Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/09/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso i sesiwn Cyfarfod Llawn dydd Mercher. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Cwestiwn 1, David Mills.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi gwledig ym Mrycheiniog Tawe Nedd? OQ64579
Diolch am y cwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi pecyn o bron i £5 miliwn i gefnogi'r rhai sy'n dioddef tlodi ac i adeiladu gwydnwch ariannol hirdymor ar draws ein cymunedau. Sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd y rhai mwyaf bregus, yn enwedig mewn rhannau gwledig o'n hetholaeth ni, Brycheiniog Tawe Nedd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn atodol yna, yn benodol am Frycheiniog Tawe Nedd—mae'n etholaeth, wrth gwrs, dwi'n ei rhannu. Ond, fel y dywedais i, rŷn ni fel Llywodraeth yn hollol benderfynol bod y cymorth rŷn ni'n gallu ei ddarparu, a'r gefnogaeth rŷn ni'n gallu ei darparu, yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen, gan gynnwys yr aelwydydd hynny sy'n wynebu heriau ychwanegol a chostau ychwanegol sy'n ymwneud â bod yn rhan o ardal wledig, fel y gwnes i osod mas yn fy ateb yn gynharach. Rŷn ni'n credu bod awdurdodau lleol gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth orau o ran sut i gefnogi'r cymunedau hynny. Felly, rŷn ni wedi rhoi i'r awdurdodau lleol yna ganllawiau i fynd gyda'r cyllid y gwnaeth yr Aelod gyfeirio ato fe, i sicrhau bod y cyllid yna yn mynd at y rhai sydd ei angen fwyaf, ond hefyd bod gyda nhw ddisgresiwn i ddefnyddio'r cyllid yna ar gyfer y prosiectau a'r cynlluniau fyddai'n cael yr effaith fwyaf. Byddwn ni'n gweithio'n agos nawr gyda'n partneriaid ni i sicrhau ein bod ni'n edrych ar sut y mae'r cyllid yna yn cael effaith, pwy fydd yn cael eu cyrraedd, pa mor effeithiol fydd e, fel roeddwn i'n dweud, gyda'r system brofi a dysgu yna, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.
2. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant newydd 20 awr, gyda'i gilydd, yn ddigon hyblyg i gefnogi bywydau gwaith teuluoedd? OQ64565
Diolch am y cwestiwn. Mae'n rhaid i'r gofal plant sy'n cael ei ariannu fod yn hyblyg i deuluoedd ac yn realistig hefyd i ddarparwyr. Felly, rŷn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr cofrestredig i ehangu'r ddarpariaeth mewn ffordd gynaliadwy. Bydd symud tuag at 20 awr yr wythnos yn caniatáu sesiynau hirach, mwy hyblyg er mwyn cefnogi rhieni i weithio, hyfforddi neu gynyddu eu horiau.
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Dwi'n meddwl eich bod chi wedi rhoi eich bys ar y peth yna, Mike. Hynny yw, rŷn ni wedi cael llythyron gan etholwyr—ac mae e'n dod o bob rhan—ac mae nifer fawr o Aelodau yn y Siambr yn pwysleisio'r pwynt yma, yn croesawu nod y Llywodraeth o ehangu'r ddarpariaeth a sicrhau tegwch, fel ein bod ni'n gallu cyrraedd y plant hynny a'r teuluoedd hynny sydd ar hyn o bryd ddim yn cael eu cyrraedd gan y model presennol. Rŷn ni hefyd yn gwybod bod y model yn un cymhleth a bod pobl weithiau yn colli mas ar gefnogaeth, ond hefyd rhai eraill ddim yn gallu mynd at y gefnogaeth hynny oherwydd y model daearyddol. Rwy'n falch iawn, yn Abertawe, fod y sir eisoes wedi cyflwyno cam cyntaf y gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob plentyn dwy flwydd oed, 12.5 awr, ac felly fe fyddwn ni nawr yn symud at y cam nesaf yna o ddarparu mwy o oriau yr wythnos, gan hefyd sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar yr ymyriadau hynod o bwysig a gwerthfawr yna i'r teuluoedd sydd fwyaf mewn angen.
Diolch yn fawr, a dwi'n cydnabod hefyd yr ymgyrchu mae'r Aelod wedi'i wneud ar y cwestiwn o ran argaeledd a chost gofal plant, ac effaith hynny nid yn unig ar deuluoedd mewn tlodi, ond hefyd o ran anghydraddoldeb rhywedd sy'n effeithio'n bennaf, wrth gwrs, ar fenywod.
