Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Prynhawn da. Rwy’n galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac rwy’n galw ar Hannah Blythyn i ofyn y cwestiwn cyntaf.

Deddf Undebau Llafur 2016

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016? OAQ(5)0009(FLG)

Member
Mark Drakeford 13:30:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Cafodd cynlluniau i ddiddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur eu cynnwys yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog ddoe, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel undebwr llafur balch, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiddymu agweddau ar y darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth ideolegol na roddwyd ystyriaeth briodol iddi, deddfwriaeth sy’n achosi mwy, nid llai, o aflonyddwch diwydiannol. Gallai’r Ddeddf danseilio’r berthynas waith gynhyrchiol sydd gennym yn seiliedig ar bartneriaeth, perthynas rydym yn ei hyrwyddo yng Nghymru, rhwng y Llywodraeth ac undebau llafur. A wnewch chi roi ymrwymiad pellach i barhau ac adeiladu ar waith partneriaeth o’r fath?

Wel, mae’r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud mai’r rheswm pam rydym yn gwrthwynebu’r agweddau hyn ar y Ddeddf Undebau Llafur yw oherwydd ein bod yn credu y byddant yn gwneud pethau’n waeth, yn hytrach na gwell, o ran cysylltiadau diwydiannol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ac mae’r dull partneriaeth rydym wedi’i gael yng Nghymru yn golygu, er bod streiciau wedi bod ar draws y ffin yn y gwasanaeth tân, ymysg nyrsys ac ymysg meddygon, nid yw hynny wedi digwydd o gwbl yma yng Nghymru, ac yn fy marn i, y rheswm dros hynny yw oherwydd ein hymrwymiad i’r dull partneriaeth. Rydym wedi ymrwymo i barhau â’r dull hwnnw. Cyfarfûm â chyd-ysgrifenyddion cyngor partneriaeth y gweithlu ddoe, a bydd ein cynigion ar gyfer Bil y Cynulliad i ddiddymu’r agweddau hynny ar y Ddeddf Undebau Llafur yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y gweithlu, ar 14 Gorffennaf.

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn ceisio diddymu’r Ddeddf Undebau Llafur fel y mae’n gymwys i faterion datganoledig, ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn fodlon mynd ambell gam ymhellach, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, a wnaiff ymrwymo i adolygu pob deddfwriaeth atchweliadol a basiwyd yn erbyn y gweithwyr yn yr 1980au a’r 1990au, gyda golwg ar ddiddymu elfennau sy’n berthnasol i swyddogaethau datganoledig? Ac yn ail, a wnaiff ymrwymiad y bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru, yn y dyfodol, yn cefnogi cynigion i wahardd arferion gwaith anfoesol, megis camddefnyddio contractau dim oriau, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gwthio ffiniau datganoli?

Wel, Lywydd, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn ffiniau ein cymhwysedd datganoledig. Yn ogystal â dymuno diddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur oherwydd ei heffaith ar gysylltiadau diwydiannol a’n dull partneriaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae ein gwrthwynebiad iddynt yn seiliedig ar ein cred eu bod yn tresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a dyna pam y byddwn yn ceisio eu diddymu.

I ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch deddfau undebau llafur blaenorol, cyngor partneriaeth y gweithlu yw’r union fan y byddwn yn trafod y pethau hynny, a phan fo cytundeb rhyngom ni, undebau llafur a chyflogwyr, byddwn yn parhau i adolygu pob agwedd ar ddeddfwriaeth o’r fath. O ran contractau dim oriau, mae cryn dipyn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â’r mater hwnnw, a bydd Aelodau eraill o’r Cabinet yn cyflwyno cynigion yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o’r diogelwch cyflogaeth a gynigir i weithwyr yng Nghymru yn seiliedig ar ddiogelwch sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld arwyddion, fel y soniais ddoe, gan rai o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i adael yr UE, eu bod yn gweld rhan o’r trafodaethau ar y DU yn gadael Ewrop fel cyfle i ddadwneud llawer o’r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, gan gynnwys cyfreithiau gwrth-wahaniaethu a gwarantau ar leiafswm absenoldeb â thâl, terfyn uchaf ar oriau gwaith, a darpariaethau mamolaeth a thadolaeth. Pa mor hyderus y gall undebwyr llafur yng Nghymru fod y bydd hawliau gweithwyr yn parhau i gael eu diogelu ar ôl i Brydain adael yr UE?

Wel, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, sy’n gosod ein penderfyniad i ddiddymu—i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu—agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur yn y cyd-destun hynod o bwysig hwnnw. Roedd yr achos dros barhau i fod yn aelod o’r UE yn seiliedig ar y mesurau diogelwch cymdeithasol roedd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu i bobl sy’n gweithio. Heb y mesurau diogelwch hynny, ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn nwylo pobl a oedd yn dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn iawn i geisio sicrhau cymaint o ddiogelwch ag y gallwn ei roi i weithwyr yng Nghymru, drwy’r camau gweithredu y mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu eu cymryd.

Trefniadau Pensiwn Gwladol

2. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r effaith a gaiff trefniadau pensiwn gwladol trosiannol Llywodraeth y DU ar fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny? OAQ(5)0011(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus y bydd effaith Deddfau pensiynau 1995 a 2011 yn effeithio’n anghymesur ar nifer o fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi’i godi’n sylweddol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Byddwn yn parhau i ddwyn y pryderon hyn i sylw Gweinidogion y DU, sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn.

Fe fyddwch yn ymwybodol o’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sef grŵp o bobl ar draws Cymru, a bydd llawer ohonynt yn byw yn ein hetholaethau, a frwydrodd yn erbyn canlyniadau annheg iawn Deddf Pensiynau 2011. Mae’r ddeddfwriaeth, fel y dywedwch, wedi gadael degau o filoedd o fenywod a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1951 ar eu colled. Y ffigur swyddogol rwyf wedi’i weld yw £12,000, er i mi gyfarfod â’r etholwyr Janet Davies a Julie Peach yr wythnos diwethaf a ddywedodd y byddent hwy’n bersonol hyd at £38,000 yn waeth eu byd. Roedd gan fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad barn a lofnodwyd gan Aelodau trawsbleidiol, er i mi nodi na wnaed hynny gan Aelodau Ceidwadol. A wnewch chi ymuno â fy etholwyr a chytuno i barhau i ymgyrchu—rwy’n falch eich bod wedi gwneud hynny—a galw’n uniongyrchol, drwy ysgrifennu, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau teg?

Diolch i’r Aelod am dynnu sylw at ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n cynnal gwrthdystiad mawr heddiw ac sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn mor effeithiol. Ysgrifennodd Lesley Griffiths, a oedd â chyfrifoldebau cydraddoldeb yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, at y Farwnes Altmann, y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ar y pryd, ym mis Chwefror eleni, yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y ddwy Ddeddf bensiynau. Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod yr ymgyrch yn galw am drefniadau trosiannol teg ar gyfer pensiwn y wladwriaeth. Nid ydynt yn gwrthwynebu trefniadau teg; maent yn gwrthwynebu’r modd y cyflwynwyd newidiadau i’w pensiynau ddwywaith, yn eu rhoi dan anfantais ar y ddau achlysur, a hynny heb rybudd digonol. Dywedodd Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin y gellid ac y dylid bod wedi gwneud mwy i ddarparu gwybodaeth briodol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Dyna’n sicr yw safbwynt y Llywodraeth hon, ac mae’n un y byddwn yn parhau i’w wthio ar eu rhan.

Weinidog, cafodd cydraddoli graddol oedran pensiwn y wladwriaeth i 65 oed ar gyfer dynion a menywod ei nodi gyntaf yn Neddf Pensiynau 1995. Yn hytrach na chynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth dros nos, mae Llywodraethau olynol wedi cyflwyno newidiadau fesul cam. O ystyried bod y gyfradd gyflogaeth ymysg menywod yn uwch nag erioed, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod cydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod yn gam mawr tuag at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’i fod yn rhoi pensiwn y wladwriaeth ar sail gynaliadwy drwy ystyried bod disgwyliad oes yn cynyddu?

Wel, Lywydd, nid yw’r rhai sy’n ymgyrchu ar y mater hwn yn gwrthwynebu cydraddoli graddol fesul cam; yr hyn y maent yn ymgyrchu yn ei gylch yw’r modd uniongyrchol wahaniaethol y mae grŵp o fenywod a anwyd rhwng 1950 a 1953 wedi cael eu heffeithio’n andwyol ddwywaith gan y penderfyniad i godi eu cyfradd pensiwn y wladwriaeth heb wybodaeth na rhybudd digonnol. Mae’r ymgyrch honno’n ymwneud â cheisio dod o hyd i ffordd o liniaru hynny. Maent wedi cyflwyno cynnig ymarferol iawn ar gyfer gwneud hynny, ac mae’n un rwy’n credu y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno ei gefnogi.

Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo’r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i’r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU, yn enwedig Stephen Crabb yn ei swydd bresennol, y dylent ailystyried y trefniadau trosiannol hyn, sy’n ymddangos yn gwbl resymol ac na fydd yn costio mwy o arian o gwbl i’r trethdalwr?

Wel, Lywydd, rwy’n deall bod y Farwnes Altmann wedi cytuno i gyfarfod â’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dilyn y gwrthdystiad heddiw. Mae hi wedi dweud ar goedd ei bod wedi cael ei gorfodi i gadw’n dawel ar y mater hwn gan ei Hysgrifennydd Gwladol blaenorol, Iain Duncan Smith, ac rwy’n gwybod y bydd y menywod a fydd yn cyfarfod â hi heddiw yn edrych ymlaen at ei gweld heb y rhwystr hwnnw. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i lobïo ar ran menywod yng Nghymru y mae’r mater hwn yn un difrifol iawn iddynt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn nawr i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso i chi yn eich rôl newydd a diolch i chi am eich trafodaethau cychwynnol gyda mi ynglŷn â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu dros y tymor Cynulliad hwn.

Ysgrifennydd, dros yr wythnos ddiwethaf yn sicr, cafwyd newid seismig yn y tirlun gwleidyddol, newid a groesawyd gan rai yn fwy nag eraill yn y Siambr hon. Rydym yn awr yn wynebu nifer o gwestiynau allweddol ynghylch cyllido Cymru yn y dyfodol. Wrth i chi ddatblygu’r gyfundrefn dreth newydd a’r ddeddfwriaeth dreth newydd y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, a allwch roi’r newyddion diweddaraf i ni ar y cynnydd a wneir ar y fframwaith cyllidol?

Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’n hollol iawn i ddweud bod y rheini’n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod cyn toriad yr haf, a’r cynllun y buom yn siarad amdano oedd cael cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr hydref er mwyn cytuno ar y fframwaith cyllidol y bydd yn gwbl angenrheidiol i ni weithredu o’i fewn pan ddaw pwerau trethu yn uniongyrchol i Gymru. Mae’r cyfarfod cyn toriad yr haf wedi’i nodi yn y dyddiadur a bydd yn digwydd. Nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni raddnodi rhai o’r cynlluniau ar gyfer yr hydref yn ôl rhai o’r digwyddiadau—cyllideb bellach, er enghraifft—y gwyddom bellach eu bod yn mynd i ddigwydd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi eich gwaith ar ddatblygu fframwaith cyllidol effeithiol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn pryderu ers amser am y mecanwaith ar gyfer gwneud gostyngiadau i’r grant bloc yn dilyn datganoli treth, yn enwedig treth incwm. Pe baem yn cael y mecanwaith anghywir, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol dros gyfnod o amser mewn ffordd a fyddai bron yn gorfodi cynnydd yn y dreth. Cafodd yr Alban gytundeb gyda’r Trysorlys na ddylai newidynnau megis newid yn y boblogaeth fod yn risg y dylai cyfran yr Alban o’r dreth incwm ei hysgwyddo ac y dylid ei chynnwys yn ffactor o’r grant bloc. A ydych yn ceisio cael yr un fargen i Gymru?

Mae’n hollol wir i ddweud bod yr Alban eisoes wedi bod o gwmpas y trac hwn o ran cytuno ar fframwaith cyllidol ar gyfer datganoli pwerau trethu i Senedd yr Alban. Mewn sawl ffordd, rydym yn ffodus ein bod yn eu dilyn o gwmpas y trac hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu ei phrofiad gyda ni a rhoi ambell gipolwg i ni ar eu trafodaethau gyda’r Trysorlys. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau yma a ddilynodd y stori yn y wasg glywed nad oedd y trafodaethau hynny bob amser yn hawdd a’u bod wedi cynnwys ambell ennyd chwerw. Roedd y chwerwedd yn ymwneud â’r egwyddor ‘dim niwed’ allweddol. I ni yma yng Nghymru, pan wneir addasiadau i’r grant bloc mae’n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried y trethi y byddwn yn awr yn eu codi yng Nghymru, fod yr addasiadau hynny’n adlewyrchu’r penderfyniadau sydd yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol, penderfyniadau y mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb amdanynt, ac ni ddylent fod yn seiliedig ar benderfyniadau nad oes gennym unrhyw ddylanwad o gwbl arnynt. Roedd y dimensiwn poblogaeth y cyfeiriodd Nick Ramsay ato yn ganolog i rai o’r trafodaethau hynny. Dadleuodd Llywodraeth yr Alban yn llwyddiannus na ddylai’r addasiad i’r grant bloc gosbi’r Alban yn sgil newidiadau yn ei phoblogaeth a gâi eu dylanwadu’n fwy gan benderfyniadau San Steffan na phenderfyniadau a wneid yng Nghaeredin. Byddaf yn sicr yn disgwyl i unrhyw gytundeb ar gyfer Cymru adlewyrchu’r union ddull ‘dim niwed’ hwnnw.

Ysgrifennydd, nid oes rhaid i mi ddweud wrthych fod hwn yn faes hynod o gymhleth, ond mae’n un sy’n bwysig iawn i’n lles ariannol ni yma yng Nghymru yn y dyfodol. Ar fformiwla Barnett ei hun, yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian yr UE o ganlyniad i hynny yn gwneud diwygio Barnett yn fwy hanfodol nag o’r blaen hyd yn oed. Pa sicrwydd rydych yn ei geisio, neu rydych wedi’i gael eisoes, gan y Trysorlys fod y cyllid gwaelodol y cytunodd pawb ohonom arno yn barhaol? Ac a fydd yna adolygiad parhaus o fformiwla Barnett dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni dros Gymru, ac nad yw’r swm o arian rydym yn ei gael yn cael ei effeithio’n andwyol gan benderfyniadau ar draws y DU?

Unwaith eto, diolch i Nick Ramsay am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod bod fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, ar ôl llawer iawn o drafod, wedi llwyddo i gael cytundeb i gyllid gwaelodol gan y Trysorlys dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Yn y trafodaethau ar y fframwaith cyllidol byddwn yn dadlau’n galed dros sicrhau bod y cyllid gwaelodol hwnnw’n cael ei wneud yn barhaol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o’r fframwaith hwnnw a’r tirlun y mae’n ei ddarparu yma yng Nghymru ac mae honno’n un o’r ffyrdd y bydd angen i’n trafodaethau fynd y tu hwnt i’r safbwynt a sefydlwyd yn yr Alban. Fodd bynnag, fel yr aeth Nick Ramsay ymlaen i ddweud, mae’r ansicrwydd a grëwyd gan y bleidlais yr wythnos diwethaf—nid yn syml o ran perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop ond y berthynas rhwng rhannau’r Deyrnas Unedig a’i gilydd hefyd—yn golygu bod angen adolygu fformiwla Barnett yn ei chyfanrwydd. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU ar 27 Mehefin a dywedodd yn glir iawn yn y llythyr hwnnw mai dyma’r amser i archwilio ac ailedrych ar fformiwla Barnett. Dywedodd mai dyma’r amser yn sicr i gyflwyno fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion yng Nghymru fel bod ei dinasyddion yn gweld bod y Deyrnas Unedig ar y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cydnabyddiaeth deg i’w hanghenion a’u hamgylchiadau. Ac rwy’n credu bod hynny’n gwbl gywir.

Mae’r wythnos ddiwethaf wedi dangos ein bod yn wlad ranedig yn wleidyddol, ond mae’n bosibl fod y rhaniadau economaidd yn ddyfnach hyd yn oed, a gallai hynny fod yn un o’r rhesymau sylfaenol dros y canlyniad. Mae’r Ysgrifennydd cyllid wedi nodi ei benderfyniad i ennill iawndal ariannol llawn i Gymru yn sgil y ffaith ein bod yn gadael yr UE ac mae newydd gyfeirio at yr angen i ddiwygio fformiwla Barnett. A gaf fi ofyn a yw ef neu ei swyddogion wedi gwneud asesiad cychwynnol bellach o’r diffyg ariannol y gallai Cymru ei wynebu? Ac o ystyried y gwacter gwleidyddol ar hyn o bryd, a all Llywodraeth Cymru droi hyn i fod o fantais i Gymru, nid yn unig drwy alw am ddiwygio fformiwla Barnett, ond drwy nodi’n fanwl pa fformiwla y byddent yn dymuno’i chael yn ei lle?

Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Rwy’n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig wrth agor am y ffordd y mae patrymau pleidleisio yn y refferendwm yn dilyn llinellau economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. O ran amcangyfrif effaith penderfyniad yr wythnos diwethaf ar Gymru, mae yna ddwy ffordd benodol sy’n rhaid i ni asesu hynny, ac mae un ohonynt yn haws na’r llall. Bydd yna golled uniongyrchol o arian Ewropeaidd a fyddai fel arall wedi dod i Gymru, rwy’n credu, yn ystod cyfnod presennol y cronfeydd strwythurol. Byddem wedi gallu cael cyllid yn ystod y cyfnod hwn tan 2023. Mae’n ymddangos y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny a bryd hynny bydd ein gallu i gael cyllid Ewropeaidd yn dod i ben. Rydym wedi ymrwymo dros £700 miliwn o’r cylch presennol eisoes. Mae hynny’n 40 y cant o’r cyfanswm y byddem yn gallu ei gael yn ystod cylch 2014-2020 a byddwn yn ceisio cael cymaint o gyllid â phosibl o’r cronfeydd hynny. Dadleuodd Prif Weinidog Cymru yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU y dylai fod yn trafod ar ein rhan i ni allu parhau i gael yr arian hwnnw dros holl gyfnod y cronfeydd strwythurol. Ond bydd yn rhaid i ni aros am ganlyniad y trafodaethau ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa dda i wneud asesiad—ac rwyf newydd grybwyll rhai o’r ffeithiau ynglŷn â hynny.

Yr ail ffordd yr effeithir ar Gymru gan ganlyniadau economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd drwy’r gyllideb y gwyddom bellach y byddwn yn ei hwynebu yn yr hydref eleni: cyllideb y dywedir wrthym y bydd yn cynnwys codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ac nid oes amheuaeth y bydd y toriadau gwariant hynny’n bwydo i mewn i gyllideb Cymru. Mae’n anos o lawer gwneud unrhyw asesiad o hynny, ond yn Llywodraeth Cymru byddwn yn sicr yn gwneud yr hyn a allwn i baratoi ar eu cyfer ar sail wrth gefn.

Mae’n iawn na ddylai Cymru, wrth gwrs, golli ceiniog o ganlyniad i golli’r cronfeydd strwythurol. Ond onid yw’n wir fod y lefel hon o gyllid yn angenrheidiol, ond yn annigonol? Oherwydd, hynny yw, dros y 17 flynedd ddiwethaf ers i ni fod ag Amcan 1, mae’r bwlch ffyniant wedi tyfu. ‘Does bosibl nad yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw lefel uwch o gymorth rhanbarthol, nid y lefel gyfatebol. Cynllun Marshall gyfer economi Cymru—nid yn unig cyllid ychwanegol, ond pwerau trethu newydd a allai roi mantais gystadleuol i Gymru yn y dirwedd economaidd newydd. O ystyried nad yw dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos yr Azores ar gystadleuaeth treth yn mynd i fod yn gymwys bellach, a fydd yn gwneud achos dros adael i Gymru, fel Gogledd Iwerddon, osod ei chyfraddau treth gorfforaeth ei hun, yn ogystal ag ennill pwerau eraill dros gredydau treth a lwfansau cyfalaf ymchwil a datblygu?

Wel, rwy’n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch ‘gadael’ yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i ddadlau’r union achos hwnnw.

Bydd Bil Cymru, os yw’n cyrraedd y llyfr statud, yn rhoi rhai pwerau newydd i argymell trethi newydd yma yng Nghymru. Rwy’n credu y byddwn yn ddi-os eisiau trafod a ddylai treth gorfforaeth fod yn eu plith—yn bersonol rwyf bob amser wedi teimlo bod yr achos drosti yn wan iawn, ac yn llawer mwy tebygol o arwain at ras i’r gwaelod, lle byddwn yn cymryd llai o arian gan gorfforaethau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus nag y gwnaethom yn y gorffennol. Mae’n ddilema a welwch yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Wel, mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn sôn am ras i’r gwaelod—mae’n rhaid i mi ddweud wrtho ei bod, yn economaidd, yn ras rydym ni yng Nghymru wedi’i hennill yn hawdd. A dyna’r broblem y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi. Nawr, mae gofyn i San Steffan am ysgogiadau cyllidol newydd yn ymateb pwysig i’r heriau economaidd y byddwn yn ddi-os yn eu hwynebu, ond mae hynny hefyd yn wir am ddefnyddio’r rhai sydd gennym yn awr yn fwy effeithiol. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu tair rhaglen gan ddefnyddio’r model dosbarthu dielw o ariannu buddsoddiadau, sy’n werth cyfanswm o £1.9 biliwn.

Roedd ffigurau a gynhyrchwyd gennym yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru y gallu i fwy na threblu’r ffigur hwnnw i £7.3 biliwn—tair gwaith y rhaglen gronfeydd strwythurol y cyfeiriodd ati. Wrth i ni aros i eraill weithredu ar ein rhan, onid yw’n bryd i ni, yn y Siambr hon, ddechrau dangos ein bod ni hefyd yn gallu bod yn feiddgar pan fo’r amgylchiadau’n mynnu hynny? Neu a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddangos yr un diffyg cynllunio priodol a diffyg arweinyddiaeth go iawn sydd ar hyn o bryd yn gwneud San Steffan yn Senedd o glowniau?

Wel, yn sicr nid oes angen i ni aros, oherwydd fel y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rydym eisoes wedi dechrau gwneud yn union hyn. Ceir tri chynllun sydd eisoes yn cael eu datblygu, ac ystod o gynlluniau eraill posibl a allai ddilyn yr un llwybr. Felly, mae’r model dosbarthu dielw yn fodd o geisio denu ffyrdd o ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn arbennig i mewn i economi Cymru, ar adeg pan fo cyfalaf cyhoeddus yn lleihau’n gyflym iawn.

Byddwn yn dysgu llawer, ac mae angen i ni ddysgu llawer, o’r tri chynllun rydym eisoes wedi dechrau eu datblygu, os gellir gwneud iddynt lwyddo. Mae llawer iawn o waith i’w wneud i ganfod a fyddant yn gallu llwyddo, ac mae cyd-Aelodau yn yr Alban sydd wedi bod o amgylch y cwrs hwn eisoes wedi gweld bod penderfyniadau dosbarthu nad oeddent wedi eu rhagweld, gan Eurostat a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi golygu eu bod wedi gorfod ail-lunio’r cynlluniau a oedd ganddynt i gychwyn. Felly nid yw’n fater syml o allu cymryd rhywbeth oddi ar y silff y gallwch ei ddefnyddio. Efallai na fydd Eurostat yn broblem iddynt yn y dyfodol, ond fe fydd y Swyddfa Ystadegol Gwladol. Felly nid oes model y gallwch yn syml ei dynnu oddi ar y silff a’i ddefnyddio, a dweud, ‘brysiwch a gwnewch hynny’. Mae llawer i’w ddysgu i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu model sy’n iawn i Gymru. Mae gennym dri chynllun yn yr arfaeth; mae yna fwy yr hoffem ei wneud, neu bydd angen i ni ddysgu wrth i ni wneud iddo ddigwydd.

Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad diweddaraf. Mae’n ddrwg gennyf ei atgoffa ei fod unwaith yn gynghorydd lleol i mi ar hen Gyngor Sir De Morgannwg. Efallai y bydd yn fwy o ofid iddo fy mod yn cofio bod hyn oddeutu 30 mlynedd yn ôl; bachgen ifanc oeddwn i ar y pryd, wrth gwrs. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol. Gwelaf fod gan Sian Gwenllian gwestiwn wedi’i gyflwyno ar y pwynt hwn, ond cwestiwn rhif naw yw hwnnw ac mae’n bosibl na fyddwn yn ei gyrraedd, felly rwy’n gobeithio na fydd hi’n malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn—[Torri ar draws.]

Esgusodwch fi. A gaf fi ddweud—? Rydych wedi gwrando ar lefarwyr pleidiau eraill gyda rhywfaint o dawelwch ac urddas, ac rwy’n disgwyl yr un peth i Gareth Bennett. Diolch.

Diolch, Lywydd. Rwy’n siŵr na fydd Sian yn malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn, sef: beth yw’r amserlen ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?

Diolch i Mr Bennett am ei sylwadau agoriadol ac am fy atgoffa am fy hanes gwleidyddol hir o 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gynghorydd y tro diwethaf y cafwyd ad-drefnu llywodraeth leol, i ddangos cymaint o amser sydd wedi bod ers i hynny ddigwydd. Mae’r amserlen rwy’n gobeithio ei dilyn fel a ganlyn: mae yna gyfnod angenrheidiol dros yr haf rwyf am ei dreulio’n gwrando a dysgu gan y rhai sydd â barn ar y mater hwn. Cyfarfûm ag undebau llafur llywodraeth leol y bore yma i glywed yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol ac eraill. Rwyf eisiau gweld a oes modd creu rhyw fath o gonsensws ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Rwy’n cydnabod effaith andwyol oedi ar fywydau’r bobl sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol, a hoffwn ddod â hynny i ben cyn gynted ag y gallaf. Ond mae hynny’n dibynnu ar greu ymdeimlad o bwrpas cyffredin mewn perthynas â dyfodol trefniadau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Os digwydd hynny’n gyflym, rwy’n gobeithio gallu cyflwyno datganiad yn gynnar yn yr hydref. Os yw’n cymryd mwy o amser, byddaf yn cyflwyno datganiad ychydig yn ddiweddarach yn yr hydref, ond dyna’r amserlen rwy’n ei dilyn ar hyn o bryd.

Diolch am eich sylwadau. Rwy’n falch o weld y byddwch yn ceisio sicrhau consensws a gobeithio y bydd canlyniad gwell na’r cynigion diwethaf a gawsom gan eich rhagflaenydd. Ond ar y pwnc hwnnw, beth fydd eich barn ar gynigion uno gwirfoddol megis yr un a gawsom rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr flwyddyn yn ôl, a wrthodwyd yn eithaf diseremoni gan Leighton Andrews?

Nid wyf yn credu y byddai’n iawn i mi i ddod i unrhyw gasgliad y prynhawn yma ar ôl dweud fy mod am dreulio cyfnod o amser yn gwrando a dysgu. Rwyf wedi cyfarfod â thua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn hyn, Lywydd, felly mae’r hanner arall ar ôl gennyf o hyd. Rwy’n cyfarfod â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yfory, ac rwyf am ei gwneud yn glir iddynt fy mod i lawn mor agored i’r hyn sydd ganddynt hwy i’w ddweud ag unrhyw un y siaradais â hwy hyd yn hyn. Roedd nifer o’r bobl y cyfarfûm â hwy yn ystod hanner cyntaf fy ymweliadau o amgylch awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi rhinweddau uno gwirfoddol, ac mae gennyf feddwl agored iawn i glywed yr hyn sydd gan bobl eraill i’w ddweud. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn gwrthod eu barn ar y ffordd y byddwn yn gwneud busnes yn y dyfodol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond nid wyf am ddod i gasgliad nes y bydd pawb sydd â hawl i fod yn rhan o’r drafodaeth hon wedi cael cyfle i fynegi eu barn.

Diolch am hynny, Weinidog; mae’n swnio’n obeithiol. Mater arall sydd gennym ar hyn o bryd mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig Caerdydd, yw datblygiadau tai mawr arfaethedig, sy’n aml yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol. Mae arllwys concrit dros gaeau gwyrdd yn ddisgrifiad eithaf addas o’r cynigion presennol ar gyfer Caerdydd, y cyfeiriodd Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru atynt sawl gwaith. Nawr, roedd maniffesto Cynulliad UKIP yn cynnwys cynnig ar gyfer refferenda lleol ar ddatblygiadau tai mawr dadleuol. A fyddai’r Gweinidog yn ystyried deddfwriaeth o’r fath, ac a fyddai’n debygol o edrych yn ffafriol ar y math hwnnw o gynnig?

Cafodd Bil drafft ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd, a oedd yn cynnwys llawer mwy na newid ffiniau ar fap yn unig. Roedd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid refferenda lleol. Ni fyddent wedi gwneud hynny yn y ffordd y cynigiodd yr Aelod, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad ar hyn o bryd i symud i’r cyfeiriad yr oedd yn ei argymell.

Hybu Cydraddoldeb yng Nghymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer hybu cydraddoldeb yng Nghymru? OAQ(5)0014(FLG)

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Ym mis Mawrth eleni, yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hwyth amcan cydraddoldeb ar gyfer 2016-2020. Mae’r amcanion hyn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru a hyrwyddo cymunedau cydlynus.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae’r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn amddiffyn eu cymdogion o Ddwyrain Ewrop, ac rwy’n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Chymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yfory. Ond mae’r ffaith yn aros fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb o gymharu â’r mis hwn y llynedd. Felly, mae’n amlwg bod angen i ni wella’r clwyfau yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill, roi camau ar waith i ddiogelu a chryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng pobl o bob cenedl a diwylliant yn ystod y cyfnod cythryblus hwn?

Gadewch i mi ategu’n gryf iawn y peth olaf a ddywedodd yr Aelod. Rwy’n credu ei bod yn iawn—digwyddodd rhywbeth yn ystod cyfnod ymgyrch y refferendwm sydd rywsut wedi cyfreithloni, ym meddyliau rhai pobl, safbwyntiau sy’n wrthun, rwy’n siŵr, i’r Aelodau yn y Siambr hon ac nid oes ganddynt ran o gwbl i’w chwarae yn ein bywyd cymunedol. Hyd yn oed cyn hynny, bu cynnydd o 65 y cant yn nifer yr adroddiadau i’r Ganolfan Genedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gellir priodoli rhan o’r cynnydd hwnnw i’r ffaith fod pobl yn fwy parod i roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau o’r fath. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef y fath ymddygiad gwarthus yn ystod y dyddiau diwethaf i wneud yn siŵr eu bod bob amser yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am y digwyddiadau hynny. Mae fy neges yr un fath â neges Joyce Watson i’r holl bobl o bob cwr o’r byd ac o bob rhan o Ewrop sy’n gwneud cymaint o gyfraniad i gyfoeth bywyd yma yng Nghymru: ein bod yn eu croesawu, rydym yn eu croesawu’n fawr, a bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cefnogi cymdeithas ffyniannus amlddiwylliannol yma yng Nghymru. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]

Rydych chi’ch dau wedi sôn am y cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn ystod ac ar ôl y refferendwm, ac rwyf innau’n rhannu’ch barn chi yn condemnio yr hyn sydd yn digwydd. Ond a fedrwch chi fynd ymhellach na jest gwneud datganiad yn y Siambr heddiw? A ydych chi’n gallu ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch y cyfraniad y mae pobl o wahanol wledydd Ewrop a’r byd yn ei wneud i fywyd Cymru?

