Y Cyfarfod Llawn
Plenary
13/10/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Symudwn nawr yn syth at eitem 1, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Alun Cox.
1. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i ganfod a yw'r trefniadau cludiant ysgol presennol yn diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Afan Ogwr Rhondda? OQ64716
Pryhawn da. Er mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yn Afan Ogwr Rhondda ydy asesu anghenion cludiant disgyblion i’r ysgol, mi ydyn ni fel Llywodraeth wrth gwrs yn awyddus i weld darpariaeth effeithiol sy’n diwallu anghenion pawb. Mae hyn yn bwysicach fyth i ddisgyblion efo anghenion dysgu ychwanegol, gan fod cludiant yn gallu bod yn rhwystr gwirioneddol iddyn nhw allu cael mynediad at yr addysg y maen nhw ei hangen.
Diolch, Brif Weinidog. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadw cludiant ysgol tybiedig ar gyfer rhai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar yr un pryd, mae cost gyffredinol cludiant o'r cartref i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cynyddu yn sylweddol, o £10.5 miliwn yn 2021-22 i £16.9 miliwn yn y rhagolygon ar gyfer 2025-26. Gwyddom fod gan rai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol anghenion cludiant mwy cymhleth nag eraill ac y gall cludiant priodol fod yn hanfodol i sicrhau eu bod yn gallu mynd i’w haddysg. A all y Prif Weinidog esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cael y cyllid sydd ei angen i barhau i ateb anghenion cludiant gwahanol disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
Dwi'n croesawu penderfyniad Rhondda Cynon Taf i gario ymlaen efo darpariaeth trafnidiaeth dewisol—discretionary, felly—ar gyfer rhai o’r dysgwyr mwyaf bregus. Rydyn ni’n sicr yn cydnabod bod trafnidiaeth i ddysgwyr efo anghenion dysgu ychwanegol yn gallu bod yn fwy cymhleth yn aml iawn, yn golygu’r angen am gerbydau arbenigol o bosib neu gynhorthwy gan eraill. Ac mae’n rhaid, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwnnw, i benderfyniadau ystyried cynaliadwyedd hirdymor, tra'n cadw’r ffocws yna ar y canlyniadau rydyn ni angen eu gweld rŵan, yn sicrhau bod dysgwyr, uwchlaw popeth, yn gallu cael mynediad at addysg, ac yn gallu gwneud hynny yn rheolaidd a chymryd rhan yn llawn mewn bywyd ysgol.
Mi gafodd anghenion dysgu ychwanegol a thrafnidiaeth ei drafod efo arweinyddion llywodraeth leol ym mis Medi, efo’r WLGA. Mi rydyn ni'n parhau i weithio’n agos efo’r WLGA i gryfhau teithio i ddysgwyr ac i ymateb hefyd i newidiadau mewn patrymau ledled Cymru.
2. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o greu prosiectau ynni cymunedol a sicrhau bod manteision adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru? OQ64708
Mae cynlluniau egni cymdeithasol, fel cynlluniau mwy, hefyd angen mynediad i'r grid. Dwi eisiau gweld cynlluniau cynaliadwy a'r isadeiledd grid yn cael eu cyflawni ledled Cymru, i gyflawni'r buddiannau rydyn ni eisiau eu gweld ar gyfer ein cymunedau lleol.
I ateb y cwestiwn yna, mae hwn yn dechnoleg sydd yn datblygu, ac mae o'n gwneud synnwyr i'w ddatblygu ar safle lle mae yna sgiliau niwclear o'r gorffennol. Ond mae'r cwestiwn yn ehangach na hynny, wrth gwrs. Dwi ddim yn meddwl bod yna lawer o anghytuno rhyngom ni, mewn difri, ar yr angen i wneud yn fawr o'n hadnoddau naturiol ni fel gwlad, i sicrhau ein bod ni'n gallu cynhyrchu mwy o ynni yn defnyddio'n adnoddau naturiol ni, pa un ai yn wynt neu'n donnau neu'n llanw, neu beth bynnag.
Dwi'n cytuno hefyd ar yr angen i sicrhau bod y system sydd gennym ni i drosglwyddo a dosbarthu'r trydan yna yn wydn ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni'n mynd i fod angen llawer mwy o drydan yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i'r trydan yna gyrraedd ein cymunedau ni a gadael y llefydd lle mae'n cael ei gynhyrchu. Ond, unwaith eto, dwi'n dod yn ôl at y pwynt canolog yma fod modd gwneud hynny mewn cydweithrediad efo ein cymunedau ni, yn gwneud yn siŵr nad oes yna ecsbloetio. Hefyd, dwi'n cytuno ar y ffaith bod hynny'n gorfod digwydd mewn cydweithrediad efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn y blaen. Felly, mae yna agenda yn fan hyn. Dwi'n gobeithio y gallwn ni adeiladu consensws drosto fo. Mae yna benderfyniadau anodd ynghlwm wrtho, ond adeiladu dyfodol ynni annibynnol ar gyfer ein hunain fel gwlad yr ydym ni a'r holl fuddiannau a fydd yn llifo o hynny.
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.
Arweinydd Llafur Cymru nawr—Ken Skates.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Cwestiwn, Darren.
3. Pa welliannau mesuradwy o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl eu cyflawni yn ystod y Senedd hon? OQ64721
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys yr anghydfod o ran tâl ymwelwyr iechyd a graddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ64682
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol yng nghanol trefi a dinasoedd ledled Cymru? OQ64706
6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd? OQ64681
Cwestiwn, plis, Peter.
7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n dibynnu ar wasanaethau'r GIG yn Lloegr yn cael triniaeth amserol, y caiff gwybodaeth ei rhannu'n effeithiol, a bod atebolrwydd clir? OQ64687
8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella ac integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy Torfaen? OQ64704
9. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o hygyrchedd gwasanaethau o ran adfer o gaethiwed? OQ64705
Yn olaf, Brif Weinidog, cwestiwn 10, Anthony Slaughter.
10. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau i sicrhau bod gan bawb gartref diogel a fforddiadwy? OQ64698
Diolch, Brif Weinidog.
Eitem 2 nawr, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog wedi ymestyn i hanner awr, i gydnabod y diddordeb a ddangoswyd gan yr Aelodau. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael, fel arfer, i'r holl Aelodau yn electronig.
Diolch. O ran y pwynt cyntaf, mi fyddwch chi’n ymwybodol bydd y prosesau yna yn cael eu dilyn o ran y gyllideb, ac mi fydd yna gyfle i bawb i fod yn rhoi barn ar y gyllideb atodol unwaith eto. Does yna ddim byd wedi’i dorri o ran y cod gweinidogol o ran yr hyn ddigwyddodd heddiw; fel hyn mae Seneddau yn gweithio. Ac, efallai, pe byddai Reform yn blaid sydd o ddifrif ynglŷn â dyfodol y Senedd hon, ac eisiau trafod o ddifrif a chael y setliad gorau i bobl Cymru, fe fyddech chi’n deall sut mae pleidiau yn cydweithio yn y Siambr hon a thu hwnt.