Felly, fe wnaethoch chi sôn yn fanna am ddadansoddiad Sefydliad Bevan ynglŷn â'r model newydd a ddylai fod, neu'r model gorau a all fod, ar gyfer darparu gofal plant i bawb mewn ffordd sydd yn deg ac yn cyrraedd y nod. Dwi'n cytuno gyda hynny—bod yna heriau ac mae yna benderfyniadau pwysig sydd angen eu gwneud—ond hefyd fod yna, fel y mae Sefydliad Bevan wedi tanlinellu, gyfle nawr i wneud pethau'n wahanol ac yn well. Dwi'n cytuno bod y system ar hyn o bryd yn rhy gymhleth ac yn rhy gostus, felly hyn sydd wrth waelod ein rhaglen ni ar gyfer datblygu ac ehangu a gwneud yn siŵr bod y system sydd gyda ni yn esblygu er gwell.
Felly, dwi'n meddwl, o ran yr amserlen, y byddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi sôn am gymryd proses gam wrth gam. Mae hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwneud hyn mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn cymryd i ystyriaeth anghenion rhieni a darparwyr. Felly, fe fyddaf i yn gallu rhoi—. Rŷn ni wedi gweld cynnydd gwych ar hyn o bryd, fel gwnaeth yr Aelod sôn. Fe fyddwn ni'n gallu dweud erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma—felly, llai na blwyddyn o oes y Llywodraeth yma—y bydd pob plentyn dwy flywydd oed yn gallu cael cynnig o ofal plant ble bynnag maen nhw'n byw o 12.5 awr, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd yn nes ymlaen y tymor hwn, siŵr o fod ar ddechrau Rhagfyr, ynglŷn â beth fydd y camau nesaf.
Galwaf y nawr ar lefarywyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cristiana Emsley.
Llefarydd Llafur Cymru, Lynne Neagle.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar gyflwyno cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ym Mhowys? OQ64599
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Gan ddefnyddio'r cyllid ychwanegol y gwnaethon ni ei gyhoeddi yn gynharach eleni, rwyf wrth fy modd bod Powys yn gallu cyflwyno cam cyntaf y cynnig gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth o 12.5 awr o ofal o ansawdd i bob plentyn dwy oed o fis Ionawr 2027.
Diolch yn fawr am y diweddariad positif yna. Mae gwastad yn bryder yn y canolbarth fod pob dim yn mynd i'r ardaloedd trefol neu ddinesig. Byddai cael sicrwydd, felly, bydd ein hardaloedd gwledig yr un mor gymwys ac yn elwa o'r datblygiad pwysig yma ym maes gofal plant yn cael ei werthfawrogi. Diolch yn fawr.
Diolch. Ie, mae gofal plant hyblyg yn hanfodol, dwi'n meddwl, er mwyn cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, a hynny ar draws Cymru ac ar draws pob ardal, er mwyn galluogi rhieni, fel roeddwn i'n sôn, i fanteisio ar fwy o gyfleoedd i weithio, i astudio, neu gynyddu eu horiau nhw, ac, wrth gwrs, er mwyn rhoi'r dechrau gorau hefyd i bob plentyn. Felly, rŷn ni'n datblygu'r cynnig gofal plant yna, a'r flaenoriaeth, fel roeddwn i'n sôn, oedd cynnig y 12.5 awr yma i bob plentyn ar draws Cymru—ac mae Powys yn dangos eu bod nhw'n mynd i fod yn gwneud cynnydd ar hynny yn fuan iawn, felly, dwi wrth fy modd. Ac mae disgwyl i'r system geisiadau yna agor i bob teulu ym Mhowys erbyn diwedd Tachwedd.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith cau swyddfa bost Caerffili? OQ64598
Mae gwasanaethau swyddfeydd post yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi cymunedau. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, wedi'u cadw'n ôl o fewn cylch cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac mae'r Llywodraeth honno wedi datgan mai ei nod yw cadw cymaint o ganghennau a gwasanaethau â phosibl.
Diolch, Lindsay, am y cwestiwn. Yn gyntaf oll, rwy'n moyn cydnabod y pryder pan fo cymuned yn colli gwasanaethau. Dwi'n gwybod bod nifer ohonom ni wedi gweld hyn yn ein cymunedau dros y blynyddoedd, ar y stryd fawr o ran banciau yn benodol, ac, yn yr un modd, weithiau, pan fo gwasanaeth post yn dod i ben.
