Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/05/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8: Parhad

Byddwn ni’n dechrau’r cyfarfod drwy ddychwelyd at enwebu’r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8, a ohiriwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf.

Yn y cyfarfod hwnnw, daeth dau enwebiad i law ac fe gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood nifer cyfartal o bleidleisiau. Enwebwyd Carwyn Jones gan Jane Hutt ac enwebwyd Leanne Wood gan Rhun ap Iorwerth. A fyddai modd imi gael cadarnhad eich bod yn dal yn awyddus i’r enwau hynny barhau?

Lywydd, gyda’ch caniatâd, wythnos yn ôl, mi enwebais i arweinydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Heddiw, ar ran y prif wrthblaid, ac ar ôl llwyddo i ddangos i’r blaid fwyaf yma yn y Cynulliad Cenedlaethol nad oes ganddyn nhw fwyafrif, a bod angen adlewyrchu ar hynny, rydw i yn tynnu enwebiad Leanne Wood yn ôl.

Felly, dim ond un enwebiad sydd ar ôl, ac, yn sgîl hynny, yn fy marn i, ni fyddai’n rhesymol cynnal pleidlais arall drwy alw enwau pan fo un o’r ymgeiswyr yma am dynnu yn ôl.

Ar bwynt o drefn, cyn i’r trafodion gael eu gohirio, roedd gennym dau enwebiad. Nid oes unrhyw ddarpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer tynnu enwebiadau yn ôl. Yn wir, mae’r Rheolau Sefydlog yn datgan yn benodol, yn 8.2,

‘Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.’

Ni allai’r iaith fod yn fwy pendant a gorfodol. Efallai nad yw Leanne Wood ac Aelodau Plaid Cymru bellach yn dymuno pleidleisio dros Leanne Wood, ond fe’i henwebwyd gyda’i chytundeb, ac yn sicr, byddai’n briodol cymhwyso’r Rheolau Sefydlog, fel y nodwyd yn bendant. Os nad ydynt yn dymuno pleidleisio drosti, yna gallant ymatal, neu gallant bleidleisio dros Carwyn Jones, ond ni cheir darpariaeth i unrhyw un dynnu enwebiad yn ôl ar ôl ei wneud. Mae’n datgan yn benodol mewn Rheolau Sefydlog fod yn rhaid cynnal y bleidlais honno.

Diolch am y pwynt o drefn. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad yn yr achos yma. Bydd yr Aelodau yn deall nad yw’r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o’r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli’r Rheolau Sefydlog, a llywio’r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai’n afresymol gorfodi unrhyw un nad yw bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd mewn pleidlais ar y cwestiwn hwnnw.

Gan fod enwebiadau wedi’u gwahodd yr wythnos diwethaf, felly, ac nad oes yna ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ailagor yr enwebiadau, rwyf felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, yn datgan bod Carwyn Jones wedi’i enwebu i’w benodi yn Brif Weinidog.

Yn unol ag adran 47(4)—

Mae’r enwebiad wedi’i wneud nawr, ac rwy’n symud ymlaen. Felly, nid oes yna bwynt arall o drefn yn dod, rwy’n meddwl. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar y pwynt—

Gan gyfeirio’n bendant at y dyfarniad a’r wybodaeth sydd newydd ei rhoi?

Wel, rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Rwyf am ganiatáu un cyfle arall i chi herio hynny, ond dyna ni wedyn.

Diolch. Wrth gwrs, nid yw’r holl ddarpariaethau’n cael eu gwneud yn y Rheolau Sefydlog, ac ni chaiff pob amgylchiad ei ystyried. Ond mae’r amgylchiad penodol hwn—

‘Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal’

—yn cael ei ystyried yn benodol ac yn bendant, ac mae’n nodi,

‘rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.’

Nid wyf wedi awgrymu y dylid enwebu unrhyw un arall yn fy mhwynt o drefn—

Symudwch ymlaen. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. [Torri ar draws.]

Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwynt yn fy mhwynt o drefn sy’n awgrymu y dylid enwebu rhywun arall, dim ond nodi y dylid gweithredu amod benodol y Rheolau Sefydlog, yn sgil yr amgylchiad y darperir ar ei gyfer yn y Rheolau Sefydlog.

Ac fe ddywedais i yn fy nyfarniad i nad oedd hi’n rhesymol i ni gynnal etholiad arall pan fo un o’r ymgeiswyr sydd wedi ei henwebu bellach ddim yn dymuno cael ei henwebu bellach. Felly, fe fyddai’n afresymol ohonom ni i gynnal y bleidlais yn yr amgylchiadau yna.

