Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/11/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y pryhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan John Griffiths. 

Cymru sy'n Fwy Cyfartal a Theg

1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu Cymru sy'n fwy cyfartal a theg? OQ63501

Nid yw creu Cymru decach yn rhywbeth yr ydym ni'n siarad amdano; mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei gyflawni bob dydd, o dai ac atal digartrefedd, i brydau ysgol am ddim, gofal plant, cyflogau teg a chymorth costau byw wedi'i dargedu. Rydym ni'n rhoi tegwch ar waith mewn ffyrdd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, bydd uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru yn taflu goleuni yn fuan ar y clwstwr lled-ddargludyddion a deallusrwydd artiffisial sy'n arwain y byd, gan ddod â swyddi, sgiliau a chyfleoedd newydd i gymunedau sydd wedi haeddu'r math hwn o fuddsoddiad ers amser maith. Felly, Cymru decach yw'r ffordd goch Gymreig. Mae'n ymarferol, mae'n uchelgeisiol, ac mae wedi'i wreiddio ym mywydau pobl.

Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna. Rwy'n cytuno bod creu swyddi hynod fedrus iawn ac â chyflogau da, sydd o fudd i bawb yn ein cymunedau, yn gwbl allweddol. Ac rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r parth twf deallusrwydd artiffisial diweddaraf yn y de-ddwyrain, a fydd, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf, yn creu miloedd o swyddi newydd ac yn datgloi biliynau mewn buddsoddiad. Ac, yn amlwg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny o fudd i bob rhan o'n cymuned. Rwyf i yn credu bod gan Gasnewydd botensial mawr, fel y dywedwch chi, Prif Weinidog, gyda'r parth deallusrwydd artiffisial hwnnw, canolfannau data, storfeydd ynni batri, a'r clystyrau lled-ddargludyddion a seiberddiogelwch. Ac mae ein hysgolion yng Nghasnewydd yn chwarae eu rhan trwy gynnig mentora a hyfforddi, profiad gwaith a chyfleoedd, ffeiriau swyddi ac, yn wir, sgyrsiau gyrfaoedd. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dechrau gweithio gyda Phrifysgol De Cymru, Coleg Gwent ac eraill i ddatblygu addewid Casnewydd i wneud cynnig teg o gymorth i fusnesau a chyflogwyr ar draws y ddinas gyfan. Felly, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno mai dyma'r math o ddull cydgysylltiedig sydd ei angen arnom ni, gyda'n partneriaid sector cyhoeddus, ein darparwyr addysg a hyfforddiant, yn gweithio gyda'r sector preifat i ddod â'r cyfleoedd hyn, i ddod â'r twf economaidd hwn, ac i sicrhau bod pob un person yn ein cymunedau yn cael y cyfle i rannu yn y swyddi a'r ffyniant sy'n cael eu creu.

Diolch yn fawr iawn, John. I mi, mae hyn yn bwysig iawn. Nid wyf i eisiau gweld buddsoddiad a swyddi heb elfen leol a gwneud yn siŵr mai pobl leol sy'n gallu elwa. Felly, mae buddsoddi gyda phwrpas yn gwbl ganolog i'r hyn y byddwn ni'n chwilio amdano yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi yr wythnos nesaf, a gwneud yn siŵr y gall pobl leol elwa o'r buddsoddiad hwnnw. A'r unig ffordd y maen nhw'n mynd i wneud hynny yw os byddwn ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi'u hyfforddi, eu bod nhw'n barod, eu bod nhw'n fedrus, eu bod nhw'n frwdfrydig, eu bod nhw'n awyddus. Ac felly, mae'r berthynas honno, a datblygu'r berthynas honno, rhwng busnesau a'r bobl yn ein cymunedau yn hanfodol. Rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da iawn. Mae Gyrfa Cymru yn sicrhau'r un isafswm ymgysylltiad â chyflogwyr i bob ysgol uwchradd ac ysgol arbennig, fel y gallan nhw gyfarfod cyflogwyr, y gallan nhw ymweld â gweithleoedd, y gallan nhw gymryd rhan mewn ffug gyfweliadau ac y gallan nhw weld cyfleoedd gwaith go iawn.

Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed pa un a fydd y Canghellor yn cyhoeddi hwb ychwanegol o £10 miliwn i'r sector lled-ddargludyddion yn ne Cymru. Rydym ni'n gobeithio y gallai hwnnw gael ei gyflwyno mewn cyhoeddiad yfory gan y Canghellor. Eto, yr hyn y mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr yw bod y cwmnïau hynny yn gwneud eu gwaith allgymorth mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod Renishaw, er enghraifft, o dan CSconnected, yn cyrraedd 15,000 o bobl ifanc trwy eu gweithgareddau STEM. Rydym ni eisiau gweld mwy o weithgarwch felly, fel mai pobl ifanc leol sy'n gweld llwybr iddyn nhw eu hunain yn eu cymunedau lleol.

Prif Weinidog, roeddwn i'n gwrando'n astud ar eich ymateb, ac roeddwn i'n gwrando ar yr holl bethau hyfryd am sut rydych chi'n creu Cymru fwy cyfartal a thecach, ond nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ydy e? Nid yw fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru yn ddim gwell ei fyd o dan eich Llywodraeth chi, ac mae hynny wedi bod yn wir ers y 26 mlynedd diwethaf. Rydych chi'n sôn am ba mor gyfartal a theg yw Cymru, ond rydych chi'n osgoi eto y materion gwirioneddol y mae pobl go iawn yng Nghymru yn eu hwynebu yn feunyddiol. Cymerwch, er enghraifft, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ganfu fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb ar sawl achlysur gan nad oeddech chi'n cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, gan gynnwys pan wnaethoch chi roi'r gorau i gynnig prydau ysgol am ddim. Does bosibl, Prif Weinidog, nad yw hyn yn mynd yn groes i'ch Llywodraeth yn bod yn fwy cyfartal a theg. A, Phrif Weinidog, mae traean o blant ym Mlaenau Gwent yn dal i fod mewn tlodi. Dim ond £15,000 y flwyddyn yw'r enillion cyfartalog yno. Mae pob un ohonom ni o dan fygythiad gan drethi uwch, diolch i'ch partneriaid yn San Steffan. Felly, pryd wnewch chi wneud Cymru yn decach i Gymry sy'n gweithio'n galed? Diolch.

13:35

Wel, gallaf ddweud wrthych chi ein bod ni wedi gwario £7 biliwn yn ystod y tymor Senedd hwn yn ceisio cynorthwyo pobl sydd â'r incwm isaf yng Nghymru. Rwy'n awyddus iawn i weld y Canghellor yn cyhoeddi—rwy'n gobeithio y gwnaiff hi—terfyn ar y cap budd-dal dau blentyn a gyflwynwyd gan eich plaid chi. A gadewch i ni fod yn eglur, yn ystod y rhan fwyaf o'r 26 o flynyddoedd hynny, cawsom ni ein hamddifadu  o arian drwy'r rhaglen cyni cyllidol a gyflwynwyd gan eich plaid chi. Felly, rydym ni'n gwneud yr hyn a allwn. Rydym ni'n gwybod ei bod hi'n llawer haws ei wneud os byddwn ni'n cael y cymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cael y cynnydd uchaf yr ydym ni wedi ei gael yn hanes datganoli, felly rydym ni'n gallu rhoi mwy o gymorth ar waith. Ond rwy'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll ar ein traed ein hunain, ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo pobl i mewn i swyddi fel y gallan nhw gynnal eu hunain. Dyna lle'r wyf i eisiau bod, a dyna pam mae'r buddsoddiad hwn yn hanfodol.

Mae rhai grwpiau penodol yng Nghymru yn profi anghydraddoldeb ac annhegwch anghymesur. Mae eich rhaglen lywodraethu chi yn gwneud nifer o ymrwymiadau mewn perthynas â hyn ac wedi cynhyrchu sawl cynllun gweithredu cydraddoldeb. Ym mis Mai, wedi oedi mawr, fe gyhoeddwyd y cynllun hawliau pobl anabl. Ond mae sawl grŵp, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn rhan o'r tasglu hawliau anabledd, wedi mynegi pryder a siom nad yw'n cynnig unrhyw gyllid newydd i roi'r camau gweithredu ar waith, na thargedau clir er mwyn craffu ar gynnydd. Mae pryderon cynyddol ymysg pobl Cymru am yr heriau sy'n wynebu pobl anabl Cymru, yn enwedig effaith diwygiadau lles eich partneriaid yn San Steffan. Felly, allaf i ofyn i chi pam nad oes yna unrhyw arian ychwanegol wedi ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynllun hawliau pobl anabl, yn enwedig o gofio—o ran yr hyn roeddech chi'n sôn amdano gynnau, ynglŷn â gwaith a sgiliau—mai'r bwlch cyflogaeth anabl yng Nghymru yw'r uchaf ym Mhrydain?

Diolch. Rŷn ni'n awyddus iawn i weld mwy o bobl sy'n anabl yn dod i mewn i'r gweithle. Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod angen help arnyn nhw i wneud hynny. Dyna un o'r rhesymau pam nad oeddwn i'n meddwl bod y ffordd roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i fynd ati i wneud y toriadau yn mynd i fod o fudd iddyn nhw. Ond rŷn ni'n meddwl bod angen sefyll gyda nhw a'u helpu nhw drwy'r system, fel rŷn ni'n gwneud gyda helpu pobl ifanc i mewn i'r gweithle. Mae'r rhaglen ar gyfer helpu pobl gydag anabledd yn un trawslywodraethol, felly bydd pob adran o fewn y Llywodraeth yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw'n rhoi arian tuag at hyn. Felly, fydd e ddim yn dod o un pot. Dyna'r broses rŷn ni wedi mynd ati. A chofiwch ein bod ni wedi datblygu hyn gyda phobl sy'n anabl.

Gweithgareddau Chwaraeon

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon i bobl yn eu harddegau? OQ63453

Un ffordd o ysbrydoli pobl ifanc yn eu harddegau yw gwylio eu timau cenedlaethol yn chwarae'n dda, ac am berfformiad a gafwyd gan dîm pêl-droed Cymru yn eu gêm ragbrofol ddiweddaraf, yn erbyn Gogledd Macedonia. Pan fydd Cymru yn cynnal gêm agoriadol pencampwriaeth Ewrop UEFA, yn 2028, bydd llygaid y byd arnom ni. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yw tîm rygbi Cymru hyd yn oed wedi bod mor wael â hynny yn ddiweddar, gan ennill yn erbyn Japan, ac roeddwn i'n meddwl eu bod nhw wedi gwneud ymdrech lew yn erbyn y Crysau Duon.

Rydym ni'n gweithio gydag ysgolion i gynnig popeth o bêl-droed a rygbi i sglefrfyrddio a thrampolinio, padlfyrddio a soffa i 5 cilomedr, gan ein bod ni'n gwybod bod pobl ifanc yn eu harddegau yn fwy tebygol o aros yn egnïol pan allan nhw ddewis pethau y maen nhw wir yn eu mwynhau. Rydym ni'n gweld pobl ifanc, yn enwedig merched, yn dychwelyd i chwaraeon ac, yn bwysig, yn aros mewn chwaraeon.

Diolch am yr ateb yna. Allaf i ddim dweud fy mod i'n cytuno â chi am lwyddiant tîm rygbi Cymru. [Chwerthin.] Ond a gaf i ddweud mai un o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru, ochr yn ochr â gweddill Ewrop, yw'r dirywiad i'r gweithgarwch corfforol gan bobl ifanc yn eu harddegau? Gan ganolbwyntio ar y ddwy brif gamp cyfranogiad, sef pêl-droed a rygbi, rydym ni'n gwybod y bu gostyngiad i gyfranogiad ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau hŷn, sydd wedi arwain at ostyngiad i nifer y timau oedolion—menywod a dynion. Un o achosion y dirywiad i dimau oedolion yw'r diffyg chwaraewyr iau sy'n symud ymlaen i dimau oedolion. Un o achosion y dirywiad hwn yw nifer y gemau sy'n cael eu canslo oherwydd y tywydd, ac mae chwaraewyr yn dod allan o'r arfer o chwarae bob wythnos ac yn drifftio i weithgareddau eraill. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y caeau 3G a 4G pob tywydd er mwyn caniatáu i dimau chwarae bob wythnos, gwella cyfraddau gweithgarwch a chyda hynny, lleihau gordewdra ochr yn ochr â gwella iechyd?

13:40

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle—rwy'n credu bod y galw am gaeau o ansawdd da yn tyfu. Rydym ni'n gweld hynny yn sicr yn Nwyrain Abertawe. Rwy'n gwybod bod angen mwy o gyfleusterau 3G a 4G ar glybiau gan fod cyfranogiad yn cynyddu ac mae'n cynyddu'n gyflym. Felly, mae angen i ni geisio bodloni'r galw hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi buddsoddi £41 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon y tymor hwn, ac mae hynny'n cynnwys ehangiad sylweddol i'r caeau 3G a 4G hynny. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym ni ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw ei enw bellach—a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw datblygu cyfleusterau anhygoel yn yr ysgolion newydd hyn y mae, wrth gwrs, angen eu hagor i'r gymuned. Mae cyfle yn y fan honno i glybiau lleol ddefnyddio ysgolion lleol. Gallwch weld y manteision eisoes, gan gynnwys yn fy ardal fy hun—rydym ni wedi gweld uwchraddio yn Hwlffordd ac Abergwaun, a rhaglenni ieuenctid cryf mewn lleoedd fel Arberth a Dinbych-y-pysgod. Rwy'n credu ei fod yn llawer mwy na chwaraeon; mae'n ymwneud â hyder, mae'n ymwneud ag iechyd meddwl, mae'n ymwneud â gwaith tîm, mae'n ymwneud â chadw pobl ifanc yn eu harddegau yn cymryd rhan. Rwy'n credu bod chwaraeon yn gatalydd gwych i'n cymunedau.

Fel rhywun sy'n dal i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm—nid wyf i'n honni fy mod i yn fy arddegau mwyach, er mai fi yw'r trydydd Aelod ieuengaf o'r Senedd—yr hyn yr wyf i'n ei fwynhau yw gallu chwaraeon, yn gyntaf, i ddod â phobl at ei gilydd, ac, yn ail, y sgiliau y mae unigolion yn eu dysgu pan fyddan nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Yn adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Lost Boys', un o'r themâu allweddol a gyflwynodd Sam Rowlands wrth gynnal y digwyddiad hwnnw yn y Senedd oedd yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a all fod yn gysylltiedig â chwaraeon tîm. Felly, sut ydych chi'n eirioli dros hynny? Yn yr oes hon, pan fo'r cyfryngau cymdeithasol mor gyffredin, gyda'r gallu i bobl fynd ar goll mewn technoleg yn hytrach na bod allan yn yr awyr agored neu'n chwarae chwaraeon tîm, sut mae'r Llywodraeth Cymru hon yn cefnogi chwaraeon tîm i ffynnu, fel y gall dynion ifanc, yn enwedig bechgyn ifanc, deimlo'r ymdeimlad hwnnw o berthyn trwy fod yn gysylltiedig â chlybiau chwaraeon?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yw pobl ar eu cyfrifiaduron, ac maen nhw'n cael eu datgysylltu oddi wrth bobl yr un oed â nhw. Mae chwaraeon tîm yn dod â phobl at ei gilydd. Mae'n gyfle enfawr. Ymwelais â chlwb pêl-droed Treffynnon yr wythnos diwethaf, ac roedd hwnnw'n ymweliad gwych. Maen nhw wedi cael—ac mae hyn yn ddiddorol iawn—£330,000 gan Ynni Cymru, ar gyfer clwb pêl-droed. Yr hyn y mae hynny wedi caniatáu iddyn nhw ei wneud yw nid yn unig rhoi codi goleuadau newydd, ond mae wedi caniatáu iddyn nhw groesawu pobl o ysgolion lleol efallai nad ydyn nhw'n mynd i mewn i'r ysgol yn yr un ffordd â llawer o bobl eraill—mae angen eu tynnu nhw allan, rhoi dull wedi'i deilwra iddyn nhw. Ceir rhai pobl ifanc yno sy'n cael eu haddysgu sut i ddatblygu sgiliau o ran pren. Mae'r holl weithgareddau hyn yn digwydd mewn clwb pêl-droed, oherwydd yn aml iawn gall clybiau pêl-droed gael mynediad at bobl mewn ffordd na all lleoedd eraill. Felly, rydych chi'n gwbl gywir—nid oes rhaid i berthyn i glwb a datblygu'r ysbryd tîm hwnnw, mewn gwirionedd, fod am y gamp ei hun yn unig; mae'n golygu gwneud iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw'n rhan o'r gymuned. Mae gan bob cymuned glwb pêl-droed, a byddwn yn ein hannog ni i gyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i ymweld, ein bod ni'n cymryd rhan a'n bod ni'n annog pobl eraill yn ein cymunedau i wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n rhannu fy atgasedd at gyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill, cyn-Aelod o'r Senedd hon, a gafodd ei ddedfrydu yr wythnos diwethaf i 10 mlynedd a hanner yn y carchar am dderbyn llwgrwobrwyon i wneud areithiau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop. Gadewch i ni atgoffa ein hunain bod Nigel Farage wedi disgrifio Nathan Gill yn y gorffennol fel, ac rwy'n dyfynnu, 'dyn gonest, gweddus, anrhydeddus'. Mae hefyd wedi siarad, wrth gwrs, am ei edmygedd at Vladimir Putin, ac wedi hyrwyddo llinell bropaganda Rwsia mai'r gorllewin wnaeth ysgogi ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin. Mae'n amlwg iawn bod Reform yn berygl i'n diogelwch cenedlaethol. Mae angen i ni ddiogelu ac amddiffyn ein democratiaeth a'n gwlad rhag ymyrraeth a bygythiadau Rwsia. Dyna pam rwyf i wedi cefnogi mwy o wariant ar amddiffyn a'n gwasanaethau cudd-wybodaeth, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn am fwy yng nghyllideb y DU yfory. A allwch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi'n gobeithio amdano yng nghyllideb y DU yfory, a beth rydych chi wedi gofyn amdano yn benodol yn y gyllideb ar gyfer Cymru?

13:45

Hoffwn gymeradwyo'r ymdeimlad o ddicter at yr hyn a wnaeth Nathan Gill. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dychryn gan y ffaith bod cyn-Aelod o'r Senedd hon, cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, wedi ei gael yn euog o gymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, y gwasanaethau diogelwch, yr heddlu, Comisiwn y Senedd a'r tasglu amddiffyn democratiaeth i wneud yn siŵr nad ydym ni'n gweld y math hwnnw o ymyrraeth wleidyddol pan ddaw i'n hetholiadau.

O ran y gyllideb, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw ei bod hi'n mynd i fod yn gyllideb heriol. Y peth gwych, mewn gwirionedd, yw mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw cyflawni mewn rhai meysydd allweddol eisoes. Rydym ni wedi gweld y buddsoddiad mwyaf yr ydym ni wedi ei weld mewn cenhedlaeth yn y gogledd gyda'r cyhoeddiad yn Wylfa. Mae gennym ni gyhoeddiad nid yn unig ar un parth twf deallusrwydd artiffisial yn y gogledd, ond un arall yn y de. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n clywed yfory am £10 miliwn o gefnogaeth i led-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru. Ond ceir llawer iawn o feysydd eraill lle'r wyf i wedi bod yn eglur gyda'r Canghellor yr hoffem ni weld rhai newidiadau. Yn sicr, yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chymorth gyda'r argyfwng costau byw, yn enwedig cymorth ynni a diwedd ar y cap budd-dal dau blentyn.

Prif Weinidog, rydych chi wedi rhannu ychydig o fân eitemau, a bod yn onest, o'ch rhestr ddymuniadau. Mewn blynyddoedd blaenorol, gyda Llywodraethau blaenorol y DU a Changellorion blaenorol, roeddech chi'n gweiddi nes mynd yn gryg am restr siopa lawn o bethau yr oeddech chi eisiau i'r Llywodraethau a'r Cangellorion hynny eu darparu. Felly pam nad ydych chi'n gweiddi nes mynd yn gryg heddiw am yr hyn yr ydych chi eisiau ei weld yfory? Dywedwch wrthym ni yn union beth rydych chi eisiau ei weld o ran cyhoeddiadau yfory—nid dim ond £10 miliwn i'r diwydiant lled-ddargludyddion, gymaint ag y mae hynny i'w groesawu.

Beth am rywbeth i'r ffermwyr yr oeddwn i'n cyfarfod â nhw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddoe? Maen nhw'n haeddu cael gwybod, a ydych chi wedi gofyn i'r dreth ffermydd teuluol gael ei diddymu? Mae ein busnesau bach angen gwybod, a ydych chi wedi gofyn i'r dreth ffermydd teuluol gael ei diddymu? A ydych chi wedi mynnu gan y Canghellor yr arian a oedd yn ddyledus i ni o ganlyniad i'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr y llynedd? A ydych chi wedi gofyn am y cyllid canlyniadol o HS2 a rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt? A ydych chi wedi gofyn am adfer yr arian ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a addawyd gan Lywodraeth flaenorol y DU? Oherwydd os nad ydych chi wedi gofyn am unrhyw un o'r pethau hynny, mae'n amlwg nad ydych chi'n sefyll yn gadarn dros bobl Cymru. Beth ydych chi wedi galw amdano yn benodol yn ychwanegol at y pethau eraill hynny yr ydych chi wedi eu crybwyll?

Wel, fe ddywedaf i wrthych chi beth, eisoes, mae'r Llywodraeth hon, Llywodraeth Lafur y DU, wedi cyflawni llawer mwy i Gymru nag y gwnaeth eich Llywodraeth chi ers blynyddoedd. Fe gawsom ni'r cynnydd mwyaf i'n cyllideb ers dechrau'r Senedd. Mae gen i restr faith yr wyf i wedi bod yn siarad â gwahanol bobl yn Llywodraeth y DU amdani dros gyfnod estynedig o amser. Rwyf i wedi rhestru rhai ohonyn nhw; rwy'n hapus iawn i restru ychydig mwy. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn nad wyf i eisiau gweld y gyfradd sylfaenol o dreth incwm yn codi, gan fy mod i'n credu fod pobl yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd. Hoffwn weld y rhai â chyfoeth gwirioneddo a'r ysgwyddau mwyaf llydan yn ysgwyddo mwy o'r cyfrifoldeb. Rwyf i eisiau cynorthwyo pensiynwyr sy'n cael tâl isel—rwy'n credu y byddai hynny o gymorth—a chynorthwyo'r rhai sy'n cael tâl isel yn gyffredinol, ac rwyf i eisiau gweld cymorth i gael pobl ifanc i mewn i swyddi. Ond ceir nifer enfawr o bethau eraill ar y rhestr honno, felly mae'n bwysig bod y ddeialog honno wedi bod yn digwydd ers tro, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni o ran rhai o'r materion hynny yn sicr yn y gyllideb yfory.

Fe ddywedaf i wrthych chi beth mae'r Blaid Lafur wedi bod yn ei gyflawni mewn Llywodraeth: mae treth i fyny, mae diweithdra i fyny ac mae chwyddiant i fyny, ac mae'n eithaf amlwg o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrthyf i mai'r hyn yr ydych chi eisiau ei weld yw mwy o drethi a mwy o wariant. Nid wyf i'n meddwl mai dyna beth mae pobl Cymru yn dyheu amdano. Rydym ni'n gwybod beth mae Plaid Cymru ei eisiau, wrth gwrs; maen nhw eisiau ffiniau agored ac maen nhw eisiau torri Cymru i ffwrdd o weddill y Deyrnas Unedig, a fydd yn costio miloedd o bunnoedd bob un blwyddyn i drethdalwyr a theuluoedd sy'n gweithio'n galed yn y wlad hon. Ac rydym ni'n gwybod bod gan Reform gynlluniau gwariant sy'n freuddwyd gwrach, heb unrhyw syniad o gwbl sut i dalu amdanyn nhw. Ond fe wnaf i ddweud wrthych beth rwyf i eisiau ei weld a beth mae Plaid Geidwadol Cymru eisiau ei weld. Rydym ni eisiau Llywodraeth y DU sy'n torri trethi, yn torri gwastraff, yn rheoli lles, yn rheoli ein ffiniau ac yn sicrhau twf economaidd. Felly, onid yw'n wir, Prif Weinidog, mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sydd â chynllun credadwy i drwsio Cymru?

13:50

Fe ddywedaf i wrthych chi beth mae pobl Cymru ei eisiau. Maen nhw eisiau gwasanaethau cyhoeddus gwerth chweil, ac nid ydych chi'n mynd i gael hynny os gwnewch chi dorri trethi. Mae'n rhaid i rywun dalu am hyn. Ac fe wnaf i ddweud wrthych chi sut rydych chi'n gwneud yn siŵr bod gennych chi ffordd o dalu'r trethi hynny: gwneud yn siŵr bod yr economi yn tyfu. Peidiwch ag anghofio, eich plaid chi wnaeth chwalu'r economi, eich plaid chi oedd â'r cyfraddau treth uchaf mewn cenhedlaeth, eich plaid chi oedd yn benderfynol o fwrw ymlaen â chyni cyllidol, o weld pobl yn y wlad hon yn dioddef dros gyfnod estynedig o amser. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei weld yfory yw pobl yn y wlad hon yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn sicr i gefnogi eu gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd i'w cynorthwyo gyda'r argyfwng costau byw.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. O ddarllen y penawdau dros yr wythnosau diwethaf, byddech chi'n cael eich maddau am feddwl mai pantomeim, nid cyllideb, yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan Rachel Reeves yfory. Mae hi'n 'O gwnaiff fe wnaiff' un funud ac yn 'O na wnaiff hi ddim' y nesaf. Ac mae'r cyfan yn niweidio hygrededd Llywodraeth y DU. Yn gyntaf, roedd yn mynd i godi treth incwm, yna doedd hi ddim, roedd hi'n fodlon torri addewid maniffesto ac yna ddim. Ac o ran Cymru, 'O ydym mi ydym ni'—ar fin cael tro gwael eto. 

Gadewch i ni ddelio â'r honiad ffug hwnnw am gymwynasgarwch honedig Llywodraeth y DU tuag at Gymru. Bydd gwariant Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd yn nhymor seneddol y DU hwn yn tyfu 1.6 y cant y flwyddyn mewn termau real, ar gyfartaledd. O'r flwyddyn ariannol hon ymlaen, dim ond 1.4 y cant yw'r ffigur. Fe wnaeth hyd yn oed y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf lwyddo i sicrhau 2.6 y cant—pa mor ddamniol yw hynny o Lafur o dan Starmer a Reeves? Ond a all y Brif Weinidog hon ddweud wrthym ni a yw hi'n disgwyl i'r setliad chwerthinllyd hwnnw gael ei wrthdroi yfory fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddechrau mynd i'r afael â'r problemau mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

Rydym ni newydd gael y cynnydd uchaf yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hwnnw'n cael ei wario. Gadewch i ni beidio ag anghofio eich bod chi wedi ceisio rhwystro'r arian hwnnw; gadewch i ni atgoffa pawb unwaith eto y byddai'r bobl hynny ar y rheng flaen wedi bod yn llawer gwaeth eu byd oni bai am bobl eraill yn ein cefnogi ni gyda'r gyllideb honno.

Nid wyf i'n credu bod y math o fuddsoddiad yr ydym ni'n ei weld yn Wylfa, sy'n mynd i gynorthwyo miloedd o bobl yn eich etholaeth chi, yn rhywbeth i'w wawdio. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. A dim ond y cychwyn yw hyn, oherwydd ochr yn ochr â'r buddsoddiad yn Wylfa, mae gennym ni'r parth twf deallusrwydd artiffisial sy'n dod â miloedd o swyddi technolegol newydd i bobl leol, felly yn hytrach na hyfforddi pobl lle mae'n rhaid iddyn nhw adael, fel y digwyddodd o dan y Torïaid, yng Nghymru, o dan Lafur, yr hyn y byddwch chi'n ei weld yw pobl leol yn cael eu hyfforddi ac yn gallu dod o hyd i swyddi yn eu hetholaethau eu hunain.

Rwy'n gwrando mewn rhyfeddod yma. Os yw'r Prif Weinidog Cymru hon yn credu bod gwariant mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli rywsut yn gwneud iawn am setliad ariannu sylfaenol annheg i Gymru, yna mae gennym broblem fwy gyda Llafur mewn Llywodraeth yng Nghymru nag yr oeddem ni'n ei feddwl yn flaenorol.

Does ond angen edrych ar setliad drafft llywodraeth leol ddoe i weld bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar drothwy. Realiti dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd fu cyfres o drychinebau a newyddion drwg i Gymru: y dreth yswiriant gwladol ar Gymru; y cyrch treth etifeddiant ar ffermydd teuluol Cymru ac ar fusnesau teuluol; a, pha bynnag droeon pedol hynod frysiog sy'n dod i'r amlwg nawr, y penderfyniad i dorri taliad tanwydd y gaeaf ac i barhau gyda'r cap budd-dal dau blentyn Torïaidd tra bod teuluoedd yn talu'r pris. Am 18 mis cyntaf cywilyddus mewn Llywodraeth.

Ni wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth yw ei gofynion gan y Canghellor, felly gadewch i mi nodi rhai o'm rhai i: ailddosbarthu penderfyniadau gwariant annheg sy'n amddifadu Cymru o biliynau; datgloi pwerau benthyg Cymru i fynd i'r afael â thanfuddsoddiad hanesyddol; atal trethi niweidiol Llafur ar waith a chyflwyno treth ar gyfoeth eithafol; lleihau cost ynni; rhoi rheolaeth i Gymru dros Ystad y Goron. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r rheini—ydy neu nac ydy?

13:55

Gadewch i mi fod yn eglur, mewn gwirionedd, mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw cynnydd i arian sy'n mynd i iechyd, cynnydd i arian sy'n mynd i lywodraeth leol a chynnydd i arian sy'n mynd i addysg. Dyna'r realiti. Fe allwch chi barhau gyda'ch agwedd ddigalon at sut rydym ni'n ymdrin â'n hymrwymiad cymdeithasol yng Nghymru a'n cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus, ond y gwir amdani yw bod gennym ni fwy o arian yn mynd i wasanaethau cyhoeddus, dull y gwnaethoch chi geisio ei rwystro, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cofio hynny.

Mae'n amlwg na wnaethoch chi wrando ar fy ateb. Fe wnes i restru llu o bethau lle'r wyf i'n credu y dylem ni fod yn gofyn am gymorth gan y Canghellor i bobl yng Nghymru. Mae'n bwysig, ac rydym ni wedi bod yn gwneud y sylwadau hynny. Rwy'n bryderus iawn am bobl sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw; rwy'n credu ei fod yn effeithio ar bobl. Rwy'n credu eu bod nhw mewn trafferthion, yn enwedig pobl hŷn nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu'r biliau ynni hynny. Hoffwn weld rhywbeth ar hynny. Rydych chi'n sôn drwy'r amser yr angen i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn; rydyn ni wedi bod yn galw am hynny ers blynyddoedd ar flynyddoedd. Rydym ni wedi bod yn gyson yn ein hagwedd at hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn cyflawni yn hynny o beth.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, hefyd, ein bod ni'n gweld cymorth i'r rhai sy'n cael y tâl isaf yn ein cymunedau. Dyna'r hyn yr ydym ni'n sefyll amdano fel Plaid Lafur. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n annog pobl i gael gwaith, i weithio'n galed ac i allu cyfrannu, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y system yn eu hannog nhw i wneud hynny trwy wneud yn siŵr ei bod hi'n werth mynd allan i weithio, trwy gynyddu pethau fel yr isafswm cyflog. Fel yr ydym ni wedi ei weld eisoes, mae hwnnw wedi bod yn ddull buddiol. Hoffwn weld cymorth i'r rhai sy'n cael tâl isel a chymorth i gael pobl ifanc i mewn i swyddi. Dydyn ni ddim yn ddrwg am wneud hynny yng Nghymru, ond gallem ni bob amser elwa o fwy o gymorth.

Y broblem yw ei bod hi'n amlwg nad oes gan y Brif Weinidog hon unrhyw ddylanwad ar ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan. Digalondid yw'r hyn y mae'r ddwy Lywodraeth Lafur yn ei orfodi ar bobl Cymru wythnos ar ôl wythnos. Os yw eisiau cael ei gweld yn sefyll yn gadarn dros Gymru, mae wir raid i'r Prif Weinidog ei dweud hi fel y mae hi wrth Keir Starmer. Dyna'r hyn a gewch chi o dan arweinyddiaeth newydd o dan Blaid Cymru: Llywodraeth nad oes yn rhaid iddi wirio ei sylwadau gyda'i phenaethiaid yn Llundain.

Felly, gadewch i mi roi cynnig arall arni. Byddwn yn parhau gyda'r thema hon fy mod i'n credu nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw weledigaeth o'r hyn sy'n iawn i Gymru cyn y gyllideb hon. Dyma ein un ni: dylai Llywodraeth y DU ailddosbarthu HS2 a rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt fel prosiectau Lloegr yn unig; cynnal adolygiad ffurfiol o'r fframwaith cyllidol a chysylltu pwerau benthyg Cymru â chwyddiant; talu cost uwch yswiriant gwladol cyflogwyr yn llawn ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru; atal newidiadau i dreth etifeddiant ac asesu'r effaith benodol ar Gymru; cyflwyno treth gyfoeth a gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm; torri TAW ar filiau ynni aelwydydd a busnesau lletygarwch; ac ie, adolygu taliadau sefydlog annheg a datganoli rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Ar y rhestr honno, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ydy neu nac ydy?