O ran AI, mae’n bwysig iawn ein bod ni yn fyw i’r manteision a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag AI, a dwi’n gwybod bod hwn yn fater y mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn ei gymryd fel mater sydd o bwys mawr. Mi fydd yna ddiweddariadau, ac, fel y byddwch chi’n gwybod, mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn derbyn cwestiynau yn y Senedd hon yr wythnos nesaf.
Diolch. Mi wnaf i yn sicr wneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol eich bod chi wedi codi’r mater hwn. Wrth gwrs, mae Gweinidog y Cabinet dros Gyllid yma, ac mi fyddwch chi’n ymwybodol o rai camau sydd wedi’u cymryd gan y Llywodraeth hon eisoes i gefnogi busnesau. Yn amlwg, os oes yna fusnesau penodol rydych chi’n pryderu amdanyn nhw, mae wastad yn bwysig bod Aelodau yn codi’r pryderon hyn gyda’r Gweinidogion, ond mi fyddaf i'n sicr yn ei wneud o’n ymwybodol o’r hyn rydych chi wedi’i godi.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Dwi ddim yn gwybod, o'r hyn roeddech chi'n ei amlinellu, a ydych chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio; yn amlwg, mae hi yn y Siambr ac wedi clywed hyn. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yna brosesau ffurfiol i'w dilyn ynglŷn ag unrhyw bryderon, gan gynnwys gyda'r ombwdsmon, os oes yna bryderon wedi eu mynegi. Dwi'n gobeithio bod yr Aelod yn codi'r pryderon hyn drwy'r ffyrdd priodol hynny, fel bod yr hyn sydd wedi ei nodi yn cael ei ymchwilio iddo fo os oes yna bryderon.
Yn sicr. Mi fyddwch chi wedi clywed y Gweinidog Cabinet yn sôn ynglŷn â'r manteision, ond hefyd y peryglon, ac yn sicr mae yna gydnabyddiaeth, o ran nifer o sectorau, o ran y pryderon hynny ynglŷn â swyddi a allai gael eu colli'n llwyr, neu sgiliau. Er enghraifft, yn fy mhortffolio i, o ran cerddoriaeth, actorion ac ati, mae yna nifer fawr o bryderon. Rydym ni hefyd yn gweld beth ydy'r manteision, ac rydym ni eisiau cael y budd hwnnw. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn Boston yr wythnos hon yn cwrdd â buddsoddwyr busnesau a'r gymuned diaspora. Felly, rydym ni yn edrych ar y cyfleoedd a'r swyddi sydd i ddod gydag AI hefyd, fel dyw o ddim jest yn extractive, fel rydym ni'n ei weld efo pethau. Yn sicr, mi fyddaf i'n codi bod yna ddau Aelod—efallai y bydd yna fwy erbyn diwedd y sesiwn hon—wedi codi AI gyda mi, er mwyn sicrhau ein bod ni'n eich diweddaru chi a hefyd yn ymgysylltu efo Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod yr Aelod yn adlewyrchu ar ba Lywodraeth rydych chi'n cyfeirio ati. Rydych chi'n sôn am y Llywodraeth Lafur yn eich cyfraniad chi yn y fan yna, lle rydym ni'n Llywodraeth newydd ers mis Mai. Felly, mae nifer o'r cwestiynau a godwyd gan graffu—ac mi oeddwn i'n rhan o'r pwyllgor a oedd yn gwneud y gwaith craffu hwnnw—i'r Llywodraeth flaenorol. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo, dan arweiniad y Prif Weinidog, o ran strategaeth ryngwladol newydd, sydd yn edrych ar yr holl swyddfeydd, o ran edrych ar sut rydym ni fel Llywodraeth yn ymgysylltu yn rhyngwladol hefyd. Mae o wedi bod yn glir iawn ei fod o eisiau i ni fod yn Llywodraeth sy'n ymgysylltu'n rhyngwladol oherwydd y buddion a ddaw i Gymru o hynny. Wrth i'r gwaith ar y strategaeth gael ei ddiweddaru, wrth gwrs, mi fydd yna gyfle i Aelodau fod yn holi'r Prif Weinidog ac i ymgysylltu a chraffu.
Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yma yn y Siambr. Yr hyn byddwn i'n gofyn i chi ei wneud o ran yr A55 ydy ysgrifennu ato fo, a dwi'n siŵr bydd diweddariad i chi o ran hynny.
O ran yr ail ddatganiad rydych chi'n gofyn amdano fo, mi wnaf i godi hyn efo'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Gan eich bod chi wedi cwrdd yn benodol gydag aelodau'r gweithlu, dwi yn meddwl byddai fo'n syniad pe byddech chi'n gallu ysgrifennu ato fo hefyd, oherwydd mae'n bwysig eu bod nhw'n cael yr ymateb hwnnw. Dwi'n deall, o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, eich bod chi wedi ysgrifennu, felly mi fyddaf i yn gofyn iddo fo sicrhau ei fod o yn ysgrifennu nôl atoch chi.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar gynlluniau Network Rail i gau'r rheilffordd rhwng Caergybi a Chaer am bedair wythnos ym mis Ionawr er mwyn cynnal gwaith atgyweirio ar hyd y llinell? Mae hwn yn rheilffordd y mae miloedd o bobl yn ddibynnol arno, ac felly bydd yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar deithwyr ym Mangor Conwy Môn a gogledd Cymru yn sylweddol. Serch hynny, mae nifer fawr o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma yn rheolaidd yn parhau yn anymwybodol o'r tarfu sydd o'u blaenau. Dwi'n falch o weld bod Network Rail erbyn hyn wedi cyhoeddi rhagor o ddeunydd gwybodaeth am y gwaith, ond hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n gosod allan y gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi rhwng rŵan a mis Ionawr i ledaenu'r gair, fel bod trigolion lleol yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn cael cyfle i baratoi cynlluniau teithio amgen. Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Rwy'n gwerthfawrogi y bydd hyn yn creu aflonyddwch o ran y gwasanaeth dros dro i deithwyr tra bydd y rheilffordd ar gau. Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Os oes yna unrhyw bryderon ychwanegol, mi fyddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at yr Aelod. Mae o yma, wrth gwrs, ac wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i godi. Ond, i'ch sicrhau chi, mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu gyda Network Rail ac Avanti a Trafnidiaeth Cymru trwy gyfarfodydd rhwydwaith gogledd Cymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti yn cwblhau cynlluniau manwl ar gyfer gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn ystod y cyfnod cau hefyd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran y datganiad, dydy o ddim yn arferol i gael datganiad ar y cyd yn y modd hwnnw. Mi ydyn ni'n gweithio'n drawslywodraethol ac, yn sicr, pe byddech chi'n ysgrifennu at y Gweinidogion efo'ch cwestiynau penodol, mi fyddech chi'n cael yr ymateb hwnnw. Ond, yn amlwg, y Gweinidog Cabinet dros addysg sy'n arwain o ran y pupil development grant, ond mae cydweithio agos rhwng Gweinidogion lle mae gorgyffwrdd. Yr hyn sy'n bwysig ydy ein bod ni'n cael y cydweithio hwnnw ac mai'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni ydy ymateb bob tro i argymhellion Estyn. Mae yna waith, wrth gwrs, i'r pwyllgorau craffu priodol yn y Senedd hon a grŵp trawsbleidiol i fod yn edrych ar faterion o'r fath, a sicrhau bod y gweithrediad fel y dylai fod a bod argymhellion sy'n cael eu gwneud gan Estyn yn mynd rhagddynt.
