Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/07/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Prynhawn da. Cwestiynau nawr i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams. Cwestiwn 1, Helen Jenner.

Gofal Plant

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o a oes gan Gymru ddigon o gapasiti gofal plant ar hyn o bryd i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar? OQ64324

Member
Sioned Williams 13:30:22
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch. Bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynnig gofal plant sy'n trawsnewid y sefyllfa i bob teulu. Mae gwaith ar y gweill i adolygu capasiti'r sector ac i gynllunio'n fanwl y staff a fydd yn ofynnol wrth edrych i'r dyfodol. Dwi'n gweithio'n agos gyda grŵp llywio arbenigol a'n tasglu gofal plant i bennu camau pendant ar gyfer y cynnig gofal plant newydd.

Diolch yn fawr. Wel, rŷch chi wedi adnabod fanna fod angen i ni wneud y gwaith yma fesul cam, a dyna beth rŷn ni wedi bod yn glir amdano fe ers y dechrau. Rŷch chi'n hollol iawn i danlinellu na wnaeth yr ymrwymiad a wnaeth y Llywodraeth ddiwethaf i roi llefydd gofal plant trwy'r model Dechrau'n Deg i bob plentyn dwyflwydd oed am 12.5 awr yr wythnos, dyw hynny ddim wedi cael ei gyflawni. Beth mae'r arian yn y gyllideb atodol yn mynd i'w ganiatáu yw cwblhau y cam yna. Dyna'r cam cyntaf wrth i ni adeiladu at ein huchelgais ni o ddarparu 20 awr o ofal plant i bob plentyn yng Nghymru o naw mis hyd bedair blwydd oed. Dyma'r cam pwysig cyntaf. Gan fod y gwaith yma wedi dechrau'n barod, mae'r arian sydd yn y gyllideb yn mynd i'n helpu ni i gyrraedd y targed o gyflawni hynny'n llawn, ac wedyn, wrth gwrs, ymestyn ac adeiladu ar ben hynny.

13:35

Diolch, Weinidog. Byddwn i'n dweud bod ehangu mynediad at ofal plant yn uchelgais y byddai pawb yn ei chroesawu. Yn sicr, mae darpariaeth o ansawdd uchel yn gwella outcomes i blant, yn helpu i daclo anhafaleddau ac mae'n cefnogi rhieni, ac yn enwedig menywod, i un ai aros neu ddychwelyd i'r gweithlu. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod llwyddiant yr uchelgais yma yn dibynnu ar y gweithlu i'w gyflawni. Mae darparwyr yn barod wedi codi consýrn am yr heriau o amgylch recriwtio a chadw sgiliau o fewn y gweithlu.

Diolch yn fawr. Diolch am y cwestiwn. Mae'r gweithlu, fel dwi wedi dweud eisoes, yn gwbl ganolog i'r cynlluniau yma sydd gyda ni ar gyfer gofal plant. Mae ehangu gofal plant a'r ddarpariaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd yn hollol ddibynnol ar y capasiti yna, ar y sgiliau a'r gefnogaeth sydd mewn lle er mwyn delifro'r ddarpariaeth ansawdd uchel yna rydyn ni'n gwybod y mae ein plant ni yn ei haeddu. Felly, rydyn ni ar hyn o bryd yn darparu ystod eang o gefnogaeth ar gyfer recriwtio, ar gyfer cadw gweithwyr gofal plant o fewn y gweithlu, gan gynnwys cyllid ar gyfer y cymwysterau sydd eu hangen ac ar gyfer hyfforddiant mandadol. Ond, oherwydd fy mod i'n moyn ehangu ar beth sydd gyda ni, dwi eisiau rhoi mwy o fri ar y proffesiwn yma, ar y proffesiynau gofalu sydd wedi cael eu tanbrisio drwyddi draw, dwi'n meddwl, gan gymdeithas. Rydyn ni wrthi yn edrych ar beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gallu galluogi ein gweithlu drwy, er enghraifft, wneud cymwysterau yn fwy hyblyg. Ond, fe fydd ein cynllun ni—. Yr hyn rydyn ni'n ei drafod gyda'r grŵp arbenigol ar hyn o bryd, fel rydyn ni'n dweud, sy'n gwbl ganolog i'r cynllun, yw ein bod ni'n mynd i adeiladu ar yr hyn sydd gyda ni'n barod, gyda'r ffocws clir yna, fodd bynnag, ar gynyddu y gweithlu ond hefyd eu cefnogi.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, am y cwestiwn. Dwi'n cytuno'n llwyr gyda'ch dadansoddiad chi o ran y pwys, neu'r diffyg pwys, y mae rhai pleidiau yn y Siambr hon wedi'i roi ar y polisi cwbl ganolog, cwbl trawsnewidiol yma. Felly, dwi'n rhannu'ch dadansoddiad chi fanna. A dwi'n cytuno hefyd fod hwn yn rhywbeth tymor hir. Fel roeddwn i'n sôn, mae'r tirlun yn un cymhleth. Fe wnaethoch chi sôn nid yn unig am fforddiadwyedd, ond hefyd am bwysigrwydd medru cael mynediad at hyn, ac fe wnaeth Sarah Rees hefyd gyfeirio at hyn—y cymhlethdodau sydd yna o geisio ffeindio eich ffordd rhwng yr holl systemau a'r dulliau gwahanol o fynd at ofal plant. Ond dwi'n gwbl, gwbl argyhoeddedig y gallwn ni gyflawni gwelliant a rhywbeth trawsnewidiol i deuluoedd a phlant Cymru yn fan hyn. Ac o ran eich pwynt diwethaf chi o ran rhannu hynny, fel rôn i'n sôn, rŷch chi'n un o'r bobl sydd wedi ymgyrchu am well ofal plant ac am bwysigrwydd gofal plant, felly byddwn i'n falch iawn o fedru rhannu'r datganiad yna gyda chi o flaen llaw.

