Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

31/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0407(FM)

Ein blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, a ledled Cymru, yw parhau i ddiogelu buddsoddiad a chyflawni’r amrywiaeth o ymrwymiadau a nodwyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'.

Wel, yn amlwg, nid gofal orthopedig yn y gogledd yw eich blaenoriaethau, Brif Weinidog. Rwy'n gobeithio eich bod wedi eich syfrdanu cymaint â minnau â’r canfyddiadau diweddar o gynnydd o 5,000 y cant i’r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’r amser aros o 36 wythnos am wasanaethau orthopedig a thrawma. Mae hynny'n 3,052 o gleifion erbyn hyn sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Mae gennyf etholwyr—80 wythnos ar gyfer pen-glin newydd, 130 wythnos ar gyfer gosod clun newydd. Mae'r unigolion hyn mewn poen cyson ac erchyll bob awr o’r dydd a’r nos, saith diwrnod yr wythnos, ac wedi cael llond bol ar gymryd sawl cyffur difrifol iawn i ladd poen. Ac yna i ddarganfod ddoe bod pob llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Glan Clwyd wedi eu gohirio am y tro. Rwyf hefyd wedi fy hysbysu bod ward Enlli wedi cau ar gyfer llawdriniaeth ar hyn o bryd. Mae hynny’n achosi mwy o rwystredigaeth fyth i mi ac i’m hetholwyr. Mae oediadau o'r fath ar gyfer y math hwn o driniaeth yn warth cenedlaethol, ac os yw hon yn enghraifft o’ch Llywodraeth yn rhoi bwrdd iechyd yn y categori mesurau arbennig 18 mis yn ôl, yna mae’n rhaid gofyn cwestiynau difrifol. Sut, yn ystod eich cyfnod chi, ydych chi wedi caniatáu amseroedd aros cywilyddus o'r fath, a beth fyddwch chi’n ei wneud nawr, fel Prif Weinidog, os gwelwch yn dda, ar ran fy etholwyr i, a’r cleifion hynny ar draws y gogledd, i ymchwilio ar frys i'r mater a darparu’r driniaeth briodol i’m hetholwyr ac eraill y maen nhw nid yn unig ei hangen—

Mae angen i chi ddod â'ch cwestiwn i ben. Rydych chi wedi gofyn sawl cwestiwn nawr.

[Yn parhau.]—gyda'r driniaeth briodol nid yn unig y maen nhw ei hangen, ond yn ei haeddu?

Wel, mae mwyafrif y cleifion sy’n aros yn y gogledd yn aros llai na 26 wythnos, ond rydym ni’n cydnabod bod trawma ac orthopedeg yn faes anodd, lle nad yw rhai o'r amseroedd aros yn dderbyniol. Rhoddwyd arian ychwanegol ar gael i fwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr er mwyn lleihau amseroedd aros. Maen nhw’n rhoi rhai gweithgareddau ar gontractau allanol bellach i ddarparwyr eraill, ac rydym ni’n disgwyl gweld y sefyllfa yn gwella’n sylweddol yn ystod y ddau fis nesaf.

Yn gynharach y mis yma, mi gyhoeddwyd adroddiad diogelwch blynyddol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a oedd yn eithaf brawychus i’w ddarllen, mae’n rhaid i mi ddweud. Roedd y gofrestr risg yn dangos 13 risg ddifrifol, yn cynnwys eu methiant i gydymffurfio â gwahanol ddeddfwriaethau diogelu, neu fod yna berig gwirioneddol y byddai plentyn neu berson ar y gofrestr mewn risg yn methu â chael eu hadnabod pe bydden nhw’n mynychu’r uned frys, a allai wedyn arwain at niwed difrifol i’r unigolyn. Nawr, ar ôl blwyddyn a hanner o fod mewn mesurau arbennig, a ydych chi’n meddwl bod hynny’n dderbyniol?

Wel, rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, nad yw’r bwrdd ei hunan yn barod i ddod mas o fesurau arbennig ar hyn o bryd. Ond, wrth ddweud hynny, rydym ni’n gwybod, wrth ystyried yn eang berfformiad y bwrdd iechyd, fod pethau wedi gwella. Fe welom ni hynny wrth edrych ar y fframwaith ym mis Tachwedd, lle roedd yn dangos bod gwaith da wedi cael ei wneud. Wrth gwrs, beth sy’n bwysig nawr yw sicrhau bod pob rhan o’r gwasanaeth sydd yn cael ei weithredu gan y bwrdd iechyd yn gwella yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi gwella ynglŷn â delio gyda chancr er enghraifft, a delio gyda amserau aros am brofion diagnosis.

Brif Weinidog, sut gallwch chi gyfiawnhau cynnig gofal plant ychwanegol a phresgripsiynau am ddim, heb ystyried incwm a hynny am gost enfawr, tra bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth orthopedig yn y gogledd wedi cynyddu yn aruthrol? Ble mae eich blaenoriaethau?

Gan ein bod ni wedi cael ein hethol ar y sail honno. Ni allaf siarad dros ei phlaid hi, ond rydym ni’n hoffi cadw ein haddewidion.

Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl pwrpasol i gyn-filwyr y lluoedd arfog? OAQ(5)0408(FM)

Mae 'Symud Cymru Ymlaen' yn cadarnhau ein hymrwymiad i sicrhau bod cyn-filwyr yn parhau i dderbyn gofal iechyd sy'n diwallu eu hanghenion. Byddwn yn cynnal y gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru cenedlaethol gwerthfawr, sy'n cynnig mynediad at driniaethau seiliedig ar dystiolaeth i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl.

Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna am gadw’r gwasanaeth. Rydych chi wir yn arwain y ffordd yn y DU, ac rwy’n eich cymeradwyo am hynny. Ond wrth i ni adolygu nawr y gwasanaeth hwn sydd wedi cael llawer o lwyddiant cychwynnol, rwy’n meddwl ein bod ni efallai’n rhy ddibynnol ar hunanatgyfeirio—mae’n ymddangos mai dyna un o'r pethau sydd wedi dod i’r amlwg—ar hyn o bryd. Ac rwy’n meddwl y dylai hysbysu cyn-filwyr am y gwasanaeth hwn yn ystod y cam adsefydlu, wrth iddyn nhw symud i fywyd fel sifiliaid, fod yn un amcan allweddol. Gall yr adeg honno o fywyd fod yn anodd iawn ynddi ei hun, ond, wrth gwrs, efallai y bydd ganddynt wybodaeth wedyn a allai fod yn bwysig dros ben iddynt ychydig fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ie, rwy’n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Rydym ni’n gwybod bod lefelau uchel o fodlonrwydd â'r gwasanaeth a ddarperir i gyn-filwyr. Efallai, wrth gwrs—neu rwy’n meddwl y gallwn ni wneud hyn—y gallwn ni godi'r mater gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac, yn wir, y lluoedd arfog, i weld beth arall y gellid ei wneud i hysbysu cyn-filwyr bod y gwasanaeth ar gael, ac, wrth gwrs, i’w hannog i ofyn am help gan y gwasanaeth, yn hytrach na dal yn ôl. Ond byddaf—wel, bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr, ac, os gallwn ni wneud mwy i wella cyfathrebu, i sicrhau y gall pobl elwa ar wasanaeth sydd â chyfraddau mor uchel o fodlonrwydd, yna byddwn yn gwneud hynny.

Brif Weinidog, tybed a ydych chi’n gwybod fy mod i wedi cyflwyno cynnig, fel cynnig deddfwriaethol Aelod, i sicrhau Deddf 'dim un milwr yn cael ei adael ar ôl'. Ond penderfynodd y Pwyllgor Busnes beidio â’i gefnogi ar hyn o bryd. Ond y ffaith yw, mae gormod o gyn-filwyr yn dod i’m cymhorthfa—

A gaf i gywiro hynna? Nid yw wedi ei amserlennu. Ni ddylid cwestiynu’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Busnes ar y llawr hwn, ac ni ddylid ei amserlennu; rhoddwyd blaenoriaeth i gynnig deddfwriaethol Aelod arall.

Iawn, diolch, Lywydd, am eich eglurhad. Felly, mae gennym ni gyfle i ddod ag ef yn ôl, mae'n ymddangos. Ond mae gormod o gyn-filwyr yn ei chael hi’n anodd o ran gofal iechyd, yn ei chael hi’n anodd o ran tai, ac yn arbennig, fel y dywedodd y cyd-Aelod ar draws y Siambr, o ran gofal iechyd meddwl. Nid oes rhaid i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i gyn-filwyr. Nawr, y gwir amdani yw nad ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad, ac ni ddylem fod yn eu gadael ar ôl ar ôl iddyn nhw ddod adref. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi Bil, deddfwriaeth, i sicrhau nad yw’r hyn y mae llawer o bobl yn ei ddioddef ar hyn o bryd yn digwydd mwyach, a’n bod yn gwneud gwahaniaeth ac yn cyflawni newid i fywydau’r bobl hyn?

Mae'n dibynnu beth mae'r Bil yn ei ddweud. Ar hyn o bryd, y cwbl rwy’n ei wybod yw bod awgrym, ac mae'n rhaid i ni weld beth allai’r manylion fod. Mae'n bosibl bod llawer o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi eisoes wedi cael sylw gan y gwasanaeth fel ag y mae. Rydym ni’n rhoi £585,000 ar gael bob blwyddyn i ariannu'r gwasanaeth. Mae'n darparu ymyraethau therapiwtig gan therapyddion cyn-filwyr penodedig ym mhob bwrdd iechyd lleol. Mae ganddo lwybr atgyfeirio hefyd, i gyfeirio cyn-filwyr at feysydd eraill, er mwyn iddyn nhw gael cymorth a chefnogaeth. Mae'n debyg mai’r cwestiwn yw, a fyddai Bil yn ychwanegu at hynny, a byddai llawer ohono’n dibynnu ar yr hyn a oedd yn y Bil, cyn cymryd golwg ofalus ar ba un a fyddai Bil yn ychwanegu at y gwasanaeth sydd ar gael eisoes.

Brif Weinidog, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, canfu adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru bod cyn-filwyr yn aros hyd at 80 diwrnod am asesiad cychwynnol, a hyd at 140 diwrnod ar ôl yr asesiad. Tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at y ffaith y byddai'r gwasanaeth yn wynebu pwysau ychwanegol, o ganlyniad i adolygiad amddiffyn a diogelwch y DU. Gwnaed cyfanswm o 15 o argymhellion o ganlyniad i'r adolygiad. Brif Weinidog, a allwch chi ein diweddaru ar y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol o ran rhoi’r argymhellion ar waith, lleihau amseroedd aros i gyn-filwyr a sicrhau y gall y gwasanaeth ymateb i alw yn y dyfodol?

Gallaf, derbyniwyd yr adroddiad hwnnw ym mis Tachwedd 2014. Dangosodd gyfraddau bodlonrwydd uchel ymhlith cyn-filwyr a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Gwnaeth nifer o argymhellion i wella darpariaeth y gwasanaeth, ac mae’r argymhellion hynny wedi eu derbyn, ac maen nhw’n cael eu datblygu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn dilyn cyhoeddiad gwaharddiad teithio hiliol Arlywydd Trump, a bu gwrthdystiadau ar draws y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn gwrthod y syniad o ymraniad. Ond mae'r mater yn ehangach na’r gwaharddiad penodol hwnnw yn unig. Mae’r holl gwestiwn o fudo wedi troi’n ddadl wenwynig. A wnewch chi ymuno â mi, ac eraill yn y Cynulliad hwn, i’w gwneud yn eglur bod Cymru yn dal ar agor i fusnes, ar agor i ymwelwyr, ac, yr un mor bwysig, ar agor i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth? A ydych chi’n cytuno â mi nad oes lle i’r wleidyddiaeth hon o ymrannu, ar sail tarddiad cenedlaethol, neu grefydd, yng Nghymru, nac, yn wir, mewn unrhyw le arall?

[Anghlywadwy.]—y teimladau hynny. Rydym ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn ddisgynyddion mewnfudwyr—mater o bryd y daeth ein teuluoedd i’r ynys hon yw hi. Mae llawer mwy yn ein huno fel bodau dynol nag all o bosibl ein hymrannu. Ac rwy’n rhannu'r farn bod y drafodaeth bresennol mewn mwy nag un wlad o gwmpas y byd yn ymwneud â mudo yn wenwynig. Mae'n eironig fod y drafodaeth weithiau ar ei mwyaf gwenwynig mewn gwledydd sy’n llawn mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf, neu ail a thrydedd genhedlaeth. Dyna eironi hyn. Ond y gwir amdani yw ein bod ni’n gwybod pan ganiateir i genedlaetholdeb, yn nhermau cenedlaetholdeb asgell dde eithafol, gymryd gafael, fel y gwelsom yn y 1930au, trychineb yw’r canlyniad.

Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog, a byddwn yn cytuno â llawer o'r safbwyntiau a fynegwyd gennych yn y fan yna. Nawr, un o'r ffactorau a oedd yn ddylanwadol yng nghanlyniad refferendwm yr UE oedd y mater o gyflogau a thandorri llafur. Nawr, mae’r camfanteisio hwn yn digwydd, nid oes amheuaeth am hynny. Byddwch yn ymwybodol, fel yr wyf innau, o gyflogwyr diegwyddor yn codi tâl am lety ac yn ei ddidynnu o gyflogau pobl. Nid yw’r gweithwyr hynny mewn undebau llafur, ac maen nhw’n aml yn cael eu talu llai na'r isafswm cyflog i bob pwrpas. Nawr, camfanteisir ar weithwyr mudol ac mae’r cyflogwyr hynny hefyd yn tandorri gweithwyr Cymru. Felly, mae’r ddau fath o weithwyr yn dioddef. Ddoe, cawsom gyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, a gwnaed y pwynt hwn, rwy’n meddwl ei bod yn deg i ddweud, yn gryf. Y bore yma, rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, yn galw am orfodi llawer cryfach, yn union fel y galwais ar Lywodraethau Llafur blaenorol i'w wneud. Mae'n rhaid ymdrin â’r mater, gan fod y tandorri a’r camfanteisio hwn yn cael ei ddefnyddio gan rai gwleidyddion i fanteisio ar bryderon pobl am fudo. Roedd hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyfrannu ddoe, gan fynd yn gwbl groes i’r ffeithiau a’r dystiolaeth ynghylch pam mae cyflogau wedi bod yn ddisymud. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i’r camfanteisio ar weithwyr gan gyflogwyr diegwyddor ddod i ben, ac a wnaiff ef gytuno i fynd i'r afael â’r mater gan ddefnyddio pa bynnag bwerau sydd ar gael iddo, ni waeth beth fydd canlyniad y trafodaethau Brexit?

Wel, yn wir. Roedd hi a minnau yn y cyfarfod hwnnw gyda David Davis ddoe. Cytunodd—cytunodd â'r hyn a ddywedasom, ond y cwestiwn yw, wrth gwrs, un peth yw cytuno, peth arall yw gweithredu. Gwnaed y pwynt—a gwnaeth hi’r pwynt—nad ydym ni wedi gweld erlyniadau am dorri deddfwriaeth isafswm cyflog, yn bennaf gan nad yw mor syml â hynny. Bydd yn gwybod—rwyf wedi crybwyll yn y Siambr hon o’r blaen—fy mod i wedi clywed tystiolaeth gredadwy gan weithwyr o Wlad Pwyl, eu bod yn derbyn yr isafswm cyflog yn benodol, ond ceir dulliau eraill a ddefnyddir er mwyn didynnu arian oddi wrthynt, fel bondiau afrealistig pan fyddant yn mynd i mewn i lety—bondiau rhag difrod, a phan fyddant yn cyrraedd yno, maen nhw’n canfod fod y llety yn ddodrefn gwyn, carpedi gwyn, waliau gwyn, ac mae'n anodd iawn ei gadw’n gwbl drefnus. Gwnaed y pwynt gennym, y ddau ohonom ni, ddoe, bod llawer iawn o waith i'w wneud i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn cael eu dwyn i gyfrif, y cyflogwyr diegwyddor hyn, oherwydd mae yn llygad ei lle—maen nhw’n camfanteisio ar weithwyr mudol ac yn creu safonau is, o ganlyniad, i weithwyr yn y DU gyfan. Yn anffodus, nid oes gan lawer o'r bobl sy'n rhan o Lywodraeth y DU ar hyn o bryd ddiddordeb yn hawliau gweithwyr mudol na gweithwyr Prydain.

Rydych chi'n iawn, Brif Weinidog, ceir nifer o ffyrdd y gall cyflogwyr diegwyddor gamfanteisio ar weithwyr, ond mae’r cwestiwn hwn o'r isafswm cyflog yn un allweddol. Y tro diwethaf i mi edrych, dim ond chwech o bobl yr oedd Cyllid a Thollau EM yn eu cyflogi i orfodi'r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae’n amlwg nad yw’n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Prin fu’r erlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd hynny’n wir o dan y Llywodraeth Lafur flaenorol, hefyd, mae'n deg i ddweud. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio yn y termau cryfaf posibl y gwleidyddion hynny sy'n ceisio adrodd chwedlau am y rhesymau y tu ôl i’r wasgfa ar gyflogau pobl, oherwydd tra ein bod ni’n pwyntio at fewnfudwyr yn hytrach na diffyg gweithredu’r Llywodraeth tuag at gyflogwyr diegwyddor, rydym ni’n gadael i’r tramgwyddwyr go iawn ddianc? Ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i'r Cynulliad hwn heddiw i’n hysbysu pa adnoddau Llywodraeth Cymru y byddwch chi’n gallu eu nodi i roi terfyn ar y camfanteisio hwn fel y gall gorfodi ac, os oes angen, enwi a chywilyddio cyflogwyr diegwyddor, ddigwydd?

Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gweithio'n agos â’r cymunedau hynny sy’n cael eu heffeithio fel nad ydynt yn ofni dod ymlaen i gynnig eu tystiolaeth. Yn aml iawn, bydd hynny’n cael ei wneud gyda’r addewid o anhysbysrwydd, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ceisio bwrw ymlaen ag ef. Yn ddiweddar, gorffennais ddarllen hunangofiant Dennis Skinner. Nawr, nid yw fel rheol yn wleidydd y byddai gennyf lawer iawn yn gyffredin ag ef, efallai, mewn sawl ffordd, ond roedd yr hyn a ddywedodd am weithwyr o Wlad Pwyl yn y pyllau ar ôl y rhyfel yn ddiddorol. Dywedodd nad oedd unrhyw ddrwgdeimlad tuag atynt gan eu bod yn aelodau o undeb llafur. Ni ystyriwyd eu bod yn tandorri cyflogau mewn unrhyw ffordd. Ystyriwyd eu bod yn yr un sefyllfa a bod ganddynt yr un amddiffyniadau â gweithwyr yn y DU, a dyna'n union y mae angen i ni ddychwelyd ato. Mae gormod o bobl yn cael cyflogau isel, yn gyntaf oherwydd cyni cyllidol, ac yn ail oherwydd nad oes ganddynt gefnogaeth undeb llafur. Ac rydym ni’n gwybod bod gweithleoedd sy'n perthyn i undeb yn sicrhau gwell telerau ac amodau i’r bobl hynny sy'n gweithio yn y gweithleoedd hynny. Dyna pam mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr, cymaint ag y gallwn ni eu cael i’r pwynt hwnnw, yn cael ei gynnwys trwy aelodaeth o undeb llafur, o ble bynnag yn y byd y maen nhw’n dod.

Diolch i chi, Lywydd. Dydd Sadwrn yw Diwrnod Canser y Byd, rhywbeth y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael eu cyffwrdd ganddo, a gwn eich bod chi a fy nheulu i wedi cael profiad anffodus lle’r ydym ni wedi colli rhywun annwyl i ganser. Bydd un o bob dau ohonom ni yn cael profiad o ganser yn ein bywydau yn y dyfodol, i lawr o un o bob tri. Felly, mae'r tebygolrwydd o bobl yn cael canser yn cynyddu bob dydd a phob wythnos. Yn anffodus, ni fodlonwyd targed amser 62 diwrnod Llywodraeth Cymru ers 2008. Wedi dweud hynny, mae llawer o gynnydd da hefyd yn cael ei wneud mewn gwasanaethau canser ledled Cymru. Beth yw eich golwg gyffredinol ar y ddarpariaeth o wasanaethau canser yma yng Nghymru, o gofio bod gennym ni’r diwrnod canser cenedlaethol hwn i edrych ymlaen ato ar y penwythnos i fyfyrio ar ein sefyllfa, ac y bydd un o bob dau ohonom ni’n cael profiad o ganser yn ystod ein hoes?

Rwy’n datgan buddiant yn y fan yma. Fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ac fel sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o fuddiannau, mae fy ngwraig yn cael ei chyflogi gan Macmillan. Yr hyn sy'n amlwg dros y 10 mlynedd nesaf yw bod dau ddatblygiad y bydd pobl yn eu gweld os byddant yn cael diagnosis o ganser. Yn gyntaf, mae mwy a mwy o bobl yn 'byw gyda chanser'—dyna'r ymadrodd a ddefnyddir—canserau efallai na ellir eu gwella yn yr ystyr arferol o bum mlynedd yn rhydd o ganser, ond sy’n galluogi pobl i fyw bywyd normal ac nad yw o reidrwydd yn byrhau eu bywydau o ganlyniad, gyda'r lefel gywir o driniaeth. Yn ail, mae cynnydd aruthrol yn cael ei wneud—ac rydym ni’n ffodus fod gennym y ganolfan geneteg canser yng Nghaerdydd—i ddatblygu triniaethau sydd wedi'u teilwra i anghenion genetig yr unigolyn. Mae triniaeth canser wedi bod, ers blynyddoedd maith, yn offeryn di-fin braidd. Rhoddwyd yr un math o driniaethau i bobl dros y blynyddoedd. Roedd yn debycach i brofi a methu. Rydym ni ar flaen y gad o ran datblygiad geneteg a thriniaeth canser yng Nghymru ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod mwy a mwy o bobl yn cael y cyfle i gael gwared ar ganser yn ystod eu bywydau, ond hefyd yn gallu byw gyda chanser gan fod y cymorth, fferyllol a moesol, ganddyn nhw i wneud hynny.

Rydych chi’n iawn i dynnu sylw at yr agweddau cadarnhaol ar driniaethau canser a'r datblygiadau a'r ffordd y mae Cymru ar flaen y gad yn rhai o'r meysydd hyn. Mae'r banc canser yn Ysbyty Felindre yn enghraifft dda iawn arall o wyddoniaeth a thechnoleg arloesol. Mae gan eich Llywodraeth dargedau o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir datganiad y prynhawn yma, 'Tuag at 2030', gan yr Ysgrifennydd addysg. Mae gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU nod, sef cynyddu'r cyfraddau goroesi yn dilyn canser yr ysgyfaint. Ni waeth ble’r ydych chi’n byw ar draws y Deyrnas Unedig, mae'r cyfraddau goroesi yn wael iawn yn wir: 16 y cant mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, 5 y cant neu 6 y cant yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddwch chi’n cytuno â mi fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wella yn daer. Mae ganddyn nhw darged i wella'r gyfradd goroesi yn sgil canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd i 25 y cant erbyn 2025. Rwyf wedi tynnu sylw at nodau eraill y mae eich Llywodraeth wedi eu pennu. A fyddwch chi’n barod i bennu hwnnw fel nod i’ch Llywodraeth weithio tuag ato, yn sicr hyd at 2021, ac i’w gyrraedd, gobeithio?

Ydw, rwy'n credu bod hynny'n rhesymol. Rydym ni eisiau gweld mwy o bobl yn byw gyda chanser yr ysgyfaint ac, yn y pen draw, yn ei oroesi. Tua 8 y cant neu 9 y cant yw’r cyfraddau goroesi, os cofiaf yn iawn. Maen nhw mewn ffigurau sengl ac maen nhw’n isel. Mae llawer ohono oherwydd bod diagnosis cynnar mor hanfodol i unrhyw fath o ganser ac nid yw'r symptomau yn amlygu eu hunain yn aml oni bai fod pobl yn achosion acíwt yn yr ysbytai. Rwy’n credu bod ein meddygon teulu yn atgyfeirio pobl fel y dylent. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod hynny'n digwydd a bod pobl yn derbyn y sylw y mae ei angen arnynt. Pan fo gan bobl fathau cymhleth o ganser, wrth gwrs, tiwmorau lluosog weithiau, yna mae'n cymryd cryn amser i ddechrau cwrs o driniaeth gan fod yn rhaid cynllunio’r driniaeth honno yn y ffordd fwyaf effeithiol iddyn nhw. Ond nid oes gennyf unrhyw anhawster, wrth gwrs, gyda’r bwriad o gefnogi menter sydd eisiau lleihau nifer y marwolaethau trwy ganser yr ysgyfaint yn y ffordd y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei disgrifio.

Diolch i chi am yr ymrwymiad yna, Brif Weinidog, oherwydd os bydd yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei wneud, mae’n bosibl y gallai achub 600 o fywydau—pobl sy'n marw cyn pryd trwy ganser yr ysgyfaint yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn y pen draw, mae hwnnw'n nod, yn sicr, y dylai pob un ohonom geisio ei gyrraedd. Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad yma ar gyfer Cancer Patient Voices ynghylch gwasanaethau canser, ac yn y digwyddiad hwnnw, amlygodd Tom Crosby, sef arweinydd clinigol gwasanaethau canser yma yng Nghymru, bwysigrwydd cyflwyno cynllun canser i fod yn sail i ddatblygiad canser mewn gwasanaethau—am ddod ag oncolegwyr i Gymru a datblygu gwasanaethau cynaliadwy hirdymor. Os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed hwnnw o gynnydd o hyd at 25 y cant i gyfraddau goroesi erbyn 2025, ac os ydym ni eisiau bod o ddifrif am fynd ar y trywydd iawn nawr, mae angen i ni gyflwyno’r cynllun hwnnw. Pan fydd pobl fel Tom Crosby yn nodi hynny fel angen, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno bod angen i'r Llywodraeth wrando arno a gwrando ar eraill sy'n dweud mai dyna sy'n ofynnol i fwrw ymlaen â’r strategaeth. Yn wir, nododd Macmillan, a nodwyd gennych fel buddiant Aelod, dim ond yr wythnos diwethaf bod angen gwelliant sylweddol iawn i’r ddarpariaeth o wasanaethau i gleifion yn 2017. A wnewch chi ymrwymo i gyflwyno cynllun canser tebyg i’r hyn y mae Tom Crosby wedi ei nodi ac, yn wir, gwelliant i wasanaethau y mae Macmillan wedi galw amdano yn 2017?

Rwy’n siŵr y bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod bod y rhain yn faterion a godir yn gyson yn y tŷ yr wyf yn byw ynddo, ac mae'r pwyntiau’n cael eu gwneud yn gryf iawn, a hynny'n briodol. Byddwn yn gwrando, wrth gwrs, ar y rhai sy'n awgrymu gwahanol ffyrdd y gellir ymdrin â chanser. Mae gennym ni ein cynllun cyflawni ar ganser, wrth gwrs. Rydym ni eisiau sicrhau bod gennym ni’r lefel gywir o staff meddygol yng Nghymru; dyna pam mae gennym ni ein hymgyrch recriwtio a lansiwyd gennym y llynedd. Ac, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cymorth i bobl sy'n cael diagnosis. Gall y sioc o gael diagnosis o ganser gael ei ddwysáu’n aml gan yr angen am driniaeth, arosiadau yn yr ysbyty, yr ergyd i incwm rhywun y mae hynny’n ei chael, yr ergyd i hyder unigolyn y mae hynny’n ei chael, ac felly mae'n gwestiwn hefyd o sicrhau bod gan bobl gymorth y tu allan. Rwyf wedi gweld, a bydd yntau wedi gweld enghreifftiau tebyg hefyd rwy’n siŵr, pobl sydd, oherwydd eu bod wedi cael cymorth a chan eu bod wedi cadw eu hysbryd yn y lle iawn a’u meddyliau yn y lle iawn, wedi goroesi canser, tra bod pobl eraill sydd wedi colli eu hysbryd nad ydynt yn goroesi, ac rwyf wedi gweld hynny. Felly, mae'n hynod o bwysig, er ei fod yn gwneud y pwynt bod gennym ni’r lefel briodol o staff meddygol i ddarparu’r triniaethau, ein bod ni hefyd yn gallu sicrhau bod gan bobl y cymorth mwyaf cynhwysfawr a chyfannol o'u cwmpas er mwyn eu helpu i frwydro’r clefyd hefyd.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod y Ford Motor Company wedi canslo buddsoddiad arfaethedig o £1.6 biliwn ym Mecsico yn ddiweddar, ac wedi penderfynu yn hytrach cynyddu buddsoddiad yn ei ffatri ym Michigan o $700 miliwn. Mae hyn yn rhannol, maen nhw’n dweud, er cefnogaeth i bolisi gweinyddiaeth Trump. Mae un fil, wyth gant a phum deg o swyddi yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar y cwmni hwnnw, er gwaethaf ei benderfyniad i ostwng buddsoddiad arfaethedig gan bron i £100 miliwn fis Medi diwethaf. A yw'r Prif Weinidog yn credu bod y swyddi hynny yn cael eu gwneud yn fwy diogel gan ei alwad sarhaus i ganslo'r gwahoddiad arfaethedig i'r Arlywydd Trump i wneud ymweliad gwladwriaeth â’r Deyrnas Unedig?

Os yw'n dymuno bod—. A gaf i ei atgoffa bod y Ford Motor Company wedi condemnio sylwadau Donald Trump dros y penwythnos? Efallai nad yw wedi gweld hynny, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Rydym ni i gyd yn gweld yr anhrefn a ddaeth o ganlyniad yn America. Mater iddo ef yw bod yn eiriolwr ar ran Llywodraeth yr Unol Daleithiau, nid i mi. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw mai’r bygythiad mwyaf i ffatri injans Ford yw'r posibilrwydd o rwystr rhyngddi hi a'i hunig gwsmer yn yr Almaen. Mae'n allforio pob un injan y mae’n ei wneud. Os oes rhwystrau ar waith rhwng y ffatri injans honno a'r Almaen, bydd Ford yn cael eu temtio dros y blynyddoedd i symud eu gwaith cynhyrchu i Craiova yn Rwmania neu i ffatrïoedd eraill yn Ewrop. Hoffwn i Ford gael chwarae teg o’i gymharu â’r ffatrïoedd eraill hynny, ac nid cael ei roi mewn sefyllfa o wendid.

Fy mhwynt i yw pwysigrwydd perthynas fasnach ffyniannus barhaus â'r Unol Daleithiau, a fydd, i raddau, yn dibynnu ar fod â pherthynas gadarnhaol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Nawr, rwy’n sylweddoli y bydd gwahanol safbwyntiau o amgylch y Siambr ar bolisïau domestig Llywodraeth yr Unol Daleithiau ac, yn wir, safbwyntiau amlwg yr Arlywydd Trump ar fasnach y byd. Ond o ystyried mai’r Unol Daleithiau yw partner masnachu cenedl unigol mwyaf Cymru—allforiwyd gwerth £2,664 miliwn o allforion gennym i'r wlad honno hyd at Fehefin 2016; mae hynny’n 22 y cant o’r holl allforion o Gymru—onid yw’n hanfodol bwysig y dylem ni fod mor gadarnhaol tuag at yr Arlywydd Trump yn ein cysylltiadau rhyngwladol, ac y dylem felly groesawu ymweliad gwladwriaeth ganddo yn ddiweddarach eleni?

Yn gyntaf oll, mae'n iawn ein bod ni’n ymgysylltu â Llywodraeth yr Unol Daleithiau; byddaf yn America ddiwedd mis nesaf, gan fy mod i yn Capitol Hill yn cynnal derbyniad, gan weithio gyda chawcws aelodau Cyngres Cymru hefyd, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond Theresa May ei hun ddywedodd y dylem ni siarad yn blaen â ffrindiau; nid yw wedi gwneud hynny. Nid yw wedi gwneud hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hynod bwysig bod y pwyntiau hyn yn cael eu gwneud. Yr ymadrodd yr wyf i wedi ei ddefnyddio yw fy mod i’n credu ei bod hi’n anodd iawn dychmygu ymweliad gwladwriaeth llwyddiannus ar hyn o bryd, o ystyried yr holl ddadlau. Rwyf hefyd yn synnu at amseriad hyn. Ni chafodd Bill Clinton ymweliad gwladwriaeth erioed, nac, hyd y gwn i, George Bush, na Ronald Reagan ychwaith. Cafodd dau Arlywydd arall ymweliad gwladwriaeth, ond o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw ddod yn Arlywydd. Felly, mae'r amseru yn rhyfedd, mae’n rhaid i mi ddweud. Nid wyf yn beirniadu Theresa May am geisio ffurfio cysylltiadau â Llywodraeth yr Unol Daleithiau ni waeth pwy sydd mewn grym; dyna natur diplomyddiaeth ryngwladol. Ond mae hefyd yn golygu, os ydym ni wir am fod, fel petai, yn feirniaid cyfeillgar—os gallaf ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw—o Lywodraeth yr Unol Daleithiau, yna does bosib na ddylai Llywodraeth Prydain ymatal rhag gwneud hynny.

Mae Theresa May, wrth gwrs, wedi rhoi beirniadaeth gyfeillgar i’r Arlywydd Trump eisoes mewn gwahanol ffyrdd, ac nid wyf yn gwrthwynebu bod yn onest gyda'n cynghreiriaid, ond mae gwahaniaeth mewn diplomyddiaeth rhwng beirniadaeth onest a roddir mewn ffordd gwrtais a phreifat a'r math o ddiplomyddiaeth megaffon sy’n ymwneud mwy â gorchest ac arddangos rhinweddau, yn y wlad hon, ar gyfer mantais wleidyddol gartref.

Rwy'n credu iddo eistedd i lawr pan glywodd y geiriau 'Nigel Farage' yn cael eu hynganu yn y Siambr—meistr diplomyddiaeth megaffon a rhywun sy'n gynrychiolydd Donald Trump ar y ddaear ar hyn o bryd. O’m safbwynt i, mae’r geiriau yr wyf i wedi eu dewis, rwy’n credu, wedi bod yn briodol ac rwy’n meddwl eu bod yn amlwg i'r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain. Fel y dywedais ddoe, os bydd amgylchiadau'n newid, mae’n bosibl y gallai’r amgylchiadau yn ymwneud â’r ymweliad newid hefyd, er, o ystyried digwyddiadau’r ychydig ddiwrnodau diwethaf—wel, gall yr Aelodau wneud eu penderfyniadau eu hunain am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Nid oes gennym ni unrhyw eglurder gwirioneddol o hyd o ran yr hyn y mae'n ei olygu, hyd yn oed i ddeiliaid pasbort Prydain, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Boris Johnson ddoe. Rwy'n meddwl bod problemau i’r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf yw: pryd oedd hi’n gwybod am hyn? Os mai dydd Gwener oedd hynny, a wnaeth hi gyflwyno sylwadau? Pryd oedd hi'n gwybod am yr amodau a oedd ynghlwm wrth y gorchymyn gweithredol ac, os felly, a wnaeth hi gyflwyno sylwadau ar ran dinasyddion Prydain a deiliaid pasbort Prydain? Pam, pan gafodd ei holi am y gorchymyn, mai’r cwbl a ddywedodd oedd, 'Wel, mater i'r Unol Daleithiau yw hwn'? Pe byddai wedi bod yn unrhyw wlad arall, ni fyddai, yn fy marn i, wedi rhoi’r ymateb hwnnw. Pam y gwnaeth hi gymryd cyhyd i Boris Johnson fynd ar y ffôn i egluro'r sefyllfa, er ei bod hi’n ymddangos nad yw mor eglur ag y mae wedi ei awgrymu yn y Senedd? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau, rwy’n credu, y mae’n rhaid i’r Prif Weinidog eu hateb. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni gael perthynas gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Wrth gwrs y byddwn ni’n parhau â'n perthynas â busnesau’r Unol Daleithiau sy'n buddsoddi yng Nghymru. Mae Cymru'n agored i fusnes yr Unol Daleithiau, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem ni ddweud dim am bolisïau sy'n cael eu rhoi ar waith yr ydym ni’n anghytuno â nhw. Nid ydym wedi gwneud hynny gyda gwledydd fel Tsieina, nid ydym wedi gwneud hynny gyda gwledydd fel Rwsia. Mae'n iawn, felly, y dylem ni hefyd fynegi ein barn pan fyddwn yn anghytuno â rhywbeth y mae'r Unol Daleithiau yn ei wneud, yn hytrach na bod yn dawel ac eistedd yn y gornel. Nid dyna, yn fy marn i, yw'r ffordd iawn i’r DU gynnal ei busnes.

Ymarfer Corff

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud mwy o ymarfer corff? OAQ(5)0420(FM)

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn nodi ein huchelgais i gynyddu lefelau ymarfer corff. Mae mentrau presennol i annog ymarfer corff yn cael effaith ac mae mesurau pellach yn cael eu hystyried. Byddant yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth iach a gweithgar sydd ar ddod.

Brif Weinidog, bob bore Sadwrn am 9 a.m. ledled Cymru, mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn parkruns. Fe’u harweinir gan wirfoddolwyr, maen nhw'n cael eu hamseru a gall pobl fonitro eu cynnydd wrth iddyn nhw, gobeithio, wella eu hamseroedd dros y misoedd ac, yn wir, y blynyddoedd. Yng Nghasnewydd, ychwanegwyd at parkrun presennol Tŷ Tredegar yn ddiweddar gyda parkrun trefol canol y ddinas ar hyd glan yr afon. Cymerais ran mewn digwyddiadau diweddar a mwynheais y buddion fel y mae cymaint o bobl eraill yn ei wneud, Brif Weinidog, er bod fy llawenydd ynghylch cael amser personol gorau wedi cael ei leihau ychydig pan ddywedodd y gŵr a orffennodd o fy mlaen ei fod newydd gael clun newydd. [Chwerthin.] Ond, serch hynny, maen nhw'n ddigwyddiadau pwysig iawn ac rwyf wedi rhedeg amser gorau personol. Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod a thalu teyrnged i bwysigrwydd ac arwyddocâd y parkruns hyn, sydd yn gwneud cyfraniad cynyddol i gael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol ar hyd a lled Cymru gyfan?

Gwnaf, mi wnaf. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn teimlo'n gyfforddus yn ymarfer corff mewn ffyrdd sy'n briodol iddyn nhw. Roedd dau bwynt yr oeddwn i’n ofni y byddai'n eu gwneud. Gwnaeth yr un cyntaf, sef ei fod wedi cymryd rhan mewn parkrun ei hun. Ni wnaeth yr ail, a chroesawaf hynny, sef fy ngwahodd i i ymuno ag ef ar parkrun. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn y byddai’n sicr ar y blaen i mi yn hynny o beth. Ond rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod yn gallu annog pobl i ymarfer corff mewn ffyrdd newydd, ac mae parkruns, wrth gwrs, yn enghraifft ragorol o sut i wneud hynny.

Yn dilyn cwestiwn John Griffiths, fe fydd y Prif Weinidog yn cofio’r tro diwethaf imi ennill balot unigol yn y lle yma, rhyw chwe blynedd yn ôl, a Mesur i ddiogelu meysydd chwarae oedd hwnnw. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yna adeiladu’n mynd i ddigwydd ar hyd y llinellau yr oedd John yn ei awgrymu. Mae’n fater o bryder hefyd, fel roeddwn i’n darllen yn ddiweddar, fod 13 y cant o blant yng Nghymru yn gwneud dim ymarfer corff o un wythnos i’r llall. Pa gynlluniau sydd gyda chi i fynd i’r afael â’r sefyllfa enbydus yna?