Diolch yn fawr i’r Aelod am beth y mae hi wedi’i ddweud. Wrth gwrs, mae’n bwysig inni wneud mwy na jest siarad yma yn y Siambr, so mae nifer o bethau rwy’n eu gwneud yn bersonol dros yr wythnos nesaf: mae gyda fi gyfarfod â’r WLGA ddydd Gwener—rwy’n mynd i siarad â nhw—ac mae gyda fi gyfarfod â’r Muslim Council of Wales wythnos nesaf. Mae yn bwysig inni ddod at ein gilydd fel yna, i siarad â’n gilydd am beth rŷm ni’n gallu ei wneud, i ymdrechu gyda’n gilydd, i fod yn glir am beth rŷm ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru ac i’w wneud e gyda’n gilydd, fel mae’r Aelod yn sôn.

Benthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop

4. Pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o fenthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop? OAQ(5)0004(FLG)

Diolch yn fawr, Eluned Morgan. Mae Cymru wedi mwynhau perthynas gadarnhaol â Banc Buddsoddi Ewrop gydol y cyfnod datganoli. Mae bron £2 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus a phreifat, sy’n cynnwys dŵr, hedfan, y diwydiant moduro a thai.

Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd. Mae yna brosiectau eraill, wrth gwrs, sydd wedi cael eu hariannu â chyllid Banc Buddsoddi Ewrop, gan gynnwys campws Abertawe, yr A55 ac yn hollbwysig, prosiectau sydd yn yr arfaeth fel metro de Cymru. Nawr, mae cytuniad yr Undeb Ewropeaidd yn dweud yn glir fod yn rhaid i aelodau o Fanc Buddsoddi Ewrop fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi mewn pedair gwlad yn ardal masnach rydd Ewrop, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai’r Ysgrifennydd yn gallu rhoi pwysau, yn ystod y trafodaethau, er mwyn sicrhau y byddwn yn parhau i allu cyfranogi o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop.

Diolch i Eluned Morgan am gwestiwn atodol pwysig iawn. Mae hi’n hollol gywir fod Banc Buddsoddi Ewrop yn eiddo i’w gyfranddalwyr yn llwyr a’i holl gyfranddalwyr yw 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Deyrnas Unedig gyfranddaliad o 16 y cant ym Manc Buddsoddi Ewrop ac felly mae’n un o bedwar prif gyfranddaliwr y banc. Ac wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i ni adael ein haelodaeth uniongyrchol o Fanc Buddsoddi Ewrop yn ogystal.

Nawr, mae Eluned Morgan yn iawn i ddweud fod Banc Buddsoddi Ewrop yn gallu benthyca arian i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond mae benthyca gan Fanc Buddsoddi Ewrop y tu allan i’r UE yn cael ei lywodraethu gan gyfres o fandadau UE i gefnogi polisïau datblygu a chydweithredu mewn gwledydd partner. Mewn geiriau eraill, bob tro y mae’n sefydlu perthynas â gwlad arall, mae’n rhaid iddo gael mandad penodol gan y gwledydd sy’n aelodau cyfranddaliadol o Fanc Buddsoddi Ewrop. Felly, bydd yn rhaid i ni bwyso i drafod y math hwnnw’n union o berthynas er mwyn caniatáu i ni yng Nghymru barhau i elwa ar yr arian y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi’i ddarparu yn y gorffennol, ac sy’n ganolog i rai o’r cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol.

Y tebygolrwydd yw, o dan yr amserlen fwyaf arfaethedig ar gyfer tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, y bydd sefydliadau yng Nghymru—campws Abertawe yn un ohonyn nhw—yn dal â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop wrth inni dynnu allan o Ewrop. A ydych chi wedi cael trafodaethau, felly, gyda’r Trysorlys a’r banc ynglŷn â sut mae’r benthyciadau presennol yn mynd i gael eu rheoli? A fydd rhaid symud y benthyciadau hynny i fanc arall, efallai ar dermau llai ffafriol, neu a fydd modd i fenthyciadau sy’n ddyledus heddiw gario ymlaen nes bod y benthyciad yn cael ei dalu?

Yr ail gwestiwn atodol i hynny, os caf, yw: a ydych chi’n ystyried, fel yr oedd Adam Price yn amlinellu, fel ymateb Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad yma, bod angen banc buddsoddi i Gymru, beth bynnag?

I ateb cwestiwn atodol cyntaf Simon Thomas, nid wyf eto wedi cael trafodaethau uniongyrchol ar y mater pwysig hwn y mae’n ei nodi ynglŷn â gwasanaethau wedi’u lleoli yng Nghymru sydd eisoes mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop y bydd angen iddynt ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw benderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Banc Buddsoddi Ewrop ei hun wedi dweud nad yw’n gallu darparu unrhyw sicrwydd ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud â’r cysylltiadau sydd ganddo ar draws y Deyrnas Unedig heb eglurder, fel y mae’n ei ddweud, ynglŷn â’r amgylchiadau amseru ac amodau setliad gadael. Ond mae’r trefniadau a fydd yn dilyn trefniadau sydd eisoes ar waith gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl i Brydain adael yr UE yn rhan bwysig o’r drafodaeth honno.

Yma yn y Siambr ddoe, trafodwyd trefniadau amgen a allai fod yn bosibl naill ai ar gyfer Cymru’n unig neu ar sail gydweithredol â gwledydd eraill y DU, a gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’r awgrym y dylem fynd ar drywydd hynny gyda’n partneriaid eraill yn y DU.

Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau—o, mae’n ddrwg gennyf; cwestiwn anghywir. Ymddiheuriadau.

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy lywodraeth leol? OAQ(5)0003(FLG)

Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn. Mae llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob un o ddinasyddion Cymru. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol mewn siapio’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif—Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair ‘darparu’ yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn gweithio i gefnogi’r rheini y ceisiwn eu helpu. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er gwaethaf ei holl ddiffygion, yn pwyntio’n gadarn iawn i gyfeiriad cydgynhyrchu, rôl cwmnïau cydfuddiannol a sefydliadau cymdeithasol eraill fel tir ffrwythlon ar gyfer datblygu modelau newydd o wasanaethau cynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol. A ydych yn gweld y rhain, fel yr awgryma’r ymateb i adroddiad comisiwn Williams, fel dewis olaf pan fydd y sector cyhoeddus yn methu neu a ydych yn cytuno bod angen i ni edrych ymlaen at gydbwysedd newydd rhwng gwladwriaeth a chymdeithas er mwyn sicrhau’r ateb sy’n gweddu orau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu?

Wel, rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Yn fy nhrafodaethau gydag undebau llafur yn gynharach heddiw, roeddent yn pwysleisio eu pryder ynglŷn â’r ffordd y gellir ystyried modelau amgen, weithiau, fel dewis cyntaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid dyna yw ein safbwynt ni yn Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer modelau cyflawni amgen mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ei gwneud yn glir na ddylem droi at rai o’r dewisiadau amgen hyn oni bai ein bod yn sicr nad yw parhau i ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol yn bosibl mwyach.

Ond mewn meysydd eraill rwy’n credu bod y sefyllfa’n fwy addawol. Cyfeiriodd yr Aelod at faes gwasanaethau cymdeithasol lle mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ddyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo ffyrdd cydweithredol o ddarparu gwasanaethau. Yn fy marn i, gallant gynnig ffordd o ddod â rhai o’r gwasanaethau hyn yn ôl yn nes at y cyhoedd. Felly, rwy’n credu bod angen i ni feddwl amdano ychydig yn fwy gwahaniaethol a meddwl am yr hyn sy’n iawn yng nghyd-destun gwasanaethau penodol. Yr hyn rwy’n bendant yn cytuno â’r Aelod yn ei gylch yw bod angen i ni gael perthynas wahanol rhwng gwasanaethau a dinasyddion lle’r ydym yn ystyried y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ffynonellau o gryfder ac yn asedau yn y ffordd o wneud pethau ar y cyd a’u trin fel partneriaid cyfartal yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu.

Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond rwyf am ei ofyn beth bynnag. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwn i gyd fod yn falch yma yng Nghymru nad ydym wedi gweld gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael eu preifateiddio ar raddfa eang fel y gwelsom yn Lloegr. Mae hynny’n seiliedig ar y rhagdybiaeth fod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol ar eu gorau a’u mwyaf effeithlon pan gânt eu cadw’n fewnol a’u darparu gan weithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am safbwynt y weinyddiaeth flaenorol, a oedd yn atgyfnerthu’r farn y dylid rhybuddio rhag preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ond hefyd na ddylid byth ystyried opsiynau eraill ar gyfer rhoi gwaith ar gontract allanol, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol, oni bai mai dyma’r unig ddewis ar wahân i breifateiddio?

Rwy’n cytuno â’r Aelod, yn ddi-os, na ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg er mwyn gwneud elw preifat. Dyna’r rheswm pam rydym ni yn y Llywodraeth hon bob amser wedi credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu’n gyhoeddus a’u darparu’n gyhoeddus. Nawr, mewn cyfnodau anodd iawn, rwy’n deall bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau weithiau’n gorfod edrych am ffyrdd eraill o ddarparu eu gwasanaethau. Y pryd hwnnw, gall modelau dosbarthu dielw cydfuddiannol gynnig dewis arall weithiau, ond ni ddylid mynd ar drywydd y dewis hwnnw oni chyrhaeddir y pwynt pan nad yw hi mwyach yn bosibl cynnal y model a ffefrir o wneud pethau drwy ddarparu’n gyhoeddus, cyflenwi’n gyhoeddus a chyllido’n gyhoeddus.

Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o Wybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID) gan awdurdodau lleol ar gyfer prynu? OAQ(5)0001(FLG)

Mae’r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr yn ei gwneud yn haws i gyflenwyr o Gymru gystadlu am fusnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n un o ofynion datganiad polisi caffael Cymru a lofnodwyd gan bob awdurdod lleol.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac am lwyddo i egluro beth y mae’r talfyrriad SQuID yn ei olygu yn well o lawer nag y gallwn i fod wedi gwneud? Rwyf am barhau â SQuID, er hynny. [Chwerthin.] Mae SQuID yn gynllun ardderchog sy’n caniatáu i gontractwyr llai gystadlu ar draws ystod o brosiectau, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai pob awdurdod lleol ei ddefnyddio. Mae arolwg gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn dangos, er bod pob awdurdod lleol yn ei ddefnyddio, mai saith yn unig o’r 22 cyngor sy’n gwneud defnydd llawn ohono. A all y Gweinidog ymchwilio i hyn a cheisio cael yr holl gynghorau i’w ddefnyddio ar gyfer eu holl gontractau?

Diolch i Mike Hedges am hynny ac wrth gwrs, rwy’n croesawu adborth gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol ac eraill sydd â diddordeb mewn caffael yma yng Nghymru. Mae Mike Hedges yn llygad ei le yn dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod SQuID wedi effeithio’n gadarnhaol ar y sector adeiladu. Cyn ei gyflwyno roedd tua 30 y cant o’r holl gontractau yng Nghymru yn cael eu hennill gan gyflenwyr cynhenid. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ddau fis yn unig yn ôl, enillwydd 82 y cant o gontractau adeiladu mawr a ddyfarnwyd drwy GwerthwchiGymru gan fusnesau cynhenid o Gymru. Felly, mae’n stori lwyddiant. Darllenais y gwaith ymchwil a ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol. Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i annog pob awdurdod cyhoeddus i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddull SQuID, ac rwy’n barod iawn i ofyn i fy swyddogion wneud ymdrechion pellach i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud ohono mewn caffael cyhoeddus drwyddo draw.

Er ein bod yn cefnogi proses gaffael SquID yn gyffredinol mae’n deg dweud mai un o’r rhesymau pam, yn ôl pob tebyg, mai saith yn unig o’r 22 awdurdod lleol sy’n ei ddefnyddio—y pwynt a wnaed gan fy nghyd-Aelod Mike Hedges—oedd y ffaith fod llawer o fiwrocratiaeth yn dal i fod yno mewn gwirionedd i gwmnïau bach sy’n ceisio tendro am gyfrannau gwaith sydd i’w cael gan awdurdod lleol. Sut rydych yn bwriadu gweithio gyda’n hawdurdodau lleol dros y tymor nesaf i sicrhau bod y bunt yn parhau i gylchredeg yn ein hardaloedd ein hunain a’n bod yn caniatáu i rai o’r busnesau bach nad oes ganddynt amser i’w dreulio nac adnoddau i’w gwario yn ceisio dod o hyd i ffordd a llywio’u ffordd drwy’r fiwrocratiaeth hon, fel y gallant gael rhywfaint o waith mewn gwirionedd a rhywfaint o’r arian ar gyfer swyddi lleol?

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod ymchwil y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn nodi mai saith yn unig o’r 22 cyngor sy’n defnyddio’r system yn llawn—mae llawer mwy ohonynt yn ei defnyddio ar gyfer rhannau o’r hyn y maent yn ei wneud. Felly, mae’n fater o adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wneud yn barod a’i ddefnyddio’n mewn dimensiynau ehangach o’u gwaith. Rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â cheisio sicrhau cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Mae dull SQuID wedi ei gynllunio’n fwriadol i geisio ei gwneud yn haws i gwmnïau bach cynhenid gystadlu am fusnes drwy sicrhau mynediad haws at gaffael a chontractau posibl. Rwy’n hapus iawn i ddweud y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sy’n ymwneud â’r maes hwn i leihau biwrocratiaeth ddiangen lle bynnag y gellir dod o hyd iddi.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Rŷm ni’n symund ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau y tro yma.

3. 3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Plant sy’n Derbyn Gofal

Yr eitem nesaf, felly, eitem 3, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rydw i’n galw ar David Melding i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6026 David Melding, Julie Morgan, Lee Waters, Llyr Gruffydd, Neil Hamilton

Cefnogwyd gan Lynne Neagle, Nick Ramsay, Suzy Davies, Angela Burns, Mark Isherwood, Janet Finch-Saunders

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i chi a’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc hwn i’w drafod fel dadl Aelod unigol. O ystyried y diddordeb helaeth y mae’r ddadl wedi’i sbarduno a nifer yr Aelodau Cynulliad a lofnododd y cynnig ar gyfer y ddadl, rwy’n credu bod y diddordeb yn y pwnc yn rhywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnom yn y Cynulliad.

Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, gydag ‘Ar Goll Mewn Gofal’, yr adroddiad a newidiodd y ffordd yr edrychem ar y system ofal yn fy marn i, ac mae wedi cael effaith ar draws y DU. Cafodd ei gyhoeddi bron i 17 mlynedd yn ôl, ac rwyf wedi dod â fy nghopi gyda mi. Mae’n dipyn o lyfr, fel y gwelwch. I mi, mae wedi creu argraff ar hanes y Cynulliad gan ei fod yn un o’r pynciau cyntaf un a fynnodd ein sylw o’r cychwyn ac mae’n bwnc sydd wedi aros gyda ni, mewn gwirionedd. Mae’r goblygiadau, yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn a’r materion sydd angen mynd i’r afael â hwy, yn parhau o hyd. Bu datblygiadau, ond mae llawer o’r heriau yn ein hwynebu o hyd. I mi, mae’n siom bersonol nad ydym wedi gwneud mwy o gynnydd, o bosibl. Byddaf yn trafod rhai o’r materion penodol y credaf fod angen i ni wneud llawer mwy yn eu cylch, ond wrth gwrs mae lles plant sy’n derbyn gofal yn rhywbeth y dylem ei ystyried bob amser. Nid yw’n flwch y gallwn roi tic ynddo ac yna symud ymlaen.

Roedd adroddiad Ronald Waterhouse mewn gwirionedd yn edrych yn benodol ar ofal yng Ngwynedd a Chlwyd yn y 1970au, 1980au a’r 1990au, ond canfuwyd llawer o’r problemau a nodwyd, fel y dywedais, ar hyd a lled y DU pan archwiliwyd y gwasanaethau’n drylwyr. O leiaf gallwn ddweud, ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn llygad y cyhoedd, fod lles plant sy’n derbyn gofal wedi cael ei bwysleisio ac wedi cael sylw mawr ymhlith y cyhoedd. Rwy’n tybio bod y sylw wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelu yn hytrach nag allbynnau a gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal yn uniongyrchol. Ond wrth gwrs, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yr enghreifftiau a’r achosion erchyll o gam-drin oedd yn mynnu sylw’r cyfryngau a’r cyhoedd. Gallaf ddweud, yn y Cynulliad cyntaf, yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod wedi dominyddu’r gwaith a wnaethom yn llwyr, ac yn wir cafodd effaith wirioneddol, yn emosiynol ac yn wleidyddol, ar yr Aelodau. Os na chawn bethau’n iawn i blant sy’n derbyn gofal, rwy’n tybio bod yna berygl bob amser yn y dyfodol y byddwn yn llithro’n ôl mewn gwirionedd, ac y gwelwn ganlyniadau gwael dros ben unwaith eto, hyd yn oed mewn materion fel diogelu.

Rwyf am droi, felly, at y canlyniadau. Dylwn ddweud, o ran diogelu, nad oes lle i laesu dwylo, ond yn gyffredinol, oherwydd y cyfundrefnau arolygu a’r diddordeb sydd gan wleidyddion yn y materion hyn, mewn cynghorau ac yma yn y Cynulliad, ac ar lefel Lywodraethol—mae’n bosibl nad ydym yn canolbwyntio cymaint ar faterion diogelu nag y gwnaem bryd hynny o bosibl. Mae’n briodol ein bod yn symud ac yn edrych ar ganlyniadau, ac mae’n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ganlyniadau, fod sicrhau cydweithio effeithiol rhwng gwahanol asiantaethau yn allweddol, oherwydd ein bod yn edrych ar iechyd, rydym yn edrych ar addysg, rydym yn edrych ar dai, rydym yn edrych ar sgiliau—mae’r holl bethau hyn yn perthyn i’w gilydd, naill ai’n uniongyrchol, i blant sy’n derbyn gofal, neu pan fyddant yn gadael gofal, ar gyfer rhai sy’n gadael gofal. Ond mae hefyd yn bwysig iawn fod cydweithio’n digwydd o fewn y Llywodraeth, ac rwy’n credu y byddai cydlynu gwahanol adrannau’n well yma yn rhywbeth a fyddai’n caniatáu darpariaeth gydgysylltiedig fwy effeithiol ymhlith amryw o asiantaethau cyhoeddus hefyd. Dylem adlewyrchu’r math hwnnw o gydlynu yn y Llywodraeth ei hun, gan nad yw’n destun pryder a gyfyngwyd i un adran benodol.

Yn hyn o beth, trof at adroddiad Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai a oedd yn galw, wrth edrych ar brofiad plant sy’n derbyn gofal yn y broses cyfiawnder troseddol, am ffurfio is-bwyllgor y Cabinet i ddarparu arweiniad cenedlaethol, ac yn wir, mae Llywodraeth San Steffan wedi ymateb ac wedi sefydlu is-bwyllgor. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ffurfiad y Llywodraeth bresennol, wrth ei longyfarch a dymuno’n dda iddo gyda gwaith y Llywodraeth bresennol yn y pumed Cynulliad, gofynnais a fyddech yn edrych ar hyn, ac a fuasai’n bosibl sefydlu pwyllgor Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd bellach yn cael ei ystyried. Roedd Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai yn galw am gydweithio mwy effeithiol, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru, felly dyna’r rheswm uniongyrchol pam y mae’r cynnig ger ein bron heddiw.

Wrth wraidd ein dull o ofalu am blant sy’n derbyn gofal, mae’r cysyniad o rianta corfforaethol. Nawr, awdurdodau lleol sy’n bennaf gyfrifol am hyn, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn wir i ni sylweddoli ein bod ni’n rhan o’r cyfrifoldeb hwnnw i gyflwyno rhianta corfforaethol effeithiol hefyd, a dyna pam rydym yn trafod y cynnig penodol hwn o ran sut y dylai’r Llywodraeth wella ei chydlyniad.

Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu’n sylweddol ers cyhoeddi’r adroddiad ‘Ar Goll Mewn Gofal’, felly unwaith eto mae hyn yn dyblu’r angen i ni fod yn wyliadwrus yn y maes hwn a bod yn uchelgeisiol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Yn 1999, roedd 3,657 o blant mewn gofal; erbyn hyn mae’r nifer wedi codi bron 2,000 i 5,617. Camdriniaeth neu esgeulustod yw’r prif resymau o hyd dros roi plant mewn gofal, ac yn amlwg mae llawer ohonynt wedi cael profiadau heriol ac anodd dros ben. Felly mae gwaith gweithwyr proffesiynol yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y maes hwn, gan fod sicrhau canlyniadau yn galw am ymrwymiad, uchelgais a llawer o ddyfalbarhad, ond mae angen i ni fod yn rhan o’r uchelgais hwnnw yma yn y Cynulliad.

Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n derbyn gofal yn awr mewn lleoliadau maeth. Yn y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf, mae hyn wedi bod yn newid go fawr: o gartrefi preswyl i ofalwyr maeth. Ond nid yw’r lleoliadau hyn bob amser yn sefydlog. Yn 2015, y llynedd, roedd 9 y cant o’r plant a oedd yn derbyn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau gofal maeth mewn un flwyddyn, ac 20 y cant ohonynt wedi bod mewn dau neu fwy o leoliadau gwahanol. Felly, yn y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, roedd bron i draean o’r plant a oedd yn derbyn gofal wedi profi newid yn eu pecyn gofal.

Rwyf am ddweud ychydig eiriau am gyrhaeddiad addysgol. Rwy’n credu bod hwn yn faes pwysig, oherwydd mae’n debyg mai dyma’r dangosydd gorau sydd gennym o safon gyffredinol y gofal rydym yn ei roi i blant sy’n derbyn gofal. Nid dyna’r unig beth: cefais fy atgoffa yn gynharach heddiw mewn cyfarfod fod lles emosiynol plant sy’n derbyn gofal yn hanfodol ac yn wir, eu profiad addysgol yn ei gyfanrwydd; nid yw’n ymwneud â chyrhaeddiad addysgol yn unig. Buasech yn dweud hynny hefyd am y boblogaeth yn gyffredinol, ond mae’n fesur y gallwn ddod yn ôl ato ac mae’n rhoi data caled i ni. Rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud ei fod wedi bod yn ffocws yn y Cynulliad dros y 15, 16, 17 mlynedd diwethaf mewn gwirionedd. Mae pethau wedi gwella, ond nid cymaint ag y byddem yn hoffi. Dim ond 18 y cant o blant mewn gofal sy’n cael pum TGAU gradd A i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg—18 y cant. Mae’n 58 y cant ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Felly, mae hynny 40 y cant yn fwy. Dim ond 7 y cant o’r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed oedd mewn addysg uwch. Felly, mae hynny’n 24 o fyfyrwyr ar hyn o bryd. Ac yn amlwg, o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, mae’n llawer iawn is.

Rwyf am ganmol peth o’r gwaith a wnaed, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn o fynd i’r afael â’r problemau hyn, a chafwyd llawer iawn o ddatblygiadau polisi. Er enghraifft, o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae Llywodraeth Cymru yn creu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal er mwyn gwella gweithio ar y cyd. Mae hynny’n bwysig. Ym mis Ionawr, cafodd strategaeth ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i godi cyrhaeddiad addysgol, ac roedd yn cynnwys galwad am fwy o uchelgais, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn. Felly, mae gwaith yn digwydd ac mae angen cynnal y gwaith hwnnw a sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau rydym eu hangen.

I gloi, rwy’n credu, yn gyffredinol, y dylem anelu am arferion gorau rhagorol yng Nghymru. Wrth hynny, nid wyf yn golygu ailadrodd yr arferion gorau presennol, rwy’n golygu mynd â hwy ymhellach. Gallem fod yn arweinydd byd. Rydym wedi gwneud hyn o’r blaen. Er enghraifft, mae’r strategaeth anableddau dysgu, a ddechreuwyd yng nghanol yr 1980au, wedi trawsnewid y maes polisi cyhoeddus hwnnw ac arwain at newidiadau ar draws y byd. Roedd gennych bobl a oedd eisiau gweithio yng Nghymru o ben draw’r byd oherwydd ein bod yn datblygu’r maes polisi hwnnw mor effeithiol. Byddwn hefyd yn annog yr Aelodau i ddarllen yr argymhellion a wnaed gan grŵp o elusennau ym maes plant sy’n derbyn gofal adeg yr etholiad ar gyfer y pumed Cynulliad. Yno, pwysleisiwyd rhai pethau pendant iawn, megis y ffocws ar ganlyniadau, gyda phwyslais ar gyfrifoldeb rhieni corfforaethol—gan ein cynnwys ni, nid awdurdodau lleol yn unig—cydnabod lles emosiynol fel blaenoriaeth, gwella sefydlogrwydd gofal a lleoliadau addysgol, gwrando ar leisiau plant sy’n derbyn gofal, sy’n faes allweddol, a llety priodol a sefydlog ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod cyfranogiad plant sy’n derbyn gofal yn wirioneddol bwysig ym mhob dim a wnawn, gan gynnwys hyfforddi ac arolygu cyfleusterau? Yn yr holl bethau hyn, gallem gynnwys plant sy’n derbyn gofal yn llawer mwy effeithiol. Yn olaf, a gaf fi ddweud bod angen i ni werthfawrogi’r system ofal, oherwydd pan fo’r system honno’n gweithio gall ddarparu gofal a chyfleoedd rhagorol i blant sy’n derbyn gofal?

Fel rhiant, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi fy mod yn siarad ar eu rhan, ac mae’n ofid i mi—a nifer ohonoch chi, rwy’n siŵr—yn aml nad oes gan blant sydd eisoes wedi cael dechrau anodd mewn bywyd rywun sydd â chariad ac angerdd rhiant i ymladd drostynt. Mae’r niwed a wnaed i gyfleoedd bywyd y plant hyn yn staen ar bob un ohonom, ac mae’r cyfrifoldeb i wneud yn well yn gyfrifoldeb i bob un ohonom—pob gwasanaeth, pob busnes, pob sector.

Hoffwn ganolbwyntio yn fyr ar un maes, gan ystyried yr hyn y mae David Melding wedi’i ddweud. A hoffwn dalu teyrnged sydyn i’r arweinyddiaeth y mae David Melding wedi’i ddangos yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd, wrth sefydlu ac arwain y grŵp hollbleidiol. Mae ganddo angerdd gwirioneddol a diffuant tuag ato, ac rwy’n falch iawn o weithio ochr yn ochr ag ef yn y grŵp hwnnw, fel Aelod newydd.

Soniodd am yr ystadegyn syfrdanol a oedd yn dangos, yng nghyfnod allweddol 4—y flwyddyn sy’n arwain at TGAU—fod gwahaniaeth o 40 y cant mewn perfformiad academaidd rhwng plant sydd wedi bod mewn gofal a’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Dim ond 18 y cant o blant sydd wedi derbyn gofal sy’n cael pum TGAU gradd A i C. Felly, nid yw’n fawr o syndod fod Ymddiriedolaeth Buttle wedi canfod yn 2011 mai 7 y cant yn unig o’r rhai a oedd wedi gadael gofal oedd mewn addysg uwch. Fel y dywedais, staen ar bob un ohonom. Felly, mae’n amlwg fod angen i ni wneud llawer mwy ein hunain, ar bob cam o’r daith drwy’r ysgol, i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal i gyflawni eu potensial.

Nawr, mae yna ganllawiau penodol ar waith, ar ffurf gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a llwybrau dysgu, sy’n datgan y bydd gan bobl ifanc 14 i 19 oed fynediad at gefnogaeth bersonol, drwy wasanaethau cymorth bugeiliol eu hysgolion neu eu sefydliadau. Ac mae llawer o enghreifftiau o ysgolion a cholegau addysg bellach yn darparu cymorth bugeiliol cryf ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Er enghraifft, mae colegau addysg bellach yn adrodd bod capasiti ychwanegol i helpu i gefnogi myfyrwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae anogwyr dysgu dynodedig i ddarparu cyngor, cymorth addysgu, cyfeiriad ac eiriolaeth ar gael, ond maent yn gostus, a gwyddom fod addysg bellach wedi bod o dan straen nid yn unig o ran adnoddau ond hefyd, o dan bwysau cynyddol i gefnogi anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed. Ond mae’n dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fyddwn yn penderfynu blaenoriaethu hyn.

Mae’r canllawiau cyfredol wedi dechrau creu cyfleoedd sy’n galluogi pob dysgwr i gael mynediad at gwricwlwm ehangach. Wrth benderfynu rhwng symud ymlaen i addysg bellach neu aros yn yr ysgol, bydd pobl ifanc yn dibynnu ar eu rhieni a’u perthnasoedd yn yr ysgol i lywio eu dewis. Ac mae’n amlwg fod angen cymorth penodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ac rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y darpariaethau sydd ar waith i alluogi plant mewn gofal i gael y gefnogaeth orau wrth ddewis astudio mewn coleg addysg bellach, dysgu yn y gwaith, neu fynd i’r chweched dosbarth, ac ymlaen i addysg uwch, os ydynt yn dymuno hynny. Mae hyn eisoes yn ofynnol yn ôl canllawiau statudol, ond mae angen i ni fod yn fodlon fod yr ymdrechion presennol yn ddigonol. Diolch.

Pa un a ydym yn cyfeirio at blant sy’n derbyn gofal, neu blant mewn gofal, rydym yn sôn am fywydau unigol y rhai sy’n dibynnu arnom i roi cyfleoedd bywyd iddynt. Fel y clywsom, roedd nifer y plant a oedd yn derbyn gofal yng Nghymru yn 2015, sef 5,617, yn dangos cynnydd o 200 ers 2011 a 1,000 ers 2008. Ac fel y dywedais pan oeddem yn trafod hyn yn 2011, mae canlyniadau seicolegol a chymdeithasol plant sy’n derbyn gofal yn llawer salach o’u cymharu â’u cyfoedion. Canfu astudiaeth yn 2004 fod 49 y cant o blant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed a oedd yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn dioddef o anhwylderau meddyliol. Canfu astudiaeth arall fod anhwylderau seiciatrig yn arbennig o uchel ymhlith y rhai sy’n byw mewn gofal preswyl ac sy’n newid lleoliad yn aml.

