Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/07/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb. Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Carrie Harper.
1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar gyfer cais Wrecsam i fod yn ddinas diwylliant? OQ64321
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol? OQ64330
Mae cyllideb atodol Llywodraeth Cymru yn sicrhau mwy o arian i awdurdodau lleol wella cyflwr eu hysgolion ac ehangu prydau ysgol am ddim—cyhoeddiad sydd wedi ei groesawu ar draws y Siambr. Mae hynny ar ben £110 miliwn a gafodd ei negodi gan Blaid Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn y gyllideb eleni. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi fod angen gweld aeddfedrwydd trawsbleidiol rŵan er mwyn pasio'r gyllideb atodol a datgloi'r arian ychwanegol hollbwysig yma i wasanaethau cyhoeddus?
Dwi'n sicr, Lywydd, yn cytuno efo'r Aelod ynglŷn â'r angen am sgyrsiau aeddfed o fewn y Senedd hon ynglŷn â dyfodol cyllido Cymru, a chyllido llywodraeth leol yn rhan o hynny, a chyllido gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Oes, mae yna ddyrannu arian wedi ei gyhoeddi sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y meysydd a gafodd eu crybwyll yn fanna, o ran cyflwr ysgolion a chinio ysgol am ddim, ac ati. Mae cyfyngiadau ariannol, wrth gwrs, yn dynn, a chyfyngedig ydy'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni drwy gyllideb atodol, wrth ddiffiniad. Ond, o weithio efo'n gilydd, dwi'n ffyddiog y gallwn ni gadw ffocws ar ddelifro ar gyfer pobl Cymru.
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Arweinydd Reform UK, Dan Thomas.
Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Cwestiwn, Darren.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu asiantaeth ddatblygu yng Nghymru? OQ64325
4. Pa drefniadau gofal iechyd trawsffiniol sydd gan Lywodraeth Cymru gyda darparwyr gwasanaethau iechyd yn Lloegr? OQ64365
Mae llawer yn sôn am faterion trawsffiniol ym Mhowys. Serch hynny, beth sydd ddim yn cael ei glywed yn aml ydy'r ffaith bod NHS Lloegr wedi codi ffioedd llawer uwch na ffioedd arferol y llynedd, ac yn uwch na chwyddiant, sef y lefel sydd fel rheol wedi ei warantu gan y Lywodraeth yma. Arweiniodd hynny at gost ychwanegol o £3.8 miliwn y llynedd, ac yn debygol o fod yn £4 miliwn eleni. Yn ychwanegol at hynny, mae ymddiriedolaeth Wye Valley wedi ei dynodi yn ardal wledig gan NHS Lloegr ac yn cael premiwm gwledig. Maent wedyn hefyd yn disgwyl i Bowys dalu premiwm iddynt, sy'n arwain at fil pellach o hyd at £13 miliwn hyd yn hyn. Dyma'r materion sy’n creu pwysau ychwanegol ar y bwrdd iechyd. Os yw Lloegr yn cynyddu cost gofal, dylai fod balance book adjustment gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i Lywodraeth Cymru i adlewyrchu’r impact ariannol ychwanegol, a thrwy hynny galluogi llif cleifion ar draws y ffin y ddwy ffordd, gan gydnabod bod rhannau o Loegr hefyd yn ddibynnol ar Gymru yn yr un modd â fel arall. A all y Llywodraeth wyntyllu'r materion hyn efo’r Gweinidogion yn San Steffan?
Mae'r Aelod yn gywir, wrth gwrs. Mae yna lawer o lif y ddwy ffordd. Os ydyn ni'n edrych ar ofal sylfaenol, mae yna 13,000 o bobl o Gymru wedi’u cofrestru efo GPs yn Lloegr, a bron i 21,000 o bobl o Loegr wedi’u cofrestru efo GPs yng Nghymru. Felly, mae hon yn berthynas sydd yn fuddiol i ni ar ddwy ochr y ffin.
Beth sy'n clymu'r cyfan at ei gilydd ac i fod i osod fframwaith sy'n gweithio ydy'r ffaith fod gennym ni ddatganiad o egwyddorion a gwerthoedd. Mae hwnnw i fod i sicrhau bod dim triniaeth yn gallu cael ei wrthod, dim triniaeth yn gallu cael ei oedi, oherwydd ansicrwydd neu ei bod hi ychydig bach yn annelwig pwy neu pha gorff sy'n gyfrifol am ariannu gofal iechyd.
Beth rydyn ni angen ei wneud, wrth gwrs, ydy sicrhau ein bod ni bob amser am wirio bod y gwerthoedd yna a'r egwyddorion yna yn cael eu cadw. Lle mae yna dystiolaeth nad ydyn nhw, dwi'n rhoi sicrwydd y byddai fy Ngweinidog iechyd i yn eiddgar iawn i fynd ar ôl hynny, fel dwi'n siŵr y byddai’r Gweinidog iechyd yn Lloegr.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllunio'r gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OQ64339
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu gwasanaethau canser ledled Cymru? OQ64338
7. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd y bydd graddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghaerdydd Ffynnon Taf yn cael cynnig gwaith yn y GIG? OQ64360
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer lles anifeiliaid? OQ64364
Mi ydyn ni am adeiladu ar y safonau uchel sydd gennym ni’n barod yng Nghymru. Yn ein maniffesto, mi wnaethon ni ymrwymo i ddatblygu cynllun iechyd a lles anifeiliaid sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Mi fyddwn ni’n gweithio efo rhanddeiliaid, partneriaid gweithredol, y diwydiant a’r trydydd sector wrth ddatblygu ein dull newydd ar gyfer Cymru.
Cwestiwn 9 [OQ64355], tynnwyd yn ôl. Felly, cwestiwn 10, Lindsay Whittle.
10. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni? OQ64353
Nawr, nesaf, eitem 2, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae'r newidiadau i fusnes yr wythnos hon wedi'u nodi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae'r datganiadau llafar ar ehangu busnesau a'r awdurdod datblygu newydd dros Gymru wedi'u cyfuno'n un datganiad ac wedi'u hymestyn i 60 munud. Ac fe ychwanegwyd datganiad ar flaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd menywod.
Mae busnes llawn drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf yn cael ei ddangos ar y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.
Mi fyddwn i'n gofyn—[Torri ar draws.] Mi fyddwn i'n gofyn i'r Aelod adlewyrchu ar y ffaith bod—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i—ydy'r Aelod eisiau clywed yr ateb? Ydy o'n iawn i fi ymateb? Diolch.
Yr hyn y byddwn i yn dweud ydy bod y gyllideb ddrafft wedi'i chyhoeddi'n llawn. Mae hi'n barod yna i gael ei chraffu. Yn amlwg, mae yna bwyllgor rŵan wedi'i sefydlu hefyd i fod yn craffu'n uniongyrchol ar hwn. Rydym ni'n gyfan gwbl dryloyw. Dyma'r ffordd rydym ni eisiau llywodraethu. Ac mae'r newid hwnnw i'w weld yn y ffordd rydym ni eisiau gweithio yn drawsbleidiol a bod yn agored. Mi ydym ni o ddifri ynglŷn â mynd i'r afael efo'r diffygion rydym ni wedi'u hetifeddu, yn anffodus. Mae hynny ar y record; mae o'n dryloyw. Ac, wrth gwrs, mi fydd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid wrthi yn cael ei chraffu yn benodol ar hyn gan y Pwyllgor Cyllid.
Diolch. Mi fyddwn i'n annog yr Aelod i edrych ar y datganiad blaenoriaethau wnaed gan y Gweinidog Cabinet eisoes, sydd yn amlinellu'r blaenoriaethau o ran hyn. Yn amlwg, fel rydych chi wedi nodi, mi fydd y gwaith hwnnw'n parhau a diweddariadau yn cael eu gwneud. Ond mi fyddwn i'n annog yr Aelod i edrych ar y datganiad blaenoriaethau yn y lle cyntaf.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwnnw. Dwi'n falch bod y Dirprwy Weinidog perthnasol yma yn clywed hynny. Mae o wedi mynegi ei fod o'n fodlon gwneud hynny, rhoi diweddariad. Yn sicr, dwi'n gobeithio y medrwn ni i gyd roi neges glir iawn hefyd i bobl sydd yn gwneud hyn ei fod o'n beryglus, ei fod o'n anghyfrifol. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi cael gwaith achos yn deillio o hyn hefyd. Felly, os cawn ni hefyd atgyfnerthu bod nifer o'r pethau yma yn anghyfreithlon eisoes, ac, fel mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei fynegi, mi fydd yna ddiweddariad i Aelodau.
Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. O ran y cyntaf, mi fyddwn i'n gofyn eich bod chi'n codi eich pryderon chi efo'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Yn amlwg, mae yna nifer o adolygiadau yn mynd rhagddynt ar y funud.
