Y Cyfarfod Llawn
Plenary
27/01/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnoli triniaethau dermatoleg ac endosgopi? OQ63740
2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran sicrhau poblogaeth iachach a mwy egnïol? OQ63764
We launched our new 'Healthy Weight: Healthy Wales' delivery plan in September, with full Cabinet and cross-Government support. The plan has a clear focus not just on food, but also on physical activity. Across Government, we’re improving active travel routes, establishing regional sport partnerships, through Sport Wales, developing the daily active offer for our schools, and providing significant funding for programmes, such as the 60-plus active leisure scheme, and Fit Fans, to support adults to be more active.
Wel, os ydym ni o ddifrif am weithredu cynlluniau ataliol, yna mae genomeg—genomics—am fod yn ganolog i hyn. Mae mapio ac adnabod cod genetaidd person am arwain at y gallu i deilwra gofal iechyd ymhell cyn i rywun orfod derbyn triniaeth neu ofal oherwydd y gallu yna i adnabod cyflwr ymhell o flaen llaw. Felly, sut ydych chi'n gweld genomics yn cynorthwyo i gyrraedd targedau iechyd y Llywodraeth yma?
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd a llesiant newydd yn Arfon? OQ63766
Dwi'n falch o allu cadarnhau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu arian i ddatblygu achosion busnes ar gyfer Waunfawr a Chanolfan Lleu, a'n bod ni'n aros am geisiadau pellach am gyllid ar gyfer y tri chynnig yn Arfon.
Bron i 10 mlynedd yn ôl, pan ges i fy ethol i'r Senedd am y tro cyntaf dros bobl Arfon, mi wnes i godi pryder am ddiffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal yn Waunfawr a Llanrug yn fy etholaeth i, a'r amodau hollol annerbyniol y mae gofyn i gleifion a meddygon eu dioddef. Ychydig wedyn, yn 2017, ni wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus mewn rhan arall o'r etholaeth, yn Nyffryn Nantlle, i drafod diffygion enbyd y cyfleusterau iechyd yn yr ardal honno. Ac wedyn, yn 2021, daeth y problemau ym Mangor i'n sylw ni, ac mi wnes i roi fy nghefnogaeth i gynllun i greu canolfan iechyd a gofal newydd sbon yng nghanol y ddinas.
Mae dau dymor seneddol wedi mynd heibio, a dydy'r cynlluniau yma ddim wedi'u gwireddu. Dim un rhaw wedi'i tharo yn y ddaear yn un o'r tri lleoliad yma. A wnewch chi felly ymrwymo i adolygu, cyn diwedd y tymor hwn, broses creu cynlluniau saith cam trwsgl y byrddau iechyd, sydd yn amlwg ddim yn ffit i bwrpas, ac a wnewch chi hefyd gytuno efo fi fod yr oedi sylweddol yma'n warthus ac yn gadael fy etholwyr i i lawr, a bod y staff proffesiynol yn cael eu gadael i lawr hefyd?
Wel, ychydig iawn o arian cyfalaf oedd gyda ni fel Llywodraeth o dan y Torïaid. Dyna'r gwirionedd. Ychydig iawn o arian oedd ar gael ar gyfer datblygu pethau fel hyn mewn ardaloedd fel Bangor, Waunfawr a Phenygroes. Ond mae'r rhain nawr yn brif flaenoriaeth i gynllun cyfalaf strategol bwrdd partneriaeth rhanbarthol gogledd Cymru, a'r ffaith yw, achos ein bod ni nawr gyda Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfalaf, fod yna arian yn yr integration and rebalancing capital fund sydd ar gael ar gyfer y datblygiadau hyn, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at dderbyn y cynigion hynny oddi wrth Betsi. Ond mae angen, dwi'n meddwl, symleiddio'r broses. Dwi'n meddwl bod pob un yn derbyn hynny. Ond y ffaith yw, does dim pwynt symleiddio os nad yw'r arian yna. Nawr mae'r arian yna ar gael am y tro cyntaf mewn dros ddegawd.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau canser Cymru? OQ63760
Mae un o bob dau person yn debygol o ddatblygu canser rywbryd yn eu bywyd, felly mae gwella gofal, triniaeth a chanlyniadau canser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Rŷn ni'n canolbwyntio ar weithio gyda'r NHS i ddarganfod canser yn gynharach a gwella mynediad at driniaeth.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae'n rhwystredig gweld y data diweddaraf yn dangos bod y targedau perfformio canser yn dirywio eto fyth. Ond yn achos cleifion yn y gogledd, mae'r her o gael diagnosis hyd yn oed yn waeth. Mae un o fy etholwyr i, er enghraifft, gyda risg uchel o ganser y prostad, ac angen, felly, sgan positron emission tomography ar frys, ond mae yna oedi o hyd at wyth wythnos yn y sgan hynny oherwydd bod y cytundeb rhwng ysbyty Maelor, yr NHS Wales Joint Commissioning Committee a darparwyr preifat yr offeryn yma wedi dirwyn i ben. Felly, mae'n rhaid i'r claf yna deithio ymhell lawr i Gaerdydd am y driniaeth yna, o leiaf wyth wythnos ar ôl yr amser roedd e i fod i gael y sgan.
