Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/06/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Prynhawn da, bawb. Croeso nôl.

Fe ddechreuwn ni gydag eitem 1.

Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Cwestiwn 1, Cristiana Emsley.

Diwylliant, Iaith a Threftadaeth

1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ac yn hyrwyddo diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru, ac yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ymfalchïo yn hunaniaeth unigryw Cymru? OQ64215

Member
Heledd Fychan 13:30:29
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, amlinellais fy ngweledigaeth a’m huchelgais i weld Cymru'n dod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon, gyda’r Gymraeg a'n treftadaeth yn ganolog i hynny. Mae sicrhau tegwch o ran mynediad, cynrychiolaeth a chyfranogiad hefyd yn rhan allweddol o'r weledigaeth.

Diolch. Yn 2022, cyhoeddodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ei bod yn ystyried cael gwared ar 'Glyndŵr' o'i henw, yn rhannol, yn ôl pob tebyg, am ei fod yn cael ei ystyried gan rai yn rhy Gymraeg, neu anodd ei ynganu. Yn anffodus, cafwyd gwared ar enw Owain Glyndŵr o enw'r brifysgol yn swyddogol yn 2023. Nawr, wrth gwrs, nid oeddech chi'n Llywodraeth ar y pryd, ond fel llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant, chwaraeon a materion rhyngwladol, ac o ystyried eich ymrwymiad maith i hyrwyddo'r Gymraeg a threftadaeth Cymru, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw ddatganiad cyhoeddus, cyfraniad yn y Senedd, datganiad i'r wasg na chyfweliadau yn y cyfryngau lle gwnaethoch chi fynegi pryder am yr argymhelliad. Wrth edrych yn ôl, a ydych chi'n credu bod cael gwared ar enw Owain Glyndŵr o enw un o brifysgolion Cymru wedi anfon y neges anghywir am hyder a balchder yn hunaniaeth Cymru, a chan edrych yn ôl, a fyddech chi'n cefnogi ymdrechion i'w adfer?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Dwi'n meddwl eich bod chi'n codi pwynt allweddol o bwysig o ran ein treftadaeth ni, ein hanes ni ac, efallai, y diffyg dysgu sydd wedi bod o'r hanes a'r treftadaeth hwnnw. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn meddwl bod Owain Glyndŵr yn enw anodd i'w ddweud yn y genedl roedd o mor falch o'i harwain yn dweud y cyfan. Fedraf i ddim meddwl am unrhyw wlad arall lle y byddai hynny'n digwydd. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o hanes yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion ni. Yn amlwg, mae yna ymrwymiadau ym maniffesto Plaid Cymru o ran gwarchod enwau lleoedd hefyd, sy'n eithriadol o bwysig. Dwi'n credu ein bod ni wedi gweld ers hynny nifer o sefydliadau yn arddel y Gymraeg—os ydyn ni'n meddwl am barc Bannau Brycheiniog neu Eryri, lle ceir dim ond y Gymraeg. Dwi'n meddwl bod yna angen lot mwy o gydweithio rhyngof fi a, dwi'n gwybod, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, i sicrhau bod pawb â'r hyder i ddefnyddio'r geiriau Cymraeg, ond hefyd fod ganddyn nhw'r hawl i ddysgu am hanes Cymru.

Mae gan fy etholaeth i, Casnewydd Islwyn, draddodiad balch o groesawu mewnfudwyr. Gellir gweld hyn yn y cymunedau amlddiwylliannol o amgylch dociau Casnewydd, mewn mannau fel Maendy a Philgwenlli, ac yn y plant Basgaidd a groesawyd gan Gaerllion ar ôl iddynt ffoi rhag ffasgiaeth yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Ar draws cymunedau glofaol Islwyn, ymsefydlodd teuluoedd Pwylaidd ar ôl yr ail ryfel byd, gan helpu i ailadeiladu cymunedau a oedd yn wynebu prinder difrifol yn y gweithlu. Hyd yn oed ymhellach yn ôl, mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ein hatgoffa bod Cymru wedi'i siapio ers amser maith gan bobl yn cyrraedd, yn ymgartrefu ac yn cyd-fyw â'r rheini a oedd yma eisoes. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hanes Cymru’n dapestri cyfoethog, wedi'i wreiddio mewn traddodiadau hir, ond wedi'i gryfhau a'i gyfoethogi gan fewnfudwyr a ymgartrefodd yng Nghymru ac sydd bellach yn falch o alw eu hunain yn Gymry? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno y byddai dathlu'r hanes hwn yn ehangach yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth a goddefgarwch o'r amrywiaeth sydd wedi bod yn rhan o'n cymunedau ers amser maith?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, dwi yn cytuno efo hynny. Mae hanes Cymru ac mae Cymru wedi eu cyfoethogi gan y ffaith bod gennym ni draddodiad o bobl yn ymgartrefu yma ac wedyn yn rhan annatod o'n cymdeithas ni. Mi welais i fideo yn ddiweddar yma gan y Welsh Refugee Council a oedd yn sôn am deulu ym Mhontypridd, yr Orsis. Maen nhw wedi bod yma ers cenedlaethau ac yn rhan annatod o gymeriad y dref rŵan, efo'u caffis, y Bracchis ac ati. Mae hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n cofio nad peth newydd ydy pobl yn dod i Gymru a'n bod ni'n dathlu'r cyfraniad arbennig y mae pobl wedi'i wneud.

Dwi'n eithriadol o falch o'r gwaith y mae Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ei wneud o ran sicrhau bod stori'r bobl a oedd yma yng Nghymru yn cael ei dweud ochr yn ochr â'r Rhufeiniaid rŵan. Mae yna gymaint o storïau dydyn ni'n dal ddim yn eu dweud yn dda yma yng Nghymru, ac mae yna ymrwymiad pendant gan Blaid Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddysgu, ond hefyd, drwof fi, yn cael ei ddathlu a chyfleoedd i bobl ymgysylltu â fo.

13:35

Ar y penwythnos, roedd hi'n braf cael mynychu gŵyl dreftadaeth Gymraeg y ddinas, Tafwyl, yn dathlu ei hugeinfed flynedd. Mae hi wedi mynd o nerth i nerth, a braf gweld hynny. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo nawr i barhau'r gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r ŵyl honno?

Yr wythnos ddiwethaf, fe gawsom ni'r newyddion hefyd fod yna nawr fwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Mae hynny yn dilyn degawd a mwy o bolisïau cefnogol, megis adeiladu mwy o dai, hybu twf economaidd y ddinas, hyrwyddo addysg Gymraeg, a statws Caerdydd fel prifddinas wirioneddol ddwyieithog. Gaf i holi ymhellach sut fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu'r gwersi o lwyddiant twf Cymraeg Caerdydd gyda gweddill Cymru?

Diolch. Dwi yn ymwybodol fod nifer o'r cwestiynau hynny yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ond yr hyn sydd yn wahanol o ran y Llywodraeth hon ydy ein bod ni'n cydweithio fel Gweinidogion, ac fy mod i'n bendant iawn, fel roeddwn i'n sôn yn fy natganiad o ran blaenoriaethau diwylliant yr wythnos ddiwethaf, fod y Gymraeg yn mynd i fod yn rhan ganolog o fy mhortffolio i ac o ran y strategaeth ddiwylliant newydd.

Mi wnes i fwynhau yn arw mynychu Tafwyl. Roedd nifer o Aelodau wedi mwynhau Tafwyl. Mae hi'n ŵyl bwysig dros ben. Yr hyn rydyn ni eisiau sicrhau ydy ein bod ni fel Llywodraeth yn edrych ar y digwyddiadau sy'n digwydd ledled Cymru a sicrhau ein bod ni'n gweithio efo nhw i sicrhau eu bod nhw'n gynaliadwy i'r dyfodol, oherwydd un o'r heriau glywsom ni pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg oedd mentrau iaith yn sôn am yr heriau o ran costau cynyddol, ond hefyd mynd o flwyddyn i flwyddyn o ran y cyllid hwnnw. Drwy gael strategaeth hirdymor ac edrych ar yr ystod y bethau y byddwn ni'n eu cefnogi, rwy'n gobeithio wedyn y bydd hynny'n gallu rhoi sicrwydd i wyliau bod yna ddyfodol iddyn nhw, ond hefyd ein bod ni'n gallu bod yn strategol o ran ein buddsoddiad a sicrhau'r gwaddol gorau posib, a chydgysylltu efo addysg lle bo hynny'n briodol hefyd.

Chwaraeon i Bobl Anabl

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog cyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith pobl anabl? OQ64207

Ein gweledigaeth fel Llywodraeth yw i bawb gael mynediad teg a chyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Drwy Chwaraeon Cymru, mi fyddwn yn parhau i ariannu Chwaraeon Anabledd Cymru i helpu i droi'r weledigaeth hon yn realiti. Mae yna ymrwymiad trawslywodraethol i gefnogi'r weledigaeth hon.

Diolch am eich ymateb. Un rhwystr allweddol yw hygyrchedd. Ceir llawer o gyfleusterau chwaraeon nad ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer defnyddwyr anabl—er enghraifft, rhai heb rampiau, offer addasol neu ystafelloedd newid hygyrch. Golyga hyn nad yw'n gorfforol bosibl i rai pobl gymryd rhan. Mae hyn yn lleihau cyfranogiad ac yn un o achosion ynysigrwydd cymdeithasol, gyda 70 y cant o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn heb fod yn gadael eu cartrefi. Rhwystr arall yw agwedd a hyder a'r teimlad eu bod yn cael eu stigmateiddio gan y boblogaeth ehangach. Oherwydd y stigma, gall pobl anabl wynebu stereoteipio negyddol neu deimlo nad oes croeso iddynt mewn clybiau chwaraeon. Gall hyn leihau hyder a’u perswadio i beidio ag ymuno, gan arwain at ansawdd bywyd gwaeth. Wedi dweud hynny, a all y Llywodraeth esbonio sut yr aiff i’r afael â’r anghydraddoldebau parhaus hyn, yn enwedig o ran mynediad a dosbarthiad cyllid, a pha fecanweithiau sydd ar waith i warantu bod buddsoddiad yn cyflawni newid gwirioneddol, mesuradwy i bobl gyffredin, yn hytrach na llwyddiannau i greu penawdau'n unig?

Diolch i’r Aelod am godi’r pwyntiau hollbwysig hynny. Fel y byddwch wedi'i glywed yr wythnos diwethaf, rydym wedi ymrwymo i adolygiad o gyfleusterau er mwyn sicrhau ein bod yn deall pa rwystrau sydd ar waith ar hyn o bryd i atal pobl rhag gallu cymryd rhan. Rydym yn glir na fydd y buddsoddiad sydd angen inni ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn golygu ein bod yn gosod rhwystrau gyda’r buddsoddiad hwnnw, a bod popeth wedi’i ystyried yn drylwyr fel bod y buddsoddiad yn hygyrch i bawb.

Ceir pwynt ehangach hefyd lle rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn i edrych ar ba ddigwyddiadau y gallwn eu cynnal yma yng Nghymru. Er enghraifft, byddwn yn cynnal y bencampwriaeth para-ffensio yn nes ymlaen eleni. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yng Nghymru yn gweld athletwyr o safon uchel, a pha ydynt yn anabl ai peidio, ein bod yn dathlu chwaraeon a chwarae teg, a bod hynny hefyd yn arwain at eraill yn gallu cymryd rhan. Oherwydd nid oes unrhyw ddiben denu'r chwaraeon a'r digwyddiadau hyn i Gymru, a phobl Cymru'n cael eu hysbrydoli ganddynt os nad oes cyfle i gymryd rhan. Felly, rwy'n awyddus iawn nid yn unig ein bod yn denu'r digwyddiadau hynny, ond bod gwaddol gwirioneddol a pharhaol o'r digwyddiadau hynny. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd bob amser.

Weinidog, ychydig ddyddiau ar ôl cael fy ethol, cysylltodd Breakthrough T1D, elusen trydydd sector sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda diabetes, â mi. Yng ngoleuni'r rhwystrau y mae pobl â chyflyrau iechyd hirdymor fel diabetes yn eu hwynebu, gan gynnwys lefelau isel o ymwybyddiaeth, pryderon diogelwch a diffyg hyder ymhlith hyfforddwyr, mae Sport England eisoes yn archwilio canllawiau ymarfer cynhwysol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyrff chwaraeon yng Nghymru yn cael adnoddau addas i gefnogi cyfranogiad? Ac a yw am weithio gyda Chwaraeon Cymru i fabwysiadu neu alinio ag egwyddorion ymarfer cynhwysol, os gwelwch yn dda?

13:40

Diolch i'r Aelod am godi'r pwyntiau eithriadol o bwysig hynny. Fel roeddwn i'n sôn yn fy ymateb cychwynnol a'r wythnos diwethaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud yn gyfan gwbl gynhwysol, ac mae honna wedi bod yn neges glir yn y sgyrsiau dwi wedi bod yn eu cael efo Chwaraeon Cymru. Ac yn sicr, mi fyddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod chwaraeon ac ati yn gyfan gwbl gynhwysol. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddiweddaru'r Senedd hon wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo. 

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bŵer chwaraeon, ac rydym wedi bod yn siarad ynglŷn â'r ffordd y gall ddod â chymunedau ynghyd, chwalu rhwystrau ac ati. Gwyddom hefyd am ei lu o fanteision, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, a chymaint yn rhagor, ond hoffwn godi mater hygyrchedd hefyd. Ddoe, siaradais am drafnidiaeth a’r angen i gael trafnidiaeth hygyrch, yn enwedig mewn perthynas â’n strydoedd mawr. Ond boed eich bod chi'n cymryd rhan neu'n gefnogwr yn gwylio, mae cymaint o waith i'w wneud yma. Wrth gwrs, mae Caerdydd yn mynd i fod yn cynnal gêm agoriadol Ewro 2028. Felly, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu nid yn unig i werthu ein dinas wych, anhygoel a Chymru gyfan, ond i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r bencampwriaeth honno. Felly, os gwelwch yn dda, a wnaiff y Gweinidog Cabinet ddweud wrthyf sut y mae'n mynd i fod yn gweithio gyda chyd-Aelodau, ond hefyd gyda sefydliadau fel Anabledd Cymru, i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fwynhau'r gamp, nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd i gymryd rhan go iawn? Ac rydym yn sôn am bobl â phob math o anableddau, yn yr ystyr ehangach.

Diolch. Mae hwn yn bwynt pwysig dros ben, a dyna'r union weledigaeth roeddwn i'n amlinellu'r wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i'r hyn rydyn ni'n ei wneud fod yn gyfan gwbl gynhwysol. Dwi wedi herio, pan oeddwn i'n lefarydd yr wrthblaid, o ran y digwyddiadau mawr yma, beth ydy'r gwaddol gwirioneddol? Beth ydy'r budd i bobl yma yng Nghymru? Weithiau, roedd y Llywodraeth flaenorol yn credu mai dim ond y niferoedd yn dod i Gymru oedd hynny, a dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Os ydy pobl yn byw yn ein cymunedau ni, yn gallu gweld digwyddiad mawr yn digwydd, yn cael eu heffeithio gan y ffaith bod digwyddiad mawr yn digwydd, ond ddim yn gallu cael mynediad, efallai fod hynny hefyd oherwydd cost mynychu. Felly, y ffordd y bydd y Llywodraeth yma yn mynd ati'n wahanol ydy drwy sicrhau bod y cwestiynau yna o'r dechrau. Mae'n amlwg bod y gwaith wedi dechrau gyda Ewros 2028, ond dwi wedi cael sicrwydd gan swyddogion fod gen i'n dal amser i roi fy stamp fy hun a stamp y Llywodraeth hon, a hefyd adlewyrchu'r sylwadau rydw i wedi'u clywed heddiw, ar y gwaith hynny. A byddwn i'n gofyn i unrhyw Aelodau sydd â syniadau o ran Ewros 2028, sy'n cynrychioli Caerdydd yn benodol, i rannu'r rheini efo fi, ond dwi hefyd eisiau sicrhau bod yna waddol Cymru gyfan o ran Ewros 2028. Dwi eisiau pobl i ddod i Gymru a mynd i rannau eraill o Gymru yn ystod y twrnament hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Galwaf yn awr ar y lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, James Evans.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd ddoe, roedd yna £2 filiwn ychwanegol i ysgolion ar gyfer nofio, rhywbeth yr wyf i a fy mhlaid yn ei gefnogi'n llwyr, gan fod angen inni sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn dysgu nofio, yn enwedig gan ein bod yn gweld cynnydd mewn nofio mewn dŵr oer a phobl, yn enwedig yn y tywydd poeth hwn, yn neidio i mewn i afonydd ac ati. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu nofio. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn ei wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, yw pa arian ychwanegol sy'n mynd i fynd tuag at chwaraeon yn ehangach na'r £2 filiwn? Gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi sôn amdano yn y gorffennol. Hoffwn wybod a oes unrhyw beth arall ar ben y £2 filiwn a fydd yn cael ei ddarparu i'r gyllideb chwaraeon eleni.

Diolch i'r llefarydd am y cwestiwn, a hefyd diolch am y gefnogaeth i'n polisi nofio ni. Elfen bwysig ohono ydy nofio, ie, ond hefyd diogelwch yn y dŵr, oherwydd rydyn ni hefyd yn gwybod nad dim ond nofio mae pobl mewn dŵr, ond mae gweithgareddau rŵan o ran paddleboarding ac ati. Mae yna lot o gynnydd wedi bod mewn pobl yn cael eu hanafu neu'n boddi, ac ati, drwy'r math yna o weithgareddau hefyd. Felly, mae'r elfen yna'n eithriadol o bwysig, a diolch am y gefnogaeth.

O ran cyllid ychwanegol, yr hyn ddaeth yn amlwg i fi o ddod yn Weinidog ydy nad oedd yr holl gyllideb a oedd gen i wedi’i neilltuo yn barod o ran chwaraeon—nad oedd hi wedi’i gwario. Felly, beth dwi wedi bod yn ei wneud ydy ailbroffilio honno i sicrhau ein bod ni'n ceisio cael yr impact mwyaf posib, tra bod y gwaith yn mynd rhagddo o ran datblygu'r hyn sydd ei angen ar gyfer cyllidebau'r dyfodol. Felly, dyna'r ymrwymiad: i ddefnyddio beth sydd gennym ni yn fwy effeithiol o fewn y gyllideb eleni. Ond mae'r gwaith trawsbortffolio hwnnw eisoes wedi dechrau er mwyn edrych ar gyllidebau'r dyfodol.

13:45

Diolch, Weinidog Cabinet. Gan ichi sôn am waith trawsbortffolio, un peth sydd wedi dod yn glir yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon. Os ydym am i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae angen iddynt gael mynediad at gyfleusterau da. Un peth y gwnaf roi clod i'r Llywodraeth flaenorol amdano yw rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a ddatblygodd gyfleusterau chwaraeon da yn yr ysgolion a adeiladwyd. Ond yr hyn a welwn, ar ôl ysgol, yw bod y gatiau hynny'n cau ac nid oes gan y cymunedau fynediad at y cyfleusterau chwaraeon hynny. Hoffwn wybod pa waith rydych chi'n ei wneud ar draws y Llywodraeth gyda'r Gweinidog Cabinet dros addysg i ganiatáu i'r bobl ifanc hynny—ac nid pobl ifanc yn unig, ond y gymuned gyfan—gael mynediad at y cyfleusterau chwaraeon hynny yn yr ysgol, fel y gallwn gynyddu cyfranogiad ar draws ein cymunedau.

Diolch. Yn union: rydym yn cael y sgyrsiau hynny nawr. Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod dwyochrog gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, oherwydd, rydych chi'n iawn i nodi'r buddsoddiad hwnnw, ond os na allwch gael mynediad atynt ar ôl oriau, neu os oes baich ychwanegol ar ysgolion, yn hytrach na'i fod yn cael ei weithio i mewn i'r gyllideb o ran sut rydych chi'n darparu'r adnoddau fel y gall fod ar agor—. Hefyd, mae rhai o'r pethau a ddygwyd i fy sylw'n cynnwys prinder llifoleuadau, fel ei fod yn gyfleuster sy'n agored drwy'r flwyddyn. Mewn rhai gwledydd—a rhai rhannau o Gymru—mae gan bobl ganopïau hefyd, sy'n golygu y gall fod yn gyfleuster pob tywydd. Felly, gallech ddal i gymryd rhan yn y gwres hwn, neu os yw'n glawio. Dyna pam ein bod eisiau edrych ar hyn yn strategol. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen i hynny ddigwydd, rydym yn gweithio drwy sut y gall hynny ddigwydd, ond yn sicr, mae a wnelo â buddsoddi pob punt er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf. Fy nghwestiwn i yw pam cael y cyfleusterau chwaraeon hynny os na ellir cael mynediad atynt a'u bod dan glo yn ystod y gwyliau. Ni chredaf fod honno'n sefyllfa dderbyniol.

Rwy'n cytuno, ond un peth y mae angen inni ei weld yw cyflymder yn hyn o beth. Pryd y gwelwn y cyfleusterau hynny ar agor i gymunedau? Oherwydd rydym wedi cael y sgyrsiau hyn o'r blaen. Gwn ein bod wedi trafod hyn yn y Siambr yn y gorffennol, a'i fod yn rhywbeth y bu'r Llywodraeth flaenorol yn sôn amdano am bum mlynedd, rwy'n credu, ond nid aethant erioed i'r afael â'r mater yn iawn. Mae llawer o'n cyrff llywodraethu a'n clybiau chwaraeon ledled y wlad yn erfyn am fynediad at y cyfleusterau hyn. Mae siarad yn un peth, ond mae angen camau gweithredu pendant o ran pryd y bydd hynny'n digwydd. A allwch chi nodi amserlen heddiw i ddangos pryd y credwch y bydd gan y clybiau hynny fynediad at gyfleusterau ysgol? Oherwydd mae angen inni fynd i'r afael â hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Gallaf ddychmygu cael y sgwrs hon gyda chi ymhen pedair blynedd cyn etholiadau nesaf y Senedd.

Buaswn yn gobeithio y byddai'r ffaith ein bod yn siarad am hyn—rwyf wedi cael llai na 40 diwrnod fel Gweinidog ac rwyf eisoes wedi cael y trafodaethau hynny ac wedi dweud yn glir iawn ble rydym eisiau cyrraedd—yn rhoi'r sicrwydd y mae'r Aelod yn ei geisio fod hyn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Ni allaf roi amserlen i chi ar hyn o bryd, gan fod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, ond yr arweiniad clir iawn yr wyf wedi'i roi yw bod angen imi ddeall pam nad yw hyn yn digwydd a beth fydd angen iddo digwydd er mwyn newid hyn.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a minnau'n cytuno bod angen i hyn ddigwydd—na all ein cyllidebau fod mewn seilos. Yn amlwg, mae rhai o'r penderfyniadau'n cymryd peth amser o ran adeiladu ysgol newydd—mae'n cymryd peth amser i fynd drwy ymgynghoriad ac ati. Ond yn sicr, ar gyfer unrhyw benderfyniadau newydd a wnawn, rydym eisiau sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o weithredu. Drwy'r adolygiad o gyfleusterau yr wyf eisoes wedi'i gychwyn, rwyf eisiau deall beth yw'r rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Un yw deall ble mae seilwaith yn brin; yr ail yw deall pa seilwaith sy'n bodoli ond nad yw'n cael ei ddefnyddio a sut y gallwn wella hynny.

Rwyf am ofyn i unrhyw Aelod yma sy'n ymwybodol o ysgol benodol lle ceir problemau roi gwybod i mi. Hoffwn wybod am yr enghreifftiau hynny. Gallaf addo i chi fod cyrff llywodraethu wedi bod mewn cysylltiad â mi hefyd, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn y blaen, gan y gellid gwneud mwy yn ein cymunedau pe bai'r cyfleusterau hynny ar agor drwy'r amser. Nid wyf innau eisiau bod yma'n ateb cwestiynau ymhen pedair blynedd chwaith, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Nid wyf eisiau bod yma ymhen blwyddyn yn ateb y cwestiynau hynny. Ond o ran yr amserlen honno, mae cymaint i geisio ei ddatrys yn y portffolio hwn ac i geisio ei gael yn iawn, ac rwy'n benderfynol o fynd i'r afael â'r hyn sydd ei angen.

13:50

Diolch, Lywydd. Rwy'n credu ym mhwysigrwydd chwaraeon tîm, fel rhywun a oedd yn arfer cymryd rhan. Mae'n bwysig ar gyfer dysgu gwaith tîm, gwella iechyd, a datblygu cyfeillgarwch. Mae fy ŵyr yn chwarae pêl-droed a rygbi ar lefel dan naw yn Abertawe ac yn mwynhau'n fawr. Rwy'n ymwneud â nifer fawr o dimau pêl-droed a rygbi, nad wyf am eu henwi yma, ond maent ar fy natganiad. Ni fyddech chi'n rhoi digon o amser imi enwi pob un ohonynt.

Yn y gaeaf, ar gaeau nad ydynt yn 3G neu 4G, mae llawer o gemau iau yn cael eu canslo oherwydd glaw. Mae pobl ifanc yn dod allan o'r arfer o chwarae ar ddydd Sadwrn. Mae llawer yn rhoi'r gorau i chwarae i'w timau. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo chwaraeon tîm a sicrhau bod timau’n gallu chwarae drwy gydol y flwyddyn? Ac rwy'n dymuno pob lwc i chi wrth geisio cael penaethiaid ysgol i ganiatáu i'w caeau gael eu defnyddio.

Diolch am eich cwestiynau, Mike. Rwy'n falch o glywed eich bod yn eiriolwr dros chwaraeon tîm. Rwyf wedi sylwi ar eich cysylltiadau dros y blynyddoedd, lle rydych chi'n cefnogi gwahanol glybiau ac ati ac yn datgan hynny, sy'n wych i'w weld.

Rwy'n credu mai’r peth allweddol yn hyn o beth yw sicrhau bod cyfleoedd i'w cael, ac fel y soniais yn fy ymateb i James Evans, edrych ar gyfleusterau o ran defnydd drwy gydol y flwyddyn. Fe euthum i Smash Padel a gweld pencampwriaethau padel iau Ewrop yn ddiweddar ar gaeau Llandaf. Mae ganddynt ganopïau yno, sy’n golygu bod pobl yn gallu chwarae drwy gydol y flwyddyn. Maent yn ddrud, ond un o’r pethau y mae angen inni edrych arnynt yw beth yw’r cyfleoedd i sicrhau bod mynediad i'w gael drwy gydol y flwyddyn. Ni allaf reoli'r tywydd, yn anffodus. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond hefyd, gwn fod llawer o gampau'n ystyried newid tymhorau ac ati.

Ffactor allweddol arall yr ydym yn edrych arno yw’r ffaith bod llawer o gyfleusterau chwaraeon yn agos at afonydd, sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd, gan effeithio'n wirioneddol ar allu’r clybiau hynny i oroesi a chymryd rhan. Oherwydd gwyddom hefyd, yn enwedig gyda phlant, os nad ydynt yn mynd bob wythnos, eu bod yn dod allan o'r arfer, ac yna mae'n hawdd peidio â dychwelyd pan fydd y caeau'n addas i chwarae arnynt. Mae’r parhad hwnnw’n bwysig. Dyna pam fod yr adolygiad o gyfleusterau yn wirioneddol hanfodol yn hyn o beth, i ddeall yn iawn pa gyfleusterau sydd yno, ond hefyd pa rai sydd mewn perygl y mae angen inni feddwl yn wahanol yn eu cylch.

Ddoe, ymwelais ag ysgol Penyrheol yn fy etholaeth, a bûm yn siarad â’r plant yno. Roeddent yn dweud mai unwaith bob tair wythnos, ar y gorau, y gallech chi chwarae rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Ar y gwaethaf, gallwch fynd am fisoedd heb chwarae. Mae'n wirioneddol bwysig fod gennym gyfleusterau ar gael. Roeddwn yn falch iawn pan ddywedoch chi, yr wythnos diwethaf, yn eich datganiad, Weinidog, eich bod yn mynd i lunio rhestr o’r ddarpariaeth chwaraeon yng Nghymru. Faint o gaeau 3G a 4G sydd ar gael nawr, a faint y bwriadwch iddynt fod ar gael ym mis Ebrill 2030?

Diolch am eich cwestiwn. Yn anffodus, nid oedd Gweinidogion blaenorol wedi gwneud y gwaith hwnnw, felly rwyf wedi gorfod dechrau’r gwaith o’r dechrau ac ni allaf roi’r union ffigur i chi. Ond yr hyn y gwnaf ymrwymo iddo, pan fydd yr holl wybodaeth honno ar gael i mi am y cyfleusterau ledled Cymru, yw y byddaf yn ei rhannu er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, a bydd hynny'n helpu i lywio cyllid a blaenoriaethau yno yn y dyfodol. Diolch.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi nodi eich blaenoriaethau ar gyfer y sector diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, ac roedd hynny’n cynnwys rhestr o gamau y bwriadwch eu cymryd i gynyddu cyfranogiad diwylliannol, gan gynnwys cyflawni strategaeth diwylliant Cymru, gwella seilwaith lleoliadau ledled Cymru, a buddsoddi mewn rhaglenni chwaraeon fel nofio i ysgolion. Ddoe, cyhoeddwyd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru, nad oedd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o ran cyllid i’r sector diwylliant. A dweud y gwir, ni soniodd y Gweinidog cyllid am ddiwylliant o gwbl yn ei datganiad ddoe. Fel y crybwyllwyd eisoes, cyfeiriodd yn unig at y £2 filiwn o gyllid adnoddau a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen nofio a diogelwch dŵr newydd i ysgolion. Felly, i ategu eich ateb cynharach, pa mor hyderus ydych chi y bydd gennych yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddechrau cyflawni'r ymrwymiadau a wnaethoch chi i'r sectorau diwylliant a chwaraeon yn ymarferol?

Hoffwn atgoffa’r Aelod mai cyllideb atodol oedd hon. Yn amlwg, bydd cyllideb lawn gyntaf Llywodraeth Plaid Cymru yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen eleni. Edrychaf ymlaen at y gwaith craffu arni gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon, yr wyf yn falch o weld bod yr Aelod wedi’i ethol i wasanaethu arno.

Rwy'n hyderus fod gennyf gefnogaeth lawn fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn y weledigaeth a amlinellais yr wythnos diwethaf, gyda phenderfyniad i weithio ar draws y Llywodraeth, ar draws portffolios i wireddu pŵer y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon. Ers blynyddoedd bellach, fe glywsom Lywodraethau blaenorol yn sôn am yr angen i symud tuag at atal a phwysigrwydd chwaraeon a'r celfyddydau, ond mae hynny wedi dilyn toriadau dwfn yn y sectorau hyn. Drwy fabwysiadu dull o weithredu sy'n edrych ar gyflwr chwarae, drwy fod yn strategol a bod yn glir iawn fod angen datblygu'r strategaeth hon yn gyflym ond iddi fod yn ystyrlon hefyd—gan ein bod wedi cael strategaethau yn y gorffennol nad ydynt wedi arwain at unrhyw newidiadau—rydym yn mynd ati yn y ffordd gywir, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gweld cynnydd.

Rwyf wedi bod yn onest drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf ac ers dod yn Aelod fod angen imi ddeall faint o fuddsoddiad sydd ei angen i allu cynllunio'n iawn. Mae'r ffaith nad oes gennym y ffigurau hynny'n broblem wirioneddol i mi o ran gallu dadlau'r achos hwnnw i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid, gan fod angen imi gael y ddealltwriaeth glir honno. Yr hyn a welais yn digwydd yn rhy aml yn y portffolio hwn yw dull tymor byr o weithredu er mwyn creu penawdau. Nid yw hynny'n gynaliadwy; nid yw'n arwain at newid. Fy ymrwymiad i yw gwneud y gwaith hwnnw'n iawn cyn gynted â phosibl fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus fel Llywodraeth, ond hefyd anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaethom, gan ein bod yn credu ym mhŵer diwylliant, celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon ac rydym yn benderfynol o wneud iddo weithio.

13:55

Rydym wedi clywed llawer o sôn ers etholiadau'r Senedd ynglŷn â chynyddu lefel y cyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn perthynas â'r sector diwylliant. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gwariant cyhoeddus Cymru ar ddiwylliant ymhlith yr isaf yn Ewrop, ac mae prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhybuddio, os bydd toriadau i gyllid y diwydiant celfyddydau yn parhau, na fydd sector proffesiynol ar ôl ymhen 10 mlynedd. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei gynnig i'r sector na fydd cyllideb 'busnes fel arfer' yn yr hydref ac y bydd y sector yn derbyn buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru fel bod sector proffesiynol yn bodoli ymhen 10 mlynedd?

Diolch am eich cwestiwn. Mae gennych Weinidog yma sy'n barod, yn wahanol i Weinidogion blaenorol, i gydnabod bod argyfwng yn y sectorau hyn ac sy'n benderfynol o fynd i'r afael â'r materion hynny. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen inni ddeall beth yw'r angen gan ein sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, er mwyn deall sut i'w gwneud yn gynaliadwy, pa fath o fodel fydd yn gweithio. Rwyf eisoes wedi trafod gyda Chyngor Celfyddydau Cymru sut y gallwn weithio mewn partneriaeth i adolygu a yw'r cytundebau fframwaith, y llythyrau cylch gwaith ac yn y blaen yn cyflawni fel y dylent. Yr effaith i bobl Cymru sydd wrth wraidd popeth yr ydym am ei wneud. Mae a wnelo â sicrhau bod gan bobl fynediad at sefydliadau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth o ansawdd uchel. Mae'r trywydd y buom arno ers gormod o amser wedi bod yn warthus. Mae wedi arwain at sefyllfa o argyfwng. Rydym yn benderfynol o gael cynllun hirdymor, golwg hirdymor, gan gofio'r cyfyngiadau yn y gyllideb, ond rydym hefyd yn benderfynol o sicrhau nad ydym yn parhau ar y trywydd tuag at i lawr yr ydym wedi bod arno.

Chwaraeon ar Lawr Gwlad

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yng ngogledd Cymru? OQ64196

Ledled Cymru, mae £34 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, ond, fel yr amlinellais yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, mae angen gwneud mwy o waith i ddeall lefel y buddsoddiad sydd ei hangen i fuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad ym mhob cornel o Gymru. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gomisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethu cenedlaethol, i lywio buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu dros dymor y Llywodraeth. Mae hyn oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb.

Diolch, Weinidog. Cydnabyddir ers tro sut y gall sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad fod o fudd i'r unigolyn a'n cymdeithas gyfan. Yn aml, mae clybiau llawr gwlad yn darparu lle diogel a sicr i bobl ifanc gymdeithasu, dysgu a thyfu. Mae'n cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn helpu i feithrin ymdeimlad o falchder a phwrpas yn yr unigolyn. Yn ychwanegol at hynny, mae sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn allweddol i'w hannog i ddilyn ffordd o fyw sy'n fwy egnïol ac iach, sy'n hanfodol i'r agenda ataliol mewn perthynas ag iechyd a lleihau pwysau ar y GIG. Er hyn, dywed clybiau chwaraeon llawr gwlad wrthyf pa mor anodd yw sicrhau cymorth grant, gweithio gydag awdurdodau lleol neu gael mynediad at grantiau Llywodraeth Cymru. O ystyried hyn, Weinidog, a allwch chi egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fframwaith cymorth cyfannol ar gyfer chwaraeon llawr gwlad yng ngogledd Cymru?

14:00

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cyfraniad hwnnw. Dwi mor falch ein bod ni'n gweld consensws ar draws y Senedd hon am bwysigrwydd hyn. Mae yna nifer o gwestiynau ynglŷn â chwaraeon llawr gwlad wedi dod drwy'r sesiwn hwn, a dwi wedi fy nghalonogi bod yna gymaint o gefnogaeth i'r weledigaeth y gwnes i ei hamlinellu wythnos diwethaf a lle dŷn ni angen cyrraedd fel Llywodraeth. Mae o yn golygu cydweithio. Mae'r ffaith fy mod i ddim angen eich perswadio chi i gyd o ran gwerth y gwaith hwn yn dweud cyfrolau. Dŷn ni'n gwybod ei fod o'n bwysig, dŷn ni'n gwybod ei fod o o fudd i bobl, ond eto, dwi ddim yn meddwl bod hynna wedi cael ei gydnabod yn ddigonol yn y gorffennol.

Mae yna brosiectau anhygoel yn digwydd ledled Cymru gan glybiau ar lawr gwlad. Maen nhw nid yn unig yn trawsnewid bywydau, yn gwneud pobl yn iachach, maen nhw'n achub bywydau. Ond eto, maen nhw'n gorfod trio flwyddyn ar ôl blwyddyn am grant ar ôl grant, ddim yn sicr os ydyn nhw'n gallu parhau. Dwi angen deall sut dŷn ni'n mynd i gyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn normal, ble bynnag ydych chi'n byw yng Nghymru, bod gennych chi fynediad, a'n bod ni yn gwerthfawrogi clybiau ar lawr gwlad. Felly, yr holl waith dwi'n trio ei wneud ar y funud ydy sicrhau bod yna ddyfodol i glybiau llawr gwlad, a'n bod ni hefyd yn sicrhau bod eu potensial nhw yn cael ei wireddu.

Dwi yn realistig fy mod i ddim yn mynd i allu datrys hyn yn syth bìn chwaith, ond mae sut dŷn ni'n amddiffyn yr hyn sydd gennym ni hefyd yn rhywbeth dwi'n angerddol amdano fo. Os oes gennych chi esiamplau o glybiau ac ati, dwi wastad yn hapus i glywed amdanyn nhw gan Aelodau a gweld beth ydy'r math o esiamplau y gallen ni fod yn eu rhoi o fewn y strategaeth hon. Diolch.

Agenda Iechyd Atalio

4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gefnogi elusennau a sefydliadau trydydd sector ym meysydd chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau i hyrwyddo'r agenda iechyd ataliol? OQ64225

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gwaith eisoes ar y gweill i weithio ar draws y Llywodraeth i ddatgloi potensial chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau o ran iechyd ataliol. Fel yn fy ymateb i'r Aelod diwethaf, mae'r dystiolaeth yn glir. Mae yna waith arloesol yn y meysydd hyn yn barod yn achub bywydau, ac mae angen inni sicrhau mynediad a chyfle cyfartal i bawb.

Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o'r amrywiaeth yn fy nghymuned ac y gallai mynd i'r afael â'r anghenion alw am sawl dull o roi cymorth a help. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod elusennau wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu i gefnogi iechyd ataliol. Rwy'n awyddus i ymgysylltu â fy nghymuned a'r elusennau dan sylw i helpu i nodi beth sy'n gweithio ar hyn o bryd neu beidio. A fyddai'r Gweinidog yn croesawu'r adborth a'r dystiolaeth a gasglaf i gefnogi'r adolygiad y mae'n ei gynnal?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Yn sicr, rwy'n croesawu pob enghraifft, oherwydd un o'r pethau gwych y gallaf ei wneud yn y rôl hon yw sicrhau ein bod yn gweld pa arferion gorau sy'n digwydd ac nad ydym yn ceisio ailddyfeisio'r olwyn lle mae prosiectau gwych yn digwydd a allai fod mewn perygl, felly, o golli cyllid yn y dyfodol oherwydd newid mewn polisi.

Yn ddiweddar, cefais y fraint o fynychu gwobrau Cymdeithas Chwaraeon Cymru i ddathlu llawer o waith ar lawr gwlad a gwaith elusennol yn y maes, ac roedd yr effaith yn amlwg. Roedd un prosiect penodol a enillodd, y Guardian Ballers gyda Phêl-fasged Cymru, sy'n ymwneud mwy ag iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc na phêl-fasged mewn gwirionedd. Mae'r mathau hynny o brosiectau'n effeithiol iawn, gydag 88 y cant o'r cyfranogwyr yn nodi gwelliant mewn iechyd meddwl, a 92 y cant yn dweud eu bod wedi dechrau deall eu hunain yn well drwy'r sesiynau hynny. Felly, yr her yn fy marn i yw sicrhau bod hyn yn digwydd. Sut y gallwn sicrhau eich bod yn cael cyfle o'r fath ble bynnag y boch yng Nghymru? 

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn amcangyfrif bod gwerth ariannol manteision iechyd a chynhyrchiant drwy ymgysylltiad â'r celfyddydau yng Nghymru yn £588 miliwn y flwyddyn fan lleiaf. Mae'r manteision iechyd cyhoeddus a lleihau pwysau ar wasanaethau hanfodol yn glir, yn ogystal â buddion llesiant i bobl o bob oedran. Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cabinet hefyd yn cytuno â hyn, ond a all y Gweinidog Cabinet egluro: a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu gweithgareddau celfyddydol iechyd ataliol o'r gyllideb iechyd neu'r gyllideb ddiwylliant, neu'r ddwy?

14:05

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o weld y fath undod yma o ran y weledigaeth yr ydym wedi'i rhannu a'r angen i edrych ar bob cyllideb gyda'i gilydd i gael yr effaith orau. Oherwydd, mewn gwirionedd, mewn nifer o fyrddau iechyd, mae celfyddydau'n cael eu cynnig o fewn y lleoliad meddygol fel triniaeth. Rwy'n credu bod anghysondeb weithiau o ran o ble y daw'r cyllid hwnnw, felly gall peth ddod o Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r rhaglenni celfyddydau ac iechyd, ac mae peth wedi'i ariannu drwy'r byrddau iechyd eu hunain. Mae angen inni ddeall ble mae hynny'n arwain at annhegwch oherwydd hefyd, mae yna enghreifftiau gwych o presgripsiynu cymdeithasol yn digwydd yng Nghymru, ond nid yw hynny'n gyson chwaith. Yr hyn yr hoffem ei weld yw sut yr awn ati i newid hynny, a dyna'r gwaith sydd ar y gweill gennym nawr. Nid yw'n fater o dynnu o un gyllideb, ond yn hytrach, defnyddio pob cyllideb yn effeithiol a sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth orau sy'n bosibl iddynt hwy. Ac os mai ymyrraeth gelfyddydol neu chwaraeon neu rywbeth drwy bresgripsiynu cymdeithasol yw hynny yn hytrach na thriniaeth draddodiadol, yn sicr dyna ddylai fod yn digwydd os mai dyna'r driniaeth neu'r gefnogaeth orau er mwyn iddynt gael y canlyniad gorau.

Rydym yn benderfynol o beidio â gosod cyllidebau yn erbyn ein gilydd, ond edrych yn drawslywodraethol ar sut i sicrhau bod pob punt a wariwn yn cael yr effaith fwyaf, a sut yr awn ati i integreiddio pŵer y celfyddydau a chwaraeon o fewn iechyd. Mae'r dystiolaeth i gyd yno—mae'r dystiolaeth yno; nid oes angen i mi ddweud wrthych am y dystiolaeth. Ond sut y mae sicrhau bod pawb yn cael y cyfle hwnnw? Dyna'r her yr ydym yn mynd i'r afael â hi nawr.

Mynediad Cyfartal i'r Celfyddydau

5. Sut fydd y Gweinidog Cabinet yn sicrhau mynediad cyfartal i'r celfyddydau i bobl o bob oedran, cefndir, a gallu? OQ64210

Mae sicrhau mynediad teg i bawb yn ganolog i'n gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n amlwg ar y funud fod rhai pobl yn cael eu heithrio rhag gallu cymryd rhan yn a mwynhau'r celfyddydau oherwydd pwy ydyn nhw neu ble maen nhw'n byw. Mae'n rhaid i hyn newid, ac mi fyddaf i'n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Cabinet i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd ar waith ar hyn o bryd.

Diolch am yr ymateb. Rydyn ni'n gwybod bod cymryd rhan yn y celfyddydau o fudd mawr i lesiant pobl a phlant, ac mae gwella mynediad ar draws y bwrdd yn allweddol i wneud y mwyaf o'r budd hwn. Ond mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau wedi gostwng ers y pandemig, gyda 64 y cant o bobl yn mynychu digwyddiad celfyddydol rhwng 2022 a 2023, o'i gymharu â 70 y cant cyn hynny. A gyda 15 y cant o rieni yn dweud mai tripiau ysgol yw'r elfen addysgol anoddaf i'w rheoli yn ariannol, mae llawer o blant a phobl ifanc yn colli allan ar y profiadau cyfoethog sydd gan y celfyddydau i'w cynnig.

Mae'n bwysig sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i ymwneud â'n diwylliant ni oherwydd eu hoedran, eu cefndir neu eu gallu. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall pawb fwynhau holl fanteision a phleserau y celfyddydau?

Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc eithriadol bwysig hwnnw a thynnu sylw at yr ystadegau hynny hefyd a'r gostyngiad sydd wedi bod. Mi oeddwn i'n gyfan gwbl glir yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf mai yn ganolog i hyn ydy sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad, cydraddoldeb o ran cyfranogiad.

Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ymwneud efo diwylliant a'r celfyddydau. Mae ganddyn nhw hawl i ymwneud ag ymgysylltu â chwaraeon, ond mae yna rwystrau ar y funud, a'r sialens i ni ydy sut ydyn ni'n gweithio'n draws-lywodraethol, ar draws y Cabinet i fod yn gwireddu'r weledigaeth honno a'r hawl sylfaenol sydd gan bob plentyn.

Dwi'n ymwybodol iawn o ran tripiau ysgol. Dŷn ni'n gwybod, o fy ngwaith i pan oeddwn yn yr wrthblaid yn rhan o waith y pwyllgor plant a phobl ifanc, fod yna ddisgyblion yn peidio â mynd i'r ysgol ar ddiwrnod lle mae yna drip ar adegau rŵan oherwydd y gost, a dydy hynny ddim yn dderbyniol. Mae'n rhaid inni alluogi pob plentyn i gael yr hawl hwnnw.

Mae gennym ni ymrwymiad o ran mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Mae hynny'n parhau efo'r Llywodraeth hon, ond dŷn ni eisiau mynd ymhellach. Mae yna rai cynlluniau lle mae yna gyfraniad yn gallu mynd at gost bws, er enghraifft. Dwi eisiau edrych ar yr ystod o bethau sydd gennym ni, i wirioneddol ddeall y rhwystrau hynny, ond hefyd i weithio efo'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a'r Dirprwy Brif Weinidog—y ddwy yn digwydd bod yma hefyd—sydd wrth gwrs yn edrych o ran tlodi plant, i sicrhau bod hyn yn elfen o'r gwaith hwnnw, a sut dŷn ni'n sicrhau bod yr un plentyn yng Nghymru yn cael ei gau allan o'i dreftadaeth, ei ddiwylliant, ei gelfyddydau, ei iaith, na'i chwaraeon.

14:10

Roeddwn eisiau canolbwyntio ar ddigwyddiadau diwylliannol fel rhan o fynediad at y celfyddydau. Mae llawer o'r problemau'n ymwneud â chyllid grant. Felly, mae digwyddiadau diwylliannol yn aml yn cael eu sefydlu gan dimau diwylliannol, sy'n gorfod cael mynediad at botiau o grantiau—cafodd Creu Conwy yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy grant gan y gronfa ffyniant gyffredin yn ddiweddar. Roedd ganddo amrywiaeth wych o weithgareddau diwylliannol, sydd wedyn yn dod i ben ac yna mae'r staff a gyflogwn yn colli eu swyddi. Felly, os ydym am wneud y celfyddydau'n hygyrch, mae angen inni wreiddio gweithgareddau diwylliannol flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn iddo ddod yn draddodiad teuluol. Er enghraifft, fe wnaethom ddod ag elfen Gymraeg i groto Siôn Corn yng nghanol y dref y llynedd. Ni allwn wneud hynny y flwyddyn nesaf am fod y cyllid wedi mynd. Felly, os ydym yn mynd i edrych ar wreiddio diwylliant ym mywydau pobl, mae angen inni wreiddio'r cyllid grant yng ngwariant cyffredinol awdurdodau lleol, yn hytrach na'u bod yn mynd ar drywydd grantiau. Felly, a wnewch chi ystyried hynny, Weinidog?