Rydych chi'n sôn am ddigalondid. Fe ddywedaf i wrthych beth, doedden nhw ddim yn ddigalon yn Ynys Môn pan wnaethon ni gyhoeddi hynna yn Wylfa, roedden nhw'n dathlu. Roedden nhw'n edrych ymlaen at ddyfodol llawn gobaith, rhywbeth nad ydych chi'n ei gynnig. Mae gennym ni weledigaeth ar gyfer Cymru. Mae'n weledigaeth sy'n codi pobl i fyny ac sy'n annog pobl i wneud y gorau ohonyn nhw eu hunain. Dyna pam, yr wythnos nesaf, y byddwn ni'n cynnal yr uwchgynhadledd fuddsoddi, a fydd yn croesawu cwmnïau blaenllaw yma i Gymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gweld y cyfleoedd a'r potensial yn ein cenedl, i wneud yn siŵr y gallan nhw dyfu gyda ni, ac i wneud yn siŵr y gallan nhw gynorthwyo pobl yng Nghymru i wneud y gorau ohonyn nhw eu hunain, a all helpu i fod o fudd i'w cwmnïau eu hunain, eu diwydiannau eu hunain. Mae pawb, yn y ffordd honno, yn elwa. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan bobl yr arfau ar gael iddyn nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Rydym ni'n gwneud hynny drwy sicrhau bod swyddi o ansawdd ar gael yn ein cymunedau a thrwy arfogi pobl yn barod ar gyfer y modd o fanteisio ar y swyddi hynny.

Cau Ffyrdd

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio cau ffyrdd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt? OQ63483

Rydym ni'n deall pa mor rhwystredig y mae'n rhaid ei bod hi i yrwyr pan fo ffyrdd wedi cau, ond weithiau maen nhw'n hanfodol i wneud yn siŵr ein bod ni'n cadw pobl yn ddiogel. Mae'n rhaid mai fi yw'r unig berson yng Nghymru sy'n rhoi bloedd pan fydd hyn yn digwydd, oherwydd i mi, mae'n golygu bod ein cyllid ychwanegol enfawr i drwsio ein ffyrdd a'n tyllau yn y ffyrdd wir yn digwydd, ac mae'n digwydd ledled y wlad. Mae hynny'n 130,000 wedi'u trwsio a'u hatal eleni yn unig o ran tyllau yn y ffordd. Nawr, mae awdurdodau yn cynllunio gwaith mawr fisoedd ymlaen llaw. Maen nhw'n ymgynghori â chynghorau a chymunedau. Maen nhw'n osgoi adegau gwyliau brig. Maen nhw'n osgoi digwyddiadau mawr ac yn defnyddio gweithio yn ystod y nos lle mae'n ddiogel ac yn ymarferol. Ac ers 2021, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn trwsio a gwella ein ffyrdd, gan fod gwneud y gwaith yn iawn nawr yn golygu llai o gau ffyrdd a llai o broblemau yn yr hirdymor.

14:00

Caewyd sawl ffordd yn llwyr y ddiweddar, neu fe'u caewyd yn ystod y nos neu fin nos, gan gau ffyrdd allweddol o gylchfan Tal-y-bont, y Trallwng i Gegidfa a phont Llandrinio. Yn unigol, mae'r achosion hyn o gau ffyrdd yn achosi tarfu sylweddol. Pan fyddan nhw'n cael eu rhoi at ei gilydd, yn cael eu cyfuno, maen nhw'n achosi mwy o darfu fyth i drigolion lleol a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hynny. Hoffwn ganmol ymdrechion yr asiantaeth gefnffyrdd, Llywodraeth Cymru, Severn Trent a Chyngor Sir Powys a weithiodd yn ddiwyd i adolygu ac addasu achosion o gau ffyrdd yn yr ardaloedd hyn o ganlyniad i'r ffaith eu bod nhw i gyd yn digwydd ar yr un pryd. Yr hyn y gwnaeth hynny ei ddatgelu, fodd bynnag, yw ei bod hi'n bosibl gwneud gwaith tra'n cadw rhannau o'r ffyrdd ar agor, ac i wneud gwaith yn gyflym.

Nawr, tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno i drafod y mater hwn gyda'r Ysgrifennydd trafnidiaeth a'ch swyddogion, i drafod adolygu'r canllawiau ar gyfer ceisiadau i gau ffyrdd ac i fwy o graffu ddigwydd, a herio'r cyfnod o amser a'r angen i gau ffyrdd yn llwyr, nid yn unig ar gyfer y gefnffordd ond hefyd canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a chwmnïau cyfleustodau hefyd? Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi y dylid sicrhau bod cyn lleied o darfu ac anghyfleustra â phosibl. Nid wyf i bob amser yn argyhoeddedig bod hynny yn wir. 

Diolch yn fawr iawn, Russell. Rydych chi'n gwbl gywir, mae'n rhaid i ni geisio sicrhau ei fod cyn lleied â phosibl. Ceir meysydd sy'n cystadlu yn aml—weithiau mae'n ymwneud â ffyrdd, weithiau mae'n ymwneud â chwmnïau cyfleustodau, weithiau mae'n ymwneud â chwmnïau cyfathrebu. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw bob un o'r tri ohonyn nhw yn mynd yn ôl ar wahanol amseroedd, felly mae cydgysylltu yn gwneud synnwyr. Rydym ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chynghorau a chyfleustodau yn union er mwyn osgoi'r gwrthdrawiadau hynny, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio. Os ydych chi'n dweud wrthyf i fod tystiolaeth i awgrymu nad yw'n gweithio, byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ysgrifennu ataf a rhoi rhywfaint o dystiolaeth i mi.

Rydym ni'n credu fod achosion o gau ffyrdd wedi'u cynllunio bellach yn achosi llawer llai o darfu nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl, ond yn amlwg rydym ni bob amser yn chwilio am le i wella hynny. A diolch am eich ymyriad. Rwy'n gwybod yn sicr bod aliniad, ail-alinio ac ymyrryd gan ddweud, 'Edrychwch, oni allwch chi wneud pethau rhyw fymryn yn wahanol?' wedi helpu yn yr achos penodol hwn ym Mhowys.

Ym mis Mehefin, galwyd 10 injan dân a phedwar o offer arbenigol i leoliad tân twnnel craen Conwy. Yn ffodus, ni fu unrhyw farwolaethau ac roedd y twnnel wedi ailagor tua'r dwyrain erbyn y bore canlynol, a hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau brys a phriffyrdd hynny a oedd yn bresennol. Yn yr un modd, ar 20 Hydref, cafodd y twnnel ei gau eto yn y ddau gyfeiriad, ac mae hyn yn digwydd yn amlach, felly hefyd gydag achosion o gau'r A55.

Nawr, rwyf i wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith, pan fydd unrhyw ran o'r A55 rhwng Cyffordd Llandudno a Llanfairfechan ar gau, fod anhrefn traffig yn cael ei achosi ar yr A470 a llwybr dargyfeirio'r A5, ac rydym ni'n gweld pentrefi fel Llanrwst, Betws-y-coed, Llanfairfechan—pob un o'r pentrefi hyn—yn dioddef oherwydd nad oes unrhyw gynlluniau traffig, o gwbl, ar waith sy'n cael eu gweithredu pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd. Mae hynny'n golygu, felly, yn y pentrefi hyn, bod gennych chi dagfa lwyr gyda cherddwyr yn gorfod ceisio rheoli llif y traffig. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi edrych ar hyn a gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yr heddlu a'r asiant cefnffyrdd gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am ddatblygu cynlluniau rheoli traffig ar gyfer y cymunedau ar y llwybr hwn, oherwydd rwyf i wir yn ofni, un o'r adegau hyn, y bydd marwolaeth? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich pryder. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni gadw pobl yn ddiogel. Dyna'r brif flaenoriaeth. Mae'n arbennig o anodd pan fydd gennych chi broblem mewn twnnel a dyna'r unig ffordd o gael o un lle i'r llall. Rwy'n mynd i—. Byddwn i'n synnu'n fawr pe na bai cynllun traffig ar waith, ond fe wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol edrych ar hynny ac i wneud yn siŵr bod y mater hwnnw yn cael ei archwilio.

Datblygiad Parcffordd Caerdydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y cynigion ar gyfer datblygiad parcffordd Caerdydd? OQ63474

Swyddi, swyddi, swyddi. Dyna fy niddordeb o ran parcffordd Caerdydd. Mae'r cynnig hwn yn cyflwyno cyfle enfawr o ran sicrhau swyddi o ansawdd, a dyna pam yr wyf i'n bersonol wedi bod yn lobïo Prif Weinidog y DU a'r Canghellor ar y mater hwn. Felly, mae cynllunio a chydsyniad ar waith ac rydym ni'n gweithio law yn llaw â'n partneriaid menter ar y cyd. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud gwaith manwl, o ddifrif ac mae angen i ni droi hyn yn realiti nawr.

14:05

Diolch am eich ateb ac am eich cefnogaeth i ddatblygiad parcffordd Caerdydd. Mae'n werth myfyrio eto bod hwn yn gynnig datblygu economaidd sylweddol, wedi'i alluogi gan orsaf reilffordd newydd ag arhosfan ar y brif reilffordd. Roedd yn bleser eich cael chi i agor swyddfa Rolls-Royce yn Llaneirwg gyda Jo Stevens yn ddiweddar. Mae'r cynnydd gwerth ychwanegol gros i Gymru o ddatblygiad y parcffordd yr un faint â'r holl orsafoedd Burns eraill gyda'i gilydd. Dyna arwyddocâd y cynnig hwn. Yn wahanol i orsafoedd Burns eraill, mae ganddi ganiatâd cynllunio. Mae'n debygol o greu cynifer, os nad mwy, o swyddi o ansawdd da â'r newyddion da iawn am barth twf deallusrwydd artiffisial arall yn ne Cymru i gyd-fynd â'r cyhoeddiad cynharach ar gyfer parth twf deallusrwydd artiffisial yng ngogledd Cymru. Mae angen i'r prosiect hwn gael cefnogaeth barhaus nid yn unig y Prif Weinidog, ond, yn bwysig, ar draws adrannau economi a thrafnidiaeth y Llywodraeth hon—cefnogaeth sy'n cyfateb i uchelgais y datblygiad, ac mae angen un llais.

A dweud y gwir, rwyf i wedi bod i Wythnos Tech Cymru yr wythnos hon, a soniwyd yn uniongyrchol wrthyf i am bwysigrwydd y cynnig parcffordd a'r hyn y gallai ei ddarparu. Rwy'n falch o glywed eich bod chi eisoes yn lobïo cefnogaeth cyn cyllideb y DU yr wythnos hon, ond a allwch chi gadarnhau, ar ôl y gyllideb, y bydd eich Llywodraeth yn symud cyn gynted â phosibl i helpu i gyflawni'r datblygiad uchelgeisiol a chyflawnadwy hwn, gyda'r holl swyddi y gallai eu creu yn fy etholaeth i ac ymhell y tu hwnt?

Diolch yn fawr iawn. Mae caniatâd cynllunio, fel y gwyddoch chi, ar waith bellach, ac mae gennym ni eglurder ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu'r seilwaith rheilffyrdd fel bod yr orsaf honno yn gyflawnadwy. Felly, mae rhagor o waith bellach ar y gweill i ddiffinio'r rhaglen gyflawni ar gyfer parcffordd Caerdydd. Mae partneriaid y fenter ar y cyd yn ymgysylltu â darpar feddianwyr y parc busnes. Rydych chi'n iawn, mae cyfleoedd technoleg yno. Roedd yn wych—rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi dweud ei bod wedi dod yn ôl yn llawn brwdfrydedd o agoriad Wythnos Tech Cymru yr wythnos hon. Mae pobl wir yn gweld bod Cymru yn lle i ddod i fuddsoddi. Ceir ieuengrwydd gwirioneddol a dull modern newydd y maen nhw'n ei weld yng Nghymru ac maen nhw'n awyddus i fanteisio ar hynny. Dyna pam rwy'n credu bod pethau fel parcffordd Caerdydd yn gyfle i wneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl ddod a glanio a thyfu eu busnesau yng Nghaerdydd.

Roedd yn braf eich clywed chi'n dweud, Prif Weinidog, mai eich blaenoriaeth yw swyddi, swyddi, swyddi. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw'r prosiect hwn i mewn wedi gohirio'r penderfyniad bron i dair blynedd, ac mewn gwirionedd, yn y cynigion gwreiddiol, roedd yr orsaf hon i fod i agor yn 2024. Felly, pan fyddwch chi'n sôn am swyddi, swyddi, swyddi, pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu yn y weithdrefn galw i mewn hon sydd wedi gohirio'r penderfyniad am gyhyd, y mae hyd yn oed arweinydd Cyngor Caerdydd, o'ch plaid eich hun, wedi dweud sy'n annealladwy, pam mae wedi cael ei alw? A cheir lleoedd eraill yng Nghanol De Cymru, fel Sain Tathan, a allai elwa'n fawr o orsaf reilffordd sydd â pharciau busnes wedi'u cynnig o'i chwmpas. Felly, os ydym yn mynd i gael cydymffurfiad â'r ymarfer gwersi a ddysgwyd, a allwn ni fod yn hyderus y bydd y system gynllunio, pan fydd cynigion o'r fath yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, yn fuddiol i benderfyniad cyflym ar seilwaith mor bwysig?

Diolch. Yr hyn sydd wedi digwydd nawr yw bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi. Mae'n wych bod yr arian ychwanegol wedi mynd i'r adran gynllunio i alluogi pethau i gael eu cyflymu o ran rhoi caniatâd cynllunio, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i'r afael â'r holl faterion sy'n peri pryder i'r gymuned leol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni wneud hynny. Ond mae gen i uchelgais i fod y lle cyflymaf yn y Deyrnas Unedig i gael caniatâd cynllunio. Dyna fy uchelgais. Roedd hynny yn rhywbeth a wnaed yn eglur gen i pen gefais fy mhenodi'n Brif Weinidog, ac rydym ni ar ffordd dda tuag at gyflawni hynny. Felly, y peth pwysig nawr yw ein bod ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith, ein bod ni'n cyflawni yn gyflym, a dyna pam rwy'n gobeithio y gallwn ni barhau i roi pwysau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gweld yr orsaf honno yn cael ei hadeiladu. Mae'n rhywbeth lle bydd yn rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae'r potensial, rwy'n credu, yn sylweddol iawn.

Mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â datblygu economi Cymru a chreu swyddi a chyfleoedd i'n gweithlu. Wedi dweud hynny, ni ddylai datblygu drechu pob ystyriaeth arall, yr amgylchedd yn un ohonyn nhw. Mae hyn yn arbennig o wir o ran safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu SoDdGAau, y mae parcffordd Caerdydd yn tresmasu arnyn nhw. Rwy'n gwybod bod ymgyrchwyr amgylcheddol yn teimlo na roddwyd ystyriaeth briodol i effaith y golled honno o 8 y cant o SoDdGA Tredelerch a Llan-bedr Gwynllŵg, y byddai'r datblygiad hwn yn ei olygu. Mewn mannau eraill ar wastadeddau Gwent, gallai ardaloedd eang o dir SoDdGA gael eu heffeithio gan nifer o gynigion fferm solar. Er i'r un a glustnodwyd ar gyfer Trefesgob gael ei gwrthod yn ddiweddar, mae eraill yn parhau i fod yn fyw ac yn destun ystyriaeth. Sut mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod y pryderon dilys hyn yn cael gwrandawiad teg, ac a ydych chi'n cytuno bod hyn yn dangos y rheswm pam mae angen llywodraethu amgylcheddol cryf?

14:10

Wel, mae bob amser yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gydbwyso, yr amgylchedd yn erbyn yr economi, ond mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi ystyriaeth briodol i'r rheini i gyd. Dyna pam mae'n mynd i leoedd fel Cyfoeth Naturiol Cymru, a wnaeth argymell mewn gwirionedd bod y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Felly, aeth drwy'r holl broses graffu; cymerodd dystiolaeth gan ymgyrchwyr lleol, a daeth i'r casgliad y dylai fynd ymlaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cymryd yr amgylchedd o ddifrif, ond mae angen i ni dyfu'r economi hefyd. Rydym ni'n Llywodraeth sydd eisiau gweld y rheini yn mynd law yn llaw.

Roedd yn arbennig o braf cael bod yn lansiad Banc Datblygu Cymru neithiwr. Roedd yn braf eich gweld chi yno. Mae biliwn o bunnoedd wedi cael eu buddsoddi bellach o ganlyniad i fanc datblygu Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylid ei ddathlu—50,000 o swyddi o ganlyniad i'r fenter a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth hon. Dyna ddylem ni fod yn ei ddathlu—wir cymryd yr amser i wneud yn siŵr bod pobl yn ein cymunedau lleol ledled Cymru wedi elwa o allu rhoi benthyciadau, â chraffu priodol i fusnesau ledled Cymru, sydd wedi helpu cymunedau lleol ac wedi helpu i gefnogi swyddi lleol.

Amseroeadd Aros Awdioleg

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros awdioleg yng Nghymru? OQ63488

Rwy'n deall yn llwyr y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n cael trafferth yn clywed. Gall wir effeithio ar ansawdd bywyd pobl, gan adael pobl yn teimlo wedi'u hynysu ac yn rhwystredig. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni eisoes wedi gwneud camau sylweddol i symud mwy o gymorth i mewn i'n cymunedau o ran awdioleg. Rydym ni'n benderfynol o leihau'r amseroedd aros o ran awdioleg ac i wneud yn siŵr bod hyn yn deg ledled Cymru gyfan.

Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n gwybod, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cydnabod bod awdioleg yn arbenigedd penodol ac nid yn wasanaeth therapi yn unig. Oherwydd hyn, mae wedi penderfynu felly tynnu awdioleg o'r datganiad amseroedd aros diagnostig a therapi cyfunol ac yn hytrach cyflwyno casgliad data lefel cleifion newydd o fis Ebrill eleni. Nid oes amheuaeth bod angen y newid hwn gan nad oedd adroddiadau blaenorol yn adlewyrchu gwir raddfa'r oedi. Yn 2024 roedd mwy na 31,000 o bobl yn aros am ofal awdioleg yng Nghymru, ac roedd tua 17,000 ohonynt y tu hwnt i'r amseroedd aros targed arfaethedig. Ac eto adroddwyd mai dim ond tua 4,400 oedd amseroedd aros diagnostig a therapi, dim ond 25 y cant, sy'n dangos faint o'r rhestr aros oedd yn anweledig mewn ffigurau swyddogol.

O ystyried pwysigrwydd clyw mewn cynifer o agweddau ar ansawdd bywyd, o gyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, iechyd meddwl a gweithredu gwybyddol, mae'n hanfodol bod y rhestrau aros hyn yn cael eu lleihau'n sylweddol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi bellach i sefydlu contract GIG, fel sydd gennych chi ar gyfer meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr, i ganiatáu i wasanaethau awdioleg preifat weld cleifion GIG? A pha fesurau atebolrwydd ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod y dull casglu data newydd hwn yn arwain at welliannau gwirioneddol mewn gwasanaethau? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o ddweud bod y ffigurau wedi gwella yn sylweddol ers i chi ddod o hyd i'r ffigurau hynny. A dweud y gwir, mae'r arosiadau llwybr oedolion dros 14 wythnos bellach yn 10,000, ond mae 80 y cant o'r rheini mewn dau fwrdd iechyd—Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro—felly mae angen iddyn nhw dorchi eu llewys yn hynny o beth. Ond rydym ni wedi ehangu'r data yr ydym ni'n eu casglu ac rydym ni'n olrhain yr holl arosiadau awdioleg, nid y llwybr sengl yn unig fel oedd yn digwydd yn y gorffennol.

O ran defnyddio'r sector preifat, edrychwch, rydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod Cymru, mewn gwirionedd, yn cael ei chynnig fel esiampl i weddill y DU. Maen nhw'n cael eu darparu yng Nghymru gyda phwyslais llawer cryfach ar fwy o driniaeth a gofal yn cael eu darparu yn y gymuned, o'i gymharu â gweddill y DU. Nawr, nid yw defnyddio cwmnïau sector preifat ar gyfer awdioleg, yn ein barn ni, yn cynnig gwerth am arian. Nid ydyn nhw'n gallu darparu gwasanaeth stryd fawr cyfatebol eang ledled Cymru i ddarparu gofal iechyd clyw, sy'n llawer mwy na darparu teclyn cymorth clyw yn unig. Ac mae'r peth arall yn ymwneud â chymwysterau'r bobl hynny. Nid ydyn nhw bob amser yn awdiolegwyr cymwysedig â'r addysg a'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i fodloni safonau'r GIG.

14:15
Ymyrraeth Dramor yn Etholiad Nesaf y Senedd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gwasanaethau diogelwch i sicrhau nad oes ymyrraeth dramor yn etholiad nesaf y Senedd? OQ63503

Edrychwch, mae'r ffaith wedi bod yn frawychus i bob un ohonom ni fod cyn-Aelod o'r Senedd hon, cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, wedi cael ei ddyfarnu yn euog o gymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw le o gwbl i ddylanwad allanol ar etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf. Rydym ni'n cymryd diogelwch etholiadol yn ddifrifol tu hwnt, ac nid oes unrhyw le i ymyrraeth o dramor yn nemocratiaeth Cymru. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, y gwasanaethau diogelwch, yr heddlu, Comisiwn y Senedd a'r tasglu amddiffyn democratiaeth i amddiffyn etholiad nesaf y Senedd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Fe wyddoch chi fel minnau fod cael eich ethol i'r lle hwn i gynrychioli pobl a sefyll i fyny er mwyn ein hetholwyr yn anrhydedd ac yn fraint ac yn gyfrifoldeb y mae angen i bob un ohonom ni ystyried hynny'n ddifrifol ofnadwy. Dyna pam roedd hi'n arbennig o ffiaidd gweld cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru yn cael ei garcharu am 10.5 mlynedd ddydd Gwener am barablu propaganda o blaid Rwsia a chymryd arian am wneud hynny. Nawr, fe wyddom ni fod Rwsia, yn arbennig felly, yn wlad sy'n ceisio dylanwadu ar lywodraethau democrataidd y gorllewin, dylanwadu ar ein trafodaethau, ac rwy'n pryderu bod Reform UK yn blaid nad yw'n cymryd hynny'n ddigon o ddifrif. I ddechrau, ymateb Reform oedd esgus nad oedden nhw erioed wedi clywed am Nathan Gill, eu cyn-arweinydd yng Nghymru. Ac yna, dim ond ddoe, fe ofynnwyd i Nigel Farage sut roedd ef yn ymdrin â hyn yn ei blaid, a wyddoch chi beth oedd ei ateb ef? Fe ddywedodd ef ei fod wedi gofyn i bawb sydd yn y swyddfa, ac nid oedd neb arall yn cymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia. Mae hynny'n gwbl annerbyniol ac yn chwerthinllyd. Mae gan bobl hawl i wybod, rwy'n credu, a yw'r blaid hon yn arbennig yn agored i ymyrraeth o dramor fel hyn. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi mai nawr yw'r amser am ymchwiliad llawn a phriodol i ymyrraeth gan Rwsia yng ngwleidyddiaeth Prydain?

Edrychwch, rwy'n credu bod achos i'w wneud dros hynny, yn wirioneddol felly. A'r hyn a welsom ni yno yw ymyrraeth. Rwyf i o'r farn bod rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif. Rwy'n credu bod botau yn cael eu defnyddio ar dudalennau Facebook ac ar gyfryngau cymdeithasol eraill. Rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn wyliadwrus ac mae'n rhaid i ni gymryd hynny o ddifrif calon. Fe gefais fy sicrhau gan Weinidog diogelwch Llywodraeth y DU, Dan Jarvis, y bydd y tasglu amddiffyn democratiaeth yn cymhwyso'r un pwysigrwydd i etholiadau'r Senedd, ac fe fyddwn ni'n gweithio ochr yn ochr wrth amddiffyn ein hetholiadau.

Ond, gwrandewch, rwy'n credu bod hwn yn fater y mae pobl Cymru yn gofidio yn ei gylch. Roedd 52 y cant o'r bobl a arolygwyd gan y Comisiwn Etholiadol eleni yn poeni am ymyrraeth o dramor. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus yn ei gylch. Felly, mae'r ffaith fod Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 gennym ni erbyn hyn i reoleiddio pa sefydliadau a all ymgyrchu mewn etholiadau neilltuol i Gymru yng Nghymru, mae hynny'n golygu bod lle cyfreithiol i sefyll arno. Ond y pethau sy'n fwy dirgel yw'r pethau y bydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus yn eu cylch. Honno yw'r ffordd y maen nhw'n llwyddo i blannu syniadau heb iddi fod yn eglur o ble y daeth y syniadau hynny. Felly, edrychwch, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, ac rwy'n credu bod hwn yn faes sy'n teilyngu peth ymchwiliad iddo.

Wrth gwrs, fe fu yna ymchwiliad i ddylanwad Rwsia ar ein gwleidyddiaeth ni eisoes. Fe'i comisiynwyd gan Boris Johnson, a wrthododd ei gyhoeddi wedyn. Nid yw Llywodraeth bresennol y DU wedi cyhoeddi'r adroddiad hwnnw chwaith, ac rwy'n credu y byddai llawer ohonom ni yma yn dymuno i chi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am gyhoeddi'r adroddiad hwnnw, i ni gael gwybod beth a geisiodd Llywodraeth Rwsia ei wneud i'w chysylltu ei hun ar gyfer tanseilio ein democratiaeth a'n gwleidyddiaeth. Ond roedd yr ased i Rwsia a gafodd ei garcharu'r wythnos diwethaf yn eistedd yma yn y lle hwn hefyd. Rwyf i wedi gofyn i'r Llywydd eisoes am ymchwiliad i ddefnydd posibl unrhyw adnoddau cyhoeddus yn y fan hon i gefnogi gweithgareddau'r ased hwn i Rwsia. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael ymchwiliad ar gyfer canfod a fu Rwsia yn tanseilio ein gwleidyddiaeth. Ond, yn sicr, mae angen i ni sicrhau nawr y bydd y gwasanaethau diogelwch ac eraill yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd ynglŷn â Nathan Gill i sicrhau nad oedd rhai eraill a siaradodd dros Putin yn Senedd Ewrop—ac rwy'n golygu Nigel Farage, yn ogystal ag eraill—yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â Llywodraeth Rwsia, ac mae angen i ni fod yn gwbl sicr nad oedd ein gwleidyddiaeth ni'n derbyn unrhyw arian llwgr gan Putin.

14:20

Diolch yn fawr. Rwy'n credu, Alun, bod y rhain yn deimladau sy'n gyffredin i bawb ohonom ni. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu am unrhyw ymyrraeth o dramor, ond mae ymyrraeth o dramor gan Rwsia yn arbennig o gythruddol ar ôl yr hyn a welsom ni yn Wcráin a'r ffordd y mae manipiwleiddio yn eu gwlad nhw eu hunain o ran propaganda. Felly, edrychwch, rwy'n credu bod rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd hyn o ddifrif. Mae yna rai mesurau y gallwn ni eu cymryd, ac fe aethom ni, rwy'n credu, mor bell ag y gallwn ni gyda'n Deddf, ond mae yna feysydd i'w cael lle bydd rhaid i Lywodraeth y DU gymryd yr awenau, ac yn sicr fe fyddaf i'n eu hannog nhw i wneud felly.

Prif Weinidog, roeddwn i'n bresennol yng ngwrandawiad dedfrydu Nathan Gill, oherwydd roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig clywed y dystiolaeth am yr hyn a arweiniodd at yr ymgysylltiad a gafodd ef. Mae hi'n gwbl amlwg, erbyn 2018, fel dywedodd y barnwyr, fod ganddo gysylltiad sefydledig eisoes ag uwch wleidyddion pleidiol i Rwsia a oedd yn talu iddo ef am weithredu fel asiant. Mae hynny'n golygu ei fod yn ystod y cyfnod hwnnw o 18 mis pan oedd ef yn y Senedd hon am lawer o'i amser—efallai fod hynny'n esbonio pam nad oedd ef yma'n aml iawn—mewn gwirionedd ei fod ef yn weithredol mewn gweithgarwch o'r fath. Nawr, roedd ef ar ddeheulaw Nigel Farage am ddau ddegawd. Y cwestiwn sydd gennyf yw hwn, mewn gwirionedd: pwy a sefydlodd y cysylltiadau hynny a oedd ganddo ef gyda Voloshyn a Medvedchuk? Pwy oedd hwnnw, a phwy yw'r cysylltiadau parhaus y gwnaeth ef eu meithrin? Mae hi'n ymddangos i mi fod y rhain yn gwestiynau sydd nid yn unig yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, ond bod angen hefyd i ni gael gwybod mewn gwirionedd, oherwydd dyna'r ffordd y mae ymdreiddio i wleidyddiaeth yn gweithio mewn gwirionedd.

Nawr, fe ddywedodd y barnwr fod yr hyn a wnaeth ef yn peri risg i ddemocratiaeth, a dyna pam mae'n berthnasol i ni'n uniongyrchol. Mae galwadau wedi bod am ymchwiliad. Mae'r Prif Weinidog wedi galw ar Nigel Farage ei hun i ymchwilio, ac fe wyddom ni mai annigonol fu ymateb hwnnw. Tybed a fyddech chi'n cefnogi, rwy'n credu, llawer o bobl eraill sy'n dweud erbyn hyn ei bod hi'n angenrheidiol i Lywodraeth y DU gael ymchwiliad penodol iawn i'r gweithgareddau sydd wedi bod yn digwydd, y bobl sy'n gyfrannog, a'r rhai sydd mewn gwirionedd yn ceisio dylanwadu ar ein prosesau democrataidd ni a'u tanseilio nhw.

Diolch yn fawr iawn, Mick. Rwy'n siŵr bod hyn yn arbennig o anodd i chi gyda'ch cefndir yn Wcráin a'r hyn sy'n digwydd yno ac ymosodiad gwladwriaeth Rwsia o ran y wlad honno. I ymateb i'ch cwestiwn, rwyf i o'r farn ei bod hi'n werth nodi ein bod ni'n gweithio yn agos gyda gwasanaethau diogelwch Llywodraeth y DU. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r Comisiwn Etholiadol a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Rydym ni'n cynnal sesiynau briffio gyda nhw'n rheolaidd. Mae gennym ni asesiadau risg ar y cyd a monitro cydgysylltiedig o weithgarwch sy'n gysylltiedig â gwledydd tramor, ac fe fydd hynny'n parhau cyn etholiadau'r Senedd.

Mae cwestiwn 7 [OQ63502] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 8—Andrew R.T. Davies.

Ysbyty Athrofaol Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan ymgynghorwyr mewn perthynas â gweithredu a rheoli Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ63463

Mae'r pryderon a godwyd gan feddygon ymgynghorol yn rhai difrifol, ac rydym ni'n eu trin nhw'n ddifrifol. Rydym ni wedi bod yn gwbl eglur gyda'r bwrdd iechyd bod rhaid cael gwelliant o ran y diwylliant, yr arweinyddiaeth a'r cyfathrebu. Mae'r prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio yn arwain gwaith cenedlaethol i gryfhau arweinyddiaeth glinigol a sicrhau bod gan staff rheng flaen lais gwirioneddol yn y penderfyniadau. Mae gan Ysbyty Athrofaol Cymru heriau, ond rydym ni'n gweithredu ac nid yn amddiffyn y sefyllfa sydd ohoni.

Diolch i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yn amlwg, roedd y llythyr hwn sydd wedi mynd yn gyhoeddus yn tynnu sylw at bryderon llawer o uwch glinigwyr a staff meddygol o bob rhan o safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn wir. Mae llawer o bobl yn myfyrio ar gyflwr gwael y safle hwnnw, ond yr hyn sy'n peri pryder mawr yw'r diwylliant gwaith sy'n bodoli ar y safle hwnnw a gafodd ei ymhelaethu yn gynharach yn y flwyddyn yn yr adroddiad ar amodau gweithredu yn y theatrau sydd ar y safle, ac yn awr fe ddaeth y llythyr hwn oddi wrth y meddygon ymgynghorol, a ddaeth o drwch blewyn i ddodi cynnig o ddiffyg hyder yn y rheolwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd iechyd hwnnw mewn mesurau arbennig—mesurau arbennig 4 allan o 5, sef y mwyaf difrifol. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gael gafael ar y sefyllfa yno'n gyflym iawn, gan ennyn hyder o'r newydd ymhlith y staff clinigol, a sicrhau bod y cadeirydd newydd ac, yn yr un modd, yr uwch reolwyr yn ymateb i'r pryderon hynny. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu manwl fel gall cleifion, clinigwyr ac unrhyw un sy'n dibynnu ar Ysbyty Athrofaol Cymru, sydd ag angen am y gwasanaethau sydd i'w cael yno, fod yn hyderus eu bod nhw'n cael y gwasanaethau gorau posibl?

14:25

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hi'n sefyllfa ddifrifol iawn. Fe fu adolygiadau o wasanaethau clinigol yn ddiweddar, sydd wedi nodi materion sy'n ymwneud â diwylliant, ymddygiadau unigol, arweinyddiaeth, strwythur rheoli a materion o ran seilwaith, fel rydych chi'n dweud. Nawr, yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw bod arweinyddiaeth y bwrdd wedi ymateb i'r llythyr eisoes gydag ymrwymiad i wella cyfathrebu ac ymgysylltiad yn sicr, ond, yn amlwg, mae angen iddyn nhw fynd ymhellach na hynny. Fe allaf i ddweud wrthych chi fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd, pryd yr aethon nhw drwy ystod eang o faterion, gan gynnwys pryderon ariannol, meysydd perfformiad, adolygiadau a gomisiynwyd, megis adolygiad o theatrau llawdriniaeth, a'r angen i fynd i'r afael hefyd â'r mater hwnnw o ran diwylliant ac arweinyddiaeth, sydd wedi eu dodi nhw ar y gyfradd honno o uwchgyfeirio lefel 4.

