei wneud yma. Ond, wrth gwrs, oherwydd bod y portffolio hwn wedi bod gennyf ers peth amser, rwy'n ymwybodol o'r holl ganllawiau a phopeth sy'n ymwneud â'r agenda cydweithio, ac roedd honno’n rhaglen a fethodd i Lywodraeth Cymru. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa ddulliau—y ffon, y foronen, neu ychydig o'r ddau—yr ydych chi am eu defnyddio a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau y ceir gwell cydweithio. Nid wyf yn ei gweld hi’n ymarferol ein bod ni’n mynd i barhau â 22 prif weithredwr, 22 pennaeth cyllid, 22 pennaeth gwasanaethau cymdeithasol. Rwy'n croesawu cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, a cheir model yma yr ydych chi wedi ei grybwyll yn eich datganiad, ac y dylid ei gyflwyno, rwy’n credu, ledled Cymru.

Soniasoch am hyblygrwydd o dan y tri phrif gyd- bwyllgor llywodraethu rhanbarthol. Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru, er enghraifft, wedi ei ddisgrifio yn aml fel un sy’n anhylaw a rhy fawr. Mae gennym ni fwrdd iechyd yno nawr sydd mewn mesurau arbennig. Felly, os ydych chi’n bwriadu modelu llywodraeth leol ar y sail honno, yna mae mwy o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddoch chi bod gennych chi fy nghefnogaeth i a fy ngrŵp ar gyfer llawer o hyn, wrth symud ymlaen. Byddwn yn chwilio am y glo mân, a byddwn yn craffu ac yn herio pan fyddwn ni’n teimlo y gallai fod yn or-feichus ac yn ddryslyd i'r etholwyr, ac yn fwy costus. Diolch.

Diolch i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma, ond hefyd am ei pharodrwydd i gymryd rhan mewn deialog reolaidd ynglŷn â rhai o'r cynigion hyn ac am y syniadau adeiladol y mae eisoes wedi eu cyfrannu at y ddeialog honno. Rwy’n gobeithio y bydd hi'n gweld bod rhai o'r pethau yr ydym ni yn eu cynnig ynglŷn â chynghorau tref a chymuned yn adlewyrchiad o ran o'i phrofiad uniongyrchol ei hun, ac roeddwn i eisiau diolch iddi yn arbennig am ei chymorth wrth sicrhau gwasanaethau William Graham yn rhan o’r tîm adolygu. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â hi bod seddau diwrthwynebiad yn bethau yr hoffem ni weld eu dileu yn ein democratiaeth, o ran y prif gynghorau, ond mae'n nodwedd arbennig o gynghorau tref a chymuned. Ac mae’r rhai sy'n gweithredu yn y maes hwnnw, ac rwy’n credu eu bod yn aml yn gwneud gwaith da iawn, maen nhw eu hunain yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod hwn yn fan gwan pan ein bod ni’n cyfeirio ato fel haen ddemocrataidd, pan fod cyn lleied o ddemocratiaeth yn aml yn y ffordd y mae pobl yn y pen draw yn dod yn gynghorwyr tref a chymuned.

Diolchaf i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd am y cynigion ynglŷn â’r system etholiadol. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni yng Nghymru. Bydd y rhain yn bwerau newydd y byddwn ni’n eu hetifeddu. Mae'r papur ymgynghori yn gymysgedd o nifer fach o gynigion lle’r ydym ni’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn eithaf ymrwymedig i ddatblygu syniadau, megis ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, ac yna ystod llawer ehangach o syniadau lle mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed beth sydd gan bobl i'w ddweud. Tynnodd y siaradwr sylw at y cwestiwn yr ydym ni’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad ynghylch pa un a ydym ni’n tynnu llinell yn y lle iawn rhwng pobl sy'n gweithio i gyngor ac yn cael sefyll i fod ar y cyngor. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth fod, ar un pegwn, prif staff uwch mewn swyddi gwleidyddol-gyfyngedig; ni ddylent gael yr hawl i sefyll etholiad. Ond, ar hyn o bryd, rydym ni’n gwahardd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, rhywun sy'n gweithio nifer fach iawn o oriau rhag sefyll mewn etholiad. Mae’r gwaharddiad hwnnw yn disgyn yn anghymesur ar fenywod, ac rydym ni’n gofyn y cwestiwn ynghylch pa un a allem ni dynnu’r llinell mewn lle gwahanol.

Byddai cofrestr electronig ar gyfer Cymru gyfan yn golygu y byddai llai o angen i bleidleisio drwy ddirprwy, ond ni fyddai'n cael gwared arno, oherwydd, petai pobl ar wyliau yn Lloegr neu’n cael eu galw i ffwrdd i weithio yn Lloegr, er enghraifft, byddech yn dal i fod angen pleidleisio drwy ddirprwy. Byddwn yn edrych ar y pwynt mae hi’n ei wneud am y derminoleg sydd o bosib yn ddryslyd.

Mae ein cynigion ar Gynrychiolaeth Gyfrannol ganiataol mewn llywodraeth leol yn union hynny; byddai'n ddewis i awdurdodau lleol ei wneud eu hunain. O ran y trothwy ar gyfer refferendwm i gael meiri etholedig: nid ydym yn bwriadu newid y cyfle i gael refferendwm mewn ardaloedd lle mae galw am faer etholedig, ac, unwaith eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, rwy'n ymwybodol iawn y byddwn yn edrych ar fater y trothwy y mae’r Aelod wedi cyfeirio ato. Mae'n debyg nad wyf yn gwbl gytûn â hi ynglŷn â nifer y cynghorwyr sydd gennym ni yng Nghymru. Credaf fod y nifer fwy neu lai yn briodol. Mae'r cynghorwyr yr wyf i’n eu gweld yn gweithio'n galed iawn ac mae ganddyn nhw nifer fawr o bleidleiswyr i’w cynrychioli. Mae'r arolygon etholiadol wedi dechrau yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys. Rydym ni’n disgwyl i hynny, maes o law, arwain at ostyngiad bach yn nifer y cynghorwyr yng Nghymru. Mae'r cynigion ar gyfer Cyngor Conwy, er enghraifft, yn cynnig gostyngiad o ychydig dros 10 y cant yn nifer y cynghorwyr a fyddai ar gael ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw.

Yn olaf, i ymateb i'r pwyntiau a wnaed am ddiwygio prif gynghorau, rwy'n credu mai’r gwahaniaeth yn y cynigion a welwch chi gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yw eu bod yn ffrwyth gwaith caled i geisio dod i gytundeb gydag awdurdodau lleol, ond hefyd yn benderfyniad, pan fyddwn ni wedi cytuno ar ffordd ymlaen ar weithio rhanbarthol, ar fframweithiau, ar ardaloedd ac ar swyddogaethau, ac yna byddwn yn gwneud hynny yn orfodol. Pan fyddwn ni wedi cytuno, yna bydd angen grym y ddeddfwriaeth o dan y cytundeb hwnnw fel bod pawb yn glir os ydych chi wedi dod at eich gilydd ac wedi cytuno i gyflawni swyddogaeth, nid oes dianc rhag y cytundeb hwnnw.

Rwy'n credu bod hynny er budd awdurdodau lleol. Mae gormod o awdurdodau lleol wedi sôn wrthyf am enghreifftiau lle maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ac wedi buddsoddi llawer mewn trefniant rhanbarthol, ac mae un o'r partneriaid yn cerdded ymaith ar y funud olaf, ac mae angen gwneud llawer o waith ymddatod yn gyflym iawn. Ni all awdurdodau lleol yng Nghymru wynebu dyfodol felly, Llywydd. Gweithio rhanbarthol yw ffordd y dyfodol—yn systematig, yn orfodol ond yn gytûn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich parodrwydd i gael deialog barhaol am y materion yma ac am faterion yn eich portffolio chi. Cymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy’n cael eu creu, yn ogystal â lle mae’r atebolrwydd yn gorwedd a’r craffu yn digwydd—dyna sy’n dod i’r amlwg i mi, beth bynnag, o glywed eich datganiad chi heddiw yma.

Yn benodol, mae gen i bryder mawr fod y berthynas rhwng y dinesydd a’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yn mynd yn un pell a diystyr. Mae gan hynny oblygiadau mawr i ddemocratiaeth—lle mae pobl yn barod yn teimlo’n ddi-rym mewn penderfyniadau ar faterion sy’n eu heffeithio nhw o ddydd i ddydd. Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, ac rwy’n dal o’r un farn.

Mae hi hefyd yn destun pryder i mi nad ydych chi’n bwriadu cyflwyno’r system bleidleisio gyfrannol—STV—i bob awdurdod yng Nghymru. Yn yr Alban, mae defnyddio’r system bleidleisio gyfrannol yn rhan arferol o ddemocratiaeth, ac mae’n sicrhau bod yna gystadleuaeth ar gyfer holl seddau’r cynghorau a bod yr holl bleidleisiau yn cyfri. Rwyf i o’r farn bod gadael i gynghorau unigol benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno system etholiadol gyfrannol yn mynd i achosi dryswch ac yn golygu na fydd yn digwydd yn gyson ar draws Cymru ac, yn wir, na fydd yn digwydd o gwbl. Rwy’n cytuno ei bod hi’n bwysig rhoi rhyddid i gynghorau benderfynu ar nifer fawr o faterion, ond nid yw hwn yn un ohonyn nhw.

Cyn i mi gyflwyno’r tri chwestiwn penodol, mi fyddaf i dipyn bach yn fwy cadarnhaol a datgan cefnogaeth lwyr Plaid Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i bobl 16 ac 17 oed. Mae hyn wedi bod yn bolisi gan Blaid Cymru ers nifer fawr o flynyddoedd, oherwydd rŷm ni’n credu bod llais a chyfraniad pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn hollbwysig.

Buasem ni hefyd yn croesawu eich bod chi yn cefnogi ymestyn yr hawl i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn astudio yng Nghymru bleidleisio. Fe ddylai pawb sydd yn galw Cymru yn gartref iddyn nhw, ac sydd eisiau gweld Cymru yn llwyddo, gael y cyfle a’r rhyddid i gymryd rhan mewn etholiadau sydd yn effeithio ar eu bywydau nhw.

Gan droi at y cwestiynau, hoffwn i ddechrau holi pa oblygiadau fyddai gan ymestyn y fasnachfraint etholiadau lleol—beth fyddai hynny yn ei olygu wedyn ar gyfer etholiadau’r Cynulliad? Beth ydy’r berthynas rhwng beth rydych chi yn ei gyflwyno yn y fan hyn a’r drafodaeth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn ag etholiadau’r Cynulliad—ychydig o eglurder am hynny?

Ar yr elfen o weithio’n rhanbarthol, rwy’n falch o weld sôn am y gallu i awdurdodau gydweithio i ddatblygu strategaeth ieithyddol ac economaidd ar gyfer y gorllewin, fel yr ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi’i argymell yn y Siambr hon, a hefyd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a llywodraeth leol, o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Yn dilyn datganiadau o gefnogaeth gennych chi a’r Prif Weinidog yn ddiweddar i hyn, mi fuaswn i’n licio gweld beth ydy’ch gweledigaeth chi. Beth ydych chi’n meddwl ydy manteision cydweithio yn rhanbarthol yn y gorllewin?

Yn olaf, mae’n edrych yn debyg y bydd strategaeth economaidd y Llywodraeth yn rhoi pwyslais mawr ar bolisïau rhanbarthol neu ar weithio’n rhanbarthol, er nad ydym wedi gweld y strategaeth honno eto, a hithau dros flwyddyn ers yr etholiad. Pa gydweithio sydd wedi bod yn digwydd, ac sydd yn digwydd, rhyngoch chi a’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y berthynas yma rhwng y strategaeth economaidd a diwygio llywodraeth leol? Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr i Sian Gwenllian am y sylwadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr i chi hefyd am fod yn fodlon siarad dros yr amser, gan rannu rhai syniadau, a phrynhawn yma i ddweud lle rydym yn gallu cytuno ar rai pethau pwysig—i ymestyn yr hawl i gofrestru ac i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed, a hefyd yr hawl i bobl sy’n byw yma yng Nghymru fod yn rhan o’n proses ddemocrataidd ni. Mae hynny’n bwysig fel neges i bobl sydd wedi dod i Gymru ac sy’n byw yma nawr, yn gweithio yma ac yn astudio yma. Maen nhw’n rhan o’r cymunedau yma yng Nghymru, ac rŷm ni eisiau ymestyn yr hawl iddyn nhw i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd leol hefyd.

A gaf i ddweud fy mod yn rhannu pryderon sydd gan Sian Gwenllian am gymhlethdod ac atebolrwydd? Rydym yn trial, yn beth rydym yn ei roi ymlaen, cynllunio ffordd lle y gallwn ni helpu pobl i ddeall y system rydym yn mynd i’w chreu yn y dyfodol, ac yn cadw pobl yn atebol am y penderfyniadau y maen nhw’n mynd i’w gwneud.

It’s partly why, Llywydd, we have a requirement in the White Paper for statutory engagement strategies by local authorities. It’s why we say that local authorities will be obliged to televise their proceedings. We want to make sure that what goes on in our local authorities is opened up to their local citizens. It’s why I believe the role of local councillors, in the way that we are going to set up the new system, will be absolutely central. It’s partly why I didn’t agree with Janet Finch-Saunders in her view that we should have a significantly reduced number of local councillors. If there is a greater degree of—. [Interruption.] Sorry, I hope didn’t misrepresent what you said. [Interruption.]

Gadewch i mi roi’r hyn a ddywedais mewn ffordd wahanol, Llywydd. Rwy'n credu y byddai Janet yn rhagweld nifer llai o gynghorwyr nag yr ydym ni yn ei ragweld. Ac nid oeddwn i’n cytuno gyda hi ar hynny, oherwydd credaf y bydd swyddogaeth y cynghorydd lleol yn ganolog wrth gynorthwyo dinasyddion yn y dyfodol i ddeall system lle y mae rhai penderfyniadau'n cael eu gwneud yn rhanbarthol. Nid wyf yn credu bod hyn yn sylweddol wahanol i'r ffordd mae systemau yn gweithio ar hyn o bryd. Mae cynghorydd lleol yn cael ei ethol i gynrychioli ei ward, ond pan ei fod yn dod i wneud penderfyniadau ar lefel y cyngor, mae’n rhaid iddo ystyried yr hyn sy'n iawn ar gyfer yr holl ardal honno, nid yn unig yr hyn sy'n iawn ar gyfer ei ward ei hun. Mae cynghorwyr bob amser yn gorfod cydbwyso’r tyndra rhwng cynrychioli'r etholwyr lleol a gwybod beth sy'n iawn ar gyfer yr awdurdod cyfan y maen nhw’n ei gynrychioli, yn union fel y mae pobl yn dod i'r Cynulliad hwn yn cynrychioli etholaeth ond wedyn yn siarad o safbwynt eu plaid yn ei chyfanrwydd. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw ei gwneud yn ofynnol i arfer y ffordd honno o feddwl yn rhanbarthol. Byddwn yn ei gwneud hi’n gwbl glir bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan aelodau etholedig o blith yr awdurdodau lleol cyfansoddol, ac rydym ni wedi llunio dewislen o ddewisiadau y bydd awdurdodau lleol eu hunain yn gallu ei defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn gallu craffu ar y penderfyniadau, ac y cânt eu dwyn i gyfrif amdanynt ar y lefel awdurdod lleol hwnnw.

Gadewch i mi droi, os caf i, at y cwestiynau a ofynodd Siân Gwenllian tuag at ddiwedd ei chyfraniad. O ran cydweithio rhanbarthol yn y gorllewin, rwyf yn awyddus i ddatblygu’r awgrymiadau a nodwyd yn yr adroddiad a gynhyrchwyd o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn y rhan honno o Gymru ynglŷn â’r ffyrdd y gallan nhw weithio ar draws eu ffiniau ac yn rhanbarthol i fanteisio ar y cysylltiad rhwng y Gymraeg a chyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn y rhan honno o Gymru. Credaf fod yna gyfleoedd i rannu adnoddau, i ddysgu o’r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol wedi llwyddo i gryfhau gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu ar gyfer y bobl hynny a fyddai'n dewis manteisio ar wasanaethau awdurdodau lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r adnoddau hynny mewn ffordd sy'n fanteisiol i ddatblygiad economaidd yn y dyfodol yn y rhan honno o'r wlad.

O ran gweithio gyda chyd-Aelodau eraill o’r Cabinet, rwyf nid yn unig wedi trafod y materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi o ran strategaeth yr economi, ond rwyf hefyd wedi siarad â fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros addysg ynglŷn â gwella addysg ac anghenion dysgu ychwanegol. Siaradais â fy nghyd-Aelod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â gwaith rhanbarthol yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn wir, prin bod unrhyw gyd-Aelodau Cabinet nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd y mae gwaith rhanbarthol o'r math a nodir yn y cynigion hyn yn berthnasol i’r cyfrifoldebau y maen nhw hefyd yn eu cyflawni.

Byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny, yn edrych ymlaen at ddod â Bil gerbron y Cynulliad, ac yn deall yr hoffai pleidiau ar draws y Cynulliad weld manylion ein cynigion a’u hystyried yn ofalus pan gânt eu cyhoeddi.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae diwygio llywodraeth leol yn creu cyfle ac rwy'n credu y gall diwygio weithio'n dda ar yr amod mai’r prif nod yw dod â llywodraeth leol yn nes at y bobl y mae'n ei wasanaethu. Felly, mae’r elfen o leoliaeth, rwy’n credu, yn allweddol.

Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at swyddogaeth fwy i gynghorau tref a chymuned. Credaf fod hynny yn argoeli’n addawol mewn rhai achosion. Mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig, gall y cynghorau hyn fod â swyddogaeth gref a pherthnasol, ac rydych chi’n sôn am y ffordd y maen nhw wedi, mewn rhai achosion, achub llyfrgelloedd lleol a gwasanaethau eraill drwy eu cymryd o dan eu hadain. Yn sicr, mae modd argymell y math hwnnw o weithredu pan fydd gwasanaethau lleol o dan fygythiad. Ond beth fyddai eich argymhelliad pan fydd gwasanaethau dan fygythiad mewn ardaloedd mwy trefol nad oes ganddyn nhw gynghorau cymuned? Beth fyddai swyddogaeth, er enghraifft, grwpiau gwirfoddol, a allai chwarae rhan berthnasol iawn, ond a fyddai unrhyw faterion yn codi o ran democratiaeth a mandad democrataidd i redeg pethau? Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ar hynny.

Fel y dywedwch chi, mae cymysgedd o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Felly, unwaith eto, beth sy'n digwydd pan fydd y gwasanaethau lleol o dan fygythiad mewn ardal lle nad yw'r cyngor cymuned lleol yn gwneud llawer? O gofio bod cymaint o wasanaethau o dan fygythiad y dyddiau hyn, a ddylid cael rhyw fath o lawlyfr gweithredu gennych chi, fel Gweinidog, o ran sut orau i amddiffyn gwasanaethau lleol yn yr achosion hyn?

O ran eich newidiadau arfaethedig i sut y cynhelir etholiadau yng Nghymru, rwy’n edrych ymlaen at glywed eich barn ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Yn amlwg, rydych chi wedi ymrwymo i geisio sicrhau rhai newidiadau penodol megis yr oedran pleidleisio, ond rydych chi’n dal i ystyried agweddau eraill. Rwy'n credu bod llawer i'w drafod ynglŷn â’r newidiadau i reolau etholiad ac fe gawn ni yn ôl pob tebyg ddadl gadarn ar y mathau hyn o gynigion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond rwy’n gobeithio y byddwch chi’n troedio'n ofalus wrth i chi ystyried materion perthnasol fel diogelwch ar y rhyngrwyd.

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r Aelodau yn cytuno y dylai dyletswyddau swyddog canlyniadau etholiad fod yn rhan statudol o waith prif weithredwr y Cyngor, ac y dylai fod yn rhan o'i lwyth gwaith rheolaidd, heb unrhyw daliadau ychwanegol cysylltiedig. Felly, rwy’n tueddu i gytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi’n prysuro ymlaen â hynny.

Ar y mater o weithwyr y cyngor yn cael sefyll fel ymgeiswyr, rwy’n credu y dylai pobl fel menywod cinio a dynion lolipop a phobl eraill mewn swyddi tebyg gael sefyll mewn etholiadau cyngor, felly byddai newid y rheolau yma yn glodwiw, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi ei amlygu, ac fel y gwnaethoch chi yn dda iawn drwy ei gynnwys yn rhan o'ch cynigion. Y cwestiwn yw: pa swyddogion llywodraeth leol nad ydynt yn gymwys? Tybed a allech chi ddweud wrthyf i ymhle yn union yr ydych chi’n teimlo y dylid tynnu’r llinell honno.

Ar y mater o gynghorwyr annibynnol, rwy’n credu ei fod yn bwynt teg, os ydyn nhw’n aelodau o blaid, mae gan y cyhoedd hawl i wybod. Sut ydych chi'n bwriadu cael yr wybodaeth hon a beth fydd yn digwydd i ymgeiswyr sy'n methu â datgelu aelodaeth o blaid?

