Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/03/2026

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4. Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026
5. Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026
6. Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026
7. & 8. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 a Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026
9. Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026
10. & 11. Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026
12. Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026
13. Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27
14. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
15. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
16. Cyfnod Pleidleisio
17. Dadl: Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)
Grŵp 1: Diwygio termau allweddol (Gwelliannau 10, 11, 12, 13)
Grŵp 2: Dyletswydd i hysbysu neu ymgynghori â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (Gwelliannau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 27, 28, 29, 39, 31, 33, 36)
Grŵp 3: Cyweirio (Gwelliannau 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 30, 62, 63)
Grŵp 4: Amseru asesiadau risg tân (Gwelliannau 47, 48, 49, 50, 51)
Grŵp 5: Mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol (Gwelliannau 17, 8, 9, 32, 34, 35, 37, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46)
Grŵp 6: Strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr (Gwelliannau 4, 1, 5)
Grŵp 7: Dyletswydd person atebol i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill (Gwelliant 52)
Grŵp 8: Lesoedd a chontractau meddiannaeth (Gwelliannau 21, 22, 23, 24, 25, 26, 38)
Grŵp 9: Adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf hon i rym (Gwelliant 53)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Cyllid Rheilffyrdd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid rheilffyrdd yn Nwyrain De Cymru? OQ63926

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o dynnu'r pwysau oddi ar ein ffyrdd, yn enwedig yr M4, a bydd datblygu'r seilwaith rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn rhoi mwy o ddewis i fwy o bobl o opsiynau trafnidiaeth amgen. Ar ôl misoedd o lunio cynllun, sydd bellach wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Lafur y DU, rydym ni wedi sicrhau ymrwymiad ar gyfer buddsoddiad hanesyddol o £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru, sy'n rhoi Dwyrain De Cymru ar flaen y gad yn y trawsnewidiad hwnnw. Mae ein blaenoriaethau uniongyrchol yn cynnwys darparu chwe gorsaf newydd, gwbl hygyrch yn ne-ddwyrain Cymru, gan wella mynediad at swyddi, addysg a gwasanaethau i bobl ledled y rhanbarth.

Diolch am yr ateb hynna. 

Roedd y cyhoeddiad diweddar o gyllid rheilffyrdd yr ydych chi newydd gyfeirio ato, Prif Weinidog, gan San Steffan yn edrych, ar yr olwg gyntaf, fel newyddion da, tan i ni sylweddoli nad oedd yn cynrychioli unrhyw arian newydd. Yn hytrach, roedd yn ddelwedd—ail-gyflwyno prosiectau a gyhoeddwyd eisoes, a chefnogaeth amwys i syniad am fwy yn y dyfodol, efallai, ond dim byd wedi'i sicrhau. Ac fe'i gwnaed yn eglur gan Jo Stevens, sy'n gweithredu mwy a mwy fel llais San Steffan i Gymru, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb, nad oedd datganoli pwerau yn flaenoriaeth. Prif Weinidog, mae Cymru yn haeddu eglurder, nid penawdau sy'n cuddio'r gwir. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, a fydd Cymru yn derbyn y £14 biliwn sydd wedi ei gynnwys yn y cyhoeddiad hwnnw, neu a yw hynny'n ddibynnol ar ddewisiadau cyllidebol Llywodraethau'r DU yn y dyfodol, a allai, wrth gwrs, fod â gwahanol flaenoriaethau? Faint o'r biliynau hynny sydd wedi'u sicrhau nawr, ar hyn o bryd, a pham ddylem ni ymddiried yn unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud wrthym ni am reilffyrdd pan eu bod nhw wedi gwrthod y biliynau sy'n ddyledus i ni o HS2?

Os oes gennych chi ddyhead i fod mewn Llywodraeth, fe ddylech chi ddysgu sut mae'n gweithio. A'r hyn sy'n digwydd o ran cyllid hirdymor, mewn gwirionedd, yw y gall unrhyw Lywodraeth newid y penderfyniadau hynny. £14 biliwn oedd y cyhoeddiad hwnnw a Llywodraeth Lafur y DU yn dweud, 'Gwnawn, os ydym ni mewn grym, fe wnawn ni ymrwymo i hyn'. Ac mae'n drueni aruthrol nad oes yr un wrthblaid wedi croesawu'r ymrwymiad enfawr hwn y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi ei wneud ar ôl blynyddoedd o danariannu gan Lywodraethau Torïaidd blaenorol y DU. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cydnabod bod Cymru wedi cael bargen wael ac yn gwneud iawn am y ffaith honno. Rydym ni'n gwybod nad ydym ni wedi cael cyllid cymesur o HS2, ond mae hyn yn gwneud iawn am hynny. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddysgu sut mae'r system yn gweithio os oes gennych chi ddyhead i redeg y system.

Prif Weinidog, byddwch yn falch iawn o fy nghlywed i'n dweud bod fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau yn croesawu'r cyllid ychwanegol, ac rwy'n arbennig o falch o weld mwy o orsafoedd ar y gweill ar gyfer fy ardal. A hoffwn dalu teyrnged i ymgyrchwyr ym Magwyr a Gwndy, yr wyf i wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â nhw, yn eu hymdrechion i roi eu cynlluniau ar gyfer gorsaf rhodfa ar waith. Ond gadewch i ni fod yn onest yma, Prif Weinidog: nid yw'r cyhoeddiad hwn, os gallwch chi ei alw'n hynny hyd yn oed, yn ddim mwy na stỳnt cyn etholiad. Fe wnaeth Prif Weinidog y DU lusgo ei hun i Gymru i gyhoeddi £445 miliwn ar gyfer saith gorsaf newydd, ond mae hynny'n hen newyddion, oherwydd cyhoeddwyd hyn yr haf diwethaf, a bod yn deg. Roedd yr olwg ar eich wyneb ar y pryd yn dweud y cyfan. Fe wnaethoch chi sôn yn eich ymateb i Delyth Jewell nawr am y pecyn o gymorth gwerth £14 biliwn i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd, er, fel arfer, nid oedd unrhyw ymrwymiadau cadarn, dim ond geiriau gwresog, ac mae'n codi mwy o gwestiynau nag atebion i bob un ohonom ni. Felly, Prif Weinidog, mae hyn yn teimlo, i mi, fel dim mwy nag achos o ailgynhesu hen ymrwymiadau a gwneud addewidion gwag yn rhan o stỳnt cyhoeddusrwydd mewn anobaith fel ymdrech olaf un i ennyn rhywfaint o gefnogaeth i Lywodraeth Lafur sy'n methu. Gadewch i ni fod yn onest, dyna'r gwirionedd, onid oedd?

Roedd dogfen a gyhoeddwyd a oedd yn dangos, mewn gwirionedd, o ran y £14 biliwn, ble y byddai'r arian hwnnw yn cael ei wario, a byddai'n cael ei wario ledled Cymru gyfan. Mae hwnnw'n ymrwymiad na fyddai eich Llywodraeth Dorïaidd flaenorol yn ei wneud. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod cynllun manwl bellach. Fe wnaethom ni ddysgu gan Blaid Cymru y penwythnos hwn eich bod chi wrth eich boddau â chynlluniau. Rydych chi wrth eich boddau â chynllun ar gyfer cynllun. Mae'n gynnig syfrdanol ar ôl i chi gael 27 mlynedd i ddatblygu eich syniadau. Ond yr hyn sy'n bwysig, rwy'n credu, yw cydnabod, yn wir, na fydden nhw wedi rhoi'r arian i ni heb gynllun manwl. Trafnidiaeth Cymru wnaeth lunio'r cynllun, gan gael cytundeb iddo gan yr adran drafnidiaeth, a nawr bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno. Rydym ni'n dechrau gyda'r £445 miliwn hwnnw. Rydym ni'n gwybod am gyllid rheilffyrdd yng Nghymru, rydym ni'n gwybod am gyllid rheilffyrdd hirdymor yng Nghymru, gan ein bod ni wedi ei ddarparu. Lle'r ydym ni mewn rheolaeth, rydym ni wedi ei ddarparu—£1 biliwn i drawsnewid y metro, £800 miliwn ar gyfer trenau newydd sbon. Mae hon yn etifeddiaeth falch sydd gennym ni yng Nghymru.

13:35

Wel, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Trafnidiaeth a'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu ei fod yn dangos grym trafodaeth, ac rwy'n llongyfarch Ken Skates ar ei waith. Wyddoch chi pwy arall sy'n ei groesawu? Pobl Abertyleri—pobl Abertyleri, sydd eisiau gweld y buddsoddiad yng nghangen Abertyleri, gan ailgysylltu'r dref honno â rhwydwaith rheilffyrdd y DU. Ac a gaf i ddweud hyn, Prif Weinidog? Mae'r pwynt yr ydych chi newydd ei wneud wrth ateb Natasha Asghar yn bwynt grymus. Pan fo Llywodraeth Cymru mewn rheolaeth, gallwn wneud y buddsoddiadau. Os nad yw honno'n ddadl dros ddatganoli seilwaith rheilffyrdd, wn i ddim beth sydd. Ond a wnewch chi weithio gyda mi a'r awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent, Prif Weinidog, i sicrhau bod cangen Abertyleri, llinell Glynebwy, yn derbyn yr un lefel o fuddsoddiad yn y dyfodol â rheilffordd Rhymni, sy'n rhedeg drwy fy etholaeth newydd?

Diolch yn fawr iawn, Alun. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan welais i'r ddogfen 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn gyntaf, a luniwyd—a diolch, Ken, am eich arweinyddiaeth ar hyn, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru—y peth cyntaf i mi chwilio amdano oedd, 'A yw cangen Abertyleri yno?', oherwydd meddyliais y byddai'n broblem i chi pe na bai yno. Roeddwn i wrth fy modd o weld bod yr ymrwymiad hwnnw yno. Felly, mae hyn yn fater o Lywodraeth y DU yn dweud, 'Gwnawn, os ydym ni mewn grym, fe wnawn ni roi'r arian hwnnw i chi, fe wnawn ni roi'r ymrwymiad hirdymor hwnnw i chi.' Os ydych chi o ddifrif am adeiladu economi, mae'n rhaid i chi wneud ymrwymiadau hirdymor; allwch chi ddim newid cyllid rheilffyrdd hanner ffordd drwodd. Dyna pam nad oes unrhyw bwynt rhoi arian i ni os na allwch chi ei wario mewn pryd. Mae angen fframwaith hirdymor arnoch chi. Mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych chi'r bobl â'r sgiliau yn barod i gyflawni hynny. Dyna'n union sydd wedi digwydd gydag 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', y weledigaeth ar gyfer Cymru, sydd wedi cael ei chymeradwyo nid yn unig gan Lywodraeth Lafur Cymru yma, ond gan Lywodraeth Lafur y DU yn San Steffan.

Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad hwnnw o £14 biliwn, Prif Weinidog. Mae'n bwysig iawn i'n helpu i sicrhau'r system drafnidiaeth integredig sydd ei hangen arnom ni yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld camau pwysig ymlaen, gan baratoi'r ffordd ar gyfer system fysiau a gwasanaethau bysiau wedi'u cynllunio'n iawn yng Nghymru, â theithio llesol, a datblygiadau pwysig gyda rheilffyrdd hefyd, ar linellau craidd y Cymoedd, er enghraifft. Nawr mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi'r cyfle i ni adeiladu ar hynny, ac yn sicr bydd croeso mawr iddo yng Nghasnewydd, â gorsafoedd newydd yn Somerton, yn Llanwern, a hefyd ym Magwyr a Gwndy. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un enghraifft o'r hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato o ran helpu i ddelio â'r tagfeydd ar yr M4 fyddai'r orsaf newydd honno yn Llanwern? Mae gennym ni tua 4,000 o dai a fydd yn cael eu codi'n fuan yn y datblygiad Glan Llyn hwnnw ar hen safle Llanwern yng Nghasnewydd. Mae llawer o'r bobl sy'n byw yno yn cymudo i Fryste a Chaerdydd i weithio. Mae'n hawdd deall sut y bydd darparu'r orsaf honno yno yn Llanwern yn cael effaith wirioneddol ar y tagfeydd hynny ar yr M4, sy'n parhau i fod yn broblem mor enfawr i Gasnewydd a'r cyffiniau.

Diolch yn fawr iawn, John. Dim ond i fod yn eglur, fe wnaethom ni gyhoeddiad ddiwedd yr wythnos diwethaf y byddwn ni'n rhewi prisiau tocynnau rheilffordd o 1 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i dynnu'r pwysau oddi ar deuluoedd yng Nghymru ar adeg anodd. Hefyd, wrth gwrs, roeddem ni yng Nghasnewydd ddoe, lle gwnaethom ni gadarnhau, os byddwn ni mewn Llywodraeth ar ôl mis Mai, y bydd cap o £2 ar brisiau tocynnau bysiau, ochr yn ochr â'r ymrwymiad hwnnw o deithiau bws am ddim i bobl dros 60 oed, a thocynnau bws am £1 i bobl dan 21 oed. Ond rydych chi'n gwbl gywir, o ran tynnu'r pwysau oddi ar yr M4, rydym ni'n gweld Casnewydd yn tyfu ac yn tyfu ac yn tyfu. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n darparu'r seilwaith i ganiatáu i'r twf hwnnw ddigwydd. Dyna pam y bydd datblygu'r gorsafoedd hynny yn hanfodol ac y bydd yn tynnu'r pwysau oddi ar yr M4, yr wyf i'n gwybod y mae pobl yn awyddus iawn i'w weld.

13:40
Rhwydwaith Gogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni rhwydwaith gogledd Cymru? OQ63919

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni o ran trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, gyda rhwydwaith gogledd Cymru eisoes yn cyflwyno cynllun uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlder uchel integredig. Rydym ni wedi lansio'r cyswllt bws T51 newydd, wedi gwella gorsafoedd, ac wedi sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU i well seilwaith rheilffyrdd a gorsaf newydd i Lannau Dyfrdwy. Mae'r camau nesaf yn cynnwys cyflwyno tocynnau talu wrth fynd, cynyddu amlder gwasanaethau ar draws y brif reilffordd, a bwrw ymlaen â'r cyswllt uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl, gan ddatgloi swyddi, mynediad a theithio gwyrddach i gymunedau ledled gogledd Cymru.

Diolch am yr ymateb yna. Siaradais yn ddiweddar yn seminar trafnidiaeth fforwm busnes Glannau Dyfrdwy, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Roedd y cyffro yn amlwg yno am yr hyn sy'n cael ei gyflwyno nawr. Dywedwyd wrthyf i unwaith bod 400 o fusnesau yno, 9,000 o swyddi, ac maen nhw'n cael trafferth eu cael nhw yno, i'w cludo yno. Bydd yr orsaf barcffordd newydd bellach yn cael ei chyflwyno ddiwedd y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi bod yn ymgyrchu ar hynny ers amser maith—tic, mae honno wedi cael ei darparu. Mae dadlwytho nwyddau yng ngorsaf Padeswood a gwelliannau croesi ar gyfer mwy o wasanaethau, a all wedyn arwain at drydaneiddio yn y dyfodol, yn digwydd—tic, un arall dros y llinell. Roedd y rhain yn rhannau o geisiadau a wrthodwyd ddwywaith gan Lywodraeth Geidwadol y DU o dan gyllid ffyniant bro. Mae'n digwydd nawr. I'w groesawu hefyd y mae'r system drafnidiaeth integredig â thapio i mewn ac allan, fel yr ydych chi newydd sôn, a masnachfreinio gwasanaethau bysiau, o dan y Bil Bysiau. Eto, pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn hynny. Prif Weinidog, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf i ei bod hi wedi cymryd dwy flynedd o weithio ar hyn i gael y £14 biliwn hwnnw dros y llinell, ac roedd yn rhaid i hynny gael ei gadarnhau gan Brif Weinidog y DU, a dyna pam y daeth yma i Gymru. A ydych chi'n cytuno y bu'n rhaid newid Llywodraeth y DU i gael buddsoddiad rheilffyrdd dros y llinell, ynghyd â buddsoddiad parhaus yn Trafnidiaeth Cymru gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn buddsoddi mewn gwelliannau i fysiau? Diolch.

Diolch, Carolyn. Rydych chi'n gwbl gywir bod gogledd Cymru, ers blynyddoedd, wedi cyflwyno syniadau a chynigion credadwy, datblygedig, gan gynnwys ar gyfer Glannau Dyfrdwy, Padeswood, a chysylltedd ehangach, a'u bod wedi cael eu gwrthod. Fe'u gwrthodwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Roedd yr uchelgais yno, roedd y ddadl economaidd yno. Yr hyn a oedd ar goll oedd y partner yn San Steffan a oedd yn barod i gefnogi gogledd Cymru, ac mae'r hyn sydd wedi newid yn syml iawn: mae gennym ni ddwy Lywodraeth Lafur bellach, ac mae'r cysondeb hwnnw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rydym ni wedi ymrwymo, fel Llywodraeth yng Nghymru, £13 miliwn i gychwyn y rhwydwaith hwnnw yng ngogledd Cymru. Gadewch i ni fod yn eglur, nid yw hyn yn digwydd ar ddamwain. Mae'n digwydd oherwydd ein bod ni wedi gwneud y ddadl, ac mae Ken yn arbennig wedi gwneud y ddadl, dros ogledd Cymru. Nawr, mae gennym ni Lywodraeth sy'n barod i wrando—felly, rhawiau yn y ddaear, gwasanaethau yn cynyddu 50 y cant ar y brif reilffordd, gorsafoedd newydd yn cael eu cyflwyno, gwell cysylltiadau i'r 9,000 o weithwyr ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy a'r 400 o fusnesau sydd wedi'u lleoli yno. Mae hon yn sefyllfa drawsnewidiol.

Gymaint ag yr ydym ni i gyd yn croesawu unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd, y broblem sydd gen i a'r Athro Mark Barry a phobl eraill gyda hyn, wrth gwrs, yw bod y ffigur o £14 biliwn sy'n cael ei rannu yn brif ffigur hirdymor, ond nid oes ganddo ffrwd ariannu sicr. Nid oes unrhyw ddyraniad eglur mewn unrhyw gyllideb gyfredol nac, hyd y gwyddom, sy'n bodoli yn unrhyw le. Nawr, mae'n dacteg gyfarwydd yn syth o ffordd Boris Johnson a Rishi Sunak o weithredu, gan eu bod nhw wedi addo trydaneiddio llinell gogledd Cymru. Fe wnaethon nhw addo hynny, a rhannwyd rhifau mawr, oni chawson nhw, ar gyfer effaith wleidyddol, ond nid oedd unrhyw gyllideb wedi'i nodi, nid oedd unrhyw amserlen gyflawni, ac nid oedd unrhyw ymrwymiad wedi'i neilltuo. Ac wyddoch chi beth? Mae'n union yr un peth ar gyfer y £14 biliwn hwn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni faint sy'n cael ei ymrwymo mewn gwirionedd? Ble yn yr Adran Drafnidiaeth neu yn y Trysorlys mae'r llinell gyllideb ar gyfer yr arian hwn, oherwydd heb hynny, yna oes bosib, gall fod yn ffigur i ymgyrraedd ato, wrth gwrs, ond yn anffodus, mae'n swnio fel ymgyrchu etholiad?

Dydyn ni ddim yn anghyfrifol fel Llywodraeth. Ni fyddem ni wedi rhoi ein hunain yn y sefyllfa honno heb fod yn gwbl eglur. Mae hon wedi bod yn rhaglen a luniwyd dros ddwy flynedd, a, gadewch i ni fod yn eglur, nid oes unrhyw brosiect hirdymor wedi'i sicrhau. Nid yw HS2 wedi'i sicrhau. Gadewch i ni fod yn gwbl eglur mai dyna yw natur democratiaeth. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw os yw Llafur yn aros mewn grym, mae'r ymrwymiad hwnnw yn bendant yno. Mae'r ymrwymiad hwnnw yn bendant yno yn y ddau faes. Rwy'n credu y dylem ni fod yn eglur iawn am hyn: nid yr Adran Drafnidiaeth yn unig oedd yn cadarnhau hyn, ond y Trysorlys hwn oedd yn cadarnhau hyn hefyd. Allwch chi ddim dod â'ch hun i dderbyn newyddion da pan fyddwch chi'n ei gael.

13:45

Mae cymunedau ar draws y gogledd yn teimlo fwyfwy eu bod nhw wedi cael eu hanghofio o ran buddsoddiad mewn trafnidiaeth. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw fuddsoddiad mawr mewn seilwaith ffyrdd yn Nyffryn Clwyd ers canol y 1990au, ac roedd hynny cyn datganoli, y tro diwethaf yr oedd gennym ni Lywodraeth Geidwadol yn rheoli Cymru, a wnaeth gyflawni, mewn gwirionedd, o ran seilwaith ffyrdd a'n systemau trafnidiaeth. Efallai y gellid maddau hyn pe baem ni, yn hytrach, wedi gweld buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ond dydyn ni ddim. Mae Cymru wedi colli allan ar £4 biliwn amcangyfrifedig o gyllid canlyniadol gan fod HS2 wedi cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion gwerth £2.1 biliwn ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru, ond ni fu unrhyw ymrwymiad ariannu cyfatebol gan Lywodraeth y DU i'w cyflawni. Yn hytrach, dim ond tua £400 miliwn y mae Cymru wedi ei dderbyn ar gyfer yr holl brosiectau rheilffyrdd ledled y wlad hon gyda'i gilydd. O'r saith gorsaf newydd a gyhoeddwyd yn wreiddiol, dim ond un sydd wedi'i lleoli yn y gogledd, ac mae llawer o'r gorsafoedd newydd arfaethedig wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd. Felly, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyllid teg gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, sydd wedi colli allan yn gyson, i fwrw ymlaen â phrosiect rhwydwaith gogledd Cymru? Oherwydd nid ydym ni'n gweld unrhyw dystiolaeth ohono hyd yma yn fy etholaeth ac ar reilffordd gogledd Cymru.

Mawredd, mae'r lle hwn yn llawn negyddoldeb heddiw. Mae cymaint i'w ddathlu o ran rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni fod yn ofnadwy o falch ohono—y ffaith fod gennym ni reolaeth yng Nghymru. Rydych chi wedi gweld trawsnewidiad llinellau'r Cymoedd. Rydym ni wedi gweld cynnydd i nifer y teithwyr o 10 y cant y flwyddyn. Am wahaniaeth y mae hynny'n ei wneud. Mae hynny'n golygu y gallwn ni gymryd refeniw gan fod mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau hynny. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu. Rydych chi'n mynd i weld y newid amserlen ym mis Mai yng ngogledd Cymru, â chynnydd o 50 y cant i wasanaethau ar brif linell gogledd Cymru. Bydd hynny hefyd yn symleiddio ac yn ychwanegu mwy o wydnwch i'r amserlen, gan helpu i wella perfformiad i deithwyr, ac mae hynny'n cynnwys gwasanaeth bob awr newydd rhwng Llandudno a Lerpwl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran pawb yn y Siambr hon pan fyddaf yn mynegi fy mhryder dwfn am y trais cynyddol yn y dwyrain canol, gan gynnwys ei effaith ar ddinasyddion Cymru. Rwy'n gwybod, hefyd, ein bod ni i gyd yn condemnio mileindra a chreulondeb cyfundrefn Iran dros flynyddoedd lawer. Ond mae gweithredoedd yr Arlywydd Trump a'r Prif Weinidog Netanyahu yn fyrbwyll. Maen nhw'n beryglus. Dydyn nhw ddim yn seiliedig ar unrhyw fandad democrataidd. Ac mae'n amlwg nad oes unrhyw gynllun ar gyfer yr hyn sy'n digwydd nesaf. Ac roedd yn groes i gyfraith ryngwladol. Felly, fe wnaf i roi ar y cofnod eto farn ddiamwys Plaid Cymru bod yn rhaid parchu cyfraith ryngwladol, a'i bod yn fater o bryder mawr i ni fod y DU bellach wedi cael ei thynnu i mewn i'r gwrthdaro trwy roi caniatâd i fyddin yr Unol Daleithiau ddefnyddio canolfannau'r RAF. Nid oedd angen i Brif Weinidog y DU gytuno i hyn. Yn sicr, dylid bod wedi ceisio cymeradwyaeth seneddol.

Llywydd, hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn ar ddinasyddion Cymru sydd wedi cael eu dal i fyny yn hyn, pa un a ydyn nhw'n drigolion yn y rhanbarth, neu ar wyliau, neu'n teithio yn wir. Mae gweithredu milwrol wedi eu rhoi nhw mewn perygl. O wybod bod rhai manylion cyfyngedig wedi cael eu cyhoeddi bellach yn yr awr neu ddwy ddiwethaf am awyrennau dychwelyd i'r famwlad, a chan nodi datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog hefyd, hoffwn bwyso arni ychydig mwy a byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddarparu'r manylion llawnaf posibl y prynhawn yma am y sefyllfa o ran dinasyddion Cymru, faint sydd yn y rhanbarth ar hyn o bryd sy'n dymuno teithio yn ôl i'r DU, a beth yw'r camau nesaf i sicrhau eu bod nhw'n gallu gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Rwy'n credu bod y sefyllfa yn y dwyrain canol yn destun gofid mawr. Rwyf i wedi cyflwyno safbwynt y Llywodraeth mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw. Ceir llawer o sifiliaid diniwed sydd eisoes yn cael eu heffeithio ym mhob rhan o'r ardal wrthdaro hon. Mae llawer o Gymry sydd wedi cael eu dal yn y sefyllfa—rhai yn gweithio yno, rhai ar wyliau. Mae diogelwch ein hanwyliaid yn hollbwysig, a dyna lle'r ydym ni wedi bod yn canolbwyntio ein sylw.

Mae gennym ni swyddogion Llywodraeth Cymru wedi'u lleoli yn yr ardal, wedi'u lleoli yn Dubai a Doha. Rydym ni'n ymwybodol o leoliad pob ohonyn nhw ac maen nhw'n ddiogel ac yn iach. Maen nhw'n cydgysylltu â thimau rheoli argyfwng Llywodraeth y DU ac yn eu helpu. Maen nhw wedi bod yn eglur iawn eu bod nhw'n gofyn i ddinasyddion Prydain gofrestru eu presenoldeb yn yr ardal. Amcangyfrifir bod 300,000 o ddinasyddion y DU yn y rhanbarth, ac mae 102,000 eisoes wedi cofrestru. Felly, gallwch ddychmygu, ar hyn o bryd, ei bod hi'n anodd iawn dweud yn union faint o Gymry sydd yno. 

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd ei gwneud yn eglur bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cynghori yn erbyn pob math o deithio i Israel ac Iran, a theithio hanfodol yn unig i Bahrain, Kuwait, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

13:50

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Byddwn yn gofyn iddi barhau i ddiweddaru Aelodau'r Senedd fel y gallwn ni rannu unrhyw wybodaeth berthnasol gyda'n hetholwyr y gwn eu bod nhw wedi bod yn cysylltu â ni hefyd. 

Llywydd, gan droi at faterion yn agosach at adref, mae datganiad gwanwyn y Canghellor yn gyfle arall a fethwyd i ychwanegu tegwch cyllidol at y setliad datganoli. Mae'n ymddangos na fydd y pethau da y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn gofyn amdanyn nhw yn dod. Yn eu habsenoldeb, bydd y bennod newydd i Gymru honedig, a addawyd ganddi ddoe, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel mwy o'r un peth, yn dibynnu ar addewidion naill ai wedi eu llunio ar gefn pecyn sigaréts neu wedi cael eu hail-lunio—rhoi terfyn ar ddigartrefedd, er enghraifft.

Rhoddodd y Prif Weinidog bwyslais mawr ar gyflawni ddoe, ond mae'r Llywodraeth hon wedi methu ar ddigartrefedd ar sail unrhyw fesur. Fe wnaethon nhw addo dileu digartrefedd erbyn eleni. Nawr mae cael ei wthio yn ôl i 2034. Pam ddylai Llafur gael ei gwobrwyo am fethiant yn yr etholiad hwn sydd ar y gorwel?

Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl rhyfeddol eich bod chi'n tynnu fy sylw at y materion hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud mai dim ond nawr rydym ni'n cael manylion datganiad y Canghellor, ond mae'n edrych fel y bydd dros £0.5 biliwn o gyllid ychwanegol yng Nghymru rhwng 2026 a 2029. Mae'n syndod aruthrol i mi eich bod chi'n siarad â ni am fethu â gallu nodi sut rydym ni'n mynd i dalu am bethau. Fe wnaethoch chi lansio dros y penwythnos eich 100 diwrnod cyntaf mewn grym, a'r hyn a welsom ni oedd cynllun ar gyfer cynllun. Mewn 88 pwynt, mae gennym ni 13 o adolygiadau ac archwiliadau ac 20 o gomisiynau. Yr adeg i wneud eich gwaith cartref yw cyn i chi gael unrhyw le yn agos at rym. Rydych chi wedi cael 26 mlynedd i baratoi ar gyfer hyn; roeddem ni'n disgwyl mwy.

Mae'n rhaid i mi fod yn eglur bod yr hyn a gawsom ni ddoe yn rhywbeth dra gwahanol i Lafur Cymru, gan fod yn ymarferol iawn o ran beth oedd y cynnig i bobl Cymru. Maen nhw'n ymwneud â materion sy'n ymwneud â chostau byw. Ac felly rydym ni wedi bod yn eglur y byddwn ni'n eu helpu nhw gyda chostau byw trwy gapio prisiau bysiau, trwy rewi prisiau tocynnau rheilffordd, trwy wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu cyfleusterau gofal plant ychwanegol i 20,000 o bobl yng Nghymru. Yr holl bethau hynny yw'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Byddwn ni'n chwilio am swyddi ar gyfer y dyfodol, yn gweithio tuag at Gymru ymarferol iawn, sy'n annibynnol o ran ynni, gan amddiffyn teuluoedd rhag marchnadoedd byd-eang ansefydlog—yr union sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw—swyddi da, gan sicrhau y bydd cymunedau yn elwa. Ac yn hollbwysig hefyd, byddwn yn cyflwyno gwarant ailhyfforddi gydol oes. Os bydd eich swydd yn newid, ni ddylech chi gael eich gadael ar ôl.

Rwy'n sylwi bod y Prif Weinidog wedi osgoi'r cwestiwn am ddigartrefedd ac wedi osgoi ymateb ar 27 mlynedd o fethiant Llafur. Ddoe, daliodd ddarn o gardfwrdd i fyny â phum brawddeg arno; mae gan Blaid Cymru gynllun manwl ar gyfer ein 100 diwrnod cyntaf, a dim ond rhagflaenydd i'r maniffesto manwl sydd i ddod yw hwnnw. Fe wnaf i adael i'r cyhoedd benderfynu pa blaid sydd fwy o ddifrif am baratoi i drawsnewid ffawd Cymru.

Nid yw cynlluniau'r Prif Weinidog yn gwneud synnwyr. O fewn oriau o sicrhau mynediad iechyd meddwl yr un diwrnod, aeth yr addewid ar chwâl, ni allai esbonio sut mae 'cymorth yr un diwrnod' yn edrych mewn gwirionedd. Honnodd yn anghywir hefyd bod ei strategaeth iechyd meddwl yn esbonio sut i gynyddu'r gweithlu—nid yw'n gwneud dim o'r fath. Yna, addawodd £4 biliwn tuag at ysbytai newydd heb gynnig unrhyw fanylion o gwbl am sut y byddai'n talu amdanyn nhw, yn union fel yr addewidion gwag hynny ar y rheilffordd wythnos neu ddwy yn ôl. Ac ar hynny, i fenthyg ymadrodd, dangoswch yr arian i ni. Does dim, ac ni fydd neb yn llyncu twyll rheilffyrdd Llafur. Ond ddywedaf i hyn wrthych chi: oes, mae angen ysbytai newydd arnom ni, ond o ystyried cyflwr ystad y GIG ar ôl 27 mlynedd o reolaeth Llafur, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni ble fyddai hyn yn gadael ôl-groniad cynnal a chadw y GIG, sydd wedi cynyddu i £1.2 biliwn o dan oruchwyliaeth Llafur.

13:55

Rydym ni'n falch iawn o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y tymor Senedd hwn o ran digartrefedd; mae'r ffaith ein bod ni wedi gallu pasio Deddf yn gwbl hanfodol. Rydym ni'n falch iawn hefyd ein bod ni wedi gwneud y gwaith cefndir o ran gofal iechyd meddwl ar yr un diwrnod. Mae wedi'i ysgrifennu yn y gyllideb, mae yno. Doeddech chi ddim hyd yn oed yn ymwybodol ei fod yno, ond mae yno. Rydym ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi gweld newid mawr o ran y cymorth ar gyfer iechyd meddwl yn y wlad hon. A dweud y gwir, rydym ni'n un o'r unig rannau o'r Deyrnas Unedig lle mae swm o arian wedi'i neilltuo ar gyfer y GIG. Rydym ni'n eglur iawn o ran yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni, a chyflwynwyd hynny ddoe.