Sut mae sefyllfa wedi codi ble mae cytundeb ar beiriant sganio PET yn dirwyn i ben? Mae cytundeb mewn lle am gyfnod penodol o amser, ac mae dyddiad terfyn y cytundeb yna yn wybyddus o ddechrau'r cytundeb. Ydych chi felly yn meddwl ei fod o'n dderbyniol bod cleifion sydd yn byw gyda chanser ymosodol fel yma yn gorfod aros wythnosau hir am sgan oherwydd methiannau gweinyddol?
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63759
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghylch rhedeg Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ63748
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i leddfu amddifadedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ63745
Y ffordd orau o leddfu amddifadedd a thaclo problemau tlodi yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael swyddi o safon da. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu hyfforddi ac yn barod i fynd i mewn i'r farchnad swyddi. Dyna pam rŷn ni'n benderfynol o ganolbwyntio ar yr economi a chreu swyddi, a dyna pam mae digwyddiadau fel yr uwchgynhadledd buddsoddiad mor bwysig.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Alun Davies.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid addysg ym Mlaenau Gwent? OQ63767
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhys ab Owen.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau achos Norton v Bwrdeistref Llundain Haringey ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)? OQ63721
Diolch yn fawr. Roedd yr achos, fel rŷch chi'n gwybod, yn ystyried a ydy methiant gan awdurdod lleol i sicrhau bod asesiad o sefyllfa'r ymgeisydd yn unol â Rhan 189A Deddf Cartrefi 1996 yn golygu bod penderfyniad hwyrach ymlaen yn y broses ar addasrwydd llety i ymgeisydd yn anghyfreithiol. Nawr, rŷch chi'n gwybod gwnaeth y barnwr penderfynu bod methiant felly a gwneud penderfyniad o'r fath ddim yn anghyfreithiol a bod llys yr apêl wedi cadarnhau hynny. Nawr, ar hyn o bryd, byddai'r Bil digartrefedd yn caniatáu i'r fath sefyllfa i ddigwydd yng Nghymru. Byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i nod y Bil i ddarparu system gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol cydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gartrefi i gadarnhau os mai bwriad Llywodraeth Cymru yw dilyn penderfyniad achos Norton, neu, yr opsiwn dwi'n ei ffafrio, i addasu'r Bil i sicrhau bod system gynaliadwy gennym ni, sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn?
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r camau y gall eu cymryd i sicrhau bod Cynllun Datblygu Lleol Torfaen yn cael ei fabwysiadu'n gyfreithlon erbyn 2028? OQ63722
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch y menywod a anwyd yn y 1950au a amddifadwyd o'u pensiwn? OQ63727
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau iechyd y llywodraeth? OQ63731
Cwestiwn 6, Lindsay Whittle.
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Llywodraeth ar statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas â chynllun £45 biliwn Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn? OQ63730
Ac yn olaf, cwestiwn 7, Rhys ab Owen.
7. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gwneud yn ofynnol i aelodau tribiwnlysoedd Cymru dyngu llw neu roi cadarnhad o'u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol? OQ63720
Yr hyn wnaeth fy atgoffa am hwn, wrth gwrs, oedd y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) diweddar. Gwnaeth fy atgoffa nad yw mwyafrif aelodau Tribiwnlysoedd Cymru angen tyngu llw. Mewn gwirionedd, dim ond un person sydd angen tyngu llw, a hynny yw llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn nhribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, wrth gwrs, ble mae'r aelodau barnwrol i gyd yn tyngu llw. Ac mae tyngu llw yn bwysig. Mae'n fwy na jest rhywbeth symbolaidd; mae'n dangos bod cyfiawnder yn rhywbeth sy'n bwysig i gael ei ddangos, bod pobl yn credu bod y farnwriaeth yn annibynnol. Nawr, fel rydych chi wedi dweud, gwnaeth ymgynghoriad y Papur Gwyn ddangos bod cefnogaeth o 72 y cant ymysg aelodau Tribiwnlysoedd Cymru i dyngu llw pan fyddan nhw'n dod yn aelod. Nawr, dwi'n falch y bydd hwnna'n cael ei gynnwys yn y Bil, ac fe gawn ni weld pan ddaw'r Bil, ond, yn y cyfamser, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn gallu eu cymryd i sicrhau bod annibynniaeth Tribiwnlysoedd Cymru a'u haelodaeth yn amlwg i'r cyhoedd? Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch am sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r gweithlu yn ein prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ac rwy'n datgan budd, Dirprwy Lywydd, fod fy ngŵr yn athro ac yn bennaeth ar yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yr wythnos diwethaf, fe glywodd 204 o staff academaidd yn y brifysgol eu bod mewn risg o gael eu diswyddo a bod gan y brifysgol gynlluniau i leihau nifer y staff academaidd o 55 mewn meysydd sy'n cynnwys meddygaeth, iechyd a gwyddorau bywyd, gwyddoniaeth, peirianneg, sy'n cynnwys cyfrifiadureg, a'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol. Mae 400 o swyddi eisoes wedi eu torri drwy ddiswyddiadau gwirfoddol a pheidio â phenodi i dros 200 o swyddi gwag dros y ddwy flynedd diwethaf.
Mae'r sector wedi bod mewn argyfwng ar draws Prydain, ac mewn termau Prydeinig mae'n cael ei drafod, ond, fel mewn cymaint o feysydd eraill, mae effaith hyn ar Gymru yn neilltuol. Mae ein prifysgolion ymysg y sefydliadau Cymreig sydd ag adnabyddiaeth ryngwladol, maen nhw'n tynnu talent ryngwladol i mewn, ac mae'r ymdrechion i'w sefydlu yn rhan greiddiol o hanes ein cenedl a hanes y Senedd yma. Felly, hoffwn wybod pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith ei gweithredoedd hyd yma i gefnogi gweithlu ein prifysgolion. Rhaid i ni weld camau brys yn cael eu cymryd i sicrhau bod cyfraniad yr academwyr hyn a'n prifysgolion i'n cenedl yn cael ei ddiogelu.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a gofal ynghylch argaeledd a darpariaeth gwelyau iechyd meddwl, os gwelwch yn dda, yn enwedig o edrych ar ogledd Cymru? Mae gen i achosion yn dod i mewn i'r swyddfa lle mae pobl sydd yn dioddef o gyflyron afiechyd meddwl yn gorfod mynd i gael eu gosod mewn gwelyau ar draws y ffin, ymhell i ffwrdd o'u cartrefi nhw, rywle ym mhellteroedd Lloegr. Gwnaf i roi un enghraifft i chi lle mae yna ddyn wedi dod i mewn ac mae o wedi darganfod bod ganddo fe ganser. O ganlyniad i hynny, roedd ei iechyd meddwl e wedi dirywio yn sylweddol, i'r pwynt fod y bwrdd iechyd yn gorfod ei osod o yn rhywle i gael gofal dros ambell i noson, ac roedd e wedi gorfod mynd i Birmingham. Mae'r dyn yma yn iaith gyntaf Cymraeg. Mae ei deulu o i gyd yn iaith gyntaf Cymraeg. Mae o'n fwy cyfforddus yng nghyfrwng y Gymraeg. Ond mae o'n methu â chael y gwasanaeth angenrheidiol oherwydd ei fod o wedi cael ei osod yn Birmingham, oherwydd y diffyg gwelyau sydd gennym ni yn y gogledd, ac yn wir yng Nghymru. Felly, buasai'n dda cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet er mwyn medru trafod y pwynt yna, os gwelwch yn dda.