Mae’r cynllun o rwydweithiau Cymreig o ysgolion iach yn cefnogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau er mwyn gwella iechyd plant yn yr ysgol. Mae 99 y cant o ysgolion yn rhan o’r rhaglen hynny, sef ysgolion sydd ddim yn ysgolion preifat. Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni’n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cefnogi plant i gario ymlaen gyda’u hymarfer nhw yn ystod gwyliau’r haf, wrth sicrhau bod yna bethau ar gael iddyn nhw eu gwneud i gadw’n iach.

Brif Weinidog, gallai cynyddu mynediad at gefn gwlad i deuluoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol gynnig manteision sylweddol i iechyd a llesiant y genedl. Daeth yr ymgynghoriad ar wella cyfleoedd i gael mynediad at yr awyr agored i ben ar 2 Hydref 2015. Pryd fydd eich Llywodraeth mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion a fydd yn annog gweithgareddau fel beicio a marchogaeth, gan ddiogelu’r amgylchedd a bywoliaeth pobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad Cymru?

Wel, gadewch i ni edrych ar Dewch i Gerdded Cymru: rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n sefydlu grwpiau cerdded ledled Cymru. Nod hynny yw cyflwyno cerdded i fywydau bob dydd pobl i atal dechrau cyflyrau fel clefyd y galon a gordewdra. Mae hynny’n ategu’r hyn yr ydym ni’n ei wneud eisoes. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble y cânt gerdded a hefyd bod pobl yn gwybod ble y cânt feicio, ac, wrth gwrs, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n ein helpu i ddatblygu’r dulliau hynny o ymarfer corff a thrafnidiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Cynllun Diwydiannol Llywodraeth y DU

4. Beth yw goblygiadau cynllun diwydiannol Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0406(FM)

Hyd yn hyn, nid yw'n llawn manylion, ond rydym ni wedi galw ers amser am ail-gydbwyso economi'r DU a byddwn yn ystyried yn ofalus Papur Gwyrdd strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU pan fyddwn yn ei weld yn fwy manwl.

Yn amlwg, bydd y cynllun diwydiannol yn effeithio ar faterion datganoledig mewn rhyw ffordd, ond ni fyddwn yn gwybod hynny’n union tan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun diwydiannol ar gyfer Cymru ei hun. Mewn ymateb i gwestiwn gan fy ffrind yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yr wythnos diwethaf, wfftiwyd unrhyw angen am gynllun diwydiannol brys i Gymru gan Ysgrifennydd yr economi, gyda rhai’n awgrymu y gallai fod yn rhaid i ni aros tan ddiwedd yr haf am gynllun economaidd i Gymru, heb sôn am gynllun diwydiannol. Pryd wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r gorau i chwarae mig gyda ffyniant y wlad hon yn y dyfodol?

I’r gwrthwyneb—4.1 y cant yw’r gyfradd ddiweithdra, sy’n is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym ni newydd gael y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddiad tramor uniongyrchol ers 30 mlynedd. Rydym ni o'r farn ei bod yn hynod bwysig ein bod ni’n ceisio datblygu busnes, sefydlu banc datblygu ar gyfer Cymru a'r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd, ac felly cefnogi sectorau pan eu bod nhw angen cefnogaeth. Nid ydym wedi gweld cefnogaeth gan Lywodraeth y DU ar gyfer dur; rydym ni wedi darparu’r gefnogaeth honno ac oherwydd y gefnogaeth honno y mae gobaith am ddyfodol i ddiwydiant dur Cymru. Felly, o'n safbwynt ni, mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain yng Nghymru. Ceir buddsoddiad trwm mewn sgiliau hefyd, i wella, yn y pen draw, cynnyrch mewnwladol crynswth y pen a CMC ledled Cymru, ac rydym ni’n credu bod y stori y gallwn ei hadrodd yn un dda.

Brif Weinidog, rydych chi newydd grybwyll dur yn y fan yna, ac a ydych chi mor siomedig ag yr oeddwn innau pan ddarllenais drwy'r cynllun diwydiannol gan Lywodraeth y DU mai prin yw’r trafod ar ddur? A dweud y gwir, mae'n adlewyrchu, o bosibl, ei holl agwedd at ddur—nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. A wnewch chi edrych ar y strategaeth ddiwydiannol, gan fod gweithgynhyrchu yn 16 y cant o werth ychwanegol gros yma yng Nghymru? Mae'n sector pwysig, felly pan fyddwch chi’n cynhyrchu'r strategaeth economaidd, a wnewch chi sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol ynddi i sicrhau bod ein sector gweithgynhyrchu a’n sector dur yn cael eu hadlewyrchu yn y camau a gymerwn?

Trwy ein gweithredoedd, rydym ni’n cael ein barnu ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i’r sector dur yng Nghymru: y cymorth ariannol yr ydym ni wedi ei ddarparu; a'r ffaith ein bod ni wedi ymgysylltu cymaint â Tata a chynhyrchwyr dur eraill, yn enwedig, gan ddangos iddyn nhw ein bod ni’n gweld dur fel rhan bwysig o economi Cymru. Prin yw’r cyfeiriadau at ddur yn y Papur Gwyrdd ei hun, er gwaethaf y sicrwydd yr ydym ni wedi ei glywed gan Lywodraeth y DU am ei bwysigrwydd canolog. Mae angen i ni weld mwy o fanylion am sut y bydd Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur.

O ran eich Papur Gwyn ar adael yr UE, Brif Weinidog, mae ynddo lawer y gallaf gytuno ag ef. Ond mae'n ymddangos bod diffyg cynllunio strategol i ysgogi’r cyfleoedd, rwy’n credu, i dyfu economi Cymru. Rydym ni’n gwybod bod allforion Cymru wedi gostwng yn 2015 a bod 26 y cant yn llai o fusnesau newydd a gychwynnwyd ers 2011. Felly, wrth dyfu economi Cymru, sut mae eich papur yn cysylltu â’ch strategaeth ffyniannus a diogel y soniodd eich Ysgrifennydd Cabinet amdani yr wythnos diwethaf? Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r gostyngiad i allforion a chefnogi busnesau newydd yn arbennig, mewn gwirionedd?

Yn gyntaf, diolchaf iddo am yr hyn a ddywedodd am y Papur Gwyn, nid ei ddisgrifio fel 'The Beano', wrth gwrs, fel y clywsom eraill yn ei blaid yn ei ddisgrifio. Soniodd am fentrau bach a chanolig eu maint—wel, mae gennym ni ein cronfa ad-daladwy i BBaChau, sy'n cynnig cyllid ad-daladwy i BBaChau. Lansiwyd y cynllun hyder busnes gennym, sy’n gyfres o gamau gweithredu yr ydym yn eu datblygu gyda'r bwriad o hybu hyder busnesau, yn syth ar ôl y refferendwm, ac mae hynny'n cynnwys cyhoeddiad y gronfa twf a ffyniant newydd, fel bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo. Yn ogystal â hynny, mae Cyllid Cymru wedi cynyddu un gronfa ac wedi cyflwyno dwy gronfa newydd hefyd. Er enghraifft, cronfa buddsoddiadau menter technoleg Cymru a chronfa fusnes Cymru. Felly, rydym ni’n benderfynol o wneud yn siŵr y gallwn roi cymaint o gymorth ag sydd ei angen ar BBaChau. Mae'n iawn i ddweud bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl Brexit. Nid ydym yn gwybod beth fydd y trefniadau ar gyfer cael mynediad at y farchnad sengl, a hyd y bydd y cwestiynau hynny wedi eu hateb, yna mae'n naturiol y bydd rhai busnesau sy'n dymuno allforio a fydd yn dymuno aros i weld beth sy'n digwydd cyn iddyn nhw wneud penderfyniadau buddsoddi.

Cau Banciau yng Ngogledd Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gau banciau yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0413(FM)

Roedd yn achos pryder i mi glywed am ragor o achosion arfaethedig o gau banciau; maen nhw’n digwydd ledled Cymru. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod pobl, lle maen nhw’n colli eu canghennau banc, yn gallu cael mynediad at wasanaethau bancio drwy'r swyddfeydd post.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd HSBC ei fwriad i gau ei gangen yn Nhreffynnon, yn dynn ar sodlau NatWest yn gwneud yr un penderfyniad i gau ei ddrysau yn yr un dref, ac mae canlyniad hynny’n mynd i daro’r stryd fawr yn galed. Ymunodd aelodau o'r gymuned a’m cydweithiwr seneddol â mi ddydd Gwener diwethaf i wneud safiad yn erbyn y cau diweddaraf hwn, ac roedd loes a dicter y bobl leol yn gwbl amlwg. Maen nhw wir yn teimlo mai digon yw digon i’r ardal. Yn wir, pan gaeodd HSBC ei fanc yn y Fflint y llynedd, cynghorwyd cwsmeriaid ganddo y gallent symud i ddefnyddio cangen Treffynnon, a chaewyd eu cangen NatWest yn y Fflint y llynedd hefyd, gan adael llawer, â’r henoed yn bennaf, heb wasanaeth. Er bod y banciau yn ei gwneud yn eglur ei bod yn bosibl defnyddio'r swyddfa bost leol, nid yw hyn yn berthnasol i gwsmeriaid busnes yn amlwg, a hefyd mae dyfodol swyddfa bost Treffynnon yn bell o fod yn sicr ar hyn o bryd.

Brif Weinidog, er fy mod i’n cydnabod y byddai angen i unrhyw ddeddfwriaeth i ddiogelu ein canghennau banc lleol gael ei gwneud ar lefel y DU, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth all hi ei wneud i alluogi pobl a busnesau yn fy etholaeth i a ledled Cymru i barhau i gael mynediad at fancio wyneb yn wyneb a chefnogi ein strydoedd mawr a fydd o bosibl yn dioddef yn sgil yr achosion hyn o gau?

Rydym, wrth gwrs, dros y blynyddoedd wedi cefnogi ein swyddfeydd post yn ariannol, ac maen nhw’n hynod bwysig mewn cymunedau lleol. Mae'n iawn i ddweud, er y gall gwasanaethau bancio personol gael eu darparu gan swyddfeydd post, y gwir amdani yw nad yw'r rhan fwyaf o gwsmeriaid busnes yn cael y math hwnnw o wasanaeth, a dyna’r hyn y mae angen i'r Swyddfa Bost ei ddarparu, gan weithio gyda'r banciau. Pan fydd busnesau yn casglu eu harian ar ddiwedd y dydd, ble maen nhw’n mynd â’u harian? Dyna un o'r problemau. Rydym ni’n edrych wedyn ar gael coffrau nos mewn swyddfeydd post—dyna’r datblygiad rhesymegol. Mae'n helpu nifer cwsmeriaid y swyddfa bost hefyd. Yr anhawster gyda bancio nawr yw bod llawer llai o bobl yn mynd i ganghennau, ond mae pobl sydd angen y gwasanaethau hynny, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Swyddfa'r Post i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael i'r bobl hynny sydd eu hangen. Rydym ni wedi cyflwyno sylwadau dros y blynyddoedd i Swyddfa'r Post, ac i’r banciau yn wir—rwyf wedi ei wneud yn bersonol—i wneud yn siŵr, pan fo banciau yn penderfynu nad ydynt yn dymuno bod mewn cymuned mwyach, y gall y swyddfa bost gymryd drosodd y gwasanaeth y maen nhw’n ei gynnig, ac, wrth gwrs, i edrych ar ffyrdd y gall undebau credyd ddarparu gwasanaethau ariannol hefyd, i lenwi'r bylchau y mae’r banciau masnachol yn eu gadael.

Rwyf wedi codi pryderon hefyd yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn ‘hubs’ rhanbarthol. Rydym yn gweld patrwm o hynny yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny yn amddifadu pobl o wasanaethau, fel y mae Aelodau eraill yma wedi ei ddweud.

Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod banciau, os nad fel cwmnïau unigol ond fel sector, yn sicrhau gwasanaethau ariannol a hygyrchedd iddyn nhw ym mhob cymuned yng Nghymru?

Mae hynny’n deg, ac yn hollbwysig. Os yw’r banciau yn ffaelu ei wneud e, felly mae yna ddyletswydd, yn fy marn i, arnyn nhw i sicrhau bod yna ffyrdd eraill i ddelifro gwasanaethau cyllidol drwy’r Swyddfa Bost, a hefyd, wrth gwrs, fel Llywodraeth rydym wedi bod yn cefnogi undebau credyd er mwyn eu bod nhw’n gallu llanw’r bwlch y mae’r banciau masnachol yn ei adael, fel y dywedais i’n gynharach. Wrth wneud hynny, rydw i’n credu y bydd hi yn bosib sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth y dylen nhw ei gael.

Fel y dywedodd HSBC wrthyf pan gefais gyfarfod â nhw y llynedd i drafod cau’r banciau yn Sir y Fflint, ac fel yr atebodd NatWest i mi wrth i mi eu gwrthwynebu ac ysgrifennu atynt am gau’r gangen yn Nhreffynnon, ac fel y mae’r Yorkshire Building Society yn ei ddweud nawr, y newid o ddefnyddio gwasanaethau mewn banc i ddefnydd digidol yw’r rheswm am hyn. Wrth gwrs, mae hynny—fel y dywedwyd nawr am HSBC yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst—yn golygu bod pobl hŷn, y rhai nad oes ganddynt gludiant, y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, a busnesau bach yn dioddef.

Yn y cyd-destun hwnnw, pa ddeialog a pha sylwadau a wnaeth eich Llywodraeth i adolygiad annibynnol yr Athro Griggs o sut y mae banciau wedi gweithredu'r protocol bancio i sicrhau bod effaith cau banciau cyn lleied â phosibl, ac a fu unrhyw ddeialog gyda Swyddfa'r Post ynghylch eu partneriaeth sydd newydd ei chyhoeddi i sicrhau mynediad at wasanaethau bancio lleol?

Wel, rydym ni’n croesawu'r argymhellion ar gyfer gwell ymgysylltu a chyfathrebu rhwng y banciau a chwsmeriaid, ond mae'n bwysig i Lywodraeth y DU, fel y sefydliad arweiniol yn hyn o beth, wneud yn siŵr bod yr hyn a awgrymwyd gan yr adolygiad yn digwydd mewn gwirionedd, sef bod y banciau yn gwella’r ffordd y maen nhw’n ymgysylltu â'r cymunedau hynny sy'n wynebu cau canghennau, gan gynnwys gweithio gyda chwsmeriaid busnesau bach i weld sut y gallant liniaru ymhellach yr her o adneuon a chasgliadau arian parod y mae cau canghennau yn eu creu i rai ohonynt. Felly, er y gallwn groesawu'r argymhellion, mae angen i ni weld gweithredu nawr ar ran Llywodraeth y DU.

Cymorth i Ficrofusnesau yng Nghymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i ficrofusnesau yng Nghymru? OAQ(5)0417(FM)

Gwnaf. Mae cymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid, microfusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Mae ein pwyslais yn parhau i fod ar gefnogi entrepreneuriaid sy'n cael eu sbarduno gan arloesedd, swyddi a'r economi.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â'r cymorth yr ydych chi wedi cyfeirio ato, rwy'n ymwybodol bod Busnes Cymru yn darparu cymorth a chanllawiau ymarferol sylweddol ar gyfer datblygu busnesau, fel cynlluniau busnes, ymchwil, marchnata, rheoli ac ati. Ym Merthyr Tudful, mae gennym ni sefydliad gwych o'r enw Hwyl Hub, sy'n cynnig swyddfeydd wedi’u hwyluso i fusnesau rannu adnoddau a syniadau o dan yr un to. Mae'r swyddfeydd wedi'u hwyluso yn cynnig amgylchedd un-stop, cost-effeithiol i sbarduno syniadau a rhannu sgiliau, gwybodaeth a llwyddiant. Rhan bwysig o swyddogaeth y ganolfan, yn ogystal â darparu'r swyddfeydd wedi’u hwyluso, yw cynnig fforwm ar gyfer y busnesau bach newydd neu ddatblygol hyn i rannu profiadau ac arferion da a chyd-gymorth.

A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, y gall mentrau fel hyn fod yn hynod fuddiol i fusnesau bach, yn enwedig yn eu blynyddoedd ffurfiannol, a bod ganddynt ran bwysig i'w chwarae o ran cefnogi twf parhaus busnesau newydd yng Nghymru, gan ategu’r gwaith a wneir gan Fusnes Cymru?

Ydw, mi ydwyf, oherwydd mae rhannu arbenigedd, arfer da a chael rhwydwaith o gymorth yn ffactor pwysig i fusnesau newydd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ar y cyd â'r rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth rhanbarthol, REAP, wrthi’n adolygu'r angen am fannau deori, gan gynnwys y math o leoedd sydd eu hangen yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth honno ar gael yn y dyfodol ar gyfer microfusnesau, y bydd rhai ohonynt yn tyfu i fod yn sylweddol fwy ac yn cyflogi mwy o bobl.

Adolygiad Hendry

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Hendry? OAQ(5)0412(FM)

Rydym ni’n ei groesawu gan ei fod yn cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlyn llanw yn y DU ac am y gydnabyddiaeth benodol y mae'n ei rhoi i brosiectau yng Nghymru sydd eisoes yn cael eu datblygu o amgylch arfordir Cymru.

Diolch i chi am hynna. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn ei groesawu—chi, fi ac Aelodau Cynulliad eraill yn y Siambr hon. Yr hyn nad oes ei angen arnom, wrth gwrs, yw mater y drwydded forol yn atal unrhyw gynnydd. O gofio i mi godi’r oedi gyda'r drwydded forol gyda chi ym mis Medi 2015, pa mor aml y mae eich Llywodraeth wedi mynd ar drywydd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno’r drwydded honno yn y 16 mis diwethaf, a pha reswm mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei roi i chi am ei adroddiad hwyr iawn ar yr effaith ar rywogaethau, a fydd, yn ôl pob tebyg, yn llywio’r penderfyniad?

Sefydliad hyd braich yw Cyfoeth Naturiol Cymru, a cheir cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ei ddweud yn briodol wrtho pan fydd yn gwneud penderfyniad ar gais am drwydded forol, ond fe ddywedaf hyn: mae angen gwneud penderfyniad ar y cais cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yn y Siambr hon bwysigrwydd y morlyn llanw, hefyd, o ran swyddi. Mae angen i ni hefyd weld, wrth gwrs, ymrwymiad cadarn nawr gan Lywodraeth y DU o ran y pris streic er mwyn sicrhau bod y prosiect hynod gwerth chweil hwn yn mynd yn ei flaen.

Diolch, Lywydd. Roeddem ni’n falch iawn bod Charles Hendry wedi rhoi o’i amser i ymweld â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf ac i friffio Aelodau’r Cynulliad—

Morlyn Llanw Bae Abertawe

8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch Morlyn Llanw Bae Abertawe ers cyhoeddi adroddiad Hendry? OAQ(5)0409(FM)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y rhybudd o’i gwestiwn atodol? Nid yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi cyfarfod â Charles Hendry yr wythnos diwethaf, ac mae swyddogion yn sicr mewn cysylltiad agos â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Whitehall.

Charles Hendry—roeddem ni’n falch iawn ei fod yma yr wythnos diwethaf yn briffio Aelodau'r Cynulliad. Roedd yn gymeradwyaeth eglur a phendant i forlyn Abertawe fel prosiect braenaru, a dywedodd yn ei adroddiad, ac rwy'n dyfynnu,

Tua 30c fesul cartref y flwyddyn dros y 30 mlynedd gyntaf fyddai costau prosiect braenaru.

Deg ceiniog ar hugain.

Byddai prosiect ar raddfa fawr yn llai na 50c dros y 60 mlynedd cyntaf. Gallai manteision y buddsoddiad hwnnw fod yn enfawr, yn enwedig yn y de, ond hefyd mewn llawer o rannau eraill o'r wlad. Ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth, siarad â llawer o'r partïon allweddol, ar ddwy ochr y ddadl hon, rwyf o’r farn y dylem ni achub ar y cyfle i symud y dechnoleg hon yn ei blaen nawr.

Felly, a wnaiff y Prif Weinidog nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Senedd, y gefnogaeth drawsbleidiol ymhlith llawer o ASau Cymru, y gefnogaeth draws-sector gan fusnesau, y gefnogaeth gan y brifysgol ac, er bod angen i ni ymdrin â'r pryderon amgylcheddol sy'n parhau, y gefnogaeth ehangach gan gyrff anllywodraethol i’r cynllun ynni cynaliadwy arloesol hwn? A fyddai hefyd yn cytuno bod hyn, fel y dywedais wrth Charles Hendry pan ddaeth yma gyntaf i dderbyn sylwadau, yn benderfyniad rhwydd, neu, fel y dywedodd yn ei adroddiad, yn bolisi ‘dim edifarhau’ i’r Llywodraeth, ac y byddem yn croesawu datganiad cefnogol gan Lywodraeth y DU i’r prosiect braenaru ar y cyfle cyntaf un? Beth all ef ei wneud i helpu i gael y datganiad cefnogol hwnnw?

Yn sicr, ac rydych chi wedi gwneud hynny’n eglur dros ben. Mae hwn yn brosiect sydd nid yn unig yn darparu ynni gwyrdd y tu hwnt i'n hoes ni ein hunain, nad yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi arfer ei ddarogan ym myd gwleidyddiaeth, ond dyna'r gwirionedd, ond mae hefyd yn brosiect sydd â'r potensial i greu o leiaf 1,300 o swyddi, yn enwedig yn ardal Castell-nedd Port Talbot, o ran cynnal a chadw a gweithgynhyrchu’r offer sydd ei angen i gynhyrchu'r ynni. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle yr ymdrinnir â mater y drwydded forol, lle mae'r pris streic yn cael ei gytuno ac y gallwn fwrw ymlaen â phrosiect na all ond bod o fudd i bobl Cymru.

Bechgyn Bevin

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydnabyddiaeth a roddwyd i'r rhai a wnaeth eu gwasanaeth cenedlaethol fel Bechgyn Bevin yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi hynny? OAQ(5)0418(FM)

Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb cryf iawn yn y mater hwn, ac rydym ni’n gwybod bod bechgyn Bevin, yr oedd llawer ohonynt yn gweithio mewn amodau peryglus yn y pyllau, wedi chwarae rhan annatod er mwyn helpu i ennill yr ail ryfel byd. Mae'n addas bod cofeb yn eu hanrhydeddu wedi ei chodi yn yr Ardd Goed Coffa Genedlaethol yn Swydd Stafford.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am hynna, ac fe gysylltodd fy etholwr Mr William Beer o Lanbradach â mi yn ddiweddar. Mae’n 91 oed eleni ac roedd yn fachgen Bevin yn ystod yr ail ryfel byd. Pan gafodd y rhaglen bechgyn Bevin ei dirwyn i ben ym 1948, ni chawsant unrhyw fedalau ac aeth eu hymdrechion yn ddigydnabod hyd at ddathliadau hanner canmlwyddiant Diwrnod VE ym mis Mai 1995. Ym mis Mehefin 2007, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai rhai a fu’n Fechgyn Bevin yn derbyn bathodyn cyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth. Rwy'n teimlo nad yw hynny'n ddigon o hyd. Rwyf yn mynd i ysgrifennu at Gymdeithas Bechgyn Bevin i ofyn iddyn nhw gysylltu â’m hetholwr, ond, yn y cyfamser, a wnaiff y Prif Weinidog dalu teyrnged i Mr Beer a phobl debyg iddo, a chydnabod ei gyfraniad at ddiogelwch ein gwlad yn ystod yn ail ryfel byd?

Gwnaf yn wir, oherwydd, er nad oedden nhw’n ymladdwyr, wrth gwrs, hebddynt, ni fyddai wedi bod yn bosibl rhyddhau’r rhai a aeth i mewn i'r lluoedd arfog, ni fyddai wedi bod yn bosibl rhoi tanwydd yng nghynifer o'r peiriannau yr oedd eu hangen mewn llongau yn arbennig, ac rydym ni’n gwybod y byddai'r economi wedi dod i stop. Byddai hynny wedi bod mor wanychol â cholled filwrol. Nid yw pensiynau rhyfel, er enghraifft, wedi eu datganoli. Nid ydynt wedi eu cymhwyso i fechgyn Bevin. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyn nhw, ond byddwn yn hapus i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol yn Llywodraeth y DU i’w wneud yn ymwybodol o'r materion yr ydych chi wedi eu codi heddiw ac, wrth gwrs, y mater o bensiynau rhyfel a’r hyn y dylid ei wneud nawr i anrhydeddu pawb sydd dal i fod gyda ni a gyfrannodd gymaint at ymdrech y rhyfel.

2. Cwestiwn Brys: Cau Swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi? EAQ(5)0117(EI)

Nid yw materion sydd o fewn cylch gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Er bod y cwestiwn yn un pwysig, penderfyniad i’r Adran Gwaith a Phensiynau yw sut y mae'n rheoli ei ystâd yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am hyn. Deallaf fod yr adran wedi dweud y bydd yr holl staff yr effeithir arnyn nhw yn cael cynnig swyddi eraill yn amodol ar brosesau safonol yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ymgynghoriadau â’r staff.

Rwyf yn diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Nid yw hyn wedi ei ddatganoli, er ein bod wedi dadlau ers talwm ym Mhlaid Cymru y dylid datganoli canolfannau gwaith, ac mae’r cyfle wedi ei golli ym Mil Cymru i ddiogelu rhai o'r swyddi hyn yn Llanelli ac mewn mannau eraill. Deallaf fod y swyddfa gefn yn Llanelli wedi ei dyfarnu yn fewnol fel bod yn un o’r swyddfeydd sy'n perfformio orau yn gymharol ddiweddar. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth am safon y gwaith a wneir gan bobl yn y fan honno. Cyfleustra gweinyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau yw hyn a dyna i gyd, sy'n golygu nad yw’n ystyried ei chyfrifoldebau cyffredinol yn y DU i gynnal economïau lleol ac i gynnal patrwm o waith lleol. Byddwn wedi meddwl y byddai gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn hynny ac y byddai’n pryderu am y peth.

Felly, a gaf i ofyn i chi yn benodol, Weinidog: er nad eich cyfrifoldeb datganoledig yw hwn, a yw’r Llywodraeth hon—Llywodraeth Cymru—wedi ysgrifennu eto at yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch y cau hwn yn Llanelli, ond hefyd am y rhaglen ehangach sy'n effeithio ar lawer o gymunedau Cymru? Ydych chi wedi gweld asesiad effaith cydraddoldeb wedi ei wneud, yn enwedig o ran gweithwyr a allai fod â phroblemau symudedd o ran teithio, yn ogystal ag asesiadau effaith, wrth gwrs, yn sgil cau canolfannau gwaith lleol ar rai sy’n hawlio budd-daliadau ac yn byw fwy na dwy neu dair milltir i ffwrdd? Rydych chi’n dweud mai’r cynnig yw na ddylai fod unrhyw ddiswyddiadau; er hynny, nid oes unrhyw sicrwydd pendant y gallaf ei weld o du'r Adran Gwaith a Phensiynau na fydd unrhyw ddiswyddiadau. Ydych chi wedi cael y sicrwydd hwnnw, o gofio y gallai'r adleoli gynnwys swyddfeydd cyn belled i ffwrdd â Doc Penfro a Chaerdydd? Mae honno’n sefyllfa annheg iawn i rywun sy'n byw yn Llanelli neu yn ardal Llanelli fod ynddi. Yn olaf, pa gamau pellach y gallwch chi eu cymryd i bwyso ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ystyried ei chyfrifoldebau cymdeithasol ehangach, yn hytrach na’r ffordd hon sydd ganddi tuag at chwalu darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus?

Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Gallaf gadarnhau ein bod wedi siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau am gyflogadwyedd ehangach, ac am y posibilrwydd o gyd-leoli rhai swyddfeydd, er nad yn benodol am y swyddfa yn Llanelli y mae’n sôn amdani. Rwyf innau, hefyd, yn pryderu fel yntau fod hyn wedi cael ei wneud am resymau cul ynghylch ystâd yn unig. Fy nealltwriaeth i yw bod cytundeb Menter Cyllid Preifat wedi dod i ben, a bod hwn yn ad-drefniad ar sail ystâd nad oes ganddo ddim i’w wneud â'r swyddi. Nid ydym wedi derbyn unrhyw wybodaeth yn ychwanegol at yr hyn y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ei ddweud wrth bawb, sef eu bod yn ceisio trosglwyddo swyddi'r staff dan sylw, ac y byddan nhw yn ddarostyngedig i’r telerau a'r amodau arferol ar gyfer hynny. Byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn. Mae swyddogion yn cyfarfod â nhw i drafod amryw o faterion. Byddwn yn codi’r pwynt penodol hwn gyda nhw, nid yn unig am y swyddfa yn Llanelli, ond am bob un o'r swyddfeydd sydd yr effeithir arnynt.

Rwy'n credu y byddwn i, yn bersonol, yn hoffi cael dweud fy mod braidd yn siomedig na allen nhw fod wedi rhoi mwy o syniad i ni am yr hyn a allai ddigwydd. Maen nhw wedi gwneud penderfyniad ar sail gul iawn. Nid ydyn nhw wedi ystyried yr economi leol a phethau eraill. Mewn gwirionedd, nid ydyn nhw wedi ystyried hyd yn oed y posibilrwydd o gyd-leoli ar lefel ehangach. Polisi yn ymwneud â’r ystâd yw hwn yn syml. Nid oes gennym unrhyw rym drosto, fodd bynnag. Mater iddyn nhw yw gwneud hynny. Ond mi fyddwn i’n dweud ein bod yn parhau i drafod gyda nhw am gyd-leoli. Mae'n hanfodol nad oes toriad yn y gwasanaethau. Mae fy swyddogion i yn gweithio'n galed iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau, o safbwynt ein dinasyddion, bod cyflogadwyedd a gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu trwy gyfrwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith, er enghraifft, yn ymddangos mor ddi-dor ag sy’n bosibl o safbwynt y sawl sy'n derbyn gwasanaethau.

Weinidog, mae’n rhaid imi ddweud wrthych chi mai ychydig iawn o ffydd sydd gan weithwyr yn Llanelli na fydd cynigion yr Adran Gwaith a Phensiynau yn arwain at unrhyw ddiswyddo. Maen nhw wedi cael gwybod, os na fydd swyddi addas ar gael mewn lleoliadau 'cyfagos', na fydd eu hangen o gwbl, a ffordd arall o ddweud y bydd swyddi’n cael eu colli yw hynny. Mae'r lleoliadau cyfagos, dywedir wrthym, yn cynnwys Doc Penfro a Chaerdydd, a allai ddim ond bod yn ddiffiniad gan ddyn yn Whitehall—sef bod 60 milltir o daith yn lleoliad cyfagos. A wnaiff y Gweinidog siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i atgoffa o'r geiriau a gyhoeddodd am gydweithredu economaidd agos rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU? Bydd effaith economaidd colli 146 o swyddi yng nghanol Llanelli yn sylweddol ar adeg o bryder mawr am ddiogelwch swyddi eraill yn yr ardal. A wnewch chi hefyd atgoffa'r Ysgrifennydd Gwladol o'r geiriau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn dilyn Brexit am ledaenu ffyniant ledled y DU? Mae’r camau hyn, yr ydych yn dweud eu bod nhw wedi eu cyfiawnhau ar sail ystâd, yn gwbl amddifad o ystyriaeth a barn strategol a thrugaredd o ran eu heffaith ar yr economïau yn yr etholaeth yr wyf i yn ei chynrychioli yn y Cynulliad hwn.

Yn olaf, Weinidog, os mai moderneiddio’r ystâd yw cyfiawnhâd yr Adran Gwaith a Phensiynau, a wnaiff y Gweinidog atgoffa'r Adran Gwaith a Phensiynau y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd yn hapus i gydweithio â Whitehall er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dod o hyd i swyddfeydd addas eraill sy'n bodloni eu hamcanion o dan eu cynllun ystâd newydd, ond a fyddai hefyd yn diogelu swyddi yn fy nghymuned i?

Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac at y Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny ar sail yr hyn mae’r Aelod wedi ei amlinellu. Mae hi’n bosibl y byddai'r Aelod yn dymuno mynegi ei farn ei hun i'r ymgynghoriad. Mae gwefan yr ymgynghoriad i’w weld yn www.gov.uk/dwp/consultations. Rwyf wedi rhoi cynnig arni fy hunan ac mae dod o hyd iddi yn hawdd iawn. Buaswn yn annog pob Aelod i fynegi eu barn eu hunain ar y sail honno. Ond rwy’n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn uniongyrchol ac yn ei atgoffa am y geiriau hynny.

Hoffwn bwysleisio, er hynny, ein bod yn trafod y rhaglen gyflogadwyedd gyfredol sydd gennym gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a byddwn yn bwrw ymlaen â hyn yn rhan o’r drafodaeth honno. Ond nid oes gennyf fwy o wybodaeth na sydd gan yr Aelod am y colli swyddi. Chawsom ni ddim gwybodaeth ymlaen llaw. Roeddem yn gwybod fod gwaith rhesymoli ystadau yn cael ei gynnal, ond ni chawsom y manylion. Nid yw'n fater sydd wedi ei ddatganoli, felly maen nhw o fewn eu hawliau i weithredu yn y ffordd honno, er ein bod wedi ein siomi nad oedden nhw wedi gweld yn dda i’w rannu gyda ni ymlaen llaw er mwyn gweld a allem ni leddfu rhai o'i effeithiau.

3. Cwestiwn Brys: Y Gwaharddiad rhag Teithio i’r Unol Daleithiau am 90 Niwrnod

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rydw i’n galw ar Dawn Bowden i ofyn yr ail gwestiwn brys. Dawn Bowden.

Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol? EAQ(5)0424(FM)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Er gwaethaf y sicrwydd a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Tramor ddoe, ceir cryn ansicrwydd am effaith y gwaharddiad teithio. Byddwn yn pwyso am sicrwydd, ac yr wyf wedi ei gwneud yn glir i'r Prif Weinidog ddoe bod y polisi gwaharddiad teithio y tu hwnt i bob amddiffyniad rhesymol.

Diolch i chi am eich ymateb ar hynna, Brif Weinidog, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am eich condemniad parod o'r camau cywilyddus a gymerwyd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau—camau sydd yn groes i gonfensiwn Genefa, cyfraith ryngwladol, ac yn ôl pob tebyg, cyfansoddiad yr Unol Daleithiau? Mewn cyferbyniad eglur, mae condemniad Prif Weinidog Prydain wedi bod yn araf i ddod, a chrintachlyd oedd hwnnw ar y gorau. Er gwaethaf yr effaith y gall y gorchymyn gweithredol ei gael ar ddinasyddion Prydain, ei hymateb cyntaf hi oedd mai mater i UDA ac i Lywodraeth yr Unol Daleithiau yw ei pholisi mewnfudo. Mae'n amlwg nad arweiniodd ei pherthynas arbennig gyda'r Arlywydd at unrhyw ragrybudd arbennig ganddo ef am yr hyn a oedd i ddod.

Mae Donald Trump yn ddyn sy'n teimlo ei bod yn iawn iddo watwar y rhai hynny sydd ag anableddau, mae’n un sy’n casáu menywod yn y modd gwaethaf un ac mae’n dadlau dros artaith, ac mae wedi methu â chyfiawnhau ei hun ym mhob achos. Mae ei ymgais i gyfiawnhau’r polisi hwn hefyd wedi bod yr un mor chwerthinllyd, pan ddywedodd,

Er mwyn eglurder, nid gwahardd Mwslimiaid yw hyn ... Nid yw hyn yn ymwneud â chrefydd—mae’n ymwneud â therfysgaeth a chadw ein gwlad yn ddiogel.

Wel, os yw Donald Trump yn awyddus i gadw ei wlad yn ddiogel, efallai y dylai wneud rhywbeth am reoli gynnau, oherwydd, a dweud y gwir, mae Americanwyr mewn mwy o berygl oddi wrth ei gilydd nag oddi wrth unrhyw un o blith unrhyw un o'r saith gwlad y mae eu dinasyddion wedi eu heffeithio gan y gwaharddiad hwn. Ni ellir enwi yr un dinesydd o America sydd wedi ei ladd mewn ymosodiad terfysgol gan neb o unrhyw un o'r gwledydd hyn.

Ond, fel y nodwyd gennych, Brif Weinidog, nid mater yn unig o fod yn achos pryder a gofid i gymunedau Mwslimaidd gan y gwaharddiad teithio 90 diwrnod yw hyn, mae'r gorchymyn gweithredol hefyd yn gosod gwaharddiad ar raglen ffoaduriaid yr Unol Daleithiau am 120 diwrnod ac yn gosod gwaharddiad amhenodol ar ffoaduriaid o Syria. Mae gorchymyn gweithredol Trump, a ddaeth ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, o bob diwrnod, yn ddigyfiawnhad, yn ddilornus o’r ddyletswydd foesol sydd arnom i gyd i helpu ffoaduriaid, ac, fel yr ydym wedi ei weld eisoes yr wythnos hon, dim ond gwaethygu anoddefgarwch crefyddol a hiliol a wnaiff. Mae ef wedi ceisio pardduo crefydd gyfan, a chaf fy atgoffa am sut y gall gweithredoedd o’r fath arwain at erchyllterau a hil-laddiad hyd yn oed. Nid dechrau gyda’r siambrau nwy a wnaeth yr holocost. Fe ddechreuodd gyda phardduo crefyddwyr ac anoddefgarwch—

Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ailddatgan ei safbwynt, ac ychwanegu ei lais at y rhai hynny sy'n galw am amddifadu Donald Trump o’r anrhydedd o gael ymweliad gwladol â’r DU ar hyn o bryd, ac a fydd yn galw ar y Prif Weinidog i ddangos yr un asgwrn cefn ag arweinyddion eraill y byd gan gondemnio gweithredoedd Trump yn ddiamwys a chymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i’w ddarbwyllo i wrthdroi'r penderfyniad hwn?

Rwyf eisoes wedi mynegi fy marn am yr ymweliad. Yr hyn a fu'n amlwg dros y dyddiau diwethaf yw bod gwaharddiad wedi ei osod heb unrhyw sail resymegol iddo. O’r ymosodiadau terfysgol sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau dros y blynyddoedd, nid oes unrhyw ymosodwr wedi dod o’r saith gwlad hynny—ni ddaeth yr ymosodwyr ar y ddau dwr oddi yno. Yr Aifft, Saudi Arabia, dwy wlad o ble y daeth terfysgwyr, nid oes gwaharddiad arnyn nhw, sy'n codi amheuaeth fod hynny oherwydd buddiannau busnes yn y gwledydd hynny sydd gan fusnesau penodol yn yr Unol Daleithiau. Felly, nid oes unrhyw resymeg i'r polisi hwn. Yn ail, wrth gwrs, fe gafodd ei weithredu mewn modd mor wael fel nad oedd gan swyddogion y tollbyrth,—swyddogion CBP fel y’u gelwir yn America —unrhyw glem sut i'w weithredu. Mae'n amlwg bod y gorchymyn yn ei le heb dderbyn cyngor gan arbenigwyr. Un cyngor y byddwn yn ei roi i Arlywydd yr Unol Daleithiau yw hwn: nid yw derbyn cyngor yn arwydd o wendid; arwydd o gryfder ydyw. Nid oes neb sy’n gwybod popeth, ac rydym yn gweld canlyniadau hynny.

