Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/11/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Symudwn nawr yn syth at eitem un, cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Iain McIntosh—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OQ64925].
Cwestiwn 2, Beca Brown.
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i sefydlu archif genedlaethol Cymru? OQ64947
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Cyn i fi ateb, a gyda'ch caniatâd chi, Lywydd, a finnau'n Weinidog diwylliant a chwaraeon, gaf i hefyd ychwanegu fy llongyfarchion i dîm dynion rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd, a chydymdeimlo hefyd efo tîm pêl-droed dynion Cymru neithiwr—perfformiad canmoladwy? Hefyd, dwi eisiau cydymdeimlo efo teuluoedd a chyfeillion Robat Gruffudd a Jeremy Turner, dau a wnaeth gyfraniad aruthrol i ddiwylliant Cymru.
Yn ôl at y cwestiwn, mi ydyn ni'n edrych ymlaen at ystyried yr opsiynau ar gyfer sefydlu archif genedlaethol i Gymru, ac rydyn ni eisoes yn trafod efo rhanddeiliad allweddol. Rydyn ni wedi ymgymryd â'r gwaith i ddiweddaru'r astudiaeth ddichonoldeb o 2019, ac mae yna nifer o fodelau posib i'w hystyried. Mi fyddwn ni'n ystyried canfyddiadau’r adolygiad yng nghyd-destun y strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb. Fel y dywedasoch chi y mis diwethaf wrth gyhoeddi £550,000 ar gyfer prosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, mae'r sefydliadau hyn yn hollol ganolog i'n cymunedau, gan gysylltu pobl efo'u hanes, efo'u diwylliant ac efo'i gilydd, a dwi'n cytuno efo'r geiriau hynny yn llwyr. Sut y gallwn gyfiawnhau sefyllfa lle mae cofnodion sy'n adrodd hanes cymunedau fel rhai Gwynedd Maldwyn, ynghyd â dogfennau pwysig am lywodraethu Cymru ei hun, yn parhau i gael eu cadw y tu allan i Gymru, gan gynnwys yn The National Archives yn Kew? Onid yw hynny'n cryfhau'r achos dros sefydlu archif genedlaethol Cymru fel y gall cof y genedl hon gael ei gadw ar dir y genedl hon? O ystyried hyn oll, a all y Gweinidog roi i mi ddiweddariad ar gyfer cyhoeddi'r strategaeth ddiwylliant newydd, a manylu ar ble mae archifau a threftadaeth ddogfennol Cymru yn eistedd o fewn y strategaeth honno?
Diolch. Dwi'n cytuno'n llwyr efo sylwadau'r Aelod o ran hynny. Mi ddylai archif Cymru i gyd fod yma yng Nghymru. Mae yna fudd a gwerth i hynny. Yn amlwg, mae gennym ni archifdai o bwys sylweddol. Mae ein harchifau cenedlaethol yn rhan flaenllaw o ran diogelu cofnodion cyhoeddus, yn gopïau caled ac yn ddigidol. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gwerthfawrogi'r bartneriaeth sydd yn bodoli rhwng yr archifau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar y funud.
Ond mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. O ran diweddariad o ran amserlen, dwi'n gobeithio cael opsiynau a chostau erbyn Mawrth y flwyddyn nesaf. Felly, rydyn ni'n mynd mor gyflym â phosib o ran y gwaith hwn. Ac fel roeddwn i'n dweud, mi fydd hyn wedyn yn bwydo i'r strategaeth diwylliant a chwaraeon. Dwi wedi bod yn glir bod yn rhaid i ni flaenoriaethu gwariant a buddsoddiad, a dyna pam dwi wedi gofyn i gael yr holl wybodaeth am y gwaith hwn, fel ein bod ni wedyn yn gallu edrych o ddifrif ar rywbeth sydd o bwys cenedlaethol.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, ond sydd heddiw ddim yn bresennol. Felly, llefarydd Llafur Cymru, Jayne Bryant.
Wel, yr hyn rydyn ni wedi bod yn glir amdano fel Llywodraeth ydy ein bod ni'n gweithio'n drawsbortffolio, a'r gwendid sydd wedi bod, mewn amryw o'r gwasanaethau hyn—mae rhai rydych chi wedi cyfeirio atynt yn statudol, rhai ddim yn statudol—yw bod yna bwysau aruthrol wedi bod. Dwi'n barod wedi cyfarfod efo arweinyddion llywodraeth lleol ledled Cymru am hyn, yn gofyn iddyn nhw gyfrannu at y strategaeth diwylliant a chwaraeon, oherwydd yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn wahanol fel Llywodraeth ydy deall y buddsoddiad sydd ei angen o ran llywodraeth leol, o ran Llywodraeth, a chreu strategaeth hirdymor i fynd i'r afael efo'r toriadau gwirioneddol a'r diffyg strategaeth sydd wedi bod am dros ddegawd.
Beth dwi yn ei weld yn siomedig ydy eich bod chi'n siomedig efo fi am fod eisiau cydweithio a gwrando ar lywodraeth leol o ran creu sefyllfa hirdymor, gan gydnabod bod yna ddiffyg strategaeth a buddsoddi wedi bod gan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn y meysydd hyn. Os ydych chi'n edrych ar y gyllideb o ran diwylliant a chwaraeon a'r hyn sydd ar gyfer llyfrgelloedd lleol, ar gyfer archifdai lleol, dydy hwnna ddim yn wynebu toriad. Dyna benderfyniad rydym ni wedi ei wneud er gwaethaf setliad ariannol cyfan gwbl heriol gan Lywodraeth San Steffan, yn setliad annigonol. Mae'r MEG sydd gen i o ran diwylliant a chwaraeon yn codi 5.8 y cant yn 2027-28 a 10 y cant erbyn diwedd 2028-29. Mae'r cyfalaf yn aros yn sefydlog. Nid dyna ddigwyddodd pan oedd Llywodraeth Lafur yn wynebu'r un sefyllfa gyllidol o ran diwylliant a chwaraeon. Felly, dwi ddim yn mynd i dderbyn y feirniadaeth honno. Rydyn ni'n cydweithio, rydyn ni'n gwrando ac rydyn ni'n gweithredu.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwnnw. Efallai y dylwn i gymryd y cyfle hwn i atgoffa pawb, yn enwedig disgyblion ysgol, fod disgwyl iddyn nhw fod yn yr ysgol, er gwaethaf bod Grand Theft Auto 6 yn dod allan. Dwi ddim yn gwybod os mai dyna pam nad yw Reform yma, yn paratoi at hynny—pwy a ŵyr? Dwi hefyd yn drist iawn nad yw ein cyfaill ni Mike Hedges yma, sydd fel arfer yn holi o ran gemau fideo, a'r unig berson arall i holi fi am Grand Theft Auto o'r blaen.
Yn sicr, mae hwn yn ddiwydiant eithriadol o bwysig. Mae'n bwysig i'n heconomi ni. Ers 2020, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi mwy na £5.7 miliwn mewn dros 100 o fusnesau gemau. Drwy ddod yn rhan o strategaeth lawn ar ddiwylliant a chwaraeon sydd yn cwmpasu'r diwydiannau creadigol, gan gynnwys gemau fideo, rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n cydweithio efo'r sector, fy mod fi'n cydweithio efo Adam Price o ran yr economi hefyd, a'i fod e'n gyfan gwbl glir sut ydyn ni'n mynd i weld y twf mewn buddsoddiad fan hyn er mwyn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen. Rydyn ni wedi bod yn darparu cymorth i ddatblygu ac ehangu cwmnïau gemau Cymru. Mae datblygiad sgiliau drwy academi gemau Tramshed Tech hefyd, felly mae yna waith yn mynd rhagddo ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i gefnogi'r sector hwn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau atodol hynny. Yn sicr, mi wnaf i gael diweddariad i chi o ran y gronfa benodol rydych chi wedi cyfeirio ati hi. O ran y pwynt ehangach, yn sicr, drwy ddatblygu strategaeth iawn efo cynlluniau datblygu sectoraidd iawn a hirdymor, dyma lle rydyn ni eisiau ei gyrraedd hefyd. Byddwch chi'n gwerthfawrofi fy mod i chwe mis mewn i'r gwaith o fod yn datblygu hynny. Dwi'n meddwl bod y math o ymateb rydyn ni wedi ei weld yn flaenorol, o fod yn eithaf ad hoc am bethau, ac efallai peidio â bod yn glir o ran lle rydyn ni i eisiau'r buddsoddiad gyrraedd o ran budd economaidd ac o ran swyddi, wedi bod yn wendid yn y gorffennol, ac yn wendid dwi'n ceisio ei gywiro drwy fynd ati efo'r gwaith hwn. Rydyn ni hefyd yn gofyn i'r diwydiant roi ymateb i'r ymgynghoriad, sy'n fyw tan 18 Rhagfyr. Mae yna nifer o bobl wedi cymryd y cyfle hwnnw, ond hefyd, os ydych chi'n ymwybodol o gwmnïau yma yng Nghymru sy'n gweithio yn y sector, plis a wnewch chi eu hannog nhw i gyfranogi?
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cau pyllau nofio ar ei nod o gwella cymhwysedd nofio? OQ64934
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae mynediad at gyfleusterau nofio yn syflaenol i wella cymhwysedd nofio ac ehangu cyfranogiad. Dyna pam rydym ni wedi mynd ati yn syth bìn ar ôl dod i mewn i Lywodraeth i gomisiynu ymchwil ar gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio, er mwyn creu darlun cliriach o anghenion presennol ac anghenion y dyfodol, gan helpu i dargedu buddsoddiad a chynllunio darpariaeth gynaliadwy lle mae ei hangen fwyaf.