Felly, rwy’n symud ymlaen, eto, i ddatgan bod Carwyn Jones wedi’i enwebu i’w benodi yn Brif Weinidog, ac, yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i’w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog. Rwy’n gwahodd Carwyn Jones, felly, i annerch y Cynulliad yma. [Cymeradwyaeth.]

Y Prif Weinidog Etholedig / The First Minister Elect 13:35:00

Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau gyda gair o longyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu hethol i’r Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, drwy eich llongyfarch chi ar eich etholiad fel Llywydd, sy’n swydd newydd, wrth gwrs? Rwy’n credu ei bod hi’n iawn i ddweud eich bod wedi cael bedydd tân, ond rydych chi’n barod wedi dangos bod gyda chi’r llonyddwch a hefyd y rheolaeth sydd eu heisiau ar y swydd. A gaf i hefyd roi llongyfarchiadau i Ann Jones, sydd wedi cael ei hethol, wrth gwrs, fel Dirprwy Lywydd? Byddwn yn gweld eisiau Ann fel cadeirydd y grŵp Llafur, ond bydd colled Llafur Cymru yn elwa’r Cynulliad Cenedlaethol. A gaf i hefyd ganmol yr ymgeiswyr eraill, sef Dafydd Elis-Thomas a John Griffiths, yn bobl sydd yn caru’r sefydliad yma a phobl a fydd wastad yn dodi’r Cynulliad a phobl Cymru o flaen eu diddordebau nhw? Diolch iddyn nhw hefyd.

A gaf i hefyd ddiolch i fy nheulu, sydd wedi gorfod dioddef llawer dros yr wythnosau diwethaf, ac i ddiolch i Lisa, Seren a Ruiari am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf, a’r misoedd a’r blynyddoedd diwethaf? A gaf i hefyd dalu teyrnged i’r teuluoedd i gyd, sef y gweddwon a’r gwidmanod etholiadol, sydd yn gadael i ni wneud beth rŷm ni mor hoff ohono, sef ymladd etholiadau yn y gobaith o newid Cymru er gwell?

Llywydd, for the fifth time in a row, the Welsh people have asked Welsh Labour to form the next Government, and for the fifth time in a row, they’ve said, ‘Proceed, but with caution and humility’ because we have no majority. Of that, we are acutely aware, and as I’ve made clear since the election, we have no doubt about the responsibilities on us, and the responsibility upon me in particular to work with others where we can for the good of our people. Nobody, and no one party, has a monopoly on good ideas, and I want this Assembly to be more open and more confident than the last.

In this spirit, I set out my priorities for the first 100 days of the next Welsh Government, which will reflect those areas where I believe this Assembly can find some immediate common ground. Those priorities also clearly reflect the successful result for Welsh Labour in the May election, and subsequent discussions with the main opposition party, Plaid Cymru. There will be a relentless focus on securing a successful and sustainable future for our steel industry. The Welsh Government will maintain a firmly pro-European standpoint and will campaign vociferously for a ‘remain’ vote. We will not bring forward any new legislation in the first 100 days, giving political groups in the Assembly some time to establish a new way of doing law making in Wales. This will allow all parties to jointly develop a scrutiny and committee procedure that’s better suited to this institution’s parliamentary responsibilities. Once the Assembly is in a position to better scrutinise legislation, we will look to bring forward a new public health Bill, an additional learning needs Bill, and we will take forward, on a cross-party basis, legislation that will remove the defence of reasonable chastisement. We will also seek to amend the current Welsh language Measure.

It’s important as well, of course, that we seek to end the Wales Bill deadlock, in order to establish a lasting legislative framework for our nation. We will seek to establish a parliamentary review into the long-term future of health and social care in Wales, and in order to drive policy and delivery from the heart of Government, we will establish a new Cabinet office. The first priority of the new office will be to establish delivery plans for the top six pledges from the Welsh Labour manifesto.

Now, we can see that the arithmetic of this Assembly is clear. For us to deliver for the people of Wales, we must seek to work together where that’s possible, and, to this end, Welsh Labour and Plaid Cymru have made a compact to move Wales forward. With your permission, Llywydd, and in the interest of transparency, I believe it’s important to put on the record what we mean by this. The basis of this agreement will be the establishment of three liaison committees on finance, legislation and the constitution. These will comprise a Labour Minister and a Plaid Cymru representative, and will be staffed by the civil service. We have committed to working together on the European referendum campaign in a spirit of co-operation.

