Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/10/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Jenny Rathbone.

Metro De Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid sydd ei angen ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0222(FM)

Amcangyfrifwyd y bydd prosiect cam 2 y metro yn £734 miliwn a bydd y gost derfynol yn cael ei nodi yn ystod trafodaethau caffael. Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfatebol o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yr ydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU ei warantu.

O ystyried ei bod yn ymddangos bod hyd yn oed Alun Cairns yn frwdfrydig am fetro de Cymru erbyn hyn, ac wedi cydnabod ei bwysigrwydd strategol o ran darparu swyddi a thwf ar gyfer holl ardal y de-ddwyrain, a ydych chi’n hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi i ni’r arian sydd ei angen arnom i sicrhau y gallwn gyflawni'r prosiect hwn yn brydlon, ac i’r ansawdd gofynnol?

O ystyried brwdfrydedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru tuag at y metro, byddwn yn disgwyl iddo allu dangos digon o ddylanwad ymhlith ei gydweithwyr yn San Steffan i ddarparu’r cyllid gwerth £125 miliwn y byddwn yn ei golli o ganlyniad i golli cyllid Ewropeaidd.

Un peth yw brwdfrydedd, ond os nad yw’r cyllid llawn ar gyfer metro de Cymru wedi'i warantu, wedi’i warantu’n bendant, beth yw’r cynllun wrth gefn?

Wel, yn syml iawn, ni fydd y metro yn gallu cael ei ddatblygu ar yr un cyflymder, a chyda'r un uchelgais ag a fyddai’n wir fel arall. Bydd metro o hyd, ond yn amlwg, os oes £125 miliwn yn llai o arian ar gael, yna bydd cyrhaeddiad y metro, a chyflymder ei ehangiad yn llai. Ond o ystyried y ffaith ein bod wedi clywed gan y rhai sy'n dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddai pob ceiniog o arian Ewropeaidd yn cael ei gwarantu, rydym ni’n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei wireddu.

Brif Weinidog, tybed a allech chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU yn benodol, yn uniongyrchol â nhw, ynghylch y prosiect wrth symud ymlaen.

Fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith wrthyn nhw, rydym ni’n disgwyl i'r arian fod ar gael. Os collir yr arian trwy golli cyllid Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, ceir cyswllt rheolaidd iawn, iawn o ran sut y byddwn ni’n symud ymlaen, yn enwedig o gofio bod cymaint o’r ysgogiadau sy’n ofynnol i ddarparu’r metro heb eu datganoli. Felly, ceir llawer iawn o gyswllt swyddog i swyddog sy'n digwydd yn rheolaidd.

Cwestiwn syml, Brif Weinidog: pryd fydd y cam adeiladu yn cychwyn mewn gwirionedd?

Wel, wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym ni’n mynd drwy'r broses ymgeisio, a gorau po leiaf a ddywedir am hynny, o ystyried y ffaith fod yn rhaid iddo fynd trwy broses briodol. Unwaith y bydd y broses ymgeisio honno wedi ei chwblhau, yna rydym ni’n disgwyl gweld cam 2 yn dechrau. Mae llawer ohono’n dibynnu, wrth gwrs, ar y fasnachfraint o ran masnachfraint Cymru a'r gororau, ond cyn gynted â phosibl ar ôl i'r broses ymgeisio gael ei chwblhau.

Rhaglen Ddeddfwriaethol y Pumed Cynulliad

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0215(FM)

Gwnaf. Cyhoeddais raglen ddeddfwriaethol flynyddol gyntaf y pumed Cynulliad hwn ar 28 Mehefin.

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Tybed pryd allech chi ddisgwyl gweld prif hanfodion polisi unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei phasio yn ystod y pumed Cynulliad yn cael eu gweithredu. Faint o amser ydych chi’n credu fyddai rhwng Cydsyniad Brenhinol i bolisi, trwy statud, a chael ei weithredu a’i ddarparu ar lawr gwlad? Y cefndir i hyn, wrth gwrs, yw'r ddadl awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan roddwyd cryn sylw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd gyda Chydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2014, ac eto rydym ni’n dal i ddisgwyl am ganlyniadau polisi o hynny. Felly, mater o chwilfrydedd yw hwn. Diolch.

Mae llawer ohono’n dibynnu ar y ddeddfwriaeth ei hun. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod y Gweinidog wedi cytuno y bydd swyddogion yn cyfarfod â'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i drafod Bil drafft y gymdeithas. Trefnwyd y cyfarfod hwnnw ar gyfer 14 Tachwedd. Rwy’n hyderus, fodd bynnag, bod yr ysgogiadau deddfwriaethol a pholisi gennym ni i barhau i wella bywydau pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr, wrth gwrs. Bydd cynllun gweithredu diwygiedig ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig yn cael ei gyhoeddi fis nesaf. Bydd hwnnw’n cael ei ategu gan gynllun cyflawni â chanlyniadau mesuradwy. Ac rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar y cynllun gweithredu drafft, sy'n rhoi sylw i flaenoriaethau ar gyfer rhanddeiliaid. Felly, ydy, mae’r ddeddfwriaeth honno yn dal i symud ymlaen, ond serch hynny, fel y dywedwyd yr wythnos diwethaf, byddwn yn monitro'r sefyllfa, byddwn yn gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a byddwn yn cadw'r drws yn agored i ddeddfwriaeth os bydd angen hynny.

Brif Weinidog, ar 28 Mehefin, dim ond newydd benderfynu gadael yr UE oedd y wlad. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y gallai fod goblygiadau deddfwriaethol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i ystyried y goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol yr ydych chi’n ei chyflwyno, yn seiliedig ar y ffaith y gallem ni weld llawer mwy o ddeddfwriaeth yn dod o Frwsel o ganlyniad i’r ymadawiad hwnnw?

Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, wrth gwrs, archwilio beth fyddai'r sefyllfa mewn gwirionedd, o ystyried y ffaith ein bod ni’n disgwyl am ddyfarniad y Goruchaf Lys, o bosibl, o ran y defnydd o'r uchelfraint frenhinol, a'r effaith y byddai honno'n ei chael, o bosibl, ar ddiddymu cyfraith statud, rhywbeth nad yw’r uchelfraint wedi'i chynllunio i’w wneud. Tan y byddwn ni’n gweld canlyniad y broses honno, a chanlyniad y broses dros y ddwy flynedd nesaf, mae'n anodd, ar hyn o bryd, gwybod pa effaith fydd ar eitemau unigol o ddeddfwriaeth sy’n cael eu pasio gan y Cynulliad. Wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni’n disgwyl fydd yn digwydd yw y bydd y cyfle yn codi ar ryw adeg i gynnig cyfle i’r Cynlluniad benderfynu a ddylai gael ei rwymo i gyfraith yr UE yn y dyfodol, oherwydd, ar hyn o bryd wrth gwrs, ni allwn basio unrhyw ddeddfwriaeth sy’n gwrthdaro neu’n anghydnaws â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, bydd hynny'n newid yn y dyfodol.

Wrth lansio eich rhaglen ddeddfwriaethol, Brif Weinidog, roeddech chi’n sôn am ddau ddarn o ddeddfwriaeth a oedd yn fater o drafodaeth rhwng ein dwy blaid ninnau, sef y darn ar Ddeddf awtistiaeth, sydd eisoes wedi cael ei chrybwyll, a Deddf arall, yn ymwneud â diddymu’r amddiffyniad o gosb rhesymol, fel y mae’n cael ei alw, ar gyfer cosbi plant. A fedrwch chi gadarnhau, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, eich bod chi’n dal, fel Prif Weinidog, am gyflwyno deddfwriaeth yn y ddau faes yma?

Ynlgŷn â’r ail eitem fanna, wrth gwrs mae hwn yn rhywbeth rydym ni eisiau symud ymlaen ag ef, ar sylfaen drawsbleidiol—mae’n rhaid i fi ddweud hynny, ond rydw i wedi dweud hyn o’r blaen. Ynglŷn â’r sefyllfa o ran awtistiaeth, a gaf i ddweud wrtho fe beth wnaeth y ddwy blaid ei gytuno yn ôl ym mis Mehefin? Ac fe ddywedaf i e yn Saesneg, achos yn Saesneg y cafodd e ei gytuno:

agree we work together, through the liaison committee, to consider how best to deliver separate legislation on autism. In due course, to place the autism spectrum disorder strategic action plan on a statutory footing. This work will need to take into account the impact of the new all-age autism service, refreshed autistic spectrum disorder strategic action plan, and the implementation of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.

Felly, cadarnhau beth ddywedais i, a chadarnhau beth sydd wedi cael ei gytuno rhwng y ddwy blaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rwy’n galw yn awr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau i’r Prif Weinidog, ac, yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch, Lywydd. Fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, Cymru sydd â'r nifer isaf o feddygon teulu fesul pob 1,000 o gleifion mewn unrhyw ran o'r DU—a'r nifer oedd 0.6 o feddygon teulu i bob 1,000 yn 2014. Bydd yn gwybod hefyd nad yw lleoedd hyfforddi yn cael eu llenwi ar hyn o bryd, bod nifer gynyddol o feddygon teulu yn ymddeol yn gynnar, a bod argyfwng cynyddol o ran recriwtio a chadw staff. A all ef ddweud wrth y Cynulliad pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth, gydag amserlen bendant, i hyfforddi cyfran fwy o feddygon y DU yng Nghymru?

Wel, nid yw'n realistig meddwl y byddwn ni’n gallu hyfforddi pob meddyg sy'n ymarfer yng Nghymru. Meddygon a hyfforddwyd mewn mannau eraill yn yr UE yw pump y cant o'n staff meddygol; mae nifer sylweddol yn feddygon a hyfforddwyd yn rhywle arall. Mae hynny'n wir am bob gwasanaeth iechyd, ym mhobman yn y byd datblygedig. Wedi dweud hynny, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n hyfforddi mwy o feddygon—mae cymaint â hynny’n wir. Nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud, bod argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu; mae heriau, mae hynny'n gywir, ond nid yw’r heriau hynny wedi’u cyfyngu i Gymru. Gofynnodd beth yr ydym ni’n ei wneud am y peth. Ar 20 Hydref, byddwn, wrth gwrs, yn lansio ein hymgyrch recriwtio meddygon teulu er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n denu mwy o fyfyrwyr ac, yn wir, ymarferwyr i Gymru.

Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Fel y bydd yn gwybod, er 2004, mae canran cyllid y GIG yng Nghymru a wariwyd ar feddygon teulu wedi gostwng o fwy na 10 y cant i ychydig dros 7.5 y cant. Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfraddau ymgynghori wedi cynyddu mwy nag 20 y cant, felly mae meddygon teulu o dan fwy o bwysau yn eu gwaith beunyddiol. A yw'n cytuno â mi mai’r model contractwyr annibynnol ar gyfer meddygon teulu yw'r un sy'n cynnig y gwerth gorau am arian i'r GIG yn gyffredinol? Ac a yw'n sylweddoli, ar gyfer pob hanner awr o gyswllt y mae meddygon teulu yn ei gael â chleifion, bod ganddyn nhw hanner awr arall mewn gwaith sy'n canolbwyntio ar y claf, a hanner awr arall eto ar ben hynny ar gyfer gweinyddu, a, phe byddent yn gwneud hynny fel unigolion cyflogedig—wedi’u cyflogi gan fyrddau iechyd lleol—byddai’n debygol y byddem yn cael llai o werth o bob ceiniog yr ydym ni’n ei gwario?

Wel, ceir dau bwynt yn y fan yna. Yn gyntaf oll, mae mwy o feddygon teulu nawr nag yr oedd ddegawd yn ôl—mae'n werth pwysleisio hynny. A, hefyd, dylem fod yn wyliadwrus o gyfeirio pobl yn gyson neu wthio pobl i gyfeiriad meddygon teulu yn gyson. Ein nod, trwy ein hymgyrch Dewis Doeth, yw cynghori pobl, ar gyfer llawer o gyflyrau, y dylen nhw fynd at fferyllydd yn gyntaf, nyrs practis yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn syth at feddyg teulu, yn ddiofyn, a chynyddu llwyth gwaith y meddyg teulu hwnnw. Mater i feddygon teulu yw’r ffordd y maen nhw’n trefnu eu hunain. Mae'n wir, fodd bynnag, bod mwy a mwy o feddygon teulu sydd newydd gymhwyso nad ydynt yn cael eu denu gan y model contractwr annibynnol. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y dewis o ba un a ydyn nhw eisiau bod yn feddygon teulu cyflogedig neu’n gontractwyr annibynnol. Mater i'r proffesiwn yw sut y mae'n trefnu ei hun, ond nid wyf i o'r farn mai’r model contractwr annibynnol o reidrwydd yw’r unig fodel y gellir ei ddilyn yn y dyfodol. Bydd y model yn amrywio yn ôl dymuniadau’r rhai sy'n darparu'r gwasanaeth.

Rwy’n cytuno â rhywfaint o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ond hoffwn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan holwyr eraill heddiw o ran y Bil awtistiaeth. A yw'n deall y dicter eang ac, yn wir, annealltwriaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol bod ACau Llafur wedi cael eu chwipio yr wythnos diwethaf i bleidleisio yn erbyn y cynnig ar gyfer Bil awtistiaeth, nad oedd yn gynnig deddfwriaethol ynddo'i hun mewn gwirionedd, ond yn fynegiant o farn y Cynulliad hwn ar fater sy'n mynd at galon dioddefaint degau a degau o filoedd o bobl yng Nghymru?

Gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi gan aelodau o'r cyhoedd yn Hwlffordd ddydd Iau, ac rwy’n deall eu safbwynt. Rwy’n deall y pwysau mawr y mae awtistiaeth yn ei roi ar deuluoedd. Rwyf wedi ymdrin ag awtistiaeth trwy waith achos dros lawer iawn o flynyddoedd ac wedi gweld rhai achosion anodd iawn yn wir. Yr hyn a ofynnais iddyn nhw, fodd bynnag, oedd beth fyddai cyfraith yn ei gyflawni iddyn nhw, ac nid oeddent yn eglur ynghylch hynny. Efallai ei fod yn gwestiwn annheg i’w ofyn i aelodau o'r cyhoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni’n gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol er mwyn nodi gyda nhw pa agweddau ar y Bil drafft y gellir eu cyflwyno mewn ffyrdd eraill. Pam aros blynyddoedd am Fil os oes ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaeth gwell nawr. O'n safbwynt ni, deddf yw'r hyn sydd ei angen pan ddangoswyd nad yw pob dull arall o gyflwyno gwasanaeth yn effeithiol. Felly, bydd y Gweinidog yn gweithio gyda'r gymdeithas er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni gyflawni'r hyn a allwn gyda'r hyn sydd gennym ni eisoes a hefyd archwilio a oes angen deddfwriaeth yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Mae pedwar o gynigwyr wedi mynegi diddordeb mewn rhedeg masnachfraint Cymru a'r gororau a'r system fetro gysylltiedig. Un maes y mae angen craffu arno ymhellach yw'r map masnachfraint neu’r llwybrau gwirioneddol a fydd yn cael eu gweithredu. Rydym ni’n gwybod bod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU eisiau cael gwared ar lwybrau penodol o'r fasnachfraint ac yn arbennig y llwybrau hynny sy'n gwasanaethu cyrchfannau yn Lloegr. Mae eich Ysgrifennydd y Cabinet chi wedi nodi bod Llywodraeth y DU eisiau i’r map aros yr un fath mwy neu lai. A yw'r pedwar cynigydd yn gwybod pa lwybrau y maen nhw’n gwneud cais amdanynt ac a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y bydd teithwyr ledled Cymru yn cael gweld y map masnachfraint nesaf?

Mae nifer o faterion sy'n codi o ganlyniad i’r fasnachfraint. Yn gyntaf oll, ar hyn yn bryd, mae Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn cael ei hatal rhag rhedeg masnachfraint a chael y fasnachfraint honno wedi ei rhedeg gan gorff cyhoeddus neu asiantaeth gyhoeddus am resymau nad ydynt yn ddealladwy yn rhesymegol, ond dyna mae'r Bil Cymru presennol yn ei ddweud mewn gwirionedd. Rydym ni wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU yn dweud os yw'n iawn i’r Alban, yna mae hefyd yn iawn i Gymru. Cyn belled ag y mae’r fasnachfraint yn y cwestiwn o ran y cyrchfannau, ein barn ni yw y dylai'r map masnachfraint aros fel ag y mae. Fel arall, wrth gwrs, ni fydd unrhyw wasanaeth rhwng Merthyr Tudful a rheilffordd dyffryn Conwy sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru neu drwy fasnachfraint Cymru. Bydd pob gwasanaeth ar hyd prif reilffordd y gogledd yn cael ei redeg o Loegr, ond ni fyddai rheilffordd Dyffryn Conwy. Bydd rheilffordd canolbarth Cymru—rheilffordd Calon Cymru—a rheilffordd arfordir y Cambrian i gyd yn cael eu rhedeg y tu allan i fasnachfraint Cymru. Mae honno'n sefyllfa hurt, i fod yn blaen, ac yn rhywbeth yr ydym ni’n parhau i’w ddweud wrth Lywodraeth y DU yn yr union eiriau hynny.

Mae adnewyddu’r fasnachfraint yn rhoi cyfle i ni roi sylw i'r mater o gapasiti, ac mae problem sylweddol gyda chapasiti ar reilffyrdd y Cymoedd. Fel y byddwch yn gwybod, mae cymudwyr yn wynebu problemau gorlenwi ac oedi bob dydd. Mae amlder yn broblem hefyd. Ar reilffordd Treherbert, er enghraifft—un yr wyf yn arbennig o gyfarwydd â hi—dim ond dau bwynt pasio sydd ar y rheilffordd honno, ac mae angen i ni fynd o reilffordd sengl i reilffordd ddeuol. Caiff rheilffordd Treherbert ei chrybwyll yn y gyllideb heddiw. A allwch chi ddweud mwy am y rheilffordd honno ac, yn benodol, a allwch chi ddweud wrthym pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld cynllun ar gyfer ailddeuoli rheilffordd Treherbert os gwelwch yn dda?

Yn gyntaf oll, mae'n hollol iawn ein bod ni eisiau gweld gwell amlder gan y gwasanaethau, gwell ansawdd o gerbydau ar holl reilffyrdd y Cymoedd—nid oes yr un o’r meini prawf hynny yn cael eu bodloni ar hyn o bryd—a signalau priodol, wrth gwrs, ar y rheilffyrdd i wneud yn siŵr y gall mwy o drenau redeg ar hyd y rheilffyrdd hynny a mwy o ddolenni pasio o bosib. Mae'r cwestiwn ynghylch pa un a ddylai'r rheilffordd gyfan gael ei hailddeuoli ac a fyddai hynny’n ychwanegu unrhyw beth y tu hwnt i welliannau llai na hynny yn gwestiwn agored. Yr un peth y gallaf ei ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru yw ein bod ni’n gwbl ymrwymedig, drwy'r system fetro, i ddarparu amlder gwell a threnau gwell i bobl y Rhondda Fawr ar holl reilffyrdd y Cymoedd.

Rwy’n croesawu'r datganiad yna, Brif Weinidog, oherwydd pan ddyfarnwyd y fasnachfraint ddiwethaf, nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer twf i nifer y teithwyr, ac nid oedd unrhyw gapasiti o fewn y fasnachfraint honno i gynyddu'r stoc cerbydau. Felly, tybed a allech chi esbonio i ni sut y byddwch chi’n sicrhau bod y pwynt hwnnw yn cael sylw yn y fasnachfraint nesaf. Mae pobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd hynny wedi cael llond bol ar deithio ar gerbydau ail law degawdau oed. Ceir trenau rhagorol pan fyddwch chi’n teithio mewn mannau eraill. Ydych chi'n meddwl bod teithwyr trên yng Nghymru yn haeddu'r gwasanaeth y mae'n rhaid i ni ei ddioddef ar hyn o bryd?

Nac ydw, dylai fod yn llawer gwell. Rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau o amgylch Heol y Frenhines a'r pwyntiau mynediad i mewn i orsaf Heol y Frenhines, ond rwy’n gwybod yn iawn bod ansawdd y trenau’n wael. Nid oes aerdymheru arnynt, nid ydyn nhw’n drenau braf i deithio arnynt, nid yw’r amlder yn dda, nid yw’r capasiti’n dda, ac yn aml mae’n rhaid i bobl ddioddef gorlenwi i'r graddau lle mae’n rhaid i rai trenau basio trwy rai gorsafoedd er mwyn osgoi’r gorlenwi. Bydd y rhain yn cael sylw o ganlyniad i'r trafodaethau masnachfraint. Bydd y fasnachfraint yn trosglwyddo yn ystod yr hydref y flwyddyn nesaf, ond rydym ni’n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr bod capasiti gwell, trenau gwell ac amlder gwell ar holl wasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Mae'n rhan annatod ​​o'r metro i wneud yn siŵr bod pobl yn mwynhau gwasanaeth llawer gwell nag y maen nhw’n ei fwynhau ar hyn o bryd.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y gost ychwanegol y gallai eich polisi gofal plant ei gostio yn y pen draw o bosibl i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y Cynulliad pum mlynedd—diffyg posibl o tua £120 miliwn dros yr hyn a gostiwyd gennych ar gyfer eich maniffesto. A ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, ac os ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, sut ydych chi’n gwneud y paratoadau i allu bodloni’r galw cynyddol hwnnw? Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gofal plant yn rhan bwysig o'r cydbwysedd y mae llawer o deuluoedd yn ei wynebu o ddydd i ddydd.

Roedd rhai rhagdybiaethau yn yr adroddiad hwnnw ynghylch sut y byddem ni’n gweithredu'r polisi gofal plant, ond roedd y ffigurau a gyhoeddwyd gennym yn seiliedig ar ddarparu gofal plant i’r rhai a oedd yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy, ac roeddent yn ffigurau a ddarparwyd i ni gan arolwg annibynnol, ac nid gennym ni ein hunain—gan gorff annibynnol.

Rwy’n cymryd o’ch ateb eich bod yn derbyn bod potensial ar gyfer y gorwariant enfawr hwn, yn enwedig os bydd y cynllun, gobeithio, yn llwyddiant ysgubol, er tegwch, Brif Weinidog, oherwydd fel y dywedais, cydnabuwyd gan bob plaid bod gofal plant yn fater enfawr wrth fynd i mewn i'r etholiad. Eich cynnig chi yw’r cynnig a fydd yn cael ei weithredu gan mai chi sydd mewn Llywodraeth, a cheir y gorwariant posibl hwn o £110 miliwn. Nid yw hynny'n arian mân o ran y cyllid sydd gennych chi ar gael fel Llywodraeth. Pa baratoadau ydych chi'n eu gwneud i sicrhau bod adnoddau ar gael fel y gall y cynllun gael ei weithredu ac y gellir gwireddu ei gapasiti a’i botensial llawn ar ddiwedd y Cynulliad hwn?

Nid ydym yn derbyn bod y ffigurau hynny’n gywir. Rydym ni’n hyderus yn y ffigurau sydd gennym ni; credwn eu bod yn gadarn. Roedden nhw’n ffigurau a roddwyd i ni o ganlyniad i'r gwaith a gomisiynwyd gennym, ac rydym ni’n credu bod y ffigurau hynny’n gywir o ran yr arian y bydd ei angen i weithredu'r polisi.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Felly, rydych chi yn derbyn, felly, nad yw'r ffigurau hynny’n gywir ac mai eich ffigurau chi o £90 miliwn yw costau’r cynllun hwnnw. Ond, os edrychwch chi ar eich ymrwymiadau ehangach yn ystod pum mis cyntaf y Cynulliad hwn, mae gennych chi’r gefnogaeth i’r llwybr du, sef y dewis lliniaru drytaf ar gyfer yr M4, mae gennych chi’r premiwm disgyblion a gytunwyd gyda'r Ysgrifennydd addysg, ac mae gennych chi’r potensial o orwariant yn eich polisi gofal plant. Rydym ni’n gwybod o'r adroddiad yr wythnos diwethaf bod diffyg yn datblygu yng nghyllid y GIG a allai ddod i gyfanswm o £700 miliwn. Er tegwch i chi, pan oeddech chi’n ymgyrchu, dywedasoch y byddai’n rhaid cael toriad ar gyfer pob ymrwymiad. Ble fydd y toriadau’n digwydd yn eich rhaglen i gyflawni'r ymrwymiadau hynny yr wyf i newydd eu hamlinellu?

Bydd hynny'n dod yn amlwg yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddrafft. O ran ffordd liniaru'r M4, bydd honno, wrth gwrs, yn cael ei hariannu trwy fenthyg ac nid trwy ein cyllidebau cyfalaf ein hunain. Rydym ni’n fwy na bodlon ar y ffigurau a ddarparwyd gennym yn ôl ym mis Mai ac y byddant yn ein helpu i gyflawni'r addewidion maniffesto a wnaethom. Yn wir, dyna'n union yr hyn a wnaethom yn 2011—fe wnaethom gadw ein haddewidion bryd hynny a byddwn yn cadw’r addewidion hynny yn 2016.

Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd buddsoddi mewn twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0216(FM)

Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau o ran cefnogi'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys cyllid cyfalaf a datblygu, ynghyd â gweithgareddau marchnata a hyrwyddo.

Diolch. Roeddwn i mewn cyfarfod Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint ddydd Gwener, lle’r oedd nifer o bobl, yn trafod gwerth yr economi ymwelwyr i’r gogledd-ddwyrain. Rwy’n croesawu ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru a chynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet i greu coridor diwylliant ar draws yr A55, sy'n cynnwys arwyddion newydd i nodi ein hasedau treftadaeth a thwristiaeth anhygoel yn y rhanbarth. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â gwerth hyn, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr arwyddion gwell?

Ydw. Gallaf ddweud bod Croeso Cymru wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer llwybrau twristiaeth newydd ledled Cymru, gan gynnwys prosiect i wneud mwy i hyrwyddo atyniadau diwylliant a threftadaeth ar hyd yr A55, er mwyn, wrth gwrs, i bobl dreulio mwy o amser yn yr ardal honno. Ceir llawer ohonom ni yn y Siambr hon a fydd wedi clywed gan bobl sydd wedi dweud, 'Ydw, rwyf wedi teithio ar hyd yr A55 ar y ffordd i Iwerddon', ond nad ydynt wedi stopio. Rydym ni angen i fwy o'r bobl hynny stopio ac, wrth gwrs, mwy o bobl i wneud y gogledd yn gyrchfan iddynt yn y lle cyntaf.

Mae cynrychiolwyr y sector twristiaeth yn Sir y Fflint a ledled y gogledd wedi dweud wrthyf fod angen i Lywodraeth Cymru ymateb i'r £40 miliwn a ddarparwyd gan Visit England ar gyfer marchnata twristiaeth yno, ac i gydnabod sut y mae'n bwriadu rhoi sylw i’r gronfa yno sydd eisoes yn cael ei dosbarthu. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'w pryder bod angen i Gymru fod yn ymwybodol o'r adnoddau cynyddol yn agos at ein ffin, fel Caer, Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Bryste a Chaerfaddon, sydd â’r potensial i annog pobl i aros yn Lloegr ac arallgyfeirio ymwelwyr o Loegr a thramor o Gymru?

Rydym ni’n ymwybodol o hynny, ond wrth gwrs, mae ein hystadegau twristiaeth yn dangos bod mwy o bobl yn ymweld â Chymru. Yn arbennig, mae mwy o bobl yn ymweld â Chymru o dramor. Mae hynny wedi bod yn eithaf sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni’n marchnata Cymru ar sail blynyddoedd thema, ac felly, eleni yw Blwyddyn Antur. Gwyddom fod y sector werth £481 miliwn i economi Cymru, ac wrth gwrs, bydd y gogledd yn chwarae rhan bwysig iawn yng nghynlluniau’r Flwyddyn Antur. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda busnesau er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, er, wrth gwrs, ein bod ni’n cadw llygad ar ein cystadleuwyr, rydym ni’n gwybod, o'r ffigurau sydd gennym ni ar gyfer twristiaeth, bod Cymru wedi llwyddo i ddenu mwy a mwy o ymwelwyr.

Wrth gwrs, un o’r blaenoriaethau nawr yw estyn y tymor twristiaeth fel bod modd cynnig swyddi i bobl gogledd Cymru drwy gydol y flwyddyn. A allwch chi ddweud wrthym ni, efallai, beth mae eich Llywodraeth chi’n ei wneud i geisio cyflawni hynny, a sut y buasech chi’n defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol y gellid eu dyrannu at dwristiaeth i gyflawni hynny?

Mae’n rhaid cael gweithgareddau, wrth gwrs, sydd ar gael trwy’r flwyddyn. Mae Surf Snowdonia yn un enghraifft rŷm ni wedi ei gefnogi; Zip World a Bounce Below—rŷm ni wedi cefnogi’r rheini. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, ei fod yn bwysig dros ben nad yw twristiaeth yn rhywbeth sy’n hollol dymhorol, o achos y ffaith y byddem wedyn yn cyrraedd sefyllfa lle nad yw pobl yn cael cyflog trwy’r flwyddyn. Trwy helpu busnesau a chefnogi busnesau fel hynny, mae’n bosib wedyn i sicrhau bod gweithgareddau ar gael ar draws y flwyddyn er mwyn tynnu pobl i mewn yn y gaeaf a hefyd yr haf.

Brif Weinidog, a allem ni gael ychydig mwy o fanylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu marchnata’r gogledd fel cyrchfan wyliau, os gwelwch yn dda?

Mae gennym ni gynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth. Mae wedi gwneud cynigion o gyllid i 42 o fusnesau yn y gogledd, sy’n gyfanswm o £7.8 miliwn. Mae wedi creu 361 o swyddi a diogelu 113 o rai eraill. Mae gennym ni, hefyd, y rhaglen cyrchfannau denu twristiaid, yn gweithio ar bedwar cynllun busnes ar gyfer y gogledd. Os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wario dros y blynyddoedd—edrychwch ar Fae Colwyn a'r gwaith sydd wedi ei wneud yno, nid yn unig Parc Eirias, ond hefyd glan y môr ym Mae Colwyn; y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn y Rhyl dros y blynyddoedd—dros £30 miliwn i wella glan y môr y Rhyl; mae gennym ni’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol ac mae honno wedi bod werth £280,000 i'r gogledd; a'r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth hefyd. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi dros £1.7 miliwn mewn digwyddiadau mawr. Maen nhw’n cynnwys digwyddiadau fel cystadlaethau triathlon y Slateman a’r Sandman, Gŵyl Ymylol Llangollen, Gŵyl Rhif 6, y Tour of Britain a Rali Cymru Prydain Fawr, i enwi dim ond rhai ohonynt.

Gwasanaeth Gofal Sylfaenol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y galw ar wasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(5)0213(FM)

Rydym wedi gweld cynnydd, wrth gwrs, yn y galw am wasanaethau gofal sylfaenol. Byddaf yn lansio ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol i annog rhagor o ymarferwyr cyffredinol i weithio yng Nghymru. Mae yna £42 miliwn wedi cael ei roi i fyrddau iechyd i gefnogi gweithredu ein cynlluniau.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Roedd nifer ohonom mewn cyfarfod o’r BMA yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn lansio ‘Rhagnodiad brys: Arolwg o feddygaeth teulu yn 2016’. Darlun oedd hynny o’r pwysau anferthol sydd ar feddygon teulu, o gofio bod meddyg teulu’n gweld tua 50 o gleifion bob dydd ar gyfartaledd, a hynny i gyd yn cynnwys problemau cymhleth, dyrys, dwys, achos mae’r problemau syml eisoes wedi cael eu didoli allan y dyddiau yma, a dim ond y problemau dwys sydd ar ôl i’r meddyg teulu gael eu gweld. Ac, wrth gwrs, dim ond y sefyllfaoedd sydd angen meddyg teulu ydy’r rheini. Felly, dyna pam mae’r pwysau’n anferthol—mae yna 50 o gleifion cymhleth sydd ddim ond yn gallu cael eu gweld gan feddyg teulu. Beth allwch chi ei wneud i leihau’r pwysau anferthol yna ar feddygon teulu nawr, y dyddiau yma?

Mae’r BMA, wrth gwrs, yn rhan o’r gwaith rydym ni’n ei wneud. Nid ydyn nhw tu fas i hynny. Wrth gwrs, maen nhw’n cynrychioli eu haelodau, rwy’n deall hynny, ond rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod yna leihad yn y pwysau sydd ar feddygon teulu. Un enghraifft yw’r ‘collaborative’ yn y canolbarth sydd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl yn y canolbarth ac yn ystyried ffyrdd newydd o weithio. Yn y pen draw, wrth gwrs, rydym ni’n moyn gweld mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi yng Nghymru a hefyd yn gweithio yng Nghymru. Dyma pam mae’r ymgyrch yn cael ei lansio mewn dau ddiwrnod.

Mae'n bwysig ein bod ni’n darparu cyfleusterau gofal sylfaenol sy'n addas i'w diben ac sy’n bodloni’r galw. Mae bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf a chyngor RhCT yn cydweithio i ddatblygu canolfan iechyd newydd yn Aberpennar a fydd yn gwneud yn union hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleusterau gofal sylfaenol ledled Cymru?

Gwn fod y bwrdd iechyd wedi sefydlu bwrdd prosiect i ddatblygu cynnig ar gyfer y cyfleuster gofal sylfaenol newydd yn Aberpennar, ac rydym ni’n ceisio gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i ddarparu’r mathau hynny o gyfleusterau. Rwyf wedi eu gweld nhw’n cael eu hagor ar draws Cymru gyfan—cyfleusterau modern lle gall practisau gadw eu hunaniaeth o fewn yr adeiladau hynny, ond, serch hynny, cael mynediad at wasanaethau cymorth a chyfleusterau modern. Byddwn yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a chyda byrddau iechyd i gyflwyno canolfannau iechyd mwy cyfredol, modern yn y dyfodol.

Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn cyflwyno galw am wasanaethau gofal sylfaenol sydd eisoes o dan bwysau. Mae pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o alw ar ofal sylfaenol ac, yn ôl pob tebyg, gofal ailalluogi, na'r boblogaeth gyffredinol. Nid yw gofal cymdeithasol yn ymwneud â'r meddyg teulu yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac rwy’n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth ymyrraeth anfeddygol i gynorthwyo hyder a lles emosiynol pobl mewn gofal cymdeithasol, a sut yr ydych chi’n mesur wedyn y gostyngiad i’r galw am wasanaethau gofal sylfaenol, yn enwedig gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael gwasanaethau cymorth i bobl pan fyddant y tu allan i'r ysbyty. Mae hynny'n golygu sicrhau nad ydym ni’n torri gwariant yn y gwasanaethau cymdeithasol, fel sydd wedi digwydd, wrth gwrs, dros y ffin. Yng Nghymru, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 7 y cant yn uwch y pen nag ydyw yn Lloegr, oherwydd ni allwch chi wahanu’r ddau. Ni allwch chi ysbeilio cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn talu am iechyd; mae’r ddau yn mynd law yn llaw. Dyna pam yr ydym ni wedi diogelu cyllidebau yng Nghymru ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.

Brif Weinidog, mae gan Gymru boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio sy'n rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fel y gall y rhai hynny ohonom a lofnododd y presgripsiwn brys ar gyfer ymarfer cyffredinol dystio, mae pwysau llwyth gwaith ar feddygon teulu yn tanseilio diogelwch gofal cleifion. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cais Cymdeithas Feddygol Prydain i fyrddau iechyd lleol roi terfyn ar yr arfer o fynnu bod meddygon teulu yn cynnal profion wedi’u trefnu mewn rhannau eraill o'r GIG ac i gyflwyno safon genedlaethol ar gyfer isafswm cleifion y gellir disgwyl i feddyg teulu ymdrin â nhw yn ystod diwrnod gwaith?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod ei bod fel rheol yn wir, pan fo Meddygon Teulu yn cynnal profion ar ran rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, eu bod yn cael eu talu am wneud hynny. Nid ydynt yn ei wneud am ddim, ac, o ganlyniad i hynny, nid yw'n wir, felly, eu bod yn canfod nad yw eu hamser yn cael ei ddigolledu yn hynny o beth. Mae’n rhaid i mi ddweud, er enghraifft, yn ogystal â’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, eleni, ein bod ni wedi gweld dros 400 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio ledled Cymru, gan gynnwys fferyllwyr clinigol, ffisiotherapyddion a chydgysylltwyr gofal, ac maen nhw’n helpu ac yn cefnogi meddygon teulu yn rhan o ddull amlbroffesiwn o dan arweiniad meddygon teulu. Pan edrychwn ni ar Brestatyn, er enghraifft, rydym ni’n gweld enghraifft wych yno o wasanaeth sydd wedi gwella’n fawr i bobl, a gymerwyd drosodd gan y bwrdd iechyd, lle mae nifer o ymarferwyr ar gael i bobl a gellir eu cyfeirio at yr ymarferwr iawn pan fyddant yn cyrraedd y safle. Mae hwnnw'n fodel da y mae angen i ni ymchwilio iddo ar gyfer gweddill Cymru.

Grantiau Prawf Modd

5. Beth fydd y gost o roi grantiau prawf modd i fyfyrwyr sydd newydd gymhwyso o gartrefi sy'n ennill rhwng £50,020 ac £81,000? OAQ(5)0219(FM)

Mae'r Aelod braidd yn gynnar, oherwydd, wrth gwrs, nid yw'r Llywodraeth wedi rhoi ymateb llawn i adolygiad Diamond eto. Mae’r ymateb hwnnw’n cael ei ystyried a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Os yw meddwl y Llywodraeth yn dal i fod yn agored ar y mater hwn, a wnaiff y Prif Weinidog nodi bod cyfranogiad prifysgolion ar y lefel incwm hon eisoes yn uchel? Bydd Mark Drakeford yn nodi yn ddiweddarach y pwysau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu a, dim ond wrth ymateb i gyd-aelodau o fy mhlaid yn gynharach, dywedasoch nad oeddech yn gallu hyd yn oed amcangyfrif dyddiad cychwyn ar gyfer adeiladu ar y metro, a chlywsoch fod gennym ni’r nifer isaf o feddygon teulu o blith holl wledydd a rhanbarthau’r DU. Yng ngoleuni hynny, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried a yw darparu grantiau prawf modd i'r grŵp hwn yn gymaint o flaenoriaeth â hynny?

Nid wyf yn siŵr bod meddygon teulu a'r metro yn gysylltiedig, ond o ran y metro, mae hynny oherwydd, wrth gwrs, na fydd y fasnachfraint yn cael ei throsglwyddo tan hydref y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n anodd rhoi dyddiad cychwyn ar gyfer cam 2. Mae cam 1 y metro wedi cychwyn eisoes, wrth gwrs. Cychwynnodd hwnnw y llynedd. Mae hyn yn ymwneud â cham 2 a'r ffordd y mae'r fasnachfraint, y cytundeb ar y fasnachfraint, a'r map a fydd yn bwysig o ran penderfynu pryd y bydd cam nesaf y metro yn cychwyn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi’r egwyddorion bras y byddwn yn eu dilyn mewn ymateb i adolygiad Diamond, a byddwn yn ceisio cael yr ateb tecaf i holl fyfyrwyr Cymru.