Dwi'n cydnabod cryfder y teimladau lleol ar y mater hwn ac yn deall pam mae trigolion yn awyddus i weld cyfleusterau nofio o ansawdd uchel ar gael yn agos at adref. Dwi hefyd yn croesawu ymrwymiad parhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i sicrhau dyfodol hirdymor o ran darpariaeth nofio yn nyffryn Abertawe. Ond yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw bod gan Chwaraeon Cymru gronfa fuddsoddi cyfalaf sydd ar gael rŵan, ac mae’n bosib i gynghorau ddefnyddio honno. Mi oedd yn ymrwymiad gennym ni. Nhw sydd yn gwneud y penderfyniadau o ran hyn.
Y gwaith rydyn ni'n ei wneud ydy deall yr angen ledled Cymru er mwyn cydweithio efo Chwaraeon Cymru i adnabod beth ydy'r modelau gwahanol lle gallwn ni ddod â gwahanol fodelau i ddarparu'r cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl yn yr ardaloedd lle mae eu hangen nhw. Dyna pam, hefyd, mae Nofio Ysgol yn cael ei wneud dros gyfnod o amser, er mwyn i ni weld beth ydy'r heriau yn y cyfnod hwnnw, a bydd cyfleusterau yn un ohonyn nhw. Dwi'n ymwybodol o hynny—mae yna ddiffyg cyfleusterau, neu gyfleusterau sydd yn ofnadwy o hen, mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig ardaloedd gwledig, ledled Cymru.
Felly, dyna'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae angen i ni edrych ar bob model posib o ran sicrhau ein bod ni'n gallu cael yr adnoddau sydd eu hangen ar bobl. Dwi'n diolch i'r Aelod am godi'r mater ar ran trigolion Pontardawe.
Diolch i'r Aelod. Yn sicr, mi glywais i'r neges yn gryf iawn yn Aberteifi pan oeddwn i yno ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las bod yna fwlch yn cael ei weld yn yr ardal oherwydd cau'r pwll nofio yno, heb os. Dyma'r her sydd gennym ni. Mae gwaith gan Nofio Cymru wedi dangos bod angen tua £423 miliwn, dwi’n meddwl, ar byllau nofio ledled Cymru. Wel, rydych chi wedi gweld y gyllideb ddoe. Dydy'r cyllid yna ddim ar gael. Byddwn i wrth fy modd yn gwneud yr achos i'r Gweinidog cyllid, ond mae hwnna ar byllau nofio yn unig ledled Cymru. Dyma maint yr her rydym ni wedi ei etifeddu oherwydd diffyg buddsoddi, diffyg cynllunio strategol, a dyna beth rydym ni'n ymrwymo i fynd i'r afael â fo.
Ydy hynny'n golygu ein bod ni'n mynd i allu ariannu a chyllido pob pwll nofio? Nac ydy, yn anffodus. Mae’n rhaid i ni edrych hefyd lle mae angen y pwll nofio hwnnw, lle mae'r cysylltedd efo trafnidiaeth, er enghraifft, fel bod pobl yn gallu cael mynediad, oherwydd mae hwnna'n rhwystr, hefyd.
Dyna'r ymrwymiad sydd gen i: edrych ar yr holl anghenion amrywiol sydd eu hangen ar y portffolio hwn. Mae yna gwestiynau eraill gen i heddiw am feysydd eraill sydd wedi gweld diffyg buddsoddiad. Bydd yn rhaid i ni flaenoriaethu wedyn, ond hefyd cydweithio efo cymunedau. Oherwydd mae yna gymunedau ledled Cymru sydd wedi codi arian, sydd gyda modelau gwahanol o ran rhedeg cyfleusterau chwaraeon. Beth dwi eisiau bod yn glir yn ei gylch ydy beth gall cymunedau ei ddisgwyl gan y Llywodraeth, sut rydyn ni'n sicrhau bod y buddsoddiad sydd gennym ni yn cael yr effaith mwyaf, ac mi fydd y gwaith hwnnw yn dod drwodd yn y strategaeth newydd.
Cwestiwn 4, Steve Bayliss—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 4 [OQ64919].
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r celfyddydau a diwylliant drwy brosiectau creadigol a arweinir gan y gymuned? OQ64935
Mi ydym ni'n cefnogi'r celfyddydau a diwylliant a arweinir gan y gymuned drwy ein cyllid ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru a mentrau iaith, i roi dim ond dau enghraifft. Gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol, mae cyngor y celfyddydau yn cefnogi gweithgarwch ym mhob awdurdod lleol, gan gynnwys drwy Cymunedau Creadigol, Llais y Lle a Noson Allan. Mae ein cyllid ar gyfer mentrau iaith hefyd yn helpu cymunedau i gymryd rhan mewn cerddoriaeth, drama a dawns drwy’r Gymraeg.
Diolch i'r Aelod. A gaf i yn gyntaf ddweud pa mor falch oeddwn i i weld bod cais Dinas Diwylliant Wrecsam wedi symud yn ei flaen ymhellach? A gobeithio fy mod i'n siarad ar ran pawb yn y Siambr o ran ein bod ni'n croesi popeth. Mae Wrecsam wedi rhoi cais hynod o gryf ger bron, ac rydyn ni'n gobeithio'r gorau o ran hynny.
Dwi'n meddwl bod yr hyn sydd wedi digwydd yn Wrecsam yn bethau sydd yn bwysig iawn i'w bwydo i mewn i'r strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd. Rydyn ni wedi sôn nifer o weithiau ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau dyfodol rhai o'n sefydliadau cenedlaethol ni, ond hefyd mae artistiaid a gweithgarwch ar lawr gwlad yn rhan hanfodol o hyn. Mae'n rhaid inni sicrhau gwell mynediad i ddiwylliant i bawb, ac mewn llefydd arferol bob dydd.
Dyna pam bod Tŷ Pawb yn Wrecsam yn ffantastig yn fy marn i, i fod yn y farchnad yng nghanol y dref yn fanna ac i fod yn ganolfan ddiwylliannol. Dwi wedi bod i mewn yna a gweld pobl jest yn chwarae'r piano, yn bod yn ddiwylliannol heb unrhyw rwystr. Dyna ydy diwylliant. Mae o yn yr arferol. Mae o'n rhoi mynediad hawdd i bawb bob dydd.
Felly, yn sicr, dwi'n gobeithio y bydd pobl lawrydd a phobl sy'n gweithio o fewn y gymuned o ran diwylliant a'r celfyddydau yn cyfrannu at y strategaeth hon, fel ei bod hi'n gweithio ar bob lefel. Dydw i ddim eisiau chwaith ein bod ni'n cyfyngu ar weithgaredd llawr gwlad. Mi ddylai hyn fod ynglŷn â sicrhau bod hwn o fewn cyrraedd pawb, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru.
Diolch. A gaf i yn gyntaf longyfarch y gymuned sydd wedi dyfalbarhau? Mae 28 mlynedd yn amser rhy hir. Yn sicr, yr hyn rydyn ni eisiau ei weld ydy, lle mae yna gymunedau yn awyddus i ddatblygu a lle mae'r galw a'r angen yna, ein bod ni fel Llywodraeth mewn sefyllfa i allu cefnogi hynny. Mae yna amryw o wledydd efo modelau gwahanol. Er enghraifft, yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Llywodraeth yna wedi creu cronfa lle maen nhw'n rhoi peth arian os yw'r gymuned yn codi peth arian. Mae yna fodelau amrywiol rydyn ni'n edrych arnyn nhw wrth ddatblygu'r strategaeth diwylliant a chwaraeon. Dydy o ddim jest am gynyddu faint rydyn ni'n ei wario, mae o hefyd am gefnogi ac ymbweru cymunedau. Oherwydd un o'r pethau sy'n bwysig hefyd ydy bod yna ddefnydd o'r cyfleusterau hyn a bod yna hefyd edrych o ran beth ydy'r adnodd er mwyn galluogi mynediad i barhau. Weithiau mae yna rwystrau os nad oes yna oleuadau gyda'r nos ac ati, yn enwedig pan fydd hi'n dod i'r gaeaf. Felly, beth rydyn ni'n trio gweithio arno fo ydy edrych ar yr holl gyfleusterau ledled Cymru ar lawr gwlad, boed mewn canolfannau chwaraeon neu beidio, a thrio mapio allan ble mae angen inni weld buddsoddiad er mwyn bod cyfranogiad yn gallu cynyddu.
Cwestiwn 6, Gareth Beer—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 6 [OQ64929].
Gyntaf i gyd, rwy'n eilio teyrnged y Gweinidog i Robat Gruffudd a Jeremy Turner, dau roeddwn i'n eu hadnabod yn tyfu lan yn Aberystwyth ac yn sicr yn adnabod eu cyfraniad nhw i ddiwylliant nid jest tref Aberystwyth ond Cymru gyfan.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol yng Nghaerdydd Penarth? OQ64924
Rydyn ni'n cefnogi'r celfyddydau gweledol yng Nghaerdydd Penarth drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Y flwyddyn ariannol hon, mae cyngor y celfyddydau yn darparu £900,000 mewn cyllid amlflwyddyn i sefydliadau gan gynnwys g39, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Artes Mundi a Ffotogallery. Ers mis Ebrill 2025, mae hefyd wedi darparu dros £414,000 mewn cymorth prosiect ar gyfer y celfyddydau gweledol yn yr etholaeth. Mae penderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud ar hyd braich, o fewn y fframwaith strategol.
O ran oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, dwi wedi bod yn gyfan gwbl agored efo pwyllgor craffu'r Senedd hon ynglŷn â'r ffaith bod hon yn parhau yn uchelgais a'i fod o'n rhywbeth rydyn ni'n edrych arno fo o ran y strategaeth diwylliant a chwaraeon, ond hefyd bod rhaid i ni edrych ar yr heriau gwirioneddol mae'n sefydliadau presennol ni'n eu hwynebu. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sefyllfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle mae yna danfuddsoddi gwirioneddol wedi bod, sy'n golygu bod yr amgueddfa yn rhybuddio y gallai gau'r drysau yn ddisymwth. Felly, mae'r heriau dwi wedi eu hetifeddu yn sylweddol, ond mae'r uchelgais yn parhau.
