Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0529(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi’r mesurau yr ydym ni’n eu cymryd i sicrhau bod y de-ddwyrain wedi ei gysylltu trwy system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy, ddibynadwy, fodern a chwbl integredig.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad ar ddyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn arbennig o bwysig i drafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain ac, yn wir, i fetro de Cymru—mater yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon gyda chi nifer o weithiau. Soniasoch ar ddiwedd eich ateb am bwysigrwydd integreiddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y broses o ddyfarnu'r fasnachfraint, o gofio bod map y metro yn cynnwys llwybrau bysiau a threnau? Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod annibyniaeth y ddau lwybr hynny yn cael ei sicrhau yn y fasnachfraint newydd, fel ein bod yn gweld y ddarpariaeth o docynnau integredig, ac fel bod y fasnachfraint newydd yn gweithredu mewn cytgord â gwasanaethau bysiau lleol a'r gwasanaethau trên?

Mae'r fasnachfraint ei hun yn mynd yn dda, ond ni fyddwn yn disgwyl, wrth gwrs, i’r fasnachfraint rheilffordd ymdrin â'r mater o wasanaethau bysiau. Ond, wrth gwrs, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y sefydliad hwn yn cael rheolaeth o wasanaethau bysiau, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni fel Llywodraeth, a'r Cynulliad fel sefydliad, i integreiddio gwasanaethau bysiau a rheilffordd o gofio’r ffaith y bydd rheolaeth yn yr un lle.

Bu pum mlynedd ers cyhoeddi’r adroddiad ‘A Metro for Wales’ Capital City Region’, sy'n gwneud yr achos dros newid sylweddol i’n system drafnidiaeth gyhoeddus. Fesul cilomedr, mae rheilffordd yn costio tua’r un faint â'r un pellter o draffordd, ac eto mae'n cludo wyth i 20 gwaith yn fwy o bobl. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pa waith y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i ddefnyddio'r metro fel ffordd o fynd i'r afael â newid moddol ac ymdrin â'r tagfeydd sydd gennym ni ar hyn o bryd ar yr M4 i'r dwyrain o Gaerdydd.

Mae'r M4 i'r dwyrain o Gaerdydd yn cael ei heffeithio gan nifer o ffactorau. Bydd y metro yn cael rhywfaint o effaith, ond nid effaith mor fawr ag ar gyfer y cymunedau hynny sydd i'r gorllewin o Gaerdydd. I ddechrau, wrth gwrs, yr hyn y bydd y metro yn ei wneud fydd uwchraddio a gwella'r rheilffyrdd presennol, ac yna, wrth gwrs, ceisio ehangu trwy reilffyrdd ysgafn i gymunedau newydd. Ond mae camau nesaf y metro sy'n cynnwys rheilffordd ysgafn rai blynyddoedd i ffwrdd, o gofio’r ffaith ein bod ni’n gwybod y bydd y gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar y rheilffyrdd trwm sydd eisoes yn bodoli. Ond ceir cyfleoedd sylweddol ar gyfer newid moddol drwy'r metro yn y blynyddoedd i ddod.

Bore dydd Iau diwethaf, rhoddodd arweinyddion rhagorol cynghorau RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorwyr Andrew Morgan a Huw David, dystiolaeth ar fetro de Cymru i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roeddent yn dadlau bod angen i'r metro gysylltu ar draws y Cymoedd gogleddol ac nid cryfhau cysylltiadau i Gaerdydd ac oddi yno’n unig. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ac ymrwymo i sicrhau bod hyn yn digwydd?

Wel, y peth cyntaf i'w bwysleisio yw nad system drafnidiaeth ar gyfer Caerdydd fwyaf yw'r metro. Mae'r ffaith y bydd Trafnidiaeth Cymru wedi ei leoli ym Mhontypridd yn arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymunedau'r Cymoedd, ond bydd cysylltiadau traws-gwm yn bwysig. Rydym ni’n deall hynny. Byddant yn cael eu darparu yn bennaf, yn sicr yn y cyfnodau cychwynnol, gan fysiau. Rydym ni’n gwybod bod llawer o bobl sy’n dymuno cymudo ar draws Flaenau'r Cymoedd, a chymudo o un cwm i'r llall. Mae’r rheilffyrdd a oedd yn cysylltu’r ardaloedd hynny ar un adeg wedi hen ddiflannu. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod angen i ni ystyried sut y gallwn ni wella gwasanaethau bws er mwyn darparu’r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl.

Prif Weinidog, yn Llandudno ddydd Sadwrn yng nghynhadledd Llafur Cymru, cyhoeddwyd tri mesur arwyddocaol gennych a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd Wi-Fi am ddim ar bob trên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau erbyn mis Medi eleni, bydd Wi-Fi am ddim yn cael ei gyflwyno mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, gan ddechrau gyda 50 o'r gorsafoedd prysuraf yng Nghymru dros y chwe mis nesaf, a chynllun arbrofol blwyddyn o hyd o deithio am ddim ar benwythnosau ar ein gwasanaeth TrawsCymru pellter hir. Prif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Lafur Cymru ar ochr cymudwyr, a pha gamau eraill a fyddai’n gallu gwella trafnidiaeth gyhoeddus i’m hetholwyr yn Islwyn?

A gaf i ddiolch i'r Aelod dros Islwyn am fy atgoffa o'r hyn a ddywedais dros y penwythnos? Ac, ydy, mae'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni’n ei wneud i gymudwyr—y ffaith ein bod ni’n uwchraddio'r metro, y ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i fetro’r gogledd-ddwyrain, y ffaith ein bod ni’n ystyried uwchraddio trenau pan ddaw'r fasnachfraint i ni, y ffaith y byddwn yn ceisio, pan fydd y pwerau yn dod i ni y flwyddyn nesaf, uwchraddio ein system fysiau. Ac, wrth gwrs, byddwn, fel y dywedasom dros y penwythnos, yn gwneud pethau a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y rheilffyrdd ac ar fysiau yn y dyfodol.

Newsquest

2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Newsquest ynglŷn ag arian cyhoeddus â ddefnyddiwyd er mwyn sefydlu canolfan is-olygu y cwmni yng Nghasnewydd? OAQ(5)0542(FM)[W]

Mae ein trafodaethau’n parhau gyda Newsquest ynghylch eu diswyddiadau diweddar a’u cynlluniau. Mae fy swyddogion wedi derbyn gwybodaeth gan y cwmni ar lefelau staffio presennol y safle ac yn mynd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau a yw telerau ac amodau’r grant wedi cael eu torri.

Diolch am yr ateb. Ac a wnewch chi, felly, gadarnhau y byddwch chi’n mynd ar ôl pob ceiniog os nad yw telerau’r grant wedi eu cyflawni’n llwyr? Ac, a fyddwch chi’n ailystyried y ffordd rydych chi’n cefnogi’r wasg leol? Mae hon yn ymgyrch gan yr NUJ, fel rydych chi’n gwybod, ynglŷn â Local News Matters. Oni fyddai’n fwy priodol i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa annibynnol ar gyfer newyddion annibynnol, y mae modd i bob cwmni fidio i mewn iddi hi, ac i gefnogi newyddiaduriaeth yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru?

Wel, y peth cyntaf y gallaf ei ddweud yw ei bod hi’n iawn i ddweud y byddwn ni’n mynd ar ôl pob ceiniog os yw’r telerau wedi cael eu torri—mae hynny’n wir; gallaf ddweud hynny nawr. Yn ail, cyn edrych ar gronfa, beth rydym ni’n mynd i’w sefydlu, wrth gwrs, yw fforwm annibynnol i’r cyfryngau er mwyn ystyried beth yw’r heriau dros y blynyddoedd nesaf, ac i weld ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod gyda ni gyfryngau cryf yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru.

Prif Weinidog, yn ddealladwy, mae'r staff sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn swyddfa Maesglas Newsquest yn bryderus iawn. Ynghyd â'r undeb llafur, rwyf wedi siarad â staff, sy'n amcangyfrif y bydd 10 yn llai o swyddi cyfwerth ag amser llawn ar ddiwedd y broses, ac y bydd swyddi medrus amser llawn yn cael eu disodli gan swyddi mwy gweinyddol a fydd yn rhan-amser. Mae Newsquest yn dweud ei fod yn cyflogi tua 60 o staff yng Nghasnewydd ac yn cefnogi'r timau golygyddol a chyhoeddi yn ganolog ar draws y sefydliad. A yw Llywodraeth Cymru yn gwybod sut y mae’r ffigur o 60 o staff yn cyfateb i swyddi llawn amser yng Nghasnewydd, a pha sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael i sicrhau bod Newsquest yn parhau i fodloni ei rwymedigaethau i'w staff ac i’r Llywodraeth?

Wel, rydym ni’n ymwybodol o 14 o ddiswyddiadau a gynlluniwyd. Gallaf ddweud, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ein bod ni wedi darparu £245,808 i Newsquest yn 2015 tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi ym Maesglas. Roedd y dyfarniad hwnnw’n amodol ar i’r swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020. Mae'r gweithrediad wedi rhagori ar y targed creu swyddi a gynlluniwyd hwnnw hyd yn hyn, ond mae'n bwysig bod telerau'r grant hwnnw’n cael eu bodloni tan fis Mai 2020. Os nad ydynt, byddwn yn adennill yr arian.

Prif Weinidog, gofynnais yr un cwestiwn i chi yr wythnos diwethaf, o’r un safbwynt ynghylch y ganolfan is-olygu hon yng Nghasnewydd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn, fe wnaethoch gadarnhau bod y grant, yr arian, ym mis Mai 2015 yn amodol ar i swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020—pum mlynedd. Felly, mae’n ymddangos nawr bod y staff yn Newsquest yng Nghasnewydd wedi cael eu rhoi mewn perygl o golli eu swyddi ym mis Tachwedd y llynedd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r diswyddiadau hyn fis Tachwedd diwethaf, ac, os felly, pa sylwadau a wnaed i'r cwmni bryd hynny i’w atgoffa o'r amod sydd ynghlwm wrth ddyfarniad cyllid grant gan y Cynulliad hwn?

Wel, fel y dywedais, mae amodau'r grant wedi cael eu bodloni hyd yn hyn, ond mae'n rhaid bodloni’r amodau tan fis Mai 2020. Os nad ydynt yn cael eu bodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian. Cyn belled ag y mae swyddogion yn y cwestiwn, maen nhw wedi bod mewn trafodaethau ers cryn amser gyda Newsquest. Fel sy'n arferol yn y sefyllfaoedd hyn, rydym ni’n edrych i weld pa gymorth y gallwn ni ei gynnig. Ond, gadewch i mi ei wneud yn gwbl eglur, os nad yw amodau'r grant yn cael eu bodloni, yna byddwn yn cymryd camau i’w adennill.

Gwn fod llawer o'r newyddiadurwyr sy'n gweithio yn y ganolfan is-olygu yng Nghasnewydd yn dod o Gaerdydd, ar ôl cael eu diswyddo eisoes gan Trinity Mirror, sydd hefyd wedi gweld ton ar ôl ton o golledion swyddi. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal cwmnïau preifat mawr sy'n rhedeg ein teitlau gwasg leol rhag lleihau sylw i newyddion lleol ymhellach fyth? Ac a yw'r Prif Weinidog yn gwybod am unrhyw gyllid sydd ar gael i newyddiadurwyr sydd efallai’n dymuno, er enghraifft, cychwyn gwefannau newyddion hyperleol?

Wel, yn gyntaf oll, gallaf ddweud bod swyddogion wedi rhoi gwybodaeth i'r cwmni am gael mynediad at wasanaethau ReAct i weithwyr a ddiswyddwyd, ac am wasanaethau priodol Gyrfa Cymru. Mae Busnes Cymru ar gael i edrych ar ddarparu’r math o gymorth ariannol y mae’r Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi ei grybwyll. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer ohonom yn ofni y byddwn yn gweld gostyngiad graddol i sylw i newyddion lleol a rhaglenni newyddion cenedlaethol ledled Cymru gyfan, a dyna pam mae’r fforwm cyfryngau annibynnol wedi cael ei sefydlu. Un o amcanion y fforwm hwnnw fydd ystyried ffyrdd o wneud yn siŵr bod ein pobl yn cael eu hysbysu’n briodol ac nad ydynt yn cael eu camarwain trwy ddarllen papurau sy'n dod o rywle arall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Yfory, bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno erthygl 50, gan ddechrau’r broses lle bydd y Deyrnas Unedig, neu rai rhannau o'r DU o leiaf, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych chi wedi dweud o'r blaen eich bod yn disgwyl y bydd ymgynghori â chi cyn gwneud yr hysbysiad erthygl 50. A allwch chi ddweud wrthym pa ymgynghori sydd wedi digwydd a, hefyd, yr hyn yr ydych chi’n disgwyl ei weld yn y llythyr erthygl 50?

Gallaf, trafodwyd hyn gennym yn fanwl yr wythnos diwethaf pan gefais gyfarfod â Phrif Weinidog y DU a chyfarfod gyda David Davis. Bryd hynny, nid oedd yn eglur, o safbwynt Llywodraeth y DU, a fyddai'n llythyr byr neu’n llythyr hwy; llythyr hwy, mewn geiriau eraill, yn amlinellu'r achos cyfan, neu’r safbwynt cyflawn y byddai'r DU yn ei gymryd yn y trafodaethau erthygl 50. Ond, mae'n ymddangos i mi, yn syml, mai’r hyn a fydd yn digwydd yw y bydd llythyr yn cael ei anfon, yn esbonio’r hyn y mae'r DU yn bwriadu ei wneud. Nid wyf yn disgwyl y bydd unrhyw beth yn y llythyr sy'n cyfeirio at ddatganoli.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Nid yw'n rhoi llawer iawn o ffydd i mi nad ydych chi’n gwybod yn union beth sy'n mynd i fod yn y llythyr hwnnw. Nododd y felin drafod Demos ddoe y gallai Cymru fod y wlad i gael ei tharo waethaf gan effaith economaidd Brexit, ac rydym ni’n wynebu, fel y gwyddoch, risg uchel o unrhyw golled o allforion, a dyna pam mae cyfranogiad parhaus yn y farchnad sengl mor bwysig. Rydym hefyd yn wynebu risg uchel o unrhyw golled o gyllid UE. O ran dinasyddion yr UE, mae Demos yn disgrifio'r sefyllfa fel un risg isel i Gymru oherwydd y nifer gymharol fach o bobl sydd yma. Ond rydym ni yn gwybod bod y dinasyddion UE sydd yma yn bwysig i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ein GIG. Nawr, mae’r canfyddiadau Demos hynny yn esbonio'n union pam mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu'r economi drwy hyn i gyd. Beth yw eich asesiad nawr o Brexit caled, lle gallai’r risgiau hyn droi’n realiti?

Wel, gwrandewais ar y sylwadau a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru dros y penwythnos, ac roeddent yn union yr un fath â'r sylwadau, ac eithrio un mater, yr wyf i wedi eu gwneud yn y gorffennol. Yr unig fater sy'n wahanol yw'r derminoleg sy'n cael ei defnyddio—mae hi'n defnyddio 'aelodaeth'; rydym ni’n defnyddio 'cyfranogiad'. Nid wyf yn ceisio dweud bod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni o ran beth fyddai'r canlyniad. Ond yr hyn sy'n amlwg i mi, yn gyntaf oll, yw nad oedd Llywodraeth y DU ei hun, yr wythnos diwethaf, yn gwybod beth yn union fyddai’r llythyr erthygl 50 yn ei ddweud. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cynghori Prif Weinidog y DU; roeddwn i'n meddwl mai’r byrraf y gorau fyddai orau iddi hi. Cawn weld sut y mae’r llythyr yn edrych mewn gwirionedd.

O ran dinasyddion yr UE, mae’n rhaid i mi ddweud bod dinasyddion UE yng Nghymru o hyd sy'n bryderus. Ddoe, cefais gyfarfod â llysgennad Rwmania. Mae'r gymuned Rwmanaidd yn eithaf bach, ond mae rhai ohonynt yn pryderu y byddant yn cael eu hallgludo, yn llythrennol. Nid yw’n ofn sydd wedi ei wreiddio mewn ffaith, ond mae pobl wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau ac maen nhw wedi cyfateb hynny i'r sefyllfa yma. Rwyf wedi ceisio, yn amlwg, tawelu rhai o'r ofnau hynny. O’m safbwynt i, yr hyn sy'n gwbl allweddol, cyn gynted â phosibl, yw bod y mater o ddinasyddion UE sy'n byw ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a dinasyddion y DU sy’n byw mewn gwledydd eraill yn yr UE, yn cael ei ddatrys yn gyflym er mwyn cael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw.

Ac, o ran yr economi, mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union: mynediad at y farchnad sengl, dim gosod tariffau. Mae’r gallu i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl yn gwbl hanfodol i economi fel ein heconomi ni, lle mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nid oes gen i unrhyw ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i adlewyrchu ein buddiannau cenedlaethol penodol yng Nghymru, ac nid oes unrhyw wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni y prynhawn yma i roi mwy o ffydd i ni. Ni all Cymru fforddio talu pris uchel am Brexit caled, ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i orfod amddiffyn ein buddiannau yn ystod y trafodaethau erthygl 50. Ond mae angen i ni hefyd feddwl am sut yr ydym ni’n mynd i symud y ddadl ymlaen i ymdrin â'r pwerau sydd eu hangen arnom i liniaru'r risgiau economaidd hynny. Rydym ni eisiau cadw gwerth ein cyllid UE presennol mewn unrhyw gynllun newydd, ond mae Plaid Cymru yn credu bod angen mwy o rym yng Nghymru i benderfynu sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei wario. Dylem allu defnyddio cyllid newydd i wneud Cymru'n fwy deniadol i fusnesau, ac mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru’n cael ei grymuso fel y gallwn addasu i her Brexit. Mae angen pwerau treth arnom, er enghraifft, sy’n llawer ehangach na'r rhai sy’n cael eu cynnig eisoes. Rwyf wedi nodi fy ngalwadau i Lywodraeth y DU ar hyn heddiw—yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried fel budd pennaf Cymru—ond a allwch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, i gael ein gwlad i'r sefyllfa lle y gall oroesi Brexit Torïaidd eithafol?

Fel y dywedais, mae llawer o'r hyn a ddywedodd fwy neu lai yr un fath â’r hyn a ddywedais i yr wythnos gynt ac yn yr wythnosau cyn hynny. Nid oes gennym safbwynt gwahanol o gwbl yn hynny o beth. Wel, gadewch i mi esbonio: yn gyntaf oll, nid wyf mor optimistaidd—y gair anghywir mae’n debyg, ond mor optimistaidd ag y mae hi y bydd unrhyw arian ar ôl 2020. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i ddisodli cronfeydd strwythurol. Rwy’n llai a llai argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i dalu cymorthdaliadau ffermio. Mwy a mwy, rydym ni’n clywed bod y polisi amaethyddol cyffredin yn broblem. Clywsom hynny gan Iain Duncan Smith. Mae hynny'n golygu ei bod yn bosibl iawn y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu—mae’n bosibl iawn y gallent ddiflannu. Dyna fy ofn mwyaf. Rydym ni’n gwybod beth fyddai hynny'n ei olygu i economi cefn gwlad Cymru.

Fel y mae hi’n gwybod, rwyf wedi dweud lawer, lawer gwaith na fydd y broses hon yn gweithio oni bai bod y pedair gwlad yn cytuno i'r setliad terfynol. Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl mewn unrhyw ffordd cael setliad terfynol erbyn mis Mawrth 2019, oherwydd byddai'n rhaid iddo gael ei gwblhau erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac mae hynny'n dipyn o gamp. Wrth gwrs, er mwyn i farchnad sengl fewnol y DU oroesi, mae angen rheolau cymorth gwladwriaethol yn y DU; mae’n rhaid iddynt gael eu cytuno gan y pedair gwlad, nid eu gorfodi gan Lywodraeth y DU; ac mae'n rhaid cael proses ddyfarnu annibynnol i blismona'r rheolau hynny. Rwy'n credu ei fod yn ymarferol wedyn. Ond, fy ofn mwyaf yw nad oes dealltwriaeth dda o hyn yn Whitehall. Ddydd Iau, byddwn yn gweld y Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr fel y'i gelwir. Os yw'n canolbwyntio ar gadw acquis presennol cyfraith Ewropeaidd yn unig, mae hynny'n synhwyrol. Os, fodd bynnag, y bydd yn symud tuag at awgrymu rhywbeth fel, 'Wel, dylai pwerau’r UE ddod yn ôl i Whitehall ar sail dros dro ac yna bydd trafodaeth ynghylch ble maen nhw’n mynd,' ni fyddai hynny'n dderbyniol, gan nad wyf yn credu y byddai'r 'dros dro' yn golygu dros dro. Byddwn yn gweld ddydd Iau a yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â gweithio i sicrhau bod y DU yn parhau i weithio fel partneriaeth.

Diolch, Llywydd. Ddoe, Prif Weinidog, darganfuwyd bod pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa o ddiffyg cronig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw teg—sefyllfa o ddiffyg cronig. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu llinell yn y tywod gan ddweud na fyddant yn cael eu hachub. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd na fydd unrhyw wasanaethau yn cael eu colli yn unman yng Nghymru oherwydd diffyg arian. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir ac mai dyna bolisi Llywodraeth Cymru?

Gallaf, mae’n wir. Mae'r byrddau iechyd yn cael eu hysbysu—mae’r pedwar yn cael eu hysbysu—bod yn rhaid iddyn nhw gadw at y gyllideb. Dywedwyd hynny wrthynt ar y cychwyn cyntaf. Mae’n rhaid iddyn nhw beidio â niweidio gwasanaethau o ganlyniad i hynny. Byddwn yn edrych eto ar eu cyfrifon ym mis Mehefin, ac os oes angen cymryd camau pellach, os nad ydynt yn gallu cyflawni yn hynny o beth, yna bydd y camau hynny'n cael eu cymryd.

Er tegwch, mae Betsi mewn mesurau arbennig, yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwch ysgaru’r gallu i roi arian yn y gwasanaeth iechyd oddi wrth cynnal y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac roedd fy nghwestiwn i chi yn ymwneud â’r gymeradwyaeth o bwynt Ysgrifennydd y Cabinet na fyddai unrhyw wasanaethau yn cael eu colli oherwydd arian. Pan ragwelir y bydd Abertawe Bro Morgannwg, un o'r pedwar bwrdd iechyd, mewn sefyllfa o ddiffyg gwaeth y flwyddyn nesaf—£52 miliwn, yn hytrach na £39 miliwn eleni o sefyllfa o fantoli'r gyllideb y flwyddyn ddiwethaf—nid yw’r datganiad yn gweithio, neu mae’n anghredadwy, Brif Weinidog. Sut ydych chi'n mynd i allu cynnal gwasanaethau pan fo gan bedwar o'r chwe bwrdd iechyd sefyllfa o ddiffyg cronig o'r fath ac, yn y pen draw, y mae amseroedd aros yn cynyddu’n gyson?

Pedwar allan o saith yw hi. Yn gyntaf oll, nid yw amseroedd aros yn cynyddu. Pedwar o saith yw hi, ond gofynnodd y cwestiwn, 'Beth fydd yn digwydd os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb?' Rydym ni’n edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb heb niweidio gwasanaethau, yna bydd yn rhaid i ni edrych yn ofalus ar y ffordd y mae’r byrddau hynny yn cael eu llywodraethu, ac ni fyddwn yn osgoi hynny yn yr un modd ag na wnaethom osgoi ymdrin â Betsi Cadwaladr pan gododd y sefyllfa honno.

Defnyddiais bedwar allan o chwech yn fwriadol, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan fwrdd iechyd Powys ysbyty cyffredinol dosbarth yn ei ardal, ac mae pen uchaf gwasanaethau acíwt yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ac mae’n ymddangos mai’r rheini yw’r byrddau iechyd sy'n amlwg â phroblem fawr o ran diffyg, gan fy mod wedi defnyddio Abertawe Bro Morgannwg gyda diffyg a ragwelir y flwyddyn nesaf o £52 miliwn. Rydych chi’n sôn am edrych ar drefniadau llywodraethu, rydych chi’n sôn am edrych ar y fantolen fis Mehefin nesaf, a gallaf glywed o sefyllfa rhywun sy’n eistedd bod angen i mi edrych dros y ffin. Mae diffyg ariannol GIG Cymru yn ddwbl—dwbl—yr hyn y mae GIG Lloegr yn ei wynebu. Nid wyf yn diystyru—[Torri ar draws.] Nid wyf yn diystyru'r materion ar draws y GIG cyfan yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw'n afresymol—nid yw'n afresymol, bod pobl yn yr ardaloedd byrddau iechyd hynny yn ceisio cysoni'r datganiad na fydd unrhyw golli gwasanaethau ac na fydd unrhyw gynnydd i amseroedd aros, pan fo gennych chi gymaint o bwysau ar y cyllidebau heb arian ychwanegol yn mynd i mewn. Felly, gofynnaf i chi eto: pa fesurau penodol ydych chi’n credu y byddwch chi’n gallu eu cymryd, gan eich bod wedi nodi bod mis Mehefin yn adeg gritigol, a threfniadau llywodraethu, i fynd i'r afael â'r diffyg hwn? Rwy’n derbyn bod y diffyg ar draws y Deyrnas Unedig; nid wyf yn ceisio gwneud y pwynt gwleidyddol hwnnw. Yr hyn yr wyf i'n ceisio ei wneud yw’r pwynt bod etholwyr a defnyddwyr y gwasanaethau hyn, nid yn afresymol, yn bryderus oherwydd, yn amlwg, ceir problem fawr o ran sut y bydd y diffygion hyn yn cael eu dwyn yn ôl o dan reolaeth.

Wel, mae byrddau iechyd eraill yn ymdopi. Mae Powys yn fwrdd iechyd, ac mae'n prynu’r rhan fwyaf o'i wasanaethau i mewn. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn fwy anodd i Bowys, gan fod cyn lleied o wasanaethau yn cael eu darparu ym Mhowys oherwydd ei natur wledig, ac eto mae Powys yn ymdopi. Unwaith eto, y neges yr ydym ni wedi ei rhoi i'r byrddau iechyd sy'n dweud wrthym na fyddant yn gallu bod o fewn eu cyllideb yw: 'Mae'n rhaid i chi reoli hyn. Mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn torri mewn meysydd nad ydynt yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd. Ni ddylech edrych ar wasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o ran torri, ac rydych chi’n cadw o ferwn eich cyllideb.’ Dyna beth ddylai byrddau iechyd ei wneud. Eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, yn y pen draw—dyna pam mae gennym ni fyrddau iechyd. A bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn atebol am eu gweithredoedd ymhen ychydig fisoedd pan fyddwn ni’n edrych eto ar y sefyllfa ariannol.

Diolch, Llywydd. Gofynnodd arweinydd fy ngrŵp i mi gyfleu ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn angladd teuluol heddiw. A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ymateb ei Lywodraeth ar 13 Mawrth i bapur ymgynghori Llywodraeth y DU ar ddyfodol tollau Pont Hafren? Mae wedi ei ddadlau’n dda, ac yn adlewyrchu’n ffyddlon barn unfrydol y Cynulliad hwn ar fy nghynnig i gefnogi diddymu'r tollau ar bont Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus. Byddai rhywun yn gobeithio, fodd bynnag, y byddai mwy o ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU na dim ond ffeilio ymateb i'r ymgynghoriad. Cynigiodd comisiwn Silk gydgysylltu agos rhwng y ddwy Lywodraeth dros ddyfodol pont Hafren. Dywedodd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi wedyn y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol hirdymor pontydd Hafren, ac mae strategaeth buddsoddi mewn ffyrdd Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed yn dweud,

Bydd yr Adran Drafnidiaeth, gan weithio gyda... Llywodraeth Cynulliad Cymru...yn archwilio dyfodol y bont yn fanwl.

A allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y mae’r ymgysylltu hwnnw’n mynd?

Wel, mae swyddogion mewn trafodaethau, ond y sefyllfa yr ydym yn ei ffafrio yw y dylem ni gymryd drosodd y cyfrifoldeb am redeg y ddwy bont— cymryd rheolaeth dros y tollau. Cyn i ni wneud hynny, byddai'n rhaid i ni gael dealltwriaeth gadarn o gyflwr a chostau cynnal a chadw’r ddwy bont hynny. Mae'r ffigurau yr ydym ni wedi eu cael yn amrywio'n helaeth. Byddai angen hoelio hynny i lawr—bron yn llythrennol, rwy’n gobeithio—ond byddai'n rhaid i ni ddeall beth ydyn nhw, a’n barn ni yw y dylem ni reoli'r tollau. Nid wyf yn deall gwrthwynebiad Llywodraeth y DU i hyn. Nid wyf yn deall pam maen nhw’n teimlo na ddylai pont sydd, yn y pen draw, yn brif fynedfa i Gymru gael ei rheoli o Gymru.

Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog, a dymunaf yn dda iddo fe, Ken Skates a'i swyddogion wrth ddadlau’r safbwynt hwnnw. Ceir tair risg gyfreithiol ddifrifol iawn i Lywodraeth y DU, rwy’n credu, os bydd yn ceisio parhau i godi tollau heb ein cytundeb, a gallai unrhyw un o'r rheini fod yn angheuol i unrhyw gynllun sydd ganddi. Yn gyntaf, mae Deddf Pontydd Hafren 1992 yn dweud y dylai tollau ddod i ben ar ôl i swm penodol pellach gael ei godi, a byddai hynny'n debygol o ddigwydd tua diwedd y flwyddyn nesaf. Yn ail, mae gennym ni, o dan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n rhestru'r materion datganoledig, gan gynnwys mater 10.1,

creu, gweithredu a gorfodi cynlluniau ar gyfer codi ffioedd o ran y defnydd o gefnffyrdd yng Nghymru.

