Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, bawb.

Gadewch i ni fynd ymlaen nawr. Mae llawer o fusnes i'w wneud heddiw.

1. Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau

Yn gyntaf, eitem 1. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol Cadeiryddion y pwyllgorau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu yn Gadeirydd, a dim ond Aelod o'r un grŵp plaid sy'n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar y dyraniad Cadeiryddion i grwpiau gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A.  Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer yr un pwyllgor, cynhelir pleidlais gyfrinachol. Byddaf yn parhau gyda'r enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau hyd nes y bydd yr enwebiadau i gyd wedi'u gwneud. 

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru. Galwaf nawr am enwebiadau. 

A oes unrhyw un arall? Beca Brown a Sera Evans. Felly, etholir Cadeirydd y pwyllgor hwn drwy bleidlais gyfrinachol.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddyrannwyd i grŵp Llafur Cymru. 

Diolch. A oes rhagor o enwebiadau? Rwyf yn datgan bod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig, a ddyrannwyd i grŵp Reform UK. Galwaf am nominations.  

13:35

A oes rhagor o enwebiadau? Na. Rwyf yn datgan bod James Evans wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol. [Torri ar draws.] Na? Mae'n ddrwg gen i. 

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Nac oes. Rwyf yn datgan bod James Evans wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol. 

Sori, newid hinsawdd. Mae'n ddrwg gen i. 

Rwy'n gwahaodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru. Galwaf am nominations nawr. 

Diolch yn fawr. Galwaf am nominations eraill. 

A gaf i eilio—mae'n ddrwg gen i—Elfed Williams? Diolch.

Diolch. A oes eraill? Na. Diolch. Etholir Cadeirydd y pwyllgor hwn drwy bleidlais gyfrinachol. 

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru. 

A oes eraill? Na. Diolch. Etholir Cadeirydd y pwyllgor hwn trwy bleidlais gyfrinachol. 

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru. Mae'r Senedd wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17A.6, fod Cadeirydd y pwyllgor hwn yn gymwys i enwebu dau Aelod i'w hethol i rannu swydd Cadeirydd y pwyllgor.

13:40

Hoffwn i enwebu Mair Rowlands a Lis McLean fel cyd-Gadeiryddion y pwyllgor yma. Diolch.

Hoffwn eilio Mair Rowlands a Lis McLean fel cyd-Gadeiryddion. Diolch.

Diolch. A oes eraill? Na. Rwyf yn datgan—. O, sori, mae'n ddrwg gen i—dwi'n dysgu. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwy'n datgan bod Mair Rowlands a Lis McLean wedi eu hethol yn Gadeiryddion y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, a ddyrannwyd i grŵp Reform UK.

Diolch. A oes eraill? Na. Oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Rwy'n datgan bod Carmelo Colasanto wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru.

Diolch. Oes enwau eraill? Nac oes. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwy'n datgan bod Carrie Sanders wedi ei hethol yn Gadeirydd y pwyllgor—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i. Rwy'n datgan bod Carrie Harper wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a ddyrannwyd i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Diolch yn fawr. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwyf yn datgan bod Sam Rowlands wedi ei ethol yn Gadeirydd y pwyllgor hwn.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a ddyrannwyd i grŵp Reform UK.

A oes eraill? Nac oes. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwyf yn datgan bod Andrew Griffin wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Rwy'n gwahodd enwebiadau nawr ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, a ddyrannwyd i grŵp Reform UK.

13:45

Oes eraill? Nac oes. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwyf yn datgan bod Sarah Cooper-Lesadd wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a ddyrannwyd i grŵp Plaid Cymru. 

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 13:46:00

Lywydd, cynigiaf enw Alun Cox.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 13:46:07

Rwy'n eilio Alun Cox.

Oes eraill? Na; iawn, ocê, gan fod gwrthwynebiad wedi ei wneud—. Etholir y Cadeirydd yma drwy bleidlais gyfrinachol.

Rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a ddyrannwyd i grŵp Reform UK.

Oes eraill? Na. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Rwyf yn datgan bod Jason O'Connell wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Nac oes. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn. Dyna derfyn y broses enwebu. Yn achos yr enwebiadau hynny a gyfeiriwyd ar gyfer pleidlais gyfrinachol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n hysbysu'r Aelodau y bydd y pleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal yn ystafell friffio 13 yn y Senedd ac yn electronig. Bydd Aelodau yn derbyn e-bost yn fuan i’w hysbysu bod y pleidleisio wedi agor. Bydd y cyfnod pleidleisio’n dod i ben am 4 o'r gloch. Bydd hyn yn rhoi cyfnod pleidleisio o oddeutu dwy awr. Diolch. Nawr, ar ôl y pleidleisiau cyfrinachol, byddaf yn cyhoeddi'r canlyniad ar ôl y cyfnod pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Diolch.

13:50
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Nawr, eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Cwestiwn 1—David Mills. 

Blaenoriaethau ar gyfer y GIG

1. Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog Cabinet ar gyfer y GIG ym Mrycheiniog Tawe Nedd? OQ64158

Lywydd, fe wnes i osod allan fy mlaenoriaethau ar gyfer GIG Cymru, yn cynnwys Brycheiniog Tawe Nedd, yn fy natganiad llafar ar 2 Mehefin. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar leihau rhestrau aros, gwella mynediad, cefnogi'r gweithlu, cryfhau gwasanaethau lleol a darparu mwy o ofal yn agosach at gartref tra'n gwella canlyniadau a chynaliadwyedd hir dymor. Bydd profiad cleifion o ofal trawsffiniol hefyd yn cael ystyriaeth fel rhan o'r gwaith yma.

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn yna. Lywydd, dwi'n cofio, rai blynyddoedd yn ôl, sefyll efo Siân Gwenllian ym Mangor yn trafod yr angen i rolio allan canolfannau diagnosis sydyn, a chychwyn ymgyrch bryd hynny. Felly, mae datblygu canolfannau o'r fath wedi bod yn flaenoriaeth i Blaid Cymru ers sawl blwyddyn. Rŵan, rydym ni mewn sefyllfa i ymestyn yr hyn sydd gennym ni ymhellach. Dyna pam fod adeiladu ar y cynlluniau a'r rhwydwaith sydd gennym ni yn flaenoriaeth, ac mi ydym ni wedi sôn yn ein cynllun 100 diwrnod y byddwn ni'n edrych ar ddatblygu rhaglen ar gyfer Powys. Mae'n amlwg fod yna wacter ym Mhowys. Dyna pam fy mod i wedi dechrau ar y broses o gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o ddatblygu ac agor canolfan ddiagnostig sydyn ym Mhowys yn y dyfodol. 

13:55
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

2. Pryd y gall pobl gogledd Cymru ddisgwyl gweld gwelliannau diriaethol mewn amseroedd aros a gofal cleifion o ganlyniad i ymyriadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a sut y bydd y Gweinidog Cabinet yn mesur llwyddiant yr ymyriadau hynny? OQ64154

14:00

Mae llywodraethiant effeithiol yn ganolog i berfformiad ein gwasanaeth iechyd, a dwi'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Plaid Cymru i roi strwythurau clir ac arweinyddiaeth newydd i'n byrddau iechyd dros y tymor seneddol hwn.

Ym Metsi Cadwaladr, am rhy hir, mae'r stori wedi bod yn un o fesurau arbennig ac anghysondeb mewn safonau gwasanaethau. Rydw i'n bryderus o weld, fel enghraifft, adran achos brys Ysbyty Glan Clwyd yn cael ei dynodi fel gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol gan yr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr wythnos diwethaf. Nid beirniadaeth ar y staff yw hyn, ond system lle mae diffyg eglurder mewn atebolrwydd ac arweinyddiaeth gyson. Felly, Weinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i adolygu'r fframwaith dwysáu ac ymrwymiad presennol a sicrhau ei fod yn gyrru gwelliant gwirioneddol a chynaliadwy i gleifion?

Diolch i'r Aelod am hwnna. Lywydd, mae'r Aelod yn berffaith iawn i ddweud yn ei gwestiwn fod angen inni gydnabod gwaith caled a gwaith da nifer o'r staff sydd yn Betsi Cadwaladr, ac yn Ysbyty Glan Clwyd yn benodol yn yr achos yma, a dwi eisiau rhoi ar gofnod ein gwerthfawrogiad o'u gwaith nhw mewn amgylchiadau anodd iawn.

Mae'r Aelod yn cyfeirio'n benodol at lywodraethiant, ac mi fydd Aelodau yma'n ymwybodol fy mod i wedi cyhoeddi adroddiad i mewn i lywodraethiant yr NHS yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl. Fel rhan o'r gwaith ymchwil i'r cyhoeddiad yna, mi ddaeth hi'n amlwg nad oes gan wasanaethau iechyd yng Nghymru hyder yn y fframwaith escalation yna sydd gennym ni ar gyfer gwasanaethau iechyd. Mae yna adolygiadau'n cael eu gwneud yn eithaf cyson o'r fframwaith, ond dwi'n awyddus inni gynnal adolygiad mwy cynhwysfawr oherwydd, fel gafodd ei sôn ynghynt, dydw i ddim eisiau gweld fframwaith sydd yn arwain at normaleiddio gwasanaethau sydd yn israddol. Mae'n rhaid inni gael fframwaith cryf mewn lle sydd yn medru dal byrddau iechyd i gyfrif, gan rymuso'r cadeirydd a'r aelodau annibynnol er mwyn cyrraedd y pwynt yna.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr i'r llefarwyr. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK i ofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod. Claire Archibald.

14:05
Member
Delyth Jewell 14:05:05
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health
14:10
14:15
Cynllun Canser Cenedlaethol

3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Cynllun Canser Cenedlaethol i Gymru? OQ64178

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni wedi dechrau gwaith ar ddatblygu cynllun canser cenedlaethol i Gymru. Mi fyddaf i'n darparu datganiad ysgrifenedig cyn diwedd y tymor yma yn gosod allan ein bwriadau ni ar sut rydym ni'n mynd i ymwneud â rhanddeiliaid ar gyfer cynnwys y cynllun hwnnw. 

Yr Uned Strôc yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

4. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar ddyfodol yr uned strôc yn Ysbyty'r Tywysog Siarl? OQ64155

14:20
Iechyd Digidol

5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sefydlu rhaglen iechyd digidol 10 mlynedd i wella cofnodion electronig am gleifion ledled Cymru? OQ64180

14:25
Ystâd y GIG

6. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o gyflwr adeiladau a'r sefyllfa cynnal a chadw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro? OQ64149

Ar draws yr NHS, mae lefel uchel o waith sydd angen ei wneud ar yr ystâd wedi cronni, gan gynnwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae arolygon cyflwr yr ystâd wedi'u cwblhau, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd i wella cyfleusterau presennol. Maen nhw hefyd yn llunio cynllun hirdymor i fynd i'r afael â'r heriau o ran seilwaith a sicrhau bod yr ystâd yn addas ar gyfer y dyfodol.