Rwy'n cydnabod yn llwyr y gofidiau yma. Dwi'n siŵr, eto, eu bod nhw'n gyfarwydd i ni i gyd. Mae'r gwasanaethau yn rhai hanfodol iawn i'n cymunedau ni, yn enwedig i bobl sydd, efallai, ddim yn medru defnyddio, neu does yna ddim argaeledd, trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen, er mwyn mynd i'r dref nesaf. Maen nhw'n rhan bwysig o'n canol trefi a'n strydoedd mawr, a dyna yw safbwynt y Llywodraeth, yn sicr.
Wrth gwrs, eto, dyw materion sy'n ymwneud â swyddfeydd post ddim wedi eu datganoli i Weinidogion Cymru. Fel y soniais i yn yr ateb cynharach, mae ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i swyddfeydd post yn cynnwys cynlluniau i gadw maint y rhwydwaith fel y mae, ac mae hynny'n golygu chwilio wedyn am fusnesau newydd i gynnig y gwasanaeth pan fydd swyddfeydd post unigol yn cau. Ond mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i leoli swyddfeydd post yng nghanol trefi, lle y bo'n bosibl. Achos, fel roeddwn i'n dweud, dwi'n cytuno—rŷn ni'n gwybod, onid ydyn ni, fod presenoldeb swyddfa bost yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â stryd fawr, yn ogystal, wrth gwrs, â darparu'r gwasanaethau hanfodol yna.
Mae ein rhaglen lywodraethu ni yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r opsiynau yna i adfywio canol ein trefi, felly, wrth gwrs yn gysylltiedig â'n gwaith ni o ran y tasglu canol trefi rŷn ni wedi ei sefydlu. Felly, dwi'n siŵr y byddai sicrhau bod swyddfeydd post yn gallu bod yn rhan o strydoedd mawr bywiog yn gallu bod yn rhan o'r gwaith yna.
5. Beth mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau gwledig unigryw sy'n gysylltiedig â thlodi plant yng Ngheredigion Penfro? OQ64603
Rŷn ni'n cydnabod bod teuluoedd mewn ardaloedd gwledig yn gallu wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys mynediad mwy cyfyngedig at gyflogaeth, gwasanaethau a thrafnidiaeth, ynghyd â chostau uwch. Dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddeddfu ar gyfer prawfesur gwledig, er mwyn helpu i sicrhau canlyniadau gwell i blant sy'n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod defnyddio'r enghraifft yna y gwnaethoch chi ddefnyddio fanna o ran Aberporth, rhywle dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi ymweld ag e—lle hyfryd, lle mor bert, ond mae yna rywbeth cudd, yntefe? Ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod tlodi gwledig yn aml yn llai gweladwy na thlodi sydd yn ein trefi a'n dinasoedd ni, ond dyw e ddim yn llai real. Rŷn ni'n benderfynol fel Llywodraeth o sicrhau bod plant a theuluoedd mewn cymunedau gwledig yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dylai pob plentyn yng Nghymru, lle bynnag maen nhw'n byw, gael yr un cyfle i lwyddo. Felly, rŷn ni eisiau sicrhau bod ein hymrwymiad o ran ein polisïau yn arddangos hynny, a'n bod ni'n cymryd hynny i ystyriaeth ym mhopeth rŷn ni'n ei wneud. Felly, rŷn ni'n cydnabod bod llawer o deuluoedd yn wynebu heriau penodol, fel rydw i wedi sôn yn gynharach, o ran enillion is a chostau teithio ac ynni uwch, ac yn y blaen, ac mae'n anodd hefyd weithiau cael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth maen nhw eu hangen.
Felly, dyna pam rŷn ni wedi sicrhau y cymorth yma i deuluoedd ledled Cymru yn ein pecyn cymorth trechu tlodi, sydd yn werth bron £5 miliwn, sy'n cynnwys y cymorth penodol yna i gymunedau gwledig a chanolfannau, fel yr oedd yr Aelod yn sôn amdanynt, i gynllunio a helpu'r rhai sy'n wynebu'r pwysau ariannol mwyaf.
A'r cwestiwn olaf, cwestiwn 6, Carrie Harper.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant? OQ64596
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog.
