Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/03/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Dyw'r Ysgrifennydd Cabinet ddim yma. [Torri ar draws.] Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yma. [Chwerthin.] Felly, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyrraedd mewn amser i ateb ei gwestiynau. Ac os caf i ddweud hefyd—

Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan—

Mynediad Trafnidiaeth i Ysbytai

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad trafnidiaeth i ysbytai? OQ64015

13:35
Y Rhwydwaith Ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r rhwydwaith ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63990

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru yn gyntaf—Peredur Owen Griffiths.

13:40
13:45
13:50
Y Rhwydwaith Trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru? OQ63988

13:55
14:00
Diogelwch ar y Ffyrdd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ64006

14:05
Yr M4 o amgylch Abertawe

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella llif traffig ar yr M4 o amgylch Abertawe? OQ63984

Cynigion Parcffordd Caerdydd

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar yr effaith y bydd cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer parth strategaeth ddiwydiannol Caerdydd a Chasnewydd yn ei chael ar gynigion Parcffordd Caerdydd? OQ63986

14:10
14:15
Y Rhwydwaith Cefnffyrdd yng Ngorllewin Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngorllewin Cymru? OQ63993

Prisiau Ynni yng Ngogledd Cymru

8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gydlynu cymorth i aelwydydd ledled gogledd Cymru y mae prisiau ynni uwch yn effeithio arnynt? OQ63998

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.

Mudiadau Trydydd Sector yng Nghanol De Cymru

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mudiadau trydydd sector yng Nghanol De Cymru? OQ63992

Member
Jane Hutt 14:23:52
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Heledd. We have provided £10.9 million to Third Sector Support Wales in 2025–26 to strengthen support for voluntary organisations across Wales. Of this, almost £800,000 has gone to county voluntary councils in Rhondda Cynon Taf and Cardiff and the Vale to help local groups with fundraising, governance, safeguarding and volunteering.

14:25
Menywod Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant

2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae'r nifer gynyddol o fenywod ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ei chael ar gydraddoldeb, tlodi a ffyniant? OQ63991

14:30

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:40
14:45
14:50
Gwasanaethau Cymorth Ymosodiadau Rhywiol yng Ngogledd Cymru

3. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ymosodiadau rhywiol yng ngogledd Cymru? OQ64003

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor am eich cwestiwn pwysig iawn. 

14:55
Y Bil Troseddu a Phlismona

4. Pa drafodaethau fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth y DU yn dilyn pleidlais y Senedd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona? OQ64010

15:00
Troseddu gan Fenywod

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dull newydd o fynd i'r afael â throseddu gan fenywod? OQ64001

15:05
Tlodi Tanwydd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn lliniaru tlodi tanwydd? OQ63994

15:10
15:15
Cefnogi Teuluoedd sydd mewn Perygl o Dlodi

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o dlodi? OQ64005

Y Sector Gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63989

15:20
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Galwaf ar Samuel Kurtz i ofyn cwestiwn 1.

Busnes y Senedd yn y Seithfed Senedd

1. Pa waith paratoi y mae'r Comisiwn wedi'i wneud ar gyfer cefnogi busnes y Senedd, gan gynnwys Cyfarfodydd Llawn, yn y Seithfed Senedd? OQ63999

Mae'r Comisiwn wedi cymryd camau gweithdrefnol ac ymarferol i gefnogi'r seithfed Senedd i ymgymryd â'r busnes. Bydd Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith mae'r Pwyllgor Busnes wedi'i gyflawni ynghylch newidiadau i Reolau Sefydlog a'r adroddiad gwaddol. Mawr obeithiaf bydd yr adroddiad o ddefnydd i lywio'r trafodaethau Pwyllgor Busnes nesaf. Yn ogystal, mae'r gwaith i gwblhau'r Siambr yma wedi ei wneud, ac mae swyddogion yn parhau i weithio tu ôl i'r llenni ar fonitro pob agwedd a datblygiadau pellach ar y cyfleusterau ar gyfer y Senedd nesaf.