Rydym yn gwybod nad oedd rhai dinasyddion o Brydain wedi gallu teithio i America na theithio drwy’r wlad o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd. Mae achos y milfeddyg o Iran a oedd wedi ei ddal yn Costa Rica yn hysbys iawn. Ac nid yw’r sefyllfa yn wirioneddol glir i ni o hyd. Nid oedd Syr Mo Farah—rhywun sydd wedi gwneud cymaint i hybu athletau ym Mhrydain, rhywun sydd wedi bod yn esiampl mor dda i gymaint o fechgyn a merched ifanc, yn siŵr a fyddai’n cael ailymuno â'i deulu a'i blant yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i’r gorchymyn hwn. Er gwaethaf y ffaith i hynny ddod i’r amlwg yn gyhoeddus, cymerodd rai oriau i Lywodraeth y DU gyflwyno achos, nid yn unig ar ei ran ef, ond ar ran nifer mawr o bobl eraill sy'n cael eu dal yn rhywle oherwydd y gwaharddiad hwn. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw reswm. Nid oes unrhyw gyfiawnhad iddo. Fy mhrofiad i o bobl America, fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes yn gyhoeddus, yw eu bod yn bobl gynnes a chwrtais; maen nhw’n bobl groesawgar. Nid dyma yw America. Efallai y bydd pobl yn dweud, 'Wel, pam y dylid cael safonau mor uchel wrth farnu America?' Yr egwyddorion cadarn y mae'r weriniaeth wedi ei hadeiladu arni yw’r rheswm am hyn. America yw arweinydd y byd rhydd, a’r ddemocratiaeth fwyaf yn economaidd, er nad o ran poblogaeth, yn y byd, ac mae hi'n cael ei barnu yn ôl safonau uwch nag eraill, a byddai hi ei hun yn disgwyl mai felly y dylai hi fod. Pa werth sydd yn awr i’r geiriau sydd ar y Cerflun Rhyddid? Felly, dyma fy erfyniad syml, dylai’r polisi diogelwch hwnnw—ac mae hi'n anodd, wrth gwrs, yn y byd modern, i reoli diogelwch—fod yn seiliedig ar benderfyniadau rhesymol, yn seiliedig ar gyngor arbenigwyr, yn hytrach na gwneud penderfyniad sy'n ymddangos i fod yn hawdd, ond sy’n hynod gymhleth ac annheg wrth ei weithredu.

Mewn cyfarfod ym Mangor neithiwr mi ges i’r fraint o ddweud bod Cymru yn wlad sydd yn croesawu y rhai sydd yn ffoi rhag rhyfel a newyn ac erledigaeth. A ydych chi’n cytuno mai un ffordd o ymateb i ffieidd-dra Trump yw trwy gyhoeddi’n glir iawn ein bod ni yng Nghymru yn genedl oddefol ac chroesawgar, ac mai drwy weithredoedd o estyn dwylo y mae profi hynny? Mae yna waith da yn digwydd gan y Llywodraeth o dan raglen ffoaduriaid Syria, ond, ar 19 Ionawr, fe glywodd y pwyllgor cydraddoldeb mai dim ond 27 o blant oedd yn ceisio lloches ar eu pennau eu hunain oedd yn byw yng Nghymru. Roedd y pwyllgor yn synnu bod y nifer mor isel, ac mae’r pwyllgor yn ceisio deall pam mai dyna ydy’r sefyllfa. A fedrwch chi fy sicrhau i y bydd eich Llywodraeth chi yn gwneud popeth i symud unrhyw rwystrau sydd yn digwydd, fel ein bod ni yn gallu bod yn genedl wir groesawgar mewn gweithred yn ogystal â mewn gair?

Nid oes rhwystr ynglŷn â hynny. Rŷm ni’n dibynnu, wrth gwrs, ar beth mae swyddogion yn Whitehall yn ei wneud ac yn ei ddweud. Rŷm ni wedi bod yn hollol agored, a dweud, fel y gwnaethom ni yn 2015, fod Cymru yn wlad agored i ffoaduriaid. A sefydlais i bwyllgor ar y pryd er mwyn gweithio gyda llywodraeth leol ac eraill i sicrhau bod yna groeso ar gael i bobl pan fyddan nhw’n dod i Gymru. Ac mae hynny yn dal i fod yn iawn nawr, ac, wrth gwrs, er taw cyn lleied o bobl sydd wedi dod i Gymru, mae’r egwyddorion hynny yn dal i’n harwain ni fel Llywodraeth.

Rwyf yn cytuno â’m cydweithwyr bod y gwaharddiad hwn yn gwbl gynhennus, annerbyniol ac annynol. Y cyfan y bydd yn llwyddo ei wneud yw ennyn casineb a gwneud i bobl ofni Mwslimiaid a gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn beryglus yn y byd. Ni ellir amddiffyn gwaradwyddo pobl oherwydd eu cenedligrwydd, a sylwaf fod nifer o farnwyr ffederal wedi atal alltudio rhai sy’n ddeiliaid fisa, gan dybio bod y gwaharddiad yn anghyfansoddiadol.

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod y gwaharddiad yn berthnasol dim ond i unigolion sy'n teithio i'r Unol Daleithiau o un o'r saith gwlad a enwyd? Nid yw'r gwaharddiad yn berthnasol i ddinasyddion y DU sy’n teithio o un o'r gwledydd hynny i'r Unol Daleithiau, hyd yn oed os yw ef neu hi wedi ei eni yn un o'r gwledydd hynny. O ran cenedligrwydd deuol, a all y Prif Weinidog gadarnhau hefyd bod rhywun a chanddo genedligrwydd deuol gydag un o'r gwledydd a restrir sy’n teithio i'r Unol Daleithiau o’r tu allan i’r gwledydd hynny hefyd yn cael ei effeithio gan y gorchymyn hwn? Fodd bynnag, gallai dinesydd y DU a chanddo genedligrwydd deuol gydag un o'r gwladwriaethau a restrir sy’n teithio i'r Unol Daleithiau o wlad a restrir wynebu gwiriadau ychwanegol.

A hefyd, Brif Weinidog, maes arall sy’n achos pryder mawr i wledydd Mwslimaidd, a gweddill y byd—ac mae meddylfryd talu’r pwyth yn ôl yn creu problem fyd-eang nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod holl ddinasyddion y DU, pa un a oes ganddyn nhw genedligrwydd deuol ai peidio, yn haeddu cael eu derbyn i mewn i'r Unol Daleithiau mewn modd cyflym, effeithiol a chwrtais, oherwydd mae’r wlad honno yn esiampl nodedig o hawliau dynol, fel yr ydym i gyd yn ei ddeall? Diolch.

Wel, dim ond yr hyn a glywais Boris Johnson yn ei ddweud yn y Senedd yr wyf i’n ei wybod. Rwyf hefyd yn gwybod nad yw Llywodraeth yr Almaen yn argyhoeddedig mai dyna'r dehongliad sy'n gwbl gywir. Mae'n rhaid i ni aros i gael gweld beth sydd wedi ei roi ar bapur, mewn gwirionedd, nid yn unig yr hyn a ddywedir ar lafar gan unrhyw Weinidog yn Llywodraeth Prydain, ac nid ydym wedi gweld unrhyw gadarnhad ysgrifenedig o hynny. Fy mhryder i yw bod y sefyllfa ar lawr gwlad yn yr Unol Daleithiau yn newid trwy’r amser. Mae adroddiadau am swyddogion ar lawr gwlad yn cael cyngor anghyson o fewn cyfnod byr o amser. Felly, mae'n hynod anodd deall beth fydd y sefyllfa, ac mae angen iddi setlo, wrth gwrs, cyn gynted ag y bo modd.

Ond wrth wraidd hyn, mae’r camddealltwriaeth sylfaenol am o ble y mae natur y bygythiad yn dod. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef terfysgaeth Islamaidd yn Fwslimiaid eu hunain, fel y byddai pobl Twrci yn ei ddweud wrthych, fel y byddai pobl Syria yn ei ddweud wrthych. Y broblem gyda gorchymyn o’r fath yw ei fod yn creu'r argraff, rywsut, fod pob Mwslim fel ei gilydd. Nawr, mae ef yn gwybod nad felly y mae hi; Rwyf innau'n gwybod nad felly y mae hi. Lleiafrif bychan iawn o ddilynwyr Islam sy’n derfysgwyr Islamaidd. Nid oedd y bobl a gyflawnodd yr hil-laddiad yn Srebrenica yn cynrychioli Cristnogaeth er eu bod nhw yn eu galw eu hunain yn Gristnogion. Grŵp bychan iawn o bobl ragfarnllyd oedden nhw ynddynt eu hunain. Mae’r un peth yn wir gyda therfysgaeth Islamaidd.

Yr hyn a oedd yn fy nharo i oedd, o ystyried yr ymatebion gwahanol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Iran, pa mor rhesymol oedd Llywodraeth Iran yn ymddangos. Nawr, rydym yn gwybod bod Iran, dros y blynyddoedd, wedi bod â hanes o gefnogi mudiadau terfysgol ledled y byd. Iran sydd ar y trywydd iawn yn awr, yn fy marn i; mae cryn ffordd eto o ran y modd y gwelwn Iran, ond mae Iran wedi dod gryn ffordd o'r man lle yr oedd o’r blaen. Ond mae’r Unol Daleithiau yn wlad sydd wedi ei hadeiladu ar dderbyn ffoaduriaid. Oes, wrth gwrs, mae ganddi broblemau diogelwch, ac mae’n rhaid ymdrin â’r problemau hynny mewn modd priodol. Ond i gyhoeddi gwaharddiad ar saith gwlad, yn ôl pob golwg ar hap, ac yna ei weithredu yn y fath fodd fel nad oes unrhyw un yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd— wyddoch chi, nid yw hynny'n gwneud unrhyw les i ddelwedd yr Unol Daleithiau. Ac rydym angen i'r Unol Daleithiau fod mewn sefyllfa sefydlog er lles pob democratiaeth yn y byd. Yn anffodus, yr argraff a geir ar hyn o bryd yw ei bod yn gwneud pethau yn ddifeddwl yn ôl pob golwg, heb unrhyw fath o esboniad rhesymol, ac rydym i gyd yn gweld wrth gwrs yr helyntion mawr ymddangosiadol mewn rhai dinasoedd yn yr Unol Daleithiau. Nid yw hynny er budd neb, ac rwyf yn gobeithio y bydd lleisiau doeth yn cario’r dydd yn fuan.

Wel, mae’r Prif Weinidog yn gwneud rhai pwyntiau teg, ond bydd yn derbyn mai cyfyngiadau dros dro yw’r rhai sydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar, tan y bydd gwell gweithdrefnau fetio wedi’u cyflwyno, ac mae’n rhaid i'r polisïau mewnfudo a diogelwch a fabwysiadwyd gan weinyddiaeth America fod yn fater iddyn nhw ac i bobl America? Ni fyddem ni eisiau iddyn nhw ymyrryd yn ein polisïau mewnfudo a diogelwch ni yn y wlad hon. Pan fu’r Arlywydd Obama yn ddigon ffôl â cheisio ymyrryd yn nadl Brexit, mi ffrwydrodd y peth yn ei wyneb, os nad yw hynny'n drosiad amhriodol yng nghyd-destun y cwestiwn hwn. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn y lle hwn, fel yn wir yn Senedd y DU, cyn mynegi barn hunangyfiawn a allai fod yn wrthgynhyrchiol o ran newid polisi Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod y gorchymyn gweithredol yn seiliedig mewn gwirionedd ar ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan Arlywydd Obama ynglŷn â’r rhaglen hawlildio fisa ym mis Rhagfyr y llynedd, ac mai’r saith gwlad sydd ar y rhestr yw’r saith gwlad a gafodd eu tynnu oddi ar raglen hawlildio fisa y Llywodraeth yr Unol Daleithiau, a bod Arlywydd Obama, yn 2011, wedi gwneud yr union yr hyn y mae Arlywydd Trump wedi ei wneud yn awr ynglŷn ag Irac, pan ohiriodd yr holl geisiadau am fynediad i'r Unol Daleithiau gan ddinasyddion Irac? Ni fu unrhyw brotest bryd hynny, cyn belled ag yr wyf yn cofio, yn y Cynulliad hwn. Rwyf yn meddwl tybed pam mae protest yn awr.

Daeth dyn i America, dyn o Irac oedd hwn, roedd wedi helpu lluoedd yr Unol Daleithiau, cyfieithydd oedd ef— cafodd ei wrthod. Yn y diwedd, fe ddaeth a gwrthodwyd mynediad iddo. Pa fath o neges mae hynny’n ei chyflwyno, pan fo pobl sy’n helpu lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth Islamaidd, yn cael eu hanwybyddu o ganlyniad i'r cymorth y maen nhw yn ei roi? ’Does bosib y gall ef amddiffyn hynny. ’Does bosib ei fod ef yn gallu amddiffyn polisi lle mae pobl sy'n breswylwyr parhaol yr Unol Daleithiau, ac yn ddeiliaid cerdyn gwyrdd, hefyd yn cael eu gwrthod oherwydd nad oes neb yn deall yr hyn y mae'r rheoliadau yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid yw’n gwestiwn o fod dros dro neu beidio—yn y pen draw, be sy’n iawn sy’n iawn ac i’r gwrthwyneb. Cafodd pobl eu gwrthod, ni chawsant— Ni chaniatawyd i filfeddyg o Iran deithio drwy'r UDA ar ei ffordd adref i Glasgow o San José yn Costa Rica. Sut mae ef—? Ydy hi yn derfysgwraig? Sut y bydd ef yn amddiffyn hynny?

Y gwirionedd yw ei bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chreu'r argraff, sy'n chwarae i ddwylo ISIL, mai gwrthdaro rhwng crefyddau yw hyn. 'Beth ydych chi'n disgwyl i'r Unol Daleithiau ei wneud yn wahanol i hyn?' Yna dywedodd—nid oedd i’w glywed ar y meicroffon, ond fe glywais i ef—dywedodd, ‘Beth am y ddau dwr?', meddai. A gaf i ei atgoffa nad oedd unrhyw un o'r rhai a oedd yn gyfrifol am erchylltra’r ddau dwr, a, yn dod o'r gwledydd hynny? Fe ddaethon nhw o wledydd eraill nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar y rhestr hon. Pam? Pam hynny? Nid oes unrhyw esboniad rhesymol wedi ei roi am hynny.

Mae'n rhaid i ni gofio dau beth arall hefyd. Un o'n cynghreiriaid pwysicaf yw Twrci, sydd ei hun yn wlad Islamaidd. Yn ail, er mwyn ennill y frwydr yn erbyn ISIL, mae angen i filwyr Iran wneud hynny ar faes y gad. Y peth olaf y dylech fod yn ei wneud yw creu problem gyda'r union wlad— efallai na fyddwch yn cytuno â llawer o'r pethau sy'n digwydd yno—yr ydych yn dibynnu arni i drechu mudiad dieflig fel ISIL.

Rwyf yn meddwl, mai camddealltwriaeth hollol ynglŷn ag Islam sydd wrth wraidd y cyfan. Mae Mwslimiaid Shia a Sunni wedi bod yn lladd ei gilydd mewn llawer o wledydd ers blynyddoedd lawer. Yr argraff sydd wedi ei chreu yw fod yna rai pobl sy'n ymddangos eu bod nhw o’r farn rywsut mai un grefydd yw Islam i gyd. [Toriad ar draws.] Wel, gallaf ddweud wrtho. Gallaf ddweud hyn wrtho: nid oes cymaint o amser â hynny ers pan mai’r Catholigion oedd y prif fygythiad i ddiogelwch y DU. Felly, a yw hynny'n golygu y dylai Catholigion gael eu gwirio wrth iddynt gyrraedd y DU? A gaf i ei atgoffa bod Cristnogion wedi lladd ei gilydd yng Ngogledd Iwerddon am 25 mlynedd?  A gaf i ei atgoffa bod pobl a oedd yn galw eu hunain yn Gristnogion yn dienyddio menywod a phlant ar bontydd dros afonydd yn Bosnia a Herzegovina, bod yna laddfeydd wedi digwydd mewn mannau fel Srebrenica?

Ni allwn ddweud bod gan unrhyw grefydd fonopoli ar y drwg, ond yr hyn yr wyf yn ei obeithio yw y bydd yr Unol Daleithiau yn adennill ei gallu i weld rheswm.

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, ac mae busnes y tair wythnos nesaf yn unol â’r hyn a ddangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ymysg papurau'r agenda sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Yr wythnos diwethaf, gofynnais i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar ymyraethau i amddiffyn asedau cymunedol, yn enwedig y rhai sy'n cyfoethogi ein treftadaeth. Dros y penwythnos, cafwyd adroddiadau am ddyfodol adeilad hen Ysbyty Cyffredinol Tredegar, adeilad pwysig yn hanes y GIG ac, yn anffodus, adeilad sydd wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd. Rwy'n credu ein bod ni’n tanbrisio ein treftadaeth iechyd yn y wlad hon ac mae gennym ni le unigryw i’w werthu fel cyrchfan o safbwynt treftadaeth iechyd. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar astudiaeth ddichonoldeb i agor llyfrgell goffa Aneurin Bevan ac amgueddfa gwasanaeth iechyd gwladol yn Nhredegar?

Wel, rwy’n credu bod Steffan Lewis wedi rhoi cyfle da iawn i gydnabod y dreftadaeth honno, ac yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, yn ardal Aneurin Bevan, gan feddwl yn ôl i enedigaeth a dechreuad y GIG, ac rwy'n siŵr bod hwn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn ofalus.

Galwaf am ddatganiad unigol ar ganser ceg y groth, gan gydnabod mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth oedd hi’r wythnos diwethaf. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er ei bod yn bosibl atal canser ceg y groth i raddau helaeth, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o’r clefyd yng Nghymru yn bryderus o uchel, ac mae'r nifer sy'n mynd i gael sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd. Mae mwy nag un o bob pump o fenywod erbyn hyn yn gohirio neu’n peidio â mynd i’r prawf hwn sy’n gallu achub eu bywydau. Felly, mae angen datganiad arnom ni sy’n amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu cwmpas sgrinio serfigol yng Nghymru, pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal ynghylch cynlluniau i gynyddu cwmpas sgrinio serfigol ymhlith menywod o gefndiroedd difreintiedig, menywod ag anableddau dysgu, a menywod duon ac o leiafrifoedd ethnig; pa gamau sy'n cael eu cymryd i’w gwneud yn haws i fanteisio ar sgrinio serfigol er mwyn cynyddu cwmpas; a yw sgrinio serfigol ar gael i bob menyw mewn clinigau atal cenhedlu ac iechyd rhywiol; ac a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth i wella cwmpas sgrinio serfigol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffafriol i'r cais hwn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y bydd menywod, yn y dyfodol, yn cael eu sgrinio ar gyfer prif achos canser ceg y groth yn hytrach—y feirws risg uchel papilloma dynol, HRHPV. Dan y trefniadau newydd hynny, bydd menywod yn parhau i dderbyn yr hyn a elwir yn gyffredin yn brawf ceg y groth, ond bydd y sampl wedyn yn cael ei brofi am HRHPV.

Ydy, mae nifer y menywod a gaiff eu gwahodd i gael eu sgrinio wedi gostwng o ganlyniad i newidiadau i’r ystod oedran, ac amlder y gwahoddiad, a gyflwynwyd yn 2013, pan wnaethom roi'r gorau i wahodd menywod 20-25 oed. Ond, wrth gwrs, mae angen i ni gydnabod yn awr ein bod ni'n mynd i roi ar waith brofion gwell a haws i’w defnyddio ar gyfer sgrinio canser ceg y groth ac, yn wir, sgrinio canser y coluddyn. Mae'r prawf ar gyfer HPV yn fwy sensitif a bydd yn caniatáu i'r GIG adnabod yn fwy effeithiol y rhai y mae angen triniaeth arnyn nhw. Felly, bydd rhaglen dreialu, a fydd yn cyrraedd tua 20 y cant o fenywod, yn cael ei chyflwyno ledled Cymru o fis Ebrill eleni, a disgwylir i gyflwyniad llawn ddechrau’r flwyddyn nesaf, 2018-19.

Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wneud datganiad ar gau dros dro uned mân anafiadau Llandrindod dros nos. Ddydd Gwener, cefais wybod gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys y bydd yn rhaid cau dros dro ei uned mân anafiadau yn Llandrindod rhwng hanner nos a 7am ar gyfer mis Chwefror yn ei gyfanrwydd. Ac, yn ôl a ddeallaf, mae hynny yn sgil cyfuniad o absenoldeb staff ac oherwydd mai hwn yw’r dull mwyaf diogel i bawb dan sylw—cleifion a staff. Fodd bynnag, gallai cau dros nos dros dro beri cryn bryder i rai o'r bobl a fyddai’n dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, ac mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i fod yn deg, yn gwneud ymdrech fawr i roi gwybod i gleifion, ond mae'n debygol na fydd y neges yn cyrraedd pawb. Byddai croeso mawr pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sicrwydd i bobl ym Mhowys sy'n defnyddio'r UMA bod y newidiadau hyn yn newidiadau dros dro yn unig, yn enwedig gan fod y dewis arall agosaf 24 milltir i ffwrdd, yn Aberhonddu, mewn un cyfeiriad, yn dibynnu ar eich man cychwyn.

Wel, mae hwn yn fater gweithredol i'r bwrdd iechyd— Bwrdd Iechyd Addysgu Powys—ac mae’n galonogol iawn i mi, fel rwy’n siŵr ei bod i chi, mai’r bwrdd iechyd a gysylltodd ag Aelodau'r Cynulliad, cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd, i’w gwneud yn ymwybodol o’r cau yn rhan o'u prosesau cyfathrebu. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y cafodd Joyce Watson wybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i rannu gwybodaeth am ffynonellau eraill o gyngor a thriniaeth yn ystod y cau dros dro. Rwy'n ymwybodol bod cyngor iechyd y gymuned leol hefyd wedi cyfrannu’n llawn at y penderfyniad hwn, a’u bod yn gefnogol. Cau dros dro yw hyn, fel y dywedodd yr Aelod—bydd ar gau dros dro rhwng hanner nos a 7am o 1 Chwefror tan 28 Chwefror, ond bydd ar gael, wrth gwrs, fel arall, yn ôl yr arfer. Mae'n bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, bod niferoedd isel iawn yn dod i’r uned mân anafiadau ar yr adeg honno ond mae hyn, wrth gwrs, yn fater y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymdrin ag ef.

Ar ddiwedd mis Chwefror, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech yn gallu amserlennu dadl gan y Llywodraeth ar y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ar anhwylderau bwyta. Rwy’n gwybod ac yn gwerthfawrogi ein bod wedi cytuno ar fwy o gyllid ar gyfer anhwylderau bwyta drwy'r trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn ystod y trafodaethau ynghylch y gyllideb, ac mae angen eglurder o hyd o ran ble y mae’r cyllid hwnnw’n mynd. Felly, byddwn i’n croesawu dadl ar hynny.

Hoffwn i ddadl, hefyd, neu ddatganiad ar y cynnydd yr ydych yn ei wneud tuag at gyflymu diagnosis o ganser yr ofari. Mae'n ymddangos ei fod yn un o'r canserau hynny sy'n cael diagnosis yn eithaf hwyr ac y gall ledaenu ymhellach os nad yw'n cael ei nodi yn gynt. Fe ddywedoch chi yn 2013, fel Llywodraeth, y byddech yn ceisio cyflymu diagnosis, ac felly tybed a gawn ni ddiweddariad ar hynny yn y Siambr.

Mae Bethan Jenkins wedi codi materion yn gyson ac wedi hyrwyddo'r angen am driniaeth a gweithredu priodol ar gyfer anhwylderau bwyta, ac, wrth gwrs, mae mwy o arian wedi ei ddyrannu yn sgil ein cytundeb. Rwy'n siŵr y bydd diweddariad maes o law ar sut y bydd hynny'n cael ei weithredu. Ynglŷn â’ch ail bwynt, o ran canser yr ofari, ydy, mae hwn yn fater sy'n cael ei ddwyn i’n sylw ni yn rheolaidd, rwy'n siŵr, gan etholwyr Aelodau'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y dystiolaeth a’r datblygiadau yma o ran cyfleoedd sgrinio i ganfod canser yr ofari.

A gaf i ofyn unwaith eto am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi cael pryderon diddiwedd gan yrwyr tacsi yng Nghasnewydd ynghylch achosion diweddar o fandaliaeth, yn arbennig yn ardaloedd Ringland ac Alway. Taflwyd cerrig, wyau a brics at geir, gan gynnwys cerbydau gwasanaethau brys, sydd yn drueni mawr, gan achosi difrod sylweddol, ac, yn wir, mae’n berygl i iechyd y cyhoedd. Ymddengys nad oes digon o adnoddau gan yr heddlu yno. Mae'r setliad llywodraeth leol gwael diweddar ar gyfer Casnewydd yn sicr o roi pwysau ar gyllidebau sydd wedi'u bwriadu i fynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn a all arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r fath. Mae yna rai ardaloedd, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd, yn y nos, yn ardaloedd nad yw pobl yn mentro mynd iddyn nhw yng Nghasnewydd. Nid yw hyn yn beth da o gwbl yn y ganrif hon. A gawn ni ddatganiad ar y mater hwn ar frys, os gwelwch yn dda?

Wel, wrth gwrs, mae hwn yn fater i Gyngor Dinas Casnewydd ac, yn wir, atebais gwestiwn yr wythnos diwethaf, pan wnes i atgoffa'r Aelod o'r setliad anodd a heriol iawn—y setliad cyni ariannol parhaus hwnnw a drefnwyd—i Lywodraeth Cymru. Ond byddwn i hefyd yn dweud bod Cyngor Casnewydd yn sicrhau ei fod yn gweithio gyda phartneriaid lleol o ran mesurau am Gasnewydd mwy diogel, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn sicr, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â'r pwynt a godwyd gennych chi.

Rwyf wedi cael cysylltiad gan etholwyr sy’n pryderu nad yw’r cyfamod milwrol yn cael ei weithredu yng Nghymru oherwydd nad yw staff rheng flaen yn ymwybodol ohono. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth gomisiynu astudiaeth i weld sut y mae'n cael ei roi ar waith ledled Cymru gan fod y dystiolaeth sydd gennyf yn anecdotaidd yn unig. Rwy'n gofyn i'r Llywodraeth roi datganiad llafar ar y canlyniadau.

Mike Hedges, rydym wedi ymrwymo’n fawr—ac, wrth gwrs fe’i codwyd yn gynharach y prynhawn yma—fel Llywodraeth Cymru i gefnogi cyfamod y lluoedd arfog. Mae gennym becyn cymorth newydd a dogfennau 'Croeso i Gymru', ac, yn wir, rwy’n credu bod David Melding wedi trafod y ffaith ein bod ar y blaen yng Nghymru o ran y ffordd yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ceisio bwrw ymlaen â hyn er mwyn sicrhau bod y gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol bod y Forces in Mind Trust, ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, wedi gwneud ymchwil yn ddiweddar ar sut y gallwn wella darpariaeth leol, sef eich cwestiwn chi, o gyfamod y lluoedd arfog, ac rydym yn awr yn cael darlun cliriach o rai o ganfyddiadau'r ymchwil. Bydd ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog yn trafod canfyddiadau'r gwaith ymchwil hwnnw a'r ffyrdd y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef.

Ceir tri pheth. Yn gyntaf, tybed a allwch chi ddarparu datganiad Llywodraeth, yn ddelfrydol, ar gefnogi gorsaf drên newydd ym Mynachdy. Nid oes gwasanaeth bws i'r orsaf, sy’n cysylltu â’r metro. Byddai’r lleoliad ger y seidins glo.

Yr ail beth yw datganiad am Anaya Aid, elusen sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr; elusen wirioneddol yw hon. Rwy'n credu mai hon yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cludo cyflenwadau i Syria. Nid oes unrhyw gyllid ganddyn nhw, ac mae diddordeb cryf yno i ddarparu cyflenwadau meddygol. Ond, yn anffodus, oherwydd y fiwrocratiaeth, caiff llawer o feddyginiaethau eu taflu heb eu hagor mewn llawer o achosion. Gallai’r elusen honno gludo’r cyffuriau hynny i Syria, lle mae angen maen amdanyn nhw.

Y trydydd peth yw—mi wnes i ofyn hyn i chi bythefnos yn ôl, ac ni wnaethoch chi ateb; meddwl wnes i y byddwn i’n aros am wythnos. Nid wyf wedi gweld datganiad, ond mae'n ymwneud â'r defnydd honedig o’r car gweinidogol gan David Goldstone. Felly, a wnewch chi roi diweddariad i ni o bosibl drwy ddatganiad ar y defnydd neu ddiffyg defnydd—beth bynnag a ddigwyddodd gyda'r car, a aeth i fyny i Mayfair a’i godi a’i ddod yn ôl i Gaerdydd, neu beidio. Rwy’n credu y byddai'n braf i ni wybod yma yn y Siambr hon. Diolch.

Rwy’n credu y bydd eich pwynt cyntaf, o ran y dewisiadau posibl a dichonolrwydd gorsaf ym Mynachdy, wrth gwrs yn cael ei ystyried yn rhan o'r cynlluniau metro, sy'n datblygu, gan gydnabod hefyd bod hwn yn faes lle’r ydym wedi symud yn ein blaenau o ran ein pwerau a'n cyfleoedd a’n cyfrifoldebau o ran y seilwaith rheilffyrdd.

O ran eich ail bwynt, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod gwaith yr elusen wirfoddol a grybwyllwyd gennych, yn arbennig o ran yr angen i fynd —ac, wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig o ran canllawiau clinigol a thystiolaeth—â chyffuriau priodol i’r rhai sydd eu hangen, yn enwedig drwy’r elusen hon, a’n bod yn cydnabod y gwaith gwirfoddol.

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y trydydd cwestiwn.

Fel y byddai arweinydd y tŷ yn gwybod, heddiw yw diwrnod cyntaf yr arwerthiant marchnad capasiti diweddaraf. Drwy hyn, mae'r Grid Cenedlaethol yn prynu capasiti wrth gefn ar gyfer y grid. Yn yr arwerthiant diweddaraf, ar ddiwedd 2016, enillwyd cyfran o'r farchnad honno gan ffermydd diesel, a oedd yn gyfran lai nag mewn blynyddoedd blaenorol, ond yn sylweddol o hyd. Mae ffermydd diesel yn swnllyd, maen nhw’n achosi llygredd a gallan nhw fod ar waith am 10 i 15 mlynedd. A fydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad ar nifer y ffermydd hynny yng Nghymru, eu cyfraniad i ansawdd aer gwael a’r rhwystr y maen nhw’n ei gyflwyno i'r Llywodraeth i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol, ac a yw’r grid, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, wedi cynnal trafodaeth â chyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud defnydd o'u generaduron diesel i ddarparu capasiti wrth gefn?

Daw Jeremy Miles â datblygiad i sylw’r Siambr hon sy'n peri pryder mawr. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd ar hyn o bryd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai'n gorfodi rheolaethau ar allyriadau o generaduron diesel er mwyn diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.

A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Gweinidog? Rwy’n credu, bythefnos yn ôl, y gofynnais iddi am ddadl ar ynni'r llanw, gan gyfeirio’n benodol at adolygiad Hendry a morlyn Abertawe. Mae’r ddadl honno yn cael ei dwyn ymlaen yn amser y Llywodraeth, felly hoffwn ddiolch i’r Llywodraeth am wrando. Rwy'n credu, ac rwy’n gobeithio, y bydd yn caniatáu i'r Cynulliad cyfan uno i gefnogi'r cynnig hwnnw ac wedyn i roi pwysau gwirioneddol ar Lywodraeth y DU i gyflwyno penderfyniad cadarnhaol—yn gadarnhaol o ran ynni yng Nghymru, ond yn gadarnhaol o ran creu swyddi a sgiliau hefyd. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghais i yr un mor llwyddiannus heddiw. Fodd bynnag, rwy’n amau ​​hynny. Ond hoffwn i gefnogi'r cais a wnaed eisoes ynglŷn â’r datganiad ar gau uned mân anafiadau dros nos Llandrindod yn ystod mis Chwefror yn unig. Rwyf i mewn gwirionedd eisiau defnyddio hynny fel cais i gael datganiad polisi ehangach gan Lywodraeth Cymru ar y defnydd o unedau mân anafiadau, oherwydd mae llawer o ddryswch ymhlith pobl ynglŷn â diben unedau mân anafiadau. Mae gennym ni gynnig yn Ninbych y Pysgod am wasanaeth galw i mewn, ac nid wyf yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwasanaeth galw i mewn ac uned ar gyfer mân anafiadau, beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhywbeth sy’n gysylltiedig â'r ysbyty ac, yn syml, lle mae meddyg teulu yn bresennol. A’r dryswch hwn sydd, mewn gwirionedd, yn cymell pobl i anwybyddu neges Dewis Doeth Llywodraeth Cymru a mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys. Awgrymaf mai'r rheswm pam mae cynifer o bobl yn cael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys sydd, o bosib, ag anafiadau y gellid ymdrin â nhw mewn cyd-destun gwahanol, yw nad ydyn nhw’n gwybod a yw'r unedau ar agor neu beidio, nid ydyn nhw’n gwybod a ydyn nhw’n ymdrin â'r cyflwr sydd arnyn nhw ac nid ydyn nhw’n rhoi diagnosis i’w hunain yn yr ystyr hwnnw. Mae angen gwasanaeth cyson a dibynadwy y gallan nhw ddibynnu arno. Mae cau dros nos ym mis Chwefror—rwy’n deall pam mae hyn yn digwydd, ond nid yw hynny'n helpu i drosglwyddo'r neges honno. O ran yr oedi yn Ninbych y Pysgod wrth sefydlu’r gwasanaeth galw i mewn ar ôl i’r uned mân anafiadau gau yn sydyn, dros nos, am resymau brys ac na chafodd ei hailagor wedi hynny, nid yw hyn, unwaith eto, yn magu hyder y cyhoedd.

Felly, datganiad rwy’n credu gan Lywodraeth Cymru, a wnaeth, cyn yr etholiad diwethaf feirniadu rhai pleidiau yma—fy mhlaid i a'r Ceidwadwyr, mewn gwirionedd—am sôn am unedau mân anafiadau a dweud eu bod yn tanseilio A & E—. Mae yna ddryswch yn Llywodraeth Cymru ei hun ynglŷn â’r berthynas rhwng adrannau damweiniau ac achosion brys, unedau mân anafiadau ac oriau agor hwyr, os mynnwch chi, gan feddygon teulu. Gadewch i’n neges ni fod yn un gyson. Siawns y byddai datganiad, datganiad polisi neu ddadl, hyd yn oed, ar y materion hyn yn helpu i egluro rhai o'r negeseuon hyn.

Diolch i Simon Thomas am gydnabod pwysigrwydd y datganiad busnes a'r ffaith fy mod i’n tynnu ceisiadau yn ôl nid yn unig am ddadleuon a datganiadau, ond hefyd cwestiynau, y gellir eu hateb yn aml gan Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion. Ond mae'n bwysig ein bod yn cynnal y ddadl ar y morlyn llanw ym Mae Abertawe yn amser y Llywodraeth. Mae wedi’i hamserlennu bellach, ac rwy'n siŵr y bydd pob un yn awyddus i gymryd rhan, oherwydd y gefnogaeth drawsbleidiol i hyn mewn trafodaeth gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Mae eich ail bwynt, yn fy marn i, yn bwysig o ran rhoi’r darlun cyfan o sut y gallwn gefnogi pobl i gael mynediad i unedau mân anafiadau yn hytrach na'r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Ceir amrywiaeth yn y ffordd y caiff yr unedau mân anafiadau hynny eu darparu o ran amseru a staffio ledled Cymru, a chyfrifoldeb y byrddau iechyd yw hynny. Ond byddaf yn sicr yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd at hyn, fel yr wyf yn siŵr y byddwch chi’n ei wneud.

5. 3. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ddiwygio llywodraeth leol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 15:02:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. Ym mis Hydref, fe wnes i nodi amlinelliad bras o’r ffordd ymlaen ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Papur Gwyn i ymgynghori arno, o dan y teitl ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’. Rwy’n ddiolchgar i’r bobl yn y Cynulliad hwn, mewn llywodraeth leol ac yn y gwasanaethau cyhoeddus ehangach sydd wedi cynnig cymorth sylweddol i ddatblygu’r cynigion gwreiddiol. Mae’r cyd-drafod hwn wedi dangos bod ymrwymiad cyffredin i fwy o weithio rhanbarthol. Mae wedi helpu i gadarnhau’r meysydd lle byddai dull mwy systematig o weithio’n rhanbarthol o fantais i bobl a chymunedau, ac yn helpu gweithlu llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Y cydymdrech hwn sydd wedi arwain at y cynigion yn y Papur Gwyn. Maen nhw’n adlewyrchu’r trafodaethau niferus sydd wedi’u cynnal gydag arweinwyr, aelodau a swyddogion yr holl awdurdodau lleol, a’u partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill ac yn y sector gwirfoddol. Mae’r papur yn nodi’r trefniadau arfaethedig ar gyfer gweithio’n rhanbarthol; rôl gryfach i gynghorau a chynghorwyr; fframwaith ar gyfer unrhyw uno gwirfoddol yn y dyfodol; ac amlinelliad o’r ffordd ymlaen ar gyfer cynghorau cymuned.

Rwyf wastad wedi cychwyn trwy bwysleisio mor hanfodol yw llywodraeth leol dda yma yng Nghymru. Rydym ni angen llywodraeth leol gadarn sy’n gallu gweithio gyda dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus eraill i greu sefyllfa gynaliadwy at y dyfodol. Mae’r rhai sy’n gweithio mewn llywodraeth leol, neu sy’n ei chynrychioli, eisiau yr un peth. Mae hynny’n golygu bod angen mwy o gynnydd ar weithio’n gydweithredol.

It’s in that context, Llywydd, that the White Paper builds on the twin-track approach set out in the October statement. It confirms the intention to mandate regional working for strategic transport planning, certain land-use planning functions and economic development, and proposes that these responsibilities should be discharged on the three footprints represented by the existing Welsh Local Government Association regions.

It has been an encouraging feature of the discussions since October that local authorities themselves have identified a wider range of services suitable for discharge at a regional level. In October, the balance of advice favoured mandating health board footprints for the regional delivery of purposes such as education improvement, public protection and social services. The more detailed discussion has highlighted concerns that sticking rigidly to the health board footprint for other services could involve breaking up existing larger units of collaboration, or inhibit the development of new arrangements on a larger scale.

The White Paper therefore proposes some additional flexibility to agree footprints for these mandated purposes. That choice would operate within a framework determined by the Welsh Government aimed at removing overlap and promoting simplicity. Guided flexibility will avoid the need for disruptive change to well-established and effective regional arrangements, while opening up the possibility for more innovative arrangements where that is the right approach. The language, work and bilingual services report commissioned by my predecessor, for example, recommends that a linguistic-economic strategy is developed for the counties of Anglesey, Gwynedd, Ceredigion and Carmarthenshire. Flexibility in regional working arrangements could allow for such an approach to be considered, and I look forward to this and other possibilities being explored further during the consultation period.

Llywydd, let me turn now to the question of governance. In detailed discussions since October, a statutory, strengthened joint committee, or joint governance committee, has emerged as the preferred governance model. The White Paper proposes that the National Assembly should legislate to create a consistent and robust common platform to which all local authorities would operate and thus provide a statutory underpinning to the work of these joint governance committees.

I also intend to take the opportunity offered by this White Paper to propose placing provision for combined authorities on the statute book. This will ensure that the necessary powers are in place if local authorities demonstrate that a combined authority approach would help deliver our shared objectives in the future.

The White Paper outlines an approach for financing the regional arrangements on a pooled contributions model. Members will also want to be aware that I intend to issue a written statement this afternoon dealing with the wider reform agenda in relation to the local government finance system.

Llywydd, I should highlight one other aspect of the White Paper that deals with greater collaborative working. The document sets out a series of actions to accelerate progress by local authorities in the sharing of back-office services. This is an area where progress has been inconsistent and where there is likely to be potential for improvements to efficiency, resilience and quality of services, which cannot go on being unharvested.

As far as community councils are concerned, the White Paper draws attention to the significant part they play in some parts of Wales while acknowledging the enormous variability in current arrangements. As announced in October, I intend to take action to support community councils to become more effective in the short term, but I also intend to commission a comprehensive independent review of the sector. This will inform a debate about the future of community councils and how we can utilise the best of the current arrangements and make them characteristic of the system as a whole.