14:30
Gweithredu Diwydiannol gan Ymwelwyr Iechyd

7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad am yr anghydfod diwydiannol parhaus gan ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ64134

14:35

Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, cwestiwn 8 i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Jayne Bryant. 

Bydwreigiaeth

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y bydwragedd? OQ64176

Diolch. Rŷn ni yn cymryd camau wedi'u targedu i gryfhau a sefydlogi'r gweithlu bydwreigiaeth trwy'r cynllun gweithlu amenedigol strategol, ac rŷn ni'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i gynorthwyo graddedigion i symud i mewn i gyflogaeth, gan gynnwys trwy'r summit graddedigion ar 18 Mehefin. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch, Weinidog a Dirprwy Weinidog.

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Cwestiwn 1, Paul Marr. 

Tai Amlfeddiannaeth

1. A oes gan y Gweinidog Cabinet ddata ar gyfer cyfanswm y tai amlfeddiannaeth yng Nghymru a'r gyfran sy'n cael eu meddiannu gan geiswyr lloches presennol a chyn-geiswyr lloches? OQ64156

Member
Sian Gwenllian 14:39:45
Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth bob blwyddyn ar wefan StatsCymru am nifer y tai sydd yn cael eu galw yn HMOs—tai â mwy nag un preswylydd—hynny yw, yr ystadegau sydd yn hysbys i awdurdodau lleol. Roedd hyn yn 14,954 ar 31 Mawrth 2025—i'ch sbario chi rhag mynd i chwilio ar StatsWales. Dydy'r data ddim yn cael ei gasglu am breswylwyr.

14:40

Ein huchelgais ni ydy bod pawb yng Nghymru yn gallu cael tŷ o ansawdd da, am gost fforddiadwy ac yn yr ardal iawn iddyn nhw, gan gynnwys cyn-filwyr, gan gynnwys ffoaduriaid yn ogystal.

Roedd eich cwestiwn cyntaf chi ynglŷn â thai amlfeddiannaeth, ac mae'n hysbys bod yna ormodedd o'r math yma o dai yn gallu bod mewn rhai ardaloedd, a bod hynny'n gallu creu problemau. Ond dwi'n troi yn ôl at beth ddywedwyd yn y Siambr yma ddoe, ac yn sefyll yn gadarn efo'r hyn ddywedodd arweinydd Plaid Cymru: nid mewnfudo sy'n achosi'r argyfwng tai, nid ceiswyr lloches sy'n achosi'r argyfwng tai. Dwi'n hapus iawn i ddychwelyd at yr holl faterion sydd ynghlwm efo'r argyfwng tai sydd gennym ni yma yng Nghymru, ond peidiwch â cheisio creu rhaniadau o fewn ein cymdeithas ni drwy drio pwyntio'r bai at un garfan benodol yn ein cymdeithas ni. Yr ateb i'r argyfwng tai—. Mae yna sawl ateb i'r argyfwng tai, ond un ohonyn nhw, yn hollol glir, ydy ein bod ni'n creu cyflenwad mwy o dai cymdeithasol ar gyfer pawb sy'n dymuno bod yn byw yma yng Nghymru.

Mi ddaru'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 gael Cydsyniad Brenhinol ar 1 Ebrill. Mi fydd y Ddeddf yma yn helpu i gael gwared ar rwystrau a heriau sy'n wynebu ffoaduriaid newydd yn ystod y cyfnod lloches symud ymlaen, yn bennaf trwy wella mynediad at wasanaethau digartrefedd a thai cymdeithasol i bob person cymwys.

Mae'r Ddeddf, wrth gwrs, yn anelu at wneud digartrefedd yng Nghymru yn beth prin, byr a heb gael ei ailadrodd. Mae hyn yn drawsnewidiad sylweddol o'r system, ac mae'n debygol y bydd hyn o fudd i ffoaduriaid newydd, sy'n aml mewn perygl uchel o ddigartrefedd ar ôl gadael llety lloches.

Mae'r gweithredoedd dŷn ni'n eu cymryd yng Nghymru i gefnogi pobol sy'n chwilio am loches, ac sydd o fewn ein pŵer datganoledig, yn bennaf yn seiliedig ar atal tlodi a pheidio ag ychwanegu pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Dŷn ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i warchod y weledigaeth genedlaethol, y weledigaeth ryngwladol, o genedl noddfa, ac i sicrhau bod ein hegwyddorion yn cael eu hymgorffori ar draws polisi, yn cynnwys yn y maes tai.

Cefnogi'r Gymraeg fel Iaith Fyw

Diolch yn fawr. Llongyfarchiadau i'r Gweinidog ar ei rôl newydd.

14:45

2. Sut y bydd y Gweinidog Cabinet yn cydweithio ag awdurdodau lleol i weithredu argymhellion cynllunio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, er mwyn cefnogi’r Gymraeg fel iaith fyw ym Mangor Conwy Môn? OQ64173

Diolch am y cwestiwn. Mi fyddwn ni’n cydweithio efo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fwrw ymlaen efo argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, cyn belled a'u bod nhw'n ymwneud efo cynllunio, sydd yn fy mhortffolio i. Mi fydd tystiolaeth leol yn hanfodol i ddod o hyd i’r dulliau polisi cywir fydd yn cefnogi’r Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Diolch am yr ymateb. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y Gymraeg yn iaith fyw o fewn nifer fawr o gymunedau yn fy etholaeth i, a dwi'n croesawu'r ymrwymiad gan Blaid Cymru i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael yr ystyriaeth sy'n haeddiannol iddi yn y system gynllunio gwlad a thref. Mi fydd y Gweinidog Cabinet hefyd yn ymwybodol bod nifer o brosiectau sy'n mynd tu hwnt i reolaeth awdurdodau lleol sydd hefyd wedi achosi cryn dipyn o bryder i gymunedau ym Mangor Conwy Môn dros y blynyddoedd diwethaf—fel enghraifft, ffermydd solar ar lefel fawr. Byddwn yn gwerthfawrogi, felly, petai'r Gweinidog yn medru rhoi mwy o fanylder i ni ar sut y bydd yn mynd ati i gydweithio efo awdurdodau lleol i roi'r Gymraeg yn ganolog mewn systemau cynllunio lleol a sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ystyriaeth ystyrlon mewn prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar yr iaith Gymraeg nid yn unig yn eich ardal chi, ond ar draws yr ardaloedd yn y gorllewin, a thu hwnt, i fod yn onest—yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw o ddydd i ddydd. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i warchod a hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd yna. Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, wrth gwrs, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth yma fynd ati o ddifri, rŵan, i edrych ar y system gynllunio a sut y bydd y system gynllunio yn gallu cynnal y Gymraeg a ddim gweithio yn erbyn y Gymraeg.

Mae'r gwaith y mae'r comisiwn wedi ei wneud o gwmpas yr ochr gynllunio yn ddarn o waith pwysig a gwerthfawr ofnadwy. Un o'u hargymhellion nhw ydy dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, ac mae hyn yn bwysig er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg rhag shifft ieithyddol pellach. Felly, rydyn ni'n edrych o ddifri ar yr argymhellion yma. Rydw i wedi gofyn i swyddogion ar draws y Llywodraeth—ac rydw i'n gweithio efo'r Gweinidog dros y Gymraeg, ac rydyn ni'n mynd i fod yn edrych efo'n gilydd i gyflwyno'r ffordd orau o weithredu'r mecanweithiau sydd yn cael eu nodi yn adroddiad y comisiwn. Mi fyddai, yn fy marn i yn sicr, ac ym marn y comisiwn, dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn gyfrwng pwysig i reoli, adolygu, diwygio neu lunio polisïau a all ddiogelu a chreu amodau ffafriol i'r iaith ffynnu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Francesca O'Brien.

Diolch yn fawr, a diolch am fynd ar ôl un o fy mhrif flaenoriaethau i, sef yr ymrwymiad i greu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol—y rheini yn nwylo cyhoeddus dmae hynny'n golygu, wrth gwrs—erbyn 2030. Mae'r ymrwymiad yma yn mynd i allu ein helpu ni i daclo digartrefedd, cadw pobl allan o lety dros dro, lleihau'r rhestrau aros sydd ar draws Cymru ar gyfer tai cymdeithasol a gwneud tai yn fwy fforddiadwy. Mi fyddaf i'n dod â mwy o fanylion ymlaen i chi.

Rydych chi'n iawn i ofyn i cwestiynau am beth fydd y cerrig milltir ar hyd y daith, ac rydw i'n awyddus iawn i fod yn edrych ar hynna i gyd ac yn awyddus hefyd i roi mwy o fanylion ynglŷn â sut rydym ni'n diffinio beth sydd yn cyrraedd y targed, a pha fath o dai yn union rydym ni'n sôn amdanyn nhw o fewn hyn. Rydw i wedi bod yn hollol glir, rydw i'n meddwl, fod rhaid i ni fynd i'r afael efo cynyddu'r cyflenwad net o dai cymdeithasol. 

Ac o ran beth oeddech chi'n gofyn amdano yn gyffredinol hefyd, wrth gwrs, mae eisiau gwneud tai yn fwy fforddiadwy i bobl sydd yn prynu am y tro cyntaf ac mae eisiau meddwl—ac mi ydyn ni'n meddwl—am yr holl becynnau sydd wedi bod ar gael ar gyfer pobl yn prynu am y tro cyntaf, sydd yn helpu nid yn unig y bobl sydd eisiau symud i mewn i'w cartref eu hunain, ond yn helpu hefyd y sector tai, yn helpu adeiladwyr bychain—yn helpu'r sector tai yn ei gyfanrwyd—hefyd i gael budd allan o unrhyw gymorth mae'r Llywodraeth yn gallu ei gynnig.