15:25
Cyfleusterau ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Senedd

2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella cyfleusterau ar gyfer bwydo ar y fron yn y Senedd? OQ64016

15:30
Bwyd a Diod o Gymru ar Ystad y Senedd

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau'r Senedd i gaffael a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ar ystad y Senedd? OQ64013

Mae cynnyrch Cymreig yn ofyniad sy'n rhan o'n contract gwasanaethau arlwyo gydag ESS Compass, ac rydym yn monitro perfformiad yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, mae 76 y cant o'r holl fwyd a diod ar ystad y Senedd o gyflenwyr Cymreig. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r contractwr i wella'r lefel honno wrth hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, ac rydym yn hyderus y gwelwn gynnydd a bod cyflawni canran o dros 80 y cant yn gyraeddadwy.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 eiliad

Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a galwaf ar Heledd Fychan.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, nos Wener diwethaf, fe fynychais noson i ddathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg yn y Rhondda, yng Ngwesty Parc Treftadaeth y Rhondda. Mi oedd o'n gyfle hyfryd i ddathlu'r cwbl sydd wedi'i gyflawni, gan gynnwys y llu o ddisgyblion sydd wedi elwa dros y degawdau.

Fel ein hatgoffwyd gan Cennard Davies, bu'r frwydr i sefydlu addysg Gymraeg yn hir a chwerw, gyda'r llenor Kitchener Davies, a'i wraig, Mair, yn chwarae rhan allweddol wrth gael y cyngor i gytuno i agor Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn 1950. Dim ond yn 1988 y daeth yr ysgol uwchradd. Dechreuodd 38 o blant ar 27 Mehefin 1950; heddiw, mae bron i 2,000 o blant yn derbyn addysg trwy'r Gymraeg. Mi oedd hi'n emosiynol clywed Megan Tudur, un o'r 38 gwreiddiol, a merch i Mair a Kitchener Davies, yn rhannu ei hatgofion hi fel rhan o'r dathliadau, ochr yn ochr â Carys Whelan.

Er gwaethaf llwyddiant ysgolion Bodringallt, Ynyswen, Bronllwyn, Llyn y Forwyn, Llwyncelyn ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, mae'r frwydr yn parhau. Nid yw pob disgybl, hyd heddiw, yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg. Mi hoffwn i ddiolch o galon i bawb a fu'n ymladd dros addysg Gymraeg dros y degawdau, ac i'r athrawon, y disgyblion a'r rhieni, yn enwedig y rhai di-Gymraeg, sydd wedi sicrhau bod eu plant yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

I gloi gyda geiriau Tudur Dylan Jones, o'i gerdd i ddathlu'r pen-blwydd,

'Mae calon y "cwm culach" / Nawr yn well, yn curo'n iach, / Mae pawb o hyd, mae pob oed / Wir angen yr ieuengoed; / Cof y rhain yw cyfrinach / Rhondda Fawr a Rhondda Fach.'

15:35
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: 'Pumed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Pumed adroddiad ar hugain i’r chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.

Cynnig NDM9217 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Pumed adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd', a osodwyd gerbron y Senedd ar 11 Mawrth 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.

Does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. & 8. Cynnig i gymeradwyo'r Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd a Chynnig i gymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau o’r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni baid fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8 eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Felly, galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynigion—Hannah Blythyn.

Cynnig NDM9218 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr adolygiad o'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth.

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd ar 11 Mawrth 2026, i ddod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd.

3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad B i’r adroddiad.

Cynnig NDM9219 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2026.

2. Yn penderfynu bod y gwerthoedd a'r meini prawf penodedig y gall y Senedd gytuno arnynt drwy benderfyniad o dan baragraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 fel y'u nodir yn y Canllawiau.

3. Yn cytuno y bydd y Canllawiau'n dod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd.

Cynigiwyd y cynigion.

15:40

Unwaith eto, does dim siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:43.

15:45

Ailymgynullodd y Senedd am 15:47, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. 'Cenhadaeth Cymru: Egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol'

Eitem 9 ar ein hagenda ni heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cenhadaeth Cymru: Egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell.