Llywydd, the White Paper describes how we intend to take forward those aspects of the draft local government Bill, published in 2015, that were widely supported, such as providing a general power of competence, a new approach to performance improvement and strategies for better engagement with the public. We have recast those and other proposals, however, to strike a new clarity on shared aims, while providing flexibility for local authorities to determine how these shared objectives are to be delivered. This approach is demonstrated, for example, in our proposals to provide local authorities with powers to choose between operating through a cabinet or committee system of governance, or to decide how the activities of councillors are best to be reported to the electorate. The White Paper also invites initial views on a series of reforms to electoral arrangements for local government. This includes measures to improve voter registration and to voting, such as an all-Wales register and postal or electronic voting, as well as a reduction of the voting age for local government elections to 16. I am also seeking views on the introduction of permissive proportional representation to enable principal authorities to choose to adopt either a first-past-the-post or single transferable vote election system now that the Wales Bill has completed its progress through Parliament. I intend to consult further on this package of measures later this year.

Llywydd, reform is essential if local authorities are to be financially resilient and able to maintain and improve the quality of services. The proposals in this White Paper aim to provide that resilience and set a new relationship between national and local government and the communities they serve. It has been my aim since I became Cabinet Secretary for Finance and Local Government to build a consensus around the way ahead. I am very grateful to those with whom I have spoken, including members of other parties in this Chamber. Many of them, I hope, will recognise their contributions and suggestions in the White Paper itself, as it seeks to shape a viable and successful future for local government in Wales. I look forward to hearing Members’ views this afternoon.

Mae’r Papur Gwyn a’ch agwedd gynhwysol chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i’w croesawu. Mae’r cynghorau sir yn sicr wedi croesawu cael dweud eu barn, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Papur Gwyn i raddau. Er enghraifft, mae’r ffordd y maen nhw i gael hyblygrwydd o fewn rhai meysydd cydweithio ac o ran y map y gallan nhw ei ddefnyddio yn ymateb i rai o’r pryderon a godwyd yn flaenorol pan oedd yna drafodaeth ar hyn i gyd. Y cynghorau eu hunain, yn aml, sydd yn gwybod beth sydd am weithio orau, ac mae pob ardal yn wahanol—ac mae yna gydnabyddiaeth o hynny yn y Papur Gwyn. Ond rwy’n credu hefyd bod angen polisi cenedlaethol ar rai materion er mwyn cysondeb ac er mwyn gweld gweithredu mwy effeithlon.

Rwyf am ofyn tri chwestiwn yn benodol, gan obeithio sbarduno ychydig o drafodaeth yma yn y Siambr yma, ond yn bwysicach, efallai, yn y cynghorau eu hunain ac ymhlith ein cynghorwyr ni. Yn sicr, fe fydd Plaid Cymru yn trafod cynnwys eich Papur Gwyn yn eang, gan gynnwys yn ein fforwm llywodraeth leol mewn ychydig wythnosau. A’r cwestiwn cyntaf yw hyn: a ydych chi’n credu y bydd yr holl haenau gwahanol a’r mapiau gwahanol a fydd yn cael eu creu yn creu dryswch ym meddyliau’r cyhoedd? A ydych chi wedi ystyried sut i oresgyn ychydig ar hyn wrth ddwyn y Papur Gwyn at ei gilydd?

Roedd lleihau dryswch yn un o argymhellion y comisiwn Williams, ac mae yna berig ichi greu system hyd yn oed yn fwy cymhleth a dryslyd yn y Papur Gwyn. Rwy’n meddwl bod y model llywodraethiant a fydd yn cael ei fabwysiadu yn allweddol efo hyn i gyd. Rydych chi’n cynnig y dull cydbwyllgor, efo cynrychiolwyr o bob cyngor yn dod at ei gilydd o gwmpas y bwrdd ac, rwy’n cymryd, yn dewis cadeirydd o’u plith. Efallai y byddai model arall yn ei gwneud yn haws i’r cyhoedd ddeall ble mae’r atebolrwydd yn gorwedd, sef model sy’n cynnwys cydbwyllgor neu gabinet, ond sydd hefyd yn cynnwys maer sy’n cael ei ethol gan bobl y rhanbarth i fod yn gadeirydd neu’n arweinydd ar y corff newydd ar y cyd. Fel hynny, mi fyddai’r cyhoedd yn gwybod yn union ble fyddai’r atebolrwydd yn gorwedd.

Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â chyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd ddewisol o gynnal etholiadau llywodraeth leol o dan y pwerau newydd sy’n dod i Gymru. Mae Plaid Cymru yn croesawu hyn fel cam i’r cyfeiriad iawn, ac mae’n bwnc rydym wedi dadlau o’i blaid nifer o weithiau yn y Siambr yma. Ond mi fuasem yn mynd ymhellach, gan wneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor. A fedrwch chi, efallai, esbonio pam nad ydych chi am fynd i’r cam yna? Oni fyddai cael cysondeb—system sydd yn mynd i fod yn un tecach—ar draws Cymru yn haws i bawb ddeall? Rydym ni wedi clywed am gymhlethdod systemau gwahanol mewn gwahanol daleithiau yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft. Oni ddylai’r pwyslais fod ar system sy’n glir i bawb ei ddeall? Ond rydym ni yn croesawu’r symudiad, ac mae cyflwyno’r bleidlais i rai 16 ac 17 oed hefyd yn rhywbeth pwysig rydym ni’n falch iawn o fedru cefnogi. Mae’r materion yma yn ffordd ymarferol o fywiogi democratiaeth leol lle fydd pobl yn teimlo fod eu pleidlais yn cyfri.

Yn drydydd, rydw i’n troi at y Gymraeg, ac rydw i’n croesawu’r cyfle sydd wedi bod inni drafod ambell syniad. Os ydym ni am gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2015, mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd cynllunio ieithyddol economaidd fel ffordd o gryfhau’r ardaloedd traddodiadol Cymraeg, a byddai ei gwneud hi’n fandadol i gynghorau’r gorllewin, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, gydweithio ar faterion strategol economaidd a fyddai er lles y Gymraeg yn gam cyntaf pwysig, ac yn dangos ymrwymiad penodol y Llywodraeth i’r angen i glymu datblygiad yr iaith efo datblygiad economaidd. Felly, beth ydy eich barn chi ar hyn? A fyddwch chi, maes o law, yn barod i ystyried deddfu er mwyn sicrhau bod y cydweithio gorllewinol yna er lles y Gymraeg yn digwydd? Rydw i’n edrych ymlaen at gael eich atebion chi. Diolch.

Diolch i Sian Gwenllian am ei sylwadau hi y prynhawn yma, a diolch am y cyfle i sgwrsio â hi dros y misoedd diwethaf, pan yr oeddem ni’n trial datblygu ar beth rydym wedi rhoi o flaen y Cynulliad y prynhawn yma. Jest i ddweud rhywbeth ar y pwynt olaf roedd hi’n codi ar yr iaith Gymraeg—mae lot o bethau yn y Papur Gwyn sy’n cyfeirio at yr iaith Gymraeg, a sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn yr awdurdodau lleol i’w wneud yn well ar gyfer yr iaith Gymraeg a chynllunio am y dyfodol. Mae’r Papur Gwyn yn cyfeirio ddwywaith at adroddiad Rhodri Glyn Thomas—ym mhennod 2 o’r Papur Gwyn. Nid yw’r Papur Gwyn yn dweud unrhyw beth am fod yn fandadol ar ddod â chynghorau sir at ei gilydd, fel roedd Rhodri Glyn yn cyfeirio ato, am gynllunio economaidd. Ond, wrth gwrs, mae’r Papur Gwyn yn rhywbeth i’w drafod ac i gasglu barn pobl yn y cynghorau sir yna i weld beth roedden nhw’n meddwl oedd y ffordd orau ar gyfer y dyfodol.

In relation to a number of the other points that Sian Gwenllian made, Llywydd, I agree with her, of course, that at the heart of the White Paper is a judgment about national policy frameworks and matters best left to local authorities themselves, where they are better able to understand their local populations and their needs. I believe that this White Paper recasts that relationship in favour of local authorities themselves. My approach to this is that we should work hard with local authorities as key partners to agree on key objectives, and then we have to be absolutely committed to those objectives, and not willing to be knocked off course in them. But often local authorities themselves are better able to make decisions on how those objectives can be delivered. The White Paper reflects that cast of mind.

I agree with her as well that the issue of complexity has been one that we’ve grappled with throughout this process. I think there are ways in which we can help members of the public to understand how decisions that are important to them are being made, where they are being made, and how people can have an influence on those decisions when they wish to engage with them. I think the role of elected members will be particularly important in the future. I think it will be a new and significant job that we will look to elected members to assist members of the public to understand this new landscape, to be advocates for them, and to make sure that they have expert guidance in understanding where important decisions are made. Personally, I’ve never been attracted to the idea of elected mayors, but there is provision on the statute book at the moment that allows that to be tested with local populations where there is an appetite to do so.

Finally, in relation to the proposal for permissive PR, I go about that in exactly the same way, Llywydd, as I have tried to construct the rest of this White Paper: by putting decisions in the hands of local authorities themselves. I don’t believe that it is a matter where one approach will suit every local authority, but just as we in this Assembly are going to be able to make decisions on the way that this Assembly is elected in future, so I think it is right to pass that ability on to local authorities so that they themselves can make that decision in their local circumstances with their local understandings and be able to calibrate the way that matters are carried forward in a way that reflects that local understanding.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Ar ôl gweithio gyda thri o’i ragflaenwyr ar fater symud tuag at ddiwygio llywodraeth leol, rwy’n teimlo ei bod yn hynod o braf ein bod ni fel plaid wedi gallu ymgynghori ac ymgysylltu â chi, ac rwy’n gwybod fy mod i wedi mwynhau'r cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael. Rwy’n disgwyl gweld hynny wedi’i adlewyrchu—ein cynigion polisi, ein hawgrymiadau—ym mhob rhan o’r Papur Gwyn pan fydd yn cyrraedd mewn gwirionedd.

Mae gennym bryderon, fodd bynnag, fel grŵp o ran sut, o ran diwygio llywodraeth leol, yr ydych nawr yn impio diwygio etholiadol at y broses, ac rydym yn teimlo bod hyn yn fwy o fater o fodloni grŵp gwleidyddol Plaid Cymru er mwyn cael eu cefnogaeth. Byddai wedi bod yn well gennym ni weld dull mwy cydsyniol, lle y gallem i gyd fod wedi cydweithio i greu model a fyddai’n gweithio'n dda ar gyfer ein hawdurdodau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon o ansawdd da i’n hetholwyr. Rydym yn gwybod bod comisiwn Williams, a weithredwyd gan eich Llywodraeth—yn dechnegol yn drawsbleidiol—wedi gwneud rhai argymhellion pendant, a, hyd yn hyn, rydym un dal i fod eisiau gweld rhai o'r argymhellion hynny’n cael eu rhoi ar waith.

Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru wrth ddiwygio llywodraeth leol ddylai fod yr hyn y mae ein trigolion a thalwyr y dreth gyngor yn gofyn amdano. Maen nhw’n haeddu, ac mae arnynt eisiau, gwasanaethau effeithlon, wedi’u cynnal yn dda ac mae arnynt hefyd eisiau lefelau treth gyngor teg. Gallaf ddweud yn onest, yn fy etholaeth i yn Aberconwy, nad oes yr un person wedi dod drwy fy swyddfa nac wedi cysylltu â mi i ddweud bod angen diwygio etholiadol yma yng Nghymru. Yr hyn y maent wedi dod i fy ngweld ynglŷn ag ef yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar ôl tair blynedd o'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod di-drefn i lywodraeth leol o dan Lafur Cymru.

Gwnaeth Siân Gwenllian rai pwyntiau dilys iawn, a dweud y gwir, am y math o ddryswch a allai godi o rai o'r cynigion a nodwyd yn y datganiad heddiw ac a oes perygl gwirioneddol y bydd isrannu llywodraeth leol yn wahanol haenau rhanbarthol yn creu teimlad o fwy o fiwrocratiaeth ac yn llwyddo i fynd â phenderfyniadau’n bellach oddi wrth drigolion. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod wedi sôn, ar y meinciau hyn, am feiri etholedig. Rydym wedi argymell meiri etholedig yn uniongyrchol o'r blaen. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn am sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet yma heddiw na fydd unrhyw gynigion yn y dyfodol ar gyfer diwygio lleol mewn gwirionedd, yn y pen draw, yn costio mwy i dalwyr y dreth gyngor ac na fydd y broses yn mynd yn anhylaw o ran biwrocratiaeth a chost.

I symud ymlaen, mae uno gwirfoddol yn dal i fod yn ddewis, ac rwyf yn gofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael mewn gwirionedd gyda’r awdurdodau hynny a ddaeth ymlaen yn ddewr yn ystod y tymor diwethaf, gan gyflwyno cynigion da iawn i gydweithio rhwng awdurdodau, ond a gafodd eu gwrthod yn llwyr gan y Gweinidog blaenorol? Byddai'n ddiddorol gwybod pa un a ydych chi’n bwrw ymlaen ag unrhyw sgyrsiau ar hyn o bryd ynglŷn â sut, os dymunant—mae'n fodel cost-effeithiol—i fwrw ymlaen â hynny?

I droi at y dreth gyngor, y tro diwethaf inni edrych ar hyn, pan oedd y Gweinidog blaenorol yn y swydd, roedd posibilrwydd y gallai cyfraddau eiddo band D amrywio gan £624 ychwanegol y flwyddyn. Ni fyddai croeso i hynny yn fy etholaeth i. Mae'n rhaid inni gofio bod y dreth gyngor dan Lafur yng Nghymru wedi cynyddu 178 y cant, ac mae pobl wir yn cwestiynu erbyn hyn beth yr ydych chi’n mynd i’w wneud fel Ysgrifennydd y Cabinet yn y Llywodraeth i roi cymorth gwirioneddol i dalwyr y dreth gyngor sy’n gweithio’n galed, ac i’n pensiynwyr. A ydych chi’n ystyried bod cysoni’r dreth cyngor yn broblem o ran gweithio rhanbarthol, ac os ydych, sut yr ydych chi’n bwriadu unioni hyn?

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi awgrymu na fydd ad-daliad ychwanegol ar gyfer unrhyw un o'r strwythurau a gyflwynwyd yn eich model arfaethedig, naill ai ar ffurf craffu nac ar ffurf llywodraethu gwirioneddol ranbarthol. Rwyf yn gofyn ichi roi hynny ar gofnod yma heddiw oherwydd, unwaith eto, rwy’n gwybod y byddai fy etholwyr yn anhapus iawn pe byddent yn gweld costau ychwanegol ar yr ochr wleidyddol o unrhyw fiwrocratiaeth a allai ddod o hyn. Sut y byddant mewn gwirionedd yn craffu ar weithio rhanbarthol ar lefel ranbarthol, ond yn bwysicach, ar lefel leol? A sut y bydd fy etholwyr yn gallu cyfrannu at fodel gogledd Cymru o ran gallu bod yn ffyddiog y bydd craffu gwirioneddol gadarn a chryf ac uniondeb ariannol? Sut y bydd deiliaid portffolios yn cael eu dwyn i gyfrif am weithredoedd eu gwaith rhanbarthol? A phwy sydd â’r atebolrwydd democrataidd yn hynny o beth?

Nawr, cynghorau cymuned—symudaf ymlaen—mae adroddiad Swyddfa Cymru heddiw wedi canfod nad oes llawer o gynghorau yn dilyn y gofynion gweithdrefnol sylfaenol a nodir yn y gyfraith. Yn 2015-16, cafodd cynghorau cymuned dros £43 miliwn o incwm, ac eto roedd eu gwariant dros £40 miliwn, wrth iddynt reoli cronfeydd wrth gefn gwerth dros £32 miliwn ac asedau tymor hir gwerth dros £180 miliwn. Rwyf wedi ei godi sawl gwaith yn y Siambr hon, a gyda chi eich hun yn breifat; mae angen adolygiad sylfaenol o'n system cynghorau cymuned. Mae tri deg chwech y cant o gynghorau nad ydynt yn gosod cyllideb briodol. Mae dros 50 o gynghorau yn methu â chydymffurfio ag amserlen statudol ar gyfer paratoi a gwella'r datganiadau cyfrifon. Unwaith eto, pa gamau y byddwch yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau cyfraddau llawer uwch o gydymffurfio â gofynion cyfreithiol yn hyn o beth? Sut yr ydych chi’n mynd i sicrhau bod llywodraethu ar y lefel hon yn ddigon agored a thryloyw, pan fo llawer o'n cynghorau cymuned llai wedi cael y cyllid i gynnal gwefan, i gadw a chyhoeddi cofnodion, i gynnal a chyhoeddi agendâu, ac i gynnal cywirdeb ariannol, tryloywder ac atebolrwydd democrataidd?

Felly, rydych yn gwybod beth yw fy safbwynt i, a’m cydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn hyn o beth. Rydym yn dymuno pob lwc ichi, wrth symud ymlaen, gyda diwygio llywodraeth leol. Hoffem fod yn rhan o hynny, ond, fel y dywedais, i ni, nid yw'n fater o chwarae â ffiniau’r system etholiadol. Mae'n fater o ddiwygio llywodraeth leol o ddifrif. Diolch.

Wel, Lywydd, diolch i Janet Finch-Saunders am gyfres gynhwysfawr o gwestiynau. Diolch am yr hyn a ddywedodd ar y dechrau. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gael cyfleoedd i drafod manylion y syniadau hyn wrth i’r cyfnod ymgynghori fynd yn ei flaen. Rwy’n deall bod gan ei phlaid hi farn wahanol am ddiwygio etholiadol, ond does dim awgrym o gwbl o chwarae a’r ffiniau. Mae'r rhain yn ddewisiadau y byddwn yn gallu eu dadlau yma, ac rydym eisoes wedi clywed safbwyntiau gwahanol amdanynt yn y Siambr.

Rwyf am ymdrin cystal ag y gallaf â’r gyfres o gwestiynau penodol iawn y mae’r Aelod wedi eu gofyn. Rwy'n falch ei bod wedi mynd i’r drafferth i sôn am uno gwirfoddol. Mae hynny’n cael ei gyflwyno eto yn y Papur Gwyn. Rwyf wedi cael y cyfle i glywed gan nifer o’r cynghorau hyn a gyflwynodd gynigion uno gwirfoddol yn y gorffennol. Rwy’n gwybod y caiff rhywfaint o waith cefndir ei wneud i edrych ar y syniadau hynny eto. Rwy’n credu mai’r hyn y bydden nhw’n ei ddweud wrth yr Aelod, fel y gwnaethant ei ddweud wrthyf fi, yw nad yw’r adeg hon yn y cylch etholiadol yn ddefnyddiol iddynt ac y byddent, cyn gallu dechrau trafodaethau o'r fath mewn unrhyw ffordd benderfynol, yn dymuno cael mandad o’r newydd gan eu poblogaethau lleol.

Nid yw cysoni treth yn ffactor yn y trefniadau rhanbarthol. Y cynnig y mae’r Papur Gwyn yn ei amlinellu yw y dylai arian barhau i lifo drwy'r 22 awdurdod lleol, ac yna y dylent ei gronni i fyny i gyflawni'r cyfrifoldebau rhanbarthol gorfodol newydd. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn gwneud hyn yn llwyddiannus nawr. Er enghraifft, yn y consortia addysg, maen nhw’n cytuno ymysg ei gilydd faint mae pob un am ei roi yn y pot cyfunol hwnnw. A hoffwn weld perthynas sy'n ystyried awdurdodau lleol fel cyrff aeddfed sy'n gallu ymrafael â heriau difrifol, ac sydd â’u masnachfraint ddemocrataidd eu hunain. Gwaith y Llywodraeth yw darparu dull wrth gefn pan nad yw pethau'n gweithio yn y ffordd y byddem yn ei disgwyl. Felly, cyn belled ag y mae cyllidebau dan sylw, mae'r Papur Gwyn yn dweud mai’r sefyllfa ddiofyn fyddai bod awdurdodau lleol yn cytuno ar hyn eu hunain. Byddwn yn amlinellu mewn unrhyw ddeddfwriaeth fformiwla wrth gefn y byddai'n rhaid iddynt ei defnyddio o dan amgylchiadau pan nad oeddent yn gallu dod i gytundeb.

Cyn belled ag y mae craffu dan sylw, mae'r Papur Gwyn yn awgrymu dull bwydlen, sy’n gyson â'r modd yr wyf eisoes wedi ei ddisgrifio—y fethodoleg gyffredinol y tu ôl iddo. Mae'n dweud y bydd awdurdodau lleol yn gallu dewis o blith ystod o wahanol ffyrdd o drefnu craffu, a phenderfynu ar ba ddull sydd fwyaf addas i'w hamgylchiadau lleol. Gofynnodd Janet gwestiwn pwysig iawn am ddeiliaid portffolios. Byddai'r model cydbwyllgor yr ydym yn ei gymeradwyo yn y Papur Gwyn yn gweld deiliaid portffolio o awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn dod ynghyd i wneud y penderfyniadau rhanbarthol hynny. Rwy’n benderfynol, er yr hoffwn fod mor gydsyniol â phosibl ac yr hoffwn drafod cynifer o bethau ag y bo modd, ar y ddau beth hyn, rwy’n teimlo'n gryf fy hun: un, yn y pen draw, mae'n rhaid i benderfyniadau orwedd ar ddesg aelodau etholedig. Ac un o beryglon pwyllgorau rhanbarth yw y gallant roi gormod o bŵer i swyddogion yn hytrach nag i aelodau etholedig. Rwy'n credu bod yn rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud gan bobl y mae pobl eraill yn gallu cael gwared arnynt os ydynt yn penderfynu mai dyna beth y maen nhw eisiau ei wneud. Ac rwyf hefyd yn awyddus i lunio’r strwythurau rhanbarthol hyn mewn modd a fydd yn ei gwneud yn glir y bydd penderfyniadau rhanbarthol yn cael eu gwneud gan y deiliaid portffolio hyn gyda’i gilydd. Byddan nhw’n mynd yn ôl i’w hawdurdodau lleol unigol i fod yn destun craffu, i ateb cwestiynau, i gael eu dwyn i gyfrif, ond ni fyddant yn mynd yn ôl i ofyn am ganiatâd. Bydd y gyfraith yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r penderfyniadau rhanbarthol hynny gael eu gwneud yn rhanbarthol, a gyda lles y rhanbarth cyfan yn flaenllaw ym meddyliau'r bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny.

Mae’r Aelod wedi dangos diddordeb brwd iawn, a diddordeb gwybodus iawn hefyd, mewn cynghorau cymuned, ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda hi am yr adolygiad gwraidd a changen o gynghorau cymuned y mae’r Papur Gwyn hwn yn ei ddynodi. Rhwystredigaeth adroddiad yr archwilydd cyffredinol heddiw yw ei fod yn dweud bod y camgymeriadau y mae’n eu gweld yn gamgymeriadau cyffredin. Yr un camgymeriadau sy’n cael eu gwneud ym mhob man, ac maent yn hawdd iawn i'w hunioni. Felly, y rhwystredigaeth yw nad ydym eto wedi gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld wrth sicrhau bod cynghorau cymuned yn unioni’r materion sylfaenol hynny a nododd yr Aelod yn ei chyfraniad. Mae'r Papur Gwyn yn nodi cyfres o gamau y gallwn eu cymryd ar unwaith i wella perfformiad cynghorau cymuned yn y presennol, ond diben yr adolygiad sylfaenol yw cymryd y gorau o'r hyn y maen nhw’n ei wneud, ac mae enghreifftiau da ohonynt yn gwneud gwaith pwysig iawn yng Nghymru, a gwneud hynny yn nodweddiadol o’r system yn ei chyfanrwydd.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rydyn ni yn UKIP yn cefnogi'n fras y bwriad i leihau biwrocratiaeth llywodraeth leol, gan, ar yr un pryd, ymdrechu i gadw rhyw gysylltiad ystyrlon rhwng cynghorwyr lleol etholedig a'u hetholwyr. Fel gyda'r rhan fwyaf o bethau ym maes gwleidyddiaeth, mae angen i’r ad-drefnu hwn fod yn waith o gydbwyso. Ar y naill law, mae gennym bryderon cyhoeddus ynglŷn â gormod o weinyddwyr; mae eu gwaith yn cael ei ailadrodd ar hyn o bryd gan 22 o wahanol adrannau yng Nghymru, a llawer ohonynt yn y bôn yn gwneud yr un peth. Ar y llaw arall, pe byddem yn mynd i lawr y llwybr a hyrwyddodd y Gweinidog llywodraeth leol diwethaf, Leighton Andrews, yn y pen draw, byddai gennym wyth neu naw o gynghorau. Rwy’n ofni y gallai’r canlyniad hwn fod wedi torri, yn angheuol ac yn anadferadwy, y berthynas rhwng aelodau lleol a'u hetholwyr.

Mae gennym ddigon o broblemau â chynghorwyr yn ceisio cynrychioli eu cymunedau, yn enwedig ym maes cynllunio. Am flynyddoedd, mae aelodau lleol wedi ceisio ymladd yn erbyn ceisiadau cynllunio, dim ond i'r Cyngor gael gwybod gan y cyfarwyddwyr cynllunio, 'Byddwn yn ôl pob tebyg yn colli hwn ar apêl os byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn', ac yn ddigon siŵr, mae'r datblygwr yn ennill ei gais. Felly, mae dylanwad yr aelodau lleol yn ddigon prin fel ag y mae hi, a byddai lleihau nifer y cynghorau i wyth neu naw yn eu gwneud yn fwy analluog eto. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yn y broses gynllunio yw refferenda lleol sy’n rhwymo mewn cyfraith, a dyna yw polisi UKIP, a byddem yn annog y Gweinidog i edrych ar hyn yn y dyfodol, os yw wir yn dymuno grymuso pobl leol mewn penderfyniadau sy'n cael effaith fawr ar eu cymunedau.

I droi’n ôl at y cynigion penodol a gyflwynwyd heddiw, mae’n ymddangos ar bapur eu bod yn cynrychioli sail resymol i ddechrau trafodaethau a fydd, yn amlwg, yn rhai cymhleth gyda’r 22 o awdurdodau lleol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y rhai sy'n talu'r dreth gyngor yng Nghymru yn cael gwell gwerth am arian, a’n bod yn lleihau niferoedd gormodol o weinyddwyr. Ar yr un pryd, ni allwn fod yn ffwrdd-â-hi ynglŷn â hyn, gan gofio, fel y mae'n rhaid i ni, mai swyddi pobl yw’r rhain. Mae'n waith cydbwyso eto, fel y dasg o lywio’r cynghorau’n ofalus tuag at weithredu mwy o wasanaethau a rennir.

Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniad terfynol ad-drefnu llywodraeth leol, ond rydym hefyd yn awyddus i’r Gweinidog lwyddo i gael y llyfr rheolau safonol y mae wedi sôn amdano ynghylch gweithredu’r pwyllgorau rhanbarthol ar y cyd, neu'r pwyllgorau cydlywodraethu, fel y mae’n eu galw. Rydym yn cytuno â'r egwyddor mai aelodau etholedig a ddylai wneud pob penderfyniad sylweddol, ac nid swyddogion, a hoffem osgoi gwneud y broses o wneud penderfyniadau yn fwy beichus. Felly, rydym o blaid y cysyniad bod y pwyllgor rhanbarthol ei hun yn gwneud y penderfyniadau, ac nad yw ond yn gwneud argymhellion ac yna’n gorfod mynd yn ôl i'r cynghorau lleol perthnasol.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi sôn am y tro cyntaf am gynnig tybiedig i ganiatáu i gynghorau gyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, neu STV, yn eu hetholiadau eu hunain, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Nid ydym yn credu bod hyn yn mynd yn ddigon pell, ond rydym yn croesawu symudiad y Gweinidog i'r cyfeiriad hwn yn fawr iawn. Rydym hefyd yn hoffi’r cynnig i ganiatáu i gynghorau benderfynu, os ydynt yn dymuno, mynd yn ôl at yr hen system o lywodraethu gan bwyllgorau, yn hytrach na chabinet y cyngor. Mae llawer o dalwyr y dreth gyngor yn cofio’r hen system gyda hoffter, a byddem yn croesawu’r cyfle i ddychwelyd ati.

I gloi, mae llawer o ffordd i fynd o hyd i roi’r cynllun ad-drefnu hwn i gyd ar waith. Ond mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn fan cychwyn rhesymol. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad, ac am y rhannau hynny o'r Papur Gwyn y mae wedi eu cymeradwyo. Gadewch imi sôn am y pwynt olaf yn gyntaf, mewn gwirionedd, sef, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gwneud dim byd heblaw ymarfer ymagwedd gyson tuag at y ffordd yr ydym yn dyrannu cyfrifoldebau. Os yw'n iawn i gynghorau allu penderfynu ar ba un a hoffent gael strwythur pwyllgor ynteu strwythur cabinet, os yw'n iawn caniatáu i gynghorau benderfynu ar ba un a ydynt eisiau cael eu hethol en bloc, neu ar sail traean, traean, traean, y bydd y Papur Gwyn hwn yn ei ganiatáu, yna mae'n iawn caniatáu i gynghorau lleol eu hunain wneud y penderfyniad am y math o etholiad sy'n gweddu orau iddyn nhw. Mae'n thema gyson drwy'r Papur Gwyn i gyd, a hoffwn gynnal y cysondeb hwnnw.

Rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedodd Mr Bennett ynglŷn â bod y papur yn golygu gwaith cydbwyso; mae gwahanol densiynau ynddo. Hoffwn wneud yn siŵr ein bod yn atgyfnerthu'r cyswllt ystyrlon hwnnw rhwng cynghorau lleol, cynghorwyr, a'r poblogaethau sy'n eu hethol. Ond, eto, mae'r Papur Gwyn yn awgrymu, er ei bod yn rhwymedigaeth ar y cynghorwyr hynny i ddangos bod ganddyn nhw berthynas barhaus â’r bobl sydd wedi eu hethol, mae'n awgrymu bod amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gallai cynghorydd ddangos ei fod yn cyflawni’r rhwymedigaeth honno, ac y gallai’r ffordd y gallech wneud hynny mewn rhan boblog o ganol dinas Caerdydd fod yn wahanol iawn i’r ffordd y byddech yn ei dewis pe byddech yn gynghorydd mewn rhan wledig o Bowys neu Geredigion.

Nid yw’r syniad o gynllunio drwy refferenda yn apelio ataf, ond mae adran bwysig o’r Papur Gwyn ym mhennod 2 yn ymwneud â rhai materion cynllunio cymhleth ac ymgynghoriad yw hwn, felly os oes gan Aelodau safbwyntiau gwahanol ac os ydynt yn meddwl y gallai'r system weithio'n well mewn ffyrdd eraill, yna, wrth gwrs, rwy’n gobeithio'n fawr y gwnânt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chaniatáu inni archwilio’r safbwyntiau hynny ymhellach.

Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad a'r rhan fwyaf o'r cynigion? Am y 25 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweld cynigion i newid llywodraeth leol yn seiliedig ar sicrwydd anwybodaeth. Mae hyn yn newid oddi wrth hynny ac mae i'w groesawu'n fawr. Mae hwn yn gymaint gwell nag unrhyw un o'r cynigion blaenorol; mae rhai o’r rheini wedi’i gweithredu ond nid yw’r rhan fwyaf ohonynt.

Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol arfaethedig, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn amdano ers degawdau? Yn ail, a gaf i groesawu defnyddio'r dinas-ranbarthau fel olion traed llywodraeth leol? Mae'n ymddangos, bob tro y cynigir cynnig newydd ar gyfer cydweithio mewn ardal, bod ardal newydd yn cael ei chreu, ac nid yw hynny’n achosi dim ond dryswch. Felly, rwy’n credu, i ateb efallai yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian, y gallai hyn fod yn well na'r system bresennol. Rwy’n byw yn Abertawe, yn lle a elwir yn ardal Janus, oherwydd rydym naill ai'n edrych i’r dwyrain neu'r gorllewin gan ddibynnu ar ba wasanaeth ydyw, ac nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi nac i’r rhan fwyaf o’m hetholwyr.

Os yw’r dinas-ranbarthau’n mynd i olygu unrhyw beth, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau. Fel arall, cânt eu gweld fel dim ond lluniadau artiffisial ar gyfer datblygu economaidd. Bydd rhannu gwasanaethau cefn swyddfa yn amlwg yn arbed arian—yr hyn y mae rhai pobl yn ei alw’n 'no-brainer'—ond bydd yn golygu y bydd rhai swyddi cyflog uchel yn symud o un ardal i'r llall, a gallai hynny olygu symud swyddi cyflog uchel allan o rai o'n cymunedau tlotaf. Felly ceir manteision o ran arbed arian, ond nid dyna yw popeth, nage? Mater o gefnogi rhai o'n cymunedau tlotaf yw hwn.

Mae gennyf dri chwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Y cwestiwn cyntaf yw: er fy mod yn teimlo nad yw STV, neu 'dyfalwch faint o seddau y gallwch eu hennill, ond gyda seddau i bawb', yn system etholiadol addas, rwy'n siŵr y bydd pobl eraill yn anghytuno â mi; a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys system uwchfwyafrif, hynny yw, bod yn rhaid i ddwy ran o dair o gyngor ei gefnogi cyn y gellir gwneud newid?

Ail gwestiwn: fel yr wyf wedi’i ddadlau o'r blaen, mae’n siŵr y byddai rhai yn dweud yn ddiddiwedd, bod rhai gwasanaethau sy'n cael eu darparu orau ar lefel leol a’r rhai sy'n elwa ar fod yn sefydliadau mawr—rwy’n meddwl bod addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ddau sy’n dod i'r meddwl ar unwaith, fel dau wasanaeth mawr cynghorau sir; ond nid dim ond y rheini, mae safonau masnach, eto, yn wasanaeth arall sy’n elwa ar fod yn fawr—ond a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn caniatáu i gynghorau benderfynu ar faint ac aelodaeth y byrddau ar y cyd hyn?

Yn drydydd, er bod y rhan fwyaf y tu allan i'w gylch gwaith, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag aelodau eraill o’r Llywodraeth i weithio tuag at symud yr holl wasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru oddi mewn i ôl troed y ddinas-ranbarth?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am yr hyn a ddywedodd ar y dechrau? Bydd yn gwybod bod trafodaethau gydag ef, a rhai o'i safbwyntiau a’i brofiad manwl o'r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithio ar lawr gwlad, wedi dylanwadu'n fawr ar rai o fy syniadau. O ran ei bwynt ynglŷn â gwasanaethau cefn swyddfa, mae nifer o Aelodau wedi gwneud y pwynt hwn—gwnaeth Gareth Bennett y pwynt hefyd—ynglŷn â’r ffordd y mae cyfuno gwasanaethau'n effeithio ar swyddi. Mae'r Papur Gwyn yn awgrymu ffordd raddol o ymdrin â hyn, ond ceir ymdeimlad penderfynol ein bod ar y daith honno gyda’n gilydd. Yn y gwasanaeth iechyd, cymerodd 10 mlynedd i fynd o sefyllfa lle’r oedd pob corff iechyd yn darparu popeth drosto ei hun i un gwasanaeth cenedlaethol a rennir, ac roedd angen sensitifrwydd ar hyd y ffordd pan oedd y penderfyniadau hynny’n effeithio ar swyddi pobl. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn benderfynol iawn, pe byddai cyfuno cefn swyddfa yn effeithio ar swyddi cyflog uchel, y câi’r swyddi hynny eu lleoli mewn ffordd sy'n gyson ag ymagwedd economaidd Llywodraeth Cymru—mewn geiriau eraill, y byddai’r swyddi hynny’n cael eu lleoli yn fwriadol yn y mannau hynny lle byddai'r swyddi’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly, rwy’n credu bod ffyrdd y gallwn ymdrin â'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn gwbl briodol.

O ran ei dri chwestiwn penodol, bydd gwahanol safbwyntiau—rydym wedi eu clywed yn barod—am y ffordd y gallwn symud at system ganiataol o ddewis trefniadau etholiadol, ac os oes gan bobl syniadau i’w hychwanegu at y gronfa yr ydym wedi’i hamlinellu yn y Papur Gwyn, byddaf yn awyddus iawn i’w clywed yn yr ymgynghoriad. Rwy’n gobeithio, Lywydd, y bydd Aelodau o bob plaid wleidyddol yma, a’r pleidiau gwleidyddol eu hunain, yn awyddus i fod â diddordeb yn y gyfres ehangach o ddiwygiadau y mae’r Papur Gwyn yn eu hamlinellu, gan ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd gennym i newid y ffordd yr ydym yn cynnal etholiadau er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch ac ar gael i bobl yr hoffem eu gweld yn cymryd rhan ynddynt.

Mae Mike Hedges yn gofyn imi am faint pwyllgorau rhanbarthol. Mae adran yn y Papur Gwyn, yn rhan 2, os cofiaf, sy'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn ag aelodaeth y pwyllgorau llywodraethu rhanbarthol. Rwy'n meddwl mai’r unig egwyddor y mae’n ei gosod i lawr fel un yr ydym wedi ymrwymo iddi ar hyn o bryd yw, os oes hyblygrwydd, bod hynny’n dal i olygu bod yr hyblygrwydd ar gael yn gyfartal i bob awdurdod lleol sy'n aelodau o'r pwyllgor. Mewn geiriau eraill, os oes gennych chi dri aelod o un cyngor, mae'n rhaid bod gennych chi dri aelod o bob un ohonynt, ac yn y blaen.

Yn olaf, ynglŷn â symud holl weithgareddau Llywodraeth Cymru i mewn i’r olion traed hyn, buom yn trafod y Papur Gwyn hwn, wrth gwrs, yn y Cabinet. Rwy’n gwybod bod fy nghydweithwyr wedi ymrwymo i’r un dymuniad hwnnw i geisio symleiddio patrwm olion traed rhanbarthol yng Nghymru, i geisio atgyfnerthu'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar lai o olion traed, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n caniatáu amser i symud oddi wrth bethau sy'n gennym ar waith heddiw at y trefniadau a fydd gennym yn y dyfodol, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n sensitif i'r trefniadau hynny sy'n gweithio ar hyn o bryd ac na fyddem yn dymuno tarfu arnynt.

A gaf i ei gwneud yn glir mai siarad fel unigolyn ydw i, yn hytrach na chynrychioli barn y Ceidwadwyr Cymreig am yr hyn yr wyf yn mynd i’w ddweud? Nid yw’n arbennig o ddiddorol, rwy’n amau, ond—[Torri ar draws.] Rwyf nawr, yn amlwg—[Torri ar draws.] Rwyf nawr wedi codi disgwyliadau. [Chwerthin.] A gaf i ddweud, ar ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, fy mod i’n croesawu hyn yn fawr, os yw'n mynd i ddigwydd? Rwy'n credu y dylem ymgynghori am y peth. Rwy’n meddwl y byddai'n wych cael ein dwyn i gyfrif o ddifrif gan bobl sy'n mynd drwy addysg orfodol. Rwy'n meddwl y byddai hynny'n wych. Rwyf yn gofyn iddo a fydd yn cael trafodaethau â’i gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, am sut y gallem ddiwygio'r cwricwlwm o ran sut yr ydym yn addysgu addysg ddinesig, oherwydd byddai hwn yn gyfle delfrydol i wneud hynny.

