Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/02/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd yn gyntaf heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn delio â pharcio ar balmentydd? OQ63823
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau i gymudwyr yng nghanolbarth Cymru? OQ63819
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru? OQ63847
Yn debyg iawn, yn amlwg, mae metro de Cymru wedi galluogi nifer mawr o fy etholwyr i gael mantais o hynny. Y ffaith, wrth gwrs, ydy bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod rhoi buddsoddiad sylweddol i mewn er mwyn adlewyrchu hefyd y tanfuddsoddiad sylweddol sydd wedi bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran isadeiledd rheilffyrdd. Y cwestiynau dwi'n eu cael gan etholwyr megis yn Ynysybwl ydy, 'Beth nesaf? Sut ydyn ni'n mynd i gael manteision o'r metro?' Mae yna sôn wedi bod yn y gorffennol o ran yr halt yng Nglyncoch; rydym ni wedi bod yn clywed, wrth gwrs, ynglŷn â'r posibilrwydd o ailagor y rheilffordd yn cysylltu Pont-y-clun a Beddau. Felly, eisiau gwybod ydw i pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau ein bod ni yn gallu mynd â'r weledigaeth metro de Cymru ymhellach, a hefyd cydgysylltu cymunedau, oherwydd, ar y funud, mae gormod o gysylltu'n digwydd rhwng Caerdydd, ond dim o gwm i gwm.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Ngogledd Cymru? OQ63822
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg? OQ63838
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch pobl sy'n dewis teithio llesol? OQ63828
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63813
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Siân Gwenllian.
8. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio i ddenu digwyddiadau chwaraeon i ogledd Cymru? OQ63835
Diolch yn fawr. Yr hyn sydd gen i dan sylw yn benodol ydy rowndiau terfynol Cwpan Cymru, a dwi wedi cefnogi'r galwadau am symud ffeinal Cwpan Cymru o Gasnewydd i'r gogledd, gan mai dim ond clybiau o'r gogledd sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, a llongyfarchiadau iddyn nhw. Fe gyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru ym mis Rhagfyr y byddai rownd derfynol y dynion yn cael ei chynnal yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei gadarnhau erbyn hyn, wrth gwrs, am eleni, ac mae'n siŵr, dwi'n deall, fod yna resymau cytundebol dros hynny. Ond, pedwar tîm o'r gogledd sydd wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol: Bangor, Fflint, Rhyl a Chaernarfon. A gaf i ofyn i chi felly drafod efo Cymdeithas Pêl-droed Cymru y posibilrwydd o gynnal y ffeinal yn y gogledd, ar rota rheolaidd efallai, bob yn ail flwyddyn neu rywbeth felly? Mi fyddai hynny yn ffordd deg ymlaen o ran y cefnogwyr sy'n gwario arian i gyrraedd y ffeinal, ond hefyd yn deg o ran rhannu'r budd economaidd lleol sy'n dod yn sgil cynnal Cwpan Cymru. Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi elusennau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63814
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl yng Ngorllewin De Cymru gyda phwysau costau byw? OQ63809
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i ddyfarniad y Goruchaf Lys bod menyw yn cael ei diffinio gan ryw fiolegol? OQ63840
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau dynol pobl yng Nghymru? OQ63832
5. Sut bydd cynllun hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl? OQ63817
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro dibynadwyedd y ffordd y mae'r Post Brenhinol yn ymdrin â gohebiaeth gwasanaeth cyhoeddus? OQ63844
Nid yw'r Aelod yn bresennol i ofyn cwestiwn 7, felly cwestiwn 8, Russell George.
8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi cynhwysiant digidol yng nghanolbarth Cymru? OQ63820
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Rhys ab Owen.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf a'r amserlen ar gyfer y ganolfan breswyl arfaethedig i ferched yn Abertawe? OQ63834
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Lindsay Whittle.
1. Sut mae'r Comisiwn yn annog pobl ifanc i bleidleisio yn etholiad y Senedd sydd i ddod ar 7 Mai 2026? OQ63846
Pobl ifanc yw un o'r grwpiau targed yn ymgyrch etholiad 2026 y Senedd, ac mae swyddogion yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hyn wedi cynnwys sesiynau addysg ar yr ystad yma ac oddi arni. Ym mis Ionawr yn unig, cynhaliodd y tîm addysg 107 o sesiynau gyda disgyblion sy'n gymwys i bleidleisio ledled Cymru. Mae ymdrechion hefyd wedi cynnwys digwyddiadau cymunedol, er enghraifft mewn prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr, a thrwy sianeli digidol wedi'u targedu at gynulleidfaoedd iau, fel Instagram, er mwyn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn yr etholiad.
2. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i alluogi staff i gael ffordd o fyw mwy iach ac egnïol? OQ63821
Mae'r Comisiwn yn annog staff i ystyried ffyrdd iach ac egnïol o fyw, er enghraifft cefnogi teithio llesol drwy'r cynllun beicio i'r gwaith, storfa feiciau diogel, cawodydd a beiciau at ddefnydd pawb. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n contractwr arlwyo i wella'n barhaus y dewisiadau bwyta'n iach, ac rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Caiff lefelau llesiant eu monitro trwy arolygon rheolaidd, a thrwy'r rhain rydym yn gweld gwelliannau parhaus mewn dangosyddion llesiant, gan gynnwys gostyngiadau mewn absenoldeb oherwydd salwch.