Wrth gwrs, wrth inni symud o’r model sydd wedi cael ei ddisgrifio yn anghynaladwy presennol i’r model a fydd, mae rhywun yn tybio, yn seiliedig ar Diamond, a allwch chi gadarnhau a ydyw hi’n fwriad gan eich Llywodraeth chi i geisio gwireddu unrhyw arbedion ariannol?

Wel, rŷm ni yn moyn, wrth gwrs, sicrhau bod system mewn lle sydd yn deg, sydd yn defnyddio’r cyllid sydd yna, wrth gwrs, ac sydd yn dilyn yr egwyddorion rŷm ni wedi eu dodi lawr yn barod, sef ein bod ni’n cadw’r egwyddor bod pawb yn rhan o’r system, yn sicrhau bod yna ffordd sydd yn deg a hefyd sydd yn gyson ynglŷn â delio â myfyrwyr, os ydyn nhw’n rhan amser neu’n llawn amser, yn sicrhau bod yna fuddsoddiad gan yr unigolyn ond hefyd gan Lywodraeth, a hefyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mwy o fynediad i addysg uwch. Dyna’r egwyddorion y mae’r Ysgrifennydd wedi datgan lan hyd nawr, a dyna’r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn.

Brif Weinidog, roedd gennych chi gyfle yn y fan yna, mewn ymateb i Llyr Gruffydd, i ailymrwymo eich hun i’r ymrwymiad i chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth glymblaid, sef na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch o ganlyniad i roi unrhyw newidiadau ar waith. A wnewch chi achub ar y cyfle i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, ac a ydych chi’n cydnabod bod yr Athro Diamond ei hun wedi awgrymu y bydd gwerth £48.25 miliwn o arbedion bob blwyddyn os rhoddir yr argymhellion hyn ar waith heddiw? Mae hwnnw’n arbediad sylweddol. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud gyda'r arian ychwanegol hwnnw?

Ein nod fydd buddsoddi yn y sefydliadau, yn y prifysgolion, wrth gwrs. Nid yw'n ddiamod. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn darparu, wrth gwrs. Felly, nid wyf eisiau rhoi'r argraff bod hwn yn arian y byddai prifysgolion yn ei gael heb ddisgwyliad eu bod yn parhau i ddarparu’n well, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod buddsoddiad yn parhau i gynyddu yn ein sefydliadau addysg uwch gan, ar yr un pryd, gynnig bargen deg i fyfyrwyr.

Rhaglen Cyflymu Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau gweithredu pan benderfynir na all cymuned gael ei chysylltu o dan raglen Cyflymu Cymru? OAQ(5)0221(FM)[W]

Pan fydd cymunedau’n holi am argaeledd Cyflymu Cymru, ac mae’n amlwg na fydd BT yn ei ddarparu iddyn nhw, mae’n bosib iddyn nhw wedyn, wrth gwrs, gael eu cynghori i ddilyn dewisiadau eraill trwy’r cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru. Mae Superfast Cymru, er enghraifft, wedi cael ei adeiladu ar sylfaen o helpu cymunedau lle nad oes modd masnachol i’w helpu nhw. Ond mae yna ffyrdd eraill i helpu cymunedau sydd y tu fas i’r ddau gategori hynny.

Diolch am yr ymateb yna. Mae isio dathlu, wrth gwrs, y miloedd o gysylltiadau sydd wedi cael eu gwneud o dan raglen Cyflymu Cymru, ond o dan y straeon positif yna, wrth gwrs, mae yna gymunedau ar hyd a lled Cymru sy’n methu â chael cysylltiad. Fe allaf sôn wrthych chi am ardal Brynsiencyn, lle mae cwmni byd-enwog Halen Môn yn dal yn methu cael band eang cyflym. Fe allaf sôn wrthych chi am Landdona, lle mae 14 o deuluoedd yn desbrad i gael band eang cyflym ac isio talu amdano fo ac yn methu â’i gael. Y broblem ydy eu bod nhw’n methu â chael eglurhad o ran pam eu bod nhw’n methu â chael cysylltiad. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai dadansoddiad o gost yn erbyn budd gael ei gyhoeddi gan Openreach fel bod pobl, yn gyntaf, yn gweld pam fod eu hardal nhw yn rhy ddrud i’w chysylltu, ac, yn ail, fel arf er mwyn chwilio am ffordd amgen i wneud y cysylltiad?

Mae e’n bwysig bod BT yn dweud wrth gymunedau pam nad yw’n bosib i’w cysylltu nhw gyda band eang. Wrth gwrs, nid nod Cyflymu Cymru yw edrych a yw rhywbeth yn fasnachol i’w wneud, ond i sicrhau bod gwasanaeth ar gael. Felly, rwy’n credu bod yna ddyletswydd ar Openreach i ddweud pam ei bod yn ormod o broblem. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mae’n bosib i bobl edrych ar gynlluniau fel Allwedd Band Eang Cymru er mwyn cael arian i’w helpu nhw i gael band eang yn y pen draw. Ond mae’n bwysig dros ben bod rhesymau’n cael eu rhoi gan BT ynglŷn â pham y mae problemau wedi bod lan hyd nawr.

Brif Weinidog, mae mynediad at wasanaeth band eang digonol wedi bod yn fater enfawr hefyd i ni yn sir Benfro. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r camau y cyhoeddodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf i helpu’r cymunedau hynny sydd ddim yn gallu cael eu cysylltu o dan broject Superfast Cymru, ac rwy’n deall y bydd yna weithgareddau ymgysylltu nawr yn digwydd. O dan yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r datblygiadau hyn ac, yn benodol o ran y rhai sy’n byw mewn cymunedau mwy gwledig ac anghysbell, yn sicrhau bod pawb yn gwybod am hyn?

Wel, mae yna adolygiad arall yn mynd i gymryd lle yn ystod yr hydref er mwyn gweld pa fath o lwybr sydd ar gael inni yn gyhoeddus er mwyn helpu rhai o’r cymunedau sydd ddim wedi dod o dan Cyflymu Cymru. Ond maen nhw’n dal yn gallu edrych, wrth gwrs, ar gynlluniau fel Allwedd Band Eang Cymru er mwyn sicrhau bod yna fynediad i fand eang ar gael iddyn nhw os nad ydyn nhw’n dod o dan Cyflymu Cymru.

Brif Weinidog, rydym ni fwy neu lai wedi symud ymlaen ers cychwyn menter Cyflymu Cymru. A dweud y gwir, ceir tri math arall o fand eang neu ffibr-optig, ac rwy’n credu mai band eang hyper-optig yw’r enw arno nawr, sydd 128 gwaith yn gyflymach na'r ceblau cyflym iawn yr ydym ni’n eu gosod ledled Cymru. Mae’r hyn sydd gennym ni yn cyfateb i briffordd pedair lôn yn troi’n lôn wledig droellog. Wrth gwrs, mae gennym ni fand eang yr holl ffordd i fyny at y blychau, ac yna rydym ni’n defnyddio technoleg 128 mlwydd oed i gysylltu'r tai iddo. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: yn gyntaf oll, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod gan safleoedd newydd gysylltiadau ffibr i'r safle? Hefyd, beth allwn ni ei wneud i alluogi tai sydd â band eang hyd at y blwch ar waelod y stryd i gael y ffibr yr holl ffordd i’w cartrefi hefyd, os mai dyna sydd ei angen arnynt?

Wel, mae'n ddiddorol, yn yr ystyr o ba un a allwn ni ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, naill ai drwy'r rheoliadau adeiladu, neu’n fwy tebygol efallai, trwy gytundebau adran 106, osod cysylltiadau â’r dechnoleg ddiweddaraf yn y blychau? Mae e'n iawn: ceir cymysgedd o dechnolegau ar waith o ran system ffôn Prydain, gan y bu’n brin o fuddsoddiad am gymaint o flynyddoedd. Yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud gyda Chyflymu Cymru yw cael y rhan fwyaf o bobl i sefyllfa lle gallant lawrlwytho fideo, lawrlwytho cerddoriaeth a gwrando, a lawrlwytho dogfennau mewn cyfnod rhesymol o amser. Ond mae'n wir i ddweud na fydd y cyflymaf yn y byd, o gofio’r ffaith ein bod ni’n gwybod bod systemau cyflymach mewn mannau eraill. Bydd angen buddsoddi’n sylweddol ynddynt, ond mae'n codi awgrym diddorol, er fy mod i’n meddwl tybed a fyddai gan ddatblygwyr farn wahanol o ran pa un a ddylem ni ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, wedyn, osod y dechnoleg ddiweddar bosibl pan eu bod yn cael caniatâd cynllunio.

Darpariaeth Canolfannau Celfyddydol

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth canolfannau celfyddydol ledled Cymru? OAQ(5)0208(FM)

Gwnaf. Mae Cymru yn elwa ar rwydwaith cynhwysfawr o ganolfannau a lleoliadau celfyddydau sydd i’w gweld ar hyd a lled y wlad.

Yn amlwg, byddwch yn sylweddoli, ledled Cymru, mai un o'r ffyrdd cyntaf y gall pobl gael mynediad at y celfyddydau yw mewn canolfannau celfyddydau ar raddfa fach. Felly, roeddwn i’n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu cau Canolfan Gelfyddydau Pontardawe am un diwrnod yr wythnos—y diwrnod o'r wythnos y mae grwpiau cymunedol yn defnyddio'r ganolfan mewn gwirionedd. Roeddwn i yno’n ddiweddar i wylio 'The Revlon Girl', sy’n sioe yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom ni wedi ei gweld am drychineb Aberfan. Byddwn yn bryderus iawn pe byddai’r ganolfan yn cau ar un diwrnod yr wythnos oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw wasanaethau hanfodol i’w darparu. Ar ôl cau ar un diwrnod, gall fod yn llethr llithrig i gau ar ragor o ddyddiau'r wythnos. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn am sicrwydd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot na fyddant yn gwneud y penderfyniad hwn, ac y byddant yn cadw'r ganolfan ar agor i fusnes?

Mater i’r cyngor yw hwn yn y pen draw, wrth gwrs, ond rwy’n gobeithio y bydd y gyllideb ddrafft yn cynnig lefel o gysur i gynghorau ledled Cymru, fel eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau tebyg i’r un y mae’r Aelod newydd ei ddisgrifio.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich ateb i Bethan Jenkins. A gaf i gydnabod y gwerth y mae Bethan wedi ei neilltuo i’r rhan y mae Canolfan Gelfyddydau Pontardawe yn ei chwarae yn y gymuned? Roeddwn i, fy hun, gyda Bethan yn gwylio 'The Revlon Girl' yno ychydig ddiwrnodau yn ôl. A fyddai hefyd yn cydnabod—[Chwerthin.] Nid ‘gyda’ yn union. [Chwerthin.] A fyddai hefyd yn cydnabod y swyddogaeth ehangach y mae canolfannau celfyddydau yn ei chyflawni, nid yn unig fel mannau adloniant, er mor bwysig yw hynny, ond fel canolfannau cymunedol, sy’n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd, gan wneud cynnig ehangach i blant ysgol o ran addysg a lles cyffredinol? A fyddai'n ymuno â mi i obeithio y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn edrych ar yr holl ystyriaethau hynny pan fyddant yn ystyried cyllid a chefnogaeth ar gyfer y dyfodol?

Byddwn, yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am ddibenion addysgol canolfannau celfyddydau. Ni ddylem anghofio ychwaith bod canolfannau celfyddydau yn darparu cyflogaeth. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn i mewn darlith rymus iawn gan y Dr Mererid Hopwood ar ddiwylliant fel sbardun economaidd, yng Ngogledd Iwerddon o bob man. Roedd yn pwysleisio'n gryf iawn sut y gellir defnyddio’r celfyddydau fel ffordd o ddatblygu economïau lleol hefyd. Felly, ceir nifer o feysydd lle mae canolfannau celfyddydau yn bwysig sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy’n amlwg ar unwaith i aelodau'r cyhoedd.

Brif Weinidog, un ffordd o ddiogelu ein canolfannau celfyddydau cymunedol, wrth gwrs, yw model tebyg i'r un yn Lloegr o Ddeddf Lleoliaeth 2011 er mwyn achub cyfleusterau cymunedol. Roedd saith deg wyth y cant o ymatebwyr i’ch 'Diogelu Asedau Cymunedol' o blaid hawliau o'r fath. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydych chi wedi ariannu swyddog cymorth trosglwyddo cymunedol ar gost o £56,000 i'r trethdalwr. A allwch chi hysbysu’r Siambr heddiw am ganlyniadau ystyrlon y swydd honno, faint o asedau cymunedol sydd wedi eu trosglwyddo o ganlyniad i hynny, a sut yr ydych chi’n bwriadu, fel Prif Weinidog Cymru, bwrw ymlaen â’r math hwnnw o agenda sy'n ein helpu i ddiogelu ein hasedau cymunedol?

Ceir digonedd o enghreifftiau lle mae cymunedau wedi cymryd cyfleusterau drosodd yng Nghymru. Yn gymharol ddiweddar, roeddwn i yn llyfrgell Llansawel, a dweud y gwir, yn etholaeth David Rees, lle mae'r llyfrgell wedi cael ei chymryd drosodd. Ond mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng helpu pobl leol i gymryd eu cyfleusterau drosodd a’u gorfodi i wneud hynny trwy gyfrwng y Ddeddf Lleoliaeth. Mae'n well gennym ni ddefnyddio dull gwirfoddol, ac rydym ni’n gweld enghreifftiau da o hynny'n digwydd ledled Cymru.

Grant Amddifadedd Disgyblion (Islwyn)

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth y mae'r grant amddifadedd disgyblion yn ei wneud i ganlyniadau addysgol yn Islwyn? OAQ(5)0214(FM)

Rydym ni’n gweld bod effaith y grant yn gryf. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr difreintiedig, ac rydym ni’n dechrau torri'r cysylltiad ystyfnig iawn rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos cynnydd pellach i gyfran y dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni pum pwnc TGAU da, gan gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf. Dyma’r perfformiad gorau eto gan ein dysgwyr difreintiedig ac, am yr ail flwyddyn, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion wedi lleihau. Brif Weinidog, mae hyn yn dystiolaeth bellach o ba mor llwyddiannus yw Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthyf felly sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn?

Wel, gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymiad personol cryf iawn i'r grant amddifadedd disgyblion. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi dyblu’r cymorth o £300 i £600 ar gyfer y grant datblygu disgyblion y blynyddoedd cynnar i blant tair a phedair blwydd oed cymwys yn y cyfnod sylfaen, ac mae'n dangos yn eglur ein hymrwymiad hirdymor i dorri'r cylch tlodi rhwng y cenedlaethau.

Y Strategaeth Ddatblygu Economaidd

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sail dystiolaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sail i strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0211(FM)

Rydym ni’n defnyddio tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau i lunio ein dull o ddarparu Cymru decach, fwy ffyniannus a mwy diogel.

Brif Weinidog, gwnaeth yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham waith ymchwil yn ddiweddar i’r hyn sy'n gweithio o ran datblygiad economaidd ledled y byd. Daethant o hyd i gydberthynas gref iawn rhwng lefelau uchel o wariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Yn ogystal â'r manteision economaidd, wrth gwrs, mae addysg yn dda ynddo’i hun ac o fudd i bob agwedd ar fywyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i gynyddu cyllid i’n hysgolion yng Nghymru?

Wel, rydym ni wedi gwneud yn union hynny, wrth gwrs, drwy'r mesurau diogelu yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith ar gyfer ysgolion. Rydym ni’n gweld ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru—rhywbeth nad oedd yn digwydd pan oeddwn i yn yr ysgol yn y 1980au. Nid oedd byth unrhyw beth yn cael ei adeiladu yn yr 1980au; aeth pethau ar chwâl. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o'n myfyrwyr ysgol mewn adeiladau sy'n addas ar eu cyfer. Mae'r Aelod yn llygad ei le: sgiliau a seilwaith yw’r ddau faes sydd bwysicaf i unrhyw economi fodern. Mae'n rhaid i chi fod â’r gallu i symud nwyddau allan ac i symud pobl o amgylch eich economi, ond yr un cwestiwn y mae buddsoddwyr yn ei ofyn i mi bob amser yw: a yw’r sgiliau sydd eu hangen arnom gennych chi er mwyn i ni fod yn llwyddiannus yng Nghymru? Ac, wrth gwrs, yn gynyddol, ‘ydynt’ yw’r ateb i hynny, a byddwn yn parhau i fuddsoddi nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn sgiliau yn gyffredinol i bobl o bob oed, trwy, er enghraifft, ein 100,000 o leoedd y byddwn yn eu creu ar gyfer pob oedran mewn cynlluniau prentisiaeth.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Ardd Fotaneg Cymru? OAQ(5)0218(FM)

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wrthi’n ystyried canfyddiadau’r grŵp gorchwyl a gorffen ar y mater hwn. Bydd yn cyfarfod â chadeirydd a phrif swyddog gweithredol yr ardd tua diwedd yr wythnos i drafod y canfyddiadau.

Mae’r ardd wedi cyflwyno cais i gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu gerddi rhaglywiaeth—‘regency garden’—ar y safle. Mae’n debyg bod y cais wedi bod yn llwyddiannus, a hefyd wedi denu posibiliadau o gyfraniadau preifat ar ben hynny, ond mae hyn, yn ôl y gronfa, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o gefnogaeth y Llywodraeth i’r ardd. Gan ein bod ni’n sôn am filiynau o fuddsoddiad posib i sir Gâr, a allwn ni ddisgwyl ei chymryd yn ganiataol y bydd y cadarnhad yn dod o du’r Llywodraeth?

Bydd yr ardd yn cael £581,000 o refeniw y flwyddyn hon, a £90,000 o arian cyfalaf. Wrth ddweud hynny, mae e’n bwysig bod yr ardd yn dal i ystyried ffyrdd o godi arian mewn ffordd fasnachol. Mae hynny wedi bod yn broblem ers i’r ardd gael ei hagor, lle nid yw’r ardd wedi gallu codi digon o arian ynglŷn â’r gweithredu y maen nhw’n ei wneud yna a’r gweithgareddau sydd ar gael. Ond, rŷm ni’n moyn gweithio gyda’r ardd er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol cynaliadwy i’r ardd, ac i ystyried pob ffordd o ariannu’r ardd yn y dyfodol.

2. Cwestiwn Brys: Masnachfraint Cymru a'r Gororau

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw cwestiwn brys. Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rydw i’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI)

Member
Ken Skates 14:16:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf, mae'r broses gaffael i ddewis partner gweithredol a chyflenwi yn cael ei chyflawni gan Drafnidiaeth Cymru, cwmni eiddo cyflawn, dielw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ac arbenigedd i gyflwyno masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a cham nesaf y prosiect metro.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n siomedig, rwy’n credu, bod datganiad wedi ei wneud i’r cyfryngau yr wythnos diwethaf, nodyn briffio wedi ei roi ar gael i'r cyfryngau hyd yn oed, cyn cyflwyno datganiad yma gerbron yr Aelodau. Dyma un o'r ymarferion caffael mwyaf a welodd Cymru erioed a dylwn ddweud bod llawer iawn o gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i roi sylw i seilwaith trafnidiaeth Cymru, ac ewyllys, rwy’n meddwl, i weithio gyda'n gilydd a bwrw ymlaen â hyn. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn arbennig o siomedig bod y Cynulliad wedi cael ei osgoi yn hyn o beth.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd eich swyddogion wrth y cyfryngau yr wythnos diwethaf am y trefniadau strwythur a llywodraethu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, y broses gaffael, a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer model dielw? A gaf i hefyd ofyn sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoli'r risgiau a amlygwyd yn adolygiad yr archwilydd cyffredinol a'r adolygiad porth o ran caffael ar sail masnachfraint a’r map masnachfraint?

Nodais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach hefyd. A allwch chi amlinellu sut mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â datblygiad y fasnachfraint pan nad yw’r map masnachfraint wedi ei gytuno eto? A allwch chi hefyd gadarnhau pa un a yw Trafnidiaeth Cymru yn ymdrin â’r cyhoedd ai peidio? A gaiff ACau gyfarfod â'r rheolwr gyfarwyddwr? A fyddant yn destun craffu gan Aelodau, a hefyd gan y Pwyllgor Economi a Seilwaith?

Yn olaf, dywedasoch wrth y Siambr yn gynharach y mis hwn eich bod chi eisiau gweld prif swyddfa Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd. Ond mae'n ymddangos eich bod wedi gwrthdroi’r ymrwymiad hwn a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ar y pwynt hwnnw.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am roi cyfle i mi gadarnhau y bydd pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn cael ei leoli yn y Cymoedd. Pan wnes i fy natganiad, a oedd yn gynhwysfawr, yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedais mai fy mwriad oedd sicrhau bod hynny'n digwydd, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw mai dyna fy mwriad o hyd, pan fyddwn wedi nodi safle addas, i bencadlys Trafnidiaeth Cymru gael ei leoli yn y Cymoedd.

Lywydd, cyflwynais fanylion yn ôl ym mis Gorffennaf ar gyfer bwrw ymlaen â masnachfraint Cymru a'r gororau a cham nesaf y metro, ac roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn rhan o'r broses gaffael. O ran yr hyn a ddywedodd fy swyddogion wrth y cyfryngau neu unrhyw un arall, nid oes dim byd newydd yn yr hyn a gyflwynwyd ac eithrio bod y pedwar cynigydd wedi cael eu henwi. Mae Trafnidiaeth Cymru, fel y mae’r Aelod yn gwybod, yn is-gwmni dielw, sy'n eiddo cyflawn i Lywodraeth Cymru a bydd yn gweithredu mewn swyddogaeth gynghori broffesiynol i gynorthwyo ein gwaith o gaffael a darparu’r fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf. Mae'n cyflogi 22 aelod o staff—arbenigwyr, yr wyf yn hyderus y byddant yn gallu mynd i'r afael â phryderon yr adroddiad a nodwyd gan yr Aelod. O ran y map, a godwyd yn gynharach yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan yr Aelod Leanne Wood, rydym ni wedi dod i gytundeb gyda'r Adran Drafnidiaeth ar y map, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau a fydd yn ymestyn i Fryste ac i Lerpwl.

O ran gweithredu gwasanaethau trawsffiniol, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni eisoes wedi sefydlu a chytuno un cytundeb asiantaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ac rydym ni yn y broses o gwblhau cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar ail gytundeb asiantaeth a fydd yn ymwneud â theithio trawsffiniol. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod pryderon gwirioneddol a dilys ar draws y ffin ymhlith llawer o deithwyr sy'n dechrau ac yn gorffen eu teithiau yn Lloegr. Am y rheswm hwnnw, rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod gennym ni’r prosesau cywir ar waith ar gyfer eu cwynion neu, yn wir, i unrhyw un o’u pryderon gael eu mynegi ac i gael sylw priodol. Am y rheswm hwnnw, rwy’n rhagweld y byddaf yn sicrhau bod y fforwm trawsffiniol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn parhau ymhell i'r dyfodol.

Yn naturiol, yn dilyn o hynny, mae yna bryder ar yr ochr hyn i’r ffin am safon gwasanaethau rheilffyrdd hefyd, gan bobl Cymru. Fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes, rydym wedi gweld y pedwar cwmni yma’n bidio am fasnachfraint Cymru a’r gororau ac, yn naturiol, rydych chi, i fod yn deg, wedi ateb cwestiynau ysgrifenedig gennyf i yn y gorffennol ynglŷn â sut yn hollol fydd y rheilffyrdd yma’n cael eu gweithredu o dan y fasnachfraint ac a fydd y rheilffyrdd yn aros yn sylfaenol yr un peth. Beth rydych wedi’i ddweud, ac i ddyfynnu’n uniongyrchol:

‘routes operated under the next Wales and Borders franchise to be broadly unchanged.’

Rwyf wedi gwrando ar yr atebion sydd wedi’u derbyn gerbron eisoes heddiw, ond beth mae ‘broadly unchanged’ yn ei olygu yn y cyd-destun yma? A fydd y rheilffyrdd mwyaf proffidiol yn aros fel rhan o’r fasnachfraint yma? Oni bai am hynny, efallai y byddwn ni’n ffeindio’n hunain mewn sefyllfa braidd yn bisâr pan fyddwn ni’n gallu, o’r Cynulliad yma, rhoi’r hawl i redeg rheilffyrdd Cymru a’r gororau i gwmnïau preifat o unrhyw le yn y byd, gan ariannu eu ‘shareholders’ nhw hefyd mewn gwledydd tramor, â fawr ddim grym ein hunain dros fuddsoddiad yn ein rheilffyrdd ni yma yng Nghymru.

Felly, a allaf i ofyn, yn y dyfodol—rwy’n sylweddoli bod y gwaith ar y fasnachfraint yma yn mynd gerbron—a oes cynlluniau yn y fasnachfraint nesaf i hawlio mwy o fuddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Roeddem ni’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i fuddsoddi mwy yn y rhwydwaith yng Nghymru a’r rhannau hynny o'r rhwydwaith yn Lloegr sy'n cael eu gweithredu yn rhan o'r fasnachfraint bresennol. Yn hanesyddol, nid yw’r rhwydwaith wedi cael ei ariannu'n ddigonol, ac rwy'n credu bod yr ystadegau diweddaraf yn awgrymu mai dim ond 1 y cant o'r gwariant ar y rhwydwaith sydd wedi dod i lwybrau yng Nghymru. Felly, heb os nac oni bai, mae angen cynyddu'r buddsoddiad mewn llwybrau yng Nghymru yn sylweddol. Yn wir, hoffem weld y cyllid hwnnw’n cael ei ddatganoli fel y gallem ni sicrhau bod swm cywir a phriodol o fuddsoddiad ar gael.

Lywydd, rwy’n credu y dylwn i ddweud, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored ac, yn wir, i amddiffyn uniondeb y broses, nad yw'n mynd i fod yn bosibl i mi gyhoeddi unrhyw fanylion penodol, neu bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu’r risg o her gyfreithiol cyn belled ag y mae'r broses gaffael yn y cwestiwn. Fodd bynnag, hoffwn, mewn ymateb i gwestiynau’r Aelod, amlinellu unwaith eto yr hyn a ddywedais ym mis Gorffennaf gyda rhai manylion am y dyddiadau gwirioneddol.

Rydym ni wedi mynd trwy broses yr ymgynghoriad gyda'r cyhoedd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ôl ym mis Gorffennaf ein bod ni wedi derbyn oddeutu 190 o ymatebion gan amrywiaeth eang iawn o randdeiliaid. Hysbysodd yr ymgynghoriad hwnnw gam cychwynnol y trafodaethau gyda darpar gynigwyr. Yr wythnos diwethaf, nodwyd ac enwyd pedwar cynigydd fel rhai sydd â diddordeb mewn cymryd y fasnachfraint nesaf. Erbyn mis Tachwedd eleni, bydd y cynigwyr wedi ymateb i'n cais am atebion pellennig.

Soniodd Leanne Wood yn gynharach am fater penodol o ran ei chysondeb ynghylch teithio ar y rheilffyrdd. Yr hyn fydd yn digwydd nesaf, wrth i’r cynigwyr ddatblygu eu datrysiadau technegol, yw y byddant yn canolbwyntio ar sut i gyflawni ein hamcan allweddol o ddarparu pedwar gwasanaeth yr awr i bob un o'r Cymoedd. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd hyd at fis Tachwedd yw y bydd cyfres o atebion amlinellol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn hynny, byddwn yn agor ymgynghoriad a fydd yn para am oddeutu 12 wythnos. Bydd hwnnw'n cael ei reoli a'i weithredu gan Drafnidiaeth Cymru. Unwaith eto, bydd yn galluogi'r cyhoedd a bydd yn galluogi rhanddeiliaid i gynnig sylwadau ar y fasnachfraint yn y dyfodol. Bydd deialog yn cychwyn gyda'r cynigwyr wedyn yn y flwyddyn newydd—ym mis Ionawr 2017, rydym ni’n rhagweld—a bydd y broses dendro derfynol yn digwydd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y flwyddyn nesaf, ac yna, fel y mae’r Aelodau yn gwybod eisoes, bydd y contract yn cael ei ddyfarnu erbyn diwedd 2017, gyda gweithrediadau’n cychwyn yn 2018.

Gofynnodd yr Aelod UKIP i mi’n gynharach am ddyddiadau ac amserlenni ar gyfer gweithrediad y metro. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei nodi eisoes, mae cam 1 yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd, gyda £13 miliwn o fuddsoddiad yn y rhwydwaith. Rydym ni’n disgwyl i gam 2 ddechrau o 2017 ymlaen, gyda gwaith cynnar yn dechrau ar gam 2 y metro yn 2018, fel bod gwasanaethau metro yn y dinas-ranbarth wedi’u cwblhau ac yn weithredol erbyn 2023.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae UKIP yn croesawu'r ffaith bod pedwar o gynigwyr yn cystadlu am y fasnachfraint rheilffyrdd. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod cystadleuaeth yn iach ac y dylai arwain at y cytundeb gorau posibl i Gymru?

Gall cystadleuaeth fod o gymorth; y broblem gyda'r fasnachfraint bresennol yw, pan ddyfarnwyd y contract, roedd yn seiliedig—fel y mae Aelodau eisoes wedi ei nodi y prynhawn yma—ar ddim twf. Arweiniodd hynny, yn ei dro, at i’r holl gynnydd i deithiau teithwyr a thocynnau teithwyr, yr holl refeniw a gasglwyd ohonynt, gael ei gynhyrchu fel elw i’r gweithredwr. Os edrychwn ni ar y fasnachfraint bresennol a nifer y teithwyr sydd wedi mynd ar deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd, aeth 18 miliwn o deithwyr ar deithiau ar y rhwydwaith yn 2003; erbyn 2013, roedd y nifer wedi cynyddu i 29 miliwn. Nid oes unrhyw bosibilrwydd y gallwn ni fforddio bod yn yr un sefyllfa eto, lle nad ydym yn cynnwys mesurau wrth gefn yn y contract ar gyfer cynnydd mewn capasiti. Dyna pam yr wyf yn credu ei bod yn deg i ddweud, yn ystod y broses o ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach eleni, bod cyfran anferth o'r pryderon a godwyd gyda ni yn ymwneud â chapasiti ac ansawdd y cerbydau. O ran cwestiynau a godwyd yn y Siambr hon o'r blaen—gan Leanne Wood, unwaith eto, a dweud y gwir—o ran ansawdd cerbydau, mae gan bob un o'r pedwar cynigydd rym prynu sylweddol o ran cerbydau newydd, ac felly byddem yn disgwyl i’r prif bryder y mae teithwyr wedi ei fynegi drwy'r ymgynghoriad, ynghylch ansawdd cerbydau, gael sylw llawn yn y fasnachfraint nesaf.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Lywydd. Dim ond eisiau dweud nad oes gennyf ddim newidiadau i'w gwneud i agenda heddiw. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae hefyd wedi cytuno mai’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru fydd yr eitem busnes olaf i gael ei chynnal cyn pleidleisio yfory, ac addaswyd yr agenda yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, arweinydd y tŷ, ar ddefnydd awdurdodau lleol o adrannau 106, ac yn arbennig eu defnydd wrth roi ystyriaeth i ddatblygiadau hunanadeiladu neu ddatblygiadau preswyl bach? Gall adrannau 106 fod yn ddefnyddiol iawn mewn datblygiadau masnachol, gan ddenu arian ar gyfer addysg a chyfleusterau cymunedol eraill, ond does bosib y gallant fod yn arf y gellir ei ddefnyddio i gael arian o ddatblygiadau hunanadeiladu neu ddatblygiadau bach o dri neu bedwar tŷ. Gallai hynny gael effaith andwyol ar adeiladwyr bach, sydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gallu cael effaith economaidd enfawr os bydd yr adeiladwyr hynny yn cael bwrw ymlaen, ond gall defnyddio adran 106 yn y ffordd anghywir, mewn gwirionedd, atal y datblygiadau hynny rhag bwrw ymlaen. Bu achos llys yn ddiweddar a ddedfrydodd o blaid y trefniadau sy'n berthnasol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sydd yn eithrio datblygiadau ar raddfa fach rhag y defnydd o adrannau 106.

Wel, mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig ynglŷn ag adran 106, sydd, yn wir, yn ddarpariaeth bwysig iawn yn y gyfraith gynllunio, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn unol â hynny i egluro'r pwynt hwnnw.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol:

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, a'u gofalwyr.

A gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a sut y mae'n gweithio?

Wel, yn amlwg, mae gweithrediad y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill, erbyn hyn yn destun craffu ac ystyried o ran canlyniadau, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi nodi yn glir fframwaith tair blynedd ar gyfer gwerthuso’r Ddeddf, a byddwn yn adrodd ar hynny fel y bo'n briodol. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig i chi wybod, fel Aelod, bod cyfarfod cyntaf y grŵp rhanddeiliaid wedi dangos bod y broses—. Mae’r grŵp, sydd wedi’i gadeirio gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, eisoes wedi cyfarfod i drafod y cynnydd wrth roi’r Ddeddf ar waith, a bydd y grŵp yn monitro hyn yn agos iawn. Ond, hefyd, mae gan bob rhanbarth fwrdd rhanbarthol ar waith sy'n gyfrifol am yr agenda newid a bwrw ymlaen â chyflawniad y Ddeddf.

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fynegai yr UE o gynnydd cymdeithasol rhanbarthol—astudiaeth a restrodd Cymru yr isaf o blith gwledydd cartref y DU o ran cael gafael ar wybodaeth sylfaenol, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi arwain at bryderon sylweddol ymhlith rhieni yn arbennig, ac mae’n ergyd arall i’w hyder yn ein system addysg. Tybed a hoffai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ymateb i’r astudiaeth benodol honno a rhoi hwb i hyder y bobl yng Nghymru yn ein system addysg.

Ac, yn ail, fel hyrwyddwr rhywogaethau y wiwer goch, roeddwn i’n bryderus iawn o glywed am farwolaeth nifer o wiwerod coch ar Ynys Môn heddiw, o bosibl o ganlyniad i feirws. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi poblogaethau gwiwerod coch mewn rhannau eraill o Gymru ac i fonitro pa mor agored y maen nhw o bosibl i feirysau o'r fath, yn enwedig mewn lleoedd megis Coedwig Clocaenog yn fy etholaeth fy hun? Diolch.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, Darren Millar, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y cyhoeddwyd yr wybodaeth am astudiaeth mynegai yr UE ar gynnydd cymdeithasol rhanbarthol ym mis Chwefror eleni, ac, yn ddiweddar, yr ailgyhoeddwyd yr un wybodaeth ar ffurf tabl cynghrair gan felin drafod. Ers casglu’r data gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau TGAU dros dro wedi eu gwirio. Yn ogystal, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Cynulliad ar y Rhaglen swyddogol o ffigurau Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

O ran eich ail bwynt, ydy, wrth gwrs, mae’r wiwer goch yn ffodus iawn o’ch cael chi yn hyrwyddwr rhywogaethau iddi, ddywedwn i. Ond byddwn i hefyd yn dweud, ar ôl i chi dynnu ein sylw at hyn heddiw, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymchwilio i’r mater ac yn adrodd yn briodol.

Weinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? A gaf i ddatganiad yn gyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig? Cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, cawsom ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar foratoriwm ar ffracio. Byddai'n ddiddorol cael cadarnhad o’r ymrwymiad hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau nad yw ffracio yn opsiwn i unrhyw fuddsoddwr yma yng Nghymru, er mwyn i ni wybod yn glir ble yr ydym ni arni. Mae’r ail ddatganiad yn sgil y gwaith sydd wedi ei wneud gan grwpiau cymunedol yng Nghwm Afan, yn enwedig gweithgarwch Hamdden Cymunedol Cwm Afan, dan arweiniad Brian Gibbons, fy rhagflaenydd. O ganlyniad i'w ymdrechion, bydd pwll nofio Cymer yn agor dydd Sadwrn, a hynny yn sgil gwaith caled pwyllgor o drigolion lleol. A gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i siarad mewn gwirionedd am y cymorth sydd ar gael i grwpiau cymunedol o'r fath wrth sefydlu a chymryd yr awenau o ran cyfleusterau cymunedol a chynnig gwasanaethau cyhoeddus, megis pyllau nofio a chanolfannau hamdden?

Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi rhoi cyfle i ni, unwaith eto, fel Llywodraeth Cymru, i’w gwneud yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu ffracio. Mae'r cyfarwyddiadau hysbysu cynllunio yr ydym wedi eu cyhoeddi yn atal awdurdodau cynllunio lleol rhag rhoi caniatâd i ddatblygiadau nwy anghonfensiynol er mwyn nwyeiddio glo tanddaearol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn polisi cynllunio cenedlaethol cyfredol, gan nodi effeithiau amgylcheddol y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw o ran unrhyw ddatblygiad arfaethedig nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd, cymunedau neu gymdeithas ehangach. Ond, rwy'n credu, hefyd, mae eglurhad y polisi gan y cyn Weinidog, a'r Gweinidog cyfredol bellach, wrth gwrs, o ran cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet-. Cyhoeddwyd hynny ym mis Gorffennaf 2014, ac mae'n tynnu sylw at yr ystyriaethau hyn a’u pwysleisio o’r newydd.

O ran eich ail bwynt, rydym eisoes wedi crybwyll hyn y prynhawn yma mewn ymateb i’r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac, yn amlwg, mae hyn yn enghraifft dda iawn, onid yw, o allu’r gymuned i gydweithio? Mae'n dda clywed y bu Dr Brian Gibbons yn rhan o hynny—cyn Aelod o'r Cynulliad hwn—a bod y pwll nofio yn y Cymer yn mynd i allu cael ei ddefnyddio gan y gymuned leol bellach. Mae ffyrdd y gall llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru gynghori, ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â sicrhau y gwarentir yr ymatebion mwyaf addas, nid yn unig o ran cymorth grant, ond o ran atebolrwydd i lywodraeth leol, i gyrff cyhoeddus eraill.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo ysgol feddygol fwyaf Cymru ers iddi gwympo 20 lle yn ddiweddar yn rhestr y 'Complete University Guide', a'r effaith y gallai hyn ei chael ar ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o hyfforddiant i feddygon yng Nghymru? Hoffwn ofyn hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi datganiad ategol ar y toriadau yn Ysgol Feddygol Caerdydd mewn nifer o feysydd ymchwil arwyddocaol, megis cardioleg, niwroleg, a gofal asgwrn cefn cymhleth, a pha effaith y mae'n rhagweld y bydd y weithred hon yn ei chael ar ein gallu i fagu ein harbenigwyr ni ein hunain yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o allweddol yn amlwg wrth ystyried yr effaith a gaiff cyflyrau megis clefyd y galon ar iechyd y cyhoedd yn y wlad hon.

Wel, wrth gwrs, mae’r arian a'r cymorth a roddwn i Ysgol Feddygol Caerdydd, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn amlwg yn cyflawni canlyniadau, ac wedi ei chefnogi yn dda gan Lywodraeth Cymru. Gwn y bu ymweliad â'r ysgol feddygol yn ddiweddar, a chredaf i hyn fod yn ddiddorol iawn, o ran y trafodaethau â'r rhai sy'n gyfrifol am yr ysgol feddygol. Ond, wrth gwrs, mae addysg feddygol ar frig y rhestr, nid yn unig o ran ein hymrwymiadau a’n blaenoriaethau, ond hefyd ein huchelgeisiau, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu gofal iechyd priodol yng Nghymru.