Diolch i'r Aelod am godi mater, yn amlwg, a gafodd gryn sylw yn y wasg yr wythnos diwethaf, a byddwn i'n hoffi dweud pa mor ddewr ydy pobl sydd yn siarad allan am hyn, ac mae'n erchyll clywed am y dioddefaint hwnnw. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yma ac wedi clywed yr hyn rydych chi wedi ei godi, ond mi fyddwn ni'n hoffi rhoi'r sicrwydd hwnna i chi ein bod ni'n cydnabod hyn, bod yr adolygiad diweddar o'r strategaeth genedlaethol o ran VAWDASV wedi nodi anghydraddoldeb gwledig fel thema allweddol o ran y gwaith hwn. Rŵan, wrth i'r strategaeth genedlaethol newydd gael ei datblygu, dwi'n gobeithio bod y ffaith ein bod ni wedi adnabod hwn fel rhywbeth sydd ei angen ac sy'n haeddu sylw pellach—. Ac wrth gwrs, wrth i'r gwaith adolygu yna fynd rhagddo, gyda'r adborth rydyn ni wedi ei dderbyn, mi fydd yna gyfle i chi ac eraill graffu ar y Dirprwy Brif Weinidog o ran y gwaith hwnnw ac i fewnbynnu.
Wel, mae twristiaeth yn bwysig ofnadwy o ran economi Cymru, ac mi fydd yr Aelod, dwi'n siŵr, yn gwybod bod yna nifer fawr o heriau sydd wedi wynebu'r sector hwnnw, gan gynnwys yr argyfwng costau byw. Mae gan bobl lai o arian yn eu pocedi. Mae Brexit hefyd, er enghraifft, wedi cael effaith ar nifer y bobl sy'n dod i Gymru a'n cymunedau ni. Rydych chi'n cyfeirio at ardal sydd ddim yn mynd rhagddo efo'r lefi twristiaeth ar y funud, gan nodi hwnna fel rhwystr, a dwi ddim yn deall hynny. Mae'n rhaid i ni edrych ar y ffeithiau. Mi fydd pob ardal efo'i heriau gwahanol. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna gyfleon yn dod efo rhai o'r pethau sydd mewn grym. Ond yr hyn rydyn ni wedi ymrwymo iddo fo ydy sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda Chroeso Cymru i werthu Cymru i'r byd, ein bod ni eisiau sicrhau bod twristiaeth yn gallu ffynnu a'n bod ni'n cefnogi'r busnesau hynny. Mae o'n ganolog o ran yr hyn rydyn ni wedi ei roi yn ein maniffesto ni a'r gwaith rydyn ni'n edrych yn drawsweinidigol arno fo. Dwi, fel Gweinidog efo cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon, hefyd yn credu nad ydyn ni'n manteisio i'r eithaf o ran y dwristiaeth sy'n gysylltiedig efo'n hanes ni, efo'n diwylliant ni, a'r cyfleoedd sydd yn dod efo digwyddiadau mawr, fel y Tour de France, fel yr Ewros yn dod yn 2028. Felly, mae twristiaeth yn bwysig iawn i'r Llywodraeth hon ac rydyn ni'n gweithio'n drawsweinidogol ar hynny.
Diolch. Mae'r Aelod yn berffaith iawn, mae hwn yn fater pwysig dros ben. Dwi'n siŵr bod pob un ohonon ni wedi cael etholwyr yn cysylltu efo pryderon neu sy'n methu â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y funud oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ac nad ydyn nhw'n gallu cael y gwasanaethau sydd yn gweddu iddyn nhw. Yn sicr, mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yma ac wedi clywed yr hyn rydych chi wedi ei godi, ac wedi mynegi i fi ei fod o'n fodlon dod â diweddariad i Aelodau drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Diolch i'r Aelod am godi'r pryderon hynny. Dwi ddim yn gwybod os ydych chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet gyda'r pryderon penodol—yn amlwg, mewn munud, mae'n anodd i chi roi'r holl wybodaeth hynny. Ond, yn sicr, os oes yna bryderon y mae angen i ni eu hystyried, wrth gwrs y gwnawn ni hynny fel Llywodraeth. Felly, byddwn ni yn gofyn i chi wneud hynny.
Dwi'n gobeithio bod yr Aelod wedi clywed y datganiad llafar yr wythnos diwethaf. Dwi ddim yn meddwl bod yna ddiffyg cyfle wedi bod i graffu a holi'r Gweinidog. Felly, dwi ddim yn meddwl bod datganiad mor fuan wedi hynny yn briodol, yn arbennig oherwydd, beth am inni gofio, beth oedd yr hyn a nodwyd, sef ein bod ni rŵan yn mynd i fod yn edrych ar ystyried y dystiolaeth, deall y ffeithiau a'r gwahanol opsiynau, a gweithio tuag at ddatrysiadau sy'n gwella teithiau wrth gefnogi cymunedau, busnesau a'r economi ehangach. Felly, o ran yr holl bryderon rydych chi wedi'u nodi, dyna'n union beth fydd yn digwydd rŵan: gwrando.
Dwi'n siŵr hefyd fod yr Aelod—fel pob Aelod yma, gobeithio—eisiau gweld y Llywodraeth hon yn gweithredu. Rydyn ni wedi gweld 27 mlynedd o beidio â gweithredu a chael datrysiadau, felly mae'n rhaid inni symud ymlaen efo'r gwaith hwn. Mae'r gwaith ymgysylltu yn mynd rhagddo. Mae yna gyfle i bawb sydd efo pryderon i fod yn rhan o hyn. Mi gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd yna ragor o ddiweddariadau ac mi fydd yna gyfle i bobl ymgysylltu. Felly, dwi'n gobeithio ein bod ni'n gallu uno yn y ffaith bod y Gweinidog wedi amlinellu ffordd ymlaen o'r diwedd, a bydd yna gyfle i'r rheini sydd efo pryderon i fynegi'r rheini. Ond mae'n rhaid inni weld datrysiad. Dwi'n siŵr bod yr Aelod yn gytûn ar hynny.
Diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn. Byddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, oedd hefyd yn cydnabod pryderon roedd o wedi'u derbyn gan etholwyr—rhai y byddwn ni i gyd wedi'u derbyn. Mi wnaeth y Prif Weinidog hefyd amlinellu'r adolygiad o'r contract hwnnw, sef yr union hyn mae'r Aelod wedi'i godi. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal gwestiynau yr wythnos nesaf. Bydd yna gyfle i'w holi fo ymhellach am hyn, ac yn sicr mi wnaf i o'n ymwybodol eich bod wedi codi'r mater hwn yr wythnos yma.