Mae’n rhaid imi ddweud, fy mod i wedi bwriadu lansio ymosodiad ffyrnig ar y polisi STV anhygoel hwn o ddiwygio heb fod ag egwyddor drefnu ganolog y tu ôl i hynny, ond dim ond caniatáu unrhyw beth o ran yr hyn yr oedd pob cyngor yn dymuno ei wneud, ond yna sylweddolais fy mod wedi rhoi’r un polisi ym maniffesto 2007 y Ceidwadwyr. [Chwerthin.] Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael comisiwn eithaf anodd, oherwydd nad oedd ein swyddog gweithredol ein hunain eisiau cynrychiolaeth gyfrannol, ac roedd yn rhaid inni ryw fath o ddangos ychydig o goes, fel petai, o ran cysylltiadau cyhoeddus i bartneriaid posibl mewn clymblaid enfys. Felly, y syniad da a gefais oedd, 'Wel, gadewch i’r cynghorau benderfynu'.

Ond mae’n rhaid imi ddweud, ar ôl meddwl, mae'n bwysig iawn, os nad ydym yn credu bod ein system etholiadol ar lefel leol, a hefyd, mewn gwirionedd, ar lefel y Cynulliad, yn sicrhau cynrychiolaeth i gymdeithas sydd bellach yn gymdeithas wleidyddol ag amrywiaeth o bleidiau, system aml-blaid—os yw hynny’n torri i lawr ac yn methu â darparu llywodraeth leol dda, effeithiol, ymatebol ac effeithlon, rwy’n credu y dylem wir ymdrin â hyn fel egwyddor fawr y mae angen ei datrys. Rwyf wir yn meddwl y dylem fod yn gyson a bod y rhan honno o'ch cynnig yn y Papur Gwyn, a dweud y gwir, yn wan.

Wel, wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb bob amser yn yr hyn sydd gan David Melding i'w ddweud. Diolch am yr hyn y gwnaethoch ei ddweud am bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed. Rwy’n cytuno’n llwyr ag ef mai un o'r dadleuon allweddol o blaid ymestyn y fasnachfraint yn y modd hwnnw yw ei fod yn caniatáu ichi greu dinasyddion addysgedig a deallus yn gynnar yn eu bywydau, a gobeithio wedyn y gallwch ddal i harneisio’r manteision hynny yn ystod gweddill yr amser y byddwn yn gobeithio y bydd ganddynt ddiddordeb mewn democratiaeth.

Pan ein bod wedi ei drafod ar draws y Siambr yma, mae'n syniad sydd wedi cael cefnogaeth eang iawn. Mae profiad refferendwm yr Alban, yr ydym wedi sôn amdano yma yn y dadleuon hynny, yn galonogol iawn yn y ffordd y mae pobl ifanc ar yr adeg honno yn eu bywydau yn ymgysylltu cymaint â materion a fyddai'n gwneud cymaint o wahaniaeth, o bosibl, i’w dyfodol eu hunain.

Mae'r gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol—nid yn unig y mae wedi ymddangos mewn maniffestos eraill yma yng Nghymru, ond cafodd ei rhoi ar y llyfr statud, mae ar y llyfr statud, yn Seland Newydd. Ein model ni yn y Siambr hon oedd model Seland Newydd. Rhoddodd Llywodraeth Lafur yn Seland Newydd gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol ar y llyfr statud yno dros ddegawd yn ôl. Mae wedi gweithio yn yr union ffordd yr wyf wedi’i disgrifio yma y prynhawn yma. Mae rhai awdurdodau lleol wedi penderfynu bod eu hamgylchiadau’n fwy addas ar gyfer un dull na'r llall. Mae’r patrwm wedi newid yn raddol dros amser, ond fy nealltwriaeth i yw bod tua hanner yr awdurdodau lleol yn Seland Newydd erbyn hyn yn cael eu hethol gan ddefnyddio un dull a’r hanner arall yn defnyddio dull arall. Dim ond un awdurdod lleol sydd wedi newid ei system a phenderfynu dychwelyd i'r un a oedd ganddo gynt.

Nid oes egwyddor drefnu fawr, yn fy marn i, yn y fantol yma. Yr hyn sydd yn y fantol, yn fy marn i, yw egwyddor gyffredinol y Papur Gwyn hwn, sef ein bod yn caniatáu i awdurdodau lleol eu hunain wneud y penderfyniadau sy'n iawn iddyn nhw, yn hytrach na meddwl ein bod ni, yma, yn y canol, mewn gwell sefyllfa na nhw i wybod beth sy'n iawn i’w hardaloedd nhw. Ac nid wyf yn meddwl fy mod wedi cael fy argyhoeddi y prynhawn yma gan Aelodau sy'n sefyll i ddweud eu bod yn falch y bydd awdurdodau lleol yn gallu cael y dewis yn y maes hwn, neu’r maes arall, neu faes arall eto, ond, o ran y mater hwn, ein bod yn penderfynu yn sydyn ein bod ni’n gwybod yn well na nhw. Rwy'n meddwl bod cysondeb o ganiatáu dewislen o ddewisiadau i awdurdodau lleol eu hunain—dewisiadau a benderfynir gan y Cynulliad hwn pan fyddwn yn deddfu—ond yna’n caniatáu iddyn nhw wneud pethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu hanghenion a'u hamgylchiadau eu hunain; rwy'n credu bod honno'n egwyddor, a’i bod, rwy’n gobeithio, yn un y mae’r Papur Gwyn hwn yn ei hadlewyrchu.

Ddydd Gwener, cynhaliais gyfarfod, uwchgynhadledd fach, am newid yn yr hinsawdd gyda phobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn siambr Tŷ Hywel, a dangosodd pa mor gymwys y gall pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed fod i ymgysylltu â materion gwleidyddol, oherwydd roedd eu syniadau ar gyfer newid y byd a chyflawni rhwymedigaethau Cymru ar newid yn yr hinsawdd yn hollol wych. Felly, rwy’n croesawu’r cynnig hwnnw yn fawr iawn ac rwy’n gobeithio y caiff ei gefnogi yn eang.

Rwy’n meddwl fy mod hefyd yn hoff iawn o'r adran o'ch Papur Gwyn ar arweinyddiaeth wasgaredig—‘Pa gyfraniad y gallaf fi ei wneud i ddatrys y mater hwn?’, rhywbeth y dylai pawb fod yn ei ofyn iddyn nhw eu hunain—a’r ethos yr ydych yn ei gynnig, bod gennym sefydliadau sy’n dysgu, lle mae anghenion pobl a chymunedau lleol yn cael eu rhoi wrth wraidd penderfyniadau, yn seiliedig ar berthynas gydgynhyrchiol. Ac, yn y cyd-destun, hoffwn ofyn ichi sut y gallai’r Papur Gwyn hwn ymdrin â gwella ein perthynas â'r trydydd sector, oherwydd mae adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol yn tynnu sylw at y ffaith bod gan awdurdodau lleol ymagwedd braidd yn anghyson at weithio gyda'r trydydd sector, ac nad yw’n ymddangos bod ganddynt ddulliau trefnus, cywir, safonol sy’n seiliedig ar ddata pan eu bod yn dyfarnu contractau, sy’n peri rhywfaint o bryder. Rwyf hefyd yn myfyrio ar dystiolaeth yr NEA, National Energy Action, sy’n dweud pa mor anodd yw gweithio gyda llawer o awdurdodau lleol, ac, yn wir, gyda llawer o fyrddau iechyd, i sicrhau bod eu harbenigedd yn cael ei ddefnyddio'n briodol i sicrhau bod pobl yn deall sut y gallant wella effeithlonrwydd ynni a lleihau eu biliau. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym sut y mae’r Papur Gwyn yn ymdrin â'r angen i sicrhau bod pob awdurdod lleol mor drefnus yn yr holl faterion eraill yr ydych yn eu hamlinellu a hefyd yn eu hymagwedd at weithio gyda'r trydydd sector.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y sylwadau yna, ac yn arbennig am dynnu sylw at rywbeth nad ydym wedi sôn amdano hyd yn hyn yn y drafodaeth y prynhawn yma. Mae’r Papur Gwyn yn dweud, yn union fel yr ydym yn dymuno cael perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, bod angen i awdurdodau lleol eu hunain ddatblygu perthynas newydd â’r poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu: perthynas yn seiliedig ar ystyried eu poblogaethau lleol fel asedau, fel pobl sydd â chryfderau, fel pobl sydd â chyfraniad i'w wneud, yn hytrach na phroblemau y mae'n rhaid eu datrys. Felly, mae’r berthynas wahanol honno, y berthynas gyd-gynhyrchiol, wrth wraidd y Papur Gwyn. Mae'n dweud wrth awdurdodau lleol, yn yr amseroedd caled iawn—amseroedd caled iawn—sydd o'n blaenau, os na allwch ysgogi’r cyfraniad y gall eich poblogaeth ei wneud i weithredu ar y cyd â chi i fynd ar drywydd pethau sy'n bwysig i boblogaethau lleol, y bydd eich gallu i barhau i wneud y pethau pwysig yr ydych yn eu gwneud yn cael ei beryglu’n fawr. Ystyr arweinyddiaeth wasgaredig yw bod gan bawb sy'n gweithio i awdurdod lleol rai cyfrifoldebau arwain ac nad y cwestiwn cyntaf y dylech ofyn i chi eich hun pan eich bod yn wynebu problem yw, 'I bwy y dylwn i roi gwybod am y broblem hon fel y gallaf ei gwneud yn gyfrifoldeb rhywun arall?' Y cwestiwn cyntaf y dylech ei ofyn i chi eich hun yw, 'Pa gyfraniad y gallaf i ei wneud i ddatrys y broblem hon?' Beth allaf i ei wneud i wneud gwahaniaeth yn y fan yma?' Yna, wrth gwrs, bydd angen ichi ysgogi cyfraniadau gan lawer o bobl eraill os ydych chi’n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ond mae'n ceisio symud y ddadl ymlaen oddi wrth y math o synnwyr hierarchaidd hwnnw mai fy swydd i yn syml yw dod o hyd i rywun arall y gallaf ei wneud yn gyfrifol am ddatrys problem—'Beth allaf i ei wneud i gyfrannu at hyn?'

Yn y pwyntiau a gododd Jenny am gyfraniad y trydydd sector a sefydliadau y mae angen iddynt ymwneud ag awdurdodau lleol, rwy’n cwrdd â mudiadau’r trydydd sector ddwywaith y flwyddyn yn ffurfiol i drafod eu perthynas ag awdurdodau lleol. Rwy'n meddwl eu bod yn cefnogi’n fras y dull rhanbarthol y mae’r Papur Gwyn hwn yn ei amlinellu, oherwydd rwy’n meddwl eu bod yn credu y bydd yn symleiddio eu gallu i ryngweithio ag awdurdodau lleol, y bydd yn caniatáu iddynt gymryd y berthynas dda sydd ganddyn nhw mewn rhai mannau a cheisio eu gwneud yn nodweddiadol o'r holl ranbarth hwnnw, a bydd yn darparu cyfres wahanol o bwyntiau mynediad i sefydliadau eraill. Yn hytrach na gorfod ymdrin â 22 o awdurdodau lleol am bopeth, bydd ganddyn nhw nifer llai ac, o ganlyniad, cyfleoedd mwy effeithiol i ffurfio’r union gysylltiadau a pherthnasoedd pwysig iawn hynny.

Rwy’n croesawu’r datganiad hwn. Rwy'n meddwl ei fod yn cynrychioli cynnydd mawr. Yn arbennig, rwy’n croesawu’r cynigion a fydd yn sicrhau bod cynghorau yn cydweithio dros faterion fel cynllunio rhanbarthol a thrafnidiaeth. Wrth gwrs, mae gennym enghraifft dda iawn yn digwydd eisoes ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, lle mae 10 o awdurdodau lleol eisoes yn gweithio'n agos â'i gilydd i sicrhau bargen y ddinas ac, wrth gwrs, y metro. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o weithio gyda fy nghyd-Aelod Hefin David i gefnogi llain las rhwng Caerdydd a Chaerffili, ac, y llynedd, buom yn gweithio gyda'n gilydd i bwyso am ymagwedd ranbarthol at ddatblygu tai ar ochr Caerffili i’r mynydd, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar ochr Gogledd Caerdydd o ran traffig. A yw e'n cytuno y bydd y cynigion hyn yn ei gwneud yn llawer haws ymdrin â’r mathau hyn o faterion mewn ffordd ranbarthol ac mewn ffordd sy'n ystyried safbwyntiau’r awdurdodau lleol—safbwyntiau’r cyffiniau?

Rwyf hefyd yn falch iawn ynglŷn â’r cynnig ar gyfer y pleidleisiau i bobl ifanc 16 a 17 oed. Rwy'n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i gynnwys pobl ifanc yn ein penderfyniadau. A yw e'n meddwl y bydd gennym bobl ifanc 16 ac 17 oed yn sefyll fel cynghorwyr? A fyddai'n croesawu hynny, ac a fyddai efallai’n cytuno bod arnom angen llawer mwy o amrywiaeth ymhlith ein cynghorwyr beth bynnag, ac, os oes gennym lawer o bobl ifanc, y bydd hynny’n helpu tuag at hynny? Ond, wrth gwrs, mae yna grwpiau eraill hefyd, a rhai o fy mhryderon am bwyllgorau cydlywodraethu yw, os, er enghraifft, oes pwyllgor cydlywodraethu o arweinwyr yr awdurdodau lleol, fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai’r rhan fwyaf o’r rheini bron i gyd yn ddynion, ac ychydig iawn o arweinwyr ein cynghorau sy’n fenywod—un neu ddwy, efallai. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw ffordd o ymdrin â hynny drwy'r ddeddfwriaeth hon, ond, yn amlwg, un o oblygiadau posibl y ddeddfwriaeth hon fyddai nad yw’r pwyllgorau llywodraethu yn gynrychioliadol o'r bobl yn eu cyfanrwydd. Ond, ar y cyfan, rwy'n meddwl bod hwn yn gam mawr ymlaen.

Rwy’n diolch i Julie Morgan, Lywydd, am yr hyn a ddywedodd. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod y profiad ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth lunio’r Papur Gwyn hwn. Mae arweinyddion cynghorau o wahanol bleidiau yn tynnu sylw yn rheolaidd iawn ato pan fyddaf yn ei drafod gyda nhw fel enghraifft o sut y maen nhw wedi gallu dod at ei gilydd. Ond nid dim ond Caerdydd; mae rhanbarth Abertawe a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddwy enghraifft arall o lle mae awdurdodau lleol yn dangos y manteision y gallant eu cael drwy weithio yn y modd y mae'r Papur Gwyn yn ei amlinellu. Rydym wedi dysgu llawer oddi wrthynt ac ar eu cyngor nhw yr ydym wedi nodi mai datblygu economaidd, trafnidiaeth ranbarthol a chynllunio defnydd tir rhanbarthol yw’r tri ysgogiad allweddol sydd eu hangen arnyn nhw i wneud gwahaniaeth i’r mathau o faterion a amlinellodd Julie Morgan.

A welwn ni bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn gynghorwyr yn y dyfodol? Wel, nid wyf yn gweld pam lai, ond gadewch inni wneud yn siŵr eu bod yn gallu cymryd rhan drwy'r camau y gallwn eu cymryd yma. Mae adran sylweddol yn y Papur Gwyn yn ymwneud ag amrywio cynrychiolaeth, ac mae hwnnw'n uchelgais gwirioneddol, rwy’n meddwl, y dylem gydio ynddo yma yng Nghymru. Mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr yn dod i'r amlwg mewn awdurdodau lleol, ac mae hynny i'w groesawu’n fawr, ond dim ond dwy fenyw sy’n arweinyddion gennym—mae’r ddwy ohonynt yn weithredwyr pwerus ym maes llywodraeth leol—a gobeithio eu bod yn gosod esiampl i bobl eraill a fydd yn dymuno eu dilyn. Rydym yn nodi cyfres o gamau ymarferol yn y fan yma, a drwy wahanol weithredoedd ein pleidiau gwleidyddol, y mae gan bob un ohonynt gyfrifoldeb i chwarae eu rhan yn yr agenda amrywio, rwy’n hyderus y gallwn wneud mwy ar hynny yma yng Nghymru.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, am y naws yr ydych wedi’i gosod yn y datganiad hwn. Mae ychydig yn wahanol i naws eich rhagflaenydd. Rydych yn ymddangos—nid wyf yn sôn am Jane Hutt; rwy’n sôn am eich rhagflaenydd llywodraeth leol—fel eich bod yn gwrando ychydig mwy. Mae hynny i’w groesawu yn wir, ac rwy’n meddwl bod hynny wedi dod allan yn naws y datganiad hwn heddiw. A gaf i ofyn i chi—? Rwyf wir yn croesawu'r ffordd yr ydych wedi symud ymlaen oddi wrth y cynlluniau blaenorol—o’r hyn a welais fel ad-drefnu llywodraeth leol diffygiol. Rwy’n gwybod y bu gwahanol safbwyntiau am hynny, ond rwy’n meddwl y byddem wedi colli llawer o'r hyn a oedd yn dda am y system heb gael y buddion yr oeddem yn meddwl ein bod yn mynd i’w cael.

Rydych, yn eich datganiad, yn dweud nad ydych yn diystyru—i aralleirio hynny—y model cyfunol o lywodraeth leol os gall awdurdodau lleol ddangos y byddai dull awdurdod cyfun o gymorth i gyflawni amcanion a rennir. Rwy’n gwybod bod y model cyfunol yn rhywbeth yr oedd fy nghyngor lleol yn Sir Fynwy ac awdurdodau ardal y de-ddwyrain yn hoff iawn ohono, ond cafodd ei ddiystyru gan eich rhagflaenydd, fel y dywedais o'r blaen. Ar ba bwynt y byddech yn penderfynu bod yr awdurdodau lleol hynny wedi dangos bod y math hwnnw o fodel yn rhywbeth y byddech chi a Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, pe byddent am fynd ar y trywydd hwnnw?

Diolch i Nick Ramsay. Mae'n iawn i ddweud bod Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn un o'r rhai sydd wedi argymell model awdurdod cyfunol. Rwy’n meddwl, pan gaiff gyfle i edrych yn fanwl ar y Papur Gwyn, y bydd yn gweld rhai mannau eraill lle mae trafodaethau gyda Sir Fynwy wedi cael effaith yn y Papur Gwyn, a rhai o'r ffyrdd yr ydym wedi diwygio'r cynigion ar gyfer sut y gall awdurdodau lleol drefnu eu hunain ar lefel is nag awdurdodau lleol. Mae trafodaethau â Gwynedd wedi bod yr un mor bwysig wrth lunio rhai o'n syniadau yno.

Fy nghasgliad oedd hyn, Nick: nad yw Biliau llywodraeth leol yn dod gerbron y Cynulliad yn aml iawn, ac er mai’r pwyllgor cydlywodraethu yw’r model yr wyf yn meddwl y bydd y rhan fwyaf o drefniadau rhanbarthol yn dymuno ei ddefnyddio i ddechrau, roeddwn yn teimlo ei bod yn iawn gweld pa un a allem roi'r model awdurdod cyfunol ar y llyfr statud, felly os bydd y system yn aeddfedu’n gyflym a bod awdurdodau lleol eu hunain yn dod ymlaen i ddweud y byddai'n well ganddynt fabwysiadu model awdurdod cyfunol, nid oes angen darn arall o ddeddfwriaeth sylfaenol arnom yma er mwyn rhoi’r gallu hwnnw iddynt. Felly, mae’n gyson â'r thema yr wyf wedi ei datblygu drwy gydol y prynhawn, Lywydd, sef rhoi dewisiadau yn y ddeddfwriaeth y gall awdurdodau lleol eu hunain eu defnyddio pan fydd eu hamgylchiadau’n golygu eu bod yn meddwl mai dyna fyddai’r peth iawn iddyn nhw ei wneud. Nid oes gennyf amserlen yn fy meddwl ar gyfer pryd y gallai hynny ddigwydd, ond os yw awdurdodau lleol yn dymuno symud i'r cyfeiriad hwnnw ac yn gallu dangos y byddai hynny er budd eu poblogaethau lleol, rwy’n meddwl ei bod yn gwneud synnwyr i ni fel Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaeth fel y bydd y Bil yn caniatáu’r bwriadau hynny yn y dyfodol.

6. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Hazelkorn o addysg yng Nghymru. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.

Diolch i chi, Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn 'Tuag at 2030—Fframwaith ar gyfer Datblygu System Addysg Ôl-orfodol o’r Radd Flaenaf i Gymru’, a gyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2016.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad ar gyfer gwaith yr Athro Hazelkorn, ochr yn ochr â’r nifer o randdeiliaid, yn adolygu'r trefniadau presennol ac yn tynnu ar ei phrofiad rhyngwladol helaeth. Yn wir, yn y llyfr diweddaraf yr oedd hi’n awdures ar y cyd arno, sef ‘The Civic University’, dadleuodd fod yn rhaid i’r gwaith o gyflawni cenhadaeth ddinesig fod yn ffordd o drefnu addysg uwch a gwerth y sefydliadau mewn partneriaeth, gan ymrwymo i wella bywydau cymunedau a chenhedloedd. Yn y gorffennol, rwyf wedi gosod her i addysg uwch yng Nghymru i adennill ei hymdeimlad o genhadaeth ddinesig yn dilyn y bleidlais Brexit. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen eglurder yn y fframwaith ehangach ar gyfer ein system addysg ôl-orfodol, o ran ei ymdeimlad o bwrpas a sut yr ydym ni’n sicrhau dewisiadau a chanlyniadau o ansawdd uchel ar gyfer ein dinasyddion.

Comisiynodd y weinyddiaeth flaenorol yr adolygiad oherwydd pryderon ynglŷn â chymhlethdod cynyddol y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, dysgu sy’n seiliedig ar waith a’r addysg i oedolion yn y gymuned. Caiff yr amryw sectorau a darparwyr eu rheoleiddio a'u hariannu mewn ffyrdd gwahanol gan wahanol gyrff a gall hyn arwain at gystadleuaeth ddi-fudd rhwng darparwyr addysg a hyfforddiant, dyblygu neu fylchau yn y ddarpariaeth, a dryswch i ddysgwyr. Mae mathau newydd o ddarparwyr wedi dod yn rhan o’r system yn y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer sylweddol o gyrsiau AU yn cael eu dysgu mewn sefydliadau AB erbyn hyn. Mae’r ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach, a oedd unwaith yn glir, yn diflannu erbyn hyn.

Rwy’n ymwybodol o newidiadau sylweddol yn yr ymagwedd at addysg a hyfforddiant ôl-orfodol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd y rhain yn cael sgil effaith ar Gymru ac mae angen i ni sicrhau bod ein system yn addas at y diben ac y bydd dysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau yn elwa arni. Mae bywydau gwaith yn hirach erbyn hyn, ac maent yn newid yn gyflym, ac mae angen system arnom sy'n ei gwneud hi’n haws i bobl ddysgu a chaffael sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ein bywydau a'r economi yn mynd trwy gyfnod o newid technolegol enfawr. Gwyddom fod y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer ein heconomi yn newid yn gyson ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymateb i effaith Brexit. Nid yw gwneud dim byd, neu gadw’r status quo, yn ddewis dichonol.

Daeth yr Athro Hazelkorn i'r casgliad nad yw'r system bresennol yn canolbwyntio'n ddigonol ar ddysgwyr nac ychwaith yn cyflawni gwerth am arian yn llwyr. Pwysleisiodd ei hadroddiad hi yr angen i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol weithredu fel sector unigol. Cynigiodd hefyd sut y dylai'r sector ôl-orfodol gael ei reoleiddio a'i fonitro i sicrhau cynaliadwyedd, cydlyniant ac effeithiolrwydd yn y dyfodol. Roedd ei hargymhellion yn cynnwys: datblygu gweledigaeth gyffredinol, yn seiliedig ar gysylltiadau cryfach rhwng polisi, darparwyr a darpariaeth addysg a nodau cymdeithasol ac economaidd; sefydlu un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu ar gyfer y sector ôl-orfodol—hwn fyddai’n gyfrifol am ariannu darpariaeth ar bob lefel, monitro arferion llywodraethu, sicrhau ansawdd a bod yn gyllidwr arweiniol ar gyfer ymchwil; gosod anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg drwy sefydlu llwybr gyrfa a dysgu sy’n glir a hyblyg; a dylai fod parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd a chysylltiadau rhwng cymwysterau a'r farchnad lafur, ac mae'n rhaid eu gwella.

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi ystyried y cynigion hyn yn ofalus, ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol. Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, rydym yn awyddus i hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg bellach ac uwch a’r llwybrau drwyddynt, gan sicrhau ein bod yn ehangu mynediad fel bod dysgwyr yn elwa drwy gydol eu bywydau. Mae codi safonau mewn ysgolion yn hollbwysig, ond gwyddom hefyd fod dysgu gydol oes, dysgu rhan-amser a dysgu sy’n seiliedig ar waith yn hanfodol ar gyfer symudedd cymdeithasol a ffyniant cenedlaethol.

Rwy’n cydnabod bod y model a gynigiwyd gan yr Athro Hazelkorn yn datblygu’r hyn sydd wedi’i brofi mewn systemau llwyddiannus fel y rhai yn Ontario a Seland Newydd, ac rwy’n awyddus i weld Cymru yn mwynhau’r un manteision hynny. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy’n bwriadu ymgynghori, yn ddiweddarach eleni, ar gynigion i sefydlu un awdurdod strategol, sy'n gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ynglŷn â sut y mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn bodloni eu hanghenion a sut y gall fod yn rym cryfach fyth ar gyfer y symudedd cymdeithasol a’r ffyniant cenedlaethol y soniais amdanynt yn gynharach.

Y bwriad yw y byddai cyfrifoldeb yn cael ei osod ar y corff newydd dros gynllunio, ariannu, contractio, sicrhau ansawdd, monitro ariannol, archwilio a pherfformiad, a bod y prif gyllidwr ar gyfer ymchwil. Yn unol ag argymhellion yr Athro Hazelkorn, byddai swyddogaethau presennol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod newydd, a fyddai'n gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Gadewch imi fod yn glir: sefydlwyd a datblygwyd ein prifysgolion yn sefydliadau annibynnol a chanddyn nhw ryddid academaidd sy’n ffynnu erbyn hyn—egwyddor sy’n parhau i fod yn gadarn. Mae hwn yn gyfle i lunio system lle y caiff sefydliadau o bob math eu hannog i weithio gyda'i gilydd i fodloni anghenion dysgwyr, gan alluogi cynnydd a datblygu cysylltiadau cryf â busnesau, fel y gellir mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau. Byddai'r corff newydd yn datblygu cysylltiadau cryf ag eraill, gan gynnwys ysgolion a busnesau, fel y gall pobl ifanc bontio’n ddidrafferth i addysg uwch neu addysg bellach a dod o hyd i’r cyfleoedd sy'n bodloni eu hanghenion a'u dyheadau yn y modd gorau.

Yn dilyn ymgynghoriad, Ddirprwy Lywydd, rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion deddfwriaethol yn ddiweddarach yn y tymor Cynulliad hwn. Er mwyn helpu i reoli'r pontio, mae cadeirydd presennol CCAUC wedi cytuno'n amodol i barhau yn y swydd hon am dair blynedd arall, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Ochr yn ochr â hyn, rwy’n chwilio am aelodau newydd ar gyfer cyngor CCAUC sydd â phrofiad mewn amrywiaeth ehangach o feysydd, gan gynnwys dysgu yn seiliedig ar waith, addysg bellach a chyflogaeth o bwys yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn ogystal â chryfderau presennol mewn addysg uwch, arloesedd ac ymchwil. Hefyd, rydym yn parhau i geisio’r cyngor a’r gefnogaeth orau ar gyfer codi safonau a gwella cyfleoedd.

Drwy adeiladu ar y gwaith a wnaed gan yr Athro Hazelkorn a'r Athro Ian Diamond, rwy’n gallu cyhoeddi y bydd yr Athro Graeme Reid yn goruchwylio adolygiad o fuddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau cysylltiedig mewn gweithgarwch arloesi ac ymchwil. Yn ddiweddarach yn y gwanwyn, rwyf hefyd yn bwriadu adolygu sut yr ydym ni’n monitro ac yn gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau yn ein system addysg ôl-orfodol.

Felly, Lywydd, rwy’n ystyried y cynigion hyn a'r gwaith arall yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn gychwyn trafodaeth wybodus. Mae’n rhaid iddo gynnwys y sector addysg yn ei gyfanrwydd, busnes, dysgwyr a phob un sydd â diddordeb mewn sicrhau bod ein system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, y gorau y gall fod.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac a gaf i ailadrodd ei diolch hi i'r Athro Hazelkorn am ei gwaith, wrth gwrs, wrth arwain yr adolygiad? Mae Plaid Cymru yn cefnogi byrdwn cyffredinol eich datganiad y prynhawn yma ac rydym yn ymrwymedig, wrth gwrs, i weithio yn ysbryd Hazelkorn i hyrwyddo tegwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth wastraffus sydd wedi dod i'r amlwg ym maes addysg ôl 16 yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, wrth gwrs, i ddatblygu llwybrau dysgu cliriach a mwy hyblyg ar gyfer addysg ôl 16.

Felly, dim ond ambell i gwestiwn, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r manylion, efallai, yn fwy na dim, er y byddwn i’n dechrau drwy ofyn i chi egluro fy mod i’n iawn, rwy’n credu, wrth ddehongli eich datganiad fel arwydd clir y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati’n ddyfal i sicrhau, fel y dywed Hazelkorn, gwell cymysgedd o reoleiddio ac ariannu ar sail cystadleuaeth yn hytrach na system sydd wedi’i seilio ar alw yn y farchnad.

O ran yr awdurdod addysg drydyddol—ac mae'n rhaid i ni ddod i arfer ag acronymau newydd bob dydd yn y lle hwn—fel y gwyddoch, un o'r penderfyniadau allweddol y bydd angen eu gwneud yw beth fydd y sefyllfa mewn cysylltiad â chweched dosbarth yn y strwythur arfaethedig newydd hwn. Mae gennyf ddiddordeb yn eich syniadau cychwynnol o ran a ddylen nhw aros fel y maen nhw—yn rhan bwysig o'r system ysgol, yn destun arolygiadau Estyn, ac ati—neu a ydych chi’n eu hystyried erbyn hyn mewn gwirionedd yn dod yn rhan o ddarpariaeth ôl 16 o dan yr awdurdod addysg drydyddol newydd arfaethedig, os daw hwnnw i fodolaeth neu pan fydd hynny’n digwydd.

Yn yr un modd, wrth gwrs, rydym ni’n ymwybodol o’r estyniad arfaethedig i gylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg bellach, a'r Coleg Cymraeg bellach yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Beth fydd y drafodaeth honno o ran ei chysylltiad â'r awdurdod addysg drydyddol arfaethedig? Rydych chi’n dweud yn eich datganiad ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr yn y broses hon, ac rwy’n cytuno’n llwyr, ond oni fyddech chi’n cytuno bod angen i hynny fod yn beth parhaus, ac wrth ystyried, er enghraifft, bwrdd llywodraethu’r awdurdod addysg drydyddol, dylai aelodau staff a myfyrwyr gael cynrychiolaeth ar y bwrdd, fel y gall y lleisiau hynny barhau i gael eu clywed?

Ni cheir manylion penodol am amserlen yma, er fy mod i’n nodi’r cytundeb â chadeirydd CCAUC am gyfnod o dair blynedd ychwanegol—efallai y gallech chi roi syniad i ni o ba un a ydych chi felly’n disgwyl i’r broses hon ddod i ben o fewn y tair blynedd hynny.

Fe wnaethoch chi gyhoeddi dau adolygiad arall tuag at ddiwedd y datganiad. Mae'r adolygiad o weithgarwch arloesi ac ymchwil yn—yn amlwg cawsom ni’r adolygiad Diamond, a fyddai, y byddech chi’n meddwl, wedi gorgyffwrdd rhywfaint. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig am yr hyn yr ydych chi’n ei ddisgwyl gan adolygiad yr Athro Graeme Reid yn ychwanegol at yr adolygiad Diamond, a’r meddylfryd wrth wraidd gofyn am hynny. Ac yn olaf, ynglŷn â’r adolygiad arall yr ydych wedi’i gyhoeddi y prynhawn yma ynghylch sut yr ydym yn monitro a gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau: ai dyma eich cam cyntaf chi, efallai, wrth greu fersiwn Gymraeg o'r fframwaith rhagoriaeth addysgu? Neu ai dyma, o bosibl, eich cam cyntaf wrth fynd ati i wrthbrofi’r fframwaith addysg drydyddol yng Nghymru?

Hoffwn ddiolch i Llyr am ei gwestiynau a'r cyd-ddealltwriaeth a chytundeb sydd gennym yn fy marn i ynglŷn â’r materion y mae angen i ni eu datrys o ran addysg ôl-orfodol. Rydych chi’n hollol gywir, mae'r system bresennol yn arwain at ddyblygu a chystadleuaeth mewn ffordd sy'n aml yn ddi-fudd. Nid yw'n darparu, fel y dywedodd Hazelkorn ei hun yn yr adroddiad, werth da am arian cyhoeddus, ac ar adeg o galedi mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bunt yng Nghymru yn gweithio'n galed iawn, iawn ac yn cyflawni canlyniadau da. Mae angen i ni sicrhau bod cydweithio ar draws y sector, yn hytrach na chystadlu, gan nad yw hynny weithiau yn hyrwyddo budd gorau y myfyriwr unigol. O bryd i’w gilydd, yn ddealladwy, mae'n hyrwyddo budd gorau’r sefydliad yn hytrach na'r dysgwr, a dyna’r hyn y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef yn y fan yma.

Felly, o ran yr awdurdod addysg drydyddol, a elwir yn TEA—ac os gallai rhywun feddwl am enw gwell ar ei gyfer yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn i’n ddiolchgar, gan nad wyf o’r farn bod 'TEA' yn derm gwych, felly mae angen i ni ei alw’n rhywbeth arall, ond cyfeirir ato fel TEA yn yr adroddiad Hazelkorn. O ran y mater yn ymwneud â’r chweched dosbarth, mae’r Aelod yn dweud ar hyn o bryd bod y chweched dosbarth yn rhan o system ysgolion —mewn gwirionedd, nid yw’n rhan o'r system ysgolion o gwbl. Caiff y chweched dosbarth ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun dyraniadau i awdurdodau lleol. Nid yw’n rhan o'r grant cynnal refeniw. Nid yw’r chweched dosbarth mewn gwirionedd yn cael ei arolygu gan Estyn—efallai y bydd yn syndod i rai pobl, ond nid dyna beth y mae Estyn yn ei wneud o reidrwydd pan fydd yn arolygu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Gwaith Estyn yw arolygu’r system addysg orfodol, ac rwy’n credu bod hynny’n broblem.

Mae Hazelkorn ei hun yn dweud yn yr adolygiad nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynghylch yr ateb gorau ar gyfer y chweched dosbarth yn y ddadl hon, ac mae rhinwedd mewn eu symud yn rhan o'r system addysg ôl-orfodol i fod yn rhan o’r TEA, ond mae yna rinwedd hefyd, fel sydd mewn rhai gwledydd yr wyf wedi’u crybwyll, lle mae’r chweched dosbarth yn rhan gadarn iawn o’r system addysg. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ni ystyried manteision ac anfanteision y ddau ddewis. Mae gennyf feddwl agored tuag at hyn. Rwy'n credu bod rhinwedd o ran symlrwydd a swyddogaeth Estyn i gadw’r chweched dosbarth mewn ysgolion a’i gosod yn y fframwaith ysgolion. Ond ar yr un pryd, os ydym yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw gystadleuaeth a bod cynllunio cyffredinol, mae yna reswm dros ei symud o dan ofal yr awdurdod addysg drydyddol. Ond mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i drafod rhai o'r materion hynny yn fanylach.

O ystyried y 'coleg', fel y gwyddoch, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd yn ystyried cylch gwaith y 'coleg' ar gyfer y dyfodol. Mae’r 'coleg' wedi gwneud gwaith gwych wrth ehangu'r cyfleoedd mewn addysg uwch i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r ffaith ei fod wedi gwneud gwaith cystal yn rhoi rhywfaint o hyder i mi y gallwn ni, yn awr, ystyried ymestyn ei gylch gwaith i gynnwys addysg bellach. Gwyddom fod prinder darpariaeth o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn AB, a bod y Llywodraeth hon yn awyddus i wneud rhywbeth yn ei gylch, felly mae angen i ni ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny. Mae cylch gwaith yr hyn y bydd y ‘coleg’ yn ei wneud yn y dyfodol, wrth gwrs, yn amodol ar y grŵp adolygu gorchwyl a gorffen, ac nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y bydd grŵp Delyth Evans yn ei gyflwyno. Ond, yn amlwg, bydd y gwaith o gomisiynu rhai o'r materion hyn yn y dyfodol, unwaith eto, yn rhan o'r ymgynghoriad yn ymwneud â’r TEA. Yr hyn a oedd yn bwysig i mi yn ystod y cyfnod hwn oedd sicrhau'r cyllid ar gyfer y 'coleg' wrth symud ymlaen yn y tymor byr a’r tymor canolig, fel bod rhywfaint o sicrwydd am ei waith.

Wrth ystyried cynrychiolaeth—unwaith eto, mae’r manylion am sut yn union y bydd y TEA a'r bwrdd yn edrych—byddwn i’n disgwyl, pe byddem yn cael sefydliad sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar y dysgwr, byddem yn dymuno bod yr holl randdeiliaid yn cyfrannu at hynny a gallu clywed gan y lleisiau hynny, a byddai hynny’n cynnwys llais y myfyriwr. Byddai hynny'n cynnwys llais y myfyrwyr yn y modd y caiff ei glywed yn CCAUC, o dan y trefniadau presennol, ac nid wyf yn ystyried hyn mewn unrhyw ffordd yn ymgais i ddistewi llais y myfyrwyr, neu i ddistewi llais y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau.

O ran y materion eraill, bydd adolygiad yr Athro Graeme Reid yn nodi cryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, ac yn amlinellu sut y gall busnesau, cymunedau, ac, yn wir, y Llywodraeth ei hun, ddefnyddio’r asedau hyn yn fwy effeithiol. Gwyddom, oherwydd y newidiadau sy'n deillio o Fil Addysg Uwch ac Ymchwil 2016-17 yn Lloegr, fod yna faterion posibl ynglŷn â gwaith ymchwil a sut yr ydym yn trefnu ymchwil, felly rydym ni’n dymuno i Graeme Reid ystyried hyn i sicrhau, unwaith eto, ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a sut y gallwn ni ddiogelu buddiannau Cymru yn ystod y cyfnod newidiol hwn.

Ynglŷn â’r adolygiad arall yn ymwneud â chanlyniadau, dyma’r broblem wrth i ni—. Mewn rhai ffyrdd, rydym yn monitro pob agwedd bosibl ar ysgolion. Rydym yn treulio llawer o amser yn poeni am lefel 2 gynhwysol ac uwch a chanlyniadau arholiadau TGAU plant a mesurau perfformiad. Rydym yn treulio llai o amser yn poeni am ganlyniadau Safon Uwch, ac rydym yn treulio llai o amser yn pwyso a mesur canlyniadau cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith, felly mae hyn yn ymwneud â sicrhau y ceir yr un trylwyredd o ran cynnydd a symud ymlaen ym mhob agwedd ar ddysgu yn hytrach na dim ond y sectorau penodol y mae tuedd gennym i ganolbwyntio arnyn nhw ar hyn o bryd. Nid ymgais yw hon i gyflwyno TEF yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol nad wyf wedi diystyru prifysgolion a sefydliadau yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y TEF—eu penderfyniad nhw yw gwneud hynny—ond rwy'n nodi penderfyniad llawer o sefydliadau yn yr Alban yn ddiweddar i beidio â chymryd rhan yn y TEF oherwydd bod pryderon difrifol ynglŷn â’r ffordd y datblygir y fframwaith TEF yn Lloegr, a beth y mae hynny'n ei olygu i sefydliadau. Mater i sefydliadau unigol Cymru yw hwn, ond nid yw hon yn ymgais i gyflwyno’r TEF, ond i sicrhau bod gennym ni systemau trylwyr i wirio’r budd y mae dysgwyr yn ei gael ac y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael am ei buddsoddiad.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rydym ni ar ochr hon y Siambr yn croesawu'r datganiad heddiw, ond efallai, o'r cychwyn cyntaf, a gaf i egluro y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr holl argymhellion yn adroddiad yr Athro Hazelkorn? A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Athro Hazelkorn am ymgymryd â'r darn pwysig hwn o waith, ac rwy’n credu ei bod hi’n llygaid ei lle yn dweud bod addysg yn chwarae rhan hanfodol mewn ffurfio ein cymdeithas?

