Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb. Croeso i chi i gyd. 

Rydym ni'n symud nawr i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac yn gyntaf, cwestiwn 1, Andrew Griffin. 

Trefniadau Diogelu mewn Ysgolion

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trefniadau diogelu mewn ysgolion ledled Cymru? OQ64099

Rŷn ni i gyd wedi ein brawychu gan droseddau erchyll y pedoffeil Neil Foden yn Ysgol Friars, ac yn ymwybodol o'r gyfres o fethiannau ar draws sawl sefydliad a gafodd eu hadnabod gan yr adroddiad 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder'. Daeth troseddau Foden i'r golwg oherwydd dewrder ei ddioddefwyr—plant ysgol a oedd i fod yn saff. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau, hyd orau ei gallu, na welwn achos fel hon byth eto, ac y bydd gwersi adroddiad 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', a 'Clywch', yn cael eu dysgu yn llawn?

Mi gofiwn am byth, wrth gwrs, fel mae'r Aelod yn dweud, ffieidd-dra'r troseddau gan Foden, a do, mi gymerodd ddewrder rhyfeddol ar ran y bobl ifanc yna.

Rydym ni yn cymryd pob cam y gallwn ni o fewn ein grym ni i leihau y risg o unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto. Mae magu diwylliant newydd yn gwbl allweddol, lle mae plant, ac athrawon hefyd, yn teimlo yn ddiogel i siarad. Rydym ni'n barod yn cymryd camau mewn ymateb i'r adolygiad, yn cynnwys cryfhau canllawiau'r statudol a chefnogol i ysgolion, ac mae adolygiad o adran 5 yr adroddiad yn mynd i gael ei lansio yn fuan iawn. Fyddwn ni ddim yn llaesu dwylo mewn unrhyw ffordd wrth sicrhau ein bod ni'n gweithredu ac yn cymryd camau bras er mwyn pobl ifanc y rhan yna o Gymru a drwy'r genedl. 

13:35
Lleihau'r Baich Treth

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio ei phwerau datganoledig i leihau'r baich treth yng Nghymru? OQ64127

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog ac, yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas. 

13:45
13:50
Adfywio Strydoedd Mawr

3. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i adfywio strydoedd mawr yn Bangor Conwy Môn? OQ64107

Mae sefydlu’r tasglu canol trefi yn dangos ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i adfywio canol trefi ar hyd a lled Cymru. Mi fydd y tasglu yn edrych ar opsiynau ar gyfer ardrethi annomestig a diwygio’r broses gynllunio i gefnogi canol trefi mwy bywiog, amrywiol a defnydd cymysg. Mi fydd hyn yn cynnwys darparu mwy o gartrefi a gwneud gwell defnydd o eiddo gwag. Mi ydym ni am i'n stryd fawr ffynnu a chwarae rôl bwysig mewn economïau lleol ar gyfer y dyfodol.

13:55

Diolch, Brif Weinidog, am yr ymateb. Mae Bangor Conwy Môn yn gartref i nifer o strydoedd mawr a oedd unwaith yn ganolbwynt ar gyfer gweithgaredd a thwf economaidd, ond mae blynyddoedd o lymder dan y Ceidwadwyr a diffyg strategaeth synhwyrol gan Lywodraeth flaenorol Cymru wedi golygu bod nifer ohonynt eisoes wedi dirywio. Yn achos Bangor, fel enghraifft, dinas brifysgol a oedd yn arfer bod ymysg y strydoedd mawr prysuraf yng Nghymru, sydd erbyn hyn yn gweld gormod o fusnesau'n cau eu drysau a'r potensial am stryd fawr fodern yn cael ei golli. Mae gen i bob ffydd y bydd y Llywodraeth yma'n mynd ati i adfywio'n strydoedd mawr gyda datrysiadau arloesol, strategaeth gredadwy a chefnogaeth wirioneddol i alluogi busnesau annibynnol i ffynnu. A all y Prif Weinidog felly amlygu sut bydd Llywodraeth Cymru yn annog gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a gweithredu cynllun adfywio uchelgeisiol ar gyfer strydoedd mawr fel Bangor, gan ganolbwyntio ar ddenu'r buddsoddiad angenrheidiol a sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r stryd fawr?

Dwi'n gwybod beth sydd wedi digwydd i Stryd Fawr Bangor, achos Stryd Fawr Bangor oedd fy stryd fawr i pan oeddwn i'n tyfu fyny ac, ydy, mae o'n siom i bobl o fy oed i, sy'n cofio'r prysurdeb mewn blynyddoedd a fu, i weld gymaint llai o egni sydd i'w deimlo yna. Ond dwi'n dal yn gweld potensial. Dwi'n gweld dinas falch sydd yn barod i weld ei stryd fawr yn cael ei hailegnïo. Y gair allweddol i fi yn y cwestiwn oedd 'partneriaeth'. Mae yna bartneriaeth allweddol: busnesau ym Mangor—mae yna bobl mewn busnes ym Mangor sydd yn wirioneddol eisiau gweld cynnydd; mae yna brifysgol ym Mangor dwi eisiau gweld yn rhan allweddol fel partner; ac mae'r cyngor, dwi'n gwybod, yn eiddgar i symud ymlaen. Tynnu'r partneriaid yna at ei gilydd sy'n bwysig, a dwi'n meddwl bod y tasglu canol trefi yn mynd i fod y ffordd ddelfrydol i ddechrau ar y gwaith o dynnu'r bobl ynghyd sydd eu hangen i sicrhau bod yr amgylchiadau'n cael eu creu i symud ymlaen, a hynny ar ben y camau rydw i wedi crybwyll yn barod, fel edrych eto ar ardrethi busnes.

Cyllid Seilwaith Ffyrdd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid seilwaith ffyrdd yng Ngŵyr Abertawe? OQ64089

14:00
Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd Ffynnon Taf? OQ64114

14:05
14:10
Prosiectau Seilwaith Ynni

6. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer prosiectau seilwaith ynni yn Sir Gaerfyrddin? OQ64129

Y Sgandal Cladin

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi tenantiaid y mae'r sgandal cladin yn Victoria Wharf yn effeithio arnynt? OQ64124

Rydyn ni'n gweithio yn gyflym i ddatblygu rheoliadau o dan y Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 i sicrhau bod leaseholders yn cael eu gwarchod. Hyd yma, mae'r warchodaeth wedi bod ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Wrth i ni agosáu at nawfed pen-blwydd trasiedi Grenfell ddydd Sul yma, mi allaf gadarnhau bod y Llywodraeth yma yn mynd i gymryd pob cam addas i sicrhau bod y rhai sydd wedi arwyddo cytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru yn delifro ar eu hymrwymiadau nhw o dan y cytundeb hwnnw.

14:15

Diolch, Brif Weinidog. Dwi eisiau ychwanegu fy llais i i'r corws trawsbleidiol ar y mater hwn. Dwi'n gwerthfawrogi fy nghyfaill i'n codi'r pwnc yma.