A dyna, yn fy marn i, sydd wedi arwain at Lywodraeth y DU yn cynnig parhau i godi tollau ar yr hanner pont Hafren sydd yn Lloegr, gan fod hynny’n disodli cael yr awdurdod codi tâl. A byddai angen iddynt orfodi’r doll honno, o bosibl, yn y cabannau yng Nghymru, yr wyf yn cynnig sy’n mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Ac yn drydydd, mae ganddyn nhw broblem bellach bod Deddf Trafnidiaeth 2000, y maen nhw’n bwriadu ei defnyddio nawr, yn dweud,

Ceir cyflwyno cynllun codi ffioedd ar gefnffyrdd yng nghyswllt ffordd.... dim ond os bydd y ffordd yn cael ei chludo gan bont, neu’n teithio trwy dwnnel.

Nid yw'n darparu ar gyfer iddyn nhw godi tâl am ran o ffordd sy’n cael ei chludo gan bont, ac mae’r defnydd o'r ymadrodd ‘teithio trwy dwnnel’ yn awgrymu, trwy gyfatebiaeth, mynd o un ochr i'r afon i'r llall. Felly, am yr holl resymau hynny, a all y Prif Weinidog ystyried beth arall y gall ef neu ei Llywodraeth ei wneud i bwysleisio i Lywodraeth y DU, o leiaf, y risgiau cyfreithiol iddi os bydd yn ceisio codi ffioedd yn y dyfodol heb ein cytundeb ni?

Mae'r Aelod wedi codi'r materion hyn o'r blaen. Fe wnaethom edrych arnynt.. Mae’n ymddangos i ni, oherwydd natur y ddeddfwriaeth sy'n rheoli pontydd Hafren, eu bod wedi eu cadw. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, na ddylid ymchwilio ymhellach i'r pwyntiau y mae eisoes wedi eu codi. Byddaf yn gwneud hynny a byddaf yn ysgrifennu ato, gan eu bod yn haeddu ymchwiliad pellach. Wrth gwrs, mae’r tollau ar yr hen bont ar ochr Lloegr, ac mae’r tollau ar y bont newydd ar ochr Cymru. Byddai'n well gennym pe na byddai unrhyw dollau o gwbl ar y naill ochr na’r llall, ac i gytundeb gael ei sicrhau o ran cynnal a chadw'r pontydd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa gyfreithiol, y sefyllfa a anfonwyd ataf i mewn gohebiaeth o leiaf, wedi newid. I ddechrau, y pwyslais oedd y gallai Llywodraeth y DU ei wneud gan mai hi oedd yr awdurdod codi tâl, ond mewn gwirionedd nid yw Llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi ar ein hochr ni o’r ffordd, a byddai angen iddi orfodi, a cheir anawsterau gwirioneddol o ran gwneud hynny mewn Deddf ddiweddarach. Ceir tair gwahanol ddadl, y byddai unrhyw un ohonynt yn angheuol i safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, maen nhw’n ceisio defnyddio'r cabanau tollau presennol er gwaethaf y ffaith fod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud mai ein hawl ni yw gorfodi ar ffyrdd yng Nghymru, neu maen nhw’n ystyried buddsoddi mewn cynllun llif rhydd—llawer o gyfalaf—heb sicrwydd cyfreithiol, os bydd rhywun yn mynd trwodd ac nad yw'n talu, eu bod yn mynd ar eu holau am y ddyled, mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r llys, ac oni bai y gallant wybod gyda sicrwydd bod y llys yn mynd i ddweud, 'Ydy, mae honna’n ffi ddilys', yna mae'n arbennig o anodd iddyn nhw fuddsoddi yn y cynllun hwnnw. Y rhwystredigaeth sydd gennyf i ynghylch hyn yw bod swm sefydlog yma, rwy’n meddwl, o tua £75 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ei godi ac y byddem ni’n gwella ar hynny, ond byddai'n codi hynny o fewn tua blwyddyn o godi tollau parhaus. Wedyn mae'n dweud bod y gost o weithredu a chynnal a chadw parhaus tua £15 miliwn y flwyddyn, ond gweithrediad y tollau eu hunain yw llawer o hynny mewn gwirionedd. Felly, rydym ni’n edrych efallai ar swm o tua hanner hynny. Er nad dyna ein sefyllfa ddelfrydol, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried y gallai fod yn well na dim, pe byddai codi tollau yn parhau dim ond am flwyddyn arall, a phe gallem ni wneud cyfraniad cymedrol ar ôl hynny o tua £2 filiwn neu £3 miliwn efallai i'r gost o godi tollau, a yw'n credu y byddai hwnnw'n gytundeb gwerth ei gael er mwyn cael gwared ar y tollau hynny? Ac a wnaiff ef weithio gyda phartïon ar draws y Siambr i geisio cytuno ar hynny?

Wel, fel mater o egwyddor, ni fyddem yn ceisio cyfrannu at unrhyw beth nad oedd wedi ei ddatganoli. Os nad yw wedi’i ddatganoli, yna mae'n fater i adran briodol Llywodraeth y DU ymdrin ag ef. Mae'n fy nharo i ei fod wedi awgrymu ffordd ymlaen, ond y ffordd haws, yn fy marn i, yn syml, fyddai cael dim tollau o gwbl, a chael tollau electronig yn y cyfamser, er bod angen buddsoddiad sylweddol yn hynny. Ac, wrth gwrs, y mater i ni yw mai’r cyflymaf y mae’r traffig yn mynd trwy bontydd Hafren, y cyflymaf y bydd yn cyrraedd twneli Brynglas, gan ychwanegu at y tagfeydd sydd eisoes yn bodoli yn y twneli hynny. Mae honno'n ffaith yr ydym yn ymwybodol ohoni, ac yn amlwg bydd ef yn gwybod y cynigion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud yn hynny o beth. I mi, mae hwn yn fater syml nad oes angen ei wneud yn gymhleth. Mae angen i ni gael dealltwriaeth o beth yw cyflwr y ddwy bont mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod hynny. Rwyf wedi gweld ffigurau ymhell y tu hwnt i'r ffigur y mae ef wedi ei awgrymu o ran cynnal a chadw. Mae angen i hynny fod yn gadarn, yn gyntaf oll, ac yna gallwn gael dealltwriaeth o beth yw’r rhwymedigaeth. Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud erioed yw, i ni fel Llywodraeth, yr hoffem gymryd drosodd cyfrifoldeb am y tollau, ond cyn i ni wneud hynny mae angen i ni ddeall beth yr ydym ni’n cymryd cyfrifoldeb amdano.

Gofal Cymdeithasol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol? OAQ(5)0532(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi parhau i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol gyda chyllid sylweddol. Rhoddwyd £55 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac mae hynny'n cynnwys yr £20 miliwn y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd ddoe. Rydym hefyd wedi darparu £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal integredig.

Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn croesawu cyhoeddiad £2 biliwn y Canghellor ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddefnyddio rhan o swm canlyniadol Barnett, nad yw’n ansylweddol, ar gyfer hynny i ychwanegu at ei harian ei hun yr ydych chi wedi ei grybwyll heddiw. Mae arian ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol nawr, y byddem i gyd yn ddiolchgar amdano. Beth fyddwch chi’n ei ddweud felly wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cymryd £2.2 filiwn o arian gofal cymdeithasol allan o gyllideb y flwyddyn nesaf?

Byddaf yn dweud yr hyn a ddywedais yn gynharach: yr hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Lafur yn Llundain sy’n buddsoddi mewn pobl ac yn darparu'r cyllid sydd ei angen arnom ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n siŵr bod hwnnw’n ymadrodd y byddaf yn ei defnyddio sawl gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gyfarfod â mi y mis diwethaf i drafod fy mhryderon am yr effaith y mae rhoi arian y gronfa deulu i mewn gyda’r gronfa gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy wedi ei chael ar blant anabl a'u teuluoedd. O gofio bod yr arian ychwanegol hwn ar gael gennym bellach, ac o gofio eich sicrwydd i mi yn y cyfarfod hwnnw, ac mai’r rhain yw rhai o'n teuluoedd incwm isaf y mae’n rhaid iddynt, yn fy mhrofiad i, ymladd i gael popeth yn eu bywydau, a wnewch chi ystyried nawr dyrannu rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn i blant anabl a'u teuluoedd?

Mae fy nghyfaill yr Aelod dros Dorfaen wedi bod yn angerddol yn ei heiriolaeth dros yr achos hwn. Mae hi wedi gofyn i mi edrych a allai arian fod ar gael. Byddaf yn edrych ar hynny iddi, gan ei bod wedi codi'r mater gyda mi yn y Siambr. Fel y dywedais, gwnaed cyhoeddiadau hyd yn hyn—nid yw’r holl swm canlyniadol wedi ei ddyrannu. Mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn y flwyddyn ariannol y tu hwnt i’r un yma a’r un y tu hwnt i honno. Ond byddaf yn edrych ar hynny iddi.

Mae effeithiolrwydd yr hyn y gallwch chi ei gyflawni efo cyllidebau gofal cymdeithasol yn dibynnu, wrth gwrs, ar beth sy’n digwydd yn yr NHS a ‘vice versa’. Rydw i’n credu mai methiant y Llywodraeth i osod sylfeini cadarn a chynaliadwy i’r NHS sy’n gyfrifol am y gorwario sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y diwrnod neu ddau ddiwethaf. Onid ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fy mhryder i y byddai gorfodi, i bob pwrpas, y byrddau iechyd i gydbwyso eu llyfrau dros nos, yn anochel, yn arwain at ragor o bwysau ar y sector gofal cymdeithasol?

Mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, fod yna dair blynedd gyda’r byrddau i ystyried eu cyllidebau. Dyna pam y newidiodd y gyfraith yn y lle hyn, o achos y ffaith eu bod nhw’n gorfod ystyried eu cyllidebau dros flwyddyn; nawr, mae tair blynedd gyda nhw ac mae’n llawer yn rhwyddach iddyn nhw sicrhau cydbwysedd yn eu cyllidebau nhw. Felly, rŷm ni yn erfyn iddyn nhw, wrth eu bod nhw wedi cael y rhyddid hynny, sicrhau eu bod nhw’n gyfrifol ac yn gallu cadw o fewn i’w cyllidebau nhw.

Prif Weinidog, mae Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan, a chlymbleidiau Llafur, Plaid a Rhyddfrydol olynol yma yng Nghymru, wedi methu â chaniatáu cyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol. O ganlyniad i—[Torri ar draws.] O ganlyniad i ddegawdau o danariannu, rydym ni’n nesáu at argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac er gwaethaf y ffaith fod ein poblogaeth yn heneiddio’n gyflym, nid yw’n ymddangos bod gennych chi na'r Torïaid unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinderau hirdymor cronig. Mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond y cwbl y mae hwn yn ei wneud yw disodli arian a gollwyd. Nid yw’n gwneud dim i fynd i'r afael â galw yn y dyfodol. Brif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg cyllid hirdymor a sicrhau bod anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol yn cael eu diwallu?`

Wel, os gwnaiff yr Aelod edrych ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd yn gweld yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y system. Gwyddom fod gwariant cyfunol ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol fesul pen yng Nghymru yn 2015-16 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac un o'r rhesymau pam y bu’n rhaid dod o hyd i arian ar fyr rybudd yn Lloegr yw oherwydd na neilltuwyd digon o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr. Gwnaed y buddsoddiad gennym ni.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio’r £60 miliwn yr ydym ni’n ei fuddsoddi drwy'r gronfa gofal canolraddol. Beth mae hynny’n ei olygu? Wel, roedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer Chwefror 22 y cant yn is nag yn yr un cyfnod y llynedd, a’r mis hwn yw’r trydydd mis yn olynol pan fu’r cyfanswm yn is na 400, sy’n gyflawniad digynsail yn ystod y 12 mlynedd o gofnodi’r ystadegau hyn.

Gwydnwch Emosiynol

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i feithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0540(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n gweithio ar y cyd ar draws portffolios, gan gynnwys addysg, iechyd, a phlant a chymunedau, i wella llesiant plant a phobl ifanc ac i'w cefnogi i ddatblygu cydnerthedd emosiynol.

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy nadl fer ddiweddar ar bwysigrwydd sicrhau bod cydnerthedd ymhlith ein plant a phobl ifanc yn cael ei ddatblygu ymhell cyn bod angen gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol ar unigolyn ifanc. Mae'r rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn cynnwys ffrydiau gwaith i’w croesawu i hybu gwydnwch cyffredinol, gan gynnwys gwaith yn ein hysgolion ac yn gysylltiedig â gwaith parhaus y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar brofiadau niweidiol mewn plentyndod. Ond, fel yr ydych chi wedi ei amlygu, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd sy’n gyfrifol am raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac Ysgrifenyddion y Cabinet dros addysg a phlant sy’n gyfrifol am y ddau faes arall, yn eu trefn, sydd yn codi cwestiynau i mi ynghylch sut y mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth. A wnewch chi edrych ar y mater hwn yn bersonol, Prif Weinidog, ac ymrwymo i sicrhau bod y gwaith i gyflawni o ran Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn cael ei ddatblygu ar frys mewn ffordd wirioneddol drawsbynciol ar draws y Llywodraeth?

Gallaf ddweud bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar sut y gellir gwella gweithio ar y cyd rhwng addysg a CAMHS. Nid cyfrifoldeb un Gweinidog yn unig yw hwn; rwy’n deall hynny. Gwyddom, wrth weithio ar sail traws-bortffolio, y gallwn, wrth gwrs, gael yr effaith fwyaf a'r canlyniadau gorau. Rydym ni’n cydnabod bod iechyd ac addysg yn sicr yn gysylltiedig, ac felly mae swyddogion wedi eu cyfarwyddo hefyd i weithio gyda'i gilydd i ystyried gwahanol ddulliau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.

Prif Weinidog, un peth y gellir ei wneud yw datblygu mwy o arfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ag Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn yn fy etholaeth fy hun ddiwedd y llynedd, lle y cyfarfu â rhai o'r plant a'r staff yn yr ysgol a oedd wedi bod yn arfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac roeddent yn siarad yn angerddol am effaith ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau o ran eu helpu i allu ymdrin â’r hyn a all fod yn sefyllfaoedd anodd, boed yn yr ysgol neu yn y cartref yn eu teuluoedd. Felly, tybed pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ystyried ymwybyddiaeth ofalgar ac a all hyn fod yn rhywbeth y gellir ei gyflwyno yn ehangach i’n sector addysg.

Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried yn weithredol, ac yn rhywbeth a drafodwyd gennym yn helaeth cyn yr etholiad y llynedd. Nid oes unrhyw eiriolwr sy’n fwy brwd dros ymwybyddiaeth ofalgar nag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. Rwy'n cyfaddef, pan gododd y pwnc gyda mi yn y lle cyntaf nid oeddwn yn hollol siŵr beth oedd hynny. Rwyf wedi cael fy addysgu a’m hysbysu’n llawn erbyn hyn, gallaf eich sicrhau.

Ond, ydy, rwy’n meddwl ei bod hi’n hynod bwysig ein bod ni’n ystyried dulliau newydd o helpu pobl ifanc i ymdopi â phwysau nad oedd yn bodoli pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Mae pwysau cyfryngau cymdeithasol—pan oeddech chi’n mynd adref, dyna ni; nid oeddech chi’n cael eich dilyn o gwmpas y lle ar-lein gyda'r bwlio y gall hynny arwain ato weithiau a'r pwysau i gydymffurfio y gall hynny arwain ato weithiau. Felly, mae'n rhaid defnyddio dulliau newydd i ymdrin â phroblemau newydd.

Blaenoriaethau Trafnidiaeth ar gyfer Sir Benfro

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0527(FM)

Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn dangos y buddsoddiad mewn trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru ar gyfer 2015i 2020.

Prif Weinidog, mae cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ddim ond un prosiect ar gyfer sir Benfro yn y 18 mis nesaf—hynny yw’r cynnig i droi’r A477 o Ddoc Penfro i Johnston yn gefn ffordd. Mae’r cyhoeddiad bargen dinas bae Abertawe, gobeithio, yn mynd i gael effaith bositif ar economi gorllewin Cymru ac ar economi sir Benfro. Felly, a ydych chi’n cytuno â fi, Prif Weinidog, yn sgil y datblygiadau economaidd pwysig yma, mae nawr yn amser i Lywodraethau gydweithio i droi’r A40 yn sir Benfro yn ffordd ddeuol i wneud y mwyaf o effaith y cynigion hyn yng Ngorllewin Cymru?

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n wir i ddweud bod y prosiect o Landdewi Felffre i Benblewin yn hollbwysig. Yn ail, wrth gwrs, mae fe’n bosibl i’r ddêl dinas—y ‘city deal’—ystyried prosiectau newydd i helpu trafnidiaeth. Mae’n bosibl i ystyried hynny. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, wrth gymryd y ‘franchise’ drosodd y flwyddyn nesaf, byddai’n bwysig dros ben i sicrhau bod y gwasanaeth rheilffyrdd hefyd yn gwella yn sir Benfro, ac, wrth gwrs, i gysylltu sir Benfro â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, mae porthladdoedd yn rhan bwysig o drafnidiaeth yn sir Benfro, ac yn enwedig, wrth gwrs, y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon. Gyda Brexit yn digwydd yr wythnos hon, rydw i’n poeni y byddem ni’n gweld llai o drafnidiaeth yn mynd o ran nwyddau rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon, a hefyd o ran teithwyr, gyda llawer o sôn am ail-gysylltu, neu ddatblygu cysylltiadau mwy uniongyrchol rhwng Ffrainc a Gweriniaeth Iwerddon er mwyn osgoi Prydain unwaith i ni ddod mas o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai hwn yn tanseilio porthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun yn enfawr. Pa gamau a ydych chi’n gwneud fel Llywodraeth, a hefyd ar y cyd gyda Llywodraeth San Steffan, i sicrhau ein bod ni’n cadw trafnidiaeth rhwng porthladdoedd sir Benfro?

Rwyf wedi codi hwn sawl gwaith gyda Llywodraeth San Steffan. Rwyf hefyd wedi codi hwn gyda Llywodraeth yr Iwerddon. Gwnes i drafod hwn gyda’r Taoiseach pan oedd ef yma ar 10 Mawrth. Y pryder sydd gyda fi yw, os mae’n rhwyddach i fynd trwy Ogledd Iwerddon, felly, dyna le bydd nwyddau’n mynd. Os mae yna fwy o waith papur, sydd yn gorfod cael ei lenwi wrth fynd trwy Gaergybi, Doc Penfro, ac Abergwaun, os mae yna unrhyw fath o ffin swyddogol yng Nghymru, ond dim byd o’r fath yng Ngogledd Iwerddon, felly, byddan nhw yn mynd trwy Cairnryan, trwy Lerpwl, a phorthladdoedd sy’n gysylltiadau yn mynd i Ogledd Iwerddon. Mae Gweriniaeth Iwerddon yn deall hwn, wrth gwrs. Byddai hwn yn cael effaith ar Ddylun a hefyd ar Rosslare. Mae’n hollbwysig bod y trefniadau ynglŷn â chroesi’r ffin yr un peth rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ag y bydd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Y Gronfa Triniaethau Newydd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa triniaethau newydd? OAQ(5)0533(FM)

Gwnaf. Mae pob bwrdd iechyd wedi derbyn eu dyraniad llawn o £16 miliwn ar gyfer y gronfa driniaeth newydd a oedd yn ddyledus ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa driniaeth newydd cyn toriad yr haf.

Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r gronfa driniaeth newydd yn sicr yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid etholiadol o 2016 ac, yn ôl a ddeallaf, bydd y gronfa driniaeth newydd honno’n helpu i hwyluso mynediad at feddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal, NICE, a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, ar gyfer llu o afiechydon, gan helpu, heb amheuaeth, unigolion di-ri â salwch sy'n bygwth bywyd yma yng Nghymru. Rwy'n deall mai dyddiau cynnar iawn yw hi, ond a gaf i ofyn ein bod yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd o ran y mynediad at y gronfa driniaeth newydd ac unrhyw ffigurau y gellid eu cysylltu â hynny?

Cewch, rwy’n siŵr y gellid gwneud hynny. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ers mis Ionawr 2015, bod meddyginiaethau newydd a argymhellwyd gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cael eu rhoi ar gael i gleifion ar draws amrywiaeth o gyflyrau. Felly, yn ystod y ddau fis cyntaf, mae’r gronfa driniaeth newydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i'r meddyginiaethau sydd ar gael i bobl Cymru.

Prynhawn da, Prif Weinidog. A allech chi roi trosolwg i ni efallai o ba drefniadau monitro sydd ar waith i sicrhau bod y cyllid sydd wedi mynd i’r byrddau iechyd ar gyfer y fenter hynod werth chweil hon yn cael ei wario ar y fenter hon yn unig?

Gallaf. Ceir monitro llawn o hynny ac rydym ni’n gweld canlyniadau hynny drwy'r 15 o feddyginiaethau yr wyf i wedi eu crybwyll eisoes sydd wedi eu rhoi ar gael.

Gorsaf Fysiau Newydd yng Nghaerdydd

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Caerdydd ynghylch y ddarpariaeth gorsaf fysiau newydd yn y ddinas? OAQ(5)0538(FM)

Wel, mae hwn yn fater, yn y pen draw, i gyngor Caerdydd, nid i Lywodraeth Cymru, ond cefais gyfarfod gydag arweinydd cyngor Caerdydd ar ddechrau'r mis ac un o'r pynciau a drafodwyd gennym oedd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad gorsaf fysiau Caerdydd canolog.

Diolch. Ie, rwy’n deall mai mater i'r cyngor yw hwn yn bennaf, ond mae'r orsaf fysiau yn fater sy'n peri pryder cynyddol i drigolion de Cymru yn gyffredinol. Bu pryderon ers cryn amser y gallai’r cyfleuster newydd fod yn rhy fach a cheir pryderon nawr am y cyllid hefyd; ceir y mater bach hefyd nad ydym yn gwybod eto a fydd cilfannau i goetsys yn yr orsaf—nid yw dim o hyn yn helpu gyda nod datganedig Llywodraeth Cymru o annog trafnidiaeth integredig. Gan fod Caerdydd canolog yn ganolbwynt mor bwysig i’r rhanbarth cyfan, a all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw ymyrraeth yn hyn o beth i sicrhau bod teithwyr yn cael cyfleuster o'r radd flaenaf yn y pen draw, yn hytrach na llanast?

Bu adeg pan oedd cyngor Caerdydd, rai blynyddoedd yn ôl, yn amau ​​a oedd angen cael gorsaf fysiau o gwbl: 'Fe wnaiff yr arosfannau bws y tro' Rwy'n falch nad dyna’r achos. Mae'n hynod bwysig cael cyfnewidfa a chanolbwynt. Mae’r angen i adeiladu gorsaf newydd yn amlwg i mi. Rydym ni’n gwybod bod angen i'r cynllun fod yn addas i’w ddiben, mae angen iddo fod yn barod ar gyfer y dyfodol, mae angen iddo gael ei integreiddio'n llwyddiannus, er mwyn bod yn addas ar gyfer ein prifddinas. Mae'r prosiect ei hun yn cael ei arwain gan Rightacres. Maen nhw’n cynnal cyfarfodydd misol gyda rhanddeiliaid allweddol—mae hynny’n ein cynnwys ni fel Llywodraeth. Rwy’n deall mai’r diweddaraf yw bod y cais cynllunio wedi ei gymeradwyo, ond bod y dyddiad cychwyn wedi ei ohirio wrth i drafodaethau gael eu cynnal ar sut y dylai'r orsaf edrych. Mae'n bwysig, wrth gwrs, y ceir cytundeb y dylai'r orsaf fod yn addas i’w diben fel y brif gyfnewidfa i’n prifddinas.

Marchnad Sengl i'r DU

8. Yn dilyn tanio Erthygl 50, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu marchnad sengl i'r DU? OAQ(5)0537(FM)

Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'llawer'. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau eisoes. Byddwn yn parhau i gynnal y trafodaethau hynny a bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi amlinellu'r hyn yr wyf yn ei gredu y bydd ei angen i barhau gyda marchnad sengl fewnol o fewn y Deyrnas Unedig ei hun: sef y ceir system sy'n seiliedig ar reolau, yn ail, bod y rheolau hynny’n cael eu cytuno gan bob un o’r pedair Llywodraeth, ac, yn drydydd, bod dyfarnwr annibynnol—llys masnach, os mynnwch—a fydd yn plismona'r rheolau hynny. Os caiff yr holl ofynion hynny eu bodloni, yna rwy’n credu y gall y farchnad sengl fod yn gadarn.

Diolch. Mae pobl eraill eisoes wedi cyfeirio at adroddiad Demos a gyhoeddwyd ddoe a awgrymodd—fel yr ydym ni’n gwybod eisoes—y bydd effaith gadael yr UE yn fwy sylweddol ar Gymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweld o weithredoedd diweddar Theresa May fod y Torïaid yn blaid o addewidion a dorrwyd. Mae David Davis, y Gweinidog Brexit, wedi dweud ei fod eisiau gweld yr un manteision yn union â’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r farchnad sengl a’r undeb tollau yn cael eu cadw ar ôl i ni adael yr UE. Pa mor realistig y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu yw hynny yn wyneb y ffaith bod Prif Weinidog Malta wedi dweud, o reidrwydd, bod angen i’n perthynas fod yn israddol i'r un yr ydym ni’n ei fwynhau ar hyn o bryd?

Wel, mae'n bosibl ei wneud trwy, er enghraifft, aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi nad yw eisiau awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop ac nad yw eisiau talu i mewn i gronfa gyllideb, ond os ydych chi eisiau bod yn aelod o glwb, mae’n rhaid i chi dalu ffi aelodaeth, os caf ei roi felly. Ni allaf weld bod unrhyw fodel arall. Nid wyf yn credu y bydd y DU yn cael cynnig model sy'n unigryw i'r DU. Pam fyddai’r Undeb Ewropeaidd eisiau gwneud hynny? Felly, rwyf i wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i beidio â meddwl am Brexit caled na Brexit meddal ond am Brexit synhwyrol. Nid wyf yn credu bod mwyafrif o bobl yn y wlad hon sydd eisiau gweld Brexit sydd mor galed y bydd tariffau yn cael eu gorfodi, y bydd cyfyngiadau diangen o ran symud i mewn ac allan o'r DU, ac y bydd ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Do, cafwyd pleidlais y llynedd ac mae pobl eisiau gadael. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw beth oedden nhw’n ei gredu y byddai'r telerau. Dyna'r anhawster. Ond yn fy marn i, mae'n gwbl bosibl gadael yr UE ac eto parhau i fod â mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl.

Rhaglenni Mentoriaeth Menywod

9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhaglenni mentoriaeth menywod yn gadarnhaol yn y gweithle? OAQ(5)0530(FM)

Rydym ni’n darparu grant craidd i Chwarae Teg i sicrhau bod y cyfraniad y mae menywod yn ei wneud i’r economi mor fawr â phosibl ac i gefnogi'r weledigaeth o Gymru lle mae menywod yn llwyddo ac yn ffynnu.

Brif Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cofio gydag anwyldeb dwfn y Fonesig Rosemary Butler, ein cyn-Lywydd, ac roedd ei rhaglen hi i hyrwyddo menywod mewn bywyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar gynlluniau mentora. Rwy'n credu bod hon yn egwyddor y gellid ei chymhwyso yn gyffredinol, oherwydd mae’n codi disgwyliad ac uchelgais menywod sydd eisoes yn meddu ar y doniau i berfformio'n rhagorol yn y gweithle.

Rwy'n credu bod hynny’n hollol wir. Mae Chwarae Teg yn rhan o'r cynllun hwnnw. Mae ganddo gynllun strategol tair blynedd i hyrwyddo cydraddoldeb. Ceir arfau eraill sydd ar gael i ni hefyd. Er enghraifft, comisiynwyd ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' gan y prif gynghorydd gwyddonol, gyda'r nod o gael data cyfredol a syniadau cyfredol ar ymdrin â'r problemau hirdymor o niferoedd annigonol o fenywod yn astudio gwyddoniaeth ac yn cychwyn a ffynnu mewn gyrfaoedd gwyddoniaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog, Julie James, wedi derbyn yr argymhellion mewn datganiad yn ôl ym mis Ionawr. Dyna ddwy enghraifft, ymhlith llawer, o'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol yn ein cymdeithas.

Cyfleusterau Iechyd Meddwl Amenedigol i Gleifion Mewnol

10. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailagor cyfleusterau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewn ysbytai? OAQ(5)0526(FM)

Mater i'r byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw'r penderfyniad ar yr uned iechyd meddwl amenedigol ar gyfer cleifion mewnol. Ond ers 2016, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i bob BILl ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn y gymuned.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael y cyfle i glywed profiadau mamau yng Nghymru sydd wedi bod yn ddigon dewr i siarad am eu profiadau unigol, fel Charlotte Harding o Gaerdydd, y cymerodd ei gŵr ddwy flynedd i ffwrdd o'r gwaith i ofalu amdani hi a’u dau fachgen ar ôl datblygu seicosis ôl-enedigol. Rwyf wedi defnyddio meini prawf Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y sefyllfa bresennol yn y wlad hon, yn seiliedig ar yr wybodaeth yr wyf wedi ei chael gan BILl, ac nid ydynt yn bodloni meini prawf y Llywodraeth ei hun. Rydym ni’n gwybod ei fod yn mynd i gostio mwy i anfon mamau o Gymru i ganolfannau cleifion mewnol yn Lloegr nag y byddai wedi ei gostio i gadw'r cyfleusterau hyn ar agor yng Nghymru ac rydym ni’n gwybod bod darpariaeth gymunedol yn anghyson. Ond gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, a gaf i ymbil ar y Prif Weinidog i roi’r mater hwn, fel mater o frys, ar frig ei agenda fel nad yw mamau yng Nghymru yn wynebu'r dewis o gael eu gwahanu oddi wrth eu babanod newydd-anedig neu eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu, yn waeth fyth, ddim yn cael y cyfleusterau iechyd meddwl y maen nhw’n eu haeddu yn eu gwlad eu hunain?