Gadewch i ni siarad am eich cynlluniau ar gyfer 100 diwrnod. Rydych chi'n dweud nad ydych chi'n disgwyl gweld gwahaniaeth yn rhestrau aros y GIG mewn 100 diwrnod. Gadewch i mi ddweud wrthych chi yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni yn ystod y 100 diwrnod diwethaf: y gostyngiad mwyaf, mwyaf parhaus i restrau aros cyffredinol erioed; y rhestrau aros hiraf yn gostwng yn sydyn; llai na 5,300 o bobl yn aros dwy flynedd am driniaeth—gostyngiad o 1,600 mewn mis; rydym ni wedi cynnal yr uwchgynhadledd buddsoddi ryngwladol, lle gwnaethom ni sicrhau £16 biliwn yn ystod y flwyddyn; rydym ni wedi cyhoeddi £30 miliwn ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y gogledd; rydym ni wedi cadarnhau ein bod ni wedi creu 100,000 o brentisiaethau; fe wnaethom ni basio cyllideb o £27 biliwn; rydym ni wedi cymryd camau i gynorthwyo cyflogwyr a busnesau ar ein strydoedd mawr; rydym ni wedi sicrhau parthau twf Wylfa a deallusrwydd artiffisial; rydym ni wedi sicrhau cynllun dychwelyd ernes arloesol; ac rydym ni wedi rhewi prisiau tocynnau rheilffordd Cymru. Dim ond ffracsiwn o'r pethau yr ydym ni wedi eu gwneud yn y 100 diwrnod diwethaf yw'r rhain, ac rydych chi eisoes yn gwneud esgusodion am yr hyn na fyddwch chi'n ei wneud yn y 100 diwrnod cyntaf os cewch chi hanner cyfle o fod mewn grym.

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru o ran diogelwch dinasyddion Prydeinig o Gymru sydd yn y dwyrain canol ar hyn o bryd? Mae ein calonnau yn mynd allan iddyn nhw ac rydym ni'n gweddïo dros eu diogelwch ac am eu dychwelyd i'r DU, os mai dyna yw eu nod. Hoffwn hefyd anfon fy nymuniadau gorau i ddynion a menywod dewr y lluoedd arfog Prydeinig sy'n rhan o'r gweithrediadau amddiffynnol yn y dwyrain canol ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod bod cyfundrefn Iran yn gyfundrefn ofnadwy, sy'n gyfrifol am ormes ei phobl ei hun, gan gynnwys lladd miloedd dim ond am fynnu rhyddid sylfaenol yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol yma yng Nghymru bob un dydd. Mae'r gyfundrefn honno yn fygythiad nid yn unig i sefydlogrwydd rhanbarthol, fel yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, ond hefyd i ddiogelwch rhyngwladol. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i sefyll yn ddiamwys gyda phobl Iran, gan gynnwys y menywod dewr sydd wedi protestio dros eu hawliau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i NATO ac i'n cynghrair gyda'r Unol Daleithiau ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang?

Rwyf i wedi mynegi fy mhryder dwys, a fy mhryder am y bobl sy'n byw yn Iran ac yng ngweddill y rhanbarth. Ceir sifiliaid diniwed sy'n mynd i gael eu heffeithio gan yr hyn sy'n digwydd mewn rhyfel lle nad yw'n glir beth fydd y canlyniad. Mae gen i ofnau gwirioneddol bod perygl y gallai hyn waethygu y tu hwnt i'n rheolaeth. Hefyd, mae gen i ofnau, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yng Nghymru yn deall bod angen i ni gadw cydlyniant cymunedol gyda'i gilydd yn ein gwlad. Ceir potensial a pherygl y gallai hyn ymledu i'n cymunedau ein hunain yma, a byddwn yn annog pawb i weithio gyda'i gilydd dros heddwch, cymodi ac, yn enwedig yn ein gwlad ni yma, i wneud yn siŵr nad ydym ni'n gweld y mathau o densiynau yr wyf i'n ofni y gallen nhw ddatblygu os bydd pethau'n parhau.

14:00

Mae'n ddrwg iawn gen i, Prif Weinidog, na wnaethoch chi fynegi eich cefnogaeth uniongyrchol i'r gynghrair filwrol sydd gennym ni gyda'r Unol Daleithiau, yn wahanol i Brif Weinidog Canada a Phrif Weinidog Awstralia. Ond rwyf i eisiau dymuno pob lwc i bawb yn y dwyrain canol sy'n ofnus ar hyn o bryd am eu diogelwch. Wrth gwrs, rwy'n gwybod bod milwyr Prydain yn gwneud yr hyn y gallan nhw i sicrhau eu diogelwch.

Gan droi at fater arall, Prif Weinidog, bu pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am ariannu Labour Together, a bu honiadau difrifol am weithredoedd ei arweinyddiaeth, gan gynnwys honiadau bod arian yn cael ei sianelu o Ynysoedd y Cayman a bod arian yn cael ei dalu i gwmni lobïo yn yr Unol Daleithiau i daflu baw at newyddiadurwyr sydd wedi bod yn ymchwilio i ariannu'r sefydliad. Mae un Gweinidog Llywodraeth Lafur y DU eisoes wedi ymddiswyddo mewn perthynas â'r mater hwn, ond, wrth gwrs, chi yw arweinydd Llafur Cymru, ac mae nifer o etholaethau Llafur yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan y sefydliad anhygred hwn.

Bythefnos yn ôl, ysgrifennais atoch chi ynglŷn â rhodd o £10,000 a wnaed gan Labour Together i'r Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin, ardal yr ydych chi'n ei chynrychioli. Nawr, o ystyried y pryderon sydd gan y cyhoedd, a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a oeddech chi'n ymwybodol o'r rhodd honno ar yr adeg y cafodd ei gwneud, pa ddiwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd ac, yng ngoleuni'r pryderon cyhoeddus sy'n bodoli ar hyn o bryd, a wnewch chi ystyried dychwelyd yr arian hwnnw i ddiogelu hyder a chynnal safonau ym mywyd cyhoeddus Cymru?

Hoffwn fod yn eglur nad oeddwn i'n ymwybodol o gwbl o unrhyw gyfraniadau ariannol gan Labour Together, ac rwyf i wedi cyfeirio eich cwestiynau at ysgrifennydd cyffredinol Plaid Lafur Cymru.

Wel, rwy'n credu y byddai pobl yn disgwyl i chi ateb fel arweinydd Llafur Cymru o ran yr hyn yr ydych chi'n meddwl ddylai gael ei wneud gyda'r arian hwnnw. Yn sicr, fe allech chi o leiaf fynegi barn o ran pa un a ydych chi'n meddwl y dylid rhoi'r arian hwnnw yn ôl, o gofio bod llawer o bobl o'r farn ei fod yn arian brwnt.

Nawr, nid Labour Together yw'r unig sefydliad sydd wedi bod yn ariannu'r Blaid Lafur. Mae ffigurau yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi darparu o leiaf £1.7 miliwn o gyllid i undebau llafur yng Nghymru dros gyfnod diweddar o 10 mis y llynedd ar wedd partneriaeth gymdeithasol. Yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yw bod data'r Comisiwn Etholiadol wedi dangos bod y Blaid Lafur wedi derbyn miliynau gan undebau llafur ledled y DU yn 2025, gan gynnwys £1.5 miliwn gan Unite, £720,000 gan GMB, £735,000 gan Unsain, £733,000 gan yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, a £350,000 gan Community. Mae'r holl sefydliadau hynny wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Nawr, pan fo'r un sefydliadau yn gefnogwyr ariannol mawr i'r blaid lywodraethol ac mae derbyniadau sylweddol o arian cyhoeddus yn llifo i'w cyfeiriad, mae'n creu tybiaeth eglur o ddolen ariannol gaeedig. Arian trethdalwyr allan, rhoddion i'r Blaid Lafur i mewn. Felly, a wnewch chi nodi'n eglur iawn pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau nad yw arian cyhoeddus yn talu am roddion i'r Blaid Lafur?

Rwy'n eithriadol o falch o'n perthynas yn Llafur Cymru â'r mudiad Llafur. Mae hwn yn gysylltiad hirhoedlog balch. Rydym ni'n sefyll gyda'r mudiad Llafur. Ond gadewch i ni fod yn eglur, rydym ni hefyd yn falch iawn o fod wedi cyflwyno pethau fel cronfa ddysgu undebau Cymru. Mae honno'n ffordd o uwchsgilio pobl yn y gweithle. Nid wyf i'n ymddiheuro am uwchsgilio pobl. Yn aml iawn, mae ganddyn nhw fynediad at unigolion na all mecanweithiau uwchsgilio traddodiadol eu cyrraedd. Felly, mae hon yn rhaglen lwyddiannus iawn. Mae'n rhaglen yr wyf i'n gobeithio y byddwn ni'n ymrwymo iddi yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd pawb arall yn ymrwymo iddi yn y dyfodol. Os nad ydych chi'n mynd i wneud hynny, Darren, rwy'n credu yr hoffem ni wybod amdano.

Meddyginiaethau a Chyflenwadau Meddygol

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan y GIG ddigon o feddyginiaethau a chyflenwadau meddygol i drin cleifion? OQ63940

14:05

Yng Nghymru, mae gan bobl fynediad at bresgripsiynau am ddim. Mae hwn yn ddewis gwleidyddol yr ydym ni wedi ei wneud, ac nid yw ar gael i gleifion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y GIG, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, rhagnodwyr a fferyllfeydd i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y meddyginiaethau a'r driniaeth feddygol sydd eu hangen arnyn nhw.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r newyddion bod cyflenwad amgen o sment esgyrn wedi cael ei sicrhau ac y gall y llawdriniaethau orthopedig barhau, ond gyda rhestr aros mor enfawr, gall hyd yn oed yr oedi byr hwn arwain at ganlyniadau enfawr. Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri'r mwyaf o bryder i mi yw bod y sefyllfa yn bodoli. Sut roedd yn bodoli yn y lle cyntaf? Sut ddaeth y GIG mor ddibynnol ar un cyflenwr yn unig, a pham roedd stociau mor isel? Mae gan y math o sment esgyrn a ddefnyddir yn ein gwasanaethau iechyd oes silff tair blynedd, ac eto dim ond diwrnodau o gyflenwadau oedd gennym ni yn hytrach na misoedd neu flynyddoedd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno na ddylai'r sefyllfa hon erioed fod wedi digwydd yn y lle cyntaf, ac a wnewch chi bellach orchymyn adolygiad i sicrhau nad yw'r GIG ar drugaredd un cyflenwr ar gyfer ein meddyginiaethau a'n cyflenwadau meddygol?

Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rwy'n gwybod pa mor ofidus y mae'n rhaid ei bod hi i gleifion a chlinigwyr pan ddywedir wrthyn nhw fod angen canslo llawdriniaethau. Gellir rheoli'r rhan fwyaf o achosion o brinder heb amharu ar ofal pobl, felly mae'n bwysig bod llif cyson o feddyginiaethau ac offer ar gael.

O ran y mater yr ydych chi'n sôn amdano, roedd prinder byd-eang, heb ei gynllunio o sment esgyrn, a oedd yn effeithio ar gyflenwr o'r Almaen. Arweiniodd hynny at sefydliad GIG y DU yn oedi rhai llawdriniaethau orthopedig a gynlluniwyd a blaenoriaethu'r llawdriniaethau trawma. Nawr, rwy'n falch iawn o ddweud bod y sefyllfa hon bellach wedi cael ei datrys, ac rydym ni mewn sefyllfa lle mae'r gwaith wedi ailddechrau. Ailddechreuodd y gwaith ddoe, felly rydym ni yn ôl ar y trywydd iawn ac mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi ei gwneud hi'n eglur y bydd yn cyhoeddi'r ffigur o ran yr effaith y mae hynny wedi ei chael ar restrau aros.

Roeddwn i'n bresennol mewn digwyddiad hynod ddiddorol a drefnwyd gan John Griffiths yr wythnos diwethaf ar glefydau prin. Wrth gwrs, ni all llawer o bobl sy'n dioddef o glefydau prin gael rhai o'r cyffuriau sydd eu hangen ar gyfer eu sefyllfa. Digwyddiad arall yr oeddwn i'n bresennol ynddo yn ddiweddar oedd cynhadledd gyda rhai cwmnïau fferyllol a ddywedodd nad ydyn nhw'n gwasanaethu Cymru gan eu bod nhw'n cynhyrchu cyffuriau niferoedd isel, cost uchel na all Cymru eu cael i mewn, gan ei fod yn rhy ddrud ac nad oes gennym ni ddigon o gleifion. Felly, pa waith ydych chi, fel Llywodraeth, yn ei wneud gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU efallai i sicrhau bod cleifion yng Nghymru sydd angen y cyffuriau hynny yn cael mynediad atyn nhw, er nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd?

Rwy'n falch iawn, a dweud y gwir, ein bod ni wedi cyflwyno'r gronfa driniaeth newydd yn 2016, ac mae honno wedi gwella mynediad at driniaethau newydd a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Ar gyfartaledd, mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwneud ar gael drwy'r gronfa driniaeth newydd dim ond 16 diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo. Mae'n gwbl ryfeddol, ac nid yw honno'n system yr ydych chi ei gweld mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod hynny.

O ran meddyginiaethau drud, ceir system, mecanwaith a dull sydd wedi'u canoli ar draws Cymru, lle ceir grŵp o arbenigwyr sy'n penderfynu a yw'r claf hwnnw yn gymwys i gael meddyginiaeth arbennig o ddrud. Nid yw gwleidyddion, rwy'n eich sicrhau chi, yn mynd yn agos at y pethau hyn. Mae'n rhaid iddo gael ei ysgogi gan y meddygon, gan y clinigwyr a hefyd gan ganllawiau NICE.

Prif Weinidog, cysylltodd etholwr â mi sy'n gorfod cymryd statinau bob dydd i reoli ei bwysedd gwaed. Pan aeth i'w fferyllfa, dywedwyd wrtho y bydd prinder cenedlaethol o statinau ledled y byd oherwydd prinder deunyddiau crai. Yn amlwg, mae pobl yn cymryd y cyffuriau hyn yn lleihau'r pwysau ar y gwasanaethau brys ehangach, oherwydd os yw eu pwysedd gwaed yn cynyddu, maen nhw'n mynd i orfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys neu ofal sylfaenol. Felly, mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran y feddyginiaeth hon, i wneud yn siŵr bod gan bobl y meddyginiaethau hyn ar gael i reoli eu pwysedd gwaed.

14:10

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod y bu problemau gyda rhai cyffuriau, ond doeddwn i ddim wedi clywed bod problem gyda statinau, felly rwy'n credu y byddwn ni'n dod yn ôl atoch chi ar hynny, oherwydd hoffwn wybod os yw hynny'n wir. Ond mae'r ffaith nad yw'n cael ei restru yma yn awgrymu i mi, mewn gwirionedd, nad oes gennym ni broblem yn y maes hwnnw.

Y peth allweddol i'w gofio, mewn gwirionedd, o ran caffael meddyginiaethau, yw mai Llywodraeth y DU sy'n arwain ar y materion hyn.

Prosiect Coridor y Gogledd-orllewin

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt prosiect coridor y gogledd-orllewin? OQ63907

Mae teithio o gwmpas dinas Caerdydd a'r cyffiniau yn haws yn hanfodol i hybu cyfleoedd gwaith ac i wneud bywyd yn haws i'r bobl sy'n byw yno. Rwy'n falch iawn ein bod ni, o Ddydd Gŵyl Dewi ddydd Sul, wedi rhewi prisiau tocynnau rheilffordd, gan helpu pobl gyda'r heriau costau byw y mae cynifer yn eu hwynebu.

Mae prosiect coridor y gogledd-orllewin yn uchelgais sydd wedi ei gynnwys ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, 'Gweledigaeth Trafnidiaeth i 2030', lle mae Caerdydd yn cyflwyno ei chynlluniau adfywio uchelgeisiol. Bydd y cam cyntaf yn gwella trafnidiaeth rhwng yr orsaf ganolog a'r bae ac mae'n rhagflaenydd hanfodol i unrhyw ddatblygiad o gynllun coridor gogledd-orllewin Caerdydd yn y dyfodol.

Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, disgwylir i goridor y gogledd-orllewin ymestyn maes o law i Bont-y-clun, i Beddau, ac, wrth gwrs, mae'r hen reilffordd sy'n bodoli ac sydd wedi cael ei chadw yno at y diben penodol hwnnw. Wrth gwrs, cyllid fydd y mater allweddol.

Mae ardal Taf Elái, wrth gwrs, yn debygol o weld, dros y degawd nesaf, tua 10,000 i 20,000 o gartrefi newydd, ac mae'n ardal lle mai'r unig ateb trafnidiaeth mewn gwirionedd yw ailagor y rheilffordd benodol honno ar hyd coridor y gogledd-orllewin. Mae Rhondda Cynon Taf a Chyngor Caerdydd, wrth gwrs, wedi bod yn cydweithio. Bu £1 filiwn o fuddsoddiad, rwyf i wedi cysylltu'n agos â'r Gweinidog cyllid a'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd, Mark Drakeford, ac mae'n amlwg iawn bod yr achos busnes posibl yn un sy'n cael ei sefydlu'n dda.

O ystyried y ffaith fod gennym ni'r cyfle nawr o archwilio cyllid dros y degawd nesaf, a allwch chi ein sicrhau ni bod datblygiad y coridor gogledd-orllewinol hwnnw, a datblygiad Taf Elái ac ailagor y rheilffordd honno, yn un a fydd yn flaenllaw yn y Llywodraeth Lafur nesaf?

Diolch yn fawr iawn. Mae cyswllt rheilffordd coridor y gogledd-orllewin wedi'i gynnwys yn y weledigaeth honno gan Trafnidiaeth Cymru—'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'. Ac rydych chi wedi clywed bod hwn yn becyn gwerth £14 biliwn, ei fod yn gynlluniau rheilffyrdd trawsnewidiol, a bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflawni'r weledigaeth honno cyn gynted â phosibl.

Nawr, mae ein pwyslais wrth gyflawni'r cynlluniau hyn, yn gyntaf oll, ar y cynlluniau hynny sydd eisoes wedi derbyn cyllid. Mae hynny'n cynnwys cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, sy'n cael ei ariannu ar y cyd gan y ddwy Lywodraeth, ac uwchraddio cyffordd Gorllewin Caerdydd, a ariannwyd gan Lywodraeth y DU yn yr adolygiad gwariant y llynedd. Yn amlwg, mae angen i chi gael y cynlluniau hynny—maen nhw'n alluogwyr hanfodol o'r darnau hynny o'r cynllun—er mwyn agor yr ardaloedd yr ydych chi'n gysylltiedig â nhw.

Fel rhywun sy'n cefnogi coridor y gogledd-orllewin ac wedi ymweld â'r cynigion flynyddoedd lawer yn ôl, byddai hwnnw'n ychwanegiad i'w groesawu at y jig-so sy'n cyfansoddi'r opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael i bobl yng ngogledd fy rhanbarth.

Ond mae de fy rhanbarth, ym Mro Morgannwg, wedi gwneud yn wael iawn, (1) gyda chynnydd i gapasiti trenau ar linell Bro Morgannwg, a addawyd ers o leiaf y pum mlynedd diwethaf ac nad yw wedi digwydd o hyd, a (2) y diffyg blaengynllunio i adeiladu gorsaf reilffordd ym mhentref Sain Tathan. Mae hon yn ardal y mae cynlluniau datblygu lleol olynol wedi'i nodi ar gyfer datblygiad tai graddfa fawr, ac, yn wir, ar draws y ffordd gyfan honno sy'n arwain ymlaen i Ben-y-bont ar Ogwr, ceir datblygiadau newydd sylweddol sydd angen y capasiti ychwanegol hwnnw ar linell Bro Morgannwg, ac yn enwedig yr orsaf newydd yn Sain Tathan. A allwch chi ddweud wrthyf i pam mae gan Lywodraeth Cymru fan dall o ran buddsoddi yn llinell Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr?

Mae'r rhanbarth, gadewch i mi eich sicrhau, yn gweithio ar y mater hwn. Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd i bawb symud o gwmpas ein gwlad. Mae cyfleoedd i ehangu o ran adeiladu cartrefi newydd. Mae hyn yn agor cyfleoedd economaidd, ond dydyn ni ddim eisiau gweld milltiroedd ar filltiroedd o draffig ar ein ffyrdd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y seilwaith yno, a dyna pam mae'r £14 biliwn hwnnw dros 15 mlynedd yn gwbl hanfodol.

Y peth allweddol nawr yw y gallwn ni gynllunio. Gallwn ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Allwch chi ddim troi'r pethau hyn ymlaen dros nos. Mae angen i chi fynd trwy ganiatâd cynllunio. Mae angen i chi wneud yn siŵr nad oes unrhyw faterion amgylcheddol yn gysylltiedig ag ef. Mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych chi'r sgiliau ar gael yn y gymuned i gyflawni'r prosiectau. Felly, dyna pam mae'r cynllun hirdymor hwnnw gennym ni, yn gweithio gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, i sicrhau bod dyfodol i reilffyrdd yn y rhan honno o'r byd.

14:15
Amseroedd Aros y GIG

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y GIG ym Mhowys? OQ63912

Rwy'n falch iawn bod yr arian ychwanegol a gawsom ni gan Lywodraeth Lafur y DU wedi cael ei fuddsoddi i helpu i fyrhau rhestrau aros er mwyn pob un o bobl Cymru, gan gynnwys pobl ym Mhowys. O ran niferoedd y rhai â'r amseroedd aros hwyaf, mae'r rhain wedi lleihau 92 y cant ers yr uchafbwynt.

Nawr, yn ddarparwr—ac a gaf i bwysleisio'r gair hwnnw, 'darparwr'—nid oedd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys unrhyw lwybrau yn aros am dros 52 wythnos ar gyfer apwyntiad cleifion allanol dechreuol, a dim llwybrau atgyfeirio i driniaeth yn aros am dros 104 wythnos ar ddiwedd mis Rhagfyr. Ond mae bwrdd iechyd Powys yn comisiynu gofal i'w breswylwyr gan ddarparwyr GIG yn Lloegr a rhai byrddau iechyd eraill yng Nghymru, ac mae rhai o'r cleifion hynny'n aros am amseroedd sy'n hwy.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Fe fyddai hi'n dda o beth pe byddai'r Ysgrifennydd Iechyd yn gwneud yr un datganiad wrth iddo ef wneud ei ddatganiad ynglŷn ag amseroedd aros.

Y llynedd, fe ddarparodd Llywodraeth Cymru £120 miliwn o gyllid ychwanegol i'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o ran yr amseroedd aros. Fe gafodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn y de £20 miliwn. Dim ond £115,000 a gafodd bwrdd iechyd Powys. Dyna lai na 0.1 y cant o gyfanswm y dyraniad hwnnw. Pan godais i hyn gyda'r Ysgrifennydd iechyd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd ef fod mai'r rheswm am hynny oedd nad yw bwrdd iechyd Powys yn darparu'r un ystod o wasanaethau ag y mae byrddau iechyd eraill yn eu darparu. Sut y dylid unioni hynny ynddo'i hunan? Ac, wrth gwrs, rydych chi'n siŵr o fod yn sylweddoli bod llawer o gleifion ym Mhowys yn cael eu triniaethau mewn siroedd eraill, ond bod rhaid i'r bwrdd iechyd, bwrdd iechyd Powys, dalu am ddarpariaeth y triniaethau hynny. Felly, ar y sail honno, a wnewch chi esbonio eich rhesymeg pan na ddyrannwyd y £120 miliwn hwnnw ledled Cymru ar sail y boblogaeth? Pe byddai hynny wedi digwydd, fe fyddai Powys wedi cael £5 miliwn, oherwydd mae poblogaeth Powys 40 gwaith yn fwy na 0.1 y cant.

A wnewch chi gadarnhau nawr a fydd bwrdd iechyd Powys yn cael unrhyw gyllid ychwanegol i ymdrin â'i broblemau gydag amseroedd aros? Ac wrth i chi ateb y cwestiwn, a wnewch chi ddwyn i gof fod bwrdd iechyd Powys wedi dweud wrth ddarparwyr dros y ffin i ohirio'r triniaethau i gleifion Powys yn fwriadol oherwydd nad yw'n gallu fforddio talu amdanyn nhw?

Felly, mae'r swm o arian maen nhw'n ei dderbyn yn seiliedig ar weithgarwch ac, yn amlwg, rydych chi mewn sefyllfa, ym Mhowys, lle nad oes ysbyty cyffredinol i'w gael yn yr ardal. Ond mae llawer o gyllid ychwanegol wedi cael ei roi i fwrdd Powys dros ben yr arian sylfaenol y mae'n ei dderbyn. A gadewch i mi egluro bod gwybodaeth rheolwyr yn dangos bod tua 170 o drigolion yn aros am fwy na 104 wythnos ar ddiwedd mis Tachwedd. O'r rhain, roedd tua 130 o breswylwyr yn aros am driniaethau oddi wrth ddarparwyr GIG Lloegr. Ac nid oes unrhyw awgrym bod unrhyw oediadau o ran triniaethau i drigolion Powys y comisiynwyd eu triniaethau nhw gan ddarparwyr yn Lloegr yn gysylltiedig â diffyg arian. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd, pan fyddwch chi'n clywed y niferoedd maen nhw'n eu datgan yn Lloegr o ran pobl sy'n aros, rydych chi'n credu bod hynny yn ôl cyfran, yn nifer fawr iawn, mewn gwirionedd, o'r niferoedd y maen nhw'n eu datgan yn Lloegr.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rydyn ni'n clywed negeseuon cymysglyd iawn ym Mhowys—mae gwybodaeth hollol wrthgyferbyniol yn dod o ran triniaethau mewn ysbytai Lloegr. Fe gefais i lythyr oddi wrth Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy, sy'n cynnwys ysbyty Henffordd. Maen nhw'n eglur iawn am y polisi hwn, ac maen nhw'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'mae'r polisi hwn wedi bod yn heriol i'w gyflawni, yn weithredol ac yn glinigol' ac maen nhw, ac rwy'n dyfynnu eto, 'yn rhagweld y bydd hyn yn creu heriau a phwysau gweithredol ychwanegol o chwarter 1 cynnar 2026-27.' Maen nhw'n nodi ymhellach y bydd y bwlch rhwng cleifion o Loegr a Chymru yn parhau i ehangu wrth i'r symudiad at daro nod newydd GIG Lloegr o 92 y cant o gleifion yn cael eu trin o fewn 18 wythnos ddod i'r golwg. Mae pobl ym Mhowys, fel tynnodd Russell George sylw at y peth, yn cael eu trin yn annheg. Nid oes gennym ni ein hysbyty cyffredinol ein hunain, ac felly mae'n rhaid i ni gomisiynu ein triniaethau gan ysbytai eraill, ac mae llawer ohonyn nhw yn Lloegr. Felly, a wnewch chi sicrhau y bydd Powys yn cael setliad teg o'r £120 miliwn a ddyrannwyd y llynedd, ac yn helpu preswylwyr sy'n byw mewn poen ac ingoedd ar hyn o bryd i gael y triniaethau y maen nhw'n eu haeddu? Diolch yn fawr iawn.

14:20

Wel, ar 1 Gorffennaf 2025, fe ddaeth newidiadau a gymeradwywyd gan y bwrdd i beri i wasanaethau gofal cynlluniedig a gomisiynwyd gan ddarparwyr yng Nghymru a Lloegr gyd-fynd â nodau adferiad GIG Cymru i rym yn ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt ac ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy. Fe gawson nhw eu comisiynu gan y byrddau iechyd i gyflawni. Nid yw ymddiriedolaeth GIG Amwythig a Telford wedi rhoi'r bwriadau comisiynu newydd ar waith.

Tyllau yn y Ffyrdd

6. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag awdurdodau lleol ar fesurau i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd? OQ63922

Mae hi wedi glawio yn ddi-baid yng Nghymru ers y Nadolig bron iawn, ac mae hynny, ochr yn ochr â'r oerfel, yn achosi mwy o dyllau. Pan ddeuthum i'n Brif Weinidog, fe gymerais i gyfarwyddyd uniongyrchol gan y cyhoedd yng Nghymru i lenwi tyllau yn y ffyrdd. Mewn gwirionedd, rwyf i wedi gwneud ychydig o hynny'n bersonol. Fe fuom ni'n gwella cyflwr ein ffyrdd, ac fe wnaethom ni honno'n flaenoriaeth inni. Nawr, yn y flwyddyn ariannol hon, fe wnaethom ni ddarparu £10 miliwn i lywodraeth leol yng Nghymru, a oedd yn datgloi dros £70 miliwn ar gyfer gwelliannau cynnal a chadw ychwanegol. Fe fyddwn ni'n cwrdd â'r cynghorau bob mis i adolygu'r cynnydd, ac mae tua 200,000 o dyllau wedi cael eu hatal a'u trwsio ledled Cymru eisoes. Wrth gwrs, wrth i'r glaw barhau, fe fydd hynny'n achosi mwy o dyllau, ond dychmygwch chi sut fyddai hi wedi bod pe na baem ni wedi llenwi 200,000 o dyllau.

Prif Weinidog, wel, dyna beth yw eironi: rwy'n teimlo bron iawn y dylwn i ddatgan buddiant y bore yma fel rhywun sydd wedi treulio'r bore mewn garej yn Nhrefynwy, oherwydd bod un o'r teiars wedi chwythu oherwydd twll yn y ffordd, yn eironig. Mae hi'n ymddangos bod rhagor o dyllau yn y ffyrdd yng Nghymru nag y sydd yna yn strategaeth trafnidiaeth eich Llywodraeth chi. Mae'r gost yn aruthrol i drigolion yn fy rhanbarth i a ledled Cymru—difrod i deiars, crogiannau wedi torri, atgyweiriadau mynych—ac eto mae pobl yn talu mwy o dreth gyngor am ffyrdd sy'n dirywio.

Prif Weinidog, ledled y DU, mae nifer o gynghorau yn defnyddio'r dechnoleg gyfoes ddiweddaraf ar gyfer atgyweirio, fel y JCB Pothole Pro, sy'n gallu trwsio tyllau'r tro cyntaf, sy'n arbed arian yn yr hirdymor. Rydych chi wedi taflu arian at gynghorau yn ddiweddar o ran y tyllau, sy'n beth gwych, ond heb unrhyw ystyriaeth y tu ôl i hynny. Fe fyddai buddsoddiad yn y dechnoleg ddiweddaraf hon yn ddull llawer mwy effeithlon i gynghorau ledled Cymru ac yn lleihau costau yn yr hirdymor. Felly, a wnewch chi ymrwymo i weithio ar y cyd â'r awdurdodau lleol i fuddsoddi yn y dechnoleg hon, fel y JCB Pothole Pro, mewn modd priodol a fydd yn arbed arian i'n cynghorau a'n trethdalwyr sy'n gweithio mor galed? Diolch.

Diolch yn fawr. Mae hi'n swnio fel bod cerbyd Reform yn colli ei olwynion eisoes. Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â'r JCB Pothole Pro; mewn gwirionedd, rwyf i wedi gyrru un o'r peiriannau hyn, ac roedd hi'n wych iawn gweld y buddsoddiad a wnaeth Cyngor Sir y Fflint wrth brynu'r dechnoleg newydd hon. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn iddyn nhw mewn gwirionedd. Ar ben hynny, mae asffalt mastig carreg neu gymysgedd Draig Llywodraeth Cymru ar gael i'r awdurdodau lleol hefyd ar gyfer ei ddefnyddio ar eu ffyrdd, ac mae hwnnw'n ddeunydd a ddatblygwyd yn arbennig ac sy'n gallu gwrthsefyll eithafion tymheredd ac yn cynyddu parhauster y ffyrdd. Rwy'n gwybod llawer gormod am dyllau yn y ffyrdd.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod ei blaenoriaethau yn cyd-fynd â rhai pobl Cymru? OQ63910

Bu pobl Cymru yn eglur iawn ynglŷn â'u blaenoriaethau nhw yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd pan wnaethon nhw ein hethol ni a chefnogi ein maniffesto ni, ac fe fydd mwyafrif llethol y rhaglen lywodraethu, yn seiliedig ar y maniffesto hwnnw, wedi cael ei gyflawni erbyn diwedd y tymor hwn.  

Pan ddeuthum i'n Brif Weinidog, y peth cyntaf a wnes i oedd gwrando ar bobl Cymru unwaith eto o ran y pethau sy'n fwyaf pwysig iddyn nhw a gwneud cyflawni ar eu cyfer nhw'n flaenoriaeth i ni. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n dymuno gweld pethau sylfaenol i wneud Cymru yn lle gwell a thecach: mwy o gartrefi, gwelliant o ran trafnidiaeth, llenwi tyllau, cael mwy o swyddi yma a gwelliant o ran iechyd. Dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn ei gyflawni.

14:25

Wel, Prif Weinidog, mae pobl wedi dweud wrthych chi fod y GIG yn gwbl ganolog ymhlith y materion yr oedden nhw'n credu eu bod o bwys mawr. Fe fydd llawer o etholwyr yr wyf i'n eu hadnabod yn pryderu am yr ôl-groniad £1 biliwn—ac sy'n cynyddu—o ran cynnal a chadw sy'n bodoli yn ein GIG. Edrychwch, rydym ni yn ein hail wythnos mewn Siambr newydd sy'n werth £4 miliwn. Fe gafodd ei hadeiladu i wneud lle ar gyfer cynlluniau £120 miliwn i fod â 36 o Aelodau ychwanegol yn y Senedd. Ac yn y fan honno y dewisodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru wario'r arian yn ystod tymor y Senedd hon—nid ar drwsio'r ôl-groniad hwnnw o ran cynnal a chadw yn ein GIG ond, yn hytrach na hynny, ar y Senedd ei hun. Mae'n tystio i flaenoriaethau Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, dwy blaid sydd â gormod o ddiddordeb ym mogailsyllu, â gormod o ddiddordeb mewn bod â mwy o wleidyddion, gormod o ddiddordeb ynddyn nhw eu hunain, a llai o ddiddordeb ym mlaenoriaethau pobl Cymru, fel atgyweirio ein GIG.

Fe glywsom ni beth yw prif bryderon pobl Cymru ddoe: am gostau byw ac am y GIG y maen nhw'n gofidio, a dyna pam mai'r rhain oedd y ddau ymrwymiad allweddol y gwnaethom ni eu hamlygu ddoe, wrth i ni gyhoeddi ein bwriadau ar ôl mis Mai. Felly, fe wnaethom ni ddweud ein bod ni wedi rhewi prisiau tocynnau rheilffordd eisoes. Fe fyddwn ni'n cefnogi pobl i inswleiddio ac uwchraddio eu cartrefi, ac fe fyddwn ni'n estyn cynnig realistig o ran gofal plant—20,000 o leoedd gofal plant newydd dros dymor y Senedd nesaf—yn wahanol i'r cynigion afrealistig sy'n cael eu cynnig gan rywrai eraill.