14:20

Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn un o aelodau etholaeth yng Nghaerdydd ac yn gyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, lle mae llawer iawn o'r adeiladau yma, wrth gwrs, felly dwi'n deall yr ymwneud y mae o wedi'i gael ar y mater yma.

Dull Cynllunio a Arweinir gan Gymunedau

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo dull cynllunio a arweinir gan gymunedau? OQ64100

Cwestiwn 9 [OQ64088]—tynnwyd yn ôl. Felly, cwestiwn 10, Cristiana Emsley.

Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996

10. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r pobl sy'n gwneud datgeliadau gwarchodedig rhag niwed, ac ehangu amddiffyniadau adrodd o dan Adran 43 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996? OQ64091

14:25
Perfformiad Unedau Damweiniau ac Achosion Brys

11. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad unedau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru? OQ64082

Ac yn olaf, Brif Weinidog, cwestiwn 12, Jane Dodds.

Gofal Plant

12. Beth yw blaenoriaethau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant? OQ64131

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog ac Aelodau'r Senedd hefyd.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rydym ni'n symud yn awr at y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan. 

Member
Heledd Fychan 14:30:06
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ers y Cyfarfod Llawn diwethaf, mae un ychwanegiad wedi'i wneud i agenda heddiw. Yn hwyrach y prynhawn yma, mi fydd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn gwneud datganiad ar wydnwch seilwaith allweddol. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i bob Aelod yn electronig. 

Yn sicr. Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater hynod o bwysig, a, fel rydych chi wedi dweud yn berffaith iawn, mater trawsbleidiol y mae gofyn i ni weithio gyda'n gilydd drosto fo? Mae'r Gweinidog Cabinet a'r Dirprwy Weinidogion perthnasol yma, a dwi'n siŵr y byddan nhw yn falch iawn o ddod â datganiad ymlaen, boed hynny yn ysgrifenedig neu'n llafar. Mi wnaf i drafod efo nhw o ran hynny. Ond, yn sicr, mi oedd yna ymrwymiad yn y chweched Senedd i weithio'n drawsbleidiol; dwi'n gobeithio y cawn ni'r un ymrwymiad yn y seithfed Senedd hon. 

Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mi fyddwn i'n argymell eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet perthnasol yn amlinellu eich pryderon chi, ac mi fyddwch chi, dwi'n siŵr, yn cael yr ymateb drwy'r sianeli priodol.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, mi fyddwch chi wedi bod yma ar gyfer datganiad blaenoriaethau'r Gweinidog Cabinet dros iechyd yr wythnos diwethaf, lle buodd o'n glir ynglŷn â'i ddisgwyliadau o ran perfformiad ac argaeledd triniaeth ledled Cymru, boed hynny yng Nghymru wledig neu boed hynny'n drefol ac ati. Mi fyddwn i'n eich annog chi i fod yn parhau i ymgysylltu gyda'r Gweinidog Cabinet. Mi fydd yna gyfleoedd eraill i fod yn croesholi'r Gweinidog Cabinet yma. Ond, fel y gwelsoch chi yr wythnos diwethaf, mae eisoes wedi bod datganiad ynglŷn â blaenoriaethau'r Gweinidog a'r parodrwydd hwnnw i weithio ledled Cymru i ganfod y datrysiadau rydyn ni'n eu deisyfu.

14:35

Diolch. Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r pwynt yma? Mi welais i'r people's emergency briefing cyn yr etholiad a chael fy mrawychu'n bersonol gan hynny. Yn sicr, mi fyddwn i'n annog pob Aelod, os nad ydych chi wedi'i wylio eto, i wylio hwn, oherwydd mae yna wersi pwysig i bawb yma yng Nghymru, ond yn rhyngwladol hefyd, ynglŷn ag effaith newid hinsawdd ond hefyd y cyfleoedd sydd yna i ni ymateb. Yn sicr, o ran y cyfrifoldebau, fi fel Aelod Cabinet sydd efo cyfrifoldeb dros ddarlledu. Yn amlwg, fedrwn ni ddim dweud wrth ddarlledwyr beth i ddarlledu, ond beth fedrwn ni ei wneud drwy'r gwaith y bydd y Gweinidog Cabinet perthnasol yn ei wneud ydy sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu, ein bod ni'n gweld gweithredu. Dwi'n meddwl bod yna rôl i ni i gyd i fod yn rhannu'r linc i'r ffilm bwysig hon ac annog pawb i fod yn ymwneud a deall beth ydy'r gwir heriau rydym ni'n eu hwynebu yma yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Lywydd, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n datgan hefyd ddiddordeb gan fod hwn yn fater sy'n effeithio ar etholwyr ac dwi innau hefyd ar y record yn codi pryderon yn ystod y chweched Senedd, a hefyd yn codi'r mater ar ran etholwyr ar y funud gyda'r Gweinidog Cabinet fel Aelod etholaeth.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Cabinet wedi cyfarfod â chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn barod, ac wedi nodi ei ddisgwyliadau clir bod y broses werthuso swyddi yn cael ei hanrhydeddu. Mi amlygodd hyn ar y record yr wythnos diwethaf. Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog Cabinet yma heddiw. Dwi'n ymwybodol hefyd eich bod chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet, ac, yn sicr, mi fyddwn ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth i barhau i gydweithio ag Aelodau etholedig perthnasol, ond hefyd â'r bwrdd iechyd a'r undeb, i sicrhau bod yna ddatrysiad i hyn a'n bod ni'n gallu gweld y gwasanaeth yn ailddechrau. Ond, yn sicr, mae'r Gweinidog yma ac wedi clywed eich galwadau chi heddiw.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Dwi'n siŵr, Lywydd, y bydd yr Aelod wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, a hefyd wedi nodi'r datganiad a wnaed gan y Gweinidog Cabinet yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n annog unrhyw Aelod yma sydd efo pryderon am ddatblygiadau penodol i ymgysylltu drwy'r ffyrdd arferol, a hynny drwy ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet perthnasol. Dyna y byddwn i'n eich annog chi i'w wneud yn yr achos yma.

14:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. A hithau'n Wythnos Gofalwyr, dwi'n meddwl fy mod i'n siarad ar ran pawb yma o ran y gwerth a'r rôl bwysig mae gofalwyr di-dâl yn arbennig yn eu chwarae, a'r arbedion sylweddol i'r gwasanaeth iechyd oherwydd eu hymroddiad nhw—dros £10 biliwn y flwyddyn ydy'r arbedion hynny. Ond, yn amlwg, mae'r straen yn aruthrol ar yr unigolion hynny ac yn rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod gennym ni pan oeddem ni'n wrthblaid, ond hefyd yn ein maniffesto ni. Mae'r ffaith bod yna o leiaf 300,000 o ofalwyr di-dâl yma yng Nghymru yn ffigwr uchel aruthrol ac yn rhywbeth rydym wedi bod yn adlewyrchu arno fo. Mi ydym ni yn gwerthfawrogi yr effaith hon ac, yn sicr, mae'r ffaith bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yma—. Mae gennym ni ymrwymiadau clir o ran sut gallwn ni wella'r gefnogaeth honno. Ond, yn sicr, mi fyddwn ni eisiau adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn flaenorol. Mae hwn yn parhau yn bwnc o bwys.  