Cynnig NDM9216 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cenhadaeth Cymru: Egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf siarad am ein hadroddiad olaf fel pwyllgor ar faterion rhyngwladol, sef 'Mission Cymru'. Hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor am eu cymorth, yn enwedig Sara Moran am baratoi yr adroddiad, a hefyd ein tîm clercio, Richard a Haidee. Diolch yn fawr iawn iddynt, a hefyd i bawb oedd wedi rhoi tystiolaeth.

Mae'n cysylltiadau rhyngwladol fel gwlad yn ôl-ddyddio, wrth gwrs, i gyfnod cyn datganoli, a chyn ffurfio'r deyrnas rydym ni'n rhan ohono. Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n rhaid manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym.

Mae croeso mawr i chi.

Gan edrych tua'r dyfodol, rydyn ni'n gosod 12 egwyddor ar gyfer Llywodraethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod y Prif Weinidog, wrth ymateb i'n hadroddiad, wedi derbyn dau ohonynt a derbyn y lleill mewn egwyddor. Mae hynny yn sicr i'w groesawu.

15:55
16:00
16:05
16:10

Fel aelod o'r pwyllgor, dwi'n falch i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac mi hoffwn innau ddechrau drwy ddiolch i bawb roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a hefyd, wrth gwrs, i'r tîm ymchwil a'r clercod sydd wedi cefnogi ein gwaith craffu. Mi hoffwn ddiolch hefyd i’r Prif Weinidog am ymateb i'n hadroddiad ac am fod yma heddiw. Mae'n dda cael y cyfle i drafod materion rhyngwladol ar lawr y Senedd a gyda'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y maes. Dwi'n falch iawn bod y Cadeirydd, wrth ddechrau'r ddadl hon hefyd, wedi cyfeirio at y ffaith mai hi hefyd oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am faterion rhyngwladol. Doeddwn i ddim yn Aelod o'r Senedd hon bryd hynny, ond dwi'n cofio'r cyffro a oedd yna ein bod ni'n mynd i gael strategaeth ryngwladol, ac ymroddiad hefyd y Prif Weinidog, fel y Gweinidog â chyfrifoldeb ar y pryd, i sicrhau bod gennym ni strategaeth ryngwladol.

Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, dwi ddim yn medru croesawu mai'r ymateb i'r mwyafrif o'n hargymhellion heddiw ydy 'derbyn mewn egwyddor', nac ychwaith rhai o sylwadau'r Prif Weinidog i'r pwyllgor yn y llythyr sy'n cyd-fynd â'r ymateb. Ein bwriad oedd bod yn adeiladol a gwneud ein gwaith craffu mewn modd trylwyr. Mae hynny wedi bod yn anodd heb gyfle i gwrdd gyda, a chraffu, yn rheolaidd. Fel sydd wedi'i nodi'n barod, mae'r pwyllgor yn galw am fwy o eglurder, mwy o atebolrwydd a mwy o gysondeb yn y ffordd y mae Cymru'n gweithredu ar y llwyfan rhyngwladol. Ond yn rhy aml, mae ymateb y Llywodraeth yn pwysleisio hyblygrwydd y gweithredu heb werthfawrogi hefyd yr angen sydd gan y Senedd i graffu'n effeithiol.

Dirprwy Lywydd, gadewch imi droi'n benodol at fater craffu gweinidogol. Mae'r Llywodraeth yn derbyn mewn egwyddor y dylai trefniadau craffu ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol fod yn gyfartal â phob portffolio arall, ond wedyn yn amddiffyn trefniant lle mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd gyda'r Prif Weinidog, gan gyfyngu'n ymarferol ar amser i ymddangos gerbron pwyllgor perthnasol y Senedd. Nid yw craffu drwy gwestiynau'r Prif Weinidog unwaith yr wythnos yr un fath â chraffu pwrpasol, manwl ac amserol. Fel rydyn ni eisoes wedi'i glywed, mae safbwynt y pwyllgor yn glir, ac mae'n siomedig nad yw'r ymateb yn symud y drafodaeth honno ymlaen yn ymarferol.