Er nad yw 94 y cant o blant sy’n derbyn gofal yn dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol, dangosodd ymchwil yn 2005 y bydd gan hyd at 41 y cant o’r plant sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa ar draws y DU rywfaint o hanes o fod mewn gofal. Dywedodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ‘Couldn’t Care Less’, y dylai’r ffordd y caiff nifer o blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael y system ofal eu trin beri cywilydd cenedlaethol. Dywedasant fod y plant hyn yn rhy aml yn mynd ymlaen i fyw bywydau a nodweddir gan ddiweithdra, digartrefedd, salwch meddwl a dibyniaeth. Rydym yn talu’r costau enfawr hyn drwy’r system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth iechyd, a disgwylir iddynt godi.

Canfu adroddiad Pwyllgor Plant, Ysgolion a Theuluoedd San Steffan, a gyhoeddwyd yn 2009, fod y wladwriaeth yn methu yn ei dyletswydd i weithredu fel rhiant i blant mewn gofal drwy beidio â’u diogelu’n ddigonol rhag camfanteisio rhywiol, digartrefedd a dechrau troseddu, gyda phlant mewn gofal, 10 oed a hŷn, yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael rhybudd neu o gael eu dyfarnu’n euog am droseddu. Datgelodd hefyd dystiolaeth o achosion o gamfanteisio ar ferched mewn cartrefi preswyl a hosteli a oedd wedi’u trefnu a’u targedu, a rhybuddiodd fod natur fregus pobl ifanc sy’n gadael gofal yn destun pryder mawr.

Mae adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2010-11 yn nodi bod darpariaeth eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, pobl sy’n gadael gofal a phlant mewn angen yn anghyson ledled Cymru. Y gwersi sy’n deillio o adroddiad Syr Ronald Waterhouse, ‘Ar Goll Mewn Gofal’, adolygiad Carlisle, ‘Peth Rhy Ddifrifol’, a’n hadroddiad ni, ‘Datgan Pryderon’, yn ôl yr hyn a ddywedwyd, yw bod eiriolaeth yn elfen hanfodol o ddiogelu sy’n galluogi plant a phobl ifanc i siarad pan fyddant yn gweld bod rhywbeth o’i le. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal, ychwanegodd, byddem yn disgwyl i bob un ohonynt gael eu hannog i gael eiriolwr y gallant feithrin perthynas â hwy ac ymddiried ynddynt.

Roedd y papur hefyd yn dangos bod gwledydd eraill i’w gweld yn llawer mwy ymatebol i anghenion y plant y maent wedi eu rhoi mewn gofal, gyda chanlyniadau gwell yn aml. Siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynglŷn â’r ‘ymateb cychwynnol araf’ i’r argymhellion a wnaeth ynglŷn ag eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad ‘Lleisiau Coll’, a gyhoeddwyd yn 2012, a’r adroddiad dilynol, ‘Lleisiau Coll: Cynnydd Coll’ a gyhoeddwyd yn 2013. Felly, mae angen i ni wybod a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i weithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i fodloni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy’n derbyn gofal a disgyblion eraill, sy’n codi o 23 y cant yn y cyfnod sylfaen i 40 y cant yng nghyfnod allweddol 4, gyda 18 y cant yn unig o blant sy’n derbyn gofal yn ennill pum TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg.

Cyfeiriodd adroddiad y comisiynydd plant, ‘Bywyd Llawn Gofal’, a gyhoeddwyd yn 2009, at fanteision cyflwyno cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, a phedair blynedd yn ôl, mynychais lansiad swyddogol cerdyn A2A Barnardo’s Cymru a Chyngor Sir y Fflint ar gyfer gofalwyr ifanc, plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal gan y comisiynydd plant. Y cerdyn hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac fe’i cynlluniwyd i helpu pobl ifanc i gael cydnabyddiaeth a mynediad prydlon at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Er y dylai hwn fod wedi bod yn dempled ar gyfer cerdyn Cymru gyfan—mater y tynnais sylw Llywodraeth Cymru ato ar y pryd—rwy’n deall yn awr nad yw wedi cael y gefnogaeth angenrheidiol ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn a’i ymestyn ar gyfer Cymru gyfan.

Ac fel y mae adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ‘Survival of the Fittest’, yn ei ddweud, ac rwy’n gorffen gyda hyn, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r

unigrwydd a’r arwahanrwydd eithafol a deimlir gan y rhai sy’n gadael gofal, drwy ddod o hyd i ffyrdd o feithrin perthynas barhaus a chefnogol ag eraill, â theuluoedd biolegol, brodyr a chwiorydd, cyn-ofalwyr a gwasanaethau plant, sy’n para ymhell y tu hwnt i 21 oed.

Fel rydym wedi’i glywed yn barod, wrth gwrs, mae plant mewn gofal yn arbennig o agored i niwed, ac mae canlyniadau’n waeth nag y byddem yn dymuno iddynt fod yn rhy aml o lawer, gyda’r rhai sydd mewn gofal yn debygol o fod â llai o gymwysterau, o wynebu mwy o berygl o fod yn ddigartref, o ddatblygu problemau iechyd meddwl ac o wynebu risg o fynd yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol. Nawr, mae nifer y plant sy’n derbyn gofal o fewn y system ofal wedi codi’n gyson dros y 15 mlynedd diwethaf, o tua 3,500 yn ôl yn 2000 i dros 5,600 y llynedd. Nawr, mae hyn yn dangos yn glir y bydd y pwysau ar y gwasanaethau yn parhau i gynyddu a bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i’r plant a’r bobl ifanc hyn. Ac o edrych ar y graff, gallech weld bod naid glir ar ôl 2008, ar ôl y cwymp economaidd—nid ar unwaith efallai, ond tua blwyddyn neu 18 mis yn ddiweddarach. Mae’n bosibl y bydd rhai yn dadlau y gallai hynny fod wedi cyd-daro â’r adeg pan ddechreuodd y toriadau a’r mesurau caledi gael effaith. Efallai bod tystiolaeth yn bodoli sy’n profi neu’n gwrthbrofi hynny, ond rhaid i mi ddweud fod y naid yn eithaf trawiadol wrth edrych ar y graff. Ac os oes cydberthynas rhwng y dirwasgiad a nifer y plant mewn gofal, yna mae’n rhaid i ni ymbaratoi ar gyfer y posibilrwydd o gynnydd pellach yn y galw am wasanaethau yn y Gymru sydd ohoni ar ôl y refferendwm. Felly, rwy’n credu bod rheidrwydd enfawr ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn awr er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ymateb i’r her hon. Ac rydym i gyd yn cydnabod, rwy’n siŵr, fod llawer wedi digwydd o ran deddfwriaeth a strategaethau, ond rwy’n credu ei bod hi’n bryd bellach i ni ganolbwyntio’n fwy didrugaredd ar y canlyniadau rydym yn chwilio amdanynt.

Mae addysg, wrth gwrs, fel un o’r meysydd a amlygwyd yn barod a pha mor dda y mae plant sy’n derbyn gofal yn ei wneud yn yr ysgol, yn ogystal â pha un a ydynt yn symud ymlaen i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth, wrth gwrs, yn aml yn cael ei hystyried yn ffordd bwysig o fesur pa mor dda y cefnogwyd y grŵp hwn o blant. Ceir enghreifftiau gwych o lwyddiannau, wrth gwrs, ond mae’r ystadegau cyffredinol yn adrodd stori go annymunol. Yn wir, mae bwlch mawr rhwng cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal a chyrhaeddiad disgyblion yn gyffredinol.

Cyfeiriodd yr Aelod dros Lanelli at hyn yn gynharach. Yn y cyfnod sylfaen, mae’r bwlch yn 23 pwynt canran; yng nghyfnod allweddol 2, mae’r bwlch yn 24 pwynt canran; yng nghyfnod allweddol 3, mae’n cynyddu i 36 pwynt canran; ac fel y clywsom yn gynharach, mae’r bwlch ar ei fwyaf yng nghyfnod allweddol 4, gyda 40 y cant o wahaniaeth—wedi codi o 30 pwynt canran yn 2004, gyda llaw. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos nad oedd 45 y cant o’r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant y llynedd. Er mai honno yw’r ganran isaf dros y naw mlynedd diwethaf, mae’n amlwg yn annerbyniol o uchel o hyd.

Mae plant sy’n derbyn gofal angen sefydlogrwydd, wrth gwrs, fel rydym wedi’i glywed, yn hytrach na chael eu symud yn barhaus o un lleoliad i’r llall. Os yw plant yn symud yn rhy aml, yna mae’n amlwg y bydd newid ysgol hefyd yn tarfu ar eu haddysg, yn ogystal â’r ffaith eu bod yn fwy tebygol o ddioddef mewn perthynas ag iechyd meddwl hefyd. Fel y dywedodd David, yng Nghymru, mae tua 9 y cant o blant sy’n derbyn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau mewn blwyddyn, ac er bod y ffigur hwn yn ddirywiad graddol o 13 y cant yn 2004, mae’n amlwg ei fod yn rhy uchel o hyd.

Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd fod yna anghysondeb o fewn y system addysg o ran sut y mae plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu eu maethu yn cael eu trin a’r posibilrwydd y gallai’r canfyddiad eu bod yn wahanol arwain at fwlio. Mae rhai ysgolion yn deall y problemau ac yn cynnig cefnogaeth ardderchog, ond nid yw’r un peth yn wir am rai ysgolion eraill.

Dywedodd Estyn heddiw fod disgyblion sy’n cael addysg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn aml yn colli manteision y cwricwlwm ehangach a chymorth arbenigol. Nid wyf wedi cael amser i edrych a yw’r adroddiad yn ystyried plant sy’n derbyn gofal yn benodol mewn unrhyw ffordd, ond rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi sefydlu’r grŵp gorchwyl a gorffen y llynedd i ystyried y rheini sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol—rhywbeth, wrth gwrs, y cyfeiriodd Keith Towler, y comisiynydd plant blaenorol ato fel gwasanaeth sinderela yn ôl ym mis Mai 2014. Nawr, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn adrodd yn ôl ym mis Medi, a hoffwn ofyn i’r Ysgrifennydd drafod gyda’r Ysgrifennydd addysg, efallai, pa un a fyddai’n bosibl i’r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw ystyried plant sy’n derbyn gofal fel grŵp penodol yn y cyd-destun penodol hwn. Awgrym arall a wnaed yn gynharach heddiw hefyd oedd y posibilrwydd y gallai Estyn gynnal adolygiad thematig, o bosibl, o waith gyda phlant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion ledled Cymru i lywio trafodaethau a strategaethau yn well yn hyn o beth.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i’r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn y Cynulliad diwethaf ac yn amlwg, byddwn yn cefnogi ymdrechion i gryfhau’r trefniadau presennol ar yr amod, wrth gwrs, ei fod yn canolbwyntio’n ddidrugaredd yn awr ar wella canlyniadau.

Rwy’n falch iawn i gyfrannu at y ddadl hon er mwyn ceisio siarad dros anghenion y plant sy’n derbyn gofal yma yng Nghymru ac i dalu teyrnged i’r nifer o unigolion gwych sy’n gweithio gyda hwy, sy’n eu caru ac yn eu cefnogi. Oni bai am eu hymroddiad anhygoel i’n plant mwyaf agored i niwed, byddai llawer yn colli’r cysur a’r cariad unigol na all neb ond rhiant neu ofalwr ei roi. Mae’r ddadl hon yn dilyn adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a’r cysylltiad a wnaeth fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn galw am gydweithio da, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ledled Cymru.

Mae ysgolion sy’n cynnwys disgyblion sy’n derbyn gofal yn gymwys am y cyllid grant amddifadedd disgyblion perthnasol, sydd, ochr yn ochr â Cymunedau yn Gyntaf, yn canolbwyntio ar ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ond unwaith eto, mae yno i helpu plant sy’n derbyn gofal. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, serch hynny, wedi mynegi ein pryder o’r blaen ynghylch y diffyg dulliau effeithiol o fesur canlyniadau’r grant hwn, a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i edrych ar hynny a gofyn pa ystyriaeth y bydd yn ei roi i effaith cyllid Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Pa ddulliau o fesur canlyniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar y grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau’n effeithiol i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn gofal?

Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanfyddiadau dychrynllyd ymchwiliad Waterhouse, rydym wedi gweld nifer o strategaethau yn cael eu cyflwyno gyda’r nod o wella lles ac yn bwysicaf oll, gwella diogelwch ein plant. Fodd bynnag, rydym yn parhau i weld gwahaniaeth amlwg yn y canlyniadau ym mhob man, gyda rhai o’r ystadegau angen eu gwella. Mae gennyf brofiad o waith achos lle mae plant sy’n derbyn gofal mewn gofal maeth, ac yna maent yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadu ac mae’n ymddangos bod diffyg cefnogaeth wedyn a bod cefnogaeth yn cael ei dynnu’n ôl mewn gwirionedd. Gwn fod teuluoedd wedi dod ataf yn eithaf gofidus, mewn gwirionedd, ac eisiau parhau i gael y gefnogaeth honno, oherwydd fel arall, os nad ydynt yn cael y gefnogaeth honno, yn eithaf aml, mae’n bosibl y bydd y plant hynny’n mynd yn ôl i ofal maeth neu yn ôl i ofal yr awdurdod yn y pen draw. Mae’n bwysig, os oes gennym deuluoedd sy’n barod i garu a magu’r plant hyn, eu bod yn cael pob cyfle a phob cefnogaeth. At hynny, nid oedd 45 y cant o’r rhai a oedd wedi gadael gofal yn 19 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae’r ffigur hwnnw’n cymharu â 34 y cant yn Lloegr a 31 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae gwaith i’w wneud i godi’r ffigurau hynny.

Yr wythnos hon roedd Blind Children UK Cymru yn pryderu am y diffyg arbenigwyr sefydlu plant yng Nghymru ac unwaith eto, mae hyn yn dangos efallai nad yw ein plant mwyaf agored i niwed yn cael y math hwn o gymorth. Canfu Blind Children UK Cymru hefyd mai dau awdurdod lleol yn unig a adroddodd eu bod wedi cynnwys rhieni a phlant yn y broses o wneud penderfyniadau wrth ystyried a oeddent yn gymwys i gael gwasanaethau. Mae’n codi pryderon ynglŷn â’r modd y cynhwysir a’r modd yr ymgysylltir â phlant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr—yn enwedig y rhai sydd wedi cael mwy nag un lleoliad. Gwn fod gennyf, yn un o fy enghreifftiau, dri phlentyn mewn un teulu ac roedd eu hymdrechion hwy i gael mynediad at wasanaethau yn yr amgylchedd hwnnw yn rhwystredig iawn i’w rhieni mabwysiadol. Ar y nodyn hwn, rwy’n credu mai testun pryder mawr yw nodi bod 9 y cant o’n plant sy’n derbyn gofal wedi cael tri lleoliad neu fwy yn 2014-15 gyda 20 y cant arall wedi cael dau leoliad. Felly, mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn rhoi’r plant cywir gyda’r math cywir o deuluoedd a’n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi. Mae sefydlogrwydd a chysondeb yn sylfeini gwerthfawr a chysurol i fywyd cartref cynhyrchiol a chadarnhaol, ond rydym angen cydweithio rhagweithiol rhwng gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr maeth a phlant, gyda mewnbwn go iawn gan y plant drwy gydol y broses.

Lywydd, nid yn nwylo’r rhai sy’n cynnig help a chefnogaeth yn unig y mae dyfodol plant sy’n derbyn gofal, ond yn ein dwylo ni hefyd. Ac er gwaethaf pob pryder rwy’n eu lleisio heddiw, mae yna ganlyniadau cadarnhaol a gwych yn wir i blant sy’n derbyn gofal ar draws Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau cysondeb—pontio di-dor a darpariaeth ddi-dor o ofal a chymorth. Rydym angen dull cydweithredol, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol, ysgolion, y trydydd sector ac yn bwysicaf oll, plant a’u gofalwyr maeth yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal priodol a’n bod yn rhoi camau ar waith i wella’r addysg a’r ymgysylltiad yma er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r plant anhygoel hyn ledled Cymru.

A gaf fi ddatgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion yn Abertawe? Mae hanesion da iawn gan rai pobl ifanc, wrth gwrs, fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau agoriadol. Mae nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal i symud ymlaen at addysg uwch, er enghraifft, wedi cynyddu’n sylweddol ers 2004, pan aeth 60 yn unig o’r 11,000 o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal yng Nghymru a Lloegr i brifysgol. Ond 7 y cant yn unig o bobl sy’n gadael gofal sy’n camu ymlaen i addysg uwch o hyd. Mae’r ffaith ein bod, ym mis Ionawr eleni, yn dal i fod angen strategaeth ar gyfer gwella cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal yn dangos, hyd yn oed heddiw, nad yw rhianta corfforaethol yn gwbl lwyddiannus yn helpu plant i fanteisio ar gyfleoedd bywyd gwell. Fel y clywsom gan Mark Isherwood—[Torri ar draws.] Gwnaf, ar bob cyfrif.

Diolch i chi, Suzy, am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno nad yw plant yn gallu camu ymlaen? Rwyf wedi clywed llawer iawn o ystadegau heddiw, ond unigolion ag anghenion unigol yw’r rhain. A fyddech yn cytuno, oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’u lles emosiynol yn gyntaf, yna ni allwch ddisgwyl unrhyw lefelau cyrhaeddiad tra’u bod yn dal i gario’r pwysau emosiynol hwnnw?

Rwy’n cytuno’n llwyr, oherwydd nid yw’n ymwneud â’r diffyg cyfleoedd; yr anallu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw yn fy marn i. Clywsom gan Mark Isherwood, wrth gwrs, ein bod yn morio mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau ac mae adroddiad arall yn cael ei lansio gan y comisiynydd plant heddiw. Os yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynd i olygu unrhyw beth, mae’n rhaid iddi lwyddo i chwalu seilos a meddylfryd seilo ynglŷn â sut, yn yr achos hwn, rydym yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb gyda’n gilydd dros rianta corfforaethol. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â llawer mwy nag adrannau Llywodraeth yn unig; fel arall, ni fydd yr holl ymchwil a’r holl adroddiadau hyn yn arwain at ganlyniadau sy’n newid bywyd yn sylfaenol i bobl ifanc mewn gofal, na mynediad at y cyfle roedd Joyce yn sôn amdano yn awr.

Yn y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad manwl ynghyd ag ymchwiliad dilynol yn ddiweddarach ynglŷn â mabwysiadu. Yn ystod y ddau ymchwiliad, clywsom gan rieni mabwysiadol a fabwysiadodd blentyn heb wybod am y problemau a oedd yn effeithio ar eu plentyn ar adeg y mabwysiadu, neu na chawsant y gefnogaeth briodol i ddelio â phatrymau ymddygiad a ddaeth yn amlwg wrth i’r plentyn dyfu’n hŷn. Ac un o’r pwyntiau y buaswn yn hoffi eu pwysleisio yw’r ffaith nad yw plant a oedd yn arfer derbyn gofal yn peidio â bod ag anghenion wedi iddynt gael eu mabwysiadu. Nid yw creithiau camdriniaeth ac esgeulustod, analluogrwydd neu absenoldeb rhieni neu drafferthion teuluol eithafol yn gwella yn syml oherwydd bod plentyn wedi dod o hyd i deulu newydd i’w garu a’i fagu. Felly, wrth archwilio sut y gellir gwella rhianta corfforaethol rhwng adrannau yn y ddadl heddiw, mae’n rhaid i ni gofio am yr heriau sy’n wynebu teuluoedd sy’n mabwysiadu hefyd, oherwydd ni ddylai’r weithred o drosglwyddo cyfrifoldeb rhiant olygu ein bod yn anghofio am y plant hynny. Am bob cam a gymerwn i wella’r gwerth a roddwn ar rieni maeth a’r rôl hanfodol sydd ganddynt yn magu plant sy’n derbyn gofal, dylem wneud yr un peth i rieni sy’n mabwysiadu. Roedd Llyr yn llygad ei le yn sôn am blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu mabwysiadu yn yr un gwynt.

Ni waeth pa mor dda yw ein rhieni maeth, fel y dywedodd David Melding, bydd llawer o blant sy’n derbyn gofal yn mynd drwy gyfres o leoliadau, gan atgyfnerthu’r diffyg sefydlogrwydd a’r ymlyniad anghyflawn a barodd i’r wladwriaeth ymyrryd a diogelu llawer ohonynt yn y lle cyntaf. Mae yna un math penodol o wahanu rwyf am sôn amdano heddiw, oherwydd ei fod yn galw am gymorth wedi’i dargedu ond caiff ei gymhlethu gan y setliad datganoli, sef plant yr effeithir arnynt gan garchariad rhiant.

Nid yw pob plentyn sydd â rhiant yn y carchar yn derbyn gofal; mae tua dwywaith a hanner cymaint o blant â rhiant yn y carchar ag sydd o blant mewn gofal, ac nid oes gan bob plentyn mewn gofal rieni yn y carchar, wrth gwrs. Yn wir, mewn teuluoedd lle mae’r tad yn y carchar, mae’r mwyafrif llethol o’r plant yn aros gyda’r teulu yn y cartref gyda’r fam. Fodd bynnag, mewn teuluoedd lle mae’r fam yn y carchar, 5 y cant yn unig o blant sy’n aros gartref gyda’r tad. Mae’r mwyafrif yn derbyn gofal gan ofalwyr sy’n berthnasau—neiniau a theidiau yn bennaf, ond aelodau eraill o’r teulu yn ogystal—ac nid yw’r gofal anffurfiol hwn, fel gyda mabwysiadu, yn cael ei gydnabod yn gyson fel trefniant sy’n galw am gefnogaeth weithredol gan y Llywodraeth. Nid yw’r ffaith nad yw plentyn yn cael ei fagu’n gorfforaethol yn ffurfiol yn golygu nad yw’n dioddef yr un problemau datblygiad ac ymddygiad emosiynol sy’n deillio o wahanu a diffyg parhad a sicrwydd â phlant sy’n derbyn gofal.

Mae’n adeg briodol yn awr i gymeradwyo sefydliadau fel Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion a Barnardo’s, yn ogystal â’r gwaith rhagorol a wneir yng ngharchar Parc ar gynnal cysylltiadau teuluol cryf, rhwng tadau a’u plant yn yr achosion hyn. Ond mae’n adeg dda i gofio hefyd, er bod plant yn gyffredinol yn aros gartref gyda mam pan fo dad yn y carchar, pan fo mam yn y carchar, mae 12 y cant o’r plant hynny’n mynd yn rhan o’r system ofal. Mae carcharu mamau nid yn unig yn creu mwy o alw ar ofalwyr sy’n berthnasau heb gefnogaeth, ond mae hefyd yn dod â mwy o blant i mewn i’r system ofal. Gwyddom fod mwy o bobl sy’n gadael gofal yn mynd yn droseddwyr na’u cyfoedion. Gwyddom fod mwy o blant i garcharorion yn mynd yn droseddwyr na’u cyfoedion. Mae’r plant hyn yn wynebu risg dwbl o gael eu carcharu, ac rwy’n gobeithio y bydd unrhyw symudiadau tuag at wella rhianta corfforaethol yn rhoi ystyriaeth arbennig i’r garfan benodol hon o blant. Diolch.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan yr Aelodau trawsbleidiol? A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddyfynnu o adroddiad y comisiynydd plant ar yr adolygiad o hawliau plant mewn gofal preswyl, a lansiwyd heddiw, dyfyniad am beidio â bod yn brin o ddim? Mae Phoebe, 13 oed, wedi bod mewn gofal ers pan oedd yn chwe mis oed, wedi cael mwy na 25 o leoliadau a dyfynnwyd hi’n dweud:

‘Rydw i eisiau aros nes bod yr haul yn dod allan, gobeithio, ac yn rhoi bywyd braf i fi.’

Wel, mae llawer yn diolch i Dduw nad ydynt yn yr un sefyllfa. Gadewch i ni sicrhau y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni hyn.

Hoffwn ddiolch i Aelodau’r Cynulliad ar draws y Siambr heddiw am gyflwyno’r ddadl hon. Mae’n arbennig o glir fod yna gonsensws ymhlith Aelodau o bob plaid y dylid cefnogi plant sy’n derbyn gofal er mwyn iddynt gael yr un cyfleoedd a’r un dechrau mewn bywyd â phob plentyn arall. Roeddwn yn bryderus iawn pan oedd y llyfr gan David ar ei ddesg, gan nad oeddwn yn siŵr a oedd cwestiynau’n mynd i fod. Ond rwy’n ddiolchgar iawn am gyfraniad a chefnogaeth barhaus yr Aelod yn hyn o beth.

Rwy’n cefnogi’r cynnig. Byddaf yn gweithio i hwyluso cydweithredu effeithiol ar draws y Llywodraeth genedlaethol a Llywodraeth leol a gyda’n holl bartneriaid yn y gymuned a’r trydydd sector i wella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Ond geiriau ar fy mhapur yn unig yw’r rhain, a chredaf mai’r allwedd go iawn yn y fan hon yw sut y gallwn roi’r prosesau hynny ar waith.

Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniadau Mark Isherwood a llawer o bobl a grybwyllodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai mewn perthynas â’r is-bwyllgor plant, y soniodd David amdano hefyd. Credaf ein bod mewn lle ychydig yn wahanol pan gyhoeddwyd yr adroddiad gan fod y ddeddfwriaeth ar y pryd yn wahanol iawn i’r hyn sydd gennym yn awr. Yn y Llywodraeth ddiwethaf, cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd bellach yn gosod dyletswydd ar 44 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, o ran y modd y gweithiwn gyda’n gilydd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Fel un o Weinidogion y weinyddiaeth ddiwethaf ac un o Weinidogion y weinyddiaeth hon, gallaf ddweud wrthych ein bod yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn, yn y dyddiau cynnar hyn, o ran gweithio cydgysylltiedig. Gwn fod y Prif Weinidog a minnau yn awyddus iawn i geisio deall a fyddai’r is-bwyllgor yn ychwanegu gwerth, neu a fydd y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith yn awr yn ymrwymo ac yn dangos y gallwn weithio mewn ffyrdd gwahanol ar draws sefydliadau. Byddwn yn gofyn i’r Aelodau roi ychydig o le i ni er mwyn i ni allu cyflawni hynny. Rydym yn yr un lle â chi. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn y byddai’n hoffi gweld dull mwy cydweithredol o ddatblygu polisi, ac mae’r portffolios polisi yn dangos hyn ac yn cryfhau ein gallu i weithio’n gydweithredol—

Mae’n gofyn am ychydig o amser i weld sut y mae prosesau presennol yn gweithio, ac mae’n debyg, wyddoch chi, ei fod yn dymuno osgoi ymagwedd rhy fiwrocrataidd os yw’r hyn rydym am ei gyflawni am fod yn fwyfwy tebygol o ddigwydd bellach, o ystyried prosesau newydd. Ar ôl blwyddyn neu ddwy, os ydych am adolygu pethau, mae hynny’n iawn, ond a wnewch chi ddod yn ôl i adrodd ar sut y mae cydweithredu rhyngadrannol yn Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu gwell canlyniadau yn awr?

Gwnaf. Mae’r Aelod yn nodi pwynt dilys iawn, ac rwy’n siŵr—. Byddwn yn hapus iawn i ddychwelyd mewn 12 mis, neu cyn hynny os credaf fod yna broblemau. Rwy’n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr y gallwn wneud rhywbeth am hyn. Rwy’n ddiolchgar am awgrym yr Aelod.

Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, fy mlaenoriaeth yw gwella lles a ffyniant economaidd unigolion a chymunedau, ac rwy’n argyhoeddedig fod gwreiddiau lles a ffyniant economaidd mewn plentyndod. Mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar eu cyfer er mwyn iddynt allu cyfrannu’n effeithiol at gymdeithas yn y dyfodol. Gwyddom nad yw’r canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal yn cymharu’n ffafriol â phlant eraill. Dyfynnwyd llawer ohonynt heddiw. Maent yn llai tebygol o ennill cymwysterau addysgol da, mae ganddynt fwy o anghenion iechyd ac anghenion ym maes tai, ac mae’r bobl ifanc hyn yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau a dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, ac nid yw hyn yn dderbyniol.

Gwrandewais yn ofalus iawn ar rai o’r dadleuon ynglŷn â’r pum TGAU a lefelau cyrhaeddiad ar oedrannau penodol, a’r hyn yr hoffwn i’r Aelodau ei ystyried yn y cynnig hwnnw yw bod angen agwedd lawer mwy cyfannol arnom tuag at yr hyn sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gan nad yw cyrhaeddiad addysgol yn bopeth; mae hyn yn ymwneud â chyfanrwydd yr unigolyn hefyd. Gwelais astudiaeth yn ddiweddar, lle—. Astudiaeth o bobl NEET oedd hi, lle nad oedd unigolion a oedd yn ceisio cael gwaith wedi cael pum TGAU. Ond roedd yr astudiaeth o’r ardal leol hefyd yn edrych ar bobl mewn gwaith, ac mewn gwirionedd, roedd mwy o bobl mewn gwaith na’r nifer o bobl nad oeddent yn NEET gyda phobl heb gymwysterau mewn gwaith. Mae’r broblem sydd gennyf gyda hynny yn ymwneud â—wel, beth y mae plant sy’n derbyn gofal neu bobl sydd â llai na phum TGAU—. Pa mor gyflawn ydynt wrth fynd yn hŷn? Rwyf wedi bod yn gwneud ychydig o waith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwyf wedi anfon dolen at David yn ystod y ddadl hon ynglŷn â’r hyn y dylai Aelodau feddwl amdano o bosibl—y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn yn awgrymu bod llawer o’r plant yn y system ofal wedi cael mwy na phum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod. Soniodd un o’r Aelodau—Suzy—am garchar. Gwn fod pobl ifanc sydd wedi cael pum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod 20 y cant yn fwy tebygol o gael eu carcharu yn nes ymlaen yn eu bywydau. Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth ynglŷn ag atal, ynglŷn â sicrhau ein bod yn edrych ar ôl plant yn gynnar yn ogystal ag yn y system ar hyn o bryd. Bydd fy adran a fy nhîm yn gweithio i sicrhau ymagwedd ddeublyg.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn ddiolchgar iawn felly—. Roedd gwrando ar yr hyn a oedd gennych i’w ddweud yn galondid gan fod hwn yn faes y bûm yn bryderus iawn yn ei gylch gydag adolygiad Donaldson. Felly, o ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chael pum TGAU gradd C neu uwch fel dull o fesur y bobl yma yng Nghymru—ac mae gennym gymaint o bobl ifanc, bron i chwarter y bobl ifanc, ag anawsterau dysgu ac a fydd yn ei chael yn anodd cyrraedd y lefel honno, a wnewch chi siarad â’r Ysgrifennydd addysg, ac adolygu dau beth yn ystod Adolygiad Donaldson—un ynglŷn â sut y gallwch edrych ar yr ymarfer ticio blychau hwnnw sydd gennym i raddau helaeth, i fesur cyflawniad academaidd unigolion, ac yn ail, sut y gallem gyflwyno’r hyn y sonioch amdano, y sgil dysgu hwnnw, i ddatblygu’r unigolyn cyflawn? Oherwydd rydych yn hollol gywir—nid yw addysg dda yn ymwneud ag arholiadau, na’r maes llafur, ond yn hytrach mae’n ymwneud â datblygu dinesydd da.