Ni allwn wadu y bu llu o ddogfennau polisi strategol gan Lywodraethau olynol Cymru, er bod y strategaethau hynny wedi methu â chyflawni canlyniadau sylweddol ar gyfer dysgwyr, ac yn eithaf amlwg, bu diffyg o ran capasiti strategol a meddwl cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn y sector addysg ôl-orfodol, mae angen mwy o ddewis, ond mae hefyd angen cydweithio i sicrhau màs critigol. Ceir enghreifftiau da o’r cydweithio hynny, ac un enghraifft yn unig yw’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia.

Mae'n hanfodol bwysig inni fanteisio ar y cyfle newydd hwn yn awr oherwydd bod Cymru, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn wynebu heriau demograffig, cymdeithasol ac economaidd. Rydym hefyd yn wynebu newid pellach yn y berthynas rhwng gwledydd y DU, rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, a rhwng Cymru a gweddill y byd. Rwy’n cytuno â'r datganiad heddiw nad yw gwneud dim na chynnal y status quo yn ddewis ymarferol. Felly, mae'n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau y caiff ein system addysg ôl-orfodol ei nodweddu gan addysg agored a chystadleuol, gan gynnig y cyfle a'r dewis ehangaf i’r nifer fwyaf o fyfyrwyr.

Nawr, rwy’n sylwi o ddatganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn bwriadu ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar gynigion i sefydlu un awdurdod strategol sy'n gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. O ystyried y bydd CCAUC yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod newydd hwn, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd y sectorau ôl-orfodol unigol yn cael eu blaenoriaethu yn y corff newydd hwn, a sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd pob agwedd ar y gwahanol sectorau yn cael eu hadlewyrchu'n briodol gan yr awdurdod newydd hwn?

Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan y sefydliad newydd hwn yr adnoddau priodol fel bod ganddo’r gallu i ymgymryd â’i swyddogaethau a’u gweithredu. Felly, a oes gennych chi amlen ariannol cychwynnol mewn golwg ar hyn o bryd? Neu a yw darparu adnoddau ar gyfer corff o'r fath yn rhywbeth y mae angen ei drafod llawer yn fanylach wrth i chi symud ymlaen, ac a fydd hyn yn rhan o'ch ymgynghoriad? Nawr, rwy’n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd gwyddom y bu cyllideb CCAUC dan straen sylweddol dros y chwe blynedd diwethaf, a bod hynny wedi cael effaith ar yr arian sydd wedi’i ddyrannu i brifysgolion Cymru. Felly, mae'n bwysig y caiff y corff newydd hwn ei ariannu’n gywir ac yn briodol fel y gall weithredu'n effeithiol a diwallu anghenion y sector addysg ôl-orfodol. Ac a wnewch chi, yn y cyfnod hwn, roi syniad i ni o beth fydd y goblygiadau cost o ddirwyn CCAUC i ben ac a ydych chi’n credu y bydd arbedion cost sylweddol? Sut ydych chi’n bwriadu ymdrin â’r goblygiadau o ran adnoddau dynol sydd ynghlwm wrth ei ddiddymu?

Nawr, bydd sefydlu’r corff newydd hwn yn amlwg yn arwain at gytundeb lefel gwasanaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r corff newydd hwn. A gaf i ofyn i chi, felly, sut yr ydych chi’n rhagweld y bydd y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod addysg drydyddol yn gweithredu mewn cysylltiad â rhaglen waith gytunedig? Rwy’n gobeithio y gallwch chi hefyd roi sicrwydd i ni y bydd unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth newydd yn ddigonol o'r cychwyn, oherwydd yn sicr nid ydym eisiau ail-greu cytundebau lefel gwasanaethau annigonol eraill, megis cytundeb lefel gwasanaeth Estyn â’r Llywodraeth, sydd wedi gorfod mynd at Weinidogion Cymru i ofyn am adnoddau ychwanegol i ymgymryd ag agweddau penodol ar ei waith. Felly, mae'n hanfodol bod unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth newydd yn briodol o'r cychwyn. O ystyried bod sefydliad cwbl newydd yn cael ei gynnig, a ydych chi’n rhagweld rhagor o uno neu bartneriaethau ffederal yn y sectorau AB ac AU o ganlyniad i'r ailstrwythuro hwn?

Nawr, oherwydd cymhlethdod y system ôl-orfodol ar hyn o bryd, mae'n iawn dweud bod sicrwydd ansawdd ar draws AB ac AU wedi bod yn gymysg, ac y bydd sicrwydd ansawdd yn elfen hanfodol o'r corff newydd i sicrhau bod safonau a llywodraethu yn uchel. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd sefydlu’r corff newydd hwn yn effeithio ar swyddogaeth Estyn, oherwydd, fel y gwyddom, mae Estyn yn rheoleiddio AB, dysgu yn seiliedig ar waith galwedigaethol, yn ogystal â dysgu cymunedol? Felly, sut y bydd ei swyddogaeth yn newid yn y dyfodol ac, yn hollbwysig, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n bwriadu adolygu swyddogaethau Estyn cyn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol sylweddol?

Wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, mae sicrhau parch cydradd yn hanfodol ar gyfer ein darparwyr AB a galwedigaethol gan nad ydyn nhw wedi eu gwerthfawrogi ddigon yn ystod y degawdau diwethaf. Mae angen i ni gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae AB a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i economi Cymru, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a chydnabod y dylen nhw gael yr adnoddau priodol. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd y corff newydd yn sicrhau bod sefydliadau AB yn datblygu ac yn gweithredu i'w llawn botensial? Mewn geiriau eraill, sut ydych chi'n credu y bydd y corff newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydliadau AB o’i gymharu â'r strwythur presennol?

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn maes o law.

Unwaith eto, a gaf i ddiolch i Paul Davies am gamu i'r adwy ac am ei gwestiynau y prynhawn yma? Os dechreuwn ni o'r pwynt o egwyddor, rwy’n credu bod hwnnw yn mynd i'r afael â llawer o'r materion yr ydych chi wedi’u codi. Bydd sefydlu un awdurdod i oruchwylio'r holl addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, rwy’n credu, yn gwella cynllunio strategol; bydd yn helpu i atal dyblygu, sydd wedi digwydd, a chystadleuaeth nad yw’n iach; ond bydd hefyd yn mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth lle nad yw myfyrwyr a dysgwyr wedi gallu cyflawni eu dyheadau, gan nad yw’r cyfleoedd hynny wedi bod ar gael. Rwy’n disgwyl iddo hybu cydweithio rhwng sefydliadau, gan ei gwneud yn haws, er enghraifft, i ddysgwr allu symud yn ddidrafferth rhwng dysgu yn seiliedig ar waith ac AB, AB ac AU, ysgolion ac AU, fel y byddai’r cydweithio hyn yn creu llwybrau sydd wir, wir yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr unigol ar bob pwynt ar eu taith addysgol. Yn hollbwysig, mae angen i ni hefyd gryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion, ond hefyd cyflogwyr. Mae'n hollbwysig—hollbwysig—ein bod yn cael hyn yn iawn, ac mae’r system bresennol, ar hyn o bryd, yn gallu bod yn uffernol, yn gythreulig o anodd i gyflogwyr gymryd rhan ynddi a gwybod pwy i weithio gyda nhw. Felly, unwaith eto, dyma un o'r rhesymau pam y mae angen i ni gael yr un awdurdod hwn.

Nawr, rwy’n credu os gwnawn ni hynny, bydd yn gwella’r cymorth i ddysgwyr yn ogystal â chael gwell gwerth am arian. Ar y cam hwn, mae cynllunio ariannol cychwynnol iawn yn ar waith, ac mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol am sut y bydd y TEA hwn yn gweithio mewn gwirionedd a sut y caiff ei gyfansoddi. Felly, ar y cam hwn, mae'n anodd gallu pennu ffigur, ond rydym yn gwybod y gall y system bresennol fod yn wastraffus yn aml. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o ran ariannu, er gwaethaf y sefyllfa anodd yr ydym yn canfod ein hunain ynddi, ein bod wedi gallu dod o hyd i adnoddau ychwanegol ar gyfer CCAUC eleni ac, wrth gwrs, un o'r holl seiliau rhesymegol y tu ôl i'n diwygiadau Diamond yw rhoi cyllido AU yn ei gyfanrwydd, ar gyfer sefydliadau a myfyrwyr unigol, ar sail fwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyna un o'r seiliau rhesymegol y tu ôl i'n rhaglen ddiwygio.

Felly, ar hyn o bryd, rwy’n cyfaddef y bydd cwestiynau yn bennaf ynglŷn â sut y byddai'r awdurdod newydd yn gweithredu, a byddwn ni’n rhoi ystyriaeth ofalus iddyn nhw yn yr ymgynghoriad. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn gallu dechrau yn y gwanwyn a—mae’n flin gen i—wnes i ddim ateb cwestiwn Llyr mewn gwirionedd am yr amserlenni. Byddem yn gobeithio ceisio cael cyfle deddfwriaethol trwy ymgynghori â'r pwyllgor cyswllt deddfwriaethol sy'n bodoli rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond rwyf wedi gwneud cais am slot deddfwriaethol a fyddai'n gweld y broses hon, gobeithio, yn cael ei chwblhau o fewn amserlen tair blynedd. Rydych chi'n iawn; o bosibl, mae yna faterion adnoddau dynol y bydd angen eu trin yn ofalus ac yn sensitif wrth fwrw ymlaen â’r broses hon. Felly, rwy’n rhoi amserlen eithaf eang i mi fy hun i wneud hynny oherwydd bod angen ei wneud yn iawn, ac osgoi rhai o'r peryglon yr ydym wedi’u profi wrth ddod â sefydliadau at ei gilydd yn y gorffennol. Mae angen i ni ddysgu gwersi o hynny a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn llwyddiannus, wrth fwrw ymlaen.

Gofynnodd Paul am hierarchaeth angen a phwy sy'n cael blaenoriaeth. Holl bwynt cael y sefydliad hwn yw bod yna, yn wir, parch cydradd yn y sefydliad. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â blaenoriaethu AB dros AU, neu ddysgu yn seiliedig ar waith dros ddysgu mewn prifysgol neu goleg. Holl bwynt hyn yw bod gwerth cynhenid ym mhob un o’r cyfleoedd dysgu ac addysgu hyn. Mae angen i ni gynllunio hynny yn strategol. Credaf o ddifrif—ac yr oedd yn yr adborth gan Hazelkorn ei hun—fod y sefydliadau AB ac AU yn dymuno gweld eu hunain fel un system, ond yn aml mae'n anodd gwneud hynny. Bydd dod â phobl i mewn i un sefydliad, yn fy marn i, yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny y maen nhw eu hunain wedi’u nodi. Yn ail, bydd bod â’r awdurdod hwn, gyda dysgwyr yn ganolog iddo, yn caniatáu’r cynnydd yr wyf wedi siarad amdano yn gynharach. Yn drydydd, mewn systemau eraill, megis yn Seland Newydd, ac i raddau llai, efallai, yn yr Alban, y parch cydradd hwnnw yw'r egwyddor arweiniol ganolog yn y sefydliad ei hun. Mae’r arweinyddiaeth honno wedyn yn atseinio drwy’r system.

Rwy’n croesawu’r ymateb cynhwysfawr y datganiad i adolygiad Hazelkorn, ond byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i fater penodol ond—yn fy marn i—mater sy’n bwysig iawn. Mae Hazelkorn a’r datganiad hwn yn cydnabod bod yn rhaid cael ymdrech ar y cyd i gyflawni parch cydradd at lwybrau galwedigaethol ac academaidd. Credaf fod hyn yn golygu y bydd angen darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant newydd a llawer gwell, fel y bo’n briodol, i ysgolion, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd ar sut i arwain ein pobl ifanc—a rhieni—tuag at y llwybrau priodol. I ganfod maint yr her, efallai y bydd angen i ni yn gyntaf wneud rhywfaint o ddadansoddi o’r lefel ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar hyn o bryd sydd gan rieni, gwarcheidwaid ac addysgwyr o'r gwahanol lwybrau sydd ar gael. Credaf fod honno'n ffaith syml. Erbyn hyn, mae llawer o rieni a disgyblion hŷn yn troi fwyfwy at y rhyngrwyd i gael cyngor gyrfaoedd, neu i chwilio am wybodaeth am golegau, SABau a phrifysgolion, am gyfleoedd prentisiaeth neu hyfforddeiaethau. Mae porth Gyrfa Cymru yn cael ei adnewyddu, ac mae hyn i'w groesawu'n fawr, oherwydd bod angen iddo fod y safle y mae pawb yn mynd iddo i gael arweiniad priodol amserol ac ar gyfer cyfleoedd penodol. Nid yw wedi cyflawni’r swyddogaeth honno yn dda yn y gorffennol diweddar. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog eu hannog i barhau i wella’r porth hwnnw a'r gwasanaeth ehangach y mae’n ei ddarparu.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog ystyried sut y caiff cynnig ehangach y DU ei ymgorffori yn y cyngor hwn? Yn aml, mae cwmnïau mwy o faint â phresenoldeb yn y DU yn cynnig cyfleoedd y tu allan i Gymru. Er y byddwn i wrth fy modd pe byddai pawb sy’n dyheu am fod yn beirianydd awyrofod neu’n beirianydd sifil yn dymuno treulio eu bywydau cyfan yn gweithio yma, yn eu mamwlad, y gwir amdani—fel fi, pan oeddwn i’n rheolwr ifanc ar ganolfan chwaraeon—bydd pobl yn gweld bod yr alwad yn mynd â nhw i ffwrdd cyn y bydd hiraeth yn dod â nhw yn ôl. Felly, sut ydym ni’n ymgorffori hynny yn y cyngor yr ydym ni'n ei roi?

Ac a fyddai hi'n cytuno â mi y byddwn yn gwybod pan fyddwn wedi llwyddo? Bydd hynny pan fydd hi a minnau’n camu i'r seremonïau gwobrwyo hynny mewn ysgolion a’u bod yn rhoi amlygrwydd cyfartal i lwyddiant galwedigaethol a llwyddiant academaidd; eu bod yn dathlu gwobrau BTEC a BTEC lefel uwch, cynigion o brentisiaethau a hyfforddeiaethau a phrentisiaethau uwch gyda chwmnïau blaenllaw yng Nghymru a'r DU, ochr yn ochr â chynigion o leoedd prifysgol. Yna byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo yn wirioneddol.

Huw, rydych chi’n codi pwynt hanfodol bwysig ein bod yn gallu cael y strwythur gorau a'r cynllunio strategol gorau ar gyfer y cyfleoedd hyn, ond oni bai ein bod yn ymgysylltu'n llwyddiannus â phobl ifanc, darpar fyfyrwyr a dysgwyr o bob math, a'r bobl sy'n dylanwadu ar eu dewisiadau, ni fyddwn yn sylweddoli budd llawn hyn. Rydym ni i gyd yn euog o hyn. Mae ein plant, yn aml, yn garcharorion i’n profiad ein hunain. Felly, os yw mam a dad wedi ei wneud mewn ffordd arbennig, pa ffordd bynnag yw honno, os yw mam a dad wedi ei wneud yn y ffordd honno, dyna’r ffordd yr ydych chi’n credu y dylid ei wneud. Weithiau mae'n anodd torri'n rhydd o'ch profiad eich hun ac, weithiau, eich rhagfarnau eich hun ynghylch sut y dylai plant symud ymlaen.

Mae fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau â Gyrfa Cymru ynglŷn â gwneud yn siŵr bod plant a myfyrwyr yn cael y cyngor gyrfaoedd gorau posibl sy'n rhoi'r ystod ehangaf posibl o ddewisiadau a chyfleoedd iddyn nhw, beth bynnag fyddai hynny, a’i fod wedi’i seilio’n llwyr, nid ar fanteision i sefydliadau unigol, ond ar y manteision i’r myfyriwr penodol hwnnw, a’i anghenion. Os bydd angen i ni wneud mwy o ymchwil, ac mae angen i ni wneud mwy o waith ar hyn, yna rwy'n siwr bod y Gweinidog wedi eich clywed chi, ac nid oes ofn arnom wneud hynny.

Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf eisoes yn mynd i seremonïau gwobrwyo lle caiff amrywiaeth eang o gyflawniadau o bob math ei dathlu, boed hynny'n academaidd neu’n gymdeithasol —y plentyn sydd wedi cyfrannu at yr ysgol trwy ofalu am fyfyrwyr eraill, drwy eu hymrwymiad i geisio bod o gymorth i'r ysgol, yn ogystal â phobl sydd wedi dilyn cyrsiau gwahanol. Felly, rwy’n gweld hynny allan yna, ond mae'n dameidiog ac nid yw'n gyffredin, ac mae angen i ni ei wneud yn gyffredin. Ond rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau cadarnhaol iawn. Gwn am un dyn ifanc—mae ei fam yn ffrind i mi—a gafodd y dewis dros yr haf rhwng gradd peirianneg mewn prifysgol yng Nghymru neu brentisiaeth gyda chwmni peirianneg, ac mae ef wedi dewis y brentisiaeth, oherwydd ei fod yn ddigon call i wybod, yn y pen draw, y bydd y cwmni hwnnw yn talu am ei radd ar ei ran, ac mae e’n dymuno dysgu yn y swydd. Mae hwnnw’n ddewis cadarnhaol iawn iddo. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr eraill yn cael y cyfleoedd hynny a bod ganddyn nhw’r gallu i wneud y dewisiadau sydd orau ar eu cyfer nhw. Byddaf yn parhau i weithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes i sicrhau bod gennym system o gyngor ac arweiniad a fydd yn gwneud y mwyaf o'r newidiadau strwythurol yr ydym yn eu gwneud.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Athro Hazelkorn am ei holl waith. Rwyf wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'n adroddiad diddorol iawn, iawn.

Mae'r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn wedi eu codi mewn amrywiaeth o adroddiadau eraill ers 2001. Mae’r problemau hynny wedi eu gadael heb eu datrys er yr adeg honno. Mae adroddiad Hazelkorn yn gwneud llawer o argymhellion rhagorol, ac rwy’n cytuno y dylid sefydlu un awdurdod newydd, ond byddwn i’n dweud ei bod yn drueni nad yw'r blaid sy’n datgan mai hi yw’r blaid ar gyfer addysg wedi gwneud hynny'n barod. Rwyf hefyd yn cyd-fynd â'r angen am swyddogaethau sydd wedi’u hamlinellu’n glir ar gyfer y weithrediaeth—yr awdurdod addysg drydyddol newydd—Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau, gan gynnwys cytundeb lefel gwasanaeth rhwng y TEA a Llywodraeth Cymru. Os byddwch chi’n gweithredu'r argymhelliad hwn, ac rwy’n credu y dylech chi, a fyddwn ni’n gweld y cytundeb lefel gwasanaeth cyn iddo gael ei weithredu?

Y cwestiwn mwyaf y mae’r adroddiad hwn yn ei godi i mi yw pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi meddwl am y syniadau hyn yn barod. Pam na wnaeth gweinyddiaethau blaenorol Llafur Cymru wrando ar yr adroddiadau blaenorol? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod y ffaith bod angen i'r Llywodraeth gael gwybod gan awduron yr adroddiad hwn bod yn rhaid iddyn nhw wneud mwy i greu polisïau ac arferion priodol i annog gwell meddylfryd hirdymor a chydgysylltiedig yn dangos mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth? Siawns bod hynny'n ofyniad mor sylfaenol o Lywodraeth nad oes esgus dros beidio â’i chael yn iawn.

Mae eich plaid a'ch ffrindiau newydd yn y Blaid Lafur yn honni’n anwir y gallai cynlluniau UKIP i ddatblygu cenhedlaeth newydd o ysgolion gramadeg a thechnegol arwain at anghydraddoldeb o ran parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd. Mae Llafur Cymru wedi eu dallu ac yn parhau i gael eu dallu gan obsesiwn gwrthgynhyrchiol Tony Blair â chael cynifer o bobl drwy ddrysau prifysgol ag y bo modd. Pam hynny, ac o ble mae hynny'n dod?

Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod Llafur ei hun wedi bod yn taflu’r bobl hynny nad oes ganddyn nhw feddwl academaidd ar y domen sbwriel. Mae'n dweud nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon i werthfawrogi a gwobrwyo parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd. Tybed a fydd Ysgrifennydd y Cabinet gystal â chyfaddef rhagrith y rhai hynny sy'n ceisio ymddangos fel eu bod yn gwarchod buddiannau'r rhai a fyddai'n elwa fwyaf o lwybr dysgu galwedigaethol, gan fod yn euog ar yr un pryd o wneud fel arall.

Rwy’n gwerthfawrogi mai dim ond yn ddiweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dechrau yn ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond tybed a all hi ddweud wrthyf beth oedd Gweinidogion addysg Llafur cyn hyn yn ei chael yn anghywir am gymaint o amser ei bod wedi arwain at yr adroddiad braidd yn anffodus hwn.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cymeradwyo ac yn cytuno â'r adroddiad yn ei gyfanrwydd ac, os ddim, pam ddim? Os yw hi, pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i weithredu ei argymhellion a beth yw'r amserlen? Hefyd, sut y byddwch chi’n sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu darparu i weithredu’r diwygiadau? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Michelle Brown am ei chwestiynau. O ran yr argymhellion, rwyf wedi nodi fy mod i’n derbyn yr argymhellion. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y gwanwyn. I roi hyn ar waith, bydd angen i mi gyflwyno deddfwriaeth ac mae angen i hynny gyrraedd yr amserlen deddfwriaeth gyffredinol ar draws y Llywodraeth gyfan. Ond, fel y nodais yn gynharach, rwy'n obeithiol y gallwn wneud hynny, y broses gyfan hon—yr ymgynghoriad, y prosesau craffu priodol ar ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Bil fynd drwyddyn nhw yn y Siambr hon—yn ystod y cyfnod o dair blynedd.

Nid wyf i’n gyfrifol am weithredoedd y Gweinidogion blaenorol, ond dylwn i nodi mai Gweinidog blaenorol a gomisiynodd yr adroddiad hwn, ar ôl nodi’r angen i wneud cynnydd yn y maes hwn. Dylid nodi hefyd, nid ymgais debyg, ond gwnaethpwyd ymgais yn yr agenda hon yn nyddiau cynnar Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn anffodus nid oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i greu’r awdurdod hwn. Rwy’n cofio’r dyddiau hynny’n dda iawn, pan yr oeddem yn ei chael hi’n anodd creu yr un endid hwnnw oherwydd y diffyg gallu o fewn y Siambr hon i wneud y newidiadau yr oeddem yn awyddus i’w gwneud. Nawr, nid yw hynny’n rheswm dros beidio â gweithredu erbyn hyn. Mae gennym y pwerau. Fe ddywedasom, pan gawsom y pwerau hynny, y bydden nhw’n bwerau â phwrpas iddynt ac rwyf i'n defnyddio’r pwerau hynny at y diben o ddiwygio’r rhan benodol hon o addysg.

Parch cydradd—mae'n fater sydd wedi ein llethu. Fel yr ydym ni newydd glywed gan Huw Irranca-Davies, mae rhywfaint o hynny’n ddiwylliannol. Rydym ni’n euog o rywfaint o hynny ein hunain yn ein bywydau bob dydd a’r sgyrsiau yr ydym wedi eu cael gyda'n plant. Nod y system hon, fel yr eglurais i Paul Davies mewn ymateb i'w gwestiwn, yw creu strwythur sy'n hybu parch cydradd. Ond fe ddywedaf wrthych am un ffordd lle nad ydym yn hybu parch cydradd, sef drwy rannu plant 11 oed o ran a ydyn nhw’n gwneud cymwysterau galwedigaethol neu academaidd. Bydd y system hon yn galluogi plant i ddilyn y ddau lwybr, os mai dyna y maent yn dymuno ei wneud, er mwyn symud yn rhwydd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu yn seiliedig ar waith, rhwng addysg ymarferol a’r llwybrau mwy academaidd. Dyna holl bwrpas gallu dod â’r llwybrau hyn at ei gilydd, oherwydd nid oes dim—dim—sy'n hybu parch cydradd wrth ddweud wrth blentyn 11 oed, ‘Rwyt ti’n mynd un ffordd ac mae dy ffrind yn mynd y ffordd arall’, a rhannu'r plant hynny ar yr adeg honno.

Fel un sydd wedi bod yn ffodus iawn i allu cyfrannu at addysgu a llywodraethu ar draws y system am flynyddoedd lawer, a gaf i’n gyntaf longyfarch y Gweinidog ar ei dewrder? Mae’n hen bryd ein bod ni wedi cael Gweinidog sydd yn fodlon cymryd gafael yn y rhaniadau a’r gwahaniaethau a’r anghyfartaledd sydd wedi bod yn rhan o’r gyfundrefn ôl-16 o’r dechrau. Rwy’n ddiolchgar iddi am wneud hynny. Rwy’n falch ei bod hi wedi gallu manteisio ar waith athrylithgar Ellen Hazelkorn a’r bobl sydd yn dadlau dros bwysigrwydd cael cenhadaeth ddinesig mewn addysg, achos nid oes cenhadaeth arall i gael mewn addysg—rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn cytuno efo hynny.

Rwyf am ofyn un neu ddau o bethau iddi. A fyddai hi’n ystyried, er enghraifft, mai un ffordd o danseilio unrhyw wrthwynebiad a allai ddod o rai dinosoriaid yn rhannau o’r sector yma fyddai cyhoeddi Bil drafft? Hynny yw, yn hytrach na gwneud ymgynghoriad ac yna mynd ati i ddeddfu, ei bod hi’n gofyn i’r swyddogion—. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eistedd dros y ffordd imi, ac rydw i’n siŵr y byddem ni’n barod iawn i gynorthwyo mewn unrhyw broses o graffu ar Fil drafft—nid ein bod ni’n chwilio am waith, ond rydw i’n siŵr y byddem ni’n hapus i wneud rhywbeth fel yna, oherwydd mi fyddai’n rhoi cyfle wedyn i’r ymgynghoriad ac i’r paratoi ar gyfer deddfu ddigwydd ar yr un pryd.

A gaf i hefyd ddiolch iddi am barhau i ddefnyddio gwasanaeth David Allen? Dyma ddyn ardderchog, sydd wedi cyfrannu at brifysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Beth sy’n bwysig i’w gofio am David—rydw i’n siŵr y buasai’r Gweinidog yn cytuno—ydy ei fod yn parhau, fel rydym ni’n siarad, ar lywodraethwyr coleg addysg bellach Caerwysg, fel cyn-gofrestrydd y brifysgol, ac yn parhau gyda’i waith inni yng Nghymru, ac mae’n deall yn union beth ydy’r anghenion. Mae gen i, mae gen i ofn, syniadau radical, braidd, ynglŷn â’r angen i brif-ffrydio addysg ddwyieithog drwy’r system i gyd. Mae gen i syniadau hyd yn oed mwy ymosodol na ellir eu dychmygu ynglŷn â chael gwared â’r gyfundrefn chweched dosbarth, fel rydym ni wedi ei wneud yn Nwyfor Meirionnydd ers degawdau—ond diwrnod arall i drafod hynny, efallai.

A gaf i ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am ei sylwadau? Byddaf, yn wir, yn rhoi ystyriaeth briodol i'r fformatau deddfwriaethol mwyaf priodol y gallwn fynd ar eu trywydd. Rwy'n credu bod rhinwedd mewn edrych ar Fil drafft, a byddaf yn dymuno rhoi i’r sefydliad hwn—i roi’r parch dyledus a rhoi pob cyfle i gydweithwyr ar draws y Siambr gymryd rhan mewn datblygu'r polisi ymhellach. A gaf i hefyd gytuno â chi am ymrwymiad parhaus David Allen i'r sector? Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am yr arweinyddiaeth y mae wedi ei roi a'i barodrwydd i barhau yn y swyddogaeth honno. Bydd hynny'n beth pwysig iawn.

O ran systemau trydyddol, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed i’n ateb cwestiynau o'r blaen. Nid wyf yn gweld bod dweud wrth gymunedau lleol pa system addysg sy'n gweddu orau i'w hardal nhw yn rhan o fy ngwaith i. Mae rhai rhannau o Gymru lle mae system addysg drydyddol wedi ffynnu ac mae’n gwasanaethu ei myfyrwyr yn dda iawn; mae rhannau eraill o Gymru lle mae chweched dosbarth mwy traddodiadol yn system sydd, unwaith eto, yn gwasanaethu'r boblogaeth leol yn dda iawn. Nid natur y ddarpariaeth sy'n bwysig i mi, ac eithrio bod y ddarpariaeth honno o ansawdd uchel, ond ei bod yn diwallu anghenion a dyheadau ein pobl ifanc, a’i bod yn cyflawni ar eu cyfer, boed hynny mewn system drydyddol neu mewn chweched dosbarth. Ac un o'r pethau y byddwn yn ei ystyried yw lle y gall y chweched dosbarth eistedd orau o fewn y system hon.

Ac, fel y cyhoeddais, byddaf yn ystyried ffyrdd o fonitro canlyniadau addysg ôl-orfodol yn well, a hynny efallai mewn modd yr ydym wedi ei esgeuluso, fel gyda Safon A, er enghraifft. Yn y gorffennol, nid ydym erioed wedi gosod targedau llym i’n hunain ar gyfer perfformiad Safon A. Efallai bod hyn oherwydd ein bod o’r farn ei bod yn gamp leiafrifol ac y bydd y plant hynny, wel, byddan nhw’n bwrw ymlaen â nhw beth bynnag, ac nid oes angen i ni boeni am y peth. Ond i fyfyrwyr sy'n astudio ar y lefel honno nawr, nid yw'n gamp leiafrifol—mae mwyafrif ein pobl ifanc yn mynd ymlaen i astudio yn y cyfnod ôl-orfodol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cymaint o sylw i berfformiad yn y maes hwnnw ag yr ydym yn ei wneud yn y sector gorfodol.

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy’n llwyr gymeradwyo eich sylwadau ar yr angen i gyflogwyr gefnogi hyn, yn enwedig ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith ac, wrth gwrs, yr angen am barch cydradd. Dywedasoch sawl gwaith nad yw hyn yn seiliedig ar y sefydliad, ond bod y pwyslais ar y dysgwr a chyflawni dyheadau dysgwyr. A wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd y newid strwythurol hwn yn helpu’r rhai hynny sy'n gobeithio astudio addysg ôl 16 drwy gyfrwng y Gymraeg?

Diolch i chi am hynna, Suzy. Y fantais o gael yr un corff hwn yw y gallwn gynllunio'n strategol ac y gallwn fynd i'r afael â bylchau, fel y dywedais. Ac un o'r bylchau sydd gennym ar hyn o bryd, rwy’n credu, yw bwlch yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn gwybod bod galw cynyddol am bobl sydd â sgiliau yn y Gymraeg mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel sydd gan fy nghyd weinidog, mewn sut y gallwn sicrhau bod gennym swyddogaethau gofalu—bod gan bobl sgiliau Cymraeg i wneud hynny, boed hynny ar gyfer pobl hŷn, neu, er enghraifft, wrth i ni gyflwyno cynnig gofal plant y Llywodraeth, mae angen i hwnnw fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae cael cyfleoedd hyfforddi i roi cymhwysterau i’r bobl hynny allu gwneud y swydd honno a gallu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol bwysig. Felly, rwy’n credu y bydd cael corff strategol sy'n ystyried y cynllun cyffredinol yn helpu i wella hynny, yn ogystal â gwaith Delyth Evans, sydd ar hyn o bryd yn edrych ar gylch gwaith y ‘coleg’ ac a allwn ni ymestyn hynny i gynnwys AB. Nid wyf i’n dymuno rhagfarnu canlyniadau hynny, ond rwy'n credu bod y ‘coleg’ wedi gwneud gwaith da iawn o ran AU. Rwy'n credu ei fod wedi profi ei allu i gyflawni pethau ac, felly, rwy’n credu ei bod yn iawn y dylem ystyried yn awr i weld a allan nhw gynllunio hynny. Ond rwy’n credu y bydd cael trosolwg mwy strategol o'r hyn yr ydym ni'n ei gomisiynu a monitro ansawdd y canlyniadau, yn gwneud gwahaniaeth i ddarpariaeth yn y Gymraeg.

7. 5. Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6218 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf i wneud ychydig o sylwadau byr am y rheoliadau sydd gerbron y Siambr heddiw, mae Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran sicrhau mwy o gydlynu a chydnabod cyfraniad y gweithlu addysg cyfan i ganlyniadau dysgwyr yng Nghymru. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod cofrestru'r gweithlu addysg ehangach yn newyddion da, gan fod hynny’n rhoi sicrwydd y bernir bod y gweithlu yn addas i’w gofrestru. Ers 2015, mae cofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg wedi ei ehangu i gynnwys athrawon AB a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac mewn lleoliadau AB. O fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd y sector gwaith ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith hefyd yn cael eu cynnwys.

Mae’r rheoliadau ffioedd yn nodi'r strwythurau ffioedd y bydd yn ofynnol i gategorïau o unigolion cofrestredig eu talu yn flynyddol o 1 Ebrill 2017 ymlaen, cyfraniad ffi nad yw wedi ei newid o’r swm a bennwyd ar gyfer 1 Ebrill 2016. Roedd ymgynghoriad ffioedd 2014 a 2016 yn nodi model ffioedd a ffefrir lle’r oedd yn ofynnol diwygio dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol ac ailddosbarthu’r lwfans £33 y mae athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn ei gael. Bydd yr aelodau hefyd yn ymwybodol nad yw’r ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol wedi ei datganoli, ac ym mis Awst 2016, cymeradwyodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg dileu’r lwfans o £33 i athrawon ysgol. Bydd y rheoliadau hyn yn pennu lefelau’r ffioedd ar £46 ar gyfer pob ymarferydd sy’n cofrestru, o dan ba bynnag gategori o gofrestriad y maent yn dymuno cofrestru. Fodd bynnag, o 1 Ebrill 2017, ac ar ôl hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo a chlustnodi cymhorthdal gwerth £1 miliwn i’r ffi gofrestru ar gyfer y gweithlu addysg cyfan. Mae'r cymhorthdal hwn yn cyd-fynd a’r ffaith fod Gweinidogion Cymru yn pennu lefel y ffi ac, mewn termau real, yn sicrhau bod cyfraniadau'r ymarferwyr yn cael eu cadw'n isel. Mae hefyd yn cydnabod bod gweithwyr cymorth dysgu a gweithwyr cymorth ieuenctid yng Nghymru yn ennill llai o’i gymharu ag athrawon ysgol neu athrawon AB, ac, felly, mae'r cymhorthdal yn lleihau eu cyfraniad ffi gwirioneddol i £15. Mae'r categorïau eraill yn cael cymhorthdal llai, sy'n gostwng y cyfraniad ffi gwirioneddol o £45.

Rwy’n gofyn felly, Ddirprwy Lywydd, i'r Siambr gefnogi'r cynnig heddiw.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyflwyno hwn heddiw ac rwy’n cefnogi yn fawr iawn cofrestru’r holl staff addysgu a chymorth. Am staff cymorth yn benodol yr oeddwn i eisiau gwneud sylw, oherwydd, yn y memorandwm esboniadol yr ydych newydd sôn amdano, lle mae'r model ffioedd yn deg ac yn gyfartal ar draws y gweithlu cyfan, i fod yn glir nid dim ond y radd a'r raddfa gyflog sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o weithwyr cymorth dysgu ysgolion ac AB nid yn unig ymhlith y staff cofrestredig sydd ar y cyflogau isaf, ond yn gyffredinol maen nhw hefyd yn tueddu i fod yn weithwyr rhan-amser, yn gweithio yn ystod y tymor yn unig, yn wahanol i'r rhan fwyaf o athrawon cymwysedig. Felly, er fy mod yn croesawu'r gyfundrefn cymhorthdal sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau, gall y ffi o £15 ddal i fod yn faich i rai o'r gweithwyr rhan-amser ac yn ystod y tymor yn unig sydd ar y cyflogau isaf, a menywod yw’r rhan fwyaf ohonynt. Felly, a gaf i ddweud—? Rwy’n credu bod 11 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Merthyr a Chaerffili, sy'n cwmpasu fy etholaeth i, wedi cytuno, mewn gwirionedd, i dalu cost lawn cofrestriad gweithwyr cymorth dysgu y llynedd er mwyn cydnabod yr agwedd cyflogau isel honno. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, ac, yn wir, efallai pob Aelod yn y Siambr, i annog pob un o'r 22 o awdurdodau lleol i ddilyn yr arweiniad a roddwyd gan yr 11 o gynghorau hynny eleni o ran talu am gostau cofrestru llawn gweithwyr cymorth dysgu?

Diolch am hynna, Dawn, a byddwn yn croesawu yn fawr iawn yr agwedd sydd wedi’i chymryd gan rai o'r cynghorau yr ydych chi wedi’u nodi, ac mae eraill yng Nghymru sydd wedi gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhai o'r bobl yr ydym yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gofrestru yn cael eu talu ar lefel is, a dyna’r rheswm am natur y rheoliadau—ein bod wedi ceisio rhoi cymhorthdal i’r rhai ar y graddfeydd cyflog is yn fwy na'r cydweithwyr hynny sydd o bosibl yn cael cyflog uwch. Mae'r model ffioedd a gynigir wedi ei ddatblygu ar sail tair egwyddor allweddol, sef cynaliadwyedd, cymesuredd, a chost-effeithiolrwydd. Nawr, gallem greu model ffioedd sy'n ystyried graddfeydd tâl gwahanol, sy'n ystyried swyddi llawn amser ac sy’n ystyried swyddi rhan-amser, ond, wrth wneud hynny, wrth ddadansoddi’r model hwnnw, rydym wedi darganfod y gallai fod mor feichus, mor drafferthus, sy’n golygu y gallai fynd mor gymhleth, mewn gwirionedd, fel ei fod yn arwain at orfod talu ffioedd uwch ar ran pobl. Felly, mae ceisio ei gadw mor syml ag yr ydym ni wedi ei wneud yn ein galluogi i geisio cadw ffioedd mor isel â phosibl, ond rwyf yn canmol gweithredoedd y cynghorau hynny yr ydych wedi’u crybwyll am yr awydd i wneud y cyfraniad hwnnw yn y ffordd y maen nhw wedi’i wneud. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

Rydym yn symud ymlaen yn nawr at eitem 6, sef Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6219 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 16:57:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno y rheoliadau yma. Rwy’n gofyn i Aelodau’r prynhawn yma i dderbyn y rheoliadau. Mi fydd rhai Aelodau, wrth gwrs, yn cofio y cawsom ni’r drafodaeth yma ar ddiwrnod olaf y Cynulliad a ddaeth i ben y llynedd, ac mi fydd Aelodau hefyd yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu gwrthod gan y Cynulliad bryd hynny. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn gwerthfawrogi fy mod i wedi cymryd rhywfaint o amser i ddarllen record y drafodaeth gawsom ni y prynhawn hwnnw, ac rwy’n bennaf wedi cymryd amser i ddarllen cyfraniadau Aled Roberts, Simon Thomas a Suzy Davies. Rwyf wedi darllen beth oedd y cyfraniadau ar y pryd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y rheoliadau yma yn ymateb i’r drafodaeth ac i’r bleidlais a gawsom ni y llynedd.