O ran yr ail fater, yn amlwg, mi gawsoch chi'r cyfle i godi hyn efo'r Prif Weinidog hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod yna nifer o achlysuron yn barod. Mae'r Gweinidog iechyd wedi amlinellu dros yr wythnosau diwethaf yma y pwysigrwydd bod gwasanaethau ledled Cymru yn gyson a bod y mynediad hwnnw'n gyson. Dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer sefydlu canolfan ddiagnostig cyflym newydd ym Mhowys. Yn amlwg, mae hwn yn fater byw o ran y bwrdd iechyd, ond, yn sicr, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi clywed yr ymrwymiad gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal o ran pwysigrwydd sicrhau gwasanaethau i bawb, lle bynnag y bônt yng Nghymru.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod hyn ar gael. Mae yna ddadl o ran y gyllideb atodol yr wythnos nesaf. Mae yna hefyd gyfle i'r Senedd graffu. Rydym ni'n bod yn gyfan gwbl agored am y sefyllfa rydym ni wedi ei hetifeddu. Mae yna ymrwymiadau wedi eu gwneud heb sicrhau bod y gyllideb ar eu cyfer nhw yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n wir yn y portffolio dwi wedi ei etifeddu, mae'n wir o ran bob Gweinidog. Dydy edrych ymlaen ddim wedi cael ei wneud yn ddigonol, ac mae'n sefyllfa llawer mwy heriol na'r hyn yr oeddwn i yn bersonol yn ei ddisgwyl o'r trafodaethau efo Mark Drakeford o ran rhai o'r pethau—ond, yn sicr, nid dyna'r sefyllfa rydym ni wedi ei hetifeddu. Rydych chi'n gwybod yn iawn, pan ydych chi mewn Llywodraeth, mae'r mynediad sydd gennych chi at wybodaeth yn wahanol iawn i'r hyn rydych chi'n ei gael mewn access talks neu fel gwrthblaid. Felly, mae'r tryloywder a'r gwaith yna'n mynd rhagddo. Mae gennym ni'r ddadl yr wythnos nesaf, ac rydym ni'n barod iawn i fod yn dryloyw gyda phawb o'r Senedd hon er mwyn i ni fynd ati i fynd i'r afael efo'r heriau gwirioneddol rydym ni wedi eu hetifeddu.
Wel, rydych chi'n ffodus iawn fod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yma yn y Siambr ac wedi clywed hynny. Mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n dilyn i fyny yn ysgrifenedig. Byddwn i'n annog unrhyw Aelod sy'n ymwybodol o le mae yna efallai broblemau o ran gwasanaethau, yn enwedig pan mae'n dod i ddigwyddiadau mawr, i wneud y Gweinidog yn ymwybodol. Mae yna waith wedi cael ei wneud i geisio sicrhau bod yna fwy o ddarpariaeth, yn enwedig er mwyn sicrhau hynny ar gyfer digwyddiadau mawr. Rydym ni wedi gweld hynny o ran digwyddiadau yng Nghaerdydd dros yr haf hwn. Ond, yn amlwg, os oes yna broblemau pellach—. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi clywed, ond byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai Aelodau yn ei wneud o'n ymwybodol drwy ysgrifennu ato fo hefyd.
Mi oedd yr Aelod wedi cael cyfle yn gynharach y prynhawn yma i ofyn cwestiwn cyffelyb iawn i'r Prif Weinidog a chlywed ymateb y Prif Weinidog. Os oes yna ystyriaethau pellach, mi fyddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog dros addysg. Yn amlwg, mae sicrhau bod mwy o athrawon ar gael wedi bod yn flaenoriaeth i ni. Mae yna nifer o bethau y mae'r aelod Cabinet dros addysg eisiau wedi amlinellu. Felly, os ydych chi'n sôn am y gweithlu, yn sicr, mi fyddwn i'n gofyn i chi fod yn cael y sgwrs yna'n benodol gyda hi, a gweddill yr Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal.
Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater eithriadol bwysig hwn? Dwi'n siŵr y byddwn ni i gyd, yn anffodus, yn adnabod pobl sydd wedi dioddef o lewcemia a hefyd yn ymwybodol o'r cyfathrebu sy'n dod gan etholwyr o ran y loteri cod post yna mae'r Aelod wedi cyfeirio ato fo. Mi fyddwch chi, dwi'n siŵr, yn ymwybodol o ymrwymiadau'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â sicrhau bod yna driniaeth gyfartal i bawb sy'n cael diagnosis o ganser. Mi fyddwn i'n gofyn i chi'n benodol, os gallech chi, ysgrifennu at y Gweinidog priodol ar ran eich etholwyr, a dwi'n siŵr y bydd diweddariad yn dod.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch, Drefnydd.
Statement by the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy: new development agency for Wales. I call on the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, Adam Price.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Pan sefais i yn y Siambr i amlinelli ein cenhadaeth economaidd newydd i gau'r bwlch cynhyrchiant, fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau nesaf ar gyfer sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd i Gymru. Lai na thair wythnos ers dechrau'r weinyddiaeth hon, fe wnaethon ni gyhoeddi'r nod economaidd mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ers dau ddegawd, sef haneru'r gwahaniaeth yng nghynhyrchiant Cymru a'r Deyrnas Unedig cyn pen 10 mlynedd. Os ydyn ni'n mynd i gyflawni'r nod hwnnw, mae angen newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym ni'n datblygu'r economi yng Nghymru. Bydd yr asiantaeth newydd sy'n cael ei chynnig yn sbardun allweddol er mwyn cyflawni'r newid hwnnw.
Mae gen i weledigaeth glir ar gyfer yr asiantaeth: bydd yn gwella cynhyrchiant yng Nghymru, yn creu swyddi gwell i bobl ac yn rhoi arian yn eu pocedi, gan godi safonau byw. Rwyf am i'r asiantaeth ganolbwyntio ar gadw perchnogaeth a gwerth economaidd yng Nghymru drwy ddarparu canolbwynt cenedlaethol amlwg i fusnesau sydd â'r uchelgais a'r potensial i ehangu. Rwyf am iddi roi cymorth, cyngor ac arweiniad i helpu'r busnesau hyn i ymdopi â'r sefyllfa ariannol, bod yn barod i dderbyn buddsoddiad a datgloi cyfleoedd iddynt dyfu. Bydd cefnogi mwy o gwmnïau o Gymru i dyfu ac ehangu i fod yn fusnesau gwydn, cynhyrchiol a chystadleuol yn allweddol.
Rydym yn falch o'r sylfaen gref o ficrofusnesau a chwmnïau mwy o faint sydd gan Gymru, ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau bach a chanolig yn eu hwynebu ers tro wrth ehangu. Y busnesau sy'n ehangu yw'r rhai sy'n arloesi, sy'n allforio, sy'n defnyddio ein sylfaen sgiliau yng Nghymru, ac sy'n manteisio ar yr ymchwil a datblygu a hybir yn ein prifysgolion. Ac maen nhw'n fusnesau sy'n gallu defnyddio cyllid gan fuddsoddwyr i wireddu eu gweledigaeth. Mentrau a ysgogir gan arloesedd yw'r rhain.
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i lunio'r asiantaeth eisoes yn bodoli mewn busnesau ledled Cymru ac yn y cysylltiadau cryf sydd gan Gymru tu hwnt i'r ffin. Dyna pam y bydd y panel cynghori'n cynnwys grŵp craidd o unigolion sydd â phrofiad busnes helaeth.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw y bydd Jonathan Lewis, ar ôl i'r Prif Weinidog ei benodi, yn cadeirio'r panel cynghori arbenigol. Mae gan Jonathan brofiad busnes helaeth, a bydd yn arwain trafodaethau'r panel dros y misoedd nesaf. Rwy'n ddiolchgar i Jonathan am gytuno i roi o'i amser i gyfrannu ei graffter a'i gyngor i'r Llywodraeth fel rhan o'r gwaith hanfodol hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef. Byddwn nawr yn gweithio gyda'n gilydd i recriwtio rhagor o aelodau i'r panel, er mwyn i'w waith allu dechrau o ddifrif, yn seiliedig ar waith ymchwil perthnasol sydd eisoes ar y gweill. Byddaf i'n paratoi datganiad ysgrifenedig sy'n rhestru aelodaeth lawn y panel cynghori yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ddirprwy Lywydd, mae penodi cadeirydd i'r panel i gynghori ar gylch gwaith a model gweithredu'r asiantaeth newydd yn gam allweddol ar y daith i sicrhau mai Cymru fydd y lle gorau yn y Deyrnas Unedig i ddechrau busnes, i dyfu busnes, ac i fuddsoddi mewn busnes. Dewch inni fwrw ati gyda'n gilydd. Rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar hynt y gwaith.
Cwestiynau hyd at un funud. Rebeca Phillips.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad.
Rwy'n siŵr bod pawb yn y Siambr hon eisiau gweld brand Cymru yn llwyddo. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen inni helpu busnesau Cymreig i dyfu, arloesi a masnachu yn rhyngwladol, denu buddsoddiad mewnol, a chynyddu nifer y swyddi cynaliadwy o ansawdd da sy'n talu'n dda. Gwyddom fod y dirwedd fusnes flaenorol yn dameidiog ac yn aml yn ddryslyd, gan olygu na chafodd busnesau y gefnogaeth oedd ei hangen pan oedd ei hangen arnynt. Felly, mae croeso i'r cam o greu asiantaeth ddatblygu genedlaethol i Gymru fel canolfan un stop i gefnogi busnesau o bob maint ledled y wlad. A all y Gweinidog Cabinet ymhelaethu ar sut y bydd yr asiantaeth yn cefnogi busnesau ledled y wlad i dyfu, ac amlinellu'r camau i sicrhau y mabwysiadir dull cyfannol er mwyn osgoi system dameidiog? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Yn fras iawn, rŷn ni wedi adnabod yn barod mai prif ffocws yr asiantaeth fydd galluogi busnesau sydd â'r potensial i ehangu i dyfu. Mae hynny'n golygu cefnogaeth wedi'i theilwra, gan adnabod beth yw union rwystrau pob busnes. Mi fydd sefyllfa pob busnes sydd â'r potensial i dyfu yn wahanol. Mewn rhai enghreifftiau, mi fydd hyn yn golygu mynediad i gyfalaf; mewn cyd-destunau eraill, help gydag allforio, ac efallai help gyda'r sylfaen sgiliau, ac yn y blaen. Mae defnyddio dull sydd ar sail rhyw fath o reolydd cyfrif yn sicrhau bod y busnesau hynny yn mynd i gael y gefnogaeth sydd ei hangen. I ateb i un o'r pwyntiau a gafodd eu gwneud yn gynharach, mae'n bwysig iawn bod yr asiantaeth yn ffocysu. Mi oedd yna elfen o mission creep yn yr hen awdurdod datblygu. Felly mae ffocysu yn benodol ar gefnogi gallu busnesau Cymru i ehangu yn mynd i fod yn ganolbwynt i'r asiantaeth.