Yn ystod y penwythnos, roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â sylfaenydd Recovery Mummy, sy’n sefydliad a sefydlwyd i ymgyrchu dros a chefnogi merched sy'n dioddef o iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill. Roedd hi’n drafodaeth emosiynol dros ben ac anodd dros ben. Rwy'n credu ei bod hi’n ddigon anodd bod yn rhiant newydd a gofalu am faban am y tro cyntaf, yn ogystal â gorfod delio â phroblemau iechyd meddwl. Felly, tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i nodi'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu menywod yn y sefyllfa hon.

Wel, mae Julie Morgan yn dwyn i’n sylw ddatblygiad newydd pwysig iawn. Rydych chi’n disgrifio mam o Gaerdydd sy’n mynd ati i weithredu ar hyn, gan gynnig cefnogaeth i fenywod sy'n dioddef o iselder ôl-enedigol, seicosis amenedigol, a materion iechyd meddwl eraill. Yn wir, gwn y rhoddwyd sylw i hyn yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ar ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’— cydnabyddiaeth o anghenion iechyd meddwl mewn cysylltiad â materion amenedigol a’r pwynt hollbwysig hwnnw i’r fam a'r baban. Felly, credaf fod y gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd a sefydlwyd y llynedd ledled Cymru yn datblygu'n dda, wrth i staff arbenigol newydd gael eu recriwtio, wedi’u cefnogi gan £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd. Ond mae’r enghraifft hon, yn fy marn i, yn dangos faint y mae'n rhaid i ni wrando ar y rhai sydd angen y gwasanaethau hynny ac yn eu defnyddio; faint y dylem ni wrando arnynt a’u cefnogi yn y ffordd honno.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru, yn dilyn yr adroddiad o'r un enw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a lansiwyd heddiw. Mae hyn yn dweud, ac mae yn llygad ei le:

‘Mae diogelwch cymunedol yn ymwneud ag ymdeimlad pobl o ddiogelwch personol a pha mor ddiogel y maent yn ei deimlo mewn cysylltiad â’r lle y maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser rhydd ynddo.’

Ond mae'n mynd ymlaen i ddweud:

‘Nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth unigol ar gyfer diogelwch cymunedol ac mae wedi canolbwyntio ei gweithgareddau ar gyflenwi’r Rhaglen Lywodraethu. Er bod gan bob awdurdod lleol a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu gynlluniau, nid ydynt wedi’u halinio’n gyson i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a’r effaith fwyaf bosibl, ac nid yw’r flaenoriaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol yr un peth mewn unrhyw faes. Mae cynllunio datgymalog a chydgysylltu gwael yn esgor ar y perygl y bydd sefydliadau naill ai’n dyblygu gweithgarwch, neu’r perygl na fydd yr un ohonynt yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf.’

Ac maent yn argymell eich bod chi, gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau lleol, yn

‘gwella gwaith strategol â phartneriaid drwy fynd ati’n ffurfiol i greu byrddau diogelwch cymunedol effeithiol’

yn lle'r mecanwaith presennol. Mae hyn yn amlwg yn bwysig. Rhoddwyd, yn gywir, sylw helaeth iddo heddiw ac mae'n galw am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r Cynulliad hwn cyn i ni glywed ymateb manylach o’r tu allan.

Yn ail, ar thema yr ydym wedi clywed llawer amdani heddiw, galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynigion, wrth i ni edrych i’r dyfodol, ar gyfer deddfwriaeth awtistiaeth. Rwyf wedi clywed, ers y bleidlais yr wythnos diwethaf, adroddiadau trallodus am bobl sydd wedi hunan-niweidio. Mae llythyr i’r Senedd gan yr Autistic Women’s Empowerment Project, sy'n dweud:

Yr wythnos hon gwnaeth y Cynulliad, adeilad gwydr hardd, lluniaidd, bleidleisio yn erbyn Deddf Awtistiaeth i Gymru. 24 i 27. Mor agos. Cyn lleied o feddyliau i’w newid i newid fy myd, ond newid, ni wnaethant. Pam, pam y byddai angen y fath beth arnom ni? Deddf unswydd ar gyfer awtistiaeth? Deddf awtistiaeth? Deddfu awtistiaeth? Oherwydd fi. Oherwydd pobl fel fi. Oherwydd fy nghymuned awtistig, fy mhobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Oherwydd ei bod yn bwysig.

Mae hi'n dod i'r casgliad:

Cymru, rwy’n dy garu di. Rwy’n dotio arnat ti. Dy bobl, dy wyrddni, dy fynyddoedd, dy gymoedd. Ti yn unig a ŵyr am fy hiraeth pan nad ydw i yma. Rwyt ti’n wald o bant a bryn rhagorach na’r un man arall. Nid oes unman cynhesach na mwy caredig. Ond rwyt ti wedi fy siomi i. Rwyt ti’n fy siomi i bob dydd. Ac mae dy angen di arnom ni.

Wel, clywsom yn gynharach gan y Prif Weinidog fod y cytundeb â Phlaid Cymru yn cynnwys sylfaen statudol ar gyfer y newidiadau deddfwriaethol a gweithdrefnol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu. Dywedodd y Gweinidog, nad oedd y bobl y siaradodd â nhw yn y gymuned awtistiaeth yn gwybod beth fyddai deddfwriaeth yn ei wneud, ond nid dyna beth y mae’r nifer llethol o bobl yn y gogledd, y de a'r canolbarth wedi dweud wrthym ers blynyddoedd, ac mor ddiweddar â nos Wener ddiwethaf yn Wrecsam, mor ddiweddar â dydd Sul diwethaf yn Nhowyn a Bae Cinmel. Gwyddom beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Gwyddom y dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn monitro gweithrediad ei strategaeth ar ei newydd wedd a’i chynllun a’i deddfwriaeth genedlaethol, ond mae angen sicrwydd ar bobl ar y sbectrwm awtistiaeth. Felly, pryd y byddwch chi’n cynnal yr adolygiadau cychwynnol? Sut y byddwch chi’n adrodd ar hynny, a sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth honno a’r sail statudol honno yn cael eu dwyn ymlaen ar y cyfle cynharaf posibl?

O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, mae diogelwch cymunedol yng Nghymru yn hollbwysig, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bo'n briodol am y trefniadau presennol o ran Cymunedau Diogelach, sydd, wrth gwrs, wedi gwneud gwaith da o ran partneriaethau lleol. Clywsoch yn helaeth gan y Prif Weinidog y prynhawn yma am ein dull a'n hymrwymiad, ac yn wir y ffyrdd yr ydym yn—. Yn wir, clywsoch chi hefyd gan y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am y ffordd y mae'n gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, gan weithio mewn gwirionedd â dyddiad arall wedi ei drefnu i edrych ar eu cynigion ac i edrych ar ble yr ydym yn cyflawni o ran ystod o wasanaethau i gefnogi pobl, teuluoedd, plant a phobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth. Rwyf i’n credu, unwaith eto, y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i, unwaith eto, yn darllen detholiad o ddatganiad y Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 28 Mehefin. Yn wir, yr oedd hynny mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd i'r Prif Weinidog gan Simon Thomas, a dywedodd:

‘I ddechrau gydag awtistiaeth, mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y pwyllgor cydweithio’—

clywsom am hynny y prynhawn yma—

‘ynglŷn â gweld ym mha ffordd y gallwn ni ddatblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn enwedig a oes yna fodd i sicrhau bod y cynllun gweithredol yn cael ei gryfhau trwy ddod yn statudol yn y pen draw. Mae hwn yn rhywbeth yr ymdrinnir ag ef trwy’r broses honno.’

Felly, credaf ein bod ni, y prynhawn yma, wedi ymateb i'r pwyntiau hynny, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn y Siambr hon, yn cyfarfod, fel yr ydym, â’n hetholwyr a’r grwpiau lleol hynny sydd yn codi materion hyn.

4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllideb ddrafft 2017-18 ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 14:44:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd, am y cyfle i wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Rwyf wedi gosod y gyllideb o flaen y Cynulliad y prynhawn yma ar gyfer proses ymgynghori a chraffu.

Rydym ni’n byw mewn cyfnod ansicr iawn. Ar ôl ystyried yn ofalus iawn dros yr haf, rwyf wedi penderfynu, cyn y ‘fiscal resetting’ y mae Canghellor y Trysorlys yn ei addo yn natganiad mis Tachwedd, mai dim ond cyllideb refeniw un flwyddyn mae’n bosib i ni ei gosod o flaen y Cynulliad. Mae Gweinidogion cyllid Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi dod i gasgliad tebyg. Yn y cyd-destun anodd iawn hwn, fy nod oedd gosod cyllideb sy’n rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus allweddol dros y 18 mis nesaf. Ond mae hi hefyd yn gyllideb ag uchelgais, yn gyllideb sy’n gwneud cynnydd yn y rhaglen lywodraethu a’n haddewidion i bobl Cymru.

Mae’r gyllideb sydd o’ch blaen heddiw, Lywydd, hefyd wedi ei datblygu yn sgil cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Hoffwn i ddiolch i Adam Price a’i dîm ef am y trafodaethau gofalus, adeiladol a manwl sy’n sylfaen i’n cytundeb. Mae’n darparu ar gyfer pecyn o ymrwymiadau gwario ychwanegol, yn ogystal â mesurau anghyllidol. Mae’r rhain i’w gweld yn y dogfennau cyllideb sydd ar gael i Aelodau. Rydym ni hefyd wedi cytuno ar raglen waith ar gyfer y pwyllgor cyswllt cyllid am y 12 mis nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau trafod.

Llywydd, let me say a little more about the context in which this budget has been created. Since 2010-11, we have experienced successive cuts to the Welsh budget. By the end of the decade, our overall budget will have been reduced by 9 per cent in real terms—equivalent to almost £1.5 billion less for vital public services here in Wales. And, of course, I again restate today the urgent macroeconomic case for the abandonment of the self-defeating policies of austerity. It is because of those policies that there remain threats of further cuts to come, as the UK Government has yet to announce how it will find the £3.5 billion of departmental reductions announced in the March budget. This alone could mean another £150 million cut for services in Wales. As the Institute for Fiscal Studies recently concluded, Wales is looking at an extraordinary 11 or more years of retrenchment in public service spending.

Now, despite this, and the immediate impacts of the EU referendum on Wales, the budget before Members today will: invest an additional £240 million in the Welsh NHS to meet the ongoing growth in demand and costs of services; it will secure £111 million for apprenticeships and traineeships as part of our commitment to invest in skills and jobs in Wales, including £88.3 million to create 100,000 all-age apprenticeships; it will deliver a £100 million tax cut for small businesses; provide the best local government funding settlement in years; confirm our investment in the intermediate care fund; raise school standards with a £20 million investment next year; safeguard and increase funding for the pupil deprivation grant; take forward work on the UK’s most generous childcare offer for working parents. And, over and above the £240 million just identified, we will also provide £16 million next year for the NHS to establish a new treatment fund, which will make new and innovative treatments for life-changing and life-threatening diseases available to all those who need them in Wales. We will also allocate £4.5 million to raise the capital limit so people can keep more of their life savings when entering residential care, as promised in my party’s manifesto.

Our agreement with Plaid Cymru will see further additional investments for health services—£1 million for end-of-life care services, £1 million for eating disorders and transgender services, and £7 million over and above that already in the budget for additional investment in the training of extra healthcare professionals.

Llywydd, while it has only proved prudent to lay a one-year revenue budget, I have judged it possible to set out a four-year capital plan. Allocating the majority of the available capital will provide confidence and assurance to the construction sector, businesses and investors, and support the best decision making. We will provide over £1.3 billion over the next four years to deliver an extra 20,000 affordable homes here in Wales in line with our manifesto commitment. We will invest more than £500 million of conventional capital in our £2 billion twenty-first century schools programme, and use new innovative finance models to take forward the development of a new specialist Velindre Cancer Centre and the dualling of the A465.

Capital funding has been set aside in reserves to deliver the new M4 relief road by 2021, subject to the outcome of the public inquiry next year. There is almost £370 million in the capital budget over the next four years to deliver our ambitious plans for the south Wales metro, and we are investing to advance proposals for a metro for north Wales as well. Fifteen million pounds in the health capital programme for 2017-18 will be invested in improving diagnostics, as reflected in our budget agreement with Plaid Cymru.

Llywydd, this statement has focused on budget plans for the future, but we also know that there are some real pressures in the current financial year in some of our core services. I expect to be able to recognise some of those in-year pressures. Our response to those issues, however, will need to be balanced with what the Chancellor’s autumn statement will mean for Wales. I will, of course, update Members about these plans as they develop.

So it is, Llywydd, that this is a budget for stability and ambition. It invests for today and it prepares for tomorrow. It will help us to take forward our NHS, to raise school standards, to implement the biggest education reform package Wales has seen since the 1940s, and it will ensure that our local government partners can go on providing their essential services. It is also, Llywydd, a budget for ambition, investing in Wales, in vital new infrastructure, in housing, in transport, in jobs and in our future prosperity. It is a budget that takes Wales forward.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei alwad ffôn yn gynharach, yn rhoi prif ffigurau cyllideb ddrafft heddiw i mi ymlaen llaw? Rwy’n deall ei resymeg wrth bennu cyllideb refeniw un flwyddyn a chyllideb gyfalaf dros bedair blynedd, ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet na allwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr gefnogi'r gyllideb ddrafft hon yn ei ffurf bresennol. Unwaith eto, mae Plaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech i ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru a’i chefnogi doed a ddelo. Er bod rhai cyhoeddiadau sydd i'w croesawu yn y datganiad hwn, mae cymunedau ledled Cymru yn dal wedi eu gadael ar ôl.

Wrth gwrs, rwy’n dymuno o ddifrif y bydd y gyllideb ddrafft hon yn cyflawni i gymunedau Cymru lle y mae cymaint o rai eraill wedi methu o’r blaen, ond maddeuwch i mi am fod braidd yn amheus, o gofio bod y canlyniadau mewn cynifer o feysydd o fywyd cyhoeddus yn dal i fod mor annigonol. Wrth i ni symud i gam nesaf y pumed Cynulliad, mae ein gwlad yn parhau i gael ei thagu gan economi sy'n tanberfformio, sy'n gweld teuluoedd yng Nghymru yn ennill y cyflogau isaf ym Mhrydain—ac mae hyn yn ôl dadansoddiad ystadegol Llywodraeth Cymru ei hun. Yr wythnos diwethaf, gosodwyd system addysg Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU gan astudiaeth mynegai cynnydd cymdeithasol rhanbarthol yr UE—ac nid dyna’r astudiaeth gyntaf i wneud hynny. Mae iechyd y cyhoedd, hefyd, yn parhau i fod yn bryder mawr. Amlygodd arolwg iechyd Cymru fod lefelau gordewdra yn cynyddu ac mae nifer yr achosion o ddiabetes wedi mwy na dyblu er 1996. Mae'r materion hyn, yn ystyfnig, yn dal i fodoli.

Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol bod pob punt a warir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gwario'n effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a phwyslais o'r newydd ar ganlyniadau. Nid oes neb yn gwadu ein bod wedi bod drwy gyfnod economaidd anodd ac mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cymryd penderfyniadau economaidd caled i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn. Wrth gwrs, ar yr un pryd, mae pleidlais y refferendwm i adael yr UE yn codi cyfres gyfan o gwestiynau ynglŷn â chynllunio cyllidebau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa effaith y mae canlyniad refferendwm yr UE wedi ei gael ar brosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad a pha waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers canlyniad y refferendwm o ran ei phrosesau cyllidebol a’i rhagolygon economaidd cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?

Nawr, gan droi at rai o'r prif ffigurau o gyhoeddiad heddiw, wrth gwrs, rwy’n croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi ei neilltuo i'r gyllideb iechyd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r materion gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio yr anhawster o ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru o'i gyfnod o fod yn Weinidog iechyd, ac felly efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd cyllideb heddiw yn tynnu’n ôl ar y canoli gwasanaethau yr ydym wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn llenwi’r bylchau mewn darpariaeth sy’n bodoli mewn rhannau o’r gorllewin, y canolbarth ac, yn wir, y gogledd. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mewn gwirionedd ar gyfer y cofnod y prynhawn yma, yn wyneb yr adroddiadau niferus yn beirniadu cyllid GIG Cymru, ei fod bellach yn gwbl ffyddiog bod y gyllideb ddrafft hon yn fforddiadwy ac y bydd yn cefnogi’r GIG yng Nghymru mewn modd digonol?

Fel y gwyddom, mae costau uwch i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, ac felly mae'n bwysig bod yr ardaloedd hyn yn cael eu blaenoriaethu'n ddigonol mewn unrhyw gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall y bydd llywodraeth leol yn cael setliad arian gwastad yn y gyllideb ddrafft hon, ond, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym heddiw sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ac a fydd awdurdodau gwledig yn cael eu blaenoriaethu, o gofio eu bod wedi dioddef sawl toriad sylweddol yn y gorffennol? Mae’n rhaid cydnabod yr heriau y mae awdurdodau gwledig yn eu hwynebu yn y gyllideb hon, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael yn benodol â'r heriau y mae awdurdodau lleol gwledig yn eu hwynebu.

Mae datganiad heddiw yn cynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, sydd yn sicr i'w groesawu. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon eisiau gweld system addysg gref yng Nghymru sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n bosibl i’r £30 miliwn ateb pob un o broblemau Cymru o ran addysg uwch ac addysg bellach, ond gallai’r arian hwn wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gynigion newydd fydd yn cael eu rhoi ar waith gyda’r arian ychwanegol hwn a sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gau'r bwlch cyllido rhwng addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr? O ran colegau addysg bellach, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i golegau a pha feini prawf y bydd yn rhaid i'r colegau eu bodloni i gael unrhyw gyllid ychwanegol?

Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw wariant drwy'r Cynulliad hwn yn effeithiol a’i fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau rheng flaen allweddol ar gyfer pobl Cymru. Roeddwn yn siomedig dros ben, fel llawer yn y Siambr hon, yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan nad yw'n rhoi’r hyder na’r manylder sydd ei angen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd y Llywodraeth yn profi canlyniadau unrhyw gyllideb yn y Cynulliad hwn, mewn gwirionedd, os nad oes unrhyw dargedau ar gyfer cymharu yn eu herbyn? Yn hollbwysig, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau gwerth am arian ar draws meysydd portffolio pan mai dim ond ychydig iawn o fanylion sydd yn y rhaglen lywodraethu i fesur cynnydd ei chyllideb? Felly, wrth gloi, felly, Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad heddiw? Mae fy nghydweithwyr a minnau yn edrych ymlaen at graffu ar y gyllideb ddrafft ymhellach yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Diolch.

Diolch i Paul Davies am ei gyfraniad. Rwy'n cymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd, ein bod yn rhannu uchelgais ar draws y Cynulliad i sicrhau bod yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol, ei fod yn creu gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl a'n bod yn gwario'r arian sydd gennym yn y modd sy’n cael yr effaith fwyaf. Rwy'n edrych ymlaen at graffu’n fanwl ar y gyllideb o’i chymharu â’r meini prawf hynny a fydd yn dilyn datganiad heddiw.

Roedd cyfres o gwestiynau penodol yn yr hyn a oedd gan Paul Davies i’w ofyn, felly ceisiaf fynd i'r afael â’r rheini, Lywydd. Cyn belled ag y mae effaith y refferendwm yn y cwestiwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull deuol i geisio ymateb i hynny. Mae’r effeithiau uniongyrchol o ran y cyllid sy'n dod o Ewrop i Gymru, a’n galwadau dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr y dylai pob ceiniog a ddaw o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru fod wedi dwyn peth ffrwyth yn y ddau ddatganiad a wnaed gan Ganghellor y Trysorlys, gan roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cyllid hwnnw i Gymru. Rwy'n falch o weld hynny ac rwy’n gobeithio gweld mwy o hynny yn y dyfodol. Yr her yn y tymor hwy i Lywodraeth y DU, ac yna i Gymru, fydd yr effaith hirdymor ar economi'r DU yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n gwbl amhosibl i ni wneud asesiad dibynadwy o hynny yng Nghymru pan fo gennym gymaint o ddiffyg eglurder o ran Llywodraeth y DU ynglŷn â’r telerau gadael y maent yn ceisio eu sicrhau. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i ddod i gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cymryd sylw llawn o fuddiannau Cymru, gan gynnwys mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad rydd.

Gofynnodd Mr Davies gwestiynau am y gyllideb iechyd i mi. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yr ydym yn ei roi i’r gyllideb iechyd yn y gyllideb ddrafft hon yn ddigonol i fodloni bwlch Nuffield. Bydd yn parhau ein polisïau o symud gofal o ofal eilaidd i ofal sylfaenol, bydd yn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i wneud y gwaith rhyfeddol sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar wrth gynyddu'r gyfran o wasanaethau salwch cronig sy'n cael eu darparu y tu allan i'r ysbyty—un o'r rhesymau pam y mae adroddiad Nuffield a'i olynwyr wedi dod i'r casgliad bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol, ar yr amod—a dyma'r pwynt allweddol mewn gwirionedd, Lywydd, y bydd Aelodau ar ochr y Ceidwadwyr eisiau ei glywed—bod gwasanaethau cyhoeddus, yn y dyfodol, yn cael cyfran deg o'r twf yn yr economi. Nid yw lywodraeth leol, yn y gyllideb arfaethedig hon, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, wedi cael unrhyw doriadau o gwbl yn yr arian sydd ar gael iddi. Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan yfory, pan fyddaf yn cyflwyno’r setliad arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol, i weld sut y mae hynny'n effeithio ar awdurdodau unigol.

Roeddwn yn ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y £30 miliwn ychwanegol yr ydym wedi gallu dod o hyd iddo ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn cael ei defnyddio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a bydd hi’n gwneud hynny mewn modd sy'n gyson â'n huchelgeisiau ar gyfer gweithredu adolygiad Diamond.

Yn gyntaf, hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad heddiw, ac am yr alwad ffôn a gefais i gynnau hefyd ganddo fe, ond yn fwyaf oll, wrth gwrs, am y broses o gyd-drafod gyda fe dros gyfnod o fisoedd dros yr haf. Wrth gwrs, mae’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn ffrwyth y trafodaethau aeddfed hynny roeddem ni yn gallu eu rhoi yn sylfaen i’r datganiad y mae e newydd ei roi. Wrth gwrs, roedd yna gyfaddawdu—mae’n rhan annatod o unrhyw drafodaeth rhwng dwy blaid—ond a gaf i dalu teyrnged iddo fe am y ffordd adeiladol, creadigol, call ac ystyrlon a oedd yn nodweddu ei ddynesiad ef at y trafodaethau hyn? Mae’n gytundeb rŷm ni’n falch iawn gyda fe ym Mhlaid Cymru—y ddêl fwyaf erioed rhwng Llywodraeth Cymru ac unrhyw wrthblaid: £119 miliwn ar gyfer addewidion maniffesto Plaid Cymru, y blaenoriaethau sy’n adlewyrchu uchelgais Plaid Cymru yn nhermau sgôp a sylwedd, ond yn bwysicach fyth, rhai a fydd yn arwain at welliannau go iawn i fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru; £30 miliwn ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, ac rwy’n falch o weld Paul Davies yn croesawu hynny a dweud y gwir; £50 miliwn ar gyfer y sector twristiaeth y clywsom ni sôn amdani gynnau gan y Prif Weinidog; £5 miliwn ychwanegol ar gyfer yr iaith Gymraeg, ac yn y blaen. Mae’r rhestr yn rhy hirfaith i fi fynd drwyddi yn llawn, ond yn sicr, mae’n cynrychioli dêl arbennig o dda i bobl Cymru.

The agreement delivers on many of our key commitments as a party, set out in the manifesto upon which all Members elected as Plaid Cymru Members stood for in this Assembly election. It’s the mandate that we have been given by hundreds of thousands of our fellow citizens. I may be paraphrasing someone who has been a political mentor of mine by saying that it is always important that Plaid Cymru makes full use of its position to secure tangible improvements to the lives of the people in Wales. That is what democratic politics, ultimately, is all about; not grandstanding and carping on the sidelines, but delivering real improvement for the people of Wales. Often, in politics—[Interruption.] Often in politics, we can do more when we work across party boundaries, when we look for that common ground and we welcome that opportunity to deliver, together, the kind of changes that the people of Wales themselves want to see.

There will of course be aspects of the broader budget that we will disagree with. We will be seeking to discuss and amend the draft, and the budget process, as we go through scrutiny at committee level and on the floor of the Assembly, affords us all that opportunity to improve upon the draft budget. Our party, along with other stakeholders in wider society in Wales, will be seeking to be part of that wider engagement as well.

I have a few questions for the Cabinet Secretary, briefly. He has already referred to the autumn statement. The finance spokesperson of the Conservative Party referred to the ‘chokehold’ that we’re facing. Well, if we are talking about public finances, the real chokehold is being put there by a Conservative Government in Westminster that has actually left us with hard Brexit and austerity; it may be austerity lite, but I’m not convinced of that. That’s the chokehold. That’s the difficult context that we are looking at. But, could the Cabinet Secretary say a little bit more about the potential differential effects of the autumn statement in terms of the revenue or capital budgets, and perhaps give us some greater detail on how the changes that may need to be put in place as a result of the autumn statement will affect our revision process here?

I’m sure that the Cabinet Secretary will agree that one of the positive and unique features of this budget agreement, because it actually is embedded as part of a wider process with the finance liaison committee and the wider compact, is that it also contains a forward work programme beyond the budget agreement. One of the areas that we are keen to explore together is this vital area of improving effectiveness, which was referred to, and efficiencies within the public sector, broadly, which are absolutely vital, of course, if we are to deal with some of the fiscal challenges and the other pressures on public services that we will face. Finally, we will have a statement on the national infrastructure commission, so I won’t intrude too much on that subject. We have seen a significant reduction in capital expenditure compared to the beginning of this decade. The finance Secretary did refer to some of the innovative sources of finance that he is exploring in order to fill this gap, so that we can actually continue to increase and accelerate the rate of increase in infrastructure investment. Could he say a little bit more about what work is being done to take that forward?

A gaf i ddweud gair o ddiolch i Adam Price am yr hyn a ddywedodd wrth gyflwyno ei gwestiynau?

I will go immediately to the specific questions that Adam Price raised. He’s absolutely right to point to the fact that we are having to lay our budget before the Assembly in advance of the autumn statement, where the Chancellor promises a fiscal reset, and where we have to make our judgments without knowing exactly how that reset is to be brought about. As a result, I have had to make a series of judgments with Cabinet colleagues.

As far as the capital budget is concerned, I have made a judgement that, based on what we are able to read from the various statements that the Chancellor has made—most recently, perhaps, in Washington—that he has an intention of not reducing capital investment in the UK economy and that we may even see some modest investment—welcome as it would be—taking advantage of historically low interest rates and so on to give some boost to infrastructure spending. For that reason, I feel confident in laying a four-year capital budget.

The uncertainty over revenue is why I've been confined to a one-year revenue budget. When Members have an opportunity to study the budget in more detail, they will see that, in the draft budget, I propose to take a higher than usual revenue reserve into next year. That is there as a precaution against the autumn statement reducing the level of revenue available to the Welsh Government next year. And if people think that that is just a remote possibility, there’ll be Members here who’ll recall that only last year there were £50 million-worth of in-year revenue cuts that the Welsh Government had to absorb. What I am anxious to avoid is having to reopen the very detailed discussions that I've had with Cabinet colleagues over the summer, and, indeed, with Plaid Cymru, to be able to lay the budget that I'm able to today. If there are to be further cuts to the Welsh Government's revenue budget next year, I'd rather be able to deal with those through the reserve than by asking colleagues to absorb further reductions. If we don't face such a reduction next year, then I'll look to make some further adjustments to that reserve in advance of the final budget.

Adam Price drew attention to the forward work programme that's been agreed for the finance liaison committee. I thought it was an important part of our agreement to be able to identify that forward work programme. There are some very significant and long-term matters that we have agreed to address jointly, and I look forward to the opportunity to be able to move beyond the inevitable dealing with the detail that we’ve had to do over recent weeks to grapple with some of those matters.

Finally, I was asked a question about capital, and Adam Price is absolutely right to point to the fact that the capital available to public services in Wales will have reduced by a third between 2009 and 2019, and we have had to work hard to find ways in which we can bridge that gap. The budget in front of Members today deploys to the fullest extent the new borrowing ability that we have agreed with the UK Government. It builds on the work that my predecessor, Jane Hutt, did in taking advantage of the borrowing ability of housing associations and local authorities where we provide the revenue consequences of that borrowing. I look forward, as well, to the development of further innovative financial instruments to take forward, as I said in my statement, the new cancer centre at Velindre and the complete dualling of the Heads of the Valleys road.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a’r rhybudd amdano ymlaen llaw, ond mae’n rhaid fy mod wedi colli ei alwad ffôn. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi cael copi o'r gyllideb yn ystod datganiad y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] O wel, ta waeth, ta waeth. Rwyf wedi bod yn gwneud fy ngorau i o leiaf sganio’r gyllideb ers fy nghwestiwn yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, gan wrando, wrth gwrs, ar yr un pryd, ac yn sicr mae agweddau ar y gyllideb hon y byddem yn eu croesawu, yn enwedig y cynnydd mewn gwariant ar iechyd. Rwy'n credu ei fod tua 4 y cant ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon yn gyffredinol, a 5.4 y cant ar gyfer yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei alw’n ‘wasanaethau craidd y GIG’. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o eglurder am y £240 miliwn ychwanegol hwn ac yna’r £44 miliwn ychwanegol y cyfeiriodd ato, rwy’n credu, o ganlyniad i alwad Plaid Cymru, ac yn arbennig y £20 miliwn sydd wedi’i glustnodi i iechyd meddwl—sydd i’w groesawu, er mai dim ond un rhan o ddeuddeg o'r cynnydd ydyw—a'r £15 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer diagnosteg? A yw’r ddau neu'r naill neu'r llall o'r rhain wedi’u cynnwys yn y £44 miliwn?

Hoffwn groesawu yn arbennig y £7 miliwn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant meddygol. Mae’r ychwanegiad gofal diwedd oes o £1 filiwn i'w groesawu yn amlwg, ond, rwy’n ofni mai dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw yn y maes hwnnw

Pam na wnewch chi roi'r arian o Frwsel i ni? Yna byddai gennym ddigon o arian i dalu amdano.

Rydym yn edrych ymlaen at yr arian ychwanegol o Frwsel, a fydd yn rhoi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn sefyllfa dda maes o law, ar ôl i ni adael.

Y datganiad Plaid Cymru a gawsom yn gynharach gan Adam Price—rwy’n credu iddo ddweud bryd hynny ‘y byddwn yn cyflawni gyda'n gilydd’, ac rwy’n credu iddo gael ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn gynharach gan ddweud y byddai amseroedd aros yn y GIG yn cael eu lleihau oherwydd yr ymyrraeth hon gan Blaid Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym i ba raddau yr ydym i ddwyn Plaid Cymru i gyfrif am ei swyddogaeth wrth gyflawni’r gostyngiad hwn mewn amseroedd aros, neu a yw'n rhywbeth y mae ef yn parhau i gymryd y cyfrifoldeb llwyr drosto ei hun a chyda’r Llywodraeth Cymru ffurfiol?

Y tu hwnt i’r maes iechyd, lle’r wyf yn credu bod cynnydd i’w groesawu, rydym yn nodi bod llywodraeth leol yn cael cynnydd o 3.1 y cant, sy’n gyfalaf bron i gyd, rwy’n credu—£123 miliwn—ac rwy’n credu bod hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, cefais lythyr ar ddechrau'r eleni yr oeddwn yn ei groesawu'n fawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dweud wrthyf, mewn gwirionedd, nad oeddent yn mynd i gynyddu fy nhreth gyngor wedi'r cyfan, oherwydd bod y setliad grant wedi bod yn fwy hael nag yr oeddynt wedi’i ragweld. Eleni, rydym yn clywed bod £25 miliwn arall diolch i Blaid Cymru, ac rydym yn cael gwybod hefyd, am y flwyddyn gyntaf mewn pedair, y bydd cynnydd yn y grant heb ei neilltuo. A allwn ni fforddio hyn i gyd? Rwy'n siŵr bod croeso mawr i hyn gan gynghorwyr Llafur a Phlaid Cymru sy’n sefyll i gael eu hail-ethol fis Mai nesaf, ond o ystyried yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am y pwysau cyffredinol, onid y risg yw y bydd toriadau sylweddol iawn yn dilyn yr etholiadau hynny, ac o gofio haelioni cymharol y setliadau gwario ers i’r cyni ddechrau yn 2010 i Gymru ym maes llywodraeth leol, yn sicr o'i gymharu â Lloegr? Nid wyf yn awgrymu o gwbl ein bod yn ailadrodd y toriadau a wneir yno. Yn sicr, mae’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a’r integreiddio gyda'r GIG i’w groesawu. Ond a yw’r Gweinidog yn gallu parhau i ddiogelu llywodraeth leol i'r graddau y mae’n ei ddweud yn y gyllideb hon?

Y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach—rydym yn cefnogi rhai o'r ychwanegiadau addysg bellach hynny. Mae'r arian ychwanegol ar gyfer addysg uwch, dywedir wrthym, ar gyfer y pontio i'r trefniadau cymorth i fyfyrwyr newydd, y dywedwyd wrthym eu bod yn mynd i fod yn niwtral o ran cost, neu, yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, yn arbediad o £48 miliwn. A all y Gweinidog gadarnhau pa mor niwtral o ran cost neu fel arall y bydd y newidiadau hyn, ac a yw ef, o ystyried ei hanes hir o wleidyddiaeth adain chwith flaengar, yn ystyried bod y rhoddion hyn o grantiau prawf modd i deuluoedd sy'n ennill rhwng £50,000 ac £81,000 yn flaenoriaeth iddo ef, gan gynnwys hefyd y £1,000 ar gyfer teuluoedd sy'n ennill hyd yn oed mwy na hynny? A yw'n bosibl y gallem chwilio am rai arbedion yn y maes hwn o ystyried y newidiadau eraill a'r pwysau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei nodi yn ei gyllideb?

O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu'r astudiaeth i'r llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, ac o bosibl ailagor hwnnw, er am £300,000 nid ydym yn hollol siŵr, o ystyried yr heriau, faint y mae hwnnw yn mynd i arwain ato. Ond rydym yn ei groesawu yn gyffredinol. Roedd hyn yn ein maniffesto yn ogystal ag ym maniffesto Plaid Cymru. Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi neilltuo mwy na £900 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer ffordd liniaru ar gyfer yr M4. A yw hynny'n ddigon o ystyried yr amcangyfrifon o gostau yr ydym bellach yn eu cael ar gyfer y llwybr du hwnnw? Dywedodd yr Athro Stuart Cole wrthyf yr wythnos cyn diwethaf ei fod bellach o’r farn y byddai’n costio o leiaf £1.2 biliwn, o’i gymharu â dim ond £0.5 biliwn ar gyfer ei lwybr glas neu £0.6 biliwn gyda’r ail gymal i fyny at yr A449.

Yn olaf gennyf i, hoffwn gyfeirio at bontydd Hafren a'r trefniadau codi tollau. Roedd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn dweud y byddai hynny’n fater i'w gytuno rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Cymru. Nid yw'n ymddangos bod llawer o gytundeb, fodd bynnag, gyda’r dreth barhaus hon y mae Llywodraeth y DU yn mynd i roi ar y tollau ar ôl yr adeg y dylent gael eu diddymu oddeutu blwyddyn i nawr. A fydd hynny’n parhau ar ôl i’r ddyled honedig gael ei thalu, neu a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ymlaen gyda mi at rywbeth yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i wneud cyfraniad tuag at gynnal a chadw er mwyn i’r tollau ar y pontydd hynny allu cael eu dileu?

Diolchaf i Mark Reckless am y rhannau hynny o'r gyllideb y gwnaeth gydnabod bod croeso iddynt. Ceisiaf fynd i'r afael â’i gwestiynau penodol.

O ran y cyllid iechyd meddwl sy'n rhan o'r £240 miliwn, mae'r £15 miliwn ar gyfer diagnosteg yn rhan o'r rhaglen gyfalaf a ddarparwyd i'r prif grŵp gwariant iechyd, ac, wrth gwrs, yn sgil y buddsoddiad hwnnw, bydd yr amseroedd aros ar gyfer diagnosteg yn parhau i ostwng ymhellach eto.

Mae'r £7 miliwn ar gyfer hyfforddiant yn ychwanegol at y £240 miliwn, ac yn sicr, ni ddylid ystyried yr £1 filiwn ar gyfer gofal diwedd oes yn biso dryw yn y môr. O ran y sector hosbis yng Nghymru, mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn ac rwy’n gwybod y bydd croeso mawr iawn iddo gan wasanaeth sydd y gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan.

Cyn belled ag y mae llywodraeth leol yn y cwestiwn, rwy’n falch iawn o fod wedi gallu darparu cyllideb heb dorri unrhyw arian i lywodraeth leol eleni, ond gadewch i mi ddweud yr hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud wrth lywodraeth leol: mae cyfnodau anoddach a dewisiadau anoddach o'n blaenau. Mae'r gyllideb a addewir i ni gan Lywodraeth y DU yn parhau i dorri’r adnoddau sydd ar gael i’r lle hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid oes unman lle y gall unrhyw un leddfu’r pwysau hwnnw. Yn anochel, mae’n siŵr o gael effaith ar ein partneriaid cyflenwi. Roeddwn yn awyddus i ddarparu cyfnod o 18 mis o sefydlogrwydd ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny, ac mae angen iddynt ddefnyddio'r amser hwnnw i baratoi ar gyfer y dewisiadau sydd o'n blaenau.

Cyn belled ag y mae addysg yn y cwestiwn, rwy’n hapus iawn i ddarparu copi o fy nhaflen ar gyffredinoliaeth flaengar— [Chwerthin.]—ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ei mwynhau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau y mae gan ein holl ddinasyddion fudd ynddynt. Dyna sut yr ydych chi’n cael y gwasanaethau gorau. Ni fyddai defnyddio prawf modd fel y mae ei blaid ef mynnu ei wneud ond yn mynd yn ôl at yr hen ddywediad hwnnw bod gwasanaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer pobl dlawd yn fuan iawn yn dod yn wasanaethau tlawd/gwael. Y rheswm pam y mae gwasanaethau yn parhau i fod o'r safon y maen nhw mewn cymdeithas waraidd yw ein bod yn gwneud yn siŵr bod gan bawb—y bobl hyddysg yn ogystal â'r rhai sy'n ymgodymu, y bobl huawdl yn ogystal â'r rhai anhuawdl—eu rhan mewn gwneud y gwasanaethau hynny mor dda â phosibl. Dyna'r math o wasanaeth addysg yr ydym eisiau ei weld yma yng Nghymru.