13:40
Taliad Cynnal i Blant

2. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y taliad Cynnal i blant? OQ64335

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Gan weithio i gyflawni un o ymrwymiadau ein 100 diwrnod cyntaf, dwi wedi sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi'r gwaith o gynllunio, gweithredu, monitro a gwerthuso cynllun peilot Cynnal. Mae'r grŵp yn tynnu ynghyd arbenigedd o bob rhan o'r sector i sicrhau bod y cynllun yn ymateb i dystiolaeth ac yn cael ei werthuso mewn ffordd gadarn ac yn seiliedig ar realiti bywydau teuluoedd.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol. Mae cyfarfod cyntaf y grŵp arbenigol y gwnes i sôn amdano fe yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf, a dwi'n gwybod bydd hwn yn un o'r pethau y byddwn ni'n ei drafod. Yn y grŵp arbenigol yna, mae gennym academyddion a gweithwyr proffesiynol rheng flaen a fydd yn deall yn iawn y cymhlethdodau hyn o ran y ffaith bod lles heb ei ddatganoli, a'n bod ni'n methu, fel gwnaethoch chi sôn, gwneud y penderfyniadau yna er lles ein pobl ein hunain o ran y gefnogaeth hanfodol yna sy'n galluogi teuluoedd i fyw gyda pharch ac urddas. Felly, bydd hwn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod yr wythnos nesaf.

Ond hefyd, wrth gwrs, rŷn ni wedi sicrhau ein bod ni wedi dechrau'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i archwilio'r berthynas yna rhwng y taliad a threthi a budd-daliadau. Dwi eisoes wedi dechrau trafod hyn gydag Andrew Western AS, y Gweinidog dros Drawsnewid, ac mae yna gyfarfodydd pellach yn y dyddiadur. Ond, fel dwi'n dweud, mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n gwybod sydd yn mynd i fod yn rhywbeth dŷn ni angen edrych arno'n fanwl ac, wrth gwrs, i hefyd ddwyn y pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud y peth iawn o ran plant Cymru.

13:45

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Tasg a gwaith y grŵp arbenigol fydd gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynllunio’r taliad yma yn ofalus. Peilot yw e, felly fydd e ddim yn cyrraedd pob teulu sydd mewn angen yng Nghymru, achos dyna natur y peilot, yn amlwg. Bydd y grŵp yma yn chwarae rôl hanfodol wrth i ni lunio’r cynllun peilot yma, i wneud yn siŵr ei fod e’n effeithiol, i wneud yn siŵr ei fod e’n ymarferol, a’n bod ni yn gallu dangos yr effaith a’r canlyniadau i deuluoedd yn glir. Fe fydd sicrhau ein bod ni’n deall beth fydd y broses werthuso yn rhan gwbl ganolog a hanfodol o’r gwaith yna. Fe fydd hynny yn cael ei gyhoeddi, achos dyna fwriad cynnal peilot. Mae angen i unrhyw gynllun peilot, o’i hanfod, ddangos ei fod e’n gweithio neu beidio. Felly, mae angen i ni gynllunio’r gwaith yma yn ofalus, meddwl sut y gallwn ni asesu sut gall y taliad plant yma gefnogi teuluoedd yn y ffordd orau, ac adeiladu, wedyn, y sylfaen gref yna o dystiolaeth gadarn er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch camau i’r dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Sarah Cooper-Lesadd.

13:50
13:55

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.

14:00
Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol

3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol? OQ64345

Mae oedolion sy'n 'groom-io' plant a phobl ifanc er mwyn eu camdrin yn rhywiol yn achosi niwed a phoen pellgyrhaeddol i'r unigolion hynny, gan gynnwys niweidio eu gallu i ymddiried, eu hachosi i feio eu hunain, effeithio eu hiechyd meddwl ac achosi trafferthion wrth adnabod ffiniau iach. Mae'n drosedd sy'n dwyn plentyndod a glaslencyndod, ac yn aros efo dioddefwyr a goroeswyr ar hyd eu hoes.

Mae'n hollbwysig ein bod yn arfogi ein plant a'n pobl ifanc i adnabod arwyddion y 'groom-io', a grymuso y rhai sydd yn gweithio efo plant a phobl ifanc i'w adnabod ac i adrodd amdano yn syth a gyda hyder. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant, pobl ifanc a'r gweithlu o'u cwmpas i adnabod a galw allan arwyddion o 'groom-io' gan oedolion?

14:05

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Eto, mae'n gwestiwn pwysig iawn yn dilyn lan o gwestiwn Shav Taj. Un o'r gwersi mwyaf clir, dwi'n meddwl, y gallwn ni ei chymryd o'r adolygiadau diweddar sydd wedi bod yw bod yn rhaid i ni ddod yn well o ran adnabod ymddygiadau sy'n gallu peri niwed, ymddygiadau fel 'groom-io', a gwneud hynny yn gynt, a’n bod ni'n gallu creu amgylchedd lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod wedi’u hymgrymuso i fedru siarad allan a siarad lan pan nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn. 

Felly, dŷn ni'n gweithredu mewn dwy ffordd yn syth. Hynny yw, yn gyntaf, trwy'r cwricwlwm ar RSE. Wrth gwrs, mae hyn ym mhortffolio'r Gweinidog dros addysg, ond rŷn ni'n moyn, drwy hynny, gefnogi plant a phobl ifanc i ddeall perthnasau sydd ddim yn rhai iach, i adnabod ymddygiad sydd ddim yn briodol, i fedru hefyd, yn gwbl bwysig, herio pan mae ymddiriedaeth yn cael ei chamddefnyddio a'i thanseilio, a sicrhau hefyd, wrth gwrs, lle maen nhw'n gallu dod o hyd i gymorth.