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd gyda chyllidebau awdurdodau lleol, am nad yw diwylliant yn un o'r gwasanaethau y mae'n rhaid i chi eu darparu, fe wyddom ei fod yn aml yn un o'r pethau cyntaf i gael eu torri. Hefyd, yr wythnos hon fe gofiwn ei bod hi'n 10 mlynedd ers Brexit, ac mae rhywfaint o'r cyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin ac yn y blaen wedi dangos nad dyna'r buddsoddiad cywir mewn gwirionedd, nad ydym wedi cael yr enillion hirdymor hynny ac mae wedi arwain at system lle mae gormod o'n sefydliadau diwylliannol neu weithgareddau diwylliannol wedi bod yn ddibynnol ar gronfa heb sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Felly, yn sicr, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn gynharach heddiw, mae edrych ar gynaliadwyedd yn bwysig iawn, oherwydd os na allwch adeiladu ar weithgaredd flwyddyn ar ôl blwyddyn a thyfu cynulleidfaoedd, mae hynny'n her hefyd. Ac rwy'n awyddus iawn—. Nid wyf wedi cael trafodaethau eto gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol ynglŷn â diwylliant a chwaraeon yn benodol, ond o ystyried y pwysau a fu arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae honno'n sgwrs rwy'n awyddus i'w chael yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach fel bod hynny'n bwydo i mewn i'r gwaith strategaeth a'r adolygiad o gyfleusterau hefyd. 

Cyllido Cyngor Celfyddydau Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllido Cyngor Celfyddydau Cymru? OQ64218

Grant craidd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2026-27 yw £33.6 miliwn o refeniw a £900,000 o gyfalaf. Yn ogystal, rydym wedi darparu £7.5 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar adolygiad sy'n edrych ar gyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon i lywio cynnydd cynyddol mewn gwariant celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, sy'n gysylltiedig â newid ehangach i weithgarwch iechyd a lles ataliol ar draws y Llywodraeth.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Roedd maniffesto Plaid Cymru yn cydnabod yr angen i adolygu rôl ac addasrwydd cyrff gan gynnwys Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r cyrff hyn yn dosbarthu symiau sylweddol o arian trethdalwyr Cymru gyda thryloywder cyfyngedig. Mae Cyngor Llyfrau Cymru, er enghraifft, yn gweithredu fel elusen ac nid yw'n ddarostyngedig i'r un gofynion atebolrwydd â chorff cyhoeddus, er ei fod yn cael ei ariannu'n sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae Nation.Cymru yn cael grant diwylliannol pedair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru gwerth £25,000 y flwyddyn. Nawr, mae'r cyhoeddiad hwn wedi cyflawni ymosodiadau pleidiol rheolaidd drwy adroddiadau camarweiniol a galw enwau ar Aelodau o'r Siambr hon. Mae erthygl sy'n dal ar eu gwefan hyd yn oed heddiw yn cyfeirio at Aelod o'r Siambr hon gyda'r hyn y gallaf ei ddisgrifio fel gair arall am pidyn. Fe allech chi ddadlau bod hyn yn rhan o ddadlau gwleidyddol normal, ond y trethdalwr sy'n gorfod talu'r bil am y math hwn o ohebiaeth diolch i'r strwythurau cyllido hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi heddiw, neu ymrwymo i amserlen i'w hadran gyhoeddi'r cylch gorchwyl, y fethodoleg a'r dyddiad cwblhau ar gyfer adolygiadau'r cyrff hyn, ac a fydd yr adolygiadau hynny'n cynnwys asesiad i sicrhau bod pob grant y maent yn ei ddosbarthu yn bodloni safon gyson o amhleidioldeb gwleidyddol a budd cyhoeddus yn gyffredinol? 

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n glir bod gan y cyngor celfyddydau ddim byd i'w wneud efo'r cwestiwn atodol fuodd wedyn. Dydyn nhw ddim yn gyfrifol am ariannu'r cyngor llyfrau, dydyn nhw ddim yn rhan o'r gwaith grant o ran Nation.Cymru nac unrhyw gorff arall. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i bobl ddeall hynny. Dwi hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig inni gydnabod y rôl hyd braich allweddol hynny a llywodraethiant. Dwi ddim yn derbyn rhai o'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod o ran y cyngor celfyddydau, oherwydd mae yna lywodraethiant yna. Os oes yna unrhyw esiamplau lle rydych chi'n credu bod y llywodraethiant wedi bod yn ddiffygiol, yna mae yna brosesau o ran edrych ar hynny.

Yn glir, o ran bod yna nifer o gwestiynau wedi eu gofyn ynglŷn â buddsoddiad y Llywodraeth hon yn y cyfryngau yng Nghymru, gaf i mi fod yn glir—yr elfen hyd braich rydym ni'n ei gefnogi, ac annibynrwydd yr holl ystod o ddarlledu, o'r cyfryngau ac ati. Mae'n allweddol bwysig. Mae nifer o adroddiadau wedi dangos bod yna ddiffyg democrataidd yng Nghymru oherwydd does gennym ni ddim cyfryngau cryf. Dydw i ddim yn Aelod etholedig sy'n mynd i drio ymyrryd yn rhyddid y wasg. Mae yna brosesau eraill lle mae yna god o ran ethics gan newyddiadurwyr ac ati i'w dilyn. Fyddaf i ddim yn dweud wrth bobl beth i'w gyhoeddi. Mae gennym ni'r hawl yma, yng Nghymru, i gael cyfryngau cryf, cyfryngau sydd yn ein dal ni i gyfrif fel Llywodraeth. Mae hwnnw'n rhan o'n ddemocratiaeth ni ac, yn sicr, mae'r Llywodraeth hon yn barod iawn i gael ei dwyn i gyfrif gan wasg gryf yma yng Nghymru.

14:15
Chwaraeon ar Lawr Gwlad

7. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol chwaraeon ar lawr gwlad? OQ64216

Mae buddsoddi yn, a chefnogi, chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol, a bydd yn chwarae rhan ganolog yn ffocws y Llywodraeth hon ar chwaraeon fel triniaeth feddygol a'r agenda ataliol. Fel dwi wedi amlinellu nifer o weithiau heddiw, yn fy ymateb i Tom Montgomery ac eraill, bydd yr adolygiad o gyfleusterau chwaraeon yn helpu i lywio buddsoddiad yn y dyfodol gan ein bod ni eisiau i bawb allu cymryd rhan mewn chwaraeon, beth bynnag fo'u cefndir a ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, o dan gynigion presennol Undeb Rygbi Cymru, efallai y bydd tîm rhanbarthol yn cael ei dynnu o'r drefn ranbarthol bresennol yn y dyfodol. Mae clwb rygbi'r Scarlets yn Llanelli yn rym mawr sy'n creu, datblygu a meithrin rygbi ar lawr gwlad yn ardal gorllewin Cymru oherwydd eu cysylltiadau â'r cymunedau, y dref, yn ogystal â bod yn frand adnabyddus yn fyd-eang, gyda dros 150 mlynedd o hanes. A'r brand unigryw hwn sy'n sbarduno uchelgais ieuenctid yn yr ardal i ddechrau chwarae rygbi llawr gwlad lefel mynediad, o dan wyth oed ymlaen. Byddai colli'r clwb hwn yn gwanychu'r llwybr datblygu i chwaraewyr ifanc sy'n breuddwydio am wisgo'r crys ysgarlad enwog, a byddai'n arwain yn y pen draw at lai o ymgysylltiad cymunedol a chanoli rygbi elitaidd i ffwrdd o orllewin Cymru, a fydd yn arwain at ostyngiad yn y nifer sy'n cyfranogi, at ddiffyg ymwneud ariannol, ac yn niweidio datblygiad ar lawr gwlad. Felly, Weinidog, pa drafodaethau, os o gwbl, rydych chi neu aelodau o'ch Llywodraeth yn eu cael gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod rygbi rhanbarthol yn cael ei ddiogelu ac y gallwn sicrhau buddsoddiad parhaus mewn clybiau a chyfleusterau rygbi lleol i wneud yn siŵr fod ein plant yn cael parhau i freuddwydio?

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod Undeb Rygbi Cymru yn gorff annibynnol. Mae yna drafodaethau, wastad, rhwng y Llywodraeth ac Undeb Rygbi Cymru a chyrff llywodraethu eraill oherwydd pwysigrwydd y cydweithio hwnnw. Yn amlwg, mae yna deimladau cryfion iawn o ran rygbi. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n gwerthfawrogi dydw i ddim yn rhan o'r penderfyniadau hynny, ond yr hyn oedd yn glir o ran y trafodaethau ges i pan oeddwn i'n llefarydd o ran y blaid—dydw i ddim wedi cael y sgwrs yma ers dod yn Weinidog, ond pan oeddwn i'n llefarydd ar ran y blaid—ydy ein bod ni fel plaid yn disgwyl bod yr ymgysylltu yna gyda'r gymuned, gyda'r rheini sydd, fel chithau, yn angerddol o ran y clybiau yma, a bod yna werthfawrogiad hefyd o'u pwysigrwydd nhw o ran eu hardaloedd nhw, o ran ein treftadaeth ni hefyd, a'u bod nhw'n gymaint yn fwy na jest clybiau sy'n chwarae rygbi. Mae lliw y crys rydych chi'n ei wisgo yn cael effaith, onid ydy, ac mae o'n rhan o dîm a chymuned. Felly, yn sicr, fyddaf i ddim yn rhan o unrhyw benderfyniad, ond disgwyliadau'r Llywodraeth hon, wastad, ydy bod pob corff yn meddwl am oblygiadau penderfyniadau o ran dyfodol unrhyw glwb, a'n bod ni hefyd yn edrych, o ran y cydweithio hwnnw, i sicrhau ein bod ni'n gallu, fel Llywodraeth, cydweithio a sicrhau bod yna gyfleoedd ar lawr gwlad o ran datblygiad rygbi hefyd.

Byddwch chi hefyd yn ymwybodol o'r trafferthion fuodd efo Undeb Rygbi Cymru yn y gorffennol, buodd yn wybyddus iawn ar lawr y Senedd hon, o ran merched a rygbi, ac, yn sicr, rydym ni eisiau sicrhau bod pob un o'n chwaraeon ni yng Nghymru yn gyfan gwbl gynhwysol hefyd.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Rydyn ni'n dod nawr i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Ond, cyn i mi alw'r cwestiwn cyntaf, galwaf ar y Gweinidog Cabinet i wneud datganiad byr.

Diolch, Lywydd, am roi cyfle i fi yn syth i gywiro'r Cofnod o'r datganiad ar y gyllideb atodol ddoe. Yn ystod y drafodaeth, defnyddiais ddau ffigur gwahanol mewn camgymeriad ar gyfer lefel y cyfalaf heb ei ddyrannu—yn gyntaf, yn gywir, y ffigur o £29,000, ac, yn ail, y ffigur o £29 miliwn. Y ffigur cywir, felly, yw £29,000. Yn ogystal, yr amcangyfrif presennol ar gyfer ffigur cyfalaf sy'n weddill yng nghronfa wrth gefn Cymru ar hyn o bryd yw £50 miliwn. Rwy'n gobeithio bydd y Senedd yn derbyn fy ymddiheuriad am y camgymeriad yna, ac rwy'n ysgrifennu atoch chi hefyd ar wahân, Lywydd, i sicrhau bod y cywiriad yn cael ei osod ochr yn ochr yn y Cofnod ddoe.

Diolch, Weinidog Cabinet. Nawr, rŷn ni'n symud i cwestiwn 1—Marc Jones.

Fformiwla Ariannu Teg

1. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cymryd tuag at sicrhau fformiwla ariannu teg i Gymru? OQ64219

Yn fy nghyfarfod cyntaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, fe wnes i bwysleisio bod diwygio cyllidol, gan gynnwys cyllid tecach, a diwygio'r fformiwla Barnett, yn flaenoriaethau allweddol. Fe gytunom y byddem yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd adeiladol i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Diolch, Weinidog. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dadlau y dylid datrys materion gweithdrefnol hirsefydlog sy'n gysylltiedig â gweithrediad fformiwla Barnett. Mae ei adroddiad ar gyllido ariannol yn tynnu sylw at y ffaith mai Trysorlys y DU sydd â'r gair olaf pan fydd anghydfodau fel HS2 a chyfraniadau yswiriant gwladol yn digwydd. Canfu hefyd fod gwariant cymharol Cymru'n uwch ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig, fel iechyd ac addysg, nag ar wasanaethau sy'n parhau wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, fel seilwaith rheilffyrdd a chyfiawnder, lle mae gwariant yn is na'r gyfran seiliedig ar y boblogaeth. A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'i chymheiriaid yn y DU ar ddiwygio cyllidol? Diolch yn fawr iawn.

Iawn, ac fel y dywedais, cyfarfûm â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf. Roedd hi'n fwy newydd yn ei swydd nag ydw i hyd yn oed. Nid wyf yn siŵr pa mor hir y bydd hi yn y swydd honno o ystyried y posbilrwydd o ad-drefnu'r Trysorlys yn y dyfodol, ond rwy'n dymuno'n dda iddi. Cawsom drafodaeth gadarnhaol a medrais amlinellu safbwynt y Llywodraeth hon ar yr angen i gael sgwrs adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael setliad cyllido i Gymru sy'n decach na'r hyn a gawn ar hyn o bryd, a cywiro'r ffaith mai'r Trysorlys sydd â'r gair olaf, fel y nodoch chi. Mae fformiwla Barnett yn anhryloyw ei natur, nid oes iddi dryloywder, ond yn fwy na dim bron, pan fydd anghydfodau'n digwydd—ac fe gafwyd llawer ohonynt ac efallai y ceir llawer yn y dyfodol—nid oes unrhyw fecanwaith datrys anghydfod sy'n annibynnol ar Drysorlys y DU. Ac mae hyn yn fwyaf amlwg, wrth gwrs, yn y modd y mae Trysorlys y DU wedi dosbarthu HS2 yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr. Penderfynodd mai dyna oedd y sefyllfa er nad oedd un darn o drac HS2 yng Nghymru, ac mae'n cadw at y safbwynt hwnnw hyd heddiw. Ac mae hynny'n golygu, yng nghyfnod yr adolygiad o wariant presennol yn unig, fod Cymru £850 miliwn ar ei cholled oherwydd y modd y dosbarthwyd HS2, am fod Trysorlys y DU yn gweithredu fel pe bai ganddo'r gair olaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, er ein bod ni i gyd eisiau gweld Cymru'n cael setliad ariannol teg, bydd pobl mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, Fflint Wrecsam, yn meddwl tybed pa wahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i'w bywydau bob dydd mewn gwirionedd. Ar ôl mwy na chwarter canrif o Lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru, yn aml yn cael ei chynnal gan Blaid Cymru, mae llawer o gymunedau yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn dal i deimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl, gyda thanfuddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth, seilwaith ac adfywio economaidd. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y byddai sicrhau fformiwla ariannu tecach yn darparu buddsoddiad y gellir ei deimlo i etholaethau fel Fflint Wrecsam, a pham y dylai pobl leol gredu y bydd mwy o arian i Fae Caerdydd yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol i'r rhai a gafwyd o dan Lafur a Phlaid Cymru dros 25 mlynedd o'r Senedd hon? Diolch.

14:25

Rydych chi bron â bod wedi ateb eich cwestiwn eich hun yn eich cwestiwn. Y gwahaniaeth i bobl yn y Fflint a Wrecsam drwy setliad cyllido teg, yw y byddai cael y £850 miliwn nad yw'n ei gael ar hyn o bryd o'r adolygiad cyfredol o wariant y soniais amdano oherwydd dosbarthiad, dosbarthiad anghywir, HS2 gan Drysorlys y DU, wedi caniatáu i'r Llywodraeth flaenorol, yn ogystal â'r Llywodraeth hon, wario ar yr union fuddsoddiad rheilffyrdd y gofynnoch chi amdano yn y Fflint a Wrecsam. Ni fyddai byth yn arian i Fae Caerdydd; byddai bob amser yn arian i Gymru gyfan, wedi'i rannu'n deg gan y Llywodraeth hon i bob rhan o Gymru.

Beth fyddech chi'n ei roi yn lle fformiwla Barnett? Gwyddom fod Cymru yn cael 10 y cant yn fwy na Lloegr o gyfanswm gwariant, gan gynnwys HS2. Mewn meysydd datganoledig, fe wyddom fod Cymru'n cael 20 y cant yn fwy na Lloegr am yr un cyfrifoldebau. Faint yn fwy y mae'r Gweinidog yn meddwl y dylai Cymru ei gael, a pham na fyddai'r Trysorlys yn awgrymu ein bod yn cael ein cyfran o'r boblogaeth o bopeth, a fyddai'n cael effaith ddinistriol ar ein hincwm?

Wel, o ganlyniad i'r adolygiad o degwch a'r dadansoddiad seiliedig ar anghenion o fformiwla Barnett o 2016 ymlaen, fe wyddom fod hynny wedi bod o fudd i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Ond fel y dywedais eisoes, dadansoddiad y Llywodraeth hon, fel y Llywodraeth flaenorol, yw ein bod £850 miliwn ar ein colled yng nghyfnod yr adolygiad o wariant hwn. Ac rwy'n siŵr y byddech chi eisiau gweld rhan o'r cyllid hwnnw'n cael ei wario yn eich etholaeth chi, yn union fel yr hoffwn i ei weld yn cael ei wario yn fy etholaeth i.

Effaith yr Ardoll Ymwelwyr

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr ar economi sir Gaerfyrddin? OQ64201

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ac asesiad effaith integredig eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf. Mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu nawr a ydyn nhw am gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd, yn seiliedig ar eu hasesiadau eu hunain o'r effeithiau ac yn dilyn ymgynghori â'u cymunedau. Hyd yma, nid yw sir Gaerfyrddin wedi cynnal ymgynghoriad ynglŷn ag a ddylid cyflwyno’r ardoll yma.

Diolch. O ystyried bod y Llywodraeth wedi datgan bod yr ardoll ymwelwyr wedi'i chynllunio i greu twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru, a allech chi feintioli'n union beth y mae twristiaeth gynaliadwy yn ei olygu, a faint y mae'n mynd i gostio i gyflawni hyn, gan fod yr adborth gan fy etholwyr yn awgrymu bod angen astudiaeth effaith ar effeithiau negyddol y dreth hon ar niferoedd ymwelwyr?

Mae'r polisi hwn bellach yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Eu dewis nhw fydd cyflwyno'r ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd neu beidio, ac mae gofyn i unrhyw awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn cyflwyno ardoll ymwelwyr gynnal yr asesiadau a nodwyd ganddi. Os oes gan eich etholwyr farn, negyddol neu gadarnhaol, am yr ardoll ymwelwyr, os bydd ymgynghoriad yn sir Gâr ar unrhyw adeg ynglŷn â chyflwyno ardoll ymwelwyr, rwy'n siŵr y bydd yn ymgynghoriad gweithredol a thrylwyr. Mater i awdurdodau lleol nawr yw penderfynu a yw hyn yn beth da i'w hardaloedd lleol nhw ai peidio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet, ac yn gyntaf llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ddweud rhywbeth neis yn gyntaf drwy gofnodi fy niolch am y cyfarfodydd lluosog y gwnaethoch chi eu cael gyda mi ynglŷn â'r gyllideb cyn ddoe, ac am ryddhau'r gyllideb atodol oriau yn hytrach na munudau cyn ei chyhoeddi yn y Siambr. Mae'n broffesiynol, ac rwy'n siŵr y bydd pob pleidleisiwr yng Nghymru yn gwerthfawrogi hynny.

Weinidog, mae dogfennau eich cyllideb atodol yn cyfeirio at yr amgylcheddau cyllidol heriol rydych chi'n dweud eich bod wedi'u hetifeddu. Nodais fod cyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru, ac felly mae eich plaid yn rhannu cyfrifoldeb am gyflwr cyllid cyhoeddus yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym pan oeddech chi'n wrthblaid nad oeddech chi'n gweld y llyfrau, ac na chafodd Plaid Cymru weld y cynlluniau cyllido nad oedd ganddynt ddyraniad ar eu cyfer nhw. Ond mae eich rhagflaenydd Mark Drakeford wedi dweud am Blaid Cymru, 'Roedd ganddynt fynediad at yr holl wybodaeth a oedd ar gael i Lywodraeth Cymru'. Weinidog, ai chi neu Mark Drakeford sy'n iawn?

14:30

Nawr, fe ddechreuoch chi'n dda ac yna fe ofynnoch chi un o'r cwestiynau anoddaf y byddaf yn eu cael fel Gweinidog—cymharu fy hun â Mark Drakeford. Mae gennyf barch enfawr tuag ato, fel y gŵyr, ac fel y gŵyr y Siambr hon. Mae lefel o wirionedd yn ein safbwyntiau ni'n dau, rwy'n amau.

Er eglurder, felly, rôl Plaid Cymru yn y penderfyniad a'r bleidlais ar y gyllideb flaenorol oedd rhannu cyfrifoldeb ar ran o ddyraniad y gyllideb honno. Felly, fe wnaethom gytuno â Llafur y byddai rhan sylweddol o'r dyraniad hwnnw'n mynd i awdurdodau lleol i gynyddu eu gallu i wario, a hefyd i'r GIG. Yr hyn na welais i a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru ar y pryd—ac mewn gwirionedd, pob Aelod o'r Senedd nad oeddent yn rhan o'r Llywodraeth ar y pryd—oedd y pwysau yn ystod y flwyddyn y byddai hyd yn oed dyraniad o'r natur honno yn arwain ato o ran yr hyn y byddai ei angen ar y GIG ac awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Yr hyn rwy'n edrych arno nawr, a'r hyn y gallaf ei weld nawr, yw lefel y pwysau yn ystod y flwyddyn y mae ein GIG yn enwedig yn ei ysgwyddo ac yn adrodd yn ei gylch. Os edrychwch ar fyrddau iechyd lleol yn eu hadroddiadau misol, lefel y pwysau yn ystod y flwyddyn y maent yn gweithio arno, a sut rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd yn yr hyn a wnânt yn ystod y flwyddyn, i olygu eu bod yn gallu gweithio o fewn y gyllideb a ddyrannwyd iddynt.

Mae’n ddrwg gennyf, Weinidog, ni allaf dderbyn yr ateb gwantan hwnnw. Nid yn unig fod Mark Drakeford yn gyn-Weinidog cyllid, ond mae hefyd yn gyn-Brif Weinidog. Os ydym am i'r cyhoedd gymryd y Senedd hon a Llywodraeth Cymru o ddifrif, mae angen ymateb clir gennych chi i'r cyhuddiad hwn gan unigolyn hanesyddol ym maes datganoli yng Nghymru, nid ei osgoi. Felly, gofynnaf eto: a yw Mark Drakeford yn iawn i ddweud bod Plaid Cymru wedi cael mynediad llawn at y llyfrau ai peidio? Atebwch 'ydy', 'nac ydy', a gallwn symud ymlaen.

Mae'n ddiddorol, ac rwy'n credu y bydd Mark Drakeford yn ei ystyried yn fwy diddorol byth, mai ei brif gefnogwyr yn y Siambr hon, yn y seithfed Senedd, yw Reform. Rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny.

Ni chawsom fynediad llawn ac agored at y llyfrau, ac mae'n debyg na fyddem—fel y gwrthbleidiau yma heddiw, buaswn yn disgwyl—wedi disgwyl hynny. Y Llywodraeth sy'n gwneud y gwaith manwl o reoli gweithrediad y gyllideb gyhoeddus yng Nghymru o ddydd i ddydd a chaiff ei graffu gan y Senedd.

Weinidog, yn eich maniffesto, dywedwch eich bod eisiau cynyddu pwerau benthyca drwy gynyddu terfyn dyled cyfalaf y Senedd i £3 biliwn. Mae Reform yn glir: rydym yn erbyn rhagor o bwerau benthyca, gan mai dim ond un peth sy'n waeth na chael eich trethi wedi'u gwario ar blannu coed yn Uganda, sef eich plant yn cael eu gorfodi i dalu'r llog ar y coed hynny. Mae pob punt o log ar ddyled yn bunt na ellir ei gwario ar ystafelloedd dosbarth yn y dyfodol na wardiau canser. Nid benthyca i Gymru yw hynny, ond benthyca oddi wrth genhedlaeth nesaf Cymru. Mae pobl fel enillydd y wobr Nobel mewn economeg, James Buchanan, wedi bod yn rhybuddio ynglŷn â mater dyled Llywodraeth ers 50 mlynedd. A ydych chi'n derbyn y gallai fod canlyniadau negyddol sylweddol i genedlaethau'r dyfodol os bydd mwy o fenthyca i Gymru?

Rydym am weld cydraddoldeb rhyngom ni a'r Alban o ran y pwerau a'r liferi sydd gennym. Nid yw benthyca darbodus yn beth drwg i unrhyw wlad, i unrhyw gwmni. Mae'n caniatáu i Lywodraeth fuddsoddi. Mae buddsoddiad o'r fath yn rhan o sbarduno ein heconomi ac o wella ein gwasanaethau cyhoeddus, ein hysbytai a'n hysgolion. Felly, benthyca darbodus yw'r peth iawn i'w wneud. Yr hyn nad wyf am ei weld yw ein bod yn cael ein llyffetheirio'n unochrog rhag gwneud hynny gan reolau Trysorlys y DU sy'n berthnasol mewn ffordd anghyfartal i ni o gymharu â gwledydd eraill, neu ranbarthau eraill hyd yn oed, yn Lloegr. Rwyf eisiau cydraddoldeb. Mater i'r Llywodraeth ar y pryd fyddai defnyddio benthyca'n ddarbodus, ac i gael ei chraffu ar ei defnydd ohono yma yn y Siambr.

14:35

Diolch, Lywydd. Mae Cai Parry-Jones wedi ceisio codi'r bar o ran bod yn garedig, nid yn unig i'r Gweinidog, ond hefyd i Brif Weinidogion Llafur, felly fe geisiaf wneud yr un peth a chydnabod y ddeialog dda a gafwyd yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r gyllideb atodol. Rwy'n mawr obeithio nad dyna ddiwedd y ddeialog cyn y bleidlais.

Ddoe, Weinidog, wrth gyfeirio at y gyllideb atodol a gyflwynwyd, fe wnaethoch chi a Gweinidogion eraill y pwynt dro ar ôl tro fod hyn yn gweithredu blaenoriaethau Plaid Cymru. Neithiwr, mynychodd nifer ohonom o'r Siambr hon, gan gynnwys y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, ddangosiad o People's Emergency Briefing, a drefnwyd gan WWF Cymru a Climate Cymru. Roedd y neges am yr angen brys i Lywodraethau gynyddu eu hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn sobreiddiol, yn glir ac yn daer, a buaswn yn argymell yn gryf y dylai pob Aelod wylio'r ffilm ddogfen honno. Ond Weinidog, o'r cannoedd o filiynau o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gennych ddoe, nid aeth un geiniog ychwanegol tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd. A ddylai pobl Cymru ddod i'r casgliad, felly, nad yw mynd i'r afael â newid hinsawdd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth newydd hon?

Na. O un gyllideb atodol, sy'n ymwneud â rhan o'r addasiad yn ystod y flwyddyn o ddyraniadau gwariant y Llywodraeth hon, ni ddylai pobl Cymru nac unrhyw un yn y Siambr hon, am eiliad, ddehongli hynny fel diffyg ymrwymiad i newid hinsawdd ac i ddilyn ein hamcanion sero net. Rydym yn glir fod honno'n orchwyl drawslywodraethol a byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar sut y cyfrannwn at fynd i'r afael â newid hinsawdd ac at gyflawni sero net. Yn hynny o beth, rwy'n derbyn na chafodd ei grybwyll yn unrhyw un o'n hadnoddau ychwanegol. Mae'n cael ei ariannu, wrth gwrs, o fewn y gyllideb yr ydym yn ei gweithredu ac a etifeddwyd gan y Senedd flaenorol. Byddwn yn edrych ar hyn yn briodol ar draws y Llywodraeth er mwyn alinio ein cyllidebau yn y blynyddoedd i ddod â'r gwaith o fwrw ymlaen â'r hyn sy'n parhau i fod yn un o'n prif ymrwymiadau maniffesto, sef cyflawni sero net a sicrhau ein bod yn gallu chwarae ein rhan yng Nghymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd, sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd.

Dwi'n diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Byddwn ni yn Llafur Cymru yn sicr yn parhau i wylio pa ddatblygiadau sy'n digwydd ar y mater hwnnw. 

A gaf i droi nawr at rywbeth sydd yn sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth newydd: adolygiadau, ymgynghoriadau, comisiynau, cyfarfodydd, pwyllgorau? Mae llu ohonynt wedi'u cyhoeddi fel rhan o 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru. Fe holais i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad ddoe am y costau, ond ges i ddim ateb clir. Felly, tybed a all y Gweinidog cyllid ddweud wrth y Senedd heddiw faint, mewn punnoedd a cheiniogau, fydd yr amrywiol adolygiadau, comisiynau ac ymgynghoriadau yma sydd wedi cael eu cyhoeddi yn costio i drethdalwyr. Diolch yn fawr.

Cyn lleied â phosib, byddwn i'n dweud. Dwi eisiau gwario arian y Llywodraeth yma ar ganlyniadau sy'n deillio allan o'r gwaith paratoi yma. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n rhannu gyda fi yr awydd, wrth i ni ddatblygu polisïau newydd neu weithredu polisïau presennol yn fwy effeithiol, ein bod ni'n gwneud hynny ar ôl ymgynghori a thrafod a derbyn y dystiolaeth fwyaf diweddar. I wneud hynny, mae'n rhaid i ni gymryd rhywfaint o amser a rhywfaint o waith i ddatblygu’r cynlluniau hynny. Felly, dwi ddim eisiau iddo fe gostio mwy o arian nag amser nag sydd yn rhaid iddo fe wneud, a'n bod ni yn symud yn gyflym i fedru gweithredu ar yr hyn sy'n bwysig o ran effeithiolrwydd y polisïau cyhoeddus hynny, a chyflwyno syniadau a momentwm newydd i bolisïau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ailbrisiad o’r dreth gyngor yn ystod tymor y Senedd hon?

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried a fydd yn gwneud hynny ai peidio.

14:40

Diolch am eich ymateb. Mae'n amlwg fod pryder cyhoeddus cynyddol ynghylch y posibilrwydd o ailbrisio eiddo a chyflwyno bandiau newydd. Mae aelwydydd ledled Cymru eisoes dan bwysau gwirioneddol oherwydd costau byw. Felly, bydd llawer yn poeni y bydd newidiadau i'r system yn arwain at filiau uwch, ar adeg pan na allant fforddio hynny. Ac fe fyddech chi'n cytuno, wrth gwrs, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn wrth ystyried unrhyw ailbrisiad, a bod rhaid iddo fod yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn destun ymgynghoriad llawn â'r cyhoedd a'r awdurdodau lleol. Byddai pobl hefyd yn disgwyl sicrwydd nad ymarfer cudd ar gyfer codi trethi a fyddai, ond diwygiad teg a chytbwys i'r system. Byddant eisiau manylion clir ar effaith unrhyw newidiadau, pwy fyddai'n talu mwy, ac yn hollbwysig, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal pwysau annheg ar aelwydydd cyffredin. Felly, a allwch chi roi sicrwydd heddiw, os byddwch yn bwrw ymlaen i ailbrisio'r dreth gyngor, na fydd aelwydydd cyffredin mewn sefyllfa waeth o ganlyniad?

Wel, rydych chi wedi codi llawer o'r ystyriaethau y mae'r Llywodraeth yn edrych arnynt ar hyn o bryd, pan fo'n ystyried ei safbwynt ar yr ailbrisiad ac unrhyw newidiadau pellach i'r dreth gyngor. Rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i edrych i weld sut y gellir gwneud y dreth gyngor yn decach. Nid dyma'r dreth fwyaf blaengar sy'n cael ei chodi yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau ei bod mor deg â phosibl i'r trethdalwyr yng Nghymru. Mewn deddfwriaeth, mae ailbrisiad wedi'i gynllunio ar gyfer 2028, ac os yw am gael ei gwblhau erbyn 2028, byddai angen iddo ddechrau cyn bo hir. Felly, mae rhywfaint o waith cynnar y mae angen inni ei wneud wrth wneud penderfyniadau ar hyn.

Ond buaswn yn sicrhau bod unrhyw ailbrisiad neu newidiadau i'r dreth gyngor yng Nghymru yn cael eu gwneud nid ar y sail fod eu hangen er mwyn codi mwy o refeniw i bwrs y wlad yng Nghymru, ond eu bod yno i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Nid ymarfer codi refeniw mohono. Nid dyna sut rwy'n ei weld, ond fel ffordd o wneud talu trethi'n decach i bobl yng Nghymru. Rwy'n cytuno hefyd, os yw'r newidiadau hyn i ddigwydd, fod angen eu gwneud yn ofalus, a thrwy sicrhau yr ymgynghorir yn llawn â phobl a'u bod yn ymwybodol bob amser o oblygiadau unrhyw newidiadau uniongyrchol iddynt hwy. Gwyddom fod y dreth gyngor yn dreth uniongyrchol iawn ar bobl—mae'n cyrraedd ar garreg eu drws bob blwyddyn—ac mae angen inni sicrhau yr ymgynghorir â phobl yn gynnar yn y broses, os oes newidiadau'n mynd i fod i'r dreth hon.

Polisïau Treth

3. Sut y bydd polisïau treth Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng Ngheredigion Penfro? OQ64190

Mae trethi lleol yn helpu i dalu am wasanaethau pwysig ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngheredigion Penfro. Bydd y Llywodraeth hon hefyd yn diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn well ac archwilio ffyrdd o wneud y dreth gyngor yn decach.

Weinidog, mae pobl sy'n rhedeg busnesau twristiaeth ledled Ceredigion Penfro wedi ei gwneud hi'n glir iawn i fi eu bod nhw'n ei ffeindio hi'n anodd iawn, achos nifer o bolisïau a rheoliadau treth diweddar, sy'n arwain at rai pobl fusnes yn ystyried a yw hi'n werth rhedeg busnesau o gwbl. Dwi'n siŵr eich bod chi wedi derbyn yr un math o sylwadau â'r rheini dwi wedi eu cael. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n sicrhau bod polisïau treth a mesurau cyllidol Llywodraeth Cymru yn y Senedd hon yn deall y pryderon sy'n cael eu codi gan y diwydiant twristiaeth yng ngorllewin Cymru, a'u bod nhw ddim yn arwain at fwy a mwy o fusnesau yn ystyried cau eu drysau?

Un peth sy'n fantais o fod wedi sefyll etholiad yn yr un etholaeth â Paul Davies yw fy mod i hefyd wedi pigo lan yr un sylwadau hynny o'r sector lletygarwch a'r sector twristiaeth. Felly, mae yna nifer o agweddau ar waith y Llywodraeth yma—rhai dwi'n gyfrifol amdanynt—yn mynd i fynd ati nawr i edrych ar sut gallwn ni fod yn gwella'r amodau neu'r pwysau mae'r sectorau pwysig yma yn eu hwynebu. Byddwch chi'n gwybod bod yna ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru i, er enghraifft, edrych ar y rheol 182 o ddyddiau sydd yn wynebu'r sector hunanddarpar ar hyn o bryd. A byddwn ni'n edrych i gymryd camau i asesu hwnnw ac i asesu a ydy hi'n bosib neu yn ddymunol nawr i fod yn cyflwyno eithriadau cenedlaethol ychwanegol. Byddwn ni'n symud ymlaen gyda'r gwaith yna, ac, fel y dywedais i yn fy ateb blaenorol, yn sicrhau ein bod ni hefyd yn edrych ar sut mae ardrethi busnes yn cael eu diwygio er mwyn gwella hinsawdd economaidd y sectorau yna rydych chi wedi eu hamlinellu a'r stryd fawr yn enwedig.

14:45

Fel Aelod arall sy'n cynrychioli Ceredigion Penfro, rwyf innau wedi clywed yr un pryderon â chi, felly rwy'n croesawu ymrwymiad clir y Gweinidog i gadw'r rheol 182 diwrnod ar lety gosod hunanddarpar o dan adolygiad. Rwy'n cydnabod yr effaith y mae ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn ei chael ar yr argyfwng tai a chymunedau, ac mae'n bwysig fod y polisi wedi'i ddatblygu yn y cyd-destun hwnnw. Ond fel y dywedais, rwyf wedi clywed sylwadau etholwyr ac rwy'n pryderu nad yw'n cyflawni yn erbyn diben gwreiddiol y polisi mewn sawl ffordd, ac yn hytrach, ei bod yn peryglu bywoliaeth a chartrefi rhai pobl. A gwelais fy hun hefyd yr effaith y mae'r lefel hon o straen yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd yn symud yn gyflym, lle gellir cyflwyno eithriadau ymarferol clir a rhesymol, er enghraifft lle na fyddai'r llety gwyliau yn cyfrif fel cartref preifat?

Ie, diolch am y cwestiynau yna yn ychwanegol. Fel rŷch chi'n amlinellu, mae cael y balans yn iawn ar rai o'r polisïau yma yn bwysig iawn, fel nad yw'r pwysau ar y sector lletygarwch a'r sector hunanddarpar yn ormodol i ganiatáu iddyn nhw gario ymlaen yn eu busnes, fel gwnaeth Paul Davies sôn, ond hefyd fod yr angen i sicrhau bod neb yn gallu cymryd mantais o'r system dreth a'r rheolau sydd gyda ni. Felly, mae cael y balans yn iawn yn bwysig.

Rydyn ni, fel Llywodraeth, ac fe fyddaf i fel Gweinidog, yn symud ymlaen yn weddol o gyflym nawr i edrych ar sut rŷn ni'n asesu'r polisi yma. A dwi'n rhoi cynnig agored i Aelodau yn y Senedd yma, sydd wedi bod yn canfasio dros y misoedd diwethaf yma, i fod yn rhoi eu sylwadau i fi a'u syniadau i fi o ran sut mae'n bosib inni fod yn newid rhai o'r polisïau yma er lles y sector twristiaeth, ond hefyd sydd yn deall nad oes unrhyw loopholes newydd yn cael eu hagor wrth ddiwygio ymhellach y polisïau yma. Felly, dwi'n gobeithio clywed syniadau oddi wrth Aelodau—byddwn i'n gwerthfawrogi hynny.

Diolch i'r Aelodau am y cwestiynau gwreiddiol. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynglŷn ag a yw premiymau'r dreth gyngor a gordaloedd trafodiadau tir ar ail gartrefi yn cynyddu argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol yng Ngheredigion Penfro mewn gwirionedd?

Diolch am y cwestiwn yna eto ar Geredigion Penfro. Wrth gwrs, wrth i ni ymrwymo i asesu nifer fawr o'r agweddau ar y polisïau sy'n effeithio ar fusnesau ac ar y sector tai—fel y dreth gyngor, fel ardrethi busnes, fel y rheol 182—fe fyddwn ni'n gwneud hynny drwy asesu'n llawn impact y newidiadau mwyaf diweddar a'r hyn y gallwn ni fod yn ei gyflawni er lles rhai o'r sectorau pwysig yma yn ein heconomi ni. Felly, bydd yr asesiad yna, fel rŷch chi'n ei amlinellu fe, yn bwysig iawn i'w gyflawni. 

Cymru Sero Net

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ynghylch sicrhau bod buddsoddiad strategol Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'u cynllun ar gyfer Cymru sero net erbyn 2040? OQ64206

Er mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yw'r cynllun ar gyfer Cymru sero net, mae'n ymrwymiad i'r Llywodraeth gyfan. Bydd penderfyniadau buddsoddi strategol yn cael eu gwneud ar y cyd, felly, wrth i ni baratoi ar gyfer cyllideb yr hydref.

Diolch, Weinidog. Bydd pob penderfyniad ynghylch gwariant yn cael effaith ar newid hinsawdd, gwydnwch ein cymunedau gwledig a chynaliadwyedd ein cenedl. Nododd maniffesto Plaid Cymru y byddech chi'n gwreiddio datgarboneiddio ar draws pob maes portffolio. Felly, mae'n hanfodol fod penderfyniadau cyllidebol a wneir nawr yn gynaliadwy ac yn ystyried yr ystod ehangaf o fanteision posibl. Er enghraifft, bydd gosod systemau amgen carbon isel yn lle systemau gwresogi sy'n defnyddio tanwyddau ffosil yn cael effaith ar ansawdd aer, a fydd yn ei dro yn lleihau'r pwysau ar ein GIG. Bydd y diwydiant pympiau gwres ynddo'i hun yn darparu swyddi diogel ar gyflogau da i oddeutu 5,500 o bobl yng Nghymru. Sut y byddwch chi'n asesu gwir werth penderfyniadau gwariant posibl yn erbyn ystod ehangach o feini prawf na mesurau ariannol syml?

14:50

Wel, yn sicr, nid drwy fesurau ariannol syml yn unig, a dywedaf hynny fel y Gweinidog Cyllid. Fel y dywedais mewn ymateb cynharach, mae'r cyfrifoldeb i gyflawni ein hamcanion sero net yn gyfrifoldeb sy'n effeithio ar holl Weinidogion ac adrannau'r Llywodraeth, ac rydym am weld dull gwirioneddol ymgysylltiedig ac arloesol o fynd ati i fuddsoddi pob punt o gyllideb Cymru i sicrhau eu bod yn fuddsoddiadau hirdymor da, fel bod ein heffaith ar ein hinsawdd yn llai nag y mae angen iddi fod. Oherwydd bydd y buddsoddiad hwnnw'n gwneud gwahaniaeth nid yn unig i gyflawni sero net, sy'n amcan—amcan lefel uchel—y mae angen i lywodraeth ei gael, ond mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd yng Nghymru. Felly, gall olygu y gallai pobl gael tai mwy effeithlon ac iachach, er enghraifft, a gall olygu y gall ein busnesau gael costau trydan rhatach i redeg eu busnesau. Felly, mae'n waith gwirioneddol drawsbynciol i'r Llywodraeth hon, ac mae angen iddo fod yn rhan amlwg, ac fe fydd yn rhan amlwg, o'n proses o osod cyllidebau ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n cefnogi cyhoeddiad y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ddoe am gynllun hinsawdd a natur newydd i gyflawni sero net erbyn 2040, yn unol ag ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru. O ystyried bod unigolion, busnesau bach ac awdurdodau lleol ledled Cymru eisoes yn dangos arweinyddiaeth, gweithredu ymarferol ac ymrwymiad ariannol i hybu cynnydd tuag at sero net, a allwch chi roi sicrwydd, fel y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, y byddwch yn trafod yr egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu gyda'r Gweinidog Cabinet perthnasol, fel mai'r rheini sy'n bennaf gyfrifol am achosi allyriadau, yn hytrach na'r rheini sydd â'r lleiaf o allu i dalu, sy'n ysgwyddo'r gyfran fwyaf o'r gost?

Gallaf. Yn sicr, ni ddylai'r rhai lleiaf tebygol o allu fforddio talu orfod talu'r gost am benderfyniadau gwael, a'r bobl sydd wedi tramgwyddo yn y lle cyntaf a ddylai ei thalu. Yn ein maniffesto, rydym wedi ymrwymo i sefydlu bwrdd pontio teg i arwain y strategaeth sero net, a bydd hyn yn dwyn arbenigwyr perthnasol ynghyd, gan sicrhau bod gan randdeiliaid allweddol rôl ystyrlon yn y broses o lunio polisi. Bydd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn gwneud cyhoeddiad cynnar ar y bwrdd pontio teg i geisio cyflawni'r union bethau a nodwyd gennych.

Nid dryslyd yw pobl ledled Sir Gaerfyrddin bellach ynghylch yr iaith o amgylch sero net, ond rhwystredig, oherwydd pan fydd Gweinidogion yn sôn am fuddsoddiad strategol a phontio teg, mae llawer yn clywed sbin. Yr hyn y maent yn ei weld mewn gwirionedd yw biliau uwch, tarfu ar eu cymunedau a phenderfyniadau'n cael eu gorfodi arnynt. Dywedwyd wrthym y byddai hyn yn diogelu'r amgylchedd, ond dywedwch hynny wrth y trigolion yn nyffryn Tywi sy'n wynebu peilonau arfaethedig a thyrbinau gwynt 200 metr yn dominyddu eu tirwedd. Dywedwch hynny wrth bobl Bynea a Phumsaint sy'n delio â datblygiadau solar enfawr—blynyddoedd o lwch, sŵn a tharfu. Ac addawyd biliau is i ni, ond mae teuluoedd yn gweld mai'r gwrthwyneb sy'n digwydd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ateb hyn yn uniongyrchol: ble mae'r dystiolaeth fod y dull hwn o weithredu yn cyflawni ar ran y bobl gyffredin? Ac a wnaiff y Llywodraeth newid ei dull o weithredu os yw hyn yn parhau i gynyddu costau a cholli cydsyniad y cyhoedd? Diolch.

Fe fyddwch chi'n gwybod mai'r Gweinidog dros fenter ac ynni sydd â chyfrifoldeb dros faterion ynni adnewyddadwy a seilwaith yng Nghymru. Bydd y Gweinidog, sy'n digwydd bod yn un o'r Aelodau dros yr ardal rydych chi hefyd yn ei chynrychioli, yn unol ag ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru, yn llunio polisi newydd ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru a defnydd o seilwaith, a'r hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei ddisgwyl ohono. Bydd hynny'n rhoi eglurder o ran sut y gwelwn fod angen i ynni adnewyddadwy chwarae rhan gadarnhaol iawn yn ein hangen, ie, i gyflawni ein hymrwymiad sero net, ond hefyd i'n gwneud yn llai dibynnol ar danwydd ffosil a marchnadoedd olew a nwy yn y dwyrain canol. Fe wyddom pa mor fregus ydynt a faint o'r materion hyn sy'n golygu bod Cymru fel gwlad yn llai hunanddibynnol o ran cynhyrchu ynni. Mae angen inni gynyddu ein cynhyrchiant ynni yng Nghymru drwy ffynonellau y gellir dibynnu arnynt yn y dyfodol, ac nid ffynonellau'r gorffennol.

14:55
Prosiectau Rheilffyrdd

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid canlyniadol ar gyfer prosiectau rheilffyrdd? OQ64211

Mae sicrhau cyllid teg ar gyfer rheilffyrdd Cymru a mynd i'r afael ag anghyfiawnder HS2 yn flaenoriaeth bwysig iawn i ni. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cydnabod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi derbyn digon o gyllid yn y gorffennol, felly mae'n bryd gweithredu. Fe godais i hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf. 

Diolch, Weinidog Cabinet. Er bod HS2 wedi cael ei feirniadu'n fynych am ei gostau a'i oedi cynyddol, yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy o sgandal ac anghyfiawnder, yn ôl pob tebyg, yw'r golled sylweddol o gyllid i Gymru am fod y prosiectau hyn wedi eu dosbarthu'n brosiectau Cymru a Lloegr. Mae cymunedau ar draws fy etholaeth yng Nghlwyd wedi wynebu tarfu dro ar ôl tro oherwydd llifogydd a thywydd eithafol, fel yr hyn a welwn yr wythnos hon, tra bo Cymru mewn perygl o golli biliynau mewn cyllid canlyniadol ar y rheilffyrdd y gellid ei fuddsoddi mewn seilwaith ataliol. Nawr, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid canlyniadol teg. A wnewch chi ymrwymo i ddwysáu'r trafodaethau hyn i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn sgil y dosbarthiadau hyn mwyach?

Yn sicr, gallaf ymrwymo i ddwysáu'r trafodaethau hynny. Rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth y DU hefyd ymrwymo i'r lefel honno o ddwyster o ran y trafodaethau y mae angen inni eu cael. Mae angen inni ddod i sefyllfa rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru lle nad oes angen inni drafod drwy'r amser a yw dyraniad cyllid yn deg ai peidio. Mae angen eglurder a thryloywder arnom, ac mae angen dyfarnwr annibynnol hefyd i alluogi'r bobl i wybod ble fyddai'r dyraniad teg yn cael ei dderbyn.