Ac yn olaf, Weinidog, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Weinidog. Cyn imi symud ymlaen i'r eitem nesaf, dwi jest eisiau gofyn i Gwyn Williams siarad, o ran nodyn i'r cofnod, ar eitem 1, cwestiwn 5.
Diolch.
Felly, symudwn ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: blaenoriaethau'r Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf yma i amlinellu fy mlaenoriaethau cenedlaethol i a'r Llywodraeth hon ar gyfer y Gymraeg. Wrth wneud hynny, mae'n bwysig cofio nad trwy bolisi yn unig y mae iaith yn byw, ond trwy bobl a thrwy ddefnydd. Ac mae'r Gymraeg yn rhan o stori pob un ohonom ni. Mae fy stori i, er enghraifft, yn un ddwyieithog. Dysgodd fy mam Gymraeg fel oedolyn. Heddiw, mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cydblethu yn fy nheulu i gartref yn Grangetown, a sawl iaith arall i’w chlywed o’n cwmpas, a pheth braf iawn yw hynny.
Mae'r Gymraeg yn perthyn, mewn ffyrdd gwahanol, i ni i gyd. Yn blant bach ac yn bobl ifanc, yn rhieni, yn fam-gu neu'n dad-cu. I’r byd digidol ac i’r byd go iawn. I Effi o Blaenau a Lloyd Lewis o Gwmbrân. O Walchmai i Gaerdydd. Mae 86 y cant ohonon ni yn credu bod yr iaith yn rhywbeth i fod yn falch ohoni. Mae 82 y cant o'r rhai rhwng 18 a 24 mlwydd oed yn dweud ei bod hi’n bwysig i’n plant ddysgu’r Gymraeg. Cyfle teg i bawb ddysgu a mwynhau’r Gymraeg—dyna ddyhead clir pobl Cymru, a’n pobl ifanc ni yn arbennig.
Hoffwn ddiolch, yn y cyd-destun hwn, i holl Aelodau’r Senedd ddiwethaf—mae nifer ohonoch chi yma heddiw—am bleidleisio’n unfrydol i basio Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg—cyfle inni fynd ymhell y tu hwnt i'r miliwn o siaradwyr dros amser. Mae’n bryd inni roi’r gorau i weld ein hunain fel 'Cymry Cymraeg' a 'Chymry di-Gymraeg'. Rŷn ni i gyd rhywle ar yr un daith, ac mae croeso i bawb. Fi yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, ond mae’r iaith yn perthyn i ni i gyd ac yn gyfrifoldeb i ni i gyd fel Cabinet hefyd.
Mae angen dathlu’r ffaith fod y Gymraeg yn dal yn fyw bob dydd, ond rŷn ni’n ymwybodol o faint y dasg o’n blaenau ni hefyd. Mae’r blynyddoedd nesaf yma yn dyngedfennol. Rŷn ni’n gwybod bod rhaid gweithredu Deddf y Gymraeg ac addysg yn llawn. Ac rŷn ni’n gwybod hefyd fod angen—i fenthyg slogan Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos—troi'r llanw ar drai’r Gymraeg yn nifer o’n cymunedau ni. Dyw cyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr na chynyddu defnydd llawr gwlad yn mynd i fod yn hawdd.
Fel Llywodraeth, mae gyda ni dair prif flaenoriaeth. Y cyntaf: dysgu. Rwyf wedi bod yn glir pa mor bwysig yw creu llwybrau cydlynus ym myd addysg. Gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, dwi wedi dechrau gweithio gyda’r sector blynyddoedd cynnar, gan gynnwys y Mudiad Meithrin, i ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg i’n plant lleiaf. Ein cynnig gofal plant fydd y mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a bydd y Gymraeg wrth ei wraidd. Mae adolygiad brys o’r cynlluniau Cymraeg mewn addysg ar waith hefyd. Bydd hwn yn sail i’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg a fydd yn rhoi cadernid strategol i gam nesaf pob plentyn ar ei siwrnai. Gallaf gadarnhau y bydd y fframwaith hwn yn amlinellu’n glir ein hymrwymiad i sicrhau bod hanner plant Cymru yn cychwyn eu siwrnai mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Dwi a’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol am sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn gallu parhau i ddysgu, defnyddio, gweithio a mwynhau yn y Gymraeg ar ôl 16 hefyd.
Yn ail: ein cymunedau ni. Rŷn ni’n gwybod bod y sefyllfa’n argyfyngus mewn rhai bröydd. Rŷn ni’n gwybod hefyd fod cynaliadwyedd cymunedau dwysedd uwch yn greiddiol i ddyfodol y Gymraeg, a bydd ein polisïau cyhoeddus yn adlewyrchu hynny o ran polisi economaidd, tai, cynllunio gwlad a thref, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd, diwylliant ac addysg. Does dim amser i’w golli. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn defnyddio’r pwerau sydd gennym eisoes i sicrhau bod y Gymraeg yn gyrru ffyniant ac yn grymuso’r cymunedau hyn nawr, ac yn edrych ar bob dull gweithredu deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gael y maen i’r wal a chynnal momentwm.
Mae'r gwaith wedi cychwyn er mwyn cydweithio ag awdurdodau lleol i bennu siẁd i ddynodi’r ardaloedd dwysedd uwch, a byddaf i’n cydweithio’n agos â’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i hwyluso hynny. Trwy ddynodi cymunedau o ddwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, nid creu pocedi o Gymraeg yw’r nod; y gwrthwyneb, yn wir, yw’r bwriad. Mae diogelu cymunedau dwysedd uwch yn greiddiol i’r gwaith o gefnogi’r Gymraeg ymhob cymuned, a byddwn ni'n gweithredu ym mhob rhan o Gymru, a byddaf i'n cyfarfod gyda chadeiryddion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yr wythnos hon—yfory, mewn gwirionedd—i ddiolch am eu gwaith a thrafod eu hargymhellion ar gyfer gweddill Cymru. Dwi hefyd yn cydweithio gyda’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn y strategaeth ddiwylliant a chyhoeddi cynlluniau cyffrous ym maes chwaraeon a’r maes digidol. A bydd gwaith yn digwydd ar draws pob portffolio. Mae mor bwysig sicrhau, er enghraifft, fod cleifion yn cael gofal mewn iaith maen nhw’n gysurus ynddi.
A’r flaenoriaeth olaf yw seilwaith, y sylfeini sy’n cynnal yr iaith. Byddwn yn mynd ati i ehangu safonau’r Gymraeg i sectorau newydd, gan gynnwys cyrff Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a dwi eisoes wedi cyfarfod gyda Chomisiynydd y Gymraeg i drafod hynny. Ac rydyn ni wedi dechrau ystyried deddfu er gwarchod yr enwau llefydd sy’n rhan mor hanfodol o’n hunaniaeth ni i gyd. O enwau hynafol i dechnoleg arloesol, rŷn ni’n arwain y ffordd. Yng Nghymru, er enghraifft, mae cyfarfodydd dwyieithog yn arferol. Mae’r Cabinet newydd yn cynnal cyfarfodydd dwyieithog am y tro cyntaf ers datganoli. A Chymru yw’r lle cyntaf yn y byd i allu trawsgrifio cyfarfodydd yn ddwyieithog ar Microsoft Teams. Dwi wrthi’n ysgrifennu nawr at gwmnïau technoleg mawr am y camau nesaf, gan gynnwys gwaith ar ddeallusrwydd artiffisial. Mae momentwm, felly, o ran pob un o’n hymrwymiadau 100 diwrnod, a mwy.
Ond mae Cymru a’r byd yn newid. Mae gallu bod yma heddiw yn siarad gyda chymaint o optimistiaeth am y Gymraeg, gyda chefnogaeth pobl Cymru, yn un o’n llwyddiannau mwyaf, efallai, fel cenedl fach yn y byd mawr. Bues i'n ddigon lwcus i fynychu digwyddiad gyda phartneriaid rhyngwladol yn ddiweddar a gweld cymaint o ddiddordeb sydd yna gan ymwelwyr o bedwar ban yn y Gymraeg. Mae'n cyfnerthu cydweithio diwylliannol, ac mae'n gaffaeliad, yn fantais ac yn fraint wrth edrych mas at y byd, a hynny i bob un ohonon ni, a hynny hefyd yn gwbl groes i farn rhai o’n cyndeidiau, efallai, gan gynnwys rhai o’m rhai i fy hunan.