Rydw i, wrth gwrs, wastad yn fodlon cyfarfod efo unrhyw awdurdod lleol. Dwi wedi gofyn i arweinydd Cyngor Caerdydd am gyfarfod i drafod diwylliant a chwaraeon mawr, a gobeithio y byddwn ni'n cael y dyddiad hwnnw yn fuan. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydweithio. Rhwng y Tour de France a'r Ewros, mae yna ddigwyddiadau mawr yn dod. Ond dwi hefyd eisiau cael y drafodaeth ehangach honno. Ond dyna lle dwi arni o ran y gwaith sydd angen ei wneud—deall yr angen gwirioneddol rŵan, a sut rydym ni'n mynd i gyllido hwnna mewn sefyllfa ariannol hynod heriol, wrth barhau efo'r uchelgais. Mae Cymru yn haeddu cael oriel celf gyfoes genedlaethol, a does ganddi hi ddim ar y funud.
Cwestiwn 8 [OQ64938], tynnwyd yn ôl.
9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r heriau ariannol sy'n wynebu Amgueddfa Cymru? OQ64930
Dwi’n cydweithio'n agos efo Amgueddfa Cymru ynghylch materion ariannol. Mae o'n bwysig dros ben ein bod ni yn deall gwir angen ariannol Amgueddfa Cymru, a'r ymrwymiad sydd gen i ydy ein bod ni'n cydweithio i ddeall sut y gallwn ni sicrhau dyfodol i Amgueddfa Cymru. Mae'r sefyllfa dwi wedi ei hetifeddu yn un hynod o heriol, ond dwi'n benderfynol bod rhaid i ni gydweithio i sicrhau dyfodol Amgueddfa Cymru.
Diolch i'r Aelod am godi'r materion pwysig atodol hynny, ac a gaf i ategu y sylwadau wnaethoch chi am y staff? Dydy hyn ddim yn adlewyrchiad ar y staff o gwbl; mae yna ddiffyg buddsoddi wedi bod. Mae yna £5 miliwn o gyfalaf wedi ei ddarparu ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2024 a 2026 ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau brys, ond mae'r ffaith eu bod nhw'n dal, er gwaethaf hynny, yn wynebu'r posibilrwydd o orfod cau eu drysau yn ddisymwth yn rhywbeth sy'n bryder go iawn.
Yr hyn dwi eisiau ei sicrhau ydy, drwy weithio efo nhw i ddeall yr achos busnes a deall sut dŷn ni ddim dim ond yn rhoi miliwn neu ddau, sydd ddim yn mynd i wneud newid gwirioneddol, ond sut dŷn ni'n mynd i gydweithio, fel eu bod nhw hefyd yn gallu codi arian tu hwnt i'r pwrs cyhoeddus, oherwydd mae yna gyfle fan hyn i ddenu arian o'r tu allan i Gymru, i ddenu nawdd ar gyfer prosiect fydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Felly, y cydweithio hwnnw sy'n allweddol bwysig, ddim i edrych ar y tymor byr, ond i edrych ar yr hirdymor. Dyna'r unig ffordd awn ni i'r afael efo hyn.
10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo digwyddiadau chwaraeon o bwys cenedlaethol er budd canolbarth Cymru? OQ64937
Bydd 2027 yn flwyddyn fythgofiadwy i’r canolbarth, nid yn unig, wrth gwrs, efo'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod, ond gyda chymal Cymru o’r Tour de France yn dechrau yn y Trallwng. Rydym ni'n buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn canolfannau beicio newydd ledled y canolbarth, yn rhan o gronfa Croeso i Feicwyr gwerth £4.5 miliwn, er mwyn sicrhau gwaddol parhaol.
Diolch, Weinidog. Mae'r sector twristiaeth, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi canolbarth Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o gael cyfarfod gyda chynrychiolwyr Mid Wales Tourism ddydd Llun i glywed mwy am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector. Mae'r flwyddyn nesaf, fel rydych chi wedi cyfeirio ato, yn cynnig cyfle sylweddol i'r rhanbarth, gyda chanolbarth Cymru ar fin cynnal nifer o ddigwyddiadau o fri rhyngwladol, gan gynnwys Tour de France a Phencampwriaeth Enduro'r Byd, a fydd yn denu ymwelwyr ac yn creu cyfleoedd economaidd sylweddol i'r ardal.
Rwy'n falch, felly, o weld bod y gyllideb yn rhoi pwyslais ar gefnogi'r digwyddiadau nodedig hyn, gan gydnabod eu pwysigrwydd i'n heconomi a'r cyfleoedd twristiaeth sydd o'n blaenau. Ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn arwain at fanteision gwirioneddol a pharhaol i fusnesau a chymunedau lleol. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y misoedd nesaf mewn cydweithrediad efo partneriaid i sicrhau bod busnesau lleol, o letyau hunanarlwyo, gwestai i dafarndai, mewn sefyllfa dda i fanteisio i'r eithaf ar y digwyddiadau hyn a sicrhau manteision economaidd hirdymor?
Diolch i'r Aelod. Dŷch chi'n sicr yn gwerthu canolbarth Cymru yn dda iawn fan hyn. Ac fel dŷch chi'n dweud, mae yna gyfleoedd aruthrol. Ac un o'r pethau dwi wedi bod yn canolbwyntio arno fo ers cael yr anrhydedd o ddod yn Weinidog ar y portffolio hwn ydy edrych o ran digwyddiadau mawr a gwaddol mewn ffordd wahanol iawn, sydd i fod o'r dechrau o hyn ymlaen. Yn amlwg, dwi wedi etifeddu'r Tour de France ac felly yr hyn dwi wedi bod yn cydweithio yn ei gylch efo swyddogion o fewn y Llywodraeth a phartneriaid ydy'r union bwynt hwnnw o sicrhau'r budd mwyaf, oherwydd mi fydd pobl yn heidio wedi'r Tour de France i ganolbarth Cymru. Bydd pobl eisiau mynd ar hyd llwybr y Tour de France, ac mae'n rhaid inni fod yn barod am hynny. Mae'n rhaid inni gael y seilwaith o ran twristiaid yna, boed hynny'n llefydd aros ac ati.
Felly, mae hwn yn gyfle aruthrol. Mi fyddaf i'n diweddaru'r Senedd hon ar strategaeth newydd digwyddiadau mawr yn hwyrach yn y tymor hwn. Mae'n rhywbeth dwi wedi bod yn gweithio arno fo. Mi fydd hwnnw, wrth gwrs, yn edrych o ran digwyddiadau mawr y byddwn ni'n mynd amdanyn nhw yn y dyfodol. Yn y cyfamser, dwi'n hapus iawn i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Aelod. Ac os oes yna bethau dŷch chi'n credu y dylem ni fod yn eu gwneud nad ydyn ni'n eu gwneud, dwi'n hapus iawn i glywed y rheini hefyd.
11. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog cyfranogiad mewn chwaraeon ym Mangor Conwy Môn? OQ64942
Wel, ym Mangor Conwy Môn, dŷn ni'n gweithio gyda Chwaraeon Cymru a phartneriaid lleol i gryfhau clybiau cymunedol, gwella cyfleusterau lleol a chreu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a chyfranogi mewn chwaraeon. Yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28, dŷn ni wedi dyrannu £23.5 miliwn o gyllid refeniw a £11 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru i barhau â'r gwaith hwn.
Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb, ac mae'n braf gweld y Llywodraeth yn cymryd camau ystyriol i ddarparu adnoddau chwaraeon o safon i'n cymunedau. Dwi'n siŵr y bydd cymuned Caergybi yn falch iawn o glywed y newyddion yma y prynhawn yma. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, dim ond un rhan o'r datrysiad yw darparu adnoddau yn y lle cyntaf. Yr ail ran yw sicrhau eu bod nhw'n hygyrch, yn cael eu gwarchod ac yn cael eu defnyddio'n eang gan y gymuned.
Gwerthfawrogaf, felly, pe gallai'r Gweinidog amlinellu'r gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid lleol i hysbysu argaeledd adnoddau chwaraeon, yn enwedig ymysg y to iau, fel ein bod ni'n macsimeiddio'r effaith bositif y gall ein hadnoddau chwaraeon gael ar ieuenctid a llesiant cymdeithas.
Diolch. Dwi'n meddwl bod y pwyntiau dŷch chi wedi eu codi yn rhai pwysig dros ben. Mae hyn ynglŷn â chyfranogiad, mae o ynglŷn ag iechyd, ynglŷn â chreu cyfleoedd. Dŷn ni'n ymwybodol iawn fel Llywodraeth, o edrych ar arolwg diweddaraf Chwaraeon Cymru, yr arolwg ysgolion, lle dŷn ni'n dal i weld gormod o rwystrau o lawer o ran cyfranogiad, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hynny.
Dŷn ni'n datblygu strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd. Mae yna gydweithio rhyngof i a Nerys Evans yn benodol o ran yr ochr ataliol ac iechyd cyhoeddus. A'r hyn dŷn ni eisiau gweld strategaeth o'r fath yn ei alluogi, oherwydd, yn un peth, mae yna waith gwych yn digwydd mewn nifer o etholaethau, gan gynnwys ym Mangor Conwy Môn—. Mae yna beilot llwyddiannus wedi bod, ond wedyn, yn aml, mae peilot yn gallu dod i ben. Sut ydyn ni'n sicrhau bod gwaith o ansawdd uchel, sydd yn digwydd rŵan, yn gallu parhau, yn gallu cael ei ehangu fel bod y ddarpariaeth yn ateb y galw yn lleol? Dydy fframwaith cenedlaethol ddim yn mynd i ddarparu hynny'n unig. Dŷn ni angen partneriaid ar lawr gwlad i fod yn gwneud hynny.
12. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o sefyllfa ariannol amgueddfeydd Cymru? OQ64936
Datgelodd arolwg sbotolau ar amgueddfeydd 2024 ac adroddiad 'Amgueddfeydd a Chaledi' Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fod amgueddfeydd Cymru yn wynebu pwysau ariannol parhaus, cyfyngiadau o ran y gweithlu a chostau gweithredu cynyddol. Ac er bod yna heriau sylweddol yn parhau, mae'r strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau gwydnwch, cydweithio, yr effaith gymunedol a chynaliadwyedd hirdymor.