A gaf i esbonio'r sefyllfa? Yn y tair blynedd diwethaf, derbyniwyd llai na phump o fenywod i uned cleifion mewnol yng Nghymru. Dyna'r broblem. Y broblem wedyn, wrth gwrs, yw na allwch chi redeg uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Ni ellir ei wneud. Ni fydd unrhyw gorff achredu yn caniatáu i chi redeg uned arbenigol ar y sail honno. Ni all fod yn uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Rwy’n cytuno ag ef am ddifrifoldeb y cyflwr. Rwy’n cytuno ag ef am beidio â gwahanu mamau oddi wrth fabanod, a dyna pam yr ydym ni’n rhoi'r cyllid ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned er mwyn sicrhau nad oes rhaid i bobl fod yn gleifion mewnol. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ysbyty, mae'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan wneud yn siŵr bod y gefnogaeth ganddyn nhw yn y gymuned, yn hytrach na cheisio cadw gwasanaeth ar agor yr oedd yn amlwg nad oedd fawr o ddefnydd arno—ac, o ganlyniad i hynny, roedd problem o ran iddi barhau fel uned arbenigol.

2. Cwestiwn Brys: Gorwariant Byrddau Iechyd Lleol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni? EAQ(5)0153(HWS)[W]

Member
Vaughan Gething 14:20:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Mae'r sefyllfa yn annerbyniol yn y pedwar bwrdd iechyd hyn. Rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl iddyn nhw gymryd camau i wella eu sefyllfa ariannol yn sylweddol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, nad oedd mewn gwirionedd yn dweud beth yr oedd yn mynd i'w wneud ynglŷn â’r mater. Fodd bynnag, rwyf yn gobeithio y bydd yn dweud wrthym yn awr. Yn gyntaf oll, a all roi goleuni ar y sefyllfa? Gan fy mod yn credu y gallai rhywfaint o ddryswch fod yn aros, yn dilyn cwestiynau arweinydd y blaid Geidwadol yn gynharach, oherwydd er nad yw'r byrddau iechyd wedi cael eu hachub yn ariannol, achubwyd croen ei adran ef hyd at swm tebyg o arian. Mae'r gyllideb atodol yr ydym wedi ei phasio rai wythnosau yn ôl yn rhoi’r arian hwn i’w adran ef mewn gwirionedd, nid i’r byrddau iechyd eu hunain, ac felly bu achub croen, i bob pwrpas. Ac felly, os nad oes unrhyw ganlyniadau wedi bod ar gyfer y byrddau iechyd, mae'n rhaid i ni ofyn i’n hunain, 'Sut mae cael gwell cynllunio ariannol i’r dyfodol?' Soniodd y Prif Weinidog am Ddeddf Cyllid y GIG, a basiwyd dair blynedd yn ôl gan y Cynulliad hwn. Pan gafodd y Ddeddf ei phasio, dywedodd ac addawodd y Gweinidog blaenorol y byddem yn gweld gwell cynllunio ariannol, ac aeth yn ei flaen i addo y dylai hynny arwain at wneud penderfyniadau gwell a’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd lleol. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddweud ein bod wedi gweld gwell cynllunio ariannol neu’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd ers pasio'r Ddeddf honno. A all gadarnhau bod dyletswydd ariannol yn dal i fod ar fyrddau iechyd i beidio â mynd y tu hwnt i'r cyfanswm ym mhob blwyddyn ariannol, hyd yn oed wrth ystyried model tair blynedd o gynllunio, a pha ganlyniadau a all fod ar gyfer byrddau iechyd pe na bydden nhw yn diwallu anghenion cynllunio ariannol priodol o dan Ddeddf cyllid y GIG? Ac onid yw hi'n bryd ystyried o leiaf beidio â thalu lwfansau a thaliadau i aelodau o'r byrddau iechyd os na allan nhw ddod â’u hunain i drefn?

Diolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau oedd yn dilyn. Nid wyf yn credu bod edrych ar y pedwar sefydliad penodol, ac yna cheisio dweud bod y system gyfan yn cael ei barnu ar sail y pedwar hyn yn unig, yn agwedd sydd yn ystyried y darlun cyflawn. A dweud y gwir, pan fyddwch yn edrych ar y chwech o bob 10 sefydliad sydd wedi mantoli’r gyllideb, mae hynny yn rhannol o ganlyniad i'r drefn newydd sydd gennym. Yr hyn yr wyf wedi bod yn glir iawn amdano yw nad ydym yn mynd i geisio cuddio’r ffaith nad yw’r pedwar bwrdd iechyd yn mynd i fyw o fewn eu modd eleni, a bydd yn rhaid cynnal ymarfer mewn disgyblaeth ariannol ac eglurder ynghylch hynny. Ac mae hynny’n cyffwrdd â’ch pwynt am atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod yr ergyd ddiwerth braidd am wrthod talu lwfansau i aelodau bwrdd yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymgymryd â’r her wirioneddol a difrifol sydd gennym. Rwyf yn disgwyl i'r gwasanaeth a'r system gymryd yr heriau ariannol sy'n ein hwynebu o ddifrif. Mae pob gwlad unigol o fewn y Deyrnas Unedig yn wynebu her wirioneddol a difrifol ynglŷn ag ariannu'r gwasanaeth iechyd. Rydym yn gwybod am ganlyniadau cyni parhaol a beth mae hynny'n ei wneud i’n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwybod bod rhoi ychwaneg i’r GIG o arian y gyllideb y mae’r Cynulliad hwn wedi ei phasio yn dod ar gost wirioneddol i rannau eraill o gyllid cyhoeddus. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn dros gyfnod estynedig o amser fod gan y gwasanaeth iechyd gyfrifoldeb gwirioneddol i fyw o fewn ei modd. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn disgwyl gwelliant sylweddol mewn cynllunio a rheoli ariannol nad ydyw’n peryglu gofal cleifion.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn siarad am hyn gyda thinc o ofn a dychryn fel petai’n syndod mawr, ond nid yw’n syndod o gwbl i mi wrth edrych ar rai o'r cynlluniau tymor canolig integredig. A wnewch chi gadarnhau pa rai o gynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd oedd yn dangos diffyg o ddechrau'r cyfnod cyllid hwn? A wnewch chi roi cadarnhad i mi ymhle y gwelwch chi’r byrddau iechyd yn gallu adolygu eu gwariant? Oherwydd er gwaethaf yr holl siarad di-ildio gan bawb, rwyf yn tybio ac yn gobeithio y bydd meddygon a nyrsys, porthorion a gweithwyr iechyd cymunedol yn cael eu talu o hyd dros yr ychydig fisoedd nesaf. Yn drydydd, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod nifer o’r byrddau iechyd hyn wedi cychwyn ar raglenni arbedion uchelgeisiol yn barod? Bydd y rhain yn cymryd amser i ddechrau gweithio, mae’n amlwg . Ydych chi'n meddwl eich bod wedi rhoi digon o amser i fyrddau iechyd ar gyfer gwella hyn? Yn bedwerydd, a ydych yn croesawu'r gwelliant mewn gwasanaethau a welwyd o ganlyniad i hyn? Mae llawer o ddangosyddion perfformiad y byrddau iechyd wedi codi yn araf. Gwn fod ym mwrdd iechyd Hywel Dda y gyfradd orau yng Nghymru gyda chanser ac amseroedd darpariaeth damweiniau ac achosion brys pedair awr. Ac a fyddech yn cytuno na fyddem yn dymuno gweld dirywiad wrth gyflenwi gwasanaethau? A ydych yn derbyn y dylem gael codiad i rai o'r byrddau iechyd gwledig, fel y trafodwyd ac yr hyrwyddwyd gan nifer o sefydliadau, nid dim ond gan y byrddau iechyd eu hunain? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud wrthyf beth yw safle Cymru o ran gwariant ar ofal iechyd fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth? Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond tair gwlad yn Ewrop sydd yn gwario llai na ni, ac onid honno yw'r broblem mewn gwirionedd? Nid ydym yn gwario digon ar ofal iechyd i sicrhau nad yw byrddau yn mynd i ddiffyg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach, mae’r diffyg yng Nghymru yn ddwbl yr hyn ydyw yn y DU.

Rwy’n mynd i geisio ymdrin yn fyr â’r gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Yn gyntaf oll, rwyf am groesawu'r gydnabyddiaeth gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr o ystod y gwelliannau yn y gwasanaeth y mae'r GIG yn ei darparu i bobl Cymru. Mae'n debyg mai hwn yw’r tro cyntaf i mi glywed hynny gan lefarydd iechyd o’i phlaid hi ac mae hynny'n dderbyniol iawn, yn wir. Ni ddylai unrhyw un gael ei synnu, er hynny, gan yr heriau hyn, gan fy mod i wedi bod yn gwbl onest amdanyn nhw dros gyfnod o fisoedd. Pan wrthodais gymeradwyo'r Cynllun Tymor Canolig Integredig a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro, roeddwn yn gwbl glir am yr ystod o faterion oedd ynddo. Ac roedd arian yn rhan o'r her hefyd, felly ni chafodd eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig eu cymeradwyo. Yn yr un modd, roeddech chi ac eraill yn y Siambr mewn pwyllgor iechyd ar 3 Tachwedd, pan atebais gwestiynau am y sefyllfa hon, ac am yr arian yn benodol. Eglurais ar yr adeg honno na fyddai Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn byw o fewn eu modd. Rwyf hefyd wedi gwneud y risg gwirioneddol yn eglur o ran Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro. Mae’r aelodau, wrth gwrs, yn rhydd i wirio’r trawsgrifiad a'r llythyr dilynol at y pwyllgor iechyd a oedd yn gwbl glir am y broblem hon. Felly, ni ddylai hyn fod yn syndod i neb os yw wedi bod yn cymryd sylw.

Yr her yw beth yr ydym ni yn barod i’w wneud, ond mae hynny’n cyffwrdd â’r pwyntiau eraill yr ydych wedi eu gwneud. Rwyf yn dymuno bod yn hollol glir eto: bydd pobl yn cael eu talu; bydd biliau yn cael eu talu; ni fydd hyn yn arwain at gwtogi yn y gwasanaeth a ddarperir. Byddwn yn talu am hyn o'r canol, ond byddwn yn cael eglurhad pam nad yw'r byrddau iechyd hyn wedi byw o fewn eu modd. Nid wyf yn derbyn o gwbl eich pwynt nad ydym yn gwario digon o arian ar iechyd. Os mai hynny yw eich barn chi mewn gwirionedd, yna gallech ddangos mewn cyllideb amgen ym mha le y byddech yn cael yr arian hwnnw. Gadewch i ni gofio hyn: pan wnaethom ni roi’r £240 miliwn ychwanegol yn y gyllideb yr oeddem yn ei chynnig ac a gafodd ei phasio yn y lle hwn—ar gyfer y GIG—fe ddaw ar gost sylweddol i bob rhan arall o'r gwasanaeth cyhoeddus. Mae hynny'n golygu y bydd £106 miliwn o ran arian parod yn cael ei gymryd oddi wrth lywodraeth leol. Os bydd y Torïaid o ddifrif yn dymuno gweld toriadau pellach yn cael eu gwneud mewn meysydd eraill o wasanaeth, dylent osod y rheini allan. Nid gêm heb ganlyniadau yw hon.  Rydym yn gwario bron 50 y cant o'n cyllideb ar y GIG.

Ac yn olaf, yr her wirioneddol wrth fantoli’r gyllideb a chael gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy yw gweddnewidiad gwasanaethau. Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau anodd a gofyn cwestiynau anodd i bob un ohonom ni—pob un ohonom ni ddinasyddion Cymru, pob un ohonom ni gynrychiolwyr etholedig—a’r drafodaeth honno â chlinigwyr am sut y gallwn wella ein gwasanaeth drwy ei newid, ac nid aros am newid i ddigwydd i ni oherwydd ein bod wedi aros yn rhy hir am ddiwygio’r gwasanaethau hynny. Dyna pam y gwnes nodi’n eglur iawn, iawn i'r gwasanaeth, yn enwedig yn yr araith i Gydffederasiwn y GIG y mis diwethaf, yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl ganddyn nhw a'r hyn yr wyf yn gofyn iddyn nhw ei wneud wrth gynllunio a rheoli'r gwasanaeth dros y flwyddyn nesaf pryd y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau.

Mae gofal iechyd doeth yn gofyn i ni wneud popeth yn wahanol fel ein bod yn cael gwared â gwastraff ac yn osgoi dyblygu ymdrechion. Rwy'n ymwybodol fod yn fy mwrdd iechyd i fy hun, Caerdydd, gamau enfawr wedi eu cymryd ganddyn nhw, er enghraifft, gydag adferiad cleifion strôc, sydd wedi eu galluogi i adael yr ysbyty ynghynt, ac mae hynny'n amlwg yn arbed arian. Ond rwyf yn holi tybed beth arall y gallai’r pedwar bwrdd iechyd hyn ei wneud o ddilyn esiampl byrddau iechyd mwy llwyddiannus, yn ariannol, er mwyn, er enghraifft, cynnig mwy o wasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol, oherwydd gellir profi bod hyn yn cael gwell canlyniadau ac yn arbed arian hefyd. Beth arall all y byrddau iechyd hyn ei wneud nad ydyn nhw’n ei wneud ar hyn o bryd?

Diolch am y cwestiwn. Rydych yn iawn i nodi bod amrywiaeth o welliannau eisoes yn digwydd i wasanaethau hyd yn oed yn y byrddau iechyd hynny nad ydynt yn byw o fewn eu modd yn gyffredinol. Ceir enghreifftiau da ledled Cymru. Er enghraifft, mae Abertawe Bro Morgannwg wedi treialu cardioleg gymunedol, gan symud gwasanaethau o ysbytai ac i'r gymuned. Mae'n brofiad mwy boddhaol i’r cleifion ac, yn ogystal â hyn, mae'n golygu bod pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn canolfan gofal eilaidd neu drydyddol yn cael eu gweld yn fwy cyflym. Mae’n wir yn aml y gall gwella gwasanaethau arwain at arbedion ariannol. Nid yw bob amser yn wir fod angen i chi wario mwy o arian ar wella eich gwasanaeth. Yr her yw bod hynny’n aml yn dod gyda thrafodaeth anodd—trafodaeth â'r cyhoedd ynglŷn â pham a sut y mae’r gwasanaethau i’w newid, ond hefyd gyda'n staff. Nid yw pob aelod o staff yn eiriolwr brwd dros newid y ffordd y mae gwasanaeth yn gweithio. Ond rydym yn gweld nifer o wahanol enghreifftiau lle mae gwelliannau’n cael eu gwneud i wasanaethau, ac mae gofal strôc yn enghraifft dda. Cefais nid yn unig drafodaeth â Chaerdydd, ond hefyd â bwrdd iechyd Aneurin Bevan y gwnes i ymweld ag ef yn ddiweddar gyda Jayne Bryant—gwelliant gwirioneddol yn eu gwasanaethau ac, yn wir, rhywbeth y gallai gweddill Cymru anelu ato. Ond, wrth gwrs, gwnaed gwelliant mewn meysydd eraill hefyd. Er enghraifft, roedd Abertawe Bro Morgannwg yn cydnabod ddoe bod ganddyn nhw £4 miliwn o wastraff meddyginiaethau o fewn ardal eu bwrdd iechyd. Felly, maen nhw’n symiau sylweddol o arian y gellid ac y dylid eu harbed ac a fydd yn darparu gwasanaeth gwell i’n cleifion. Ond ni fydd hynny’n osgoi’r her ei bod yn ofynnol i ni edrych ar ddiwygio’r ffordd y mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu er mwyn gwella gofal cleifion—yr ansawdd a’r profiad. Ac rwyf yn credu yn y bôn y bydd yn golygu ein bod hefyd yn byw o fewn ein modd ariannol.

Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae dau o’r byrddau iechyd lleol hynny sydd wedi eu heffeithio yn fy rhanbarth i. Cyn codi ysgyfarnogod—ac y maen nhw wedi eu codi eisoes heddiw—byddwn yn hoffi pe byddech chi, os gwelwch yn dda, yn datgan eto na fydd gwasanaethau yn dioddef, a gofynnaf i chi hefyd a fyddwch yn dwyn yn ôl gerbron y Siambr hon y rhaglen weithredu yr ydych yn bwriadu gofyn i’r byrddau iechyd hynny ei rhoi ar waith i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i leihau’r gorwariant hwn. A gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch yn rhoi taw yn ddi-oed ar yr awgrym y cyfeiriwyd ato gan Angela Burns nad yw staff am dderbyn eu cyflogau o ganlyniad i hyn.

Rwy'n hapus i gadarnhau unwaith eto, fel yr wyf wedi ei wneud ym mhob cyfweliad ac wrth ateb pob cwestiwn a ofynnwyd imi am hyn, y bydd biliau yn cael eu talu, y bydd staff yn cael eu cyflogau ac ni fyddwn yn gweld amharu ar driniaethau o ganlyniad i sefyllfa’r byrddau iechyd hyn. Byddwn yn talu’r arian hwn o’r canol, ond byddwn yn gwneud yn siŵr bod eglurder o ran faint o orwariant fu ym mhob un o'r byrddau iechyd hyn yn unigol. Ac o ran y dyfodol, wel, wrth gwrs, rydym yn mynd drwy'r rownd gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ac felly, bydd byrddau iechyd sydd mewn sefyllfa wahanol, ac ymddiriedolaethau, yn cael cymeradwyaeth ar gyfer eu cynlluniau tymor canolig integredig. Bydd rhagor o wahaniaethu rhwng y rhai sydd yn sefydliadau cymeradwy, a'r rhai sydd yn mynd drwy'r broses uwchgyfeirio, ac sydd naill ai mewn ymyrraeth wedi ei thargedu neu fesurau arbennig. Mae’n rhaid cael eglurder am safle pob bwrdd iechyd a safle pob ymddiriedolaeth, a byddaf yn rhoi hynny.

Nid wyf yn dweud unrhyw beth ychwanegol wrth yr Aelodau heddiw nad wyf wedi ei ddweud yn barod wrth y rhai sy’n arwain ac yn rhedeg y sefydliadau hyn. Ac rwy’n cael yr un drafodaeth yn gyhoeddus fel ag yn breifat am yr angen i sicrhau gwelliant ariannol sylweddol, ac ymdrin â'r angen am drawsnewidiad yn ein gwasanaethau hefyd. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau unwaith eto ar y cynnydd yn y sefyllfa gyda rheolaeth ariannol a hefyd gyda sefyllfa’r gwasanaeth. Byddaf yn gwneud hynny pan fyddaf yn dod yn ôl i adrodd ar y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hynny sydd wedi'u cymeradwyo, a'r rhai nad ydynt wedi’u cymeradwyo, a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi a herio’r sefydliadau hynny nad ydynt ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle gallaf gymeradwyo, neu y byddaf yn fodlon cymeradwyo, gynllun tymor canolig integredig.

Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich atebion i'r cwestiynau hyn am y problemau a wynebir gan fyrddau iechyd. Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod braidd yn haerllug eich bod chi yn eistedd yn fanna yn beirniadu’r byrddau iechyd, yn dweud wrthyn nhw bod yn rhaid cael trefn ar bethau o ran cyllid, tra eich bod yn gyfrifol am un o'r byrddau iechyd hynny sydd yn destun mesurau arbennig. Diffyg rheolaeth ariannol oedd un o'r rhesymau pam mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig. Rydych chi wedi bod yno am bron dwy flynedd, ac yn ôl y rheolaeth ariannol mae’n ymddangos o hyd y bydd y bwrdd iechyd mewn dyled o £30 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn hon. A wnewch chi dderbyn eich cyfrifoldeb am y methiant i fantoli'r cyfrifon yn y bwrdd iechyd penodol hwn, a beth ydych chi yn ei wneud am y peth o ystyried ei fod yn destun mesurau arbennig?

Rwy'n cydnabod cysondeb Darren Millar yn y maes hwn. Nid yw byth yn derbyn nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw popeth sy’n mynd o chwith, neu pan fo her neu broblem.

Mae'n destun mesurau arbennig o achos rheoli cyllid.

Dyna oedd un o'r rhesymau yr aeth yn destun mesurau arbennig.

[Yn parhau.]—sydd wrthi’n gwella ystod o wahanol feysydd, ac edrychaf ymlaen at asesiad y rheoleiddiwr a ddaw’r mis nesaf ar gyfradd a lefel eu gwelliant. Ac o ran ei gyllid, mae Betsi wedi gwella eleni o’i chymharu â'r llynedd. Rwy'n disgwyl iddo wella eto’r flwyddyn nesaf hefyd. Gall yr Aelodau naill ai gymryd agwedd fel un Darren Millar a dweud bod popeth yn drychinebus ac mai ar Lywodraeth Cymru y mae’r bai am y cwbl, neu gallant gymryd agwedd sydd ychydig yn fwy gonest ac aeddfed at y gwelliant a wneir yn y Gogledd. Ac, a dweud y gwir, agwedd sydd ychydig yn fwy gonest ac aeddfed at y cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n beth haerllug iawn bod gwleidydd Torïaidd yn dod i’r fan hon ac yn cwyno am dynged gwasanaethau cyhoeddus a'u cyllid digonol. Mae eich plaid chi yn gyfrifol am gyflwr enbyd y cyllid sydd i’w roi i wasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Dylech gymryd peth—[Torri ar draws.] Dylech gymryd cyfrifoldeb ac arddel hynny eich hunan.

Gwrandewch ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda. Dyna beth oedd hynny. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Pwynt o drefn sy'n deillio o'r cwestiwn brys. Angela Burns.

Diolch, Llywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn, Llywydd. Nid oes gennyf unrhyw broblem o gwbl gyda sgarmesoedd arferol gwleidyddiaeth. Yr hyn yr wyf yn ei wrthwynebu yw cael fy nghamddyfynnu yn fwriadol. Rwy’n gwybod beth ddywedais i, oherwydd roeddwn yn glir iawn, iawn gan fy mod yn dymuno tawelu meddyliau y bobl yn y byrddau iechyd hyn. Yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud oedd fy mod yn gwybod—ac rwyf yn meddwl fy mod wedi dyfynnu nyrsys, porthorion a gweithwyr cymunedol—y byddant yn parhau i gael eu talu, a lle byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y mae’r mannau i’w hadolygu ar gyfer arbedion cost. Yn fy marn i, cefais fy nghamddyfynnu yn fwriadol gan Joyce Watson ar hynny a hoffwn ei roi ar gofnod.

A gaf i ddiolch i chi am yr eglurhad hwn? Bydd y Cofnod yn rhoi ei ddyfarniad ar y mater hwn, pan gaiff ei gyhoeddi. Ond rwy’n erfyn ar bob Aelod, fel rwyf wedi atgoffa'r Aelodau cyn hyn, i wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae’r Aelodau eraill yn ei ddweud, a dehongli hynny yn ofalus wrth iddyn nhw wneud hynny. Ac rwyf yn gofyn hynny gan bob Aelod.

3. Cwestiwn Brys: Tanau Glaswellt

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gweld bai mawr ar y rhai sy'n cychwyn tanau glaswellt. Maen nhw’n distrywio ein cymuned, ein hamgylchedd, ac yn peri dychryn yn ein cymunedau, gan beryglu ein diffoddwyr tân. Rydym wedi lleihau nifer y tanau glaswellt yn sylweddol, ond rwyf yn gobeithio gweld y sefyllfa yn parhau eleni.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi sylw i 62 o danau glaswellt ers dydd Gwener, gyda llawer ohonynt yn Rhondda Cynon Taf, a'r awgrym yw fod llawer wedi eu cychwyn yn fwriadol. Her arall i’r gwasanaethau tân hefyd oedd ffyrnigrwydd y tanau, a oedd yn achos perygl i ddiogelwch personél y gwasanaeth, ac i'n cymunedau. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod tanau glaswellt bwriadol 33 y cant yn uwch yn 2015-16 na’r flwyddyn flaenorol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner i gyhoeddi’r neges am y risgiau y gall y tanau hyn yn eu hachosi?

Wel, mae’r Aelod yn iawn i godi mater y tanau hyn—nifer ohonyn nhw dros y penwythnos.  Rydym wedi gweithio gyda'r gwasanaeth tân, yr heddlu, awdurdodau lleol, Adnoddau Naturiol Cymru ac eraill er mwyn sefydlu dull o weithredu cydlynol a strategol ar gyfer atal ac ymateb i danau glaswellt. Mae’r ffigurau dechreuol yn dangos bod y dull hwn, gan weithio gyda phartneriaid, wedi bod yn hynod effeithiol. Roedd cyfanswm nifer y tanau glaswellt yn 2016 dros 40 y cant yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Ond nid oes fawr o werth yn hyn i’r trigolion a’r gwasanaethau brys dros y penwythnos diwethaf sydd wedi gorfod ymdrin â chychwyn tanau anghyfreithlon. Mae'r neges yn eithaf syml, Llywydd: byddwn yn mynd i chwilio am y bobl a'r unigolion sydd wedi cychwyn y tanau hyn, a byddwn yn eu herlyn os gallwn ddod o hyd iddynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ymatebion hyd yma. Roedd y lluniau o lawer o'r tanau hyn a ddaeth yn hysbys yn ddramatig, yn yr ystyr waethaf, dros y penwythnos, oherwydd, mae’n amlwg, mae’r perygl i fywyd—nid dim ond i’r dynion a’r menywod tân, yn amlwg, sy'n mynd i ymladd â'r tanau hyn, ond hefyd i’r trigolion wrth ymyl y tanau. Rwy’n cofio’r amser yn dda pryd y daeth eich cydweithiwr Leighton Andrews yma i roi ymatebion tebyg yn y Cynulliad blaenorol, ac eto, yn anffodus, rydym yn gweld y tanau hyn—yn gynnar iawn, byddwn yn ei awgrymu, yn y tymor; hwn yw’r penwythnos cyntaf gwirioneddol sych i ni ei gael hyd yn hyn y gwanwyn hwn.

Gofynnaf yr un cwestiwn i chi ag y gofynnais iddo ef: yn aml iawn, gellir mynd ar drywydd llawer o'r bobl sy'n gyfrifol am rai o'r tanau hyn gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd, fel y dywedais, mae'r lluniau yn ddramatig iawn, ac, yn aml, mae pobl yn ceisio’r ias o foddhad—mewn ffordd ddinistriol iawn, ddywedwn i. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd, ynghyd â'r heddlu, ynghyd â'r gwasanaeth tân—rwy’n clywed bod gan y gwasanaeth tân offer addysgol ardderchog ar gael iddyn nhw, ac maen nhw’n mynd i ysgolion, ond mae’n ymddangos nad yw hynny'n rhoi stop ar y rhai sy’n llosgi? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn sydd wrth fôn llawer o danau dynwaredol, drwy’r Cymoedd yn arbennig. Felly, byddwn yn falch o gael deall pa ymdrech yr ydych wedi'i gwneud, ynghyd â'r asiantaethau gorfodi, i geisio mynd ar drywydd a dilyn y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cymell eraill i ymgymryd â gweithredoedd fel llosgi bwriadol a fandaliaeth.

Yn sicr rwyf yn cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. Ac mae'n peri pryder i mi bod nid yn unig diffoddwyr tân a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl, ond mae lles anifeiliaid yn cael ei beryglu hefyd, a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl gan y weithred anghymdeithasol o gynnau tân yn ein cymunedau.

Mae'r ymgyrch sydd wedi dod â’r holl asiantaethau ynghyd wedi cael cryn lwyddiant, ac, wrth gwrs, rwyf yn cydnabod problem y penwythnos hwn. Rhoddaf rai enghreifftiau i chi. Gwelodd gorsaf dân Aberdâr 98 y cant yn llai o danau glaswellt yn ystod gwyliau'r Pasg 2016, o'u cymharu â 2015. A gwelodd Tonypandy 97 y cant yn llai; gostyngiad o 93 y cant ym Maesteg; a gostyngiad o 86 y cant yn Aberbargoed. Rydym wedi buddsoddi mewn rhai camerâu—offer camerâu cudd—ond yr hyn yr ydym yn golygu ei wneud yw edrych ar atal y tanau yn hytrach na mynd ar drywydd pobl nad ydynt mewn gwirionedd wedi cynnau tân—rydym am gamu i mewn yn gynnar. Dyna pam mae ymyrraeth y gwasanaeth tân a’r gwasanaethau argyfwng mor bwysig. Ond byddwn yn ailadrodd fy mhwynt bod unrhyw wybodaeth yn hysbys i’r cymunedau—a byddan nhw’n hysbys. Mae’r tanau yn destun clod i’r rhai sy’n cynnau’r tanau, a bydd cymunedau lleol yn gwybod amdanyn nhw. Byddem yn eu hannog i ffonio’r rhif llinell gymorth mewn argyfwng, sef 101, er mwyn mynd ar drywydd a lleoli’r unigolion hyn, a bydd y gwasanaethau brys wedyn yn ymdrin â nhw yn y modd priodol.