14:50

Diolch yn fawr. Dydw i ddim cweit yn cyd-fynd efo'r darlun rydych chi'n ei roi o system gynllunio wedi torri yn llwyr. Oes, mae yna heriau mawr o fewn y system gynllunio ac mae swyddogion cynllunio yn gweithio dan amodau anodd iawn. Yn aml iawn, adrannau cynllunio cynghorau sir sydd wedi cael eu torri oherwydd bod cynghorau sir yn trio gwarchod y gwasanaethau hynny sy'n diogelu'r bobl fwyaf bregus, fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae adrannau cynllunio wedi, yn sicr, cael eu heffeithio yn anghymesur oherwydd polisïau llymder yn y pen draw—llai o arian yn dod i wasanaethau cyhoeddus a'r rheini'n gorfod gwneud penderfyniadau caled. Ond rydw i'n cytuno efo chi fod angen adolygu sut fedrwn ni wneud y system gynllunio yn fwy deniadol, mewn ffordd, ar gyfer datblygu a chreu cyflenwad digonol o dai cymdeithasol a materion eraill hefyd. Felly, mae gennym ni gynlluniau ar y gweill, ac mae'r trafodaethau yna wedi cychwyn ynglŷn â chreu system gynllunio sydd yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i'r datblygiadau rydym ni'n deisyfu eu creu.

14:55

Mae'n hollol amlwg fod angen creu gwydnwch o fewn ein hawdurdodau lleol ni. Maen nhw o dan bwysau sylweddol iawn, ond dwi ddim yn credu bod beth rydych chi'n ei awgrymu yn ffordd o drio cyrraedd at hynny, a bod yn onest. Dwi'n credu bod angen i ni fod yn gweithio efo llywodraeth leol. Dwi wedi sylwi, ym maniffesto Reform, eich bod chi'n sôn am gosbi neu roi cyfyngiadau ar lywodraeth leol os nad ydyn nhw'n gwneud hyn a'r llall ac arall. Nid dyna ffordd y Llywodraeth yma. Ffordd y Llywodraeth yma ydy gweithio mewn partneriaeth efo llywodraeth leol. Mi ydym ni'n edrych ar y strategaeth bartneriaeth ac, yn fanna, mae'r trafodaethau yn mynd i fod o gwmpas sut i gryfhau gwydnwch llywodraeth leol, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y trafodaethau yna. Dwi'n mynd i gynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yfory, fel mae'n digwydd, lle bydd y trafodaethau yna'n digwydd. Yn y ffordd yna, dwi'n meddwl, mae gweithio'r efo llywodraeth leol, nid gosod rhyw set o ofynnion arnyn nhw, fel yr oeddech chi'n awgrymu.

Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.

Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch yn fawr iawn i chi am y gydnabyddiaeth yna o'r profiad sydd gen i fel cyn-aelod o gabinet a chyn-ddirprwy arweinydd cyngor hefyd.

Yn amlwg, mae'r pwysau sydd yn wynebu awdurdodau lleol, fel roedden ni'n sôn, yn bwysau sylweddol iawn. Fedraf i ddim ateb eich cwestiwn chi ar ei ben, mae arnaf ofn, Mike—fuasech chi ddim yn disgwyl i fi fedru gwneud, dwi'n siŵr iawn o hynny—ond mi wnaf i edrych i weld os medrwn ni gael y wybodaeth yna i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mike, am y cwestiynnau yna. O ran y gyllideb, wrth gwrs, mi oedden ni, fel plaid, yn hapus iawn ein bod ni wedi gallu negodi efo'ch Llywodraeth chi—y Llywodraeth Lafur flaenorol—£112.1 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i sicrhau bod hynny ar gael ar gyfer 2026-27.

Mae hi'n gyfnod hynod o heriol, wrth gwrs, a dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog cyllid yn amlinellu mwy am yr her yna yn fuan iawn. Rydyn ni'n deall y pwysau sydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol, ac yn enwedig ar deuluoedd, ac yn enwedig ym maes cefnogi anghenion pob dysgwr, a'r rhai efo anghenion dysgu ychwanegol ynghlwm efo hynny. Dydy'r system addysg a'r trefniadau cyllidol ddim yr un fath yng Nghymru a Lloegr, wrth gwrs, ac mae'n amlwg bod pwysau ariannol sylweddol mewn awdurdodau lleol, ysgolion, yn ein gwlad ni yn ogystal ag yn Lloegr. A dwi'n gwybod eu bod nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i reoli hyn. Mae'n rhaid inni rŵan symud ymlaen i weithio efo'n partneriaid i ddatblygu cynllun trawsnewid hirdymor, clir ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol—un clir, un penodol ac un amserol—i sicrhau bod y sector yn gallu cefnogi anghenion dysgwyr yn ogystal â bod yn gynaliadwy yn weithredol.

15:00

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox.

Diolch yn fawr iawn, Peter. Roedd eich cwestiwn cyntaf chi ynglŷn â'r fformiwla ariannu, ac rydym ni eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol i sicrhau ei bod hi'n adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru. Mi oeddech chi'n holi am ailstrwythuro llywodraeth leol. Dydy ailstrwythuro llywodraeth leol ddim yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yma. Fydd hynny ddim yn digwydd yn ystod cyfnod y Senedd yma. Ond, wrth gwrs, mae yna nifer o bethau y gallem ni fod yn gweithio arnyn nhw ar y cyd efo llywodraeth leol i leihau biwrocratiaeth a phrosesau a chanolbwyntio ar gyflawni. Dyna le mae'r cytundeb partneriaeth sydd gan Lywodraeth Cymru hefo llywodraeth leol yn werthfawr ofnadwy, er mwyn inni gyd-drafod ein blaenoriaethau ac edrych tua'r dyfodol.

Dwi'n dweud does yna ddim ailstrwythuro llywodraeth leol, ond mae angen edrych ar y rhanbartholi sydd wedi digwydd yn raddol drwy'r drws gefn. Ydy hwnna'n ffit i bwrpas ym mhob achos? Dwi'n meddwl bod cyfle i wneud gwaith o gwmpas yr agwedd ranbarthol o lywodraeth leol.

Yn sicr, mae unrhyw fath o newidiadau angen eu trafod yn fanwl, a phenderfyniadau yn cael eu gwneud efo'n gilydd. Dwi'n mynd yn ôl at y pwynt yna dro ar ôl tro. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i adnewyddu'r cytundeb partneriaeth strategol efo awdurdodau lleol er mwyn sefydlu'r berthynas waith gadarnhaol yna efo awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru. Ac mae hwnna yn rhoi cyfle arbennig i ni fod yn trafod goblygiadau unrhyw fath o fater polisi sydd yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ac sydd â goblygiadau i lywodraeth leol. Bydd hynna i gyd yn cael ei drafod mewn ysbryd adeiladol o gydweithio.

15:05
Darparu Tai

3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu tai ym Mangor Conwy Môn? OQ64181

Diolch yn fawr iawn. Mi fyddwn ni’n canolbwyntio ar sicrhau cynnydd yn y cyflenwad o dai cymdeithasol ar draws Cymru. Mi fydd hynny’n cynnwys drwy adfywio canol trefi mewn aneddiadau mwy, yn ogystal ag adeiladu rhagor o gartrefi newydd ar safleoedd tir llwyd. 

Diolch yn fawr iawn, ac, yn anffodus, mae beth rydych chi'n ei ddisgrifio yn rhywbeth sydd yn llawer rhy gyfarwydd i minnau hefyd, fel Aelod lleol. Mae inbox rhywun yn llawn, onid ydy, o broblemau oherwydd yr argyfwng tai. Mi ydym ni mewn argyfwng tai, does yna ddim dwywaith am hynny, ac mae'r effeithiau ar bobl go iawn yn cael eu teimlo mewn sefyllfaoedd fel yna—pobl yn byw mewn tŷ lle does yna ddim digon o le i bawb, ac yn ysu i fedru cael cartref digonol, cartref cymdeithasol, oherwydd bod y rhent yn fforddiadwy. Felly, dwi'n cydymdeimlo'n fawr efo'r teulu yna. Yr ateb ar ddiwedd y dydd ydy cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Mae gennym ni lawer iawn o dai cymdeithasol neu fforddiadwy ar y gweill, gan gynnwys 359 yn eich etholaeth chi, sydd i fod i gael eu cwblhau yn ystod 2026-27.

Roeddech chi'n gofyn am y rhestr aros. Dydy'r wybodaeth yna ddim gen i i law, a dwi'n ymwybodol bod yna dri, os nad pedwar, cyngor sir ynghlwm efo'ch etholaeth chi, a'r cynghorau sir sydd yn casglu'r wybodaeth yna ac yn dal y gofrestr tai. Ond dwi'n gwybod, drwy waith mae Shelter Cymru wedi ei wneud, fod tua 140,000 o bobl ar draws Cymru yn disgwyl ar restrau aros. Efallai fod y ffigur yna wedi cynyddu erbyn hyn. Dydy hwnna ddim yn ddata mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol yn eu casglu, ond dwi eisiau gweld ni fel Llywodraeth yn gallu cael mynediad at ac yn cael y data yna, fel ein bod ni'n bod yn hollol dryloyw ynglŷn â'r sefyllfa. Diolch.

Cefnogi Tenantiaid

4. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo i wneud rhentu yn fwy teg i denantiaid? OQ64159

Diolch yn fawr—cwestiwn pwysig. Mi fyddwn ni'n gweithredu pecyn o fesurau i amddiffyn pobl sy'n rhentu, ac yn bwrw ymlaen hefyd efo mesurau i sicrhau bod rhenti teg yn cael eu gosod fel bod pris rhentu cartref mor fforddiadwy â phosib.

Diolch yn fawr. Dwi yn credu bod gwella effeithlonrwydd ynni llety rhentu preifat yn hanfodol. Mae amcangyfrif yn dangos bod 30 y cant o rentwyr preifat yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n sylweddol uwch na'r gyfradd mewn tai cymdeithasol neu gartrefi mae pobl yn berchen arnyn nhw. Dwi'n cydnabod y pryder ynghylch y costau i landlordiaid, ac i denantiaid os ydy'r costau yna yn cael eu pasio ymlaen drwy'r rhent. Yn y pen draw, mae gwella effeithlonrwydd ynni yn allweddol i leihau biliau ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond mae'n rhaid iddo fod yn ymarferol. Mi wnes i gyfarfod wythnos diwethaf y Gweinidog defnyddwyr ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mi wnes i gefnogi ac egluro wrtho fo ein bod ni’n cefnogi'r targed o gyrraedd safon EPC C erbyn 2030. Mi wnes i wneud yn glir hefyd fod yna nifer o landlordiaid yng Nghymru sydd ddim yn landlordiaid proffesiynol a byddaf i eisiau eu cefnogi nhw i ddeall eu rhwymedigaethau nhw o dan y safon newydd yma, neu'r ymgyrhaeddiad newydd, ac i gael mynediad at gyngor ar fesurau priodol a chost effeithiol. Felly, rydym ni'n awyddus i gefnogi yn y symudiad yna.