Diolch i'r Llywydd.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Byddwn yn symud ymlaen at eitem 5, y datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Mike Hedges.
Diolch i chi eich dau.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil hawliau dynol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9024 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys;
b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw eu hawliau'n cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac
c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â chynnal yr hawliau dynol hyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Hoffwn ddiolch, yn gyntaf, i Sioned Williams am y ddadl bwysig yma, ond, yn bwysicach fyth, ac am ei harweiniad ar hawliau dynol trwy gydol y Senedd hon. Dwi’n cytuno yn llwyr gyda beth ddywedodd hi yn ôl ym mis Tachwedd ac eto heddiw. Dyw hawliau na ellir eu hawlio ddim yn hawliau o gwbl. Wnaf i ddim ail-adrodd fy sylwadau am Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol; mae’r Trefnydd yn gwybod yn iawn fy marn i am hawliau mae cymunedau ac unigolion yn methu eu defnyddio.
Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y ddadl yma, oherwydd mae lleisiau cryf yn erbyn hawliau dynol. Mae'n anffodus, efallai, dydy’r lleisiau yna ddim yma heddiw i wrando ar y dadleuon. Efallai byddan nhw'n dod yma erbyn diwedd y ddadl i weiddi gwrthwynebiad. Roedd Tom yn fy atgoffa fi bach o Geoffrey Howe, ar ben ei hunan yna, yn mynd mas i wynebu'r bowlio gyda cricket bat sydd wedi’i dorri yn barod. Ond chwarae teg i ti, Tom, am fod the only man yn y Blaid Geidwadol sydd â diddordeb yn hawliau dynol. Er eich bod chi'n sôn gymaint amdano fe, dim ond un ohonoch chi sydd wedi gallu bod yn bothered i droi lan prynhawn yma i'r ddadl bwysig yma.
Fel dywedodd Sioned, nid dim ond i bleidiau'r asgell dde mae hon yn broblem. Edrychwch ar San Steffan, sy’n cwtogi ar hawliau protestio, a hefyd ein gwlad ni, a’r methiannau sydd wedi cael eu sôn amdanynt yn yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2025, methiannau’r Llywodraeth yma. A hwn yw'r eironi. Mae'r setliad datganoledig wedi cael ei sylfaenu ar hawliau dynol. Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a'r Ddeddf 2006, maen nhw wedi cael eu sylfaenu ar hawliau dynol—Deddfau, Tom, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dwywaith drostyn nhw mewn refferendwm. Felly, yn wahanol i San Steffan, mae'n rhaid i'r lle hwn ddeddfu yn unol â hawliau dynol.
Ond eto, mae methiannau, mae methiannau o fewn y Llywodraeth yma: methiant i ymgorffori hawliau plant i mewn i gyfraith Cymru, er, fel y dywedodd Sioned, fod hwn yn rhan o raglen lywodraethol y Senedd yma; methiant i gymryd camau i wella mynediad cyfartal pobl at addysg—cafodd canllawiau eu cyhoeddi tair blynedd yn ôl, ond rŷn ni eto yn aros am y canllawiau terfynol. Ac unwaith eto, er ei fod yn rhan o raglen lywodraethol y Llywodraeth yma, rŷn ni'n dal i aros am y ddeddfwriaeth a fydd yn helpu i wella mynediad i gyflogaeth i'r rheini sydd yn rhan o'r bwlch amlwg ar hyn o bryd. Fel y mae Sioned yn ei ddweud, byddai'r Bil yma yn creu atebolrwydd: atebolrwydd y Llywodraeth a'r lle hwn i bobl Cymru. Dwi'n mawr obeithio y bydd pleidiau yn cynnwys hwn yn eu maniffesto ac y bydd yna fwyafrif yn y Senedd nesaf i wneud y Bil hwn yn realiti. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.
Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Iawn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae hi'n dda clywed bod y Llywodraeth yn cefnogi, a'r cwestiwn yna ynglŷn â nid 'os' ond 'sut', onid e? Mae hi'n rhy hwyr—. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n eithaf eironig, a dweud y gwir, fy mod i'n cyflwyno'r ddadl yma heddiw fel legislative proposal achos mae hi'n rhy hwyr i'r Senedd hon, wrth gwrs, ddeddfu yn y maes hwn. Ond gallwn ni, yn sicr, anfon neges i'r Senedd nesaf, i'r Llywodraeth nesaf, i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli, ac mae Plaid Cymru yn barod i weithredu ar hyn.