Symudwn ymlaen i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Cwestiwn 1, Natasha Asghar.
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu mannau gwyrdd cymunedol yng Nghasnewydd ac Islwyn? OQ64574
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni am effaith peilonau ar gymunedau gwledig? OQ64568
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Laura Anne Jones.
Llefarydd Llafur Cymru, Vikki Howells.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ffynonellau dŵr daear, y gallai datblygiadau mawr effeithio arnynt, yn cael eu diogelu a'u monitro'n briodol? OQ64604
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ffermydd teuluol ym Mrycheiniog Tawe Nedd rhag y pwysau ariannol ac amgylcheddol cynyddol sy'n wynebu amaethyddiaeth? OQ64577
5. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd tuag at gyrraedd targedau natur a bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru? OQ64581
6. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gynaliadwyedd niferoedd da byw yng Nghymru? OQ64573
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwydnwch gwledig yng Nghasnewydd Islwyn? OQ64590
Diolch yn fawr am yr ateb yna, a dwi'n falch eich bod chi yn gwneud yr holl waith yna hefyd.
A'r cwestiwn olaf i chi, Weinidog, cwestiwn 8. Adrian Mason.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag unigrwydd cymdeithasol mewn cymunedau ffermio yng Nghlwyd? OQ64571
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i eitem 3, cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn heddiw. Yn gyntaf, Huw Thomas.
1. A wnaiff y Gweinidog y Cabinet ddatganiad am y colledion swyddi arfaethedig yn Admiral a Legal and General? TQ1493
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Yr ail gwestiwn amserol heddiw gan Sera Evans.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd cynnydd sylweddol mewn prisiau tanwydd? TQ1502
Yn olaf, Janet Finch-Saunders
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i eitem 4, datganiadau 90 eiliad. Laura Anne Jones.
Yr wythnos diwethaf, cofnodwyd 100 mlynedd ers agor y Stiwt, neu Blas y Mwynwyr, yn Rhosllanerchrugog. Adeiladwyd y Stiwt gan y gymuned i'r gymuned. Rhwng 1924 a 1926, rhoddwyd ceiniog o bob tunnell o lo o’r pyllau lleol tuag at adeiladu'r theatr. Codwyd bron i £18,000, swm anferthol ar y pryd. Parhaodd y glowyr i gyfrannu, gan roi 2c o’u cyflogau wythnosol tuag at y cynnal a chadw. Agorwyd y Stiwt ym 1926, yr un flwyddyn â’r streic gyffredinol. Yng nghanol caledi enfawr ac ansicrwydd, gwnaeth glowyr y Rhos rywbeth anhygoel: lle ar gyfer adloniant, addysg, y gymuned a bywyd diwylliannol Cymreig. Ers cenedlaethau, mae wedi bod yn fynediad at y celfyddydau. Fel y dywedodd Mark Lewis Jones yr wythnos diwethaf, 'Fe ddechreuodd o i gyd yn y Stiwt'.
Pan gaeodd y Stiwt ym 1977, gallai’r cyfan wedi dod i ben, ond wnaeth y gymuned ddim caniatáu hynny. Ar ôl ymgyrch penderfynol a £2.1 miliwn o’r gronfa loteri treftadaeth, ailagorwyd y Stiwt ym 1999. Mae ein dyled yn fawr i bawb a ymgyrchodd i’w arbed. Nos Wener, cawsom noson anhygoel yn y Stiwt yn dathlu'r canmlwyddiant yng nghwmni talent rhyfeddol ar y llwyfan. Hefyd, roedd yn fraint y llynedd i gwrdd ag Emyr Prys Jones, crëwr ffenestr liw hyfryd y Stiwt, teyrnged pwerus i dreftadaeth ddiwydiannol y Rhos. Felly, efo’r Stiwt yn dathlu 100 mlynedd, gadewch i ni ddathlu nid yn unig yr adeilad ond y gymuned a’i adeiladodd, a'i achubodd, ac sy’n parhau i roi bywyd iddo.
Diolch yn fawr iawn.
Symudaf ymlaen i gynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Oni bai bod unrhyw wrthwynebiadau, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, cynigiaf fod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio at ddibenion dadl a phleidleisio. A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad.
Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9309 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Donna Cushing (Plaid Cymru) yn lle Lis McLean (Plaid Cymru) fel aelod o'r Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Cynnig NNDM9310 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Cooper-Lesadd (Plaid Cymru) yn lle Kiera Marshall (Plaid Cymru) fel aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth.
