Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a’r cwestiwn cyntaf, Hefin David.

Masnachfraint Rheilffordd Cymru a’r Gororau

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau? OAQ(5)0069(EI)

Member
Ken Skates 13:30:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Bydd masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau yn dod i ben ym mis Hydref 2018 ac rydym wedi dechrau ar y broses o gaffael gweithredwr a phartner datblygu, a fydd hefyd yn gweithredu gwasanaethau ac yn datblygu metro de Cymru.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, a nodi, gyda diolch, y datganiad a wnaed y bore yma ar gerbydau. Yn y datganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â phrif reilffyrdd y Cymoedd, bydd gweithrediadau teithwyr—yn cynnwys o fy etholaeth—sy’n defnyddio tyniant diesel yn unig yn cael eu diddymu’n raddol, a bydd trydaneiddio confensiynol, systemau storio ynni a systemau hybrid yn cael eu hystyried. Rwyf wedi cyfarfod â Trenau Arriva Cymru, ac maent wedi dweud, yn y tymor byr, fodd bynnag, na fydd hynny’n bosibl—mae prinder trenau a phrinder cerbydau, felly mae pobl yn sefyll. Nawr, o ystyried yr adroddiad damniol a oedd yn rhestru methiannau Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrydaneiddio’r rheilffordd, nid yw hwnnw’n caniatáu i drenau diesel gael eu trosglwyddo i reilffyrdd y Cymoedd dros dro. Hoffwn wybod a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet gynllun ar gyfer hynny, ac a fyddai’n gallu ymhelaethu hefyd, efallai, a dweud a fydd masnachfraint Cymru a’r Gororau yn cynnwys trenau newydd yn rhan o’r fasnachfraint?

Wel, mae yna nifer o bwyntiau pwysig y mae’r Aelod wedi’u codi, ac wrth gwrs, gellid osgoi rhai o’r problemau sydd wedi cael eu hamlygu’n ddiweddar pe gallem gael cyfrifoldeb, pwerau, a setliad teg wedi’i ddatganoli i Gymru, er mwyn i ni allu sicrhau bod anghenion teithwyr yn cael eu diwallu’n llwyr. Nawr, cyfrifoldeb Trenau Arriva Cymru yw rheoli capasiti telerau’r fasnachfraint gyfredol yn briodol, ond rydym hefyd wedi darparu cerbydau ychwanegol i Trenau Arriva Cymru i gynorthwyo gyda’r gorlenwi sydd ar nifer o reilffyrdd, gan gynnwys y rhai y mae’r Aelod wedi’u nodi. Er mai nifer gyfyngedig iawn o gerbydau diesel sydd ar gael ar hyn o bryd, rydym wrthi’n trafod gyda’r diwydiant rheilffyrdd i geisio dod o hyd i atebion a allai ddarparu capasiti ychwanegol yn y tymor byr.

Nawr, mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau a’r gwasanaethau ym masnachfraint Cymru a’r Gororau, yn cynnwys rheilffyrdd y Cymoedd, yn ddibynnol ar gymorth o £180 miliwn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, o ran cymorthdaliadau’r fasnachfraint a chyllid ar gyfer gwasanaethau a cherbydau ychwanegol. Mae Trenau Arriva Cymru yn prydlesu’r mwyafrif helaeth o gerbydau a ddefnyddir yng ngwasanaethau Cymru a’r Gororau gan ddau gwmni preifat sy’n prydlesu cerbydau. Ac rwy’n deall bod pedwar o’r trenau Pacer, a ddefnyddir yn bennaf ar reilffyrdd y Cymoedd, yn eiddo i awdurdodau lleol yn ne Cymru.

Nawr, fel y bydd yr Aelod yn gwybod o’r datganiad a gyhoeddais heddiw, gyda’r ddeialog gystadleuol newydd rhwng y pedwar cynigydd ar gyfer rownd nesaf y fasnachfraint, bydd meini prawf newydd yn cael eu rhoi ar waith i alluogi twf o ran nifer y teithwyr sydd i’w cludo drwy gynyddu nifer y cerbydau sydd ar gael, nid yn unig o ran ansawdd, ond hefyd gwelliannau helaeth o ran ansawdd y cerbydau.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, mai uchelgais datganedig Llywodraeth Cymru yw darparu model rheilffordd dielw newydd, ond fel rydych wedi amlinellu, ni fydd y cynigwyr presennol i fod yn weithredwr masnachfraint Cymru a’r Gororau a’r partner datblygu yn gwmnïau dielw eu hunain. Felly, yn amlwg, mae yna botensial am rywfaint o gamddealltwriaeth. Nawr, rwyf am weld model priodol, sy’n ailfuddsoddi elw yn y gwasanaethau a’r seilwaith, a model gwirioneddol ddielw, ac mae gan eraill, megis Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, uchelgeisiau tebyg. A wnewch chi gadarnhau heddiw eich bod yn rhannu’r egwyddor gyffredinol honno, ac a wnewch chi roi manylion am yr hyn rydych yn ei wneud i symud tuag at y nod hwnnw?

Gwnaf wrth gwrs. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod cyfyngiadau ar waith, drwy ddeddfwriaeth o’r Senedd, sy’n atal gweithredwyr dielw yn unig rhag cynnig am y fasnachfraint. Ond rydym wedi cynllunio’r system gaffael fel nad yw’n anfantais i unrhyw gynigwyr dielw os ydynt yn dymuno cynnig—nid oes yr un wedi cynnig, ond yr hyn rydym wedi’i wneud yw llunio ateb sy’n cyd-fynd â’n pwerau cyfyngedig. Rydym yn chwilio am newidiadau i’r pwerau hynny, er mwyn galluogi, o bosibl, Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, a gweithredwyr dielw eraill yn y dyfodol, i weithredu’r gwasanaethau a allai fod yn rhan o fasnachfraint yn y dyfodol. Ond am y tro, rydym wedi cynllunio model—rydym wedi bod mor arloesol ag y gallwn—i sicrhau drwy gonsesiynau yn y rownd nesaf y bydd modd gweithredu cymaint o’r fasnachfraint ag sy’n bosibl ar sail ddielw. Bydd proses deialog gystadleuol hefyd yn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth i deithwyr, yn hytrach na chymhelliad elw, ar frig y drafodaeth, a buaswn yn rhannu’r dyheadau y mae’r Aelod wedi’u hamlinellu heddiw—i’r holl arian gael ei gadw yng Nghymru a’i ailfuddsoddi yn y rhwydwaith. Dyna y mae teithwyr yn ei ddisgwyl gan eu gwasanaethau cyhoeddus.

Yr Economi Werdd

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi werdd yng Nghymru? OAQ(5)0070(EI)

Gwnaf, mae’r economi werdd yn sail i ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar gyfer yr amgylchedd. Ein nod yw sefydlu Cymru fel economi werdd carbon isel er mwyn cefnogi prosiectau sy’n helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd.

Diolch. Mae gwyrddu ein heconomi yn rhan bwysig o’n hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru a bûm mewn cyfarfod cyhoeddus y mis diwethaf a noddwyd gan Atal Anhrefn Hinsawdd. Gwneuthum addewid i godi llais ar newid yn yr hinsawdd a defnyddio fy rôl fel Aelod Cynulliad i hybu gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Nodaf gyda diddordeb y gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan wahanol Aelodau Cynulliad UKIP ar y mater hwn—ar un llaw mae gennym Caroline Jones yn ymuno â mi i addo i godi llais dros weithredu ar newid yn yr hinsawdd a gwneud yn siŵr ei fod yn cael sylw, a da iawn. Ar y llaw arall, fodd bynnag, clywsom David Rowlands yr wythnos diwethaf a’r fawlgan hynod i wadu newid yn yr hinsawdd a glywsom yn y Siambr hon. A fuasech yn cytuno na fydd dull UKIP yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, gan na ellir bod o ddifrif ynghylch yr atebion tymor byr hynny yn y mater pwysig hwn?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Er y bydd pleidiau eraill yn anghyson o bosibl yn eu hagwedd tuag at newid yn yr hinsawdd, byddwn yn parhau i fod yn gwbl bendant yn ein penderfyniad i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn wir, i dyfu economi werdd, sydd o werth enfawr i gymunedau ledled Cymru. O ran ynni gwyrdd, gwyddom fod llawer o swyddi yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru—yn enwedig yn y gogledd-orllewin a’r gorllewin—yn dibynnu’n helaeth ar y sector hwnnw, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i dyfu’r sector blaenoriaeth economaidd hwnnw.

Weinidog, rwyf wedi gofyn i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion olynol yn y sefydliad hwn i ddechrau gwireddu rhywfaint o’r rhethreg y maent wedi siarad amdani, yn enwedig ar ficrogynhyrchu yn y sector ynni gwyrdd, ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen grid sy’n gallu caniatáu i bobl gysylltu ag ef. Mae yna lawer iawn o bobl a fyddai’n dymuno cynhyrchu—neu chwarae rhan yn cynhyrchu—prosiectau ynni gwyrdd, yn enwedig ffermwyr a pherchnogion tir, ond ni allant gael cysylltiad grid. Ac oni bai bod Western Power Distribution a’r darparwyr grid eraill yn darparu’r cyfleusterau hyn, yna ni fyddwch yn gallu cyflawni yn y rhan hon o’r economi. Felly, pa drafodaethau sydd ar y gweill gennych ynglŷn â datblygu strategaeth gydlynol i uwchraddio’r grid yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau, yn y pen draw, y gall prosiectau ynni gwyrdd bach a chanolig eu maint, os ydynt yn dymuno, gysylltu â’r grid a chwarae eu rhan yn yr economi werdd?

Wel, wrth gwrs, cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yw’r rhain. Rydym yn gweithio’n agos ar nodi rhwystrau i dwf gwyrdd, gan gynnwys twf gwyrdd yn y sector ynni. Mae’n bosibl mai’r cyfle mwyaf sydd gennym—ac mae’r Aelod yn tynnu sylw at botensial y sector hwn—mae’n bosibl y gallai’r cyfle mwyaf ddod gyda datganiad yr hydref, os cawn newyddion da yn ddiweddarach y mis hwn mewn perthynas â’r morlyn llanw ym mae Abertawe.

Ysgrifennydd Cabinet, beth am gofleidio’r cyfleoedd gwych sydd yn dod wrth ymateb i her newid hinsawdd—y cyfleoedd positif economaidd? Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i hybu celloedd tanwydd hydrogen yn yr economi ar hyn o bryd? Rwy’n deall bod celloedd tanwydd wedi’u dyfeisio yn wreiddiol yng Nghymru, fel mae’n digwydd bod, ond erbyn hyn mae celloedd tanwydd hydrogen yn ffordd yn arbennig ar gyfer pweru cerbydau, hyd yn oed ar gyfer trenau a all redeg ar y metro newydd sy’n cael ei grybwyll ar gyfer de Cymru. Mae’r dechnoleg yno, mae’r gallu yno, felly beth sydd ei angen nawr yw’r arian a’r gefnogaeth i bontio rhwng y dechnoleg i rywbeth ymarferol pob dydd. Dyma ffordd o droi ynni adnewyddol yn rhywbeth a all gael ei ddefnyddio dros Gymru gyfan.

Wel, mae’r Aelod yn hollol gywir, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi cymorth o ran cyngor ac arweiniad, ac adnoddau ariannol hefyd i Riversimple—cwmni y bydd yr Aelod yn gwybod amdano o bosibl—sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi mewn perthynas â pheiriannau cell hydrogen. Mae hwn yn faes o ddiddordeb cynyddol i arloeswyr, a phrifysgolion yn arbennig, ar draws y byd. Mae’r Aelod hefyd yn gywir i ddweud y dylem groesawu’r cyfleoedd economaidd y mae’r twf yn yr economi werdd yn eu cynnig, a chanfu astudiaeth gan Sefydliad Ellen MacArthur a Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau y gallai sicrhau economi fwy gwyrdd yng Nghymru ddarparu manteision economaidd o fwy na £2 biliwn y flwyddyn. Byddai’r cyfraniad aruthrol hwn i’r economi hefyd yn cynhyrchu swyddi â gwerth ychwanegol gros uwch. Byddai hefyd yn hybu ymchwil a datblygu yn economi Cymru, ac mae taer angen hynny ar hyn o bryd. Ac o ran astudiaeth WRAP a’r Gynghrair Werdd, rhagwelir y gellid creu hyd at 30,000 o swyddi newydd yng Nghymru drwy ddatblygu, unwaith eto, economi werdd fwy cylchol. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi, drwy ein cronfeydd gwyrdd, ac yn parhau i ddarparu cyngor ac arweiniad er mwyn i fusnesau yn y sector gwyrdd allu tyfu a ffynnu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau y llefarwyr yn awr ac, yn gynta’r wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Lywydd. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod wedi gweld eto dros nos, onid ydym, y modd y mae canlyniadau gwleidyddol yn llifo o agenda economaidd sydd wedi methu â chyflawni newid ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, a fyddai’n cytuno mai yn awr yw’r amser am syniadau beiddgar mawr sydd â’r potensial i sicrhau newid trawsnewidiol i’n gwlad a’n pobl? Yn yr ysbryd hwn, nodaf fod Manceinion Fwyaf wedi cyhoeddi ei bod yn cynnig am y World Expo, y gemau Olympaidd ar gyfer y byd busnes, os hoffech, nad yw wedi bod ar dir mawr Prydain ers y cyntaf, Arddangosfa Fawr 1851. Maent yn cystadlu, yn achos Expo 2025, yn erbyn Paris ac Osaka, ac nid yw’n sicr o gwbl y byddant yn llwyddo. Felly, a gawn ni edrych ar y posibilrwydd o gynnig enw Cymru am y slot nesaf sydd ar gael, sef 2027-28? Pa syniad a allai fod yn fwy cyffrous a grymus na’r Expo yn dychwelyd adref i fan geni’r chwyldro diwydiannol yma yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le—mae digwyddiadau dros nos yn sicr wedi arwain at yr angen i ni roi mwy o sylw i sicrhau bod twf economaidd yn berthnasol i’r holl bobl ym mhob cymuned? Ac mae hyn yn dilyn ystyriaethau, y gwn fod yr Aelod wedi’u cael, ers y refferendwm hefyd. Ac yn rhan o ddatblygu’r strategaeth economaidd newydd, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn ailganolbwyntio ein sylw ar ardaloedd o ddiweithdra uchel a lle y ceir cyfleoedd, nid yn unig i gael mynediad at swyddi a chyfoeth, ond hefyd i gael profiad o gyfleoedd yn creu mwy o gyfoeth o fewn eu ffiniau eu hunain. Bydd y strategaeth economaidd honno’n cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd i Brif Weinidog Cymru, ond rwy’n credu bod yr Aelod hefyd yn gywir yn dweud bod angen i ni gynnig syniadau mawr, beiddgar, megis canolfan confensiwn Casnewydd, sy’n gyfleuster—y tro cyntaf y byddwn yn profi cyfleuster o’i fath yng Nghymru—a allai gynnig cyfleoedd ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr megis yr Expo, megis Marchnad Deithio’r Byd, a fynychais yn Llundain yr wythnos hon, megis gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Ac nid digwyddiadau diwylliannol yn unig, ond digwyddiadau busnes a digwyddiadau chwaraeon yn ogystal.

Ar thema syniadau mawr, lansiodd Sefydliad Bevan adroddiad pwerus ddoe a gyflwynai’r achos dros ddynodi ardal gyfan Cymoedd de Cymru yn ardal fenter. A oes cyfle i fynd gam ymhellach yma hyd yn oed a gofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i Gymru gyfan gael ei gwneud yn ardal fenter, ac i ni gael yr un pwerau dros y dreth gorfforaeth a gynigir i Ogledd Iwerddon, er mwyn i ni gael pwerau dros ryddhad treth mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, a’r pwerau i gael toriadau yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn enwedig mewn ardaloedd fel Cymoedd de Cymru, lle y ceir heriau economaidd penodol, gan roi’r math o fantais gystadleuol sydd ei hangen ar Gymru os ydym am gau’r bwlch economaidd hanesyddol hwn rydym wedi’i wynebu ers cenedlaethau?

Ie. Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree gyda diddordeb mawr, ac er fy mod yn credu bod y syniad o greu ardal fenter yn y Cymoedd yn un teilwng, nid wyf yn credu y byddai’n cynnig ateb i bob dim i gymunedau’r Cymoedd. Ac rwy’n credu bod angen gwneud mwy nag awgrym o’r fath er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau strwythurol sy’n parhau i effeithio ar gymunedau, ac nid cymunedau’r Cymoedd yn unig, ond sawl rhan o Gymru sydd wedi gweld dirywiad yn dilyn y swyddi sylweddol a gollwyd yn y 1980au a oedd yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu, â’r pyllau, â’r diwydiant dur er enghraifft. Mae gennym stori dda i’w hadrodd hyd yn hyn, o ran ein perfformiad economaidd. Rydym wedi cefnogi ac wedi creu 140,000 o swyddi yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod yn osgoi’r math o falltod ar gymunedau a brofwyd mewn hen ardaloedd diwydiannol eraill yn y DU o ran diweithdra ymysg pobl ifanc. Yma rydym wedi creu 15,000 o swyddi ar gyfer pobl ifanc di-waith. Wrth i ni symud ymlaen, rwyf am ganolbwyntio mwy ar ansawdd y swyddi rydym yn eu creu a sicrhau bod gennym strategaeth economaidd fwy sensitif hefyd er mwyn gallu adnabod rhai o’r problemau sy’n bodoli—rhai o’r problemau mwy mympwyol a’r problemau unigryw sy’n bodoli mewn llawer o gymunedau nad ydynt wedi elwa o’r twf economaidd i’r un graddau ag y gwnaethom fel cenedl. Mae hon yn her fawr a dyna pam rwy’n ymgynghori mor eang ag y bo modd ar yr hyn y dylai’r strategaeth economaidd newydd ei gynnwys. Byddwn yn croesawu barn yr Aelodau ar y strategaeth economaidd a byddwn hefyd yn croesawu mewnbwn gan yr holl bleidiau a’r rhanddeiliaid.

Fel rwy’n dweud, bydd hwnnw’n cael ei gynhyrchu yn y flwyddyn newydd ac yn cael ei gyflwyno i’r Prif Weinidog. Ond bydd yn adeiladu ar lwyddiannau sy’n destun balchder i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond ei nod fydd mynd i’r afael, fel y dywedais, â rhai o’r problemau mwy strwythurol. Yn y cyfamser, mae gwaith grŵp gorchwyl y Cymoedd yn parhau. Gwn fod y syniad o ddynodi Cymru gyfan fel ardal fenter wedi cael ei gynnig, yn gyntaf, rwy’n credu, gan Matthew Parris. Rwy’n credu bod angen i ni ystyried yr holl ddulliau sydd ar gael i ni a’r holl gyfleoedd y gallai Bil Cymru, ac unrhyw bwerau datganoledig yn y dyfodol, eu rhoi i ni.

Yn olaf, a gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych, nid yn unig ar y bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU—gweddill Ewrop yn wir—ond hefyd y bwlch economaidd o fewn Cymru, yn sicr, yn enwedig ar adeg pan fo llawer o bobl yn y Cymoedd ac yng nghefn gwlad Cymru yn teimlo yr un mor bell o ganolfannau grym a chyfoeth ag y mae pobl y gorllewin canol neu ardaloedd y rhwd yn America yn ei deimlo o Washington DC? Felly, a wnewch chi ystyried yr achos dros greu corfforaethau datblygu rhanbarthol newydd pwerus, gan ganolbwyntio’n arbennig ar anghenion yr ardaloedd hynny yng Nghymru, yn y Cymoedd a chefn gwlad Cymru? Fe lwyddodd yma ym mae Caerdydd, oni wnaeth, mewn microcosm? Oni ddylem gynnig yr un trosoledd i’r ardaloedd hynny yng Nghymru sydd â chymaint o’i angen? A fuasai hefyd yn ystyried yr achos dros greu prifddinasoedd rhanbarthol yng Nghymru, a allai fod yn ganolfannau gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaethau busnes, ac yn wir, hyd yn oed y syniad a welwch mewn nifer o daleithiau’r Gymanwlad, y syniad o is-brifddinas—mae’n bosibl y bydd angen i ni edrych rhywfaint ar y brandio—[Chwerthin.]—lle y gallai’r Senedd hon gyfarfod am rywfaint o’i hamser fel symbol o’n hymrwymiad i ledaenu cyfoeth a grym i bob rhan o Gymru?

Fel rwy’n dweud, mae’n ymwneud â sicrhau bod perthnasedd i’r hyn rydym yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Fel y soniais, ar sawl achlysur bellach, am yr ardal rwy’n ei chynrychioli yng Nghymru, rwy’n credu weithiau fod y gogledd-ddwyrain yn teimlo’n bell oddi wrth y sefydliad hwn ac wedi’i heithrio rywfaint o’r broses ddatganoli. Buaswn yn cytuno hefyd ynglŷn ag economïau rhanbarthol a phwysigrwydd ardaloedd trefol yn rhoi hunaniaeth iddynt a denu buddsoddiad a chreu cyfoeth economaidd hefyd. Mewn unrhyw economi ranbarthol, mae’n bwysig bod yna ganolfannau, trefi, y gellir eu hadnabod fel prifddinasoedd y rhanbarthau hynny. Yn achos Cymru, rydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw gyda Chaerdydd, gydag Abertawe a gyda Chasnewydd. Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig ein bod yn nodi awdurdodau lleol a threfi mewn mannau eraill yng Nghymru sy’n fodlon ac sy’n benderfynol o wynebu’r her o fod yn brifddinasoedd rhanbarthol. Rwy’n credu bod hynny’n gwbl greiddiol.

Rwyf wedi siarad ar nifer o achlysuron hefyd ynglŷn â’r ffaith y byddwn, rwy’n gobeithio, drwy’r strategaeth economaidd newydd, yn gallu edrych ar ddefnyddio mwy o ymyriadau sy’n seiliedig ar le. Yn y gwaith rwy’n ei gyflawni, dan gadeiryddiaeth Alun Davies yng ngrŵp gorchwyl y Cymoedd, rydym wedi edrych â meddwl agored ar yr ymyriadau sydd eu hangen yn y Cymoedd. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, rwy’n credu na allwn fforddio edrych ar strategaeth Cymru gyfan heb edrych hefyd ar natur y rhanbarthau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad ydym yn ymdrin â phob rhanbarth drwy weithredu dull un model sy’n addas i bawb. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn bwysig, yng nghyd-destun y gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd ar y strategaeth economaidd, ein bod hefyd yn edrych ar yr economïau rhanbarthol a’r hyn sydd ei angen ar bob un o’r rhanbarthau, oherwydd mae’n ddigon posibl y bydd yr hyn sydd ei angen ar Ogledd Cymru yn wahanol i’r hyn sydd ei angen ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru ac ar ddinas-ranbarthau de Cymru.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu’r manteision a’r costau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad i leoli pencadlys banc datblygu Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn amlinellu pa drafodaethau rydych wedi’u cael ar hyn gyda Cyllid Cymru.

Wel, cynhaliwyd fy nhrafodaethau diweddaraf ddoe. Bydd yr Aelod yn gwybod o fy ymddangosiad yn y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf—ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â’r cwestiynau a’r pwyntiau y mae Adam Price newydd eu codi—fod gennyf bryderon ynglŷn â sicrhau bod gan sefydliadau cenedlaethol megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru bresenoldeb ledled Cymru, ac nad oes unrhyw ran o Gymru yn teimlo eu bod wedi cael ei heithrio. Ac wrth gyflawni ymarfer mapio, gwelwyd bod rhannau o Gymru lle y ceir llai o bresenoldeb, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud y Llywodraeth a’r sefydliad cenedlaethol hwn yr un mor berthnasol i bawb. Ac am y rheswm hwnnw, rwy’n credu ei bod yn gwneud synnwyr ein bod yn datganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo modd. Am yr un rheswm, rwyf wedi dweud, gyda Trafnidiaeth Cymru, mai fy mwriad ar gyfer y corff hwnnw yw y bydd ei bencadlys yn cael ei leoli yn y Cymoedd hefyd.

Mae angen i ni ddysgu o’r canlyniad ddoe yn yr Unol Daleithiau ac o’r refferendwm fod llawer o bobl mewn llawer o gymunedau yn teimlo bod sefydliadau cenedlaethol, llywodraethau cenedlaethol, yn rhy bell o’u cymunedau. Mae’n hanfodol, felly, fod yr hyn a wnawn yn dod yn fwy perthnasol, yn fwy amlwg ac yn fwy hygyrch iddynt.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn clywed unrhyw anghytundeb oddi wrthyf fi. Credaf yn gryf y dylem fod yn symud allan o’r lle hwn i bob rhan o Gymru. Roedd Cyllid Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau y bore yma ei bod yn fwyfwy anodd cadw a recriwtio staff. Nawr, mae pryder y gallai’r sgiliau hynny gael eu colli o ganlyniad i adleoli arfaethedig i ogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o staff Cyllid Cymru nad ydynt yn dymuno symud, felly mae’n amlwg fod problem bosibl o ran cadw staff yn y cyswllt hwn, ac rwy’n meddwl tybed pa asesiad rydych wedi’i wneud.

Os edrychwch ar ogledd-ddwyrain Cymru, fe welwch fod llawer iawn o bobl—cannoedd o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru—yn teithio ar draws y ffin i Loegr bob dydd i weithio mewn canolfannau ariannol mawr. Maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yn Bank of America yng Nghaer, maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yng ngwasanaethau ariannol Marks & Spencer, ac i’r banciau a’r canolfannau ariannol ym Manceinion. Nid wyf yn credu y dylid defnyddio problemau sgiliau fel esgus i atal y gwaith o ddatblygu twf economaidd ledled Cymru. Os gwyddom fod sgiliau ar gael mewn rhannau o Gymru, yna gellir eu defnyddio ar gyfer twf yn yr ardaloedd hynny. Ond o ran Cyllid Cymru a datblygiad banc datblygu Cymru, rwy’n ymwybodol o’r angen i gadw staff, ac am y rheswm hwnnw cefais drafodaethau ddoe gyda Giles Thorley ynglŷn â sicrhau bod presenoldeb banc datblygu Cymru yn cael ei gadw yng Nghaerdydd, ond bod yna gyfleoedd hefyd, ar ffurf pencadlys yng ngogledd Cymru, i wneud y sefydliad yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i bob rhan o’r wlad.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod cwestiwn arall yno mae’n debyg ynglŷn â beth y mae ‘pencadlys’ yn ei olygu. A yw’n golygu symud staff ar raddfa eang i ran arall o Gymru, neu ai teitl yn unig ydyw? Felly, efallai y gallech ateb y pwynt hwnnw. Ond y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16, mae Cyllid Cymru yn cadarnhau bod tâl y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf yn £404,000, o’i gymharu â £216,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae hwnnw’n ffigur uchel iawn, ac ar ôl i ni holi ynglŷn â hynny, roeddent yn ei briodoli i’r costau pensiwn ychwanegol a gyfrannwyd tuag at y cynllun pensiwn. Deallaf fod 30 y cant o staff Cyllid Cymru ar yr un cynllun pensiwn hefyd. Felly, wrth gwrs, os oes staff yn gadael y sefydliad, mae’n bosibl y gwelir cynnydd enfawr yn y costau hynny, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw, a hefyd a ydych wedi rhoi sylw i’r pwynt hwnnw yn yr achos busnes?

Mae’r rhain yn cael eu harchwilio fel rhan o’r opsiynau, ac mae opsiynau ar y bwrdd ar gyfer datblygu’r banc a ble y dylid ei leoli. O ran yr hyn yw ystyr ‘pencadlys’, wel, mae dau opsiwn: un, trosglwyddo staff a swyddogaethau ar raddfa eang o’r brifddinas i’r pencadlys newydd; neu dau, yr ail opsiwn fuasai creu pencadlys, a thyfu’r pencadlys hwnnw dros gyfnod o amser heb golli staff yn y swyddfeydd presennol o reidrwydd. Felly, byddwn yn ystyried y ddau opsiwn, y goblygiadau ariannol, ond hefyd y goblygiadau o ran cadw arbenigedd a sgiliau. Ond mae angen i mi fod yn glir unwaith eto fy mod yn dymuno gweld datganoli ble bynnag a phryd bynnag y bo modd, a byddaf yn edrych am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru, er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n gobeithio, a phob un ohonom yn dod yn fwy perthnasol i fywydau pobl.

Diolch, Lywydd. Rwyf am symud pethau’n ôl yn awr at y lefel ranbarthol y buom yn sôn amdani ychydig yn gynharach. Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o grŵp o’r enw Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd—sy’n ymgyrchu dros gael gorsaf ym Magwyr yng Ngwent. Maent wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd ac wedi llwyddo i gael cyllid gan sawl sefydliad. Rwy’n deall eu bod yn awr yn ceisio am grant gan Lywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfatebol i’r prosiect ar gyfer astudiaeth cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd, swm sydd oddeutu £80,000 rwy’n credu. Maent yn gobeithio cwblhau’r cam hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i ddweud a yw’n barod i ddarparu’r cyllid hwn?

Wel, ni allaf wneud hynny ar yr achlysur hwn, oherwydd ein bod yn dal i asesu rhinweddau’r cais. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud hyd yn hyn yn deilwng iawn. Rwy’n credu bod y gwaith y maent wedi’i wneud wedi bod yn hynod o werthfawr yn hysbysu Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae cymunedau ei angen er mwyn creu amgylchedd mwy cysylltiedig. Ac felly byddwn yn rhoi ystyriaeth gydymdeimladol iawn i’r cais, ond ni allaf ddweud heddiw a fydd yn cael ei gymeradwyo ai peidio.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Os ydych yn dal i feddwl am gyllid, a gaf fi fod mor ddigywilydd a gofyn a fuasai’n ystyried cyllido’r cais ar gyfer cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd yn gyfan gwbl, sydd tua £160,000 yn ôl pob tebyg? Rwy’n crybwyll y posibilrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd gellir nodi bod yr orsaf hon wedi’i dynodi sawl gwaith mewn gwirionedd yng nghynllun metro Dwyrain De Cymru, ac mae ganddo gyfle go iawn i fod yn amlygiad cyntaf y prosiect metro yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Am yr un rheswm ag a roddais eisoes, ni allwn roi unrhyw sicrwydd y buaswn yn gallu ariannu’r £160,000 yn llawn. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn deall y rheswm pam. Ni allaf wneud hynny am nad ydym wedi craffu ar y cais yn ddigon trylwyr eto. Ond o ran gorsafoedd, wel, mae hyblygrwydd wedi’i gynnwys yn y prosiect metro fel y gellir gwneud estyniadau ac fel y gellir addasu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, er enghraifft os bydd seilwaith cymdeithasol newydd yn cael ei ymgorffori yn ardal ranbarthol De-ddwyrain Cymru, yna gellir addasu map y metro yn unol â hynny. Felly, rwy’n cydymdeimlo â’r achos. Byddaf yn edrych ar y cais yn drylwyr, ond nid wyf mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cais heddiw.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond buaswn wedi hoffi gallu mynd â neges ychydig yn fwy cadarnhaol yn ôl at y bobl hyn. A oes unrhyw ffordd y gallwch roi rhyw fath o syniad i mi ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd, ai peidio?

Buaswn yn hapus iawn i gwrdd â’r Aelod a’r grŵp y mae’n sôn amdano, oherwydd credaf eu bod wedi gwneud achos cryf iawn, fel y mae’r Aelod wedi’i wneud, dros gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Buaswn yn hapus i drafod eu dyheadau a’r cais gyda hwy.

Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am y bwriad i ailagor y llinell reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? OAQ(5)0064(EI)

Yn 2015, cyhoeddasom adroddiad cwmpasu cychwynnol ar ailagor y rheilffordd hon. Yn dilyn hynny, rydym wedi ariannu arfarniad pellach o’r anghenion trafnidiaeth rhanbarthol, sy’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Rwy’n falch ein bod wedi cynnwys cyllid datblygu pellach yn y gyllideb ddrafft.

Diolch am yr ateb hwnnw. Gan ymhelaethu ar bwynt a wnaed yn dda gan Adam Price yn gynharach ynglŷn ag angen cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i deimlo’u bod wedi integreiddio’n well ag ardaloedd llewyrchus de-ddwyrain Cymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai ailadeiladu’r rheilffordd hon gyfrannu at hynny? Caewyd y rheilffordd ar adeg pan oedd pesimistiaeth enfawr ynglŷn â dyfodol teithio ar y rheilffyrdd ym Mhrydain yn y 1960au ac ni fuasai nifer fawr o’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â Beeching wedi cael eu gwneud pe bai pobl wedi gallu rhagweld y ffordd y mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Gan ei bod yn cymryd chwe awr i deithio o Aberystwyth i Gaerdydd ar y trên drwy Amwythig, buasai hyn yn torri’r amser teithio yn ei hanner. Ac yn ffodus, mae cynnydd mawr wedi bod yn y galw am deithio ar y rheilffyrdd: yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r defnydd o orsaf Aberystwyth wedi cynyddu 40 y cant yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, er enghraifft. Buasai hyn yn rhoi gobaith gwirioneddol i ni o ailgysylltu rhannau o Gymru sydd efallai’n teimlo eu bod yn llawer rhy bell o’r ardaloedd lle yr ymddengys, ym meddyliau pobl gyffredin, fod gormod o fuddsoddi’n digwydd, gan fynd ar ôl y pwynt a wnaethoch eto ar ddechrau’r trafodion heddiw ynglŷn â sut roedd canlyniadau’r etholiad yn America ddoe a’r penderfyniad i adael yr UE mewn gwirionedd yn deillio i raddau helaeth o deimladau pobl eu bod yn cael eu heithrio a bod angen i ni wneud mwy i gysylltu pobl.

Mae bod wedi cysylltu yn un o anghenion sylfaenol pob unigolyn os ydynt am fyw mewn amgylchedd gyda chyn lleied â phosibl o ofid a phryder, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol, yn y rhaglen lywodraethu, ein bod yn rhoi llawn cymaint o bwyslais ar elfen ‘unedig a chysylltiedig’ strategaeth y Llywodraeth ag a rown ar y tair strategaeth bwysig arall. Credaf y buasai’r prosiect hwn yn gynnig priodol i gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru fwrw golwg arno pan fydd yn weithredol, ac rwy’n bwriadu gofyn i’r comisiwn wneud hynny. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym yn comisiynu astudiaeth ddichonolrwydd, fel rwy’n dweud, i adeiladu ar y dystiolaeth bresennol, a gallaf amlinellu’r hyn y bydd yr astudiaeth honno’n ei gynnwys. Bydd yna asesiad o’r trac. Gwyddom fod mwy na 90 y cant o’r trac heb ei effeithio o hyd; byddwn yn cynnal adolygiad o’r trac. Byddwn yn edrych ar strwythurau a gorsafoedd a thwnnelau. Byddwn yn edrych ar delathrebu a nifer o faterion eraill. Rwy’n credu bod y gost amcangyfrifedig gychwynnol o adfer y rheilffordd oddeutu £750 miliwn ar gyfer y prosiect llawn. Mae’n ddrud. O ran ymarferoldeb, fe ellid ei wneud oherwydd, fel rwy’n dweud, mae’r mwyafrif helaeth o’r trac eisoes wedi cael ei gadw. Ond bydd yn brosiect costus i’w gyflawni, a dyna pam rwy’n credu bod yn rhaid darparu cyngor annibynnol arbenigol i’r Llywodraeth yn ei gylch ar ffurf cyngor arbenigol gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol.

Mae’n dda gen i ddweud wrth y Gweinidog nad yw’n cymryd chwe awr i fynd o Aberystwyth i Gaerdydd. Rwy’n gwneud hyn bob wythnos: mae’n cymryd pedair awr. Ond mae pedair awr yn hen ddigon i fod ar y trên gan fod y rhan fwyaf o’r siwrnai yn mynd drwy Loegr, wrth gwrs. Byddai’n beth braf i fynd o Gaerdydd i Aberystwyth drwy Gymru yn hytrach na drwy Loegr. Ond y prif fendith a ddaw o’r cynllun yma, yn ogystal â chyplysu Aberystwyth a Chaerdydd, yw cyplysu Caerfyrddin ac Aberystwyth—dwy is-brifddinas, chwedl Adam Price, ar gyfer y gorllewin.

Mae’n hynod bwysig ein bod yn gweld twf economaidd yn y gorllewin ar gyfer pobl ifanc, ar gyfer yr iaith Gymraeg, treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth hefyd, a dyna beth mae’r cynllun yma’n ei roi i ni: cyfle i wireddu’r freuddwyd yna o gyplysu’r gorllewin at ei gilydd. Wedyn nid oes angen menter neu barth datblygu: byddai’r rheilffordd yn gwneud hynny drosoch chi. Ond yn ymarferol, mae’n dda gen i glywed bod y cynllun yma’n cael arian oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, ac mae’n dda gen i glywed y syniad bod NICW, y cynllun isadeiledd, yn edrych ar hyn hefyd. Ond yn ymarferol, mae’n rhaid cael Network Rail nawr i edrych ar y cynllun yma o ddifrif. Pan es i i drafod gyda Network Rail rhyw flwyddyn yn ôl, roedden nhw’n glir iawn y bydden nhw’n edrych ar gynllun fel hyn pe bai’r Llywodraeth y tu ôl iddo fe a phe bai’r astudiaeth ddichonoldeb yn ei lle, achos byddai modd rhaglennu’r cynllun wedyn ar gyfer datblygiad cyfalaf yn y pen draw. Nid yw Network Rail yn gwneud yn dda iawn ar gynlluniau cyfalaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mater arall yw hynny. Ond, mae eisiau i hyn fod nawr yn rhan o’u cynlluniau nhw. A fyddwch chi’n cyfarfod â Network Rail yn fuan i drafod hyn?

Byddaf. Yn wir, rwy’n credu bod fy nghyfarfod nesaf gyda Network Rail i ddod yn y chwe wythnos nesaf, felly bydd hwnnw’n fater y byddaf yn ei drafod gyda hwy, ynghyd â’r angen i fuddsoddi mwy mewn clirio coed. Mae diffyg buddsoddiad mewn clirio coed yn arwain at ormod o ddail ar y rheilffyrdd, sy’n arwain at ddiffyg dibynadwyedd yn y rhwydwaith. Felly, byddaf yn trafod nifer o bwyntiau gyda hwy. Rwyf eisoes, ar sawl achlysur, wedi dweud wrthynt fy mod yn credu ei bod yn annerbyniol nad ydym ni yng Nghymru ond wedi elwa o tua 1 y cant o wariant cyffredinol Network Rail ers 2011. Rwy’n credu ei bod yn hen bryd i Network Rail wario eu harian ledled Cymru. Deallaf fod y rheilffordd wedi cael ei chau’n wreiddiol—. Dioddefodd o ganlyniad i doriadau Beeching pan gafodd ei chau yn 1965, ac rwy’n gwybod bod rheilffyrdd eraill wedi cael eu cau yn dilyn hynny, yn 1970 a 1973 rwy’n credu. Rwy’n meddwl bod yr Aelodau o amgylch y Siambr yn gywir i ddweud y buasem mewn sefyllfa well o lawer heddiw i gael Cymru fwy cysylltiedig pe buasai pobl wedi bod yn ddigon craff bryd hynny i ddiogelu gwasanaethau. Serch hynny, mae’n ddyletswydd arnom bellach fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau’n cael eu cysylltu’n dda a bod ffurfiau ar drafnidiaeth hefyd yn cael eu hintegreiddio ble bynnag a phryd bynnag y bo modd. Rwy’n credu bod y broses o gyflwyno rhwydwaith bysiau TrawsCymru wedi profi bod galw anhygoel i bobl deithio lle nad oes rheilffyrdd ar gael ledled y wlad ac o’r gogledd i’r de. Rwy’n falch o ymestyn nifer y gwasanaethau sydd ar gael gan wasanaeth TrawsCymru yn y flwyddyn ariannol newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn llygad eich lle, mae bod yn unedig a chysylltiedig yn gwbl hanfodol, ac rwy’n cefnogi hyn yn fawr. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd fod yn gyfrifol yn ariannol. Rydych eisoes wedi sôn am y £750 miliwn y gallai ei gostio i ailagor y rheilffordd hon. O’r cwestiwn ysgrifenedig gan fy nghyd-Aelod, Andrew Davies, gwyddom fod o leiaf un astudiaeth gwmpasu gwerth £30,000 wedi’i chynnal. Mae yna wasanaeth bws sy’n cael ei noddi ​ gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae pob un o’r symiau hyn yn adio at ei gilydd i wneud swm mawr iawn o arian, felly a allech ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, faint yn fwy o arian sy’n rhaid ei wario cyn ein bod yn profi dichonoldeb bwrw ymlaen â’r prosiect hwn?

Mae’r arian yn cael ei ddyrannu yng nghyllideb y flwyddyn ariannol nesaf—neu yn y gyllideb ddrafft—ac yn dilyn y gwaith hwnnw, buaswn yn disgwyl y bydd modd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru archwilio’r prosiect yn drylwyr, ac yn sgil eu hasesiad o’r prosiect, buasai’r Llywodraeth wedyn yn cael cyfres o argymhellion. Yna, pe bai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru neu’r arbenigwyr yn argymell y dylid bwrw ymlaen â’r prosiect, buasem yn ei ymgorffori yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn y dyfodol. Ond rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â sicrhau bod popeth a wnawn, o ran trafnidiaeth a’r holl wasanaethau eraill a ddarparwn, yn gwbl fforddiadwy.

Y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth? OAQ(5)0057(EI)

Gwnaf. Bydd yr Aelodau’n gwybod mai cronfa yw’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth. Ers 2013, cyfanswm gwerth y cynigion yw £5.5 miliwn, ynghyd â £11.3 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau twristiaeth strategol, megis Profiad y Royal Mint a Syrffio Eryri. Mae’r gronfa wedi helpu i greu 1,087 o swyddi i gyd ac yn cynnwys £40 miliwn o fuddsoddiadau pellach a fydd yn cael eu denu i mewn.

Diolch yn fawr iawn am y diweddariad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—dylwn fod wedi dweud hynny’n gynharach. Ond yn 2012, rhoddodd y Llywodraeth £0.5 miliwn i Westy Castell Rhuthun, mwy na thair gwaith yn uwch nag unrhyw grant arall gan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth y flwyddyn honno, a £5,000 yn unig o hwn sydd wedi’i adennill i drethdalwyr Cymru ar ôl i’r cwmni fethu â bodloni meini prawf y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Rwy’n derbyn yn yr enghraifft benodol hon fod yna anawsterau i adennill arian am fod y cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ond mae hynny ynddo’i hun yn codi cwestiynau ynglŷn â’r trefniadau diogelu y mae Llywodraeth Cymru yn eu mynnu wrth roi’r grant Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Yr arian a gollwyd, dyna rywbeth y gallai busnesau eraill fod wedi ei ddefnyddio. Felly, a fyddwch yn ailbennu’r rheolau ar gyfer grantiau Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth er mwyn cael lledaeniad daearyddol ehangach ar gyfer creu swyddi, neu a ydych yn chwilio am ffyrdd gwahanol o leihau’r risg i drethdalwyr Cymru?

Gallaf gadarnhau’r pwynt diwethaf. Yn wir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda diweddariad ar y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, oherwydd bod y meini prawf ar gyfer cymorth wedi cael eu newid. Rwy’n credu fy mod wedi tynnu sylw at hyn mewn sesiwn flaenorol yma yn y Cyfarfod Llawn, neu mewn pwyllgor, ond newidiodd y meini prawf fel bod isafswm ad-daliad o 30 y cant yn cael ei bennu yn y broses ddyfarnu.

O ran Gwesty Castell Rhuthun, rwy’n credu yn gyntaf oll, ei bod yn hanfodol nad yw’r Aelodau’n bychanu’r gwesty arbennig hwnnw, gan ei fod yn dal ar agor, mae’n gweithredu’n llwyddiannus iawn ac mae’n darparu cyfleoedd gwaith i lawer o bobl. Ni fuaswn yn dymuno i’r Aelodau yn y Siambr hon roi’r argraff fod Gwesty Castell Rhuthun wedi cau neu ei fod mewn trafferth. Yn wir, cyfarfu fy swyddogion â’r perchnogion newydd yn ôl ym mis Ebrill eleni i drafod cynlluniau sydd gan y gwesty i ehangu. Mae’r gwesty hefyd wedi newid drwy wahanu rhai o’r asedau sydd â mwy o rwymedigaeth, felly sefydlwyd ymddiriedolaeth erbyn hyn i edrych ar ôl rhannau o’r amgylchedd hanesyddol yn y castell. O ran yr achos penodol hwnnw, rwy’n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau gydag adroddiad llawn am yr hyn a ddigwyddodd a’r rheswm pam y bu i’r prosiect wynebu problemau. O ran y prosiect hwnnw, ie, tua £5,000 yn unig a gafodd ei adennill, ond mae’r gwesty’n dal i weithredu. Mae’n dal i gyflogi pobl ac mae’n dal i fod o safon pedair seren.

Byddaf yn hapus i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau o ran y newidiadau i’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, a darparaf gyfrif mwy manwl o’r hyn a ddigwyddodd gyda Gwesty Castell Rhuthun a’r broses diwydrwydd dyladwy y bu’n ddarostyngedig iddi. Gallaf gadarnhau, fel rhan o raglen y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer 2017, y bydd dau brif atyniad yn cael eu cyflwyno: un yn y gogledd sef gwibgertio mynyddig, ac un yn y de, yn Sir Benfro, sef parc tonfyrddio, a fydd yn nodwedd allweddol o Flwyddyn y Môr yn 2018.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil cyfraniadau blaenorol rwyf wedi’u gwneud ar y pwnc hwn, fe fyddwch yn gwybod am fy niddordeb personol mewn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Merthyr Tudful, yn arbennig, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor yn trafod opsiynau ar gyfer datblygu’r rhain yn gyfleoedd twristiaeth arwyddocaol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch i siarad yng nghynhadledd treftadaeth ac adfywio Merthyr, a chanolbwyntiais yn benodol ar yr hyn sydd gan Ferthyr i’w gynnig yn hynny o beth. Ar wahân i holi a ydym bob amser yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu neu adnewyddu safleoedd ac adeiladau sydd â stori arwyddocaol i’w hadrodd mewn perthynas â’n treftadaeth leol, siaradais yn benodol ynglŷn â sut y gallem ddysgu o lefydd fel Ironbridge i gyflwyno profiad tref gyfan. Awgrymais hefyd y posibilrwydd o ddatblygu llwybr Dic Penderyn, y gwn fy mod wedi siarad â chi yn ei gylch, ac a fuasai’n adrodd hanes pobl Merthyr adeg y gwrthryfel. Ymddengys bod y cyngor a nifer o’r gwirfoddolwyr treftadaeth yn y dref yn croesawu’r syniad hwnnw. Y rheswm rwy’n crybwyll hyn yw bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r sefydliadau treftadaeth uchelgais sylweddol ar gyfer y dref—nid oes amheuaeth am hynny—ond wrth gwrs, mae’r rhwystr i ddatblygu nifer o brosiectau yn un ariannol at ei gilydd. Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth—

Mae angen i chi ddod at y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.

Iawn, rwy’n dod at y cwestiwn. Rwy’n sylweddoli bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn un sy’n seiliedig ar gyllidwr pan fetha popeth arall a, wyddoch chi, ar ôl dihysbyddu pob un arall, a gwn ei fod yn gyfyngedig i £0.5 miliwn yn unig a’i fod yn bennaf yn ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â llety, gweithgareddau a bwytai ac yn y blaen—

Y cwestiwn yw: a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf a oes hyblygrwydd yn y rheolau sy’n llywodraethu’r cynllun a fuasai’n caniatáu mynediad at gyllid a allai helpu gydag ambell i brosiect treftadaeth bychan na allai ddenu unrhyw gyllid arall, ond a allai, pe baent yn cael eu datblygu, helpu i ddenu pobl i’r dref?

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae nifer o Aelodau, dros yr wythnosau diwethaf, wedi gofyn cwestiynau i mi ynglŷn ag a allai’r Llywodraeth gefnogi prosiectau penodol a safleoedd penodol yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau. Gwn fod Neil McEvoy wedi gofyn yr un cwestiwn yn ddiweddar. Yr hyn rwy’n ymrwymo i’w wneud yw ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion am y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth—y meini prawf—ond hefyd, os caf, rwyf am gynnwys manylion rheolwyr cyrchfannau mewn rhannau perthnasol o ranbarthau Cymru, a’r manylion cyswllt, gan fy mod yn credu y byddai’n werthfawr i’r Aelodau allu cysylltu â hwy neu o leiaf, i allu cyfeirio grwpiau at y rheolwyr cyrchfannau oherwydd bydd ganddynt fanylion am ddwy raglen gyllido bwysig arall wedyn—y gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth ranbarthol, a allai fod yn berthnasol i’r pwynt y mae Dawn Bowden yn ei wneud, a hefyd y gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol. Yn ogystal â hynny, mae yna gyfleoedd cyllido a ddarperir drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Lywydd, os caf, fe geisiaf roi’r holl fanylion hyn mewn llythyr a’i ddosbarthu i’r Aelodau fel bod gan bawb y manylion perthnasol i allu rhoi cyngor ar unrhyw brosiectau y bydd etholwyr yn eu cyflwyno.

Grantiau Busnes

5. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am broses Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgeisio am grantiau busnes? OAQ(5)0067(EI)

Gwnaf. Bydd angen i fusnesau sy’n ceisio cael gafael ar gymorth grant gwblhau’r cais priodol a darparu unrhyw ddogfennau ategol sydd eu hangen. Cynllun busnes a gwybodaeth ariannol berthnasol fydd y rhain fel arfer.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi gweld nifer o fusnesau proffil uchel, a llawer iawn o arian cyhoeddus ynghlwm wrthynt, yn methu, ac nid yn unig yma o dan eich goruchwyliaeth chi nac yn wir, o dan oruchwyliaeth eich rhagflaenydd—hi oedd yr un a wnaeth lawer o’r penderfyniadau hyn—ond mae’n mynd yn ôl i ddyddiau Ieuan Wyn Jones a £2 filiwn i ffermydd abwyd melys, na chawsom yr un geiniog ohono’n ôl. Rwy’n derbyn yn llwyr fod yn rhaid i ni fentro er mwyn helpu i adeiladu’r economi, ond a allwch chi roi sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y byddwch yn gweithredu proses lem ar gyfer fetio a chyflawni diwydrwydd dyladwy ar geisiadau busnes? Pe baech yn edrych ar yr hyn y mae ffermwr yn gorfod ei lenwi am grant bychan, mewn llawer o achosion, mae’n llawer iawn mwy o wybodaeth na busnes sydd ond yn gorfod cyflwyno cynllun a strwythur amlinellol, mae’n ymddangos. Er lles arian cyhoeddus, ac i sicrhau bod yr arian yn y lle cywir ar gyfer y cwmnïau cywir, a’u bod yn cael eu cefnogi mewn gwirionedd, fel nad oes gennym batrwm i fyny ac i lawr o’r fath, rwy’n credu bod angen i ni fod yn fwy diwyd yn y ffordd y gwnawn hyn.