Mae'r cynnig hwn yn ymwneud ag arweinyddiaeth ynghylch gweithredu'n bendant. Mae'r gwaith ar Fesur hawliau dynol yn yr Alban yn dangos i ni beth sy'n bosibl, ac mae'r dystiolaeth yng Nghymru yn dangos beth sy'n angenrheidiol. Mae'r cynnig hwn, felly, yn rhoi'r cyfle i ni droi ymrwymiad—ymrwymiad rydyn ni wedi ei gael ers nifer o flynyddoedd gan y Llywodraeth bresennol—yn realiti.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9149 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyfyngu ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffufiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed, ac yn cydnabod yr angen am y canlynol:
a) cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn a'r niwed i blant a phobl ifanc;
b) penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion;
c) cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gael eu dal yn gyfrifol am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, gyda deddfwriaeth bresennol yn cael ei gorfodi a'i chryfhau; a
d) ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl a'u safbwyntiau yn cael eu hystyried.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
Fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw. Nid oherwydd ein bod ni'n diystyru'r pryderon sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr a gan John Griffiths hefyd; i'r gwrthwyneb, mae llawer rydyn ni'n cytuno ag ef o safbwynt y cynnig gwreiddiol. Rydyn ni'n sylweddoli hefyd bod rhaid i ni wneud rhywbeth, am y rhesymau sydd wedi cael eu nodi yn barod.
Ond ein teimlad ni ar hyn o bryd yw bod yna gyfrifoldeb arnom ni, pan rydyn ni'n dod i sicrhau diogelwch plant, ein bod ni'n seilio unrhyw gynlluniau neu gamau gweithredu ar dystiolaeth. Mae'n hawdd iawn rhuthro i ffeindio atebion neu i gael penawdau hawdd iawn, ond beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw pwyllo i weld beth yw effaith gwirioneddol unrhyw bolisïau sy'n cael eu gweithredu yn Awstralia, er enghraifft, i weld beth yw'r pethau da ac efallai'r pethau sydd ddim cystal sydd yn dod mas o'r gwaith hwnnw.
Mae'r pryderon sydd wedi cael eu codi yn y ddadl hon yn rhai ystyrlon iawn, ac yn amlinellu mewn ffordd glir dros ben beth yw effaith negyddol y cyfryngau cymdeithasol. Does dim dwywaith fod plant yn cael eu niweidio ar-lein, a bod y niwed hwnnw yn digwydd nawr. Er enghraifft, mae tua un plentyn ym mhob tri wedi profi bwlio ar-lein, wedi cael pobl dydyn nhw ddim yn eu hadnabod yn cysylltu â nhw heb ganiatâd, neu wedi gweld cynnwys amhriodol. Mae bron i 90 y cant o bobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed yn treulio amser ar-lein bob dydd, gydag oriau di-ben-draw ar y cyfryngau cymdeithasol mewn rhai achosion. Mae bron i hanner yn dweud bod cynnwys ar-lein yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl nhw, gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn chwarae rhan sylweddol yn hynny o beth.
Mae diogelu yn fater a ddylai fod yn bryder i bob un ohonom ni, ac yn rhywbeth sydd yn gwbl annerbyniol. Mae diogelu plant yn fater ehangach na chyhoeddi cyfyngiadau neu waharddiadau heb eglurder llawn ar sut i'w gweithredu a'u gorfodi nhw. A hefyd, beth yw effeithiolrwydd y cyfyngiadau yma? Achos mae'n rhy gynnar i ni ddweud, heb ystyried y posibilrwydd o unrhyw ganlyniadau annisgwyl neu anfwriadol. Mae ymyriadau yn y maes hwn sydd heb eu cynllunio a’u hystyried yn ddigonol mewn perygl efallai o wthio plant i ryw gorneli tywyll yn y byd digidol hwnnw, i gorneli llai gweladwy, sy’n debygol o fod heb eu rheoleiddio gystal ag y mae'r cyfryngau ar-lein ar hyn o bryd hyd yn oed, lle mae yna beryglon mwy anodd i'w canfod a’u trin.
Dyna pam mae Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth—nid i ddod â therfyn i'r drafodaeth, ond fel man cychwyn i'r drafodaeth aeddfed y mae'n rhaid i ni ei gael ar fater mor bwysig â hwn. O safbwynt ysbryd y cynnig gwreiddiol gan y Ceidwadwyr, rŷn ni yn cytuno gydag ysbryd hwnnw, ond rŷn ni'n teimlo fod angen mwy o dystiolaeth arnom ni.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Galwaf ar Natasha Asghar i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9148 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) argymhellion Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru; a
b) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn o wariant ar blismona er nad yw'n faes cyfrifoldeb datganoledig.
2. Yn gresynu:
a) at fethiant 'partneriaeth mewn pŵer' Llafur i symud yr achos dros ddatganoli yn y maes hwn yn ei flaen; a
b) bod elfen praesept yr heddlu o'r dreth cyngor wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd toriadau yng nghyllid canolog y DU.
3. Yn credu bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau'r heddlu yn rhoi cyfle hollbwysig i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn, er mwyn alinio gwasanaethau'n well er budd pobl Cymru, yn unol â threfniadau sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys ymrwymiad i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru yn y Papur Gwyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r gwelliant i'r cynnig.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl 1(b) a rhoi yn ei le:
effaith gadarnhaol y £100m hwnnw o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau;
dull gweithredu adeiladol y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu o ran ymgysylltu â thirwedd unigryw Cymru, a'r ymrwymiadau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu modelau llywodraethu i Gymru.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i eirioli dros ddatganoli plismona a chyfiawnder; a
b) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda sefydliadau partner i nodi'r trefniadau llywodraethu gorau posibl i'r dyfodol ar gyfer plismona yng Nghymru, a'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwnnw, fel y nodir mewn Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 27 Ionawr 2026.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae wedi'i gyflwyno. Felly, Altaf Hussain.