Nawr, o ran y GIG, gadewch i ni fod yn eglur: fe gawsom ein hamddifadu o gyfalaf gan Lywodraeth ddiwethaf y DU. Rydym ni mewn sefyllfa nawr i allu gwneud cyhoeddiad eglur ddoe, os cawn ni ein hethol o'r newydd i lywodraethu yma ym mis Mai, y byddwn ni'n adeiladu ysbyty newydd yng Nghaerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Fe gaiff Ysbyty Maelor Wrecsam ei adnewyddu yn gyfan gwbl, ac fe fydd yna ysbyty newydd yn y gorllewin. Mae'r rhain yn bethau y dylid eu gwneud yn fy marn i, ac nid ydym ni wedi gallu eu gwneud hyd yn hyn, am fod eich Llywodraeth Dorïaidd chi yn y DU wedi ein hamddifadu ni o'r arian.

Gwasanaethau Erthylu

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn cael mynediad hawdd at wasanaethau erthylu? OQ63941

Mae'r penderfyniad i gael erthyliad yn un dirdynnol i unrhyw fenyw, ac felly mae hi'n bwysig ein bod yn darparu gwasanaethau erthyliad mewn ffordd sy'n sensitif ac yn effeithlon. Bu gwelliannau i wasanaethau erthyliad, gyda chyflwyniad erthyliad meddygol yn gynnar yn y cartref. Rydym ni'n cydnabod nad yw mynediad at erthyliad llawfeddygol yn y sefyllfa y dylai fod ynddi. Mae'r rhwydwaith iechyd menywod yn gweithio gyda chlinigwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun cynaliadwy ar gyfer erthyliad yn ddiweddarach sy'n sicrhau bod menywod ledled Cymru yn gallu cael mynediad at ofal erthyliad diogel ac amserol pan fydd eu hangen nhw'n ymestyn y tu hwnt i wasanaethau arferol.

Diolch, Prif Weinidog. Roedd pils drwy'r post yn un o'r ychydig bethau cadarnhaol a ddaeth yn sgil COVID, ond mae menywod nad ydyn nhw'n sylweddoli eu bod yn feichiog yn canfod eu bod yn rhy hwyr i fod yn gymwys. Felly, mae'r rhan fwyaf o bobl sydd ag angen erthyliad llawfeddygol ar hyn o bryd yn cael eu gorfodi i deithio i Loegr, am fod obstetryddion a gynaecolegwyr mewn llawer gormod o fyrddau iechyd Cymru wedi cefnu ar hawl menywod i ddewis. Ac rwy'n rhoi teyrnged i Sarah Murphy, sy'n ymuno â ni o bellter heddiw, oherwydd rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn brwydro i unioni'r cam hwnnw.

Felly, mae'r sefyllfa hon o orfodi pobl i deithio i Loegr yn cynnwys menywod ifanc sydd wedi cael eu masnachu ac yn feichiog oherwydd amgylchiadau erchyll, ac mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn gorfod defnyddio ei gronfeydd elusennol i dalu am eu costau teithio i Birmingham, Llundain, Caerwysg neu Lerpwl ac arhosiad dros nos. Gan fod yr Alban a Gogledd Iwerddon fel ei gilydd yn bwriadu ehangu eu darpariaethau erthyliad hyd 24 wythnos o feichiogrwydd fel nad oes unrhyw un o'u menywod yn cael eu gorfodi i fynd i Loegr, mae hynny'n gadael Cymru, ar hyn o bryd, mewn sefyllfa eithriadol ddifrifol. Felly, rwy'n falch o glywed bod rhywbeth yn cael ei wneud ynglŷn â'r mater, ond mae hyn yn rhywbeth y mae angen ei gywiro cyn gynted ag y gallwn.

Yn amlwg, rydym ni'n cydymdeimlo â menywod sydd wedi gorfod teithio'r tu allan i Gymru oherwydd yr anawsterau y gwnaethon nhw eu profi ac am yr anhawster y maen nhw ei gael wrth gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Rydym yn awyddus iawn i Gymry allu cael gafael ar wasanaethau iechyd yn lleol, lle bo hynny'n bosibl. Dim ond tri bwrdd iechyd sy'n cynnig gwasanaethau erthyliad llawfeddygol ar hyn o bryd, ac ni ellir cynnig hynny gyda beichiogrwydd wedi 14 wythnos. Ym mhob bwrdd iechyd arall, ac ar gyfer cysylltiadau diweddarach, mae menywod yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain, ac nid yw'r clinig BPAS yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn gallu ymgymryd ag erthyliadau llawfeddygol oherwydd argaeledd llawfeddygon, ac mae hwnnw'n fater ledled y DU.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru a'r rhwydwaith iechyd menywod yr wythnos diwethaf wedi cynnull gweithdy i ddod â'r holl fyrddau iechyd at ei gilydd i hwyluso trafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar wasanaethau erthylu yng Nghymru, ac a oedd yn tynnu sylw at yr angen am welliannau ym mhob bwrdd iechyd, ac yn rhoi cyfle i bawb drafod dulliau posibl.

14:30
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lindsay Whittle. 

Landlordiaid Cymdeithasol

1. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r pwerau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw landlordiaid cymdeithasol yn gadael eiddo yn wag tra bod pobl yn parhau i fod ar restrau aros, ar ôl pasio'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)? OQ63913

Rydym ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag eiddo gwag. Mae gan awdurdodau lleol gyfres o bwerau gorfodi cynhwysfawr ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan ystod o grantiau gan Lywodraeth Cymru i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol. Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi'r llawlyfr eiddo gwag, sy'n amlinellu'r offer cyfreithiol allweddol sydd ar gael i fynd i'r afael â'r mater.

Rwy'n diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna, ond mae'r sefyllfa gyfreithiol wirioneddol ar lawr gwlad yn fy etholaeth i'n parhau i fod yn un sy'n peri llawer o rwystredigaeth. Fe gafodd y Bil digartrefedd a thai cymdeithasol ei werthu i'r cyhoedd fel newid radical yn y ffordd yr ydym ni'n cartrefu ein pobl fwyaf agored i niwed. Mae'n rhoi dyletswydd statudol newydd ar landlordiaid cymdeithasol i gydweithredu â'r awdurdodau lleol ond, fel gwyddom ni, mae dyletswydd mor gryf â'i gorfodaeth hi. Ac mae hynny'n gweithio'r ddwy ffordd. Yng Nghaerffili, fe welwn ni gost ddynol gwagleoedd yn aros yn wag am naw mis neu ragor o amser. 

Os yw landlord cymdeithasol—ac rwy'n cynnwys cynghorau yn hyn o beth—yn dal ati i fethu ag adfer eiddo, mae'r cydweithrediad a addawyd yn y Bil yn colli pob ystyr. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro pa ysgogiadau cyfreithiol yn union a roddir i Lywodraeth Cymru ar gyfer cadarnhau bod y pwerau gan Lywodraeth Cymru i gamu i mewn a phennu cosbau ariannol neu orchymyn i ryddhau eiddo fel hyn ar unwaith pan fydd landlordiaid, gan gynnwys cynghorau, yn methu â tharo nodau rhesymol i'w hadfer, os gwelwch chi'n dda?

Diolch, Lindsay, am y cwestiwn. Yn amlwg, nid yw'r Bil yn weithredol eto. Rydym yn aros am ei selio yn fuan iawn nawr, ac rwy'n falch iawn fod y Bil wedi mynd drwodd.

Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod mai nod y Bil yw sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn rhywbeth prin, byrhoedlog a heb ei ailadrodd ac, yn amlwg, mae cynyddu'r cyflenwad o dai yn ddibyniaeth allweddol wrth gyflawni'r nod hwn ac mae'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth fod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto yn gyflym.

Fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi, nid yw'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n uniongyrchol berthnasol i eiddo gwag ond, fel gwnaethoch chi ei nodi nawr, mae'n cryfhau'r cydweithio sydd rhwng yr awdurdodau tai lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar ddyraniadau, gan gynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r awdurdod lleol i ofyn i landlord cymdeithasol ddarparu ar gyfer unigolyn digartref sy'n ddyledus iddo o ran dyletswydd dai derfynol yn rhan o'r blaenoriaethau ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf. Rydym ni'n credu y bydd hwnnw'n gymhelliant enfawr i lenwi gwagleoedd, fel y'u gelwir nhw. Rydym ni i gyd yn defnyddio'r jargon hwn, onid ydyn ni? Gwagle, gyda llaw, yn eiddo gwag a fyddai'n gallu bod—fe wn eich bod chi'n gwybod hynny, ond i bobl eraill sy'n gwrando arnom ni, gair jargon, onid e—eiddo gwag y gellid ei ddefnyddio fel cartref.

Rydym ni wedi ymrwymo yn gryf i fynd i'r afael â chartrefi gwag. Mae pwerau gorfodi gennym ni ym meddiant yr awdurdodau lleol, ac rydym ni'n cefnogi'r awdurdodau lleol gyda grantiau, benthyciadau a rhaglenni cenedlaethol sy'n helpu i ddod ag eiddo gwag preswyl yn ôl i ddefnydd buddiol. Mae hynny yn y sector preifat, yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Mae'r cynllun gweithredu cartrefi gwag gennym ni, ac rwyf i newydd gyfeirio at lawlyfr Llywodraeth Cymru ar eiddo gwag, sy'n cynnwys llwyth o ganllawiau ymarferol ar nodi, asesu ac adfer eiddo preswyl gwag. Felly, mae yna amrywiaeth o bethau y gallwn ni eu gwneud.

Mae gennym hefyd raglen sy'n rhan o'r rhaglen 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Ac, eto, mae'n ddrwg gen i am y jargon, ond fe'i gelwir yn rhaglen TACP—y rhaglen gyfalaf llety trosiannol. A lle byddai gwagle wedi cael ei werthu fel arall, am fod y swm o arian y byddid wedi ei wario i adfer y gwagle hwnnw yn ôl at ddefnydd buddiol yn fwy nag y mae'r landlord cymdeithasol o'r farn y gallai ei wario, ac y byddai fel arall, felly, wedi gwerthu'r eiddo hwnnw'r tu allan i gyflenwad tai cymdeithasol, rydym ni wedi caniatáu i landlordiaid cymdeithasol gael gafael ar gyllid TACP i ddod â'r cartref hwnnw yn ôl i'w ddefnyddio. Ac rydym ni wedi bod yn ofalus iawn i beidio â chael cyfrif dwbl yn hynny o beth. Felly, mae hyn ar gyfer cartrefi sydd wedi dod allan o'r gofrestr gymdeithasol oherwydd eu bod yn rhy ddrud i'w hadfer er mwyn eu defnyddio, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni bron ar y marc o 1,000 o ran y rhai a ddaeth yn ôl i ddefnydd.

Felly, rydym wedi bod yn gweithio ar hyn ers amser maith. Rwy'n credu bod gormod o eiddo yn wag o hyd; mae hi'n anodd cael rhif pendant oherwydd y trosiant. Ond ni allwn gytuno yn fwy â chi, Lindsay, o ran bod hwn yn fater y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a mynd i'r afael ag ef ar frys.

14:35
Anialwch Cyfreithiol

2. Sut wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymateb i ganfyddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr bod y nifer o ardaloedd o anialwch cyfreithiol yng Nghymru yn tyfu? OQ63901

Diolch, Rhys. Mae anialwch cymorth cyfreithiol yn her allweddol ledled Cymru. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, rwy'n parhau i fanteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at freuder y sector yng Nghymru. Mae ein cronfa gynghori sengl yn cynnig rhywfaint o gefnogaeth, ond yn amlwg ni all ddisodli'r angen am system cymorth cyfreithiol sy'n cael ei hariannu'n briodol.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae'r gair 'argyfwng' yn cael ei ddefnyddio'n aml, ond dwi wirioneddol yn credu bod mynediad at gyfiawnder yn agosáu at lefel o argyfwng. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno; dwi'n eich cofio chi'n dweud yn y fan hyn, ar lawr y Siambr, fod hwn yn rhywbeth efallai eich bod chi'n edrych ymlaen at gyfrannu iddo ar ôl i chi adael y lle hwn. Mae hi'n broblem fawr.

Mae oedi o fewn llysoedd yn mynd i dyfu 40 y cant o fewn chwe blynedd. Mae 60 y cant o bobl yn cynrychioli eu hunain nawr yng nghyfraith deuluol. Mae bron i hanner ein gorsafoedd heddlu heb gyfreithwyr ar gael trwy'r amser. Ac mae tenantiaid yn gorfod amddiffyn eu hunain oherwydd diffyg cyfreithwyr sy'n gwneud gwaith cyfraith tai. Yn barod, mae gan Lundain 40 o gyfreithwyr i bob 10,000 o bobl. Mae hynny'n mynd lawr i 12 yng Nghaerdydd, a lawr i hyd yn oed 1.9 yng Ngwynedd. Mae'r sefyllfa yn mynd i waethygu, Cwnsler Cyffredinol, oherwydd dim ond llai nag 8 y cant o gwmnïau cyfreithiol yng nghefn gwlad Cymru sy'n hyfforddi pobl i fod yn gyfreithwyr.

Nawr, dwi wedi codi dro ar ôl tro yn y lle hwn ateb syml, dwi'n credu, i'r broblem yma, a hynny yw prentisiaethau cyfreithiol—bod modd i bobl, trwy apprenticeships, ddod yn gyfreithwyr. Mae'n digwydd yn Lloegr. Pam dyw e ddim yn digwydd yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, fel gwyddoch chi, ynghylch yr anialwch cyfreithiol ledled Cymru. Rwy'n croesawu adroddiad Cymdeithas y Gyfraith a gyhoeddwyd ganddyn nhw ar 2 Chwefror—fe wnaethoch chi ddyfynnu rhai o'r ystadegau sydd yn hwnnw nawr. Mae hi'n achos pryder mawr i ni fod problem gynyddol gennym ni o ran hyfywedd masnachol cyfreithwyr ar y stryd fawr y tu hwnt i brif ganolfannau poblogaeth. Mae yna ystod eang o resymau am hynny. Mae'r Gronfa Gynghori Sengl gennym ni, ond nid yw honno'n gallu cymryd lle cymorth cyfreithiol priodol o gwbl. Fe aeth Llywodraeth y DU un cam bach i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n awyddus iawn iddyn nhw barhau i wneud hynny. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld adroddiad Cymdeithas y Gyfraith, yr ydym ni'n ei groesawu yn fawr iawn. Rwyf i wedi codi'r mater hwn ym mhob grŵp rhyngweinidogol y bues i ynddo nes bod pobl wedi cael hen ddigon ar fy nghlywed i'n dweud felly. Ond y gwir amdani yw, mewn democratiaeth, os nad ydych chi'n gallu cael gafael ar y gyfraith, nid oes posibl cael democratiaeth mewn gwirionedd, oherwydd nid yw pobl yn gyfartal yng ngolwg y gyfraith os na allan nhw gael cyngor cyfreithiol priodol. Mae hi'n wireb lwyr mai dyna yw'r achos. Felly, ni allwn gytuno rhagor â chi.

Fe hoffwn i weld y rhaglen prentisiaethau yn cael ei hymestyn. Rydym ni'n cynnal cyfres gyfan o brentisiaethau eraill. Rydyn ni wedi cael y sgwrs hon sawl gwaith. Rwy'n falch o weld bod rhai cwmnïau cyfreithiol wedi elwa ar rywfaint o hynny—nid cymaint ag yr hoffwn i. Felly, fe hoffem ni weld mwy o fanteisio ar y prentisiaethau lefel is, is na lefel 7. Rwy'n credu y byddai hynny o gymorth pe gallwn ni gael y cwmnïau cyfreithiol i wneud felly. Rwyf i wedi gwthio hynny'n galed iawn fy hunan. Rydym ni wedi bod yn gwylio'r rhaglen brentisiaeth lefel 7 yn Lloegr yn ofalus iawn, ac rwy'n credu y bydd gwerthusiad o honno'n dod yn fuan iawn. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth nesaf Cymru eisiau edrych yn ofalus iawn ar y posibilrwydd o wneud i hynny ddigwydd. Fy unig rybudd i yw y dylai'r nawdd fynd i gwmnïau sy'n cael trafferthion, ac nid bod yn ddull i gwmnïau sy'n weddol lewyrchus eisoes gael llwybr arall ar gyfer ariannu hyfforddeion heb ddefnyddio eu harian eu hunain. Ond fel arall, cyn belled ag y gallwn ni ddod o hyd i ddull i rwystro hynny rhag digwydd, rwy'n cytuno yn llwyr â chi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Cwnsler Cyffredinol, fe hoffwn i ofyn cwestiwn i chi heddiw yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog Cyflawni. Yn ei dogfen addewid newydd, mae Plaid Lafur Cymru yn sôn am ehangu gofal plant, tyfu ein coedwig genedlaethol, rhoi diwedd ar ddigartrefedd a chodi safonau ysgolion. Ond trwy ailadrodd yr addewidion hyn, rydych chi'n tynnu sylw at eich methiant eich hunain o ran cyflawni. Mae ehangiad Dechrau'n Deg a addawyd y tymor hwn yn dal i fod heb ei gyflawni. Mae plannu coed ymhell yn brin o'r hyn sy'n ofynnol i'r llwybr ar gyfer nod 2030. Fe gyhoeddodd eich Llywodraeth chi gynllun gweithredu lefel uchel i roi diwedd ar ddigartrefedd erbyn 2026, ac eto, ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd 10,605 o bobl, gan gynnwys bron i 2,300 o blant, mewn llety dros dro. Ac o ran safonau ysgolion, fe bennodd y Llywodraeth nod amlwg ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol sef 500 pwynt, ac yna fe ollyngwyd hwnnw'n ddistaw bach cyn i Gymru gofnodi ei sgoriau isaf erioed. Yr uchelgeisiau y gwnaethoch chi eu cyhoeddi ddoe, nid rhai newydd oedden nhw, hen addewidion oedden nhw y gwnaethoch chi fethu â'u cadw. Felly, a ydych chi'n derbyn, Gweinidog, o dan y Blaid Lafur mae Cymru wedi bod â phroblem o ran cyflawni? 

14:40

Wrth gwrs, nid wyf i'n derbyn hynny, Adam. Roedd hwnna'n gynnig go lew arni hi, y byddwn i'n dweud. Mae gennym ni raglen eang ar gyfer llywodraeth yn seiliedig ar ein maniffesto. Rydym ni wedi cyflawni'r mwyafrif llethol o'r rhaglen lywodraethu. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud eto. Ni all unrhyw lywodraeth ddatrys popeth mewn un flwyddyn neu hyd yn oed mewn ychydig flynyddoedd. Mae'r problemau hyn yn wreiddiedig iawn yn ein cymdeithas.

Os ydych chi'n ystyried y ffigurau ar ddigartrefedd ar eu pennau eu hunain, er enghraifft. Mae'r ffigurau yr ydych chi'n eu dyfynnu yn swnio'n ofnadwy, mae'n rhaid i mi ddweud, ond mae nifer fawr iawn o'r bobl mewn llety dros dro mewn llety dros dro sydd mewn gwirionedd yn llety o safon dda iawn, ac fe fyddwn i'n falch iawn o fyw ynddo fy hunan. Rwyf i wedi bod yn ymweld â llawer o'r cartrefi hyn. Mae rhai o'r bobl hyn mewn llety sâl ofnadwy, ac rwy'n cytuno yn llwyr fod angen i ni gael y rhain allan cyn gynted â phosibl, ac mae gennym ni drosiant uchel iawn o bobl yn dod allan o'r mathau salaf o lety dros dro. Mae'r ffigur yn un diddorol, oherwydd mae'n ffigur nad yw'n newid llawer iawn fel pennawd. Ond os edrychwch chi ar y chwyldro ynghudd yn y ffigurau, mae hi'n ddiddorol faint o bobl sy'n symud o lety dros dro a nifer y bobl sy'n symud i mewn iddo hefyd.

Yr hyn nad ydym ni wedi gallu ei wneud, ac rwy'n gobeithio yn fawr y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu ei wneud, yw mynd i fyny afon y bobl sy'n mynd yn ddigartref yng Nghymru ac mae hwnnw'n dal yn i fod yn rhif llawer rhy fawr. Felly, mae cyfradd trosiant yn uchel iawn; mae'r system yn gweithio yn dda iawn yn fy marn i, ond mae gennym lawer gormod o bobl o hyn sy'n mynd yn ddigartref. Un o bwyntiau'r Bil Digartrefedd a Dyraniadau Cymdeithasol yw mynd i fyny'r afon a cheisio cadw pobl yn eu cartref am ragor o amser. Mae nifer o fentrau gennym ni a gafwyd eu rhoi ar waith i geisio gwneud hynny, i sicrhau bod pobl yn gallu aros yno. Mae menter aros yn y cartref yn un, yr oedd hi mor boblogaidd ar y diwrnod y gwnaethom ni ei chyflwyno fel bod hynny wedi achosi problemau i ni gyda'r wefan. Mae angen cymorth ar bobl i aros yn eu cartref eu hunain a pheidio â mynd yn ddigartref. Ac wedyn, yn amlwg, ein nod ni yw pan fyddan nhw'n ddigartref mai rhywbeth prin, byrdymor yw e' ac na fyddai'n cael digwydd eto, a'n bod ni'n adeiladu digon o dai i roi pobl mewn llety gweddus. Ond mae'r ffigurau hynny'n ddiddorol, oherwydd pan fyddwch chi'n edrych dan yr wyneb, fe welwch chi ddarlun gwahanol iawn o sut wedd sydd ar y system.

Ond mae'r ffaith eich bod chi wedi symud y nod o roi diwedd ar ddigartrefedd wyth mlynedd, o 2026 i 2034, rwy'n credu, yn dweud llawer iawn. Nawr, mae eich swyddog cyfatebol agosaf yn San Steffan, sef Darren Jones, wedi dadlau yn ddiweddar, pan fydd llywodraethau yn methu â chyrraedd eu cerrig milltir nhw eu hunain dro ar ôl tro, nid cyd-ddigwyddiad ydyw hwnnw, ond y peiriant sy'n methu. Ac yng Nghymru, mae patrwm wedi dod i'r amlwg, onid ydyw? Wyth mlynedd ar ôl i Holtham gynnig ardoll gofal cymdeithasol nid oes datrysiad parhaol fyth ar gyfer ariannu. Bum mlynedd ar ôl comisiwn Burns, mae tagfeydd ym Mrynglas yn dal i fod heb eu datrys. Nid yw menter £100 miliwn y Cymoedd Technoleg, a gyhoeddwyd yn 2017, wedi ymrwymo dim ond £43 miliwn naw mlynedd wedi hynny. Ac, o ran y nod o 100,000 o brentisiaethau, wel, roedd Medr yn nodi yn ei ffigurau ei hun, pe byddech chi'n defnyddio'r ffigur mwy trylwyr, nid yw hi'n wir i'r nod gael ei gyflawni, ac fe leihawyd y nod o 125,000 ei hunan yn y rhaglen lywodraethu. Mae Cymru yn weinyddiaeth lai na Whitehall. Fe ddylem ni fod yn fwy ystwyth. Pam nad yw hynny'n wir, yn amlwg?

Wel, fel rwy'n dweud, Adam, nid ydym ni'n cytuno yn hyn o beth, yn amlwg. Fe fyddai hi'n gas iawn gennyf i weld y byd trwy eich llygaid chi. Mae hynny'n besimistaidd a llwm iawn bob amser, ac rydym ni'n llawer mwy optimistaidd yma ar y meinciau hyn. Rydym ni wedi cyflawni llawer iawn yn y pum mlynedd diwethaf. Mae ein rhaglen lywodraeth ni'n arddangos hynny. Wrth gwrs, nid ydym ni wedi gwneud popeth i ddatrys pob problem yn y gymdeithas, rwy'n cytuno yn llwyr â hynny ac, wrth gwrs, fel dywedodd y gwleidydd enwog, mae 'Digwyddiadau, fachgen annwyl' yn gallu rhwystro hefyd. Fe gawsom ni gyfres gyfan o bethau i ymdrin â nhw: y pandemig, yr argyfwng costau byw, cyfres gyfan o bethau eraill i ymdrin â nhw hefyd.

O ran niferoedd y prentisiaethau, mae honno'n ffaith ddiddorol. Mae ein rhaglen ni ar gyfer ymrwymiad llywodraeth yn ymwneud â'r rhai sy'n dechrau prentisiaethau. Rydych chi'n dyfynnu dau ffigur nawr: y prentisiaethau sy'n dechrau a'r prentisiaid sy'n dal i fod yn eu gwaith wyth wythnos yn ddiweddarach. Rydym ni'n dyfynnu'r ddau ffigur, mewn gwirionedd, felly mae hyn yn fwy tryloyw na thywyll. Ac mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am brentisiaethau sy'n dechrau, felly ni wnaethom ni symud y pyst gôl. Rydym ni wedi gollwng y ffigur, serch hynny. Roedd yn rhaid i ni wneud felly, oherwydd y ffordd yr oeddem ni'n gwybod bod hyn yn digwydd ynddi.

Ni fyddaf i fyth o blaid gollwng unrhyw nodau. Fe gawsom ni'r sgwrs hon lawer tro. Rwyf i o'r farn nad yw nod—. Mae gwrthbleidiau yn ystyried hynny fel ffon i guro'r blaid sy'n llywodraethi ond, mewn gwirionedd, yn fy myd i, dull i ysgogi'r system i gyflawni mwy yw nod. Felly, rwyf i bob amser yn amharod iawn i ollwng nodau oherwydd fy mod i o'r farn mai'r hyn y dylech chi ei wneud yw ceisio gwthio'r system tuag at y nod. Ond, yn yr achos hwn, o ganlyniad i nifer o sgyrsiau gyda Gweinidog sydd yn y Siambr, fe wnaethom ni benderfynu y byddai hi'n fwy priodol i leihau'r nod i 100,000. Ond, fel rwy'n dweud, nid wyf i'n derbyn o gwbl ein bod ni wedi symud y pyst gôl yn hynny o beth.

14:45

Fe wnaethoch chi roi gwasanaeth ar draws portffolios ac fel Gweinidog Cyflawni nawr, a chan mai hon fydd eich sesiwn gwestiynau olaf chi yn eich swydd, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n myfyrio ar yr hyn y gwnaethoch chi ei ddysgu a'r hyn yr ydych chi'n ei gredu y dylai eich olynwyr chi yn y Llywodraeth, pwy bynnag fyddan nhw, ei wneud yn wahanol. Bum mlynedd yn ôl, fe sefydlodd Llywodraeth Cymru ysgol lywodraeth genedlaethol i wella'r ddarpariaeth. Mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â sefydlu un erbyn hyn. Pam ydym ni mor araf i symud o syniadau i gamau, hyd yn oed o ran creu sefydliadau a gynlluniwyd i brysuro cyflawni? Beth sy'n ein dal ni yn ein holau? Ai adnoddau? Ai diwylliant? Ai diffyg anghenraid gwleidyddol? Wrth edrych ymlaen, Gweinidog, beth bynnag fo lliw gwleidyddol y Llywodraeth nesaf, beth sy'n rhaid ei drawsnewid yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad slogan yw newid ond system sy'n cyflawni er mwyn pobl Cymru?

Rwy'n credu mai hwn yw fy sesiwn cwestiynau olaf i gyd, mewn gwirionedd, sy'n beth eithaf digalon. Er fy mod i'n edrych ymlaen yn fawr at ymddeol, mae yna lawer o bethau y byddaf i'n hiraethu amdanyn nhw, ac un o'r pethau hynny yw'r fraint wirioneddol o sefyll yn y Siambr hon a siarad ag Aelod o'r Senedd a phobl Cymru. Fe fyddaf i'n colli hynny'n ddiffuant iawn, mewn gwirionedd, oherwydd mae gallu gwneud hynny'n fraint wirioneddol.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud—ac fe fydd hynny'n swnio fel ystrydeb—yw ei bod hi'n anodd bod mewn Llywodraeth. Fe all hi fod yn flinedig iawn. Mae hi'n fraint wirioneddol. Rydych chi'n cael cyfle gwirioneddol i allu gwneud rhai pethau, ac rwyf i wedi gwneud ychydig o bethau yn y Llywodraeth yr wyf i'n falch iawn ohonyn nhw'n bersonol, ac rwy'n falch iawn o'r hyn a wnaeth y Llywodraeth. Mae yna rywfaint mwy y gallech chi ei wneud bob amser, ac fe all hi fod yn rhwystredig bod yn y Llywodraeth oherwydd fe fyddech chi'n hoffi gallu ymlid, mewn gwirionedd, pan na chewch chi wneud hynny. Ond, ar y cyfan, fe fyddwn i'n dweud iddi fod yn fraint enfawr bod mewn sefyllfa i newid rhai o'r pethau y gwnaethom ni eu newid.

Rydych chi'n eistedd wrth ochr Siân Gwenllian—rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi fy mod i'n sôn amdanoch chi, Siân, gan mai hwn yw'r tro olaf y byddaf i'n ateb cwestiynau agored—ac, yn ystod y cytundeb cydweithio, fe wnaethoch chi a minnau nifer enfawr o bethau ynghylch ynni cymunedol, ynghylch digartrefedd a thai, ac ati. Roedd llawer mwy i'w wneud eto, ond fe wnaethom ni gwrdd â phobl anhygoel ar y ffordd, yn enwedig pobl sy'n profi digartrefedd a rannodd eu straeon nhw gyda ni. Rwy'n cofio yn arbennig—allaf i ddim cofio enw'r lle nawr—prosiect ynni cymunedol yr aethom ni i'w weld yn eich ardal chi, rwy'n credu—

Dyna ni—gyda'r rhaeadr fwyaf anhygoel a'r un trydan dŵr, onid e? Roedd honno'n enghraifft fwyaf anhygoel o ynni cymunedol. Felly, mae hynny'n dangos yr hyn sy'n bosibl. Ond yr hyn yr ydych chi'n ei ddysgu yn y Llywodraeth hefyd yw ei bod hi'n anodd, ac weithiau nid yw pethau yn bosibl, ac mae'n rhaid i chi fod yn ymarferol ynglŷn â'r peth. Ac fe'ch clywais chi'n dweud weithiau, Adam, fod hanner torth yn well na dim. Felly, fe fyddwn ni'n bodloni ar hynny ambell waith.

Diolch yn fawr, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog cyflawni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â chyflawni strategaeth ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, 'Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru' 2021-26, yn rhan o'i rhaglen lywodraethu? Mae hi'n 2026 erbyn hyn. A weithiodd honno? A ydym ni wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd?

Wel, un o'r problemau gyda pharatoi eich cwestiynau ymlaen llaw yw pan fyddaf i wedi trafod y pwnc yn helaeth eisoes gyda'r blaid sydd y tu ôl i mi.

Fe glywais i hynny. 'Wnaethoch chi ddim ateb Adam Price ychwaith.

Rwy'n falch iawn o'r hyn a wnaethom ni o ran tai a digartrefedd yng Nghymru. Fe wnaethom ni felly er gwaethaf y rhaglen o gyni gan Lywodraeth y DU a oedd yn ein hamddifadu ni o gyllid. Nid oeddem ni'n gallu adeiladu'r tai y byddem ni wedi hoffi eu hadeiladu, er i ni adeiladu cryn dipyn, a llawer mwy nag a gafodd eu hadeiladu yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn gwirionedd, yn y cyfnod dan sylw, fe ddaeth 750,000 o gartrefi cymdeithasol oddi ar y gofrestr yn Lloegr wrth i ni fod yn adeiladu, dros yr un cyfnod o 10 mlynedd, 40,000. Rwy'n falch iawn o'r record honno.

Fel esboniais i ar yr ochr hon, yr hyn nad oeddem ni'n gallu ei wneud oedd atal niferoedd y bobl sy'n mynd yn ddigartref yng Nghymru. Mae gennym drosiant enfawr o bobl drwy'r system, ond mae gennym ni nifer enfawr o bobl sy'n ymgyflwyno yn ddigartref bob mis. A dweud y gwir, mae hynny'n deillio o'r rhaglen Geidwadol ofnadwy o drychinebau economaidd a welsom ni gyda nifer o Lywodraethau, gyda chefnogaeth y meinciau gyferbyn. Felly, nid wyf i am gymryd unrhyw wersi oddi wrth unrhyw un gyferbyn—y rhagrith heb gêl o ddymuno i ni wario rhagor o arian bob amser gan roi llai fyth i ni.

Fe wnaethoch chi addo yn 2021, dan Lywodraeth Geidwadol yn y DU, y byddech wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd erbyn 2026. Mae hi'n 2026. Nid ydych chi wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Ddoe, fe addawodd y Prif Weinidog, wrth iddi lansio'r ymgyrch ar gyfer yr etholiad i'r Senedd sydd ar ddod, o'r newydd i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru erbyn 2034. Mae'r peth yn swnio yn gyfarwydd iawn. Felly, os na wnaethoch chi lwyddo'r tro diwethaf, pam y dylai unrhyw un yng Nghymru fod yn grediniol y byddwch chi'n cyflawni hynny'r tro hwn?

Am ein bod ni wedi gwneud cynnydd enfawr, er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi ein hamddifadu ni o arian, ac mae gennym ni Lywodraeth nawr sy'n buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn deall gwerth buddsoddiad, felly rydym ni'n gallu buddsoddi rhagor ar gyfer gwneud hynny. Yn y cyfamser, rydym ni wedi cadw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru oddi ar y strydoedd ac mewn llety, sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am unrhyw Lywodraeth y gwnaethoch chi ei chefnogi hi erioed.