Ac yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, amseroedd aros y GIG. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna. Tybed a oes yma lygedyn o obaith? Dwi'n mawr obeithio hynny, oherwydd mae yn ein diddordeb ni i gyd, pob un ohonom ni, fod y rhestrau aros yn lleihau, er mwyn gallu neilltuo adnoddau prin a ffocws cyhoeddus ar yr achosion sydd wrth wraidd yr argyfyngau iechyd, yn hytrach nag ar y symptomau.
Felly, mae'r mymryn o gynnydd sydd i'w weld i'w groesawu. Ond mae'n rhaid cadw persbectif, oherwydd mi ydym ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Ar ddiwedd 2023, fe welsom ni ostyngiadau bach tebyg yn y rhestrau aros bryd hynny. Fe roddodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog erbyn hyn, sicrwydd ein bod ni wedi troi'r gornel. Ond, fel mae hanes yn dangos, fe ddilynwyd hynny gan bron i flwyddyn gyfan o'r rhestrau aros ar eu lefelau uchaf erioed. Ac er gwaethaf y cynnydd bach sydd wedi ei weld yn ddiweddar, y gwir ydy bod y rhestr aros gyffredinol yn dal i fod dros 50,000 yn uwch heddiw nag yr oedd pan lansiwyd y cynllun adfer gofal nôl ym mis Ebrill 2022.
Nid yw'r uchelgais i adeiladu nôl yn well ar ôl y pandemig wedi ei wireddu eto. I'r gwrthwyneb, mae'r rhestrau aros a'r ffaith bod gymaint o adnoddau wedi cael eu rhoi ar geisio mynd i'r afael â nhw wedi gwneud pethau'n anos i weddill y gwasanaeth iechyd. O ganlyniad, bydd y Llywodraeth nesaf yn etifeddu gwasanaeth iechyd sy'n fwy bregus, o dan fwy o straen, a chyda llai o hyder y cyhoedd nag erioed o'r blaen.
Ar yr un pryd, mae targedau ar gyfer profion, therapïau, triniaeth canser a dileu’r arosiadau hiraf wedi cael eu methu mor aml fel eu bod nhw bron yn ddiystyr. Felly, pa sicrwydd gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi i bobl Cymru fod y gwelliannau diweddar hyn yn rhai parhaol, ac nad enghraifft arall o obaith ffug ydy o?
Hefyd, mae rhan sylweddol o wariant Llywodraeth Cymru ar restrau aros, dros £1.5 biliwn yn ystod y Senedd yma, wedi mynd ar brynu capasiti gan y sector preifat. Yn achos Betsi Cadwaladr, mae hyn wedi arwain at drefniadau lle nad oes unrhyw staff clinigol y gwasanaeth iechyd yn gysylltiedig o gwbl â'r broses, sy'n codi cwestiynau difrifol am safonau gofal. Allwch chi gadarnhau faint yn union sydd wedi ei wario ar gapasiti'r sector preifat yn ystod y Senedd yma, ac a allwch chi warantu bod pob trefniant presennol yn bodloni safonau gofal y gwasanaeth iechyd?
Hefyd, mae angen cadw mewn cof mai llwyddiannau cymharol ydy'r rhain. Mae arosiadau dwy flynedd yn parhau'n llawer uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'r gymhareb o gleifion i boblogaeth hefyd yn waeth. Fis Mehefin diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet fesurau i leihau'r rhestrau aros gan 200,000 erbyn Mawrth 2026, a fyddai'n dal i adael bron i 600,000 ar y rhestrau aros. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod llai na 20 y cant o'r gostyngiad hwnnw wedi'i gyflawni. Gyda Mawrth yn nesáu yn gyflym, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn dal yn hyderus y bydd yn cyflawni'r addewid yma? Os felly, beth yn union mae o am ei wneud er mwyn cyflymu'r broses?