Fel y dywedodd comisiwn Thomas yn 2019, nid yw cyfiawnder yn rhan annatod o greu polisi yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r cydweithio rhwng cyrff sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd ddim yn creu sefyllfa gymhleth sydd ddim yn rhoi atebolrwydd tryloyw, ac felly ddim yn arwain at berfformiad effeithiol. Dyna oedd barn comisiwn Thomas flynyddoedd yn ôl, ac mae o’n hollol wir heddiw, os nad yn fwy gwir, mewn gwirionedd.
Fel llefarydd tai Plaid Cymru, rydw i am sôn am un anomali diweddar. Ddoe, roeddem ni wrthi'n pasio Cyfnod 4 y Bil digartrefedd, Bil pwysig mae Plaid Cymru wedi bod yn falch o helpu i'w saernïo. Agwedd hollbwysig yn y Bil ydy rhoi'r pwyslais ar adnabod pobl sydd mewn peryg o wynebu digartrefedd cyn i'r argyfwng ddigwydd. Mae asiantaethau pwysig yn cael eu tynnu mewn i'r angen am ‘ofyn a gweithredu’, sef gweithwyr rheng flaen yn adnabod problem a gweithredu i atal unigolion rhag cysgu ar y stryd neu wynebu digartrefedd yn ei amryfal ffyrdd. Ond mae un partner allweddol ar goll, sef yr heddlu. Yn ystod Cyfnod 2, mi wnes i geisio gosod yr heddlu ar y rhestr amlasiantaethol sydd yn y Bil. Mae'r awydd yno yn glir gan ein lluoedd ni, ond gan nad ydy'r heddlu wedi cael ei ddatganoli, doedd hi ddim yn bosib yn gyfansoddiadol i wneud y newid yma a phasio'r gwelliant roeddwn i wedi'i gyflwyno.
Mae taclo digartrefedd yn golygu defnyddio dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar drawma. Mae hyn yn hanfodol, ac mi fydd yna hyfforddiant arbennig angen cael ei ddarparu ar draws yr asiantaethau newydd sydd wedi'u rhestru yn y Bil digartrefedd. Ond bydd yna ddim rheidrwydd ar yr heddlu i gymryd rhan yn hynny, a bydd Gweinidogion Cymru ddim yn gallu eu dwyn yn atebol. Mi fyddai'r cydweithio asiantaethol, y dwyn i gyfrif hanfodol, y pwyslais ar yr unigolion ac agwedd o ddeall trawma—mi fyddai hynny oll yn cryfhau petai'r heddlu yn rhan ffurfiol, statudol o'r bartneriaeth yma, sydd yn mynd i fod yn taclo digartrefedd mewn ffordd effeithiol, ond dydyn nhw ddim. Dydy'r heddlu ddim yn rhan o hyn, ac mae hyn yn wendid sylfaenol.
Prysured y dydd, felly, pan ddaw'r pwerau i Gymru ac y byddwn ni'n gallu bod yn fwy effeithiol yn y ffordd yr ydyn ni'n delio efo digartrefedd a llu o faterion eraill, fel bod llai o fywydau'n cael eu niweidio. Dyma'r deilliannau positif fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl Cymru o ddatganoli cyfiawnder a heddlua. Mae yna gyfle gwirioneddol rŵan efo'r Papur Gwyn. Beth am afael yn y cyfle yna wrth i'r model newydd gael ei ddatblygu, a rhoi'r pwerau perthnasol yma i Gymru, fel ein bod ni'n gallu bod yn effeithiol yn y ffordd yr ydyn ni'n trin rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas? Diolch.
Rydyn ni eisoes wedi clywed am yr anghydbwysedd sy’n bodoli rhwng cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn rhai meysydd a’i diffyg dylanwad o ran cyfiawnder a heddlua. Mae hyn yn creu tensiynau amlwg, ond yn bwysicaf oll, mae’n creu dioddefaint go iawn i unigolion a’u teuluoedd. Dyma, fel y dywedodd Sioned, ydy’r jagged edge, neu'r ymyl miniog o ddatganoli sy’n torri drwy galon ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r dystiolaeth yn glir: mae’r system cyfiawnder troseddol yn methu unigolion â phroblemau iechyd meddwl. Yn ein carchardai, mae naw o bob 10 carcharor yn dioddef efo broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Mae cyfraddau hunan-niweidio a marwolaethau yng ngharchardai Cymru, fel y gwelwyd yn drasig yn HMP Parc yn ddiweddar, ar eu lefel uchaf erioed. Nid dim ond llinellau ar siart cyfansoddiadol yw’r jagged edge yma, mae’n graith ar fywydau teuluoedd ledled Cymru. Pan fyddwn ni'n siarad am hollt mewn awdurdod, rydyn ni'n siarad am fam yn y Cymoedd sy’n gwylio ei mab mewn argyfwng iechyd meddwl, ond yn hytrach nag ambiwlans a nyrs, fan yr heddlu a chelloedd sy’n galw. Mae troseddu yn cael ei ystyried yn salwch oherwydd nad yw ein Deddfau ni yn fan hyn yn cyd-fynd â’n gwerthoedd iechyd.