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at amgueddfeydd lleol, oherwydd, yn amlwg, efo'r heriau sylweddol sy'n wynebu Amgueddfa Cymru, dwi yn ofni, weithiau, fod rôl a phwysigrwydd amgueddfeydd lleol yn cael ei hesgeuluso a'i hanghofio. Yn sicr, nid dyna ydy'r sefyllfa o'm rhan i fel Gweinidog, a dwi yn cydweithio'n agos efo'r sector hwn.
Dwi'n cofio adroddiad a wnaed gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd yn edrych ar amgueddfeydd lleol yn 2015. Roedd yn dangos bod angen gweithredu ar frys er mwyn cefnogi'r sector lleol hwnnw, ond gwnaeth y Llywodraeth Lafur ddim gweithredu. Felly, mae'n bwysig iawn, wrth inni fynd ati efo'r strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd a datblygu cynlluniau penodol sydd yn gysylltiedig efo sectorau, er enghraifft amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai, ein bod ni yn edrych ar amgueddfeydd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'r cydweithio rhyngddyn nhw yn bwysig dros ben. Mae yna waith arloesol yn digwydd yn ein hamgueddfeydd lleol ni sydd o bwys rhyngwladol. Ond efo'r sefyllfa gyllidol maen nhw wedi'i hwynebu a’r diffyg strategaeth, mae wedi bod yn heriol dros ben.
Felly, yr hyn dwi'n gobeithio bydd amgueddfeydd lleol yn ei wneud ydy cyfrannu at yr ymgynghoriad yma a chydweithio efo ni fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni yn datblygu'r cynllun hirdymor yna er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau i fod mor weithredol yn ein cymunedau ni.
Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, cwestiwn 12—supplementary gan Sam Rowlands.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae amgueddfeydd eisoes yn dod â nawdd. Maen nhw yn edrych ar ffyrdd gwahanol o gael arian er mwyn sicrhau bod eu hyfywedd ariannol nhw'n gallu parhau. Maen nhw hefyd yn gweithredu o fewn fframwaith foeseg—code of ethics—lle mae yna adran benodol yn y fan yna ynglŷn â nawdd a sicrhau bod unrhyw nawdd yn cyd-fynd â gwerthoedd yr amgueddfa honno, a sicrhau hefyd fod y buddsoddiad hwnnw'n diwallu anghenion y gymuned leol. Felly, o ran hynny, dwi'n credu bod gan amgueddfeydd—. Heb ymyrraeth Llywodraeth, mae ganddyn nhw fframwaith maen nhw'n ei ddilyn lle mae nawdd yn bosib. Yr hyn dwi'n cydweithio efo ydy—. Lle dyw'r cyfleoedd yna ddim yn bodoli, a lle mae angen buddsoddiad gan y Llywodraeth, rydym ni'n cydweithio i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r buddsoddiad angenrheidiol.
Ond hefyd dwi yn derbyn pwynt yr Aelod o ran nid yw dim ond cyllideb cyfalaf, a'n bod ni angen edrych ar beth ydy'r refeniw a sut rydym ni'n cefnogi wedyn y llefydd sydd wedi, efallai, derbyn buddsoddiad sylweddol o ran cyfalaf, a bod hynny'n gynaliadwy wedyn o ran lefelau staffio ac ati, a chadw'r drysau ar agor.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Gadewch i ni symud ymlaen nawr at eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Yn gyntaf, cwestiwn 1—Janet Finch-Saunders.
1. Beth mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i leihau ardrethi busnes? OQ64918
Rwy'n falch ein bod ni wedi pasio deddfwriaeth yn ddiweddar a fydd yn rhoi gostyngiad parhaol o 30 y cant ar filiau ardrethi annomestig i fusnesau cymwys. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiad i ailgydbwyso'r system ardrethi a darparu gwell cymorth i fusnesau lletygarwch, hamdden a manwerthu ar y stryd fawr, o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Cwestiwn 2, Steven Rodaway—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OQ64920].
Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones—ddim yn bresennol heddiw. Felly, symudwn at lefarydd Llafur Cymru, Huw Thomas.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe gyhoeddwyd eich cyllideb chi ddoe ar yr un diwrnod ag adroddiad Alan Milburn, yn galw am adnewyddiad o ymdrech genedlaethol i gael mwy o bobl ifanc i mewn i waith. Ond, tra bod eraill yn edrych i gynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc, dwi'n ofni bod Llywodraeth Cymru yn torri nôl ar eu hymdrechion nhw, yn torri Jobs Growth Wales, rhaglen sydd yn helpu pobl ifanc 16 i 19 i feithrin sgiliau, profiad a ffyrdd i mewn i swyddi.
Diolch am y cwestiynau, ac fe oedd ddoe yn gyd-ddigwyddiad o gyhoeddi adroddiad Milburn yn ogystal â chyllideb ddrafft y Llywodraeth yma. Ac mae yna agweddau sydd yn gyffredin yn yr hyn mae Llywodraeth yma'n ei ddweud ar y pwnc yma, yn ogystal â'r her roedd Milburn yn ei osod, yn y ffaith dyw'r hyn sydd wedi bodoli hyd yn hyn ddim wedi delifro o ran lleihau'r nifer yna o bobl ifanc sydd ddim mewn addysg nag hyfforddiant na gwaith, ac felly mae eisiau cymryd camau newydd.
Yn hynny o beth, mae'r Llywodraeth yma, mae'r Gweinidog economi, wedi gwneud datganiad nôl yn mis Medi, yn sôn am rai o'r newidiadau mae e yn awyddus i'w gweld, ac wedi cyfeirio'n benodol, a chomisiynu gwaith yn benodol yma yng Nghymru gan Melanie Jones o Brifysgol Caerdydd, at edrych ar beth sydd yn gweithio i leihau'r nifer yna o bobl ifanc sydd y tu allan i addysg neu waith, a sut y gallwn ni wneud pethau mewn ffordd wahanol. Rŷn ni'n derbyn fel Llywodraeth fod angen parhau, wrth gwrs, â'r hyn sy'n cael ei gyflawni drwy Jobs Growth Wales ar hyn o bryd, achos y bobl ifanc yna yw'r rheini sydd bellaf oddi wrth y gallu i gyrraedd gweithle, ac angen cefnogaeth benodol fan hynny. Rŷn ni'n derbyn hefyd yr her sydd yna i ariannu pobl ifanc i fynd i mewn i addysg bellach. Mae e'n fater i'w ddathlu bod yna fwy o bobl ifanc sydd yn moyn mynd i mewn i addysg bellach, ac mae e'n fater o her i'r Llywodraeth yma i ariannu'r twf yna, ac mae hwnna'n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i'w drafod.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
3. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i hyrwyddo'r defnydd o'r cyflog byw gwirioneddol ymysg cyrff cyhoeddus Cymru? OQ64955
Mae disgwyl i holl gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru dalu’r cyflog byw gwirioneddol i’w staff, fan lleiaf. Caiff hyn ei nodi yn y cylch cyflog blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.
4. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 yn cefnogi buddsoddiad yn y sector addysg bellach? OQ64943
Mae'r sector addysg bellach yn chwarae rhan hanfodol i roi'r sgiliau hynny i bobl i lwyddo. Er gwaethaf cyd-destun cyllidol heriol, rŷm ni wedi diogelu cyllideb Medr ar £851 miliwn yn 2027-28, ac rŷm ni'n parhau i fuddsoddi mewn sgiliau galwedigaethol sy'n ehangu cyfleoedd ac yn helpu i sicrhau cyflogaeth.
Cwestiwn 5, Claire Archibald—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ64927].
Cwestiwn 6, Claire Johnson-Wood—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 6 [OQ64950].
Cwestiwn 7, John Clark—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ64946].
Cwestiwn 8, Sarah Edwards—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 8 [OQ64913].
Cwestiwn 9, Nigel Williams—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OQ64915].
Cwestiwn 10, Cristiana Emsley—ddim yn bresennol.
Ni ofynnwyd cwestiwn 10 [OQ64921].
Cwestiwn 11, Elfed Williams.
11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi eu cael gyda Thrysorlys y DU ynghylch digonolrwydd y cyllid rheilffyrdd a roddwyd i Gymru yng nghyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU? OQ64940
Rwyf i wedi codi mater cyllid rheilffyrdd gyda Gweinidogion y Trysorlys ar chwe gwahanol achlysur, gan bwysleisio nad yw'r cyllid ar gyfer Cymru'n ddigonol er mwyn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddiad hanesyddol mewn rheilffyrdd. Byddaf i yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyflawni'r ymrwymiad maen nhw wedi'i roi o £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Roedd yr arian annigonol a roddwyd i reilffyrdd Cymru fis diwethaf yn parhau tuedd San Steffan i danariannu seilwaith trafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae'r diffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd yn y gogledd wedi arwain at sefyllfa annigonol lle bydd yn rhaid i linell arfordir gogledd Cymru gau ym mis Ionawr am gyfnod o fis er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw oedd angen sylw ddegawdau yn ôl. Ydy'r Gweinidog Cabinet yn cytuno efo mi fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddysgu o wersi'r gorffennol, buddsoddi'n deg o'r diwedd yn rheilffyrdd Cymru a dilyn i fyny ar eu haddewidion mawr i weithredu'n gadarn?
Wel, mae'n swnio i fi fel petai pobl y gogledd yn mynd i ddioddef yn uniongyrchol o ganlyniad i'r tanfuddsoddiad yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru wrth i'r gwaith yma o gynnal a chadw gael ei wneud yn ystod cyfnod cyntaf y flwyddyn nesaf wrth i'r rheilffordd gael ei chau yn gyfan gwbl. Mae hwnna'n adlewyrchiad mwy real nag unrhyw beth, i ddweud y gwir, o'r tanfuddsoddiad yn y rheilffordd dros gyfnod, bod angen gwneud y math yna o waith ar y lefel yna yn y ffordd sydd yn mynd i effeithio'n uniongyrchol ar brofiad pobl o'r rheilffordd, ac felly'n adlewyrchu'r sefyllfa hanesyddol o danfuddsoddiad.