Yn yr un modd, o ran adrodd a gwerthuso, mae'r Llywodraeth yn derbyn bod angen trefniadau adrodd cliriach yn y dyfodol, ond eto'n pwysleisio cyfyngiadau adnoddau fel rheswm dros beidio â gwneud mwy rŵan. Mae'r pwyllgor yn cydnabod yn llawn fod adnoddau'n brin, ond dyna'n union pam mae angen system gliriach o flaenoriaethu gyda thargedau mesuradwy a thryloyw, fel bod y Senedd a'r cyhoedd yn deall ble mae gwerth yn cael ei greu.

O ran cytundebau dwyochrog, mae'r Llywodraeth yn honni bod gwybodaeth wedi'i chyhoeddi, ond mae'r pwyllgor wedi bod yn glir bod y wybodaeth honno'n aml yn anghyflawn, yn anodd ei chanfod, neu heb gyd-destun clir. Mae derbyn mewn egwyddor yr angen am well argaeledd gwybodaeth, ond heb ymrwymiad pendant i fframwaith clir, yn tanseilio pwrpas yr egwyddorion eu hunain.

Mi ydw i hefyd am gyffwrdd â thôn yr ymateb mewn rhai mannau. Mae'n peri pryder gweld bod craffu democrataidd yn cael ei fframio weithiau fel rhwystr i gyflawni yn hytrach na fel rhan annatod o lywodraethiant effeithiol. Mae'r pwyllgor hwn wedi gweithredu'n adeiladol drwy gydol y tymor ac mae'n bwysig nad ydy hyn yn cael ei bortreadu fel ein bod yn gweithredu dim ond i fod yn lletchwith, fel y mae'r ymateb yn awgrymu o bryd i'w gilydd. Mae yna sylw penodol yn llythyr y Prif Weinidog i'r Cadeirydd o ran partneriaid, a dwi'n cael hynny'n arbennig o siomedig, gan fod yr hyn rydyn ni'n ei nodi yn yr adroddiad yn deillio o'r hyn y clywsom ni gan randdeiliaid, gan y partneriaid eu hunain. Oes, fel gwnaeth y Cadeirydd gydnabod, mae yna enghreifftiau gwych o gydweithio fel tîm Cymru, ond yr hyn rydym ni wedi'i glywed gan bartneriaid ydy y gallai fod hyd yn oed yn well pe byddai'r Llywodraeth yn gweithredu ar yr hyn y dywedodd y rhanddeiliaid wrthym ni.

Dirprwy Lywydd, mae 'Cenhadaeth Cymru' yn cynnig cyfle go iawn, cyfle i osod sylfaen gadarn ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru dros Lywodraethau’r dyfodol, beth bynnag fo’u lliw gwleidyddol. Ond ni ellir manteisio’n llawn ar y cyfle hwnnw os yw’r Llywodraeth yn dewis parhau i dderbyn egwyddorion yn ddamcaniaethol heb ymrwymo’n glir i’w gweithredu. Mae’n glir i ni o'n craffu bod angen trefniadau craffu cliriach a thecach, mwy o dryloywder ar gytundebau a chyllid, a dull strategol sydd wir yn atebol i’r Senedd. Mae Cymru’n haeddu polisi rhyngwladol uchelgeisiol, ond hefyd un sy’n dryloyw, yn ddemocrataidd ac yn destun craffu ystyrlon. Dyna ydy 'Cenhadaeth Cymru'.

16:15
16:20
16:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad terfynol ar ymgysylltu rhyngwladol ac am ei ymrwymiad diflino i graffu ar y maes pwysig hwn o waith. Dwi eisiau diolch hefyd i Delyth am ei harweinyddiaeth o'r pwyllgor. Dwi'n gwybod bod hwnnw wedi cael ei werthfawrogi gan Aelodau.

Mewn cyfnod o ansicrwydd, rhaniad a gwrthdaro ar lefel byd-eang, mae Cymru'n parhau i anfon neges glir a hyderus ein bod ni yn wlad sy'n edrych allan i'r byd, yn ymrwymedig i bartneriaethau rhyngwladol ystyrlon, ac yn benderfynol o sicrhau manteision gwirioneddol i'n cymunedau cartref.