Roeddwn innau hefyd wedi fy arswydo gan y tanau glaswellt a ymledodd yn ffyrnig yn fy etholaeth i dros y penwythnos. Roedd y tân glaswellt yn Nhonypandy i’w weld o’m cartref ym Mhenygraig, a gwn fod nifer o bobl yn lleol yn pryderu y byddai’n lledu hyd at dai lleol. Mae'r tanau yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt tua’r adeg hon o'r flwyddyn, ym mis Ebrill. Byddem o bosibl wedi gweld rhagor o danau erbyn hyn oni bai am y glaw. Ond y ffeithiau moel yw bod nifer y tanau glaswelltir, coetir a chnydau wedi codi yn y tri awdurdod tân ac achub yn 2015-16. Ac yn awdurdod tân ac achub De Cymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf o 36 y cant. O ran cyfraddau tanau cnwd Cynon Taf yn 2015-16, rydym bron ddwbl maint cyfradd yr awdurdod lleol agosaf atom.

Nawr, es i sesiwn friffio yr wythnos diwethaf lle’r oedd diffoddwyr tân yn rhoi gwybod i mi am faterion penodol yn ymwneud â'r Rhondda, ac am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i atal tanau trwy addysg, a hefyd drwy osod rhwystrau tân, a'r gwaith y maen nhw’n ei wneud pan fydd y tanau yn ymledu’n wyllt. Ond mae angen gwneud rhagor. Ac un peth a awgrymwyd i mi a allai helpu oedd pe byddai modd llacio’r cyfyngiadau ar gynnau tanau ar ben mynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae'r diffoddwyr tân yn gallu gosod rhwystrau tân, ond oherwydd tywydd anffafriol maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Ac mae’r cyfyngiadau yn golygu nad oes ganddynt ganiatâd i wneud hynny ar ôl 31 Mawrth. Felly, pe byddai unrhyw lacio ar y ddeddfwriaeth hon, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol ystyried hynny.

Ac yna, yn olaf, roeddwn am godi mater gorsaf dân Porth, a gafodd ei chau ym mis Gorffennaf 2015. Cyn iddi gael ei chau, erfyniais ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac achub yr orsaf dân ar sail diogelwch y cyhoedd. Caniateir ymyrraeth i atal cau yn yr amgylchiadau hynny, ond collwyd y cyfle yr adeg honno. Rwy’n gobeithio yn fawr, Gweinidog, y byddwch yn ystyried y cyfle a gollwyd, a gweithredu'n unol â hynny pe codai sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Ceisiaf ymdrin yn fanwl â phob un ar wahân. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi defnyddio’r ffigurau—rwy’n tybio o’r ffigurau gan a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi edrych ar y rheini’n ofalus iawn ar sail yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y niferoedd. Roedd y ffigurau a ryddhawyd yn wallus wrth adrodd fel hyn, ac nid oes unrhyw fai ar yr Aelod am adrodd fel y gwnaeth, ond byddaf yn rhoi eglurdeb arnynt heddiw. Y ffigurau a gyhoeddwyd yn y mis diwethaf oedd y rhai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16. Roedden nhw’n cynnwys pob un o danau 2015 ond nid oeddent yn ystyried llwyddiant ymgyrch y llynedd. Byddaf yn diwygio hynny ar gyfer yr Aelodau. Roedd ffigurau gwasanaethau tân yn dangos gostyngiad yn y gyfradd o 41 y cant yn ystod y flwyddyn galendr 2016 o'i chymharu â 2015. Felly, mae gostyngiad wedi digwydd. Ac rwy’n tybio bod y ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn anghywir, ond ffigurau Llywodraeth Cymru ydyn nhw. Ac rwyf yn derbyn hynny; nid oedden nhw’n cynnwys yr holl ddata yn gywir. Rwy’n ymddiheuro i'r Aelod oherwydd hynny, ond byddaf yn diwygio’r rheini. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau a gychwynnwyd yng Nghymru, ond mae llawer mwy o waith eto i'w wneud.

Mae'n rhy gynnar o lawer i awgrymu bod y sefyllfa’n waeth ar gyfer y Pasg eleni, o’i chymharu â’r cyfnod hyd at y Pasg y llynedd. Rydym, mae’n amlwg, am weithio'n galed gyda'r gwasanaethau brys i egluro’r sefyllfa honno.

Ceisiodd yr Aelod, yn anffodus, wrth gloi, wneud pwynt gwleidyddol, o ran gorsaf dân Porth. Mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol o ddyletswyddau Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ac yn flaenorol fel Gweinidog. Mater i wasanaeth tân de Cymru yw hwn, ac nid mater i'r Llywodraeth. Ac nid yw’r cyfle a gollwyd y mae’r Aelod yn sôn amdano yn un a gollwyd gan y Llywodraeth.

4. Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni symud ymlaen at yr eitem nesaf, rydw i eisiau cyhoeddi canlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw. Ac mae’n bleser gen i gyhoeddi y gall Paul Davies ofyn i’r Cynulliad gytuno i gyflwyno Bil Aelod ar Fil awtistiaeth i Gymru. Llongyfarchiadau i’r Aelod.

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Llywydd, mae gennyf sawl newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadl ddydd Mercher diwethaf ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rwyf hefyd wedi lleihau'r amser a ddyrennir i'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Yfory, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar mewn ymateb i sbarduno erthygl 50. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadl fer yr wythnos diwethaf ar undebau credyd, a chaiff y ddadl hon ei chynnal ar ôl pleidleisio yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Arweinydd y tŷ, ar sawl achlysur rwyf wedi codi’r pwynt ynglŷn â chyflwr yr A48 ac, yn benodol, y darn rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr, a hynny heb unrhyw lwyddiant. Ymddengys nad wyf yn cael llawer o ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth fydd eu trefniadau o ran cynnal a chadw. Ond heddiw rydym hefyd wedi cael nodyn atgoffa amserol iawn o'r angen i wneud yn siŵr y caiff ein ffyrdd eu hatgyweirio i gyflwr da oherwydd y risg bosibl i bobl ac, yn amlwg, y difrod i gerbydau hefyd. A yw'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru o ran pa gamau y mae’n eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol a'r asiantaeth cefnffyrdd i gynnal a chadw adeiledd priffyrdd yng Nghymru, ond yn benodol yn ardal Canol De Cymru, a pha gymorth ariannol fydd ar gael i awdurdodau lleol a'r asiantaeth cefnffyrdd er mwyn sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud mewn modd amserol?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddwch yn ymwybodol o'r datganiad a ysgrifennwyd gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yr wythnos diwethaf ar ddyraniadau grant trafnidiaeth leol i awdurdodau lleol yn 2017-18, pan gyhoeddodd ei fod yn dyrannu cyfanswm o dros £31.4 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer cynlluniau i wella diogelwch, i greu twf economaidd ac i hybu teithio llesol. Bydd y gronfa trafnidiaeth leol gwerth £20 miliwn yn galluogi 47 o gynlluniau ar draws 20 awdurdod lleol i gychwyn cynlluniau neu barhau i weithio ar brosiectau dros lawer o flynyddoedd ac, wrth gwrs, yn benodol y materion hynny sy’n ymwneud â gwella diogelwch yn benodol. Mae ganddi gysylltiadau hefyd â bron £4 miliwn mewn arian grant cyfalaf ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, 31 o gynlluniau sy'n cyfrannu at leihau anafiadau ar y ffyrdd mewn 16 o awdurdodau lleol, a £5.5 miliwn ar gyfer y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, gan ganolbwyntio ar 32 o gynlluniau sydd ar gael i wella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 19 o awdurdodau lleol.

Hoffwn gael datganiad am y prosiect biomas, neu'r llosgydd, fel y cyfeirir ato gan drigolion lleol. Hoffwn holi pam yr anwybyddwyd llais y bobl leol. Mae llawer o bryder ynglŷn â’r posibilrwydd o dân ac mae pryder mawr ynglŷn ag ansawdd yr aer y bydd pobl yn ei anadlu. Ni allaf feddwl am le mwy anaddas ar gyfer datblygiad fel hwn—yn union yng nghanol ardal breswyl—felly byddwn yn gwerthfawrogi rhyw fath o ddatganiad a chael gwybod a ydych yn credu a ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru mewn gwirionedd ganiatáu'r drwydded, oherwydd yn sicr nid wyf i’n credu y dylent wneud hynny.

Rwy'n tybio bod yr Aelod yn cyfeirio at y llosgydd yn y Barri. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i adeiladu gweithfeydd ynni biomas o fewn ardal adfywio dociau'r Barri. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried a ddylid rhoi caniatâd amgylcheddol, ac mae llawer o ymgynghori yn digwydd. Yn amlwg, rwyf i, fel Aelod Cynulliad, wedi bod yn rhan o hynny. Ond, wrth gwrs, mae materion yn ymwneud â chaniatâd cynllunio yn fater i'r awdurdod cynllunio lleol ac nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylwadau.

Roeddwn i eisiau codi dau fater. Mae ffoaduriaid sy'n dod i Gymru ac i'r DU yn awyddus i weithio ac yn awyddus i chwarae eu rhan ar gyfer y gymdeithas. Ond cânt eu rhwystro gan nad ydynt yn gallu cael trwydded yrru, gan fod y prawf theori ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unig. Fel yr wyf yn deall, hyd at 2013, roedd modd gwneud y prawf mewn ieithoedd fel Bengali neu Arabeg. Oherwydd bod cludiant yn fater mor bwysig i bobl o ran cyrraedd y gwaith, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cychwyn trafodaethau â Llywodraeth y DU i gael gwybod beth oedd y rheswm dros y newid polisi hwn ac a ellid gwneud rhywbeth am y peth?

Yr ail fater oedd bod nifer o’m hetholwyr yn galw am fenter o'r enw Operation Close Pass a weithredir yn y gogledd ac mewn dinasoedd yn Lloegr, pam fydd swyddogion yr heddlu’n mynd ar gefn beic gan wisgo dillad plaen ac yn stopio gyrwyr sy'n pasio’n rhy agos i seiclwyr a'u haddysgu am bellteroedd pasio diogel. Felly, a fyddai'n bosibl cael dadl am ddiogelwch i seiclwyr? Mae 1 y cant o'r traffig yn seiclwyr, eto i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 16 y cant o'r holl anafiadau yn ymwneud â seiclwyr. Felly, tybed a gawn ni ddadl ar hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Julie Morgan wedi tynnu ein sylw at newid, efallai nad oeddem ni’n ymwybodol ohono, yn ôl ym mis Ebrill 2014, gan fod trwyddedu gyrwyr yn fater a gadwyd yn ôl, a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau sy’n pennu cynnwys a darpariaeth y prawf theori yng Nghymru. Cafwyd gwared ar y defnydd o wasanaeth trosleisio iaith dramor a dehonglwyr ar gyfer profion theori ym mis Ebrill 2014, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae’n ymddangos. Ond, yn sicr, mae hwn yn fater y byddem ni eisiau sicrhau bod ein barn ni, yn enwedig yn awr gan ein bod ni’n canolbwyntio ar ein cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sy'n cael ei diweddaru yn ystod y flwyddyn hon—. Mae'n ymwneud â chydgysylltu rhwng asiantaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ond, yn amlwg, â Llywodraeth y DU hefyd. Felly, mae hon yn broblem, yn benodol, y byddem yn dymuno ei thrafod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ond, yn bwysicaf oll, â Llywodraeth y DU o ran y cyfleoedd hynny, a gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r mater hwn.

Ynglŷn â’ch ail bwynt, rwyf newydd sôn am y dyraniadau diogelwch ar y ffyrdd lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau i leihau anafiadau. Os edrychwch ar yr ystadegau ar gyfer beicwyr modur a seiclwyr, roedd yr ystadegau ar gyfer seiclwyr yn unig yn 7 y cant o anafiadau, ac roedd 10 y cant o'r rheini wedi’u lladd neu wedi’u hanafu’n ddifrifol. Rydym yn cyhoeddi’r bwletin ystadegol ar feiciau pedlo ar 5 Ebrill, felly bydd hwnnw’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae gennym grŵp llywio diogelwch sy’n cefnogi gwaith i gyrraedd targed o leihau’r niferoedd a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol 25 y cant. Mae hynny'n ymwneud â beicwyr modur, ond rwy’n credu bod y safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant seiclo ym mhob awdurdod lleol yn hanfodol bwysig. Ddoe, cefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet lansiad Ymgyrch Darwen, ymgyrch orfodi ac ymgysylltu Cymru gyfan gan yr heddlu, ac rwy’n credu bod yr enghraifft hon yn rhywbeth y byddem ni’n amlwg yn awyddus i’w hystyried.

Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y rhaglen cynnal a chadw cefnffyrdd yn y gogledd.  Achoswyd llawer o anghyfleustra i’m hetholwyr i ac i ymwelwyr â’r gogledd dros y penwythnos o ganlyniad i'r gwaith ffordd ar yr A55 yn nhwneli Conwy ac, yn wir, yn Hen Golwyn, yn fy etholaeth i fy hun. Arweiniodd at dagfeydd 13 milltir o hyd ar Sul y Mamau, a phobl yn gaeth i’w ceir am hyd at awr a hanner er mwyn teithio'r pellter byr o dair milltir yn unig. Yn amlwg, mae hynny'n annerbyniol. Cymhlethwyd y broblem ymhellach oherwydd bod Network Rail hefyd, wrth gwrs, yn gwneud gwaith ar reilffordd y gogledd, felly roedd mwy o draffig ar y ffyrdd. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gwell cynllunio rhwng y timau cynnal a chadw ffyrdd a thimau Network Rail er mwyn osgoi’r math hwnnw o waith cynnal a chadw rhag digwydd yr un pryd. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar sut y mae'n bwriadu newid y trafodaethau a’r dull cyfathrebu, yn enwedig rhwng Network Rail a'i dimau ef yn y dyfodol.

Mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod, mae hon yn broblem, ac mae'r Aelod yn gwybod yn dda fod hyn yn rhan o welliannau ehangach i'r A55 i sicrhau ei fod yn gwasanaethu pobl y gogledd yn well. Felly, mae’n rhaid i’r gwaith o reoli'r gwelliannau hynny, fel y dywedwch, gynnwys pawb sydd â rhan allweddol i'w chwarae fel bod cyn lleied o oedi â phosibl. Dywedwyd wrthyf fod y gwaith yn cael ei wneud 24/7 er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau cyn cyfnod prysur y Pasg. Rwy'n credu hefyd, o ran ymgysylltu, fel y dywedais, ag awdurdodau priodol, ymgynghorwyd â swyddogion o Gyngor Conwy ar y gwelliannau hyn. Maent yn cael eu hysbysu am unrhyw gynnydd, codwyd arwyddion priodol ar hyd yr A55, ac mae'n bwysig bod y cyhoedd sy'n teithio yn ymwybodol o'r cyfyngiadau traffig. Caiff gwefan Traffig Cymru ei diweddaru pan fo angen.

A gaf i godi dau fater, os gwelwch yn dda, gyda’r rheolwr busnes, yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl a oedd i’w chynnal heddiw, yn nes ymlaen, ynglŷn â thirweddau, wedi’i thynnu'n ôl? Pe na byddai wedi’i thynnu'n ôl, byddwn i’n sicr wedi dadlau bod hyn yn annerbyniol. Nodir yn glir iawn yn ein Rheolau Sefydlog y dylai unrhyw drafodaeth sy'n ymwneud ag adroddiad gynnwys yr adroddiad hwnnw gyda’r ddadl honno, ac roedd yr etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â mi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn sicr bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad y mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn ei baratoi ar ran Llywodraeth Cymru ar dirweddau yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid ydym wedi gweld yr adroddiad hwnnw, nid ydyw wedi’i gyhoeddi, er bod fy etholwyr i wedi bod yn awyddus iawn i anfon ataf gopïau drafft o'r adroddiad, ynghyd â'u beirniadaeth o’r adroddiad, a fyddai wedi golygu dadl ddiddorol iawn, ond, un na fyddai wedi bod yn adeiladol iawn yn y Siambr hon, yn fy marn i. A gaf i ofyn am sicrwydd, felly, na cheir ymgais gan Lywodraeth Cymru i’n trin ni fel hyn eto ac na fyddwn yn trafod y mater hwn nes ein bod wedi gweld yr adroddiad, wedi’i gyhoeddi’n llawn, a’n bod ni wedi cael digon o amser i astudio'r adroddiad ac, wrth gwrs, i gysylltu a gwrando ar bryderon ein hetholwyr ynglŷn ag elfennau’r adroddiad hwnnw?

Yr ail fater yr hoffwn ei godi gyda'r rheolwr busnes yw gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, maes o law, mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU ac Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y DU i newid y contract ynglŷn â datgomisiynu’r hen adweithyddion niwclear Magnox yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n effeithio, yn benodol, wrth gwrs, ar Drawsfynydd yn fy rhanbarth i, a hefyd Wylfa. Mae'r rhain yn gontractau o bwys y canfuwyd bod Llywodraeth y DU wedi dilyn proses gaffael ffug a diffygiol i’w sicrhau, a’i bod wedi gorfod talu arian y trethdalwyr i gwmnïau Americanaidd i beidio â chael ei herio’n gyfreithiol. Ymddengys ar hyn o bryd, o newid y contract gyda'r cwmni a wnaeth ennill y contract, o fewn y ddwy flynedd nesaf bydd yn costio tua £100 miliwn, yr wyf yn credu sy’n ffigur i’w gadw mewn cof pan fo Llywodraeth y DU yn dweud wrthym fod ynni adnewyddadwy yn ddrud. Efallai fod cyfle yma inni adolygu'r hyn sydd ei angen o ran datgomisiynu yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa, ac efallai’n wir bod newidiadau gwahanol i'r hyn sy'n digwydd yno, ond hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud wrthym beth allai hynny fod. Mae’n bosibl y gallai fod angen mwy o waith dwys, mae’n bosibl y gallai fod angen llai o waith—ni wyddom. Ond byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynnal trafodaethau â'r awdurdod ac â Llywodraeth y DU, ac mai’r rhain yw'r goblygiadau ar gyfer cyflogaeth, wrth symud ymlaen, yn ymwneud â’r ddau hen safle Magnox, yn werthfawr i'r Cynulliad yn fy marn i.

Diolchaf i Simon Thomas am ei gwestiynau. Ymhellach i drafodaeth y bore yma yn y Pwyllgor Busnes, roeddwn i’n fodlon gohirio dadl y prynhawn yma ar yr adolygiad o barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. A gallaf sicrhau'r Aelod a'r Cynulliad y byddwn yn aildrefnu'r ddadl pan ddychwel Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yn briodol, ac wedi cael effaith ar yr amseriad ar gyfer hyn, ond pan fydd yr adroddiad terfynol wedi ei gyhoeddi.  Ar sail honno, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n rhoi'r sicrwydd priodol i chi.

Ynglŷn â’ch ail bwynt, na, nid ydym mewn sefyllfa i wneud datganiad eto, o ran ein dealltwriaeth ni o effaith y cyhoeddiad o ran y newidiadau o ganlyniad i gaffael ar gyfer datgomisiynu'r hen adweithyddion niwclear Magnox. Ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y byddem yn awyddus i fod yn rhan lawn ohono, a byddwn yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu’n briodol. Ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU y cyfrifoldeb hwnnw hefyd.

A wnaiff yr Ysgrifennydd busnes wneud datganiad ar y broses benodi ddiweddar ar gyfer Esgob Llandaf yng ngoleuni adroddiadau y cafodd Jeffrey John, Deon presennol St Albans, ei wrthod i’r swydd ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o'r coleg etholiadol a chefnogaeth unfrydol etholwyr Llandaf? Er fy mod i, wrth gwrs, yn deall y ceir proses o ddirnadaeth ysbrydol wrth ddewis esgob, mae hyn hefyd yn fater sy'n ymwneud â chyflogaeth. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, yn y datganiad hwnnw, nodi a yw hi’n credu y byddai’n briodol cyfeirio'r Eglwys yng Nghymru i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn ymchwilio i weld a yw’r Eglwys yng Nghymru wedi torri Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ymwneud â'i phrosesau recriwtio o ran cyflogaeth, y mae'r Eglwys yng Nghymru ei hun yn honni ei bod yn cadw ati ar ei gwefan ei hun?

Diolch i Eluned Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon sydd wedi'u codi gan adroddiadau bod ymgeisydd i'w benodi'n Esgob Llandaf wedi’i eithrio o'r broses benodi ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n amlwg iawn, wrth gwrs, o ran yr Eglwys yng Nghymru, sydd wedi’i datgysylltu, fod y broses, fel y dywedodd yr Aelod, ar gyfer penodi ei hesgobion yn fater i goleg etholiadol ac etholwyr yr Eglwys yng Nghymru. Rwyf hefyd yn deall nad yw dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn berthnasol i’r Eglwys yng Nghymru. Ond rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i gwestiwn yr Aelod y prynhawn yma, ac i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu gwahaniaethu ar sail rhywioldeb, ac mae ein sefyllfa yn hyn o beth wedi bod yn gyson ac yn parhau i fod yn glir iawn.

6. 3. Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 3 ar yr agenda, sef Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio Hysbysiadau) (Cymru) 2017 (Diwygio), ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM6272 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, mae'r rheoliadau sydd wedi eu gosod gerbron y Cynulliad i chi eu hystyried heddiw yn welliant i'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio Hysbysiadau) (Cymru) 2011 presennol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn unol â'r pwerau a nodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd Rhan 6 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i ddarparu pwerau ychwanegol i godi tâl ar gyfer trwyddedu morol yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth ddiwygio hon yn cwmpasu newidiadau bach technegol i ddarparu mecanwaith apelio ar gyfer hysbysiadau a gyhoeddwyd o ganlyniad i ddaliwr trwydded yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad i dalu blaendal neu dâl ffi yn unol â phwerau codi tâl a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gellir cyflwyno hysbysiad i drwyddedai i amrywio, atal neu ddirymu trwydded forol. Bydd yr un gweithdrefnau a dulliau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pob apêl rhybudd arall o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn berthnasol. Mae hwn yn rhan o becyn ehangach o ddeddfwriaeth i gyflwyno ffioedd a thaliadau newydd ar gyfer trwyddedu morol ar 1 Ebrill 2017. Bydd y ffioedd newydd, yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno o 1 Ebrill eleni, 2017, ymysg canlyniadau cadarnhaol eraill, yn arwain at ddarpariaeth ehangach o wasanaethau cyn-ymgeisio a phennu ffioedd yn gymesur yn erbyn y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Cafodd yr apeliadau yn erbyn hysbysiadau a'r cynigion ffioedd ehangach eu llunio i ddechrau drwy ymgysylltu’n agos â'r grŵp rhanddeiliaid trwyddedu morol, drwy ohebiaeth a gweithdy i randdeiliaid. Mae'r grŵp rhanddeiliaid yn cynrychioli'r sector morol, yn enwedig agregau, ynni adnewyddadwy, adeiladu, carthu, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr trwyddedu morol eraill. Yna, roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ddiwygio ffioedd trwyddedu morol a thaliadau cysylltiedig yng Nghymru rhwng 5 Medi 2016 a 28 Tachwedd 2016. Cynhaliwyd gweithdy arall i randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Roedd bron yr holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion. Bydd y ffioedd a'r taliadau newydd yn cael eu hadolygu'n gyson, gyda gwelliant parhaus yn werth craidd, i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth trwyddedu morol effeithlon a chynaliadwy i bobl Cymru. Mae'r rheoliadau apelio hysbysiadau wedi’u diwygio yn sicrhau bod deiliaid trwydded yn gallu apelio yn erbyn hysbysiadau a gyflwynir am beidio â thalu ffioedd a blaendaliadau. Dirprwy Lywydd, rwy’n cymeradwyo’r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diolch yn fawr iawn. Does dim siaradwyr yn y ddadl hon. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Felly, mae'r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 4. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017

Item 4 on our agenda is the Partnership Arrangements (Wales) (Amendment) Regulations 2017. I call on the Minister for Social Services and Public Health to move the motion. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6271 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau diwygio ger eich bron yn cefnogi gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Maent yn ymwneud â'r swyddogaethau yn Rhan 2 o'r Ddeddf honno ynghylch cynhyrchu cynlluniau ardal. Ynghyd â chefnogi canllawiau statudol, roedd y rhain yn destun ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 3 Hydref, y cafwyd 27 o ymatebion iddo. Cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o'r canllawiau statudol yn sail i’r gwaith craffu. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ym mis Ebrill.

Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael eu gwneud o dan adrannau 166 a 167 o'r Ddeddf. Maent yn diwygio'r prif reoliadau, sy'n mynnu sefydlu trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd dan gyfarwyddyd byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn ychwanegu swyddogaethau cynllunio ardal adran 14A at y rhestr o swyddogaethau a gyflawnir gan y trefniadau partneriaeth. Cafodd adran 14A o'r Ddeddf ei mewnosod gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd y Ddeddf honno’n disodli nifer o ddyletswyddau cynllunio â’r cynlluniau lles strategol newydd. Fodd bynnag, cytunodd y Gweinidogion fod angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddal i gynllunio yn benodol ynglŷn â diwallu anghenion gofal a chymorth pobl, gan gynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Mae adran 14A, felly, yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i nodi'r camau y mae angen i’r ddau ohonynt eu cymryd fel ymateb i'r asesiad o’r boblogaeth y mae’n ofynnol iddynt ei gyflawni. Drwy ychwanegu swyddogaethau cynllunio ardal adran 14A at y rhestr o swyddogaethau a gyflawnir gan y trefniadau partneriaeth, mae'r rheoliadau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynhyrchu cynlluniau ardal ar y cyd ar ôl troed y bwrdd iechyd, yn gyson â'r asesiad o’r boblogaeth. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar wasanaethau integredig mewn ymateb i'r asesiad hwnnw, ac yn gosod yr agenda ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Gosodwyd Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 ar wahân i ymwneud â manylion cynlluniau ardal ar 27 Ionawr. Mae'r rheini’n amodol ar y broses penderfyniad negyddol, a drefnwyd i'w chwblhau erbyn 1 Ebrill. Mae’r rheoliadau hynny’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi’r cynlluniau ardal cyntaf erbyn mis Ebrill 2018, un flwyddyn ar ôl adroddiadau’r asesiad cyntaf o’r boblogaeth.

Mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn sefydlu cronfeydd cyfun. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth ystyried priodoldeb sefydlu cronfeydd cyfun wrth weithio ar y cyd mewn ymateb i'r asesiad o’r boblogaeth. Mae hyn yn rhoi mwy o ddisgresiwn na'r gofyniad presennol i sefydlu cronfeydd cyfun ar gyfer yr holl swyddogaethau a arferir ar y cyd.

Yn olaf, mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys mân welliannau i sicrhau swyddogaethau integredig cymorth i deuluoedd, gan gynnwys swyddogaethau awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc o dan Ran 6 o Ddeddf 2014 ar Blant sy'n Derbyn Gofal ac yn Cael eu Lletya, yn ogystal â’r rhai a aseswyd o dan Ran 4. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, nid oes gennym siaradwyr; felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru)

Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 5, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru), ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6269 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y memorandwm. Rwy'n falch o nodi nad yw’r pwyllgor wedi canfod rheswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Bil Pedolwyr (Cofrestru) yn diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975. Mae hon yn pennu cyfrifoldeb statudol y Cyngor Cofrestru Pedolwyr, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Mae dros 200 o bedolwyr cofrestredig yn byw yng Nghymru. Mae gan y cyngor gyfrifoldebau, fel y'u nodwyd yn y Ddeddf, i gadw cofrestr o bedolwyr i benderfynu pwy sy'n gymwys i gofrestru ac i wneud rheolau ynghylch ffurf y gofrestr a sut y’i cedwir. Mae'r cyngor hefyd yn rheoleiddio hyfforddiant pedoli. Mae hefyd yn cynnal ymchwiliadau rhagarweiniol mewn achosion disgyblu drwy ei bwyllgor ymchwilio, ac yn penderfynu achosion drwy ei bwyllgor disgyblu.

Mae'r trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio pedolwyr bellach wedi dyddio ac nid ydynt mwyach yn unol â rheoleiddio proffesiynau eraill. Bwriad y gwelliannau a gynigir yn y Bil yw diweddaru cyfansoddiad y cyngor, a'i bwyllgorau archwilio a disgyblu, i’w gwneud yn addas i’r diben ac i'w gwneud yn haws gwneud newidiadau o'r fath yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, er mwyn gwneud unrhyw newidiadau i'r cyngor a'i bwyllgorau, mae angen gwelliant i’r Ddeddf, sy'n golygu bod angen deddfwriaeth sylfaenol. Mae hyn yn anhyblyg ac yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod y cyngor a'i bwyllgorau’n cael eu cadw'n gyfoes i aros yn addas i'w diben. Bydd y Bil yn caniatáu i welliannau i drefniadau llywodraethu’r cyngor a'i bwyllgorau yn y dyfodol gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban.

Diben y cyngor yw gweithredu er lles anifeiliaid. Mae hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y cyngor gyfansoddiad sengl, ac mae cytundeb polisi ledled Prydain Fawr ar gyfer gwneud y newidiadau hyn, a fydd yn moderneiddio’r gwaith o reoleiddio'r proffesiwn pedoli.

Diolch. Rwy'n galw ar Huw Irranca-Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd cael dweud gair byr iawn yma heddiw. Gwnes y camgymeriad ar y pwyllgor o gydnabod fy mod yn gyfarwydd â'r Cyngor Cofrestru Pedolwyr, ac, er fy mhechodau, dywedodd y Cadeirydd yn rasol, 'Wel, cewch chi ddweud ychydig o eiriau.' Byddai ef yn fwy nag abl ei hun. Ond hoffwn sôn am ychydig o bethau.