Fel y dywedais yn gynharach y prynhawn yma, mae dosbarthu HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn golygu, ar hyn o bryd, yng nghyfnod adolygiad o wariant presennol y DU, fod Cymru £850 miliwn ar ei cholled, a thros gyfnodau gwariant pellach, ni fydd hynny ond yn cynyddu. Felly, mae angen inni wneud hyn yn iawn. Mae o leiaf bedair, mae'n debyg, neu bum plaid yn y Senedd hon yn cytuno bod hynny'n golygu bod Cymru'n cael ei thanariannu, ac mae angen inni ddefnyddio'r dylanwad trawsbleidiol hwnnw i sicrhau ein bod yn cyrraedd lle gwell i sicrhau nad yw pobl Cymru dan anfantais.

Ardrethi Busnes

6. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes? OQ64222

Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu’r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu eithriadau newydd rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat. Fe fyddaf i’n amlinellu rhagor o fanylion am ein cynigion ar hyn maes o law.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'r camau a gymerwyd yn y blynyddoedd diwethaf, diolch i gyfraniad Plaid Cymru mewn gwrthblaid, i leihau nifer y lletyau gwyliau a thyfu'r stoc dai yn ein cymunedau i'w croesawu. Serch hynny, mae achosion wedi codi lle mae busnesau llety gwirioneddol, rhai sy'n chwarae rôl bwysig fel rhan o'n cynnig twristiaeth, yn cael eu cosbi. Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto sydd yn ymrwymo i greu eithriadau newydd a chlir mewn achosion lle na fyddai'r llety hwnnw'n gymwys i fod yn gartref preifat. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith fydd yn mynd rhagddo gan y Llywodraeth i ddatblygu a gweithredu'r eithriadau newydd?

15:00

Dwi eisoes, fel Gweinidog cymharol newydd o hyd, wedi cychwyn ar y gwaith o drafod sut y gallwn ni fynd ati i adolygu'r trothwy gosod 182 diwrnod ac i feddwl a oes angen eithriadau newydd cenedlaethol i'r polisi yma. Dwi'n gwybod bod y polisi heb landio yn y lle cywir ar hyn o bryd a bod angen yr adolygiad hwnnw, ac felly dwi wrthi nawr yn trafod opsiynau ynglŷn â sut y medraf ddod i gasgliad i gymryd penderfyniad ar sut mae adolygu hyn a chynnwys y Senedd yma ac, yn bwysicach, y sectorau perthnasol yn y drafodaeth ehangach am beth fyddai'r diwygiadau mwyaf effeithiol ar gyfer y polisi yma.

Ariannu Llywodraeth Leol

7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ddiwygio'r fformiwla ar gyfer ariannu llywodraeth leol? OQ64205

Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn bwrw ymlaen ag adolygiad o'r fformiwla cyllido llywodraeth leol mewn partneriaeth â llywodraeth leol.

Mae'n wych bod yma yn y Senedd, oherwydd rwyf wedi treulio'r naw mlynedd diwethaf yn cwyno am y fformiwla ariannu o siambrau'r cyngor i fyny yng Nghonwy, a thrwy'r amser byddem yn gofyn i'n harweinwyr fynd i ofyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru adolygu'r fformiwla ariannu yn seiliedig ar y ddemograffeg sy'n heneiddio sydd gennym, yn enwedig yng Nghonwy, sy'n effeithio ar ein cyllideb gofal cymdeithasol. Felly, dyma fi—ac rydych chi'n mynd i fod wedi cael llond bol ar y cwestiwn hwn—ond, os gwelwch yn dda, pan fyddwch chi'n edrych ar y fformiwlâu cyllido, a wnewch chi ystyried y ddemograffeg sy'n heneiddio sydd gennym ar hyd arfordir gogledd Cymru? Mae pobl yn byw bywydau hirach, bywydau iach. Rhaid mai awyr y môr yng ngogledd Cymru sy'n gyfrifol. Ond mae angen rhywfaint o ystyriaeth i'r lefel uchel o gostau gofal cymdeithasol sydd bellach yn goddiweddyd cyllidebau addysg, yn enwedig yng Nghonwy. Diolch.

Mae gwneud yn siŵr fod y fformiwla llywodraeth leol yn adlewyrchu'n ddigonol y gwahanol nodweddion sydd gan ein gwahanol awdurdodau lleol yn bwysig i'r Llywodraeth hon, a gwneud yn siŵr ein bod yn deall yn iawn gan lywodraeth leol a chynghorau sut y mae'r fformiwla bresennol yn gweithio, naill ai er budd iddynt—rwy'n amau na fyddant mor barod i gyfaddef hynny—neu er anfantais iddynt, fel rydych chi wedi'i amlinellu ar gyfer Conwy. Y Gweinidog Cabinet dros lywodraeth leol fydd yn cael y sgwrs agored hon gyda llywodraeth leol ynglŷn â sut y gellir diwygio'r fformiwla ariannu mewn ffordd sy'n diwallu anghenion a gofynion amrywiol anfantais a theneurwydd poblogaeth yn ein gwlad hynod amrywiol yng Nghymru. Mae angen inni gyrraedd y fan honno cyn bo hir fel Llywodraeth, ac mae'r trafodaethau hynny'n digwydd nawr. O fewn ein hymrwymiad 100 diwrnod hefyd, mae gennym ymrwymiad i alinio polisïau â phrawfesur gwledig ac mae angen inni sicrhau y byddai unrhyw newidiadau i'r fformiwla llywodraeth leol yn gwneud hynny yn unol â'n haliniad â phrawfesur gwledig.

Gwasanaethau Rheng Flaen

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynglŷn â sut mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen? OQ64191

Roedd y gyllideb atodol gyntaf, a gyhoeddwyd ddoe, yn darparu £164 miliwn o gyllid refeniw a £130 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i'n blaenoriaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys £145 miliwn i'r NHS yng Nghymru i dorri rhestrau aros ac adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Diolch am yr ateb. Yn ôl ym mis Ionawr, roedd y Prif Weinidog erbyn hyn yn brolio bod Plaid Cymru wedi sicrhau £300 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen ac wedi rhoi Llywodraeth nesaf Cymru 'ar sail fwy cadarn'. Yn y gyllideb fach ddoe, fe wnaethoch chi ddargyfeirio miliynau oddi wrth y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—sef plant ag anghenion dysgu ychwanegol—a gwrthod cydnabod bod cynghorau ac ysgolion ledled ein gwlad, fel fy un i ym Merthyr, yn cael eu gwthio ymhellach i'r coch oherwydd y galw cynyddol ym maes ADY. Weinidog, mae'n amlwg mai'r hyn oedd cyllideb fach Plaid Cymru oedd ymarfer mewn blaenoriaethau amhriodol ac rwy'n dechrau colli cyfrif ar addewidion Plaid Cymru sydd heb eu costio. Sut y gwnewch chi gydbwyso gwariant ADY o £1 biliwn ag addewidion fel trydedd bont y Fenai a chynnig gofal plant gwerth £587 miliwn nad yw wedi'i gostio'n llawn eto, a'r cyfan gan ddiogelu gwasanaethau rheng flaen? A ydych chi'n ddewin economaidd, neu a ydych chi'n storio newyddion drwg ar gyfer cyllidebau eto i ddod? Diolch.

15:05

Ni ddargyfeiriais un geiniog i ffwrdd o anghenion dysgu ychwanegol yn y gyllideb atodol ddoe. Pleidleisiodd y Senedd ar y dyraniad ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer ysgolion, dyraniad a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur a'i gefnogi'n rhannol gan Blaid Cymru yn y Senedd flaenorol. Mae'r dyraniad hwnnw'n parhau'n llawn i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ar anghenion dysgu ychwanegol ac ar ein hysgolion, oherwydd y pwysau, fel y nodoch chi, rydym wedi ymrwymo i weithio i lunio gwasanaeth a'i ariannu fel ein bod yn fwy parod ar gyfer yr heriau a chyflawni ar anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Nid cystadleuaeth am gyllid mohono; mae angen cyllid i redeg amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn ceisio taro'r cydbwysedd cywir a byddwn yn gwrando ar safbwyntiau ar draws y Siambr hon o ran ble mae angen taro'r cydbwysedd hwnnw.

Ac yn olaf, gyda thipyn bach o injury time ar ôl y datganiad byr—

Rhaglen Cartrefi Cynnes

9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol o'r rhaglen Cartrefi Cynnes gwerth £15 biliwn? OQ64220

Cadarnhawyd symiau canlyniadol ychwanegol cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng nghyllideb yr hydref 2025. Bydd Cymru'n derbyn £17 miliwn yn 2026-27, £26 miliwn yn 2027-28, £26 miliwn yn 2028-29 a £17 miliwn yn 2029-30.

Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd ynni yn ymrwymo £15 biliwn i uwchraddio cartrefi yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw'n glir pa gyllid y gall Cymru ei ddisgwyl. Eto i gyd, o amcangyfrifon, fe wyddom fod tua £800 miliwn yn ddyledus i Gymru mewn symiau canlyniadol. Gwyddom hefyd fod polisïau fel y gofyniad i gartrefi rhent preifat gyrraedd Tystysgrif Perfformiad Ynni C erbyn 2030 yn debygol o gael effaith anghymesur yng Nghymru, o ystyried oedran a chyflwr ein stoc dai. Mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy hanfodol byth fod Cymru'n cael yr adnoddau llawn sydd eu hangen arni i fodloni'r uchelgeisiau hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog Cabinet dros Gyllid asesu effaith lawn y rhaglen Cartrefi Cynnes ar Gymru a cheisio sicrhau'r symiau canlyniadol sy'n angenrheidiol i gyflawni dull o weithredu sy'n wirioneddol niwtral o ran deiliadaeth yma yng Nghymru?

Rydych chi wedi amlinellu'r uchelgais sydd gennych ar gyfer y gwaith Cartrefi Cynnes sydd angen ei wneud yng Nghymru a'r manteision y gall eu creu i aelwydydd ledled Cymru. Amlinellais yn fy ateb gwreiddiol yr arian canlyniadol a gawsom eisoes fel Llywodraeth. Mae'n sylweddol is na'r amcangyfrif a roddwyd gennych chi y prynhawn yma. Mae hynny ynddo'i hun yn amlinellu'r hyn a ddywedais drwy gydol fy sesiwn gwestiynau y prynhawn yma: natur anhryloyw'r ffordd y mae fformiwla Barnett ac arian canlyniadol yn gweithio, a sut y gall hynny, ar draws adrannau Llywodraeth y DU, olygu pethau gwahanol iawn o ran sut y daw drwodd i Gymru. Ond byddaf yn trafod gyda'r Gweinidog Cabinet dros dai y lefel go iawn o arian canlyniadol sydd ei hangen ar gyfer y maes gwaith hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried yn glir a ydym wedi cael y symiau canlyniadol cywir a pha sylwadau pellach y byddai angen i ni eu gwneud os nad yw hynny wedi digwydd.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Cwestiwn amserol nawr, o dan eitem 3. Ken Skates.

Y Rhybudd Coch am Wres Eithafol

1. Pa fesurau, cynlluniau a threfniadau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y rhybudd coch yr wythnos hon am wres eithafol, ac i ddiogelu seilwaith cenedlaethol hanfodol? TQ1469

Member
Nerys Evans 15:10:18
Deputy Minister for Public and Preventative Health

Rydym wedi gweithredu ein trefniadau cydlynu ymateb i fonitro a rheoli effeithiau gwres eithafol ar draws y meysydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt, gan weithio gyda phartneriaid, fforymau gwytnwch lleol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n annog pawb i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus, yfed digon o ddŵr a chadw mas o'r haul yn ystod y rhan boethaf o'r dydd.

Diolch, Weinidog. Heddiw, rydym yn wynebu cyfnod arall o dywydd eithafol. Ar yr achlysur hwn, mae'n rhybudd coch, sy'n golygu bod risg wirioneddol i fywyd, yn enwedig i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd pobl yn poeni'n fawr, nid yn unig am eu hunain, ond hefyd am eu hanwyliaid yr wythnos hon. Hoffwn i'r Llywodraeth nodi pa baratoadau a chynlluniau ychwanegol a roddwyd ar waith ymlaen llaw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai a lleoliadau gofal cymdeithasol yn ystod y gwres eithafol hwn a pha systemau ymateb sydd ar waith i gefnogi pobl yn ystod y rhybudd tywydd coch.

Rwy'n gwybod o fy mhrofiad blaenorol yn y maes trafnidiaeth pa mor heriol y gall gwres eithafol fod i weithwyr, yn enwedig i yrwyr bysiau a gyrwyr trenau, na allant ac na ddylent yrru cerbydau os oes risg iddynt fynd yn anymwybodol yn sgil gwres eithafol. Pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda busnesau a chydag undebau i sicrhau bod cynlluniau hirdymor ar gyfer diogelu gweithwyr yn digwydd? Oherwydd mae'r tymheredd yn debygol o gyrraedd 45 gradd ar adegau o fewn y 30 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn digwydd amlach.

Yn olaf, yn y math yma o ddigwyddiadau, fel llifogydd hefyd, mae un man lle gallant gael gwybodaeth gywir yn hanfodol bwysig i'r cyhoedd. A allwch chi amlinellu beth yw barn Llywodraeth Cymru ynghylch creu un porth a all gasglu'r holl wybodaeth am ddigwyddiadau fel hyn a'r aflonyddwch a'r risg y gallant eu hachosi? Diolch.

Diolch. Rwy'n cytuno gyda'r sylwadau ynglŷn â difrifoldeb y tywydd eithafol yma rŷn ni'n ei weld heddiw, yfory a dros y dyddiau nesaf. Fel gwnes i sôn, rydym ni wedi cydlynu gweithgaredd yn genedlaethol er mwyn rheoli a monitro'r sefyllfa bob dydd. Mae'r adran diogelwch gwladol a gwytnwch yn cydlynu'r gwaith yna ac yn gweithio gyda swyddogion ar lawr gwlad a swyddogion iechyd cyhoeddus hefyd er mwyn inni gael yr ymateb trawslywodraeth yna, fel gwnaethoch chi sôn. Gwnaeth yr ymateb cenedlaethol gynyddu i lefel 1 ar fore 22 Mehefin, bore dydd Llun, wrth i ni fonitro'r sefyllfa. Gwnaethon ni ddod â'r gweision sifil polisi at ei gilydd mewn modd ymarferol iawn i edrych ar yr elfennau gweithredol yna er mwyn ein bod ni'n ymateb.

Rydym ni'n cydnabod y risgiau, rydym ni'n cydlynu gweithgaredd, ac fel gwnaethoch chi sôn, mae'r risg i fywyd yn un difrifol iawn mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif. Ar y meysydd iechyd, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor mas i'r sector iechyd. Roedd y prif gynghorydd meddygol wedi cysylltu gyda phartneriaid nôl ym mis Mai i wneud yn siŵr bod y cynlluniau mewn lle ar gyfer fel achosion fel hyn, sy'n debygol o ddod yn fwy aml nawr oherwydd newid hinsawdd. Yn sicr mae hwnna'n flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth: gwneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod y ffaith bod newid hinsawdd yn bodoli, gan gydnabod bod angen i ni weithio ar draws y Llywodraeth er mwyn paratoi am achosion fel hyn yn fwyfwy aml, yn anffodus.

Dros y dyddiau nesaf, mae ysgolion ledled Cymru yn cau eu drysau oherwydd y gwres eithafol, gan orfodi rhieni a gofalwyr i wneud trefniadau gofal plant ar fyr rybudd. Mae fy oriawr newydd ganu gyda'r un rhybudd ar gyfer yfory. Ond mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar deuluoedd ar yr incwm isaf, rhieni na allant fforddio amser i ffwrdd o'r gwaith neu na allant ddod o hyd i ofal plant fforddiadwy ar fyr rybudd. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno bod hyn yn bryder gwirioneddol. Ar adeg pan fo teuluoedd incwm isel unwaith eto'n dioddef yr effaith fwyaf, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau y gallant aros ar agor mewn cyfnodau o dywydd eithafol, o ystyried bod hyn yn debygol o ddod yn ddigwyddiad amlach yn sgil newid hinsawdd? 

Diolch. Rwy'n rhannu'r pryderon yna ac yn rhannu'r sylwadau ynglŷn â'r effaith ar deuluoedd wrth i ysgolion a llefydd gwarchod plant gau. Ond nid ar chwarae bach ŷn ni'n gwneud hyn, wrth gwrs, o ran y rhybudd coch. Dydyn ni erioed wedi cael rhybudd coch fel hyn yng Nghymru o'r blaen oherwydd tywydd. Mae cau ysgolion a chau llefydd gwarchod plant yn rhywbeth i'r penaethiaid lleol neu'r awdurdodau lleol.

Yn amlwg, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae pob un adeilad yn wahanol o ran maint a'r gallu i ymgymryd â thymheredd fel yma, felly mae'n iawn ac yn briodol bod y penderfyniadau yna yn cael eu gwneud ar sail risg leol, ar sail yr amodau penodol, er mwyn ein bod ni'n cadw pobl ifanc a'n plant yn ddiogel.

Rŷn ni'n gwybod bod plant a phobl ifanc, yn enwedig, yn fwy bregus, yn methu controlio tymheredd y corff, felly mae'n ddyletswydd arnon ni i gyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gofalu am blant a phobl ifanc, a phobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd penodol yn ystod y cyfnod yma. Felly, dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam mae angen i ysgolion ystyried cau yn y meysydd yma. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol ac yn gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth yna mewn lle.

15:15

Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond rwyf innau hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd am effaith y gwres eithafol a'n gwydnwch fel cenedl i ymdopi â digwyddiadau o'r fath. Er bod diogelwch yn hollbwysig wrth gwrs, nid yw ein gallu i wrthsefyll tywydd eithafol yn teimlo mor gadarn yng Nghymru ag y dylai. Nid yn unig fod gwasanaethau rheilffyrdd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol ddoe, gan achosi anhrefn a gadael cymunedau'n methu teithio, roedd llawer o fusnesau'n teimlo rheidrwydd i gau, gan eu niweidio'n ariannol, ac yn allweddol, fel y nodwyd, mae llawer o ysgolion ledled Cymru wedi cau heddiw ac yfory. Nawr, nid yn unig fod hyn yn golygu bod rhieni sy'n gweithio'n cael trafferth dod o hyd i ofal plant munud olaf, mae hefyd yn absenoldeb addysgol arall sydd eisoes wedi'i orfodi ar ein plant, gyda llawer ohonynt eisoes wedi byw drwy gyfnod COVID ac eisoes wedi colli misoedd lawer o'u haddysg.

Dylem allu gwrthsefyll tywydd garw, boed yn eira, glaw neu wres eithafol, fel nad yw trafnidiaeth, busnesau ac addysg yn cael eu heffeithio'n negyddol fel sydd wedi digwydd yr wythnos hon. Fel y dywedwyd, mae'n debygol o ddigwydd eto, ac nid ydym yn gwybod—. Ar drothwy'r rhan boethaf o'r haf hwn ydym ni mewn gwirionedd. Felly, Ddirprwy Weinidog, hoffwn wybod pa sgyrsiau sy'n digwydd nawr i gynllunio mwy ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol yn fwy hirdymor a sut y bwriadwch liniaru'r effaith, fel na welwn yr anhrefn sydd wedi digwydd yma yng Nghymru yr wythnos hon?

Wel, dwi'n falch iawn i glywed y sylwadau yna, a'r ddealltwriaeth bod hyn yn rhywbeth mae angen inni ei daclo, a bod newid hinsawdd yn flaenoriaeth. Wrth gwrs, mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth newydd yma, a byddwn ni'n falch iawn i weld y gefnogaeth i'r ffaith ein bod ni yn blaenoriaethu mesurau i ddelio ag effaith newid hinsawdd, ac, fel y gwnaethoch chi sôn, yr effaith real sy'n digwydd ar hyn o bryd i'r system trafnidiaeth, yn ogystal ag ysgolion ac yn y blaen.

Felly, mae hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n rhywbeth rŷn ni'n mynd i'w wreiddio drwy bob un portffolio—yr angen inni ddim jest edrych ar y mesurau newid hinsawdd, ond hefyd fel rŷn ni'n paratoi fel gwasanaethau, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, a gwneud yn siŵr bod cynlluniau mewn lle, fel rŷn ni wedi dros y misoedd diwethaf. A rhaid gwneud yn siŵr bod y cynlluniau mewn lle pan mae yna issues fel y rhybudd coch yma yn codi, a bod yna gefnogaeth a dealltwriaeth bod angen gweithredu ar y cynlluniau yna ar fyrder, a'n bod ni'n monitro ac yn rhoi'r gefnogaeth yna yn ôl yr angen.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, nawr mae eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Gareth Thomas.

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn foment nid yn unig i fyfyrio ond i gydnabod, hyrwyddo a sefyll yn gadarn y tu ôl i gymuned ein lluoedd arfog. Ar draws y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol a'r fyddin, mae personél ein lluoedd arfog yn dangos dewrder, disgyblaeth ac ymrwymiad diwyro i amddiffyn ein cenedl. Maent yn barod i wasanaethu, yn aml mewn amgylchiadau peryglus, er mwyn i ni allu byw'n ddiogel. Ond mae cymuned y lluoedd arfog yn llawer ehangach na'r rhai mewn lifrai. Mae'n cynnwys cyn-filwyr sy'n parhau i gyfrannu at gymdeithas ymhell ar ôl i'w gwasanaeth ddod i ben. Mae'n cynnwys teuluoedd, partneriaid, plant a ffrindiau sy'n cario pwysau bywyd mewn gwasanaeth drwy wahanu, adleoli ac ansicrwydd. Maent oll yn rhan o un gymuned ac maent oll yn haeddu ein cefnogaeth. Dyna pam y credwn fod yn rhaid i gefnogaeth fynd y tu hwnt i eiriau. Mae hyrwyddo cymuned y lluoedd arfog yn golygu sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg, gyda mynediad priodol at ofal iechyd, tai ac addysg. Mae'n golygu cydnabod eu haberth mewn ffyrdd ymarferol, nid drwy seremoni yn unig, oherwydd rhaid i genedl sy'n gofyn cymaint gan ei lluoedd arfog fod yn barod i roi rhywbeth yn ôl. Felly, yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog eleni, gadewch inni wneud mwy na dim ond dweud 'diolch'. Gadewch inni ei ddangos drwy weithredu, drwy gefnogaeth a thrwy ymrwymiad o'r newydd i'r rhai sy'n gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r teuluoedd sy'n sefyll gyda nhw. Diolch.

15:20

Ar yr adeg hon o dwymyn pêl-droed byd-eang, rwy'n falch o groesawu'r ffaith y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal pencampwriaeth UEFA Ewrop dan-19 yng ngogledd Cymru yr haf hwn, rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf. Mae'n foment bwysig i bêl-droed Cymru ac i'n cymunedau ehangach. Bydd y bencampwriaeth yn dod â rhai o'r chwaraewyr ifanc mwyaf talentog o bob cwr o Ewrop at ei gilydd, gan arddangos y genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr rhyngwladol elitaidd ar garreg ein drws. Mae'n arbennig o arwyddocaol y bydd gemau'n cael eu cynnal mewn sawl lleoliad yng ngogledd Cymru, gan gynnwys ar y Cae Ras yn fy etholaeth i yn Fflint Wrecsam, gan ddod â phêl-droed rhyngwladol yn ôl yn uniongyrchol i galon y ddinas ac adeiladu ar broffil cynyddol Wrecsam yn y gêm. Bydd hyfforddiant yn digwydd hefyd ar draws amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys yn Fflint Wrecsam ym Mharc Colliers, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ein seilwaith llawr gwlad ar gyfer cynnal digwyddiadau rhyngwladol o'r maint hwn. Mae'r bencampwriaeth hon, Lywydd, yn rhoi cyfle gwirioneddol i bobl o bob oed brofi pêl-droed rhyngwladol yn eu cymunedau eu hunain, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r bencampwriaeth a mynd i weld gêm yng ngogledd Cymru os gallwch. Diolch yn fawr.

Rhwng 1948 a 1971, gwahoddodd Llywodraeth y DU bobl o wledydd y Caribî a'r Gymanwlad i helpu i ailadeiladu'r wlad a gwneud iawn am brinder llafur ar ôl yr ail ryfel byd. Ar 22 Mehefin 1948, dociodd HMT Empire Windrush yn Tilbury. Roedd 1,027 o bobl ar ei bwrdd, yn bennaf o'r Caribî—Jamaica, Saint Lucia, Grenada a Barbados. Roedd llawer wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog Prydain yn ystod yr ail ryfel byd. Y sectorau mwyaf cyffredin yr aeth pobl i weithio ynddynt oedd y diwydiant adeiladu, trafnidiaeth gyhoeddus, gweithgynhyrchu a'n GIG. Yn fy etholaeth i, mae gennym hynafgwyr Windrush o hyd. Maent yn parhau i fod yn lleisiau pwysig ac allweddol yn ein cymuned. Mae cymaint wedi gwneud, ac yn parhau i wneud cyfraniad rhagorol.

Cyrhaeddodd Vernesta Cyril OBE o Saint Lucia ac mae hi'n fydwraig boblogaidd yng Nghasnewydd, gan wasanaethu yn ein GIG ers dros 40 mlynedd. Er iddi wynebu gelyniaeth, dywed Vernesta ei fod wedi ei gwneud hi'n gryf. Mae hi'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth ac yn llais blaenllaw yn ein cymuned. Symudodd Roy Grant o Jamaica i ddod yn beiriannydd. Ar ôl cyrraedd Lloegr, gwnaeth Gasnewydd yn gartref iddo. Mae Roy'n gweithio'n ddi-baid i sicrhau bod pobl ifanc yn deall brwydrau cenhedlaeth Windrush ac i helpu i adeiladu cysylltiadau rhwng cymunedau. Nid yw'r rhain ond dau o'r bobl sydd wedi cael effaith mor gadarnhaol. Mae'r hynafgwyr a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniadau amhrisiadwy i Gymru. Maent yn haeddu parch a diolch pob un ohonom yn y Senedd hon ac ar draws Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Rwy'n falch iawn o siarad heddiw i nodi dadorchuddiad cerflun newydd sy'n dathlu bywyd a gwaddol Elizabeth Andrews, un o ymgyrchwyr gwleidyddol mwyaf nodedig Cymru a hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol. Yfory, ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod, bydd cerflun a grëwyd gan y cerflunydd Billy Bond yn cael ei ddadorchuddio fel y bumed heneb, a'r olaf, a osodwyd gan ymgyrch Monumental Welsh Womern i anrhydeddu menywod o Gymru y mae eu cyfraniadau'n rhy aml wedi'u hanghofio.

Wedi'i geni i dlodi yn Hirwaun yn seithfed o 11 o blant mewn teulu glofaol, gadawodd Elizabeth Andrews yr ysgol yn 13 oed i helpu i gynnal ei theulu. Oherwydd yr amgylchiadau hynny, gellir dadlau, daeth yn rhyngwladolwr arloesol, yn swffragetydd ac yn sosialydd a gysegrodd ei bywyd i wella bywydau menywod, plant a theuluoedd dosbarth gweithiol ledled Cymru. Helpodd fenywod i arfer eu hawl newydd i bleidleisio, ymgyrchodd yn ddiflino dros well darpariaeth famolaeth a gofal plant, helpodd i sefydlu un o ysgolion meithrin cynharaf Cymru ac arweiniodd yr ymgyrch lwyddiannus dros faddonau pen pwll, gan drawsnewid amgylchiadau teuluoedd mwyngloddio. Rhoddodd dystiolaeth hefyd i gomisiwn brenhinol ar fwyngloddio, gan dynnu sylw at effaith y diwydiant ar fywyd teuluol, a chwaraeodd ran ganolog yn cefnogi cymunedau drwy galedi argyfwng cloi allan 1926. Roedd Elizabeth Andrews yn deall bod cyfiawnder cymdeithasol yn dechrau gyda rhoi llais i'r rhai sy'n rhy aml heb eu clywed. Mae'r cerflun hwn yn deyrnged addas i fenyw y gwnaeth ei gwaith newid bywydau ac y mae ei hesiampl yn parhau i'n hysbrydoli heddiw. Diolch.

15:25
5. Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Marw-enedigaeth a marwolaethau newydd-anedig

Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): marw-enedigaeth a marwolaethau newydd-anedig. Galwaf ar Sara Crowley i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9245 Sara Crowley, Vikki Howells, Elyn Stephens

Cefnogwyd gan Anna Nicholl, Anthony Slaughter, Art Wright, Beca Brown, Becca Martin, Catherine Cullen, Elfed Williams, Gwyn Williams, Jason O'Connell, Joshua Kim, Leticia Gonzalez, Lis McLean, Lynne Neagle, Mair Rowlands, Matthew Jones, Natasha Asghar, Niamh Salkeld, Nick Carter, Rebeca Phillips, Safa Elhassan, Sarah Rees, Shav Taj, Zaynub Akbar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod y gyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na'r gyfradd ar gyfer gweddill y DU;

b) na fu gostyngiad parhaus yng nghyfradd y babanod sy'n farw-anedig yng Nghymru ers 2018;

c) y bu diffyg cynnydd parhaus hefyd o ran lleihau cyfradd y babanod sy'n marw yn fuan ar ôl eu geni yng Nghymru; a

d) y gallai mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru fod wedi goroesi rhwng 2019 a 2023 pe bai canlyniadau wedi cyfateb i ganlyniadau'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop.

2. Yn croesawu:

a) cyhoeddi Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026;

b) ffocws cynyddol Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd ataliol a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd; ac

c) gwaith parhaus i wella diogelwch mamolaeth, cynllunio'r gweithlu, a thegwch o fewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) nad yw teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru bob amser yn cael cymorth cyson, o ansawdd uchel, gan gynnwys mynediad at staff hyfforddedig, cyfleusterau profedigaeth priodol, a gofal seicolegol arbenigol;

b) bod gormod o farwolaethau babanod yng Nghymru yn rhai y gellir eu hatal, a bod angen gweithredu brys, cydgysylltiedig i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol; ac

c) bod rhaid i’r gwaith o leihau marwolaethau babanod, a sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn cael gofal tosturiol, o ansawdd uchel fod yn un o nodau canolog system iechyd ataliol a theg.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod yr argymhellion a nodir yn Adroddiad Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol 2026 yn cael eu gweithredu’n amserol ac yn effeithiol;

b) gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd ledled Cymru i:

i) sicrhau bod pob teulu mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd uchel fel rhan o Lwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol, gan gynnwys staff hyfforddedig, cyfleusterau priodol, cyfleoedd i greu atgofion, ac atgyfeirio at gymorth seicolegol arbenigol lle bo angen;

ii) cyflwyno cymorth seicolegol arbenigol i bobl ar ôl colli yn ystod beichiogrwydd a cholli babi, gan sicrhau bod pob rhiant mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad at gymorth waeth ble maent yn byw, y math o golled a brofwyd yn ystod beichiogrwydd neu o golli babi, neu pa mor hir yn ôl yr oedd; ac

c) ystyried mabwysiadu targedau clir, mesuradwy i leihau cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru yn unol â'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop, gan gynnwys targedau i ddileu anghydraddoldebau o ran colli babanod yn ôl ethnigrwydd ac amddifadedd, a sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan buddiant personol. Heb yn wybod i mi pan gyflwynais y ddadl hon, mae aelodau o fy nheulu ehangach yn mynd drwy'r union sefyllfa hon heddiw. Er bod hynny'n fater ar wahân ac un hynod bersonol, rwyf am ddechrau gyda stori bachgen bach o'r enw Gwilym. Chwe mis yn ôl i heddiw, ar Noswyl Nadolig, bu farw Gwilym yn ddim ond 11 diwrnod oed. Treuliodd ei rieni, Brooke a Wil o Bontypridd yn fy etholaeth i, yr 11 diwrnod yn gwneud yr hyn y mae pob rhiant newydd yn ei wneud: caru eu mab, dod i'w adnabod ac edrych ymlaen at y dyfodol y credent ei fod ganddynt. Yn hytrach, cawsant eu gadael i wynebu'r realiti na ellir ei ddirnad o ffarwelio â Gwilym a cheisio deall pam y bu farw.

Yn y chwe mis ers eu colled ddinistriol, maent wedi gweithio'n ddiflino ochr yn ochr â rhieni a sefydliadau profedigaeth eraill, fel Sands, i ymgyrchu dros newidiadau a fydd yn helpu i achub bywydau babanod a gwella cefnogaeth i deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru. Mae stori Gwilym yn dorcalonnus, ond yn anffodus, nid yw'n unigryw. Bob blwyddyn mae teuluoedd ledled Cymru yn profi trychineb marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigol a cholli babi yn ystod beichiogrwydd. Y tu ôl i bob ystadegyn mae babi a gerir yn fawr, babanod weithiau, teulu sy'n galaru a dyfodol wedi'i newid am byth. Dyma pam y mae'r ddadl hon yn bwysig, a dyma pam rwy'n falch o agor y ddadl hon ar achub bywydau babanod.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr, Elyn Stephens a Vikki Howells, ac Aelodau ar draws y Siambr am eu cefnogaeth ar y mater pwysig hwn. Fel Aelod newydd, mae'n fraint agor fy nadl gyntaf ar fater sy'n effeithio ar bob cymuned ledled Cymru.

Mae'r cynnig hwn yn cydnabod realiti a ddylai beri pryder i bob Aelod o'r Senedd. Cymru sy'n parhau i fod â'r gyfradd uchaf o farw-enedigaethau yn y Deyrnas Unedig. Ni chafwyd gostyngiad parhaus yn nifer y marw-enedigaethau ers 2018, ac mae gormod o deuluoedd yn parhau i brofi'r trawma o golli babi. Efallai y byddai mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru wedi goroesi rhwng 2019 a 2023 pe bai gan Gymru yr un canlyniadau â'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop. Ni ddylem byth dderbyn hyn fel rhywbeth anochel, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na deall y broblem yn unig, mae a wnelo â'i hatal ac achub bywydau babanod lle bynnag y bo modd. Rhaid inni ofyn pam mai fel hyn y mae hi yng Nghymru, gan gydnabod y gall colli babi ddigwydd am sawl rheswm, yn cynnwys haint, cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a ffactorau iechyd ehangach sy'n aml y tu hwnt i reolaeth unrhyw un. Ond mae'n rhaid inni edrych yn eang hefyd ar y ffactorau y gallwn ddylanwadu arnynt, megis anghydraddoldeb ac iechyd mamau, a sicrhau bod menywod, yn enwedig y rhai sy'n wynebu risg uwch, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, menywod sy'n byw gyda chyflyrau fel diabetes, yn enwedig diabetes math 1, cyflwr rwyf innau wedi byw gydag ef ers dros 35 mlynedd, ac un a ddylanwadodd ar fy mhenderfyniadau beichiogi fy hun, lle gwyddom fod gwella mynediad at gymorth arbenigol a thechnolegau modern yn cynnig un o'r cyfleoedd cliriaf i leihau risg a gwella canlyniadau i'r fam a'r babi. Fodd bynnag, mae hyn yn mynd ymhellach nag unrhyw un cyflwr. Mae'n ymwneud â sut rydym yn cefnogi iechyd menywod yn gyffredinol a sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a'r heriau iechyd ehangach sy'n rhy aml yn siapio canlyniadau yng Nghymru.

Mae pob teulu'n haeddu'r gofal gorau posibl yn ystod beichiogrwydd ac wrth roi genedigaeth. Mae pob babi'n haeddu'r cyfle gorau posibl o ddechrau iach mewn bywyd. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd nad oes modd atal pob colled, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, a phan fo'r gwaethaf yn digwydd, mae pob teulu mewn profedigaeth yn haeddu cefnogaeth dosturiol a chyson o ansawdd uchel gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a phrofiadol ochr yn ochr â sefydliadau fel Sands.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, cefais y fraint o gyfarfod â rhieni mewn profedigaeth, gan gynnwys Ruth a Jess, aelodau o grŵp ymgyrchu rhieni Sands Cymru, sydd, er gwaethaf eu colled eu hunain, wedi treulio blynyddoedd yn gweithio i wella gofal i deuluoedd ledled Cymru. Mae Ruth yn un o'r cyfeillion gyda Sands Merthyr, a mam i efeilliaid, George a Henry. Mae hi wedi cefnogi rhieni sy'n wynebu torcalon—. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n fam i efeilliaid hefyd. Mae hi wedi cefnogi rhieni sy'n wynebu torcalon, gan barhau i ymgyrchu dros welliannau mewn gofal. Mae ei chryfderau'n adlewyrchu nid yn unig ei cholled hi, ond y cariad sydd ganddi tuag at ei dau fab. Mae Jess yn rhedeg y grŵp cymorth i rai sydd wedi colli babi ym Mro Morgannwg, a hi yw mam Megan Jane. Drwy ei grŵp, mae hi wedi creu gofod lle gall rhieni mewn profedigaeth ddod at ei gilydd, rhannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd. Caiff y gofal y mae'n ei gynnig ei siapio gan ei chariad at ei merch. Yr hyn a wnaeth fy nharo fwyaf oedd eu bod nhw'n parhau i roi cymaint i eraill, er gwaethaf popeth y maent wedi bod drwyddo. Mae gwrando arnynt yn siarad mor angerddol yn dangos yn glir pam y mae'r ddadl hon yn bwysig, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn mae babi a gerir yn fawr a theulu y mae ei fywyd wedi'i newid am byth.

Roedd yn amlwg o siarad â theuluoedd nad oes diwedd i'r golled, mae'n parhau. Yn rhy aml, nid yw pobl yn sôn am eu galar, gan y gall y stigma sy'n gysylltiedig â cholli babi ei gwneud hi'n anodd siarad yn agored. Mae rhieni'n byw eu bywydau wrth alaru am y bywyd y dylent fod wedi'i fyw, y cerrig milltir nas cyrhaeddwyd, yr eiliadau na chafodd eu byw, nid yn unig yn ystod plentyndod, ond bob blwyddyn sy'n dilyn. I rai teuluoedd, mae eu galar yn rhoi straen aruthrol ar berthnasoedd, gan newid bywydau mewn ffyrdd sy'n anodd eu mynegi. Felly, heddiw, mae a wnelo'r ddadl â mwy na chofio babanod fel Gwilym, George, Henry a Megan Jane, a phob babi y mae eu bywydau wedi'u torri'n dorcalonnus o fyr, mae'n ymwneud â'u coffáu drwy ofyn beth arall y gellir ei wneud i achub bywydau, lleihau anghydraddoldebau a sicrhau bod teuluoedd mewn profedigaeth yn cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Pan fydd teulu'n wynebu'r profiad dinistriol o golli babi, rhaid iddynt allu cael mynediad at y gofal a'r cymorth profedigaeth o ansawdd uchel sydd eu hangen arnynt. Yn anffodus, nid dyma'r realiti i lawer yng Nghymru. Canfu ymchwil gan Sands mai dim ond cyfran fach iawn o rieni mewn profedigaeth yng Nghymru a oedd yn gallu cael mynediad at y cymorth roeddent ei eisiau drwy'r GIG neu elusennau, ac nid oedd mwy na thraean yn gallu cael mynediad at gymorth o gwbl. Rhaid i hyn newid, ac mae cyfle gennym i wneud yn well. Hoffwn roi eiliad i gydnabod gwaith anhygoel elusennau fel Sands Cymru a 2wish a'u staff a'u gwirfoddolwyr, sy'n rhoi eu hamser i roi cefnogaeth i deuluoedd pan fyddant ei hangen fwyaf. Mae'r sefydliadau hyn yn darparu cymorth hanfodol ar yr adegau anoddaf ym mywydau teuluoedd. Fodd bynnag, ni ddylai mynediad at gymorth profedigaeth ddibynnu ar y trydydd sector yn unig. Dylai teuluoedd allu cael mynediad at gymorth cyson o ansawdd uchel drwy'r GIG, lle bynnag y maent yn byw.

Rhaid inni gydnabod hefyd fod angen i gymorth profedigaeth fod ar gael i'r ddau riant. Yn rhy aml, gall tadau, partneriaid a rhieni nad ydynt yn rhoi genedigaeth deimlo'n anweledig ar ôl colli babi, er eu bod yn wynebu galar dwfn ar eu pen eu hunain wrth gefnogi'r unigolyn y maent yn eu caru. Rhaid i'n gwasanaethau fod wedi'u llunio i ddiwallu anghenion y teulu cyfan, gan gydnabod bod profiad a strwythur pob teulu'n wahanol. Hoffwn sôn am Rafe, y mae ei dad yn yr Oriel heddiw'n gwrando, a Seren hefyd, na all ei theulu fod yma. Drwy golled eu teulu, maent yn ein hatgoffa pam fod y ddadl hon mor bwysig.

Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol newydd Cymru. I deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael cymorth heddiw, ni all y cyhoeddiad hwn ddod yn ddigon buan. Wrth ymateb i'r ddadl hon, buaswn yn croesawu rhagor o fanylion gan y Dirprwy Weinidog ynghylch pryd y bydd y llwybr yn cael ei gyhoeddi, ac yn hollbwysig, sut y bydd ei weithrediad yn cael ei fonitro, ei werthuso a'i gyflwyno'n gyson ar draws y byrddau iechyd.

Er bod gofal profedigaeth o ansawdd uchel yn hanfodol, rhaid inni anelu at leihau nifer y teuluoedd sydd angen y cymorth hwnnw yn y lle cyntaf. Yn anffodus, mae adroddiad diweddaraf MBRRACE-UK ar gyflwr y genedl yn dangos bod gan Gymru ffordd bell i fynd o hyd. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o farw-enedigaethau o gymharu ag unrhyw genedl arall yn y DU, heb unrhyw ostyngiad ystyrlon ers 2018. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau sy'n peri pryder. Mae babanod a anwyd i famau yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn wynebu risg sylweddol uwch o farw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Gwyddom hefyd fod anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn ôl ethnigrwydd, ac mae’n rhaid mynd i'r afael â nhw ochr yn ochr ag amddifadedd. Ni ellir anwybyddu hyn, yn enwedig pan fo mwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Dyna pam y credaf y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu targedau cenedlaethol uchelgeisiol ar gyfer lleihau nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Cymru yw'r unig genedl heb dargedau o'r fath ar hyn o bryd. Gwyddom na fydd targedau ar eu pen eu hunain yn achub bywydau, ond byddant yn darparu atebolrwydd, yn hoelio sylw ac yn sicrhau bod lleihau nifer y marwolaethau babanod yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn briodol ddigon wedi gosod targedau uchelgeisiol mewn meysydd eraill, gan gynnwys trechu tlodi plant a gwella canlyniadau economaidd. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na ddylem ddangos yr un uchelgais gydag achub bywydau babanod.

Yn yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, gofynnodd etholwyr i lawer ohonom gefnogi addewid ymgyrch Sands Cymru, ymrwymiad i ddyfodol lle mae llai o fabanod yn marw a lle mae pob rhiant mewn profedigaeth yng Nghymru yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. O'r rhai a lofnododd yr addewid hwnnw, mae 43 ohonom bellach yn eistedd yn y Senedd, gan gynnwys Gweinidogion. Mae cefnogi'r cynnig hwn yn un ffordd y gallwn ddechrau anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw.

Mae heddiw'n gyfle i anfon neges glir at deuluoedd ledled Cymru fod y Senedd hon yn ystyried marwolaethau babanod yn bwysig a'i bod yn ymrwymedig i wella canlyniadau. Mae arnom hynny i'r babanod nad ydynt gyda ni mwyach, i'r teuluoedd sy'n byw gyda'r galar a'r golled hon, ac i genedlaethau'r dyfodol. Gadewch inni gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth a gadewch inni weithredu gyda'n gilydd, ar draws y Senedd, i achub bywydau babanod. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau o bob rhan o'r Siambr. Diolch yn fawr.

15:35

Diolch i Sara am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw ac am fy ngwahodd i fod yn gyd-gyflwynydd. Yn yr ymgyrch etholiadol yn ddiweddar, fel llawer o rai a oedd yn sefyll ledled Cymru rwy'n siŵr, cefais lawer iawn o e-byst mewn ymateb i addewid Sands i achub bywydau babanod a gwella gofal a chymorth i rieni. Felly, diolch i Sands. Roedd yn enghraifft o lobïo llwyddiannus iawn, sydd wedi bod yn fuddiol iawn o ran y ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn fuddiol iawn i ysgogi gweithredu gan y Llywodraeth hefyd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl etholwyr a gysylltodd â'u darpar gynrychiolwyr yn galw am newid ac yn aml am rannu'r straeon mwyaf torcalonnus.

Yn y ddadl heddiw, rwy'n credu y bydd llawer o bwyntiau allweddol yn cael eu hailadrodd, a hynny'n briodol ddigon, ac rwyf am geisio peidio â throedio'r un tir â Sara, ond hoffwn fynd yn ôl at y stori y dechreuodd Sara'r ddadl â hi, ynglŷn â'n hetholwyr Brooke a Wil a'u mab Gwilym. Mae hyn yn hollbwysig, oherwydd pan fydd gennym sylfaen dystiolaeth ystadegol mor gryf, mae'n rhy hawdd colli golwg ar beth yw hanfod dadl. Mae a wnelo hyn, fel y dywedodd Sara, â theuluoedd yn colli babanod yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl genedigaeth, bywydau'n cael eu trawsnewid mewn ffordd ofnadwy ac aruthrol, ac yna nid yw'r cymorth sydd ei angen ar yr adeg ofnadwy hon yno. Rwyf wedi cyfarfod â Brooke, ac rwy'n edmygu ei dewrder a'r ffordd y mae'n defnyddio ei phrofiad a'r cof am Gwilym i wneud pethau'n well i eraill, yn enwedig mewn perthynas â'r cymorth y gall ac y dylai rhieni sydd wedi'u heffeithio gan brofedigaeth ei ddisgwyl.

Un agwedd ar hynny yw sut y gall rhieni gael atebion ynghylch y rhesymau pam y digwyddodd y digwyddiad trawmatig ac ofnadwy hwn. Nododd adroddiad yn gynharach eleni gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr fod patholeg bediatrig ac amenedigol mewn argyfwng. Mae dwy o bob pum swydd meddyg ymgynghorol patholeg bediatrig ac amenedigol yn y DU yn wag, a dim ond 46 o feddygon ymgynghorol patholeg bediatrig ac amenedigol llawn amser a geir ym Mhrydain gyfan, a dim ond dau ar gyfer Cymru. Mae hyn yn arwain at gyfnodau hirach yn aros am atebion, gydag un o bob pump o rieni sydd wedi colli babi'n ddiweddar bellach yn rheolaidd yn aros am chwe mis neu fwy am ganlyniadau post-mortem.

Fodd bynnag, mae a wnelo hefyd â'r cymorth y mae rhieni'n ei gael ar ôl y golled hon. Yn fy mwrdd iechyd lleol, rwy'n deall nad oes cwnselydd profedigaeth arbenigol yn ei swydd ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n gwneud hyn yn arbennig o anesboniadwy i mi yw na ddylai cael rhywun yn y rôl hon fod yn radical nac yn chwyldroadol nac yn anghyffredin. Yn anffodus, mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir pan gofiwn am fethiant y gwasanaethau mamolaeth yn hen fwrdd iechyd Cwm Taf rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yr adolygiad a gynhaliwyd i hynny yn drylwyr iawn. Cyfrannodd teuluoedd, gan rannu eu profiadau a thyrchu drwy eu trawma seicolegol dyfnaf. Cafwyd rhai canlyniadau cadarnhaol o hynny. Rwy'n meddwl am ystafell Primrose yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ystafell sydd wedi'i chynllunio'n arbennig gyda staff gofalgar, ymroddedig a gofalgar sy'n tywys y teulu drwy eu colled. Ond y darlun cyffredinol o hyd yw bod yna broblemau na ddylent fod yno. Rwyf wedi codi diffyg cwnselydd profedigaeth arbenigol gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, ond rwyf hefyd yn awyddus i Lywodraeth Cymru sicrhau digon o gymorth ledled Cymru hefyd. Mae hwn yn bwynt a wnaed yn ein cynnig ac yn un sy'n wirioneddol hanfodol er mwyn ysgogi newid a gwneud pethau'n well ledled Cymru. Yn wir, ystadegyn llym iawn gan Sands yw mai dim ond 5 y cant o rieni mewn profedigaeth yng Nghymru a allai gael mynediad at y cymorth iechyd meddwl yr oeddent ei eisiau a'i angen drwy'r GIG.