Gofal Lliniarol

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal lliniarol? OQ63458

Mae sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gofal gorau posibl i bobl ar ddiwedd eu hoes yn hanfodol. Mae gofal lliniarol yn ymwneud ag urddas, cysur a thosturi, ac mae pawb yng Nghymru yn haeddu'r gefnogaeth orau ar yr adegau anoddaf ym mywydau pobl. Rydym ni wedi nodi'r safonau uchelgeisiol y mae eu hangen i gyflawni'r canlyniadau a'r profiadau yr ydym ni'n eu disgwyl i bawb sy'n cael mynediad at ofal o'r fath. Lle bo hynny'n bosibl, fe ddylem ni geisio darparu'r gefnogaeth hon yn y cartref, lle byddai'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi treulio dyddiau olaf eu bywydau, â'u teuluoedd o'u cwmpas nhw ac mewn amgylchedd cyfarwydd.

Yn amlwg, mae hosbisau Cymru yn allweddol i'r ddarpariaeth honno yn y cartref, yn y gymuned ac o ran gwelyau, ond maen nhw'n dweud wrthyf i, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbisau a lliniarol, fod angen iddyn nhw wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w rhoi nhw ar sail fwy cynaliadwy ac atal cau gwasanaethau hanfodol ymhellach fel Hosbis Tŷ Shalom yn sir Benfro ac uned cleifion mewnol pedwar gwely gan Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi.

Mae Hosbisau Cymru yn ddiolchgar iawn am y £3 miliwn o gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, ond maen nhw'n dweud na fydd hyn yn eu rhoi nhw ar sail gynaliadwy, ac na all hwnnw fod yn setliad cyllido cynaliadwy fel addawyd gan Lywodraeth Cymru. Eleni, maen nhw'n ymdopi â'r gost o £1.3 miliwn o gynnydd yswiriant gwladol, ochr yn ochr ag effeithiau costau cynnydd blynyddol 'Agenda ar gyfer Newid', a fydd yn arwain at gynnydd amcangyfrifedig o 3.6 y cant o ran costau staffio dros 2025-26.

Sut, felly, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn, yn y flwyddyn ariannol hon ac yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 fel ei gilydd, a thrwy wneud hynny, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes hanfodol i filoedd o blant ac oedolion ledled Cymru?

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynyddu buddsoddiad mewn hosbisau. Rydym ni wedi cryfhau safonau cenedlaethol. Rydym ni'n datblygu model comisiynu newydd fel bydd cyllid yn deg, yn gynaliadwy, ac, yn bwysig iawn, yn gyson ledled Cymru, yn enwedig yn ardaloedd cefn gwlad. Mae hyn yn ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â theuluoedd, mae'n ymwneud ag urddas, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cyflawni hyn yn iawn. Felly, mae ein dull gweithredu ni ynglŷn â hyn mewn camau. Cafodd Cam 1 ei gwblhau ac mae'n canolbwyntio ar gomisiynu cymorth i ddyrannu'r £3 miliwn ychwanegol y soniwyd amdano yng nghyllideb eleni. Mae Cam 2 wedi dechrau hefyd, a fydd yn gweld datblygu dull comisiynu cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes a ddarperir gan hosbisau yng Nghymru. Ac fe fydd trydydd cam, sef comisiynu gofal lliniarol arbenigol, ac mae disgwyl i hynny gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2027.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hynny. Felly, Jane Hutt i wneud y datganiad busnes.

Member
Jane Hutt 14:29:45
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agendau'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:30

Rheolwr busnes, wythnos diwethaf, fe ddylai fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau diweddaraf y GIG ar gyfer amseroedd aros ledled Cymru, ac fel gwyddom ni, fe ddylid cyhoeddi'r rhain bob mis, ar y trydydd dydd Iau yn y mis. Mae'r data yn bwysig oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n rhoi'r gallu i'r cyhoedd, yn ogystal ag Aelodau'r Senedd hon, i ddwyn Llywodraeth Cymru a'u byrddau iechyd lleol i gyfrif o ran perfformiad yn ôl nodau Llywodraeth Cymru ei hunan. Yr hyn sy'n peri penbleth i lawer yw pam ar y ddaear na chyhoeddwyd yr wybodaeth honno'r wythnos diwethaf, pam y gohiriwyd datganiad a ddylai fod yn digwydd heddiw yn y Siambr hon, a'i gyflwyno gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, ac a oes unrhyw resymau gwleidyddol yn gysylltiedig â gohirio'r ystadegau hyn. Nawr, os nad oes yna—ac rwy'n gallu gweld yr Ysgrifennydd Cabinet yn ysgwyd ei ben ynglŷn â hyn—os nad oes unrhyw resymau gwleidyddol, yna rydym ni'n haeddu esboniad, onid ydym ni? Ac mae'r cyhoedd yn haeddu esboniad ynglŷn â'r hyn sy'n rhwystro'r pethau hyn rhag digwydd. Nid yw hi'n iawn fod pobl mewn mannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn gallu bod â llawer mwy o wybodaeth fyw a chyfredol am berfformiad y GIG nag sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd gennym ni ar amseroedd atgyfeirio i driniaeth wedi mynd yn hen. Maen nhw'n dyddio o fis Awst eleni. Nid yw hynny'n ddigon da, mae angen mwy o wybodaeth gyfredol, ac fe hoffwn gael datganiad brys i esbonio'r dilema hwn a pham rydym ni yn y llanast hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna. Mae hwn yn gwestiwn a atebais ym mhreifatrwydd ein Pwyllgor Busnes y bore yma. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi fynegi'r ffaith fod problem o ran data. Mater data yn unig yw hwn, ac fe wni i fod angen i ni fod â'r data hynny'n gwbl gywir. Fe gyhoeddwyd yr ystadegau yn rhannol ar 21 Tachwedd. Fe fyddem ni'n hapus i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r ffaith mai mater data yw hwn, yn wir, fel dywedais i fore heddiw, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn hollol hapus i—[Torri ar draws.] Fe fydd ef yn aildrefnu'r datganiad.

Ond fe wn i bydd ef yn awyddus i aildrefnu hwnnw pan fydd y data cywir ar gael i ni, ac fe fydd yn —. Diolch am y cwestiwn, oherwydd fe allaf i eich sicrhau mai dyma'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn iawn o ran y data, ac fe wnawn ni hynny cyn gynted â phosibl. Fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydweld â'r safbwynt hwnnw.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, dim ond o ran sicrhau nad oes neb yn ddigartref dros y gaeaf eleni. Fe welais i gynnydd yn nifer y bobl sy'n dod at fy nhîm a minnau i ofyn am gymorth ac yn benodol o ran prinder gwirioneddol llety argyfwng sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Fe welais i un achos o etholwr yn gorfod cysgu mewn maes parcio dros nos, oherwydd nad oedd llety addas mewn gwirionedd. Felly, o ystyried y tywydd eithafol a welwn ni ar hyn o bryd hefyd—. Rwy'n clywed am etholwyr eraill yn cysgu ar lannau afonydd, heb fod yn gwybod am rybuddion llifogydd ac ati, felly mae hwn yn bryder gwirioneddol o ran diogelwch hefyd. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn rhannu fy mhryderon i o ran sicrhau na fydd rhaid i neb fod ar drugaredd y tywydd y gaeaf eleni, ond hefyd nad oes neb mewn perygl oherwydd anaddasrwydd llwyr y llety.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Fel rydych chi'n dweud, hwn yw'r amser pan fyddwn ni'n paratoi ar gyfer y gaeaf, onid e, o ran gofal iechyd a chymdeithasol? Ond mae'n rhaid i ni baratoi yn briodol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd, sy'n gynnwys tai, a chydnabod, o ran addasrwydd ac argaeledd llety, y cyfrifoldebau a'r dyletswyddau sydd ar ein hawdurdodau lleol ni hefyd, ac wrth gwrs, gan weithio yn glòs iawn gyda'r trydydd sector sy'n ymgysylltu â ni hefyd ac rydym ni'n rhoi arian i'w cefnogi, o ran mynd i'r afael ag anghenion pobl a allai fod yn ddigartref dros dro. Felly, yn sicr, fe fyddaf i'n codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i weld a ellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â'r paratoadau hyn.

A gawn ni ddatganiad am ofalu am ein coed yng Nghymru? Ddoe, roeddwn i'n falch iawn o fod yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Ngogledd Caerdydd ar gyfer plannu eginblanhigyn arbennig iawn. Ysgol Gynradd Rhiwbeina yw'r unig ysgol yng Nghymru a dderbyniodd un o'r eginblanhigion prin o'r sycamorwydden yn y bwlch ym Mur Hadrian a gafodd ei thorri i lawr yn anghyfreithlon yn 2023. Ac fe wn i fod torri'r goeden 120 mlwydd oed honno i lawr wedi cyffwrdd â chalonnau pob un ohonom ni. Roedd y plant yn amlwg mor gyffrous o gael yr eginblanhigyn hwn, ac roedd eu diddordeb nhw mewn bioamrywiaeth yn amlwg iawn i'w weld. Ac mae'r goeden hon bellach wedi cael ei phlannu ym maes chwarae'r ysgol, ac fe wn i eu bod nhw'n cofio am dreftadaeth y goeden Sycamore Gap. Felly, sut allwn ni amddiffyn ein coed yng Nghymru?

14:35

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Ac roedd hi'n bleser pur i fod yno yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina, rwy'n siŵr, i weld cyffro'r plant, y disgyblion, oherwydd rwy'n deall bod ysgolion wedi gorfod gwneud cais i gael eginblanhigyn o'r sycamorwydden honno, a hon yw'r unig ysgol yng Nghymru, rwy'n deall, sydd wedi cael eginblanhigyn. Ac, wrth gwrs, fel rydych chi'n dweud, fe wyddom ni pa mor bwysig yw hi fod plant yn gwerthfawrogi ac yn dysgu am natur, yr amgylchedd, yr amgylchiadau, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n gweld y bydd y goeden yn ffynnu.

Ond mae hi'n amlwg iawn, gyda chryfder teimlad y cyhoedd yn dilyn torri'r goeden yn Sycamore Gap yn anghyfreithlon, bod angen i ni amddiffyn ein coed. Ac yn ôl ym mis Mehefin eleni, fe gyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ein dull o gryfhau'r amddiffyniadau ar gyfer coed coetir hynafol, y maen nhw i'w cael gennym ni mhob un o'n hetholaethau, yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth. Ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi cael ei rymuso. Rydym ni'n adolygu ein rheoliadau gorchymyn cadw coed yn rhan o'r gwaith ar y Bil Cynllunio (Cymru), gan gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio, ac mae'r gwaith hwn hefyd yn cynnal amddiffyniad cryf o fewn y system gynllunio ar gyfer coed a choetiroedd, sy'n cynnwys coetir hynafol.

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r canllawiau a roddwyd i'r awdurdodau lleol o ran paratoi ar gyfer tywydd y gaeaf, ac ar gyfer digwyddiadau eraill sy'n gofyn am gau ffyrdd. Ac fe glywsom ni rai pryderon ynglŷn â chau ffyrdd yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog.

Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r eira trwm a gafodd sir Benfro ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ac o ganlyniad i hynny, fe gaewyd rhai ffyrdd. Rwyf i wedi derbyn sylwadau oddi wrth fusnesau nad oedden nhw'n fodlon gyda dull gweithredu'r awdurdod lleol. Roedd yna bryderon ynghylch diffyg cyfathrebu, cyflenwadau halen, a diffyg graeanu mewn rhai ardaloedd, er enghraifft.

Er mai'r awdurdodau lleol sy'n cymryd yr awenau wrth gwrs, mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y canllawiau y maen nhw'n eu dilyn mor gadarn â phosibl, a bod y gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol gan yr awdurdodau lleol i ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn. Ac, wrth gwrs, mae yna effaith ar yr economi leol, a dyna pam mae canllawiau eglur yn gwbl hanfodol i amddiffyn busnesau a chefnogi cymunedau.

Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, yn esbonio sut mae hi'n cefnogi awdurdodau lleol yn y sefyllfaoedd hyn, yn enwedig o ystyried ein bod ni wedi clywed pryderon yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog hefyd. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies. Ac mae hyn yn dilyn oddi ar y cwestiwn cynharach gan Heledd Fychan hefyd, i raddau helaeth iawn, ynglŷn â digartrefedd a thai a'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Felly, mae hwn yn fater lle mae awdurdodau lleol yn eglur iawn am eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau nhw o ran paratoi ar gyfer tywydd y gaeaf. Ac, wrth gwrs, fe all hynny fod ag effaith, nid yn unig o ran cau ffyrdd, mynediad, ond ar ysgolion, oherwydd roedd rhai ysgolion ar gau hefyd. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn dilyn storm Claudia o ran llifogydd. Yn y gorllewin, rwy'n deall bod yr awdurdodau nid yn unig wedi cael eu taro gan lifogydd, ond gan dywydd gwael, ac maen nhw'n asesu maint y costau hefyd, ac maen nhw mewn cysylltiad agos â'n swyddogion ni ynghylch yr angen posibl iddyn nhw fod yn galw am gymorth ariannol brys, yn enwedig, fe fyddwn i'n dweud, yn sir Gaerfyrddin, o ran y llifogydd. Felly, mae hwn yn fater, unwaith eto, y byddaf yn ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, i weld a oes yna fwy y gallwn ni ei wneud i wyntyllu hyn o ran eu cyfrifoldebau nhw.

Rwy'n galw am ddadl, os gwelwch chi'n dda, ar ganserau y mae llai o debygrwydd y gellir eu goroesi nhw, canser y pancreas yn arbennig felly. Canser y pancreas yw un o'r canserau mwyaf angheuol. Mae'n effeithio ar dros 500 o bobl yng Nghymru eleni, ac mae gormod o deuluoedd fel fy un i wedi colli anwyliaid i'r clefyd creulon hwn. Mae hanner cant y cant o bobl yn marw o fewn tri mis ar ôl cael diagnosis. Ni ellir caniatáu i hyn barhau. Mae'n rhaid i ni wella diagnosis cynnar. Nid oes profion canfod cynnar ar gael i feddygon ar hyn o bryd, ac fe fydd pobl yn aml yn mynd at eu meddyg teulu sawl gwaith cyn cael diagnosis. Mae Pancreatic Cancer UK yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn ymchwil, er mwyn gweld mwy o ddatblygiadau posibl, fel y prawf anadl canser y pancreas sy'n cael ei dreialu ym Mhrifysgol Abertawe. Ond mae angen taflu mwy o oleuni ar y clefyd hwn arnom ni hefyd, ar gyfer ei ddeall yn well, ei ragweld yn well a'i atal rhag cymryd mwy o fywydau pobl. Os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ddatganiad neu ddadl er mwyn i'r Senedd hon roi'r amser sy'n haeddiannol i'r pwnc hwn?

14:40

Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth. Wrth gwrs, mae hi'n bwysig iawn eich bod chi wedi defnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y clefyd creulon iawn hwn, y canser creulon hwn, canser y pancreas. Rydych chi wedi cyfleu'r effaith a gafodd ar eich teulu eich hun; fe wn i y byddai hynny'n debygol o gael ei adleisio ar draws y Siambr hon. Rydych chi'n iawn, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n tynnu sylw at hyn, ac yn codi ymwybyddiaeth, oherwydd pwysigrwydd diagnosis cynnar a deall mwy am y symptomau. Mae hi'n dda eich bod chi wedi cydnabod gwaith blaenllaw Prifysgol Abertawe hefyd yn hyn o beth. Fe wn i y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi clywed y pwynt hwn hefyd. Fe fyddwn ni'n chwilio am ffyrdd er mwyn i ni sicrhau bod trafodaethau a briffio a diweddariadau pellach yn digwydd ynghylch sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â hyn, o ran ein llwybrau canser cadarn iawn.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â Chyngres ac Expo Worldchefs 2026, a gynhelir am yr unfed tro a deugain, a'r tro hwn yng Ngwesty'r Celtic Manor ym mis Mai'r flwyddyn nesaf? Mae'r digwyddiad hwn yn estyn cyfle ardderchog i'n busnesau bwyd a diod yng Nghymru ddangos i'r byd unwaith eto pa mor anhygoel ydyw. Fe fydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i dwristiaeth yn yr ardal, gyda disgwyl y bydd angen darpariaeth o 5,000 welyau i aros dros nos. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r trefnwyr, ac fe fyddai datganiad i'w groesawu, ar gyfer rhannu gwybodaeth am y cyfleoedd masnach posibl i'n cynhyrchwyr bwydydd a diodydd gwych, yn ogystal â'r manteision economaidd niferus eraill y bydd y digwyddiad clodfawr hwn yn eu cynnig i Gymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Lesley Griffiths, am dynnu sylw at y digwyddiad pwysig iawn hwn. Nid wyf i'n siŵr fod pawb yn ymwybodol o'r Gyngres ac Expo Worldchefs 2026 sy'n cael ei gynnal am yr unfed tro a deugain fel rwyf i'n deall, fel roeddech chi'n dweud, a'r tro hwn yng Ngwesty'r Celtic Manor ym mis Mai'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu bod hon yn garreg filltir wirioneddol bwysig, fel roeddech chi'n dweud, i Gymru. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn bwyd, lletygarwch, cynaliadwyedd ac ymagweddau o'r fferm i'r bwrdd. Rydym ni'n cefnogi'r digwyddiad gydag arddangosfa fusnes, gan hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i'r gynulleidfa ryngwladol a fydd yno. Mae'r trefnwyr yn amcangyfrif y gallai'r digwyddiad olygu dros 5,000 o arosiadau dros nos, ond hefyd o ran creu cyfleoedd masnach posibl i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru. Fe fydd dros 1,000 o gynrychiolwyr rhyngwladol yn dod, o 110 o wledydd, gyda chyfanswm o 6,000 o gyfranogwyr. Fe fydd y Gyngres Worldchefs yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer bwyd, diod a thwristiaeth.

Trefnydd, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol i mi godi'r angen sawl gwaith ar lawr y Siambr hon am fwy o wario ar amddiffyn yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn sir Benfro, o ystyried pa mor debyg yw gwrthdaro a'r ymdeimlad ein bod mewn cyfnod cyn rhyfel. Fe welsom ni hynny gyda'r ymosodiad ar ddyfroedd Prydain gan long ysbïo Rwsiaidd. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, yn amlinellu pam y dylai sir Benfro a'i hanes milwrol balch fod ar flaen unrhyw fuddsoddiad yn ein seilwaith amddiffyn. Roeddwn i'n falch o ddarllen yr wythnos diwethaf y byddai depo arfau o bosibl yn dod i Aberdaugleddau. Felly, a gaf i ofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog Llywodraeth y DU i ddod â'r gwariant hwnnw, i ddod â'r swyddi hynny yma i Gymru, o ystyried ein hanes milwrol balch? Fe fyddwn i'n croesawu datganiad, naill ai gan y Prif Weinidog neu'r Gweinidog perthnasol, ar lawr y Siambr hon ynghylch pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu gwariant ar amddiffyn yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Samuel Kurtz. Diolch i chi am dynnu sylw unwaith eto at y dreftadaeth a'r cyfraniad gwych a wnaeth sir Benfro o ran amddiffyn yng Nghymru. Mae ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, i godi hyn gyda Llywodraeth y DU o ran eu cyfrifoldeb nhw, yn beth cwbl briodol i'w wneud. Mae hwn yn fater hefyd, yn ddiweddar iawn, ar Ddiwrnod y Cofio, roeddwn i'n gallu treulio amser gyda'r Gweinidog Luke Pollard o'r Weinyddiaeth Amddiffyn—roedd ef yn ymweld â General Dynamics gyda Rebecca Evans—yn gweld y cyfleoedd sydd gennym ni, ac roeddem ni'n gallu codi datblygu yng Nghymru gydag ef, gyda'r strategaeth amddiffyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi gofyn yn arbennig am ystyried pwysigrwydd y ffaith bod gan Gymru goleg a phroffil technoleg amddiffyn, yn ogystal â buddsoddiad mewn llawer o'r diwydiannau amddiffyn sydd gennym eisoes yng Nghymru.

14:45

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar gyfradd y craffu a roddir ar ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau adeiladu mawr yng Nghymru? Rwy'n codi hyn yn dilyn pryderon difrifol gan drigolion Cwmgelli Villas ger y Coed Duon, y mae eu bywydau nhw wedi cael eu haflonyddu yn sylweddol gan ddatblygiad cyfagos Cwrt Sirhywi gan Taylor Wimpey Homes. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae trigolion yn adrodd am lifogydd dro ar ôl tro a gollyngiadau dŵr oddi ar y safle yn llifo i mewn i'w heiddo o ganlyniad i'r gwaith, gyda rhai yn wynebu brwydr barhaus bron â bod i gadw dŵr rhag mynd i'w cartrefi nhw. Mae'r nant sy'n derbyn y dŵr a gafodd ei ddargyfeirio o'r safle mewn perygl llawer mwy o fynd dros ei glannau erbyn hyn. Er i grant i uwchraddio'r cwlfer gael ei ddyrannu, fe dorrwyd y pwll gwanhau dros dro yn gynharach y mis hwn. Yn ogystal â hynny, fe ddywedir bod pibell nwy prif gyflenwad wedi cael ei tharo sawl gwaith, gan adael dŵr i mewn i'r system a thorri'r cyflenwad nwy i 45 o gartrefi. I ychwanegu at y pryderon, mae'r datblygiad wedi tyfu gydag oddeutu 40 o gartrefi ychwanegol, tua thraean yn fwy nag a hysbysebwyd yn wreiddiol. Mae'r trigolion ar ben eu tennyn yn ddealladwy felly, ac mae angen i ni wybod beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw datblygwyr yn gallu sathru cymunedau a'u pryderon dan draed.

Diolch yn fawr iawn i chi am dynnu sylw at effaith y gwaith adeiladu mawr hwnnw yn eich rhanbarth yn y Coed Duon. Mae hwn yn fater lle mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb eglur o ran cymeradwyo'r datblygiad hwnnw. Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yn cwrdd yn rheolaidd â'r prif ddatblygwyr tai yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n sicrhau bod hyn ar yr agenda y tro nesaf y bydd hi'n cwrdd â nhw. Diolch i chi am dynnu ein sylw ni at hyn heddiw.

Roeddwn i'n bresennol yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin bythefnos yn ôl, am ei fod yn ymdrin ag ymyl garw cyfiawnder troseddol. Roeddwn i'n falch iawn o gynrychioli'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Ond roeddwn i'n synnu yn fawr at ddarllen nad yw cyfraniad grant bloc Llywodraeth y DU i wasanaethau iechyd carchardai yng Ngharchardai Cymru wedi newid mewn 21 mlynedd. Mae'n dal i fod yn llai na £2.6 miliwn, er gwaethaf chwyddiant a'r ffaith fod nifer y carcharorion o Loegr wedi mwy na threblu, i fyny o lai na 500 hyd bron i 1,900. Felly, rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn hoffi deall pam nad yw Llywodraeth y DU yn talu mwy am ofal iechyd mewn carchardai, o ystyried bod Caerdydd a'r Fro ar eu pennau eu hunain yn cyfrannu £4 miliwn at un carchar yng Nghaerdydd. Rwy'n gwybod bod trafodaethau yn digwydd ynglŷn â chyflymu datganoli gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ond mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni y byddwn ni'n cael yr arian y mae hi'n ei gostio i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Tybed a gawn ni ddatganiad—naill ai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid neu gan y Dirprwy Brif Weinidog, yr wyf i'n credu ei fod dilyn ar ôl y materion cyfansoddiadol hyn—cyn i ni fynd yn llawer rhy bell ar hyd y ffordd hon a heb gael yr arian sydd ei angen arnom ni.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone. Mae hi'n bwysig iawn eich bod chi wedi cyflwyno un o lawer, rwy'n siŵr, o'r canfyddiadau a wnaethoch chi oherwydd eich presenoldeb yn y Pwyllgor Materion Cymreig. Unwaith eto, fe gaiff hyn ei ystyried a'i gydnabod fel ymyl garw o ran y cyfrifoldebau a gedwir yn ôl a'r rhai nas cedwir yn ôl. Yn amlwg, ni sy'n gyfrifol o ran gwasanaethau iechyd mewn carchardai. Mae hwn yn fater lle nad yw Llywodraeth Cymru yn cael cyllid penodol bob blwyddyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gofal iechyd i garcharorion. Yn 2014-15, fe gawsom ni drosglwyddiad rheolaidd, fel roeddech chi'n dweud, o ychydig dan £2.6 miliwn i gefnogi gofal iechyd carcharorion mewn carchardai cyhoeddus yng Nghymru. Mae anghenion poblogaeth y carchardai yng Nghymru yn newid. Mae angen cynyddol, yn amlwg, am wasanaethau iechyd. Rydym ni wedi ymrwymo i wella cefnogaeth yn yr ystad garchardai yng Nghymru, yng nghyd-destun cynnydd ym mhoblogaeth carchardai, a'r gofynion ehangach hefyd, wrth gwrs, sydd ar y GIG a'n setliad cyllido cyffredinol oddi wrth Lywodraeth y DU. Ond fe fyddwch chi, rwy'n siŵr, yn dawelach eich meddwl oherwydd bod y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyfeirio at hyn mewn gohebiaeth â Llywodraeth y DU.

14:50

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Yfory fydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action, ac fe fyddaf innau'n cadeirio cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni. Amcangyfrifir bod chwarter yr aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys mwy na phedair o bob pum aelwyd sydd ar incwm is. Roedd arolwg newydd a gyhoeddwyd gan National Energy Action Cymru yn canfod bod chwech o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn debygol o gyfyngu ar eu defnydd o ynni yn y tri mis nesaf—cyfradd uwch o rai sydd ag asthma neu gyflwr iechyd meddwl. Gyda phrisiau ynni yn debygol o aros yn uchel, mae llawer mewn trafferthion, yn cyfyngu ar eu gwres ac yn drymlwythog gan gyfraddau llethol o ddyledion ynni. Mae angen taer yng Nghymru i uwchraddio cartrefi tlawd o ran tanwydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno ei chynllun Cartrefi Cynnes yn llawn, ac fe ddylai pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf yng Nghymru fuddsoddi'r cyllid canlyniadol llawn i helpu i leihau biliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chyflawni effeithlonrwydd ynni. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad ar y gronfa twf lleol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n cymryd lle'r gronfa ffyniant gyffredin o eiddo Llywodraeth flaenorol y DU. Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol yr awdurdodau lleol yn ardaloedd diwydiannol Cymru, Lloegr a'r Alban yn nodi bod hynny'n golygu gostyngiad mewn termau real, bod y trefniadau cyllido arfaethedig yn cynnwys anfanteision difrifol, os bydd hyn yn mynd yn ei flaen yng Nghymru, fel y'i cynllunnir ar hyn o bryd, bydd yn amharu ar y rhan fwyaf o'r gwasanaethau cymorth busnes, hyfforddiant a chyflogadwyedd a fyddai wedi cael eu hariannu gan gronfa ffyniant gyffredin y DU, a bydd hynny'n arwain at golli cannoedd o swyddi ar draws yr awdurdodau lleol ymhlith y staff sy'n cael eu cyflogi i ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Er hynny, maen nhw'n cynnig bod newidiadau cymharol syml y gellid eu gwneud. Rwy'n gofyn am ddatganiad ar hynny yn unol â hynny.

Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna, Mark. Mae cynnydd mewn biliau ynni, ni waeth pa mor fychan—rwy'n cyfeirio at y ffaith bod Ofgem wedi cyhoeddi lefel y cap prisiau yr wythnos diwethaf, a chynnydd a fydd yn bryderus iawn, er ei fod yn llai na'r cynnydd a welwyd sawl tro o'r blaen—yn bryderus iawn i aelwydydd ledled Cymru sydd eisoes yn cael trafferthion wrth dalu costau angenrheidiol. Rwy'n siŵr y bydd digwyddiad National Energy Action yn bwysig iawn wrth i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Wrth gwrs, mae cost ynni yn dal i fod yn ystyfnig o uchel, gyda chyflenwyr ynni yn gorfod cymryd cyfrifoldeb yn amlwg ar gyfer cefnogi eu cwsmeriaid gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys lle byddai angen. Fe wn i fod yna un neges y byddwn i'n ei chyfleu ar gyfer yfory, fel rwy'n siŵr y gwnewch chwithau, sef ein bod ni'n annog unrhyw un sydd mewn trafferthion oherwydd eu biliau ynni i gysylltu â'u cyflenwr, oherwydd fe allan nhw weithio gyda'u cwsmeriaid nhw i gryfhau eu sefyllfaoedd. Yn wir, wrth gwrs, mae ein partneriaeth ni gyda Sefydliad Banc Tanwydd gennym ni hefyd, sy'n estyn cymorth i rai sydd â mesuryddion rhagdalu. Mae miloedd o bobl wedi cael eu cefnogi nid yn unig gan argaeledd talebau rhagdalu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu, ond ar gyfer ynni oddi ar y grid hefyd.

Mae eich ail gwestiwn chi'n ymwneud â'r gronfa twf lleol, a fydd yn buddsoddi £547 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf, gan ddechrau ym mis Ebrill 2026. Wrth gwrs, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad chwe wythnos a agorodd ar 7 Tachwedd, gyda dyddiad cau ar 19 Rhagfyr. Bydd yr ymatebion hynny yn llywio cynllun buddsoddi tair blynedd, a fydd yn cyfarwyddo cyllid yng Nghymru o fis Ebrill 2026, pan fydd y gronfa yn agor. Rwyf i eisiau sôn yn fyr am yr amcanion arfaethedig, gan ganolbwyntio ar yr heriau a'r cyfleoedd allweddol i ni yma yng Nghymru: sef cymorth i fusnesau a gweithwyr ar gyfer cynyddu cynhyrchiant er mwyn creu swyddi gwell a chodi cyflogau, a helpu pobl i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, megis targedu'r mannau lle mae cyfraddau uwch o anweithgarwch economaidd neu ddiweithdra ar gyfer cymorth, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mor bwysig o ran ein huchelgeisiau ni i fynd i'r afael â thlodi a thlodi plant yng Nghymru.

14:55

Mi fydd y Trefnydd yn ymwybodol o'r sgandal budd-dal gofalwyr, gydag adolygiad swyddogol yn dangos bod nifer fawr o ofalwyr mewn dyledion mawr oherwydd methiannau'r Llywodraeth yn Llundain. Roedd ymchwiliad papur newydd The Guardian, wnaeth arwain at yr adolygiad yma, yn dangos gofalwyr yn cael eu cosbi gyda dirwyon o hyd at £20,000 oherwydd methiannau'r Llywodraeth, gan orfodi pobl fregus i mewn i ddyledion, i gyflyron iechyd meddwl, a rhai hyd yn oed yn cael eu carcharu. A gawn ni, felly, ddatganiad llafar gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar ba asesiad sydd wedi'i wneud o effaith hyn ar Gymru, a pha gamau mae'r Llywodraeth yma am eu cymryd er mwyn sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn talu iawndal i'r rhai sydd wedi dioddef?

Diolch yn fawr, Mabon. Mae hwn yn ganlyniad gofidus tu hwnt i anawsterau sydd wedi effeithio ar ofalwyr nawr, sydd wedi achosi iddyn nhw fynd i ddyled. Yn sicr, fe hoffwn i weld—ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn hoffi gweld—pa effaith a gafodd hyn ar ofalwyr yng Nghymru. Fe fyddaf i'n codi hynny ac rwy'n siŵr y gallwn ni ddod yn ôl wedyn i adrodd ar yr effeithiau hynny.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, rwy'n galw heddiw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r problemau difrifol a chynyddol gyda pharcio mewn ysbytai yn y gogledd, ac yn enwedig yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae etholwyr, cleifion, ymwelwyr a staff yr ysbyty hyd yn oed yn dweud yr un hen stori wrthyf i: mae parcio yn Ysbyty Maelor wedi mynd yn hunllef feunyddiol. Mae pobl sy'n cyrraedd am eu hapwyntiadau dan straen, yn bryderus ac yn aml yn hwyr oherwydd nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i le diogel neu le ar gael i barcio. Mae staff sy'n gweithio shifftiau maith ac anodd yno'n wynebu'r un heriau. Nid anghyfleustra bychan mo hynny; mae'n achosi rhwystr rhag gofal, yn peryglu llesiant cleifion, ac yn straen ar weithlu sydd eisoes dan bwysau. Felly, Trefnydd, mae angen datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu sut maen nhw am fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Mae angen ymrwymiad i adolygiad llawn o le i barcio a'i reolaeth yn Ysbyty Maelor, ac amserlen ar gyfer darparu atebion ymarferol, boed hynny'n cynnwys maes parcio aml-lawr, dewisiadau i barcio a theithio, neu well defnydd o'r tir presennol neu unrhyw ddewisiadau eraill a allai fod ar gael i'r Llywodraeth. Felly, rwy'n galw am y datganiad hwnnw yn y lle hwn yn fuan. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Sam Rowlands. Wrth gwrs, cyfrifoldeb i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw hwn, gan gydweithio â'u timau rheoli ysbytai lleol. Ac, wrth gwrs, mae profiad ledled Cymru, yn enwedig mewn cytrefi trefol mwy o faint, o ran y pwysau ar yr ysbytai o ran parcio. Rwy'n credu bod rhai mentrau da iawn wedi bod o ran parcio a theithio i ysbytai. Mae'r rhyngwynebu â thrafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol o ran gallu mynd i ysbytai, yn ogystal â diogelu lle i staff yr ysbyty, ac fe wn i fod hynny'n digwydd yn effeithiol iawn. Ond rydych chi wedi tynnu sylw at hyn heddiw, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi'r mater gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr hefyd.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad COVID-19 y DU: Adroddiad Modiwl 2

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig: adroddiad modiwl 2. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddydd Iau diwethaf, fe gyhoeddodd ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU ei ail adroddiad, sy'n archwilio penderfyniadau pob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig. Wrth y cerrig milltir hyn, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gofio'r colledion a'r dioddefaint aruthrol a welodd cymaint o bobl oherwydd COVID-19, a'r rhain sy'n fwyaf blaenllaw yn ein hystyriaethau ni.