Yn olaf, fel dwi wedi sôn sawl gwaith, symptom yn unig ydy'r rhestrau aros o broblem llawer ehangach: methiant y Blaid Lafur i ddiwygio ac i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol. Yn lle hynny, mae dibyniaeth ar atebion tymor byr, drud wedi arwain at lai a llai o fudd i gleifion, pwysau ar gyllidebau eraill ac esgeuluso iechyd y cyhoedd. Er tegwch i'r Ysgrifennydd Cabinet presennol, dwi'n credu ei fod yn deall y problemau yma, ond ei fod wedi cael ei siomi gan fethiannau ei ragflaenwyr i adeiladu system fwy cadarn sy'n cadw pobl yn iach, nid dim ond yn rheoli salwch. Ydy o felly'n cytuno bod angen i arweinydd nesaf ein Llywodraeth yng Nghymru dorri yn bendant ar y dull presennol, delio â'r argyfwng brys yn y rhestrau aros a chyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn adnewyddu ein system iechyd?
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 yw'r ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9117 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2026-27 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar gyllideb derfynol 2026-27, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9118 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr unwaith eto. Mae'n bleser gen i osod cyllideb derfynol 2026-27 gerbron y Senedd heddiw. Hoffwn gychwyn drwy ddiolch i bawb yn y Senedd hon am gymryd rhan yn y broses o osod y gyllideb. Mae pob un o bwyllgorau craffu'r Senedd wedi gwneud gwaith manwl a phwysig sydd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau. Wrth gwrs, mae nifer o'r Aelodau yma wedi bod yn rhan o drafodaethau i ddod i gytundeb ar y gyllideb. Mae hyn i gyd yn adlewyrchu diwylliant sydd wedi datblygu dros chwarter canrif o ddatganoli, diwylliant lle mae cydweithio'n golygu y gallwn ni gytuno ar flaenoriaethau a chyflwyno cyllideb derfynol ar y sail honno.
Ar gyfer cyllideb 2025-26, daethom i gytundeb gyda Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hoffwn ddiolch iddi am barhau i drafod yn gadarnhaol gyda ni ar y gyllideb. Roedd y cytundeb hwnnw'n cynnwys cyllid hanfodol mewn meysydd allweddol fel gofal cymdeithasol, gofal plant a chyflwyno tocyn bws am £1 i bobl ifanc o 16 i 21 oed—cynllun sydd wedi bod mor llwyddiannus mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun i blant pump oed. Rydyn ni wedi gallu parhau â'r cyllid hwnnw, a llawer o'r elfennau eraill o'r cytundeb hwnnw, i 2026-27.
Dirprwy Lywydd, mae trafodaethau gyda phleidiau eraill ar gyfer cyllideb 2026-27 wedi bod yr un mor bellgyrhaeddol. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am y ffordd adeiladol mae wedi trafod gyda ni eleni. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni wedi rhoi eglurder a sefydlogrwydd cynnar i lywodraeth leol a'r gwasanaethau iechyd drwy'r cytundeb cyllideb a wnaethom ni ei gyhoeddi fis Rhagfyr, cyn y Nadolig a chyn y ddadl ar y gyllideb ddrafft.
Dirprwy Lywydd, rwy'n troi nawr at brif fanylion y gyllideb derfynol a'r newidiadau sylweddol rhwng cyhoeddi'r gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol.
Dirprwy Lywydd, fedraf i ddim rhestru bob esiampl o gyllid ychwanegol y prynhawn yma, ond hoffwn dynnu sylw at y £3.1 miliwn o gyfalaf ar gyfer y Gymraeg. Mae hyn yn bennaf er mwyn gwneud gwaith adnewyddu i safleoedd preswyl yr Urdd. Bydd hyn yn cynyddu'r cyfleon i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 33 o argymhellion, ac rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn y mwyafrif llethol o'r argymhellion naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Er ein bod yn siomedig y cafodd un argymhelliad ei wrthod, rydym yn nodi rhesymau'r Ysgrifennydd Cabinet dros wneud hynny.
Gan mai hon yw'r ddadl olaf ar y gyllideb derfynol cyn diwedd y Senedd hon, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i’r holl sefydliadau, unigolion a phobl ifanc sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu barn gyda ni a helpu i lywio ein gwaith craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru drwy gydol y chweched Senedd. Yn ogystal â hyn, hoffwn ddiolch i staff a thîm clercio ac ymchwil y Pwyllgor Cyllid a'r Senedd gyfan. Mae eu sylwadau wedi helpu i sicrhau bod y gyllideb yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru.
