Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/05/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn i ni ddechrau heddiw, hoffwn wneud datganiad. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ynghylch iaith a ddefnyddiwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf gan arweinydd grŵp UKIP. Mae ein Rheolau Sefydlog yn gwahardd ymddygiad anghwrtais ac amhriodol, ac iaith sy'n groes i'r drefn, yn wahaniaethol, yn sarhaus neu'n amharu ar urddas y Cynulliad hwn.

Ar ôl adolygu'r Cofnod, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod cyfraniad Neil Hamilton yr wythnos diwethaf yn mynd yn groes i’r gofynion hynny. Yn arbennig, roeddwn o’r farn bod y sarhad ar onestrwydd Aelodau eraill, trwy iaith rywiaethol, ac ensyniadau rhywiol, yn annerbyniol. Mae’r Aelod a minnau wedi cael sgwrs breifat, ac rwyf wedi egluro fy nisgwyliadau a chonfensiynau’r Cynulliad. Rwy’n ddiolchgar iddo am dderbyn fy marn ar y mater hwn, barn yr wyf yn gobeithio fydd yn ganllaw i'r holl Aelodau ar gyfer eu cyfraniadau yn y dyfodol.

This is the first statement of this kind I have given, on only the third day I have presided over debate. Should any Member interpret that as meaning I intend to be in any way harsher on the group that is newest to this Assembly, then they are wrong. As Presiding Officer, all Members are equal in my eyes. I will favour no party or Member over another. I will encourage debate that is vibrant, vigorous and robust. Indeed, I wish to encourage debate that is more vibrant, more vigorous and robust than that which has characterised the Assembly in the past.

But I expect every Member, from the newest to the most experienced, to engage in mature parliamentary debate. Members must be sufficiently skilled to do so without crossing the lines described by our Standing Orders. As long as they do that, all Members will be allowed to express strong views, irrespective of party. I will call to order anyone who detracts from the dignity of this Assembly, or who insults the integrity of other Members or the voters who elected them. Neil Hamilton.

Wel, diolch yn fawr iawn, Lywydd.

First of all, I’d like to say that, of course, I respect your authority, as the Presiding Officer of this Assembly, and I welcome the spirit of tolerance in which you have made your statement this afternoon, and, in particular, as you propose no further action in respect of the words that I uttered last week. I had no intention to upset anybody in any way. I thought that the image that I conjured up was sufficiently ludicrous not to be taken seriously by anybody. I might have said something like, ‘The Liberals and Plaid Cymru getting into bed with Labour’. This is something—[Interruption.]

Ar hyn o bryd, nid wyf eisiau ailadrodd cyfraniad yr wythnos diwethaf, felly rwy’n meddwl y byddai'n well, er eich lles eich hun, i chi ddirwyn eich sylwadau i ben nawr ac i ni symud ymlaen at y busnes sydd dan sylw heddiw.

Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i’n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio â bod eisiau tarfu ar natur ddigymell y dadlau yn y Siambr hon, ac, yn wir, am barchu hawliau pleidiau lleiafrifol ynddi.

Rwyf ar fin tarfu ar natur ddigymell y dadlau, a symud ymlaen at y busnes nesaf. Felly, diolch i chi am eich cyfraniad, a symudaf ymlaen nawr at y cwestiynau i'r Prif Weinidog.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Ac rwy’n gofyn i Sian Gwenllian ofyn y cwestiwn cyntaf yn y pumed Cynulliad.

Hyfforddi Doctoriaid

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid? OAQ(5)0002(FM)[W]

Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw?

Fel rhan o’r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi’n cydnabod bod angen yn awr symud ymlaen i hyfforddi meddygon. A fydd y cynlluniau yn cynnwys edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru? Oherwydd mae’r problemau, fel y gwyddoch chi, yn ddybryd iawn yn y gogledd, a’r angen am feddygon yn yr ysbytai ac mewn meddygfeydd gwledig yn un dwys iawn. A fyddwch chi, felly, yn fodlon symud ymlaen rŵan i greu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ym Mangor? Mae fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, wedi cychwyn ar y gwaith gan ddefnyddio’r arbenigedd sydd ym Mangor ar gyfer symud ymlaen gyda’r cynllun, a hoffwn eich gweld chi’n ymrwymo heddiw i greu cynllun busnes ar gyfer hyn. Diolch.

Mae hwn yn rhywbeth i’w ystyried, wrth gwrs, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio o dan dermau’r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae’n bwysig dros ben nad ydym ni’n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob proffesiwn sydd yn gweithredu gofal a hefyd iechyd i’n pobl.

Brif Weinidog, mae hyfforddi meddygon yn bwysig i ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, ond mae hynny'n wir hefyd am hyfforddi mwy o nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion a’r holl broffesiynau iechyd eraill. Efallai nad yw’r model cynllunio’r gweithlu a ddefnyddiwyd yn addas i’w ddiben erbyn hyn. Fel y cyfryw, a wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd newydd edrych ar y model cynllunio’r gweithlu i sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac y bydd yn cydnabod y newid i anghenion a gofynion cymdeithasol defnyddwyr gwasanaeth a staff? Ac a wnaiff hyn sicrhau bod yr anghenion hyfforddi sydd gan bob gweithiwr iechyd proffesiynol, a'r hyn sydd gennym ar gyfer ein gwasanaeth, yn briodol? Ac a wnewch chi sicrhau bod y cyllid ar gael i sicrhau y gall y lleoedd i israddedigion ddiwallu’r anghenion hyfforddi hynny?

Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae’r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried yn wlad dda i weithio ynddi, gan ein bod yn gwybod bod y gystadleuaeth yn chwyrn ledled Ewrop, a ledled y byd, am weithwyr meddygol proffesiynol, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni wasanaeth iechyd sy'n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio ynddo.

Brif Weinidog, nid oedd ymgyrch y Llywodraeth ddiwethaf i recriwtio meddygon yn llwyddiannus. Roedd hynny’n eglur o'r ffaith bod cael gweld meddygon teulu ar draws y canolbarth yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf i ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth glymblaid newydd yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder meddygon mewn cymunedau mwy anghysbell ledled Cymru?

Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy’n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn—ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd—nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo'n dda iawn. Ac mae hwnnw’n fodel y credaf, gan ei fod yn gweithio'n llwyddiannus, y gellir ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Mae’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar hwyluso gweld meddygon teulu i’w groesawu. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid annog practisys gofal cynradd i gydweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i’w hybu ymhellach fyth, yn enwedig mewn ardaloedd pellach allan?

Rwy’n credu bod hynny’n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw’n ffaelu teithio’n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu a gweithredu systemau trafnidiaeth sy’n mynd i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’u gwasanaethau nhw.

Datblygiadau i’r Seilwaith Trafnidiaeth

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau i’r seilwaith drafnidiaeth yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer seilwaith trafnidiaeth hyd at 2020.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i geisio osgoi pentref Dinas Powys. Gyda'r datblygiadau enfawr sy’n digwydd yn y Barri nawr—datblygiad y glannau, â 2,000 o dai—a cheisiadau diweddar yn Sili yn cael eu cymeradwyo hefyd, mae'r galw am y ffordd osgoi hon yn fwy fyth nawr nag y bu erioed. Pa gynigion wnaiff Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y tymor hwn fel y gall trigolion Dinas Powys deimlo'n hyderus y byddwch yn cefnogi cais am gyllid ar gyfer ffordd osgoi i Ddinas Powys?

Rwy'n gyfarwydd â'r darn hwn o ffordd, wrth gwrs, ac mae'n ddarn o ffordd prysur. Mater i Gyngor Bro Morgannwg ei ystyried yw hwn. Ni fyddai'n gefnffordd; byddai'n ffordd sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, byddem yn hapus i archwilio unrhyw gynigion yr hoffent eu cyflwyno.

Brif Weinidog, dylai’r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i’r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi’n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cynnar hwnnw?

Wel, dyma’r sefyllfa: bydd y cyfleuster benthyca ar gael yn gyffredinol ond mae’n bosibl ei gael yn gynnar ar gyfer yr M4. Wrth gwrs, ni fyddem yn cytuno i sefyllfa lle byddem yn gweld sefyllfa barhaol lle byddai amodau’n gysylltiedig ag unrhyw bwerau benthyca a fyddai'n cael eu harfer, ond dyna'r sefyllfa bresennol—ar gyfer yr M4 yn unig y ceir defnyddio’r arian.

O ystyried y cwestiynau o’i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio’r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl?

Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig cael ymchwiliad cyhoeddus. Heb ragfarnu’r mater, dyna’n sicr yw fy marn i. Rwy’n meddwl bod angen i’r ymchwiliad cyhoeddus fod mor eang â phosibl. Mae angen iddo fod yn ymchwiliad cyhoeddus lleol, ac rwy’n credu y byddai angen i’r ymchwiliad ystyried amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys cynigion amgen. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig fel y gall y cyhoedd archwilio drostynt eu hunain manteision ac anfanteision y gwahanol brosiectau. Byddwn yn disgwyl i’r ymchwiliad hwnnw gychwyn yn yr hydref a byddai'n cymryd tua blwyddyn i’r ymchwiliad ddod i bwynt pryd y gellid gwneud penderfyniad.

Brif Weinidog, yn ogystal ag ystyried seilwaith i gefnogi teithiau pellter hir, a fyddech chi’n ystyried buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi lleihau'r defnydd o geir ar gyfer teithiau pellter byr? Mae tua 20 y cant o deithiau mewn car am bellteroedd o lai na milltir, ac mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at dagfeydd lleol. Ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad, galwodd y pwyllgor menter am arweinyddiaeth gryfach a mwy o fuddsoddiad i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar waith. Gwn ei fod yn falch iawn o'r Ddeddf honno. A fyddai'n ystyried sut, gyda'i Weinidogion, y gall wneud yn siŵr bod y Ddeddf honno’n gwireddu ei photensial ac adolygu ei gweithrediad hyd yn hyn?

Yn sicr, a dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni’r cynigion ar gyfer y metro. Rydym ni’n gwybod na all ffyrdd fod yn ateb i bopeth; mae'n rhaid iddyn nhw redeg ochr yn ochr â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna y bwriedir i’r metro yn y de-ddwyrain ei gyflawni. Mae'n fodel yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gymru, fel y gogledd-ddwyrain, yn y dyfodol. Cyfleustra’r gwasanaeth, trenau dibynadwy, gwasanaeth rheolaidd—mae'r rhain i gyd yn ffyrdd y gallwn eu defnyddio i annog mwy o bobl allan o'u ceir.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac. yn gyntaf, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolbeb, a fyddai'n golygu na fyddai cleifion yn cael eu gorfodi i symud i wahanol gyfeiriad neu ar draws y ffin mwyach i gael gafael ar y cyffuriau neu’r triniaethau sydd eu hangen arnynt. Mae'n deyrnged i waith Annie y bydd y system annheg honno yn dod i ben nawr. A allwch chi gadarnhau heddiw y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â sefydlu panel annibynnol i adolygu'r system bresennol ac y bydd pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn gallu cael mewnbwn ac yn cael cymryd rhan yn y newidiadau hynny o'r cychwyn cyntaf?