Yn olaf, Drefnydd, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal am sut maen nhw'n gweithio i ddileu sgabies yng Nghymru. Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld dau ysbyty yn cau wardiau achos presenolded sgabies Norwyaidd. Mae nifer yr achosion o sgabies yng Nghymru wedi cynyddu o 1,300 yn 2018-19 i dros 12,000 o achosion yn 2023-24. Mae hyn yn bryderus iawn ac yn achosi anghysur sylweddol i gleifion ac yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn mynd i'r ysbyty. Mae angen cymryd camau brys i ddelio â'r clefyd erchyll hwn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn, a'i Chymraeg gwych, os caf i ddweud. O ran y mater rydych chi'n ei godi, yn amlwg mae hwn yn bryder. Mi godwyd y mater o sgabies gyda ni yr wythnos diwethaf hefyd. Byddwn ni i gyd wedi gweld yn y wasg hefyd y pryderon hynny. Yn sicr, mi wnes i roi'r sicrwydd yr wythnos diwethaf o ran y camau a'r disgwyliadau sydd gennym ni o fyrddau iechyd, o ran rheoli haint. Yn sicr, mi wnaf i hefyd sicrhau bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn gwybod bod yna ail gais wedi dod ynglŷn â diweddariad o ran y gwaith hwn. Mi fydd o'n ateb cwestiynau yr wythnos nesaf, ond mi wnaf i weld a ydy o'n meddwl ei fod o'n briodol i roi datganiad ysgrifenedig pellach ar hyn.
Diolch yn fawr iawn, Drefnydd.
Symudwn ymlaen i eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.
Bydd Aelodau'n cofio bod y weinyddiaeth flaenorol wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r achos o blaid parc cenedlaethol newydd. Yn dilyn rhaglen drwyadl o gasglu tystiolaeth, trafod ac ymgynghori, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad bod ardal y parc cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig yn bodloni'r profion statudol ar gyfer ei dynodi, a chyflwynodd Orchymyn dynodi i Weinidogion Cymru.
Ers hynny, mae llwyth o dystiolaeth wedi'i chasglu. Daeth dros 400 o ymatebion i law yn ystod y cyfnod hysbysu. Roedd y rhain yn adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau, gyda llawer o ymatebwyr yn cefnogi a llawer yn gwrthwynebu. Cyflwynwyd gwrthwynebiadau sylweddol hefyd, gan gynnwys gwrthwynebiadau gan bob un o'r pum awdurdod lleol yn yr ardal berthnasol. Teimladau cryf o blaid a theimladau cryf yn erbyn. Mae llawer wedi tynnu sylw at y manteision posibl: cyfleoedd i adfer natur, gwrthsefyll newid hinsawdd yn well, rhoi arweiniad strategol ar gyfer rheoli'r dirwedd, cefnogi hamddena a thwristiaeth gynaliadwy. Mae'r dystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn nodi nifer o gyfleoedd yn y meysydd hyn.
Ar yr un pryd, mae cwestiynau pwysig wedi'u codi ar hyd y broses yn ymwneud â fforddiadwyedd, gofynion cyllidol y dyfodol, gwerth am arian, trefniadau llywodraethu ac effeithiau posibl ar gymunedau lleol, seilwaith, datblygiadau ynni, tai a'r iaith Gymraeg. Mae'r pryderon yma wedi'u codi gan awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y sectorau busnes a rheoli tir.
Wrth i fi ddod i gasgliad dros dro, dwi wedi ystyried y materion yma'n fanwl. Dwi wedi ystyried canlyniadau'r asesiad effaith rheoleiddiol a'r asesiad effaith integredig gafodd eu paratoi gan swyddogion. Mae'r dadansoddiad yn nodi manteision posibl ynghyd ag ansicrwydd sylweddol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif costau sefydlu o dros £11 miliwn ac yn nodi'r costau wedi hynny sy'n gysylltiedig â sefydlu a gweithredu awdurdod parc cenedlaethol newydd. Mae hefyd yn nodi ansicrwydd yn y sylfaen dystiolaeth.
Fel dwi eisoes wedi'i nodi, gwnaeth y pum awdurdod lleol yn yr ardal wrthwynebu'r dynodiad. Er fy mod wedi ystyried yn ofalus yr holl sylwadau sydd wedi dod i law, dwi'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn deall barn yr awdurdodau lleol yma, sydd eisoes yn chwarae rhan wrth gyflawni llawer o’r canlyniadau a geisir trwy ddynodi ac a fyddai’n bartneriaid pwysig pe bai parc cenedlaethol yn cael ei sefydlu yn y pen draw.
Dwi'n ystyried felly fod gwerth mawr mewn parhau i gadw ffocws cryf ar alluogi'r dynodiadau a'r partneriaethau presennol yma i gyflawni ar gyfer natur, hinsawdd, treftadaeth ddiwylliannol, hamdden a chymunedau lleol, tra'n parhau i fynd ar drywydd yr amcanion a nodwyd drwy broses ddynodi parc Glyndŵr drwy fecanweithiau eraill. Er enghraifft, rŷn ni'n cymryd camau ymarferol i adfer natur ac adeiladu gwydnwch hinsawdd ar draws y gogledd-ddwyrain. Drwy raglen genedlaethol mawndir Llywodraeth Cymru, cyflawnwyd gwaith adfer sylweddol o fewn tirwedd genedlaethol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys safle rhostir Llandegla sydd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gan ddod â thua 120 hectar o fawndir i gyflwr gwell.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod llawer o'r heriau a nodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru eisoes dan ystyriaeth gan raglenni presennol y Llywodraeth hon. Yn eu plith mae ein gwaith ar adfer bioamrywiaeth, adfer mawndiroedd, rhwydweithiau natur, y cynllun ffermio cynaliadwy, gan gynnwys Ffermio Bro, gweithredu ar hinsawdd a natur, twristiaeth gynaliadwy a buddsoddi ehangach yng nghefn gwlad.
Yn bwysig, mae'r polisïau yma eisoes yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol i gymunedau, ffermwyr a'r amgylchedd. Mae Ffermio Bro, ein cynllun ffermio cynaliadwy pwrpasol ar gyfer tirweddau dynodedig, yn cefnogi ffermwyr i weithredu’n ymarferol ar gyfer adferiad natur, gwydnwch hinsawdd a rheoli tir cynaliadwy. Mae ffermwyr yn fferm Llangwyfan yn adfer gwrychoedd i ailgysylltu coetir hynafol a gwella rheoli coetiroedd i gryfhau cynefinoedd ar gyfer fflora a ffawna brodorol. Mae hyn yn helpu i greu tirwedd fwy cysylltiedig a gwydn. Mae'n ymddangos i mi, felly, y gellir cyflawni'r amcanion a gafodd eu nodi gan y broses ddynodi trwy fecanweithiau amgen, heb sefydlu awdurdod parc cenedlaethol newydd a heb ysgwyddo'r ymrwymiadau ariannol y byddai ar y dynodiad eu hangen wedi hynny.