14:50

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres faith o lwon ac addewidion a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn etholiadau na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru mo'u cadw nhw. Roedd ei maniffesto diwethaf nid yn unig yn cynnwys yr addewid i roi diwedd ar ddigartrefedd ond i ddiwygio'r dreth gyngor hefyd—ni chyflawnwyd hynny; 125,000 o brentisiaethau—gostyngwyd y nod; 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w hadeiladu—gohiriwyd y nod. A'r un hen stori gyda'r maniffestos blaenorol. Addawyd dileu tlodi plant—heb ei gyflawni; dod â chyflogau Cymru yn unol â chyfartaledd y DU—heb ei gyflawni. Addawyd ffordd liniaru i'r M4. A ydych chi'n cofio honno? Gwariwyd cant a hanner miliwn o bunnau, ac ni chafwyd modfedd o'r ffordd. Mewn gwirionedd, rydych chi wedi gwneud addewidion o ran canlyniadau addysgol, mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG, grymuso economi Cymru, dim ond i fod â'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn unrhyw fan yn y DU, y rhestrau aros hwyaf yn y GIG yn unrhyw fan yn y DU, a'r economi fwyaf llipa. Rydych chi'n ysgwyd eich pen, Cwnsler Cyffredinol; mae'r cwbl yn wir. Onid yw hi'n wir, wrth i ni ddod i ddiwedd, diolch byth, y bennod o 27 mlynedd o fethiant gan Lywodraeth Lafur Cymru, mai'r rheswm pam mae'r polau yn dweud yr hyn maen nhw'n ei ddweud am y Llywodraeth Lafur hon yw oherwydd ei bod hi'n gwneud addewidion y mae hi'n methu â'u cyflawni yn aml iawn ac y gall y cyhoedd weld drwy hynny? 

Fe ddywedaf i wrthych chi'r hyn y gall y cyhoedd ei weld drwyddo, Tom, a'r Ceidwadwyr yw'r rheiny, oherwydd fel gwyddoch chi'n iawn, yn yr etholiad diwethaf, ni chawsoch chi unrhyw gynghorau nac unrhyw ASau yng Nghymru, ac mae hynny'n dweud popeth wrthych chi am farn y cyhoedd yng Nghymru o ran pwy y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw. Mae gennym ni enw da iawn o gyflawniad yn y llywodraeth, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael ein hysbeilio yn llwyr gan Lywodraethau Ceidwadol olynol nad oes ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth o werth gwasanaeth cyhoeddus, unrhyw ddealltwriaeth o werth buddsoddiad nac unrhyw ddealltwriaeth economaidd sylfaenol. Beth ar y ddaear a welwch chi yn eich golwg eich hunain, wn i ddim, ond yr hyn yr wyf i'n ei weld yw cenedl sydd wedi gwrthsefyll 14 mlynedd o gyni'r Ceidwadwyr, cyni a orfodwyd yn wleidyddol gan y Ceidwadwyr, sydd erbyn hyn yn gweld canlyniadau buddsoddiad o'r diwedd gyda'r rhestrau aros yn byrhau ar y gyfradd gyflymaf a welsom ni erioed, a'r rhaglen adeiladu tai fwyaf a welsom ni erioed, ac ehangu gofal plant ledled Cymru. Dyna'r hyn yr wyf i'n ei weld, ac rwy'n falch iawn o hynny.

Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag argymhelliad y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol na ddylid symud ymlaen â llysoedd o'r fath ar wahân? OQ63902

Diolch, Rhys. Rwy'n falch iawn mai hwn yw fy nghwestiwn olaf i gyd, ac felly mae'n gwestiwn ardderchog i'w gael yn gwestiwn olaf i gyd. Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a minnau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd yn dilyn yr argymhellion. Fe gaiff y camau nesaf eu llywio gan weithdai mis Ionawr, a hwyluswyd gan y Ganolfan Arloesi Cyfiawnder ym mhob ardal bwrdd cyfiawnder teuluol lleol, a'r hyn a ddysgir o'r digwyddiad cenedlaethol cyfiawnder teuluol, a fydd ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl y sesiwn hon.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. A gaf i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Adam Price? Rwyf i wedi mwynhau sesiynau'r Cwnsler Cyffredinol gyda'n gilydd. Nid oeddem ni'n cytuno bob amser, ond rwyf i wedi parchu eich safbwynt chi bob amser ac rydych chi wedi ceisio gwneud yr hyn sydd orau er mwyn pobl Cymru yn eich golwg chi. Mae hynny'n wir hefyd am eich cyfnod yn Weinidog Tai. Rwy'n edrych ymlaen at y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) heddiw, sy'n rhywbeth yr oeddwn yn eich holi chi'n aml amdano yn eich swydd flaenorol. Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. 

Roeddwn i'n siomedig, wrth ddarllen llythyr Dawn Bowden, na fydd y llys cyffuriau ac alcohol yn symud ymlaen ar ei ben ei hun. Roedd hwnnw'n argymhelliad amlwg gan gomisiwn Arglwydd Thomas. Fe gawsom ni asesiad cadarnhaol iawn gan CASCADE a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r barnwyr o blaid hynny. Roedd y barnwyr yn dweud pa mor llwyddiannus a fu hynny. Mae dros hanner y plant yn mynd yn ôl at eu teuluoedd. Ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus yn Llundain ers 2008, ac yn Lerpwl yn fwy diweddar. Rwy'n pryderu, Cwnsler Cyffredinol, bod Cymru a theuluoedd Cymru yn cael eu gadael ar ôl unwaith eto. Diolch yn fawr.

Nid wyf yn credu bod angen i ni fod mor besimistaidd â hynny. Rwyf i o'r farn fod y gydnabyddiaeth yn eang i'r llys fod yn llwyddiannus. Y broblem ydyw, fel dywedais i ar sawl achlysur, pa un a ellid ei ehangu ledled Cymru mewn ffordd realistig. Fy nealltwriaeth i yw, yn y digwyddiad yr wythnos nesaf, y bydd aelodau'r gweithgor yn edrych ar ei ddwyn ymlaen, ond nid ar ei ben ei hun. Felly, maen nhw'n mynd i'w ddwyn ymlaen o fewn y system ehangach, sy'n cynnwys y fframwaith ymarfer amlasiantaeth, y dull braenaru mewn cyfraith breifat, a'r dirwedd ehangach o ran ymyrraeth gynnar ac atal, gwasanaethau ar ffiniau gofal, a gwasanaethau cymorth wedi'r llys—mae hynny'n anodd ei ddweud wir—gwasanaethau cymorth wedi'r llys.

Roedd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol yn ystyried y papur yn eu cyfarfod nhw ar 22 Medi ac fe gynigiodd hwnnw y dylid cael dau grŵp gorchwyl a gorffen. Rwy'n credu eich bod chi'n gwybod hynny eisoes, Rhys. Fe fyddan nhw'n adrodd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd nesaf ar gyfer mapio ac asesu'r ddarpariaeth o wasanaethau ar ffiniau gofal presennol a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu, ac ystyried y materion dylunio o ran y system a'r farnwriaeth y bydd eu hangen nhw i gefnogi dull o ddatrys problemau yn y gyfraith gyhoeddus. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud nad wyf i'n credu y bydd hyn yn dod i ben. Rwyf i o'r farn fod yna broblem ynglŷn â dull ehangach o ddatrys problemau yn y llysoedd yn fwy cyffredinol, ac rwy'n credu bod hwn yn fodel da iawn ar ei gyfer, ond mae'n debyg na ellid ei ehangu ledled Cymru gyfan. Felly, mae'n ymwneud â cheisio sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweithredu gyda'i gilydd yn ddi-dor er mwyn bod â'r dull hwnnw o ddatrys problemau oherwydd, ac rwy'n cytuno yn llwyr â chi, mae'n beth o fudd mawr i'r teuluoedd dan sylw.

14:55
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 14:55:55
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar y Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 wedi ei gohirio tan 24 Mawrth. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, fe hoffwn i godi mater brys ynglŷn â gohebiaeth a anfonais i at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol dros fis yn ôl, ac ni chefais i ymateb i honno fyth. Roeddwn i'n ysgrifennu ar ran dau riant sydd wedi colli baban yn drist iawn dros gyfnod y Nadolig, sy'n wynebu oedi sylweddol nawr cyn cael atebion oherwydd y prinder difrifol yng Nghymru o ran patholeg bediatrig ac amenedigol. Am mai un arbenigwr sy'n cwmpasu'r de a bod tua 150 o achosion mae'r oedi yn anochel, yn anffodus. O ystyried cysylltiad y crwner, mae hyn yn golygu na all ymchwiliadau'r bwrdd iechyd ddechrau nes caiff y post-mortem ei gwblhau. Er na chafodd cwestau eu datganoli, fe gafodd gwasanaethau patholeg eu datganoli. Rwyf i wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder hwn, pa fesurau dros dro sydd ar waith i gefnogi teuluoedd sy'n wynebu oediadau, beth yw'r amseroedd aros ar hyn o bryd, a phwy sy'n atebol am sicrhau argaeledd y gwasanaethau hanfodol hyn mewn da bryd. Gyda diddymiad y Senedd ymhen dim ond ychydig wythnosau, a wnaiff y Trefnydd godi'r mater hwn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet fel un i'w flaenoriaethu a sicrhau bod ymateb gwirioneddol yn cael ei roi cyn diwedd tymor y Senedd hon? 

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch i chi am ddwyn y mater pwysig iawn hwn i sylw'r datganiad busnes. Fe ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel rwy'n arfer gwneud, ac fe fyddaf i'n gofyn iddo ef fynd ar drywydd hyn gydag ymateb mewn gohebiaeth ond, yn ogystal â hynny, i ymdrin hefyd â'r pwyntiau hyn a wnaethoch chi. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw manylion y camau, byrdymor a hirdymor, i ymdrin â'r prinder o ran gwasanaethau arbenigol patholeg, a'r mesurau dros dro hynny ar gyfer cefnogi teuluoedd, ac amseroedd aros cyfredol a phwy sy'n atebol, fel roeddech chi'n dweud, o ran yr anghenion hynny. Felly, diolch i chi am godi hyn ar ran y teulu yr oeddech chi'n sôn amdano yn benodol ac am dynnu ein sylw ni at hyn heddiw. Fe fyddaf i'n mynd ar drywydd hyn.

Trefydd, rydym ni'n nodi Diwrnod Clyw'r Byd heddiw ac mae hynny'n estyn cyfle pwysig i fyfyrio ar fynediad at ofal clyw mewn cymdeithas sy'n heneiddio ac ar yr ymwybyddiaeth, yr atal, y gofal cynnar a'r gweithredu polisïau sy'n angenrheidiol i sicrhau y bydd pobl o bob oed yn gallu cynnal iechyd da o ran eu clyw. Fel gwyddoch chi, mae colled clyw yn effeithio ar bron i 600,000 o oedolion yng Nghymru eisoes, ac mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant—fel gwyddoch chi, rwy'n un ohonyn nhw—ac mae'n ffigur a fydd yn codi wrth i'n poblogaeth ni heneiddio. I lawer o bobl, nid dim ond anghyfleustra yw colled clyw yn unig; fe all arwain at ynysu, unigrwydd, llai o annibyniaeth a dirywiad o ran iechyd meddwl. Heb ei drin, mae'n gysylltiedig â pherygl mwy o ddirywiad gwybyddol.

Nid rhywbeth dymunol i'w gael yw mynediad at asesiadau a thriniaethau mewn da bryd, ond rhywbeth sy'n angenrheidiol. Dyma ofal iechyd ataliol hanfodol, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig iddo. Mae'r cyhoeddiad diweddar o'r dull gweithredu i'r dyfodol ar gyfer fframwaith awdioleg yn gam sydd i'w groesawu. Mae'n cydnabod yr angen i foderneiddio gwasanaethau a darparu gofal yn nes adref, o fewn lleoliadau cymunedol, yn hytrach na dibynnu ar ddarpariaeth mewn ysbytai yn unig. Serch hynny, mae'r fframwaith yn eithrio'r sector awdioleg gymunedol ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith fod tua 94 y cant—

15:00

Dim problem, Dirprwy Lywydd. Er gwaethaf y ffaith bod 94 y cant o achosion o golled clyw yn gysylltiedig ag oedran a gellir eu rheoli'n ddiogel o leoliad ar y stryd fawr. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol, ac a ellir integreiddio'r ddarpariaeth awdioleg bresennol ar y stryd fawr yn well i lwybrau'r GIG ac mewn fframwaith newydd i sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cymunedol hygyrch sydd ei angen arnynt? Diolch.

Diolch yn fawr, Joel James, a diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Rydych chi'n tynnu sylw at yr effaith andwyol y gall colled clyw ei chael. Mae'n analluogi pobl, rwy'n gwybod, o ran y nam hwnnw, sydd wrth gwrs yn gallu digwydd i bob cenhedlaeth, ac yn wir yn enwedig i'r rhai mewn cymdeithas sy'n heneiddio, y rhai sy'n hŷn ac sydd angen y mynediad hwnnw at asesiad cynradd a chymunedol da, sy'n hanfodol yn y man cychwyn, ac yna ar sawl achlysur gwasanaethau arbenigol hefyd. Rydych chi wedi codi mater, ac rwy'n gwybod, er mai dim ond ychydig wythnosau sydd gennym ar ôl o'r weinyddiaeth hon, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisiau ymateb i'ch cwestiwn. Byddaf yn ei godi gydag ef, ond hefyd byddwch yn cael cyfle i'w godi gydag ef eto yn yr hyn fydd ei gwestiynau llafar olaf yn y Senedd.

Ddoe, ymwelais ag Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer yn Nhorfaen, lle derbyniais genhinen PGI Gymreig ardderchog a dyfwyd gan y disgyblion. Darllenais ar-lein fod 10,000 tunnell o gennin bellach yn cael eu tyfu yng Nghymru, ac mae'n rhaid dathlu bod hyn yn gynnydd sylweddol o'i gymharu â'r 1,500 tunnell a oedd yn cael ei gynhyrchu yn 2022 pan ofynnais i Lesley Griffiths. Gan fod cennin yn symbol mor bwysig o'n hanes a'n diwylliant, yn ogystal â bod yn flasus, yn wythnos Dydd Gŵyl Dewi, a allwn gael datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog, yr wyf yn falch o ddweud ei fod yn y Siambr, ar y nifer o gennin Cymreig sydd eu hangen i sicrhau bod pob disgybl yn cael blasu cennin Cymreig, nid disgyblion Ysgol Cwmffrwdoer yn unig, a'u bod yn rhan reolaidd o'u bwydlenni ysgol? 

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Rwy'n credu fy mod hyd yn oed yn gallu arogli'r genhinen hyfryd honno, wedi'i thyfu gan y plant yn yr ysgol honno yn Nhorfaen. Meddyliwch pa mor falch yr oedden nhw o'i thyfu a'i rhoi i chi fel ymwelydd pwysig iawn. Mae hyn yn ddiddorol oherwydd ddoe roeddem yn craffu ac yn cael trafodaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am fwyd, maeth a'r cwricwlwm. Dywedais, wrth gwrs, bod hyn yn rhywbeth trawslywodraethol iawn, ac nid oedd y Dirprwy Brif Weinidog yno, ond roeddwn i. Ond dywedais y gallai'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg fod yno, gallai'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yno, a'r Gweinidog iechyd meddwl. Mae'n fater trawslywodraethol.

Ond rydych chi wedi tynnu sylw at y genhinen. Roeddwn i eisiau dweud bod cennin Cymreig yn un o'r 24 cynnyrch Cymreig sy'n derbyn statws dynodiad daearyddol. Maent yn cael eu cyflenwi, fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod, trwy Castell Howell. Mae'r genhinen wedi'i rhestru mewn sawl manwerthwr mawr yng Nghymru. Mae defnyddwyr o Gymru yn arbennig, rwy'n deall, yn ffafrio'n glir darddiad y cynnyrch, ynghyd â'i nodweddion penodol o faint, diamedr a digonedd o'r faner werdd, sy'n rhoi blas cryf, ffres ac arogl startshlyd, priddlyd, melys a menynaidd i'r defnyddiwr. Mae ganddi enw da iawn ledled y byd. Wrth gwrs, mae'r clwstwr garddwriaethol yn dod â thyfwyr a chynhyrchwyr Cymreig at ei gilydd i edrych ar y cysylltiadau hyn. Rwy'n gwybod y bydd llawer o gawliau blasus iawn yn cael eu paratoi dros dymor Dewi Sant.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd mewn perthynas â'r anghydfod presennol yng Nghwm Taf Morgannwg. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i'm cwestiwn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod gan GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf a bod angen i'r ddwy blaid ddod at ei gilydd i ddod o hyd i ateb. Ond mae'n bwysig nodi'n glir nad yw'r bwrdd iechyd yn mynd i mewn i'r anghydfod hwn gydag ysbryd ewyllys da. Cyn cyflwyno hysbysiad o streic, cyflwynodd Unite gynnig i gynnal lefel o wasanaeth i'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol. Gwrthodwyd y cynnig hwnnw. Cyn i rybudd gael ei gyflwyno, cyfarfu Unite â Chwm Taf mewn ymdrech i ddatrys y mater yn adeiladol. Dywedwyd wrthym nad oedd unrhyw ymgais ystyrlon gan y bwrdd iechyd i ddod o hyd i ateb. Yn yr un cyfarfod, cadarnhaodd Cwm Taf nad mater o gyllid yw hyn, ond bod y cyllid ar gael. Gyda'i gilydd, mae hyn yn paentio darlun pryderus iawn. Mae'n awgrymu bwrdd iechyd nad yw'n fodlon ymgysylltu, gan wyro cyfrifoldeb a chaniatáu i'r anghydfod waethygu'n ddiangen, felly ymgais i fwlio gweithwyr nes eu bod yn ildio. Byddai datganiad gan y Llywodraeth yn cael ei groesawu gan y gweithwyr iechyd, gan gyfeirio'n benodol at y cwestiwn a yw hyn, os yw'n wir, yn cyd-fynd ag egwyddorion partneriaeth gymdeithasol ai peidio.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Luke Fletcher, am godi hyn eto. Fe'i codwyd yr wythnos diwethaf, fel y dywedwch chi. Oes, mae gan GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf, ac rydym yn annog, fel y gwnaethom yr wythnos diwethaf, y ddwy ochr i geisio'r datrysiad hwnnw ac i ddod o hyd i ddiwedd i'r anghydfod er budd staff a chleifion.

Mae'n anghydfod lleol rhwng Unite a'r bwrdd iechyd, nid mater cenedlaethol, ac nid yw wedi cael ei godi, rwy'n deall, gan undebau iechyd eraill trwy drefniadau partneriaeth gymdeithasol Cymru. A gaf i ddweud hefyd, fel yr ydych yn cydnabod, bod ymwelwyr iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth wella canlyniadau i blant a theuluoedd? Felly, rydym yn gobeithio y bydd hwn yn cael ei ddatrys.

Mae Cyflogwyr GIG Cymru yn cydlynu grŵp arbenigol i ddatblygu ystod o ddisgrifiadau swydd. Mae Unite wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan. Rwy'n deall bod Cwm Taf Morgannwg wedi dweud bod cyfarfod cychwynnol gydag ACAS yn mynd i ddigwydd. Nid wyf yn gwybod a ddigwyddodd. Roedd wedi'i drefnu ar gyfer dydd Gwener 27 Chwefror, yn amodol ar gadarnhad Unite. Ond bydd yn sicr yn digwydd, os nad adeg hynny, yn gynnar yr wythnos hon.

Galwaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gontractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG yng Nghymru. Er gwaethaf cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Iechyd i'r gwrthwyneb yma yr wythnos diwethaf, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â phroses a sylwedd contract gwasanaethau deintyddol newydd y GIG yng Nghymru, gan gynnwys absenoldeb craffu ystyrlon a'r diffyg gwybodaeth amserol a chywir a ddarperir i ddeintyddion. Dywedont fis diwethaf nad oedd dogfennau gweithredol allweddol wedi'u cyhoeddi, gan adael practisau yn wynebu penderfyniadau busnes mawr gyda dim ond dyddiau i'w sbario. Maent yn nodi bod gofyn i ddeintyddion weithredu ar gontractau heb eu profi, heb eu treialu, sy'n cario risg ariannol sylweddol, gyda llawer o bractisau yn ystyried trosglwyddo contractau yn ôl, gan olygu goblygiadau mawr i fynediad cleifion ledled Cymru. 

Practis deintyddol Abergele yw'r diweddaraf i drosglwyddo contract yn ôl, ac mae etholwyr yn yr Wyddgrug wedi cysylltu â mi ar ôl i bractis deintyddol Bryn Siriol drosglwyddo ei gontract GIG yn ôl, gan dynnu plant a theuluoedd, gan gynnwys fy wyrion fy hun, allan o ofal y GIG. Dywedodd fy neintydd fy hun wrthyf yn bersonol fod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i gontract deintyddol newydd Llywodraeth Cymru, a hynny ar ben y problemau eraill. Mae'r gost ddynol i'w gweld nawr, ac mae angen datganiad Llywodraeth Cymru ar frys yn esbonio sut y bydd gofal cleifion yn cael ei ddiogelu—nawr, ar frys.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Mae materion wedi cael eu codi ynglŷn â'r ymgynghoriad ac yna'r contract deintyddol newydd, sydd, wrth gwrs, o ganlyniad i ymgynghoriad â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Maen nhw wedi bod yn ymwneud yn gryf â hynny. A hefyd, dim ond o ran deall yr effeithiau arno, mae'r newidiadau wedi cael eu hailadrodd yn dda, ac, yn wir, mae datganiadau wedi'u gwneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydych chi wedi dod â hyn i'r Senedd heddiw, ac rwy'n parchu hynny, ond mae'n rhywbeth sydd bellach yn gweithio ei ffordd drwyddo ac sydd wedi cael ei ddeall gan y proffesiwn deintyddol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hygyrchedd i'n gwasanaethau deintyddol GIG yma yng Nghymru. Mae ar y cofnod bod eich pryderon wedi'u codi.

15:10

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cadw menywod yn ddiogel ac i ailadeiladu ymddiriedaeth yn yr heddlu. Bum mlynedd yn ôl i heddiw, cafodd Sarah Everard ei herwgipio, ei threisio a'i llofruddio gan swyddog Heddlu Metropolitan. Datgelodd ymchwiliad Angiolini a gynhaliwyd ar ôl ei marwolaeth fod aflonyddu rhywiol yn cael ei normaleiddio ac mae menywod yn aml yn wyliadwrus iawn, yn enwedig yn y nos, mewn parciau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, lle mae mwy o risg o droseddau â chymhelliant rhywiol. Galwodd yr ymchwiliad am newid sylfaenol yn niwylliant ac arfer yr heddlu. Heno, bydd ras goffa yn cael ei chynnal, yn dod i ben yn y Senedd am 6 p.m., i anrhydeddu'r holl fenywod a lofruddiwyd. Bydd yn cynnwys munud o dawelwch ac yn galw am wneud mwy ynghylch ymddygiad dynion. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr heddlu yn dod o hyd i'r rhai sydd wedi'u cyhuddo o droseddau rhywiol a sicrhau bod menywod yn teimlo'n ddiogel y tu allan i'w cartrefi?

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Mae'n bum mlynedd ydi, ers yr herwgipio, y treisio a'r llofruddiaeth ddinistriol honno o Sarah Everard. Rydym yn cael ein hatgoffa o'r galar dwfn y mae ei theulu a'i chymuned yn parhau i'w gario a'r cyfrifoldeb a rennir sydd ganddom ni i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022-26 yn nodi'r ymrwymiad clir hwnnw i ymgysylltu'n uniongyrchol â dynion a bechgyn mewn ymdrechion i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru. Wrth gwrs, mae hynny'n sicrhau ein bod yn gweithio trwy ffrydiau gwaith pwrpasol ar aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus a mynd i'r afael â throsedd. Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, ein bod wedi cyflwyno ymgyrch gyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â dynion a bechgyn i leihau pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rydym bellach yn mynd i mewn i drydydd cam honno.

Rwy'n croesawu ac yn diolch i'r rhai sydd wedi trefnu'r digwyddiad coffa heno, a drefnwyd gan Dr Ashley Morgan, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gan ddenu rhedwyr o bob rhan o dde Cymru. Fel y dywedoch chi, byddan nhw'n dod i risiau'r Senedd. Bydd hyn yn darparu eiliad bwerus a pharchus iawn o fyfyrio, ond hefyd yn cydnabod y cyfle sydd gennym, unwaith eto, i atgyfnerthu pwysigrwydd ein cydnabyddiaeth ein bod eisiau sicrhau bod menywod a merched yn teimlo'n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn mannau cyhoeddus.

Rydych chi'n tynnu sylw yn arbennig at ymchwiliad Angiolini ac at yr hyn y mae hyn yn ei olygu o ran ymddiriedaeth a hyder yn yr heddluoedd. Rwy'n cael fy atgoffa eto, o weld datganiad i'r wasg y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu heddiw ynghylch y ffaith bod camymddwyn difrifol wedi'i brofi o ran dau gyn-swyddog Heddlu Gwent am rannu negeseuon ofnadwy o sarhaus, a oedd yn negeseuon gwahaniaethol, cwbl amhriodol ac amhroffesiynol o fisogynedd, homoffobia a hiliaeth. Rwy'n gwybod, drwy weithio mor agos gyda'r heddlu, am eu harweinyddiaeth frwd a lleisiau'r prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throseddu, eu hymrwymiad i adeiladu'r ymddiriedaeth a'r hyder hwnnw mewn plismona yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch fy mod yn cyd-gadeirio bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu, Emma Wools. Rwy'n gwybod y byddwn yn adlewyrchu hynny eto pan fyddwn yn cwrdd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â Hwb y Gors yn nyffryn Aman i drafod ein dyfodol ynni gwyrdd. Mae Hwb y Gors yn enghraifft bwerus o berchnogaeth gymunedol wedi'i wneud yn iawn. Cafodd refeniw o ddau dyrbin gwynt lleol ei ailfuddsoddi i brynu ac adnewyddu'r ganolfan gymunedol, gan sicrhau bod y manteision yn aros yn lleol. Ond un o'r heriau mawr maen nhw'n eu hwynebu yw sicrhau caniatâd cynllunio. Cymerodd chwe blynedd iddyn nhw gyrraedd y cam lle roedden nhw'n gallu dechrau comisiynu eu tyrbinau gwynt. Felly, hoffwn glywed yn union sut y gallwn helpu'r cymunedau hynny i fuddsoddi mewn prosiectau ynni lleol.

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gennych, os gwelwch yn dda, ar y sefyllfa yn Gaza. Fis diwethaf, ailagorodd croesfan Rafah rhwng Gaza a'r Aifft am gyfnod byr, gan gynnig llinell achub i sifiliaid mewn angen mawr. Ond yn dilyn y dwysâd rhanbarthol o'r newydd, mae'r groesfan yn Rafah bellach wedi'i chau eto. Mae poblogaeth o 2 filiwn o bobl eisoes yn ddibynnol iawn ar gymorth dyngarol ac yn wynebu newyn. Felly, hoffwn glywed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ymdrechion cymorth rhyngwladol a sicrhau bod y sifiliaid hynny yn Gaza yn cael eu bwydo. Diolch yn fawr iawn.

15:15

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch, yn gyntaf oll, am dynnu sylw at y prosiect ynni cymunedol hwnnw yn nyffryn Aman, rwy'n credu y dywedoch chi. Yr hyn sy'n dda, y flwyddyn ariannol hon, yw ein bod wedi cefnogi tri phrosiect ynni a arweinir gan y gymuned, gyda bron i £5 miliwn, gan roi asedau ynni a chyfleoedd yn uniongyrchol i gymunedau yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwysig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi hefyd yn Ysgrifennydd dros Ynni a Chynllunio, oherwydd mae eich pwynt am gynllunio yn berthnasol iawn. Rydym wedi ymrwymo, drwy Ynni Cymru, i fuddsoddi dros £32 miliwn ers i'r cynllun gael ei lansio yn 2024. Mae ynni cymunedol, wrth gwrs, yn ymwneud â phobl, a'i effaith yw ei fod yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, creu swyddi ac adeiladu gwerth cymdeithasol hirdymor ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei fesur. Ond diolch am godi'r pwynt am y daith, a all gael ei ohirio yn aml, gan faterion cynllunio, a gydnabuoch chi yn eich cyfraniad heddiw.

Mae'r ail fater yn bryderus iawn. Wrth gwrs, mae'r sefyllfa barhaus yn y dwyrain canol yn bryderus iawn, ac mae'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza yn parhau i fod yn hynod heriol. Mae dros 70,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ac mae mwy na 90 y cant o'r boblogaeth wedi'u dadleoli. Mae cau dros dro pob croesfan i Gaza, yn dilyn dechrau'r rhyfela yn y rhanbarth ehangach, yn bryder difrifol. Ceir adroddiadau y bydd croesfan Kerem Shalom yn ailagor o heddiw ar gyfer mynediad graddol o gymorth dyngarol, ac mae'n rhaid dilyn hyn drwy ailddechrau cymorth ar raddfa fawr trwy groesfannau lluosog.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y streic ymwelwyr iechyd parhaus ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg? Yn unol â'r hyn a ofynnodd Luke Fletcher yn gynharach, mae sawl etholwr wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf yn mynegi pryder am y streic a'r effaith y mae'n ei chael ar deuluoedd. Mae ymwelwyr iechyd, fel y gwyddom ni i gyd, yn achubiaeth i famau newydd, babanod a theuluoedd, ond maen nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond streicio oherwydd yr anghydfod ynghylch bandio cyflogau. Os nad yw staff yn cael eu talu'n ddigonol am y cymwysterau a chyfrifoldebau sydd ganddyn nhw, mae hynny'n amlwg yn annheg ac yn tanseilio'r llif o dalent sydd ei angen arnom yn unol â'r galw.

Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Llywodraeth ynghylch hyn ers misoedd lawer bellach, felly sut rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt hwn? Mae'r rhain yn gwestiynau yr hoffwn gael atebion iddyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl eraill hefyd. Pam nad oedd ymdeimlad o frys hyd yn hyn, o ystyried bod yr amddiffyniad cyflog 10 mlynedd i staff i fod i ddod i ben yn y bwrdd iechyd? Mae angen datganiad ar frys gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ers pryd y maen nhw'n gwybod am y mater hwn, pa gamau y maen nhw wedi'u cymryd hyd yn hyn a sut maen nhw'n bwriadu gweithio gyda'r bwrdd iechyd, staff ac undebau i atal y streic. Rwy'n gwerthfawrogi beth oedd eich ymateb i Luke Fletcher ynghynt, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y trafodaethau hynny sy'n mynd i ddigwydd. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi ateb cwestiwn eisoes y prynhawn yma ar yr anghydfod cyflog ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yr ydym yn gobeithio y bydd yn cael ei ddatrys ar frys. Rwyf wedi tynnu sylw at y ffaith bod cyflogwyr GIG Cymru yn cydlynu grŵp arbenigol, gan ddatblygu ystod o ddisgrifiadau swydd, ac mae Unite wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan. Rwy'n deall bod cyfarfod gyda'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi cael ei gynnal neu y bydd yn digwydd, ac wrth gwrs mae Cwm Taf Morgannwg yn cydnabod pryderon a godwyd am y gofynion addysgol diwygiedig, sy'n cael effaith. O ran manylion hyn, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gobeithio y gellir ei ddatrys ar lefel leol, ac os oes unrhyw faterion ehangach o ran GIG Cymru neu y tu hwnt, yna byddwn ni, wrth gwrs, rwy'n gwybod, yn mynd i'r afael â'r rheini.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad ar ganllawiau rhywedd sy'n gweithredu ar hyn o bryd mewn ysgolion yng Nghymru ac a yw'r Llywodraeth hon yn bwriadu eu gwrthdroi. Bu cynnwrf yn ddiweddar, fel y gwyddoch chi, ynglŷn â chanllawiau newydd sy'n cael eu rhyddhau yn Lloegr sy'n caniatáu i blant mor ifanc â phedair oed drawsnewid yn gymdeithasol, gan newid enwau a rhagenwau yn yr ystafell ddosbarth, ond yng Nghymru nid yw hyn yn ddim byd newydd, nac ydi? Mae ysgolion wedi cael eu hannog ers amser maith i wthio ideoleg rhywedd ar blant bach. Mae Llafur Cymru, wedi'i gymeradwyo gan Blaid Cymru, hyd yn oed wedi ystyried y syniad— gwallgofrwydd llwyr, plant yn hunan-adnabod fel cathod, gan ei drin fel rhywbeth hollol normal: realiti biolegol wedi'i falu'n llwyr, hawliau rhieni wedi'u sathru dan draed, gwthio syniadau ar feddyliau plant, i gyd o dan yr esgus o gynhwysiant. Ni ddylid drysu plant mor ifanc â phedair ynghylch bioleg sylfaenol. Yn Reform, rydym yn glir bod y gyfraith a'r ffeithiau yn rhagori ar ideoleg. A byddwn yn amddiffyn hawliau merched, a byddwn yn cefnogi rhieni.

Trefnydd, pryd fydd y Llywodraeth Lafur hon o'r diwedd yn cyhoeddi canllawiau clir sy'n amddiffyn merched mewn ysgolion ac yn rhoi diwedd ar wthio ideoleg beryglus ar blant diniwed a fydd ond yn gwaethygu o dan Lywodraeth eithafol Plaid Cymru? Diolch.