We recognise that there are many areas where we are not going to agree, but we’ll also begin discussions on joint policy priorities where there’s common ground—common ground indeed that stretches beyond just our two parties. They will include childcare, because we recognise that this is one of the biggest challenges facing families in Wales, and we will prioritise work to deliver 30 hours of free childcare for working parents. Key to our work in developing and rolling out this offer will be the quality of provision and equity of access, both in terms of geographical reach and language.

On apprenticeships and skills, we know that a skilled workforce is the lifeblood of our economy and we’ll honour our commitments to bring forward at least 100,000 new all-age apprenticeships in this term. On infrastructure and business finance, we’ll establish a new national infrastructure commission and a new Welsh development bank.

On health, we’ll prioritise the establishment of a new treatment fund and we’ll commit to end the postcode lottery for new drugs and treatments. We’ll set in place plans for the recruitment and training of additional GPs and other primary healthcare professionals, and, of course, discussion on other shared policy priorities will continue once Ministers are in place.

Llywydd, Wales does not want for ambition. Wales does not want for brilliance, and if the last few days are anything to go by, Wales doesn’t want for excitement either. But it’s our job, collectively, to make real that ambition—to turn that brilliance into sustainable success and growing prosperity for all. Where we have excitement, let’s make sure it comes with results.

We’ve given the media, the Welsh historians and the commentariat plenty of what they want: theatre and intrigue. But it’s time now, of course, to give our people and our nation what they want and what they expect: good governance, delivery and respect. Thank you, Llywydd. [Applause.]

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nid yw hyn heddiw’n ymwneud â chlymbleidio. Pleidlais untro yw hon heddiw i ganiatáu i enwebiad Llafur basio. Os yw’r blaid honno’n credu bod eu bwlio yr wythnos diwethaf yn atal Plaid Cymru rhag pleidleisio mewn ffordd debyg yn y dyfodol, i’ch dwyn i gyfrif, yna meddyliwch eto. Nid yw’n ddrwg gennyf am yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf a byddaf yn ei wneud eto os oes rhaid er mwyn gwneud i Lafur sylweddoli eu bod yn Llywodraeth leiafrifol.

Yr hyn a welsom yr wythnos diwethaf gan y blaid honno oedd haerllugrwydd a hunanfoddhauster, a’r hyn a arddangoswyd oedd ymdeimlad o hawl. Digwyddodd y bleidlais honno am eu bod wedi gwrthod oedi’r trafodion am un wythnos yn unig er mwyn gallu cynnal trafodaethau ystyrlon. Wel, fe gawsom ein hwythnos i siarad, ond bu’n rhaid cael peth drama i gyrraedd yno.

Ni fyddwn yn anghofio’r modd y cawsom ein pardduo gan Lafur yr wythnos diwethaf. Roedd yr Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad a’r cyrff cysylltiedig â Llafur a geisiodd awgrymu ein bod wedi dod i gytundeb â’r asgell dde a rhai pellach i’r dde yn anghywir. Mae ethol Prif Weinidog Cymru heddiw yn profi nad oedd unrhyw gytundeb ac rwy’n edrych ymlaen at eich gweld yn tynnu eich geiriau yn ôl. A ydych yn ddigon mawr i gyfaddef eich bod yn anghywir?

Nid yw’r trefniant rydym wedi’i gyrraedd heddiw yn golygu bod Plaid Cymru yn cefnogi’r Llywodraeth leiafrifol hon na’i harweinydd. Rydym yn caniatáu iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, ond nid cefnogaeth yw hynny. Ni chawsom amser i ystyried a thrafod y materion mwyaf anodd. Ni chafwyd unrhyw gynnydd ar feysydd polisi fel llwybr du neu lwybr glas yr M4, mesurau manwl i achub y diwydiant dur, pleidleisio teg na chyllid myfyriwr, er enghraifft. Byddwn wedi hoffi pe baem wedi gallu sicrhau ymrwymiad tuag at ganolfan arloesi dur, ysgol feddygol ym Mangor, ysgol filfeddygol yn Aberystwyth a choleg sgiliau adeiladu gwyrdd yn y Cymoedd. Unwaith eto, nid oedd y cyfyngiadau amser yn caniatáu i ni ystyried cynigion manwl ynghylch y prosiectau hynny.

Fel y brif wrthblaid, byddwn yn dychwelyd at y materion hynny drwy’r gyllideb a’r cyfryngau eraill sydd ar gael i ni. Gofynnaf i’r Prif Weinidog a’i blaid roi amser rhwng nawr a phleidlais y gyllideb gyntaf i ystyried sut y gellir datrys y blaenoriaethau hyn i ni lle y ceir anghytuno rhwng ein pleidiau.