Cyn belled ag y mae ffordd liniaru'r M4 yn y cwestiwn, rwyf wedi cynllunio’r gyllideb yn ofalus iawn fel bod y gwariant sydd ei angen ar Ysgrifennydd y Cabinet sydd â’r cyfrifoldeb y flwyddyn nesaf at ddibenion yr M4, ar gael yn uniongyrchol iddo yn ei bortffolio, ond bod gweddill y gwariant ar gyfer yr M4 yn cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn fel ein bod yn rhoi parch priodol i'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sydd i’w gynnal. Byddwn yn gwybod, pan fydd yr ymchwiliad hwnnw wedi dod i ben, pa lefel o gyllid fydd angen ei sicrhau ar gyfer y dibenion hynny. Diolch byth, Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi gorfod mynd i'r afael â mater y tollau ar bontydd Hafren at ddibenion cyllideb y flwyddyn nesaf.

Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall ac mae'n bwysig bod nhw’n cael eu clywed hefyd. Felly, rwy’n mynd i ofyn am gwestiynau heb y rhagymadroddion, os yn bosibl. Mike Hedges.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud bod yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i gytuno gyda Phlaid Cymru yn cynnwys llawer o’r materion y byddwn i, mewn gwirionedd, wedi bod yn gofyn iddo amdanynt, pe na byddai wedi gwneud hynny?

Polisi gwleidyddol yw cyni i'r Torïaid ac nid un economaidd. Mae'n ymwneud â chrebachu’r wladwriaeth. Mae'n cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf dri chwestiwn. O ran iechyd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y gyllideb iechyd, lles a chwaraeon bellach yn cynnwys dros 50 y cant o wariant a reolir a’i bod ychydig llai na hanner cyfanswm yr adnoddau a chyfalaf?

Ar lywodraeth leol, sy'n bwysig iawn i bobl Cymru, yn enwedig cymorth ar gyfer iechyd—mae pethau fel casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, iechyd yr amgylchedd a thai i gyd yn chwarae rhan bwysig o ran cadw pobl yn iach—mae’r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau plant ac oedolion, yn aruthrol, a, byddwn i’n dweud, yn llawer mwy na'r pwysau ar iechyd. Rydym wedi trafod pwysigrwydd addysg yn gynharach. Pa wybodaeth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet am y pwysau ar wariant llywodraeth leol?

Y trydydd cwestiwn yw—cawsom ddatganiad am Gymunedau yn Gyntaf yr wythnos diwethaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthym beth sy'n cael ei dorri o'r gyllideb o ran darpariaeth? Os na fydd Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli yn y ddarpariaeth, beth sy'n mynd i ddigwydd i rai o'r cynlluniau sy'n cael eu cefnogi gan Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd? A fyddant yn bodoli mewn ffurf arall, neu a fyddant yn diflannu?

Fel arfer, mae'n bosibl gwneud y syms mewn sawl ffordd wahanol. Fel y dywedodd Mike Hedges, mae cyfrifoldebau fy nghydweithiwr Vaughan Gething bellach yn cynnwys chwaraeon yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Yr amcangyfrif gorau sydd gennyf o gyfran y gwariant ar iechyd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yw y bydd yn parhau i fod yn is na 50 y cant o gyllideb y Cynulliad hwn.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau cymdeithasol. Yn bersonol, nid wyf o’r farn mai’r ffordd orau o ystyried y pethau hyn yw ystyried bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rhywsut yn cystadlu â'i gilydd. Ein nod yw gwneud yn siŵr eu bod yn cydweithio cymaint â phosibl.

Rwy'n clywed am y pwysau ar lywodraeth leol yn rheolaidd iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi ymweld â phob un o'r 22 awdurdod lleol yn y misoedd diwethaf, ac ni wnaeth yr un ohonynt golli’r cyfle i egluro wrthyf y pwysau sy'n eu hwynebu, ac mae’r negeseuon hynny yn dod i benllanw yn yr is-grŵp cyllid sydd gennym yma yn Llywodraeth Cymru, lle y mae gwleidyddion o lywodraeth leol ac arbenigwyr yn dod at ei gilydd i asesu'r pwysau hynny.

Cyn belled ag y mae Cymunedau yn Gyntaf yn y cwestiwn, fel y nododd Carl Sargeant yn glir yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid cyfres o benderfyniadau a ysgogwyd gan y gyllideb yw’r rhain. Bydd ef wedi penderfynu dwyn ynghyd yn ei bortffolio cyfres o ffrydiau gwariant mewn cyllideb ataliol newydd, sydd yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, ond hefyd Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Y polisi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddilyn yw’r modd gorau o ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym, yn hytrach na sut i'w lleihau.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y ffordd aeddfed ac adeiladol y mae wedi trafod y gyllideb ddrafft gyda fy nghyfaill Adam Price? Bydd y gyllideb nawr, wrth gwrs, yn mynd i ymgynghoriad. Yn gyntaf oll, byddwch yn dod i’r Pwyllgor Cyllid bore yfory i ddechrau ar y broses yma. A gaf i ofyn i chi, ar ran y pwyllgorau i gyd a fydd yn edrych ar y gyllideb yn ystod yr wythnosau nesaf, a fedrwch chi esbonio pa rôl sydd gan wariant ataliol a hefyd pa ddylanwad y bydd gan Ddeddfau pwysig a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac a ydynt wedi dylanwadu ar y ffordd rydych wedi dosrannu’r gwariant yn y gyllideb ddrafft yma?

Dau gwestiwn penodol iawn hefyd, os caf i, ynglŷn â beth sydd yn y gyllideb fel rydym yn ei gweld ar hyn o bryd: a fedrwch chi gadarnhau, fel y mae’r Cynulliad yn dymuno, nad oes unrhyw doriad i gyllideb y cynllun Cefnogi Pobl, a bod hynny’n aros, fel rwy’n ei deall hi, heb doriad i’r gyllideb? A fedrwch chi ddweud beth sydd wedi digwydd i’r cynnydd o 1 y cant a wnaeth y Llywodraeth flaenorol ar gyfer gwariant ar ysgolion ac addysg o bump i 16 yn benodol? Yn ôl beth rwy’n gallu gweld, mae’r canllaw yna wedi diflannu o’r gyllideb yma. Os felly, a oes canllaw neu amcan gwariant mewn ysgolion sydd wedi llywio’r penderfyniad yn y gyllideb ddrafft bresennol?

Y cwestiwn olaf: a ydw i’n iawn i ddehongli eich ateb ynglŷn â’r M4 i olygu nad oes gwariant cyfalaf yn debygol o ddigwydd yn y gyllideb arbennig yma ar yr M4, ar wahân i, wrth gwrs, dalu am ymchwiliad cyhoeddus a phethau felly?

Diolch yn fawr i Simon Thomas am y cwestiynau. Rwy’n edrych ymlaen at y broses graffu. Rwy’n cydnabod nad yw Aelodau wedi cael cyfle eto i edrych trwy’r ‘budget narrative’ rwyf wedi ei gyhoeddi y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio y bydd mwy o fanylion ynddi am y pethau y mae Simon Thomas wedi eu codi. Rwy’n gallu dweud y prynhawn yma na fydd Cefnogi Pobl yn wynebu toriad i’w gyllideb.

The protection of 1 per cent, which was a feature of the last Assembly term, has not been possible to provide again in this Assembly term, but there are very significant investments in the education field. There is £20 million for general education improvement as part of the £100 million commitment that we made as a Government, and those budgets that are there as part of the pupil deprivation grant, which was a time-limited programme, will be taken forward next year. Nearly £90 million will now be available for those very important purposes.

As far as the M4 is concerned, just to repeat what I said, the money that the Cabinet Secretary will need for purposes next year is available to him through his own MEG, but the bulk of the expenditure that might be necessary for the M4, depending upon the outcome of the public inquiry, is held in reserve to make sure that that inquiry can be seen to be conducted with the independence that we need it to have.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cynnes iawn i’r datganiad cyllideb hwn heddiw, a gyflwynir yn erbyn cefndir o amgylchiadau economaidd heriol iawn, iawn?

Rwy'n falch iawn o weld cymaint o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yn cael eu hariannu yn y datganiad. Rwy’n croesawu yn arbennig yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, Weinidog, nid ydym wedi dilyn y trywydd y maen nhw wedi ei ddilyn yn Lloegr, lle’r ydym wedi gweld gostyngiadau llym dros ben mewn cyllid, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym wedi bod o’r farn erioed bod y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn mynd law yn llaw yng Nghymru. A ydych chi’n gallu amlinellu pa gyllid ychwanegol sydd ar gael yn y gyllideb hon ar gyfer gofal cymdeithasol?

Rwy'n falch iawn â’r cyhoeddiad am ddiogelu cyllid llywodraeth leol hefyd. Mae fy awdurdod fy hun yn gweithio'n hynod o galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o dan amgylchiadau heriol iawn. Yn wahanol i Paul Davies, fodd bynnag, hoffwn gael sicrwydd ychydig yn wahanol ar ddyraniad y cyllid. Yn fy mhrofiad i, awdurdodau difreintiedig sydd yn aml yn dioddef o dan y fformiwla llywodraeth leol. Felly, hoffwn ofyn pa gamau yr ydych chi’n mynd i’w cymryd, ac yn amlwg rydym yn disgwyl cael mwy o fanylion yfory i sicrhau mai ein cymunedau mwyaf anghenus sy'n cael y diogelwch mwyaf.

Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am ei sylwadau agoriadol? Mae pob un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon wedi eu hadlewyrchu yn y gyllideb hon. Dyna pam mae hi’n gyllideb uchelgeisiol, gan ei bod yn ein rhoi ni ar y llwybr i gyflawni'r holl bethau allweddol hynny y gwnaethom eu rhoi gerbron pobl Cymru yn gynharach eleni. Rwyf yn cytuno’n llwyr â hi mai'r unig gam call i'w gymryd, o safbwynt y dinesydd, yw ystyried ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel continwwm lle maent yn cael gwasanaeth cyflawn, sy’n ymdrin â'r holl wahanol agweddau y maent eu hangen, a dyna pam yr ydym wedi parhau i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, ar yr un pryd â rhoi’r buddsoddiad sydd ei angen arnynt i’n gwasanaethau iechyd.

O ganlyniad, yn ogystal â diogelu Cefnogi Pobl yn y gyllideb hon, byddwn yn parhau y flwyddyn nesaf i ddarparu'r £60 miliwn llawn a fuddsoddwyd eleni yn y gronfa gofal canolraddol—£50 miliwn mewn refeniw a £10 miliwn arall mewn cyfalaf. Ac yn y gyllideb awdurdodau lleol, yr wyf wedi ei gosod heddiw, mae £25 miliwn wedi ei glustnodi yn y gyllideb honno ar gyfer dibenion y gwasanaethau cymdeithasol, fel y clustnodwyd £21 miliwn ar gyfer y dibenion hynny eleni, er mwyn ei gwneud yn glir i’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol pa mor benderfynol yr ydym i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hynny yn ein cymunedau.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ym mhob un o'r 22 o’r ymweliadau a wnes ag awdurdodau lleol, roedd pob awdurdod lleol yn gallu esbonio i mi pam yr oedd y fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cosbi eu hanghenion a'u hamgylchiadau penodol nhw mewn modd unigryw. Pan fydd yr unigolion hynny’n dod at ei gilydd yn y grŵp cyllid, maent yn cydnabod bod ein fformiwla ariannu yn dod ag ystod eang o anghenion at ei gilydd, gan gydnabod natur wledig a theneurwydd poblogaeth, ond yn bendant iawn, gan gydnabod wrth ei gwraidd, yr angen cymharol rhwng ein cymunedau. Ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i drafod â'r Aelodau y modd y mae’r ystyriaethau hynny’n cyfrannu at y datganiad y byddaf yn ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol brynhawn yfory.

5. 4. Datganiad: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:33:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru. Mae’r ddogfen gyflenwi hon gan y Llywodraeth, ‘Symud Cymru Ymlaen', yn nodi sut y byddwn yn gweithio i sicrhau mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach; gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; ac adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Nid yw ‘Symud Cymru Ymlaen' yn dal yn ôl. Rydym yn gwybod pa mor anodd fydd y pum mlynedd nesaf a pha mor heriol fydd ceisio creu’r lefel o sefydlogrwydd economaidd sydd ei angen ar gyfer lles ein pobl a'n cymunedau yn y tymor hir.

Un o elfennau sylfaenol gwella sefydlogrwydd economaidd yw ystod ac ansawdd seilwaith gwlad—y systemau a’r gwasanaethau ffisegol y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn i Gymru weithio'n effeithiol. Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol arbennig, sy'n golygu ei bod yn bwysicach fyth i ni weithredu nawr i gryfhau'r ffordd yr ydym yn ystyried ac yn blaenoriaethu anghenion seilwaith yn y dyfodol ac yn creu'r amodau ar gyfer buddsoddiad sefydlog, hirdymor.

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i symud tuag at strategaeth fwy gwybodus, mwy hirdymor o fuddsoddi mewn seilwaith, sy'n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y dull hwnnw o weithredu, sydd wedi’i lywio’n well, yn golygu y gall prosiectau gael eu datblygu’n fwy effeithlon, gan y bydd eu pwysigrwydd a'u gwerth yn cael eu deall gan bobl Cymru. Felly, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ‘Symud Cymru Ymlaen' i sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, er mwyn rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i ni ar anghenion a blaenoriaethau seilwaith strategol.

Mae sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru hefyd yn adlewyrchu ein cytundebau â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen. Rydym yn bwriadu sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol anstatudol ymgynghorol ar gyfer Cymru i roi cyngor strategol annibynnol ac arbenigol. Rydym yn cynnig bod y comisiwn yn dechrau fel corff ymgynghorol, sy'n gyfrifol am ddadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion i'r Llywodraeth ar anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hwy am y cyfnod o bump i 30 mlynedd nesaf.

Byddai cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau buddsoddi ar gyfer seilwaith sydd wedi'i ddatganoli yn aros gyda Gweinidogion Cymru, ac â Llywodraeth y DU ar gyfer seilwaith nad yw wedi’i ddatganoli. Byddai'r cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru yn parhau i gael ei bennu gan Lywodraeth Cymru, ac yn nodi ein cynllun buddsoddi mewn seilwaith cyffredinol ar gyfer tymor y weinyddiaeth, a fyddai'n cael ei lywio gan y comisiwn.  Byddai'r comisiwn hefyd yn llywio ein fframwaith datblygu cenedlaethol, a fydd yn darparu persbectif strategol, tymor hwy ar anghenion cynllunio, ac mae’n elfen allweddol o’r newidiadau a gyflwynwyd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer diwygio'r system gynllunio er mwyn sicrhau ei bod yn deg, yn gadarn ac yn galluogi datblygiad.

Mae'r Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi bod amrywiaeth o fodelau eisoes yn bodoli, a syniadau gwahanol ar gyfer statws a chylch gwaith corff seilwaith. Felly, rydym yn gweld sefydlu comisiwn anstatudol ymgynghorol fel y cam cyntaf o gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau a darparu ar seilwaith, ac rydym yn agored i newid statws a chylch gwaith y corff os oes, gyda phrofiad, fanteision clir yn dod i'r amlwg ar gyfer gwneud hynny. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am sut y dylai'r comisiwn gael ei sefydlu a'i redeg yn ymarferol, gan gynnwys ei berthynas â'r comisiwn seilwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei sefydlu gyda chyrff eraill, megis y rhai sydd eisoes yn destun mecanweithiau rheoli prisiau.

Os yw ein comisiwn yn mynd i fod yn rhywbeth sy’n newid y sefyllfa, bydd angen i’w aelodau, a fydd yn cael eu dewis drwy system benodiadau cyhoeddus, fod yn annibynnol ar y Llywodraeth, yn arbenigol ac yn brofiadol. Ni fydd unrhyw gwestiwn o aelodau yn cael eu penodi oherwydd eu swydd neu pwy y maent yn eu cynrychioli. Bydd yr ymarfer penodiadau cyhoeddus y byddwn yn ei gynnal yn sicrhau hyn. Mae angen pobl sy'n meddwl ac yn gweithredu ar draws y sectorau, ac sy’n greadigol ac yn gynhwysol wrth ddadansoddi anghenion y dyfodol—pobl a fydd yn gallu canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer unrhyw ymchwil newydd a fydd yn cael ei hintegreiddio, ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at ddadansoddi a deall ein hanghenion seilwaith.

Dyna pam yr ydym yn cynnig y dylai'r comisiwn allu edrych ar faterion cyflenwi trawsbynciol, os yw o'r farn eu bod yn rhwystr i gyflenwi anghenion seilwaith, yn cynnwys llywodraethu, costau, ariannu, a rhaglen neu fethodoleg rheoli prosiect. Rydym yn benderfynol o gael comisiwn sydd mor amrywiol ag y bo modd, ac yn gofyn yn benodol am syniadau ar y ffordd orau i ennyn diddordeb gan feysydd ymgeiswyr llai amlwg. Rydym wedi ymrwymo i gomisiwn cynhwysol yn ddaearyddol sy'n rhoi cyngor ar anghenion seilwaith ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'r ymgynghoriad yn cynnig trefniadau ar gyfer sut y mae'r comisiwn yn ymgysylltu â phobl a chymunedau ar draws y wlad.

Rydym am i'r comisiwn weithio mewn ffordd agored a thryloyw, ac yn cynnig bod y comisiwn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei waith. Agorodd yr ymgynghoriad ddoe a, chan ystyried gwyliau'r Nadolig a’n dymuniad i gael cymaint o ymatebion cytbwys â phosibl, mae’n ymestyn hyd at 9 Ionawr. Yn dibynnu ar yr adborth o'r ymgynghoriad, rydym yn bwriadu sefydlu'r comisiwn erbyn haf 2017.

A ydych wedi gorffen? Dwi byth yn gwybod p’un a ydych, oherwydd rwyf bob amser yn eich gweld chi’n troi’r dudalen drosodd ac rwy’n meddwl bod tudalen arall. Adam Price.

Diolch i chi, fadam Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw ac yn wir am yr ymrwymiad i greu comisiwn seilwaith, a osodwyd yn wreiddiol yn y compact, a hefyd am y parodrwydd y mae newydd ei nodi yn ei ddatganiad ar gyfer swyddogaeth, cylch gwaith, statws a ffocws y comisiwn seilwaith i esblygu, ac er mwyn i’r comisiwn ei hun fod yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r meysydd trawsbynciol eang o ddiddordeb posibl y gallai fod am ganolbwyntio arnynt.

Rwy'n ddiolchgar iddo am gael golwg ar fersiwn gynnar o'r ddogfen ymgynghori, a gyhoeddwyd heddiw, ac am yr ymgysylltiad cadarnhaol a gafwyd â’r Llywodraeth hyd yn hyn. Mae'n ymwybodol, ac ni fydd yn unrhyw syndod, yn amlwg, gan fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei dogfen ei hun sy'n nodi ein gweledigaeth o ran y comisiwn seilwaith cenedlaethol yn ddiweddar, fod rhywfaint o olau dydd, rwy’n meddwl, rhyngom o hyd ar nifer o faterion. Os caf, yn fy sylwadau byr yma, hoffwn ganolbwyntio ar dri o'r rhain yn fyr iawn, iawn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddweud, o leiaf i ddechrau, y bydd y comisiwn seilwaith wedi ei gyfansoddi ar sail anstatudol. Nodaf fod ei gydweithiwr plaid a chyn arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, yn ddiweddar yn eithaf ffyrnig mewn gwirionedd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio ei chynlluniau yn dawel, yn flaenorol, i roi comisiwn seilwaith cenedlaethol y DU ar sail statudol. Aeth mor bell â honni bod y rhwyfo yn ôl hwn mewn gwirionedd wedi dryllio’r comisiwn oherwydd nad oedd yn rhoi digon o statws ac annibyniaeth iddo. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb neu roi ystyriaeth i farn yr Arglwydd Kinnock mewn gwirionedd bod sail statudol yn elfen bwysig ar gyfer comisiwn seilwaith llwyddiannus.

Yn ail, ar y mater o ariannu, nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at ariannu fel rhan o’r materion cyflwyno trawsbynciol hynny y cyfeiriodd atynt. Mae'n faes o bryder allweddol mewn gwirionedd. Un o'r cyfyngiadau, un o’r problemau—methiannau— cyd-drefnu sydd gennym ar hyn o bryd, rwy’n meddwl, yw'r gallu i lunio pecyn cymhleth o ariannu sydd ei angen yn aml yn y math o brosiectau buddsoddi seilwaith mawr yr ydym yn siarad amdanynt. Mae'n faes cymhleth ac arbenigol iawn ac rwy’n meddwl y gall Ysgrifennydd y Cabinet fod yn cael ychydig o flas ar hynny, yn anuniongyrchol, gyda Chylchffordd Cymru, er enghraifft. Ac oherwydd, wrth gwrs, nid ydym wedi cael comisiwn seilwaith yng Nghymru, sydd wedi ein dal yn ôl o ran maint a graddfa'r buddsoddiad seilwaith. Nid yw’r arbenigedd ar gael i ni, a dyna pam mewn gwirionedd, yn sicr yn ein gweledigaeth ni, ein bod yn gweld swyddogaeth ganolog, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar gyfer y comisiwn seilwaith wrth lunio'r trefniadau ariannu, gan gynnwys rhai o'r dulliau arloesol—y model dosbarthu di-elw y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd cyllid ato yn gynharach—ond hefyd ddulliau mwy confensiynol i bartneriaeth cyhoeddus-preifat. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig am ei feddwl esblygol ar swyddogaeth y comisiwn seilwaith yn hynny o beth. Rydym yn amheus o ran pwy sy'n gwneud hynny. Mae awgrym y gallai'r banc datblygu mewn gwirionedd adeiladu tîm sy'n edrych yn benodol ar fuddsoddi mewn seilwaith. Rydym yn agored i hynny. Y pwynt yw nad oes gennym yr arbenigedd ar hyn o bryd yng Nghymru ac mae angen i ni newid hynny yn gyflym iawn, iawn.

Yn olaf, mae'n gwestiwn mewn gwirionedd sydd mewn ffordd yn gorgyffwrdd, unwaith eto, ei gyfrifoldeb ef a'i gydweithiwr Cabinet yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n gwestiwn o’r awydd o fewn y Llywodraeth i gynyddu’r cyflymder, ond hefyd ymestyn graddfa'r buddsoddiad seilwaith cyhoeddus. Y llynedd, cynhyrchodd yr OECD adroddiad a oedd yn dweud y dylai economi fodern, economi ddatblygedig, fod yn gwario tua 5 y cant o werth ychwanegol gros ar adnewyddu a moderneiddio seilwaith. Yn y DU y llynedd, roedd mor isel â 1.5 y cant. Mae'n bosibl hyd yn oed yn is yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau hanesyddol ar ein gallu i fuddsoddi mewn prosiectau fel hyn. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £20 biliwn dros y pum mlynedd nesaf. A yw'r awydd yno yn y Llywodraeth, os oes angen, i edrych ar ffynonellau arloesol o gyllid i oresgyn rhai o'r cyfyngiadau sy'n ein hwynebu o hyd o ran pwerau benthyca, ac ati? Oherwydd a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, fel y dywedodd Gerry Holtham, cyn-gynghorydd arbennig ariannol i Lywodraeth Cymru, y gallai hyn fod o fudd deuol i Gymru, nid yn unig o ran gosod y sylfeini, drwy'r seilwaith ei hun, am genhedlaeth i ddod , ond hefyd o ran cael symbyliad sylweddol iawn o safbwynt yr economi? Pe byddem yn edrych ar raglen o £3 biliwn ychwanegol dros gyfnod o bum mlynedd, gallai fod yn symbyliad cyfartal i dwf ychwanegol 1 y cant o ran gwerth ychwanegol gros. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth yw meddylfryd presennol y Llywodraeth o ran a yw’r awydd gennych i wir gynyddu lefel y buddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus, sydd, am amrywiaeth o resymau, wedi bod yn llawer is na llawer o’n cenhedloedd partner ac sy'n cystadlu mewn mannau eraill yn Ewrop yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau, a chofnodi fy niolch i Adam Price ac i Dai Lloyd am y trafodaethau adeiladol iawn yr ydym wedi eu cael? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'u plaid am yr hysbysiad ymlaen llaw a gefais yn ogystal â’r cynigion ar gyfer comisiwn seilwaith Plaid Cymru ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod y trafodaethau a'r ddogfen a gynhyrchwyd gennych wedi bod yn amhrisiadwy wrth fwrw ymlaen â’r trafodaethau yr ydym wedi’u cael hyd yma, ac, fel y nodais yn fy natganiad, hwn yw’r cam cyntaf, yn fy marn i, ar gyfer sefydlu comisiwn seilwaith ar gyfer Cymru.

O ran yr hyn sydd wedi digwydd ar lefel Llywodraeth y DU, rwy’n cydnabod ei fod yn dipyn o syndod na wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen gyda gwneud eu comisiwn yn statudol. Rydym wedi gofyn am resymu manwl yn y cyswllt hwn, gan ein bod wedi bod yn datblygu ein model ni ar y sail eu bod nhw yn mynd i fod yn gwneud eu model hwy yn statudol. Ac felly'r cam nesaf naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn y blynyddoedd i ddod, fyddai y gallem ni hefyd wedyn drawsnewid ein model ni yn gorff statudol. Rydw i wedi addo sicrhau, erbyn diwedd y Cynulliad hwn, y bydd adolygiad o gylch gwaith, effeithiolrwydd a gweithrediadau’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, fel y gallwn asesu'n llawn a ddylai fod yn statudol. Ac yna, os felly, bydd yn ein galluogi ni i gynnig deddfwriaeth pan fo hynny'n bosibl.

O ran ariannu gwaith, wrth gwrs, mae'n hanfodol fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, ond yn arbennig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ond mae’r Aelod hefyd yn iawn cyn belled ag y mae ariannu arloesol yn y cwestiwn. Rwy'n credu y bydd aelodaeth y comisiwn seilwaith yn gwbl hanfodol yn hyn o beth. Bydd yn bwysig iawn bod gennym yr arbenigedd priodol nad yw efallai wedi bod ar gael nes yn ddiweddar er mwyn ein galluogi i gyd-drafod pa fath o gyllid arloesol mewn gwirionedd all gefnogi'r prosiectau seilwaith mawr sydd eu hangen yn fawr iawn ar Gymru.

Os caf fi adolygu rhai o'r ystyriaethau yr ydym wedi bod yn eu rhoi i godi cyllid ychwanegol, rydym yn rhannu’r nod o godi arian ychwanegol ar gyfer buddsoddiad seilwaith cyhoeddus drwy ddatblygu modelau sy'n cadw’r rhan fwyaf o nodweddion deniadol y model dosbarthu dielw , ond sy'n adlewyrchu'r drefn dosbarthiad presennol, a all lyffetheirio rhai o'r datblygiadau sy'n cael eu cynnig gan Blaid Cymru. Rydym wedi ymgysylltu â chynghorwyr cyfreithiol ac ariannol i gynorthwyo gyda datblygu model sy'n caniatáu i'r sector cyhoeddus gasglu rhai o'r adenillion i ecwiti, y mae’r Albanwyr, wrth gwrs, wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn ei wneud drwy ganolbwynt, ac yr ydym ninnau hefyd yn cynnig ei wneud.

Rydym wedi ymgynghori'n helaeth gyda chydweithwyr o Futures Scottish Trust a hefyd â Thrysorlys Ei Mawrhydi, gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Eurostat a Chanolfan Arbenigedd Partneriaeth Cyhoeddus-preifat Ewropeaidd Banc Buddsoddi Ewrop, ac rydym yn datblygu ein model mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr, gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid gyda'r ganolfan arbenigedd Ewropeaidd.

O ran y lefelau hanesyddol o danfuddsoddi mewn llawer o'n seilwaith, rwy’n meddwl fy mod wedi sôn yn ystod y cwestiynau yn gynharach ac yn ystod y cwestiwn brys, yn hanesyddol, ein bod wedi gweld tanfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n deg dweud bod angen inni gynyddu'n sylweddol lefel y buddsoddiad ar draws ein seilwaith ffisegol a digidol er mwyn sicrhau bod gennym wlad sydd â chysylltiadau da ac sy’n unedig, ac yn wlad lle mae pobl yn gallu byw o fewn eu cymunedau heb bryderu sut y byddant yn cael mynediad at fannau cyflogaeth. Am y rheswm hwnnw, mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen gyda'r hyn sy’n un o'r rhaglenni seilwaith mwyaf uchelgeisiol y mae Llywodraeth wedi’i chyflwyno ers dechrau datganoli. Mae’n cynnwys cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, trydedd bont Menai, a gwaith uwchraddio i'r A494, A55, A40, ffordd osgoi'r Drenewydd a ffordd osgoi Caernarfon, yn ychwanegol at y cam nesaf o gysylltedd band eang cyflym iawn, ac mae hefyd yn cynnwys rhaglenni cymdeithasol, megis canolfannau iechyd ac ysbytai newydd, ac, wrth gwrs, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, addysg uwch ac addysg bellach.

Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth honni y gall rhaglenni cyfalaf gynyddu yn sylweddol y raddfa o dwf economaidd mewn gwlad, ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn dymuno hefyd gyflymu'r rhaglen adeiladu er mwyn i ni mewn gwirionedd danio economi dyfodol Cymru .

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Nid yw’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru, byddwn yn dweud, yn ymddangos yn debyg iawn i'r cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru—cynnig, wrth gwrs, a oedd yn ffurfio’r sail ar gyfer cefnogaeth Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru.

Rydych hefyd wedi cynnig corff cynghori anstatudol nad yw'n ymddangos i fod yn wirioneddol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi nodi’n flaenorol—ac rwy'n eu dyfynnu yma—y byddai trosglwyddo cynllunio seilwaith datganoledig, ariannu a chyflenwi i gomisiwn seilwaith Cymru annibynnol yn caniatáu dull cyfannol o gynllunio ein seilwaith, sicrhau arbedion maint a rhoi'r hyder i fusnesau fuddsoddi.

Felly, a gaf i ofyn, ar sail hynny, pam y gwnaethoch ddewis cyfyngu ar swyddogaeth y comisiwn i ddarparu cyngor, yn hytrach na mabwysiadu cynigion Plaid Cymru i fenthyg y swm a nodwyd—£5.5 biliwn?

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ei chomisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail barhaol ac wedi sefydlu siarter frenhinol. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi ymrwymiad o annibyniaeth y corff, byddwn i'n dweud. Felly, a gaf i ofyn sut y byddwch yn sicrhau bod y comisiwn yn annibynnol a hefyd efallai y gallech siarad am y trefniadau llywodraethu, hyd at y pwynt hwnnw?

Mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn p’un a ddylai cylch gwaith y comisiwn ymestyn i seilwaith heb ei ddatganoli yn ogystal â seilwaith datganoledig. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o fanylion pellach ar ba effaith yr ydych chi'n teimlo y bydd comisiwn Cymru anstatudol yn ei chael ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a sut y bydd yn dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn datgan na fyddai'r cylch gwaith yn ymestyn i seilwaith cymdeithasol, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pam eich bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Unwaith eto, mae'n ymddangos i fod yn wahanol i ddull Plaid o weithredu.

Yn olaf, rydych yn datgan y bydd y comisiwn yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Nawr, sut y byddwch yn bwriadu monitro a gorfodi hyn ar gorff anstatudol, nad yw'n ddarostyngedig i’r Ddeddf? Efallai y gallech ateb a fydd hyn yn cael ei gynnwys yn y llythyr cylch gwaith y byddwch yn ei anfon at y comisiwn.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, a dweud, mewn gwirionedd, fy mod yn credu bod angen rhoi mwy o barch i’r trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, oherwydd mai’r compact yw'r hyn sydd mewn gwirionedd wedi cyflawni’r darn hwn o waith sy'n yn awr yn mynd yn ei flaen? Rwy'n credu ei fod yn ddarn sylweddol o waith y gallwn fod yn falch ohono.

O ran y comisiwn ei hun, wel, byddai'n annibynnol ac, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd aelodau’r comisiwn yn cael eu penodi ar sail gwybodaeth a phrofiad arbenigol ac yn sicr nid yn rhinwedd unrhyw swydd sydd ganddynt. Rwy'n disgwyl i aelodau allu meddwl a gweithredu ar draws pob sector. Bydd angen iddynt fod yn greadigol a bydd angen iddynt fod yn gynhwysol wrth ddadansoddi anghenion yn y dyfodol a hefyd heriau’r polisi cyhoeddus o'n blaenau, megis datgarboneiddio.

Gwneir penodiadau drwy ymarfer penodiadau cyhoeddus agored, sydd, wrth gwrs, yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer penodiadau gweinidogol i gyrff cyhoeddus. Bydd eithriad—ac mae hyn yn cydnabod pwynt arall a godwyd gan yr Aelod—cyn belled ag y mae gweithgarwch Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a seilwaith ar draws y ffin. Bydd un eithriad, sef penodiad uniongyrchol aelod o gomisiwn seilwaith y DU, a fydd wedyn yn cydnabod natur drawsffiniol llawer o'n seilwaith, yn enwedig y seilwaith a fydd yn cael ei ddatblygu yn y degawdau i ddod, ac rwy’n meddwl, yn arbennig, y broses o gyflwyno metro’r gogledd-ddwyrain a hefyd rywfaint o'r seilwaith ffyrdd sy'n ymestyn o ganolbarth Cymru i mewn i ganolbarth Lloegr.

Cododd yr Aelod bwynt ynghylch benthyca a pham na fyddwn yn cynnwys o fewn cylch gorchwyl y comisiwn y gallu i fod yn gallu benthyg. Yn awr, mae hyn yn bennaf yn fater sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae'n ddatblygiad diweddar, ond mae'n ymwneud â’r ffaith a fyddai benthyca yn eistedd ar neu oddi ar y fantolen. Mae'r ONS yn ystyried na all modelau dielw ddefnyddio cap elw ac eistedd oddi ar y fantolen. Rydym yn gwybod hynny oherwydd yn ddiweddar gwelwyd Llywodraeth yr Alban yn gwrthod cymhwyso’r model at brosiect cyfalaf ffordd osgoi Gorllewin Aberdeen. Mae hefyd, wrth gwrs, gwestiynau, yr wyf yn meddwl sydd wedi cael eu codi yn y Cyfarfodydd Llawn yn ddiweddar, am ein gallu i fod yn gallu ariannu benthyca, a fyddai'n sylweddol, a amcangyfrifir rhwng £600 miliwn a £700 miliwn bob blwyddyn. Wedi dweud hynny, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn cyn belled ag y mae ein gofynion seilwaith yn y cwestiwn, a dyna pam rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â rhaglen adeiladu seilwaith uchelgeisiol iawn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ar y comisiwn. Nid wyf yn meddwl y bydd yn syndod i chi y gallai rhai ohonom sydd y tu allan i'ch cyfeillgarwch clyd â Phlaid Cymru fod braidd yn bryderus am bwy mewn gwirionedd fydd yn ffurfio’r pwyllgor hwn. A yw'n mynd i fod yn nifer o apparatshiciaid o’r ddwy blaid neu, yn wir, a ydych mewn gwirionedd yn mynd i edrych y tu allan i gydweithwyr plaid i boblogi’r cabinet hwn mewn gwirionedd? Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi a gysylltwyd ag unrhyw un neu bob un o'r bobl ganlynol, y math o bobl y byddem yn dymuno eu gweld yn poblogi’r comisiwn hwn, pobl fel Gerry Holtham, a oedd yn rheoli cronfa Morley gydag asedau gwerth £125 biliwn, Nigel Annett, a helpodd i arwain Glas Cymru i fod yn sefydliad dielw, Keith Griffiths, sylfaenydd Aedas, cwmni pensaernïol enwog yn rhyngwladol, a Syr Terry Morgan, cadeirydd prosiect adeiladu enfawr, Crossrail, yn Llundain? Cafodd y bobl hyn eu crybwyll fel ymgeiswyr posibl, a byddai'n ymddangos y byddent wedi bod yn amlwg yn addas ar gyfer y pwyllgor hollbwysig hwn.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i sicrhau nad oherwydd cyfeillgarwch clyd yr ydym ni yma heddiw yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer comisiwn seilwaith cenedlaethol, ond oherwydd bod y ddwy blaid wedi penderfynu bod yn gynhwysol, bod yn oddefgar a chael meddwl agored mewn trafodaethau sydd wedi digwydd. Byddem yn croesawu unrhyw bleidiau eraill sy'n dymuno gweithredu mewn ffordd debyg ac sydd â syniadau adeiladol i ni eu datblygu fel Llywodraeth. Bydd y broses benodi yn unol â gweithdrefnau penodiadau cyhoeddus rheolaidd, a gallaf sicrhau'r Aelod na fydd yn cael ei wneud gan aparatshiciaid pleidiol mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ragarwain ei sylwadau drwy ddweud, wrth gwrs, mai Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw'r ymbarél ar gyfer barnu popeth. Mae'n rhaid i ni sicrhau Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy, ac, os nad ydym yn darparu'r drafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl gyrraedd y gwaith, ni fyddant yn gallu cadw’r swyddi gwerthfawr hynny. Felly, rwy'n siŵr nad ydym yn mynd i fod yn penodi unrhyw apparatshiciaid. Yr hyn yr wyf yn pryderu amdano yw ein bod yn penodi pobl sydd wir yn deall her technolegau’r dyfodol yr ydym yn mynd i fod eu hangen i gadw ar y blaen. Felly, rwyf am siarad am ddau beth. Un yw ochr rhyngrwyd pethau. Gwyddom, ym Mryste, eu bod yn cadw cofnod o bawb sy'n gadael am y gwaith, yr amser a ble maen nhw'n mynd, trwy eu ffôn symudol. Tybed a oes gennym y capasiti hwnnw yma yng Nghymru; ac os na, pam ddim? Rwy'n ymwybodol bod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi buddsoddi £10 miliwn mewn prosiect ymchwil a datblygu i edrych ar sut y gellir ei wneud i weithio yn y dinas-ranbarth. A yw'n mynd i gael ei adeiladu i mewn i fetro’r de, ac a yw’n mynd i gael ei adeiladu i mewn i orsaf fysiau newydd Caerdydd? Oherwydd mae’n hollol anobeithiol os nad oes gennym y lefel honno o gysylltedd gyda thechnolegau newydd.