Mae lleoliadau addysg yn un o'r llefydd cyntaf lle mae’r math yna o bryderon yn gallu dod yn weladwy. Felly, mae e'n hollol, hollol ac yn gwbl hanfodol bwysig fod dysgwyr yn cael eu harfogi a'u hymgrymuso gyda'r wybodaeth a'r hyder er mwyn gwybod, os ydyn nhw yn siarad mas, i adnabod yr arwyddion, a hefyd siarad allan a gwybod y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw ac y bydd yna weithredu yn sgil hynny.

14:10
Cymorth i Oroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt? OQ64342

Tlodi Plant

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu tlodi plant yn Fflint Wrecsam? OQ64320

Diolch yn fawr iawn. Rŷn ni wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol gwerth £55 miliwn mewn gofal plant, gyda Wrecsam ymhlith yr ardaloedd cyntaf i ymestyn darpariaeth gofal plant sy'n cael ei ariannu i bob plentyn dyflwydd oed. Ond rŷn ni hefyd yn datblygu taliad plant Cynnal a strategaeth tlodi plant newydd, gyda thargedau clir, mesuradwy i wella canlyniadau i blant a theuluoedd.

Diolch, Weinidog Cabinet. Fel dŷch chi wedi'i ddweud, mae Wrecsam wedi ymuno â chynghorau Abertawe, Casnewydd a Merthyr Tudful i ehangu'r cynnig gofal plant i bob plentyn dyflwydd oed yn dilyn y buddsoddiad o £55 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae bron 8,000 o blant yn Wrecsam yn byw mewn tlodi, ac yn amlwg bydd y roll-out yma'n help garw i rieni'r ardal, a dwi'n falch bod y Llywodraeth yma yn mynd i'r afael â'r broblem ar frys. Dyma'r gwahaniaeth mae Llywodraeth Plaid Cymru yn medru ei wneud. Felly, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar effaith y cynnig gofal plant ar leddfu tlodi?

14:15

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Mae hwn yn bolisi cymhleth, fel dwi wedi sôn y prynhawn yma a throeon o'r blaen yn y Siambr ac ar gyfweliadau, ond mae buddsoddi mewn gofal plant yn arwain at enillion ar draws yr economi. Mae fe'n lleihau pwysau ar gyllidebau teuluoedd, mae e'n helpu teuluoedd i dynnu eu hunain allan o dlodi drwy fedru manteisio ar gyfleon gwaith a hyfforddiant, ac, wrth gwrs, mae e'n helpu taclo effeithiau tlodi hefyd o ran datblygiad plant.

Dŷn ni'n gwybod bod y costau ar hyn o bryd yn gallu atal rhieni rhag gweithio, ac mae lleihau costau a symud i gyflogaeth yn ddwy elfen bwysig iawn o ran y gwaith i helpu taclo tlodi. Felly, mae gofal plant sy'n cael ei ariannu yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd drwy leihau eu costau, fel roeddwn i'n sôn. Mae effaith y rhaglen gofal plant sy'n cael ei ariannu yn mynd i gael ei monitro a'i gwerthuso'n fanwl drwy gydol y cyfnod ehangu er mwyn i ni helpu deall y canlyniadau ac effeithiau tymor hirach. Ac fe fydd nifer ohonyn nhw yn effeithiau tymor hirach. Dyna pam mae e'n rhywbeth eithaf dewr i'w wneud yn wleidyddol, achos rŷn ni'n gwybod efallai na welwn ni effeithiau hyn, fydd yn ymestyn dros gyfnod oes plentyn, ond dŷn ni'n gwybod o'r ymchwil dŷn ni wedi ei weld yn rhyngwladol ei fod e'n rhywbeth sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar effeithiau tlodi plant.

Yn olaf ar y cwestiynau yma, cwestiwn 6—Jason O'Connell.

Diogelwch Cymunedol

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi diogelwch cymunedol ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64356

Rŷn ni'n cydnabod y gall atal ac ymyrryd yn gynnar stopio troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf. Felly, rŷn ni'n gweithio'n agos gyda phlismona yng Nghymru, awdurdodau lleol, partneriaid trydydd sector ac eraill i sicrhau bod pob cymuned ledled Cymru yn teimlo'n ddiogel.

Diolch yn fawr. Wel, mae'r maniffesto y gwnaethon ni ei gael—.

Mae'r maniffesto y cawsom ni ein hethol arno'n cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi ymyrraeth gynnar cyn bod problemau yn dechrau yn ein cymunedau ni, hefyd cyfiawnder adferol a strategaethau dargyfeirio i ostwng lefelau troseddu a gwneud cymunedau yn fwy diogel. Wrth gwrs, dyw plismona ddim wedi ei ddatganoli; rŷn ni'n trio cael lot o sgyrsiau ynglŷn â hynny ar hyn o bryd fel ein bod ni'n medru gwasanaethau ein cymunedau, fel eich etholaeth chi, o ran hynny, achos dyw'r grymoedd yna ddim gyda ni ar hyn o bryd, yn wahanol i nifer o ddinasoedd yn Lloegr a chenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol. Ond dwi yn cadeirio y bwrdd partneriaeth plismona, ac fe wnes i hynny'n ddiweddar, ddiwedd y mis diwethaf, lle rwy'n gweld fy hunain y gwaith partneriaeth gryf yna sydd rhwng Llywodraeth Cymru, plismona yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae ein maniffesto ni hefyd, wrth gwrs, yn cadarnhau ein hymrwymiad ni i gynnal cefnogaeth i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Mae hwn yn fuddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn niogelwch cymunedau Cymru. Mae e'n dangos hefyd i ni, fel Llywodraeth, fod plismona cymunedol yn bwysig iawn i ni, er, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud, mae cyfiawnder troseddol a phlismona yn fater sydd wedi cadw yn ôl ar hyn o bryd.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Eitem 2 nawr, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd. Cwestiynau i Llyr Gruffydd. Cwestiwn 1—Huw Thomas.