Ar y mater o ACau yn gweithredu fel cynghorwyr hefyd, rwy'n credu bod hwn yn bwnc dadleuol. Gan na fûm i erioed yn gynghorydd, nid wyf i’n gymwys mewn gwirionedd i farnu ar ba un a allwch chi wneud y ddwy swydd yn llwyddiannus. Roeddech chi eich hun yn gynghorydd ar un adeg, ac yn awr rydych chi yn Aelod Cynulliad, ond erioed ar yr un pryd, hyd y gwn i. Ond rwy’n gwybod am o leiaf un Aelod yma a wnaeth y ddwy swydd am rai blynyddoedd, felly nid wyf yn credu ei bod hi’n amhosibl gwneud y ddwy. Y broblem efallai yw bod cyflog AC yn sicr yn gyflog llawn amser. Felly, os yw AC yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, efallai y dylid cael gwaharddiad ar hawlio’r cyflog cynghorydd gan olygu pe byddai ef neu hi yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, y byddai’n ymgymryd â’r dyletswyddau cyngor fel rhai di-dâl. Felly, tybed a ydych chi’n credu y gallai hyn fod yn gyfaddawd derbyniol yn yr achos hwn. Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. A gaf i ddweud fy mod i’n credu ei fod wedi gwneud cyfres o bwyntiau pwysig am gynghorau tref a chymuned? Fy asesiad i o'r sector, ar ôl holi amdano ym mhob rhan o Gymru, yw hyn: pan fo gan gynghorau tref a chymuned berthynas dda gyda'u prif awdurdod, pan fo ganddyn nhw adnoddau ac uchelgais, maen nhw’n gwneud gwaith gwasanaeth cyhoeddus pwysicach heddiw nag y maen nhw wedi ei wneud fwy na thebyg erioed o'r blaen o ran helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau cyni. Ond dyma’r broblem, yn rhy aml ac mewn gormod o achosion, nid yw'r berthynas cystal ag y dylai fod, nid yw sylfaen adnoddau cynghorau cymuned bach iawn yn ddigonol i ganiatáu iddyn nhw ymgymryd ag ystod ehangach o ddyletswyddau ac, yn bwysicach na dim mae’n debyg, nid yw'r uchelgais bob amser yno i wneud hynny. Felly, yr her yr wyf i wedi ei gosod ar gyfer y tîm adolygu yw ceisio canfod y cynhwysion sy'n gwneud cynghorau tref a chymuned yn llwyddiannus ac i fod yn gadarnhaol iawn am y gwaith da y maen nhw’n ei wneud ond gofyn wedyn sut y gallwn ni gymhwyso hynny’n gyffredinol i rannau eraill o Gymru, a chynnwys rhannau o Gymru lle nad yw cynghorau tref a chymuned o bosib yn bodoli ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym ni’n cynhyrchu llawlyfr, gyda'n cynghorau tref a chymuned, gydag Un Llais Cymru, llawlyfr i ganiatáu i gynghorau tref a chymuned sy'n fodlon gwneud mwy nag y maen nhw wedi ei wneud yn y gorffennol i ddysgu gwersi gan y cynghorau hynny sydd wedi gwneud hynny yn llwyddiannus eisoes ac i allu eu helpu drwy'r broses honno.

O ran cynnal etholiadau, cododd Gareth Bennett y mater pwysig iawn o ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Fe wnaethom ofyn y cwestiwn yn y papur ymgynghori: ydym ni eto wedi cyrraedd y cam lle y gallwn ni ganiatáu i bobl bleidleisio ar y ffôn neu lechen neu ar gyfrifiadur? Rydym ni’n gwneud llawer o bethau eraill mewn sawl rhan arall o'n bywydau—bancio ar y rhyngrwyd ac yn y blaen—sy'n gofyn am ddiogelwch sylweddol iawn, ond rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig. Rwyf am ailadrodd hyn yn yr ymarfer ymgynghori. Er mor hen ffasiwn yw ein system bresennol ni, un o'i chryfderau mawr, Llywydd, yw bod bobl yn ymddiried ynddi. Rydych chi’n mynd, rydych chi’n rhoi eich croes ar y papur pleidleisio, rydych chi’n cymryd y papur eich hun, rydych chi’n ei roi yn y blwch pleidleisio—fe allwch chi weld sut y mae'r system yn gweithio. Rwy'n credu y byddai angen i ni feddwl yn ofalus am symud i gyfeiriadau lle y byddai’n haws tanseilio ffydd pobl yn hygrededd y broses, ond rydym ni eisiau gwybod beth mae pobl yng Nghymru yn ei feddwl am hyn.

Cyfeiriodd Gareth Bennett at ein cynigion ar gyfer gwneud prif weithredwyr yn swyddogion canlyniadau statudol mewn etholiadau lleol a diddymu'r system bresennol o ffioedd personol. Codwyd y cwestiwn o ble i dynnu'r llinell o ran gweithwyr awdurdodau lleol. Nid oes gennyf farn sefydlog ar hynny. Rwyf yn credu ei fod yn gwestiwn pwysig i’w ailadrodd. Rwy'n credu y bydd gan undebau llafur ac eraill sylwadau pwysig i’w cyfrannu inni yn hyn o beth.

Rwy'n credu ei bod hi’n iawn y dylai ymgeiswyr sy'n aelodau o blaid wleidyddol ddatgan hynny yn rhan o'u hymgeisyddiaeth. Nid oes unrhyw beth i atal unrhyw un rhag sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond yn fy marn i, os ydych chi’n cynnig eich hun fel ymgeisydd annibynnol ac wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn ystod y 12 mis diwethaf, yna mae gan bleidleiswyr yr hawl i wybod hynny. Maen nhw wedyn yn gallu ystyried hynny gyda phopeth arall wrth benderfynu pwy i bleidleisio drosto.

Rydym ni’n cynnig yn ein hymgynghoriad na ddylid cael mandad deuol, na ddylai pobl allu bod yn Aelodau Cynulliad ac yn aelodau o awdurdod lleol ar yr un pryd. Ceir y mater o gyflog, fel y dywedodd Gareth Bennett. Caiff Aelod Cynulliad ei dalu am wneud swydd llawn amser, ac rydym ni’n credu mai dyna ddylai’r swydd fod, ond ceir gwrthdaro buddiannau hefyd nad ydynt yn ymwneud â thâl yn unig. Rydym ni’n gwneud penderfyniadau pwysig iawn yn y fan yma sy'n effeithio ar awdurdodau lleol, ac rydym ni’n credu ei bod yn sefyllfa anghyfforddus i orfod gwneud y penderfyniadau hynny a hefyd eu derbyn, a’n cynnig ni yw na ddylem ni ganiatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol.

Weithiau, wrth i bobl ddadlau dros strwythurau a phwerau, caiff y rheswm dros lywodraeth leol yn aml ei anghofio: darparu gwasanaethau lleol cost-effeithiol o ansawdd uchel; i ymateb i angen lleol; i wneud pob un o'r uchod gydag atebolrwydd democrataidd, lleol.

O ran cynghorau cymuned a thref, a fydd pob cyngor cymuned a thref yn cael yr un pwerau, waeth beth yw eu maint, a beth sy'n digwydd yn yr ardaloedd trefol hynny, megis Dwyrain Abertawe, lle nad oes cynghorau cymuned ar hyn o bryd?

Rwyf unwaith eto yn ailadrodd fy nghefnogaeth i bleidleisio yn 16 oed, rhywbeth y mae fy ffrind Julie Morgan wedi dadlau drosto cyhyd ag y gallaf gofio.

Rwy'n falch o weld pleidleisio trwy fwyafrif llethol ar gyfer newidiadau i systemau pleidleisio llywodraeth leol i atal y system bleidleisio rhag newid bron iawn yn flynyddol.

O ran pobl sy'n cael sefyll etholiad, beth am ganiatáu i'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn anuniongyrchol gan gyngor i sefyll? Rydym ni wedi gweld sefyllfa yn gynharach eleni lle cafodd rhywun ei wahardd—roedd yn gweithio i gorff a oedd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y cyngor roedd e’n perthyn iddo, ynghyd yn ogystal ag i wyth o gynghorau eraill. Dylai'r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol, yn fy marn i, gael sefyll.

Pa resymau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros beidio â chyflwyno pleidleisio electronig? Mae pobl ifanc yn disgwyl defnyddio eu ffonau ar gyfer bron popeth ac i bleidleisio yn electronig, ac maen nhw’n ei chael hi braidd yn rhyfedd, mynd i neuadd yr ysgol, a chael pensel heb fin a darn o bapur.

Rwy'n croesawu gweithio ar draws cynghorau o ran trafnidiaeth, defnydd tir strategol a datblygu economaidd. Nid yw’r rhain, wrth gwrs, yn newydd, ydyn nhw? Rwy’n cofio—rwy'n siwr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hefyd—yr hen gynllun datblygu sirol. Roeddwn i hefyd yn gadeirydd y grŵp trafnidiaeth gorllewin Cymru o'r enw SWWITCH. Roeddwn i hefyd yn aelod o fforwm economaidd gorllewin Cymru. Roedd llawer iawn o waith caled yn cael ei wneud rhwng Penfro ac Abertawe ymhell cyn bod unrhyw sôn am naill ai ad-drefnu llywodraeth leol nac unrhyw si am yr angen am newid o ran gweithio’n draws-bleidiol. Felly, nid oes unrhyw beth y soniwyd amdano yn newydd. Y cwestiwn sydd gennyf i yw: pam mae’r cynigion ar gyfer y canolbarth a’r de-orllewin yn hytrach na dinas-ranbarth bae Abertawe? Ym mha fodd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gan bobl yn Y Trallwng unrhyw beth yn gyffredin â'r bobl yn Abertawe o ran naill ai trafnidiaeth, datblygu economaidd neu ddefnydd tir?

Diolch i Mike Hedges am y sylwadau yna. A fyddwn ni’n rhoi'r un pwerau i bob cyngor tref a chymuned? Nid fel y maen nhw ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor amrywiol. Rydym ni’n cynnig pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer rhai cynghorau tref a chymuned, ond bydd trothwyon y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyrraedd. Cawn weld beth fydd canlyniad adroddiad y grŵp adolygu. Os ydyn nhw’n gallu cynnig patrwm mwy unffurf, o ran pwerau a daearyddiaeth, fel bod cynghorau tref a chymuned yn bodoli ym mhob man, yna caiff yr achos dros eu trin i gyd yr un fath ei gryfhau.

Rwy’n credu, Llywydd, y bydd mwyafrif ar lawr y Cynulliad hwn o blaid rhoi’r bleidlais i bobl 16 a 17 mlwydd oed, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Mike Hedges i hynny.

Mae e’n ychwanegu categori arall at bobl sy'n cael eu hatal ar hyn o bryd rhag sefyll mewn etholiadau awdurdodau lleol, ac rwy’n credu fod hyn o bosib yn ychwanegu elfen arall at ein cwestiwn ynghylch pa un a ydym ni ar hyn o bryd yn or-gaeth yn y ffordd yr ydym ni’n dehongli’r rheol honno.

Beth yw'r achos yn erbyn pleidleisio o bell? Wel, rwy’n credu bod pobl nad ydyn nhw eto wedi eu hargyhoeddi o hynny weithiau yn dweud bod y weithred o bleidleisio yn weithred ddifrifol iawn ac y gallai lleihau hynny i allu clicio botwm ar eich ffôn danseilio’r difrifoldeb a ddylai fod ynghlwm â’r cyfraniad at ddemocratiaeth. Mae rhai pobl—mae'n debyg fy mod i’n ddigon hen ffasiwn i gytuno â hyn͏—yn hoffi’r weithred gyfunol o gerdded i orsaf bleidleisio ac yn hoffi gweld pobl eraill yn gwneud yr un peth. Rwyf i'n hoffi sefyll mewn rhes gyda phobl eraill yn gwneud yr un peth. I mi, mae'n rhoi bywyd i’n hymdeimlad cyfunol o ddemocratiaeth, ond mae hynny oherwydd y bûm i’n gwneud hyn ers amser mor faith. Efallai fod y gwrthwynebiad diogelwch yn wrthwynebiad mwy arwyddocaol. A ydym ni eto yn siwr bod y systemau yn ddigon diogel fel y byddai pobl yn credu na allai neb amharu ar eu pleidlais ddemocrataidd͏—na allai neb newid eich pleidlais, na allech chi ganfod a fu rhywun yn ceisio ymyrryd?

Mae e'n hollol gywir nad yw gweithio rhanbarthol yn rhywbeth newydd. Yr hyn y mae ein cynigion yn ei wneud yw gwneud gweithio rhanbarthol yn systematig ac yn orfodol.

Pam y canolbarth a’r gorllewin? Rydym ni wedi cymryd rhanbarth CLlLC ei hun; dyna sut mae CLlLC yn ei threfnu ei hun. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, Llywydd, bydd gennym ni ddigon o hyblygrwydd yn y rhanbarth hwnnw fel y gall pedwar cyngor dinas-ranbarth Abertawe gydweithio, ac i’r cynghorau sy’n rhan o fenter Tyfu Canolbarth Cymru—Ceredigion a Phowys— barhau i weithio gyda'i gilydd mewn ffordd unigryw. Ond, bydd yn rhaid iddyn nhw gynllunio ar y cyd, fel nad oes ffiniau artiffisial ac fel nad oes unrhyw deimlad na all Ceredigion a Phowys, er enghraifft, fanteisio ar rai o’r dadleuon a rhai o'r posibiliadau y byddai'r ardal ranbarthol ehangach yn eu creu.

Hoffwn groesawu'r datganiad. Roedd dwy elfen yr oeddwn yn awyddus i roi sylw iddynt. Un: o ran y dewisiadau y byddwch chi’n ymgynghori arnyn nhw ynglŷn â diwygio, rwy'n siomedig nad yw pleidleisio gorfodol yn un o'r dewisiadau y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn arno. Rwy'n credu bod ei gwneud hi’n ofynnol i bobl gymryd rhan yn rhan o'u dyletswyddau dinesig ehangach—mae cael pleidleisio yn bwysig yn un pwysig. Rwy'n sylweddoli bod y farn honno’n un ddadleuol, ond rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol i gychwyn dadl ar hynny.

Yn ail, roeddwn i eisiau crybwyll y gweddnewidiad ehangach y mae'r Gweinidog yn ei gynnig o ran y ffiniau. Mae llawer o'r pwyslais ar yr adeileddau ffisegol, ond tybed faint o ystyriaeth a roddir i’r gweddnewid digidol a fydd yn sail i lawer o hyn. Mae lledaeniad data mawr a deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio o'n cwmpas ym mhob man. Rwy'n ymwybodol nad oes unrhyw ddiwedd ar gwmnïau preifat yn dod ar ofyn awdurdodau lleol gan gynnig atebion parod i awtomeiddio llawer o'u swyddogaethau i ryddhau adnoddau er mwyn gallu eu cyfeirio at wasanaethau rheng flaen, ac rwy'n credu y byddai'n well pe byddem ni’n gwneud hyn mewn ffordd bwyllog a chynlluniedig ledled Cymru, yn hytrach na bod awdurdodau lleol unigol yn gwneud hynny ar sail ad hoc. Nid oes rhaid i hyn fod yn fygythiad, ond bydd yn newid, ac yn newid na allwn ni ei osgoi. Felly, tybed a allai ef ddweud ychydig mwy am swyddogaeth yr elfen ddigidol yn y prosiect gweddnewid ehangach oedd ganddo mewn golwg.

Un uchelgais sydd gennyf i ar gyfer yr ymgynghoriad yw bod gennym ystod ehangach o bosibiliadau a mwy o syniadau ar gyfer sut y gallem ni ddiwygio'r ffordd yr ydym ni’n cynnal etholiadau yng Nghymru ar ei ddiwedd nag oedd gennym ni ar y dechrau. Bydd y bobl hynny sy'n hyrwyddo cyfranogiad gorfodol yn ein democratiaeth, rwy’n gobeithio, yn manteisio ar y cyfle hwn i wneud y safbwyntiau hynny yn hysbys ac i esgor ar y math o ddadl mae Lee Waters wedi ei hawgrymu.

O ran gweddnewid digidol, un o'r rhesymau pam yr wyf yn meddwl bod gweithio͏ rhanbarthol—yn arbennig yn y cyswllt hwn, gan rannu gwasanaethau cefn swyddfa—mor bwysig yw y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol feithrin eu gallu eu hunain i symud i'r cyfeiriad hwn heb orfod dibynnu ar brynu gwasanaethau ac atebion parod, fel y dywedodd, o rywle arall.

Llywydd, rwyf wedi dweud sawl gwaith: Ar y cyfan rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan fy rhyngweithio gydag awdurdodau lleol a'u parodrwydd i fod yn rhan o greu eu dyfodol eu hunain. Roeddwn braidd yn siomedig o’u hymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â gwasanaethau cefn swyddfa. Rwy'n credu bod yna fwy o amharodrwydd nag y dylid fod wrth feddwl am ffyrdd y gallant rannu rhai o’r gwasanaethau ar draws ffiniau—dim digon o grebwyll am bosibiliadau gweddnewid digidol ar gyfer y dyfodol. Ac rwyf wedi dweud wrth awdurdodau lleol, ac rwyf am ailadrodd hyn yma y prynhawn yma: mae ein Papur Gwyn a'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn arwydd ein bod yn symud tuag at sefyllfa lle caiff mwy o wasanaethau eu rhannu yng Nghymru, ac mae'n daith y bydd angen i bob awdurdod lleol fod yn rhan ohoni.

Dim ond rhai sylwadau, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod problem gyda phleidleisio drwy'r post, yn enwedig ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn nad yw eu llofnod bob amser yn cyfateb, ac maen nhw wedi canfod bod eu pleidleisiau wedi eu diystyrru mewn etholiadau diweddar. Rwy’n credu, os ydym ni i gyd yn onest yn y fan yma, hefyd, fe wyddom ni i gyd fod yna broblem gyda phleidleisio drwy'r post a didwylledd y broses. Mae gen i bryderon ynglŷn ag annog mwy o bleidleisio drwy'r post, gan fy mod i’n credu y dylai pleidleisio drwy'r post gael ei gyfyngu. Dylai fod rheswm pam y mae gennych bleidlais drwy’r post, oherwydd caiff y broses ei chamddefnyddio, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny.

Mae angen i ni annog pobl i bleidleisio, ac rwy'n credu bod y syniad o archfarchnadoedd a mannau eraill cyffelyb yn syniad gwirioneddol dda. Unwaith eto, yn ôl at uniondeb y broses, roedd enghraifft yn 2016 yn etholiad y Cynulliad yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, pryd yr aeth rhywun i bleidleisio am 08:30, ac fe ddywedwyd wrtho ei fod eisoes wedi pleidleisio. Rhoddodd yr unigolyn ddisgrifiad i'r person o’r sawl a oedd wedi bod yno am 07:30 ac wedi pleidleisio yn ei enw ef. Nawr, rwy’n sicr yn credu bod dadl dros, efallai, brofi hunaniaeth wrth bleidleisio, oherwydd fe ddywedwn i fod y broses ar y funud yn llawer rhy hawdd ei chamddefnyddio, i ddefnyddio'r un ymadrodd eto.

Fe hoffwn i weld refferenda lleol yn cael grym gwirioneddol. Unwaith eto, cawsom refferendwm lleol yn lle rwyf i'n byw, pryd y pleidleisiodd 99.9 y cant o bobl yn mewn ffordd arbennig, ac fe gawson nhw eu hanwybyddu, ac fe bleidleisiodd miloedd o bobl hefyd.

Mae'n rhaid i mi gyffwrdd ar y mandad deuol. Rwy'n cymryd yn ganiataol ei fod yn berthnasol i Dŷ'r Arglwyddi hefyd. Efallai y gallwch chi egluro hynny.[Torri ar draws.] Ni fyddai gen i, yn sicr, ond mae gan rai cyd-Aelodau yma fandad deuol yn hynny o beth. Yn anad dim, mae'n fater o egwyddor ddemocrataidd. Cefais fy ethol yn gynghorydd, a’m hail-ethol yn ddiweddar. Roedd pawb yn gwybod fy mod yn Aelod Cynulliad. Beth sy’n rhoi'r hawl i chi fel unigolyn, fel Gweinidog, i ddweud wrth bobl na chânt bleidleisio drosof i neu dros unrhyw un arall i fod yn gynghorydd iddyn nhw? O ran y lwfansau, ydw, rwy’n hapus i roi fy lwfansau, 50 y cant i'r gymuned a 50 y cant i Blaid Cymru. Ond mater o ddemocratiaeth yw hwn. Pwy ydych chi, Weinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud wrth bobl nad oes ganddyn nhw’r hawl i bleidleisio dros bobl? Nid yw hynny’n iawn.

Mae'n debyg bod datganiad buddiannau o ryw fath yn y fan yna, Llywydd, ac wrth gwrs, nid fy lle i yw dweud unrhyw beth wrth unrhyw un. Lle’r Cynulliad Cenedlaethol hwn fyddai penderfynu, ac os ydym ni yn penderfynu, bydd hynny oherwydd mai dyma’r fforwm democrataidd lle yr ydym ni’n gwneud y penderfyniadau hynny. Dyna fydd sail unrhyw benderfyniad sy'n deillio o’r ymarfer ymgynghori hwn.

Nid oes gennyf unrhyw bwerau dros Dŷ'r Arglwyddi, ond lle mae gennym ni bwerau newydd dros lywodraeth leol, rwy’n glir yn fy meddwl fy hun y dylai pobl sy'n cael y fraint o eistedd fel Aelodau Cynulliad allu neilltuo’u holl amser a'u hegni i’r swydd honno, ac na ddylen nhw ganfod eu hunain yn y sefyllfa o bleidleisio ar bethau sy'n digwydd yma sy'n cael effaith uniongyrchol ar gyfrifoldebau eraill y maen nhw’n eu cyflawni mewn mannau eraill.

Rwy'n cydnabod y pwynt ynghylch uniondeb y system. Dyma pam, yn rhannol, pan atebais fy nghwestiwn gan Mike Hedges ar bleidleisio electronig, imi ddweud mai dyna un o'r pethau y bydd angen i ni feddwl amdano. Mae tyndra rhwng uniondeb ar y naill law a symlrwydd ar y llall. Hoffwn i wneud pleidleisio drwy'r post yn haws ar gyfer y bobl hynny sy'n dewis pleidleisio yn y ffordd honno. Rwy'n chwilfrydig braidd ynghylch pam y byddai'r Aelod yn dymuno gwneud pleidleisio drwy'r post yn fwy anodd i bobl. Pwy yw ef, gallwn i fod wedi’i ddweud, i benderfynu sut y mae pobl yn dewis arfer eu pleidlais? Felly, rwy’n credu y dylem ni sicrhau bod modd i bobl pleidleisio drwy'r post. Rwy'n credu y dylem ni geisio gwneud y broses yn symlach yn y modd y disgrifiodd Janet Finch-Saunders, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus gyda’r elfen o uniondeb, hefyd.

Rwy’n eithaf gwrthwynebus i gardiau adnabod neu fathau eraill o ddulliau adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio. Rydym ni’n gwybod os awn ni ar hyd y trywydd hwnnw, y caiff hynny effaith anghymesur ar rai cymunedau ac ar garfanau penodol o'r pleidleiswyr, gan gynyddu’r ffordd y mae rhai pobl ar hyn o bryd yn teimlo eu bod nhw wedi eu dieithrio. Pan geir camddefnyddio, rwy’n credu bod ein system yn ddigon cadarn i’w ganfod. Mae angen i ni fod yn effro i hynny, ond yn y tyndra rhwng eisiau gwneud yn siŵr bod pleidleisio mor hwylus a chyfleus ag y bo modd, ac uniondeb y system, rwy’n credu y dylem ni fod yn barod i fod yn fwy pryderus am sicrhau nad oes neb yn colli eu cyfle i bleidleisio, gan barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn hollol ddidwyll.