Yr ail beth yw nad ydych yn gweld llawer o geir trydan yng Nghymru, ac rwy’n meddwl tybed pam. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bwyntiau trydan yn y de. Ni fyddai'n syndod pe na fyddem yn gweld rhai yn y gogledd, oherwydd nid oes yno unrhyw bwyntiau cysylltiad trydan. Felly, ni fyddwch yn gallu mynd y tu hwnt i Aberhonddu oherwydd ni fyddwch yn gallu dod yn ôl. Felly, yn amlwg, mae angen i ni gael rhwydwaith sy'n gallu darparu ar gyfer y mathau newydd o geir nad ydynt yn mynd i fod yn llygru yn y modd y mae nwyon disel neu betrol yn ei wneud. Rwy’n gwybod bod rhai cynhyrchwyr ceir hyd yn oed yn anghofio am geir trydan a mynd yn syth i hydrogen. Os mai dyna'r dechnoleg newydd, nid oes gennym ond dau bwynt cyswllt yng Nghymru—un ym Mhort Talbot ac un yn Nhrefforest. Felly, a yw'r rhain y math o bethau yr ydym yn mynd i fod yn gallu mynd i'r afael â hwy mewn gwirionedd yn y comisiwn seilwaith cenedlaethol? Ac a ydych yn mynd i fod yn edrych nid yn unig y tu hwnt i Gymru, ond y tu hwnt i Brydain er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr unigolion gorau o'r radd flaenaf sydd wirioneddol yn deall y technolegau newydd hyn, a'n bod yn symud ymlaen yn gyflym ac yn symud y tu hwnt i weddill y DU er mwyn cael y seilwaith y bydd ei angen arnom yn y dyfodol?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau a'r cwestiynau pwysig a gododd hi yn ei chyfraniad, a dweud ei bod yn hollol gywir mai’r nodau lles yw’r grym y tu ôl i greu comisiwn seilwaith—nodau a fydd yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar strategaethau tymor hwy i sbarduno buddsoddi yn y seilwaith er mwyn helpu i ddarparu'r math o gymunedau cynaliadwy ac integredig yr ydym i gyd am eu gweld ledled Cymru? O ran cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Russell George mewn cysylltiad â'r nodau lles, fy mwriad i fyddai gwahodd y comisiynydd i archwilio’r potensial o herio'r comisiwn a dal y comisiwn yn atebol am weithredu’r nodau, ac am sicrhau eu bod yn cael eu hanrhydeddu.

O ran aelodaeth—ac rwy’n meddwl bod yr Aelod yn iawn hefyd i ddweud y bydd aelodaeth y comisiwn yn gwbl hanfodol o ran rhoi sylw dyledus i dechnolegau digidol newydd—yn sicr nid wyf yn erbyn y syniad o gael arbenigwyr o'r tu allan i Gymru i ymuno â’r comisiwn. Bydd hon yn broses benodiadau cyhoeddus gwbl agored a thryloyw, a byddwn yn croesawu arbenigwyr o unrhyw le, boed o Gymru, y DU neu ymhellach i ffwrdd, oherwydd fel y dywedais yn fy natganiad, rydym am gael comisiwn amrywiol—un sydd ag aelodau sy'n wirioneddol ychwanegu gwerth ac yn gallu dangos gallu clir wrth ddadansoddi a deall ein hanghenion seilwaith, nid yn unig rhai ffisegol, ond digidol hefyd.

O ran bargen y ddinas a dinasoedd smart, wel, wrth gwrs, roedd yn addewid maniffesto ein plaid i gefnogi datblygiad trefi a dinasoedd smart. Yn ogystal â hyn, fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau, roedd yn amlwg mai’r hyn y mae teithwyr yn ei ddymuno yw gwasanaeth sy’n manteisio ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy'n datblygu cyn belled ag y mae tocynnau a gwybodaeth ar drenau yn y cwestiwn, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau eraill. Felly, byddem yn disgwyl, yn ystod y broses gaffael sy'n digwydd yn awr, i bedwar cynigydd allu cyflwyno cynigion uchelgeisiol i ymelwa a manteisio ar y technolegau digidol diweddaraf ac sy'n dod i'r amlwg mewn trafnidiaeth.

O ran cerbydau modur, mae'n wir, hyd nes yn ddiweddar, nad yw Cymru wedi cael cymaint o bwyntiau trydanu ag y byddem wedi dymuno eu cael ar gyfer ceir trydan. Ond rwy’n cael fy sicrhau gan fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd fod 100 pwynt trydanu yn cael eu datblygu ar draws Cymru. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i nodi bod ceir celloedd hydrogen yn ganolbwynt penodol ar gyfer ymchwil a datblygu yn awr. Yn hyn o beth, mae gennym stori falch iawn i’w hadrodd am Riversimple yn y canolbarth—cwmni sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru; cwmni wnaeth ymddangos yn sesiwn agoriadol cynhadledd Autolink 2016 heddiw yma yng Nghaerdydd. Byddaf yn gwneud datganiad am gyfleoedd allforio yn yr wythnosau nesaf, yn seiliedig ar fy nhaith ddiweddar i Japan. Ond yr wythnos diwethaf, pan siaradais â buddsoddwyr yn Japan, roedd gwybodaeth glir o'r gwaith ymchwil a datblygu sydd wedi digwydd mewn cysylltiad â cheir celloedd hydrogen yng Nghymru ac yn y DU. Mae cryn ddiddordeb mewn cefnogi’r ymchwil honno a'n helpu i fanteisio arni er budd nid yn unig ddefnyddwyr ceir, ond yr amgylchedd ehangach.

Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu'n fawr iawn eich cyhoeddiad heddiw. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn amlwg ar gam cynnar iawn o ran y comisiwn, ond un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno yw’r ffaith bod yn rhaid i’r datblygiadau seilwaith hyn yr ydym yn edrych arnynt gysylltu yn ôl i swyddi a gwaith a chyfleoedd hyfforddi da. Cefais fy nharo gan ffaith a ddarllenais dros y penwythnos nad oes gan yr un awdurdod lleol yng Nghymru gynifer o swyddi erbyn hyn ag oedd ganddynt cyn i Thatcher ddechrau chwifio ei bwyell ym 1981. Pa ganllawiau fydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i'r comisiwn i sicrhau bod cyfleoedd gwaith da yn cael eu blaenoriaethu? Yn ogystal â hyn, sut bydd y polisi prentisiaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn clymu i mewn i waith y comisiwn? Yn olaf, rwy’n meddwl bod gan dasglu’r Cymoedd swyddogaeth allweddol i'w chwarae wrth gyflawni amcanion y comisiwn. Sut bydd yn ffitio i mewn i waith y comisiwn?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i nodi'r angen am swyddi o ansawdd uwch o fewn yr economi, nid yn unig er mwyn rhoi gwell cyfleoedd bywyd i bobl ar draws ein holl gymunedau, ond hefyd i wella gwerth ychwanegol gros economi Cymru. Byddwn yn treialu prosiect Swyddi Gwell, yn Nes at y Cartref, rwy’n credu, yn y Cymoedd fel rhan o dasglu’r Cymoedd y mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog dysgu gydol oes, yn ei gadeirio. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio pob sbardun sydd gennym i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi gallu manteisio ar gyfleoedd am waith sy'n talu'n dda yn cael cyfleoedd drwy fuddsoddi mewn seilwaith. Rwy’n credu y bydd y gwaith o greu banc datblygu ochr yn ochr â datblygiad y comisiwn seilwaith yn helpu i ddenu adnoddau ychwanegol i mewn i fentrau bach a chanolig. Bydd hyn yn gwbl hanfodol er mwyn eu galluogi i dyfu eu cyfalaf ac felly manteisio ar rai o'r cynlluniau seilwaith mawr sy'n dod i lawr y lein. Efallai mai'r hyn sydd bwysicaf oll i gyflogwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yw’r cyfleoedd clir sydd ar y gweill ar gyfer uwchraddio seilwaith. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ei glywed yn rheolaidd iawn gan gynrychiolwyr cwmnïau o bob maint—yr angen am ddarpariaeth ragweladwy wedi’i threfnu o brosiectau seilwaith y gellir manteisio arni. Mae hyn yn rhywbeth yn fy marn i y gallai'r comisiwn fod â swyddogaeth bwysig iawn yn ei ddarparu.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad, a chroesawu’r datganiad yma, yn wir, a diolch iddo hefyd am ei eiriau caredig? Rwy’n diolch iddo hefyd am bob cydweithrediad dros y misoedd diwethaf rhwng ei swyddfa fo, swyddfa Adam Price a’m swyddfa i, ynghylch y syniad yma o gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—‘national infrastructure commission for Wales’, neu NICW. Wrth gwrs, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud eisoes, mae ein NICW ni yn wahanol i’ch NICW chi, onid yw? Ond mwy am hynny yn y man. Wrth gwrs, mae ein NICW ni wedi bod yn ffrwyth pedair blynedd o waith dygn a manwl ar ran Adam Price a chyfeillion a’r sawl sydd yn ymchwilio i’r math hyn o beth, a hefyd pobl sydd yn gweithio yn y maes, yn naturiol. Mi wnaethom ni ei lansio fo, fel yr ydych chi wedi crybwyll eisoes, ac fel y gwnaeth Adam grybwyll, ryw gwpwl o wythnosau yn ôl, ac roedd y sawl fel yr Institution of Civil Engineers wedi eu cyffroi yn syfrdanol ynglŷn â’r syniadau yma o NICW a oedd o’u blaenau nhw y dyddiau hynny. Hynny yw, NICW pwerus, yntefe, sydd yn sefyll ar wahân ar ei draed ei hun, yn gallu benthyg, yn naturiol, a hefyd yn gallu denu ffynonellau eraill o ariannu.

Felly, corff pwerus—dyna’r weledigaeth, achos, fel rydych chi’n gwybod, rydym ni’n byw mewn amseroedd anodd. Mae economi Cymru—. Os ydych chi’n edrychyd ar y cyfoeth, mae 75 y cant o’n cyfoeth, fel y cyfryw, yn dod o’r sector cyhoeddus, a dim ond 25 y cant sy’n dod o’r sector preifat. Felly, er mwyn cynyddu cyfoeth, mae angen cynyddu beth mae busnes yn ei wneud, ac i ddatblygu’r economi, mae angen, fel yr ydych chi’n gwybod, buddsoddi mewn sgiliau a hefyd, yn naturiol, buddsoddi mewn isadeiledd, ac mae gwirioneddol angen buddsoddi mewn isadeiledd. Gwnaethoch grybwyll bod yn uchelgeisiol. Wel, mae angen bod yn uchelgeisiol, ac yn arloesol, achos mae angen mynd amdani. Mae gyda ni sawl project yn yr arfaeth—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw’r prynhawn yma a beth sydd angen ei wneud. Mae rhywbeth yma’n amcangyfrif bod yna brojectau isadeiledd gwerth £40 biliwn yn disgwyl cael eu hadeiladu. Nawr, disgwyl y byddwn ni os nad ydym ni’n gwneud dim arloesol a gwahanol ynglŷn â’r system buddsoddi ac yn gafael yn y cyfalaf er mwyn gallu adeiladu hyn. Dyna pam yr ydym ni wedi dod â’n syniad ni o’r comisiwn seilwaith cenedlaethol yma gerbron. Rwy’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi croesawu’r syniad a’i fod yn fodlon datblygu a bod yn hollol agored i’w esblygu, fel yr ydych wedi cyhoeddi yn y fan hyn. Nawr, buaswn i’n disgwyl, gobeithio, gweld ychydig bach o esblygu ar eich syniad gwreiddiol chi o fod yn rhyw gorff sydd ddim ond yno i gynghori. Yn sylfaenol, rydym ni angen corff sy’n mynd i wneud pethau, fel y mae’r peirianwyr sifil ac eraill yn y maes adeiladu eisiau ei weld yn digwydd, achos mae amser yn brin, ac mae yna gryn bryder, yn enwedig yn y dyddiau ansicr yma wedi Brexit. Mae angen mynd i’r afael â phethau.

Felly, rwy’n gweld o hwn ein bod ni’n mynd allan i ymgynghori rŵan. A allaf i jest ofyn pa mor agored yr ydych chi i newid eich meddwl? Os ydych chi’n mynd i gael llwyth o bobl yn dod yn ôl atoch yn dweud wrthych, ‘Wel, “actually”, buasai’n well gyda ni gael corff pwerus sy’n gallu gwneud pethau, megis benthyg’, a ydych chi’n mynd i fynd amdani a newid eich meddwl, yn y bôn, a datblygu’r isadeiledd yma yr oedd Jenny Rathbone a Vikki Howells ac eraill yn sôn amdano fo? Dim ond ychwanegu at y rhestr aros yr ydym ni, os nad ydym ni’n mynd i’r afael â’r pethau yma.

Mi fuaswn i’n licio gwybod, fel y mae Adam wedi holi eisoes, beth yn union ydy’r rhesymeg ar hyn o bryd y tu ôl i alltudio projectau adeiladu cymdeithasol, megis adeiladu ysgolion, adeiladu ysbytai, ac adeiladu tai? Pam na fuasem ni’n gallu gwneud hynny o dan ‘remit’ NICW? O dan ein NICW ni, buaswn i’n licio meddwl ein bod ni’n gallu ei wneud e, a buaswn i’n gobeithio y buasai eich NICW chi hefyd yn datblygu’r gallu i wneud hynny, achos, ar ddiwedd y dydd, mae gwir angen mynd amdani. Mae sefyllfa’r economi yn beryglus. Mae’n rhaid inni ddatblygu swyddi i’n pobl ifanc, datblygu cyfoeth ein gwlad, ac mae yna fodd yn y fan hyn, gyda datblygiad y corff anturus yma, i fod yn arloesol ac arwain yn yr ynysoedd hyn. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei sylwadau ac am ei ddiolch diffuant, hefyd, am y modd yr wyf i a’m swyddfa wedi gallu trafod cynigion gydag ef ac Adam Price. Rwyf wedi dweud o'r blaen nad oes gen i ddim monopoli ar ddoethineb neu unrhyw hawlfreintiau ar syniadau da. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn y mae'r broses hon wedi ei dangos i ni yw, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig iawn inni rannu syniadau da, eu trafod a chynnal dadl arnynt, ac yna gyrraedd sefyllfa gytbwys, yn hytrach na’u gwrthod yn ysmala. Am y rheswm hwnnw, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn barod iawn i ddewisiadau eraill gael eu cynnig yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd hynny’n un o'r rhesymau pam yr wyf yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod da, fel y bydd yn ein galluogi ni i ystyried y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig o safbwynt model Llywodraeth yr Alban a'r dyfarniad diweddar i'r gogledd o'r ffin hefyd. Mae hynny yn amlwg wedi cael effaith ar y ffordd yr ymdriniwyd â model eich plaid chi am gomisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ni fyddaf yn ailadrodd y materion eraill yr ydym wedi eu cael yn ystod y trafodaethau a'r pryderon yr wyf wedi eu codi yn y Siambr ac mewn trafodaethau preifat gyda chi. Digon yw dweud fy mod yn agored i ddadleuon cryf dros newid y model yr wyf wedi'i gynnig yr wythnos hon.

O ran lefel y seilwaith sydd ei angen i danio twf economaidd yn y dyfodol, rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn parchu swyddogaeth y sector preifat o ran cyflawni’r hyn a allai fod yn brosiectau sy'n newid pethau yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu y bydd swyddogaeth y comisiwn i gymryd golwg hirdymor ar ein hanghenion seilwaith yn gwbl hanfodol. O ran dau brosiect yn unig, Wylfa Newydd a'r morlyn llanw ym mae Abertawe, mae gennym y potensial i ddenu mwy na £15 biliwn o fuddsoddiad a darparu gwaith i filoedd ar filoedd o bobl am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hynny'n bwysig am ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y seilwaith sy'n angenrheidiol eisoes wedi’i sefydlu er mwyn i’r prosiectau hynny gael eu cyflenwi mewn pryd ac mewn ffordd sy'n cipio cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl leol. Rwy’n meddwl mai dyna pam, hefyd, ochr yn ochr â datblygiad y comisiwn, mae'n mynd i fod yn bwysig ein bod yn cael sail dystiolaeth oddi wrth Swyddi Gwell, yn Nes at y Cartref i lywio sut yr ydym yn mynd i fod yn sicrhau bod prosiectau seilwaith mawr o fudd i gymunedau a phobl nad ydynt efallai wedi elwa o brosiectau seilwaith mawr yn y gorffennol.

O ran seilwaith cymdeithasol, rwy’n teimlo bod y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer pennu ble a pha seilwaith cymdeithasol y dylid ei ddarparu yn deg ac yn gweithredu'n briodol, ac yn gweithredu'n gyfrifol. Ond, unwaith eto, yn ystod y broses ymgynghori, byddwn yn agored i unrhyw ddadleuon cryf i'r gwrthwyneb.

Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall yr wyf yn bwriadu eu cymryd, felly os yw’n gwestiwn ac ateb byr gan y Gweinidog, gallwn fynd drwy hynny. Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn nodi yn yr ymgynghoriad bod angen i waith y comisiwn, a chyngor y comisiwn, gael eu gosod yng nghyd-destun rhagolwg realistig o lefel y buddsoddiad cyfalaf sy'n debygol o fod ar gael, ac rydych wedi siarad ychydig am yr ystod o ffynonellau y gallai hynny ddod ohonynt. Ai eich bwriad yw y byddai’r Llywodraeth yn dangos i'r comisiwn yn y llythyr cylch gwaith beth allai cwmpas y cyllid fod, neu a fyddai hynny yn rhywbeth y byddech yn disgwyl i'r comisiwn ei hun ei gynhyrchu?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn ail, yn fyr, o ran y meini prawf fydd yn cael eu defnyddio i asesu hyfywedd unrhyw brosiect penodol, ai’r bwriad yw edrych yn ehangach ar effaith prosiect penodol ar yr economi leol a rhanbarthol ac, mewn gwirionedd, yr economi genedlaethol?  Gofynnaf y cwestiwn gan fy mod yn casglu mai dim ond dau brosiect trafnidiaeth, Crossrail ac ymestyn llinell y gogledd, sydd wedi cael y golau gwyrdd yn ffurfiol ar y sail honno. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich barn ar y meini prawf ar gyfer cymeradwyo prosiectau penodol.

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gwestiynau a dweud y byddai ariannu a darparu’r seilwaith dan y model yr ydym yn ei gynnig o ran y gronfa o arian sydd ar gael, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i’r Llywodraeth. Byddai'n cael ei lywio gan gyngor y corff newydd, ond byddai cwantwm gwirioneddol yr adnoddau sydd ar gael yn dal i gael ei benderfynu gan y Llywodraeth. O ran yr asesiad o’r effaith y mae'r Aelod yn tynnu sylw ato, byddwn yn disgwyl i aelodau fabwysiadu arferion gorau cyn belled ag y mae asesiad o effeithiau economaidd neu effeithiau eraill yn y cwestiwn, a bydd hyn, wrth gwrs, yn ei gwneud yn ofynnol penodi’r aelodau iawn i’r comisiwn.

Yn yr un modd rwyf innau’n croesawu’r datganiad heddiw ac, Ysgrifennydd y Cabinet, eich ymateb i fy nghydweithiwr Vikki Howells lle’r oeddech yn cyfeirio at bwysigrwydd cael prosiectau clir yn yr arfaeth, sy'n rhywbeth a gafodd ei ddwyn i mi yn uniongyrchol mewn ymweliad â Tarmac yn Hendre yn fy etholaeth i ddoe, pan wnaethant bwysleisio pwysigrwydd dull mwy strwythuredig o weithredu prosiectau seilwaith mawr. Yn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru

‘wedi ymrwymo i gomisiwn cynhwysol yn ddaearyddol sy'n rhoi cyngor ar anghenion seilwaith ar gyfer Cymru gyfan’.

Byddwn yn eich annog i roi pwyslais cryf ar hynny. Hefyd, yn yr ymgynghoriad, mae'n sôn am wybodaeth arbenigol. Credaf fod angen i hynny hefyd ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o ofynion amrywiol a gwahanol y rhanbarthau a ffactorau ar draws y wlad er mwyn sicrhau bod y cynwysoldeb hwnnw yn berthnasol o fewn yr holl waith.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a dweud fy mod yn gyfarwydd iawn â Tarmac yn Hendre? Credaf mai chwarel Lloyd ydoedd cyn hynny—y teulu Lloyd o Bant-y-mwyn. Roeddwn yn arbennig o falch o fod yn gallu ymuno â'r Aelod ddoe yn P & A Fencing yn yr Wyddgrug i ddysgu am eu cynlluniau i fwy na dyblu nifer y gweithwyr sydd ganddynt, yn rhannol yn sgil darparu ffensys ar gyfer rhaglenni seilwaith mawr. Roedd hynny’n dangos sut y gall busnesau bach a chanolig yng Nghymru fanteisio ar raglenni seilwaith mawr ledled y wlad.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i alw am barch daearyddol i’n seilwaith. O ran hyn, byddaf yn sicrhau na fydd y comisiwn yn cyfarfod yn ne-ddwyrain Cymru yn unig, lle y byddai rhywun yn ei ddisgwyl efallai, ond hefyd ar draws Cymru—yn y gogledd, yn y canolbarth ac yn y gorllewin.

6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rhaglen i ddileu TB buchol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 16:21:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru sydd wedi’i diweddaru.

Mae ein fframwaith 2012 ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru yn dod i ben eleni. Mae'n amser i asesu, adlewyrchu ar ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried dull newydd. Ers 2012, rydym wedi gweld nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng Nghymru yn lleihau. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 19 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer y buchesi dan gyfyngiadau TB wedi gostwng 10 y cant. Y prif reswm dros y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd yng Nghymru oherwydd TB yw oherwydd cynnydd yn nefnydd y prawf gwaed gama interfferon wedi'i dargedu, er mwyn helpu i gael gwared ar haint mewn achosion rheolaidd a pharhaus.

I roi enghraifft, rydym yn gweld sefyllfa sy'n gwella, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, lle mae 68 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau TB oherwydd TB yng Nghymru. Hefyd, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB ar hyn o bryd ar ei lefel isaf mewn 10 mlynedd. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwella cynnydd gan ddefnyddio set o fesurau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein nod hirdymor o ddileu TB. Mae ein hymagwedd tuag at ddileu clefyd wedi canolbwyntio ar bob ffynhonnell o haint TB, gan gynnwys trosglwyddo o fuwch i fuwch a TB yn cael ei ledaenu gan fywyd gwyllt a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae'r rhaglen hon, sydd wedi’i diweddaru, yn cynnwys cyfres gynhwysfawr a chydlynol o fesurau, gan gynnwys dull newydd, rhanbarthol o ddileu TB sy’n cynnwys rhannu ardaloedd yn dri chategori ar sail nifer yr achosion o TB, cryfhau rheolaethau gwartheg, mesurau bywyd gwyllt a newidiadau i’r broses iawndal. Byddwn hefyd yn edrych o’r newydd ar y dull o reoli ein rhaglen.

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ein dull newydd. Hoffwn i bawb y mae TB buchol yn effeithio arnynt neu unrhyw un sydd â diddordeb yn ein rhaglen, i ystyried ein cynigion a rhoi sylwadau, a fydd yn helpu i lunio ein cynlluniau. Erbyn hyn, rydym wedi cwblhau bron i saith mlynedd o brofion blynyddol ar fuchesi, sy'n parhau i nodi haint yn gynnar ac yn darparu set ddata amhrisiadwy sy’n dangos y darlun amrywiol o ran y clefyd ar draws Cymru. Rwy’n bwriadu cynnal profion blynyddol ar fuchesi am gyhyd ag y bo angen.

Rydym ni’n gwybod o'r dangosfwrdd TB nad yw achosion o'r clefyd yn unffurf ar draws Cymru a cheir gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar ledaeniad y clefyd ym mhob ardal. Fel yr esboniais yn y ddadl y mis diwethaf, rydym yn awr mewn sefyllfa i ddilyn dull mwy rhanbarthol tuag at fesurau i ddileu TB. Byddwn ni’n defnyddio tri chategori o ardaloedd ledled Cymru: isel, canolradd ac uchel. Ar gyfer pob ardal, byddwn ni’n addasu ein dull i adlewyrchu amodau a risgiau’r clefyd. Rydym ni’n awyddus i ddiogelu’r ardal sydd â nifer isel o achosion o TB a lleihau nifer yr achosion yn yr ardaloedd sydd â nifer canolradd ac uchel o achosion o TB. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, mae'n rhaid i’r mesurau sydd am gael eu gweithredu ym mhob ardal fod wedi’u targedu ac mae’n rhaid iddynt fod yn gymesur, a hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar ein cynigion, a fydd yn cyfrannu at ein nod hirdymor o ddileu TB.

Rydym wedi bod yn targedu buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers dros 18 mis, gan ddefnyddio mesurau gwell. Rydym bellach yn ymestyn hyn i gynnwys meysydd sy’n achosi problemau a buchesi sy'n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro. Bydd gan bob un o'r buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro gynlluniau gweithredu unigol, pwrpasol, wedi’u datblygu mewn partneriaeth â'r ffermwr, y milfeddyg a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, sydd â’r nod o gael gwared ar haint. Bydd y cynlluniau gweithredu hyn yn cynnwys mesurau megis bod yn fwy sensitif, cynnal profion yn amlach a chael gwared ar adweithyddion amhendant. Mae'r 10 achos hiraf o heintiau TB parhaus ar eu pennau eu hunain wedi costio dros £10 miliwn mewn arian iawndal er 2009 i’r Llywodraeth. Mae rhai o'r buchesi hyn wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers mwy na 10 mlynedd. Rhagwelir y bydd ehangu’r agwedd hon ar y rhaglen yn targedu’r clefyd yn yr achosion cronig hyn a lleihau bodolaeth yr haint yn gyffredinol.

Rwyf hefyd yn gofyn am sylwadau ynglŷn â rhoi cosbau iawndal ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu symud o fewn daliad amlsafle sydd wedi’i gyfyngu o ran buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro os cânt eu lladd ar ôl hynny o ganlyniad i TB. Rydym eisoes yn lleihau iawndal mewn achosion lle mae gwartheg yn cael eu hychwanegu at fuches gyfyngedig dan drwydded er mwyn rhannu'r risg ariannol yn well, wrth helpu ffermwyr i aros mewn busnes. Bydd y dull hwn yn atgyfnerthu ein rhaglen ymhellach drwy reoli'r risg o ran y clefyd a achosir gan symudiadau penodol o wartheg o fewn daliad. Mae'r mwyafrif o ffermwyr yn cydymffurfio â'r rheolau TB, fodd bynnag, dylai’r rhai hynny nad ydynt yn cydymffurfio gael eu cosbi oherwydd eu bod yn peryglu ein nodau ar gyfer dileu TB. Rwyf, felly, yn ystyried cyflwyno cosbau i daliadau cymhorthdal polisi amaethyddol cyffredin ar gyfer y rhai sy’n torri rheolau penodol o’r Gorchymyn TB. Mae cysylltu ymddygiad a chydymffurfio â'r rheolau i gosbau ariannol eisoes yn rhan o’n rhaglen. Mae’n rhaid i ffermwyr dderbyn y bydd canlyniadau ariannol os nad ydynt yn dilyn y gofynion.

Dylai ffermwyr hefyd ystyried risg wrth brynu gwartheg. Mae cynlluniau prynu doeth wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd. Mae'r gwledydd hyn ar y blaen wrth ddileu TB ac mae'n rhaid i ni barhau i ddysgu gwersi oddi wrthynt ac ail-greu’r rheolaethau mwyaf defnyddiol. Er mwyn helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag iechyd y gwartheg y maent yn dymuno eu prynu, rwy’n ystyried y cynnig i wneud cynllun prynu doeth yn orfodol yng Nghymru.

Ceir tystiolaeth yn achos rhai achosion o TB cronig mewn buchesi bod bywyd gwyllt yn rhan o’r broses o drosglwyddo’r clefyd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o dorri’r cylch trosglwyddo mewn achosion o TB cronig mewn buchesi, lle y gellir dangos bod moch daear yn cyfrannu at y broblem. Byddaf yn glir yn hyn o beth: byddwn ni’n dal i wrthod dull o ddifa moch daear fel a ddilynir yn Lloegr, lle mae ffermwyr yn cael rhwydd hynt i saethu moch daear iach a moch daear sydd wedi’u heintio eu hunain. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ddewisiadau eraill ar gael, gan gynnwys dysgu o'r cynllun peilot yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn ymwneud â dal moch daear mewn cawell a lladd anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn modd nad yw’n achosi poen. Mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion o heintiau cronig mewn buchesi a lle mae gennym gadarnhad gwrthrychol fod moch daear wedi’u heintio, rydym yn ystyried pa un a fyddai dull tebyg yn dderbyniol ac yn briodol, unwaith eto drwy weithio gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt.

Mae gan frechu swyddogaeth bwysig o hyd yn ein dull o ddileu TB ac mae faint o frechlynnau sydd ar gael ar gyfer moch daear yn rhywbeth yr wyf yn cadw llygad barcud arno. Ni fydd brechlynnau i’w defnyddio’n benodol ar gyfer moch daear ar gael yn 2017. Mae brechlynnau eraill sydd ar gael yn dal i fod yn ddewis yr ydym yn ei archwilio. Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i feddwl am ddefnyddio’r brechlyn yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni wybod pa bryd yn union y caiff y cyflenwad ei adfer cyn meddwl am hynny.

Dylai pob fferm, yn ddieithriad, pa un a yw wedi dioddef o haint TB ai peidio, ddilyn arferion da o ran bioddiogelwch a hwsmonaeth bob amser. Mae bioddiogelwch yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag TB buchol a chlefydau anifeiliaid difrifol eraill, a dylai ffermwyr fod yn gallu asesu eu risg. Drwy weithio gyda ffermwyr a'u milfeddygon ac adeiladu ar ein gwaith cynharach yn y maes hwn, rwy’n bwriadu datblygu un offeryn safonol ar gyfer sgorio bioddiogelwch, y gellir ei ddefnyddio gan bob ffermwr i asesu lefelau bioddiogelwch ar eu ffermydd.

Rwy’n gofyn am farn pobl ar ostwng y cap ar gyfer iawndal TB i £5,000. Ni fydd y cap hwn yn effeithio ar y mwyafrif o ffermwyr. Yn seiliedig ar ffigurau'r llynedd, byddai cap o £5,000 yn effeithio ar 1 y cant o’r gwartheg sydd wedi’u prisio, ond byddai'n cynnig arbedion o oddeutu £300,000 y flwyddyn. Pwrpas y cap yw amddiffyn Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chost yr anifeiliaid mwyaf gwerthfawr. Ers 2011, mae prisiadau ar gyfer gwartheg pedigri wedi bod tua dwywaith cymaint â’r gwerth cyfartalog ar y farchnad. Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y mesurau sydd gennym ar waith, fod gormod o iawndal yn cael ei dalu mewn rhai achosion.

Yn olaf, rwy’n bwriadu edrych o’r newydd ar y modd y mae’r rhaglen ar gyfer dileu TB yn cael ei llywodraethu. Mae strwythur y rhaglen bresennol wedi bod ar waith ers 2008, ac o ystyried y dull rhanbarthol newydd o ddileu TB a lansiad dull adlewyrchu, dyma'r amser priodol i adolygu trefniadau llywodraethu ein rhaglen. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn ystyried yr holl ymatebion a bydd swyddogion yn llunio rhaglen ddiwygiedig o weithgareddau. Rwy’n bwriadu cyhoeddi'r rhaglen newydd ar gyfer dileu TB yn y gwanwyn, gan roi sylw i’r mesurau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y rhaglen newydd hon ar gyfer dileu TB yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod yn parhau i symud tuag at y nod o Gymru ddi-TB.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â datganiad cynhwysfawr, i fod yn deg, i’r Cynulliad y prynhawn yma? Ac a gaf i ddweud ar y cychwyn fod gwacter polisi wedi bod yn bresennol yn yr hyn mae’r Llywodraeth yn cynnig ei wneud i ddileu’r diciâu mewn gwartheg, yn y ffaith nad oedd brechiadau ar gael ac yn y ffaith bod y Llywodraeth wedi dibynnu ar frechlyn i ddifa’r clefyd? Erbyn hyn, mae’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i mi o’r datganiad hwn, yn derbyn y sefyllfa bresennol, yn derbyn bod angen mynd i’r afael â’r clefyd ymysg bywyd gwyllt yn ogystal, ac yn derbyn bellach fod angen ystyried ac edrych ar opsiynau eraill. Yn y cyd-destun hwnnw, a gaf i ddweud wrthi y bydd amaethwyr a’r diwydiant amaeth yn disgwyl i hynny ddigwydd? Er bod nifer y buchesi sy’n cael eu taro gan y clefyd yn gostwng, mae dwyster y clefyd yn cynyddu ac, fel y mae hi wedi’i amlinellu a dweud y gwir, yn ei datganiad heddiw, mewn ambell i ardal mae’r clefyd yn glwm wrth y ddaear yn llythrennol a bron yn amhosibl i’w waredu heb fynd i’r afael â’r sector bywyd gwyllt yn ogystal.

A gaf i jest ofyn ychydig o gwestiynau penodol felly, gan fod hwn yn ddechrau proses ymgynghorol, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i amlinellu? Yn gyntaf oll, mae’n dweud bydd yr ymgynghoriad hwn, ac efallai’r syniadau newydd sydd yn ei datganiad, yn arwain at ailedrych ar lywodraethiant y rhaglen dileu TB. Wrth gwrs, mae’r rhaglen yn rhywbeth sydd wedi cael cydsyniad y Comisiwn Ewropeaidd a byddai hi’n gwybod, fel minnau, fod nifer o ffermwyr yn poeni bod unrhyw gynllun sydd gennym ni yng Nghymru yn pasio’r prawf sydd gan y Comisiwn er mwyn gwneud yn siŵr bod allforion o Gymru yn cael eu parchu, ac hefyd wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fod y sefyllfa yna yn parhau. A fedrwch chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, jest amlinellu ym mha ffordd yr ŷch chi’n mynd i wneud yn siŵr bod y rhaglen ar ei newydd wedd yn cael y gymeradwyaeth yna?

Can I just turn to the disease and the acknowledgement in your statement that the disease is passed between wildlife and cattle, albeit not always as direct transmission, but as something that is inherent within the environment and pasture? You acknowledge in the statement that we must control the disease within the wildlife population, particularly, as you put it, in chronic areas where it is really embedded.

Can I welcome the fact that you say there will be no English-style cull? I think that’s important. I accept that completely and I don’t think that what England has chosen to do has been particularly successful at all. However, you do accept that the link between the wildlife and the disease in cattle must be addressed. We don’t have vaccination. Can you just say a little bit more about how you may consider taking forward what you chose to evidence in your statement as learning from the Northern Ireland experience? Can you just clarify that that, in effect, can mean that an infected group of badgers might be killed rather than an individual badger and, of course, just emphasise that this is about getting rid of the disease in the badger population? It’s not about a general cull of all badgers or a cull of badgers in a particular area. We have had to move on from the situation we were in several years ago where action areas were attempted within the Welsh context. We’ve got experience of vaccination in the one particular action area that I represent and now it’s clearly time to deal with the infection amongst the wildlife population in those farms where breakdown after breakdown after breakdown has been experienced.

Just to turn to your proposal to cap compensation in particular. How are you going to ensure that we don’t have a re-run of the farce that we had the last time we looked at compensation payments? I accept that you want to ensure there is no over-valuation in the process here, but is capping compensation the way to do that rather than, as you do on the farming side, bearing down more on the correct valuation and the correct use of those valuation procedures? I wonder what has brought you to think that capping compensation, which is a rather sledgehammer-to-crack-a-nut approach—albeit quite a big nut, I accept that—but it’s a pretty big sledgehammer as well. It doesn’t take into account the real value of pedigree beasts, and that’s something that I think farmers will want to have assurance on.

Can you say a little more about the potential to make informed purchasing mandatory in Wales? This is something I discussed actually yesterday in Welshpool market myself. The concern there is not so much what could happen in the Welsh context, but how that affects cross-border flows, how it affects sales—a lot of sales from Welshpool, as you can imagine, cross the border—and particularly the way that, increasingly, some cattle purchasers outside Wales are not really engaging in the Welsh cattle market, because they have concerns about TB status in Wales. Some other things that you’ve set out in the statement might help those concerns, but I just want to understand how informed purchasing can work in Wales when we have such a cross-border flow of sales as well, and whether you’ll be modelling that before perhaps introducing it.

So, the final thing to say is that I do recognise and welcome that there’s a regional approach here set out in your statement. It’s something that Plaid Cymru has asked for consistently, and we want to see the widest possible range of tools available, not just directly to farmers, but to the Government as well, to deal with the disease based on local need and disease status. I think the final thing to ask and to say is that when, as you state in your proposal, the idea is to tackle the really deep-seated TB in conjunction and hand-in-hand with farmers and experts and vets, that you will ensure that the lessons that we have from Northern Ireland and the potential to really target in the wildlife population is there as an option for that way forward.

Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau hynny. Rwy’n gwrthod yr honiadau y bu diffyg gweithgarwch yn ein rhaglen dileu TB ers i ni gyhoeddi na fyddem ni’n brechu moch daear. Dim ond un rhan o'r rhaglen yw hynny; mae gennym fesurau eraill, ac mae hynny'n cynnwys y gyfundrefn profi anifeiliaid. Rydym ni wedi bod yn profi llawer mwy nag yr oeddem ni. Mae gennym ni’r pecyn Cymorth TB. Rydym wedi cael prynu doeth, er bod hwnnw, yn amlwg, yn gynllun gwirfoddol. Ond rwyf yn credu mai dim ond un rhan o'n cynllun yw hynny.

I ateb eich cwestiwn ynglŷn â phwyso a mesur y modd y caiff y byrddau eu llywodraethu, ceir nifer o agweddau ar hynny. Os ydym ni am weithredu’r dull rhanbarthol hwn, yn amlwg, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn awr—ymgynghoriad 12 wythnos ydyw; mae'n dod i ben ar 10 Ionawr—a cheir llawer o bethau nad ydym wedi cael yr atebion iddynt eto, ac rwyf wirioneddol yn dymuno ystyried yr ymatebion a gawn. Mae angen i ni asesu’r byrddau gan fod y byrddau bellach yn seiliedig ar ranbarthau na fyddant yn cyd-fynd â'r rhanbarthau y byddai gennym wrth symud ymlaen. Felly, rwy’n credu bod angen inni edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar ein byrddau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi’n synnu wrth fy nghlywed i’n dweud hynny.

Mewn cysylltiad â Gogledd Iwerddon-. Ac rwy’n falch iawn eich bod chi’n croesawu’r datganiad eglur na fydd difa’n digwydd, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond rwyf wedi ystyried cynllun peilot Gogledd Iwerddon yn fanwl iawn, iawn dros yr haf. Yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu cyflwyno. Nid ydym am ymgynghori ar hynny-bydd hynny yn digwydd-ac mae'n bwysig fod gennym-. Wyddoch chi, nid oes gan neb yr ateb. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid oes gennyf yr atebion o’m blaen i yma; nid oes gan ffermwyr yr atebion. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu llunio gyda'r ffermwr, gyda'u milfeddygon, gyda'n milfeddygon ni os oes angen, a chyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â hynny. Mae wedi bod yn eithaf anodd, yn fy marn i. Ychydig o ddealltwriaeth sydd gennym ynglŷn â sut y mae TB yn lledaenu rhwng gwartheg a moch daear, felly mae'n bwysig iawn bod ffermwyr yn deall gweithgarwch y moch daear ar eu ffermydd, a’n bod ni i gyd yn gweithio gyda'i gilydd o ran hynny. Ac rydych chi'n iawn, mae'n ymwneud ag iechyd a lles poblogaeth y moch daear hefyd. Felly, rwyf wedi gofyn, fel y dywedais, i swyddogion ystyried hynny’n agos iawn.