Ni fyddaf i’n fodlon, ac ni fyddai’r Llywodraeth yn cyflwyno’r rheoliadau heddiw, oni bai ein bod ni’n ffyddiog ein bod ni wedi ateb pryderon Aelodau’r Cynulliad a fynegwyd ym mis Mawrth a chyn hynny, ac ar ôl y bleidlais. Ers hynny, rydw i wedi trio trafod gydag Aelodau a chyrff gwahanol i ddeall pam y cawsan nhw eu gwrthod, ac rydw i wedi newid y rheoliadau o ganlyniad i’r trafodaethau yma.

Mae’r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ymateb i bwyntiau yr oedd Aelodau wedi eu codi, a gobeithio bod y newidiadau yn adlewyrchu barn y Cynulliad ar y pryd a barn y Cynulliad heddiw. Mae’r newidiadau rydw i wedi eu gwneud fel a ganlyn: rydym ni wedi rhoi’r hawl i fyfyrwyr i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; rydym wedi creu’r hawl i weld arwyddion ym mhob un adeilad prifysgol neu goleg yn y Gymraeg; rydym ni wedi creu hawl i fewnrwyd Gymraeg; ychwanegu canolfannau celfyddydol i’r safonau; ac rydym ni’n sicrhau y bydd gan fyfyrwyr hawl i diwtor personol sy’n siarad Cymraeg.

Ar y pwynt olaf, mi fuaswn i’n diolch yn fawr i Sian Gwenllian ac i Blaid Cymru am y drafodaeth a gawsom ni ar y pwnc yma. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfraniad mae Plaid Cymru wedi ei wneud, a Sian Gwenllian, yn ystod y drafodaethau yma. Mi fydd Aelodau yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu trafod yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu rai wythnosau yn ôl. Oherwydd y newidiadau rydym ni wedi eu gwneud, ac ar sail bod trafodaethau eang wedi bod ar y rheoliadau yma, rydw i’n gofyn i Aelodau heddiw i dderbyn y rheoliadau fel maen nhw wedi cael eu newid.

Wrth gwrs, rydw i hefyd yn ymrwymo i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau bod y drefn o osod safonau yn llai biwrocrataidd. Rwy’n awyddus i ddechrau casglu tystiolaeth a byddwn ni’n dechrau ar hynny drwy ymgysylltu â phartneriaid cyn cyhoeddi Papur Gwyn ac ymgynghori yn eang iawn dros yr haf. Mae ymgynghori a deddfu yn cymryd amser. Rwy’n awyddus ein bod ni’n dechrau’r broses mor fuan â phosibl.

Rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r drafodaeth y cawsom ni ac rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r pryderon rydym ni wedi’u clywed eisoes ar y rheoliadau yma. Ar sail hynny, rwy’n cynnig bod Aelodau yn derbyn y rheoliadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins.

Diolch. Ar ôl inni glywed gan randdeiliaid am eu pryderon, ac o ystyried y ffaith bod y pedwerydd Cynulliad wedi gwrthod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), cytunodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylid ystyried y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 27.8 ac adrodd ein casgliadau i’r Cynulliad.

Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gosod, gwnaethom ysgrifennu at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at undebau myfyrwyr yng Nghymru a oedd wedi codi nifer o bryderon ynghylch y rheoliadau Rhif 3 blaenorol, cyn iddynt gael eu gwrthod gan y Cynulliad ym mis Mawrth eleni. Gan eu bod wedi cael cyfle i weld y rheoliadau newydd, gofynnwyd iddynt sôn yn fanwl am unrhyw bryderon a oedd ganddynt amdanynt. Ymatebodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Chymdeithas yr Iaith ac mae eu sylwadau ysgrifenedig yn yr atodiadau i’r adroddiad. Mae’n rhaid i mi bwysleisio ar y record yma heddiw fod tystiolaeth ysgrifenedig yr un mor gadarn â thystiolaeth ar lafar.

Wedyn, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar ar 18 Ionawr gan Fflur Elin, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, a gan Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r coleg yn gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Hefyd, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar yn y cyfarfod gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn ogystal, cafwyd sylwadau gan Colegau Cymru, sef elusen sy’n ceisio gwella cyfleoedd ym maes addysg bellach. Yn anffodus, roedd yr amseru yn golygu nad oedd y pwyllgor yn gallu ystyried y sylwadau hyn, ond maent wedi cael eu cynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad hwn er hynny.

Roedd llawer o’r dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law yn ymwneud â’r broses gyffredinol ar gyfer gwneud y rheoliadau a natur y gyfundrefn safonau a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n deg dweud bod y pwyllgor, heb ffurfio barn benodol ar y mater, yn rhannu rhai o’r pryderon hynny. Yn sicr, i bob golwg, mae’r rheoliadau sydd ger ein bron yn ffordd letchwith a biwrocrataidd o geisio ymgorffori hawliau i ddefnyddio a derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fodd bynnag, gan roi o’r neilltu ein pryderon am y broses ehangach ar gyfer gwneud a chymeradwyo rheoliadau safonau a natur y rheoliadau hynny, roedd ein hystyriaeth—fel y ddadl hon heddiw—yn ymwneud â phwynt llawer mwy cyfyng, sef a ddylai’r rheoliadau penodol hyn gael eu cymeradwyo.

Wedi dweud hynny, mae’r pwyllgor wedi nodi bwriad y Gweinidog i adolygu’r ddeddfwriaeth sylfaenol y mae’r safonau’n cael eu gwneud o dani, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ein barn ni, dyna’r man priodol ar gyfer ystyried materion ehangach o ran proses ac egwyddor, ac mae’n siŵr gen i y bydd y pwyllgor am ymgysylltu’n gadarnhaol â’r Gweinidog mewn unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo fe.

O ran y rheoliadau sydd ger ein bron, mae’n amlwg eu bod yn bell o fod yn berffaith o hyd a chydnabuwyd y gwendidau yn y rheoliadau gan bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Yn benodol, rwyf am dynnu sylw at y pryderon a fynegwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am faterion yn ymwneud â’r diffiniad o les myfyrwyr a’r ddarpariaeth o lety.

Fodd bynnag, mae’r holl dystiolaeth a gawsom yn dangos bod y rheoliadau hyn, er gwaethaf eu diffygion, yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r prif bryderon a godwyd gan sefydliadau myfyrwyr a gan Aelodau yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y rheoliadau a wrthodwyd ym mis Mawrth y llynedd. Felly, er eu bod yn amherffaith, maent yn well na’r rheoliadau a wrthodwyd. Rydym hefyd yn falch o nodi bod y Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd yn adolygu’r rheoliadau yn barhaus ac y bydd yn cyflwyno rheoliadau diwygio os yw’n amlwg nad ydynt yn gweithio yn ymarferol yn unol â’r bwriad sydd ohoni. Yn amodol ar y sicrwydd hwn, mae’r pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r rheoliadau. Diolch yn fawr.

Rydym ni fel Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau ar eu newydd wedd. Rydych chi wedi sôn eu bod nhw wedi cael eu gwrthod gan y pedwerydd Cynulliad. Nid oeddwn i yma bryd hynny, ond mi oedden nhw’n rhai gwan, ac fe godwyd nifer o bryderon gan fudiadau myfyrwyr a Phlaid Cymru bryd hynny. Mi fuodd ychydig o oedi pellach cyn y Nadolig—wythnos yn unig, rwy’n prysuro i ddweud—ar gais Plaid Cymru, ar ôl cael gweld y rheoliadau drafft bryd hynny, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y cyfle hynny i roi barn. Rydw i’n falch iawn o weld ei fod o wedi gwrando, ac mae llawer o’r pryderon yr oeddem ni’n eu codi wedi cael eu diwygio ymhellach.

Mae’r safonau diwygiedig, felly, yn cynnwys llawer iawn o hawliau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg: yr hawl i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; i gael defnyddio mewnrwyd myfyrwyr yn Gymraeg; yr hawl i gael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg; yr hawl i weld y Gymraeg ar bob arwydd ym mhrifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru; ac i ddefnyddio’r Gymraeg mewn canolfannau celfyddydau. I edrych ar un o’r rhain—yr hawl i diwtor personol Cymraeg—rydw i’n meddwl bod hwn yn allweddol i lwyddiant myfyriwr Cymraeg ei iaith neu ei hiaith mewn sefydliadau sy’n aml yn gallu bod yn llefydd reit estron i bobl ifanc sy’n cyrraedd yna am y tro cyntaf. Mae cael perthynas gyson yn y Gymraeg efo aelod o staff yn siŵr o wella profiad y myfyriwr, ac felly yn gwella ei gyflawniad addysgol o neu hi hefyd.

Mae’r safonau hyn yn gam ymlaen, felly—nid oes amheuaeth am hynny—er bod ychydig o fylchau’n parhau o hyd. Mi fyddwn ni yn eu cefnogi nhw, ond yn ategu galwad pwyllgor y Gymraeg wrth wneud hynny, ac yn diolch, gyda llaw, am y gwaith craffu manwl mae’r pwyllgor wedi’i wneud i gyfrannu at lle rydym heddiw. Mi rydym ni’n ategu galwad y pwyllgor bod angen cadw golwg manwl ar weithredu’r safonau yma a’u hadolygu nhw eto i fynd i’r afael â’r bylchau fydd yn amlygu eu hunain.

Bydd hefyd, wrth gwrs, angen cynllunio gweithlu yn y sefydliadau er mwyn cyflawni’r rheoliadau, ac mi fydd hynny, yn ei dro, yn cyfrannu tuag at y strategaeth miliwn o siaradwyr, maes o law.

Rydw i hefyd wedi edrych ar beth oedd gan Colegau Cymru i ddweud yn eu tystiolaeth nhw ac yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddweud, sef bod yn rhaid i’r rheoliadau weithio law yn llaw efo cynlluniau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn ein sefydliadau addysg ni. Heb i gynnwys yr addysg fod yn y Gymraeg hefyd, rhywbeth ar yr wyneb ydy llawer iawn o’r materion sydd yn y rheoliadau. Ond o roi’r ddau efo’i gilydd, ac yn enwedig, efallai, ym maes addysg bellach—mae eisiau symud ymlaen, rŵan, i gynnwys llawer iawn mwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y byd addysg bellach ac efallai dod â’r maes yna o dan adain y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ond, nid oes dim dwywaith, fe fydd y rheoliadau yma yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr allu byw drwy’r Gymraeg tra’n astudio ar ôl gadael yr ysgol yn y blynyddoedd a ddaw.

Member
Alun Davies 17:08:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Sian ac i Bethan am y sylwadau maen nhw wedi’u gwneud. Nid wyf wedi cael cyfle i ddarllen yr holl dystiolaeth mae’r pwyllgor wedi’i derbyn ar y safonau yn eu cyfanrwydd a’r sylwadau cyffredinol amboutu’r system sydd gennym ni, ond mi fuaswn i’n croesawu’r cyfle i drafod gyda Chadeirydd y pwyllgor, os yw hynny’n bosibl, y ffordd y buasai hi eisiau ein gweld yn ystyried y ffordd rydym yn diwygio’r system a’r broses bresennol. Nid wyf wedi eu gweld nhw; rwy’n siŵr fy mod yn cytuno gyda lot fawr o beth sydd wedi bod yn y dystiolaeth. Rwy’n cytuno gyda’i sylwadau hi y prynhawn yma—‘damned with faint praise’—ond rwy’n cytuno gyda beth ddywedoch chi pan mae’n dod i’r system, ac rydw i’n awyddus iawn fy mod yn gallu chwarae rôl o ran newid y system ar gyfer y dyfodol fel nad ydym yn mynd trwy hyn eto.

Ar yr un pryd, rydw i’n cyd-fynd â’r sylwadau y mae Sian Gwenllian wedi’u gwneud o ran ehangu lle’r Gymraeg yn y byd addysg. Dyna beth rydym eisiau ei wneud, tra bod myfyrwyr yn y dosbarth, yn yr ystafell ddarlithio a hefyd y tu fas i hynny: galluogi myfyrwyr i fyw bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg—derbyn addysg yn y Gymraeg ac wedyn cymdeithasu a byw trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Dyna ein hamcan ni; dyna ein gweledigaeth ni. Rydw i’n cytuno ei bod hi’n anodd dweud bod unrhyw set o safonau neu ddeddfwriaeth yn mynd i fod yn berffaith; mae’n rhaid inni ystyried sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu. Mae hynny’n mynd i fod yn bwysig ac rwy’n cytuno gyda’r sylwadau bod rhaid cadw llygad ar sut maen nhw’n cael eu gweithredu. Mi fyddaf yn gwneud hynny, ond rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ni symud i ffwrdd nawr a chael trafodaeth tipyn bach mwy cyfoethog amboutu sut rydym yn gweithredu’r polisi yma, sut rydym yn gweithredu’r gyfraith yma a sut rydym yn deddfu ar gyfer y dyfodol, a deddfu ar gyfer gwlad ddwyieithog. Diolch yn fawr.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Rydym yn awr yn symud ymlaen i eitem 7 ar ein hagenda, sef dadl ar yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys adroddiad interim Gweinidogion Cymru ar gydraddoldeb 2016. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6217 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a

2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar hyrwyddo mwy o gydraddoldeb, gan ganolbwyntio'n benodol ar y cynnydd a wnaed mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill, a’r trydydd sector. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol 2015-16 ar gydraddoldeb, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru wedi bodloni’i dyletswyddau cydraddoldeb. Eleni, cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb ochr yn ochr ag adroddiad interim Gweinidogion Cymru ar gydraddoldeb 2016. Mae'r adroddiad ychwanegol hwn yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau sector cyhoeddus yng Nghymru tuag at gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae'r adroddiadau cyfun hyn yn cofnodi amrywiaeth o gamau trawsbynciol a chydweithredol i hyrwyddo cyfle cyfartal yng Nghymru, ac maent yn adlewyrchu cyflawniadau yn y gorffennol ac yn edrych ymlaen at yr heriau sydd o'n blaenau.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn ar gydraddoldeb yn cwmpasu blwyddyn olaf cynllun cydraddoldeb strategol 2012-16. Roedd hwn yn gyfnod heriol i Gymru, lle mae effaith diwygio lles yn cael ei deimlo gan lawer o bobl ledled y wlad—rydym yn gwybod bod anghydraddoldeb yn fwy tebygol o dyfu yn ystod cyfnodau o ansicrwydd economaidd. Serch hynny, yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi cyflwyno rhai polisïau a deddfwriaeth gwirioneddol arloesol, gan gynnwys Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Tai (Cymru) 2014, y fframwaith mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb, y fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol a’r cynllun hawliau plant. Cafodd yr enghreifftiau hyn eu datblygu i gyd i wella gwahanol agweddau ar fywyd yng Nghymru a chefnogi pobl sydd fwyaf mewn angen neu'n wynebu heriau penodol. Maent yn parhau i wneud Cymru yn genedl decach, ac yn dangos yn glir ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb.

Y peth arall sydd gan yr enghreifftiau hyn yn gyffredin yw eu bod i gyd wedi cael eu datblygu ar ôl ymgysylltu â phobl ledled Cymru, gan gynnwys y trydydd sector, a’r ymrwymiad hwn i gynnwys cymunedau yw cyfeiriad canolog a strategol Llywodraeth Cymru o hyd. O dan y ddyletswydd cydraddoldeb penodol i Gymru, mae'n ofynnol i ni adolygu ac adnewyddu ein hamcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r meysydd anghydraddoldeb sy'n effeithio ar bobl Cymru. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddwyd ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ac mae’r amcanion hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau gwarchodedig a rhanddeiliaid. Rhoddodd yr ymgysylltiad hwn gyfle iddynt lunio datblygiad yr amcanion cydraddoldeb.

Mae ein rhanddeiliaid yn cefnogi'n gryf y dylid cadw materion pwnc craidd yr amcanion cydraddoldeb blaenorol, gan eu bod yn mynd i'r afael â heriau hirdymor sy'n gofyn am bwyslais a gweithredu parhaus. Bydd ein hamcanion newydd, felly, yn adeiladu ar y camau gweithredu yr ydym wedi eu cynnal fel rhan o'r cynllun cydraddoldeb strategol cyntaf. Mae cynllun cydraddoldeb strategol 2016-2020 yn cynnwys y camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd i yrru ein hamcanion cydraddoldeb ymlaen. Bydd ein cynllun yn helpu i barhau i brif ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws yr holl bortffolios gweinidogol, gan fynd i'r afael â'r meysydd anghydraddoldeb sydd bwysicaf i bobl Cymru. Fel y soniais yn ystod dadl ddiweddar y Cyfarfod Llawn ar adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae gan ein hamcanion cydraddoldeb gysylltiad cryf â'r saith her allweddol a nodwyd yn y comisiwn 'A yw Cymru yn Decach?' Roedd yn braf darganfod bod awdurdodau cyhoeddus hefyd yn gosod amcanion cydraddoldeb yn seiliedig ar yr heriau hynny. Amlygodd adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr hyn sydd ei angen ar gyfer gwneud Cymru yn wlad decach a mwy cyfartal. Rydym yn annog sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn gryf i weithio gyda'i gilydd a chymryd dull cydweithredol o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddwyn ynghyd grwpiau sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig drwy ein fforymau gweinidogol amrywiol a grwpiau rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, y fforwm cymunedau ffydd, a fforwm hil Cymru. Mae'r cyfarfodydd hyn yn ein hysbysu o'r materion a'r rhwystrau allweddol sy'n wynebu pobl yng Nghymru. Mae ein hymgysylltiad â sefydliadau trydydd sector yn dylanwadu’n drwm ar ein penderfyniadau ni, ac rydym yn dal yn hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid hynny. Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth a'u hymroddiad i wneud Cymru yn genedl decach, fwy cyfartal.

Lywydd, mae'r gefnogaeth hon yn ddwyochrog, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo sefydliadau'r trydydd sector gyda'r rhaglen gyllido cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer 2017-20. Mae'r rhaglen yn cynnwys grantiau cydraddoldeb i gefnogi sefydliadau sy'n cynrychioli'r cydraddoldeb o ran hil, rhyw, anabledd ac ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn cynnwys prosiectau cynhwysiant cefnogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mewnfudwyr, ac yn mynd i'r afael â throseddau casineb. Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith pwysig y trydydd sector wrth gyfrannu at gyflawniadau Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Addysg Sengl. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth a chamau gweithredu ar draws y Llywodraeth i hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn gwerthfawrogi rôl eraill wrth fwrw ymlaen â'n polisi a’n deddfwriaeth, gan gynnwys ei weithredu.

Lywydd, rydym yn cydnabod yn llwyr fod cydweithio â sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru. Felly, gadewch inni adeiladu ar y cynnydd a wnaed, a pharhau'n ymrwymedig i gael gwared â’r rhwystrau hynny sy'n atal pobl rhag cyrraedd eu potensial llawn. Diolch.

Thank you. I have selected the two amendments to the motion and I call on Mark Isherwood to move amendments 1 and 2 tabled in the name of Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach ar sail, fel y clywsom, oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dywed yr adroddiad cydraddoldeb blynyddol hwn fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun cydraddoldeb ac amcanion cydraddoldeb strategol 2012-16

yn canolbwyntio ar i ba raddau y bu cynnydd mesuradwy ar yr Amcanion.

Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad ei hun yn sôn am fylchau mawr yn y dystiolaeth ac yn nodi mai blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fydd gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, a chyda'r trydydd sector i roi blaenoriaeth i lenwi'r bylchau hyn.

Wel, mae'n ddegawd ers i mi ac eraill ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal bryd hynny alw am y tro cyntaf ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith i symud cydraddoldeb yng Nghymru ymlaen, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi’u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol. Mewn dadl yma yn 2009 ar gydraddoldeb, cynigiais welliant, unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn. Felly. Felly, dyma pam ein bod yn cyflwyno gwelliant 2 heddiw, gyda thrafodaeth ar yr adroddiad a’r gwerthusiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dal heb wneud hyn.

Fel y mae’r adroddiad yn ei gofnodi:

mae'n rhaid i gyrff yn y sector cyhoeddus "gynnwys pobl y mae'n ystyried sy’n gynrychioliadol o un neu fwy o'r grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb mewn sut mae awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau".

Un o egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw y dylai awdurdod lleol ymateb mewn ffordd gyd-gynhyrchiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i amgylchiadau penodol pob unigolyn. Cymerwyd hynny o'r Ddeddf. Fel y cadarnhaodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cadarnhau i mi, mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth.

Fodd bynnag, mae adroddiadau pryderus bod awdurdodau lleol yn methu â deall hyn. Dywedodd y gymuned fyddar leol yng Nghonwy wrthyf nad oedd unrhyw ymgynghori, rhybudd ymlaen llaw, gwybodaeth na chynlluniau pontio pan gafodd Conwy wared ar y gwasanaethau iaith arwyddion hanfodol a gomisiynwyd o’r tryddydd sector y maent yn dibynnu arnynt. Dywedodd y cyngor fod ganddynt ddarpariaeth ddigonol i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn fewnol a’u bod yn gweithredu yn unol â'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesian. Ond yn hytrach na bod gwasanaethau ymyrraeth ac atal yn sicrhau annibyniaeth ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau statudol, dywedodd y gymuned fyddar wrthyf nad oedd y cyngor yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o fyddardod a bod eu hannibyniaeth wedi cael ei gymryd oddi arnynt.

Er anfantais i etholwyr yr effeithir arnynt, nid oedd Wrecsam yn ymwybodol bod y Ddeddf yn berthnasol i'r broses dendro ar gyfer gofal preswyl, ac nid oedd Sir y Fflint yn ymwybodol ei bod yn berthnasol i gyflogaeth neu gael mynediad i'r llwybrau cyhoeddus yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Felly mae gwelliant 1, yn galw

ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn cysylltiad â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gyd-gynhyrchu'r atebion i ddiwallu eu canlyniadau lles personol.

Croesawais Glymblaid Ffoaduriaid Cymru i ddigwyddiad Lloches yn y Senedd ym mis Rhagfyr. Mae angen cynllun gweithredu mesuradwy er mwyn i Gymru ddod yn genedl noddfa, fel sy’n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o bobl hŷn yn cael eu targedu gan droseddwyr oherwydd eu gwendidau tybiedig.

Gan alw am weithredu i gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, mae adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn dyfynnu cyrhaeddiad TGAU hynod o isel ymhlith plant Sipsiwn a Theithwyr, plant sy'n derbyn gofal, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Eto i gyd, mae Sir y Fflint wedi cael caniatâd i gau ysgol oedd yn ymwneud â’r union grwpiau hyn ac wedi gwella eu canlyniadau addysgol.

Mae'r comisiwn yn adrodd mai dim ond 42 y cant o bobl anabl sydd mewn cyflogaeth, gan gynnwys dim ond 1 o bob 10 o bobl ag awtistiaeth, o'i gymharu â 71 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Gyda 42 yn oedran ymddeol cyfartalog ar gyfer rhywun sy'n byw gyda sglerosis ymledol, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i’w galluogi i aros yn y gwaith cyhyd ag y bo modd?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae grant byw'n annibynnol Cymru yn helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf fod y penderfyniad i drosglwyddo hyn i awdurdodau lleol yn dilyn cyngor gan grŵp cynghori rhanddeiliaid Lywodraeth Cymru. Ond mae sefydliad aelodaeth Anabledd Cymru yn cynghori na chafodd y dewis a ffafriwyd ganddynt o gronfa byw'n annibynnol Cymru ei gynnwys ar gyfer ystyriaeth y grŵp rhanddeiliaid. Bron i ddau ddegawd ar ôl datganoli, gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn adrodd bod bron un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a gyda thlodi plant yn uwch na lefelau'r DU, mae'n bryd bod gweithredu o ddifrif yn disodli geiriau moes wedi’u hailgylchu.

Mae’r ddadl am yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb yn amserol, o ystyried yr hyn sy’n digwydd nid yn unig ym Mhrydain yn yr oes ôl-Undeb Ewropeaidd hon ond yn yr Unol Daleithiau hefyd, gydag agwedd gwahaniaethol a hiliol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn erbyn ffoaduriaid Mwslemaidd. Mi fydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych ar y cyfnod yma mewn hanes ac mi fyddwn ni, yn benodol, fel gwleidyddion, mewn perig o gael ein barnu’n llym am ein diffyg safiad yn wyneb y cynnydd mewn gwleidyddiaeth eithafol y dde. Yn rhy aml y dyddiau yma, rydw i’n cael fy atgoffa nad ydy gwleidyddiaeth yn frwydr o syniadau bellach—sosialaeth yn erbyn ceidwadaeth, unigolyddiaeth yn erbyn comiwnyddiaeth. Yn hytrach, mae hi’n frwydr ddi-dor rhwng gwleidyddiaeth o oddefgarwch a thrugaredd ar un llaw o’i chymharu â gwleidyddiaeth o anoddefgarwch a rhagfarn anhrugarog ar y llaw arall.

Mae’r adroddiad yma’n dangos nad ydy Cymru yn wlad gydradd. Mae bron i un o bob pedwar person yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae 32 y cant o blant yn byw mewn tlodi. Mae 27 y cant o bobl anabl a 38 y cant o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi. Nid ydy Cymru yn wlad gydradd. Mae ychydig dros dri chwarter y troseddau casineb y rhoddir gwybod amdanyn nhw i’r heddlu yn cael eu hysgogi gan hil, a phobl dduon sydd fwyaf tebygol o ddioddef y fath droseddau.

Beth sydd fwyaf trawiadol yn gyffredinol yn yr adroddiad yma ydy nad oes fawr o gynnydd wedi bod yn erbyn nifer fawr o’r dangosyddion yn yr adroddiad. Yn y mannau hynny lle mae yna newidiadau wedi bod, cynnydd bychan a gafwyd. Yn yr adroddiad, mae’r Llywodraeth yn nodi bod hyn yn adlewyrchu natur y dangosyddion, lle mae unrhyw symud yn tueddu digwydd yn raddol a thros gyfnod hir. Ond o edrych ar y dangosyddion hefyd, mae natur eu cynnwys yn ei gwneud hi’n anodd iawn i fesur unrhyw lwyddiannau. Felly, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliannau’r Ceidwadwyr heddiw, sydd yn galw ar y Llywodraeth

‘i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith…gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.’

Ond mae’n rhaid dweud nad oes yna amheuaeth bod y Ceidwadwyr a’u polisïau yn gyfrifol am lawer o’r anghydraddoldeb ac annhegwch cyfoes sydd yng Nghymru heddiw.

Mae yna un elfen benodol sydd ddim yn cael ei chynnwys fel rhan o strategaeth cydraddoldeb y Llywodraeth ac rydw i am dynnu sylw at honno wrth gloi fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw, a hynny ydy cydraddoldeb daearyddol sydd yn digwydd yma yng Nghymru. Rydw i’n mynd i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ystyried cynnwys elfennau daearyddol mewn unrhyw strategaeth neu arolwg newydd yn y dyfodol. Mae yna wahaniaethau mawr rhwng cyflogau mewn ardaloedd yng Nghymru. Er enghraifft, mae gweithwyr yn Nwyfor Meirionnydd yn ennill dros £100 yn llai yr wythnos na chyfartaledd Cymru, ac y mae hyn yn wir hefyd ar gyfer nifer o ardaloedd yn y Cymoedd.

Rydym i gyd yn ymwybodol bod diffyg buddsoddiad hanesyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi tueddu bod o fudd i un rhan o’r wlad, sef de-ddwyrain Lloegr, uwchlaw pob rhan arall. Ond o edrych ar wariant y pen buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf, mae’n amlwg bod y patrwm hwn wedi ei fabwysiadu yng Nghymru hefyd. Ac yn ôl ffigurau eich Llywodraeth chi, mi fydd buddsoddiad cyfalaf yng ngogledd Cymru y flwyddyn nesaf hanner yr hyn a ddisgwylir ei weld yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, os ydym ni am fynd i’r afael â’r diffyg cydraddoldeb yng Nghymru, mae’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw drafodaeth a strategaethau’r dyfodol i wneud Cymru yn fwy cyfartal yn cynnwys cydraddoldeb daearyddol.

Fe glywsom ni sôn yn gynharach yn y Siambr am yr angen am strategaeth economaidd i Gymru, a hynny ar frys. Fe ddylai strategaeth o’r fath roi ystyriaeth lawn i faterion cydraddoldeb—tlodi, yr annhegwch daearyddol sy’n bodoli yng Nghymru, yr annhegwch sy’n wynebu grwpiau lleiafrifol, a hefyd i’r anghydraddoldeb rhwng merched a dynion yn y maes gwaith—er enghraifft, 29 y cant o ferched yn ennill cyflog a oedd yn is na’r cyflog byw, ac 20 y cant ydy’r ffigur ar gyfer dynion.

Rydw i’n edrych ymlaen at weld wyth amcan cydraddoldeb Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dechrau gwreiddio yng Nghymru, ond mae angen llawer, llawer, llawer o waith i wireddu’r nod o Gymru fwy cyfartal. Ac yn allweddol yn hyn i gyd fydd y cynlluniau llesiant lleol sydd i’w cyhoeddi erbyn 2018. Mi fydd angen inni yn y Cynulliad graffu ar y rheini yn ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw yn taro’r hoelen ar ei phen.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno dadl heddiw. Rydym yn fras gefnogi amcanion yr adroddiad, ac rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr. Mae un o'r rhain yn ymdrin â chael amcanion mesuradwy. Gallwn o bryd i'w gilydd fod yn rhy obsesiynol am dargedau. Fodd bynnag, bydd absenoldeb targedau ystyrlon yn ei gwneud yn fwyfwy anodd i unrhyw Lywodraeth fesur pa mor dda yw ei pholisïau. Fe wnes i sylwadau ar y diffyg targedau cymharol yn y ddogfen ‘Symud Cymru Ymlaen' pan oeddem yn trafod y mater y llynedd. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau eraill wedi gwneud hefyd. Mae hyn hefyd yn nodwedd o’r adroddiad cydraddoldeb hwn. Mae'n rheol sylfaenol o dechneg rheoli bod angen i sefydliadau fod â thargedau SMART. Mewn geiriau eraill: yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn berthnasol ac yn amserol. Felly, mae'r diffyg targedau yn peri rhywfaint o bryder.

Mae gennym nifer o reoliadau yng Nghymru sy'n ceisio mynd i'r afael â phroblemau diffyg cydraddoldeb. Y cwestiwn yw: pa mor effeithiol ydyn nhw, yn ymarferol, a pha mor effeithiol y gallant fod? Y bore yma, eisteddais ar y Pwyllgor Deisebau lle cawsom gyflwyniad da iawn gan y grŵp Whizz-Kidz. Roedd yn ymwneud â’r problemau a wynebir gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd hyn yn dipyn o agoriad llygad. Mae'n amlwg bod nifer o broblemau sy'n wynebu defnyddwyr cadeiriau olwyn, p'un a ydynt yn teithio, neu yn hytrach yn ceisio teithio ar y trên, y bws neu mewn tacsi. Mae'r briff a gawsom gan adran ymchwil y Cynulliad yn nodi rhai o'r rheoliadau sy'n llywodraethu’r maes hwn, rai ohonynt wedi cael eu cyflwyno yn y blynyddoedd cymharol ddiweddar. Ond mae’r problemau hyn yn dal yn parhau. Gofynnais i'r Whizz-Kidz a oedd angen deddfwriaeth gryfach ar y problemau hyn, yn eu barn hwy neu, yn syml, orfodi'n well y cyfreithiau a’r rheoliadau sydd eisoes yn bodoli. Yr ateb a roddwyd oedd mai gorfodaeth well oedd ei angen arnom.

Fy nghasgliad i, weithiau, yw bod y Cynulliad yn deddfu mewn ffordd briodol ar y cyfan ond, rywsut, o fewn cyfnod byr, mae diffyg gorfodaeth effeithiol yn bodoli, sy'n caniatáu i anghydraddoldeb barhau. Mae hyn hefyd wedi bod yn amlwg o ymchwiliadau diweddar a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Ymddengys bod angen ymgysylltu'n rheolaidd iawn â'r grwpiau yr effeithir arnynt i fynd i'r afael â'r broblem hon. Un ateb posibl, neu ateb rhannol, sy'n cael ei gynnig gan y Ceidwadwyr heddiw, ac sydd hefyd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth ddiweddar, yw cyd-gynhyrchu. Mae hwn yn bolisi sy'n cael ei wthio dro ar ôl tro gan fy nghymydog drws nesaf, Mark Isherwood. Felly, o ystyried y problemau yr wyf wedi clywed amdanynt heddiw, a fyddai mwy o ddefnydd o gyd-gynhyrchu yn caniatáu neu’n helpu i hwyluso gwell gorfodaeth ar reoliadau presennol? Diolch.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich adroddiad. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar y ddarpariaeth y Sipsiwn a Theithwyr. Gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi mynychu gwasanaeth coffa’r Holocost yr wythnos diwethaf ar risiau'r Senedd, a drefnwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi ein cyffwrdd yn fawr gan y straeon a glywsom am Sipsiwn a Theithwyr a oedd wedi dioddef yn yr Holocost. Gwn fod llawer o bobl yn anymwybodol o'r niferoedd mawr o’r rheini, y cannoedd o filoedd, a fu farw yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, credaf fod hwnnw’n gyfle i ni glywed rhywbeth am y gymuned Sipsiwn a Theithwyr nad yw'n hysbys yn gyffredinol.

Mewn sawl ffordd, mae sefyllfa Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru wedi gwella. Un o'r camau mawr a gymerwyd gennym oedd rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd. Mae gen i gysylltiad â'r grŵp hollbleidiol yn San Steffan ar gyfer diwygio'r gyfraith Sipsiwn a Theithwyr. Maent wrth ein boddau ein bod wedi gallu cyflawni’r ddyletswydd honno yma yng Nghymru, oherwydd mae hynny'n rhywbeth a gollwyd, ac yn rhywbeth sydd wedi bod yn anodd ei gael yn ôl ar yr agenda—wrth gwrs, yn hollol aflwyddiannus, ac nid yw’r ddarpariaeth yn Lloegr yn awr yn cymharu â'r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru.

Felly, mae hwnnw’n gam mawr ymlaen, a chynhaliwyd asesiadau o anghenion lleol. Darparwyd arian er mwyn gwella safleoedd, felly rwy’n teimlo ein bod yn symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, mae rhai meysydd yn peri pryder. Mae Mark Isherwood eisoes wedi crybwyll yn ei gyfraniad gyrhaeddiad addysgol isel iawn plant Sipsiwn / Teithwyr. Yn wir, mae'n syfrdanol o isel—rwy'n credu ei fod tua 15 y cant o’i gymharu â 68 y cant o’r boblogaeth ysgol gyfartalog. Felly, mae gennym gamau mawr i'w cymryd er mwyn gwella'r sefyllfa honno. Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rydym wedi bod yn cymryd tystiolaeth am y newidiadau i'r grant gwella addysg, sy'n golygu nad yw'r elfen Sipsiwn / Teithwyr ohono wedi'i chlustnodi, na’r rhan lleiafrifoedd ethnig chwaith. Rwy'n credu bod cryn dipyn o bryderon yn codi ynghylch a yw'r arian hwn bellach yn cael ei dargedu yn llwyddiannus i'r gwahanol brosiectau Sipsiwn a Theithwyr. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadw llygad barcud ar ganlyniadau'r ymchwiliad hwnnw, gan yr ymddengys bod y ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn lleihau.

Yna, y pwynt arall yr oeddwn yn dymuno ei wneud oedd pwynt penodol am brosiect Undod yn Sir Benfro. Mae’r prosiect Undod yn Sir Benfro wedi cydweithio'n agos iawn â'r gwasanaeth addysg i Deithwyr, yn Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory. Ystyriwyd y prosiect hwn yn enghraifft—enghraifft wych. Maen nhw wedi gweithio gyda'r gwasanaeth addysg i Deithwyr i ennill ymddiriedaeth yr holl safleoedd Teithwyr yn yr ardal, i annog y plant i fynd i'r ysgol. Mae gan y rhieni yn y gymuned hyder yn yr ysgol ac yn y gwaith y mae’r gwasanaeth addysg i Deithwyr yn ei wneud. Ond mae wedi bod yn siomedig iawn bod y prosiect hwn a ariennir gan y loteri, ac a dalodd dri gweithiwr i weithio gyda'r gwasanaeth addysg i Deithwyr i wneud y gwaith allgymorth, y meithrin ymddiriedaeth, yn dod i ben ar y degfed ar hugain o’r mis— heddiw yw hynny, rwy’n credu—ac nad yw awdurdod lleol Sir Benfro, yn ôl y disgwyl mawr oedd arnynt, wedi ymgymryd â’r prosiect.

Felly, mae hyn yn golygu bod gennym sefyllfa lle mae prosiect a gafodd ei edmygu ledled Cymru—gwaith gyda Sipsiwn a Theithwyr—mewn gwirionedd wedi cyrraedd cam lle’r ydym yn ofni y gall ddirywio. Ni allaf ond bwysleisio pa mor llwyddiannus y bu’r prosiect. Mae'n weddol anarferol i blant Sipsiwn a Theithwyr symud ymlaen ac ennill gradd, ond mae tair o ferched ifanc sydd wedi llwyddo i ennill gradd ar ôl bod trwy’r gwasanaeth hwnnw. Mae llawer wedi cael cyflogaeth yn yr ardal, ac at ei gilydd bu’n llwyddiannus iawn. Felly, rwyf am dynnu hyn at sylw'r Gweinidog. Cafwyd llawer o lobïo ar yr awdurdod lleol gan y bobl ifanc eu hunain yno, i geisio eu hannog i newid eu meddyliau ac yn wir i gefnogi'r hyn sydd wedi bod yn brosiect mor llwyddiannus. Drwy waith y tri gweithiwr hynny mae pobl ifanc wedi gallu dod yma, dynion a menywod ifanc sy’n Sipsiwn / Teithwyr, a gwneud eu cyfraniad i'r grŵp trawsbleidiol. Yn wir, roeddent yma yr wythnos diwethaf yn dweud pa mor anhapus y maen nhw, ac maent yn lobïo cynghorwyr. Felly, byddaf yn gorffen drwy ofyn i'r Gweinidog a oes modd iddo wneud sylwadau ar un o'n prosiectau Cymreig hynod lwyddiannus a gweld a ellir gwneud unrhyw beth i achub hynny.

Rwy’n meddwl ein bod yn byw mewn Cymru anghyfartal iawn. Rwy’n mynd i dynnu sylw at rai o'r materion yma. Rwy’n credu mai trais yw trais, cam-drin yw cam-drin, ac rwy’n gwrthwynebu pob math o gam-drin. Os edrychwn ar y ddogfen sy’n ymwneud â thrais domestig, nid oes sôn am ddynion yn yr amcanion. Os edrychwch ar y ffigurau, rwy’n credu mai un o bob pedair menyw sy’n dioddef trais domestig; mae un o bob chwe dyn yn dioddef hefyd ond ymddengys bod y ddogfen yn anghofio hynny.

Os edrychwn ar ariannu cymorth cam-drin domestig, mae cefnogaeth i fenywod yn cael ei hariannu gan filiynau o bunnoedd—fel y dylai fod—ac eto mae bwlch enfawr o ran y cyllid i helpu dynion sy'n dioddef cam-drin domestig. Yn y ddinas hon, cafodd Both Parents Matter £4,500 yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae’r mudiad hwnnw’n atal dynion rhag lladd eu hunain. Mae'n cefnogi neiniau, mae'n cefnogi modrybedd ac mae hefyd yn cefnogi mamau.