Rwy’n falch iawn fod yr Aelod wedi ymyrryd. Wyddoch chi, rydym yn dioddef oherwydd ein llwyddiant ein hunain. Rydym yn ceisio cyrraedd targedau yn llawer rhy aml heb edrych ar bobl. A’r hyn sy’n gywir neu’n anghywir am hynny, gyda’r gwrthbleidiau a gwleidyddion eraill, yw bod cyfle gwych i geryddu pobl drwy ddweud, ‘Nid ydych wedi llwyddo i gael 5 TGAU’, pan ydym, mewn gwirionedd, yn anghofio am yr unigolyn, yn enwedig plant sy’n derbyn gofal. Felly, fy mlaenoriaeth i a blaenoriaethau adran fy nhîm yw gwneud yn siŵr y gallwn fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar, a chredwn y bydd hynny, yn y tymor hwy, yn sicrhau gwell canlyniad, ac unigolyn cyflawn, i bobl na fydd, gobeithio, yn mynd i mewn i’r system ofal yn y broses honno hyd yn oed.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, ond gofynnaf eto i’r Aelodau edrych yn ofalus ar y niferoedd hynny mewn gofal, gan ein bod yn taflu’r niferoedd hynny o gwmpas, ond mewn gwirionedd, y peth iawn i’w wneud, weithiau, yw diogelu plant yn eu hamgylchedd. A byddaf yn ceisio gwrthdroi’r duedd a sicrhau ein bod yn parhau i ostwng y niferoedd fel sy’n ddiogel, gan gefnogi cymunedau yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Byddaf yn ailymgynnull y grŵp llywio strategol ar gyfer gwella canlyniadau i blant, a sefydlwyd gan y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ysgogi’r broses o ddiwygio a datblygu dull cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Ers ei sefydlu ym mis Medi 2015, mae’r grŵp wedi dwyn rhanddeiliaid allweddol ynghyd a fydd yn edrych, ac sydd wedi edrych, ar ofalwyr maeth a mabwysiadwyr plant sy’n derbyn gofal. Mae llawer o waith i’w wneud yma, ac ar draws adrannau’r Llywodraeth. Dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn gynharach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae pob adran ar draws y Llywodraeth yn edrych ar addysg, tai, trechu tlodi ac iechyd cyhoeddus—sut y gallwn oll wneud cyfraniad er budd pobl ifanc.

Wrth symud ymlaen, bydd y grŵp yn nodi pa ymyrraeth gynnar a chamau ataliol y gellid eu cymryd i helpu i leihau nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal, gan ostwng nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sgil hynny. Bydd rhaglen waith y grŵp yn seiliedig ar dair thema allweddol. Un, atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal ac ymyrraeth gynnar; dau, gwella canlyniadau i blant sydd eisoes mewn gofal; a chynorthwyo pobl sy’n gadael gofal i gael dyfodol llwyddiannus a byw’n annibynnol. Mae canlyniadau llwyddiannus yn y maes hwn yn dibynnu ar gydweithrediad ac arweinyddiaeth ar draws adrannau llywodraeth genedlaethol a lleol, a chlywais yr Aelodau’n tynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r synergedd rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, a heb os, dyna’r peth iawn i’w wneud. Ar gyfer plant sydd eisoes mewn gofal, rydym wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth o leoliadau o ansawdd uchel sy’n diwallu eu hanghenion, a rhoi’r sefydlogrwydd a’r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys rhoi fframwaith maethu cenedlaethol newydd ar waith, adolygu ein gorchmynion gwarcheidwaeth arbennig a hybu rhagor o gymorth i ofalwyr sy’n berthnasau.

Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyrraedd eu potensial addysgol llawn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth addysg a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd ym mis Ionawr, i godi cyraeddiadau addysgol plant sy’n derbyn gofal, ac mae’n nodi camau gweithredu clir ar gyfer gwella. Byddaf yn adolygu’r ffigurau hynny. [Ymyriad.] Yn wir.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi crybwyll hyn, ond pa waith rydych wedi’i wneud ar edrych ar y cyfnod pontio rhwng 18 oed a’r cyfnod pan fydd plant mewn gofal yn dod yn oedolion? Oherwydd rwyf wedi siarad â nifer o bobl ifanc sy’n teimlo bod y pontio’n rhy sydyn, a’u bod yn mynd o amgylchedd gofalgar a diogel iawn, i amgylchedd lle nad ydynt yn teimlo’u bod yn barod i ymdrin â’r byd.

Wrth gwrs, a chredaf fod yr Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw hefyd. Edrychwch, rydym yn sôn am bobl arbennig iawn yma. Y rhaglen sydd gennym yw Pan Fydda i’n Barod, a sicrhau bod hynny’n golygu pan fo’r unigolyn yn barod, nid pan fo’n gyfleus i ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn—dyna sy’n rhaid i ni ei ddirnad. Waeth beth fo’r proffil oedran, credaf fod yn rhaid i ni ddeall yn well sut i fynd ati i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.

Felly, yn olaf Lywydd—rwy’n ymwybodol iawn o’r amser ac mae hi wedi bod yn garedig iawn wrthyf y prynhawn yma—a gaf fi ddweud mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda’n gilydd? Bydd y grŵp trawsbleidiol yn parhau i weithio gyda ni—byddaf yn cael cyngor, ac yn gwrando’n ofalus iawn arnoch. Byddaf yn adrodd yn ôl i’r Senedd ar ein cynnydd yn y maes hwn, sy’n bwysig iawn i mi. Gwn ei fod yn bwysig i’r Aelodau hefyd, ac mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol. Felly rwy’n annog yr Aelodau heddiw i gefnogi’r cynnig; bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfraniadau i’r ddadl. Rwy’n falch iawn o gloi’r ddadl hon ynglŷn â’r ffyrdd y gallwn gryfhau gweithio rhyngadrannol er mwyn gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Mae’n rhaid mai’r broses o sicrhau bod ein plant yn cael bywydau hapus a chyflawn yw un o swyddogaethau pwysicaf y Cynulliad hwn. Nid oes llais gan blant, yn enwedig plant sy’n derbyn gofal, felly dyna pam y mae’n rhaid i ni siarad ar eu rhan.

Yn ei araith agoriadol, dangosodd David Melding ei ymrwymiad, unwaith eto, i blant sy’n derbyn gofal a’r gwaith gwych y mae bob amser wedi’i wneud yn y Cynulliad hwn i warchod eu buddiannau. Soniodd am ‘Ar Goll mewn Gofal’, 17 mlynedd yn ôl erbyn hyn, a’r ffordd y mae arferion gwaith wedi newid ers hynny, ond mae’r her yn dal yno. Mewn araith bellgyrhaeddol, galwodd am rywbeth tebyg i’r is-bwyllgor Cabinet a argymhellir gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, yn ogystal â thrafod cyrhaeddiad addysgol, sefydlogrwydd addysg a chyfranogiad plant mewn penderfyniadau ynglŷn â’u bywydau.

Siaradodd Lee Waters am y system addysg bellach. Soniodd am yr angen am gymorth penodol i blant sy’n derbyn gofal mewn addysg bellach, y chweched dosbarth ac addysg uwch. Rhoddodd enghreifftiau o arferion da, megis cael anogwyr dysgu dynodedig, ac roedd yn awyddus i wybod beth y gallem ei wneud yma i fynd ar drywydd yr amcanion hynny. Soniodd Mark Isherwood am y ffaith fod eiriolaeth yn anghyson ar draws Cymru a galwodd ar y Llywodraeth i ddweud wrthym beth yw’r amserlen ar gyfer gweithredu cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer darparu eiriolaeth statudol.

Galwodd Llyr Gruffydd am ffocws diwyro ar ganlyniadau a gofynnodd a allai’r grŵp gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar y canlyniadau i blant nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant edrych hefyd ar y canlyniadau i rai sy’n gadael gofal o fewn y grŵp penodol hwnnw.

Talodd Janet Finch-Saunders deyrnged i’r rhai sy’n gofalu am blant ac roedd yn awyddus i edrych ar effaith cyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig y grant amddifadedd disgyblion, ar y canlyniadau i blant mewn gofal. Pwysleisiodd hefyd yr angen am gymorth ar ôl mabwysiadu, a pha mor bwysig yw hynny. Roedd hyn yn rhywbeth a adlewyrchwyd hefyd yng nghyfraniad Suzy Davies: fod plant yn aml yn cael eu lleoli gyda rhieni, ac ar ôl eu lleoli, nid oes unman i droi. Felly, roedd hwnnw’n bwynt pwysig a wnaed. Yn ogystal, nododd bwynt pwysig iawn ynglŷn â’r effaith ar blant pan fo rhieni’n cael eu carcharu, yn enwedig pan fo’r fam yn cael ei charcharu, a pha mor aml y mae hynny’n arwain at roi plant mewn gofal a sut y mae’n rhaid i ni ymdrin â materion eithriadol o anodd o’r fath yn ofalus iawn—cyswllt gyda thadau yn benodol. Credaf fod hwnnw’n bwynt pwysig iawn.

Yna, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym am ei ymrwymiad i wneud rhywbeth ynglŷn â’r maes gwaith pwysig hwn. Dechreuodd drwy ddyfynnu o gyhoeddiad diweddar Sally Holland:

Rwyf am aros nes... y daw’r haul allan.

Credaf fod hynny’n cyfleu i’r dim yr hyn a deimlwn ynglŷn â’r pwnc penodol hwn—nad ydym am i’n plant mewn gofal deimlo bod popeth yn ansicr—a chredaf fod y dyfyniad hwnnw’n cyfleu popeth. Dywedodd fod yn rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant a siaradodd am bwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhoddodd ymrwymiad y byddem yn gweithio yn ystod y Cynulliad hwn, ac y byddai’r Llywodraeth yn gweithio’n ddiflino fel Llywodraeth, i wella ansawdd bywyd plant mewn gofal ac i sicrhau eu bod yn cael yr un gefnogaeth ac ymrwymiad â phlant sy’n byw gyda’u teuluoedd eu hunain. Felly, hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chredaf mai cam cyntaf yw hwn yn yr holl waith y byddwn yn ei wneud yn y Cynulliad hwn dros y pum mlynedd nesaf.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru a’r System Etholiadol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl yn enw Plaid Cymru ar y system etholiadol, ac rwy’n galw ar Sian Gwenllian i gyflwyno’r cynnig.

Cynnig NDM6052 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ’r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rydym wedi gosod y ddadl yma heddiw am ei bod hi’n dod yn glir bod angen newid y broses ddemocrataidd bresennol. Anghofiwch am y refferendwm am funud, os medrwch chi, achos, yn gyffredinol, mae pobl yn teimlo nad ydy eu pleidlais yn cyfrif. Mae angen i bobl weld bod pwrpas iddyn nhw bleidleisio, ac mae diwygio’r drefn yn un ffordd o fynd i’r afael â’r broblem ddyrys hon. Felly, mae Plaid Cymru o’r farn y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy, a hynny er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt gwleidyddol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Cyn manylu ar hynny, mi wnaf i gyffwrdd â’r ddau fater arall. Y cyntaf ydy’r angen i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed gael y bleidlais. Mae hynny’n hollol angenrheidiol bellach. Roedd pobl ifanc yn ddig ac yn rhwystredig nad oedd eu llais yn cael ei glywed yn y refferendwm. Mae hefyd angen inni greu senedd i’r ifanc yng Nghymru. Cymru ydy’r unig wlad yn Ewrop sydd heb senedd o’r fath ac mae’n rhaid inni symud ymlaen efo hyn er mwyn tynnu pobl ifanc mewn i wleidyddiaeth. Yn amlwg, mi fyddai ei gwneud hi’n haws inni bleidleisio yn helpu, drwy gyflwyno pleidleisio ar-lein, er enghraifft, ac mi fyddai sicrhau mwy o addysg wleidyddol o help mawr hefyd.

Ond, i droi at y pwnc dan sylw, felly, yn etholiadau’r cynghorau sir yn 2012, dim ond 39 y cant o bobl bleidleisiodd. Ac yn etholiadau’r Cynulliad eleni, ychydig dros 45 y cant a aeth i bleidleisio. Mae’n amlwg bod rhai pobl yn meddwl nad oes pwrpas pleidleisio ac mai’r un rhai sy’n ennill bob tro. Mi wnaf i jest roi dwy enghraifft i chi. Yn 2012, yn ward Sgeti Abertawe, fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd gydag ond 37.4 y cant o’r bleidlais. Cafodd Llafur 29.2 y cant a’r Ceidwadwyr 20 y cant ond, eto, yn methu ag ennill yr un sedd. Mewn enghraifft fwy enwog, efallai, yn 2008 yng Nghaerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill y mwyafrif o seddi efo dim ond traean o’r pleidleisiau. Dros y blynyddoedd, mae pob plaid wedi elwa o’r system cyntaf heibio’r post ac mae pob plaid wedi dioddef o’i oherwydd o hefyd. Nid dyna sydd o dan sylw fan hyn.

Mae’r system STV yn cael ei defnyddio yn llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r Alban yn ei defnyddio mewn etholiadau lleol ac nid oes yna neb—neb—yn yr Alban yn cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Mae wedi gwella atebolrwydd ac wedi bywiogi gwleidyddiaeth. Nid fi sy’n dweud hyn ond arweinwyr Llafur yn Glasgow a Chaeredin. Mae Gogledd Iwerddon yn defnyddio STV ar gyfer ethol y Cynulliad ac mae’n amheus a fyddai’r ddwy ochr wedi gallu cytuno ar y broses heddwch hebddi hi. Mi oedd comisiwn Richard wedi argymell STV ar gyfer ein Cynulliad ni.

Mi wnaf i droi at rai o’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno i wrthwynebu STV. Y syniad bod cynrychiolaeth gyfrannol wedi’i gwrthod yn refferendwm 2011—wel, yn syml, nid system gyfrannol oedd dan sylw bryd hynny ac fe fydd rhai ohonom ni’n cofio’r ymgyrch ar y pryd: ‘No to AV, Yes to PR’.

Mae rhai’n dweud bod STV yn anodd ei deall. Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, ac mae hynny’n dipyn bach o insylt, a dweud y gwir, i bleidleiswyr yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n cael dim trafferth o gwbl yn deall y system yna.

Wedyn, mae’r syniad yma ei bod yn atal unrhyw blaid rhag ennill neu’n creu clymbleidiau drwy’r amser, wel, dyna fywyd weithiau. Mae hynny yn digwydd weithiau mewn democratiaeth. Mae’r modelu sydd wedi’i wneud o STV yn y gwledydd hyn yn dangos ei bod yn gallu creu llywodraethau un plaid os ydy’r pleidiau hynny yn gwneud yn dda mewn etholiad. Mae’r system bresennol yn creu sefyllfa o ddim rheolaeth glir, beth bynnag.

Mae yna lawer o fanteision o gyflwyno STV. Mewn etholiadau’r Cynulliad, byddai Aelodau rhanbarthol yn cael eu dewis yn uniongyrchol gan yr etholwyr yn hytrach na thrwy system rhestr bleidiol. Byddai’n creu gwleidydda mwy positif gan y byddai pleidiau gwleidyddol yn cystadlu am ail a thrydydd dewis yr etholwyr, a byddai hynny’n golygu bod angen ymgyrchu mewn ffordd aeddfed iawn a phositif.

Y rhai a fyddai ar eu hennill fyddai pob gwleidydd sy’n gweithio’n galed mewn modd positif. Y rhai a fyddai ar eu colled fyddai’r rhai sydd yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol. Yn gyffredinol, felly, mi fyddai’n golygu y byddai gwleidyddiaeth Cymru ar ei hennill ac, yn y pen draw, mae hyn yn dda hefyd i bobl Cymru, a hynny ddylai fod ar ein meddyliau ni drwy’r amser. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y gwelliant hwnnw, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Y Prif Weinidog.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’ ac yn ei le rhoi ‘benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol.’

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r cynnig? Ond byddwn yn cefnogi’r gwelliant, ac os caiff y gwelliant ei dderbyn, yna byddwn yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd. Fy mhroblem gyda dull Plaid Cymru yw ei fod yn cymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy a chredaf fod angen i ni ystyried yn drwyadl sut y byddai’n gweithredu’n ymarferol ar wahanol lefelau o lywodraeth. Nid oes gennym safbwynt fel grŵp ynglŷn ag a ddylem ddefnyddio ffurf benodol ar drefniant etholiadol, ond credwn y dylai’r grym ddod i’r Cynulliad er mwyn i ni allu edrych ar y dewisiadau.

Rwyf am gael ychydig o wybodaeth ar y cychwyn. Fe ddywedoch nad oes gennych safbwynt. Serch hynny, a ydych yn derbyn argymhelliad comisiwn Richard y dylid defnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, hyd yn oed os nad ydych wedi penderfynu ynglŷn â’r Cynulliad ei hun?

Wel, roeddwn am ddweud fy mod yn credu bod gan bob trefniant etholiadol ei fanteision a’i anfanteision. Nawr, rwyf wedi credu ers peth amser fod anfanteision system y cyntaf i’r felin mewn system gynyddol amlbleidiol, neu yng Nghymru lle mae gennych—neu’n arfer bod, beth bynnag—system gydag un blaid ddominyddol, yn golygu y dylem edrych ar ffyrdd eraill o ethol, ond mae’n rhywbeth y credaf y dylem ei ystyried yn ofalus. Nawr, gallwch edrych ar brofiad yr Alban a phwyso a mesur sut y mae pobl yn teimlo am fyw mewn wardiau mawr gyda nifer o aelodau. A yw hynny bob amser yn briodol ar gyfer llywodraeth leol? Nid wyf yn gwybod. Credaf mai dyna’r math o beth, y canlyniad ymarferol, sydd angen i ni ei archwilio a’i asesu. Felly, ‘ydw’ rwyf am i ni gael y pwerau ac ‘ydw’ rwyf am i ni edrych yn llawn ar y gwahanol opsiynau.

A fyddech yn cytuno bod y sefyllfa bresennol, lle mae gennym wardiau mawr wedi’u cynrychioli gan nifer o aelodau yng nghanol ein dinasoedd mawr, wedi’i chyfuno â system y cyntaf i’r felin, yn wrth-ddemocrataidd mewn gwirionedd, yn union fel roedd yr enghraifft yn ei ddisgrifio?

Wel, wyddoch chi, dywedais fy mod yn credu bod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ba system bynnag a ddefnyddiwch. A dweud y gwir, y peth mwyaf taclus i’w wneud fyddai defnyddio systemau tebyg. Felly, mae yna oblygiadau: os ydych yn ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, a ddylech ei wneud ar gyfer y Cynulliad a deddfwrfa gymharol fechan, a sut fyddai hynny’n gweithio? Fel y dywedais, mae fy meddwl yn agored, ond, gan siarad fel y llefarydd cyfansoddiadol ar ran y grŵp, mae’n rhaid i mi bwysleisio nad ydym yn barod i gymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae’n rhaid i mi ddweud, Gwenllian, fy mod wedi mwynhau eich direidi a’r enghreifftiau pryfoclyd o orgynrychiolaeth ryddfrydol a roesoch. Rwy’n siŵr eu bod wedi diddanu pawb yn y Cynulliad, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn dod o draddodiad lle rydym wedi dioddef o ganlyniad i system sy’n gwobrwyo ein 20 y cant o’r bleidlais â dim cynrychiolaeth o gwbl am amser hir, ond mae’n rhaid i fy mhlaid wynebu’r ffaith ei bod gryn dipyn yn dawelach mewn ffordd o ran dicter ar lefel y DU, gan ein bod yn aml wedi elwa’n fawr o ennill etholiadau cyffredinol â pherfformiad o lai na 50 y cant, os caf ei roi mor niwtral â hynny. Felly, edrychwch, mae’n briodol fod y pŵer yn dod i’r Cynulliad a’n bod yn ei ystyried yn llawn wedi hynny. Wedi dweud hynny, credaf y byddem yn awyddus i newid rhai o’r systemau presennol, ac rydym am wneud hynny’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Rydym wedi cael democratiaeth yn y DU ers peth amser ond mae wedi esblygu’n raddol dros y blynyddoedd. Cafwyd dwy Ddeddf ddiwygio fawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ymestynnodd y bleidlais yn sylweddol ac a ddileodd lawer o fwrdeistrefi pwdr. Efallai y bydd rhai o’r Aelodau’n cofio enghraifft Old Sarum yn Hampshire, o’u gwersi hanes, lle y dywedwyd mai cath oedd yr unig etholwr. Wel, mae bwrdeistrefi pwdr o fath yn dal i fodoli yma yng Nghymru: llefydd fel Blaenau Gwent, lle yr enillodd un blaid—ac ni ddywedaf pwy—81 y cant o seddi’r cyngor â 55 y cant o’r bleidlais. Ceir enghreifftiau tebyg eraill. Ni waeth pa blaid sy’n elwa, mae system y cyntaf i’r felin yn amlwg yn system etholiadol sy’n aml yn creu sefyllfa y mae’r Aelodau Llafur yn hoffi cyfeirio ati fel y diffyg democrataidd. Mae’r gwaith o graffu a goruchwylio cyngor yn amlwg yn anos mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y seddau gan un blaid. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y bydd darpariaeth gwasanaethau’r cyngor yn dioddef yn sgil hynny. Yma yn UKIP, rydym yn cefnogi cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy fel system fwy democrataidd. Byddwn yn gweithio gyda phwy bynnag arall yn y Siambr sy’n ein cefnogi yn y mater hwn. Diolch.

Diolch yn fawr, felly, am y cyfraniadau. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae yna welliant o flaen y Cynulliad sydd, i fi, yn ehangu’r ddadl sydd wedi cael ei wneud yn barod yn y Siambr. Pwrpas y ddadl wrth gwrs yw canolbwyntio ar y ffaith y bydd gan y Cynulliad hwn y pŵer i newid y system etholiadol ar y lefel leol, a hefyd ar lefel y Cynulliad yn y pen draw, achos wrth gwrs ein bod ni’n hynod o gefnogol ar y meinciau hyn. Mae’n bwysig dros ben taw y Cynulliad hwn sydd yn rheoli’r system a’r modd o ethol Aelodau i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n wir dweud nad yw’r Bil ei hunan, sef Bil Cymru, yn caniatáu taw dim ond 51 y cant o’r pleidleisiau sydd eu heisiau i newid y system, ac rwy’n credu bod hynny’n iawn, achos gyda rhywbeth mor sylfaenol mae’n bwysig dros ben bod yna fwy nag un blaid yn pleidleisio dros unrhyw fath o newid yn y system etholiadol. Nid wyf yn dadlau yn erbyn hynny. Ond i fi, y broblem sydd gyda ni ar hyn o bryd yw’r ffaith bod y ddadl ei hunan yn rhy gul, achos, yn lle dadlau y dylai’r Cynulliad gael y pŵer i newid y system, mae’n dadlau y dylai’r Cynulliad gael y pŵer i newid y system, ond dim ond i un system arall. Felly, mae’n culhau’r ddadl yn lle ehangu’r ddadl.

So, felly, beth mae’r gwelliant yn ei wneud yw sicrhau yn gyntaf—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Prif Weinidog. Efallai gallai fo helpu fi gyda’r anhawster cyfansoddiadol sydd gen i, hefyd, gyda’r cynnig sydd gerbron, sef bod y Cynulliad hwn yn gofyn unwaith eto i San Steffan i ddeddfu, fel rydw i’n deall y cynnig, ar faterion cyfansoddiadol ddylai fod yn perchen i ni yn y lle hwn.

Rwy’n credu bod hynny’n iawn. Beth ddylem ni ei ddweud, wrth gwrs, yw ein bod ni eisiau’r pŵer—ac mae hynny wedi cael ei roi i ni—i newid y system etholiadol i unrhyw system mae’r Cynulliad yn pleidleisio drosti, ac nid dim ond un system. Beth sydd gyda ni ar hyn o bryd yw geiriau sydd yn dweud ein bod ni’n gofyn i San Steffan i newid y system i un system yn unigol, ac nid ein bod ni’n gallu newid y system i system y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn meddwl y byddai’r system orau i Gymru.

So, felly, beth mae’r gwelliant yn ei wneud yw ehangu’r geiriau sydd gyda ni o’n blaenau er mwyn sicrhau taw, ie, y Cynulliad fydd yn penderfynu pa fath o system y bydd yn cael ei defnyddio yn y pen draw, ond heb gulhau, wrth gwrs, y ddadl sydd gyda ni ar hyn o bryd, taw dim ond un system y dylem ni ofyn amdani pan fyddwn yn gofyn am y pŵer o San Steffan. So, felly, i fi, mae hwn yn welliant sydd yn ehangu’r pwerau y byddai gan y Cynulliad, ac wrth gwrs, yn y pen draw, y byddai’n lan i’r Cynulliad i benderfynu yn drawsbleidiol pa fath o system y dylai gael ei defnyddio yn y Cynulliad a hefyd gan lywodraeth leol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch ein bod wedi cael y ddadl hon. Roedd yn fyr, ond yn flasus, ac rwy’n meddwl bod Sian Gwenllian wedi nodi’n hynod o dda, mewn araith agoriadol gryno iawn ond wedi’i thargedu’n dda, y rheswm pam y cyflwynasom y ddadl hon.

Wrth gwrs, pan gyflwynasom y ddadl, nid oeddem yn gwybod y byddai’r Cynulliad ei hun yn pleidleisio heddiw gan ddefnyddio math o gynrychiolaeth gyfrannol, oherwydd cawsoch bleidlais ail ddewis ar gyfer dewis Cadeiryddion eich pwyllgorau heddiw, ac rydych wedi derbyn nad ydych yn cael system y cyntaf i’r felin drwy’r amser ar gyfer popeth sy’n digwydd. Felly, rwy’n credu bod hynny’n dwll bach yn y dadleuon yn erbyn system y cyntaf i’r felin, ac yn gam bach ymlaen dros gynrychiolaeth fwy cyfrannol. Os ydym yn defnyddio’r system ar gyfer Cadeiryddion ein pwyllgorau, yna’n sicr dylem fod yn ei defnyddio ar gyfer ethol ein Haelodau. [Torri ar draws.] Rhai o Gadeiryddion ein pwyllgorau, ie—yn hollol. Roeddwn yn barod am etholiad; nid oes ots gennyf.

Rwyf eisiau setlo un peth, gan fod y Prif Weinidog wedi bod yn creu ychydig bach o helynt, gyda chymorth galluog Dafydd Elis-Thomas, yn anffodus, ar union eiriad y cynnig hwn. Mae’r cynnig yn glir iawn:

‘Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy’.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi pleidlais sengl drosglwyddadwy, felly wrth gwrs, byddwn yn awyddus i ddadlau dros bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond nid oes dim yn y cynnig sy’n dweud mai o dan ddarpariaethau Bil Cymru yn unig y cawn gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy. Rydym am i Fil Cymru wneud darpariaeth i’n galluogi i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy. Gallem gyflwyno system arall—wrth gwrs y gallem—ac felly nid oes unrhyw beth rhwng ein cynnig a gwelliant y Llywodraeth mewn gwirionedd, ar wahân i’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn derbyn pleidlais sengl drosglwyddadwy, gan mai dyna realiti’r peth: nid yw’r Blaid Lafur yn derbyn pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Byddai’n llawer mwy gonest pe bai gwelliant y Llywodraeth ond yn dweud hynny. O leiaf roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn onest iawn yn dweud, ‘Nid ydym yn gwybod beth rydym ei eisiau ar hyn o bryd’. Rwy’n meddwl y gallai hynny fod â rhywbeth i’w wneud â’r ffaith fod gennym Lywodraeth Geidwadol a allai alw am refferendwm ar adael yr UE ar ôl cael eu hethol gyda mwyafrif o 12 ar 37 y cant o’r bleidlais. Ac ni all hynny barhau. [Torri ar draws.] Ni all hynny barhau. [Torri ar draws.] Cytunaf ei fod yn y maniffesto, wrth gwrs ei fod, ond ni ddylech byth fod wedi cael mwyafrif. Ni ddylech fod â mwyafrif yn San Steffan ar 37 y cant o’r bleidlais. Dylai fod 82 o ASau UKIP—dylai fod 82 o ASau UKIP. A phe bai gennym San Steffan a fyddai wedi adlewyrchu llais UKIP dros y 10 mlynedd diwethaf, efallai na fyddem wedi cael refferendwm. Efallai y byddai gennym ffyrdd mwy cynnil o archwilio’r dyfnderoedd mawr a’r ffynnon o anhapusrwydd y mae pobl yn ei deimlo tuag at y system etholiadol, na fyddai wedi arwain at ddewis deuaidd, sy’n dweud, ‘Os ydych yn anhapus â gwleidyddiaeth, pleidleisiwch dros adael’, ond byddai wedi bod yn ffordd lawer mwy cynnil o fynegi’r safbwyntiau cryfion hynny yn y system etholiadol briodol. Ac efallai, pe baem wedi cael yr ASEau hynny—ASau; nid ASEau, ond ASau—o UKIP dros y 10 mlynedd diwethaf yn mynegi’r rhwystredigaethau hynny sydd ganddynt a’r safbwyntiau polisi perffaith dderbyniol a oedd ganddynt, ni fyddem wedi wynebu sefyllfa, yr wythnos diwethaf, pan oedd pobl yn meddwl, ‘Mae’n bryd dweud "na" wrth y math o wleidyddiaeth rydym wedi’i chael ers amser mor hir, a’r ffordd o wneud hynny yw pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd’, gan dorri eu trwynau i sbeitio’u hwynebau. Ond dyna’r sefyllfa rydym ynddi.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Efallai na fyddwn yn ennill y ddadl dros bleidlais sengl drosglwyddadwy yn y pen draw, oherwydd gallai fod grym yma yn y Cynulliad sy’n dadlau dros fath gwahanol o gynrychiolaeth gyfrannol. Wedi’r cyfan, mae gennym ryw fath o gynrychiolaeth gyfrannol yn awr gyda system y rhestr. Ond byddwn yn parhau i ddadlau dros bleidlais sengl drosglwyddadwy yn absenoldeb unrhyw ddadl dros ddewis amgen i wella gwleidyddiaeth, na chafodd ei awgrymu gan y Ceidwadwyr na Llafur heddiw. Oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth am system y cyntaf i’r felin, rydym wedi ein condemnio i bolareiddio trafodaeth bob amser ac i gael y math o benderfyniadau a gawsom yr wythnos diwethaf. Gadewch i ni ddeffro ein gwleidyddiaeth, gadewch i ni groesawu pobl ifanc i mewn, gadewch i ni roi’r bleidlais iddynt hwy hefyd, a gadewch i ni sicrhau bod gennym fforwm gwell a democratiaeth seneddol gynrychiadol well ar lefel Cymru ac ar lefel y DU sydd, felly, yn mynegi rhwystredigaeth a chwynion pobl yn iawn, heb ein harwain at yr addewidion ffug a’r dewisiadau ffug a gawsom yr wythnos diwethaf.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Byddwn yn gohirio’r bleidlais hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies.