Gaf i ddiolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna? O ran y mater cyntaf, yn amlwg, mae yna gyfle. Dwi'n falch bod y Gweinidog Cabinet yma i wrando hefyd. Ac yn sicr, dwi'n siŵr y bydd o'n awyddus i ddeall rhai o'r heriau sy'n cael eu hwynebu. Mae'r targedau ailgylchu yn rhai lle mae Cymru wedi bod ar flaen y gad, ond nid da lle gellir gwell. Ac yn amlwg, mae yna broblemau o ran y tipio anghyfreithlon rydym ni'n ei weld ac ati. Felly, yn sicr, mi fydd yna gyfle i ofyn rhagor o gwestiynau i'r Gweinidog yfory, yma ar lawr y Senedd, ac mi fyddwn yn annog Aelodau i gymryd y cyfle hynny. 

O ran yr ail bwynt, yn amlwg, mae Betsi Cadwaladr yn bwnc sydd, yn haeddiannol, wedi derbyn nifer o gwestiynau ar lawr y Senedd hon a chan Aelodau. Mi oedd y Gweinidog Cabinet yn glir yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i ymrwymiad o, ac wedi eisoes cyfarfod efo cadeirydd a phrif weithredwr bwrdd Ysbyty Glan Clwyd i wneud yn glir yr hyn mae o'n ei ddisgwyl o ran gwelliannau i hyn. Os oes gennych chi gwestiynau penodol yr hoffech chi drafod ymhellach, byddwn i yn eich annog chi i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond, yn amlwg, mae hwn yn fater sydd yn dod i fyny yn gyson, ac yn haeddiannol felly, ac yn rhywbeth dwi'n gwybod y bydd y Gweinidog Cabinet yn awyddus i barhau i ddiweddaru Aelodau arno fo yn y ffordd dryloyw yr ydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i weithredu arno. 

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag argyfwng pensiynau Capita a'r effaith mae'n ei chael ar weithwyr a phobl sydd wedi ymddeol yng Nghymru? Dwi'n gwybod bod nifer o bobl wedi cael eu heffeithio ganddo drwy'r oedi cyn derbyn eu taliadau pensiwn. Nid yw hynny'n cynnwys nifer o bobl sydd wedi cael eu hatal rhag ymddeol oherwydd oedi posib, na'r bobl sy'n methu cynllunio'n iawn am nad yw'r datganiadau pensiwn ar gael. Byddai datganiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl sydd wedi cael eu heffeithio.

14:45

Diolch yn fawr iawn am godi mater o bwys mawr. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni fel Aelodau etholaeth wedi derbyn etholwyr yn cysylltu gyda ni yn bryderus dros ben am hyn. Gadewch i mi fod yn glir, mae problemau gweithredol parhaus gyda chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil yn annerbyniol, ac mae aelodau Cymreig cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil yn haeddu gwasanaeth gwell. Mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y problemau y mae gweithwyr ledled Cymru wedi'u hwynebu oherwydd digwyddiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Mi fyddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Cabinet perthnasol roi diweddariad i'r holl Aelodau o ran hyn.

Lywydd, dwi ddim yn siŵr os oedd yr Aelod yma ar gyfer y sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog, lle gofynnwyd y cwestiwn hwn, ond yn sicr mi oedd yna ateb diamwys iawn a chadarn gan ein Prif Weinidog. Yn sicr, o ran Plaid Cymru, dydyn ni ddim angen Reform yn pregethu wrthym ni ynglŷn â dyfodol Port Talbot, a ninnau wedi bod yn ceisio cael Llywodraeth i fod yn gwladoli ac edrych ar opsiynau amgen. Mi oedd y Prif Weinidog yn glir bod y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a phrif swyddog gweithredol Tata Steel wedi trafod ddoe—ddoe neu ddydd Llun? Ddoe, sori. Mae hi wedi bod yn wythnos hir yn barod. [Chwerthin.] Fe gafwyd sicrwydd bod y cwmni yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i brosiect y ffwrnais arc drydan. Mi gadarnhaodd Tata fod y cwmni eisoes wedi cwrdd â chyfres o gerrig milltir allweddol yn y cyfnod adeiladu a chludo cydrannau mawr sy'n ymwneud ag adeiladau'r ffwrnais arc. Felly, mae Tata yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol ac asiantaethau eraill i hyrwyddo'r prosiect yn gyflym ac yn ddiogel. Mi fyddwn ni, fel Llywodraeth, yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi'r gwaith hwn. Fel y nododd y Prif Weinidog hefyd, ar gyfer llawer o'r ysgogiadau hyn, nid oes gennym ni'r grym yma yng Nghymru; rydym ni angen gweithio mewn partneriaeth efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'r ymrwymiad hwnnw eisoes wedi ei wneud yma heddiw gan y Prif Weinidog.

Mae'n ddrwg gen i, Janet, ond mae'n rhy hir nawr.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, gaf i ddweud pa mor ofnadwy ydy clywed y stori yna? Yn amlwg, mae hynny'n gyfan gwbl annerbyniol, ac mi fyddai pawb yma, dwi'n siŵr, wedi'u brawychu o glywed hynny. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd, drwy waith achos fel Aelodau, wedi dod ar draws achosion cyffelyb lle mae hynny wedi bod yn annerbyniol. Dydy o ddim yn deg â'r cleifion, dydy o ddim yn deg â theuluoedd, dydy o ddim yn deg â staff yn y fath amgylchiadau.

Mi fyddwn i'n hoffi rhoi'r sicrwydd i chi fod y Gweinidog Cabinet wedi cyfeirio at hyn yr wythnos diwethaf. Mae o eisoes wedi bod yn trafod hyn ac yn mynd ati i weld sut byddwn ni'n gallu cymryd camau pendant. Mi fu'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn ymweld ag un hwb llawfeddygol a diagnostig yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd yn gweld effaith go iawn ar gleifion. Mae yna ystod o bethau rydyn ni'n trio eu gwneud i osgoi pobl yn cyrraedd sefyllfa o argyfwng fel yna, oherwydd dylai fod triniaeth gynt ar gael a ddim ar y pwynt yna. Felly, yn sicr, mae'r ymrwymiad pendant yna gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ac mae o yma ac wedi clywed hwnna gennych chi heddiw.

14:50

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi mater o bwys, mater mae'r Gweinidog Cabinet dros iechyd wedi gwneud nifer o ddatganiadau pendant a chlir amdano, a hefyd sut rydyn ni'n bwriadu mynd i'r afael efo'r heriau hynny o ran gweithlu. Mi fydd yna uwchgynhadledd yn digwydd yn fuan iawn, sydd â ffocws pendant ar hyn, a dwi'n gobeithio bod yr ymrwymiadau hynny wedi bod yn glir. Yn amlwg, yn dilyn yr uwchgynhadledd, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn diweddaru'r Senedd hon. 

Gaf i ddiolch, Lywydd, i'r Aelod am godi'r mater hwn? Yn amlwg, mae o'n bwnc a gododd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mi fyddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ar yr adeg hynny.