Llywydd, mae Neil McEvoy yn rhoi hanner ei gyflog i Blaid Cymru— roeddwn i’n gwybod bod rheswm pam y maen nhw’n ei gadw yn y grŵp. Da iawn.

O ran y Papur Gwyn, mae adran 2.56, rydych chi eisoes wedi ei grybwyll, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i Siân Gwenllian, yn nodi tri threfniant ar gyfer craffu: un yw aros fel yr ydych chi, dau yw sefydlu pwyllgor rhanbarthol sefydlog, neu dri, sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae craffu wedi esblygu llawer iawn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, fel y gwn i o fy mhrofiad fy hun o 10 mlynedd mewn llywodraeth leol. Ond hefyd, o ddarllen adroddiadau gwelliant blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiadau arbennig ar graffu, fe allwch chi weld bod pethau wedi gwella. Mae gwers i'w dysgu o'r sefyllfa sy'n bodoli erbyn hyn o ran craffu, o'i gymharu â'r sefyllfa yn ystod y 25 mlynedd diwethaf o awdurdodau lleol fel y maen nhw. Pa drafodaethau fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael gyda Swyddfa Archwilio Cymru, sydd wedi gwneud gwaith canmoladwy mewn rhai agweddau ar hyn? A fydd Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi cyngor ar drefniadau llywodraethu? Ac, yn arbennig, sut gallwch chi sicrhau bod y trylwyredd hwn o graffu, a'r safonau a gyrhaeddwyd hyd yn hyn, yn cael eu cynnal ac yn parhau i gael eu gwella, o ystyried y rhyddid y bydd gan y cynghorau i sefydlu trefniadau newydd ar gyfer craffu?

Diolch i'r Aelod am hynna. Rwyf yn credu ei bod hi’n briodol i ganiatáu hyblygrwydd i awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd y mae craffu yn gweithio orau yn eu hamgylchiadau eu hunain, ac i gynllunio trefniadau craffu ar gyfer trefniadau rhanbarthol sy'n cyd-fynd â'r ffordd y maen nhw’n cyflawni agweddau eraill ar eu cyfrifoldebau. Rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedodd Hefin David am y ffaith fod craffu wedi gwella yn ddiweddar. Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar—adroddiad annibynnol—a oedd yn edrych ar bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban, a Chymru oedd yr unig ran o Brydain lle yr adroddodd y rhai a oedd ymwneud â chraffu eu bod yn credu bod y system wedi gwella, a'u bod erbyn hyn yn well am graffu nag oedden nhw yn y gorffennol. Mae rhan o hynny o ganlyniad i gyngor a buddsoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i gymryd eu cyngor. Dywedais yn fy natganiad agoriadol, Llywydd, fy mod i’n awyddus i roi cymaint o gyfle â phosib, cyn cyflwyno’r Bil, i weithio gydag awdurdodau lleol eu hunain a phartneriaid, megis Swyddfa Archwilio Cymru, ar rai o fanylion y Bil cyn ei gyflwyno, a bydd gwaith craffu yn sicr yn rhan o’r trafodaethau parhaus hynny.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, rwy’n cefnogi sylwadau fy nghyd-Aelodau o ran diwygio etholiadol. A, gyda llaw, pleidleisio electronig: hwyrach yr hoffech chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Estonia i gael gwybod am hynny.

Ond ynghudd yn eich datganiad, mewn gwirionedd, roedd agwedd bwysig iawn i mi, a hynny yw'r posibilrwydd o newid ffiniau pob bwrdd iechyd lleol, yn enwedig o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, fe allai hynny effeithio ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond mae hefyd yn effeithio ar lawer o fy etholwyr oherwydd bod yr afon Afan yn ffin artiffisial a ddefnyddir gan y gwasanaethau ambiwlans: mae’r rhai i'r dwyrain yn mynd i ysbyty Tywysoges Cymru; a’r rhai i'r gorllewin yn mynd i Dreforys. Ac, felly, mae llawer o fy etholwyr yn defnyddio'r gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn yr ardal honno. Nawr, ni ddylai ffiniau beri rhwystrau; rwy’n derbyn hynny. Ond fe hoffai llawer o fy nhrigolion gael sicrwydd na fydd y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn bryd yn cael eu heffeithio, ac y byddant yn parhau i gael yr un math o wasanaeth. Felly, yn yr ymgynghoriad yr ydych chi’n bwriadu ei gynnal, a allwch chi gyflwyno'r achos ynghylch sut y bydd y gwasanaethau hynny'n cael eu cynnal, fel na fydd etholwyr ym Mhort Talbot ac Aberafan yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid?

Hoffwn ddiolch i David Rees am y pwynt pwysig iawn yna. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr a’r ddau fwrdd iechyd a fydd yn rhan o hyn—sef PABM a Chwm Taf—ar gynnig y gallwn ni wedyn ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn yn gwneud yn siŵr y caiff y pwyntiau a gododd David Rees y prynhawn yma eu hystyried wrth ddatblygu’r cynnig hwnnw. Nid yw ysbyty Tywysoges Cymru yn symud; bydd yn dal i fod yn lle y mae hi heddiw, ond mae defnyddio’r ysbyty yn bwysig iawn i bobl sy'n byw y tu hwnt i Ben-y-bont ar Ogwr ei hun, a byddwn yn gwneud yn siŵr y caiff eu buddiannau eu cynrychioli'n briodol yn y cynnig y byddwn yn ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad.

8. 7. Datganiad: Banc Datblygu Cymru

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar fanc datblygu Cymru. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:23:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch i chi, Llywydd. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod yn cyflawni un o’r addewidion allweddol a gafwyd yn ein rhaglen Lywodraethu drwy greu Banc Datblygu Cymru. Rwy'n arbennig o falch y bydd y banc datblygu yn mynd i'r afael â methiant y farchnad cyllid busnes yn gyffredinol drwy ganolbwyntio ar gefnogaeth i fusnesau micro, busnesau sy’n dechrau a busnesau arloesol ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd modd i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i fod yn iachach, i dyfu a chryfhau. Bydd y banc datblygu yn ased cenedlaethol strategol sy'n unigryw yn y DU ac yn un sy'n rhoi mantais gystadleuol i fusnesau yng Nghymru dros weddill y wlad. Bydd yn helpu i ddarparu'r twf cyllid a’r cymorth busnes sydd ei angen i ddenu, datblygu a chadw microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, heddiw ac i’r dyfodol. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyllid Cymru ac yn dysgu oddi wrth y banciau datblygu gorau yn y byd.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Mae gan y banc datblygu gynllun pum mlynedd uchelgeisiol i gynhyrchu dros £1 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer cefnogi economi Cymru. Bydd yn helpu busnesau i gefnogi dros 5,500 o swyddi y flwyddyn. Bydd y banc datblygu yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn sylweddol hyd at £80 miliwn y flwyddyn o fewn pum mlynedd, o'i gymharu â £56 miliwn yn 2016-17. Bydd yn cynyddu’r effaith ar economi Cymru gan dros £170 miliwn y flwyddyn erbyn 2021-22, â chymryd trosoledd sector preifat i ystyriaeth. Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r ddarpariaeth cyllid a anelir at ficrofusnesau wedi treblu o £6 miliwn i £18 miliwn. Mae hyn wedi caniatáu i fusnesau sydd â llai na 10 o weithwyr fenthyca yn gyflym ac yn effeithlon gyn lleied â £1,000 hyd at £50,000. Bydd y banc datblygu yn parhau i roi blaenoriaeth i’r rhan bwysig hon o’r farchnad yng Nghymru, sydd hefyd yn guriad calon ein heconomi wledig, a byddaf yn dweud rhagor am hyn maes o law.

Mae'r banc newydd yn datblygu diwylliant o welliant parhaus. Gan weithio gyda Busnes Cymru, bydd yn gwella ei wasanaethau ar-lein i gwsmeriaid, gan helpu mwy o gwmnïau i elwa’n fwy effeithlon. Bydd y banc nid yn unig yn ei gwneud yn haws i gael gafael ar y cynhyrchion ariannol presennol, ond bydd hefyd yn nodi anghenion busnes i’r dyfodol ac yn creu cynhyrchion newydd sy’n addas. I helpu â hyn, mae banc datblygu Cymru eisoes yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Prifysgol Caerdydd a sefydliadau academaidd eraill i ddeall yn well y materion ariannol sy’n wynebu busnesau bach a chanolig, ac i ddatblygu datrysiadau newydd sy’n briodol.

Rwyf yn sicr fy marn na ddylai'r banc newydd golli golwg ar ei brif swyddogaeth sef darparu arian â rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid llenwi bwlch ochr yn ochr â chyllidwyr y sector preifat, i ganiatáu taro bargeinion na fydden nhw’n gallu digwydd fel arall, a darparu ystod lawn o gymorth rheoli yn ogystal â chyllid syml. Wrth gymeradwyo’r cynlluniau uchelgeisiol hyn heddiw ar gyfer y banc datblygu, rwy’n falch o weld y bydd gan y banc bresenoldeb ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig ledled Cymru lle mae methiant y farchnad yn y sector bancio ar ei amlycaf. Gan gydnabod ei swyddogaeth o ran Cymru benbaladr, mae'r banc wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau lansio dros y wlad yn ystod mis Hydref.

Mae'r banc datblygu yn elfen bwysig o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru fwy ffyniannus a diogel , fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Bydd yn wahanol i Gyllid Cymru, nid yn unig o ran y raddfa uwch o gyllid fydd ar gael i fusnesau yng Nghymru, ond hefyd o ran cymorth busnes gwell wrth gydweithio â Busnes Cymru. Mae'r sefydliad eisoes yn rheoli gweithrediadau sylweddol ar ran adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, yn fwyaf nodedig Help i Brynu, sydd yng nghylch gwaith fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Aelod Cynulliad, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Rwyf hefyd o’r farn bod posibilrwydd, er hynny, i’r banc datblygu ymestyn ei ddarpariaeth o wasanaethau ariannol eto yn y dyfodol, i gefnogi adrannau eraill Llywodraeth Cymru i ddatblygu datrysiadau arloesol a chosteffeithiol.

Mae'r broses o drosglwyddo Cyllid Cymru i'r banc datblygu ar y gweill eisoes ar sawl cyfrif, gan gynnwys cyflwyno nifer o gronfeydd newydd a chynyddu’n sylweddol gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig, yn awr ac i’r dyfodol, er enghraifft, cronfa olyniaeth rheoli, cyllid i egino technoleg newydd a chronfa cyfalaf gweithio i gefnogi busnesau sy'n tyfu’n gyflym. Hefyd, mae gwaith yn cael ei wneud ar sefydlu uned wybodaeth newydd; gan greu cronfa gydfuddsoddi angel gyda chymorth cysylltiedig; datblygu brand newydd ar gyfer y banc datblygu; a gwella rhyngweithio gyda chwsmeriaid ar-lein, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael cyngor a chyllid ar-lein.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sefydlu pencadlys banc datblygu Cymru yn y gogledd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd gan y banc bresenoldeb rhanbarthol i gefnogi patrwm rhanbarthol yr adran. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i nodi safleoedd addas yn Wrecsam a’r cyffiniau, lle mae'r banc yn anelu i gynyddu ei staff i 50 yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Heddiw, hyfrydwch i mi yw cadarnhau fy mod wedi cymeradwyo sefydlu’r gronfa buddsoddi hyblyg Cymru newydd gwerth £100 miliwn. Caiff y gronfa ei rheoli gan y banc datblygu, ac fel yr awgryma’r enw bydd yn gwbl hyblyg. Bydd yn darparu cyfuniad o ddewisiadau dyled, mesanîn a chyllid ecwiti yn amrywio o £25,000 hyd at £5 miliwn. Bydd yn cynnig benthyciadau â thelerau o hyd at 10 mlynedd, i gydnabod sefyllfaoedd lle mae busnesau bach yn gofyn am gyfalaf tymor estynedig. Fel y crybwyllais yn gynharach, bydd microfusnesau hefyd yn gallu elwa ar y gronfa hon. Mae'r pecyn £100 miliwn o gymorth hyblyg yn ychwanegol at y cyhoeddiad a wneuthum y llynedd i greu cronfa busnes Cymru gwerth £136 miliwn. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod am roi £35 miliwn arall i mewn i'r gronfa, gan ei chynyddu i £171 miliwn.

Y llynedd, cyhoeddodd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, £230 miliwn ar gyfer ail gam y cynllun Cymorth i Brynu. O'i gymryd ochr yn ochr â buddsoddiad uniongyrchol y banc a throsoledd sector preifat, mae’r arian hwn yn sail i uchelgais y banc o gynhyrchu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi yn economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd banc datblygu Cymru yn gynyddol ariannu ei hunan. Mae'r model busnes yn cymryd na fydd angen unrhyw gymorth grant o bwrs y wlad arno mwyach o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar gyfer costau gweithredol. I grynhoi, mae banc datblygu Cymru yn sefydliad sy’n gonglfaen buddsoddi a chymorth busnes. O ystyried maint ac ehangder cynyddol ei arbenigedd, mae mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd y byddwn yn eu hwynebu’n anochel, a dod â mwy o ffyniant a diogelwch i Gymru.

Diolch, Llywydd gweithredol. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siomedig nad ydym wedi gweld y manylion eto a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol graffu ar gynllun busnes y banc datblygu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i’r Aelodau allu sicrhau bod busnesau yn cael cefnogaeth lawn yn sgil y cynigion a bod methiannau Cyllid Cymru yn cael sylw llawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech nodi pryd yr ydych yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun busnes hir ddisgwyliedig ar gyfer y banc datblygu.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig i chi ym mis Mai, fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud y byddai'r cynllun busnes terfynol yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru 'yn fuan iawn'. A yw hynny wedi digwydd erbyn hyn, ac, os nad ydyw, pam mae’r broses wedi bod yn destun y fath oedi?

Roeddech hefyd yn datgan eich bwriad i’r banc datblygu gynyddu benthyca uniongyrchol i fusnesau, o’i gymharu â'r hyn y mae Cyllid Cymru yn ei fenthyca ar hyn o bryd. Nawr, yr wythnos diwethaf, yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, roeddech chi’n dweud y bydd y banc datblygu

yn cael y dasg o gynyddu lefelau buddsoddiad o tua £50 miliwn...hyd at £80 miliwn o fewn pum mlynedd.

A wnewch chi roi rhywfaint o eglurhad o ran tarddle’r arian ychwanegol hwn?

Hefyd, nid oedd Cyllid Cymru wedi gallu benthyca arian gan y byddai'n rhaid i unrhyw fenthyciadau ymddangos ar fantolen Llywodraeth Cymru. Nawr, fe wyddom ni, o brofiad diweddar Cylchdaith Cymru, fod yr un peth yn wir am warantau. Gan hynny, felly, o ystyried y ffaith nad oes cynllun busnes yn bodoli a fyddai wedi datrys y cwestiwn hwn yn ddiamau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurhad o ran a fydd y banc datblygu yn gallu darparu gwarantau neu fenthyca arian ei hunan.

Gan droi at swyddogaeth fasnachol y banc, a wnewch chi gadarnhau eich bod yn disgwyl i'r banc i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru gyda chyfraddau benthyca o rhwng 4 a 12 y cant, ac amlinellu pam yr ydych yn credu mai’r gymhareb arfaethedig o ariannu rhwng cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru yw’r gymhareb orau bosibl i hybu twf busnes, rheoli risg, a sicrhau gwerth i’r trethdalwr? A ydych hefyd yn hyderus y bydd y model hybrid arfaethedig ar gyfer y banc yn ddigonol wrth fynd i'r afael â methiant y farchnad busnesau bach a chanolig a sicrhau cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o gyfalaf newydd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a mynd i'r afael â llenwi’r bwlch cyllido?

Gan droi at ddyfodol y banc, a wnewch chi amlinellu hefyd sut y mae gwaith parhaus Llywodraeth Cymru â'r strategaeth ddiwydiannol wedi dylanwadu ar greu cynllun diweddaraf y banc, a pha gamau yr ydych chi wedi eu cymryd hyd yn hyn i sicrhau y bydd y banc yn meddu ar yr arbenigedd masnachol sy’n angenrheidiol ar gyfer ei ddatblygiad cymwys i’r dyfodol?

Yn olaf, gan droi at leoliad y banc—clywais yr hyn a ddywedasoch chi heddiw—faint o aelodau o dîm gweithredol y banc yr ydych yn disgwyl iddynt weithio’n llawn amser yn y brif swyddfa yn y gogledd? Beth yw eich asesiad o nifer staff llawn amser cyllid Cymru a fydd yn cael ei adleoli i’r gogledd? A ydych yn hyderus fod cylch gwaith y banc yn cynnwys ymrwymiad gwirioneddol i adleoli swyddogaethau gweinyddol y tu allan i Gaerdydd a dod â chyllid yn agos at ranbarthau eraill o Gymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dechrau â'r pwynt olaf un, sef pwysigrwydd sicrhau bod banc datblygu Cymru yn fanc i Gymru gyfan? O ran y pencadlys, bydd nifer y staff a fydd yn cael ei leoli yn y pencadlys yn 50 o fewn y ddwy flynedd nesaf. Rydym ni’n rhagweld y byddwn yn dechrau gyda 20, a fydd yn cynnwys rhai uwch reolwyr, ond mae strategaeth leoli yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Cyllid Cymru. Bydd hynny ar gael ym mis Awst a bydd yn rhoi manylion am yr union swyddogaethau a fydd yn cael eu cynnig yn y pencadlys o'r cychwyn cyntaf a'r cynigion ar gyfer cynyddu nifer y staff.

Mae wedi bod yn amlwg iawn fod Cyllid Cymru yn disgwyl, yn ystod y broses esblygu i fod yn fanc datblygu, y bydd staff presennol yn y gogledd ond hefyd bydd yn gwneud yn siŵr fod unrhyw adnoddau ar gyfer staff ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r pencadlys newydd wrth iddo ddatblygu cronfeydd newydd a chyfleoedd newydd. Ond rwy’n awyddus i sicrhau, a gwn fod Cyllid Cymru yn awyddus i wneud hynny gyda’u cynllun busnes—a byddaf yn trafod yr achos busnes mewn eiliad—gwn eu bod yn awyddus iawn i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad hawdd, mynediad corfforol, i gyngor a chefnogaeth banc datblygu. Ac mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda Busnes Cymru yn edrych ar sut y gallen nhw sicrhau eu bod yn elwa o fuddiannau cyffredin ac, o bosibl, sut y gallen nhw gydleoli gwasanaethau. Ein barn ni yw mai dim ond un pwynt cyswllt sydd ei angen arnoch i gael y cyngor a'r cymorth angenrheidiol, pa un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio dechrau busnes neu’n ddyn busnes eisoes ac yn ceisio tyfu’ch busnes. Felly, mae'n gwneud synnwyr i allu dod â gweithgareddau Busnes Cymru a'r banc datblygu at ei gilydd ac, yn yr un modd, i sicrhau bod swyddogaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyd-fynd yn dda â Busnes Cymru a'r banc datblygu.

O ran yr achos busnes, yn ôl yr hyn a addawyd, rwyf wedi gofyn i Gyllid Cymru rannu ei achos busnes mewn cyhoeddiad briffio a fydd ar gael y mis hwn. Cefais fy sicrhau o hynny. Felly, bydd hynny ar gael i'r Aelodau yn fuan iawn.

O ran y model hybrid a godwyd gan yr Aelod, wrth gwrs, datblygwyd y model yn dilyn dau adroddiad gan bwyllgorau, yr olaf yn 2015, pan nododd y Pwyllgor Menter a Busnes, dan gadeiryddiaeth fedrus eich cydweithiwr Nick Ramsay, fod Cyllid Cymru yn sylfaen gadarn ar gyfer ei datblygu yn fanc datblygu ac na ddylid colli arbenigedd. Felly, mae'r model hwn yn un cadarn.

O ran y gymhareb o ddenu buddsoddiad preifat, rydym yn credu bod hynny’n gyraeddadwy—mae’r gymhareb 1.15:1 yn gyraeddadwy a bydd yn cyfrannu at y targed o £1 biliwn dros bum mlynedd. O ran yr adnodd ychwanegol a fydd ar gael, rwyf eisoes wedi cyhoeddi heddiw y bydd adnodd ychwanegol ar ffurf dwy gronfa, a hefyd y banc datblygu, yng nghwrs ei bum mlynedd gyntaf, yn ailgylchu llawer o'r buddsoddiad. Bydd hynny’n ei dro yn sicrhau, drwy'r ffioedd rheoli, y bydd yn gweithredu heb gost i bwrs y wlad.

Gwnaeth Russell George bwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod y sgiliau digonol o fewn y banc datblygu o'r cychwyn cyntaf. Nawr, rwyf o’r farn y dylem ni i gyd gydnabod bod Cyllid Cymru wedi newid yn eithaf sylweddol ac, o ran ehangu sylfaen y sgiliau sydd ynddo—mae ganddo enw da eisoes, enw da iawn am lwyddo, wrth ddenu staff o'r radd flaenaf i ymuno â'i luoedd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi ennill a denu nifer o unigolion profiadol iawn, gan gynnwys rhai i swyddi cadeirydd, prif weithredwr, a chyfarwyddwyr anweithredol. Ac rwy’n credu, er ein bod ni, efallai, yn eithaf pell o ganolbwynt arbenigedd ariannol Llundain, byddwn yn gallu manteisio ar dai benthyca Llundain, ac rwyf i yn credu y bydd y banc datblygu yn gallu sefydlu cysylltiadau cryf y gellid eu defnyddio i gefnogi busnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

Rwy'n credu mai datblygiad allweddol arall i Cyllid Cymru yw’r arian y mae wedi ei weithredu ar gyfer cwsmeriaid dros y ffin. Mae wedi galluogi Cyllid Cymru i ennill ei enw da a hefyd i ennill sgiliau ychwanegol. Felly, mae gennyf hyder yng Nghyllid Cymru, wrth iddo ddod yn fanc datblygu Cymru, y bydd ganddo’r profiad a'r sgiliau, a’r bri hefyd, i ddenu'r goreuon yn y sector a hefyd i fagu’r sgiliau hynny oddi mewn iddo.