Rydym ni'n talu pris sylweddol am y pandemig o hyd, yn enwedig yn y GIG, ac fe geir unigolion ledled y wlad sy'n dal i ddioddef, ac ni ddylem ni fyth ag anghofi eu harcholl a'u colledion nhw, gan gynnwys yr anawsterau a wynebodd pobl ifanc ac maen nhw'n dal i'w hwynebu. Yn ddiamheuol, mae yna wersi i'w dysgu o'r pandemig, ac mae angen cynnig atebion i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac yr effeithiwyd arnyn nhw gan y feirws.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydweithio'n bositif ac yn agored gyda'r ymchwiliad drwy gydol y gwaith ar fodiwl 2, fel yn y modiwlau eraill, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny wrth i raglen casglu tystiolaeth yr ymchwiliad ddod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Yn ystod  y gwrandawiadau yng Nghymru, mi wnaeth 14 o dystion o Lywodraeth Cymru roi tystiolaeth lafar dros dair wythnos ym mis Chwefror a mis Mawrth 2024. Mi wnaethon ni hefyd gyflwyno mwy na 70 o ddatganiadau gan dystion a datgelu miloedd o ddogfennau i'r ymchwiliad ar gyfer y modiwl hwn.

Rwy'n croesawu'r adroddiad, ac yn diolch i'r Farwnes Hallett a'i thîm am eu gwaith yn ei gynhyrchu. Mae cyhoeddi'r adroddiad yn gam pwysig arall tuag at ddeall ymateb Llywodraeth Cymru a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus i'r pandemig, ac mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi o hynny.

Mae'n adroddiad sylweddol, 800 tudalen mewn dwy gyfrol. Bydd yn cymryd amser i'w dreulio ac i roi'r ystyriaeth ddifrifol y mae'n ei haeddu, felly ni fyddaf yn sôn am fanylion yr argymhellion yn ystod y datganiad hwn. Fel nododd y Farwnes Hallett, roeddem yn wynebu penderfyniadau annymunol yn ystod y pandemig. Roeddem yn gwneud penderfyniadau yn gyflym, yn aml gyda dim ond gwybodaeth a oedd yn dod i'r amlwg am y feirws a sut yr oedd yn lledaenu. Roeddem yn gweithio yng nghyd-destun y DU ond roeddem yn benderfynol o wneud penderfyniadau er budd gorau pobl a busnesau yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod yna feysydd lle mae gennym wersi i'w dysgu ac rwy'n diolch i'r ymchwiliad am roi'r adroddiad hwn i ni a fydd yn ein helpu i wneud hynny.

Mae'r Farwnes Hallett wedi cael y cyfle a'r fantais o ddarllen a gwrando ar holl dystiolaeth a phrofiad cannoedd o dystion sydd wedi ateb ei chwestiynau a rhannu eu gwybodaeth am y digwyddiadau bum mlynedd yn ôl. Mae hi a'r tîm ymchwilio wedi distyllu'r wybodaeth hon yn yr adroddiad a'r argymhellion sydd gennym o'n blaenau heddiw, Ac mae hyn yn ein galluogi i ddysgu o ddigwyddiadau'r pandemig fel y gallwn baratoi'n well ar gyfer digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Mae argymhellion wedi'u gwneud ar gyfer pob un o'r pedair Llywodraeth, a byddant yn gofyn i ni weithio gyda'n cydweithwyr yn y DU a Llywodraethau datganoledig eraill. Byddwn yn gwneud hyn ar gyfer y modiwl hwn fel yr ydym wedi'i wneud mewn perthynas ag adroddiad modiwl 1 yr ymchwiliad. Eisoes, er enghraifft, rydym wedi cymryd rhan yn yr Ymarfer Pegasus diweddar, a'i fwriad oedd profi ein parodrwydd ar gyfer pandemig arall.

O ganlyniad i'r argymhellion a wnaed ym modiwl 1 a'n myfyrdod ein hunain ar wersi o'r pandemig, rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol i gryfhau ein prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Rydym wedi sefydlu strwythurau ymateb brys newydd sy'n gwella'r ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau ac yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau ac wedi creu mesurau atebolrwydd cliriach. Mae Gweinidogion yn adolygu ein cynlluniau argyfwng bob blwyddyn yng nghyfarfodydd y Cabinet. Byddwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad modiwl 2 hwn gyda'r un diwydrwydd yn union. 

Un cryfder a nodwyd gan y Farwnes Hallett oedd bod Cabinet Cymru wedi ymgysylltu'n llawn drwy gydol y pandemig a'i fod yn strwythur gwneud penderfyniadau canolog effeithiol a chynhwysol, a'i fod yn gwneud penderfyniadau tryloyw a chyfunol drwy gydol y pandemig, wedi'u llywio gan ystod o safbwyntiau. Fel rhywun a eisteddodd o amgylch bwrdd y Cabinet yn ystod COVID-19, hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelodau ar y pryd am y ffordd adeiladol a cholegol y gwnaethom weithio, ac am arweinyddiaeth Mark Drakeford, a oedd yn drylwyr wrth fabwysiadu dull gofalus o ran y pandemig. Fel y dywed yr adroddiad, roedd yn ofalus, ystyriol a thosturiol, ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau presennol yn y Cabinet yn mabwysiadu'r un dull wrth i ni ymateb i'r argymhellion hyn a gweithredu arnynt. 

Diolch iti, Mark, am dy arweiniad.

Tynnodd y Farwnes Hallett sylw hefyd at y ffaith bod partneriaethau cymdeithasol a phartneriaethau gweithio gyda llywodraeth leol yn gweithio'n dda yng Nghymru, ac yn cydnabod y fforymau a gynullwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Hoffwn dalu teyrnged i bawb yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach a weithiodd gyda ni ac a helpodd i lywio ein penderfyniadau.

Mae'r Farwnes Hallett yn gofyn am ymateb o fewn chwe mis i'w gyhoeddi. O ystyried y bydd y dyddiad hwn ar ôl etholiad y Senedd, fy mwriad yw cyhoeddi ymateb cyn diwedd y tymor hwn o Lywodraeth. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau'r gwaith hwn, a bydd hyn yn ychwanegol at ddiweddariad chwe mis ar ein hymateb i argymhellion modiwl 1, a fydd yn cael ei gyhoeddi i'r Senedd ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad yn ystod modiwl 2, yn enwedig y teuluoedd mewn profedigaeth a'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu pob gwers o'r pandemig i sicrhau ein bod wedi paratoi ein hunain yn well ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith anhygoel a wnaed gan y GIG a'r sector gofal yn arbennig. Dylid canmol y bobl hyn ac eraill a barhaodd i weithio mewn gwasanaethau rheng flaen, a gymerodd risgiau gyda'u hiechyd eu hunain i amddiffyn eraill. Hoffwn hefyd ddiolch i bobl Cymru a ddilynodd ein cyfarwyddiadau a'n cyngor. Roedd yn ofyniad mawr iawn i'r Cymry, ac ymatebodd y genedl Gymreig gyda disgyblaeth a pharch. Pe na baem wedi dod at ein gilydd yn y modd hwn i gefnogi ein gilydd, gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn sylweddol waeth. Diolch, Llywydd.

15:05

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad a'r copi ymlaen llaw. Mae'n hollol hanfodol bod Cymru, Llywodraeth Cymru, holl bartneriaid y sector cyhoeddus a oedd yn ymwneud â'r ymateb i COVID ac eraill yn dysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Does gen i ddim amheuaeth o gwbl fod pawb a wnaeth benderfyniadau gofalus ac ystyriol, ni waeth ym mha ran o'r Deyrnas Unedig yr oeddent yn gweithredu ynddi, yn gwneud hynny er budd gorau'r bobl yr oeddent yn eu gwasanaethu, ac mae hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod pa mor boenus oedd llawer o'r penderfyniadau hynny.

Ond yn anffodus, wrth gwrs, er bod y Farwnes Hallett wedi gwneud gwaith ardderchog, nid ydym yn credu bod yr achos dros ymchwiliad COVID yn benodol i Gymru wedi diflannu. Rydym yn dal i gredu bod angen ymchwiliad COVID annibynnol yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn dysgu'r gwersi o'r hyn a ddigwyddodd. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu llawer o wybodaeth gydag ymchwiliad y DU, y gwir amdani yw bod pwyslais yr ymchwiliad yn gryf iawn ar Lywodraeth y DU, ac yn fy marn i, dylai fod mwy o bwyslais fod wedi'i roi ar lawer o'r penderfyniadau hynny a wnaed yma. Gwnaethpwyd llawer o'r penderfyniadau hynny, wrth gwrs, ac roeddent yn wahanol iawn i'r penderfyniadau a wnaed dros y ffin. Mae pob Llywodraeth, yn hollol gywir, wedi bod yn destun beirniadaeth yn yr adroddiad, ac mae pob Llywodraeth mewn rhannau o'r adroddiad ar fodiwl 2 wedi bod yn destun canmoliaeth ar wahanol bwyntiau, hefyd. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dysgu gwersi yng nghyd-destun Cymru, a dyna pam rwy'n dal i gredu'n gryf, ynghyd â'r teuluoedd mewn profedigaeth COVID a llawer o rai eraill, bod angen i'r ymchwiliad COVID annibynnol hwnnw ar gyfer Cymru gael ei gynnal.

Fe wnaethoch gyfeirio yn eich datganiad at y ffaith eich bod yn bwriadu ymateb fel Llywodraeth cyn y diddymiad, ac rwy'n credu fod hyn i'w groesawu'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl angenrheidiol er mwyn i ni allu eich dwyn i gyfrif am yr ymatebion hynny a gofyn cwestiynau amdanynt. Ond, wrth gwrs, mae camau eisoes wedi eu cymryd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â modiwl 1, ac mae nifer o ymarferion wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, yn enwedig Ymarfer Pegasus, yr ydych yn cyfeirio ato, ond, wrth gwrs, roedd dau ymarfer arall, onid oedd, Ymarfer SOLARIS ac Ymarfer ALKARAB. Ar bob un o'r tri ymarfer hynny, rwy'n credu, dylech roi gwybod i ni pa mor dda yr ydych yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi perfformio. Deallaf nad ymarferion llywodraethol yn unig oedd yr ymarferion hynny ond eu bod hefyd wedi ymgysylltu â phobl o'r trydydd sector a sefydliadau eraill y mae angen iddynt fod yn rhan o ymateb i bandemig yn y dyfodol, ond nid oes llawer o wybodaeth am ganlyniad yr ymarferion hynny yn unrhyw le, hyd y gwelaf. Nid wyf wedi gweld unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig difrifol gan Lywodraeth Cymru ar yr ymarferion a pha mor dda rydych chi'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi perfformio. Byddwn yn croesawu rhywfaint o wybodaeth gyhoeddus fel y gallwn ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar ei gyfer y tro nesaf, a gweld pa mor wahanol y gall y dull gweithredu fod o ganlyniad i rai o'r gwersi cynnar yr ydym yn eu dysgu o bandemig COVID.

Rwy'n credu ei fod hefyd yn siomedig oherwydd mae angen i ni atgoffa ein hunain bod gennym bwyllgor ymchwilio COVID, a sefydlwyd gan fy mhlaid mewn ewyllys da. Roeddem wedi gobeithio y byddai hwnnw'n helpu i fynd at wraidd rhai o'r materion hynny nad oedd y Farwnes Hallett a'i thîm efallai wedi cael y cyfle i edrych arnynt mor fanwl ag y byddent wedi dymuno. Ond, wrth gwrs, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymgysylltu'n iawn â'r pwyllgor hwnnw, mae gen i ofn dweud, gwrthododd gefnogi'r achos i bobl gymryd llw cyn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor hwnnw. A hyd yn oed nawr, mae'n ymddangos i mi o ran y ffordd y mae'n ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ei bod eisiau pennu telerau'r ymgysylltiad hwnnw. Nid wyf yn credu bod hynny'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gwbl agored a thryloyw o ran y ffordd y mae eisiau i bobl ddysgu gwersi o'r bennod hon. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu fy sicrhau nad yw hynny'n wir.

Ond rydym yn dal i gredu, yn y bôn, bod yna lawer o wersi i'w dysgu a bod angen i Lywodraeth Cymru gael ei dal i gyfrif am y gwahanol benderfyniadau a wnaeth ar wahanol adegau yn ystod y pandemig, rhai ohonynt, yn anffodus, wedi arwain at fwy o golli bywydau—dyna beth mae'r Farwnes Hallett wedi'i ddweud ei hun o ran rhai o'r penderfyniadau hwyr hynny a wnaed mewn perthynas â'r ail gyfnod o gyfyngiadau symud ar ôl y cyfyngiadau symud lleol aflwyddiannus hynny. Rwy'n gwybod nad hwnnw oedd y canlyniad y byddai unrhyw un yn y Senedd hon wedi'i ddymuno, ac yn sicr nid y bobl hynny a oedd yn gwneud y penderfyniadau pwysig hynny ar y pryd. Ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dysgu gwersi fel y gallwn amddiffyn bywydau a bywoliaethau yn y dyfodol.

15:10

Diolch yn fawr, Darren. Gadewch imi eich sicrhau ein bod yn gwbl benderfynol o ddysgu gwersi i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru rhag y bygythiad iechyd cyhoeddus mawr nesaf y byddwn yn ei wynebu. Cafodd y pandemig effaith ddofn, rwy'n credu, ar bawb yng Nghymru; cyffyrddodd â phob un ohonom. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod y golled—colli nid yn unig bywydau, ond hefyd ieuenctid yn cael eu cipio i ffwrdd, pobl yn colli eu rhyddid.

Roeddem yn ymwybodol iawn o'r angen i gydbwyso'r heriau anodd, fel Llywodraeth, yr oeddem yn eu hwynebu. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod y cadeirydd, y Farwnes Hallett, wedi canmol Llywodraeth Cymru ac wedi dweud ei bod yn iawn, yn benodol, i fabwysiadu dull gofalus o godi cyfyngiadau, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch amrywiaethau ac effaith brechlynnau, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwnnw rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021.

Fe wnaethoch chi sôn am ymchwiliad i Gymru yn unig, credaf, mae'n debyg, ei bod yn werth nodi yma bod yr ymchwiliad hwn wedi bod yn ymchwiliad cynhwysfawr dan arweiniad barnwyr, sydd wedi ymchwilio'n helaeth i benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Roedd Modiwl 2B yn canolbwyntio ar Gymru yn unig ac yn gyfan gwbl. Edrychodd ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru. Cymerodd dystiolaeth gan bawb a oedd yn gwneud penderfyniadau allweddol, gyda gwrandawiadau cyhoeddus dros gyfnod o dair wythnos. Os edrychwch ar yr adroddiad, y gyfrol a'r manylion sydd yn yr adroddiad, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi hyder i bobl mai hwn oedd yr adolygiad mwyaf cynhwysfawr posibl.

Y peth arall y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw cydnabod yn glir iawn y rhyngberthynas rhwng yr hyn oedd yn digwydd yma a Llywodraeth y DU. Mae'n anodd iawn ysgaru'r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr o'i gymharu â Chymru, er bod dull gwahanol yn amlwg yn y ddwy wlad. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig nodi mai hwn yw'r ail fodiwl. Mae wyth modiwl arall i ddod, ac maen nhw'n mynd i fod yn cwmpasu meysydd fel gofal iechyd, gofal cymdeithasol, profi ac olrhain a'r effaith ar blant a phobl ifanc. Felly, rwy'n credu, pan fydd pobl yn gweld faint o fanylion sydd, nid yn unig yn yr adroddiadau hyn, ond hefyd yn yr adroddiadau sydd i ddod, pryd, unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd yr angen i ymgysylltu'n llawn o ddifrif ac i ateb yn fanwl y cwestiynau a ofynnwyd, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu—. Mae'n rhaid i ni ddysgu. Mae yna agweddau pryd rwy'n credu, ie, dylem gymryd ychydig o glod, ond mae yna hefyd feysydd lle mae angen i ni ddysgu. Byddwn yn ostyngedig pan fyddwn ni'n dysgu'r gwersi hynny.

Fe wnaethoch chi ofyn am Ymarfer Pegasus. Parodrwydd pedair gwlad ar gyfer pandemig oedd hwnnw, a digwyddodd hwnnw rhwng mis Medi a mis Tachwedd. Yn amlwg, nid ydych wedi gweld unrhyw ganlyniad i hwnnw, oherwydd mae'n dal i gael ei asesu, o ran 'Beth ddigwyddodd? Pa wersi wnaethom ni eu dysgu? A wnaethom ni ddysgu gwersi o'r pandemig diwethaf? Beth mwy gallwn ni ei wneud?' Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi cryfhau'n sylweddol ein dull gweithredu o ran parodrwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad modiwl 1. Roedd rhywfaint o hynny'n digwydd o'r blaen, ond mae'n amlwg iawn ein bod wedi cryfhau ein prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Rydym wedi cynnal cyfres gyfan o adolygiadau annibynnol, gan gynnwys adolygiad o system diogelu iechyd Cymru ac adolygiad o argyfyngau sifil posibl. Felly, mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud. Rydym ni eisoes wedi tynhau pethau, ond byddwn yn dysgu gwersi.

15:15

A gaf innau ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad? Dwi am ddechrau drwy roi ar y cofnod unwaith eto ein cydymdeimlad ni ar feinciau Plaid Cymru â'r rheini a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. Ein gwaith ni rŵan, pob un ohonom ni, ar eu rhan nhw ydy sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu. Efallai mai'r brif neges sy'n deillio o adroddiad modiwl 2 ydy bod parodrwydd Llywodraethau a sefydliadau yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig ddim wedi bod yn ddigon da ar gyfer delio efo pandemig o'r math yma.

Ond tra fy mod i am ddweud nad ydw i'n amau didwylledd y Gweinidogion yn y penderfyniadau yr oedden nhw'n ceisio eu gwneud, a dwi ddim yn amau eu bod nhw'n trio gwneud hynny am y rhesymau iawn, mae'n amlwg, eto, o'r adroddiad yma fod gwersi wedi methu â chael eu dysgu wrth fynd, ac mae'n rhaid inni ddeall pam.

Rydym yn derbyn yn llawn nad oes unrhyw Lywodraeth yn berffaith. Bydd camgymeriadau yn digwydd, yn enwedig wrth ymdrin â heriau enfawr pandemig fel hwn, ond dylem fod yn bryderus am fethiant i ddysgu o'r camgymeriadau hynny ar y pryd. Mae'r adroddiad yn glir bod cyfleoedd lluosog i greu ymateb mwy rhagweithiol i'r pandemig wedi'u colli, gan arwain at yr hyn y mae'n ei alw'n 'ddiffyg brys anesboniadwy' yn ystod yr wythnosau a'r misoedd tyngedfennol hynny ar ddechrau 2020. Nawr, ni wnaeth y Cabinet drafod COVID tan ddiwedd mis Chwefror, er gwaethaf rhybuddion clir, gan gynnwys rhai gan y prif swyddog meddygol, dros fis ynghynt.

Os oedd y rhain yn broblemau cychwynnol, wel, mae'r adroddiad yn dweud nad oedd y gwersi hynny wedi'u dysgu, felly gwelsom achosion eraill o oedi wrth ymgorffori canllawiau gwyddonol wrth wneud penderfyniadau ac oedi wrth gyflwyno'r cyfnod atal byr yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio pam fod yr oedi hwnnw ar waith ar y dechrau, a pham fod oedi yn parhau ac ymateb yn parhau i fod yn araf, fel y gallwn ddysgu o hynny?

Roedd diffyg dealltwriaeth, rwy'n credu, hefyd, sy'n dod i'r amlwg, o rôl a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ei hun. Hyd at fis Mawrth, dilynodd, i bob pwrpas, arweinyddiaeth wael iawn Llywodraeth y DU, enghraifft bendant, rwy'n meddwl, o'r canlyniadau dinistriol yn y byd go iawn o esgeuluso materion cyfansoddiadol sylfaenol. Felly, a oes adolygiad cynhwysfawr bellach o sut mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran cyfrifoldebau sifil yn croestorri â chyfrifoldebau San Steffan?

Roedd yr ansicrwydd hwnnw yn tanio ymdeimlad o barlys, fel rydym bellach wedi dysgu, mewn rhai cyrff ymateb brys. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn sôn am y ffaith nad oedd rôl y Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) wedi ei deall yn iawn. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth bellach yn cydnabod yr angen i adolygu'r sbardunau ar gyfer rhoi'r Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) ar waith, ond byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad ar amserlenni ar gyfer gweithredu'r adolygiad hwnnw.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y rhwystrau sy'n wynebu'r gweinyddiaethau datganoledig rhag bod yn chwaraewyr gweithredol mewn cyfarfodydd COBRA, ac rwy'n sicr yn cydymdeimlo â Llywodraeth Cymru yma, o ystyried eu bod wedi gorfod ymdrin â Llywodraeth y DU a ddangosodd ddirmyg llwyr tuag at ddatganoli drwy gydol cymaint o'r pandemig. Ond sut mae Llywodraeth Cymru bellach yn gallu defnyddio dylanwad gyda chydweithwyr yn San Steffan i sicrhau bod cynrychiolaeth Cymru ar gyfarfodydd COBRA a'i fewnbwn yn llawer mwy cadarn yn y dyfodol?

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mor gynhwysfawr ag y gall yr adroddiad hwn fod mewn rhai ffyrdd, ni all, fel yr oedd y Farwnes Hallett ei hun yn barod i gydnabod, ddarparu asesiad llawn o sut yr effeithiodd penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru ar effaith y pandemig. Dyna pam rydym yn parhau i gredu bod angen astudiaeth bellach sy'n benodol i Gymru, i'n galluogi i wynebu gwaddol ofnadwy y pandemig gyda'r diffuantrwydd, y gonestrwydd a'r trylwyredd y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Yn anffodus, fel y gwelsom gyda thynged gywilyddus y pwyllgor diben arbennig, mae'r Llywodraeth yn parhau i ystyfnigo a hynny'n anghyfiawnadwy, yn ein barn ni, o ran safonau sylfaenol atebolrwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi sôn ar sawl achlysur am bwysigrwydd dysgu gwersi. Dyna beth mae'n rhaid i hwn fod: paratoi ar gyfer y dyfodol. Ond sut yn union mae hyn i fod i ddigwydd o ddifrif pan fydd ei Llywodraeth yn gwrthod—yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, er enghraifft—i wneud ei hun yn gwbl atebol am y penderfyniadau a wnaeth? Felly, byddwn yn gofyn iddi esbonio beth sy'n ei gwneud hi'n hyderus y bydd ei Llywodraeth yn gallu gweithredu gwersi'r pandemig yn iawn heb i'r cwestiynau hynny sy'n benodol i Gymru gael eu gofyn yn briodol.

15:20

Diolch yn fawr iawn. Mae yna 800 o dudalennau, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfle i fynd drwyddyn nhw'n drwyadl ac yn eu cymryd nhw o ddifrif. Beth dwi ddim eisiau gwneud yw rhoi ymateb manwl heddiw, wrth gwrs, achos dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r parch i'r adroddiad yma y mae'n ei haeddu. 

Byddwn yn rhoi'r ymateb manwl ac ystyriol hwnnw, yn amlwg, yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf. Yr hyn a ddywedaf yw bod gwelliannau sylweddol eisoes wedi bod ers y pandemig. Sut ydych chi'n gwybod ein bod ni'n mynd i gymryd hwn o ddifrif? Cewch wybod ein bod ni'n mynd i'w gymryd o ddifrif, oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein hymateb i fodiwl 1 yn dangos yr hyn rydym ni eisoes wedi'i wneud mewn ymateb i'w hargymhellion. Mae'n rhaid i hwn fod yn ymateb sy'n canolbwyntio ar weithredu a fydd yn rhoi hyder i'r cyhoedd ein bod ni'n barod ar gyfer y pandemig nesaf.

Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi o'r hyn rydym ni'n ei wneud. Rydym wedi cael yr adolygiadau annibynnol, er enghraifft, i'r argyfyngau sifil posibl. Rydym wedi gwella'r ffyrdd o weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, y gwasanaethau brys, ymatebwyr eraill ac asiantaethau perthnasol eraill. Rydym eisoes wedi gwella'r ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau a sut rydym yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau. Mae gennym hefyd strwythurau ymateb brys newydd ac rydym wedi creu mesurau atebolrwydd cliriach. Yng Nghymru rydym wedi creu cyfres gyntaf o risgiau. Mae angen i'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr baratoi ar gyfer ein cynlluniau argyfwng bob blwyddyn yng  nghyfarfodydd y Cabinet ac mae angen i Weinidogion eu hadolygu. Rydym ni wedi gwneud hynny yn ddiweddar. Rydym ni wedi edrych ar yr hyn sy'n debygol o ddod i fyny. Sut maen nhw'n ymateb? Mae yna gyfres o argymhellion.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gynlluniau ymateb i bandemig ledled y DU ar gyfer pob dull cydnabyddedig o drosglwyddo pathogenau. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gall y rhain ledaenu. Gallant ledaenu'n anadlol, yn llafar, yn rhywiol neu drwy waed. Rydym ni'n edrych ar bob un o'r rheini ac yn gweithio gyda'n gilydd ar sail y DU. Rydym hefyd yn ymgysylltu'n agos ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ar gyflawni'r genhadaeth 100 diwrnod. Rydym wedi diweddaru'r 'Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru'. Ar ben hynny, rydym wedi sefydlu tri is-grŵp strategol o dan grŵp cynghori diogelu iechyd y prif swyddog meddygol ac mae gennym y bwrdd parodrwydd ar gyfer pandemig traws-Lywodraethol.

Felly, mae'r rhain yn fesurau pendant rydym ni wedi'u cymryd ac rwy'n gobeithio y byddant yn rhoi hyder i'r cyhoedd, pan fydd pobl yn gwneud argymhellion, ein bod ni'n eu cymryd o ddifrif ac rydym ni'n creu cynllun gweithredu ac rydym ni'n cyflawni. Ac, wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r un parch i'r ail adroddiad hwn ag a roddwyd gennym i fodiwl 1.

15:25

Prif Weinidog , fel y dywedoch chi, achosodd COVID-19 boen ofnadwy i'n teuluoedd a'n cymunedau, a rhan o hynny oedd dyfnhau anghydraddoldebau presennol mewn cymdeithas, yn enwedig ymhlith rhai o'n cymunedau mwyaf ymylol. Ac i mi, yn Nwyrain Casnewydd, gyda chymuned sylweddol o bobl ddu ac ethnig leiafrifol, roedd hynny'n sicr yn amlwg o ran y gymuned honno. Yn ffodus, roedd gennym grwpiau yn dod ymlaen i ymgysylltu â ni ar rai o'r materion, ac roedd Muslim Doctors Cymru yn chwarae rhan werthfawr iawn wrth fynd i'r afael â chamwybodaeth a rhywfaint o amheuaeth ynghylch defnyddio brechlynnau. Cawsom rai cyfarfodydd da ar-lein a ddaeth â rhai chwaraewyr allweddol yn lleol at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd ymlaen, un ohonynt oedd defnyddio mosgiau lleol fel canolfannau brechu, ac rwy'n credu mai Mosg Jamia yng Nghasnewydd oedd un o'r cyntaf yng Nghymru i gael ei ddefnyddio. Ac rwy'n gwybod ar lefel genedlaethol, roedd gennym y grŵp cynghori ar COVID-19 a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi'i sefydlu i edrych ar yr effaith anghymesur honno ac edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael ag ef. Rwy'n gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r offeryn asesu risg gweithlu, gan edrych eto ar gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac effaith COVID-19, ac a gafodd ei fabwysiadu'n eang ar draws y GIG ac yn ddiweddarach, mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Roedd hynny'n galluogi risg unigol i gael ei asesu a rhoi mesurau diogelu priodol ar waith.

Felly, fel y soniwyd yn gynharach, Prif Weinidog, o ran y gwersi a ddysgwyd, rwy'n siŵr y byddwch chi'n edrych yn ofalus ar y profiad hwnnw a sut y gallwn ddysgu gwersi, nid yn unig ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol, ond hefyd ar gyflawniad cyffredinol gwasanaethau iechyd yma ac yn awr. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, John. Canmolodd y Farwnes Hallett Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r ffaith mai'r hyn a oedd gennym eisoes yng Nghymru oedd partneriaethau cymdeithasol sefydledig, a oedd yn golygu bod gwahanol grwpiau yn dod at ei gilydd i roi cyngor i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â grwpiau agored i niwed. Gallaf ddweud wrthych fod y Prif Weinidog yn gwbl ofalus wrth wneud yn siŵr bod anghenion y grwpiau agored i niwed hynny yn cael y flaenoriaeth yn ein penderfyniadau.

Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol hefyd wedi'i sefydlu'n dda cyn dechrau'r pandemig, ac roedd y Farwnes Hallett yn cydnabod bod yr ymrwymiad hwn yn parhau yn ystod y pandemig. Fel y dywedwch, fe wnaethom gydnabod a sylweddoli bod tystiolaeth yn dod i'r amlwg yn weddol gynnar a oedd yn tynnu sylw at effaith anghymesur COVID-19 ar gymunedau du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol. Rwy'n gwybod bod Vaughan Gething yn allweddol iawn wrth wneud yn siŵr bod hyn yn rhywbeth yr oeddem yn ei gymryd o ddifrif. Fe wnaethom sefydlu grŵp cynghori ar COVID-19 a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Un o'r pethau, fel y dywedwch, a wnaethant oedd datblygu'r offeryn asesu risg gweithlu, a oedd yn allweddol iawn i'r rhai a oedd yn gweithio ar reng flaen ein GIG a'n gwasanaeth gofal yn arbennig.

Mae'r hyn sydd wedi deillio o hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n llawer ehangach nag ymateb i'r pandemig. Fe wnaethom gydnabod bod mwy o waith i'w wneud, a'r hyn sydd wedi dod allan o hynny yw'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Mae'n ddull traws-lywodraethol eang o wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn ar bob lefel o'r Llywodraeth a phob adran o'r Llywodraeth. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod, er bod trasiedïau yn ystod y pandemig, mewn gwirionedd, bod rhai pethau cadarnhaol wedi dod allan o ganlyniad, ac rwy'n gobeithio mai'r hyn y byddwn yn ei weld yng Nghymru o ganlyniad yw symudiad tuag at gymdeithas wrth-hiliol.

15:30

Cadeirydd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus nesaf—Mark Isherwood. 

Diolch, Llywydd, am ganiatáu i mi gyfrannu heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sydd ar hyn o bryd yn craffu ar adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID y DU. Mae ein gwaith presennol yn adeiladu ar adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig COVID-19 Cymru drwy archwilio bylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar gyfer pandemig. Byddwn hefyd yn asesu pa mor bell y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar argymhellion modiwl 1, gan gynnwys gwelliannau i gynlluniau ar gyfer argyfyngau sifil posibl a pharodrwydd yn y dyfodol. Rydym wedi dechrau casglu tystiolaeth i lywio'r ymchwiliad hwn y mis hwn, ac yn bwriadu adrodd yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymateb cyn ei ddiddymu.

Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym hefyd wedi cael y dasg o graffu ar ganfyddiadau modiwl 2, y cyfeirir atynt yn natganiad y Prif Weinidog. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi pwyslais sylweddol ar Gymru ac yn nodi carreg filltir bwysig i'r rhai sy'n chwilio am atebion, ochr yn ochr ag ymrwymiad i ddysgu gwersi a gweithio gyda Llywodraethau datganoledig. Mae canfyddiadau'r adroddiad modiwl 2 yn bryderus. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dystiolaeth a ganfu'r ymchwiliad o ddiffyg camau pendant gan Lywodraeth Cymru, gor-ddibyniaeth ar Lywodraeth y DU o ran gwneud penderfyniadau ac ymateb cychwynnol, cyfraddau marwolaethau uchel a chamgymeriadau dro ar ôl tro? Hefyd, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â datganiadau gan gadeirydd yr ymchwiliad bod yr amgylchiadau a arweiniodd at benderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cyfnod o gyfyngiadau symud COVID adeg Nadolig 2020 ledled Cymru yn anfaddeuol a bod Gweinidogion Cymru wedi methu â chymryd camau pendant yn erbyn, rwy'n dyfynnu, amrywiolyn COVID 'cwbl ragweladwy', gan arwain at y cyfyngiadau symud?