Wel, mae’n hanfodol fod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ystyried yn llawn fel rhan o’r broses o benderfynu a ddylai busnes gael cymorth Llywodraeth Cymru neu’r trethdalwr, ac mae’r prosesau’n llym. Rwy’n edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau’r broses honno. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod, fodd bynnag, o ran y gefnogaeth rydym wedi’i chynnig, mai 4.9 y cant yn unig o’r 1,110 o gwmnïau a gafodd gynnig cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi gorfod cael eu hadfer mewn gwirionedd. Felly, mae’r gyfran yn fach iawn mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, pryd bynnag y bydd cwmni’n methu, mae’n cael sylw yn y newyddion. Fel rwy’n dweud, rwy’n gwneud gwaith i edrych ar sut y gellir cryfhau diwydrwydd dyladwy, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn unol â hynny. O ran cyfraddau mentrau sy’n methu, unwaith eto, mae gennym stori dda i’w hadrodd yng Nghymru. Cyfran gyfartalog y busnesau sy’n cau yw 9.2 y cant, o’i gymharu â 9.6 y cant yn 2014. Wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld diweithdra yng Nghymru yn cyrraedd y lefel isaf erioed, a chyflogaeth yng Nghymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed. Bydd rhai busnesau’n methu am resymau amrywiol. Fel rwy’n dweud, rydym yn ymdrin â channoedd o fusnesau bob blwyddyn. Y realiti economaidd yw y bydd rhai’n methu a rhai’n llwyddo, ac nid yw pob cynnig busnes yn mynd yn ôl y disgwyl. Yr hyn sy’n hanfodol, fel y mae’r Aelod wedi’i amlygu, yw ein bod yn cyflawni’r holl archwiliadau o’r busnes a’r bobl sy’n eu harwain yn drylwyr ac yn drwyadl, fel y gallwn warantu bod y trethdalwr yn cael gwerth llawn am arian a bod cyn lleied o risg â phosibl yn ynghlwm wrth eu buddsoddiad.

Mae llawer wedi cael ei ddweud am gymorth grant amheus drwy Lywodraeth Cymru—y cytundebau tir, megis Llys-faen, lle y collwyd £39 miliwn o’r pwrs cyhoeddus. A ydych yn cytuno y bydd buddsoddi mewn atal twyll difrifol yn y Cynulliad drwy’r sianeli sy’n bodoli yn debygol o greu elw i’r trethdalwr?

Wel, mater i Swyddfa Archwilio Cymru yw asesu unrhyw achosion y gallai Aelodau fod yn bryderus yn eu cylch. Mae’r enghreifftiau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll yn faterion dadleuol, ac ni fuasem wedi dymuno unrhyw golledion i’r trethdalwr. Ond mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr o brosiectau y mae’n barnu eu bod er budd y cyhoedd, a buaswn yn disgwyl i’w gwaith barhau. Buaswn yn croesawu eu gwaith yn fawr iawn mewn perthynas ag unrhyw brosiect neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan fy ngoruchwyliaeth i.

Gwasanaeth Trên rhwng Glynebwy a Chasnewydd

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaeth trên rheolaidd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd? OAQ(5)0071(EI)

Gwnaf. Ar hyn o bryd rydym yn caffael gweithredwr a phartner datblygu fel rhan o wasanaethau Cymru a’r Gororau o 2018 ymlaen ac wrth gwrs, y metro. Bydd y broses hon hefyd yn cynnwys trafodaethau â chynigwyr ynglŷn â’r ffordd orau i ddarparu gwasanaethau o Lyn Ebwy i Gasnewydd fel rhan o ddarpariaeth ehangach metro de-ddwyrain Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Buasai darparu gwasanaeth rheolaidd rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn rhan allweddol o gysylltu Casnewydd â chymoedd Gwent. Dros y 10 mlynedd diwethaf, cafwyd ymgyrchoedd, a gefnogwyd gan Aelodau Cynulliad lleol a’r ‘South Wales Argus’, i sicrhau y byddai’r rheilffordd hon yn dod i ben yng Nghasnewydd. Buasai’n hwb hanfodol i’r economi leol a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, yng Nghasnewydd a chymunedau’r Cymoedd ar y llwybr. Gyda fy etholwyr a fy nghyd-Aelod John Griffiths, Aelod Cynulliad, buaswn yn awyddus i weld hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gwasanaeth rheolaidd rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i fetro de Cymru a’r fasnachfraint rheilffyrdd newydd?

Gallaf. Rydym yn buddsoddi er mwyn caniatáu ar gyfer gwasanaethau amlach a chyflymach ar y rheilffordd, ac rydym hefyd yn ychwanegu platfformau newydd mewn nifer o orsafoedd. Rydym wedi ariannu Network Rail i gyflawni’r prosiect, ac maent wedi gosod y rhan fwyaf o’r trac newydd sy’n angenrheidiol ar gyfer y camau nesaf er mwyn i waith allu dechrau ar y gorsafoedd eu hunain. Bydd gwaith Network Rail ar y system signalau yn dechrau’n syth wedyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn holi am gysylltiad â Chasnewydd ers 2007-08, pan ddechreuodd hyn mewn gwirionedd. Mae Network Rail wedi gwneud llawer o waith ar ddarparu gwasanaethau amlach i deithwyr ar reilffordd Glynebwy. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladu platfformau newydd ac ailsignalu’r rheilffordd. A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwelliannau hyn, a pha bryd y gallwn ddisgwyl gweld gwasanaethau amlach i ac o Lynebwy a Chasnewydd? Diolch.

Wel, mae cam 1 y metro eisoes ar y gweill, gyda chyfres o welliannau i orsafoedd ac i seilwaith rheilffyrdd. Rwy’n ymwybodol fod yr Aelod wedi mynegi ei farn ar y mater hwn ers 2007, ond rwy’n falch iawn fod hyn yn cael ei ddatblygu’n gyflym yn awr, ac edrychaf ymlaen at glywed yr Aelod yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gyflwyno’r prosiect pwysig hwn.

Gwelliant mewn Amseroedd Teithio ar ôl Trydaneiddio

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliant tebygol mewn amseroedd teithio rhwng Casnewydd a chyrchfannau eraill rhwng de Cymru a Llundain ar ôl trydaneiddio? OAQ(5)0061(EI)

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y mater hwn, ond maent yn dweud wrthyf y bydd gostyngiad o tua 17 munud yn yr amser teithio o Lundain i Gaerdydd pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Hyd yn oed gyda’r oedi sydd wedi bod a gohirio’r gwaith rhwng Filton Bank a Bryste yn awr, a yw’n cytuno bod trydaneiddio’n cynnig cyfleoedd enfawr i Gasnewydd fel canolfan fusnes, ac a yw hefyd yn cydnabod, gyda’r cyswllt rheilffordd gorllewinol a’r ehangu yn Heathrow, y byddwn mewn sefyllfa ddelfrydol i elwa wrth i ni neidio i flaen y ciw am gytundeb masnach â’r Unol Daleithiau?

Wel, buaswn yn cytuno y bydd trydaneiddio’r brif reilffordd o fudd i Gasnewydd, yn ddi-os. Bydd hefyd o fudd i Gaerdydd, ond buaswn hefyd yn disgwyl i’r gwaith gael ei ymestyn mewn modd amserol i Abertawe, ac rwy’n gobeithio y bydd newyddion cadarnhaol i’r perwyl hwnnw yn natganiad yr hydref. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU—oherwydd rwy’n ymwybodol fod yna bellach nifer o achosion o oedi a phroblemau’n gysylltiedig â rhai o’r prosiectau y mae’n gyfrifol amdanynt—buaswn yn annog Llywodraeth y DU i ystyried trosglwyddo cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd, yn ogystal â chyllid teg, i Lywodraeth Cymru ei gyflawni fel y gall ddod yn fwy ymatebol o ran yr hyn y mae teithwyr a chymunedau eu hangen.

Digwyddiadau Chwaraeon Mawr

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru? OAQ(5)0072(EI)[W]

Yn 2016, rydym wedi cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon mawr gan gynnwys Hanner Marathon y Byd, y Gyfres Hwylio Eithafol, Tour of Britain a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol rhyngwladol mawr ledled Cymru ac mae trafodaethau ar y gweill gyda phartneriaid i glustnodi llawer o gyfleoedd.

Diolch am eich ateb. Mi fyddwn i’n cytuno ein bod ni angen denu mwy, ond, wrth gwrs, maen nhw yn rhoi pwysau ar ein seilwaith trafnidiaeth ni, ac rŷm ni wedi gweld—mae yna etholwr wedi cysylltu â mi yn cyfeirio at dair achlysur yn y pythefnos diwethaf lle mae aelod o’i theulu wedi gorfod sefyll ar y trên yr holl ffordd o Wrescam i Gaerdydd, ac, ar un achlysur, yr holl ffordd o Wrecsam i Gasnewydd. Nawr, mae hynny’n ddigon anghyfleus, wrth gwrs, ond nid oedd e’n bosib cael mynediad i’r tŷ bach, ac mae yn codi cwestiwn ynglŷn â lles teithwyr, ond hefyd iechyd a diogelwch mwy cyffredinol teithwyr ar drenau sydd mor, mor orlawn.

Nawr, mae hi wedi’i hysgogi i ysgrifennu at yr Health and Safety Executive i ofyn iddyn nhw edrych ar y sefyllfa. O fod yn ymwybodol bod yna ddau ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol nodedig yn digwydd yng Nghaerdydd y penwythnos yma, pa sicrwydd a allwch chi ei roi bydd y gwasanaeth yn un diogel ac yn addas?

Wel, rydym yn cyfarfod â gweithredwyr trenau’n rheolaidd i drafod effaith a goblygiadau digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol mawr ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac yn wir, ar y rhwydwaith ffyrdd hefyd. Rwy’n ymwybodol nad y digwyddiadau chwaraeon yn unig sy’n gallu achosi tagfeydd ar ffyrdd a gorlenwi ar drenau; gall digwyddiadau diwylliannol achosi problemau hefyd. Roedd digwyddiad diweddar yn ystod yr haf yng ngogledd-orllewin Cymru pan gafwyd problemau gyda pharcio, fel y mae’r Aelod yn ymwybodol iawn. Felly, mae’n bwysig fod trefnwyr digwyddiadau hefyd yn ymuno â ni mewn trafodaethau gyda gweithredwyr trenau a’r rhai sy’n rheoli’r rhwydwaith cefnffyrdd a ffyrdd lleol hefyd.

Pryd bynnag y byddwn yn cefnogi digwyddiad mawr, rydym yn chwilio am bob ateb i bryderon traffig fel rhan hanfodol o feini prawf ein trefniadau cyllido. Fodd bynnag, y digwyddiadau chwaraeon mawr sydd wedi digwydd yma yn y brifddinas yw’r rhai sy’n galw am sylw arbennig, ac am y rheswm hwnnw, mae uned digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd gyda gweithredwyr trenau i drafod problemau capasiti. Rwy’n ymwybodol, y flwyddyn nesaf, ein bod yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Stadiwm Principality, ac ers misoedd bellach, mae swyddogion wedi bod yn trafod gyda gweithredwyr trenau a Network Rail i weld beth arall y gellir ei wneud i sicrhau y bydd y teithwyr a fydd yn mynychu’r digwyddiad, yn ogystal â theithwyr sy’n defnyddio’r rhwydwaith o ddydd i ddydd a fydd yn profi cyfnod prysurach yn sgil digwyddiadau chwaraeon, yn gallu parhau i brofi amgylchedd o safon lle nad oes gorlenwi. Felly, bydd y gwaith yn parhau, ond rwy’n credu ei bod yn deg dweud, pan fydd y fasnachfraint newydd ar waith, gyda meini prawf newydd yn cael eu cyflawni gan y gweithredwr a’r partner datblygu, y byddwn mewn gwell sefyllfa i allu dargyfeirio mwy o gapasiti i Gaerdydd pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yma, neu yn yr un modd, dargyfeirio o’r brifddinas pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal mewn mannau eraill.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y cwestiwn cyntaf—Adam Price.

Amseroedd Aros Awdioleg

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros awdioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(5)0055(HWS)

Member
Vaughan Gething 14:25:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Nid yw amseroedd aros awdioleg ym mwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda lle y dylent fod. Rwyf wedi ysgrifennu at y Cadeirydd ac wedi dweud yn glir fod angen gwelliant. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau y bydd y gwelliant hwnnw’n digwydd.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei onestrwydd ynglŷn â’r sefyllfa druenus, a dweud y gwir, ar hyn o bryd. Mae sawl etholwr wedi cysylltu â mi i gyfleu eu pryder am y rhestr aros, sydd yn cynrychioli cannoedd o bobl sy’n aros am driniaeth. Mae rhai cleifion, wrth gwrs, yn gorfod aros wyth mis cyn derbyn teclyn clywed ar hyn o bryd. A yw’r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o achos yr amseroedd aros hir hyn a pha fesurau y gellir eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau bod yna welliant? A ydy’r Llywodraeth hefyd wedi ystyried—yn ogystal â’r targed maen nhw wedi’i osod o 14 wythnos ar gyfer teclyn clywed am y tro cyntaf—gosod targed penodol ar gyfer ailosodiadau, lle mae yna broblem dybryd ar hyn o bryd o ran y rhestrau aros?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiynau dilynol, ac rwy’n eu cydnabod. Yn anffodus, credwn fod oddeutu 350 o bobl yn aros yn rhy hir, yn hwy na’r amser targed, ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Felly, rydym yn ymwybodol fod yna broblem bendant yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. O ran beth sydd wedi achosi hynny, mae cyfuniad o faterion, fel sy’n wir bron bob amser. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â mesurau staffio yn y tymor byr—er enghraifft, cafwyd darpariaeth cyflenwi dros gyfnod o salwch a chyfnod mamolaeth, sydd wedi bod yn her.

Mae hefyd yn ymwneud â chael y gymysgedd gywir o staff ar gyfer y dyfodol. Felly, yn y drafodaeth sy’n cael ei datblygu gyda’r bwrdd iechyd a’r rhanddeiliaid, maent yn chwilio am weithwyr awdioleg—felly nid yw’n ymwneud yn unig â phen y meddygon ymgynghorol i’r gweithlu. Y newyddion da i chi a’r Aelodau eraill yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yw y bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod y mis nesaf, ac rydym yn disgwyl y bydd pobl yn dechrau yn y flwyddyn newydd, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r ôl-groniad ar gyfer apwyntiadau cyntaf a’r ail apwyntiadau neu’r apwyntiadau dilynol a grybwyllwyd gennych yn ogystal. Rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud ar y cynllun clust, trwyn a gwddf yw ein bod yn edrych, mewn gwirionedd, ar y modd y mae gennym rai mesurau synhwyrol ar gyfer deall apwyntiadau cyntaf ac ail apwyntiadau, felly mae’n bosibl y bydd rhai newidiadau y credaf y byddant o gymorth, o ran craffu a’r gallu i ddeall beth sy’n digwydd. Yr elfen arall, mewn gwirionedd, yw’r gwaith adeiladu sy’n digwydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Dyna un o’r pethau sy’n achosi peth o’r her sy’n ein hwynebu, ond—yr ateb gonest yw—nid y cyfan. Felly, dylem yn awr fod mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â’r ôl-groniad, gyda’r staff newydd a chwblhau’r gwaith cyfalaf hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd gyfeirio at y cynllun gweithredu clust, trwyn a gwddf cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac roedd y cynllun hwnnw’n cyhoeddi y buasai pob bwrdd iechyd yn sefydlu grŵp cydweithredol ar ofal clust, trwyn a gwddf, i oruchwylio materion megis llif cleifion priodol a throthwyon atgyfeirio, a fuasai’n helpu i leihau amseroedd aros. Yng ngoleuni’r cynllun hwnnw, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd grŵp cydweithredol Hywel Dda ar ofal clust, trwyn a gwddf, a dweud wrthym pa ganlyniadau newydd a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd yn y modd y mae’n darparu gwasanaethau clust, trwyn a gwddf i gleifion yng ngorllewin Cymru, ac a allwch ddweud wrthym sut y mae hyn yn helpu i leihau amseroedd aros?

Fel yr eglurais yn y gyfres gyntaf o atebion, mae’n ymwneud mewn gwirionedd â’r ffaith nad yw Hywel Dda lle y mae angen iddynt fod. Mae rhywfaint ohono’n ymwneud â mesurau tymor byr ac mae rhywfaint ohono’n ymwneud â chynllunio tymor hwy ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod ganddynt gynllun lleol. Dylent hefyd elwa o rywfaint o’r gwaith peilot cenedlaethol sy’n cael ei wneud yn ardaloedd byrddau iechyd eraill, o ran y pwynt ynglŷn â chymysgedd staff, ond hefyd ynglŷn â’r ffordd y mae’r llwybr wedi’i gynllunio. Felly, ni allaf ddweud wrthych chi, nac wrth unrhyw Aelod—ac ni fuaswn yn ceisio gwneud hynny—fy mod yn disgwyl y bydd yr holl faterion hyn yn cael eu datrys o fewn cyfnod o ychydig o wythnosau. Ond cyn diwedd y flwyddyn berfformio hon, ac wrth symud i’r nesaf, rwy’n disgwyl y bydd yna fodel gofalu sy’n fwy cynaliadwy, a bydd rhanddeiliaid eu hunain wedi chwarae rhan yn y broses o’i lunio, a llunio’r mesurau i ddeall beth sy’n dynodi llwyddiant, ac rwy’n disgwyl wedyn y bydd gan Hywel Dda fecanwaith darparu mwy cynaliadwy ar gyfer dinasyddion yng ngorllewin Cymru. Dylai hynny hefyd drosglwyddo i ddysgu yng ngweddill y wlad.

Gwasanaethau Pediatrig yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro? OAQ(5)0056(HWS)

Buom yn trafod agweddau ar y gwasanaeth pediatrig yn ystod y cwestiwn brys yr wythnos diwethaf. Ategaf eto fy mod yn disgwyl y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar sail y dystiolaeth glinigol orau sydd ar gael. Ac wrth gwrs, mae’r Aelod yn gyfarwydd â chynnwys adolygiad 2015, dan arweiniad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel sydd wedi cael ei ddweud yn y Siambr hon o’r blaen, mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi dweud yn glir fod angen gwasanaeth pediatrig 24 awr er mwyn cynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys amser llawn. O ystyried eich bod yn parhau i ddweud wrthym fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar arbenigwyr, a allwch ddweud wrthym a ydych yn cytuno gyda’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, sy’n arbenigwyr, fod angen gwasanaethau pediatrig 24 awr i gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys? Ac os felly, a wnewch chi ystyried ailsefydlu gwasanaethau pediatrig amser llawn yn ysbyty Llwynhelyg yn awr?

Wel, mae yna gyfuniad diddorol o ddau fater ar wahân yno. O ran y gwasanaeth pediatrig, rydym yn gwybod bod y gwasanaeth pediatrig, mewn rhannau eraill o’r DU, yn cael ei ddarparu gan nyrsys sy’n arwain y gwasanaeth pediatrig. Yn wir, nododd adolygiad y coleg brenhinol yn 2015 y gallai fod yn fwy synhwyrol i symud at wasanaeth sy’n cael ei arwain gan nyrsys yn Llwynhelyg beth bynnag. Dywedodd yr adolygiad hwnnw wrthym yn glir iawn hefyd na fuasai’n synhwyrol i geisio adfer gwasanaeth triniaethau dydd pediatrig 24 awr.

Mae yna her o ran sicrhau bod yr holl wasanaethau gwahanol hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae gwneud rhywbeth ymarferol fel symud yr uned bediatrig, fel ei bod yn nes at yr uned achosion brys, yn rhan o’r hyn sydd eisoes wedi cael ei wneud. Ond rwy’n ailadrodd bod y cyngor a gawsom am y model gofal a ddarperir yng ngorllewin Cymru yn un sy’n meddu ar sylwedd gwirioneddol ac arbenigedd go iawn, lle mae pobl yn gyfrifol am reoli, arwain a darparu’r gwasanaethau hyn o amgylch y wlad, a byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n iawn, wrth gwrs, fod y cwestiynau hyn yn cael eu gofyn yma yn y Cynulliad, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod cwestiynau’n cael eu codi a’u gofyn yn y Cynulliad. Ond rwyf ychydig yn bryderus am dôn y cwestiwn a gawsoch yn flaenorol, a beth fydd yr ymateb iddo yn Sir Benfro, lle rwy’n byw. Nid wyf am i’r neges o’r fan hon fod yn un sy’n peri ofn yn sydyn fod adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Llwynhelyg mewn perygl yn awr, a dyna yw fy mhryder o’r cwestiwn blaenorol. Felly, yr hyn rwyf ei eisiau gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yw neges glir sy’n rhoi sicrwydd nad yw hynny’n wir, a bod y ddau beth y dywedoch eu bod wedi’u cyfuno—gofal pediatrig a gwasanaethau damweiniau ac achosion brys—ar wahân ac nad yw un yn dibynnu ar y llall mewn gwirionedd.

Diolch am y cwestiwn, Joyce Watson. Rwy’n cydnabod bod pryder gwirioneddol ynglŷn â dyfodol iechyd ym mron pob rhan o’r wlad. O ystyried y sylwadau am wasanaethau gofal iechyd yng ngorllewin Cymru ac eithafiaeth yr iaith, nid yw’n syndod fod pobl yn poeni.

Ailadroddaf eto: mae’r her o gael gwasanaeth pediatrig yn rhan o’r hyn sy’n ein harwain, a’i berthynas gyda’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys hefyd. Nid oes unrhyw gynlluniau i newid y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys. Rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd, a chyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw gweithio gyda’i randdeiliaid, gwrando ar ei glinigwyr a’r cyhoedd, bodloni’r dyhead am wasanaeth, ond i fynd ati mewn gwirionedd i ateb yr angen i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw mewn modd gwirioneddol ddiogel sy’n darparu’r gofal o ansawdd uchel rwy’n ei ddisgwyl i bob dinesydd ledled Cymru.

Felly, rwy’n ailadrodd eto mewn perthynas â’r gwasanaeth pediatrig, ein bod yn gwrando ar y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Maent wedi cynnal adolygiad arall eto, ar ddiwedd mis Medi, er mwyn taflu goleuni pellach ar lle rydym. Nid wyf yn credu bod angen codi bwganod neu godi ofn ar bobl mewn perthynas â dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg nac yng ngorllewin Cymru yn gyffredinol.

Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai Llwynhelyg yn eich etholaeth chi, a fuasai’r ddibyniaeth gyson ar ymgynghorwyr pediatrig locwm yn ateb eich gofynion a’ch disgwyliadau am ofal o ansawdd uchel?

Mae’n rhan o’r her rydym yn ei hwynebu ynglŷn â sicrhau bod gennym gyfradd gyson—[Torri ar draws.] Rwy’n rhoi ateb gonest i chi.

[Yn parhau.]—fod gennym gyfradd gyson o weithlu meddygol, a’r gweithwyr proffesiynol eraill sy’n eu cefnogi, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gofal o ansawdd uchel. Mae hynny’n golygu bod angen i ni symud at fodel a fydd yn ein galluogi i recriwtio staff parhaol o ansawdd uchel ar draws pob un o’r graddfeydd penodol hynny. O ran y gwasanaeth ymgynghorol sy’n cael ei ddarparu, os edrychwch eto ar adolygiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, maent yn nodi mai tîm integredig, wedi’i leoli yn Ysbyty Glangwili, sy’n cyflenwi’r gwasanaeth ymgynghorol hwnnw, ond nid yw’n golygu nad oes gwasanaeth pediatrig yn Llwynhelyg; mae’n un sy’n ateb y galw ac yn diwallu anghenion. A phe bawn yn byw yn ardal Llwynhelyg neu’r cylch, buaswn eisiau gwybod bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn un sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau posibl. Ac mae hynny’n her. Ceisio cynnal gwasanaeth sy’n diwallu anghenion gwleidyddion lleol ac sy’n anwybyddu’r angen am dystiolaeth a chyngor clinigol dibynadwy fuasai’r peth anghywir i’w wneud i ddinasyddion, naill ai yn Llwynhelyg, neu unrhyw ran arall o’r wlad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos toriad o £3.6 miliwn i gyllid gwasanaethau cymdeithasol uniongyrchol. I ble mae’r arian hwnnw’n mynd, ac os yw’n dal i fod at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, sut y gallaf ddod o hyd iddo er mwyn craffu ar sut y mae’n cael ei wario?

Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos £25 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a hynny er mwyn parchu a deall y pwysau difrifol sydd ar y sector gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae’r pwysau’n cynnwys, er enghraifft, y cyflog byw cenedlaethol a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, ac a fydd yn effeithio ar awdurdodau lleol a’r darparwyr eu hunain. Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn parchu’r ffaith ei fod yn newyddion gwych y bydd gweithwyr ar gyflog isel yn cael codiad cyflog, a deall hefyd y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o bwysau ar y sector, a dyna pam rydym wedi dyrannu £25 miliwn ychwanegol ar gyfer hynny. Rydym hefyd wedi dyrannu mwy na £4 miliwn yn ychwanegol er mwyn gallu cymryd y cam cyntaf tuag at gyflawni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu’r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu am ofal. Felly, rydym wedi dyrannu mwy na £4 miliwn ar gyfer hynny, yn ogystal ag arian i’n galluogi i ddiystyru’r pensiwn anabledd rhyfel yn llawn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, byddem yn cefnogi’r pwynt olaf a wnaethoch ynglŷn â’r pensiwn. Ond i bob pwrpas, yr hyn a glywais yn y fan honno oedd fy mod i chwilio am yr arian hwn mewn cyflogau. Efallai y gallwch ddweud wrthyf felly—. Fe gyhoeddoch ddatganiad yr wythnos diwethaf sy’n dangos bod y trosglwyddiad rheolaidd o £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU tuag at y gost o ddarparu cefnogaeth i’r rhai a oedd yn arfer derbyn o’r gronfa byw’n annibynnol, yn awr yn mynd yn syth i gynghorau fel y mae yn Lloegr, yn hytrach nag i drydydd parti dewisol y sector anabledd annibynnol, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid diben yr arian hwnnw yw talu am doriadau cynghorau. Pam rydych chi wedi troi eich cefn ar y modelau mwy cydgynhyrchiol y mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn eu hannog, a pha warantau rydych chi wedi’u sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol?

Nid wyf yn adnabod y darlun rydych yn ei baentio o ran y gefnogaeth rydym yn ei rhoi i wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, i’n cynllun grant trydydd sector, sef lle y mae’r arian y cyfeiriwch ato, a oedd yn flaenorol yng nghronfa’r teulu, wedi ei roi. Mae gennym y gronfa honno, sy’n werth £22 miliwn, sy’n dod â phedwar cynllun grant blaenorol at ei gilydd, ac roedd gennym 84 o geisiadau am grantiau, yn gofyn am ychydig dros £69 miliwn ar gyfer y cynllun hwnnw. Felly, fe wnaethom geisio edrych ar ddyranu’r cyllid yn deg ar draws hynny i gyd, a’r grant mwyaf y gallai unrhyw sefydliad ei gael oedd £1.5 miliwn. Felly, derbyniodd cronfa’r teulu y £1.5 miliwn llawn yn hynny.

Gyda golwg ar ddyfodol cronfa’r teulu, mewn gwirionedd rydym wedi rhoi £400,000 iddynt er mwyn ceisio dod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Felly, dyna un o’r ffyrdd rydym yn cefnogi teuluoedd anabl, a dyfarnwyd cyllid i Anabledd Cymru a Gofalwyr Cymru hefyd o fewn cynllun grant y trydydd sector y gwasanaethau cymdeithasol hefyd. O ran y gronfa byw’n annibynnol, rydym wedi ceisio mabwysiadu ymagwedd bragmatig o ran siarad â’r sector, gyda gwasanaethau cymdeithasol a hefyd â phobl sy’n cael arian byw’n annibynnol, er mwyn ceisio mabwysiadu dull fesul cam o ran darparu yn y dyfodol, drwy gymryd y newidiadau dros gyfnod o ddwy flynedd. Dyma’r dull a awgrymwyd i ni gan ein grŵp ymgynghorol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed bod yr arian yn mynd i gael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol ac yn fy marn i fel rhywun sy’n craffu, rwy’n meddwl ei bod yn mynd i fod yn anodd i mi ddilyn yr arian.

Efallai y gallaf ein symud ymlaen yn awr. Efallai eich bod wedi clywed, Weinidog, fod cyngor Abertawe ar ôl achos llys am dorri terfynau amser statudol, yn wynebu camau cyfreithiol pellach o bosibl, gan fod cannoedd o asesiadau diogelu rhag colli rhyddid eto i’w llofnodi. Ychydig wythnosau yn ôl—ac efallai fod pethau wedi newid erbyn hyn—roedd dros 600 angen eu cwblhau, eu llofnodi neu eu dyrannu, ac wrth gwrs, mae’r gorchmynion hyn yn effeithio ar bobl agored iawn i niwed, pob un ohonynt â galluedd meddyliol cyfyngedig. Nawr, nid yw’r cyngor a’r undebau yn cytuno pam, ond mae’n amlwg fod gwasanaethau cymdeithasol yn Abertawe o dan bwysau mawr. Rwy’n meddwl tybed sut y gall Llywodraeth Cymru helpu gwasanaethau cymdeithasol Abertawe i ateb y gofynion a osodir arnynt, nid yn unig er mwyn y gweithwyr cymdeithasol sy’n gysylltiedig â hyn, ond hefyd er mwyn y bobl sy’n destunau i’r gorchmynion.

Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar awdurdodau lleol ledled Cymru, ac o ran y cwestiwn pam, rwy’n meddwl mai’r rheswm yw bod y Goruchaf Lys yn 2014 wedi gwneud penderfyniad a elwir yn ‘Cheshire West’, a oedd yn ehangu’r diffiniad o’r hyn a olygir wrth golli rhyddid, ac mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y cyd wedi disgrifio cynnydd o 16 gwaith yn fwy o geisiadau, felly rwy’n adnabod y darlun rydych yn ei baentio o ran y pwysau sylweddol ar hyn ar draws Cymru. Gwn fod Comisiwn y Gyfraith yn edrych ar y mater ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gyhoeddi adroddiad ym mis Rhagfyr. Felly, efallai y bydd newidiadau o ran yr hyn y gallai’r safonau colli rhyddid fod a beth y gallai gorchmynion ei olygu yn y dyfodol. Felly, yn amlwg, caiff newidiadau eu penderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, ond byddwn yn awyddus i gael ein mewnbwn yn hynny a chyflwyno sylwadau cryf.

Rydym wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd dros y tair blynedd diwethaf er mwyn ceisio eu cael i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â’r amserlenni hynny, ond yn amlwg, rwy’n cydnabod bod yna bwysau sylweddol yno.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd 108 o farwolaethau o C. difficile a 22 o farwolaethau o MRSA yng Nghymru y llynedd. Er bod camau mawr wedi’u gwneud i wella’r broses o reoli heintiau a bod ymgyrchoedd golchi dwylo wedi bod yn llwyddiannus, mae gennym broblem o hyd gyda glendid cyfleusterau ysbyty. Rwy’n derbyn yn llwyr na allwn sicrhau glendid 100 y cant mewn ysbyty gweithredol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw esgus dros finiau’n gorlifo ar ward neu waliau budr. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i wella glendid ein hysbytai?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae hi’n gywir i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed ar ostwng lefelau cyfraddau heintiau, ond mae angen gwneud llawer mwy. Mae gan bob bwrdd iechyd darged gwella bob blwyddyn. Nid yw pob bwrdd iechyd wedi llwyddo i’w gyrraedd. Mae’n nodwedd reolaidd o gyfarfodydd atebolrwydd gyda phrif weithredwyr a minnau o ran cysylltiad â chadeiryddion, ac yn aml mae yna safonau hylendid syml iawn i fynd i’r afael â hwy a fydd yn helpu gyda chyfraddau heintiau. Mae yna her hefyd mewn rhai rhannau o’r boblogaeth lle y mae cronfa, os mynnwch, o rai o’r heintiau penodol hyn. Ond yr her go iawn i’r gwasanaeth iechyd yw gwneud yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud, ac rydym yn cydnabod yr angen am welliant pellach ac mae hynny’n dechrau gyda hylendid sylfaenol.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros ar bwnc glendid ysbytai, roedd yn siomedig clywed bod Ysbyty Bronllys wedi cael sgôr hylendid bwyd o 2, er bod y rhan fwyaf o ysbytai’n cael sgôr hylendid o 3 neu fwy. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai pob ysbyty fod â sgôr hylendid pum seren. Nid yn unig y dylai bwyd a weinir i gleifion bregus fod o’r safon uchaf o ran maeth, ond hefyd dylai gael ei baratoi, ei storio a’i weini mewn modd hylan. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hylendid bwyd yn ein hysbytai ac yn y sector gofal ehangach?

Diolch am y cwestiwn. Unwaith eto, rydych yn gwneud y pwynt fod y mwyafrif helaeth o leoliadau yn y sector gofal a’r sector ysbytai yn cydymffurfio â safonau hylendid uchel. Rwy’n arbennig o siomedig ac yn rhwystredig yn sgil canlyniad Bronllys yn ddiweddar. Maent wedi cael gwybod fy mod i a’r Gweinidog yn disgwyl y bydd gwelliant sylweddol a chyflym ac ailasesiad i ddarparu sicrwydd y bydd nid yn unig y cleifion, ond eu teuluoedd hefyd, yn gwbl briodol, yn ei ddisgwyl.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn lwyr ddileu heintiau a geir mewn ysbytai, ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn paratoi’n briodol i drin haint. Gydag ymwrthedd i gyffuriau ar gynnydd a dim ond ychydig iawn o wrthficrobau newydd yn cael eu darganfod, rydym yn cyrraedd pwynt argyfyngus. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o adolygiad O’Neill a pha rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn annog mwy o ymchwil i ddatblygu gwrthficrobau newydd?

Diolch am y trydydd cwestiwn. Mae amrywiaeth o heriau yma. Mewn gwirionedd mae’n faes lle y mae gan bedair cydran teulu gwasanaeth iechyd gwladol y DU ddull o weithredu ar y cyd—cydnabyddiaeth o heriau cyffredin mewn ymwrthedd i gyffuriau, ond hefyd o ran ymddygiad presgripsiynu yn ogystal ag angen am waith ymchwil pellach. Felly, fe welwch fod Cymru yn chwarae ei rhan yn y gymuned ymchwil. Mae yna feysydd sylweddol, nid yn unig o ran gwella iechyd, ond hefyd o fewn y sector gwyddor bywyd, ar gyfer gweithgarwch pellach posibl. Ond rwy’n credu bod angen i ni ddechrau drwy sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau presgripsiynu, ac mae’n debyg mai dyna ble y gall ein cyfraniad mwyaf fod. Mae’n rhaid cael newid ymagwedd ac ymddygiad gan glinigwyr mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd, yn bwysig, o ran disgwyliadau’r cyhoedd ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd yn ystod rhyngweithiadau gofal iechyd ac a yw’r gwrthfiotigau a roddir i bobl ar bresgripsiwn yn briodol ac yn yr un modd, a fyddant yn derbyn ac yn deall hefyd pan fydd clinigydd yn dweud nad yw gwrthfiotig yn briodol. Mewn gwirionedd rydym yn niweidio ein hunain drwy orbresgripsiynu a gorddefnyddio, ac rydym yn awr yn mynd i fynd i’r afael â realiti’r her honno. Felly, mae yna heriau go iawn, o ran ymddygiad yn ogystal â mewn ymchwil a’r dyfodol yn y maes penodol hwn.

Diolch, Lywydd. Mae adroddiad beirniadol arall wedi cael ei gyhoeddi gan yr ombwdsmon heddiw i safon gofal yn Ysbyty Glan Clwyd. Y tro yma, claf canser a wnaeth orfod aros yn llawer rhy hir am driniaeth. Dyma’r trydydd adroddiad beirniadol gan yr ombwdsmon mewn dau fis. Mae’n digwydd, wrth gwrs, yn y cyd-destun ehangach fod bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Pam fod y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle rydym prin yn synnu wrth glywed newyddion fel hyn?

Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, byddaf yn rhoi mwy o fanylion mewn ymateb i’r cwestiwn brys ar ôl hyn y mae’r Llywydd wedi’i dderbyn. Mae’r mater penodol a grybwyllwyd gennych yn hynod o siomedig, nid yn unig o safbwynt rhywun sydd wedi cael gofal nad oedd yn ddigonol, ond hefyd mewn gwirionedd oherwydd bod Betsi Cadwaladr yn fwrdd iechyd sy’n perfformio’n dda o ran darparu triniaeth canser. Felly, mae’r achos hwn yn sicr yn sefyll allan, ac nid mewn ffordd sy’n dwyn clod i’r gwasanaeth iechyd. Ond rwy’n falch fod y prif weithredwr wedi nodi y byddai’n ymddiheuro’n uniongyrchol i’r teulu, ac rwy’n falch ei fod wedi cydnabod problemau yn 2014, ac rwyf hefyd yn disgwyl y bydd nid yn unig y pwyntiau am y darparwr gofal, ond y sawl a fu’n delio â’r gŵyn i gael sylw hefyd. Ac yn amlwg, rwy’n siomedig iawn na chafodd dinesydd a ddaeth at y gwasanaeth iechyd mewn gwir angen ei drin mewn ffordd y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddisgwyl neu ei eisiau. Felly, mae pwyntiau gwirioneddol o welliant, ond ym meysydd gofal canser, rwy’n meddwl y gall fod peth hyder fod Betsi Cadwaladr wedi bod yn fwrdd iechyd a oedd yn perfformio’n dda yn y gorffennol, a gallwn ddisgwyl iddo fod felly yn y dyfodol. Yn amlwg, rwy’n disgwyl y byddai’r cyfarwyddwr meddygol newydd yn cyfrannu at hynny hefyd.

Ond rydym yn gwybod, wrth gwrs, am y problemau ehangach ar draws y bwrdd, a phan mae bwrdd iechyd yn cyrraedd pwynt fel yma, mi fyddai rhywun yn disgwyl camau radical—gwirioneddol radical—i newid pethau. Y cwbl rydym wedi ei weld mewn difri ydy newid uwch-reolwyr ac, ar hyn o bryd, rydw i’n dweud wrthych chi nad oes gan bobl ddim ffydd bod hynny ynddo fo ei hun yn mynd i gyflwyno’r newid sydd ei angen.

Un peth sydd yn cael ei wthio o hyd ydy mwy o ganoli, ac yn hytrach na delio efo gwasanaethau sy’n methu, un cynnig sydd ar y bwrdd rŵan ydy symud gwasanaethau fasgwlar, sydd o safon fyd-eang, o Ysbyty Gwynedd. Rydym ni’n pwyso am ymgynghoriad newydd ar hynny. A all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro’r rhesymeg dros daclo perfformiad gwael drwy chwalu’r pethau yna sy’n gweithio’n dda? Ac o ran dyfodol Ysbyty Gwynedd, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylai fod mwy neu lai o wasanaethau arbenigol yn cael eu cynnig yno yn y dyfodol?

Diolch am y cwestiynau dilynol. O ran y camau radical sy’n cael eu cymryd, roedd gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn gam radical. Dyma’r unig fwrdd iechyd yn hanes datganoli i gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, ac nid yw’n ymwneud yn unig â newidiadau i uwch reolwyr; mae angen newid y diwylliant yn y sefydliad. Dyna pam rydym yn disgwyl i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig am gyfnod sylweddol o amser, gan y bydd y newidiadau y mae angen i ni eu gweld, er enghraifft, mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn cymryd cryn dipyn o amser. Felly, nid wyf yn derbyn yr argraff a roddir na chafodd camau radical eu rhoi ar waith ac nad ydynt yn cael eu rhoi ar waith. Mae gennym hefyd y sicrwydd a roddwyd gan y corff ymgynghorol tri sefydliad, felly mae gennym gynghorwyr allanol, nid prif weithredwr GIG Cymru yn unig, yn adolygu’r cynnydd sy’n cael ei wneud, neu nad yw’n cael ei wneud, mewn perthynas â mesurau arbennig.

O ran eich pwynt penodol am lawfeddygaeth fasgwlaidd, rydym wedi bod drwy hyn o’r blaen, ac nid wyf yn derbyn nac yn cytuno â’r argraff a roddir ar y mater. Mae’r cynigion yn argymell y dylai tua 20 y cant o’r gweithgaredd, y llawfeddygaeth fasgwlaidd gymhleth iawn, gael ei symud i uned ganolog, ac mae’r uned arbenigol ganolog honno’n seiliedig ar dystiolaeth ei bod yn darparu canlyniadau gwell—gwell canlyniadau i’r bobl, lle bynnag y maent yn byw ar draws gogledd Cymru, sy’n mynd i’r ganolfan arbenigol honno. Bydd 80 y cant o’r gweithgaredd yn aros lle y mae. Felly, er enghraifft, byddai’r gwasanaeth digramennu diabetig sy’n digwydd yn Ysbyty Gwynedd yn aros lle y mae.

Nid oes gennyf amcan penodol o ran faint o wasanaethau arbenigol a fydd yn aros yn eu lleoliadau presennol, yng ngogledd Cymru neu yn unrhyw le arall. Rwy’n nodi’n syml fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd, gyda’i boblogaeth leol, lle bynnag y mae, wynebu’r heriau amlwg hyn y mae’n gwybod eu bod yn bodoli, a rhaid iddo ymateb i’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau ynglŷn â beth i’w wneud i wella’r gwasanaeth hwnnw. Weithiau, bydd hynny’n ymwneud â darparu gwasanaeth mewn cymuned a gwneud gofal yn fwy lleol, ac weithiau, lle y dywed y dystiolaeth wrthym y mae’r enillion iechyd mwyaf a gorau i’w gwneud, a fydd hefyd yn gwella ein gallu i recriwtio’r staff iawn yn y lle iawn, cael canolfan arbenigol fydd yr ateb mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn meddwl ei bod yn dderbyniol mai’r cyfan sydd gan y rhai sy’n rhan ganolog o’r ddadl am ddyfodol y gwasanaeth iechyd i’w ddweud byth yw ‘Rydym yn anghytuno ag unrhyw gynnig i ganoli gwasanaeth arbenigol’. Mae yna dystiolaeth sylweddol y bydd symud llawdriniaeth fasgwlaidd fel hyn yn gwella canlyniadau ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n edrych ar y dystiolaeth yn wrthrychol yma.

Mae gennym ni ganolfan arbenigol fasgwlar yn y gogledd, a Bangor ydy’r ganolfan honno. Yn ôl yr holl ystadegau sydd o’n blaenau ni, o ran y cwestiwn ynglŷn â gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, rydw i’n sylweddoli nad oes gennych chi ffigwr mewn golwg o faint o wasanaethau, ond, fel y dywedodd Bruce Forsyth unwaith, ‘Higher neu lower?’ Dyna’r cwbl yr oeddwn i’n gofyn amdano fo. O ran y mesurau arbennig, nid rhoi’r bwrdd mewn mesurau arbennig oedd y cam radical, ond datganiad bod angen rhoi’r camau radical mewn lle oedd rhoi’r datganiad yna ar y bwrdd.

Ond fe symudwn ni ymlaen. Mae Plaid Cymru yn eiddgar, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, i weld datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor. Mi oedd cyllid ar gyfer addysg feddygol yn rhan o’n cytundeb diweddar ni ar y gyllideb. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, os ydy o ddifri am ddatblygu addysg feddygol yn y gogledd, nad yw tynnu gwasanaethau arbenigol o Fangor yn gwneud synnwyr? Rydym yn gweld bygythiadau; rydym wedi gweld bygythiadau o’r blaen—mamolaeth, er enghraifft. Rydym yn dal i aros am fuddsoddiad yn yr adran frys. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn datblygu gofal iechyd ym Mangor rŵan, fel y ganolfan iechyd i’r gogledd-orllewin—canoli, os liciwch chi, yn barod am gyflwyno’r hyfforddiant yno?

Diolch i’r Aelod am ei gyfres olaf o gwestiynau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn neilltuo’r model cywir ar gyfer y ffurf gywir ar ofal arbenigol, lle bynnag y bo ar draws y wlad, pan fyddwn yn canolbwyntio ar ogledd Cymru, ac yn benodol ar Fangor, fel nad ydym ond yn dadlau am un safle ac un ganolfan ddaearyddol. Y perygl yno yw ein bod yn chwarae tair canolfan yn erbyn ei gilydd ac nid yw hynny’n ddefnyddiol o gwbl. Mae’n rhaid i ni ddeall yr hyn y mae’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau oll yn ei ddweud wrthym ynglŷn â’r hyn y dylai gwasanaeth arbenigol fod, yr hyn y dylai’r drafodaeth fod neu beidio â bod, ac yna yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o ran canlyniadau i’r claf o ganlyniad. Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod y gwasanaethau arbenigol hynny, lle y cânt eu creu, yn fwy tebygol o recriwtio staff ar batrwm cynaliadwy.

Felly, nid yw’r her yn fater syml o ddweud, ‘Nid yw wedi torri, felly nid ydym yn mynd i’w drwsio’, gan fod hynny ond yn golygu eich bod yn aros i wasanaeth fethu’n llwyr cyn i chi wneud y newid a’ch bod yn anwybyddu’r holl dystiolaeth a’r cyngor yn ei gylch, ac ni all honno fod yn ffordd iawn o gynllunio a darparu gofal iechyd mewn unrhyw ran o’n gwlad. Felly, nid ydym yn barod i wneud hynny. Ac nid dyna rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd ei wneud. Wrth iddynt fynd ati i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol, rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd fod yn gwbl ymwybodol o holl dystiolaeth a chyngor y gwahanol wasanaethau sydd ganddynt sy’n datblygu eu lle a’u dealltwriaeth eu hunain mai eu dyletswydd yw darparu’r gofal iechyd gorau posibl i’w poblogaeth leol. Bydd hynny’n golygu y bydd angen newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau’n cael eu darparu. Byddai peidio â gwneud hynny’n esgeuluso’r cyfrifoldebau sydd ganddynt i’r boblogaeth leol.

Byddwn yn gweld patrwm gwahanol o wasanaethau mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol dros y pum mlynedd nesaf. Mae hynny’n bwysig, oherwydd fel arall, ni fyddwn ond yn esgus bod gweithredu’r model cyfredol o ofal, ymhen pum mlynedd, yn mynd i ateb anghenion ein poblogaeth, yn mynd i sicrhau ein bod yn recriwtio’r staff iawn yn y lle iawn a darparu’r gofal iawn. Yna, byddem yn twyllo ein hunain a byddem yn rhoi gwasanaeth gwael i’r cyhoedd. Nid wyf yn barod i wneud hynny ac ni ddylai byrddau iechyd fod yn barod i wneud hynny. Nid dyna’r arweiniad rwy’n ei roi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac rwy’n disgwyl i bobl eraill sydd o ddifrif eisiau i’r gwasanaeth iechyd lwyddo, ymuno yn y ddadl honno mewn ffordd lawer mwy agored eu meddwl ac i feddwl eto am ansawdd y gofal a ddarparwn. Mae ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau gwasanaeth yn ysgogi’r hyn rwyf am ei weld a dylent ysgogi’r hyn y mae pob un ohonom am ei weld yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

Ysbyty Ystrad Fawr

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Ystrad Fawr? OAQ(5)0069(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae Ysbyty Ystrad Fawr yn darparu ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau argyfwng 24 awr, derbyniadau ac asesiadau brys, cyfleusterau arsylwi arhosiad byr, gwasanaeth mân anafiadau a gwasanaeth y tu allan i oriau wedi’i gyd-leoli. Yn wir, rhwng meysydd gofal dydd, derbyniadau brys a mamolaeth a chleifion mewnol triniaethau dewisol, mae’n gweld dros 10,000 o bobl bob blwyddyn ar gyfartaledd, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill y mae’n eu darparu.

Dyna’r ateb cywir, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Serch hynny, fe fyddwn i’n dweud, ymhlith trigolion Caerffili, nid yw rôl Ysbyty Ystrad Fawr wedi’i deall yn iawn. Mae’r ganolfan gofal arbenigol a chritigol sydd wedi’i phennu ar gyfer Cwmbrân, neu ger Cwmbrân—roedd Ysbyty Ystrad Fawr wedi’i gynllunio i’w wasanaethu. A gyda llaw, ni fyddwch byth fy nghlywed yn ei alw’n ‘ganolfan gofal arbenigol a chritigol’ byth eto ar ôl y tro hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny’n ei werthu i bobl yr ardal.

Gan gadw hyn mewn cof, yn ddiweddar cyfarfûm â phrif weithredwr a chadeirydd bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Yn dilyn y trafodaethau hynny, hoffwn weld canolfan ragoriaeth arall yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn benodol ar ffurf canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau gofal y fron. Rwy’n credu y byddai honno’n gwella’r gweithgareddau sy’n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr ymhellach, yn enwedig mewn perthynas â’r ganolfan gofal critigol a fydd yn agor ar y cyd â hi. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu ei gefnogaeth i’r ymgyrch honno, ac ychwanegu unrhyw gymorth pellach y mae’n barod i’w roi?