Yn ystod etholiadau diweddar y Cynulliad, roedd Plaid Cymru yn sefyll dros newid: newid a fyddai’n sicrhau nid yn unig cyfansoddiad gwleidyddol newydd ar gyfer ein gwlad, ond newid trawsffurfiol a fyddai’n sicrhau gwelliannau pendant i gymunedau ym mhob rhan o’r wlad hon. Mae Plaid Cymru wedi cytuno i dynnu fy enw yn ôl yn awr a chaniatáu i enwebiad Llafur gael ei basio heddiw yn gyfnewid am nifer o gonsesiynau i bobl. Nid oes gennym ddiddordeb mewn ceir gweinidogol neu seddau wrth fwrdd Cabinet rhywun arall. Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw gweithredu ein rhaglen a gynlluniwyd i wella bywydau pobl. Rydym wedi sicrhau dechrau’r diwedd ar y loteri cod post ar gyfer triniaethau iechyd a meddyginiaethau newydd. Bydd camau gweithredu Plaid Cymru yn arwain at gomisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn helpu i ailadeiladu ein heconomi. Bydd hefyd yn darparu modd i ni allu cefnogi’r diwydiant dur, drwy’r polisi caffael y buom yn dadlau’n gryf drosto yn ystod yr etholiad. Bydd gofal plant fforddiadwy ar gael i bawb o dair oed ymlaen, gan ddychwelyd yr hyn a dorrwyd i deuluoedd mewn llefydd fel y Rhondda, a bydd hyn yn digwydd am fod Plaid Cymru wedi’i sicrhau. Bydd yna leoedd prentisiaeth ychwanegol.

Cyflawnwyd yr enillion polisi hyn, ymhlith eraill, ochr yn ochr â’n pwyslais ar sefydlu diwylliant gwleidyddol newydd. O bersbectif Plaid Cymru, mae’r cytundeb hwn yn dangos ein bod yn bwriadu bod yn wrthblaid sy’n glir ynglŷn â’n nodau a’n blaenoriaethau. Dengys digwyddiadau yr wythnos diwethaf ein bod yn barod i wneud ein gorau glas os a phan fo’i angen. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi, ac nid yw byth yn mynd i ystyried dod i gytundeb a fyddai’n caniatáu i UKIP ddod i rym. O dan fy arweinyddiaeth i, mae’r un peth yn wir am y Torïaid. Rwyf bob amser wedi dweud hynny, ac nid yw’r safbwynt hwnnw wedi newid ar unrhyw adeg.

Yn y tymor newydd hwn, Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol a welodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn erioed. Fe fyddwn o ddifrif ynglŷn â’n cyfrifoldebau ac fe fyddwn yn adeiladol. Mae llawer wedi’i ysgrifennu a’i ddweud mewn perthynas ag ymochri gwleidyddol yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf; yn hynny o beth, mae angen i bobl wybod mai’r unig gerdyn y bydd Plaid Cymru yn ei chwarae fydd cerdyn Cymru, a byddwn yn ei chwarae heb unrhyw gywilydd. Ein huchelgais ysgogol yw adeiladu cenedl lwyddiannus, a bydd y nod pennaf hwnnw yn arwain ein camau gweithredu ar bob cam yn y Cynulliad hwn a thu hwnt. Yr wythnos diwethaf, daeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn fyw mewn ffordd na welsom yn y rhan orau o ddau ddegawd. Fy ngobaith yw y bydd tîm newydd Plaid Cymru yn anadlu bywyd i mewn i ddemocratiaeth Cymru a fydd i’w deimlo ledled ein gwlad am flynyddoedd i ddod. Gwyliwch y gofod hwn. [Cymeradwyaeth.]

Diolch i chi, Lywydd, ac os caf ddechrau, yn gyntaf oll, drwy eich llongyfarch chi ar ymgymryd â rôl y Llywydd, ac yn wir, y Dirprwy Lywydd, Ann Jones, ar ennill y bleidlais yr wythnos diwethaf. Rwy’n siŵr ein bod mewn dwylo diogel—dwylo da—ac yn y pen draw, fe fyddwch yn ffurfio eich ffordd unigryw eich hun o gynnal materion y Cynulliad ac yn sefyll dros Aelodau’r meinciau cefn fel y dywedodd y ddwy ohonoch yn eich areithiau derbyn, ac yn wir, dros holl Aelodau’r Cynulliad er mwyn gwneud y sefydliad hwn yr esiampl rydym i gyd yn awyddus iddo fod. Yn wir, carwn hefyd gefnogi’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr ymgeiswyr eraill a ymgeisiodd am rôl y Llywydd a rôl y Dirprwy Lywydd, yn yr ystyr fod y ddau ohonynt yn hyrwyddwyr y sefydliad hwn. Mae Dafydd Elis-Thomas yn y tair blynedd a dreuliodd yn y Gadair, a John Griffiths, sydd wedi gwasanaethu yn y Llywodraeth yn ei dro, ac o’i amser ar y meinciau cefn, yn gwybod yn union beth sy’n ofynnol o’r swyddi y mae’r ddwy ohonoch wedi’u cael, ac rwy’n gwybod y byddem wedi cael ymgeiswyr yr un mor dda. Ond llefarodd democratiaeth, a dymunaf yn dda i’r ddwy ohonoch yn eich ymdrechion dros y pum mlynedd nesaf.