Byddwn ni’n gosod cyfeiriad clir gyda strategaeth newydd, gref, gydlynus ar gyfer y Gymraeg, ac yn rhannu hon gyda chi yn yr hydref. Ond yn y cyfamser, mae angen parhau i weithredu, felly dros yr haf byddwn ni’n cynnal sgyrsiau 'miliwn a mwy' gyda’n partneriaid i ailddiffinio’r cyfeiriad, symbylu cydweithio creadigol a chyflawni’n gyflym. Ac fel y soniais i, mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar bobl yn ogystal â pholisi. Felly, dyma alw ar bobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gyda chi ac i gefnogi’n gilydd bob amser i ddysgu a mwynhau ein hiaith. Mae heriau, ond gyda mwy o bobl yn dysgu Cymraeg nag erioed o’r blaen a chynnydd cyffredinol dros ddegawd a mwy nawr yn nifer y plant ym mlwyddyn 1 ein hysgolion Cymraeg, dwi’n argyhoeddedig bod y momentwm yn ddi-droi-nôl.
Dechreuais y datganiad yma yn sôn am fy mam, a ddysgodd Gymraeg yn oedolyn. Gaf i gwpla, i'w wneud e'n dwt, gan sôn am fy nhad, a gredai nad ydym eto wedi gweld Cymru yn ei llawnder? Ac mae’r un peth yn wir, gellir dadlau, am y Gymraeg yn y Gymru fodern, ond gyda’n gilydd gallwn ni gyrraedd y llawnder hwnnw. Dyma ein cyfle ni i sicrhau bod ein dwy iaith yn gyrru ein dyfodol—yn gymunedol, yn ddigidol, yn addysgol ac yn economaidd, a’r Gymraeg yn cyfrannu at greu Cymru hyderus, groesawgar, ddwy- ac aml-ieithog, a llewyrchus i ni i gyd. Diolch yn fawr.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar yr iaith Gymraeg heddiw? Mae yna gymaint y medrwn ni i gyd gytuno arno fo yn y datganiad hwnnw, so diolch yn fawr am hwnna. Tipyn o stori amdanaf i, felly: fel rhywun a dyfodd i fyny mewn cartref di-Gymraeg ac wedi dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol, mi fyddai'n anodd ichi ffeindio unrhyw un sy'n fwy angerddol na fi dros yr iaith bellach. Penderfynodd fy rhieni i fy anfon i ysgol gynradd Gymraeg a wedyn i ysgol uwchradd ddwyieithog. Wrth edrych yn ôl, dyna oedd un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr y gallan nhw wedi ei roi i fi. Ac mae yna stori deuluol sy'n egluro ba mor bersonol mae hwn i fi. Roedd fy nhaid, Silgwyn Weston, yn löwr yn ne Cymru. Nid oedd yn siarad gair o Saesneg nes oedd o tua wyth oed, ond ar ôl cael cyngor gan ei chwaer ar ôl iddi hi symud i Lundain i'r brifysgol, penderfynodd mai'r ffordd orau o roi'r cyfleoedd gorau i'w blant oedd siarad Saesneg gartref. O ganlyniad, collodd fy mam y Gymraeg. A'r gwir yw na fyddwn innau wedi cael y Gymraeg o gwbl oni bai bod fy rhieni wedi dewis addysg Gymraeg i mi.
Roedd hynny'n golygu bod rhywbeth arbennig iawn rhyngof i a'm taid. Ni oedd yr unig ddau yn y teulu oedd yn gallu cynnal sgwrs naturiol drwy'r Gymraeg. Cymro balch iawn oedd Silgwyn Weston. Ac yn ei flynyddoedd olaf roedd un peth wastad yn wir—roedd ei glyw rywsut yn llawer gwell os oedd y sgwrs am rygbi neu os oedd rhywun yn siarad Cymraeg efo fo.
Fel dysgwr, doedd y daith ddim yn hawdd bob amser. Roedd adegau pan oedd fy ffrindiau i'n gwrthod siarad Cymraeg hefo fi gan eu bod nhw wedi dod i'm hadnabod i drwy'r Saesneg yn gyntaf. Ond, ar yr ochr arall, cyfaddefodd un o'm ffrindiau gorau wrthyf na fyddai ei Saesneg hi hanner cystal oni bai ei bod hi'n ffrindiau efo fi.
Dyna harddwch dwyieithrwydd. Nid yw dysgu un iaith yn golygu colli'r llall. Mae'r ddwy yn cryfhau ei gilydd. Treuliais flynyddoedd yn chwilio am bob cyfle i wella fy Nghymraeg, yn enwedig pan oeddwn i'n dysgu yn Llundain. Mae deall, darllen ac ysgrifennu yn un peth. Ond y cam olaf, a'r cam anoddaf, yw cyrraedd y pwynt lle rydych chi'n gallu dechrau sgwrs yn y Gymraeg yn naturiol, heb feddwl dwywaith. Ac, os dwi'n onest, mae peidio â bod ofn tipyn bach o Wenglish yn helpu ar hyd y ffordd.
Heddiw, heblaw am ambell derm technegol rwy'n dal i ddysgu, rwy'n hyderus iawn yn fy Nghymraeg. Ond rwy'n cydnabod hefyd, gan fod cymaint o'n bywydau, ein teledu a'n gwaith yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg, fod dysgu iaith yn daith sy'n parhau drwy gydol oes. Dyna pam dwi'n falch fy mod i wedi annog fy nghydweithwyr yn Reform Cymru i ddechrau dysgu Cymraeg yma yn y Senedd. Bellach rydym yn trio cyfarch ein gilydd yn y swyddfa drwy'r Gymraeg, ac mae mwy a mwy ohonom yn magu'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr—fel rydym ni'n sôn, defnyddio darnau bach o'r Gymraeg trwy'r adeg. Mae hynna'n hollbwysig. So, mae hynny'n profi nad oes rhaid i'r Gymraeg fod yn fater pleidiol.
Dwi'n cytuno â'r Gweinidog pan ddywedodd hi fod yr iaith yn ganolog i'n diwylliant a'n hunaniaeth fel cenedl. Rwy'n croesawu hefyd y ffaith bod y Gweinidog wedi dweud yn glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan yw'r Gymraeg, nid dim ond un Gweinidog. Os yw hynny'n wir, mae'n rhaid i'r egwyddor honna gael ei gweld ym mhob portffolio Llywodraeth Cymru, nid dim ond ym maes addysg. A dwi'n credu hefyd fod un peth y gall pawb yn y Siambr hon gytuno arno heddiw: mae'r Gymraeg i bawb, waeth beth ydy lefel eich gallu, eich cefndir neu eich gwleidyddiaeth.
Ond lle mae'r Llywodraeth yn mynd o'i le yw pan fo hi'n awgrymu mai deddfwriaeth, strategaethau a thargedau yn unig fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith. Ni allwn orfodi pobl i garu iaith. Ni allwn ddeddfu brwdfrydedd. Ni allwn greu cymunedau Cymraeg drwy dargedau yn unig. Mae'r Gymraeg yn ffynnu pan fydd pobl yn dewis ei defnyddio yn y cartref, yn y gweithle, yn y dafarn, ar y cae rygbi ac ar y stryd. Croesawaf hefyd y bwriad i gryfhau'r Gymraeg yn y byd digidol ac AI. Os nad yw'r Gymraeg yn bresennol yn y technolegau hynna, mae perygl bydd hi'n cael ei gadael ar ôl.
Mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r Gymraeg byth yn cael ei defnyddio fel arf gwleidyddol. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, fel rydym ni'n sôn. Ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau nad yw'r awydd i gryfhau'r Gymraeg yn troi'n ymarfer o dynnu llinellau rhwng cymunedau. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o Gymru ac mae pob cymuned yn haeddu'r un gefnogaeth i'w defnyddio a'i datblygu.
Felly, hoffwn ofyn tri chwestiwn i'r Gweinidog. Yn gyntaf, dywedodd y Gweinidog mai cyfrifoldeb y Cabinet cyfan yw'r Gymraeg: pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau bod pob Gweinidog yn atebol am gyflawni hynny? Yn ail, sut yn union fydd y Llywodraeth yn mesur cynnydd mewn defnydd dyddiol o'r Gymraeg, yn hytrach na chanolbwyntio ar nifer y siaradwyr yn unig? Ac yn olaf, pa gamau ymarferol fydd yn cael eu cymryd i helpu dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn eu cymunedau ar ôl iddynt adael ysgol neu gwblhau cyrsiau dysgu?
Ni ellir gorfodi cariad at iaith. Mae'n dechrau gyda chyfle, mae'n tyfu gyda hyder ac mae'n ffynnu pan fydd pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw ei defnyddio. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bobl Cymru. Mae'n perthyn i bob un ohonom. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr am y sylwadau hynny, ac rwyf i'n credu nid yn unig bod gyda ni brofiadau yn ein teuluoedd o ran caffael iaith a'r Gymraeg yn mynd a dod dros y cenedlaethau, ond ŷn ni'n cytuno hefyd ar ei phwysigrwydd i Gymru, a hefyd ein perchnogaeth ohoni fel pobl, waeth bynnag faint o Gymraeg sydd gyda ni ar hyn o bryd. Fel roedd fy nghyn gydweithiwr, a bellach yn archdderwydd—dyw hwnna ddim yn frawddeg mae pob Senedd yn gallu ei chlywed bob dydd ar draws y byd—yn arfer dweud, 'Mae pawb ar y bilingualism bus', ac mae hwnna'n derbyn rhywfaint o Wenglish ar adegau wrth i bobl arfer yr iaith. Felly, byddwn i'n cytuno gyda hynny ac yn gresynu, braidd, fy mod i erioed wedi dod ar draws Silgwyn Weston, sy'n swnio'n dipyn o seren, mae'n rhaid cyfaddef.