Meddyliwch am y plentyn 15 oed hwnnw o ogledd Cymru sy’n cael ei gludo oriau i ffwrdd i ryw sefydliad yn Lloegr. Mae e’n colli cysylltiad â’i deulu, ei iaith a’r gwasanaethau cymdeithasol sydd i fod i’w helpu i ailadeiladu ei fywyd. Mae’r system bresennol yn dewis cosb bell ac unigedd dros iachâd a chefnogaeth. Mae hwn yn drawma sy’n cael ei achosi nid gan y drosedd, ond gan y setliad cyfansoddiadol methedig bresennol. Mae’r Llywodraeth yma'n hoffi dweud bod gofal iechyd meddwl Cymru yn un sy'n drawma-wybodus, ond yn amlwg yn ddall i’r ffaith ei fod yn achosi trawma dyfnach drwy fethu â newid y system ffaeledig yma.
Mae pob marwolaeth mewn carchar, pob gorddos ar ein strydoedd a phob swyddog heddlu sy’n gorfod gweithredu heb yr hyfforddiant seiciatryddol angenrheidiol yn dyst i system sydd wedi torri. Rydym yn gwasanaethu dau feistr, ac oherwydd hynny, nid ydym yn gwasanaethu ein pobl yn effeithiol. Drwy ddatganoli cyfiawnder, nid hawlio pŵer yn unig yr ydyn ni am wneud, ond rydyn ni'n hawlio’r hawl i drin ein dinasyddion ag urddas, tosturi ac un llais. Mae teuluoedd Cymru yn haeddu system sy’n eu gweld nhw fel bodau dynol cyfan, nid fel problemau gweinyddol i’w rhannu rhwng adrannau Llywodraethau yng Nghaerdydd neu Lundain.
Pam mae hyn yn digwydd? Oherwydd, yn fwyaf amlwg, fod yr atebolrwydd yn un sydd yn rhanedig, ac, yn ail, wrth rannu atebolrwydd yn y modd yma, mae’n arwain at sefydliadau yn gwadu atebolrwydd, gan bwyntio bys cyfrifoldeb o un i’r llall, yn debyg i’r meme Spiderman boblogaidd yna mae pawb wedi ei weld. Pan fydd unigolyn yn marw neu’n dioddef mewn carchar yng Nghymru, mae’r diogelwch yn fater i Lundain, ond mae’r gofal iechyd yn fater i Fae Caerdydd. Mae’r hollt hwn yn golygu nad oes neb yn gyfrifol am y person cyfan. Fel y dywedodd y comisiwn Thomas:
Nid mater i’r carchardai yn unig ydy hyn, mae’n effeithio ar ein strydoedd. Ar hyn o bryd, mae ein heddluoedd wedi dod yn wasanaeth llinell gyntaf ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl. Mae adroddiadau yn dangos bod swyddogion yng Nghymru yn treulio miloedd o oriau mewn adrannau achosion brys yn aros am welyau, oherwydd nad yw protocolau’r heddlu, sydd o dan San Steffan, a phrotocolau’r NHS, sydd o dan Fae Caerdydd, yn siarad â’i gilydd. Ystyriwch y teuluoedd sy’n colli anwyliaid i gyffuriau. Mae Llywodraeth Cymru eisiau dilyn dull lleihau niwed, ond mae’r heddlu wedi’u clymu i ddeddfwriaeth ar gyffuriau o Lundain. Mewn gwledydd lle mae iechyd a chyfiawnder wedi’u huno, mae yna arloesi, fel y prosiect Test for Change yn yr Alban, sy’n achub bywydau drwy ddefnyddio naloxone. Yng Nghymru, rydyn ni'n brwydro yn erbyn y llanw gyda dwy law wedi’u clymu y tu ôl i’n cefn.
Fel y dywedodd y Mick Antoniw, oedd yn Gwnsler Cyffredinol ar y pryd:
Mae angen datganoli plismona a chyfiawnder, nid er mwyn mwy o rym i wleidyddion, ond er mwyn sicrhau un system unedig—system sy’n trin pobl fel cleifion yn hytrach na throseddwyr, sy’n cadw plant yn agos at adref ac sy’n rhoi diwedd ar y dryswch sy’n costio bywydau. Mae’n bryd llyfnhau’r jagged edge hwn er mwyn pobl Cymru.