15:20

Wel, rwy'n credu mai un o'r pethau rydw i bob amser yn troi at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac yn diolch iddi amdano yw'r ffaith ei bod wedi dweud yn glir iawn, o ran ein cwricwlwm, 'Rwy'n falch iawn o'n cwricwlwm newydd, sydd bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, a'i bod yn bwysig iawn bod ysgolion yn gynhwysol.'  Ac o ran y cwricwlwm, un o'n prif ddibenion yw i blant dyfu i fyny fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus, a bod ein perthynas arloesol ac addysg rhywioldeb, llinyn prif ffrwd y cwricwlwm, bellach yn cael ei weithredu mewn ysgolion.

Mae'n rhaid i mi ddweud, cawsom gyflwyniad da iawn gan swyddog o adran yr Ysgrifennydd Cabinet ddydd Iau yn y fforwm cymunedau ffydd, sy'n fforwm o lawer o wahanol safbwyntiau a chrefyddau, yn clywed am y ffyrdd yr ydym yn datblygu ac yn gweithredu ein cwricwlwm i ddiwallu anghenion plant yn y ffordd gynhwysol honno.

Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y prynhawn yma, yn dilyn adroddiad pryderus iawn a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar brofiad rhywun yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn ystod y dyddiau diwethaf. Disgrifiodd etholwr sut y cyrhaeddodd a chanfod bod yr adran yn beryglus o orlawn, gyda chleifion ar welyau a chadeiriau mewn rhesi ar hyd y coridorau. Gyferbyn ag ef gorweddai menyw oedrannus, fregus, ar ei phen ei hun ar droli coridor. Roedd hi'n amlwg yn ofidus, gan wneud synau llafurus wrth i staff ac ymwelwyr frysio heibio. Yn drasig, bu farw yno, ar ei phen ei hun, mewn coridor, heb breifatrwydd, heb urddas, heb neb i'w chysuro wrth ei hochr.

Nawr, gadewch i mi fod yn glir, nid beirniadaeth o staff y GIG sy'n gweithio'n galed yw hon, yr ydym yn gwybod eu bod yn wynebu pwysau systemig annioddefol bob dydd. Ond ni ddylai unrhyw glaf, ac yn sicr unrhyw berson oedrannus neu agored i niwed, dreulio ei funudau olaf mewn amodau mor anurddasol a gofidus. Mae gofal coridor yn greulon, annynol. Nid yw'n addas i ni fel cenedl ddatblygedig. Ni ddylai erioed fod wedi cael ei normaleiddio, ac mae'r digwyddiad hwn yn amlygu cost ddynol y methiant hwnnw. Nid yw marw ar ei phen ei hun mewn coridor yn ffordd o nodi diwedd bywyd dynol.

Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd pa gamau brys y mae'n eu cymryd i roi terfyn ar yr arfer gwarthus o ofal coridor yn ein hysbytai ac i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn marw'n unig mewn coridor ysbyty byth eto. 

Mae'n anffodus iawn clywed am y profiad trasig a'r digwyddiad hwnnw rydych chi wedi'i ddwyn i'n sylw. Yn amlwg, ni allwn ymdrin ag achosion unigol, ond rwy'n siŵr eich bod wedi codi hyn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Rwy'n credu, o ran perfformiad adrannau brys yn y gogledd, dros y pedair blynedd diwethaf, £12 miliwn mewn cyllid chwe nod wedi'i ddarparu i Betsi Cadwaladr i wella gofal brys ac argyfwng. Ac mae'r bwrdd iechyd yn cael gafael ar £2.7 miliwn arall eleni i gyflwyno ystod o ymyraethau. Ac mae hyn yn ymwneud â galluogi claf i ddod i gael ei asesu, ac yna i lwybr gofal priodol gael ei gytuno ar gyfer y claf hwnnw.

Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod pwysau enfawr ar ein hadrannau brys o ran anghenion cleifion a chleifion sy'n ymgyflwyno, ond credaf fod y cyllid chwe nod, rhan o'r buddsoddiad o £35.5 miliwn i helpu i gefnogi'r bwrdd iechyd hwnnw a bwrdd partneriaeth ranbarthol gogledd Cymru, yn ymwneud â rheoli mwy o bobl yn y gymuned yn ddiogel, osgoi cludiant ambiwlans a derbyn i'r ysbyty, darparu atebion integredig gyda gofal cymdeithasol a gwella llif cleifion trwy ysbytai.

15:25

Ym mis Ionawr, gwnes i ofyn am ddatganiad ynglŷn â dyfodol Aston Martin. Chwe wythnos yn ddiweddarach, does dal dim datganiad wedi bod, ac mae'r pryder yn cynyddu. Mae hyd at 100 o swyddi yn mynd i gael eu colli ym Mro Tathan. Wythnos diwethaf, fe wnaeth Aston Martin gyhoeddi eu bwriad i leihau'r gweithlu gan 20 y cant. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grantiau i Aston Martin—grantiau gydag amodau hyd at 2030. Mae manylion ynglŷn ag amodau y grantiau yna yn hynod bwysig. A gawn ni ddatganiad, plis?

Ac yn ail, a gaf i ddatganiad arall am un o'ch etholwyr chi, yr anhygoel Nadine Marshall? Fe wnaeth hi gysylltu gyda fi y bore yma, yn dweud bod hi wedi darllen yn y wasg heddiw fod llofrudd ei mab nôl yn y llys oherwydd y troseddau pellach mae e wedi'u cyflawni tra yn y carchar. Dwi'n siŵr y gwnewch chi gytuno gyda fi, Trefnydd, ei fod e'n warthus bod dioddefwyr yn ffeindio mas drwy'r wasg fod troseddau pellach wedi cael eu gwneud. A wnewch chi, yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder, gysylltu gyda'r MOJ i weld sut mae modd gwella cyfathrebu gyda dioddefwyr? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, yn y ffaith bod Aston Martin yn fy etholaeth i, ac rwyf wedi ateb cwestiynau gennych o'r blaen, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac yn wir y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Rwyf hefyd wedi cwrdd â'r rheolwyr a'r undebau llafur yn ystod yr wythnosau diwethaf, oherwydd y newyddion sy'n dod i'r amlwg am yr effaith ar Aston Martin. Rydw i wedi ymweld ag Aston Martin fy hun, felly rwy'n siarad yn bennaf fel Aelod etholaethol. Ond yn wir, wrth gwrs, Aston Martin, fe wnaethom eu croesawu i Gymru. Ac o ran y trefniadau, sydd wedi'u gosod yn glir iawn o ran cefnogaeth i Aston Martin, mae'n amlwg eu bod yn agored i fod yn destun craffu, yn destun craffu a chwestiynu, ond rydym yn hyderus bod eu hymrwymiad i Gymru yn gryf. Rwy'n credu mai un o'r pwyntiau y byddwn i'n ei wneud, sy'n ddefnyddiol yn fy marn i, yw bod y siop baent wedi cael ei hagor yn Aston Martin a Sain Tathan, ac mae hynny'n golygu bod ceir yn gorfod dod i Aston Martin o'u pencadlys yn Swydd Warwick, ac mae'r modelau, wrth gwrs, sydd wedi'u datblygu yno i'w gweld ar draws y byd. Maen nhw wedi dioddef oherwydd tariffau Trump, fel y gwyddoch chi, ond rydyn ni'n gweithio yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â hynny.

Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi codi'r pryder hwn oddi wrth Nadine Marshall, sydd hefyd yn etholwraig yr wyf wedi ei chefnogi dros nifer o flynyddoedd, ond hefyd rydw i wedi, a byddaf eto, yn codi hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae hi wedi chwarae rhan bwerus iawn wrth ddylanwadu ar bolisi a myfyrio ar y ffordd ofnadwy y rhannodd a phreifateiddiodd Chris Grayling ein gwasanaeth prawf, ymhell yn ôl. Rwy'n talu teyrnged i'w dewrder a'r cyfraniad y mae hi wedi'i wneud o ran dylanwadu ar bolisi prawf, wrth i ni drafod y ffordd yr hoffem gael mwy o bŵer a chyfrifoldeb dros brawf yma yng Nghymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelu etholiadau Cymru. Yn isetholiad diweddar Gorton a Denton, gwelodd arsylwyr democratiaeth fod yna bleidleisio teuluol eang yn digwydd ar draws yr etholaeth. Rydyn ni i gyd eisiau gweld ein hetholiadau ledled y wlad yn cael eu gwarchod, ac rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig wrth i ni agosáu at ein hetholiad yn y Senedd. Felly, hoffwn ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut rydych chi'n mynd i amddiffyn uniondeb ein hetholiad yn y Senedd yng Nghymru.

Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol sy'n gyfrifol ac sy'n cymryd cyfrifoldeb clir, gyda'r swyddogion canlyniadau o'n holl awdurdodau lleol, am ddiogelu a pharatoi ar gyfer ein hetholiadau sydd i ddod. Hefyd, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod hyn yn gyfrifoldeb i lawer sy'n chwarae rhan yn hyn, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a'r comisiwn ffiniau—pob un o'r sefydliadau hynny sy'n cyfarfod gyda'i gilydd i drafod a dod o hyd i ffordd ymlaen. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod gan y panel gwleidyddol rôl allweddol i'w chwarae o ran hyn, ac edrychwn ymlaen at hyn yn cael effaith ar y ffordd y cynhelir yr etholiadau, yr etholiadau sydd i ddod, ar 7 Mai, oherwydd gwyddom y byddant yn cael eu cynnal yn drylwyr, ac y gall dinasyddion Cymru fod â ffydd yn y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel genedlaethol a lleol.

15:30
4. Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026

Eitem 4 yw'r Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026. A galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig—Jack Sargeant. 

Cynnig NDM9175 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus​ (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cynnwys dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i sector cyhoeddus Cymru fynd ar drywydd llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol drwy bob proses gaffael gyhoeddus. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau pellach ar gyfer adroddiadau blynyddol y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu cyhoeddi. Rhaid i'r adroddiadau hyn gynnwys gwybodaeth am sut mae eu gweithgareddau caffael yn cyfrannu'n gyffredinol at gyflawni'r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r rheoliadau hefyd yn ymestyn cwmpas contractau rhagnodedig, yn diffinio 'contractau cofrestradwy', ac yn diweddaru'r geiriad i alinio â'r model cymdeithasol o anabledd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu gofalus ar y rheoliadau hyn, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau yn y Senedd heddiw.

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 2 Chwefror, ac ymateb Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd ar rinweddau.

Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at rif paragraff coll yn y rheoliadau. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y pwynt, a bydd yn gwneud y cywiriad cyn gwneud y rheoliadau.

Mae'r pwynt adrodd ar rinweddau cyntaf yn gofyn am ragor o wybodaeth am effaith estyniad y diffiniad o 'gontract rhagnodedig', yn enwedig pa un a yw'n ymestyn cwmpas y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn egluro bod Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gosod y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol ar bob caffael cyhoeddus. Mae'r ymateb hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi bwriadu diffinio ymhellach mewn rheoliadau 'contract rhagnodedig' drwy gyfeirio at drothwyon ariannol sy'n cyd-fynd â chytundeb caffael Llywodraeth Sefydliad Masnach y Byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiweddaru'r memorandwm esboniadol ac egluro sut mae cymhwyso'r ddyletswydd wedi'i ymestyn a'r rhesymeg bolisi dros wneud hynny.

Mae ail bwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn amlygu nad oedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rheoliadau drafft hyn yn ceisio barn ar y polisi ei hun.

Dim ond cwestiwn byr gennyf i'r Gweinidog, i geisio rhywfaint o eglurder ar sut y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio ar fentrau bach a chanolig. Nodais ei fod yn sôn yn y rheoliadau eu bod yn berthnasol i gontractau mwy, ond byddai rhywfaint o eglurder ar y mater penodol hwn yn cael ei groesawu'n fawr.

Ni fydd yn syndod na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Rwyf eisiau ailadrodd ein bod yn credu mewn partneriaeth gymdeithasol, ar yr amod ei fod yn digwydd yn naturiol. Fodd bynnag, ni fydd deddfwriaeth yn y modd hwn yn gwneud fawr ddim i sicrhau partneriaeth lwyddiannus, a bydd yn rhoi baich diangen ar fusnesau bach a chanolig. Rydym yng nghanol argyfwng costau byw, ac, yn hytrach na chanolbwyntio ar greu swyddi, gofynnir i fusnesau Cymru adrodd ar gyfleoedd i ddefnyddio, dysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, i adrodd ar eu cynlluniau lleihau carbon a'u polisïau amgylcheddol. A ydym yn dweud mewn gwirionedd y bydd busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael eu hatal rhag cyflenwi cyrff sector cyhoeddus oherwydd nad oes ganddynt bolisïau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant digonol? Rwy'n annog cyd-Aelodau i wrthod y rheoliadau hyn. Diolch.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth am ei holl waith, ac am waith aelodau'r pwyllgor hwnnw. Rwy'n falch ein bod wedi ymateb i'r adroddiad yna. Llywydd, i ymdrin yn gyflym â chwpl o bwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, cefais y pleser o ddarllen cyfraniad 2022 gan y Ceidwadwyr Cymreig ar adeg cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Mae'n union yr un cyfraniad ag un heddiw. Dydw i ddim yn meddwl—. Dydw i ddim yn meddwl bod y—. Mae'n gyson anghywir, dyna'r hyn yr wyf i'n ei gredu a ddaw i'r amlwg. Nid yw'n gwneud synnwyr mewn gwirionedd.

O ran pwynt Luke Fletcher ynghylch busnesau bach a chanolig, sy'n bwynt pwysig, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio adrodd ar nodweddion, gan gynnwys a ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru ac mewn busnesau bach a chanolig. Felly, rwy'n credu y bydd y rheoliadau hyn ger bron y Senedd heddiw mewn gwirionedd yn gwella'r cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig ledled y wlad gymryd rhan yn y cyfleoedd caffael a fydd yn dod yn eu sgil. Yna, pan ddaw i gyrff cyhoeddus llai, wel, mae yn y Ddeddf a'r rheoliadau lle ystyrir bod cymesuredd yn briodol, pan fydd natur y risg o'r cyfle caffael—. Felly, mae hynny hefyd yn cefnogi cyrff cyhoeddus llai hefyd.

Llywydd, dim ond i ddweud, fel y nodais i, rwy'n credu, yn fy sylwadau agoriadol, bydd hyn yn cryfhau ein dull o gaffael cymdeithasol gyfrifol. Bydd yn hyrwyddo ymhellach ein hymrwymiad i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i bobl Cymru. Dyma gam olaf y daith yn y ffrâm ddeddfwriaethol. Mae partneriaeth gymdeithasol yn parhau i fod yn gyrchfan, ac rydym bob amser yn ceisio cynyddu a gwella'r gyrchfan honno. Hoffwn gofnodi, o ystyried mai dyma gam olaf y broses ddeddfwriaethol yma yn y Senedd, fy niolch i swyddogion Llywodraeth Cymru, fy niolch i Hannah Blythyn, yn ei rôl fel Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, am gyrraedd lle yr ydym heddiw, ac, wrth gwrs, fy niolch i'r mudiad undebau llafur, sydd wedi cefnogi caffael cymdeithasol gyfrifol a phartneriaeth gymdeithasol ers blynyddoedd lawer bellach yng Nghymru. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig, cefnogi'r cynnig a chymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026
6. Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Felly, eitem 6 yw'r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Dawn Bowden.

Cynnig NDM9176 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.

Mae'r offeryn statudol ger eich bron yn cyflwyno diwygiadau i'r rheoliadau presennol ar datganiadau blynyddol darparwyr a hysbysiadau cosb cysylltiedig. Er eu bod yn dechnegol, mae'r newidiadau hyn yn hanfodol i gyflawni un o brif ddiwygiadau'r Llywodraeth mewn gofal cymdeithasol plant—tynnu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae'r offeryn yn cryfhau sicrwydd ac atebolrwydd. Mae'n sicrhau bod y gofyniad cyfreithiol a gyflwynwyd drwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 i wasanaethau i blant o dan gyfyngiad weithredu ar sail nid-er-elw yn cael ei brofi nid yn unig wrth gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ond hefyd yn barhaus drwy datganiadau blynyddol.

Mae'r prif welliant yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad—cartrefi gofal plant, llety diogel a gwasanaethau maethu—gadarnhau bob blwyddyn eu bod yn parhau i gydymffurfio â gofyniad nid-er-elw y Ddeddf. Mae'r diogelwch hwn yn cynnig mecanwaith parhaus i ddarparwyr ddangos eu bod yn bodloni amodau eu cofrestriad, gan helpu i sicrhau bod y bwriad polisi o gael gwared ar elw o ofal plant yn cael ei wireddu yn ymarferol. Mae'r offeryn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr gofal cymdeithasol gyhoeddi datganiadau blynyddol ar ei wefan ei hun o fewn cyfnod penodol. Mae datganiadau blynyddol yn cynnwys gwybodaeth bwysig am sut mae gwasanaethau yn gweithredu. Mae eu cyhoeddi ar wefan y darparwr yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad hawdd at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu gofal.

Mae mân ddiwygiad canlyniadol yn diweddaru'r fframwaith hysbysiadau cosb. Mae'r diwygiad hwn yn adlewyrchu'r newid a wnaed gan Ddeddf 2025 i bennawd adran 48 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gyda'i gilydd, nid yw'r diwygiadau hyn yn newid diben datganiadau blynyddol ond yn cryfhau eu rôl wrth hyrwyddo sicrwydd ac atebolrwydd. Mae'r offeryn yn cefnogi gweithredu darpariaethau gwaredu elw Deddf 2025 yn effeithiol gan barhau i fod yn gymesur, yn bragmatig ac ar sail gwybodaeth drwy ymgysylltu â'r sector. Dirprwy Lywydd, mae'r gwelliannau hyn wedi'u targedu yn atgyfnerthu polisïau allweddol gan gadw eglurder, cysondeb a goruchwyliaeth, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Senedd. Diolch. 

15:40

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 26 Ionawr. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'n amlygu'r ffaith nad yw un o'r pwerau galluogi y dibynnir arnynt mewn grym eto. Daw'r pŵer galluogi dan sylw i rym ar 1 Ebrill 2026, sef yr un dyddiad ag y daw'r rheoliadau hyn i rym. Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn darparu y caniateir arfer pŵer o dan ddarpariaethau is-offerynnau cyn i'r darpariaethau hynny ddod i rym. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Ni fyddaf yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae'r Gweinidog, yn amlwg, wedi cael y ddadl hon o'r blaen ynglŷn â dileu elw o ofal. Gallaf ddeall pam y mae'r Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd y nod hwnnw. Ond, yn anffodus, nid wyf yn teimlo bod y gallu yn y system ar hyn o bryd i wneud hynny, ac mae'n ymwneud ag ansawdd y gofal a ddarperir, nid lle mae'n cael ei ddarparu hefyd. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, oherwydd nid wyf yn cefnogi nodau'r Bil mewn egwyddor—Deddf mewn egwyddor. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a James Evans am ei gyfraniad? Rwy'n parchu barn James ar sefyllfa Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 fel y mae'n ymwneud â dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, ond, wrth gwrs, roedd hwn yn ymrwymiad allweddol gan y llywodraeth i Gymru ac roedd yn rhan allweddol o'r rhaglen lywodraethu, ac felly rydym wedi bwrw ymlaen â hynny, ac mae ganddo gefnogaeth mwyafrif y Senedd hon.

Wrth i ni gloi'r ddadl hon, rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar yr hyn y mae'r rheoliadau hyn yn ei gynrychioli a'r diwygio ehangach o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn eu hanfod, mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau ymrwymiad polisi allweddol, gan ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni'n effeithiol. Mae newid sylweddol o'r fath yn gofyn am drefniadau rheoleiddio cymesur, cadarn a thryloyw, y mae'r rheoliadau hyn yn ceisio eu darparu.

Mae cyflwyno cadarnhad blynyddol o statws nid-er-elw yn fesur synhwyrol, ymarferol. Mae'n cydnabod y dylid cadarnhau cydymffurfiaeth nid yn unig cyn cofrestru, ond rhaid ei ddangos dros amser. Mae defnyddio'r mecanwaith rheoleiddio sefydledig hwn yn cryfhau goruchwyliaeth heb greu dyblygu diangen i ddarparwyr. Hefyd, mae gofyn am gyhoeddi datganiadau blynyddol ar wefan y darparwr o fewn amserlen gyffredin yn atgyfnerthu tryloywder, sy'n hanfodol ar gyfer hyder y cyhoedd. Mae hygyrchedd uniongyrchol o ran yr wybodaeth hon yn darparu dealltwriaeth o sut mae gwasanaethau yn gweithredu ac yn cefnogi penderfyniadau ar sail gwybodaeth pobl am eu gofal.

Yn olaf, mae'r diwygiad canlyniadol i hysbysiadau cosb yn sicrhau cydlyniant a chywirdeb ar draws y ddeddfwriaeth. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn troi uchelgais polisi yn realiti ymarferol, gan ddarparu eglurder, sicrwydd a thryloywder gan gadw'r pwyslais yn gadarn ar unigolion sydd angen gofal a chymorth. Gofynnaf yn barchus i chi eu cefnogi. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 7, Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026, ac eitem 8, Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026, eu grwpio i drafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.

7. & 8. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 a Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026

Felly, galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i wneud y cynigion—Vikki Howells.  

Cynnig NDM9177 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynnig NDM9179 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, byddwn yn gweld cam nesaf swyddogaethau Medr yn dod i rym, fel y darperir ar ei gyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen, wrth i Medr gymryd cyfrifoldeb llawn am sicrhau, ariannu ac arolygu addysg a hyfforddiant pellach, gan gynnwys chweched dosbarth ysgolion, ynghyd â'r cyfrifoldeb am ffurfio cwricwlwm lleol. Er mwyn sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gadarn ac yn gyfredol, bydd Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth gynradd ac uwchradd bresennol. Bydd hyn yn alinio'r fframwaith cyfreithiol ehangach â'r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf 2022. Bydd y rheoliadau hyn hefyd yn gwneud addasiad dros dro i adlewyrchu swyddogaethau cyllido Medr o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, tra bod gweithrediad Deddf 2022 yn parhau.

Bydd yr ail offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw, sef Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026, yn diwygio Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 o ganlyniad i ddiddymu darpariaethau penodol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000. Cyflwynodd Deddf 2023 fframwaith rheoleiddio newydd i fynd i'r afael â chynnwys ar-lein anghyfreithlon a niweidiol, gan osod dyletswyddau cyfreithiol ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a pheiriannau chwilio. Yn bwysig, sefydlodd Ofcom hefyd fel y rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein, sy'n gyfrifol am oruchwylio'r drefn hon.

Er mwyn sicrhau nad yw sefydliadau sydd eisoes yn destun gofynion diogelu cadarn, fel y rhai sy'n destun arolygiad gan Estyn, yn destun rheoleiddio dyblyg, mae rhai darparwyr addysg a gofal plant yng Nghymru wedi'u heithrio rhag goruchwyliaeth reoleiddiol Ofcom. Mae Deddf 2023 yn cael ei diwygio i ddiweddaru ac ymestyn yr eithriadau hyn, gan adlewyrchu'r newidiadau a achoswyd gan Ddeddf 2022. Yn benodol, bydd addysg bellach neu hyfforddiant yng Nghymru, pan gaiff ei ariannu neu ei sicrhau gan Medr, Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol, yn parhau i fod wedi'i eithrio o gylch gwaith Ofcom. Bydd hyn yn cadw cyfrifoldebau diogelu yn gadarn ar waith, gydag Estyn yn parhau â'i rôl arolygu hanfodol.

Mae'r diwygiadau a ddarperir ar ei cyfer gan y ddau offeryn statudol ger eich bron yn ganlyniadol ac yn angenrheidiol i sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithredu fel y bwriadwyd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y rheoliadau hyn. Yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau canlyniadol, ymrwymais i ddiwygio troednodyn sy'n egluro sut y gellid cael gafael ar gopi o Orchymyn lleol a ddiwygiwyd gan y rheoliadau hyn. Gallaf gadarnhau bod y gwelliant hwn wedi'i wneud. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

15:45

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd fy nghyfraniad heddiw mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn gofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd paragraff 32(2) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn cael ei gychwyn cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym. Rhaid cychwyn paragraff 32(2) er mwyn i reoliad 6 fod yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd paragraff 32(2) yn cael ei gychwyn ar yr un pryd ag y daw rheoliad 6 i rym.

Mae pwynt adrodd craffu cyntaf y pwyllgor yn gofyn a yw Gorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005, y cyfeirir ato yn y rheoliad, yn hygyrch i'r cyhoedd. Nid yw ar gael ar legislation.gov.uk, nac ar wefannau cyfreithiol sy'n seiliedig ar danysgrifiadau a ddefnyddir yn gyffredin. Ymatebodd Llywodraeth Cymru fod offerynnau statudol lleol, fel Gorchymyn 2005, wedi'u heithrio o'r gofyniad cyffredinol bod offerynnau statudol yn cael eu hargraffu a'u gwerthu. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn ar gael i'r cyhoedd drwy archif ar-lein Llywodraeth Cymru. Yn olaf, mae ail bwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal mewn perthynas â'r rheoliadau hyn.

Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n galw ar Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau hyn fel y gallwn barhau i weithredu'r Ddeddf hon a chaniatáu i Medr symud ymlaen i ymgorffori'r diwygiadau pwysig hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15:50
9. Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026

Eitem 9 ar ein hagenda ni yw'r Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Mae'n rhaid i chi ei dynnu i fyny, Huw. 

Iawn. Ymddiheuriadau. Rwy'n dod i arfer â'r paraffernalia newydd hyn. 

Cynnig NDM9180 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio)​ 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 15:50:37
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. 

Heddiw, rydym ni'n trafod is-ddeddfwriaeth i gryfhau ymhellach a rhoi cam nesaf diwygiadau llwyddiannus Cymru o ran ailgylchu yn y gweithle ar waith. 

Yn gyntaf, hoffwn gymryd eiliad i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar yr offeryn statudol hwn ar gyfer Cymru. Daeth cam cyntaf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle i rym ym mis Ebrill 2024, trwy gyfres o offerynnau cyflenwol a elwir gyda'i gilydd yn rheoliadau ailgylchu yn y gweithle. Rydym i gyd bellach yn gyfarwydd iawn â nhw. Mae'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn sicrhau bod pob gweithle yn cadw deunydd ailgylchadwy allweddol ar wahân i'w gasglu i'w ailgylchu nes ymlaen, gan adlewyrchu'r hyn y mae cartrefi eisoes yn ei wneud, mewn gwirionedd, ar draws y rhan fwyaf o Gymru.

Rwy'n falch iawn o adrodd, Dirprwy Lywydd, fod 8,187 tunnell ychwanegol o ddeunydd ailgylchadwy wedi'i gasglu o weithleoedd gan awdurdodau lleol yn y flwyddyn gyntaf pan fo'r rheoliadau hyn mewn grym. Mae hyn i fyny 42 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. A chlod i'r awdurdodau lleol a phawb sydd wedi cyfrannu at hynny. Ar yr un pryd, Dirprwy Lywydd, gostyngodd y gwastraff gweddilliol a gasglwyd o weithleoedd 15.8 y cant. Mae hyn yn golygu bod miloedd o dunelli o ddeunyddiau ychwanegol bellach yn cael eu hailgylchu a'u dychwelyd i'r economi, yn hytrach na chael eu llosgi neu hyd yn oed cael eu gwaredu drwy dirlenwi.

Nawr, gan adeiladu ar y llwyddiant ysgubol hwn, mae'r rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw yn Siambr y Senedd hon yn ffurfio cam 2 o'r diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, a byddant yn diwygio Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 i gyflwyno gofyniad i weithleoedd gyflwyno offer trydanol ac electronig gwastraff bach—sydd â'r enw cofiadwy SWEEEs—ar wahân i'w gasglu ac yna'i ailgylchu o 6 Ebrill eleni. Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i weithleoedd wahanu gwastraff trydanol bach sydd heb ei werthu yn unig.

Gellir ailgylchu hyd at 75 y cant o'r deunyddiau mewn hen offer trydanol—hyd at 75 y cant. Os yw offer trydanol yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael eu llosgi yn hytrach na chael eu hailgylchu, yna mae adnoddau gwerthfawr ac yn aml cyfyngedig, fel aur, copr, alwminiwm a dur yn cael eu colli. [Torri ar draws.] Yn wir, fe ddof at lithiwm hefyd. Ar ben hynny, mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o offer trydanol gwastraff i greu cynhyrchion newydd yn cryfhau ein cadwyni cyflenwi, mae'n lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau ein dibyniaeth ar echdynnu deunyddiau crai a'r difrod amgylcheddol cysylltiedig a cholli bioamrywiaeth y gall hyn ei achosi.

Yn ogystal, mae llawer o eitemau trydanol bach yn wir, fel y dywedodd Mike Hedges ar ei eistedd, yn cynnwys batris lithiwm-ion. Pan fyddant yn cael eu rhoi mewn bagiau duon gwastraff gweddilliol, mae'r eitemau hyn yn aml yn cael eu cywasgu, sy'n achos hysbys o danau gwastraff. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif y gallai'r polisi hwn osgoi rhwng 2.6 a 15.9 o danau y flwyddyn, gydag arbedion posibl o £2.1 miliwn i £12.5 miliwn bob blwyddyn.

Gadewch i mi ei gwneud yn glir, Dirprwy Lywydd, fod canlyniadau tanau gwastraff o'r fath yn amlwg. Yn 2021, achosodd batri lithiwm-ion dân mawr, y bydd llawer ohonom yn gyfarwydd ag ef, mewn gorsaf drosglwyddo gwastraff sy'n eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru. Arweiniodd at ostyngiad o 3.5 y cant yng nghyfradd ailgylchu'r awdurdod lleol hwnnw, costau net ychwanegol o £913,000 yn 2021-22, ac ailadeiladu'r cyfleuster hwnnw y rhagwelir y bydd yn costio £15.5 miliwn. Felly, pan fydd tanau gwastraff yn digwydd, gall y canlyniadau hefyd ymestyn ymhell y tu hwnt i un safle. Gallant effeithio ar gymunedau cyfan trwy amharu ar wasanaethau lleol a niwed amgylcheddol ehangach.

Disgwylir i'r gwelliant hwn yr ydym yn ei drafod heddiw hefyd gefnogi mwy o swyddi a buddsoddiad. Mae'r modelu yn awgrymu y bydd dros 90 o swyddi newydd yn cael eu creu dros y degawd cyntaf. Mae hyn yn ogystal, gyda llaw, â'r 784 o swyddi newydd a ragwelir y byddant yn cael eu creu o ganlyniad i gam 1 y diwygiadau ailgylchu gweithle a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. Ar ben hynny, bydd yn darparu manteision amgylcheddol pwysig, gyda gostyngiad o 7,400 tunnell mewn allyriadau carbon deuocsid, a chynnydd o 38,000 tunnell o offer trydanol bach yn cael ei ailgylchu dros 10 mlynedd.

Mae cadw offer trydanol bach allan o wastraff gweddilliol hefyd yn lleihau'r risg o sylweddau gwenwynig yn trwytholchi i'r amgylchedd—rhywbeth rwy'n gwybod sy'n peri pryder i lawer o Aelodau. Bydd casgliadau gweithle cyson hefyd yn ategu ymdrechion awdurdodau lleol i gynyddu ailgylchu offer trydanol gwastraff cartref.

Y gofyniad SWEEE ychwanegol hwn yw cam diweddaraf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, sydd wedi'u modelu i ddarparu budd net cronnol o £194.6 miliwn o werth presennol net dros 10 mlynedd o'r pecyn cyfunol o fesurau. Mae hynny'n arwyddocaol. Felly, gyda Chymru eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu, drwy weithredu cam nesaf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, rydym yn cymryd cam sylweddol arall. Bydd hyn yn golygu bod hyd yn oed mwy o ddeunydd o ansawdd uchel yn cael ei ddal a'i ailgylchu, fel y gall fynd yn ôl i'r economi a chael ei ddefnyddio gan weithgynhyrchwyr Cymru, gan ddatgloi manteision yr economi gylchol a'r pontio i sero net ar gyfer Cymru.

Felly, wrth gyflwyno'r diwygiadau hyn, Dirprwy Lywydd, rydym yn cyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth. Rydym yn dangos sut y gall gweithredu hanfodol i ddatgarboneiddio ac ymateb i'r hinsawdd a'r argyfwng natur hefyd adeiladu economi gryfach, wyrddach, yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd ac ar ddiwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau eraill.

15:55

Does dim siaradwyr eraill, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi eisiau dweud unrhyw beth arall?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 10, Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026, ac eitem 11, Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad.

10. & 11. Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026

Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i wneud y cynigion. Rebecca Evans.

Cynnig NDM9181 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio)​ 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynnig NDM9182 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu​ Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026​ yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Mae'n bleser gennyf gyflwyno Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026 i'w cymeradwyo.

Mae'r rheoliadau hyn yn ffurfio pecyn o ddeddfwriaeth sy'n cwblhau gweithredu Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, a gyflwynodd broses gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru ar 15 Rhagfyr y llynedd. Mae'r broses newydd eisoes wedi derbyn adborth ffafriol gan ddatblygwyr, ac mae tîm Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru eisoes wedi bod yn ymateb i geisiadau ac yn darparu cyngor gwerthfawr cyn ymgeisio, sy'n wirioneddol gadarnhaol. Mae rheoliadau eraill sy'n rhan o'r pecyn hwn ac sy'n ddarostyngedig i weithdrefn ddiddymu'r Senedd yn nodi materion gweithdrefnol ar gyfer newid a dirymu Gorchmynion cydsyniad seilwaith ac ar gyfer sut mae gwallau mewn dogfennau penderfyniadau yn cael eu cywiro.