Newid Hinsawdd

1. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yng Nghaerdydd Penarth i addasu i newid yn yr hinsawdd? OQ64334

Member
Llyr Gruffydd 14:19:54
Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rŷn ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i gefnogi cymunedau ar draws Cymru i addasu i'r newid yn yr hinsawdd ac i leihau effeithiau tywydd garw. Rŷn ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu hinsawdd a natur newydd ac uchelgeisiol a fydd, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar gyflawni ac yn adlewyrchu'r realiti mae pobl yn ei wynebu ledled Cymru.

14:20
14:25
Effaith Amgylcheddol Peilonau

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ynglŷn ag effaith amgylcheddol peilonau yn Sir Gaerfyrddin? OQ64323

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Laura Anne Jones.

14:30
14:35
14:40

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diogelwch a Chyweirio Tipiau Glo

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch a chyweirio tipiau glo? OQ64349

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rŷn ni wrth gwrs wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chanlyniadau ein gorffennol diwydiannol ac i sicrhau cyfiawnder i'r cymunedau meysydd glo yma yng Nghymru. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid wedi codi hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys mis diwethaf, dwi'n meddwl oedd y sgwrs a gafwyd. Ddylai Cymru ddim bod yn cario'r baich yma ar ein pennau ein hunain ac rŷn ni wrth gwrs wedi ymrwymo i sicrhau y bydd buddsoddiad yn dod er mwyn cadw ein cymunedau ni'n ddiogel.

14:45

Diolch. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, roedd cefnogaeth gref ar draws pleidiau i Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025, ac rwy’n falch y bydd yr awdurdod tomenni nas defnyddir newydd yn cael ei leoli ym Merthyr Tudful, gan greu 60 o swyddi yn fy etholaeth i. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi buddsoddi mwy na £100 miliwn yr un i sicrhau diogelwch tomenni glo, mae’n amlwg bod pryderon bod hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag etifeddiaeth y diwydiant glo yma yng Nghymru. Felly, a yw’r Gweinidog Cabinet yn cytuno nad yw’r gwaith adfer sydd wedi ei addo gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd yn ddigonol i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r Cymoedd yn eu hwynebu o dan gysgod hanes y diwydiant glo?

Ydw, a dwi eisiau diolch i’r Aelod am y gwaith y mae hi’n ei wneud i geisio cyfiawnder i’r cymunedau o dan sylw. Mae yna lawer iawn o waith i'w wneud. Mae hon yn her hirdymor. Mae’r heriau cyllidol, wrth gwrs, yn sylweddol, ac rŷn ni yn mynd i fod yn pwyso, fel roeddwn i’n dweud, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i chwarae eu rhan nhw. Ni ddylai Cymru fod yn cario’r baich yma ar ein pen ein hunain, fel roeddwn i’n dweud, ac mae yna waith i’w wneud i sicrhau, y tu hwnt i’r ymrwymiadau rŷn ni wedi’u derbyn hyd yn hyn, y bydd yna gyllid yn dod. Oherwydd, er cymaint rŷn ni wedi’i dderbyn—ac, wrth gwrs, rŷn ni’n ddiolchgar am yr arian yna ac, wrth gwrs, yn cydnabod y cyfraniad y mae Llywodraeth Cymru ei hunan yn ei roi i’r gwaith yma—mae yna lawer iawn mwy i’w wneud, ac mi gymeriff hi ddegawdau, dwi’n meddwl, i ni gyflawni’r gwaith yn llwyr. A dwi’n siŵr, tra byddwn ni’n gwneud y gwaith, y bydd yr Aelod yn parhau i fod yn codi’r cwestiynau yma.

14:50
Atal Llifogydd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llifogydd? OQ64358

14:55
Safleoedd Tirlenwi

5. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoleiddio safleoedd tirlenwi? OQ64322

Strategaeth Fwyd

6. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i gyflawni strategaeth fwyd Cymru? OQ64336

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn. Dwi wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau bod yna ryw fath o joined-up approach gyda ni pan fo hi'n dod i ddatblygu strategaeth fwyd genedlaethol ar gyfer y dyfodol. Mae fy swyddogion yn edrych ar sgôp ac approach strategol y gwaith yma. Dwi'n ymgysylltu, wrth gwrs, â rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys yr undebau amaeth a busnesau. Dwi wedi cael cyfarfod hefyd efo comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol er mwyn dechrau siapio’r gwaith yma a'i ddatblygu ymhellach. Mi fydd yna grŵp gweithredu gweinidogol yn cael ei greu, a gobeithio y byddwn ni’n cyhoeddi pwy fydd yn arwain y gwaith ac yn cadeirio'r gwaith yma cyn bo hir.

15:00
Bioamrywiaeth, Rheoli Bywyd Gwyllt a Gwydnwch Gwledig

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei pholisïau ar fioamrywiaeth, rheoli bywyd gwyllt a gwydnwch gwledig yn cael eu llywio gan brofiad ymarferol o reoli tir a thystiolaeth wyddonol? OQ64328

Bwyd Dros Ben

8. Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i gefnogi cynhyrchwyr bwyd i roi cynnyrch dros ben i fanciau bwyd ac elusennau? OQ64341

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. 

4. Datganiadau 90 eiliad

Symudaf ymlaen i ddatganiadau 90 eiliad. Natasha Asghar. 

15:10

Dwi am rannu gyda chi heddiw stori am ffrind annwyl i fi, Jamie Bevan, sydd ar hyn o bryd yn cerdded yr holl ffordd o Ferthyr Tudful i Istanbul—tua diwrnod 90, dwi'n meddwl, yw hi—siwrne o 3,000 o filltiroedd dros 11 o wledydd yn cynnwys Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, Awstria, Hwngari, Serbia a Bwlgaria, a fydd yn cymryd pedwar i bum mis.