Wrth edrych ymlaen, dwi'n credu bydd yna gyfleoedd pellach i sicrhau'r canlyniadau hyn drwy waith y Llywodraeth, drwy ein cynllun gweithredu hinsawdd a natur sydd ar ein gweill, ein strategaeth ddiwylliant, ein dyletswydd diogelu gwledig a chynaliadwyedd amgylcheddol arfaethedig, a fydd yn cryfhau'r ystyriaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol, gwydnwch hinsawdd ac effeithiau gwledig ar draws penderfyniadau'r sector cyhoeddus. Dwi hefyd am ystyried a ellir cryfhau'r trefniadau presennol ar gyfer tirweddau cenedlaethol, ochr yn ochr â dulliau integredig eraill sy'n cefnogi adferiad natur, rheoli tir cynaliadwy a chymunedau gwledig ffyniannus.
Wedi dweud hynny i gyd, dwi'n cydnabod arwyddocâd y cynnig hwn sydd o'n blaenau heddiw a'r diddordeb mawr sydd ynddo. Fy nghyfrifoldeb i yw dod i gasgliad rhesymol ar sail yr holl wybodaeth berthnasol. Am y rheswm hwnnw, dwi ddim am wneud penderfyniad terfynol heddiw. Yn hytrach, dwi’n gwahodd unrhyw barti i gyflwyno sylwadau pellach cyn inni wneud penderfyniad terfynol.
Dyma gyfle felly i awdurdodau lleol, sefydliadau cynrychioladol, busnesau, grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd gyflwyno unrhyw dystiolaeth, dadleuon neu ystyriaethau materol ychwanegol y credant y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried. Gall pobl a sefydliadau gyflwyno'u barn drwy e-bost neu drwy'r post, a bydd y manylion ar wefan Llywodraeth Cymru wrth i ni ddod i ddiwedd y datganiad hwn yn y Senedd heddiw. Byddaf hefyd yn cyhoeddi dolenni i ystod o'r dystiolaeth sydd wedi'i ddatblygu yn ystod y broses hyd yma i lywio'r ystyriaethau ymhellach. Byddwn i'n annog pobl i gyflwyno sylwadau yn benodol sy'n darparu tystiolaeth neu wybodaeth newydd nad ydynt eisoes wedi eu hystyried drwy'r gwaith helaeth a wnaed hyd yn hyn.
Nid bwriad y camau hyn yw ailadrodd ymarferion ymgynghori cynharach; yn hytrach, mae'n bwriadu sicrhau bod yr holl dystiolaeth berthnasol wedi ei hystyried yn briodol ac yn rhesymol cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, mewn pedair wythnos, bydd swyddogion yn dadansoddi'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn rhoi cyngor pellach i mi. Yna byddaf yn ystyried yr holl gyflwyniadau yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol, ynghyd â chyhoeddi fy rhesymau.
Mae tirweddau cymunedau a threftadaeth ddiwylliannol y gogledd-ddwyrain yn bwysig yn genedlaethol. Beth bynnag yw'r canlyniad terfynol, mae'r dystiolaeth a gasglwyd dros y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at eu rhinweddau arbennig a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Dwi'n parhau i ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r tirweddau, i'r cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Nodwch eto: mae'r cyhoeddiad hwn yn cynrychioli barn dros dro yn unig. Dwi'n annog pawb sydd â diddordeb i ymgysylltu'n adeiladol ar y camau nesaf, fel bod unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei lywio gan yr ystyriaeth lawnaf bosib o'r dystiolaeth sydd o'n blaenau. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Adrian Mason.
Diolch, Weinidog. Dyma chi'r realiti y byddai parc cenedlaethol newydd yn ei olygu: uno'r ardal o Langadfan ym Mhowys i Brestatyn ynghyd, sydd â dim byd yn gyffredin â'i gilydd. Cynyddu prisiau tai 25 y cant yn uwch na'r cyfartaledd yn ôl cymdeithas dai y Nationwide, gan wneud pethau hyd yn oed yn waeth i'n pobl ifanc. Cynyddu pwysau trafnidiaeth yn sgil delwedd hud a lledrith statws parc cenedlaethol ar lefydd fel Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llanwddyn, tra'n gwneud dim gwahaniaeth i fioamrywiaeth, yn ôl astudiaethau diweddar, o gymharu â thu allan i barciau cenedlaethol, tra’n costio tua £6 miliwn y flwyddyn ar adeg pan fo parciau sydd eisoes yn bodoli wedi cael toriadau cyllidol o 41 y cant, ac o dan bwysau dybryd, a thra bod ein gwasanaethau gwledig yn cael eu torri o hyd. Dyw cael awdurdod newydd ddim yn gynaliadwy nac yn briodol, a gwastraffwyd £2.1 miliwn eisoes gan y Llywodraeth flaenorol ar hyn. Digon yw digon. A ellir cael cadarnhad na fydd y Llywodraeth yma yn gwario ffortiwn ar y cam nesaf hyn?
Diolch i’r Aelod. Mi allaf i gadarnhau na fyddwn ni'n gwario ffortiwn, ond yn argymell pobl i hala e-bost atom ni gyda’u sylwadau nhw yn y cam nesaf—nag ar y dadansoddi chwaith. Hynny yw, mae angen i ni symud ymlaen i ddod i benderfyniad rhesymol a chall ar y materion yma rhag blaen.
Wel, am ddatganiad siomedig. Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded ar hyd mynyddoedd y Berwyn, fel dwi wedi gwneud, yn gwybod amgylchedd mor unigryw ac arbennig ydy e: Cadair Berwyn, Llyn Lluncaws, Pistyll Rhaeadr, Cyrniau Nod, i enwi ond rhai mannau. Dyma leoliadau gwyllt, anghysbell, sy'n haeddu cael eu hadnabod yn well gan drwch poblogaeth Cymru a thu hwnt.
Mae'n rhaid cyfaddef fy mod i fymryn yn siomedig â sylwadau fy nghyfaill o'r cefn yn fanna. Dwi'n un sydd wedi mwynhau mynyddoedd y Berwyn—dwi wedi rhedeg mynyddoedd y Berwyn ar adegau. Dwi'n cydnabod ac yn cytuno â'r Aelod ar ei bwyntiau ar bwysigrwydd ein hardaloedd naturiol a'r cyfle sydd gyda ni fel Llywodraeth i wella hynny. Mae yna sawl strategaeth dwi wedi eu hamlygu yn fy natganiad heddiw a fydd yn gwneud yn union hynny: twristiaeth gynaliadwy, cymunedau gwledig cynaliadwy, cymunedau gwledig ffyniannus. Dyna'r cyfle sydd gyda ni wrth gymryd camau reit ar draws y Llywodraeth i wella pethau. Dyna dwi am ei wneud, a dyna sydd yn pwyso ar fy meddwl i wrth symud tuag at benderfyniad ar y materion hyn.
Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, Andrew Griffin.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: parodrwydd ar gyfer y gaeaf—barod am lifogydd. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Haf 2026, fel rŷn ni'n ei wybod, oedd y cynhesaf erioed yng Nghymru, ac fe effeithiodd y sychder ar rannau helaeth o'r wlad. Ond nawr mae'r gaeaf yn agosáu, ac mi fydd newid hinsawdd yn arwain at aeafau gwlypach a glaw trymach, ac rŷn ni'n gweithio mewn amgylchedd sy'n mynd yn fwy ac yn fwy cymhleth. Ac felly rŷn ni'n gweithio'n agos â phartneriaid i baratoi ar gyfer y misoedd sydd i ddod.