14:55

Lywydd, gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn? Mi wnaf i nodi eto fod hyn wedi codi yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac wedi codi yr wythnos diwethaf. Yn sicr, mi fyddwch chi'n ymwybodol bod pob un o'r Gweinidogion Cabinet wedi ymrwymo i fod yn gwneud datganiad ar flaenoriaethau'r portffolio. Mae hynny eisoes yn yr amserlen tair wythnos, ac mi fydd yna gyfle i holi'r Gweinidog Cabinet ar yr ystod o feysydd hwnnw yn ystod hynny, ac, yn amlwg, mae yna ymrwymiadau hefyd wedi cael eu gwneud gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw.

Diolch yn fawr i'r Aelod am godi'r ddau fater hwnnw. Yn gyntaf oll, o ran amseroedd aros, mi wnaeth y Gweinidog Cabinet dros iechyd ddatganiad yr wythnos diwethaf. Mi fyddwn ni'n diweddaru'r Senedd. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo, a hynny ar fyrder, ac mi fyddwn ni yn sicrhau bod yna ddiweddariadau rheolaidd i holl Aelodau'r Senedd hon. Dydy'r Llywodraeth hon ddim yn ofni craffu. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn dryloyw, ac mi fyddwn ni'n rhannu'r wybodaeth wrth i'r gwaith hwnnw ddatblygu.

O ran yr ail bwynt, dwi'n siŵr bydd yr Aelod yn falch o glywed bod yna gyfle i fy holi i, fel Gweinidog efo cyfrifoldeb dros chwaraeon a diwylliant, yr wythnos nesaf. Mi fyddaf i'n amlinellu fy mlaenoriaethau cychwynnol i ar gyfer y meysydd allweddol bwysig hyn, a byddwn i'n ei annog o, gobeithio, i fy holi wythnos nesaf, pan fydd yna fwy o fanylion ar gael hefyd.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Rydyn ni'n symud ymlaen nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Lleol, Tai a Chynllunio: blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol, tai a chynllunio. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Siân Gwenllian.

Member
Sian Gwenllian 14:57:54
Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning

Diolch, Lywydd, a braint i mi heddiw ydy nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer y portffolio llywodraeth leol, tai a chynllunio. Mae cartref diogel a chynnes yn rhywbeth y dylai pawb yng Nghymru ei gael. Cartref ydy'r sylfaen ar gyfer ein hiechyd a'n lles, ein cysylltiad â'n cymunedau a'n gallu ni i ddysgu ac i weithio. Ond, er hynny, mae'r angen sylfaenol yma tu hwnt i gyrraedd miloedd o bobl ar hyd a lled Cymru.

Yr hyn sydd wrth wraidd yr argyfwng tai yng Nghymru ydy prinder cartrefi. Mae hyn yn arwain at gynnydd mewn rhenti, yn golygu bod perchen cartref y tu hwnt i gyrraedd llawer gormod o bobl, ac yn gorfodi teuluoedd i fyw mewn cartrefi anaddas neu i adael eu cymunedau. Dwi'n benderfynol o gyflymu'r broses o gynyddu'r cyflenwad o cartrefi cymdeithasol dros dymor y Senedd yma, er mwyn taclo digartrefedd, er mwyn cadw pobl allan o lety dros dro anaddas, gwneud tai yn fwy fforddiadwy a rhoi mwy o ddewis i bobl lle maen nhw'n byw.

Trwy weithio efo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol, mi fyddwn ni'n cefnogi datblygu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030, gan sicrhau eu bod nhw o safon uchel ac yn effeithlon o ran ynni. Mi fyddaf i'n gweithio'n ddiflino efo'n landlordiaid cymdeithasol a'n partneriaid allweddol eraill i gyrraedd y targed yma.

Mi fyddwn ni hefyd yn sefydlu Unnos, corff datblygu cenedlaethol newydd a fydd yn alluogwr ar gyfer cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Mi fydd Unnos yn gweithio mewn partneriaeth efo partneriaid allweddol i gyflymu'r cynnydd yn y cyflenwad tymor hir o gartrefi cymdeithasol newydd.

Ar hyn o bryd, mae un o bob chwech o aelwydydd yng Nghymru yn rhentu'n breifat. Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rhan bwysig yn y maes tai yng Nghymru, ac mae llawer o landlordiaid yn darparu llety a chymorth o ansawdd uchel. Ond mae gormod o bobl yn wynebu ansicrwydd o ran tai neu'n byw mewn cartref rhent o safon is. Felly, mi fyddwn ni'n gweithredu pecyn o fesurau i amddiffyn pobl sy'n rhentu, ac yn bwrw ymlaen hefyd efo mesurau i sicrhau bod rhenti teg yn cael eu gosod, fel bod pris rhentu cartref mor fforddiadwy â phosib.

Rydyn ni'n wynebu argyfwng tai, a hynny o ganlyniad i sawl ffactor sy'n gorgyffwrdd: materion hanesyddol sydd wedi arwain at gyflenwad tai annigonol, prisiau tai'n codi a rhenti'n cynyddu. Mae hynny'n gadael pobl mewn tlodi neu mewn argyfwng. Fy mwriad ydy cyflwyno cynigion i ddeddfu ar gyfer yr hawl i dai digonol i bawb. Mi fydd y polisi tai yng Nghymru yn gwireddu'r hawl yma'n raddol, gan ganolbwyntio ar daclo digartrefedd, gwneud yn siŵr bod costau tai yn adlewyrchu incwm lleol yn well, cefnogi perchnogaeth gymunedol, hybu’r iaith a'r diwylliant Cymraeg, a helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau.

Mae gormod o bobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi o safon wael sy'n anodd eu gwresogi. Mae costau gwresogi a rhedeg cartref yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar deuluoedd, ac mae chwarter aelwydydd Cymru bellach mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn effeithio ar iechyd a lles, ac yn rhwystro cyfleoedd bywyd. Dwi'n benderfynol o wneud popeth y gallaf i helpu aelwydydd a theuluoedd ym mhob cwr o Gymru. Mi fyddaf i'n gwneud yn siŵr bod mwy o waith yn cael ei wneud i leihau biliau ynni drwy hyrwyddo gwella effeithlonrwydd ynni a safon cartrefi. Mi fyddaf i'n diogelu'r cymorth i'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd difrifol, ac mi fyddaf i hefyd yn edrych ar sut gallwn ni fynd ymhellach ac yn gyflymach i wella safonau byw, i daclo tlodi tanwydd, ac i leihau allyriadau carbon cartrefi. Ac, yn ein 100 diwrnod cyntaf, mi fyddwn ni'n adolygu'r rhaglen Cartrefi Cynnes i sicrhau ei bod hi'n darparu cymorth effeithiol. 

Er mwyn taclo'r heriau o ran tai, mae angen inni wneud y defnydd gorau o'r stoc tai sydd gennym ni'n barod. Dwi'n ymwybodol iawn o sut mae lefelau uchel o ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn gallu effeithio ar gymunedau, gan ei gwneud hi'n anoddach i bobl leol fforddio tai, a chyfrannu at ddirywiad cymunedau a’r iaith Gymraeg. Dwi'n benderfynol o ganolbwyntio o'r newydd ar y mater yma, gan weithio efo awdurdodau lleol i ddod o hyd i atebion.