Ond o gydio yn eich cwestiwn blaenorol, wrth gwrs, dewch inni feddwl am y dyfodol a dewch inni weithio gyda Llywodraeth San Steffan. Mae yna ymrwymiad wedi bod gan y Llywodraeth yma, gan y Llywodraeth Lafur gynt yn y Senedd yma ac, yn fwy pwysig, gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol bresennol i ariannu gwerth £14 biliwn o wariant ar isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru dros y 15 mlynedd nesaf. Mae angen cychwyn ar y gwaith yna nawr os cyrraedd y nod yna o fewn 15 mlynedd. Unig gyfraniad y gyllideb a fuodd oedd £30 miliwn tuag at un orsaf, sydd ddim hyd yn oed yn ddigon i ariannu, o bell ffordd, yr union orsaf honno, heb sôn am yr holl orsafoedd Burns ar gyfer lleihau'r pwysau ar yr M4 sydd eu hangen, a'r gwaith sydd ei angen yn y gogledd. Doedd dim o hwnna. A does dim o'r ymrwymiad yna sydd yn cael ei ddweud gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ymddangos yn y proffiliau gwariant rŷm ni angen eu gweld nawr er mwyn gwella'r isadeiledd yma unwaith ac am byth.
Yn olaf, Weinidog Cabinet, cwestiwn 12. Anna Nicholl.
12. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar Geredigion Penfro? OQ64949
I ateb y cwestiwn, Anna Nicholl, dyw cyllideb hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn cyflawni i Gymru. Er mwyn gwrthdroi'r gostyngiadau cyllido mewn termau real y mae'r Llywodraeth yma yn eu hwynebu, bydd cyllid adnoddau Llywodraeth Cymru 0.5 y cant yn is y flwyddyn nesaf, a chyllid cyfalaf bron 10 y cant yn is erbyn 2029-30.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch, Weinidog. Pan ddaeth Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i rym, roedd llawer yn gobeithio y byddai Cymru o'r diwedd wrth galon penderfyniadau San Steffan. Ond ar ôl cyllideb yr hydref, mae Cymru'n dal i wynebu gostyngiad mewn termau real, ac rydym yn dal i aros am yr addewid o £14 biliwn i drawsnewid rheilffyrdd Cymru. Yr wythnos hon, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymddangos yn gwbl ansicr ynghylch effaith y gyllideb ar Gymru. A yw'r Gweinidog Cabinet yn cytuno bod hynny'n dangos nad yw'r rhai sydd i fod i gynrychioli Cymru yn San Steffan yn deall anghenion Cymru nac yn cyflawni'r hyn a addawyd i ni?
Fe oedd gan y Canghellor dair wythnos yn ôl y cyfle i roi cefnogaeth i Lywodraeth Cymru ac i Gymru yn fwy hael na'r hyn rydyn ni wedi'i weld. Fe oedd yna gyfle gydag e i gynyddu'r arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng nghyd-destun y chwyddiant sydd yn yr economi, ac fe benderfynodd e beidio â gwneud hynny. Dyna pam mae'r gyllideb a osodais i ddoe yn gyllideb sydd â 0.5 y cant o ostyngiad mewn termau real. Wrth gwrs, rydym ni eisoes wedi sôn hefyd am y cyfle oedd gan Ganghellor y Trysorlys i gyflwyno gwariant cyfalaf ychwanegol i gefnogi isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru ac i anrhydeddu'r flaenoriaeth maen nhw fel Llywodraeth wedi ei rhoi i weld cryfhau'r isadeiledd a buddsoddi yn yr isadeiledd hwnnw. Felly, roedd yna sawl cam y gallai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi'u cymryd i leddfu rhywfaint ar y pwysau rydyn ni wedi sôn amdano drwy gydol y sesiwn yma sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru eleni.
Rŷn ni nawr yn symud ymlaen i sgrwtineiddio'r gyllideb honno yn ei ffurf ac rydyn ni yn ymwybodol iawn ei bod hi'n gyllideb sydd yn blaenoriaethu'r hyn mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei hethol i'w gyflawni, ond hefyd yn gyllideb sydd yn mynd i fod yn anodd ei gweithredu o dan y pwysau ariannol ar y sector gyhoeddus yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhannu elfen go fawr o'r cyfrifoldeb.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet.
Eitem 3, cwestiynau amserol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Eitem 4, datganiadau 90 eiliad. Dwi'n teimlo bod rhaid i fi ymddiheuro damaid ein bod ni wedi dewis pump ond nad yw dau yn y Siambr heddiw. Felly, ymddiheuriadau i'r rhai sydd heb gael eu dewis. Cofiwch eu rhoi nhw i mewn eto wythnos nesaf. Elin Jones yn gyntaf. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa a fu farw'r wythnos diwethaf, a hefyd gydnabod colli John Lewis, un o berchnogion Gwasg Gomer, ychydig wythnosau ynghynt. Mae yna draddodiad cyfoethog o weisg ac argraffu yng Ngheredigion, a'r cyfraniadau pennaf y nau begwn y sir—Gwasg Gomer yn nyffryn Teifi a gwasg Y Lolfa yn Nha-l-ybont. Fel un o berchnogion cwmni teuluol Gomer, mi wnaeth John Lewis gyfraniad oes i'r byd llyfrau ac i economi ei Landysul annwyl.
Roedd Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa, yn arloeswr heb ei ail, yn lliwgar, egnïol, yn flaengar ac yn gymeriad a hanner. Roedd yn un o gewri'r frwydr dros y Gymraeg, ond roedd hefyd yn ddyn oedd yn mwynhau herio'r drefn, ysgogi trafodaeth a gwneud hynny gyda hiwmor. Sefydlodd Robat Gruffudd Y Lolfa yn Nhal-y-bont yn 1967. Roedd yn benderfynol o brofi bod lle i'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Nid dim ond cyhoeddi llyfrau oedd ei fwriad, ond creu gofod i syniadau newydd, gofod i ddychan drwy sefydlu y cylchgrawn Lol, a gofod i ddadlau, ac i leisiau nad oedd bob amser yn cael eu clywed. Roedd yn awdur ei hun hefyd, ac enillodd wobr Daniel Owen ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei waddol yn enfawr i Geredigion, i'r byd cyhoeddi ac i'r Gymraeg.
Mae teuluoedd lawer yn y gorllewin wedi elwa o swyddi drwy waith John Lewis yn Gomer a Robat Gruffudd yn Y Lolfa ar hyd y degawdau, ac mae miloedd, os nad miliynau, o lyfrau wedi eu cyhoeddi, eu darllen a'u mwynhau drwy greadigrwydd y ddwy wasg bwysig yma yng Ngheredigion. Coffa da am John Lewis, Gomer, a Robat Gruffudd, Y Lolfa.
Bu farw Jeremy Turner, y cyfarwyddwr, dramodydd, actor ac ysgolhaig theatr yr wythnos hon yn 68 mlwydd oed, ac, os caf i ddweud, mae'n anodd iawn crynhoi cawr o ddyn mewn 90 eiliad. Yn enedigol o Aberdâr, fe oedd un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth ym 1989, a fe oedd cyfarwyddwr artistig y cwmni am 35 mlynedd hyd ei ymddeoliad yn 2024.
I blant a phobl ifanc Cymru, Jeremy Turner oedd un o'u heiriolwyr blaenaf. Roedd Jeremy yn credu bod theatr o'r safon uchaf a mynediad i'r celfyddydau yn hawl i bob plentyn yng Nghymru, ac adlewyrchwyd hyn yng nghenhadaeth y cwmni o dan ei arweiniad ef, sef i ddatgelu drych profiad ac agor drws y dychymyg. Roedd yn credu bod gan pob plentyn yr hawl i weld eu hunain a'u hunaniaeth yn y theatr. Ond nid oedd ei waith byth yn siarad lawr i blant Cymru, ond yn hytrach yn cyrraedd plant ar eu lefel nhw. Wrth siarad yn 2017 ar Beti a'i Phobol, dywedodd fod rhai pobl yn meddwl bod theatr i blant yn theatr blentynnaidd ond nad oedd yr ddau beth yna yn gyfystyr â'i gilydd.
Roedd e hefyd yn gryf o'r farn y dylai fod llwyfan rhyngwladol i theatr i'r ifanc o Gymru, ac fe sefydlodd gŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, ac roedd yn aelod gweithgar o ASSITEJ, y gymdeithas theatr ryngwladol i blant a phobl ifanc. Fe arweiniodd sawl cynhyrchiad gan gwmni theatr ieuenctid yr Urdd hefyd, a mawr yw ei golled ymysg yr holl bobl ifanc hynny a aeth trwy y prosiectau hynny.
Rwy'n ystyried fy hunan yn un o'r bobl ffodus iawn a gafodd gyfle i holi Jeremy yn fanwl am ei waith wrth gyflawni fy ymchwil doethuriaeth ar Arad Goch. Roedd yn hael iawn ei amser gyda fi, ac wastad yn agored ac yn ddidwyll am hanes y cwmni a'i weledigaeth am y dyfodol. Soniodd yn gyson am bwysigrwydd meithrin y genhedlaeth nesaf. Dywedodd mewn erthygl ym 1993, 'person y theatr wyf fi, a'm prif bryder bob amser yw'r gynulleidfa yr wyf yn ddibynnol arnynt, sef plant Cymru.'
Felly, ar ran cenedlaethau o gynulleidfaoedd o Gymru ifanc yr agorwyd drws y dychymyg iddynt, diolch i ti, Jeremy.