Mae newid hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd ac yn cynyddu difrifoldeb argyfyngau. Mae hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hymatebwyr brys a'n hawdurdodau rheoli risg. Mi hoffwn i ddiolch i'r gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol ac eraill am eu hymdrechion ymroddedig i helpu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel drwy gydol y flwyddyn.
Er enghraifft, eleni fe ddiweddarodd Cyfoeth Naturiol Cymru fapiau perygl llifogydd mewn wyth lleoliad afonydd ledled y wlad. Fe wnaethon nhw hefyd gyflwyno gwelliannau i'w gwasanaeth rhybuddio byw am lifogydd. Mae rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru a rhybuddion tywydd garw bellach ar gael ar fwy o lwyfannau digidol trydydd parti. Mi fydd hyn felly, wrth gwrs, yn cynyddu gwelededd rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gefnogi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi sicrhau bod £5 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd. Ledled Cymru, maen nhw'n paratoi ar gyfer misoedd y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys asesu asedau allweddol, jetio draeniau a rheoli llystyfiant i leihau'r risg bod draeniau'n cael eu blocio. Maen nhw hefyd yn adolygu trefniadau ymateb brys i sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn effeithiol.
Mae ein tîm diogelwch a gwydnwch cenedlaethol yn parhau i fonitro ac asesu'r holl risgiau dros y gaeaf, gan gynnwys tywydd y gaeaf. Mae'n gweithio gyda phartneriaid gwydnwch i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin i gefnogi cynllunio gwybodus i wella gwydnwch ledled Cymru.
Eleni, fel bob amser, mae ein paratoadau ni wedi'u seilio ar y gwersi a ddysgwyd o stormydd blaenorol. Fis Tachwedd diwethaf, daeth storm Claudia â glawiad sylweddol ledled Cymru. Fe wnaeth y storm effeithio ar ryw 400 eiddo yn sir Fynwy yn unig. Gwelodd rai lleoliadau ddyfnderoedd llifogydd o fwy na 1.5m. Bu tarfu ar gymunedau, seilwaith a gwasanaethau hanfodol.
Dwi'n deall pa mor ddinistriol y gall llifogydd fod i aelwydydd a busnesau. Ym mis Awst eleni, fe ymwelais i ag Aberdaugleddau, lle clywais yn uniongyrchol gan drigolion yr oedd y llifogydd wedi effeithio arnyn hwy nhw a thrafod cynlluniau ar gyfer cynllun llifogydd newydd i ddiogelu eu heiddo nhw yn well. Roedd yn atgofiad pwerus o pam mae'r gwaith yma yn bwysig.
Felly, gadewch i fi dynnu sylw at rai o'r ffyrdd y byddwn ni fel Llywodraeth yn cefnogi ein cymunedau a'n partneriaid. Rŷn ni'n helpu cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd i gael llais cryfach drwy fforwm llifogydd annibynnol newydd yma yng Nghymru. Mi fydd y fforwm newydd yn cefnogi cymunedau sy'n gwella o lifogydd ac yn cryfhau parodrwydd a gwydnwch ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Mi fydd yn seiliedig ar y model llwyddiannus a weithredwyd yn yr Alban, ac mi allaf gadarnhau bod y grŵp llywio ar gyfer y fforwm wedi cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Mi ddaeth â phobl sydd â phrofiad bywyd o lifogydd a sefydliadau partner ynghyd. Gyda'i gilydd, mi fyddan nhw'n helpu i lunio rhwydwaith cymorth cenedlaethol newydd ar gyfer cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw.
Mi fyddwn ni hefyd yn penodi aelodau ychwanegol i'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol cyn bo hir, gan sicrhau y gall barhau i roi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru a, thrwy wneud hynny, ein helpu ni i lunio polisi yn y dyfodol.
Mae'r Llywodraeth hon yn deall pwysigrwydd buddsoddiad parhaus yn ein seilwaith rheoli perygl llifogydd, gan sicrhau bod dros £85 miliwn ar gael eleni yn unig. Bydd y cynllun yn cefnogi cymunedau drwy gyflwyno ymyriadau sy'n amrywio o amddiffynfeydd rhag llifogydd i weithgareddau ymgysylltu â'r gymuned. Mi fydd yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd hirdymor ac, wrth gwrs, yn gwella ein gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Mae enghreifftiau'n cynnwys cynlluniau yn Edward Street yn Ystrad Mynach; Maesyffynnon Lane yn Rhondda Cynon Taf; Llandysul a Phont Tyweli yn sir Gaerfyrddin; School Bank Road yn Llanrwst; a'r Bontnewydd yng Ngwynedd.
Lle bynnag y bo'n bosibl, rŷn ni'n annog awdurdodau rheoli risg i ystyried buddsoddi mewn ymyriadau rheoli llifogydd naturiol. Mae'r ymyriadau hyn yn ategu'r amgylchedd naturiol ac yn helpu i arafu symudiad dŵr trwy ddalgylchoedd, neu catchments, gan wella ansawdd dŵr ar yr un pryd a chryfhau bioamrywiaeth hefyd. Mae modd targedu ymyriadau lle maen nhw'n fwyaf effeithiol, nid yn unig i'r gymuned ond hefyd i'r amgylchedd.
Ond dim ond trwy weithio mewn partneriaeth gref gyda ffermwyr a thirfeddianwyr y gall dulliau naturiol o reoli llifogydd fel hyn lwyddo ar eu gorau. Mi fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhan bwysig o hyn. Mi fydd yn helpu rheolwyr tir i fabwysiadu atebion sy'n seiliedig ar natur, sy'n lleihau'r perygl o lifogydd ac yn cefnogi canlyniadau ehangach o wydnwch amgylcheddol a hinsawdd. Fodd bynnag, er gwaethaf y buddsoddiad parhaus yma i gyd, mae'n hanfodol bod cymunedau'n parhau i fod yn wyliadwrus i'r risg o lifogydd ac, wrth gwrs, i fod yn barod ar gyfer pob posibilrwydd. Mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a dim ond 27 y cant o'r deiliaid tai hynny sydd wedi'u cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr wythnos hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ei ymgyrch flynyddol Barod am Lifogydd. Mae'n bosib bod nifer ohonoch chi wedi gweld hynny ar y cyfryngau yn y dyddiau diwethaf. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at dri cham syml y gall pawb eu cymryd i baratoi'n well ar gyfer llifogydd. Yn gyntaf, mi ddylech chi wirio risg llifogydd eich eiddo, ac fe allwch chi wneud hynny ar-lein. Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i bobl wirio gwybodaeth am risg llifogydd gan ddefnyddio eu cod post a map rhyngweithiol. Yn ail wedyn, cofrestrwch i gael rhybuddion am ddim o lifogydd o afonydd a'r môr. Mae modd cael rhybuddion trwy neges destun, trwy e-bost neu neges llais, ac mi all pobl gofrestru drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy gysylltu â Floodline, ac mi wnaf ddweud y rhif: 0345 988 1188. Ac yn olaf wedyn, byddwch yn barod pan fo rhagolygon o lifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cymorth ymarferol ar-lein i helpu pobl i baratoi ar gyfer llifogydd, ond hefyd i ymateb iddyn nhw, ac wedyn, wrth gwrs, i adfer ar eu hôl nhw. Dwi'n annog pawb i ddefnyddio'r adnoddau yma sy'n rhad ac am ddim i bob un. Gwiriwch a ydych chi neu'ch teulu mewn perygl o lifogydd, ac, os ydych chi, sicrhewch eich bod chi'n cael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael.