Diolch i’r Aelod lleol am fy ngwahodd i ymuno ag ymgyrch leol y gwn ei fod yn daer iawn yn ei chylch. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddwch yn deall mai mater i’r bwrdd iechyd yw penderfynu a ydynt am gael canolfan arbenigol ar gyfer gofal y fron a lle i’w chael hefyd. Mae angen iddynt ymgysylltu â’r cyhoedd yn lleol, ac yn arbennig y cyngor iechyd cymuned. Mae’n bosibl, lle y gallai fod gofyn i mi wneud penderfyniad, rydych yn deall na fyddwn yn mynegi barn ar hynny. Ond yr hyn a wnaf yw ailadrodd pwyntiau a wneuthum o’r blaen—fod y penderfyniadau ynglŷn â’r rhaglen gyfalaf, yn enwedig y ganolfan gofal arbenigol a chritigol, yn rhan o system gofal iechyd gyfan sy’n cynnwys Ysbyty Ystrad Fawr. Mae angen i’r gwasanaethau a ddarperir yno fod yn seiliedig ar y dystiolaeth o fanteision i gleifion ym mhrofiad y claf, y canlyniadau i gleifion mewn gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy. Rwy’n ymwybodol fod yna gynigion a thrafodaethau am wasanaeth arbenigol gofal y fron, ac edrychaf ymlaen at gael eu canlyniad, a deallaf eu bod mewn gwirionedd yn seiliedig ar y pwyntiau pwysig iawn ynglŷn â’r ffordd yr awn ati i ddarparu gwasanaeth gwell, nid yn unig ar gyfer eich etholwyr chi, ond i etholwyr ar draws Gwent a de Cymru yn ehangach hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn yr un cwestiwn ag y gofynnodd fy rhagflaenydd, mae Ysbyty Ystrad Fawr yn un o’r safleoedd sy’n cael eu hystyried gan fwrdd Aneurin Bevan ar gyfer canolfan arbenigol o ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau canser y fron—

Ie, rwy’n gwybod. Rwy’n sôn am y peth ac yn cytuno â chi. [Torri ar draws.] Ym mis Mawrth eleni, Lywydd, adroddwyd bod cleifion yng Ngwent yn aros yn hwy am atgyfeiriadau canser y fron nag yn unman arall yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa bryd y mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud, ac a wnaiff ymrwymo i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael iddo i ddarparu gwasanaethau canser y fron rhagorol yn Nwyrain De Cymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Wrth geisio dirnad beth sy’n wahanol am y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili—rwyf wedi dweud yr hyn a ddywedais ynglŷn â methu gwneud sylwadau ar benderfyniad unigol, ond mae’r dystiolaeth am y gwasanaeth presennol yn ysgogi’r angen i feddwl ynglŷn â sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. A dyna’r pwynt—nid wyf yn meddwl y gallwch ddarparu’r un gwasanaeth ar yr un patrwm a disgwyl gwelliant. Felly, edrychaf ymlaen at weld cynigion y bwrdd iechyd, a chael trafodaeth â’r boblogaeth leol a’r cynghorau iechyd cymuned. Os daw ar fy nesg, fel y dywedais wrth yr Aelod lleol dros Gaerffili, byddaf yn edrych ar y dystiolaeth o fudd, profiad a chanlyniadau i gleifion, a gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n wirioneddol gynaliadwy.

Roedd rhai pobl yn amlwg yn siomedig ynglŷn â chwmpas y gwasanaethau sydd ar gael, a natur y gwasanaeth brys yn arbennig, o gymharu â’u disgwyliadau blaenorol. Rwy’n meddwl tybed a oes unrhyw wersi i Lywodraeth Cymru neu’r bwrdd iechyd eu dysgu wrth i gynlluniau gael eu gwneud a’u cyfleu ar gyfer dyfodol Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn sgil y ganolfan gofal arbenigol a chritigol sydd i’w chroesawu’n fawr.

Wel, mae rhai o’r heriau sydd ynghlwm wrth y gwasanaeth dan arweiniad nyrsys yn ymwneud â deall beth sydd, a beth nad yw ar gael yno, ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â diffyg dealltwriaeth ynglŷn â’r gofal o ansawdd uchel y mae uwch ymarferwyr nyrsio yn ei ddarparu, a niferoedd uchel y bobl sy’n mynd i Ysbyty Ystrad Fawr ac yn cael eu gweld yn gyflym ac yn broffesiynol iawn. Nid ydych yn clywed llawer iawn o gwynion, mewn gwirionedd, am ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu yn Ysbyty Ystrad Fawr, ac rwy’n credu y gallai rhagor o bobl wneud mwy o ddefnydd ohono yn lle mynd yn ddiofyn i ganolfan fwy o faint, gan y gellid diwallu eu hanghenion gofal yn nes at ble y maent.

Mae yna bob amser wersi i’w dysgu ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd yn cyfathrebu cynlluniau ar gyfer newid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu, ac mae’n bwysig nad ydym yn rhoi’r gorau iddi a dweud ein bod wedi cyrraedd pwynt o berffeithrwydd. Bydd yna bob amser fwy y gallem ac y dylem ei ddysgu, felly dyna pam rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu’n barhaus â’u poblogaethau lleol i esbonio’r rhesymeg sy’n sail i unrhyw benderfyniadau a chynigion ar gyfer y dyfodol. Rwy’n meddwl mai’r pwynt pwysicaf yw ailadrodd yn gyson: beth yw’r budd i’r dinesydd, beth sy’n gyrru’r agenda newid gwasanaeth, sut y bydd yn effeithio ar y cleifion hynny mewn gwirionedd, ac a allwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei gael? Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, fod Aneurin Bevan yn un o’r byrddau iechyd gwell yn y maes hwn. Er enghraifft, er gwaethaf rhai anawsterau gyda’r ffordd yr ailgyfluniwyd gofal strôc, mae bellach mewn lle llawer gwell ac maent yn recriwtio clinigwyr strôc mewn ffordd nad yw rhannau eraill o’r wlad bob amser yn gallu ei wneud, oherwydd mae ganddynt wasanaeth gwell ac maent wedi ymgysylltu â’u poblogaeth leol ynglŷn â hynny. Felly, edrychaf ymlaen at weld byrddau iechyd eraill yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn gwella’r ffordd rydym yn siarad â’n cyhoedd ac yn gwrando arnynt wrth ail-lunio gofal iechyd ar gyfer y dyfodol.

Gofal Sylfaenol ac Eilaidd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyfran yr adnoddau a ddarperir i ofal sylfaenol a gofal eilaidd? OAQ(5)0061(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n disgwyl y caiff adnoddau rhwng ac o fewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd eu defnyddio i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles y poblogaethau y mae pob ardal bwrdd iechyd yn eu gwasanaethu. Rwy’n disgwyl i’r defnydd o adnoddau arwain a dilyn y patrwm newidiol o wasanaethau wrth i fwy o ofal gael ei ddarparu yn nes at adref.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Ond mae cyfran cyllideb iechyd Cymru a werir ar ofal sylfaenol wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. A oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i geisio gwrthdroi’r duedd hon, gan fy mod yn credu, ac rwy’n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gwario arian mewn gofal sylfaenol yn arbed arian ymhellach ar hyd y ffordd?

Diolch am y pwynt. Rwy’n credu mai rhan o’r her o ddeall beth sy’n digwydd mewn gofal sylfaenol yw deall beth rydym yn ei olygu wrth wariant gofal sylfaenol hefyd. Rwyf wedi gweld amryw o ffigurau. Mae’n amlwg fod yna ymgyrchu, lobïo, ac yn ddigon teg, craffu ar faint o arian rydym yn ei wario a chyfran yr arian rydym yn ei wario. Er enghraifft, mewn gofal sylfaenol rydym yn gwario 13.7 y cant o’n cyllideb, o’i gymharu â’r Alban sy’n gwario 11.8 y cant. Daw’r ffigurau hynny o ffigurau cymharol y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn yr Alban yn derbyn eu bod yn cynrychioli gofal sylfaenol yn briodol. Felly, mae’n fwy na gwariant ar wasanaethau meddygol cyffredinol yn unig.

Fodd bynnag, yn hytrach na mynd ar goll yn sôn am ganran benodol o’r gyllideb iechyd neu swm penodol o arian, rwy’n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn yw ein gweledigaeth a’n disgwyliad ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal iechyd. Sut y byddant yn cael eu darparu? Os oes mwy o ofal yn mynd i gael ei ddarparu yn y gymuned ac yn nes at adref, mae angen i ni symud ein hadnoddau. Adnoddau ariannol yw’r rheini yn rhannol, ond mewn gwirionedd, mae llawer yn ymwneud â’r staff sydd gennym a’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn ailfodelu ein hystad gofal sylfaenol i allu darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb mewn darparu’r gwasanaeth iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn a chael adnoddau sy’n ein galluogi i wneud hynny. Bydd hynny’n arwain at newid yn yr adnoddau. Dyna ble y mae fy mlaenoriaeth i, yn hytrach na chael pwynt penodol pan fyddaf yn dweud ‘rwyf eisiau swm x i fynd tuag at ofal sylfaenol neu ofal eilaidd,’ gan nad wyf o reidrwydd yn meddwl mai dyna’r ffordd iawn o weithredu a rheoli’r gwasanaeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fferyllfeydd cymunedol rôl fawr i’w chwarae yn darparu gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn, fel rydych newydd fod yn siarad yn ei gylch. Cefais gyfle, yn ddiweddar, i ymweld â Fferyllfa Lloyds yn fy etholaeth. Cefais fy nharo gan y datgysylltiad rhwng ysbytai a fferyllwyr cymunedol mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Er bod adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau yn digwydd, deallaf fod 30 y cant o aildderbyniadau i’r ysbyty yn deillio o gamgymeriadau gyda meddyginiaethau. A yw hwn yn faes y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno yn y trafodaethau y mae’n eu cael ar hyn o bryd gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynglŷn â chontract fferylliaeth newydd i Gymru?

Diolch am y cwestiwn. Mae’n caniatáu i mi dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddwch yn deall, a bydd y fferyllfa yr ymweloch â hi’n deall ein bod yn mynd ati mewn ffordd wahanol iawn i gyllido fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru, o gymharu â’r toriadau o £200 miliwn i fferylliaeth yn Lloegr. Mae fferylliaeth gymunedol dros y ffin yn wynebu her go iawn. Rwy’n falch ein bod yn mynd ati mewn ffordd wahanol, nid yn unig o ran yr arian, ond o ran yr hyn rydym yn disgwyl ei weld yn cael ei ddarparu am yr arian hwnnw hefyd, oherwydd bydd gennym ddull sy’n seiliedig ar ansawdd gyda’r swm ychwanegol o arian rydym yn dweud byddwn yn parhau i’w fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. Bydd yn newid nid yn unig y drefn o ddosbarthu yn ôl y swm o eitemau yn hytrach nag o ran mesur yn unig, ond ansawdd y gwasanaeth hefyd mewn gwirionedd. Rwyf eisoes wedi gofyn am wneud gwaith gyda fferylliaeth gymunedol—mae’n cael ei arwain gan y prif swyddog fferyllol—ar edrych ar ystod benodol o feysydd, ac mae deall yn iawn sut y gallwn wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty yn rhan benodol o’r gwaith hwnnw, ac rwy’n disgwyl gweld cynigion ar gyfer gwella. Rwy’n credu y gallwn wneud mwy o ddefnydd a chael mwy o fudd o ansawdd y gwasanaethau sydd i’w cael mewn fferylliaeth gymunedol i wneud pethau’n haws i gleifion sy’n gadael yr ysbyty ac yna’n mynd yn ôl i’w cymuned, ac ar yr un pryd yn sicr, bydd gennym wasanaeth fferylliaeth prysur iawn yn yr ysbytai yn ogystal. Felly, yn ystod yr oddeutu chwe mis nesaf, rwy’n meddwl y byddwn yn clywed mwy gennyf fi ynglŷn â sut y byddwn yn parhau i ddatblygu a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru.

Gwnaethoch chi’r cyhoeddiad yna fis diwethaf o £20,000 i ddenu meddygon ifanc newydd fel meddygon teulu yn y rhannau o Gymru sydd yn anodd iawn i ddenu meddygon oni bai. Yn naturiol, roeddem ni’n croesawu hynny, ond nid ydyw e’n gwneud dim byd gogyfer y pwysau gwaith anferthol sydd ar feddygon teulu sydd yn eu swyddi nawr, y prynhawn yma, ym mhob rhan o Gymru a dweud y gwir. Felly, beth am arallgyfeirio ychydig yn fwy o arian ac adnoddau i ofal sylfaenol nawr er mwyn helpu’r meddygon yna sydd yn eu gwaith nawr, yn ogystal â denu meddygon yn y dyfodol?

Diolch am y pwynt, ac mae’n un rwy’n ei ddeall yn dda. Rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r grŵp gweinidogol rwyf wedi’i gynnull ac rwy’n ei gadeirio yw edrych ar y pwyntiau ynglŷn â newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn yn ogystal â chefnogi’r bobl sydd ynddo ar hyn o bryd. Felly, nid yw hwn yn bwynt sy’n ymwneud ag anwybyddu pobl sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd. Felly, roedd y cymhellion yn benodol ar gyfer delio a mynd i’r afael â meysydd angen. Rydym yn gwrando ar ein partneriaid o amgylch y bwrdd, a phartneriaid yw pawb—ystod o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gan gynnwys, wrth gwrs, Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol—i feddwl ynglŷn â sut yr awn ati i gefnogi ein practisau presennol yn well. Mae yna rywbeth am yr arian clwstwr sydd yno eisoes, a gwneud yn siŵr ei fod yn mynd allan i bractisau er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio a phenderfynu sut y maent am ei ddefnyddio gyda’u partneriaid mewn gofal sylfaenol. Mae yna rywbeth hefyd am edrych eto ar y fframwaith cynaliadwyedd a deall yr hyn sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod mwy o feddygfeydd yn rhan o hynny mewn gwirionedd. Oherwydd rydym wedi gweld nad yw pob practis sy’n wynebu her yn barod i fynd drwy’r broses honno lle y gellir darparu cymorth ychwanegol. Rwy’n credu bod yna rywbeth am y lefel o ymddiriedaeth a rhannu gwybodaeth i ganiatáu i’r cymorth hwnnw gael ei ddarparu. Felly, mae yna fwy o waith i ni ei wneud, ac mewn gwirionedd mae’n amser da i fod yn siarad am hyn oherwydd, wrth gwrs, rydym yn dechrau trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar ddyfodol y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yma yng Nghymru. Felly, digon o gyfle, o ran negodi contract, ond hefyd gyda’r gwaith rydym yn ei wneud i geisio gwella niferoedd y bobl, ond hefyd yr amrywiaeth o bobl yn y gweithlu gofal sylfaenol.

Hoffwn godi’r pwynt a wnaeth Nick Ramsay oherwydd mae’n gwbl annerbyniol fod traean o’r holl aildderbyniadau i’r ysbyty yn ganlyniad i gamgymeriadau gyda meddyginiaeth. Rwyf am ymchwilio ychydig ymhellach i’r pwynt penodol am bobl y penderfynwyd eu bod yn barod i adael yr ysbyty ac a allai fod wedi cael presgripsiwn. Pam na allent gasglu’r presgripsiwn hwnnw gan eu fferyllydd cymunedol yn hytrach na gorfod aros iddo gael ei ddosbarthu gan yr ysbyty? Oherwydd byddai hynny wedyn yn eu galluogi i adael yr ysbyty yn gynt, gan eu gwneud yn well yn gynt, a rhyddhau’r gwely i rywun arall.

Mae’n rhan o’r gwaith rwy’n disgwyl ei weld yn cael ei wneud gan fy mod yn credu mai’r peth delfrydol fyddai i bobl allu cael y feddyginiaeth honno, lle bynnag y bo modd, wedi’i darparu gan neu gyda’u fferyllfa gymunedol, boed yn ymwneud â chasglu neu wasanaeth cludo i’r cartref. Mae mwyafrif helaeth y fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaeth o’r fath. Rwy’n credu y byddai’n helpu i weld pobl yn gadael yr ysbyty pan fyddant yn barod i gael eu rhyddhau. Byddai hefyd yn delio â pheth o’r oedi yng ngwasanaeth fferyllol yr ysbytai y gwyddom ei fod yn digwydd hefyd. Felly, dylai pobl sy’n rhaid iddynt gael eu gweld gan fferyllydd ysbyty gael eu meddyginiaeth yn gynt, a bydd hefyd yn caniatáu i bobl adael. Felly, mae’n bendant yn rhan o’r gwaith rwyf wedi gofyn amdano ac fel y dywedais, rwy’n edrych ymlaen, yn ystod yr oddeutu chwe mis nesaf, at adrodd yn ôl i’r Aelodau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.

Gwasanaethau Newyddenedigol

5. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru? OAQ(5)0067(HWS)

Gwnaf. Rwy’n hapus i ddweud bod yr adroddiad gwyliadwriaeth diweddaraf ar farwolaethau amenedigol a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn dangos bod canlyniadau newyddenedigol Cymru yn debyg i’r DU gyfan, ac yn well na rhai ardaloedd sydd â lefelau tebyg o amddifadedd uchel. Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu ac mewn cyfalaf i ddatblygu gwasanaethau newyddenedigol ar gyfer y dyfodol.

Rwy’n falch o gydnabod y gwelliant yn y canlyniadau. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Bliss yn dangos mai dwy yn unig o 10 uned newyddenedigol oedd â digon o nyrsys i staffio’u cotiau yn unol â safonau cenedlaethol. Os methwch fynd i’r afael â’r mater hwn o ran nifer y nyrsys dan hyfforddiant fis Medi nesaf, yna oni fydd yn amhosibl i’ch Llywodraeth gyflawni’r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 13 Gorffennaf i staffio gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru yn briodol erbyn 2021? O ystyried hynny, tybed a allwch nodi pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd.

Diolch i chi am yr holl gwestiynau dilynol. Wrth gwrs, pan fydd gennym niferoedd y nyrsys dan hyfforddiant, rydym yn disgwyl derbyn rhai i mewn, ac mae heriau i ni eu darganfod a’u goresgyn i wneud yn siŵr ein bod yn cadw’r nyrsys hynny yn y system yng Nghymru os yn bosibl o gwbl. Mae yna broblem gyda recriwtio nyrsys yn gyffredinol beth bynnag. Fe wyddoch fod yna her gyffredinol ar draws gorllewin Ewrop, mewn gwirionedd, gyda recriwtio a chadw nyrsys. Nid yw’n rhywbeth unigryw i Gymru, ond mae’n golygu ein bod mewn marchnad gystadleuol iawn, yn union fel gyda rhannau o’r gwaith o recriwtio meddygon.

Nid wyf yn credu ein bod yn mynd i gyrraedd y pwynt lle na fydd modd cyflawni’r ymrwymiadau y mae’r Llywodraeth hon wedi’u gwneud. Yr her yw sut yr awn ati i’w wneud, ond dylai roi rhywfaint o hyder ein bod eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ystod o feysydd yn rhai o’r niferoedd nyrsio. Er enghraifft, yng ngorllewin Cymru, fe fyddwch yn gwybod ar ôl y cwestiwn yr wythnos diwethaf mai un o’r pethau a wnaed gyda’r model newydd yw gwella recriwtio a chadw staff nyrsio yn sylweddol. Felly, mae’n bosibl. Mae’n rhan o’r hyn rydym yn disgwyl ei weld. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y modelau gofal a ddarparwn yn ddeniadol i gadw nyrsys yno i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Ond wrth gwrs, fe welwch—mewn ffordd agored iawn, bob blwyddyn—ystod o wybodaeth am niferoedd y nyrsys sydd gennym mewn gwasanaethau newyddenedigol. Ac wrth gwrs, byddwn yn adrodd ar gyflawniad yn erbyn y safonau cenedlaethol hynny. Fy niddordeb yw gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y safonau cenedlaethol hynny a’n bod yn parhau i ddangos tystiolaeth o welliant go iawn yn y canlyniadau i famau a babanod hefyd.

Cyfraddau Gordewdra Ymhlith Plant

6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfraddau gordewdra ymhlith plant? OAQ(5)0063(HWS)

Er bod y ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn sefydlog, mae’r cyfraddau’n dal i fod yn annerbyniol o uchel. Mae ein rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad clir i fynd i’r afael â gordewdra, gan weithio ar draws y Llywodraeth a gydag ysgolion i hyrwyddo a chynyddu dewisiadau byw’n iachach.

Beirniadwyd cyhoeddiad cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra plentyndod gan ymgyrchwyr yn sgil glastwreiddio llawer o’r cynigion disgwyliedig, yn enwedig rhai’n ymwneud â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, sy’n cynnwys fy etholaeth i, mae 28.1 y cant o blant pedair i bump oed yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, y gyfradd ail uchaf yng Nghymru, ac mae angen dybryd i weithredu. A wnaiff y Gweinidog gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU fod y cynigion sydd wedi’u cynnwys yn eu cynllun gweithredu yn annigonol a bod angen ailedrych arnynt ar frys i roi’r amddiffyniad sydd ei angen i blant yn fy etholaeth ac ar draws Cymru?

Wel, ymunodd Llywodraeth Cymru â nifer o rai eraill i fynegi rhywfaint o siom ynglŷn â’r diffyg uchelgais yn strategaeth gordewdra mewn plentyndod Llywodraeth y DU. Mae yna nifer o feysydd lle y mae Llywodraeth Cymru wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn gyson i roi camau gweithredu mwy cadarn ar waith ar lefel y DU, ac mae hynny’n cynnwys camau llymach ar siwgr, er enghraifft, ac yn enwedig ar hysbysebu bwydydd afiach i blant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar yr union fater hwn, yn mynegi ein siom a’n pwyso am weithredu llymach hefyd. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd gennym yma yng Nghymru, er enghraifft, i gynorthwyo ein canolfannau diwydiant bwyd i helpu i ail-greu eu cynhyrchion i gynnwys llai o siwgr, halen a braster, ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod plant yn cael dechrau iachach mewn bywyd, er enghraifft, drwy ein rhaglen 10 Cam at Bwysau Iach, ein rhaglen Plant Iach Cymru a rhwydwaith Menter Ysgolion Iach, gyda 99 y cant o’r ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddi.

Clefyd Seliag

7. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi pobl â chlefyd seliag i'w helpu i gynnal ffyrdd iach o fyw? OAQ(5)0075(HWS)

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn dilyn canllawiau cenedlaethol i gynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i reoli cleifion â chlefyd seliag. Mae eitemau prif fwydydd, fel bara ffres a phasta, ar gael ar bresgripsiwn i helpu cleifion i wella eu statws maethol a chynnal ffordd o fyw iach a cytbwys.

Diolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Daeth etholwr sy’n dioddef o glefyd seliag i gysylltiad â mi. Mae’n ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i fwydydd sy’n sicr o beidio â chynnwys unrhyw glwten o gwbl, ac mae’n bryderus iawn y gall y prif fwydydd gael eu tynnu oddi ar y rhestr o bresgripsiynau am ddim. A ydych chi’n gallu tawelu meddwl fy etholwr ynglŷn â’r mater hwnnw?

Ydw. Nid oes unrhyw gynlluniau i newid y sefyllfa bresennol o ran bod eitemau o brif fwydydd megis bara ffres a phasta, fel y dywedais, ar gael ar bresgripsiwn. Mae fferyllfeydd cymunedol yn bwysig iawn am eu bod yn rhoi cyfle i bobl â chlefyd seliag brynu amrywiaeth eang o gynhyrchion, yn ogystal â’r hyn y maent yn ei gael ar bresgripsiwn. Mae hynny eto’n atgyfnerthu pwysigrwydd fferylliaeth gymunedol yn diwallu anghenion iechyd pobl â chlefyd seliag ac ystod eang o gyflyrau eraill.

Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau sydd ar gael yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0059(HWS)

Rwy’n disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau sy’n ddiogel ac yn effeithiol i ymateb i anghenion gofal iechyd brys. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai sydd â’r anghenion clinigol brys mwyaf difrifol yn cael eu trin yn gyntaf, a bod pob claf yn cael ei drin o fewn amser sy’n briodol yn glinigol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Daeth etholwr 87 oed i gysylltiad â mi yn ddiweddar. Roedd angen apwyntiad y tu allan i oriau yn sgil problem gyda chathetr yn oriau mân y bore. Gofynnwyd am ymweliad cartref dros y ffôn am 11.00 y bore a threfnwyd ymweliad. Ni ddaeth meddyg yn y diwedd nes 8.00 y nos, naw awr yn ddiweddarach, ar ôl nifer o alwadau ffôn yn y cyfamser. Yna, cynghorodd y meddyg y dylid cael ambiwlans i’w gludo i’r ysbyty. Cyrhaeddodd honno. Mae fy etholwr yn dweud bod y staff a fu’n ei drin yn rhagorol drwyddi draw, ond roedd yn bryderus iawn am yr oedi a brofodd mewn perthynas â’r gwasanaeth y tu allan i oriau, a gofynnodd i mi dynnu eich sylw at y mater yn y Siambr. Tybed a wnewch chi edrych ar yr achos hwn—rwy’n fodlon rhoi’r manylion i chi—ac a wnewch chi ddweud wrthym pa gyngor ac arweiniad rydych yn ei roi i’r byrddau iechyd lleol i geisio gwneud yn siŵr fod cyn lleied ag y modd, fan lleiaf, o’r mathau hyn o oedi’n digwydd.

Gwnaf, byddwn yn falch pe gallech roi manylion y digwyddiad i mi, yn enwedig yr adeg o’r wythnos y digwyddodd—ar y penwythnos neu yn ystod yr wythnos. Mae cathetrau wedi blocio yn broblem eithaf cyffredin i wasanaeth y tu allan i oriau. Mae hefyd yn rhan o’r her ynglŷn â chael gwasanaeth nyrsys ardal yn ogystal, fel rhan o welliant y mae angen i ni ei weld, gan na ddylai cathetr wedi blocio arwain at orfod mynychu adran ddamweiniau ac achosion brys. Nid wyf yn credu bod hynny’n briodol naill ai ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn bwysicach na hynny, nid yw’n briodol ar gyfer y dinesydd unigol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yn uniongyrchol am yr enghraifft hon, am ei bod yn enghraifft dda o’r hyn y mae angen i ni weld llawer llai ohono, ac o ran cathetrau wedi blocio, eu bod yn cael eu trin yn effeithiol gan y gwasanaeth gofal sylfaenol, boed yn ystod oriau agor neu y tu allan i oriau.

3. Cwestiwn Brys: Bashir Naderi

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Mae’r Llywydd wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, a galwaf ar Neil McEvoy i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

Yn sgil y tebygolrwydd buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? EAQ(5)0063(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n cydymdeimlo ag amgylchiadau’r achos hwn, ond nid yw mewnfudo yn fater datganoledig ac nid yw’n arfer gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau ar achosion unigol. Gwn fod Aelodau’r Cynulliad wedi cyflwyno sylwadau i’r Swyddfa Gartref, ac efallai y bydd eraill eisiau ymuno â hwy i wneud hyn.

Gwn nad yw mewnfudo yn fater datganoledig, ond mae cymunedau, felly dyna pam eich bod yn cael y cwestiwn, ac rwy’n falch iawn fod y datganiad barn yn cael ei wneud gan y Cynulliad; mae hynny’n bwysig iawn. Ond rwy’n credu pe bai’r Llywodraeth yn gwneud datganiad yna byddai hynny’n gwneud yr achos hyd yn oed yn gryfach, a dyna pam ein bod yn cael ein hethol: i sefyll dros bobl Cymru. Felly, rwy’n eich annog i wneud hynny.

Rwy’n deall bod llawer o’r Aelodau etholedig wedi cyflwyno sylwadau i’w hateb gan yr Ysgrifennydd Cartref, ac maent wedi cyflwyno achos cryf. Yn wir, mae ASau Caerdydd wedi gwneud hynny, ac maent wedi cyflwyno achos cryf dros achos Mr Naderi ac rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn cymryd sylw o’r sylwadau a fynegwyd yma ac ymhlith y cyhoedd yng Nghymru yn ehangach. Fodd bynnag, nid yw polisi mewnfudo wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Rwy’n sylweddoli na all y Llywodraeth ymyrryd mewn mater nad yw wedi’i ddatganoli, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn mynegi ein pryder. Heddiw, cyfarfûm â theulu Nicole Cooper, sef partner Mr Naderi, ac mae’r tad yn gyn-swyddog heddlu gyda 30 mlynedd o wasanaeth, a’r mab, sy’n frawd i Nicole Cooper, wedi cynrychioli Cymru yn y naid 300m—y 400m, mae’n ddrwg gennyf. Felly, dyma batrwm o deulu da a dyn ifanc rhagorol, ac mae’n peri pryder enfawr yn y gymuned ymhlith pobl sydd wedi cyfarfod â’r dyn ifanc hwn ac sydd wedi bod yn yr ysgol gydag ef, sydd wedi bod yn y coleg gydag ef, ac sy’n sylweddoli’n union faint o gyfraniad y gallai fod yn ei wneud yng Nghymru.

Felly, roedd yn wych cael arddangosiad mor wych o undod ymysg y pedair plaid yma yn y Senedd, ar y grisiau y prynhawn yma, ond rwy’n meddwl bod angen i ni ddangos ein pryder ynglŷn â cholli’r aelod gwerthfawr hwn o’r gymuned.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y sylwadau gan Jenny, a gwn fod Julie Morgan a Lynne Neagle hefyd wedi cyflwyno sylwadau i mi. Rwy’n cydymdeimlo â’r achos, ond nid fi sy’n penderfynu yma, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. Mae’r broses yma yn un glir, lle y mae angen cyflwyno sylwadau i’r Ysgrifennydd Cartref, a gwn fod yr Aelodau yn y Siambr hon wedi gwneud hynny. Nid yw ond yn iawn fod Aelodau’n gallu mynegi eu barn a’u cefnogaeth i’r teulu ac i’r unigolyn dan sylw yn y Siambr hon, ond yn anffodus, nid yw hwn yn fater datganoledig. Nid oes gennyf unrhyw gyfrifoldeb ynglŷn â hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n llwyr gefnogi ymyrraeth gyda’r Swyddfa Gartref er mwyn atal yr allgludiad hwn. Rwy’n cymeradwyo Jenny Rathbone, Julie, a Neil McEvoy am ddwyn hyn yn gyson i’r Siambr. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi siarad â’r Ysgrifennydd Cartref i bwyso arnynt i ailystyried yn yr achos hwn?

Fel yr ymatebais i’r cwestiynau eraill, cyfeiriaf yr Aelod at fy ymateb blaenorol i’r Aelodau. Mater i unigolion yw cyflwyno sylwadau fel yr Aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r cyrff hynny. Byddwn yn cynghori’r Aelod i ysgrifennu’n uniongyrchol at y Weinyddiaeth er mwyn gwneud ei sylwadau’n hysbys.

Rwy’n credu ein bod i gyd yn clywed yr hyn rydych yn ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran bod Aelodau’r Cynulliad, wrth gwrs, wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Ond er nad yw hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ac rydym yn derbyn y pwynt hwnnw hefyd, mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth wneud ei barn yn hysbys a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ar hynny?

Rwy’n meddwl fy mod i wedi gwneud fy ymateb yn glir iawn. Rwy’n cydymdeimlo ag amgylchiadau’r achos hwn, ac mae’r Aelodau wedi ei ddwyn i fy sylw yn ystod y ddadl hon ac yn gynharach. Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn—mae’n fater ar gyfer y Swyddfa Gartref, ac felly mae’n rhaid i’r Aelodau gyflwyno eu sylwadau i’r Swyddfa Gartref er mwyn iddynt wneud y penderfyniad priodol. Nid yw’n arfer cyffredin i Lywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau ar achosion unigol yma yng Nghymru.

Mae Bashir Naderi yn un o etholwyr Jenny Rathbone, ond mae nifer o’i ffrindiau a’i gefnogwyr yn byw yng Ngogledd Caerdydd. Yn benodol, cysylltodd menyw ifanc sy’n byw yng Ngogledd Caerdydd â mi—ei gyfaill—a dywedodd, ‘efallai fod Bash wedi cael ei eni dramor, ond mae’n Gymro bellach’. Cafodd ei fagu gan deulu maeth—mae hi’n dal yn fam iddo—cafodd ei addysg yma, nid oes ganddo gysylltiadau yn Affganistan, ac mae’n ymddangos yn gwbl annynol ac yntau’n 18 oed, fod y Swyddfa Gartref yn penderfynu wedyn,’Iawn, mae’n mynd yn ôl’. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn rydych yn ei ddweud nad yw mewnfudo wedi’i ddatganoli, ond os yw person sydd wedi cael yr holl wasanaethau gan Gymru, ac sydd am gyfrannu’n ôl i Gymru, yn cael ei gipio yn y ffordd annynol hon, a oes rhyw ffordd y gall y Llywodraeth gyfathrebu â’r Swyddfa Gartref ynglŷn â’r arfer hwn, y ffordd hon o weithredu? Oherwydd rwy’n ymwybodol o bobl eraill y mae hyn wedi digwydd iddynt yn y ffordd sydyn hon, ac rwy’n teimlo os yw hyn yn digwydd i rywun sy’n byw yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb yma yn y Senedd.

Wrth gwrs, unwaith eto, rwy’n cydnabod yr ymrwymiad llwyr gan Aelodau yn y Siambr hon i gefnogi Bashir. Mae’r mater, wrth gwrs, yn un technegol mai’r Swyddfa Gartref sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn. Pe bai’n benderfyniad i mi, gallem fod yn cael trafodaeth wahanol iawn. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn siŵr y bydd y Swyddfa Gartref yn cael ei gwneud yn gwbl ymwybodol o’r drafodaeth hon ac am y cwestiwn brys yma heddiw, a bydd y Gweinidog yn cael gwybod am eich safbwyntiau yn y broses honno.

4. Cwestiwn Brys: Ysbyty Glan Clwyd

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Mae’r ail gwestiwn brys wedi cael ei dderbyn gan y Llywydd, a galwaf ar Llyr Gruffydd i’w ofyn.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan? EAQ(5)0076(HWS)

Member
Vaughan Gething 15:22:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Mae’r bwrdd iechyd wedi derbyn yn llawn y methiannau a’r argymhellion a nodwyd yn yr achos unigol hwn. Rwy’n falch y bydd prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro’n bersonol i’r claf dan sylw. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd roi camau cyflym ar waith mewn perthynas â’r argymhellion, a bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn monitro cynnydd yn ofalus.

Diolch ichi am eich ymateb. Rwyf innau hefyd yn cydnabod y modd y mae’r bwrdd iechyd yn ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn yr adroddiad, ond ysywaeth, wrth gwrs, mae’n teimlo fel pe bai’r adroddiadau yma’n ymddangos yn wythnosol y dyddiau hyn. Mae’n bwysig cydnabod mai achosion hanesyddol, wrth gwrs, yw nifer o’r achosion yma sydd yn dod i’r golwg, a bod y bwrdd yn trio datrys eu problemau, a hwythau, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig. Ond nid oes arwydd, hyd y gwelaf i, fod rhai o’r problemau sylfaenol sy’n ymwneud â staffio—sydd wedi bod wrth wraidd rhai o’r achosion yma sydd wedi cael eu hamlygu—wedi cael eu datrys. Fe ddywedodd y prif weithredwr yn ei ymateb i’r adroddiad heddiw fod yr adran wrolegol yn dal i fod o dan bwysau difrifol. Mae’r ombwdsmon, wrth gwrs, yn dweud fod rhaid adolygu capasiti, ac felly fy nghwestiwn i yw: a wnewch chi dderbyn mai’r ffactor sylfaenol yn nifer o’r achosion rydym ni wedi’u gweld, gan gynnwys yr un diweddaraf yma, yw’r diffyg staff, a bod problemau staffio yn arwain at bwysau cynyddol ar unigolion a gwasanaethau, sydd yn ei dro, ysywaeth, yn ei gwneud hi’n fwy tebygol bod camgymeriadau yn digwydd? A gaf i ofyn felly beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i ddatrys y mater sylfaenol hwnnw?

Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau yn y cwestiwn dilynol. Fel y soniais yn gynharach mewn ymateb i’ch cyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, pan soniodd am yr achos penodol hwn, mae yna heriau’n ymwneud â’r gofal a ddarparwyd a’r model gofal a ddarparwyd, ond hefyd, amlygodd yr achos hwn her real iawn ynglŷn â’r ffordd annerbyniol y cafodd y gŵyn ei hun ei thrin. Mae hynny’n rhan bendant o hyn hefyd. Rwy’n credu y gellid bod wedi cael gwared ar lawer o’r pryder pe bai’r bwrdd iechyd wedi ymdrin â’r gŵyn mewn ffordd fwy amserol, a phe na bai wedi penderfynu symud y gŵyn i ddiwedd y cyfnod o gael ffurf ar ofal mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod hynny’n dderbyniol, ac rwyf am ddweud yn wirioneddol glir na ddylai hynny ddigwydd yn y bwrdd iechyd, neu unrhyw fwrdd iechyd arall, yn y dyfodol. O ran y pwyntiau am gyfansoddiad gwasanaethau canser a’r pwysau, mae peth o hyn yn bwysau ledled y DU a pheth ohono’n bwysau mwy lleol hefyd. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau wroleg o dan bwysau ar draws y DU, felly mae rhywbeth yma sy’n ymwneud â deall, unwaith eto, sut i gael y math cywir o wasanaeth. Felly, mae hynny’n ymwneud â buddsoddi cyfalaf ac mae hefyd yn ymwneud â model gofal yn ogystal.

Mae hyn yn wir yn mynd at wraidd y pwynt a wnewch am heriau’r gweithlu, oherwydd dywedais mewn ymateb i gwestiynau yn gynharach heddiw—ac ymhob cwestiwn rwy’n delio ag ef fwy neu lai mae yna gwestiwn bron bob amser ynglŷn â’r gweithlu—mae’n ymwneud â phwy sydd gennym, a ydynt ar y raddfa gywir, a oes gennym ddigon ohonynt, a sut rydym yn cael mwy o staff mewn marchnad sydd bron bob amser yn un wirioneddol gystadleuol, nid yn unig o fewn y DU, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Dyna pam y mae cael y modelau cywir o ofal yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn ei gwneud yn llawer anos recriwtio i fodelau gofal nad ydynt yn cyflawni ac sy’n gadael pobl mewn sefyllfa lle y mae’r gwasanaeth yn annhebygol o gael ei ystyried yn gynaliadwy. Felly, mae yna ystod o wahanol bethau y mae angen i ni eu gwneud.

Fe welwch y camau gweithredu y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith yn y ffordd rydym yn comisiynu lleoedd a’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gweithlu i wella cynllunio’r gweithlu yn yr wythnosau a’r misoedd cyfredol. Mae hwnnw’n waith hirsefydlog; bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar hynny yn y dyfodol agos. Wedyn fe welwch hefyd y gwaith rydym yn mynd i’w wneud o ran y buddsoddiad y byddwn yn ei wneud eto mewn lleoedd addysg a hyfforddiant yma yng Nghymru, a’r ffordd rydym yn cynorthwyo ein myfyrwyr hefyd. Mae’n mynd gyda’r pwynt a wnaeth eich cyd-Aelod, Dai Lloyd, hefyd ynglŷn â deall yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddod â mwy o bobl i mewn, boed yn ofal sylfaenol neu’n ofal eilaidd, ond hefyd i gadw’r bobl sydd gennym. Mae amrywiaeth o wahanol bwyntiau yn hyn i gyd, ac ni fyddwn yn esgus bod yna un ateb syml i ddelio â dim o hyn. Yr her i’r Llywodraeth a’r byrddau iechyd—a’r ddeoniaeth yn ogystal—yw sut rydym yn mynd i sicrhau bod yr amgylchedd rydym yn ei greu yng Nghymru yn un lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac ar yr un pryd, lle y caiff ein disgwyliadau uchel eu bodloni, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i weld y system yn newid yn gadarnhaol yw ymdrin â’r heriau hyn i’r gweithlu a pharhau i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel y byddai pobl, yn ddigon teg, yn ei ddisgwyl gan ein gwasanaeth iechyd gwladol.

Gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i Glan Clwyd a Wrecsam Maelor am y driniaeth ganser y maent wedi’i rhoi i aelodau o fy nheulu. Serch hynny, mae hyn yn amlygu pryderon difrifol. Mae gennyf—ni ddarllenaf bob un ohonynt—gwynion a gadarnhawyd gan yr ombwdsmon yn erbyn Glan Clwyd yma yn 2012, dau yn 2013, ac un ym mis Medi eleni, pan fu farw gŵr a oedd yn dioddef o fethiant arennol cronig, a theimlai’r ombwdsmon fod diffyg cyfrifoldeb llwyr ar ran y meddyg ymgynghorol a diffyg meddygon arennol ar y diwrnod dan sylw. Cefais un arall y mis hwn, pan gadarnhawyd cwyn gan ferch fod triniaeth ei thad ar ôl llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn annigonol, gan arwain at ei farwolaeth o sepsis, ac yn awr hyn. Rydych yn dweud bod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro, ac rwy’n siŵr ei fod, ac rwy’n croesawu hynny, ond ym mhob achos, mae’r ombwdsmon wedi gwneud amryw o argymhellion i’r bwrdd iechyd yn nodi y dylid adolygu gweithdrefnau, trefniadau archwilio a hyfforddiant ac ym mhob achos, mae’r bwrdd iechyd prifysgol wedi derbyn ei argymhellion. Sut rydych chi’n bwriadu ysgogi’r newid diwylliannol yn y sefydliad fel bod pawb, pa un a yw pobl yn lanhawyr, yn staff cynnal a chadw, yn staff nyrsio, yn feddygon neu’n glinigwyr, yn teimlo’n llawn cymhelliant ac yn rhan o dîm gyda rheolwyr sy’n cyfyngu ar y mathau hyn o broblemau yn y dyfodol drwy ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y claf, er gwaethaf y pwysau arnynt ac ysbytai eraill ledled Cymru wrth gwrs?

Diolch i’r Aelod am ei gyfres o gwestiynau a phwyntiau. Mae rhywbeth yma am ganser—ac rwy’n falch o’i glywed yn cydnabod y driniaeth a gafodd aelodau o’i deulu, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, mewn gwirionedd mae gan Betsi Cadwaladr enw da am gyflymder ac ansawdd triniaethau yn y gwasanaethau canser. Ond nid yw hynny’n golygu y dylech anwybyddu’r meysydd hynny lle rydym yn cydnabod nad yw’r ansawdd wedi cael ei ddarparu. Fe wnaf y pwynt hwn: nid yw adroddiadau’r ombwdsmon yn cael eu hanwybyddu gan y byrddau iechyd na’r Llywodraeth. Felly, gall y bwrdd iechyd, fel y bydd yn gwybod, ddisgwyl gweld camau dilynol yn deillio o’r adroddiad hwn, i weld bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu.

Yr her bob amser yw sut i gael system adrodd a all gydnabod lle y bu methiannau, i roi rhywfaint o allu i bobl gael cymorth ac ar yr un pryd, sut rydym yn ceisio darparu amgylchedd dysgu a gwella yn ogystal, gan mai’r her—yn yr achos hwn, roedd pedwar meddyg ymgynghorol gwahanol yn ymwneud â gofalu am yr unigolyn hwn. Mae gwersi i’w dysgu i bob person a phob aelod o’r tîm ehangach. Yr her yw sut i sicrhau wedyn bod yr hyn a ddysgir yn cael ei weithredu ac nad ydym yn symud at system lle y mae’n system o roi bai, i bob pwrpas, oherwydd mewn gwirionedd dyna’r peth gwaethaf y gallem ei wneud, gan y byddai hynny naill ai’n arwain at bobl sydd eisiau cuddio’u camgymeriadau neu symud i ffwrdd oddi wrthynt, neu os ydym am gyflogi mwy o bobl i ddod yn rhan o wasanaeth a bod mwy o bobl yn beio’i gilydd, nid dyna’r ffocws cywir ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae’n rhaid rhoi sylw i wella yn ogystal ag atebolrwydd, ac mae’r cydbwysedd hwnnw, rwy’n meddwl, yn cael ei gyflawni, ond nid yw’n golygu y byddwn yn cael popeth yn berffaith gywir yn y Llywodraeth yn ein perthynas â byrddau iechyd, a’r byrddau iechyd eu hunain hefyd. A dyna pam rydym eisiau rhywfaint o aeddfedrwydd yn y drafodaeth am y dyfodol.

Rwy’n meddwl, fodd bynnag, yn ystod y tymor nesaf hwn, y dylai’r Aelodau ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd a chanlyniadau’r gwasanaeth, a lle y ceir cwynion, fel gydag unrhyw wasanaeth ar raddfa o’r fath—a bydd, fe fydd yna adegau pan na fyddwn yn cael pethau’n iawn—. Hyd yn oed mewn system sy’n perfformio’n ardderchog, yr her yw beth rydym yn ei wneud am bethau fel ein bod yn lleihau’r risgiau hynny, a thriniaeth annerbyniol o’r fath, a beth rydym yn ei wneud i ddysgu gwersi o hynny, er mwyn deall yr hyn y mae angen i ni ei wella yn y dyfodol, a gwneud yn siŵr nad ydym yn ei weld yn digwydd yn y dyfodol hefyd.

Felly, rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed, ac fel y dywedais, nid yw’r adroddiadau hyn yn cael eu hanwybyddu, maent yn cael eu cymryd yn gyfan gwbl o ddifrif, gan y Llywodraeth, ac yn wir, y byrddau iechyd eu hunain.

Gwn o brofiadau aelod o’r teulu, a gafodd ganser rai blynyddoedd yn ôl, ac a gafodd ei drin yn Ysbyty Glan Clwyd, fod y staff meddygol ar y rheng flaen yn gwneud eu gorau glas i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn brydlon. Fodd bynnag, nid dyma’r tro cyntaf i’r ombwdsmon ganfod methiannau’n ymwneud â thriniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd er gwaethaf ymdrechion amlwg y staff ar y rheng flaen. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i sicrhau bod y staff meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaeth meddygol effeithiol ac effeithlon, a pha gamau uniongyrchol y mae’r Gweinidog yn mynd i’w rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r methiannau mewn gofal yn Ysbyty Glan Clwyd y mae’r ombwdsmon wedi’u hamlygu?

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o ran gyntaf y cwestiwn wedi’i ateb, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, Llyr Gruffydd, a hefyd Mark Isherwood. Ac rwy’n falch o ddweud nad mater o ddiffyg ymdrech yw hyn, ond rhywbeth am ddiwylliant dysgu, lle y mae pobl yn mynd ati i herio o ddifrif, ac i herio’n adeiladol, y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu mewn timau amlddisgyblaethol.

O ran gweithredu’n uniongyrchol, eto, rwyf wedi egluro na fydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu’r adroddiad. Mewn perthynas â’r trafodaethau am atebolrwydd sy’n digwydd gyda’r prif weithredwr a’r cadeirydd, rwyf wedi egluro y bydd y mater yn cael sylw, ac y gallant ddisgwyl gweld gwaith dilynol gan swyddogion yn ogystal, i wneud yn siŵr fod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei weithredu, a bod modd darparu tystiolaeth fod y gwersi hynny wedi’u dysgu, gan staff unigol ac ar draws y system gyfan hefyd. Oherwydd, fel rwy’n dweud, rwyf eisiau gweld dysgu a gwella’n digwydd o ganlyniad i bob un o’r adroddiadau hyn, yn hytrach na cheisio beio unigolyn penodol a pheidio ag edrych ar yr hyn y gallai ac y dylai’r system gyfan ei wneud yn wahanol.

5. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn yn awr at eitem 3, sef y datganiadau 90 eiliad, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan David Rees.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe roedd hi’n bymtheg mlynedd ers y ffrwydrad erchyll yn ffwrnais chwyth rhif 5 yng ngwaith dur Port Talbot. Digwyddodd y ffrwydrad am 5:15 yr hwyr ar 8 Tachwedd 2001, a daeth llawer o drigolion ym Mhort Talbot yn ymwybodol o’r digwyddiad yn gyflym ar ôl clywed bang uchel y ffrwydrad.

Collodd tri o weithwyr dur eu bywydau y diwrnod hwnnw—Andrew Hutin, 20 oed, Stephen Galsworthy, 25 oed, y ddau o Bort Talbot, a Len Radford, 53 oed, o Faesteg. Anafwyd nifer o weithwyr dur eraill, a dioddefodd rhai ohonynt anafiadau sy’n newid bywyd.

Ymatebodd y gwasanaethau brys yn gyflym, yn fewnol yn y gwaith dur ac yn allanol, a mynd ar y safle. Bu’n rhaid iddynt wynebu golygfeydd erchyll. Cludwyd y rhai a anafwyd, a llawer ohonynt â llosgiadau difrifol, i’r gwahanol ysbytai yn yr ardal, a chawsant ofal rhagorol gan y GIG. Heddiw, rwyf am gofio’r rhai a fu farw, y rhai a anafwyd, a’r rhai a ddioddefodd, ac sy’n dal i ddioddef o anhwylder straen wedi trawma, o ganlyniad i fod yn y digwyddiad hwnnw. A gadewch i ni beidio ag anghofio eu teuluoedd chwaith. Rwyf hefyd yn awyddus i ddiolch, unwaith eto, i’r holl staff argyfwng, a staff y GIG, a ymatebodd i’r digwyddiad hwn.

Wrth i ni geisio sicrhau dyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y peryglon y mae gweithwyr dur yn eu hwynebu bob tro y byddant yn dechrau eu sifftiau yn ein gweithfeydd dur, ac wrth wneud hynny, mae gweithwyr dur yn cyflawni ar gyfer y DU. Mae’n bwysig ein bod yn awr yn sicrhau diwydiant cryf a diogel ar eu cyfer.

Diolch. Rwyf fi a Llyr Gruffydd, a llawer o bobl eraill ar draws y wlad, ar hyn o bryd yn tyfu blew wyneb ar yr union eiliad hon, y Movember hwn, i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at ymchwil canser y prostad, ac agweddau ehangach ar iechyd dynion hefyd, gan gynnwys iechyd meddwl a chanser y ceilliau.

Pam y mwstashis? Oherwydd bydd pobl yn gofyn i ni beth y mae’n ei olygu: a ydym yn ei wneud er mwyn ennill bet, neu waeth? Ac yna gallwn ddweud wrthynt, oherwydd erbyn hyn rydym yn siarad, rhywbeth nad yw dynion yn tueddu i’w wneud yn dda iawn ar y materion hyn. Mae’n dipyn o hwyl, gyda phwrpas difrifol.

Mae’r sefydliad Movember yn elusen iechyd dynion fyd-eang, sy’n codi arian i ddarparu ymchwil blaengar ac arloesol sy’n galluogi dynion i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach. Mae miliynau wedi ymuno â’r mudiad, gan godi dros £440 miliwn, ac ariannu mwy na 1,200 o brosiectau, gan ganolbwyntio ar ganser y prostad, canser y ceilliau, ac atal hunanladdiad. Mae’r sefydliad yn annog dynion i aros yn iach ym mhob agwedd ar eu bywydau, gyda’r ffocws ar fod yn fwy agored i drafod eu hiechyd ac adegau arwyddocaol yn eu bywydau.