Fel yr ydym newydd ei glywed, mae hyn yn sicr yn foderneiddio, ac yn foderneiddio hir ddisgwyliedig, i’r Cyngor Cofrestru Pedolwyr. Ni wnaeth y pwyllgor CCERA, dan gadeiryddiaeth Mark Reckless, ddod o hyd i unrhyw reswm dros wrthwynebu. Rydyn ni wedi trafod hyn ac nid ydym wedi dod o hyd i reswm i wrthwynebu. Buom yn trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 16 Mawrth. Mae'n diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975, sy'n nodi cyfrifoldeb statudol y cyngor cofrestru, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Ac mae'r trefniadau, fel y dywedwyd eisoes, ar gyfer rheoleiddio pedolwyr, fel y’u nodir yn y Ddeddf honno, wedi dyddio, felly mae’r diweddaru a’r moderneiddio hwn i’w croesawu.

Bydd hyn yn caniatáu inni ddiweddaru cyfansoddiad y cyngor ac, yn bwysig iawn, i’w bwyllgorau archwilio a disgyblu, iddo fod yn wirioneddol berthnasol i'w aelodau ac i’r rheini sy'n dod gerbron y pwyllgorau hynny. Bydd hyn yn golygu y bydd yn addas i’w ddiben ac yn cyd-fynd â rheoleiddio proffesiynau eraill sydd wedi moderneiddio fel hyn dros y blynyddoedd, a rhai ohonynt gryn amser yn ôl. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws gwneud newidiadau eraill yn y dyfodol.

Felly, fel y soniais, mae’n cynnwys newid aelodaeth y pwyllgor ymchwilio statudol a'r pwyllgor disgyblu. Felly, yn hytrach na bod y rheini wedi’u cyfansoddi o aelodau o'r cyngor, bydd y gwrthwyneb yn berthnasol. Ni ddylai aelodau fod yn aelodau o'r cyngor, sydd wedi achosi cryn bryder yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn er mwyn cyflawni’r gwahaniad pwerau sydd ei angen, gan sicrhau nad y bobl sy'n gosod safonau ar gyfer y proffesiwn yw’r rhai sy'n ymchwilio ac yn dyfarnu os bydd rhywun yn methu â bodloni’r safonau hynny. Ac mae hefyd yn gwneud mesurau eraill, fel cyflwyno gofynion ffitrwydd i wasanaethu ar gyfer holl aelodau'r cyngor a'r pwyllgorau statudol, fel sy'n arfer mewn cyrff rheoleiddio eraill.

Felly, mae hyn wedi cael ei gymeradwyo, a dweud y gwir, gan bawb sydd wedi ei weld—y Bil gwreiddiol a gynigiwyd gan Byron Davies yn San Steffan, y pwyllgorau sydd wedi edrych arno, Llywodraeth Cymru ei hun a fu’n ymgynghori arno, Llywodraeth yr Alban a fu’n ymgynghori arno, DEFRA ei hun, ac wrth gwrs y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yma, a fu’n edrych arno—felly does dim rheswm i beidio â chymeradwyo hyn—a gan y pwyllgor CCERA. Felly, mae pawb wedi rhoi sêl bendith iddo. Nid yw'n syndod o gwbl. Mae'n foderneiddio hir ddisgwyliedig, ac rwy’n dymuno’n dda iddynt wrth weithredu’r mesurau newydd hyn yr ydym yn eu cyflwyno yma o fewn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o fewn Bil Byron Davies, gan fy mod yn credu y caiff groeso gan y rheini sy'n dod gerbron y Cyngor Cofrestru Pedolwyr.

Ydw, rwy'n credu fy mod wedi sôn am lawer o'r pwyntiau a gododd Huw Irranca-Davies. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod mai corff i Brydain Fawr yw cymdeithas rheoleiddio'r pedolwyr. Cafwyd ymgynghoriad am lywodraethu, strwythur a gweithredu’r Cyngor Cofrestru Pedolwyr a'i bwyllgorau a gynhaliwyd gan DEFRA yn 2013, ar y cyd â Llywodraethau Cymru a'r Alban. Ac mae'r ymgynghoriad a'i ymatebion wedi dangos cytundeb cyffredinol ar y ffordd ymlaen, sydd wedi arwain at hyn. Wrth gwrs, Bil Aelodau preifat ydoedd, a phrif amcan y Bil yw gwneud y newidiadau hynny i gyfansoddiad y Cyngor Cofrestru Pedolwyr a'i bwyllgorau, a byddwn yn gobeithio y gallwn nawr ddarparu cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil hwn, ac rwy'n gofyn i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i Atal Dros Dro Reol Sefydlog 11.16 i Ganiatáu i'r Eitem Nesaf o Fusnes a Dadl Fer Ddydd Mercher Gael eu Trafod

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16, i ganiatáu inni drafod yr eitem nesaf o fusnes a dadl fer ar ddydd Mercher. Ac rwy’n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig. Paul Davies.

Cynnig NNDM6279 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu:

a) i NDM6267, a gyflwynwyd gan David Rees, gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mawrth 2017; a

b) i Ddadl Fer NDM6266, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd: Parhad

Parhad o ddadl 22 Mawrth.

Cynigiwyd y cynnig canlynol ar 22 Mawrth:

Cynnig NDM6267 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i’r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Felly, rydym nawr yn symud ymlaen at y ddadl am adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n cael ei hailddechrau o 22 Mawrth. David Rees a agorodd y ddadl yr wythnos diwethaf, ac rwy’n galw ar David Rees eto, dim ond yn fyr, cyn galw ar Aelodau eraill yn y ddadl hon. Dafydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A, gan ein bod i gyd yn ymwybodol o'r rhesymau pam y cafodd ei hatal dros dro yr wythnos diwethaf, a gawn gynnig ein cydymdeimlad â theuluoedd y rhai a laddwyd, ein dymuniadau gorau i'r rhai a anafwyd a'u teuluoedd, a’n diolch i'r gwasanaethau diogelwch a’r gwasanaethau brys am weithredu’n gyflym ac yn effeithlon. Mae ein meddyliau gyda nhw i gyd.

Dirprwy Lywydd, last week I opened the debate on the committee’s first report, highlighting the work of the committee and the recommendations that we made to Government. Members will be pleased to hear that I don’t intend to repeat the speech I made last week—it’s available on Senedd.tv, for those who missed it. But I would want to remind Members that the report reflects on two important issues: one is the complexities of the issues that have to be taken into account, and the other is actions for the Welsh Government. I also emphasise that this topic is one that changes on a daily basis, and the committee will be focused on ensuring that we are up to date and that our work is always up to date.

Brexit is developing swiftly. Since last week, we now know that a White Paper on the great repeal Bill will be published on Thursday. Following the presentation of the letter tomorrow to the European Commission to start the article 50 process, it is crucial that Wales’s voice is heard and is listened to. Whilst, clearly, this is mainly to the benefit of Wales, I also believe that it will be of benefit for the whole of the UK, too.

Deputy Presiding Officer, I would like to thank Simon Thomas for his contribution last week. I look forward to hearing from further Members here this afternoon.

Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli eich bod yn fy ngalw i’n gyntaf. Diolch yn fawr iawn beth bynnag, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau efallai’n ei gofio, Mark Isherwood a oedd yn gwneud ei gyfraniad yr wythnos diwethaf. Nid Mark Isherwood ydw i, ac er ei fod wedi bod cystal â rhoi imi ei araith o’r wythnos diwethaf, rwyf wedi gwneud un neu ddau o newidiadau fel ei bod ychydig mwy fel fi nag ef heddiw. Felly, gwnaed unrhyw wallau gennyf i, iawn.

Yn bersonol, rwy’n gweld yr adroddiad hwn fel y cyntaf mewn cyfres yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhoi sail i weithredoedd Llywodraeth Cymru, ac yn craffu arnynt, wrth inni lywio dyfroedd eithaf tonnog Brexit. Unwaith eto, yn bersonol, rwy’n meddwl y byddai wedi bod yn well i Lywodraeth Cymru aros i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi cyn cyhoeddi ei Bapur Gwyn ei hun—dim ond mater o ychydig ddyddiau ydoedd—fel y gallai fod wedi cyfeirio dogfen wirioneddol drawsbleidiol yn ffurfio casgliadau trawsbleidiol, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn llawn. Rwy'n meddwl y byddai hynny wedi arfogi’r Prif Weinidog ychydig yn well, ac yn wir Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn y sgyrsiau agoriadol hynny â Llywodraeth y DU ynghylch ein sefyllfa negodi ar y cyd, yn hytrach na dogfen a luniwyd gan ddwy blaid yn unig.

Roeddwn am wneud y pwynt bod yr adroddiad gan y pwyllgor trawsbleidiol yn cyfeirio at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ei hun, sef, ie, un y cytunwyd arno â Phlaid Cymru. Ond mae'n cyfeirio ato, mae'n rhoi tystiolaeth amdano, ac yn sicr does gennym ddim amser i aros bob amser am yr adroddiad nesaf; mae'n rhaid inni nodi ein sefyllfa negodi yn gynnar.

Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr, ond y Senedd yw hon mewn gwirionedd yn hytrach na’r Llywodraeth, a hoffwn i i’r Senedd hon fod ar flaen y gad, os mynnwch, i helpu i hysbysu’r Llywodraeth i gyrraedd safbwynt—[Torri ar draws.]—hysbysu’r Llywodraeth i gyrraedd safbwynt negodi. Rwy'n meddwl bod fy mhwynt yn ddigon teg, a dweud y gwir, oherwydd, wrth gwrs, er bod y Papur Gwyn yn galw am fynediad llawn a dilyffethair at farchnad sengl y DU, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hynny’n amhosibl ar ôl adfer rheoli ffiniau i'r DU, nid yw hynny'n anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am fargen masnach rydd heb aelodaeth. Er bod y Papur Gwyn yn nodi perygl y gallai Llywodraeth y DU gipio pŵer, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ei hun yn datgan ein bod

‘eisoes wedi addo na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu tynnu oddi arnynt’,

a byddwn yn manteisio ar y cyfle i ddod â phenderfyniadau yn ôl yma i wneud yn siŵr bod mwy o benderfyniadau wedi'u datganoli. Felly, y rheswm pam yr wyf yn codi hyn yw oherwydd bod ysgyfarnogod eisoes yn rhedeg, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn canolbwyntio ar y risgiau a’r cyfleoedd clir a phresennol yn hytrach na'r rhai sy'n fwy annhebygol. Eisoes, mae’n ymddangos ein bod yn cwestiynu pa mor ddylanwadol yw’r cenhedloedd Celtaidd wrth baratoi sefyllfa negodi, a byddai'n hawdd, rwy'n credu, cynyddu’r rhethreg ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth ac yn dweud beth mewn ffordd nad yw'n helpu i greu hyder na chyfleu ymdeimlad o undod, y bydd ei angen i roi pwysau i safbwynt negodi.

Felly, yn bersonol nid wyf yn awyddus i dderbyn barn y Prif Weinidog am hyn, a dyna pam mae argymhellion 1 a 4 yn bwysig inni i gyd, oherwydd hoffwn inni weld dadansoddiad gwirioneddol o’r peryglon clir a phresennol hynny. Dewch inni gael gweld yr holl dystiolaeth i asesu cryfder safbwynt Llywodraeth Cymru i helpu lleisiau eraill i wneud yr achos ar ei rhan, gan gynnwys gwleidyddion, ond y tu hwnt hefyd. Y ddiplomyddiaeth feddal honno mewn perthnasoedd sydd ddim yn rhynglywodraethol—wyddoch chi, mae cyfres ohonynt, yn enwedig ag eiriolwyr eraill o fewn yr UE ac rwy’n meddwl os gwnewch ein helpu ni i’w helpu nhw, y bydd hynny’n cryfhau safbwynt negodi'r DU a lle llais Cymru o fewn hwnnw. Hoffwn weld y mathau hynny o wledydd yr UE yn helpu i adeiladu momentwm ar gyfer gwelededd blaenoriaethau Cymru ac felly mae'n aneglur i mi pam mai dim ond egwydor 1 y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn mewn egwyddor, h.y. ei bod yn cyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae ei safbwynt wedi’i seilio arni.

Nawr, yn yr un modd, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd amharodrwydd y Llywodraeth i dderbyn argymhelliad 4 yn llawn—sef darparu cofrestr o risgiau ar draws pob maes lle bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod, mewn gwirionedd, yn cyflwyno asesiad risg newydd ar ôl i erthygl 50 gael ei sbarduno. Am wn i, yr hyn y byddwn i wedi hoffi ei glywed yn yr ymateb yw beth hoffai Llywodraeth Cymru i’n pwyllgor ei wneud i'w helpu i ganfod risgiau sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, wrth gwrs, fel a ddaeth yn amlwg yn ein cynhadledd ni ddoe.

Fel y dywed yr adroddiad, gallai llawer o feysydd polisi elwa o ddull neu fframwaith cytunedig ar draws y DU: er enghraifft, polisïau amaethyddol a morol a'r amgylchedd, ac o bosibl—o bosibl—polisïau datblygu rhanbarthol i raddau hefyd. Mae pennaeth Ysgol y Gyfraith Birmingham wedi dweud wrth y pwyllgor bod y broses

'yn gyfle i feddwl am bethau mewn ffordd wahanol',

Ac, fel y dywedodd NFU Cymru yr wythnos hon:

'Er bod Brexit yn cyflwyno heriau sylweddol, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle hwn i lunio a datblygu fframwaith polisi amaethyddol sy'n cefnogi ffermio cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol ac yn darparu swyddi, twf a buddsoddiad i Gymru.'

Felly, yn olaf, i gyfeirio’n ôl at lle y dechreuais, beth bynnag yw fy safbwynt cychwynnol personol i am ddylanwad Cymru, rwy’n credu bod angen inni dderbyn bod y grŵp cynghori Ewropeaidd—mae’n eithaf rhyfedd pan fo 11 o'r 21 aelod yn gymdeithasau gwleidyddol ond dim ond un yn cynrychioli busnes, a byddwn yn ddiolchgar, wrth ystyried ble mae Cymru'n sefyll yn ei safbwynt negodi o hyn ymlaen, pe gallem ystyried lleisiau o bob sector. Nid dim ond mater o fasnach yw hyn; mae'n ymwneud â chydlyniad cymdeithasol a chymunedol hefyd. Diolch.

A gaf i ddiolch yn fawr, yn gyntaf oll, i Gadeirydd y pwyllgor am arwain ein trafodaethau ni yn y pwyllgor? A hefyd, ar safon ei Gymraeg ef, mae e wedi cadw safon ei Gymraeg yn dawel iawn ers i fi fod yma, felly llongyfarchiadau i chi ar hynny.

Now, what's interesting about this report is that this report was drafted against an ever-changing backdrop; it was constantly moving. So, from the first draft to the final draft we saw the UK Government outlining its strategy and we saw the Welsh Government’s White Paper being published. So, a lot of very rapid redrafting had to happen. When there's so much to say on Brexit, what is clear is that the overwhelming weight of evidence suggests that leaving the EU single market would have a devastating effect on our economy. That's due to our greater dependency on exports and, of course, these payments that we get from agricultural and structural funds. Now, that's a point that’s made very clearly in the report. It's a point that was emphasised again in the Demos report that was published yesterday.

And, of course, additional to that, the internal constitution of the UK is going to be severely tested in the light of Brexit, because the UK that joined the EEC in 1973 is not the same UK that will leave the EU in 2019. We've had devolution in that intervening period. And now, legally, we have a whole host of responsibilities in Wales on lots of different subject matters, which have hitherto been managed within that EU framework. Now, legally I am clear that agriculture will revert to the responsibility of the Assembly when we leave the EU, but, frankly, if the UK Government doesn't give us the money, it’s going to be a pretty worthless power.

Now, I’m going to restrict myself to two short points that came out of the report that I found quite interesting. First of all, environmental law: what we know is that pollution doesn’t respect borders and I think that’s one of the great success stories of the EU. It’s the framework for the environment in which member states need to act. The fact is that, in the past, the European Court of Justice has been an incredibly powerful force to ensure compliance with environmental laws. Let’s not forget that many aspects of environmental law will be returned to Wales following Brexit. The fact is that in the EU there’s an inexpensive redress mechanism offered by EU institutions, which will no longer be there when we exit the EU. In future, private individuals and organisations will have to rely on expensive UK judicial review processes and they will have to pay for those proceedings themselves. I think that’s a step backwards for the environmental situation in this country. There may be also be no facility to challenge the UK, nor even the Welsh Government, if they fail to enforce the standards expected. That’s a huge hole that hardly anybody has considered yet in relation to this Brexit debate.

The second point I’d like to focus on is health. In Wales, we can boast a very healthy pharmaceutical industry but part of that success is because we work within a single EU framework, which allows new medicines to be brought quickly to market. In future, it may be that we will have to apply for authorisation in each individual member state. We don’t have a single UK market for this either. So, we’ll need to determine whether we want one. For rarer disease trials we need to be able to recruit from a large pool of patients across the EU, and that may change in future. So, we hope that legislation on this matter can be aligned across member states post Brexit.

We know that this week the starting gun will be fired on one of the most complex negotiating tasks that the UK Government has ever undertaken, led by a team of civil servants with almost no negotiating experience. Brexit is happening, but I still fear that the British public has opened Pandora’s box at a time when we’ve never seen such extreme political turmoil in the world as we do at the moment.

Mae Trysorlys EM wedi addo gwarantu’r holl brosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddiad Ewropeaidd a gymeradwywyd neu a ddylai gael eu cymeradwyo yn ystod busnes arferol cyn i’r DU adael yr UE. Mae'r addewid hwn hefyd yn cynnwys y polisi amaethyddol cyffredin, rhaglenni corfforaeth tiriogaethol Ewrop, gan gynnwys y rhaglen Iwerddon-Cymru, a’r gwobrau arian dan raglenni a reolir yn uniongyrchol gan yr UE, gan gynnwys Horizon 2020. Dyna ni. Ymateb y Llywodraeth ei hun i argymhelliad 5 yr adroddiad hwn: datganiad pendant na fydd unrhyw newid i gyllid tan 2020.

Rwy'n credu y byddwn yn parhau. Os hoffech wneud ymyriad, ar bob cyfrif, Eluned, cewch.

Na, ewch chi ymlaen â’ch araith a gwnaf fi gyfeirio pobl ar gyfer ymyriadau.

Ond efallai y byddai’n well inni roi'r cyllid Ewropeaidd mewn persbectif. Eto i gyd, mewn ymateb i'r adroddiad hwn, mae'r Llywodraeth yn nodi mai dim ond £370 miliwn y flwyddyn yr ydym yn ei gael ar draws holl drefniadau ariannu'r UE. Dyw hyn yn ddim o'i gymharu â chyllid y DU, hyd yn oed dan y fformiwla Barnett ddiffygiol, lle mae Cymru yn elwa o swm o dros £14 biliwn y flwyddyn. Mae hyn yn golygu mai dim ond 2.6 y cant y mae angen i Lywodraeth y DU ei ychwanegu at ei lwfans i Gymru i gynnal yr holl arian Ewropeaidd, neu, mewn geiriau eraill, 0.01 y cant o CMC y DU, neu, mewn geiriau eraill, 2.7 y cant o daliad net y DU i'r UE bob blwyddyn. Rwy'n credu y gallwn ragweld yn ddiogel na fydd Cymru geiniog ar ei cholled o'r hyn a elwir yn arian cyfatebol yr UE. Ac a gawn ni Brexit da? Yn bendant, oni bai bod yr ymgyrchwyr dros aros yn parhau i danseilio safbwynt aruthrol o gryf y DU ar ddechrau’r trafodaethau am Brexit.

Mae'n ymddangos fel pe baent yn ewyllysio pethau i fynd o chwith, hyd yn oed os yw'n golygu trychineb i’r dosbarth gweithio—

Roeddwn yn meddwl tybed a fyddech hefyd yn ymrwymo'r Llywodraeth nad ydych yn rhan ohoni—fe wnaethoch ymrwymo i hyn yn ystod ymgyrch y refferendwm—i dalu £350 miliwn yr wythnos tuag at y GIG hefyd.

Wrth gwrs, a mwy. [Torri ar draws.] A mwy. [Torri ar draws.]

Gallwch bron eu clywed yn dweud, 'Eithaf gwaith, â nhw am feiddio pleidleisio yn ein herbyn ni, ni yr elît deallusol.' Onid ydynt yn deall mai ni sy'n gwybod beth sydd orau iddynt? Neu, fel y dywedodd un ohonynt,

'Pam y dylid caniatáu i’r bobl ddiwerth, a lusgodd eu hunain o’r ystadau i'r blwch pleidleisio, ddifetha popeth i’r gweddill ohonom?'

Yr elît adain chwith, yn dangos—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 15:31:00

Pwy ddywedodd hynny?

Mae'n ddyfyniad o’r Times heddiw, Syr.

Mae'n dangos dirmyg llwyr tuag at y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Ond, wrth gwrs, yr hyn nad ydynt yn ei ddeall yw bod pobl Prydain yn deall beth yr oeddent yn pleidleisio amdano, a dyna’n union pam y gwnaethant bleidleisio Brexit. Mae'n bryd i’r Siambr hon gymryd safbwynt cadarnhaol ar y DU yn ymadael â’r archwladwriaeth Ewropeaidd. Profwyd yn anghywir bob un o’r rhagdybiaethau negyddol gan y rheini yn y sefydliad a oedd wedi ymrwymo i aros yn yr UE. Ac nid yn unig yn anghywir, ond yn sylweddol anghywir. Rwy’n edrych ymlaen at yr amser yn y dyfodol agos pan fyddaf i, a fy nghydweithwyr UKIP, a phawb arall a oedd o blaid gadael, yn gallu dweud 'Fe ddywedon ni wrthych chi.'

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 15:32:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am eu hadroddiad? Mae'n ganlyniad llawer iawn o waith caled, profiad a chasglu tystiolaeth helaeth. Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i roi tystiolaeth i'r pwyllgor, ac rwy’n gwybod bod y Prif Weinidog hefyd.

There are a number of challenges facing us at the moment, as the committee Chair, David Rees, said when he referred to the complexity of these issues and the fact that things are changing on a daily basis. We can see that just by looking at what’s changed between the publication of the report and our discussion today.

Rhwng drafftio’r adroddiad a'i gyhoeddi ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, ein Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru', ac mae'r wythnosau sydd wedi dilyn wedi bod yr un mor brysur: cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU; pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu Gadael) rai wythnosau yn ôl; datblygiadau yn yr Alban mewn perthynas ag ail refferendwm annibyniaeth; cadarnhau dyddiad ar gyfer rhoi erthygl 50 ar waith yfory; a Phapur Gwyn a addawyd ar y Bil diddymu mawr ddydd Iau yr wythnos hon. Mae cyflymder y newidiadau hyn yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn gallu cadw’n hyblyg ac yn gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd a heriau newydd wrth iddynt godi. Rydym yn sicr wedi ceisio gwneud hynny yn ystod yr hydref ac ar ddechrau’r flwyddyn hon, drwy gyfrannu’n adeiladol at gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion, a thrwy gyfres o gyfarfodydd dwyochrog a gynhaliwyd â Gweinidogion y DU. Ac mae rhai arwyddion, Dirprwy Lywydd, ein bod yn cael effaith wirioneddol ar ddatblygu safbwynt negodi’r DU. Rydym yn credu eu bod wedi symud tuag at ein safbwynt ni o ran ein galwad glir a chyson am fynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, ac o ran ein pwyslais ar bwysigrwydd trosglwyddiad llyfn.

Er hynny, mae meysydd sy'n parhau i fod yn destun pryder sylweddol. Yr wythnos diwethaf, cyfeiriodd Simon Thomas at y drafodaeth barhaus am ailwladoli. Cyfeiriodd Eluned Morgan y prynhawn yma at hynny fel dychwelyd pwerau i Gymru, ac er bod Suzy Davies wedi bod yn fwy optimistaidd ynglŷn â hyn, hoffwn roi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cofnod yn hollol glir eto y prynhawn yma. Nid yw’r pwerau sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru erioed wedi ein gadael. Rydym wedi dewis arfer y pwerau hynny drwy gyfranogi ar lefel Ewropeaidd. Pan nad yw’r lefel honno yno mwyach, bydd y pwerau’n dal i fod yma. Ac os yw Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud unrhyw beth yn wahanol, bydd rhaid iddi weithredu i gymryd y pwerau hynny oddi arnom, a byddai hynny'n gwbl annerbyniol.

Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor yn nodi cyfres o faterion sydd o bwysigrwydd mawr i Gymru, ac mae llawer o aliniad rhwng yr adroddiad a'r Papur Gwyn a rennir rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd hanfodol masnach, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, y môr a physgodfeydd, a chronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi Ewropeaidd yn benodol. Mae chwech o argymhellion yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru eu hystyried, ac ymatebodd y Prif Weinidog yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i'r pwyllgor ar 10 Mawrth.

Yr argymhelliad cyntaf oedd y dylem gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yn seiliedig arni. Ac rydym yn gwneud y rhan fwyaf o hynny yn y Papur Gwyn, lle mae atodiadau mawr, sy'n nodi'r sail dystiolaeth yr ydym wedi ei defnyddio ar gyfer dadansoddiadau sectoraidd, rhagolygon macro-economaidd a mudo o’r UE i Gymru. Rydym yn sicr wedi mynd yn llawer pellach na Llywodraeth y DU o ran cyhoeddi tystiolaeth, a byddwn yn parhau i gyhoeddi dadansoddiadau economaidd ac eraill yn y dyfodol. Yn syml, y rheswm pam yr ydym yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor yw bod rhywfaint o gyngor sy'n dod i’r Llywodraeth—cyngor cyfreithiol, cyngor breintiedig sy'n dod gan Lywodraethau eraill am ddarpariaethau y maent yn eu datblygu, ac yn y blaen—nad ydym yn gallu eu gwneud yn gyhoeddus. Ond o ran yr wybodaeth sydd gennym ac y gellir ei chyhoeddi, rydym yn awyddus iawn i’w hychwanegu at y ddadl, yn y modd a awgrymwyd gan Suzy Davies.

Mae argymhellion 2 a 3 yn cyfeirio at newidiadau gweinyddol i rôl y swyddfa ym Mrwsel a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Ac, yn hyn o beth, rwy’n meddwl y gallwn ddangos ein bod wedi ymateb yn gyflym i ganlyniad y refferendwm i sefydlu tîm pontio Ewropeaidd pwrpasol, sy'n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau strategol ac yn cydlynu gwaith ar draws y sefydliad. Mae’r tîm newydd hwnnw’n gweithio'n agos â'r tîm presennol yn ein swyddfa ym Mrwsel, sy'n ein helpu ni ar faterion pontio, yn ogystal â chynnal busnes parhaus yr UE.

Rwyf eisoes wedi cyfeirio at gyflymder newid pethau o ran Brexit, ac mae'n bwysig iawn inni allu parhau yn hyblyg fel sefydliad. Byddwn, felly, yn parhau i adolygu sut y defnyddir ein hadnoddau, gan gynnwys swyddogaeth y tîm ym Mrwsel, fel y gallwn gael y dylanwad mwyaf posibl a sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Ac, yn benodol, bydd angen inni ailasesu'r sefyllfa pan gawn fwy o eglurder am y rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn y trafodaethau sydd o'n blaenau, rhywbeth yr ydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â ni yn ei gylch ers wythnosau a misoedd lawer.

Argymhelliad 4—cofrestr o risgiau. Yr unig reswm pam yr ydym yn derbyn hyn mewn egwyddor yw oherwydd ein bod yn cynnal ymarfer asesu risg newydd, wrth inni symud at gam nesaf y gwaith, ar ôl sbarduno erthygl 50 a dechrau negodi â phartneriaid yn yr UE. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am risgiau a mesurau lliniaru cyn gynted â bod yr ymarfer hwn wedi’i gwblhau, yn unol â barn y pwyllgor. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n llywio rhywfaint o'r gwaith y bydd y pwyllgor yn dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Mae’r pumed argymhelliad yn yr adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau ac yn defnyddio cymaint â phosibl o gyllid yr UE. Wel, rydym wedi clywed nifer o gyfraniadau am hynny y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru yn llawer agosach at ben amheus y ddadl. Rydym yn dweud ei bod yn gwbl hanfodol bod y bobl hynny a wnaeth addewidion i bobl Cymru, y bu pobl yn pleidleisio arnynt yn y refferendwm, yn dangos inni y bydd y gwarantau yr oeddent yn eu cynnig yn cael eu cyflwyno, ac yn cael eu cyflwyno yn llawn. Ac rwyf wedi dweud fy mod yn cydnabod y camau a gymerodd Canghellor y Trysorlys i roi sicrwydd ynglŷn â chyllid hyd at 2020. Roedd y rheini’n warantau defnyddiol; maent wedi rhoi rhywfaint o hyder i'n partneriaid i ddefnyddio cyllid Ewropeaidd. Ond nawr mae angen iddynt symud y tu hwnt i hynny. O dan y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd, pe baem wedi parhau, byddai Cymru wedi parhau i elwa ar y rownd bresennol nid tan 2020, ond tan 2023.Mae cyfres o raglenni y byddem wedi gallu parhau i gymryd rhan ynddynt ymhell y tu hwnt i 2023. Dyna'r gwarantau sydd eu hangen arnom gan Lywodraeth y DU erbyn hyn, ac rwy'n ofni na fydd hi mor hawdd eu sicrhau ag y mae rhai Aelodau Cynulliad wedi dymuno ei awgrymu y prynhawn yma.

Mae argymhelliad 6 yn gofyn inni bwyso ar y DU i gael cyfraniad uniongyrchol mewn trafodaethau. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gwneud yn glir i Brif Weinidog a Gweinidogion eraill y DU ar sawl achlysur nawr bod yn rhaid inni chwarae rhan lawn. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig, lle’r ydym yn dweud yn blaen wrth Lywodraeth y DU, 'Mae'n rhaid inni fod wrth y bwrdd pan gynhelir y trafodaethau hynny, i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.’ Cyfeiriodd Simon Thomas yr wythnos diwethaf at y posibilrwydd o ddatblygu model Cyngor y Gweinidogion yn y dyfodol, ac rydym wedi rhoi’r syniadau hynny ar y bwrdd hefyd.