Wrth edrych ymlaen at y seithfed Senedd, ein pwyllgor olynol fydd yn penderfynu ar sut i fynd ati i graffu ar y gyllideb yn y dyfodol ac i sicrhau bod ymgysylltiad â’r cyhoedd yn parhau yn greiddiol i'r broses. Rydym yn eu hannog yn frwd i adeiladu ar yr arferion a’r sylfeini arloesol a sefydlwyd yn ystod y Senedd hon.
I gloi, hoffwn hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor ac am ei ymateb adeiladol i'n hargymhellion ar y gyllideb ddrafft. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y sylwadau cadarnhaol o ran y trafodaethau a gawsom ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n arwydd o gydweithio er budd pobl Cymru ein bod ni wedi gallu rhoi'r sicrwydd cyn y Nadolig, fel gwnaethoch chi bwysleisio, oherwydd mi oedd angen ein gwasanaethau cyhoeddus ni i gael y sicrwydd hwnnw.
Cyn i gytundeb gael ei chytuno rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, gwnaeth arbenigwyr annibynnol fel yr IFS a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hi'n glir iawn fod portreadu'r gyllideb a osodwyd yn wreiddiol fel un niwtral a fyddai'n caniatáu ar gyfer busnes fel arfer yn gamarweiniol. Byddai cynnydd ymylol mewn termau real ar draws pob MEG yn dal i adael ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau difrifol, oherwydd bod chwyddiant yn y sector cyhoeddus yn gyson yn uwch nag yn yr economi ehangach.
Mi rybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer llywodraeth leol yn cynrychioli senario risg uchel i'r sector. Cadarnhaodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y byddai cynnydd o ddim ond 2 y cant yn gadael awdurdodau lleol â diffyg o £436 miliwn. Sut byddai ein cynghorau ni wedi pontio'r bwlch hwnnw? Wel, fe rhybuddion nhw o godiadau treth cyngor o tua 22 y cant neu golli 14,000 o swyddi. Gadewch i ni fod yn glir: byddai hyn wedi bod yn drychinebus.
Rhoddwyd iechyd, hefyd, mewn sefyllfa amhosibl. Byddai cynnydd o 0.5 y cant mewn termau real wedi bod yn hanesyddol isel. Ar adeg pan fo'r galw'n cynyddu a'r system eisoes dan straen aruthrol, roedd y gyllideb ddrafft gychwynnol yn mynd â ni am yn ôl ar yr union adeg pan fo angen buddsoddiad beiddgar mewn iechyd a gofal ar Gymru.
Dirprwy Lywydd, roedd yn rhaid i’r gyllideb wreiddiol newid neu byddai pobl Cymru a Chymru i gyd wedi gweld gwasanaethau hanfodol yn lleihau a rhai hyd yn oed mewn perygl o ddiflannu yn llwyr.
Yn ystod y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, tynnon ni sylw fel pwyllgor diwylliant at yr effaith ddinistriol mae toriadau'r gyllideb wedi ei chael ar ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru dros flynyddoedd. Mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder ers amser hir am y sefyllfa o ran diwylliant a chwaraeon. Yn gynharach eleni yn ein hadroddiad 'Degawd o doriadau', daethom i'r casgliad fod tanariannu hanesyddol wedi arwain at sefyllfa lle mae'r sector diwylliant a chwaraeon yn fregus a heb ddigon o adnoddau.