Roeddech chi'n holi am renti teg, ac yn sicr mae'r sefyllfa yn mynd yn waeth, mae'n ymddangos. Mae rhent misol preifat Cymru yn £834 ar gyfartaledd ym mis Ebrill 2026, sef cynnydd o 4.9 y cant, neu £39, o'i gymharu ar y flwyddyn gynt. Ond, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn amrywio llawer o ardal i ardal. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod ym Mhowys, 9.8 y cant, Castell Nedd Port Talbot, 9.2 y cant, Caerffili, 8 y cant, ac yn y blaen. Felly, mae angen i fynd i'r afael â hyn, ac mi wnaf i ddod â mwy o wybodaeth ymlaen ynglŷn â sut yn union rydym ni'n mynd i fod yn edrych ar reoli rhenti, ac yn edrych ar waith mewn gwahanol wledydd ar draws y byd sydd wedi llwyddo i wneud hyn yn llwyddiannus.

15:10

Diolch. Mae cwestiwn 5 [OQ64150] gan Matthew Jones wedi'i dynnu nôl. Felly, cwestiwn 6—Steven Rodaway.

Darparu 20,000 o Gartrefi erbyn 2030

6. Beth yw'r gost ar gyfer targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi erbyn 2030, a pha ffynonellau cyllid fydd yn cael eu defnyddio i gyflawni hynny? OQ64169

Y prif ffrydiau ariannu ar gyfer y targed ydy'r grant tai cymdeithasol a'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Rydym ni hefyd yn sefydlu Unnos, fydd yn gweithio'n agos efo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i hwyluso mynediad at gyllid a helpu cynlluniau i sicrhau buddsoddiad.

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gwneud penderfyniadau am lety i geiswyr lloches. Dydy tai cymdeithasol ddim ar gael i geiswyr lloches sydd yn disgwyl am benderfyniad. Mae hynny'n hollol glir. Y ffigur—. A ydych chi'n gwybod faint o geiswyr lloches sydd yng Nghymru ar hyn o bryd—unrhyw syniad o gwbl faint sydd yma? Dydy’r ffigur ddim yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru, fel roeddwn i’n esbonio yn gynharach, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Swyddfa Gartref, yn casglu'r wybodaeth, a’r ffigur sydd gen i ydy o gwmpas 3,400 o geiswyr lloches. Pobl ydy’r rhain sydd yn ffoi rhag erchyllterau, erchyllterau rhyfel, pethau fedrwn ni yn y Siambr yma dim ond yn dychmygu sut fath o fywyd a sut fath o drawma y mae'r bobl yma yn ffoi oddi wrtho. Felly, peidiwch â thrio creu rhaniadau drwy drafod problemau tai yn yr un gwynt â siarad am geiswyr lloches. Dydy'r argyfwng tai ddim byd i wneud efo ceiswyr lloches. Gobeithio bod y neges yna'n cyrraedd at y clustiau sydd angen clywed. Dydy'r argyfwng tai yng Nghymru ddim byd i wneud efo ceiswyr lloches, dydy o ddim byd i wneud efo ffoaduriaid.

15:15

Diolch yn fawr iawn, Jayne, am y cwestiwn yna. Yn y Siambr ychydig wythnosau'n ôl, mi wnes i ganmol y gwaith oedd y Llywodraeth, yn gweithio efo landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol, wedi'i wneud i symud y gwaith yma ymlaen o gyrraedd y targed 20,000. Wnaethoch chi ddim cweit ei wneud o, ond dwi'n gobeithio y bydd modd cadarnhau ein bod ni rŵan yn cyrraedd at y targed a osodwyd gan y Llywodraeth flaenorol erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae yna gynlluniau ar y gweill sydd yn fy ngwneud i'n hyderus bod hyn yn hollol gyraeddadwy a chredadwy.

O ran y tasglu tai fforddiadwy, roeddwn i, fel chi, yn rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r gwaith wnaeth Lee Waters ei arwain o gwmpas y tasglu. Dwi wedi croesawu'r argymhellion yna a dwi'n awyddus i'r argymhellion barhau i gael eu gweithredu, efo canolbwyntio'n benodol o'r cychwyn ar y rhai sy'n cyd-fynd efo'n maniffesto ni a'n huchelgeisiau ni ar gyfer Unnos. Mae'r argymhellion yna'n rhai pwysig iawn inni fod yn eu cario ymlaen, ac mi ddof i'n ôl atoch chi efo dyddiad ar gyfer y cyfarfod cyntaf.

Unnos

7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu Unnos i uwch-raddio'r broses o ddarparu cartrefi cymdeithasol ledled Cymru? OQ64175

Diolch, Lyn. Mae’r gwaith wedi dechrau i sefydlu Unnos a fydd yn galluogi cynyddu ac, yn bwysig iawn, cyflymu’r gwaith o gyflenwi tai cymdeithasol. Bydd Unnos yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i gyflymu’r cyflenwad hirdymor o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru drwy helpu i ddatgloi’r rhwystrau rhag cyflawni sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn, Lyn. Rydych chi'n gywir i dynnu sylw at nifer o broblemau yn y fan hyn. Roeddech chi'n cychwyn efo'r local housing allowance, ac yn sicr rydyn ni fel Llywodraeth yn glir ein bod ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddadrewi'r lwfans tai lleol i leihau'r bwlch rhwng rhent a budd-dal tai, gan leihau'r risg o ddigartrefedd i filoedd o deuluoedd a sicrhau eu bod nhw'n gallu cadw i fyny efo rhenti cynyddol. Felly, mi fyddaf i'n gweithio efo'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid ar y mater yma'n fuan iawn ac yn gwneud y ddadl yna i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roeddech chi'n sôn am yr angen i symud i ffwrdd oddi wrth lety dros dro. Wrth gwrs, mae Caerffili yn gwario £8 miliwn ar roi llefydd dros dro i bobl. Mi fyddai'r £8 miliwn yna'n gallu cael ei ddefnyddio llawer iawn gwell, oni fyddai, mewn ffyrdd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Ac yn y darlun mawr, pan fydd pobl yn cwestiynu faint ydy cost sefydlu Unnos, o gymharu efo'r £8 miliwn yna, mi fyddai sefydlu Unnos yn ffordd o fuddsoddi er mwyn bod y ffigwr yna'n diflannu oddi wrth gyngor fel Caerffili a nifer fawr o gynghorau sir sydd ar draws Cymru.

Dwi'n falch fy mod i wedi cefnogi'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026—yr un a wnaeth y cyn-Ysgrifennydd Cabinet tai ei harwain drwy'r Senedd diwethaf. Mi fydd hi'n gatalydd ar gyfer diwygio'r system ddigartrefedd yng Nghymru. Mae gofyn i bob rhan o'r system weithio efo'i gilydd i nodi risg cynnar ac atal argyfwng, ac mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf yna'n fuan iawn.

15:20
Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol

8. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at adolygu'r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol? OQ64179

Diolch yn fawr iawn. Mi ydw i'n gweithio efo llywodraeth leol ar y mater yma. Byddaf i’n trafod cyfeiriad yr adolygiad o’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol efo'r is-grŵp cyllid. 

Diolch yn fawr iawn, Safa. A diolch, ie, dwi'n cytuno bod y cytundeb cyllideb a wnaethon ni efo'r Llywodraeth flaenorol yn hanfodol bwysig i lywodraeth leol, a dwi'n credu mai'r ffigwr oedd £112 miliwn. Dwi wedi dweud y ffigwr yna sawl gwaith. Dwi ddim yn dda iawn am gofio ffigyrau fel arfer, ond dwi'n cofio hwnna. Fel y gwnes i nodi yn fy natganiad ar fy mlaenoriaethau'n gynharach yn y mis, mae llywodraeth leol yn bartner allweddol ar draws ystod eang o'n blaenoriaethau ni ar gyfer Cymru, ac mi fyddaf i'n gweithio'n agos efo nhw i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn y sefyllfa gryfaf bosib i ddarparu'r gwasanaethau y mae pob un ohonom ni'n dibynnu arnyn nhw.

O ran y fformiwla, medraf gyhoeddi bod yna gyfarfod o grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn digwydd ar ddechrau Gorffennaf. Rydyn ni wedi disgwyl ychydig bach oherwydd mae newid personél yn y WLGA, efo arweinydd newydd ac yn y blaen, ond un o'r pethau cyntaf y byddwn ni'n ei drafod efo nhw drwy'r grŵp cyllid ydy adolygu'r fformiwla ariannu.

15:25

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig yna, a dwi'n cytuno efo chi fod y system dreth gyngor fel y mae hi ar hyn o bryd ddim yn deg. Mae rhai o'r bobl sydd yn ennill y cyflogau isaf yn talu cyfran fwy o'u cyflogau nag ydy pobl sydd yn ennill cyflogau uwch. Dydy'r system ddim yn deg fel y mae hi, ac rydyn ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar sut medrwn ni wneud y system yn fwy teg. A dweud y gwir, mae hwn ym mhortffolio'r Gweinidog cyllid yn ogystal â'm un i, so mi fyddaf i'n gweithio efo'r Gweinidog cyllid i ddod â gwybodaeth bellach ichi ynglŷn â sut yn union fyddwn ni'n symud ymlaen a beth ydy'r camau nesaf fydd yn digwydd o gwmpas hyn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Mike. Megis dechrau mae'r trafodaethau ynglŷn â'r fformiwla. Bydd y trafodaethau yna'n digwydd, fel dwi'n dweud, drwy grŵp cyllid y WLGA, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith arweinwyr y cynghorau i gyd, ac, wrth gwrs, o dan y grŵp yna mae yna grŵp o swyddogion llywodraeth leol hefyd yn trafod yr holl fater ynglŷn â'r fformiwla. Dwi'n awyddus i edrych ar yr egwyddorion sydd y tu ôl i'r fformiwla, yn ogystal â'r newidiadau o ran mewnbynnu mwy o ddata o gwmpas addysg, er enghraifft, i mewn i'r fformiwla fel mae o ar hyn o bryd. Mae angen edrych o ddifrif ydy'r fformiwla yn ffit i bwrpas o hyd, a meddwl o ddifrif sut ydyn ni'n mynd i greu'r newid. Mae'n debyg fydd pawb, efallai, ddim ar eu hennill drwy newid y fformiwla, ond os ydy rhywun yn dod at y peth mewn ysbryd o greu tegwch ac yn rhoi'r ddadl ymlaen bod angen i'r tegwch yna ddigwydd ar draws Cymru, dwi'n credu bydd modd inni symud ymlaen.

A'r cwestiwn olaf, Weinidog, cwestiwn 9, Sarah Edwards.