Dirprwy Lywydd, rydym yn dal i fod yn ymroddedig i ddod o hyd i dir cyffredin, ac i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartneriaid wrth inni nesáu at gam nesaf gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno erthygl 50 yfory, ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o waith gan y pwyllgor a gyda'r pwyllgor i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu ein dull ni o gael y canlyniad gorau posibl i Gymru.

Diolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb.

Dirprwy Lywydd, last week Simon Thomas focused upon funding and powers, and highlighted the concerns of repatriation and the consequences that if we do get them repatriated, we won’t get the funding that goes with it. And I think that’s a crucial element that we need to make sure that if we’re going to be able to move forward, then we must have the resources and the powers to do so that come back from Brussels.

Suzy and Mark—I do put you together—highlighted the concerns, obviously, about the timing of the Welsh Government paper. I think the important thing they highlighted was that there are alternative pathways that we sometimes need to explore, that there are alternative options too and that we cannot ignore those options, and taking those is important, as was highlighted to us by the senior members of Universities Wales that came in. We need to look at things anew.

Eluned raised something that perhaps we don’t often talk about in terms of Brexit, and that’s health and medicines because, again, there are elements within the EU that sometimes we forget about. We often talk about agriculture and environment, because they’re the ones we normally deal with, but there are some important aspects that still go on at EU level that affect us, and that is an important thing that we cannot ignore in the months ahead of us. And, importantly, the loss of the recourse of citizens in particular areas, not just in environmental areas, but in other aspects as well, and losing that recourse, and the costs that we may have to apply, which may rule it out for many, many people.

David Rowlands—what can I say about his contribution? I will be positive. He is right—and I stated last week—that we should be united in taking a positive stance as we move forward, because we want to get the best opportunities we can for Wales. But a claim that says that EU funding is insignificant I think is atrocious. Come to my constituency and see how that money makes a difference to my communities, because the UK Government does not fund us. It’s as simple as that. And talking about an increase of 2.6 per cent from the UK Government to cover it—we are seeing cuts from the UK Government, not increases, so I think this ambition of getting money is a pipe dream. Unfortunately, that perhaps reflects the whole of UKIP’s thinking on this agenda.

Now, Cabinet Secretary, I welcome your responses and I also hope that you—

David J. Rowlands a gododd—

Y rheswm pam yr ydym yn cael yr arian hwn yw bod Cymru yn dal i gael ei gweld fel gwlad dlawd iawn yn Ewrop ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.

Wel, mae'n ddrwg gen i nad yw'n deall yr agweddau economaidd a'r manteision y mae'n eu rhoi i ni, ond dyna ni—efallai mai dyna UKIP.

Tynnodd Mark Drakeford sylw at faterion y trafodaethau dwyochrog, ac mae pwysigrwydd llais Cymru yn y trafodaethau hynny yn hollbwysig. Dyna pam y gwnaethom ei godi, Ysgrifennydd y Cabinet, a dyna pam yr wyf yn falch iawn o glywed eich bod yn dal i gredu ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru wrth y bwrdd. Ac ydych, rydych yn iawn, mae heriau o'n blaenau, hyd at 2020 a thu hwnt i 2020, gan y bydd y rhaglenni yn parhau y tu hwnt i hynny. Rydym mewn sefyllfa lle mae’r pwnc hwn yn datblygu'n gyflym. Rydym nawr, yfory, yn mynd i gael cyhoeddiad, a dydd Iau byddwn yn cael cyhoeddiad arall ar rywbeth sy'n berthnasol i ni—Bil diddymu mawr, neu efallai sawl Bil diddymu mawr, pwy a ŵyr? Ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddilyn, a gallaf eich sicrhau y byddwn yn gwneud hynny.

Dirprwy Lywydd, wrth gau'r ddadl hon rwyf am ailddatgan y rhan bwysig y bydd y pwyllgor yn ei chwarae yn y broses adael wrth iddi ddechrau yn ffurfiol yfory. Drwy gydol y broses, ein nod yw datblygu a chynnal ymgysylltiad adeiladol â rhanddeiliaid yng Nghymru a'r cyhoedd. Dim ond ddoe y cawsom gynhadledd—o bosibl y gyntaf yng Nghymru, am Brexit—lle’r oeddem yn ceisio ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, a hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr yng Ngholeg Gwent ac Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni am eu presenoldeb a'u cyfraniad. Bydd ymrwymiadau o'r fath yn y dyfodol yn bwysig wrth inni gasglu rhagor o dystiolaeth a hefyd wrth inni gynnal dadl ehangach â phobl Cymru ar y materion yr ydym yn eu canfod. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall buddiannau Cymru a’u hamddiffyn yn ystod y broses ymadael a'r trefniadau a fydd yn dilyn hynny—ac rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi tynnu sylw, unwaith eto, at bwysigrwydd y cyfnod pontio y bydd ei angen, oherwydd rydym i gyd yn gwybod na fydd dwy flynedd yn ddigon. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, byddwn yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd ac yn anelu i gefnogi'r Cynulliad wrth iddo agosáu at dasgau deddfwriaethol sylweddol sy’n ei wynebu.

Mae'r adroddiad yr ydym wedi’i drafod yn gam arwyddocaol wrth i’r Cynulliad ystyried Brexit. Rwy'n edrych ymlaen at siarad am lawer o adroddiadau yn y dyfodol gan y pwyllgor, wrth iddo barhau i ddiogelu buddiannau Cymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd a pharatoi ar gyfer ein dyfodol y tu allan iddo.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae'r eitem nesaf ar ein hagenda wedi ei thynnu'n ôl, felly rydym yn symud ymlaen. Cyn inni symud at y ddadl Cyfnod 3 am y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), rwy’n mynd i atal y trafodion am 10 munud. Caiff y gloch ei chanu bum munud cyn inni ailymgynnull, ond byddwn yn annog yr holl Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda. Felly, mae’r trafodion nawr wedi’u gohirio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:47.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:57, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Mae gwelliannau a nodir ag [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu 17 wrth gyflwyno’r gwelliant.

Rydym ni’n cyrraedd, felly, yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, sef Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Grŵp 1: Tir sy’n Rhannol yng Nghymru ac yn Rhannol yn Lloegr (Gwelliannau 35, 37, 32, 36, 29)

Mae’r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â thir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr. Gwelliant 35 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar Mark Reckless i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Reckless.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Mark Reckless).

Diolch, Llywydd. Treuliodd y Pwyllgor Cyllid gyfnod eithaf sylweddol o amser yn ystyried y mater o dir sydd wedi'i leoli yn rhannol yng Nghymru ac wedi’i leoli yn rhannol yn Lloegr. Yn gynharach yn y trafodion, roeddem yn deall bod tua 40 eiddo o'r fath o boptu'r ffin, ond wrth i’r trafodion fynd yn eu blaen, cafodd y nifer hwnnw ei ddiwygio i fyny ac i fyny, ac rydym yn awr yn deall ei fod yn fwy na 1,000. Y mater sydd gennym ger ein bron yw bod rhannu trafodiadau sy'n gorwedd ar y ffin, ar gyfartaledd, yn arwain at brynwyr yn talu llai o dreth, oherwydd gyda threth gynyddol lle mae'r gyfradd yn codi gan fod y swm yn cynyddu gwerth y tir, os ydych yn rhannu gwerth y tir hwnnw yn ddwy, bydd y gyfradd dreth ar gyfartaledd yr ydych yn ei thalu yn llai.

Mae hefyd rwystrau gweinyddol gwirioneddol sylweddol yn hyn. Rydym yn dweud wrth drethdalwyr am wneud dosraniad cyfiawn a rhesymol o'r ystyriaeth ar gyfer yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei drin fel dau drafodiad. Mae'r modd y maent yn gallu gwneud hynny yn agored i ddadl fawr a her bosibl. Felly, mae risg y gall y trethdalwr strwythuro ynddo ffordd o osgoi treth lle y bo'n bosibl, ond mae hefyd faich gweinyddol mawr ar y prynwr tir, ac o bosibl y gwerthwr i'r graddau y mae angen unrhyw drafodaeth, ac ar eu cynghorwyr proffesiynol. Nid yw'n glir beth yw’r peth gorau am hyn i'r graddau bod eiddo yn pontio'r ffin. Mae'r gyfraith o gyfartaleddau yn golygu y gall rhywun ddisgwyl, ar gyfartaledd, fod maint y tir yng Nghymru a Lloegr o’r holl drafodiadau a allai ddigwydd mewn un flwyddyn i fod yn eithaf tebyg. Felly, mae ei gwneud yn ofynnol i bobl rannu hynny a thalu treth ar sail gyfiawn a rhesymol, ac i’w weithio allan a’i gyfiawnhau, cadw cofnodion a bod yn barod i ddelio â'r her a allai ddigwydd yn ddiweddarach yn llawer o waith heb unrhyw fantais amlwg .

Y gyfraith yn y DU y mae'n rhaid inni ddelio â hi a’i pharchu yn yr ystyr yma yw bod y trafodiad yn cael ei drin fel pe bai'n ddau drafodiad—un yn ymwneud â thir yng Nghymru, trafodiad Cymru, a'r llall yn ymwneud â'r tir yn Lloegr, trafodiad Lloegr. Ac yna mae’r gydnabyddiaeth am y trafodiad i gael ei ddosrannu rhwng y ddau drafodiad ar sail gyfiawn a rhesymol.  Ond does dim byd i atal y Cynulliad hwn rhag tybio beth allai sail gyfiawn a rhesymol fod, a llawer o'r rheswm pam y byddai trethdalwyr a'u hymgynghorwyr yn croesawu hynny'n digwydd yw oherwydd y byddai'n lleihau'r gwaith yn sylweddol ac yn rhoi lle i her gyfreithiol ar eu cyfer.

Cynigiaf ddau welliant i fynd i'r afael â hynny: y cyntaf yw gwelliant 35, prif welliant y grŵp hwn.  Rwy’n hapus yn derbyn bod dadleuon cymhwysedd o gwmpas y gwelliant hwn.  Yr hyn yr wyf wedi ceisio ei wneud yw ei gwneud o leiaf yn ddadleuadwy bod y ddeddfwriaeth y byddem yn ei phasio, os yw'r gwelliant yn cael ei dderbyn, yn gyson â deddfwriaeth y DU.  Y rheswm am hynny yw, ar y cyfan, y byddai'r dosraniad yn cael ei wneud ar sail gyfiawn a rhesymol.  Os yw pob un o'r trafodion hynny, mae'r trethdalwr yn prosesu trafodiad dim mewn perthynas â threth tir y dreth stamp am dir ar y ffin â Lloegr, ac yn talu pris cyfan y trafodiad mewn treth trafodiad tir i Awdurdod Refeniw Cymru, (a) byddai hynny’n lleihau osgoi treth gan y byddai cyfradd gyfartalog is, felly byddai'n cynyddu'r cynnyrch a chadw'r cynnyrch lle byddai fel arall ar gyfer y sector cyhoeddus, a gallai Awdurdod Refeniw Cymru yn syml drosglwyddo hanner cost yr arian sy'n cael ei godi drwy'r dreth i Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt setlo ar ddiwedd y flwyddyn, fel y byddai ar y cyfan yn cael ei wneud ar sail gyfiawn a rhesymol, yr wyf yn cynnig y gellir dadlau sydd yn gyson â'r deddfu yn y DU, er fy mod yn cyfaddef bod heriau o ran cymhwysedd.

Fy ail welliant yw gwelliant 36, ac ar hwn byddem ni fel Cynulliad yn ystyried bod dosraniad cyfiawn a rhesymol yn gyfystyr naill ai â rhaniad 50/50, fel nad oes yn rhaid i'r trethdalwr boeni am faint o dir neu adeilad sydd mewn un lle penodol neu’i gilydd, neu, fel arall, rydym yn syml yn ystyried bod arwynebedd tir y teitl, beth bynnag yw hynny yn ôl y map yr ydym yn disgwyl i'r Gofrestrfa Tir ei ddatblygu—pa bynnag gyfran sydd yng Nghymru, pa bynnag gyfran sydd yn Lloegr o arwynebedd tir y teitl—dyna ddylai fod y dosraniad cyfiawn a rhesymol. Rwy’n meddwl, pe byddem yn rhoi'r opsiwn hwnnw i'r trethdalwr, byddai'n broses llawer symlach a haws i'r trethdalwr, gan warchod y refeniw a fyddai'n cronni i'r Cynulliad hwn o Dreth Trafodiadau tir.

Diolch i chi, Llywydd.  A ydych yn dymuno i mi gynnig fy ngwelliant?

Ie? [Torri ar draws. ] Iawn, siaradaf amdano yn y grŵp.  Mae'n ddrwg gennyf.  Mae amser maith—mae amser maith ers i mi wneud Cyfnod 3, Llywydd.

Rwyf wedi fy nallu gan esboniad Mark Reckless yno ar gyfer cynnig ei welliannau—hapus i gefnogi hynny.

Iawn, rwy’n awyddus i gynnig fy ngwelliant 32, sydd yn unol â gwelliannau 35 a 37 Mark Reckless. Fel yr eglurodd Mark Reckless, credwn y bydd y gwelliant hwn—ei welliant ef—yn symleiddio trafodiadau tir trawsffiniol. I'r rhai ohonoch nad oedd yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid yn ystod y broses Cyfnod 2 yr aethom drwyddi, ac fe fentraf eich bod yn rhoi ochenaid o ryddhad erbyn hyn nad oeddech, roedd llawer o faterion a gododd o faterion trawsffiniol, yr ydym yn credu oedd angen edrych arnynt ac oedd angen eu symleiddio. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet roi llawer o resymau da ymlaen yn erbyn pam na ddylid mynd ar drywydd ein gwelliannau ar yr adeg honno, ond serch hynny, credwn fod symlrwydd wrth ymdrin â'r materion trawsffiniol yn bwysig iawn. Mae hwn yn faes cwbl newydd i Lywodraeth Cymru—maes newydd, yn wir, ar gyfer ymarferwyr ar draws y ffin yn Lloegr yn ogystal—felly mae'n bwysig ein bod yn cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn.

Mae fy ngwelliant 32 yn adlewyrchu pwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Cyllid yn ystod Cyfnod 2, pan nododd bod mapiau digidol ar gael gan y Gofrestrfa Tir ac yn cynnig cyfle i'r pwyllgor weld y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gan y Gofrestrfa Tir.  Credwn y bydd hyn—yn dilyn ymlaen o bwyntiau Mark Reckless— yn darparu dosraniad mwy penodol ar gyfer eiddo trawsffiniol, a fyddai'n rhannu'n deg y refeniw treth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a Chyllid a Thollau EM. A dyna beth yr ydym yn credu y mae’r gwelliannau hyn yn y grŵp hwn yn ymwneud â nhw.  Mae'n ymwneud â darparu symlrwydd, mae'n ymwneud â rhoi sicrwydd—rydym yn chwilio am drosglwyddiad llyfn o dreth y dreth stamp yn y DU i'n treth trafodiad tir, ac mae’r gwelliannau hyn yn cael eu hanelu at wneud hynny.

Os caf fi sôn yn fyr am welliant 29—byddwn hefyd yn cefnogi hwnnw, gan ein bod yn credu ei fod yn helpu Awdurdod Cyllid Cymru i gymhwyso arferion gorau mewn perthynas â thir sydd n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

Hoffwn gyflwyno gwelliant 29 yn ffurfiol. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 9 y Bil, sy’n golygu bod angen i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â thir neu eiddo sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr. Roedd natur y broses ar gyfer delio â thrafodiadau trawsffiniol yn ogystal ag union leoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi ysgogi llawer o ddiddordeb a thrafodaeth yn y pwyllgor, ac roeddem ni wedi sylweddoli bod nifer yr eiddo a oedd yn gallu cael eu heffeithio yn fwy na thybiwyd yn gynt. Ond roeddem ni hefyd wedi sylweddoli nad Cymru yw’r unig wlad ar y ddaear sydd yn rhannu ffin gyda gwlad arall, ac felly, wrth gwrs, roedd yna fodd ffeindio ateb i hyn.

Mae’r pryderon ynghylch sut fyddai’r dreth yn gweithredu yn rhai digon dealladwy a chredwn ei bod hi’n ddisgwyliad rhesymol gan berchnogion eiddo ac ymarferwyr treth fod gwybodaeth glir ar gael am sut y bydd y dreth newydd hon yn gweithredu mewn cysylltiad ag eiddo trawsffiniol. Mi fyddai’r gwelliant yma yn mynd i’r afael â’r ddau ofid trwy osod disgwyliadau ar Awdurdod Cyllid Cymru i gyhoeddi canllawiau ar gyfer trafodiadau trawsffiniol yn ogystal â chanllawiau ar leoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r gwelliant yma yn datblygu, felly, ar welliant tebyg a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 2 a oedd yn canolbwyntio ar ddynodi’r ffin yn unig ac, yn yr un modd, yn mynd ymhellach na gwelliant 32 a gyflwynir yn enw Nick Ramsay.

Member
Mark Drakeford 16:06:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Gan mai dyma fy nghyfraniad cyntaf i’r trafodaethau heddiw, hoffwn i wneud rhai sylwadau cyffredinol, ac, wrth gwrs, rydw i’n croesawu’r cyfle i ystyried gwelliannau i’r Bil heddiw. Rydw i am ddiolch yn swyddogol i holl Aelodau’r Cynulliad, yn arbennig aelodau’r Pwyllgor Cyllid, am eu gwaith yn craffu ar y Bil. Mae hyn wedi bod yn werthfawr iawn wrth helpu i lunio’r ddeddfwriaeth dreth yma.

Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod i wedi rhoi ymateb manwl i argymhellion y pwyllgor yn ystod Cyfnod 1, ychydig ar ôl y Nadolig, ac fy mod i wedi cyflwyno amrywiol welliannau mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor yn ystod Cyfnod 2 ym mis Ionawr. Hefyd, rydw i am ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cyflwyno’r gwelliannau y byddwn yn eu trafod heddiw. Fe allaf i sicrhau Aelodau fy mod i wedi astudio pob set o welliannau’n ofalus. Hefyd, fe wnes i gyfarfod Aelodau yn dilyn trafodion Cyfnod 2 er mwyn trafod ymhellach ac edrych ar ddulliau gweithredu rhannau penodol o’r Bil.

Llywydd, nawr byddaf yn siarad am bob gwelliant yng ngrŵp 1.

Well, Llywydd, as you’ve heard, the issue of cross-border and cross-title properties has been of particular interest during the passage of this Bill. The Government’s aim throughout has been to achieve a just and reasonable apportionment of costs when land lies on both sides of the border, based on advice from stakeholders that this test will need to be applied practically in each case. Now, I accept that all of the amendments in this group are put forward with the constructive intent of addressing issues raised in scrutiny, but, in practical terms, amendment 29 seems to me to be of the most material and effective use in applying the test, and I will ask Government supporters to support amendment 29 in this group.

As Members have heard, that amendment will place a very clear obligation on the Welsh Revenue Authority to publish guidance to assist taxpayers when land is bought that lies on both sides of the Welsh and English border. That guidance will help to clarify what is meant by ‘just and reasonable’ apportionment. This guidance may include links to the Valuation Office Agency’s website, which itself contains considerable guidance on apportionment.

I’m very pleased to be able to confirm again to Members this afternoon that the Land Registry is able to provide digital maps that identify the border between Wales and England. This will assist the taxpayer or their agent to establish, on a just and reasonable basis, the part of the consideration that was given for the land in Wales and that part of the consideration given for the land in England. This means that the guidance provided by amendment 29 will be firmly and reliably based.

Amendment 32 in the name of Nick Ramsay and amendment 36 in the name of Mark Reckless take a different approach. Rather than requiring guidance to help arrive at a just and reasonable apportionment in each case, they propose a formula, which, as you’ve heard, is justified as bringing clarity and certainty. Unfortunately, Llywydd, the one outcome of which we can be absolutely certain is that this formulaic approach would produce unfair and unjust apportionment in many cases. Very few cases would, in reality, lie in exactly 50/50 proportions on either side of the border, and even where proportions were exact, the value of the land is not simply a reflection of its size. Once that is understood, that the value of land is determined, for example, by the use which can be made of it or the buildings which have been constructed on it, and not exclusively by its size, then the apparent clarity of a second test in amendment 36 also falls away. It is far better, I believe, to allow those skilled professional workers, who deal routinely with such matters as just and reasonable apportionment, to apply that judgment in the facts of each transaction—assisted now by the guidance created by amendment 29, and by the safeguards already provided by the Bill.

Llywydd, even if amendments 32 and 36 were not defective for the reasons just provided, it is important to recognise that the arrangements set out in them would not apply to stamp duty land tax, which would continue to operate on the English side of the border. The taxpayer would still have to comply with the SDLT rules on just and reasonable apportionment. It’s for these reasons that I’m unable to support those amendments. Amendments 35 and 37, tabled by Mark Reckless, are linked. The amendments seek to ensure that a cross-border transaction is to be treated by the buyer as a single transaction and a nil return may therefore be made to HMRC in relation to SDLT, with the Welsh Revenue Authority paying to HMRC what is due to them from the taxpayer. This would mean that the WRA would apportion the consideration and hand over the relevant share to HMRC. The amendment would effectively require WRA to collect and manage SDLT on behalf of HMRC for cross-border transactions. That, in itself, would change the tax from a self-assessed tax to one in which the WRA establishes a taxpayer’s liability, both for LTT and SDLT.

Now, I cannot support these amendments, which in my view would fall outside the Assembly’s competence, as the provisions intend to change how SDLT will apply to a land transaction in England. And by providing for nil tax returns to be made to the HMRC, they appear to impose a function on HMRC without the Treasury’s consent. Furthermore, the amendments do not remove the current obligation in UK legislation for the buyer to submit a return to HMRC. Its impact, therefore, is that the buyer would actually need to submit two returns to HMRC—the nil return required under this amendment, and the return on a just and reasonable basis, which would still go on being required by SDLT legislation. I ask Members to vote for amendment 29, and to oppose the other four amendments in this group.

Galwaf ar Marc Reckless i ymateb i’r ddadl. Mark Reckless.

Diolch, Lywydd. Rwy’n diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu sylwadau, ac yn cydnabod, gyda Nick Ramsay, ein bod yn ceisio gwneud uchelgais eithaf tebyg gydag ein gwelliannau 36 a 32. Nodaf gryfder ateb Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid o ran materion cymhwysedd o amgylch 35, ac nid oeddwn ond wedi ceisio cyflwyno gwelliant a allai fod yn ddadleuadwy. Rwy’n derbyn ei farn fod hynny'n ymestyniad, ac nid fy lle i yw herio materion cymhwysedd a gwneud rhyw haeriad mawr o rym y Cynulliad dros ddeddfwriaeth y DU yn hyn o beth. Roeddwn yn meddwl y byddai'n haws braidd i drethdalwyr yn gyffredinol. Fodd bynnag, rwy’n meddwl bod y syniad naill ai o raniad 50/50 neu yn syml ddosrannu'r dreth ar sail arwynebedd y tir a thybio bod hynny'n gyfiawn a rhesymol yn synhwyrol, a byddai hynny'n cael ei gyflawni naill ai drwy fy ngwelliant i fy hun neu drwy welliannau Nick Ramsay. Ac, a dweud y gwir, byddai'n gwneud pethau'n llawer haws i bawb dan sylw, gan diogelu sylfaen y dreth ar yr un pryd. Felly, nodaf bwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet, ond dydw i ddim yn siŵr pa deilyngdod neu ddefnydd sy’n cael ei wasanaethu gan y dadleuon hynny, pryd y gallwn mewn gwirionedd godi arian ac ysgafnhau baich gweinyddol pawb os ydym yn derbyn naill ai welliant Nick Ramsay neu fy un i. Fy mwriad, Llywydd, os yw hyn yn dderbyniol, fyddai peidio â gwthio 35 i bleidlais, ond i edrych i bleidlais ar welliant 36 gan fy ngrŵp.

Mae gwelliant 35 wedi'i gynnig.  Os yw pawb yn hapus gyda'r ffaith na phleidleisir arno, byddaf yn derbyn nad oes angen pleidleisio ar y gwelliant hwnnw.

Tynnwyd gwelliant 35 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12. 27.

Gan hynny, byddwn yn symud at welliant 37.

The question is that—

Mae angen i chi i gynnig gwelliant 37 yn ffurfiol.  A ydych yn gwneud hynny, Mark Reckless?

Rwy'n credu y byddai gwelliant 37, Llywydd, yn ganlyniadol i welliant 35, felly, rwyf hefyd yn ceisio caniatâd i dynnu'n ôl neu beidio â phleidleisio ar 37, ond yn ceisio pleidlais ar 36.

Nid yw’n cael ei gynnig; felly, nid oes angen pleidlais.

Ni chynigiwyd gwelliant 37 (Mark Reckless).

Nick Ramsay, nawr gallwch gynnig gwelliant 32 yn ffurfiol.

Rwy'n credu fy mod wedi ei gynnig, ond efallai fod hynny wedi bod yn gamgymeriad yn gynharach.  Roedd hynny yn dilyn eich cyngor, a dyna pam y gofynnais y cwestiwn cychwynnol.

Ie, rwy’n meddwl eich bod yn anghywir i ddilyn fy nghyngor a chynnig y gwelliant.  [Chwerthin. ]

Nawr fe allwch chi ddilyn fy nghyngor a’i gynnig yn awr.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Nick Ramsay).

Dydw i ddim yn mynd i ddweud dim mwy heblaw fy mod yn cynnig gwelliant 32.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi cwympo.

Gwrthodwyd gwelliant 32: O blaid 17, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 32.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Mark Reckless).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn eto, felly, i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 36: O blaid 17, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Steffan Lewis).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 2: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth (Gwelliannau 38, 39, 33, 40, 41, 42)

Y grŵp nesaf yw grŵp 2, sy’n ymwneud â chyfraddau treth a bandiau treth. Gwelliant 38 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar Mark Reckless i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Reckless.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Mark Reckless, gyda chefnogaeth Nick Ramsay).

Diolch, Llywydd, ac rwy’n addo ildio’r llawr i eraill cyn bo hir fel y gwneuthum gyda’r prif welliannau ar y ddau grŵp cyntaf.  Fe wnes i addasu fy nghyfres flaenorol o welliannau yng ngoleuni'r hyn a glywsom yn ystod y cam pwyllgor a nifer o welliannau eraill yr euthum ar eu trywydd bryd hynny nad ydw i’n mynd ar eu trywydd yma. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn yr un ffurf ag a roddais i'r pwyllgor, ac rwy’n credu ei fod yn newid allweddol o egwyddor.  Derbyniodd ddwy bleidlais yn y pwyllgor, tri yn erbyn a dau ymataliad.  Felly, rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth gwerth ei roi i'r Siambr yn ei gyfanrwydd.

Rydym wedi cael dadleuon gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hyn, ac rwy’n meddwl bod cwpl o faterion allweddol sy'n bwysig.  Mae sicrwydd i drethdalwyr.  Rydym i gyd yn cytuno bod hynny’n rhywbeth sy’n ddeniadol ac y dylem ei gael i'r graddau mwyaf posibl.  Roedd y pwyllgor, rwy’n meddwl, yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet, os cofiaf yn iawn, wedi gwneud addewid yng Ngham 2, ei fod, erbyn mis Hydref, yn mynd i gyhoeddi yn ffurfiol beth fyddai'r cyfraddau pan fyddai’r dreth trafodiadau tir yn cychwyn fis Ebrill nesaf, y flwyddyn nesaf .  Ei fwriad drwyddi draw, fel y mae wedi cyfleu, rwy’n deall, yw cael y cyfraddau hynny yn parhau ar yr un sail ag y mae treth dir y dreth stamp wedi cael ei chymhwyso ar sail y DU, er, wrth gwrs, mae'n bosibl y gallai’r Canghellor ar lefel y DU newid y cyfraddau hynny i raddau rhwng nawr a phryd hynny. Mae'n dda y bydd gennym sicrwydd, o leiaf o fis Hydref, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny.  Mae'n iawn hefyd bod y cyfraddau, pan fyddant yn dod, a newidiadau i'r cyfraddau hynny yn mynd drwy weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.  Unwaith eto, mae hynny’n rhoi lefel o ddiogelwch o ran mewnbwn gan Aelodau ar ba bynnag safbwynt a gymer y Llywodraeth ynghylch yr hyn y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Fodd bynnag, ni fydd penderfyniad o'r fath yn agored i ddiwygiad; mae’n dod gan Weinidog, dyna ei farn ef, ac mae naill ai'n cael ei dderbyn neu ei wrthod, ac nid yn offeryn sylfaenol llawn, deddfwriaethol y Cynulliad hwn.