O ran gwarantau, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—ac mae hwn yn bwynt arwyddocaol iawn y mae’r Aelod yn ei godi—fod ein dewisiadau ar gyfer dyfodol banc datblygu Cymru yn aros yn agored a diben yr uned wybodaeth yw asesu tueddiadau cyfredol a newydd i edrych ar unrhyw rwystrau sy'n bodoli sy'n rhwystro mentrau micro, bach, a chanolig eu maint rhag tyfu a dyfeisio ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hynny.  Ac felly, dros y blynyddoedd nesaf, tebyg y gallai dyfodol y banc datblygu esblygu yn unol â hynny.

Rwy’n holi tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ein helpu ni drwy esbonio hanes y datblygu polisi yma, oherwydd cawsom fynediad at ddau adolygiad cyllid—roedd y ddau dros gyfnod o chwe mis—ac nid ydych wedi dilyn llawer o'u hargymhellion allweddol, ac yn wir, fe wnaethoch yn groes i hynny. Rydych chi, er enghraifft, wedi caniatáu i Gyllid Cymru weithredu cronfeydd buddsoddi yn Lloegr ar hyn o bryd. Roedd hynny yn gwbl groes i argymhelliad y tîm adolygu, ac fe ddywedon nhw’n benodol nad oedden nhw’n teimlo mai Cyllid Cymru oedd y strwythur cywir i fynd â'r banc datblygu yn ei flaen hefyd.

Roedden nhw’n trafod maes penodol, sef cyfalaf menter, lawer gwaith. Wrth ei natur, y mae'n golygu risg uchel iawn. Byddai rhai yn dweud ei fod, yn y rhan fwyaf o achosion, bron â bod, yn cael ei yrru gan drachwant. Nid yw'n sefyll ochr yn ochr â diwylliant, fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda banc datblygu sy'n eiddo cyhoeddus, sydd o reidrwydd wedi ei rwymo yn y rheolau ac yn tueddu i fod rhywfaint yn llai parod i dderbyn risg. Disgrifiwyd hyn i mi heddiw gan rywun sydd wedi gweithio yn y Ddinas fel cael siop trwsio beiciau modur mewn ward mamolaeth. A’r awgrym o ran mynediad at adolygiad cyllid oedd, mewn gwirionedd, fod yr elfen honno—mae gennym broblem sylweddol yng Nghymru o ran mynediad at gyfalaf menter—yn cael ei chyfeirio yn allanol i bob pwrpas, ac felly’n gweithio gyda chronfeydd cyfalaf menter presennol a rhai newydd. Byddai'n ddiddorol gweld, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydym yn mynd ar hyd y llwybr hwnnw. Crybwyllodd—rwy’n credu bod Russell George wedi holi am fenthyca. Yn eich datganiad, roeddech yn cyfeirio at ddysgu o'r enghreifftiau rhyngwladol—Banc Datblygu Busnes Canada, Finnvera yn y Ffindir—mae gan y banciau datblygu hynny y gallu i fenthyca ar eu liwt eu hunain, felly a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch a fydd gan y banc datblygu y gallu i wneud hynny?

Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yn union ar ddiwedd ei sylwadau nawr o ran bod yn agored i strwythurau’r dyfodol, oherwydd mae rhai awgrymiadau diddorol i’w cael. Os mai sefydliad sydd yn ei ariannu ei hunan yr ydym yn ei drafod, pam na chrëwn ni mewn gwirionedd, i bob pwrpas, sefydliad annibynnol cyhoeddus ei ddibenion, a fyddai naill ai drwy—rwy’n ymatal rhag awgrymu gwarant, Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, neu, fel y mae Gerry Holtham wedi ei awgrymu waddoli’r sefydliad o bosibl, sydd wedyn yn gallu bod yn rhydd i fynd ymlaen a gweithio gyda mwy o ymdeimlad o ystwythder o bosibl nag a fyddai'n wir ar hyn o bryd?

Yn olaf, rwyf ychydig yn bryderus am y pencadlys, Ysgrifennydd y Cabinet—. Roeddwn wrth fy modd â thudalen flaen Y Leader heddiw, ac mae'n ardderchog gweld sefydliadau cenedlaethol newydd yn cael eu creu ar hyd a lled Cymru, ond mae'n rhaid i’r peth fod yn ddilys. Wyddoch chi, oni wnaeth RBS dwyllo wrth ddweud bod eu pencadlys yng Nghaeredin, ond, mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn gwneud y penderfyniadau allweddol yn Llundain? A wnaiff ddweud mwy am nifer yr uwch gyfarwyddwyr a fydd yn cael eu lleoli yn y pencadlys, os nad yw am fod yn bencadlys mewn enw’n unig?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Eto, rwy’n cytuno'n llwyr, ni all fod yn blac pres yn unig ar adeilad yn Wrecsam, mae'n rhaid i’r lle fod yn hollol weithredol, gydag uwch reolwyr, ac mae’r pwynt hwn wedi cael ei wneud dro ar ôl tro i Gyllid Cymru a bydd yn cael ei adlewyrchu ym mis Awst, pan fydd y strategaeth leoli yn cael ei chyhoeddi. Rwyf wedi fy sicrhau y bydd uwch reolwyr yno ac y bydd cyfarfodydd bwrdd hefyd yn cael eu cynnal yn y pencadlys. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i bob rhan o Gymru gael rwydd hynt i gefnogaeth a chyfleusterau’r banc datblygu, a bydd y pencadlys yn elfen allweddol o hynny. Ond, hefyd, fel y dywedais eisoes, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried ffyrdd eraill o alluogi cwsmeriaid i gael cefnogaeth banc datblygu, a gallai hynny fod trwy gydleoli gydag unedau cymorth Llywodraeth Cymru neu Fusnes Cymru.

O ran cronfeydd cyfalaf menter, mae hwn yn faes gwaith diddorol iawn, ond gallaf ddweud wrth yr Aelod—a dyfyniad diddorol oedd hwnnw gan ei gydweithiwr yn y Ddinas—pan oeddem ni’n chwilio am geisiadau cystadleuol gan wasanaethau rheoli cronfeydd cafwyd rhai achosion lle nad oedd unrhyw gynigwyr eraill heblaw am Gyllid Cymru. Yn awr, mae achos busnes banc datblygu Cymru yn nodi y cytunir ar wasanaethau rheoli a chefnogi buddsoddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru fesul achos, yn dibynnu ar ofynion y prosiect unigol. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Byddwn yn gallu ei adolygu.

Ac o ran cwestiwn benthyca, rydym wedi edrych yn fanwl ar lawer o ymholiadau ac ar lawer o ystyriaethau—wedi ystyried a allai gwarantau benthyciadau sydd yn cael eu cynnig drwy gronfa dwf yr Alban a gwarantau allforio gael eu llacio, sy’n hanfodol ar gyfer Cymru ôl Brexit. Rydym wedi ystyried a oes modd i’r banc datblygu feithrin bancio cronfa wrth gefn ffracsiynol, er mwyn bod yn sefydliad sy’n cymryd adnau. Ond, fel y dywedais, mae’r dewisiadau yn agored ar gyfer y banc a byddan nhw’n seiliedig ar werthusiadau rheolaidd, llythyrau blynyddol cylch gwaith, ac, yn hollbwysig, bydd gwaith yr uned wybodaeth, sydd, fel y dywedais yn gynharach, yn craffu ar beth yn union yw’r rhwystrau hynny sy’n wynebu mentrau micro, bach a chanolig eu maint a sut y gallwn fynd i'r afael â nhw.

Yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru am eu llwyddiant yn denu CAF a chlwstwr technoleg y byd fel ei gilydd i Gasnewydd? Nid newyddion da i Gasnewydd yn unig yw hyn, ond i’r de-ddwyrain hefyd. Yn anffodus, wrth gwrs, mae’n rhaid bod yna 'ond' yn rhywle, ac, yn yr achos hwn, dyma ydyw: er ei bod yn ganmoladwy denu diwydiant newydd i Gymru, mae hefyd lawn gyn bwysiced fod pob busnes a sefydlwyd eisoes yng Nghymru yn cael gafael ar gyllid fel a phryd a lle bo angen. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Siambr ynglŷn â sut mae'n credu y bydd banc datblygu Cymru yn rhoi gwasanaeth fel hyn yn well na Chyllid Cymru sy’n dod i ben? Ac, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi pryderon sawl gwaith o ran mynediad at gyllid, yn enwedig o ran busnesau bach a chanolig yn y sector ymchwil a datblygu. A wnaiff addo i ni y bydd y prosesau i ymgeisio am gyllid o'r fath yn syml ac yn dryloyw, yn enwedig o ystyried y pwyslais a nodir yn fynych gan Lywodraeth Cymru ar greu sector arloesol cadarn yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am iddo ein llongyfarch ar y gwaith a wnaed i sicrhau buddsoddiad sylweddol gan CAF yn etholaeth fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths? Mae'n mynd i fod yn ychwanegiad pwysig i sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru. Am y tro cyntaf, byddwn yn adeiladu trenau. Mae'n brosiect cyffrous iawn, ac mae hefyd yn un sydd â photensial i ehangu’n fawr iawn. Hefyd, mae hwn yn ddatblygiad cyntaf o’i fath yn y byd, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn rhywbeth, eto, y gall y de-ddwyrain fod yn falch ohono a hynny’n haeddiannol. Mae’n seiliedig ar economi’r dyfodol, yn elfen o'r economi a fydd ar flaen y gad yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol—eto, cyflawniad cyffrous a thestun balchder.

O ran cymorth i gwmnïau sy’n cychwyn, bydd yn hanfodol fod Busnes Cymru a’r banc datblygu yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth priodol a chywir ar gael ar bob cam o'r daith i’r rheini sy’n cychwyn busnes neu’r bobl busnes sydd eisoes yn gweithredu menter ficro, fach neu ganolig ei maint. Am y rheswm hwn, bydd yn rhaid cael trefniant cyson ac rwyf wedi gofyn i uwch swyddogion o Fusnes Cymru a Chyllid Cymru fel ei gilydd i gynnal darn cyflym o waith yn edrych ar sut y gallwn gysoni gwaith a swyddogaethau'r ddau yn y ffordd orau.

Yn ogystal â hynny, fel yr amlinellais— yn dilyn datganiad llafar heddiw byddaf yn anfon llythyr at yr Aelodau yn rhoi manylion pob un o'r cronfeydd—mae adnodd ychwanegol bellach ar gael i ficrofusnesau. Mae wedi treblu yn ei werth dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd a oedd, cyn i Gyllid Cymru weithredu'r swyddogaethau i gefnogi microfusnesau, yn anodd eu cael gan fanciau masnachol. Rwyf hefyd o’r farn y bydd y banc datblygu, gyda strategaeth ddigidol, yn sicrhau y bydd y gwasanaethau porth y mae’n eu gweithredu o ran Busnes Cymru yn glir, yn dryloyw ac yn syml yn eu swyddogaeth. Mae Busnes Cymru eisoes yn llwyfan cryf iawn, wedi ei hen sefydlu, y bydd banc datblygu Cymru yn gallu ei ddefnyddio.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar sefydlu banc datblygu i Gymru, ac nid yw’n syndod o gwbl i gydweithwyr yma fy mod yn croesawu’n wresog leoliad y banc yn y gogledd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y fan acw, mae ffanffer ar dudalen flaen y 'Wrexham Leader' heddiw, ond cafodd le amlwg yn y 'Flintshire Leader' hefyd. Yn fy marn i mae hyn yn dangos yr arwyddocâd sydd iddo dros ffiniau’r siroedd ac i'r rhanbarth yn gyffredinol. Er fy mod i, yn amlwg, yn cydnabod yr angen am y banc hwn i gefnogi busnesau, fel y dylai, ar hyd a lled y wlad, rwyf ond yn dymuno canolbwyntio yn fyr ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich datganiad am nod y banc i feithrin 50 o swyddi. Ar hynny, er fy mod yn cydnabod bod yn rhaid i’r bobl sy’n cael eu recriwtio i’r swyddi hyn feddu ar y sgiliau cywir er mwyn i’r banc fod yn llwyddiannus, byddwn i'n awyddus i weld sut y gallai hynny mewn gwirionedd gynnig cyfleoedd i bobl yn y rhanbarth ei hun, gan fy mod yn awyddus i weld bod y swyddi a ddaw gyda datganoli, yn enwedig y sefydliadau yn sgil datganoli wrth i ni symud ymlaen, yn cynnig cyfle gwirioneddol ledled Cymru. Felly, os nad yw'r sgiliau eisoes yno yn y rhanbarth, a fydd unrhyw gyfle yn y dyfodol i edrych ar sut y gellid cynnig prentisiaethau hefyd?

Fy mhwynt olaf yw hyn. Yn eich tystiolaeth i sesiwn ddiweddar o Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, rwy’n credu i chi sôn am gyfleoedd posibl i gydleoli Busnes Cymru â Chyllid Cymru yn y banc datblygu. Tybed a wnewch chi ymhelaethu ar hyn—sut, yn wir, y gallai fod nid yn unig yn gydleoli ond yn gydweithio, a fyddai’n helpu pobl i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael o ran cymorth ariannol, ond hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth wirioneddol o'r cyfle sydd yno i gael cyngor ac arweiniad. Daeth yn gwbl amlwg i mi, yn enwedig mewn ymweliad diweddar yn eich cwmni i fragdy’r Hafod yn fy etholaeth i, nad yw pobl ar lawr gwlad yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael ar eu cyfer. Rwyf o’r farn y gallai cydweithio yn well o bosibl ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw o sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa yn effeithiol ar y gwasanaethau.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le ynglŷn â’r ffaith fod llawer o fusnesau bach naill ai heb fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ac sydd wedi bod ar gael ers rhai blynyddoedd neu, fel arall, eu bod yn gweld cymaint o gynigion am gymorth fel eu bod yn anodd iddynt weld y darlun mawr. Y nod wrth ddod â Busnes Cymru a'r banc datblygu yn nes at ei gilydd yw sicrhau bod eglurder cyfeiriad yn bodoli ar gyfer unrhyw bobl busnes er mwyn cael arian a chymorth o unrhyw fath ac y byddai'r ddau yn gallu bod yn fynegbyst i’w gilydd ac, yn wir, i wasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yn unol â hynny. Fy marn i yw y dylem ni, os oes modd, ddatganoli a datganolbwyntio buddsoddiad ac, am y rheswm hwnnw, rwy’n awyddus i weld presenoldeb cryf gan y banc datblygu nid yn unig yn y gogledd ond ledled Cymru. Yn wir, mae gan gymunedau gwledig yn aml gnewyllyn mawr o ficrofusnesau sy'n ei chael hi’n anodd cael gafael ar gyllid gan fanciau’r stryd fawr. Felly, os unrhyw beth, bydd banc datblygu Cymru yn fwy perthnasol i rai cymunedau gwledig na rhai o'n cymunedau trefol, ac am y rheswm hwnnw, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol i’r banc datblygu fod yn hygyrch i bobl busnes yn ein hardaloedd mwy gwledig.

Ac o ran y sylfaen sgiliau sydd yn bodoli yn y gogledd yn barod, rwy'n hyderus fod ar sail sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol cryf a chynyddol yn ardal Wrecsam, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o’r gogledd—. Fod yna hefyd sector digidol cryf iawn sydd yn ffynnu. Roeddwn yn etholaeth Janet Finch-Saunders yn ddiweddar yn ymweld ag uned fusnes fechan a oedd yn canolbwyntio ar dechnoleg ariannol, ac a oedd yn gweithio o adeilad eglwys. Lle diddorol oedd hwn—nifer o fusnesau bach yn tyfu'n gyflym, bob un ohonynt ag angen mynediad at y math hwn o gymorth. Ac, felly, mewn mannau fel Aberconwy, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y banc datblygu yn boblogaidd iawn. Ond mae'r sylfaen sgiliau yno’n barod. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w sicrhau yw, wrth i’r swyddi ychwanegol hynny gael eu datblygu ar gyfer y pencadlys, fod y bobl iawn ar gael. Mae llawer o bobl sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd yn teithio dros y ffin i gael gwaith yn y sector gwasanaethau ariannol, a gallai presenoldeb pencadlys banc datblygu yng Nghymru gynnig cyfle iddyn nhw aros yng Nghymru. Ond, yn yr un modd, bydd yn bwysig i addysg bellach ac addysg uwch weithio gyda'r swyddogion partneriaeth sgiliau rhanbarthol i nodi'r holl gyfleoedd sydd ar gael o fewn y banc datblygu drwy’r rhanbarth.

Ac o ran y dull rhanbarthol, rwy'n arbennig o falch y bydd y banc datblygu a swyddogaethau presennol Busnes Cymru yn caniatáu i bob rhanbarth ddatblygu dull eithaf nodweddiadol o ran y ffordd y mae'r gwasanaethau yn ymateb i gwsmeriaid.

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Rydym yn troi nawr at eitem 8—y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6367 Carl Sargeant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig heddiw. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Cyflwynais i’r Bil fis Mawrth diwethaf, a’i nod yw gwarchod y cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydiad pellach yn wyneb galw uchel a phrinder cyflenwad. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod eu gwerthu ar ôl ychydig o flynyddoedd.

Llywydd, mae'r Bil yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan y cynlluniau hyn. Mae llawer o eiddo wedi mynd i’r sector rhentu preifat, gan arwain at gostau uwch i denantiaid, a phan fo budd-daliadau tai yn cael eu hawlio, gall gostio mwy fyth i'r pwrs cyhoeddus. Er bod yr hawl i brynu wedi ei wahardd mewn rhai rhannau o Gymru, mae angen sylweddol am dai yn parhau ledled y wlad, ac mae'r Bil yn diddymu’r hawliau ledled Cymru, sy'n golygu y bydd tai cymdeithasol yn cael eu diogelu ledled y wlad. Datblygwyd y Bil yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn 2015, a oedd yn dangos cefnogaeth glir ar gyfer nodau'r Bil hwn.

Bydd y Bil yn diddymu’r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd, a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, a hynny o leiaf un flwyddyn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Ond i annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, bydd yr hawl yn dod i ben ar gyfer cartrefi sy’n newydd i'r stoc tai cymdeithasol, ac felly sydd heb unrhyw denantiaid presennol, ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybodaeth lawn am effeithiau'r Bil, a hynny mewn modd amserol, ac mae'r Bil wedi ei ystyried gan aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'r Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n ddiolchgar i'r tri Chadeirydd hynny, John Griffiths, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas, a'r holl Aelodau am y craffu ystyrlon. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i randdeiliaid am y dystiolaeth sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad cadarn a gyflwynwyd i mi. Yn anochel, nid yw rhai rhanddeiliaid yn cytuno â phob agwedd, ond rwy’n credu eu bod nhw i gyd yn cydnabod yr angen i ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy’n ystyried yn ofalus argymhellion y pwyllgorau, gyda'r bwriad o ymateb yn gadarnhaol i gynifer o'r rhai hynny â phosibl, naill ai drwy welliannau’r Llywodraeth, neu drwy ddulliau eraill, megis canllawiau. Rwy’n rhannu'r awydd a fynegwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sicrhau bod gwybodaeth glir a phriodol yn cael ei darparu i denantiaid am ddiddymu. Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, rwy’n bwriadu lansio ymgynghoriad â thenantiaid ar y ddogfen wybodaeth yfory. Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â thenantiaid yn elfen allweddol o'r ymgynghoriad. Byddan nhw’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru i gasglu barn tenantiaid am y wybodaeth, a byddan nhw’n bwydo'r canlyniadau yn ôl i ni. Rwy'n ddiolchgar i’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid am eu cymorth â’r mater hwn.

Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori â grŵp llywio cynhwysiant ariannol y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol ar yr agweddau ariannol ar yr hawl i brynu a'r wybodaeth a ddarperir i denantiaid hefyd. Yn ogystal â darparu copi o'r ddogfen wybodaeth i landlordiaid cymdeithasol, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn argymell gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r ddogfen i sefydliadau perthnasol eraill pan gaiff ei rhoi i landlordiaid cymdeithasol. Rydym ni’n bwriadu anfon y ddogfen at ystod eang o randdeiliaid, ond rwy'n ystyried y byddai’r argymhelliad yn gwella’r Bil a bwriadaf gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 yn dilyn argymhellion y pwyllgor.

Hefyd, argymhellodd y pwyllgor welliant i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei darparu i’w holl denantiaid perthnasol, megis y dyddiadau pan ddaw cyfyngiadau ar y cartrefi newydd a’r diddymiad llawn i rym. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y pwyllgor, ac rwy’n cydnabod y pryder y gallai tenantiaid fod yn llai ymwybodol nag eraill, ac rwy’n bwriadu cyflwyno’r gwelliant yng Nghyfnod 2 i nodi'r wybodaeth ofynnol am effeithiau'r Bil y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol ei darparu i denantiaid.

Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor yn argymell gwelliant i sicrhau bod landlordiaid cymwys yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i denantiaid yn y ffyrdd mwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Rwy’n gwerthfawrogi pryder y pwyllgor y dylai'r ddogfen wybodaeth i denantiaid fod ar gael i denantiaid ym mha bynnag ffordd sy’n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion a chytunaf yn llwyr â'r egwyddor y tu ôl i’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, nid wyf yn ystyried bod angen gwneud darpariaeth yn y Bil, gan fod landlordiaid eisoes yn effeithiol iawn wrth ymgysylltu â'u tenantiaid. Yn unol â'r egwyddor y tu ôl i'r argymhelliad, felly, yn rhan o'r ymgynghoriad ar y wybodaeth sydd i'w hanfon at denantiaid, byddaf hefyd yn ymgynghori ar yr arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid a byddaf hefyd yn rhoi cyngor i landlordiaid cymdeithasol ar ledaenu’r wybodaeth honno.

Nid yw argymhellion eraill y pwyllgor yn gofyn am welliannau i'r Bil, Llywydd. Maen nhw’n argymell y dylwn i weithio gyda'r gwasanaethau cynghori perthnasol i fonitro ac adolygu effaith y Bil ar y galw am wasanaethau, gyda'r bwriad o ddarparu cymorth ariannol ychwanegol cyn diddymu os bydd yr angen yn codi. Byddwn ni’n gweithio gyda gwasanaethau cynghori ac yn monitro effaith y Bil, ac nid wyf yn rhagweld yr angen am adnoddau ychwanegol, ond rwy'n hapus i barhau i ystyried yr angen hwn.