Gosod Ceblau Trydan o Dan y Ddaear

9. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei chanllawiau i awdurdodau lleol ar osod ceblau trydan o dan y ddaear? OQ64151

Mae ein maniffesto ni yn cynnwys rhagdybiaeth glir o blaid claddu ceblau trydan foltedd uchel, neu ddefnyddio polion pren yn hytrach na thyrau delltog dur. Byddwn yn ymgynghori ar ddiwygio’r polisi i roi’r ymrwymiad yn ein maniffesto ar waith.

Diolch yn fawr. O ran y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd, sydd yn rhywbeth sydd yn fy mhortffolio i, dwi'n bwriadu cyhoeddi datganiad ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer lansio galwad am dystiolaeth, a bydd hynna yn digwydd yn fuan iawn. Yn ein maniffesto ni, fe wnaethon ni sefydlu rhagdybiaeth o blaid claddu ceblau foltedd uchel neu ddefnyddio peilonau pren yn hytrach na dur. Byddaf yn gweithio efo'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i sefydlu'r dull polisi i gyflawni'r ymrwymiad. Mae'n bwysig egluro na fydd pob cebl trydan newydd yn cael ei gydsynio gan Weinidogion Cymru nac yn unol â'n polisi ni gan fod rhoi cydsyniad ar gyfer ceblau trydan dros 132 kV yn cael ei gadw nôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r ddwy haen yna sydd yn bodoli. 

O dan adran 127 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, fe all Gweinidogion Cymru gyhoeddi datganiad polisi ar ein dull gweithredu ar gyfer rhwydweithiau trawsyrru trydan, gan gynnwys gosod llinellau o dan ddaear, ac wedyn mae'n rhaid penderfynu ar bob cais yn unol â'r datganiad polisi yna. Felly, fel dwi’n dweud, dwi’n credu bod—. Efallai mai dyna mae o’n ei wneud, siŵr o fod, ar hyn o bryd—trafod y polisi newydd sydd angen ei gyflwyno. Bydd angen i'r polisi fynd trwy brosesau priodol cyn iddo gael ei ddynodi er mwyn sicrhau nad ydy'r testun yn creu problemau. Diolch.

15:30
4. Cwestiynau Amserol

Cwestiwn amserol i'w ofyn i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. 

Ysbyty Glan Clwyd

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad am benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddynodi'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd fel gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol? TQ1466

15:35
15:40

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb a'r cwestiwn yna. Dwi wedi ymrwymo'n barod y byddwn ni'n adolygu'r fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd, felly mi fyddwn ni'n edrych yn gyson ar hynny ac yn edrych i weld lle y gallwn ni ei gryfhau o er mwyn cryfhau'r sefyllfa yn Betsi Cadwaladr.

Unwaith eto, dwi'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae hi'n berffaith iawn i gyfeirio at y problemau diwylliannol sy'n bodoli o fewn y bwrdd iechyd, ynghyd â'r problemau llywodraethiant. Dyna pam y gwnes i gyhoeddi papur rai blynyddoedd yn ôl ar ddiwylliant a llywodraethiant o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mi ddaru hi gychwyn efo'r cwestiwn, sut mae datrys problem fel Betsi Cadwaladr? Dyna'n union ydy'n bwriad ni—edrych ar y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd, i'w gryfhau o er mwyn gwneud yn siŵr bod aelodau annibynnol a'r cadeirydd yn cael eu grymuso er mwyn dal y bwrdd i gyfrif, a gwneud yn siŵr bod gennym ni system sydd efo hyder y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru.

Unwaith eto, mae'r Aelod yn berffaith iawn i nodi'r siom a'r pryderon dybryd—sydd, yn ymddangosiadol, ar draws y pleidiau fan hyn—ynghylch adroddiad HIW i fewn i Ysbyty Glan Clwyd, a dwi'n rhannu'r gofidiau hynny, fel dwi wedi sôn eisoes.

Mae'r Aelod yn berffaith gywir nad problem yn ymwneud â niferoedd y staff yn unig ydy hyn; mae hon yn broblem sy'n perthyn i ddiwylliant. Mae adroddiad HIW yn nodi'n glir bod yna broblemau diwylliannol mewnol o fewn Ysbyty Glan Clwyd, ac rydym ni'n gwybod bod yna ddiwylliant ar draws y bwrdd iechyd sydd angen edrych arno. Dyna pam fy mod i wedi bod yn edrych i ffeindio datrysiad i hynny. Mi rydw i wedi trafod, ac yn parhau i drafod, efo swyddogion yn y gwasanaeth iechyd, i weld sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r cwestiynau yna ynghylch y diwylliant. Achos os na fedrwn ni ddatrys hynna, yna fyddwn ni ddim yn gallu datrys dim un o'r problemau niferus sy'n wynebu Betsi Cadwaladr.

Mae yna broblemau eraill y mae'n werth sôn amdanyn nhw hefyd pan fo rhywun yn edrych ar Ysbyty Glan Clwyd. Pan wnes i ymweliad rhyw fis yn ôl efo Ysbyty Glan Clwyd, mi wnaeth un o'r swyddogion sôn am ystadegyn a ddaeth fel braw i mi. Roedd yn eithaf brawychus. Wyddoch chi, os wnewch chi ystyried maint ysbyty Glan Clwyd o gymharu efo maint Ysbyty Athrofaol Cymru—maint ardal Rhyl, Bodelwyddan a Phrestatyn o'i gymharu efo Caerdydd—mae yna wahaniaeth sylweddol, ond mae'r un faint o ymweliadau ambiwlans yn mynd i Ysbyty Glan Clwyd yn ddyddiol a beth sydd yn mynd i ysbyty’r Heath yng Nghaerdydd. Felly, mae yna broblem yn fanna. Pam mae gyda ni'r niferoedd yna o bobl yn dod i mewn? Mae'n codi cwestiwn am wendidau sylweddol a sylfaenol ein gofal cynradd a sut fedrwn ni fynd i'r afael â hynny. Dyna pam ein bod ni yn edrych i gefnogi a chryfhau gofal cynradd. Ac mae'n gofyn cwestiynau am sut y mae pobl yn dod allan o'r ysbyty yn ddiogel, hynny ydy y flow yna drwy'r ysbyty.

Felly, mae yna broblemau dyfnach y mae'n rhaid edrych arnyn nhw, ynghyd â'r pwynt creiddiol y mae'r Aelod wedi gwneud am ddiwylliant. Felly, dwi'n hapus i gymryd yr hyn mae'r Aelod wedi ei ddweud, a dwi'n awyddus i weithio yn drawsbleidiol er mwyn ffeindio datrysiad i'r problemau yma.

15:45
5. Datganiadau 90 Eiliad

Datganiadau 90 eiliad. Steve Bayliss.

Tua'r adeg yma yr wythnos nesaf, bydd nifer ohonom ni'n talu'r deyrnged olaf i Robin Evans, cerddor, cynhyrchydd a Chymro i'r carn. Yn wreiddiol o Eifionydd, fe setlodd Robin yng Nghaernarfon. Roedd yn perthyn i genhedlaeth oedd yn benderfynol o weld yr iaith Gymraeg yn tyfu'n iaith gyfoes a oedd yn perthyn i bob agwedd ar fywyd. Roedd y weledigaeth honno yn amlwg yn rhai o'r prif bethau y bydd Robin yn cael ei gofio amdanyn nhw: Mynediad am Ddim a Rownd a Rownd.

Yn y cyfnod y sefydlwyd y band Mynediad am Ddim, roedd canu poblogaidd o'r math yma yn brin iawn, ac yn ddechrau ar oes aur mewn cerddoriaeth Gymraeg fodern. Yn yr un modd, roedd Rownd a Rownd yn gysyniad arloesol, yn rhaglen deledu fyddai'n cyflwyno'r iaith i bobl ifanc mewn cyd-destun anffurfiol a phoblogaidd. Hyd heddiw, mae'n parhau i fod yn rhaglen sy'n denu cynulleidfa ffyddlon. Roedd y cyfan yn rhan o weledigaeth Robin y byddai'r iaith Gymraeg yn parhau, cyn belled â bod diwylliant yn adlewyrchu bywyd ac iaith bob dydd. 

Ond yr hyn fydd yn aros yn y cof, ochr yn ochr â'i lwyddiant a'i ddawn, oedd ei fod yn ŵr hynaws a gwylaidd. Dwi'n meddwl am Heulwen, Llio, Huw a gweddill y teulu yn y cyfnod trist yma, ac yn 'Cofio dy Wyneb', Robin.

15:50

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

6. Dadl Reform UK - gwariant rhyngwladol y Llywodraeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lynne Neagle. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Ac yn awr, rydyn ni'n symud i eitem 6, dadl Reform UK,  gwariant rhyngwladol y Llywodraeth. Galwaf ar Cai Parry-Jones i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9249 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Cristiana Emsley, Jason O'Connell, Joshua Kim

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi dod â holl wariant rhyngwladol Llywodraeth Cymru i ben.

Cynigiwyd y cynnig.

15:55

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan—yn ffurfiol.

16:00

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at agwedd ynysig Reform UK o ran lle Cymru yn y byd.

2. Yn dathlu enw da Cymru fel gwlad ryngwladol, oddefgar a blaengar sydd ar agor i fusnes sy’n elwa ar ei gwaith ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys gwariant.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Dafydd Trystan Davies 16:00:14
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution

Cynnig yn ffurfiol. 

Diolch yn fawr iawn. Galwaf nawr ar Huw Thomas i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. 

Gwelliant 2—Lynne Neagle

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 'gwariant rhyngwladol' yn 0.031 y cant o gyllideb gyfredol Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod manteision economaidd uniongyrchol y buddsoddiad hwn i bobl Cymru a busnesau Cymru, gan gynnwys y cyfraniad y mae wedi'i wneud i ddenu mewnfuddsoddiad.

Cynigiwyd gwelliant 2.

16:05
16:10
16:15
16:20
16:25
16:30
16:35

Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.

Member
Dafydd Trystan Davies 16:36:43
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution
16:40
16:45

Galwaf ar Jason O'Connell i ymateb i'r ddadl. 

16:50

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Reform UK - cofrestr statudol ar gyfer lobïwyr

Rydyn ni'n symud yn awr i'r eitem nesaf, eitem 7, dadl Reform UK, cofrestr statudol ar gyfer lobïwyr. Galwaf ar Francesca O'Brien i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9250 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Cristiana Emsley, Jason O'Connell, Joshua Kim, Sarah Cooper-Lesadd

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi creu cofrestr lobïwyr statudol ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

16:55

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Huw Thomas i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. 