Bydd y pwyllgor yn neilltuo amser ar gyfer adroddiad modiwl 2 yn y flwyddyn newydd, ond, fel yr wyf wedi dweud ar y cofnod o'r blaen, bydd ein gwaith ar hyn yn gyfyngedig, o ystyried y cyfnod hwyr yn nhymor y Senedd. Rydym yn cydnabod bod angen amser ar Lywodraeth Cymru i dreulio canfyddiadau'r adroddiad modiwl 2 ac mae ganddi chwe mis i ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion. Fodd bynnag, yn hytrach nag aros am yr ymateb hwnnw, na fydd yn dod tan ddiwedd tymor y Senedd, mae'r pwyllgor wedi cytuno i ymdrechu i dynnu sylw at faterion sy'n peri pryder i'r Senedd nesaf eu hystyried. Nid ydym yn cymryd lle ymchwiliad penodol ledled Cymru ac ni all ein gwaith mewn unrhyw ffordd fod cystal â dyfnder ymchwiliad cyhoeddus o'r fath. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i dynnu sylw at bryderon a gosod y sylfaen ar gyfer craffu pellach gan ein pwyllgor olynol ac o bosibl pwyllgorau polisi eraill yn y seithfed Senedd yn adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor. Felly, i gloi, pa sicrwydd pendant y gallwch ei ddarparu y byddwch yn cefnogi craffu manwl a thryloyw ar y canfyddiadau difrifol a gynhwysir yn adroddiad modiwl 2? A sut y byddwch chi'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r broses graffu honno mewn ffordd gwbl adeiladol?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu os edrychwch ar sut, yn gynharach, y nodais sut y gwnaethom ymateb i fodiwl 1, rwy'n gobeithio y bydd gwybod ein bod yn cymryd hyn o ddifrif yn rhoi rhywfaint o hyder i chi, ein bod yn gwerthfawrogi'r swm enfawr o waith sydd wedi'i wneud ar hyn, ac y bydd cyfle i ni adrodd yn ôl i'r Senedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn adeiladol i ymateb i'r argymhellion ar fodiwl 1 ym mis Ionawr, fel yr awgrymais yn fy natganiad. Bydd cyfle, fel y dywedaf, i ymateb i fodiwl 2 cyn toriad y Senedd hon.

Felly, rydw i'n mynd i gymryd amser i ddarllen yr adroddiad. Rwyf eisoes wedi ei ddarllen. Mae yna lawer o fanylion yna, ac mae yna lawer o esboniadau ac mae yna lawer o resymau pam y mae pethau wedi digwydd. Mae yna ddealltwriaeth o'r heriau yr oedd Llywodraethau yn eu hwynebu, nid yn unig yma ond ar draws y Deyrnas Unedig. Gan gydbwyso'r angen am ryddid pobl yn erbyn yr angen i gadw pobl yn ddiogel, roedd y rhain yn benderfyniadau anodd eu gwneud bob dydd. Ac mae'r Farwnes Hallett wedi gwneud ymdrech i ddeall y darlun cyflawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd amser i ddarllen y darlun cyflawn hwnnw.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi hefyd nad oedd yr ymchwiliad yn nodi unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â diwylliant neu arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru yn ystod yr ymateb i'r pandemig. Mae'n amlwg bod gan Mark Drakeford hyder ei Gabinet a disgrifiodd Gweinidogion ei ymagwedd fel 'gofalus, ystyriol, a thosturiol', a'i fod yn arwain ymdrech tîm, gyda dealltwriaeth glir o rolau a pherthnasoedd uchel eu parch o ran arbenigedd ac awdurdod. Ac rwy'n credu ei fod yn werth cyferbynnu hynny â'r hyn oedd yn digwydd mewn rhai rhannau eraill o'r wlad.

15:35

Mae canlyniadau modiwl 2 ymchwiliad COVID wedi dangos, yn fwy nag erioed, y gwendidau sylfaenol oedd ar waith yn y Llywodraeth wrth drio amddiffyn a gwarchod ein pobl mwyaf bregus. Doedd yna ddim strategaeth ar gyfer y don gyntaf, ac, yn ôl y Fonesydd Hallett, roedd yna fethiant i ddysgu’r gwersi o’r don gyntaf honno, a arweiniodd at Gymru yn cael y gyfradd uchaf o farwolaethau yn yr ail don. Roedd hyn, yn ôl Hallett, yn anfaddeuol. Dim ond yn cwestiwn sydd ar feddyliau anwyliaid y rhai a gollodd eu bywydau: pam? Pam, yn eich dealltwriaeth chi, felly, Brif Weinidog, mai dyna oedd yr achos? Pam nad oedd yna strategaeth, a pham mae Cymru wedi dioddef o farwolaethau mwy nag unrhyw le arall? Ac yn olaf, fe sonioch chi am Exercise Pegasus. A allwch chi gadarnhau a oedd Pegasus yn cynnwys ystyriaeth o’r sector gofal cymdeithasol? Diolch.

Diolch, Mabon. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i aros am ymateb llawn o'r Llywodraeth, achos mae yna lot o bethau yma sydd angen i ni edrych arnyn nhw yn fanwl. A dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i gofio bod, wrth gwrs, pethau gyda ni i'w dysgu, ond mae yna bethau positif hefyd yn yr adroddiad. Er enghraifft, roedd yr inquiry yn dweud ein bod ni, er enghraifft, wedi cynnal 230 o press conferences yn ystod y cyfnod yna, a bod ein Keep Wales Safe campaign wedi cyrraedd 99 y cant o'r boblogaeth. Felly, roedd yna bethau positif, ac mae'n bwysig ein bod ni'n adlewyrchu hynny, ond, wrth gwrs, mae gyda ni bethau i'w dysgu. 

A dwi'n meddwl bod y ffaith mai ni oedd y wlad gyntaf i dderbyn supply o'r COVID 19 vaccine yn ystod Rhagfyr 2020, a bod pob oedolyn wedi derbyn eu dose cyntaf erbyn Ebrill 2021, felly, un o'r llefydd cyntaf yn y byd i fynd mor gyflym—. A dwi eisiau rhoi diolch i bob un oedd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru ar hynny. Dwi'n gwybod bod arweinyddiaeth Vaughan Gething yn hollbwysig yn ystod y cyfnod yna hefyd.

Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n ymateb yn llawn. Roedd Pegasus yn ymwneud â rhywbeth gwahanol. Felly, roedd yr amgylchiadau yn hollol wahanol, ac roedd plant yn cael eu heffeithio yn ystod hynny, felly roedd y ffocws, efallai, ychydig yn wahanol. Roedd yn rhaid i ni ymateb i beth oedd yn digwydd yn yr exercise yna, yn hytrach na beth oedd wedi digwydd yn y pandemig.

Dwi'n gwerthfawrogi'r ffordd rydych chi wedi ymateb heddiw, ac yn deall, wrth gwrs, fod yn rhaid i'r Llywodraeth ystyried yn ofalus yr hyn sydd yn yr adroddiad. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi eich bod chi wedi dweud y byddwch chi, cyn diwedd tymor y Senedd hon, yn ymateb, oherwydd, wrth gwrs, mae'r gwaith craffu yn mynd i fod yn parhau, ond hefyd, fel rydych chi'n dweud, mae'n allweddol bwysig dysgu gwersi.

Un o'r pethau roeddwn i eisiau gofyn i chi yw: yn amlwg, ym mhob un o'n hetholaethau a rhanbarthau ni, mae yna rai sydd wedi bod yn ymgyrchu o'r COVID 19 Bereaved Families for Justice Cymru. Maen nhw wedi bod yn craffu'n ofalus, ond hefyd wedi bod yn cwffio i sicrhau bod llais Cymru yn rhan o'r ymchwiliad hwn. Maen nhw wedi dweud eu bod nhw'n dal i gredu bod yna angen am ymchwiliad penodol yma yng Nghymru, yn enwedig pan ydych chi'n cyferbynnu'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Felly, a fedrwch chi amlinellu pam rydych chi'n anghytuno efo galwadau'r COVID 19 Bereaved Families, sydd yn credu nad yw'r ymchwiliad hwn yn rhoi'r holl atebion maen nhw'n deisyfu eu gweld ac maen nhw wedi bod yn brwydro mor galed i geisio cael atebion iddyn nhw?

Wel, dwi wedi egluro fy mod i'n meddwl bod yr ymchwiliad yma wedi bod yn judge-led inquiry. Mae'r modiwl yma, 2B, wedi'i anelu yn uniongyrchol at Gymru. Mae'r manylder maen nhw wedi mynd i mewn iddo yn amlwg. Mae yna hefyd ddealltwriaeth bod yna berthynas rili agos rhwng beth oedd yn digwydd yng Nghymru a beth oedd ein pwerau ni, a beth oedd ein pwerau economaidd ni, er enghraifft, i ymateb, a'i bod hi'n anodd iawn rhannu un oddi wrth y llall. Mae'n werth edrych ar sut mae pobl yn ymateb i'r ymchwiliad yn yr Alban, sydd yn mynd i mewn i fanylder, ond hefyd sydd ddim ag unrhyw beth tebyg i statws y COVID inquiry yma.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn i ddechrau drwy fynegi fy nghydymdeimlad i hefyd â phawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. Ond, wrth edrych nôl, mae'n berffaith amlwg bod y system yn ei chyfanrwydd yn llawer rhy araf a ddim yn ddigon cadarn i addasu i sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym.

Nawr, un o'r sylwadau mwyaf trawiadol i fi oedd gan Dr Quentin Sandifer, cyn gyfarwyddwr gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod COVID-19 yn parhau i gael ei drin fel mater o iechyd yn unig, yn hytrach nag argyfwng sifil, mor hwyr â dechrau mis Mawrth 2020. Gaf i ofyn, felly, siẁd ŷch chi wedi diweddaru eich dulliau o esgyn y lefel o risg, er mwyn sicrhau bod cynlluniau argyfwng sifil yn gallu cael eu cyflwyno yn fwy prydlon, a siẁd ŷch chi'n mynd i sicrhau mwy o gydweithio ar draws portffolios?

I gloi, mae yna thema glir yn yr adroddiad am Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y dyddiau cynnar, eich bod chi wedi bod yn orddibynnol ar arweinyddiaeth San Steffan yn hytrach nag ymateb yn rhagweithiol o ran y pwerau dros iechyd a oedd i'w cael gan y Senedd hon. Felly, os byddai yna argyfwng iechyd o'r math yn y dyfodol, ydych chi'n cytuno taw'r peth gorau i'w wneud fyddai defnyddio'r pwerau sydd gan y Senedd, yn yr ofn, efallai, y byddai yna Lywodraeth yn San Steffan a fyddai'n cael ei harwain gan bobl a fyddai'n ddi-hid ac yn ddiystyriol o dystiolaeth wyddonol? Diolch.

Diolch, Cefin. Mae'n bwysig darllen yr adroddiad yn ei fanylder. Pan ŷch chi'n sôn am 'sifil' a 'civil contingencies', mae'n rhaid cofio y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd yr arweinyddiaeth yn yr achos yna. Felly, mae'n bwysig deall bod yna rôl wahanol os yw'n 'civil contingencies' ac oes yw'n public health. Felly, mae hynny'n dod allan yn yr adroddiad.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd amser, achos mae yna awgrymiadau yn yr adroddiad ynglŷn â sut y dylem ni ymateb. Dwi'n meddwl bod angen i ni gael ychydig o amser i ddweud a ydym ni eisiau mynd i lawr trywydd lle mae yna arweinyddiaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, neu a oeddem ni'n hapus â sut aeth hi, ond bod angen i ni ei wneud e'n gyflymach. Dwi'n meddwl bod angen amser arnom ni i feddwl trwy'r manylder a beth yw'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru a thros y Deyrnas Unedig hefyd. Felly, gobeithio cawn ni amser i wneud hynny rhwng nawr a mis Ionawr, achos mae yna oblygiadau cyfansoddiadol pwysig hefyd y mae'n rhaid i ni eu hystyried.

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Dyfodol Addysg Drydyddol yng Nghymru—Cynaliadwyedd a Chyfranogiad

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, cynaliadwyedd a chyfranogiad. Mae'r Gweinidog yn gwneud y datganiad—Vikki Howells.

Diolch, Llywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn i ddatgan buddiant personol. Rwy'n falch o ddweud bod gen i aelod agos o'r teulu sydd bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Llywydd, byddaf i'n siarad heddiw am ddyfodol addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, ond, wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor presennol y Senedd, hoffwn i ddechrau trwy fyfyrio ar ein cyflawniadau yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rwy'n falch ein bod ni wedi parhau â'n polisi cyllido addysg uwch blaengar. Mae hyn wedi sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn ffrwyno talent ac uchelgais, trwy ein cyfuniad o grantiau a benthyciadau a mwy o grantiau addysgu i brifysgolion. Rydyn ni hefyd wedi parhau â'n pecyn ariannol ar gyfer astudio rhan-amser, sydd wedi agor y drws i addysg uwch i filoedd yn fwy o fyfyrwyr. Gwnaeth prifysgolion Cymru ragori yn fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021, a dynnodd sylw at effaith datblygiadau ac ymchwil arloesol sy'n arwain y byd.

Mae addysg bellach wedi gweld adfywiad mewn cyfranogiad ers y pandemig, wedi'i gynorthwyo gan fwy o gyllid craidd a'n cynnydd i'r grant cynhaliaeth addysg a pharhad grant dysgu Llywodraeth Cymru. Y llynedd, roedd cynnydd o 8.5 y cant yn y rhai sy'n gadael yr ysgol ac yn symud ymlaen i'r coleg, gyda data cynnar yn awgrymu cynnydd tebyg eleni. Ac, wrth basio Deddf Addysg  Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, rydyn ni'n adeiladu system ôl-16 integredig drwy sefydlu Medr, corff newydd ac arloesol i lunio dyfodol addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Llywydd, heddiw rwyf eisiau nodi'r pum her fwyaf dybryd sy'n wynebu ein sector addysg drydyddol, a sut, gan adeiladu ar y cynnydd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud, y byddaf yn gweithio i fynd i'r afael â nhw yng ngweddill tymor presennol y Llywodraeth. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynyddu cyfranogiad ar draws addysg drydyddol yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol, rhywbeth a nodir yn adroddiad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wyf yn cytuno ag ef. Er bod gennym ni darged uchelgeisiol, sef y dylai 75 y cant o'n poblogaeth o oedran gweithio fod wedi'u cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, mae gennym ni gyfran lai o bobl ifanc sy'n cyrraedd lefel 3 yng Nghymru na gwledydd eraill y DU, yn ogystal â lefelau is o fynediad i addysg uwch yn 18 oed.

Mae cofrestriadau ôl-16 yn cynyddu nawr, ond bydd angen cymorth ychwanegol ar amrywiaeth o ddysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae cynnydd drwy addysg drydyddol yn parhau i fod yn annerbyniol o anghyfartal, gyda phobl ifanc, yn enwedig dynion ifanc, o gefndiroedd mwy difreintiedig yn llai tebygol o gofrestru, symud ymlaen i lefelau uwch, neu ddilyn llwybrau academaidd drwodd i'r brifysgol. Mae ehangu cyfleoedd i fanteisio ar  amrywiaeth lawn o lwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd yn hanfodol ar gyfer gwella lefelau cymwysterau cyffredinol ac felly sgiliau a chanlyniadau bywyd. Dyna pam ein bod ni eisoes yn diwygio cymwysterau 14 i 16 ac ôl-16, ond mae angen i ni feddwl ymhellach ynghylch sut allwn ni ehangu mynediad i addysg drydyddol a sicrhau ei fod yn fwy cyfartal.

Yn ail, rhaid i'n sector addysg drydyddol fod yn barod ar gyfer gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc, trwy ehangu cyfleoedd dysgu gydol oes. Bydd nifer y bobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn gostwng 17 y cant rhwng 2027 a 2037, a gallai'r galw am leoedd mewn prifysgolion ledled y DU ostwng bron i 20 y cant yn y 2030au oherwydd newid demograffig yn unig. Mae myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru eisoes yn fwy tebygol o fod yn hŷn ac yn astudio'n rhan-amser nag yng ngweddill y DU. Yn ystod tymor y Senedd hon, rydyn ni wedi gallu cynyddu nifer y dysgwyr rhan-amser mewn addysg bellach am y tro cyntaf ers degawd. Mae hwn yn blatfform i adeiladu arno, ond bydd angen i ni fynd ymhellach i alluogi oedolion i uwchsgilio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theuluol, ar bob lefel, drwy ddarparu cyfleoedd dysgu rhan-amser a gydol oes mwy hyblyg.

Mae'r drydedd her yn ymwneud â chanlyniadau anfwriadol cystadleuaeth gynyddol rhwng darparwyr. Mae dileu'r capiau ar nifer y myfyrwyr wedi caniatáu i rai prifysgolion yn y DU gynyddu eu cofrestriadau domestig, yn aml drwy ostwng gofynion mynediad, ar draul gweddill y sector, gan gynnwys llawer o'n prifysgolion rhagorol yma yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth ffyrnig hon wrth recriwtio myfyrwyr yn sylfaenol i'r heriau ariannol sy'n wynebu ein prifysgolion nawr a bydd ond yn dwysáu o 2030. Dyna pam mae Medr yn mapio darpariaeth pynciau i ddeall yn well pa bynciau a allai wynebu risg yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, rydyn ni'n gwybod bod cystadleuaeth rhwng ysgolion a cholegau i gadw dysgwyr 16 oed weithiau'n tanseilio'r angen i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynghori ar y llwybrau cywir iddyn nhw. Rwy'n cytuno â Phapur Gwyn diweddar Llywodraeth y DU sy'n nodi mai mwy o gydweithio, nid mwy o gystadleuaeth, yw'r dyfodol i addysg drydyddol. Rydyn ni eisoes wedi gweithio gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i egluro'r sefyllfa reoleiddiol ar gydweithio rhwng prifysgolion. Y cwestiwn nawr yw sut rydyn ni'n galluogi cydweithio agosach yn ymarferol. Mae'n gwestiwn rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i ymdrin ag ef yng Nghymru, gan fod partneriaeth gymdeithasol a chydweithredu yn rhan o'n cymeriad unigryw.

Rwy'n credu y bydd y gweithio mewn partneriaeth hwn hefyd yn allweddol wrth ymdrin â'r bedwaredd her, sef yr heriau ariannol sy'n wynebu nid yn unig sefydliadau ond myfyrwyr hefyd. Mae ein cymorth ariannol ar gyfer addysg drydyddol a myfyrwyr yn sylweddol, cyfanswm o dros £1.2 biliwn mewn cyllid adnoddau eleni yn unig, ond rwy'n cydnabod ei fod yn gyfnod eithriadol o heriol yn ariannol i brifysgolion a cholegau. Dyna pam y gwnaethon ni ddarparu £20 miliwn ychwanegol mewn refeniw a £18.5 miliwn mewn cyllid cyfalaf i'r sector yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Dyna pam rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynyddu ffioedd dysgu yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac eto'r flwyddyn nesaf. Ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r cyfyngiadau ariannol ar y Llywodraeth. Rhaid i'r cymorth hael a roddir i fyfyrwyr a'n polisi ad-dalu mwy blaengar barhau i fod yn fforddiadwy. Yn y cyfamser, mae'r pwysau costau byw i lawer o fyfyrwyr yn cynyddu, rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried gan y gwerthusiad parhaus o ddiwygiadau Diamond. Rhaid i ni sicrhau nad yw eich amgylchiadau ariannol yn rhwystr i gael mynediad at addysg drydyddol yn y lle sy'n iawn i chi.

Mae hyn yn dod â mi at yr her olaf. Rhaid i sector addysg drydyddol llewyrchus ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar farchnad lafur sy'n newid yn gyflym. Mae'n hanfodol bod ein buddsoddiadau mewn addysg drydyddol, sgiliau ac ymchwil yn sicrhau mwy o gynhyrchiant, llai o anghydraddoldeb a thwf economaidd. Mae enghreifftiau ardderchog o hyn eisoes, megis rôl Prifysgol Caerdydd wrth gefnogi'r ganolfan gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd, neu waith Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru i bweru'r adweithyddion newydd yn Wylfa gyda gweithlu medrus. Ym mis Mehefin, fe nodais ein bwriadau ar gyfer addysg alwedigaethol i ddiwallu anghenion cyflogwyr yn well. Bydd y gwaith hwn nawr yn gofyn am ystyriaeth ehangach o'r cymwysterau lefel V a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU. 

Mae angen i ni hefyd sicrhau bod yr ymchwil a'r arloesedd rhagorol yn ein prifysgolion yn cyflawni i Gymru. Yn hanesyddol, mae ymchwil wedi cael ei chefnogi gan gyllid strwythurol Ewropeaidd ac yn fwy diweddar croes-gymhorthdal o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, ond mae'r ffynonellau cymorth hyn wedi lleihau'n sylweddol. Mae angen i ni gefnogi ein prifysgolion i addasu i ddyfodol heb y ffynonellau hyn o groes-gymhorthdal ac i gryfhau eu gallu i gystadlu am swm cymesur o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU.

Llywydd, mae'r heriau rwyf wedi'u hamlinellu yn sylweddol. Mae gan y llywodraeth a'r sector lawer o waith i'w wneud i gynyddu cyfranogiad mewn addysg drydyddol, paratoi ar gyfer newid demograffig, gweithredu'n fwy cydweithredol, parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol a chyflawni'n llawn i'n heconomi a'n cymunedau. Rydyn ni eisoes wedi dechrau rhywfaint o'r gwaith hwn, fel y nodwyd yn fy natganiadau ysgrifenedig blaenorol, ond mae angen i ni fynd ymhellach.

Dyna pam rwyf wedi gwahodd cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector i ymuno â grŵp cynghori gweinidogol newydd, a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener diwethaf i'w trafod yn fanwl. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf hefyd yn cyhoeddi papur tystiolaeth a fydd yn manylu ymhellach ar yr heriau hyn, ochr yn ochr â galwad am gyflwyniadau gan randdeiliaid, a fydd yn cael ei chynnal o fis Rhagfyr i fis Mawrth. At ei gilydd, bydd y gwaith hwn yn rhoi sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni diwygio pellach, a all adeiladu ar yr hyn rydyn ni eisoes wedi'i gyflawni dros dymor diwethaf y Senedd: system ariannu flaengar, twf mewn cyfleoedd galwedigaethol a dull trydyddol integredig tuag at bolisi. Yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw yw'r cam nesaf angenrheidiol i sicrhau dyfodol llewyrchus i'n sector addysg drydyddol yn ystod cyfnod heriol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd â rôl wrth ddatblygu'r dyfodol hwnnw.

15:50

Diolch am y datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. A gaf i hefyd ddiolch i chi am gyfarfod â mi a chyda Cefin Campbell neithiwr i drafod y mater? Cafodd ei werthfawrogi'n fawr.

Rydych chi wedi nodi'r pum her fwyaf dybryd sy'n wynebu addysg drydyddol yng Nghymru, ac mae'n anodd anghytuno ag unrhyw un o'r materion rydych chi wedi tynnu sylw atyn nhw yma heddiw yn y Siambr. Mae heriau ariannol, o ran sefydliadau a myfyrwyr unigol, wir yn rhwystr mawr. Rydyn ni wedi gweld y mesurau arbed costau dinistriol sydd wedi'u cynnig mewn gwahanol brifysgolion yng Nghymru, yn enwedig Prifysgol Caerdydd, ac rwy'n gwybod yn iawn bod yr ansicrwydd ariannol wedi cael ei waethygu gan y Blaid Lafur. Mae cynnydd enfawr mewn yswiriant gwladol gan eich cyd-bleidwyr yn Senedd y DU i gyd ar unwaith wedi gwneud i'n haddysg drydyddol dalu llawer mwy mewn treth. Nid dim ond hynny, ond mae penderfyniadau gwael gan rai prifysgolion wedi gwneud y sefyllfa'n waeth, fel penderfyniad Caerdydd i agor campws yn Kazakhstan. Sut ydych chi, Gweinidog, yn ystyried y grymoedd ariannol hyn a fydd o bosibl yn effeithio ar y myfyrwyr sy'n astudio yng Nghaerdydd? A pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael â Llywodraeth y DU am yr effaith y bydd eu polisïau ac unrhyw gyhoeddiadau pellach sydd ar ddod yng ngoleuni'r gyllideb yfory yn ei chael ar addysg drydyddol yma yng Nghymru?

Rydyn ni hefyd yn gweld myfyrwyr yn gadael Cymru pan fyddan nhw eisiau astudio mewn addysg uwch, a byddwn i'n dadlau mai un o'r prif resymau am hynny yw costau byw hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau i helpu myfyrwyr i wrthsefyll hyn. Ateb syml, a fyddai'n cefnogi myfyrwyr a phrifysgolion ac sy'n cael ei gefnogi gan y sefydliad addysg drydyddol, fyddai prentisiaethau gradd. Trwy hynny, does dim rhaid i fyfyrwyr dalu eu ffioedd, gallan nhw ennill cyflog, a gall prifysgolion weithio'n agos gyda busnesau i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen yn ddybryd ar fyfyrwyr. Eto, am ryw reswm, wnaiff Llywodraeth Cymru ddim cynyddu'r cynnig prentisiaethau gradd. Pam hynny, Gweinidog? Dros y ffin, rydyn ni'n gweld eu bod nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer athrawon, meddygon, nyrsys, cyfreithwyr, radiolegwyr, cyfrifwyr a mwy, ond dim ond ym meysydd TG, adeiladu ac amddiffyn mae'n nhw'n cael eu defnyddio yma yng Nghymru.

Llywydd, mae prifysgolion yn dibynnu ar fyfyrwyr rhyngwladol am ran fawr o'u sefydlogrwydd ariannol, ond mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi torri'r cyllid i Cymru Fyd-eang. Gweinidog, a allwch chi amlinellu'r rhesymeg y tu ôl i hyn i bob un ohonon ni yma yn y Siambr heddiw, oherwydd does bosibl y bydd torri cyllideb Cymru Fyd-eang yn rhwystro ymdrechion i ddenu mwy o fyfyrwyr o dramor?

Mae'r newid demograffig sydd ar ddod rydych wedi cyffwrdd ag ef, Gweinidog, yn bwynt pwysig, ac rwy'n croesawu mwy o ffocws ar ddysgu gydol oes, er, heb becyn ychwanegol o gyllid i gefnogi'r uchelgais hon, sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni hyn yn y dyfodol?

Y prynhawn yma, rydych chi wedi cyhoeddi grŵp cynghori gweinidogol newydd i lywio'r gwaith hwn. Yn seiliedig ar record y Llywodraeth, yn enwedig o ran addysg, rydyn ni wedi gweld yn anffodus pa mor aneffeithiol ac anhrefnus y gall y mathau hyn o grwpiau fod. Edrychwch ar banel llythrennedd yr Ysgrifennydd Cabinet a'r llanast mae hwnnw wedi bod. Felly, Gweinidog, ydych chi'n hyderus na fydd eich grŵp chi yn yr un un categori? Ac a wnewch chi roi manylion yr aelodau hynny fydd yn eistedd ar y panel, y gwnaethoch chi ddweud eu bod nhw wedi eistedd mewn cyfarfod eisoes ac y byddan nhw'n eistedd arno yn y dyfodol?

Gan symud ymlaen i addysg bellach, rydyn ni'n gweld mwy o gyfranogiad nag erioed o'r blaen, ond dim cyllid ychwanegol i sicrhau bod y sector hwn yn gynaliadwy ac yn gallu cefnogi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol. O fis Tachwedd, roedd yna 43,400 o ddysgwyr amser llawn, sef tua 4,400 yn fwy na'r hyn y gwnaeth Lywodraeth Cymru a Medr gyllidebu ar eu cyfer yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod y sector yn cyflawni tua £15 miliwn i £20 miliwn o ddarpariaeth heb ei hariannu. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Gweinidog, ynglŷn â darparu cyllid yn ystod y flwyddyn ac addasu'r gyllideb ddrafft?

Rydyn ni'n gweld tystysgrifau galwedigaethol addysg uwchradd o dan y cwricwlwm newydd, ond dim lefelau T. Felly, sut ydych chi, Gweinidog, yn rhoi'r pwynt ychwanegol hwnnw i mewn yno i bobl ifanc sydd eisiau mynd ymlaen i hyfforddiant galwedigaethol?

Mae gennym ni sefydliad newydd, Medr, sy'n gyfrifol am £1 biliwn o gyllid trethdalwyr ar gyfer addysg drydyddol. Sut mae hyn yn mynd i sicrhau cynaliadwyedd a chyfranogiad i ddisgyblion yng Nghymru? Er ei fod newydd gael ei sefydlu, rwy'n dal i fod yn amheus iawn ynglŷn â'i ffocws a'i gymorth, a dydw i ddim yn credu ei fod yn gyfrinach y tu mewn i'r Siambr hon neu'r tu allan iddi. Mae prentisiaethau gradd wedi cael eu rhoi o'r neilltu tan 2027, heb unrhyw gymorth uniongyrchol ar gyfer ein sefydliadau addysg uwch neu addysg bellach sy'n galw'n daer am ryw fath o gyfeiriad. Felly, pa rôl ydych chi'n gweld Medr yn ei chwarae yn hyn, Gweinidog?

Gweinidog, mae'r datganiad hwn wedi nodi'r pum her sy'n wynebu addysg drydyddol, ond ychydig iawn o sôn sydd wedi bod ynghylch y camau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Efallai y gallwch chi fy mhrofi'n anghywir ac amlinellu rhai o'r camau uniongyrchol sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth wrth symud ymlaen, neu a yw popeth yn mynd i gael ei adael nes bod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a chael ei adael i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag ef? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

15:55

Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am y gyfres honno o gwestiynau, a dim ond i roi sicrwydd i chi, yn gyntaf, gan i chi ofyn am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau yn cwrdd yn rheolaidd â'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ac mae ein swyddogion yn gwneud hynny hefyd. Rydyn ni wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn yno ar y pwyntiau rydyn ni'n cytuno arnyn nhw, a'r pwyntiau y mae gennym ni wahanol farn arnyn nhw.

Felly, er enghraifft, fe fyddwch chi’n ymwybodol bod y Llywodraeth Cymru hon wedi penderfynu peidio â gweithredu'r ardoll myfyrwyr rhyngwladol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywle lle y gallwn ni fod yn wahanol i Loegr nawr, a denu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol yma i Gymru. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r cyfraniad maen nhw'n ei wneud o ran eu cyfraniad academaidd, eu cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol, ac wrth gwrs eu cyfraniad economaidd i brifysgolion hefyd.

Fe wnaethoch chi ofyn am y grŵp cynghori gweinidogol, a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener. Yn wir, roedd yn gyfarfod cyntaf cynhyrchiol iawn ac mae gen i fwy o gyfarfodydd wedi'u cynllunio yn y misoedd nesaf. Diben y grŵp hwnnw yw canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol, ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon a thu hwnt, ac yn enwedig ar gynyddu cyfraddau cyfranogiad ar draws y sector addysg ôl-16, a sefydlogi'r heriau ariannol presennol.

Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a ddaeth i'r cyfarfod ddydd Gwener. Roedden nhw'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, undebau llafur, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, ac arbenigwyr ar ymchwil, arloesi a'r byd busnes. Cawson ni drafodaeth dda iawn am bethau, gan gynnwys pwysigrwydd darpariaeth Gymraeg, a'r angen i ystyried disgwyliadau a phrofiadau newidiol dysgwyr ledled y system.

Ac os edrychaf yn ôl ar y cwestiynau eraill y gwnaethoch chi eu codi. Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am rôl Medr. Fe wnes i gyfarfod â Medr y bore yma ar gyfer fy nghyfarfod chwarterol rheolaidd. Mae Medr yn gorff newydd arloesol sy'n rheoleiddio'r sector trydyddol cyfan, ac rwy'n credu eu bod nhw wedi ymgymryd â gwaith pwysig iawn hyd yn hyn. Mae'n debyg mai un o'r pwyntiau nodedig, byddwn i'n ei ddweud, yw'r gwaith mapio pynciau rwyf wedi gofyn iddyn nhw ei wneud, a fydd yn barod i'w gyhoeddi yn y dyfodol agos. Mae hwnnw'n rhoi mewnwelediad gwerthfawr iawn i'r ffordd y gall Llywodraeth Cymru a phrifysgolion gydweithio â Medr i sicrhau bod pynciau blaenoriaeth ar gael ledled Cymru. Gall y mapio hwnnw fod yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol hefyd.

Mae Medr hefyd yn gweithio'n agos gyda'r sector, yn enwedig ym meysydd llywodraethu a rheoli risg, sef dau faes y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich cwestiynau yn y fan yna. Maen nhw'n cyflwyno cyfundrefn reoleiddio gadarn newydd ar gyfer addysg drydyddol, sydd wedi'i disgrifio gan un sylwebydd ar y sector fel

'yr ymgais fwyaf uchelgeisiol i greu system reoleiddio unedig ar draws addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir y mae'r DU wedi'i gweld hyd yma.'

Felly, maen nhw'n sicr yn denu sylw cadarnhaol, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd hon.

Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am brentisiaethau gradd. Mae prentisiaethau gradd yn dod o dan bortffolio'r Gweinidog sgiliau, ond rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n gilydd, fel yr wyf yn siŵr y byddwch chi'n gwybod. Bydd y gwaith rydyn ni'n ei wneud, ar y grŵp cynghori gweinidogol ac ar y bwrdd gweinidogol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, yn ystyried dyfodol prentisiaethau gradd, sydd yn ffurfio, rwy'n credu, conglfaen i'n cynnig yma yng Nghymru. Yn wir, roeddwn i'n falch iawn o siarad â rhai o ddysgwyr Seren yr wythnos diwethaf, yr oedd un ohonyn nhw wedi cwblhau prentisiaeth gradd ym Mhrifysgol De Cymru.

16:00

A gaf i ddiolch i chi am y datganiad a hefyd am y cyfarfod a gawsom gyda Natasha a chithau neithiwr?

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers blynyddoedd bod sector addysg drydyddol Cymru yn symud tuag at storm berffaith. Y llynedd, adroddodd prifysgolion ddiffyg cyfunol o £77 miliwn. Nid ffigwr haniaethol yw hwnnw; mae'n cynrychioli risgiau gwirioneddol i swyddi, gallu ymchwil a chyfleoedd i'n pobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i sicrhau, ac rwy'n dyfynnu,

'bod addysg uwch ar gael i bawb, beth bynnag eu cefndir, a'u bod yn gallu manteisio arni'.