Felly, dyma sôn yn gyflym am bawb sy’n ymwneud â gwaith ymchwil arloesol megis Prostad Cymru a Prostate UK, a’r rhai sy’n ymwneud â mudiad Sied y Dynion, a ddechreuodd yng Nghymru, yn Nhon-du, ac i bawb arall sy’n ceisio gwella iechyd meddwl a chorfforol dynion. Diolch i’r Llywydd am adael i ni dynnu sylw at y materion pwysig hyn ynglŷn ag iechyd dynion yma yn ein Cynulliad, a thrwy wneud hynny, i siarad â Chymru. Mae angen i ni i gyd siarad mwy am hyn, ac mae angen i ni weithredu, a gobeithio y gall ein mwstashis bach helpu. Movember hapus.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Tua blwyddyn yn ôl, cyfarfûm ag Elly Neville o Sir Benfro, ac roedd Elly wedi ennill cystadleuaeth i ddylunio collage baner Sir Benfro yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro fel rhan o’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn yr ysgol. Yna aeth Elly a’i theulu â’r faner o amgylch Sir Benfro i godi arian ar gyfer y gwaith o adnewyddu ac uwchraddio ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, i’w gwneud yn ward ganser benodedig unwaith eto. Roedd ei thad, Lyn, wedi bod yn glaf cemotherapi ar ward 10 ei hun ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn.

Mae apêl baner ward 10 Elly wedi tyfu a thyfu. Yn awr, mae’n rhan swyddogol o elusennau iechyd Hywel Dda. Hyd yn hyn, mae’r ymgyrch wedi codi dros £52,000, ac wedi prynu ei offer cyntaf ar gyfer y ward. Y cam nesaf yw cael cymeradwyaeth i’r achos busnes llawn ar gyfer adnewyddu ward 10, a oedd wedi rhoi’r staff ymroddedig a’r cyfleusterau ar gyfer adferiad ei thad. Ond bydd hyd yn oed campau aruthrol Elly angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adnewyddu o’r fath ar y ward.

Efallai y dylwn fod wedi crybwyll mai chwech oed yw Elly. Mae ei chyfraniad eisoes wedi bod yn wych, ac mae hi’n glod i’w theulu, ei hysgol a’i chymuned. Derbyniodd wobr Dinesydd Prydeinig Ifanc y mis diwethaf yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cymeradwyaf ei gwaith a’r elusen i’r Cynulliad. Diolch yn fawr, Elly.

6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyfodol Polisïau Gwledig ac Amaethyddol yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddyfodol polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, Mark Reckless.

Diolch. Os ydym am sicrhau’r fargen orau posibl i’n cymunedau gwledig, amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae’n rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn glir o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU. Rydym ni, yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyrraedd consensws cynnar yn seiliedig ar gyngor arbenigol a barn ein rhanddeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor a minnau i wneud y datganiad hwn er mwyn anfon neges glir at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae Cymru ei eisiau ar ddechrau’r broses ymadael.

Rydym yn chwilio am ddau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyntaf yn ymwneud â chyllid yn y dyfodol. Credwn fod yn rhaid i Gymru barhau i gael yr un lefel o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig ag y mae’n ei chael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Wedi’r cyfan, dyma oedd yr addewid a wnaed gan nifer o uwch-ymgyrchwyr ar yr ochr Gadael yn refferendwm yr UE. Er ein bod yn cydnabod nad oedd yr ymgyrch Gadael yn siarad ar ran Llywodraeth y DU, mae sawl un o’u huwch-ymgyrchwyr bellach yn gwneud hynny, yn enwedig yr Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Mae’r ail ymrwymiad yn ymwneud â rhyddid polisi i Gymru. Dylai penderfyniadau ar bolisïau amaethyddol, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn y dyfodol gael eu gwneud yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae’r cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli. Pe bai’r achos yn cael ei wneud dros fframwaith polisi ledled y DU ar ryw lefel, yna dylid gwneud hyn ar sail cytundeb rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn cefnogi trafodaeth ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai cytundeb ar unrhyw fframwaith polisi trosfwaol fod yn destun craffu gan y Seneddau a’r Cynulliadau datganoledig a dylai alw am eu caniatâd. Os yw Llywodraeth y DU yn sicrhau parhad i gyllid blaenorol yr UE i Gymru yn llawn, yna rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ymrwymiad yn gyfnewid am hynny. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gytuno i ddiogelu cyllid, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i Gymru, ar gyfer cefnogi polisi amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig.

Ar ran y Pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at Andrea Leadsom AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i ofyn am ymrwymiad i gynnal y cyllid ar gyfer Cymru. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y mae’n bleser gennyf ei gweld yn y Siambr, i ofyn am sicrwydd y byddai cronfeydd o’r fath yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu defnyddio i gynnal amaethyddiaeth, yr amgylchedd a’n cymunedau gwledig.

Ni allwn gynnig polisïau yn y dyfodol gyda hyder heb yr ymrwymiadau hyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol cydnabod bod cyllid cyfredol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig sawl gwaith yn fwy nag y byddai pe bai’n ddarostyngedig i fformiwla Barnett.

Mae angen parhau arian blaenorol yr UE i sicrhau cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol ein hardaloedd gwledig. Hebddo, rydym mewn perygl o golli’r cydlyniant diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol unigryw sy’n nodweddu’r Gymru wledig.

Mae gwaith y pwyllgor ar ein hymchwiliad i amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn sgil gadael yr UE wedi ymwneud â mwy na chyllido yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda ffermwyr, coedwigwyr ac amgylcheddwyr. Ym mis Medi, fe ymwelsom â ffermydd a chynhyrchwyr bwyd yng Ngheredigion. Y mis diwethaf, aethom ati i gynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal â chynnull seminar o academyddion blaenllaw. Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ymweld â ffermydd yn Eryri.

Yn ychwanegol at y safbwynt ar gyllid yn y dyfodol, mae ein pwyllgor wedi ffurfio barn gychwynnol ar ddwy egwyddor lefel uchel arall. Y nod yw i’r ddwy gefnogi newid esblygol, yn hytrach na newid sydyn mewn polisi. Yn gyntaf, rydym yn cefnogi’r symud sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â chymorth ariannol oddi wrth daliadau sy’n seiliedig ar erwau a chynhyrchiant hanesyddol, a thuag at amcanion amgylcheddol a rheoli tir y cytunwyd arnynt. Yn ail, rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi ffermydd mwy ymylol, gan gynnwys mewn ardaloedd mynyddig. Dylai helpu ffermwyr tlotach yn arbennig helpu hefyd i gynnal consensws cyhoeddus a gwleidyddol dros gymorth i ffermydd. Fodd bynnag, bydd datblygu egwyddorion polisi fel y rhain yn ddiystyr, oni bai ein bod yn sicrhau’r arian angenrheidiol yn y dyfodol.

Gobeithio y gall pob plaid yn y Cynulliad gefnogi ein gwaith a’r alwad a wnawn heddiw ar gyllid yn y dyfodol. Yn amodol ar hynny, gallwn i gyd wneud y gorau o’r cyfleoedd i gyflawni dros bobl ac amgylchedd Cymru. Diolch.

A gaf fi ganmol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am benderfynu edrych ar y polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru yn y dyfodol fel un o’i ymchwiliadau cyntaf? Wrth gwrs, amaethyddiaeth yw asgwrn cefn yr economi wledig ac mae’n cyfrannu’n aruthrol i economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn archwilio’r polisïau hyn yn enwedig yn sgil y penderfyniad i adael yr UE. Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig i’r Cynulliad graffu ar bolisïau amaethyddol a gwledig, hoffwn ddeall ychydig mwy am holl gwmpas yr ymchwiliad hwn, ac felly y canlyniadau realistig y gallwn eu disgwyl drwy gydol y broses hon. Felly, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor ddweud mwy wrthym am gwmpas yr ymchwiliad hwn yn ei ymateb yma y prynhawn yma.

Nawr, rwy’n siŵr y bydd y Cadeirydd yn cytuno â mi fod polisïau gwahanol yn galw am ymrwymo mwy o amser, o gofio bod rhai wedi gwreiddio’n ddyfnach nag eraill yn neddfwriaeth yr UE, neu’n ddibynnol arni hyd yn oed. Felly, a all ddweud wrthym a fydd unrhyw hyblygrwydd yn amserlennu’r pwyllgor i ychwanegu cyfarfodydd ychwanegol fel bod pob agwedd ar yr ymchwiliad yn cael ei drafod yn llawn?

Wrth gwrs, mae’n bwysig fod y pwyllgor yn gwneud popeth a all i annog rhanddeiliaid a chymunedau gwledig i fod yn rhan o unrhyw ymchwiliad ac rwy’n falch fod gweithdy ac ymweliad pwyllgor eisoes wedi’u cynnal, fel y crybwyllodd yn ei ddatganiad yn gynharach.

Deallaf fod yr ymgynghoriad ar yr ymchwiliad hwn, sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi, yn dod i ben ar 25 Tachwedd, felly a all Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau sut y bydd y pwyllgor wedyn yn ymateb i’r atebion a ddaw i law? Yn ddealladwy, o gofio natur eang yr ymchwiliad hwn, sut y bydd yn ymdrin â phynciau polisi gwledig pwysig ar wahân y gallai eu cael o ganlyniad i’r ymchwiliad penodol hwn? Wrth gwrs, mae digon o waith craffu polisi i bara am amser hir i’r pwyllgor hwn o fewn y briff amaethyddol yn unig. Felly, mae’n bwysig fod rhanddeiliaid yn gwbl ymwybodol o bob cam o broses ymchwilio’r pwyllgor.

Bydd Aelodau sydd wedi bod yma ers peth amser yn cofio Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y trydydd Cynulliad, a oedd yn is-bwyllgor parhaol i ystyried materion sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig. A all y Cadeirydd ddweud wrthym beth oedd ei asesiad o’r pwyllgor hwnnw ac a yw’r pwyllgor presennol wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o atgyfodi is-bwyllgor tebyg i edrych ar ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig ar sail barhaus yn hytrach nag ymchwiliad untro’n unig?

Er y gall fod yn fanteisiol cael fframwaith ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, drwy gydsyniad, i’r DU gyfan, ac ar gyfer rheoliadau amgylcheddol yn ogystal, cytunaf yn llwyr â barn y pwyllgor fod yn rhaid i’r pwyllgor sicrhau bod y prif gyfrifoldeb polisi yn y meysydd hyn yn dychwelyd i Gymru o Frwsel. Rwy’n falch o nodi o’r datganiad heddiw y bydd y pwyllgor hefyd yn pwyso ar Lywodraethau ar bob lefel i sicrhau bod amaethyddiaeth, materion gwledig a’r amgylchedd yn parhau’n flaenoriaethau ariannol oherwydd yn amlwg, dyma’r meysydd a gaiff eu profi fwyaf wrth i ni adael yr UE.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o weld y bydd y polisi materion gwledig ac amaethyddol yn cael eu craffu ymhellach ar lefel pwyllgor Cynulliad. Rydym yn wynebu cyfnod pan fydd angen gwneud nifer o benderfyniadau pwysig mewn perthynas ag amaethyddiaeth Cymru a bydd effaith fawr ar y Gymru wledig. Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i amaethyddiaeth a pholisïau gwledig, yn sgil gadael yr UE. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnwys yr holl randdeiliaid wrth drafod ffyrdd o wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chydnerth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Felly, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad heddiw? Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yr ymchwiliad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ei gyfraniad ac am ei waith ar ran ei blaid ac eraill yn y meysydd hyn. Fel y dywed, amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi wledig, ond rydym yn ymwybodol na ddylem ddiffinio amaethyddiaeth yn rhy gyfyng. Mae posibiliadau amaeth a’r math o amaethyddiaeth wedi newid ac yn parhau i newid, ond hefyd mae’r gallu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru i arallgyfeirio o amaethyddiaeth draddodiadol a denu incwm drwy ddarpariaeth arall yn sylweddol iawn. Hefyd, yn ein cais i Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddiogelu gwariant yn y meysydd hyn, ni fyddem am fod yn rhy gyfyngol o ran yr union ddiffiniad a’r ffiniau o amgylch y meysydd hynny, gan ein bod yn cydnabod bod y rheini’n newid dros amser.

Mae cwmpas ein hymchwiliad wedi datblygu ac rwy’n credu mai un o’r heriau mawr i’r pwyllgor oedd penderfynu beth yw cwmpas priodol yr ymchwiliad. Roeddwn yn yr Alban wythnos neu ddwy yn ôl, a siaradais â’r person y maent yn ei alw’n gynullydd yr hyn sy’n cyfateb i’n pwyllgor materion gwledig yn yr Alban, ac maent wedi dewis, hyd yn hyn o leiaf, peidio â chynnal ymchwiliad o’r fath ac roedd ganddynt ddiddordeb yn y ffaith ein bod ni’n gwneud hynny ac yn yr heriau rydym yn eu hwynebu. Rwy’n meddwl hefyd, ynghyd â phwyllgorau eraill, ein bod yn dod o hyd i’n traed o ran cysylltiadau â’r pwyllgor materion allanol, a gadeiriwyd yn fedrus gan David Rees yma, ac yn ein cysylltiadau a’n trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth DU i’r graddau y gallwn eu cael.

Yr hyn rydym wedi penderfynu ei wneud yw i mi wneud y datganiad hwn heddiw yn nodi pa mor gwbl ganolog yw’r canfyddiadau. Oherwydd wrth i ni barhau, rwy’n credu ei bod wedi dod yn amlwg i ni y gallem dreulio llawer iawn o amser yn llunio cynigion polisi manwl a syniadau gwych o’r hyn y byddem yn hoffi ei wneud yn y dyfodol, ond mewn gwirionedd, heb ymrwymiad cliriach a hyder ynghylch cyllid, gallai’r gwaith hwnnw fod yn wastraff. Felly, rydym yn awyddus iawn i roi’r datganiad clir iawn ein bod yn disgwyl i’r lefel honno o gyllid barhau ac rydym yn gobeithio y bydd y Cynulliad yn gallu mynegi hynny i Lywodraeth y DU ar sail drawsbleidiol.

Rydym hefyd wedi cynnig dwy egwyddor arall, a drafodwyd gennym mewn gweithdy rhanddeiliaid ac roeddem yn meddwl bod yr ymateb cychwynnol yn weddol gadarnhaol, er, wrth gwrs, efallai y bydd rhywfaint o anfantais i rai ffermwyr a rhai ardaloedd yn sgil y tueddiadau sy’n parhau. Ond maent yn dueddiadau parhaus y credwn y gallant helpu i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r hyn rydym yn dadlau drosto mewn perthynas â chyllido a’r angen i’r arian hwnnw barhau.

Mae gennym hyblygrwydd yn yr amserlen; rydym wedi galw am dystiolaeth ac ymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 25 Tachwedd. Ein bwriad yw cael sesiynau tystiolaeth ym mis Ionawr, felly os oes yna arbenigwyr, grwpiau buddiant neu unigolion penodol y mae’r Aelod o’r farn y dylem glywed ganddynt, byddwn yn falch iawn o glywed ei sylwadau ar hynny. Roeddwn yn gwybod am yr is-bwyllgor a oedd yn cyfarfod yn flaenorol ac rwyf wedi clywed adroddiadau cadarnhaol, yn enwedig o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ei waith. Nid wyf yn meddwl fy mod yn bradychu unrhyw gyfrinach arbennig drwy ddweud bod y pwyllgor wedi trafod y defnydd posibl o is-bwyllgorau a rapporteurs. Hyd yma, nid ydym wedi penderfynu sefydlu is-bwyllgor ar gyfer hyn. Rwy’n credu mai ein bwriad fyddai adrodd tuag at ddiwedd chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf, ond yn dibynnu ar ddatblygiadau yn y trafodaethau cyffredinol ar adael yr UE, yn ogystal ag o fewn y sector amaethyddiaeth a datblygu gwledig, mae’n faes y gallem yn sicr ddychwelyd ato o ystyried ei flaenoriaeth a’i bwysigrwydd i waith y pwyllgor.

Fel yr Aelod, rwy’n cytuno â’r fframwaith ar gyfer y DU gyfan. Rwyf hefyd yn awgrymu, rwy’n credu, fod trafodaethau Cymru-y DU hefyd yn bwysig, gan fod yna gyd-destun gwleidyddol gwahanol yng Nghymru, lle y gwnaethom bleidleisio dros adael y DU a lle y mae gennym Lywodraeth sy’n dod i delerau â hynny ac wedi ymrwymo i barhau i fod yn aelod o’r DU yn hytrach na’r safbwynt gwahanol a geir gan Lywodraeth yr Alban. Felly, nid wyf yn credu y dylem wneud rhywbeth y gallai Llywodraeth yr Alban roi feto arno neu ble y gallai fod eisiau dilyn trywydd gwahanol. Nid wyf yn credu y dylai hynny ein hatal rhag gweithio gyda Llywodraeth y DU, er ein bod yn amlwg eisiau archwilio’r potensial ar gyfer fframwaith ar gyfer y DU gyfan i’r graddau y byddai wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn.

Diolch i’r Cadeirydd am roi crynodeb teg o drafodion y pwyllgor hyd yma. O safbwynt Plaid Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n gweld cyfle nawr yn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod gennym y telerau gorau posibl ar gyfer amaeth a chefn gwlad, ond hefyd i sicrhau bod cyfle yn cael ei fanteisio arno i deilwra polisïau amaeth a chefnogaeth cefn gwlad i anghenion Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, fe gyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod y pwyllgor eisoes wedi edrych, er enghraifft, ar ardaloedd llai breintiedig, os leiciwch chi—tir mynydd, y mynydd-dir yn benodol yng Nghymru—ac felly mae’n ein harwain at y ffaith na fydd modd datblygu polisïau, ac yn sicr na fydd modd sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ardaloedd felly, oni bai bod yna fframwaith Cymreig. Mae’n hynod bwysig bod hynny yn ei le.

Wrth gwrs, mae yna le i gydweithio gyda gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol—mae’n rhaid cael hynny o ran lles ac iechyd anifeiliaid a materion tebyg. Ond, a yw’r Cadeirydd yn cytuno, felly, mai’r unig ffordd o gwrdd â dibenion y pwyllgor hyd yma yw ein bod ni’n sicrhau bod yna ryddid barn a rhyddid penderfyniad ynglŷn â pholisi amaeth yng Nghymru, a’n bod ni felly mewn sefyllfa i gytuno â gwledydd eraill ar beth sy’n gytûn rhyngom ni, ond ein bod ni hefyd yn gorfod cadw rhyddid i benderfynu’n wahanol lle mae hynny er lles cymunedau cefn gwlad?

Yr ail gwestiwn sy’n codi yn sgil y datganiad yma yw: ym mha ffordd y bydd y pwyllgor yn edrych ar faterion eraill? Mae ffocws y datganiad gan y Cadeirydd—ac mae’n wir i ddweud ffocws trafodion y pwyllgor—wedi bod ar arian. Mae’n wir i ddweud bod addewid gwleidyddol wedi’i wneud, felly mae’n hollol briodol i drio dal pobl i’r addewidion hynny, ond mae proses arall yn digwydd fan hyn. Mae masnachu yn bwysig, mae allforio yn bwysig—mae 90 y cant, fel mae’r Cadeirydd yn gwybod, o’n hamaeth ni yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd—ac mae’r cyfle i berchen ar enw da ar gyfer amaeth a chynnyrch amaeth Cymru yn hynod bwysig, rwy’n meddwl, ac yn gyfle ar un lefel yn ogystal. Felly, a ydy’r Cadeirydd yn meddwl y bydd modd edrych ar sut mae dilyniant deddfwriaethol amgylcheddol a dilyniant deddfwriaethol masnachol, a’r ymwneud hynny, hefyd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor? Er bod hwn yn faes enfawr, mae’n hynod bwysig nad ydym ond yn ystyried yr arian, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cyd-destun ehangach lle mae’n ffermwyr ni’n masnachu gyda gweddill Ewrop a thu hwnt.

Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad, yn awr ac yn y Pwyllgor hefyd. Yn sicr, mae ei gyfraniadau wedi bod yn werthfawr iawn, gan gynnwys wrth ddatblygu fy ngwybodaeth fy hun am y sector. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi ei agwedd gadarnhaol yn gyffredinol a’i ffocws ar y cyfleoedd a all ddeillio o adael yr UE, a chredaf fod y safbwyntiau gwahanol hynny—mae graddau’r ffocws ar sut rydym yn addasu i’r sefyllfa newydd a gwneud yr hyn sydd orau i’n hetholwyr yn creu argraff arnaf. Mae’n sôn am awydd i chwilio am y telerau gorau ar gyfer amaethyddiaeth, ac amaethyddiaeth Cymru yn benodol, mewn unrhyw gytundeb masnach yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd mewn cytundebau y gellid eu cael â thrydydd gwledydd, ac rwy’n tybio, ym marchnad fewnol y DU ei hun yn wir. Rwy’n credu ei fod wedi crybwyll allforion o 90 y cant—y ffigur rwy’n meddwl fy mod yn ei gofio o un o’n briffiau ymchwil oedd 60 neu 70 y cant, ond gallai hynny fod ar sail y DU yn hytrach nag ar sail Cymru’n benodol. Rydym yn siarad weithiau yn ein pwyllgor ac mewn mannau eraill am filltiroedd bwyd ac oni fyddai’n well pe baem yn ei fwyta yn agosach at ble y cafodd ei gynhyrchu, ond yn achos llawer o’r hyn a gynhyrchir yng Nghymru, ac yn arbennig cig oen, yn syml iawn ni fyddem yn gallu bwyta cyfran sylweddol hyd yn oed o’r hyn a gynhyrchir yng Nghymru. Mae maint y sector amaethyddol yn fawr i Gymru, ond un mater sy’n rhaid i ni ei gadw’n agos iawn ac yn ganolog i’n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yw ei fod yn llawer llai o faint ar lefel y DU nag ar lefel Cymru. Pan edrychwn ar yr allforion, mae’r gyfran sy’n mynd i’r Undeb Ewropeaidd, y tariffau posibl pe baem yn ddarostyngedig i dariff allanol cyffredin yn y meysydd hyn yn uwch yn y meysydd hyn, ac yn llawer iawn mwy sylweddol mewn gwirionedd, a gallent newid gogwydd masnach a chynhyrchiant yn llwyr os na chânt eu trafod yn dda. Efallai y bydd cyfleoedd yn deillio o hynny, ond yn sicr bydd risgiau hefyd. Byddwn yn rhannu’r dyhead i barhau mynediad i’r farchnad sengl ac awydd i beidio â chael y tariffau hynny ar amaethyddiaeth Cymru; rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran pob aelod o’r pwyllgor ac Aelodau eraill y Cynulliad ar hynny yn ôl pob tebyg.

Dylem gael rhyddid i’n polisi amaethyddol, ac rwy’n credu y dylai San Steffan gydnabod hynny’n glir. Serch hynny, rwy’n meddwl y gall fod lle sylweddol i gytundeb ar fframweithiau polisi DU neu fframweithiau Cymru a Lloegr os oes angen, ac yn ymarferol mae cymaint o’r hyn sydd wedi’i ddatganoli de jure i ni wedi’i wneud ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Meddyliwn am ddiogelwch ar gyfer mathau penodol o nwyddau amaethyddol a bwydydd; os ydym y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid i ni fynd ati o ddifrif i sefydlu ein cyfundrefn ein hunain ar gyfer hynny, ac mae’n rhaid i ni gael safonau gofynnol ar gyfer cynhyrchion trydydd gwledydd o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd a safonau cryfach, efallai, ar gyfer cynhyrchion Ewropeaidd os caiff hynny ei gytuno. Ond mae’n mynd i fod yn her sylweddol iawn i ni o ran capasiti deddfwriaethol yn gymaint ag unrhyw beth arall. Rwy’n credu y bydd angen dull cyffredin o weithredu ar rai materion, megis iechyd anifeiliaid, lle y mae’n anodd gweld manteision nifer o ddulliau gwahanol ar yr ynysoedd hyn, er efallai y bydd gan eraill farn wahanol ar hynny.

O ran amgylcheddau, oes, rwy’n meddwl bod yna ddadleuon cryf dros barhad deddfwriaethol. Rwy’n meddwl bod llawer o’r fframwaith deddfwriaethol Ewropeaidd wedi cael ei fabwysiadu heb ystyriaeth fanwl ar lefel ddomestig, ac rwyf wedi dweud yn aml wrth bobl o fudiadau amgylcheddol, rwyf wedi rhybuddio rhywfaint rhag cyfeirio bob amser at ddiogelwch Ewropeaidd, oherwydd i rai pobl nad ydynt efallai’n rhannu barn gadarnhaol ar yr Undeb Ewropeaidd a’i ddeddfau, gallai fod yn well seilio’r dadleuon hynny ar deilyngdod y ddeddfwriaeth neu fel diogelwch rhyngwladol. Caf fy synnu gan gymaint o ddeddfwriaeth ryngwladol sydd ar gael hefyd i gyfateb i’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Ond mae angen i ni edrych ar hynny, rwy’n deall hynny, ac rwy’n meddwl y bydd lle i ni, y pwyllgor a’r Aelodau, weithio i gefnogi sefydliadau amgylcheddol a’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, wrth i ni ysgwyddo’r dasg fawr honno.

Rwy’n croesawu’r datganiad hwn yn fawr iawn, gan ei fod yn arwydd o fwriad cynnar ynglŷn ag egwyddorion clodwiw y pwyllgor. Croesawaf yn arbennig y datganiad clir y dylai’r arian sydd yno ar hyn o bryd ac a addawyd yn bendant iawn yn ystod y refferendwm gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i adael gael ei ddarparu mewn gwirionedd, ond nid yn unig hynny; dylai’r polisi ynglŷn â hyn gael ei lunio yng Nghymru mewn gwirionedd a’i benderfynu yng Nghymru, fel sy’n gweddu i ddeddfwrfa lle y mae’r holl gymwyseddau hynny, yn wir, wedi’u datganoli i ni yn awr. Felly, pa ffurf bynnag fydd i adael yr UE yn y pen draw ar fframwaith yr UE wrth iddo gael ei drosglwyddo i lawr i lefel y DU, ni ddylem gamu’n ôl mewn unrhyw ffordd i sefyllfa lle y gwelwn yn sydyn ein bod wedi colli cymwyseddau. Mae’n rhaid i bolisi amaethyddol, polisi datblygu gwledig, polisi amgylcheddol ac yn y blaen gael eu penderfynu yma mewn gwirionedd.

Ond mae angen y cyllid hwnnw, ac rwy’n meddwl bod y Cadeirydd yn iawn i wneud y pwynt yn glir iawn fod y cyllid yn allweddol i hyn. Rhaid mai mater i Lywodraeth Cymru, rhaid i mi ddweud, fydd penderfynu sut i ddefnyddio’r cyllid hwnnw mewn gwirionedd, neu pa ffordd i’w rannu a’i ddyrannu. Oherwydd mae’n ddiddorol, yn y datganiad hefyd, fod y Cadeirydd yn gywir yn dweud—nid yw’n cyfeirio at y pwynt a wnaed i ni o’r blaen mewn gwirionedd, ond rwy’n gwybod y bydd wedi talu sylw iddo, lle y mae pobl wedi dweud nad tudalen wag yw hon, ond mater o bontio. Nid yw fel pe baem yn sefydlu rheolau cyfan gwbl newydd yn y fan hon. Rydym yn gweithio o fewn rheolau, ac mae yna wledydd eraill a fydd â gwahanol fersiynau o gymorth ar gyfer eu cymuned ffermio. Nid tudalen wag yw hyn.

Fodd bynnag, mae yna gyfle i feddwl ychydig yn fwy radical, a gall peth o’r meddwl radical hwnnw yn wir gynnwys meddwl ynglŷn â sut rydych yn defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus ehangach. Ymhlith y nwyddau cyhoeddus hynny, gyda llaw, mae cynhyrchu bwyd da, cynaliadwy a chymunedau gwledig hyfyw gyda ffermydd bach a chanolig eu maint. Ond hefyd ymysg y nwyddau cyhoeddus hynny, mae lliniaru llifogydd, sut rydym yn ymdrin â’r corsydd mawn ar y rhostiroedd, a bioamrywiaeth. Sut rydym yn cynnal y gwasanaethau ecosystemau cwbl amhrisiadwy sydd gennym a hynny i gyd hefyd? Mae hyn yn rhoi cyfle i ni feddwl yn wahanol a meddwl yn radical, ond mae’n rhaid i ni—fel y mae’r pwynt wedi’i wneud i ni hefyd—feddwl am y ffaith nad ydym yn mynd o dudalen wag. Beth bynnag sy’n digwydd yn Lloegr, neu yn Iwerddon yn rhyfedd ddigon, heb sôn am wledydd Ewropeaidd eraill, mae angen i ni gadw llygad ar hynny o ran sut rydym yn symud ymlaen ar hyn. Ond mae cyllid yn allweddol, ac mae rhyddid polisi yng Nghymru yn allweddol hefyd.

Rwyf am wneud un pwynt i gloi. Rydym yn aml yn sôn am gymunedau gwledig yn y lle hwn—ac roeddwn wedi arfer â hyn yn San Steffan hefyd, wrth feddwl am leoedd ar weunydd gogledd swydd Efrog neu ffermwyr East Anglia, neu rywle yng Ngheredigion, er mor hardd ydyw—ond mae hefyd yn fater sy’n effeithio ar gymoedd de Cymru a llawer o lefydd eraill. Mae 40 y cant o fy etholaeth yn ffermydd mynydd—bob amser wedi bod. Mae’n hanfodol i Gymru, yn arbennig, ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwy’n croesawu’r datganiad lefel uchel gan y cadeirydd yma yn fawr iawn. Er ein bod yn dal i fod mewn trafodaethau—rydym yn dal i siarad gyda llawer o bobl ar lawr gwlad—rhaid cyflawni’r egwyddor lefel uchel o ddweud, ‘Mae’n rhaid i’r cyllid a gafodd ei addo ddod i Gymru’, ac yna rhaid mai mater i Gymru ac Ysgrifennydd Cabinet o’n blaenau fydd penderfynu, ar y cyd ag Aelodau’r Cynulliad yma, beth ddylai’r polisi fod a sut y dylem ddefnyddio’r arian hwnnw mewn gwirionedd i sicrhau’r manteision ehangach sydd i’w cael. Dyna beth fyddwn i’n ei ddweud yn y pen draw. Er bod hyn yn canolbwyntio i raddau helaeth, yn gwbl briodol, ar ffermio a chynhyrchu bwyd ac yn y blaen, mae hefyd yn edrych ar y rheidrwydd ehangach, sydd mor allweddol, o safbwynt bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau a chymunedau gwledig cynaliadwy. Maent i gyd yn mynd law yn llaw. Mae modd darparu’r cyfan gyda’i gilydd. Stiwardiaid ar hyn ydym ni wrth symud ymlaen, nid meistri, ac mae angen i ni edrych ar ôl y cymunedau gwledig hyn.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad hwnnw. Fe sonioch ar y dechrau am yr arian sy’n cael ei addo, a soniais fod rhai ymgyrchwyr Gadael wedi rhoi sicrwydd—a chrybwyllais ddau o’r rheini sydd bellach ar lefel uchel a pherthnasol iawn yn Llywodraeth y DU. Roeddwn yn cydnabod, yn ystod yr ymgyrch, mai ymgyrch oedd hi ac nad oeddwn yn siarad ar ran unrhyw Lywodraeth ar y mater. Ceisiais fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedwn yn sgil hynny. Rwy’n meddwl efallai fod ymgyrchwyr Gadael eraill hefyd wedi ystyried hynny. Ond rwy’n cofio—ac rwy’n gweld Andrew R.T. Davies yma, ac rwy’n meddwl bod nifer o drafodaethau wedi bod gyda’r Prif Weinidog yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm hwnnw, lle y pwyswyd arno i roi sicrwydd ynglŷn â pharhad y cyllid.

Rwyf hefyd yn cofio achlysuron eraill. Ni wnaf enwi’r Aelod, ond roedd Aelod penodol ar ochr y Llywodraeth, pan oeddwn yn dadlau gerbron ffermwyr, yn awgrymu i’r ffermwyr y dylent bleidleisio dros Aros oherwydd, os na wnaent hynny, gallai fod yna risg i’w cyllid, ac na ddylent ragdybio y byddai amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan fod llawer o bwysau eraill ar ei hamser, ac efallai nad oedd cymaint o gefnogaeth yn y gymuned honno yn draddodiadol. Ond yr hyn rwyf am ei wneud heddiw, gyda’r datganiad hwn, yw casglu Aelodau o bob plaid at ei gilydd i gefnogi’r hyn rwy’n ei ystyried yn amcan cyffredin. Rwy’n credu ein bod mewn brwydr wleidyddol dros hyn. Rwy’n meddwl y gallwn gyflawni hyn. Ond rwy’n meddwl os gweithiwn gyda’n gilydd—ie, i sicrhau bod ymgyrchwyr Gadael yn y Llywodraeth yn cadw at eu gair mewn perthynas â sicrwydd penodol a roddwyd, ond hefyd i esbonio’r economi wledig unigryw sydd gennym yng Nghymru—ac fe soniais am yr elfen ieithyddol, y credaf nad yw’n debygol o fod yn rhywbeth y bydd llawer o wneuthurwyr polisi yn Llundain yn rhoi ystyriaeth fawr iddi neu hyd yn oed yn ymwybodol ohoni o reidrwydd pan fydd y materion hyn yn glanio ar eu desgiau. Pe baem yn mynd o lefel yr UE o gyllid i lefel fformiwla Barnett o gyllid, byddai’r effaith ar y cymunedau hynny o ran y diboblogi tebygol a newid i’r dirwedd a chwalu cymunedau diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol y byddai hynny’n arwain ato yn ddifrifol tu hwnt mewn gwirionedd. Rwy’n teimlo hynny’n gryf, fel y gwn fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon, pa ochr bynnag i’r ddadl roeddent arni yn y refferendwm.

Soniodd yr Aelod hefyd am fod eisiau i ddeddfwriaeth gael ei gwneud yng Nghymru. Rwy’n cytuno â’i deimladau ond bydd ef, fel rwyf fi, yn ymwybodol o gymhlethdod pur y sylfaen ddeddfwriaethol. Rwyf wedi clywed awgrym fod rhywbeth tebyg i 5,000 o offerynnau cyfreithiol yn effeithio ar y PAC. Bydd gan y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru lawer o wahanol alwadau ar eu hamser, fel sydd ar amser ein pwyllgor, ac rwy’n meddwl mai’r her yw dod o hyd i beth yw’r elfennau hanfodol, ac rydym yn ceisio nodi’r egwyddorion allweddol rydym am iddynt fod yn gymwys yn benodol yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni, fel pwyllgor ac fel Cynulliad, ganolbwyntio ein hamser ar y meysydd lle y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol os ceisiwn newid y fframwaith deddfwriaethol neu ei addasu mewn unrhyw ffordd o’r hyn sydd wedi datblygu o fewn y PAC. Dylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth ar yr arian hwnnw, ond rwy’n meddwl y byddai datganiad ynghylch parhau’r lefel honno o gymorth ar gyfer y meysydd hyn yn ein cynorthwyo i lunio dadleuon i Weinidogion y DU ac eraill dros gadw’r arian hwnnw. Crybwyllodd yr Aelod hefyd, rwy’n meddwl, fod 40 y cant o’i etholaeth yn ffermydd mynydd. Pan fyddwn yn sôn am ffermydd mwy ymylol, ydy, mae hynny’n cynnwys yr ucheldir. Ond yn enwedig mewn ardaloedd fel ei un ef, ond hefyd ar draws llawer o dde-ddwyrain Cymru, nid oes rhaniad o reidrwydd rhwng ffermydd ar lawr gwlad a ffermydd mynydd. Mae yna nifer o ffermydd a fydd â rhan o’r fferm yn y dyffryn a rhan ymhellach i fyny. Cytunaf ag ef o ran yr hyn y mae’n ei ddweud am fioamrywiaeth a chynaladwyedd. Mae’n bwysig iawn ein bod i gyd yn canolbwyntio ar y rheini, ac mae yna adegau pan fo cyfaddawdau anodd o ran arian ac amcanion eraill, ond mae’n iawn i gadw’r ardaloedd hynny ar flaen ein meddyliau.

Rwy’n llongyfarch fy ffrind Mark Reckless ar y modd trawiadol y mae’n cadeirio’r pwyllgor a’r ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddatganiad heddiw. Hefyd, hoffwn ganmol y pwyllgor am y gwaith caled y mae pob aelod ohono yn ei wneud. Nid wyf fel arfer yn cael fy nghysylltu’n agos iawn â’r gair ‘consensws’, ond rwyf wrth fy modd yn clywed bod y pwyllgor wedi cytuno ar ddull consensws cyffredinol, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau’r pwyllgor ac i mewn i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Mae polisi amaethyddol yng nghyd-destun gadael yr UE yn hanfodol bwysig. Mae wedi bod yn hynod o amlwg yng ngwariant yr UE byth ers i ni ymuno nôl yn 1973. Mae’n iawn, felly, y dylid rhoi’r pwys mwyaf iddo wrth ddatblygu polisi yng Nghymru, y rhoddir rhyddid iddi yn awr i ddatblygu polisi amaethyddol i weddu i’n hanghenion ein hunain, ar gyfer ein cenedl ein hunain yn benodol. Rwy’n falch o glywed yr hyn a ddywedodd Simon Thomas yn ei ymateb i’r datganiad yn gynharach, a’r ffordd gadarnhaol y mae ef yn edrych ar y cyfleoedd sydd bellach o’n blaenau. Wrth gwrs, mae’n hanfodol bwysig fod cyllido amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei gadw fel y caiff ei drosglwyddo i lawr i ni o’r UE. Rwy’n sylweddoli, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nad yw hyn yn rhywbeth sydd wedi’i naddu ar garreg yn oes oesoedd. Ond o leiaf ar gyfer y broses sylweddol o bontio, mae sefydlogrwydd yn dibynnu ar sicrhau bod pobl yn gwybod y gellir dibynnu ar yr hyn y maent wedi arfer ag ef. O gofio ein bod wedi ymuno â’r Farchnad Gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, cyn dyfeisio fformiwla Barnett, mae’r rhwymedigaethau ar gyfer ariannu amaethyddiaeth yn mynd yn ôl ymhellach na’r fformiwla honno. Am y tro, beth bynnag, mae’n hanfodol fod yr hyn sy’n cael ei wario ar ffermio yng Nghymru yn cael ei ddiogelu. Rwyf wedi cefnogi barn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn gadarn y dylai Llywodraeth y DU warantu pob ceiniog o’r arian y mae’r UE yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy’n meddwl mai canlyneb y ddadl honno yw bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun yn awr gamu ymlaen a gwarantu, am gyfnod trosiannol sylweddol, y lefel o gyllid a fydd yn cael ei drosglwyddo i lawr iddi gan Lywodraeth y DU mewn perthynas ag amaethyddiaeth, os mai dyna fydd yn digwydd maes o law mewn gwirionedd.

Rwy’n falch o weld y pwyslais a roddwyd ar y gefnogaeth i ffermio ymylol, ac yn arbennig i’r ucheldir. Mae’n rhaid i ni gydnabod y realiti gwleidyddol rydym i gyd yn gweithredu ynddi—mai cyfran fach o gyfanswm y boblogaeth yw’r gymuned amaethyddol, ac rydym yn dibynnu ar gydsyniad poblogaethau trefol ynglŷn â faint o gymhorthdal ​​y mae ardaloedd gwledig yn ei chael. Un o’r ffyrdd y gallwn wneud y gorau o botensial hynny yw trin ffermwyr fel ceidwaid cefn gwlad yn gymaint â thyfwyr bwyd. Er fy mod yn credu bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn elfen bwysig yn ogystal, mae gennym ddiffyg sylweddol iawn mewn cynhyrchiant bwyd yn y wlad hon. Rydym yn mewnforio’n helaeth iawn, ac mae hynny, yng nghyd-destun y trafodaethau sydd ar y ffordd gyda’r UE ynglŷn â’n perthynas yn y dyfodol, yn arf y dylem ei ddefnyddio i’r eithaf. Yn ein dwylo ein hunain, mae gennym ddiffyg gwerth £10 biliwn y flwyddyn gyda’r UE ar fwyd a diod. Felly, mae ganddynt bob diddordeb mewn cynnal y mynediad presennol at y farchnad sengl. Hefyd ceir yr elfen bwysig, sydd wedi’i chrybwyll hyd yn hyn, sef cyfleoedd masnachu yn y dyfodol rhwng Prydain a’r UE, a Chymru a’r UE yn arbennig. Roedd Simon Thomas yn iawn i dynnu sylw at ddibyniaeth ffermio yng Nghymru ar allforion, ac mae hon yn her ar gyfer y dyfodol, yn ddi-os, yn enwedig i gynhyrchwyr cig oen. Rhaid i ni gydnabod nad yw’r byd yn aros yn ei unfan ac mae gwledydd fel Seland Newydd wedi wynebu heriau enfawr yn y gorffennol—aethant ati i ddiddymu eu holl gymorth amaethyddol dros nos—ac eto fe ffynnodd amaethyddiaeth yn Seland Newydd. Efallai fod gwersi y gallwn eu dysgu o brofiadau o’r fath yn y pwyllgor heyfd—nid bod hynny’n rhywbeth rwy’n ei argymell, ond serch hynny, mae’r ymateb i ergydion o’r fath yn cynnig cyfleoedd i ni ddysgu ynglŷn â sut y gallwn ymdopi â hwy. Mae hyrwyddo masnach yn elfen arall bwysig o hyn hefyd lle y mae gennym fwy o ryddid.

Y pwynt olaf a wnaf yw nad polisi amaethyddol yn unig sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, ond polisi amgylcheddol hefyd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar y drefn reoleiddio bresennol a gweld a yw, mewn rhai achosion, yn anghymesur o ran y costau y mae’n eu gosod ar ffermwyr mewn perthynas â’r buddiannau cyhoeddus sydd i fod i ddeillio ohono mewn meysydd eraill. O ystyried natur anghysbell Brwsel ac anhryloywder y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yno, a phwysigrwydd grwpiau lobïo wrth wneud polisi cyhoeddus, ac anatebolrwydd y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig, rwy’n credu bod hyn yn rhoi cyfle enfawr i ni yng Nghymru yn awr i ail-lunio—dros gyfnod sylweddol o amser, heb os, gan fod y gwaith yn enfawr, fel y mae fy nghyfaill wedi nodi—yn yr ystyr ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych ar amaethyddiaeth yn ei chyfanrwydd, y gyfundrefn gostau yn ogystal â’r gyfundrefn fasnachu. Oherwydd, yn y pen draw, mae hyn oll yn effeithio ar hyfywedd ffermwyr a bywyd cefn gwlad nifer o rai eraill sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.

Felly, rwy’n llongyfarch fy nghyfaill, fel cadeirydd y pwyllgor, unwaith eto, a’r Aelodau sy’n gwasanaethu oddi tano, ac edrychaf ymlaen at adroddiadau pellach yn y dyfodol.

Diolch i arweinydd fy ngrŵp a llefarydd amaethyddol y blaid am ei gyfraniad. Mae’n llygad ei le wrth nodi bod y polisi amaethyddol cyffredin wedi dominyddu gwariant yr UE ers ymuno yn 1973, a chyn hynny’n wir. Bydd hefyd yn ymwybodol fod cyfran y gwariant wedi disgyn dros y cyfnod hwnnw o yn agos at 90 y cant i tua hanner yn fwy diweddar. Rydym yn siarad am fod eisiau cadw pob ceiniog o arian, ac rydym yn gwneud yr alwad hon a wnawn heddiw i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Ond rwy’n credu bod angen i ni ddeall hefyd fod yna rai cymhlethdodau ynghlwm wrth y materion hyn. Mae’r duedd gyffredinol mewn gwariant, neu’n sicr, cyfeiriad polisi’r DU mewn trafodaethau PAC, wedi bod tuag at leihau a gostyngiad parhaus yn y gyfran o gyllideb yr UE ar gyfer y maes hwn, a phe baem wedi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl y gallai Llywodraeth y DU fod wedi parhau i’r cyfeiriad hwnnw. Hefyd, mae cwestiwn a ydym yn sôn am gynnal gwariant mewn arian sterling neu’r ewro. Cyn hir, bydd llawer o ffermwyr yn cael cynnydd sylweddol yn eu taliadau, o bosibl, mewn sterling o leiaf, er y byddant, wrth gwrs, yn poeni am gynaliadwyedd a dyfodol tebygol y taliadau hynny. Rhaid i ni hefyd ystyried beth yw’r diffiniad o ardal amaethyddol y PAC neu bolisi datblygu gwledig a rheoli tir ehangach.

Rwy’n meddwl bod lle hefyd i welliannau a chyfleoedd wrth gymryd pwerau yn y maes hwn yng Nghymru. Yn sicr, mae gan y ffermwyr rwy’n siarad â hwy lawer o bryderon am raddau rheoleiddio a byddent yn cwestiynu a yw’r holl weithgareddau y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn gwneud synnwyr economaidd mewn gwirionedd neu synnwyr mewn perthynas â’u hamcanion. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael sgyrsiau tebyg gyda ffermwyr, ac o leiaf yn y tymor byr, nid yw’n rhagweld arwyddion helaeth y ceir coelcerth ddadreoleiddio fawr. Rwy’n meddwl mai’r hyn rydym ei wirioneddol angen gan y rhai sy’n beirniadu graddau’r rheoleiddio yw enghreifftiau penodol o reoliadau y dylid eu diddymu, neu bethau y gellid eu gwneud mewn ffordd well neu’n fwy cymesur, ac rwy’n meddwl y byddem yn ddiolchgar am fewnbwn gan yr Aelod ac eraill ar hynny.

Mae’n sôn am gyfleoedd masnachu—oes, mae yna gyfleoedd masnachu. Mae enghraifft Seland Newydd yn un eglur iawn, ac ydy, rwy’n meddwl ar ryw ystyr fod amaethyddiaeth yn Seland Newydd yn llwyddiannus ar hyn o bryd, ond mae’n fath gwahanol iawn o amaethyddiaeth i’r hyn a oedd yn bodoli cyn 1984, ac o ran y rhai a oedd yn y maes cynhyrchu yng nghanol y 1980au, rwy’n meddwl bod llawer o ffermwyr wedi dioddef yn ddifrifol iawn yn sgil y newidiadau hynny, ac ni fydd symud o un system i’r llall yn hawdd ac rwy’n meddwl y byddai’n arwain at golli gwaith difrifol a diboblogi cysylltiedig o bosibl yn ein hardaloedd gwledig.

Ar y cyfan, fodd bynnag, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod ac eraill am y cyfraniadau rydym wedi’u cael, ac rwy’n meddwl y byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i wthio’r dadleuon hyn a gwneud y gorau a allwn i Gymru yn y sector hwn, fel mewn sectorau eraill.

Diolch. Mae gennyf ddau Aelod arall sy’n dymuno siarad ar y datganiad hwn, felly a gaf fi ofyn am gwestiwn cryno, ac ateb cryno gan y Cadeirydd, ac fe wnawn le i’r ddwy ohonoch. Jenny Rathbone.

Roeddwn eisiau ymateb i Paul Davies, mewn gwirionedd, i ddweud nad mater gwledig yn unig yw hyn. Mae fy etholwyr sy’n byw mewn etholaeth drefol yr un mor bryderus am ansawdd a chost bwyd ag unrhyw drigolion eraill, felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i ni fynd i’r afael â’r mater hwn mewn modd amserol, gan nad oedd y ffermwyr a bleidleisiodd dros adael yn sylweddoli eu bod o bosibl yn mynd i golli 80 y cant o’u hincwm. Rwy’n credu mai un o’r materion sydd angen i ni eu hystyried yn y dull esblygol, nid chwyldroadol, hwn rydym yn ei weithredu yw bod gadael yr UE yn mynd i wneud llawer o lysiau’n ddrutach, gan fod bron i hanner y llysiau a fwytwn yn cael eu mewnforio. Ac rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth—

Fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: sut rydym yn mynd i droi’r gornel honno, o gofio, ar hyn o bryd, nad ydym ond yn tyfu llysiau ar 617 hectar o dir, sef 0.4 y cant o dir amaethyddol, ac nid oes fawr ddim ohono’n cael taliadau colofn 1. Mae llawer o’r bobl sy’n rhan o’r gweithgaredd llafur-ddwys mewn perthynas â garddwriaeth yn bobl y mae eu dyfodol yn y wlad yn aneglur, am eu bod yn fewnfudwyr Ewropeaidd. Felly, beth y mae Cadeirydd y pwyllgor yn meddwl y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r cwestiynau ynglŷn â diogelwch y cyflenwad bwyd sy’n cael eu gofyn yma, yn ogystal ag iechyd y genedl a chyflogi pobl yng Nghymru yn y dyfodol?

Diolch i’r Aelod am ei chyfraniad. Mae hi’n cynrychioli ei hetholwyr trefol yn fedrus, ac mae’n dod â’r safbwynt hwnnw i drafodaethau’r pwyllgor. O ran garddwriaeth, nid yw’n faes sydd wedi bod o fewn y PAC yn draddodiadol, er bod y fframwaith masnach rydd o fewn yr UE yn golygu bod gennym fewnforion sylweddol iawn, yn enwedig, rwy’n credu, o Ddenmarc a’r Iseldiroedd yn arbennig. Byddai, pe bai’n anos i lafur ddod i mewn i’r wlad i weithio yn y meysydd hynny, byddai pwysau i gynyddu cyflogau i geisio dod â phobl eraill i mewn, ac rwy’n cydnabod yr heriau mewn perthynas â hynny. Mae effaith y bunt hefyd yn debygol o fod yn ffactor. Yn ôl pob tebyg rwy’n meddwl mai’r hyn y bydd cynhyrchwyr Cymru am ei wneud yw canolbwyntio’n arbennig ar gynnyrch gwerth ychwanegol a chynnyrch ar ben uchaf y farchnad—y cynhyrchion organig neu rai lle y gallant gael cadwyn gyflenwi sy’n marchnata ac yn elwa ar y cysyniad o gael llysiau a gynhyrchir yn lleol, gan fy mod yn gwybod bod llawer o etholwyr yr Aelod, fel ein rhai ni ein hunain, yn rhannu ei barn, ac yn croesawu gallu prynu mwy, os nad y cyfan o’u cynnyrch gan ddarparwyr lleol o ansawdd da.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau gwestiwn ac fe geisiaf fod yn gryno, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch heddiw, fel un o aelodau’r pwyllgor fy hun, ac rwy’n croesawu’r sylwadau ynglŷn ag edrych ar gyd-destun ehangach ffermio a rôl yr economi wledig, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg yn ogystal. Felly, yn gyntaf, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn integreiddio’r ymagwedd ehangach hon yn ein hymchwiliad, fel ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wirioneddol amlochrog, sy’n ymestyn y tu hwnt i edrych yn unig ar oblygiadau ariannol amaethyddiaeth fel cysyniad cul? Yn ail, ar ôl cyfarfod â llawer o ffermwyr, gan gynnwys ffermwyr ifanc yn fy etholaeth i, mae yna bryderon am yr agenda sgiliau yn bendant. Gan fod y gyfran o bobl sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yng Nghymru dros dair gwaith yn fwy na’r hyn ydyw yng ngweddill y DU, sut y gallwn sicrhau’r agenda sgiliau i wneud yn siŵr fod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr eisiau mynd i mewn i’r diwydiant ac aros yno—sut y gallwn sicrhau bod hynny mewn gwirionedd yn sail i’n hymchwiliad ac yn cael ei roi ynghanol y polisi yn y dyfodol?