Dyma oedd testun fy nghwestiwn cyntaf i Mark Drakeford yn FMQs nôl ym mis Mai 2021, a dyma oedd y ddadl gyntaf i fi gymryd rhan ynddi—yn wir, agor y ddadl—eto nôl ym mis Mai 2021. Gallwn i ail-adrodd fy araith i bryd hynny gair am air, a bydd neb wir yn sylwi fel arall. Gallwn i hefyd siŵr o fod wedi ysgrifennu'r araith y gwnaeth Altaf ei ysgrifennu, a Gareth ei dweud, oherwydd roedd yn union yr un ddadl wedi cael ei defnyddio bryd hynny. Dyw'r ddadl, dyw'r naratif, fel roedd Julie Morgan yn sôn am fenywod yn y system, ddim wedi symud ymlaen o gwbl. Pum mlynedd yn ddiweddarach, ac rŷn ni yn yr union yr un lle. Roedd yna ryw obaith bum mlynedd yn ôl y byddai newid Llywodraeth yn San Steffan yn ein galluogi ni i symud y ddadl ymlaen, ond dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae'n glir i fi mai ideoleg wleidyddol sydd y tu ôl i'r blocio yma. Beth bynnag yw'r blaid yn San Steffan—Llafur, Torïaid, neu hyd yn oed Reform—ideoleg yw'r issue. Gallem ni gyflwyno pa bynnag ddadl y gallem ni, y dadleuon cryfaf posib, yr arbenigwyr gorau posib yn y maes—ac rydyn ni wedi—a byddech chi'n dal i wrthod; byddai San Steffan yn dal i wrthod oherwydd ideoleg. Ideoleg sy'n ennill y ddadl hon yn San Steffan.
Felly, beth fedrwn ni ei wneud? Beth fedrwn ni ei wneud? Wrth gwrs, mae'n rhaid inni ddal i gyflwyno'r ddadl. Mae'n rhaid inni ddal i wneud y ddadl yn glir i San Steffan, ond mae'n rhaid inni hefyd gyfaddef i ni ein hunain dydyn ni ddim yn mynd i berswadio San Steffan ar hyn o bryd i ddatganoli cyfiawnder. Rŷn ni wedi cyrraedd dead end ar hyn o bryd, ac mae'n anodd gweld sut y gallem ni dorri trwy hynny. Beth dwi’n credu yw bod yn rhaid inni edrych ar beth sydd gyda ni yn barod. Beth sy'n cael ei anghofio dro ar ôl tro yn y dadleuon yma yw bod traean o argymhellion y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn ymwneud â phethau y gallem eu gwneud nawr, pethau a all ddigwydd nawr heb unrhyw newid yn y setliad datganoli, pethau a allai wella bywydau pobl Cymru nawr. A dyw hynny ddim yn wir ar hyn o bryd. Wrth i fi holi cwestiynau am gyfiawnder yng Nghymru i'r Cwnsler Cyffredinol, dwi wedi gorfod dechrau'r cwestiwn fel hyn—oherwydd y diffyg atebolrwydd fan hyn, yng Nghymru, dwi'n gorfod dechrau'r cwestiwn fel hyn—'Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder', a dŷn ni heb gyrraedd y cwestiwn eto. Onid yw hwnna'n dangos pa mor wirion yw'r setliad fan hyn a pha mor gymhleth yw'r setliad fan hyn o fewn y Llywodraeth nad oes yna atebolrwydd clir ar gyfiawnder yma yn y Llywodraeth?
Yn yr ateb cyntaf a gefais i oddi wrth Mark Drakeford fel Prif Weinidog, fe wnaeth Mark Drakeford sôn am is-bwyllgor cyfiawnder Llywodraeth Cymru. Ŷch chi'n gwybod pryd y gwnaeth yr is-bwyllgor yna gyfarfod diwethaf? Chwefror 2024. Dwi wedi clywed dydy yr is-bwyllgor ddim yn cwrdd bellach oherwydd does dim angen gormod o bwyllgorau. Wel, dwi’n cytuno does dim angen gormod o bwyllgorau, ond mae'n rhaid inni ddangos wedyn ein bod ni'n cymryd y mater o ddifri mewn ffordd arall. Dwi wedi dweud tro ar ôl tro fan hyn mai colled mawr oedd peidio pasio'r Bil tribiwnlysoedd yn y Senedd yma. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith, sydd ddim yn argymhellion cymhleth, sydd ddim yn ddadleuol, wedi'u gwneud ers 2020—tymor diwethaf y Senedd. Byddai pasio'r Bil yna wedi sicrhau llys apêl i Gymru, yr un cyntaf yn hanes ein gwlad ni. Yn fwy pwysig, byddai wedi ein galluogi ni yn raddol i adeiladu ein system gyfiawnder ein hunain—system sy'n hygyrch i bawb, heb ffioedd fel sydd gyda'r llysoedd, heb yr angen am gyfreithwyr fel sydd gyda’r llysoedd. Byddai wedi bod yn hygyrch i bawb, a byddai wedi cynorthwyo'r rheini sy’n methu fforddio talu am gyfreithwyr. Dwi wedi dadlau drwy fy nghyfnod fan hyn yn y Senedd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar y tribiwnlysoedd wrth iddyn nhw basio Biliau. Dylem ni fod yn defnyddio ein tribiwnlysoedd ni wrth inni basio Biliau pan mae’n dod i enforceability, pan mae’n dod i wneud yn siŵr bod y Bil yn cael ei ddefnyddio'n iawn, ond dyw hwnna ddim wedi digwydd. Dwi’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny yn y Bil diogelwch adeiladau.
Siom arall cefais i’n ddiweddar oedd deall dyw Llywodraeth Cymru ddim yn parhau â llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, er bod y peilot wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac wedi hynny bod Prifysgol Caerdydd wedi dangos pa mor llwyddiannus oedd y peilot. Dyma mae barnwr wedi'i ddweud, a byddaf yn gorffen gyda hyn nawr.