Cymunedau ffyniannus ydy anadl einioes ein cenedl, ac felly dwi yn bwriadu cyflwyno Bil hawl y gymuned i brynu. Mi fydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i asedau cymunedol gwerthfawr, gan gynnwys adeiladau a thir ar gyfer tai, ddod yn eiddo i'r gymuned. Mi fyddaf i hefyd yn sefydlu tasglu canol trefi o fewn ein 100 diwrnod cyntaf. Bydd y tasglu yn edrych ar sut i ddatblygu eiddo preswyl yng nghanol trefi, er enghraifft, fel bod modd i fwy o bobl fyw yng nghanol ein trefi ni a’u galluogi nhw i ddatblygu yn ganolfannau bywiog.

A, Lywydd, dwi'n falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno dau ddarn mawr o ddeddfwriaeth, sef Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 a Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026. Fe basiwyd y rhain drwy'r Senedd efo cefnogaeth unfrydol, drwy waith yr Aelod Cabinet blaenorol yr oeddwn yn falch iawn o gydweithio efo hi. Wrth inni nodi naw mlynedd ers trasiedi Tŵr Grenfell y penwythnos yma, dwi wedi ymrwymo i weithio efo partneriaid i groesawu'r cyfleon trawsnewidiol mae'r ddeddfwriaeth benodol ar ddiogelwch adeiladau yn eu cynnig. Mae'n hanfodol cael system gynllunio effeithiol. Mae angen rhoi lle canolog i'r gymuned, gan amddiffyn a chryfhau arweinyddiaeth leol. I wneud hyn, mi fyddwn ni'n cymryd camau pellach i ddiwygio a symleiddio'r fframwaith deddfwriaethol a pholisi ym maes cynllunio.

Gyda chartref yn sylfaen ar gyfer lles a pherthyn, mae gwasanaethau cyhoeddus cryf ac effeithiol yn hanfodol i greu cymunedau bywiog wedi'u cysylltu'n dda. Felly, dwi am adnewyddu a chryfhau'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod nhw'n bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Fel cyn-gynghorydd a chyn-aelod cabinet mewn llywodraeth leol, dwi'n angerddol dros wasanaethau cyhoeddus, ac mae gen i brofiad uniongyrchol o'r ffordd mae awdurdodau lleol, cynghorwyr a staff yn gweithio'n ddiflino i sicrhau'r canlyniadau gorau i'r bobl a'r cymunedau maen nhw yn eu gwasanaethu. Dwi, fel fy nghydweithwyr yn y Cabinet, yn deall pwysigrwydd cael llywodraeth leol sefydlog a chynaliadwy i allu cyflawni ein blaenoriaethau ni i gyd.

Mi wnawn ni wneud yn siŵr bod ein hawdurdodau lleol ni yn y sefyllfa gryfaf bosib i ddarparu'r gwasanaethau mae pob un ohonom ni'n dibynnu arnyn nhw. Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, rydyn ni wedi ymrwymo i adnewyddu'r cytundeb partneriaeth strategol efo awdurdodau lleol, er mwyn sefydlu perthynas waith gadarnhaol efo awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru. Mae angen inni wneud yn siŵr bod y ffordd rydyn ni'n ariannu llywodraeth leol yn deg ar draws Cymru, fel y gallan nhw ymateb i'r heriau niferus sy'n eu hwynebu nhw. Felly, rydyn ni'n barod yn adolygu'r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i wneud yn siŵr ei bod hi’n adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae angen inni leihau biwrocratiaeth a phrosesau, a chanolbwyntio ar gyflawni, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio efo'n gilydd i wneud y defnydd gorau o gyllid, ac mae angen inni rymuso llywodraeth leol i ddefnyddio'r cyllid craidd yn well. Dwi eisiau gweithio efo llywodraeth leol i gefnogi a galluogi cynghorau i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain a thrwy weithio efo’n gilydd ar gyfer bod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a hynny drwy edrych sut y gellid gwneud pethau'n wahanol, gan weithio efo nhw a gwrando arnyn nhw i ddeall beth sy'n gweithio.

Lywydd, dwi'n cloi. Dwi wedi dweud y gair 'penderfynol' lot o weithiau, dwi newydd sylwi, ond dwi yn benderfynol o droi uchelgais yn weithredu, gan ddarparu'r cartrefi mae pobl eu hangen, yn ogystal â'r gwasanaethau cyhoeddus gwydn mae cymunedau yn dibynnu arnyn nhw. Efo'n gilydd, mi wnawn ni greu Cymru decach lle mae gan bawb sicrwydd a chyfle, to uwch eu pennau, a chymunedau bywiog i fyw ynddynt. Diolch yn fawr.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch, Weinidog. Francesca O'Brien, plis. Diolch.

15:10

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna, neu o leiaf y sylwadau yna. Rwy'n mawr obeithio ein bod ni'n mynd i fedru ffeindio rhywfaint o dir cyffredin. Yn sicr, dwi'n cytuno efo chi fod yna argyfwng tai, ac rydych chi wedi rhestru rhai ystadegau yn fanna ynglŷn ag adeiladu tai yn gyffredinol. Mae'r argyfwng, i mi, yn cael ei ddangos yn glir iawn yn niferoedd y bobl sydd mewn llety dros dro oherwydd eu bod nhw'n wynebu digartrefedd oni bai eu bod nhw mewn llety dros dro. Wrth i ni siarad heddiw, mae plant ar eu ffordd adref o'r ysgol i dreulio nosweithiau mewn llety gwely a brecwast, mewn ystafell fach lle does yna ddim cyfleusterau ar gyfer gwneud bwyd, lle does yna ddim lle i wneud gwaith cartref. Dyna hyd a lled yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu. 

Ers diwedd mis Mawrth 2026, mae yna 10,509 o unigolion yn byw mewn llety dros dro, ac mae 2,267 o'r rheini yn blant, yn blant dibynnol o dan 16 oed. Fedrwn ni fel cenedl, fedrwn ni fel gwlad ddim bod yn goddef y math yna o sefyllfa, a dyna pam mae'r ffocws clir gen i ynglŷn â chynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol er mwyn gallu symud pobl ymlaen o'r math o sefyllfaoedd yma fyddai neb yn dymuno i unrhyw un fod ynddynt. 

Felly, dyna pam mae'r pwyslais penodol ar gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol, ac i wneud hynna mae'n rhaid i ni fod yn gyrru'r agenda ymlaen, a dyna pam dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n sefydlu corff hyd braich Unnos, er mwyn rhoi'r cyfle yna i ni weithio yn y tymor hir ac er mwyn i ni fod yn edrych ar y cyllido sy’n angenrheidiol ar gyfer cynyddu'r cyflenwad, ac er mwyn i ni fod yn rhoi ffocws clir iawn ar gael gwared â rhai o’r materion rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn y maes cynllunio, ac yn y blaen, sydd yn dal pethau yn ôl.