Pam ydy e'n ei wneud e? Dwi'n siŵr bod yna sawl rheswm personol pam mae e am wneud hwn, ond mae e wedi dewis cyfrannu at ei gymuned trwy godi arian i gylch meithrin y Gurnos wrth wneud hwn. Mae e'n barod wedi codi dros £10,000 tuag at ddatblygu'r Gymraeg ym Merthyr Tudful. Mae'r cylch meithrin wedi'i leoli yn y Gurnos, un o'r llefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i blant gael mynediad at addysg Gymraeg mewn ardal fyddai byth wedi cael y cyfle yna o'r blaen. Mae e'n gwneud gwaith ffantastig.

Roeddwn i jest eisiau dweud diolch i Jamie am ei waith aruthrol dros y Gymraeg yn ein cymuned ni, am ei ymroddiad i Ganolfan Soar—roedd e wedi rili adeiladu hynny gyda fi—a hefyd, yn fwy pwysig na hynny, am ei gyfeillgarwch a'i gariad dros y blynyddoedd. Rydym wedi wynebu sawl her ar hyd y blynyddoedd o ran y Gymraeg a'n cymdeithas. Dwi am ei longyfarch ar beth mae e'n ei wneud, a diolch iddo fe, a dymuno pob hwyl iddo fe ar weddill ei daith.

Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn i chi. 

5. Dadl Deddfwriaethol Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Bil ar rianta corfforaethol

Eitem 5, dadl ddeddfwriaethol Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), Bil ar rianta corfforaethol. Galwaf ar Sarah Cooper-Lesadd i'w wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9260 Sarah Cooper-Lesadd [R]

Cefnogwyd gan Laura Anne Jones, Nigel Williams, Steve Bayliss, Benjamin Hodge Mckenna, Joshua Kim, Dan Thomas, Carmelo Colasanto, Art Wright, David Hughes, John Clark, Iain McIntosh, David Mills, Claire Archibald, Paul Marr, Tom Montgomery, Cristiana Emsley, Andrew Griffin, Mair Rowlands

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar rianta corfforaethol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai cryfhau ac ehangu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol yng Nghymru, gan gynnwys:

a) estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ffurfiol y tu hwnt i awdurdodau lleol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, byrddau iechyd ac asiantaethau sy'n gweithredu yng Nghymru, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan adlewyrchu'r dull a gymerwyd yn Neddf Lles Plant ac Ysgolion 2026 yn Lloegr;

b) gosod dyletswydd statudol ar y cyrff hynny i fod yn wyliadwrus o effeithiau andwyol ar lesiant plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal a gweithredu i liniaru'r effeithiau hynny; ac

c) sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru yn elwa o amddiffyniadau rhianta corfforaethol sydd o leiaf yr un mor gryf â'r rhai sydd ar gael mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, o ystyried bod estyn rhianta corfforaethol yng Nghymru yn ehangach yn dibynnu ar hyn o bryd ar siarter wirfoddol yn hytrach na dyletswydd statudol.

Cynigiwyd y cynnig.

15:20

Os caf i ddiolch yn fawr iawn, i ddechrau, i Sarah Cooper-Lesadd am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw yma.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ymhlith y mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae llawer ohonynt wedi profi caledi sylweddol, trawma ac ansefydlogrwydd cyn iddynt hyd yn oed gyrraedd oedolaeth. I ormod ohonynt, nid yw'r heriau hynny'n bodoli ar wahân i'w gilydd. Yn aml, mae eu profiadau'n groestoriadol, wedi'u llywio gan ffactorau megis tlodi, anabledd, anghenion iechyd meddwl, ethnigrwydd, hunaniaeth ac amgylchiadau eraill a all greu rhwystrau ychwanegol drwy gydol eu bywydau.

15:25
15:30

Diolch. Ac yn olaf, Jane Dodds.

15:35

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.

Member
Delyth Jewell 15:36:21
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health

Mae ein siarter corfforaethol yn ymwreiddio rhianta corfforaethol ar sylfaen llawer ehangach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Dim canolbwyntio'n syml ar gyrff y sector cyhoeddus ydym ni, rydym ni hefyd yn meithrin partneriaethau â'r sector preifat a'r trydydd sector i adlewyrchu'r ffordd mae cymdeithas yn gweithio, oherwydd mae Cymru yn genedl o gymunedau. Mae'r siarter wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal—so, dŷn ni eisiau gweithio, yn amlwg, gyda'r grwpiau hynny hefyd. Mae pob egwyddor yn cyd-fynd ag erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Hyd yn hyn, mae dros 70 o sefydliadau wedi llofnodi'r siarter, gan gynnwys pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd.

Nawr, ydy, mae llofnodi'r siarter yn wirfoddol, ac mae'n rhaid i ni edrych ar hyn. Ond mae gofyn hefyd i bob sefydliad sydd yn llofnodi i wneud adduned sy'n nodi'r hyn y bydden nhw'n ei gynnig. Gyda'r cafeat y mae Lynne wedi'i gyflwyno yn gynharach, mae yna rai enghreifftiau sydd wir yn rhagorol; dwi eisiau rhannu rhai o'r rheini. Mae gan Gyngor Caerdydd strategaeth rhianta corfforaethol sy'n canolbwyntio ar bum blaenoriaeth. Maen nhw wedi cynnal digwyddiad yn ddiweddar ar rianta corfforaethol yn benodol i ddangos y gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae Premier Forest Products—y cwmni sector preifat cyntaf i lofnodi—yn cefnogi unigolion trwy leoliadau gwaith sy'n cynnig cefnogaeth gan fentoriaid a chymorth addysgol i symud ymlaen yn llwyddiannus i fyd gwaith. Ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud adduned i ddarparu tîm iechyd sy'n benodol ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Maen nhw hefyd wedi addunedu i gyflwyno rhaglen bontio a fydd yn cyflawni dull strategol sy'n ystyriol o drawma. Mae profiad gwaith a phrentisiaethau yn cael eu cynnig ganddyn nhw ac maen nhw'n gwarantu y bydd plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosesau i ddewis ymgeiswyr.