Ond mae'r dystiolaeth yn adrodd stori wahanol. Yn ôl y Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau, dim ond 32.5 y cant o bobl ifanc 18 oed o Gymru wnaeth gais i'r brifysgol yn 2024, o'i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 41.2 y cant. Yng Ngogledd Caerdydd, mae cyfranogiad yn 47.9 y cant, ond yn Nhorfaen, dim ond 16.9 y cant ydyw, yr isaf yng Nghymru. Pam mae'r anghyfartaledd cymdeithasol ac addysgol hwn yn dderbyniol mewn gwlad sy'n honni ei bod yn hyrwyddo ehangu mynediad?

Ar y cyfan, Gweinidog, mae'n anodd anghytuno â'r pum her fwyaf dybryd sydd wedi'u hamlinellu yn eich datganiad, sydd hefyd yn amlinellu'r angen am grŵp cynghori newydd a galwad agored am dystiolaeth. Ond gadewch i ni fod yn onest: mae rhanddeiliaid yn gwybod beth yw'r heriau ac maen nhw wedi bod yn dweud wrthych chi beth yw'r heriau ers tro. Pe bai Llywodraeth Cymru eisiau atebion yn gyflym, ni fyddai angen i chi edrych ymhellach nag ymateb ymgynghoriad y pwyllgor addysg ar ehangu cyfranogiad. Mae'r pwyllgor Senedd hwn eisoes wedi cael dros 50 o gyflwyniadau ar addysg ôl-16 yn ystod y misoedd diwethaf.

Os mai dim ond ymarfer casglu tystiolaeth arall yw hwn, sut y bydd yn wahanol i'r hyn sydd wedi'i wneud eisoes? O ystyried mai dim ond ychydig fisoedd sydd gennym ni cyn etholiad y Senedd, beth fydd yn digwydd i'r dystiolaeth hon mewn gwirionedd? A fydd dysgwyr eu hunain, a'r rhai a fydd yn mynd ymlaen i'r chweched dosbarth a cholegau a phrifysgolion yn y blynyddoedd nesaf, yn cael cyfle i roi mewnbwn uniongyrchol iddo?

Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am weithredu. Ym mis Mai 2024, ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan at yr Ysgrifennydd Cabinet yn galw am adolygiad brys o gyllid prifysgolion. Ym mis Chwefror eleni, fe wnaethon ni alw am adolygiad cynhwysfawr o'r system gyllido i ddiogelu swyddi a sicrhau cynaliadwyedd. Yna, fe es i ar drywydd hynny eto, gan ysgrifennu atoch chi, Gweinidog, yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu. Bob tro, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gweithredu. Pam mae hi wedi cymryd tan lai na chwe mis cyn etholiad i Weinidogion sylweddoli bod y caneri yn y pwll glo wedi rhoi'r gorau i ganu ers tro? Hyd yn oed nawr, mae cwmpas y gwaith hwn yn ymddangos yn gyfyngedig. Does dim sôn am gadw myfyrwyr, cadw graddedigion, na'r draen dawn o fyfyrwyr sy'n gadael Cymru i fynd i brifysgolion mewn mannau eraill a byth yn dychwelyd o bosibl.

Mae pob cenedl arall yn y DU yn cymell cadw talent gartref. Pam nad ydyn ni? Os yw'r Llywodraeth yn mynnu allforio ein talent myfyrwyr, ble mae'r cynllun i ddod â nhw yn ôl? Dydy hyn ddim yn ymwneud â chyfyngu ar uchelgais. Mae'n ymwneud â chredu yng Nghymru, datblygu Cymru well. Gall ein prifysgolion gynnig cyfleoedd o'r radd flaenaf ac maen nhw'n gwneud hynny. Ond mae cynaliadwyedd yn bwysig, ac os na wnawn ni ddim, bydd ein sefydliadau yn gwanhau i'r pwynt o ddymchwel.

Yn gynharach eleni, fe ddywedoch chi y byddech chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch. Beth sydd wedi digwydd i'r gwaith hwnnw? Oherwydd nid yw'r Papur Gwyn ar addysg ôl-16 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at ein sector addysg uwch yma yng Nghymru. A yw'r bartneriaeth mewn grym wedi cyflawni unrhyw beth, neu a yw wedi bod yn fwy o rwystr na chymorth?

Mae angen atebion ar Gymru, Gweinidog, nid ymgynghoriad arall gan Lywodraeth sydd wedi rhedeg allan o syniadau ac sy'n rhedeg allan o amser. Mae angen adolygiad annibynnol, pwrpasol arnom sy'n rhoi atebion a model cyllido sy'n diogelu ein sefydliad. Ac os bydd Plaid Cymru yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf, byddwn yn sicr yn cyflawni'r atebion hynny. Diolch.

16:05

Hoffwn ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiynau hynny. Os ddechreuwn ni gyda data UCAS y cyfeirioch chi ato ef yn y fan yna, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, er ein bod ni'n gweithio'n galed i gynyddu cyfraddau cyfranogi pobl ifanc 18 oed mewn addysg uwch, mae'n rhaid mai dyna'r opsiwn sy'n iawn iddyn nhw. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, y Gweinidog sgiliau a minnau'n ei gefnogi.

Byddwn i'n dweud hefyd mai dim ond rhan o'r darlun o fynediad i addysg uwch yw ffigurau UCAS. Fel arfer, dydyn nhw ddim yn cynnwys ymgeiswyr i gyrsiau rhan-amser, ac rydyn ni'n gwybod bod gan Gymru gyfran uwch o fyfyrwyr sy'n dysgu'n rhan-amser—36 y cant o'n myfyrwyr o'i gymharu â 23 y cant yn Lloegr. Rwy'n credu bod hynny'n gryfder mewn gwirionedd; mae hynny'n dangos ein bod ni'n ehangu mynediad i addysg uwch, yn enwedig ar gyfer dysgwyr mwy aeddfed. Rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd llawer o ymgeiswyr sy'n mynd i addysg uwch drwy astudio mewn colegau addysg bellach, sy'n ffordd arall o ehangu cyfranogiad, yn gwneud cais yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy UCAS hefyd.

Yn wir, dangosodd mesur cyfranogiad cychwynnol addysg uwch Medr mai'r tebygolrwydd amcangyfrifedig y bydd person sy'n byw yng Nghymru yn cymryd rhan mewn addysg uwch erbyn 30 oed oedd 54.6 y cant. Felly, mae yna lawer i'w ddathlu yn y fan yna yn sicr os edrychwn ni ar yr ystadegau yn ehangach. A dim ond i ddweud hefyd, o ran myfyrwyr aeddfed, mae gennym ni 66 y cant yma yng Nghymru o'i gymharu â 44 y cant yn Lloegr. Felly, rydyn ni'n bendant ar y blaen yn hynny o beth, ac rwy'n credu bod hynny'n dir pwysig i ni fod yn ei feddiannu pan edrychwch chi ar y newidiadau demograffig a amlinellais yn gynharach hefyd.

Fe ddywedoch chi, yn gwbl briodol, bod rhanddeiliaid yn gwybod yr heriau sy'n wynebu'r system—ydyn wir, ac rwyf innau hefyd. Ond lle rydyn ni nawr yw defnyddio'r dull rhagweithiol, cael y saib hwnnw a chymryd amser i fyfyrio ar yr atebion. Dyna pam mae fy ngrŵp cynghori gweinidogol yn cynnwys nid yn unig rhanddeiliaid, ond y rhai sydd â phrofiad o'r tu allan i'r system, p'un a yw hynny'n brofiad o edrych ar y system drydyddol mewn rhannau eraill o'r byd, edrych ar ymchwil, a hefyd edrych ar fusnes a'r economi.

Fe sonioch chi am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, y gwnaethon ni ei dderbyn gyda diddordeb. Yn sicr, mae yna lawer o argymhellion yn y fan yna i ni eu hystyried. Mae'n gwneud nifer o argymhellion defnyddiol. Bydd ehangu mynediad at lwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd, heb os, yn codi lefelau cymwysterau, yn cryfhau sgiliau, ac yn gwella canlyniadau bywyd ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog sgiliau, a byddwn ni'n cyfarfod yn yr wythnosau nesaf i drafod yr adroddiad a'i argymhellion yn fwy manwl. Rwy'n siŵr y bydd yn bendant yn llunio ein gwaith am weddill tymor y Senedd hon.

Fe wnaethoch chi ofyn am yr hyn a fydd yn digwydd i'r dystiolaeth sy'n cael ei chasglu gan y grŵp cynghori gweinidogol, ac fe wnaethoch chi ofyn am fewnbwn myfyrwyr yn y fan yna hefyd. Dim ond i'ch sicrhau bod UCM Cymru yn cael ei gynrychioli ar y grŵp cynghori gweinidogol hwnnw, ac, yn ystod ein galwad am dystiolaeth, byddwn ni'n edrych yn benodol am amrywiaeth eang o fewnbwn yn y fan yna gan fyfyrwyr ledled Cymru. Bydd y dystiolaeth y byddwn ni'n ei chasglu yn cael ei dwyn ynghyd cyn diwedd tymor y Senedd hon. Yn sicr, rwy'n gobeithio y bydd rhai pethau a fydd yn deillio o hynny a all fod yn enillion cyflym i ni. Rwyf bob amser yn chwilio am y rheini. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn ddyletswydd ar bob un o Weinidogion y Llywodraeth sy'n dod at ddiwedd tymor y Llywodraeth i adael etifeddiaeth ac i adael adroddiad sy'n dangos cyfeiriad posibl ar gyfer y portffolio hwnnw yn y dyfodol. Yn sicr, dydy hynny ddim yn rhywbeth y byddaf yn ymddiheuro amdano.

Fe wnaethoch chi ofyn am y Papur Gwyn. Dim ond i egluro, mae'r Papur Gwyn hwnnw ar gyfer Lloegr yn unig. Ond dydy hynny ddim yn golygu, wrth gwrs, nad oes pethau ynddo y gallwn ni eu cymryd a dysgu oddi wrthyn nhw yma yng Nghymru. Ond rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i wneud pethau ein ffordd ni ein hunain hefyd, yn y ffyrdd sydd orau i ni, yn ein tyb ni.

Fe wnaf i orffen gyda'ch sylwadau ynghylch cadw myfyrwyr a chadw graddedigion. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth rydyn ni fel Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu darparu cyfleoedd i'n pobl ifanc astudio ble bynnag y maen nhw'n dymuno, ond hefyd i ddychwelyd i Gymru, i ddychwelyd i'w cymunedau cartref, ac i wneud y cyfraniadau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol hynny. Hoffwn daflu goleuni ar waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar hyn. Mae ganddyn nhw fentrau fel Cadw Cyswllt, sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr hynny sydd wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a allai fod wedi mynd i'r brifysgol y tu allan i Gymru gysylltu ar-lein, cadw eu sgiliau Cymraeg, cysylltu ag eraill, ac yna, gobeithio, dod nôl i Gymru i gyfoethogi ein cymunedau ymhellach.

16:10

Fe dreuliais i 25 mlynedd yn dysgu mewn colegau addysg bellach yn Aberdâr, Rhondda a Phontypridd. Fe newidiodd fy nghydweithwyr a minnau lawer o fywydau er gwell, a rhoi cyfleoedd i ymuno â chyflogaeth oedd yn talu'n dda. Mae gweithlu addysgedig a medrus iawn yn hanfodol os ydyn ni eisiau datblygu economi Cymru.

Rwyf eisiau tynnu sylw at y meddyg ymgynghorol mewn ysbyty a ddechreuodd ei daith addysg ar gwrs mynediad at iechyd addysg bellach. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog bod ehangu mynediad at amrywiaeth lawn o lwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd yn hanfodol ar gyfer gwella lefelau cymwysterau cyffredinol a sgiliau a chanlyniadau bywyd i unigolion, ond hefyd o ran helpu i ddatblygu economi Cymru. Rwyf hefyd yn cytuno â'r Gweinidog bod gan y sector lawer o waith i'w wneud i gynyddu cyfranogiad mewn addysg drydyddol ac i baratoi ar gyfer newid demograffig. Hoffwn ganmol y gwaith sy'n cael ei wneud gan Goleg Gŵyr Abertawe, yn enwedig ym maes gosod ynni gwyrdd.

Dau gwestiwn sydd gen i: sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i hyrwyddo addysg bellach i'r rhai sydd dros 21 oed, yn enwedig cyrsiau mynediad? Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i leihau nifer y rhai nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant drwy hyrwyddo addysg bellach iddyn nhw a gweithio gyda chyflogwyr fel eu bod yn gallu gweld swyddi sy'n talu'n dda ar ddiwedd eu cyrsiau, oherwydd yn rhy aml mae pobl yn gweld y cyrsiau ond dydyn nhw ddim yn gweld y swyddi sy'n talu'n dda ar y diwedd?

16:15

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny ac am fod yn hyrwyddwr mor gyson o'n sector addysg bellach hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi codi dau bwynt pwysig iawn yn y fan yna, Mike. Fe wnes i ganolbwyntio yn fy natganiad ar bwysigrwydd dysgu gydol oes, ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n angerddol amdano hefyd. Un o'r pethau rydw i'n fwyaf balch o allu ei gyflawni yn ystod tymor y Senedd hon yw'r cynnydd yng ngrant dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach. Fe gyhoeddais i ym mis Mehefin, ar gyfer dysgwyr cymwys oedd yn parhau â'u hastudiaethau neu'n dechrau astudio yn y flwyddyn academaidd 2025-6, bod y grant hwnnw wedi'i gynyddu yn unol â chwyddiant. Mae hynny'n golygu, o fis Medi ymlaen, bod y swm y gall dysgwyr ei gael wedi cynyddu o uchafswm o £1,500 i £1,919, felly cynnydd o bron i draean yn y fan yna, a fydd yn bendant yn helpu'r rhai o'r aelwydydd incwm isaf i leihau'r rhwystrau ariannol sy'n gysylltiedig ag astudio ar ôl 19 oed. Hoffwn i feddwl ei fod yn dangos fy ymrwymiad parhaus i sicrhau bod dysgwyr ar bob cam o'u bywyd yn teimlo eu bod yn gallu cael mynediad at addysg. Bydd y gyfradd uwch honno'n parhau tra bod adolygiad annibynnol o gynllun grant dysgu addysg bellach Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal. Ac ymhlith amcanion eraill, yr hyn y bydd yr adolygiad hwnnw'n ei wneud fydd ystyried y trothwyon incwm aelwydydd sy'n pennu cymhwysedd. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ehangu mynediad ymhellach ar ôl hynny.

Rwy'n credu mai ffordd arall rydyn ni'n denu dysgwyr sy'n oedolion i golegau yw trwy'r ymgyrchoedd hysbysebu lleol cryf y mae'r colegau hynny'n eu cynnig hefyd, ac mae darpariaeth dysgu rhan-amser hefyd yn allweddol i weithio o gwmpas ymrwymiadau teuluol a gwaith. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r nifer mewn addysg bellach rhan-amser wedi cynyddu eleni am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai cyfran fawr o'r rheini yn ddysgwyr sy'n oedolion. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud bob amser wrth i ni ragweld heriau yn y setiau sgiliau sydd eu hangen i baratoi pobl ar gyfer swyddi'r dyfodol.

Rydych chi'n gofyn am bobl NEET hefyd, a'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hynny ar draws y Llywodraeth. Wrth gwrs, rydyn ni'n falch iawn o'n gwarant person ifanc, sy'n cynnig lle mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth i bob person ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru. Mae yna hefyd ymarfer rhagorol yn ein hysgolion gyda chymorth wedi'i dargedu ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu'r risg o ddod yn NEET, gan gynnwys cymorth pellach, wedyn, pan fyddan nhw'n mynd i'r coleg i sicrhau eu bod yn ymgartrefu yn eu cyrsiau yno. Rwy'n credu mai rhan hanfodol o hyn hefyd yw ein buddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl a lles. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n ffactor pwysig, fel arall, o ran pobl ifanc yn dod yn NEET.

I orffen, dim ond i'ch sicrhau bod hwn yn fater rydyn ni'n gweithio arno ar draws y Llywodraeth, trwy ein bwrdd gweinidogol addysg a hyfforddiant galwedigaethol, lle rwy'n cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Gweinidog sgiliau yn fisol.

Diolch, Llywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Un peth y gwnaethoch chi ei bwysleisio'n briodol, rwy'n credu, yw'r angen am gydweithio. Fy mhrofiad fy hun o waith achos ac addysg a hyfforddiant i bobl ifanc 14 i 19 oed yw sefyllfaoedd lle mae pobl ifanc 14 oed yn ymddieithrio o'r ysgol oherwydd eu bod nhw eisiau dilyn llwybr galwedigaethol, nad yw'r ysgol yn gallu ei ddarparu, ac maen nhw eisiau mynd i'r coleg addysg bellach lleol, ond maen nhw'n cael eu dal yn y sefyllfa honno lle nad oes cyllid i'r coleg addysg bellach ddarparu lle, a dydy'r ysgol ddim eisiau colli'r cyllid sydd ganddi ar gyfer y disgybl penodol hwnnw. Weithiau maen nhw'n ymddieithrio, ac yna maen nhw'n mynd i'r coleg pan maen nhw'n 16 oed a does ganddyn nhw ddim wedyn y cymwysterau mynediad sydd eu hangen i ddilyn y cwrs maen nhw eisiau ei ddilyn. Felly, mae'n sefyllfa gwbl anfoddhaol, on'd yw hi? Rwy'n credu ein bod ni wedi cael rhai datblygiadau da, fel y prentisiaethau iau, ac mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi gwneud gwaith gwych, yr wyf yn gwybod ei fod yn cael ei ehangu, ond rwy'n credu yn gyffredinol, Gweinidog, bod angen i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno, a sicrhau'r cydweithrediad sydd ei angen arnon ni.

16:20

Hoffwn ddiolch i John Griffiths am y pwyntiau yna. Rwy'n cytuno â byrdwn y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud, yn hollol, ac rwy'n gwybod o fy 16 mlynedd fel athrawes ysgol uwchradd pa mor bwysig yw hi fod gennym y cynnig hwnnw i bobl ifanc sy'n cydbwyso'r academaidd a'r galwedigaethol. Ac i rai o'n pobl ifanc, felly, mae addysg y tu allan i leoliad ysgol mewn lleoliad gwahanol, lle gall dysgu fod yn fwy ymarferol yn rhan hanfodol o hynny. Rydw i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch iawn o'r cynllun prentisiaethau iau ac mae'r ddau ohonom wedi gallu ymweld â phrentisiaid iau mewn gwahanol golegau ledled Cymru, ac mae gweld yr angerdd a'r hyder ynddynt wrth iddynt ymgymryd â'r astudiaethau hynny yn wirioneddol galonogol. A dyna pam mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 yn cynnwys cynnydd o £0.4 miliwn yn nyraniad Medr, a fydd yn cael ei ddyrannu i brentisiaethau iau, gan ddod â'r llinell gyllideb hon i £1 filiwn. Ac mae yna, dylwn ddweud, waith ardderchog ar draws y sector AB yn y maes 14 i 16, ac mae'n dda cael pobl fel chi, John, sy'n gallu taflu goleuni ar hynny. Mewn llawer o golegau, mae'r rhain yn cael eu nodi fel prentisiaethau iau, ond mae yna gynigion eraill hefyd a all fod yn amser-llawn neu yn rhan-amser, gan weithio ar y cyd ag ysgolion.

Cefais sgwrs ddiddorol yr wythnos diwethaf, a dweud y gwir, pryd roedd pennaeth coleg AB yn dweud wrthyf, yn ogystal â helpu'r bobl ifanc hynny ar yr adeg honno o'u bywyd rhwng 14 ac 16 oed, gall y perthnasoedd y mae colegau yn eu creu gydag ysgolion pan fyddant yn ceisio gosod y bobl ifanc hyn ar y prentisiaethau iau hefyd chwalu rhai o'r rhwystrau hynny rydym ni'n eu gweld gydag ysgolion a cholegau yn cystadlu am ddysgwyr yn y maes ôl-16, ac wrth gwrs gall hynny ond bod yn beth da wrth i ni geisio sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei hysbysu o'r cwrs a allai fod orau iddo.

Rwy'n credu hefyd—i orffen ar bwynt olaf yma hefyd—fod cael y cynnig dysgu hwnnw'n iawn yn y maes 14 i 16, y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio'n galed iawn arno, yn hanfodol i'r materion yr wyf yn ceisio mynd i'r afael â nhw gyda'r gyllideb AB nawr, oherwydd mae llawer o'r pwysau ariannol rydym ni'n eu gweld yn ein colegau ar gyfer y ddarpariaeth ôl-16 oherwydd nifer y dysgwyr sy'n dod i mewn ar lefel 1 a 2, felly mae darparu'r llwybrau priodol hynny cyn 16 yn ffordd dda o frwydro yn erbyn y pwysau hynny hefyd.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Presenoldeb ac Ymddygiad mewn Ysgolion

Y datganiad nesaf yw'r un o dan eitem 5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar bresenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion yw hwn. Ac felly yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Lynne Neagle.

Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i siarad am ddwy o'm blaenoriaethau allweddol yma heddiw: gwella presenoldeb ac ymddygiad mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru. Rwyf eisiau i bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i ffynnu, gyda chefnogaeth system addysg sydd â'u buddiannau gorau nhw wrth wraidd popeth. Rwy'n ymrwymedig i gynyddu lefelau cyrhaeddiad a safonau addysg, fel y gallwn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae presenoldeb rheolaidd ac ymgysylltu ag addysg a dysgu yn rhan hanfodol o gyflawni'r uchelgais hon. Mae presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion wedi'u cysylltu'n agos. Gall presenoldeb gwael arwain at ddatgysylltu a phroblemau ymddygiad, tra bod heriau ymddygiadol yn aml yn cyfrannu at absenoldeb parhaus. Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n falch bod yr ystadegau ar bresenoldeb ysgolion uwchradd ar gyfer y flwyddyn ysgol 2024-25, a gyhoeddwyd ym mis Medi, wedi dangos gwelliant clir mewn presenoldeb cyfartalog o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd i 90.9 y cant. Roeddwn hefyd yn falch bod absenoldeb cyffredinol wedi gostwng o 12 y cant i 10.9 y cant dros yr un cyfnod, gyda chynnydd hefyd yn cael ei weld o ran mynd i'r afael ag absenoldeb parhaus.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

16:25

Gostyngodd canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd a gollodd fwy na 10 y cant o'r sesiynau o 37.1 y cant i 33 y cant. Yn yr un modd, mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer presenoldeb yn y flwyddyn academaidd hon yn dangos bod presenoldeb cyffredinol yn 91.8 y cant ar 18 Tachwedd.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar bresenoldeb ysgol ac agweddau tuag at ddysgu. I rai teuluoedd, mae'r syniad o bresenoldeb ysgol rheolaidd wedi newid. Erbyn hyn mae mwy o ddisgwyliad o hyblygrwydd, p'un ai dysgu o bell, modelau hybrid neu addysg gartref. Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau i ni fel llunwyr polisi ac i ymarferwyr. Mae angen ymdrech enfawr gan ein hysgolion, y gweithlu a'n teuluoedd i ddechrau datrys hyn ac i ddangos gwelliant o flwyddyn i flwyddyn. Rwyf eisiau eu canmol am eu hymrwymiad parhaus a'u gwaith caled.

Fodd bynnag, rwyf hefyd eisiau bod yn glir, er bod hyn yn galonogol, rwyf eisiau i ni fynd ymhellach. Rwyf eisiau gweld lefelau yn ôl i'r lle yr oeddent cyn y pandemig cyn gynted â phosibl, ac, yn ddelfrydol, yn uwch na hynny. Felly, er ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, nid ydym yn hunanfodlon, ac mae gwaith i'w wneud o hyd, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'n dysgwyr mwy agored i niwed.

Mae'r data blynyddol diweddaraf yn dangos bod 58 y cant o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn absennol yn barhaus yn ystod blwyddyn ysgol 2024-25. Ni all y gwahaniaeth mewn presenoldeb gan y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys ddod yn sefyllfa dderbyniol. Mae'r dysgwyr hyn eisoes yn wynebu rhwystrau sylweddol, a achosir gan effaith byw mewn cartrefi â lefelau incwm is. Ni allant barhau i golli addysg ar y lefelau hyn os ydynt am gyrraedd eu potensial.

Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant rhag mynychu'r ysgol yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo. Er mwyn cefnogi hyn, rwyf wedi ymrwymo £7 miliwn o gyllid eleni i helpu plant i ailymgysylltu â'r ysgol. O dan y pecyn cyllid hwn, rwyf wedi darparu £3 miliwn ychwanegol i gefnogi gwaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, £2 filiwn yn cefnogi'r ddarpariaeth o weithgareddau cyfoethogi, £1 filiwn i ymgorffori rôl ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned ymhellach, ac £1 filiwn i gefnogi ein rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol bwyd a hwyl. Ond dim ond dechrau'r cymorth yw hyn.

Nid oes dull un ateb sy'n addas i bawb o fynd i'r afael ag absenoldeb, a bydd yn cymryd amser. Mae'r materion sy'n effeithio ar ddiffyg presenoldeb yn gymhleth, yn aml maen nhw'n gofyn am weithredu dwys, ac yn cynnwys cefnogaeth amlasiantaethol. Rydym yn gweld newid sylweddol yn y ffactorau allanol sy'n effeithio ar bresenoldeb ysgol ledled Cymru. Yn gynyddol, mae plant a phobl ifanc yn ymgyflwyno ag anghenion mwy cymhleth: heriau iechyd meddwl, problemau ymddygiadol, cyflyrau iechyd corfforol ac osgoi ysgol ar sail emosiynol. Nid yw'r materion hyn wedi'u hynysu, maent yn rhyng-gysylltiedig iawn ac yn cael effaith ddofn ar bresenoldeb. Ni all ein hymateb fod yn gosb. Rwyf eisiau parhau gyda'r dull partneriaeth rydym ni wedi'i fabwysiadu. Ni all ysgolion fynd i'r afael â'r heriau hyn ar eu pennau eu hunain. Mae angen cymorth cydgysylltiedig arnom ar draws addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei weld, ei gefnogi ac yn gallu ffynnu.

Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd. Mae angen i ni atgyfnerthu pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd ar gyfer cynnydd addysgol a datblygiad cymdeithasol, gan hefyd gydnabod ac ymateb i'r rhwystrau gwirioneddol y mae rhai plant yn eu hwynebu. Cefais yr anrhydedd o gynnal uwchgynhadledd ymddygiad genedlaethol ym mis Mai, gan weithio gyda phartneriaid allweddol i archwilio atebion cadarnhaol i'r heriau parhaus sy'n wynebu ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru. Y diwrnod ar ôl yr uwchgynhadledd, cyhoeddais bum cam gweithredu uniongyrchol sy'n amlinellu camau clir, pendant i wella ymddygiad mewn lleoliadau addysg ac i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar staff i droi ymrwymiad yn weithred. Mae'r camau hyn yn nodi dechrau taith a rennir i greu amgylcheddau lle gall pob dysgwr ffynnu a lle gall pob ymarferydd deimlo ei fod wedi'i rymuso. Er mwyn cyflawni newid cynaliadwy, rhoddais flaenoriaeth i waith cryfhau gweithio amlasiantaeth, gwella arweiniad a dysgu proffesiynol i ymarferwyr, rhannu arfer gorau a safoni adrodd am ddigwyddiadau i adeiladu system sy'n cefnogi dysgwyr ac yn grymuso y rhai sy'n arwain ac yn addysgu.

Yn gyntaf oll, mae pob ymarferydd a dysgwr yn haeddu amgylchedd diogel, parchus. Rydym yn cyflymu'r gweithredoedd bwrdd crwn ac uwchgynhadledd, gan weithio gyda phartneriaid i gryfhau dulliau amlasiantaeth a chymhwyso gwersi o strategaethau atal trais arloesol sy'n cael eu profi mewn ysgolion i ddiogelu llesiant ar draws ein cymunedau ysgolion. Gan adeiladu ar y momentwm hwn, sefydlais ddau fforwm ymroddedig i gyflymu cydweithredu a sbarduno atebion gyda rhanddeiliaid, arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol. Mae'r fforymau yn mynd i'r afael â dau fater o flaenoriaeth: y defnydd o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol mewn ysgolion, a'r heriau sy'n ymwneud â gwaharddiadau a chadw. Bydd dod â lleisiau amrywiol i'r bwrdd yn sicrhau bod mewnwelediadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn llunio'r camau nesaf. Fe wnes i hefyd drafod y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion gyda fy nghydweithwyr yng ngwledydd eraill y DU yn ddiweddar. Mae hwn yn fater yr ydym i gyd yn poeni amdano ac yn ymdrin ag ef, ac mae rhannu ein data tystiolaeth a gwerthuso yn ein helpu ni i gyd i ddeall yn well beth sy'n gweithio. Yn seiliedig ar y gwaith hwn, mae canllawiau cenedlaethol newydd ar ddefnyddio ffonau symudol, ynghyd ag adnoddau ymarferol ar gyfer ysgolion, yn cael eu cyd-gynhyrchu a byddant yn cael eu lansio yn gynnar yn y gwanwyn.

Ar yr un pryd, mae ein fforwm gwaharddiadau a chadw yn symud yn gyflym i adolygu'r canllawiau cyfredol a chryfhau dulliau ar gyfer rhannu arfer gorau, gan gynnwys mesurau ataliol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd y fforwm hefyd yn adolygu data cenedlaethol i nodi ffyrdd o leihau cyfraddau gwahardd. I ategu'r gwaith hwn, rydym yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid i ymestyn ymyraethau wedi'u targedu i leihau gwaharddiadau a gwella ymgysylltiad â dysgwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirdymor i system addysg gynhwysol.

Er mwyn gwella dysgu proffesiynol, lansiwyd pecyn cymorth ymddygiad newydd y tymor hwn, gan ddarparu adnodd cyfoethog o ymchwil ac arweiniad ymarferol i ysgolion ymateb i heriau parhaus. Dim ond y dechrau yw hyn. Mae'r pum cam gweithredu uniongyrchol yn nodi'n glir fy ymrwymiad i ddeialog barhaus, agored gydag ymarferwyr, rhieni a phlant a phobl ifanc. Ac rwy'n ysgogi rhaglen ehangach o ymgysylltu ag ymddygiad i godi'r lleisiau hyn. Daw'r atebion mwyaf effeithiol gan y rhai sy'n profi'r heriau hyn bob dydd a gyda'n gilydd, byddwn yn llunio dulliau sy'n cyflawni newid ystyrlon.

Rwy'n falch bod adroddiad diweddar Estyn 'Mewnwelediadau Cynnar 2024-2025' wedi tynnu sylw at y ffaith bod ymddygiad ac agweddau at ddysgu yn parhau i fod yn gadarnhaol ar draws sectorau, gydag athrawon yn cynnal perthynas adeiladol â disgyblion, yn rheoli ymddygiad yn effeithiol a chreu amgylcheddau dysgu cefnogol. Gan adeiladu ar y ciplun calonogol hwn, rwy'n bwriadu gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i gyflwyno cyfres o brosiectau treialu ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf i brofi ac arddangos dulliau arloesol, cynnar ac adferol o gefnogi ymddygiad mewn ysgolion. Yn ogystal, gan weithio gyda phartneriaid prifysgolion ledled Cymru, yr hydref hwn, byddwn yn lansio rhaglen ymgysylltu ag ysgolion, gan archwilio atebion ymarferol i fynd i'r afael ag ymddygiad.

Mae plant a phobl ifanc wrth wraidd y gwaith hwn, gyda'u lleisiau yn cael eu hyrwyddo gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys Senedd Ieuenctid Cymru, Plant yng Nghymru a Chomisiynydd Plant Cymru. Roeddwn yn falch iawn o fynychu Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Sadwrn i glywed gan eu Pwyllgor Troseddu a Diogelwch am eu hymgynghoriad diweddar ac i glywed am eu hargymhellion o'u hadroddiad pwerus. Denodd eu harolwg bron i 2,000 o ymatebion gan blant a phobl ifanc. Rwy'n croesawu'n fawr argymhellion y pwyllgor ar nifer o themâu clir, gan gynnwys polisïau cyson, cymorth iechyd meddwl a phwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol a gwrando ar bobl ifanc. Gwnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad, ac rwy'n falch iawn o'u derbyn i gyd. Mae adroddiad y pwyllgor yn enghraifft ragorol o lais disgyblion, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol ac yn llawn i'r holl argymhellion yn ysgrifenedig yn y flwyddyn newydd. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i weithio'n agos gyda Senedd Ieuenctid Cymru ar yr holl feysydd pwysig y maent wedi'u hamlygu.

Fel yr wyf wedi nodi, mae gwella presenoldeb ac ymddygiad mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru yn hanfodol i gefnogi ein pobl ifanc i ffynnu. Nid ydym yn hunanfodlon. Edrychaf ymlaen at barhau i adeiladu ar y blaenoriaethau a'r camau rydw i wedi siarad amdanynt heddiw i sicrhau y gallwn ni sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd ymgysylltu, lle mae pawb yn ddiogel, wedi'u cynnwys a'u clywed. Mae'r camau hyn wedi'u seilio ar ymrwymiad cryf i wrando, dysgu a chyd-greu atebion gyda'r rhai sydd fwyaf pwysig—ein hymarferwyr, ein dysgwyr a'n teuluoedd. Diolch.

16:35

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad y prynhawn yma. Mae ymddygiad gwael a phresenoldeb yn achos pryder mawr i ni i gyd, ac rwy'n ofni bod diffyg gweithredu llwyr wedi bod gan Lywodraeth Cymru ar hyn, er gwaethaf y darlun rhy wych o bethau yr ydym i gyd wedi'i glywed yma heddiw yn y Siambr. Mae trais o fewn ystafelloedd dosbarth ar lefel bryderus o uchel, mae'r amser sydd gan athrawon ar gyfer cyflwyno gwersi yn cael ei ddefnyddio i ymdrin â digwyddiadau, effeithir ar ddysgu disgyblion gan ymyriadau ac mae absenoldeb yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru naill ai'n amharod neu'n analluog i ymdrin â'r problemau mawr.