Eitem 5 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru, y cod gweinidogol, a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6053 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai:

(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

(b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; ac

(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri’r Cod.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i agor y ddadl, ac mi fyddai’n cau’r ddadl hefyd, ymhen ychydig. Wrth gwrs, mae’n cynnig ni yn galw arnom ni i gyd—bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb, yn credu y dylai’r cod gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo, ac yn credu y dylai dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri’r cod. Am resymau amlwg, felly, mae gofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Ac wrth i fi fynd ymlaen, gwnaf ddweud nawr y byddwn ni’n gwrthwynebu’r gwelliant cyntaf yn enw Jane Hutt, ond fe fyddwn yn derbyn gwelliannau 2 a 3, sydd yn ychwanegu at y pwyntiau sylfaenol yr ydym yn eu gwneud fan hyn ynglŷn â’r mater sydd gerbron.

Fel roeddwn i’n ei ddweud, mae yna ofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i bob un ohonynt, gan gynnwys is-Weinidogion, gydymffurfio efo’r cod gweinidogol, sy’n gosod safonau ymddygiad. Nawr, wrth gwrs, nid cyfle i ailymweld ag unrhyw ddigwyddiad penodol ydy pwrpas y ddadl yma y prynhawn yma, ond dadl er mwyn cryfhau tryloywder y broses, ac yn rhan o’r un fath o ddadl yr ydym newydd ei chlywed gan Sian Gwenllian a Simon ynglŷn â sut mae pobl yn gweld gwleidyddiaeth y dyddiau yma. Yn aml, fel gwleidyddion, rydym yn cael ein pardduo, mae pob math o gyhuddiadau yn ein herbyn—weithiau ar sail ymddygiad rhywun penodol—ond rwy’n credu bod hyn hefyd yn rhan o’r broses o sut rydym yn ymateb i’r bleidlais yna yn y refferendwm yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid inni ddangos i bobl ein bod ni’n berffaith onest ac agored a thryloyw ym mhob peth rydym yn ei wneud. A rhan o’r broses yna ydy’r cod gweinidogol yma sydd angen ei drawsffurfio.

Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol wedi bod yn y gorffennol yn y Cynulliad yma i weld tryloywder cyflawn yn y broses, drwy gynnwys dyfarnwr annibynnol i mewn i’r system, fel bod gan y Prif Weinidog hawl i gyfeirio canfyddiad bod y cod wedi ei dramgwyddo i ddyfarnwr annibynnol, felly, a bydd yr unigolyn annibynnol yna dan sylw yn casglu’r dystiolaeth, ac yn cyflwyno adroddiad.

Nid ein hamcan ni yw bod y Prif Weinidog yn colli’r hawl i benodi a diswyddo aelodau o’i Gabinet, wrth gwrs. Nid dyna amcan y drafodaeth yma. Ond nid wyf yn cefnogi ei hawl i benderfynu pwy sy’n cael ei archwilio’n annibynnol, neu’n destun adroddiad annibynnol, os tramgwyddir y cod gweinidogol chwaith. Ac, wrth gwrs, dylai fod gan aelod o’r cyhoedd, neu Aelod o’r sefydliad hwn, hawl i gwyno yn uniongyrchol wrth gomisiynydd safonau, yn yr un modd ag y byddent yn ei wneud am Aelod Cynulliad o’r meinciau cefn, a dylai’r comisiynydd werthuso’r gŵyn honno, llunio adroddiad ac ymchwilio, yna darparu’r adroddiad ar gyfer y Prif Weinidog i wneud penderfyniad terfynol.

Fel rwyf wedi cyfeirio ato eisoes, nodwedd hollbwysig o bwrpas ein hamcanion ni y prynhawn yma, i drio edrych eto ar y broses archwilio yma, a gwneud yn siŵr bod y cod gweinidogol yn fwy agored, yw adeiladu ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, sydd wedi cael ei sigo yn ddiweddar—ffydd sydd wedi ei ddifrodi ers sawl blwyddyn bellach. A gwelsom ni’r ymateb, fel mae Simon wedi ei ddadlau eisoes, yn y ddadl flaenorol.

Ac felly, yng nghanol y dicter, y casineb a’r anwireddau sydd wedi bod yn chwyrlio o gwmpas y lle yr wythnosau diwethaf yma, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, fel gwleidyddion, bod nifer fawr o’n pobl ni wedi eu dadrithio yn gyfan gwbl efo gwleidyddion a gwleidyddiaeth, yn mynnu nad oes ganddyn nhw ffydd ynom ni—dim hyder, a fawr ddim parch chwaith. Mae yna bob math o hanesion o gamymddwyn yn y gorffennol—nid wyf am fynd mewn i hynny rŵan—ond, ar ôl y bleidlais yna yr wythnos ddiwethaf, mae’n rhaid i ni ymateb yn gryf fel gwleidyddion, ac fel Cynulliad, i’r her sylweddol. Rhan o’r ymateb yna ydy dangos safonau uchel iawn o ymddygiad yn y fan hyn, sydd yn cael eu cloriannu mewn cod gweinidogol agored a thryloyw. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol tri gwelliant i’r cynnig hwn, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu is-bwyntiau (b) ac (c) a rhoi pwynt newydd yn eu lle:

Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a’r modd y mae’n gweithredu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Gymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i’r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri’r Cod Gweinidogol heb gosb.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau ar y papur trefn, yn enw Paul Davies. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Gallaf gofio’n iawn, yn y Cynulliad diwethaf, y dadleuon, y trafodaethau a’r cwestiynau i’r Prif Weinidog yr arferai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu defnyddio i berswadio’r Prif Weinidog i gyflwyno cod gweinidogol gwirioneddol annibynnol, ac yn y pen draw, yn amlwg, i ddod â’r tryloywder hwnnw i’r broses lywodraethu, lle y cyfeirir Gweinidogion at god y gweinidogion. Mae’n ymddangos ychydig yn rhyfedd y gallwch fod yn bopeth i bawb, fel y mae’r cod presennol, gyda’r Prif Weinidog yn gymrodeddwr eithaf, yn datrys popeth, yn hytrach na bod unrhyw annibyniaeth wrth wraidd y broses.

Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, pan fydd yn ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, yn ymateb mewn modd cadarnhaol, gan nad yw’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno yma heddiw yn ddadleuon newydd. A gwn fod y Prif Weinidog, ddwy neu dair blynedd yn ôl, wedi gwneud y pwynt, ‘Wel, fe gawn adolygiad, fe edrychwn ar hyn, caf weld beth y gallaf ei wneud’. Wel, mae dwy flynedd wedi mynd; gobeithio bod ganddo atebion i rai o’r cwestiynau efallai a ofynnwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2014.

Yn benodol, rwy’n credu bod cyfle i edrych ar y ffordd y penodir y comisiynwyr—y ​​comisiynydd plant, er enghraifft, a’r comisiynwyr eraill, sydd, dros amser, wedi dod o’r sefydliad hwn, ac wedi profi eu bod yn gwneud llawer o les yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Ac er tegwch i Lywodraeth Cymru, maent wedi ymgysylltu â’r pleidiau yma ac wedi ffurfio gweithgorau, yn amlwg, i wneud y penodiadau hynny. Ond ni ddylai hynny ddigwydd ar gais y Llywodraeth yn unig. Dylai’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd ysgogi’r weithdrefn ddethol a’r penodiadau, oherwydd byddwn yn awgrymu bod angen i’r comisiynwyr hynny weithredu yn enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn unig, yn amlwg.

Yn fy marn bersonol i, ac ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn ôl ym mis Mai, byddem wedi hoffi gweld gwrandawiadau’n cael eu cynnal ar benodi cynghorwyr arbennig hefyd, gan mai nodwedd o Lywodraeth fodern heddiw, unrhyw Lywodraeth, a bod yn deg, yw—. Rwy’n derbyn, ym mhob Llywodraeth, fod rôl cynghorwyr arbennig wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd—y 40 mlynedd diwethaf, yn arbennig, ers eu dechrau yn y 70au cynnar, i’r rôl fwy ffurfiol sydd ganddynt yn awr, ac maent yn chwarae rhan bwysig yn cynghori Gweinidogion y Llywodraeth sy’n cyflawni swyddogaeth Llywodraeth. Ac eto, mae’r rôl benodol honno, a’r penodiadau hynny, ar gais y Prif Weinidog yn llwyr. Unwaith eto, rwy’n credu y byddai taflu goleuni ar broses y rhan a chwaraeir gan gynghorwyr arbennig yn rhywbeth i’w groesawu, ac yn benodol, y ffordd y cânt eu penodi, yn enwedig eu haddasrwydd posibl ar gyfer ymgymryd â rolau pwysig o’r fath yn y Llywodraeth, er na fyddai yn y pen draw yn dileu gallu’r Prif Weinidog i gymeradwyo hynny o’r broses benodi, na gallu Prif Weinidog y DU er enghraifft yn San Steffan i wneud hynny. Nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol ynglŷn â’r cynghorwyr arbennig penodol yma yng Nghaerdydd. Maent yn rhan bwysig o’r dirwedd wleidyddol a welwch ym mhob rhan o Lywodraeth, lle bynnag y maent yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac yn wir, yn unrhyw un o wledydd democrataidd eraill y gorllewin. Ynghyd â phenodi comisiynwyr, rwy’n credu y byddai hynny’n dderbyniol iawn er mwyn cyflwyno tryloywder i weithdrefn dywyll iawn nad yw pobl y tu allan i’r sefydliad hwn yn gwybod llawer amdani.

Hoffwn hefyd gynnig yr ail welliant yn enw Paul Davies, sy’n cyfeirio’n benodol at ymrwymiad maniffesto’r Gweinidog addysg, a’r geiriad yn y maniffesto ynglŷn â chod y gweinidogion. Mae’n sôn, maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol—mae’n dweud,

‘nid yw’n rhyfedd fod pleidleiswyr yn colli ffydd pan all Gweinidogion Llafur, mae’n ymddangos, dorri’r Cod Gweinidogol ar eu mympwy’.

Darllenais hynny’n syth o’r maniffesto. Ac felly rwy’n meddwl, yn amlwg, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ffurfiol o’r Llywodraeth bellach, mae’n bwysig fod y Prif Weinidog yn rhoi sicrwydd, os nad unrhyw beth arall, nad yw Gweinidogion Llafur wedi bod yn torri cod y gweinidogion ar eu mympwy fel rwyf newydd ei ddarllen o’r maniffesto. Ac os yw’n wir fod hwnnw’n honiad cywir, pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i adfer hyder pobl fod datganiad o’r fath, gadewch i ni ddweud, wedi’i gyflwyno iddo’n fyrbwyll os nad oedd a wnelo â gwaith y Llywodraeth mewn unrhyw fodd? Ar ôl i’r Prif Weinidog gael dwy flynedd i feddwl sut y dylid datblygu cod y gweinidogion, dylai’r ddadl hon ddatblygu yn awr, gobeithio—oherwydd cafodd llawer o’r cwestiynau hyn eu gofyn gyntaf pan oedd rhaid i Alun Davies ymddiswyddo o’r Llywodraeth ym mis Gorffennaf 2014, a’u hateb yn deg hefyd, gallwn ychwanegu. Felly, gobeithio bod gan y Prif Weinidog yn awr, yn y ffolder sydd ganddo o’i flaen, yr atebion i’r arolwg a gyflawnodd bryd hynny a rhai o’r newidiadau, yn hytrach na sefyll a dweud, ‘Rydym yn cadw’r statws quo’, ac y gall oleuo’r Siambr ynghylch y newidiadau y bydd yn eu gwneud i god cyfredol y gweinidogion, i’w wneud yn fwy agored, i’w wneud yn fwy tryloyw, ac yn anad dim, i’r ymagwedd agored a thryloyw honno ymestyn ar draws Llywodraeth newydd Cymru yn y pumed Cynulliad yn ei chyfanrwydd.

Rwyf am ychwanegu un peth i’r ddadl, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn sôn am godau gweinidogion a chodau ymddygiad, oherwydd, yn gyfansoddiadol, mae un person yn yr adeilad hwn nad effeithir arno gan hyn o gwbl, a’r Prif Weinidog yw hwnnw. Nawr, o ran atebolrwydd democrataidd, ni all hynny fod yn iawn, oherwydd os yw rhai ohonom yn meddwl, efallai, y gallai’r Prif Weinidog fod wedi camarwain y Siambr hon mewn rhyw ffordd, neu beidio, yn ôl y digwydd, nid oes modd i unrhyw aelod o’r Siambr hon ac nid oes modd i unrhyw aelod o’r cyhoedd herio’r camwedd hwn. Felly, yr hyn sydd gennym yma, yn gyfansoddiadol—[Torri ar draws.]

A gawn ni i gyd ymdawelu a gwrando ar yr hyn y mae’r Aelod sydd ar ei draed yn ei ddweud? Yna caiff eraill y cyfle yn nes ymlaen.

Diolch. Yr hyn sydd gennym yma yw Siambr ddemocrataidd lle y dylem i gyd ddod a gwrando ar bobl yn rhoi eu safbwyntiau, ni waeth beth yw’r safbwyntiau, ni waeth pa blaid, a gofynnaf i bob un o’r Aelodau barchu hynny.

Iawn, gan symud ymlaen. Felly, os oes anghydfod, fel y soniais yn gynharach, nid oes gan unrhyw aelod o’r cyhoedd, nac unrhyw Aelod yma, fodd o herio, ac ni all hynny fod yn iawn mewn siambr ddemocrataidd. Yr hyn sydd gennym yma yw bwlch cyfansoddiadol enfawr, lle y gall unrhyw Brif Weinidog ddod yma, o bosibl, a dweud beth bynnag y mae ef neu hi’n dymuno’i ddweud—unrhyw beth o gwbl. Nid oes gan unrhyw un yma fodd o’i herio. Ni all hynny fod yn iawn. Felly, yn olaf, hoffwn ddweud mai’r hyn sydd ei angen arnom yma, yn ogystal â chodau’r gweinidogion a chodau ymddygiad i’r Aelodau, yw ffordd o ddwyn y Prif Weinidog i gyfrif yn gyfansoddiadol, gan fy mod yn gwybod o fy mhrofiad innau, fel Aelod o’r cyhoedd ac fel Aelod o’r Siambr hon, nad oes unrhyw ffordd o wneud hynny. Gall unrhyw Brif Weinidog ddod yma ac mae’n bosibl iddynt gamarwain y Siambr hon; mae’n bosibl iddynt ddweud celwydd ac nid oes unrhyw beth y gallwn ei wneud am y peth. Nid yw hynny’n iawn.

Hoffwn ofyn i chi feddwl am y frawddeg olaf ac a fyddai modd i chi newid y geiriad yn y frawddeg olaf honno. Nid oes neb yn dweud celwydd yn y Siambr hon tra rwyf fi yn y gadair.

Yr hyn a ddywedais, i fod yn glir, oedd ‘ei bod hi’n bosibl iddynt’—’anwireddau posibl’, gawn ni ddweud? Nid wyf yn gwybod. Gwnaf yn ôl eich arweiniad, Gadeirydd.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r rhan fwyaf o’r Aelodau am eu cyfraniadau. [Chwerthin.] I egluro yn gyntaf oll—i ymdrin â’r gwelliannau. Gwn fod yr Aelodau’n pryderu y dylai cod y gweinidogion fod yn agored—mae’n agored; ei fod yn cael ei ddiwygio a’i adolygu o bryd i’w gilydd—mae hynny’n digwydd; a bod yr Aelodau’n ymwybodol o’r hyn y mae cod y gweinidogion yn ei ddweud mewn gwirionedd. Yr hyn a wna’r gwelliant, wrth gwrs, yw sicrhau fy mod yn parhau i adolygu cod y gweinidogion ac yn wir, y ffordd y mae’n gweithredu a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol.

Mae’r ail welliant, yn enw Paul Davies, ynglŷn â’r comisiynwyr, yn gysylltiedig, am wn i, â’r angen i fod yn agored fel Llywodraeth, ond rwy’n gofyn y cwestiwn mewn gwirionedd: a yw hon yn broblem o ddifrif? Gwyddom y dylai’r comisiynwyr fod yn annibynnol ac maent yn annibynnol ar ôl iddynt gael eu penodi. Ni fyddent yn fwy annibynnol pe baent wedi’u penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol; rhaid i rywun eu penodi. Yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn gallu gweithredu’n annibynnol cyn gynted ag y cânt eu penodi. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd wedi digwydd. Nid ydynt yn gweithredu yn enw’r Llywodraeth fwy nag y byddent yn gweithredu yn enw’r Cynulliad pe bai’r Cynulliad wedi’u penodi, ac felly, fy safbwynt i yw fy mod yn sicr yn credu bod comisiynwyr wedi gweithredu’n annibynnol ac wedi cyflawni eu dyletswyddau’n briodol. Nid oes neb wedi awgrymu ar unrhyw adeg fod y comisiynwyr yn cael eu llyffetheirio mewn unrhyw fodd o ran eu gallu i fynegi eu safbwyntiau a mynegi’r safbwyntiau hynny’n briodol.

O ran cynghorwyr arbennig, nid yw hyn yn rhywbeth sy’n digwydd yn San Steffan. Penodir cynghorwyr arbennig gennyf fi; maent hwy hefyd yn ddarostyngedig i god ac mae hynny’n rhywbeth rwyf fi, unwaith eto, yn ei gadw mewn cof wrth iddynt gael eu penodi. Wrth gwrs, disgwylir i gynghorwyr arbennig gadw at y rheolau yn eu swydd ac yn benodol o ran y ffordd y maent yn cadw eu bywyd gwleidyddol, o ran ymgyrchu, ar wahân i’w gwaith fel cynghorwyr arbennig.

Ynglŷn â’r trydydd gwelliant—

Rwy’n derbyn yr ymateb y mae’r Prif Weinidog wedi’i roi. Rwy’n derbyn y pwynt nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd yn San Steffan, sef gwrandawiadau cadarnhau, ond onid ydych yn credu na ddylem geisio ailadrodd yr hyn a wna San Steffan bob amser? Byddai hyn yn torri tir newydd, oherwydd bod cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o bensaernïaeth y Llywodraeth, a byddai cael math o wrandawiad cadarnhau yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r rôl y maent yn ei chyflawni wrth gynghori Gweinidogion.

Fy ateb i hynny yw: pam newid rhywbeth sy’n gweithio? Ni fu amheuaeth erioed ynglŷn ag ymddygiad cynghorwyr arbennig. Disgwylir iddynt ymddwyn yn unol â’u cod eu hunain. Ni welaf unrhyw reswm pam y dylid cael gwrandawiadau ar gyfer penodi cynghorwyr arbennig.

O ran y trydydd gwelliant yn enw Paul Davies, mae hwn yn welliant drygionus, gadewch i ni fod yn onest, fel y mae’r blaid gyferbyn yn gwybod yn iawn. Mae yna Aelodau yma a fydd yn gwybod y rhoddir camau ar waith lle rwyf fi o’r farn fod cod y gweinidogion wedi’i dorri. Nid wyf yn meddwl y gellir fy nghyhuddo o wneud dim byd os oes yna faterion sy’n galw am sylw. Mae’r penderfyniadau hynny wedi bod yn anodd ac yn boenus i bawb a oedd ynghlwm wrthynt, ond serch hynny mae’n bwysig fod y penderfyniadau hynny wedi’u gwneud. Yr awgrym yw na wneir unrhyw benderfyniadau byth mewn perthynas ag achosion o dorri cod y gweinidogion. Gŵyr yr Aelodau fel arall. Beth bynnag, rwy’n gwybod y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ei bod yn rhan o’r Llywodraeth bellach, weithredu fel gwarcheidwad yn hyn o beth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y caiff cod y gweinidogion ei ddilyn gan y Llywodraeth a sefydlwyd gennym yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae pob Gweinidog yn gwbl ymwybodol o’r cod ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ddarllen y cod hefyd.

Ar y pwynt hwnnw, a allwch gadarnhau felly fod holl Ysgrifenyddion a Gweinidogion eich Cabinet wedi arwyddo cod y gweinidogion? A fynegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei barn wrthych am god y gweinidogion?

Yr ateb yw ‘gallaf’ a do, fe wnaeth, fel y mae hi newydd ddweud wrthych. Gan fod yr holl Weinidogion wedi’u rhwymo gan god y gweinidogion, nid oes unrhyw fodd iddynt allu dewis a dethol, ac ni fu erioed. Bydd y cod hwnnw’n berthnasol i bawb ac mae’n hysbys beth yw’r canlyniadau os torrir y cod.

Wel, ni wnaf lawer o sylwadau ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Neil McEvoy. Mae ei obsesiynau’n hysbys i’r Siambr hon. Mae ganddo ei gŵys ei hun y mae’n dymuno ei thorri. Nid oedd yn ddigon dewr i wneud unrhyw honiadau ac felly, nid yw ei sylwadau yn y Siambr hon yn haeddu ymateb.

Felly, o ran gwelliant 1, fel y dywedais, mae hynny’n rhywbeth—[Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfle i ddweud eich barn. Mae hwnnw’n rhywbeth rwyf eisoes wedi’i gynnig yn ffurfiol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, nac yn wir y cynnig ei hun heb ei ddiwygio.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau. Jest i fynd yn ôl at bwynt ein dadl, wrth gwrs, mae yna sawl gwahanol egwyddor wedi llwyddo i gropian i mewn i’r ddadl yma, ond mi wnawn ni fynd yn ôl at y pwynt sylfaenol a oedd ynglŷn â’r cod gweinidogol. Rydym ni’n galw yn naturiol ar holl egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal. Mae pobl wedi dweud pethau neis am y safon yna. Rydym ni eisiau ei gweld hi’n cael ei chwblhau. Rydym eisiau gweld hefyd y cod gweinidogol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad yma a chael ei gymeradwyo gan y Cynulliad yma, ac rydym hefyd yn galw am benodi dyfarnwr annibynnol i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri’r cod. Dyna, yn y bôn, ydy pwynt y ddadl yma, er mwyn ceisio argyhoeddi’r cyhoedd ein bod yn ymateb yn gadarn i beth ddigwyddodd yn yr etholiad yna, y refferendwm, yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid cael ymateb cryf a rhaid dangos ein bod ni fel gwleidyddion yn gallu sefyll lan am beth sydd yn iawn. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Felly, gohiriwn yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llygredd Aer

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.

Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar lygredd aer. Galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig. David.

Cynnig NDM6050 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rhan y mae llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru.

2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi wyth y cant yn fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn credu bod tua 29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer.

3. Yn mynegi pryder ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng Nghrymlyn, yng Nghaerffili, y mae’r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi’u cofnodi y tu allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriad gan GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai, gyda’ch caniatâd, y caf ymddiheuro i Sian Gwenllian, sy’n dal i fod yn y Siambr, am gael ei henw’n anghywir yn gynharach. Esgusodwch fi—mae’n flin iawn gennyf.

Mae angen i ansawdd aer fod yn flaenoriaeth uchel yn y pumed Cynulliad hwn. Nid yw ar hyn o bryd yn ymddangos fel cyfrifoldeb Cabinet penodol. Edrychais ar restr cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw yno, er gwaethaf hyd y rhestr. A chyn i mi ddisgyn yn ôl i bwll o hunanfodlonrwydd o ryw fath, ni chafodd llygredd aer lawer o sylw yn ystod ymgyrch etholiadol y Cynulliad, ac nid wyf yn credu iddo ymddangos yn benodol ym maniffesto unrhyw un o’r pleidiau. Felly, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn yr un categori efallai o beidio â rhoi’r flaenoriaeth y mae’n ei haeddu i hyn. Ond mae llygredd aer yn allweddol i iechyd y cyhoedd ac mae’n her wirioneddol oherwydd er bod llawer o ddatblygiadau wedi’u gwneud ar ôl 1970, yn bennaf y newid o lo i nwy, rydym wedi colli tir ers canol y 2000au, wrth i ni weld y defnydd o ddiesel, yn arbennig, yn cynyddu o safbwynt traffig modur.

Yng Nghymru y ceir peth o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Yn ddiweddar, roedd Crymlyn yn y newyddion oherwydd bod ei lefelau llygredd yn uwch nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig ac eithrio Marylebone Road yn Llundain. Fel arfer, pe baem yn cael ein cymharu â Marylebone byddwn yn hapus, ond yn yr achos hwn roedd yn ddigalon iawn. A bellach mae gennym y fantais o ddatblygiadau ymchwil sy’n dangos y niwed a achosir gan lygryddion aer. Efallai ein bod mewn sefyllfa debyg i’r un roeddem ynddi flynyddoedd yn ôl gydag ysmygu goddefol. Yn wir, rwy’n meddwl bod llygredd aer, yn gyffredinol, yn fwy o risg yn ôl pob tebyg, ac amcangyfrifir y gellir priodoli dros 1,300 o farwolaethau bob blwyddyn mewn rhyw ffordd berthnasol i ansawdd aer gwael yng Nghymru. Felly, mae hynny’n arwyddocaol dros ben.

Mae llygredd aer yn deillio’n bennaf o weithgarwch dynol, drwy gerbydau, diwydiant ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, ychydig iawn o reolaeth sydd gan unigolion dros eu cysylltiad eu hunain ag ef. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un ohonoch erioed wedi gwylio fideo sy’n dangos llif llygredd aer a deunydd gronynnol, yn arbennig, o gwmpas ardaloedd ac adeiladau trefol. Mae ei faint a’i ddwysedd yn wirioneddol syfrdanol. Rhaid i mi ddweud, pan welais ef am y tro cyntaf, roeddwn wedi fy synnu’n fawr iawn. Nid oes rhaid i chi fod ar ben pibell wacáu i ddioddef y llygredd ac anadlu deunydd gronynnol yn ddwfn i’ch ysgyfaint.

Mae nifer yr achosion o lygredd aer yn uwch yng Nghymru nag yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Dylid dweud, fodd bynnag, ei fod yn is nag yn Lloegr. Caerdydd yw’r ardal fwyaf llygredig yng Nghymru gyda chrynodiad deunydd gronynnol o 9.5. Rwy’n newydd i’r briff hwn—peidiwch â gofyn i mi 9.5 mewn beth. [Chwerthin.] Efallai na ddylwn fod wedi cyfaddef hynny. [Chwerthin.] Mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru, sef crynodiad o 7.5. [Torri ar draws.] A, gyda rhyddhad mawr, rwyf am ildio i’r Aelod bonheddig dros Aberafan.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. 9.5 ar raddfa o 10 ydyw, rwy’n meddwl. Ceir graddfa a ddyrennir, ac mae’n 9.5 ar y raddfa honno. Felly, dyna’r gwerth uchaf.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod. Ac mae nifer yr achosion o lygredd drwy nitrogen ocsid i’w weld yn cynyddu, gydag wyth allan o 10 o safleoedd monitro yng Nghymru yn cofnodi cynnydd y llynedd.

Rwyf eisiau troi at rai o’r effeithiau ar iechyd, gan fod deunydd gronynnol a anadlir a chysylltiad â nitrogen ocsid yn achosi cynnydd sylweddol mewn afiachusrwydd. Cyfrifir ei fod yn lleihau disgwyliad oes rhwng saith ac wyth mis ar gyfartaledd. Wrth gwrs, ceir llawer iawn o grwpiau agored i niwed sy’n dioddef risgiau llawer mwy i’w hiechyd, pwynt a wnaed yn fwy cadarn yn eithaf diweddar gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, a chymeradwyaf eu gwaith ar hyn i Aelodau’r Cynulliad.

Mae pob math o niweidiau i iechyd sy’n digwydd i gymdeithas yn costio’n ddrud, ac maent hefyd yn achosi niweidiau eraill o ran y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, effeithiolrwydd yr economi a busnes wrth i ddyddiau gwaith gael eu colli oherwydd salwch. Ac yn wir, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn amcangyfrif bod y gost i’r DU y gellir ei phriodoli i lygredd aer oddeutu £20 biliwn y flwyddyn. Mae’n destun syndod yn wir.

Rwyf am droi yn awr at sut y mae sicrhau aer glanach, ac mae wedi bod yn her. Hynny yw, daeth i sylw yn gyntaf yn y 1950au, ac fel y dywedais, erbyn 1970 roeddent wedi dechrau gwneud cynnydd sylweddol iawn, ond efallai yn yr oes fodern yn awr, gyda’r cynnydd cyflym yn y defnydd o geir ac yn amlder eu defnydd, mae’n rhywbeth y mae angen rhoi sylw penodol iawn iddo. A dylwn ddweud hefyd—nid wyf yn hoffi troi at y pwynt hwn yn arbennig—ond ym Mhrydain ar ôl gadael Ewrop, mae angen i bob Llywodraeth gydweithredu er mwyn gwella ansawdd aer—pob Llywodraeth yn y DU. Ceir cyfrifoldebau a rennir ar draws y gwahanol Lywodraethau. Ac wrth gwrs, gall yr hyn rydym ni’n ei wneud effeithio ar rannau eraill o’r DU, felly mae’n bwysig dros ben. Ni ddylid colli’r canllawiau a’r rheoliadau deddfwriaethol sydd wedi sefydlu yn yr UE ar hyn o bryd, ac yn y gwaith sy’n dilyn yn awr, wrth i ni ddatod ein haelodaeth o’r UE, mae’n bwysig iawn fod y mesurau diogelwch hynny’n cael eu parhau a lle bo’n briodol, yn cael eu gosod yn ein fframweithiau rheoleiddiol a chyfreithiol ein hunain.

Rwy’n credu hefyd o ran Prydain yn gadael Ewrop, mae angen ystyried dyfodol y metro yn ofalus iawn. Yn fy marn i, mae help gyda’r prosiect hwn yn rhywbeth y gallwn, yn ddigon teg, ei ddwyn i sylw Llywodraeth y DU a dweud, ‘Mae hyn yn allweddol i gynnydd ein heconomi yn ne Cymru, ond yn arbennig i iechyd a lles a chyfleoedd i bobl drwy gludiant cyhoeddus.’

Ac mae angen monitro ansawdd aer yn well hefyd, yn enwedig yn 36 ardal rheoli ansawdd aer Cymru, ac yn benodol, rwy’n meddwl, monitro ansawdd aer ger ysgolion. Mae effaith llygredd aer ar bobl ifanc yn arbennig o ddifrifol.

Rhaid i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth ansawdd aer genedlaethol yn effeithiol, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn rhoi llawer o sylw iddo ym Mhlaid Geidwadol Cymru. Ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y Gweinidog yn rhoi llawer o sylw i hyn yn ogystal, o ran lle bydd rhaid cryfhau’r fframwaith polisi cyffredinol yn awr ar gyfer bwrw ymlaen â chanlyniadau Prydain yn gadael Ewrop.

Mae yna gyfleoedd i’w cael. Cafwyd rhai datblygiadau sy’n creu cyfleoedd go iawn ar gyfer dyfodol ansawdd aer a’r gwaith o’i wella. Trof at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. O roi honno ar waith yn eang, os bydd awdurdodau lleol yn benodol yn defnyddio’r dulliau sydd ynddi, yna rwy’n meddwl y gallem weld gostyngiad amlwg yn y defnydd o gerbydau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol—yng nghanol ardaloedd trefol—a phobl yn manteisio ar gyfleoedd i gerdded a beicio, a fydd yn arwain at fanteision iechyd uniongyrchol iddynt, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer rydym i gyd yn ei anadlu. Felly, ceir manteision dwbl o ran y datblygiadau y gallwn eu gwneud.