Dwi hefyd yn annog pawb i adolygu eu trefniadau yswiriant. Dyw yswiriant llifogydd ddim bob amser wedi'i gynnwys mewn polisïau yswiriant cartref safonol. Felly, mae'n bwysig gwirio manylion eich yswiriant. Efallai na fydd rhai polisïau newydd yn dod i rym ar unwaith, felly gall gweithredu'n gynnar fod yn hanfodol yn hynny o beth hefyd. Ac i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael yswiriant, wel, mi hoffwn i dynnu sylw at ddau gynllun penodol. Y cyntaf yw Flood Re. Mae'r cynllun hwn, sy'n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig, yn helpu aelwydydd i gael mynediad at yswiriant llifogydd fforddiadwy, ac mi all hyn fod yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, i bobl sydd wedi profi llifogydd o'r blaen neu wedi cael trafferth cael yswiriant. Mae gwefan Flood Re yn darparu manylion yswirwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun, ond dwi'n annog pobl i ystyried eu dewisiadau yn ofalus. A'r ail wedyn yw'r cynllun ailgodi'n gryfach. Nawr, mae hyn yn caniatáu i ddeiliaid tai sy'n adfer ar ôl llifogydd i osod mesurau gwydnwch llifogydd yn eu heiddo yn ystod y broses o atgyweirio, ac efallai y bydd hyd at £10,000 ar gael gan yswirwyr i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Ond wrth edrych ymlaen, Ddirprwy Lywydd, paratoi yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain rhag llifogydd a thywydd eithafol. Mi fydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos â phartneriaid i'n gwneud ni'n fwy gwydn, i ddysgu, wrth gwrs, o ddigwyddiadau blaenorol a hefyd i gefnogi ein cymunedau, ac mi hoffwn i ddiolch i bawb sy'n rhan o'r gwaith hwnnw. Drwy gydweithio, fe allwn ni helpu i sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer yr heriau y gallem ni eu hwynebu'r gaeaf hwn. Diolch yn fawr.
Ac yn olaf, Lis McLean.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i fi ddweud, dwi yn teimlo ei fod e'n galonogol iawn, eich datganiad heddiw. Roedd e rili yn dda clywed bod lot o'r pethau sydd wedi cael eu rhoi yn eu lle o'r blaen nawr yn digwydd, fel y fforwm llifogydd cenedlaethol—mae hwnna'n ffantastig. Dwi wir yn credu mewn grym rhwydweithiau sydd yn gweithio ar draws Cymru i helpu ein gilydd a phopeth, so mae hwnna'n ffantastig.
Roeddwn i hefyd yn rili cymryd sylw o beth roeddech chi'n ei ddweud o ran pa fath o gymorth rydyn ni'n gallu ei roi i'n cymunedau ni o ganlyniad i'r ffaith bod yn rhaid iddyn nhw wylio am risg, cofrestru i gael rhybuddion, bod yn barod am unrhyw beth, a chael y cymorth ymarferol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Dwi hefyd yn teimlo'n rili freintiedig i sefyll fan hyn a chlywed pawb yn siarad amdano fe fel hyn. Rŷn ni i gyd yn poeni am beth sydd yn digwydd gyda'n cymunedau ni ar draws Cymru ac ar draws yr holl bleidiau hefyd. So, mae hwnna'n ffantastig.
Beth dwi eisiau gofyn yw sut ydyn ni'n gallu rhoi'r hyder yna sydd ei angen ar ein cymunedau bod ein Llywodraeth ni, ein bod ni fan hyn, yn gwneud popeth rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau bod mesurau gwydnwch ar lefel eiddo digonol ar gael iddynt, a'u bod nhw'n saff.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch. Ar lefel eiddo, fel rôn i'n sôn yn gynharach, mae yna gyfle i gael buddsoddiad penodol ar gyfer gwydnwch eiddo yn wyneb llifogydd, a byddwn i'n annog awdurdodau rheoli risg ar draws Cymru i ddod ymlaen gyda gofynion penodol ar gyfer buddsoddiadau yn hynny o beth. Mi wnes i gyfeirio hefyd at rôl sydd gan y cwmnïau yswiriant i chwarae. Build back better yw'r term maen nhw'n ei ddefnyddio. Os ŷch chi wedi cael eich effeithio, fel rhan o'r gwaith yswiriant, mae yna rai cwmnïau yswiriant yn barod i fuddsoddi mwy na gwerth y difrod er mwyn helpu i atal difrod pellach yn y dyfodol. Felly, byddwn i'n annog pobl i siarad â'u cwmnïau yswiriant pan fyddant yn wynebu sefyllfa fel yna.
Byddwn i hefyd yn dweud, gyda'r mesurau sy'n edrych ar eiddo penodol, ei bod hi'n bwysig bod y gwaith yna'n cael ei wneud gan gwmnïau cymwys—cwmnïau sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud. Dyna pam rŷn ni'n dweud mai'r awdurdodau rheoli risg sydd yn y lle gorau i gomisiynu'r gwaith yma, a bod y ceisiadau'n dod trwyddyn nhw, oherwydd wedyn maen nhw'n gallu sicrhau bod y safonau angenrheidiol yn cael eu cwrdd. Maen nhw hefyd, ar sail gymunedol, yn gallu sicrhau economies of scale lle mae yna sawl eiddo'n cael eu delio â nhw ar yr un pryd.
Byddwn i'n dod yn ôl at rywle dechreuais i'n gynharach: dwi'n gweld y fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru fel cyfrwng allweddol i fod yn lladmerydd dros y bobl yna sydd yn byw yn y cymunedau, sydd yn byw o dan y cysgod yma, yn dal eu llaw nhw, yn gweithio gyda nhw i baratoi fel eu bod nhw â mwy o hyder—os oes rhywbeth yn digwydd, eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw angen ei wneud, a'u bod nhw'n gwybod hefyd bod rhai o'r mesurau sydd ganddyn nhw wrth law yn mynd i wneud gwahaniaeth, a phetai'r gwaethaf yn digwydd, bod rhywun gyda nhw ar y daith echrydus, hir yna yn ôl i adfer. Dwi'n meddwl bod hynny hefyd yn neges bwysig iawn.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Symudwn at eitem 5 nawr, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, diweddariad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, dwi'n nodi'r camau pendant y mae'r Llywodraeth yma yn eu cymryd i amddiffyn pobl, cefnogi staff a chryfhau gwasanaethau iechyd a gofal ar draws Cymru y gaeaf hwn. Mi fydd y gaeaf yn heriol. Mi fydd y galw'n cynyddu, mi fydd salwch anadlol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau, ac mi fydd y cyfyngiadau o ran y gweithlu, cyllid a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn sylweddol.