Felly, gan droi at y rheoliadau sy'n destun y ddadl heddiw. Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn diwygio'r rheoliadau ffioedd cyfredol ar gyfer Gorchmynion cydsyniad seilwaith i ddarparu'r fframwaith ar gyfer codi ffioedd sy'n gysylltiedig â'r ceisiadau neu geisiadau arfaethedig ar gyfer newid a dirymu Gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae'r rheoliadau'n sicrhau y gellir cyflawni adennill costau llawn ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, gyda datblygwyr yn talu am brosesu a phenderfynu ar y ceisiadau hyn.

Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026 yn nodi sut y mae'n rhaid gwneud hawliadau am ddigollediad, yn ychwanegol at isafswm y digollediad am ddibrisiant. Dim ond mewn amgylchiadau lle mae Gweinidogion Cymru yn newid neu'n dirymu Gorchymyn cydsyniad seilwaith heb wneud cais y gellir dwyn ymlaen hawliadau am ddigollediad y mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â nhw. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau sy'n destun y ddadl hon.

16:00

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y ddwy set o reoliadau drafft yr wythnos diwethaf. Mae adroddiad y pwyllgor ar Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) drafft 2026 yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd yng nghysylltiedig â cheisiadau o ran Gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae'r ffioedd hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi mai symiau wedi'u cyhoeddi ar wefan wedi'i chynnal gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru fydd y ffioedd, yn hytrach na chael eu pennu ar wyneb y rheoliadau. Mae'r pŵer galluogi yn caniatáu hyn. Fodd bynnag, mae'n golygu y gall Llywodraeth Cymru newid y swm penodol heb graffu pellach gan y Senedd. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026 yn cynnwys un pwynt adrodd technegol ac un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn nodi nad yw'r termau 'tir' a 'mwynau' wedi'u diffinio yn y rheoliadau hyn fel y maen nhw wedi'u diffinio yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024, ac mae'n nodi nad yw diffiniadau mewn rhiant-Ddeddf o reidrwydd yn berthnasol yn awtomatig i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan y Ddeddf honno. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt adrodd, ond mae'n nodi ei bod yn credu bod ystyr y termau yn ddigon clir.

Yn olaf, mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd y rheoliadau yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am y sylwadau yna ac am waith y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yr oeddwn i'n falch o roi ymateb iddo. Mae'r pecyn o reoliadau nawr yn cwblhau gweithredu'r gyfundrefn cydsynio seilwaith. Mae'n cynnig proses fodern, symlach ac wedi'i chyflymu ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Senedd gymeradwyo Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026, sy'n cefnogi'r materion ôl-ganiatâd ar gyfer y broses cydsynio seilwaith newydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026

Eitem 12 yw'r Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9183 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 16:03:39
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig.

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr adroddiad? Rwy'n ymrwymo i gywiro'r gwall technegol yn y drafftio ar wneud, yn amodol ar y Siambr yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, Mike.

Cafodd y rheoliadau ger eich bron eu gwneud o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau ystod cosb ar gyfer troseddau segura llonydd. Mae trosedd segura llonydd yn fethiant i ddiffodd injan cerbyd pan fydd yn segur er mwyn atal allyriadau egsôst.

Mae segura llonydd yn bryder iechyd y cyhoedd. Gall gyfrannu at lygredd aer lleol a gall gynyddu cysylltiad ag allyriadau niweidiol. Mae hyn o'r pryder mwyaf lle mae grwpiau agored i niwed yn dod i gysylltiad â nhw, gan gynnwys plant, pobl hŷn, a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Mae'r effeithiau posibl ar gyfer y grwpiau hyn yn arbennig o acíwt: cyfyngu ar ddatblygiad yr ysgyfaint a heintiau anadlol, asthma, cyfnod canolbwyntio byrrach a gweithrediad gwybyddol wedi lleihau, clefyd y galon, diabetes, dementia—ac mae'r rhestr yn parhau.

Mae angen i ni ystyried pob ysgogiad posibl sydd gennym ni i leihau segura llonydd a'r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ef. Mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr holl offer sydd eu hangen arnyn nhw i weithredu. Mae Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol orfodi troseddau segura llonydd. Fodd bynnag, cafodd swm y gosb gychwynnol, sef £20, ei osod fwy nag 20 mlynedd yn ôl, ac mae'n gwneud gorfodi yn ddewis drud i'r awdurdodau. Mae'n bosibl dadlau hefyd, ei bod yn rhy isel i gyflwyno ataliad cryf i yrwyr. 

Bydd y rheoliadau arfaethedig yn sefydlu ystod cosbau newydd o rhwng £75 a £150. Pan fydd derbynnydd hysbysiad cosb benodedig yn methu ag ymateb, bydd hyn yn cynyddu 50 y cant. Dim ond pan fydd gyrrwr yn gwrthod cydymffurfio â chais i ddiffodd ei injan y caiff trosedd ei chyflawni. Pan fydd gorfodi yn cael ei ystyried yn angenrheidiol, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar leoliadau sy'n peri'r pryder mwyaf i'r cyhoedd, er enghraifft ger ysgolion, meithrinfeydd a chanolfannau gofal iechyd.

Bydd gan awdurdodau lleol bwerau yn ôl disgresiwn i ddewis a gosod swm cosb o fewn yr ystod sydd wedi'i nodi. Gall cosbau gael eu haddasu'n benodol ar gyfer amgylchiadau lleol, gan ganiatáu i'r awdurdodau lleol hynny gyhoeddi cosbau uwch sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau lle mae'r pryder mwyaf o ran cysylltiad y cyhoedd. Bydd cyfyngiad yn cael ei osod ar ddefnyddio unrhyw incwm dros ben ar ôl costau. Rhaid cyfeirio hyn at fesurau i leihau allyriadau cerbydau ymhellach ac i wella ansawdd aer yn ehangach, fel ei fod yn cael ei dargedu'n ofalus.

Rwy'n argymell y cynnig hwn i'r Siambr.

16:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, sy'n tynnu sylw at gyfeiriad anghywir at is-baragraff yn y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt adrodd ac, fel y mae'r Gweinidog newydd ddweud, byddan nhw'n ceisio cywiro'r gwall cyn gwneud y rheoliadau.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, oherwydd eu bod yn cynrychioli mesur gwrth-fodurwyr arall gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ar adeg pan fo teuluoedd eisoes yn wynebu costau cynyddol, mae cynyddu cosbau sefydlog am segura llonydd o £20 i gymaint â £150 yn anfon neges glir iawn bod gyrwyr yn darged hawdd i'r Llywodraeth hon. Pe bai'r cynnydd hwn yn unol â chwyddiant, sy'n ymddangos yn llawer mwy synhwyrol i mi, byddai hynny wedi dod â'r ffi gosb i £36. Ac roedd hynny'n ffi gosb a aeth trwy graffu ac ystyriaeth lawn pan gafodd y ddeddfwriaeth hon ei llunio.

I lawer o bobl ledled Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig a lled-wledig, nid yw gyrru yn foethusrwydd; mae'n hanfodol ar gyfer mynd i'r gwaith, mynd â phlant i'r ysgol, gofalu am berthnasau ac ar gyfer bywyd bob dydd. Yn hytrach na chefnogi modurwyr gyda dewisiadau eraill ymarferol, mae'r Llywodraeth hon yn rhy aml yn dewis mesurau cosbi sy'n gwneud gyrru'n anoddach ac yn ddrytach. Mae'r newidiadau hyn y mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi'u cyflwyno heddiw yn rhoi'r pŵer i gynghorau osod dirwyon sylweddol uwch. Gallai symud o £20 i £150 greu anghysondeb ledled Cymru a chodi pryderon dilys bod hyn yn ymwneud mwy â chynhyrchu refeniw na gwella amgylcheddol.

Dylai ymdrin ag ansawdd aer fod yn ymwneud ag addysg, seilwaith a dewisiadau realistig eraill, nid gor-gosbi pobl sy'n dibynnu ar eu cerbydau, yn aml oherwydd nad oes dewis trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw yn bodoli. Dro ar ôl tro, rydyn ni'n gweld polisïau sy'n gwneud gyrru'n ddrytach, wedi'i gyfyngu arno'n fwy ac yn anoddach. Mae hyn yn rhan o batrwm ehangach yr ydyn ni'n ei weld gan y Llywodraeth hon sy'n teimlo wedi'i datgysylltu â'r gwirionedd sy'n wynebu pobl sy'n gweithio. Am y rhesymau hynny, ac oherwydd ein bod ni'n credu y dylai polisïau gefnogi modurwyr yn hytrach na'u neilltuo, rydyn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn. Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg nid oes gennych chi unrhyw blant yn eich etholaeth i'w diogelu. Rydw i eisoes wedi rhoi cynnig ar y broses addysgu. Bob tro rwy'n gweld pobl yn segura'n llonydd, rwy'n gofyn yn gwrtais iddyn nhw ddiffodd yr injan ac rwy'n amlygu ei fod yn erbyn y gyfraith. Mewn hanner yr achosion, maen nhw'n gwneud hynny'n gwrtais, ac yn hanner arall yr achosion, hyd yn oed pan fo nhw wedi parcio y tu allan i ysgol gynradd a'u plant eu hunain yn amsugno'r nwyon gwenwynig hyn, maen nhw'n mynd yn ddifrïol ac yn gwrthod ei wneud. Dim ond agwedd yw hi, rywsut, oherwydd eu bod yn fodurwyr, bod ganddyn nhw'r hawl i lygru pawb arall a rhoi dim sylw o gwbl i ysgyfaint plant neu bobl hŷn. Felly, £150 yw'r isafswm, yn fy marn i, y dylai gael ei dalu lle mae rhywun yn gwrthod diffodd injan ac nad yw'n deall bod hwn yn fater iechyd y cyhoedd mawr.

16:10

Byddwn ni’n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw, oherwydd rydyn ni'n credu bod y cynnydd arfaethedig mewn dirwyon yn ormodol, yn anghyfiawn, ac yn rhan o blatfform ehangach o bolisïau gan Lywodraeth Plaid Lafur Cymru, wedi'i chefnogi fel arfer gan Blaid Cymru, sy'n targedu modurwyr yn anghyfiawn. Mae'r cynnydd yn y gosb heb gyfiawnhad; mae'n gynnydd o dros 200 y cant. Nid wyf i yn erbyn y posibilrwydd o ddirwyo pobl am segura llonydd, ond mae'n rhaid i chi hefyd ddeall y gallai pobl fod yn segura'n llonydd mewn car am reswm—am resymau iechyd, efallai y bydd rhai pobl eisiau diniwlio ffenesti eu ceir. Efallai y bydd rhai pobl eraill yn eistedd yn eu ceir fel gyrwyr dosbarthu; nid ydyn nhw dim ond yn gadael cerbyd i redeg.

Rwy'n ofni mai'r hyn yr ydyn ni wedi'i weld unwaith eto—ac nid ydyn nhw'n ei hoffi—yw agenda gwrth-fodurwyr sy'n cael ei gwthio gan bobl sy'n dueddol o fyw yng nghanol y ddinas, nad ydyn nhw'n byw y tu allan i Gaerdydd neu Abertawe neu ddinasoedd mawr eraill, nad ydyn nhw'n hoffi pobl yn gyrru ceir. [Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y gallwch chi wneud ymyriad ar y rhain, Jenny—byddwn i fel arall. Mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn wrth-fodurwyr o'r cychwyn cyntaf. Byddwn ni'n pleidleisio yn ei erbyn, oherwydd rwy'n credu ac rydyn ni'n credu bod y cynnydd hwn heb gyfiawnhad ac nad oes ei angen arnon ni ar hyn o bryd. Unwaith eto, mae'n ddirwy ar bobl sy'n gweithio, sy'n talu'u trethi, sy'n codi'n gynnar ac yn mynd i'r gwaith.

Dim ond er eglurhad, yn y mathau hyn o ddadleuon gallech chi fod wedi cymryd ymyriad.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb. 

Member
Huw Irranca-Davies 16:12:09
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i chi i gyd am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. 

Yn gyntaf oll, o ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, byddwn ni'n cywiro'r gwall technegol hwnnw yn amodol ar y rheoliadau sy'n cael eu pasio y prynhawn yma.

O ran Sam, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n wirioneddol siomedig. Roeddwn i'n disgwyl o'r rhefru a gawson ni gan y cyn-Aelod Ceidwadol Reform yno y byddai'n gwrthwynebu'r mesur hwn. Nid oeddwn i'n disgwyl hynny gan y Ceidwadwyr, oherwydd roeddwn i'n credu eu bod wir yn pryderu am iechyd plant, iechyd poblogaethau agored i niwed, ac eto maen nhw wedi gosod hyn fel mesur gwrth-fodurwyr. Nid yw'n wrth-fodurwyr—mae o blaid iechyd da, mae o blaid plant, mae o blaid poblogaethau agored i niwed. Gadewch i mi droi hyn ar ei ben i chi. Os ydych chi'n pleidleisio yn erbyn hyn y prynhawn yma, mae'r Ceidwadwyr yn wrth-iechyd plant, yn wrth-ddioddefwyr asthma, yn wrth-iechyd poblogaethau agored i niwed. Dyna'r hyn yr ydych chi'n pleidleisio arno. 

Gadewch i mi ei wneud yn glir, Dirprwy Lywydd: mae tystiolaeth yn glir iawn bod llygredd aer sy'n gysylltiedig â thraffig wedi'i gysylltu â nifer o effeithiau ar iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys, gyda llaw—[Torri ar draws.] Fe wnaf i mewn eiliad. Mae'r rhain yn cynnwys gweithrediad yr ysgyfaint wedi'i leihau ac asthma, a derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer trawiadau ar y galon. Fe wnaf i gymryd ymyriad.

Diolch yn fawr iawn. O ran eich pwynt olaf, sut y bydd y mesurau hyn—fel yr ydych chi newydd eu nodi ac wedi treulio tipyn o amser yn eu hamlinellu i'r Siambr hon—yn effeithio ar bobl fel fi, sy'n cael imiwnotherapi biolegol ar gyfer clefydau anadlol difrifol iawn a'r rhai ledled Cymru sy'n dioddef o salwch diwydiannol, ac mae'r etifeddiaeth honno'n parhau hyd heddiw?

Rhianon, diolch yn fawr am yr ymyriad yna, oherwydd bydd mantais i lawer o bobl yn y boblogaeth y mae eu hysgyfaint a gweithrediad eu hysgyfaint yn cael eu niweidio gan aer o ansawdd gwael, os mai ewyllys y Senedd y prynhawn yma yw i basio'r rheoliadau hyn. Oherwydd mewn darn o reoliadau wedi'u llunio'n ofalus iawn, bydd awdurdodau lleol yn gallu arfer eu disgresiwn i dargedu'r ardaloedd hynny lle mae'r effaith fwyaf ar ansawdd aer, fel ysgolion a chanolfannau meddygol, yr ardaloedd hynny lle maen nhw'n tracio'r aer o ansawdd gwael.

Sam, byddwn i'n dweud wrthych chi, a fyddech cystal ag ystyried eto. Nid wyf i'n disgwyl i Reform ystyried eto, ond dylai'r Ceidwadwyr, sydd wedi, dros y blynyddoedd, dangos rhywfaint o gefnogaeth i'r mesurau hyn, ystyried eto. Diystyrwch y ffaith ein bod ni'n dod at etholiad ar hyn o bryd a'ch bod chi eisiau creu agenda gwrth-fodurwyr. Ystyriwch iechyd pobl ifanc. Ystyriwch iechyd y boblogaeth. Mae llygredd aer, Dirprwy Lywydd, yn niweidio pob un ohonon ni, ond mae'n effeithio'n anghymesur ar y rhai yn ein plith sydd fwyaf agored i niwed. Plant yw'r rheini. Rydyn ni wedi gweld yr effeithiau—yr effaith wedi'i mesur yn glinigol o ran cyfyngu ar dwf yr ysgyfaint, systemau imiwnedd gwan, o ran cyfyngu ar ddatblygiad yr ymennydd. Dyna'r hyn yr ydyn ni'n sôn amdano. 

Dangoswyd yn glir bod llygredd aer yn cyfrannu at ddirywiad gallu meddyliol a dementia pobl hŷn, y byddwn i wedi tybio y byddai'r Blaid Geidwadol yn poeni amdano. Felly, mae'n amlwg i mi, Dirprwy Lywydd, fod yr achos dros gymryd camau ar segura llonydd er budd iechyd y cyhoedd yn amlwg yn gryf. Bydd y rheoliadau'n helpu i sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr holl amrywiaeth o ysgogiadau i ymdrin â'r problemau hyn, ac rwy'n disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn cymryd camau gorfodi mewn ffordd gymesur. Hoffwn i'r Aelodau gyferbyn yn Reform a'r Ceidwadwyr fod wedi darllen manylion yr hyn yr ydyn ni'n ei gynnig y prynhawn yma. Dylai'r gorfodi hefyd fod yn rhan o ymgyrch ehangach i ymdrin â'r risgiau i iechyd y cyhoedd lle mae hyn yn fwyaf acíwt, gan gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth. Felly, rydyn ni'n cynnig yma bod canllawiau hefyd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â hyn i gefnogi awdurdodau lleol i orfodi troseddau segura llonydd o dan y rheoliadau arfaethedig.

Fodd bynnag, bydd hyn yn fater i'r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs. Ond mae'n hanfodol, mae'n hanfodol, Dirprwy Lywydd, ein bod ni’n cymryd camau i wneud gyrwyr yn ymwybodol o niwed segura llonydd, yn gyntaf oll. Dylai ymddygiad mwy cyfrifol gael ei annog, ond mae angen yr ysgogiad hwnnw o gosbau i ymdrin yn gymesur â segura llonydd parhaus lle mae ymyriadau eraill wedi methu â mynd i'r afael â'r broblem mewn mannau problemus.

16:15

Mae'n ddrwg gen i.

Un pwynt olaf: mae hyn yn niwtral o ran cost. James, darllenwch hi. Mae'n niwtral o ran cost. 

Rwy'n annog Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Cefnogwch y rheoliadau hyn. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27

Eitem 13 yw'r ddadl ar setliad yr heddlu 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM9173 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2026-27 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw rwy'n cyflwyno i'r Senedd i'w gymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd pedwar comisiynydd heddlu a throseddu Cymru ar gyfer 2026-27.

Mae cyllid craidd yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a chyfrifoldebau gweithredol wedi'u datganoli, mae'r elfen ariannu a'r amlen gyffredinol yn cael eu pennu gan benderfyniad y Swyddfa Gartref. Rydyn ni wedi cynnal y dull sefydledig o gyfrifo a dosbarthu cyfraniad Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Fel y cafodd ei nodi yn fy nghyhoeddiad ar 30 Ionawr, cyfanswm y cymorth refeniw a gafodd ei neilltuo ar gyfer plismona yng Nghymru ar gyfer 2026-27 yw £512.3 miliwn, ac mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yn parhau i fod yn ddigyfnewid ers y llynedd, sef £113.5 miliwn, a heddiw yr wyf yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r cyllid hwn.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda dull gwaelodol. Mae hyn yn golygu ar gyfer 2026-27, bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn derbyn cynnydd o 4.022 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2025-26, cyn addasiad ar gyfer cyllid canghennau arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd y lefel lawr hwn.

Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sydd wedi'i osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.

Mae'r setliad hwn yn adlewyrchu, unwaith eto, y gost i Gymru o ddiffyg datganoli ym maes cyfiawnder a phlismona—nid cost ariannol yn unig, er bod hwnna'n real ac yn gynyddol, ond cost ddemocrataidd, a chost o fod yn ddarostyngedig i drefn gyfansoddiadol nad yw'n ein hadnabod, nad yw'n ein clywed ac nad yw'n ein gwasanaethu. Ystyriwch y ffeithiau: mae pob un o'r pedair llu heddlu yng Nghymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol yn elfen y presept treth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf o rhwng 6.95 y cant a 7.47 y cant. Nid damwain mo hyn, mae'n rhan o batrwm strwythurol lle mae cyfran gynyddol o gost plismona yn cael ei symud oddi wrth y grant canolog ac ar ysgwyddau trethdalwyr yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae'r baich yn trymhau. Bob blwyddyn, mae'n llais ni yn wannach. Ac mae'r llais yn wannach am un rheswm syml: nid oes gan Senedd Cymru unrhyw reolaeth dros y polisïau plismona sy'n rheoli yn ein cymunedau. Rydym yn talu mwy, ond chawn ni ddim mo'n clywed.

Dim trethiant heb gynrychiolaeth—dyna'r egwyddor a sefydlodd y democratiaethau modern. Ond yma yng Nghymru, mae'r egwyddor honno'n cael ei hanwybyddu'n llwyr, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru'n neilltuo dros £113 miliwn o'i chyllideb ei hun i blismona heb unrhyw gyfrifoldeb polisi ffurfiol—dim rheolaeth ond baich cynyddol o'r costau. Dyma yn union yw'r gwaethaf o'r ddau fyd. 

A gadewch inni fod yn eglur am y cefndir. Nid dadl gyfansoddiadol haniaethol yw hon, mae'n ymwneud â phobl. Mae gweithlu'r heddlu yn brwydro o dan bwysau gorweithio a morâl isel, fel y dangoswyd yn glir gan ganlyniadau diweddaraf arolwg cyflog a morâl Ffederasiwn yr Heddlu, lle nododd dros 60 y cant fod y llwyth gwaith yn ormodol. Mae dros draean o swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr bellach â llai na phum mlynedd o brofiad. System dan straen yw hon a Chymru heb y grym i'w diwygio.

Ac mae agwedd benodol Gymreig i'r broblem hon na ellir ei hanwybyddu. Ar hyn o bryd, nid oes opsiwn Cymraeg ar gyfer proses asesu ar-lein genedlaethol y Coleg Plismona, y drws ffurfiol i'r proffesiwn. Mewn gwlad ddwyieithog, mae hynny'n annerbyniol ac mae'n arwydd o rywbeth dyfnach—system a gynlluniwyd heb Gymru mewn golwg.

Nawr, gyda chyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio'r heddlu, roedd cyfle, cyfle go iawn, i gywiro'r diffyg hwn, cyfle i ddylunio system blismona sy'n cyd-fynd ag anghenion ein poblogaeth, ein cymunedau a'n hiaith. Ond pan ofynnwyd i'r Ysgrifennydd Cartref yn uniongyrchol yn Nhŷ'r Cyffredin a fyddai'n ystyried datganoli plismona i Gymru, yr ateb disymwth oedd 'na'. Dim dadl, dim eglurhad, dim parch—rhagfarnu'r broses ymgynghori cyn iddi hyd yn oed ddechrau.

Ac nid damwain yw hynny chwaith. Nid yw Llywodraeth Lafur San Steffan yn gwrthod y cais ar sail tystiolaeth, oherwydd nid oes ganddynt dystiolaeth. Nid ydynt yn cynnig gwrthddadl gydlynol, gall, oherwydd nid oes ganddynt un. Yr hyn sydd ganddynt yw arfer, yr arfer o drin Cymru'n wahanol i'r gwledydd datganoledig eraill, yr arfer o gymryd ein cyfraniad ariannol heb gynnig cyfrifoldeb mewn cyfnewid, yr arfer o ddweud 'na' a disgwyl inni dderbyn hynny yn ddof. 

Dirprwy Lywydd, ni allwn gefnogi setliad sy'n cadarnhau strwythur annemocrataidd, ond ni fyddwn yn pleidleisio yn erbyn chwaith, gan ein bod ni'n cydnabod bod arian y setliad yn hanfodol i'n lluoedd heddlu—lluoedd sy'n gwneud eu gorau glas o dan amgylchiadau anodd. Byddwn felly yn ymatal, ond rwy'n dweud hyn yn eglur: nid yw ymatal yn golygu derbyn y sefyllfa. Mae'n golygu cofnodi nad yw'r drefn hon yn ddigonol ac na fydd Cymru yn ei goddef am byth.

16:20

Er y bydd grŵp Ceidwadol Cymru yn cefnogi setliad yr heddlu 2026-27, hoffwn i dynnu sylw at gwpl o bryderon. Unwaith eto, mae disgwyl i bobl Cymru gyfrannu dwy i dair gwaith cyfradd chwyddiant yn fwy ym mhraesept yr heddlu ar eu bil y dreth gyngor eleni, fel y nododd Adam yn gynharach, a beth fyddan nhw'n ei gael yn gyfnewid amdano? Nid oes gennym ni heddlu a chymunedau yn cyfarfod gyda'i gilydd yn y mwyafrif o gymunedau, felly mae'r cysylltiad rhwng y cymunedau lleol a'r heddlu wedi'i dorri. 

Dirprwy Lywydd, cefais i'r pleser o gwrdd â phrif gwnstabl a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Gwent yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethon nhw amlinellu'r gwaith ardderchog yr oedden nhw'n ei wneud ar blismona yn y gymdogaeth ac ymdrin â thrais domestig. Fodd bynnag, derbyniodd y ddau fod angen iddyn nhw gyfleu eu gwaith yn well i'w poblogaeth leol. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet sicrhau bod cyfarfodydd yr Heddlu a Chymunedau Gyda'n Gilydd yn cael eu hadfer a galw ar brif gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu i gyfleu'r gwaith y maen nhw'n yn ei wneud yn well, diolch i'r cyllid sydd wedi'i ddarparu gan y cyhoedd yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:25

Ar un lefel, dim ond dadl dechnegol ar fater eithaf technegol yw hon. Ar lefel arall, rwy'n credu mai dyma'r ddadl leiaf boddhaol yr ydyn ni wedi'i chael, yn ein calendr blynyddol, yn y lle hwn. Mae'r Llywodraeth yn gofyn i ni—ac nid oes gan y Llywodraeth, rwy'n derbyn, unrhyw ddewis yn y mater hwn—dderbyn y cynigion ar setliad yr heddlu, ond nid ydyn ni'n gallu trafod y setliad hwnnw, nid ydyn ni'n gallu gofyn cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet, nid ydyn ni'n gallu, hyd yn oed, ddylanwadu ar yr hyn sydd ar y papur trefn. Nid oes gennym ni unrhyw allu o gwbl i gael y ddadl sydd ei hangen arnon ni am ddyfodol plismona yng Nghymru. Gwn i fod yna lawer o Aelodau yma sy'n cynrychioli'n prifddinas sy'n credu y dylai Heddlu De Cymru gael cyllid ychwanegol oherwydd y cyfrifoldebau o blismona prifddinas. Rwy'n gwybod y bydd eraill yma sydd wedi dod â llawer o faterion i'r Siambr hon am heriau plismona ardaloedd gwledig. Roeddwn i'n siarad â Heddlu Gwent yn ystod yr wythnos ddiwethaf am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nglynebwy a'n hanghenion am ragor o swyddogion heddlu ym Mlaenau Gwent.

Ond nid oes unrhyw un o'r materion hyn yn rhan o'n dadl heddiw. Mae gofyn i ni bleidleisio o blaid cynnig sy'n gynnig 'hwn neu ddim byd'. Mae hynny'n annerbyniol. A'r hyn yr ydyn ni'n ei weld wrth ddarllen y ddogfen hon yw, wrth gwrs, fod plismona yng Nghymru erbyn hyn yn cael ei ariannu i raddau helaeth gan Gymru. Mae'r dyddiau pan oedd grant y Swyddfa Gartref, a oedd yn darparu'r rhan fwyaf o blismona yng Nghymru, yn y gorffennol. Rydyn ni'n ariannu'r heddlu ac eto nid ydyn ni'n gallu penderfynu cyfeiriad yr heddlu, nid ydyn ni'n gallu cael dadl am ba wedd yr ydyn ni'n dymuno ei chael ar blismona yng Nghymru, ac mae hynny'n annerbyniol. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y Dirprwy Brif Weinidog yn dadlau'r achos dros ddatganoli plismona mor gryf ddoe yn y pwyllgor. Roedd e'n gywir ddoe, ac roedd y Prif Weinidog yn gywir pan ddadleuodd hi'r achos hwn o'r blaen, ac roedd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn gywir pan ddadleuodd hi'r achos dros nifer o flynyddoedd. Ond y gwir yw, nad ydyn ni wedi gweld unrhyw symudiad ar ddatganoli plismona. Ac er ein bod ni'n clywed o bryd i'w gilydd gan Weinidogion y DU eu bod yn barod i drafod eu penderfyniadau gyda'r Senedd hon, yr hyn rwy'n credu sydd ei angen ar y Senedd hon yw'r pwerau i benderfynu ar y penderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud i sicrhau bod gennym ni heddlu cryf ac effeithiol ar gyfer y wlad gyfan hon.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, yn amlwg fe wnaf i bleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gobeithio y bydd yr Aelodau sy'n eistedd yn y Siambr hon yn y dyfodol, yn gallu cael dadl lawer mwy boddhaol am ddyfodol plismona a sut yr ydyn ni'n ariannu plismona yn y dyfodol.

Ers y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Cartref ar 26 Ionawr ynglŷn â diwygiadau i blismona, prin fod diwrnod Cyfarfod Llawn pan nad yw plismona wedi'i grybwyll, ac mae hynny'n dangos cryfder teimlad y lle hwn o ran plismona.

Dyna pam, fel y soniodd Alun Davies eisoes, mae'r setliad hwn mor siomedig, ac mae'r diffyg craffu o ran y setliad mor siomedig. Mae cydnabyddiaeth, wrth gwrs, nad yw'r pot o arian yn ddiddiwedd, ond nid yw'n deg bod yn rhaid i blismona Cymru geisio ei gyllid mewn ffordd nad oes rhaid i gymheiriaid yn Lloegr, lluoedd Lloegr, ei wneud, fel y cafodd ei egluro pan roddodd prif gwnstabliaid Cymru dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cartref seneddol. Gadewch i ni fod yn glir, mae'r setliad hwn yn doriad cyllid mewn termau real. Mae'n arian gwastad i raddau helaeth ac nid yw'n ystyried chwyddiant, dyfarniadau cyflog na gofynion sy'n codi ac yn newid. Mae'n rhaid i'r lluoedd amsugno pwysau costau trwy arbedion, llai o gapasiti neu dreth gyngor uwch. Mae'r holl ddewisiadau hyn yn effeithio ar ein cymunedau, p'un ai colli swyddi, oedi yn ymateb yr heddlu neu fil y dreth gyngor uwch. Mae hyn yn effeithio ar ein hetholwyr.

Mae'r setliad yn cael ei wneud gan ddefnyddio fformiwla hanesyddol a data mewn cymunedau lle mae'r boblogaeth wedi newid yn ddramatig. 'Does ond angen i chi edrych drwy ffenestri'r adeilad hwn i weld faint mae Bae Caerdydd wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd. Ond mae'r grant cymorth refeniw yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio hen fformiwla: a-b(cxd). Byddwch chi'n sylweddoli pa mor hurt yw'r fformiwla honno pan fyddwch chi'n dysgu mai 'a' yw'r asesiad gwariant safonol, sy'n seiliedig ar ddata sydd ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol dros gymunedau a llywodraeth leol ar 1 Hydref 2012, data sy'n 14 mlwydd oed. Nawr,  gwerth 'b', felly, mae 'b' yn y fformiwla ariannu, yn eithrio plant a phobl ifanc yn llwyr, gan gyfrif preswylwyr dros 18 oed yn unig. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Ni allaf i ond dod i'r casgliad nad yw'r fformiwla yn addas i'r diben ac felly'n gofyn pam ein bod ni'n dal i ddefnyddio'r fformiwla hon.

Ar ben hynny, nid yw'r setliad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn caniatáu i luoedd gynllunio. Pa fusnes arall fyddai'n gweithredu fel hyn? Mae ein heddluoedd yn mynd o un flwyddyn i'r llall. Mae'r model yn bytholi tyfu treth a chyllid lleol trwy dybio y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn llenwi bylchau trwy dreth gyngor uwch a chronfeydd wrth gefn. Mae hyn yn anfantais i ardaloedd tlotach, yn cosbi ardaloedd mwy cyfoethog yn ariannol, wrth gyflymu treulio cronfeydd wrth gefn y dreth gyngor a pheidio ag ymdrin â phwysau cyfalaf a seilwaith.

Eto, yn sail i hyn oll, mae yna hyd yn oed rhai materion mwy sylfaenol byth. Y gwasanaeth dewis olaf yw plismona o hyd, yn dal popeth pan fydd gwasanaethau cyhoeddus wedi cyrraedd pen eu gallu, gan gamu i mewn i gefnogi'r rhai mewn argyfwng iechyd meddwl neu pan nad yw ambiwlans ar gael i fynychu. Ond nid oes ganddo unrhyw gefnogaeth ychwanegol ar gyfer y rôl estynedig a hanfodol hon.

Mae'r ardoll brentisiaethau y mae llawer o sôn amdani wedi dod o hyd i ateb i sicrhau bod lluoedd yn cael y rhan fwyaf o'r cyllid prentisiaeth trwy'r setliad gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na'i dynnu i lawr fel y mae lluoedd Lloegr yn ei wneud. Ond, heb ddealltwriaeth o'r data, mae'n anodd deall a yw hyn yn digwydd mewn gwirionedd, a yw'n mynd rhagddi. A wnewch chi roi, felly, Ysgrifennydd Cabinet, ddadansoddiad o faint o iawndal y mae pob llu yng Nghymru yn ei gael ar wahân yn lle'r ardoll brentisiaeth sy'n cael ei thalu ar gyfer 2026-27?

Mae gan Gymru gyfle i wneud yn well—ac rwy'n gobeithio y byddwn ni—i ddeall y cyllid sydd ei angen ar blismona yn seiliedig ar ddata cyfredol, nid ar ddata hanesyddol. Ysgrifennydd Cabinet, er mai dim ond ychydig wythnosau sydd gennym ni ar ôl o dymor y Senedd hon, a wnewch chi a'ch swyddogion ymrwymo i sicrhau bod data cyfredol ar gael i bawb er mwyn sicrhau bod plismona Cymru yn cael cyllid sydd wir yn adlewyrchu cymunedau Cymreig? Diolch yn fawr.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i bob un o'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw. Rwy'n cydnabod bod hyn yn erbyn cefndir galw cystadleuol a chostau cynyddol. Bydd y setliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â gwasanaethau, effeithlonrwydd a phraeseptau'r dreth gyngor.

Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, rydyn ni wedi cadw'r disgresiwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu benderfynu ar eu cynnydd treth gyngor eu hunain, ac mae gosod y praesept yn parhau i fod yn gyfrifoldeb craidd comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd yn dangos atebolrwydd i'w hetholwyr lleol. Mae pob un o'n comisiynwyr heddlu a throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau lleol ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2026-27, ac rwy'n gwybod eu bod yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w hwynebu.

Rydyn ni i gyd yn cydnabod y gwaith pwysig, ac rydyn ni wedi clywed gan bawb y prynhawn yma am y gwaith hwnnw, y mae'r heddlu yn ei wneud dros gymunedau ledled Cymru. Maen nhw'n rhan allweddol o'n gwasanaethau cyhoeddus integredig, gan weithio gyda'n byrddau iechyd, cynghorau lleol a phartneriaid eraill fel rhan o ddull cydweithredol o ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. A byddwn ni'n parhau, a wir yn parhau, i wneud yn glir ein cefnogaeth i ddatganoli plismona, fel y gallwn ni gyflawni yn erbyn anghenion a blaenoriaethau a gwerthoedd Cymru.

Dim ond pwynt ar ddiwygio'r cyllido. Rwy'n gwybod y bydd angen cyllid sy'n addas i'r diben, sy'n deg ac sy'n gwneud y mwyaf o'r gwerth y mae'r cyhoedd yn ei gael gan yr heddlu, ar system blismona ddiwygiedig. Felly, mae newidiadau i lywodraethu'r heddlu, uno lluoedd a chreu gwasanaeth heddlu cenedlaethol yn gofyn am ffordd newydd o ddyrannu cyllid rhwng lluoedd sy'n cyd-fynd â'r strwythurau newydd hyn. Felly, bydd y Swyddfa Gartref yn adolygu'r fformiwla unwaith y bydd gweithredu diwygio'r heddlu ar y gweill, fel bod y fformiwla newydd yn adlewyrchu strwythurau newydd yr heddlu. Ac yn y cyfamser, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio mewn partneriaeth â phlismona i archwilio sut y gall setliad cyllid yr heddlu gael ei gydweddu'n well â blaenoriaethau plismona'r Llywodraeth yn y tymor byr. Ond rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd, Dirprwy Lywydd.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

Eitem 14 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9185 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) Adrannau 1-3;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 4;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 5-6;

f) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 16:36:54
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Cynnig yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly—[Torri ar draws.]

Nid ydych chi'n gwrthwynebu eitem 14. Mae gennych chi—[Anghlywadwy.

Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Eitem 15 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i symud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9184 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) Adrannau 1-4;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 5-14;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 15-61;

f) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Symud. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Fe wnaf i ofyn os oes unrhyw Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch wrth fy mod i'n aros. [Torri ar draws.] Rydyn ni ar fin mynd i'r bleidlais. Os nad ydych chi wedi mewngofnodi, fe wnaf i aros nes eich bod chi wedi mewngofnodi, Janet.

Diolch. I fod yn glir—

—oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudwn yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

16. Cyfnod Pleidleisio

Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 4, Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 4. Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026.: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 6, Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

16:40

Eitem 6. Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026.: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Byddwn yn pleidleisio nawr ar eitem 8, Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026.: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026.: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 12, rheoliadau traffig ffyrdd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 12. Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026.: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais olaf ar hyn o bryd ar eitem 13, setliad yr heddlu 2026-27. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 13. Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27.: O blaid: 37, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu bum munud cyn inni ailymgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:43.

16:55

Ailymgynullodd y Senedd am 16:56, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17. Dadl: Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Rŷn ni nawr yn barod i ddechrau ar Gyfnod 3 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Yn gyntaf, yn unol â'r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid, rwyf wedi cytuno i gais eithriadol gan Aelod i gymryd rhan yn nhrafodion Cyfnod 3 heddiw o bell.

Grŵp 1: Diwygio termau allweddol (Gwelliannau 10, 11, 12, 13)

Grŵp 1 yw'r grŵp cyntaf o welliannau. Rhain yw'r grŵp sy'n ymwneud â diwygio termau allweddol. Gwelliant 10 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant. Jayne Bryant.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Jayne Bryant).

Diolch, Llywydd, a, cyn i mi siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i lunio'r Bil pwysig hwn. Mae partneriaid y tu allan i'r Senedd wedi rhoi eu hamser a'u harbenigedd, yn hael, i gefnogi ein nodau polisi eang, ond hefyd i'n herio ni i wneud y ddeddfwriaeth hon y gorau y gall fod.

Trwy waith pwyllgorau wrth gyflwyno gwelliannau a thrwy fenthyca ac arwain eu llais i randdeiliaid, mae cyd-Aelodau yn y Senedd hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r Bil hwn. Croesawaf yn arbennig y cyfraniadau manwl gan Siân Gwenllian, Joel James, Lee Waters a Rhys ab Owen. Mae pob un wedi dangos ymrwymiad cryf i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru drwy sefydlu cyfundrefn effeithiol ac ymarferol. Croesawaf y gwelliannau a gyflwynwyd gan Rhys, Siân a Joel yng Nghyfnod 3, a'r cyfle maen nhw'n eu rhoi ar gyfer trafodaeth bwysig heddiw. Rwy'n gwybod bod cytundeb eang ar egwyddorion y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ein bod yn rhannu'r un ymrwymiad i sicrhau bod y Bil hwn yn cwblhau camau olaf y broses graffu yn llwyddiannus. Mae'n rhaid i ni wneud hynny i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ddiogel yn eu cartrefi.

Felly, gadewch i mi symud yn awr at y gwelliannau yng ngrŵp 1. Y gwelliant cyntaf yn y grŵp hwn yw gwelliant 10, sy'n fân welliant technegol i adran 4, i egluro'r amgylchiadau lle mae rhan o strwythur yn rhan amhreswyl.

Mae gwelliant 11 mewn ymateb i argymhelliad 5 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â nodi ar wyneb y Bil beth fydd yn cyfrif fel llawr. Mae'n gwella adran 6 fel ei bod yn diffinio pryd mae llawr mesanîn i'w ystyried yn llawr mewn perthynas ag adeiladau rheoleiddiedig. Nid yw 'llawr' yn cael ei ddiffinio'n gyffredinol yn adran 6, felly bydd ganddo ei ystyr bob dydd. Fodd bynnag, mae lloriau mesanîn ychydig yn wahanol, ac rwy'n credu bod eglurder ynghylch pryd mae lloriau mesanîn i'w hystyried fel llawr yn synhwyrol. Yn y bôn, mae'r gwelliant yn darparu bod llawr mesanîn i'w ystyried yn llawr os yw ei arwynebedd llawr mewnol o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw islaw lefel y ddaear. Yna mae'n mynd ymlaen i nodi beth yw ystyr 'lefel y ddaear'. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd yn fras â'r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y diffiniad o 'adeiladau risg uwch' yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeiladau Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023. Bydd hyn yn helpu i gyflawni'r nod polisi, yn y mwyafrif helaeth o achosion, y bydd adeilad risg uwch yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu ei gylch bywyd yn adeilad rheoleiddiedig categori 1 yn ystod y cyfnod meddiannaeth.

Mae gwelliannau 12 a 13 yn ymwneud â gwelliant 11. Mae gwelliant 12 yn dileu'r pŵer i wneud rheoliadau i ddiffinio 'llawr' o adran 6, ac mae gwelliant 13 yn diwygio adran 17 i ddarparu y gellir defnyddio'r pŵer yn adran 17 i ddiwygio'r ystyr o 'llawr' sydd bellach wedi'i gynnwys yn adran 6. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir ei ddiwygio os bydd angen gwneud hynny. Byddai unrhyw reoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gymeradwyo uwch yn adran 75. Gyda'i gilydd, mae gwelliannau 11, 12 a 13 yn golygu y bydd i 'llawr' ei ystyr bob dydd, y darperir ar gyfer pryd mae llawr mesanîn i'w drin fel llawr, ac yn galluogi gwneud diwygiadau yn y dyfodol pe bai angen. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.

17:00

Nid oes gennyf siaradwyr ar gyfer y grŵp hwn. Rwy'n tybio nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymateb iddi hi ei hun.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 10 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 11, Ysgrifennydd y Cabinet.

A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol?

Cynigiwyd gwelliant 11 (Jayne Bryant).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 11 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Jayne Bryant).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 12 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Jayne Bryant).

A oes gwrthwynebiad i welliant 13? Nac oes. Mae gwelliant 13 wedi'i dderbyn hefyd.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Dyletswydd i hysbysu neu ymgynghori â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (Gwelliannau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 27, 28, 29, 39, 31, 33, 36)

Grŵp 2 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â dyletswydd i hysbysu neu ymgynghori â chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Gwelliant 14 yw'r prif welliant. Ysgrifennydd y Cabinet sy'n cynnig y prif welliant—Jayne Bryant.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Jayne Bryant).

Diolch, Llywydd. Yng Nghyfnod 2, gwnaed gwelliant sylweddol i'r diffiniad o awdurdod diogelwch adeiladau a nodir yn adran 113. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn, grŵp 2, yn cysylltu â'r gwelliant hwnnw o Gyfnod 2. Maen nhw'n dechnegol a chanlyniadol eu natur yn bennaf ac wedi cael eu cyflwyno i sicrhau bod y Bil cyfan yn ystyried yn briodol y newid a wnaed eisoes i adran 113.

Mae gwelliannau 14, 15, 16, 18, 19, 20 a 33 yn diwygio adrannau 17, 28, 32, 33, 34, 35 a 116, fel y bydd gofyn i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob cyngor sir a chynghorau bwrdeistref sirol cyn gwneud rheoliadau, nid dim ond y rhai sy'n awdurdodau diogelwch adeiladau. Mae gwelliant 31 yn cael yr un effaith, ond mewn perthynas ag ymgynghori ar ganllawiau o dan adran 111.

Mae gwelliannau 27, 28 a 29 yn diwygio adrannau 94 a 96 fel yr hysbysir y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru y mae unrhyw ran o'r adeilad wedi'i lleoli yn ei ardal pan gyflwynir hysbysiadau cydymffurfio neu wahardd gan awdurdodau gorfodi mewn perthynas ag adeilad. Mae gwelliant 39 yn diwygio Atodlen 2 fel bod gofynion hysbysu tebyg mewn perthynas â gorchmynion mesurau arbennig.

Yn olaf, mae gwelliant 36 yn diwygio adran 120 fel bod gan bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, nid dim ond y rhai sy'n awdurdodau diogelwch adeiladau, bŵer i rannu gwybodaeth berthnasol ag awdurdodau diogelwch adeiladau. Mae'r gwelliant hwn yn gysylltiedig â gwelliant 35, a fydd yn cael ei drafod yn ddiweddarach o dan grŵp 5.

Byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau hyn fel bod y newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud i adran 113 yng Nghyfnod 2 yn cael eu hadlewyrchu'n briodol trwy gydol y Bil.

Nid oes siaradwyr eraill yn y grŵp hwn. Nid yw hyn yn mynd i barhau. Nid yw'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau dweud unrhyw beth pellach. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 14 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Cyweirio (Gwelliannau 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 30, 62, 63)

Grŵp 3 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â chyweirio. Gwelliant 54 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i gyflwyno'r gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 54 (Rhys ab Owen).

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n hwyr glas diwygio cyfraith lesddaliad. Mae'n rhywbeth y bu fy nhad yn ymgyrchu drosto yng Nghaerdydd yn ôl yn y 1960au a'r 1970au, a heddiw, heno, yn y Senedd hon, fe welwn ni enghraifft arall o ba mor hanfodol yw diwygio cyfraith lesddaliad. Dros wyth mlynedd a hanner ar ôl y tân erchyll yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, a laddodd 72 o bobl, mae gennym ni drigolion yma yng Nghymru yn byw o hyd mewn adeiladau sydd â phroblemau diogelwch heb eu datrys. Mae cymaint o amser wedi mynd heibio tra bod gennym ni drigolion sy'n byw gyda swyddogion diogelwch ar batrôl parhaus, yn methu gwerthu, ac yn cael eu hatal rhag byw, mewn ofn am eu bywydau. Mae hyn yn fethiant mawr.

Mae rhai yn beirniadu Llywodraeth Cymru a'r Senedd am edrych dim pellach na'r M4 a bod ag obsesiwn â swigen Bae Caerdydd. Mae diogelwch adeiladau yn gwrthbrofi hyn yn llwyr. Mae pobl, teuluoedd, plant yn byw mewn blociau gyda diffygion diogelwch adeiladau yn llythrennol drws nesaf i'r adeilad hwn. Mae hyd yn oed rhai Aelodau etholedig rwy'n eu hadnabod yn byw mewn blociau gyda diffygion diogelwch yn yr adeiladau hynny, ond rydym ni wedi methu â chyflawni gwaith i gyweirio hynny mewn modd amserol.

Pobl oedd yn dioddef o ddiffygion diogelwch adeiladau oedd y bobl gyntaf i mi gyfarfod pan gefais fy ethol yn 2021. Ychydig yr oeddwn i'n meddwl y byddai'n cymryd holl dymor y Senedd i gyflawni'r hyn a ofynnwyd i mi yn fy nghyfarfod cyntaf gyda nhw. Ers hynny, rwyf wedi cael y fraint o gydweithio'n agos â'r trigolion a'r Cladiators Cymreig. Rydw i wedi ymweld â'u cartrefi, rydw i wedi treulio oriau ac oriau mewn cyfarfodydd gyda nhw. Rydym ni wedi wynebu gwrthwynebiad mawr i gynnwys gwaith i gyweirio adeiladau presennol yn y Bil hwn. Mae pobl sy'n dioddef o ddiffyg diogelwch adeiladau yn ddiolchgar iawn i'r Llywydd a'i swyddfa am y penderfyniad a wnaeth fod cyweirio o fewn cwmpas y Bil hwn, yn ôl ym mis Rhagfyr. Nid oedd erioed wedi gwneud unrhyw synnwyr i mi fod deddfwriaeth diogelwch adeiladau yn eithrio'r gwaith o gyweirio adeiladau presennol. Ers Cyfnod 2, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltiad helaeth rydw i wedi'i gael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet.

Rydym ni wedi cyrraedd adeg lle rydym ni wedi datblygu'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i gyda'n gilydd, er mwyn cyflawni cam mawr ymlaen i bawb sy'n dioddef o ddiffyg diogelwch adeiladau yng Nghymru. Os bydd y Senedd yn cefnogi fy ngwelliannau heno, o fewn naw mis i'r Bil hwn dderbyn Cydsyniad Brenhinol, bydd trigolion yn gallu gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio. Dyna a gyflwynodd adrannau 116 i 124 i ddioddefwyr yn Lloegr yn ôl yn 2022. Ac rydym ni'n gwybod gan ein cymdogion ar draws y ffin y bydd gorchmynion o'r fath yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Er enghraifft, mae un achos a gyflwynwyd yn Lloegr wedi gweld tribiwnlys yn gwneud gorchymyn cyfraniad cyweirio gan bennu swm o dros £13 miliwn.

Mae neges glir yn cael ei hanfon at ddatblygwyr yn Lloegr, a landlordiaid yn Lloegr, bod nodi a chyweirio diffygion diogelwch mewn adeiladau yn rhagweithiol yn hanfodol, gyda gwaith yn cael ei wneud yn brydlon. Mae'r rhai sy'n blaenoriaethu ystyriaethau ariannol dros bryderon diogelwch yn wynebu atebolrwydd sylweddol trwy orchmynion cyfraniadau cyweirio yn y tribiwnlysoedd. Diolch i ymdrech anhygoel y bobl hynny sydd wedi dioddef diffygion diogelwch mewn adeiladu yng Nghymru, mae datblygwyr a landlordiaid ar fin derbyn y neges gref iawn honno yma yng Nghymru hefyd. Wrth gwrs, byddai'n well pe bai'r ysgogiadau cyfreithiol hynny ar gael yng Nghymru yn ôl yn 2022, yr un pryd â Lloegr, ond rydym ni lle rydym ni.

Mae hefyd yn wir y bydd angen gwneud y rheoliadau sy'n ofynnol i alluogi gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio cyn gynted â phosibl. Ond diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gytuno i'm cais bod dyddiad cau, ac mae hynny wedi'i ddiwygio ymhellach o 12 mis i naw mis. Gallaf sicrhau dioddefwyr, gallaf sicrhau'r Cladiators Cymreig a'r holl Aelodau sy'n bresennol, bod mynediad at dribiwnlysoedd, a fydd yn rhad iawn ac yn effeithiol iawn, mynediad at gyfiawnder i ddioddefwyr, a diogelwch adeiladau, yn faterion y byddaf yn parhau i ymgyrchu drostyn nhw. Gofynnaf i'r Aelodau yma gefnogi fy ngwelliannau. Diolch yn fawr.

17:05

Prynhawn da. Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan fy nghefnogaeth i a'm plaid i egwyddorion craidd y Bil yma a fydd yn cryfhau'r system ac yn sicrhau diogelwch. Mae'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw yn mynd ymhellach na'r hyn sydd yn Lloegr; mae hi yn cynnwys rheolaeth newydd ar ddiogelwch adeiladau sy'n cwmpasu asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau tra bod adeilad preswyl yn cael ei feddiannu. Mi fyddai'r rheolaeth yma yn gymwys i bob adeilad preswyl sy'n cynnwys o leiaf dwy uned, tra yn Lloegr dim ond adeiladau risg uchel o leiaf 18m o uchder neu o leiaf saith llawr sy'n dod o fewn cwmpas y rheolaeth. 

I droi at y gwelliannau yn y grŵp yma, grŵp 3 ar gyweirio, dwi hefyd yn falch iawn o weld y gwelliannau yma yn dod gerbron, ac yn eu cefnogi nhw, wrth gwrs. Diben gwelliant 30 y Llywodraeth ydy gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd wrth gyflawni gwaith cyweirio yng Nghymru—hynny yw, y gwaith sydd wedi ei osod allan yn y contractau rhwng Llywodraeth Cymru a'r datblygwyr, neu sydd wedi cael ei ariannu gan gronfa diogelwch adeiladau Cymru.

Dwi'n falch iawn o fod wedi gallu cydweithio ar y gwelliant yma, ynghyd â’r gwelliannau eraill ar gyweirio rydyn ni newydd glywed amdanyn nhw gan Rhys ab Owen. O basio'r rhain i gyd, bydd gan breswylwyr sy’n byw mewn adeiladau sydd wedi eu hadnabod fel rhai sydd angen eu cyweirio fwy o rym i ddal y datblygwyr i gyfrif, a gwell gwarchodaeth ynglŷn a chostau.

Mae hi bron yn naw mlynedd ers trasiedi erchyll Grenfell pan fu farw 72 o bobl. Fe ddaru’r cladio oedd ar wyneb yr adeilad yna helpu’r tân ledaenu. Mae hwn wedi cael ei ddisgrifio fel un o drychinebau mwyaf yr oes fodern. Ac eto, mae llawer gormod o bobl yn dal i fyw mewn ofn y bydd trasiedi debyg yn digwydd eto yn yr adeilad maen nhw yn byw ynddo heddiw. Felly, mae yna lawer iawn o waith ar ôl i’w wneud.

Allan o 473 o adeiladau uchel yng Nghymru, mae 48 y cant—bron i hanner ohonyn nhw—un ai yn dal i ddisgwyl cael eu harolygu, neu yn disgwyl i’r gwaith gychwyn—bron i hanner o'r holl adeiladau uchel sydd wedi cael eu hadnabod yma yng Nghymru. Mi glywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai dystiolaeth bwerus gan breswylwyr sydd yn dal i fwy mewn ofn ers trasiedi Grenfell. Mae’r storïau tu ôl i’r ystadegau yma yn fyw iawn yn fy meddwl i, ac mae gen i etholwyr lleol yn Arfon sydd yn dal i ddisgwyl i’r gwaith gychwyn ar yr adeilad lle maen nhw yn byw. Mae'n sefyllfa cwbl annerbyniol. Mae rhai datblygwyr yn llawer rhy araf i gydnabod eu cyfrifoldeb, a dydy’r Llywodraeth ddim yn bod yn ddigon cadarn wrth fynnu bod y gwaith yn digwydd.

O’r diwedd, mae’r Llywodraeth wedi ildio i’r angen am gynnwys cyweirio yn y ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw. Mae hon yn ddadl y bûm i ac eraill yn ei chyflwyno o’r dechrau un. Ond dro ar ôl tro, y neges gan y Llywodraeth, tan yn ddiweddar iawn, oedd dydy cyweirio ddim o fewn sgôp y ddeddfwriaeth yma. Neges y Llywodraeth oedd mai creu regime newydd at y dyfodol oedd bwriad y Ddeddf—ac mae hynny i’w groesawu, wrth gwrs—ond mae hefyd angen symud ar frys i gyweirio’r adeiladau lle mae pobl yn byw mewn ofn ynddyn nhw, naw mlynedd lawr y lein.

Felly, yn ystod Cyfnod 2 ddiwedd Ionawr, fe wnes i gyflwyno gwelliannau cadarn ynglŷn a chyweirio a chostau cyweiro. Roedd y gwelliannau y gwnes i eu cyflwyno ynglŷn a’r angen am osod terfyn amser ar waith cyweirio a sancsiynau am fethu gorffen gwaith mewn pryd. Roedd gwelliannau am osod dyletswydd ar Weinidogion i baratoi a chyhoeddi cynllun cyweirio gyda rhestr a disgrifiad o’r gwaith, ynghyd ag amslerlen. Roedd gwelliannau fyddai’n darparu na fyddai rhai costau cyweirio yn disgyn ar breswylwyr, a darpariaeth ar gyfer cael y costau hynny yn ôl. Yn ystod Cyfnod 2, fe wnes i hefyd gefnogi gwelliannau Rhys ab Owen ar gyweirio.

Dwi’n falch iawn o ddweud fod y cydweithio adeiladol yma sydd wedi digwydd dros y mis diwethaf wedi arwain at ganlyniadau, ac at y gwelliannau rydych chi'n eu gweld yma. Mae yna dipyn o waith wedi digwydd rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3. Mae’r Llywodraeth wedi gweithio efo ni, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae cyweirio yn cael ei gyfarch yn y Bil.

Y siom ydy bod yr ychwanegiad yma wedi dod mor hwyr yn y dydd. Fe fydd hi’n naw mis arall o leiaf cyn gellir gweithredu rhai o’r gwelliannau am gyweirio—yr hawl i fynd i dribiwnlys, er enghraifft—naw mis arall. Petai'r cyweirio wedi bod mewn sgôp reit o’r cychwyn, ac wedi cael ei gynnwys yn y Bil drafft, fuasai’r oedi pellach yma ddim yn gorfod digwydd. Dwi’n deall rhwystredigaeth y preswylwyr ynglŷn â’r mater yma, ond fel mae Rhys ab Owen wedi dweud, mi ydyn ni le ydyn ni.

Mae angen i’r gwaith o gyflwyno’r rheoliadau newydd o gwmpas cyweirio ddigwydd yn syth, ac yn sicr mae angen peidio â gadael i’r ffaith y bydd etholiad cyn hir lusgo’r holl broses yma allan. Mi fyddaf i yn sicr yn parhau i ddal yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i gyfrif ar hyn, ac mi fyddaf i hefyd yn annog y Llywodraeth nesaf i fwrw ati yn syth efo’r gwaith. Diolch.

17:15

Rwy'n canmol gwaith y rhai sydd wedi bod yn rhan o'r gwelliannau hyn, oherwydd mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn gallu cael gwaith cyweirio wedi ei wneud os ydyn nhw'n prynu eiddo mewn ewyllys da heb sylweddoli diffygion sydd wedi'u cuddio oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu harchwilio'n briodol cyn iddyn nhw gael eu selio. Felly, rwy'n credu bod hyn yn hynod o bwysig—nad yw pobl yn dioddef heb unrhyw fai o gwbl arnyn nhw eu hunain, ac y gellir cyweirio y diffygion iddyn nhw na chawson nhw eu harchwilio'n iawn ar y pryd. Felly, rwy'n eich llongyfarch ar eich gwaith caled, a byddwn yn amlwg yn cefnogi'r gwelliannau hyn.

Fe hoffwn i sôn am y gwelliannau yn y grŵp hwn, ac mae arnaf i eisiau dechrau trwy groesawu penderfyniad y Llywodraeth i'w derbyn. Dyma'r penderfyniad cywir, ac rwy'n talu teyrnged i'r bobl hynny sy'n gweithio'n drawsbleidiol i gyrraedd y pwynt hwn, ond dwi am dalu teyrnged arbennig i'r grŵp Cladiators Cymreig, sydd wedi bod yn ddiflino yn eu heiriolaeth a'u dyfalbarhad.

Rydym ni wedi bod yn glir o'r dechrau bod yn rhaid i waith cyweirio barhau i fod yn ganolog i'r Bil hwn, y byddai ei hygrededd yn dibynnu nid ar gryfder ei fframwaith yn y dyfodol, ond ar a yw'n cyflawni cynnydd ystyrlon i'r rhai sydd eisoes yn byw mewn adeiladau anniogel. Fodd bynnag, fel y dywedwyd, mae'n werth bod yn onest am yr ymdrech a wnaed i'n cael ni i'r sefyllfa yma. Mae'r gwelliannau hyn yn ailadrodd amddiffyniadau sydd wedi bodoli yn Lloegr ers 2022, bedair blynedd yn ôl. Pleidleisiwyd yn erbyn ymdrechion blaenorol i ymgorffori amddiffyniadau tebyg i'r rhai yn Lloegr neu eu heithrio'n fwriadol o'r rhaglen ddeddfwriaethol.

Y cwestiwn y mae gan drigolion bob hawl i'w ofyn yw pam ei bod wedi cymryd bron i bum mlynedd i gael mynediad at gyfreithiau profedig a allai fod wedi helpu lesddeiliaid hirymarhous Cymru gymaint yn gynt. Mae amrywiaeth o bobl, fel y gwyddom ni, wedi cael eu heffeithio, ond gadewch i ni siarad am y pensiynwyr hynny sydd wedi'u heffeithio, pobl sydd wedi cynilo, sydd wedi cynllunio, sydd wedi gwneud popeth yn iawn, sydd nawr yn wynebu biliau na allan nhw eu talu. Gadewch i ni siarad am deuluoedd ifanc sydd wedi'u dal mewn fflatiau sy'n anniogel neu na ellir cael morgais arnyn nhw, nad ydyn nhw'n gallu gwerthu ac yn methu symud ymlaen â'u bywydau. Gadewch i ni siarad am bobl sy'n sownd mewn fflatiau un ystafell wely, eu bywydau yn cael eu gohirio heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

Roedd llawer o'r adeiladau hyn yn anniogel o'r cychwyn cyntaf. Ni ddylen nhw fyth fod wedi cael sêl bendith yn y cyflwr y cawson nhw eu hadeiladu. Maen nhw'n cynrychioli methiannau systemig mewn rheoli adeiladau, mewn goruchwyliaeth ac atebolrwydd datblygwyr. Fel y roeddwn i'n rhannu ym mis Rhagfyr yn Abertawe, roedd lesddeiliaid Altamar mor rhwystredig gyda Bellway Homes eu bod wedi cyflogi cyfreithwyr ac yn ystyried camau cyfreithiol o dan Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, oherwydd dyna'r unig lwybr ar ôl pan fydd y Llywodraeth yn methu.

Mae dangosfwrdd cyweirio Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud wrthym ni am raddfa'r hyn sydd i'w wneud sydd ar ôl. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad y bydd gwaith adeiladu wedi dechrau ym mhob adeilad dan gontract datblygwr erbyn diwedd 2026, ond nid yw'r ymrwymiad hwnnw'n gyfreithiol rwymol. Mae'n dibynnu ar ewyllys da datblygwr, ac rydym ni i gyd wedi gweld beth sy'n digwydd o ddibynnu ar ewyllys da datblygwr.

Mae gwelliannau 58 a 59 ar orchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio yn golygu y bydd preswylwyr yn gallu gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am ryddhad, ac rydym ni wedi gweld beth all y pwerau hynny ei gyflawni yn Lloegr. Mae penderfyniadau tribiwnlys Lloegr wedi anfon neges glir i ddatblygwyr: blaenoriaethu ystyriaethau ariannol dros ddiogelwch ac wynebu atebolrwydd ariannol sylweddol. Rhaid i Gymru nawr anfon yr un neges hefyd. Felly, byddwn yn croesawu sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio'n brydlon. Mae naw mis i ddrafftio'r rheoliadau yn cael ei groesawu, ond mae'n rhaid iddo fod yn ddechrau gorfodi, nid yn gam arall cyn i unrhyw beth newid i'n trigolion mewn gwirionedd.

O ran amddiffyniadau i lesddeiliaid, gwelliant 60, ar gostau cyweirio o dan lesoedd cymhwysol, a gwelliant 61, diffinio lesoedd cymhwysol—mae'r rhain yn hanfodol. Mae'r darpariaethau sy'n atal costau cyweirio rhag cael eu trosglwyddo trwy ffioedd gwasanaeth yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd cyweirio yn costio lesddeiliaid, ond mae hyn eisoes yn costio. Mae'n costio eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol iddyn nhw. Fel rydyn ni wedi clywed, mae cael swyddogion diogelwch ar ddyletswydd barhaus yn costio miloedd o bunnoedd bob mis ar ei ben ei hun.

Fe hoffwn i orffen trwy atgoffa pawb, fel rydym ni wedi clywed, o'r 72 o bobl a gollodd eu bywydau yn Nhŵr Grenfell wyth mlynedd yn ôl. Yr wythnos diwethaf, fe glywsom ni am ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ariannu a chynnal cofeb barhaol yn Grenfell. Mae'r cynnydd araf yn y blynyddoedd ers hynny wedi bod yn boenus iawn i deuluoedd mewn profedigaeth a goroeswyr, rhywbeth mae'r Ysgrifennydd Tai wedi cydnabod. Mae'r amddiffyniadau i lesddeiliaid yn y gwelliannau hyn, sy'n atal costau cyweirio rhag cael eu trosglwyddo trwy ffioedd gwasanaeth, felly yn hanfodol. Rhaid llunio'r diffiniad o 'lesoedd cymhwysol' yn eang ei gwmpas. Rhaid i reoliadau gael eu cynllunio gyda buddiannau lesddeiliaid, nid landlordiaid, yn flaenllaw yn y meddwl. Ni allwn fod yn ôl yma mewn wyth mlynedd arall. Ni allwn ni ganiatáu rownd arall o esgusodion. Rwy'n cefnogi'r gwelliannau hyn ac rwy'n annog y Llywodraeth i'w gweithredu gyda'r brys y mae trigolion wedi bod yn aros yn llawer, llawer rhy hir i'w gweld. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Diolch, Llywydd. Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i Rhys am gyflwyno gwelliannau 54 i 63 ac am fod yn agored wrth weithio gyda fi a'm swyddogion i greu cyfres o ddarpariaethau sy'n canolbwyntio ar gyweirio sy'n briodol yng nghyd-destun y Bil hwn.

Cyflwynwyd gwelliannau tebyg gan Rhys a Siân Gwenllian yng Nghyfnod 2. Doeddwn i ddim yn gallu cefnogi'r gwelliannau hynny oherwydd bod elfennau iddyn nhw nad naill ai'n gweithio'n iawn neu a allai fod wedi cael canlyniadau anfwriadol. Fodd bynnag, fe'i gwnes hi'n glir ar y pryd fy mod yn cytuno mewn egwyddor â'r hyn roedd y gwelliannau yn ceisio ei gyflawni ac fe roddais i ymrwymiad i weithio gydag eraill i sicrhau y gellid cyflwyno gwelliannau addas gyda'r un bwriadau sylfaenol yng Nghyfnod 3.

Mae'r gwelliannau y mae Rhys wedi'u cyflwyno ac y mae Siân yn eu cefnogi yn cynrychioli canlyniad dull cydweithredol o lunio deddfwriaeth a chyflawni'r ymrwymiad cynharach hwnnw. Mae Rhys eisoes wedi disgrifio'r hyn y mae'r gwelliannau hyn yn ei wneud. Maen nhw'n canolbwyntio ar dri maes: galluogi'r tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchmynion cyweirio, ei alluogi i wneud gorchmynion cyfraniadau cyweirio ac amddiffyn lesddeiliaid rhag taliadau gwasanaeth sy'n ymwneud â chostau cyweirio. Fel y cyfryw, maen nhw'n cyfateb i raddau helaeth i'r darpariaethau sydd eisoes yn berthnasol yn Lloegr o dan adran 116 i 124 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022.

Hyd yn hyn, nid oedd angen rhoi darpariaethau o'r fath ar waith yng Nghymru. Rydym ni wedi llwyddo i ddilyn polisi o sicrhau bod cost cyweirio diffygion diogelwch tân adeiledig wedi'i dalu naill ai gan ddatblygwyr sydd wedi llofnodi gweithred o gontract dwyochrog gyda Gweinidogion Cymru neu gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Yn y cyd-destun hwn, ac wrth edrych dros y ffin i Loegr, nid yw'n glir faint yn ychwanegol y bydd y darpariaethau hyn yn ei gynnig yn ymarferol yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn ymateb i'r galwadau parhaus gan lesddeiliaid ac eraill, yn ogystal ag ymddangosiad materion diogelwch strwythurol a'r ffaith na ellir gwarantu dyfodol hirdymor cronfa diogelwch adeiladau Cymru, credaf ei bod hi'n iawn diogelu camau i amddiffyn lesddeiliaid i'r dyfodol trwy eu cyflwyno ar sail statudol. Rwy'n falch bod y Bil hwn wedi rhoi cyfle i ni wneud hynny, ac rwy'n fodlon bod gwelliannau Rhys yn ei gyflawni mewn ffordd briodol. Felly, rwy'n cefnogi gwelliannau 54 i 63.

Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r awydd i weld y darpariaethau hyn ar waith cyn gynted â phosibl, ac yn y cyd-destun hwnnw bydd y dyddiad cau naw mis ar gyfer cyflwyno rheoliadau a nodir yng ngwelliannau 58 a 59 yn sicr yn cael ei ystyried yn ormodol gan rai. Fodd bynnag, mae'r broses o ddatblygu'r rheoliadau drafft, asesu eu heffaith debygol, cysylltu ag adrannau perthnasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac, yn anad dim, yr angen i sicrhau bod ymgynghoriad priodol yn digwydd o reidrwydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'w gwblhau. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, bydd naw mis yn debygol o fod yn amserlen heriol i'w bodloni. 

Gan symud ymlaen at welliant 30 y Llywodraeth, sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod adroddiad cynnydd ar gyweirio o ran y rhaglen diogelwch adeiladau gerbron y Senedd bob blwyddyn. Bydd yr adroddiad yn crynhoi asesiad Gweinidogion Cymru o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â gwaith sy'n ofynnol gan y contractau datblygwyr, yn ogystal â gwaith a ariennir gan grantiau o dan gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r gwelliant hwn, sydd â'r nod o sicrhau bod cyflymder y rhaglen yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac i roi sicrwydd i lesddeiliaid bod tryloywder yn y rhaglen gyweirio. Fe hoffwn i ddiolch i Siân am ei gwaith ar y mater hwn ac am helpu i sicrhau bod tryloywder y rhaglen yn cael sylw yn y Bil hwn. Rwy'n cydnabod y byddai ymgyrchwyr wedi hoffi gweld y gwelliant hwn yn mynd ymhellach. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau sydd wedi'u gwneud ar y mater hwn, i mi ac i lawer o gydweithwyr yn y Siambr hon. Rwyf yn gwerthfawrogi'n llawn yr awydd i weld deddfwriaeth bellach ar ddiogelwch adeiladau, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn ystyried cyflwyno Bil yn y maes hwn.  

17:25

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cefnogi'n llwyr y gwelliant yn enw Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n mynd i fod yn amhrisiadwy i’r broses o graffu, ac i weld unrhyw gynnydd sydd wedi digwydd neu, efallai, sydd ddim wedi digwydd pan mae'n dod i gyweirio.

Mae Siân wedi rhoi'r ffigyrau top i ni. Os ŷn ni'n torri hyn i lawr, hyd yn oed, mae dal 76 adeilad yn aros am arolygon; mae dal 129 adeilad yn aros i waith gael ei gwblhau; a 149 yn aros i waith ddechrau—hyn bron i naw mlynedd ers Grenfell. Felly, dyna pa mor bwysig yw e i ni gefnogi gwelliant y Llywodraeth ar y mater hwn. Bydd gosod yr adroddiad cynnydd gerbron Senedd Cymru yn helpu cadw sylw’r Senedd yma ar y creisis, a bod pobl sydd hyd yn oed yn byw yn agos iddyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu gennym ni, ac yn annog cymaint o Aelodau â phosib i gyfrannu at y galwadau i flaenoriaethu creu cartrefi diogel yng Nghymru. Byddwch chi'n synnu dim, felly, fy mod i'n cefnogi, 100 y cant, eich gwelliant chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolchaf hefyd am eich cydweithrediad positif, hyd yn oed pan oeddwn ni'n styc yn Affrica—roeddwn i'n dal wedi gallu cadw'r sgwrs i fynd ac wedi cyrraedd y cytundeb hwn sy'n mynd i wneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pobl. Dwi'n diolch hefyd i Siân Gwenllian am ei chefnogaeth ffurfiol i welliannau 56 i 61.

Rŷn ni ar fin cyrraedd trothwy fan hyn yn y Senedd ble na fydd rhaid i breswylwyr godi miloedd ar filoedd o bunnau i gymryd datblygwyr i lys, na fydd rhaid iddyn nhw risgo degau o filoedd o bunnau jest i gael cyfiawnder—cyfiawnder, fel y mae Jenny Rathbone yn ein hatgoffa ni, sydd ddim bai arnyn nhw, sefyllfa lle does dim bai arnyn nhw o gwbl. Roedd pobl yn credu eu bod nhw wedi prynu adeilad diogel ble y bydden nhw'n gallu mwynhau eu bywydau. Gweithiwn nawr i sicrhau bod y rheoliadau yma'n cael eu cyflwyno cyn y naw mis, bod y naw mis yma'n deadline a'n bod ni'n gweithio i sicrhau bod hwn yn cael ei gyflwyno cyn y naw mis. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Mae'r gwelliant wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Jayne Bryant).

Ydy. Wedi symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Mae gwelliant 15 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Grŵp 4: Amseru asesiadau risg tân (Gwelliannau 47, 48, 49, 50, 51)

Grŵp 4 yw'r grwp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud ag amseru asesiadau risg tân. Gwelliant 47 yw'r prif welliant, a dwi'n galw nawr ar Joel James i gynnig y prif welliant—Joel James.

Cynigiwyd gwelliant 47 (Joel James).

17:30

Diolch, Llywydd. Diolch eto am ganiatáu imi annerch y Siambr yn rhithwir. Mae'n ddrwg gen i na allaf fod yno yn bersonol. Wrth sôn am fy ngwelliannau a'm pryderon, sy'n cael eu rhannu gan nifer o randdeiliaid, maen nhw'n ymwneud â phroblem bosibl gyda'r capasiti gweithlu sy'n ofynnol i fodloni'r rhwymedigaethau statudol a nodir yn y Bil hwn, yn benodol, y gofyniad bod yn rhaid cwblhau'r asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl naill ai'r diwrnod y caiff yr adeilad ei feddiannu, neu'r diwrnod y daw’r adran hon i rym. Os na ellir bodloni'r gofyniad hwn heb fai ar y person atebol, mae risg wirioneddol o ganlyniadau anfwriadol. Gellid cymryd camau cyfreithiol a allai effeithio'n anghymesur ar berchnogion a thenantiaid eiddo.

Ar ben hynny, mae goblygiadau difrifol i atebolrwydd yswiriant. Os nad yw'r adeilad wedi bodloni'r amodau a amlinellir yn y Bil, efallai na fydd bellach wedi'i yswirio, gan roi preswylwyr a pherchnogion mewn sefyllfa ansicr. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y mater hwn yn debygol o fod fwyaf acíwt o fewn adeiladau categori 3, ac amcangyfrifir bod 51,000 ohonyn nhw yng Nghymru. Heb hyblygrwydd priodol, gallai'r dyddiad cau statudol greu sefyllfa sy'n amhosibl ei rheoli ac yn annheg, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau presennol o ran gweithlu.

Felly, mae'r gwelliannau hyn yn cynnig rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru amrywio'r cyfnod ar gyfer gwneud yr asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, y fath hyblygrwydd i sicrhau bod y gyfraith yn parhau i fod yn ymarferol, yn gymesur ac yn bosib ei gorfodi gan barhau i gynnal safonau diogelwch. Rwy'n credu bod y rhain yn welliannau hanfodol sy'n cydbwyso'r angen am ddiogelwch tân trwyadl gyda realiti capasiti gweithlu a dichonoldeb gweithredol. Am y rhesymau hynny, rwy'n annog pob Aelod i'w cefnogi. Diolch.

Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau 47 i 51 Joel James. Mae'r rhain yn gyson â'r ymrwymiad a wnes i yng Nghyfnod 2 i ailystyried amseroedd asesiadau risg tân ar gyfer adeiladau rheoleiddiedig sydd â risg is. Maen nhw'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru amrywio'r dyddiad cau ar gyfer yr asesiadau risg tân, er enghraifft, drwy gyfeirio at wahanol fathau o adeiladau rheoleiddiedig. Byddai hyn yn rhoi hyblygrwydd i ddelio â'r materion y mae partneriaid fel Cartrefi Cymunedol Cymru wedi'u codi. Felly, rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Diolch, Llywydd. Na, rwy'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Llywodraeth i'r gwelliannau hyn. Diolch.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 47 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Jayne Bryant).

Ydy, mae e. Felly, unrhyw wrthwynebiad i welliant 16? Nac oes. Felly, gwelliant 16 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol (Gwelliannau 17, 8, 9, 32, 34, 35, 37, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46)

Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol. Gwelliant 17 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Jayne Bryant).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau 32, 35 a 41 i gyd yn ymwneud â'r diwygiad a wnaed i adran 113 yng Nghyfnod 2, a newidiodd ystyr 'awdurdod diogelwch adeiladau'. Mae gwelliant 32 yn diwygio adran 113 ymhellach fel bod y cyfeiriadau at ardal awdurdod tân ac achub yn yr adran honno i'w dehongli yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae gwelliant 41 yn mewnosod yn Atodlen 3 ddiwygiad i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, a fydd yn caniatáu cadw effaith bresennol adran 113 pe bai newidiadau yn cael eu gwneud i ardaloedd awdurdodau tân ac achub drwy Orchmynion a wneir o dan Ddeddf 2004. Mae gwelliant 35 yn diwygio adran 120, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau, fel ei fod yn adlewyrchu'r newid a wnaed yng Nghyfnod 2 i ystyr 'awdurdod diogelwch adeiladau'. Trafodwyd gwelliant cysylltiedig, gwelliant 36, fel rhan o grŵp 2.

Mae gwelliant 34 yn gwneud diwygiad technegol i adran 117, fel bod ystyr 'awdurdod tân ac achub' yn cael ei ddiffinio'n fwy cywir drwy gyfeirio at y Rhan berthnasol o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Nid yw hyn yn ganlyniadol i'r diwygiad arfaethedig i adran 113, ond mae ganddo bwrpas tebyg.

Mae gwelliannau 40 a 42 i 46 yn diwygio Atodlen 3 y Bil. Mae'r darpariaethau yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth gyfredol arall sy'n ymwneud â diogelwch tân. Mae gwelliant 40 yn disodli'r ddarpariaeth a fewnosodwyd gan baragraff 1 o Atodlen 3 er mwyn egluro'r datgymhwyso parhaus o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 a'r rheoliadau a wneir oddi tano mewn perthynas â diogelwch tân cyffredinol. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw'r darpariaethau hynny'n parhau i fod yn berthnasol i adeiladau rheoleiddiedig neu dai amlfeddiannaeth perthnasol o dan y Bil pe bai'r darpariaethau hynny wedi'u gwneud neu y gellid eu gwneud o dan y Gorchymyn diogelwch tân.

Mae gwelliant 43 yn diwygio'r Gorchymyn diogelwch tân i ychwanegu erthygl 31, ynglŷn â chyflwyno hysbysiadau gwahardd, at yr erthyglau a ddatgymhwyswyd yn rhannol gan erthygl 7A(1) o'r Gorchymyn.

Mae gwelliant 45 yn disodli erthygl 7A(3) i (5) o'r Gorchymyn diogelwch tân, gan nodi ble y bydd y Gorchymyn yn parhau i fod yn gymwys. Bydd y Gorchymyn yn parhau i fod yn gymwys i fangre sy'n weithleoedd i'r graddau y mae gwaith yn cael ei wneud yn y fangre, ac i rannau o adeiladau rheoleiddiedig nad oes rhywun yn atebol amdanynt. Mae hyn yn bwysig. Fel yr wyf wedi dweud trwy gydol hynt y Bil, dyluniwyd y Gorchymyn diogelwch tân ar gyfer gweithleoedd, sy'n ei gwneud hi'n anodd ei chymhwyso i adeiladau preswyl, ond mae'n cynnwys darpariaethau pwysig sy'n gysylltiedig â gwaith, felly bydd yn parhau i fod yn berthnasol yn yr amgylchiadau rydw i wedi'u hamlinellu. Felly, er enghraifft, bydd yn ofynnol i bobl sy'n gwneud gwaith mewn ardaloedd cymunedol, neu eu cyflogwyr, o dan y Gorchymyn diogelwch tân asesu a rheoli risgiau diogelwch tân sy'n deillio o'u gwaith.

Mae gwelliannau 42 a 44 yn ganlyniadol i welliant 45, ac mae gwelliant 46 yn ganlyniadol i welliant 40. Mae gwelliannau 8, 9, 17 a 37 i gyd yn ddiwygiadau technegol o ganlyniad i welliannau y cytunwyd arnyn nhw yng Nghyfnod 2. Felly, rwy'n annog cyd-Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

17:35

Does gyda fi ddim siaradwyr. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, ddim eisiau ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dwi'n cynnig nawr fod gwelliannau 18, 19 a 20 yn cael eu gwaredu gyda'i gilydd. Os nad oes gwrthwynebiad i hynny, mi wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet i symud y gwelliannau yma.

Cynigiwyd gwelliannau 18, 19 a 20 (Jayne Bryant).

Ydyn, maen nhw'n cael eu symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliannau 18, 19 ac 20? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'r rheini wedi eu derbyn.

Derbyniwyd y gwelliannau yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 6: Strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr (Gwelliannau 4, 1, 5)

Felly, grŵp 6 sydd nesaf, y strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr y mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â nhw. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp. Joel James sy'n cynnig y prif welliant. Joel James.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Joel James).

Diolch, Llywydd, a chan mai dyma'r cyfle olaf i mi siarad, fe hoffwn i ddiolch eto i'r Ysgrifennydd Cabinet a fy nghyd-Aelod yn Senedd Cymru am y ffordd adeiladol rydym ni wedi ymdrin â'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd y ddeddfwriaeth. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r rhai sydd wedi ymgysylltu â mi yn ystod yr holl gyfnodau a'r rhai sydd wedi helpu gyda drafftio fy ngwelliannau.

Gyda hynny mewn golwg, mae'r gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i bryder dybryd. Mae'r gofyniad statudol presennol i baratoi a gweithredu strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr, sydd wedi'i fwriadu i sicrhau cyfranogiad ystyrlon mewn penderfyniadau diogelwch adeiladau allweddol, wedi'i gyfyngu i adeiladau categori 1 yn unig. Ond mae ymchwil gyda lesddeiliaid ledled Lloegr sy'n byw mewn adeiladau yr effeithiwyd arnynt gan gladin a diffygion diogelwch tân eraill yn paentio darlun pryderus. Dro ar ôl tro, mae trigolion yn adrodd am anawsterau i gael mynediad at wybodaeth am beryglon tân, yn rhagweithiol ac ar gais. Mae cyfathrebu gan y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelwch adeiladau yn aml yn gyfyngedig, gan adael preswylwyr yn teimlo eu bod wedi'u heithrio rhag penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu diogelwch. Yn hanfodol, nid yw'r heriau hyn wedi'u cyfyngu i'r adeiladau talaf; mae tystiolaeth yn dangos bod materion tebyg yn codi mewn adeiladau dros 18m ac yn y rhai rhwng 11m a 18m. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig: pam ddylai ymgysylltu â phreswylwyr fod yn ddyletswydd statudol mewn adeilad saith llawr, ond nid un chwe llawr? Mae'r gwahaniaeth yn ymddangos yn fympwyol, ond bydd y canlyniadau i lawer o drigolion yn real.

Dyma pam rwy'n dadlau ei bod hi'n ofynnol i brif bersonau atebol ar gyfer adeiladau categori 2 baratoi strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr. Byddai mesur o'r fath yn cau'r bylchau presennol mewn cyfathrebu, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael eu hysbysu, yr ymgynghorir â nhw ac y gallan nhw gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu diogelwch. Byddai hefyd yn mynd i'r afael â diffygion yn y sector preifat, lle mae diwylliant o ymgysylltu â phreswylwyr yn aml yn llai sefydledig o'i gymharu â'r sector tai cymdeithasol, er enghraifft. Trwy gryfhau ymgysylltiad preswylwyr ar gyfer adeiladau categori 2, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cyflawni tri chanlyniad hanfodol: mwy o dryloywder, gwell ymddiriedaeth rhwng preswylwyr a rheolwyr adeiladau, a mwy o ddiogelwch adeiladau cyffredinol. Nid ffurfioldeb biwrocrataidd yw ymgysylltu â phreswylwyr, mae'n ddiogelwch. Mae'n fecanwaith hanfodol y gellir cynnal drwyddo ddiogelwch, atebolrwydd a hyder yn ein rheoliadau adeiladu. Am y rhesymau hynny, rwy'n annog pob Aelod yma i'w cefnogi. Diolch.

17:40

Diolch, Llywydd. Diolch, Joel, am gyflwyno gwelliannau 1, 4 a 5. Cyflwynodd Joel welliannau tebyg yng Nghyfnod 2, i ymestyn y gofyniad am strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr i adeiladau categori 2. Doeddwn i ddim yn gallu cefnogi'r gwelliant hwnnw fel y'i drafftiwyd oherwydd nad oedd yn gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i alluogi'r darpariaethau i weithio'n effeithiol. Roedd gen i bryderon hefyd ynglŷn ag ymestyn y gofyniad hwn i adeiladau categori 2 heb ymgynghoriad cynhwysfawr ar y goblygiadau cost i breswylwyr a landlordiaid. Fodd bynnag, fel y dywedais wrth y pwyllgor yng Nghyfnod 2, mae llais preswylwyr yn golofn graidd o'r Bil ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i'r egwyddor o ymestyn y gofyniad i gategori 2, gan ddarparu ymgynghoriad llawn â thrigolion a landlordiaid ar y goblygiadau cost cyn i unrhyw reoliadau gael eu gwneud.

Mae gwelliant 4 yn cyflawni hyn. Mae'n mewnosod pennod newydd yn Rhan 1 o'r Bil, sy'n darparu pŵer gwneud rheoliadau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau tebyg neu gyfatebol i'r rhai sy'n gymwys mewn perthynas ag adeiladau categori 1 fel y gellir ymestyn strategaethau ymgysylltu preswylwyr yn y dyfodol i adeiladau categori 2 sydd wedi'u meddiannu, ar ôl ymgynghori priodol.

Mae gwelliannau 1 a 5 yn ganlyniadol i welliant 4. Mae gwelliant 1 yn adlewyrchu mewnosod pennod newydd yn Rhan 1 o'r Bil, ac mae gwelliant 5 yn darparu bod rheoliadau a wneir o dan yr adran newydd yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd.

Rwy'n credu bod y dull hwn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir. Mae'n sicrhau bod unrhyw estyniad o ddyletswyddau yn ffrwyth ymgysylltiad priodol â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyrff cynrychioladol, landlordiaid a thrigolion adeiladau categori 2, sy'n rhywbeth na fyddai wedi bod ar gael o dan y diwygiad a gynigiwyd yng Nghyfnod 2. Felly, am y rhesymau hyn rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau 1, 4 a 5.

Diolch, Llywydd, dim ond i ddiolch eto i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei chefnogaeth i'r gwelliannau. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 4 wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 7: Dyletswydd person atebol i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill (Gwelliant 52)

Grŵp 7 sydd nesaf. Dyletswydd person atebol i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill yw'r seithfed grŵp yma o welliannau. Gwelliant 52 yw'r unig welliant. Siân Gwenllian sy'n cynnig y gwelliant yma. 

Cynigiwyd gwelliant 52 (Siân Gwenllian).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 52 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i orfodi person atebol ar gyfer adeilad sy’n cael ei reoli i roi gwybodaeth berthnasol i ystod o bersonau eraill ynghylch rheolaeth diogelwch o fewn yr adeilad. Roedd y Bil fel yr oedd o wedi ei gyflwyno yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o’r fath ond ddim yn eu gorfodi nhw i wneud hynny. Mae gwelliant 52, felly, yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o'r fath ac felly'n adlewyrchu yn union beth roeddwn i'n ceisio ei gyflawni efo fy ngwelliant yng Nghyfnod 2.

Mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n cadw lles tenantiaid a lesddalwyr yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n trio ei gyflawni efo’r Bil yma. Yn yr ysbryd hwnnw, mae’n bwysig bod gan denantiaid a lesddalwyr y wybodaeth angenrheidiol am ddiogelwch a diogelwch eu teuluoedd a’u cartrefi. Mae’n hanfodol bod y rheini sy’n cael eu heffeithio gan y Bil yma yn gwybod beth sydd yn digwydd yn y cartrefi, er mwyn eu lles meddyliol ac er mwyn sicrhau bod y gwaith o wella diogelwch adeiladau yn gweithio i’w lawn botensial. Heb sicrhau bod pawb yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol, mae eu diogelwch, ac felly pwrpas y Bil ei hun, yn cael ei danseilio.

17:45

Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gefnogi gwelliant Siân Gwenllian. Rwy'n rhannu uchelgais Siân i ddarparu hawliau gwell i breswylwyr a phobl berthnasol eraill gael mynediad at wybodaeth hanfodol am ddiogelwch adeiladau. Fel yr esboniais i'r pwyllgor yng Nghyfnod 2, bu hi wastad yn fwriad i ddefnyddio rheoliadau i nodi pa wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu ar gais, a pha wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i breswylwyr. Ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i'r egwyddor o newid yr hyn sy'n bŵer ar hyn o bryd i wneud rheoliadau ynghylch pa wybodaeth y mae'n rhaid i unigolion atebol ei rhoi i unigolion eraill i fod yn ddyletswydd. Felly, rwy'n hapus felly i gefnogi gwelliant 52, sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru fel bod yn rhaid iddyn nhw wneud rheoliadau ynghylch rhannu gwybodaeth a dogfennau gan unigolion atebol, yn hytrach na'r disgresiwn blaenorol i wneud hynny.

Siân Gwenllian, ydych chi'n moyn ymateb? Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 52? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Lesoedd a chontractau meddiannaeth (Gwelliannau 21, 22, 23, 24, 25, 26, 38)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â lesoedd a chontractau meddiannaeth. Gwelliant 21 yw'r prif welliant y tro yma, ac Ysgrifennydd y Cabinet sy'n cynnig y gwelliant. Jayne Bryant.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Jayne Bryant).

Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn darparu mwy o eglurder mewn perthynas â lesoedd a chontractau meddiannaeth. Yn gyntaf, mae gwelliannau 21, 22 a 23 yn egluro ym mha amgylchiadau y bydd tenant wedi torri term ymhlyg. Mae'r Bil wedi'i seilio ar yr egwyddor bod diogelwch adeiladau yn gyfrifoldeb ar y cyd, gyda phreswylwyr, landlordiaid a phobl atebol i gyd yn gwneud eu rhan. Bwriad dyletswyddau preswylwyr yw hyrwyddo ymddygiad diogel a sicrhau cydymffurfiaeth. Mae'n ymwneud â gweithio gyda thrigolion i sicrhau eu bod yn deall eu swyddogaeth angenrheidiol wrth gadw eu hadeilad yn ddiogel.

Mae adran 69 yn mewnosod adran 30IA yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985, ac mae hynny'n awgrymu telerau mewn lesoedd penodol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhai rhwymedigaethau diogelwch adeiladau yn awtomatig yn rhan o'r les, a gallai methiant i gydymffurfio fod yn gyfystyr â thorri contract, gyda chanlyniadau posibl gan gynnwys camau i sicrhau meddiant trwy'r llysoedd.

Fodd bynnag, mae ystyriaeth bellach ynghylch perthynas y termau ymhlyg hyn â fframwaith gorfodi ehangach y Bil wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o eglurder i breswylwyr. Gellid darllen y drafftio presennol fel bod achos o dor-cytundeb ar yr achlysur pan nad yw preswylydd yn cydymffurfio â dyletswydd, ac nid dyma'r bwriad polisi. Dylai'r risg bosibl o golli cartref bob amser fod yn ddewis olaf, ar gael dim ond ar ôl gwneud pob ymdrech i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth, a hynny'n aflwyddiannus.

Mae gwelliant 21 yn diwygio adran 69 i ddatgan mai dim ond pan fo preswylydd yn methu â chydymffurfio â mathau penodol o gamau gorfodi ffurfiol y ceir achos o dor-cytundeb, sef gorchymyn torri, gorchymyn mynediad, gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio neu hysbysiad cydymffurfio. Mewn geiriau eraill, nid y methiant cychwynnol i gydymffurfio â dyletswydd a allai arwain at achos o dorri les, ond diffyg cydymffurfio â gorchymyn neu hysbysiad ffurfiol. Mae hyn yn dileu'r posibilrwydd o landlordiaid yn ceisio osgoi'r gweithdrefnau cydymffurfio yn y Bil trwy wneud cais yn uniongyrchol am dorri cytundeb ar y cyfle cyntaf y gallan nhw.

Mae'r gwahaniaeth hwn yn bwysig. Mae'n sicrhau bod trigolion yn cael y cyfle i unioni materion cyn i unrhyw achos o dor-cytundeb godi, ac mae'n atal landlordiaid rhag osgoi'r broses sydd i fod i roi pwyslais ar gydymffurfio. Nid yw'r gwelliant hwn yn newid y camau y bydd yn rhaid i breswylwyr eu cymryd, ond mae'n dileu unrhyw amwysedd ynghylch pryd mae tenant wedi torri contract. Mae gwelliannau 22 a 23 yn gwneud y newidiadau canlyniadol angenrheidiol i roi effaith lawn i fwriad gwelliant 21.

Gan droi at welliannau 24, 25, 26 a 38, rwyf wedi gwrando ar sylwadau a wnaed gan randdeiliaid ac yn ystod y gwaith craffu bod angen eglurder ynghylch perthynas y dyletswyddau newydd â chontractau meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'r telerau ymhlyg o dan adran 30IA o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 yn berthnasol i gontractau meddiannaeth. Fodd bynnag, yn ystod Cyfnod 2, codwyd pryderon ynghylch a fyddai hyn yn gyfystyr ag amrywiad contract at ddibenion Deddf 2016. Ceisiodd gwelliant na chyflwynwyd gan y Llywodraeth nodi nad fel yna y byddai hi. Er y bwriad clodwiw, rwy'n credu bod y dull hwnnw mewn perygl o greu amwysedd pellach ynghylch sut mae'r telerau ymhlyg yn gweithio gyda chontractau meddiannaeth.

Mae'n bwysig cofio bod Deddf 2016 wedi cyhoeddi dull newydd o rentu cartrefi yng Nghymru. Cyflwynodd ailstrwythuro sylfaenol o gyfraith dai. Fel rhan o hyn, bwriad y polisi oedd y dylai pob hawl a rhwymedigaeth gytundebol fod yn dryloyw ac wedi'i gynnwys yn y datganiad ysgrifenedig, a thrwy hynny symud i fodel contract wedi'i ddogfennu'n llawn. Felly, pe na bai rhybudd o amrywiad yn y contract yn ofynnol o ganlyniad i'r telerau newydd a fewnosodwyd gan y Bil, ni fyddai'n gyson â'r egwyddor y bwriedir i gontractau meddiannaeth ddarparu cofnod cyflawn a chynhwysfawr o'r cytundeb. Ni fyddai ychwaith yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol i ddeiliaid contract am eu hawliau a'u rhwymedigaethau, ac mae'n hanfodol bod deiliaid contract meddiannaeth yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'r contract meddiannaeth.

O ystyried y posibilrwydd o ansicrwydd, mae gwelliant 24 wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn dileu unrhyw amheuaeth. Mae'n rhoi pŵer gwneud rheoliadau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymgorffori'r dyletswyddau yn y Bil fel telerau sylfaenol contractau meddiannaeth, gan hefyd ddatgymhwyso'r telerau ymhlyg yn adran 30IA o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 i gontractau meddiannaeth. Mae hyn yn sicrhau y gellir integreiddio'r dyletswyddau yn llawn i'r fframwaith rhentu cartrefi mewn ffordd glir a thryloyw. Nid yw'r dull hwn yn newid sylwedd dyletswyddau preswylwyr o dan y Bil. Mae'n sicrhau bod contractau meddiannaeth yn parhau i fod yn gofnod cyflawn a chywir o hawliau a rhwymedigaethau, yn atgyfnerthu pwysigrwydd diogelwch adeiladau, ac yn rhoi eglurder i landlordiaid y bydd angen datganiad ysgrifenedig o amrywiad mewn contract. Bydd y rheoliadau'n cael eu datblygu mewn ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid, a byddant hefyd yn destun craffu manwl gan y Senedd.

Mae gwelliannau 25, 26 a 38 yn ganlyniadol i welliant 24, ac maen nhw'n darparu y bydd rheoliadau'n destun gweithdrefn gymeradwyo uwch cyn eu gwneud. Gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau hyn yn darparu eglurder i landlordiaid a thenantiaid ynghylch sut y bwriedir gweithredu'r termau ymhlyg a sylfaenol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

17:50

Does gyda fi ddim siaradwyr ar yr eitem yma, felly dwi'n cymryd bod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau ymateb. Mae'r cwestiwn cyntaf, felly, ar welliant 21. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Jayne Bryant).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 22 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Jayne Bryant).

Mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Jayne Bryant).

Ydy. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 24 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Jayne Bryant).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Jayne Bryant).

Ydy. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 26 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Joel James).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Jayne Bryant).

Mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Jayne Bryant).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 27? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Jayne Bryant).

Mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Jayne Bryant).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 55 (Rhys ab Owen).

Doeddwn i ddim yn bwriadu eich dychryn chi. [Chwerthin]

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 55? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 39 (Jayne Bryant).

Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 56 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 56? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 57? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:55

Cynigiwyd gwelliant 58 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 59 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Ydy, mae'n cael ei gynnig. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Felly, yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 60 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Yn cael ei symud. Dim gwrthwynebiad, oes e? Nag oes. Felly, yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 61 (Rhys ab Owen, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 30. Ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet? 

Cynigiwyd gwelliant 30 (Jayne Bryant, gyda chefnogaeth Siân Gwenllian).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 30? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 32? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nag oes. Mae gwelliant 33 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 34? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 48 (Joel James).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 48? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 49 (Joel James).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Jayne Bryant).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Joel James).

Yn cael ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad i welliant 5? Nag oes.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Jayne Bryant).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 62 (Rhys ab Owen).

Ydy. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae gwelliant 62 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 50 (Joel James).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad i welliant 50? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 63 (Rhys ab Owen).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Gwelliant 63 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Jayne Bryant).

Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Jayne Bryant).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 43 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Gwrthwynebiad? Nag oes. Cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 44 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Gwrthwynebiad? Nag oes. Cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Gwrthwynebiad? Nag oes. Cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 46 (Jayne Bryant).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Tynnwyd gwelliant 6 yn ôl.

Tynnwyd gwelliant 7 yn ôl.

Cynigiwyd gwelliant 51 (Joel James).

Yn cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nag oes. Gwelliant 51 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 9: Adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf hon i rym (Gwelliant 53)

Grŵp 9 yw'r nawfed grŵp o welliannau, sy'n ymwneud ag adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf hon i rym. Gwelliant 53 yw'r prif welliant. Siân Gwenllian sy'n cynnig y gwelliant yma. 

Cynigiwyd gwelliant 53 (Siân Gwenllian).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. O basio'r gwelliant yma, mi fyddai yna ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiadau fydd yn amlinellu ac yn adrodd ar ddod â holl ddarpariaethau'r Ddeddf i rym. Adroddiad cynnydd fyddai hwnnw, yn cael ei gyhoeddi yn unol â'r dyddiadau yn yr adran yma, ac yn cael ei osod gerbron y Senedd. Adroddiad cynnydd ar ddod â'r ddeddfwriaeth i rym, a hefyd adroddiad ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd gan Weinidogion Cymru i ddod â'r Ddeddf i rym yn llawn.

Dwi yn meddwl bod hyn yn bwysig. Mae o'n rhoi rôl glir i'r Senedd i ddal y Llywodraeth nesaf i gyfrif a hefyd yn pwysleisio'r angen am gadw llygad barcud ar y sefyllfa, a gweithredu os nad ydy'r cynnydd yn ddigon cyflym, gan gynnwys, wrth gwrs, efo cyweirio adeiladau presennol, rŵan ein bod ni wedi penderfynu cynnwys hynny yn y Bil. Byddai angen dod ag adroddiadau rheolaidd ger bron—o leiaf yn flynyddol—ynglŷn â'r adran newydd ar gyweirio sy'n cael ei gosod yn y Bil dan welliant 30, yn ogystal â holl ddarpariaethau eraill y Bil.

Mae hi yn bwysig ein bod ni’n dryloyw wrth ddod â’r Ddeddf yma i mewn er mwyn sicrhau atebolrwydd i breswylwyr drwy roi’r gallu i’r Senedd graffu ar yr amserlen a’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn. Does yna ddim byd gwaeth na diffyg gwybodaeth—mae hyn yn achosi poen meddwl i’r rheini sy’n dioddef. Bydd sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol i’r Senedd wrth ddod â’r Ddeddf i rym yn dangos ein bod ni fel seneddwyr yn cymryd y gwaith yma o ddifrif. Ac er nad ydy o'n ddigonol ynddo'i hun, mi fydd y gwelliant yma yn gam positif tuag at ein nod o sicrhau bod y gwaith hollbwysig o gyweirio adeiladau presennol yn digwydd.

18:00

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am welliant 53, sy'n ceisio cyflwyno dyletswydd statudol benodol ar Weinidogion Cymru i adrodd ar y cynnydd o ran dod â'r Bil i rym a phennu unrhyw gamau pellach i ddod â'r Bil i rym yn llawn. Bydd yn cryfhau'r gwaith o oruchwylio sut y gweithredir y Bil, felly rwy'n cefnogi gwelliant 53.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 53 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cytunwyd ar bob gwelliant a phob un yn unfrydol: y tro cyntaf mae'n siŵr i'r Senedd hon: 

Felly, mae Cyfnod 3 o Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru) wedi cael ei ystyried, a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.