Felly, rwy’n meddwl mai dyna bwyntiau’r ddadl yno, ond rwy’n meddwl bod gwell dadl, ac un o egwyddor yw honno.  Dyma'r dreth gyntaf yn y cyfnod modern sy'n cael ei datganoli i'r Cynulliad hwn i'w gweinyddu, i godi, ar ran pobl Cymru, ac mae'n ymddangos i mi—ac, mi dybiwn i, efallai i nifer ehangach o Aelodau—y byddai'n iawn i ni, fel y deddfwyr a etholwyd gan bobl Cymru, i benderfynu pa gyfraddau treth y dylent eu talu, yn enwedig ar yr adeg arwyddocaol iawn hwn ac, i rai yn y Siambr hon, yn gyflawniad pwysig iawn, o ran yr adeg honno, i fod yn codi’r dreth honno fel Cynulliad etholedig. Eto, cynigir yn lle hynny na fyddwn yn cymryd y penderfyniad hwnnw, na fydd y cyfraddau hynny ar wyneb y Bil, a byddwn yn ei adael i ddisgresiwn gweinidogol i’w benderfynu yn ddiweddarach yr hyn y dylai’r cyfraddau hynny fod, ac y dylem ar y gorau gael proses eilaidd lle na allwn ond gwrthod neu dderbyn ac nid ydym ein hunain yn ysgrifennu a phenderfynu ac ystyried beth y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Felly, rwy’n cyflwyno gwelliant 38 er mwyn rhoi cyfle i'r Cynulliad i roi ei farn yn ei gyfanrwydd, ac rwy’n edrych yn benodol at Blaid Cymru, fel y maent yn galw eu hunain, a ataliodd ar y cam pwyllgor ar hyn, ac y mae hwn yn fater o bwys mawr iddynt ac efallai i rai yn gam allweddol ar y ffordd i Gymru annibynnol, ac eto, pan ddaw i’r pen, ni fyddant—oni bai eu bod yn gwneud rhywbeth yn wahanol na'r hyn yr wyf yn disgwyl—yn mynnu hawliau’r Cynulliad hwn i siarad dros bobl Cymru i ni fel deddfwyr etholedig i bennu cyfraddau treth, ond yn hytrach bydd yn caniatáu hynny i Weinidogion.

Rwy'n fwy na pharod i gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, fel y’i cynigiwyd gan Mark Reckless. Roedd y prif welliant yn destun, fel y dywedodd Mark, llawer o drafod yng Ngham 2, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i'w gefnogi. Rwy'n credu ei bod yn synhwyrol i gael cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer bandiau treth ar wyneb y Bil. Mae’n digwydd mewn lleoedd eraill; does dim rheswm pam na allem osod y cynsail hwnnw yma a darparu'r math o eglurder a sicrwydd ar gyfer ymarferwyr a rhanddeiliaid y mae eu hangen arnynt unrhyw bryd pan ydych yn cael trawsnewid o un gyfundrefn dreth i un arall. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu yn y wireb o gysondeb; mae hynny wedi cael ei nodi gan Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, gan ei ragflaenydd, arweinydd presennol y tŷ. Felly, er mwyn helpu’r pontio o system y DU i'r system yng Nghymru, byddai cael cymaint o wybodaeth ag y bo modd ymlaen llaw, ar wyneb y Bil, neu sut bynnag yr ydych am ei wneud, rydym yn credu yn fuddiol.

Nawr, wedi dweud hynny, rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn anesmwyth ynglŷn â gwneud hyn. Efallai eu bod yn teimlo fod eu dwylo wedi’u clymu ar bwynt rhy gynnar. Felly, rwy’n aros i weld beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud o ran delio â'r mater hwn, ac, os mai cyfaddawd fydd, ar ddyddiad penodol a bennir cyn y mae’r dreth hon, y Dreth Trafodiadau tir , yn dod i rym yng Nghymru—os, ar ryw ddyddiad gallwn gael sicrwydd o wybod beth fydd y cyfraddau treth, yna rwy'n credu y bydd hynny'n gyfaddawd. Ond bydd yn gyfaddawd yn absenoldeb ffordd well o wneud pethau, ac rwy'n credu bod angen i ni, fel Cynulliad, ac fel yr ydym wedi ei wneud gyda’r Pwyllgor Cyllid, i gael trafodaeth am sut yn union y byddwn yn bwrw ymlaen â pholisi cyllidol yn y lle hwn wrth i ddatganoli trethi a phwerau cyllidol ddigwydd, a byddai Bil cyllid ar ryw adeg yn y dyfodol yn fodel yr wyf yn meddwl y dylem edrych arno fel ffordd well o fynd ymlaen a rhoi’r sicrwydd hwnnw sydd ei angen ar bobl. Ond rwy’n fwy na hapus i gefnogi gwelliant Mark Reckless.

Mae'r gwelliant dilynol gennyf i yn y grŵp hwn yn gysylltiedig ag ef, ac mae’n symud ymlaen ymhellach o hynny, lle byddwn—.  Pan fyddaf yn dod o hyd i fy nhudalen—.  Mae'r gwelliant yn darparu trefniant trosiannol er mwyn rhoi sicrwydd i’r farchnad eiddo, ac mae ein gwelliant yn benodol yn gysylltiedig â'r ffordd y mae cyfraddau gan Lywodraeth yr Alban wedi eu pennu. Felly, dwi'n hapus i gefnogi hyn.

Dydw i ddim yn hollol siŵr os oedd Mark Reckless yn cynnig, os byddwn yn cefnogi’r gwelliant hwn, y byddai'n dod ar draws at y mater o annibyniaeth i Gymru.  Rwy'n credu bod UKIP yn ymbalfalu am genhadaeth newydd ac ystyr newydd i'r gair 'annibyniaeth', felly—.  Mae'n ymddangos i olygu pob math o bethau o Nathan Gill i Douglas Carswell ac yn ddiamau rhywbeth newydd gan Mark Reckless.  Ond byddwn yn aros i weld.

Nid oes amheuaeth—ac roedd cytundeb trawsbleidiol yn y pwyllgor, mae'n wir— pan fyddwch yn pasio deddfwriaeth dreth, mae'n well i roi'r cyfraddau treth naill ai ar wyneb y ddeddfwriaeth neu mewn deddfwriaeth sylfaenol, oherwydd dylem i gyd yma fod yn pleidleisio ar gyfer cyfraddau trethi.  Ni ddylem adael i Weinidogion benderfynu arno.  Ni ddylem adael iddynt benderfynu dros y Pasg neu'r Nadolig, ac yna yn sydyn cael ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n bleidlais ‘cymerwch ef neu beidio’ ar ryw fath o is-ddeddfwriaeth.

Ond rydym mewn sefyllfa braidd yn anodd gan nad oes gennym y pwerau cyllidol deddfu llawn a fydd yn dod o Ddeddf Cymru 2017. Nid ydynt yn dechrau, yn ôl pob tebyg, tan fis Ebrill 2018.  Nawr, pan fyddant yn dechrau, yna rwy’n gobeithio—ac mae'n sicr yn fwriad gan y Pwyllgor Cyllid, rwy’n gobeithio gyda chefnogaeth yr holl bleidiau yn y lle hwn—ein bod wedyn yn ymgysylltu ac yn cychwyn ar weithdrefn Bil cyllid priodol.  Dyna beth sy'n digwydd yn Senedd yr Alban.  Mae cyllidebau yn cael eu cymryd drwyddo gan Fil cyllid.   Mae cyfraddau treth yn cael eu datgan.  Rydych yn gweld yn glir yr hyn yr ydych yn pleidleisio o’i blaid a goblygiadau'r hyn yr ydych yn pleidleisio o’i blaid.  Does dim amheuaeth, fel y casglodd Nick Ramsay, rwy’n meddwl, gyda’i sylwadau, mai dyna'r ffordd orau ymlaen.

Y cwestiwn sydd gennym yn awr, fodd bynnag, yw sut yr ydym yn trin y Bil hwn heb y pwerau hynny, a heb y pwerau hynny wedi cychwyn eto gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n alwad anodd, ac yn sicr fe wnaethom gyflwyno gwelliant yn y pwyllgor oedd yn rhoi cyfraddau ar wyneb y Bil i brofi beth fyddai ymateb y Llywodraeth. Ymateb y Llywodraeth i bob pwrpas yw dweud eu bod yn addo—ac mae gennym ymrwymiad y pwyllgor yr wy’n credu y gellir ei orfodi yn y termau hynny—i ddwyn ymlaen y cyfraddau a’r bandiau treth erbyn mis Hydref eleni. Nawr, o safbwynt Plaid Cymru, mae hynny’n rhoi'r math o sicrwydd sydd ei angen ar y rhai sydd â diddordeb mewn trethi yng Nghymru. Mae'n ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y gallwn eu galw i gyfrif, ond nid yw'n golygu ein bod yn ymgilio o'r pwynt sylfaenol y bydd, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, yn rhaid i ni weithio i roi deddfwriaeth treth drwy'r lle hwn fel dull Bill cyllid sylfaenol. Mae hynny'n rhywbeth y mae’r Pwyllgor Cyllid ei hun yn awyddus i’w wneud—cymryd tystiolaeth gan ddeddfwrfeydd eraill, a gweld sut y caiff ei wneud mewn deddfwrfeydd eraill, a gweld sut y mae'n cael ei wneud mewn mannau eraill drwy'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae'n rhywbeth yr ydym am weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet arno, ac, yn yr amgylchiadau hynny, rwy’n meddwl ei bod yn briodol ac yn ganiataol, os hoffwch chi, i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â'r Bil yn y ffurf bresennol, gyda'r addewid y byddwn yn clywed y cyfraddau trethiant llawn yn yr hydref. Ar y sail honno, ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Diolch, Llywydd.  Rwy'n cydnabod y bydd trethdalwyr a busnesau eisiau sicrwydd ynghylch faint o dreth y byddant yn ei thalu dan y dreth trafodiadau tir cyn Ebrill 2018.  Fodd bynnag, fy marn i yw y byddai cynnwys cyfraddau a bandiau ar wyneb y Bil hwn, ar hyn o bryd, 12 mis o hyd cyn y bydd y dreth yn cael ei datganoli i Gymru, rwy’n credu, yn cynnig golwg a allai fod yn gamarweiniol o sicrwydd heb y sylwedd angenrheidiol.

Mae Mark Reckless yn credu bod y ddeddfwrfa rhywsut yn ildio ei huchelfraint i'r Weithrediaeth drwy beidio â rhoi cyfraddau a bandiau ysgrifenedig ar wyneb y Bil, ac rwy'n credu bod hynny'n camgymryd am ddau reswm. Yn gyntaf, byddai mynnu bod y ddeddfwrfa yn pennu cyfraddau a bandiau ar y pwynt hwn yn gwahodd yr Aelodau i wneud penderfyniad o'r fath yn absenoldeb y wybodaeth angenrheidiol i wneud y penderfyniad hwnnw mewn ffordd gytbwys. Yn ail, mae ei ddadl yn awgrymu bod penderfyniadau yn y dyfodol wedi cael eu hildio heb eu gwirio i'r Weithrediaeth. Mewn gwirionedd, yr hyn a fydd yn digwydd fydd cynnig gan y Llywodraeth, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn craffu ac yn penderfynu arno.

Nawr, Llywydd, perswadiwyd fi gan ddadleuon a wnaed yng Nghyfnod 2 i wneud ymrwymiad i gyhoeddi cyfraddau a bandiau arfaethedig Llywodraeth Cymru erbyn 1 Hydref 2017. Yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt—ac rwy’n derbyn yn llwyr y pwyntiau y mae Simon Thomas wedi’u gwneud ynghylch yr angen i ddyfeisio system wahanol ar gyfer gwahanol amgylchiadau yn y dyfodol, ond, yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt y flwyddyn hon, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiad y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ac yn cyhoeddi ein cyfraddau a’n bandiau arfaethedig erbyn 1 Hydref 2017. Yna gellir craffu ar y cynigion hyn mewn modd gaiff ei lywio gan yr holl wybodaeth arall a fydd yn rhan o'r broses o wneud y gyllideb. Mae amseru o'r fath hefyd yn caniatáu i unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i gyllideb hydref y Canghellor gael eu hadlewyrchu yn y rheoliadau a ddaw gerbron y Cynulliad hwn i'w hystyried gan y Cynulliad hwn a phenderfyniad y Cynulliad hwn. Mae hyn, rwy’n credu, yn darparu sicrwydd sy'n real ac yn ddibynadwy i randdeiliaid, ac yn sicrhau goruchwyliaeth gyfreithlon a chyfrifoldeb gwneud penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 30 i 42 yn enw Mark Reckless.

Mae gwelliant 33, a gyflwynwyd gan Nick Ramsay, yn cael yr effaith o drosglwyddo rheolaeth lawn dros y cyfraddau a bandiau i Lywodraeth y DU tan fis Ebrill 2019, heb unrhyw gyfle i Weinidogion Cymru gynnig unrhyw newidiadau neu i'r Cynulliad eu cymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Nawr, Llywydd, mae sicrhau pwerau cyllidol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi bod yn broses hirfaith, yn ymestyn yn ôl yn awr drwy gomisiwn, proses Dydd Gŵyl Dewi, Deddf Seneddol, Deddf y Pedwerydd Cynulliad i sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, negodi fframwaith cyllidol yn yr hydref, a'r Bil gerbron yr Aelodau'r prynhawn yma. Nid yw’n ymddangos i mi bod rhoi’r penderfyniad cyntaf y dylem ei gymryd mewn 800 mlynedd ar gyfraddau a bandiau trethi Cymru yn ôl i'r corff y mae’r cyfrifoldebau hynny newydd gael eu datganoli ohono yn ffordd o weithredu a fyddai'n cymeradwyo ei hun i lawer o Aelodau yma'r prynhawn yma. Ac mae'n rhaid i mi ofyn i Aelodau—

[Yn parhau. ] —bleidleisio yn erbyn gwelliant 33.

Mae'n ddrwg gen i.  Wrth gwrs, ie.

Diolch am gymryd fy ymyriad. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bod ychydig yn ddireidus, efallai gyda rhywfaint o gydgynllwynio Plaid Cymru nad oedd Aelod y prif welliant na fi yn ymwybodol ohono yn gynharach. Ond, na, yn sicr nid dyna’r bwriad. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei hun, y bwriad yw i'r trethi hyn beidio â dod i rym tan Ebrill 2019. Felly, nid yw ein cais bod y cyfraddau treth ar gael cyn hynny ac y dylai fod sicrwydd yn ymwneud â dosbarthu pwerau yn ôl i'r corff o ble y daethant, mae'n ymwneud â sicrwydd. Ond rwy’n deall o ble’r ydych chi'n dod gyda chyfaddawd o ddyddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a derbyniaf hynny. A wnewch chi, o leiaf, yn y dyfodol, ystyried Bil cyllid fel y gallwn drafod y materion ariannol hyn yn y Siambr hon yn llawer mwy effeithiol nag ydym yn ei wneud ar hyn o bryd?

Wel, Cadeirydd, clywais Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Siambr yr wythnos diwethaf yn dweud ei fod yn gobeithio y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn gwneud rhywfaint o waith ar y syniad o Fil cyllid, gan gymryd tystiolaeth o fannau eraill, gweld sut y gellir ei addasu i’r gyfres o drethi datganoledig sydd gennym ar gael i ni yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gydweithio adeiladol gyda'r Pwyllgor Cyllid yn y gwaith pwysig hwnnw.

Galwaf ar Mark Reckless i ymateb i’r ddadl—Mark Reckless.

Diolch, Llywydd.  Mae Nick Ramsay yn honni, wrth gyfeirio at feirniadu ar ei welliannau, at gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Dydw i ddim yn hollol siŵr faint o ryngweithio sy’n mynd ymlaen ac a yw'n cael ei alw yn briodol yn gydgynllwynio, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi trafferth i eraill yn y Cynulliad hwn sydd yn amlwg iawn ar yr wrthblaid ynghylch p’un a ydym yn craffu ar ryw raddau o gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, neu a ydym ni'n syml, yn edrych ar y Llywodraeth.  Rwy’n siomedig gyda datganiad y Blaid na fyddant yn cefnogi'r gwelliant hwn. Rwy’n tybio ei bod fwyaf tebygol bod hynny’n golygu y byddant yn ymatal.  Efallai mai dyna ran o'u cytundeb gyda Llafur eu bod yn ymatal ar y mesurau cyllid, ac eithrio pan oedd gennym yr ail gyllideb atodol, am ryw reswm, ond yna gadawsant i hwnnw fynd drwyddo beth bynnag.

Ond nid wyf yn credu ei bod yn deg i gymryd golwg ddeuol iawn fel hyn, ac nid wyf eisiau bod yn rhy gryf yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud am y ddeddfwrfa yn erbyn y Weithrediaeth. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorliwio braidd yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud fel yr oedd yn ei ailadrodd. Os yw’r dreth hon yn dod i mewn ac, rhywbeth fel Ebrill y flwyddyn nesaf, rydym yn gosod y cyfraddau am y tro cyntaf, y cwbl y mae gwelliant Nick Ramsay yn ei ddweud yw y dylem, am y flwyddyn gyntaf, ei gadw yn unol â chyfraddau’r DU. Ac, fel yr wyf wedi deall oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet drwy’r pwyllgor, mae wedi bod yn dweud yn union yr un peth—pa mor bwysig yw hi i gael hyn mewn trefn ac i ganiatáu i'r dreth setlo i lawr heb orfod newid o dreth dir y dreth stamp am y cyfnod cynnar tra bod y dreth yn ymsefydlu, ac mae ef ei hun, cyn belled ag y gallaf ddirnad, yn dweud bod yn rhaid i ni beidio rhoi'r cyfraddau treth hyn ar wyneb y Bil, oherwydd, ymhlyg, pe bai Llywodraeth y DU yn newid treth dir y dreth stamp, yna byddai'n rhaid i ni newid ein hun ni, felly byddem yn rhoi sicrwydd ffug i bobl drwy eu rhoi ar wyneb y Bil pe baem yn ddiweddarach yn mynd i’w newid os byddant yn newid ar lefel y DU. Ond mae'n fater syml o egwyddor. Dylem ni, fel y deddfwyr, dylem ni fel y bobl etholedig, yn y pen draw benderfynu beth yw cyfradd y dreth. Rhowch ef ar wyneb y Bil, byddwch yn driw i’ch egwyddorion. Os yw hon yn gam mor fawr tuag at fwy o hunanlywodraeth, boed yn gorffen mewn annibyniaeth neu fel arall, fel y byddai rhai Aelodau yn dymuno ac na fyddai pobl eraill, nid dyma’r ffordd iawn ar gyfer proses allweddol wrth adeiladu gwladwriaeth i’r penderfyniad hwnnw gael ei ddirprwyo i Weinidogion gan y ddeddfwrfa pan mae mor bwysig â rhoi’r cyfraddau treth cychwynnol hynny y bydd yn rhaid i drethdalwyr eu talu. Felly, am y rheswm hwnnw, byddaf yn awyddus i gynnig gwelliant 38.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, naw yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 38: O blaid 17, Yn erbyn 29, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 38.

Gan ei fod yn ddilynol at y gwelliant sydd newydd gael ei drechu, ni fyddaf yn cynnig 39.

Ni chynigiwyd gwelliant 39 (Mark Reckless, gyda chefnogaeth Nick Ramsay).

Cynigiwyd gwelliant 33 (Nick Ramsay).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 33: O blaid 17, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 33.

Yn yr un modd, Llywydd, nid yw 40 yr holl ffordd hyd at 42 yn welliannau yr wyf am eu cynnig, o ystyried y penderfyniadau allweddol a’r egwyddorion sy'n cael eu cymryd.

Ni chynigiwyd gwelliant 40 (Mark Reckless).

Grŵp 3: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth—Sylwadau gan Awdurdodau Lleol (Gwelliant 30)

Felly, rydym yn symud ymlaen at grŵp 3 ac mae grŵp 3 yn ymwneud â sylwadau gan awdurdodau lleol ar gyfraddau treth a bandiau treth. Gwelliant 30 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp yma. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig ei welliant ac i siarad am y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Steffan Lewis).

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 24 sy’n ymwneud â bandiau a chyfraddau treth. Effaith y gwelliant fyddai galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno sylwadau a chynigion arloesol ynghylch bandiau a chyfraddau treth trafodiadau tir i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn cyflwyno cyfle euraidd i deilwra gweithredu’r dreth yn unol ag amcanion polisi amrywiol y Llywodraeth ond hefyd yn ôl anghenion penodol gwahanol gymunedau Cymru.

Mae hwn yn gyfle mawr y bydd y Llywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu manteisio arno. Bwriad ein gwelliant, felly, yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn medru archwilio posibiliadau’r Bil hwn ac i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru yn y gobaith o weithredu ar y fath bosibiliadau. Er enghraifft, mae’n ddigon posib y gall awdurdod lleol weld yr angen dros amrywio cyfradd uchaf y dreth ar eiddo preswyl ychwanegol o fewn ardal benodedig sydd o dan ei reolaeth. Mae’n ddigon rhesymol, felly, bod awdurdod lleol yn medru gwneud sylw i Lywodraeth Cymru ynghylch y fath amrywiad i’r dreth ac mae’r gwelliant yma yn diogelu bod modd iddynt wneud hyn yn y dyfodol ac yn ffurfiol. Ond, wrth gwrs, rwyf yn gobeithio y bydd yna werthfawrogiad ar draws y Siambr mai’r bwriad yma yw i fod yn greadigol ac i weld a oes yna ffyrdd o ddefnyddio ein pwerau ‘fiscal’—newydd, bychain ar hyn o bryd—er mwyn gweithredu ar amcanion polisïau mwy eang. Bydd diddordeb mawr gennym ar y meinciau yma i wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwyf o blaid creadigrwydd, ond mae gwahaniaeth rhwng creadigrwydd ac ansefydlogi.  Rwy’n meddwl, er bod datganoli trethi yn caniatáu i'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wneud pethau'n wahanol yma, a thros amser, byddem yn disgwyl i hynny ddigwydd, os ydych yn dilyn y wireb yn y lle cyntaf y dylai’r system a'r drefn yma fod yn ddrych mor agos ag sy'n bosibl o’r un ar draws y ffin er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a phontio llyfn, yna rwy'n credu y byddai'n annoeth i wneud y math hwn o newid ar hyn o bryd. Steffan Lewis, rydych yn dymuno rhoi gallu i wneud sylwadau i awdurdodau lleol.  Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru.  Rwy'n credu eu bod yn ôl pob tebyg yn gwneud llawer o sylwadau i Lywodraeth Cymru nad yw yn aml yn awyddus i’w clywed.  Felly, mae’r gallu hwnnw ganddynt ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol glir beth yw'r rheswm llawn tu ôl i hyn.  Rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn anesmwyth pan fyddwch yn dweud y gall fod amodau lleol mewn unrhyw ardal awdurdod lleol a fyddai'n gweld yr angen i amrywio yn benodol cyfraddau uchaf y tâl hwn.  Nid oeddech yn hollol glir ynghylch hynny yn eich cyfraniad.  Fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn anffodus nid ydym yn gallu cefnogi hyn, ond edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud mewn ymateb.

Rwy’n derbyn amheuon a fynegodd Nick Ramsay.  Fodd bynnag, mae UKIP yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch bandiau treth a chyfraddau treth.  Rydym yn credu, yn gyffredinol, y dylid datganoli pwerau i'r lefel isaf posibl o Lywodraeth.  Mae hyn yn cefnogi'r egwyddor o leoliaeth, a gwnaethom ddatgan y polisi hwn yn fras yn ein maniffesto Cynulliad Cymru y llynedd.  Felly, rydym yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yng Ngham 2 o flaen y Pwyllgor Cyllid, cafwyd trafodaeth o welliant a gyflwynwyd gan Steffan Lewis a fyddai wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud sylwadau am y gyfradd dreth uwch. Rwy'n ddiolchgar am gyfleoedd dilynol i drafod y mater gyda'r Aelod, oherwydd nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda'r egwyddor gyffredinol bod angen i ni ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar effaith cyfraddau uwch ar gymunedau, ac y gallai’r effaith honno gynnwys trafodaeth am gyfraddau a bandiau. Ond fel y mae Nick Ramsay wedi dweud eisoes, mae awdurdodau lleol yn gallu mynegi eu barn ar unrhyw agwedd ar y Bil hwn ar unrhyw adeg o dan y ddeddfwriaeth llywodraeth leol bresennol. Nid oes angen i awdurdod lleol gael y pŵer yn y Bil hwn i wneud sylwadau; mae’r pŵer hwnnw ganddynt yn awr.

Mae nifer o anawsterau ymarferol gyda'r gwelliant yn ogystal, fel y’i cyflwynir y prynhawn yma, sy'n golygu na allaf ofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio drosto. Yn gyntaf, rwy'n cael fy nghynghori y gallai gwelliant sy'n datgan y caiff yr awdurdod lleol wneud sylwadau am gyfraddau a bandiau mewn gwirionedd fwrw amheuaeth ar p'un a all eraill wneud sylwadau o'r fath, neu a all awdurdod lleol wneud sylwadau am faterion eraill, megis gweithrediad y dreth yn fwy cyffredinol.

Yn ail, mae pryderon y byddai’r gwelliant hwn, i bob pwrpas, yn cyflwyno proses statudol y mae'n rhaid ei dilyn cyn bod y cyfraddau a bandiau yn cael eu hamrywio.  Byddai hyn yn ddigynsail o ran treth y DU, ac yn tanseilio'r egwyddor y dylai penderfyniadau am gyfraddau a bandiau orwedd gyda'r Llywodraeth a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Llywydd, wedi dweud hynny i gyd, gadewch i mi danlinellu fy nghefnogaeth i'r bwriad sylfaenol y tu ôl i welliant 30. Er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r cyfle sydd ganddynt eisoes i fynegi barn ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu hardal, gan gynnwys trafodaeth ar gyfraddau a bandiau, ysgrifennaf at awdurdodau lleol yn dilyn etholiadau mis Mai eleni i dynnu eu sylw at yr ymrwymiad yr wyf wedi’i wneud heddiw i ymgysylltu â hwy ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r ymgysylltu hwnnw gael ei lywio’n briodol gan dystiolaeth. Pan fydd y dreth yn mynd yn fyw, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn cadw’r data perthnasol. Gallaf gadarnhau'r prynhawn yma y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dadansoddi data treth trafodiadau tir o ran y gyfradd uwch ar sail awdurdod lleol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith y cyfraddau uwch yn eu hardaloedd. Yn fwy eang, bydd y dystiolaeth hefyd yn cefnogi edrych yn ehangach ar effaith y cyfraddau uwch ar gymunedau, unwaith y bydd y dreth trafodiadau tir yn weithredol. Rwy'n bwriadu cyhoeddi fy nghynllun gwaith treth ar gyfer y 12 mis nesaf yn hwyr yn y gwanwyn, ochr yn ochr ag ysgrifennu at awdurdodau lleol, fel y gall y camau hyn ategu ei gilydd.

Llywydd, er nad wyf yn gallu cefnogi gwelliant 30, rwy’n gobeithio fy mod i wedi dweud digon ar y cofnod y prynhawn yma i ddangos bod hwn yn fater y gall awdurdodau lleol wneud sylwadau arno, y byddwn yn sicrhau bod eu gallu i wneud hynny yn cael ei dynnu yn weithredol i’w sylw, a bydd y gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw sylwadau o'r fath yn derbyn ymateb cytbwys gan y Llywodraeth.

Diolch, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr ysbryd y tu ôl i’r gwelliant yma. Rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn ein bod ni’n bwriadu gwneud cymaint ag y gallwn ni yn nhermau amcanion polisi a’n pwerau ‘fiscal’ newydd. Ymddiheuriadau i’r Aelod dros Fynwy nad oeddwn i’n ddigon eglur yn fy sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n eithaf amlwg ynglŷn â’r bwriadau y tu ôl i’r gwelliant. Rydym yn ymwybodol iawn o’r amrywiadau a’r amgylchiadau gwahanol ar draws siroedd Cymru ac o fewn siroedd Cymru ynglŷn â thai band uwch a thai preswyl.

Gyda’r hyn y mae’r Ysgrifennydd wedi’i ddweud, yn gyntaf, rwy’n croesawu’n fawr iawn y ffaith y bydd e yn hysbysu yn ‘proactive’ awdurdodau lleol Cymru o’r ffaith bod y Llywodraeth yn agored i drafodaethau penodol ar y mater pwysig yma, sy’n bwysig iawn i Blaid Cymru. Yn ail, rwy’n meddwl bod yr addewid i sicrhau bod y cynllun gwaith ar drethiant gan Lywodraeth Cymru yn mynd i ystyried hyn o safbwynt polisi ac o fewn y cyd-destun ‘fiscal’ yn addewid pwysig iawn ac yn un rwy’n ei groesawu yn fawr iaw—a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y bydd gyda ni ddata go iawn yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ar effaith y dreth yma.

Felly, gyda chaniatâd y Cynulliad a’ch chaniatâd chi, Llywydd, hoffwn i dynnu yn ôl fy ngwelliant.

Mae’r Aelod wedi dweud ei fod e’n awyddus i dynnu yn ôl gwelliant 30. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad i hynny, mae’r gwelliant wedi’i dynnu yn ôl.

Tynnwyd gwelliant 30 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12. 27.

Grŵp 4: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch—Prif Fuddiannau (Gwelliannau 7, 8, 12)

Ac felly dyma ni’n symud i grŵp 4, ac mae’r grŵp yma’n ymwneud â phrif fuddiannau mewn trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch. Gwelliant 7 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Drakeford).

Diolch yn fawr, Llywydd.  Pan gyflwynais gyfres o welliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu ar gyfer cyfraddau uwch ar drafodiadau eiddo preswyl, eglurais fy mod yn bwriadu adlewyrchu darpariaethau treth tir y dreth stamp presennol yn fras er mwyn darparu parhad a sicrwydd. Dywedais hefyd, fodd bynnag, fy mod yn bwriadu ychwanegu eglurder a gwneud gwelliannau i'r ddeddfwriaeth lle'r oedd cyfleoedd i wneud hynny. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael, drwy'r grŵp hwn, â nifer o faterion o'r fath lle’r wy'n ystyried mân welliannau yn fuddiol. Roeddwn yn ddiolchgar am gefnogaeth aelodau o'r Pwyllgor Cyllid pan gafodd newidiadau i sicrhau cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl eu cyflwyno yn ystod trafodion Cyfnod 2.  Bydd hyn yn sicrhau y bydd y cyllid sylweddol a godir gan gyflwyno'r tâl ychwanegol hwn yn parhau i fod ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Y grŵp hwn o welliannau, Llywydd, yw'r grŵp mwyaf technegol gymhleth o welliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.  Dyna pam y cyhoeddais lythyr technegol ar 23 Mawrth i Aelodau'r Cynulliad.  Fy ngobaith oedd y byddai Aelodau yn cael digon o gyfle i ystyried y materion hyn mewn perthynas â'r gwelliannau hyn yn y grŵp hwn cyn y drafodaeth heddiw.