Daeth y peilot i ben, aeth hi nôl i gymryd cyffuriau, ac mae'r plentyn nawr mewn gofal. Dyma oedd penderfyniad gallem ni fod wedi ei wneud yn fan hyn, ac rŷn ni wedi gadael lawr y teulu yna, a phwy â ŵyr pa broblemau rŷn ni'n creu at y dyfodol.
Yn ystod wythnos prentisiaethau, mae cyfle yn fan hyn gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod modd cymhwyso fel cyfreithiwr drwy brentisiaeth lefel 7. Mae modd gwneud hynny yn Lloegr. Does dim modd gwneud hyn yn fan hyn. Gobeithio fy mod i wedi dangos i chi, a gobeithio bydd Llywodraeth nesaf y lle hwn yn gwrando ac yn dangos ac yn cymryd mantais o'r hyn allwn ni ei wneud i wella cyfiawnder fan hyn, a thrwy hynny gwella bywydau pobl Cymru. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr, Jane Hutt.
Rhun ap Iorwerth nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a dwi yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'n werth myfyrio, dwi'n meddwl, eto heddiw, wrth gloi y ddadl yma, ar eiriau’r comisiwn Thomas wrth iddyn nhw gyhoeddi’r argymhellion hynny yn ôl yn 2019:
'nid yw pobl Cymru yn cael yr un budd â phobl yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, lle mae cyfiawnder yn rhan annatod o'r gwaith cyffredinol o lunio polisïau.'
A dyna'n union pam mae Plaid Cymru wedi dod â'r ddadl yma gerbron y Senedd heddiw. Nid dadl gyfansoddiadol er ei lles ei hun ydy'r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ond dadl i roi'r pwerau i Gymru fynd ati i wynebu rhai o'r heriau mwyaf dwys sy'n wynebu ein cymunedau a'n cymdeithas.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ohirio'r bleidlais.
Eitem 9 sydd nesaf. Y cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Adam Price sy'n gwneud y cynnig.
Cynnig NDM9136 Adam Price
Cynnig bod y Senedd:
Yn unol â Rheol Sefydlog 26C.40, yn ystyried gwelliannau i'r Biliau Cynllunio (Cymru) a Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. I move this procedural motion for a straightforward and important parliamentary reason. An issue of real substance has surfaced late in the day in relation to the planning consolidation Bills, and Standing Order 26C exists precisely to deal with that eventuality without otherwise derailing the process. Let me explain a little bit in greater detail.
These Bills have been through a consolidation route on the sensible assumption that most of what they do is technical. They restate, tidy up, make the law more accessible. And, at Stage 2, the focus, quite understandably, was on whether the new code accurately reflects existing planning law and removes genuinely spent provision. But one particular change with wider implications has not had the open Senedd debate, we now believe, based on the information we have, it merits. I recognise that this is late in the process, but I don't say that as an apology or indeed a self-criticism, because, I mean, consolidation is, by definition, a dense and complex process, and that's precisely why the Senedd has retained the safety valve for scrutiny that I'm asking that we use.
Standing Order 26C allows the responsible committee, where appropriate, to recommend that a consolidation Bill proceeds directly to a final stage, but it also recognises that Members may identify a matter that deserves fuller debate and amendment. And in those circumstances, any Member may table a motion to trigger a detailed Senedd consideration stage—and today's motion is that mechanism.
I should say that this isn't some kind of parliamentary trick, it's not an ambush. It's the standing orders, really, working as intended. So, what is the specific issue, in brief? In the Planning (Consequential Provisions) (Wales) Bill, the Government proposed to remove for Wales—or for Welsh Ministers—the power to make an urban development corporation, if one is established, the local planning authority for specified purposes in its area. Now, the Government says that the power has never been used in Wales and that the legal mechanism is imperfect. It transfers only some functions, leaving gaps. And they cite a range of practical problems and argue that any future Government that wanted to do this properly would, in any event, need fresh primary legislation.
Now, those are arguments worth hearing, we certainly concede, but they're not arguments for denying the Senedd the chance to decide on whether to repeal the power.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Y Cwnsler Cyffredinol nawr sy'n ymateb—Julie James.
Adam Price i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac fe wnawn ni gymryd y bleidlais ar yr eitem yna a phob eitem yn y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod 3 Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, fe wnawn ni symud at y cyfnod pleidleisio.
Felly, y bleidlais gyntaf y prynhawn yma fydd y bleidlais ar eitem 6. Dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil hawliau dynol yw'r eitem yma. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Bydd y pleidleisiau nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr ar gyfyngu cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Pleidlais ar y cynnig yn gyntaf, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 14 yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, dau yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i basio.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Y bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9149 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed, ac yn cydnabod yr angen am y canlynol:
a) cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn a'r niwed i blant a phobl ifanc;
b) penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion;
c) cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gael eu dal yn gyfrifol am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, gyda deddfwriaeth bresennol yn cael ei gorfodi a'i chryfhau; a
d) ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl a'u safbwyntiau yn cael eu hystyried
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, dau yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Ac felly, y bleidlais olaf fydd y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9148 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) argymhellion Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru; a
b) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn o wariant ar blismona er nad yw'n faes cyfrifoldeb datganoledig.