Sut byddwn ni yn egluro ac yn rhannu gyda'r Senedd hon mai cyfrifoldeb i'r Cabinet cyfan ydy hyn? Rŷn ni eisoes yn gweithio gyda'n gilydd i adnabod y blaenoriaethau—y gweithrediadau, os liciwch chi—ar draws pob portffolio sy'n berthnasol i'r Gymraeg, ac mi fyddwn ni wedyn yn adnabod pwy sy'n gyfrifol am y rheini. Y tebygrwydd yw mai fi fydd yn siarad â'r Senedd, gan mai fy nghyfrifoldeb i yw'r Gymraeg, ond mi fydd y meysydd polisi penodol hynny yn rhan fwriadus a gofalus o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud, ac mae yna frwdfrydedd i wneud hynny, yn ogystal â gofyn.
Mae mesur defnydd, fel rŷch chi'n sôn, yn llawn mor bwysig i ni ag yw cefnogi'r gwaith yn yr ysgolion, er enghraifft, a'r niferoedd parthed hynny. Ac rwy'n credu mai'r egwyddor sylfaenol rŷn ni'n gweithio arno fe yw na ddylai pobl orfod chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna, yn y bôn, yw neges yr ail gomisiwn ar yr iaith. Byddwn ni'n ymateb i hwnnw'n fwy ffurfiol dros y misoedd nesaf, ac yn sicr cyn diwedd y flwyddyn, ond mae'r argymhellion fanna wedyn yn cwmpasu pethau fel addysg blynyddoedd cynnar, ydyn, ond hefyd technoleg, gweithleoedd, chwaraeon, diwylliant, cynllunio, ymchwil, ac arweinyddiaeth yn ein cymunedau ni hefyd—felly, mae e lot ehangach nag addysg, er mor bwysig yw honna—a'n bod ni wedyn yn cynnal y defnydd hwnnw, a'n bod ni i gyd yn annog ein gilydd i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda ni.
Fel, mae'n rhaid i fi ddweud, rwyf wedi clywed ar draws y Siambr ac wrth fynd i'r lifft, a mynd i'r—. Mae mwy o Gymraeg i'w chlywed, a faint bynnag sydd gan bobl, ŷn ni'n frwd iawn i'w hannog nhw i'w defnyddio hi. Felly, diolch yn fawr iawn iddi.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariadau? Gaf i godi i ychwanegu ein llais ni i'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd i'r Gymraeg yn y Siambr yma bellach?
Mae pawb yn rhannu storïau personol—o'm fy rhan i, ychydig bach fel taid Helen, roeddwn i'n methu siarad Saesneg, gair o Saesneg, tan roeddwn i tua saith mlynedd oed, ac roedd hynny'n sicr yn sioc i ffrindiau prifysgol yn Lloegr, ond dyna'r diwylliant unigryw sydd gyda ni yma yng Nghymru.
Bydd pawb yn y Siambr, wrth gwrs, yn gyfarwydd â tharged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae yna ail darged yna hefyd, sydd yn dueddol o gael llai o sylw, i ddyblu defnydd yr iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Er mwyn cyflawni'r ddwy nod yma, mae angen mynd i waith ar draws pob adran. Nawr, wrth gwrs, mae'n bwysig hybu siaradwyr newydd drwy'r system gofal plant a'r system addysg. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir am eu huchelgais dros ofal plant drwy gyfwng y Gymraeg fel rhan o'u polisi gofal plant. Gaf i wthio am fwy o fanylder ar sut bydd y polisi yma'n gweithio ar lawr gwlad? Sawl lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd fydd angen eu datblygu i gyrraedd y nod o ofal plant am ddim o naw mis oed? A sut ydy'r Llywodraeth am sicrhau bod y niferoedd o staff Cymraeg yn mynd i fod ar gael i ddiwallu'r galw hynny?
Ac wrth i'r Llywodraeth roi'r Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ar waith, pa gefnogaeth ychwanegol fydd ar gael i hyfforddi athrawon sy'n dysgu drwy'r Gymraeg? Mae'r Gweinidog, fel fi, yn gefnogol o'r egwyddor o agor ysgol uwchradd ychwanegol yng Nghaerdydd, ond, yn y cyd-destun cenedlaethol, mae cyfraddau genedigaethau yn disgyn, ac eto rydym ni'n gwybod bod pobl eisiau gweld darpariaeth addysg Gymraeg yn eu cymunedau. Felly, pa gefnogaeth fydd y Llywodraeth yn ei rhoi i awdurdodau lleol i gynnal ysgolion Cymraeg, a hyd yn oed agor rhai newydd, mewn ardaloedd lle dydy'r niferoedd ddim yna ar hyn o bryd o ran cynaliadwyedd ariannol?
Yn mynd ymlaen, er mwyn dyblu'r defnydd o Gymraeg mewn bywyd bob dydd, mae hi'n angenrheidiol, yn fy marn i, i grymuso pobl i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw, boed hynny yn y gweithle, ar-lein neu yn eu cymunedau. Mae technolegau newydd yn datblygu yn gyflym, gan newid sail sut mae pobl yn gweithio ac yn cymdeithasu. Felly, er mwyn i'r Gymraeg aros wrth galon bywyd bob dydd, mae'n rhaid sicrhau bod technoleg newydd yn gweithio er lles yr iaith. Felly, a all y Gweinidog ymrwymo i weithio ochr yn ochr gyda'r undebau llafur i hyrwyddo'r Siarter Twf, a ddatblygwyd gyda'r undebau i hybu'r Gymraeg yn y gweithle? A pha fesurau penodol fydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno i annog mwy o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg? A fyddai'r Gweinidog, ymhellach, yn fodlon ymrwymo i ariannu gwaith i ddatblygu mwy o dechnolegau newydd yn y Gymraeg, gan gynnwys datblygiadau dealltwriaeth artiffisial?
Ar y pwnc o gynaliadwyedd cymunedau dwysedd uwch a grybwyllwyd yn y datganiad, a gaf i ofyn i ba gyfeiriad fydd eich polisïau chi yn mynd? Er enghraifft, ar ddatblygiadau tai, dwi wedi clywed sawl tro pobl yn dweud eu bod nhw'n gorfod gadael y fro Gymraeg oherwydd eu bod nhw'n methu fforddio prynu tŷ ac, ar y llaw arall, dwi wedi darllen droeon wrthwynebiadau cynllunio yn dweud, 'Bydd datblygu tai yn y man yma yn cael effaith ar yr iaith.' Felly, yn y cymunedau dwysedd uwch a'r polisïau rydych chi'n mynd i'w rhoi mewn lle, a fyddwn ni'n disgwyl gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu neu llai?
A gaf i holi hefyd: pa ffocws fyddwch chi'n ei roi ar y brif ddinas—yr unig sir i weld twf yn y defnydd o'r Gymraeg yn y cyfrifiad, a'r sir a gyhoeddwyd fis diwethaf sydd nawr â'r mwyaf o siaradwyr Cymraeg ohoni nac unrhyw sir arall yng Nghymru? Nid jest polisïau sy'n gefnogol o'r iaith yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol sydd wedi creu hynny, ond hefyd polisïau cefnogol fel adeiladu mwy o dai o bob math, a datblygu a gwthio twf economaidd, sydd yn creu swyddi i bobl ifanc fedru aros yng Nghymru, yng Nghaerdydd, a dod â'u teuluoedd i fyny ar aelwydydd Cymraeg. Felly, oes yna ymrwymiad, Weinidog, i ddysgu o'r un llwyddiant clir sydd gennym ni o sir yng Nghymru yn tyfu nifer y siaradwyr Cymraeg dros ddegawd a mwy hefyd? Fe wnes i, fel arweinydd Cyngor Caerdydd, gyflwyniad i gyngor Dulyn llynedd, achos maen nhw'n awyddus i ddysgu o'n llwyddiannau ni. A wnewch chi?
Yn olaf, mae enwau lleoedd Cymru yn rhan o'n hanes ni fel cymunedau ac fel cenedl. Dwi'n croesawu'r cyfeiriad sydd at hynny yn eich datganiad chi. O dan y Llywodraeth Cymru flaenorol, fe wnaethpwyd ymchwil manwl gyda phartneriaid i wella'r ddealltwriaeth o'r newidiadau mewn enwau lleoedd, ac fe gyhoeddwyd set o flaenoriaethau craidd i'w hamddiffyn. Ydy'r Llywodraeth yma yn cytuno i ymrwymo i'r blaenoriaethau hynny?
Mae'r Gymraeg yn berchen i ni i gyd, ac yn sicr, o'n plaid ni, byddwn ni'n eich gwthio chi ond hefyd yn eich cefnogi chi i fynd ymhellach. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Rwy'n gwerthfawrogi hefyd eich bod chi'n barod i'n cefnogi ni a'n gwthio ni, achos mae hwn, fel roeddwn i'n dweud yn y datganiad, yn gyfrifoldeb mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn ei rannu, ac felly yn barod i weithio gyda'n gilydd. Mae'n bosib byddaf i ddim wedi nodi mor ofalus ag y gallwn i bob un o'r cwestiynau, ond rwy'n mynd i ymdrechu i wneud.