Dyna ydy ein datrysiad ni. Dyna rydyn ni'n gweld ydy'r ffordd ymlaen. Dwi ddim yn clywed llawer o ddatrysiadau yn dod gennych chi. Rydych chi'n disgrifio'r sefyllfa. Os oes gennych chi bethau penodol i'w trafod fel datrysiadau, dwi’n hapus iawn i fod yn trafod y rheini. Rydych chi wedi sôn am nifer o bethau eraill; dwi’n siwr y byddan nhw’n codi mewn datganiadau gan bobl eraill, a gwnaf ymateb iddyn nhw bryd hynny.

15:15
15:20
15:25
15:30

Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch am y cydweithio y buodd pan oeddem ni'n aelodau o'r un pwyllgor yn ystod y Senedd ddiwethaf. Mi wnaf ddechrau o'r diwedd, efallai. Felly, mae creu llywodraeth leol sydd yn wydn ac sydd yn gallu bod yn gynaliadwy yn holl, holl bwysig, onid ydy, oherwydd llywodraeth leol sydd yn delifro gymaint o'r gwasanaethau sydd yn agos at ein pobl ni ac at y bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau ni. Ac felly mae hi yn bwysig ein bod ni yn gweithio efo'n gilydd. 

Rŵan, dwi ddim yn mynd i fod yn Weinidog sydd yn trio gorfodi unrhyw beth ar lywodraeth leol. Mae o'n gorfod bod yn bartneriaeth. Ac felly dyna pam dwi'n awyddus iawn i adnewyddu'r bartneriaeth, y cytundeb, sydd wedi dechrau datblygu rhwng llywodraeth leol â'r Llywodraeth yn fan hyn. Ac a dweud y gwir, mae gen i gyfarfod yn fuan iawn efo arweinydd presennol y WLGA, ac efo'r arweinwyr cyngor ar draws Cymru, i drafod yn union y mater yma. 

O ran y fformiwla llywodraeth leol, ydyn, mi rydyn ni'n edrych arno fo o ddifri. Ond, wrth gwrs, fel dŷch chi'n ddweud, mi fydd yna rai yn colli ac mi fydd na rai yn ennill allan o unrhyw fath o newidiadau o fewn y pot cyfyng—llawer rhy gyfyng—o arian sydd gan lywodraeth leol ar hyn o bryd. Ond, dwi'n meddwl, os ydyn ni'n gallu gwneud yr achos, efo tystiolaeth glir o annhegwch, wel, dyna fo—mi fydd yna, dwi'n siŵr wedyn, awydd i symud tuag at y newid hwn. 

Dŷch chi'n sôn yn olaf—. Mi wnaf i sôn eto am yr 20,000 o gartrefi, ac roeddech chi'n gofyn sut dŷn ni'n mynd i fod yn siŵr ein bod ni'n mynd i gyflawni. Wel, dŷn ni yn dechrau o le gwell, fel dwi'n dweud, diolch i waith y Llywodraeth flaenorol. Mae yna gartrefi sydd yn y pipeline ar hyn o bryd, ac mae yna gynlluniau ar gyfer datblygu mwy. Ond mae'n rhaid i ni ffeindio dulliau cyllido sydd yn rhai arloesol, ac mae yna fodelau allan yna y byddwn ni'n edrych arnyn nhw. A bydd Unnos yn rhoi y cerbyd yna inni fod yn edrych o ddifri ar y rhwystrau tymor hir, ar y cynllunio tymor hir, ac ar yr angen hefyd i'r cyllid fod yn rhywbeth sydd yn dymor hir er mwyn cyflawni'r nod. 

15:35

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Gaf i ddweud tri pheth, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, gaf i eich croesawu chi i'r gadair? Gaf i'ch croesawu chi, Siân Gwenllian, i'r swydd? A hefyd, allaf i groesawu eto fod holl aelodau'r Llywodraeth yn aros yma dros y datganiadau dŷn ni'n eu clywed? Mae hynny mor bwysig achos maen nhw'n draws weinidogol, ac mae'n bwysig eich bod chi, dwi'n gobeithio, yn gallu clywed beth ydy'r ymatebion i'r datganiadau. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.

Diolch yn fawr iawn, Jane. Fel dŷch chi'n gwybod, mae'r Senedd wedi pasio deddfwriaeth sydd yn ddeddfwriaeth arbennig o addas, dwi'n credu, ar gyfer taclo digartrefedd, gan gynnwys digartrefedd ym maes plant. Mi ydw i ar hyn o bryd yn creu'r cynllun gweithredu i gyd-fynd efo'r ddeddfwriaeth yna, ac mae'r pwyslais, wrth gwrs, ar atal y problemau lawer iawn cyn iddyn nhw fynd yn broblemau, lle mae pobl yn diweddu yn byw mewn llety hollol, hollol anaddas. Felly, mae'r rhan yna yn hollbwysig, tra hefyd yn gweithio efo'r mudiadau hynod werthfawr yna yn y sector yma sydd yn cefnogi teuluoedd cyn iddyn nhw fynd yn ddigartref, ond, yn sicr, er mwyn eu cael nhw allan o ddigartrefedd, ac er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n ailymweld â digartrefedd. Mae hynny'n elfen bwysig ofnadwy, ac mae plant yn ganolog i hynny. Dydw i ddim yn meddwl bod yna neb yn yr ystafell yma a fyddai eisiau inni beidio â bod yn gwneud ein gorau glas i wneud yn siŵr nad oes yna unrhyw blant yn byw mewn amodau hollol, hollol annerbyniol.

15:40

Diolch. Ac yn olaf, Nick Carter. 

15:45
4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Eitem 4, felly, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, blaenoriaethau ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member
Sioned Williams 15:46:07
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i wneud y datganiad yma, sy'n gosod allan fy mlaenoriaethau fel Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. 

Wrth inni ysgogi cynnydd tuag at ehangu gofal plant trawsnewidiol, bydd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'r uchelgais honno ym mhob rhan o Gymru, a fydd yn cryfhau'r llwybr blynyddoedd cynnar i addysg cyfrwng Cymraeg.

Ddirprwy Lywydd, rydyn ni'n gwybod bod angen ymyraethau strategol sydd wedi eu targedu os ydyn ni am wella lefelau tlodi plant yng Nghymru. Mae'r lefelau hyn yn rhai cywilyddus o uchel sydd heb gael digon o sylw gan Lywodraethau blaenorol. Mi fyddaf i'n datblygu strategaeth tlodi plant newydd, yn seiliedig ar dystiolaeth ac arfer da, a fydd yn ei wneud yn glir sut y byddwn yn cyflawni newid a chanlyniadau go iawn—strategaeth tlodi plant sy'n addas i'r diben a fydd yn ymrwymo i fuddsoddiad mwy cynaliadwy sydd wedi ei dargedu, yn canolbwyntio ar ganlyniadau tymor hir, mesuradwy. Bydd y strategaeth uchelgeisiol hon yn gosod targedau a cherrig milltir clir i ysgogi newid uchelgeisiol ond cyflawnadwy.