Dros chwe mis yn ôl, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei huwchgynhadledd ymddygiad genedlaethol yr oedd disgwyl mawr amdani. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro yma yn y Siambr mai dyma'r ateb i'n holl weddïau. Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n edrych fel bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ein camarwain ni oherwydd mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod wedi nodi'r pum cam gweithredu uniongyrchol yn dilyn y datganiad, ond, mewn gwirionedd, rwy'n teimlo eu bod nhw'n potsian ar yr ymylon, os hynny.

Ysgrifennydd Cabinet, ydw i'n iawn i ddweud nad oedd hyn yn ddim mwy nag ymarfer ticio blychau? Rwy'n siŵr eich bod chi'n mynd i geisio rhoi delwedd arall ar bethau pan fyddwch chi'n ymateb i mi yma, ond hoffwn wybod pa gamau penodol—ac rwy'n golygu penodol—camau cadarn y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn unol â'r uwchgynhadledd hon, oherwydd i mi mae'n edrych fel bod pethau'n cael eu hysgubo o'r neilltu, gyda fforymau newydd wedi'u creu a chanllawiau wedi'u rhoi i athrawon. Pa mor hyderus ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd hyn yn mynd yn ei flaen ac yn gwneud gwahaniaeth i'r problemau sydd gennym yma yng Nghymru?

Mae'n ffaith bod nifer y digwyddiadau treisgar mewn ysgolion wedi codi 37 y cant, i gyfanswm o 6,446 a adroddwyd yn 2023-24 yn unig. Mae'r niwed y mae hyn yn ei achosi i lesiant athrawon yn enfawr, Ysgrifennydd Cabinet, gyda Chymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn canfod bod 92 y cant o athrawon yn profi cam-drin geiriol a 35 y cant wedi profi cam-drin corfforol. Ysgrifennydd Cabinet, dywedodd 79 y cant o athrawon fod cam-drin geiriol a chorfforol yn effeithio ar eu morâl, dywedodd 65 y cant ei fod yn cynyddu lefelau straen a dywedodd 52 y cant o athrawon fod ymladd yn broblem ddyddiol neu wythnosol yn eu hysgol. Mae hyn i gyd yn arwain at 55 y cant o athrawon yn cyfaddef ei fod yn gwneud iddyn nhw feddwl am adael y proffesiwn yn ei gyfanrwydd.

Mae'r rhain yn ystadegau difrifol, Ysgrifennydd Cabinet; rwy'n siŵr eich bod chi'n dod ar eu traws drwy'r amser. Felly, hoffwn wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch a llesiant athrawon, gan y gallai methu â mynd i'r afael ag ymddygiad gwael mewn ysgolion arwain at nifer o athrawon yn gadael y proffesiwn, gan waethygu'r argyfwng recriwtio a chadw parhaus sydd gennym yma yng Nghymru. Yn y datganiad y prynhawn yma, rydych wedi sôn am gyfres o brosiectau treialu o ran ymddygiad mewn ysgolion, ond mae manylion manwl, yn anffodus, ychydig yn brin. Felly, a allwch chi ymhelaethu ar rai o'r prosiectau rydych chi wedi'u crybwyll yma heddiw, Ysgrifennydd Cabinet?

Fe wnaethoch chi sôn am ffonau symudol yn eich datganiad. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir ers y diwrnod cyntaf mai un fuddugoliaeth gyflym i ddatrys ein problemau yn ein hysgolion yw gwahardd ffonau symudol. Mae mwy a mwy o wledydd ledled y byd yn dechrau sylweddoli hyn, ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod gweithredu gwaharddiad o'r fath. Mae defnyddio ffonau symudol mewn ysgolion yn broblem gynyddol, gyda 77 y cant o ddisgyblion ysgol gynradd—ie, ysgol gynradd—yn mynd â ffôn i'r ysgol; mae'r ffigur hwnnw'n codi i 94 y cant pan edrychwn ar nifer y myfyrwyr ysgol uwchradd. Mae'r dystiolaeth am y niwed yn sgil defnyddio ffôn symudol yn yr ystafell ddosbarth yn glir iawn, Ysgrifennydd Cabinet, i ni i gyd ei weld.

Rydych chi wedi siarad am ddod â math newydd o ganllawiau yng ngwanwyn 2026 ar ddefnyddio ffôn symudol. Allwch chi roi rhyw fath o esboniad i ni ynglŷn â sut mae hynny'n mynd i edrych, oherwydd rydym ni'n mynd tuag at etholiad, felly rydw i eisiau sicrhau bod y canllawiau hyn yn glir i ni a'r etholwyr allan yna? Beth sy'n mynd i gael ei rannu ymhlith yr ysgolion allan yna hefyd, oherwydd mae angen i ni fynd ymhellach yma yng Nghymru?

Mae presenoldeb ysgol—rwy'n falch eich bod wedi cyffwrdd â hynny heddiw—yn broblem fawr arall sy'n wynebu ein system addysg, gyda mwy na 2 filiwn o ddiwrnodau ysgol wedi'u colli yn 2023-24 oherwydd absenoldebau anawdurdodedig yng Nghymru. Nid yn unig hynny, ond canfu Estyn fod canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd a oedd yn absennol am fwy nag 20 y cant o'r sesiynau wedi treblu, o 4.6 y cant i 16.3 y cant, rhwng 2018 a 2019. Rwy'n gwerthfawrogi COVID, felly rwy'n mynd i gymharu'r ffigur â 2022-23. Presenoldeb cyfartalog ysgolion yng Nghymru oedd 90.9 y cant ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25. Gall effaith absenoldeb o'r ystafell ddosbarth gael effaith ddifrifol ar ddysgu plentyn—rydym ni i gyd yn gwybod hynny yma. Rwy'n croesawu eich uchelgais i gael lefelau presenoldeb yn ôl i lefelau cyn COVID, Ysgrifennydd Cabinet, ond a oes gennych ddyddiad targed ar gyfer hyn? Rydych chi'n gwybod fy mod i'n hoffi fy nyddiadau, felly rydw i'n mynd i ofyn i chi am hynna.

Yn ôl penaethiaid, mae dau brif reswm dros gyfraddau presenoldeb isel. Rhif 1 yw cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n gwrthod mynychu'r ysgol neu sydd bellach yn aml yn absennol oherwydd problemau iechyd meddwl, a'r ail yw newid mewn diwylliant ymhlith rhieni, sy'n rhoi llai o bwys ar eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Mae'r cyllid ychwanegol hwn i helpu plant i ail-ymgysylltu â'r ysgol yn sicr yn mynd i gael ei groesawu, ond ydych chi'n hyderus y bydd yn arwain at hwb mawr? Ac os bydd yn digwydd, beth fydd camau nesaf Llywodraeth Cymru?

Ar wahân i'r cyllid, sut arall mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhieni ac arweinwyr ysgolion i fynd i'r afael â'r newid mewn agwedd, sydd wedi arwain at lai o bwyslais ar blant yn mynychu ysgolion? Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n dweud bod gwella presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion yn parhau i fod yn hanfodol, ac nad yw'r Llywodraeth hon yn mynd i fod yn hunanfodlon. Fodd bynnag, byddaf yn onest—nid wyf yn argyhoeddedig. Ac mae hynny, yn anffodus, yn wir yn seiliedig ar y diffyg camau gweithredu cadarn a diriaethol ar ran y weinyddiaeth hon hyd yn hyn. Felly, yn hytrach na gwastraffu amser tan etholiad y flwyddyn nesaf, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr addysg yma yng Nghymru y mae'n wirioneddol yn ei haeddu. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Natasha. Ni allwn anghytuno â chi mwy, mewn gwirionedd, sef bod diffyg gweithredu wedi bod. Ac nid wyf erioed wedi dweud y byddai'r uwchgynhadledd yn ateb i'n holl broblemau. Roedd yr uwchgynhadledd yn gam pwysig iawn wrth ddod â'n holl randdeiliaid at ei gilydd i geisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n wirioneddol gymhleth. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd, Natasha, nad oes gennych ddealltwriaeth dda o ba mor gymhleth yw'r materion sy'n ymwneud ag ymddygiad, oherwydd, pe baech chi'n eu deall, ni fyddech chi'n chwilio am un ateb syml yn y maes hwn.

Nodais y camau uniongyrchol ar ôl yr uwchgynhadledd—ac, unwaith eto, ni allai fod ymhellach o'r gwir nad oes gweithredu ar bob un o'r meysydd hynny. Yn gyntaf oll, thema gref iawn o'r uwchgynhadledd oedd yr angen am well gweithio amlasiantaeth i gefnogi ysgolion. Mae ysgolion yn teimlo eu bod yn gorfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb oherwydd bod amrywiaeth o sefydliadau eraill efallai yn tynnu'n ôl o ran eu cefnogi. Felly, fe wnes i fynd â phapur i'r Cabinet yn ddiweddar, a oedd yn ymwneud â'r pwysau cymdeithasol ar ysgolion. Mae swyddogion o dimau ledled Llywodraeth Cymru yn gweithio nawr i sicrhau bod polisïau trawsbynciol yn cyd-fynd mewn perthynas â'n gwaith ar ymddygiad. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a'r heddluoedd yng Nghymru i gefnogi gwell cydweithredu rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol ac ysgolion. Ac rydym ni'n gwneud hynny trwy ethos ein rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Ac rwy'n gweld y rhaglen honno nid yn unig yn agor neuaddau a chaeau chwarae a phethau felly; rwy'n gweld hynny fel stryd ddwyffordd wirioneddol rhwng ysgolion a'r gymuned.

A bydd y gwaith rydym ni'n ei wneud i fapio'r polisïau hyn yn cael ei gwblhau erbyn y gwanwyn. O ran canllawiau wedi'u diweddaru i sicrhau bod mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei fwrw ymlaen yn gyflym. Soniais am y fforwm ffôn symudol. Mae gennym un ar wahardd hefyd. Rydym eisoes wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar ymddygiad newydd—mae'n rhaid eich bod wedi methu hynny, Natasha—ym mis Medi 2025. Bydd ein canllawiau ar ffonau symudol yn lansio ym mis Chwefror 2026, a bydd ein canllawiau ar waharddiadau a chadw yn dilyn ym mis Mawrth 2026. Oherwydd dyna'r ffordd rydym ni'n gwneud pethau yng Nghymru, chi'n gweld. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gyd-gynhyrchu pethau, oherwydd dyna sut rydym ni'n credu ein bod ni'n cael y polisïau gorau.

O ran rhannu arfer gorau rhwng ysgolion yn lleol ac yn genedlaethol, mae gennym raglen waith dan arweiniad partneriaid addysg uwch bellach gydag ysgolion. Bydd ein dulliau ymchwilio proffesiynol y maen nhw yn arwain arnynt yn lansio ym mis Tachwedd, gydag allbynnau cychwynnol erbyn mis Mawrth 2026.

O ran yr ymrwymiad dysgu proffesiynol a wnes i yn yr uwchgynhadledd, fel y dywedais, rydym eisoes wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth ar ymddygiad, ac rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy'n gweithio gydag ysgolion ar ddatblygu dysgu proffesiynol, ac rydym hefyd wedi gofyn i Dysgu, ein corff dysgu proffesiynol newydd, fwrw ymlaen â'r gwaith hwn i ni.

Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ynghylch diffiniadau ac adrodd am ddigwyddiadau cyson, fel bod gennym ddata clir ar lefel awdurdod lleol a chenedlaethol. Dyna oedd y pumed ymrwymiad, ac mae hynny'n amlwg yn cyd-fynd â'n rhaglen bartneriaeth gwella ysgolion, a fydd yn rhoi cyfle i ni gael y data gwell hwnnw. Rydym yn edrych ar gyfres o dreialon. Mae un o'r cynlluniau treialu hynny yn ymwneud ag arferion adferol. Roeddwn i'n gallu mynd i Ysgol Uwchradd Islwyn ychydig yn ôl, lle gwelais yr arferion hynny ar waith ac fe wnaeth y rheini argraff fawr arnaf. Rydym ni hefyd yn edrych ar dreialon sy'n defnyddio'r gwasanaeth ieuenctid.

O ran presenoldeb, rydym wedi gweld cynnydd. Rwy'n credu bod hynny'n glir iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau croesawu hynny. Ond rydw i hefyd wedi bod yn glir bod mwy o waith y mae angen i ni ei wneud. Rydych chi'n iawn i sôn am iechyd meddwl fel ffactor mewn problemau gyda phresenoldeb. Rwy'n credu bod ein hanes ar gymorth iechyd meddwl i ysgolion o'r radd flaenaf. Mae gennym ddull ysgol gyfan o ran iechyd meddwl yng Nghymru, sy'n statudol. Rydym yn parhau i ymrwymo £14 miliwn y flwyddyn i hwnnw, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein dysgwyr.

Ond un o'r offer mawr sydd gennym ar gyfer hyn yw'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ac eleni rydym yn buddsoddi £3 miliwn ychwanegol yng ngwaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Y flwyddyn nesaf, bydd yr arian hwnnw'n cynyddu £1 filiwn arall. Mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny yn gweithio gyda rhai o'r teuluoedd sy'n profi'r rhwystrau mwyaf rhag i blant fynychu'r ysgol, ac maen nhw'n gweithio gyda nhw ar lefel fanwl iawn, boed hynny'n faterion sy'n ymwneud â thlodi, bod heb gôt ysgol, problemau gyda chludiant, problemau iechyd meddwl, problemau iechyd corfforol. Y dystiolaeth rydw i'n ei weld—ac mae gennym fforwm nawr lle rydym ni'n dod â'r holl swyddogion ymgysylltu â theuluoedd at ei gilydd, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwych iawn—yw eu bod yn gwneud gwahaniaeth, oherwydd maen nhw'n gwneud hynny trwy feithrin perthynas ymddiriedol â theuluoedd.

Rwyf eisiau mynd yn ôl i lefelau presenoldeb cyn y pandemig cyn gynted â phosibl. Dyna pam rydym ni'n parhau i fuddsoddi symiau mor sylweddol o gyllid yn y gwaith hwn.

16:45

Mae Plaid Cymru yn credu mewn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol presenoldeb ac ymddygiad gwael, fel tlodi, rhwystrau yn ymwneud â chludiant a chymorth teuluoedd, nid atebion dros dro yn unig. Wrth gwrs, rydym i gyd yn cytuno ar yr egwyddorion ynghylch mwy o bresenoldeb a gwell ymddygiad, ac yn cytuno ar yr angen i bob plentyn gael amgylchedd diogel, cefnogol lle gall ddysgu a ffynnu.

Ond nid yw'r realiti yn cyfateb i'r rhethreg rydym ni wedi'i glywed gan Lywodraeth Cymru ar y materion hyn. Mae presenoldeb wedi cael ei ailadrodd yn sylweddol yn y Siambr eisoes y prynhawn yma, ond dim ond i ailadrodd, rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni, parhaodd presenoldeb yn ein hysgolion i ostwng yn 2024-25. Dim ond 90.9 y cant oedd presenoldeb cyfartalog o'i gymharu â'r hyn yr oedd cyn y pandemig, sef 94.3 y cant. Rwy'n cydnabod, eich bod chi'n sylweddoli, bod y sefyllfa yn gwella ychydig, ond i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae'r darlun hyd yn oed yn waeth ac yn fwy heriol na hynny. Mae'n 85.2 y cant, i lawr o 91.2 y cant.

Fe wnaethoch chi ddweud wrth arweinwyr ysgolion yn y gynhadledd rhoi hwb i safonau ychydig yn ôl mai eich nod yw gweld presenoldeb yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych chi'n disgwyl cyrraedd y targed hwnnw neu a yw'n mynd i fod yn uchelgais arall a fethodd?

Rwy'n croesawu'r £1 filiwn ychwanegol rydych chi'n ei rhoi i'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Mae hynny'n fenter i'w groesawu. Felly, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: ynghylch y swyddogion hyn, pa asesiad sydd wedi'i wneud o'u heffaith hyd yn hyn? A oes cydberthynas uniongyrchol rhwng lefelau presenoldeb ychydig yn well a'r gwaith maen nhw'n ei wneud? Faint o ysgolion fydd yn elwa ar y £1 filiwn o gyllid ychwanegol hwn?

A beth am gludiant? Roedd adroddiad Estyn yn gynharach eleni yn tynnu sylw at gludiant fel rhwystr mawr rhag mynychu. Mae'n parhau i fod yn her barhaus, yn enwedig i ddisgyblion sy'n byw o fewn tair milltir i'r ysgol nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim. Eto, yn hytrach na gweithredu'n benderfynol, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yw ysgubo'r ymgynghoriad ar ganllawiau teithio i ddysgwyr o'r neilltu, a gwrthod gwneud hyn yn flaenoriaeth yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Y llynedd, roedd yn ymddangos fel pe bai Gweinidogion yn trosglwyddo'r broblem o un i'r llall, ond nawr nid ydynt hyd yn oed eisiau datrys y broblem o gwbl oherwydd nad yw hi yno yn y Bil bysiau. Felly, a fydd unrhyw beth yn newid ar deithio i ddysgwyr cyn etholiad mis Mai?

Gadewch i ni symud ymlaen at ymddygiad, sydd eto wedi cael ei grybwyll. Mae addewidion wedi'u gwneud, ond heb eu troi'n gynnydd. Datgelodd yr uwchgynhadledd ymddygiad, y cyfeiriwyd ato eto, yr hyn y mae athrawon wedi'i wybod ers blynyddoedd: nid yw'r sefyllfa yn gwella; os rhywbeth, mae'n gwaethygu. Awgrymwyd pedwar deg naw o gamau gweithredu, gan gynnwys pum cam ar unwaith. Felly, pa effaith y mae'r camau hyn wedi'i chael, a faint o'r 49 camau a awgrymir fydd yn cael eu gweithredu ac erbyn pryd? Oherwydd yn ddiweddar fe wnes i gwrdd ag athrawes a gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn digwyddiad treisgar yn ei hysgol. Mae hi'n ofni dychwelyd i'r ystafell ddosbarth oherwydd, hyd y gwyddom, nid oes canllawiau newydd wedi'u cyhoeddi ar ymdrin ag ymddygiad corfforol neu niweidiol difrifol.

Tynnodd adroddiad yr uwchgynhadledd sylw hefyd at gyfathrebu gwael rhwng rhanddeiliaid. Pa wersi ydych chi wedi'u dysgu o honno a sut gallwn ni wella cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid, yn enwedig rhannu gwybodaeth? Oherwydd mae'r Alban wedi dangos arweiniad ar faterion ymddygiad trwy arolygu ei gweithlu yn rheolaidd o ran tueddiadau ymddygiad a cham-drin i dargedu adnoddau yn effeithiol.

Ac yn olaf, mae llawer o hyn yn ymwneud â chyllid. Ym mhapur tystiolaeth cyllideb 2026-27 a gyflwynoch chi i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe wnaethoch chi sôn am £900,000 ar gyfer gwaith ymddygiad yn cael ei wario yn 2025-26, ond dim byd wedi'i ddyrannu ar gyfer 2026-27. Felly, beth yw'r cynllun y tu hwnt i'r flwyddyn honno?

Yn olaf, a gawsom ni unrhyw arian yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y dreth ar werth ar ysgolion annibynnol? Ydi'r arian hwnnw wedi dod i Gymru i gefnogi ein hysgolion? Diolch. 

16:50

Diolch yn fawr iawn, Cefin. Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y rhesymau pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol gymaint â hynny. Fe wnaethoch chi sôn am dlodi—mae hynny'n un allweddol. Nid oes gennym rai o'r ysgogyddion hynny. Ond rwy'n credu fel Llywodraeth bod gennym hanes cryf o gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi yn ein hysgolion. Mae gennym ein grant hanfodion ysgol. Mae gennym brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Ar hyn o bryd mae gennym gynlluniau treialu diogelu rhag tlodi sy'n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, ac rydym wedi cefnogi deunyddiau i ysgolion ynghylch cael gwared ar y stigma sy'n ymwneud â thlodi.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gludiant. Fel yr ydych wedi amlygu, dechreuodd yr ymgynghoriad ar y canllawiau gweithredol diwygiedig ar deithio gan ddysgwyr ar 11 Mehefin, ac mae hynny wedi'i ymestyn tan 28 Tachwedd. Fel y gwyddoch chi, mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn gyfrifoldeb i fy nghyd-Ysgrifennydd Ken Skates, ond rydym yn trafod y materion hynny'n rheolaidd iawn. Yn ôl yn yr haf, fe wnaethom gynnal uwchgynhadledd ar deithio gan ddysgwyr, a oedd yn gadarnhaol iawn o ran ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion cymhleth iawn sy'n bodoli ynghylch teithio gan ddysgwyr. Ac nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig, fel y gwn eich bod chi'n ymwybodol; mae hefyd yn ymwneud â mynediad at fysiau, i yrwyr, a phethau fel hynny sy'n achosi heriau. Byddwch hefyd yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi'r tocyn bws £1, a gobeithio y bydd yn help mawr i deuluoedd ac i bobl ifanc.

O ran effaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, yn amlwg rydym ar hyn o bryd yn y flwyddyn gyntaf o fuddsoddiad sylweddol yn y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, felly nid ydym wedi cael unrhyw werthusiad swyddogol eto. Ond, fel y dywedais i wrth Natasha, mae'r swyddogion hyn yn dod at ei gilydd yn rheolaidd fel fforwm cenedlaethol, rwyf wedi cwrdd â'r fforwm i gael adborth ar y gwaith maen nhw'n ei wneud, a'r holl adborth rwyf i'n ei gael gan ysgolion yw eu bod yn werth y byd. Oherwydd ei fod hefyd yn cymryd rhywfaint o'r baich oddi ar staff addysgu a fyddai fel arall yn gorfod canolbwyntio ar geisio cael plant i'r ysgol.

Nawr, mae'r cyllid ar gyfer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd—ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith bod y cyllid hwnnw'n mynd i fyny yn y gyllideb ddrafft—sy'n mynd allan ar hyn o bryd trwy grant addysg yr awdurdod lleol. Yr hyn rwy'n ymwybodol ohono yw bod amrywiaeth yn y ffordd y mae'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu i ysgolion ledled Cymru. Felly, mae yna wahanol ddulliau sy'n cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol. Er enghraifft, siaradais â rhai penaethiaid mewn un awdurdod, a dim ond ar gylch o bob ychydig fisoedd yr oeddent yn cael mynediad i'w swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Wel, yn amlwg, rôl y swyddogion hyn yw meithrin perthynas â theuluoedd, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion, ac maen nhw'n gwneud rhywfaint o waith i mi ar adolygu'r canllawiau hynny, fel y gallwn wneud yn siŵr bod pob ysgol yn gallu elwa ar hynny gymaint â phosibl.

O ran yr uwchgynhadledd ymddygiad, rwyf wedi nodi'n fanwl i Natasha y gwaith rydym ni'n ei wneud yn dilyn y gwaith hwnnw. Byddwn i'n ailadrodd nad oes unrhyw ran o'r gwaith hwn yn un ateb syml. Mae hyn i gyd yn gymhleth ac yn ymwneud â mynd i'r afael â'r materion amlochrog sy'n ymwneud â phroblemau ymddygiad. Mae'n ddrwg gen i glywed am yr athro. Rwyf eisiau i'n holl ysgolion fod yn lleoedd diogel, hapus i'n staff ac i'n disgyblion. Mae gennym ganllawiau eisoes ar arfau mewn ysgolion, a gall ysgolion eisoes wneud gwaharddiadau os bydd plentyn yn euog o fod ag arf. Mae ganddyn nhw hefyd bwerau i chwilio disgyblion. Felly, dyna ein hymyrraeth ddiogel ac effeithiol bresennol, ac mae hynny'n ymwneud â defnyddio grym rhesymol ac arweiniad o ran chwilio am arfau.

Rydym hefyd yn edrych ar beth mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwn yn y bwrdd crwn a gawsom ar drais mewn ysgolion, a oedd yn gadarnhaol iawn. Nid oedd yr heddlu yn creu darlun mor llwm â Natasha ynghylch trais gwirioneddol mewn ysgolion. Yn ffodus, mae'r digwyddiadau ofnadwy hyn, fel yr un y cyfeirioch ato, yn brin. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y rhan fwyaf o bobl yn cael profiad cadarnhaol mewn ysgolion. Ond mae Caerdydd, er enghraifft, newydd lansio canllawiau ar arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysgol, ac rydym yn edrych ar hynny a sut y gallwn gael canllawiau a allai fod yn berthnasol i Gymru gyfan, ond, yn amlwg, gan ystyried y ffaith y gall dinas fod â phroblemau gwahanol.

Fe wnaethoch chi siarad am yr Alban, a chyfarfûm â Gweinidog yr Alban ychydig wythnosau yn ôl. Daeth hi i lawr ar gyfer yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd gennym. Cefais drafodaeth gyda hi am lawer o bethau, ond gan gynnwys ymddygiad, a dydw i ddim yn meddwl ein bod ni mewn lle gwahanol iawn i'r Alban. Maen nhw hefyd yn cael heriau gydag ymddygiad. Fe wnaethom hefyd arolygu ein gweithlu cyn yr uwchgynhadledd. Gwnaethom arolwg cynhwysfawr. Roedd ganddo ymgysylltiad da iawn. Gallaf anfon dolen i hwnnw atoch. Roedd y canfyddiadau'n sobri rhywun. Dydw i ddim yn mynd i guddio rhag hynny. Ond gallaf anfon dolen atoch.

Gydag ymddygiad, nid yw'n ymwneud ag arian yn unig, o ran eich sylwadau am y gyllideb; mae'n ymwneud â newid ymarfer, onid yw, a gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Rydym wedi derbyn arian gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r newidiadau i TAW ar ysgolion preifat. Fe welwch yn yr un papur cyllideb bod rhywfaint o'r arian hwnnw wedi'i warchod ar gyfer lleoliadau arbenigol ôl-16. Fe wnaethom hefyd dderbyn cyllid canlyniadol sylweddol iawn ar gyfer addysg gan Lywodraeth y DU yn natganiad y gwanwyn. Yn amlwg, rydych chi'n ymwybodol iawn, ar hyn o bryd, fod gennym gronfa o £380 miliwn heb ei hymrwymo, a byddaf yn gwneud yr achos cryfaf posibl dros wario uchafswm o'r arian hwnnw mewn addysg.

17:00

Rydym ni wedi cymryd 39 munud, ac rydym ni wedi cael y ddau lefarydd. Byddwn yn gobeithio bod gennym gwestiynau ac atebion cryno gan y tri pherson sy'n weddill, os gwelwch yn dda, fel y gallwn gael popeth i mewn. Julie Morgan.

Diolch. Mae'n galonogol bod y ffigurau absenoldeb yn symud i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod hynny mewn ymateb i'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn y sector addysg.

Roeddwn i'n falch iawn o fynychu'r gwobrau bwyd a hwyl gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ychydig wythnosau yn ôl, lle cydnabuwyd y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ystod gwyliau ysgol. Rwy'n credu ei bod yn wych bod y bobl yno wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Yn ôl tystiolaeth anecdotaidd pan fydd plant yn mynychu sesiynau bwyd a hwyl neu weithgareddau tebyg yn ystod gwyliau'r ysgol, pryd maen nhw'n mynd i'r ysgol yn wirfoddol ac yn cael amser da ac yn cael rhai profiadau cadarnhaol iawn, mae hynny'n arwain at ostyngiad mewn absenoldeb. Roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw dystiolaeth ynghylch hynny, neu a ydych chi wedi gallu gwneud unrhyw ymchwil ddilynol, neu yn wir a oedd unrhyw weithgareddau eraill o'r fath wedi arwain at welliant.

Diolch yn fawr iawn, Julie. A gaf i ddiolch i chi hefyd am y gwaith a wnaethoch wrth adolygu ein rhaglen bwyd a hwyl i ni? Arweiniodd hynny at £1 miliwn ychwanegol o gyllid, gan fynd â chyfanswm yr arian ar fwyd a hwyl i bron i £6 miliwn. Rwy'n falch hefyd mai un o'ch argymhellion oedd cael y gwobrau i'r gweithwyr bwyd a hwyl. Dydyn ni ddim yn cydnabod pobl ddigon am y gwaith da maen nhw'n ei wneud. Roedd yn wych eich bod chi wedi gwneud hynny, ac yn wych eich bod chi ar y panel beirniadu. Roedd yn wych dathlu'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ym mywydau plant a phobl ifanc.

Nid wyf yn ymwybodol bod gennym unrhyw fath o dystiolaeth feintiol, ond rwy'n credu bod yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd bod hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i blant a phobl ifanc. Roedd y cynllun bwyd a hwyl yr es i i'w weld eleni yng Nghefn-y-pant yng Nghaerffili. Roedd y staff yno yn dweud wrthyf eu bod nhw'n dechrau cyn gynted ag y bydd y tymor ysgol yn dod i ben, oherwydd roedden nhw'n dweud pe bai yna fwlch, byddech chi'n colli'r plant hynny am yr haf. Rwy'n credu bod pethau fel hynny yn dangos ei fod yn ymwneud â dal gafael ar y plant a'r bobl ifanc hynny. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynyddu'r buddsoddiad, diolch i'r gwaith a wnaethoch.

Mae'n ymwneud â darlun ehangach o gyfoethogi, onid yw? Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cyfoethogi yn ystod y tymor hefyd, oherwydd rydym yn gweld tystiolaeth gynyddol os oes yna bethau y mae plant eisiau eu gwneud pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol, maen nhw'n fwy tebygol o ddod i'r ysgol i roi cynnig ar wahanol bethau. Mae hefyd yn rhan o adeiladu perthnasoedd, a dyna oedd un pwynt a wnaed gan Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Sadwrn.

17:05

Mae'n well gen i siarad yn hyderus ac yn gadarnhaol iawn am ddisgyblion. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, am ddau ddiwrnod yr wythnos, rwyf wedi bod yn mynychu dwy ysgol yn fy etholaeth i gyda phrosiect llythrennedd. Rwy'n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch yn cytuno â mi bod yn rhaid i ni anfon llongyfarchiadau mawr at ddisgyblion, rhieni ac athrawon Ysgol Gymraeg Caerffili am gyflawni cyfradd presenoldeb rhagorol o 98.2 y cant ym mis Medi, ymhell uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'n gyflawniad rhyfeddol ac yn dyst i ymroddiad disgyblion, teuluoedd a staff sy'n gweithio gyda'i gilydd. Dylai'r hyn a welwn yno ysbrydoli, rwy'n credu, bob ysgol ar draws Caerffili a Chymru. Mae perthnasoedd cryf gyda theuluoedd ac amgylchedd croesawgar yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Mae Ysgol Gymraeg Caerffili yn dangos ei bod hi'n bosibl pan fo'r buddsoddiad yn y lle iawn. Er fy mod yn gwerthfawrogi mai awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n penderfynu sut orau i ddefnyddio'r cyllid gan swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o'r £7 miliwn a gyhoeddwyd heddiw fydd yn cael ei ddyrannu—wrth gwrs, byddaf yn dweud hyn—i ardal bwrdeistref sirol Caerffili, neu a yw'n destun proses gynnig?

Diolch yn fawr iawn, Lindsay, a diolch am y gwaith rydych chi'n ei wneud mewn ysgolion ar lythrennedd. Rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac rwy'n falch iawn o ychwanegu fy llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Caerffili. Mae'n wych eu gweld yn cael yr holl sylw cadarnhaol hwnnw yn y cyfryngau heddiw. Rwy'n deall eu bod wedi gwneud y cynnydd hwn nid yn unig trwy berthnasoedd cryf, ond trwy weithgareddau cyfoethogi rhagorol, sy'n profi'r pwynt, mewn gwirionedd.

O ran swyddogion ymgysylltu a theuluoedd, mae'r £7 miliwn yn arian yn y flwyddyn ariannol hon—mae hynny'n £3 miliwn ar gyfer swyddogion ymgysylltu a theuluoedd, a bydd hynny'n mynd i fyny i £4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r arian yn mynd allan trwy'r grant addysg awdurdodau lleol, ac mae hynny'n mynd allan ar sail fformiwla. Ni fydd yn rhaid iddynt gynnig amdano, a gallaf ysgrifennu atoch yn ddiweddarach pan fyddwn yn gwybod beth fydd y dyraniad ar gyfer Caerffili.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n awyddus i glywed mwy am y gwobrau bwyd a hwyl rywbryd eto.

Rwyf eisiau siarad am y cysylltiad clir rhwng ymddygiad gwael a maeth gwael. Amlygodd Kevin Morgan yn ei lyfr, Serving the Public, fod yr hap-dreial rheoledig dall yn y sefydliad troseddu ieuenctid yn Aylesbury wedi arwain at welliant sylweddol iawn yn ymddygiad y troseddwyr gwaethaf a dderbyniodd atchwanegiadau maethol ychwanegol, sef 38 y cant. Anwybyddodd y gwasanaeth carchardai hwn yn llwyr, er ei fod yn cael ei gefnogi gan David Ramsbotham, sy'n ôl pob tebyg yr arolygydd carchardai mwyaf disglair.

Yn yr un modd, yn fwy diweddar, dangosodd Patrick Holden, y ffermwr organig yn sir Gaerfyrddin, mewn seminar ar-lein, lawysgrifen plentyn ymhell ar ei hôl hi o'i chymharu â'i oedran cronolegol, gyda gwelliannau enfawr ac amlwg yn ei lawysgrifen pan gafodd fwyd gwell o lawer.