O ran masnach, gwn fod pryderon wedi’u crybwyll ynglŷn â masnach. Nid dim ond Cymru sydd â TB; mae TB buchol yn bresennol yn rhannau eraill o'r UE. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n cadw ein henw da am y safonau uchaf posibl o ran iechyd a lles anifeiliaid. Roeddwn i yn SIAL ym Mharis ddoe, lle’r oedd yn glir iawn bod pobl yn derbyn heb os bod ein cynnyrch ni o'r safon uchaf. Soniwyd wrthyf sawl gwaith fod pobl yn deall bod gan Gymru safon uchel iawn mewn cysylltiad ag iechyd a lles anifeiliaid.

Ynglŷn â gosod cap ar iawndal, rwyf wedi ystyried hynny eto yn ofalus iawn. Mae'n destun ymgynghoriad, fel y dywedais, ac os yw pobl yn teimlo bod—. Fel yr ydych chi’n dweud, mae'n broblem fawr ac efallai ei fod yn ateb eithafol, ond rwy’n credu bod angen i ni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni ddeall, wrth symud ymlaen, a gadael yr UE, fod 10 y cant o gyllideb y rhaglen dileu TB yn dod o'r UE—sef rhwng £2 filiwn i £3 miliwn yr ydym yn mynd i’w golli. Felly, mae angen inni ystyried ffyrdd o arbed arian. Byddaf, eto, yn ystyried yn fanwl iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd gennym yn ymwneud â'r iawndal. Rwy’n deall pryderon ffermwyr. Ffermwr mewn gwirionedd a ddywedodd wrthyf, 'Gallwn ni yswirio ein gwartheg os ydym ni o’r farn eu bod o werth llawer uwch.' Gallwn bwyso a mesur hynny, fel y dywedais, pan fydd gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

Bydd prynu doeth, eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, ond rwy’n credu bod llawer iawn o waith y gallwn ni ei wneud i helpu ffermwyr i liniaru'r risg o brynu gwartheg wedi'u heintio. Ac nid yw’n ymwneud â gweithio gyda ffermwyr yn unig, mae'n ymwneud â gweithio gyda marchnadoedd, a gwn ein bod wedi annog marchnadoedd i osod byrddau pan fo gwartheg yn cael eu gwerthu, i gael gwybodaeth ynglŷn â hynny. Ond, mae angen inni edrych ar yr elfen drawsffiniol. Yn amlwg, os bydd yn cael effaith ar draws y ffin, rwy’n hapus iawn i bwyso a mesur hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

A allaf hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Hoffwn i ddatgan er mwyn y cofnod, fod fferm fy rhieni yng nghyfraith wedi’i heffeithio gan TB buchol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor ddinistriol ydyw.

Er fy mod yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei dull newydd, ni fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn synnu clywed fy mod o’r farn nad yw’r mesurau sy’n rhan o’r dull yn mynd yn ddigon pell ar hyn o bryd i ddileu'r clefyd ofnadwy hwn. Rwy’n credu bod angen dull cyfannol llawn erbyn hyn, sy'n cynnwys defnyddio pob offeryn sydd gennym i ddileu TB buchol yn ein gwartheg a phoblogaethau bywyd gwyllt. Rwy'n siomedig dros ben nad yw datganiad heddiw ar hyn o bryd yn cynnwys dull llawer mwy cyfannol o fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn ein bywyd gwyllt.

Yn wir, roedd adroddiad Llys Archwilwyr Ewrop a oedd yn ymwneud â’r rhaglenni dileu, rheoli a monitro clefydau anifeiliaid, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cydnabod bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i TB buchol gan gynnwys mesurau wedi'u targedu ar gyfer bywyd gwyllt. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet yw pa un a yw hi’n derbyn canfyddiadau'r comisiwn neu beidio. Ac, yn unol â hynny, ac yn ychwanegol at ddatblygiadau monitro yng Ngogledd Iwerddon, pa gamau penodol eraill y bydd hi yn eu cymryd yn awr i ddileu TB buchol yn y boblogaeth bywyd gwyllt? Yn wir, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa mor hir y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro datblygiadau yng Ngogledd Iwerddon gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt, neu pa un a fydd y datblygiadau hyn mewn gwirionedd yn rhan o'r ymgynghoriad 12 wythnos.

Ceir pryderon hefyd ynghylch y profion ar wartheg, o ystyried pa mor hen a sensitif yw’r prawf presennol. Gwyddom fod gan y prawf presennol ystod sensitifrwydd o 80 i 90 y cant, ac felly mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r diwydiant milfeddygol i ail-werthuso a yw'r prawf hwn, yn wir, yn addas at y diben ai peidio. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at ddefnydd cynyddol o’r prawf gama interfferon, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu profion gama interfferon a phrofion gwrthgyrff, a pha un a yw'n fwriad ganddi weld unrhyw weithdrefnau profi newydd eraill yn cael eu cyflwyno. Yn wir, a oes unrhyw le o fewn yr ymgynghoriad i ystyried gweithdrefnau profi? Rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, wedi buddsoddi mewn cyfleuster profi gama yng Nghaerfyrddin, ac efallai y gallai hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw.

Rwy’n derbyn bod Llywodraethau blaenorol Cymru wedi cefnogi polisi brechu ac rwy’n cytuno â'r datganiad heddiw fod gan frechu ran i'w chwarae. Fodd bynnag, mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd er mwyn deall faint o TB mewn gwirionedd sy’n cael ei ledaenu o fuwch i fuwch, o fuwch i fochyn daear, ac o fochyn daear i fochyn daear, a fyddai'n effeithio ar berfformiad unrhyw frechlyn, yn ddi-amheuaeth. Nodaf o'r datganiad heddiw fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o roi terfyn ar y cylch trosglwyddo. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu ychydig mwy o fanylion am y math o ymgysylltu y mae hi’n dymuno ei weld?

Nawr, mae datganiad heddiw hefyd yn sôn am ddull rhanbarthol, gan rannu ardaloedd TB Cymru yn dri chategori, yn seiliedig ar y lefelau o achosion, a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahanol strategaethau ar gyfer y gwahanol gategorïau hyn. Er fy mod yn deall bod yn rhaid dilyn dull sy’n seiliedig ar risg er mwyn adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol o ran nifer yr achosion o'r clefyd, mae hefyd yn hanfodol nad yw unrhyw strategaethau newydd sy’n seiliedig ar risg mewn ardaloedd yn anghymesur ar gyfer ffermwyr ac nad yw ffermwyr yn wynebu rheolaethau llym ofnadwy. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ba fesurau a fydd yn cael eu defnyddio ym mhob un o'r meysydd categori newydd a sut y bydd y mesurau hynny mewn gwirionedd yn gymesur ar gyfer ffermwyr.

Wrth gwrs, fel y mae’r datganiad yn cydnabod, dylid ystyried cynyddu mesurau bioddiogelwch yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth TB buchol, ac rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru dim ond yn rhoi mwy o ganllawiau a gorchmynion i ffermwyr ynglŷn â bioddiogelwch ar y fferm a'r tu hwnt i’r fferm, ond ei bod yn darparu cymorth ariannol ychwanegol er mwyn gwneud iawn am unrhyw gostau uwch hefyd. Yn wir, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym os bydd cyfle i ffermwyr wneud cais i'r rhaglen datblygu gwledig am arian ar gyfer offer bioddiogelwch, megis cyfleusterau trin gwartheg a chafnau bwyd sy’n ddiogel rhag moch daear, er enghraifft?

Lywydd, rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod yn awyddus i weld strategaeth ar waith er mwyn mynd i'r afael â TB buchol sy'n defnyddio’r holl offer sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ddileu TB buchol yn iawn yn ein poblogaeth bywyd gwyllt yn ogystal â'n poblogaeth gwartheg, a'r unig ffordd o wneud hynny yw cynnwys difa moch daear heintiedig mewn ffordd nad yw’n achosi poen. Nodaf nad yw hi wedi diystyru hynny’n llwyr yn y datganiad heddiw. Felly, rwy’n croesawu rhai o'r mesurau yn rhan o ddull newydd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ond rwy’n credu nad yw dull y Llywodraeth ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn parhau i graffu ar ei pholisïau yn y maes hwn, a byddwn hefyd yn parhau i alw ar y Llywodraeth i wneud y peth iawn drwy fabwysiadu dull cwbl gyfannol tuag at ddileu TB buchol unwaith ac am byth. Diolch.

Diolchaf i Paul Davies am ei sylwadau, a’r gyfres honno o gwestiynau. Rwyf o’r farn ein bod ni yn gweithredu dull cyfannol. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ystyried yr offer sydd ar gael inni. Cofiwch mai ymgynghoriad yw hwn a byddaf yn sicr yn ystyried yr holl ymatebion a fydd yn dod i law cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Rwyf wedi dweud wrth swyddogion fy mod yn awyddus iddo fod yn gyflym iawn, felly bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Ionawr, ac rwy’n dymuno i’r rhaglen newydd fod ar waith yn sicr erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol, felly byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad yn y gwanwyn.

Gwnaethoch chi gyfeirio at y prawf croen yr ydym yn ei gynnal, ac er fy mod yn cydnabod mai hwn yw'r unig brawf sy'n cael ei gydnabod gan y ddeddfwriaeth Ewropeaidd berthnasol, cadarnhaodd amcangyfrif diweddar o berfformiad prawf croen cymharol ym Mhrydain Fawr fod ganddo gywirdeb o 99.98 y cant. Felly, dim ond un anifail ym mhob 5,000 sy’n debygol o roi canlyniad positif anghywir. Mae'r prawf wedi’i ddefnyddio ledled y byd mewn rhaglenni dileu TB llwyddiannus iawn.

Gwnaethoch chi gyfeirio at fonitro yng Ngogledd Iwerddon. Yr hyn a ddywedais oedd y bûm yn edrych ar y cynllun peilot dros yr haf. Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Awstralia ac yn Seland Newydd. Datganwyd nad oes TB yn Awstralia TB erbyn hyn, a dyna yw fy uchelgais i ar gyfer Cymru. Rwy'n credu mai’r dull rhanbarthol yw’r hyn sy’n bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd, os ydym yn edrych ar yr ardaloedd y’u hystyriwyd gennym yn ardaloedd a chanddynt nifer isel, canolradd ac uchel o achosion, mae hynny wedi bod yn seiliedig ar epidemioleg. Bydd dulliau gweithredu gwahanol ym mhob un. O ystyried y gogledd-orllewin, sy’n ardal TB isel, rwy’n credu o ddifrif, os yw rhai o'r mesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt yn cael eu gweithredu wedyn, y gallai honno fod yr ardal heb TB gyntaf yng Nghymru, ac mae gennym ganiatâd i wneud hynny o fewn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd—mae caniatâd i aelod wladwriaeth neu ran o aelod wladwriaeth wneud hynny. Felly, os ydym ni’n ystyried y meini prawf ynghylch hynny, gallai’r ardal honno o bosibl fod yr ardal gyntaf, ac rwy’n credu y byddai hynny'n neges gadarnhaol iawn i’w lledaenu.

Felly, y flaenoriaeth ar gyfer-. Gwnaethoch chi ofyn am y gwahanol ddulliau y byddwn yn eu dilyn yn y gwahanol ardaloedd, felly’r flaenoriaeth ar gyfer yr ardal honno yw atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno drwy symud gwartheg na wyddys eu bod wedi’u heintio, er mwyn cadw nifer yr achosion yn isel ac wedyn dod yn ardal heb TB. Felly, byddwn yn gwarchod yr ardal honno, ac, oherwydd bod ychydig iawn, os o gwbl, o glefyd endemig yn yr ardal honno, ni fydd angen profion cyn symud ddim mwy er mwyn symud anifeiliaid o'r ardal honno. Byddaf yn parhau i wneud yn siŵr bod buchesi yn cael eu profi’n flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais, ni cheir cymaint â hynny o achosion cydnabyddedig o’r clefyd ymysg bywyd gwyllt yn yr ardal honno.

Mewn cysylltiad â’r ardaloedd TB canolradd, rydym yn rhagweld eto, os bydd y sefyllfa'n gwella o ran clefyd yn y ddwy ardal hynny, mae'n debygol y byddai’r ardal TB isel yn tyfu i gwmpasu’r ardaloedd hynny. Eto, byddwn yn profi buchesau yn flynyddol i sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl, ond mae angen i ni warchod yr ardaloedd hynny rhag i’r clefyd gael ei gyflwyno drwy symudiadau gwartheg o'r ardaloedd sydd ag achosion uwch o TB-rwy'n credu bod hynny wirioneddol yn bwysig-ac ymdrin yn well â lefel y clefyd sydd yno eisoes. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y boblogaeth moch daear yno. Eto, ychydig iawn o dystiolaeth a geir o heintiau TB mewn bywyd gwyllt yno. Dim ond un mochyn daear wedi marw â TB a ganfuwyd yn y ddwy ardal ganolradd.

Mewn cysylltiad â'r ardaloedd TB uchel, rydym yn mynd i gynnal profion ar fuchesi cyfan yn amlach yno, a hynny bob chwe mis er mwyn ceisio dod o hyd i'r haint yn gynharach. Eto, os oes nifer uchel o achosion rheolaidd yn digwydd dro ar ôl tro, mae hynny naill ai’n awgrymu cyfradd ail-heintio uchel neu haint sy'n parhau i fodoli yn y fuches hyd yn oed ar ôl datgan bod ganddi statws heb TB, oherwydd rwy’n credu bod hynny wedi bod yn digwydd hefyd. Ymddengys bod lledaeniad lleol yn ffactor arwyddocaol. Felly, unwaith eto, rydym wedi cynnal ein harolwg o foch daear marw, ac, er bod rhaid i ni fod yn ofalus sut yr ydym yn dehongli’r canlyniadau hynny, mae hynny wedi cadarnhau presenoldeb TB yn y boblogaeth moch daear yn yr ardaloedd hynny.

Fel Simon Thomas a Paul Davies, rwy’n croesawu’r datganiad hwn heddiw. Ceir llawer ynddo y gallwn ni i gyd gytuno ag ef. Rwy'n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet yn arbennig am y gwaith mae hi’n ei wneud mewn cysylltiad â bioddiogelwch, ac mae hynny yn ddi-os wedi cael effaith sylweddol ar reoli lledaeniad y clefyd hwn. Nid wyf mor ffyddiog â hi ynghylch graddau ei llwyddiannau yn gyffredinol, hyd yn hyn. Mae'n wir y bu gostyngiad, yn y misoedd diwethaf, yn nifer y buchesi newydd yr effeithir arnynt, ond wedi dweud hynny mae llai o fuchesi i’w heffeithio. Felly, mae'r graddau y mae hyn yn enghraifft o lwyddiant y polisi yn ddadleuol. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw y cafodd bron i 10,000 o wartheg eu difa yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf. Mae hynny’n gynnydd ar y cynnydd yn y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd ar y flwyddyn cyn hynny, a dim ond amser a ddengys am ba hyd y bydd y duedd hon yn parhau.

Rwy'n siŵr y bydd hi'n cytuno â mi, wrth ystyried y broblem gyfan hon o ran lles anifeiliaid, mae'n rhaid i ni ystyried lles moch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae’n sicr yn greulon tuag at foch daear caniatáu i TB aros yn endemig o fewn y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, mae difa moch daear heintiedig yn beth da ar gyfer moch daear yn gyffredinol yn y tymor hir. Yn sicr, mae’n greulon cael polisi aneffeithiol sy'n arwain at haint mewn gwartheg, ac mae hefyd yn greulon caniatáu i foch daear heintio moch daear eraill. Rwy’n credu, yn hyn o beth hefyd, ei bod hi’n bwysig cydnabod, beth bynnag fo rhinweddau brechu, nad yw'n iachâd ar gyfer TB, gan nad yw'n ymdrin mewn gwirionedd â'r broblem mewn mochyn daear heintiedig. Y cyfan y mae’n ei wneud yw ei gwneud hi’n anoddach i’r moch daear hynny fod yn fectorau i eraill.

Nid oeddwn i’n cytuno â'r hyn a ddywedodd hi wrth ateb un o'r cwestiynau cynharach ynglŷn â’r ffaith nad oes dealltwriaeth lawn mewn gwirionedd o sut y mae'r clefyd yn cael ei drosglwyddo o anifail i anifail, fel pe bai rhywfaint o amheuaeth ynghylch y modd y trosglwyddir y clefyd gan fywyd gwyllt. Dywedodd Simon Thomas bod y clefyd hwn yn endemig yn y pridd mewn rhai ardaloedd. Wel, os yw'n endemig yn y pridd, mae hynny dim ond oherwydd carthion ac wrin moch daear ac anifeiliaid gwyllt eraill neu wartheg yr effeithir arnynt. Felly, bydd cael gwared ar y bywyd gwyllt heintiedig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fodolaeth y clefyd hwn.

Mae'r profiad yn Iwerddon yn arbennig o addysgiadol, yn fy marn i, yn hyn o beth. Mae gostyngiad o 50 y cant a mwy wedi bod mewn TB ers i Iwerddon weithredu rhaglen ddifa. Felly, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn-a chan ystyried y geiriau yn y datganiad yn arwynebol-fod hyn bellach yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i’w ystyried. Mae'r datganiad hwn i'w groesawu yn fawr iawn. Eto, os ydym ni’n ystyried y profiad yn Seland Newydd, mae hwnnw hefyd yn arbennig o addysgiadol, nid o ran moch daear ond o ran yr hyn sy'n cyfateb yn Seland Newydd, sef oposymiaid. Ym 1990 roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd saith gwaith y gyfradd yn y DU, erbyn 1997 roedd yn fwy neu lai’n gyfartal, ac, yn 2011, roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd 40 gwaith yn llai na’r gyfradd yn y DU, felly mae rheoli oposymiaid wedi mynd law yn llaw â rheoli TB. Felly, rwy’n credu y gallwn groesawu’r llygedyn o obaith a welwn yn y datganiad drwy weithredu’r polisi ar sail ranbarthol. Ac, mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o heintiau, os yw difa efallai am gael ei ddefnyddio fel mecanwaith i leihau cyfraddau heintiau, yna mae hynny i'w groesawu’n fawr iawn.

Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach am y problemau yr ydym am fod yn eu hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod yn ymwneud â dod o hyd i'r arian ar gyfer pob math o bethau yr ydym ni’n dymuno gwario arian arnynt. Mae'r rhaglen frechu wedi bod—rwy'n siwr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno—yn ffordd ddrud iawn o geisio ymdrin â TB. Gwyddom, yn 2015, fod £922,000 wedi’i wario er mwyn brechu 1,118 o foch daear. Mae hynny gyfwerth â £825 am bob mochyn daear ar gyfartaledd. Tybed a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, nad yw hynny, o ran gwerth am arian, yn arbennig o dda, ac felly nid yn unig y mae difa yn debygol o fod yn ddull effeithiol o reoli’r clefyd, ond hefyd yn ddull sy'n rhoi’r gwerth gorau am arian i ni.

Nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Nid wyf yn credu y gallwch chi gymharu brechu a difa o gwbl. Mewn cysylltiad â'ch sylwadau ynglŷn â Gogledd Iwerddon, fel rwyf wedi dweud, rwy’n credu—yn sicr wrth ystyried yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud—ei fod wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y boblogaeth moch daear hefyd, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag iechyd a lles moch daear hefyd, wrth gwrs. Nid wyf yn rhagdybio’r hyn a fydd yn y cynlluniau gweithredu pwrpasol, ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw ei bod hi’n bwysig iawn bod y milfeddygon, y ffermwyr a'r APHA yn dod at ei gilydd i lunio’r cynlluniau gweithredu hyn, yn enwedig ar gyfer y buchesi hyn sydd â TB cronig. Soniais fod y 10 buches sydd wedi bod â TB cronig am yr amser hiraf, gyda’i gilydd—maent wedi bod dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd. I mi, nid yw hynny'n gynaliadwy, ac nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol ychwaith.

O ran haint yn cael ei drosglwyddo o fuwch i fuwch neu o fuwch i fochyn daear, mae llawer mwy y mae angen inni ei ddysgu. Eto, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda'r APHA a chyda milfeddygon a ffermwyr unigol ar hyn. Gwnaethom ni gynnal gweithdy, rwy’n credu mai ar 10 Hydref oedd hynny, lle gwnaeth ecolegwyr moch daear ac arbenigwyr mewn systemau hwsmonaeth gwartheg—a hefyd rheoli tir glas, gan fy mod yn credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd—gyfarfod i drafod y dewisiadau ar gyfer lleihau'r risg o gyswllt uniongyrchol ac yn anuniongyrchol rhwng y ddwy rywogaeth. Rwy’n credu mai'r hyn sydd yn wirioneddol bwysig—ac rwyf wedi sôn amdano o'r blaen—yw bod ffermwyr yn gwybod lle mae’r ardaloedd o weithgaredd moch daear a’r lefel o weithgarwch ar eu ffermydd, er mwyn iddynt wedyn allu cymryd camau i atal y cyswllt hwnnw. Felly, er enghraifft, mae dadansoddiadau neu waith ymchwil wedi bod sy'n dangos bod moch daear yn ymweld ag adeiladau fferm lle maent yn casglu deunyddiau i wneud eu gwlâu neu le mae cnwd cyfan o silwair, er enghraifft. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn bod y math hwnnw o wybodaeth yn hysbys, ac weithiau nid yw'n hysbys, ac weithiau mae'n anghywir. Felly, rwy'n credu bod hynny'n faes lle y gall ffermwyr hefyd ein helpu i wireddu ein nod o ddileu TB.

Yn dilyn fy nghyfarfodydd â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau o ffermwyr yn fy etholaeth, a drefnwyd yn garedig gan yr FUW ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ond cyfarfodydd hefyd yr wyf wedi’u cynnal â sefydliadau lles anifeiliaid, rwy’n gwybod y bydd mabwysiadu dull cytbwys a phwrpasol o fynd i'r afael â TB buchol, a amlinellir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet, o gysur iddynt.  Amcangyfrifir bod 95 y cant o heintiau yn digwydd o fuwch i fuwch, rydym ni’n gwybod hynny. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth cywir wrth ganolbwyntio ar well rheolaeth o wartheg.

Mae gennyf ddau gwestiwn. Awgrymodd gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Rosie Woodroffe o Gymdeithas Sŵoleg Llundain ym mis Awst fod halogiad yn cael ei drosglwyddo drwy dir pori wedi'i heintio a thail. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer arferion ffermio megis gwasgaru slyri. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r dystiolaeth hon wrth bennu ei dull? Yn ail, awgrymodd data gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a gasglwyd dros gyfnod o 25 o flynyddoedd fod nifer uwch o achosion o TB ymysg rhai mathau o anifeiliaid, gan gynnwys hyddod brith a chathod fferm, na moch daear. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffynonellau posibl hyn o'r clefyd yn ei dull?

Diolch. Roeddwn yn falch iawn bod Vikki Howells wedi ymgymryd ag ymweliadau a drefnwyd gan y ddwy undeb ffermio. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac yn sicr ers i mi gychwyn yn y swydd, dyna oedd fy neges ar gyfer yr undebau ffermio: sef y dylem ni annog cynifer o Aelodau â phosibl i ymweld â ffermydd a dysgu mwy am y sector.

Mewn cysylltiad â’ch dau gwestiwn penodol, mae swyddogion wrthi'n asesu dadansoddiad Rosie Woodroffe er mwyn ein helpu ni wrth symud ymlaen. Dywedais, cyn gynted ag y dechreuais y swydd, ac oherwydd bod y fframwaith yn dod i ben o 2012, ei bod hi’n bwysig iawn adnewyddu’r rhaglen. Felly, rwy’n addo cynnal ymgynghoriad ar raglen newydd yn yr hydref, ond mae hynny’n cael ei asesu ar hyn o bryd.

Er fy mod yn derbyn y gallai’r clefyd fodoli mewn grwpiau eraill o fywyd gwyllt, rwy'n credu y caiff ei dderbyn a’i gydnabod yn eang ei fod yn fwy cyffredin mewn moch daear.

Rydym ni eisoes allan o amser ar gyfer y datganiad yma, ond mae’n ddatganiad o sylwedd ac o fanylder gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac felly os caf gwestiynau cryno gan Aelodau’r Cynulliad, yna fe geisiaf i alw rhywfaint o Aelodau Cynulliad ychwanegol i ofyn eu cwestiynau. Llyr Gruffydd.

Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. A gaf i ddatgan diddordeb, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm?

Rwy’n rhoi croeso gofalus i’r datganiad, fel y mae wedi cael ei wneud heddiw. Rwy’n meddwl ei fod e yn ein symud ni i’r cyfeiriad iawn, ond, wrth gwrs, amser a ddengys, oherwydd dogfen ymgynghorol sydd gennym ni, neu sy’n cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw, nid y strategaeth derfynol.

Nawr, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith bod y Llywodraeth yn symud i fodel mwy rhanbarthol. Rwyf i, yn sicr, yn un o nifer o bobl sydd wedi galw ers talwm am symud i sefyllfa lle mae’r ymateb yn gymesur i lefel y risg, ac rwy’n meddwl bod hynny, yn sicr, yn rhywbeth positif. Mi fydd, wrth gwrs, nifer o ffermwyr â daliadau efallai mewn mwy nag un ardal, ac rwy’n siŵr eich bod chi wedi rhoi ychydig o feddwl i hynny, ond efallai y gallwch chi jest esbonio’n fras pa wahaniaeth ymarferol y byddan nhw’n ei weld.

Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni’n gobeithio, wrth i statws y clefyd newid mewn rhai rhanbarthau, y bydd angen israddio, a gobeithio nad uwchraddio, statws yr ardaloedd hynny. A oes gennych chi broses mewn golwg ar gyfer hynny, neu efallai proses i newid y ffiniau, pan fo yna bocedi efallai yn gwella neu’n gwaethygu?

Mae brechu yn dal yn nodwedd—

Iawn. Ocê. Wel, mae brechu’n dal i fod yn nodwedd o’r strategaeth, ond rydym yn dal heb wybod pryd y bydd yna frechlyn ar gael. Felly, mae hynny’n awgrymau bod yna fwlch yn mynd i fodoli yn cyfamser. Sut ydych chi’n bwriadu llenwi’r bwlch yna? Ond, rwyf yn sicr yn croesawu’r awgrym y bydd yna elfen o ddifa moch daear ac yn erfyn ar unrhyw un nawr sy’n ymateb i’r datganiad yma yn yr ymgynghoriad cyhoeddus i’w gwneud hi’n gwbl glir mai dyna’r cyfeiriad y dylem ni fod yn symud ato fe, ac rwy’n gobeithio bod gan y Llywodraeth yma’r asgwrn cefn i weithredu ar hynny ar ddiwedd y dydd.

Nid wyf wedi dweud o gwbl y bydd yna ddifa moch daear yn digwydd. Mewn difrif calon, nid wyf wedi dweud hynny. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yw fy mod yn bwriadu cyflwyno cynlluniau gweithredu pwrpasol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n ystyried cynlluniau peilot o wledydd eraill, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, pan fydd gennym ni’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny, yr wyf yn credu bod eu hangen yn fawr, yn enwedig o ystyried yr achosion o TB cronig, oherwydd mae’n annerbyniol fod gennym ni’r achosion hyn, fel y dywedais, y 10 achos hyn sydd wedi bod o dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd—. Yn syml, nid yw’n gynaliadwy, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hynny.

Croesawaf y ffaith eich bod yn falch ein bod ni'n symud i ddull rhanbarthol. Rwyf innau, hefyd, yn credu mai heb os mai hwn yw’r peth iawn i'w wneud, a chredaf fy mod i wedi ateb eich cwestiynau yn fy ateb blaenorol i Paul Davies ynglŷn â’r dull rhanbarthol.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â brechu, fel y dywedais, nid ydym yn gwybod pa bryd y bydd y cyflenwad o’r brechlyn o Ddenmarc yn cyrraedd. Cafwyd trafodaethau â DEFRA, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda DEFRA i geisio dod o hyd i gyflenwyr eraill. Ymddengys nad oes llawer o awydd gan DEFRA i chwilio amdano ar hyn o bryd, felly rwyf wedi siarad â'r prif swyddog milfeddygol, sydd, yn amlwg, yn cyfarfod â'i chymheiriaid ac â DEFRA, i ddweud y byddwn ni yn parhau i chwilio am hynny, gan fy mod i’n credu, er mai un rhan o'n rhaglen yn unig ydyw, ei bod hi’n rhan bwysig iawn o'n rhaglen.

Byddaf yn gryno, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am eich datganiad, ond yn fy nghyfraniad i ddadl ddiweddar yr Aelodau unigol, gwnes i’ch annog i gadw at y wyddoniaeth, a dyna yn union yr wyf yn ei wneud yn awr. Credaf mai cadw at y wyddoniaeth oedd sail, a chryfder, y rhaglen bresennol i ddileu TB buchol, a byddaf yn eich annog i barhau yn y modd hwnnw. Rwy’n croesawu'r ffaith eich bod yn ymgynghori â phobl, ond gofynnaf i chi sicrhau y caiff ei ffurfio a’i arfarnu mewn modd sy’n gwahanu'r dystiolaeth emosiynol a’r ffeithiau o’r farn. Rydym wedi clywed y farn honno yn cael ei mynegi yma eto heddiw, ac nid oes ffeithiau i’w chefnogi mewn gwirionedd.

Mae’n well gen i ddulliau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, mewn gwirionedd, a chredaf fod hyn yr un peth â gwyddoniaeth. Wrth gwrs ein bod ni’n defnyddio gwyddoniaeth, ond credaf ei bod yn hynod bwysig ein bod yn parhau â’r dull hwnnw wedi’i seilio ar dystiolaeth. Credaf ei fod yn bwysig iawn i ni gynnal ymgynghoriad. Anogaf yr Aelodau i gyflwyno ymatebion—unrhyw rai y mae TB buchol wedi effeithio arnyn nhw. Rwy’n disgwyl nifer sylweddol o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu hynny.

Weinidog, credaf mai’r hyn sy’n allweddol yma yw sut yr ydym yn mynd i'r afael â TB ymysg bywyd gwyllt, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando arnoch chi, rwy'n falch eich bod yn dymuno dileu TB. Dyna yw eich nod, ac mae hynny'n gwbl briodol, o ystyried y canlyniadau, ar ôl Brexit, pan allai gwledydd amrywiol ddefnyddio hyn yn esgus i beidio â derbyn ein cig eidion.

Ond rydych wedi dweud yn awr nad ydych yn rhagweld y bydd brechlyn ar gael yn y dyfodol agos, ac nid oes gennych bolisi ar gyfer yr hyn yr ydych chi'n mynd i’w wneud ynglŷn â moch daear, sef y prif fector o ran y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, rwyf yn eich annog i lunio polisi sy'n ymdrin â’r hyn yr ydym i’w wneud â bywyd gwyllt cyn gynted ag y bo modd. Cytunaf y dylem ddibynnu ar y wyddoniaeth, ac efallai y gallech chi ddechrau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, a’u hadroddiad diweddaraf ar ladd moch daear sydd wedi’u heintio mewn modd trugarog. Fe ddylid rheoli hyn. Mae'n beth ofnadwy i siarad amdano, ond yn anffodus, mae’n debygol bod angen i ni ei wneud.

Rwyf wedi darllen llawer iawn o adroddiadau gwahanol. Rhoddwyd adroddiad newydd ar fy nesg yr wythnos diwethaf gan rywun a oedd wedi ymgymryd ag ysgoloriaeth Nuffield. Rwy’n darllen yn gyson am y peth, a chredwch chi fi, mae gennym ni bolisi. Rwy’n credu fy mod i wedi amlinellu ein polisi. Rwyf hefyd wedi sôn am fasnach. Nid yng Nghymru yn unig y mae TB buchol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall hynny. Wrth gwrs, y rheswm dros wneud hyn, ynghyd â llawer o fesurau eraill, yw sicrhau bod ein henw da am y safonau uchaf posibl o iechyd a lles anifeiliaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad a'r sylwedd ynddo. Rydych chi eisoes wedi clywed, rwy'n credu, gan dri aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a chredaf fod yr Aelodau wedi penderfynu yr hoffem gynnal o leiaf ymholiad byr ar hyn-ar y diwrnod llawn, dydd Iau 10 Tachwedd, yn ôl pob tebyga hoffwn i ofyn a fyddech ar gael i fod yn bresennol yn y sesiwn honno, neu os nad yw’r dyddiad hwnnw yn gyfleus, a fyddech yn dod i'n gweld ni er mwyn i ni gael cyfle efallai i gynnal sesiwn holi estynedig ar ddiwrnod y naill ochr i hynny. Yn amlwg, rydym yn gwerthfawrogi na fyddwch am ragfarnu’r ymgynghoriad, ond ymddengys bod mwy o sylwedd i ni ei drafod yn dilyn eich datganiad heddiw.

Cefnogaf yn frwd iawn eich dull wedi’i seilio ar dystiolaeth a’r hyn a ddywedasoch ynglŷn â hynny. Tybed a ydych o’r farn bod y dystiolaeth yn newid. Gwnaethoch sôn am astudiaeth Gogledd Iwerddon a'r dull a ddefnyddir yno. A oes unrhyw reswm dros feddwl bod dadleuon o blaid difa moch daear o ryw fath—ac rwyf yn gwerthfawrogi nad yw enghraifft Lloegr cystal—fod y ddadl am hynny wedi cryfhau? Gwnes innau bleidleisio yn erbyn y difa yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf mewn lle arall, ond yr oedd hynny ar y ddealltwriaeth y byddai brechlyn ar gael yn gynt. A ydych yn credu y bu newid yn y dystiolaeth wyddonol y mae angen i ni ymateb iddi?

A gaf i ofyn hefyd: rydych yn dweud eich bod yn diystyru difa trwy ddull Lloegr, lle mae ffermwyr eu hunain saethu moch daear sydd wedi’u heintio a rhai heb eu heintio; a ydych yn erbyn y ffaith bod y ffermwyr eu hunain yn ei wneud, y saethu neu natur ddiwahaniaeth saethu moch daear sydd wedi eu heintio a’r rhai heb eu heintio? A ydych yn erbyn y tri pheth, neu a oes un arbennig sy’n peri’r pryder mwyaf i chi? Diolch.

Rwy'n hapus iawn, fel bob amser, bod Aelodau’r pwyllgor yn craffu, ac yn sicr, os ysgrifennwch chi i ofyn am y dyddiad hwnnw, byddaf yn hapus iawn i ddod os wyf ar gael. Os nad ydwyf ar gael, fel y dywedwch, byddwn yn edrych am ddyddiad arall. Yr wyf yn gwybod eich bod wedi gofyn i'r prif swyddog milfeddygol i roi tystiolaeth yn barod, ond wrth gwrs byddwn yn hapus iawn i ddod i gael eu harchwilio.

A yw'r dystiolaeth yn newid? Mae'n debyg bod tystiolaeth yn newid dros y blynyddoedd, wrth gwrs. Y tro diwethaf i mi edrych ar hyn yn fanwl oedd pan ddeuthum yma gyntaf yn Aelod, yn 2007. Naw mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n credu, mae’n siŵr bod y dystiolaeth wedi newid, efallai nid yn aruthrol, ond fe fydd yna ddarnau o dystiolaeth y bydd angen edrych yn fanwl iawn arnynt. Beth ydw i’n ei wrthwynebu ynglŷn â’r difa yn Lloegr? Rwy'n credu ei natur ddiwahaniaeth. Nid fy swydd i yw amddiffyn polisi a ddaw gan DEFRA yng nghyswllt y rhaglen difa moch daear, mater i Weinidogion yn y fan hwnnw yw hynny. Rwyf yn ei fonitro. Rwyf yn cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, ond nid fy ngwaith i yw eu hamddiffyn.

Yn sicr, pan wyf wedi gofyn i ffermwyr-. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ni fyddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru yn dymuno gweld y math hwnnw o ddifa. Mae'r rhai sydd wedi, rwyf wedi gofyn iddyn nhw sut y bydden nhw’n dymuno ymdrin â’r mater-a fydden nhw eisiau ymdrin ag ef eu hunain yn yr un modd â Lloegr-ac ni allaf feddwl am unrhyw un a atebodd yn gadarnhaol. Bydden nhw eisiau i ni ei wneud ar eu rhan. Felly, credaf fod hyd yn oed y ffermwyr yn cydnabod nad dyna'r ffordd fwyaf priodol.

A gaf i groesawu’r cydbwysedd yn y datganiad a’r dystiolaeth yn yr ymgynghoriad yr wyf wedi ei ddarllen hefyd? Mae wedi ei seilio ar dystiolaeth dda ac yn ffordd gadarn ymlaen. A gaf i ganmol Ysgrifennydd y Cabinet am beidio ag osgoi'r cwestiynau anodd? Mae rhai meysydd anodd yn hyn: materion yn ymwneud ag iawndal a chosbau; materion yn ymwneud â mwy o brofion a phrofi mwy cywir, a fydd yn arwain at fwy o achosion o ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a chael gwared arnyn nhw; a chael gwared ar adweithyddion yn gyflym.

Rwyf yn croesawu yn arbennig y symud tuag at ymgynghori ar ardaloedd rhanbarthol, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai'n fwriad, felly, fel y gwnaed yn Awstralia, peidio â chadw’r ardaloedd hynny yn sefydlog am byth bythoedd, ond mewn gwirionedd, wrth i ffermydd unigol neu'r rhai ar gyrion yr ardaloedd hynny symud o’r categori uchel i’r categori canolradd, y gallech chi, mewn gwirionedd, grebachu’r ardaloedd hynny, gan roi cymhelliad i’r ffermwyr hynny mewn ardaloedd lle mae lefel yr haint yn uchel neu’n ganolradd i weithio eu ffordd allan o’r ardaloedd, mewn gwirionedd, gyda chymhelliad? Ond, rwyf yn croesawu'r dull hwn.

Efallai y caf ofyn hefyd, yn ogystal â’r cwestiwn hwnnw ynglŷn â chrebachu’r ardaloedd a thynnu ffermydd allan o'r rhanbarthau hynny, pe bai’r dull hwn yn cael ei ddwyn ymlaen, a fyddai'n sicrhau bod y prif swyddog milfeddygol ar gael i'r Aelodau'r Cynulliad hynny, nid yn unig aelodau'r pwyllgor amgylchedd, ond eraill sydd â diddordeb yn hyn, i drafod y dull hwn yn fanylach? Wrth edrych ar Ogledd Iwerddon, ac ardaloedd eraill efallai, lle mae gwahanol ddulliau o fynd i'r afael â’r cronfeydd, fel y'u gelwir, o haint mewn bywyd gwyllt, a fydd hi hefyd yn sicrhau ei bod yn trafod y dull hwn â gwyddonwyr a ecolegwyr blaenllaw, yn ogystal ag epidemiolegwyr, i sicrhau nad ydym, drwy amryfusedd, yn cyflawni canlyniadau negyddol, gwrthnysig yn y pen draw yn sgil dull a allai, mewn gwirionedd, ledaenu'r haint ymysg bywyd gwyllt? Gall y bwriadau gorau, weithiau, ein harwain at weithredoedd drwg iawn ar lawr gwlad. Felly, gadewch i ni weithredu ar sail y dystiolaeth, fel y mae pawb yma wedi dweud heddiw.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau hynod gadarnhaol. Yn hollol, mae'n bwysig iawn, os oes gennym ddull wedi ei seilio ar dystiolaeth, ein bod yn gwrando, fel y dywedwch chi, nid ar ecolegwyr yn unig, neu ar wyddonwyr yn unig, ond ar bawb sydd â’r syniadau da hynny. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, o'r blaen, nid fi yw ceidwad yr unig syniadau da. Ni all unrhyw un person ddileu TB ar ei ben ei hunan. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn cydweithio.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â’r prif swyddog milfeddygol, ie, yn sicr, byddaf yn sicrhau bod yr Athro Glossop ar gael i unrhyw Aelod o'r Cynulliad sydd eisiau cwrdd â hi. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfarfod â llefarwyr y gwrthbleidiau heddiw. Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud hynny, mewn gwirionedd, Lywydd—ie, os yw unrhyw un yn dymuno cael gwybodaeth gan y Prif Swyddog Milfeddygol, byddai hi’n hapus iawn i wneud hynny.