Sonioch chi am lwyddiant Caerdydd, ac mae'n siŵr y byddwn i, a fe, yn wreiddiol o Geredigion, yn cydnabod efallai ein cyfraniad ni'n hunain at dyfu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y brif ddinas. Ac roeddwn i'n ymddiddori'n fawr yn beth ddywedodd e amboutu ei fod e wedi cael sgyrsiau gyda phobl yn Nulyn am y llwyddiant hwnnw. Byddwn i'n fodlon datgan nawr, os oes yna wersi i'w dysgu o Gaerdydd, ac rwy'n gweld bod yna, byddwn i'n barod iawn i wneud hynny, ac efallai bod hwnna yn sgwrs gallwn ni ei chael hefyd ar wahân.
Wedyn, ar y cymunedau dwysedd uchel, dwysedd uwch, rŷn ni wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn yn barod. Rŷn ni wedi dechrau cynllunio gydag awdurdodau lleol i weld siẁd i bennu a beth wedyn fydd yn dilyn o ran polisïau fyddai'n effeithio ar—. Rwy'n credu gwnaeth e sôn yn benodol am dai yn yr ardaloedd rheini, ac mae yna oblygiadau hefyd i'r portffolios economi a gwytnwch gwledig, er enghraifft. Felly, rŷn ni'n dechrau gwneud y gwaith manwl hwnnw, a byddwn ni yn dychwelyd at hynny oherwydd, fel dywedais i yn y datganiad, mae pob un o'r meysydd polisi—. Ac mae perthynas arbennig o agos yn hyn o beth gyda'r Gweinidog llywodraeth leol, tai a chynllunio.
Y pwynt a wnaethpwyd am ofal plant a'r cynnig gofal plant, mae darparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn amlwg yn flaenoriaeth—ddim yn flaenoriaeth, mae e'n greiddiol i siẁd ŷn ni wedi datblygu'r syniad am ofal plant. Rydym ni eisoes wedi bod yn siarad gyda Mudiad Meithrin am hynny. Dwi'n credu efallai fod hwnna'n darlunio unwaith eto nad ŷn ni'n ystyried y Gymraeg yn faes polisi y tu fas i bopeth arall, ond wedi ei wreiddio trwy bob peth.
Mae e'n iawn hefyd i dynnu sylw at yr heriau sydd gyda ni o ran datblygu'r gweithlu. Mae yna gynllun yn ei le er hwyluso hynny, ond mi fydd angen gwaith manwl a hyrwyddo manwl i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod yn hynny o beth. Soniodd e hefyd am ddyblu defnydd, ac mae e'n iawn i feddwl, debyg iawn, ein bod ni wedi mynd i'r arfer o siarad yn gyson amboutu'r 1 filiwn o siaradwyr, ond efallai ddim yr ail gymal, sef dyblu defnydd. Dwi'n credu, yn arbennig yng nghyd-destun y comisiwn ar ardaloedd lle mae'r defnydd o'r Gymraeg yn is a chanolig, fod yna lot o syniadau pwysig y byddwn ni yn gweithio arnyn nhw i sicrhau ein bod ni yn symud ar hynny.
Technoleg: mae gen i nifer o gyfarfodydd yn dod nawr. Dwi'n credu bod y Gymraeg ar flaen y gad yn trafod gyda chwmnïau technoleg. Mae e'n faes sydd yn gwbl newydd i fi o ran trafodaethau manwl gyda nhw, ond mae hwnna yn mynd i fod yn dilyn parodrwydd mwy nag efallai y byddai rhywun wedi'i ddisgwyl o ran y cwmnïau yma i weithio gyda ni o safbwynt darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Siarad â'r undebau: byddwn ni wastad yn barod ac yn frwd i siarad a chael wrthyn nhw eu barn a'u harbenigedd ar sut mae gweithredu yn unol â beth sy'n amlwg yn ddyhead gan y Siambr hon.
O ran cynllunio addysg ac ysgolion dros gyfnod a heriau demograffig, mae lot i'w drafod yn hynny o beth. Yn amlwg, ŷn ni'n edrych ar hyn o bryd ar adolygu cynlluniau Cymraeg mewn addysg a fydd yn edrych ar y twf yn y niferoedd. Ond mi fydd yna sgyrsiau ynglŷn ag i ba gyfeiriad mae niferoedd disgyblion yn mynd hefyd. Bydd hwnna yn ganolog i hynny.
Dwi'n gobeithio fy mod i wedi sôn am y rhan fwyaf o bethau a gododd e, ond dwi'n hapus iawn i gael sgwrs bellach os ydw i wedi methu rhywbeth. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma? Dwi'n rhannu'r uchelgais a tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd gan faniffesto fy mhlaid fy hun ymrwymiad i gynnal y targed hwnnw, a byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a gwella faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad yn ein cymunedau ni.
Mae'r datganiad heddiw yn tynnu sylw at dair blaenoriaeth i'r Llywodraeth: dysgu, ein cymunedau, a seilwaith. Nawr, mae'n rhaid i ehangu cyfleoedd i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, gan mai dim ond 21 y cant o blant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn ôl canlyniadau diweddaraf cyfrifiad yr ysgolion. Dwi'n credu y gall gwaith gael ei wneud o ran teithio dysgwyr a allai helpu i nodi rhwystrau i ddysgu'r Gymraeg. Felly, efallai y gall Gweinidog y Cabinet ddweud wrthym ni a fydd hi'n adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i weld a oes mwy y gellir ei wneud i alluogi plant i fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae'r datganiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector blynyddoedd cynnar i ehangu darpariaeth ar draws Cymru, a byddwn i'n ddiolchgar os gallai hi ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â hyn. Mae gwaith da wedi ei wneud i gefnogi ymarferwyr addysg ar eu taith dysgu, er enghraifft, mae Cwlwm wedi darparu adnoddau ac yn gweithredu cynllun Addewid Cymraeg, lle mae wedi gweithio gyda dros 170 o leoliadau gofal plant i asesu siẁd maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg, ac i ddatblygu cynllun gweithredu i wella eu darpariaeth. Efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni siẁd mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r sefydliadau yma i wneud y gwaith allgymorth hwn gydag ymarferwyr yn y dyfodol, a siẁd gall hyn gael ei ehangu hefyd yn y dyfodol.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at adroddiad ail gam y comisiwn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith, ac fel mae Gweinidog y Cabinet yn gwybod, dwi wedi bod yn cyflwyno cwestiynau ar y mater hwn i geisio deall siẁd mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag argymhellion y comisiwn. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y gyllideb bresennol ar gyfer adfywio defnydd o'r Gymraeg ar lefel gymunedol yn seiliedig ar gynsail hanesyddol, ac nad yw'n cyrraedd y nod polisi hirdymor o greu Cymru ddwyieithog. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn y maes hwn yn ei chyllideb yn yr hydref i ddiwallu'r angen hwn, ac, os felly, siẁd fydd hyn yn edrych?
Mae pennod 4 o'r adroddiad hwnnw'n trafod y syniad o gymdeithasu yn y Gymraeg, y tu allan i leoliadau ysgol, mewn cyd-destunau diwylliannol, a rŷn ni wedi gweld tystiolaeth o arfer da fel gŵyl Tafwyl yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae'r digwyddiadau yma a nifer o ddigwyddiadau allgymorth cymunedol yn cael eu gwneud gan sefydliadau fel y mentrau iaith ac eraill, wrth gwrs, sy'n creu cymaint yn ein cymunedau gyda chyn lleied o adnoddau. Felly, dwi'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried siẁd y gall gefnogi sefydliadau cymunedol yn well yn y dyfodol.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at seilwaith, a dwi'n falch i glywed bod y Gweinidog yn gweithio gyda chwmnïoedd technoleg mawr i gryfhau cefnogaeth i'r iaith i ddefnyddwyr. Rŷn ni'n byw mewn byd digidol ac mae'n bwysig bod Cymru ar y blaen i unrhyw ddatblygiad technolegol. Clywais i yr atebion yn gynharach, felly a all y Gweinidog roi mwy o ddiweddariad i ni ar y gwaith mae hi'n ei wneud ynglŷn ag AI, a siẁd mae'n sicrhau bod y dechnoleg yn mynd i fod yn briodol i'r iaith Gymraeg?
Wrth gwrs, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at waith Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi nodi ei blaenoriaethau, ac un ohonynt yw creu gweithleoedd sy'n cefnogi'r Gymraeg. Dwi'n credu y dylai fod strategaeth glir ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle, er mwyn i ni allu asesu cynnydd yn y maes hwn a hybu gwelliannau. Roedd maniffesto fy mhlaid i wedi ymrwymo i ddatblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes y Gymraeg, felly efallai fydd y Gweinidog yn ystyried y syniad o strategaeth benodol ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle, ac efallai hyd yn oed mabwysiadu ein syniad o hyrwyddwyr busnes.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, dwi'n falch iawn bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn fy etholaeth i, ac felly hoffwn fanteisio ar y cyfle i annog yr holl Aelodau i ddod draw i ymweld yn yr haf. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at yr iaith yn y strategaeth ddiwylliannol, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni ynglŷn â'r strategaeth a'r rôl y gall digwyddiadau fel yr Eisteddfod eu chwarae i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni.