I grynhoi, mae Atodlen 5 y Bil yn darparu y bydd trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad cyfraddau uwch lle mae prif bwnc y trafodiad yn cynnwys buddiant sylweddol mewn annedd.  Mae'n bosibl, yn ôl y gyfraith, i wahanu diddordeb cyfreithiol a llesiannol mewn trafodiad eiddo preswyl.

Mae'r mwyafrif helaeth o drafodiadau yn debygol o gynnwys trosglwyddo buddiant cyfreithiol a buddiol. Fodd bynnag, yn ystod hynt y Bil hwn, rwyf wedi cael fy rhybuddio gan rai o'n grŵp arbenigol o amwysedd posibl yn y ddeddfwriaeth bresennol treth dir y dreth stamp, a allai arwain rhai pobl i hawlio drwy strwythuro caffael eu heiddo preswyl ychwanegol mewn ffordd benodol, y byddai'n bosibl dadlau nad yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol. Er nad wyf yn derbyn y ddadl hon, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â rhoi hyn tu hwnt i amheuaeth, ac o ganlyniad, diogelu ein sylfaen treth.

Felly, yn fwy manwl, felly, Llywydd, mae gwelliannau 7 ac 8 yn diwygio paragraffau 5 a 15 Atodlen 5 i ymdrin â sut y mae buddiant llesiannol trethdalwr mewn annedd i gael ei benderfynu. Pan fydd eiddo'n cael ei brynu ar y cyd, bydd y prynwyr yn dal y buddiant llesiannol yn yr eiddo fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd. Mae gan gyd-denantiaid yr hawl i gyfran gyfartal o'r eiddo, tra bod tenantiaid ar y cyd yn gallu dal yr eiddo mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal, sy'n cael eu hadnabod fel cyfranddaliadau heb eu rhannu.

Mae gwelliannau 7 ac 8 yn sicrhau bod gwerth ar y farchnad buddiant y trethdalwr yn cael ei asesu fel cyfran o gyfanswm gwerth ar y farchnad yr annedd sy'n cynrychioli eu cyfran o fudd.  Mae hyn yn sicrhau tegwch i'r trethdalwr, oherwydd mae'n golygu nad yw’r dreth ond yn daladwy ar y gyfran o unrhyw eiddo y mae person yn ei dal yn hytrach na gwerth cyfan ar y farchnad yr eiddo hwnnw.  Mae'r eglurhad yn arbennig o bwysig gan na fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol os yw gwerth ar y farchnad y buddiant a gedwir yn llai na £40,000.

Mae gwelliant 12 yn darparu ar gyfer cyflwyno paragraff newydd 29 yn Atodlen 5, yn ymdrin â’r cwmpas o ddiddordeb mawr. Nid yw'n newid bwriad polisi’r darpariaethau fel y craffwyd arnynt, ond yn ychwanegu mwy o eglurder iddynt.  Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Nick Ramsay. Na? Nid oes siaradwyr eraill. Rwy’n amheus, felly, a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet unrhyw sylwadau i gloi’r ddadl yma. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 7.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 5: Technegol—Croesgyfeiriadau (Gwelliannau 9, 10, 11, 18, 19, 20, 24, 28)

Y grŵp nesaf, felly, yw grŵp 5, ac mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â chroesgyfeiriadau. Gwelliant 9 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Drakeford).

Diolch, Llywydd.  Dyma'r cyntaf mewn cyfres o grwpiau o welliannau Llywodraeth technegol a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.

Mae gan bob un o’r rhain bwyslais ychydig yn wahanol, ac felly maent wedi cael eu gwahanu er hwylustod trafod, ond yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod i gyd yn fân a thechnegol. Ar y cyfan, maent yn welliannau angenrheidiol i'r Bil er mwyn gwella eglurder y drafftio. Er enghraifft, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn mynd i’r afael â chroesgyfeiriadau anghywir yn y Bil. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi codi o ganlyniad i'r newidiadau i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2, ac rydym yn awr yn cael y cyfle i sicrhau bod y croesgyfeiriadau hyn yn gywir. Gofynnaf i Aelodau eu cefnogi.

Nid oes siaradwyr ar gyfer y grŵp yma, ac nid oes, felly, angen i alw’r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i unrhyw ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd, felly, welliant 9.

Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 10.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 11.

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 12.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 6: Technegol—Gwelliannau Drafftio (Gwelliannau 13, 15, 16, 6)

Grŵp 6, felly: mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â gwelliannau drafftio. Gwelliant 13 yw’r prif welliant yn y grŵp. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Drakeford).

Llywydd, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn gwneud mân welliannau i'r drafftio presennol yn y Bil. Mae gwelliant 6 yn disodli'r gair 'paragraff' gydag 'isadran', ac mae gwelliant 13 yn dileu'r gair 'ond'. Mae gwelliannau 15 ac 16 yn gwneud mân welliannau drafftio i fersiwn Gymraeg y Bil yn unig, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n eu cefnogi'r prynhawn yma.

Nid oes siaradwyr yn y grŵp yma. Nid oes angen i’r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbyniwyd gwelliant 13.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 7: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch—Dirprwyon (Gwelliannau 14, 21)

Y grŵp nesaf yw grŵp 7, ac mae’r grŵp yma’n ymwneud â dirprwyon ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch. Gwelliant 14 yw’r prif welliant. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Mark Drakeford).

Diolch, Llywydd. Yn grŵp 4, ychydig funudau yn ôl, trafodwyd cyfres o newidiadau i wella tegwch gweithrediad y cyfraddau tâl ychwanegol uwch, ac mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn dychwelyd at y thema honno. Yn fy llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar 15 Chwefror, nodais fy mwriad i gyflwyno newidiadau yn y grŵp hwn, sy'n ceisio sicrhau nad ystyrir bod annedd a gaffaelwyd ac a gedwir gan ddirprwy ar ran person ifanc dan oed sydd â diffyg galluedd meddyliol, yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005, wedi ei gaffael neu yn eiddo i rieni’r plentyn hwnnw.

Unwaith eto, cafodd yr anghysondeb hwn yn neddfwriaeth gyfredol treth dir y dreth stamp ei nodi drwy ymgysylltu gydag arbenigwyr technegol.  Amcan y grŵp hwn o welliannau, felly, yw gwneud y ddeddfwriaeth yn decach, a sicrhau nad yw pobl ifanc dan oed analluog a'u dirprwyon a benodir gan y llys o dan anfantais o ganlyniad i'r tâl ychwanegol Treth Trafodiadau tir.

Canlyniad gwelliant 14 yw wrth benderfynu a yw’r gyfradd uwch yn berthnasol i amgylchiadau lle mae buddiant plentyn analluog yn cael ei gaffael, ei ddal ar ymddiriedaeth, neu ei waredu gan ddirprwy sy'n gweithredu ar eu rhan, na fydd unrhyw log a ddelir gan rieni'r plentyn mewn eiddo ar wahân yn gysylltiedig.  Bydd y newid hwn yn gwneud y ddeddfwriaeth yn decach trwy sicrhau nad yw buddiant y plentyn mewn eiddo yn ddarostyngedig i'r tâl cyfraddau uwch.  Yn yr un modd, bydd unrhyw drafodiad gan rieni'r plentyn analluog yn yr amgylchiadau hyn yn cael eu hystyried yn annibynnol ar fuddiannau eiddo'r plentyn.

Mae gwelliant 21 yn cael yr un effaith â gwelliant 14, y gwahaniaeth yw y caiff ei gymhwyso mewn perthynas â buddiannau y tu allan i Gymru.  Llywydd, rhagwelir y bydd nifer fechan iawn o achosion lle fydd y rheolau hyn yn berthnasol, ac y bydd hyn yn cael effaith fach iawn ar refeniw.  Bydd y defnydd o'r rheolau hyn yn cael eu cadw dan adolygiad, ond rwy’n gobeithio er budd tegwch y byddant yn cael eu cefnogi gan y Cynulliad y prynhawn yma.

Nick Ramsay? Nid oes siaradwyr, felly, ac nid oes angen galw ar yr ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbyniwyd gwelliant 14.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 15.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 16.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 8: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch—Eiddo a Etifeddir (Gwelliant 17)

Grŵp 8 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch ar gyfer eiddo a etifeddir. Gwelliant 17 yw’r prif welliant, a’r unig welliant yn y grŵp yma, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y gwelliant ac i siarad i’r gwelliant. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Mark Drakeford).

Llywydd, fel yr ydych wedi dweud, mae'r grŵp hwn yn ymdrin â mater mewn perthynas ag eiddo a etifeddwyd. Mae gwelliant 17 yn darparu bod priod neu bartneriaid sifil nad ydynt bellach yn byw gyda'i gilydd ddim i gael eu buddiannau perthnasol wedi’u cyfuno er mwyn sefydlu a yw'r budd a ddelir yn fwy na 50 y cant. Mae hyn yn caniatáu i gyplau sydd wedi gwahanu gael eu hystyried yn unigol yn hytrach na chael eu hasesu fel un uned economaidd gyda'u priod neu bartner sifil blaenorol.  Mae hyn yn gyson â darpariaethau eraill yn Atodlen 5 sy'n ymwneud â'r rhai sydd wedi gwahanu yn awr.

Mae'r gwelliant hwn yn mewnosod is-baragraff i baragraff 33 Atodlen 5. Mae'n diwygio'r rheolau sy'n ymwneud ag eiddo sy'n cael ei etifeddu. Y rheol bresennol yw, pan fo person yn etifeddu buddiant nad yw'n fwy na 50 y cant o'r eiddo, yna ni fydd y buddiant hwnnw yn cael ei ystyried wrth sefydlu a yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad am 36 mis ar ôl y dyddiad y cafodd ei etifeddu. Os yw priod neu bartneriaid sifil ill dau wedi etifeddu buddiannau yn yr eiddo, yna byddai angen i’r buddiannau hynny gael eu cydgasglu i ddibenion sefydlu a oedd buddiant dros 50 y cant yn eiddo iddynt.

Llywydd, mae hwn yn welliant arall sydd yn ymateb i amgylchiadau cymharol brin, ond a gynlluniwyd i wella tegwch y system, a gofynnaf i Aelodau i'w gefnogi am y rheswm hwnnw.

Nid oes siaradwyr yn y grŵp yma, ac felly nid oes angen galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 17.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 18.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 19.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 20.

Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn cwestiwn 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 21.

Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

A gaf fi ddweud, Llywydd, nid wyf am gynnig gwelliant 41?

Nid yw'r gwelliant yn cael ei gynnig ac ni fydd pleidleisio arno, felly.

Ni chynigiwyd gwelliant 41 (Mark Reckless).

Ni chynigiwyd gwelliant 42 (Mark Reckless).

Grŵp 9: Technegol—Cyfrifo Cydnabyddiaeth Drethadwy (Gwelliannau 1, 2)

Grŵp 9, felly, yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol, sy’n ymwneud â chyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy. Gwelliant 1 yw’r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).

Diolch, Lywydd. Mae gwelliannau 1 a 2 yn fân o ran natur, ond yn cael eu rhoi o flaen y Cynulliad er mwyn gwella eglurder y drafftio. Mae gwelliant 1 yn dileu paragraff (b) o adran 29, sy'n cynnwys cyfeiriad diangen at wahanol ostyngiadau a ddarperir gan Atodlen 14. Mae hyn yn sicrhau bod adran 29 yn rhoi rhestr gyson o'r darpariaethau rhyddhad sy'n addasu sut y mae'r dreth a godir yn cael ei chyfrifo. Mae gwelliant 2 yn ganlyniad i welliant 1. Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliannau’r Llywodraeth sy'n gwella drafftio'r Bil.

Nid oes dim siaradwyr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 24.

Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 10: Technegol—Diffiniadau (Gwelliannau 25, 26, 27, 4, 5)

Y grŵp nesaf yw grŵp 10. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â diffiniadau. Gwelliant 25 yw’r prif welliant yn y grŵp, ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Mark Drakeford).

Llywydd, fel y dywedasoch, mae'r rhain yn welliannau technegol sydd i gyd yn ceisio gwella gwahanol ddiffiniadau a ddarperir yn y Bil. Mae gwelliant 4 yn mewnosod diffiniad o 'cofrestrydd' yn adran 65 y Bil, ar gyfer cofrestru trafodiadau tir. Mae gwelliant 5 yn gysylltiedig â gwelliant 4, gan ei fod yn cael gwared ar ddiffiniad heb ei ddefnyddio o 'cofrestrydd' yn yr un adran, at ddibenion gwella eglurder. Mae gwelliannau 25 a 26 yn mewnosod y geiriau 'sir' a 'cyngor bwrdeistref sirol' yn y drefn honno er mwyn eglurder. Mae gwelliant 27 yn diweddaru rhif yr adran a ddarperir yn Neddf Priffyrdd 1980 i sicrhau bod y croesgyfeiriad cywir yn cael ei ddefnyddio wrth chwilio am ystyr ar gyfer 'priffordd'. Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau—maent yn gwella drafftio'r Bil.

Nid oes dim siaradwyr ar y grŵp yma ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 25.

Derbyniwyd gwelliant 25 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 26.

Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 27.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 11: Technegol—Trafodiadau gan Bartneriaeth: Gwelliannau Drafftio (Gwelliannau 22, 23)

Grŵp 11 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â gwelliannau drafftio ym maes trafodiadau gan bartneriaeth. Gwelliant 22 yw’r prif welliant ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).

Diolch, Llywydd.  Dyma’r gyfres olaf o welliannau technegol yn unig a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.  Mae gwelliant 23 yn gwneud mân welliannau technegol i’r drafftio presennol ar gyfer trafodiadau partneriaeth sy'n ymwneud â phartneriaethau sydd wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o gyrff corfforaethol.  Mae trafodiadau sy’n cynnwys partneriaethau yn cael eu llywodraethu gan reolau penodol, a nodir yn Atodlen 7 y Bil.  Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod y rheol hon yn gweithredu mewn modd sy'n gyson â rheolau treth dir y dreth stamp sy'n bodoli eisoes.  Mae gwelliant 22 yn ganlyniadol ar welliant 23, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau ohonynt.

Nid oes dim siaradwyr ar y grŵp yma. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 22.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 23.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Grŵp 12: Pŵer i Ddiwygio’r Cyfnod Pan Fo Rhaid Dychwelyd Ffurflenni Treth (Gwelliant 3)

Grŵp 12 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma yn ymwneud â’r pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni treth. Gwelliant 3 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig ei welliant.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 3—yr unig welliant yn y grŵp hwn—yn mewnosod paragraffau newydd i adran 52, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio gan reoliadau y cyfnod y mae'n rhaid dychwelyd ffurflenni. Mae adran 52 eisoes yn cynnwys pŵer i ddiwygio cyfnodau dychwelyd ffurflenni eraill, er enghraifft, mewn perthynas â ffurflenni pellach. Mae'r gwelliant hwn yn ychwanegu at y darpariaethau yn Atodlen 6 yn ymwneud â chyfnodau dychwelyd ffurflenni ar gyfer prydlesi. Nod y gwelliant yw cywiro hepgoriad i sicrhau bod yr holl gyfnodau dychwelyd perthnasol yn cael eu dal, gan gynnwys cyfnodau dychwelyd ar gyfer prydlesi. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio, os oes angen yn y dyfodol, y cyfnod pryd mae’n rhaid i’r holl ffurflenni gael eu dychwelyd, gan sicrhau cysondeb o ran triniaeth ar gyfer yr holl ffurflenni. O gofio y gallai hyn newid faint y byddai yn rhaid i unigolyn ei dalu yn y dyfodol, bydd rheoliadau a wneir dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.

Nid oes siaradwyr eraill yn y grŵp yma. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 28.

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 13: Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir (Gwelliant 31)

Grŵp 13 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma yn ymwneud ag adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir. Gwelliant 31 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp yma. Rwy’n galw ar Steffan Lewis i gynnig ei welliant.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Steffan Lewis).

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno adran newydd i’r Bil, sy’n gosod disgwyliad ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth a bod yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau o fewn chwe blynedd o’r dyddiad y daw’r dreth i rym. Mae’r gwelliant hefyd yn gosod disgwyliad y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i gasgliadau’r adolygiad annibynnol.

Mae yna gynsail i gynnal adolygiad ar weithrediad Deddf Cymru ac, yn wir, erbyn hyn, mae hi bron yn arfer i gynnal adolygiad yn weddol fuan ar ôl i Ddeddf ddod i rym yn llawn. Yn yr achos yma, lle mae’r Ddeddf yn cyflwyno pwerau trethiant i Lywodraeth Cymru, mae’n hollbwysig bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn gwerthuso ei gweithrediad ac er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei phwrpas yn effeithiol. Mae’r gwelliant yn datblygu, felly, ar welliant a gyflwynwyd gennyf yn ystod Cyfnod 2 ac yn gosod gorfodaeth ar Lywodraeth i ymateb i adroddiad yr adolygiad annibynnol. O gydnabod bod angen edrych ar sut mae’r dreth yn gweithredu dros fwy nag un flwyddyn ar gyfer unrhyw werthusiad pwrpasol, teimlaf fod cyfnod o chwe blynedd yn caniatáu digon o amser i’r dreth sefydlu’n iawn ac yn rhoi digon o amser ar gyfer gwerthusiad trylwyr ohoni.

Diolch, Llywydd. Diolch i Steffan Lewis am ei welliant. O leiaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, y cyfeiriad oedd at ddisgwyliad ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu'r adroddiad, disgwyliad arnynt i gyhoeddi'r adroddiad, ond yna gofyniad i ymateb, ond, o leiaf yn fersiwn Saesneg y gwelliant, rwy’n deall bod pob un ohonynt yn orfodol. Mae hynny ychydig yn fwy na disgwyliad.

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fe wnes i gefnogi nifer o welliannau Steffan yn ystod y cam pwyllgor, gan gynnwys un neu ddau nad oedd ef ei hun yn eu cefnogi ar y pryd. Ond rwy'n credu mai mater i'r Pwyllgor Cyllid yw hyn. Nid yw dweud, ‘A dweud y gwir, nid yw hwn yn fater i’r Cynulliad, bydd comisiwn annibynnol a dylai’r Gweinidogion gael pwysigion y genedl Gymreig i ddweud wrthym beth i'w wneud,’ y dull cywir yn fy marn i. Rydym yn mynd i gael treth trafodiad tir, rydym yn mynd i gael trethi busnes, rydym yn mynd i gael y dreth gyngor; rydym yn mynd i gael y gyfres hon o drethi, ac rwy'n falch am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud wrth y pwyllgor a'r hyn y mae ein Cadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod cydweithio da â'r Llywodraeth wrth edrych ar beth yw’r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu trethi yn y dyfodol, ac ar gyfer gweld sut maent yn gweithio ac o bosibl yn rhyngweithio â'i gilydd, ac rwy’n credu ei fod yn iawn i’r Pwyllgor Cyllid arwain ac adrodd fel y bo'n briodol i'r Cynulliad hwn, yn hytrach na dirprwyo ein tasg i'r pwyllgor hwn fel yr awgrymir yn y gwelliant hwn.

Diolch, Llywydd. Wel, mewn trafodaethau blaenorol am y Mesur, rwyf i wedi bod yn hapus i gytuno â’r egwyddor y dylai gweithrediad y dreth trafodiadau tir gael ei fonitro a'i adolygu. Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cyflwyniad trefniadau rhyddhad newydd ac effaith y gordal ar eiddo preswyl ychwanegol. Cytunais hefyd y prynhawn yma y dylem ni barhau i adolygu pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i gyflwyno trethi newydd sy'n fwy addas i Gymru. Fy nealltwriaeth i o welliant 31 yw y bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir, y bydd yn rhaid ei gwblhau o fewn chwe blynedd i roi’r dreth ar waith ym mis Ebrill 2018. Gallai hyn gynnwys adolygiad o weithrediad y dreth trafodiadau tir neu unrhyw elfen benodol o’r dreth honno, megis y gordal. Gallai hefyd gwmpasu unrhyw newidiadau neu ddulliau amgen i'r dreth yn fwy cyffredinol. Credaf fod cwmpas yr adolygiad yn ddigon eang i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn canolbwyntio ar faterion sy'n peri’r pryder mwyaf. Rwyf hefyd yn falch o gydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai adolygiad o'r fath fod yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Rwy'n credu bod yr amseru a gynigir yn y gwelliant yn ddigonol i ganiatáu i gyfnod fynd heibio pan fo’r dreth wedi bod ar waith i allu cynnal adolygiad synhwyrol. Byddai'r adolygiad o’r dreth trafodiadau tir felly hefyd yn ategu ymrwymiad presennol i ddechrau adolygiad o benderfyniadau dirprwyaeth Awdurdod Cyllid Cymru dair i bum mlynedd ar ôl i’r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2018.

Llywydd, rwy'n disgwyl y bydd gan y Pwyllgor Cyllid ei fuddiannau ei hun yn y materion hyn a’i fod yn debygol o wneud hynny yn gynt na'r cyfnod a nodir yn y gwelliant hwn. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng yr hyn a gynigir yma a'r cyfrifoldebau y bydd y Pwyllgor Cyllid ei hun yn dymuno eu cyflawni. Ar sail yr hyn yr wyf wedi’i egluro, byddaf yn gofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.

Jest yn fyr iawn i ddweud nad oes gen i gopi Saesneg o’r gwelliant ger fy mron, ond rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tanlinellu yn gymwys bwrpas y gwelliant, a dweud, wrth gwrs, nad oes yna ddim byd yn y gwelliant yma sydd yn cynnig unrhyw waharddiad ar unrhyw bwyllgor mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le rhag gwneud adolygiad pryd bynnag y mae eisiau ar y dreth yma o gwbl.

O, rwy'n credu eich bod newydd ei golli. [Chwerthin.]

The question is that amendment 31 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] We therefore proceed to an electronic vote on amendment 31. Open the vote. Close the vote. In favour 37, eight abstentions, and 10 against. Therefore, amendment 31 is agreed.

Derbyniwyd gwelliant 31: O blaid 37, Yn erbyn 10, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 31.

Grŵp 14: Canllawiau gan Weinidogion Cymru i ACC ar Weinyddu Treth Trafodiadau Tir (Gwelliant 34)

Grŵp 14 nawr. Dyma’r grŵp olaf y prynhawn yma, ac mae’r grŵp yma’n ymwneud â chanllawiau gan Weinidogion Cymru i Awdurdod Cyllid Cymru ar weinyddu treth trafodiadau tir. Gwelliant 34 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rwy’n galw ar Nick Ramsay i gynnig ei welliant ac i siarad. Nick Ramsay.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Nick Ramsay).

Diolch. Clywais y gymeradwyaeth honno, Llywydd, pan wnaethoch chi gyhoeddi mai hwn oedd y grŵp olaf, felly byddaf yn fyr iawn. Mae’r unig welliant, y prif welliant, yr wyf yn dymuno’i gynnig, 34, yn y grŵp hwn, yn ymwneud â chynnwys adran newydd:

'Canllawiau. Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r ACC ynghylch mabwysiadu arfer gorau ar gyfer gweinyddu'r dreth trafodiadau tir. '

Y sail ar gyfer y gwelliant hwn—ac rwyf wedi trafod y peth i raddau ag Ysgrifennydd y Cabinet o'r blaen—mewn gwirionedd yw sicrhau gwerth am arian. Edrychwyd ar brofiad yr Alban, ac mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi gwybodaeth am yr Alban—wel, Cyllid yr Alban, dylwn i ddweud—yn rhannu swyddogaethau swyddfa gefn yn sgil Deddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013 yn dod i rym yno. O ganlyniad i’r cyfyngiad ar gyllid cyhoeddus, yr ydym yn siarad amdano yn aml, a'r angen i ddarparu gwerth am arian, mae'r gwelliant hwn yn awgrymu y dylai Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau fel y mae'n bwriadu parhau drwy rannu swyddogaethau swyddfa gefn neu ba bynnag fesurau arbed costau y gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl i’r awdurdod newydd eu cyflawni. Dyma beth sydd wrth wraidd y gwelliant—y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych am ffyrdd y gallai Awdurdod Cyllid Cymru fod yn effeithlon o'r cychwyn, y gallai fod yn effeithlon wrth symud ymlaen, ac y gallai yn y pen draw roi gwerth am arian i'r trethdalwr. Ar ôl dweud hynny, rwy’n awyddus i glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud am y gwelliant hwn, ac rwy’n cadw meddwl agored i’w awgrymiadau.

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae Nick Ramsay wedi’i ddweud y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod fy nealltwriaeth i o’r gwelliant ychydig yn wahanol o ran ei brif ddiben a'r un yr ydym newydd ei glywed. Gwelliant yw hwn sy'n darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru yn rhoi canllawiau i Awdurdod Cyllid Cymru ar weinyddu’r dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn ystod hynt y Bil fy mod i’n gyfan gwbl o blaid Awdurdod Cyllid Cymru yn darparu arweiniad cadarn i'w drethdalwyr, ei asiantau a'r Awdurdod ei hun. Mae'n amlwg yn arfer gorau i awdurdod treth sicrhau y gall ei gwsmeriaid a’i staff gydymffurfio â'u rhwymedigaethau.

Ni allaf ofyn i’r Aelodau ar fy ochr i bleidleisio dros y gwelliant hwn, fodd bynnag, oherwydd fy mod i’n ymwybodol iawn ei fod yn ymwneud â’r annibyniaeth weithredol glir hynod bwysig y mae angen i Awdurdod Cyllid Cymru ei chael ar y Llywodraeth. Hwn fydd ein hadran anweinidogol cyntaf. Mae aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn gywir iawn yn nodi’r angen am drefniant hyd braich rhwng y Llywodraeth a'r Awdurdod fel sefydliad a fydd yn ymdrin â materion treth unigol dinasyddion preifat. Mae cael Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i'r Awdurdod, yn fy marn i, yn golygu tanseilio’r annibyniaeth sydd ei hangen. Rwy’n awyddus i weithredu mewn modd sy'n gyson â'r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod hynt Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Yno, o ganlyniad i drafodaethau Cyfnod 2, mae'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru y gallu i roi cyfarwyddyd strategol i Awdurdod Cyllid Cymru ar eu polisïau a’u blaenoriaethau treth, ond nid oes ganddynt bwerau—nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau—i ddarparu unrhyw gyfarwyddyd sy'n benodol i Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn sicrhau’r berthynas hyd braich annibynnol honno.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod y prynhawn yma ar ôl ei glywed, fodd bynnag, yw fy mod i’n barod i ymrwymo ar gofnod i bwysigrwydd arweiniad gweithredol clir ar gyfer y dreth hon. Rwy'n hapus i ddweud y byddaf yn ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru pan fydd y penodiad wedi ei gadarnhau yn nodi fy nisgwyliadau bod yn rhaid i’r ddarpariaeth o ganllawiau cadarn fod yn flaenoriaeth allweddol i Awdurdod Cyllid Cymru. Ac ar ôl clywed y pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud y prynhawn yma am weinyddiaeth effeithlon a rhannu gwasanaethau swyddfa gefn, rwy’n hapus iawn i sicrhau y byddaf yn codi’r pwynt hwnnw yn y llythyr y byddaf yn ei ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, sydd, mewn ffordd, yn darparu cylch gwaith i’r cadeirydd i sicrhau bod yr Awdurdod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau y mae'r pwyllgor a'r Llywodraeth yn dymuno eu gosod ar eu cyfer yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw i'r Aelod y prynhawn yma, er, os daw’r mater i bleidlais, byddaf i’n pleidleisio yn ei erbyn.

Diolch. Rwy'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y sylwadau hynny. Roedd bwriad y gwelliant hwn yn dda, sef sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydliad effeithlon sydd yn ceisio darparu'r gwerth gorau am arian i'r trethdalwr. Dyna pam rydym yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau. Fodd bynnag, mae hwn yn faes amwys, ac ar ôl gwrando ar fwriadau Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn rhannu rhai o'i bryderon mai’r peth olaf, mewn gwirionedd, yr ydym yn dymuno ei wneud yw cyfaddawdu ar fodel hyd braich Awdurdod Cyllid Cymru sy'n cael ei sefydlu. Rwy'n cydnabod y gellid ystyried bod y gwelliant hwn yn gwneud hynny dan rai amgylchiadau. Felly, croesawaf eich ymrwymiad i ysgrifennu at gadeirydd yr awdurdod newydd. Rwy’n credu hefyd, o ystyried bod y grŵp blaenorol, 13, a gwelliant 31, a gyflwynwyd gan Steffan Lewis, wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a gan y Cynulliad, bod hynny yn darparu mesur o ddiogelwch ac adolygu yn y cyfnod o chwe blynedd, rwy'n credu, a nodir yn y gwelliant hwnnw. Felly, mae hynny, ynghyd ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu gweithrediad parhaus Awdurdod Cyllid Cymru, yn golygu fy mod i'n hapus, gyda chaniatâd y Cynulliad, i dynnu'r gwelliant yn ôl, ond mae hynny'n fater i chi.

Mae gwelliant 34 felly wedi ei dynnu yn ôl gan yr Aelod. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad i hynny, yna mae’r gwelliant wedi ei dynnu yn ôl.

Tynnwyd gwelliant 34 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Rŷm ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Rwy’n datgan felly y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi’u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 â thrafodion heddiw i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:21.