Diolch. Dydy James Evans ddim yn bresennol a dydy Francesca O'Brien ddim yn bresennol.
Felly, symudaf ymlaen at eitem 5, cynnig o dan adran 7 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9359 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Senedd wedi penderfynu ar 16 Mehefin 2026 sefydlu Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ar gyfer pwyllgor yn adran 7 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sef cynnal adolygiad i ganfod i ba raddau:
a) y dylai personau allu dal unrhyw swydd berthnasol ar y cyd; a
b) y dylai person allu dal swydd berthnasol dros dro pan nad yw’r person a benodwyd neu a etholwyd i’r swydd honno ar gael.
2. Yn cytuno bod rhaid i Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol baratoi adroddiad ar yr adolygiad yn nodi ei argymhellion, a gosod yr adroddiad hwnnw gerbron y Senedd.
3. Yn nodi, yn unol ag adran 7(5) o'r un Ddeddf, fod rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd yn nodi ymateb Gweinidogion Cymru i'r adroddiad ar ôl i'r Pwyllgor osod ei adroddiad a pha gamau, os o gwbl, y bwriada Gweinidogion Cymru eu cymryd mewn cysylltiad ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Neb yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enwau Heledd Fychan, Paul Davies a Lynne Neagle.
Eitem 6, cynnig o dan adran 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9360 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Senedd wedi penderfynu ar 16 Mehefin 2026 i sefydlu Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ar gyfer pwyllgor yn adran 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sef cynnal adolygiad o:
a) gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd wedi’u diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.); a
b) i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru.
2. Yn cytuno bod rhaid i Bwyllgor y Cyfansoddiad gwblhau adroddiad ar yr adolygiad erbyn 12 Mai 2027 fan bellaf, a gosod yr adroddiad hwnnw gerbron y Senedd.
3. Yn nodi, yn unol ag adran 19(4) o'r un Ddeddf, fod rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy'n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i'r adroddiad, ar ôl i'r Pwyllgor osod ei adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwyf wedi dethol gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Lynne Neagle i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan, Paul Davies a Lynne Neagle.
Gwelliant 1—Heledd Fychan, Paul Davies, Lynne Neagle
Ym mhwynt 2, dileu '12 Mai 2027' a rhoi '24 Medi 2027' yn ei le.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Neb yn gwrthwynebu.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig NDM9360 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Senedd wedi penderfynu ar 16 Mehefin 2026 i sefydlu Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ar gyfer pwyllgor yn adran 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sef cynnal adolygiad o:
a) gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd wedi’u diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.); a
b) i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru.
2. Yn cytuno bod rhaid i Bwyllgor y Cyfansoddiad gwblhau adroddiad ar yr adolygiad erbyn 24 Medi 2027 fan bellaf, a gosod yr adroddiad hwnnw gerbron y Senedd.
3. Yn nodi, yn unol ag adran 19(4) o'r un Ddeddf, fod rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy'n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i'r adroddiad, ar ôl i'r Pwyllgor osod ei adroddiad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi'i ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Pawb yn dawel. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr iawn.
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen i eitem 7, cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2027-28. Galwaf ar Gomisiynydd i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM9355 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2027-28, fel y nodir yn Nhabl 1 o 'Gyllideb Comisiwn y Senedd 2027-28', a osodwyd gerbron y Senedd ar 11 Tachwedd 2026 a'i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig ar gyllideb y Comisiwn, ar ran y Comisiwn, ar gyfer 2027-28, ac yn gofyn iddo gael ei gynnwys yn y cynnig ar y cyllideb flynyddol.
Ddirprwy Lywydd, dwi eisiau diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ar y gyllideb yma. Mae'r pwyllgor wedi rhoi cyfle i ni egluro rhai o gymhlethdodau'r gyllideb yma, a dwi'n croesawu'r ffordd adeiladol maen nhw wedi mynd ati i wneud y gwaith craffu. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd o'n brofiad digon od i fod yr ochr arall i'r bwrdd am unwaith, yn ateb cwestiynau yn y pwyllgor roeddwn i'n arfer ei gadeirio. Felly, roedd hwnna'n brofiad digon diddorol, ond roedd hi'n dda gweld bod y pwyllgor wedi parhau i adeiladu ar y gwaith craffu a gafodd ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fe wnaeth y pwyllgor naw argymhelliad, ac rydyn ni wedi ymateb yn gadarnhaol i bob un ohonyn nhw. Ac yn bwysig, fe wnaeth mwyafrif y pwyllgor argymell bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb yma, ac rydyn ni'n croesawu'r casgliad hwnnw'n fawr. Wrth gwrs, rydyn ni wastad yn chwilio am lefydd i wella, ac rydyn ni'n falch o unrhyw argymhellion sy'n dod gan y Pwyllgor Cyllid neu unrhyw Aelod arall ynglŷn â sut i fynd o gwmpas hynny, ac unrhyw awgrymiadau i ni eu hystyried. Rydyn ni'n parhau'n agored i awgrymiadau a fydd yn ein helpu ni i fod yn fwy tryloyw, i wella ein prosesau ac, yn bwysicach na dim, i sicrhau ein bod ni'n cael y gwerth gorau posib am arian. Ddirprwy Lywydd, dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl yma, ac mae'n bleser gen i gyflwyno'r gyllideb yma ar ran y Comisiwn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Sam Rowlands.
Dwi’n falch o gael siarad ar yr eitem hon heddiw, a hynny o blaid y cynnig i gytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd am y flwyddyn 2027-28.
Ddirprwy Lywydd, ym mis Mai, gwelsom ddemocratiaeth ifanc ein cenedl yn cymryd ei cham mawr nesaf ymlaen. Byth ers 1999, mae olwynion datganoli wedi parhau i droi yn araf bach. Proses a addawyd bryd hynny, a’r broses honno sydd wedi arwain at y sefydliad hwn yn trawsnewid o fod yn Gynulliad cul i Senedd genedlaethol. Mwy o bwerau, mwy o atebolrwydd.
Ond am rhy hir, fe fethodd y sefydliad i ymdopi â’i gyfrifoldebau newydd. Wel, ym mis Mai, newidiodd hynny. Gyda 36 Aelod newydd, mae’r Senedd yn craffu yn fwy effeithiol, mae’n hetholwyr yn derbyn cynrychiolaeth amlbleidiol ac mae ein gallu i ddeddfu er lles pobl Cymru wedi cryfhau. Ond er mwyn derbyn hynny oll, mae’n rhaid inni fuddsoddi yn ein sefydliad democrataidd.
Nid sefyllfa sydd yn unigryw i Gymru yw hon. Yn wir, os edrychwn ni rhyw 130 milltir i’r dwyrain, gwelwn fod heriau tebyg ond llawer yn fwy costus yn wynebu deddfwrfa'r Deyrnas Unedig. Rhyw £40 biliwn ydy’r gost dŷn ni’n ei sôn amdano yn Llundain—digon i gadw Senedd Cymru yn weithredol am 400 o flynyddoedd.
Mae buddsoddi mewn democratiaeth a’i hisadeiledd yn rhywbeth arferol ar draws y byd ac yn arwydd o gymdeithas iach. Testun gofid yw hi bod rhai yn y Siambr y prynhawn yma—petasen nhw yma—yn ceisio dadlau i’r gwrthwyneb. Gadewch inni fod yn glir, nid £109 miliwn o wariant gweinyddol yw hwn—mae tua £49 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer costau Aelodau a Bae 32, ac mae cyllideb y Comisiwn hefyd bellach yn gorfod adlewyrchu anghenion Senedd fwy.
Wrth droi yn gyntaf at y gost ychwanegol o ehangu’r Senedd, mae’n hen bryd i rai pleidiau yn y Siambr dderbyn bod y broses honno wedi mynd a dod. Nid ein dyletswydd ni y prynhawn yma yw ailagor y drafodaeth honno, ond yn hytrach i ddarparu ein Senedd fodern gyda’r adnoddau anghrediniol i wasanaethu pobl Cymru’n effeithiol. Dyma’r dewis sydd o’n blaenau ni y prynhawn yma.
Gan droi yn ail at brosiect Bae 32, y ffaith sylfaenol yw bod prydles Tŷ Hywel yn dod i ben ymhen chwe blynedd. I mi, mae’r dewis yn syml. Wrth wneud dim, rydym yn cicio’r broblem i mewn i’r gwellt hir, ac yn y pen draw bydd y Senedd yn wynebu costau atgyweirio sylweddol ar adeilad na fydd yn addas ar gyfer y diben. Ond wrth gefnogi’r cynlluniau yma, sydd wedi eu hystyried yn ofalus, bydd hyn yn galluogi trawsnewid ac yn ehangu'r adeilad i ddiwallu anghenion y Senedd. Bydd y perchennog yn buddsoddi £50 miliwn yn y project a bydd opsiwn i brynu'r adeilad am £1 ar ddiwedd y cyfnod o 50 mlynedd. Mae'n bwysig nodi nad pleidlais ar siec wag yw hon, ac y bydd craffu'r cynlluniau wrth iddyn nhw ddatblygu yn hanfodol. Serch hynny, dydy gwneud a gwario dim ddim yn opsiwn.
I gloi, Lywydd, ni all ein Senedd gyflawni ei dyletswyddau'n effeithiol heb y bobl, y systemau a'r seilwaith sydd eu hangen arni. Mae'n rhaid inni graffu ar wariant y Senedd, wrth gwrs. Ond ar ôl y craffu hwnnw, rhaid inni ateb y cwestiwn: a ydym yn barod i roi i Senedd genedlaethol Cymru yr adnoddau, y seilwaith a'r arbenigedd sydd eu hangen arni i wneud newid gwirioneddol i fywydau pobl Cymru? Dwi'n credu bod rhaid.