Nid yw'n iawn mai bwrdd Caerdydd a'r Fro yw'r unig fwrdd iechyd sy'n darparu llwybr cymorth seicolegol arbenigol i bobl ar ôl colli yn ystod beichiogrwydd a cholli babi. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn, ac edrychaf ymlaen at yr ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod. Ond os hoffech chi sôn am hynny yn eich ymateb i'r ddadl heddiw, gwn y byddai teuluoedd mewn profedigaeth sy'n gwylio yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Yn olaf, hoffwn sôn am y cynnig ar golli babanod a basiwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn 2024, ac a gyflwynwyd gan Gyngor Undebau Llafur Rhondda Cynon Taf. Ei nod oedd mynd i'r afael â'r bylchau lle nad oedd unrhyw gymorth i rieni a oedd wedi colli babi hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd. Derbyniwyd y cynnig hwnnw'n unfrydol, ac mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi gweithio gydag undeb GMB—er gwybodaeth, yr undeb llafur rwy'n aelod ohono—i ddatblygu polisi ar golli babi. Nod hyn yw darparu cymorth a herio stigma hefyd. Buaswn yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector cyhoeddus datganoledig i ymgorffori'r polisi hwn yma yng Nghymru. Mae'n digwydd yn Lloegr, a byddai'n dda pe bai hynny'n rhywbeth y gallem ei wneud yma. Diolch.

15:40

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Sands ac i bob rhiant a theulu mewn profedigaeth ac sydd wedi ymgyrchu, wedi rhannu eu stori ac wedi mynnu'r newid yn yr amgylchiadau mwyaf poenus. Mae a wnelo'r ddadl hon â data, targedau, atebolrwydd a gwasanaethau iechyd, ond cyn hynny, mae a wnelo â babanod: babanod a gafodd eu caru, babanod sy'n dal i gael eu caru, babanod a gafodd eu henwi, babanod yr oedd eu teuluoedd wedi dychmygu dyfodol gyda nhw, babanod nad ydynt gyda ni ond y mae eu bywydau'n bwysig.

Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwr, Jasmine, sydd yma heddiw. Fe gollodd hi fabi. Dechreuodd ymgyrch Better Maternity Wales, sy'n galw am ofal mamolaeth mwy diogel, mwy tosturiol a mwy cyson ledled Cymru. Y tu ôl i'r ymgyrch honno mae galwad am newid, ond hefyd babi y mae ei fywyd a'r cof amdano'n golygu cymaint. Ei enw yw Wyatt. Rwy'n dweud enw Wyatt heddiw am fod rhieni mewn profedigaeth wedi dweud wrthym yn glir iawn na ddylid lleihau eu babanod yn ystadegau'n unig. Roeddent yma, cawsant eu caru, maent yn dal i gael eu caru. Maent yn rhan o straeon eu teuluoedd.

Mae un mater a godwyd gan fam Wyatt wedi aros gyda mi. Pam y gofynnir i famau o hyd mewn lleoliadau mamolaeth faint o blant sydd ganddynt, dim ond i’w hateb gael ei anwybyddu neu ei gywiro ar gam pan fydd staff yn sylweddoli bod un o’r plant hynny wedi marw? Efallai fod hwnnw'n swnio'n fater bach i rai, ond i riant mewn profedigaeth, gall ailagor clwyf. Gall wneud iddynt deimlo, yn fwriadol ai peidio, nad yw eu babi'n cyfrif, nad yw eu mamolaeth, eu statws fel rhieni, eu galar a’u cariad rywsut yn ffitio i’r blwch cywir ar y ffurflen, ac mae’n rhaid i hynny newid.

Mae a wnelo gofal tosturiol â mwy na llwybrau clinigol yn unig. Mae a wnelo ag iaith, mae a wnelo â chofnodion sy'n adlewyrchu realiti'r teuluoedd hynny. Mae a wnelo â pheidio â gorfodi rhieni mewn profedigaeth i esbonio dro ar ôl tro fod y babi y maent yn ei enwi'n blentyn y maent wedi'i golli. Ond nid yw tosturi ar ei ben ei hun yn ddigon. Rhaid i'r ddadl hon ymwneud hefyd ag atebolrwydd. Mae Sands Cymru, fel y clywsom, wedi gwneud cais clir a rhesymol. Mae angen targedau clir, mesuradwy ar Gymru i leihau nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol—nid dyheadau amwys ond targedau. Oherwydd heb dargedau, mae'n dod yn rhy hawdd i gynnydd lithro; mae'n dod yn anos i deuluoedd, staff, byrddau iechyd a'r Senedd hon wybod a yw pethau'n gwella. Fe wyddom nad yw Cymru wedi gwneud y cynnydd cyson y mae teuluoedd yn ei haeddu. Ac fel y soniodd Sara, rhwng 2022 a 2024, Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o farw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol o bob un o bedair gwlad y DU. Gwyddom fod anghysondebau rhwng byrddau iechyd. Gwyddom y gall mynediad at ofal da, cymorth mewn profedigaeth a chymorth seicolegol arbenigol ddibynnu gormod ar ble mae rhywun yn byw, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol.

Roedd asesiad sicrwydd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Cymru ar gyfer 2026 yn cydnabod cryfderau go iawn mewn gwasanaethau. Hoffwn gydnabod ymroddiad staff, bydwragedd, staff newyddenedigol, meddygon a gweithwyr cymorth, sy'n aml yn gweithio o dan bwysau aruthrol, ac mae llawer yn gwneud popeth yn eu gallu mewn amgylchiadau anodd iawn. Ond nododd yr adroddiad wendidau difrifol iawn hefyd, anghenion iechyd meddwl heb eu diwallu, cymorth ôl-enedigol gwael, ymatebion anghyson i ddigwyddiadau, pwysau staffio uchel, a systemau nad ydynt yn gwneud y defnydd gorau o ddata eto i ganfod tueddiadau anniogel neu fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Rhaid i'r canfyddiadau hynny arwain at gamau gweithredu.

Dyna pam fy mod yn cefnogi galwadau am dargedau clir i leihau nifer y marwolaethau babanod yng Nghymru, gan gynnwys targedau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau'n gysylltiedig ag amddifadedd ac ethnigrwydd. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal, rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â mesur a yw'r gwaith atal hwnnw'n gweithio.

Hoffwn ganolbwyntio hefyd ar y cymorth a gynigir ar ôl colli babi. Mae anghydraddoldeb enfawr o hyd rhwng rhieni y mae eu plant wedi byw a rhieni na lwyddodd eu babanod i gymryd eu hanadl cyntaf. Nid yw'r galar yn llai real, nid yw'r trawma'n llai dwys, ond yn rhy aml, mae'r gwasanaethau sydd ar gael i'r teuluoedd hynny'n gyfyngedig, yn anghyson neu'n anhygyrch. Dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael mynediad at staff hyfforddedig, cyfleusterau galar priodol, cyfleoedd i greu atgofion gyda'u babi, a chymorth seicolegol arbenigol lle bo angen. Ni ddylai fod yn loteri cod post; dylai fod yn ddisgwyliad cenedlaethol.

Mae Better Maternity Wales yn fframio eu hymgyrch o amgylch tair egwyddor: pob rhiant, pob babi, pob tro. Dyna'n union y safon y dylem anelu ati. Felly, mae fy nghais i'r Gweinidog yn glir: mabwysiadwch dargedau mesuradwy i leihau nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, wedi'u hategu gan ddata, tryloywder, cyllid ac atebolrwydd. Gweithredwch argymhellion yr asesiad sicrwydd cenedlaethol ar frys, a sicrhewch fod gofal mewn profedigaeth a chymorth seicolegol arbenigol ar gael yn gyson ledled Cymru. I Wyatt, Gwilym, ac i bob babi y mae eu henwau yng nghalonnau eu teuluoedd, mae arnom fwy na chydymdeimlad iddynt. Diolch.

15:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig a sensitif hon. Ac nid wyf am ymddiheuro bod rhywfaint o'r hyn y byddaf yn ei ddweud yn ailadrodd negeseuon a ddywedwyd eisoes, ond rwy'n teimlo bod y negeseuon hynny'n bwysig.

Ar y cychwyn, nid trafodaeth ynghylch polisi yw hon, mae a wnelo hyn â theuluoedd—rhieni sy'n mynd i'r ysbyty gan ddisgwyl un canlyniad ac yn gadael gyda rhywbeth a fydd yn effeithio arnynt am weddill eu hoes. Dyna'r realiti y tu ôl i bob ystadegyn, pob adroddiad a phob llinell yn y cynnig hwn. Felly, dylem fod yn glir ynghylch ble rydym arni. Ac fel y mae'r Aelod wedi'i ddweud, ac mae angen ei ailadrodd, mae gan Gymru gyfradd uwch o farw-enedigaethau na gweddill y DU, ac nid yw hynny wedi gwella'n ystyrlon ers 2018.

Pe bai ein canlyniadau gyda'r gorau yn Ewrop, gallai dros 1,000 o fabanod fod yn fyw heddiw—dros 1,000 o fywydau. Nid mater bach yw hynny. Mae honno'n system nad yw'n cyflawni'r hyn y dylai ei gyflawni. Rydym wedi cael adroddiadau, rydym wedi cael adolygiadau, rydym wedi cael ymrwymiadau, ond nid yw'r canlyniadau wedi gwella. Y cwestiwn yw: pam nad yw wedi gweithio, a beth a wnawn yn wahanol nawr?

Mae arnom angen atebolrwydd clir, ffocws cryfach ar ofal rheng flaen, a diwedd ar y loteri cod post o ran cymorth mewn profedigaeth. Mae a wnelo'r cynnig hwn â chanlyniadau, llai o farwolaethau, gwell gofal a safonau cyfartal. Nid oes angen mwy o adroddiadau ar deuluoedd; mae arnynt angen llai o fabanod yn marw. Nid yw'n fater pleidiol. Mae'n ymwneud ag a fydd mwy o blant yn byw a llai o deuluoedd yn galaru. Dyna'r safon y dylai bob un ohonom anelu ati. Y tu ôl i bob ystadegyn, mae enw, teulu, a dyfodol na chafodd erioed gyfle i ddatblygu. Os na allwn ddod ynghyd ar hyn, rhaid inni ofyn i ni ein hunain, 'Beth ydym ni'n ei wneud yma?' Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn ac i ymrwymo i newid go iawn, oherwydd hyd nes y bydd llai o rieni'n gadael yr ysbyty heb eu babi, nid yw ein gwaith ar ben. Diolch.

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, o ystyried ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Sands yr wythnos diwethaf. Ac rwy'n siarad ar ran Natasha Asghar, nad yw'n gallu bod gyda ni heddiw oherwydd ei hamgylchiadau personol ei hun ar fater arall.

Mae'n llawer rhy hawdd meddwl nad yw colli ein babanod yn cael unrhyw effaith ar Gymru fel cenedl. Fodd bynnag, mae'n syfrdanol gweld ffigurau gan Sands a Tommy's sy'n dangos, pe baem yn gwella ein gofal mamolaeth a newyddenedigol yn unol â lefelau'r gwledydd sy'n perfformio orau yn Ewrop, y gallai 1,000 o fabanod, a anwyd rhwng 2019 a 2023, ddal i fod yn fyw heddiw. Mae nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yn dal i fod yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Y tu ôl i bob babi a gollir, mae mam, tad a theulu, pob un yn ymdopi â cholli bywyd y maent wedi aros amdano a'i feithrin. Mae mor bwysig cydnabod y rhai sydd wedi colli babi a'u cefnogi drwy eu galar aruthrol. A dylwn wybod, gan fy mod innau hefyd wedi bod drwy'r broses hon.

Felly yn amlwg, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt fod yn rhaid i deuluoedd sydd wedi colli plant allu cael mynediad at y gofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar ôl inni weld adroddiadau gwirioneddol ofnadwy am ofal mamolaeth a newyddenedigol gwael ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg yn 2019.

Mewn gwirionedd, mae beichiogrwydd yn un o'r cyfnodau mwyaf peryglus ym mywyd menyw. Y broblem yw ei fod yn dal i ddigwydd nawr. Mae gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd bae Abertawe yn dal i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd methiannau dro ar ôl tro yn lefel y gofal i famau a babanod. Ni all ac ni ddylai hyn gael ei ailadrodd. Mae'r adolygiad mamolaeth mwyaf yn hanes y GIG yn cael ei gyhoeddi heddiw, sy'n manylu ar fethiannau eang a arweiniodd at farwolaethau babanod a niwed y gellid ei osgoi. Mae mwy na 2,500, a mwy nag 800 o aelodau staff, wedi cyfrannu at yr adolygiad yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham. Felly, fel Gweinidog Cabinet dros iechyd, rwy'n gobeithio y gwnewch chi edrych ar y mathau hyn o ddysgu, gan ei bod yn hanfodol ein bod gwneud yn well yma.

Yn amlwg, mae llawer i'w ystyried yn yr adroddiad hwn, ac mae ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo. Ond heb os, bydd yna wersi y mae angen eu dysgu o ganlyniad, er mwyn sicrhau na fydd rhywbeth mor erchyll o drasig â hyn byth yn digwydd eto. Mae'r adroddiadau hyn yn hanfodol, ond nid ydynt yn dod â'r babanod a gollwyd yn ôl.

Yr wythnos hon, cyfarfu fy nghyd-Aelod Natasha Asghar MS, a oedd yn gobeithio cyfrannu at y ddadl hon, â Sands, ac mae hi hefyd wedi cyfarfod â rhieni mewn profedigaeth i drafod blaenoriaethau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal mamolaeth a newyddenedigol. Roedd yr hyn a deimlai'r rhieni'n syml ac yn gignoeth, a dywedasant wrth Natasha mai

'cariad heb unman i fynd yw galar.'

Roeddent hefyd yn gofyn yn syml am ofal gwell i famau a babanod, a gwell gofal mewn profedigaeth. Mae'n dorcalonnus clywed hanesion gan rieni naill ai mai un fydwraig profedigaeth sy'n gyfrifol am ardal gyfan y bwrdd iechyd, neu fod bydwragedd profedigaeth eraill ar gael unwaith yr wythnos yn unig—mae babanod yn cael eu geni bob dydd—gan adael teuluoedd heb y cymorth sydd ei angen am wythnosau. Rydym hefyd yn gweld rhieni'n cael gwahanol fathau o gymorth. Mewn rhai achosion, mae gofal iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhieni nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Mewn eraill, nid oes cymorth mewn profedigaeth ar gael o gwbl. Dim ond un gwasanaeth sy'n darparu cymorth arbenigol yma yng Nghaerdydd, sydd ond yn darparu cymorth am flwyddyn. Credwch fi, mae galar o'r fath yn para mwy na blwyddyn. Ac er ein bod yn ceisio sicrhau y gall Cymru gyfan gael mynediad at y cymorth arbenigol hwn, mae angen gwerthusiad arnom o ba mor dda y mae'n gweithio. Felly, buaswn yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog pe bai'n sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae gan bob bwrdd iechyd ganllawiau gwahanol ar brofedigaeth hefyd. Felly, mae diffyg meddwl cydgysylltiedig, a diffyg rhannu data ar faint o rieni a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio. Cyn etholiadau'r Senedd, nodaf fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn galw am dargedau ar farw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Felly, buaswn yn ddiolchgar hefyd am gadarnhad y bydd y targedau hyn yn cael eu cyflwyno, data'n cael ei gasglu, ac a fydd un set o ganllawiau'n cael eu cyflwyno.

Hoffwn dynnu sylw at yr anghysondeb mewn gofal ar draws gwasanaethau a chanllawiau, ac yn arbennig, canfyddiadau adolygiad i'r offeryn adolygu marwolaethau amenedigol, sef offeryn a ddefnyddir i adolygu marwolaethau babanod o 22 wythnos o feichiogrwydd ymlaen, gan gynnwys camesgoriadau hwyr, marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Mae hyn yn cynnwys gofal yn ystod beichiogrwydd, gofal newyddenedigol, yn ogystal â gofal mewn profedigaeth i deuluoedd. Nododd 36 y cant o adolygiadau o leiaf un broblem gyda gofal a allai fod wedi bod yn berthnasol i'r canlyniad, naill ai i fabanod neu'r canlyniad seicogymdeithasol i rieni. Canfu'r adroddiad hefyd y gallai un o bob pump o gamesgoriadau hwyr, marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol fod wedi cael eu heffeithio gan ansawdd y gofal. Byddai mabwysiadu targedau'n anfon neges glir fod y Llywodraeth yn gwneud achub bywydau'n flaenoriaeth wleidyddol.

Mae gwrando ar brofiad rhieni sydd wedi colli eu babanod annwyl yn dangos yn glir fod yn rhaid inni wneud yn well fel gwlad i atal marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, ac i gefnogi teuluoedd sy'n dal i alaru hyd heddiw. Diolch yn fawr.

15:55

Rwy'n siarad ar ran y rhai ohonom yn y Siambr hon, y rhai ohonom sy'n cynrychioli ein hetholwyr, a'r rhai ohonom sydd eisiau gweld gwelliannau ledled Cymru. Ac i'r rhai ohonom sydd wedi colli baban, diolch i Sara am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae ein dadl Aelodau gyntaf yn y Senedd newydd yn dweud wrthym ble y dylai ein blaenoriaethau fod, ac rwy'n falch eu bod yma, gyda theuluoedd, gyda babanod, gyda'r bobl sy'n gofalu amdanynt. Ni ddylai hon fod yn ddadl gyfforddus, ac mae'n galonogol gweld cymaint o bobl yma yn y Siambr i wrando ar y ddadl bwysig hon. Nid cyfle i nodi adroddiadau mohoni nac i adrodd ystadegau, ond cyfle i ganolbwyntio ar y babanod a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Dylai fod yn foment i ystyried yn onest sut y gwnaeth y sefydliad hwn—y Senedd—a Llywodraeth Cymru ganiatáu i ddiwylliant wreiddio yn ein gwasanaethau mamolaeth lle cafodd argymhellion eu gwneud, eu derbyn, ac yna eu hanghofio.

Dros y degawd diwethaf, gwnaed dros 500 o argymhellion ynghylch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Pum cant. Mae hynny'n anhygoel. Fe wyddom fod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi derbyn argymhellion asesiad yr Athro Sally Holland yn 2026, ond derbyniodd Llywodraethau blaenorol argymhellion blaenorol hefyd. Nid gweithredu yw derbyn, felly mae angen inni weld camau gweithredu go iawn.

Fel eraill, hoffwn dynnu sylw at waith anhygoel ein gwasanaethau bydwreigiaeth, nyrsio a newyddenedigol ledled Cymru, ond gadewch inni wynebu rhywfaint o'r realiti yma. Rhwng 2015 a 2023, gadawodd dros 22 y cant o fydwragedd GIG Cymru yn ystod eu pedair blynedd gyntaf. Mae cyfraddau salwch yn parhau'n uchel ymhlith nyrsys newyddenedigol hefyd. Mae'r offeryn cynllunio gweithlu Birthrate Plus wedi'i feirniadu'n eang am danamcangyfrif llwyth gwaith ôl-enedigol a methu rhoi cyfrif am salwch a chymysgedd sgiliau. Ni allwn gynllunio ein ffordd tuag at ofal diogel gan ddefnyddio ffigurau nad ydynt yn adlewyrchu realiti. Hoffwn dalu teyrnged hefyd, yn y Siambr, i'r gwaith a wnaeth Jenny ar ein rhan yn codi'r mater hwn yn gyson. A hoffwn adleisio Coleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru hefyd, sy'n dweud bod yn rhaid trin prinder staff fel mater diogelwch uniongyrchol. Felly, hoffwn glywed, os caf, gan y Dirprwy Weinidog, pa gynlluniau a chymorth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu i fydwragedd i'w cefnogi.

Yn olaf, fel y crybwyllwyd, hoffwn amlinellu sut y mae teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru yn cael cam mewn dwy ffordd: unwaith pan fyddant yn colli eu babi, ac eto pan fyddant yn gofyn am gymorth. Dim ond pump y cant o rieni mewn profedigaeth a allai gael mynediad at y cymorth iechyd meddwl yr oeddent ei eisiau drwy'r GIG. Roeddwn i a fy nheulu'n ffodus iawn—ar ôl colli ein trydydd babi, cawsom fynediad at gymorth iechyd meddwl. Ond yr hyn a welwn yw'r ffigur isaf ond dau yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda'r gyfradd uchaf o farw-enedigaethau yn y Deyrnas Unedig. Canfu'r asesiad sicrwydd fod teuluoedd a oedd wedi profi colled wedi cael eu trawmateiddio ymhellach gan ymatebion amddiffynnol byrddau iechyd. A gwn fy hun fod yna elfen o gywilydd ynghlwm wrth allu adrodd a siarad am y problemau. Ni ellir gwneud i deuluoedd deimlo eu bod yn cael eu beio. Mae angen i bobl sy'n dod i chwilio am atebion gael mynediad at system sy'n agored. Rhaid i bob rhiant mewn profedigaeth, ni waeth ble maent yn byw neu beth y maent wedi'i brofi, allu cael mynediad at y cymorth arbenigol hwnnw.

Felly, i gloi, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog gadarnhau'r amserlen heddiw—ac rydym wedi clywed pa mor bwysig yw targedau hefyd—i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu'r gwasanaethau hyn. Ni allwn ddadlau nad ydym yn ymwybodol o'r ffeithiau mwyach. Mae'r gwaith caled eisoes wedi'i wneud, ac rydym yn talu teyrnged—ac rwy'n talu teyrnged—i'r teuluoedd yma heddiw, a'r teuluoedd dros y blynyddoedd a'r degawdau sydd wedi ymladd am y gwasanaethau hyn. Rhaid i'r Llywodraeth fanteisio ar y cyfle nawr i fod yn wahanol a chamu ymlaen o dderbyn i weithredu. Mae teuluoedd yn dal i alaru dros fabanod a ddylai ddal i fod yn fyw. Heb newid ystyrlon, bydd mwy o deuluoedd yn dioddef colled debyg. Ein dyletswydd ni iddynt yw gwneud yn well, nid ychwanegu at eu baich. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Yn ystod y pandemig COVID, arweiniais y rhan Gymreig o'r ymgyrch But Not Maternity. Fe wnaethom ddatgelu yr annhegwch dwfn fod teuluoedd yn cael eu gwahanu ar yr adegau mwyaf bregus o feichiogrwydd, genedigaeth a cholled. Roedd yn gyfnod pan allech chi eistedd yn y dafarn mewn grŵp bach, ond roedd partneriaid wedi'u gwahardd rhag bod yn bresennol ar gyfer esgor, sganiau neu newyddion dinistriol.

Mae yna un teulu a gysylltodd â mi na fyddaf i byth yn ei anghofio: mam a oedd yn yr ysbyty yn aros am driniaeth feddygol ar ôl colli ei babi. Ni chaniatawyd i'w phartner, tad y babi, fod gyda hi oherwydd y cyfyngiadau COVID. Roedd y ddau'n torri eu calonnau, y ddau ar eu pennau eu hunain, a'r cyfan y dymunent ei wneud oedd dal ei gilydd yn eu galar. Mae'r math hwnnw o brofiad yn gadael creithiau. Nid yw'n rhywbeth y gallwch chi wella ohono, a dyna pam y mae'n rhaid i gefnogaeth iechyd meddwl dosturiol a chyson fod yn rhan greiddiol o ofal colli babanod, nid ychwanegiad dewisol.

Rhaid inni hefyd gofio'r rhieni y mae eu babanod yn cyrraedd yn llawer rhy gynnar. Mae teuluoedd sydd â babanod cynamserol yn aml yn treulio wythnosau neu fisoedd mewn unedau newyddenedigol, yn byw mewn ofn a blinder parhaol. Mae nifer yn disgrifio'r trawma o wylio eu babi bach yn ymladd am eu bywyd tra byddent yn llywio'u ffordd drwy alwadau gwaith, ymweliadau cyfyngedig a'r ergyd emosiynol o ddyddiau da'n cael eu dilyn gan siomedigaethau brawychus. Mae gofal newyddenedigol yn achub bywydau, ond mae'r dreth emosiynol ar rieni yn enfawr, yn enwedig rhieni sy'n gadael yr unedau hynny heb eu babanod annwyl. Mae angen cymorth seicolegol strwythuredig ar y rhieni hyn nid yn unig ar y pryd, ond ymhell ar ôl iddynt adael yr uned.

Hefyd, rwyf eisiau cydnabod un o fy etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Mark Williams, sydd wedi arwain yr ymgyrch How Are You, Dad? Mae ei waith yn ein hatgoffa bod tadau a phob rhiant nad ydynt yn rhoi genedigaeth yn profi trawma hefyd, boed hynny drwy golli babi, genedigaeth cynamserol neu'r wythnosau hir o ofal newyddenedigol. Mae eu hiechyd meddwl nhw'n bwysig, mae eu galar nhw'n real, ac mae eu cynnwys mewn gwasanaethau cymorth yn hanfodol i les y teulu cyfan. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal trawma hirdymor, rhaid i gymorth iechyd meddwl gael ei wreiddio ar hyd y llwybrau mamolaeth, newyddenedigol a phrofedigaeth, a rhaid iddo fod yn hygyrch, yn amserol a chael ei gynnig i bob rhiant, nid yn unig i'r rhai sy'n gwybod sut i ofyn amdano.

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell. 

Member
Delyth Jewell 16:02:44
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bob Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl bwysig hon. Mae'n arwyddocaol taw dyma ddadl Aelodau cyntaf y Senedd yma, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb.

Nid ystadegau yw marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol i'r rhai sy'n eu profi. Maent yn golli babi, colli bywyd gwerthfawr wedi'i amgylchynu gan obaith a breuddwydion. Mae marwolaeth babi yn un o'r poenau mwyaf dwys ac enbyd y bydd unrhyw deulu yn ei ddioddef byth. Mae'n alar y mae rhieni a theuluoedd yn parhau i'w deimlo am weddill eu bywydau. Hoffwn ddiolch i bob rhiant sydd wedi estyn allan ataf, sydd wedi estyn allan at Aelodau yn y Senedd hon i rannu eu profiadau. Maent yn benderfynol na ddylai teuluoedd eraill orfod wynebu'r gofid y maent hwy wedi bod drwyddo ac yn ymgyrchu dros well gofal, dros gefnogaeth gryfach a gwasanaethau mwy diogel. Rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am eu dewrder er cof am y rhai y maent wedi'u colli.

Mae marwolaeth pob babi'n bwysig. Rhaid trin pob marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol gyda thosturi, ac mae rhieni'n haeddu atebion. Rhaid inni sicrhau bod teuluoedd yn cael eu clywed, fod gofal yn ddiogel ac y gall pawb gael mynediad ato, a bod y system gyfan yn dysgu pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le mewn modd mor drychinebus, ac yn gweithredu i leihau niwed y gellir ei osgoi. Mae'r cynnig yn tynnu sylw'n briodol iawn at y gyfradd o farw-enedigaethau yng Nghymru, sy'n uwch na chyfradd y DU. Mae'n hanfodol ein bod ni o ddifrif ynghylch y data hwn. Mae angen inni ddehongli'r ffigurau'n ofalus wrth gwrs, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru, lle mae niferoedd cymharol fach o enedigaethau'n golygu y gall cyfraddau blynyddol amrywio'n sylweddol.

Mae'n wir fod MBRRACE-UK wedi argymell gofal wrth ddehongli newidiadau o flwyddyn i flwyddyn. Maent yn argymell edrych ar dueddiadau dros gyfnod hirach. Ac mae'n wir, wrth gwrs, fod Cymru wedi gweld tuedd ar i lawr yn gyffredinol ers 2016. Ond rwy'n dadlau nad yw'n ddigon. Ni fydd dim o'r cyd-destun hwnnw'n lleihau poen rhiant. Ni all unrhyw gafeatau wella'r hyn y mae unrhyw un o'r teuluoedd y clywsom amdanynt heddiw wedi mynd drwyddo. Rhaid inni weld gwelliant parhaus. Mae angen inni ddeall a mynd i'r afael â'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le mewn modd mor drychinebus. Ac mae hynny'n golygu canolbwyntio ar atal, diogelwch ac ansawdd. Mae'n golygu sicrhau bod menywod yn cael y gofal cywir ar yr adeg iawn, fod pryderon yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt, a bod teuluoedd yn cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae'n frawychus clywed am rieni'n cael eu cywiro neu eu diystyru yn y ffordd a nododd Elyn. Ni ddylai fod yn digwydd.

Mae hefyd yn golygu adnabod anghydraddoldebau. Rŷn ni’n gwybod bod canlyniadau'n gallu amrywio'n sylweddol fel canlyniad i amddifadiad ac ethnigrwydd. Dyna pham mae'n rhaid i ni unioni'r gwelliannau angenrheidiol yng ngwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gyda'n hymrwymiadau i leihau anghydraddoldebau iechyd a chyflawni'r cynllun Cymru wrth-hiliol. Rwyf hefyd yn ymrwymo i gryfhau ein dull o weithredu'r cynllun iechyd menywod i wella iechyd yn y blynyddoedd cynnar, i sicrhau canlyniadau iechyd gwell ar draws y cwrs bywyd, ac, yn bwysicach fyth, bod anghenion menywod yn cael eu clywed a'u gweithredu arnynt.

Mae'r adroddiad 'Y llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru' yn ganolog i’n dull gweithredu. Cafodd yr asesiad hwn ei lywio gan ddata, gan ymweliadau safle, trafodaethau gyda staff, lleisiau a phrofiadau menywod, teuluoedd a chymunedau. Mae argymhellion y panel yn nodi bod angen rhoi cynnig o ofal safonol i bawb i fynd i'r afael â blaenoriaethau diogelwch clinigol brys, i sicrhau lefelau staffio diogel a deall yr angen, profiadau a chanlyniadau yn well.

Mae'r Llywodraeth hon yn derbyn yr argymhellion a byddwn yn gweithredu arnynt. Mae rhaglen tair blynedd wedi'i sefydlu i oruchwylio cyflawniad, gyda'r bwrdd goruchwylio'n cyfarfod am y tro cyntaf y mis hwn. Nid adroddiad a fydd yn hel llwch yw hwn. Mae'n rhaglen gyflawni sy'n canolbwyntio ar weithredu, ar atebolrwydd, ac ar welliant mesuradwy. Mae gwaith eisoes ar y gweill. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn gweithredu Mamolaeth Ddigidol Cymru, sy'n cymryd lle nodiadau papur ac yn defnyddio cofnod mamolaeth digidol a rennir yn eu lle, gan gryfhau ansawdd data a goruchwyliaeth genedlaethol.

Rwyf am i'r gefnogaeth fod yno i rieni pan fydd ei hangen arnynt. Rydym yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a gwasanaeth ambiwlans Cymru ar linell ffôn brysbennu ac esgor, ac yn cefnogi gwelliannau i ofal newyddenedigol gyda chefnogaeth Bliss Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd pob uned newyddenedigol yng Nghymru yn cyflawni achrediad efydd fan lleiaf yn y siarter babanod eleni. Rydym hefyd yn parhau i weithio ar wyliadwriaeth rhybudd cynnar, bwndeli gofal genedigaethau cyn amser mwy diogel, a dysgu strwythuredig o ddigwyddiadau lle mae babanod yn marw.

Mae'r cynnig yn gywir i dynnu sylw at ofal profedigaeth. Rhaid i deuluoedd gael cefnogaeth dosturiol a chyson o ansawdd uchel. Rwy'n bryderus iawn am y digwyddiadau a ddisgrifiwyd heddiw, lle mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd bob amser. Mae bydwragedd profedigaeth ar waith ym mhob bwrdd iechyd, ochr yn ochr â gwasanaethau gofal trydydd sector. Clywais y pwynt a godwyd am gwnselwyr profedigaeth arbenigol. Byddaf yn ystyried hynny, felly diolch yn fawr iawn am godi hynny. Mae'r GIG wedi bod yn gweithio gyda Sands ar bum llwybr gofal profedigaeth sy'n cwmpasu camesgoriad, terfynu beichiogrwydd yn sgil anomaledd y ffetws, marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigol, a marwolaeth annisgwyl sydyn mewn babanod. Mae'r llwybrau hyn wedi'u cyhoeddi heddiw, gyda chymorth gweithredu ychwanegol ar waith.

Gwn fod gwasanaeth Onnen yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael sylw gan rai o'r Aelodau. Bydd yn cael ei werthuso'n drylwyr i sicrhau bod unrhyw broses gyflwyno genedlaethol mor effeithiol â phosibl, a'n bod yn dysgu o wersi yno o ran meini prawf cymhwysedd, ac o ran y cyfnod o amser y bydd y gwasanaeth ar gael hefyd.

Mae Aelodau wedi galw am dargedau clir i leihau niferoedd y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol—rwy'n deall pam. Gall targedau ganolbwyntio sylw; gallant fod yn arwydd o uchelgais. Wrth gwrs, rhaid iddynt fod yn dargedau cywir, wedi'u cefnogi gan ddata cadarn. Mae profiad Lloegr yn dangos nad yw gosod targed gofal iechyd yn ddigon ynddo'i hun, ond rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallai Mamolaeth Ddigidol Cymru wella hyn, sut y gallai wella ein data.

Rwyf am ganolbwyntio hefyd wrth gwrs ar sut y gall gweithio ar draws holl bortffolios y Llywodraeth i fynd i'r afael ag achosion anghydraddoldebau iechyd chwarae ei ran hanfodol, ac felly byddwn yn ystyried yn ofalus sut y gellid fframio uchelgeisiau mesuradwy ar gyfer Cymru, gan gynnwys y modd y maent yn adlewyrchu ein poblogaeth, ein data a'n hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.

16:10

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Ddirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio'n gynharach at ofal profedigaeth. Mae pob un ohonom wedi ein cyffwrdd y prynhawn yma gan y cyfraniadau a glywsom gan Aelodau neu'r ohebiaeth e-bost a'r llythyrau a gawsom gan ein hetholwyr ynghylch colli babanod. Un o'r pethau y gwnaethoch chi a minnau ymgyrchu drostynt yn y Senedd flaenorol yw i golledion gael eu cydnabod drwy ddarparu tystysgrifau colli babanod. Mae'n rhwystredigaeth fawr i mi, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhwystredigaeth i chi, nad yw'r tystysgrifau hynny ar gael eto i rieni yng Nghymru sy'n colli babi. Maent ar gael yn yr Alban, maent ar gael yn Lloegr ac o'r wythnos hon, maent wedi dod ar gael yng Ngogledd Iwerddon. A wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud yn siŵr fod hyn yn cael ei ddatrys yn y dyfodol fel y gall y bobl sy'n dioddef y profiad o golli babi gael y gydnabyddiaeth honno drwy gael dogfen swyddogol sy'n cydnabod y babi a gollwyd?

Diolch, Darren. Fel y gwyddoch ac fel y nodwyd gennych, roedd hyn yn rhywbeth a godais innau mewn blynyddoedd blaenorol hefyd. Mae'n rhywbeth y mae fy nhimau'n gweithio arno nawr i werthuso sut y gellid gwneud hyn. Mae yna broblemau technegol sydd wedi rhwystro'r gallu i'w cyflwyno'n flaenorol, yn rhannol am nad oes gennym wasanaeth cofnodion cenedlaethol, sy'n golygu ein bod ni'n wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae angen inni wneud yn siŵr fod yna fodd o wneud hynny mewn ffordd lle mae'r llwybr profedigaeth yn gefnogol i rieni. Ond gallaf eich sicrhau bod hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno ar frys, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am godi hynny. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth a fyddai'n cefnogi cymaint o deuluoedd. Diolch yn fawr am godi hynny.

Ddirprwy Lywydd, os caf orffen drwy siarad yn uniongyrchol â rhieni sy'n gwylio hyn sydd wedi colli eu babanod. Roedd bywydau eich babanod yn bwysig. Mae'r hyn a ddigwyddodd iddynt yn bwysig, ac mae'r golled rydych chi wedi'i dioddef yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant byth orfod mynd drwyddo. Rwy'n gwybod na allaf ddechrau dychmygu beth rydych chi'n mynd drwyddo, ond rwy'n ei deimlo yn fy nghalon. Rwy'n gwybod nad oes gennyf yr holl atebion, ond rwyf eisiau gwneud popeth a allaf fel bod llai o deuluoedd yn gorfod wynebu'r galar mwyaf dinistriol hwn, a bod y rhai sy'n ei ddioddef yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei hangen arnynt. Nid ydych ar eich pen eich hun, ac rwy'n addo ein bod yn gwrando.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Galwaf ar Sara Crowley i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Weinidog, am eich ymateb, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Mae'n amlwg, dwi'n credu, fod cefnogaeth drawsbleidiol gref ar y mater o'r cynnig o'n blaenau heddiw. Er lles yr holl deuluoedd a rhieni—ac rwy'n ymwybodol bod rhai ohonynt yn yr oriel yn gwylio ein trafodaethau heddiw—ac er lles pawb sydd wedi dioddef colled babi—a bydd ystadegau'n dweud bod mwy o fenywod o fewn yr ystafell yma hefyd wedi, a dwi'n rhoi fy nghariad tuag atoch chi i gyd—rwyf wir yn gobeithio y bydd datganiad cryf o blaid y cynnig hwn heddiw yn arwain at weithredu gan y Llywodraeth, ac y bydd y gweithredu hwnnw'n arwain at welliannau i brofiadau teuluoedd ac i'r canlyniadau rydym yn eu gweld wrth edrych ar yr ystadegau brawychus o ran nifer y babanod sy'n marw'n ddiangen ar draws Cymru.

Hoffwn adleisio llawer o'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau drwy gydol y ddadl; mae amser yn fy erbyn ac ni allaf gyfeirio atynt i gyd. Fodd bynnag, yn benodol, siaradodd Elyn yn bwerus am bwysigrwydd cydnabod pob babi fel unigolyn ac nid ystadegyn, yr angen am ofal tosturiol sy'n parchu profiadau teuluoedd ar bob cam, a'r straen ar staff. Tynnodd Vikki sylw hefyd at y bylchau mewn cymorth profedigaeth a chymorth seicolegol, a'r angen am wasanaethau arbenigol cyson i fod ar gael i deuluoedd ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Rwyf am gofnodi hefyd fod hynny'n cynnwys sut rydym yn gofalu am bobl ym Mhowys, oherwydd rydym bob amser yn dweud bod Powys yn wahanol, felly ar draws pob un o'r saith bwrdd iechyd. Ac rwyf eisiau diolch i Andrew, Janet a Jane am rannu. Pan fyddwn yn rhannu pethau yn y Siambr hon, mae pobl eraill yn ei weld ac mae'n wirioneddol bwysig, felly rwy'n ddiolchgar iawn ac rwy'n estyn fy nghariad atoch am rannu a'r ffordd y gwnaethoch chi hynny heddiw hefyd. Diolch. Ac rwyf am ddiolch i Sarah hefyd. A chodwyd pwynt pwysig am y newyddion a gyhoeddwyd heddiw mewn perthynas â Nottingham, a dylem edrych ar hynny i weld beth y gallwn ni ei wneud i ddysgu, i sicrhau ein bod yn gallu rhoi'r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Rwy'n cydnabod ymateb y Dirprwy Weinidog ac rwy'n gwybod bod hwn yn fater rydych chi'n malio'n fawr amdano, un a godwyd gennych yn ystod y chweched Senedd. Mae hefyd yn rhywbeth rwyf innau'n malio'n fawr amdano ac yn un y byddaf yn parhau i'w godi yn y Siambr, oherwydd rwy'n benderfynol o symud y tu hwnt i wasanaethau tameidiog a thuag at ofal gwirioneddol gydgysylltiedig, gofal sy'n ddi-dor ar draws pob cam o fywyd ac wedi'i seilio ar dosturi. 

Ni ddylai pobl gael eu gadael i lywio systemau anghyson, ond yn hytrach, dylid eu cefnogi drwy lwybrau clir sy'n diwallu eu hanghenion iechyd corfforol a meddyliol. A babanod—. Rwyf wedi colli fy lle nawr. Mae'n ddrwg gennyf. Pan nad yw gwasanaethau'n gysgysylltiedig, mae pobl yn cael cam, ac yn yr achosion mwyaf difrifol, fe welwn niwed y gellid ei osgoi, canlyniadau gwael i famau, iechyd meddwl sy'n dirywio a bywydau babanod yn dod i ben yn llawer iawn rhy gynnar. Lle mae hynny'n digwydd, rhaid gofalu am deuluoedd gyda thosturi a rhoi lle iddynt alaru. Dyma fy nghyfraniad cyntaf, ond bydd yn un o lawer lle byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion i ddarparu'r gofal cydgysylltiedig a thosturiol ledled Cymru y mae pobl yn ei haeddu.

Y prawf go iawn fydd sut y mae trosi'r ymrwymiadau hyn yn weithredoedd. Mae gormod o fabanod a theuluoedd wedi cael eu siomi o'r blaen. Mae gennym gyfle yma nawr, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniadau gwell i deuluoedd ledled Cymru. Mae angen dull cydgysylltiedig arnom ar draws y Llywodraeth. Mae gofal babanod yn cwmpasu gwasanaethau mamolaeth, gofal newyddenedigol, ymweliadau iechyd a chymorth cymunedol ehangach, ac mae'n rhaid i Weinidogion weithio gyda'i gilydd i sicrhau nad oes unrhyw beth yn disgyn drwy'r bylchau. O fewn y Siambr hon, rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan drwy anrhydeddu'r addewidion a wnaethom i deuluoedd. Mae arnom hynny i'r rhai sy'n gwylio heddiw ac ar-lein, i bob teulu sy'n byw gyda thorcalon colli babi, ac i Gwilym, Henry, George, Megan Jane, Rafe, Seren a Wyatt, a'r holl fabanod nad ydynt gyda ni mwyach.

Dywedais ar y dechrau fod hyn, yn dorcalonnus ac yn annisgwyl, wedi dod yn fater personol i mi a fy nheulu hefyd. Rwyf am orffen drwy gydnabod cefnder fy mhartner, Shaun ac Olivia, rhieni Hudson, a fynychodd ei angladd y bore yma. Hudson, ein cefnder bach hardd, sydd, er iddo gael ei eni'n cysgu, yn cael ei garu mor ddwfn. Mae ein meddyliau gyda nhw, a chyda phob teulu sy'n wynebu colled mor ddwys. Bydd y Senedd hon yn gweithio orau pan ddown o hyd i'r achosion lle gallwn roi gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig. [Aelodau'r Senedd: 'Clywch, clywch.'] Diolch. Hoffwn ein gweld yn dangos y gallwn wneud hyn heddiw, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae e'n teimlo braidd yn annifyr i ruthro ymlaen i'r eitem nesaf, felly maddeuwch imi am y defnydd o'r Gadair i ni jest gael munud i feddwl am y bobl sydd wedi colli babanod—marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol.

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

16:20
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, gwelliannau 2 a 4 yn enw Lynne Neagle, a gwelliant 3 yn enw Llŷr Powell. Os derbynnir gwelliant 1, caiff welliant 2 ei ddad-dethol.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9257 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiystyru unrhyw gynlluniau i gau ysbytai ac israddio gwasanaethau ysbytai drwy gydol y Seithfed Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno â chi, mae'n anodd iawn dechrau'r ddadl hon yn dilyn dadl mor bwysig ac emosiynol, ac rwy'n canmol yr Aelod am ei chyflwyno.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Fodd bynnag, rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Lywydd, ni all y Ceidwadwyr Cymreig sefyll o'r neilltu a chefnogi israddio systemig parhaus ein gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Heddiw, galwn ar y Llywodraeth newydd hon i dynnu llinell yn y tywod a rhoi diwedd ar ddirywiad wedi'i reoli ein hysbytai lleol. Mae pob Aelod yn y Siambr hon yn cynrychioli etholaeth lle mae ysbytai lleol yn wynebu problemau strwythurol a chynnal a chadw difrifol, ond mae rhesymoli gwasanaethau a chau cyfleusterau lleol heb fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol yn gibddall ac yn methu'r pwynt yn llwyr.

Nid oes angen israddio pellach, yr hyn sydd ei angen arnom yw buddsoddiad wedi'i dargedu ar frys i glirio'r ôl-groniad syfrdanol o atgyweiriadau. Nawr, rwy'n nodi bod gweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru wedi addo £20 miliwn i ddechrau mynd i'r afael â'r materion hyn sy'n gysylltiedig â'r ystadau, ond mae galw hynny'n ddechrau yn danddatganiad enfawr. Prin ei fod yn ddiferyn yn y môr pan fyddwch chi'n ei gymharu â'r £1.4 biliwn y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cyfaddef bod ei angen i ddod â'n hystad GIG i fyny i safon. Ni allwn fforddio aros degawdau i weld y gwelliannau sydd eu hangen. Yr hyn sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru yw cynllun clir yn nodi faint y byddant yn ei ddyrannu tuag at yr atgyweiriadau mawr eu hangen hyn a sut y gwelwn welliannau i'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw sydd ei angen.

Nid yw'n gyfrinach, Lywydd, fod ystad GIG Cymru yn llythrennol yn chwalu ar ôl degawdau o danfuddsoddi. I wneud pethau'n waeth, mae problemau strwythurol a chynnal a chadw difrifol bellach wedi'u nodi ym mhob un o 12 prif ysbyty Cymru. Nid problemau cosmetig yn unig yw'r rhain, maent yn achosi argyfyngau gweithredol difrifol. Gwelsom hynny'n glir pan orfodwyd Ysbyty Tywysoges Cymru i gau ei adran ddamweiniau ac achosion brys yn sgil tarfu mawr ar y cyflenwad dŵr, yn ogystal â'r darn o do a gwympodd yno yn 2024.

Gadewch inni fod yn hollol glir, mae canoli gwasanaethau'r GIG ac israddio ysbytai cymunedol yn ddewisiadau gwleidyddol pur. Penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau Cymru blaenorol ydynt , ac maent yn benderfyniadau y gall y weinyddiaeth newydd hon ddewis eu gwrthdroi heddiw os oes ganddynt ewyllys wleidyddol i wneud hynny. 

Cawn ein bwydo'n gyson â'r naratif fod GIG Cymru yn cael ei symud yn agosach at adref, ond i gleifion ar lawr gwlad ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir. Mae gwasanaethau'n cael eu tynnu'n ôl yn rheolaidd o'r union gymunedau y maent i fod i'w gwasanaethu. Pe bai Llywodraeth Cymru'n cefnogi ein cynnig heddiw, byddai Cymru'n cymryd cam enfawr ymlaen. Byddem yn dangos i'r cyhoedd o'r diwedd nad oes raid bodloni ar yr hen ffordd aflwyddiannus o redeg ein gwasanaeth iechyd.

Ond yn anffodus, o edrych ar eu gwelliant, mae Plaid Cymru wedi gwrthod cefnogi ein cynnig. I'r etholwyr yng Nghymru, bydd yn ymddangos fel achos diflas o'r un hen fusnes fel arfer, dim ond arlliw ychydig bach yn wahanol i Lafur, sy'n fawr o syndod o ystyried cysylltiadau agos Plaid Cymru â gweinyddiaethau Llafur olynol.

Edrychwch ar ganlyniadau'r dull hwn o weithredu ledled Cymru. Cymerwch ysbyty cyffredinol Llwynhelyg, lle symudwyd llawdriniaeth argyfwng yn ddiweddar yr holl ffordd i Ysbyty Glangwili yn sir Gaerfyrddin. Nawr, mae fy nghyd-Aelod Paul Davies wedi ymgyrchu'n ddiflino ers amser maith yn erbyn erydiad graddol gwasanaethau hanfodol o Lwynhelyg, ysbyty sydd nid yn unig yn gwasanaethu cymuned leol ddynodedig, ond cannoedd o filoedd o dwristiaid hefyd sy'n ymweld â'r rhan brydferth honno o Gymru. Mae'n sicr y bydd yn ymhelaethu ar ailgynllunio dadleuol y gwasanaethau strôc, sy'n achosi pryder dwfn ar draws Hywel Dda ar hyn o bryd.