Rŷn ni eisoes yn gwneud cynnydd o ran paratoi ar gyfer gweithredu cynllun peilot Cynnal, sef taliad plant Cymru. Mae consensws arbenigol ynghylch sut y gallai taliad uniongyrchol fel hwn wneud gwahaniaeth go iawn i blant mewn tlodi yng Nghymru, ac rwy'n falch o fwrw ymlaen â'r cynllun peilot mewn Llywodraeth. Mae'r ymyrraeth hon yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o'r hyn sy'n gweithio, ac, fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod, rwyf wedi comisiynu tîm arbenigol i arwain ar ddylunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso Cynnal. Rwy’n falch o gadarnhau heddiw bod Steffan Evans, prif weithredwr Sefydliad Bevan, wedi cytuno i gyd-gadeirio'r grŵp arbenigol yma gyda fi, gan roi'r arweinyddiaeth gref, y craffu cadarn a'r gweithio cydweithredol sydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r gwaith uchelgeisiol hwn.

Bydd y Llywodraeth hon yn blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd, trwy sicrhau cymorth argyfwng acíwt effeithiol a chymryd camau ataliol trwy ehangu mynediad at gynlluniau effeithlonrwydd ynni. Wrth fynd i'r afael â thlodi, mae'n rhaid inni sicrhau bod pob £1 rydyn ni'n ei gwario yn cael yr effaith fwyaf posib ac yn helpu i atal y niwed y mae caledi yn ei achosi a'i waethygu. Felly, byddwn yn adolygu budd-daliadau Cymru a'r cymorth cysylltiedig i'r perwyl hwn, a byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grŵp llywio arbenigol i sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad at yr hyn y gallan nhw ei hawlio, gan osgoi lefelau anghynaliadwy o ddyled. Ac wrth wneud hynny, byddwn yn dadlau o blaid cael yr hyn sydd ei angen arnom i greu system gymorth sy'n adlewyrchu anghenion Cymru yn well.

Mewn cyfnod pan mae rhai yn ceisio creu a dyfnhau rhaniad, ein gweledigaeth ni yw cryfhau cymunedau. Mae hyn yn cynnwys meithrin cydlyniant cymunedol a chymorth i ddioddefwyr ledled Cymru. Byddaf yn sicrhau bod argymhellion diweddar gan arbenigwyr ar ddod â chymunedau at ei gilydd yn cael eu datblygu, gyda ffocws clir ar fesurau ymarferol.

Ac mewn cyfnod pan mae amddiffyniadau cyfreithiol sy'n gwarchod pobl Cymru rhag gwahaniaethu ac annhegwch yn cael eu bygwth, a'r hawliau sy'n ein gwneud ni i gyd yn gydradd ac yr un mor atebol o dan y gyfraith yn cael eu cwestiynu, mi fyddaf i yn cyflwyno cynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, gan gryfhau dyluniad gwasanaethau datganoledig mewn ffordd sy'n seiliedig ar hawliau, sicrhau bod Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus wedi eu rhwymo ganddynt, gwneud hawliau yn gliriach ac yn fwy hygyrch a sicrhau bod gan bobl Cymru amddiffyniad rhagweithiol a rhwymedïau ystyrlon.

Rhaid i gydraddoldeb gael ei adlewyrchu nid yn unig mewn deddfwriaeth, ond hefyd yn y ffordd y mae pobl yn profi tegwch ac yn cael eu diogelu rhag niwed. Rwyf wedi ymrwymo i gael gwared ar y rhwystrau y mae llawer o bobl ledled Cymru yn dal i'w hwynebu yn eu bywyd bob dydd. Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau mesuradwy wrth gyflawni'r cynllun hawliau pobl anabl a 'Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac wrth weithredu Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026. Byddwn yn gweithio ar draws pob maes o'r Llywodraeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, drwy ddull system gyfan a chymdeithas gyfan sy'n canolbwyntio ar atal. Ac wrth inni nodi Mis Balchder, rŷn ni'n dathlu dewrder a chyfraniad pobl LHDTC+ a'n hymrwymiad cyffredin i urddas, parch a chynhwysiant. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl traws yn teimlo eu bod nhw'n rhan werthfawr o'n cymunedau a'u bod nhw wedi eu diogelu gan y gyfraith rhag gwahaniaethu ac aflonyddu.

15:55

Weinidog, diolch i chi am eich datganiad. Dwi'n amau bod pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod lleihau tlodi plant a helpu teuluoedd gyda chost byw yng Nghymru yn amcanion pwysig iawn.

Dydy teuluoedd ledled Cymru ddim angen cyhoeddiad arall am grŵp gweithio; maent angen hyder fod yr addewidion a wnaeth gael eu gwneud cyn yr etholiad yn wirioneddol mynd i gael eu cyflawni. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr i'r Aelod am ymateb. Rwy'n falch o'i chlywed hi'n cytuno bod tlodi plant angen bod yn flaenoriaeth. Dwi wedi bod yn gyson ac yn glir, ac fe adlewyrchwyd hynny eto, wrth gwrs, yn fy natganiad o'm blaenoriaethau heddiw, pam mae rhaid i bob plentyn yng Nghymru cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae e yn rhywbeth sydd ddim yn unig y peth iawn i'w wneud ond y peth synhwyrol i'w wneud.

Rŷn ni'n gwybod, fel y soniais i yn fras yn fy natganiad, fod tyfu lan mewn tlodi yn effeithio ar eich cyfleon chi drwy eich bywyd chi. Mae e hefyd yn effeithio ar eich iechyd chi ac yn creu costau, felly, nid yn unig y gost ddynol i'r plentyn yna eu hunain, ond, wrth gwrs, pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Mae e hefyd yn effeithio ar sut ŷch chi yn cael unrhyw lwyddiant o ran addysg, ac wrth gwrs mae hynny wedyn yn mynd i effeithio ar eich cyfleon chi ar gyfer gwaith a'ch llewyrch chi yn eich bywyd. Felly, dyna pam ŷn ni angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi tlodi plant wrth galon popeth ŷn ni'n ei wneud.

Roedd e yn ddiddorol eich clywed chi'n sôn eich bod chi'n cydnabod hefyd rôl gofal plant yn hynny o beth, achos dwi ddim yn meddwl wnaethon ni hyd yn oed gweld cyfeiriad at hynny yn maniffesto Reform, felly mae'n braf clywed bod chi nawr yn cydnabod pwysigrwydd hynny. Ac os dwi'n cofio'n iawn, cofio rhai o ymgeiswyr Reform yn sôn mewn rhai hystingau y dylai merched, yn syml, jest mynd i aros gartref ac edrych ar ôl y plant a dim cydnabod y cyfraniad a'r cydraddoldeb bod angen i chi—[Torri ar draws.] Lywydd.

16:00

—ond mi wnaf i gario ymlaen. Roeddwn i jest yn trio gweld os oedd modd i fi gario ymlaen, a bod pobl eisiau gwrando ar yr atebion, ond dyna ni.