Diolch. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma. Diolch yn fawr hefyd i'r Pwyllgor Cyllid, a Sam fel Cadeirydd, am yr holl waith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud. Yng nghyfraniad Sam ar ran y pwyllgor, roedd y pwynt yna ein bod ni i gyd hefo'n gilydd ac i wneud yn siŵr ein bod ni yn ymgysylltu'n dda ar draws y Senedd efo pob Aelod, ond drwy'r pwyllgor yn benodol, i graffu yn union ar beth sydd yn mynd ymlaen efo prosiect anferth i'r Senedd yma sy'n ein rhoi ni ar y ffordd am y 50 mlynedd nesaf.
Wrth gwrs, Andrew, byddaf i'n gweithio efo chi fel Comisiynydd arall ar y Comisiwn i fynd drwy'r penderfyniad ynglyn â Bae 32, ym mis Rhagfyr rŵan, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwerth am arian a bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud.
Diolch yn fawr hefyd, Elfed, am dy gyfraniad ac am bwyntio allan y rhesymeg pam mae Bae 32 yn bwysig, a bod y Senedd yn tyfu, a bod pethau yn newid a bod angen cyllido hynny yn ddigonol.
Felly, a gaf i gloi, dwi'n meddwl, drwy ddweud ei bod hi'n bwysig inni atgoffa'n hunain beth ydy gwir bwrpas y gyllideb yma? Mae pob un ohonom ni wedi cael ein hethol yma gan bobl Cymru i wneud ein gwaith—mae rhai yn penderfynu peidio â bod yma—i gynrychioli ein cymunedau, i graffu ar y Llywodraeth ac i wneud Deddfau da er mwyn dwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif, ac er mwyn gwneud hynny'n iawn, mae'n rhaid i'r Senedd yma weithio yn effeithiol. Mae angen y staff, y cyfleusterau, yr arbenigedd a'r gefnogaeth sydd yn ein galluogi ni i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Dyna ydy gwaith Comisiwn y Senedd a dyna'n union ydy pwrpas y gyllideb yma. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n gwario'r arian cyhoeddus yn gall ac yn cael y gwerth gorau posib am bob ceiniog sy'n cael ei gwario. Ond ar yr un pryd, rhaid inni sicrhau bod gan y Senedd yma yr adnoddau sydd eu hangen arni i wneud y gwaith mae pobl Cymru wedi ein hethol ni i'w wneud. Ac ar y sail honno, Ddirprwy Lywydd, dwi'n gofyn i Aelodau gefnogi'r gyllideb yma. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig? A a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 ar yr agenda heddiw, dadl Reform UK—tynnwyd yr eitem hon yn ôl.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 9, dadl Llafur Cymru: cynllun llaeth ysgol. Galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9361 Lynne Neagle
Cefnogwyd gan Shav Taj
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynllun llaeth i ysgolion yn gwneud cyfraniad hanfodol at iechyd a datblygiad dros 80,000 o blant ysgol yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi sector llaeth Cymru.
2. Yn credu ymhellach nad yw brecwastau ysgol am ddim na phrydau ysgol am ddim yn cymryd lle hawl benodol i gael llaeth am ddim, yn enwedig pan nad yw’n ofynnol i ysgolion ddarparu llaeth amser cinio.
3. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i lansio ymgynghoriad deng wythnos sy’n ystyried rhoi'r gorau i ddarparu llaeth am ddim i blant ysgol.
4. Yn nodi gyda phryder fod asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod dileu’r cynllun yn peri risg o effeithio’n anghymesur ar deuluoedd ar incwm isel.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau na fydd yn rhoi’r gorau i ddarparu llaeth ysgol am ddim ac i ymrwymo i gyflwyno cynllun arall yn ei le erbyn 1 Ebrill 2027.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y cynllun llaeth i ysgolion yn cefnogi iechyd a datblygiad tua 80,000 o blant ysgol yng Nghymru, ac yn helpu i gefnogi sector llaeth Cymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd llaeth o fewn y cynnig bwyd ysgol ehangach yng Nghymru, ochr yn ochr â brecwast ysgol am ddim a phrydau ysgol am ddim, a’r ddarpariaeth benodol bresennol o laeth i ysgolion.
3. Yn nodi y bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn rhoi’r gorau i weinyddu’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yng Nghymru ar ôl 31 Mawrth 2027, gan ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried trefniadau ar gyfer y dyfodol, ac mai’r ffordd orau o wneud hyn yw mewn ymgynghoriad â phartïon â buddiant.
4. Yn cydnabod nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch dyfodol darpariaeth benodol o laeth i ysgolion ac, yn unol ag arferion ymgynghori arferol, bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr opsiynau, gan gynnwys sefydlu cynllun llaeth i ysgolion newydd i Gymru neu ddirwyn y cynllun penodol presennol i ben.
5. Yn cydnabod, yn dilyn bron i 50 mlynedd o ddarpariaeth barhaus, bwysigrwydd ystyried barn dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, awdurdodau lleol a’r sectorau ffermio a llaeth, ochr yn ochr â’r effaith bosibl ar iechyd, cydraddoldeb, hawliau plant a chefn gwlad, cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Wel, beth all rhywun ei ddweud? Mi fydd pob ffermwr yn gwybod yn iawn fod y ddadl yma gan y Blaid Lafur heddiw fel buwch hesb—yn wag a disylwedd. Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r ddihareb Saesneg, 'There's no point crying over spilt milk', ac mae elfen o hynny i'w gweld yn safbwynt Llafur heddiw. Y ffaith yw, yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur San Steffan y byddai’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn rhoi’r gorau i weinyddu’r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol ar ôl mis Mawrth 2027. Rhoddodd hynny bron i ddwy flynedd i Lywodraeth Lafur Cymru baratoi, i weithio gydag ysgolion a’r sector llaeth a sefydlu trefniadau amgen. Ond methodd yr hen Lywodraeth â sicrhau cynllun newydd, gan adael dyfodol y ddarpariaeth mewn ansicrwydd hyd heddiw. Felly, hoffwn i ofyn: ble roedd y brys arbennig hwnnw pan oedd y cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau nhw i weithredu?
Mae’n bwysig hefyd gwahaniaethu rhwng ymgynghori ar ddyfodol cynllun a gwneud penderfyniadau i’w ddileu. Nid dileu mynediad plant at laeth yw diben yr ymgynghoriad hwn, ond ystyried y ffordd orau o ddarparu’r cymorth hwnnw yn y dyfodol. Does dim, a fu erioed, cynllun i gael gwared ar laeth ysgol. Mae'r ymgynghoriad ynghylch sut i ddarparu llaeth o fis Ebrill 2027, nid ynghylch dileu llaeth am ddim o ysgolion. All Llafur ddim hawlio clod am newid toriad doedd ddim yn bodoli, nac erioed yn mynd i ddigwydd. Felly, stopiwch suro'r drafodaeth drwy odro'r myth yma. [Chwerthin.]
Beth bynnag fydd canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru drwy glybiau brecwast a’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i bawb. Mae’r ymgynghoriad felly’n gyfle i bawb leisio’u barn ar sut y dylid darparu llaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cynllun newydd a symlach. Ond mae cyfle yma i fynd ymhellach. Mae'n anodd peidio â theimlo bod cyfle wedi'i golli dros 27 mlynedd i sicrhau bod mwy o’r llaeth a ddarperir drwy’r cynllun yn dod gan ein cynhyrchwyr Cymreig ein hunain.
Dylai’r ymgynghoriad hwn, felly, hefyd ein galluogi i ystyried sut y gallwn gefnogi ein cynhyrchwyr llaeth yn well, gan adeiladu ar ymrwymiad y Llywodraeth newydd i ddatblygu strategaeth fwyd o’r fferm i’r fforc, gan sicrhau mwy o fanteision i’n ffermwyr, yn cadw mwy o werth yn ein heconomi wledig, ac yn rhoi cynnyrch Cymreig wrth galon y ddarpariaeth yn ein hysgolion. Felly, mae gennym gyfle nid yn unig i ddiogelu’r ddarpariaeth i’n plant, ond hefyd i sicrhau bod y cynllun yn gweithio’n well i’n ffermwyr, ein cynhyrchwyr a’n cymunedau.
Tra bo rhai yn canolbwyntio ar feirniadu, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion, gan ddiogelu dyfodol llaeth ysgol, cefnogi ein ffermwyr a sicrhau bod buddiannau plant a chymunedau Cymru wrth galon ein penderfyniadau. Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi ein gwelliant. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r ddadl yma, ac mae Aelodau wedi dangos diddordeb mawr yn nyfodol darpariaeth llaeth ysgol yng Nghymru. Rwy'n tueddu cytuno gydag Elwyn Vaughan, er ddim mewn modd mor delynegol, fod hwn yn ymdebygu i fuwch hesb gan ein bod ni ddim wedi gwneud y penderfyniad rŷn ni wedi cael ein cyhuddo o fod wedi cyrraedd. Ddim, efallai, serch hynny, Elwyn Vaughan, mor hesb â chyfraniadau'r brif wrthblaid. Dwi wedi eu clywed lawer tro yn yr wythnosau diwethaf yma yn ceisio bod yn lladmeryddion cryf dros fuddiannau amaethwyr ar draws Cymru ac sydd heddiw yn gwbl absennol o gyfle y gallai fod wedi bod yn bwysig i'r etholwyr hynny sydd ganddyn nhw.