Rwy’n eich llongyfarch chi, Brif Weinidog, ar gael eich gwneud yn Brif Weinidog Cymru heddiw. Rwy’n cydnabod y pwynt a wnaethoch yn benodol nad oes gennych fwyafrif yma, yn amlwg, ac rwy’n meddwl ei bod yn gymwys iawn eich bod wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roedd ymdrechion yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon yn dangos hynny’n glir. A bod yn onest gyda chi, rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi gweld mainc gefn yn edrych mor ddigalon, yma heddiw, yn enwedig pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn siarad. Rwy’n credu bod llawer ohonynt yn meddwl, ‘Beth sydd wedi digwydd dros y diwrnodau diwethaf?’, ond mae’n braf gweld fy mod wedi rhoi gwên ar wynebau rhai ohonynt yma heddiw. Ond mae’n bwysig eich bod yn awr, dros y 100 diwrnod nesaf, yn nodi’r hyn y mae eich Llywodraeth yn mynd i geisio ei gyflawni. Byddai’n llawer gwell gennyf fod wedi cael canlyniad gwahanol, ond rwy’n parchu’r etholwyr a’r hyn y penderfynasant ei wneud ar 5 Mai. Maent wedi eich dychwelyd, nid â mwyafrif, ond gyda’r nifer fwyaf o seddi yma ac yn y pen draw, eich hawl yw ffurfio Llywodraeth a gweld a allwch roi pecyn at ei gilydd sy’n gallu denu cefnogaeth y Siambr hon. Ar y meinciau yma, byddwn yn eich dwyn i gyfrif ar bob cam o’r ffordd, ond byddwn hefyd yn ceisio bod yn adeiladol yn y ffordd y byddwn yn ymgysylltu ac yn dadlau ar y pwyntiau sydd angen eu dwyn gerbron.

Wrth wrando ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am droi’r gornel a chreu gwleidyddiaeth newydd, cafwyd y cyfle hwnnw yr wythnos diwethaf, ond unwaith eto, yn anffodus, dyma hanes yn ailadrodd eto gyda Phlaid Cymru newydd ochri â’r Blaid Lafur, a heb ddewis ceisio datblygu ffurf newydd ar wleidyddiaeth yma yng Nghymru.

Mae rhai gofynion allweddol yn eich wynebu yn y 100 diwrnod cyntaf, Brif Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â rhai o’r meysydd polisi allweddol. Mae prinder staff yn y GIG yn arbennig yn rhywbeth y mae angen i’r Llywodraeth ei nodi. Fe gyfeirioch at hyn yn eich datganiad. Gallaf gofio, yn y Cynulliad diwethaf, pan gyflwynwyd menter gan y Llywodraeth Lafur flaenorol i ymdrin â phrinder staff, a dyma ni, bedair blynedd yn ddiweddarach gyda rhai o’r problemau—wel, llawer o’r problemau—yn dal i wynebu’r GIG, fel y nodwyd yng Nghyffordd Llandudno yr wythnos diwethaf, ond ar draws arfordir gogledd Cymru, lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn dychwelyd eu contract i Betsi Cadwaladr ac mae perygl gwirioneddol y gallai rhai cleifion fod heb ddarpariaeth meddygfa. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn cyflwyno strategaeth i ddweud sut rydych yn mynd i ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn sy’n datblygu ar draws y GIG yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn ddyletswydd arnoch i nodi’n union beth yw eich syniadau ynglŷn â llywodraeth leol, o ystyried bod eich awydd i gael gwared ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru yn elfen mor ganolog o becyn diwygio eich Llywodraeth flaenorol. Gwyddom fod yr etholiadau hynny’n ein hwynebu y flwyddyn nesaf, ac rwy’n credu, ar y cyfle cyntaf, rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad yn nodi’n glir ac yn egluro meddylfryd y Llywodraeth newydd hon ar fformat a dull o fapio llywodraeth leol yn y dyfodol.