16:30

Nawr, ers 2020, mae Cymru wedi denu 280 o brosiectau buddsoddi gan gwmnïau sy'n berchnogion tramor, gan greu a diogelu mwy na 24,000 o swyddi. Heddiw, mae 176,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan fwy na 1,500 o gwmnïau o berchnogaeth dramor ledled Cymru, a dwi eisiau gweld mwy ohonyn nhw.

16:35

Cawsom ddathliad o lwyddiannau gwaith a phrojectau rhyngwladol, ac, ie, dyna'r hyn dŷn ni wedi eisiau bod yn ei weld.

Diolch i John am eich sylwadau.

Felly, diolch yn fawr iawn, Gareth, ac am eich geiriau caredig.

Diolch i'r ddau ohonoch chi. 

Soniodd Heledd am y rhwystredigaeth gyda rhai o'r elfennau o'r ymatebion a gawsom. Bod yn adeiladol—wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn nod i ni erioed, ac mae angen cael craffu pwrpasol ar y materion hyn, sydd efallai hefyd yn rheswm dros edrych ar hyn ac nid dim ond asesu hyn ymhob Senedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau, oherwydd y llwyddiannau dŷn ni'n clywed amdanyn nhw, oherwydd pwysigrwydd hyn, beth sydd yn y fantol. Ac, ydyn, rŷn ni'n cydnabod, wrth gwrs, fod adnoddau yn brin, a dyna pam dŷn ni angen deall yn gliriach ble mae'r enillion wedi bod. Diolch, Heledd, unwaith eto am hynny.

Diolch, Brif Weinidog, am eich ymateb, wrth gwrs, a'ch geiriau caredig. Gwlad fechan ydym sydd yn edrych mas o hyd.

Felly, diolch yn fawr iawn.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU'

Eitem 10 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM9215 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

16:55

Yn gyntaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimladau dwysaf gyda phawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig a hefyd gyda'r rhai hynny sy'n parhau i fyw gyda'i ganlyniadau, gan gynnwys y miloedd sy'n dioddef o COVID hir.

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sydd yn cyfrannu nawr. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 17:07:50
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip
17:15
17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae hwnna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl Plaid Cymru: Gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, ar wariant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru. Heledd Fychan sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM9220 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu.

Cynigiwyd y cynnig.

17:30

Rwyf i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau ar wariant mewn meysydd cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli yng Nghymru heb gydsyniad Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Huw Irranca-Davies 17:32:40
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Yn ffurfiol.

17:35
17:40
17:45

Er gwaethaf geiriau Gerallt, mi wnaeth sŵn ennill Senedd. Ac wedi'r canrifoedd mudan, yn wir, chwedl, Waldo, fe ddaeth gorfoledd, ac wedi tawlech, elwch fu. Ond mae'r hyn a enillwyd nawr yn y fantol. I rai, mae'r frwydr heb ei hennill yn llawn.

17:50
17:55
18:00
18:05
18:10

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 18:13:22
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dechrau fy ymateb i'r ddadl y prynhawn yma drwy ddatgan yn bendant y dylai'r penderfyniadau am sut i wario arian mewn meysydd cyfrifoldeb sydd wedi eu datganoli gael eu gwneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon.

18:15
18:20

Rwy'n cloi, Dirprwy Lywydd, drwy ailadrodd mai egwyddor sylfaenol datganoli yw bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos â phosib at y bobl sy'n cael eu heffeithio, a bod gan y Senedd hon rôl gyfansoddiadol wrth graffu ar y penderfyniadau hynny. Rhaid parchu ein setliad datganoli. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

Dim ond ar eitem 11 byddwn yn pleidleisio heno, dadl Plaid Cymru, gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, a 24 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant i'r cynnig, caiff y cynnig ei wrthod. Diolch yn fawr.

13. Dadl Fer: 'Gwleidyddion, maen nhw i gyd yr un peth': sut allwn ni wrthsefyll sinigiaeth mewn gwleidyddiaeth a sicrhau mwy o hyder mewn unigolion a'n sefydliad?
18:40
18:45

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

18:55

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.