Allwn ni ddim cael gwared ar bob risg, ond mi allwn ni baratoi'n gynharach, ymyrryd yn gyflymach a gofyn i bob rhan o'r system weithio gyda'i gilydd. Dyna pam rydyn ni wedi gweithredu'n gynt nag unrhyw Lywodraeth flaenorol yng Nghymru, gan ddangos arweinyddiaeth genedlaethol gryfach, disgwyliadau cliriach a ffocws di-baid ar gyflawni.
Mae pob bwrdd iechyd wedi cyflwyno fersiwn ddrafft o'u cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf erbyn 1 Medi. Am y tro cyntaf, mae'r cynlluniau hynny'n cael eu profi'n drylwyr yn ystod mis Medi a mis Hydref fel bod risgiau, rhagdybiaethau a dibyniaethau yn cael eu herio, a chamau'n cael eu cymryd, cyn i'r pwysau gyrraedd y brig. Mae hyn yn cryfhau ein dull o weithredu yn sylweddol. Nid dim ond gofyn i sefydliadau a oes ganddyn nhw gynlluniau ydyn ni, rydyn ni'n profi a ydy'r cynlluniau hynny'n gredadwy, yn gweithio mewn ffordd gysylltiedig ar draws y system gyfan ac yn gallu sicrhau gofal diogel o dan bwysau.
Mae ein gwaith cynllunio'n cael ei lywio gan adroddiad modelu anadlol y gaeaf 2026-27, sy'n edrych ar senarios o ran y ffliw, COVID-19, firws syncytiol anadlol a chyfuniad o heintiau. Mae dangosfwrdd ategol yn galluogi Llywodraeth Cymru a NHS Cymru i fonitro pwysau cenedlaethol a lleol ac addasu'r ymateb wrth i'r amodau newid.
Mae ein nod yn glir: dylai pobl gael y gofal iawn yn y lle iawn heb oedi y gellir ei osgoi. Dylid cefnogi mwy o bobl i aros yn iach gartref. Dylai'r rhai sydd angen gofal brys, gofal mewn argyfwng neu ofal acíwt gael y gofal hwnnw yn gyflym ac yn ddiogel, a ddylai neb aros yn yr ysbyty yn hirach nag sy'n angenrheidiol yn glinigol oherwydd nad ydy cymorth ar gael mewn mannau eraill. Mae cyflawni'r addewid hwnnw yn gofyn am fwy na chapasiti ychwanegol mewn ysbytai. Mae gwydnwch y gaeaf yn dibynnu ar gael gwasanaethau sylfaenol, cymunedol a gofal cymdeithasol cryf, gweithredu'n gyflym pan fydd pobl yn mynd yn sâl, llif effeithiol drwy ysbytai a chefnogaeth amserol i bobl wella adref.
Dydy'r camau rydyn ni'n eu cymryd y gaeaf hwn ddim ar wahân i'n huchelgeisiau ehangach ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Maen nhw'n arwydd cynnar o’r cyfeiriad sy’n cael ei nodi drwy 'cyflawni iechyd gyda'n gilydd', ein huchelgais hirdymor i wella canlyniadau, lleihau anghydraddoldebau a sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu, yr hyn sydd wrth galon ein huchelgeisiau ydy newid i ganolbwyntio mwy ar atal, ymyrraeth gynharach a gofal mwy cydgysylltiedig. Allwn ni ddim cwrdd â'r galw yn y dyfodol drwy ofal mewn ysbytai yn unig. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gadw pobl yn iach, cefnogi annibyniaeth, ymyrryd yn gynharach pan fydd anghenion yn codi a darparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol. Er mwyn cyflawni'r uchelgais honno, bydd angen inni weithio gyda phartneriaid ar draws y sector iechyd, y sector gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach. Yn y tymor byr, mae hyn yn golygu adfer gafael lle bo angen, gwella perfformiad a chryfhau atebolrwydd.
Ar yr un pryd, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein gweithlu, ein gwasanaethau, ein seilwaith digidol a’n hystadau mewn sefyllfa i allu cwrdd â heriau’r dyfodol. Yn fwy na dim, mae’n rhaid inni fynd ar drywydd y newidiadau hirdymor sydd eu hangen i wella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldeb a symud ein ffocws tuag at atal, ymyrraeth gynnar a gofal yn agosach at y cartref.
Lywydd, dwi am gloi drwy ddiolch i’r holl staff mewn ysbytai, gwasanaethau ambiwlans, gofal sylfaenol, timau cymunedol, awdurdodau lleol, cartrefi gofal a sefydliadau gwirfoddol sydd eisoes yn paratoi ar gyfer y misoedd i ddod. Mae eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad nhw yn anhygoel. Maen nhw'n haeddu cynlluniau sy'n gredadwy, penderfyniadau sy'n amserol ac arweinyddiaeth sy'n glir. Bydd y Llywodraeth hon yn darparu'r arweinyddiaeth gryf a rhagweithiol honno. Mi fyddwn ni'n sicrhau goruchwyliaeth genedlaethol drylwyr, yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ac yn gweithio efo partneriaid i fynd i'r afael â risgiau a chynnal gwelliant. Mi fyddwn ni'n barnu llwyddiant nid yn ôl ansawdd y cynlluniau ar bapur, ond yn ôl yr hyn y mae pobl yn ei brofi: gofal mwy diogel a chyflymach, llai o oedi y gellir ei osgoi, gwell gefnogaeth gartref a gwasanaethau sy'n parhau i fod yn wydn pan fydd pwysau'n cynyddu.
Nid dim ond mynd drwy'r gaeaf ydy ein huchelgais ni. Ein huchelgais ni ydy adeiladu system iechyd a gofal sy'n wydn, yn rhagweld pwysau, yn gweithredu'n gynt, yn gweithio fel un ac yn cryfhau gyda phob tymor. Diolch.
Symudwn nawr at gyfraniadau a chwestiynau un funud. Mae gennyf lawer o Aelodau sydd am siarad.
Rydym ni'n dechrau gyda Elyn Stephens.
Yn olaf, James Evans.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Datganiad nawr gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, addasu i'r hinsawdd a gwydnwch yn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper.
Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad am ba mor wydn yw rhwydwaith trafnidiaeth Cymru a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'n partneriaid i baratoi ar gyfer newid hinsawdd. Mae lleihau allyriadau carbon yn parhau i fod yn bwysig iawn i ni. Ond, yn ogystal â hynny, mae angen i ni baratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd, sydd eisoes yn cael eu teimlo gan gymunedau ledled Cymru. Mae pobl yn disgwyl i wasanaethau trafnidiaeth fod ar gael pan fydd eu hangen. Dyna pam mae gwneud yn siŵr bod ein rhwydwaith yn ddibynadwy ac yn gallu ymdopi â digwyddiadau eithafol yn gyfrifoldeb pwysig iawn.
Ddirprwy Weinidog.