Rwy’n meddwl hefyd ein bod yn wynebu’r her ehangach o ailddylunio ein mannau trefol, ac efallai fy mod yn llithro ychydig yma o fod yn llefarydd y Ceidwadwyr i sôn am un o’r pethau sy’n ennyn fy mrwdfrydedd. Yn y bôn, mae yna ormod o geir mewn mannau trefol. Rwy’n credu y bydd y genhedlaeth nesaf yn edrych yn ôl a meddwl, ‘Sut ar y ddaear y gwnaethant ganiatáu i’w hamgylchedd trefol, yn enwedig y rhannau mwyaf gwerthfawr ohono o amgylch ysgolion a chanol dinasoedd, gael ei oresgyn gan y defnydd o geir neu, yn fwy cyffredinol, cerbydau?’ Hynny yw, mae gennyf gar—. Roeddwn bron â dweud ‘Mini Metro’. Fiat 500 ydyw, sef yr un genre, efallai. Prin y byddaf yn gyrru 5,000 o filltiroedd y flwyddyn, ond mae llawer o bobl angen defnyddio’u car yn amlach. Ond beth bynnag sy’n ddefnydd priodol o’r car, gall pobl fanteisio ar gyfleoedd eraill, yn lle’r car, pan fyddant ar gael. Yn sicr, mae angen i ni gynllunio ein hardaloedd trefol fel y gall pobl barcio mewn ardaloedd lloeren ac yna defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i mewn i ganol trefi. Mae angen i ni ddiwygio’r ffordd y mae plant yn mynd i’r ysgol a cheisio datrys y daith i’r ysgol a sut y mae hynny wedi dominyddu’r genhedlaeth bresennol pan nad oedd byth yn digwydd o’r blaen. Mae yna bethau pwysig sydd angen i ni eu gwneud, a byddant yn creu ffyrdd i ni allu gwella ansawdd cyffredinol yr amgylchedd a bywyd.

Rwyf hefyd yn credu bod angen hyrwyddo dewisiadau amgen uniongyrchol yn lle defnyddio ceir, ac fel y dywedais yn gynharach, dyma pam y mae’r metro mor bwysig. Rwy’n ddefnyddiwr brwd o’r bws, o’r trên; rwy’n aml yn cerdded i’r Cynulliad; weithiau mae’n rhaid i mi yrru. Dylai hwnnw fod yn broffil nodweddiadol i ddinasyddion. Ni ddylai fod yn anarferol. Dyna sut y dylem i gyd fod yn teithio, yn sicr mewn ardaloedd trefol.

Mae pob fan fawr yn y DU yn rhedeg ar ddiesel. Nawr, sut y cyraeddasom y fan honno? Mae rhai o’r cerbydau hynny’n llygru’n ofnadwy—yn llygru’n weladwy. Mae’n rhyfeddol cymaint o faw du sy’n dod allan o’r cerbydau hynny. Mae dewisiadau eraill ar gael—mae nwy petrolewm hylifedig, er enghraifft, yn bodloni rhai mesurau amgylcheddol. Gwn fod rhywfaint o oblygiadau carbon yn gysylltiedig ag ef, ond mae’n arwain at aer glanach, a cheir rhwydwaith da ar waith ar gyfer defnyddio nwy petrolewm hylifedig. Felly, gellid ystyried hynny. Gallai fflydoedd tacsis hefyd redeg ar nwy petrolewm hylifedig. Mae yna ffyrdd pendant y gallem wella ansawdd aer yn y cyfeiriad hwnnw hefyd. Mae angen i awdurdodau lleol weithredu’n bendant pan welir, a phan gofnodir bod lefelau llygredd aer yn rhy uchel. Mae angen iddynt fod yn fwy gweithgar.

Yn olaf, a gaf fi ddweud bod angen dealltwriaeth well ymysg y cyhoedd er mwyn i ni allu symud ymlaen gyda chydweithrediad llawn? Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu eu bod yn sylweddoli’n llawn beth yw’r effeithiau niweidiol i iechyd na’r effeithiau niweidiol i’r economi. Felly, mae rhywfaint o waith i ni ei wneud yn y pumed Cynulliad. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig y ddau welliant—1 a 2—a gyflwynwyd yn ei enw. Simon.

Gwelliant 1—Simon Thomas

Cynnwys fel pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn condemnio arferion rhai gwneuthurwyr ceir o leihau allyriadau gronynnau o danwydd diesel yn artiffisial a chamarwain defnyddwyr.

Gwelliant 2—Simon Thomas

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am lwybrau beicio a cherdded diogel i alluogi pobl i wella eu hiechyd ac amgylchedd drwy deithio llesol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i David Melding am agor y drafodaeth yma. Mae’n drafodaeth hollol bwysig, fel y mae ef wedi amlinellu. Mae’r cyswllt bellach rhwng llygredd awyr ac iechyd yn un cadarn ac un mae’n rhaid i weithredu yn ei gylch. Rwy’n sefyll fel rhywun—. Gan ein bod ni’n cyfaddef pa gar sydd gennym ni, mae gen i gar diesel. Pan brynais i’r car bum mlynedd yn ôl, nid oedd sôn am y ffaith fod allyriadau o geir diesel mor ddinistriol i iechyd. Y stori oedd yn cael ei werthu i gwsmeriaid oedd bod diesel yn well i’r amgylchedd oherwydd newid hinsawdd a charbon deuocsid. Rydym nawr yn gwybod bod nitrogen deuocsid yn llawer mwy peryglus i’n hiechyd ni yn uniongyrchol. Prynais i gar diesel hefyd, mae’n ymddangos yn awr, oherwydd bod y bobl a oedd yn gwneud y car yna wedi dweud celwydd noeth wrth y bobl a oedd yn prynu’r ceir, ac wedi ‘engineer-o’ a pheiriannu’r car mewn ffordd artiffisial. Er enghraifft, rwyf yn awr yn deall bod yr injan sydd gyda fi yn y car, os yw’n oerach yng Nghymru na 18 gradd Celsius—ac mae’n aml yn oerach na 18 gradd Celsius yng Nghymru—yn ‘switch-o’ i rywbeth sydd llawer yn fwy dinistriol o ran llygredd awyr. Nid oedd hynny’n cael ei esbonio nac yn cael ei egluro wrth bobl ar y pryd.

Rŷm ni hefyd yn deall yn awr, gan fod yr WHO newydd ddod i benderfyniad, bod allyriadau o injan diesel yn carsinogen grŵp 1—hynny yw, yr un mwyaf peryglus oll. Felly, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hwn. Mae yna anghytuno ond ynglŷn â’r nifer. Mae’r WHO yn dweud bod rhywbeth fel 29,000 o’r marwolaethau bob blwyddyn ym Mhrydain yn cael eu cysylltu â llygredd awyr. Mae’r British Lung Foundation yn dweud ei fod cymaint â 40,000 y flwyddyn. Ond mae pob un yn cytuno ei fod llawer yn fwy nag sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd eu hunain; hynny yw, mae llygredd awyr o beiriannau diesel yn benodol yn lladd mwy o bobl yn y Deyrnas Gyfunol na damweiniau ar y priffyrdd eu hunain. Mae’n rhaid, felly, mynd i’r afael â hwn.

Mae rhai o’r atebion, i fod yn deg, wedi cael eu hamlinellu gan David Melding. Byddwn innau eisiau gweld Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei defnyddio llawer mwy i hybu pobl i gerdded nid jest i ysgolion ond i’r gwaith, ac i seiclo llawer mwy. Mae’n wir dweud, yn nifer o’r trefi a’n hardaloedd maestrefol ni, ei bod hi’n anodd cerdded a seiclo oherwydd yr ansawdd awyr. Mae’n anodd iawn seiclo mewn dinasoedd ac mewn trefi mawr oherwydd yr ansawdd awyr hynny. Byddwn i, felly, am ein gweld ni’n arbrofi llawer yn fwy yng Nghymru.

Rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd David Melding ynglŷn ag ailedrych ar ein canol trefi ni. Mae’n rhaid inni gynllunio bod y person yn dod o flaen y car yng nghanol ein trefi. Mae’n rhaid inni edrych ar ddinasoedd a threfi mawr eraill sydd wedi arbrofi gyda diwrnodau heb gar a chyda pharthau heb gar—trefi yr wyf wedi ymweld â nhw yn bersonol, fel Amsterdam, lle mae’r beic a’r cerddwr bob tro yn dod o flaen y car, a lle mae pobl yn symud yn rhwydd iawn. Y tu fas i orsaf drenau Amsterdam, mae’r lle parcio beics llawer yn fwy na’r lle parcio ar gyfer ceir. Dyna beth fedrwn ni ei wneud yng ngogledd Ewrop. Mae’n rhywbeth sy’n cael ei wneud gan wledydd wneud reit debyg i ni, ac yn rhywbeth fedrwn ni ei gyrraedd a’i gyflawni yma yng Nghymru.

I think the final point to make is that although we are in breach of these rules in some 38 zones in the United Kingdom, and some of them in Wales, currently, air quality is directed by European legislation. The air quality directive is EU law. It’s not imposed on us, by the way; we signed up to it happily. It’s not been imposed; we agreed with it. The UK Government is, time and time and time, in breach of this directive. I don’t want us to throw out the directive as we leave the European Union. What is needed is for the new UK Government that’s likely to come about in the autumn to recommit to the principles of the directive and to the principles of air quality control, and do better in the future to meet those principles than they have in the past.

This is an important debate. Air pollution is killing more of our citizens prematurely than road accidents do. I think we need to rethink the way we engineer our towns and cities and our transport systems to ensure that the elimination of air pollution is foremost amongst the targets that that achieves. The final thing today in those contexts, of course, is to say that a new M4 around Newport will do nothing whatsoever to help us achieve that aim.

Mae astudiaethau wedi dangos y perygl i iechyd y cyhoedd sy’n dilyn o ddod i gysylltiad dro ar ôl tro â llygredd aer. Mae llygredd aer yn cynyddu’r risg o farwolaethau o gyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlol. Mae’r risg yn arbennig o ddifrifol i blant, gyda’u cysylltiad yn gysylltiedig â diabetes, gweithrediad gwybyddol, canlyniadau geni a niwed i’r afu a’r arennau. Testun pryder, felly, yw nodi mai yng Nghymru y ceir rhai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig. Ceir cysylltiad clir rhwng llygredd aer, amddifadedd ac iechyd.

Mae rhai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru. Yn Nhorfaen, er enghraifft, mae 18 y cant o’r oedolion yn cael triniaeth at salwch anadlol. Ym Mlaenau Gwent, mae’r ffigur yn 17 y cant. Ledled ardaloedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan gyda’i gilydd, mae 15 y cant o’r oedolion yn cael triniaeth at broblemau anadlu. Yn ddiweddar, testun pryder i mi oedd darganfod mai’r A472 rhwng Pont-y-pŵl a Chrymlyn sydd â’r lefel uchaf o nitrogen deuocsid fel y mae fy nghyd-Aelod, David Melding, newydd ei grybwyll; mae’n uwch nag yn ymyl Madame Tussauds yn Llundain. Yn wir, roedd y lefel a gofnodwyd yn 2015 a 2016 yn uwch nag yn unman arall ar wahân i ganol Llundain, fel y dywedodd yn gynharach.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, mae gan awdurdodau lleol—Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn yr achos hwn—ddyletswydd i adolygu ansawdd aer lleol ac asesu a fydd amcanion ansawdd aer sy’n seiliedig ar iechyd yn cael eu cyflawni. Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddodd Caerffili ardal rheoli ansawdd aer, a chynhaliwyd asesiad pellach y llynedd. Unwaith eto, cadarnhawyd lefelau gormodol o lygredd aer. O ganlyniad, roedd y cyngor angen cynllun gweithredu ansawdd aer cyflawn ar gyfer yr ardal. Rwy’n deall eu bod ar hyn o bryd yn ymgynghori â phreswylwyr lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill i gael mewnbwn i’r gwaith o gynhyrchu’r cynllun. Amcangyfrifir y bydd cynllun gweithredu drafft yn barod ar gyfer ymgynghori yn ei gylch ym mis Tachwedd eleni, Weinidog. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn wir, ac a fydd hi’n gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio’r holl opsiynau ar gyfer gostwng lefelau llygredd aer i lefelau diogel?

Lywydd, mae llygredd aer yn cyfrannu at dros 1,500 o farwolaethau yng Nghymru. Mae’n amlwg fod angen i ni ddatblygu strategaeth allyriadau effeithiol a chydlynol i leddfu’r senario marwol hwn. Eisoes, mae gennym y Ddeddf Teithio Llesol i wella llwybrau cerdded a beicio er mwyn annog ffyrdd o fyw iachach ac i leihau llygredd yng Nghymru. Mae gennym y Lleoedd Tawelach Gwyrddach a Glanach, a chynlluniau grant i gefnogi prosiectau awdurdodau lleol i wella ansawdd aer, megis newidiadau i lif traffig ym Merthyr Tudful a phlannu coed ar wastadeddau Gwent. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn monitro cyllid y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r gwelliant y mae pawb ohonom yn ei ddymuno i ansawdd aer yng Nghymru.

Fel y mae cyfranwyr cynharach eisoes wedi sôn, mae yna gamau penodol i’w rhoi ar waith: dylid stopio rhai ceir a cherbydau nwyddau trwm rhag mynd i ardaloedd lle y ceir tagfeydd ac ardaloedd poblog iawn yn y rhan hon o’r byd. Hefyd, un maes y byddwn yn hoffi holi’r Gweinidog yn ei gylch yw hwn: yn Llundain, pan fyddwch yn mynd yno, ceir cymaint o gilfachau sydd â beiciau i’w llogi yng nghanol Llundain gan wahanol fanciau. Felly, pam na allwn gael rhai o’r ardaloedd hyn yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, ac yn y gogledd, yn ardal Wrecsam, lle y gall rhai o’r banciau roi beiciau i bobl eu llogi mewn ardaloedd prysur yng Nghymru hefyd? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Lywydd—Ddirprwy Lywydd, mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Gall llygredd aer niweidio ein hiechyd yn fawr iawn, fel y crybwyllodd nifer o’r siaradwyr eisoes. Mae’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o gyflyrau anadlol a llidiol, wrth i ronynnau, gan gynnwys sylffadau, nitradau a charbon du, dreiddio i’r system gardiofasgwlaidd. Mae’n effeithio’n arbennig ar y rheini sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.

Ceir tystiolaeth hefyd y gall cysylltiad estynedig arwain at glefyd difrifol y galon a’r ysgyfaint ac ar adegau, canser. Llygredd aer yn yr awyr agored yw’r lladdwr mwyaf yn fyd-eang bellach, gyda thros 3 miliwn o bobl—ac rwy’n gwybod bod David Melding wedi tynnu sylw at y rhai yng Nghymru—mwy na HIV/AIDS a malaria, felly gallwch weld ar ba lefel rydym ni. Wrth i ansawdd aer trefol ddirywio, mae’r risg i unigolion sydd â’r cyflyrau hyn eisoes yn codi.

Mae Dr Flavia Bustreo o Sefydliad Iechyd y Byd, cyfarwyddwr cyffredinol cynorthwyol ar gyfer iechyd teuluoedd, menywod a phlant, wedi dweud:

Mae llygredd aer yn un o brif achosion afiechyd a marwolaeth. Mae’n newyddion da fod mwy o ddinasoedd yn gweithredu i fonitro ansawdd aer, felly pan fyddant yn cymryd camau i’w wella, bydd ganddynt feincnod... Pan fo aer brwnt yn gorchuddio ein dinasoedd, y poblogaethau trefol mwyaf agored i niwed—y rhai ieuengaf, y rhai hynaf a’r rhai tlotaf—yw’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf.

Mae ansawdd aer yn fy etholaeth a fy nhref enedigol, Port Talbot, yn aml yn y penawdau oherwydd y lefelau uchel o lygredd, neu’n fwy cywir efallai, lefelau uchel o ronynnau, sydd o bryd i’w gilydd yn cyrraedd mor uchel â 9—nid 9.5, ond 9—ar y raddfa, ond mae wedi cyrraedd hynny ar fwy na 10 achlysur mewn gwirionedd. Ceir terfyn uchaf o 40 achlysur mewn blwyddyn na ddylid ei groesi ac rydym yn cyrraedd 25 y cant o’r terfyn hwnnw. Mae hynny’n gwbl annerbyniol.

Wrth gwrs, tref ddiwydiannol yw Port Talbot yn bennaf, ond mae ganddi hefyd yr M4, prif gefnffordd, yn rhedeg drwy lain arfordirol gul iawn. Os ydych yn gyfarwydd â Phort Talbot, fe wyddoch ei bod yn llain gul iawn, a gwyddoch hefyd fod mynyddoedd ar un ochr, felly effeithir ar lif yr awyr yn amlwg o ganlyniad i hynny.

Mae’r cyngor a Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau ar waith i fonitro allyriadau llygryddion uchel, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio rheoliadau cyffredinol, gan gynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, tra bo fforwm ansawdd aer penodol ar gyfer Cymru yn mesur prif ddangosyddion ansawdd aer ledled Cymru. Mae hynny’n newyddion gwych. Ond o weld nad yw peth o’r data diweddaraf a gyhoeddwyd ond yn cyrraedd 2013, gofynnaf i’r Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, i gwmpasu a diweddaru canllawiau, yn enwedig yn sgil cyhoeddi astudiaeth hydredol gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ddiweddar, a ddangosai fod llygredd aer yn yr awyr agored wedi cynyddu 8 y cant yn fyd-eang dros y pum mlynedd diwethaf.

Nododd Sefydliad Iechyd y Byd hefyd mai Port Talbot yw un o’r trefi yr effeithiwyd arni waethaf yn y DU. Nodwyd mai hi yw’r dref waethaf yn y DU o ran allyriadau PM10, ac nid oedd fawr gwell o ran allyriadau PM2.5, felly rwy’n bryderus iawn ynglŷn â goblygiadau hynny i iechyd fy etholwyr os na fyddwn yn cynyddu ein hymdrechion i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau PM10 a PM2.5.

Mae deddfwriaeth amgylcheddol y 25 mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad parhaus yn lefelau llygredd niweidiol yng Nghymru ac yn ehangach ledled Ewrop. Rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am barhau i ymrwymo i wella ansawdd aer a chwilio am ffyrdd o ddatblygu a chyflymu’r ffordd y rheolir llygredd aer, nid yn unig er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, ond hefyd i wella iechyd pobl yng Nghymru.

Yn wyneb canlyniad refferendwm yr UE, dylai effaith amgylcheddol strategaeth ‘gadael’ hefyd fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom yma yn y Siambr. Bu’r UE yn diogelu cydymffurfiaeth ac yn cynhyrchu rheoliadau ynglŷn â materion megis ansawdd aer a lefelau diogel ers degawdau lawer. Rhaid i ni beidio â cholli manteision y canllawiau cyffredinol allweddol hyn, megis cyfarwyddeb allyriadau diwydiannol 2010, cyfarwyddeb fframwaith ansawdd aer 2008, a chyfarwyddeb atal a rheoli llygredd integredig 2006, i enwi tri yn unig. Yn y trafodaethau sydd i ddod gyda’r UE, mae’n rhaid i ni sicrhau bod pryderon amgylcheddol ar flaen yr agenda. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i droi at Ewrop am gyfarwyddyd ac arweiniad ar y materion hyn, a sicrhau bod diogelu iechyd ein poblogaeth bresennol a’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i fod yn rhan annatod o bolisi ac ymarfer llywodraethol. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad cynaliadwy a sylweddol yn ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus, a llwybrau teithio llesol i annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref cymaint ag y bo modd.

Rhaid i ni edrych hefyd ar gynlluniau sy’n lleihau allyriadau, yn enwedig mewn datblygiadau diwydiannol, boed hynny drwy fwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy, rhywbeth rydym yn gryf o’i blaid yma yng Nghymru, neu drwy gynlluniau sy’n adeiladu ar ddatblygiadau ailgylchu, megis y pwerdy arfaethedig yn y gwaith dur ym Mhort Talbot, sy’n ymwneud mewn gwirionedd â defnyddio nwyon gwastraff, felly rydych yn lleihau’r allyriadau ac yn creu budd ohonynt. Rydych yn lleihau allyriadau ddwywaith mewn gwirionedd, oherwydd eich bod yn lleihau’r allyriadau o’r nwyon gwastraff, ond rydych hefyd yn lleihau allyriadau o gynhyrchu trydan ychwanegol, gan ei fod gennych: sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu byrdymor yn 2013 ar gyfer Port Talbot, wedi’i anelu’n benodol at dorri allyriadau PM10, ac mae’n dal yn weithredol. Mae angen i ni ei adolygu, ei foderneiddio, a dysgu ohono er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau, nid yn unig ar gyfer Port Talbot, ond ar gyfer Cymru gyfan.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Efallai y dylwn ddatgan diddordeb mewn cefnogi gwelliant 1, ar ôl cael y llythyr a ofnwyd gan Volkswagen yn ddiweddar mewn perthynas â fy nghar fy hun.

Os byddaf yn gadael ffenestr fy ystafell wely ar agor dros nos yn fy nghartref yn Abertawe, byddaf yn deffro gyda pheswch smygu, ond wrth gwrs, nid peswch smygu ydyw, peswch Port Talbot ydyw. Mae’n fy nghyrraedd ar draws y bae o ran o fy rhanbarth—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:14:00

A ydych yn amddiffyn yr aer drwg?

Rwy’n amddiffyn yr aer drwg yn yr ystyr fod yna nifer fechan iawn o achlysuron pan fydd y gwynt yn chwythu i gyfeiriad Abertawe; daw’n bennaf oddi ar yr arfordir i Bort Talbot.

Wel, mewn gwirionedd, yn gynharach, fe ddywedoch fod y mynyddoedd y tu ôl i Bort Talbot yn ei wthio i gyd i fy nghyfeiriad i. Ond gallaf ddweud wrthych mai dyna beth ydyw, beth bynnag. Mae David Rees eisoes wedi sôn am y problemau gyda Phort Talbot, ac nid oes arnaf eisiau tynnu gormod o sylw at y rheini. Efallai y dylwn gyfaddef, fodd bynnag, fy mod yn cyfrannu at yr ansawdd aer gwael pan fyddaf yn gyrru fy nghar sy'n ddadchwythedig yn artiffisial i Abertawe bob dydd. Pan fyddaf yn gwneud hynny, rwy’n pasio un—neu ddau, rwy’n meddwl—o’r chwe bwrdd negeseuon electronig sy’n nodwedd ryfedd o dirlun dinas Abertawe. Arwyddion yw’r rhain a gynlluniwyd i fynd â data o 47 gorsaf fonitro o gwmpas y ddinas, gan nodi ym mha ardaloedd y mae lefelau llygredd yn codi’n rhy uchel ar unrhyw adeg, ac ailgyfeirio traffig lleol wedyn i osgoi’r ardaloedd problemus, neu’r ardaloedd pesychlyd hynny. Nid wyf yn siŵr os ydynt i fod i leihau llygredd aer ynddynt eu hunain, neu ein hamddiffyn rhagddo, oherwydd ar hyn o bryd, nid ydynt yn gwneud y naill neu’r llall. Nid yw’r arwyddion hyn, a gostiodd £100,000 i Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012, yn gweithio.

Fis diwethaf, nododd Sefydliad Iechyd y Byd fod lefelau llygredd aer yn Abertawe—nid Port Talbot, yn unig—bellach yn codi’n uwch na’r canllawiau ar ansawdd aer yr amgylchedd, ac er ei fod yn enwi Port Talbot, nid wyf yn credu bod y wobr am y dref fwyaf llygredig yng Nghymru yn un y dylem ymladd amdani, hyd yn oed yn erbyn Crymlyn. A bod yn onest, nid wyf yn credu bod angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarganfod cydberthynas uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn clefydau anadlol—er ei bod yn braf cael cadarnhad o’r hyn sy’n amlwg wrth gwrs. Mae clefydau anadlol yn arbennig o gyffredin ymysg pobl hŷn yng Nghymru, a chynghorodd DEFRA y llynedd, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau’r galon a’r ysgyfaint, dylid ymdrechu mwy i’w gwneud yn ymwybodol o effaith llygredd aer yn eu hamgylchedd eu hunain.

Bu farw cyfanswm o 29,776 o bobl o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn 2012 yn y DU. Rwy’n meddwl ei fod yn nifer go uchel, beth bynnag, ond roedd 27,000 o’r rheini dros 65 oed. Caiff dros 45,000 o bobl yng Nghymru eu derbyn i’r ysbyty bob blwyddyn â chyflyrau anadlol megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chanser yr ysgyfaint, a gydag iechyd pobl hŷn—sydd eisoes yn creu heriau cymhleth i’r GIG—yn fwy tebygol o gael ei effeithio gan lygredd ac ansawdd aer isel, yn sicr mae dadl gref, onid oes, y byddai strategaeth allyriadau isel clir ac effeithiol ar gyfer Cymru, wedi’i rhoi ar waith yn briodol, yn lleihau’r effaith ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru—nid yn unig o ran yr £20 biliwn a grybwyllwyd gan un o’r siaradwyr yn gynharach, ond o ran lleihau profiadau personol gwael i lawer o bobl hŷn sydd ag amrywiaeth o gyflyrau cyd-forbid.

Rwy’n credu’n gryf y dylai pobl fod yn rhan o’r broses o ddatrys eu problemau eu hunain. Cymerwch y diweddar, yn anffodus, a’r anhygoel, Margaret Barnard o grŵp Anadlu’n Rhydd Cwm Nedd, a gafodd ddiagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn ôl yn 2005, ac a dreuliodd 10 mlynedd nesaf ei bywyd yn gweithio gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefydau anadlol a’u hachosion, ac yn ymladd am welliannau i ddyluniad ocsigen cludadwy. Llwyddodd hefyd i wneud i mi abseilio a threchu ofn uchder er mwyn codi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, felly dyna pa mor berswadiol oedd hi.

Ond weithiau, mae’n rhaid i’r Llywodraeth arwain—ac rwy’n credu bod hwn yn un o’r achlysuron hynny. Wrth gwrs, er bod angen i ni i gyd reoli ein hymddygiad ein hunain, er mwyn osgoi amrywiaeth o glefydau a chyflyrau wrth i ni fynd yn hŷn—bwyta’n well, gwneud mwy o ymarfer corff, rhoi’r gorau i smygu ac yn y blaen—nid yw mor hawdd rheoli ein cysylltiad ag ansawdd aer gwael. Oherwydd nid yw un car trydan—gadewch i ni fod yn realistig—yn gwneud y gwahaniaeth. Mae hyn yn galw am weithredu ar lefel y boblogaeth ac rwy’n credu y dylai pob Llywodraeth yn y DU edrych ar draws y byd, nid ar Ewrop yn unig, i gael ysbrydoliaeth ar hyn, nid yn unig ynglŷn â beth i’w osgoi, ond hefyd, wrth gwrs, beth i’w fabwysiadu. Rwy’n gwybod bod peth amser ers hynny, ond yn 1996, cyflwynodd Llywodraeth y DU grantiau PowerShift i gynorthwyo cwmnïau i addasu eu fflyd o gerbydau i nwy petrolewm hylifedig, sy’n creu 88 y cant yn llai o lygredd na diesel. Ond cafodd y cynllun ei ddirwyn i ben yn y 2000au, gyda’r canlyniad fod busnesau, ac aelodau o’r cyhoedd o bosibl, wedi troi eu cefnau ar nwy petrolewm hylifedig ac wedi newid yn ôl i betrol a diesel. A dim ond yn awr, tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, pan fo’r ceir hybrid a thrydan yn dod yn fwy cyfarwydd, y gwelwn fod hwnnw’n gyfle a gollwyd.

Er fy mod yn credu y gall trethi carbon fod yn rhan o’r ateb, mae defnydd rhy llawdrwm yn eu gwneud yn darged hawdd i’w feio, onid yw, pan fo diwydiannau’n wynebu trafferthion. Credaf y gall ysgogiadau i’n diwylliant gyrru ein helpu fel unigolion i wneud cyfraniad ystyrlon gan y boblogaeth gyfan i ansawdd aer gwell.

Rwy’n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw a diolch i David Melding am ei chychwyn. Fel y soniwyd eisoes, gwelwyd sefyllfa yng Nghrymlyn ar yr A472, wrth gwrs, lle mae rhai o’r allyriadau uchaf yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, mae’n fwy na darlleniad ar synhwyrydd yn unig—mae hyn yn ymwneud ag iechyd a lles pobl, ac mae gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd, ac i roi camau ar waith, yn wir, i ddiogelu eu hiechyd. Nid trafnidiaeth yn unig yw’r broblem yng Nghrymlyn; mae’n fater iechyd cyhoeddus yn ogystal. Yn anffodus, nid yw’r darlleniadau o’r allyriadau y cyfeiriwyd atynt yno wedi arwain eto at gynllun cynhwysfawr gan Lywodraeth leol na llywodraeth genedlaethol, er bod ymgynghoriad ar y gweill ar y gwaith hwnnw ar hyn o bryd, fel y mae Aelodau eraill wedi crybwyll. Yn wir, er fy mod yn nodi’r cynllun ffyrdd gwell yn yr ardal ers cofnodi darlleniadau’r synhwyrydd, rwy’n gwybod bod llawer o drigolion—rwyf wedi siarad â rhai ohonynt—yn pryderu y gallai’r cynllun newydd waethygu ansawdd yr aer mewn gwirionedd, o ganlyniad i’r cyflymder uchel y gall cerbydau ei gyrraedd bellach ar ôl lleddfu’r tagfeydd traffig.

Yn ei chyfraniad i’r ddadl hon heddiw, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried rhai pwyntiau. Yn gyntaf, a all ddweud wrthym a yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi, neu’n bwriadu, ymestyn eu gwaith monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig, a llygredd mewn dyfrffyrdd, yn enwedig mewn perthynas â llygredd traffig? Fel y dywedodd David Melding, mae hwn yn faes newydd i lawer ohonom, felly buaswn yn ddiolchgar pe na bai’r Aelodau’n gofyn i mi ailadrodd yr acronymau hyn eto. Bydd yr Aelodau hefyd yn deall bod y trigolion yng Nghrymlyn yn pryderu’n fawr iawn, nid yn unig am y broblem gyda llygredd aer, ond ynglŷn â dod o hyd i ateb i broblem ansawdd aer yn eu hardal. Yn y tymor byr, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob bws sy’n defnyddio’r llwybr drwy Grymlyn yn cael eu hannog naill ai i ddefnyddio bysiau allyriadau isel neu fysiau trydan hyd yn oed, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar unrhyw gynigion i ymestyn neu ddefnyddio cynllun bysiau allyriadau isel Llywodraeth y DU. Hefyd, rwy’n meddwl y gallai fod yn fuddiol i’r Llywodraeth gynnal uwchgynhadledd ar gyfer cludwyr er mwyn archwilio’r posibilrwydd o’u cynorthwyo i uwchraddio i gerbydau allyriadau isel neu gerbydau trydan yn y dyfodol. Mae’n hanfodol, mewn diwydiant sy’n wynebu anhawster, eu bod yn cael eu cynnwys a’u gweld yn rhan o’r broses o’n helpu i fynd i’r afael â phroblemau gyda llygredd aer yn y wlad hon.