Ddirprwy Lywydd, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni. Hoffwn ei gweld yn ffynnu ac yn tyfu, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio'n adeiladol gyda'r Gweinidog Cabinet ar yr agenda hwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Os caf i gymryd y cwestiynau tuag yn ôl, achos dwi ddim yn moyn colli'r cyfle i annog pawb i fynd i Eisteddfod y Garreg Las. Es i—roedd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid yno hefyd—i Aberteifi yn ddiweddar, i un o'r dathliadau 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod gyntaf, ac mae'n rhaid i fi gyfaddef, roedd e y peth mwyaf godidog a bonkers dwi wedi ei weld ers amser maith, a gwnaethom ni fwynhau yn arw. Roedd creadigrwydd ar ddangos ym mhob maes y gallwch chi ddychmygu—roedd yna ganu, roedd yna adrodd, roedd yna farddoni, roedd yna bypedau, roedd yna elfennau theatrig iawn iddo fe.
A dwi wedi bod yn dymuno ers amser i wneud cais, os oes modd o gwbl, i ddatgan bod Eddie Ladd yn drysor cenedlaethol nawr; efallai mai dyma'r cyfle i ddweud hynny hefyd, achos roedd hi hefyd yn wych. Hefyd, rwy'n credu efallai bod hwn yn darlunio rhywbeth mwy difrifol, yn darlunio pa mor bwysig yw'r Gymraeg i ni achos, wrth gwrs, mae hi'n berfformwraig ryngwladol lwyddiannus iawn, ond yn dweud mai'r gynulleidfa o wal castell Aberteifi yw'r un bwysicaf iddi hyd at heddiw.
Roeddwn i'n ymddiddori yn beth ddywedoch chi ynglŷn â'r Gymraeg yn y gweithle a'r syniad am hyrwyddwyr busnes. Mae gennym ni gynllun yn barod ar arweinyddiaeth ddwyieithog, ac mae'n bosibl bod yna rhyw sgwrs y gallwn ni ei chael i gyfuno'r ddau syniad hynny. Byddwn i'n hapus iawn i wneud hynny.
Rwyf wedi bod yn y swydd ers cwpl o fisoedd yn unig, felly dechrau ar y gwaith ydw i ar hyn o bryd, yn enwedig ar yr elfennau technoleg a deallusrwydd artiffisial. Ond rwy’n ymgymryd yn frwd â’r sgyrsiau hynny. Pan fydd gyda fi fwy i’w rannu, byddwn i’n barod iawn i wneud hynny.
O ran cymdeithasu yn y Gymraeg, mae’n mynd â fi nôl at y pwynt roeddwn i’n ei wneud bod yn rhaid inni greu amgylchedd lle nad yw pobl yn gorfod chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Fel y sonioch chi, mae’r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig drwy’r mentrau iaith yn allweddol i sicrhau bod y cyfleoedd yna ar gael.
O ran ail gam y comisiwn, rŷn ni wrthi yn mynd trwy'r argymhellion hynny i gyd. Rwyf wedi ymrwymo i ymateb yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn fan bellaf. Bydd ymateb i hwnnw hefyd yn golygu edrych ar oblygiadau ei roi ar waith o ran adnoddau o bob math.
O ran datblygu'r gweithlu, roeddwn i’n falch eich bod chi wedi cyfeirio at Cwlwm, sy'n gwneud cyfraniad pwysig. Rwy’n credu hefyd ei bod yn ein hatgoffa ni i gyd bod yr athrofa yn mynd i fod ar waith o 2027, gyda rôl penodol o ran dysgu Cymraeg. Fe welais i nhw yn Tafwyl, fel mae’n digwydd, yn cyffroi yn fawr ynglŷn â'r niferoedd sydd erbyn hyn yn dod atyn nhw.
Felly, diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Mae'n amlwg bod yna sgyrsiau pellach a chefnogaeth bellach y gallwn ni weithio arno.
Diolch am y datganiad calonogol heddiw. Mae'n dda clywed y gwaith sydd ar y gweill. Diolch, Weinidog Cabinet. Dwi’n falch o ymrwymiad y blaid i ymestyn safonau'r iaith Gymraeg i gyrff Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac i wasanaethau sy'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys cwmnïau preifat yn y maes cyfathrebu, cyfleustodau, banciau, meysydd parcio ac archfarchnadoedd. Mae'n gwbl greiddiol ein bod ni, ac etholwyr, yn gallu cael a defnyddio'r gwasanaethau hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg. All y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y camau gweithredu i dynnu ystod o gyrff i mewn i'r safonau?
Diolch yn fawr. Yn amlwg, mae cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn bwysig i ni i gyd, ac mae'r safonau yn rhan o hynny. Rŷn ni'n gweithio ar estyn y safonau i ragor o gyrff a sectorau, ac yn edrych ar hyn o bryd ar y rhaglen waith parthed hynny.
Rŷn ni wedi dechrau ystyried pa gamau bydd angen eu cymryd i estyn y safonau i'r sectorau sydd wedi'u cynnwys yn ein cynllun 100 diwrnod, ac wedyn bydd hwnna yn rhan cychwynnol o'r gwaith. Mae'r rhai o'r sectorau hynny eisoes wedi'u crybwyll ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ond bydd angen edrych ar ychwanegu sectorau eraill cyn gallu gwneud safonau ar eu cyfer nhw. Mae'n debyg bod angen cydsyniad Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud safonau i Weinidogion y Goron, felly bydd angen gweithio ar hwnnw yn fuan hefyd.
Rwyf hefyd yn frwd, yn dilyn fy sgwrs gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ein bod ni'n edrych ar y gwasanaethau mae unigolion yn cael mynediad atyn nhw. Mae ystod ohonyn nhw, ac ar hyn o bryd dyw’r safonau ddim wastad yn gyson, felly dyw pobl ddim wastad yn gwybod beth yw eu hawliau yn y meysydd gwahanol. Rwy'n credu bod hwnna'n rhywbeth mae eisiau delio ag ef ar fyrder.
Dwi'n rili croesawu'r datganiad yna gan Weinidog y Cabinet—mae'n ffantastig. Roeddwn i jest eisiau cywiro Huw Thomas yn fanna. Nid Caerdydd yn unig oedd wedi gweld cynnydd yn yr iaith Gymraeg, ond hefyd Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Roedd yna sawl un ohonom ni wedi gweld y cynnydd yna. Roedd hi mor galonogol gweld cymaint ohonom ni ar draws y pleidiau i gyd mor o blaid beth sy'n digwydd gyda'r Gymraeg a'r ffaith bod strategaeth yn mynd i gael ei gweithredu ar draws y wlad; mae'n ffantastig.
Roeddwn i jest eisiau dweud bod adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn dweud bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Os ydyn ni'n ei siarad hi neu beidio, mae'n bwysig inni i gyd gofleidio'r Gymraeg. Hefyd, mae'n argymell cryfhau cynllunio ieithyddol cymunedol a bod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid lleol fel y mentrau iaith—
Allwn ni gael cwestiwn, plis, Lis?
Weinidog y Cabinet, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu'r iaith mewn ardaloedd sydd â dwysedd ieithyddol is?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rôn i'n gwybod y byddai'r Aelod yn diddori yn hanes Merthyr a chyd-destun ieithyddol Merthyr, felly es i ati i wneud rhywfaint o ymchwil a darganfod bod Merthyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ferw o ddiwylliant y Gymraeg. Felly, dwi'n ei llongyfarch hi a phobl Merthyr yn ehangach am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i adfer y berw hwnnw dros y blynyddoedd diweddar.
O ran y gwaith, mi fydd hi'n diddori'n arbennig, rwy'n siŵr, yn ein hymateb ni i'r ail gomisiwn ar ardaloedd o ddwysedd is a chanolig, a'r sgwrs dwi'n ei chael yfory gydag awduron y comisiynau hynny. Mae yna elfennau, fel rôn i'n sôn, lle rŷn ni'n moyn ffocysu yn benodol, a'r rheini yw addysg a blynyddoedd cynnar, technoleg, gweithleoedd, chwaraeon a diwylliant, ac arweinyddiaeth leol hefyd. Ond rwy'n credu y byddwn i hefyd eisiau gweithio'n ofalus gyda'r mentrau iaith lleol—cyfeiriodd rhywun arall at y rheini; mae modelau gwahanol gyda ni ar draws Cymru—ac wedyn mudiad sydd yn dod â'r arbenigedd yna at ei gilydd. Ac felly, wrth ymateb i'r comisiwn a rhoi cynlluniau yn eu lle, byddwn i'n frwd iawn i dynnu ar ei harbenigedd hi a'r mentrau iaith yn ehangach i hwyluso hynny.