A gaf i’n gyntaf gydymdeimlo â theulu Annie? Mae'n gyfnod anodd iawn iddyn nhw, rwy'n gwybod. Gallaf, gallaf gadarnhau, wrth gwrs, o dan delerau'r compact a gytunwyd rhwng ein pleidiau, mai ein bwriad, wrth gwrs—. Wel, byddwn yn cyflwyno cronfa triniaethau newydd, ond, yn ogystal â hynny, byddwn yn ystyried a oes ffordd well o ymdrin â cheisiadau cyllido cleifion unigol ac wrth gwrs i weld a oes gair gwell neu derminoleg well y gellir ei defnyddio—yn hytrach na’r gair 'eithriadol'.

Dylid eich canmol, rwy’n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a’r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno nawr i gyfarfod ag Irfon a Rebecca Williams o'r grŵp ymgyrchu hwnnw fel y gallant rannu eu profiadau â chi ac fel y gallant hefyd wneud yn siŵr bod y system newydd yn cael gwared ar rwystrau i gleifion fel Irfon ac Annie Mulholland?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fy mod i wedi cwrdd ag Irfon a Rebecca Williams. Cefais gyfarfod â nhw yng Nghyffordd Llandudno yn wir, yn y swyddfeydd yno. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn. Roedd materion a godwyd ganddynt nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt ac maen nhw wedi fy helpu i geisio penderfynu sut y dylid llunio polisi yn y dyfodol.

Hefyd, cyn yr etholiad, rhoddais ymrwymiad, ac, yn wir, rwy’n credu—wel, ni allaf siarad ar ran arweinwyr pleidiau eraill, ond rwy’n meddwl mai’r ymrwymiad oedd bod y cynnig yno i bawb gyfarfod ag Irfon unwaith eto ac i ystyried y materion unwaith eto.

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu’n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai’r ymrwymiad hwn wedi bod yno oni bai am yr ymgyrchwyr hynny. A wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi a'ch Gweinidog iechyd newydd yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr adolygiad er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd y bobl sydd angen cyffuriau a thriniaethau newydd yn dioddef mwyach yr anghyfiawnderau a wynebwyd gan Irfon Williams ac Annie Mulholland ymhlith eraill?

Wel, yn sicr, mae angen archwilio’r system bresennol o ran a ddylid cael panel cenedlaethol neu baneli lleol ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol—rydym ni’n agored i hynny—ac, wrth gwrs, y defnydd o'r gair 'eithriadoldeb '. Mae'n rhaid cael rhywbeth, neu fel arall byddai anawsterau o ran penderfynu sut y byddai cyffuriau’n cael eu neilltuo, ond, heb ragfarnu unrhyw beth, rydym ni’n mynd i’r afael â hyn gyda meddwl agored. Rydym yn gwrando ar safbwyntiau pobl eraill sydd yn dweud ei bod yn anodd pan fo gennych chi sefyllfa lle gall rhywun mewn un rhan o Gymru gael gafael ar gyffur ac na all rhywun mewn rhan arall o Gymru. Yn amlwg, mae honno'n sefyllfa anodd iawn i’w hamddiffyn a dyna pam, wrth gwrs, yn unol ag ysbryd a thelerau'r cytundeb, y mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei ailystyried.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau am Annie Mulholland. Cefais y pleser o noddi'r digwyddiad a gynhaliwyd ac a gafodd ei gefnogi’n eang gan lawer o Aelodau'r Cynulliad blaenorol, ac, yn wir, siaradodd y Gweinidog iechyd blaenorol yn y digwyddiad hwnnw yn y Pierhead. Trwy ei dycnwch, trwy ei hymroddiad a'i hymrwymiad, yn hytrach na gadael i’w salwch ei hatal rhag gwneud pethau, agorodd lawer iawn o ddrysau gan wthio’r syniad i feddyliau llawer o bobl na ddylai unrhyw beth fod yn amhosibl, waeth beth fo diagnosis rhywun. Credaf fod y digwyddiad hwnnw draw yn y Pierhead wir wedi pwysleisio cryfder cymeriad y foneddiges, Annie Mulholland, a gall ei theulu fod yn haeddiannol falch o'i hymdrechion. Rwy'n siŵr y byddent wedi dymuno iddi fod gyda nhw heddiw, ond mae’n sicr ei bod wedi gwneud y defnydd gorau o'r amser a oedd ganddi ar ôl pan gafodd ei diagnosis terfynol. Felly, bydd llawer o aelodau'r gymuned yn ei cholli'n arw ac felly hefyd, mewn gwirionedd, Aelodau'r Cynulliad blaenorol a ffrindiau a theulu.

Brif Weinidog, rhoesoch eich Llywodraeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf ar ôl, yn amlwg, cael eich ethol yn Brif Weinidog. A allwch chi gadarnhau heddiw fod pob aelod o'ch Cabinet yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb ar yr holl faterion sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru?

Diolch i chi am yr ateb yna. [Chwerthin.] Un o'r rhaglenni allweddol y byddwch yn ei chyflwyno, yn amlwg, yw ffordd liniaru’r M4 ac, yn benodol, eich cefnogaeth bersonol eich hun, ac, felly, cysylltu hynny â Llywodraeth Cymru, i ddatblygiad y llwybr du. Nawr, atebwyd cwestiwn gennych yn gynharach am y broses ynghylch yr ymchwiliad cyhoeddus. Mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl i mi yr wythnos hon, rydych chi wedi nodi mai 2018—gwanwyn 2018 fyddai’r dyddiad comisiynu ar gyfer y ffordd. A allwch chi ddweud, yn hyderus, eich bod yn credu bod gwanwyn 2018 yn ddyddiad comisiynu realistig, a beth sy’n eich gwneud yn ffyddiog y glynir at y dyddiad hwnnw fel y gall yr arian gael ei dynnu i lawr a'i ddefnyddio i ddatrys y broblem ynglŷn â'r dagfa o amgylch Casnewydd?

Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu’r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy’n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i’n dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran y ffaith mai ffordd ddeuol ydyw, mae'n mynd heibio tai llawer o bobl, ac yn golygu dymchwel adeiladau. Felly, nid yw'n heb ei boenau. O ran y llwybr du—wrth gwrs, rydym ni’n gweld y bu rhai gwrthwynebiadau; mae angen eu harchwilio ac rwy'n fwy na pharod i gael ymchwiliad sy’n archwilio nid yn unig y llwybr du, ond sy’n edrych ar lwybr arall hefyd. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu hyd yma, sef ei bod yn ymddangos mai’r llwybr du yw’r llwybr mwyaf tebygol.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo ei hun bellach i gomisiynu’r prosiect hwn erbyn 2018—gwanwyn 2018. Rwy’n sylweddoli bod yr ymchwiliad cyhoeddus y tu allan i’ch rheolaeth, ond, gyda gwynt teg, bydd y comisiynu’n digwydd, a byddwn yn edrych ar ddatblygiadau ar y materion hyn gyda diddordeb.

Y mater arall sydd yn sensitif o ran amser, yn amlwg, yw’r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Yn amlwg, yn y Cynulliad diwethaf—ac rydych chi wedi siarad yn helaeth ar y mater penodol hwn ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol ac rydych chi wedi cyfrannu llawer o gyfalaf gwleidyddol personol i ad-drefnu llywodraeth leol ledled Cymru. A allwch chi ddweud yn hyderus heddiw y bydd etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac na fydd eich Llywodraeth yn ceisio gohirio’r etholiadau hynny trwy gyflwyno cynigion newydd ar gyfer map llywodraeth leol yma yng Nghymru neu, yn wir, newid y dyddiad fel y gellir cael ymgynghoriad ehangach ar ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru?

Na, rwy’n credu y bydd yr etholiadau hynny’n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siambr hon, bod cefnogaeth i ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, mae'n fater o dreulio’r ychydig fisoedd nesaf yn archwilio pa dir cyffredin allai fod rhwng y pleidiau fel y gallwn gael gwared ar y sefyllfa lle mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol, gydag un ohonynt wedi chwalu’n gyfan gwbl, a chwech ohonynt a oedd yn destun mesurau arbennig ar un adeg ym maes addysg. Nid yw'n fodel cynaliadwy. Does dim llawer iawn o anghytundeb dros hynny, ond, wrth gwrs, mae'n gwestiwn o ba un a ellir dod i gytundeb ar sail drawsbleidiol ar fodel mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru.

Diolch i chi, Lywydd. Mr Prif Weinidog, byddwch wedi gweld yn y newyddion yr wythnos hon bod yr Unol Daleithiau wedi cynyddu ei thariffau ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer i'r Unol Daleithiau o 266 y cant i 522 y cant. Yr wythnos hon, o bob wythnos, wrth gwrs, dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot sydd flaenllaw ym meddyliau pob un ohonom. Mae gan yr UE, mewn gwrthgyferbyniad â’r Unol Daleithiau, dariff o 14 y cant ar y math hwnnw o fewnforio dur i'r UE. A wnewch chi gefnogi ein cynnig y dylai'r UE gynyddu ei dariffau i'r lefelau y mae’r Unol Daleithiau wedi ei wneud?

Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi’r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy’n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar draws y byd, bod angen i ni weld tegwch i’n cynhyrchwyr dur ein hunain.

Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn cymeradwyo'r feirniadaeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, wedi ei gwneud o’n Llywodraeth am beidio â chefnogi tariffau realistig ar ddur wedi’i ddympio o Tsieina. Yn sicr—[Torri ar draws.] Yn sicr, nid polisi UKIP yw cefnogi’r lefel bresennol o dariffau yn yr UE. Ond yr hyn y mae hyn yn ei ddangos i ni, yn gyntaf ac yn bennaf, yw'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi’n allanoli eich polisi masnach i gorff anetholedig wedi’i leoli mewn gwlad arall. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei weld, ac rwy’n gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hyn, yw dychweliad ein polisi i gyflwyno dyletswyddau gwrth-ddympio i’r Deyrnas Unedig hon trwy adennill ein sedd ar Sefydliad Masnach y Byd. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hynny.

Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae’n ei gwneud yw, pe byddai’r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny’n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio.

Ond nid maint yr allforion sydd gennym ni o’r wlad hon i’r UE yw’r broblem wirioneddol â datganoli yn y wlad hon, ond y llif o fewnforion o Tsieina i mewn i'r UE, sy'n achosi parlys ar draws y diwydiant dur yn yr UE cyfan. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad gwleidyddion etholedig, yn y pen draw, sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr UE. Dyna pam mai ein hargymhelliad ni yw i bobl y wlad hon, yng Nghymru yn arbennig, bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin.

Mae'n rhaid i ni gofio mai penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth etholedig y DU oedd peidio â chefnogi codi’r tariffau. Dyna oedd y penderfyniad a wnaed, nid gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun, ond gan Lywodraethau eraill—o leiaf un Llywodraeth arall—hefyd. Ond, o'm safbwynt i, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig bod gennym ni rwystr tariff i atal mewnforion rhad rhag dod yma o rannau eraill o'r byd, ond nad oes gennym rwystr tariff i atal dur y DU rhag cael ei fewnforio i'r UE.

Y Diwydiant Dur

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant dur? OAQ(5)0010(FM)

11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r saith sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb posibl mewn prynu Tata Steel UK? OAQ(5)0004(FM)

Gwnaf. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 ac 11 gael eu grwpio. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn flaenoriaeth bendant i’n Llywodraeth gynnal presenoldeb gwneud dur cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hynny'n golygu cydweithio'n agos, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU.