Gwelliant 1—Lynne Neagle

Cefnogwyd gan Shav Taj

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Chweched Senedd ar y mater hwn ac yn galw ar ei bwyllgor olynol i fwrw ymlaen â'r cynnig i greu cofrestr lobïwyr statudol ar gyfer Cymru.

Yn galw ar yr holl bartïon â buddiant i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r gwaith hwn.

Yn cydnabod pwysigrwydd tryloywder mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n codi i gyflwyno'r gwelliant hwnnw, gwelliant dwi'n gobeithio caiff ei weld fel un cadarnhaol sy'n cryfhau nod y cynnig gwreiddiol i sefydlu cofrestr statudol o lobïwyr. 

Yn gyntaf, hoffwn roi ar gofnod ein diolch ni i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y chweched Senedd am ei waith yn datblygu fframwaith safonau cliriach, cryfach a mwy tryloyw, gan gynnwys adolygu ac ychwanegu at y cod ymddygiad yr ydym i gyd yn ei ddilyn yn y lle hwn. Rwyf hefyd yn cymeradwyo gwaith y pwyllgor safonau ar urddas a pharch, gyda phroses adalw yn arbennig o bwysig i iechyd ein democratiaeth Gymreig. Rhaid inni bob amser ymdrechu at y safonau uchaf o ymddygiad fel Aelodau o'r Senedd hon. 

Gan droi at lobïo yn benodol, mae adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor safonau wedi gadael y gwaith o symud ymlaen â'r gofrestr statudol o lobïwyr i fyny i ni, fel Aelodau newydd o'r Senedd, ac i'r pwyllgor safonau newydd. Mae'r Aelodau ar y meinciau hyn yn barod i wthio hyn yn ei flaen, ac rwy'n galw ar bob Aelod yn y lle hwn i gydweithio ar y mater. Dylai'r tryloywder ychwanegol hwn gael ei groesawu gan Aelodau'r Senedd hon a chan bawb, fel y gwnaethpwyd y pwynt jest nawr. Mae'n iawn bod y wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus i bobl ei harchwilio a'i deall. Fel Senedd wedi'i hehangu, mae gennym ddyletswydd i bobl Cymru i fod mor agored a thryloyw ag y gallwn. Diolch.

17:00

Diolch am ddod â'r drafodaeth yma gerbron heddiw.

Mae angen i ni fod yn ofalus i beidio â chreu system sy'n cosbi ymgysylltu democrataidd arferol. Dylai etholwyr, elusennau bach, grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr lleol allu siarad efo Aelodau heb ofn cael eu dal mewn biwrocratiaeth ddiangen. Ond mae gwahaniaeth rhwng hynny a lobïo proffesiynol, masnachol neu drefnus ar ran buddiannau penodol. Dyna le mae angen mwy o eglurder.

Dwi'n cefnogi'r cynnig. Dylai Cymru gael cofrestr statudol o lobïwyr. Dwi hefyd yn cefnogi gwelliant y Blaid Lafur. Mae'n cydnabod yn briodol y gwaith a wnaeth y pwyllgor safonau yn y chweched Senedd ac yn gofyn i'r pwyllgor yn y Senedd yma fwrw ymlaen gyda'r gwaith hwn ar fyrder. Dylid gwneud hynny'n ofalus, yn dryloyw a chyda chydweithio cadarnhaol gan bob plaid.

17:05
17:10
17:15
17:20

Ac yn olaf, Carmelo Colasanto. 

17:25

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies. 

Member
Dafydd Trystan Davies 17:25:32
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob un o'r cyfranwyr. Rŷn ni wedi cael trafodaeth adeiladol, ystyriol, amryw o bersbectifau, ond trafodaeth seneddol, a dwi’n diolch i bawb am eu cyfraniadau. Mae yna gryn gonsensws hefyd ar draws y Siambr hon. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn un o'r gwerthoedd yna mae ein Prif Weinidog wedi gosod allan i ni fel Llywodraeth. Felly, mae e'n dilyn, os ŷn ni am fod yn agored ac yn dryloyw fel Llywodraeth, y byddwn ni'n cefnogi'r ffaith bod y Senedd hon yn agored ac yn dryloyw. Felly, fe fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig sydd wedi ei osod yn enw Llŷr Powell prynhawn yma.

Ni ddylai sefydliadau deimlo bod angen iddyn nhw gyflogi corff allanol er mwyn cael gafael ar Weinidog neu gyfleu eu safbwynt i Lywodraeth Cymru, boed hynny ar lefel Gweinidog neu swyddog. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod bod modd i'r sector materion cyhoeddus yng Nghymru chwarae rôl ddilys, fel rŷn ni wedi clywed gan sawl cydweithiwr heddiw, a’i fod yn gwneud hynny o ran gwella dealltwriaeth o wleidyddiaeth a llywodraeth ddatganoledig, ond ni ddylai cwmnïau materion cyhoeddus fod mewn sefyllfa lle mae canfyddiad bod ganddyn nhw unrhyw fath o fantais pan ddaw hi i gael gafael ar wybodaeth, Gweinidogion neu swyddogion.

Dwi wedi nodi, fel Llywodraeth, ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw trwy wefan y Llywodraeth a thrwy ddatganiadau i'r Senedd. Dwi'n awyddus i wneud mwy o hynny, a byddwn i’n falch i glywed unrhyw syniadau ar draws y Siambr hon i gefnogi'r egwyddor honno y dylem ni fod yn agored ac yn dryloyw.

Gaf i droi at y cynnig ei hun? Mae'r Llywodraeth wedi nodi bod yr adroddiad gwaddol—fel rŷn ni wedi clywed gan sawl person—gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y chweched Senedd yn argymell bod y pwyllgor nesaf yn parhau â'r gwaith ar atebolrwydd Aelodau unigol drwy ystyried lobïo a rhoddion ymhellach. Rŷn ni'n cefnogi hynny, yn ogystal â rhagor o waith ar gofrestr lobïwyr. Fe ddaeth gwaith blaenorol y pwyllgor i'r casgliad—ac rŷn ni wedi clywed gan rai Aelodau—fod systemau Prydain a'r Alban ddim yn ddigon clir. Dwi’n credu bod yr awgrym yn fanna fod angen i ni ddatblygu ar sail dystiolaeth yn un cadarn a phwysig.

Mae adroddiad y pwyllgor safonau yn awgrymu bod nifer o ffactorau i'w hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys angen amddiffyniad gwell a chlir sy'n gwahaniaethu rhwng lobïo ac eiriolaeth, sy'n cydnabod y rôl gadarnhaol y mae eiriolaeth yn gallu ei chwarae, ac sy'n cydnabod y materion sy'n cyfrannu at ganfyddiad negyddol y cyhoedd ohoni. Mae'r adroddiad yn nodi hefyd yr angen am hyfforddiant rheolaidd a sesiynau gloywi i Aelodau ac eraill ar y rheolau lobïo. Mae'n rhaid hyrwyddo'r canllawiau yn weithredol a'u gwella drwy enghreifftiau ymarferol, darpariadau, esboniadau clir o gyfrifoldebau, ac ymestyn yr hyfforddiant i bawb sydd yma yn y Senedd.

Mae gan Gomisiwn y Senedd 

Mae gan Gomisiwn y Senedd rôl allweddol i'w chwarae ochr yn ochr â'r pwyllgor safonau wrth ddatblygu'r sail dystiolaeth ac i symud y pethau yma yn eu blaen. Mae'r Llywodraeth hon yn gefnogol i'r symudiad yna ac yn dymuno'n dda iawn i'r Senedd a'r pwyllgor newydd yn ei waith.

Mae'r gwelliant sydd wedi'i gyflwyno gan y Blaid Lafur yn un rŷn ni hefyd yn ei gefnogi. Mae'n cyd-fynd â'n safbwynt ni, sef mai mater i Gomisiwn y Senedd a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad nesaf yw bwrw ymlaen, a bwrw ymlaen gydag egni a phrydlondeb gyda'r gwaith allweddol. Dwi'n ailadrodd y dylid bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar sawl drawsbleidiol drwy'r pwyllgor ac, fel Llywodraeth sy'n ymroddedig i dryloywder a bod yn agored, fe fyddwn ni'n cefnogi'r gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch. Galwaf ar Llŷr Powell i ymateb i'r ddadl.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A gan fy mod i dal yn ffeindio fy nhraed, dwi'n mynd i holi Huw i eistedd yn fan hyn ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Oni bai fod pum Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio. 

8. Cyfnod pleidleisio

Rydyn ni'n symud i'r cyfnod pleidleisio. Eitem 5 yn gyntaf.

Eitem 5 yn gyntaf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, yn ymatal, dim, yn erbyn 48. 

17:35

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Rydyn ni'n symud nawr i amendment 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 49, yn ymatal, dim, yn erbyn 36.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM9249 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at agwedd ynysig Reform UK o ran lle Cymru yn y byd. 

2. Yn dathlu enw da Cymru fel gwlad ryngwladol, oddefgar a blaengar sydd ar agor i fusnes sy’n elwa ar ei gwaith ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys gwariant.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 48, yn ymatal, dim, yn erbyn 37. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Rŷn ni'n symud nawr i eitem 6, cofrestr statudol ar gyfer lobïwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 77, yn ymatal, dim, yn erbyn, wyth. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Nawr, rydw i'n gallu 

Nawr, rydw i'n gallu dweud beth yw canlyniad y bleidlais y prynhawn yma.

Canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Byddaf i'n dweud yr enwebai a byddaf i'n dweud nifer y pleidleisiau. Beca Brown, 40; Sera Evans, 42; ymatal eu pleidleisiau, saith; pleidleisiau wedi eu difethaf, dim; cyfanswm, 89. Rwyf felly'n datgan bod Sera Evans wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol. Rownd 1 a rownd 2. Nawr, rownd 1: Sarah Rees, 32; Zaynub Akbar, 33; Elfed Williams, 21; ymatal eu pleidleisiau, tri; cyfanswm, 89. Gan na chafodd yr un ymgeisydd fwyafrif o'r pleidleisiau dewis cyntaf, cafodd yr ymgeisydd a gafodd y nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf, Elfed Williams, ei hepgor, a chafodd ei bleidleisiau eu hailddosbarthu rhwng yr ymgeiswyr a oedd yn weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Felly, y canlyniad terfynol yw,  yn round 2: Sarah Rees, 37; Zaynub Akbar, 41. Rwyf felly'n datgan bod Zaynub Akbar wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd: Anna Nicholl, 40; Elwyn Vaughan, 41; ymatal eu pleidleisiau, saith; cyfanswm, 88. Rwyf felly'n datgan bod Elwyn Vaughan wedi ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd.