Prynhawn da, Weinidog. Dwi eisiau chwifio'r fflag ar gyfer Powys, os gwelwch yn dda. Rydyn ni wedi gweld ym Mhowys bod cynnydd gwirioneddol a chroesawus yn y maes cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae teuluoedd hefyd mewn ardaloedd gwledig ym Mhowys wedi teimlo bod mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyfyngu gan ddaearyddiaeth yn hytrach na chan y galw. Mae hynny bellach yn dechrau newid, dwi'n falch i ddweud. Mae dwy ysgol pob oed yn symud tuag at fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn llwyr. Mae ysgol pob oed cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei chynllunio yng nghanol y sir, ac mae cynnig i ehangu darpariaeth mewn ysgol gynradd ger Aberhonddu ar fin cael ei gyflwyno i'r cabinet. Rydyn ni'n gwerthfawrogi cefnogaeth y Llywodraeth, wrth gwrs, ond mae angen mwy o arian ar y cyngor yna. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrthym am yr arian a'r cymorth sydd ar gael i lefydd fel Powys, er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chynnal yn fwy drwy ein hysgolion? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i wastad yn croesawu'r cyfle i siarad am Bowys. Roeddwn yn arfer tynnu coes rhagflaenydd yr Aelod, gan ddweud mai cyfandir, nid etholaeth, oedd Powys. Dyna oedd rhywun yn ei deimlo wrth yrru o’r gwaelod i’r top. Rwy’n falch iawn i glywed am y cynnydd sydd yna ym Mhowys o ran ysgolion, yn enwedig yr ysgolion pob oed. Rwy’n credu bod y rheini’n ddatblygiad diddorol yn y cyd-destun hwn.
Beth gallaf ei ddweud wrthi ar hyn o bryd yw y byddwn ni, wrth edrych ar y comisiynau yma a’r argymhellion, yn edrych yn fanwl ar eu heffaith nhw ar gymunedau a datblygu’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru. Dyna’r pwynt a’r bwriad. Wedyn, byddwn yn edrych ar beth yw goblygiadau hynny o ran adnoddau, i gael y maen i’r wal ym Mhowys ac ym mhob man.
Ac yn olaf, Kiera Marshall.
Diolch. Dwi'n dysgu Cymraeg ers yr ysgol gynradd, ond gadawais yr ysgol yn methu â siarad Cymraeg bron o gwbl. Rwy'n drist i ddweud mai fi yw'r mwyafrif.
Methodd y system addysg fi ac, o hyd, mae system addysg Cymru yn methu ein plant.
Pam ddim dysgu Cymraeg yn iawn ym mhob ysgol? Pam mae fy nghariad yn rhugl? Pam ei fod ef yn ddwyieithog a dydw i ddim? Rŷn ni yr un oed. Aethom ni i'r ysgol yn yr un wlad. Pam na chawsom ni ddim yr un iaith—iaith y wlad rydw i'n byw ynddi? Felly, rydw i wedi treulio cannoedd o oriau a channoedd o bunnoedd a llawer o ymdrech i ddysgu fy iaith. Rydw i'n lwcus i gael yr amser, yr arian a'r swydd i ddysgu. Mae gormod o bobl nad ydynt yn cael y cyfle.
Diolch yn fawr. Rwy'n gallu clywed y rhwystredigaeth a'r rhuglder yn y cwestiwn hwnnw. O safbwynt dysgu'r Gymraeg o fewn ein hysgolion ni, rŷn ni'n mynd ati i edrych yn ofalus ar gynyddu'r nifer o ddisgyblion sydd yn cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, a'r targed hwnnw o 50 y cant ym mlwyddyn un erbyn 2050. Ond rydym hefyd yn atgyfnerthu'r Gymraeg yn ein hysgolion drwyddi draw, a fydd yn mynd i'r afael, rwy'n credu, â pheth o'r rhwystredigaeth yr oedd yr Aelod yn sôn amdani yn ei chwestiynau hi.
Hefyd, mae’n bwysig ffocysu ar y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr sy'n oedolion. Rŷn ni'n gweithio gyda'r ganolfan, a fydd yn dyfod yn athrofa y flwyddyn nesaf, i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu cael mynediad at wersi Cymraeg di-dâl, sef y pwynt arall yr oedd yr Aelod yn ei wneud.
Mae'r rhaglen waith yn cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg iawn hefyd. Mae'n bwysig cofio bod nifer ohonom ni yn gwybod am bobl sydd yn manteisio ar gyfleoedd mewn gweithleoedd ar draws Cymru hefyd i ddysgu Cymraeg. Mae mwy o waith i'w wneud, ond rwy'n credu—neu'n gobeithio, beth bynnag—ein bod ni'n darlunio pwysigrwydd gwneud y gwaith hwn, a'n hawydd ni i symud yn gyflym i'w gyflawni.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog; neu efallai y dylwn i ddweud 'jolch'.
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: ein gweledigaeth ar gyfer datganoli rheilffyrdd. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper.
Yn ysbryd y sgwrs sydd newydd fod, rwy’n dysgu Cymraeg. Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gen i ddiweddaru'r Aelodau am y cynnydd yr ydym yn ei wneud ar ein hymrwymiadau ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf ar y llwybr at ddatganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Heddiw, hoffwn esbonio ein gweledigaeth ar gyfer datganoli rheilffyrdd yng Nghymru, ac, yn bwysig, sut y byddwn yn bwrw ymlaen gyda llwybr clir a chredadwy i'w gyflawni.
Ddirprwy Lywydd, mae ein gweledigaeth yn glir. Rydym ni eisiau rheilffordd sydd wedi ei chynllunio yng Nghymru, wedi ei chyflawni yng Nghymru ac yn atebol i bobl Cymru. Fydd y daith ddim yn digwydd dros nos, ond mae gyda ni lwybr a'r penderfyniad i wireddu. Pan fydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llwyddo, mae Cymru yn gweithio yn well. Diolch.
Ddirprwy Weinidog, fe wnaeth y don wres ddiweddar dynnu sylw at y costau sylweddol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw seilwaith y rheilffyrdd yn wyneb tywydd eithafol. Cyn ceisio datganoli rhagor o gyfrifoldebau dros y rheilffyrdd, a yw Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo'r goblygiadau ariannol hirdymor ar gyfer cynnal a chadw ac adnewyddu'r seilwaith y byddai'n ei etifeddu? Os felly, a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r ffigurau hynny ac egluro sut y byddai'r costau hynny yn cael eu hariannu? Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, Leticia Gonzalez.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn.
Rŷn ni'n symud nawr i eitem 6, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: blaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd menywod. Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle yma i nodi fy ngweledigaeth a fy mlaenoriaethau. Fel Gweinidog, dwi eisiau helpu i daflu goleuni ar y meysydd hynny sydd heb gael y ffocws y maen nhw'n eu haeddu—ar iechyd meddwl, ar iechyd menywod, ac, ie, ar y system gofal cymdeithasol, sydd heb gael sylw digonol ers cyhyd. Mae'r meysydd hyn yn haeddu mwy o sylw ac amlygrwydd. Maen nhw'n haeddu llais o galon y Llywodraeth, a dwi'n addo y byddan nhw'n cael hynny gen i.
Rŷn ni'n falch, fel plaid, o gyflymu'r gwaith tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, gan gynnwys sefydlu academi gofal cenedlaethol o fewn tymor y Senedd hon. Byddaf yn goruchwylio rhaglen o gryfhau trefniadau comisiynu, deall gofynion cyllido'r dyfodol, a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer gofal personol am ddim yn nhymor y Senedd nesaf.
Mae gofalu am ein plant a'n pobl ifanc hefyd yn golygu sicrhau bod mecanweithiau cymorth ar gael i ymateb i gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio. Rŷn ni i gyd yn ymwybodol o'r etifeddiaeth gywilyddus o fethiannau sefydliadol yn y maes hwn, ac rŷn ni'n ymrwymo i unioni'r diffygion hanesyddol hyn. Mae'r Llywodraeth hon yn cynnal cysylltiad agos ag ymchwiliad y Deyrnas Unedig i gamfanteisio’n rhywiol ar blant ar sail grwpiau er mwyn sicrhau bod y cyd-destun Cymreig unigryw yn cael ystyriaeth briodol, gan hefyd cryfhau'r fframweithiau y mae'r Llywodraeth hon yn gyfrifol amdanynt yn uniongyrchol.
Rŷn ni'n gweithio'n gyflym i weithredu'r adolygiad cryfhau llywodraethiant diogelu a'n hymrwymiadau maniffesto ein hunain, er mwyn dod â gwahanol elfennau o'r gwaith yma o ddiwygio'r maes diogelu at ei gilydd mewn rhaglen genedlaethol gydlynol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, plismona a'r trydydd sector i wella camau atal ac ymyrryd cynnar, cryfhau'r broses o adnabod niwed yn gynnar trwy well defnydd o ddata a gwybodaeth ac, yn bwysicaf oll, sicrhau bod pryderon plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn hollol o ddifrif a diamod bob amser.
Fel yr un sy'n arwain ar ddementia yn y Llywodraeth, dwi wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth dementia newydd sy'n canolbwyntio ar iechyd yr ymennydd, gwella diagnosis a chryfhau cymorth. Dwi'n benderfynol o helpu pobl ag anableddau dysgu yn well trwy gryfhau cymorth cymunedol, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a byrhau arosiadau yn yr ysbyty. Trwy ein gwaith i sefydlu safon gofal cyson ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai, fe fyddwn ni'n gweithredu yn unol â'n maniffesto ar yr ymrwymiadau sy'n deillio o'r ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn a'r adroddiad 'O Ysbytai i Gartrefi.'
Dwi wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl niwrowahanol yn gallu cael mynediad at gymorth amserol o safon uchel ble bynnag maen nhw'n byw, trwy leihau'r amseroedd aros am asesiadau i blant a chael gwared ar y cyfnodau aros hiraf. Fe fyddwn ni hefyd yn gwella gwasanaethau awtistiaeth ac ADHD i oedolion, yn buddsoddi i ddatblygu'r gweithlu ac yn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu siapio ar y cyd gyda phobl niwrowahanol a'u teuluoedd.