O ran y cyd-destun ehangach, rwy’n meddwl y cawn gyfle i fabwysiadu ymagwedd fwy trawsbynciol tuag at amaethyddiaeth mewn datblygu gwledig oherwydd y rhyddid polisi a fyddai’n gennym ar ôl gadael yr UE. Rwy’n pwysleisio, unwaith eto, fodd bynnag, ei fod yn mynd i gymryd llawer o amser a gwaith trwm i aelodau ein pwyllgor, ond hefyd o bosibl i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, wrth ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol a gwasgu am y blaenoriaethau a nodir gennym yn y meysydd hyn. Rwy’n meddwl y byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf efallai, er ein bod fel pwyllgor yn cadw meddwl agored o ran yr hyn fydd y camau dilynol posibl, ac a fydd yn adroddiad dros dro neu a ydym yn dechrau ymchwiliad newydd. Rwy’n gwybod ein bod yn edrych ar y diwydiant bwyd yn fwy cyffredinol, gan fod nifer ohonom yn awyddus i integreiddio’r ymagwedd honno yn yr hyn a wnawn ag amaethyddiaeth a datblygu gwledig.

Mae’r Aelod yn ymdrin yn fedrus â’r agenda sgiliau. Rwy’n credu mai un rhwystr i bobl sy’n dod i mewn i’r sector, wrth gwrs, yw pris tir, a’r posibilrwydd o ddatgysylltu cymorth neu ba drefniadau bynnag a allai fod ar ôl gadael yr UE a allai fod â goblygiadau o ran hynny. Cefais fy nharo, yn enwedig ar ein hymweliad â gorllewin Cymru, gan y ffaith fod ffermio yn y gwaed i lawer o deuluoedd ac maent yn teimlo rhwymedigaeth i barhau i ffermio’r tir hwnnw. Felly, hyd yn oed os ydynt ar ymyl y dibyn yn economaidd, mae’n bosibl y byddant yn parhau i wneud hynny, hyd yn oed i’r graddau fod yn rhaid iddynt fenthyg ac efallai y byddant, yn nes ymlaen, yn wynebu risg o golli’r tir am eu bod yn teimlo mai dyna beth y maent yn ei wneud ac mai dyna yw eu hymrwymiad i’w cyndeidiau, i’w teulu ac i’r dirwedd honno. Gyda’n ffocws ar yr ardaloedd mwy ymylol, rwy’n meddwl yr hoffwn ddefnyddio’r cyllid sydd gennym gyda golwg ar gynorthwyo’r bobl hyn a helpu i gynnal y cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weld ein pwyllgor yn parhau i weithio tuag at yr amcanion hynny.

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur 2016 Cymru’

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda heddiw, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr adroddiad sefyllfa byd natur, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. Simon.

Cynnig NDM6122 Simon Thomas, Huw Irranca-Davies, Vikki Howells, Sian Gwenllian, David Melding

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016

2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad

3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi:

a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf

b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod

c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio

d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i agor y ddadl yma a bod gan gynifer o Aelodau Cynulliad ddiddordeb yn y ddadl ar yr adroddiad. Pwrpas y ddadl yw rhoi gerbron y Cynulliad yr adroddiad hwn gan ryw 56 o fudiadau gwahanol—cadwraeth, amgylcheddol, mudiadau anifeiliaid hefyd—ynglŷn â chyflwr natur yng Nghymru. Ac mae’r adroddiad yn un hawdd ei ddarllen ond yn anodd ei dderbyn, achos mae’r hyn mae’n ei ddweud am gyflwr ein hinsawdd a’n cynefin ni yn siomedig, a dweud y gwir, ac yn dweud llawer am y diffyg gofal sydd wedi bod dros y blynyddoedd, nid gan y Llywodraeth—nid beio’r Llywodraeth ydw i yn fan hyn—ond gennym ni i gyd fel cymdeithas, i beidio â chymryd hwn o ddifri.

Mae’r adroddiad yn darllen yn arswydus, mewn ffordd, i unrhyw un ohonom ni sy’n cofio cynefinoedd fel yr oedden nhw neu’n cofio gweld anifeiliaid gwyllt, neu’n dymuno jest bod ein plant a’n gorwyrion yn gallu gweld hynny. Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bellach ar y ffordd i drengi. Mae sawl un ohonyn nhw wedi eu cydnabod mewn deddfwriaeth Gymreig, o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, ond eto mae’r dirywiad yn syfrdanol. Ers 1970 mae rhywbeth fel 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o bili-palod a 40 y cant o adar wedi gweld dirywiad yn ein cefn gwlad a’n cynefinoedd ni. Ac o’r rhai rŷm ni’n eu hadnabod yn ein deddfwriaeth fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, dim ond rhyw 40 y cant ohonyn nhw sy’n cael eu dosbarthu fel rhai sy’n sefydlog. Felly, mae gwir berig y byddwn yn colli anifeiliaid sy’n naturiol i Gymru ac wedi cael eu creu yn y cyd-destun Cymreig, a’n bod wedyn yn colli rhywbeth sy’n cyfrannu tuag at y byd a rhywbeth sy’n arbennig amdanon ni fel cenedl.

Yn y cyd-destun hwnnw, felly, mae pawb yn derbyn ein bod ni’n byw bellach mewn byd lle mae gweithgaredd dynoliaeth yn cael mwy o effaith, o bosib, ar y byd ac ar fyd natur na phethau naturiol. Mae rhai pobl am alw hynny’n ‘anthropocene’—oes newydd, cyfnod newydd, lle mae dynion yn fwy pwysig na grymoedd naturiol. Ac mae’n cael ei weld, efallai, yn y ffaith bod mynegai o fioamrywiaeth yn cael ei gyhoeddi, nid jest i Gymru ond i Brydain gyfan, fel rhan o’r adroddiad yma, a’r dybiaeth yw ein bod ni angen rhywbeth fel 90 y cant, yn ôl y mynegai yma, i ddangos bod yr ecosystemau sydd gennym ni yn ddigon cryf i gynnal bywyd gwyllt wrth fynd ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, i gynnal bywyd ffyniannus i ddynoliaeth hefyd. Yn ôl y mynegai hwnnw, mae Cymru ar hyn o bryd yn sgorio 82.8 y cant. Nawr, mae hynny’n uwch na gwledydd eraill Prydain, sydd yn beth da, ond mae’n brin o’r 90 y cant sydd yn cael ei gydnabod fel y trothwy ar gyfer ecosystem gref ac mae hefyd yn golygu ein bod ni ymhlith yr 20 y cant gwaelod o’r 218 o wledydd sydd yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Felly, mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol. Mae’n rhaid inni ymateb yn bositif i’r her a sicrhau bod yna fwy o waith yn cael ei wneud dros fioamrywiaeth a chadw ac ehangu, yn wir, rhai o’r rhywogaethau naturiol sydd gennym ni yng Nghymru.

Rwyf eisiau bod yn bositif yn y ddadl yma, er bod y darlun, efallai, yn eithaf du yn yr adroddiad. Mae’r ffaith ein bod ni, bellach, yn effeithio mwy ar fywyd gwyllt ac ar y cynefinoedd hefyd yn golygu bod gennym yma yr arfau i wneud rhywbeth ynghylch hynny, achos mae’n amlwg, os ŷm ni’n defnyddio technoleg mewn ffordd mwy clyfar, os ŷm ni’n byw’n fwy clyfar, os ŷm ni’n defnyddio’r hyn rŷm ni’n ei ddeall yn awr o fioamrywiaeth yn fwy clyfar, fe fedrwn ni weithredu er mwyn gwarchod ac ehangu yn y maes yma. Yn cydnabod hynny, mae yna ddwy Ddeddf, wrth gwrs, wedi’u pasio gan y Cynulliad hwn—y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—sydd yn gosod allan nifer o amcanion sydd yn ychwanegu at y posibiliadau positif sydd gennym i wyrdroi’r sefyllfa anffodus bresennol.

Mae angen gweld arweiniad gan y Llywodraeth yn y maes yma. Mae angen gweld arweiniad clir o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn arbennig, rwy’n meddwl. Fe gyhoeddwyd amcanion, neu nodau, fe ddylwn ddweud—achos mae yna wahanol eiriau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y fan hyn—neu nodau llesiant, fel maen nhw’n cael eu hadnabod yn y Ddeddf, ddydd Gwener ddiwethaf. Un o’r rheini, rhif 12, yw rheoli defnyddio a gwella adnoddau naturiol Cymru i gefnogi llesiant hirdymor. Beth sy’n bwysig am y nod yna yw ei fod yn cydnabod bod cynnal a chryfhau amgylchedd naturiol cadarn, ac ynddo fioamrywiaeth ynghyd â systemau iach, yn helpu pobl, yn cyfrannu at iechyd, yn hwb i economi cynaliadwy, ac yn creu gwydnwch ecolegol a’r gallu i addasu i newid. Mewn geiriau eraill, mae edrych ar ôl bywyd gwyllt yn edrych ar ôl dynion hefyd, ac mae eisiau symud ymlaen ar sail hynny.

Rwyf eisiau cloi, cyn clywed gan Aelodau eraill ynglŷn â’u sylwadau nhw ar y ddadl yma, gydag enghraifft wael ac enghraifft dda o’r ffordd rŷm ni wedi mynd o gwmpas pethau’n ddiweddar yn y maes yma. Yn anffodus, mae’r penderfyniad i ganiatáu llusgrwydi cregyn bylchog eto ym mae Ceredigion, yn fy marn i, yn gam gwag ar hyn o bryd. Er ein bod yn chwilio am bysgodfa gynaliadwy o gregyn bylchog ym mae Ceredigion, nid wyf yn siŵr iawn bod gennym ni eto y wybodaeth am y cynefinoedd o dan y dŵr a sut y bydden nhw’n gwella pe bai llusgrwydo yn digwydd. Rwy’n gobeithio, o leiaf, y bydd y Llywodraeth yn monitro’n ofalus iawn, iawn effaith hynny ar y cynefinoedd o dan y dŵr, nid yn unig y cregyn bylchog eu hunain, sy’n cael eu bwyta, wrth gwrs, ond, yn fwy pwysig, yr effaith ar anifeiliaid prin sydd wedi’u gwarchod ym moroedd Cymru, yn arbennig y llamhidydd.

Ar ochr fwy positif, ddydd Gwener diwethaf, bues i’n ffodus iawn i fynd i Bontarfynach—lle hyfryd, yn enwedig yn yr hydref, ac wrth gwrs, y dirwedd sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer ffilmio ‘Y Gwyll’, i’r rhai sydd yn ei gwylio. Roeddwn i yno i weld yr arbrawf i ailgyflwyno bele’r coed i gefnwlad Cymru. Dyma’r anifail a oedd wedi darfod o’r tir, i bob pwrpas, yng Nghymru, ond erbyn hyn mae yna 40 o’r anifeiliaid wedi cael eu gollwng yn ôl i gefnwlad Ceredigion. Maen nhw’n dod o’r Alban; mae croeso mawr iddyn nhw, achos maen nhw’n dod yn ôl â rhywbeth a oedd wedi mynd ar goll o fywyd ein cynefin naturiol. Yn sgil gollwng y rhain i mewn i Gymru, mae yna nifer o bethau diddorol wedi dod i’r amlwg. Yn gyntaf oll, maen nhw’n teithio’n bell—aeth un mor bell ag Abergele. Yn ail, maen nhw’n cadw’r niferoedd y wiwer lwyd i lawr. Felly, rŷm ni’n gweld, wrth gymryd rhywbeth a oedd yn ‘predator’ yn yr ecosystem a’u lladd nhw, rŷm ni wedi creu lle i wiwerod llwyd gymryd drosodd ein coedwigoedd ni. Felly, mae hynny’n enghraifft bositif—rhywbeth rŷm ni eisiau gweld mwy ohono.

Felly, mae yna neges besimistaidd, bron, yn yr adroddiad ei hunain, ond drwy ymgymryd, â’n dwylo ein hunain, â’r gwaith yma, rŷm ni’n gallu bod yn bositif i adfer ein bywyd gwyllt ni a sicrhau bod bioamrywiaeth yn ffynnu yng Nghymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad sefyllfa byd natur, adroddiad sydd wedi’i lunio ar y cyd gan dros 50 mudiad natur. Mae’r ail adroddiad pwysig yma yn darparu sylfaen dystiolaeth ar sefyllfa ein byd natur ni ac yn darparu sail ar gyfer gwneud rhywbeth am hyn ac ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fel y dywedodd Simon, nid yw’n gwneud darllen cyfforddus mewn mannau, ond mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar y canfyddiadau sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad.

Mae rhai o’r canfyddiadau yn rhai difrifol iawn. Er bod Cymru yn gartref i dros 50,000 o rywogaethau, mae amrywiaeth y rhywogaethau a hyd a lled cynefinoedd naturiol a lled-naturiol wedi prinhau’n sylweddol, gyda llawer o rywogaethau sy’n bwysig yn ddiwylliannol ac yn ecolegol wedi diflannu’n llwyr. Rwy’n cytuno efo Simon mai un o’r ystadegau mwyaf ysgytwol yn yr adroddiad yw bod un o blith pob 14 o rywogaethau Cymru yn wynebu difodiant. Sut ydym ni’n mynd i egluro i’r genhedlaeth nesaf na fyddan nhw byth yn gweld yr eos—‘nightingale’; bras yr ŷd—‘corn bunting’; neu’r turtur, sef y ‘turtle dove’, yng Nghymru?

Mae gan natur werth cynhenid ynddo’i hun, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer ein llesiant. Mae cynnal ecosystem iach yn hanfodol er mwyn cynnal ein ffordd o fyw, ac mae amgylchedd naturiol cryf yn darparu sylfaen ar gyfer ein cymdeithas a’n heconomi. Ond, yn ogystal â dangos lle mae’r problemau, mae’r adroddiad hefyd yn rhoi syniad o sut i weithredu. Yng Nghymru, fel ym mhob man arall, mae newid yr hinsawdd wedi arwain at golli cynefinoedd, disbyddu priddoedd, mwy o lifogydd a mwy o sychder. Mae amaethyddiaeth a’r sector amaethyddiaeth yn hollbwysig yng Nghymru, ac mae angen sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector wedi’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae awduron yr adroddiad yn galw ar lywodraethau yma ac yn y Deyrnas Unedig i ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn wrth lunio cynlluniau ffermio yn y dyfodol. Mae Deddf yr amgylchedd yn darparu fframwaith ar gyfer torri allyriadau carbon a tharged statudol o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050, ond mae Plaid Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd ydy’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac mae’n rhaid i ni ddal i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif—bod ei pholisïau yn cyfrannu tuag at y targed hwn. Ac mae’n rhaid, fel roedd Simon yn sôn, gweithredu’r Deddfau llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac amgylchedd, ac mae’n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth os ydym ni’n mynd i wrthdroi’r dirywiad i’n byd natur.

Felly, mae angen atebion gan Lywodraeth Cymru ar ddau gwestiwn pwysig. Pa wahaniaeth fydd y Deddfau yma yn ei wneud yn sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu, gan gynnwys adrannau ar draws y Llywodraeth? A pha wahaniaeth ar lawr gwlad fyddwn ni’n ei weld drwy’r polisïau y mae’r Llywodraeth yn eu gweithredu yn sgil y Deddfau yma? Mae’r fframwaith deddfwriaethol yna yn ei le ar gyfer gwarchod ac ehangu ein bywyd gwyllt—rydym ni rŵan angen gweld gweithredu ar lawr gwlad.

Mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y moroedd a’r cefnforoedd sy’n ffinio â’n gwlad. Y bygythiadau sy’n wynebu’r ecosystemau morol bregus hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i liniaru eu heffaith, fydd canolbwynt fy nghyfraniad heddiw. Wedi’r cyfan, ni ddylem byth anghofio bod dyfroedd tiriogaethol Cymru yn gorchuddio arwynebedd sy’n cyfateb i faint ein gwlad ei hun. Fel y mae ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn ein hatgoffa, mae’r moroedd hyn yn gyfoethog mewn amrywiaeth o fywyd morol, mewn safle pwysig ar ffin tri pharth hinsawdd cefnforol ac yn meddu ar amrediad llanw mawr. Mae gwahanol rywogaethau wedi cael profiadau gwahanol dros y cyfnod y bu’r adroddiad yn archwilio. Yn ôl tueddiadau data hirdymor, mae 34 y cant o rywogaethau fertebratau morol a 38 y cant o rywogaethau planhigion morol wedi dirywio. O ran infertebratau morol, mae’r dirywiad hirdymor yn achosi mwy o bryder hyd yn oed, gyda thair o bob pedair rhywogaeth yn cael eu heffeithio, er fy mod yn falch fod y duedd hon yn llai yn y data tymor byr. Mae cymharu ag adroddiad Sefyllfa Byd Natur y DU 2016 yn dangos patrymau tebyg, gyda dirywiad mawr ymhlith infertebratau morol yn arbennig, a rhoddir tystiolaeth i gefnogi hyn unwaith eto. Mae darllen yr adroddiad hwn yng nghyswllt dogfen Cymru hefyd yn awgrymu bod llwyddiant fertebratau morol yn cael ei ysgogi i raddau helaeth gan gynnydd yn niferoedd pysgod.

Mae camau gweithredu cadarnhaol mewn perthynas â chadwraeth yn sicrhau canlyniadau buddiol, fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, ac mae monitro ac ymchwil yn arbennig yn arfau pwysig ar gyfer deall ymddygiad rhywogaethau a mynd i’r afael â materion sy’n codi o ryngweithiadau dynol. Mae’n newyddion da fod y boblogaeth o forloi llwyd sy’n bwysig yn fyd-eang ar Ynys Dewi yn gweld y lefelau uchaf a gofnodwyd o enedigaethau, a bod mesurau eisoes ar waith i wneud yn siŵr na therfir arnynt gan dechnoleg tyrbinau llanw. Mae hyn yn hanfodol, gan ein bod yn dal i ddal i fyny o ran mynd i’r afael ag effaith gweithgareddau dynol eraill ar y moroedd o amgylch Cymru, ac mae’r enghreifftiau a geir yn yr adroddiad yn cynnwys pysgota masnachol anghynaliadwy, datblygu, cyflwyno rhywogaethau anfrodorol a mewnbynnau halogion a maethynnau.

Mae adroddiad y DU hefyd yn sôn am effaith cynhesu byd-eang, gyda newidiadau yn nhymheredd y môr yn arwain at y broblem fod dosbarthiad nifer fawr o rywogaethau i’w weld yn drifftio tua’r gogledd. Mae niferoedd rhywogaethau dŵr oer yn lleihau, ond mae rhywogaethau sydd wedi addasu i fwy o gynhesrwydd ac sy’n symud tua’r gogledd yn aml yn wynebu ffynonellau bwyd nad ydynt yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion.

Bydd gadael yr UE hefyd yn peri heriau sylweddol i’n hymagwedd tuag at bolisi morol. Gosodwyd targed gan gyfarwyddeb fframwaith strategaeth forol yr UE, a grëwyd i wella iechyd ein moroedd, i Lywodraethau weithredu i reoli’r pwysau dynol ar ein dyfroedd er mwyn cyflawni statws amgylcheddol da, a chreu moroedd sy’n iach, yn gynhyrchiol, ac yn fiolegol amrywiol—sy’n hanfodol yng nghyd-destun y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi’r alwad gan Cyswllt Amgylchedd Cymru a rhanddeiliaid eraill ar Lywodraeth Cymru i gadw ei huchelgais i gyflawni’r fframwaith strategaeth erbyn 2020, ac yn gobeithio y gallai hyn gael ei integreiddio’n rhan o gynllun morol cenedlaethol Cymru pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno’i chynigion. Yn yr un modd, mae’n rhaid i’r gwaith sydd ynghlwm wrth ardaloedd morol gwarchodedig ystyried ein hymwahaniad oddi wrth Ewrop, a bydd y polisi pysgodfeydd yn drydydd maes polisi y bydd ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arno, lle y mae’n bwysig ein bod yn sicrhau cydbwysedd cynaliadwy.

Mae gennym ddyletswydd i warchod amrywiaeth ein hamgylchedd morol, ond os nad ydym yn gwneud hynny, gallem hefyd golli cyfleoedd a allai fod yn ddefnyddiol i economi Cymru. Mae ‘Future Trends in the Celtic Seas’, adroddiad newydd pwysig a gyhoeddwyd heddiw gan WWF, yn awgrymu bod y moroedd gyda’i gilydd yn werth £15 biliwn y flwyddyn i economïau’r DU, Iwerddon a Ffrainc ac yn cynnal tua 400,000 o swyddi. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr her enfawr o oresgyn ein hanhwylder diffyg natur, lle y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystyried bod ganddynt gysylltiad gwannach â byd natur na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu hyd yn oed Llundain, a byddwn yn gofyn i ni ystyried eto sut y gallem gysylltu’r rhain â dealltwriaeth ddifrifol o bwysigrwydd ein hamgylchedd morol.

Mae’r adroddiad hwn yn rhybudd o’r angen i ni wneud mwy, ond fel y mae David Attenborough yn ei ddweud yn y rhagair i adroddiad sefyllfa byd natur y DU, dylai hyn roi gobaith i ni hefyd. Rhoddwyd camau ar waith yn dilyn cyhoeddi adroddiad 2013, ac rwy’n gobeithio y bydd mesurau clir yn dilyn o hyn yn eu tro.

Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl i Aelodau unigol heddiw, a hoffwn drosglwyddo ymddiheuriadau David Melding nad yw’n gallu bod yma i siarad yn y ddadl. Mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i ddeall pa gamau y gallwn eu cymryd i amddiffyn a gwarchod ein byd natur a’n hecosystemau gwerthfawr, a bydd yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn benodol ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a chyrhaeddiad ac effaith Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

Rydym wedi siarad eisoes—rhai o’r cyfranogwyr eraill yma—am y nifer o ystadegau y mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn tynnu sylw atynt: y dirywiad yn ein rhywogaethau, y rhywogaethau â blaenoriaeth sydd wedi eu colli, a’r rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol. Pan fyddwn yn sôn am rywogaethau, byddwn yn aml yn siarad am anifeiliaid, ond wrth gwrs mae’r holl blanhigion, y glöynnod byw a’r pryfed ar y ddaear yn gwbl hanfodol i gynnal ein hecosystem. Fe gawsom beth newyddion da gan Vikki Howells, a soniodd am sefyllfa’r morloi llwyd, ac wrth gwrs mae niferoedd belaod coed wedi cynyddu ac mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn. Ond mewn gwirionedd rwy’n pryderu mwy ynglŷn â’r sefyllfa fyd-eang rydym ynddi nag am yr hyn sydd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.

Mae nifer yr anifeiliaid gwyllt sy’n byw ar y Ddaear yn mynd i ostwng dwy ran o dair erbyn 2020, ac mae hyn yn rhan o ddifodiant torfol sy’n dinistrio’r byd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno. Plymiodd poblogaethau anifeiliaid dros 58 y cant rhwng 1970 a 2012. Erbyn 2020, byddwn ni, fodau dynol, a’n ffordd o fyw wedi lladd oddeutu 67 y cant o holl anifeiliaid y Ddaear. Mae honno’n etifeddiaeth ofnadwy i ni ei gadael i’n plant. Rydym i gyd yn gwybod bod y gostyngiad mawr yn niferoedd anifeiliaid yn deillio o ffermio, torri coed, effaith pobl—a 15 y cant yn unig sy’n cael ei ddiogelu ar gyfer natur—a physgota a hela anghynaliadwy. Mae’n mynd ymlaen ac ymlaen. Afonydd a llynnoedd yw’r cynefinoedd sy’n dioddef fwyaf, gyda phoblogaethau anifeiliaid i lawr 81 y cant ers 1970. Mae hyn i gyd o’n herwydd ni, oherwydd echdynnu dŵr gormodol, oherwydd ein llygredd, oherwydd yr argaeau a adeiladwn. Mae’r holl bwysau hyn yn cael eu chwyddo gan gynhesu byd-eang, sy’n newid yr ystodau y gall yr anifeiliaid gwerthfawr hyn sy’n helpu i gynnal ein hecosystemau fyw o’u mewn.

Ceir rhywfaint o newyddion da. Nid am ein morloi’n unig, nid am ein belaod yn unig, ond credir bod niferoedd teigrod yn cynyddu ac mae’r panda mawr wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr o rywogaethau mewn perygl yn ddiweddar. Rwy’n crybwyll hyn—rwy’n siarad am y sefyllfa fyd-eang—am fy mod eisiau cadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd beth bynnag a wnawn yma yn ein gwlad fach, yn ein ffordd fach, yn cyfrif. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd ni allwn ddathlu ein hymdrechion eto. Mewn ychydig bach mwy o newyddion drwg i’r amgylchedd byd-eang, mae gennym ddarpar Arlywydd newydd sydd wedi dweud,

Cafodd y cysyniad o gynhesu byd-eang ei greu gan ac ar gyfer y Tsieinïaid er mwyn gwneud gweithgynhyrchu’r Unol Daleithiau yn anghystadleuol.

Mae’n destun pryder mawr fod darpar arweinydd y byd rhydd â’r agwedd hon tuag at fater mor ddifrifol. Os yw’n tynnu Unol Daleithiau America allan o gytundeb Paris, bydd yn bygwth ein holl ymdrechion i sefydlogi newidiadau tymheredd ac i ddechrau datrys newid hinsawdd. Dyna pam y mae angen i ni wneud ein rhan. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â hyn, nid yn unig er ein mwyn ni, nid yn unig er mwyn yr anifeiliaid ar ein planed—eu planed, yr ‘ein’ mawr—ond rwy’n poeni am ddyfodol fy mhlant, am ddyfodol eich plant, a’n holl blant. A fydd ganddynt blaned ar ôl i fyw arni? Rwy’n poeni’n wirioneddol am eu dyfodol.

Rwyf fi hefyd yn croesawu’r ddadl hon heddiw ac adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’, ac rwy’n meddwl bod llawer o sefydliadau wedi chwarae rhan werthfawr iawn yn helpu i’w gynhyrchu a thynnu sylw ato. Wrth gwrs, mae yna bethau sy’n peri pryder wedi cael sylw eisoes gan yr Aelodau, ac mae angen i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.

Fel Aelodau eraill yma, rwy’n hyrwyddwr rhywogaeth benodol, drwy’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt—llygoden y dŵr yn fy achos i. Mae’r dirywiad ym mhoblogaeth llygod y dŵr ym Mhrydain yn eithaf dramatig. Yn wir, dyna’r dirywiad mwyaf difrifol o holl famaliaid gwyllt Prydain yn ystod y ganrif ddiwethaf. Rhwng 1960 a 2004, amcangyfrifir bod y gostyngiad oddeutu 95 y cant. Felly, yn amlwg, mae yna bryderon difrifol iawn ynglŷn â phoblogaeth llygod y dŵr yng Nghymru, a thu hwnt i Gymru ym Mhrydain yn gyffredinol. Felly, mae’r sefydliadau sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a phoblogaeth llygod y dŵr yn tynnu sylw at y cynefin a gollwyd, fel y byddech yn ei ddisgwyl, a darnio cynefinoedd fel ffactorau sy’n cyfrannu at y dirywiad hwnnw; eu hysglyfaethu gan y minc, wrth gwrs, sydd wedi bod yn ffactor mawr; tynnu dŵr a llygru’r dyfrffyrdd; a rheoli ffosydd draenio a ffosydd, a rôl amaethyddiaeth ddwys yn hynny. Felly, mae’n fwy na thebyg fod cryn dipyn o gonsensws ynglŷn â phrif achosion y gostyngiad hwnnw ym mhoblogaeth llygod y dŵr a hefyd, rwy’n credu, cryn dipyn o gytundeb o ran yr hyn sydd angen ei wneud—rhai o’r pethau sydd fwyaf o angen eu gwneud i fynd i’r afael â’r gostyngiad—felly, rhaglenni ailgyflwyno llygod y dŵr, rheoli poblogaeth minc, adfer cynefin a’i newid yn ôl, ac yn sicr, atal y dirywiad yn y cynefin sy’n eu cynnal, sef dyfrffyrdd a glannau afonydd ac ardaloedd mwy estynedig o gynefin naturiol nad yw wedi’i ddarnio gan ddatblygiad. Felly, pan edrychwn ar bob un o’r materion hynny, Lywydd, rwy’n credu ei bod yn amlwg fod Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, fel y crybwyllwyd gan eraill, yn gwbl hanfodol i’r darlun cyffredinol ac i lygod y dŵr yn ogystal. Mae angen i ni wneud yn siwr eu bod yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl. I mi, rwy’n dyfalu, yn lleol, mae fy mhrofiad o boblogaeth llygod y dŵr yn bennaf o amgylch gwastadeddau Gwent. Mae gennym rwydwaith anhygoel o ffosydd a dyfrffyrdd yno. Maent wedi cael eu rheoli’n ofalus dros y canrifoedd. Serch hynny, maent dan fygythiad, wrth gwrs. Un o’r prif fygythiadau yw ffordd liniaru arfaethedig yr M4 ar draws gwastadeddau Gwent. Felly, rwy’n meddwl y bydd yn brawf mawr i’r ddeddfwriaeth y cyfeiriais ati o ran a yw materion bioamrywiaeth, gan gynnwys poblogaeth llygod y dŵr, yn cael eu hystyried yn ddigonol wrth benderfynu ar y cynnig hwnnw. Yn sicr, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ac amrywiaeth o sefydliadau eraill i geisio cyfleu’r neges allweddol—nad yw sicrhau bioamrywiaeth dda yng Nghymru yn gwneud unrhyw les i neb os mai siarad gwag a wnawn. Gyda phenderfyniadau allweddol, mae’n rhaid i ni fod cystal â’n gair.

Rwy’n llongyfarch Simon Thomas ac Aelodau eraill am gael y ddadl hon, ac rwy’n cytuno â’r cynnig a gynigir. Rydym yn croesawu’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’, ac rydym yn cymeradwyo’r mudiadau sy’n ymwneud â datblygu’r adroddiad hwnnw. Fodd bynnag, yn ogystal â’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ gan nifer o sefydliadau, yn bennaf yn y trydydd sector, cefais fy nharo gan y ffaith ein bod wedi cael yr adroddiad sylweddol iawn hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar—adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol. Cefais fy synnu gan y modd y mae’r ddau adroddiad i’w gweld wedi symud ymlaen ochr yn ochr heb lawer o gefnogaeth neu groesffrwythloni rhyngddynt. Yn ein pwyllgor, rydym wedi siarad â Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill am y broses a oedd gennym ar gyfer gwneud hyn. Yn ôl pob tebyg, credaf fod rhywbeth arbennig am yr adroddiad cyntaf hwn a gawsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi esbonio bod yr amserlenni yn ei gwneud yn anodd iddynt fod mor agored ac ymgynghorol gyda sefydliadau trydydd sector a grwpiau amgylcheddol ag y gallent fod wedi bod fel arall, ac oherwydd natur yr adroddiad cyntaf, efallai fod yna fwy o rannu drafftiau a phwyso ar gymorth gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu’r adroddiad hwnnw. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, fodd bynnag, ar gyfer y dyfodol nad oes canfyddiad fod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fodd yn marcio ei gwaith cartref ei hun ar fioamrywiaeth neu’r hyn a wnawn yn y meysydd hyn. Rydym yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru gael dull gweithredu annibynnol wrth gadw sgôr neu wrth adrodd ar ble y ceir gwelliannau, neu ble y mae dirywiad yn y materion sy’n cael eu monitro. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o le i’r nifer o sefydliadau teilwng iawn a gynhyrchodd yr adroddiad rhagorol sy’n destun y ddadl heddiw i ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwaith adrodd ac ymchwilio y maent yn ei wneud. Nid yw’r sylfaen o bobl sy’n cael eu cyflogi ac sy’n gweithio yn y meysydd hyn yng Nghymru yn fawr, ac rwy’n credu y dylai fod lle i groesffrwythloni, a byddai cyfanswm y rhannau’n fwy nag os yw pobl yn gweithio’n gyfan gwbl ar wahân.

Cefais fy nharo gan gyfraniad Vikki Howells. Roeddwn yn drist braidd ynglŷn ag un agwedd ar yr hyn a ddywedodd. Cyfeiriodd, rwy’n meddwl, at blant yng ngwledydd eraill y DU, a hyd yn oed yn Llundain, yn dweud bod ganddynt gysylltiad agosach â’r amgylchedd naturiol na sydd ganddynt yng Nghymru. O safbwynt personol, rwy’n teimlo bod hynny’n destun syndod mawr oherwydd, yn sicr, gyda fy mhlant i, rwy’n teimlo bod ganddynt gysylltiad llawer agosach â’r amgylchedd naturiol ers i ni symud yma nag oedd ganddynt yn ne-ddwyrain Lloegr. Pan edrychaf ar faint o amgylchedd gwyrdd sydd yng Nghaerdydd, neu pan fyddaf yn ymweld â gwlyptiroedd Casnewydd a’r hyn y mae’r RSPB wedi ei wneud yno, neu ei chymuned ei hun neu lawer o gymunedau eraill y Cymoedd—mae natur y datblygiad rheiddiol ar hyd llawr y dyffryn a’r llethrau is yn golygu bod cymaint o’r boblogaeth mor agos at natur, ac o leiaf mae potensial ar gyfer hygyrchedd o’r fath. Hoffwn orffen fy sylwadau ar y nodyn cadarnhaol hwnnw. Edrychwn ymlaen at welliannau gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy’n llongyfarch yr Aelodau sydd wedi ei chyflwyno, oherwydd credaf fod y materion sy’n codi yn gwbl allweddol, ac rwy’n meddwl mai’r rhain yw’r pethau bara a menyn y dylem fod yn eu gwneud yma yn y Cynulliad i warchod bywyd gwyllt Cymru. Mae’n fater o bryder mawr fod ein bioamrywiaeth wedi dirywio. Rhestrodd siaradwyr blaenorol y dirywiad, ac rwy’n credu y dylai fod yn bolisi allweddol gan Lywodraeth Cymru i leihau’r dirywiad—ac yn wir, i bob un ohonom. A soniwyd bod gennym offerynnau deddfwriaethol—Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau’r dyfodol—ac mae gennym benderfyniadau allweddol i’w gwneud, fel y dywedodd John Griffiths yn ei gyfraniad, lle y mae’n rhaid i ni benderfynu beth sy’n rhaid i ni ei gadw a mesur hynny yn erbyn enillion eraill. Felly, mae yna benderfyniadau allweddol sy’n rhaid i ni eu gwneud.

Er bod fy etholaeth yn un drefol yn bennaf, mae rhywogaethau pwysig iawn i’w cael mewn ardaloedd trefol, ac mae clytiau gwyrdd o fywyd gwyllt y credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn eu cadw, nid yn unig ar gyfer y bywyd gwyllt sydd yno, ond er mwyn iechyd a lles y boblogaeth, oherwydd credaf ei fod eisoes wedi cael ei grybwyll, y ffaith fod bywyd gwyllt a natur a’r amgylchedd yn gwella eich lles a’ch iechyd.

Fel John Griffiths, rwy’n hyrwyddwr rhywogaeth, a fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y ffwng cap cŵyr, sy’n bwysig iawn i Ogledd Caerdydd. Mae’r glaswelltiroedd o amgylch cronfa ddŵr Llanisien yn gartref i’r ffwng cap cŵyr. Mae’n bosibl eich bod wedi clywed, gan fy mod wedi crybwyll y mater yn y Siambr gryn dipyn o weithiau, fod yna ymgyrch hir y mae fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, a minnau wedi bod yn rhan ohoni i atal datblygu cronfa ddŵr Llanisien. Ein nod yw ei droi’n barc gwledig ac ail-lenwi’r gronfa ddŵr. Mae’r ymgyrch wedi para 15 mlynedd, a gwrthwynebodd Western Power Distribution ddymuniadau cyffredinol y cyhoedd yng Ngogledd Caerdydd yn ddiarbed a gwneud popeth a allai i adeiladu dros y gronfa ddŵr, gan gynnwys mynd i ddau ymchwiliad cyhoeddus. Roedd yn ymdrech enfawr i geisio cadw’r safle.

Ond beth bynnag, yn 2003, darganfuwyd ffwng cap cŵyr wrth y gronfa ddŵr, a chawsant eu darganfod gan grŵp gweithredu’r preswylwyr, sy’n cynnwys ecolegwyr a phobl sy’n arbenigwyr, ac yn 2005, cafodd ei ddynodi’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a oedd yn destun gorfoledd mawr. Nawr, roedd ffwng cap cŵyr yn gyffredin ar un adeg ledled glaswelltiroedd gogledd Ewrop, ond oherwydd dulliau ffermio dwys, maent fwy neu lai wedi diflannu mewn nifer o leoedd. Ac mewn gwirionedd, darganfuwyd 29 o rywogaethau o ffwng cap cŵyr wth y gronfa ddŵr, sy’n golygu ei fod yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol yn achos y mathau hyn o ffwng. Roedd yn ddarganfyddiad cyffrous iawn, ac rwy’n gwybod—. Rwy’n meddwl bod Simon Thomas wedi dweud ei fod eisiau bod yn gadarnhaol pan fyddwn yn trafod y materion hyn, ac roedd hyn yn gadarnhaol iawn, oherwydd cawsant eu darganfod yn ystod—wel, yn ystod yr ymgyrch honno mewn gwirionedd.

Y llynedd, cawsom y newyddion da iawn fod y safle bellach wedi ei brynu’n ôl gan Dŵr Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi bod yn monitro’r capiau cŵyr yn ofalus iawn gydag ecolegwyr, ac rwy’n deall eu bod yn dal i wneud yn dda iawn ar y safle. Mae Dŵr Cymru yn bwriadu ail-lenwi’r gronfa ddŵr mewn gwirionedd a’i agor i’r cyhoedd, ond byddai’n rheoli ffyngau’r glaswelltir ac yn diogelu’r safle dinesig unigryw hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, dyna pam mai fy rhywogaeth i yw’r ffwng cap cŵyr. Ac rwy’n dathlu’r ffaith eu bod yn unigryw, ond hefyd eu bod wedi helpu i achub y gronfa ddŵr. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol, ar nodyn mwy cyffredinol, ein bod yn cadw mannau gwyrdd trefol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn hybu bioamrywiaeth ym mhob rhan o Gymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i am ganolbwyntio ar bwysigrwydd safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu SSSIs. Fel mae eraill wedi nodi yn barod, rŷm ni’n colli rhywogaethau ar raddfa ddychrynllyd ar hyn o bryd, ac, fel mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn nodi, un o achosion colli bioamrywiaeth ydy dirywiad cynefin. Mae angen lle ar fywyd gwyllt i ffynnu, ac mae’r safleoedd gwarchodedig sydd gennym ni yn cynnig hynny. Mae SSSIs yn drysor naturiol cenedlaethol. Maen nhw’n cynnwys rhai o’n cynefinoedd mwyaf trawiadol ni, o wlypdiroedd i dwyni tywod, o ddolydd blodau i goedwigoedd derw hynafol, ac nid yn unig maen nhw’n dda i’n bywyd gwyllt ni, ond mae yna werth economaidd mawr iddyn nhw hefyd. Mae pob punt sy’n cael ei gwario ar reolaeth dda o SSSIs, mae’n debyg, yn dod â buddsoddiad o £8 yn ôl, ac mae unrhyw un sydd wedi ymweld ag un o ardaloedd yr RSPB yn Ynys Môn, er enghraifft, yn gwybod pa mor boblogaidd ydyn nhw efo ymwelwyr, ac efo pobl leol—yn gyfle i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt yn eu cynefin.

Rydw i am dynnu sylw at ddwy enghraifft benodol yn fy etholaeth i sy’n dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn SSSIs i sicrhau eu bod nhw yn y cyflwr gorau ar gyfer ein bywyd gwyllt ni. Y cyntaf ydy’r newyddion da iawn bod aderyn y bwn yn nythu a bridio yng Nghymru eto am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd, a hynny yng nghors Malltraeth ar Ynys Môn. Mae yna ambell aderyn wedi bod yng Nghymru, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fridio ers tair degawd. Mi gafodd y warchodfa ei ffurfio nôl yng nghanol y 1990au, efo’r nod o ddenu yr aderyn yma yn ôl i Ynys Môn, ac ar ôl tipyn o aros a gweld amryw o rywogaethau eraill bregus yn ffynnu yn yr ardal, mi oedd darganfod bod aderyn y bwn wedi dewis nythu yno eleni yn deyrnged, rwy’n meddwl, i waith caled y tîm cadwraethol, a chefnogaeth y gwylwyr adar lleol hefyd.

Yr ail stori o lwyddiant ydy gwarchodfa natur ryfeddol Ynys Lawd, yn SSSI Glannau Ynys Gybi, sy’n cefnogi amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac un o’r rhain ydy’r frân goesgoch. Mae’n ffasiynol iawn, mae’n ymddangos, i fod yn bencampwr dros rywogaeth, ac roeddwn i’n ‘chuffed’, mae’n rhaid i mi ddweud—maddeuwch i mi—i fod wedi cael fy newis yn bencampwr rhywogaeth i’r aderyn prin a rhyfeddol yma. Mae gan yr aderyn yma anghenion cynefin llawer mwy arbenigol na rhai o’i pherthnasau yn nheulu’r frân, a dyna pam fod arfordir creigiog gorllewinol Ynys Gybi yn ddelfrydol iddi hi. A drwy reolaeth o’r rhostir a chaeau pori arfordirol, mae niferoedd y brid Celtaidd eiconig yma wedi cael eu cynnal.

Yn y ddau achos yna rwyf wedi’u crybwyll, mae rheolaeth ofalus o’r safleoedd gwarchodedig wedi arwain at lwyddiannau cadwraethol, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’r darlun ddim yr un fath ar draws Cymru gyfan. Nid ydym ni’n gwybod, er enghraifft, beth ydy cyflwr rhai o’n safleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt, hyd yn oed. Mi gafodd yr adolygiad diwethaf o statws ein safleoedd gwarchodedig ei wneud mewn adolygiad cyflym o sampl o safleoedd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru dros 10 mlynedd yn ôl, a doedd y canlyniadau ddim yn rhai calonogol. Mae’n hanfodol bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni’n buddsoddi yn y monitro a’r asesu o’r safleoedd yma er mwyn gwybod a ydyn nhw’n darparu ar gyfer y rhywogaethau y maen nhw wedi cael eu dynodi i’w gwarchod.

Rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth heddiw yn cydnabod bod wir angen adolygiad o’r modd mae’n safleoedd gorau ni yn perfformio er lles bywyd gwyllt, ac yn cydnabod pwysigrwydd rheoli safleoedd gwarchodedig yn iawn, a phwysigrwydd monitro hefyd er mwyn deall ac adennill natur Cymru. Os nad ydy’n safleoedd gorau ni ar gyfer bywyd gwyllt mewn cyflwr da, yna sut y gallwn ni obeithio diogelu dyfodol bioamrywiaeth yng Nghymru a gwella’r rhagolygon i fywyd gwyllt yng Nghymru?

Fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru, ymwelais ag Ysbyty Ifan yn Eryri yr haf hwn gyda’r RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r ffermwr tenant, a chlywais, yn lle rhagnodi, fod angen i gynlluniau amaeth-amgylcheddol dalu ffermwyr yn ôl canlyniadau, a gwneud pethau gyda hwy. Clywais hefyd mai’r prif reswm pam fod magu’n methu yw ysglyfaethu nythod, gyda’r llwynog a’r frân yn brif droseddwyr, a dyna pam y mae llwybrau gylfinirod, brain a llwynogod yn cael eu monitro mewn ardal dreialu a rheoli, cyn cyflwyno dulliau o reoli ysglyfaethwyr o bosibl.

Mae angen sylw cadwraethol ar ucheldiroedd Cymru. Mae 55 y cant o’r rhywogaethau a astudiwyd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur wedi bod yn dirywio ers amser hir ac mae helaethrwydd rhywogaethau yn gostwng. Mae cymaint â 15 y cant o rywogaethau’r ucheldir dan fygythiad o ddarfod. Mae cynefinoedd yr ucheldir yn arbennig o bwysig i ylfinirod sy’n nythu, sydd bellach yn brin ar lawr gwlad. Mae’r gylfinir yn hynod o bwysig fel rhywogaeth, yn ddiwylliannol ac yn ecolegol yng Nghymru. Rhwng 1993 a 2006, gwelwyd dirywiad cyflym o 81 y cant yn niferoedd gylfinirod yng Nghymru. Heb ymyrraeth, mae’r tueddiadau hyn yn debygol o barhau. Mae’r gylfinir yn awr wedi ei restru yng nghategori bron dan fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar lefel fyd-eang ac mae’n wynebu’r perygl o ddarfod ar lefel Ewropeaidd. Mae’r RSPB wedi cychwyn rhaglen fawr i adfer y gylfinir ar draws y DU, gydag ardaloedd treialu wedi’u sefydlu mewn chwe man, gan gynnwys Hiraethog, y Migneint ac Ysbyty Ifan, yr ardal yr ymwelais â hi yr haf hwn, gydag ymyrraeth rheoli’n dechrau yn ystod gaeaf 2015-16, ac arolygu yr haf diwethaf.

Yr hyn sy’n achosi’r dirywiad yw: colli cynefin addas, newidiadau yn amaethyddiaeth yr ucheldir mewn mannau, ac mae cynyddu stociau o anifeiliaid pori—ac i’r gwrthwyneb, gostyngiad mewn rhai eraill—wedi arwain at ostyngiad yn ansawdd cynefinoedd. Mae coedwigaeth yn yr ucheldir wedi arwain at golli cynefin yn uniongyrchol ac o ystyried bod y niferoedd yn isel bellach, mae ysglyfaethu bellach yn arwain at golledion mawr yn ogystal. Mae gorgorsydd yn un o’r mathau pwysicaf o gynefin a geir yng Nghymru, os nad yn fyd-eang. Yn ogystal â darparu cartrefi i blanhigion prin, infertebratau ac adar megis y gylfinir, maent yn darparu llawer o’n dŵr yfed, yn sail i’r economi wledig, ac yn cynnal dalfeydd carbon mawr. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd, mae gorgorsydd yng Nghymru ac ar draws y byd wedi dioddef dan law dynoliaeth. Yn y gorffennol, mae gweithgareddau megis draenio, llosgi a phlannu coedwigaeth wedi andwyo’r corsydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y daethom i ddeall pa mor werthfawr yw’r cynefin hwn pan na fydd dim wedi amharu arno.

Felly, a yw’r Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod bod angen i ni wneud mwy i ddiogelu’r cynefin pwysig hwn? Mae’n hanfodol i ddyfodol y gylfinir ein bod yn cael y polisi defnydd tir yn iawn ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni adael yr UE, mae gennym gyfle i ddiffinio ein polisi rheoli tir yn gynaliadwy ein hunain. Rhaid i’r polisi hwn fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth, a dirywio amgylcheddol ehangach hefyd drwy sicrhau dŵr glân, storio dŵr i atal llifogydd, a storio carbon yn ein mawndiroedd. A yw’r Gweinidog yn cytuno felly fod rhaid i bolisi defnydd tir fynd i’r cyfeiriad hwn yn y dyfodol yng Nghymru?

Y gylfinir yw’r aderyn hirgoes Ewropeaidd mwyaf, a gellir ei adnabod ar unwaith ar aberoedd yn y gaeaf ac yn ei diroedd nythu yn yr haf wrth ei faint mawr, ei big hir sy’n crymu ar i lawr, ei rannau uchaf brown a’i goesau hir. Mae ei gân yn iasol ac yn hiraethus; i lawer o bobl, dyna alwad ardaloedd yr ucheldir gwyllt. Mae rhosydd gogledd Cymru bellach yn cynnal y boblogaeth fwyaf o ylfinirod nythu yng Nghymru, gydag adar yn dychwelyd i nythu yn y gwanwyn. Mae gylfinirod yn nythu ar gorsydd agored, gwastad neu ychydig yn donnog, ar rostir, ar dir ffermydd mynydd ac ar borfeydd gwlyb ar dir isel, ac yn bwydo’n bennaf ar amrywiaeth o infertebratau, gan gynnwys pryfed genwair, cynrhon lledr, chwilod, pryfed cop a lindys. Er eu bod yn dal i fod yn gymharol gyffredin yn yr ucheldir, mae parau magu, fel y nodwyd, bellach yn brin ar lawr gwlad. Roedd yr amcangyfrif diwethaf yn 2006 yn ystyried nad oedd ond ychydig dros 1,000 o barau o ylfinirod yn nythu yng Nghymru.

Felly, mae’r camau gweithredu sy’n ofynnol yn cynnwys cymorth a chyngor i berchnogion a rheolwyr tir lle y ceir gylfinirod neu ble y gellid disgwyl eu gweld, i weithredu rheolaeth ffafriol ar gyfer gylfinirod fel rhan o’u busnes fferm. Gallai hyn gynnwys adfer rheolaeth a gollwyd yn flaenorol. Cam gweithredu sy’n ofynnol hefyd yw monitro effeithiolrwydd cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir yn drylwyr i lywio opsiynau cynllun a rheolaeth ehangach, ac yn olaf, pwysigrwydd treialu atebion rheoli cynhwysfawr i atal y gostyngiad yn niferoedd gylfinirod sy’n nythu yn yr ucheldir. Diolch.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o siarad yn y ddadl hynod o bwysig hon heddiw, ac wrth gwrs, rwy’n ei chroesawu ac rwy’n croesawu adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’. Yn gyntaf oll, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i’r holl sefydliadau cysylltiedig am eu gwaith caled yn cynhyrchu’r hyn sy’n bapur manwl a llawn gwybodaeth, ac yn bwysicaf oll, cydnabod y miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig ac angerddol sydd, drwy eu cariad at natur, yn rhoi eu hamser. Heb eu cymorth, ni fyddem mor wybodus am sefyllfa byd natur yng Nghymru a byddai hynny’n ei gwneud yn hynod o anodd gwybod ble y mae fwyaf o angen ymyrryd.

Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg llwm ar golli bioamrywiaeth yma yng Nghymru ac yn wir, mae’n ddarlun cymysg o golledion difrifol, megis y durtur, crec yr eithin a’r gylfinir, er nad yw’r newyddion yn ddrwg i gyd. Roedd yn galonogol darllen am enillion i nifer o rywogaethau a straeon llwyddiant, sy’n amlwg yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd rhanddeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd. Fel Aelodau etholedig, rwy’n credu ein bod yn warcheidwaid yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae hynny wedi cael ei ddweud yma heddiw. Wedi’r cyfan, nid yw ond wedi cymryd 50 mlynedd i weld gostyngiad o 56 y cant yn y rhywogaethau a astudiwyd. Oherwydd hynny, mae angen i ni weithredu ar frys, fel arall ni fyddwn yn atal y dirywiad hwn. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom yma am barhau i drosglwyddo’r dirywiad hwnnw yn y gwaith a etifeddir gennym.

Os edrychwn ar adroddiad sefyllfa byd natur y DU, mae’n gwneud ychydig o sylwadau. Un o’r sylwadau hynny yw mai dwysáu amaethyddiaeth sydd wedi effeithio fwyaf ar fywyd gwyllt, ac mae hynny wedi bod yn hynod o negyddol. Diolch byth, mae yna lawer o dirfeddianwyr a ffermwyr sy’n pryderu am effeithiau amaethyddiaeth ar natur ac sydd am greu newid cadarnhaol drwy ffermio sy’n parchu bywyd gwyllt. Rwy’n credu bod hynny’n hanfodol bwysig i adfer ac adennill cynefinoedd a bywyd gwyllt, o gofio bod 84 y cant o’r tir yma yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth yn wir. Wrth gwrs, i lawer o ffermwyr a thirfeddianwyr, ni fyddai’n bosibl rheoli tir yn gynaliadwy, sy’n effeithio’n gadarnhaol ar natur, heb y cymorth ariannol sy’n cael ei dderbyn drwy gynlluniau grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r UE fel Glastir. Felly, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â chyllid yn y dyfodol i’r cynlluniau hanfodol bwysig hyn pan fydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir, am y posibilrwydd o golli llawer o ddarnau sylweddol o ddeddfwriaeth yr UE sy’n diogelu bywyd gwyllt, megis y gyfarwyddeb cynefinoedd, y gyfarwyddeb adar a rheolaethau ar blaladdwyr, a fyddai’n effeithio negyddol ar ein hymdrechion i atal y dirywiad.

Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn anrhydeddu contractau datblygu gwledig a lofnodwyd cyn i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd y taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael eu cadw tan 2020. Ond yr hyn sy’n rhaid i ni edrych arno yw beth sy’n digwydd ar ôl hynny. Felly, hoffwn wybod a gyflwynwyd unrhyw sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet i Lywodraeth San Steffan ynghylch y cyllid hirdymor i gynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer Cymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE, ac a fyddwn, o fewn y cynlluniau amaeth-amgylcheddol hynny, yn cael yr arian, wrth gwrs, a addawyd i ni mor frwd ar gyfer ffermwyr a fyddai’n cael ei rannu hefyd i edrych ar ôl yr amgylchedd rydym yn sôn amdano heddiw.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:09:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl hon ar yr adroddiad sefyllfa byd natur yn fawr iawn ac rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig. Rwy’n cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan y bartneriaeth sefyllfa byd natur a diolch iddynt am gynhyrchu’r adroddiad pwysig hwn. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith hanfodol a phwysig a wnaed gan wirfoddolwyr yng Nghymru y cyfrannodd eu hymdrechion yn monitro a chofnodi rhywogaethau a chynefinoedd at yr adroddiad hwn hefyd.

Er bod yr adroddiad sefyllfa byd natur yn tynnu sylw at y gostyngiad mewn nifer o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru, ac achosion sylfaenol y gostyngiad yn y niferoedd hynny, yn bendant nid yw’r adroddiad i gyd yn negyddol. Mae’n nodi nifer o rywogaethau sydd wedi eu hadennill yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, megis y titw penddu a’r troellwr mawr, gyda’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod ystlumod yng Nghymru i’w gweld yn gwneud yn dda.

Yn ein hamgylchedd morol, er bod yr adroddiad yn nodi rhai enghreifftiau o ddirywiad, mae hefyd yn amlygu bod mwy na hanner y rhywogaethau morol ym moroedd y DU wedi cynyddu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y materion sy’n ymwneud â dirywiad bioamrywiaeth ers amser hir. Mae ein hymrwymiad i wrthdroi’r dirywiad hwn drwy ddatblygu cydnerthedd ecosystemau yn allweddol i gyflawni ein cynllun adfer natur ar gyfer Cymru. Ni chaiff hyn ei gyflawni heb wneud bioamrywiaeth yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel, gan adeiladu ar y cyfraniad y mae bioamrywiaeth yn ei wneud i’n lles.

A gaf fi ofyn ar yr union bwynt hwnnw: oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio cymaint ar fioamrywiaeth, a allai roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw y bydd cynrychiolaeth gref o Lywodraeth Cymru yng nghonfensiwn Cancun sydd ar y gorwel ar amrywiaeth biolegol, naill ai hi’n bersonol, yn ddelfrydol, neu fel arall, gan uwch swyddogion?

Nid wyf yn gallu bod yn bresennol, ond byddaf yn sicrhau bod uwch swyddog yn mynd yn fy lle.

Fel y soniodd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol, mae gennym bellach fframwaith deddfwriaethol sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae ein deddfau arloesol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu mai gennym ni y mae’r sylfaen gryfaf yn y DU, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol fel enghraifft dda yn y modd rydym yn gweithredu ein hymrwymiadau rhyngwladol i ddatblygu cynaliadwy a bioamrywiaeth.

Mae’r ddwy Ddeddf yn cydnabod bod diogelu a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy yn allweddol i’n lles. O dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus bellach i gyfrannu at y saith nod lles, sy’n cynnwys cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau iach sy’n gweithio. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hamcanion lles, sy’n nodi sut y byddwn yn defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i helpu i gyflawni ein rhaglen lywodraethu a sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd i’r saith nod lles. Mae ein hamcanion lles yn cynnwys rheoli, defnyddio a gwella adnoddau naturiol Cymru er mwyn cefnogi lles hirdymor.

Mae Deddf yr amgylchedd yn pwyso ar y dull rheoli ar lefel yr ecosystem a nodir yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Bydd y Ddeddf yn sicrhau bod cydnerthedd ecosystemau yn amcan allweddol o ran y modd rydym yn rheoli ac yn defnyddio ein hadnoddau naturiol, fel bod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau yn gallu ffynnu ac addasu i’r pwysau y maent yn eu hwynebu.

Ar y pwynt hwnnw’n unig: fe’m synnwyd bod nodau ac amcanion Deddf cenedlaethau’r dyfodol a gyhoeddwyd ddydd Gwener yn nodi systemau yn hytrach nag ecosystemau. A allwch fy sicrhau nad oes arwyddocâd i’r ffaith fod y nodau’n sôn am systemau, a’r Ddeddf yn sôn am ecosystemau, ac mai’r hyn y mae’r Llywodraeth yn sôn amdanynt yw ecosystemau?

Ie, rydym yn sôn am ecosystemau.

Felly, i sefydlu hyn, mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyflawni cydgysylltiedig. Lansiais y cyntaf o’r rhain, adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y mis diwethaf. Mae’n creu sylfaen dystiolaeth genedlaethol, ac yn nodi’r pwysau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn fuan, byddaf yn cynnal ymgynghoriad ar yr ail o’r rhain, polisi adnoddau naturiol cenedlaethol statudol, a fydd yn nodi ein blaenoriaethau i fynd i’r afael â’r pwysau a’r cyfleoedd hyn ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Yn drydydd, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu datganiadau ardal yn nodi materion sy’n codi’n lleol a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.

Mae ein hymgynghoriad cyfredol ar ansawdd aer lleol a rheoli sŵn yng Nghymru wedi’i osod o fewn y fframwaith hwn. Rydym yn cynnig arweiniad polisi newydd i bwysleisio’r manteision mwy i iechyd y cyhoedd sy’n debygol o ddeillio o gamau gweithredu i leihau llygredd aer a sŵn mewn modd integredig dros ardal ehangach. [Torri ar draws.] Na, ni allaf—rwyf eisoes wedi cymryd dau.

Bydd y dull hwn hefyd o fudd i fioamrywiaeth. Ar ben hynny, mae Deddf yr amgylchedd yn cyflwyno dyletswydd i wella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn rhoi bioamrywiaeth wrth wraidd eu penderfyniadau mewn modd cydgysylltiedig ac integredig, gan sicrhau manteision lluosog i gymdeithas. Er enghraifft, mae ein hymgynghoriad cyfredol ar barthau perygl nitradau yn dangos sut rydym wedi ymrwymo i adeiladu ecosystemau cydnerth. Mae hyn yn golygu mabwysiadu ymagwedd ataliol, mynd i’r afael â’r materion gwaelodol yn hytrach na thrin y symptomau, a gwella gallu hirdymor ein hecosystemau i ddarparu gwasanaethau ac addasu i bwysau a newidiadau.

O ran ein hamgylchedd morol, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth i adeiladu cydnerthedd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n cyfrannu at rwydwaith ecolegol cydlynol wedi’i reoli’n dda o ardaloedd morol gwarchodedig, ac at gyflawni’r cynllun morol cenedlaethol Cymreig cyntaf sy’n integreiddio polisïau ar draws Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd morol. Bydd y cynllun yn cynnwys polisïau penodol i fioamrywiaeth a mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol. Trwy gyflawni ein hymrwymiadau o dan y rhaglen newid morol, rydym yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn rhan annatod o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Rwyf hefyd yn dymuno dweud ychydig eiriau am ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yng nghyd-destun gadael yr UE. Oes, wrth gwrs bod llawer o heriau a risgiau, ond mae yna lawer o gyfleoedd hefyd. Cefais fy nghalonogi’n fawr iawn gan y consensws o safbwyntiau a fynegwyd yn y trafodaethau bwrdd crwn a gynhaliais ers y bleidlais. Mae cydweithio’n allweddol ar draws pob sector i ddiffinio’r Gymru rydym ei heisiau ar ôl gadael yr UE, a’r mecanweithiau i gyflawni ein gweledigaeth. Bydd adeiladu ar, a dysgu o’r mecanweithiau ariannu presennol yn hanfodol ar ôl gadael yr UE, o gynlluniau fel y cynllun rheoli cynaliadwy a Glastir, yn ogystal â datblygu cyfleoedd ariannu newydd yn seiliedig ar y farchnad, gan gynnwys taliadau am wasanaethau ecosystemau.

Gofynnodd Joyce Watson yn benodol ynglŷn â chyllid ar ôl gadael yr UE, ac rwyf am dawelu ei meddwl hi a’r holl Aelodau fod trafodaethau’n bendant ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, cynhaliais gyfarfod rhyngof fi a fy nghymheiriaid gweinidogol yn Llywodraeth y DU—roedd yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r sgyrsiau hynny’n parhau, nid yn benodol ynglŷn ag ariannu, er bod hynny’n amlwg yn rhan o’r trafodaethau. Hefyd, bydd Joyce Watson yn ymwybodol o Gydbwyllgor Gweinidogion yr UE y mae’r Prif Weinidog yn ei fynychu, ynghyd â Phrif Weinidogion eraill lle y mae cyllid, unwaith eto, yn amlwg yn brif bwnc. Rydym yn bryderus iawn—yn amlwg, rydym wedi cael sicrwydd gan y Trysorlys y byddwn yn cael cyllid hyd at 2020, ond ar ôl hynny, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod.

Mae Deddf yr amgylchedd a Deddf lles cenedlaethau’r dyfodol yn seiliau cadarn i adeiladu arnynt ac yn bwrw ymlaen â’n hymrwymiad i fioamrywiaeth. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE, ni fyddwn yn gwrthdroi ein deddfwriaeth bresennol, na’n hymrwymiad i fioamrywiaeth. Bydd ein deddfwriaeth yn caniatáu i ni hyrwyddo dulliau newydd blaengar, arloesol a hirdymor o reoli ein bywyd gwyllt. Rydym wedi ymrwymo i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac yn wir, i’w gweld yn ffynnu. Rwy’n hyderus y gellir cyflawni hyn drwy’r dull rwyf wedi’i amlinellu, sy’n ein gosod ar wahân fel arweinydd byd-eang—er ein bod yn wlad fach, fel y dywedodd Angela Burns—o ran y modd rydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol. Diolch.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am naws a natur gadarnhaol ei hymateb cynhwysfawr iawn? Ond a gaf fi hefyd ategu’r holl siaradwyr heddiw, llawer ohonynt, a’r rhai a ofynnodd am y ddadl hon, yn enwedig Simon Thomas, a gyfeiriodd at sut rydym yn byw yn yr oes anthroposen? Ond roedd natur gadarnhaol i’w gyfraniad, a oedd yn dweud os ydym yn dewis gwneud gwahaniaeth, fe allwn wneud gwahaniaeth. Dyna oedd y thema a ddaeth yn amlwg gan lawer o’r siaradwyr.

Cyffyrddodd Sian Gwenllian ar fater a ailadroddwyd gan Joyce Watson—sut rydym yn esbonio hyn i’r genhedlaeth nesaf oni bai ein bod stiwardio hyn yn iawn, oni bai ein bod yn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac oni bai ein bod yn atgyweirio’r difrod i’n gwasanaethau ecosystemau fel y’u disgrifir yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.

Canolbwyntiodd Vikki Howells yn gywir ar yr amgylchedd morol a’r gwaith y gellir ei wneud yno, oherwydd, yn aml iawn, rydym yn edrych ar y glesni mawr draw, a glesni mawr draw ydyw hefyd. Nid yw pobl yn edrych ar iechyd a lles yr ardal honno yn y ffordd rydym yn ei wneud mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol ar y tir.

Cawsom ein hatgoffa gan Angela Burns am y rheidrwydd byd-eang ar ddiwrnod pan welwn hynny’n cael ei beryglu braidd mewn gwirionedd, gydag un o genhedloedd mwyaf a mwyaf gwych y byd yn dewis rhywun sy’n gwadu bodolaeth newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni weithio ddwywaith mor galed yn awr i gadw’r ysgogiad byd-eang i gyflawni ar fioamrywiaeth, newid hinsawdd ac yn y blaen.

Cawsom hefyd nifer o hyrwyddwyr yr amgylchedd naturiol yma heddiw—mae pob un ohonynt yn hyrwyddwyr—John Griffiths, hyrwyddwr llygoden y dŵr; Julie Morgan, y ffwng cap cŵyr; a Mark Isherwood, y gylfinir. Cawsom Rhun ap Iorwerth yn dweud pa mor ‘choughed’, yn wir, yr oedd i fod yma. [Chwerthin.] A Mark Reckless, Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a materion gwledig, yn gwbl gywir—nid wyf yn siŵr beth y mae’n ei hyrwyddo, ond fe hyrwyddodd yr angen i fonitro a gwerthuso cynnydd Llywodraeth Cymru yn annibynnol ar yr holl faterion hyn.

Nawr, rwy’n falch o fod yn hyrwyddwr y gornchwiglen yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r cwestiwn i ble’r aeth yr holl gornchwiglod yn crynhoi holl themâu mawr y ddadl hon yn ardderchog, gan nodi dirywiad a chwymp yr ymerodraeth wych flaenorol o fywyd yn y môr ac ar y tir, o blanhigion ac adar a glöynnod byw, dirywiad rhywogaethau a chynefinoedd, a thrasiedi colli bioamrywiaeth. Yn y blynyddoedd a fu, roedd cornchwiglod du a gwyn i’w gweld yn hedfan drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru. Roeddent mor niferus â’r dolydd blodau gwyllt a’u cynhaliai. Yn awr, maent yn brin ac yn arbennig. Y gornchwiglen yw ein fersiwn fodern o ganeri’r glowyr. Mae eu tranc araf yn dangos i ni fod natur mewn trybini. Er eu mwyn hwy, ac er ein mwyn ninnau, mae angen i ni weithredu.

Nawr, i’r gornchwiglen, mae’r atebion i’w gweld mewn ffermio a rheoli’r dirwedd, ac mae angen rhoi sylw i hyn yn ein polisïau ar gyfer amaethyddiaeth, datblygu gwledig ac yn anad dim, yn y dirwedd ôl-Brexit hon. Mae arnom angen ffermio hyfyw, cymunedau gwledig hyfyw, a rhywogaethau a chynefinoedd hyfyw hefyd. Mae angen i ni ailfeddwl ein dull o gael y gorau oll o bob byd, gan adfer y gorau yn y byd hwn, lle rydym yn stiwardiaid ac nid yn feistri. Beth bynnag am adael yr UE, dylem fod yn edrych ar fyd newydd dewr, ac yn y byd newydd dewr hwn ni ddylai fod unrhyw wrthdaro rhwng cynnal ein gallu i dyfu bwyd a gofalu am y tir a’r natur y mae’n dibynnu arni. Mae’r cyntaf yn gwbl ddibynnol ar yr ail. Felly, gadewch i ni fachu ar y cyfle hwn i weithio tuag at ffermio deallus a chynaliadwy, rheoli’r dirwedd a rheolaeth amgylcheddol, lle rydym ni, y dinasyddion, yn buddsoddi mewn ffermio, nid yn unig mewn perthynas â bwyd a hyfywedd cymunedau gwledig ond drwy ddefnyddio arian cyhoeddus i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus pendant, megis dŵr glân, atal llygredd, cynnal pridd iach, gofalu am natur, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, gan gynnwys ail-greu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, megis gorlifdiroedd gyda glaswelltir gwlyb a choetir gwlyb.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 17:20:00

A wnewch chi ildio?

Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser. Rwy’n ymddiheuro.

Rydym wedi creu rhywfaint o’r adnoddau i wneud hyn yng Nghymru. Rydym yn arwain y ffordd mewn deddfwriaeth a pholisi. Mae gennym Ddeddf yr amgylchedd. Mae Rhan 1 yn disgrifio rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’n galluogi adnoddau Cymru i gael eu rheoli mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae’n helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n canolbwyntio ar y cyfleoedd y mae ein hadnoddau yn eu cynnig. Ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn adran 6(1):

‘Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.’

Yn adran 7 y Ddeddf,

‘Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a

(b) annog eraill i gymryd camau o’r fath.’

A soniwyd eisoes am Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol sy’n disgrifio Cymru gydnerth—

‘Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).’

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet o’n blaenau, sy’n arwain ar hyn, yn y gynhadledd Joint Links:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cynnig cyfle i ddod â bioamrywiaeth i mewn i brosesau canolog cyrff cyhoeddus ar gyfer gwneud penderfyniadau, gan ddylanwadu ar fioamrywiaeth a’r adnoddau sy’n ei chynnal. Mae angen i ni ddefnyddio hyn yn y modd mwyaf effeithiol, gan sicrhau bod mecanweithiau arian grant yn cydymffurfio â’r Ddeddf i gyflawni’r nodau lles, a nodau Cymru gydnerth yn benodol.

Clywyd amrywiaeth wych o gyfraniadau. Fe wnaeth ein hamrywiaeth gwleidyddol, rhaid i mi ddweud, greu rhywfaint o harmoni, gyda phawb yn cytuno mai un cyfeiriad teithio sydd yma: mae angen i ni ailadeiladu ac adfer ein hamgylchedd naturiol, ailgyflenwi’r fioamrywiaeth, gwrthdroi colli cynefin, adfer ansawdd ein hecosystemau naturiol. Mae’n dda i ni, mae’n dda i’r blaned, mae’n dda i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Gwyddom fod gennym yr offer, gwyddom fod gennym yr uchelgais—mater i ni yn awr yw gweithio gyda’n gilydd, a gwnaeth yr holl siaradwyr yma y pwynt hwn heddiw, i wrthdroi colli bioamrywiaeth, atgyweirio ein hecosystemau briwiedig, a throsglwyddo planed sy’n gwella a phlaned iach i genedlaethau’r dyfodol. Ni yw’r stiwardiaid, nid y meistri.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 4 yn enw Jane Hutt.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6132 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch.

3. Yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi’i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu comisiynydd ar gyfer cyn-filwyr, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru ar gyfer cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gyda’r nod cyffredinol o wella’r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o’r lluoedd arfog sy’n dal i wasanaethu; a

b) cyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau o’r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Yn ystod wythnos y Cofio rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch, ac yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu cyfamod y lluoedd arfog, sydd wedi’i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberth y gymuned honno.

Amcangyfrifir bod 385,000 o aelodau cyfredol a blaenorol o gymuned y lluoedd arfog yn byw yng Nghymru. Yn ôl arolwg cartrefi y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2014, mae hyn yn cynnwys 310,000 o aelodau cyfredol a blaenorol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, a 75,000 ychwanegol o blant. Mae ystadegau’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi awgrymu ymhellach fod yna 153,000 o gyn-filwyr ymhlith y boblogaeth hon.

Y cyntaf o Orffennaf oedd canmlwyddiant dechrau brwydr fwyaf gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf—brwydr y Somme; 7 Gorffennaf oedd canmlwyddiant brwydr Coed Mametz, pan gerddodd milwyr traed o’r 38ain Adran (Gymreig) yn syth i mewn i ynnau peiriant yr Almaen o flaen coedwig, tua milltir o hyd, ger pentref bach Mametz. Roedd yn anrhydedd cael noddi Taith y Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol yma yr wythnos diwethaf, pan ymunodd Aelodau a staff y Cynulliad â chyn-filwyr, aelodau a staff y lleng i feicio’r pellter rhwng y Cynulliad a Choed Mametz i nodi cyfnod y Cofio. Llongyfarchiadau i Aelod penodol draw yno, y credaf mai ef oedd y cyflymaf—neu a lwyddodd i fynd bellaf mewn pum munud. Es i am reid hamddenol yn y wlad, ond dyna ni. [Chwerthin.] Ar y diwrnod hwn, 9 Tachwedd 1916, gan mlynedd yn ôl, dechreuodd brwydr Ancre, wrth i gam olaf brwydr y Somme ddod i ben. Erbyn 1918, roedd 280,000 o filwyr Cymreig wedi gwasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf, a bu farw tua 40,000 ohonynt. Ar y diwrnod hwn 22 mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd yr Almaen hel 180,000 o Ffrancwyr allan o ardal Alsace-Lorraine a oedd wedi’i gorchfygu yn ail flwyddyn yr ail ryfel byd. Mae pobl hefyd wedi gwneud yr aberth eithaf yn Irac, Affganistan, y Falklands, Gogledd Iwerddon a Korea, i enwi ond ychydig. Am fod y gorffennol yn llywio’r dyfodol, na foed i ni byth anghofio hynny.

Galwn ar Lywodraeth Cymru i nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn 2014 i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, sy’n ymroddedig i wella’r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, a’u teuluoedd. Mae sefydlu comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn hanfodol er mwyn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr a chyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru, ac i graffu’n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a ddarparir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Byddai’r comisiynydd yn ymgysylltu â chymuned y lluoedd arfog, yn ogystal â’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac yn hyrwyddo’r nifer o brosiectau trydydd sector allweddol sy’n cynorthwyo cyn-filwyr a’u teuluoedd, fel y gellir eu cynnal a’u cyflwyno’n genedlaethol, gobeithio, gan Lywodraeth Cymru, neu gyda’i chefnogaeth. Mae’r rôl hon wedi cael ei chefnogi a’i chymeradwyo gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Nid ein syniad ni ydyw. Ei hyrwyddo a wnawn ar ran y gymuned honno a’r arbenigwyr sydd mewn sefyllfa dda i wybod.

Galwn ar Lywodraeth Cymru hefyd i gyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau’r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall rhwng gwledydd y DU a’n lluoedd arfog. Cafodd ei egwyddorion eu hymgorffori yn y gyfraith gan Lywodraeth flaenorol y DU yn 2011, gan sicrhau nad yw cymuned y lluoedd arfog yn wynebu anfantais ormodol wrth ddefnyddio gwasanaethau megis tai ac iechyd. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu cyfamod cymunedol y lluoedd arfog, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ethol aelod i fod yn hyrwyddwr y lluoedd arfog, ond mae angen mwy.

Wrth arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyn-filwyr yma ym mis Gorffennaf, rhoddais enghraifft o etholwr a oedd wedi cael diagnosis ar ôl ei ryddhau o’r fyddin o anhwylder straen wedi trawma cronig a chymhleth yn ymwneud â’i wasanaeth. Roedd wedi ceisio cyflawni hunanladdiad ym mis Mawrth ar ôl i sawl ymdrech i sicrhau ymyrraeth briodol ar ran GIG fethu dro ar ôl tro. Yn dilyn fy ymyriad, addawodd ei dîm iechyd meddwl cymunedol y byddai’n gweld cydgysylltydd gofal o fewn pedair wythnos. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i mi ymweld ag ef eto ddau fis yn ddiweddarach, nid oedd wedi clywed dim. Wel, y wybodaeth ddiweddaraf am y stori hon yw mai dim ond ar ôl i mi ymyrryd eto ar lefel uchaf y bwrdd iechyd y pennwyd cydgysylltydd gofal ar ei gyfer. Er gwaethaf ymrwymiad clir yr awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddarparu cymaint o wasanaethau wedi’u teilwra ag y bo modd i’r lluoedd arfog, mae gwaith achos y Ceidwadwyr Cymreig—a gwaith achos yr holl bleidiau eraill, yn ddi-os—yn darparu tystiolaeth nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell.

Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwella’u prosesau casglu data er mwyn sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr, canfod pa gymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a’u gofalwyr, llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu, a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, dyma’n union roedd adroddiad ‘Call to Mind: Wales’ a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind ac yn seiliedig ar gyfweliadau gyda chyn-filwyr a’u teuluoedd a phobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol, yn galw amdano ym mis Mehefin. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am gynyddu capasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan nodi bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Mehefin 2016. Pwysleisir yr angen am wella prosesau casglu data ymhellach gan ymgyrch ‘Count Them In’ y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n galw am gynnwys cwestiynau ar gymuned y lluoedd arfog yng nghyfrifiad nesaf y DU. Fel y maent yn dweud, amcangyfrifir bod rhwng 6.5 miliwn a 6.7 miliwn o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn byw yn y DU ar hyn o bryd, sef oddeutu un rhan o ddeg o’r boblogaeth. Ond ychydig a wyddys am union nifer, lleoliad ac anghenion y grŵp sylweddol hwn.

Pan dynnais sylw Ysgrifennydd y Cabinet at hyn ym mis Gorffennaf, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r egwyddor, ond credai y gallai roi personél y lluoedd arfog mewn perygl. Fodd bynnag, fe addawodd hefyd y byddai grŵp arbenigol yn edrych ar y mater, ac rwy’n gobeithio clywed mwy ganddo ar hynny heddiw. Yn wir, gallai fod hyd at 0.25 miliwn o gyn-filwyr yng Nghymru ond heb y data hwn, ni allwn gynllunio ar gyfer y capasiti sydd ei angen ar y GIG, comisiynu’r gwasanaethau ehangach sy’n angenrheidiol, na darparu’r cymorth y mae teuluoedd a gofalwyr yn dibynnu arno, ac ni allwn gyflawni’r addewid a wnaed gan gyfamod y lluoedd arfog y bydd y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 Plaid Cymru a chymeradwyaf waith sefydliadau megis 65 Degrees North, sy’n helpu gydag adferiad cyn-filwyr a anafwyd neu a niweidiwyd drwy gynnig cyfle i gymryd rhan mewn antur heriol. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth gan Ddug a Duges Caergrawnt, cronfa Endeavour y Tywysog Harry a chyllid LIBOR cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth y DU, sydd hefyd wedi darparu cyllid i wasanaethau Newid Cam CAIS Cymru i gyn-filwyr, gan roi cefnogaeth gan gymheiriaid wedi’i deilwra i gyn-filwyr ac ymyrraeth arbenigol ar draws Cymru, ac i Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf i gefnogi Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr—Alabaré.

Ar ôl arwain y ddadl gyntaf yma yn galw am fabwysiadu cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, ac ar ôl ymgyrchu ar faterion yn amrywio o salwch meddwl yn ymwneud â gwasanaeth i ddiystyru pensiwn anabledd rhyfel yn llawn, rwy’n croesawu rhai o’r camau dilynol a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy a byddwn yn ymatal ar welliant 4 Llywodraeth Cymru yn unol â hynny. Mae’n cyfeirio at ddatblygu ‘llwybr tai’ ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd. Ond fel y dywedais ddoe, cefais gyngor dibynadwy mai’r cyfan y mae hwn yn ei wneud yw cadw manylion am yr hyn y mae gan rywun hawl iddo neu nad oes ganddynt hawl iddo eisoes mewn un man, ac nid yw’n cynnig unrhyw beth newydd mewn gwirionedd, a bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau hyfforddiant i staff rheng flaen yn ei gylch.

Yn hytrach na £585,000, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi datgan wrth bwyllgor y lluoedd arfog yma—y grŵp trawsbleidiol—fod angen £1 filiwn y flwyddyn arnynt i ddiwallu anghenion iechyd meddwl sylfaenol cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Er bod llythyr a anfonwyd ataf ym mis Awst gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod

rhwng 60 a 65% yn ateb y meini prawf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma gydag amser rhwng atgyfeirio ac apwyntiad cyntaf yn 42 diwrnod ar gyfartaledd,

mae hyn y tu allan i darged Llywodraeth Cymru o 28 diwrnod ar gyfer amseroedd rhwng atgyfeirio o ofal sylfaenol i asesu, ac roedd amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth hyd at 38 wythnos y mis diwethaf ar draws y tri bwrdd iechyd y mae gan GIG Cymru i Gyn-filwyr ystadegau ar eu cyfer. Er bod llythyr Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn disgwyl i therapyddion helpu ei gilydd ar draws ffiniau byrddau iechyd os oes salwch neu absenoldeb, dywedir wrthyf fod yr ôl-groniad y byddai hyn yn ei greu yn y byrddau iechyd eraill yn ei wneud yn amhosibl.

Mae llythyr Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ddiwallu anghenion gofal rhai cyn-filwyr, ond rwy’n cael ar ddeall bod gan y rhan fwyaf o gleifion GIG Cymru i Gyn-filwyr anghenion bioseicogymdeithasol cymhleth sydd angen triniaeth a chymorth GIG Cymru i Gyn-filwyr.

Fel y mae ymateb y Lleng Brydeinig Frenhinol i’r ymgynghoriad ar ddogfen ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ newydd Llywodraeth Cymru yn ei ddatgan, ac rwy’n dyfynnu,

nid yw’r cynllun cyflawni ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â’r pecyn cyflawn o anghenion gofal iechyd meddwl ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog, ac ni fydd yn darparu’r lefel gywir o fesurau arweinyddiaeth neu berfformiad i fynd i’r afael yn ddigonol ag anghenion cyn-filwyr Cymru na’u teuluoedd yn y dyfodol

ac mae hefyd yn dweud:

dylai’r ddogfen adleisio’r bwriadau yng nghyfansoddiad GIG Lloegr.

Cymeradwyaf y cynnig hwn yn unol â hynny.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig, ac rydw i’n galw ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o'r fath.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rydw i’n falch o fod yn rhan o’r ddadl yma heddiw, ac, wrth gwrs, ni fyddwn i ddim yn gallu anghytuno â’r ffaith bod angen i ni drin teuluoedd a chyn-filwyr gyda pharch. Yn wir, byddwn i’n disgwyl i unrhyw un sydd yn byw mewn cymdeithas waraidd—er efallai nad yw rhai o’r bobl yn America yn cytuno eu bod nhw’n byw mewn cymdeithas waraidd ar ôl neithiwr—i drin pobl gyda pharch ac i sicrhau bod pawb yn gallu cael ‘access’ i adnodd—yr hyn sydd ei angen arnyn nhw fel pobl sydd yn byw yn ein cymdeithas ni.

Rydw i eisiau bod yn gritigol i raddau, oherwydd eironi dadleuon fel hyn yw bod diffyg gweledigaeth gan Lywodraeth San Steffan pan fo pobl yn gadael y fyddin i roi adnoddau mewn lle ar y pryd hwnnw i gefnogi milwyr. Mae yna ddigon o arian o hyd i’w roi i gynlluniau fel Trident, i’w roi i gynlluniau arfog mawr, ond wedyn nid oes cymaint o gynlluniau i roi adnoddau i mewn i helpu milwyr sydd allan yn brwydro ar hyn o bryd a hefyd i roi adnoddau iddyn nhw pan maen nhw’n dod nôl o lefydd fel Irac ac Affganistan. Rwy’n credu bod yn rhaid inni drafod hyn yng nghyd-destun y drafodaeth yma, oherwydd mae’n hawdd iawn i’r Ceidwadwyr ofyn am fwy o arian a mwy o adnoddau o hyd, pan fo angen i Lywodraeth Torïaid San Steffan ddangos yn glir eu bod nhw’n deall y problemau cymdeithasol sydd yn cyd-fynd â’r sefyllfa lle mae pobl yn gadael y fyddin yn hynny o beth.

Rwy’n ei glywed e o hyd gan deuluoedd. Maen nhw’n dweud, ‘Roeddwn i’n disgwyl mwy gan y fyddin. Roeddwn i’n disgwyl mwy ganddyn nhw. Rydw i wedi bod yn rhan o’r teulu hwnnw am flynyddoedd ac wedi bod yn gweithredu o dan eu harweinyddiaeth nhw.’ Nid yw’r diffyg consyrn hwnnw ganddyn nhw yn rhywbeth maen nhw’n gallu cymryd heb emosiwn oherwydd maen nhw mor agos at y sefyllfa. Maen nhw wedi datblygu perthnasau nad yw’r un ohonom ni, efallai, yn deall, mewn sefyllfaoedd anodd iawn. Maen nhw wedi gweld pobl yn marw. Maen nhw wedi gweld eu ffrindiau yn dioddef. Felly, yng nghyd-destun trafod hyn, rwy’n credu bod yn rhaid inni gofio’r emosiwn a’r bobl tu ôl i’r trafodaethau yma.

Yn wir, er bod yna broblemau ar lefel San Steffan, mae yna sefyllfaoedd o hyd lle mae nifer o bobl a oedd yn y fyddin neu yn y lluoedd arfog yn ddi-waith, mae problemau iechyd meddwl ganddyn nhw ac mae angen cael digon o sgiliau iddyn nhw allu trawsnewid i ddod nôl i fywyd tu allan i fod yn y fyddin. Maen nhw’n dweud “‘I’m now a civvy. I have to become a civvy and live in civilised society’ eto”.

I do welcome the Conservatives’ support for the amendment that I put in relation to 65 Degrees North. I know I’ve e-mailed you all, asking if you’ll come on a trek to Snowdon or other mountains of Wales—I know some of you’ve been very positive in responding to me—supporting, going alongside some former veterans, many of whom are from my region, Neath Port Talbot in particular. One is from, I think, the Deputy Presiding Officer’s constituency, who now lives in Chester, Peter Bowker, who is an amputee from the Afghan war and who crossed the Greenland icecap unsupported recently. They will now be climbing the highest mountain of Antarctica in January. What they’ve said to me is, yes, you can give them all the counselling services in the world, but if they can find ways to be active again—because, obviously, a lot of their job is to do with being active—then they can feel that they are not lost to society and that they have something to give back. So, they do go into schools as well and they tell people about the realities of war. Of course, if you ever met Pete, you could see his passion for what he does. He goes into schools and says, ‘I’m not doing this to try and undermine what the army is doing, but I’m trying to tell you that this can happen to you and you will have to change your life as a result of it.’ That’s why I’m passionately in support of what they do.

The same goes for Change Step. Like I said yesterday, I was happy to give a proportion of my salary increase to them in Port Talbot because they do amazing work with services in relation to PTSD, and with the families also. One woman said that she suffered domestic abuse from her partner because he’d come back with such extreme PTSD. She had to try and see it in that way, but, of course, they couldn’t live together then, because he was creating so many problems for her and her family. So, I was very pleased to be able to support that charity.

The only reason why, briefly, I’ll say on the commissioner, we are saying we are not supporting it is I think we need to look further afield at other ideas. I’m not necessarily saying it’s a bad idea, but I think that we have to look internationally at what works, and we have to look at other concepts that we can try and put forward here in Wales, other ideas to help those in this particular sector, and ensure that they are not forgotten and that they know they’re an integral part of our community here in Wales.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig yn ffurfiol welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 4—Jane Hutt

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys:

a) gwaith amhrisiadwy Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog;

b) datblygu'r llyfryn Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd ynghylch cael eu hadleoli i Gymru;

c) gwell cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd;

d) Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog sy'n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder, ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth;

e) y gwaith sy'n parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Diolch. Wrth i ni nesáu at Ddydd y Cofio a Sul y Cofio, mae’n iawn ein bod yn cydnabod yma yng nghartref democratiaeth yng Nghymru y gwasanaeth eithafol y mae dynion a menywod ein lluoedd arfog wedi ei roi, fel ein bod ni’n parhau i fwynhau’r rhyddid rydym yn ei drysori cymaint. Fel llawer, byddaf yn cynrychioli fy mhobl yn Islwyn mewn digwyddiadau coffa yn Rhisga, Coed-duon a Maesycwmer yn y dyddiau i ddod. Rwy’n arbennig o awyddus i ddiolch i’r Lleng Brydeinig Frenhinol am eu holl waith caled trwy gydol y flwyddyn, a hoffwn hefyd gydnabod gwaith hyrwyddwr lluoedd arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Alan Higgs, cynghorydd Llafur dros Aberbargod. Mae ei ymroddiad, ei ymrwymiad a’r amser y mae’n ei gyfrannu i roi llais i gymuned y lluoedd arfog ledled ardal yr awdurdod yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Mae’r ddadl hon, fodd bynnag, yn amserol ar ôl digwyddiadau diweddar a rhaid i ni i gyd herio ein hunain yn gyson i ddysgu o’r gorffennol. Rhaid i ryfela fod y dewis olaf bob tro. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau, rwy’n gwybod, i fonitro cynnydd yn yr Alban ar ôl sefydlu comisiynydd y lluoedd arfog a chyn-filwyr yno, fel y gallwn ddysgu o ddatblygiadau ar draws y Deyrnas Unedig. Er nad yw cyfrifoldeb am y lluoedd arfog wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos arweiniad i sicrhau bod cymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru, sy’n cynnwys 385,000 o bobl yn cael ei chefnogi—ac mae hynny’n 12 y cant o’r boblogaeth. Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth fod y dynion a’r menywod sydd wedi gwneud eu dyletswydd dros ein gwlad mewn lifrai yn cael ac yn haeddu’r parch mwyaf gan bob dyn, dynes a phlentyn yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi dangos eu hymrwymiad i’r lluoedd arfog gyda’r egwyddorion a ymgorfforir yng nghyfamod y lluoedd arfog ar draws y wlad. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi’r cyfamod cymunedol, i ddangos eu hymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu cyflawni. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau sylweddol ar waith i ddatblygu a chydlynu gwasanaethau cyhoeddus y mae modd eu darparu ar gyfer ein cyn-filwyr sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma, ac mae wedi sefydlu GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr unig wasanaeth o’i fath yn y Deyrnas Unedig, yn anffodus. Mae pob bwrdd iechyd lleol wedi penodi clinigydd profiadol fel therapydd cyn-filwyr gyda diddordeb mewn, neu brofiad o broblemau iechyd meddwl milwrol. Bydd y therapydd cyn-filwyr yn derbyn atgyfeiriadau gan staff gofal iechyd, meddygon teulu, elusennau cyn-filwyr ac yn bwysicaf oll, hunanatgyfeiriadau gan gyn-filwyr. Ac mae hyn yn enghraifft glir o droi geiriau’n bolisi a chamau gweithredu ystyrlon.

Yn briodol heddiw, mae cyn-filwyr milwrol yng Nghymru â hawl i gael blaenoriaeth i driniaeth ar gyfer unrhyw gyflwr iechyd sy’n codi o’r gwasanaeth hwn. Nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser. Yn wir, yn ddiweddar ailwampiodd Llywodraeth Cymru ei phecyn cymorth i gyn-filwyr a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bod y cymorth y maent yn ei haeddu yn hygyrch a’u bod yn ei gael. Ac mae’r pecyn cymorth ar ei newydd wedd yn nodi ymrwymiad parhaus Llywodraeth Lafur Cymru ar draws y portffolios gweinidogol i gymuned y lluoedd arfog ledled Cymru.

Mae’n ddrwg gennyf, rwyf eisiau gorffen.

Ac mae’n cynnwys llyfryn ‘Croeso i Gymru’ newydd ar gyfer y rhai a leolwyd yma. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol i gefnogi ein lluoedd arfog a’n cyn-filwyr ym mhob ffordd bosibl.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, £0.5 miliwn i’r gwasanaeth iechyd a lles ar gyfer cyn-filwyr Cymru, y cynllun rhannu ecwiti Cymorth Prynu, sydd wedi cael ei ymestyn i gynnwys gweddwon a gwŷr gweddw personél a laddwyd wrth wasanaethu, ac yn ogystal, fel y crybwyllwyd, o fis Ebrill nesaf ymlaen, diystyru’r pensiwn anabledd rhyfel yn llawn, proses a fydd yn cael ei chyflwyno yn asesiadau ariannol awdurdodau lleol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau na fydd gofyn i gyn-filwyr y lluoedd arfog sy’n cael y pensiynau hyn eu defnyddio i dalu am eu gofal. Ac ym mis Chwefror, ymunodd Llywodraeth Lafur Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru â’i gilydd i gyflwyno nofio am ddim i holl bersonél y lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru.

Hoffwn ganmol gwaith y grŵp arbenigol a grybwyllwyd—yr unig un o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y grŵp arbenigol i roi cyngor ar y ffyrdd gorau i wasanaethau cyhoeddus allu diwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog. Ac rwy’n gwybod y bydd y Siambr hon yn gwbl unedig heddiw yn rhoi eu cefnogaeth lawn i’n lluoedd arfog. Yr wythnos hon, rydym yn dangos ein parch yn llawn ac rydym yn cofio, ond mae’n rhaid i ni herio ein hunain i sicrhau ein bod yn cofio bob dydd o’r flwyddyn. Heriodd un o’n dramodwyr gorau, Alan Bennett, y gynulleidfa yn ‘The History Boys’ pan ddywedodd un o’i gymeriadau:

Ffotograff ar bob silff ben tân. Ac mae’r holl alaru wedi cuddio’r gwir. Mae’n fwy o na foed i ni gofio na na foed i ni anghofio.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o sicrhau na fyddwn byth yn anghofio’r unigolion sy’n barod i aberthu popeth i amddiffyn ein cenedl, a byddwn yn cyflawni ein dyletswydd iddynt. Diolch i chi—diolch.

Fel y dywedodd Mark, mae’n gan mlynedd eleni ers brwydr Coed Mametz. I lawer o filwyr Cymru, dyma oedd cyrch mawr cyntaf y rhyfel byd cyntaf. Roedd cipio Coed Mametz yn allweddol bwysig ym mrwydr y Somme. Ar ôl pum diwrnod o ymladd, cafodd bron 400 o filwyr Cymru, eu lladd neu eu hanafu, neu cofnodwyd eu bod ar goll. O ganlyniad, ni fu 38ain Adran (Gymreig) yn weithredol am bron i flwyddyn. Rhwng 2001 a 2015, collodd y lluoedd arfog Prydeinig 454 o ddynion a menywod yn Affganistan—collwyd nifer tebyg mewn un bore’n unig yng Nghoed Mametz.

Mae’n briodol ein bod yn cydnabod y ddyled enfawr sydd arnom i’r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Ein dyletswydd iddynt yw darparu’r gofal a’r cymorth y maent yn eu haeddu i’r fath raddau. Mae gadael y fyddin, yn aml ar ôl cyfnod hir o wasanaeth, yn creu llawer o heriau i gyn-bersonél y lluoedd arfog. Mae’n aml yn golygu bod rhaid symud, symud cartref, dod o hyd i swydd newydd, a newid ffordd o fyw.

Maent yn wynebu llawer o heriau. Un o’r rhain yw iechyd meddwl. Mae rhwng 4 y cant a 5 y cant o gyn-filwyr yng Nghymru yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Fel y dywedodd Mark yn gynharach, anhwylder pryder a achosir yn sgil wynebu digwyddiadau trallodus neu sy’n peri straen yw anhwylder straen wedi trawma. Gall ddigwydd i bobl o bob oed. Bydd rhywun sydd ag anhwylder straen wedi trawma yn aml yn ail-fyw’r digwyddiad trawmatig drwy hunllefau ac ôl-fflachiau. Efallai y byddant yn profi teimladau o unigedd, anniddigrwydd, ac euogrwydd—mewn rhai achosion yn arwain at gamddefnydd cynyddol o alcohol a chyffuriau. Mae angen adnabod symptomau cynnar salwch meddwl ac mae angen mwy o gymorth gan y GIG yng Nghymru i bersonél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Gall addysg plant personél y lluoedd arfog hefyd ddioddef o ganlyniad i darfu ar ffordd o fyw yn y lluoedd arfog. Yng Nghymru, nid oes premiwm disgyblion ar wahân i blant personél y lluoedd arfog fel sydd ganddynt yn Lloegr. Nid yw’r grant amddifadedd disgyblion ond ar gael i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac nid yw hynny’n wir yn achos y rhan fwyaf o blant y lluoedd arfog. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno premiwm disgyblion y lluoedd arfog i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru.

Mae tai saff a diogel i gyn-filwyr yn hanfodol hefyd. Mae angen llwybr tai ar gyfer y lluoedd arfog a fydd yn amlinellu beth fydd gan aelodau presennol a blaenorol o’r lluoedd arfog hawl iddo o dan bolisïau tai datganoledig. Rydym angen cymorth wedi’i deilwra i helpu cyn-filwyr i addasu yn ôl i fywyd ar y tu allan a dod o hyd i waith yma.

Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2014-15 mai 34 y cant yn unig o gyn-filwyr a oedd yn dweud eu bod yn gyflogedig, naill ai ar sail amser llawn neu ran-amser. Nid yw hynny’n dderbyniol, Lywydd. Hoffwn weld rhwydwaith o siopau un stop yn cael ei sefydlu ar gyfer cyn-filwyr, fel sydd ganddynt yn yr Alban, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael iddynt ar ôl eu gwasanaeth yn y lluoedd arfog.

Mae arnom angen comisiynydd cyn-filwyr ar gyfer Cymru—dywedodd yr ochr arall i’r Siambr na fyddent yn ei gefnogi yn ôl pob tebyg, ond y ffaith yw eu bod angen, nid cadfridog y fyddin i reoli’r lluoedd arfog sydd wedi ymddeol, ond comisiynydd gyda’u hanghenion a’u gofynion eu hunain yn y gymdeithas yng Nghymru i gydlynu a darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Mae hyn wedi cael ei wneud yn yr Alban ac rwy’n credu y dylai Cymru fynd yr un ffordd a dylent ddilyn yr un trywydd.

Mae gan Gymru berthynas hir a balch gyda’r lluoedd arfog. Daw arian grant ar gyfer cyngor Cymru, sefydliad ieuenctid gwirfoddol, i ben ar 31 Mawrth y flwyddyn nesaf. Roedd hon yn ffynhonnell werthfawr i fudiadau cadetiaid ac ieuenctid sy’n gysylltiedig ag amddiffyn yng Nghymru, ac nid yw ar gael mwyach.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 17:50:00

A wnaiff yr Aelod ildio?

Dim amser. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fynd i’r afael â’r mater hwn yn ei ateb. Lywydd, mae gennym ddyletswydd i gydnabod hanes hir o ddewrder, aberth a gwasanaeth ein lluoedd arfog, yn y gorffennol a’r presennol, ac rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod y ddyled o ddiolchgarwch heddiw, ac yn cefnogi’r cynnig hwn. Diolch.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, yn enwedig wrth i ni baratoi i gofio’r aberth a wnaed gan gynifer o bersonél dewr ein lluoedd arfog. Mae gan ddinasyddion Cymru draddodiad hir o wasanaethu yn lluoedd arfog ein cenedl, ac maent wedi chwarae rhan allweddol mewn llawer o’r brwydrau yn y ddau ryfel byd. Mae poblogaeth Cymru oddeutu 5 y cant o faint poblogaeth y DU, ac eto mae’n cynnwys 7 y cant o gymuned cyn-filwyr y DU. Ar hyn o bryd mae gennym oddeutu 8,000 o ddynion a menywod o Gymru yn gwasanaethu yn ein lluoedd arfog—dynion a menywod sy’n barod i roi eu bywydau er mwyn amddiffyn y rhyddid beunyddiol rydym i gyd weithiau yn ei gymryd yn ganiataol. Oni bai am ymroddiad y dynion a’r menywod hyn, a rhai tebyg iddynt a aeth o’r blaen, ni fyddem yn cael y ddadl hon heddiw. Bu farw dynion a menywod o Gymru yn eu degau o filoedd er mwyn cadw ein cenedl yn rhydd rhag gormes. Mae arnom gymaint o ddyled iddynt: mwy nag y gallwn byth ei had-dalu. Y peth lleiaf un y gallwn ei wneud yw edrych ar ôl personél y lluoedd arfog sy’n gwasanaethu yn awr neu wedi ymddeol. Er ein bod wedi gwella llawer o ran cefnogi personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr, mae gennym ffordd bell i fynd o hyd mewn perthynas ag anhwylder straen wedi trawma, a’r holl bethau eraill rydym yn dioddef ohonynt sy’n mynd gyda dychwelyd o ryfel.

Mae cyfamod y lluoedd arfog wedi helpu i fynd i’r afael â rhai o’r diffygion, ac mae UKIP yn rhannu cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Cymru fod ar flaen y gad yn gweithredu’r cyfamod, a bod angen comisiynydd lluoedd arfog ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella’r gefnogaeth a roddir i’n lluoedd arfog, ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud, yn enwedig y maes tai a lles i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Dywedodd wyth y cant o gymuned y cyn-filwyr wrth y Lleng Brydeinig eu bod yn cael anhawster ym maes tai. Mae’n rhaid i ni warantu bod tai’n cael eu darparu ar gyfer personél y lluoedd arfog, yn enwedig pan ystyriwch fod cyn-filwyr yn llai tebygol o gael eu cyflogi na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod cynlluniau fel gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cael eu cryfhau a’u hyrwyddo’n eang. Yn anffodus, mae’r wefan wedi dyddio’n fawr ac yn dal i gyfeirio at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd comisiynydd y lluoedd arfog a chyn-filwyr nid yn unig yn gallu ysgogi gwelliannau i wasanaethau ar gyfer personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr, ond gallai hyrwyddo ein personél sy’n gwasanaethu hefyd. Mae gwledydd eraill yn trin personél eu lluoedd arfog â’r parch a’r ystyriaeth y maent yn eu haeddu. Mae angen i ni wneud yn llawer gwell. Nid yw esgus diolch ar Ddydd y Cofio unwaith y flwyddyn yn werth dim; dylem fod yn diolch i’r rhai sy’n gwasanaethu, a’r rhai sydd wedi gwasanaethu, yn ddyddiol, a hyd yn oed wedyn, ni allwn hyd yn oed ddod yn agos at gydnabod y ddyled sydd arnom i’r dynion a’r menywod dewr hynny. Diolch yn fawr.