Mae diwylliant a chwaraeon yn ei chael hi'n anodd yn dilyn degawd o doriadau termau real yn ystod cyfnod pan maent wedi dod drwy amgylchiadau allanol heriol tu hwnt fel y pandemig, Brexit a'r argyfwng costau byw. Yn y gyllideb ddrafft, yn gyffredinol, cynyddodd cyllid refeniw ar gyfer y meysydd hyn 1.9 y cant. Amlygon ni bod mwyafrif y cynnydd hwn o ganlyniad i gynnydd o 20 y cant mewn refeniw i Cymru Greadigol, sy'n golygu bod y cynnydd ar gyfer y meysydd eraill sy'n cael eu hystyried i gyd yn is na'r cynnydd refeniw cyfartalog ar draws cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Nid yw'r cynnydd bychan hwn mewn refeniw, gyda rhai yn is na'r rhagolygon chwyddiant, yn gwneud digon i wneud yn iawn am y tanariannu hirdymor ym maes diwylliant a chwaraeon gan un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru. O ystyried y problemau tanariannu hirdymor y mae'r sector wedi'u hwynebu, byddai'n optimistaidd i feddwl y gellid mynd i'r afael â'r problemau hyn dros nos.
Rwy'n cydnabod bod y gyllideb derfynol wedi gwneud rhai gwelliannau i'r sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb ddrafft, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol y bydd y gwendidau strategol a nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar y gyllideb yn parhau. Yn benodol, yn gyntaf, bydd cyllid ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru yn parhau i fod ymhlith yr isaf yn Ewrop. Rydym felly yn ailadrodd yr alwad ar Lywodraeth Cymru i
'gynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon hyd nes ei fod yn gymaradwy...â chyllid gwledydd tebyg.'
Yn ail, rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein trydydd argymhelliad, sef y dylai gysoni cyllidebau â gwariant ataliol, fel yr argymhellwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Archwilio Cymru a'n pwyllgor ni.
Nid yw'r gyllideb hon, fodd bynnag, yn ein hysgogi mewn ffordd ystyrlon tuag at newid strategol o ran gwariant ataliol. Ydy, mae symud gwariant tuag at atal yn creu her. Mae'r her hon, fodd bynnag, yn un y mae'r Llywodraeth wedi dewis ei mabwysiadu. Rhaid i hyn gael ei adlewyrchu mewn cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon. Mae hon yn her fawr y bydd angen i'r Senedd fynd i'r afael â hi mewn cyllidebau yn y dyfodol.
O ran cysylltiadau rhyngwladol, rydym wedi mynegi pryder ers tro ynghylch y diffyg gwybodaeth fanwl yn y maes pwysig hwn. Mae hyn yn parhau i greu pryder. Roeddem yn siomedig i weld nad oedd cyllidebau cysylltiadau rhyngwladol a datblygiad rhyngwladol wedi cynyddu gyda chwyddiant. Doedden ni fel pwyllgor heb dderbyn ymateb y Llywodraeth i'n hargymhellion ar gysylltiadau rhyngwladol tan ryw 14:40 y prynhawn yma. Mae hynny yn siomedig. Dyw e ddim yn gynaliadwy. Mae'n rhaid i hyn newid yn y Senedd nesaf, ar gyfer sgrwtini o rywbeth mor bwysig. Fodd bynnag, rwyf am groesawu'r gyllideb fwy ar gyfer Taith ac estyniad y cynllun hwnnw y tu hwnt i'w ddyddiad terfyn gwreiddiol.
Yn olaf, o ran y Gymraeg, rydym yn diolch i'r Gweinidog am yr eglurder ynghylch codiad i'r Mudiad Meithrin ac i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ogystal â £3 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf a ddyrannwyd i gefnogi 'Cymraeg 2050'. Fel pwyllgor, fe wnaethom ni amlygu pryder ynghylch y penderfyniad i ddefnyddio cyllid ychwanegol i flaenoriaethu gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Goblygiadau hyn yw, er gwaethaf y cynnydd yn llinell wariant cyllideb y Gymraeg, y byddai sefydliadau partner sy'n cael eu hariannu drwy'r grant yn debygol o gael cynnydd o lai na 2 y cant. Mae gwaith yr athrofa yn amlwg yn bwysig. Rydym yn cytuno y dylai gweithredu'r Ddeddf fod yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw'r penderfyniad hwn i flaenoriaethu cyllid i un elfen o'r Ddeddf yn adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol gwaith a gweithgareddau partneriaid eraill, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth gefnogi amcanion y Ddeddf. Mae hwn yn faes y bydd angen rhoi mwy o sylw iddo mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Felly, i orffen, Dirprwy Lywydd, rŷn ni'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am eu hymatebion, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser ychwanegol. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.