Ac yn olaf, canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Alun Cox, 30; Lindsay Whittle, 48; Elyn Stephens, 10; cyfanswm, 88. Gan ei fod wedi cael mwyafrif o'r pleidleisiau dewis cyntaf, rwy'n datgan bod Lindsay Whittle wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Llongyfarchiadau i chi i gyd, a phawb sydd—

17:40
9. Dadl Fer

Nawr, nesaf, fe gawn ni ddadl fer. Elwyn Vaughan ar gyfer y ddadl fer.

Diolch yn fawr, Lywydd. Dwi'n falch o ddweud wnaf i ddim eich cadw chi'n hir. Dwi'n gobeithio yn y lle cyntaf na fyddaf i'n cael fy nghyhuddo o fod yn ymyrryd mewn materion rhyngwladol, wrth gwrs, ond mae’r rhai hynny ohonom ni sy’n ddigon ffodus i fod wedi dysgu rhywfaint o’n hanes yn gwybod bod ‘Canu Heledd’ yn sôn am yr hen Bowys, am Bengwern, ei hanes cyfoethog a’i thranc, efo colli Cynddylan a’r Dref Wen a gorfod mudo tua gorllewin Powys. Y rhyfeddod ydy, er bod canrifoedd wedi mynd heibio, mae'r cysylltiadau Cymreig yn parhau yn gryf yn yr ardal efo enwau fel Treflach, Trefonen, Porth-y-waen

Treflach, Trefonen, Porth-y-waen a Gwern y Brenin yn dysteb i oes a fu, ac mae’r Gymraeg yn parhau i’w chlywed. Ewch i mart Syswallt ar ddydd Mercher a gallwch feddwl eich bod ym mart Gaerwen neu Ruthun. Ewch i’r siop Gymraeg yng nghanol tref Syswallt—tra bod dim un siop o’r fath ym Mhowys gyfan, gyda llaw—neu ewch i’r grwpiau dysgwyr trwy’r ardal. Ac wrth gwrs, bellach, ceir cylch Ti a Fi gan Mudiad Meithrin yn y dref hefyd, yn sicrhau parhad y Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf.

Yn wir, tra dynodwyd Caerdydd yn brifddinas Cymru ar 20 Rhagfyr 1955, 60 mlynedd cyn hynny, ym 1895, pan nad oedd gan Gymru brifddinas, traddodwyd darlith ym Mhenbedw gan Emrys ap Iwan. Cyfle fu hwn iddo wyntyllu ei farn ar ba le yn union y dylid bod y brifddinas, a’r casgliad ydoedd mai ym Mhengwern, sydd bellach Amwythig. Ac os caf i ei ddyfynnu o:

‘Fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a Gogledd, sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys—dyweder, y wlad rhwng yr afon Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan gynnwys Croysoswallt, Pengwern...a Llwydlo..., trefi oydd yn perthyn unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto.’

[Anghlywadwy.] Nawr, peidiwch â phoeni, dwi ddim yn awgrymu newid y ffiniau a chymryd Pengwern yn ôl—wel—a dwi’n siŵr fyddai cyfeillion yng Nghaerdydd ddim am iddi golli statws prifddinas, ond pery pwysigrwydd yr ardal yma. Yn economaidd, gwelwn deuluoedd ifanc yn symud o gefn gwlad Maldwyn i Groesoswallt, Amwythig a phentrefi’r ffin i gael tai, gwaith, a chyfleoedd newydd. Ac, wrth gwrs, mae gweddill Powys yn ddibynnol ar wasanaethau allweddol ysbytai Gobowen ac Amwythig—fel y tystiais yr wythnos diwethaf—sydd nid yn unig yn denu cleifion, ond yn denu staff sy’n siaradwyr Cymraeg o bell ac agos. Mae’r ardal hyd yn oed o fewn dalgylch Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027.

Wythnos nesaf, bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan y Llywodraeth flaenorol, yn cynnal cyfarfod yng Nghroesoswallt wythnos nesaf wrth baratoi ei adroddiad ar y Gymraeg y tu allan i Gymru, gan ganolbwyntio ar y Gymraeg yn sir Amwythig yn ogystal â mewn rhannau eraill o Loegr a’r byd.

Mae’r wladwriaeth Brydeinig—yr un mai rhai yn ymhyfrydu ynddi—yn llofnodwr i siarter Ewrop. Mae Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop yn gytundeb gan Gyngor Ewrop sy'n anelu at amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol a siaredir yn draddodiadol mewn gwladwriaethau sy'n bartïon ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Mae'r siarter, ynghyd â'r Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol, yn tystio i ymrwymiad hirdymor Cyngor Ewrop i amddiffyn lleiafrifoedd cenedlaethol. Mae ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Ewrop, ac mae eu diogelu a'u hyrwyddo yn cyfrannu at adeiladu Ewrop sy'n seiliedig ar ddemocratiaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol.

Mabwysiadwyd y siarter, a luniwyd ar sail testun a gynigiwyd gan Gynhadledd Sefydlog Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Ewrop, fel confensiwn gan Bwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop ym mis Mehefin 1992, ac fe'i arwyddwyd ym mis Tachwedd 1992 yn Strasbwrg. Daeth i rym ym 1998. Mae pwyllgor o arbenigwyr annibynnol yn monitro gweithrediad y siarter. Ar 28 Tachwedd 2018, mabwysiadodd y dirprwyon newidiadau i weithrediad ei fecanwaith monitro er mwyn ei gryfhau, a daeth rhain i rym ym mis Gorffennaf 2019.

Bwriad y siarter yw amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ac annog eu defnydd mewn bywyd cyhoeddus a phreifat. Felly, mae'n rhwymo gwladwriaethau—Prydain, yn y cyd-destun hyn—sy'n bartïon i hyrwyddo'n weithredol y defnydd o'r ieithoedd hyn mewn addysg, cyfiawnder, gweinyddiaeth, y cyfryngau, diwylliant, bywyd economaidd a chymdeithasol, a chydweithrediad trawsffiniol. Felly, mae'r siarter yn mynd y tu hwnt i amddiffyn lleiafrifoedd a'r frwydr yn erbyn gwahaniaethu, gan ei gwneud yn ofynnol i’r gwladwriaethau sy'n bartïon hefyd gymryd camau i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol yn weithredol. Mae Cyngor Ewrop yn sicrhau bod y siarter yn cael ei weithredu'n ymarferol.

Mae pwyslais y siarter ar diriogaeth draddodiadol yr iaith, a dyma yw’r achos yn y rhannau o sir Amwythig o dan sylw. Mae sawl gwladwriaeth 

Mae sawl gwladwriaeth yn estyn y siarter y tu hwnt i’r ffiniau gweinyddol presennol o fewn y wladwriaeth. Nid yw ffin Cymru-Lloegr yn rheswm dros beidio â chynnwys y Gymraeg yn sir Amwythig o dan y siarter. Ffin fewnol o fewn yr un wladwriaeth ydyw yn llygaid y siarter. Dan gyfraith ryngwladol, mae dyletswyddau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol dan siarter Ewrop, ac mae hyn yn cynnwys dyletswyddau sy’n weithredol tu allan i Gymru. Dan erthygl 7(3) mae dyletswydd ledled y deyrnas i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth ieithyddol gan ddefnyddio addysg a’r cyfryngau torfol i’r diben hwnnw. Hefyd, mewn perthynas â’r Gymraeg, mae’r Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i erthygl 13(2), sy’n gosod dyletswydd arni i gefnogi’r Gymraeg y tu allan i Gymru. Er hynny, pob tro mae yna gais neu ddymuniad i gael mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys, mae yna ffys, stŵr, gwrthwynebiad. Mae teuluoedd yn gorfod apelio, cwyno, herio penderfyniadau swyddogion a chael cymorth mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg a gwthio yn erbyn sefydliadau sydd ddim yn deall.

Gadewch inni fod yn uchelgeisiol. Gadewch inni hwyluso mynediad at addysg Gymraeg ymhobman. Gadewch inni fod o ddifri am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Gadewch inni ddatgan yn glir fod dwyieithrwydd yn rhywbeth i’w groesawu a’n bod yn croesawu’r siaradwyr newydd ac yn croesawu’r rhai hynny sy’n digwydd byw dros y ffin ond am ailafael yn neu gael mynediad at eu treftadaeth. Mae llwyddiant diweddar Ysgol Gymraeg y Trallwng yn esiampl wych, efo niferoedd ar gynnydd a cheisiadau yn dod o Lanymynech a Phant, sydd dros y ffin. Efo lle i 150 o ddisgyblion, mi fydd yn llawn mis Medi yma. Gwn am eraill sy’n byw yng Nghroesoswallt sy’n teithio’n ddyddiol i ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond dim ond ar ôl gorfod ymgyrchu. O sicrhau mynediad hwylus, didrafferth, yn ddi-os cynyddu fydd y diddordeb.

Felly, gofyn ydw i, Weinidog, am degwch ac i'r Gweinidog weithio efo Cyngor Sir Powys ac Amwythig, os oes angen, i sicrhau tri cham gweithredol: yn gyntaf, sicrhau bod modd i bobl ifanc gael mynediad didrafferth, di-lol a chludiant rhwydd a hwylus at addysg Gymraeg fel norm, os ydynt yn byw dros y ffin; sicrhau estyniad i Ysgol Gymraeg Trallwng fel yr agosaf at y ffin i adlewyrchu’r twf a’r brwdfrydedd lleol; a sicrhau cynllun gweithredu clir pum mlynedd i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn nalgylch Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Yn yr un modd ag y mae’r Llywodraeth yn helpu Ysgol Gymraeg Llundain a’r Cyngor Prydeinig yn buddsoddi ym Mhatagonia, dylid helpu cyngor Powys a’r teuluoedd i alluogi mynediad at addysg Gymraeg ar hyd y ffin.

Mae cynsail i gynnwys y Gymraeg yn sir Amwythig. Yn Nhachwedd 2025, cadarnhawyd bwriad y Deyrnas Gyfunol, yn dilyn ymgyrch gan Gyngor Cernyw ac eraill, i newid sefyllfa bresennol y Gernyweg yn y siarter a’i rhoi yn Rhan III o’r siarter, sy’n golygu bod yn rhaid cyflwyno 35 mesur penodol mewn meysydd fel addysg, y cyfryngau, gweinyddiaeth ac ati. Hyd hynny, bu Cernyweg yn iaith o dan Ran II yn unig. Ac o weithredu yn gadarnhaol, fel yn nyddiau Heledd pan fu’n rhaid iddi fudo o Bengwern i gastell newydd Mathrafal ger Meifod, bydd modd i siaradwyr Cymraeg y ganrif yma fudo o’r hyn yw sir Amwythig heddiw i gestyll addysgol Powys. Diolch yn fawr.
 