Rwyf hefyd yn croesawu'r adroddiad gan bwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i mi egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r Bil ddiwygio deddfwriaeth gyfredol y DU yn hytrach na chyfuno Bil annibynnol. Llywydd, os caf i gymryd moment i egluro, mae'r Bil yn diddymu'r hawl i brynu a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr gan ddeddfwriaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid iddo ddiwygio deddfwriaeth bresennol Lloegr a Chymru i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Er mwyn cyfuno’r newidiadau angenrheidiol hyn gyda darpariaeth annibynnol ar wahân, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i ailddatgan yn helaeth iawn y gyfraith sy'n ymwneud â'r hawl i brynu am gyfnod dros dro yn unig. Yn y Bil—sydd â’r unig bwrpas o ddiddymu'r hawl yn hytrach na gwneud darpariaeth ynglyn â hynny—dyna pam yr ydym ni wedi symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo hygyrchedd a chydlyniad cyfraith ddwyieithog Cymru o hyd. Mewn llawer o achosion, bydd hyn yn arwain at gyfuno deddfwriaeth bresennol. Ni fyddai prosiect cyfuno cyfraith tai gyffredinol, fodd bynnag, yn ychwanegiad priodol i'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth sylweddol am y maes cul ac ar wahân o gyfraith tai yn unig ar y mater penodol hwn. Byddai cyfuno cyfraith tai yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn ac mae angen ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

Mae argymhellion eraill yn ymwneud â darparu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru i landlordiaid, ac mae'r pwyllgor yn argymell y gwneir gwelliannau i ddyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud popeth sy’n rhesymol i ddarparu'r wybodaeth i landlordiaid yng Nghymru. Llywydd, er fy mod yn nodi argymhelliad pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, ystyriwyd y darpariaethau hyn gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol hefyd, a oedd yn fodlon ar y trefniadau presennol yn y Bil. Felly, nid wyf yn bwriadu cyflwyno gwelliant ar y mater hwn ar sail argymhellion y pwyllgor polisi Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Mae dau argymhelliad arall pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar gyfer gwelliannau yn berthnasol i agweddau eithaf technegol sy’n ymwneud â drafftio manwl y Bil, a byddaf yn ceisio cyngor pellach ar y materion technegol cyn Cyfnod 2, a byddaf yn rhoi'r cyfle i’r pwyllgorau a'r Senedd graffu ar hynny.

Llywydd, yn olaf, rwy'n ddiolchgar am waith craffu a chefnogaeth y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch eu bod yn fodlon ar y modelu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a’u bod o’r farn na fyddai'r baich y gallai'r Bil osod ar y sector yn rhy drwm. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am y dyrchafiad hefyd.

I now call on the Chair of the Equality, Local Government and Communities Committee, John Griffiths.

Diolch yn fawr, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn fy mod i’n gallu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni er mwyn helpu i lywio ein gwaith—yn benodol, tenantiaid ledled Cymru a gymerodd amser i ddod i’n digwyddiadau grŵp ffocws. Hoffwn i ddiolch i aelodau o'r pwyllgor am eu gwaith ar y Bil a chydnabod eu parodrwydd i weithio gyda'i gilydd, hyd yn oed pan oedd gennym ni safbwyntiau eithaf gwahanol ar faterion pwysig yn ymwneud â chynnwys y Bil.

Cadeirydd, roedd ein hystyriaeth o'r Bil wedi canolbwyntio ar brofi pa un a fydd yr egwyddorion cyffredinol yn cyflawni nod y polisi i ddiogelu’r cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydu pellach yn wyneb y galw uchel a’r prinder cyflenwad. Yn ein gwaith craffu, rydym ni wedi ystyried pob un o'r darpariaethau yn fanwl. Wrth wneud hyn, rydym ni wedi sôn am faterion ehangach, gan gynnwys y cyflenwad tai ac effaith Mesur Tai (Cymru) 2011. Roedd y Mesur hwn yn gam tuag at y ddeddfwriaeth hon, ac wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael mewn ardaloedd lle mae pwysau uchel o ran tai.

Wrth gwrs, mae’r hawl i brynu yn un o'r polisïau cyhoeddus mwyaf adnabyddus, ac, ers ei gyflwyno yn y 1980au cynnar, mae rhyw 135,000, 136,000 o gartrefi awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu gwerthu o dan y cynllun. Mae llawer wedi manteisio arno, ac mae wedi bod yn ddadleuol. Yng Nghymru, pwyslais y polisi oedd diogelu'r stoc o dai cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf drwy leihau lefel y disgownt sydd ar gael, a thrwy gynnig y cyfle i wneud cais i atal y cynlluniau mewn ardaloedd lle mae pwysau sylweddol o ran tai. Y Bil hwn, felly, yw penllanw yr ymagwedd hon.

Cawsom dystiolaeth gadarn a oedd yn dangos y dylid defnyddio’r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i fynd i'r afael â'r pwysau sylweddol am dai y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu. Rydym ni’n gwybod bod yna alw mawr am dai cymdeithasol ac y gallai’r rhan fwyaf o’r darparwyr tai cymdeithasol lenwi pob un o'u heiddo lawer gwaith drosodd. Rydym ni’n cydnabod nad dileu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yw'r unig arf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac nad dyma’r prif arf o ran cynyddu’r cyflenwad o dai ychwaith. Fodd bynnag, bydd yn gwneud yn siŵr bod tai cymdeithasol presennol a newydd yn cael eu cadw yn y sector a bod modd eu defnyddio at eu diben: sef darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf.

Rydym ni’n deall y bydd tenantiaid yn colli hawl y maen nhw wedi gallu ei harfer ers dros 30 mlynedd, ond rydym ni’n cytuno â Llywodraeth Cymru, os na ddiddymir yr hawliau, mae perygl y bydd y cynlluniau hyn yn parhau i danseilio ymdrechion gan y sector tai cymdeithasol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er y diddymir yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael, erbyn hyn mae mentrau eraill ar gael i helpu pobl i brynu eu cartrefi, gan gynnwys Help i Brynu. Er bod gan rai aelodau o'r pwyllgor bryderon penodol na chaiff tenantiaid mewn ardaloedd sydd yn cael eu heffeithio gan y diddymu cyfle arall i brynu eu cartref, daeth y pwyllgor i'r casgliad mwyafrifol i argymell i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol hynny, fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella’r Bil, ac rwy’n troi at y meysydd hyn nawr.

Mae pob un o'n hargymhellion yn ceisio cryfhau’r darpariaethau hynny yn adran 8. Mae'r rhain yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth i helpu tenantiaid i ddeall effaith y Bil cyn cyflwyno’r diddymu. Y bwriad yw y bydd yr wybodaeth hon yn helpu tenantiaid i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau. Cadeirydd, mae hyn, wrth gwrs, yn newid polisi arwyddocaol, sy'n disodli’r polisi adnabyddus a hirsefydlog hwnnw sydd wedi bodoli ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau wrth wneud yn siŵr y gall y rhai hynny a allai gael eu heffeithio gan y newid ddeall yr effaith y gallai ei chael arnyn nhw, a gwneud penderfyniadau o ran pa un a ydynt am arfer eu hawl i brynu neu gaffael cyn ei cholli am byth.

Yn argymhelliad 2, yna, rydym ni’n galw i'r Bil gael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu'r ddogfen wybodaeth i sefydliadau perthnasol fel gwasanaethau cynghori a grwpiau sy'n cynrychioli tenantiaid. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson. I'r perwyl hwn, yn argymhelliad 3, rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i'r Bil i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei rhoi i denantiaid. Dylai gwybodaeth o'r fath gynnwys y dyddiadau y bydd y cyfyngiadau a’r diddymu llawn yn dod i rym.

Mae'n hanfodol bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson i sicrhau nad yw’r lle y maent yn byw ynddo yn effeithio ar faint o wybodaeth y maent yn ei derbyn, a’i hansawdd. Ni ddylai fod yna loteri cod post. Yn gysylltiedig â hyn, rydym ni hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn y Bil i sicrhau bod landlordiaid yn cyfleu'r newidiadau yn y ffordd fwyaf hygyrch a phriodol. Mae gennym dystiolaeth glir i ddangos bod hyn yn rhywbeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn dda am ei wneud, ond, drwy ddiwygio'r Bil fel yr ydym ni’n ei awgrymu, rydym ni’n credu y bydd yn sicrhau cysondeb ar draws y sector. Bydd hefyd yn lleihau'r perygl bod rhai grwpiau penodol o denantiaid yn methu â chael yr wybodaeth angenrheiddiol i wneud penderfyniadau gwybodus.

Cadeirydd, rwy'n ddiolchgar bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r materion hyn ynghylch gwybodaeth yn y Siambr heddiw. Rwyf wedi clywed, a bydd Aelodau yn gyffredinol wedi clywed yr hyn a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud. Mae'n cyfrannu rhywfaint, yn fy marn i, at fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor, ond, yn amlwg, mae’r argymhellion a wnawn ni fel yr wyf i wedi'u hamlinellu.

Yn amlwg, Cadeirydd, o ran y cyngor a fydd ar gael, mae’r pwysigrwydd bod gan denantiaid fynediad at gyngor clir a diduedd ynghylch pa un a ddylen nhw arfer eu hawl i brynu neu gaffael yn hanfodol. Nid oeddem wedi ein hargyhoeddi am yr angen am wasanaethau cyngor ychwanegol, ond rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet yn monitro effaith y Bil ar y galw am wasanaethau cynghori presennol ac yn ystyried rhoi cymorth ychwanegol, os bydd angen. Unwaith eto, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i'r afael â'r materion hynny yn ei araith agoriadol heddiw, Cadeirydd, a byddwn ni i gyd, rwy’n credu, yn ystyried sut y gellir datblygu hynny maes o law.

Cadeirydd, rydym ni’n croesawu'r cyfle i adolygu'r wybodaeth ddrafft ar gyfer tenantiaid, a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ein gwaith craffu, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Drwy wneud hyn, roeddem ni’n gallu ei rhannu â rhanddeiliaid a chael eu barn arni, ac mae ein hargymhelliad olaf yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fynd â hyn ymhellach, ac y dylid profi'r ddogfen wybodaeth gyda thenantiaid i sicrhau ei bod yn gwbl addas at ei diben.

Cadeirydd, rwy’n gallu gweld bod fy amser wedi dod i ben, felly, i gloi, Cadeirydd, rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd yr argymhelliad hwn. Roeddem ni’n falch iawn i gael cyfrannu at y cynigion deddfwriaethol ac rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn gwella’r Ddeddf yn y pen draw. Diolch yn fawr.

Thank you very much. I call on the Chair of the Finance Committee, Simon Thomas.

Thank you, Chair, and it’s a pleasure to speak on behalf, very briefly, of the Finance Committee, just to outline the financial implications of the Abolition of the Right to Buy and Associated Rights (Wales) Bill.

The Finance Committee wishes to bring the Assembly’s attention to the wide variation in the figures in the regulatory impact assessment in estimating the potential costs and benefits that could arise from implementing the Bill’s provisions. The figures provided range from a potential benefit of £57.4 million to a potential cost of £75.3 million. This would usually be a cause for concern, but the Cabinet Secretary explained that uncertainties in predicting the number of property sales was the reason for this variation. He provided us with the details of the modelling used by the Welsh Government to measure the financial impact on social landlords, and the committee was reassured by this work.

Some stakeholders have voiced concern that a surge in applications by eligible tenants to exercise their right to buy could result in an increased workload during the one-year period following Royal Assent. We believe this concern must be weighed against the Cabinet Secretary’s assertion that there is much support for the Bill within the housing sector—support that was echoed by John Griffiths, the committee Chair, who’s just spoken.

Finally, I would like to re-iterate an issue that this Finance Committee and our predecessor committee have raised on a number of occasions relating to the costs of implementing secondary legislation provisions. In the case of this Bill, the Cabinet Secretary has assured us that the foreseeable costs are accounted for in full.

Byr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Cadeirydd. Rhoesom adroddiad ni ar y Bil hwn ar 7 Gorffennaf, a gwnaethom bum argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyffredinol, roeddem ni’n fodlon ar y cydbwysedd a sicrhawyd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i’r is-ddeddfwriaeth, a hefyd bod hawliau dynol yn cael eu cynnwys fel y nodir yn y memorandwm esboniadol a thystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i ni.

Fodd bynnag, fe wnaethom awgrymu y byddem ni wedi hoffi cael esboniad mwy trylwyr ynghylch pam y dewisodd Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn y DU, yn hytrach nag un sydd wedi’i chydgrynhoi ac yn annibynnol. Felly, rwyf mewn gwirionedd yn ddiolchgar iawn heddiw, ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn, am ei fod wedi nodi ei farn ac eglurhad pellach ar y cofnod yn y fan hyn heddiw yn y Siambr. Roedd o gymorth mawr mewn gwirionedd—a hefyd ei sylwadau ar gyfraith ddwyieithog Cymru, yn ogystal â dyfodol y ddeddfwriaeth wedi’i chydgrynhoi.

Gwnaethom ni ddau argymhelliad mewn cysylltiad ag adran 8 o'r Bil. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor wedi bod o’r farn ers amser hir fod yn rhaid i ddinasyddion wybod yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt er mwyn i’r gyfraith fod yn effeithiol. Felly, rydym ni’n croesawu'r gofyniad a nodir ar wyneb y Bil i baratoi a chyhoeddi dogfen wybodaeth wedi'i thargedu i gynorthwyo tenantiaid i ddeall effeithiau'r Bil hwn. Fodd bynnag, rydym ni’n nodi bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd 'pob cam rhesymol' i ddarparu copi o'r ddogfen hon i bob landlord cymwys. Nid oeddem ni’n ystyried bod hynny'n mynd yn ddigon pell, felly, fe wnaethom ni argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliant yng Ngham 2 i osod dyletswydd ddiamod ar Weinidogion Cymru i ddarparu’r ddogfen wybodaeth i bob landlord cymwys yng Nghymru.

Nawr, rydym ni’n cydnabod yr heriau o ran cysylltu â landlordiaid sydd wedi eu lleoli y tu allan i Gymru, ac mae argymhelliad 3 o'n hadroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa honno. Yn sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, nododd fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried y mater hefyd, ac roedden nhw’n fodlon ar ffurf cynigion y Bil fel ag y maent. Felly, byddem ni’n gofyn yn syml i'r Gweinidog, a fydd yn edrych eto ar hyn wrth i Gyfnod 2 nesáu i weld a yw'n afresymoll o drwm ac yn afresymol o gymhleth ac, os nad ydyw, efallai y byddai'n ystyried ein hargymhelliad ymhellach bryd hynny.

Gwnaethom ni ddau argymhelliad hefyd mewn cysylltiad ag adran 9 o'r Bil ynghylch pwerau i wneud rheoliadau. Mae’r cyntaf o'r rhai hyn yn ceisio lleihau lled y pŵer, a nod yr ail yw gwella eglurder. Nawr, rwy’n nodi ac yn croesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn cysylltiad â'r ddau argymhelliad hynny heddiw y bydd yn ceisio tystiolaeth bellach cyn Cyfnod 2 o'r Bil, ac rwy'n siŵr y bydd aelodau'r pwyllgor ac Aelodau'r tŷ hwn yn dychwelyd yn briodol i’r materion hyn yn y cam hwnnw. Ac rwy’n diolch i aelodau fy mhwyllgor a’n tîm am eu gwaith craffu ar y Bil hwn.

Cadeirydd, mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyma'r unig ffordd i fodloni’r argyfwng tai. Bu’r galw am dai yn uwch na’r cyflenwad o dai yng Nghymru, fel ar draws y DU, ers nifer o flynyddoedd. Mae'r galw ychwanegol am dai yn deillio o gynydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un-person, ond hefyd ffactorau eraill megis y cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’r ymosodiad parhaus ar yr hawl i brynu yn dargyfeirio ymylol o'r brif broblem—diffyg adeiladu tai. Bydd y diddymu yn cael gwared ar gyfle hanfodol i denantiaid tai cymdeithasol ddod yn berchen ar dai. Mae wedi bod yn bolisi aruthrol o boblogaidd—efallai’r enwocaf yn yr ugeinfed ganrif.

Yn hytrach na mynd i'r afael ag anghenion tai drwy gyfraddau adeiladu tai priodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad presennol—mae hyn i’w groesawu, ond nid yw’n ddigonol. Ers 2004, mae Llywodraethau Cymru olynol— â phob un wedi cynnwys y Blaid Lafur, ac un wedi cynnwys Plaid Cymru—wedi eu rhybuddio am yr argyfwng tai sydd ar y gorwel, oni bai bod llawer mwy o dai yn cael eu hadeiladu.

Roedd adroddiad yr Athro Holmans o’r enw ‘Yr Angen a'r Galw am Dai yng Nghymru yn y Dyfodol’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru—rwy’n rhoi clod iddi am hynny—yn amcangyfrif bod angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd ar Gymru, neu 12,000 bob blwyddyn, rhwng 2011 a 2031, o dan yr hyn a elwir yr amcanestyniad amgen. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun, bydd gan Gymru ddiffyg o ryw 66,000 o gartrefi yn 2031, sydd gyfwerth â thref o faint Merthyr.

Ond yr agwedd waethaf yw nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn bodloni ei thargedau annigonol. Mae'r gyfradd cwblhau tai newydd yn methu’n gyson â chyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a dim ond 6,900 o gartrefi a gwblhawyd yn 2015-16, o gymharu â'r targed o 8,700. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei tharged tai ei hunan oedd yn 2007-08. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r argyfwng tai, mae angen iddyn nhw roi'r gorau i wastraffu amser ar ffactorau ymylol fel diddymu'r hawl i brynu, ac mae angen iddyn nhw fabwysiadu'r amcanestyniad amgen a gynigiwyd gan yr Athro Holmans. Yn 2015, dadleuodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr fod angen 14,000 o gartrefi y flwyddyn yn ychwanegol ar Gymru i fodloni'r galw. Pa bynnag amcanestyniad yr ydych chi’n ei gymryd, mae'n eithaf amlwg bod Llywodraeth Cymru yn syrthio yn bell iawn iawn y tu ôl i unrhyw beth tebyg i gyfradd ddigonol o adeiladu tai.

Fel y dywedodd y Gweinidog, gwerthwyd 139,000 o gartrefi rhwng 1981 a 2016 o dan y cynllun hawl i brynu. Ac mae’n rhaid i chi ddweud ei fod wedi cyflawni ei bwrpas bwriadedig—cafodd 139,000 o deuluoedd gymorth i brynu eu cartrefi, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Geidwadol Cymru yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae'n wir, yn y blynyddoedd diwethaf, bod y lefelau o’r stoc tai cymdeithasol a werthwyd wedi bod yn isel iawn, ac felly mae’r effaith a gaiff ar argaeledd tai cyffredinol yn ymylol. Yr unig reswm bod modd teimlo’r effaith o gwbl yw oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu digon o gartrefi—dyna sydd wraidd y broblem. Ac, yn wir, canfu ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun, wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy’n dyfynnu,

‘Mae’r Hawl i Brynu wedi cael ychydig iawn neu ddim effaith ar allu awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.... Ymddengys bod ffactorau eraill, megis yr economi ac argaeledd tir a chyllid yn cael mwy o ddylanwad.’

O na fyddech wedi gwrando ar eich ymgynghorwyr arbenigol eich hun yn hyn o beth ac wedi mynd i'r afael â'r problemau hyn, oherwydd dyna’n amlwg beth y mae angen i ni ei wneud.

Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud, dylai hyd yn oed y polisïau mwyaf llwyddiannus gael eu hadolygu o bryd i'w gilydd. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio'r hawl i brynu, yna byddem yn ymgysylltu'n adeiladol â hynny, oherwydd bod rhai dadleuon yn bodoli y gellir eu gwneud ar gyfer y math hwnnw o bolisi. Ond—

A ydych chi’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, ac a ydych chi’n gwrthwynebu tai cymdeithasol yn ideolegol?

Nid yn unig yr wyf i’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, rwy’n credu mai tai cymdeithasol yw’r dewis gorau o bell ffordd i lawer iawn o bobl, ac fe ddylem ni ateb y galw hwnnw, ac adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Dyna beth y mae angen i ni ei wneud. Ac yn syml, byddwn wedi dymuno gweld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau ar y sail honno, i gwrdd â'r argyfwng diamheuol sydd yn ein hwynebu yn gyffredinol o ran adeiladu tai.

Mae'n rhaid i mi ddod i ben nawr, gan fod amser yn mynd yn brin. Yn anffodus, Cadeirydd, mae Plaid Geidwadol Cymru mewn lleiafrif ar y pwnc hwn. Rwy'n ddigon o realydd i gydnabod hynny. Felly, gan dybio y bydd y cynnig hwn yn pasio—heb ein cymorth ni—byddwn ni wedyn, fel plaid, yn symud i'r cam nesaf ac yn ceisio gwella’r Bil yn adeiladol. Ein prif flaenoriaeth fydd darganfod y cydbwysedd cywir rhwng hawliau tenantiaid i gael cyfnod pontio rhesymol—bob tenant—ac, os mai dyna yw ewyllys y Cynulliad, dod â’r hawl i brynu i ben. Dyna fydd y prif beth y byddwn ni’n canolbwyntio arno.

Cadeirydd, a gaf fi ddweud i gloi—

Cewch, a wnewch ddod i gasgliad, os gwelwch yn dda?

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths. Fe ddywedais i mai llais y lleiafrif ydw i, ond rwy’n diolch i chi, John, am y ffordd ragorol y gwnaethoch chi gadeirio’r pwyllgor a sicrhau bod gennyf bob cyfle i gyflwyno fy mhryderon wrth baratoi'r adroddiad. Diolch.

Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi symud ymlaen efo’r ddeddfwriaeth yma heddiw. Mae’n hen bryd iddo fo ddigwydd ac mae’n cywiro camgymeriad hanesyddol sydd wedi cyfrannu at gyflenwad annigonol o dai cymdeithasol yng Nghymru.