Yn drasig, mae pobl Cymru wedi gweld yn uniongyrchol beth sy'n digwydd pan fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu hisraddio. Yn fy rhanbarth i, cawsom addewid fod Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân wedi'i fwriadu i fod yn gyfleuster acíwt arbenigol. Yn hytrach, yn dilyn cau ac israddio unedau damweiniau ac achosion brys hanfodol yng Nghasnewydd, y Fenni ac Ystrad Mynach, mae wedi cael ei orfodi i wasanaethu fel yr adran damweiniau ac achosion brys diofyn ar gyfer 600,000 o bobl. O ganlyniad, mae wedi methu cyrraedd ei dargedau yn gyson. Nid yw'r model newydd prif ganolfan a lloerennau hwn yn gweithio. Edrychwch ar ystadegau iechyd yr wythnos diwethaf; mae'r prawf yn ddiamheuol. Yng ngogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod mewn cyflwr enbyd, yn dihoeni mewn mesurau arbennig ers yn agos i 11 mlynedd. Mae gwasanaethau'n cael eu hailgynllunio'n gyson, ond bob amser ar draul gofal cleifion rheng flaen. Ym Mhowys, gwelwn gost ddynol camreoli cyllidol. Dywedir wrth gleifion am aros yn hirach am driniaeth am nad yw'r bwrdd iechyd yn gallu fforddio eu hanfon i Loegr, lle gellid eu trin yn llawer cyflymach. Disgwylir i ddogni gofal yn y ffordd hon daro miloedd o gleifion yno.

Lywydd, rydym wedi cyrraedd pwynt di-droi'n-ôl lle mae gwasanaethau'n cael eu hailgynllunio, sy'n ddim mwy na gair teg am israddio neu gau, oherwydd torri costau difrifol ac argyfwng hunanwneuthuredig o ran y gweithlu. Mae'r rhain yn fethiannau strwythurol dwfn ac ni allwn ddibynnu ar atebion dros dro mwyach. Mae angen newid radical arnom. Mae'n embaras cenedlaethol fod chwech o'n saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffygion enfawr a sylweddol. Eto i gyd, tra bo'r Llywodraeth yn beio diffyg adnoddau, rydym yn wynebu sefyllfa hurt lle mae gennym weithlu sy'n barod i achub y gwasanaethau hyn, ond nid yw'r swyddi'n cael eu hysbysebu. Mae'n syfrdanol nad yw bron i draean o'r holl raddedigion nyrsio yng Nghymru yn gallu dod o hyd i swydd o fewn GIG Cymru a bod y broses o recriwtio parafeddygon newydd hyfforddi wedi ei rhewi.

Mae hyn i gyd yn digwydd tra bod targedau galwadau coch ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yn cael eu methu'n rheolaidd. Mae'n cymryd dros awr ac 20 munud ar gyfartaledd i ambiwlans ymateb i alwad oren—categori sy'n cynnwys strôc, lle mae pob eiliad yn cyfrif. Nawr, mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo targedau canser yn gwaethygu, ar adeg pan fo rhestrau aros yn chwyddo ac ar adeg pan fo mwy na 11,000 o bobl yn cael eu gadael i aros dros 12 awr am driniaeth yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys sydd wedi'u gorymestyn.

Felly, Lywydd, mae'r llwybr presennol yn anghynaladwy. Heddiw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, gwrthod gwleidyddiaeth dirywiad wedi'i reoli a phleidleisio dros y buddsoddiad a'r diogelwch y mae ein hysbytai lleol yn ei haeddu. Diolch.

16:25

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr angen i fyrddau iechyd GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau o dan arweiniad clinigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, lle bo’u hangen, er mwyn sicrhau gofal diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.

2. Yn cydnabod ymhellach yr angen am ymgysylltu parhaus ac ystyrlon â chymunedau ar unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau.

3. Yn pwysleisio pwysigrwydd mynediad cyfartal i gleifion ledled Cymru.

4. Yn cefnogi datblygu gwasanaethau cymunedol ymhellach, i leihau'r pwysau ar ysbytai acíwt ac i sicrhau bod mwy o gleifion yn gallu cael eu gofal yn agosach at eu cartrefi.

5. Yn nodi'r ôl-groniad gwerth £1.4 biliwn o waith cynnal a chadw yn ystad y GIG a etifeddwyd oddi wrth y llywodraeth flaenorol a'r effaith y mae'n ei chael ar gynnal gwasanaethau.

6. Yn nodi'r £20 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth newydd Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol i ddechrau mynd i'r afael â'r mater hwn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ken Skates i gynnig gwelliannau 2 a 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.

Gwelliant 2—Lynne Neagle

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

gyda'r holl benderfyniadau yn blaenoriaethu diogelwch cleifion.

Gwelliant 4—Lynne Neagle

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ysbytai newydd o'r radd flaenaf i gymryd lle Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Maelor Wrecsam, a chyflawni datblygiad ysbyty mawr yng ngorllewin Cymru. 

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 4.

Diolch, Lywydd. Fel y gwelwch o welliannau Llafur Cymru, rydym yn cytuno ag egwyddor gyffredinol y cynnig. Mae ein gwelliant cyntaf yn ychwanegu'r cafeat amlwg y dylid gwneud pob penderfyniad o'r fath gan flaenoriaethu diogelwch cleifion, o ystyried y gall sefyllfaoedd o argyfwng ddigwydd. Mae ein hail welliant yn mynd ymhellach, gan gynnig ateb mwy hirdymor. 

Wrth gwrs, ceir rhestr o waith cynnal a chadw angenrheidiol ledled Cymru. Rydym i gyd yn gwybod hyn. Ond byddai ailadeiladu Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Maelor Wrecsam a datblygiad ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru yn helpu i leihau hynny mewn ffordd lawer mwy hirdymor a chynaliadwy. Rwyf wedi gweld drosof fy hun yr angen i ailadeiladu Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae wedi tyfu'n organig dros lawer o ddegawdau ac mae bellach yn gasgliad gwasgarog o adeiladau nad yw'n cynnig amgylchedd da ar gyfer gwella cynhyrchiant. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn barod i ddefnyddio'r holl liferi ariannol sydd ar gael, ac yn achos ysbytai newydd, byddai hynny'n golygu defnyddio benthyca traddodiadol a chonfensiynol a hefyd benthyca drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol.

Mae'r dull o weithredu a nodir yn ein gwelliant yn uchelgeisiol a byddai'n sicrhau ysbytai o'r radd flaenaf a fyddai'n gwasanaethu niferoedd mawr o bobl ledled Cymru.

Cynigiwyd.

Galwaf yn awr ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell.

Gwelliant 3—Llŷr Powell

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi faint y mae'n bwriadu ei wario ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw ar draws ystad GIG Cymru er mwyn atal gostyngiadau o ran darparu gwasanaethau.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig ein gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell, yn ffurfiol. Mae'r cynnig sydd o'n blaenau'n glir iawn: mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiystyru cau ysbytai ac israddio gwasanaethau ysbytai yn ystod y Senedd hon. Mae hynny'n bwysig i bobl ledled Cymru sy'n poeni am ddyfodol gwasanaethau iechyd lleol. Mae'r pryder hwnnw i'w deimlo yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru, ein Cymoedd, ein trefi a'n dinasoedd ac yn ein cymunedau gwledig ledled y wlad. I gleifion, mae'n ymwneud ag a fydd gwasanaethau yno pan fydd eu hangen arnynt; a fydd adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau, gwasanaethau mamolaeth, diagnosteg, gofal wedi'i gynllunio neu driniaeth leol yn parhau i fod ar gael; ac a all pobl fod yn hyderus na fydd y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio heddiw yn cael eu gwanhau yfory.

Rwy'n derbyn na all y GIG sefyll yn llonydd. Mae angen i wasanaethau newid dros amser. Mae ymarfer clinigol yn newid, mae technoleg yn newid. Nid oes neb yn dweud y gellid nac y dylid darparu pob gwasanaeth yn yr un ffordd yn union am byth—byddai hynny'n hollol anghyfrifol, gan fod rhaid i ddiogelwch cleifion ddod yn gyntaf. Os oes pryderon clinigol gwirioneddol ynghylch gwasanaeth, rhaid bod o ddifrif yn eu cylch a byddwn yn cefnogi'r gwelliant Llafur sy'n sôn am ddiogelwch cleifion. Ond mae gwahaniaeth rhwng gwella gwasanaeth a'i israddio. Mae gwahaniaeth rhwng gwneud gwasanaeth yn fwy diogel a mynd ag ef ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl sy'n dibynnu arno. Ac mae gwahaniaeth rhwng diwygio a dirywiad wedi'i reoli.

Yn rhy aml, dywedir wrth gymunedau fod y newidiadau i wasanaethau'n rhai dros dro. Dywedir wrthynt ei fod yn digwydd oherwydd pwysau staffio, problemau gydag ystadau a'r angen i adolygu'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu. Ond mae pobl wedi clywed hynny i gyd o'r blaen. Maent i gyd yn gwybod bod newid dros dro'n golygu ei fod yn dod yn barhaol yn y diwedd, a dyna lle mae ymddiriedaeth yn chwalu. Oherwydd nid yw pobl yn gwrthwynebu gwelliannau. Nid ydynt yn gwrthwynebu gwell gwasanaethau. Yr hyn y maent yn ei wrthwynebu yw clywed bod gwasanaeth yn mynd i gael ei wella pan fo'n mynd i gael ei leihau mewn gwirionedd. Ac os nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn, mae angen iddi fod yn onest ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu. A yw'n barod i adael y drws ar agor i'r posibilrwydd o gau ysbytai yn ystod y Senedd hon? Ac a yw'n barod i adael y drws ar agor i'r posibilrwydd o israddio gwasanaethau ymhellach? Rwy'n credu mai dyna beth y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei olygu, i bawb ei weld. Ac os felly, mae ein cymunedau'n haeddu gwybod hynny'n glir gan y Gweinidog Cabinet heddiw, oherwydd ni ddylai'r ateb i wasanaethau bregus ymwneud yn syml â gallu eu symud i rywle arall; datrys y problemau sy'n eu gwneud yn fregus yn y lle cyntaf ddylai'r ateb fod. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cabinet a minnau'n rhannu peth tir cyffredin o ran y ffordd y bwriadwn wneud hynny. Dyna'r math o ddiwygio sydd ei angen ar Gymru. Ond amser a ddengys a yw'r Llywodraeth hon yn barod i wynebu'r her o ddiwygio ein gwasanaeth iechyd.

Ond mae angen inni fod yn onest hefyd am ystad y GIG. Nid ffigur yn unig ym mhapur y gyllideb yw'r ôl-groniad cynnal a chadw; mae'n effeithio ar wardiau, mae'n effeithio ar theatrau ac mae'n effeithio ar amgylchedd gwaith beunyddiol ein staff GIG a gall effeithio ar ddiogelwch, capasiti a'r gallu i ddarparu gwasanaethau'n briodol. Roeddem yn glir iawn yn ein maniffesto ein bod am leihau'r ôl-groniad cynnal a chadw. Ni wnaethom ymrwymo, fel y gwnaeth pleidiau eraill, i adeiladu ysbytai heb eu cyllido am ein bod yn ystyried hynny'n anghyfrifol ac yn gelwydd i'r cyhoedd yn y wlad hon pan nad ydynt wedi eu cyllido. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant Llafur terfynol i'r cynnig hwn, am nad ydym yn credu ei fod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni. Ond hoffwn glywed gan y Gweinidog Cabinet sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw. Mae peth arian wedi'i ddyrannu ar ei gyfer, ond mae'n gwybod cystal â finnau mai diferyn bach yn y môr yw hynny o gymharu â'r hyn sydd ei angen i ddod â'n hystad GIG yn ôl i ble y mae angen iddi fod.

Ond gofynnaf i'r Gweinidog Cabinet yn glir iawn: a wnaiff y Llywodraeth hon ddiystyru cau ac israddio ysbytai yn nhymor y Senedd hon ai peidio? Rhaid i ofal yn agosach at adref olygu gwasanaethau wedi'u hariannu'n briodol ac wedi'u staffio'n briodol. Ni all olygu llai o wasanaethau a disgwyl i feddygon teulu, nyrsys cymunedol a'n staff gofal cymdeithasol a'n gofalwyr di-dâl ysgwyddo'r pwysau. Ni all mynediad cyfartal olygu bod disgwyl i gleifion deithio ymhellach am fod gwasanaethau wedi'u canoli ymhellach i ffwrdd oddi wrthynt. Ac os mai dyna yw safbwynt y Llywodraeth, mae angen iddi roi polisi trafnidiaeth priodol ar waith i ganiatáu i bobl deithio. Ac rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth yn gwrando'n astud iawn ar hynny.

Ond fe ddywedaf yn olaf fod pobl eisiau atebion ar ei ben. Maent eisiau gwybod: a yw'r gwasanaeth ysbyty lleol hwnnw'n mynd i fod yno? A yw'n mynd i gael ei israddio? Oherwydd os mai dyna'r dewis, rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog Cabinet fod yn onest wrth bobl heddiw, gan nad wyf yn credu bod eu cynnig yn nodi'n union beth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gynllunio. Diolch.

16:30

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Nawr, dros nifer o flynyddoedd, mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli yng ngorllewin Cymru wedi gweld patrwm cyson a phryderus iawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sef canoli gwasanaethau hanfodol yn raddol oddi wrth y cymunedau a'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Mae gwasanaethau wedi cael eu hisraddio, eu trosglwyddo neu eu hailffurfweddu yn groes i ewyllys yr union bobl y mae'r gwasanaethau hyn wedi'u bwriadu ar eu cyfer. Bob tro y mae'r bwrdd iechyd yn mynd â gwasanaeth o'r ysbyty lleol a'i symud ymhellach tua'r dwyrain, mae wedi cael ei gyflwyno fel cam angenrheidiol. Ac eto, gyda'i gilydd, maent yn adrodd stori glir—fod y bwrdd iechyd eisiau tynnu gwasanaethau ymhellach i ffwrdd o orllewin Cymru a'u canoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Y cynigion canoli diweddaraf oedd cael gwared ar lawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg a newid gwasanaethau strôc ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Nawr, nid addasiad bach yw cael gwared ar lawdriniaeth gyffredinol argyfwng, mae'n newid sylfaenol a fydd yn cael canlyniadau enfawr i gleifion ac yn cynyddu amseroedd teithio mewn sefyllfa o argyfwng. Ac felly gadewch imi fod yn hollol glir o'r cychwyn cyntaf fy mod yn gwrthwynebu penderfyniad y bwrdd iechyd i dynnu'r gwasanaeth hwn o Ysbyty Llwynhelyg, a byddaf yn parhau i ymgyrchu dros weld Llywodraeth Cymru'n ymyrryd i atal hyn rhag digwydd. Pan fo munudau'n bwysig, mae pellter yn bwysig, ac rwy'n credu bod disgwyl i gleifion deithio ymhellach mewn sefyllfa o argyfwng nid yn unig yn anghyfleus, gall fod yn beryglus.

Wrth gwrs, gyda Llywodraeth newydd yn ei lle, mae gan y bobl rwy'n eu cynrychioli obaith am newid cyfeiriad. Ac o ystyried bod y blaid sydd mewn grym wedi ymgyrchu ar y materion hyn yn ystod yr etholiad ac wedi dweud yn glir pa mor beryglus yw canoli llawdriniaeth gyffredinol argyfwng, mae'n rhwystredig nad oes gweithredu wedi bod eisoes gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru awdurdod a chyfrifoldeb i ymyrryd, ac mae'n ddealladwy fod y bobl rwy'n eu cynrychioli eisiau gwybod pam na roddwyd camau ar waith eisoes. Mae pobl Ceredigion Penfro yn haeddu eglurder, tryloywder ac atebolrwydd. Ac yn anad dim, maent yn haeddu gofal iechyd diogel a hygyrch yn agosach at eu cartrefi.

Nawr, am flynyddoedd, ni wnaeth y Llywodraeth flaenorol unrhyw beth tra bod y bwrdd iechyd yn tynnu gwasanaeth ar ôl gwasanaeth o Ysbyty Llwynhelyg, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant na fydd y Llywodraeth hon yn dilyn yr un trywydd. Ac nid llawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn unig sydd mewn perygl. Fel y dywedais yn gynharach, mae gwasanaethau strôc hefyd dan fygythiad. Mae'r bwrdd iechyd yn ymgynghori ar gynlluniau i israddio gwasanaethau strôc yn fodelau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg, ac os bydd y bwrdd iechyd yn dilyn ei gynlluniau, fe fydd yn golygu y bydd yn rhaid i gleifion â symptomau strôc acíwt deithio pellter sylweddol i gael gofal critigol. Nid yw hyn yn iawn ac nid yw'n dderbyniol. Mae'n enghraifft arall o'r bwrdd iechyd yn canoli gofal yng Nghaerfyrddin ar draul cymunedau ymhellach i'r gorllewin.

Rhaid i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru dderbyn y ffaith bod darparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i ddarparu gwasanaethau mewn lleoliadau mwy trefol. Dyna pam y mae angen inni weld fframwaith cynlluniau priodol sy'n cydnabod bod gwasanaethau cleifion yn seiliedig ar ledaeniad daearyddol, nid wedi'u pennu gan boblogaeth yn unig. Ac mae'r Gweinidog Cabinet ei hun wedi'i gofnodi yn y Siambr hon yn dweud bod ganddo bryderon difrifol am y cynigion. Dadleuodd y byddai cynigion y bwrdd iechyd yn arwain at niwed gwirioneddol, nid yn unig i gleifion yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ond hefyd i bobl sy'n byw ymhellach i'r gogledd o Ysbyty Bronglais, ac i'r gorllewin yn wir. Dywedodd yn gywir ddigon fod yn rhaid ailystyried cynlluniau'r bwrdd iechyd gyda chydweithrediad rhanbarthol go iawn, ynghyd â ffocws ar y claf, arweinyddiaeth arbenigol ac ymrwymiad i ofal sy'n agos at adref. Nawr, mae'r rhain yn eiriau go gryf, ac mae pobl gorllewin Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gadw atynt. A gadewch inni beidio ag anghofio bod y Gymdeithas Strôc hefyd wedi dweud yn glir nad yw'n cefnogi'r cynigion, gan ddweud eu bod mewn perygl o danseilio triniaeth dan arweiniad arbenigol, darnio gwasanaethau a chynyddu anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Maent wedi annog y bwrdd iechyd i ailystyried y cynigion hyn a gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau strôc diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf.

Felly, Lywydd, mae angen buddsoddiad difrifol ar ein hysbytai gwledig a thrwy gyflawni hynny, byddai'r Llywodraeth yn anfon datganiad sy'n helpu i ddenu meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill i'r ardal. Ond yn y lle cyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar frys i atal y bwrdd iechyd rhag cael gwared ar unrhyw wasanaethau pellach o ysbytai Llwynhelyg a Bronglais. Ac felly rwy'n annog Gweinidog y Cabinet i wneud yr hyn y methodd ei ragflaenwyr ei wneud mewn gwirionedd—gwrthsefyll Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefyll dros bobl canolbarth a gorllewin Cymru.

16:35

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Mae gwrthsefyll canoli gwasanaethau ac israddio gwasanaethau ysbytai yn Llwynhelyg a Bronglais yn flaenoriaeth i mi a chyd-Aelodau Plaid Cymru yng Ngheredigion Penfro. Mae angen inni fuddsoddi yn ein hysbytai gwledig nid eu hisraddio, ac mae angen inni fuddsoddi mewn gofal sylfaenol i sicrhau mwy o feddygon teulu a deintyddion y GIG ac mae angen inni gyflwyno canolfannau triniaeth i leihau rhestrau aros ar frys, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth newydd eisoes yn dechrau gweithio ar y materion hyn. Rwyf am gydnabod grwpiau ymgyrchu dinasyddion sy'n chwarae rhan allweddol yn gwrthsefyll israddio gwasanaethau ysbytai yng ngorllewin Cymru. Hoffwn ddiolch i gynrychiolwyr Tîm Gweithredu Achub Llwynhelyg am drafod eu blaenoriaethau gyda mi, a Diogelu Gwasanaethau Bronglais, y mae Elin Jones AS wedi gweithio'n agos gyda nhw, am eu gwaith, yn enwedig y brotest yn Aberystwyth ym mis Chwefror gydag oddeutu 800 o bobl a deiseb ddiweddar gyda dros 17,800 o lofnodwyr. Maent hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn casglu tystiolaeth. Roeddwn yn falch o gael cyfle cynnar hefyd i gyfarfod â bwrdd iechyd Hywel Dda, lle medrais godi fy mhryderon.

Mewn byd delfrydol, ni fyddem yn dechrau o'r fan hon, ac roeddwn i'n ystyried amlinellu effaith 14 mlynedd o gyni Torïaidd, Brexit, a'r degawdau o ddirywiad wedi'i reoli yng Nghymru, ond nid wyf am ganolbwyntio ar raniadau gwleidyddol. Yn hytrach, rwyf am fanteisio ar y potensial yma i gydweithio ar draws pleidiau ac etholaethau i adeiladu dewisiadau amgen, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru newydd, y mae gan ei Gweinidog iechyd yma ddealltwriaeth glir o'r heriau ym maes gofal iechyd gwledig, ac fel y nodwyd, mae wedi siarad yn gryf ar y materion hyn. Nid wyf eisiau canolbwyntio ar edrych yn ôl chwaith. Mae'r cynnig gwreiddiol yn gwneud i'r peth swnio fel pe bai hyn ond yn ymwneud â chadw pethau yr un fath ac atal newid pellach, ond mae'r hyn sydd gennym nawr ymhell o fod yn ddigon da i drigolion Ceredigion Penfro. Mae pobl yng ngorllewin Cymru yn haeddu gwell. Mae angen inni edrych ymlaen a gweithio'n greadigol gyda'n gilydd, gan gynnwys cymunedau, i hybu arloesedd a chreu system gofal iechyd gwledig sy'n cyflawni'r canlyniadau iechyd y mae ein cymunedau yn eu haeddu. Mae dod o hyd i'r atebion hynny ymhell o fod yn syml. Mae ein system iechyd yn gymhleth, ac mae angen inni ei gweld yn ei chyfanrwydd. Rwy'n eich annog i gefnogi gwelliant Plaid Cymru, sy'n rhoi'r cyd-destun hwnnw.

Mae datblygu gwasanaethau cymunedol a buddsoddi mewn gofal sylfaenol yn allweddol i leihau'r pwysau ar ysbytai acíwt. Mae Canolfan Gofal Integredig Aberteifi yn enghraifft o sut y gall gwneud hyn weithio'n dda, ac rwy'n gobeithio y bydd Hywel Dda yn gwrando ar alwadau am ganolfan debyg yn Abergwaun. Mae angen gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ond mae tystiolaeth o brofiad bywyd yr un mor bwysig ag unrhyw dystiolaeth arall. Clywais straeon dirdynnol gan etholwyr am eu profiad o wasanaethau ysbyty. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud yn benodol â heriau gwledig, yn enwedig pellteroedd hir rhwng ysbytai a mynediad anodd atynt ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae arweinyddiaeth glinigol yn bwysig wrth gwrs, ond nid yw atebion sy'n gweithio mewn ardaloedd trefol bob amser yn gweithio mewn lleoliadau gwledig. Mae angen inni edrych hefyd ar brofiad bywyd go iawn cleifion. Gall realiti pellteroedd hir ac amser teithio mewn ardaloedd gwledig fod yn fater o fywyd a marwolaeth.

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda yng nghanol ymgynghoriad pellach erbyn hyn, fel y nodwyd—ail ymgynghoriad ar wasanaethau strôc—ac rwy'n annog pobl i fwydo i mewn i'r broses honno. Rwy'n gwybod bod pryderon cryf am y cynigion hyn ac mae trigolion lleol wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod pryderon sylfaenol yn parhau heb eu hateb ac yn ofni na fydd eu safbwyntiau'n dylanwadu go iawn ar y penderfyniad terfynol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Hywel Dda yn gwrando ar yr amrywiaeth honno o leisiau nawr cyn i unrhyw benderfyniadau pellach gael eu gwneud. Mae angen cynllunio'r holl atebion o amgylch y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn, gyda mynediad cyfartal at wasanaethau ledled Cymru. Rwyf am weld ffocws di-baid ar wella canlyniadau iechyd, ynghyd â dulliau mesur clir a thryloyw gan y bwrdd iechyd a all gynnig tystiolaeth o gynnydd yn erbyn y rhain. Diolch yn fawr.

16:40

Yn gyntaf, rwyf am ofyn cwestiwn i'r Gweinidog Cabinet ar yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel argyfwng cynyddol mewn hyder yn y ffordd y mae penderfyniadau gofal iechyd gwledig yn cael eu gwneud yng Nghymru. Rwy'n llongyfarch y Gweinidog ar ei benodiad, ond mae'n rhaid imi ddweud ar y dechrau na fydd geiriau cynnes yn ddigon i roi sicrwydd i bobl gorllewin Cymru os na cheir camau gweithredu i'w hategu. Y gwir amdani yw hyn: nid yw'r Gymru wledig yn cael ei thrin ar sail gyfartal â'r Gymru drefol o ran cynllunio gofal iechyd. Caiff daearyddiaeth ei hanwybyddu a chaiff mynediad at ofal ei erydu'n raddol. Ysbyty Bronglais yw'r ysbyty cyffredinol mwyaf gwledig yng Nghymru; mae Llwynhelyg yn gwasanaethu poblogaeth helaeth a gwasgaredig. Gyda'i gilydd, maent yn cefnogi tua 196,000 o bobl ar draws gorllewin Cymru. Mewn unrhyw leoliad trefol, byddai'r boblogaeth honno fel arfer yn cael ei gwasanaethu gan sawl safle hawdd eu cyrraedd. Yng ngorllewin Cymru, mae cleifion yn wynebu teithiau hir, cysylltiadau trafnidiaeth gwael ac oedi sylweddol i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol. Mae'r cyd-destun hwnnw'n hollbwysig, ond eto i gyd, yn gyson caiff ei drin yn eilradd wrth wneud penderfyniadau.

Mae Bronglais bellach yn wynebu newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc sydd wedi achosi pryder difrifol ar draws yr etholaeth a thu hwnt. Cefais ohebiaeth helaeth gan etholwyr ac mae'r neges yn gyson: mae pobl yn ofni bod mynediad at ofal strôc lle mae amser o'r pwys mwyaf yn cael ei wanhau. Rydym i gyd yn gwybod am y realiti clinigol pan fydd rhywun yn dioddef strôc: mae pob munud yn cyfrif. Nid addasiad gweinyddol niwtral yw ymestyn amseroedd teithio i Ysbyty Glangwili. Mae'n benderfyniad ag iddo ganlyniadau a allai newid bywydau.

Weinidog, cyn yr etholiad, roeddech chi'n ddiamwys eich beirniadaeth o'r mathau hyn o gynigion. Fe wnaethoch chi siarad yn y Siambr hon am bryderon difrifol ynglŷn â diogelwch cleifion ac am y risg o niwed. Fe ddywedoch chi'n glir na ddylai cynaliadwyedd byth ddigwydd ar draul mynediad, ac rwy'n cytuno â hynny. Nid sylwadau amwys mo'r rheini. Roeddent yn ymrwymiadau clir. Ond fel Llywodraeth, mae eich swyddfa'n dweud wrth gynrychiolwyr lleol mai materion i'r bwrdd iechyd yn unig ydynt, gyda Gweinidogion yn sefyll yn ôl ac yn annog cyfranogiad mewn ymgynghoriad. Gyda phob parch, nid arweinyddiaeth yw hynny, ond ymwrthodiad.

Dyna'r dull o weithredu a arferwyd gan Weinidogion iechyd blaenorol, y gweithiais i rai ohonynt, Gweinidogion iechyd a oedd hefyd yn dibynnu ar drosglwyddo cyfrifoldeb i fyrddau iechyd, yn hytrach nag arfer arweinyddiaeth glir o'r canol. Mae pobl yng ngorllewin Cymru yn sylwi. Y teimlad sy'n tyfu yn ein cymunedau yw nad oes unrhyw beth yn newid, heblaw am y bobl sy'n eistedd ar feinciau'r Llywodraeth.

Nid yw'r mater hwn wedi'i gyfyngu i Ysbyty Bronglais. Yn sir Benfro, mae cymunedau'n fwyfwy pryderus am ddyfodol gwasanaethau argyfwng ac acíwt yn Ysbyty Llwynhelyg. Unwaith eto, caiff gwasanaethau eu tynnu ymhellach i ffwrdd o boblogaethau gwledig yn enw canoli. Gadewch inni fod yn onest ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol. I bobl mewn dinasoedd, mae'n anghyfleustra. I bobl yng nghefn gwlad Cymru, gall olygu'r gwahaniaeth rhwng triniaeth amserol a niwed difrifol. Dylai'r gwahaniaeth hwnnw siapio polisi'r Llywodraeth, ond nid yw'n glir ei fod yn gwneud hynny.

Hefyd, rwyf eisiau herio'r rhesymeg ariannol sy'n cael ei defnyddio i gyfiawnhau'r penderfyniadau hyn. Dywedir wrthym fod gwasanaethau'n cael eu dileu oherwydd pwysau cost ac arbedion effeithlonrwydd, ond rwy'n deall bod opsiynau amgen mewn sawl achos a fyddai'n caniatáu i wasanaethau gael eu cynnal yn lleol ar gost gymharol gymedrol. Yng nghyd-destun ehangach gwariant y GIG, nid yw'r rhain yn symiau trawsnewidiol, ond yng nghyd-destun cymunedau gwledig sy'n colli mynediad at wasanaethau hanfodol, maent yn hollol hanfodol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog yn uniongyrchol: a gyflawnwyd dadansoddiad cost a budd priodol sy'n cymharu cynnal gwasanaethau lleol â chostau hirdymor canoli, cludo cleifion, mwy o bwysau ar ysbytai acíwt, oedi cyn cael diagnosis a chanlyniadau gwaelach, neu a ydym yn syml yn derbyn tynnu gwasanaethau yn ôl am ei fod yn weinyddol symlach na chynnal darpariaeth wledig? Oherwydd o'r tu allan, dyma'n gynyddol sut y mae hyn yn edrych.

Felly, rwyf am ofyn tri chwestiwn i'r Gweinidog. Yn gyntaf, a yw'n fodlon ymrwymo i adolygu'r 'Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru' treiddgar gan Dr Longley cyn i unrhyw newidiadau anadferadwy gael eu gwneud i'r gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais? Yn ail, a wnewch chi warantu na fydd unrhyw wasanaethau'n cael eu tynnu'n ôl nes bod cynllun amgen gweithredol wedi'i staffio'n llawn a chlinigol ddiogel ar waith? Ac yn drydydd, a wnewch chi gadarnhau pa mor barod ydych chi i ymyrryd, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru, lle mae mynediad gwledig at ofal argyfwng a gofal lle mae amser o'r pwys mwyaf yn amlwg yn cael ei roi mewn perygl?

Weinidog, nid yw pobl gorllewin Cymru yn gofyn am fraint. Maent yn gofyn am fynediad cyfartal. Maent yn gofyn a yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn credu bod claf yng Ngheredigion a sir Benfro yn haeddu'r un cyfle o ofal amserol â rhywun yng Nghaerdydd neu Abertawe. Ar hyn o bryd, yr ateb a gânt yw distawrwydd wedi'i lapio mewn biwrocratiaeth, allwyro dan gochl proses, ac arweinyddiaeth wedi'i lleihau'n arsylwi. Nid yw hyn yn ddigon da. Nid dyma a addawyd ac nid dyma sydd ei angen ar y Gymru wledig. Os na wnaiff y Llywodraeth hon sefyll dros Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Llwynhelyg nawr, pan fo'r gwasanaethau dan fygythiad gweithredol, mae gan bobl hawl i ofyn cwestiwn syml iawn: pryd yn union y bydd yn gweithredu? Oherwydd os nad nawr yw'r ateb, nid yma ac nid ni, y Gymru wledig sy'n talu'r pris. Diolch yn fawr.

16:45

Roeddwn i'n mynd i ddweud fy mod i'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw, ond rhaid imi ddweud, nid oeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid inni godi hyn eto mor fuan, ond yn briodol, mewn Llywodraeth newydd. Rydym ni bellach chwe wythnos i mewn i'r seithfed Senedd, felly mae hynny bron hanner ffordd drwy eich cynllun 100 diwrnod, a rhaid dweud, mae'n bryd gweld gweithredu go iawn, nid mwy o eiriau, nid mwy o adolygiadau na strategaethau. Mae angen inni weld mwy o weithredu gennych chi.

Weinidog Cabinet, fe ddywedoch chi fod angen gweithredu beiddgar a radical i greu system iechyd a gofal gref, wydn a ffyniannus. Rwy'n cytuno. Er nad yw £145 miliwn o'r gyllideb atodol yn swm bach, nid wyf yn gweld unrhyw gynllun go iawn i gefnogi eich geiriau ar ffurf gweithredu. Rydych chi'n sôn am recriwtio ac uwchgynadleddau gyda chadeiryddion y GIG. Nid yw hyn yn swnio'n feiddgar a radical i mi. Mae'n swnio fel ailbobi’r hyn sydd wedi'i ddweud o'r blaen.

Yn fy etholaeth i, Bangor Conwy Môn, mae'r ffaith bod Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn norm, ac mae gofal mewn coridorau bellach yn rhan o fywyd gwaith bob dydd i staff a chleifion fel ei gilydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y Llywodraeth flaenorol yr oeddech chi'n awyddus iawn i'w chefnogi bob amser, fe godais fater gofal mewn coridorau. Mae'n annynol. Rwyf wedi rhoi cais rhyddid gwybodaeth i mewn, i ofyn sawl gwaith y mynychodd y Prif Weinidog/Gweinidog iechyd blaenorol yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd. Oherwydd pan awgrymodd fy nghyd-Aelod a minnau ei bod hi'n dod gyda ni, yn enwedig pan oedd hi'n dod i agoriad mawreddog yr hyb llawfeddygol newydd yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, fe ddywedodd hi wrthyf ei bod hi wedi bod yno sawl gwaith. A dywedais, 'Wel, beth ydych chi wedi'i wneud? A weloch chi bobl yn gorwedd yn y coridor, ar y llawr, yn cael eu trin mewn cypyrddau, ar gadeiriau?' 'O do, gallaf eich sicrhau fy mod i wedi bod.' Felly, cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth. Nid oedd y Gweinidog blaenorol wedi bod un waith—[Torri ar draws.] Do, ond nid ydych wedi dod yn ôl a dweud wrthym beth oedd pwynt eich cyfarfod, a wnaethoch chi fynd i'r afael â gofal mewn coridorau—[Torri ar draws.] Na, ddim mewn gwirionedd. A wnaethoch chi fynd i'r afael â gofal mewn coridorau? Mae gofal mewn coridorau yn staen ar y Llywodraeth hon yng Nghymru, ni waeth pwy yw'r rhai mewn grym.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynd i'r afael â hyn. Ni fyddai'n digwydd heddiw. Byddem wedi canolbwyntio ein sylw. Ni allwch gael sefyllfa pan fo'r rhai mwyaf agored i niwed a'r henoed yn mynd yno ac yn dod allan gyda briwiau gwely ar ôl eistedd mewn cadair am dridiau. Mae gennyf etholwyr nawr sydd wedi dweud wrthyf, 'Waeth pa mor sâl wyf i, beth bynnag fo'r sefyllfa, nid af mewn ambiwlans eto i'r adran damweiniau ac achosion brys lleol yn Ysbyty Glan Clwyd.'

Hefyd, gwelsom amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn cynyddu o 10,000 ym mis Ebrill 2016 i 11,066; rhestrau aros yng Nghymru yn cynyddu i 680,000 o lwybrau gwahanol; amseroedd aros o ddwy flynedd yn codi i 3,694; ac un o bob tri o'r cleifion adrannau argyfwng mwyaf sâl yng Nghymru bellach yn cael gofal mewn coridorau. Ni ddylai ddigwydd byth, ond mae disgwyl nawr y bydd yn digwydd os ewch chi i adran damweiniau ac achosion brys. Nid wyf yn beio'r staff nyrsio, y meddygon iau na'r meddygon ymgynghorol. Maent yn daer eisiau'r gwelyau. Maent yn daer eisiau nyrsys i gefnogi'r gwelyau hynny. Yn flaenorol, dywedodd Mr Drakeford—ac roedd gennyf lawer o barch tuag ato—'Nid oes angen mwy o welyau arnom.' Wel, oes mae, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y neges honno'n glir.

Mae angen mwy o ysbytai cymunedol ar agor. Bydd angen ailagor y rhai sydd wedi cau. Cymerwch Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Rydym newydd gael hyb gwerth £31 miliwn—hyb llawfeddygol orthopedig, ac iechyd menywod. Mae ar gau. Nid yw wedi agor eto. Roedd i fod i agor ym mis Ebrill. Beth rydych chi'n ei wneud am hynny? Rwy'n clywed bod anawsterau gyda'r gwaith adeiladu. Gofynnais adeg y Nadolig, 'A oedd anawsterau gyda recriwtio staff? A fydd unrhyw anawsterau gyda'r gwaith adeiladu?' Beth rydych chi'n ei wneud i gael hynny ar y gweill yn gyflym, fel y gallwn gael y cleifion orthopedig hynny drwodd? Mae rhai o'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig yno'n rhai lle gall cleifion fynd i mewn un diwrnod, a dod allan drannoeth, a byddent yn sicr yn gallu cael eich rhestrau aros i lawr, ond rydych chi'n cicio'ch sodlau tra'i fod ar gau.

Weinidog Cabinet, fel y dywedais ar y diwrnod cyntaf, rwy'n hapus i roi cyfle i bob un ohonoch chi newid pethau fel deiliaid portffolio. Rwy'n gofyn i bawb yma eich plagio chi nawr i roi'r gorau i ofal mewn coridorau. Mae'n staen ar eich Llywodraeth, fel yr oedd ar yr un flaenorol. Diolch.

16:55

Weinidog Cabinet, mae pawb ohonom, heblaw am y gwleidyddion gyrfa, yn cerdded i mewn i'r Siambr hon yn cario ysbrydion ein profiadau yn y gorffennol a'n proffesiynau blaenorol, ac nid wyf i'n wahanol yma. Mae'r manylion yn bwysig, ac mae'n dweud, 'unrhyw' gau ysbytai ac unedau. Ac rwy'n gwisgo fy het flaenorol fel llywydd nawr—llywydd llawer llai pwerus—Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru i geisio ateb y cwestiwn hwn pam fy mod i, yn barchus—gyda phob parch—yn anghytuno â'r cynnig. 

Yn gyntaf oll, mae angen inni wella effeithlonrwydd o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, ac nid wyf yn credu fy hun fod hwn yn fater pleidiol, oherwydd mae'n cynnwys pawb ar draws y Siambr hon, eu ffrindiau, eu teuluoedd, eu hetholwyr—pawb—a nhw eu hunain. Maent eisiau cael eu gofal iechyd wedi'i ddarparu, ac nid oedd y cynnig yn dweud yn benodol am ofal argyfwng, y ceir achos gwahanol ar ei gyfer, ond ar gyfer 'pob', ac fel arholwr, mae unrhyw gwestiwn gyda 'pob' bob amser yn anghywir, fel y mae unrhyw gwestiwn gyda 'bob amser' hefyd yn anghywir. 

Mae heriau demograffig yn dod yn y degawdau nesaf hefyd: y boblogaeth sy'n heneiddio. Yn fy mhroffesiwn fy hun, er enghraifft, mewn offthalmoleg—rwy'n arbenigwr meddygol ar y retina sy'n delio â dirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran—nid yw'n syndod fod epidemig o ddirywiad maciwlaidd cysylltiedig ag oedran, yn bennaf oherwydd bod 'oedran' yn rhan o enw'r clefyd ei hun, ac mae darparu gwasanaethau ar gyfer dirywiad maciwlaidd neofasgwlaidd cysylltiedig ag oedran yn un o'r straeniau mwyaf sy'n effeithio ar offthalmoleg yng Nghymru.

Ac mae'n rhaid inni daro'r cydbwysedd cywir rhwng gwella effeithlonrwydd a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt. Pan oeddwn yn llywydd y coleg brenhinol, cefais y fraint o deithio ledled Cymru i weld y gwahanol unedau llygaid, i weld sut y gellid gwella pethau. GIRFT—nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o'r sefydliad hwnnw. Mae'n sefyll am Getting It Right First Time—gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf. Mae'n debyg i NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ceisiodd gynnwys economeg iechyd i geisio gwneud y gwasanaeth iechyd gwladol yn fwy effeithlon. Ac rwyf i wedi bod yng ngogledd Cymru; fe euthum i i Abergele. Gwelais y craciau ar wal uned llygaid Stanley, ac mae yna ddyfais fesur braf, fel bod modd tynnu graff o ba mor gyflym y mae'r wal i'w gweld yn chwyddo a pha mor agos y daw at gwympo. Ond eto, mae'r craciau'n dal yno. Ac rwyf wedi bod mewn llawer o unedau. Mae GIRFT yn dweud bod yn rhaid ichi wneud wyth neu fwy o gataractau ar restr. Rwy'n falch o ddweud bod fy ysbyty i yn Abertawe yn gwneud hynny, ond mae yna rai unedau yng Nghymru nad ydynt yn gwneud hynny ac na fyddant byth yn gwneud hynny.

Siaradais â chydweithiwr sy'n feddyg ymgynghorol mewn bwrdd iechyd cyfagos cyn dod yma heddiw, a gofynnais am gael defnyddio ei enw; dywedodd 'na', yn bennaf am nad oedd eisiau cael ei ddiswyddo. Ond yn y bôn, hyd yn oed pe bai wyth claf yn dod i'w uned, meddai, ac na fyddai'n gwneud unrhyw lawdriniaeth, ond yn hytrach, ei fod ond yn gosod llaw ar eu pennau a'u bod yn mynd yn ôl i'r ward, ni fyddai'n gallu trin wyth claf oherwydd y problemau seilwaith yn yr ysbyty. Mae yna rai unedau yng Nghymru na fyddant byth yn gallu darparu wyth cataract ar restr. A microcosm yn unig yw hyn.

Nid yw cataractau'n argyfwng. Dwy lygad yn unig sydd gan bobl. Rwy'n credu ei bod yn berffaith resymol gofyn i bobl deithio ychydig o bellter i wneud eu llygaid o fewn ychydig wythnosau neu ychydig fisoedd, yn hytrach nag aros 100,000 o flynyddoedd i gael eu gwneud yn lleol a marw o henaint, a'r holl anabledd o beidio â gallu gweld yn y cyfamser wrth aros i hynny ddigwydd. Gall cynnal gwasanaethau am resymau economaidd neu wleidyddol fod yn niweidiol, ac rwy'n deall yn llwyr pan fydd etholwyr yn dod ac yn dweud, 'Nid ydym am weld y gwasanaeth yma, neu'r gwasanaeth acw'n cael ei symud.' Mae yna rai achosion da dros eu cynnal, a llawer o achosion y buaswn i'n eu cefnogi, ond mae cadw popeth ar agor bob amser yn ein rhwystro rhag gallu trwsio'r system mewn gwirionedd.

Mae'r cynnig i gadw pob uned ar agor heb ystyried effeithlonrwydd yn afrealistig ac nid dyna sydd ei angen arnom ar gyfer meddygaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Fe ddywedodd James, draw ar ochr Reform, bethau synhwyrol iawn mewn gwirionedd. Fe ddywedodd fod—[Torri ar draws.] Mae hyn yn digwydd weithiau. Fe ddywedodd, er enghraifft, fod technoleg feddygol yn newid ac felly bod rhaid i feddygaeth newid. Mae'r offer a ddefnyddir mewn offthalmoleg yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd. Costiodd y gofodau theatr £100,000. Mae'n fwy na'r ddyfais sgwpiog yr arferent ei defnyddio yn ôl yn y 1970au i gael gwared ar gataractau heb osod unrhyw lensys mewnllygadol. Nid yw'n ymarferol i bob bwrdd iechyd ddarparu pob gwasanaeth drwy'r amser. Rwy'n meddwl am Mabon yno. Eisoes, oherwydd y cyfyngiadau, mae ei draed wedi'u rhwymo, mae ganddo un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w gefn, a phe bai hyn yn cael ei basio, byddai'r ail law wedi'i chlymu y tu ôl i'w gefn. Am ddelwedd ofnadwy fyddai honno. Byddai'n gwbl analluog i newid pethau, i wneud yr hyn sydd ei angen arnom. 

I grynhoi, rwy'n dweud bod cadw pob uned ar agor yn aneffeithlon, yn wastraffus ac yn gostus. Yn bwysicach fyth, byddai'n arwain at niwed i gleifion. Rwyf am ddweud yn olaf, cyn gynted ag y dysgodd y Swyddfa Gyflwyno i mi sut i roi datganiad barn, roedd fy natganiad cyntaf ar y loteri cod post yng Nghymru. Roedd hynny cyn imi sylweddoli nad yw'r datganiadau barn yn arwain at unrhyw newid mewn gwirionedd. Ond rwy'n teimlo'n gryf ynghylch y mater hwn. Diolch, Lywydd.

17:00

Rwy'n adleisio llawer o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn y Siambr heddiw. Mae'n bryderus, yr ôl-groniad cynnal a chadw. Dyna pam y gwnaethom ychwanegu'r gwelliant heddiw, ac rwy'n falch o'i gefnogi. Mae angen yr arian hwnnw ar frys. Mae ei angen ar ysbytai nawr. Rydym i gyd wedi gweld yr adroddiadau brawychus; nid wyf eisiau eu hailadrodd. Rydym i gyd wedi cael etholwyr yn ysgrifennu atom. Nid yw'n dda i hyder etholwyr sy'n mynd i ysbytai pan fyddant yn darllen adroddiadau o'r fath. Nid yw'n dda i recriwtio staff, cadw staff. Nid yw'n dda i gleifion yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y maent am dalu am yr ôl-groniad cynnal a chadw.

Mae llawer o'r Aelodau heddiw wedi siarad am gau ysbyty. Yn fy etholaeth i, Caerffili, gwelsom hynny yn 2011 gyda chau Ysbyty'r Glowyr Caerffili. Dywedwyd wrthym y byddai ysbyty newydd yn cymryd lle'r ysbyty hwnnw, ac y byddai'r gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo i Ysbyty Ystrad Fawr. Ond y broblem oedd, Lywydd, nid dyna a ddigwyddodd. Cafodd ei israddio. Roedd yr arwyddion a godwyd ar gyfer yr ysbyty newydd ar un adeg yn cyfeirio at ganolfan argyfwng leol. Nawr, mae sticer dros yr arwydd hwnnw bellach yn dynodi 'uned mân anafiadau' yn unig. Mae hynny'n bryder gwirioneddol i etholwyr. Rwy'n cael gohebiaeth gyson. Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi sefyll mewn is-etholiad ym mis Hydref, lle clywais lawer am hynny—nad oedd etholwyr yn gallu cyrraedd ysbytai pan oedd angen iddynt wneud hynny. Roedd pryder am anwyliaid yn teithio. Clywsom am hynny eto yn yr etholiad diwethaf, ac rwy'n gwybod y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn teimlo'r un fath.

Rwy'n falch fod y Gweinidog yma heddiw, a'r Gweinidog cyllid. Rwy'n siŵr ei bod hi'n hapus iawn o glywed ein bod ni'n gofyn am fwy o arian am bethau eto—[Torri ar draws.] Ond mae hyn yn rhywbeth y gobeithiaf fod yr holl Aelodau ar draws y Siambr—. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ei godi, ac am gyfraniadau gan y Llywodraeth hefyd. Rwy'n cytuno gyda chi na ellir diogelu pob gwasanaeth, ond yn yr achosion y clywsom amdanynt heddiw o orllewin Cymru, y Gymru wledig—. Byddaf yn anfon neges at y Gweinidog cyllid, oherwydd rwyf eisiau gweld Ysbyty Ystrad Fawr yn cael ei uwchraddio hefyd. Ond nawr, mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Rwy'n falch fod y Gweinidog yma, ac rwy'n gobeithio ei fod yn gwrando oherwydd mae etholwyr angen atebion nawr. Rydym i gyd wedi clywed ei eiriau dros Seneddau blaenorol. Rwy'n gwybod ei fod wedi siarad yn gryf iawn yn ei gylch bryd hynny. Gobeithio, wrth ateb rhai o'i gynghorwyr ym Mharc Cathays, ei fod yr un mor gryf yn ei gylch heddiw.