Dros gyfnod yr etholiad, Brif Weinidog, euthum i a chydweithwyr Plaid Cymru i ymweld â'r adran beirianneg ar y campws arloesi newydd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i Brifysgol Abertawe anfon rhai ffigurau ataf o ran faint y byddai'n ei gostio i sefydlu uned dur ac arloesi newydd yn y brifysgol, gan ei bod mor agos—mae mewn lleoliad delfrydol, blaenllaw—i Tata Steel allu gwneud hynny. Byddai'n costio £17.2 miliwn dros bedair blynedd i’r adran honno gael ei sefydlu. Brif Weinidog, os yw eich Llywodraeth yn credu bod achub y diwydiant dur mor hanfodol bwysig, a wnewch chi roi arian i gefnogi’r prosiect arloesi newydd hwn i wneud yn siŵr y gall dur gael ei gynnal yma yng Nghymru?

Wel, ymwelais innau â'r campws hefyd, a gwnaed y pwynt i mi. Nid wyf wedi gweld cais ffurfiol o unrhyw fath hyd yn hyn, yn bersonol, yn cael ei wneud, ond, wrth gwrs, byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn ofalus iawn gennym ni fel Llywodraeth.

Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi’r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan drafodwyd yr argyfwng dur, mae proses sydd wedi symud yn gyflym yn yr argyfwng dur, yn enwedig o ran gwerthu buddiannau Tara Steel yma yn y DU, ac mae gan nifer o gyrff ddiddordeb ac wedi mynegi diddordeb, ac rwy'n credu mai ddoe oedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gydag unrhyw un o'r cyrff hynny sydd wedi gwneud ceisiadau i brynu Tata Steel ac, yn benodol, pa gymorth ydych chi'n ei gynnig i'r cwmnïau hynny? A allwch chi hefyd mewn gwirionedd nodi a yw hyn yn cynnwys parhad y pen trwm ym Mhort Talbot, sy'n hollbwysig i'r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau fel gwaith integredig— maen nhw’n gwneud dur o ddeunyddiau crai, ond hefyd dyna lle mae llawer o'r contractwyr yn cael eu cyflogi, a bydd colli’r pen trwm hwnnw’n cael effaith enfawr ar gyflogaeth yn fy ardal i.

Gallaf, rwyf wedi cyfarfod â dau o'r sefydliadau sydd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mae'r pen trwm yn gwbl hanfodol i ddyfodol ein diwydiant dur yn y DU, ac rwyf wedi gwneud hynny'n gwbl eglur. Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi unrhyw gytundeb posibl a fyddai’n arwain at leihau hawliau pensiwn ar ran naill ai'r pensiynwyr na'r gweithwyr sy’n gweithio i Tata ar hyn o bryd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Yfory, bydd Tata yn cynnal ei gyfarfod bwrdd—byddaf yn Mumbai yfory—a byddant yn bwriadu gwneud penderfyniad, rydym ni’n deall, i grynhoi’r datganiadau o ddiddordeb i greu rhestr fer. Yr hyn sy'n galonogol, wrth gwrs, yw bod busnesau allan yna sy’n edrych o ddifrif ar sicrhau dyfodol ein diwydiant dur ac, yn bwysig, wrth gwrs, nid dewis y darnau mwyaf proffidiol yn unig, ond sicrhau bod pen trwm Port Talbot yn parhau.

Croesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog yn mynd allan i Mumbai. Roeddwn i’n meddwl tybed, yng ngoleuni’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais Excalibur, sydd hefyd i'w groesawu'n fawr, hyd yma, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol ar ran y tîm hwnnw? O ran eu gweledigaeth, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod eu bod yn dymuno parhau i gynhyrchu dur sylfaenol; maen nhw hefyd yn cynnwys y gweithlu o ran cynllun i'r gweithwyr fod yn berchnogion rhannol. Felly, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol y dylai’r cais hwnnw fynd ymlaen i'r cam nesaf?

Wel, rydym ni wedi gwneud hynny eisoes. Yn sicr, rwyf wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU y dylid eu hystyried yn un o’r cynigwyr a ffefrir. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ei bod yn ymddangos eu bod yn siarad ag un o'r cynigwyr eraill, sef Liberty Steel. Rwy'n credu bod honno'n gymysgedd dda. Rwy'n meddwl bod y dewis prynu gan reolwyr yn cynnwys llawer o arbenigedd technegol, ond nid yw wedi codi’r arian eto. O ran Liberty Steel, mae’n fusnes sylweddol, ond nid yw wedi cymryd rhan yn y pen trwm o gynhyrchu fel arfer. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfuniad defnyddiol ac edrychaf ymlaen â diddordeb at sut y bydd hynny’n datblygu. Rwy’n gobeithio yfory y bydd Tata yn edrych yn ofalus iawn ar y cynigion ac yn sicr yn ystyried yn gryf y dewis prynu gan reolwyr, o bosibl, wrth gwrs, yn gysylltiedig â Liberty Steel.

Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i’r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae’r safleoedd dur wedi’u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o’r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.

Yn sicr. Mae'r diwydiant yn gydgysylltiedig, oherwydd, ar ôl bod i Drostre a Llanwern a hefyd i Shotton—yn Shotton, yn arbennig, roeddwn nhw’n dweud wrthyf i, 'Wel, rydym ni’n gwneud arian, ond y gwir amdani yw ein bod yn dibynnu ar Bort Talbot am ddur. Byddai'n cymryd chwe mis, yn fras, i ni gael gafael ar ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn gallu cadw ein cwsmeriaid.' Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Y gwir amdani yw na allwn ni fod yn economi ddiwydiannol fawr os nad ydym yn cynhyrchu ein dur ein hunain. Mae hynny'n un o ofynion sylfaenol bod yn economi ddiwydiannol. Mae angen i ni gynhyrchu'r dur sydd ei angen arnom ni ar gyfer diwydiant, ond hefyd, wrth gwrs, y dur sydd ei angen ar gyfer y lluoedd arfog, i'w harfogi’n iawn. Mae hon yn ddadl a wnaed dro ar ôl tro gennym ni a Llywodraeth y DU. Mae'n galonogol gweld bod diddordeb. Byddai sefyllfa lle nad oedd unrhyw un wedi dod ymlaen gyda'r bwriad o brynu holl asedau Tata yn y DU wedi peri mwy o bryder. Yn sicr, mae'n bwysig bod Tata yn cynnal y safiad y mae wedi ei wneud o ran dymuno gweld gwerthiant hyfyw yn cael ei wneud. Byddaf yn galw arnynt eto yfory i barhau â'r ewyllys da y maent eisoes wedi ei dangos.

Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiaeth o gostau y mae Llywodraeth Cymru yn fwyaf tebygol o’i chefnogi wrth wneud unrhyw addewidion pwrpasol i'r cynigwyr y gwnaethoch chi siarad â nhw.

Wel, mae gennym ni £60 miliwn eisoes ar y bwrdd; mae hanner hwnnw’n fenthyciad masnachol, mae'r hanner arall ar ffurf arian grant. Rydym ni’n dal i edrych a oes mwy y gallem ni ei wneud o ran ardrethi busnes. Mae'n iawn i ddweud mai’r cyngor gwreiddiol oedd y gallem ni gynnig €200,000 dros dair blynedd. Rydym ni’n archwilio hynny unwaith eto i weld a oes ffordd y gallwn ni helpu ymhellach. Ond serch hynny, mae’r swm o arian sydd ar y bwrdd yn cynrychioli gwerth tua phedair blynedd o ardrethi busnes i Tata beth bynnag, a bydd yr arian hwnnw ar y bwrdd i unrhyw brynwr newydd.

Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi cefnogi peiriannau, gwell proses, uwchraddio sgiliau a hyfforddiant, yn parhau yn y dyfodol fel y gallwn adeiladu ar y cynhyrchion o'r radd flaenaf hynny ar gyfer diwydiant dur Cymru yn gyffredinol?

Yn sicr; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Un o elfennau'r pecyn yr ydym ni wedi ei gynnig yw swm o €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Wrth gwrs, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant yn y blynyddoedd a fu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu eu cynorthwyo gyda phecynnau hyfforddiant pwrpasol. Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, canlyniad y gwaith arbenigol iawn sy'n cael ei wneud yn etholaeth yr Aelod.

Brif Weinidog, rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid i’r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i’m hetholwyr? Rydym ni’n gwybod bod rhai cynigion i uwchraddio gwaith Port Talbot i ffwrnais arc, er enghraifft, a rhai cynigion eraill hefyd. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth o ran cynigion moderneiddio i wneud gwaith dur Llanwern yn fwy hyfyw yn y dyfodol?

Wel, y rhan anodd o'r diwydiant dur ar hyn o bryd yw’r pen gwneud dur ym Mhort Talbot. Mae'r melinau rholio yn Nhrostre, Llanwern a Shotton i gyd mewn sefyllfa ariannol dda. Wedi dweud hynny, gwn fod y golled ym Mhort Talbot eisoes wedi cael ei thorri gan ddwy ran o dair. Mae'n dal i golli arian, ond bu gwelliant sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. Ond mae'n hynod bwysig—ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith o'r blaen, a byddaf yn ei wneud eto yfory—bod asedau Tata yng Nghymru yn cael eu cymryd yn eu cyfanrwydd ac nad ydym yn gweld gwerthiant darniog o’r hyn a ystyrir fel y pen mwy proffidiol er gwaethaf y problemau cyflenwi, ond yn hytrach ein bod yn gweld y pen trwm ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn rhan annatod o unrhyw werthiant. Gwnaed cynnydd aruthrol dros gyfnod byr iawn o amser i symud tuag at yr hyn a allai fod, ymhen amser, yn sefyllfa o fantoli'r gyllideb. O ystyried sefyllfa’r pen trwm cyn y Nadolig, bydd hynny'n llwyddiant aruthrol.

Wylfa Newydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i ddatblygiad Wylfa Newydd? OAQ(5)0013(FM) [W]

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r datblygiad hynod bwysig hwn. Rydym ni’n disgwyl y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn arwyddocaol i’r prosiect, sydd yn werth £12 biliwn, yn enwedig gan fod Horizon wedi cyhoeddi tîm cyflenwi newydd ar gyfer Wylfa Newydd yr wythnos diwethaf.

Diolch. Mae cyfnod y pumed Cynulliad yn mynd i fod yn gyfnod allweddol iawn, wrth gwrs, o ran datblygiad Wylfa Newydd. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pa un ai a fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, er bod popeth yn edrych fel petai’n symud i’r cyfeiriad hwnnw ar hyn o bryd, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig iawn, iawn i’w chwarae o ran sicrhau bod y datblygiad yn dod â’r budd mwyaf posib i Ynys Môn—o ran swyddi lleol ac o ran datblygu sgiliau ac ati, ond hefyd o ran cyflwyno a gwthio am fesurau lliniaru mewn nifer o feysydd, o dwristiaeth i bwysau ar y sector tai, ac ar y gwasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw. A all y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gynyddu capasiti yn yr adran yn y Llywodraeth sy’n ymwneud â’r datblygiad hwn, er mwyn sicrhau bod buddiannau Ynys Môn, a gogledd Cymru yn ehangach, yn cael eu gwarchod drwy’r cyfnod datblygu?

Mae hyn wedi digwydd yn barod. Mae yna fwrdd rhaglen niwclear wedi cael ei sefydlu, sef bwrdd Llywodraeth Cymru, a nod y bwrdd yw sicrhau ein bod ni’n sicrhau’r budd economaidd mwyaf i’r ynys a hefyd i Gymru yn gyfan gwbl. Mae gyda’r bwrdd hwnnw sawl ffynhonnell waith sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, sy’n cynnwys pethau fel sgiliau, pethau fel datblygu busnesau, marchnata, addysg a hefyd budd economaidd. Felly, mae’r gwaith yna wedi dechrau yn barod er mwyn sicrhau bod yr ynys ei hunan yn gallu cael y budd mwyaf sy’n bosibl o’r datblygiad hwn.

Sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gynigir gan sawl prosiect graddfa fawr sydd ar y gweill yn y gogledd, a Wylfa Newydd yw'r mwyaf o’r rheini. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan gynnwys pob un o'r chwe chyngor sir, cyngor busnes gogledd Cymru a'r trydydd sector, wedi croesawu cynnig Llywodraeth y DU o gytundeb twf gogledd Cymru a chyllid ychwanegol, ond mae angen darparu hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Sut mae, neu y bydd, eich Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnig hwnnw?

Wel, o ystyried y ffaith ei fod eisoes yno yn y lle cyntaf, yn gadarnhaol. Bydd yn gwybod, yr Aelod, ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y gogledd-ddwyrain—nid yw hynny'n eithrio’r gogledd-orllewin; rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw'r gogledd-orllewin—oherwydd, ar un adeg, roedd y Northern Powerhouse, fel y’i gelwir, yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn cael ei gyflwyno fel cystadleuydd. Nawr, rydym ni’n gweld nifer o gyfleoedd i weithio ar y cyd ar draws y ffin i sicrhau ffyniant ar draws y ffin, a dyna beth fyddwn ni’n ceisio ei wneud. Nid yw ar gyfer y gogledd-ddwyrain yn unig; rydym ni eisiau gweld y ffyniant hwnnw’n ymestyn yr holl ffordd ar draws ogledd ein gwlad.

Brif Weinidog, bydd effaith economaidd Wylfa Newydd yn arwain at 6,800 o weithwyr yn anterth yr adeiladu. Nawr, bydd llawer o'r bobl hyn yn teithio ar hyd coridor y gogledd. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud o ran y dagfa sydd gennym ni eisoes gyda phont Britannia?

Rydym ni eisoes wedi archwilio'r dewisiadau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi archwilio pa un a yw'n bosibl, er enghraifft, ymestyn—neu ledaenu, yn hytrach—pont Britannia. Mae hynny'n anodd, ond, serch hynny, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw—hynny yw, nid yw’r A55 yn ffordd ddeuol ar ei hyd cyfan, oherwydd y bont. Rydym eisoes, wrth gwrs, yn dechrau gwaith i gael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, a fydd yn helpu’n aruthrol, ac, wrth gwrs, ar ben dwyreiniol yr A55, gyda’r nod o wella'r porth i Gymru yn Drome Corner. Ond, ydy, mae’r Aelod yn iawn; bydd sicrhau bod man croesi pedair lôn priodol dros y Fenai yn waith pwysig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Gwasanaethau Canser

5.Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ(5)0012 (FM)

Mae canser yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae'r achos busnes £200 miliwn i weddnewid gwasanaethau canser ar draws y de-ddwyrain yn cael ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, disgwylir i’r achos busnes amlinellol ar gyfer ysbyty canser newydd yn Felindre—wrth gwrs, yn etholaeth yr Aelod—gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig?

Gwnaf, gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw yn bendant. Bydd yn gartref i nifer o driniaethau newydd hefyd—bydd y radiotherapi stereotactig, er enghraifft, wedi’i leoli yno, a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i gymaint o bobl sy'n byw gyda chanser i allu ymestyn eu bywydau, neu well. Rydym ni’n bwriadu i Felindre fod yn gyfleuster canser arloesol i bobl Cymru.

Un o’r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw’r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella’r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn 28 diwrnod. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth i wella’r sefyllfa yng Nghymru?

Rhaid sicrhau, wrth gwrs, fod diagnosis yn cymryd lle cyn gynted ag sy’n bosib. Gyda rhai pobl â chanser, nid yw hi mor rhwydd â hynny i gael diagnosis mewn amser byr. Gyda’r rhan fwyaf, ydy, mae’n iawn. Hefyd, wrth gwrs, mae pobl yn gallu symud ymlaen i gael triniaeth. Mae ein ffigyrau ni ynglŷn â phobl sydd yn cael triniaeth yn dda, ac yn gwella, ac rydym ni’n moyn sicrhau bod hynny’n digwydd yn y pen draw. Ond, mae’n bwysig hefyd i gael adnoddau newydd, fel Felindre, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod y triniaeth gorau ar gael i’r rhan fwyaf o bobl.

Brif Weinidog, rydym ni’n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch chi addo ar goedd yma heddiw, Brif Weinidog, na fyddwn yn gweld unrhyw glaf, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn gorfod teithio allan o Gymru i dderbyn y driniaeth angenrheidiol iawn sydd ei hangen arnynt? Ond hefyd, i ehangu’r cwmpas sydd ar gael i chi, a wnewch chi edrych ar y miliynau o bunnoedd sy’n cael eu gwastraffu ar gyffuriau triniaeth arferol sydd ar gael mor rhwydd dros y cownter mewn archfarchnadoedd? Mae hyn i gyd yn rhan o'ch presgripsiynau am ddim i bawb, ac rwy’n credu y byddai'n llawer gwell gweld yr arian hwn yn cael ei dargedu mewn ffordd well tuag at gronfa triniaethau canser.

Ah, dyma ailymddangosiad y dreth tabledi. Na, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am bresgripsiynau, mwy nag y mae gennym ni gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am apwyntiadau meddyg teulu. Nid wyf yn rhagweld y bydd unrhyw un yn croesi'r ffin, gan fod y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi dod i ben. Cwympodd o dan ei phwysau ei hun. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei roi ar waith yw cronfa synhwyrol, fforddiadwy lle bydd pethau ar gael i bobl—nid pobl â chanser yn unig, gan fod, yn amlwg, cyflyrau eraill sy'n bygwth bywydau, ac mae'n bwysig bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal pan fo ganddynt gyflyrau sy’n bygwth bywydau—ond pan fyddant yn gallu cael gafael ar gyffuriau cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y byddant wedi cael eu cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Rydym yn credu bod hon yn gronfa synhwyrol, teg a thrugarog a fydd ar gael i’r rhai sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â phobl sy'n byw gyda nifer o gyflyrau sy’n bygwth eu bywydau.

Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi’n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy’n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?

Wel, mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, yr ydym ni wedi bod yn ymchwilio iddynt, yn enwedig o ran gweithiwr allweddol. Mae’n ergyd enfawr pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, ac yn frwydr enfawr. Rwyf wedi ei weld, fel y mae nifer o bobl eraill—rwy'n siŵr fod pob Aelod yn y Siambr hon wedi ei weld. Mae canfod yn gynnar yn bwysig. Dyna pam yr ydym ni’n gwybod, wrth gwrs, fod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu, ond yn ogystal â hynny, rydym ni’n gwybod bod pobl yn cael triniaeth yn sicr yn gyflymach nag oedd yn wir o'r blaen, ac wrth gwrs bydd rhai o'r triniaethau mwyaf arloesol y gellir eu rhoi ar gael, byddwn yn dadlau, yn y byd, ar gael iddynt pan fydd Felindre yn agor, at. Dyna pam mae hi mor bwysig bod Felindre ar gael i bobl y de, ac wrth gwrs ein bod yn parhau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl y gogledd, ar draws ffiniau, fel y gallant hwythau gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt hefyd.

Seilwaith Trafnidiaeth yng Nghwm Cynon

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r seilwaith drafnidiaeth yng Nghwm Cynon am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0005(FM)

Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn, nodir mai cysylltiad Cwm Cynon yw’r cynllun â’r brif flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2015-20, ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r cyngor i ddatblygu cynllun Porth y De Cynon.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n newyddion da bod y gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu cyswllt traws-gwm yn rhan ddeheuol Cwm Cynon, diolch i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd ac yn buddsoddi i wella rhwydweithiau lleol. A fyddwch chi’n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â’r prosiect seilwaith pwysig hwn, sydd â'r potensial i fod o fudd i gymudwyr ac i roi hwb i adfywiad economaidd ledled fy etholaeth?

Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma’r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni’n gwybod nad yw’r ffyrdd yn dda o ran pobl yn dod i mewn i Aberdâr, ac mae'n bwysig cael llwybr cyflym allan i Flaenau'r Cymoedd o'r dref. Byddwn yn gweithio, wrth gwrs, gyda chyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y blynyddoedd i ddod.

Brif Weinidog, mae arweinydd Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod y model cytundeb dinas yn allweddol erbyn hyn i wella seilwaith trafnidiaeth a hybu adfywiad economaidd. A fydd eich Llywodraeth, yn y tymor i ddod, yn gweithio'n effeithiol gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod y model cytundeb dinas yn cael ei roi ar waith yn effeithiol?

Bydd, yn sicr. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r 10 awdurdod lleol dan sylw i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn dwyn ffrwyth. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn ddibynnol, wrth gwrs, ar arian o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym ni’n gwybod bod y metro, er enghraifft, yn ddibynnol ar £125 miliwn o gyllid o ffynonellau Ewropeaidd, a phe byddai hwnnw’n cael ei golli, byddai'n peryglu hyfywedd y metro. Ond byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phob lefel o Lywodraeth i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn cael ei ddatblygu.

Gorddefnyddio Gwrthfiotigau

7. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad O’Neill ar y bygythiad i iechyd dynol sy’n deillio o orddefnyddio gwrthfiotigau? OAQ(5)0007(FM)

Mae'n fygythiad, fel y gwyddom. Mae rhoi gormod o wrthfiotigau ar bresgripsiwn ac ymwrthedd iddynt yn broblem fyd-eang sy'n gofyn am atebion byd-eang. Serch hynny, mae gennym ni gynllun cyflawni yng Nghymru—glasbrint ar gyfer camau gweithredu penodol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar arafu lledaeniad ymwrthedd. Ceir 12 o gamau gweithredu penodol yn y cynllun hwnnw. Maent i gyd wedi eu cynllunio, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu at arafu ymwrthedd, o ran bacteria a firysau, i gyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae rhai o'r straeon yr wyf i wedi eu gweld yn y newyddion yn peri dychryn, o ran yr hyn a allai ddigwydd oni bai y buddsoddir mewn gwaith ymchwil nawr.

Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi’n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â gorddefnyddio presgripsiynau ar eu cyfer i fodau dynol. Tybed sut y mae’r cynllun cyflawni hwn a gyhoeddwyd ychydig cyn i ni fynd i’r toriad yn mynd i ymdrin â’r amrywiadau o ran arferion, yn ein hysbytai ac yn ein meddygfeydd. Rwy’n sylwi’n benodol, yng nghlwstwr meddygon teulu dwyrain Caerdydd, bod gorbresgripsiynu sylweddol ar gyfer clefydau anadlol o’i gymharu â chlystyrau eraill, a byddai'n ddefnyddiol archwilio pam mae’r gwahaniaethau hyn yn bodoli a sut yr ydym ni’n mynd i ymdrin â nhw.

Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at broblem sylweddol yng nghlwstwr dwyrain Caerdydd. Gallaf ddweud bod Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth fanwl yn ymwneud â rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer salwch anadlol i gefnogi clystyrau o ran nodi a mynd i'r afael ag amrywiadau o ran ymddygiadau presgripsiynu. Rydym yn bell i ffwrdd o’r dyddiau pan oedd gwrthfiotigau’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel mater o drefn, gan ein bod yn gwybod nad yw’n niweidio'r unigolyn ond mae'n niweidio imiwnedd torfol, os gallaf ei roi felly. Ceir rhai afiechydon—. Roedd twbercwlosis yng nghenhedlaeth fy mam-gu a’m tad-cu yn lladdwr gwirioneddol. Y gred oedd, gyda streptomycin, na fyddai TB yn broblem i ni mwyach, ac eto rydym ni’n gwybod ei bod yn ymddangos bod rhywogaethau newydd o TB erbyn hyn sy’n datblygu ymwrthedd i’r cyffuriau sydd gennym ni. Mae honno’n broses naturiol ym myd microbioleg, ac mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod ymchwil yn dal i gael ei wneud ar draws y byd i frwydro yn erbyn yr ymwrthedd hwnnw cyn iddo fod mor wael fel ei fod yn cymryd bywydau llawer o bobl.

Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu’r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae’r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu gwrthfiotig—nid oes yn rhaid ichi gael presgripsiwn yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae yna bwysau cynyddol ar feddygon, yn enwedig yn ein practisys ni, efallai, i fod yn rhagnodi pan, efallai, o gofio bod y llwnc tost arferol yn mynd i gael ei achosi gan firws, nid gwrthfiotig ydy’r driniaeth orau. Mae’n bwysig i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny yn ogystal â’r meddygon hefyd. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth, ond mai ein cyfrifoldeb ni i gyd ydy’r defnydd o wrthfiotig, neu’r camddefnydd neu’r gorddefnydd o wrthfiotig?

Nid wyf yn mynd i goethan â doctor; mae e’n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod yna ddyletswydd arnom ni i gyd i sicrhau nad ydym yn gorofyn. Mae yna dueddiad i bobl feddwl, os oes rhywbeth yn bod arnoch chi, fod yna bilsen i bopeth. Nid felly y mae hi, wrth gwrs, ac mae hi’n bwysig bod pobl yn sylweddoli, gyda rhai pethau, nad oes yn rhaid cael antibiotig. Byddai antibiotig ddim yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw gyda firws ta beth. Felly, rwy’n derbyn y pwynt nad yw hwn yn ddyletswydd dim ond i ddoctoriaid, ond yn ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyfan gwbl.

Brif Weinidog, un o'r problemau, rydym ni’n clywed, yw nad yw pobl yn cael diagnosis yn ddigon cynnar, ac felly, yn anffodus, mae heintiau yn mynd drwyddynt cyn y gellir rhoi’r gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. O ystyried yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu o ran cael apwyntiadau â meddygon teulu, a'r anawsterau o ran cael ymatebion a chanlyniadau o brofion diagnostig—mae llawer o bobl yn aros wythnosau lawer weithiau, nid yn unig am i brofion diagnostig syml gael eu cynnal, ond i gael y canlyniadau yn ôl o'r profion hynny—onid ydych chi hefyd yn cytuno bod arnom angen gweithredu penderfynol i fynd i'r afael â'r problemau hynny os ydym byth yn mynd i drechu’r broblem hon o ymwrthedd i wrthfiotigau?

Yn wir, a bydd yr Aelod yn gwybod bod amseroedd aros am brofion diagnostig wedi gostwng yn aruthrol. Nid oedd yn dderbyniol eu bod cyhyd, a bu gostyngiad sylweddol o 20 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei barhau, o ran parhau’r duedd honno yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd, i lawer o bobl sy'n mynd i weld meddygon teulu, yn aml iawn nid oes angen iddyn nhw wneud hynny—gallent fynd i weld fferyllydd, gallent fynd i weld nyrs practis meddygfa deulu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod neges Dewis Doeth yn parhau i gael ei hatgyfnerthu yn y dyfodol ac nad yw pobl yn cymryd yn ganiataol, os byddwch chi’n mynd at y meddyg, bod yn rhaid i chi ddod allan gyda phresgripsiwn. Felly, oes, mae dyletswydd, wrth gwrs, ar bob un ohonom i sicrhau bod y neges honno’n yn cael ei deall.

Plant sy’n Ffoaduriaid

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain sydd newydd gyrraedd Ewrop? OAQ(5)0018(FM)

Mae mewnfudo’n fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun yn ddiweddar i ailgyfanheddu rhai plant o wersylloedd yn Ewrop, ac rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer hyn.

Diolch. Rydym i gyd wedi gwylio’r argyfwng yn datblygu, gyda chynnydd aruthrol i nifer y plant sy’n symud ar draws Ewrop. Yn ôl Achub y Plant, maen nhw bellach yn cyfrif am un o bob tri o'r niferoedd hynny eleni, o'i gymharu ag un o bob 10 y llynedd. Mae'n weddol amlwg, i’r plant hynny, bod y risgiau o aros gartref yn fwy nag yw wynebu’r peryglon o symud.  Mae’r perygl o drais tuag atynt, masnachu mewn pobl, neu hyd yn oed boddi ar eu taith yn Ewrop neu’r tu allan iddo ymhlith rhai o'r peryglon hynny. Mae'n braf gweld bod Llywodraeth y DU wedi newid ei meddwl o'r diwedd o ran gwrthod derbyn ffoaduriaid sy’n blant rhag dod i Brydain, ond mae’r addewid hwnnw braidd yn amwys o ran ei gyflawni. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref ynghylch faint o blant y gellir cynnig llety neu noddfa ddiogel iddynt yma yng Nghymru, a pha gyllid fyddai ar gael, neu’n cael ei rhoi ar gael, i Gynulliad Cymru a hefyd i gynghorau Cymru i gynnig y lleoedd hynny i'r plant hynny?

Gallaf ddweud ein bod wedi sefydlu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hwnnw wedi’i ategu gan fwrdd gweithrediadau i helpu i gydgysylltu’r ymateb, a sefydlwyd is-grŵp plant i'r bwrdd hwnnw i sicrhau’n benodol cydgysylltiad ar gyfer ailgyfanheddu plant sy'n ffoaduriaid a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ledled Cymru. Rydym ni o'r farn, wrth gwrs, er ein bod yn hapus i ailgyfanheddu pobl sy'n ffoaduriaid, mae hwn yn fater y mae angen cymorth ariannol ar ei gyfer gan Lywodraeth y DU. Felly, dyna'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu erioed, a dyna’r safbwynt o hyd.

Llygredd Aer

9. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0008(FM)

Rydym ni’n llunio cynigion i adnewyddu’r system o reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru, ac mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus swyddogaeth allweddol o ran sicrhau hynny.

Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni’n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i’m hetholwyr y bydd mesurau effeithiol yn cael eu cymryd i leddfu tagfeydd sy'n dod drwy Gasnewydd ar yr M4?

Ie, rydym ni’n gwybod bod tagfeydd yn broblem feunyddiol ar yr M4 a thwneli Brynglas. Nid yw'n mynd i ddiflannu. Mae angen rhoi sylw iddo, ac mae'n un o’r prif achosion o lygredd aer pan fo ceir yn segur, yn y twneli ac wrth aros i fynd i mewn i'r twneli. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar ansawdd yr aer. Felly, bydd cael gwared ar y tagfeydd traffig hynny yn hynod bwysig i wella ansawdd aer yn y dyfodol.

Cynllun Pensiwn y Glowyr

10. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch dyfodol cynllun pensiwn y glowyr? OAQ(5)0006(FM)

Dim sylwadau, ond rydym ni’n ymwybodol o'r problemau ac rydym ni’n cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn eu galwad am adolygiad.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran sylweddol o warged y cynllun pensiwn glowyr yn gyfnewid am danysgrifennu’r cynllun hwnnw. Yn wir, mewn un flwyddyn yn unig, roedd y swm hwnnw yn dod i gyfanswm o dri chwarter o £1 biliwn. Mae pensiynau glowyr wedi eu troi’n ffynhonnell arian i wladwriaeth Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried gweithio gyda chyn-lowyr a rhanddeiliaid eraill gyda’r nod o gyhoeddi cynigion ar wahân gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer gwella cynllun pensiwn y glowyr gyda’r nod o’u dilyn ar lefel y DU yn y dyfodol?

Wel, mae hon yn un o'r cronfeydd pensiwn hynny, er eu bod yn brin, sydd wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod wedi darparu mwy o arian na ragwelwyd i Lywodraeth y DU. A does bosib y gall hynny fod yn iawn. Byddwn yn cael ein llywio gan yr NUM, gan ei fod wedi galw am adolygiad, a hynny'n briodol. Gwn y byddant yn cyfarfod yn fuan ag ymddiriedolwyr y cynllun hefyd i ailystyried hyn. Ond, na, yn sicr, ni all fod yn wir y dylai cronfa pensiwn y glowyr gael ei hystyried yn ffordd o gynhyrchu arian i Lywodraeth y DU. Ac mae angen gwneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod budd i'r rhai sy'n derbyn pensiynau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfran deg o elw’r gronfa bensiwn. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd a byddwn yn cefnogi'r NUM yn eu galwad am adolygiad.

3. Cwestiwn Brys: Astudiaeth Ôl-radd Ran-amser

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn un cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Angela Burns i ofyn y cwestiwn.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben? EAQ(5)0001(EDU)

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am gyfle mor gynnar i ateb cwestiynau yma yn y Siambr hon? Mater i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw'r penderfyniad i dorri cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig rhan-amser yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i gyfarwyddo’r cyngor cyllido ynghylch sut i ddyrannu’r arian sydd ar gael ar gyfer addysg uwch.

Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd addysg am hynny a’i chroesawu i’w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant o'i grant; Glyndŵr tua 20 y cant; ac mae prifysgol fel Caerdydd yn mynd i golli dros £2 filiwn. Er fy mod i’n derbyn y ffaith bod gan CCAUC yr hawl i ddyrannu'r arian fel y mae’n credu sy’n briodol, Ysgrifennydd addysg, hoffwn ddeall pa fesurau y byddwch chi’n ystyried eu rhoi ar waith, o ystyried y toriadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi. Mae astudiaethau addysgol ôl-raddedig rhan-amser yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein pobl, yn hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol, yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil ôl-raddedig ac mae, yn ei hanfod, yn rhan o'n bywyd prifysgol ac yn rhywbeth y mae'r prifysgolion eu hunain yn ei drysori’n fawr. Fy mhryder i, gyda'r toriadau hyn i’r graddau y maen nhw’n cael eu gwneud—h.y., nid oes unrhyw gyllid o gwbl, eto, mewn unrhyw le ar gyfer astudiaeth ran-amser ôl-raddedig—yw ein bod fwy neu lai’n mynd i fod yn difreinio rhan hynod bwysig o’n sail myfyrwyr aeddfed ac rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb o ran cyfeirio CCAUC neu weld beth ellir ei wneud i liniaru'r problemau hyn, gan y bydd yn broblem wirioneddol o ran datblygu ein diwylliant yn y dyfodol.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol a'i dymuniadau da? Mae rhan-amser yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon ac mae’n allweddol i greu cyfleoedd i unigolion uwchsgilio a gwella eu rhagolygon am gyflogaeth. Felly, rwy’n falch iawn bod CCAUC wedi cydnabod pwysigrwydd darpariaeth ran-amser ac wedi gallu cynnal ei gefnogaeth ar lefel israddedig. Rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud am lefel ôl-raddedig. Fel y bydd yn ymwybodol, rwyf wedi derbyn swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ddiweddar ac rwy'n gweithio gyda swyddogion i gael dealltwriaeth lawnach o'r cronfeydd a’r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch ac i'r sefydliadau y maent yn astudio ynddynt yng Nghymru.

Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i’w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio’n uniongyrchol, wrth gwrs, o'r toriad i grant CCAUC, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol ac a gefnogwyd ganddi, meddai, gyda balchder. Felly, a all hi esbonio nawr sut y bydd yn rhoi ar waith yr hyn a ddisgrifiwyd gan CCAUC fel rhywbeth sy’n hanfodol a phwysig i brifysgolion Cymru, sef cymhellion tebyg i'r rhai a gynigir gan brifysgolion eraill tebyg, neu fel arall byddant yn cael eu trechu gan gystadleuaeth gref? Dyna oedd y dystiolaeth a roddodd CCAUC i’r pwyllgor yma, cyn yr etholiad. Ac a fydd hi, yn ei hadolygiad gyda'i swyddogion, yn bwriadu cyflwyno ei pholisi, y gwnaeth hi sefyll ar ei sail yn yr etholiad diwethaf, o gyflwyno bwrsariaeth chwyddo ar gyfer ôl-raddedigion? Ai dim yw'r chwyddiant?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn y prynhawn yma hefyd? Roedd llythyr cylch gwaith CCAUC ar gyfer 2016-17, a ysgrifennwyd gan y Gweinidog blaenorol, yn gofyn i’r cyngor ddatblygu strategaeth ar gyfer AU yng Nghymru, a wnaeth, ymhlith pethau eraill, nodi ym mha ffyrdd y byddai cynghorau a darparwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o annog astudiaeth ran-amser, ac i greu cyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth ran-amser. Bydd yr Aelod yn fwy nag ymwybodol mai dyfodol yr holl faterion hyn—o ariannu’r israddedig ac ôl-raddedig, y llawn amser a’r rhan-amser—yw testun yr adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ian Diamond. Disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn. Nid wyf eisiau achub y blaen ar y gwaith caled a phwysig sydd wedi ei wneud gan aelodau adolygiad Diamond, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen—[Torri ar draws.] —ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad, pan gaiff ei gyhoeddi, ac ystyried ei argymhellion gyda chydweithwyr yn y Cabinet.

4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Datganiad gan y Prif Weinidog ar benodiadau i’r Cabinet. Ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd.

Roeddwn i’n blês iawn yr wythnos diwethaf i gyhoeddi enwau fy nhîm gweinidogol, yn dilyn cymeradwyaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines. A gaf i, felly, fynd trwy'r enwau, a hefyd eu cyfrifoldebau nhw?

Llywydd, I have linked the economy with infrastructure. We have an ambitious agenda to take Wales forward, and Ken Skates will embrace those challenges with energy. Julie James will take forward the skills agenda within this portfolio, and we’re maintaining our ministerial emphasis on science.

The health and well-being portfolio is linked explicitly to grass-roots sports participation, in recognition of the importance of making Wales a healthier and better country. Wales has led the way in the UK through integrating health and social services provision, and we continue with this approach through the joint work of Vaughan Gething and Rebecca Evans.

Llywydd, Mark Drakeford becomes Cabinet Secretary for Finance and Local Government, a pivotal and challenging role as we move, both as a Government and as a National Assembly—or Parliament, as we will call ourselves, no doubt, in time—into the era of devolved revenue raising.

Llywydd, as Members will be aware, Kirsty Williams joins the Cabinet with responsibility for education, a policy area on which she has spoken with great passion and conviction over many years. We know, of course, that schools are important, but are, by no means, the only important aspect of education, and we reflect this through the appointment of Alun Davies as Minister for Lifelong Learning and Welsh Language.

Llywydd, environment and rural affairs represents a very significant part of Government responsibilities, affecting every corner of Wales, and I am confident that Lesley Griffiths will combine a strong sense of the national interest with a powerful emphasis on local action.

Carl Sargeant becomes Cabinet Secretary for Communities and Children. The communities aspect was a well-established part of the last Government, but, this time, we’re identifying the interests of children as a distinct ministerial responsibility. This is especially important in view of our commitments on childcare and reasonable chastisement.

Llywydd, Jane Hutt today becomes the longest serving Minister in the history of the institution, and she continues her outstanding record of public service as Leader of the House and Chief Whip.

Llywydd, as I said last week in this Chamber, this will be an open, inclusive and transparent administration, and we are very ready to work with others in the national interest. Indeed, Kirsty Williams’s presence in Government is testimony of that approach. But we also, of course, have the arrangements with Plaid Cymru, which were outlined last week. Indeed, whenever it proves possible to develop consensus and co-operation in respect of legislation and spending plans, that is what we will aim to do. Not only is this good government, but it also reflects the wishes of the Welsh people.

Llywydd, I outlined last week some of the priorities for this administration. I’ve emphasised our open approach, but I also have to enter a note of realism. We don’t have a blank cheque. The Welsh Government gets its money entirely from the UK Government, through the block grant. It’s been cut year on year, and, on our current trajectory, the resources available to us in the year 2020 will have been cut back in real terms to the levels of 2003. Now, an open and transparent approach to government can’t mean an expanding shopping list. We know that every new commitment in this administration will have to be paid for by a cutback somewhere else.

Llywydd, I’m very pleased with the Government team I’ve assembled. A critical five-year period lies ahead. Our relentless focus will be on driving improvement in our economy and public services, and I’m confident this team has the vision and the energy to deliver opportunity for all and a united, sustainable Wales, both now and for future generations.

Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, a hoffwn longyfarch pawb a benodwyd ganddo.

Congratulations to you all.

Brif Weinidog, dywedasoch yn gynharach wrth ateb cwestiynau y byddai eich holl Aelodau yn rhwymedig i gydgyfrifoldebau’r Cabinet. Sut felly y byddwch yn datrys cwestiynau anodd megis pa un a fydd llwybr du yr M4 yn mynd yn ei flaen ai peidio, os oes anghytundeb rhwng aelodau o'r Cabinet ar faterion penodol?

Hoffwn gael sicrhad gan y Prif Weinidog nad yw’r Gymraeg wedi ei hisraddio yn y Cabinet hwn. Yn flaenorol, cyfrifoldeb y Prif Weinidog oedd hyn, felly byddwn yn ddiolchgar o glywed beth y gall ef ei ddweud wrth y rhai ohonom sydd yn pryderu am hyn, er ein sicrhau bod dyfodol y Gymraeg a'i thwf yn bwysig i'r Llywodraeth hon, ac na fydd yn cael ei thrin fel ôl-ystyriaeth.

Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pwy yn y Llywodraeth sy'n gyfrifol am ddatrys anghydfod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfeydd. Ysgrifennais atoch ynglŷn â hyn ddoe, ar ôl ysgrifennu’n gyntaf at eich Llywodraeth ynghylch hyn dros flwyddyn yn ôl. Nawr, rydych wedi dweud o'r blaen eich bod yn bwriadu ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod hwn. Ai eich cyfrifoldeb chi yw hwn, Brif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb Aelod arall o’ch Cabinet ydyw erbyn hyn? Yn yr un modd, byddwn yn ddiolchgar o glywed pwy yn eich Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ddeddfwriaeth undebau llafur. A fydd y Prif Weinidog yn parhau i fod yn gyfrifol am ddur ac am refferendwm yr UE?

Ac, yn olaf, a fyddwch cystal ag egluro pwy sy'n gyfrifol am gyllid myfyrwyr? Mae gennych dri Gweinidog yn eich Cabinet sydd â swyddogaeth yn ymwneud ag addysg—un ar gyfer sgiliau, un ar gyfer dysgu gydol oes, ac un arall ar gyfer addysg. Tri portffolio ar wahân. Pa Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chyllid myfyrwyr yma yng Nghymru os gwelwch yn dda?

Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â’i phlaid hi, neu yn wir, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi yn gynnar, er mwyn cael cytundeb. Mae’r broses hon wedi’i hen sefydlu; cafodd ei defnyddio gennym yn ystod pedair blynedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Nid yw’r Gymraeg yn cael ei hisraddio o gwbl. Roedd bob amser yn fater ar gyfer Gweinidog portffolio. Dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond o ystyried fy nghefndir a’m cefnogaeth ddyfal dros yr iaith, nid oes unrhyw siawns iddi gael ei hisraddio.

O ran yr anghydfod ynglŷn â’r PCS, mae Ken Skates, gan mai ef yw'r Gweinidog, wedi bod yn rhan o hyn. Rydym yn disgwyl gweld setliad, yn fuan iawn, iawn, gobeithio ac yr wyf yn diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau y bydd canlyniad boddhaol ar gyfer y gweithwyr. Cynhaliwyd y gwaith hwnnw yr wythnos diwethaf. Mark Drakeford, fel y Gweinidog, fydd yn gyfrifol am wthio bil yr undebau llafur yn ei flaen, ac yn gyfrifol am ddiddymu yr adrannau hynny o’r Ddeddf yr ydym yn anghytuno â nhw ac yr ydym yn credu eu bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn.

Ynglŷn â refferendwm yr UE, fy nghyfrifoldeb i fydd hynny o hyd. O ran mater Tata, bydd hwnnw'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i mi. Ymhen amser, bydd dur yn dod yn rhan o'r portffolio economi a seilwaith, ond byddaf i'n parhau i fod yn gyfrifol am Tata.

O ran cyllid myfyrwyr, mater i Kirsty Williams yw hwnnw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf hefyd yn llongyfarch yr holl Ysgrifenyddion—mae'n ddrwg gennyf; nid ydynt yn Weinidogion bellach—am gael eu penodi gennych chi yr wythnos diwethaf, ac rwyf yn dymuno yn dda iddynt yn eu hymdrechion, er tegwch. Efallai eu bod ar ochr arall y ffens i mi yn wleidyddol, ond yn amlwg mae llawer o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi a’ch swyddogion yn eu gwneud, ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei bod yn werth i unrhyw un ohonom deimlo unrhyw atgasedd tuag atoch gan y bydd llawer o bobl yn dioddef os byddwch yn gwneud camgymeriadau. Ond, byddwn ni fel gwrthblaid yn amlwg yn eich dwyn i gyfrif ac ni fyddwn yn dal her rhag gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am y penderfyniadau a'r gweithredoedd y byddwch yn eu gwneud fel Llywodraeth—yn wir, fel Llywodraeth glymblaid bellach, yn amlwg gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd ar y fainc flaen gyda chi yn y fan yna.

Byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech ymhelaethu ymhellach ar y cytundeb y gwnaethoch â'r cenedlaetholwyr Cymreig yr wythnos diwethaf o ran y pwyllgorau neu grwpiau ymgynghorol. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw eu statws, na beth yw eu swyddogaeth ffurfiol yn y Llywodraeth, ac nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl eraill yn gwybod ychwaith, i fod yn onest â chi. Ac rwyf yn meddwl bod eich sylwadau ddydd Sul yn cyfeirio at y ffaith eich bod chithau hefyd wedi drysu ychydig ynglŷn â seilwaith, ynglŷn â beth yn union yr oedd Plaid Cymru yn ofyn amdano o ran y cais seilwaith i'ch Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut yn union y bydd y grwpiau neu’r pwyllgorau gwaith hynny yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Yn arbennig, rydych wedi dweud y byddai eich Llywodraeth yn darparu Gweinidogion fel cynrychiolwyr, ac yn amlwg byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dod o'r gwasanaeth sifil. A yw’n ddisgwyliedig gan Blaid Cymru felly, y bydd y cynrychiolwyr yn Aelodau'r Cynulliad neu a gânt enwebu unrhyw un i fod ar y gweithgorau hynny? Ac a fydd y Llywodraeth yn rhwymedig i ganlyniadau’r pwyllgorau a’r gweithgorau hynny a sefydlwyd drwy'r cytundeb a wnaethoch yr wythnos diwethaf a oedd yn caniatáu i'ch enwebiad fynd ymlaen?