Bob wythnos rydw i, fel llawer ohonoch chi, yn cael pobl yn dod i’m cymhorthfa efo problemau tai—pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol anaddas, gorlawn, neu maen nhw’n byw efo perthnasau, ar fin mynd yn ddigartref, neu maen nhw’n methu â chael tŷ cymdeithasol, a heb ddigon o bwyntiau i symud i fyny’r rhestr. Mae hwn yn rhywbeth sy’n digwydd bob wythnos.

Mae adroddiad y pwyllgor yn adlewyrchu cytundeb cyffredinol gyda’r egwyddorion, heblaw am anghytundeb amlwg yr Aelod Ceidwadol. Fe wnaeth fy nghyfaill Jocelyn Davies lawer o waith yn y maes yma fel Gweinidog tai, a phob clod iddi hi am sefydlu’r prosesau sydd wedi galluogi awdurdodau lleol i atal yr hawl i brynu. Mewn ffordd, mae’r ddeddfwriaeth yma yn cadarnhau’r arfer dda honno.

Cwpwl o bethau am yr hawl i brynu: nid oedd o’n gwneud llawer o synnwyr ariannol gan ei fod yn gymhorthdal i rai a oedd efo ychydig o arian ac oedd yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Nid oedd o fudd i drigolion mewn blociau fflatiau mewn ardaloedd nad oedd yn ddeniadol, a oedd yn methu â chael morgeisi. Fe wnaeth o olygu lleihad yn y stoc tai cymdeithasol gan gynyddu gorlenwi a digartrefedd o ganlyniad. Mewn rhai achosion, fe greoedd elw i landlordiaid prynu i rentu gan greu amodau tai salach, yn amlach na pheidio.

Daeth y Llywydd i’r gadair.

Felly, mae hi’n hen bryd symud ymlaen efo hyn, ac mae angen y buddsoddiad hefyd. Rydw i’n cytuno efo beth mae David Melding yn ei ddweud—mae angen y buddsoddiad hefyd a fydd yn dod â thon newydd o dai cymdeithasol. Ni fydd y ddeddfwriaeth ar ei ben ei hun yn datrys y broblem o ddiffyg cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn wahanol i’r Torïaid, rydym ni yn credu ei fod o’n rhan o’r jig-so. Nid ydy o’n fater ymylol; mae o’n rhan o’r datrysiad, ac un a ddylai arwain at gynnydd mewn buddsoddiad a mwy o dai cymdeithasol.

Ar ôl pasio’r Ddeddf yma, mae’n debyg y bydd yna rai pobl mewn tai cymdeithasol yn dal i hoffi prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae gen i gydymdeimlad efo hynny. Felly, law yn llaw â’r ddeddfwriaeth yma, mae angen datblygu opsiynau ‘shared equity’ a rhentu i brynu—opsiynau y mae’r cymdeithasau tai wedi’u defnyddio yn y gorffennol. Mi ddylid hefyd edrych am ddulliau eraill i helpu pobl i symud tuag at berchnogi eu tai, os mai dyna ydy eu dymuniad nhw.

Yn olaf, mae yna risg wrth i’r ddedlein agosáu—risg y byddwn ni’n gweld rhai mudiadau yn cynnig arian i bobl i brynu eu tai, gyda golwg ar wneud arian sydyn. Mae rhai pobl wedi galw hyn yn rhywbeth y mae angen gweithio yn benodol i’w osgoi. Fe’i trafodwyd yn y pwyllgor, ac fe gafwyd tystiolaeth i’r perwyl yna. Rydw i’n credu bod hyn yn haeddu mwy o ystyriaeth a mwy o ymchwil a dylid ystyried cynnig cyngor ariannol annibynnol i’r rhai sydd ei angen o.

Rydw i hefyd yn bryderus y gall fod cynnydd sydyn yn y nifer sydd am brynu cyn i’r Ddeddf ddod i rym, gan leihau’r stoc ymhellach—y sbeic y mae rhai wedi sôn amdano fo. Mi hoffwn i weld y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth i’r agwedd yna hefyd. Diolch yn fawr.

Mae bwriad Llywodraeth Cymru i ddiddymu’r Bil hawl i brynu yn ceisio mynd i'r afael â mater y stoc tai cymdeithasol, ac mae hyn yn sicr yn fater difrifol, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r modd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r broblem.

Mae gwahanol agweddau ar yr argyfwng tai. Mae diddymu'r hawl i brynu yn un ffordd o ystyried y broblem, ond dim ond rhan fach o'r darlun cyffredinol ydyw. Ychydig iawn o werthiannau hawl i brynu a geir erbyn hyn, o’i gymharu â 20 neu 30 mlynedd yn ôl. Rydym ni yn UKIP yn derbyn bod yr hawl i brynu wedi achosi problemau mewn rhai ffyrdd. Roedd yn anghywir na chaniatawyd i’r elw o werthiannau tai cyngor lifo yn ôl i mewn i'r gronfa o arian, gan ganiatáu i dai cyngor newydd gael eu hadeiladu. Byddem yn argymell polisi lle y byddai’r holl refeniw yn y dyfodol o werthiannau hawl i brynu yn cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Rydym ni’n derbyn y dystiolaeth na fyddai hyn, ynddi’i hun, mewn unrhyw ffordd yn hwyluso sefyllfa tebyg am debyg sef bod ty cymdeithasol newydd yn cael ei adeiladu am bob un a gaiff ei werthu. Nid yw hyn yn ymarferol yn economaidd, fel y gwnaeth gwahanol dystion nodi yn ystod yr ymchwiliad yn y cyfnod pwyllgor.

Ond mae amrywiaeth o offer ar gael i Lywodraeth Cymru i ysgogi adeiladu rhagor o dai yng Nghymru. Yn UKIP, rydym ni’n argymell creu mwy o gartrefi modiwlaidd wedi’u hadeiladu mewn ffatri, a allai fod yn llawer mwy fforddiadwy na thai a adeiladwyd yn gonfensiynol. A chyfeiriodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru ei hun, Mark Drakeford, yn ddiweddar at y broblem o fancio tir, lle bo gan ddatblygwyr eiddo mawr asedau tir sylweddol, ond nad ydynt yn adeiladu arnynt am flynyddoedd lawer. Gyda dyfodiad pwerau treth newydd Llywodraeth Cymru, gellid dyfeisio ffyrdd—eto, fel y mae Mark Drakeford wedi’i awgrymu—i ysgogi’r datblygwyr i adeiladu. Rydym ni’n credu y gallai hyn gyflwyno cyfle newydd.

Pan ddaeth y Gweinidog â’i ddeddfwriaeth arfaethedig i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, roeddwn yn cefnogi’r amcanion yn fras, a gwrandewais ar y dystiolaeth. Rwyf wedi mynd ag achos y Llywodraeth yn ôl i grŵp UKIP i gynnal profion ar y cynigion, ac i’w gwneud yn destun trafodaeth a dadl gadarn. Yn y pen draw, daeth y grwp i’r farn bendant bod cael gwared ar yr hawl i brynu yn rhwystr rhy gryf i’r dyhead i fod yn berchen ar eiddo. Felly, fel grŵp, nid ydym yn cefnogi egwyddor gyffredinol y Bil, a byddem yn annog y Gweinidog i edrych ar y dulliau eraill sydd ar gae iddo erbyn hyn a fyddai’n galluogi lefelau llawer uwch o adeiladu tai yng Nghymru nag yr ydym wedi eu gweld yn y blynyddoedd diwethaf.

Rwy'n cydnabod y bu’r hawl i brynu yn bwysig iawn i lawer iawn o deuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sydd â phlentyn ag anabledd ac sy'n poeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r plentyn pan fyddant yn marw. Mae eu galluogi nhw i adael eu cartref iddo yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r unigolyn hwnnw a allai fod yn agored i niwed ac yn methu ag ennill ei fywoliaeth ei hun. Felly, nid wyf yn wrthwynebus yn ideolegol i’r hawl i brynu, ond credaf fod y cyfuniad o’r hawl i brynu a'r methiant i adeiladu tai newydd yn lle'r stoc tai hwnnw wedi arwain at gyfuniad o amgylchiadau sydd wedi gwaethygu’r sefyllfa. A dyna pam mae angen i ni gymryd y cam hwn.

Oherwydd ni fyddai wedi bod yn broblem pe byddai'r derbyniadau o’r cynllun hawl i brynu wedi eu hailfuddsoddi gan y Trysorlys yn yr awdurdodau lleol i'w galluogi i adeiladu tai newydd i greu stoc newydd, gan gynnwys y gostyngiad yn amlwg, a oedd yn eithaf sylweddol ar y dechrau, a phe byddai wedi cyd-fynd ag adeiladu tai preifat hefyd, ond y gwrthwyneb a ddigwyddodd: mae'r adeiladwyr tai preifat wedi bod yn gwneud dim ac wedi methu ag adeiladu’r cartrefi newydd fforddiadwy o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl. Mae hyn, yn arbennig i bobl ifanc, wedi creu sefyll ofnadwy. Oherwydd, os nad oes gennych chi blentyn nid ydych chi’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, ac felly maent yn cael eu gwthio i'r sector rhentu preifat a chan fod y prisiau mor uchel nid ydynt yn gallu cynilo arian ar gyfer blaendal. Mae pobl yn goddef hyn pan nad oes ganddyn nhw blant, yn enwedig myfyrwyr—maent yn goddef tai mewn cyflwr ofnadwy—oherwydd eu bod yn meddwl, ‘Wel, dros dro yw hyn a byddaf yn symud ymlaen y flwyddyn nesaf’, ond ar ôl i chi ddechrau cael plant mae'n hollol anobeithiol, oherwydd mae’n golygu na all eich plant byth fod yn siŵr y gallant barhau i fynd i'r un ysgol. Gallant gael eu symud ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid oes ganddynt unrhyw sicrwydd deiliadaeth o gwbl.

Felly, cytunaf yn llwyr fod angen inni adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cael anhawster mawr i gyrraedd y targedau heriol sydd eisoes wedi eu pennu. Pe byddech chi, David Melding, yn gallu mynd at y goeden arian hud sydd gan Theresa May, yna efallai y gallem ni i gyd fod yn adeiladu mwy o gartrefi, a dyna beth y byddem ni’n hoffi ei wneud—tai preifat a chymdeithasol.

Hoffwn ddweud i gloi, pe na fyddem ni eisoes wedi bod yn bwriadu cymryd y cam hwn byddem yn sicr wedi bod angen gwneud hynny ar ôl tân Grenfell oherwydd rwy’n meddwl bod tân Grenfell yn newid popeth. Rwy'n credu bod ymddygiad llawer o awdurdodau lleol yn Llundain, sydd wedi bod yn allforio’r bobl dlawd ar gyfradd ryfeddol, yn enwedig yr awdurdodau lleol hynny a benderfynodd ddymchwel ystadau tai i wneud lle ar gyfer datblygiadau newydd yn y sector preifat, yn gwbl annerbyniol a bydd angen rhoi diwedd ar hynny. Rwy'n rhagweld yn hyderus y bydd rhwymedigaeth ar bob awdurdod lleol i gynllunio ar gyfer anghenion tai cymdeithasol eu poblogaethau a’u diwallu. Ond, am y tro, ni allwn, rwy’n credu, barhau i ganiatáu i’r stoc fynd y tu allan i'r sector cymdeithasol ar bron yr un gyfradd ag yr ydym yn bwriadu adeiladu. Felly, yr oedd yn gwbl iawn—

A wnaiff yr Aelod ildio? Mae'r ffigurau—. Hyd yn oed os yw'r Gweinidog yn gobeithio adeiladu tua 3,500 i 4,000 o dai cymdeithasol y flwyddyn, mae prin 400 yn cael eu gwerthu ar hyn o bryd, felly mae gwahaniaeth mawr.

Iawn. Wel, rwy’n derbyn hynny, nawr, gyda'r gostyngiad yn y disgownt, mae hynny’n llai. Ond y ffaith yw bod sefydliadau tai cymdeithasol yn dweud wrthym eu bod yn amharod iawn i adeiladu tai cymdeithasol newydd os ydynt o’r farn eu bod wedyn yn mynd i gael eu defnyddio i weithredu’r hawl i brynu, a dyna beth sy'n eu dal yn ôl. Mae angen i ni roi'r sicrwydd iddynt nad dyna fydd yn digwydd. Os bydd y sefyllfa'n newid, a bod llawer iawn mwy o arian yn dod i awdurdodau lleol i adeiladu tai cymdeithasol, yna gallwn ailedrych ar hyn yn llwyr, ond, ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl gwneud hyn ac mae’n rhaid i ni yn sicr adeiladu mwy o gartrefi o bob math, ac felly rwyf i o’r farn bod y cam hwn yn gwbl briodol.

Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn dechrau:

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion tai... Mae'r Bil yn... cydnabod pwysigrwydd cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy yn rhan o wead bywyd pobl a chymunedau cryf.’

Ychydig o jôc drasig a di-chwaeth, yn anffodus. Erbyn i’r Ceidwadwyr adael y Llywodraeth yn 1997, roedd gwerthiannau hawl i brynu yng Nghymru yn cael eu gweithredu ar sail tebyg am debyg, bron, ond, yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod Llywodraeth Cymru—Llywodraeth Lafur Cymru—wedi lleihau mwy na 70 y cant ar nifer y cartrefi cymdeithasol newydd—wrth i restrau aros gynyddu, ac roedd adolygiad tai y DU yn 2012 yn dweud mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd blaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol. Erbyn yr ail Gynulliad, roedd ymgyrch Cartrefi i Gymru yn rhybuddio y byddai yna argyfwng tai. Cafodd ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru. Fel y mae paragraff agoriadol maniffesto Homes for All Cymru mis Hydref 2014 yn nodi, ‘Mae yna argyfwng tai’; argyfwng a achoswyd gan fethiant Llafur i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd ers 1999, nid yr hawl i brynu.

Byddai bwriad Llafur Cymru i ddiddymu'r hawl i brynu yng Nghymru yn golygu na fydd tenantiaid yn gallu prynu cartref a bod cyfle arall yn cael ei golli i gynyddu'r cyflenwad tai fforddiadwy a dechrau mynd i'r afael â’r argyfwng cyflenwad tai hwnnw. Hawl y tenant i brynu yw’r cynllun perchnogaeth tai cost isel mwyaf effeithiol erioed, ond nid oedd yn arwydd o ddiwedd y cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn newid i gymdeithasau tai dielw fel prif ddarparwyr, oherwydd bod modd iddyn nhw gael gafael ar fwy o gyllid ac adeiladu mwy o gartrefi yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae cyfyngiadau ar brynu wrth gwrs. Mae’n rhaid i denant fod wedi bod yn breswylydd ac yn talu rhent am o leiaf bum mlynedd ac mae maint y disgownt yn cael ei bennu gan hyd y denantiaeth. Os yw tenantiaid yn gwerthu’n gynnar, mae'n rhaid iddynt ad-dalu’r gostyngiad. Wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf yn gwneud hynny. Dangosodd ymchwil annibynnol fod dwy ran o dair o'r tenantiaid a brynodd yn dal i fyw yno dau ddegawd neu fwy ar ôl hynny. Mae ymchwil annibynnol arall wedi dangos bod tenantiaid mewn eiddo awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yn mynd i fod yn aros ynddyn nhw am 15 mlynedd arall neu fwy, sy’n dangos y byddai’r effaith ar y cyflenwad o ganlyniad i ddiddymu'r hawl i brynu yn gwbl ddibwys.

Nid yw’r bwriad arfaethedig i gael gwared ar yr hawl i brynu yn gwneud dim i greu mwy o gartrefi, nac i gynyddu nifer yr aelwydydd sydd â’u drws ffrynt eu hunain. Fel y gwnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig ganfod rai blynyddoedd yn ôl, ni fyddai atal yr hawl i brynu ynddo'i hun yn arwain at gynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy.

Ar y llaw arall, gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig amlinellu cynigion i ddiwygio’r hawl i brynu, buddsoddi’r elw o werthiannau mewn tai cymdeithasol newydd, a thrwy hynny gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a helpu i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur, gan adlewyrchu’r polisi hawl i brynu yn Lloegr, lle y gwnaeth Llywodraeth y DU, ar ôl 2010, ymrwymo i ail-fuddsoddi, am y tro cyntaf erioed, y derbyniadau ychwanegol o werthiannau hawl i brynu mewn tai rhent fforddiadwy newydd. Os yw cyngor yn methu â gwario'r derbyniadau o fewn tair blynedd, mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd yr arian nas gwariwyd i'r Llywodraeth, gyda llog.

Dangosodd ymchwil annibynnol a gyflwynwyd i un o bwyllgorau'r Cynulliad rai blynyddoedd yn ôl, ar gyfer pob tri gwerthiant, y gallai’r arian a ryddhawyd gynhyrchu dau gartref newydd ar gyfer dwy aelwyd newydd. O’i gymharu, ni fydd diddymu, ar ei ben ei hun, yn adeiladu yr un cartref ychwanegol, ni fydd yn cynyddu’r cyflenwad, ac ni fydd felly’n gwella fforddiadwyedd. Rhwng 2010 a 2015, adeiladwyd mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor yn Lloegr nag ym mhob un o 13 mlynedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ar lefel y DU, pan wnaeth rhestrau aros Lloegr bron dyblu wrth i nifer y tai cymdeithasol i'w rhentu gael ei dorri gan 421.000. Mae'r esboniad—

Diolch. Rwy’n diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi'n cytuno â llyfrgell ymchwil Tŷ'r Cyffredin bod y Llywodraeth Geidwadol wedi adeiladu y nifer lleiaf o dai yng Nghymru a Lloegr ers Baldwin?

Mae Cymru wedi bod dan y blaid Lafur ers 1999, dim byd i'w wneud â Lloegr, ac mae rhifau Lloegr wedi cynyddu ers i Lafur beidio â bod mewn grym. Dyna beth y mae'r ystadegau yn ei ddweud. Chi greodd yr argyfwng. Mae’n rhaid i chi fyw gydag ef. Gwnewch chi rywbeth yn ei gylch.

Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn datgan, rhwng 2011-12 a 2015-16, bod cyfanswm o 11,508 o unedau tai ychwanegol wedi eu hadeiladu, ond mae hyn wedi ei chwyddo trwy gynnwys perchnogaeth cartref cost isel a chartrefi rhent canolradd. Ond mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos, yn yr un cyfnod, bod cyfanswm nifer yr anheddau a gwblhawyd yng Nghymru yn 29,939, o'i gymharu â 47,598 rhwng 1992-1993 a 1996-7, y pum mlynedd olaf pan oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru.

Mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn datgelu mai dim ond 4,347 o anheddau a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2015-16, o’i gymharu â 13,558 yn ystod y pum mlynedd olaf pan yr oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru. Dyma pam y mae gan Gymru argyfwng cyflenwad fforddiadwy, a dyna pam fod y Bil sinigaidd hwn yn ddim ond twyll ideolegol i guddio brad tai mawr Llafur. Gwenwch chi, Weinidog. Dylech chi fod yn ysgwyd eich pen mewn cywilydd, oherwydd chi achosodd yr argyfwng hwn, ac rydych chi wedi eistedd yno yn anwybyddu'r rhybuddion am yr argyfwng, a nawr rydych chi’n honni mai rhywun arall a greodd yr argyfwng. Wel, rydych chi’n rhai da am feio pobl eraill. Onid yw hi’n bryd i chi ddechrau cymryd cyfrifoldeb am y llanast yr ydych wedi'i greu?

Rwy’n meddwl yr hoffwn i longyfarch rhai o'r ACau Llafur am wneud eu rhan dros yr argyfwng tai, o gofio bod cynifer ohonynt yn landlordiaid, a bod ganddynt fuddiant mewn mwy nag un eiddo. Rwy'n ystyried hynny ychydig yn rhagrithiol, a bod yn onest. [Torri ar draws.]

A wnewch chi dderbyn ymyriad cyn i chi fynd ymhellach?

Na, na. Mae ACau yn mynd i fod yn pleidleisio yma—

Os ydych chi’n ei daflu, mae angen i chi ei gymryd yn ôl.

Rwy’n eich llongyfarch chi i gyd ar wneud eich rhan dros yr argyfwng tai trwy fod yn berchen ar eiddo ychwanegol.

Iawn. Rwy’n credu, mewn gwirionedd, bod hwn yn fwy o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus nag unrhyw beth arall. Rwyf eto i glywed am ymateb dilys i, os yw tŷ yn cael ei werthu a’r arian yn cael ei roi yn ôl i mewn i'r system a’i fod yn disodli'r stoc, beth sydd o'i le ar hynny? Nid wyf wedi clywed ateb i hynny, mewn gwirionedd, oherwydd, rwy’n credu, ar draws y Siambr yma, nid oes neb yn cytuno â lleihau stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Un peth yr ydym ni i gyd yn ei fethu, hefyd, yw bod yna filoedd o eiddo gwag hir dymor y dylid eu hadnewyddu. Dylem fod yn cyflogi adeiladwyr lleol i adnewyddu’r eiddo hyn a rhoi cartref i bobl yn gyflym.

O ran yr atebion, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn brin o gyfalaf, ond mae yna gronfeydd pensiwn mawr ym mhob awdurdod lleol, a ddylai gael eu harneisio ar gyfer buddsoddiad cyfalaf, gyda chynllun i ddarparu tai cymdeithasol ar rent a hefyd, os gall pobl ei fforddio, i gael eu prynu. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynnig dilys iawn ac y byddai'n ariannu llawer iawn o adeiladu tai. Oherwydd, os edrychwch chi ar y sector preifat, a phobl yn buddsoddi mewn cronfeydd pensiwn, un maes y byddant bob amser yn buddsoddi ynddo yw tai. Mae'r ased yn cronni gwerth a hefyd ceir cyfradd o adenillion ar yr eiddo bron ar unwaith.

Felly, rwy’n credu, i ddychwelyd at yr hyn a ddywedais yn gynharach, yr hyn sy’n fy mhoeni i am hyn—wrth gwrs, rwyf wedi fy rhwymo gan y chwip heddiw, ond yr hyn sy’n fy mhoeni i am hyn yw bod yna bobl yn eistedd yn y Siambr hon nad ydynt yn berchen ar un eiddo, nad ydynt â budd mewn dau, mae rhai â budd mewn tri, ac maent yn dweud wrth bobl dosbarth gweithiol ar ein hystadau na ellir eu caniatáu i fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain. Rhagrith. Rhagrith.