Mae'n amlwg fod yna argyfwng iechyd yng Nghymru. Rydym wedi clywed hynny gan lawer o Aelodau ar draws y Siambr hyd yma yn y ddadl hon. Roeddwn i'n falch o glywed y siaradwr blaenorol o Blaid Cymru—ac rwy'n sicr yn gwerthfawrogi ei brofiad clinigol yn y maes—ond rydym hefyd wedi clywed hyd yma am brofiad llawer o bobl yn y Siambr o addewidion wedi'u torri. Pan fydd y gwasanaethau hynny wedi'u haildrefnu, mae'n aml yn arwain at israddio. I fynd i'r afael â'r pwynt gan yr Aelod dros Blaid Cymru a siaradodd funud yn ôl, yr hyn y galwn amdano fel Ceidwadwyr Cymreig yw ymdrech i ddelio â'r ofn o addasiadau parhaus yn y dyfodol, sy'n anochel yn arwain at israddio'r gwasanaethau hynny.

Pan fyddaf yn siarad â fy etholwyr yn Fflint Wrecsam am ofal iechyd yng Nghymru, maent yn siarad am fynediad ac amseroedd aros. Mae pobl yn dweud wrthyf nad yw'n gweithio fel y dylai. Yr un neges a glywais ar draws y Siambr hyd yma. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers degawd bellach. Er gwaethaf ymdrechion a phroffesiynoldeb staff ar lawr gwlad, mae pobl yng ngogledd Cymru wedi wynebu blynyddoedd o bwysau ar wasanaethau, amseroedd aros hir ac anhawster gwirioneddol i gael mynediad at ofal pan fo'i angen arnynt. Fel rhan o ddelio â hyn, er enghraifft, rydym ni yma i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu sefydlogrwydd clir, hirdymor i'n rhwydwaith gofal iechyd lleol, gan ofyn yn benodol am ymrwymiad pendant i atal unrhyw ysbytai pellach rhag cau neu israddio gwasanaethau. Ar hyn, rwy'n siarad ar ran etholwyr Fflint Wrecsam. Mae angen gwarantu parhad gwasanaethau i adfer hyder yn fy etholaeth fod y gwasanaethau yno iddynt yn y dyfodol.

Er mwyn deall pam y mae hyn mor bwysig, rhaid inni weld sut y mae ein system gofal iechyd yn gweithredu ar lawr gwlad. Ystyriwch sefyllfa Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae ysbyty Maelor yn gweithredu fel angor acíwt canolog i fy etholwyr. Nid yw'n gyfrinach fod yr ysbyty eisoes yn gweithredu ar, ac yn aml y tu hwnt i'r capasiti a fwriadwyd. Os caiff gwasanaethau eu hisraddio neu eu tynnu'n ôl o'r ardaloedd cyfagos, nid diflannu y mae'r cleifion hynny, fel y mae'r Gweinidog yn deall, fe gânt eu dadleoli, a bydd y mwyafrif helaeth yn dod i adran argyfwng a chlinigau ysbyty Maelor. Ni allwch leihau capasiti mewn un rhan o fy etholaeth heb greu effaith ddomino na ellir ei rheoli ar y prif safle acíwt yn ysbyty Maelor.

Yn anffodus, fe welwn enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Mae gennyf grŵp o breswylwyr yn Saltney Ferry nad ydynt yn gallu cofrestru gyda meddyg teulu hyd yn oed, nid oes ganddynt bractis meddyg teulu ar eu cyfer. Mae'n anomaledd rhyfedd. Mae llawer o'r bobl yn y gymuned honno bellach yn gorfod cael mynediad at ofal sylfaenol yn Lloegr am nad yw ar gael iddynt yma yng Nghymru. Yr hyn a welwn wedyn, os nad yw pobl yn gallu cael mynediad at eu meddyg teulu, yw eu bod yn dod i adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid oes ganddynt unman arall i fynd.

Mae rhai heriau penodol eraill yn wynebu fy etholwyr yn Fflint Wrecsam. Dros y blynyddoedd, mae sir y Fflint eisoes wedi gweld colli gwelyau ysbyty cymunedol a'r ddarpariaeth mân anafiadau leol, yn debyg i'r hyn y mae cyd-Aelodau ar draws y Siambr eisoes wedi'i nodi. Mae canoli gwasanaethau ymhellach i ffwrdd o drefi a phentrefi o amgylch Fflint Wrecsam yn gam yn ôl. Mae clinigau lleol a gwelyau cymunedol yn hanfodol, maent yn sicrhau rheolaeth ar faterion iechyd yn gynnar ac yn atal y prif ysbytai, yn enwedig Ysbyty Maelor Wrecsam, rhag cael eu gorlethu.

Weinidog, buaswn yn dweud bod yn rhaid i bolisi gofal iechyd gael ei gefnogi gan ystyriaethau daearyddol a seilwaith, nid cyfleustra gweinyddol yn unig. Wrth gwrs, mae ein hagosrwydd yn Fflint Wrecsam at y ffin â Lloegr yn golygu bod unrhyw ostyngiad yng nghapasiti GIG Cymru mewn perygl o roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau trawsffiniol hynny, gan gymhlethu llwybrau gofal i'r cleifion a gynrychiolir gennyf.

Yn olaf, Lywydd, rwyf am sôn am ofal hosbis a gofal lliniarol. Dyma beth o'r gwaith pwysicaf yn y system iechyd gyfan. Er nad ydynt o reidrwydd yn cael eu hariannu'n uniongyrchol ar gyfer yr holl wasanaethau a ddarparant, maent yn gyfleusterau hanfodol, gan fynd â phwysau sylweddol oddi ar wasanaethau'r GIG a ariennir yn uniongyrchol. Treuliais beth amser eto yr wythnos diwethaf gyda Hosbis Tŷ'r Eos yn fy etholaeth, ac mae'r gwaith anhygoel y maent hwy a hosbisau ledled Cymru yn ei wneud i gleifion a theuluoedd ar yr adegau anoddaf yn eu bywydau yn amlwg iawn. Maent yn darparu urddas, cysur a chefnogaeth pan fydd fwyaf o'i angen ar bobl. Ond yng ngogledd Cymru, rydym eisoes wedi gweld gwasanaethau hanfodol mewn gofal hosbis a gofal lliniarol yn cael eu torri am nad oes digon o gyllid. Rwy'n parhau i glywed pryderon hosbisau ynglŷn â chyllid a sefydlogrwydd hirdymor. Nid ydym am weld y cyfleusterau hynny'n dod i ben yng Nghymru, ac yn enwedig yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Os ydym yn dweud ein bod yn parchu urddas mewn gofal iechyd, rhaid cefnogi gofal hosbis yn briodol fel y gall barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar bobl Cymru.

I gloi, Lywydd, rwyf am weld sicrwydd a diogelwch ym maes gofal iechyd. Mae angen ymrwymiad clir arnom i gynnal ein gwasanaethau ysbyty presennol, diogelu ein gwelyau lleol a buddsoddi'n gynaliadwy yn y seilwaith gofal iechyd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Lywydd. Pan fyddwn ni'n siarad am newid yn y gwasanaeth iechyd, mi ydyn ni'n sôn am rywbeth sydd yn hynod bersonol i bob unigolyn yng Nghymru. Rŷn ni'n sôn am y gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw pan fyddan nhw ar eu mwyaf bregus a phryderus ac angen cymorth. Ar yr adegau hynny, mae pobl eisiau'r union beth y byddem ni i gyd am i'n teuluoedd ein hunain ei gael: diogelwch, gofal o ansawdd uchel a'r siawns orau i wella. Dyna pam mae'r ddadl yma yn un bwysig.

Dwi eisiau dechrau trwy gydnabod y pryderon gwirioneddol sydd y tu ôl i'r cynnig. Bydd unrhyw gynnig i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty, waeth pa mor gryf mae'r achos clinigol yn ymddangos ar bapur, yn ennyn teimladau dwfn yn y cymunedau sy'n cael eu heffeithio, ac mae hynny'n ddealladwy. Dwi'n gwybod bod yr Aelod a gyflwynodd y cynnig yma wedi bod yn eirioli'n daer ar ran ei etholwyr dros ddyfodol Llwynhelyg a Bronglais. Dwi'n annog trigolion i barhau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sydd ar y gweill. Mae eich lleisiau chi'n bwysig ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu clywed.

Ond, fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn gwbl onest am yr heriau sydd o'n blaenau. Yn aml iawn, dyw'r dewisiadau rydym ni'n eu hwynebu ddim yn rhai syml, a dydyn nhw byth bron yn ddu a gwyn. Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd iechyd ers blynyddoedd, ac mi oedd un gwirionedd sylfaenol yn gyffredin i bob ymgyrch: nid y brics a'r mortar ydy'r peth pwysig, ond y gwasanaethau a'r canlyniadau. Mae hon yn ddadl am y ffordd yr ydym ni'n trefnu gofal iechyd er mwyn iddo fod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn wydn ac o'r safon uchaf posib, oherwydd nid dadl am adeiladau ydy hon yn y pen draw, ond dadl am ein hanwyliaid.

Rhan o'r her honno ydy cyflwr diymwad ystâd yr NHS yr ydyn ni wedi ei hetifeddu. Cafodd sawl rhan o'r isadeiledd ei greu ar gyfer oes hollol wahanol o ofal iechyd. Roedd 10 y cant o'n hystâd wedi'i hadeiladu cyn bodolaeth yr NHS hyd yn oed. Chafodd yr adeiladau hyn ddim o'u cynllunio ar gyfer technolegau modern, safonau rheoli heintiau modern nac anghenion cymhleth iawn ein cleifion heddiw. Mewn rhai mannau, mae oedran yr adeiladau yn llesteirio ein gallu i redeg gwasanaethau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae hynny'n bwysig, oherwydd ei fod yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, amodau gwaith staff a gwytnwch gwasanaethau. Mae'r her yn un sylweddol, a fedrwn ni mo'i hanwybyddu.

Mae angen sgwrs onest ynglŷn â sut yr awn ati i sicrhau bod ein hystad GIG yn gydnaws â gofal iechyd modern. Y cwestiwn y mae'n rhaid inni ei ofyn yw sut y cefnogwn ein staff yn y ffordd orau gyda'r gofod, y dechnoleg a'r amgylchedd sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r gofal arloesol gorau. Mae'n ymwneud â llunio gwasanaethau o amgylch modelau gofal modern sy'n gwella canlyniadau ac yn achub bywydau. Yn anffodus, mae'r gonestrwydd hwnnw ar goll yn llwyr o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lafur a Reform heddiw. Yn achos Llafur, gwelwn alwad sinigaidd heb ei chostio i adeiladu tri ysbyty newydd heb un gair o gydnabyddiaeth am yr ôl-groniad syfrdanol o waith cynnal a chadw gwerth £1.4 biliwn a ddatblygodd yn gyfan gwbl o dan eu goruchwyliaeth nhw. Nid ydynt yn cydnabod chwaith fod cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei gwasgu 9 y cant mewn termau real dros dymor y Senedd hon, canlyniad uniongyrchol i benderfyniadau ariannu a wnaed gan eu partneriaid nhw yn San Steffan.

Yn y cyfamser, mae Reform yn parhau i fod â diddordeb dwys yng nghynlluniau gwariant pleidiau eraill gan barhau'n hynod o swil i siarad am eu rhai nhw eu hunain. Mae'r distawrwydd hwnnw'n dweud llawer am blaid sy'n eilunaddoli anhrefn economaidd Liz Truss, yn gwastraffu miliynau mewn llywodraeth leol ac yr argymhellodd ei maniffesto doriadau treth heb eu costio a fyddai'n dinistrio gwasanaethau rheng flaen y GIG yn llwyr. Mewn cyferbyniad, mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Rydym yn rhoi camau pendant ar y gweill i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith ar ystadau a etifeddwyd gennym, oherwydd rwy'n gwrthod derbyn y status quo. Dyna pam fy mod i eisoes wedi cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol, gan nodi'r cam cyntaf mewn ymdrech barhaus i roi ein hystad GIG ar sail gryfach. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, fe gawsoch chi gyfle i gyfrannu.

Rydym hefyd yn gweithredu ar unwaith i gyflawni newid strwythurol. Yn ddiweddar, cyhoeddais £25 miliwn ar gyfer hybiau llawfeddygol a diagnostig newydd ledled Cymru. Mae'r hybiau hyn yn enghraifft wych o wneud pethau'n wahanol, gan wahanu llawdriniaeth wedi'i gynllunio oddi wrth ofal argyfwng i leihau rhestrau aros yn gynaliadwy. Ond Lywydd, ni fydd buddsoddi mewn adeiladau yn unig—[Torri ar draws.] Hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd, diolch. Ni fydd buddsoddi mewn adeiladau'n unig byth yn ddigon. Os ydym o ddifrif ynglŷn â gwella canlyniadau, rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â newid y ffordd y caiff gofal ei ddarparu. Wrth ymgymryd â'r swydd hon, cefais fy nharo gan ddiffyg cynllun clinigol cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad clir a chyson ar draws GIG Cymru. Dyna pam fy mod wedi grymuso'r cyfarwyddwr cyffredinol i ddatblygu un, er mwyn inni allu symud ymlaen gyda gweledigaeth ar y cyd a gwasanaeth iechyd cryfach a mwy cydlynol.

Ni fydd llwyddiant i'r Llywodraeth hon yn cael ei fesur gan faint o bobl y byddwn yn eu trin yn y pen draw mewn gwely ysbyty, ond gan faint o bobl y byddwn yn eu cadw'n ddigon iach i osgoi bod angen un yn y lle cyntaf. Rhaid inni symud ein ffocws i fyny'r afon, tuag at atal, ymyrraeth gynnar a gwasanaethau cymunedol pwerus, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael gofal yn agosach at adref. Drwy fuddsoddi'n helaeth y tu allan i furiau'r ysbyty mewn gofal sylfaenol, fferylliaeth, adsefydlu a gwasanaeth cymdeithasol integredig, gallwn ymyrryd yn gynharach. Dyma sut y byddwn yn lleihau pwysau y gellir ei osgoi ar ein hysbytai acíwt, yn gwella llif cleifion ac yn sicrhau bod y rhai sydd angen gwely ysbyty arbenigol yn gallu cael mynediad ato'n gyflymach. Er mwyn cyflawni hynny, rhaid i'n ffocws fod bob amser ar yr hyn sy'n gweithio orau i gleifion. Mae'r GIG ar ei gryfaf pan fo'n esblygu i ddiwallu anghenion y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dyna pam y mae'n rhaid inni wrando bob amser ar y bobl sy'n adnabod ein gwasanaeth iechyd orau: ein clinigwyr rheng flaen, ein nyrsys, ein meddygon, staff ehangach y GIG a'r cymunedau lleol sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn bob dydd. Pan fydd arbenigwyr clinigol yn dweud wrthym sut y gallwn wella cyfraddau goroesi neu sut y gallwn wneud gwasanaeth yn fwy diogel ac yn fwy gwydn, mae dyletswydd arnom i wrando. Nid oes a wnelo hyn â phenderfyniadau mympwyol neu newidiadau o'r brig i lawr, mae'n ymwneud ag ymrwymiad ar y cyd i sicrhau, pan fydd rhywun annwyl yn wynebu argyfwng meddygol, eu bod yn cael y safon uchaf posibl o ofal, gyda chefnogaeth yr arbenigedd clinigol gorau sydd ar gael. Ein hegwyddor arweiniol bob amser fydd gwrando, ymgysylltu a darparu'r gofal y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Onid dyma beth rydyn ni i gyd eisiau i'n teuluoedd ein hunain ac onid yw hi'n ddyletswydd wirioneddol arnon ni fel arweinwyr gwleidyddol i ymladd dros yr atebion sydd wir yn gwella cyfraddau goroesi a chanlyniadau iechyd cleifion, yn hytrach na dim ond amddiffyn y status quo oherwydd bod hynny'n gyfforddus yn wleidyddol? Mae'n golygu herio rheolwyr iechyd i fod yn arloesol, ond mae e hefyd yn golygu herio ein rhagfarnau ein hunain a dangos arweinyddiaeth go iawn. Pan fydd newid yn cael ei gynnig, rhaid i'r broses fod yn hollol gywir. Rhaid cynnal trafodaeth gynnar, agored ac ystyrlon efo'r gymuned, ac mae'n rhaid i bawb allu gweld y dystiolaeth a deall y rhesymau dros y newid a phwyso a mesur yr opsiynau yn onest. 

Yng Nghymru, mae daearyddiaeth, natur wledig rhannau o'r wlad, ein cysylltiadau trafnidiaeth a'r pwysau o ran y gweithlu yn dylanwadu ar y realiti dyddiol o gael mynediad at ofal. Does dim modd anwybyddu'r ffactorau hynny. Mae'n rhaid eu cloriannu'n briodol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Dyna pam mae'n rhaid i unrhyw newid sy'n cael ei gynnig i wasanaeth gael ei brofi'n drylwyr i fesur ei effaith ar degwch, a gall tegwch ddim bod yn ôl-nodyn, mae'n rhaid iddo fod yn brawf craidd o lwyddiant. 

Lywydd, mi wnaf i ddweud hyn i gloi: dyw'r ddadl yma ddim yn un du a gwyn, rhwng cadw'r gorffennol neu ei adael ar ôl. Yn y bôn, dadl am bobl ydy hon. Yr hyn sy'n bwysig ydy'r cyhoedd, y claf, yr unigolyn, yr aelod o'r teulu. Y cwestiwn ydy: a fydd y penderfyniadau a wnawn ni yn y Siambr yma yn rhoi gwell gofal, gwell mynediad a gwell siawns o fyw i'n hanwyliaid? Mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ystad pan fo modd ei moderneiddio, mae'n golygu cryfhau gwasanaethau yn y gymuned, mae'n golygu cael dewrder gwleidyddol i gefnogi newid sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Diolch.

17:15

Wel, wel, wel, Weinidog Cabinet, rydych chi wedi newid eich tiwn, onid ydych? Eich tiwn cyn yr etholiad diwethaf yn glir iawn oedd, 'Gadewch inni achub ein gwasanaethau ysbyty a gadewch inni achub ein hysbytai rhag cau', ond nawr rydych chi'n rhoi golau gwyrdd i ailffurfweddu ysbytai, canoli gwasanaethau, rhoi cleifion mewn perygl a chau ysbytai ledled Cymru, oherwydd fel arall fe fyddech chi'n cefnogi ein cynnig. Fe fyddech chi wedi cefnogi'r cynnig hwn cyn yr etholiad, ond nawr, ers yr etholiad, rydych chi wedi newid eich tiwn yn llwyr. Mae'n ofnadwy i'w weld, ac mae'r cyhoedd yn gallu ei weld. Roeddech chi'n ymgyrchu dros wasanaethau yn eich etholaeth chi, yn Ysbyty Tywyn—ie, Ysbyty Tywyn. Yn yr ysbyty hwnnw y bu'n ymgyrchu drosto ers blynyddoedd, cyflwynwyd newidiadau dros dro i'r gwasanaeth—newidiadau dros dro i'r gwasanaeth—gyda chau ward yn sgil y newidiadau dros dro hynny i'r gwasanaeth, oherwydd heriau staffio. Roeddwn i'n edrych yn ôl i weld pa bryd yr hysbysebodd y bwrdd iechyd am staff ddiwethaf. Digwyddodd hynny ym mis Ionawr 2024, rwy'n credu—Ionawr 2024—ar gyfer staff nyrsio i weithio ar y ward ysbyty honno. Nawr, dyma'r math o bethau rydych chi nawr yn troi eich cefn arnynt fel Gweinidog Cabinet.

Fe wnaethoch chi gytuno'n llwyr â Paul Davies, sydd wedi bod yn arwain y frwydr yn erbyn y newidiadau o ran israddio arfaethedig gwasanaethau strôc Bronglais. Roeddech chi ar ei ochr wrth ymgyrchu dros Ysbyty Llwynhelyg, pan oeddent yn cael gwared ar wasanaethau llawdriniaeth argyfwng o'r ysbyty hwnnw. Rydych chi eich hun wedi cwyno yn y gorffennol am y toriadau tameidiog i wasanaethau ysbyty i ffwrdd o rai o'r canolfannau pwysig hyn sy'n trin pobl yn ein cymunedau, ac eto, nawr, mae'n diwn hollol wahanol, onid yw? Rydych chi'n canu'r un diwn â'r Llywodraeth Lafur flaenorol. Dyna yw eich problem, ac nid yw'n edrych yn dda iawn o'r tu allan.

Nawr, fe ddywedaf hyn: rwy'n credu y dylai pawb yn y Siambr gefnogi ein cynnig heddiw. Mae'n anfon neges glir a diamwys iawn, nid yn unig i gleifion sydd eisiau gwybod bod y gwasanaethau'n mynd i fod yn eu cymunedau pan fydd eu hangen arnynt, ond hefyd i staff, oherwydd mae llawer o'r heriau recriwtio sy'n ein hwynebu yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn deillio o'r ansicrwydd y mae ailffurfweddu gwasanaeth yn ei olygu i staff. Os ydych chi'n gwybod bod eich gwasanaeth yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl, y peth olaf sydd angen i chi ei ddweud yw, 'Efallai y byddwn yn cau'r gwasanaeth yn yr ysbyty hwnnw, ond fe hysbysebwn y swydd beth bynnag.' Nid yw'n gwneud y tro. A dyna pam y mae gennym gymaint o broblemau.

Roeddwn wrth fy modd fod Gwyn Williams wedi ymweld â fy etholaeth i weld drosto'i hun y gwasanaethau rhagorol sy'n cael eu darparu yn uned llygaid Stanley yn Ysbyty Abergele. Y tro diwethaf imi fynd i'r ysbyty hwnnw ac ymweld â'r tîm orthopedig yn yr ysbyty hwnnw, dim ond un gwely oedd mewn defnydd yn yr ysbyty cyfan. Mae ganddo gapasiti i wneud llawer mwy. A'r hyn rydym mewn perygl o'i wneud yw rhoi'r capasiti hwnnw o'r neilltu, peidio â'i ddefnyddio—nid yn unig yn Abergele, ond mewn mannau eraill hefyd, ledled Cymru—a dal i ganiatáu i'r pwysau gynyddu yn ein prif ysbytai cyffredinol dosbarth. A dyna pam y mae'r rhwydwaith presennol o ysbytai ledled Cymru yn bwysig. Fe'u hadeiladwyd yn y lleoliadau hynny at bwrpas, a dyna pam y mae angen inni eu cynnal.

Nawr, rwy'n derbyn yn llwyr fod rhai ohonynt yn hen, yn gwegian ac angen eu hailadeiladu. Dyna pam ein bod ni'n llwyr gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, ar yr angen i gael ysbyty newydd wedi'i adeiladu ar safle Ysbyty Prifysgol Cymru, oherwydd, yn onest, mae mwy o golomennod yn rhai o'r theatrau yno nag o gleifion, ac mae hynny'n annerbyniol hefyd. Ni all pobl weithio yn y mathau hynny o amgylcheddau, mae'n anniogel i bobl, ac mae angen buddsoddiad ar y safle hwnnw. Mae angen inni weld buddsoddiad hefyd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Gall unrhyw un sydd wedi bod yno weld bod gwir angen ei ailadeiladu, i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben ac ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Fe gawsom raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen rhaglen ysbytai yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru, gyda buddsoddiad strwythuredig dros y tymor hwy er mwyn ailadeiladu ein hysbytai a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio i staff a'u bod yn gweithio i gleifion hefyd.

Ac yng ngorllewin Cymru, yr hyn nad oes ei angen arnom yw canoli gwasanaethau yng Nglangwili. Er mwyn etholwyr y Gweinidog Cabinet dros Gyllid ei hun, ac eraill yn y Siambr hon, mae angen buddsoddiad arnom ym Mronglais. Mae angen buddsoddiad yno ym Mronglais yn Aberystwyth, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau dyfodol Llwynhelyg, gyda buddsoddiad priodol yn y capasiti theatr, yn y capasiti gwelyau, fel y gall wneud y gwaith y mae bob amser wedi'i wneud yn y gorffennol, gydag adran gwasanaethau argyfwng lwyr weithredol ac sy'n gallu ymdopi ag unrhyw beth sy'n cyrraedd drws blaen yr ysbyty.

Nawr, weithiau, rwy'n deall ei bod hi'n well teithio ymhellach i gael triniaeth fwy arbenigol. Mae hynny wedi bod yn wir erioed. Ond fel y mae llawer o bobl eisoes wedi'i nodi yn y Siambr hon heddiw, mae Cymru'n genedl wledig. Mae'n cymryd amser hir, weithiau, i fynd o un lle i'r llall. Yn enwedig mewn sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd, ni allwch ddisgwyl i bobl orfod gwneud teithiau hwy sy'n peryglu eu bywydau. Gyda gofal wedi'i gynllunio, mae'n wahanol. Rwy'n deall hynny. A chyda gofal wedi'i gynllunio, gall pobl gymryd eu hamser oherwydd gallant ei gynllunio weithiau wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ymlaen llaw. Ond mae ffurfweddiad presennol ein hysbytai yn allweddol, ac os gallwn fuddsoddi yn ein rhwydwaith ysbytai presennol, os gallwn ddefnyddio'r capasiti gwelyau yn y rhwydwaith ysbytai hwnnw i'r eithaf, gallwn sicrhau newid radical, gwelliant ym mhrofiadau cleifion mewn ysbytai ledled Cymru, ac rwy'n credu mai dyna beth y mae pobl eisiau ei weld.

Nawr, rydych chi wedi nodi buddsoddiad mewn rhannau eraill o'r GIG, mewn gwasanaethau cymunedol. Rwy'n croesawu hynny. Ond yr hyn rydych chi hefyd yn ei awgrymu—clywais Weinidogion Cabinet yn siarad am hyn—yw buddsoddi yn y celfyddydau er mwyn osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Rwyf wedi clywed sôn am hyn. Os oes gan rywun broblem orthopedig, y peth olaf sydd ei angen arnynt yw gwers ddawns. [Chwerthin.] Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw tocyn i ŵyl gerddoriaeth bop lle mae grŵp sy'n cefnogi terfysgwyr yn perfformio. Nid ydynt eisiau'r pethau hynny. Nid ydynt eisiau mynd i weld cyflwyniad yn null Extinction Rebellion yn un o'n hamgueddfeydd. Yr hyn y maent eisiau ei weld yw buddsoddiad yn yr ysbytai hynny. Ac os ydych chi'n mynd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol—[Torri ar draws.] Os ydych chi'n mynd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol, yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, yr hyn y mae'n god amdano mewn gwirionedd yw eich bod chi'n mynd i roi'r gorau i ariannu ysbytai ac nad ydynt yn mynd i gael yr arian sydd ei angen arnynt—oni bai bod gennych lond cist o arian y gallwch ei fuddsoddi yn y gwasanaethau cymunedol hynny ar yr un pryd. Oherwydd mae pawb ohonom wedi clywed yr holl addewidion hyn o'r blaen, rydym wedi'i weld yn y gorffennol, cawsom addewid o wasanaethau cymunedol gwych a, 'Dyna pam y mae'n iawn cau'r ysbyty cymunedol i lawr y ffordd', ac nid yw byth yn cael ei wireddu. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

17:25

A ydych chi'n gweld budd yr agenda atal, fodd bynnag, ac adsefydlu pobl a'r ffordd y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol helpu gyda hynny i gael pobl yn ffit ac yn barod ar gyfer eu llawdriniaethau? Mae hynny'n cyd-fynd yn rhannol â'r gyllideb ddiwylliannol hefyd. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi'n cydnabod hynny.

Fel y gwelwch, rwy'n ffan mawr o chwaraeon. [Chwerthin.] Yn ffan mawr o chwaraeon. Wrth gwrs fy mod yn gweld. Wrth gwrs fy mod yn gweld pwysigrwydd yr agenda ataliol. Mae angen inni fuddsoddi yn yr agenda ataliol. Ond y cwestiwn sydd gennyf i'r Gweinidog Cabinet yw hwn: os ydych chi'n mynd i fuddsoddi o'r un swm o'r gyllideb, os ydych chi'n mynd i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cymunedol ac os ydych chi'n mynd i fuddsoddi mwy yn yr agenda ataliol, boed yn chwaraeon neu unrhyw beth arall, mae hynny'n golygu eich bod chi'n mynd ag arian oddi wrth rywbeth arall rydych chi eisoes yn gwario arno. A'n hysbytai yw hynny, yn digwydd bod. Felly, mae angen inni warantu dyfodol yr ysbytai hyn—[Anghlywadwy.] Wel, pam na wnewch chi ymyriad a dweud wrthyf o ble rydych chi'n mynd i gael yr arian? Ewch amdani.

Nid oes llawer mwy o amser, mae arnaf ofn, Darren.

Fe fyddaf yn raslon wrtho, rwy'n hapus iawn i fod. Felly gwrandewch, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon i gefnogi'r cynnig gwreiddiol. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno, ac rydym yn cefnogi gwelliant Reform, rydym yn cefnogi gwelliannau Llafur hefyd, ond rydym yn gwrthod gwelliant Plaid Cymru am nad yw'n rhoi unrhyw sicrwydd o gwbl i staff na chleifion, ac mae hynny'n annerbyniol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Reform UK: Deddf Afonydd i Gymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 2 yn enw Lynne Neagle, a gwelliant 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Nawr rydyn ni'n symud i eitem 7, dadl Reform UK: Deddf afonydd i Gymru. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9259 Llŷr Powell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddf afonydd Cymru i fynd i'r afael ag atebolrwydd o ran gollyngiadau carthion, i gefnogi mesurau rheoli maetholion ar draws dalgylchoedd, a gwobrwyo gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd dŵr.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno ein cynnig heddiw ger eich bron, a'i gynnig yn ffurfiol yn enw Llŷr Powell a Reform. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf afonydd i Gymru, deddf y bu hir alw amdani. Rwy'n credu bod pob un ohonom yma yn cytuno bod cyflwr ein afonydd, ein moroedd a'n dyfrffyrdd, a faint o lygredd sydd ynddynt yn gwbl annerbyniol. Rwy'n gobeithio mai y Senedd hon, pob un ohonom yma, yn drawsbleidiol, fydd y rhai cyntaf i roi camau priodol ar waith i unioni'r sefyllfa.

Rydym ni yn Reform yn credu y bydd crynhoi'r camau hynny mewn Deddf yn dangos ein hymrwymiad fel Senedd i wneud hyn, ac mae'n sicrhau y cawn ein dwyn i gyfrif am yr addewidion hynny. Mae'n dorcalonnus gweld cyflwr yr afonydd sy'n rhedeg drwy ein gwlad hardd a'r moroedd sy'n ein hamgylchynu yn llawn algâu gwyrdd a charthion heb eu trin. Mae ein cynnig yn syml—mae'n galw am atebolrwydd ynghylch gollyngiadau carthion, rheoli maethynnau ar draws dalgylchoedd a gwobrwyo gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd dŵr sy'n ymarferol, yn rhesymol ac y bu hir alw amdanynt. Mae pob Aelod yn y Siambr hon yn gwybod y gwir—rydym yn gwneud cam â'n hafonydd, eu bywyd gwyllt, eu cynefinoedd a'n hetholwyr ar hyn.

I mi, mae'r mater yn agos at fy nghalon. Cefais fy magu ym Mrynbuga, dafliad carreg o afon Wysg. Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n falch iawn ei bod yn afon enwog ar gyfer pysgota eogiaid, gydag enw da yn fyd-eang a ddeuai â thwristiaeth, bywyd a balchder i'n hardal. Arferai wynebau enwog ddod i bysgota yno, yn cynnwys ambell James Bond, Billy Connolly a rhai aelodau o'r teulu brenhinol. Roedd siop Sweet's Fishing Tackle yno yn adnabyddus ymhell y tu hwnt i Gymru; roedd ganddi enw da rhyngwladol yn ymestyn cyn belled â Tsieina. Dyna oedd yr enw da a oedd i afon Wysg a Brynbuga ar un adeg. Ac roedd yr afon nid yn unig yn wych ar gyfer pysgota, roedd yn lle gwych i chwarae ac i deuluoedd ei fwynhau. Roeddwn i'n chwarae a physgota yno yn rheolaidd fy hun pan oeddwn yn tyfu i fyny. Ond nawr, mae carthion, llygredd ac algâu wedi cymryd lle'r eogiaid a'r brithyllod toreithiog a'r ecosystemau sy'n eu cynnal, gan niweidio twristiaeth, balchder lleol, bywyd gwyllt a gadael plant bellach yn mynd i mewn i'n hafon ar eu menter eu hunain.

Ac yn anffodus, nid yw stori afon Wysg yn fy etholaeth yn unigryw; mae'n broblem sy'n falltod ar Gymru gyfan, fel y bydd fy nghyd-Aelodau ac eraill ar draws y Siambr yn ei nodi ymhellach yn ystod y ddadl hon, rwy'n siŵr. Mae'r dystiolaeth genedlaethol yn ddamniol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio nad yw gwydnwch ecosystemau dŵr croyw wedi gwella ers yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diwethaf yn 2020. Rhagwelir y bydd eogiaid bellach wedi diflannu'n lleol yn rhai o'n hafonydd yng Nghymru erbyn 2030. A dim ond 40 y cant o gyrff dŵr Cymru sydd wedi'u dosbarthu'n rhai mewn cyflwr da neu well yn gyffredinol. Felly, mae'r Ddeddf afonydd Cymru yr ydym yn ei hargymell heddiw yn ymateb brys i ddirywiad difrifol a mesuradwy ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau ar ddau ben yr M4.

I droi at y gwelliannau, fe welwn welliant Plaid Cymru. Gallwn gytuno'n llwyr â'r rhan fwyaf o'r nodau cyffredin y mae ein dwy blaid am eu cyflawni, yn amlwg, ond a oes angen datganoli'r sector dŵr yn llawn er mwyn cyflawni hyn, pan fo gennym bwerau yma yng Nghymru eisoes nad ydynt wedi cael eu defnyddio'n briodol? A pha mor hir fyddai hynny'n ei gymryd? Pa mor hir fyddai hynny'n ei gymryd? Mae gennym gorff yn CNC sy'n llawer rhy brin o adnoddau ac sy'n cyflawni llawer gormod o swyddogaethau i allu canolbwyntio'n llawn ar ein dyfrffyrdd a rhoi iddynt y sylw y maent ei angen ac yn ei haeddu.

Ar ôl edrych ar y gyllideb atodol, ni allaf weld unrhyw arwydd ynddi o'ch bwriad i lanhau dŵr, ac rwy'n meddwl tybed pam na soniodd y Gweinidog am hyn yn ei araith ddoe lle nododd—[Torri ar draws.] Gallaf ddyfynnu'r hyn a ddywedoch chi. Fe ddywedoch chi fod plant a theuluoedd yn haeddu dyfrffyrdd glân, ac mae hynny'n wir, ond ni fanyloch chi ar hynny, Weinidog.

17:30

Laura, a wnewch chi barhau?

Gallaf, diolch, fe wnaf. [Torri ar draws.] Iawn. Buaswn yn gwerthfawrogi clywed beth sydd gennych i'w ddweud yn nes ymlaen.

Rwy'n gobeithio y gwnewch chi achub ar y cyfle hwn nawr, Weinidog, i gefnogi ein cynnig heddiw a dangos i bobl Cymru fod glanhau ein hafonydd, ein moroedd a'n dyfrffyrdd yn flaenoriaeth go iawn i'ch Llywodraeth hefyd. Rydym am i'n cynnig fod yn un sy'n ennyn camau gweithredu go iawn ar hyn, i ysgogi'r Llywodraeth a'r Senedd i weithredu.

Y Ceidwadwyr—rydym yn cytuno'n llwyr â'ch gwelliant nad yw CNC yn addas i’r diben ac yn gallu cyflawni ei swyddogaethau mwyach, rhywbeth y gwn ei fod eisiau ei wneud mewn gwirionedd, ond ei fod wedi'i gyfyngu gan faint y gwaith, ei amrywiaeth, ac am nad yw'n cael ei ariannu'n ddigonol i fodloni'r gofynion hynny.

Ac unwaith eto, gyda gwelliant Llafur, mae llawer y gallem gytuno yn ei gylch. Yr hyn sy'n gwbl amlwg yw ein bod i gyd eisiau gweld yr un pethau'n cael eu cyflawni yma. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym a sicrhau mai'r Senedd hon sy'n achub ein hafonydd, ein moroedd, ein dyfrffyrdd ac yn eu diogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Mae'n deg fod Llafur wedi sôn am adolygiad Bolton. Mae'n synhwyrol, a gwn fod y Llywodraeth a'r Gweinidog wedi sefyll yma ac eisoes wedi ymrwymo i edrych ar ei ganfyddiadau.

Fy ngobaith nawr yw y bydd y Llywodraeth hon yn gwrando ar ein ffermwyr ac yn gweithio gyda nhw law yn llaw, er mwyn rhoi’r gorau i ffermio yn ôl y calendr, a sicrhau bod yr atebion technegol ar waith i fynd i’r afael â llygredd, rhywbeth y gwn fod y sector amaethyddol cyfan eisiau ei gyflawni hefyd. Mae’n ddigon hawdd i bobl sefyll yma a beio ffermwyr, ond mae’r Seneddau blaenorol yr un mor gyfrifol.

Rydym yn croesawu Bil dŵr Llywodraeth y DU, ond ni fydd hwnnw ynddo'i hun yn adfer yr afonydd glân ac iach y mae fy etholwyr i a'ch rhai chi yn galw'n gwbl briodol amdanynt. Mae angen i'r Senedd hon weithredu nawr. Mae'n teimlo'n hollol anghywir fod gofyn i aelwydydd dalu mwy drwy eu biliau dŵr tra bo'r methiant hwn yn parhau. Sut y gall fod yn iawn fod penaethiaid dŵr Cymru’n cael cyflogau a bonysau anferthol tra bo llygredd afonydd yn parhau? Mae ein hafonydd yn perthyn i Gymru, i'r cymunedau a adeiladwyd o'u cwmpas, ac i genedlaethau'r dyfodol na ddylent orfod gofyn pam y gwnaethom ganiatáu iddynt ddirywio i'r fath raddau.

Byddai Deddf afonydd Cymru yn rhoi fframwaith i Gymru fynd i'r afael ag atebolrwydd o ran gollyngiadau carthion, i gefnogi mesurau rheoli maethynnau ar draws dalgylchoedd ac i sicrhau gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd dŵr. Edrychaf ymlaen at yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon i wrthod gwelliannau heddiw sydd wedi glastwreiddio ein cynnig, ac i gefnogi ein galwad glir am Ddeddf afonydd Cymru ac i symud y tu hwnt i eiriau cynnes ac atebolrwydd gwan, a dechrau adfer o'r diwedd yr afonydd, y moroedd a'r dyfrffyrdd y dylai Cymru fod yn falch ohonynt gyda'r brys sydd ei angen. Diolch.

17:35

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wdnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gwarchod ein hafonydd drwy ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddŵr yng Nghymru, gan ddiwygio’r trosolwg rheoliadol, atgyfnerthu atebolrwydd cwmnïau dŵr ac ysgogi gwelliannau o ran perfformiad amgylcheddol ein hafonydd, ein llynnoedd a’n moroedd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Llyr Gruffydd 17:35:25
Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability

Cynnig.

Galwaf ar Vikki Howells i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.

Gwelliant 2—Lynne Neagle

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno bil dŵr glân i Gymru i fynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr;

b) annog Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i flaenoriaethu buddsoddiad i fynd i'r afael â helbulon llygredd carthffosiaeth;

c) cadw at holl argymhellion Adolygiad Annibynnol Dr Susannah Bolton o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a chynyddu gorfodi; a

d) ariannu gwyddonwyr-ddinasyddion o'r flwyddyn ariannol hon ymlaen a gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewn dull sy'n seiliedig ar systemau i adfer ein hafonydd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 3—. O, sori.

Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Diolch. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Wrth imi wneud hynny, wrth inni ymgynnull yma yn y gwres eithafol hwn, rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno bod dŵr ar flaen ein meddyliau, boed yn ddŵr ar gyfer yr ardd, dŵr ar gyfer cnydau fferm neu ddŵr i oeri ynddo. Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd ac mae hefyd yn rhan o'n hunaniaeth yma yng Nghymru. Mae gan ein hafonydd le unigryw yn ein calonnau, ond maent hefyd yn cyflawni swyddogaeth angenrheidiol yn galluogi natur i ffynnu. Os ydym am gyrraedd targedau bioamrywiaeth ac adfer natur, maent yn hanfodol.

Ers i'r Torïaid breifateiddio'r diwydiant dŵr mewn crwsâd ideolegol ym 1989, ni allwn ddweud bod pethau wedi gwella i'n hafonydd. Gallwn wneud yn well ac mae’n rhaid inni wneud yn well i reoleiddio, ac rwy'n falch fod gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i unioni camweddau'r gorffennol drwy ailosod y gyfundrefn lywodraethu dŵr yn gyfan gwbl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU wedi gosod y sylfaen ar gyfer hyn. Rydym yn cydnabod bod angen glanhau ein hafonydd a'n moroedd a gwella ein system ddŵr ar frys. Rydym hefyd yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae galw cyhoeddus aruthrol amdano, fel y mae arolygon barn diweddar ar gyfer WWF wedi'i bwysleisio.

Y llynedd, sefydlodd y ddwy Lywodraeth y Comisiwn Dŵr Annibynnol ar y cyd i gynnal yr archwiliad mwyaf cynhwysfawr o'r sector dŵr ers ei breifateiddio. Dywedodd wrthym fod y system bresennol yn rhy gymhleth. Mae'n brin o'r tryloywder a'r ymatebolrwydd y mae pobl yn ei ddisgwyl. Rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno ar hyn. Dyna pam ein bod yn cefnogi'r syniad o greu rheoleiddiwr dŵr economaidd newydd i Gymru, sydd â'r awdurdod a'r annibyniaeth i weithredu'n bendant dros Gymru. Mae angen inni gryfhau atebolrwydd, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu system sy'n symlach, yn gryfach ac yn fwy tryloyw. Rydym am weld y corff gwarchod dŵr newydd hwnnw'n cael ei ategu gan ddeddfwriaeth newydd a fframwaith rheoleiddio modern sy'n hybu buddsoddiad ac sy'n sicrhau system ddŵr sy'n gweithio i Gymru.

Yn ein maniffesto, dywedasom ein bod eisiau cyflwyno Bil dŵr glân i Gymru er mwyn mynd i’r afael â phob math o lygredd dŵr, nid yn unig yn ein hafonydd, ond yn ein moroedd hefyd. Mae’n siŵr y bydd llawer o leisiau yn y Siambr heddiw'n gwneud galwadau tebyg. Ac mae’n rhaid inni fynd ymhellach wrth fynd i’r afael ag achosion y llygredd hwn. A wnaiff Llywodraeth Plaid Cymru annog Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i flaenoriaethu buddsoddiad i fynd i’r afael â phroblem llygredd carthion?

Ond nid y cwmnïau dŵr yn unig sy'n llygru ein hafonydd. Rydym am leihau llygredd amaethyddol, sy'n niweidio ansawdd dŵr. Lluniwyd y rheoliadau sy'n rheoli llygredd amaethyddol i'r diben hwn. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Plaid Cymru i lynu wrth holl argymhellion adolygiad annibynnol Dr Susannah Bolton o reoliadau rheoli llygredd amaethyddol a chynyddu gorfodaeth mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Mae'n bwysig nodi nad oedd Dr Bolton yn argymell cael gwared ar gyfnodau gwaharddedig ar hyn o bryd, a nododd y dylai unrhyw ddewis amgen a ddatblygir ei gwneud yn ofynnol i fferm allu

'dangos bod angen y maethynnau ar y cnwd a bod y risg o golli maethynnau i ddŵr yn fach iawn.'

Diolch. Onid ydych chi'n cydnabod, serch hynny, nad yw ffermio yn ôl y calendr yn gweithio? Yr hyn y gallwch ei gael yw cyfnod sych iawn yn y cyfnod gwaharddedig pan na all ffermwyr wasgaru slyri, ond yna yn y cyfnod agored, gallent fynd ati i wasgaru pan fydd hi'n arllwys y glaw, sy'n gwbl anghyfrifol. Felly, mewn gwirionedd, mae'n debyg mai dull mwy seiliedig ar ffermio, fel y mae'r Gweinidog, a bod yn deg, yn symud tuag ato, yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â hyn yn y tymor hir, ac argymhellwyd hynny yn adolygiad Bolton, mewn gwirionedd.

Yn union, James. Diolch am eich ymyriad. Rwy'n derbyn eich pwynt. Mewn gwirionedd, pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor amaethyddiaeth ac amgylchedd, buom ar ymweliad diddorol iawn i weld rhai o'r mathau newydd hyn o dechnoleg ar waith. Rydym yn eu cefnogi'n llwyr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau eu bod yn barod ac yn addas i'r diben cyn inni symud tuag at ddod â'r cyfnodau gwaharddedig i ben yn y ffordd honno.

Fel y dyfynnwyd gan Dr Bolton felly, mae dewisiadau amgen sy'n bodloni'r safon hon yn cyflwyno heriau technegol, ariannol a rheoleiddiol i asiantaethau'r Llywodraeth a ffermwyr ar hyn o bryd, ac ar y pwynt hwn, rhaid inni gofio bod lleihau maethynnau mewn dŵr ffo neu'r angen i orddefnyddio maethynnau mewn gwirionedd yn gwella gwydnwch ariannol busnesau fferm hefyd. Mae gwastraffu adnoddau nitrogen sydd ar gael yn costio oddeutu £21 i £52 yr hectar y flwyddyn i'n ffermwyr mewn costau gwrtaith.

Yn olaf, hoffwn droi at ran olaf ein cynnig, sef cymorth i wyddonwyr-ddinasyddion, a all fod mor werthfawr wrth fonitro llygredd afonydd. Ceir grwpiau ledled Cymru, gan gynnwys Cyfeillion Afon Gwy, sy'n gwneud y gwaith gwych o gasglu'r data hwnnw. Maent yn dweud—ac rwy'n cytuno—fod angen gwell monitro arnom i ddarganfod ble mae maethynnau, yn enwedig ffosffadau, yn mynd i mewn i'n cyrsiau dŵr, fel y gallwn nodi mannau problemus o ran llygredd a defnyddio'r wybodaeth honno i ysgogi newid er mwyn glanhau ein hafonydd. Mae angen inni ymgysylltu'n well â grwpiau gwyddoniaeth y dinesydd ac ystod ehangach o bartneriaid drwy ddull sy'n seiliedig ar systemau i adfer ein hafonydd drwy reoli ar lefel dalgylchoedd. Mae pobl ledled Cymru eisiau i'r Llywodraeth lanhau ein hafonydd a'n moroedd, ac rydym yn credu bod y gwelliant hwn gan Lafur Cymru yn mynd yn llawer pellach na'r cynigion gan bleidiau eraill tuag at gyflawni hynny. Diolch.

17:40

Diolch. A sori am ruthro cynt. Andrew R.T. Davies, galwaf arnoch chi i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i reoleiddio llygredd gan y diwydiant dŵr yng Nghymru yn ddigonol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu Cyfoeth Naturiol Cymru a rhoi rheoleiddiwr yn ei le sy'n addas i'r diben.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies ar y papur trefn y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn dechrau o'r rhagdybiaeth, fel Ceidwadwr, y dylai deddfwriaeth fod yn un o'r dewisiadau olaf y dylech eu defnyddio mewn gwirionedd, gan mai'r cyfan a wnewch yw creu dadl rhwng cyfreithwyr ar ôl cyflwyno'r ddeddfwriaeth, ac nid ydych yn datrys unrhyw broblemau i bobl gyffredin mewn gwirionedd. Felly, hoffwn weld gwladwriaeth fach yn hytrach na gwladwriaeth fawr, ond ar y mater penodol hwn, mae pobl yn teimlo'n ddi-rym ac maent yn teimlo nad oes unrhyw beth yn digwydd i'w cynorthwyo.