Cynnig NNDM9311 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lyn Ackerman (Plaid Cymru) yn lle Donna Cushing (Plaid Cymru) fel aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
Cynigiwyd y cynigion.
Dwi'n gwneud y cynigion yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr iawn.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudaf ymlaen i eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), tir halogedig. Galwaf ar Niamh Salkeld i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9302 Niamh Salkeld
Cefnogwyd gan Alun Cox, Andrew Griffin, Anthony Slaughter, Art Wright, Becca Martin, Elwyn Vaughan, Elyn Stephens, Jayne Bryant, John Davies, Kiera Marshall, Lis McLean, Lyn Ackerman, Matthew Jones, Paul Rock, Peredur Owen Griffiths, Sarah Cooper-Lesadd, Sera Evans, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y gwaddol o dir a allai fod wedi’i halogi a adawyd gan orffennol diwydiannol Cymru, a all beri risgiau difrifol i iechyd pobl, iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd ehangach;
b) bod llawer o’r tir hwn wedi’i halogi o ganlyniad i weithgarwch diwydiannol hanesyddol, a bod y baich o reoli atebolrwydd yn aml yn disgyn ar gymunedau lleol ac awdurdodau cyhoeddus;
c) nad oes darlun cenedlaethol clir na chyson o dir a allai fod wedi’i halogi ledled Cymru;
d) y pryder a'r ansicrwydd hirdymor y mae cymunedau sy’n byw ger y safleoedd hyn yn aml yn eu hwynebu;
e) pwysigrwydd yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ o ran sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn cyfrannu at gostau adfer y tir.
2. Yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill i nodi tir halogedig, ymchwilio iddo a’i adfer.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod costau adfer yn cael eu talu gan y rhai sy’n gyfrifol am lygru;
b) galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno mecanwaith cyllido penodol i gefnogi’r gwaith o ymchwilio i dir halogedig a’i adfer, pan na ellir adennill y costau gan y rhai sy’n gyfrifol;
c) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer profi ac asesu tir a allai fod wedi’i halogi, gan roi blaenoriaeth i’r safleoedd sy’n peri’r risgiau mwyaf;
d) cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol.
Cynigiwyd y cynnig.
Ac yn olaf, Art Wright.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch, yn y lle cyntaf, i Niamh Salkeld am ddod â'r ddadl yma i'r Senedd, gyda chefnogaeth Elwyn Vaughan, ac am y gwaith rŷch chi wedi'i wneud, ond hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a'r drafodaeth yma heddiw? Dwi'n gwybod bod yna lawer iawn o gymunedau ledled Cymru yn pryderu'n fawr iawn yn dilyn y rhaglen Buried ar y BBC ac yn edrych atom ni am atebion. Ac nid PCBs yw'r unig bryder, fel rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs. Dwi'n ymwybodol bod yna gymunedau sy'n poeni am gemegau eraill, er enghraifft y PFOAs ac yn y blaen, a rhai eraill eto sydd yn destun gofid i nifer.
Felly, dwi eisiau dechrau drwy roi sicrwydd i Aelodau bod y Llywodraeth yma wedi ymrwymo i sicrhau tegwch gwirioneddol i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio arnyn nhw fwyaf gan ein gorffennol diwydiannol ni. Achos, ledled Cymru, mae llawer gormod o gymunedau yn parhau i fyw gyda'r etifeddiaeth honno—un sydd yn difetha ac yn difrodi yr amgylchedd y maen nhw'n byw ynddo fe. O hen fwyngloddiau brig a thomenni glo anniogel i safleoedd gwastraff hanesyddol, mae'r safleoedd hyn nid yn unig yn peri risg posib i bobl a'r amgylchedd, ond hefyd, wrth gwrs, yn atal adfywio a thwf economaidd ar yr un pryd.
Nawr, er mae lleihau unrhyw niwed posib yw fy mhrif flaenoriaeth i, wrth gwrs, dwi yn gweld cyfleoedd hefyd. Gall delio â'r safleoedd hyn fod angen technegau adfer newydd ac arloesol. Gall hyn alw am ymchwil newydd, gweithgynhyrchu, cyfleoedd creu swyddi sydd â sgiliau penodol hefyd. Ddylen ni ddim gweld hyn i gyd fel rhyw rwystr disymud; dwi'n awyddus i archwilio pob opsiwn i symud ymlaen ar y mater cymhleth yma, a hynny ar fwy nag un lefel.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet. Galwaf ar Niamh Salkeld i ymateb i'r ddadl.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Symudwn at eitem 6, dadl Reform UK ar y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Galwaf ar Jason O'Connell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9304 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Cristiana Emsley, John Clark
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya.