Ie, mi wnaf i jest sôn yn fras ynglŷn â'ch galwad chi ynglŷn â'r costau. O ran y costau, fe fyddwn ni yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n datblygu, trwy waith y grŵp rwy wedi ei gyhoeddi heddiw, sut rydyn ni'n mynd i edrych ar ddatblygu y costau wrth i ni fynd ymlaen. Wrth gwrs, mae gyda ni gynllun mewn lle. Mae'n rhaid i ni nawr weithio mewn partneriaeth. Mae hwn yn ddarn mawr o waith, ond ŷn ni yn ffyddiog ac wedi gosod hyn wrth ganol ein blaenoriaethau ni fel Llywodraeth. Rydyn ni yn gwybod y byddwn ni'n medru fforddio hyn o fewn y gyllideb sydd gyda ni fel Llywodraeth. Fe fydd y Senedd wedyn, wrth gwrs, yn cael cyfle i graffu wrth i ni wneud y penderfyniadau cyllidebol hynny. Byddwch chi'n gallu adnabod lle mae'n blaenoriaethau ni, a bydd modd i chi graffu wedyn sut byddwn ni'n ailflaenoriaethu arian er mwyn talu am y polisi.

16:05
16:10
16:15

Diolch yn fawr i Peter Fox am yr ymateb yna. Gallaf i ddweud yn hollol glir a chadarn bod cydraddoldeb wir yn golygu rhywbeth, a'i fod e wir yn rhywbeth mae'n rhaid inni roi'r pwys mwyaf arno. Mae peidio â sicrhau cydraddoldeb yn rhywbeth sydd yn creu pob mathau o niwed, pob mathau o drawma, sydd nid yn unig yn niweidiol i'r unigolyn, i'r grŵp penodol yna sydd yn dioddef y fath yna o anghydraddoldeb, ond hefyd inni i gyd. Fel y gwnes i sôn yn y dyfyniad yna gan Dr Martin Luther King Jr, os nad ŷch chi yn cael eich effeithio yn uniongyrchol, mae e'n effeithio arnoch chi'n anuniongyrchol. O ran ceisio dod â ni i gyd ynghyd er mwyn gallu gweld hynny, dyna yw fy nod drwy'r polisïau y byddaf yn eu gweithredu, i geisio dod â phobl ynghyd i weld pam bod angen inni i gyd sefyll wrth ein gilydd, pam bod angen inni boeni os yw hawliau un grŵp penodol o bobl yn cael eu tramgwyddo, sut mae hynny'n effeithio arnom ni i gyd fel cymdeithas. Felly, dyna beth fyddwn i'n ei ddweud fel ymateb i hynny.

O ran eich pwyntiau chi o ran yr EHRC a'r ffaith ein bod ni wedi cael y cod ymarfer nawr, wedi cael ei osod yn San Steffan, byddwn i yn syml yn dweud hyn: wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn parchu dyfarniad y Goruchaf Lys. Dyna yw'r safle gyfreithiol gyfredol, ac felly mae'n rhaid iddo fe gael dylanwad ar a llywio polisi datganoledig a'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu gweinyddu yng Nghymru. Rŷn ni ar hyn o bryd yn edrych arno. Rŷch chi'n ymwybodol bod y cod ymarfer wedi cael ei osod nawr. Dyw e ddim eto wedi dod i rym, ond rŷn ni wrthi, ac wedi bod wrthi ers i ddyfarniad y Goruchaf Lys gael ei draddodi, yn edrych ar sut mae hynny yn mynd i effeithio ar bolisïau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

16:20
16:25

Croeso i'r swydd. Rwy'n falch o'ch gweld chi yn y swydd yma. 

Diolch yn fawr i Jane Dodds. Dwi yn croesawu'r craffu. Fe wnaethon ni graffu gyda'n gilydd, fel aelodau o'r pwyllgor, ar y strategaeth a'r mesurau a oedd gan y Llywodraeth ddiwethaf i fynd i'r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd hi'n cadw llygad barcud arnaf i, a dwi'n edrych ymlaen at gael y cwestiynau ynglŷn â'r strategaeth pan fyddwn ni wedi'i hadolygu. 

Rwy'n croesawu hefyd y pwysigrwydd o ran gwrando ar blant. Mae e'n rhywbeth dŷn ni yng Nghymru, dwi'n meddwl, wedi bod ar flaen y gad o ran gwneud, ond dwi yn meddwl bod yna ambell i ffordd i fynd. Un o'r pethau dwi'n awyddus iawn i'w wneud, wrth inni ddatblygu'r mesurau gwrth-dlodi yma, wrth i fi wrando ar arbenigwyr, yw ein bod ni hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwerthuso pob mesur yn unol â phrofiadau a bywydau go iawn, a bydd hynny'n cynnwys gwrando ar blant.

16:30

Diolch. Ac yn olaf, Becca Martin.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Gwydnwch Seilwaith Allweddol

Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar wydnwch seilwaith allweddol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros drafnidiaeth, Mark Hooper.

Dirprwy Lywydd, rydw i eisiau diweddaru Aelodau am yr achosion o gau pont Menai yn ddiweddar, y gwaith sy'n mynd rhagddo i ddelio â phroblemau strwythurol a'r rhaglen ehangach i gryfhau gwydnwch y croesfannau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr. Byddaf hefyd yn rhoi diweddariad ar y camau i fynd i'r afael â'r heriau ar goridor yr M4 yn y de.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Byddaf yn parhau i ddiweddaru Aelodau fel mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Diolch.

16:40
16:45
16:50
16:55
17:00

Rydyn ni'n symud nawr at gyfraniadau un funud. Paul Rock.

17:05

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad am bont Menai, a dwi'n ddiolchgar iddo hefyd am gyfarfod efo Elfed Williams a minnau yn gynharach heddiw i drafod y mater yma sy'n effeithio ar gymaint o bobl yn Ynys Môn ac ar draws Bangor Conwy Môn. Dwi'n croesawu clywed bod y Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r terfyn pwysau. Byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai'r Gweinidog yn medru ymhelaethu ychydig ar ba fesurau penodol sydd ganddo dan sylw. Dwi hefyd yn falch o glywed nad oes oedi pellach i'r rhaglen waith ar y pwynt yma, a dwi'n erfyn arno i weithio ar y cyd gyda rheolwyr y project i sicrhau bod hynny'n parhau.

Ac yn olaf, mae'n braf gweld y Llywodraeth newydd yn cydnabod graddfa'r broblem ac yn mynd ati'n syth i roi datrysiadau hirdymor, fel trydydd pont, yn ôl ar y bwrdd. A gaf i ofyn pa sgyrsiau mae'r Dirprwy Weinidog yn gobeithio eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ba gyfraniad posibl y bydden nhw'n ei wneud i ddatrysiad hirdymor, o feddwl pa mor strategol bwysig yw cysylltedd ar ac oddi ar Ynys Môn, yn enwedig wrth i brojectau fel Wylfa a'r porthladd rhydd barhau i ddatblygu? Diolch yn fawr.

17:10
17:15

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau yn y swydd, Mark.

17:20

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:22.