15:40

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Galwaf ar Sarah Cooper-Lesadd i ymateb i'r ddadl.

15:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau offthalmoleg

Eitem 6 ar yr agenda heddiw, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau offthalmoleg. Galwaf ar Gwyn Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9244 Gwyn Williams [R], Jane Dodds, Safa Elhassan

Cefnogwyd gan Janet Finch-Saunders, Carrie Harper, Sera Evans, Natasha Asghar, Marc Jones, Lindsay Whittle, Alun Cox, John Davies, Anthony Slaughter, Mair Rowlands, Vikki Howells, Peredur Owen Griffiths, Zaynub Akbar, Niamh Salkeld, Joshua Kim, Lis McLean, Sara Crowley, Matthew Jones, Leticia Gonzalez, Huw Thomas, Art Wright, Elyn Stephens, Elfed Williams, Kiera Marshall, Sarah Cooper-Lesadd, John Clark, David Mills, Rebeca Phillips, Nick Carter, Shav Taj, Anna Nicholl, Becca Martin, Cristiana Emsley, Beca Brown, Steven Rodaway

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod rhestrau aros offthalmig yng Nghymru yn hir iawn, gydag un o bob wyth o gyfanswm y cleifion sy'n aros am apwyntiadau'r GIG yng Nghymru yn aros yn benodol am apwyntiadau gofal llygaid.

2. Yn nodi bod ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2026 yn argymell camau ar unwaith i leihau achosion o golli golwg anadferadwy.

3. Yn nodi y rhagwelir y bydd y galw yn cynyddu tra bod gan Gymru ar hyn o bryd 1.97 offthalmolegydd ymgynghorol fesul 100,000 o'r boblogaeth, sef y ffigur isaf yn y Deyrnas Unedig.

4. Yn cydnabod bod dyblygu diangen ar draws strwythurau byrddau iechyd gwahanol yng Nghymru, sy'n arwain at lefelau gofal anghyson i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu cynlluniau ar gyfer sefydlu canolfannau llawfeddygol a all ddod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer arbenigeddau fel opthalmoleg i ddelio ag aros hir am driniaethau;

b) gweithredu argymhellion y pwyllgor ar symleiddio a safoni gwasanaethau ar ofal llygaid ledled Cymru er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael cysondeb o ran lefel a mynediad at ofal; ac

c) ystyried creu bwrdd iechyd Cymru gyfan yn benodol ar gyfer offthalmoleg sy'n cwmpasu gofal sylfaenol ac eilaidd er mwyn cyflawni'r nodau uchod.

Cynigiwyd y cynnig.

15:55

Diolch yn fawr iawn ichi, Gwyn. Dyma un o'r rhesymau y mae pobl yn gwneud gwaith cyn iddyn nhw ddod i fyd gwleidyddiaeth, achos mae'n bwysig iawn ein bod ni'n clywed y profiad rydych chi wedi dod ag ef atom ni.

16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
16:25
16:30

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y Senedd ddiwethaf, roeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhaliodd yr ymchwiliad i offthalmoleg, ac mi glywais i’n uniongyrchol am yr heriau mae gormod o bobl yn eu profi. Mi wnaeth yr adroddiad 17 o argymhellion, a’r rheini’n ymwneud â llywodraethant, gweithredu, y gweithlu, trawsnewid digidol, diogelwch cleifion, data, cyflenwi gwasanaethau a seilwaith. Roedd yn cydnabod bod y strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer offthalmoleg yn gosod y cyfeiriad cywir ond nad oedd y gwaith gweithredu na chyflymder y trawsnewid yn ddigonol. Dwi’n benderfynol o newid hyn. 

Dwi’n cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau offthalmoleg, ac mae’r amseroedd aros sydd wedi’u hetifeddu oddi wrth y weinyddiaeth flaenorol yn llawer rhy hir. Mae lleihau arosiadau yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth hon yn syth. Dwi eisiau cydnabod y staff ymroddedig sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn—rhai ohonyn nhw y tu ôl i fi. Dydy’r angen i gryfhau capasiti'r gweithlu ddim wedi cael y sylw mae'n ei haeddu. Mae'r galw am wasanaethau gofal llygaid yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros y degawd nesaf wrth i'n poblogaeth heneiddio, a bydd hynny’n ei gwneud yn gynyddol anodd i ddarparu mynediad amserol i wasanaethau arbenigol os byddwn ni’n parhau i wneud pethau yn yr un ffordd. 

Mae yna agwedd ataliol i hyn hefyd, gan fod cyfnodau hir o aros am driniaeth gofal llygaid yn gallu cynyddu costau a gwaethygu cyflyrau, fel y clywsom ni gan Sara Crowley. Ar ddiwedd mis Mai, roedd llwybrau offthalmoleg yn cyfrif am 11 y cant o'r holl lwybrau agored, gyda bron i 150 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae hynny’n ormod o bobl yn aros yn rhy hir, a dwi’n benderfynol o leihau'r niferoedd hyn. Yn ein cynllun 100 diwrnod, rydyn ni wedi ymrwymo i adolygu perfformiad yr NHS, gan gynnwys yr effaith mae aros hir yn ei gael ar gleifion.

Mae mwy na 2,000 o episodau gofal bob mis yn cael eu rheoli gan optometryddion rhagnodi annibynnol yn y gymuned, sy’n lleihau galw diangen ar wasanaethau ysbyty a meddygon teulu. Ond mae'n rhaid inni fynd yn bellach. Mae dyfodol gofal llygaid yn gofyn am fwy nag ehangu gwasanaethau ysbyty yn unig. Mae'n golygu creu system integredig, lle mae optometreg ac offthalmoleg yn gweithio efo’i gilydd i ddarparu'r gofal cywir, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. Ond tra bod yna wella sylweddol wedi bod mewn optometreg, rhaid rŵan weld yr un cynnydd a'r un pwyslais ar y gallu offthalmoleg.