Cynigiwyd y cynnig.
Sarah Cooper-Lesadd. O, mae'n ddrwg gen i. Sori. Arhoswch am funud.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Heledd Fychan. Weinidog.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod nifer y gwrthdrawiadau a’r anafusion wedi lleihau ar ffyrdd 20 mya a 30 mya yng Nghymru ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya dair blynedd yn ôl.
2. Yn cydnabod cynnydd awdurdodau lleol ledled Cymru o ran newid rhai terfynau cyflymder yn ôl i 30 mya, lle y bo’n briodol, yn dilyn gwaith ymgysylltu â chymunedau.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn. Ac yn awr, Sarah Cooper-Lesadd.
Dwi’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma, ac yn diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Mae’n safbwynt ni ar 20 mya yn glir. Fe wnaethon ni sefyll ar addewid i gael gwared ar y polisi diofyn a mynd yn ôl at derfynau cyflymder sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Dyna yw ein safbwynt ni o hyd. Ni fyddwn ni’n ymddiheuro am sefyll dros synnwyr cyffredin ac arbed arian cyhoeddus.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan Aelodau prynhawn yma. Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud nad yw diogelwch ar y ffyrdd yn fater pleidiol i sgorio pwyntiau gwleidyddol arno.
Mae pob marwolaeth ar y ffyrdd yn drasiedi. Gall pob anaf difrifol newid bywyd am byth, gan effeithio nid yn unig ar yr unigolyn, ond hefyd ar y teulu, ffrindiau a'r gymuned.
Galwaf ar Llŷr Powell i ymateb i'r ddadl.
Ken Skates a gododd—
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: y sector amddiffyn. Galwaf ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Cynnig NDM9305 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi amcangyfrif Llywodraeth Cymru bod sector amddiffyn ac awyrofod Cymru gyda'i gilydd yn cyflogi 16,000 o bobl yn uniongyrchol, fod ganddo drosiant o £3.7 biliwn, ac yn cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru.
2. Yn cydnabod:
a) y cyfraniad sylweddol parhaus y mae'r sector amddiffyn yn ei wneud i Gymru;
b) pwysigrwydd sector amddiffyn ffyniannus ar adeg o ansicrwydd geowleidyddol; ac
c) bod gan Gymru hanes balch o gyfrannu at amddiffyn y Deyrnas Unedig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector amddiffyn drwy:
a) cyhoeddi strategaeth ddiwydiannol amddiffyn Cymru sy'n nodi sut i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd, diwydiannol a sgiliau sy'n deillio o fwy o wariant amddiffyn y DU yng Nghymru;
b) cydweithio â darparwyr addysg bellach ac uwch i ehangu argaeledd prentisiaethau, addysg dechnegol a llwybrau graddedigion yn seiliedig ar anghenion y sector amddiffyn; ac
c) gweithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio cyfleoedd i gryfhau buddsoddiad yn y sector amddiffyn yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i gynnig, yn ffurfiol, gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r amcangyfrif diweddaraf o'r diwydiant sy’n dangos bod sectorau awyrofod, amddiffyn a gofod Cymru, ar y cyd, yn cyflogi’n uniongyrchol 18,500 o bobl, fod trosiant o £5 biliwn a bod y sectorau hyn yn cyfrannu oddeutu £2 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros at economi Cymru.
2. Yn cydnabod cyfraniad y sector amddiffyn o ran twf cynhyrchiant, swyddi, sgiliau ac arloesi yng Nghymru.
3. Yn cefnogi datblygiad fframwaith buddsoddi moesegol mewn amddiffyn.
4. Yn croesawu’r ffaith y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydsefyll rhyngwladol, parch at hawliau dynol a dilyn cyfraith ryngwladol yn sail i’r fframwaith.
5. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â diwydiant, undebau llafur, y mudiad heddwch a rhanddeiliaid eraill wrth i’r fframwaith gael ei ddatblygu a’i adolygu dros amser.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol, Llywydd.