Hefyd, ar brosiectau seilwaith—prosiectau seilwaith mawr—mae’n bwysig cyflwyno rhywfaint o eglurder ynghylch y ddadl ar lwybr lliniaru’r M4—y llwybr du neu las neu ddim llwybr o gwbl. Dyma gyfle yn awr i Lywodraeth newydd fapio a rhoi’r golau gwyrdd i’r opsiwn y mae’n ei ddewis. Rydych chi fel Prif Weinidog Cymru wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth bersonol i’r llwybr du, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnoch yn awr i ddod ymlaen ac esbonio’n glir iawn sut y bydd eich Llywodraeth newydd yn bwrw ymlaen â’r cynigion hynny o amgylch Casnewydd, os ydynt yn mynd i gael eu datblygu o gwbl.

Yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac yn ystod yr wythnos nesaf yn ddelfrydol, rwy’n gobeithio hefyd y gellid cyflwyno datganiad i egluro’n union beth yw’r trefniadau rhyngoch chi a Phlaid Cymru. Fe dynnoch sylw at rai o’r meysydd lle y byddai cydweithio yn gweithio. Yn benodol, o ran diddordeb—fe fyddaf yn glir—hoffwn eglurder ynglŷn â sut y bydd y pwyllgorau a sefydlwyd gennych yn gweithio a pha effaith a gaiff y pwyllgorau hynny ar bolisi Llywodraeth yn benodol, yn enwedig am mai chi sy’n gyfrifol am gyflawni’r polisi hwnnw. Neu ai cyfeirbwyntiau’n unig fydd y rhain? Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn cyflwyno datganiad fel mater o frys i ni allu gofyn y cwestiynau i chi er mwyn ceisio eglurder o ran sut y gallai’r cytundeb hwnnw ddatblygu. A oes terfyn amser iddo? Pwy fydd y cynrychiolwyr? Fe ddywedoch y bydd yn Weinidog o’ch plaid chi—. A fydd yn Aelod etholedig o Blaid Cymru neu ai wedi’i benodi gan Blaid Cymru yn unig? Mae’r rhain i gyd yn feysydd atebolrwydd a chan symud i faes atebolrwydd, gyda’r Bil Cymru a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gyflwyno Bil Cymru a fydd mewn gwirionedd yn cyflwyno’r cyfrifoldebau yn ôl i’r sefydliad hwn, i’w wneud yn fwy atebol, i atgyfnerthu democratiaeth Cymru ac i ennyn hyder pobl Cymru yn nhaith Bil Cymru drwy San Steffan, ond yn bwysig, y rhan a fydd gan y Llywydd yn gwneud yn siŵr fod y trafodaethau hynny’n glir a chadarn ac yn y pen draw yn arwain at y canlyniad y byddem i gyd yn ei geisio ym mhumed tymor y Cynulliad.

Felly, rwy’n dymuno’n dda i chi, Brif Weinidog, ond mae llawer iawn o heriau o’n blaenau. Rwyf fi, fel chithau, yn credu bod pobl Cymru yr un mor entrepreneuraidd ac mor dalentog â phobl yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig—yn wir, yn unrhyw le arall yn y byd—. Yr un mater rwy’n meddwl y gallwn gydweithio’n eithaf cydweithredol arno yw’r argyfwng dur sydd yn amlwg wedi mynd â chymaint o amser, ac mae’n iawn ei fod wedi cymryd cymaint o amser, dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, oherwydd rhaid i ni weithio ar draws Llywodraethau ac ar draws y pleidiau i sicrhau gwerthiant llwyddiannus asedau Tata Steel fel y gellir diogelu cymunedau, diogelu swyddi ac yn y pen draw, fel bod gennym gapasiti gwneud dur sicr yma i’r dyfodol, sy’n broffidiol a bod cymunedau ar hyd a lled Cymru yn buddsoddi yn hynny.

Felly, rwy’n eich llongyfarch, Brif Weinidog; dymunaf yn dda i chi, ond yn y pen draw, nid wyf yn dymuno gormod o dda i chi, oherwydd gwleidyddiaeth hyn i gyd. [Cymeradwyaeth.]

Lywydd, fel fy rhagflaenwyr yn eu datganiadau y prynhawn yma, hoffwn eich llongyfarch ar ymgymryd â swydd y Llywydd. Wrth gwrs, eiliais eich gwrthwynebydd, Dafydd Elis-Thomas, ac fe darodd melltith Hamilton eto. Serch hynny rwy’n cymeradwyo dewis fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad hwn, a gallaf addo i chi, er gwaethaf y dechrau a wnaethom heddiw gyda’r pwynt o drefn gan fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless, nid ydym yn bwriadu bod yn ddylanwad aflonyddgar yn y Cynulliad hwn, ond yn hytrach, yn adeiladol iawn yn ein cyfraniadau iddo.