Mae'n debyg y dylwn egluro i chi: nid ydym yn ymgynghori ar y dull rhanbarthol. Bydd hynny'n digwydd. Mae hynny’n rhan o’r broses newydd wrth symud ymlaen. Soniais am hynny rwy’n credu-pe bai’r mesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt, ynghyd â'r mesurau eraill sydd yn y datganiad-er enghraifft, rwy’n credu y gallai’r gogledd-orllewin fod yn ardal ddi-TB yn unol â’r meini prawf sydd yno, dyna i chi neges gadarnhaol y byddai hynny’n ei lledaenu. Fel rwy’n dweud, yn sicr gallwn wneud hynny o fewn deddfwriaeth yr UE. Rwy’n credu y byddai'n wych pe gallem wneud hynny i ddechrau a chanolbwyntio ar yr ardaloedd canolradd, symud y rhai hynny i lawr, a’r ardaloedd uchel hefyd, oherwydd rydym ni’n dymuno gweld Cymru ddi-TB.

Diolch yn fawr i’r Gweinidog am ei datganiad, a diolch iddi yn arbennig am sylweddoli’r posibiliadau sydd gyda ni o lanhau y gogledd-orllewin a gogledd Clwyd fel cam allweddol ymlaen. A fyddai hi’n cytuno ei bod yn bwysig bod yr uchelgais yma yn arwain y bwrdd rhanbarthol yn yr ardal yna, gyda’r holl gefnogaeth wyddonol sydd ei hangen? Un cwestiwn arall: ar ddiwedd y broses, ar ôl yr ymgynghoriad a derbyn tystiolaeth wyddonol ryngwladol gyfatebol, a fyddai’n syniad da iddi drefnu dadl yn y Cynulliad hwn cyn ein bod ni’n symud ymlaen ymhellach, er mwyn inni gael sefydlu bod yna unoliaeth i’r math o symudiad y mae hi’n ceisio ei arwain, gyda’r holl bwyslais ar gydbwysedd rhwng y gwahanol ddulliau o weithredu?

Diolchaf i Dafydd Elis-Thomas, eto, am ei gwestiynau a’i sylwadau cadarnhaol. Ydw, rwy’n hapus iawn i edrych ar y ffin. Fel y dywedais, mae angen i ni edrych ar yr elfen lywodraethu, os ydym yn mynd i newid y rhanbarthau o'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd—am resymau amrywiol, rwy’n credu, y mae angen i ni wneud hynny.

Rwy’n credu, o ran y mater a godwyd gennych ynglŷn â’r dystiolaeth a'r wyddoniaeth a ddaw i law, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy’n credu ei bod hi’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n sicrhau eu bod ar gael, gymaint ag sy’n bosibl. Fel y dywedais, mae'r prif swyddog milfeddygol yno i gynghori a helpu Aelodau. Mae TB yn glefyd cymhleth iawn, ac rwy’n credu bod pawb yn y Siambr yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru ddi-TB.

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bysus yng Nghymru, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:16:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Lywydd. Ar 20 Medi, cyhoeddodd y Prif Weinidog ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan roi ein hymrwymiad i barhau i adeiladu cymdeithas unedig a chysylltiedig. Er mwyn helpu i wireddu'r uchelgais hwn, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno system drafnidiaeth integredig amlfoddol ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys metro y de a’r gogledd, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer systemau integredig ar draws Cymru. Bydd cyflwyno rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws yn sylfaenol i'n huchelgais. Gwasanaethau bysus rheolaidd lleol yw sylfaen ein system trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny’n parhau.

Mae'n ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus cyhoeddus fel dewis amgen i'r cerbyd modur preifat fel dull teithio dyddiol i'r gwaith ac ar gyfer hamdden. Ac er ein bod wedi gweld tuedd ar i lawr yn nifer y teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bws lleol dros y degawd diwethaf, mae bysus yn parhau i gyfrif am fwy na 101 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Mae hyn yn fwy o lawer na nifer y siwrneiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, rydym wedi ymrwymo’n llwyr yn y tymor hir i ddarparu rhwydwaith bysus mwy effeithiol, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi'r diwydiant bysus yn y tymor byr.

Y mis diwethaf, cyhoeddais gynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysus yng Nghymru. Heddiw, rwyf am roi cyfle i'r Aelodau drafod y cynllun ac ystyried sut y gallem ddatblygu gwasanaethau bws lleol yn rhan o'r system drafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n addas ar gyfer Cymru fodern a chysylltiedig. Fel nifer o Aelodau yn y Siambr hon, rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol oedd yn gwasanaethu rhai o'n cymunedau mwy gwledig, nid yn unig oherwydd yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar y bobl sy'n gweithio i’r cwmnïau bysus, ond yr effaith ar y bobl sy'n byw yn y cymunedau a wasanaethir ganddynt. Mae colli’r gwasanaethau hanfodol hyn, a oedd yn galluogi pobl i fynd i'r gwaith, i fynd i apwyntiadau ysbyty ac i gael eu haddysg, yn dangos yn glir pa mor fregus y mae ein rhwydwaith bysus mewn gwirionedd.

Dan y cynllun pum pwynt a gyhoeddais y mis diwethaf, byddaf yn cynnig cymorth proffesiynol ymroddedig i bob cwmni bysus yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Chyllid Cymru, a byddaf yn galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu eu cyllid ar gyfer gwasanaethau bysus yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol. Mae timau o ymgynghorwyr busnes a staff cymwysedig iawn gan gwmnïau bysus mwy o faint, ond gall nifer o’r cwmnïau llai o faint fod yn fusnesau teuluol sy'n cael eu rhedeg heb y manteision hynny. Rwyf am sicrhau bod y cwmnïau bysus llai yn cael y cyngor a'r cymorth a fydd yn eu helpu i ddod yn fusnesau gwell a chryfach. Byddwn yn mynd ati i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi, cyn gynted ag y bo modd, y gwasanaethau bysus sydd o bosibl mewn sefyllfa fregus. Lle bydd y rhain yn cael eu nodi, byddwn yn rhoi strategaeth leol ar waith i ymateb i unrhyw gynlluniau i ddileu gwasanaethau a ystyrir yn hanfodol i gynaliadwyedd a lles y gymuned leol.

Byddaf yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ynghyd â chyfarwyddwyr rheoli eu cwmnïau bysus trefol, i gasglu gwybodaeth am sut y gellir gweithredu rhwydweithiau bysus cynaliadwy, gan gynnal y difidend cymdeithasol, drwy fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau. Byddaf hefyd yn gweithio gyda’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i gyfuno nodweddion gorau'r sector masnachol preifat â chyfrifoldeb cymdeithasol y gweithredwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno i ariannu'r swyddi cydlynwyr bysus newydd, un yn y gogledd ac un yn y de, er mwyn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau polisi a buddsoddiad i ddatblygu'r model partneriaeth ansawdd bysus statudol. Rwy’n awyddus i weld mwy o gytundebau ffurfiol rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus, o ddewis drwy'r cynlluniau partneriaeth ansawdd bysus statudol hyn.

Yn olaf, fel rhan o'r cynllun hwn, rwyf wedi cytuno i gynnal uwchgynhadledd ar wasanaethau bysus yn gynnar yn 2017. Bydd yr uwchgynhadledd yn dod ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysus, grwpiau sy'n cynrychioli teithwyr a phobl anabl ynghyd â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol a phartneriaid eraill at ei gilydd i ystyried y ffordd orau o gyflwyno gwasanaethau bws sy'n hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd angen y cynllun gweithredu er mwyn ymdrin â'r bygythiadau go iawn i’n gwasanaethau bysus lleol yn y tymor byr, a bydd yr uwchgynhadledd hon yn gyfle i ganolbwyntio ar y dyfodol, yn hytrach na’r gorffennol. Rwy’n argyhoeddedig bod gwir angen dull cydweithredol a chreadigol o sicrhau rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n gwasanaethu cymunedau ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Gyda'n gilydd, mae angen inni ddiffinio'r hyn yr ydym yn dymuno i'n gwasanaethau bysus ei gyflawni fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, ac yna ddylunio fframwaith a all ddarparu’r gwasanaethau hyn o safon uchel. Felly, ni allai amseriad yr uwchgynhadledd fod yn well, gan ei bod yn dod ar adeg pan fydd y setliad datganoledig gwell a gynigir drwy Fil Cymru yn dod i rym. Bydd y setliad newydd yn ein galluogi ni i roi fframwaith ar waith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn gallu darparu’r gwelliant o ran ansawdd, rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb y mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn dymuno ei weld.

Mae cyhoeddi'r safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru ym mis Mawrth eleni yn fan cychwyn da. Maent yn nodi’n glir, am y tro cyntaf, y safonau ansawdd yr ydym yn dymuno eu gweld ar waith o ran y gwasanaethau bysus lleol. Mae'n bwysig y gall teithwyr fod yn hyderus y bydd ansawdd y gwasanaethau bysus lleol yn gymwys yn gyffredinol i wasanaethau bysus rheolaidd lleol ar draws Cymru gyfan. Ni ddylai ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn rhannau mwy gwledig Cymru fod yn llai ffafriol na'r rhai a ddarperir o fewn y metro neu’r ardaloedd mwy trefol.

Rwyf hefyd yn croesawu cynigion yr Adran Drafnidiaeth, fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Bws, i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysus ledled Prydain Fawr ddarparu gwybodaeth hygyrch ar gerbydau i deithwyr anabl. Ers 2013, rydym wedi rhoi cefnogaeth i gyflwyno systemau clyweledol i gyhoeddi’r stop nesaf ar fysus i wneud y gwasanaethau bysus yn fwy hygyrch i’r deillion a phobl rhannol ddall. Rydym wedi annog gweithredwyr bysus i osod y systemau hyn ar eu cerbydau fel rhan o safonau ansawdd bysus Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr gweinidogol yn Lloegr a'r Alban i sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd ar gael i deithwyr yn gyffredinol ar draws Prydain Fawr. Drwy gyflwyno’r systemau hyn, ynghyd â gwella ansawdd y gwasanaethau, megis datblygiad parhaus gwasanaeth bws TrawsCymru, sy’n darparu gwell cysylltedd teithiau pellter hir lle mae’r gwasanaethau rheilffordd yn brin neu ddim yn bodoli o gwbl, mae modd gwyrdroi’r dirywiad mewn nawddogaeth gwasanaethau bysus, gan gynnig dewis arall go iawn i bobl ddiwallu eu hanghenion cludiant.

Felly, wrth edrych i'r dyfodol, rhaid inni fod yn realistig. Efallai na fydd darparu gwasanaethau bysus lleol rheolaidd sydd yn ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy i bob cymuned yng Nghymru yn realistig, yn gyraeddadwy neu'n fforddiadwy. Ond nid wyf yn barod i adael cymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur preifat. Nid yw hynny'n dderbyniol. Felly, yn yr uwchgynhadledd, byddaf yn galw ar ein partneriaid, y diwydiant bysus a'n partneriaid awdurdod lleol, i ystyried atebion i ddiwallu anghenion cludiant ein holl gymunedau. Mae angen cael system drafnidiaeth a thocynnau integredig sy'n cynnwys cymysgedd o wasanaethau cludiant o ansawdd sy'n ymateb i'r galw ac yn cydgysylltu’n llawer mwy effeithiol â gwasanaethau bysus rheolaidd lleol a gwasanaethau pellter hir a ddarperir gan ein rhwydwaith TrawsCymru a’n masnachfraint rheilffyrdd.

Mae hon yn her y mae’n rhaid i ni yn Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdodau lleol a'r sectorau bysus a thrafnidiaeth gymunedol, fynd i'r afael â hi. Gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn ddarparu rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n rhoi i gymunedau ac unigolion ledled Cymru y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.

Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edmygu’r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw.

Mae gen i nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r cyllid sydd ynghlwm wrth yr ymrwymiadau a wnaed heddiw, ac a ydych wedi ystyried cytundeb ariannu amlflwyddyn a fydd yn rhoi sicrwydd i weithredwyr allu cynllunio a buddsoddi yn eu gwasanaethau, yn hytrach na chytundeb fesul blwyddyn?

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud bod llawer mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus o’i gymharu â theithiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae diffyg cydbwysedd rhwng yr arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith rheilffyrdd a’r arian sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith bysus. Felly, tybed os oes gennych farn ar y cydbwysedd hwnnw, ac a ydych chi’n credu bod angen mynd i'r afael â hynny.

Rhaid i mi ddweud, rwy’n edmygu’n fawr y pwynt a wnaethoch nad ydych yn barod i ganiatáu i gymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur, a bod hyn yn gwbl annerbyniol. Wrth gwrs, mae hynny'n arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig ledled Cymru. Mae toriadau i grant gweithredwyr gwasanaethau bysus wedi golygu bod rhai teithiau wedi dod i ben. Yn sicr, fy marn i yw bod y grant gweithredwyr bysus yn hanfodol i sicrhau gwasanaethau bysus rheolaidd i gymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig ynysig hynny y soniasoch chi amdanynt. Felly, a gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried adfer y cyllid llawn ar gyfer y grant hwn i roi’r hyder i awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus gynnal ac adfer teithiau bysus a oedd yn anymarferol yn flaenorol?

Mae canfyddiad diwylliannol hefyd yn dal i fod nad yw bysus yn ddulliau ymarferol o gludiant i bawb. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu i annog newid yn y canfyddiad hwn, ac yn blaenoriaethu mesurau a fydd yn cymell mwy o bobl i newid o ddefnyddio trafnidiaeth breifat i ddefnyddio bysus, drwy fesurau megis tocynnau smart, sydd, wrth gwrs, yn gwneud teithio yn fwy cyfleus a hyblyg.

Nid yw’r diwydiant bysus yng Nghymru wedi celu’r ffaith, yn sicr nid i mi pan gyfarfûm â chynrychiolwyr dros yr haf, bod gwir bartneriaeth rhwng gweithredwyr, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn angenrheidiol. Felly, a gaf i ofyn pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion gan eich grŵp cynghori polisi bysus, sydd wedi argymell yn flaenorol y dylid sefydlu partneriaethau rhwydwaith?

Yn ychwanegol at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cynnig Bil bysus, a’r nod yw cadarnhau'r trefniadau ar gyfer gwaith partneriaeth yn y sector. Nododd eich rhagflaenydd yn flaenorol bod nifer o gyfyngiadau sylweddol i bwerau presennol y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru. A fyddech yn gallu ehangu ar hyn? A gaf i ofyn hefyd pa fwriadau sydd gan y Llywodraeth i ymestyn y cynllun tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau sy'n cyflawni rôl bwysig yn y gymdeithas yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn colli allan ar gysylltiadau trafnidiaeth hanfodol i addysg bellach?

Ac yn olaf, roeddwn yn falch eich clywed yn crybwyll 'integredig' sawl gwaith yn ystod eich datganiad. Mae'r diffyg integreiddio rhwng amserlenni bysus a threnau wedi bod yn broblem sy’n gofyn am welliannau mawr. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi sôn wrthych am broblem yn fy etholaeth i fy hun, yng Nghaersws, lle mae'r bws yn cyrraedd un funud ar ôl y trên, neu i'r gwrthwyneb. Felly, byddwn yn ddiolchgar i gael mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau system drafnidiaeth integredig, ac osgoi’r problemau hyn gyda’r amserlenni.

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am groesawu'r cynllun pum pwynt. Mae hwn yn gynllun sydd wedi ei ddyfeisio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol ac o fewn y diwydiant ei hun. Mae'n cynnwys nifer o gamau a fydd yn ategu’r diwydiant yn y tymor byr wrth i ni edrych ar y cyfleoedd yn y tymor hir a gyflwynir drwy drosglwyddo pwerau ym Mil Cymru.

O ran cyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y grant cymorth gwasanaethau bysus ers nifer o flynyddoedd bellach, ac rydym yn falch o fod yn gallu ei gynnal ar £25 miliwn eto'r flwyddyn nesaf. Yr her i lywodraeth leol yw sicrhau nad ydynt yn cwtogi’r adnoddau sydd ar gael yn eu hawdurdodau eu hunain i gefnogi, yn benodol, lwybrau gwledig nad ydynt yn fasnachol hyfyw.

Rydym hefyd yn darparu cyllid cyfalaf sy'n dod i tua £15 miliwn. O ran teithio rhatach, wrth gwrs, rydym yn rhoi cyfle i gannoedd o filoedd o bobl deithio’n ddi-dâl. Heb os nac oni bai, mae angen defnyddio tocynnau integredig—nes y bydd gennym y pwerau a fydd yn dod drwy Fil Cymru— i sbarduno trafnidiaeth integredig. Gwyddom, o brofiadau ar draws Cymru hyd yn hyn, y gall tocynnau integredig fod yn her i lawer o weithredwyr gwasanaethau bysus, ond nid yw'n her anorchfygol. O ran cyfleoedd, yn y dyfodol, ar gyfer tocynnau integredig, ysgrifennodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd at bob awdurdod lleol ynglŷn â chystadleuaeth, cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth mewn marchnadoedd bysus lleol, ac ailbwysleisiodd ei gefnogaeth i gynlluniau tocynnau amlweithredol da.

Mae'r Bil Gwasanaethau Bysus, yr wyf yn credu i’r Aelod ei grybwyll hefyd, yn berthnasol yn bennaf i Loegr yn unig. Ond mae'n cynnwys darpariaeth ddiddorol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol ofyn i weithredwyr bysus farchnata a hysbysebu tocynnau amlweithredol yn glir ac yn gyson. Fy marn i yw y byddwn yn gweld, gyda thocynnau amlweithredwr yn cael eu cynnig, ddull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau bws. Wedi dweud hynny, mae Bil Cymru yn golygu y bydd rheoleiddio gwasanaethau bysus lleol yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Ynghyd â'n cymhwysedd deddfwriaethol presennol, byddwn yn gallu cyflwyno fframwaith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn galluogi rhwydwaith gwasanaeth gwell o lawer, ansawdd gwell, mwy o wasanaethau bysus rheolaidd a mwy o ddibynadwyedd a phrydlondeb. Wedi dweud hynny, hyd nes y bydd y pwerau hynny gyda ni a’n bod yn gallu dylunio’r fframwaith, mae gennym hefyd y safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus, y gellir eu defnyddio yn benodol i herio canfyddiadau.

Rwy’n gwybod bod yr hyn gododd yr Aelod ynghylch safbwyntiau eang ar gludiant bws yn cael eu dal gan lawer, ac maent yn rhwystr i nifer rhag defnyddio gwasanaethau bysus. O safbwynt y safon wirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru, mae nifer o bwyntiau sydd angen eu cyflawni yn y safon er mwyn i gwmnïau bysus gymhwyso’n foddhaol. Maent yn cynnwys gweithredu cerbydau sy'n cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, a sicrhau bod gan gerbydau fleindiau cyrchfan gweithredol sydd yn hawdd eu gweld ac yn rhoi gwybod i’r teithwyr am y cyrchfan a’r prif fannau aros ar hyd y daith. Mae angen i fysus fod yn lân y tu mewn a'r tu allan, ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth cyntaf bob dydd. Mae'n rhaid i yrwyr wisgo iwnifform—mae'n ymddangos yn rhywbeth sylfaenol, ond dyma’r math o ddarpariaeth sy'n sicrhau bod pobl mewn gwirionedd yn parchu'r gwasanaeth bws ac yn ei ystyried o ansawdd uchel. Rhaid iddynt hefyd gael polisi o gyhoeddi cwynion gan deithwyr, a bydd disgwyl i gwmnïau bysus mwy o faint weithredu cyhoeddiadau gweledol am yr arosfan bws nesaf gydol y flwyddyn ar fysus mwy newydd.

Rwy’n meddwl bod y darpariaethau o fewn y safonau gwirfoddol hyn yn herio canfyddiadau, ond yn fy marn i mae angen i’r diwydiant wneud mwy gyda'i gilydd, yn benodol, i apelio at deithwyr iau. Cododd yr Aelod y cwestiwn a ellid cynnig tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau. Os yw gofalwr ifanc yn disgyn drwy fwlch y system deithio rhatach ar hyn o bryd, byddwn i'n fwy na pharod i ystyried cynnig cyfleoedd iddynt deithio ar gyfradd ostyngol neu am ddim. Wrth gwrs, byddai angen sicrhau bod y system yn gweithredu'n deg, yn rhannol oherwydd yr achosion cyfreithiol yn ymwneud â thwyll yn y gogledd sydd wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y teithiau ar y rhwydwaith bysus. Ond ni fyddwn yn amharod i ystyried unrhyw gyfleoedd y mae angen eu cyflwyno i ofalwyr allu cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, neu yn wir iddynt deithio yn ôl ac ymlaen rhwng y mannau gofal.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei adroddiad cynhwysfawr—cynhwysfawr yn yr atebion a chynhwysfawr yn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn eisoes, felly af i ddim i ailadrodd beth sydd wedi ei grybwyll eisoes, dim ond i bwysleisio, yn y bôn, fod gwasanaeth bws yn hollol allweddol, yn enwedig i’r gyfran o’n poblogaeth ni sydd yn gynyddol yn mynd yn hen rŵan ond yn dal yn ffit ac yn iach ond ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i yrru car. Dyma’r ffordd maen nhw’n mynd o gwmpas y lle. Mae'n dibynnu ar lwybrau bysus sydd yna yn digwydd yn brydlon—gallwch chi ddibynnu arnyn nhw i droi i fyny ar amser a phethau tebyg i hynny.

I ddechrau, awn ni ar ôl yr ochr leol. Wrth gwrs, cafodd y gwasanaeth bysus ei ddadreoleiddio flynyddoedd lawer yn ôl nawr, efallai cyn, hyd yn oed, i’r Ysgrifennydd Cabinet gael ei eni. Ond roedd y busnes o gael gwasanaethau preifat i fod i wella safonau’r gwasanaeth a gwella darpariaeth gwasanaeth bysus. Efallai bod hynny’n wir mewn rhai enghreifftiau, ond nid oedd yn wir ym mhob man, fel rydym ni wedi clywed eisoes. O’m dyddiau fel cynghorydd sir yn Abertawe, roeddwn i’n ymwybodol, fel awdurdod lleol, roedd y cwmnïau bysus preifat yn cael lot o arian, ond eto pan oedd pobl eisiau gwasanaeth i barhau mewn rhyw ardal, elfennau’r busnes oedd yn cael y flaenoriaeth, nid yr elfennau a’r ffaith bod y cwmnïau bysus yna’n cael peth wmbredd o arian cyhoeddus i ddarparau’r gwasanaeth, ac eto roedden nhw’n gallu stopio’r gwasanaeth yna pan oedd e’n eu siwtio nhw. Rwy’n credu bod yna’n dal elfen o hynny. Roeddech chi’n sôn lot am rôl awdurdodau lleol yn y fan hyn. Mae ganddyn nhw arian, mae rhai awdurdodau lleol yn darparu arian. Mae yna ambell i un sydd ddim yn darparu dim arian o gwbl i wasanaethau bysus—rydych wedi eu crybwyll eisoes.

Roedd gennyf fi ddiddordeb yn y datblygiadau yma pan fyddwch chi’n mynd i gyfarfod â Chaerdydd a Chasnewydd ynglŷn â rhwydweithiau bysus cynaliadwy, hynny yw, i fynd i’r afael â’r busnes yma bod yna rai gwasanaethau, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf grymus ni, sydd ddim yn talu pres ac mewn perygl o gael eu hatal. Felly, rwyf eisiau gwybod mwy ynglŷn â’r rhwydweithiau bysus cynaliadwy yma ac efallai eu datblygu nhw i lefydd megis Abertawe.

Yr ail bwynt, ac rwy’n ymwybodol o’r amser, Lywydd, rydym ni wedi siarad lot yn nhermau’r angen i wella cysylltiadau de-gogledd yn ein gwlad, fel rheol yng nghyd-destun ffyrdd a hefyd rheilffyrdd. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â chysylltiadau bysus achos fel rwyf i wedi crybwyll eisoes mae yna nifer fawr o bobl sydd yn licio rhedeg eu bywyd yn gyfan gwbl ddibynnol ar y bws. Mae hynny’n bosib, yn enwedig gyda’r tocyn bws am ddim, sydd yn gynyddol ar gael i’r rhan fwyaf o bobl sydd, ie, yn mynd yn hen, ond yn dal yn ffit ac eisiau mynd o gwmpas y lle ac o gwmpas Cymru.

I’r perwyl yna, mae yna ddiddordeb wedi cael ei grybwyll yn y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd a gollwyd yn ddiweddar achos daeth cwmni Lloyds Coaches i ben—dim cysylltiad teuluol yn y fan yna, er yr enw poblogaidd. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau efo Elin Jones AC, yr Aelod lleol, ynglŷn ag a fyddai yna wasanaeth newydd yn dod i rym erbyn diwedd mis Hydref. Yn naturiol, rydym ni’n sôn am gysylltiadau de-gogledd, gogledd-de yn y fan hyn sy’n allweddol bwysig i uno ein cenedl. Nawr, yn nhermau’r gwasanaeth penodol yna o Aberystwyth i Gaerdydd, a oes yna ddiweddariad ar bryd ydym ni’n disgwyl gweld bysus rhagorol unwaith eto’n rhedeg ac yn gallu cysylltu ein gwlad—gwasanaeth sydd mor allweddol bwysig i ni fel cenedl? Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a hefyd am wneud ymholiadau ynglŷn â'r gwasanaeth pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill, gan gynnwys y Llywydd? Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ac mae ei golli yn drueni mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod trefniadau eraill ar gyfer y gwasanaeth bws penodol hwn bellach yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ar fanylion y gwasanaeth hwn o fewn y dyddiau nesaf.

Mae'n gwbl hanfodol bod pobl mewn rhannau gwledig o Gymru yn gallu mwynhau gwasanaethau bysus, yn rhannol oherwydd eu bod yn fannau cymdeithasol. Yn wahanol i ddulliau eraill o deithio, i bobl sydd yn aml yn cael eu hynysu maent yn cynnig ffordd o ryngweithio gyda phobl yn gymdeithasol.  Pan fydd y gwasanaethau'n cael eu colli, mae’r cyfle hwnnw’n cael ei golli hefyd. Rwy’n gwybod, o fy mhrofiad fy hun o gynrychioli etholaeth lle mae gweithredwr bysus wedi mynd i’r wal yn ddiweddar—GHA Coaches—pan ddigwyddodd hynny, yr henoed, sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw, yr effeithiwyd arnynt fwyaf, a phobl ifanc, yn aml y bobl ifanc sy’n gymdeithasol ynysig ac sy'n dibynnu’n fawr ar wasanaethau bws er mwyn cyrraedd man cyflogaeth neu ddysgu. Felly, mae gwasanaethau gwledig, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl hanfodol.

Byddwn yn cytuno, mewn sawl ffordd, bod dadreoleiddio yng nghanol yr 1980au wedi methu. Ond rwyf i hefyd, fel yr Aelod, yn dymuno gwybod rhagor am sut yr ymddengys bod rhai gwasanaethau yng Nghymru yn llawer mwy cynaliadwy nag eraill. Mae enghreifftiau—ac rwyf wedi eu nodi yn fy natganiad—yn y de-ddwyrain, lle mae gwasanaethau arbennig o gynaliadwy y gallwn edrych arnynt a dysgu oddi wrthynt. Byddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y cyngor a chynrychiolwyr gweithredwyr bysus i ganfod yn union beth y maent yn ei wneud yn wahanol sy'n eu galluogi i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy. Byddaf yn hapus i rannu unrhyw brofiad a gaf o hynny, ac unrhyw oleuni a gaf ar y mater gydag Aelodau eraill. Wrth gwrs, byddaf hefyd yn rhannu'r wybodaeth honno gyda gweithredwyr bysus ac awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae'n ymddangos i mi fod gwahaniaeth sylweddol rhwng rhai awdurdodau lleol o ran y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau bysus nad ydynt yn fasnachol hyfyw, a soniodd yr Aelod ei fod yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd yn syml wedi rhoi'r gorau i ariannu’r teithiau hynny nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Rwyf innau hefyd yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd wedi gwneud hynny. Mae eraill wedi bod yn fwy cyfrifol ac wedi sicrhau bod cefnogaeth ar gael. Unwaith eto, yn achos GHA Coaches, yr hyn a amlygwyd gan hynny oedd bod un awdurdod lleol—Cyngor Sir y Fflint—wedi cael cymorth o oddeutu £1.3 miliwn ar gyfer gwasanaethau anfasnachol ac, mewn cyferbyniad, yn Wrecsam drws nesaf rwy'n credu bod y gyllideb wedi cael ei gostwng i sero. Mae hynny wedyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau hynny sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol oherwydd bod gennych un awdurdod lleol sydd ag adnoddau ar gael, er yn gyfyngedig iawn, ond awdurdod lleol arall heb adnoddau o gwbl. Felly, mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn yr uwchgynhadledd ar fysus yn y flwyddyn newydd yn gallu dysgu a chyfrannu cymaint â’r gweithredwyr gwasanaethau bysus eu hunain.

Credaf fod hynny’n ymdrin â’r holl gwestiynau a ofynnodd yr Aelod.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad—fel arfer, yn gryno a goleuedig—ond onid yw'n cytuno â mi mai’r elfen hollbwysig yng ngweithrediad ac effeithiolrwydd y gwasanaethau bysiau, wrth gwrs, yw’r cysylltedd â'r seilwaith rheilffyrdd? Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gydamseru amserlenni bysus a rheilffyrdd? Ysgogwyd y cwestiwn pan dynnodd un o etholwyr fy nghydweithwr sylw at y ffaith bod y gwasanaeth bws i Aberteifi yn gadael 10 munud cyn i'r trên Great Western gyrraedd Caerfyrddin, gan arwain yn aml at deithwyr yn gorfod aros dwy awr cyn gallu teithio ymlaen. Yn sicr, mae’n ddyletswydd ar gwmnïau bysus i drefnu gwasanaethau i wasanaethu eu cwsmeriaid yn y ffordd orau, gan hwyluso system drafnidiaeth fwy integredig. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau ar hyn, os gwelwch yn dda?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig a’i gwestiynau? Yn y pedwerydd Cynulliad, rwy’n cofio, pan oeddwn ar y meinciau cefn ac yn aelod o'r pwyllgor menter, fe wnaeth mater tocynnau integredig a theithio integredig gymryd cryn dipyn o'n hamser. Gwn ei fod wedi creu cryn rwystredigaeth ymysg Aelodau. Mae llawer o'r rhwystredigaeth yn dal i fodoli, ond yr ydym bellach mewn cyfnod lle mae cyfle enfawr, o ran gwasanaethau bysus a rheilffyrdd, i'w hintegreiddio yn llawnach drwy fasnachfraint newydd Cymru a’r gororau ac, wrth gwrs, y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys ym Mil Cymru. Byddwn yn gobeithio, rhwng y ddwy broses hynny, ynghyd ag anogaeth a datblygiad tocynnau mwy integredig a all, yn ei dro, sbarduno gweithredwyr bysus i weithredu mewn ffordd fwy integredig o ran amserlenni, na fydd y rhwystredigaeth a fynegwyd gan Aelodau'r meinciau cefn yn flaenorol yn bodoli erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Rwy’n croesawu'r pum pwynt a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet, a chroesawaf y pwysigrwydd y mae’n ei roi ar fysus, sydd yn amlwg yn rhan hanfodol o'n system drafnidiaeth. Y pwynt cyntaf yr oeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd am bwysigrwydd bysus i bobl ifanc. Mae hyn eisoes wedi cael ei grybwyll yn y ddadl, ond rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried barn pobl ifanc pan fyddwn yn cynllunio trafnidiaeth. Rwyf wrth fy modd ei fod yn mynd i gael uwchgynhadledd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. A all ef sicrhau bod pobl ifanc yn bresennol yn yr uwchgynhadledd? Nid oes gennym senedd ieuenctid eto, ond rhaid bod ffyrdd o gael pobl ifanc—grwpiau cynrychioliadol o bobl ifanc—fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a dweud sut mae cludiant yn bwysig iddynt hwy. Rwy’n credu ei bod yn ffaith hollbwysig nad oes gan 64 y cant o’r bobl sy'n chwilio am waith gerbyd at eu defnydd neu nid ydynt yn gallu gyrru. Felly, mae'n gwbl hanfodol i bobl ifanc—ac wrth gwrs, nid pobl ifanc yw’r unig bobl sy'n chwilio am waith, ond mae nifer fawr ohonynt yn chwilio am waith—eu bod yn gallu cael mynediad i gerbyd ac yn gallu, mewn gwirionedd, cyrraedd cyfweliadau am swyddi. Felly, rwy’n meddwl mai swyddogaeth i bobl ifanc yw'r peth cyntaf yr wyf am ei grybwyll.

Yr ail beth yw tagfeydd. Rwy'n siŵr bod pobl yn penderfynu peidio â theithio ar fysus oherwydd y tagfeydd a'r arafwch, weithiau, o deithio ar fysus. Yn sicr, mae fy etholaeth i yn un gwbl drefol bron, lle mae tagfeydd llwyr ar draffig yn aml. Felly, a fyddai'n canmol Cyngor Caerdydd ar ei ymdrechion i gyflwyno lonydd bysus ac, yn benodol, gyflwyno'r lôn fysus ar Heol Caerffili? Mae hon wedi bod yn hynod ddadleuol ac wedi achosi amharu difrifol i'r holl gymdogion, ond rwy’n meddwl, yn y tymor hir, y bydd yn sicr yn symud pethau ymlaen. Yna soniwyd am gyfnewid a chysylltedd, ac mae'n hollol wych bod gorsaf fysus Caerdydd, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, mewn gwirionedd yn awr yn dechrau cael ei hailadeiladu. Ond os oes unrhyw beth y gall ei wneud i annog Network Rail i gadw at eu rhan nhw o'r fargen a gwneud yn siŵr o leiaf y bydd pobl sy’n teithio o'r orsaf fysus i'r orsaf drenau yn gallu gwneud hynny dan do, rwy’n meddwl y byddai’n werth chweil gwneud hynny.

Mae wedi cyfeirio at bobl anabl. Rwyf wir yn croesawu'r hyn a ddywedodd am bobl anabl a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn yr holl drafodaethau ac mewn unrhyw ddadl yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy ddiolch i Bus Users Cymru, sy’n gwneud gwaith ardderchog yn fy marn i. Gwn fod derbyniad yfory, rwy’n meddwl, sy'n cael ei gynnal gan Jane Hutt yma. Ond rwy'n credu bod y pwyntiau y maent yn eu gwneud—y ffaith bod 41 y cant o’r bobl sydd wedi cysylltu â nhw wedi dweud eu bod yn pryderu am lefel y gwasanaeth—yn dangos yr angen a'r galw sydd yng Nghymru am y conglfaen hwn o’r gwasanaeth .

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac rwy’n ategu’n fawr iawn yr hyn a ddywedodd hi, yn rhannol am bwysigrwydd Bus Users Cymru ac am yr angen i Network Rail sicrhau bod y gwaith uwchraddio, sydd yn hir-ddisgwyliedig, i orsaf reilffordd Caerdydd yn briodol a sicrhau bod y daith rhwng yr orsaf rheilffordd a'r orsaf fysus yn un ddidrafferth a diogel.

O ran tagfeydd ar ffyrdd, byddwn yn croesawu'n fawr iawn y datblygiadau sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd. Gallem eu hystyried, mewn sawl ffordd, yn arfer gorau. Rwy’n cydnabod, mewn sawl rhan o Gymru, oherwydd culni’r ffyrdd a strydoedd trefol, y gall fod yn anodd ymgorffori llwybrau bws mewn ardaloedd adeiledig.  Fodd bynnag, lle maent yn bosibl, rwy’n credu ei fod yn gwbl hanfodol. O ran y datblygiad metro yn y de, wrth gwrs gall fod yna swyddogaeth i drafnidiaeth bysus cyflym, a fyddai hefyd yn gweld gweithrediadau llyfn o fysus cyflym mewn ardaloedd preswyl a masnachol.

Rwy'n awyddus iawn i ddenu pobl ifanc a phobl anabl hefyd i'r uwchgynhadledd yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn agored iawn i unrhyw awgrymiadau sydd gan Aelodau ynghylch o ble y dylem ddod o hyd i’r bobl briodol. A hefyd, o ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Russell George, byddwn hefyd yn awyddus i wahodd, o bosibl, ofalwyr ifanc i allu rhoi eu profiad eu hunain o ddefnyddio’r gwasanaethau bysus a rhai o'r rhwystredigaethau a all godi â'r rhwydwaith presennol. Credaf, ar gyfer pobl ifanc yn benodol,—a soniais am hyn yn gynharach—bod angen marchnata’r rhwydwaith bysus yn well fel math priodol o gludiant. Rydym yn gwybod bod oddeutu 113,000 o bobl ifanc sy'n gymwys i gael mytravelpass, sef yr enw brand ar gyfer y cynllun teithiau bws am bris gostyngol—113,000 o bobl ifanc 16, 17 ac 18 oed. Eto i gyd, hyd yn hyn, dim ond 8,000 sydd wedi gwneud cais am y tocyn bws gwerthfawr hwn. Dylem gymryd pob cyfle—ac rwy’n meddwl unrhyw gyfle—a gawn i dynnu sylw at fodolaeth y tocyn hwn. Ond hefyd rwy'n awyddus iawn y dylai'r sector ei hun ddod at ei gilydd yn fwy er mwyn marchnata cyfleoedd teithio rhatach ar gyfer teithio didrafferth ac i sicrhau hefyd bod teithio integredig ar gael i bawb, nid i bobl ifanc yn unig.