Mae'r Aelod yn sôn am y posibilrwydd o ddatblygu bwrdd iechyd Cymru gyfan ar gyfer offthalmoleg, a dwi’n deall pam ac yn cytuno bod achos cryf dros leihau cymhlethdod biwrocrataidd a sefydliadol fel mae’n cael ei adlewyrchu ar draws ein hagenda bolisi. Dwi’n cydnabod rhwystredigaeth lwyr yr Aelod. Mae gormod o lithro wedi bod, ac mae'r methiant yma i weithredu'r strategaeth yn arwain at awydd i weld newidiadau cyflym. Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth honno, a dwi wedi ymrwymo i'r gwaith gweithredu. Felly, gadewch i ni weld y gwaith hwnnw cyn ystyried unrhyw beth arall.

Un genedl ydyn ni, un NHS, a dwi'n benderfynol o leihau amrywiadau ac anghysondebau rhanbarthol diangen. Fy mlaenoriaeth i yn syth ydy sicrhau bod sefydliadau presennol yr NHS yng Nghymru yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd i gyflawni'r strategaeth genedlaethol a gwella canlyniadau.

Dwi'n croesawu'r diddordeb trawsbleidiol yn y mater yma ac yn bwriadu parhau i drafod gydag Aelodau. Dwi eisiau sicrhau bod y gwaith gweithredu yn symud ymlaen yn gyflym a'n bod ni'n cynnal trosolwg clir o'r cynnydd. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at ofal o ansawdd da. Roedd adroddiad y pwyllgor yn herio'r Llywodraeth i symud y tu hwnt i gydnabod y broblem a chanolbwyntio ar sicrhau'r datrysiad; dwi'n rhannu'r uchelgais honno. Mae'r weledigaeth gennym ni, rydym ni'n deall yr her ac yn gwybod beth sydd angen ei newid. Rhaid i gam nesaf y gwaith yma rŵan ganolbwyntio ar weithredu ac ar sicrhau gwelliannau mesuradwy i gleifion ledled Cymru. Bydd y Llywodraeth yn atal eu pleidlais, felly, gan ganolbwyntio'n ddiflino ar weithredu y strategaeth genedlaethol a thorri i lawr y ffiniau rhwng y byrddau iechyd, a dwi'n hapus i weithio gyda'r sawl sydd wedi cyflwyno'r cynnig a llefarwyr y gwrthbleidiau er mwyn monitro'r strategaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Galwaf ar Gwyn Williams i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr iawn, Weinidog, hefyd.

Diolch i'r Aelod. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Reform UK: Y sector twristiaeth

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Ymlaen i eitem 7, dadl Reform UK, y sector twristiaeth. Galwaf ar Louise Emery i wneud y cynnig. Diolch.

Cynnig NDM9284 Llŷr Powell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad hanfodol y sector twristiaeth i economi Cymru, gan gefnogi dros 150,000 o swyddi yn uniongyrchol a chyfrannu at 5 y cant o werth ychwanegol gros Cymru.

2. Yn dathlu Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf, sy'n croesawu ymwelwyr o bedwar ban y byd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector twristiaeth drwy:

a) dileu'r dreth dwristiaeth; a

b) gostwng y trothwy defnydd 182 diwrnod ar gyfer busnesau hunanarlwyo.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

16:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Helen Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru i’r sector twristiaeth drwy’r canlynol:

a) hyrwyddo’r ardoll ymwelwyr fel dewis i awdurdodau lleol a all alluogi buddsoddiad newydd mewn twristiaeth leol; a

b) cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i barhau i adolygu’r trothwy meddiannaeth 182 diwrnod ar gyfer busnesau hunanddarpar a chreu eithriadau clir a rhesymol lle na fyddai eiddo yn gymwys i gael ei drin fel cartref preifat.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Adam Price 16:53:01
Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Yn ffurfiol.

16:55
17:00
17:05
17:10
17:15
17:20

Dwi ddim am amlhau geiriau, byddwch chi'n falch o glywed. Y gwir ydy fod trethi twristiaeth yn normal ar draws y byd, gan gynnwys Amsterdam, Fenis, Barcelona, Paris, rhai o'r dinasoedd efo'r mwyaf o dwristiaeth yn y byd yma. Ac wrth gwrs, erbyn hyn, mae rhannau eang o Loegr hefyd efo'r dreth yma—ac yn yr Alban—gan gynnwys Lerpwl a Manceinion ar ein stepen drws. Nid yw'r dreth am gosbi'r sector twristiaeth, yn hytrach mae'n cynyddu incwm i lywodraeth leol i wella'n hardaloedd, i ailfuddsoddi, i wella adnoddau ymwelwyr yn yr ardal, gwella naws ein cyrchfannau twristiaeth ac felly twristiaeth gynaliadwy.

Rydyn ni fel plaid yn hir wedi deall a gwerthfawrogi pwysigrwydd twristiaeth i'n heconomi—gallaf i ddweud hynny fel un oedd â theulu yn y sector ei hunan—ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n medru dangos prydferthwch ein gwlad i bobl o ar draws y byd, ond rhaid i hyn hefyd fod yn fuddiol i'r rheini sydd yn derbyn y dwristiaeth a'n cymunedau. Un ffordd o wneud hyn yw treth twristiaeth. Beth sy'n bwysig i'w nodi, ar adeg pan fo nifer yn sôn am yr angen i ddatganoli grym i lywodraeth leol—mae hi i fyny i'n llywodraethau lleol i gyflwyno'r dreth, nid Llywodraeth Cymru. Os nad yw cyngor yn meddwl ei bod hi'n syniad da, nid oes yn rhaid iddynt ei gyflwyno, ond mae’n sicrhau bod ganddyn nhw'r pŵer i'w wneud, os dymunant, er mwyn eu helpu efo'r pwysau costau sydd arnyn nhw.