Mae UKIP, wrth gwrs, yn blaid freniniaethol, ond fe wnaethom wrthwynebu coroni Brenin Carwyn, am ein bod yn credu y dylid cynnal pleidlais. Ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol—ac yn hyn o beth rwy’n meddwl bod gennym rywfaint yn gyffredin â Phlaid Cymru—fod Cymru’n cael ei llywodraethu nid gan blaid sy’n credu bod ganddi hawl i reoli drwy ryw fath o hawl ddwyfol, ac mae UKIP, fel gwrthblaid, yn bwriadu gwrthwynebu’r hyn sydd angen ei wrthwynebu.

Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad fod pobl Cymru wedi gofyn am Lywodraeth Lafur yng nghanlyniadau’r etholiad. Nawr, nid wyf yn gwybod a yw wedi edrych yn iawn ar y canlyniadau yng Nghymru ychydig ddyddiau’n ôl, ond 34.7 y cant o’r bleidlais yn unig a gafodd Llafur yn yr etholaethau a 31.5 y cant yn unig o’r bleidlais ar y rhestrau rhanbarthol. Felly, pleidleisiodd dwy ran o dair o bobl Cymru yn erbyn y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad eleni. Felly, yn sicr nid yw hwnnw’n fandad i Lywodraeth Lafur, er gwaethaf diffyg cydbwysedd y seddi o’i gymharu â chanran y pleidleisiau, ac felly dylai fod yn gynhwysol, ac nid cynhwysol yn unig i’r graddau ei bod yn dod i gytundeb â Phlaid Cymru, ond hefyd i gynnwys pleidiau lleiafrifol eraill yn y lle hwn, nid yn lleiaf fy mhlaid fy hun, UKIP, gan fod gennym saith Aelod Cynulliad ac maent yn haeddu cael eu trin â pharch.

A dweud y gwir, yr hyn y pleidleisiodd Cymru drosto ychydig ddyddiau’n ôl oedd newid, nid y status quo, a dyna pam rwy’n gresynu at y rôl y mae Plaid Cymru wedi chwarae dros y dyddiau diwethaf. Mae Kirsty, hefyd, wedi llwyddo i gynnal y weinyddiaeth sigledig hon. Maent wedi llyffetheirio awydd pobl Cymru i greu newid. Ym Mrycheiniog a Maesyfed, pleidleisiodd 92 y cant o’r etholwyr yn erbyn Llafur ac eto, fe sicrhaodd hi fod y Prif Weinidog yn cadw ei le mewn gwirionedd. Yn y Rhondda, cafwyd canlyniad syfrdanol i Leanne Wood, wrth i gyfran Leighton Andrews o’r bleidlais yn yr etholiad cynt, sef 63 y cant, gael ei newid yn 36 y cant o’r bleidlais yn yr etholiad hwn. Yn sicr, nid oedd honno’n bleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, ac rwy’n synnu, felly, ei bod hi mewn gwirionedd, ar ôl cael canlyniad syfrdanol yn y Rhondda, wedi bradychu lles y pleidleiswyr a’i rhoddodd lle y mae dros yr etholaeth honno a gwneud i’r gwrthwyneb i’r hyn roeddent ei eisiau.

Felly, rwy’n ofni bod y ddwy foneddiges hon newydd wneud eu hunain yn gywelyesau gwleidyddol yn harîm Carwyn. Am brofiad erchyll. Gadewch i ni ofyn i ni’n hunain pa wobr y maent wedi’i chael am fod mewn sefyllfa mor anffodus. Beth a gawsant yn wobr am aberthu eu rhinwedd wleidyddol? Mae Leanne Wood wedi siarad lawer gwaith am yr angen am wawr newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn wir, roedd hynny’n bosibl ychydig ddyddiau’n ôl, wrth i ni feddwl y gallai’r gwrthbleidiau, gyda’i gilydd, orfodi bargen newydd, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hynny. Yn hytrach na gwawr newydd, cawsom ddiffyg llwyr ar yr haul, oherwydd yn hytrach na bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn tryloywder llwyr, mae gennym gyfres o bwyllgorau dirgel a ddaw at ei gilydd i daro bargeinion amheus y tu ôl i’r llenni—[Torri ar draws.] Dyma sut y mae pethau’n mynd i fod yn y dyfodol—taro bargeinion amheus i wahardd pleidiau lleiafrifol eraill yn y Siambr hon.