Hoffwn hefyd ddeall yn union nawr lle y mae Betsi yn sefyll, oherwydd yn amlwg roedd gan y Dirprwy Weinidog gyfrifoldeb am y mesurau arbennig a gyflwynwyd yn Betsi Cadwaladr yn y gogledd, ac yr wyf yn tybio bod hynny’n wir o hyd, sef mai’r Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol, neu a yw’r cyfrifoldeb wedi’i drosglwyddo i'r Gweinidog llawn —yr Ysgrifennydd, ddylwn i ddweud—yr Ysgrifennydd iechyd llawn yn y Llywodraeth newydd hon? A ydych chi'n gallu nodi unrhyw gynnydd o ran Betsi yn symud allan o fesurau arbennig? Byddai hynny'n rhoi cryn sicrwydd i'r nifer fawr o bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau’r bwrdd iechyd lleol hwnnw.

Rwyf hefyd yn croesawu Lesley Griffiths i’w swyddogaeth materion gwledig a'r amgylchedd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny oherwydd fy nghefndir amaethyddol ac rwyf yn nodi eich bod yn sôn am roi pwyslais ar weithredu’n lleol. Un o'r prif faterion y byddwn yn awgrymu y byddai’r gymuned amaethyddol yn benodol eisiau gweld cynnydd gan y Llywodraeth newydd ynglŷn ag ef yw TB mewn gwartheg. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gweld hynny fel blaenoriaeth ar gyfer eich Llywodraeth newydd, o ystyried, yn amlwg, fod y rhaglen frechu wedi ei hatal dros dro yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud y geiriau 'atal dros dro', oherwydd rhoddwyd y gorau i roi'r brechlyn. Pa eglurder y gallwch ei roi, gan fod eich Llywodraeth newydd wedi'i sefydlu bellach, ynghylch pa gamau y gallech chi eu cymryd i ddileu—ac rwyf yn defnyddio'r gair 'dileu'—TB mewn gwartheg yng Nghymru?

Hoffwn hefyd ddeall yn union sut y mae swyddfa’r Cabinet yn mynd i weithio. Yr wythnos diwethaf yn eich datganiad cyfeiriasoch at y ffaith y byddai'r Llywodraeth yn ffurfio swyddfa Cabinet, yn wahanol i’r adeg hon yn y Cynulliad diwethaf pan oedd llawer o sôn am yr uned gyflawni. Nawr, fel yr wyf wedi deall o'ch sylwadau yr wythnos diwethaf, mae'r uned gyflawni yn datblygu i fod yn swyddfa Cabinet. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r gwahaniaeth, efallai y gallech chi ddweud wrthym, oherwydd credaf ein bod i gyd mewn gwirionedd yn awyddus i weld mwy o gyflawni a mwy o ddylanwad gan sefydliad o'r fath. Ai eich cyfrifoldeb chi, fel Prif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb arweinydd y tŷ fydd hwn, oherwydd mae'n amlwg bod yr uned gyflawni yn adrodd i chi, swyddfa'r Prif Weinidog?

Hoffwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, yn benodol ar addysg, oherwydd mewn gwirionedd, byddwn yn awgrymu ei fod yn cwmpasu pedair adran. Carl Sargeant sy’n gyfrifol am blant, Julie James sy’n gyfrifol am sgiliau, Kirsty Williams sy’n gyfrifol am y portffolio addysg ac Alun Davies sy’n gyfrifol am ddysgu gydol oes. Wrth lunio eich Cabinet, pam yr ydych wedi barnu ei bod yn angenrheidiol cael cymaint o swyddogaethau sy'n effeithio ar gynifer o bobl ifanc ym mhob rhan o'r Llywodraeth? Rwyf yn cymryd bod llawer o adrannau yn rhannu cyfrifoldebau, ond rydych wedi neilltuo’r cyfrifoldebau hynny yn glir i bedwar deiliad portffolio gwahanol, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig deall beth oedd eich meddylfryd wrth wneud hynny, a sut yr ydych yn credu y bydd y swyddogaeth honno yn cael ei chyflwyno ar draws y Llywodraeth fel y ceir dilyniant ac y bydd y dyheadau y byddwch yn eu nodi, yn ddiau, yn cael eu cyflawni yn eich rhaglen lywodraethu.

Byddaf yn terfynu gyda’r sylw olaf yr hoffwn ei wneud, sef eich bod wedi dod ag Alun Davies yn ôl i'r Llywodraeth. Rwyf yn dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion fel Dirprwy Weinidog, ond rwyf yn cyfeirio at eich sylwadau pan adawodd Alun Davies y Llywodraeth yn 2014, ac yn enwedig gan fy mod i yn un o'r Aelodau, yr oedd yn ceisio cael gwybodaeth amdano o gofnodion y Llywodraeth—. Dywedasoch mai'r unig gasgliad oedd ei fod eisiau i’r wybodaeth hon gael ei defnyddio yn erbyn yr Aelodau hynny. Pan ofynnwyd i chi a phan roddwyd pwysau arnoch i ateb, dywedasoch eich bod yn rhagweld ei bod yn anodd iawn ei weld yn dod yn ôl i’r Llywodraeth. Felly, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser sy’n rhoi sicrwydd i chi na fydd digwyddiad o’r fath, a achosodd iddo adael eich Llywodraeth yn ôl yn 2014, yn digwydd eto? Oherwydd, ar y pryd nid oeddech yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw ac rwyf yn credu ei fod yn ddyletswydd arnoch chi fel y Prif Weinidog sydd wedi ei benodi y tro hwn i roi'r sicrwydd yr ydym yn dymuno ei gael i ni.

Mae nifer o gwestiynau yn y fan yna. Yn gyntaf, ynglŷn â’r cytundeb â Phlaid Cymru, oes, mae rhai materion fel y comisiwn seilwaith cenedlaethol lle y ceir gwahanol farn o ran beth a allai hyn fod, ond dyna fydd testun y trafodaethau.

Mae tri phwyllgor wedi eu sefydlu. Eu hamcan yw nodi materion megis deddfwriaeth yn gynnar i weld lle y ceir tir cyffredin a lle na cheir tir cyffredin, ac yr un gyda’r gyllideb. Mae hynny, yn fy marn i, yn drefniant gwaith call rhwng dwy blaid gyda’r bwriad o ddod i gytundeb yn y misoedd nesaf, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwyf yn rhagweld y bydd y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol bleidiau—mae hynny'n wir. Mater i Blaid Cymru yw dewis pwy fydd yn eu cynrychioli ar y pwyllgorau hynny, ond, o’n hochr ni, Gweinidog fydd yn ein cynrychioli wrth gwrs.

Siaradodd arweinydd y Ceidwadwyr am fod yn rhwymedig i ganlyniadau'r pwyllgorau hynny. Nid dyna natur y pwyllgorau. Mae'r pwyllgorau yno er mwyn dod i gytundeb, ac ar ôl cyrraedd y cytundeb hwnnw, wedyn wrth gwrs, bydd y ddwy blaid mewn sefyllfa lle bydd y pleidiau yn gallu cefnogi'r cytundeb hwnnw.

O ran Betsi Cadwaladr, Vaughan Gethin fydd yn parhau i fod yn gyfrifol amdano. Mae'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Betsi. Mae'n gwneud synnwyr iddo barhau i fod yn gyfrifol am Betsi, a bydd ef yn adrodd yn ôl maes o law ynglŷn â chynnydd.

O ran TB mewn gwartheg, byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.

Ydy, mae'n iawn i ddweud nad yw’r uned gyflenwi yn bodoli mwyach. Bydd rhai o'r Aelodau nad ydynt yma bellach yn gweld hynny fel buddugoliaeth fawr—nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny ar ôl yr ymagwedd braidd yn obsesiynol a gymerwyd gan gyn Aelod o'r lle hwn. I bob pwrpas, swyddfa’r Cabinet yw swyddfa'r Prif Weinidog yn y bôn. Mae'n atebol i mi yn gyfan gwbl. Bydd ganddi lawer o wahanol swyddogaethau, er enghraifft, cydlynu'r rhaglen ddeddfwriaethol, cydlynu agenda’r Cabinet a hefyd nodi materion y mae angen ymdrin â hwy yn gynnar ar sail traws-Lywodraethol. Does dim dirgelwch ynghylch hynny; dyna fydd yn ei wneud.

O ran plant, rwyf wedi neilltuo portffolios yn ôl yr hyn sy'n gweddu orau yn fy marn i, ond, yn y pen draw, nid yw Gweinidogion y Cabinet ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn byw ac yn bodoli mewn seilos. Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth drwy'r amser a dyna pam, er enghraifft, y bydd mater fel cyllid myfyrwyr yn benderfyniad a wneir gan y Cabinet. Wrth gwrs, mae Gweinidogion portffolio sy'n gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae penderfyniadau pwysig sydd angen cyfraniad y Cabinet cyfan. Dyna sut y mae wedi bod erioed a dyna sut y bydd yn y dyfodol.

O ran Alun Davies, wel, Alun, mae'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn y gorffennol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd ef yn Weinidog rhagorol ac yn rhywun a fydd yn dod â llawer o arbenigedd i'r Llywodraeth, fel y bydd pob Gweinidog. Mae pob Gweinidog wedi derbyn copi o'r cod gweinidogol ac, wrth gwrs, bydd yn ofynnol i Weinidogion ddangos i mi eu bod wedi ei ddarllen, ac mae hynny'n wir am yr holl Weinidogion. Rwy'n falch o gael yr amrywiaeth o arbenigedd sydd ar gael i mi.

Fel Andrew R.T. Davies a Leanne Wood, rwyf yn llongyfarch pawb sydd wedi eu penodi i’w swyddi yn y weinyddiaeth hon, yn enwedig Ken Skates, a ddywedodd wrthyf y diwrnod o'r blaen fy mod wedi prynu diod iddo yn Nhŷ'r Cyffredin 20 mlynedd yn ôl. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gynnig llwncdestun ar ei lwyddiant ac yntau'n mynd i'w boced y tro hwn wrth iddo dalu'n ôl. [Chwerthin.]

Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y bydd y weinyddiaeth hon yn agored, yn gynhwysol ac yn dryloyw. Mae'n ddrwg gennyf ddweud o ran y pwyllgorau ymgynghorol hyn nad yw'n edrych felly o’r ochr yma i'r cylch mewn gwirionedd, gan na fydd y pwyllgorau hyn ar agor i ni. Byddant yn ein gwahardd, a bydd y modd y byddant yn gwneud penderfyniadau ac yn wir, o bosib y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud, yn hynod o anrhyloyw. Rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus ei bod yn ymddangos y bydd carfan benodol o Aelodau'r tŷ hwn yn cael eu gwahardd bellach o'r broses o ddatblygu polisi er budd un o’r pleidiau lleiafrifol eraill. Rwy'n credu, er mwyn cael llywodraeth dda yng Nghymru, y byddai o fantais i bawb pe gallai Aelodau’r Ceidwadwyr ac Aelodau UKIP yn eu ffyrdd gwahanol gael eu cynnwys yn y trafodaethau y tu ôl i'r llenni. Byddwn yn ddiau yn anghytuno ar lawer o faterion, ond mae llawer o faterion domestig yng Nghymru y gallwn ddod i gytundeb yn eu cylch a dod o hyd i farn gyffredin rhwng y partïon mewn gwahanol rannau o'r tŷ, ac rwyf yn addo ar ran fy mhlaid fy hun y byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y Siambr hon.