Mae'n bleser dilyn dau siaradwr ymosodol y gallaf, drwy gael fy nghymharu â nhw, rwy’n ymddangos yn gymedrol ac yn gydsyniol. [Chwerthin.] Mae'n Fil rhyfeddol o wrthdroadol, hwn, oherwydd un o'r polisïau a wnaeth y blaid Lafur yn anetholadwy yn y 1980au oedd ei gwrthwynebiad penderfynol i gyflwyno'r hawl i brynu. Wrth gwrs, mae'r niferoedd yn wahanol iawn erbyn hyn, felly o bosibl efallai na fydd yn cael yr un effaith wenwynig ar y Blaid Lafur ag y gwnaeth eu hagwedd bryd hynny. Hefyd, mae gen i deimlad rhyfedd o déjà vu, oherwydd roeddwn i’n rhan o’r gwaith o berswadio Llywodraeth Thatcher i gynnwys cymdeithasau tai ym Mil tai 1979, a oedd yn rhoi i denantiaid cymdeithasau tai yr un hawliau a gynigiwyd i denantiaid y cyngor, ac, am yr un rhesymau ag y mae David Melding wedi eu hamlinellu, peth da iawn oedd hynny wrth gynyddu amrywiaeth perchnogaeth mewn ystadau.

Mae hwn yn Fil ideolegol oherwydd ei fod bob amser wedi ymddangos braidd yn hurt i mi, o ran polisi cymdeithasol, bod Llywodraeth yn sybsideiddio'r brics a’r morter yn hytrach na’r bobl hynny sydd angen cymorth i allu fforddio to uwch eu pen. Wrth gwrs, mae’n ffordd eithriadol o ddrud i ddarparu ar gyfer angen cymdeithasol, i adeiladu tai mewn gwirionedd yn hytrach na rhoi i bobl y modd o dalu rhent.

Mae'r ffigurau yn dangos yn ddiamwys bod y Bil hwn yn gwbl amherthnasol i'r ateb i'r argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru. Edrychwch ar y ffigurau. Dim ond 141 o dai a werthwyd gan awdurdodau lleol o dan yr hawl i brynu y llynedd. Gwerthodd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 133 o dan y ddeddfwriaeth hawl i gaffael; gwerthwyd 299 ganddynt yn wirfoddol. Felly, dim ond 274 oedd cyfanswm nifer y tai o eiddo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a werthwyd o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu allan o stoc o 1.4 miliwn o dai yng Nghymru gyfan. Felly, yn amlwg, nid oes unrhyw arwyddocâd o gwbl i hyn y tu hwnt i arwyddocad ideolegol i'r Blaid Lafur, sydd bellach yn mynd yn ôl i’w meddylfryd gwreiddiol ar ôl 20 neu 30 mlynedd. Os edrychwn ni ar y ffigurau stoc, mae hyn yn eithaf dramatig. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn berchen ar 87,000 o eiddo ar rent. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen ar 137,000. Mae tai rhent preifat yng Nghymru—202,000. Perchen-feddiannaeth—bron i 1 miliwn. A beth rydym ni’n sôn amdano yma yw 274 o dai neu fflatiau sydd wedi eu gwerthu o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu mewn blwyddyn.

Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, gwerthwyd 139,000 o gartrefi cymdeithasau tai awdurdodau lleol. Dyna 45 y cant. Ni chafwyd rhai newydd yn lle dim o’r rhain.

Mae'n wir, yn ystod y cyfnod o amser dan sylw. Ie, 139,000. Yn yr un—[Torri ar draws.] Yn yr un cyfnod, mae nifer y tai neu fflatiau sy'n cael eu rhentu'n breifat wedi cynyddu gan 110,000. Felly, mae'r farchnad yn newid ac mae yna argyfwng tai am y rheswm a nododd David Melding. Mae gennym sefyllfa ofnadwy mewn gwirionedd, gan fod gennym gyfyngiadau sylweddol ar adeiladu drwy'r ddeddfwriaeth gynllunio, ar y naill law, ac rydym yn gwybod, gyda'r ffigurau mewnfudo, bod pwysau aruthrol o ran y galw, yn ogystal ag oherwydd rhannu aelwydydd a meddiannaeth unigol. Mae mwy o alw am eiddo, ac rydym yn gwybod, er gwaethaf yr holl sôn am gyni a glywir yn gyson yn y Siambr hon, bod y cynnydd enfawr yn y swm o arian mewn cylchrediad trwy leddfu meintiol mewn gwirionedd wedi cyfranu i raddau helaeth at brisiau asedau, ac mae effaith hyn wedi dechrau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ac yn llifo tuag allan. Felly, os ydym ni am ddatrys y broblem tai—ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau gwneud hynny—yna mae'n rhaid i ni edrych yn rhywle arall yn hytrach na’r mesur hwn i gyflawni’r canlyniad hwnnw.

Ond yr hyn yr wyf i’n ei ganfod mor rhyfeddol am hyn yw bod hwn wedi bod yn bolisi rhyddhau mawr dros y blynyddoedd i gannoedd o filoedd o bobl a oedd yn dymuno bod yn berchen ar eu tai eu hunain. Nid oedd y ffaith eu bod yn eiddo cyngor neu’n eiddo tai cymdeithasol yn golygu eu bod yn symud allan i wireddu eu dymuniad i fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain, a bod eu heiddo wedyn ar gael i bobl eraill a oedd eu hangen. Caiff eiddo eu clymu i fyny am genedlaethau, yn aml, gan bobl sy'n byw mewn tai awdurdod lleol neu dai cymdeithasol. Nid yw hynny'n mewn unrhyw ffordd yn golygu eich bod yn mynd i allu bodloni'r amcanion cymdeithasol yr ydym ni i gyd yn cytuno arnynt. Roeddwn o blaid democratiaeth perchenogaeth eiddo, ac rwy’n dal i fod, ac rwyf o blaid, fel y dywedodd Neil McEvoy, fod pobl dosbarth gweithiol sy’n dyheu am fywyd gwell yn gallu bod yn rhan o hynny.

Diolch i chi, Llywydd—nid oeddwn i’n sylweddoli fy mod yn mynd i gael fy ngalw. Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Yn ystod y misoedd ers hynny, cafwyd agos i gonsensws yn dod i'r amlwg o ran cefnogaeth eang i egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae gormod o sylwebyddion wedi cau eu clustiau i atebion ymarferol nad ydynt yn dilyn ateb seiliedig ar y farchnad, ond, i genhedlaeth newydd o bleidleiswyr, mae hyn yn syml yn ideoleg synnwyr cyffredin. Bydd hyn yn cymryd rheolaeth dros gyfleustodau allweddol sydd wedi eu siomi, neu lywio polisi tai sy'n gweithio ar gyfer pobl ac nid marchnadoedd, ac, i bobl gyffredin, nid ydynt yn poeni fawr ddim am y rhesymeg y tu ôl i chwyldro Thatcher; maent eisiau gwybod, yn syml: a yw'n gweithio i mi a fy nheulu?

Felly, beth yw realiti tai a thai cymdeithasol ym Mhrydain a Chymru? Mae yna alw mawr allan yna, galw a all achosi gofid aruthrol, gorlenwi tai, iechyd meddwl gwael, a phlentyndod wedi’i ddifetha i filoedd o deuluoedd. Mae’n ymddangos mai dim ond Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod hyn ac mae’n adeiladu tai cyngor newydd. Mae'n werth nodi nad syniad Margaret Thatcher oedd yr hawl i brynu, ac ni wnaeth hi ei sefydlu’n wreiddiol. Yr hyn a wnaeth hi oedd creu, fel y dywedais i, fersiwn ddogmatig a oedd yn diddymu unrhyw hyblygrwydd ar gyfer y polisi yn ymarferol—dim lle i gynghorau weithredu ar sail stoc yn dirywio.

Caniataodd y Llywodraethau Llafur i’r cynghorau werthu stoc yn y 1970au, ond ar sail wedi ei reoli ac ar sail gynaliadwy iawn. Nid oedd y Torïaid, yn fy marn i, yn gallu ymatal rhag creu’r anhrefn y maent bob amser yn ei greu, sydd wedi arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Mae hyn yn cynnwys cyn-dai cyngor yn nwylo buddsoddwyr tramor hynod gyfoethog mewn rhannau o'r DU lle mae eu hangen yn daer ar weithwyr allweddol—pobl ddi-fraint, y rhai hynny sydd ar y rhestr, y rhai sy’n gwylio. Pa fath o nonsens dogmatig yw adeiladu tai eto dim ond i’w gwerthu? Fel gwleidyddion, mae'n rhaid i ni fod wedi ein rheoli gan gamau ymarferol. Yn ei ddatganiad yn cyflwyno'r Bil hwn, dywedodd Carl Sargeant:

‘Mae ein cyflenwad o dai cymdeithasol o dan bwysau sylweddol. Rhwng 1 Ebrill 1981’—

fel yr wyf wedi datgan—

'a 31 Mawrth yn 2016, gwerthwyd 139,000 o gartrefi awdurdod lleol a chymdeithasau tai’—

45 y cant o hynny o’r stoc hwnnw—

'o dan yr hawl i brynu’,

ac ni adeiladwyd tai newydd yn eu lle.

Pa fath o Lywodraeth ddogmatig fyddai’n gweld hyn ac yn gwneud dim, yn seiliedig ar ideoleg hen ffasiwn o farchnad dai sydd wedi dangos ei bod wedi methu? Nid yw dim ond, fel y dywedwyd o'r blaen, ynghylch hynny. Rydym ni i gyd wedi gweld y trychineb yn Kensington, bwrdeistref na all ddarparu tai digonol i’w thrigolion, ond mae'n parhau i ganiatáu i flociau cyfan o eiddo buddsoddi i gael eu hadeiladu. Mae'r blociau gwag hyn yn symboleiddio ein camgymeriadau o ran tai. Mae'r Torïaid yn sôn heddiw am bwysigrwydd y teulu a'r cartref, ond yn sinigaidd yn gwrthod ateb unrhyw gwestiynau ymarferol, ac yn sôn yn delynegol am ateb i bob problem tybiedig o’r 1980au ond yn methu â siarad am hynny nawr. Felly, sut gall teuluoedd yng Nghymru ymddiried mewn plaid na fyddai'n adeiladu unrhyw dai cyngor, yn gwerthu’r ychydig sydd gennym ar ôl, ac, yn fwy sinigaidd, yn defnyddio tai ar lefel leol fel pêl-droed wleidyddol?

Yn olaf, rwyf am sôn am y pwysigrwydd yr wyf yn ei roi ar wireddu'r addewidion a wnaed, ac yn 2016 gwelsom Lywodraeth Lafur Cymru yn cael ei hailethol yn llywodraeth gan bobl Cymru. Gwnaethom sefyll yr etholiad gyda’r bwriad i ddiddymu'r hawl i brynu yn ein maniffesto, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gyflawni hynny nawr.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl. Carl Sargeant.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon ar y Bil a'r sylwadau a wnaed gan y rhan fwyaf o'r Aelodau heddiw. Yn ddi-os, mae yna fanylion y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach wrth inni symud drwy'r broses graffu. Mae yna hefyd ymrwymiadau yr wyf wedi eu gwneud mewn meysydd sydd angen eu datblygu, a diolchaf i'r Cadeirydd a'r pwyllgor cyfan am eu hymagwedd adeiladol at y rhaglen wrth i ni fwrw ymlaen â hynny.

Rwyf yn ailadrodd y sylwadau yr wyf wedi eu nodi sawl gwaith yn barod, Llywydd, fy mod yn dymuno ymdrin â’r diwygiadau hyn ar sail gydweithredol a thrawsbleidiol, ond mae'n ymddangos yn amlwg iawn nad yw rhai o'r gwrthbleidiau yn cytuno. Yn wir, roedd Gareth Bennett, yn ystod y camau pwyllgor, yn addawol iawn o ran ei ymagwedd at y Bil a natur gefnogol hynny, ond dywedodd ei fod wedi ffurfio dadl yn y grŵp a’i fod wedi mynd â honno at gydweithwyr UKIP, ac mae'n amlwg i mi bod Neil Hamilton wedi dweud wrtho na fyddai'n cefnogi’r Bil hwn am unrhyw reswm arall na hynny.

Y ffaith yw eu bod yn deis a dethol ystadegau ar bob un o'r materion y maent wedi eu codi heddiw, gan gynnwys fy ffrind mawr David Melding. Rwy'n credu bod ei gyfraniad yn wyrdroedig o ran y ffigurau a ddefnyddiodd heddiw. Ymddengys ei fod yn credu mai’r 20,000 o unedau yr ydym yn mynd ar eu trywydd gan y Llywodraeth yw'r unig gartrefi a fydd byth yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. Ein cyfraniad o 20,000, yn ogystal â'r sector preifat, a fydd yn cyflawni'r angen am dai ar gyfer ein cymunedau. Gwnaf ildio.

‘Tai fforddiadwy' ddywedais i; nes i ddim dweud ‘cyfanswm nifer y cartrefi’; dywedais i ‘fforddiadwy’.

Ac mae'n amlwg iawn hefyd bod yr Aelod wedi codi mater perfformiad y weinyddiaeth Lafur hon ers 1999, a chafodd ei gefnogi'n fedrus gan weiddi a chyfraniad Mark Isherwood.

Gadewch i mi roi rhai ffeithiau iddo am yr hawl i brynu ac, yn wir, roedd ymyriad Joyce Watson yn llygad ei le. Mae'r Llywodraethau Ceidwadol o dan Theresa May a David Cameron wedi methu â darparu cartrefi ar draws y DU. Yn wir, hwn yw’r swm isaf o dai a ddarperir gan weinyddiaeth Geidwadol ers 1923. Felly, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyngor oddi wrthych chi ar adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru. Mae angen i chi ei gael yn iawn o'r canol, hefyd. Mae’r £1 biliwn yr ydych yn ei roi i weinyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gyfle y gallech chi ei roi dros Gymru yma er mwyn i ni allu adeiladu mwy o gartrefi. Rhowch i ni yr hyn yr ydym yn ei haeddu yma yng Nghymru, hefyd, yn hytrach na chwyno o'r ymylon.

Y ffaith arall yr wyf yn credu y byddai'n werth ei nodi yn y Siambr hon yw, am y cyfnod diwethaf o bum mlynedd—bod ffigurau cyfredol—rhwng 2012-13 a 2016-17, o dan y polisi ychwanegiadau un am un—dyma'r un y mae Mark Isherwood yn dweud wrthym ni amdano, gwerthu un, adeiladu un—dywedaf wrthych chi beth a ddigwyddodd yn Lloegr: 54,581 o werthiannau hawl i brynu gan awdurdodau lleol yn Lloegr. Beth wnaethon nhw ei adeiladu? Deuddeg mil, pedwar cant a saith deg dau. Nid yw hynny’n un am un yn union yn ôl fy mathemateg i. Felly, peidiwch â rhoi'r rhethreg am adeilad i mi—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad eto, ond byddaf yn gwneud hynny os caf rywfaint mwy o amser ymhen dipyn.

Yn olaf, o ran y manylion ychwanegol y mae cydweithwyr wedi eu cyflwyno—Siân Gwenllian, rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad i gefnogi'r Bil. Rwyf wedi cwrdd â'ch Aelod arweiniol ar dai ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae hi wedi gallu ei rhoi ar ran y grŵp. Rydych chi’n yn llygad eich lle, mae mater y rhentu i brynu a’r ‘sbeic’ yn fy mhoeni i o ran yr hyn y gallai hynny gyfeirio ato, ond rwy'n credu bod canlyniadau cadarnhaol amcanion polisi tymor hir hwn yn drech na mater y ‘sbeic’ dros y cyfnod o 12 mis. Ond fe wnaf weithio gyda'ch cydweithwyr i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd drwy hynny.

Rwy’n credu—eto, cododd Huw Irranca y mater o ran y ddyletswydd absoliwt ar Weinidogion o safbwynt cyngor. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach, ond gwrandewais ar gyngor y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac roeddent yn glir iawn o ran eu barn, ond byddaf yn ailystyried hynny.

Unwaith eto, yr hyn a allai fod yn ddefnyddiol i Aelodau, ar y sail bod rhai Aelodau wedi defnyddio ystadegau nad wyf yn eu cydnabod yma—y ffaith amdani yw bod £4.4 miliwn o gost ychwanegol i Lywodraeth y DU ar fudd-dal tai ar gyfer cyn-eiddo rhentu i brynu sydd bellach yn y sector rhent preifat. Felly, sut y mae’n gwneud synnwyr economaidd i wneud hynny yn y lle cyntaf? Rwy'n credu, unwaith eto, y dylai Aelodau ystyried hyn yn gyfres o offerynnau i ddarparu tai cymdeithasol a thai ychwanegol ar gyfer pobl Cymru. Mae’r cynhyrchion yr ydym yn eu datblygu yn ein hadran, fel prosesau rhentu i brynu a phrosesau gweinyddol eraill trwy Rhentu Doeth Cymru a ffactorau eraill yn y Bil Tai, y Ddeddf Tai bellach, yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio’r gyfres hon o offerynnau i greu ateb tai gwell i bawb yng Nghymru. Nid oeddwn i’n mynd i ymateb i'r meistr cynllwynio, Mr McEvoy, yn yr ystyr nad yw'n cefnogi'r egwyddor sosialaidd i ddod â’r hawl i brynu i ben. Rwy’n synnu braidd gan fod ei blaid wedi bod yn gefnogol iawn o'r ymagwedd hon. Yn wir, rwy’n meddwl ei bod yn rhan o ymagwedd eich maniffesto ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n ddiolchgar amdano—y cymorth hwnnw. Byddwn yn gofyn iddo fyfyrio ar ei gyfraniad ac efallai bod yn fwy cadarnhaol yn ei gefnogaeth i’r Bil hwn.

Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddod â Chyfnod 1 i'r pwyllgor. Mae bob amser yn ddadl ddiddorol pan fydd gan Mr Melding ei farn glir ar y Bil hwn. Byddaf yn edrych ymlaen yn awchus—. Bydd y sgyrsiau yn parhau, rwy'n siŵr, wrth inni symud ymlaen, ond fy nghynnig i yw cael mwy o gonsensws ynghylch y cyfleoedd y mae’r Bil hwn yn eu cyflwyno o ran creu ateb gwell ar dai i bobl yng Nghymru sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n cynnig yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 9. Dadl: Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6368 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, Llywydd.

Nid oes neb yn bwriadu siarad, felly nid oes angen ymateb i’r ddadl. Gan fod y bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) wedi’i gohirio tan y cyfnod pleidleisio, rwy’n gohirio’r bleidlais hefyd ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Ac felly yr eitem nesaf yw’r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2017-18, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6353 Jane Hutt

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo’r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 19:02:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig arferol ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Dyma’r cyfle cyntaf i wella cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a gafodd eu cyhoeddi a’u cymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae’r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf syml ei chwmpas ac nid yw eleni’n eithriad. Mae o natur weinyddol yn bennaf. Mae’n rheoleiddio nifer fach o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, yn newid rhwng cronfeydd adnoddau a chyfalaf ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae’n cynnwys addasiadau i gyllideb DEL Cymru i ystyried trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a gafwyd yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2017. Ac mae’n adlewyrchu newidiadau i ragolygon gwariant a reolir yn flynyddol, yn unol â’r manylion diweddaraf yr ydym ni wedi eu rhoi i’r Trysorlys yn San Steffan. Fodd bynnag, mae’n cynrychioli rhan bwysig o’r system gyllidebu a chraffu. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon yn ofalus ac am yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad hwnnw maes o law.

Llywydd, a number of the changes set out in this first supplementary budget flow from agreements made with the UK Government and others. Agreement on governance arrangements for the Cardiff capital city deal mean that the £20 million has now been released for this purpose; £7.18 million from the Home Office in respect of our portion of the immigration health surcharge receipts has been allocated to the health, well-being and sport main expenditure group in this supplementary budget; £20 million pounds from reserves has been released for investment in social care, while an additional £750,000 in revenue and £1.6 million in capital funding have been allocated for the provision of Wi-Fi on trains and in stations. And I am, of course, aware of the one specific recommendation made by the Finance Committee in this regard.

Llywydd, we must also reflect adjustments made to the Welsh departmental expenditure limit by the UK Government, and the supplementary budget updates the position set out in the final budget in January for both revenue and capital consequentials. This budget allows us to reflect the amendments made in ministerial portfolio responsibilities. Following the transfer of responsibility for Careers Wales to the Minister for Skills and Science, £18.8 million in revenue funding and £6 million of annually managed expenditure funding has been transferred from the education main expenditure group to the economy and infrastructure MEG. No budget has been cut as a result of the supplementary budget, and any negative adjustments at MEG level are offset by corresponding positive adjustments in other MEGs. The net effect on the overall budget of these changes is zero.

Over the coming months, I will carefully monitor our financial position, and intend to table a second supplementary budget to the usual timetable. I continue to explore with colleagues the case for in-year allocation from reserves, while retaining a level of resource sufficient to match the uncertain financial times in which we operate. This will allow us to respond where necessary to possible further pressures on the budget, and to carry forward funding through the new Wales reserve arrangements, to guard against further cuts to our budget in 2019-20 and beyond. Any further allocations from reserves in this year will be reflected in the second supplementary budget.

Llywydd, I’d like to thank the Finance Committee once again for their scrutiny of this supplementary budget, and I ask Members to support it.

Diolch, Llywydd. Ac, yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cynigion, ac yn nodi bod y dyraniadau yn y gyllideb atodol hon yn gymharol fach. Fodd bynnag, croesawodd y pwyllgor y cyfle i drafod y newidiadau gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig ei ymrwymiad i barhau i ddefnyddio proses y gyllideb atodol.

O ran y cyllid ar gyfer y portffolios gofal cymdeithasol ac iechyd, llesiant a chwaraeon, bu’r pwyllgor yn trafod y ddau ddyraniad refeniw a wnaed o’r cronfeydd wrth gefn, sef £20 miliwn ar gyfer arian i ofal cymdeithasol, a £7.2 miliwn ar gyfer y gordal iechyd mewnfudo, fel rydym newydd glywed. O ran yr £20 miliwn, rydym yn nodi mai swm y cynnydd cyffredinol yw £18.7 miliwn mewn gwirionedd, oherwydd trosglwyddiadau allan o faes rhaglenni gwariant gwasanaethau cymdeithasol i fannau eraill yn y prif grŵp gwariant. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, roeddem yn falch o weld bod y cyllid yn cael ei ddyrannu i wasanaethau cymdeithasol, ac yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yn unol â’u anghenion, ac rwy’n credu bydd fy nghyfaill Mike Hedges yn dweud ychydig mwy am y drefn honno.