Yn ddiweddar, ymwelais â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Cynffig ac edrychais ar afon Cynffig. Gwn fod Aelodau eraill yn y Siambr hon wedi gwneud yr un peth. Mae gweld afon hollol farw yn eithaf llwm mewn gwirionedd, a dweud y lleiaf—ei gweld yn bydredig ac yn drewi. Buom yn trafod hyn yn y swyddfa y bore yma, yr ymweliad hwn, a'r un peth a arhosodd ym meddyliau'r bobl a ddaeth gyda mi ar yr ymweliad hwnnw oedd y diffyg sŵn adar. Oherwydd gallech ddweud bod yr afon yn farw a bod popeth yn yr afon wedi marw gyda hi, ond mewn gwirionedd, o ran y bywyd gwyllt o'i chwmpas, roedd y drewdod pydredig a'r llygredd arall a ddeuai ohoni wedi lladd y bywyd gwyllt hwnnw hefyd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Cynffig a'r ddau Martin a gyfarfu â mi ar y safle i ddangos i mi'n uniongyrchol beth oedd yn digwydd yno, gan nad yw achos afon Cynffig yn ddigwyddiad unigryw; mae'n digwydd ledled Cymru gyfan, a'r Deyrnas Unedig yn wir, ond yn anffodus, Cymru sydd wedi'i heffeithio waethaf. Os edrychwch ar ollyngiadau carthion ledled Cymru gyfan, bu 118,000 o ollyngiadau carthion yn 2024. Os cymharwch hynny â Lloegr, mae'n 450,000 yn Lloegr, gyda phoblogaeth sydd 18 gwaith yn fwy na Chymru. Felly, mae gennym broblem fwy yma yng Nghymru ac ni allwn eistedd yn ôl a gadael iddi barhau.

Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn i Surfers against Sewage, na fyddent yn gymheiriaid naturiol i'r Blaid Geidwadol, efallai, am yr wybodaeth y maent wedi'i darparu a'r adroddiad cynhwysfawr y maent wedi'i lunio, yn edrych ar bob agwedd ar y sefyllfa ledled y DU. Nid ydym yn unigryw, ond y pwynt roeddwn yn ei wneud yn yr ystadegau hynny oedd ein bod, yn anffodus, ar frig y tabl gyda rhai o'r ffigurau hyn, ac mae angen inni wneud yn llawer gwell.

Y rheswm pam ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant ynghylch CNC yw am nad yw CNC, gwaetha'r modd, fel y rheoleiddiwr, yn gwneud y gwaith y rhagwelwyd y byddent yn ei wneud yn y lle cyntaf pan gawsant eu creu. Ac nid bai staff CNC yw hynny. Maent yn gweithio’n ddiflino i wneud yr hyn a allant, ond maent yn wynebu pwysau enfawr ar y sefydliad a’r ffordd y cafodd ei lunio yn y lle cyntaf.

Fe ddaethoch â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd at ei gilydd, rhoi'r cyfan at ei gilydd, gan feddwl mai gorau po fwyaf fyddai'r sefydliad. Wel, nid gorau po fwyaf yn yr achos hwn. Ac yn yr adroddiad hwn, mae gan Surfers against Sewage baragraff neu ddau yn benodol ar CNC, lle maent yn dweud:

'Rheoleiddiwr Llipa

'Mae hyn oherwydd bod Cyfoeth Naturiol Cymru..., rheoleiddiwr amgylcheddol a ddylai fod yn rhoi terfyn ar y llygredd hwn, yn llanastr llwyr.

'Y llynedd, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru setlo bil treth gwerth £19 miliwn yn dilyn ymchwiliad gan Gyllid a Thollau EM i’r modd yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflogi contractwyr. Mae’r rheoleiddiwr yn awr yn gostwng costau er mwyn ceisio ad-dalu’r ddyled. '

Dau gant a—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:45

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Fe sonioch chi nad oeddech yn cefnogi CNC, ond tybed a fyddech chi'n eu cefnogi gyda phwerau ychwanegol ac adnoddau ychwanegol.

Wel, dyna bwynt ein gwelliant, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi sefyll arno ers 2019, pan oeddwn yn y swydd hon ar y pryd, yn galw am ddiwygio ac ad-drefnu CNC, fel eich bod yn gwahanu'r gweithrediadau masnachol oddi wrtho, fel y Comisiwn Coedwigaeth, ac yn creu corff rheoleiddio a fyddai'n dwyn yr arbenigedd ynghyd, ac a fyddai wedi'i ariannu'n iawn i orfodi'n briodol y rheoliadau a osodir gan y lle hwn a lleoedd eraill, ac a fyddai'n gwneud y gwaith y byddai pobl eisiau eu gweld yn ei wneud. Ar hyn o bryd, maent yn rhy fawr ac nid oes ganddynt ffocws, ac mae angen ichi wahanu'r ochr Comisiwn Coedwigaeth oddi wrtho ac adeiladu rheoleiddiwr a all wneud y gwaith y gofynnwn iddynt ei wneud.

A byddaf yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn ei ateb, gan y gallaf gofio pan oedd yn yr wrthblaid, ac roedd ganddo eiriau llym iawn i'w dweud am CNC, a tybed a yw wedi bod ar yr un daith â'r Gweinidog iechyd—o wrando ar y Gweinidog iechyd yn gynharach y prynhawn yma—ac mae'r swyddogion, fel y dywedais wrtho brynhawn ddoe, bellach wedi'i roi yng nghawell y gwasanaeth sifil, a bydd yr araith y byddwn yn ei chlywed y prynhawn yma yn araith gwasanaeth sifil, yn hytrach na'r llefarydd angerddol a huawdl hwnnw yr arferai Llyr fod pan oedd yn yr wrthblaid. Rwy'n gobeithio y bydd yn feiddgar y prynhawn yma wrth ymateb i'r ddadl hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn dangos cynllun i ni fel y gallwn rymuso cymunedau fel y rhai y bûm yn siarad â nhw yng Nghynffig a gwirfoddolwyr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Cynffig. Peidiwch â'u siomi, Weinidog. Rhowch rywbeth inni fynd adref gyda ni o'r ddadl hon. Gadewch inni ad-drefnu'r rheoleiddiwr, gadewch inni gefnogi'r alwad am ddeddfwriaeth ar lygredd dŵr, a gadewch inni fod yn batrwm o arfer da yn hytrach na llusgo ein traed mewn perthynas â llygredd ledled Cymru gyfan. Diolch.

Rwy'n falch o siarad i gefnogi Laura Anne Jones yn y ddadl yma. I mi, nid trafodaeth syml ynghylch polisi yw hon, mae'n drafodaeth bersonol iawn i mi. Rwyf wedi byw ar lan afon Dyfrdwy ers amser maith. Efallai nad ydych yn gwybod, ond fe'i gelwir yn 'dduwies yr afon' mewn chwedloniaeth Geltaidd. Mae fy nhref enedigol, Fflint, ar aber afon Dyfrdwy a bu'n dref ffynhonnau ar un adeg. Nid yw'n dref ffynhonnau mwyach. Mae llawer o ddiwydiant wedi dod yno dros y blynyddoedd—cyflogwyr fel Courtaulds a John Summers & Sons Ltd. Rwyf hyd yn oed yn cofio cwmni gwaith cemegol o'r enw Glanzstoff a oedd yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Ond daeth ffyniant, a rhoddodd y ffyniant hwnnw gyfleoedd i lawer o bobl a oedd yn byw ar lan afon Dyfrdwy, gan gynnwys fy nheulu fy hun.

Roedd fy nhad yn gweithio yn y gwaith dur. Roedd llawer o aelodau o fy nheulu'n gweithio yn y diwydiannau dur a rayon, a oedd yno hefyd, a'u gwaith caled nhw a adeiladodd ffyniant gogledd-ddwyrain Cymru, ac nid y Fflint yn unig. Fodd bynnag, cyfrannodd y datblygiad economaidd a fu o fudd i gymaint o bobl at y dirywiad hir yn iechyd yr afon, a oedd wedi cynnal y cymunedau hynny ers amser maith. Roeddent yn deall rhywbeth rydym ni mewn perygl o'i anghofio heddiw. Nid yw afonydd fel afon Dyfrdwy yno i ni fod yn berchen arnynt; maent yno i ni eu gwarchod. Dim ond ceidwaid ydym ni, yn gyfrifol am ofalu amdanynt cyn eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Dyna pam fod y ddadl hon heddiw mor bwysig.

Ar ôl mwy na dau ddegawd o Lywodraeth Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru dros lawer o'r blynyddoedd diwethaf, rydym yn dal i drafod afonydd llygredig, gollyngiadau carthion a safonau ecolegol sy'n methu. Mae gan y cyhoedd hawl i ofyn: ble mae'r canlyniadau? Mae pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi cael llond bol ar glywed am strategaethau, cynlluniau gweithredu ac ymgynghoriadau. Y prawf gwirioneddol yw i ba raddau y mae'r uchelgeisiau hynny'n arwain at afonydd glanach a gwelliannau mesuradwy ar lawr gwlad. Pe bai dogfennau ymgynghori yn glanhau afonydd, byddai gan Gymru afonydd glân iawn erbyn hyn, mentraf ddweud. Ond yn lle hynny, dyma ni yma eto, yn gwneud dim byd heblaw siarad amdano.

Gadewch imi ddweud ychydig wrthych amdanaf fy hun ac afon Dyfrdwy. Fy swydd gyntaf oedd gwarchodwr traeth ar lan yr afon yn Oakenholt—roedd hynny yn ôl ym 1974; mae hynny'n dangos pa mor hen wyf i. Bryd hynny, roeddwn yn treulio fy nyddiau'n cadw llygad ar aber afon Dyfrdwy. Ni ddychmygais erioed, hanner canrif yn ddiweddarach, y buaswn yn sefyll yn y Siambr hon yn trafod llawer o'r un pryderon ynghylch llygredd.

Mae gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill rôl i'w chwarae, ond pan fydd afonydd yn methu, nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn gwbl atebol, ac mae hynny'n peri cryn bryder. Ni ddylai'r cyhoedd orfod dibynnu ar siart lif, os esgusodwch y mwyseirio, i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol am lygredd yn eu hafon leol. Yn sicr, mae'n rhaid i hynny newid. Yn wir, mae Dŵr Cymru ei hun yn cyfeirio at gwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, awdurdodau priffyrdd, datblygwyr a ffynonellau amaethyddol eu hunain. Os oes cymaint o sefydliadau'n gysylltiedig â hyn, mae'n bwysicach fyth i rywun fod yn atebol am ganlyniadau yn y pen draw.

Ni ddylai cyfrifoldeb a rennir droi’n gyfrifoldeb sy’n cael ei osgoi. Mae angen gorfodi cryfach arnom yn erbyn llygrwyr parhaus. Mae angen buddsoddiad mewn seilwaith sy’n lleihau gollyngiadau carthion, ac rwy’n gweld hynny yn afon Dyfrdwy nawr. Mae angen atebion ymarferol arnom sy’n gweithio gyda ffermwyr, gan sicrhau bod pob sector yn chwarae eu rhan. Yn anad dim, ac rwyf am ailadrodd hyn eto, mae angen atebolrwydd arnom. Oherwydd mae a wnelo'r ddadl hon yn y pen draw â stiwardiaeth.

Mae afon Dyfrdwy, afon Alun, afon arall rwy'n gyfarwydd iawn â hi, sy'n rhedeg drwy'r Wyddgrug a rhannau o sir y Fflint, ac afonydd dirifedi eraill ledled Cymru, yn rhan o'n hanes, ein hunaniaeth a'n hetifeddiaeth. Fe wnaeth ein hynafiaid, i fynd yn ôl at bwynt a wneuthum yn gynt, roi'r afonydd hyn i ni. Ein cyfrifoldeb ni yw eu trosglwyddo mewn cyflwr gwell na phan y'u rhoddwyd i ni. Ni ddylai hynny fod yn amcan gwleidyddol pleidiol, fel y crybwyllwyd yma heddiw; dylai fod yn un cenedlaethol ledled Cymru.

Y wers o'r briff hwn—cyhoeddwyd papur briffio ddoe gan Dŵr Cymru, a darllenais drwyddo ddoe—yw nad ydym yn brin o strategaethau, gweithgorau, byrddau partneriaeth na chynlluniau rheoli. Yr hyn sy'n brin yw system lle mae'n glir fod rhywun yn atebol am gyflawni. Ni chawn afonydd glanach drwy gyhoeddi mwy o ddatganiadau i'r wasg. Fe'u cawn yn sgil gweithredu pendant, gorfodi priodol a chanlyniadau mesuradwy.

Targedau Dŵr Cymru erbyn 2030 yw gostyngiad o 30 y cant mewn gollyngiadau gorlifoedd storm, gostyngiad o 30 y cant mewn digwyddiadau llygru a gostyngiad o 16 y cant mewn gollyngiadau ffosfforws. Nawr, mae'r targedau hynny i'w croesawu, ond pwy sy'n atebol os cânt eu methu? Dyna rwy'n ei ofyn heddiw. Pa ganlyniadau sy'n deillio o hynny? Mae'r cyhoedd yng Nghymru’n haeddu mwy na dyheadau yn unig.

Felly, gadewch inni wneud Deddf afonydd Cymru yn fwy na darn arall o ddeddfwriaeth yn unig. Gadewch iddi nodi'r foment pan fydd Cymru o'r diwedd yn camu ymlaen o addewidion i gyflawni, o esgusodion i weithredu, ac o reoli dirywiad i adfer yr afonydd y mae cenedlaethau'r dyfodol yn eu haeddu. Diolch.

17:50

Rwy'n croesawu diddordeb newydd Reform UK mewn diogelu'r amgylchedd, gan nad yw'n fater rydych chi fel arfer yn ei gysylltu â'r blaid hon. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr fod heddiw yn nodi ymrwymiad gwirioneddol a pharhaol i'r afonydd, y tirweddau a'r ecosystemau sy'n diffinio ein cymunedau, ein heconomi a'n ffordd o fyw.

Ond mae'n rhaid imi fod yn onest, mae yna anghysondeb dwfn wrth wraidd y cynnig hwn heddiw. Ni allwch sefyll yn y Siambr hon a mynnu afonydd glân gan ddefnyddio eich egni gwleidyddol yn ymosod ar yr union bolisïau amgylcheddol sy'n eu diogelu. Ni allwch honni eich bod yn caru Cymru gan ddiystyru'r wyddoniaeth sy'n dweud wrthym beth sy'n digwydd iddi.

Mae pobl ledled Cymru’n flin, ac mae ganddynt bob hawl i fod. Mae chwech o'r 20 afon fwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig gyfan yma yng Nghymru. Mae afonydd sydd wedi bod wrth wraidd ein cymunedau ers cenedlaethau'n cael eu gwenwyno. Am lawer gormod o amser, mae cwmnïau wedi elwa tra bo'n cymunedau wedi cael eu gadael i fyw gyda'r canlyniadau. Mae pobl eisiau atebolrwydd, maent eisiau gweithredu ac maent eisiau i'r lleoedd y maent yn eu caru gael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf mewn cyflwr gwell.

Ond nid ydych yn gwarchod afonydd drwy wadu realiti amgylcheddol ym mhobman arall. Nid ydych yn adfer natur drwy ymosod ar y polisïau a gynlluniwyd i'w diogelu. Nid ydych yn dod yn hyrwyddwyr amgylcheddol yn sydyn iawn am eich bod wedi sylwi bod mynd i'r afael â llygredd dŵr yn boblogaidd gyda phleidleiswyr.

Dyma blaid sydd wedi diystyru’r wyddoniaeth yn gyson, wedi anwybyddu’r dystiolaeth ac wedi bachu ar bob cyfle i danseilio polisi amgylcheddol. Ac mae gan yr anwybodaeth honno ganlyniadau—canlyniadau go iawn—i gymunedau go iawn, oherwydd nid yn unig fod afonydd iach, gwlyptiroedd wedi’u hadfer a thirweddau naturiol gwarchodedig yn edrych yn brydferth, maent yn dal dŵr yn ôl, maent yn lleihau risgiau llifogydd ac maent yn diogelu cartrefi pobl. Pan fyddwch chi'n ymosod ar y polisïau amgylcheddol, nid ydych chi'n sgorio pwyntiau gwleidyddol, rydych chi'n gadael cymunedau—cymunedau rydych chi'n eu cynrychioli, y mae pob un ohonom yn eu cynrychioli—yn fwy agored, yn fwy bregus ac mewn mwy o berygl. Mae cymunedau Cymru'n haeddu gwell na hynny, a bydd Plaid Cymru'n gwneud pethau’n wahanol.

Fe ddiogelwn ein hafonydd, fe ymladdwn dros reolaeth ar ein dŵr, fe ddiwygiwn drosolwg rheoleiddiol, cryfhau atebolrwydd llygrwyr, ac ysgogi gwelliannau gwirioneddol i warchod ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd yn amgylcheddol. Os yw Reform o ddifrif ynglŷn â'n hafonydd, yna byddwch o ddifrif ynglŷn â'r argyfwng amgylcheddol ehangach hefyd, gan fod pobl Cymru'n haeddu mwy nag oportiwnistiaeth wleidyddol wedi'i wisgo fel egwyddor: maent yn haeddu gweithredu cynaliadwy, credadwy, a gonest. Ni chewch dreulio blynyddoedd yn sathru ar ddiogelwch i'r amgylchedd ac yna cerdded drwy'r rwbel gan honni mai chi yw'r rhai a fydd yn ei ailadeiladu.

17:55

Wel, rwyf wedi siarad ynglŷn â’r mater hwn gynifer o weithiau yn y Siambr hon, ac mae'n rhaid imi ddweud, y rhagrith rwyf wedi'i glywed yma heddiw, lle rydym wedi gweld—gyda'ch Llywodraeth chi nawr, ac mewn cydweithrediad â Llafur—lle, am flynyddoedd, y ffermwyr oedd bob amser yn llygru ein hafonydd. Wel, gallaf ddweud wrthych, yn fy etholaeth i, o'r 15 digwyddiad llygredd lle gwelsom niferoedd enfawr o bysgod yn marw—pan ddeuthum yma gyntaf, roedd yn chwe digwyddiad llygredd—nid ffermwyr a achosodd yr un ohonynt. Cawsant eu hachosi gan Dŵr Cymru, pobl yn ymuno â'r system yn anghyfreithlon, rhywbeth nad oedd CNC yn gwneud fawr o ddim amdano.

Os edrychaf ar fy ardal fy hun, cyhoeddwyd 13 o rybuddion llygredd ar gyfer ein môr ein hunain yn Llandudno yr wythnos diwethaf. Cyhoeddwyd pedwar rhybudd yr wythnos diwethaf o fewn cyfnod o 48 awr: gorllewin Llandudno, Llyn Padarn, traeth Craig Du canolog, ac Abermaw. Rwyf wedi codi'r mater ynghylch llygredd afonydd, llygredd llynnoedd a llygredd môr. Yn 2025, gollyngwyd carthion heb eu trin i ddyfroedd yng Nghymru a Lloegr 400,000 o weithiau, am fwy na 2.5 miliwn o oriau. Rhyddhawyd carthion amrwd i afonydd Cymru'n unig am 777,545 awr, cyfanswm o 94,974 o weithiau. Mae'r ffigurau hyn yn gwbl annerbyniol. Maent yn peri risg ddifrifol i'n bywyd gwyllt, i iechyd y cyhoedd ac i'n hamgylchedd.

Mae Dŵr Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn yr ystadegau erchyll hyn: 2,266 o orlifoedd, 96,653 o ollyngiadau, 783,268 o oriau. Oherwydd y tramgwyddo hwn, mae Ofwat bellach wedi gosod pecyn gorfodi gwerth £44.7 miliwn yn lle dirwy, sy'n golygu os na fydd Dŵr Cymru yn gwario arian ar y seilwaith i atal y gorlifoedd hyn, byddant yn wynebu problemau mwy difrifol. Yn y pen draw, pwy sy'n talu am hynny? Ein trethdalwyr. Bydd y pecyn gorfodi hwn yn ariannu mesurau i leihau gollyngiadau mewn gorlifoedd penodol a gwella ansawdd dŵr afonydd mewn dalgylchoedd sensitif iawn, a bydd y cwmni'n darparu'r cyllid hwn yn hytrach na'i fod yn cael ei ychwanegu at filiau cwsmeriaid i gychwyn. Bydd atal cynifer o'r gollyngiadau hyn â phosibl yn helpu i gadw ein dyfroedd yn lanach ac yn iachach. Mae'n bwysig cofio nad digwyddiad untro mo hwn; dyma'r norm bellach.

O ran Cyfoeth Naturiol Cymru—. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un ohonoch fel Aelodau newydd wedi rhoi gwybod am dramgwydd mewn gwirionedd, ond mae'r cwmni dŵr i fod i gysylltu â CNC pan fo'n digwydd. Yn rhy aml, rhaid imi wneud hynny, ac yn eithaf aml, rwy'n rhoi gwybod i CNC fod Dŵr Cymru wedi tramgwyddo. Rwy'n credu o ddifrif fod ein cwmnïau dŵr a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu'n llwyr. Pan fo prif weithredwr Dŵr Cymru yn ennill cyflog o oddeutu £800,000—mae wedi bod gerbron ein pwyllgor yn y gorffennol—nid yw hynny'n ddigon da. Rwy'n edmygu'r angerdd y mae pawb ohonom yn ei rannu. Ac rwyf am ddweud wrth Blaid Cymru fod hon yn ddadl arall y dylech fod yn ei chefnogi heddiw, oherwydd yn y pen draw, os ydych chi eisiau i gydlyniant trawsbleidiol barhau, er mwyn gwella ein hafonydd, er mwyn gwella ein hamgylchedd, rhaid i chi roi eich arian ar eich gair. Mae'n argymhelliad synhwyrol, mae'n gynnig synhwyrol. Cefnogwch ef.

18:00

Roeddwn i eisiau gwneud sylwadau ar beth o'r ddadl hyd yma. Gallaf ddeall rhai o'r pwyntiau y mae Niamh wedi'u rhannu. Ond rwyf eisiau dweud nad gwneud pethau'n wahanol y mae Plaid Cymru yn ei wneud yn y ddadl hon drwy ddefnyddio 'dileu popeth'. Rwy'n ofni ein bod wedi siarad yn gyson yn yr wrthblaid am Lafur a'u gwelliannau 'dileu popeth', ac eto rydych chi'n ei wneud, ac mae'n drist iawn, oherwydd gallech gynnig rhywbeth cadarnhaol iawn a chael yr hyn a glywsom, sef y gweithio trawsbleidiol. Felly, ar hyn o bryd, ni allaf weld bod Plaid Cymru'n gwneud unrhyw beth yn wahanol.

Rwyf hefyd eisiau nodi rhagrith Reform UK a'r Ceidwadwyr yn peidio â siarad am effeithiau Brexit ar ein gallu i ddwyn cwmnïau dŵr i gyfrif. Gadewch inni glywed gan yr arbenigwyr, oherwydd nid ydych wedi siarad amdano, ac nid ydych wedi'i berchnogi. Ac efallai y byddwch chi'n dweud ein bod ni'n gwneud bingo Brexit—yn hollol, rwy'n mynd i fynd amdani, oherwydd nid yw eich dwy blaid chi'n derbyn cyfrifoldeb. Felly, gadewch inni fod yn glir beth y mae gadael yr UE wedi ei olygu i'n dŵr. Rydym wedi gwyro oddi wrth reolau'r UE sy'n llywodraethu sylweddau peryglus, y siaradoch chi amdanynt. Mae'r UE wedi cyflwyno deddfau amgylcheddol llawer cryfach, a dyna beth rydym ei eisiau yma yng Nghymru a'r DU, oherwydd mae llawer o'n afonydd yn croesi ffiniau—maent yn mynd ar draws Cymru, ond maent yn mynd i Loegr hefyd. Felly, rydych chi wedi ein tynnu ni allan o'r UE a'r deddfau cryfach hynny.

Ac yn olaf, yn anffodus, mae'r Ymddiriedolaeth Natur—ac rwy'n gwybod bod rhai pobl yn y Siambr yn gefnogol iawn i fywyd gwyllt, ond gadewch inni wrando ar yr hyn sydd gan yr Ymddiriedolaeth Natur i'w ddweud—yn adrodd, 10 mlynedd ar ôl dod allan o'r UE—roedd hwn yn adroddiad a ymddangosodd ddoe—fod gennym lywodraethu amgylcheddol gwannach ers Brexit i allu dwyn llygrwyr i gyfrif. Felly, os gwelwch yn dda, beth bynnag a wnewch yn y ddadl hon, derbyniwch gyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnaethoch.

A wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am y ffaith bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth yma yng Nghymru pan grëwyd CNC a bod hwnnw'n rheoleiddiwr sydd wedi methu, ac felly, fod yn rhaid i chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am ei gael yn anghywir?

Darren, nid oeddwn i yma ar y pryd, ac rwy'n siarad nawr o fod wedi bod yma dros y chwe blynedd diwethaf. Felly, parchwch hynny os gwelwch yn dda. Gallwn fynd yn ôl dros flynyddoedd o ran yr hyn y gwnaethoch chi a'ch Llywodraeth yn San Steffan, ond nid wyf yn chwarae'r gemau pitw hynny. Rydym yn siarad am afonydd yma. Rydym yn siarad am bwysigrwydd ein dŵr.

Felly, gadewch imi ddweud bod yna dri pheth rwy'n awyddus i ganolbwyntio arnynt. Rhaid inni gau'r bwlch monitro. Mae Afonydd Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod 90 y cant o gyrff dŵr Cymru wedi cael eu hasesu fel rhai sydd mewn statws uchel heb unrhyw ddata monitro cemegol mewn gwirionedd, ond mae data hunangofnodedig Dŵr Cymru yn 74 y cant, a gostyngodd data Hafren Dyfrdwy i 60 y cant yn unig. Felly, rydym yn rheoleiddio yn y tywyllwch, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y gwnawn reoleiddio Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, oherwydd mae rhai ohonom yn cynrychioli defnyddwyr dŵr Hafren Dyfrdwy hefyd. Rhaid inni fynnu mwy gan ein cwmnïau dŵr—gan y ddau—ac mae llawer ohonom wedi siarad yma am Dŵr Cymru. Mae'n cyflwyno ei hun fel corff sylfaenol wahanol i gwmnïau sy'n eiddo i gyfranddalwyr, ac eto cafodd ei brif weithredwr £500,000 yn 2025-26 cyn iddo ymddeol.

Tra bo lefelau llygredd wedi bod yn codi, y gwir amdani yw bod y bonysau a gafodd y prif weithredwr wedi codi hefyd. Fe gafodd fonysau, sydd i fod ar gyfer pan fyddwch chi'n darparu gwasanaeth da. Mewn gwirionedd cafodd fwy o fonysau pan welsom y lefelau llygredd ar rai o'u lefelau uchaf. Mae hynny'n wallgof, ac mae sut y gallai unrhyw Lywodraeth flaenorol ganiatáu hynny yn dal i beri penbleth i mi.

18:05

Rwy'n rhannu eich penbleth, Janet, ydw. Felly, rydym yn rhannu hyn, ein bod yn pryderu bod Dŵr Cymru yn gweithredu bron fel pe bai'n gwmni sy'n eiddo i gyfranddalwyr. 

Cawsom addewid yn y Senedd ddiwethaf y caem adolygiad o Dŵr Cymru. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth newydd gennym nawr, felly hoffwn glywed a fydd adolygiad yn cael ei gynnal o Dŵr Cymru a'r system gyfan a'r sefyllfa mewn gwirionedd. 

Yn olaf, a gaf i ddweud hyn: mae angen inni wneud yn siŵr fod y llygrwr yn talu. Mae angen system sy'n dwyn llygrwyr i gyfrif. Mae yna amryw o lygrwyr, ac rwy'n hollol glir na ddylem feio un neu'r llall ohonynt. Mae angen inni edrych arno a gweithio gyda phobl ym mhob man i wneud yn siŵr bod gennym system rheoleiddio dŵr lawer gwell. Rwy'n gwybod bod fy amser wedi dod i ben, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf wedi cael ychydig o ymyriadau.

Fe gawsoch chi ddau ymyriad, felly peidiwch â phoeni.

Diolch. A gaf i orffen gyda hyn? Nid yw cymunedau Cymru'n aros amdanom ni; maent yn cynnal profion ar eu hafonydd eu hunain nawr. Maent yn y llysoedd, maent yn ymladd dros hawliau natur a'r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud yma yn y Senedd, ac y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru ei wneud, yw dangos yr un dewrder â nhw. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i ddau o bobl? Yn gyntaf oll, i Laura Anne Jones, am gynnal y ddadl hon, ac i Janet am ddod â'r ddadl yn ôl at y ddadl yn hytrach na'i defnyddio fel llwyfan ar gyfer sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Aelodau o'r Senedd, yn ddiweddar, cyfarfûm â thrigolion a chynghorwyr i drafod pryderon ynghylch ansawdd dŵr ar y traethau yn ne sir Benfro. Rydym yn hynod ffodus fod statws Baner Las gan nifer o'n traethau, sy'n bwysig iawn i economi ymwelwyr yr ardal. Yn ogystal, mae rhai o'n dyfrffyrdd yn ffurfio rhan o ardal gadwraeth arbennig forol sir Benfro. Gan fod statws y Faner Las yn dibynnu ar ddosbarthiad 'ardderchog' i ddŵr ymdrochi, mae pryder arbennig nad yw'r nentydd sy'n aml yn llifo ar draws ein traethau ac i mewn i'r môr heb eu dynodi'n ddŵr ymdrochi gan CNC. Fodd bynnag, maent yn parhau i ddenu plant bach sy'n aml yn chwarae yn y dŵr yno. Caiff rhai o'r ffrydiau hyn eu monitro gan grwpiau gwyddoniaeth y dinesydd yn lleol ac mae eu data'n dangos lefelau uchel iawn o E. coli. Maent yn gyson yn llawer gwaeth na'r rhai sydd wedi'u dosbarthu fel rhai 'gwael' o dan y safonau dŵr ymdrochi ar gyfer dŵr croyw. Gall E. coli achosi salwch difrifol a gall beri risg arbennig i blant ifanc. Rwy'n atgoffa'r Aelodau o achos trasig Heather Preen, wyth oed, a fu farw ar ôl dal E. coli ym 1999. Organeb ddangosol yn unig yw E. coli ar gyfer halogiad carthion, a all gynnwys sylweddau niweidiol eraill fel sylweddau fferyllol, hormonau a firysau.

Yn ogystal, yn ddiweddar, cyflwynodd Prosiect Cleddau, hefyd yn sir Benfro, ganfyddiadau menter gwyddoniaeth y dinesydd dros 12 mis yn ddiweddar i asesu ansawdd dŵr ar draws 49 o safleoedd yn nalgylch y Cleddau. Mae'r prosiect, a arweinir gan syrfewyr lleol a'i ddadansoddi gan yr Athro Paul Withers o Brifysgol Caerhirfryn, yn nodi dirywiad sylweddol yn iechyd afonydd, a briodolir yn bennaf i ollyngiadau carthion. Mae'r data'n dangos lefelau uwch o ffosffadau a nitradau mewn llednentydd. Mae profion rhagarweiniol wedi nodi lefelau pryderus o E. coli yn y dalgylchoedd uchaf ger Hwlffordd, gan godi pryderon iechyd cyhoeddus posibl ynghylch afonydd, eu defnyddwyr a'n hecoleg. Adroddir bod rhywogaethau fel eogiaid a dyfrgwn yn dirywio. Mae poblogaethau eogiaid bellach yn cael eu hystyried yn rhai mewn perygl gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adlewyrchu straen ecolegol ehangach o fewn y system afonydd.

Yn ogystal, mae gan afon Teifi broblemau tebyg gyda llygredd. Ar gyfer adroddiad ansawdd dŵr gwyddoniaeth y dinesydd 2026, cynhaliwyd profion mewn dros 70 o safleoedd. Mae data dros 12 mis ar gyfer 27 o'r safleoedd. O'r 27, cynhyrchodd 15 ganlyniadau orthoffosffad cymedrig blynyddol uwchlaw'r targedau a ddefnyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gan ystyried cyfyngiadau posibl yr offer a ddefnyddiwyd, mae chwech o'r safleoedd yn methu targedau CNC yn llwyr, ac mae naw yn uwch na'r targed ond yn dod o fewn yr amrediad gwallau. Yn bennaf, mae'r rhannau sy'n methu yn nalgylch isaf afon Teifi, islaw Castell Newydd Emlyn, tra bod y rhai uwchlaw'r targed ond o fewn yr amrediad gwallau yn ardal ganolog y dalgylch yn bennaf, sy'n cynnwys Castell Newydd Emlyn i Lanbedr Pont Steffan. Ac Aelodau, rwy'n credu mai'r hyn sy'n ddiddorol yma, ac rwy'n dyfynnu o'r adroddiad yn uniongyrchol, yw

'na chafodd profi ansawdd y dŵr (...maethynnau a chynnwys e-coli) ei annog o ystyried na fyddai'r canlyniadau'n cael eu defnyddio na'u cydnabod gan awdurdodau allweddol.'

Mae hyn yn arwain llawer o fy etholwyr i ofyn yn ôl agenda pwy y mae CNC yn gweithio.

Nid ein nentydd, ein haberoedd a'n moroedd yn unig sy'n cael eu heffeithio gan lygredd a methiannau Dŵr Cymru. Mae Plaid Cymru wedi addo adeiladu 20,000 o gartrefi erbyn diwedd y Llywodraeth hon. Yn fy etholaeth i yn unig, rydym wedi cael tri datblygiad tai yn dod i stop i bob pwrpas oherwydd pryderon fod y dŵr ffo o waith adeiladu'n effeithio ar ansawdd dŵr a gallu'r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi â'r gwastraff ychwanegol. Mae'n cynnwys mwy na 200 o gartrefi. Mae'n cyfateb i 1 y cant o'r cyfanswm o 20,000 a addawyd gan y Llywodraeth hon. Caiff hyn ei adlewyrchu ledled y wlad, gan wneud yr addewid o gartrefi yn anghyraeddadwy.

O ystyried pwysigrwydd ansawdd dŵr i iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol, mae yma gwestiwn clir a yw'r amserlen o hyd at ganol y 2030au ar gyfer newidiadau i'n polisi dŵr yn adlewyrchu'n ddigonol cymaint o frys sydd ynghlwm wrth y mater hwn. Mae gennym i gyd deuluoedd, plant ac wyrion. Mae gennym gyfrifoldeb. Felly, rwyf am ofyn i chi, Aelodau o'r Senedd: ai dyma'r hyn y dymunwn ei adael ar ein holau, a chaniatáu i olwynion biwrocratiaeth araf lusgo tra bod ein plant yn clafychu oherwydd dŵr budr? Os na wnawn fachu ar y cyfle hwn i atal Armagedon ar ein dyfrffyrdd ac yn ein hen seilwaith carthffosiaeth, efallai y cawn ein cofio fel y rhai a anwybyddodd yr holl rybuddion ar ein gwyliadwriaeth ni, er afles i iechyd ein plant. Neu a gawn ni ein cofio fel y rhai a geisiodd wneud rhywbeth i atal gwenwyno ein nentydd, ein hafonydd a'n moroedd, ac adeiladu gwlad ar gyfer y dyfodol? Diolch.

18:10

Hoffwn ddiolch i Laura Anne am roi cyfle i ni drafod y mater pwysig hwn. Mae rhinweddau yn y cynnig gwreiddiol ac mewn elfennau o'r gwelliannau. Mae'r cynnig ei hun yn sôn yn allweddol am reoli maethynnau—mater pwysig iawn—yn ogystal â gollyngiadau carthion. Mae'r dull 'dileu popeth' o lunio gwelliannau'n briodol weithiau, ond rwy'n credu, yn yr achos hwn, ei fod ychydig yn ddiangen. Fel Gwyrddion yn y Senedd, credwn mewn rhoi ystyriaeth ofalus i rinweddau gwelliannau fesul achos. Felly, prif wendid gwelliant 1, fel y gwelwn, yw colli nodweddion rheoli maethynnau y cynnig gwreiddiol.

Mae nifer o bwyntiau yng ngwelliant 2, felly rwyf am eu trafod fesul un. Ar bwynt (a), rwy'n cytuno—rhaid mynd i'r afael â phob math o lygredd. Cawn ddeall mai'r ddwy brif ffynhonnell llygredd yng Nghymru yw amaethyddiaeth ddiwydiannol a dŵr gwastraff. Felly, mae angen rheoleiddio a gorfodaeth gryfach ar draws y ddau faes wrth gwrs. Gellid defnyddio ehangu'r rheoliadau trwyddedu amgylcheddol presennol eisoes i fonitro a mynd i'r afael ag effeithiau cronnus yn fwy effeithiol.

Ar bwynt (b) yn y gwelliant, byddem yn mynd â hyn ymhellach. Nid yw Dŵr Cymru yn addas i'r diben ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau y mae wedi'u creu, yn enwedig malltod llygredd carthion. Felly, mae gwladoli'n gam cyntaf hanfodol, ac mae hynny ar goll o'r gwelliant yn anffodus. 

Ar bwynt (c), mae mynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn hollbwysig i sicrhau manteision i iechyd, natur a'r hinsawdd, a chynhyrchu system fwyd a ffermio fwy cynaliadwy. Gallai'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno targedau llygredd dŵr o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 i gyflawni targedau bioamrywiaeth cadarn, gan gynnwys gostyngiad o 50 y cant yn y maethynnau dros ben sy'n cael eu colli erbyn 2030, rhoi pob corff dŵr o dan drefn fonitro flynyddol weithredol erbyn 2027, a rhoi cynlluniau gweithredu penodol i'r dalgylch ar waith ar gyfer pob dalgylch afon erbyn 2027. 

Ar bwynt (d), mae angen mabwysiadu dull systemau integredig i fynd i'r afael â phob ffynhonnell o wastraff a gorddefnydd o nitrogen. Oherwydd monitro annigonol, ni wyddom ddigon am gemegau, cynhyrchion fferyllol a microblastig peryglus sy'n mynd i mewn i'n hamgylchedd dŵr ledled Cymru. Er enghraifft, gellid sicrhau bod data pridd a gasglwyd eisoes gan ffermwyr o dan y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru i ganolbwyntio camau gweithredu ar y dalgylchoedd lle mae dŵr o faethynnau'n ffactor pwysig yn ansawdd gwael afonydd. Gall gwyddoniaeth y dinesydd a ariennir fod yn arf pwerus ac mae'n un yr ydym yn ei gefnogi, ond ni ddylai ddigwydd ar draul cyfrifoldebau statudol i gasglu data a sicrhau ei fod yn cael ei rannu. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu sy'n deillio o ddata a mewnwelediad newydd ddilyn yr egwyddor y clywsom amdani yn gynharach—mai'r llygrwr sy'n talu. Felly, efallai y dylai'r cwmnïau rhyngwladol y mae eu cynnyrch yn cyrraedd yn ein dŵr ledled Cymru gael eu dwyn i gyfrif hefyd.

18:15

Mae cyflwr ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd yn un o'r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru heddiw. Mae cymunedau ledled y wlad wedi gwylio dyfrffyrdd yn dirywio, tra bo hyder yn y cyrff sy'n gyfrifol am eu diogelu wedi erydu'n raddol. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro nad yw'r system bresennol yn cyflawni ar ran pobl Cymru. Rydym wedi galw'n gyson am sefydlu corff rheoleiddio newydd sy'n benodol i Gymru ar gyfer dŵr, un sy'n gallu dwyn cwmnïau dŵr i gyfrif yn briodol, gan godi safonau amgylcheddol a sicrhau gwell gwerth am arian i gwsmeriaid.

Mae'r dystiolaeth sydd ger ein bron yn dangos pam y mae angen diwygio ar frys, a chlywsom gan Aelodau eraill y prynhawn yma. Ar ôl blynyddoedd o filiau dŵr cynyddol, mae ymhell dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr. Mae cwsmeriaid yn talu mwy, ac mae dyfrffyrdd Cymru yn parhau i ddioddef. Y llynedd yn unig, cafwyd mwy na 100,000 o ollyngiadau carthion i afonydd a dyfrffyrdd Cymru. Mae Dŵr Cymru wedi methu atal y duedd honno. Mae gennym gwmni dŵr sy'n methu mewn sawl ffordd, tra bod y cyhoedd yn meddwl pam eu bod yn talu mwy ac yn cael llai yn ôl.

Ar yr un pryd, mae yna fethiannau yn Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi'u dogfennu. Er bod llawer o staff ymroddedig yn gweithio'n galed o fewn y sefydliad, mae'n amlwg nad yw'r system reoleiddio'n gweithredu mor effeithiol ag y dylai. Fel y clywsom, yn rhy aml mae digwyddiadau llygredd wedi dod i sylw'r cyhoedd nid oherwydd bod rheoleiddwyr wedi eu nodi a gweithredu arnynt, ond oherwydd bod ymgyrchwyr lleol a grwpiau cymunedol wedi cynnal ymchwiliadau eu hunain. Am ormod o amser, nid oedd gollyngiadau carthion i'n hafonydd ond yn cael eu datgelu am fod pobl leol yn barod i wneud y gwaith y dylai eraill fod wedi ei wneud. Felly, mae'n galonogol fod y Llywodraeth hon yn cynnig diwygio ystyrlon ac yn barod i wneud y gwaith caled angenrheidiol i adfer hyder yn y system a diogelu ein dyfrffyrdd.

Fis diwethaf, cyfarfûm ag A Peace for Nature a chlywais yn uniongyrchol am yr effaith ddinistriol y mae llygredd yn ei chael ar ecosystemau lleol. Mae'r sefyllfa yn afon Cynffig yn fy etholaeth yn enghraifft amlwg. Ar ôl i ollyngiadau carthion mynych o orsaf bwmpio carthion Marlas lygru'r afon, adroddodd trigolion am arogleuon annymunol—a dweud y lleiaf—dyfrffyrdd wedi newid lliw a niwed i bysgod a bywyd gwyllt mewn ardal sy'n rhedeg drwy warchodfa natur genedlaethol Cynffig, un o safleoedd cadwraeth pwysicaf Cymru fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dywedodd A Peace for Nature ei fod yn un o'r digwyddiadau llygredd gwaethaf iddynt eu gweld erioed, ac fe welais hynny ar y safle fy hun. Ni ddylai unrhyw gymuned orfod goddef amgylchiadau o'r fath, ac ni ddylai unrhyw safle cadwraeth o bwys cenedlaethol orfod dioddef llygredd dro ar ôl tro. Mae pobl Cymru yn rhwystredig iawn, ac mae ganddynt hawl i fod. Maent yn talu mwy, yn gweld llygredd carthion yn parhau, ac yn cwestiynu a yw'r rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.

Mae'r Llywodraeth hon yn cynnig llwybr tuag at ail-feithrin ymddiriedaeth a chyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar ein hafonydd a'n cymunedau drwy ddiogelu ein hafonydd, drwy gymryd rheolaeth ar ddŵr yng Nghymru, diwygio goruchwyliaeth reoleiddio, cryfhau atebolrwydd cwmnïau dŵr, ac ysgogi gwelliannau mewn perfformiad amgylcheddol yn ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Er nad yw fy mhwyllgor wedi cyfarfod eto, hoffwn ddweud fy mod yn siarad fel unigolyn, nid ar ran y pwyllgor.

Mae'r cynnig yn galw am Ddeddf afonydd Cymru i fynd i'r afael ag atebolrwydd o ran gollyngiadau carthion, i gefnogi mesurau rheoli maethynnau ar draws dalgylchoedd a gwobrwyo canlyniadau mesuradwy mewn ansawdd dŵr. Mae'r dystiolaeth yn dangos pam y mae angen hyn. Mae asesiadau ansawdd dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos mai dim ond 40 y cant o gyrff dŵr yng Nghymru sydd â statws cyffredinol da neu well. Ar gyfer afonydd yn benodol, mae'r ffigur yn 43 y cant. Mae hynny'n golygu nad yw'r mwyafrif o gyrff dŵr sy'n afonydd yng Nghymru yn cyrraedd statws cyffredinol da.

Gwelsom rywfaint o gynnydd mewn rhai mannau, a dylid cydnabod hynny, ond nid yw'r darlun cyffredinol yn ddigon da o hyd. Mae'r sefyllfa ar afonydd gwarchodedig hefyd yn bryderus. Yn ardaloedd cadwraeth arbennig Cymru, dim ond 40 y cant o'r cyrff dŵr a aseswyd a basiodd y targedau ffosfforws yn yr asesiadau diweddaraf. Bu gwelliannau mewn mannau, gan gynnwys rhannau o afon Wysg ac afon Gwy, ond mae CNC hefyd yn cofnodi'r methiannau ar draws nifer o'r dalgylchoedd ACA hynny.

Mae angen inni fod yn onest hefyd ynglŷn â gollyngiadau carthion. Mae gorlifoedd storm yn rhan o hen system garthffosydd cyfun Fictoraidd. Maent wedi'u cynllunio i weithredu mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig yn ystod glaw trwm, i atal carthion rhag mynd i gartrefi a busnesau pobl. Nid bod pob gollyngiad unigol yn anghyfreithlon yn awtomatig yw'r broblem; y broblem yw amlder, hyd, niwed amgylcheddol ac a yw cwmnïau dŵr yn cael eu dwyn i gyfrif yn briodol pan nad yw systemau'n cyflawni fel y dylent. Mae adroddiad CNC ar orlifoedd stormydd yn dweud bod dros 2,000 o orlifoedd stormydd a ganiateir yng Nghymru, ac mae ffigurau CNC ei hun yn dangos mai dim ond mewn 7 y cant o'r gorlifoedd dŵr storm a ganiateir yng Nghymru na chafwyd unrhyw ollyngiadau o gwbl yn 2024, tra bod 15 y cant wedi gollwng rhwng 100 a 299 o weithiau. Nid yw honno'n sefyllfa y dylai unrhyw un ohonom ei derbyn fel un normal.

Gwyddom hefyd fod perfformiad Dŵr Cymru wedi bod yn destun pryder difrifol. Adroddodd CNC fod y cwmni'n gyfrifol am 155 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys 132 ohonynt o asedau carthffosiaeth. Mae'r ffigurau hynny'n dangos pam y mae'n rhaid i atebolrwydd fod yn ganolog i unrhyw Ddeddf afonydd Cymru. Ni ddylai fod yn ddigon i gwmnïau gyhoeddi data ar ôl digwyddiadau. Dylai fod dyletswyddau clir, trefn adrodd glir, archwiliadau annibynnol o ddata ar ollyngiadau a chanlyniadau clir pan fydd perfformiad yn ddiffygiol. Dylai'r cyhoedd hefyd allu gweld nid yn unig pa mor aml y mae gollyngiadau'n digwydd, ond beth sy'n cael ei wneud ynglŷn â hynny, pryd y caiff y gwelliannau eu cyflawni ac a yw'r gwelliannau hynny'n gwneud gwahaniaeth i ansawdd dŵr.

Ond mae'r cynnig hwn hefyd yn iawn i fynd y tu hwnt i garthffosiaeth. Os ydym o ddifrif am wella afonydd, rhaid inni edrych ar y dalgylch cyfan. Daw llygredd a phwysau maethynnau o amrywiaeth o ffynonellau—dŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, priffyrdd, llygredd etifeddiaeth mwyngloddio, tanciau carthion, pwysau datblygu a defnydd tir ar draws y dalgylch. Os mai canolbwyntio ar un ffynhonnell yn unig a wnawn, ni wnawn ddatrys y broblem byth. Dyna pam y mae rheoli maethynnau dalgylch cyfan—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Mike.