Mae pwynt 2 y cynnig yn tynnu sylw at deuluoedd cyn-filwyr, ac nid yw cefnogi cyn-filwyr yn dod i ben gydag ymyrraeth uniongyrchol. Efallai mai’r cymorth mwyaf effeithiol o’r cyfan yw cadw teulu gyda’i gilydd o amgylch aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr sy’n arbennig o agored i niwed weithiau. Mae gwasanaeth unigolyn yn effeithio ar eu perthynas â phartneriaid, plant, rhieni a hyd yn oed neiniau a theidiau. Ac yn y cyd-destun hwn, rwyf hefyd yn cynnwys ffrindiau, oherwydd, i ddynion ifanc yn arbennig, yn aml, efallai mai eu cyfeillion, neu ffrindiau da, yw’r brif gefnogaeth emosiynol pan fydd yna bethau nad ydych yn teimlo y gallwch eu rhannu gyda’ch teulu.

Byddai gwaith comisiynydd i gyn-filwyr yn ymestyn y tu hwnt i gyn-filwyr eu hunain i gymuned ehangach y lluoedd arfog. Ac os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â sut beth yw honno, edrychwch i weld pwy sy’n mynd i fod yn rhan o’r dathliadau y penwythnos hwn. Fe welwch mai’r teuluoedd sydd ar flaen y gad.

Mae yna ystod eang o wasanaethau ar gael eisoes ar gyfer teuluoedd y lluoedd arfog yng Nghymru, o’r clybiau llawr gwlad i deuluoedd milwrol i bethau fel Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, sef grŵp sy’n rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i deuluoedd a gofalwyr yn ogystal â chyn-filwyr ledled Cymru. A dweud y gwir, rwy’n meddwl bod Elfyn Llwyd yn ymwneud â’r grŵp hwnnw. Dylid llongyfarch y sector cyhoeddus, gan gynnwys y ddwy Lywodraeth, fe fyddwn yn dweud, a’r trydydd sector gweithgar iawn, am y gwaith y maent yn ei wneud ar ran cyn-filwyr, ond mae’n arbennig o galonogol fod hwn yn faes lle y caiff cydgynhyrchu ofod i ddangos ei werth. A dweud y gwir, mae’r Aelodau sydd eisoes wedi siarad wedi rhoi enghreifftiau pwerus iawn o’r math o gefnogaeth y mae cyn-filwyr a’u teuluoedd yn ei chael o’u rhengoedd eu hunain—os caf ei roi felly—yn hytrach na chael gwasanaeth wedi’i bennu ar eu cyfer. Nawr, nid yw hynny’n golygu nad oes yna fylchau, wrth gwrs, ond rwy’n meddwl bod cydgynhyrchu yn un o’r lleoedd lle y gallwn geisio dechrau llenwi’r bylchau hynny mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl, yn benodol, am—rwy’n meddwl mai y llynedd oedd hi—pan eglurais i’r Siambr fy mod wedi cael peth anhawster yn ceisio canfod pwy oedd hyrwyddwyr cyn-filwyr ein hawdurdodau lleol. Mae rhai yn llawer gwell nag eraill, ond os na all y cynghorau ei gael yn iawn, yna gadewch i’r gymdeithas helpu i ddatrys y broblem.

Nawr, er y byddwn yn hoffi meddwl na fyddai comisiynydd yn ymyrryd yng ngwaith da yr holl elfennau hyn, byddai ef neu hi yn gallu helpu i ysgogi gwelliant, fel y dywedodd Caroline Jones, ym mhrofiad personél milwrol sy’n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr a’u teuluoedd, gan y byddai ganddynt drosolwg, a gallent weithredu ar unwaith i lenwi’r bylchau hynny roedd Bethan Jenkins ei hun yn siarad amdanynt mewn gwirionedd. Rwy’n credu mai rôl allweddol arall a fyddai gan gomisiynwyr yma fyddai ystyried y goblygiadau a’r cymorth a’r cyngor fydd eu hangen ar ein cyn-filwyr yn y dyfodol. Byddai comisiynydd nid yn unig yn gallu ymateb i anghenion heddiw, i eirioli, ond gallai sganio’r gorwel am heriau newydd ac atebion posibl i’r rheini, gan nad oes neb i’w weld yn arwain y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Yn bendant, mae angen rhywun i’n helpu i graffu ar benderfyniadau a wneir yn awr, megis pam y mae gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, lle y mae gan blant cyn-filwyr hawl awtomatig i bremiwm cymorth disgyblion, ond nid oes ganddynt hawl i’r grant amddifadedd disgyblion yma yng Nghymru. Dyna bwynt a wnaeth Mohammad Asghar. Ond rydym hefyd yn awyddus i osgoi’r mathau hynny o ymatebion post facto i broblemau megis gydag anhwylder straen wedi trawma. Rydym yn awyddus i osgoi problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Dyna pam rwy’n credu y byddai comisiynydd hefyd yn ddefnyddiol i ofyn cwestiynau fel pam nad yw’r £415,000 y gofynnodd GIG Cymru i Gyn-filwyr amdano yn dod er ei bod mor amlwg y byddai hynny’n osgoi’r gost o filiynau mewn gwasanaethau argyfwng y cyfeiriodd—nid wyf yn cofio pwy yn awr—rwy’n meddwl efallai mai Mohammad Asghar a soniodd am y mathau o broblemau fydd gan gyn-filwyr, fel arfer ar ôl i’w gwasanaeth ddod i ben.

Mae beth sy’n digwydd nawr a sut fydd hi yn y dyfodol yn ddwy ystyriaeth sy’n effeithio ar unrhyw berson ifanc sy’n ystyried gyrfa filwrol. Ac unwaith eto, dyma ble y gallai’r comisiynydd cyn-filwyr chwarae rhan hanfodol yn helpu i osod y naws o ran sut y meddylir am y materion hynny yn awr, nid yn y dyfodol pan fydd ein pobl ifanc wedi dod yn gyn-filwyr eu hunain.

Yr wythnos diwethaf ymwelais â Choleg Paratoi Milwrol Penybont yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru a chyfarfûm â hyfforddwyr a phobl ifanc rhwng 14 a 19 oed y maent yn gweithio gyda hwy. Maent yn addysgu nifer sylweddol o bobl ifanc nad yw addysg prif ffrwd, efallai, yn addas iawn ar eu cyfer, yn ogystal â chyflawnwyr uchel, ac o’r rhain, mae llawer yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn ein lluoedd arfog. Rwy’n meddwl bod arnom ddyled i’r bobl ifanc hynny i wneud yn siŵr eu bod ar flaen ein meddyliau, ac ar flaen meddwl Llywodraeth Cymru, yn awr, wrth iddynt symud drwy eu gyrfaoedd, ac nid yn unig pan fyddant yn dychwelyd o ardaloedd o wrthdaro neu pan fyddant yn cael eu rhyddhau o wasanaeth neu’n ymddeol. Nid oedd pob un o’r bobl y cyfarfûm â hwy yno yn dod o deuluoedd milwrol, ond mae rhai ohonynt yn debygol o ddod yn aelodau o deuluoedd milwrol maes o law, a daw hynny â mi yn ôl at rôl teuluoedd milwrol a’r cymorth y gallai fod ei angen arnynt hwythau hefyd.

Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y syniad o gomisiynydd cyn-filwyr, nid yn unig y mae’n dweud gwrthod helpu ac anrhydeddu’r gwaith a’r aberth y mae ein cyn-filwyr a’r lluoedd arfog wedi’i wneud drwy gydol eu bywydau; mae hi hefyd yn gwneud cam â gwragedd, gwŷr, partneriaid a holl deuluoedd cyn-filwyr, ac mae’n gwneud cam â phlant y lluoedd sy’n gwasanaethu a’r lluoedd yn y dyfodol, gan na fydd y bobl ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd, a gobeithio na fyddant byth yn profi—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Lee, nid oeddwn yn eich gweld. Ymddiheuriadau.

Un o’r amcanion y dylem ei osod i ni ein hunain yw sicrhau bod y llwybr tuag at waith i’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog yn cael ei gefnogi fel y gallant barhau i gyflawni eu potensial yn y gweithlu sifil. Ar draws y DU, mae cyn-filwyr yn llai tebygol o fod mewn gwaith na’r boblogaeth yn gyffredinol, ac maent bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith. Nawr, mae yna resymau pam y mae cyn-filwyr o oedran gweithio yn wynebu heriau penodol. Yn aml, mae’r rhai sy’n ymuno â’r lluoedd arfog yn ifanc yn gwneud hynny fel llwybr gyrfa amgen tuag at addysg bellach neu uwch neu gyflogaeth sifil. Bydd rhai yn dewis hynny oherwydd nad ydynt yn teimlo bod ganddynt allu, efallai, i ddysgu yn y ffordd gonfensiynol, ac mae hyd at 50 y cant o recriwtiaid i’r fyddin yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd sy’n is na’r safon ddisgwyliedig ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol yn 16 oed. Mae’r rhai yn y grwpiau oedran hŷn sy’n gadael y lluoedd arfog yn aml yn teimlo’n llai hyderus, er enghraifft, ynglŷn â’u sgiliau cyfrifiadurol, ond—ac mae hwn yn gafeat pwysig iawn—gall gyrfa yn y lluoedd arfog alluogi unigolyn hefyd i ddatblygu sgiliau real a defnyddiol iawn a all fod yn ased defnyddiol i gyflogwr sifil.

Fel y mae Busnes yn y Gymuned yn cydnabod,

gyda dros 200 o feysydd crefft yn y Fyddin yn unig, mae personél y lluoedd arfog yn cael hyfforddiant ymlaen llaw mewn nifer o rolau technegol, gan gynnwys peirianneg, rheoli prosiectau, cyfathrebu, logisteg a TG—

ac ystod ehangach na hynny—

a phob un yn drosglwyddadwy i’r gweithle sifil.

Ond y broblem yn aml yw nad yw’r sgiliau hynny’n arwain at gymhwyster ffurfiol y gall cyflogwr y tu allan i’r lluoedd arfog ei adnabod fel dangosydd cyfres benodol o sgiliau a lefel benodol o hyfedredd. Felly, un mater yw sut rydym yn trosi’r sgiliau hynny, sy’n rhai go iawn, i mewn i iaith y byddai cyflogwr yn ei deall. Fel y dywedodd un cyn-filwr:

Mae yna rai pethau nad oes gennych gymhwyster ar eu cyfer. Er enghraifft bod yn gyfrifol am rhwng 200 a 600 o ddynion... Rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddogfennau cyflog, pasbortau, byddino, bomiau, bwledi, popeth... Nid oedd yn golygu unrhyw beth oherwydd nid oes gennyf gymwysterau.

Felly, rwyf am dalu teyrnged i’r nifer o raglenni gwirfoddol sy’n cynorthwyo cyn-bersonél y lluoedd arfog i gael gwaith ar ôl eu rhyddhau: Getting You Back to Work gan The Poppy Factory, rhaglen gyflogaeth cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhaglen fentora ar-lein y Lleng Brydeinig, a hefyd LifeWorks, sydd yma yn y Cynulliad yr wythnos nesaf, sef cwrs pum niwrnod, gyda hyfforddiant, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a gweithdai cv a ddarperir gan y Lleng Brydeinig.

Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda chyrff gwirfoddol sy’n cefnogi cyn-filwyr, ac mae llawer wedi elwa o Lwybrau Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog, a hefyd o Twf Swyddi Cymru. Ond byddwn yn gofyn i’r Llywodraeth, wrth iddi gyflwyno ei rhaglen brentisiaethau, a’r Porth Sgiliau newydd yn y Cynulliad hwn, i ystyried sut y gellid eu defnyddio hefyd i helpu personél y lluoedd arfog i gyflawni eu potensial yn y gweithlu sifil, a gwn fod yna waith da’n digwydd o fewn y llwybr prentisiaethau.

Mae’n fater o falchder, fel y mae Aelodau eraill wedi’i ddweud, fod yn rhaid i awdurdodau lleol—pob awdurdod lleol—a byrddau iechyd yng Nghymru gael hyrwyddwyr y lluoedd arfog, a byddwn yn annog busnesau hefyd i lofnodi cyfamod y lluoedd arfog, sy’n cynorthwyo cyn-filwyr i gael gwaith drwy warantu cyfweliadau i gyn-filwyr, cydnabod sgiliau milwrol mewn cyfweliadau a mynd ati i geisio codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith ymhlith y rhai sy’n gadael y lluoedd arfog.

Mae’n bwysig yn ystod wythnos y cofio ein bod yn cydnabod ymroddiad ein personél sy’n gwasanaethu a’n cyn-filwyr, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom hefyd i gydnabod yr heriau penodol y mae llawer yn eu hwynebu wrth gamu i fyd gwaith ac i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i allu gwneud hynny, fel eu bod yn gallu parhau i fynd â’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos yn y lluoedd arfog i mewn i fyd gwaith ac fel nad yw’r doniau sydd ganddynt yn cael eu colli o’n heconomi.

Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi tyfu’n ddadl flynyddol bron ychydig cyn Diwrnod y Cadoediad, ac ni allwch anghytuno â’r teimladau sydd wedi cael eu hadleisio ar draws y Siambr gan bron bob un—wel, pob un—o’r pleidiau gwleidyddol yma. Ond rwy’n meddwl bod angen i ni ystyried y profiad cadarnhaol y mae pobl—llawer o bobl—yn ei gael yn y lluoedd arfog. Mae’n hollol gywir i ganolbwyntio ar y cymorth sydd ei angen ar bobl â phroblemau iechyd a dychwelyd i’r gwaith, ond fe welodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a fynychodd gyfarfod diweddar ym Mhontsenni, y daeth David Rowlands iddo—daeth Lee Waters o Lanelli yno hefyd—y fyddin fel y mae go iawn, a’r gwaith y mae’r fyddin yn ei ddarparu mewn hyfforddiant, brwdfrydedd milwyr ar bob lefel, o’r hierarchaeth yr holl ffordd i lawr at y milwyr cyffredin, a’r balchder a’r angerdd sydd ganddynt tuag at y rôl y maent yn ei chyflawni. Roedd llawer ohonynt wedi bod yn gwasanaethu yn y fyddin ers blynyddoedd lawer, ond rwy’n siwr y bydd hyn yn cael ei adleisio yn y llynges a’r llu awyr hefyd, ac mae’n brofiad gwych i lawer o ddynion a menywod ifanc beth bynnag y byddant yn dewis ei wneud.

Fel y crybwyllodd yr Aelod dros Gastell-nedd, mae’r profiad drwy yrfaoedd a datblygu cymeriad yr unigolion sy’n cofrestru yn newid bywyd i lawer o’r unigolion sy’n ei brofi, a hynny mewn ffordd bositif iawn. Mae llawer o bobl, pan fyddant yn dychwelyd at fywyd ar y tu allan, yn dymuno cadw eu preifatrwydd ac yn aml iawn yn dymuno bwrw ymlaen â’u bywydau a defnyddio’r profiadau a gawsant yn y lluoedd arfog a gwneud defnydd da ohonynt yn eu bywyd ar y tu allan.

Un peth rwyf bob amser yn ei gofio, pan wnaethom ymholiad yn y pwyllgor iechyd, a ninnau’n edrych ar rannu gwybodaeth iechyd—y rheswm rwy’n defnyddio’r gair ‘preifatrwydd’ yw am fod y fyddin wedi gwneud y pwynt, a gwnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn y pwynt, nad yw llawer o filwyr pan fyddant yn gadael y fyddin yn arbennig o awyddus i ddatgelu’r wybodaeth honno neu ei throsglwyddo. Maent yn ei gweld fel eu gwybodaeth hwy. Mae’n rhaid i ni barchu hawliau unigolion a hawl unigolyn i breifatrwydd, gan wneud yn siŵr ein bod yn rhoi mesurau ar waith sy’n helpu’r dynion a’r menywod sy’n dioddef canlyniadau erchyll anhwylder straen wedi trawma ac anafiadau sy’n newid bywydau a allai ddigwydd, a chefnogi teuluoedd hefyd sydd wedi cael profedigaeth drwy golli anwyliaid ar faes y gad ac sydd wedi talu’r pris eithaf a gwneud yr aberth eithaf.

Y teuluoedd y dylem eu hystyried, gan mai hwy yn aml iawn yw’r rhai sy’n dal i hiraethu am flynyddoedd a degawdau am y cariad a deimlent tuag at yr unigolyn a roddodd eu bywyd ar faes y gad, yn y gwrthdaro y dewisodd Llywodraeth y dydd ddefnyddio ein lluoedd arfog ynddo, boed ar ffurf y lluoedd arbennig, y llu awyr, y llynges neu’r fyddin.

Rwyf am ystyried sut y gallwn ddatblygu’r gwasanaethau hynny, gan fod y cynnig heddiw yn galw arnom i ystyried profiad yr hyn a gyflwynodd Llywodraeth yr Alban yn 2014 wrth gyflwyno comisiynydd cyn-filwyr. Nid yw ar yr un patrwm comisiynydd a ddeallwn—y comisiynydd plant, comisiynydd pobl hŷn, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol—gyda swyddfa bwrpasol a llwyth o weithwyr a chyllideb sylweddol. Mae’n rhywun sy’n hyrwyddwr hawliau cyn-filwyr a darpariaethau ar gyfer cyn-filwyr yn y gymdeithas, boed yn gweithio gyda’r Llywodraeth neu’n gweithio i fusnes preifat. Nid yw’n costio llawer o arian. Mae’n rôl sydd wedi profi’n llwyddiant mawr yn rhoi cyngor a chymorth i Weinidogion Llywodraeth yr Alban i ddarparu’r gefnogaeth honno, boed ar ffurf cynlluniau creu swyddi, mewn hyfforddiant neu drwy hyrwyddo delweddau positif o gyn-filwyr a’r lluoedd arfog.

Y ffordd rwy’n darllen y cynnig ar y papur trefn heddiw, gyda’r gwelliant sydd ger ein bron gan y Llywodraeth—rwy’n synhwyro bod y Llywodraeth yn mynd i gefnogi hwnnw, oni bai bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi, oherwydd mae’n amlwg nad yw gwelliant y Llywodraeth yn ceisio’i ddileu. Felly, byddwn yn gofyn i lefarydd Plaid Cymru ystyried, am fod ei gwelliant yn ceisio dileu’r rhan bwysig iawn o’r cynnig ynglŷn â chreu comisiynydd i gyn-filwyr yma yng Nghymru.

Rwy’n derbyn y pwynt, Bethan, ynglŷn â sut y byddai angen i ni ddysgu o arferion gorau ac edrych yn rhyngwladol ar sut y gallem gynyddu neu leihau cyrhaeddiad a gallu comisiynydd o’r fath, ond rwy’n meddwl fy mod yn gywir mai’r hyn roeddech yn ei ddweud oedd nad ydych yn gwrthwynebu rôl y comisiynydd mewn gwirionedd—yr hyn sydd angen i ni ei roi yn ei le i gynorthwyo oedd eich rhesymeg dros ddileu’r rhan benodol honno o’r cynnig. Pe bai’r rhan honno o’ch gwelliannau’n cael ei thynnu’n ôl, yna byddai gennym gynnig a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth ystyried creu comisiynydd i gyn-filwyr yma yng Nghymru.

Rwy’n credu bod hwnnw’n glod pwysig iawn y gallai’r Cynulliad ei gael ar ddiwedd y ddadl hon y prynhawn yma. Felly, carwn bwyso arnoch i ystyried eich gwelliant cyntaf sy’n ceisio dileu’r pwynt penodol hwnnw yn y cynnig heddiw, oherwydd gallwn symud ymlaen ar yr eitem bwysig hon ar yr agenda mewn gwirionedd pe baech yn tynnu’r gwelliant hwnnw’n ôl rhag pleidleisio arno yn nes ymlaen y prynhawn yma. Rwy’n annog cefnogaeth i’r cynnig sydd ger ein bron heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Nid ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad, ac ni ddylem eu gadael ar ôl pan fyddant yn dod adref. Roedd Deddf i beidio â gadael yr un milwr ar ôl yn rhywbeth roeddwn yn ymgyrchu drosti yn ystod yr etholiad.

Mae llawer o filwyr yn gwasanaethu, maent yn mynd drwy drawma, mae rhai ohonynt yn cael eu hanafu, ac yn anffodus ni fydd rhai ohonynt yn dychwelyd. A’r rhai sy’n dychwelyd, at beth y maent yn dychwelyd? Mae diffyg gofal iechyd, diffyg darpariaeth iechyd meddwl, yn enwedig, a diffyg tai—mae dod o hyd i dŷ yn broblem go iawn. Rwy’n credu ei bod yn warthus fod rhai cyn-filwyr yn byw ar y stryd. Mae yna rai milwyr sy’n dod adref ac yn colli cysylltiad â’u plant oherwydd eu bod yn cael eu categoreiddio fel rhai a allai fod yn dreisgar, ac mae hynny’n warthus.

Mae gennym gyfamod ar gyfer y lluoedd arfog, ond nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da. Rwy’n credu bod angen deddfwriaeth i flaenoriaethu’r rhai sydd wedi gwasanaethu’n weithredol. Rydym yn gobeithio gwneud hyn yng Nghaerdydd ar ôl mis Mai 2017 os byddwn yn arwain y cyngor, gan ein bod yn credu y dylai’r bobl hyn gael eu blaenoriaethu.

Dylai’r gwaith o adnabod cyn-filwyr fod yn norm yn y GIG ac rwy’n gwybod nad yw hynny’n wir, yn llawer rhy aml. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael hyfforddiant a dylem fod yn edrych ar arferion gorau. I’r rhai ohonoch sydd wedi gwrando arnaf yma, anaml y byddaf yn llongyfarch y Llywodraeth ar unrhyw beth, ond pan fydd milwyr yn dweud wrthyf ei bod yn llawer gwell yng Nghymru nag yn Lloegr, yna credaf fod hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.

Mae llawer iawn o ewyllys da’n bodoli yn y maes hwn, ond yn ogystal â’r gorymdeithiau a’r anthemau, mae angen rhoi camau pendant ar waith fel nad oes unrhyw filwyr yn cael eu gadael ar ôl.

Rwyf wedi cael y fraint o osod y dorch ar ran Plaid Cymru Caerdydd ar ddydd Sul y cofio ers nifer o flynyddoedd. Eleni, byddwn yn gofyn i wleidyddiaeth plaid gael ei chadw allan o bethau. Rwy’n credu y byddai hynny o fudd i bawb.

Cyn i mi orffen, hoffwn sôn hefyd am y gwasanaeth gwych a gyflawnir gan y llynges fasnachol, yn enwedig y nifer o bobl sy’n byw yn y ddinas hon sydd wedi gwneud pethau gwych ar ran ein cyndadau a’n cynfamau, yn enwedig yn ystod yr ail ryfel byd. Pobl o bob cwr o’r byd—o Somalia, o Yemen, a llu o wledydd—ni wnaethant ymladd, ond roeddent yn arwyr hefyd. Diolch yn fawr.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n cofio, yn y datganiad llafar ddoe, fy mod wedi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu’r rhai a roddodd eu bywydau mewn rhyfeloedd yn y gorffennol fel y gallwn fwynhau’r rhyddid sy’n rhaid i ni ei gael heddiw. Rhaid i ni beidio â’u hanghofio. Hefyd, nodais gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’n cyn-filwyr a’r aelodau sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd. Gan weithio ar y cyd gyda’n partneriaid allweddol, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant.

Gwrandewais yn ofalus ar y cyfraniadau a wnaed gan nifer o’r Aelodau ac roedd hon yn ddadl emosiynol a pharchus iawn a gawsom heddiw. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Weinidog ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn gyfrifol am gymunedau. Un o’r ymweliadau mwyaf anodd a wneuthum oedd â chanolfan y Llu Awyr yng Nghymru lle y cyfarfûm â theuluoedd personél y lluoedd arfog—nid y personél a oedd yn gwasanaethu’n weithredol ond y teuluoedd a’r bobl ifanc. Partneriaid benywaidd y personél a oedd yn gwasanaethu oedd yno’n bennaf ac rwy’n credu bod pob un o’r aelodau—partneriaid a gwragedd personél a oedd yn gwasanaethu—y cyfarfûm â hwy ar dabledi gwrth-iselder. Roeddent ar lefelau uchel iawn o gymorth. Rydym yn dda iawn am gefnogi personél y lluoedd arfog, ond mae’n ymddangos ein bod yn anghofio am y teuluoedd a’r unedau o’u cwmpas. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda’r lluoedd arfog ers hynny—y fyddin, y llynges a’r llu awyr—ynglŷn â sut y gallwn amddiffyn ein craidd o unedau teuluol yn yr ardaloedd hyn. Y rheswm yw—fel y soniodd Bethan Jenkins yn gynharach—y ffaith nad personél y lluoedd arfog yn unig sy’n ysgwyddo baich rhyfela, ond y teulu hefyd mewn gwirionedd. Mae llawer o bethau’n deillio o ddigwyddiadau—mae straen wedi trawma yn un ohonynt. Y pwynt diddorol iawn a grybwyllwyd gan Bethan—fod yna gyfran fawr o achosion o drais yn y cartref yn deillio o straen wedi trawma—rhaid i ni fod yno i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc, ond yn bwysicaf oll rhaid i ni fod yno i gynorthwyo gyda salwch y troseddwyr hefyd. Rwy’n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud hynny.

Rwy’n croesawu pwynt 1 y cynnig, sy’n nodi nifer yr aelodau a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n byw yng Nghymru. Mae Cymru ar ei hennill o’u cael yma ac rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddarparu cymorth parhaus i gymuned y lluoedd arfog. Y tegwch a’r parch a grybwyllir ym mhwynt dau y cynnig yw’r lleiaf sydd arnom iddynt.

Wrth fwrw ymlaen â’n hymrwymiadau datganoledig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cyfamod y lluoedd arfog, y pecyn cymorth sy’n adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd dan anfantais oherwydd bywyd eu llu arfog yma yng Nghymru.

Gan weithio gyda’n partneriaid, rydym wedi adnewyddu ein pecyn cymorth, gan adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a pholisïau a mentrau gan elusennau a mudiadau sy’n cynrychioli cymuned y lluoedd arfog. Mae’r ddogfen ar ei newydd wedd hefyd yn gweithredu fel arwyddbost tuag at y cymorth sydd ar gael.

O ran y cynigion i gael comisiynydd i gyn-filwyr y lluoedd arfog, nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i argymell y dylid cael un, a gwnaethom rywfaint o waith archwilio y llynedd. Soniodd yr Aelod o’r wrthblaid, mewn ysbryd da rwy’n tybio, at yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban, ond nid oes gan yr Alban uned ar ffurf 12 comisiynydd mewn grŵp ymgynghorol fel sydd gennyf fi i fy nghynghori, o’r Lleng Brydeinig Frenhinol i Gymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd i’r holl sefydliadau eraill sy’n ymwneud â chefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Maent yn dod ac yn cyfarfod â mi ac yn dweud wrthyf yn union beth sy’n peri pryder. Rwy’n fwy na pharod i gymryd ymyriad gan yr Aelod, ydw.

A wnewch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y gwelliant y mae’r Llywodraeth wedi’i roi yno, y byddech yn pleidleisio dros y cynnig diwygiedig pe bai gwelliant y Llywodraeth yn cael ei dderbyn, ac felly byddech yn cefnogi’r rhan honno o’r cynnig? Oherwydd nid ydych wedi ceisio ei ddileu, felly rwy’n darllen gan hynny eich bod yn barod i gytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno.

Wel, gadewch i mi roi mwy o fanylion o ran y broses yma. Mae’r Aelod yn iawn i awgrymu y byddwn yn cefnogi eu cynnig diwygiedig yn amodol ar hynny, ond pan ofynnwyd i’r lluoedd arfog—. Nid fy mhenderfyniad i yw hwn, fel y soniodd Mark Isherwood pan ddywedodd nad ei benderfyniad ef ydoedd; rhywun arall oedd yn gofyn am hyn. Gadewch i mi egluro pam y mae gennym y dystiolaeth i awgrymu nad y comisiwn yw’r lle iawn i wneud hynny yn awr yn ôl pob tebyg. Cawsom y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, ac rydym yn eu cyfarfod ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn. Cytunwyd y dylai’r grŵp arbenigol gyfarfod â swyddogion a’r Lleng Brydeinig Frenhinol, a byddent yn ymweld â Chomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban a rhanddeiliaid eraill i drafod ei rôl ac asesu unrhyw wersi a ddysgwyd, ac yn dod yn ôl at y grŵp arbenigol a rhoi cyngor i mi ar hynny. Cafodd y canfyddiadau eu rhannu gyda phob aelod o’r grŵp arbenigol, a chytunwyd ei bod yn ddyddiau cynnar i gael unrhyw fudd go iawn o’r gwaith roedd Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn ei wneud, ac y byddai’r grŵp yn parhau i fod â briff gwylio drosto i sicrhau arferion gorau ar draws y wlad a thu hwnt. Rwy’n fodlon i hynny barhau, ac os yw’n llenwi gofod lle y cyflwynir argymhellion i awgrymu y dylai fod gennym gomisiynydd, rwy’n agored i’r cynnig hwnnw, ond ar hyn o bryd, ni cheir dim ar wahân i dystiolaeth sy’n awgrymu bod gan yr Alban un a bod honno’n sefyllfa well na’r hyn sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwrthsefyll yr egwyddor, ond dyna pam ein bod wedi derbyn y cynnig mewn egwyddor, oherwydd nid ydym yn ei ddiystyru yn gyfan gwbl. Dyna’n union beth rwy’n meddwl roedd Bethan Jenkins yn ei ddweud—nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan y ddadl dros gael un ar hyn o bryd.

Mae ein gwaith gyda chyn-filwyr yn seiliedig ar gyswllt a deialog barhaus gyda chyn-filwyr ac elusennau a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, ac nid wyf yn credu y byddai gweithdrefn asesiad anghenion newydd yn gwella gwasanaethau eto yn ymarferol. Fe gyfeirioch at bethau sy’n digwydd yn yr Alban neu yn Lloegr. Mae gennym rai arferion sy’n digwydd yma yng Nghymru nad ydynt yn digwydd yn unrhyw le arall yn y DU. Yn wir, cymorth y GIG sydd gennym ym mhob un o’r byrddau iechyd—nid yw hynny ar gael yn unrhyw ran arall o’r wlad, ond mae’n benodol iawn i Gymru.

Mae’r grŵp arbenigol, gyda’i aelodaeth amrywiol, yn chwarae rôl amhrisiadwy. Gyda’n gilydd, rydym yn pennu ein blaenoriaethau yn y dyfodol a sut y gallwn gydweithio i gyflawni’r rhain ar gyfer y dyfodol. Soniais ddoe am ein dogfen newydd a elwir yn rhaglen ‘Croeso i Gymru’, sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer personél presennol a’u teuluoedd. Mae’n darparu gwybodaeth ynglŷn â ble i gael gafael ar wasanaethau a chymorth. Rydym yn gwybod, fel yr awgrymodd Aelodau heddiw yn y Siambr, fod tai yn un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Mewn ymgynghoriad â’n partneriaid allweddol, rydym wedi datblygu llwybr atgyfeirio ar gyfer tai, i helpu cyn-filwyr a’u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â’r opsiwn sy’n gweddu i’w hanghenion.

Mae rhaglen arall rydym yn falch iawn ohoni yng Nghymru yn darparu £50,000 i Frigâd 160 a’r Pencadlys yng Nghymru, i gyflwyno llwybr cyflogadwyedd y lluoedd arfog a chymryd camau unwaith eto i helpu pobl ifanc i drawsnewid eu bywydau drwy ddefnyddio sefyllfa’r fyddin a mwy, lle y gallwn gael budd o’u gwybodaeth a chefnogi proses i fagu hyder. Rhaglen GIG Cymru i Gyn-filwyr, unwaith eto, yw’r unig un o’i bath yn y DU. Dylem ddathlu’r pethau rydym yn eu gwneud yn dda yma yng Nghymru a pheidio â bod yn negyddol yn ein cyfraniadau drwy’r amser. Rydym yn darparu £585,000 y flwyddyn i gynnal hynny, ond rwy’n cydnabod ei fod dan bwysau ac mae’n rhaid i ni wneud mwy. Yn ddelfrydol, credaf y dylai’r lluoedd arfog fod â rhan yn hyn. Fel y cyfrannodd yr Aelodau heddiw, pan fyddwch yn gadael y lluoedd arfog ni ddylai fod yn achos o godi llaw a dweud ffarwel; dylai fod llwybr o gefnogaeth gan y lluoedd arfog, gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y DU i bersonél presennol a chyn-bersonél.

A gaf fi gyfeirio’n fyr iawn at rai o’r pwyntiau a grybwyllwyd gan yr Aelodau? Gofynnodd Mark Isherwood i mi ynglŷn ag ymgyrch Count Them In y Lleng Brydeinig Frenhinol. Am resymau difrifol iawn, roeddem yn gwrthwynebu cefnogi hynny ym mis Gorffennaf eleni, ar sail cyngor diogelwch, oherwydd y materion y soniodd Andrew R.T. Davies amdanynt yn ymwneud â’r ffaith nad yw rhai pobl yn dymuno i’r wybodaeth eu bod yn gyn-filwyr fod yn y parth cyhoeddus. Rydym yn fodlon â’r cyngor hwnnw a gawsom yn ôl gan y gwasanaethau diogelwch, i ddiogelu’r unigolion nad ydynt am fod yn y sefyllfa honno, ac rydym yn cefnogi ymgyrch y lleng Brydeinig ac rwyf wedi ysgrifennu atynt i esbonio’r broses honno. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn cefnogi hynny.

Unwaith eto, mae’n ddigwyddiad rheolaidd—12 mis i’r diwrnod—i gael y ddadl a gyflwynwyd eto gan yr wrthblaid. Unwaith eto, yn gyffredinol rydym yn cael dwy ddadl yn yr un wythnos ynglŷn â hyn. Rwy’n credu ei bod yn un bwysig; digwyddiad pwysig blynyddol sy’n cofnodi ein cefnogaeth, fel Aelodau, a’r sefydliad hwn, i gynrychioli a pharchu’r bobl a fu’n ymladd mewn sawl rhyfel a gwrthdaro i amddiffyn y gymdeithas sydd gennym heddiw, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i ymateb.

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi gytuno â’r sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwedd ei gyfraniad yno—fod hon wedi dod yn ddadl flynyddol? Credaf fod pob Aelod yn cytuno ei bod yn un y mae’r Aelodau yn dymuno cymryd rhan ynddi bob blwyddyn i ddangos ein cefnogaeth i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr.

A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Mae mor bwysig nad yw’r aberth a wnaed ar ran y genedl gan ein lluoedd arfog yn mynd yn angof. Wrth gwrs, mae digwyddiadau megis Sul y Cofio yn rhoi ffocws allweddol ar gyfer anrhydeddu’r rhai a laddwyd, ond dylai ein lluoedd arfog fod yn ein meddyliau drwy gydol y flwyddyn gyfan a dylem fod yn ailwerthuso bob amser sut y gallwn eu cefnogi orau, gan wrando ar syniadau’r milwyr eu hunain.

Mewn gwirionedd, roedd hwn yn bwynt a wnaed gan Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol. I rai o’r Aelodau sydd wedi dweud, neu wedi awgrymu efallai ein bod mewn rhyw ffordd yn ceisio gwleidyddoli’r broses goffa a Dydd y Cofio eleni, rwy’n meddwl bod y ffaith fod llawer o’r syniadau hyn wedi dod gan y cyn-filwyr eu hunain—nid gennym ni na’n wir gan bleidiau eraill yn y Siambr hon, ond gan gyn-filwyr eu hunain—yn dangos yr ysbryd y daethom â’r ddadl hon i’r Siambr a’r bwriadau sydd gennym wrth wneud hynny i geisio gwella bywydau pobl yn ein lluoedd arfog.

Mae egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog a ymgorfforwyd yn y gyfraith yn 2011 yn anelu i sicrhau nad yw pobl ein lluoedd arfog o dan anfantais ormodol wrth wneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol deilwra eu rhaglenni i gefnogi’r egwyddorion hyn yn y ffordd orau. Dyma pam rydym wedi galw am gomisiynydd y lluoedd arfog—yn amlwg, un o agweddau mwyaf dadleuol yr hyn rydym wedi’i gynnig heddiw, yn ôl pob tebyg.

Mae Plaid Cymru yn awyddus i nodi pan fo Cymru’n yn cael ei thrin yn wahanol i’r Alban—yn andwyol o gymharu â’r Alban—ac yn wir mae ganddynt hawl i wneud hynny, ond dyma enghraifft glasurol: os yw comisiynydd yn ddigon da ar gyfer yr Alban, yna’n sicr mae’n ddigon da i ni yma yng Nghymru. Rwy’n clywed, yn ogystal, yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet—yn wir, roeddech yn gadael y drws ar agor yno, rwy’n meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai’n anghywir i mi awgrymu eich bod wedi cau’r drws ar gael comisiynydd i ddelio â’r materion hyn. Rwy’n meddwl mai’r hyn roeddech yn ei ddweud oedd eich bod yn hapus gyda’r strwythur sydd gennych ar hyn o bryd a’r cyngor rydych yn ei gael ar hyn o bryd ac os yw hwnnw wedyn yn datblygu’n strwythur comisiynydd, neu os oes galw am hynny yn y dyfodol, yna, byddech yn edrych ar hynny o ddifrif. Yr hyn y byddem yn ei ddweud wrthych yw bod y galw yno yn awr—credwn fod y galw wedi tyfu a bod yna ddigon o reswm bellach i gyflwyno’r rôl hon. Gelwir amdani gan deuluoedd pobl y lluoedd arfog; gelwir amdani gan bobl y lluoedd arfog eu hunain a gelwir amdani gan yr Aelodau yn y Siambr hon. Felly, byddwn yn eich annog i ailystyried y safbwynt cyn gynted ag y bo modd—eich bod yn cefnogi’r agwedd honno ar y cynnig sy’n ein symud tuag at gomisiynydd. Felly, byddwn yn awgrymu os yw’n ddigon da yn y dyfodol, mae’n ddigon da yn awr a dylem symud tuag at y safbwynt hwnnw cyn gynted â phosibl.

Mae darpariaeth y lluoedd arfog wedi bod yn anghydlynol weithiau yn y gorffennol. Gadewch i ni ddwyn ynghyd y gwahanol linynnau o gefnogaeth. Gadewch i ni adeiladu arwyddbyst llawer gwell, fel bod yr hen faterion cyfarwydd sydd wedi effeithio ar filwyr sy’n ymladd dros eu gwlad a’r ffordd y maent wedi ei chael hi’n anodd ailaddasu i fywyd ar y tu allan yn cael eu datrys o’r diwedd.

Roedd Jeremy Miles, yn ei gyfraniad, yn hollol gywir i nodi’r lefelau diweithdra uwch sy’n effeithio ar gyn-filwyr. Fe sonioch am yr angen i ddatblygu’r sgiliau y maent wedi’u datblygu yn ystod eu hamser yn y lluoedd arfog i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio’n dda, eu bod yn adennill eu hyder a dangos bod ganddynt rôl werthfawr iawn i’w chwarae mewn bywyd sifil.

Yn olaf, Lywydd, gwnaeth Suzy Davies a Caroline Jones sylwadau dilys iawn. Dywedodd Suzy Davies fod hyn yn ymwneud â mwy na chyn-filwyr; mae’n ymwneud â mater ehangach cadw teuluoedd gyda’i gilydd. Mae’r ystadegyn pwysig a ddyfynnwyd gan Caroline Jones—oes, mae 5 y cant o’r boblogaeth yng Nghymru, ond 7 y cant o’r cyn-filwyr—wir yn bwysig a dylem gofio hynny heddiw. I gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Gadewch i ni wneud yr hyn a allwn i roi mwy o gefnogaeth i gyn-filwyr ein lluoedd arfog. Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl hon yn anfon neges glir i’n milwyr eu bod yn ein meddyliau, yn enwedig yn ystod wythnos y cofio, ond hefyd drwy gydol y flwyddyn gyfan, a bod pob un ohonom yn y Siambr hon am wneud yr hyn a allwn i geisio gwella eu bywydau cymaint ag y gallwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 7. Dadl Plaid Cymru: Addysg Cyfrwng Cymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ac rydw i’n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6134 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy’n codi i siarad i’r cynnig yma yn enw Plaid Cymru. Nawr, y bwriad, wrth gwrs, wrth ddod â’r ddadl yma gerbron heddiw yw nid cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, na chwaith amau’r consensws rydw i’n siŵr sydd yn bodoli yn y Cynulliad yma i weithio tuag at y nod hwnnw. Ond un o fwriadau gosod y ddadl yma gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yw tynnu sylw at, neu danlinellu, efallai, anferthedd yr ymdrech sydd ei angen i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn cwta 30 mlynedd. Hynny yw, mae’n gynnydd, am wn i, na welwyd mo’i fath yn hanes yr iaith Gymraeg, a chynnydd, felly, a fydd yn heriol iawn i ni i gyd, boed yn siaradwyr Cymraeg neu yn ddi-Gymraeg. Mae’n siwrnai a fydd yn mynnu ei bod ni’n gweithredu mewn modd, yn sicr, sy’n greadigol ac yn gwbl benderfynol, ac uwchlaw pob dim, am wn i, mewn modd dewr hefyd. Os bydd y Llywodraeth yn dangos y nodweddion hynny wrth weithio tuag at y nod yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf, yna mi fyddwn ni’n sicr ar y meinciau yma yn hapus i ddod gyda chi ar y siwrnai honno.

Nawr, mae’r ymgynghoriad diweddar ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru, sef miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn cynnwys llawer o ddatganiadau positif am y nod a sut i’w chyrraedd. Un o’r agweddau canolog i’r strategaeth, wrth gwrs, a’r ffactor mwyaf allweddol yn fy marn i, a phwynt arall y ddadl hon, wrth gwrs, yw cydnabod y rhan bwysig sydd gan addysg i’w chwarae yn yr ymdrech honno. Fel mae’r strategaeth ddrafft yn ei ddweud,

‘Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr.’

Nawr, nid yw’r drefn bresennol yn hyrwyddo a chefnogi addysg Gymraeg yn ddigonol i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r ystadegau’n dangos bod cwymp wedi bod yn y ganran o blant saith oed a oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 2013 a 2014, ac yna dim newid rhwng 2014 a 2015—22.2 y cant yw’r ffigur diweddaraf. Mi fu cynnydd yn nifer absoliwt y plant, ond cwymp yn y ganran, a’r gwir yw bod y ffigur wedi bod yn fflat ers ambell flwyddyn, yn amrywio o ychydig o dan 22 y cant yn 2010 i ychydig dros 22 y cant heddiw.

Nawr, nid wyf i’n ystadegydd, ond os ydym ni am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg, yna, wrth gwrs, byddai rhywun yn disgwyl bod angen dyblu’r lefel yma o rai sy’n dewis addysg Gymraeg, er enghraifft. Os gallwn ni godi nifer y disgyblion blwyddyn 2, sef y cohort saith oed yna sy’n cael eu hasesu yn Gymraeg iaith gyntaf, o 22 y cant i, dywedwch, 50 y cant, fe fyddai hynny’n cynrychioli tua 10,000 plentyn ychwanegol yn seiliedig ar niferoedd 2015. Byddai’n golygu darparu dros 300 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar draws Cymru, a hynny i blant saith oed.

Dyna faint yr her, a dyna faint yr ymdrech sydd ei angen. Ac, wrth gwrs, fe allwch chi luosogi hynny, wedyn, ar draws y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach, addysg uwch, dysgu gydol oes, ac yn y blaen. Mae’r blynyddoedd cynnar yn hanfodol, oherwydd y cynharaf y mae plentyn yn cael cyffyrddiad â’r iaith, y mwyaf o gyfle sydd ganddo ef neu ganddi hi i ddod yn rhugl. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond geiriau’r Llywodraeth yn ei strategaeth ddrafft, ac, yn naturiol, rwy’n cytuno â hynny. Yn anffodus, wrth gwrs, mae lefelau trosglwyddo’r iaith rhwng rhieni a’u plant yn gymharol isel. Yn 2015 dim ond 6.5 y cant o blant pump oed oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl gartref, a hynny lawr o 7 y cant yn 2012. Rŷm ni’n ddibynnol, felly, ar y gyfundrefn gofal ac addysg gynnar i sicrhau bod plant yn cychwyn ar y siwrne yna i ddod yn ddwyieithog, gan nad yw hynny yn digwydd yn naturiol yn y cartref. Enillwch chi nhw’n gynnar i’r iaith Gymraeg, ac mae’r tebygrwydd y byddan nhw’n tyfu i fedru ac i arddel y Gymraeg lawer iawn, iawn yn uwch. Mae 86 y cant o blant sy’n mynychu grwpiau neu gylchoedd meithrin Cymraeg yn trosglwyddo i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac mae mwyafrif y rhai sydd ddim, wrth gwrs, ddim yn gwneud hynny oherwydd nad oes yna ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i drosglwyddo iddo fe yn aml iawn.

Nawr, mae yna gyfle godidog wedyn, wrth gwrs, yn codi yn sgil cytundeb y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar ehangu gofal plant fel modd i gyflawni llawer o’r hyn rŷm ni am ei weld yn digwydd. Ac fe ddywedais i ddoe, mewn ymateb i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y polisi yna, ac, yn wir, yn sgil tystiolaeth a roddodd ef i’r pwyllgor yr wythnos diwethaf, lle’r oedd yn dweud y byddai am sicrhau bod y polisi yma yn ymateb i’r galw—fe ddywedais i, wrth gwrs, bod yn rhaid inni symud i ffwrdd o’r agwedd yna, mewn gwirionedd. Mae cyflwyno’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn gorfod bod yn gyfystyr â datgan bod y dyddiau o ddim ond ymateb i’r galw wedi mynd. ‘Approach’ y gorffennol yw bod yn adweithiol bellach, yn y cyd-destun yma. Mae’n rhaid i holl feddylfryd y Llywodraeth, awdurdodau addysg a phawb arall newid yn sylfaenol i fod yn un rhagweithiol o hyn ymlaen, a chreu’r galw trwy hyrwyddo, annog, a chreu darpariaeth ac isadeiledd i gyd-fynd, wedyn, wrth gwrs, â hynny. Fel y dywedodd Cymdeithas yr Iaith, fefyddai’n cymryd mwy nag 800 mlynedd i bob plentyn dderbyn addysg Gymraeg pe bai’r patrwm o dwf presennol yn parhau. Ac nid wyf, yn sicr, yn mynd i fod yn setlo am hynny.

Nawr, mae sicrhau gweithlu priodol ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, wrth gwrs, yn hollbwysig i lwyddiant y strategaeth—rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan y Llywodraeth, pan maen nhw’n dweud bod hynny, wrth gwrs, yn golygu cynllunio er mwyn cefnogi athrawon dan hyfforddiant a chynorthwywyr dysgu, ehangu cynlluniau sabothol ar gyfer y gweithlu presennol, a chynyddu’n sylweddol nifer y gweithwyr yn y sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn cyhoeddi eu cynllun 10 mlynedd ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn y gwanwyn. O’r holl gynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth all ddylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg, mae hwn, yn fy marn i, yn un o’r rhai mwyaf allweddol. Ac mi fydd hwn hefyd, i bob pwrpas, i fi, yn brawf o ba mor o ddifri y mae’r Llywodraeth yma o ran gwireddu eu nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Diolch. Mae pwysau’r trafodaethau ynglŷn â chynyddu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg—. Gwyddom mai oddeutu 16 y cant o blant yn unig sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n golygu y dysgir Cymraeg ar ryw lefel fel ail iaith i’r rhan fwyaf, y mwyafrif llethol, o blant ysgol yng Nghymru. Nawr, mae yna lawer o dystiolaeth i ddangos bod ansawdd y dysgu hwnnw mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn wael neu’n anghyson, ac eto nid ydym yn siarad yn y dadleuon hyn ynglŷn â sut rydym yn cynyddu lefel dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Felly, beth y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r genhedlaeth o blant sy’n cael darpariaeth wael iawn ar hyn o bryd?

Wel, mae’n drueni nad yw’r Aelod yn cofio’r ffaith ein bod ni wedi codi hyn yn y Siambr rai wythnosau yn ôl, ansawdd dysgu ail iaith, a bod y Gweinidog ei hunan wedi gwneud datganiad clir ynglŷn â’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth yn teithio iddo fe yn y maes yna. Nid wy’n mynd i ddefnyddio fy amser nawr, gan fod hynny’n fater sydd wedi cael ei drafod yn flaenorol, ond yn sicr mae yna gydnabyddiaeth ac mae yna symud ar y ffrynt yna i fynd i’r afael â hynny.

Nawr, rwy’n byw yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwelon ni, wrth gwrs, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn cael ei sefydlu yn ôl yn y 1950au, lle bu’n rhaid i bobl frwydro, fel mewn nifer o ardaloedd yn y 1960au a’r 1970au, am addysg Gymraeg, ond nid yw’r frwydr yna, wrth gwrs, ar ben. Mewn siroedd fel Wrecsam, sir Ddinbych a sir y Fflint, rŷch chi’n gweld brwydrau’n digwydd, nid yn unig i ehangu’r ddarpariaeth ond i amddiffyn y ddarpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd. Yn Wrecsam, mae’r galw cynyddol am addysg Gymraeg wedi arwain at rieni, mewn rhai sefyllfaoedd nawr, yn methu cael eu plant i mewn i, er enghraifft, Ysgol Bro Alun, er mai dim ond tair blynedd yn ôl yr agorwyd yr ysgol yna i gwrdd â’r angen yn ardal Gwersyllt. Mae pob ysgol gynradd Gymraeg yn llawn dop yn y sir, ond nid oes dim bwriad codi ysgol newydd. Mae’r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn wynebu her enfawr gyda’r disgwyl y bydd dros 1,400 o blant yno erbyn 2024. Wrth edrych ar gynllun addysg iaith y sir tua’r dyfodol, nid oes dim cydnabyddiaeth bod y galw heb ei ateb a bod angen mwy o leoedd.

Yn sir y Fflint, a fu unwaith mor flaengar yn y maes yma, roedd yna fygythiad diweddar i Ysgol Gymraeg Mornant, yr unig ysgol Gymraeg yng ngogledd y sir, a oedd o dan fygythiad o gau. Pe bai hynny wedi digwydd, byddai wedi golygu bod rhaid teithio i Dreffynnon ar gyfer addysg Gymraeg, gan fod ysgol Gymraeg Prestatyn yn llawn. Y gwir yw, wrth gwrs, mai dim ond 5 y cant o blant y sir sydd yn derbyn addysg Gymraeg—ffigur sydd wedi aros yn ei unfan ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny, rwy’n gwybod, yn destun siom i nifer.