Rwyf i yn credu, serch hynny, er bod cefnogaeth i amaethwyr wedi dod o lefydd efallai hyd yn oed yn annisgwyl iddyn nhw heddiw, ei bod hi'n bwysig i ni ddechrau gyda'r hyn rŷn ni yn cytuno arno fe. Rŷn ni i gyd yn moyn i blant a phobl ifanc yng Nghymru fod yn ddisgyblion iach sy'n cael digon o faeth ac sy'n barod i ddysgu. Ac rŷn ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi arfer a datblygu arferion bwyta cadarnhaol ac iach o oedran cynnar. Mae hwnna yn allweddol a dyna pam rŷn ni'n gwneud gwaith ehangach, er enghraifft, ar y strategaeth fwyd. Rŷn ni i gyd yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae ffermio a chynhyrchu bwyd yn ei wneud i gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Rŷn ni'n cydnabod rôl bwysig llaeth yn ein cynnig bwyd ysgol ac arwyddocâd bron i 50 mlynedd o ddarpariaeth barhaus. Ond fyddai fe ddim yn gwneud llawer o synnwyr i fi ofyn i bobl am eu barn nawr, ar ôl 50 mlynedd, ar yr un pryd â'i stopio nhw rhag ei fynegi fe. Dwi'n siŵr bod yna egwyddorion rhyddid mynegiant i hynny, yn eironig ddigon. Ac ar y sail honno, fedrwn ni ddim cefnogi'r cynnig fel y mae wedi ei ddrafftio. Ddirprwy Lywydd, rŷn ni wedi ymrwymo i wrando ar y dystiolaeth a rhoi cyfle i bobl Cymru ddweud eu dweud am faterion sy'n effeithio arnyn nhw, a dyna pam dwi'n gofyn i'r Aelodau i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Llŷr Powell, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Symudwn at y ddadl nesaf nawr, dadl Llafur Cymru: ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Galwaf ar Vikki Howells i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9362 Lynne Neagle
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 tan 2029-30.
2. Yn nodi y bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith niweidiol ar bob myfyriwr sy’n hanu o Gymru ac sydd â benthyciad Cynllun 2.
3. Yn credu y bydd rhewi’r trothwyon yn effeithio fwyaf ar raddedigion ar incwm is drwy gynyddu ad-daliadau mewn termau real.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi gwrthod rhewi’r trothwyon ac wedi ymrwymo i fynd ar drywydd system ad-dalu benodol i Gymru a fyddai’n diogelu graddedigion o aelwydydd ar incwm is yn well.
5. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â sefyll dros fyfyrwyr Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i amddiffyn graddedigion Cymru rhag y baich o gynnydd mewn ad-daliadau.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, ond nid oes Aelodau o grŵp Reform yn bresennol i gyflwyno gwelliant 1. Symudwn at welliant 2. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i fynd ar drywydd rhewi trothwyon ad-dalu Cynllun 2, a fydd yn cynyddu’r baich ad-dalu sy’n wynebu pob un sydd â benthyciad Cynllun 2.
4. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi methu achub cam benthycwyr Cymru yn effeithiol a sicrhau trefniadau ar wahân a fyddai wedi eu hamddiffyn rhag penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU.
5. Yn cydnabod, gan fod ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr yn gweithredu drwy system gyffredin ar draws y DU, bod penderfyniad Llywodraeth y DU wedi golygu nad oedd fawr o ddewis gan Lywodraeth bresennol Cymru ond cynnal trefniadau ad-dalu cyfatebol ar gyfer benthycwyr Cynllun 2.
6. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, drwy Adolygiad o Addysg Uwch, i fynd ar drywydd ymagwedd strategol, wedi’i gwneud yng Nghymru, ar gyfer cyllid myfyrwyr sy’n adlewyrchiad gwell o anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr a graddedigion Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol—diolch yn fawr. Sarah Cooper-Lesadd.
Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni wedi cyrraedd eitem 11, y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod pum Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, gwych.
Yn gyntaf, eitem 7, cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2027-28. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Peredur Owen Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 42, yn ymatal chwech, yn erbyn 37. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2027-28: O blaid: 42, Yn erbyn: 37, Ymatal: 6
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn nawr at eitem 9, pleidleisio ar ddadl Llafur Cymru, cynllun llaeth ysgol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 44, un person yn ymatal, yn erbyn 40. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl Llafur Cymru - cynllun llaeth ysgol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 44, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn nawr, yn olaf, at eitem 10, dadl Llafur Cymru, ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid wyth, yn ymatal 31, yn erbyn 46. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl Llafur Cymru - ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 46, Ymatal: 31
Gwrthodwyd y cynnig
Ni chynigiwyd gwelliant 1. Felly, symudwn ymlaen at welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 39, dau yn ymatal, yn erbyn 44. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod, a dim wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Dadl Llafur Cymru - ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 39, Yn erbyn: 44, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Diolch yn fawr iawn. Symudwn at y ddadl fer, sydd yn cael ei chyflwyno gan Donna Cushing.
Diolch i'r Aelod. Gwyn Williams.
Diolch. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl—Anna Brychan.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl yma y prynhawn yma, a diolch yn fawr iawn am y cyfraniadau gwybodus. Byddaf yn canolbwyntio ar y materion yma yng nghyd-destun ysgolion, gan dyna beth oedd cyd-destun y ddadl a osodwyd, ond dwi'n gwybod bod rhai, efallai, gan gynnwys gwirfoddoli Ysbyty Singleton ar gyfer peilota, yn rhywbeth i Weinidogion eraill. Ond mae tymheredd uwch a thywydd eithafol yn heriau sydd angen sylw ar fyrder. Rŷn ni i gyd yn cofio'r golygfeydd dramatig yn ystod yr haf, ac mae hwnna wedi bod yn rhybudd difrifol, dwi'n credu, i ni i gyd fod y byd yn cynhesu yn frawychus o gyflym, a dyw gwneud dim ddim yn opsiwn chwaith.
Mae nifer o'n hysgolion ni, wrth gwrs, yn hŷn na'r mesurau mwy modern yma sydd yn eu lle o ran awyru a gwydnwch hinsawdd, ond nid yw oedran yr adeilad ddim o angenrheidrwydd yn arwain at orboethi, ac nid oes gan adeiladau newydd imiwnedd, o angenrheidrwydd, i dywydd eithafol chwaith. Felly, mae awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a chyrff llywodraethu'n gyfrifol am reoli a chynnal adeiladau ysgolion, ac mae penderfyniadau gweithredol, gan gynnwys penderfyniad i gau ysgol yn ystod gwres eithafol, yn gyfrifoldeb ar benaethiaid neu'r awdurdodau lleol. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried yr adeilad, anghenion y dysgwyr, staffio, trafnidiaeth, ac amodau lleol, gan flaenoriaethu diogelwch.
Mae ein canllawiau ni'n glir ar hyn ar gyfer tywydd eithafol. I gefnogi penderfyniad ynghylch aros ar agor yn ddiogel, mae mesurau ymarferol yn cynnwys gwneud y mwyaf o awyru a chysgod priodol, osgoi gweithgarwch corfforol egnïol, sicrhau bod dŵr ar gael i'w yfed hefyd, a dylai ysgolion gael cynlluniau wrth gefn i gyfleu a chyfathrebu penderfyniadau'n brydlon i rieni a staff. Rŷn ni'n fwy cyfarwydd—neu wedi bod yn y gorffennol—ag ystyried hyn yng nghyd-destun eira, er enghraifft. Yr un math o reolau o ran diogelwch a chyfathrebu byddai'n berthnasol yn yr achos hwn hefyd.
Yr egwyddor yw cynnal addysg wyneb yn wyneb lle bynnag bo hynny'n ddiogel, ac mae ysgolion yn hyddysg iawn yn ymdrin ag amgylchiadau heriol wrth iddyn nhw godi. Pan nad yw'n bosibl cynnal addysg wyneb yn wyneb, mae ein canllawiau parhad dysgu, a ddiweddarwyd, fel mae'n digwydd, ar 10 Tachwedd, yn rhoi cymorth angenrheidiol i ymarferwyr. Maen nhw'n atgyfnerthu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ac yn pwysleisio'r angen i sicrhau cyn lleied â phosib o darfu.
Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy'n parhau i fuddsoddi mewn adeiladu neu adnewyddu ysgolion, ac mae hyn yn gwella strwythur adeiladau, awyru, perfformiad ynni, ac ansawdd amgylcheddol, gyda gweithrediad carbon sero net yn ofynnol ar gyfer prosiectau perthnasol.
Mae cyllid cyfalaf cynnal a chadw'n cefnogi gwelliannau i'n hysgolion gan gynnwys insiwleiddio, ffenestri addas, gwresogi, ac yn benodol awyru yn y blynyddoedd ar ôl COVID-19. Mae rheoliadau adeiladu hefyd yn esblygu. Cyhoeddwyd dogfennau cymeradwy Cymru diwygiedig ym mis Ebrill 2026, sy'n ymdrin ag awyru a pherfformiad ynni. Mae canllawiau'r rheoliadau adeiladu ochr yn ochr â 'Bwletin Adeiladu 101'—mae lot o fanylion fan hyn; dwi'n hapus iawn i drafod yn fwy anffurfiol gyda Donna maes o law os byddai hynny o gymorth—mae'r rhain yn ofynion ar draws y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Lywydd, mae'n rhaid i'n hystâd addysg addasu i hinsawdd sy'n newid, ond gan ddweud hynny, dwi ddim ar hyn o bryd yn argyhoeddedig bod hyn yn fater o bennu un terfyn tymheredd cenedlaethol. Mae ffyrdd eraill gyda ni ac o ystyried cymhlethdod y broblem, mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried ystod o ymyriadau posibl.
Mae'r ymateb rŷn ni wedi'i ddewis yn gyfuniad o ddyletswyddau cyfreithiol, arweiniad ymarferol, cynllunio cadarn a buddsoddiad parhaus hefyd. Mae'n rhaid i ni gryfhau ein sylfaen dystiolaeth, gwella adeiladau sydd eisoes yn bodoli a defnyddio mesurau goddefol neu ynni isel, gyda systemau oeri os oes modd cyfiawnhau hynny. Beth bynnag fydd y dull gweithredu, bydd y canlyniad bob amser yr un fath—mae'n rhaid i ni gael amgylchedd dysgu diogel, iach a chyfforddus ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae hynny yn hawl sylfaenol i bawb sydd yn dysgu ac yn gweithio yn ein hysgolion ni ac yn egwyddor sylfaenol ar gyfer fy sylwadau i i gloi heddiw. Diolch yn fawr i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon a dwi'n siŵr y bydd y sgwrs hon yn parhau dros y blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog Cabinet, a diolch yn fawr iawn i bob Aelod hefyd. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:21.