Yn ail, hoffwn longyfarch Kirsty Williams ar ei phenodiad i'r swydd Ysgrifennydd addysg. Rwy'n siŵr y bydd hi’n gwneud gwaith arbennig o dda. Mae hi'n amlwg yn unigolyn galluog iawn, iawn. Gwn ei bod wedi cymryd llawer iawn o ddiddordeb mewn addysg a’i bod wedi cyfrannu at drafodaethau yn y Siambr hon dros lawer o flynyddoedd, ond mae hyn yn cyflwyno problem ddemocrataidd fechan i ni oherwydd, ychydig wythnosau yn ôl, cafodd ei hethol yn AC Democratiaid Rhyddfrydol Brycheiniog a Maesyfed a phleidleisiodd 92 y cant o'i hetholwyr yn erbyn y Blaid Lafur, ac eto, cadarnhaodd y Prif Weinidog, wrth ateb cwestiwn yn gynharach, y byddai Kirsty Williams yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb, ac felly, i bob pwrpas, wedi dod yn AC Llafur yn y Siambr hon. Pan adawodd fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless y Blaid Geidwadol i ymuno ag UKIP, gofynnodd am gefnogaeth ei etholwyr yn Rochester mewn is-etholiad ac rwy’n credu mai dyna fuddai'r peth anrhydeddus i'w wneud. Tybed a fydd y Prif Weinidog yn cytuno y byddai hynny'n briodol ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

Yn gyntaf oll, rwyf yn credu y bydd yr Aelod yn synnu at faint o dryloywder sy'n bodoli yn y lle hwn o'i gymharu â San Steffan [Chwerthin.] Bydd ef yn sicr yn dod yn ymwybodol o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yr ydym yn eu derbyn fel Llywodraeth ac yn wir, y tryloywder y mae Aelodau yn gweithredu yn unol ag ef yn y lle hwn ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer. Nid oes cyfrinach ynglŷn â’r hyn y cytunwyd arno; rydym wedi cyhoeddi blaenoriaethau cyffredin rhwng Llafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae natur y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yno i bawb ei gweld. Nid yw'n gytundeb cyfrinachol; mae wedi ei gyhoeddi a gall pobl ei weld yn union beth ydyw: ffordd o sicrhau y bydd perthynas waith—nid cytundeb; rydym yn gwybod hynny; gwyddom y bydd meysydd y byddwn yn anghytuno arnynt—ond fframwaith gwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y dyfodol.

Gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad yw Kirsty Williams yn AC Llafur Cymru; mae hi yn sicr yn Ddemocrat Rhyddfrydol. Pe byddem yn cymryd rhesymeg ei ddadl i'w chasgliad llawn, byddai pob un AS y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymddiswyddo yn 2010 pan sefydlwyd y glymblaid yn San Steffan. Yn amlwg, mae hwn yn gytundeb sydd gennym ar waith er mwyn symud Cymru ymlaen, er mwyn darparu sefydlogrwydd ac wrth gwrs, er mwyn rhoi dyfodol gwell a mwy disglair i'n pobl. Rydym wedi gwneud hynny drwy nodi blaenoriaethau cyffredin gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny drwy'r compact yr ydym wedi ei gyrraedd â Phlaid Cymru. Dyna'r ffordd y dylid cynnal gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto: nid oes diben glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth. Nid felly y mae'r cyhoedd yn meddwl, ac mae'n hynod BWYSIG— [Torri ar draws.] Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi disgyn yn syth i'r trap a osodwyd ar eu cyfer yn y fan yna, ond wrth i mi ddweud na ddylid glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth, mae hynny wedi dangos mai dyna'n union yr hyn ydynt.

Byddwn yn parhau i fod yn dryloyw a byddwn yn parhau i fod yn agored. Wrth gwrs y bydd anghytuno o fewn y Siambr hon—dyna beth yw natur democratiaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Llywodraeth i geisio cydweithio â phleidiau eraill er mwyn cyflawni blaenoriaethau cyffredin ac er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer ein pobl, a dyna'r ysbryd y trafodaethau a gawsom gyda Kirsty Williams a'r Democratiaid Rhyddfrydol a hefyd, wrth gwrs, â Phlaid Cymru.

Brif Weinidog, rwyf yn gobeithio y caf gyflwyno dymuniadau da sydd ychydig yn llai pigog i chi a'ch Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod er budd pob un ohonom bod y Llywodraeth hon yn gweithio mor effeithiol â phosibl, ac edrychaf ymlaen at gefnogi llawer o'r hyn yr ydych yn ei wneud. Bydd nifer o wahaniaethau a byddaf yn egnïol iawn wrth fynd i’r afael â’r rheiny.

A gaf i groesawu yn benodol, penodiad Kirsty Williams i’r Cabinet? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad da iawn i wleidyddiaeth Cymru. Mae angen i ni ehangu’r model o sut yr ydym yn cynnal gwleidyddiaeth yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu bod llawer o newyddiadurwyr yn cadw’r dudalen flaen yn wag er mwyn cynnwys y pennawd, 'Sioc—y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno â Llafur mewn gweinyddiaeth'. Rwyf bob amser wedi ystyried sylwadau Kirsty yma yn rhai meddylgar, perthnasol a chlir, ac, yn wir, yn y pedwerydd Cynulliad, credaf ei bod wedi cyflawni swyddogaeth y prif chwilyswr i raddau—swyddogaeth yr wyf yn gobeithio y byddwch yn parhau i’w chyflawni, er y bydd hynny yng nghyfrinachedd trafodion y Cabinet, wrth gwrs.

Croesawaf y ffaith fod buddiannau plant wedi eu nodi fel cyfrifoldeb gweinidogol penodol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Carl Sargeant ym mha ffordd bynnag bosibl i godi materion sy'n peri pryder mawr i mi, yn enwedig ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal. Brif Weinidog, yr wythnos hon yr ydym wedi gweld tystiolaeth sy'n peri pryder o weithredu gwahaniaethol gan y system cyfiawnder troseddol, er yn aml heb fod bwriad o wneud hynny, yn erbyn plant sy'n derbyn gofal, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi a'ch cydweithwyr yn rhoi sylw gofalus i adolygiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.

Yn fwy cadarnhaol, clywsom yr wythnos diwethaf fod y Prif Weinidog wedi ffurfio is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal a'i swyddogaeth fydd llunio cytundebau traws-adrannol. A gaf i argymell bod y dull hwn neu rywbeth cyfatebol sy'n addas ar gyfer Cabinet Cymru yn cael ei ddilyn, oherwydd bod y rhyng-gysylltiadau—. Mae'n anochel y bydd addysg, iechyd a meysydd gofal cymdeithasol eraill yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac ni allwch gynnwys popeth o dan un cyfrifoldeb gweinidogol. Ond, mae gwaith effeithiol yn lluosi’r canlyniadau yn hytrach na dim ond eu hychwanegu at ei gilydd. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn y pumed sesiwn hwn o’r Cynulliad Cenedlaethol, gadewch i ni ddangos o ddifrif arfer gorau rhagorol er mwyn gwneud cynnydd dros blant sy'n derbyn gofal.

A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd yn gwybod fy mod i wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn ers rhai blynyddoedd o ystyried y tanberfformiad y gwyddom amdano o ran plant sy’n derbyn gofal o fewn y system addysg. Yr anhawster yw, wrth gwrs, fod plant sy'n derbyn gofal angen sawl gwahanol fath o gefnogaeth, boed hynny drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, trwy'r system addysg, neu trwy’r gwasanaethau iechyd. Mae plant sy'n derbyn gofal yn rhan o bortffolio Carl Sargeant. Gwnaed hynny yn fwriadol fel y gellir dilyn ymagwedd gyfannol er mwyn gwella canlyniadau ar eu cyfer. Gwyddom, yn anecdotaidd o leiaf, ei bod yn fwy tebygol i blentyn sy’n derbyn gofal fynd i’r carchar yn hytrach nag i brifysgol. Nid yw hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei oddef fel cymdeithas. Mae'n rhywbeth yr wyf i yn sicr wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym Weinidog Plant a fydd yn llwyr gyfrifol am wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â’r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig.

Ond, fy mhrif gwestiwn heddiw yw hwn: a allwch chi esbonio pwy sy'n mynd i fod yn bennaf gyfrifol am bolisi awtistiaeth? Mae awtistiaeth yn effeithio ar oedolion a phlant. Mae'n effeithio ar y ddau ohonynt mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn eu bywydau ac i raddau gwahanol. Y gwahaniaethau hynny yw un o'r rhesymau pam yr wyf yn pryderu na fydd Deddf awtistiaeth a'i huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol mewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Gan ei fod yn effeithio ar wasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd, a chymunedau hyd yn oed, tybed a allwch chi egluro i bawb ohonom pwy yn union fydd yn bennaf gyfrifol am yr holl bolisi awtistiaeth, efallai yn yr un ffordd ag y mae’r prif gyfrifoldeb ar gyfer plant wedi ei roi i un Ysgrifennydd dros blant.

Mae Awtistiaeth yn bodoli mewn dau bortffolio. O ran darpariaeth, mae hynny’n rhan o iechyd a lles. O ran darpariaeth addysg, byddai hynny’n rhan o addysg ei hun. Rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud: un o'r materion yr ydym wedi ei archwilio yw pa un a ellid addasu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol i gynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth—ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny—yn hytrach na bod Bil ar wahân a bod hynny’n cymryd mwy o amser. Rydym yn agored i drafodaethau ynglŷn â hynny, mae’n rhaid i mi ddweud. Felly, o ran darpariaeth, mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gorgyffwrdd yn digwydd â nifer o feysydd eraill: oedolion a phlant, addysg, ac iechyd a lles. Ond, fel bob amser, rwyf yn disgwyl i Weinidogion weithio gyda'i gilydd i allu darparu gwasanaeth cydlynol ar gyfer y rhai sydd naill ai'n gofalu am y rhai sydd ag awtistiaeth neu'r rhai sy'n byw gydag awtistiaeth, er mwyn ein symud ymlaen.

O ran y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, os oes elfen sylweddol yn ymdrin ag awtistiaeth yn y Bil hwnnw, yna byddai hynny’n rhan o bortffolio Alun Davies, neu yn rhan o’i gyfrifoldebau. Ond gadewch i ni weld sut y bydd hynny yn datblygu o ran pa un a yw'n bosibl cynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth mewn Bil, sydd yn y bôn, yn Fil yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd ffordd, wrth gwrs, o ymdrin â’r ddau fater a fydd wedyn, wrth gwrs, yn osgoi'r angen am Fil ar wahân a allai gymryd mwy o amser.

5. 3. Cynnig i Benodi Aelodau'r Pwyllgor Busnes

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i benodi aelodau i’r Pwyllgor Busnes. Rwy’n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM6016 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:

Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i benodi’r aelodau i’r Pwyllgor Busnes? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i Gyflwyno Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn Nesaf

Y cynnig heb rybudd yw’r eitem nesaf, i gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Rwy’n bwriadu ei alw am 1.30 p.m. ddydd Mercher 8 Mehefin. Rwy’n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn cyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 14:59.