Yn sir Ddinbych—ac mi wnaf ddatgan budd fel rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Pentrecelyn—mae yna frwydr wedi bod i amddiffyn statws iaith y ddarpariaeth i’r plant yna, ac roedd hi’n destun pleser i mi ddarllen y papurau sydd yn cael eu gosod gerbron y cabinet wythnos nesaf a oedd yn argymell nawr i gynnal y ddarpariaeth yna. Ond, wrth gwrs, mae hynny wedi bod yn ganlyniad brwydr ac ymgyrch a her farnwrol.

Nawr, dyna fy mhrofiad i yn y gogledd-ddwyrain; bydd profiadau gwahanol gan bawb fan hyn. Mae yna brofiadau positif, wrth gwrs, ac rŷm ni’n gallu cyfeirio at nifer ohonyn nhw yng Ngwynedd, yn sir Gaerfyrddin ac mewn rhannau eraill o Gymru. Ond y neges yw, wrth gwrs, bod cynllunio yn bwysig, a bod sicrhau cynlluniau strategol addysg Gymraeg cryf yn bwysig hefyd i yrru’r ddarpariaeth yma yn ei blaen.

Bydd fy nghyd-Aelodau i yn ymhelaethu ar sawl agwedd arall. Rŷm ni’n gwybod am addysg bellach, addysg uwch, ac addysg gydol oes hefyd—mae’n rhaid inni beidio ag anghofio am y ddarpariaeth bwysig honno. Ond dim ond un agwedd o’r ymdrech i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yw’r maes addysg, ond mae’n agwedd gwbl, gwbl greiddiol. Fe welwn ni, rwy’n meddwl, dros y misoedd nesaf pa mor o ddifri yw’r Llywodraeth yma mewn gwirionedd o safbwynt cyrraedd y nod hwnnw. Ac fel y dywedais i ar y cychwyn, os bydd y Llywodraeth yn dangos y parodrwydd i fod yn greadigol, yn benderfynol ac yn ddewr, yna fe fyddaf i, a nifer ohonom ni, rwy’n siŵr, yn hapus i fod ochr yn ochr â’r Llywodraeth ar y daith honno.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar y Gweinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn ganolog i bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Alun Davies 18:37:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru hefyd am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Byddwn yn cefnogi’r cynnig, a byddem wedi bod yn fodlon cefnogi gwelliant y Llywodraeth hefyd, ond mae’n dileu pwynt 2. Nid wyf yn gweld pam na allai’r Llywodraeth dderbyn y pwynt, nodi’r rhesymau pam a chyferbynnu hynny gyda’r uchelgeisiau newydd ar gyfer eu strategaeth sydd ar ddod. Rwy’n symud y gwelliant hefyd.

Nawr, y rhesymau pam—wel, pam na wnawn ni ddechrau gydag awdurdodau lleol? Dylent fod wedi cydio yn eu rhwymedigaeth i hyrwyddo'r iaith Gymraeg erbyn hyn. Mae cynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg wedi ffaelu. Mae’n wastraff arian i ofyn i gynghorau wneud y gwaith ymchwilio neu hyrwyddo os nad ydynt yn mynd i weithredu ar y canlyniadau. Yn waeth na hynny, mae’n atgyfnerthu canfyddiadau bod polisi iaith Gymraeg hyd yn hyn yn fater o rodres gwleidyddol a thicio blychau nag ewyllys ddofn i ddatblygu cenedl ddwyieithog.

Mae diffyg arweiniad a chyfeiriad wedi creu galw am addysg cyfrwng Cymraeg sy’n tyfu yn araf ac yn ansicr ar draws ardaloedd cynghorau yn fy rhanbarth. Nid oes dim crynodiadau cyfleus i gynllunio am adeiladu ysgolion newydd, felly rŷm ni’n gweld canoli darpariaeth, gan dynnu Cymreictod gweledol allan o gymunedau er lles un safle, weithiau yn bell i ffwrdd o gartrefi plant. Nid yw hynny’n helpu gyda blaenoriaeth arall y Llywodraeth, sef tyfu defnydd o’r Gymraeg ym mhob cymuned. A gall fod yn ddigon anghyfleus i rai teuluoedd i beidio â dilyn eu bwriadau da, gan atal a gwrthdroi'r galw gwreiddiol. Temtasiwn arall yw anwybyddu’r galw—i adael gorlif yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol i’r pwynt lle, unwaith eto, mae’r galw yn mygu yn y camau cynnar.

Gadewch inni boeni llai am adeiladu ysgolion newydd mewn lleoliadau canolog sy’n mynd i fod yn rhy fach neu’n rhy fawr yn y tymor canolig, ac edrych yn agosach at dyfu’r defnydd cyfrwng Cymraeg ar safleoedd ysgolion presennol. Nawr, i fod yn glir, nid yw hyn yn tynnu sylw oddi ar yr angen am ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd. Mae opsiwn ychwanegol i gynghorau sydd yn y trap amseru, os gallaf ei ddisgrifio fel yna, fel rwyf jest wedi’i ddisgrifio. Nid wyf yn sôn chwaith am ysgolion dwyieithog. Rwy’n siarad am ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n bodoli yn barod, gydag unedau cyfrwng Cymraeg wedi eu cydleoli, ond ar wahân, sy’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn gyda phob derbyniad newydd. Ar yr un pryd, fel rydym wedi trafod o’r blaen, Lee Waters, mae angen i ysgolion cyfrwng Saesneg gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu. Mae dal angen i’r rhai sy’n mynd drwy’r system Saesneg gael cyfle i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg digonol ar gyfer eu defnyddio yn eu bywydau yn y dyfodol.

Nawr, rwy’n derbyn bod hyn yn creu her enfawr ar lefel Llywodraeth Cymru—rwyf yn gwneud hynny: cwricwlwm sy’n mynnu ar ddefnydd pwrpasol o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; safleoedd ysgolion hyblyg sy’n gallu darparu ar gyfer y galw sy’n tyfu am y Gymraeg, ac, o bosib, gollwng y galw Saesneg fel canlyniad; ac, wrth gwrs, y gweithlu—mae Llyr wedi sôn am hynny—sy’n gallu addysgu’n dda mewn system o’r fath, neu beth bynnag. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n rhaid inni ystyried y plant a’r bobl ifanc sy’n mynd drwy’r system sydd gyda ni yn barod, a pha mor debygol yw hi iddyn nhw gael cyfle i gaffael digon o sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y defnydd parhaus ar ôl ysgol, a’u bod nhw’n eu gwerthfawrogi ddigon i’w trosglwyddo i’w plant maes o law. Dyma’r cenedlaethau sy’n wynebu ergyd ddwbl yr amharodrwydd—profiad gwael yn yr ysgol, fel mae Lee wedi dweud, a marchnad gyflogaeth lle nad yw cyflogwyr yn gweld defnydd o’r Gymraeg fel rhywbeth pwysig.

Mae gan safonau rôl, ond fel rŷch chi wedi clywed oddi wrthyf o’r blaen, os nad yw busnes yn credu bod dwyieithrwydd yn rhinwedd, rydych chi’n edrych ar rwystr arall at eich nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae cyfleoedd ar gyfer y Coleg Cymraeg i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau addysg bellach, ac rwy’n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn ystyried y cyfleodd hynny. Mae yna gyfleoedd hefyd am sgiliau iaith Gymraeg perthnasol i gael eu datblygu ym mhob cwrs galwedigaethol sy’n arwain at yrfaoedd sy’n wynebu’r cyhoedd—gofal cymdeithasol, manwerthu, gwallt a harddwch, ac yn y blaen. Mae arweinwyr colegau yn ddryslyd pan fyddaf yn sôn am y gwahaniaeth rhwng hynny a chyfrwng Cymraeg, ond nid yw addysg Gymraeg yn unigryw yn ei chyfrifoldeb am greu siaradwyr Cymraeg. Diolch.

Mae angen rhwng 15,000 a 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnon ni bob blwyddyn, dros gyfnod o 30 mlynedd, os ydym yn mynd i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr. Ac mae hynny ar ben mynd i’r afael â’r nifer sy’n gadael cymunedau Cymraeg a Chymru. Mae rôl addysg yn gwbl allweddol i gyrraedd y nod. Bellach, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol. Cymharwch chi hynny efo’r sefyllfa yng nghanol y ganrif ddiwethaf a chyn hynny, lle mai adref yr oedd y mwyafrif llethol wedi dysgu’r Gymraeg. Rwy’n digwydd bod yn un o’r bobl ffodus yna sydd wedi caffael yr iaith ar yr aelwyd fel iaith gyntaf, naturiol ein teulu ni, ond dim dyna ydy profiad nifer cynyddol o bobl, yn anffodus. Achos, erbyn hyn, nid yw trosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref mor effeithiol ag y bu yn y gorffennol, oherwydd bod yna lai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad Cymraeg.

Mae’n hollol amlwg, felly, fod rhaid cynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynhyrchu 1 filiwn o siaradwyr. Ar hyn o bryd, nid yw’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, ac mae hyn er gwaetha’r dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg, galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru. Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn allweddol wrth greu’r newid anferth sydd ei angen. Ers 2013 mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, a nodi sut mae’r awdurdod yn mynd i wella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl ganolog i sicrhau bod y cynlluniau yma yn uchelgeisiol a chadarn. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa. Yn Rhagfyr 2015, fe ganfu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oedd y cynlluniau yma yn effeithiol ac fe gyflwynwyd 17 o argymhellion i’r Llywodraeth. I fod yn gwbl effeithiol, mae’n rhaid i’r cynlluniau hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag ymateb i unrhyw alw, ac mae’n rhaid i awdurdodau ddiffinio yn eu cynlluniau addysg lle bydd ysgol neu ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu, a phryd y byddan nhw’n cael eu hadeiladu.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae ymdrech hynod ganmoladwy wedi ei wneud dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod digon o ysgolion er mwyn ymateb i’r galw am addysg Gymraeg. Gwelwyd cynnydd o bedair ysgol gynradd i 11, ac mae yna’n dal alw cynyddol yno am lefydd, yn enwedig yn y tair ysgol yng Nghaerffili ei hun. Fe gynhaliwyd arolwg gan y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ardal Rhisga, lle y gwnaethant ganfod y buasai nifer sylweddol o rieni yn anfon eu plant i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg petai’r ysgol honno ar gael yn lleol.

Felly, mae’r galw yno, nid yn unig yng Nghaerffili ond ar draws Cymru. Rhan o’r ateb, yn sicr, ydy adeiladu rhagor o ysgolion, ac felly mae angen i’r Llywodraeth sicrhau bod cronfa o arian ar gael i awdurdodau lleol sydd eisiau cynyddu’r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd, hyd y gwn i, y tu allan i’r cynllun ysgolion yr unfed-ganrif-ar-hugain, sydd i bwrpas gwahanol, nid oes arian ar gael. Yn ogystal, fel rhan o’r strategaeth iaith mae’r Llywodraeth yn ymgynghori arni ar hyn o bryd, mi fydd yn rhaid i’r Llywodraeth gynnwys strategaeth fanwl am faint o athrawon a staff ategol ychwanegol fydd ar Gymru eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr bod y sector addysg yn gallu cyfrannu’n helaeth at y nod o 1 miliwn o siaradwyr.

Gair sydyn am y sectorau addysg uwch a phellach. Rydym yn falch o lwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd rŵan yn ymestyn cyfleoedd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Rwy’n falch iawn o weld bod yna adolygiad yn mynd i fod o’r Coleg Cymraeg gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a fydd yn edrych ar ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i’r sector addysg bellach, yn ogystal â’r sector addysg uwch, lle mae cymaint o’n pobol ifanc ni yn astudio.

Gyda llaw, rydym hefyd yn awyddus i weld mwy o brentisiaethau yn cael eu cynnig, un ai drwy’r Gymraeg neu efo rhywfaint o weithgaredd Cymraeg ynddyn nhw. Allan o bron i 50,000 o brentisiaethau, dim ond 165, sydd yn 0.34 y cant, a oedd yn cynnwys ychydig o Gymraeg—un gweithgaredd Cymraeg a oedd angen ei gynnwys. Mae’n amlwg, felly, fod angen newid trosiannol ym mhob agwedd ar addysg Gymraeg os ydym am gael unrhyw obaith o gyrraedd y nod o 1 miliwn o siaradwyr.

Rwy’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn y cyfraniad hwn.

First of all, where will these million Welsh speakers be in 2050? Will they be in Wales, in Britain or across the world?

Roedd cyfrifiad 2011, a oedd yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, o’i gymharu â 2001, yn siomedig iawn. Os yw’r dirywiad yn parhau ar yr un gyfradd dros y 30 mlynedd nesaf, dim ond Gwynedd fydd â hanner ei phoblogaeth yn siaradwyr Cymraeg, a hynny o 1 y cant yn unig. Dyna sy’n rhaid ei wrthdroi. Y peth mwyaf brawychus oedd y gostyngiad yn y cymunedau lle y mae dros 70 ac 80 y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dyma’r nifer y mae pobl, gan fy nghynnwys fy hun, yn credu sydd ei angen i’w gwneud yn iaith gymunedol. Pan fydd yn disgyn i 60 y cant, gan ddefnyddio mathemateg syml, ni fydd dau o bob pump o bobl y byddwch yn eu cyfarfod yn ei siarad, a’r tueddiad yw, ‘Gadewch i ni gadw at y Saesneg gan y bydd pawb yn fy neall.’

Yn fwy calonogol, rydym wedi gweld nifer y plant tair neu bedair oed sy’n gallu siarad Cymraeg yn codi o 18.8 y cant yn 2001 i 23.6 y cant yn 2011. Mae hyn yn dangos parhad y cynnydd o 11.3 y cant yn 1971. A gaf fi dalu teyrnged, fel y mae pawb arall wedi gwneud, i’r Mudiad Ysgolion Meithrin a Ti a Fi, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn cael plant ifanc iawn i siarad Cymraeg? Mae’n ddrwg gennyf am hyn, Rhun, ond Ynys Môn yn unig a oedd â chyfran is o siaradwyr Cymraeg tair neu bedair oed na’r gyfran o’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd o gyfrifiad 2011. [Anghlywadwy.]—senario os yw’n parhau wrth symud ymlaen oherwydd mae angen i ni newid. Nid yw hyd yn oed y da o’r hyn sy’n digwydd gyda rhai tair a phedair oed yn ddigon da. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Rwy’n mynd i siarad mwy am hynny, yn y Gymraeg, yn nes ymlaen. Felly, ymddiheuriadau. Ni fanylaf arno yn awr. Mae angen i ni gael pobl i wneud hyn yn awr, oherwydd mae’n anhygoel o anodd dysgu Cymraeg fel oedolyn. Hefyd mae gennym lawer o bobl yn symud i mewn i Gymru na fyddant yn siaradwyr Cymraeg; mae gennym bobl yn symud allan. Gofynnaf y cwestiwn yn awr: a ddylai pobl sy’n symud i Lundain, y mae eu plant yn mynychu Ysgol Gymraeg Llundain, gael eu cyfrif gyda siaradwyr Cymraeg? Dyna gwestiwn y mae angen i ni roi rhywfaint o ystyriaeth iddo.

Bydd y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn sicrhau nad yw’r senario fwy pesimistaidd yn digwydd, cyn belled â bod y rhifau hyn yn cael eu cynnal a’u cynyddu. Ond unwaith eto, mae angen i blant siarad Cymraeg. Gallwn siarad am siaradwyr Cymraeg, ac mae gennyf lawer o brofiad o blant rhwng tair a 18 oed dros y blynyddoedd diwethaf yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae gwahaniaeth rhwng gallu siarad Cymraeg a siarad Cymraeg. Mae’n wahanol iawn. Mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy’n ei siarad.

Mae’r Llywodraeth bresennol yn gwneud llawer: cefnogi mentrau iaith; cynlluniau gweithredu ar yr iaith; cynlluniau hybu’r Gymraeg; cymorth ariannol ychwanegol i’r Eisteddfod; digwyddiadau gyda gwersyll yr Urdd yn Llangrannog, er bod fy merch, ymysg eraill, yn dweud y gallent wneud gyda llawer mwy o fuddsoddiad yno o hyd; a’r buddsoddi mewn darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Er gwaethaf ymrwymiad a chymorth cyfredol Llywodraeth Cymru—ac nid wyf yn credu bod neb yn amau ​​cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn—byddwn yn hoffi gweld pum polisi yn cael eu gweithredu. Lle wedi’i warantu mewn darpariaeth Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg i bob plentyn cymwys y mae eu rhieni yn ei ddymuno. Gadewch i ni ddechrau’n ifanc. Ar ôl i blant fynd i mewn i amgylchedd cyfrwng Saesneg, maent yn debygol o aros yno. Hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg i rieni plant tair oed. Y bwriad i o leiaf draean o blant Cymru fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Nawr, fy ofn yw ein bod yn mynd i barhau fel rydym, ac yn y pen draw bydd gennym boblogaeth yng Nghymru lle bydd oddeutu ein chwarter yn ei siarad, ond bydd yn amrywio rhwng tua 20 a 40 y cant, ac ni fydd digon o siaradwyr Cymraeg yn unman iddi fod yn iaith y gymuned, yn iaith y gall pobl ei defnyddio bob dydd. Rwy’n byw yn Nhreforys lle y ceir nifer fawr o siaradwyr Cymraeg a chyfle i’w defnyddio, ond ni allwch ond ei defnyddio mewn nifer fach o lefydd. Mae’n ddrwg gennyf, Rhun.

Diolch yn fawr iawn. A ydy’r Aelod yn cytuno â fi fod angen hefyd inni ddefnyddio’r ‘role models’ rhagorol sydd gennym ni mewn chwaraeon, er enghraifft, ar hyn o bryd—rydym yn meddwl am dîm Cymru a chwaraewyr fel Ben Davies a Joe Allen—er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn edrych i fyny at bobl sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg?

A dweud y gwir, roedd hen ewythr Cyril Hartson yn cael trafferth siarad Saesneg, ac yn aml byddai’n rhaid iddo ofyn beth oedd y gair Saesneg pan fyddwn yn siarad ag ef.

Mae angen i’r ddarpariaeth o gyfleusterau ieuenctid cyfrwng Cymraeg wella a gwneud diogelu’r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol mewn ceisiadau cynllunio.

I know how difficult it is to learn Welsh. It’s easier to learn at school when one is young. I find mutations impossible, but my wife and my daughter who attended Welsh-medium schools use them quite naturally.

Mae dros hanner y bobl a fydd yn cymryd rhan yng nghyfrifiad 2051 yn fyw bellach. Byddai pawb o’r rhai 38 oed yng nghyfrifiad 2061 wedi dechrau yn yr ysgol.

Finally, who are these Welsh speakers? People like myself who speak Welsh with family and friends in the chapel and in the pub, who aren’t confident in using Welsh in public? Will I count as one of the 1 million?

Mae’n bleser cymryd rhan mewn dadl â’r fath syniadau’n cael eu gwyntyllu. Llongyfarchiadau i Suzy ac i Mike am eu cyfraniadau.

Rydw i, fel Sian Gwenllian, wedi bod yn ffodus yn ddaearyddol ac mewn teulu i gael magwraeth gyfan gwbl Gymraeg, i’r fath raddau nad oeddwn i’n gallu siarad Saesneg tan yr oeddwn i’n saith mlwydd oed, ac nid oeddwn i’n gwybod beth oedd y syniad o iaith arall. Roedd yn rhaid imi ddysgu’r Saesneg er mwyn cael addysg.

Rwy’n croesawu ac yn edmygu dewrder y Llywodraeth yn anelu am 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwyf i gyda chi 100 y cant. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen: 1900 oedd hi ac roedd yna 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg bryd hynny hefyd. Felly, adennill y tir ydym ni, ac rydym yn benderfynol ein bod ni yn mynd i adennill y tir, yn enwedig ar ddiwrnod fel heddiw. Rydym newydd gael y canlyniad etholiadol yn Unol Daleithiau’r America ac mae’n ddigon hawdd teimlo ychydig bach yn isel ein hysbryd, ond mae’n werth cofio bod yna rywbeth prin gennym ni efo’r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw, a dylai fod yn destun ein bod yn gallu ymhyfrydu ynddi a dathlu ein bod ni’n dal, ar raddfa eang, yn gallu siarad Cymraeg. Yn hanes dynoliaeth, pan fydd yna iaith leiafrifol yn dod i fyny yn erbyn iaith gref fwyafrifol drws nesaf, mae’r iaith fach leiafrifol yn raddol marw allan ac yn diflannu. Yn hanes dynoliaeth, dim ond tair iaith leiafrifol sydd wedi gallu gwrthsefyll y fath bwysau mawr: Hebraeg ydy un, Basgeg ydy’r ail a’r trydydd ydy’r Gymraeg. Yn holl hanes dynoliaeth ar y ddaear yma, rydym mewn cenedl sy’n arddel iaith sydd wedi profi ei bod yn gallu gwyrdroi hanes. Nid yw popeth yn ddu o bell ffordd, ond mae wedi cymryd gwaith caled cyn belled i arddel y 562,000 o siaradwyr Cymraeg sydd gyda ni heddiw.

Rydym wedi adennill y tir, ond mae yna waith i’w wneud, fel rydym wedi’i glywed. Nid af ar ôl mater yr ysgolion. Mae’n werth nodi bod gyda ni 386 o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd yng Nghymru—386 o ysgolion, fe wnaf ailadrodd hynny. Mae yna gyfraniad allweddol y mae’r sector addysg yn gwneud i’n hiaith ni. Ond, fe allwn ni wneud mwy yn y gweithle, er enghraifft, gyda mwy o ddarpariaeth i annog ac i helpu pobl i ddysgu Cymraeg yn naturiol i’r lefel y gallan nhw ei defnyddio yn naturiol, fel mae Mike Hedges wedi awgrymu eisoes—lefel naturiol sy’n briodol i’r math o waith y maen nhw’n ei wneud.

Pan oedd fy mab hynaf mas yn yr Almaen, roedd disgwyl iddo ddod yn rhugl yn yr Almaeneg yn y gwaith yr oedd yn gwneud efo’i radd ar y pryd. Roedden nhw’n darparu pobl i ddysgu’r gweithwyr o dramor un-wrth-un. Roedd yn digwydd yn naturiol, nid oedd cost i’r cyflogwr ac roedd o jest yn digwydd. Ac mi ddaeth Aled yn rhugl yn yr Almaeneg o fewn tri mis o wneud hynny, gan ddarparu gwasanaethau yn yr Almaeneg i Almaenwyr yn Berlin. Mae’n bosibl i’w wneud e. Wrth gwrs, efo cefndir mewn ysgolion Cymraeg, mi roedd y gallu dysgu’r iaith Almaeneg yn llawer haws—un arall o rinweddau cael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n bwysig ei gwneud hi’n haws i bobl ddysgu Cymraeg fel oedolion. Mae angen rhagor o ddarpariaeth, rhagor o hwb i’r cynllun Cymraeg i oedolion a Chymraeg yn y gweithle.

Rwy’n nodi’r arian ychwanegol sydd wedi dod drwy law’r cytundeb yma rhyngom ni fel Plaid a Llafur. Ond, mae mwy o waith i’w wneud achos o ran cyrsiau i oedolion yn gyffredinol trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes llawer ohonyn nhw. Dim ond 0.2 y cant o’r holl gyllid o £17 miliwn ar gyfer y fath gyrsiau sy’n cael ei wario ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, ar ddiwrnod fel heddiw, ar ôl noson fel neithiwr, rydym eisiau i bobl fod yn ymwybodol iawn o gyfraniad y Gymraeg, i fod yn bositif ynglŷn â’r Gymraeg, ac, ie, dysgu pobl a dysgu’n plant ni yn iawn i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.

Fel y dywedais, rydym wedi bod yma o’r blaen efo 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac efo cryn dipyn o waith ac arddeliad ac ymrwymiad ac arweinyddiaeth gan y Llywodraeth yma, a gwaith caled gan bawb arall, a neb i fod yn llai na hyderus yn defnyddio eu Cymraeg yn gyhoeddus, ac yn mynnu fel siaradwyr Cymraeg ein bod ni’n defnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg—nid ydym wastad eisiau, ar sail diffyg hyder, ac rydym yn mynnu defnyddio’r gwasanaeth Saesneg—. Mae fyny i ni i gyd. Rydym yn edrych am yr arweinyddiaeth, rydym yn edrych fel ein bod ni’n ei gael o, ond mae yna waith caled er mwyn inni adennill y tir yna o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn ac rwyf wedi dysgu cryn dipyn o’r areithiau a wnaed ar bob ochr i’r Siambr. Rwy’n falch iawn, ar ran fy mhlaid, o gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Roeddwn yn falch iawn o glywed y nodyn o optimistiaeth gan Dai Lloyd funud yn ôl a’r pwynt a wnaeth am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r iaith Fasgeg a’r Hebraeg a’r ffordd y mae’r sefyllfa wedi cael ei gwrthdroi yn y ddau achos arall hwnnw. Mae’n rhoi llawer iawn o obaith i Gymru hefyd. Rydym yn sicr wedi dod yn bell oddi wrth ‘Frad y Llyfrau Gleision’, pan oedd yn bolisi gan y Llywodraeth ar y pryd i geisio cael gwared ar yr iaith. Heddiw, yn ffodus, mae gennym agwedd hollol wahanol.

Rwy’n synnu, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth wedi ceisio diwygio’r cynnig hwn yn y modd y mae wedi gwneud oherwydd ceir consensws o gwmpas y tŷ y dylem gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru. Rwy’n credu eu bod wedi ymrwymo i ymdrech glodwiw i gael y dyhead hwn am 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwy’n meddwl y dylem gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr tuag at wrthdroi sefyllfa’r iaith. Rwy’n meddwl, ar ffurf y Gweinidog presennol, fel rwyf wedi dweud o’r blaen, nad oes neb yn fwy addas i hybu’r mesur hwn. Felly, nid wyf yn credu bod angen i’r Llywodraeth fod yn amddiffynnol mewn unrhyw ffordd ac nid wyf yn ystyried bod pwynt 2 yn y cynnig yn feirniadol o’r Llywodraeth. Rwy’n meddwl efallai fod Plaid Cymru yn ôl pob tebyg wedi penderfynu yn fwriadol i beidio â chyflwyno nodyn o wrthdaro i’r ddadl hon er mwyn annog y consensws sydd angen i ni i gyd ei ddangos i’r byd y tu allan. Oni bai bod y Llywodraeth eisiau dileu’r datganiad pur o ffaith ym mhwynt 2, yna gallem i gyd gymryd rhan yn y ddadl hon ar nodyn o gytundeb llawn. Felly, mae’n anffodus fod y math hwn o ddadlau pwynt wedi cael ei fabwysiadu. Ond rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno ar yr hyn rydym am ei gyflawni ac felly nid oes unrhyw anghytundeb yno.

Rwy’n credu bod yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd yn ei araith agoriadol heddiw yn iawn. Rydym i gyd yn cydnabod anferthedd y dasg i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gall fod yn fwy o ddyhead na realiti, ar un ystyr, ond rwy’n meddwl os gallwn wneud camau sylweddol tuag at gyflawni hynny, yna byddai hynny ynddo’i hun yn werth ei wneud. Mae’n galw am y newid agwedd a ddisgrifiodd, am hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni i gyd, fel unigolion, wneud ein rhan yn hynny o beth. Rwy’n straffaglu drwy’r llyfrau dysgu ar y funud am na chefais y fantais fawr a gafodd Dai Lloyd ac eraill o dyfu i fyny ar aelwyd Gymraeg—nid oedd y naill na’r llall o fy rhieni yn siarad Cymraeg. Roeddem yn byw yn Sir Fynwy, a oedd yn uniaith Saesneg ar y pryd, hyd nes fy mod yn 11 oed, ac yna symudais i Sir Gaerfyrddin. Roeddwn yn 11 oed cyn i mi gael unrhyw wersi Cymraeg o gwbl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd rhaid i mi ddewis rhwng y Gymraeg a’r Almaeneg a dewisais Almaeneg. Felly, yn ystod fy ngyrfa ysgol, dysgais Ffrangeg ac Almaeneg a Rwsieg, ac fe astudiais Almaeneg a Rwsieg yn y brifysgol yn ogystal, ond yn anffodus ni fanteisiais ar y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg pan gefais ei gynnig. Ond rwy’n falch o ddweud—

Efallai y bydd Mr Trump eisiau fy ngwneud i’n llysgennad ym Moscow fel y mae am wneud Mr Farage yn llysgennad ym Mrwsel. Ond un o’r rhesymau pam rwy’n edrych ymlaen at fod yn y lle hwn yw’r cyfle i wella fy sgiliau Cymraeg. Ond dyna ddigon o hel atgofion ar fy rhan.

Rwy’n cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon hyd yn hyn. Mae’n sicr yn wir mai addysg Gymraeg yw’r brif ffynhonnell o siaradwyr Cymraeg newydd, fel y mae strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ei ddweud. Mae’n hanfodol bwysig caffael y Gymraeg cyn gynted ag y bo modd mewn bywyd ac rwyf wedi darllen y gyfrol fawr hon a gynhyrchwyd gan gomisiwn y Gymraeg ar sefyllfa’r Gymraeg rhwng 2012 a 2015, ac rwy’n meddwl bod ychydig o baragraffau byr ohoni yn werth eu cofnodi er mwyn y ffeithiau y mae’n eu hamlygu.

‘Mae dros 80 y cant o blant 3–4 mlwydd oed yn byw mewn cartrefi lle mae dau oedolyn yn gallu siarad Cymraeg hefyd yn gallu siarad Cymraeg eu hunain, ond pump y cant yn unig o blant 3–4 mlwydd oed yng Nghymru sy’n byw mewn aelwydydd o’r fath.’

Felly, mae honno’n ffaith sy’n gefndir i’n holl drafodaethau heddiw.

‘Mae 80 y cant o bobl a ddysgodd y Gymraeg gartref yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Ond yn yr ysgol mae plant a phobl ifanc yn dueddol o ddysgu’r Gymraeg heddiw, ac nid yw cyfraddau rhuglder ymysg y bobl hynny’r un mor uchel ag ydyw ymysg y rheini wnaeth ddysgu’r Gymraeg ar yr aelwyd. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn defnyddio’r Gymraeg lawer amlach na’r rheini nad ydynt yn rhugl, felly y mae arwyddocâd sylweddol i’r shifft o’r cartref i’r ysgol fel y brif ffynhonnell o siaradwyr Cymraeg.’

Yna, os edrychwn ar y ffigurau ar gyfer pan fydd plant wedi dysgu siarad Cymraeg, sydd hefyd yn ddiddorol iawn ac yn addysgiadol hefyd.

‘Dywed hanner y bobl hynny a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgol feithrin yn bennaf eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl. O’r bobl hynny a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgol gynradd yn bennaf, tua chwarter ohonynt a fedrai siarad Cymraeg yn rhugl ac mae llai nag un ym mhob pum person a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgol uwchradd yn bennaf yn eu hystyried eu hunain yn rhugl.’

Felly, mae hynny’n profi bod dysgu Cymraeg o’r cychwyn cyntaf o fewn y system addysg i blant nad ydynt wedi dysgu’r iaith yn y cartref yn hanfodol wrth ystyried mai’r ysgol yw prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd heddiw. Felly, mae’n hanfodol bwysig, felly, y dylem gyflwyno’r Gymraeg i feddyliau plant cyn gynted â phosibl.

Ond rwy’n credu ei bod yn iawn i ni gydnabod—

A gaf fi ddweud bod eich hel atgofion wedi golygu bod eich amser ar ben bellach, felly a wnewch chi ddod â’ch cyfraniad i ben?

Gwnaf. Roeddwn eisiau cydnabod y cynnydd sylweddol yn y cyllid y mae’r Llywodraeth wedi ei gyflwyno, i fyny o £16 miliwn yn 2013-14 i bron £30 miliwn y flwyddyn nesaf. Rwy’n credu y dylem, fel Cynulliad, ganmol y Llywodraeth am hynny ac rwy’n meddwl y dylem i gyd, felly, fod yn weddol optimistaidd ynglŷn â’r dyfodol.

Nid oeddwn i’n gallu siarad gair o Gymraeg tan roeddwn i’n 32 oed, a dechreuais i ddysgu Cymraeg pan oeddwn i’n athro achos, yn fy ysgol, nid oedd digon o athrawon Cymraeg ar gael i ddysgu plant ar gyfer arolwg Estyn. Es i i’r brifysgol yn Llanbed a gwnes i gwrs Wlpan dros ddau fis, a dysgais i Gymraeg o fewn wythnos ar ôl gorffen y cwrs. Fel athro ieithoedd, yn arbennig y Gymraeg, mae profiad gyda fi o’r heriau sydd yn wynebu pobl a hoffai ddysgu Cymraeg, ond nid oes digon o athrawon sydd yn gallu’r Gymraeg ar gael er mwyn gwneud hyn yn realiti. Mae angen gwell cynllunio ar gyfer y gweithlu addysg i sicrhau bod digon o athrawon sydd yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen cynllun i annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â’r gweithlu addysg, a chynllun er mwyn denu athrawon sy’n siarad Cymraeg sy’n gweithio mewn gwledydd eraill i ddod yn ôl i Gymru.

Mewn rhai ysgolion, nid oes digon o amser, chwaith, yn y cwricwlwm. Weithiau, pan oeddwn i’n athro, dim ond hanner awr yr wythnos oedd gan athro i ddysgu Cymraeg i’r plant. Sut mae disgwyl i blant ddysgu unrhyw iaith heb yr amser priodol?

Fe soniodd Dai yn gynharach am yr angen i gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg i oedolion. Yn rhy aml, nid oes digon o gyrsiau, neu mae cyrsiau yn rhy gostus, sydd yn atal pobl rhag cymryd rhan.

We often hear of the expense of the Welsh language, and most people appreciate the cultural value, but I’d like to talk about the economic benefits, because the Welsh language makes money for Wales. It recycles money in the country and it’s a key to economic development and strengthening the economy. ‘Ein iaith’—our language—it’s important to say, is a unique selling point. It gives us a competitive advantage over other places in the UK and is an attraction for foreign investors. In 2014, that’s what the Welsh Government task group found and it’s my personal experience in showing investors around Wales also.

I do want to say that there are some people in Wales who suffer almost from a perverse schizophrenia in that they see themselves as Welsh, yet they seem to hate Welsh things: if we look at people who want to denigrate the Eisteddfod, for example, with a journalist last year sowing division. The Welsh Rugby Union have massive lessons to learn from the Football Association of Wales about how to be proud of our language and unique culture, a ‘diolch o galon’ to the boys out in France in the summer. Further afield, we have BBC Radio 5 Live asking people to comment on whether they thought cultural genocide was acceptable, in whether the Welsh language should exist or not. If we are equal as nations in the UK, why isn’t Welsh taught right across every country? I think there’s a real danger now that minority cultures will be overwhelmed by a very aggressive, one-size-fits-all, narrow UK nationalism. What angers me is the way that certain kinds of politicians use differences like ethnicity and language to single out minorities.

I’m glad to see some Labour heads nodding in agreement in the Chamber, and I thank you. I’d ask them to have a serious word, therefore, with their Minister for finance, who supported the ‘chwarae teg for English medium’ campaign in my council ward in Fairwater in 2010, 2011 and 2012. The whole thrust of the campaign was that Welsh-medium schools get everything, and that’s shameful. I ask you to make sure nothing like that happens again, because it’s wrong.

What I’m really proud of now is that in Cardiff and Wales a lot of things have changed. Many in the lost generation—that’s my generation—were not allowed to learn Welsh, and we make sure that our children go to Welsh-medium schools. Unfortunately, despite the warm words and cosy consensus here, when in local government Labour denies Welsh-medium places to parents—parents like Kyle Jones—[Interruption.] Please don’t tut; listen. Parents like Kyle Jones in Ely, who wasn’t able this year to send his children to Welsh-medium education. He was unable to choose—unable to choose, in Wales’s capital city. I remember, in 2013, when Labour took over the council and cancelled the building of the Welsh school in Grangetown, and I remember the right to simultaneous translation being withdrawn by that council across the road, until I refused to speak English in the chamber.

Out there, in the twenty-first century, there is nowhere near—nowhere hear—as much prejudice against the Welsh language as there used to be. [Interruption.]

Mae’r Aelod yn dod â’i gyfraniad i ben a bydd yn cael ei glywed mewn distawrwydd.

Yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, mae’r mwyafrif yn croesawu dwyieithrwydd. A dywedaf wrthych, pan fyddwn yn cipio grym yn y cyngor hwnnw y flwyddyn nesaf, byddwn yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael dewis. Yr ugeinfed ganrif oedd pan oedd yr iaith yn cael ei defnyddio i rannu pobl; yr unfed ganrif ar hugain fydd y ganrif pan fydd yr iaith Gymraeg yn uno pobl, ac mewn byd fel sydd gennym heddiw, mae hynny’n bwysig tu hwnt. Diolch yn fawr.

Rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Member
Alun Davies 19:11:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth yma. Roeddwn i’n gwrando ar gyfraniadau o bob rhan o’r Siambr, ac roeddwn i wedi ysgrifennu ar fy nodiadau yn fan hyn i ddiolch i Blaid Cymru am y ffordd roedd Llyr wedi agor y drafodaeth, ac roeddwn i wedi ysgrifennu hefyd i ddiolch am y ‘sens’ o gonsensws sydd ym mhob rhan o’r Siambr. [Chwerthin.] So, o leiaf rydw i’n gallu cael fy nghyhuddo o fod yn dipyn bach o optimist, ambell waith. A gaf i ddweud hyn? Achos rydw i yn credu, pan fyddem ni’n trafod yr iaith a’n diwylliant ni, bod hi’n bwysig ein bod ni’n chwilio am gonsensws ac nid yn chwilio am y pethau sy’n ein rhannu ni, ac rydw i’n gwybod bod llefarydd Plaid Cymru yn cytuno â hynny. Rydw i hefyd yn cydnabod y tôn o ran y ffordd roedd Llyr wedi agor y drafodaeth yma, a hefyd yr her. Dechreuodd e ei gyfraniad gyda her i mi a’r Llywodraeth, ac mi wnaeth e bennu ei gyfraniad gyda’r un her. ‘A ydych chi o ddifrif?’ oedd y cwestiwn a ofynnodd. Ac a gaf i ddweud hyn? Mi ydw i o ddifrif ac mi ydym ni fel Llywodraeth o ddifrif. Rydym ni yn mynd i ddangos hynny nid jest trwy eiriau wrth gloi trafodaeth fan hyn, yn y Cynulliad, ond hefyd o ran sut rydym ni’n gweithredu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Mi wnaethom ni osod targed o 1 miliwn o siaradwyr, a phan fyddem ni’n sôn am siaradwyr, rŷm ni’n sôn am bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg, nid jest yn siarad Cymraeg pan fo angen ambell waith. Mi wyt ti, Mike, yn un o’r 1 miliwn yma, ac roeddwn i’n croesawu pob un o’r sylwadau a wnest ti yn ystod dy gyfraniad di, a hefyd y cyfraniadau positif amboutu sut ydym ni’n symud yr agenda ymlaen. Rydw i’n credu bod hynny’n beth pwysig, ac mae’n rhywbeth rydym ni’n mynd i’w wneud. So, rydym ni’n cydnabod yr her sydd yn ein hwynebu ni—rydym ni’n cydnabod yr her sy’n ein hwynebu ni ac rydym ni’n gwybod lle rydym ni heddiw. Nid ydym ni’n mynd i gwato o’r gwir neu osgoi wynebu’r realiti o ran lle’r ydym ni. Nid ydym ni’n mynd i wneud hynny. Ond nid ydym ni’n mynd i ailadrodd yr un fath o drafodaeth ag yr ydym ni wedi ei chael. Rydym ni’n mynd i weithredu. A dyna pam rydym ni’n cymryd amser i drafod â phobl ar draws ein gwlad ar hyn o bryd, ac mi fyddwn ni, pan fyddem ni’n dod i gyhoeddi’r strategaeth yn y gwanwyn, yn cyhoeddi strategaeth fydd yn glir, bydd gyda thargedau, targedau clir, ar gyfer y gweithgareddau rydym ni’n mynd i’w gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf, a thargedau clir amboutu sut rydym ni’n mynd i gyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym ni’n cydnabod bod yna her, fel y mae Suzy Davies wedi ei ddweud, ac eraill, o’r blynyddoedd cynnar i’r sector ôl-16. Mae’n rhaid i ni gymryd camau bwriadus i gynyddu’r ddarpariaeth os ydym ni am weld y weledigaeth. Mae pob un o’r siaradwyr y prynhawn yma wedi sôn amboutu pwysigrwydd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn cydnabod bod yn rhaid cryfhau y prosesau cynllunio strategol ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant, sydd yn hollbwysig os ydym ni yn mynd i lwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg gan awdurdodau lleol y mis nesaf. Mae Sian Gwenllian wedi pwysleisio pwysigrwydd hyn, ac rydym yn cydnabod hynny ac rydym yn cytuno â chi bod yn rhaid i’r cynlluniau yma fod o ddifri, bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gryf a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn uchelgeisiol. Os nad ydyn nhw yn uchelgeisiol, ac os nad ydyn nhw yn ein helpu ni i gyrraedd y targed, fyddwn ni ddim yn eu derbyn nhw. Rydym yn glir am hynny. Rydym yn siarad ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i osod targedau a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd y nod.

Rydym hefyd eisiau gweld twf mewn addysg Gymraeg, a sicrhau bod yna weithlu digonol gennym ni i’n galluogi ni i wneud hynny. Roeddwn yn croesawu’n fawr iawn geiriau Suzy Davies pan roedd hi’n sôn amboutu pwysigrwydd hyfforddiant cychwynnol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac hefyd mwy o athrawon sy’n gallu manteisio ar y cynllun sabothol i ddatblygu sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod hynny yn digwydd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni gynyddu hynny ac rydym yn mynd i wneud hynny. Rydym hefyd eisiau gweld mwy o ddysgwyr mewn addysg bellach ac mewn addysg uwch yn gallu parhau eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, neu yn y ddwy iaith, ac mi fyddwn ni yn datblygu cyfleoedd i wneud hynny. Mae pob un Aelod yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet Kirsty Williams wedi sefydlu gweithgor i adolygu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn ystyried a ddylai rôl y Coleg ymestyn i’r sector ôl-16. Mae’r gweithgor wedi cael ei sefydlu, ac mi fydd y gweithgor yn adrodd nôl i’r Ysgrifennydd Cabinet yr haf nesaf. Mi fyddwn ni wedyn yn ystyried sut rydym ni’n gallu symud hynny ymlaen. Nid wyf eisiau rhagdybio casgliadau’r grŵp, ond rwy’n sicr bod yn rhaid i ni gymryd y gwaith yna o ddifri a bod yn rhaid i ni symud yn glou iawn unwaith rydym yn derbyn eu hadroddiad nhw.

A gaf i ddweud hyn? Rydym yn cydnabod ei fod yn siomedig nad ydym wedi cyrraedd ein holl dargedau erbyn hyn, ond hefyd mae gennym ni ffocws clir ein bod ni’n mynd i symud at osod targedau a fydd yn gallu bod yn rhan o strategaeth ehangach, ac a fydd yn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y targed o 1 miliwn siaradwyr erbyn 2050. Rydym yn mynd i wneud hynny yn ystod y misoedd nesaf, ac mi fydd yna dargedau clir yn cael eu cyhoeddi yn ystod y gwanwyn nesaf.

Rydym yn derbyn yr ail welliant ynglŷn â phwysigrwydd gwella’r modd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu ac yn cael ei defnyddio mewn gweithleoedd. Rwy’n cydnabod y geiriau mae Dai Lloyd wedi eu defnyddio amboutu pwysigrwydd hyn, ac mi fyddwn ni yn gwneud pob dim rydym yn gallu i sicrhau bod cyrff sy’n darparu gwasanaethau, a busnesau, yn gallu gwneud hynny yn y Gymraeg hefyd.

Rydym yn meddwl bod yna gytundeb a chonsensws rownd y Siambr—nid consensws cosy ond consensws clir, a chonsensws sy’n seiliedig ar weledigaeth; gweledigaeth o le ein hiaith ni a’n diwylliant ni yn nyfodol ein gwlad ni. Rwy’n cytuno gyda Dai Lloyd pan oedd yn sôn am ailadfer y Gymraeg a sicrhau bod yna le i’r Gymraeg ym mhob rhan o’n cymunedau ni, lle bynnag rydym ni’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mi fyddwn ni yn arwain y consensws yma. Mi fyddwn ni yn sicrhau bod y consensws yn gonsensws cryf sy’n seiliedig ar wreiddiau cryf, ac mi fyddwn ni’n sicrhau bod y consensws yma yn arwain gweledigaeth gref a gweledigaeth glir ar gyfer yr iaith Gymraeg a dyfodol yr iaith Gymraeg.

A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Mi fyddwn ninnau fel plaid hefyd yn cefnogi yr ail welliant. Fyddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant cyntaf—dyna ddiwedd ar y consensws yn syth—am union yr un rhesymau ag esboniodd Suzy Davies, a dweud y gwir. Nid ydym yn anghydweld â’r hyn sydd yn y gwelliant, ond, wrth gwrs, mi fyddai fe yn dileu yr ail bwynt yn y cynnig, ac nid wyf yn meddwl bod angen gwneud hynny.

Fe’n hatgoffwyd ni ein bod ni’n sôn am greu rhyw 15,000 o siaradwyr Cymraeg newydd bob blwyddyn i gyrraedd y nod yna—dyna i chi 1,000 o dimau rygbi bob blwyddyn, gyda pholisi gwell na pholisi iaith Undeb Rygbi Cymru, gobeithio. Ond mae yn mynd i gymryd gweledigaeth, targedau, rhaglenni a strategaethau—wrth gwrs ei fod—ac mae’r Gweinidog ei hun wedi cydnabod efallai fod y cynlluniau strategaeth addysg Gymraeg, sy’n amserol nawr, wrth gwrs, oherwydd bod yr ymgynghori’n digwydd ar hyn o bryd—. Ac mae yn galonogol i glywed neges glir fan hyn y prynhawn yma na fydd y Llywodraeth yn derbyn strategaethau sydd ddim yn gwneud cyfraniad digon helaeth i’r nod o wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

A gaf i ddiolch i Mike Hedges, a’i longyfarch e a Neil McEvoy am gyfrannu i’r drafodaeth yn y Gymraeg hefyd? Ond rwyf yn ofni bod Mike efallai wedi gadael y gath mas o’r cwd drwy ofyn y cwestiwn a ydym ni’n sôn am filiwn o siaradwyr ar draws y byd i gyd fan hyn, neu a ydym ni’n sôn am filiwn o siaradwyr yng Nghymru yn benodol. Wel, os cyrhaeddwn ni filiwn o siaradwyr ar draws y byd i gyd, mi fydd hynny’n gam positif ymlaen yn sicr, ac mi awn ni hyd yn oed ymhellach os gallwn ni, efallai, gydag amser, ond un cam ar y tro. Ac rwyf yn meddwl bod y pwynt wnaeth Neil McEvoy ynglŷn â chynllunio’r gweithlu yn un cwbl, cwbl allweddol, ac hefyd y cyfraniad economaidd y mae’r iaith Gymraeg yn ei wneud. Rwy’n gwybod am gwmni datblygu rhaglenni cyfrifiadurol sydd wedi ennill cytundebau ar draws y byd am yr union reswm eu bod nhw wedi datblygu meddalwedd sy’n gallu gweithredu’n ddwyieithog oherwydd bod e’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru, ac felly mae hynny’n gallu cael ei drosglwyddo i rannau eraill o’r byd, lle byddai datblygu meddalwedd a oedd yn gweithredu dim ond mewn un iaith yn golygu na fydden nhw wedi ennill rhai o’r cytundebau yna. Felly, mae yna enghreifftiau allan yna, ac mae angen i ni hyrwyddo’r rheini, oherwydd mae’r ddadl economaidd yn un bwysig a chanolog iawn i’r drafodaeth yma hefyd.

Rwy’n falch i glywed y Gweinidog yn dweud ei fod e o ddifri, a bod y Llywodraeth o ddifri—yr un mor ddifri, rwy’n siŵr, ag yr ydym ni fan hyn—i weld y nod yma yn cael ei gyrraedd. Trwy eu gweithredoedd y’i bernir hwy, felly, yn amlwg, byddwn ni fel gwrthblaid, a gwrthbleidiau, rwy’n siŵr, yn cadw llygad barcud ar ddynesiad y Llywodraeth, a sut y mae’r maes yma yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Ond, fel y dywedais i ar y cychwyn, byddwn ni yn disgwyl—ac yn wir, mae maint yr her bellach yn mynnu—bod y modd y mae’r Llywodraeth yma yn gweithredu yn benderfynol ac yn ddewr, ac os gwnewch chi hynny, rwy’n siŵr y bydd mwy na miliwn o bobl yn dod gyda chi ar y daith yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 8. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly, rydym yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais.

Mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau y bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 45, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6122.

Y bleidlais nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 12, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6132.

Galwaf nawr ar bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 35, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6132.

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6132.

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 3 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6132.

Gwelliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, wyth yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 0, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6132.

Cynnig NDM6132 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch.

3. Yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi’i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill.

5. Yn nodi gwaith sefydliadau fel ‘65 Degrees North’, sy’n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o’r fath.

6. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys:

a) gwaith amhrisiadwy Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog;

b) datblygu’r llyfryn Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a’u teuluoedd ynghylch cael eu hadleoli i Gymru;

c) gwell cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a’u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog a’u teuluoedd;

d) Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog sy’n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder, ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth;

e) y gwaith sy’n parhau i ddatblygu’r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob blwyddyn, nofio am ddim a’r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017.

Galwaf am bleidlais ar y cynnig yma. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6132 fel y’i diwygiwyd: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6132 fel y’i diwygiwyd.

Pleidlais nawr ar ddadl Plaid Cymru. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 32, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6134.

Rwy’n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, wyth yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 10, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6134.

Gwelliant 2. Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6134.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6134 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn cydnabod bod cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn ganolog i bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.

Open the vote. Close the vote. In favour 46, no abstentions, none against. The motion as amended is therefore agreed.

Derbyniwyd cynnig NDM6134 fel y’i diwygiwyd: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6134 fel y’i diwygiwyd.

11. 9. Dadl Fer: Colli Darpariaeth Ymchwil y Galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl fer, sydd wedi cael ei gohirio. Daw hynny â’n trafodion am heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:27.