I’r graddau y gallwn— [Torri ar draws.]

I’r graddau y gallwn bennu ei fanylion o ddatganiadau i’r wasg, y cytundeb a wnaed yw’r digwyddiad mwyaf di-ddim yn y wlad hon ers byg y mileniwm. Ac mae’n drueni nad yw Leighton Andrews yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon, gan iddo fynd i helynt yn y Cynulliad diwethaf am gyfeirio at ‘ddêt rhad’ gyda Phlaid Cymru. Pan edrychwch ar y rhestr o alwadau neu gyflawniadau y mae Plaid Cymru wedi llwyddo i’w mynnu gan Lafur, rwy’n ofni bod Leanne Wood wedi bod yn ddêt rhad iawn yn wir—[Aelodau’r Cynulliad: ‘. O.’]—gan na chafodd y pŵer oedd ganddi yn ei dwylo, gyda chymorth y grŵp Ceidwadol a grŵp UKIP, ei ddefnyddio i’w lawn botensial, a gallai fod wedi cael cymaint mwy ganddynt.

Felly, yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y dywedais, bydd UKIP yn chwarae rhan adeiladol iawn yn y dadleuon. Rwy’n hynod o flin fod Plaid Cymru yn rhagfarnllyd eu hagwedd tuag at saith Aelod Cynulliad a ddaeth yma, nid i wneud sylwadau ymhongar—

A gaf fi wneud y pwynt yma nad wyf yn credu bod unrhyw sylwadau rhagfarnllyd wedi’u gwneud gan unrhyw un yn y Siambr hon hyd yma?

Wel, mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai’n gweithio gydag UKIP mewn unrhyw amgylchiadau. Mae hynny’n ymddangos i mi’n sylw mor wrthwynebus fel y gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel rhagfarn—ein bod, wyddoch chi, rywsut yn anghyffyrddadwy. [Torri ar draws.] Wel, nid yw 15 y cant o etholwyr Cymru yn credu ein bod yn anghyffyrddadwy, am eu bod wedi pleidleisio drosom, ac mae hynny’n sarhad, nid arnom ni, ond arnynt hwy.

Felly, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn taflu goleuni ar y meysydd y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies atynt yn ei ddatganiad: ar y gwasanaeth iechyd, ar yr M4, ac yn arbennig, ar y diwydiant dur. Dyma lle y mae’r ddadl am yr UE yn dod i’r amlwg: mae’r Prif Weinidog a’r Blaid Lafur, yn ogystal â Phlaid Cymru, yn gwbl ymroddedig, wrth gwrs, i’r UE—heb sôn am y Democrat Rhyddfrydol sydd ar ôl—sy’n gwneud y Prif Weinidog yn gwbl ddiymadferth, ac mi dybiwn y byddai aelodau ei harem yn eithaf bodlon â hynny, ond nid yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gallu gwneud fawr ddim i achub y diwydiant dur yn y wlad hon, am nad oes gennym unrhyw reolaeth dros brisiau ynni ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddur rhad o Tsieina yn cael ei ddadlwytho ar ein glannau. Dyna pam y mae adfer pwerau o Frwsel yn hanfodol, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i’r Cynulliad hwn, ac yn union fel y credwn mewn datganoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac o San Steffan i Gymru, byddai hynny’n cryfhau’r sefydliad hwn a dylem oll fod eisiau cael y pwerau hynny i ni allu eu defnyddio er lles gorau pobl Cymru.

Felly, rwy’n llongyfarch y Prif Weinidog, er na fyddwn wedi pleidleisio drosto, ar gael y swydd, a gallaf ei sicrhau y byddwn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, nid yn unig mewn dadleuon a thrafodaethau, ond hefyd tuag at ddatblygu polisïau sydd er lles holl bobl Cymru. [Cymeradwyaeth.]

2. 2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i Ddwyn Ymlaen y Cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn Nesaf

Yr eitem nesaf yw cynnig heb rybudd i ddwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn nesaf. Fy mwriad i yw galw’r cyfarfod hwnnw am 1.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, 24 Mai, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog.

Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn dwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn nesaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os nad oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog—mae’r bobl yma sydd yn symud y sgript yma’n symud yn rhy gyflym i’w Llywydd newydd nhw. Rheol Sefydlog 12.36 oedd hwnnw. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn ogystal â chwestiynau i’r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i’r Pwyllgor Busnes a dechrau’r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae’n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a’r cyhoedd yn cael gwybod am yr agenda yn ffurfiol yn y ffordd arferol, a daw hynny â thrafodion i ben am y prynhawn yma.

Daeth y cyfarfod i ben am 14:04.