Ar gyfer pobl ifanc yn arbennig, mae angen gwasanaethau bws rheolaidd o ansawdd da, oherwydd, wrth gwrs, nid oes gan lawer ohonynt y dewis i allu gyrru, o ystyried cost yswirio cerbyd preifat, ond hefyd ar gyfer llawer o bobl hŷn yn ogystal â llawer o bobl ifanc—ond rwy’n gwybod, yn sicr cyn belled ag y mae fy rhieni i yn y cwestiwn, rwy’n meddwl bod gennych ddiffyg hyder ar y ffyrdd fel gyrrwr wrth gyrraedd oedran penodol. Rwy’n credu ei fod yn hollol hanfodol, felly, ein bod yn cynnal gwasanaethau gwledig lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, yn ogystal â gwasanaethau trefol, ac yn eu gwneud, unwaith eto, mor integredig ag y bo modd a sicrhau bod y gwasanaeth o'r ansawdd gorau posibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, soniasoch yn gynharach bod angen i fysus fod yn lân, a’r rhan bwysicaf o’u glanweithdra yw’r allyriadau glân. Felly, rwy’n meddwl tybed pa gynnydd yr ydym yn ei wneud ar hynny, oherwydd rwy’n sylwi bod Llywodraeth y DU wedi dyrannu grantiau o £30 miliwn i 13 o awdurdodau lleol—ac nid oedd un o’r rheini Nghymru, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol—i fuddsoddi mewn bysus trydan neu hybrid. Ym Mryste, mae gwasanaeth bws sydd â thechnoleg hybrid sy’n newid yn awtomatig i fodd trydan cyn gynted ag y mae’r bws yn cyrraedd yr ardal rheoli ansawdd aer. I le fel Caerdydd byddai hynny’n hanfodol iawn er mwyn ceisio brwydro yn erbyn y llygredd ofnadwy sydd yn yr aer. Byddwn yn meddwl y byddai hyn yn gyfraniad mawr i leihau 40 y cant ar ein nwyon tŷ gwydr erbyn 2020. Felly, rwy’n meddwl tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am hynny ac a yw unrhyw un o'r cwmnïau mwy o faint sydd gennym yng Nghymru hyd yma wedi buddsoddi mewn teithio trydan.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rwy’n credu bod ymchwil a datblygu o ran bysus gwyrdd nid yn unig yn gyfle i ni ostwng neu leihau ein hôl troed carbon—mae ymchwil a datblygu hefyd yn gyfle economaidd enfawr i ni, gan ei fod yn dal yn ddiwydiant sydd yn ei ddyddiau cynnar. Nid ydym eto’n gweld ar draws rhan helaeth o orllewin Ewrop y niferoedd o fysus trydan a hybrid y byddwn yn debygol o’u gweld yn y degawd nesaf. Felly mae cyfleoedd i gwmnïau o Gymru gael mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu mathau newydd o drafnidiaeth sy’n cyfrannu llai o’n hôl troed carbon.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Roedd y gronfa bws gwyrdd, sef y gronfa y cyfeiriodd yr Aelod ati, wrth gwrs, yn agored i ddarparwyr bysus a gweithredwyr yng Nghymru. Yn anffodus, ni fu unrhyw gwmni o Gymru yn llwyddiannus wrth wneud cais, ac ni fu unrhyw awdurdod lleol yn llwyddiannus wrth wneud cais. Rwyf i yn bersonol yn barod i ystyried, serch hynny, achos dros sefydlu cronfa bysus gwyrdd yng Nghymru, ond wrth gwrs, rhaid i mi ddweud, o fewn cyd-destun awdurdodau sy’n cystadlu â’i gilydd a chyfyngiadau cyllidebol. Ond rwy’n cydnabod bod angen lleihau ein hôl troed carbon a swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus wyrddach—wrth gyflawni hyn. Felly, rwy’n barod i roi ystyriaeth i achos dros gael cronfa bysus gwyrdd yng Nghymru.

Rwy’n credu bod ein grŵp cynghori ar bolisi bysus, serch hynny, wedi awgrymu mai’r hyn y maent yn ei alw yn 'gronfa bysus gwell', yn hytrach na chronfa gul bysus gwyrdd, fyddai fwyaf priodol. Felly, i ryw raddau mae gwrthdaro o ran beth fyddai ffordd well, neu’r math o gronfa a'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys am adnoddau cyfalaf fyddai orau ar gyfer yr economi ac ar gyfer defnyddwyr sy’n deithwyr. Ond mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn bwriadu siarad â chwmnïau yn ei gylch yn yr uwchgynhadledd yn 2017.

8. 7. Adroddiad Blynyddol 2015-16 Comisiynydd y Gymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6117 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 17:54:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Rwyf eisiau dechrau, wrth gwrs, drwy ddweud gair o ddiolch wrth Meri a’i thîm, sydd wedi gweithio yn galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn arwain y gwaith. Yn aml iawn, mae rôl y comisiynydd yn rôl ddigon diddiolch, ac rwy’n awyddus iawn bod Aelodau’r prynhawn yma yn cael y cyfle i drafod gwaith y comisiynydd, ond hefyd i ddiolch i’r comisiynydd am y ffordd y mae wedi cyflwyno ei chyfrifoldebau.

Rydym ni’n ymwybodol, amser hwn y flwyddyn nesaf, fydd gennym ni strategaeth newydd tuag at 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd hynny yn galw am becyn uchelgeisiol o bolisïau a deddfwriaeth, a bydd y comisiynydd, wrth gwrs, yn rhan bwysig o beth bynnag a ddaw dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.

Rydw i’n awyddus iawn ein bod ni’n ystyried adroddiad y comisiynydd mewn ffordd eang iawn ac yn edrych ar sut mae wedi cyflwyno’r gwaith. Yn amlwg, mae’r comisiynydd yn ffigwr adnabyddus i ni fan hyn, sy’n dod i bwyllgorau’r Cynulliad, sy’n rhan o drafodaethau ar y Gymraeg. Mae hefyd wedi ymateb i gwynion gan y cyhoedd er mwyn sicrhau bod unigolion yn gallu mynnu cyfiawnder yn eu defnydd o’r Gymraeg. Mae’r holl waith y mae’n ei wneud ar draws Cymru yn hollbwysig ar ran pob un ohonom ni sy’n defnyddio ac yn siarad y Gymraeg.

Ar ben hynny, mae’r comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad ei phum mlynedd gyntaf, sydd, ymhlith pethau eraill, yn adrodd ar ganlyniadau’r Cyfrifiad o safbwynt y Gymraeg. Mi fyddwn ni’n ystyried yr adroddiad wrth i ni lunio’r strategaeth newydd. O ddiddordeb hefyd yw’r adroddiad ‘Amser gosod y safon’, sy’n bortread o brofiadau pobl wrth geisio defnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus. Yn aml iawn, mae’r portread rydym ni’n ei weld yn rhywbeth mae lot fawr ohonom ni yn ei adnabod o’n profiad personol a phrofiad ein teuluoedd ni. Rydw i’n diolch i’r comisiynydd am y gwaith y mae wedi ei wneud yn creu darlun o ddarpariaeth anghyson ar draws y sector cyhoeddus, ac yn dangos pam fod angen y safonau arnom ni.

O ran y safonau, fel efallai dylem ni wedi’i ddisgwyl pan fo trefn newydd a heriol yn cael ei sefydlu, rydym ni’n gwybod bod yr adborth wedi bod yn gymysg hyd yn hyn. Serch hynny, yn ogystal â’r hawliau y mae’r safonau yn eu rhoi i ni fel defnyddwyr, mae pethau fel safonau llunio polisi yn dechrau dangos eu potensial. Mae’r ethos o gynllunio gweithlu er mwyn y dyfodol a sicrhau ein bod ni’n gallu ateb y galw am y Gymraeg, a gwasanaethau Cymraeg, wedi dechrau digwydd.

Rydw i’n credu bod angen rhagor o drafod gyda’r comisiynydd ar ambell i beth. Er enghraifft, mae sefydliadau sy’n dweud bod angen deall y safonau yn well, a bod angen cefnogaeth arnyn nhw wrth fynd i’r afael â rhai gofynion. Dyddiau cynnar ydy’r rheini, ond mae’n bwysig ein bod ni’n gweld y broses o greu safonau a chreu gwasanaethau yn y Gymraeg fel rhywbeth rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd arni.

Rydym ni wedi cyflwyno pedwar set o reoliadau i wneud safonau yn gymwys i gyrff gwahanol. Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol eisoes yn cydymffurfio â safonau, ac mae’r comisiynydd wedi cyflwyno hysbysiadau i dros 50 arall o gyrff. Rydym ni newydd orffen ymgynghori ar reoliadau drafft i’r sector iechyd. Mi fyddaf i’n ystyried yr ymatebion yr ydym wedi eu gweld cyn gosod rheoliadau cyn y Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn nesaf. Fy mwriad i yw cyflwyno datganiad ysgrifenedig i Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnig amserlen i chi ar gyfer cyflwyno rheoliadau pellach. Rydw i mawr yn gobeithio y gallem ni gael cytundeb ar sut yr ydym ni yn symud ymlaen o le rydym ni heddiw.

Mae Aelodau hefyd yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod sydd i ddod, mi fyddem ni hefyd yn edrych eto ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn gwella’r ddeddfwriaeth sydd gyda ni. Mae’n rhy gynnar eto i nodi manylion beth fydd hynny yn ei olygu: a ydym ni’n mynd i ddiwygio’r Mesur presennol neu greu Bil iaith newydd? Un peth sy’n sicr yw bod yr her o greu 1 miliwn o siaradwyr a 1 miliwn o ddefnyddwyr y Gymraeg yn galw am newid sylweddol, ac mae hynny’n wir ym mhob un maes polisi sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg. Mae meddwl am gynllunio yn rhan mor bwysig o’r strategaeth ddrafft, oherwydd drwy gynllunio yr ydym ni’n cael sicrhau bod y sylfaeni yn eu lle. Felly, rydw i eisiau strategaeth ar gyfer y Gymraeg i ddod yn gyntaf, ac, ar sail y strategaeth, mi fyddem ni’n dod at drafod deddfu a pha fath o ddeddfwriaeth y bydd ei hangen arnom ni.

Ar hyn o bryd, rydym ni’n dechrau dod i ben â’r broses o ymgynghori ar y strategaeth a lansiom ni yn yr Eisteddfod. Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi bod yn rhan o’r broses o drafod ac sydd wedi ymateb i’r drafodaeth ac i’r ymgynghoriad. Rydym ni wedi gosod targed gydag uchelgais oherwydd rydym ni eisiau newid y ffordd rydym ni’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Rwy’n gobeithio y bydd pob un Aelod ym mhob un rhan o’r Siambr yn rhannu’r weledigaeth sydd gennym ni ac yn teimlo fel ein bod ni i gyd yn gallu cyfrannu at y weledigaeth mewn ffordd wahanol. Ond, rwy’n mawr obeithio y bydd y strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi yn y gwanwyn, yn un a fydd yn cael cefnogaeth ym mhob un rhan o’r Siambr yma.

Cyn i mi gau, a chyn i mi ddod â fy sylwadau cychwynnol i ben, Ddirprwy Lywydd, fe wnaf i edrych ar y gwelliannau sydd wedi cael eu gosod yn enw Rhun ap Iorwerth. Fe wnaf i ddweud ar y dechrau fy mod i a’r Llywodraeth yn bwriadu derbyn pob un o’r gwelliannau. Yn amlwg, rydym ni’n hapus iawn i dderbyn y gwelliant cyntaf ynglŷn â phwysigrwydd cynllunio’r gweithlu er mwyn darparu gwasanaethau Cymraeg. Mae cynllunio, a chynllunio’r gweithlu yn arbennig, yn rhan gwbl ganolog o’r strategaeth ddrafft ac yn rhan gwbl ganolog o’r gwaith rydym ni wedi bod yn ei arwain yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Mae’n wir ym maes gofal plant, mae’n wir ym maes addysg, mae’n wir am gyrff sy’n darparu gwasanaethau ac mae’n wir am fusnesau.

Dyna pam hefyd rwyf i’n fodlon derbyn yr ail welliant, sy’n ymwneud â gweithio gyda’r comisiynydd i gyflwyno strategaeth Cymraeg yn y gweithle. Mae’n bwysig cofio bod sawl corff a ariennir gan y Llywodraeth eisoes yn gweithio yn y maes, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd wedi nodi yn ei chynllun strategol y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r comisiynydd i ddatblygu strategaeth Cymraeg yn y gweithle. Ond, mae’r gwelliant hwn hefyd yn sôn am hyrwyddo hawliau pobl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg. Mae hynny hefyd eisoes yn swyddogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg, ond rwy’n hapus iawn i dderbyn y gwelliant.

Wrth droi at welliant 3, bydd ymateb swyddogol y Llywodraeth i adroddiad gweithgor y Gymraeg a llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Nid wyf eisiau dechrau breuddwydio na dechrau rhagweld beth fydd yn yr ymateb a fydd yn cael ei gyhoeddi. Ond, mae hi hefyd yn deg i ddweud bod y safonau sydd ar awdurdodau lleol eisoes yn rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i gynllunio’r gweithlu o safbwynt ieithyddol ac i ddarparu hyfforddiant addas ar hynny o beth.

Rwyf i wedi bod yn glir nad wyf i eisiau gwneud unrhyw ymrwymiadau penodol o safbwynt deddfwriaethol ar hyn o bryd, oherwydd rwyf eisiau i’r strategaeth derfynol liwio’r gwaith o ddatblygu hynny. Ond, rwy’n fodlon derbyn y gwelliant am ei fod yn rhan o’r pecyn ehangach o’r pethau a fydd angen eu hystyried er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu camu ymlaen o ddifri ar ran y Gymraeg yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau’n derbyn ein bod ni’n derbyn y gwelliant ond hefyd yn gwneud hynny gan gydnabod y bydd rhaid trafod sut yn union rydym ni’n symud ymlaen yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu bod yr adroddiad yn un da ac yn adroddiad sy’n un pwysig. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau â sylwadau i’w gwneud ar yr adroddiad, ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Aelodau’n ymuno â minnau yn diolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma er mwyn trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn innau ddiolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

Adroddiad sy’n edrych yn ôl ydyw hwn, a, phwysiced ydy hynny, roeddem ni’n awyddus i symud y drafodaeth ymlaen. Felly, dyna pam ddaru Plaid Cymru gyhoeddi nifer o welliannau ar gyfer y ddadl yma, yn seiliedig yn benodol ar yr angen i’r Llywodraeth weithredu ym maes polisi cynllunio’r gweithlu. Rwy’n falch iawn eich bod chi yn fodlon derbyn y gwelliannau hynny. Mae’n arwydd clir o’ch ymroddiad chi yn y maes yma. Er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â nifer y siaradwyr, mae’n ofynnol i weithredu nifer o elfennau gwahanol, ac mi fydd addysg yn elfen greiddiol, os ydy’r Llywodraeth am gyflawni ei darged o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r diffyg cynnydd ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn fater o bryder cynyddol, ac yn fater y bydd rhaid ei ystyried pan fydd y Llywodraeth yn gosod targedau penodol er mwyn cyflawni’r strategaeth.

Mae’r gwelliannau rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw yn ymwneud â chynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau fod y ddarpariaeth ar gael i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys addysg. Yn amlwg, mi fydd yn rhaid cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar fel man cychwyn i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Ac mae yna nifer o gyfleon yn codi yn fuan iawn i wneud hynny—er enghraifft, ymestyn gofal plant am ddim i 30 awr, mae hynny’n cynnig cyfle, a diwygio hyfforddiant athrawon a diwygiadau Donaldson. Mae’r rheini i gyd yn cynnig cyfle i’r Gymraeg. Materion eraill y medrwn ni sbïo arnyn nhw ydy cymhelliant ariannol a hefyd ymestyn y cynllun sabothol i athrawon.

Mae’r adroddiad arall yr oeddech wedi sôn amdano fo, ‘Amser gosod y safon’, gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn un pwysig hefyd, ac mae’r comisiynydd yn hwnnw yn dweud bod angen i sefydliadau newid gêr a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gynyddu eu defnydd o’r iaith yn eu bywydau pob dydd. Mae’r comisiynydd yn credu bod nifer o sefydliadau wedi cyrraedd rhyw fath o fan fflat o ran twf o ran gwasanaethau, tra bod eraill wedi cymryd camau sylweddol yn ôl o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn wir, mae’r adroddiad rydym ni’n ei drafod heddiw yn nodi bod hyd yn oed y Llywodraeth wedi methu â gweithredu rhai elfennau o’i pholisi iaith ei hun. Ym mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad statudol i weithrediad cynllun iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar sail amheuon y comisiynydd ynghylch gofynion ieithyddol wrth recriwtio Comisiynydd Plant Cymru newydd, a’r ystyriaeth a roddwyd i gynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth wrth ddiwygio’r fanyleb swydd wreiddiol. Fe ddaeth y comisiynydd i’r casgliad bod y Llywodraeth wedi methu â gweithredu dau gymal o’i chynllun iaith yn rhan o’r ymarferiad recriwtio, ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi, os ydy’r arweiniad i ddod o’r Llywodraeth, fod yn rhaid i bethau felly beidio â digwydd.

Rydym ni wedi trafod adroddiad y gweithgor ar yr iaith Gymraeg a llywodraeth leol, sef ‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’ yn y Cynulliad yn barod, ac mae adrannau o’r adroddiad yma’n trafod yn benodol yr angen i’r Llywodraeth sicrhau bod dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Fel yr oeddech chi’n sôn, rydym ni’n dal i ddisgwyl canlyniad yr ymgynghoriad ar argymhellion y gweithgor yma, ond rwy’n falch eich bod chi wedi dweud heddiw bod hynny ar ei ffordd. Rhai pwyntiau y buasai Plaid Cymru yn hoffi gweld y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw ydy’r rhain: mae angen darparu gwersi Cymraeg i staff drwy gynlluniau fel Cymraeg yn y gweithle; mae’n rhaid cynnwys gofynion ieithyddol mewn polisi recriwtio; mae angen cynnal awdit er mwyn gweld beth ydy’r bwlch sgiliau ieithyddol, yn arbennig mewn swyddi rheng-flaen; ac mae angen cynllunio gweithlu pwrpasol. Os ydy hawliau siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu sefydlu drwy’r safonau am wreiddio, mae’n rhaid cynllunio gweithlu fydd yn gallu darparu’r gwasanaethau hynny yn gyflawn.

Felly, adroddiad i ddiolch amdano fo ydy hwn, ond mae’n adroddiad sydd yn tanlinellu’r problemau. Mae’r problemau’n hysbys ers tro, ac mae angen i’r Llywodraeth weithredu rŵan. Mae’r wybodaeth, y polisïau, a’r arbenigedd ar gael er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes yma, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos yr awydd a’r arweiniad gwleidyddol i’w roi ar waith, ac rwy’n gwybod eich bod chi, fel y Gweinidog, yn ddiffuant yn eich ymroddiad tuag at y Gymraeg. Mae’r cynnydd bychan mewn arian i gynlluniau i gefnogi’r Gymraeg sydd wedi cael ei sicrhau gan Blaid Cymru yn y gyllideb yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg—rwy’n mynd yn ôl at beth y dywedodd hi—rhaid newid gêr, a, buaswn i’n ychwanegu, a hynny ar frys. Felly, gobeithio y bydd pawb yn gallu cefnogi’r gwelliannau hyn er mwyn inni ganolbwyntio ar weithredu. Diolch.

A gaf i ddechrau gan ategu’r diolch mae’r Gweinidog a Sian Gwenllian wedi ymestyn i’r Comisiynydd am ei gwaith yn paratoi’r adroddiad yma? Rwy’n croesawu’r adroddiad ac yn croesawu’r cyfle i drafod yr adroddiad a chroesawu’r gwelliannau sydd wedi dod wrth Blaid Cymru hefyd.

Mae’r adroddiad wedi’i lunio o safbwynt y defnyddiwr, hynny yw, y person sy’n gofyn am y gwasanaeth, a dyna un o gryfderau’r adroddiad yn fy marn i—ei fod yn gweld gwasanaethau Cymraeg a’r ddarpariaeth Gymraeg o safbwynt y defnyddiwr y tu fas i’r sefydliad.

Fe wnes i ofyn i’r comisiynydd, pan ddaeth hi i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a oedd hi wedi’i synnu gan unrhyw un o’r casgliadau neu’r canfyddiadau yn yr adroddiad, ac fe wnaeth hi ddweud nad oedd wedi synnu. Ond, o ddarllen yr adroddiad, mae’n amlwg bod gennym siwrnai bell i fynd i gyrraedd y man y byddem ni i gyd yn moyn bod ynddo. Er enghraifft, dim ond yn 21 y cant o dderbynfeydd oedd modd defnyddio’r Gymraeg; 37 y cant a oedd yn cael cynnig gwasanaeth heb ofyn ar y ffôn; o edrych ar wefannau, 19 y cant o wefannau a oedd yn hyrwyddo’r dewis iaith, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Fe wnaeth hi ddenu sylw at wefannau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn benodol, gan sôn, ers iddyn nhw ddod o dan un wefan, sef gov.uk, fod safon y ddarpariaeth Gymraeg wedi dirywio’n sylweddol. Fe wnaeth hi ddweud nad rhyw arafu rŷm ni wedi ei weld, ond carlamu nôl o ran y darpariaeth sy’n deillio o San Steffan. Felly, mae angen inni edrych ar hynny yng nghyd-destun Bil Cymru, a byddwn i’n gofyn i’r Gweinidog hefyd i gysidro edrych ar y broblem yma a chyfathrebu gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, os ydy hynny’n addas i’w wneud, er mwyn symud y drafodaeth ymlaen a gweld beth allwn ni ei wneud yn sgil y Bil.

Beth sy’n bwysig ar sail yr adroddiad yma, rwy’n credu, yw beth sy’n digwydd nesaf, ac fe wnaethom ni drafod yn y pwyllgor hefyd y camau penodol sydd ar y gweill er mwyn deall y dadansoddiad a chymryd camau adeiladol ar ei sail e. Rwy’n deall bod gweithdai cyffredinol ar y gweill i drafod y canfyddiadau gyda’r sefydliadau sydd wedi bod yn destun i’r adroddiad a sefydliadau ehangach, ynghyd â darparu adborth penodol a llyfrgell o adnoddau er mwyn cefnogi sefydliadau a chyrff i wella’r ddarpariaeth. Ond byddwn i hefyd yn hoffi gweld gweithio law yn llaw gyda’r sefydliadau. Rwy’n credu bod angen chwyldro o fewn y sefydliadau yma i newid y diwylliant fel bod y sefydliadau a chyrff yn deall y pam a deall y sut , er mwyn inni allu symud ymlaen. Felly, byddwn i’n hoffi gweld golwg greadigol ar ffyrdd o gefnogi’r sefydliadau yma i wneud hynny, ynghyd â rheoleiddio.

Ond os oes angen cam mawr ymlaen o ran y diwylliant mewn rhai o’r cyrff yma, mae angen cam mawr ymlaen hefyd yn nhermau cynyddu’r galw am y gwasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw. I ategu geiriau Sian Gwenllian yn sôn am ba mor bwysig yw’r gweithlu addysg, mae’n hanfodol i allu delifro’r amcanion yn strategaeth y Gymraeg, a hanfodol hefyd yw cynllunio’r gweithlu yn y maes yna’n benodol. Dyna pam mae’r strategaeth Gymraeg yn hollbwysig. Trwy gynyddu nifer y siaradwyr, rŷm ni’n mynd i gynyddu’r galw, a hynny sy’n sicrhau, yn fy marn i, trawsnewid yn y math o wasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw.

Hoffwn ddweud diolch hefyd i’r comisiynydd am ei hadroddiad, a dechrau drwy ei llongyfarch am gadw o fewn ei chyllideb, yn arbed arian ar bron bob llinell ynddi. Roedd setliad ei swyddfa y llynedd yn arbennig o anodd ac mae wedi bod rhywbeth yn debyg eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at y manylion yn y gyllideb ddrafft.

Rydym yn croesawu effeithlonrwydd, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gorfod ffeindio £150,000 ychwanegol yn benodol i orfodi safonau, sef un o swyddogaethau craidd swyddfa'r comisiwn, yn awgrymu nad oes lot o waed ar ôl yn y garreg. Rydych chi’n iawn, Weinidog, i chwilio am arbedion, wrth gwrs, ond tybed a ydym ni wedi cyrraedd y pwynt lle bydd toriadau sylweddol pellach yn croesi'r llinell a chyfyngu ar waith y comisiynydd i bwynt lle y mae’n lleihau ei werth i lefel annerbyniol.

Wedi dweud hynny, wrth gwrs, cafodd y comisiynydd wybod ym mis Chwefror fod yr arian ychwanegol hwn ar y ffordd. Fe allai wedi bod yn ddefnyddiol—rwy’n cytuno â Jeremy Miles yma—yn yr adroddiad hwn, i roi syniad am sut y mae’r arian yn cael ei wario, fel, y flwyddyn nesaf, y gallwn ni edrych ar ei hadroddiad eleni i ddilyn sut y mae’r bwriadau’n datblygu.

Rwy’n siŵr y bydd y galw ar y comisiynydd yn tyfu. Gyda phob set o safonau, mae'n edrych fel y byddwn yn wynebu set newydd o apeliadau. Gyda phroses symlach, hyd yn oed, a nifer yr apeliadau yn gostwng wrth i ni symud ymlaen, bydd costau gorfodi yn parhau i fod yn her ar gyfer cyllidebau eleni a thu hwnt. Bydd targed tymor hir y Llywodraeth ar gyfer miliwn o siaradwyr yn gofyn am olwg tymor hir hefyd ar gyfer swyddfa'r comisiynydd.

Y llynedd, roeddwn yn gofyn lle’r oedd yr ail rownd o safonau. Y flwyddyn gynt, fe wnes i ofyn lle’r oedd y rownd gyntaf o safonau. Nid wyf yn gwybod beth yw ‘groundhog’ yn Gymraeg, ond nid oes syndod beth rwy’n gofyn eleni. Er fy mod i'n siŵr y byddwch chi’n dweud eich bod chi wedi canolbwyntio ar ddod â safonau wedi’u diwygio yn ôl, rydych chi wedi cael yr adroddiad ar ymchwiliad rownd tri o’r safonau ers mis Gorffennaf. Fe fyddai’n werth cael rhyw ddatganiad yn fuan ynglŷn â’r amserlen, rwy’n credu.

Ond, gall edrych yn ôl fod yn beth da weithiau, ac fe fyddai wedi bod yn ddiddorol i weld yn yr adroddiad hwn rhyw adlewyrchiad ar faterion a godwyd y llynedd a'r cynnydd yn y cyfamser. Mae’r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ymddangos yn y ddau adroddiad, yn y bôn, am yr un cyfnod o ddylanwad. Ond, ni allaf weld dim byd newydd ar y cwestiwn dadleuol o addysg ôl-16. Mewn gwirionedd, ni allaf weld llawer o fanylion ar addysg o gwbl, o ystyried bod adolygiad Diamond yn bwnc mawr y llynedd. Dyna pam rŷm ni’n fodlon cefnogi’r gwelliannau i’r ddadl heddiw. Efallai y byddwn yn gweld mwy am hynny yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.

Unwaith eto, rwy’n cynnig diolch i'r comisiynydd am gwrdd â llefarwyr yn aml, ein cadw ni’n gyfredol a rhannu pryderon—proses ddwy ffordd, gyda llaw. Gall dylanwadu ar bolisi gael ei wneud mewn nifer o ffyrdd, wedi'r cyfan, ac mae siarad â phob plaid yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei hun ei ystyried, cyn cytuno ei chyllideb ddrafft. Mae'n debyg, er nad oes rhaid iddi fod, fod y comisiynydd yn fwy agored gyda’r Cynulliad na’r Llywodraeth.

Rydych chi, Weinidog, i fod yn deg, yn barod i drafod eich blaenoriaethau ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rwy’n gwerthfawrogi hynny. Mae'n debyg ein bod ni’n cytuno mai defnydd beunyddiol o'r iaith yw’r prif nod i ni fel cenedl. Mae ein prosiect ar gyfer y stryd fawr, Tipyn Bach, yn cyfrannu at yr un agenda. Mae'r iaith, mewn gwirionedd, yn byw y tu fas i glwydi'r ysgol, ond bydd yr holl uchelgais dros ddyfodol y Gymraeg mewn addysg yn cyfrif am ychydig oni bai bod y rhai sydd wedi’u siomi ganddi yn y gorffennol yn rhan o wneud yr iaith yn fyw nawr.

Rwy'n falch o weld yr adroddiad yn cyfeirio'n benodol at y ddiplomyddiaeth feddal, os cawn ni ddweud, y mae’r comisiynydd yn ei defnyddio i helpu i greu meddylfryd newydd, a fydd yn angenrheidiol yn y gweithle a’r gweithlu. Mae ei angen o hyd, yn amlwg—nid oes neb eisiau gweld cwyn tebyg i’r un yn erbyn cyngor Abertawe eto.

Dyna pam roeddwn i’n falch, hefyd, o weld cyfeiriad at y fframwaith rheoleiddio, pwerau adran 4 i gynghori, a phethau fel y seminarau, nodau ansawdd ac amrywiaeth o gynlluniau hybu’r Gymraeg. Mae llawer o bethau da ar y wefan am sut i gael ymgysylltu cefnogol â chlybiau, cymdeithasau a chymdeithas sifil yn gyffredinol. Beth nad wyf i’n siŵr amdano yw sut y mae sefydliadau o'r fath yn cael eu denu at y wefan yn y lle cyntaf—rhywbeth, efallai, y gallai unrhyw sefydliad sydd â dyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ei ystyried, gan gynnwys y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

Ategaf bopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud ac rwyf yn croesawu'r adroddiad hwn. Hoffwn hefyd, mewn gwirionedd, ganmol y Gweinidog am ei frwdfrydedd a'i weledigaeth wrth wneud ei waith a'r cyfraniad y mae wedi’i wneud i'n pwyllgor. Nid wyf yn tybio y byddwn i'n gallu dweud hynny wrth lawer o Weinidogion yn y Llywodraeth hon, ond rwyf am dalu’r deyrnged honno yn ddiffuant iddo.

Mae adroddiad comisiynydd y Gymraeg wedi’i osod yn erbyn y cefndir na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai unigolyn yng Nghymru allu byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg os yw’n dewis gwneud hynny. Ni ddylai ymdrech fod yn ofynnol i allu gwneud hynny. Dyna'r cefndir i'r adroddiad hwn. Fel y mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae cynnydd wedi'i wneud, ac yn sicr mae Cymru heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oedd 50 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n tyfu i fyny ac yn yr ysgol. Ond mae hi'n dweud nad yw’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn gwneud unrhyw gynnydd pellach, a bod perfformiad wedi cyrraedd man gwastad ers peth amser. Wel, ni ddylai pobl sy'n siarad Cymraeg orfod dyfalbarhau i ddefnyddio eu hiaith frodorol, a dyna, rwyf yn credu, yw barn unedig y Cynulliad hwn.

Yr hyn sy'n siomedig am yr enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi yn ei hadroddiad yw nad yw’n ymddangos y cedwir at y nod cyffredinol ar draws y sector cyhoeddus. Cyfeiriodd Jeremy Miles at hyn yn rhan o’i araith, ond mae hyd yn oed darparu arwyddion i ddweud bod gwasanaeth Cymraeg ar gael yn annigonol. Nid oes unrhyw arwyddion Iaith Gwaith mewn 71 y cant o’r derbynfeydd sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn y cynghorau sir—76 y cant—a hyd yn oed yn waeth wedyn yn y gwasanaeth iechyd, lle mai 78 y cant yw’r ffigur. Credaf mai mater o barch yw hyn, mewn gwirionedd—y dylem fod yn gallu darparu ar gyfer awydd naturiol pobl i siarad Cymraeg—ac mae'n codi cywilydd personol arnaf i fy mod yn teimlo na allaf siarad Cymraeg yn ddigon da fel bod y rhai a fyddai’n dymuno siarad â mi yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gwneud fy ngorau i’w unioni, a dros y cyfnod y byddaf yn cael aros yn y lle hwn, rwyf yn gobeithio y byddaf yn gallu cyrraedd perffeithrwydd, o leiaf yn yr agwedd hon ar fywyd os nad mewn unrhyw agwedd arall.

Felly, mae'n rhywbeth y mae fy mhlaid yn ei groesawu, ac rydym ninnau’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig hwn y prynhawn yma hefyd. Dylai'r defnydd o Gymraeg gael ei gweld nid yn unig fel mater o ddewis, yng ngeiriau y cynnig gweithredol, ond fel cwestiwn o angen, oherwydd mai iaith yw pedigri cenedl, ac unwaith y caiff ei cholli, wrth gwrs, ni ellir fyth ei hadennill yn llawn, fel yr ydym wedi gweld yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fel Cernyw, lle mae'r iaith wedi ei cholli.

Mae llawer i'w wneud—dyna'r wers yr ydym yn ei thynnu o'r adroddiad hwn. Mae hyd yn oed materion fel cael at y Gymraeg ar y rhyngrwyd, a byddech yn meddwl y byddai hynny’n eithaf syml i'w ddarparu, yn annigonol iawn. Dim ond 24 y cant o ffurflenni Saesneg, mae'n debyg, sydd ar gael yn Gymraeg, a hyd yn oed o ran gohebiaeth gydag adrannau'r Llywodraeth a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, mae'n debyg nad yw 26 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, sydd yn fy marn i yn rhyfedd iawn, ac yn y gwasanaeth iechyd nid yw 35 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, ac mae hynny mewn gwirionedd yn warthus yn fy marn i.

Y peth arall i mi ei nodi gyda chryn ddiddordeb yn yr adroddiad yw barn y comisiynydd mai camargraff yw hawlio bod yn rhaid i rywun fod yn gallu siarad Cymraeg i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae hi'n dweud bod nifer sylweddol o sefydliadau yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru, y mae angen iddynt sicrhau eu bod yn cynnwys y Gymraeg fel ffactor wrth gynllunio eu gweithlu, ac mae'n rhaid iddynt fynd ati o ddifrif i gynyddu eu gallu ieithyddol er mwyn gallu bodloni anghenion cymdeithas ddwyieithog. Dyna uchelgais arall, unwaith eto, yr wyf yn ei gymeradwyo’n llwyr. Rydym ni yn UKIP yn cael ein hadnabod yn anghywir o bryd i'w gilydd fel parti Saesneg, ond rydym yn llwyr gefnogi’r uchelgais y dylai Cymru fod yn genedl gwbl ddwyieithog. Byddai'n rhyfedd iawn i blaid genedlaetholaidd fel ni beidio â bod â’r farn honno, ac rwy'n falch bod hwn yn gyfle i bob un ohonom ar draws y Siambr i ddod at ein gilydd a chytuno ar yr hyn y mae'n rhaid ei wneud.

Felly, â hynny, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi canfyddiadau adroddiad y comisiynydd, ac yn ei llongyfarch ar ei gwaith. Er gwaethaf yr hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud, mae yna amheuon y mae’n rhaid i ni gyfaddef eu bod yn bodoli, ac mae'n rhaid i ni i gyd wneud yn well. Gadewch i ni obeithio y flwyddyn nesaf byddwn yn gallu dweud ein bod wedi gwneud yn well.

Diolch. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i'r ddadl. Alun Davies.

Member
Alun Davies 18:24:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Rwyf wedi bod yn gobeithio gwneud yn well y flwyddyn nesaf trwy rhan fwyaf fy mywyd i, ond rwy’n falch iawn ein bod ni wedi taro nodyn o gytundeb yn hwyr y prynhawn dydd Mawrth yma wrth drafod yr adroddiad yma. Rwy’n croesawu ac rwy’n ddiolchgar i bob un Aelod sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth.

Fel rydym wedi gweld sawl gwaith yn y gorffennol, mae’r drafodaeth yma wedi cytuno ar yr egwyddor ond hefyd wedi cael gweledigaeth glir a hirdymor. Nid yn aml iawn rydych yn gweld Sian Gwenllian yn gofyn i’r Llywodraeth newid gêr ond Jeremy Miles yn mynnu chwyldro. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni yn cyd-fynd ag uchelgais y ddau mewn ffyrdd gwahanol. Rwy’n tueddu i gytuno gydag un o gyfraniadau pwysig Suzy Davies, pan roedd hi’n sôn am broses symlach ar gyfer y safonau. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod hyrwyddo’r Gymraeg a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol, ac sy’n digwydd heb rywfaint o’r biwrocratiaeth yr ydym efallai wedi ei greu gyda’r Mesur presennol. Dyna un o’r pethau y byddaf yn ei ystyried pan mae’n dod i edrych ar ba fath o ddeddfwriaeth fydd ei angen arnom ni.

Wrth gloi y drafodaeth heddiw, a gaf i ddweud hyn? Rwy’n cytuno gyda beth roedd Sian Gwenllian yn ddweud amboutu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, addysg ar ôl 16 ac hefyd sut rydym yn cynllunio gweithlu ar gyfer delifro a darparu y math o wasanaeth rydym eisiau eu gweld yn y dyfodol. Dyna’r pwrpas, wrth gwrs, o gael strategaeth hirdymor. Nid yw’n ddigonol ac nid yw’n bosibl i gynllunio gweithlu ar gyfer y dyfodol mewn dwy flynedd neu bum mlynedd. Mae’n rhaid i ni edrych ar yr hirdymor ac edrych ar beth rydym yn gallu ei wneud ar gyfer y dyfodol, a dyna bwrpas a phwynt y drafodaeth rydym wedi trio ei chynnal ac wedi trio ei harwain yn ystod y misoedd nesaf—er mwyn creu strategaeth a fydd yn ein helpu ni i greu miliwn o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd sy’n dod.

A phan fydd Jeremy Miles yn sôn bod yr adroddiad yn edrych drwy lygad y defnyddwyr, mae hynny’n bwysig—mae’n gwbl bwysig. Mae pob un ohonom ni yn y fan hyn sydd yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddefnyddwyr gwasanaethau Cymraeg lle bynnag rydym yn byw, ac rydym yn gwybod ein bod ni’n cael ein rhwystro rhag defnyddio ein hiaith ni yn y gwasanaethau cyhoeddus rydym eisiau eu gweld mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ac rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei chyfrifoldebau hefyd, ac hefyd rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn aml iawn, rydym yn meddwl oherwydd bod gennym ni y sefydliad yma a sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru, nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim cyfrifoldebau bellach dros y Gymraeg. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig, fel mae’n digwydd, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Gweinidogion yn San Steffan yn Llundain yn derbyn eu cyfrifoldebau nhw ar gyfer y Gymraeg. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod hynny yn cael ei gydnabod.

Wrth gloi, a gaf i jest ddweud hyn? Mae yna gonsensws fan hyn ac rwy’n gobeithio ei fod yn gonsensws byw. Rwy’n derbyn beth mae Neil Hamilton wedi ei ddweud amboutu beth sydd gennym ni i’w wneud ar gyfer y dyfodol, ond rwyf hefyd yn derbyn beth mae wedi ei ddweud amboutu y fath o ‘commitment’ mae ef a’i blaid ef yn fodlon ei wneud dros sicrhau dyfodol y Gymraeg fel ein hiaith genedlaethol ni. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae’n bwysig bod y consensws sydd gennym ni yn gonsensws byw, yn gonsensws sy’n herio a chonsensws sydd yn gyrru y weledigaeth. Rwy’n gobeithio, os felly, y byddwn ni wedi llwyddo i wneud rhywbeth hynod o sbesial, a rhywbeth hanesyddol ar gyfer Cymru ac ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i chi.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly caiff y gwelliant ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Iawn, felly, caiff y gwelliant hwnnw ei dderbyn hefyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff gwelliant 3 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NDM6117 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

2. Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6117 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.