18:20

Nid oeddwn yn sylweddoli eich bod chi'n mynd i fwrw ymlaen o lygredd carthion. Mae gan afon Tawe, sy'n rhedeg drwy eich etholaeth chi—ac sy'n gweithredu fel ffin rhwng eich etholaeth chi a fy etholaeth i nawr—broblemau difrifol iawn gyda gorsaf bwmpio Trebanos a'r ffaith ei bod yn rhyddhau carthion heb eu trin i mewn i afon Tawe—carthion heb eu trin y gallwch eu gweld yn mynd i mewn i afon Tawe, sydd wedi achosi i blant fynd yn sâl. A ydych chi'n cytuno mai'r hyn sydd ei angen arnom yw bod CNC yn rhoi'r gorau i fod yn garedig wrth Dŵr Cymru a dechrau eu herlyn a gwneud iddynt dalu pris am adael i'r carthion heb eu trin fynd allan yno, fel eu bod yn rhoi'r gorau i wneud hynny?

Ydw.

Dyma pam y mae rheoli maethynnau dalgylch cyfan yn bwysig. Mae adolygiad Bolton o reoliadau rheoli llygredd amaethyddol yn glir; mae'n cydnabod yr angen am ddull sy'n fwy seiliedig ar dystiolaeth, un sy'n gymesur ac yn canolbwyntio ar risg. Mae hyn yn bwysig oherwydd ni ddylid trin ffermwyr fel y broblem ddiofyn pryd bynnag y trafodir ansawdd afonydd. Mae llawer o ffermwyr eisoes yn gweithio'n galed i wella iechyd y pridd, rheoli maethynnau'n ofalus, diogelu cyrsiau dŵr a buddsoddi mewn gwell seilwaith. Maent yn byw ac yn gweithio wrth ymyl yr afonydd hyn, a dyna pam y maent eisiau dŵr glân lawn cymaint ag unrhyw un arall. Dylai Deddf afonydd Cymru gydnabod bod ffermwyr a rheolwyr tir yn rhan o'r ateb ac nad nhw yw'r broblem. Mae hynny'n golygu symud oddi wrth ddulliau cyffredinol sy'n cosbi nifer ohonynt am eu gweithredoedd a pheidio â gwneud unrhyw beth i ddelio â'r llygrwyr, sydd weithiau'n cynnwys hynny yn eu helw a cholled. Dyna'r bobl y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Lle mae problemau gwirioneddol, dylid ymdrin â nhw, ond dylai hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth, amgylchiadau lleol a ffynhonnell briodol o—. Ni allaf ddweud y gair. Mae fy staff yn rhoi geiriau i mewn na allaf eu darllen hyd yn oed. Gallai Deddf afonydd Cymru ddarparu'r fframwaith hwnnw yn y dyfodol yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr holl Aelodau ar draws y Siambr heddiw yn cefnogi'r cynnig hwn. Mae angen iddo gael cefnogaeth drawsbleidiol. Nid wyf yn meddwl bod angen chwarae gwleidyddiaeth bleidiol gyda hyn. Gadewch inni wneud hyn a gadewch inni ddechrau glanhau ein hafonydd.

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.

Member
Llyr Gruffydd 18:24:41
Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn siarad o'r galon pan ydyn ni'n trafod y mater yma. Er efallai bod y geiriau yn gwahaniaethu'r pwyslais, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd eisiau gweld yr un canlyniad ar ddiwedd y dydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ein hafonydd, ond fe wnawn hynny drwy gymryd rheolaeth ar ddŵr yng Nghymru er mwyn inni allu cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol, gwella atebolrwydd cwmnïau dŵr ac ysgogi gwell perfformiad amgylcheddol ar draws ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd. Fel y dywedais, nid oes unrhyw anghytundeb ynglŷn â graddfa'r her sy'n ein hwynebu; nid yw ansawdd dŵr yng Nghymru lle rydym eisiau iddo fod. Er bod cynnydd wedi'i wneud, fel y clywsom, dim ond oddeutu 40 y cant o gyrff dŵr yng Nghymru sy'n cyrraedd statws ecolegol da ar hyn o bryd. Mae hynny'n tanlinellu pa mor bell y daethom, ond yn sicr faint ymhellach sydd angen inni fynd.

Mae lefelau uchel o bryder ymhlith y cyhoedd ac mae pobl yn iawn i ddisgwyl gweithredu cyflym a gweladwy. Rwy'n cytuno â chryfder teimladau'r cyhoedd. Rydym eisiau dŵr glân, rydym eisiau amgylchedd iach ac rydym eisiau system sy'n cyflawni i gymunedau, nid un sy'n goddef methiant. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â rhaglen gynhwysfawr o ddiwygiadau dŵr sy'n canolbwyntio ar dri pheth: cymryd rheolaeth ar ein dŵr, cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol ac atebolrwydd cwmnïau, a gwella perfformiad amgylcheddol.

Wrth wraidd ein dull o weithredu, mae yna egwyddor syml, sef y dylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru. Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi gwneud yr achos hwnnw i'r Prif Weinidog, oherwydd mae'n ymwneud â sicrhau bod gan Gymru allu i weithredu'n bendant er budd ein pobl a'n hamgylchedd. Rhan ganolog o'r diwygio yw sicrhau bod rheoleiddio'n adlewyrchu realiti datganoli ac nad yw'n gaeth yn y gorffennol. Mae'r system bresennol, wrth gwrs, yn seiliedig ar yr hen fodel 'cyfan gwbl neu'n bennaf' sydd wedi dyddio, nad yw bellach yn cyd-fynd â'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i alinio rheoleiddio dŵr â ffin ddaearyddol Cymru, ac mae cynnydd da wedi'i wneud. Rwy'n gobeithio cadarnhau mwy am hynny cyn bo hir. Mae'n ymwneud ag atebolrwydd clir, mae'n ymwneud â rheoleiddio cydlynol, ac wrth gwrs, i bob un ohonom yma, mae'n ymwneud â goruchwyliaeth ddemocrataidd gryfach i gwsmeriaid hefyd, ar ddwy ochr y ffin. Bydd y Llywodraeth hon yn ailosod y ffordd y mae Cymru'n rheoli dŵr. Byddwn yn creu system gliriach, fwy cydlynol i Gymru sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau strategol hirdymor, sy'n cyfeirio buddsoddiad at flaenoriaethau Cymru, ac sy'n cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol yng Nghymru. Nid newid strwythurol yn unig mohono; rydym am weld canlyniadau gwell i Gymru.

O dan fframwaith rheoleiddio sy'n canolbwyntio ar Gymru, bydd cwmnïau'n ddarostyngedig i ddisgwyliadau cliriach, i oruchwyliaeth gryfach ar berfformiad a chanlyniadau mwy uniongyrchol pan fyddant yn methu bodloni safonau. Mae hyn yn cynnwys y gallu i osod mesurau rheoli prisiau ar gyfer Cymru, mae'n cynnwys darparu gwerth am arian i gwsmeriaid Cymru, a buddsoddiad uniongyrchol i flaenoriaethau a bennir yma yng Nghymru. Byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad maniffesto na ddylai penaethiaid cwmnïau dŵr gael bonysau lle mae cwmnïau'n methu bodloni'r safonau y mae'r cyhoedd, yn briodol ddigon, yn eu disgwyl.

Gadewch imi fod yn glir: lle mae cwmnïau'n methu, rhaid iddynt wynebu canlyniadau, a rhaid i gwsmeriaid beidio â thalu'r gost i unioni pethau. Ond er mwyn gwella ansawdd dŵr, rhaid inni fod yn onest am natur y broblem. Mae gollyngiadau carthion yn bryder mawr, ond nid dyna yw'r unig broblem. Fel y mae llawer wedi cydnabod yn y ddadl, fe wyddom fod amaethyddiaeth a defnydd tir gwledig yn rhan o'r broblem, felly mae angen iddynt fod yn rhan o'r ateb. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw nad un achos sydd iddo, felly nid un ateb sydd yma, a dyna lle bydd angen i'n dull o weithredu fod yn ddull system gyfan.

Rydym yn gweithio gyda chwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau carthion a gwella seilwaith, ond rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, ffermwyr yng Nghymru a'r sector amaethyddol i ddarparu atebion cynaliadwy sy'n lleihau llygredd yn y ffynhonnell gan gefnogi economi wledig wydn ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys symud tuag at ddull sy'n fwy seiliedig ar wyddoniaeth, sy'n fwy seiliedig ar ganlyniadau a dull cymesur o ran risg, a symud oddi wrth y dull anfanwl o ffermio yn ôl y calendr gan ei bod hi'n amlwg nad yw'n gweithio. Yn lle rheolau anhyblyg un maint i bawb, fe gawn system sy'n targedu gweithgarwch risg uchel yn well—oes, mae angen ei dargedu—ond sydd hefyd yn cefnogi arferion da yn well.

Rydym hefyd yn cryfhau dulliau'n seiliedig ar dalgylchoedd drwy fyrddau rheoli maethynnau a phartneriaethau ehangach i ddod â rheoleiddwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr ac awdurdodau lleol ynghyd i weithredu'n gydgysylltiedig ar lawr gwlad, gan gynnwys, wrth gwrs, drwy atebion sy'n seiliedig ar natur. Oherwydd y gwir amdani yw hyn: ni ellir cyflawni gwelliannau parhaol i ansawdd dŵr heb i bawb chwarae eu rhan.

Ddirprwy Lywydd, mae hon yn rhaglen ddiwygio ar gyfer y tymor hwy, ac mae'n hanfodol ein bod yn ei chyflawni mewn ffordd sy'n cynnal sefydlogrwydd i gwsmeriaid, a hyder buddsoddwyr hefyd. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y Bil dŵr glân sydd ar y ffordd yn nes ymlaen eleni, ac a fydd yn datganoli pwerau i'r Senedd i'n galluogi i sefydlu rheoleiddiwr newydd. Ond rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol mewn modd amserol, gan sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn destun craffu gan y Senedd yma yn y Siambr hon.

Nawr, ochr yn ochr â hyn, rydym yn cyd-ddatblygu cynllun pontio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad oes bylchau rheoleiddio nac unrhyw darfu ar wasanaethau wrth inni symud tuag at y system newydd yng Nghymru, a bydd y cynllun pontio hwnnw'n darparu sefydlogrwydd drwy'r cyfnod o newid gan anfon arwyddion clir i reoleiddwyr a chwmnïau ynghylch ein holl ddisgwyliadau. Felly, pan fydd gennym y pwerau, gallwn gyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon a dyna'n union y bwriadaf ei wneud. Ac edrychaf ymlaen at weld yr holl Aelodau yma yn chwarae eu rhan yn craffu ar y ddeddfwriaeth honno, a'i gwneud yn ddeddfwriaeth mor gryf ag y gall fod.

Yn amodol ar y prosesau hyn, rydym yn disgwyl i system reoleiddio newydd gael ei sefydlu yn gynnar yn y 2030au, wedi'i halinio â chylchoedd adolygu prisiau yn y dyfodol, ac wedi'i chynllunio i gyflawni canlyniadau amgylcheddol ac economaidd hirdymor i Gymru. Ond tra bo diwygio'n mynd rhagddo, ni fyddwn yn aros cyn gweithredu. Byddwn yn parhau i gryfhau'r gwaith o fonitro digwyddiadau llygredd, a byddaf yn gofyn am sicrwydd gan Dŵr Cymru, gan Hafren Dyfrdwy, gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat ac eraill fod camau cadarn yn cael eu cymryd lle mae methiannau'n digwydd.

Ddirprwy Lywydd, mae safbwynt y Llywodraeth hon yn glir: rydym yn mynd i gymryd rheolaeth lawn ar ddŵr yng Nghymru, rydym yn mynd i gryfhau atebolrwydd ac rydym yn mynd i ddarparu system ddŵr sy'n gwarchod ein hamgylchedd, yn cefnogi ein cymunedau ac yn ateb disgwyliadau pobl Cymru nawr ac am genedlaethau i ddod. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliant i'r cynnig hwn. Diolch.

18:30

Diolch. Galwaf ar Benjamin Hodge Mckenna i ymateb i'r ddadl. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Roedd yna lawer o gyfraniadau gwych, er bod rhai ohonynt ychydig yn well nag eraill yn fy marn i, ond un thema allweddol y credaf ein bod wedi'i chlywed yn nifer o'r cyfraniadau oedd natur drawsbleidiol hyn. Rydym i gyd yn cytuno bod ansawdd ein hafonydd yn hynod bwysig. Clywsom am afon Dyfrdwy, afon Wysg, afon Cynffig yn fy etholaeth i, y traethau yn ne sir Benfro ac afon Tywi hefyd, yn wir. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar Gymru gyfan, a thrwy gefnogi cynnig Reform heddiw, rwy'n credu y gallwn ddangos y gallwn weithredu'n drawsbleidiol i gyflawni rhywbeth i bobl Cymru y mae pawb yn chwilio amdano.

Rhaid imi ddweud ei bod hi'n ddiddorol clywed Brexit yn cael ei feio am ansawdd ein hafonydd. Fe'i clywais yn cael y bai am lawer o bethau, ond nid oedd ansawdd dŵr yng Nghymru yn un ohonynt. Ond yr hyn y methodd yr Aelod o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol ei grybwyll yn ei sylwadau oedd ein bod wedi adennill y pŵer i wneud ein deddfwriaeth ein hunain i lanhau'r dyfroedd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r pŵer hwnnw'n rhywbeth yr ydym yn ceisio'i ddefnyddio heddiw gyda'n cynnig. 

Diolch yn fawr. A fyddech chi hefyd yn derbyn y ffaith, ac mae'n ffaith, fod 60 y cant o gyfreithiau'r UE wedi gorfod cael eu gosod yng nghyfreithiau'r DU, felly nid ydym yn gwneud ein deddfau ein hunain mewn gwirionedd? 

O ran y sefyllfa ddeddfwriaethol heddiw, yr hyn y buaswn yn ei dderbyn yw ein bod yn ceisio defnyddio'r pŵer i wneud ein deddfau ein hunain yng Nghymru i wella ansawdd afonydd Cymru. Fe wnawn hynny beth bynnag am ddeddfwriaeth yr UE. Ond yn hytrach na mynd ar drywydd yr ysgyfarnog honno, hoffwn ddiolch i Sera Evans am ei hymyriad. Mae'r ddau ohonom wedi ymweld ag afon Cynffig gydag A Peace for Nature, a phan wnaethom ymweld â hi, roedd hi'n afon y gallech ei harogli cyn i chi allu ei gweld. Roedd yn hollol ofnadwy, ac roedd presenoldeb ffwng yn yr afon yn dangos bod gollyngiadau carthion wedi bod yn digwydd ers wythnosau, sy'n gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mynychodd y ddau ohonom sesiwn friffio i'r gymuned ddydd Gwener hefyd, lle mynegodd trigolion eu pryder am y gollyngiadau carthion yn yr ardal honno, ac un peth clir a ddaeth allan o'r cyfarfod briffio hwnnw oedd galwad am ddeddfwriaeth. Galwodd trigolion yn uniongyrchol ar y Siambr hon i ddeddfu i wella ansawdd yr afonydd yng Nghymru.

Rwyf am orffen drwy gyfeirio at sylwadau'r Gweinidog. Dywedodd y bydd yr agenda ddeddfwriaethol yn cael ei chyflwyno i geisio datrys y mater hwn pan gawn bŵer i wneud hynny. Rwy'n dweud bod gennym bŵer i ddatrys hyn eisoes. Mae gennym bŵer wedi'i ddatganoli dros ansawdd dŵr. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn yr ymyriad, gwnaf.

18:35

Diolch, Ben. O'r hyn a gofiaf o nos Wener diwethaf, roedd yna alwad am wladoli yn hytrach na deddfwriaeth yn benodol.

Nid wyf yn cofio unrhyw un yn siarad yn benodol am wladoli, ond rwy'n cofio'n benodol y cwestiwn yn dod gan breswylydd ynglŷn â pha bryd y byddwn yn deddfu ar y mater hwn. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael sylwadau gwahanol a bod llawer o gwestiynau wedi'u codi, ond o ran deddfu, mae'r pŵer gennym i wneud hynny. Mae gennym bŵer datganoledig dros ansawdd dŵr, mae gennym bŵer datganoledig dros faterion amgylcheddol yng Nghymru, ac felly heddiw, drwy gefnogi cynnig Reform, gallwn i gyd wneud defnydd da o'r pŵer hwnnw a gwella ansawdd ein holl afonydd yng Nghymru. Felly, fe wnaf orffen drwy annog pawb i bleidleisio dros gynnig Reform a dangos i'n holl etholwyr y gall y Siambr hon weithredu a gwella ansawdd ein hafonydd yng Nghymru. Diolch.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pum Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Fy nhro cyntaf, felly wish me luck. [Chwerthin.] Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Felly, o blaid saith, yn ymatal dim ac yn erbyn 79. Cyfanswm: 86. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 79, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais: o blaid 41, yn ymatal sero ac yn erbyn 45, cyfanswm 86. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 41, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal sero, yn erbyn 39, cyfanswm 86. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle: O blaid: 47, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, yn ymatal sero, yn erbyn 42, cyfanswm 86. Mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

18:40

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. O blaid: 44, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, ymatal saith ac yn erbyn 70, cyfanswm 86. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod—ydy, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. O blaid: 9, Yn erbyn: 70, Ymatal: 7

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM9257 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiystyru unrhyw gynlluniau i gau ysbytai ac israddio gwasanaethau ysbytai drwy gydol y Seithfed Senedd, gyda'r holl benderfyniadau yn blaenoriaethu diogelwch cleifion.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi faint y mae'n bwriadu ei wario ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw ar draws ystâd GIG Cymru er mwyn atal gostyngiadau o ran darparu gwasanaethau.

Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, yn ymatal sero, yn erbyn 38, cyfanswm 86. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - gwasanaethau ysbytai a chau ysbytai. Cynnig wedi’i ddiwygio. O blaid: 48, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dadl Reform UK: Deddf afonydd i Gymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, yn ymatal sero, yn erbyn 49, cyfanswm 86. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru Cynnig heb ei ddiwygio. O blaid: 37, Yn erbyn: 49, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, yn ymatal un, yn erbyn 45, cyfanswm 86. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. O blaid: 40, Yn erbyn: 45, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, yn ymatal sero ac yn erbyn 75, cyfanswm 86. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. O blaid: 11, Yn erbyn: 75, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, yn ymatal sero ac yn erbyn 50, cyfanswm 86. Mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Deddf Afonydd i Gymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. O blaid: 36, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i—. Ymddiheuriadau, dyma fi'n rhuthro drwodd llinell fesul llinell. Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. Diolch am fod yn amyneddgar. 

Rydym yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Os oes nifer yn mynd allan o'r Siambr, a fyddech chi'n gallu ei wneud yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? 

Os ydych chi'n gadael, a allwch chi adael yn gyflym ac yn dawel, er mwyn inni allu symud ymlaen at y ddadl fer?

18:45
9. Dadl Fer: Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes yn arc deheuol Caerdydd

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw. A galwaf ar Zaynub Akbar, sy'n dathlu ei phen-blwydd, i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Diolch, Lywydd. Cyn y ddadl fer heddiw, estynnais allan yn rhagweithiol at yr holl bleidiau gwleidyddol sy'n cynrychioli dinas Caerdydd, ac rwyf wedi derbyn cadarnhad gan Anthony Slaughter, Shav Taj a Leticia Gonzalez, sy'n dymuno cyfrannu, ac edrychaf ymlaen at glywed eu cyfraniadau.

Aelodau o'r Senedd, mae bachgen bach yn cael ei eni yng Nghaerdydd ar yr un noson â bachgen bach arall ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae un yn cael ei eni yn Adamsdown, yn arc deheuol Caerdydd, a'r llall yn cael ei eni yn Llys-faen. Byddant yn tyfu i fyny o dan yr un gwasanaeth iechyd gwladol, yr un cyngor dinas, yr un system addysg. Byddant yn anadlu'r un aer sy'n chwythu i mewn o'r arfordir ac yn cerdded strydoedd o dan yr un awyr Gymreig. Ac eto mae'r dystiolaeth o'n blaenau'n dangos y gall un o'r bechgyn hynny ddisgwyl byw mwy na degawd yn hwy na'r llall a threulio cyfran sylweddol fwy o'i fywyd mewn iechyd da. Nid ffawd yw hynny, ond strwythur.

Rwyf wedi dewis cyflwyno'r cyfraniad hwn ar anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes yn arc deheuol Caerdydd am mai yma y mae canlyniadau amddifadedd yn fwyaf dwys a lle mae'r bwlch rhwng cymunedau yn yr un ddinas yn dod yn fwyaf amlwg. Nid yw'r darlun yn syml ac nid yw'n cael ei yrru gan un achos. Nid yw tueddiadau o ran disgwyliad oes yng Nghaerdydd dros y degawd diwethaf ond yn dangos newidiadau cymedrol yn gyffredinol. Mae rhai mesurau wedi codi ychydig ac eraill wedi gostwng. Yn fwy diweddar, mae disgwyliad oes wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig i raddau helaeth. Ac ar yr wyneb, gall hynny ymddangos fel sefydlogrwydd, ond mae disgwyliad oes iach yn adrodd stori wahanol iawn ac un sy'n peri mwy o bryder. Mae wedi gostwng dros y degawd diwethaf. Yn 2021-23, roedd disgwyliad oes iach yn 60.3 mlynedd i ddynion a 59.6 mlynedd i fenywod, y ddau'n is na'r hyn ydoedd ddegawd yn gynt. Mewn geiriau eraill, er bod rhai pobl yn byw yn hwy, mae llai o'r blynyddoedd hynny'n cael eu byw mewn iechyd da. Mae hyn yn bwysig am fod disgwyliad oes iach yn ddangosydd cenedlaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n mesur nid yn unig pa mor hir rydym yn byw, ond pa mor deg a pha mor dda y rhennir y blynyddoedd hynny.

Yn arc deheuol Caerdydd, mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n dod yn weladwy ar ei ffurf fwyaf acíwt. Pe bai'r arc deheuol yn un awdurdod lleol, dyna fyddai'r awdurdod lleol mwyaf difreintiedig o ran incwm yng Nghymru gyfan. Yno, ceir cymunedau yn fy etholaeth i fel Trowbridge, Llanrhymni, Pentwyn, Tredelerch ac Adamsdown, lle mae amddifadedd yn cael ei fyw drwy bwysau incwm, ansicrwydd tai ac iechyd gwael. Mae'r canlyniadau hyn i'w gweld mewn marwolaethau cynnar. Rhwng 2015 a 2024, roedd cyfraddau marwolaethau cynamserol ymhlith pobl dan 75 oed mewn rhannau o Blasnewydd chwe gwaith yn uwch nag yn y rhannau lleiaf difreintiedig o'r ddinas. Pan edrychwn ar ddisgwyliad oes ei hun, mae'r bwlch yng Nghaerdydd yn fwy na degawd. Felly, o gymryd hynny, mae'r bwlch yn nisgwyliad oes dynion yn 10.3 mlynedd rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig y ddinas, ac i fenywod mae'n fwlch o 13.2 mlynedd, ac mae'r anghydraddoldebau hyn yn dechrau ymhell cyn oedolaeth.

Yn Adamsdown, mae bron i 40 y cant o blant yn byw mewn teuluoedd incwm isel ar ôl costau tai, mewn cyferbyniad â rhannau eraill o'r ddinas lle mae'r ffigur hwnnw'n is na 10 y cant. Mae'r anghydraddoldeb hwnnw wedyn yn parhau i mewn i fywyd bob dydd. Mae tua 21 y cant o bobl yng Nghymru yn profi diffyg diogeledd bwyd, gyda bron i 30 y cant o'r rhai yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd yn dweud eu bod yn mynd heb brydau bwyd, yn lleihau maint eu prydau neu'n mynd heb fwyd yn gyfan gwbl. 

Mae tlodi tanwydd, er ei fod wedi gostwng ers ei anterth yn ystod yr argyfwng ynni, yn parhau i fod yn uwch na'r lefelau cyn yr argyfwng, sy'n golygu bod gwresogi a bwyta yn dal i fod yn anghenion sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd i nifer o aelwydydd. Mae'r pwysau hyn yn cronni'n ganlyniadau iechyd sy'n weladwy ar draws cwrs bywyd. Wrth gwrs, nid un ffactor sy'n cynhyrchu'r anghydraddoldebau hyn. Maent yn deillio o ryngweithio cymhleth rhwng incwm, tai, addysg, cyflogaeth, yr amgylchedd a mynediad at wasanaethau. Amodau economaidd-gymdeithasol sydd i gyfrif am ran fawr o'r amrywiad yn y lefelau o farwolaethau cynamserol, er nad y cyfan ohono. Bydd rhai'n dadlau bod amrywiad o'r fath yn anochel mewn unrhyw ddinas, fod gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd yn adlewyrchu ymddygiad unigol neu gymhlethdod cymdeithasol ehangach, ac na all systemau wneud y canlyniadau hyn yn gwbl gyfartal. Ac mae gwirionedd yn y cymhlethdod, ond mae'r patrwm yn dal i fod yn gyson ac yn barhaus.

Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes yng Nghaerdydd oddeutu wyth i naw mlynedd, ac mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach oddeutu 18 i 20 mlynedd. Ac mae canlyniadau ehangach ynghlwm wrth hyn. Amcangyfrifir bod iechyd gwael sy'n atal pobl rhag gweithio yn costio £19.4 biliwn y flwyddyn i Gymru mewn allbwn a gollir, refeniw treth a gollir, mwy o wariant lles a phwysau ar ein gwasanaethau. Ond nid i'r economi y ceir y gost fwyaf dwys. Colli blynyddoedd iach o fywyd yw'r golled fwyaf—blynyddoedd o fyw gyda salwch, cyfyngiadau neu iechyd gwael y gellid ei atal. Dyna pam y mae disgwyliad oes iach yn bwysig fel dangosydd cenedlaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ei fwriad yw dangos i ba raddau y mae cynnydd yn real ac a yw'n cael ei rannu. Ac ar y mesur hwnnw, mae'r cyfeiriad teithio'n parhau i fod yn destun pryder. Mae disgwyliad oes iach wedi gostwng ers 2011 i 2013 i ddynion a menywod, ac mae'r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig wedi cynyddu eto ar ôl cyfnodau o amrywio.

Felly, daw'r cwestiwn yn un o ymateb. Oherwydd nid yn ein hysbytai'n unig y caiff iechyd ei greu. Caiff ei siapio mewn cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a chymunedau, yn ôl gallu teuluoedd i fforddio bwyd maethlon, yn ôl pa mor ddiogel yw tai a'r flaenoriaeth a roddir i atal. Dyna pam y mae dulliau fel egwyddorion Marmot, buddsoddiad blynyddoedd cynnar drwy gymorth gofal plant a modelau iechyd cymunedol yn seiliedig ar leoedd yn bwysig, am eu bod yn canolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd, yn hytrach na thrin y canlyniadau yn unig. A dyna pam y mae galwadau cyfredol am weithredu ar amgylcheddau bwyd yn berthnasol—gwella mynediad at ffrwythau a llysiau ffres fforddiadwy i aelwydydd incwm isel, cryfhau maeth mewn lleoliadau cyhoeddus a lleihau presenoldeb a hysbysebion bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth, bwydydd braster uchel, a bwydydd sy'n cynnwys llawer o halen a siwgr lle mae gan gyrff cyhoeddus ddylanwad. Oherwydd, os ydym o ddifrif ynglŷn â lleihau'r bwlch mewn disgwyliad oes iach, rhaid i atal fod yn ymarferol, yn lleol ac yn gynaliadwy.

Felly, rwy'n dychwelyd at ble y dechreuais: dau fachgen wedi'u geni yn yr un ddinas ar yr un noson, ychydig filltiroedd ar wahân o ran daearyddiaeth, ond fydoedd ar wahân o ran profiad bywyd. Mae'n debyg y bydd un yn byw mwy na degawd yn hwy na'r llall ac yn treulio llawer mwy o'i fywyd mewn iechyd da. Nid yw'r ddinas yn newid rhyngddynt, ond mae eu cyfleoedd bywyd yn newid.

18:50

Mae'n glir fod anghydraddoldebau iechyd yn fy etholaeth i, Caerdydd Penarth, a gweddill yr arc deheuol yn amlwg ac ar gynnydd, fel y maent mewn cymunedau ledled Cymru. Mae bron i hanner—48 y cant—o oedolion yng Nghymru yn byw gyda chyflwr iechyd cronig, ac amcanir y bydd nifer yr achosion o salwch hirdymor yn cynyddu, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r rhesymau dros hyn yn niferus, ond cyfrifoldeb y Llywodraeth yw mynd i'r afael â nhw. Lle mae tlodi ar gynnydd, fel yma yng Nghaerdydd, daw ag iechyd gwael yn ei sgil. Gyda diffyg diogeledd bwyd cynyddol, mae rhieni'n hepgor prydau bwyd. Nawr, mae hyn yn cael ei godi gan gymaint o grwpiau gwirfoddol gwych; bore fory, rwy'n ymweld â Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot ar gyfer eu clwb brecwast. Ond ni ddylai mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau amlwg hyn fod yn waith i wirfoddolwyr. Ac mae lle mae teuluoedd yn byw, boed hynny mewn tai mewn cyflwr gwael neu lle maent yn anadlu aer llygredig, yn penderfynu a ydynt yn treulio hyd at ddau ddegawd yn hwy na'r angen yn byw mewn iechyd gwael. Mae'r anghydraddoldeb daearyddol hwn yng Nghaerdydd yn cynnig darlun llwm o'r hyn sy'n duedd ehangach, ac mae'n dweud llawer am ein gallu i fynd i'r afael â'r mater ledled Cymru gyfan. Fel bob amser, y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy'n cario'r baich. Natur groestoriadol yr her yw bod y rhai sydd eisoes dan bwysau yn wynebu risgiau iechyd a chymdeithasol lluosog, a'r rhain yn aml yw'r rhai sydd â'r lleiaf o wydnwch i wrthsefyll gwres eithafol ac effeithiau ehangach newid hinsawdd fel rydym yn eu profi nawr, yma heddiw.

Eisoes mae gan Gymru fframwaith i allu gweld yr heriau hyn drwyddo a nodi atebion trawsbynciol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnaeth Gymru'n arweinydd pan gafodd ei rhoi ar waith, yn fwy perthnasol nawr nag erioed o'r blaen. Mae Cymru iachach a Chymru fwy cyfartal yn nodau llesiant allweddol. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i ymateb yn wahanol, i weithredu heddiw a gwneud ymrwymiad uniongyrchol a hirdymor i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol, yn ogystal â'r anghydraddoldebau strwythurol ac amgylcheddol sy'n faich ar arc deheuol Caerdydd. Mae angen i'r Llywodraeth roi camau mwy beiddgar ar waith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, camau a fydd yn darparu manteision trawsbynciol ar gyfer cymunedau mwy gwydn nawr ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.

18:55

Felly, rydych chi wedi clywed yr holl ystadegau, a gallwn siarad am y materion economaidd-gymdeithasol, ond yr hyn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw sut olwg sydd ar y dyfodol hwnnw i bobl yng Nghymru.

Rwy'n credu bod y ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi gwneud y penderfyniad i flaenoriaethu'r arc deheuol yn glir iawn. Mae'r ffaith ein bod wedi gweld rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, yr holl ysgolion newydd a gawsom yng Nghymru—. A hoffwn ddweud wrth y Llywodraeth nawr y dylent gadw at y rhaglen honno am ei bod wedi sicrhau newidiadau gwirioneddol. Ac wrth gwrs, mae prosiectau fel Parcffordd Caerdydd yn mynd i ddod â 6,000 o swyddi newydd i Gymru.

Nawr, y ffordd orau allan o dlodi yw gwybod bod gennych ddyfodol o'ch blaen, yn enwedig i bobl ifanc. Ac eto, o ran tai cymdeithasol, o ran adeiladu tai fforddiadwy, fe ddechreuodd y Llywodraeth flaenorol y gwaith hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth newydd yn parhau â'r gwaith, oherwydd mae'n ymddangos bod pobl yn meddwl bod y strydoedd wedi'u palmantu ag aur yn achos Caerdydd. Nid ydynt, oherwydd mewn gwirionedd, fel y mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn dweud wrthym, yn Nwyrain Caerdydd yn unig, mae 10 allan o 23 cymdogaeth ymhlith y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sy'n cefnogi hynny unwaith eto.

Nawr, rwy'n dod o gefndir dosbarth gweithiol. Roeddwn i'n cael prydau ysgol am ddim cyn iddynt fod yno i bawb, lle roedd yna elfen o embaras os oedd gennych chi docyn. System docynnau oedd hi. Ac i fod yn onest, roedd llawer ohonom yn arfer gwerthu'r tocyn er mwyn inni allu cael sglodion o'r siop fwyd Tsieineaidd ar draws y ffordd, am mai dyna fel oedd hi yr adeg honno. Felly, oes, mae yna lawer o bethau yr ydym yn eu gwneud, ond y gwir amdani yw oni bai ein bod yn canolbwyntio ar y materion mawr sy'n bwysig i'r unigolyn cyffredin, rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, nid ydym yn mynd i weld unrhyw newidiadau. Gallwn ddweud yr holl bethau braf a gallwn siarad am adolygiad Michael Marmot a'r holl adolygiadau eraill—yn onest, gallwn dynnu fy rhestr allan; rwyf wedi eistedd o gwmpas cymaint o fyrddau gwahanol ac wedi cynnal cymaint o'r adolygiadau hyn fy hun—ond nid oes neb byth yn mynd i faddau i ni oni bai ein bod yn gweld newid ar lawr gwlad. Mae yna waith eisoes wedi'i ddechrau, gadewch inni ddal ati a gadewch inni beidio â chyrraedd sefyllfa lle gwelwn gyllid yn cael ei gymryd oddi wrth gyngor penodol sy'n gwneud llawer o waith da yn yr ardal hon.

Diolch i'r Aelod am gyflwyno dadl ynghylch yr anghydraddoldebau mawr sy'n ein hwynebu yn ein hetholaethau. Fel y soniwyd, mae mater anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes yn gymhleth, ond mae un cyfrannwr arwyddocaol yn aml yn cael ei anwybyddu. Mae ynysu cymdeithasol ac unigrwydd yn parhau i fod yn absennol at ei gilydd o'r ffordd y mesurwn ac yr ymatebwn i anghydraddoldebau iechyd, er gwaethaf ei gyfraniad sylweddol at farwolaethau cynamserol a disgwyliad oes byrrach. Mae tystiolaeth gref fod cysylltiad rhwng unigrwydd a disgwyliad oes byrrach. Yn yr arolwg cenedlaethol diwethaf ar gyfer Cymru, lle casglwyd data ar unigrwydd, dywedodd mwy na 12 y cant o bobl yng Nghaerdydd eu bod yn teimlo'n unig.

Os ydym o ddifrif am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, rhaid inni ystyried nid yn unig yr unigolion, ond iechyd ein cymunedau yn eu cyfanrwydd. Mae cymunedau cryf yn darparu cysylltiad, cefnogaeth ac ymdeimlad o berthyn, ac mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig yn gwella llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Diolch.

Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol i ymateb i'r ddadl—Nerys Evans.

Member
Nerys Evans 18:59:57
Deputy Minister for Public and Preventative Health

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl mor bwysig hon heddiw ar ei phen-blwydd, a phen-blwydd hapus. Tu ôl pob ystadegyn rŷn ni wedi clywed amdano yn ystod y trafodaethau heddiw, mae yna berson, mae yna deulu a chymuned, pobl yn byw gyda phoen neu salwch y gellir eu hatal. Mae plant ledled Caerdydd a Chymru yn tyfu i fyny gyda rhagolygon iechyd gwahanol iawn, nid oherwydd eu dewisiadau eu hunain, ond oherwydd amgylchiadau eu bywyd. Dyna pam mae'r ddadl yma mor bwysig.

Mae nifer y blynyddoedd iach y gallwn ni ddisgwyl eu byw yng Nghymru yn is na mewn gwledydd eraill ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu. Gall babi a anwyd rhwng 2022 a 2024 ddisgwyl byw dim ond 59 mlynedd mewn iechyd da. Mae hynny'n is na Lloegr ar gyfer dynion a menywod, ac yn waeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ar gyfer menywod. Mae Caerdydd, wrth gwrs, yn ficrocosm o beth ydyn ni'n ei weld dros Gymru gyfan.

Ond nid y ffigurau eu hunain sy'n peri'r pryder mwyaf. Yr hyn maent yn ei olygu yw bod mwy o bobl yn treulio mwy o'u bywydau yn byw gyda salwch, cyfyngiadau a heriau iechyd, mwy o amser yn dibynnu ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith, oddi wrth deuluoedd ac oddi wrth y pethau sy'n rhoi ansawdd a phwrpas i fywyd. Ac mae'r duedd yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.

Ers 2017-19, mae disgwyliad oes iach wedi gostwng dros ddwy flynedd ar gyfer dynion a bron i dair blynedd a hanner ar gyfer menywod yng Nghymru. Nid newid graddol mo hwn; mae'n rhybudd clir fod iechyd y genedl yn dirywio. Ac mae'r dirywiad hwnnw'n taro rhai cymunedau yn llawer caletach nag eraill, fel ŷn ni wedi clywed. Mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, mae dynion yn byw 18 mlynedd yn llai mewn iechyd da na rhai o'n cymunedau mwyaf cefnog. Ar gyfer menywod, mae'r bwlch yn 19 mlynedd. Dylai hynna beri pryder i bob un ohonom ni, oherwydd nid jest anghydraddoldeb iechyd yw hwn, ond anghydraddoldeb mewn cyfleoedd ac mewn ansawdd bywyd.

Nid yw llawer o'r salwch sy'n difetha bywydau ledled Cymru yn anochel nac yn amhosibl ei osgoi. Mewn llawer o achosion, mae'n rhagweladwy. Mewn llawer o achosion, mae'n bosibl ei atal. Dyna pam ei bod mor bryderus fod disgwyliad oes iach yn gostwng ac anghydraddoldebau iechyd ar gynnydd. Pan fyddwn yn siarad am farwolaethau y gellir eu hosgoi, nid ydym yn siarad am ystadegau ar dudalen. Rydym yn siarad am rieni, partneriaid, ffrindiau a chymdogion y gallai eu bywydau fod wedi bod yn hwy ac yn iachach. Rydym yn siarad am bobl sy'n treulio blynyddoedd yn byw gyda salwch y gellid bod wedi ei atal, blynyddoedd y dylid bod wedi eu treulio'n gweithio, yn gofalu am anwyliaid, yn mynd ar drywydd cyfleoedd neu'n syml, yn mwynhau bywyd.

Gwyddom fod tua 23 y cant o farwolaethau'n cael eu hystyried yn rhai y gellid eu hosgoi. Gwyddom y gellid atal tua 40 y cant o ganserau. Ac fe wyddom, heb weithredu, y gallai nifer y bobl sy'n byw gyda phedwar neu fwy o gyflyrau hirdymor ddyblu, bron iawn, erbyn 2035. Nid a allwn fforddio gweithredu yw'r cwestiwn sydd o'n blaenau, ond a allwn fforddio peidio â gweithredu. Dyna pam y mae'r Llywodraeth newydd hon yn mabwysiadu dull gwahanol o fynd ati. Sicrhau bod gan bobl ledled Cymru y modd, y cyfle a'r gefnogaeth i fyw bywydau iachach sydd wrth wraidd y gwaith yn y Llywodraeth newydd hon. Nid yw atal bellach yn rhywbeth sy'n gorwedd ar ymylon polisi; mae wrth wraidd popeth a wnawn.

Am y tro cyntaf ers datganoli, mae gan Gymru bellach Weinidog â chyfrifoldeb penodol am iechyd ataliol, sy'n gam arwyddocaol ymlaen a datganiad clir o fwriad gan y Prif Weinidog fod atal salwch yn flaenoriaeth. Ond mae'r rôl hon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau'r gwasanaeth iechyd, oherwydd, fel y sonioch chi, nid yw iechyd yn dechrau mewn ysbyty, meddygfa neu drwy bresgripsiwn. Mae iechyd yn dechrau yn y cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt, y swyddi y maent yn eu gwneud, y bwyd y gallant ei fforddio, yr ysgolion y mae eu plant yn eu mynychu a'r cymunedau y maent yn rhan ohonynt. Mae fy nghyfrifoldebau i'n adlewyrchu dealltwriaeth y Llywodraeth hon fod gwella iechyd yn golygu mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n siapio bywydau pobl. Mae'n golygu creu systemau bwyd iachach. Mae'n golygu rhoi gwybodaeth a sgiliau i bobl ifanc wneud dewisiadau iach. Mae'n golygu llunio lleoedd sy'n cefnogi bywydau egnïol. Mae'n golygu lleihau tlodi, gwella tai a chreu'r amodau ar gyfer gwaith diogel a gwerth chweil.

Am ormod o amser, rydym wedi derbyn economi ffug yn y ffordd rydym yn rheoli ac yn ariannu ein gwasanaethau iechyd. Mae Llywodraethau blaenorol wedi blaenoriaethu ymateb i salwch yn hytrach na'i atal. Nid oes digon wedi'i fuddsoddi mewn cadw pobl yn iach, ac yna rydym wedi talu pris llawer uwch pan fydd pobl yn mynd yn sâl, angen triniaeth neu'n cael eu gorfodi i adael eu gwaith. Nid yw'r dull hwnnw o weithredu'n gynaliadwy nac yn deg. Rydym yn benderfynol o gywiro'r anghydbwysedd hwnnw drwy roi mwy o bwyslais ar atal a thrwy sicrhau bod y broses o lunio polisi ar draws y Llywodraeth yn mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, gan gynnwys tai, addysg, cyflogaeth a lleihau tlodi. Oherwydd mae'r cyfle mwyaf sydd gennym yn ymwneud nid yn unig â thrin salwch, ond â'i atal rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae'r manteision yn ddwfn: gwell iechyd, mwy o annibyniaeth, cymunedau cryfach, llai o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus a Chymru decach lle nad yw iechyd unigolyn wedi ei bennu gan amgylchiadau eu geni. Ond mae cyflawni hynny'n galw am fwy na bwriadau da yn unig. Mae'n galw am ymrwymiad parhaus o bob rhan o'r Llywodraeth ac ar draws y gymdeithas. Felly, beth y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Wel, mewn iechyd a gofal, rydym yn cydnabod yr angen i symud gwasanaethau tuag at atal, ymyrraeth gynharach, a gofal yn agos at adref, sy'n hanfodol os yw ein gwasanaethau iechyd a gofal i barhau i fod yn gynaliadwy yn wyneb newid demograffig. Fel y gŵyr yr Aelodau, cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd gofal sylfaenol yr wythnos diwethaf i adeiladu dealltwriaeth a chefnogaeth i'r newid tuag at ofal cymunedol, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i hybu hyn.

Ond nid yw atal yn dod i ben gyda'r GIG. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar strategaeth fwyd gynhwysfawr. Mae ein nod yn syml: gwneud bwyd iach yn haws i'w gyrchu, yn fwy fforddiadwy ac wedi'i ddeall yn well. Mae hynny'n golygu gwella llythrennedd bwyd, cefnogi cynhyrchiant bwyd lleol, a sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gyda'r wybodaeth a'r hyder i baratoi prydau iach, oherwydd mae iechyd da yn dechrau'n gynnar. Mae'r profiadau a'r cyfleoedd sydd ar gael i blant yn siapio canlyniadau iechyd am oes, a dyna pam y mae mynd i'r afael â thlodi'n parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon.

Rydym yn ehangu mynediad at ofal plant, yn helpu teuluoedd gyda chostau'r cartref, ac yn creu cyfleoedd newydd i rieni weithio neu ddychwelyd i'r gwaith. Fe wyddom fod swyddi da yn dda i iechyd. Mae cyflogaeth sicr, cyflogau teg a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau'n cefnogi lles corfforol a meddyliol. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu economi gryfach sy'n darparu ffyniant a chyfle ym mhob rhan o Gymru.

Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod nad moethusrwydd yw cartrefi cynnes, diogel a fforddiadwy, ond un o sylfeini iechyd da. Ond mae gormod o bobl yng Nghymru yn parhau i fyw mewn cartrefi sy'n oer, yn llaith ac yn ddrud i'w gwresogi. Ar adeg pan fo tua chwarter yr aelwydydd yng Nghymru yn profi tlodi tanwydd, mae hynny'n annerbyniol. Rydym wedi ymrwymo i leihau costau ynni, i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi, i ddiogelu cymorth i'r rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd acíwt, ac i adolygu'r rhaglen Cartrefi Clyd i sicrhau ei bod yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl, oherwydd ni ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a diogelu eu hiechyd.

Rydym hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae diwylliant, chwaraeon a'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae yn helpu pobl i fyw bywydau iach a boddhaol. Gall cymryd rhan mewn chwaraeon, creadigrwydd, diwylliant a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur wella lles meddyliol, lleihau straen, cryfhau cysylltiadau cymdeithasol a chefnogi ffyrdd iachach o fyw. Nid pethau ychwanegol dewisol yw'r rhain, fel y clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Maent yn rhan o wead cymunedau iach. Gyda'i gilydd, mae'r enghreifftiau hyn yn dangos nad un rhaglen nac un ymyrraeth yw atal, ond ymrwymiad Llywodraeth gyfan i degwch. Mae'n ymwneud â chreu'r amodau sy'n caniatáu i bobl fyw bywydau iachach, ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u hamgylchiadau.

Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, byddwn yn datblygu strategaeth a fframwaith iechyd cyhoeddus newydd ar gyfer Cymru, wedi'u llywio gan adolygiad cynhwysfawr o heriau iechyd cyhoeddus y presennol a'r dyfodol. Byddwn hefyd yn cyflwyno cynlluniau wedi'u targedu ar gyfer plant a phobl hŷn, ac yn cyflwyno rhaglenni ataliol sy'n helpu plant i ddod yn fwy egnïol, gan gynnwys ehangu mynediad at gynlluniau fel y Filltir Ddyddiol a nofio mewn ysgolion yn ein rhaglen 100 diwrnod.

Ond ni all Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun. Mae cymunedau'n deall yn well nag unrhyw un arall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu a'r newidiadau sydd eu hangen, ac mae gwaith da'n digwydd ledled Caerdydd, gwaith y mae'n rhaid adeiladu arno. Rhaid inni wrando ar brofiadau pobl, dysgu o'u harbenigedd, a gweithio ochr yn ochr â nhw i lunio atebion. Dyna pam y mae partneriaeth yn bwysig.

Drwy tegwch iechyd Cymru, rydym eisoes yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol fel Caerdydd ar hyn, a byddwn yn parhau i roi egwyddorion Marmot a gydnabyddir yn rhyngwladol ar waith, gan gryfhau partneriaethau, gwrando ar gymunedau, rhannu dysgu a gyrru'r newidiadau diwylliannol a systematig hirdymor sydd eu hangen i leihau anghydraddoldebau iechyd, oherwydd yn y pen draw, fel y sonioch chi'n huawdl, nid yw anghydraddoldebau iechyd yn anochel. Canlyniad i ddewisiadau, systemau ac amgylchiadau ydynt, ac os cawsant eu creu, fe ellir eu newid. A dyna'r gwaith rydym ni wedi ymrwymo i'w gyflawni.

Am rhy hir, rŷn ni wedi adeiladu system sy'n ymateb pan fydd pobl yn mynd yn sâl, yn hytrach na gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i aros yn iach, ac mae'n rhaid i hynny newid. Ni allwn dderbyn Cymru lle mae dau blentyn yn cael eu geni ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd yng Nghaerdydd, ac mewn mannau eraill o Gymru, ac yn wynebu dyfodol hollol wahanol o ran iechyd, hapusrwydd a chyfle.

Ni ddylai iechyd da fod yn fraint. A'r gwir syml yw hwn: ni fyddwn yn cau'r bwlch mewn disgwyliad oes oni bai ein bod hefyd yn cau'r bylchau mewn tlodi, mewn tai, addysg a chyfle. Dyna pam mae atal salwch yn fwy na pholisi iechyd; mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae'r her yn fawr, ond mae'r achosion yn hysbys, ac os ydym yn ddigon dewr i fynd i'r afael â'r achosion hynny, yn hytrach na dim ond trin y canlyniadau, gallwn adeiladu Cymru lle mae pawb ym mhob cymuned yn cael y cyfle i fyw bywyd hirach, iachach a gwell, a dyna fwriad y Llywodraeth newydd yma. Diolch yn fawr.

19:10

Diolch. A diolch i chi am y cyfraniadau heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.