Yn y tymor hwy, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno parthau allyriadau isel yng Nghymru ar fodel Llundain mewn ardaloedd o’r wlad hon sydd ag allyriadau uchel, gan ddechrau o bosibl mewn cymunedau megis Crymlyn fel cynlluniau peilot. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwy’n siŵr, am y cynlluniau rai degawdau yn ôl ar gyfer ffordd newydd i leddfu’r problemau penodol yng Nghrymlyn. Collwyd cynlluniau o’r fath yn dilyn diddymu Cyngor Sir Gwent yn y 1990au. Tybed a yw hi wedi cael trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y posibilrwydd o atgyfodi cynlluniau ar gyfer ffordd newydd yn ardal Crymlyn i leddfu’r problemau yn yr ardal breswyl ar fryn Hafodyrynys.

Lywydd, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd, ac yn sicr rhaid i unrhyw lywodraeth wneud cynnal a hyrwyddo iechyd a lles ei dinasyddion yn brif flaenoriaeth. Diolch yn fawr iawn.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl benodol hon am fy mod, wrth gwrs, yn dod o ardal lle mae ansawdd yr aer yn dda iawn, iawn mewn gwirionedd—ar arfordir gogledd Cymru. Yn wir mae mor dda fel ei fod yn arfer bod yn un o’r lleoedd hynny yr arferid buddsoddi yn eu gwasanaethau iechyd er mwyn gofalu am bobl yr effeithiwyd arnynt gan ansawdd aer gwael o lawer o’r dinasoedd mewn dyddiau a fu. Felly, roedd Ysbyty Abergele, er enghraifft, yn ysbyty a sefydlwyd i drin unigolion yn dioddef o TB a chyflyrau eraill yr ysgyfaint, oherwydd ansawdd rhagorol yr aer yn yr ardal honno. Ond gwn fod hon yn broblem i lawer o rannau eraill o Gymru. Fel David Rees, rwy’n cytuno bod yr UE, a’n haelodaeth ohono, wedi helpu i wella ansawdd aer mewn gwirionedd, a diolch byth am hynny. Mae’n amser hir ers i ni gael unrhyw beth tebyg i’r math o fwrllwch dinesig yr arferem ei weld fel cenedl, ac a laddai filoedd ar filoedd o unigolion bob blwyddyn. Roeddwn yn edrych ar un o’r dogfennau briffio ar gyfer y ddadl heddiw, a deall bod mwrllwch Llundain yn 1952 wedi lladd 12,000 o bobl, sy’n nifer anhygoel os meddyliwch am y peth. Felly, er ein bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, fel y dywedodd Simon Thomas yn ddigon cywir, mae’n frawychus ein bod yn dal i weld mwy o farwolaethau o lygredd aer ac o aer o ansawdd gwael nag o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Rwy’n credu y dylai hynny ysgogi pawb ohonom i fod eisiau gweld mwy o weithredu ar y mater hwn.

Mae llawer o bobl wedi cyfeirio at iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae effaith llygredd aer mewn gwirionedd yn dechrau cyn i rywun gael ei eni mewn gwirionedd. Felly, rydym yn creu baich i’r genhedlaeth nesaf yn y groth yn ystod beichiogrwydd tra bo’r ysgyfaint yn datblygu mewn gwirionedd oni bai ein bod yn mynd ati o ddifrif i oresgyn y broblem hon. Wrth gwrs, os oes gennych ysgyfaint nad yw wedi datblygu’n llawn—os nad yw capasiti eich ysgyfaint wedi datblygu’n llawn—mae hynny’n effeithio arnoch drwy gydol eich oes ac yn eich henaint, ac yn aml cafodd pobl sy’n byw gyda chlefydau cronig yr ysgyfaint eu magu mewn ardaloedd llawn mwg neu ardaloedd dinesig pan oeddem yn wynebu problemau gydag ansawdd aer mewn dyddiau a fu.

Nid oes neb hyd yn hyn wedi cyfeirio’n helaeth at lygredd aer dan do. Wrth gwrs, fe wyddom fod honno hefyd yn broblem ar draws Cymru ac yma yn y DU, ac nid yr hyn sydd yn y penawdau’n unig, megis gwenwyn carbon monocsid, sy’n dal i fod yn broblem yn llawer rhy aml yma yng Nghymru yn sgil y ffaith nad yw pobl yn trefnu archwiliad i’w cyfarpar nwy yn y cartref. Rwy’n meddwl hefyd mewn gwirionedd y gallem roi camau ar waith ar hynny drwy’r system reoleiddio, i wneud cyfarpar carbon monocsid yn ofynnol a phrofi offer yn y dyfodol yn yr un modd ag y mae gennym larymau tân yn ein cartrefi. Credaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen ei ystyried yn y dyfodol.

Nid oes neb ychwaith wedi crybwyll effaith asbestos yn rhai o’n hadeiladau cyhoeddus—ac rwy’n gwybod bod hwn yn fater y mae fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay wedi bod yn ei hyrwyddo yn y gorffennol—o ran gweddillion asbestos sy’n dal i fod yn bresennol mewn llawer o’n hysgolion yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni symud ymlaen i roi sylw iddo yn awr, o gofio bod asbestos wedi bod ar safle llawer o’r adeiladau hyn ers y 1960au. Heb sôn am y ffaith mai’r peth arall sy’n effeithio ar ansawdd aer dan do, wrth gwrs, yw cynnyrch glanhau, weithiau, a phethau syml fel ffresnydd aer, sy’n aml iawn yn achosi pethau fel asthma mewn pobl ag asthma a phroblemau eraill, a phobl sydd â chyflyrau ysgyfaint y gall pethau o’r fath eu gwaethygu. Felly, rwy’n credu bod llawer iawn y gallwn ei wneud drwy’r fframwaith rheoliadol yma yng Nghymru i ategu camau a roddir ar waith ar lefel y DU a thu hwnt i wella ein perfformiad. Hefyd, ni ddylem anwybyddu’r ffaith fod llawer o’r llygryddion aer hyn hefyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd. Mae hynny ynddo’i hun yn creu costau i bwrs y wlad o ran ceisio mynd i’r afael ag effaith newid yn yr hinsawdd, yn enwedig llifogydd, sydd wedi bod yn broblem fawr yma yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Mae un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, ar rôl coed i helpu i fynd i’r afael â llygredd aer. Gwyddom fod coed a llystyfiant, yn enwedig yn ein hardaloedd dinesig, nid yn unig yn ychwanegu at atyniad yr ardaloedd hynny, ond hefyd yn helpu i hidlo aer mewn modd cadarnhaol iawn ac yn effeithio’n gadarnhaol ar ansawdd aer yn ein trefi a’n dinasoedd. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried y pethau hyn wrth iddi ystyried datblygu’r strategaeth ansawdd aer yn y dyfodol.

Ymddengys bod ffocws y ddadl y prynhawn yma ar geir, diwydiant ac unigolion, yn bennaf, ac wrth gwrs dylid canmol ymdrechion synhwyrol i leihau allyriadau o’r ffynonellau hyn. Fodd bynnag, mae yna un llygrwr sy’n llawer mwy na cheir neu bobl.

Ceir oddeutu 90,000 o longau cargo ar foroedd y byd. Maent yn llosgi 7.29 miliwn o gasgenni y dydd o’r tanwydd butraf a mwyaf llygrol a adewir dros ben o’r broses puro olew. Mae’r peth mor fudr a thrwm fel y gallwch gerdded arno pan fo’n oer. Mae llongau cargo yn cynhyrchu 260 gwaith y llygredd sy’n cael ei gynhyrchu o geir yn y byd bob blwyddyn. Oherwydd hynny, gallai Cymru a’r DU gau pob cyfleuster sy’n cynhyrchu carbon a llygryddion eraill a thynnu pob car oddi ar y ffordd ac ni fyddai hyd yn oed yn creu tolc o ran faint o lygredd aer sy’n cael ei greu gan y llongau cargo hyn.

Mae llygredd aer yn broblem fyd-eang ac mae angen i Gymru a’r DU weithio gyda’r Sefydliad Morol Rhyngwladol a chyrff byd-eang eraill i annog gwaith ar ddatblygu a chyflwyno tanwydd amgen ar gyfer y llongau cargo hyn neu leihau’r llygredd mewn ffyrdd eraill, megis ei gwneud yn ofynnol i longau cargo gario offer technolegol megis sgwrwyr, cyfarpar trosi catalytig a datblygu ffynonellau ynni amgen. Fel arall, rydym yn ceisio gwagio’r cefnfor â gwniadur.

Gyda dealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd ansawdd aer diogel ar ansawdd bywyd ac ar iechyd a lles, dyma’n union pam roeddwn yn awyddus i siarad yn y ddadl hon, yn enwedig oherwydd y ffaith fy mod yn dioddef o asthma cronig, ac mae fy mab wedi bod yn yr ysbyty ar sawl achlysur oherwydd ei asthma. Mae yna anniddigrwydd ynglŷn â lefelau llygredd aer, a nodaf mai Crymlyn yng Nghaerffili sydd â’r lefelau uchaf a gofnodwyd y tu allan i Lundain o nitrogen deuocsid, sy’n ffactor allweddol. Mae Crymlyn yn fy etholaeth, sef Islwyn, ac o ran topograffeg, mae wedi’i leoli mewn cwm cyfyng, gyda llethrau uchel sy’n cynnwys ffyrdd prifwythiennol allweddol i gerbydau nwyddau trwm sy’n mynd i Lyn Ebwy, Caerffili, Torfaen a thu hwnt.

Fel Aelod newydd, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon tynnais sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y mater pwysig hwn, ac rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau allweddol ynglŷn â’r mater ac yn cyfarfod â hwy. Mae’n amlwg nad yw’n dderbyniol fod gan yr A472 yng Nghrymlyn, yn ôl data’r Llywodraeth, lefelau nitrogen deuocsid uwch nag unman ac eithrio Marylebone Road yng nghanol Llundain—gan gofio bod Llundain yn cynhyrchu mwy na’i chymedr blynyddol diogel o lefelau nitrogen deuocsid mewn wyth diwrnod yn unig. Rwyf am gofnodi’n gyhoeddus fy ngwerthfawrogiad o waith Andrew Lewis, cynghorydd Llafur Cymru sy’n cynrychioli Crymlyn ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae wedi bwrw iddi’n frwd i weithio ar ansawdd aer ar ran ei drigolion a chafodd sylw yn y ‘Caerphilly Observer’ yr wythnos diwethaf yn rhoi amlygrwydd cyhoeddus i’r mater hwn unwaith eto.

Roeddwn yn mynd i roi data a ffeithiau allweddol am glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma, ond mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at hynny. Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i weithio gyda’r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar falltod llygredd aer, a chefais fy sicrhau gan ateb Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am sicrwydd cadarn gan yr awdurdod lleol ynghylch y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Fel y soniwyd, mae’r awdurdod lleol yn sefydlu grŵp llywio ac yn ceisio casglu mewnbwn gan grwpiau a thrigolion lleol, yna bydd yn datblygu strategaeth ansawdd aer gadarn. Bydd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig strategol ar gyfer yr ardal a mesurau priodol i fynd i’r afael ag ansawdd aer yn yr ardal. Mae’r awdurdod wedi nodi dyddiad cychwynnol ym mis Tachwedd ar gyfer rhoi’r rhain ar waith, a chefais sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r gwaith parhaus hwn ac yn sicrhau ein bod yn ymateb i broblem amlwg sydd angen ei hunioni.

Gall ymddangos fel synnwyr cyffredin, ond mae hefyd yn bwysig, os ydym o ddifrif am gael y data gorau posibl i fonitro ansawdd aer, ei fod yn cael ei fonitro mor agos â phosibl i’r lleoliad dan sylw. Mae’r cynghorwyr Llafur Cymru, Jan Jones a Philippa Marsden o Ynys-ddu, wedi sôn wrthyf hefyd am ansawdd aer yn Wattsville a Chwmfelin-fach. Mae trigolion lleol eisiau sicrwydd ei bod yn ddigonol fod darlleniadau ansawdd aer ar gyfer safle yn Nine Mile Point yn cael eu cyfrifo yn ôl astudiaethau cydleoli, ond rhai sydd wedi’u lleoli ar stryd fawr y Coed-duon a White Street yng Nghaerffili. Dywedwyd wrthynt nad oes unrhyw fonitorau parhaus yn ardal Wattsville ei hun. Felly, nid oes unrhyw astudiaethau cydleoli ar y gweill yn yr ardal dan sylw. Os ydym yn benderfynol o asesu a monitro ansawdd aer, fel y mae angen i ni ei wneud, yna rhaid i ddilysrwydd y data rydym yn dibynnu arno fod mor gywir ag y gall fod yn ymarferol.

Sylwaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3 y cant bob blwyddyn a chyflawni gostyngiad o 40 y cant fan lleiaf erbyn 2020, o’i gymharu â ffigurau 1990. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod targed ar gyfer lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Mae hyn i’w ddathlu ac nid i’w ddiwygio ar ôl gadael yr UE. Er fy mod yn deall yr hawl i gadeirio pwyllgor o dan ein cyfansoddiad, nid fi’n unig sy’n pryderu bod y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn mynd i gael ei gadeirio gan Aelod Cynulliad UKIP, Mark Reckless, y dyn a oedd am faes awyr gwyrdd iawn Margaret Thatcher. I ddyfynnu arweinydd plaid UKIP yng Nghymru, Nathan Gill—

A gaf fi wneud y pwynt eich bod wedi cael cyfle i wrthwynebu’r Cadeirydd hwnnw ddoe; heddiw—

Cyfeirio ato rwyf fi, Lywydd. Fe symudaf ymlaen.

Byddwn yn cytuno â’r cynnig hwn ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru a phob un ohonom i ddiogelu ansawdd bywyd ein planed ac i sicrhau bod pobl Cymru yn mwynhau ansawdd aer o’r safon uchaf.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn datgan bod 29,000 o bobl yn y DU yn marw yn gynamserol o ganlyniad i lygredd aer, a 1,500 yn marw o ganlyniad i ddamweiniau ffordd. Mae gwrando ar yr hyn a ddywedwyd o gwmpas y Siambr yn y ddadl hon yn peri pryder mawr, ac mae’n dda clywed geiriau brwd gan bob AC. Ond rwy’n credu mai rhan o’r rheswm rwy’n sefyll yma yn awr yn ôl pob tebyg yw’r gwrthgyferbyniad enfawr rhwng y geiriau brwd yn y Siambr hon gan yr Aelodau Llafur a realiti a chanlyniadau eu polisïau mewn gwirionedd. Am newid, fe siaradaf am gynllun datblygu lleol Caerdydd a chynlluniau datblygu lleol eraill yn fy etholaeth, oherwydd yr hyn y mae’r Blaid Lafur yng Nghyngor Dinas Caerdydd, yma, yr hyn rydych chi—. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad a chyn i chi fynd ymlaen at gynllun datblygu Caerdydd eto, fe sonioch fod geiriau brwd gennyf fi, er enghraifft. Onid ydych yn cytuno bod yr awdurdod Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Llywodraeth Lafur wedi cymryd camau i fonitro ansawdd aer ym Mhort Talbot er mwyn sicrhau bod cynllun ar waith i ni allu sicrhau bod hwnnw’n gostwng, a bod hynny’n weithredu cadarnhaol?

Wel, â siarad ar ran fy etholaeth, y camau a gymerwyd gan eich Llywodraeth a’ch Cyngor—[Torri ar draws.]—eich Llywodraeth a’ch cyngor—yw cynyddu llygredd aer ble rydym yn byw. A dyna’r eironi—dyna’r eironi—oherwydd efallai’n wir eich bod yn ei fonitro ond mae eich polisïau yn ei gynyddu, a dyna’r pwynt allweddol.

Nawr, rhoddaf rai enghreifftiau lleol i chi. Ffordd Llantrisant—os ydych yn tisian yn y bore, rydych drwyn wrth din, a’r hyn y mae eich polisïau yn ei wneud yw dod â degau o filoedd o geir ychwanegol ar y ffyrdd, ac mae’n mynd i fod yr un fath yng Nghaerffili oni bai eich bod yn rhoi camau ar waith yno. Yr hyn sy’n digwydd yng Nghaerdydd, ac yn wir, ledled Canol De Cymru, yw bod safleoedd tir glas yn diflannu a safleoedd—. [Torri ar draws.] Nid wyf am ildio y tro hwn. Mae safleoedd tir glas yn diflannu ac rydym yn gweld cynigion lle bydd y traffig drwyn wrth din. Y perygl yn awr gyda’r posibilrwydd o golli cyllid y metro yw nad oes unrhyw gynllun trafnidiaeth hyfyw ar gyfer ein rhanbarth—ar gyfer y cyfan o dde Cymru, mewn gwirionedd. A’r hyn y dylem ei wneud, yn hytrach na siarad a dweud, ‘Onid yw’r llygredd aer hwn yn ofnadwy, wyddoch chi, mae’n wirioneddol ddrwg, a hoffem wneud pethau’n well’, yr hyn y dylem fod yn ei wneud yn y Siambr hon yw deddfu—deddfu—defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i atal y cynlluniau datblygu lleol hyn rhag dinistrio ein hamgylchedd lleol a gorfodi pobl yn y rhanbarth hwn i anadlu aer llygredig, oherwydd dyna yw canlyniadau’r polisïau y mae’r corff hwn yma wedi’u pasio a’r hyn y mae eich cynghorau yn yr ardal hon hefyd yn ei wneud. Felly, yr hyn rwy’n gofyn amdano, mewn gwirionedd, yw diwedd ar y rhagrith o ddweud, ‘Onid yw hyn yn ofnadwy, hoffem wella pethau’, a rhoi camau pendant ar waith i wella’r amgylchedd ac ansawdd bywyd yn rhanbarth hwn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 16:37:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon ar y mater pwysig hwn, ac rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig gwreiddiol. Mae’n ddrwg iawn gennyf nad yw David Melding, yr Aelod dros Ganol De Cymru, heb gael digon o sicrwydd yr wythnos diwethaf gan fy ateb iddo, mai fy nghyfrifoldeb i, ie, mai fy nghyfrifoldeb i yn llwyr yw ansawdd aer; mae yn fy mhortffolio. Ac mae’n gwbl allweddol i iechyd y cyhoedd, rhywbeth rwy’n angerddol iawn yn ei gylch, ac mae’n amlwg yn effeithio’n sylweddol ar iechyd pobl yng Nghymru. Gellir cysylltu oddeutu 1,300 o farwolaethau y flwyddyn â chysylltiad hirdymor â gronynnau mân. Mae pryder ynghylch effeithiau iechyd allyriadau o gerbydau diesel yn amserol iawn yn dilyn sgandal allyriadau Volkswagen a’r newyddion am allyriadau diesel dan dymheredd o 18 gradd yr wythnos diwethaf. Cyfeiriodd Simon Thomas at hynny wrth gynnig gwelliant 1, ac unwaith eto, rwy’n hapus i gefnogi’r gwelliant hwnnw.

Rwy’n cefnogi’r galwadau ar y Comisiwn Ewropeaidd i egluro’r rheoliadau ar allyriadau o gerbydau diesel. Rwy’n credu bod angen i reoliadau ar brofion fod yn llawer mwy tryloyw, ac rwy’n meddwl bod llawer o Aelodau wedi gwneud y pwynt—fe’i gwnaed gan Simon Thomas yn sicr—ein bod wedi bod yn barod iawn i gefnogi deddfwriaeth yr UE sy’n berthnasol i ni ar hyn o bryd. Mae cyfle—Andrew R.T. Davies, rwy’n gobeithio eich bod yn gwrando, oherwydd gofynnwyd i chi am dri chyfle, felly dyma un i chi ar unwaith—ac rwy’n credu yn y dyfodol y byddwn yn gallu ei gryfhau, ac mae’n sicr yn rhywbeth y byddaf yn hapus iawn i edrych arno.

Nododd sawl Aelod fater lefelau ansawdd aer gwael yng Nghrymlyn. Crybwyllodd fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, hyn wrthyf yr wythnos diwethaf, ac mae’n amlwg yn broblem leol ddifrifol iawn. Ers i Rhianon Passmore ei ddwyn i fy sylw yr wythnos diwethaf, gwneuthum yn glir iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili—ysgrifennais at yr arweinydd i bwysleisio pwysigrwydd y cynllun, yn enwedig yr amserlen y maent bellach wedi’i rhoi i mi—y byddant yn ymgynghori ar ddrafft o gynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer erbyn mis Tachwedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn cadw at hynny, a bydd fy swyddogion yn ei fonitro’n agos iawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dull clir iawn wedi’i gytuno o reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu amcanion ansawdd aer statudol drwy Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2010. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu eu hansawdd aer a darparu adroddiad blynyddol ar eu canfyddiadau. Lle nad yw’r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, rhaid i’r awdurdod ddynodi ardal rheoli ansawdd aer a datblygu cynllun gweithredu lleol.

Hefyd cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn yr arferion gorau wrth adolygu ansawdd aer a datblygu cynlluniau gweithredu. Cyhoeddwyd canllawiau polisi newydd ar gyfer Cymru ym mis Mawrth eleni ac fe’i defnyddir mewn adroddiadau awdurdodau lleol eisoes. Rwyf hefyd yn mynd i ystyried opsiynau ar gyfer gorfodi os bydd angen, unwaith eto gan gynnwys defnyddio fy mhwerau i gyhoeddi cyfarwyddiadau i awdurdodau lleol mewn perthynas â rheoli ansawdd aer lleol. Ond wrth gwrs, mae yna bob amser fwy y gallwn ei wneud.

Rwy’n credu bod angen i ni ddefnyddio data a gasglwyd gan awdurdodau lleol yn well a’i ddefnyddio i lywio’r adroddiad newydd ar sefyllfa adnoddau naturiol a’r datganiadau ardal a gynhyrchir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac rwy’n meddwl y dylid eu defnyddio wedyn i lywio asesiadau o les lleol a chynlluniau cysylltiedig a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Byddwn yn ymgynghori cyn bo hir ar gynigion i wella ansawdd aer a threfniadau lleol ar gyfer rheoli sŵn yng Nghymru, a byddwn yn adeiladu ar y trafodaethau a gynhaliwyd yn flaenorol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys symleiddio prosesau a datblygu trefn gadarn ar gyfer gwneud gwaith dilynol ar adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu a gyflwynir yn hwyr. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys cwestiwn penagored yn gwahodd sylwadau ac awgrymiadau am unrhyw syniadau posibl ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymatebion gan bartïon â diddordeb. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod rhaid i’n hymdrechion lleol weithio ochr yn ochr ag ymagwedd genedlaethol tuag at ansawdd aer sy’n mynd i’r afael â phrif achosion llygredd ac yn diogelu pobl rhagddynt.

Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw arnom i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol i Gymru. Rwy’n cefnogi hyn yn llwyr ac rwy’n credu bod angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach. Rwy’n credu bod angen dull sy’n lleihau allyriadau lle bo modd, yn sicrhau bod llygryddion yn cael eu gwasgaru’n effeithiol cyn iddynt gyrraedd pobl os nad oes modd eu hatal, ac yn lleihau’r peryglon i iechyd o gysylltiad na ellir ei osgoi â llygryddion. Gofynnodd Steffan Lewis gwestiwn ynglŷn â pharthau allyriadau isel posibl ac mae hynny’n rhywbeth sydd yn yr ymgynghoriad sydd ar y ffordd gennym, rwy’n meddwl, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed barn pobl arno. Ond ar hyn o bryd, maent yn opsiwn sy’n bodoli ar gyfer awdurdodau lleol.

Rwy’n credu ei fod yn golygu nad oes fawr o bwynt datblygu strategaeth annibynnol ar gyfer ansawdd aer ar ffurf un maes gwaith. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ansawdd aer fod yn rhan annatod o bob polisi ar seilwaith, cynllunio, trafnidiaeth, teithio llesol ac iechyd y cyhoedd, i enwi rhai’n unig. Felly, mae fy swyddogion ar gam buan o’r gwaith o ganfasio awdurdodau lleol i weld sut y gallwn wella polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â llygredd aer a sŵn. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan ei bod yn amlwg na all un sefydliad neu sector fynd i’r afael â’r mater ar eu pen eu hunain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar fanteision coed i ansawdd aer. Maent wedi amcangyfrif bod coed yn cael gwared ar oddeutu 250 tunnell o lygredd aer o’r atmosffer bob blwyddyn yn nhair ardal drefol yr astudiaeth, sef Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a dalgylch Tawe. Mae hyn yn cyfateb mewn termau ariannol i werth dros £1.5 miliwn o arbedion i’r GIG bob blwyddyn mewn perthynas â’r cyflyrau anadlol canlyniadol. Rydym hefyd yn gweithio gyda rheoleiddwyr a diwydiant i fynd i’r afael â’r heriau penodol sy’n gysylltiedig â llygredd aer o ffynonellau diwydiannol ym Mhort Talbot a Chwm Tawe. Nid yw cydymffurfio’n unig ag amcanion ansawdd aer yn y nifer gymharol fach o ardaloedd lle y cânt eu torri yn ddigon os ydym o ddifrif yn mynd i leihau baich iechyd llygredd aer ar gymdeithas—

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Ar y mater penodol hwn o goed a llwyni ar hyd ymylon ffyrdd yn benodol, sylwais fod yna symudiad sylweddol tuag at osod ffensys ar hyd ffyrdd ar hyn o bryd i glustogi yn erbyn sŵn, yn hytrach na phlannu, a fyddai, yn amlwg, â’r fantais ychwanegol o leihau llygredd. A yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn edrych arno, gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i weld sut y gellid gwrthdroi hynny—y sefyllfa honno?

Wel, rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng llygredd aer a llygredd sŵn, ond mae’n ymwneud, fel y dywedais, â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw o’r blaen, ond rwy’n hapus iawn i edrych arno.

Y tu hwnt i Gymru, mae yna nifer o feysydd gweithgaredd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau cyn gynted â phosibl. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ’r Cyffredin wedi argymell i Lywodraeth y DU y dylid lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai’n rhoi grantiau i dorri costau cerbyd allyriadau isel i berchennog sy’n sgrapio ei gerbyd diesel. Felly, ar ôl cyffes Simon Thomas, efallai fod hynny’n rhywbeth rwyf fi’n sicr am ei wylio’n ofalus, ond efallai y byddai Simon Thomas yn hoffi gwneud hynny hefyd.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar lefel yr UE, ond fel y dywedais eisoes, nid cefnogi deddfwriaeth yr UE yn erbyn ein hewyllys a wnaethom: roeddem yn ei wneud am mai dyna sy’n iawn i bobl Cymru, roeddem yn ei wneud am mai dyna sy’n iawn i iechyd y cyhoedd, ac rwy’n credu bod hwn yn gyfle i ni ystyried cryfhau’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.

Cefais gyfarfod y bore yma gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn amlwg, mae ansawdd aer yn rhywbeth sy’n rhan o’r broses barhaus o weithredu’r Ddeddf. Cyfeiriodd un Aelod at dacsis, ac un peth a drafodais gyda’r comisiynydd y bore yma oedd y modd y maent wedi cyflwyno fflyd o geir tacsi trydan yn Quebec. Felly, unwaith eto, mae yna enghreifftiau. Gofynnodd rhywun i mi os wyf fi’n edrych ar draws Ewrop; wel, mewn gwirionedd rwy’n edrych ar draws y byd i weld pa enghreifftiau o arferion gorau y gallwn ddysgu gwersi ohonynt.

Yn olaf, yn amlwg, byddaf yn cefnogi’r cynnig, ond mewn perthynas â’r ail welliant gan Blaid Cymru, rwy’n bendant yn cefnogi hwnnw. Mae’n cyd-fynd ag amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’n cynllun gweithredu teithio llesol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Diolch.

Diolch i chi, Lywydd. Fe fyddech wedi nodi bod naw Aelod yn ogystal â mi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu bod hwnnw’n arwydd gwych o bwysigrwydd y maes polisi hwn i bobl.

Dechreuodd Simon Thomas drwy gyfeirio at y gyfarwyddeb aer rydym yn seilio ein polisi cyfredol arni, cyfarwyddeb a ddaw o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n allweddol a chyfeiriwyd ati nifer o weithiau yn ystod y ddadl, yn fwyaf angerddol mewn modd cefnogol iawn i’r UE gan Darren Millar, a ddywedodd fod angen i ni i barhau â’r fframwaith a gwella arno hyd yn oed. Soniodd hefyd wedyn am bwysigrwydd llygredd dan do, sy’n faes allweddol.

Soniodd Mohammad am y risgiau i blant yn benodol, a dilynodd David Rees hynny drwy bwysleisio bod pobl agored i niwed yn aml yn yr ardaloedd trefol mwyaf agored i niwed ac felly’n dioddef ergyd dwbl. Mae’n bwysig tu hwnt ein bod yn ymwybodol o hynny. Siaradodd David hefyd am y ffaith fod llygredd aer yn lladdwr byd-eang a bod Sefydliad Iechyd y Byd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o hyn ac annog Llywodraethau i wella’u dulliau o fynd i’r afael â’r broblem.

Mae Suzy yn abseiliwr sy’n berchen ar Volkswagen, sy’n dipyn o beth, ond ynglŷn â Volkswagen, rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio bod y defnyddiwr wedi cael ei gamarwain yn hyn o beth, ac mae’n eithaf brawychus, oherwydd, pan fydd pobl am fuddsoddi ychydig yn fwy a gwella eu perfformiad eu hunain mewn perthynas ag allyriadau a’u lleihau, yna maent wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Nid dyma sut y mae ffurfio’r bartneriaeth rydym ei hangen â’r cyhoedd o ran eu hannog i wneud dewisiadau da.

Yna siaradodd Suzy am y strategaeth allyriadau isel a fyddai’n creu manteision mawr, pwynt yr ymhelaethodd Steffan arno, drwy hybu parthau allyriadau isel. Roedd y Gweinidog i’w gweld yn eithaf ymatebol i hynny ac yn sicr yn awyddus i edrych arno. Siaradodd Steffan hefyd am ddulliau eraill fel defnyddio bysiau electronig, gan fod bysiau’n llygru cryn dipyn mewn ardaloedd trefol.

Siaradodd Michelle Brown am longau cargo, rhywbeth nad oeddwn wedi meddwl amdanynt. O ran ei effaith, mae’n bwysig. Hynny yw, mae’n rhywbeth sydd y tu allan i’n hawdurdodaeth at ei gilydd—nid pan fyddant yn dod i mewn i’r porthladd yn y pen draw—ond mae’n rhywbeth y mae angen i wladwriaethau a Llywodraethau ar draws y byd edrych arno. Ond roedd yn bwynt pwysig iawn yn fy marn i, ac yn un sy’n aml—wel, nid oeddwn i’n ymwybodol ohono, felly mae’n bosibl fod hynny’n wir am bobl eraill hefyd. Felly, diolch i chi am hynny.