Mae'n rhaid i'r arian hwn gael ei ddefnyddio ar wella ein hisadeiledd er mwyn gwella profiad twristiaid—

Mae'n rhaid i'r arian hwn gael ei defnyddio i wella ein hisadeiledd—dyna ydy'r realiti—ac mae hwn yn fater o wella ein cynnig twristiaeth, ddim yn gosb i'r sector.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth o'r radd flaenaf, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod twristiaeth yn gweithio'n gynaliadwy i gymunedau Cymru, gan ddysgu gwersi o'n cefndryd Celtaidd yn Iwerddon a'r Alban, sy'n gwneud y mwyaf o'u cysylltiadau rhyngwladol. Ac yn yr un modd, gall Cymru efelychu'r llwyddiant hynny, a gwerthu Cymru fel lle arbennig, unigryw a diddorol, gan wneud defnydd o'r egwyddor o naws am le, gan ddefnyddio ein hiaith, diwylliant, bwyd a diod a'n hamgylchedd fel ffactorau unigryw, a thrwy hynny sicrhau bod y sector dwristiaeth nid yn unig yn gynaliadwy, ond bod egwyddorion cynaliadwyedd cymunedol yn greiddiol i'r sector hefyd. Diolch yn fawr.

Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig i fi siarad ar y pwnc yma, oherwydd, yn rhinwedd fy swydd ddiwethaf fel arweinydd Cyngor Caerdydd, un o'r penderfyniadau olaf i fi eu cymryd yn ffurfiol oedd y penderfyniad i gyflwyno visitor levy i'r brifddinas.

Lerpwl a Manceinion. Bydd y Siambr â diddordeb i ddeall mai cynlluniau gwirfoddol ydy'r systemau sydd yn gweithio yn fanna. Y cynghorau sir, cynghorau'r ddinas a busnesau lleoli sydd wedi cytuno gyda'i gilydd i gyflwyno'r mesurau yna. A dwi'n gwybod, o siarad gydag arweinwyr y cynghorau hynny, eu bod nhw'n genfigennus o'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol nawr yng Nghymru.

Lywydd, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i dreulio llawer o'm gwyliau dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru. O'n mynyddoedd hynafol ni i'n traethau godidog, o ddanteithion ein bwytai i unigrywedd ein hamgueddfeydd a'n canolfannau diwylliannol, mae gan Gymru gynnig sy'n gallu cystadlu â'r cyrchfannau gorau yn y byd. Gadewch inni fod yn hyderus yn y cynnig hwnnw. Ac yn hytrach na scaremongering a shroud waving i wneud pwyntiau gwleidyddol, gadewch inni hyrwyddo Cymru gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

17:25
17:30

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam  Price.

Member
Adam Price 17:30:18
Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch ar y dechrau i Llŷr Powell am gyflwyno'r ddadl hon a Louise Emery am agor ac am wneud hynny mewn ffordd gytbwys oedd yn cynnwys anghytundeb diffuant a chraffu, ond hefyd yn cynnig syniadau adeiladol, a dwi'n credu bod hynny bob amser yn adlewyrchu'n dda ar ein democratiaeth ni, ein bod ni'n cael y cyfuniad yna. A bydda i'n dychwelyd at rai o'r prif bwyntiau o anghytundeb rhyngom ni yng nghanol fy araith, ond hoffwn ymateb i rai o'r syniadau diddorol mae Louise wedi cynnig, ac yn sicr byddwn i yn barod iawn i edrych ar sut i gryfhau yr hyfforddiant lletygarwch sydd yn digwydd, a dysgu oddi wrth y Swistir yn hynny o beth, a'r cysylltiadau mae eisoes wedi adeiladu, hefyd y syniadau ynglŷn â'r pasys bws a hefyd y pasys Cadw. A dwi'n gwybod, o siarad gyda Louise, bod yna doreth o syniadau eraill gyda hi, ac rŷn ni'n barod iawn bob amser i edrych ar rheini yn adeiladol bob tro. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ar draws y Senedd.

Gadewch i mi droi yn gyntaf at yr uchelgais, economi ymwelwyr sy'n gweithio dros Gymru, dros ein cymunedau, dros y busnesau sy'n dibynnu arni a dros y bobl sy'n byw yn y llefydd y mae'r byd am ddod i'w gweld. Mae rhan gyntaf y cynnig yn galw arnom i gydnabod cyfraniad y sector a rwy'n gwneud hynny yn llawen ar ran y Llywodraeth. Mae tua un o bob wyth o weithwyr Cymru yn gweithio ym meysydd twristiaeth a lletygarwch, ac yn wahanol i sawl sector arall, mae'r gwaith hwnnw wedi ei wasgaru ar hyd a lled y wlad, yn cynnal incwm mewn cymunedau gwledig ac arfordirol, lle mae cyfleoedd eraill yn brin. Nid ffigurau mewn taenlen yw hynny; bywoliaethau ydyn nhw.

Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ail ran y cynnig: mae Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf ac mae hynny'n destun dathlu. Fe gawsom ni lwc ryfeddol, byw mewn gwlad o olygfeydd syfrdanol, arfordir godidog, anturiaethau awyr agored heb eu hail, bwyd a diod rhagorol a chroeso cynnes Cymreig. Ein gwaith ni yw gwneud y mwyaf o'r lwc hwnnw; dyna beth mae Croeso Cymru yn ei wneud yn cryfhau ein proffil rhyngwladol trwy weithgarwch yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a thu hwnt, gan ddod â gwarant ymwelwyr a'r manteision i bob rhan o Gymru.

'Croeso' yw'r gair cyntaf mae Cymru yn ei ddweud wrth y byd, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ei ddweud e bob tro o waelod calon. Diolch.

17:35

Galwaf yn awr ar Tom Montgomery i ymateb i'r ddadl.