O ran benthyca, mae gan y pwyllgor ddiddordeb mewn penderfyniadau i ailddosbarthu dyled, er enghraifft gwarantau dyled a dyled cymdeithasau tai, a sut y gallai hyn effeithio ar flaenoriaethu o ran gwariant cyfalaf a chynlluniau benthyca yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried hyn wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Cawsom gyfle hefyd i ystyried yn gryno oblygiadau’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen i gefnogi Cylchffordd Cymru o ran y gyllideb. Cawsom sicrhad gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd unrhyw brosiectau eraill yn wynebu’r un cyfyngiadau o ran y costau sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon, a’r costau na chânt eu nodi yn y cyfrifon. Mae’n sicr y bydd rhagor o waith craffu ar oblygiadau’r penderfyniad hwn wrth i’r Cynulliad archwilio’r gyllideb ddrafft, ond mae’n enghraifft o ba mor fuddiol yw hi i gael cyllideb atodol i gael craffu ar y broses gyllidol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae’r prif grŵp gwariant economi a seilwaith yn dangos dyraniad ychwanegol ar gyfer darparu Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Rydym yn annog—a dyma unig argymhelliad y pwyllgor—Llywodraeth Cymru i sicrhau bod contractau ar gyfer unrhyw fasnachfraint drenau yn y dyfodol yn cael eu drafftio’n dynn er mwyn osgoi gosod cyfrifoldeb ar y cwmnïau i ailfuddsoddi unrhyw elw er mwyn talu am welliannau.

O ran y cyllid ar gyfer y byrddau iechyd, y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol am y cyfnod tair blynedd hyd at 2016-17 oedd gorwariant net o £253 miliwn, sef bron £0.25 biliwn, wrth gwrs. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i fodloni gofynion ariannol y byrddau iechyd, a ni chytunwyd eto sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu. Rydym yn dal i bryderu am orwariant y byrddau iechyd, ac mae effaith Deddf cyllid y gwasanaeth iechyd genedlaethol o ddiddordeb i nifer o bwyllgorau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Felly, byddaf, fel Cadeirydd, yn cysylltu â Chadeiryddion y pwyllgorau hynny, er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried yn briodol yn y dyfodol.

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, ac o fod wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y gyllideb atodol gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad a gafodd ei grybwyll gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, ac mae casgliadau hwnnw yn ein hadroddiad, adroddiad eithaf cryno, sydd wir werth ei ddarllen—byr, ie—ond werth ei ddarllen pan gaiff yr Aelodau gyfle i wneud hynny.

Hon yw’r gyllideb atodol gyntaf, fel yr ydym wedi ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i gytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Efallai mai dim ond un modd technegol o wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i gyllideb yw cyllideb atodol, ond fe ddaeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad ei fod yn fodd priodol a'r mecanwaith mwyaf priodol i wneud y math hwn o addasiadau yn ystod y flwyddyn. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y mecanwaith yn y dyfodol gan Ysgrifenyddion cyllid y dyfodol. Mae'n dryloyw, yn ddealladwy ac mae'n system sydd wedi gweithio yn absenoldeb datrysiad gwell. Rydym yn credu mai cyllidebau atodol yw'r ffordd ymlaen. Ac rydym ni yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ymwneud â’r pwyllgor mewn modd agored a thryloyw iawn, ond fe wnaethom ni gwestiynu pa un a fyddai Ysgrifenyddion y Cabinet dros gyllid yr un mor agored yn y dyfodol felly gallai fod achos dros edrych ar sicrhau cynnal proses y gyllideb atodol yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y broses mor ddidrafferth yn y dyfodol ag y mae hi wedi bod hyd yn hyn.

Heb fynd i’r holl feysydd y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi eu crybwyll, rwyf yn gwerthfawrogi mai cyllideb atodol weinyddol yw hon yn bennaf a’i bod yn cynnwys addasiadau a gwahanol symiau canlyniadol i floc Cymru, a ddeilliodd o gyllideb 2017 y DU.

Yn benodol, croesawaf yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a hefyd y ddarpariaeth o £750,000 ar gyfer Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Trafodwyd hynny yn helaeth iawn yn ystod ein sesiynau craffu. Roedd hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennyf ddweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar gynnig heddiw gan ei fod yn y pen draw yn gwneud addasiadau i’r gyllideb flaenorol, ac nid oeddem ni’n cefnogi honno.

Byddaf i’n fyr iawn, Llywydd. Byddwn ni hefyd yn ymatal oherwydd mae hynny’n unol â’r hyn a wnaethom ni ar y gyllideb y mae’r gyllideb atodol yma yn ei newid, wrth gwrs. Rwy’n gwybod bod gyda fi ‘blaenorol’—‘previous’, felly—gyda’r gyllideb atodol ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n well i mi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod i’n gadael i’r gyllideb atodol yma fynd trwyddo. Rwy’n credu fy mod i wedi ei ypsetio fe unwaith yn barod heddiw felly nid ydw i’n mynd i’w wneud yr ail waith. Nid ydw i’n credu bod yna lawer gen i i’w ychwanegu at y craffu manwl. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yw bod lot o graffu ar y cyllidebau atodol—rwy’n credu ei bod yn beth da bod yna gyllidebau atodol—ond a ydym ni’n cael y balans iawn gyda’r brif gyllideb a’r lefel o wybodaeth sydd gyda ni? Roedd yna gyfeiriad at y ffaith nad oes angen, a dweud y gwir, unrhyw arian ychwanegol ar gyfer gweithredu’r polisi newydd ar gyfer y parc ceir newydd yng Nglyn Ebwy oherwydd bod modd symud arian o fewn yr adnoddau sydd yno, sydd yn codi cwestiwn gen i, a dweud y gwir: a oes yna ddigon o dryloywder a manylder gyda ni, wrth basio’r gyllideb lawn, ynglŷn â beth yw dibenion penodol y symiau sydd yn cael eu dynodi o dan y prif benawdau? Felly, mae’n fater o gael y balans. Mae lot o graffu ar y gyllideb atodol yma—sydd mewn gwirionedd, fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, yn newidiadau gweinyddol, a dweud y gwir, lle efallai nad ydym ni cweit wedi cael digon o wybodaeth eto wrth edrych ar y gyllideb gyflawn, er mwyn ein galluogi ni i wneud ein gwaith fel Senedd.

Gwnaf i jest ddod â’r newyddion o lawenydd mawr i’r Aelod y bydd hyd yn oed mwy o amser i graffu ar y gyllideb ddrafft lawn yn ystod yr hydref, o estyn y cyfnod o bum wythnos i wyth wythnos. So, gobeithio bod hynny’n help.

Wel, rwy’n falch. ‘Haleliwia’, ddywedaf i, wrth gwrs. Rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen. Mae’n biti ein bod ni’n gorfod aros tan ar ôl yr haf ar gyfer hynny, ond yn sicr rwy’n edrych ymlaen at weld hefyd beth fydd canlyniadau’r trafodaethau eraill sydd yn mynd ymlaen rhwng y Pwyllgor Cyllid a’r Ysgrifennydd Cabinet o ran ailstrwythuro’r broses gyfan, er mwyn galluogi’r math o dryloywedd roeddwn i’n cyfeirio ato’n gynt.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n awyddus i godi dim ond tri phwynt byr iawn. Yn gyntaf, croesawaf benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynhyrchu cyllideb atodol gyntaf ar gyfer ei chraffu gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunaf yn gryf ag argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, a’r hyn a ddywedwyd gan Nick Ramsay a Simon Thomas, sef:

Er nad yw'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon yn sylweddol, mae'r Pwyllgor yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod cyflwyno cyllideb atodol yn fecanwaith priodol ar y cam hwn ac yn dymuno i’r weithdrefn hon barhau i gael ei defnyddio.'

Yn anffodus, ni chafodd ei roi yn y Rheolau Sefydlog, ond rwy'n credu ei fod yn dod, yn awr, yn ddefod ac arfer ei fod gennym, ac rwyf yn credu y byddai unrhyw Ysgrifennydd y Cabinet yn y dyfodol na fyddai’n dod ag ef ymlaen yn wynebu Pwyllgor Cyllid a Chynulliad anhapus iawn.

Ni waeth pa mor fach yw’r newid, rwyf yn credu y dylid cynhyrchu cyllideb atodol. Mae'n rhoi eglurder i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Siambr hon, llawer mwy na fydda’r dewis arall, sef llythyr at y Pwyllgor Cyllid, yn ei wneud, dim ond dweud wrthym am yr hyn oedd newydd ddigwydd. Rwy'n credu mai hon yw’r ffordd iawn, ac rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi parhau i wneud hyn.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw pa mor falch yr wyf fod yr arian ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol nid drwy'r asesiad o wariant safonol llawn, ond trwy ran y gwasanaethau cymdeithasol o'r asesiad o wariant safonol.  Dim ond gwahaniaeth bach fydd hyn yn ei wneud, ond mae'r egwyddor, yn fy marn i, yn un pwysig, ac yn un yr wyf wedi galw amdani o’r blaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, oherwydd pe byddai symiau mwy o lawer dan sylw, byddai'n dechrau cael effaith sylweddol ar ba awdurdod fyddai’n cael yr arian ychwanegol.

Yn olaf, ar iechyd, nododd y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, ar gyfer rhai byrddau iechyd lleol, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i alluogi byrddau iechyd lleol i fodloni eu galwadau ariannol, a bod ad-dalu y gorwario hwn eto i'w gytuno. Mae'r pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith y mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi ei chael o ran nodi gwelliannau i gynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, a chynllunio’r gweithlu, cynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol, a gwaith i fynd i'r afael a pha un a yw'r dyraniadau rhwng byrddau iechyd lleol yn adlewyrchu anghenion yn gywir. Yn syml, a yw’r gorwario oherwydd rheolaeth ariannol wael neu a yw'r gyfran ariannu yn anghywir?

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.

Member
Mark Drakeford 19:17:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cydnabod pwysigrwydd cyflwyno’r gyllideb atodol hon.

I acknowledge Adam Price’s comments on the balance between the main budget and the supplementary budget, but, as Simon Thomas said, it’s part of the cycle in terms of how we deal with these issues, and, by seeing what we’ve said in the supplementary budget, the Finance Committee can prepare the ground for the scrutiny work that they will undertake in the autumn on the full budget.

Fe wnes i sylwi ar un neu ddau o bwyntiau a wnaed, yn benodol am y gyllideb. Soniodd Nick Ramsay am yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gall y gyllideb atodol ei wneud. Yn syth ar ôl i’r trefniadau fod wedi eu sefydlu i oruchwylio'r cytundeb, fe wnaeth hynny ddatgloi y drws at yr arian sy’n dod gan Lywodraeth y DU yn yr achos hwn. Roedd yn £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae'n £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, a rhan Llywodraeth y DU o'r fargen sydd wedi ei datgloi gan y trefniadau hynny, ac rydym ni’n adrodd amdanynt yn y fan yma. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith mai’r buddiolwr unigol mwyaf o ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gyllideb atodol yw'r £20 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn iawn i ddefnyddio elfen gwasanaethau cymdeithasol y fformiwla llywodraeth leol i ddosbarthu’r arian hwnnw, gan ei fod ar gyfer y dibenion gofal cymdeithasol hynny.

Byddwn yn ddiau yn trafod y sgyrsiau ehangach hynny am fuddsoddi mewn iechyd a phwysau eraill ar gyllideb Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Mae’r cefndir i hynny, Llywydd, yn parhau i fod yn ansicr iawn. Mewn sgyrsiau diweddar â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, fe wnes i barhau i bwyso am roi terfyn ar y rhaglen o gyni ariannol yn y Deyrnas Unedig, ond, hyd yn hyn, mae'r polisi hwn yn parhau i fod ar waith yn gadarn. Er bod y gyllideb atodol hon yn sefydlu sylfaen gref ar gyfer y flwyddyn gyfredol, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei chwrs, nid oes unrhyw amheuaeth bod penderfyniadau cyllidebol anoddach o'n blaenau. Cynigiaf y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar gyfer yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar Gyfnod 4 o Fil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6372 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 19:20:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae helpu i fynd â’r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn brofiad pleserus iawn. Mae wedi bod yn un o'r achlysuron braf hynny pan oedd yr holl ddadleuon gorau, a bron bob pleidlais, ar yr ochr gywir i’r ddadl.

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y Bil: y tîm o swyddogion sydd wedi gweithio arno o safbwynt Llywodraeth Cymru; y rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod y broses graffu, cyflogwyr ac undebau llafur; ac, wrth gwrs, yr aelodau pwyllgor hynny a fu'n goruchwylio'r gwaith craffu ar y Bil, gan gynnwys y rhai a oedd yn argyhoeddedig o gywirdeb yr achos a hyd yn oed y rhai sydd eto i weld y goleuni? Y canlyniad yw, os caiff y Bil ei gadarnhau heddiw, y bydd ewyllys ddemocrataidd y Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi ei datgan yn gadarn ac yn ffurfiol, ac wedi ei datgan i gefnogi'r model partneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd gennym yma yn y cyfnod datganoli.

Mae cynnal gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn fater i'r sefydliad hwn, gan roi ar waith y cynigion y mae pleidiau gwleidyddol wedi eu rhoi gerbron etholwyr yma yng Nghymru. Nid ydym yn ceisio ymyrryd â’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yng ngwledydd eraill y DU yn cael eu trefnu ac ni ddylai unrhyw un geisio ymyrryd yn y penderfyniadau a benderfynir yn ddemocrataidd yn y fan yma.

Llywydd, i rai ohonom, mae’r Bil hwn yn ein hatgoffa o pam y gwnaethom ni ymgyrchu dros ddatganoli ei hun—er mwyn sicrhau na ellid gwthio polisïau a dulliau gweithredu sydd yn wrthwynebus i ddewisiadau Cymru a ffyrdd Cymru o wneud pethau gan rai nad ydynt yn deall yr un o’r ddau. Gadewch i ni nodi’r wythnos olaf hon cyn toriad yr haf drwy roi’r Bil hwn ar y llyfr statud heddiw.

Llywydd, nid oes llawer ar ôl i'w ddweud ar y Bil hwn nad yw eisoes wedi'i ddweud yn y Siambr hon. Fodd bynnag, rwyf am roi un cynnig arall arni. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn hynod siomedig bod darn cyntaf o ddeddfwriaeth Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017—ie, ym mhumed tymor y Cynulliad—yn ceisio cefnogi eu tâl-feistri yn yr undebau llafur, a oedd yn gyfrifol am 91 y cant o’r rhoddion cofrestredig ar gyfer yr ymgyrch etholiadol ym mis Mai. Mae hyn, ar adeg o argyfwng cenedlaethol ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol, [Torri ar draws.] yn achosi pryder difrifol

Iawn, ni allaf glywed yr Aelod. Tawelwch, os gwelwch yn dda.

[Yn parhau.]—pryder difrifol am ein safonau addysgol yng Nghymru, a thangyflawni mewn llawer o agweddau eraill ar ddarpariaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r cynigion a nodir yn y darn hwn o ddeddfwriaeth arfaethedig yn ceisio dwyn yr amddiffyniad rhag streicio annemocrataidd oddi wrth y cyhoedd sy’n talu eu trethi yng Nghymru. Mae’r cynigion hyn yn ceisio tanseilio gwerthoedd tryloywder, atebolrwydd a bod yn agored yn y sector cyhoeddus, a bydd hyn yn galluogi’r ychydig i amharu ar y lliaws, ac yn atal y defnydd o weithwyr asiantaeth i gadw gwasanaethau allweddol i redeg yn ystod streiciau mewn sectorau arbennig.

Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Bil hwn. Rydym yn credu bod Llywodraeth y DU yn iawn i gyflwyno Deddf yr Undebau Llafur 2016—Deddf sy'n ailgydbwyso buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd drwy roi rhyddid i undebau llafur fynd ar streic, ac nad yw, yn groes i'r hyn y mae’n ymddangos bod llawer o bobl eraill yn ei gredu, yn cynnig atal amser cyfleuster, ond mae yn sicrhau mwy o dryloywder drwy ymestyn y gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth am yr amser a'r arian a neilltuir i hyn yn y sector cyhoeddus.

Mae Deddf y DU hefyd yn symud i roi diwedd ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, pan fo’r pwrs cyhoeddus yn syml yn talu amdano. Mae'r ffaith bod cost wirioneddol hyn gymaint yn uwch nag y byddai'r dystiolaeth a gafwyd yn y pwyllgor yn ein harwain i gredu, yn rhoi cymhelliant clir ar gyfer gwella tryloywder yn y sector hwn—bron i £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer y ddarpariaeth pro rata o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw hwn yn swm bach iawn, ac nid yw'n ddibwys, fel y dywedwyd wrthym mewn tystiolaeth. Mae hwn yn swm sylweddol o arian y byddai ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn gwerthfawrogi gallu ei fuddsoddi mewn mannau eraill, drwy gyflogi gweithwyr cymdeithasol neu gynorthwywyr addysgu ychwanegol, er enghraifft.

Llywydd, mae bwriad Llywodraeth y DU ar gyfer y Ddeddf hon yn parhau i fod yn ddigyfnewid. Dylai'r mesurau diogelwch newydd hyn gael eu defnyddio i amddiffyn cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bydd Bil Cymru yn egluro bod cysylltiadau diwydiannol yn fater a gadwyd, a bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y cyfle cyntaf posibl, yn dilyn rhoi Deddf Cymru ar waith, er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus yn briodol.

Rwy'n falch iawn o gael gwrthwynebu'r Bil hwn.

Hoffwn atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur y wladwriaeth Brydeinig pan gafodd ei chyflwyno yma yn ystod y Cynulliad diwethaf. Rydym ni hefyd wedi gwrthwynebu’r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr yn y lle hwn trwy gydol taith y Bil yma yn ystod tymor y Cynulliad yma, gan herio pob ymdrech ddi-flino gan y Ceidwadwyr i ymosod ar hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr, diwydiant, cyflogwyr a’r Llywodraeth y gallwn ni wneud ein gorau dros ein gwlad a thros ein heconomi, a thrwy barchu’r gweithlu yn llawn y gallwn leihau anghydfod a’r angen am weithredu diwydiannol.

Y trueni mwyaf efo’r Bil yma ydy’r ffaith bod angen i’w wthio fo drwy’r broses ddeddfwriaethol mor gyflym, a’r rheswm am hynny, wrth gwrs, ydy oherwydd bod yn rhaid ei basio fo cyn y bydd Ddeddf Cymru yn weithredol gan, wrth gwrs, y bydd Deddf Cymru yn cymryd pwerau o’r Cynulliad yma. Mae’n siomedig iawn na chawsom ni, felly, gyfle i ehangu hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy, er enghraifft, ddadwneud rhai o elfennau’r Deddfau sydd yn deillio yn ôl i gyfnod Margaret Thatcher.

Felly, mi fuasem ni wedi gallu creu Deddf i amddiffyn yr hawliau sydd gan weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod, ond hefyd Ddeddf a fyddai’n ehangu ar hawliau gweithwyr, ac, yn y broses, gryfhau’r berthynas rhwng y cyflogwr, yr undebau a’r gweithwyr. Efallai, yn wir, y cawn ni gyfle i edrych ar hyn rhywdro eto.

Mae’r Bil yma yn ymgais glir gan y sefydliad cenedlaethol yma i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru oddi wrth ymosodiadau’r Ceidwadwyr ar yr hawliau hynny, ac, yn amlwg, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw yma. Mae Plaid Cymru yn credu mewn amddiffyn a hyrwyddo’r rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur ei chwarae yng nghymdeithas Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.

Member
Mark Drakeford 19:28:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy gydnabod y ffaith bod Plaid Cymru wedi cefnogi’r Bil trwy’r broses ac wedi bod yn help mawr yn y broses o graffu arno ac o ddod â’r Bil i rym?

Llywydd, I haven’t taken up with Janet Finch-Saunders in previous debates her repeated assertion that this is the first piece of legislation to have made its way through the Assembly during this year. Now, I’m sure I was here when the land transaction Bill completed its Stage 4. I was almost certainly here when the landfill disposals tax Bill completed its fourth stage. Many of us were here when the public health Bill also made its way onto the statute book earlier this year. I’m afraid Janet’s grasp of arithmetic is every bit as secure as her grasp of Welsh priorities and preferences, and I probably wasn’t surprised at that. I was much, much more disappointed that her grasp of democracy turns out to be as faulty as her grasp of simple arithmetic. This Bill has now come before this Assembly in every part of its process. It has been voted on here at Stage 1. It has been voted on at committee at Stage 2. It was here again for voting at Stage 3, and it’s to be voted upon by this National Assembly again at Stage 4. And yet, we hear from the Conservative Party that its weak and failing Government at Westminster, which secured as many as eight seats in Wales in the general election barely a month ago, is going to find time on the floor of the House of Commons to try to overturn the democratically asserted will of this National Assembly. Well, I really, really hope that they know better than to try to do that. It would be both a democratic outrage as far as the National Assembly is concerned and it would be a terrible waste of the very small political capital that that failing Government still has in its locker. We shall put this Bill on the statute book today confident in the belief that we are doing the right thing and that people with more sense than we’ve heard this afternoon will know better than to try to overturn it elsewhere.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriaf y pleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. 12. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio.

Mae’r bleidlais gyntaf ar y Mesur ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Os derbynnir gwelliant, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy’n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 44 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 5, Yn erbyn 44, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NNDM6374.

Gwelliant 2, felly. Pleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 16, Yn erbyn 33, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NNDM6374.

Pleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Jane Hutt a Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 16 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NNDM6374.

Y bleidlais nesaf ar y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil diddymu’r hawl i brynu a hawliau cysylltiedig. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Carl Sargeant. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 18 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 18, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6367.

Y bleidlais nesaf ar y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â’r Bil diddymu’r hawl i brynu a hawliau cysylltiedig. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 18 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 18, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6368.

Y bleidlais nesaf ar y gyllideb atodol gyntaf. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 31, 20 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 31, Yn erbyn 0, Ymatal 20.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6353.

Y bleidlais olaf ar Gyfnod 4 Bil yr undebau llafur. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 38, Yn erbyn 13, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6372.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:34.