Os edrychwch ar y cyhoeddusrwydd i gam-drin domestig, dydych chi byth yn gweld troseddwr benywaidd, dyn ydyw bob amser, sy’n ymddwyn mewn fel stereoteip rhywiaethol iawn—gallech hyd yn oed ddweud stereoteip â chasineb at ddynion. Os edrychwch ar y ddogfen a oedd gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe, darparwyd gwybodaeth gan elusen cam-drin domestig benywaidd, nid oedd dim—dim byd o gwbl—o safbwynt gwrywaidd. Doedd neb wedi trafferthu siarad ag unrhyw sefydliad yn helpu dynion yn yr un sefyllfa, ac mae hynny'n rhywiaethol.

Pe gallwn i ddod yn ôl ar y pwynt hwnnw, yn ystod y tymor diwethaf, yn ystod y Bil cam-drin domestig, roeddwn i ar y pwyllgor ac roedd y ffigurau yno i bawb eu gweld o gyflawnwyr cam-drin domestig gwirioneddol. Roedd yr ystadegau yno. Roeddem yn cydnabod bod dioddefwyr gwrywaidd, ond, yn sicr yng Nghymru, mae'r ffigurau yn eithaf pendant yno, mewn gwirionedd, fod cyfran llawer fwy o fenywod yn dioddef cam-drin domestig.

Mae cyfran fwy, ond os edrychwch ar ffigurau’r Swyddfa Gartref, mae’n eithaf clir fod canran fawr o ddynion, er ei bod yn lleiafrif—rwy’n cyfaddef hynny. Ond hefyd, un mater yn y De, os ydych yn wryw, mae’n anodd iawn perswadio'r heddlu i dderbyn cwyn. Rwyf wedi sefyll drws nesaf i bobl ac ni dderbyniwyd y cwynion.

O ran y dioddefwyr, pan fyddant yn mynd i gael cymorth, caiff dynion eu sgrinio. Nid yw benywod yn cael eu sgrinio. Fe roddaf enghraifft i chi. Bydd y llinell gymorth Byw Heb Ofn yn sgrinio gwrywod fel troseddwyr ac ni fyddant yn sgrinio menywod.

Mae gwahaniaethu ym maes tai. Os ydych chi'n rhiant dibreswyl—fel arfer yn wryw, ond nid bob amser y dyddiau hyn—byddwch ond yn gymwys am eiddo un ystafell wely os oes gennych dri o blant ac nid chi yw'r prif ofalwr. Felly, os ydych yn fam neu’n dad, rydych yn gyfyngedig i eiddo un ystafell wely gyda thri o blant a byddwch yn colli cysylltiad dros nos. Nid yw hynny'n gyfartal. Nid yw hynny'n gyfartal o gwbl. Ac rydych hefyd yn ddarostyngedig i dreth ystafell wely, sydd yn anghywir. A gwahaniaethu ar sail dosbarth yw hynny. Mae'n gwahaniaethu yn erbyn rhieni ar sail incwm economaidd.

Os ydych yn edrych ar rieni trawsrywiol, rwy'n credu bod angen cael deddfwriaeth yng Nghymru i'w hamddiffyn nhw, oherwydd roedd achos ddoe lle collodd rhiant trawsrywiol gysylltiad â'r plentyn dim ond oherwydd ei fod yn drawsrywiol. Mae hynny yn wahaniaethu ac mae angen deddfwriaeth i atal hynny.

Rwy’n meddwl, yng Nghymru, rydym hefyd yn dioddef o wahaniaethu ieithyddol oherwydd bod rhieni yn y ddinas hon—prifddinas Cymru—nad ydynt yn gallu dewis addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hynny'n anghywir. Y gymuned fyddar hefyd, os ydych yn derbyn addysg gan diwtor, nid oes cymhwyster gofynnol i athro Iaith Arwyddion Prydain, ac mae hynny'n anghywir.

Sipsiwn a Theithwyr. Un peth yr wyf yn edrych ymlaen at ei ddatrys, gobeithio, ar ôl mis Mai yw, os byddwch yn mynd i Rover Way, ac rwy’n gwahodd unrhyw un i fynd i lawr yno, cyflwr y lle—. Nid cydraddoldeb yw hynny. Nid oes ardal chwarae ar gyfer y plant hyd yn oed a does dim llwybr i'r ysgol. Mae'n ffordd hynod beryglus. Felly, nid cydraddoldeb yw hynny chwaith.

Mae gwahaniaethu hefyd ar sail rhyw a cham-drin cydweithwyr mewn llywodraeth leol. Beth mae’r Llywodraeth hon wedi ei wneud? Rydym wedi cael Gweinidog sy'n mynd i bregethu yn awr am gam-drin domestig a hawliau menywod, ac eto nid yw wedi gwneud dim—dim byd o gwbl—i ofalu am fenywod mewn llywodraeth leol sy'n dioddef o gam-drin, ac mae aelodau o'i blaid ei hun wedi cydnabod hynny.

Os edrychwch ar yr anabl, yn aml iawn, mae cynlluniau gofal yn methu, ac mae'n rhaid i bobl anabl gael gofal preswyl. Nid eu bai nhw ydyw; nid yw’r cyflwr—. Nid oes raid iddynt gael gofal preswyl, mae hyn oherwydd bod y cynlluniau gofal yn methu, a gofal preswyl yn ddrutach o lawer.

Iawn, byddaf yn dod â fy sylwadau i ben, a byddaf yn cloi drwy gyfeirio at hiliaeth, yr wyf yn gwybod popeth amdano. A bod yn onest, rwy’n meddwl ers pan oeddwn yn bedair oed rwyf wedi gwybod sut beth ydyw i ymddangos yn wahanol a chael croen ychydig yn dywyllach a chael eich trin mewn ffordd wahanol oherwydd hynny. Dwi'n apelio yn awr, heb ymosod ar unrhyw un, dwi'n apelio am rywfaint o gyfrifoldeb ar draws holl sbectrwm gwleidyddiaeth ac yn enwedig gan rai pobl sy'n gweld eu hunain ar y chwith, gan fod y termau 'hiliaeth' 'hiliol' a ‘senoffobia’ yn cael eu cam-ddefnyddio, ac maent yn cael eu taflu at bawb. A phan fyddwch yn gwneud hynny, mae'r term yn colli ei werth, ac rydych chi'n helpu ffasgwyr ac rydych yn helpu'r rhai sydd mewn gwirionedd yn hiliol. Dydw i ddim yn beio cydweithwyr yma, ond rydym yn gwybod am beth yr ydym yn sôn— mae'n debyg eich bod chi’n gwybod am beth yr wyf yn sôn, a’r hyn yr wyf yn gofyn amdano gennych chi yw rhoi terfyn ar y distawrwydd ynghylch y defnydd a’r camddefnydd annerbyniol o'r termau 'hiliol' a ‘xenophobe’ (rhywun sy’n casáu estronwyr). Diolch yn fawr.

Mae'n gadarnhaol ein bod yn cael y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ac efallai yn fwy pwysig a rhagweledol, o ystyried beth sy'n digwydd y tu allan i'r Siambr hon. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb a’i dull trawsbynciol o hyrwyddo'r agenda hon i'w canmol, ond yr her i bob un ohonom, ac nid yn unig i Lywodraeth Cymru, yw sicrhau bod yr amcanion a'r egwyddorion cyffredinol hyn yn trosi'n realiti ac yn arferion bob dydd i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Nid yw cydraddoldeb, i mi, yn fater i’r lleiafrif, mae’n fater i’r mwyafrif ei gofleidio a’i hyrwyddo wrth ffurfio natur ein cenedl, a dylem gredu bod cydraddoldeb yng Nghymru heddiw yn absoliwt, nid yn rhywbeth ychwanegol. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad yn y mudiad undebau llafur, fod prif ffrydio cydraddoldeb yn cael ei wneud yn bennaf drwy gynrychiolwyr cydraddoldeb a chynrychiolaeth ar ganghennau. Mae'n ei wneud yn ddigwyddiad bob dydd, cyffredin ac mae’n ymwreiddio diwylliant o ddealltwriaeth, tegwch a pharch yr ydym ni i gyd gyda'n gilydd yn rhan ohono wrth ymdrechu am yr un cyfiawnder cymdeithasol. Boed hynny'n gyflog teg neu’n ddileu gwahaniaethu yn y gweithle, cyfle cyfartal neu ymestyn hawliau a mesurau diogelu, mae'n ymwneud â chreu Cymru fwy cyfartal a byd ehangach.

Rwy'n falch mai Llywodraeth Lafur a arweiniodd y ffordd yn y ddeddfwriaeth a wnaeth fy ngalluogi i, a llawer o bobl eraill, i fyw fy mywyd fel yr wyf ac am bwy ydw i. Rydym wedi dod yn bell o ran cydraddoldeb pan ddaw at newid deddfwriaeth a gweithredu canllawiau. Ond mae angen gwneud yn siŵr bod hyn mewn gwirionedd yn newid bywydau. Dylem ddathlu yn briodol pa mor bell yr ydym wedi dod fel gwlad a chymdeithas, ond ni ddylem byth fod yn hunanfodlon a dylem aros yn gwbl wyliadwrus. Dyna pam mae’n iawn fod Llywodraeth Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i leihau nifer yr achosion o bob math o aflonyddu a cham-drin, gan gynnwys troseddau casineb, fel yr amlinellwyd yn amcan 4 o adroddiad cydraddoldeb 2015-16, a'r un amcan yn amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-20. Yn wir, rydym yn ymwybodol y bu cynnydd parhaus mewn adrodd am droseddau casineb yng Nghymru, gyda 2,259 o droseddau casineb wedi’u cofnodi yng Nghymru yn 2014-15, cynnydd ar y nifer a gofnodwyd yn 2012-13. Ac mae hyn yn ôl pob tebyg yn cuddio'r gwir ffigwr gan fod natur y drosedd yn golygu yn ôl pob tebyg bod elfen—elfen fawr—o dangofnodi.

Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru, gan ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i redeg Canolfan Genedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb Cymru, a chymryd rhan mewn ymwybyddiaeth trosedd casineb bob mis Hydref. O ran Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb Cenedlaethol, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i weld mwy yn cael ei wneud gydag ysgolion a chymunedau ar draws Cymru er mwyn addysgu, chwalu rhwystrau a chael mynediad at gymorth. Nid oes unrhyw un yn cael ei eni â rhagfarn, ac ni ddylai neb orfod byw mewn ofn yn eu cymuned eu hunain, heb le diogel i fynd iddo. Ac ar hynny, ni ddylai fod unrhyw hierarchaeth o gasineb, dim graddau o wahanu pan ddaw at wahaniaethu a sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau heb ofn.

Ac ar hynny, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i ddod â chasineb i’r amlwg. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un yma sy'n teimlo, ar y gorau, yn anesmwyth am sut yr ymddengys bod naws rhywfaint o’r drafodaeth wleidyddol wedi symud yn ddiweddar.  Mae rhai yn teimlo ei bod yn iawn dweud yn awr beth oedd ar un adeg yn cael ei ystyried yn mynd yn rhy bell. Ac nid yw hyn yn ymwneud â chywirdeb gwleidyddol, mae'n ymwneud ag ymddwyn gydag urddas a pharch sylfaenol at ein gilydd fel cyd fodau dynol—gwers mewn urddas, mewn gwirionedd, y byddai’n dda i Lywydd newydd yr Unol Daleithiau ei dysgu. Rydym eisoes wedi clywed condemniad clir yn y Siambr hon heddiw, ac mae'r Prif Weinidog yn iawn bod polisi cynllun teithio yr Arlywydd Trump yn mynd y tu hwnt i unrhyw amddiffyniad rhesymegol. Yr ofn gwirioneddol yw mai dim ond y dechrau yw hyn, a dechreuodd adroddiadau fynd o gwmpas neithiwr bod y Tŷ Gwyn dan yr Arlywydd Trump yn ystyried gwrthdroi llawer o amddiffyniadau LGBT.

O edrych ar y digwyddiadau sy'n datblygu o'n cwmpas, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi meddwl ar adegau tybed ai dyma'r amser iawn i fynegi fy marn yn onest. Ond, mewn gwirionedd, yn awr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig ein bod yn barod i sefyll i fyny a siarad. Mae’r ddadl heddiw yn arwyddocaol nid yn unig o ran amseru, ond mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i gydraddoldeb yn hanfodol ac o werth mawr, ac ni ddylem anghofio hynny.

Rwy’n sicr yn croesawu'r adroddiad hwn. Mae'r gwaith o fonitro sut mae ein cyrff yn y sector cyhoeddus yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cydraddoldeb yn hanfodol. Dim ond yr wythnos hon fe welsom Gyngor Rhondda Cynon Taf yn cael ei feirniadu am wario £80,000 ar ailwampio gorsaf fysiau, heb wneud darpariaeth ar gyfer mynediad heb risiau fel ei fod ar gael i bawb. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd mwyaf y ddadl flynyddol hon, a pha mor hanfodol yw hi bod Llywodraeth Cymru o ddifrif yn gweithio'n galed i sicrhau bod ei pholisïau cydraddoldeb yn cael eu gorfodi ar draws Cymru.

Rwy’n croesawu'r ffigurau a nodir mewn cysylltiad â chaffael ym maes caffael yn y sector cyhoeddus, gan ddangos bod £1.1 biliwn wedi'i fuddsoddi a bod £232 miliwn wedi mynd yn uniongyrchol ar gyflogau i ddinasyddion Cymru, £706 miliwn gyda busnesau o Gymru, yr oedd 78 y cant ohonynt yn fusnesau bach a chanolig, gan helpu 1,595 o bobl dan anfantais i gael gwaith. Yn ogystal â hyn, mae £83,000 wedi ei ail-fuddsoddi yng Nghymru—ffigwr clodwiw, ond dim ond 1 y cant yn fwy na 2013, felly mae bwlch gwario yno.

Mae cwpl o feysydd yr hoffwn ganolbwyntio arnynt heddiw, sef iechyd a gofal cymdeithasol, ffoaduriaid, a chyflog cyfartal. Roedd safonau iechyd a gofal diwygiedig Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei adroddiad sut y dylai gwasanaethau ddarparu gofal diogel a dibynadwy, o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal â hyn, mae ein gwelliant heddiw, ein gwelliant cyntaf, yn galw ar Lywodraeth Cymru:

i egluro’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gyd-gynhyrchu'r atebion i ddiwallu eu canlyniadau llesiant personol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydym wedi gweld yn y newyddion ac yn ein hetholaethau ein hunain, nid yw hyn yn digwydd yn gyson ar draws Cymru. Mae pobl sy’n gallu dod adref o'r ysbyty yn dal i gael eu gorfodi i flocio gwelyau nes bydd pecyn gofal addas ar gael ar eu cyfer. Ar hyn o bryd, mae gennym 239 o bobl yng Nghymru sydd wedi bod yn aros mwy na thair wythnos i adael yr ysbyty a mynd adref—64 wedi bod yn aros dros dri mis, a 25 dros chwe mis. Nid yw cydraddoldeb gwasanaeth, darpariaeth gofal, triniaeth a gweithio cydgysylltiedig yn digwydd fel y dylai, ac rwy’n gofyn i chi sut yr ydych yn gweithio i ymdrin â hyn.

Bwriad rhaglen adsefydlu Syria a nodir yn yr adroddiad yw helpu i adsefydlu hyd at 20,000 o ffoaduriaid Syria ar draws y DU. Mewn tystiolaeth a gymerwyd gan ein pwyllgor ni—y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—bu llawer o feirniadaeth gan bawb bron sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni fod system ddwy haen yng Nghymru bellach. Rydym wedi clywed, er mai’r gefnogaeth a roddir i deuluoedd Syria a gafodd eu hadsefydlu yw'r safon aur o ran tai, trwy Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac Alltudion ar Waith, eto mae'n cyferbynnu mor aruthrol â’r cymorth sydd ar gael—mewn rhai achosion, dim—ar gyfer ffoaduriaid o wledydd eraill sy'n cyrraedd Cyngor Ffoaduriaid Cymru bob dydd. Mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig diweddar yn y Cynulliad, dywedoch eich bod yn anelu at gyflawni cydraddoldeb. Tybed a fyddech yn sôn yn fanylach heddiw ynghylch sut mae hyn yn cael ei wneud a sut y bydd hyn mewn gwirionedd yn cyrraedd y rheng flaen ac yn cyrraedd llawr gwlad.

Nawr te, daeth y Ddeddf Cyflog Cyfartal i rym ym 1970, ac rwyf wedi cael achosion sydd wedi mynd ymlaen am naw mlynedd. Yn achos un wraig, y cafodd ei thâl o £800, a fyddai wedi dod â hi yn unol â chyfraith, ei warafun, bu’n rhaid iddi aros naw mlynedd nes i fy ymyriad i gael yr arian hwnnw iddi. Wrth ymateb i mi yn codi'r mater hwn, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru edrych ar gyflog cyfartal yn fwy manwl, ac i roi pwysau ar awdurdodau lleol i setlo. Mae cannoedd o achosion o bobl—merched—nad ydynt wedi derbyn eu cyflog cyfartal am y gwaith y maent wedi'i wneud, ac nid yw hynny’n iawn. Ers 2011-12, mae cynghorau wedi gwario dros £5.5 miliwn o arian trethdalwyr yn ymladd y gweithwyr rheng flaen gwerthfawr iawn hyn i setlo eu hawliadau. Mae'r arian yn ddyledus—mae'n perthyn iddynt hwy—ac maent wedi colli allan ar hyn drwy anghydraddoldeb ar ei waethaf. Ysgrifennydd y Cabinet, dan amcanion 2 a 8 y cynllun cydraddoldeb strategol, a fyddwch yn ceisio edrych ar hyn? Nid oedd asesiad Llywodraeth Cymru o’r cynllun strategol a’r amcanion cydraddoldeb yn mynd i'r afael â hyn yn adroddiad Tachwedd 2016.

Fel corff craffu a deddfu, mae gennym rwymedigaeth i sicrhau bod ein hawdurdodau lleol a phob corff cyhoeddus nid yn unig yn cynhyrchu'r strategaethau, ond mewn gwirionedd yn rhedeg edau cydraddoldeb ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus unigol sy'n cael ei ddarparu ledled Cymru. Diolch.

Mae'n wirioneddol wych gallu siarad mewn dadl mor bwysig heddiw. Rwy’n croesawu'r adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb ac rwyf am ganolbwyntio'n benodol mewn gwirionedd ar amcan 4, sef trosedd casineb. Rwy'n gwneud hynny oherwydd ein bod yn byw mewn cyfnod lle mae hynny’n tyfu, a throseddau casineb ar draws nodweddion gwarchodedig hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yw’r hyn yr ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Hannah Blythyn am y tangofnodi; mae hi’n hollol iawn bod tystiolaeth, o'r nifer uchel sydd gennym, mae'n wir, gan amlaf, nad adroddir am drosedd casineb am ba reswm bynnag y gallai hynny fod. Ond mae ystadegyn sy'n dweud bod 79 y cant o'r digwyddiadau hynny yr adroddir amdanynt yn droseddau casineb sy'n gysylltiedig â hil, ac maent yn cael effeithiau gwirioneddol sylweddol ar y dioddefwyr a theuluoedd y dioddefwyr. Mae'r ddau ohonynt yn gorfforol a hefyd yn seicolegol, a chafodd hynny, unwaith eto, ei adrodd gan y prosiect ymchwil trosedd casineb Cymru gyfan yn gynharach eleni.

Mae'n bwysig iawn ein bod, wrth drafod hyn heddiw, yn meddwl o ddifrif am effaith troseddau casineb fel effaith ar unigolyn ac ar eu teuluoedd, yn hytrach na dim ond adrodd rhesi o ystadegau. Dyna pam y mae 'Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu' Llywodraeth Cymru yn bwysig, gan ei fod yn anelu at fynd i'r afael â throseddau casineb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Mae'n wir, rwy'n falch o weld, bod oedran bellach wedi ei ychwanegu, oherwydd, yn ddiweddar, cafwyd adroddiadau bod gwahaniaethu yn erbyn pobl yn digwydd oherwydd eu hoedran yn unig, beth bynnag allai’r oedran hwnnw fod. Felly, mae gennym adroddiadau am wahaniaethu yn erbyn pobl oedrannus dim ond oherwydd eu bod yn bobl oedrannus, ond rydym hefyd yn awr yn cael adroddiadau o wahaniaethu yn erbyn pobl ifanc oherwydd eu bod yn bobl ifanc.

Ond mae nodwedd y byddwn yn gofyn i chi ei hychwanegu at hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a rhyw yw hynny. Rwy’n meddwl, pe gallem ychwanegu rhyw fel nodwedd warchodedig, y byddem yn dal llawer iawn o'r troseddau casineb sydd wedi eu trafod yma heddiw. Wrth sôn am ‘ryw’, mae'n rhaid i ni edrych ar ryw yn ei holl ystyron, nid dim ond bod yn fenyw—yn aml iawn, os byddwch yn dweud y gair 'rhyw', mae pobl yn syth yn meddwl eich bod yn sôn am fenywod. Felly, hoffwn yn fawr iawn weld hynny fel nodwedd ychwanegol.

Mae cymorth ar gael gan y ganolfan cefnogi troseddau casineb, ac mae £488,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael ei roi i mewn fel rhan o'r fframwaith hwnnw i fynd i'r afael â throseddau casineb, a chroesawaf hynny yn fawr. Gwn fod y ganolfan wedi anelu i helpu 2,000 o ddioddefwyr yn ystod y tair blynedd diwethaf. Fe wyddoch, unwaith eto, os ydym yn meddwl am y rhain nid fel dioddefwyr, ond fel unigolion a theuluoedd o'u cwmpas, mae hynny’n lefel sylweddol o gefnogaeth.

Ond ni allwn ddianc rhag y ffaith, mewn rhai achosion, fod pobl yn agored i droseddau casineb oherwydd y sgwrs sy'n digwydd mewn lleoedd fel hyn. Ac os oes gennyf un apêl heddiw i bob un ohonom, bod yn hynod ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn yw honno. Rydym i gyd wedi gweld beth sy'n digwydd pan mae'r iaith a ddefnyddiwn rywsut yn mynd allan o reolaeth, ac yn cael ei bwydo yn ôl i gymunedau sydd wedyn yn meddwl ei bod yn iawn ei defnyddio yn y cymunedau hynny.  Mae Trump, yn fy marn i, wedi mynd â hynny i'r eithaf. Ond, serch hynny, mae’r ffaith bod troseddau casineb wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn fy marn i, yn gofyn am archwiliad agos a chraffu agos i weld a yw hynny’n cael ei alinio, mewn unrhyw ffordd, â'r iaith yr ydym wedi ei gweld yn cael ei defnyddio yn y ddadl Brexit y llynedd.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'i staff am gynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn?  Bu, yn ddi-os, nifer o lwyddiannau yma yng Nghymru yn ystod cynllun ac amcanion cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru 2015-16. Nid y lleiaf o'r rhain oedd y ddeddfwriaeth bwysig y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ati yn gynharach, sef Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Trafodwyd llawer o fentrau cadarnhaol a nodwyd yn yr adroddiad eisoes, felly rwyf eisiau canolbwyntio ar un maes penodol. Ond, cyn i mi ei wneud, a gaf i gyfeirio'n fyr at yr adran ar ein hymrwymiadau rhyngwladol?

Rwy'n falch bod y Comisiwn Ewropeaidd yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefgarwch wedi cydnabod gwaith Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014 mewn cysylltiad ag asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. O ystyried yr hyn yr ydym wedi bod yn dyst iddo'r wythnos hon yn yr Unol Daleithiau a Chanada, ynghyd â'r cynnydd mewn troseddau casineb a welsom yn dilyn y refferendwm Ewropeaidd y llynedd, bydd ein gwaith yn y maes hwn yn ddi-os yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio'n arbennig ar y maes gwella amrywiaeth democrataidd a llywodraethu awdurdodau lleol. Croesawaf yn fawr iawn y gwaith sydd wedi ei wneud drwy gyfrwng y grŵp arbenigol ar amrywiaeth llywodraeth leol. Does dim amheuaeth bod y diffyg amrywiaeth ymhlith cynghorwyr etholedig yng Nghymru, fel rhannau eraill o'r DU, wedi bod yn destun pryder. Yn anffodus, nid yw'r gwelliannau yr ydym wedi’u gweld o ran menywod yn sicrhau swyddi uwch mewn cyflogaeth yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi cael eu hadlewyrchu yn y gynrychiolaeth ar lefel cyngor lleol. Mae'n sicr yn dda gweld cynnydd yng nghynrychiolaeth menywod a phobl iau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond mae’n siomedig nodi nad yw'n cael ei ailadrodd pan ddaw at gynghorwyr lleol.

Mae'n ddealladwy, felly, mai canfyddiad pobl yng Nghymru yw bod cynghorau yn cael eu dominyddu i raddau helaeth gan ddynion gwyn hŷn, gan nad yw amrywiaeth yn amlwg yn gyffredinol. Dangosodd arolwg o ymgeiswyr yn etholiadau llywodraeth leol 2012 yng Nghymru fod y rhan fwyaf dros 60 oed, 99.5 y cant yn nodi eu hethnigrwydd fel gwyn, 83 y cant yn nodi eu crefydd fel Cristnogol, a dim ond 30 y cant oedd yn fenywod.  Ar hyn o bryd, dim ond dau arweinydd cyngor yng Nghymru sy’n fenywod. Wrth gwrs, bu rhywfaint o gynnydd pan ddaw at ethol menywod i’n hawdurdodau lleol yng Nghymru, ond mae'r cynnydd yn araf. Dangosodd arolwg ym 1999 bod 19.5 y cant o gynghorwyr yn fenywod. Cododd hyn i 21.8 y cant ar ôl etholiadau 2004, ac, er nad oedd unrhyw arolwg terfynol ar gyfer Cymru yn dilyn etholiad 2008, awgrymodd ymchwil gan y BBC bod y ffigwr wedi codi i 22 y cant. Mae cynnydd, wrth gwrs, bob amser i’w groesawu, ond, ar y gyfradd hon, ni fyddwn yn cyflawni cydbwysedd rhwng y rhywiau ar gyfer ein cynghorau am 35 i 40 mlynedd arall.

Lywydd, mae'r gynrychiolaeth uchaf o fenywod mewn cynghorau yn Abertawe, sef 39 y cant, sydd yn dal ymhell o dan yr hanner; mae chwe chyngor dan 20 y cant, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful—rhywbeth y byddaf yn gweithio gyda'r cyngor i fynd i'r afael ag ef yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch. Y ffigurau a gyflwynwyd gennych ynghylch canrannau o fenywod ar gynghorau lleol: mae’n broblem fawr. Rwyf eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach ac efallai gael eich cymorth, oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn llywodraeth leol yw bod pobl yn cael eu trin mor wael— cynghorwyr benywaidd yn cael eu dilyn o gwmpas, gweiddi arnynt, eu cam-drin—ac, oni bai eich bod yn ymateb yn dda yn y talwrn, yna nid ydych yn berson delfrydol ar gyfer llywodraeth leol fel ag y mae. Felly, byddwn i'n apelio arnoch i siarad efallai â'ch grŵp, a gadewch i ni gychwyn rhywbeth o ran asesu yn union sut mae cynghorwyr benywaidd yn teimlo yng Nghymru, oherwydd mae’r system ar y funud yn gyfan gwbl—yn gyfan gwbl—yn eithrio menywod.

Diolch. Rwy'n credu bod fy nghyfraniad yn fwy i wneud â sut yr ydym yn cael menywod i ymgysylltu yn y lle cyntaf. Ond rwy’n derbyn eich pwynt bod angen annog cymaint o fenywod â phosibl i ddod ymlaen a dod i arfer â sgarmesoedd cyfraniadau awdurdodau lleol ac ati. Ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gan bleidiau gwleidyddol ran i'w chwarae yn hyn i gyd. Rydym eisoes wedi gweld camau sylweddol tuag at gyflawni a chadw cydbwysedd rhwng y rhywiau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond rwy'n ddigon realistig i gydnabod oni bai am y polisi rhestr fer i fenywod yn unig a weithredir gan y Blaid Lafur yng Nghymru, efallai na fyddwn i yma heddiw. Fodd bynnag, mae'r ymagwedd gadarnhaol honno gan Lafur at ddewis menywod drwy restrau byrion i fenywod yn unig a gefeillio etholaethau ar gyfer Cynulliadau wedi golygu ein bod yn awr yn cynrychioli mwy na 50 y cant o'n grŵp yma yn y Cynulliad, ac felly yn adlewyrchu cydbwysedd rhwng y rhywiau yn yr etholaeth yn ei chyfanrwydd.

Ond mae gennym gryn ffordd i fynd tuag at sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein cynghorau lleol, a hyd yn oed ymhellach i fynd i sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, trawsrywiol a phobl anabl yn ein cymdeithas. Felly, rwy’n croesawu'n arbennig fenter Llywodraeth Cymru a nodir yn yr adroddiad, megis y rhaglen fentora llywodraeth leol, yr ymgyrch gyhoeddusrwydd Amrywiaeth Mewn Democratiaeth, a’r cynllun cyflogwyr Amrywiaeth Mewn Democratiaeth a’r gronfa Drws i Ddemocratiaeth. Yn sicr mae heriau gwirioneddol i'w bodloni, ond credaf fod y mentrau hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu sefyllfa lle gellir gweld ein cynghorau lleol yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Gan droi at y gwelliannau yn gyntaf, os caf, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei dull tri cham o werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fydd yn cynnwys asesiadau o gymhwysedd unigolion sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae'r dull a ddefnyddir yn darparu gwybodaeth ynghylch a yw'r Ddeddf yn cyflawni'r nodau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu pennu, sy’n gosod yr unigolyn yn y canol ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyd-lunio cynlluniau gofal gydag unigolion i bennu a chyflawni canlyniadau gofal a chymorth penodol.

Lywydd, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 2, ond rwy’n cydnabod teimlad y Ceidwadwyr yn hyn o beth. Mae'r dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod y fframwaith ar gyfer adrodd ar ‘Y Gymru a Garem’. Byddai cyflwyno set newydd o ddangosyddion ar gyfer y cynllun cydraddoldeb strategol yn debygol iawn o ddyblygu’r gwaith ac fe fyddai'n achos o ddyblygu a dryswch gyda thargedau adrannol penodol a dangosyddion ar gyfer y gwaith sy'n sail i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb. Felly, er ein bod yn cydnabod hynny, nid ydym yn credu bod hynny'n angenrheidiol, ac rydym yn credu yr ymdriniwyd â hyn eisoes. Mae cydraddoldeb yn cael ei gynnwys yn ein deddfwriaeth sefydlu ac mae'n dylanwadu ar bopeth a wnawn, Lywydd. Mae ein camau gweithredu yn parhau i gael eu hasesu o ran effaith o ran cydraddoldeb, ac mae ein polisïau a’n deddfwriaeth yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion pobl, gydag ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi ar gyfle cyfartal.

Os caf i droi at y pwyntiau a godwyd gan lawer o Aelodau a'r cyfraniadau yn y ddadl heddiw, ac, yn gyntaf oll, ar fater Mark Isherwood. Agorodd Mark Isherwood y ddadl a gorffennodd drwy ddweud bod angen i eiriau mwys gael eu newid i fod yn gamau gweithredu. Wel, rwy’n cytuno â'r Aelod, ond mae’n rhaid iddo hefyd gydnabod canlyniadau anuniongyrchol camau gweithredu a osodir gan eraill arnom ni yma yng Nghymru. Cyfeiriaf yr Aelod at Lywodraeth y DU o ran sancsiynau budd-daliadau sy'n cael eu gosod ar bobl ar draws y DU, ac, os nad yw'r Aelod yn ymwybodol o hynny, byddwn i hefyd yn gofyn i'r Aelod efallai gael golwg ar y ffilm 'I, Daniel Blake', a fydd yn fyw iawn o ran sut y gall yr Aelod hwnnw wedyn gael safbwynt o’r newydd.

Sian, diolch i chi am eich cyfraniad. Cynnig diddorol ynghylch strategaeth ddaearyddol a sut y gall hynny weithredu, ac rwy'n cydymdeimlo â'r dull, ond y ffeithiau syml yw bod dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn y De, a miliwn yn byw yng ngweddill Cymru. Byddai'n rhaid i ni edrych yn ofalus iawn am ddosbarthiad ar sail angen, ond byddaf yn ystyried eich pwynt o ddifrif ac yn gofyn i fy nhîm gael golwg pellach ar hyn. Bydd y cynlluniau lles yn allweddol yn y ffordd yr ydym yn symud ymlaen i gydraddoldeb yn y dyfodol.

Soniodd Gareth Bennett am ei brofiad gyda rhai pobl yn ddiweddar. Rwy'n credu fy mod yn rhannu ei bwynt, mewn gwirionedd—nid ydym yn brin o ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb yma yng Nghymru nac yn y DU. Ond rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn dehongli ac yn cyflwyno hynny. Rwy’n meddwl y gallwn gael yr holl ddeddfwriaeth yn y byd, ond os nad yw'n gweithio wrth y drws ffrynt, yna dyna'r darn y mae angen i ni ganolbwyntio arno—gwneud yn siŵr bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn gweithredu ar yr hyn sydd yn y ddeddfwriaeth.

Roedd cyfraniad Julie Morgan, unwaith eto, yn ymwneud â Sipsiwn / Teithwyr—hyrwyddwr yr achos hwn—ac rwy'n ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus ynghylch cydraddoldeb. Mae'r mater o arian wedi'i glustnodi ac elfennau penodol o hynny, boed hynny'n Sipsiwn / Teithwyr neu’n wisg ysgol, yn fater o ddadlau mewn llywodraeth leol, ac mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd. Ond gofynnaf i fy nghydweithiwr sy’n gyfrifol am lywodraeth leol a chyllid gael sgwrs gydag ef am faterion penodol sy'n ymwneud â theuluoedd Sipsiwn / Teithwyr a sut y gallent fod dan anfantais os yw cyllid, fel y cododd yr Aelod gyda mi, yn cael canlyniadau anfwriadol ar y gallu i gyflawni ar gyfer y grŵp hwn sy’n agored iawn i niwed.

Roedd cyfraniad Hannah Blythyn yn ymwneud â’r LGBT, ac, unwaith eto, yn hyrwyddo hynny. Diolch am ei chyfraniad. Rwy’n gwybod ei bod yn parhau i fod yn agored iawn am y ffaith bod pobl dan anfantais oherwydd y broses gyfan, ac mae hi a'i chydweithiwr, mewn gwirionedd, sy'n eistedd nesaf ati, yn gymdeithion da iawn i’w cael yn y maes hwn, sy'n gyrru prosiect yn ei flaen.

Janet—cydraddoldeb ffoaduriaid. Cyfeiriaf yr Aelod at y pwynt fy mod yn cofio rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor am y system ddwy haen y mae’r Aelod yn cyfeirio ati. Nid wyf yn cydnabod bod yna system ddwy haen, ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod yw bod gan Lywodraeth y DU lawer o haenau o becynnau ffoaduriaid / lloches, ac rwyf wedi gwneud sylwadau i Weinidogion y DU i ddweud bod angen i ni symleiddio hynny fel bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal ar ddechrau'r broses honno. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn gallu fy helpu gyda’r cynnig hwnnw.

Mae Joyce yn llygad ei le, ac mae'r mater o amgylch troseddau casineb yn un sydd wedi fy mhryderu i am nifer o flynyddoedd. Rwy'n meddwl bod y ffaith fod hyn yn cael ei ystyried yn drosedd ar y sail o fod yn feirniadaeth o liw croen rhywun neu rywioldeb rhywun, ond eto i gyd nid yw'n weithred sy’n ymwneud â rhywiaeth bob dydd, boed hynny yn cael ei gynhyrchu gan fenywod neu ddynion. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar hynny yn benodol iawn, oherwydd rwy’n credu eu bod yn droseddau nad ydynt yn cael eu hadrodd yn aml ond sy'n digwydd yn ddyddiol, ac mae'n dod yn gyffredin. Nid yw’n dderbyniol.

Dawn, diolch i chi am eich cyfraniad o ran cyllideb arallgyfeirio llywodraeth leol. Mae’n rhaid mai’r cwestiwn i ni fydd sut y gallwn gael democratiaeth i adlewyrchu gwneuthuriad ein cymunedau, ac rwy'n gwybod bod rhai darnau gwych o waith wedi digwydd. Talaf deyrnged i Heddlu De Cymru gan eu bod yn symud tuag at y grwpiau lleiafrifoedd ethnig i geisio eu cyflwyno yn ôl i blismona, oherwydd mae hynny’n adlewyrchu’n well y cymunedau y maent yn eu cynrychioli ac mae'n rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho.

Rwy'n codi'r pwyntiau terfynol gan y Cynghorydd McEvoy yn ei gyfraniad. Roedd rhai o'r rheini yn anghywir. Mae'n peri pryder i mi ei fod wedi cyfeirio at y strategaeth trais yn erbyn menywod, a gwnaeth bwynt penodol iawn am fy ymrwymiad i i'r ffordd nad wyf wedi newid unrhyw ddeddfwriaeth, ac nad wyf wedi cael effaith ar fater trais yn erbyn menywod. Rwy’n anghytuno, ond dyna farn yr Aelod. Gallaf ddweud y bydd dwy fenyw yn dianc rhag trais yn y cartref yr wythnos hon, oherwydd byddant wedi marw. Y ffaith yw bod dwy fenyw yr wythnos yn marw ledled Cymru a Lloegr o drais domestig. Ni fyddaf yn rhoi'r gorau iddi—ac rwy’n gwybod na fydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn rhoi'r gorau iddi chwaith—nes ein bod wedi mynd i'r afael â’r union faterion hynny sydd gennym o ran cydraddoldeb mewn cysylltiad â hynny. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch'.] Mae'r Aelod yn anghywir, hefyd, i awgrymu nad oes unrhyw brosiectau ar gyfer dynion, ac yn enwedig yng Nghaerdydd. Mae gennym y prosiect Dyn, y dylai'r Aelod fod yn ymwybodol ohono. Rwy’n dal yn ymroddedig i gefnogi holl ddioddefwyr cam-drin domestig, waeth beth yw eu rhyw neu eu rhywioldeb—

A wnewch chi ildio, Weinidog? Rydych yn anghywir.

[Yn parhau.] —fel y nodir yn Neddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Nid yw'r Gweinidog yn ildio. Ewch yn eich blaen, Weinidog.

Dylai’r Aelod, o bawb yn y Siambr hon, hefyd fyfyrio ar ei gyfraniad heddiw. Roedd yn iawn pan ddywedodd mai cam-drin yw cam-drin. Wel, dylai'r Aelod wybod yn dda iawn am hynny yn nhermau ei gyfraniad yn y Siambr hon. Byddwn yn cofio bod llawer o bobl yn y Siambr hon yn adnabod y gwir Neil McEvoy, a byddwn yn awgrymu ein bod i gyd yn gwneud yn siŵr, lle mae materion trais yn y cartref yn unrhyw un o'r meysydd yr ydym yn eu hwynebu, ei bod yn briodol ein bod yn herio’r egwyddor honno.

Lywydd, mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn heddiw. Rydym yn parhau i weithio ar ein problem o ran cydraddoldeb, ac mae llawer o Aelodau wedi cyfeirio at y prosesau pwysig iawn sydd gennym ar waith yng Nghymru. Ond mae'n her nid yn unig i’r Llywodraeth, ond hefyd i’n partneriaid yn y trydydd sector, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i herio hyn. Rwy’n ddiolchgar am y cyfraniad a wnaed gan lawer heddiw a byddaf yn parhau i weithio gyda chi er mwyn parhau â'n helfen gydraddoldeb.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Os felly, fe awn i’r cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 8. Cyfnod Pleidleisio

Rydw i’n symud i’r cyfnod pleidleisio, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y ddadl rydym ni newydd ei chynnal, ac felly rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6217.

Rydw i’n galw felly am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6217 Jane Hutt fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a

2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6217 fel y diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.