c) effaith gadarnhaol y £100m hwnnw o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau;
d) dull gweithredu adeiladol y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu o ran ymgysylltu â thirwedd unigryw Cymru, a'r ymrwymiadau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu modelau llywodraethu i Gymru.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i eirioli dros ddatganoli plismona a chyfiawnder; a
b) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda sefydliadau partner i nodi'r trefniadau llywodraethu gorau posibl i'r dyfodol ar gyfer plismona yng Nghymru, a'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwnnw, fel y nodir mewn
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 27 Ionawr 2026.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i gymeradwyo.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni. [Torri ar draws.] Oes, ymddiheuriadau i Adam Price. Mae yna gynnig—
Felly, byddwn ni yn pleidleisio—.
Felly, mae'r bleidlais olaf ar eitem 9, y cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Felly, dwi'n cau'r bleidlais. O blaid y cynnig mae yna 15, neb yn ymatal a 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. Dyna ni—dyna beth yw diwedd y pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Ond, nid dyna ddiwedd y cyfarfod, oherwydd mae yna ddwy ddadl fer heno. Mae'r cyntaf gan Llyr Gruffydd ac yna'r ail un gan Julie Morgan. Felly, Llyr Gruffydd—.
Llyr Gruffydd i gyflwyno ei ddadl fer.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n falch iawn o rannu peth o'm amser i gyda Lindsay Whittle a James Evans, a fydd hefyd yn cael cyfle, gobeithio, i gyfrannu at y ddadl yma. Heddiw, dwi eisiau inni ffocysu a thrafod pwnc sydd ddim dim ond yn ddiwydiant neu'n rhyw fath o sector, ond un sy'n cynrychioli calon ein cymunedau ni. Trafodaeth fydd hon am lefydd sydd, ers cenedlaethau, wedi bod yn gonglfeini cymdeithasol ar draws Cymru, sef y dafarn leol.
Ledled Cymru, mae cymunedau’n cymryd rheolaeth pan fo’u hasedau lleol nhw dan fygythiad. Rŷn ni wedi ac yn parhau i weld cynnydd rhyfeddol mewn tafarndai cymunedol, dechrau newydd gwirioneddol i letygarwch lleol yn rhai o'r cymunedau hyn. Mae yna enghreifftiau lu, wrth gwrs, mae rhywun yn meddwl am Tafarn y Fic yn Llithfaen fel yr enghraifft gyntaf o dafarn gymunedol yng Nghymru. Yn nes at adref i fi, y Raven yn Llanarmon-yn-Iâl, Saith Seren yn Wrecsam, sy'n dangos ei fod e'r un mor berthnasol mewn cymuned drefol, nid dim ond rhywbeth efallai bod rhywun yn meddwl amdano fe mewn cymuned wledig. Mae yna eraill, fel Tŷ’n Llan yn Llandwrog, yr Eagles yn Llanuwchllyn, Y Llew Gwyn yng Ngherrigydrudion.
Ym mhob un o’r achosion hyn, mae'r gymuned leol wedi dod at ei gilydd i achub tafarn oedd naill ai wedi cau neu ar fin cau. Maen nhw'n cael eu prynu gan y gymuned, maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan y gymuned, ac maen nhw'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Ac yn bwysicach na dim, wrth gwrs, mae’r elw’n aros yn y gymuned, yn cael ei ailfuddsoddi mewn gweithgareddau, mewn gwasanaethau a digwyddiadau cymunedol o bob math.
Mae’r cysyniad yma—cymunedoli—yn crynhoi rhywbeth pwerus iawn, onid yw e, bod y cymunedau hynny yn cymryd rheolaeth dros eu tynged eu hunain. Pan fo tafarndai’n gweithredu fel asedau cymunedol, maen nhw'n yn dod yn fwy na mannau i fwyta ac yfed, maen nhw yn troi’n ystafelloedd byw y pentref, yn ganolfannau diwylliannol, maen nhw'n creu swyddi, ac yn ganolbwyntiau ar gyfer gwasanaethau eraill wedyn fel swyddfeydd post, y siop leol, mannau cyfarfod ac yn y blaen.
Felly, y cwestiwn y mae’n rhaid inni ei ystyried fan hyn yw: a all perchnogaeth gymunedol fod yn rhan o achub y dafarn leol? Wel, wrth gwrs y gall hi, rŷn ni wedi gweld hynny yn digwydd, ac mae angen cefnogi ac annog hynny fel model yn symud ymlaen i'r dyfodol. Ond ai prynu gan y gymuned uw'r unig achubiaeth? Wel, nag e, ddim o gwbl. Mi ddylen ni, wrth gwrs, ddathlu’r llwyddiannau hyn, ond weithiau mae yna beryg ein bod ni'n rhamanteiddio ychydig. Dyw e ddim yn ateb egsliwsif, ydyw e? Mae cymunedau efallai ddim â'r adnoddau i brynu, neu dyw pob tafarn ddim mewn sefyllfa i gael ei throsglwyddo i fodel cymunedol.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am alw'r ddadl hon a rhoi cyfle i ni drafod dyfodol ein tafarndai yn fanylach.