Siaradodd Rhianon Passmore am ei phrofiad hi a’i theulu. Dyma yw hyn yn y diwedd, onid e? Mae’n effeithio ar bobl a gall effeithio’n wirioneddol ar iechyd a lles. Fel y siaradodd y cynrychiolydd o Grymlyn am rôl yr awdurdod lleol o ran ceisio gwella’r sefyllfa yno, mae’n rhywbeth y mae angen ei gynllunio’n ofalus oherwydd, weithiau, os gallwch wella llif y traffig, ni fydd hynny ond yn ei gyflymu a gwneud y llwybr yn fwy poblogaidd, ac fe fyddwch yn ôl lle roeddech chi ar y cychwyn unwaith eto.

Dechreuodd Neil McEvoy yn fyd-eang, ond cyrhaeddodd Gaerdydd yn eithaf cyflym. [Chwerthin.] Roeddwn yn cytuno ag ef ar y metro. Roeddwn yn meddwl bod hynny’n wirioneddol allweddol.

Yn olaf a gaf fi ddweud fy mod yn meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb yn rhagorol? Fe wrandawoch o ddifrif ar yr hyn roedd yr Aelodau wedi’i ddweud a gwrando ar yr awgrymiadau, a phwysleisio—wyddoch chi, yn fras, rwy’n credu y byddem yn cytuno bod yna fframwaith da yma. Nid yw’n faes lle y gallem ddweud bod yna ddiffyg gweithredu wedi bod, ond mae angen i ni fynd ymhellach. Mae’r heriau’n fawr. Ac yn benodol, mae gennych ein cefnogaeth o ran edrych ar strategaeth allyriadau isel, cryfhau cyfarwyddeb yr UE, a defnyddio data yn fwy effeithiol ar draws asiantaethau—roeddwn yn credu bod hwnnw’n bwynt allweddol. Dadl wych, ac mae’n ymddangos fy mod, yn fy nadl plaid leiafrifol gyntaf, ar fin cael buddugoliaeth gymedrol, felly mae hynny’n fy annog i ymdrechu’n galetach eto yn y dyfodol. Diolch.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Rŷm ni’n symud yn awr at y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

7. 7. Cyfnod Pleidleisio

Fe fyddwn ni’n pleidleisio yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar y system etholiadol, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 13, yn erbyn y cynnig 39. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 39, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6052.

Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 39, yn ymatal un, ac 11 yn erbyn y gwelliant. Mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 39, Yn erbyn 11, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6052.

Rydw i’n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cynnig NDM6052 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 49, yn ymatal un, ac yn erbyn dau. Felly derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig NDM6052 fel y’i diwygiwyd: O blaid 49, Yn erbyn 2, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6052 fel y’i diwygiwyd.

Symud yn awr i’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y cod gweinidogol, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 13, yn erbyn 39. Felly gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 39, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6053.

Fe awn ni i welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, yn ymatal un, yn erbyn y gwelliant 21. Mae gwelliant 1 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 30, Yn erbyn 21, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6053.

Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 22, yn ymatal dim, yn erbyn y gwelliant 30. Felly mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 22, Yn erbyn 30, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6053.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 3 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 52, ymatal dim, yn erbyn dim. Felly derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6053.

Mae’r bleidlais nesaf ar y cynnig sydd wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM6053 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

2. Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a’r modd y mae’n gweithredu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i’r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri’r Cod Gweinidogol heb gosb.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, yn ymatal un, yn erbyn 21. Mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 29, Yn erbyn 21, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6053 fel y diwygiwyd.

8. Datganiad gan y Llywydd: Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw canlyniadau yr etholiadau ar gyfer Cadeiryddion y pwyllgorau. Ac felly rwy’n mynd i rannu â chi’r canlyniadau. Bydd yr holl ganlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn y sesiwn yma.

Yn gyntaf, felly, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Julie Morgan 25 o bleidleisiau, Lynne Neagle 31 o bleidleisiau, ac yn ymatal un bleidlais. Rwy’n datgan felly bod Lynne Neagle wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Yr ail bwyllgor, Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Russell George 41 o bleidleisiau, Janet Finch-Saunders 13 o bleidleisiau, ac yn ymatal tair pleidlais. Rwy’n datgan felly bod Russell George wedi ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Nesaf, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: John Griffiths 33, Lee Waters 13, Jenny Rathbone naw, ac yn ymatal dau. Gan, felly, iddo gael dros hanner y pleidleisiau yn y dewis cyntaf, rwy’n datgan bod John Griffiths wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Nesaf, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dai Lloyd 43, Rhun ap Iorwerth 14, a neb yn ymatal. Rwy’n datgan bod Dai Lloyd wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Ac, yn olaf, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Darren Millar 17, Mark Isherwood saith, Nick Ramsay 31, ymatal dau. Gan iddo gael dros hanner y pleidleisiau dewis cyntaf, rwy’n datgan bod Nick Ramsay wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

A gaf i longyfarch holl Gadeiryddion newydd pwyllgorau y Cynulliad, a gaf i ddymuno’n dda i bob un ohonoch, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses gyntaf o ethol Cadeiryddion y Cynulliad Cenedlaethol?

9. 8. Dadl Fer: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain—Mwy na Rhaglen Adeiladu

Rŷm ni’n awr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd yn gadael, a wnewch chi hynny yn gyflym ac yn dawel?

Ac felly, rydym yn cychwyn ar y ddadl fer ac rydw i’n galw ar Rhianon Passmore.

Diolch, Lywydd. Anrhydedd mawr i mi, wrth gynrychioli pobl Islwyn, yw codi i gyflwyno’r ddadl fer gyntaf yn y pumed Cynulliad gan Aelod Cynulliad a etholwyd ym mis Mai 2016. Fel cyn-athro, darlithydd a chyn-aelod cabinet dros addysg mewn llywodraeth leol nid yw’n syndod fy mod wedi penderfynu canolbwyntio’r ddadl hon ar y mater mwyaf y mae cartref democratiaeth Cymru yn y fan hon yn gyfrifol amdano—addysg.

Lywydd, rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau Cynulliad Llafur Cymru canlynol sydd wedi gofyn i mi i siarad yn y ddadl hon. Yn dilyn fy araith byddaf yn ildio munud o’r pymtheg munud a glustnodwyd ar fy nghyfer i’r canlynol: Mike Hedges AC, Hannah Blythyn AC, Hefin David AC, David Rees AC a Huw Irranca-Davies AC.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu yn bersonol ac yn ffurfiol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w rôl ar ran pobl Islwyn. Rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei rôl hanfodol a dylai wybod y bydd yn cael fy nghefnogaeth i sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw blentyn ar ôl yn ein hymgyrch i wella canlyniadau addysgol.

Addysg yw "athrylith warcheidiol ein democratiaeth." Nid oes dim mewn gwirionedd yn golygu mwy i’n dyfodol, nid ein hamddiffynfeydd milwrol, ein taflegrau neu ein hawyrennau bomio, ein heconomi gynhyrchu, na hyd yn oed ein system ddemocrataidd o lywodraethu. Gan fod pob un o’r rhain yn ddiwerth os nad oes gennym y grym ymenyddol i’w cefnogi a’u cynnal.

Dyna eiriau unfed ar bymtheg ar hugain Arlywydd yr Unol Daleithiau, Lyndon Baines Johnson. Roedd addysg yn gonglfaen i freuddwyd deilwng yr Arlywydd Johnson o gymdeithas wych i bobl America, ac mae’n gonglfaen i raglen lywodraethu Llafur Cymru.  Fel athro wrth fy ngalwedigaeth, rwyf hefyd yn ddigon hen i wybod sut beth, yn llythrennol, oedd defnyddio’r sialc. Rwy’n cydnabod y daith rydym wedi’i theithio. Diolch i bolisi Llafur Cymru a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd addysgu a dysgu trawsnewidiol, a’r amgylcheddau dysgu hynny, rydym heddiw’n gwybod bod y rhain yn ysgolion arloesol ac yn sefydliadau addysgol addas i’r diben a adeiladwyd yng Nghymru, ac na cheir eu gwell yn unman. Oherwydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain rwy’n dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £700 miliwn rhwng 2014-15 a 2018-19. Gydag arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, byddai hyn yn golygu buddsoddiad cyfalaf o £1.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, i gefnogi 150 o brosiectau ar draws yr holl awdurdodau lleol erbyn mis Ebrill 2019. Gadewch i mi ailadrodd y bydd yr £1.4 biliwn, gyda Llywodraeth Lafur Cymru a chynghorau lleol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd, yn chwyldroi tirwedd addysgol Cymru. Mae’n ymrwymiad digynsail i’n plant ac yn ymrwymiad digynsail i ddyfodol Cymru gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae’n hanfodol bwysig i’n cymunedau, ein plant a’n sgiliau a’r economi gymwysterau, ac ni fyddai wedi digwydd heb Lywodraeth Lafur.

Nid yw’n ormod dweud bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn bolisi blaenllaw sy’n nodi datganoli yng Nghymru. Ei nod yw cyflawni: amgylcheddau dysgu yng Nghymru a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl gweithredu strategaethau ar gyfer gwella yn llwyddiannus a chanlyniadau addysgol gwell; bydd yn sicrhau economi ac arbedion gwell mewn amgylcheddau dysgu drwy wneud gwell defnydd o adnoddau; a bydd yn darparu system addysg gynaliadwy yng Nghymru sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac yn lleihau costau cylchol ac ôl troed carbon adeiladau addysg.

Oherwydd y rhaglen arloesol hon yma yng Nghymru, mae Cymru’n destun eiddigedd ledled y DU. Ym mis Ionawr 2016, rhoddodd ein cyn-Weinidog, Huw Lewis, y newyddion diweddaraf yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Cadarnhaodd mai targed cyffredinol Llywodraeth Cymru yw adnewyddu neu ailadeiladu 150 o ysgolion a cholegau erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Mae aelodau’r Siambr hon a’n gweithlu addysgu ymroddedig ledled Cymru yn boenus o ymwybodol o gyflwr adeiladau ysgolion yn y 1980au a’r 1990au. Fel llywodraethwr ysgol ar y pryd, dyma adeg a gofiaf gydag arswyd go iawn pan oeddem yn gorfod ystyried, nid cynllunio’r cwricwlwm ond diswyddo athrawon rhagorol na allem fforddio’u colli; adeg nad wyf yn dymuno’i hailadrodd, pan ddylem fod wedi bod yn adeiladu ysgolion fel eglwysi cadeiriol ar gyfer dysg, nid cabanau yn yr iard chwarae, sy’n dal i fodoli mewn rhai mannau. [Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Mae gennyf ddigon, diolch yn fawr.

Yn ddiweddar iawn gwisgais fy het galed iawn a fy esgidiau glaw i fynd ar daith o amgylch yr enghraifft sy’n dod i’r amlwg yn gyflym yn fy etholaeth, sef Ysgol Uwchradd Islwyn. Fel rhan o raglen uchelgeisiol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2013 y bydd ysgolion cyfun Oakdale a Phontllan-fraith yn cau yn 2016. Bydd disgyblion o’r ddwy ysgol yn trosglwyddo i ysgol sgleiniog bwrpasol newydd sbon gwerth £24 miliwn a adeiladir ar safle gwastadedd 3 ym Mharc Busnes Oakdale, diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Lafur Cymru a pholisi Llafur Cymru ar waith.

I gychwyn, bydd lle yn yr ysgol i 1,150 o ddisgyblion sy’n trosglwyddo o’r ddwy ysgol a chaiff ei hadeiladu i addysgu 1,000 o ddisgyblion prif ffrwd o’r dalgylch yn barhaol, a 50 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, mewn canolfan adnoddau arbenigol, o bob rhan o’r sir. Bydd ysgolion cynradd partner yn cynnwys Bryn, Cwmfelin-fach, Penllwyn, Pontllan-fraith, Rhiw Syr Dafydd, Trinant ac Ynys-ddu. Bydd y brif ysgol yn dri llawr o uchder, a bydd neuadd chwaraeon o uchder tebyg yn cysylltu ag adeilad deulawr lle bydd neuadd fwyta’r ysgol. Caiff ei hadeiladu ar ddyluniad modern a bydd cynlluniau’n cynnwys gardd eco a nodweddion dŵr. Testun balchder arall i’r ysgol fydd cae chwaraeon 3G a thrac athletau 200 metr gyda llifoleuadau, ynghyd â chae chwaraeon amlddefnydd ar gyfer pêl-rwyd a thenis. Bydd yn ysgol wirioneddol gymunedol gyda chysylltiadau gwaith agos gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, ysgolion cynradd partner, cyflogwyr lleol a’r bobl sy’n byw yn yr ardal leol.

Yn ddiweddar, gwahoddais nifer o blant o ddwy ysgol gyfun Oakdale a Phontllan-fraith i ddod gyda mi ar daith o amgylch safle’r ysgol newydd. Roedd y plant, o flynyddoedd 7, 8 a 9, yn amrywio o ran oedran rhwng 11 a 14 oed, a hwy fydd buddiolwyr uniongyrchol y polisi hwn a’r ysgol newydd hon. Yr hyn a welais yn eu llygaid oedd gwerthfawrogiad diffuant o’r posibiliadau sydd o’u blaenau a chyffro go iawn ynglŷn â’u dyfodol, a sylweddoliad heb ei fynegi ein bod ni, fel gwleidyddion, yn eu gwerthfawrogi a bod cymdeithas yn buddsoddi ynddynt, a bod eu dyfodol, drwy sicrhau eu bod yn dysgu mewn amgylchedd mor odidog, yn cael ei ddiogelu.

Cefais fy nharo, wrth i ni adael y safle adeiladu, gan y cwestiynau a ofynnodd y plant i’r tîm adeiladu o Willmot Dixon. Mae ysgol uwchradd newydd Islwyn yn cael ei hadeiladu ar safle hen lofa Oakdale—rhan o etifeddiaeth y gymuned honno—a gaeodd yn 1989. Wrth edrych at eu dyfodol, y plant hynny, y disgyblion hynny, a ofynnodd, ‘Beth yw hanes y pwll glo hwn?’ ac a ellid ei adlewyrchu yng ngwead ffisegol eu hysgol newydd. Plant yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru mewn ysgol unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn ymwybodol o dreftadaeth eu cymuned a’u hanes balch, sy’n ffurfio tapestri’r stori Gymreig, ond mewn dyfodol byd-eang—tystiolaeth go iawn fod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy na rhaglen adeiladu, gyda’r potensial gwirioneddol i drawsnewid bywydau.

Ond mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy nag adeiladau a choncrid; mae’n rhan annatod o gynnydd ein cenedl a’n lle yn y byd. Y nod hirdymor yw datblygu rhaglen buddsoddi cyfalaf gyffredinol ar gyfer pob sector addysg, gan gynnwys y sectorau addysg bellach ac uwch, a fydd yn anelu at gyflawni amcanion gwella â blaenoriaeth rhaglen y prosiect. Byddai fy ffrind da y tu ôl i mi, John Griffiths, yr AC dros Ddwyrain Casnewydd, wedi siarad yn y ddadl hon pe na bai gennym gymaint o siaradwyr eisoes. Mae’n briodol falch y gallai canol Casnewydd ddod yn galon dysgu ar gyfer Gwent gyfan os yw datblygiad gwerth £60 miliwn rhwng prifysgol y ddinas a Choleg Gwent yn bwrw yn ei flaen. Mae Prifysgol De Cymru a Choleg Gwent wedi ymuno i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ardal wybodaeth newydd ar lannau’r Afon Wysg. Mae’r cynllun yn cynnwys datblygiad mawr ar gampws dinesig y brifysgol, gyda sefydliadau’n rhannu gofod yn yr adeilad neu’r adeiladau newydd. Er bod trefniadau ariannu ffurfiol i’w cadarnhau eto, disgwylir buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedodd llefarydd o Goleg Gwent, os gallwn wireddu’r uchelgais hwn, bydd myfyrwyr yn gallu dod i mewn yn 16 oed neu fel dysgwyr sy’n oedolion i goleg addysg bellach newydd modern yng nghanol y ddinas newydd.

Nid damweiniau yw camau gweithredu o’r fath: maent yn bwrpasol, ac maent wedi rhyddhau adnoddau Llywodraeth Cymru i arena o wariant ar addysg, ynghyd â chwricwlwm arloesol ac effeithiau Donaldson. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y rhain yn effeithio’n gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd disgyblion a’u cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol—y rheswm pam yr euthum i fyd gwleidyddiaeth—popeth y mae Llafur yn rhoi gwerth arno a phopeth y mae polisïau Llafur yn ei gyflawni gyda’i gilydd, ac i bawb yn ein cymuned ac nid i’r 5 y cant uchaf yn unig. Mae rhaglenni o’r fath yn dangos effaith bwerus ar bobl a dyma pam rwyf yma heddiw. Addysg yn wir yw’r allwedd i symudedd cymdeithasol y siaredir amdano mor aml mewn cylchoedd academaidd, ond sydd mewn gwirionedd yn diogelu unigolion fel nad oes yn rhaid iddynt ddibynnu ar gontractau dim oriau gan Lywodraeth esgeulus y DU. Mae’n darparu llwybr go iawn i fywyd boddhaol, gwerthfawr a defnyddiol. Mae ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a chanolfannau hyblyg ar gyfer y gymuned yn y dyfodol yn thema enfawr yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ochr yn ochr â lleihau carbon a safonau rhagoriaeth BREEAM.

Felly, gymrodyr—dywedaf hynny eto wrth y Siambr—rwy’n cymeradwyo’r rhaglen hon o welliant trawsnewidiol i amgylcheddau addysgu a dysgu ein disgyblion gan wybod bod ymchwil yn cefnogi pwysigrwydd yr effaith ar gyflawniad addysgol, cyrhaeddiad a phresenoldeb, a phob un yn sbardun allweddol i’n cenedl ar gyfer adeiladu sgiliau, cyflogadwyedd, twf a chynhyrchiant ein cenedl.

Nid oes gennyf amheuaeth y bydd effaith Prydain yn gadael yr UE ar y pwynt hwn a methu â denu, yn y dyfodol, y ffrydiau ariannu strwythurol Ewropeaidd pellach yr ymgeisiwn amdanynt ar hyn o bryd, yn achosi heriau sylweddol iawn i raglen Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ar gyfer cyfnod 2. Ond mae hon yn her y byddwn fel Llywodraeth ac fel cenedl yn ceisio’i datrys ar y cyd. Nid oes blaenoriaeth bwysicach na sicrhau bod plant Cymru yn cael eu paratoi i wynebu’r byd yn barod i gystadlu gydag unrhyw un yn y byd, ac fel y cyfryw, rwy’n falch o gymeradwyo rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Lafur Cymru i’r Siambr hon—a dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu. Diolch.

Rydych wedi gadael tri munud i chwech o siaradwyr, felly os gall eich chwe siaradwr i gyd wneud 30 eiliad gallant i gyd gael cyfle, ond os byddant yn cymryd mwy o amser na hynny, yna mae gennyf ofn y bydd y gweddill yn colli cyfle. Felly, cawn weld sut aiff hi. Mike Hedges.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi’n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae’r ysgolion newydd hyn yn gwella’r amgylchedd addysgol ar gyfer eu disgyblion. Siaradais â phennaeth un o’r ysgolion hyn a ddywedodd nad oes pryder rhagor pan fydd hi’n bwrw glaw ynglŷn â lle bydd y dŵr yn dod i mewn. Maent yn gwella’r strydoedd yn yr ardal ac yn gwneud iddi edrych yn well ar gyfer y rhai sy’n byw o’i hamgylch. Maent yn darparu gwaith ac yn hwb i’r economi leol. Rwy’n cofio pan oedd adeiladu ysgolion newydd yn golygu ein bod yn disgwyl iddynt bara ymhell dros 400 o flynyddoedd. Gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.

Da iawn; dyna chi—mae wedi dangos i chi sut i’w wneud. Hannah Blythyn.

Diolch i chi, a diolch i’r Aelod dros Islwyn am y cyfle hwn i siarad am y ganolfan ddysgu newydd wych sy’n cael ei hadeiladu yn Nhreffynnon, gwaith sy’n agosáu at ei gamau olaf, yn fy etholaeth i. Yn wir, roeddwn yn meddwl tybed a ddylwn ddatgan buddiant bach damweiniol am fod y safle’n bwysig iawn i mi gan mai dyna ble roedd hen Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y cyfarfu fy rhieni yn y chweched dosbarth. Ond a bwrw ymlaen yn gyflym i’r unfed ganrif ar hugain a heddiw, i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae’n fwy na brics a morter, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod; mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, yn fy achos i, i fuddsoddi yn ein cymuned a’n dyfodol. Mae Ysgol Treffynnon, fel y bydd yn cael ei galw, yn adeilad mawr a fydd yn adfer balchder ac mae ganddi uchelgeisiau hyd yn oed yn fwy ar gyfer ein cymuned i sicrhau bod yr ysgol yn dod yn ganolbwynt i’r gymuned, canolfan o weithgaredd yn y nos ac yn ystod y dydd, lleoliad ar gyfer chwaraeon a chlybiau hamdden, nosweithiau ymgysylltu ar gyfer teuluoedd sy’n anodd eu cyrraedd, a fforwm i roi cymorth a chyngor i deuluoedd, gan roi’r ysgol wrth galon y gymuned go iawn. Mae’r pennaeth yn Nhreffynnon yn dymuno diolch i’r rhai sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, oherwydd, yn ei eiriau ef, ‘Maent wedi helpu i sicrhau dyfodol llawer mwy disglair ac addawol ar gyfer ein disgyblion yn yr hyn sy’n ddatganiad clir a gweladwy yng Nghymru fod Cymru’n gofalu am ei phobl ifanc a’i dyfodol.’

Iawn, fersiwn fer fer. Gwnaeth Rhianon waith gwych fel aelod o’r cabinet dros addysg ac yn awr mae hi wedi camu i lawr i fod yn Aelod Cynulliad. Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol Gyfun Heolddu, sydd wedi elwa o floc technoleg newydd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Kirsty Williams yno i’w agor, ac roedd yn achlysur gwych—‘I bawb ei gyfle’ yw arwyddair yr ysgol. Yn olaf, mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi arwain at adeiladu’r Gwyndy yn nhref Caerffili, campws newydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Gynradd Cwm Ifor ym Mhenyrheol, ac Ysgol Gynradd Greenhill yng Ngelli-gaer, lle rwy’n byw, ac mae’n wych gallu croesawu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Am raglen ragorol; hollol wych.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gyflym iawn, iawn. [Chwerthin.] A gaf fi ddiolch i’r Aelod yn gyntaf oll am ddod â’r mater pwysig hwn i’r Siambr, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud yw darparu cyfleoedd i’n plant ifanc mewn cyfleusterau newydd modern er mwyn sicrhau eu bod yn gallu datblygu i mewn i’r unfed ganrif ar hugain? Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn un peth. Byddaf yn gyflym. Mae’r cynllun busnes, pan edrychwn ar y pethau hyn, yn bwysig, oherwydd weithiau rydym yn symud ysgolion allan o gymunedau. Mae angen i ni sicrhau na niweidir y cymunedau hynny mewn unrhyw ffordd, a hefyd ein bod yn darparu llwybrau diogel i’r ysgol i rai o’r plant hynny hefyd. Felly, fel rhan o’r cynllun, a fyddech cystal â sicrhau bod hynny’n digwydd pan fyddwn yn adeiladu’r cyfleusterau newydd sy’n wych ar gyfer y plant ifanc hynny?

Ysgol Uwchradd Maesteg, Coleg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gynradd Bro Ogwr—

[Yn parhau.]—Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath ym Mracla a ariennir ar y cyd—mae’r rhestr o fuddsoddiadau yn ddiddiwedd. Mae mwy i’w wneud, ond yr unig beth sy’n rhagori ar y buddsoddiad mewn brics a morter, rhaid i mi ddweud, yw llafur cariad athrawon a staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni i wella cyfleoedd bywyd ein plant a’n pobl ifanc.

Felly, yn y cyfnod anodd o bwysau cynyddol ar gyllidebau dan bwysau, a gaf fi gymeradwyo’r arweiniad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr, a’r aelod Cabinet Huw David, sy’n buddsoddi yn ein hysgolion ac yn buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc ?

Da iawn. Nawr, Rydych i gyd wedi profi y gallwch wneud areithiau byr iawn a dal i wneud eich pwyntiau, felly rydym yn disgwyl i hynny barhau. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i’r Aelod am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. A gaf fi ei llongyfarch ar ei dadl fer gyntaf, ac yr araith a gyflwynodd mor huawdl?

Fel y clywsom gan Hannah Blythyn, yn wir, nid rhaglen adeiladu yn unig yw ysgolion, ond lle i ramant flodeuo hefyd, mae’n amlwg. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau eraill am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd eu hysgolion yn gwerthfawrogi’n fawr eu bod wedi cael eu henwi yma y prynhawn yma.

Nawr, y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf yn ein seilwaith addysgol ers y 1960au. Fel y clywsom gan Rhianon, yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen hon bydd buddsoddiad o £1.4 biliwn wedi’i wneud i dalu am ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn ein hysgolion a’n colegau, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu 50 y cant ohono. Ers ei lansio yn 2014, mae 105 o brosiectau wedi’u cymeradwyo o fewn y rhaglen. O’r rhain, mae 78 naill ai’n cael eu hadeiladu neu, rwy’n falch o ddweud, wedi’u cwblhau.

O’r cychwyn cyntaf, mae’r rhaglen hon yn ehangach nag adeiladu’n unig; fe’i cynlluniwyd i sicrhau buddsoddiad strategol ar draws ein cenedl a bydd hyn yn parhau. Mae’r rhaglen yn gyrru tri maes allweddol: lleihau adeiladau ysgolion mewn cyflwr gwael gan wneud ein stoc adeiladau yn fwy effeithlon i’w rhedeg; a lleihau nifer y lleoedd dros ben fel y gallwn ateb galw disgyblion lleol.

Mae’r rhaglen hefyd wedi’i chynllunio i roi sylw i anghenion ehangach dysgwyr, megis yr angen a’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac am addysg ffydd. Drwy gael yr ysgolion cywir yn y cyflwr cywir, gallwn greu sylfaen asedau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. A thrwy wneud yr asedau hyn yn fwy effeithlon ac addas ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gallwn sicrhau y gall ein hathrawon ganolbwyntio nid ar fwcedi, Mike, ond ar addysgu, fel y gellir gwthio safonau addysgol yn eu hysgolion yn eu blaen ac i fyny.

Yn olaf, drwy wneud yn siŵr fod ein hysgolion o’r maint cywir ac yn y lle iawn, gallwn sicrhau ein bod yn ateb galw disgyblion yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn symud ymlaen, a hynny’n bennaf, fel y nododd Huw Irranca-Davies, o ganlyniad i natur arloesol a chydweithredol y buddsoddiad hwn. Yn wir, rydym yn gweithio ar sail cydadeiladu, sy’n arwain at bartneriaethau cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol unigol ac eraill ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau, ond hoffwn weld y rhaglen yn cyflymu. Byddaf yn gofyn i swyddogion, ac yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni hynny.

Nid ymwneud â darparu adeiladau yn unig y mae’r buddsoddiad hwn, fodd bynnag. Rydym yn awyddus i hybu gwerth go iawn drwy’r rhaglen, gan sicrhau ein bod yn darparu amgylcheddau sy’n ysbrydoli ac yn gosteffeithiol. Hyd yma, cwblhawyd 41 o brosiectau ac mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau newydd modern, megis y rhai yn Ysgol Gymunedol Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yn Sir Ddinbych. Gyda’i gilydd, mae’r ysgolion hyn yn darparu lleoedd ar gyfer 2,800 o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â mwy na dysgwyr; mae hefyd yn ymwneud ag ysgogi gwerth i’r gymuned ehangach o amgylch ein hysgolion a’n colegau—er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol drwy ein hysgolion i’r ysgol a’r cyhoedd allu eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth feithrin, ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau hamdden megis caeau 3G a 4G newydd, ac o wneud hynny, mae’n cysylltu â’n dyheadau sy’n deillio o’n Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Hefyd ni ddylem anwybyddu’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sy’n deillio o fuddsoddiadau cyfalaf o’r math hwn. Drwy ein defnydd o fframweithiau caffael rhanbarthol, rydym yn creu buddion cymunedol megis hyfforddiant, cyfleoedd prentisiaeth, ymwneud ysgol mewn pynciau STEM a chreu swyddi. Rydym hefyd yn gweld manteision enfawr i’r gadwyn gyflenwi leol, wrth weld ein buddsoddiad yn darparu swyddi a thwf ar gyfer pobl Cymru.

Mae’r rhaglen hyd yn hyn wedi cael cefnogaeth ysgolion sy’n ateb gofynion lleol am ddarpariaeth addysgol, megis Ysgol Bro Teifi, yr ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul, Ysgol Hafod Lon, sy’n darparu cyfleusterau anghenion arbennig yng Ngwynedd, lleoedd cynradd yn ein prifddinas yma yng Nghaerdydd a buddsoddiad mewn darpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o gynlluniau mawr yn cael eu hadeiladu, ac rwyf wedi gweld cynnydd Ysgol Uwchradd newydd Islwyn sy’n werth £25.5 miliwn, ac sy’n mynd i ddarparu lleoedd ar gyfer 1,100 o ddisgyblion yng Nghaerffili, Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion ac ysgol gynradd Cyffordd Llandudno yng Nghonwy, sydd i gyd yn enghreifftiau ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer disgyblion, y staff a’r gymuned ehangach.

Ond nid yw dysgu ôl-16 wedi cael ei anghofio. Maent hwy hefyd wedi bod yn rhan bwysig o’r prosiect hwn, gyda buddsoddiad yng nghampws Coleg Caerdydd a’r Fro yng Nghaerdydd sy’n werth £40 miliwn a chanolfan ôl-16 gyda Choleg Cambria yn Sir y Fflint.

Rhagwelir y bydd cyflwyno’r rhaglen fuddsoddi strategol bwysig hon yn rhedeg dros nifer o fandiau buddsoddi. Mae ein rhaglen gyfredol gwerth £1.4 biliwn yn rhedeg tan 2019 ac mae fy swyddogion yn awr yn gweithio ar ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw. Os bydd y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cadw eu haddewidion, ni ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar y rhaglen hon.

Mae’r buddsoddiad mawr hwn yn ein hysgolion a’n colegau er budd cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol yn llawer mwy na rhaglen adeiladu. Mae’n rhan o ymagwedd gyfannol ehangach y Llywodraeth hon ar draws addysg, adfywio a chyflogaeth. Bydd ein hysgolion a’u cymunedau ehangach, os gallwn barhau i gyflawni hyn, yn dod i berthyn i’r unfed ganrif ar hugain go iawn. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:22.