17:50

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg i ymateb i'r ddadl—Anna Brychan.

Member
Anna Brychan 17:54:06
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language

Diolch yn fawr am araith ddiddorol iawn. Doeddwn i ddim yn disgwyl cwpla heddiw yn trafod canu Heledd, ond gallaf i ddim dweud wrthot ti faint o bleser mae e wedi rhoi i fi i ddarganfod mai hynny sydd wedi digwydd. Ond, bydd yn rhaid iddo fe ddisgwyl gwrthwynebiad brwd wrth Aelod etholedig dros Gaerdydd os ydyw e'n moyn ein herio ni am statws prifddinas Cymru. 

Mae yna bethau diddorol iawn wedi cael eu codi yn fynna, ac fel rydyn ni'n dweud yn gyson—a dwi'n credu bod hwn yn un o'r cyfleoedd mwyaf pendant i ategu hynny eto—mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan gynnwys pobl Syswallt, o bosib, a gan gynnwys, yn sicr 

gan gynnwys, yn sicr, y plant a'r rhieni sy'n byw ar hyd pob rhan o'r ffin sy'n dymuno dysgu a mwynhau'r iaith. Ac mae'r cyfeiriadau at 'diriogaeth draddodiadol' yn rhywbeth rwy'n credu y byddaf i'n dychwelyd ato fe, i edrych arno fe. Mae hwnna'n ddiddorol yn ei hunain. Ac mae'r cyfeiriad at y Cylch Ti a Fi o dan arweiniad Mudiad Meithrin yn nhre Croesoswallt yn sir Amwythig yn dangos yn glir nad rhywbeth hanesyddol yn unig mo'r gydberthynas hon, ond rhywbeth sy'n parhau i fod yn beth byw iawn heddiw hefyd. Ac rwy'n falch, fel soniaist ti, fod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ymweld â Chroesoswallt yr wythnos nesaf er mwyn archwilio'r cymunedau Cymraeg hynny sy'n byw tu fas i Gymru, a sut allwn ni ddod â'r egni a'r brwdfrydedd hwnnw a manteisio arno fe er budd y Gymraeg a dyfodol Cymru. Ac fe fydd e'n diddori hefyd fy mod i'n cwrdd yn fuan gydag awduron y comisiwn i drafod rhai o'r elfennau yma ymhellach.

Diolch hefyd am gyfeirio at Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd yn 2027. Rwy'n bersonol—ac rwy'n siŵr bod eraill hefyd—yn edrych ymlaen yn fawr at fynychu'r dathliadau o 850 mlynedd o Eisteddfod dros yr wythnosau nesaf yma. Ac rwy'n credu fy mod i wedi cytuno i ddilyn yr Arglwydd Rhys i rywle fel rhan o'r dathliadau rheini. Ac fel pob Eisteddfod, bydd Eisteddfod 2027 yn gyfle arall i groesawu pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddathlu creadigrwydd Cymru ar ei orau ac adeiladu cydberthnasau newydd ar hyd ac ar draws y ffin, a chreu gwaddol ar gyfer dyfodol cadarnach ar gyfer y Gymraeg ym mhob rhan o dalaith Powys. Dydy e ddim yn dweud 'talaith' yn yr araith, gyda llaw—fi sy'n teimlo hynny bob tro rwy'n gyrru trwyddo fe.

Ac mae hyn oll eto yn adlewyrchu pa mor ddwfn mae'r Gymraeg wedi ymwreiddio yn yr ardal bwysig hon ac yn rhan felly o'i dyfodol. Ac mae rhoi cyfle teg i blant a phobl ifanc gael yr addysg orau posibl, a thrwy hynny ddysgu a mwynhau'r Gymraeg, ar hyd y ffin a thrwy Gymru gyfan, yn flaenoriaeth greiddiol i ni fel Llywodraeth, fel mae sawl un ohonom ni wedi cyfeirio ato fe yn areithiau'r wythnosau diwethaf yma. A dyma pam mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth genedlaethol a rhoi'r Gymraeg wrth galon y portffolio hwnnw.

Rŷn ni'n dymuno sicrhau cyfle teg at addysg Gymraeg a llwybr addysgol cryf, clir a dirwystr o'r blynyddoedd cynharaf at addysg bellach, uwch a gydol oes. Ac mae codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau'r amodau gorau ar gyfer dysgu ac addysgu yn eithriadol o bwysig inni.

Gwnes i gyfeirio ar y dechrau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae honno yn egwyddor sydd wedi'i sefydlu yn gadarn erbyn hyn, ac mae'r Llywodraeth hon am weithredu i sicrhau mai dyna'r reality ym mhob cwr o Gymru. Mae arolwg diweddar, ac rwy'n credu ei fod e'n bwysig inni gyfeirio at hyn, yn gyson yn dangos bod 82 y cant o bobl Cymru sydd rhwng 18 a 24 mlwydd oed yn cefnogi'r ymdrechion i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael dysgu Cymraeg, ac felly mae angen inni weithredu ar hynny.

Ac fel mae'r Aelod yn gwybod, mae Powys, fel pob sir arall yng Nghymru, yn gweithredu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg—CSGA i'w garedigion—a cafodd y disgwyliadau cenedlaethol eu cryfhau yn dilyn adolygiad brys o'r cynlluniau yma nôl yn 2017, cam sydd wedi gyrru ymddygiad a phenderfyniadau polisi gwell, ac mae arwyddion o hynny yn sicr i'w gweld ym Mhowys. Mae'r sir wedi gweld cynnydd o ychydig dros 2 y cant hyd yn hyn mewn addysg Gymraeg ers dechrau gweithredu eu cynllun strategol nhw, sy'n adlewyrchu'r hyn sydd i'w weld ar draws Cymru.

Cafodd Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr, fuddsoddiad i estyn yr ysgol a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a chafodd Ysgol Gymraeg y Trallwng fuddsoddiad i adeiladu ysgol newydd ar leoliad mwy, i alluogi'r ysgol honno i dyfu. Ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach i ateb galw brwd am addysg Gymraeg yn yr ardal yna. Ac mae nifer o ddatblygiadau eraill ar droed ym Mhowys hefyd, fel bydd e'n gwybod yn iawn, megis yr ysgol newydd ym Mhontsenni, Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt,

Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, a Bro Hyddgen ym Machynlleth, ac mae gan y sir hefyd ddwy ganolfan drochi hwyr erbyn hyn sy'n cynnig llwybr ychwanegol i ddysgwyr gael mynediad at addysg Gymraeg. Ac mae'r cyngor sir wedi cymryd safiad i sicrhau y bydd addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael ym mhob rhan o'r sir, gydag Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Bro Caereinion, ac Ysgol Calon Cymru oll ar siwrnai i drosi i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'n bwysig dathlu'r llwyddiannau yma a chefnogi’r momentwm a gweithio gyda'n gilydd i wneud cynnydd pellach.

Ond mae yna rwystrau hefyd yn y system, ac mae'n rhaid i ni ddeall yn well beth sydd wrth wraidd y rhwystrau hynny. Rŷn ni wedi ymrwymo, fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod cyntaf, i gynnal adolygiad brys o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, yn cynnwys un Powys, ac mae'r gwaith hwnnw yn digwydd ar hyn o bryd. A bydd yr Aelod yn falch iawn o glywed mai ein bwriad yw ystyried materion cludiant a'r Gymraeg, gan gysylltu gyda'n hymrwymiad fel Llywodraeth i gynnal adolygiad brys o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Ac mae'r trafodaethau, gydag adran ydy'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, wedi dechrau eisoes.

A hoffwn i gadarnhau hefyd i'r Aelod ein hymrwymiad i drafod y mater y mae e wedi'i godi heddiw gyda Chyngor Sir Powys. Rwy'n gwybod ei fod eisoes mewn trafodaethau gyda Chyngor Swydd Amwythig. Felly, fel mae'r Aelod wedi nodi, mae yna deuluoedd o Gymru sydd yn byw ar y ffin sy'n dymuno addysg Gymraeg i'w plant, ac fe ddylai hynny fod yn bosibl. Rŷn ni a'r sir yn gytûn bod angen dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i ddysgwyr ar y ffin sydd am gael mynediad i ysgolion Cymraeg, ac mae hyn yn cynnwys dysgwyr dros y ffin hefyd, os ydyn nhw'n dymuno dysgu'r Gymraeg yng Nghymru a bod lle iddynt, wrth gwrs, yn yr ysgolion lleol.

Felly, bydd yr adolygiad o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd yn ein cynllun 100 diwrnod, yn ystyried y mater yma, ac yn cyfrannu'n fwy cyffredinol at ein gwaith strategol, hir dymor i wireddu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, a bydd yn sicrhau cyfle teg i gael addysg Gymraeg. Ac mae hynny yn cynnwys mwy o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg hefyd, wrth gwrs, mewn ysgolion Saesneg a dwy iaith, ac rŷn ni hefyd wedi rhannu uchelgais i sicrhau cyfle i hanner plant Cymru fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Mae yna heriau, ond yr hyn sy'n fy nghalonogi i, a'r Aelod hefyd, gobeithio, yw clywed am y negeseuon sydd eisoes yn dod oddi wrth awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r rhai rhwystrau systemig, oes, mae yna gyfleoedd weithiau'n cael eu colli, ond mae yna awydd i wneud y Gymraeg yn well, fel y dywedwyd wrth rhai o'n swyddogion ni oedd yn ymwneud â hyn—pobl mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd oedd yn dymuno i hyn ddigwydd. Mae dathlu cynnydd yng ngallu dysgwyr yn y Gymraeg yn rhywbeth—mae yna rannu hynny ar draws Cymru. Ac mae'n wych clywed bod hynny'n wir ar draws ochr arall y ffin hefyd.

Mae gyda ni waith i wneud, does dim amheuaeth i gael am hynny, ond beth rwy eisoes wedi dechrau gweld yw, gydag uchelgais gyffredin rŷn ni wedi'i gyfleu yma heddiw a dros yr wythnosau diwethaf, bod yna awydd i gydweithio ar draws Cymru a chefnogaeth briodol. Felly, mae gweithredu yn bosibl os ydyn ni'n ei wneud e gyda'n gilydd er gwell. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch i Elwyn Vaughan, a diolch hefyd i'r Gweinidog Cabinet. Daw hynny a throfodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:04.