Tybed a oedd hyn yn cael ei drafod o gwbl yn eich uwchgynhadledd ymddygiad cenedlaethol. Hefyd, pa effaith, os o gwbl, mae prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd wedi'i chael ar bresenoldeb? Ac yn olaf, a fyddwch chi'n ystyried prosiect treialu i brofi effaith bwyd maethlon ar wella ymddygiad ymhlith disgyblion fel un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem wirioneddol ddifrifol?

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am y pwyntiau yna. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r ymchwil honno, felly mae hynny'n ddiddorol iawn. Rwy'n cytuno â chi, yn amlwg, ynglŷn â phwysigrwydd maeth o ansawdd uchel. Byddwch yn ymwybodol ein bod yn newid ein rheoliadau bwyd iach mewn ysgolion cynradd. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n falch pan welwch ganlyniad hynny.

Rydym ni hefyd yn gwneud gwaith ar ysgolion uwchradd, lle mae pethau ychydig yn fwy cymhleth oherwydd y maint o alluedd sydd gan bobl ifanc a'r diwylliant bachu bwyd a mynd hwnnw. Ond rydym ni eisiau, yn enwedig lle rydym ni'n buddsoddi symiau sylweddol o arian, i blant a phobl ifanc gael y pryd iachaf posibl. Byddaf yn ystyried yr hyn a ddywedoch am brosiect treialu, oherwydd nid wyf yn wyddonydd data ac rwy'n credu y gallai hynny fod yn beth eithaf anodd ei fesur. Ond rwy'n hapus iawn i ystyried hynny.

Yr hyn rydw i wedi'i weld gyda'r prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yw bod plant yn mwynhau cael eu ciniawau iach. Byddwn yn gwneud y rheini yn fwy iach. Mae gennym fwy o waith i'w wneud o hyd o ran y plant sy'n dod â phecyn cinio, rhai ohonynt ddim yn arbennig o iach, felly mae mwy o newid diwylliant yno. Ond byddaf yn sicr yn siarad â swyddogion ynghylch a oes unrhyw beth i'w wneud a allai fesur y cysylltiad. Ond rwy'n credu ei fod wedi'i sefydlu'n dda bod bwyd o ansawdd uchel yn well i ni mewn amrywiaeth o ffyrdd, onid yw?

17:10
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwella Amseroedd Aros
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod

Felly, symudwn ymlaen, ac eitem 7 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 17:11:19
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i annerch Aelodau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd o ran amcanion ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26, a'n hadroddiad blynyddol glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae adroddiad blynyddol cynghorydd cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd wedi'i gyhoeddi.

Glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yw ein mecanwaith cydweithredol i gyflawni'r strategaeth genedlaethol, mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru, cyrff cyhoeddus a phartneriaid cyflenwi arbenigol ledled Cymru. Mae'r adroddiadau hyn yn dangos ehangder y gwaith i wireddu ein gweledigaeth gyffredin o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw a merch. Unwaith eto, fe welwn ni fod trais yn erbyn menywod wedi cyrraedd epidemig, ac unwaith eto rwy'n dod o'ch blaen i dynnu sylw at effaith ddinistriol trais yn erbyn menywod.

Ddeng mlynedd ers i'r Senedd gytuno ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, amcangyfrifodd arolwg troseddau Cymru a Lloegr fod 1.6 miliwn o fenywod 16 oed a throsodd wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, sy'n atgof creulon o ba mor eang yw'r mater hwn o hyd—ac i rai, mae'r canlyniadau'n angheuol. Ers 2015, mae tua 800 o fenywod yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu lladd mewn llofruddiaeth ddomestig, yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond mae gwir effaith cam-drin domestig hyd yn oed yn fwy. Mae ffigyrau o'r Prosiect Lladdiadau Domestig, a ariennir gan y Swyddfa Gartref ac a arweinir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, yn dangos bod mwy o bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn cyflawni hunanladdiad nag sy'n cael eu lladd gan eu partner. Rhwng 2020 a 2024, roedd 1,012 o farwolaethau yn gysylltiedig â cham-drin domestig, gan gynnwys 354 achos o hunanladdiadau a 332 o laddiadau—gwirioneddol ddychrynllyd.

Nid ystadegau yn unig yw'r rhain; maen nhw'n fywydau wedi'u colli, teuluoedd wedi'u chwalu a dyfodol wedi'u dwyn. Y tu ôl i bob rhif mae stori: 'Dw i'n dioddef o ôl-fflachiau ofnadwy ar ôl i fy nghyn-gariad geisio fy lladd i', 'Mi wnaeth o fy nghuro i fel taswn i'n anifail', 'Gwnaeth i gam-drin gan fy nghariad wneud imi deimlo'n ddiwerth'. Dyma leisiau'r goroeswyr, pob un yn ein hatgoffa ni o effaith barhaol cam-drin a'r angen brys am gefnogaeth. Mae ymagwedd system gyfan at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn gofyn i bob rhan o'r system wneud ei rhan.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Emma Wools, comisiynydd yr heddlu a throseddu a minnau, gynnull bron i 100 o arweinwyr y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ledled Cymru ar gyfer uwchgynhadledd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd hon yn alwad am weithredu i brysuro cynnydd ac i gydnabod bod mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yn gofyn am arweinyddiaeth gref, effeithiol ar bob lefel o'n gwasanaeth cyhoeddus. Roedd lleisiau goroeswyr wrth wraidd y digwyddiad. Fe hoffwn i ddiolch i'r rhai sydd â phrofiad byw o'n panel craffu a chynnwys lleisiau goroeswyr, a rannodd eu straeon yn ddewr fel y gallwn ni ddysgu o'u profiadau a nodi bylchau yn ein hymateb a'n cyfrifoldebau ar y cyd. Fe glywsom ni rai straeon gan oroeswyr cryf eto yr wythnos diwethaf yn ein gwylnos y tu allan i'r Senedd. Rhaid i ni gryfhau ein hymateb i bob marwolaeth sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig, nid yn unig i'w hatal, ond i sicrhau yr ymchwilir iddyn nhw yn rhan o'r cyd-destun ehangach o ymddygiad rheoli neu orfodi, a bod y camdrinwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. Yng Nghymru, mae gennym ni gyfle gyda'n proses adolygu diogelu unedig sengl i adnabod dysgu yn gyflym, meithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod digwyddiad a pham, a darparu cynllun gweithredu clir i wella gwasanaethau.

Byddaf yn cyhoeddi canllawiau statudol cyn bo hir ar gyfer datblygu strategaethau lleol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd y canllawiau hyn yn nodi'n glir yr hyn yr wyf yn disgwyl ei weld gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n datblygu eu rownd nesaf o strategaethau lleol neu ranbarthol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n annog rhanddeiliaid i ymateb.

Mae graddfa'r her yn enfawr. Rhaid i ni wneud mwy o gynnydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi heddiw chwistrelliad o £2.4 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau therapiwtig arbenigol i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan drais a cham-drin rhywiol. Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i alluogi pedwar sefydliad sector arbenigol yng Nghymru i ehangu'r ddarpariaeth gwasanaethau therapiwtig yn sylweddol, ac mae'n golygu y bydd tua 2,500 o oroeswyr yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei hangen arnyn nhw. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant o £4.2 miliwn i Stori Cymru ar gyfer prosiect addysg Cwtch, diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb ledled Cymru. Mae'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol yn nodi dysgu craidd, sy'n anelu at fynd i'r afael â materion difrifol, fel casineb at fenywod a diogelwch ar-lein, ac mae'n glir y dylid cefnogi dysgwyr i gydnabod pob math o wahaniaethu ac aflonyddu, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae cynnydd yn golygu herio'r naratifau sy'n ffurfio dealltwriaeth y cyhoedd o drais yn erbyn menywod. Rhaid i ni gyflwyno darlun unedig a chywir, gan ganolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd ar fynd i'r afael â'i wir achosion. Mae'r treisio hiliol diweddar o fenyw yn Walsall yn atgof creulon: mae'r digwyddiad erchyll hwn yn tynnu sylw at sut y gall hiliaeth a chasineb at fenywod orgyffwrdd gyda chanlyniadau dinistriol. Mae'n alwad sobreiddiol i wynebu nid yn unig trais ar sail rhywedd, ond hefyd y naratifau hiliol sy'n dwysáu niwed ac yn tawelu goroeswyr.

Wrth i ni edrych ymlaen, fe hoffwn i ddiolch i Yasmin Khan am ei harweinyddiaeth yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd cenedlaethol. Rwy'n falch iawn y bydd Johanna Robinson yn parhau â'r gwaith hwn wrth iddi ddechrau ei hail dymor fel cynghorydd cenedlaethol. Fe hoffwn i gydnabod y sector ymroddedig trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol  ledled Cymru, y mae ei waith yn hanfodol wrth gefnogi goroeswyr ac eiriol dros newid. Mae hyn yn cynnwys y llinell gymorth Byw Heb Ofn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Gymorth i Ferched Cymru, a dderbyniodd dros 28,000 o ymholiadau yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025.

Ledled Cymru heddiw a dros yr 16 diwrnod nesaf o weithredu, mae llawer iawn o weithgarwch yn digwydd i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o ddileu pob math o drais a chamdriniaeth. Diolchaf i'r Aelod o'r Senedd Joyce Watson am ei harweinyddiaeth gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Menywod a BAWSO am drefnu gwylnos drawsbleidiol rymus ddydd Llun diwethaf a'r seremoni aml-ffydd yn eglwys gadeiriol Llandaf, y bu i'r ddwy ohonom ni eu mynychu. Mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cymru i fudiad byd-eang, sy'n cael ei hyrwyddo gan y Cenhedloedd Unedig, i sicrhau cydraddoldeb rhywiol a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Fodd bynnag, rhaid i weithredu fynd y tu hwnt i hyn. Rwy'n aros am gyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod a merched Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

Rwy'n sefyll wrth fy ymrwymiad, Ddirprwy Lywydd, i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Diolch yn fawr.

17:15

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am ddatganiad y prynhawn yma ar y pwnc hynod bwysig hwn. Fe hoffwn i hefyd dalu teyrnged enfawr i waith caled ac ymroddiad yr Aelod o'r Senedd Joyce Watson am ei gwaith gwych yn y maes hwn. Rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, Joyce, waeth beth fo'r wleidyddiaeth bleidiol. Rwy'n eich canmol chi.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn broblem fawr yn y gymdeithas heddiw, ac mae'n amlwg bod angen i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth gymryd camau beiddgar i'w atal. Mae bron i un o bob tair menyw wedi dioddef trais personol corfforol a/neu rywiol gan bartner, trais rhywiol gan rywun nad yw'n bartner neu'r ddau o leiaf unwaith yn eu hoes. Cymerwch eiliad a meddyliwch am hynny, bawb: un o bob tair menyw. Dylai'r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun danio rhywbeth ym mhob un ohonom ni i weithredu nawr wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.

Ysgrifennydd Cabinet, dylai menywod a merched yng Nghymru a thu hwnt allu byw eu bywydau bob dydd heb ofn cam-drin a thrais. Eto rydym ni'n gwybod, yn anffodus, nid yw hynny'n wir fel y mae pethau ar hyn o bryd. Ystyriwch drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft. Mae trais yn erbyn menywod a merched ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn cynyddu, gyda mwy nag 11,000 o droseddau wedi'u cofnodi y llynedd yn unig. Yng Nghymru yn benodol, mae troseddau rhywiol ar drenau ac mewn gorsafoedd wedi cynyddu 29 y cant ers y flwyddyn ddiwethaf, ac nid trenau yn unig, Ysgrifennydd Cabinet, rydym ni wedi clywed straeon dirdynnol, fel menyw yn dioddef ymosodiad rhywiol mewn gorsaf fysiau wrth ddarllen llyfr, troseddwr yn agosáu at ferch ysgol ar fws ac yn gofyn iddi berfformio gweithred rywiol arno, a menyw yn dioddef ymosodiad rhywiol yng nghanol gorsaf fysiau brysur. Mae diogelwch menywod yn hawl, nid yn fraint, ac ni all hyn barhau.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel yr heddlu, Trafnidiaeth Cymru a chwmnïau bysiau i sicrhau bod menywod a merched yn ddiogel wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? A fydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o fuddsoddiad i sicrhau bod pethau fel camerâu teledu cylch caeedig digonol, goleuadau ac atalyddion ledled Cymru?

Fe wyddom ni fod yna amharodrwydd i adrodd am ddigwyddiadau yn aml gan fod rhai menywod yn teimlo na fydd eu cwyn yn cael ei chymryd o ddifrif, neu, yn wir, maen nhw'n teimlo embaras am siarad. Unwaith eto, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid ym mhob maes o gymdeithas i chwalu'r rhwystrau hyn?

Dim ond yn fyr, Ysgrifennydd Cabinet, fe hoffwn i siarad am oleuadau stryd, neu yn hytrach, eu diffyg. Mae'n fater sy'n cael ei godi gyda mi dro ar ôl tro gan fy etholwyr, yn enwedig y rhai yng Nghasnewydd, ond rwy'n siŵr ei fod yn bryder tebyg mewn llawer o'n cymunedau ym mhob cwr o Gymru. Mae rhai awdurdodau lleol wedi bod yn cwtogi ar oleuadau stryd mewn ymgais i arbed arian, byddwn i'n dadlau ar draul diogelwch. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda holl awdurdodau lleol Cymru i adnabod mannau tywyll posibl, ac arfogi cynghorau â'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod gennym ni oleuadau digonol?

Nawr, pwyslais eleni Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod yw cam-drin digidol. Mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi'i wynebu ar ryw adeg neu'i gilydd, ac mae yna lawer o wahanol raddau o gam-drin ar-lein. Gall amrywio o sylwadau sy'n llawn casineb at fenywod a sylwadau anghwrtais, ac ar y llaw arall pornograffi dial a phopeth arall rhwng y ddau begwn.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i amlinellu ychydig o ystadegau sy'n dangos mewn difrif ddifrifoldeb y sefyllfa yr wyf newydd sôn amdani. Mae hyd at 95 y cant o'r holl luniau ffugiadau dwfn ar-lein yn ddelweddau pornograffig nad ydyn nhw'n gydsyniol, gyda thua 90 y cant ohonyn nhw'n darlunio menywod. Mae saith deg tri y cant o newyddiadurwyr benywaidd yn dweud eu bod wedi profi trais ar-lein. Mae un o bob tair menyw yn y Deyrnas Unedig wedi profi cam-drin ar-lein, gyda dim ond 9 y cant o ferched a menywod ifanc yn y Deyrnas Unedig yn teimlo'n hollol ddiogel ar-lein.

Mae'r cyfrifoldeb am ddiogelwch ar-lein yn cael ei rannu rhwng llawer o wahanol asiantaethau, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ofcom. Ond pa gamau rhagweithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gadw menywod a merched yn ddiogel ar-lein? Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi adrodd bod cyllid ar gyfer darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn ddarniog ac yn anghyfartal, er gwaethaf ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wella atal ac ymyrraeth gynnar. Mae llawer o wasanaethau arbenigol yn derbyn ychydig neu ddim cyllid pwrpasol ar gyfer gwaith gyda phlant, Ysgrifennydd Cabinet. Mae gwasanaethau arbenigol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn wynebu cylchoedd ariannu tymor byr anghynaladwy, gan effeithio ar gadw staff ac ansawdd y ddarpariaeth. Mae hyn yn tanseilio atal, amddiffyn ac, yn y pen draw, adferiad. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyllid hirdymor, traws-adrannol ar gyfer trais plant yn erbyn menywod, cam-drin domestig a gwasanaethau cam-drin rhywiol, gan roi terfyn ar ddibyniaeth ar grantiau a chynlluniau peilot tymor byr?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, fe hoffwn i drafod dyfarniad y Goruchaf Lys bod menyw yn cael ei diffinio gan ryw fiolegol yn unig. Mae wedi bod yn fwy na chwe mis ers y dyfarniad hwn, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod hawliau menywod a merched yn cael eu diogelu. Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cytuno â'r Prif Weinidog bod y mater hwn yn ddim mwy na rhyfel diwylliant, neu a ydych chi'n cytuno â mi bod amddiffyn ein menywod yn hollbwysig? Pryd allwn ni ddisgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu ar ddyfarniad y Goruchaf Lys? Oherwydd yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau y dylai pob menyw yng Nghymru gael mynediad at fannau un rhyw, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, ystafelloedd newid, llochesi i fenywod a wardiau ysbyty. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i'm datganiad heddiw, a diolch i chi am godi materion pwysig rydym ni'n mynd i'r afael â nhw. Mae'n ddull system gyfan, trawslywodraethol, traws-sector rydym yn ei gymryd gyda'r strategaeth bwysig, o ran cyflawni ein deddfwriaeth arloesol, 10 mlynedd ers y Ddeddf trais yn erbyn menywod,  cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Byddaf yn dechrau gyda'ch pwynt am drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle rydym ni, unwaith eto, yn gweithio'n agos ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac i gydnabod bod hyn yn rhywbeth rydym ni'n mynd i'r afael ag ef. Rydym ni'n mynd i'r afael ag ef oherwydd ei fod yn rhywbeth lle, fel rydych chi wedi disgrifio, mae'r digwyddiadau oedd yn ffrwyth ymchwiliad diweddar gan y BBC, yn seiliedig ar ddata a gafwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth, wedi datgelu bod adroddiadau o ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu ar drenau ledled yr Alban, Lloegr a Chymru wedi cynyddu 37 y cant ers 2015, felly mae'n flaenoriaeth, diogelwch menywod a merched rhag cam-drin mewn mannau cyhoeddus a phreifat. Rydym ni wedi ymestyn ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ogystal â mynd i'r afael â cham-drin domestig. Un o'n ffrydiau gwaith glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yw aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus. Mae yna uwchgynhadledd trafnidiaeth ym mis Tachwedd sydd â'r cyfle ac a fydd yn ystyried diogelwch menywod a merched ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n dda cael y cwestiwn hwnnw heddiw i ddangos y pwysigrwydd ac y gallwn ni hefyd fynd i'r afael â hyn o ran yr adroddiadau am y trais cynyddol hwnnw yn erbyn merched a menywod. Yr hyn sy'n dda yw bod y ffrwd waith wedi sefydlu perthynas â Trafnidiaeth Cymru i adnabod cyfleoedd newydd i gydlynu a datblygu camau gweithredu ledled Cymru.

Fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater pwysig o ddiogelwch ar y strydoedd. Mae diogelwch ar y strydoedd yn bwysig iawn, ac, wrth gwrs, mae hynny'n gyfrifoldeb awdurdodau lleol, llywodraeth leol, ond mae llywodraeth leol yn ymwneud yn llawn â'n ffrydiau gwaith ac, yn wir, yn aml, aelodau'r cabinet ledled Cymru, yr wyf yn cwrdd â nhw drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n gyfrifol am gydraddoldeb a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sydd hefyd yn codi'r materion hyn ac sydd hefyd yn cymryd yr awenau. Ond rwy'n awyddus i adrodd hefyd ein bod yn bartner allweddol, fel Llywodraeth Cymru, yn y gwaith o gyflwyno polisïau strydoedd mwy diogel a blaenoriaethau plismona lleol, ac mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, troseddau cyllyll ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r genhadaeth honno'n ymgysylltu'n agos â'n cydweithwyr yn y maes plismona i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cymunedau Cymru. Mae'n ymwneud â'r bartneriaeth atal ar gyfer dyfodol pobl ifanc, canolfannau dyfodol pobl ifanc a sut y byddant yn gweithio. Ac mae'r genhadaeth strydoedd mwy diogel hefyd yn darparu cyllid fel y gallwn ni edrych ar hyn o safbwynt yr ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i haneru trais yn erbyn menywod a merched yn eu strategaeth trais yn erbyn menywod a merched sydd ar fin cael ei chyhoeddi.

Fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater parhaus a chynyddol o niwed a cham-drin ar-lein, y niwed a'r cam-drin ar-lein sy'n gysylltiedig â thechnoleg. Ac fe wnaethon ni drafod hyn— rwy'n siŵr y bydd mwy o sylwadau a chwestiynau heddiw amdano—roedd yn nodwedd fawr o'r digwyddiad ddydd Llun diwethaf, a gadeiriwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched gyda chefnogaeth a chydweithrediad Joyce Watson. A hefyd fe wnaethon ni ei drafod heddiw yn eglwys gadeiriol Llandaf yn ein digwyddiad. Hefyd, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod nad yw llawer o niwed ar-lein byth yn cael ei hadrodd i'r heddlu, i gyflogwyr, i ysgolion ac i rieni, ac rydym mi wedi clywed, wrth gwrs, beth yw effaith bosib hyn ar ein plant a'n pobl ifanc. Gall achosi niwed sylweddol i ddioddefwyr, yn uniongyrchol ac yn y tymor hir. Felly, rwy'n credu mai'r pwynt yr hoffwn i ei wneud ar y mater hwn yw fy mod wedi dod â hyn i sylw Ofcom, y rheoleiddiwr, o ran y Bil ar-lein newydd, ac mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn cadw golwg ar hynny. A heddiw mae Ofcom wedi cynhyrchu canllawiau i ddarparwyr technoleg ynghylch mynd i'r afael â chynnwys a gweithgarwch niweidiol sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Fe wnaethom ni gyfrannu at y drafft a byddaf yn adolygu'r canllawiau hyn yn fanwl. Mae'n iawn bod yn rhaid i gwmnïau technoleg gynyddu eu hymdrechion i fynd i'r afael â throlio a cham-drin gwenwynig menywod ar-lein. Cyfrifoldeb pawb yw hyn.

O ran eich cwestiwn olaf, rydym ni'n disgwyl, wrth gwrs, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried y cod ymarfer yr ymgynghorwyd arno, a gyflwynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae bellach gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'w ystyried.

17:25

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, mae angen i ni gyd fyfyrio ar effaith enbyd trais yn erbyn menywod, ar bob un y mae'n ei gyffwrdd, yn oroeswyr, yn blant, yn deulu a ffrindiau, ac yn arbennig i gofio am y rhai sydd wedi colli eu bywydau. Roedd yn fraint mynychu'r noswyl ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf a drefnwyd gan Sefydliad y Merched a Joyce Watson, ac i glywed y straeon grymus yna gan oroeswyr, a chlywed yr hyn roedden nhw'n teimlo oedd angen newid.

Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch am waith diflino'r gwasanaethau arbenigol, y gweithwyr cymorth rheng flaen a'r gwirfoddolwyr ar draws ein cymunedau sy'n darparu cefnogaeth a gobaith a dyfodol i'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin. Rwy'n cael y fraint o glywed am eu gwaith a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu yn y grŵp trawsbleidiol, ac mae eu hymroddiad a'u dygnwch yn wyneb yr heriau hynny yn achub bywydau, yn llythrennol. 

Ond mae heddiw hefyd yn ymwneud â chydnabod lefel y trais yn ein cymdeithas, ac rŷch chi wedi cyfeirio at hynny. Mae gormod o ferched yng Nghymru yn dal i fyw heb yr hawl sylfaenol i fod yn ddiogel ac i fyw heb ofn. Mae'r data'n dangos bod trais yn erbyn menywod yn broblem gymdeithasol niweidiol a pharhaus, ac mae ei wreiddiau'n ddwfn mewn anghydraddoldeb a misogyny.

Mae’n rhaid inni edrych hefyd ar y cyllid cynaliadwy sy’n gwbl hanfodol ar gyfer gwasanaethau arbenigol, fel y gall sefydliadau gynllunio'n hirdymor a medru cadw eu staff profiadol ac ymroddedig. Rhaid i gyllid adlewyrchu cost wirioneddol darparu gwasanaethau a chydnabod hefyd yr anghenion ychwanegol hynny sydd gan fenywod sydd wedi'u hymylu, gan gynnwys menywod anabl, menywod sy'n fudwyr, menywod hŷn ac aelodau o'r gymuned LHDTC+. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau hynny, yn enwedig pan fo Llywodraeth Lafur San Steffan yn codi cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ar ddarparwyr gwasanaethau wedi eu comisiynu a gwasanaethau cefnogi y trydydd sector? Mae hyn wedi creu heriau mawr iddynt, felly sut mae’r gwaith yma yn cael ei adlewyrchu yn y cyllid sy'n cael ei ddyrannu gan y Llywodraeth? 

Mae’r goroeswyr hefyd wedi dweud sut y gall llywio'r system gyfiawnder fod yn drawmatig. Mae llawer yn gweld eu hachosion yn cael eu gollwng neu'n cymryd blynyddoedd maith. Os ydym am i Gymru ymateb i’w profiadau, a darparu ymateb sydd wedi'i wreiddio mewn ymwybyddiaeth o drawma a dangos tegwch ac urddas, yna mae’n rhaid i ddatganoli cyfiawnder fod yn flaenoriaeth, oherwydd heb y dulliau sydd eu hangen i ddiwygio'r system, rydym mewn perygl o esgeuluso anghenion goroeswyr a dwysau eu trawma.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae mwy na hanner y menywod yn y carchar yn nodi eu bod wedi profi cam-drin domestig. Mae'r rhai sy'n Gymry, wrth gwrs, yn cael eu gorfodi i fod mewn carchardai yn Lloegr, gyda holl oblygiadau hynny iddyn nhw a'u plant, a chlywsom, onid oeddem, y mis hwn gan Dr Rob Jones o Brifysgol Caerdydd fod nifer y menywod o Gymru sydd yn y carchardai hynny wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, os ŷn ni o ddifri ynglŷn â chefnogi menywod sydd wedi profi trais domestig, ŷch chi'n cytuno bod yn rhaid inni ddatganoli cyfiawnder yn llawn? Pa reswm sy'n cael ei roi i chi gan Lywodraeth San Steffan i beidio â gwneud hynny?

Roeddwn i'n teimlo fel gweiddi mewn rhwystredigaeth wrth glywed Gweinidog carchardai San Steffan, yr Arglwydd Timpson, heddiw, yn dweud ei fod wedi cwrdd â llawer gormod o fenywod yn y carchar sy'n ddioddefwyr cam-drin domestig, gan ddweud nad yw'n credu mai’r carchar yw'r lle iawn iddyn nhw. Wel, ie, a pha mor hir mae Cymru wedi bod yn aros i'r ganolfan breswyl i fenywod agor? Oes gennych chi ddiweddariad ar hynny? Pa mor hir y byddwn ni’n fodlon derbyn y sefyllfa yma, sef bod penderfyniadau a chyllidebau San Steffan yn tanseilio ymdrechion i gefnogi, ac yn effeithio’n niweidiol yn uniongyrchol ar gymaint o fenywod Cymru sydd wedi profi trais domestig?

Yn olaf, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi bod yn galw ers tro am eithriad ar gyfer lloches o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gan fod darpariaethau'r Ddeddf yn rhoi mwy o hawliau i rentwyr ar ôl chwe mis, a bod hyn wedi cael effaith andwyol ar ddarparu lloches, gan fod darparwyr gwasanaethau yn wynebu costau cyfreithiol ychwanegol a baich gweinyddol o ran symud goroeswyr ymlaen. Mae hyn wedi ei gwneud hi'n anoddach i reoli diogelwch goroeswyr o fewn lloches.

Rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi comisiynu ymchwil annibynnol i ddarpariaeth lloches, felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi bod yn eu cael gyda hi, a phryd gallwn ni ddisgwyl diweddariad a gweithredu ar hynny? Diolch.

17:35

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch i chi am eich cefnogaeth i'r datganiad hwn, ond hefyd, unwaith eto, am ddechrau trwy ddweud ein bod yn cofio. Rydym yn cofio'r menywod hynny sydd wedi colli eu bywydau. Cyflwynais yr ystadegau ofnadwy hynny heddiw, ac rwy'n gwybod y byddwn yn clywed mwy o hynny. Diolch am eich geiriau cryf o gefnogaeth i'r gwasanaethau arbenigol. Mae'n debyg eu bod nhw i gyd yno yn eglwys gadeiriol Llandaf, ond roedd llawer yno hefyd yn yr wylnos a gynhaliwyd gennym ni, ac wrth gwrs, llawer ar draws y Siambr hon.

Fe hoffwn i ddim ond dechrau drwy ymateb i'ch cwestiwn am gyllid a'r gyllideb o ran gwasanaethau arbenigol, oherwydd, fel y dywedais i yn fy natganiad, rwyf wedi cyhoeddi £2.4 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau therapiwtig arbenigol yn enwedig i'r rhai yr effeithir arnyn nhw gan drais a cham-drin rhywiol ledled Cymru. Bydd yn hwb a fydd yn helpu rhestrau aros yn sylweddol, fel y dywedais i. Mae'r cyllid ychwanegol yn cael ei rannu rhwng pedwar sefydliad—New Pathways, Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, Cymorth i Fenywod Cyfannol a Stepping Stones. Felly, mae hynny ar draws Cymru. Ac yn ein hadolygiad cyllideb ar gyfer eleni, fe lwyddom ni mewn gwirionedd i gynyddu'r gyllideb refeniw i £9.586 miliwn a chyfalaf i £3.1 miliwn. Roedd hynny'n gynnydd sylweddol i'r gyllideb gyffredinol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A hefyd rydym ni wedi sicrhau £3.1 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw, sy'n cynnwys y £2.4 miliwn hwn ar gyfer gwasanaethau therapiwtig arbenigol.

Rwyf wedi sôn heddiw, wrth gwrs, eisoes yn fy natganiad, am y cyllid a gafwyd gan Stori Cymru yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i helpu meithrin cryfder, yr adnoddau a'r gefnogaeth ar gyfer ein haddysg cydberthnas ac addysg rhywioldeb statudol gorfodol newydd, oherwydd mae angen i ni ddechrau gyda'n plant. Ac mae hyn yn drawslywodraethol, felly £137,000 ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth ieuenctid Cymru Ddiogelach. Mae hynny wedi bod yn cefnogi plant a phobl ifanc, yn enwedig merched a menywod y camfanteiswyd arnyn nhw'n rhywiol pan oedden nhw’n blant, neu sydd mewn peryg o hynny. Ac, wrth gwrs, ddoe, roeddem ni'n gallu edrych ar y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig o ran refeniw ychwanegol o £0.7 miliwn i'r gyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n mynd â'r gyllideb i hyd at £10 miliwn, ac, wrth gwrs, cyllideb gyfalaf o £3.1 miliwn. Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud ein bod ni'n gwneud ymarfer mapio i nodi anghenion plant—anghenion plant, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae hyn yn rhywbeth i edrych ar wasanaethau presennol, hefyd deall anghenion newidiol plant, ac adnabod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.

Rydych chi yn siarad yn rymus iawn am sut mae'n rhaid i fenywod a goroeswyr ymdrin â'r system gyfiawnder. Mae hynny'n rhywbeth lle rwy'n credu y bu'r gwaith rydym ni wedi'i wneud yn ein glasbrint cyfiawnder menywod yn bwysig iawn, oherwydd mae wedi cefnogi menywod mewn gwirionedd. Mae wedi cefnogi menywod gyda chynlluniau dargyfeirio ar draws pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, gyda gwasanaethau integredig drwy'r gwasanaeth Cymru'n Un. Mae gennym ni fwrdd menywod mewn cyfiawnder Cymru gyfan, ac mae hynny'n hanfodol i ddarparu cefnogaeth a chyfarwyddyd i bartneriaid cyfiawnder troseddol a chymdeithasol. Rwyf hefyd yn eistedd ar y bwrdd cenedlaethol menywod mewn cyfiawnder, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni wedyn yn dylanwadu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran datblygu hyn.

Rwyf hefyd yn bryderus iawn am yr oedi wrth agor canolfan breswyl i ferched. Mae'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn gwybod y bydd yn gwella bywydau menywod yng Nghymru a bydd yn gaffaeliad gwirioneddol i fenywod yng Nghymru. Mae caniatâd adeiladu a chynllunio wedi'i gadarnhau. Unwaith eto, rwy'n codi hyn yn rheolaidd gyda Gweinidogion Cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn wir, byddaf yn cwrdd â Dr Rob Jones cyn bo hir i edrych ar y ffeil ffeithiau diweddar a'r diweddaraf. Dyma lle rydym ni'n parhau i ddadlau'r achos dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd rydym ni'n gyfrifol am y gwasanaethau datganoledig hynny, a dyna, wrth gwrs, sut rydym ni'n symud ymlaen o ran datganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid.

Ydy, o ran darparu hawliau i rentwyr, mae hyn yn rhywbeth lle mae'n bwysig ein bod yn aros am yr ymchwil annibynnol sydd wedi'i gynnal, a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

17:40

Yn gyntaf oll, rydw i'n mynd i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad, ond hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod geiriau yn bwysig. Mae'r iaith sy'n cael ei defnyddio, boed hynny ar-lein, ar y stryd, mewn sgwrs gyffredinol, yn wirioneddol bwysig, ac yn aml iawn yn arwain at ganlyniadau angheuol lle mae pobl, menywod yn arbennig, yn cael eu hystyried yn llai na phobl. Felly, heddiw fe wnaethom ni fynychu'r gwasanaeth Rhuban Gwyn aml-ffydd yn eglwys gadeiriol Llandaf, a'i nod oedd dod â chymunedau at ei gilydd, nid eu gyrru ar wahân, gan feithrin cryfder o fwriad cyffredin. Fe wnes i drefnu'r digwyddiad cyntaf yno 20 mlynedd yn ôl yn fy swydd flaenorol, ac rwy'n credu mai dyma'r unig ddigwyddiad o'i fath o hyd yng Nghymru, os nad y Deyrnas Unedig.

Ond rydw i eisiau canolbwyntio ar y pethau sydd wedi'u cyflawni, ac fe wnaed llawer. Mae yna lawer o bolisïau, mae deddfwriaeth wedi cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth Lafur, ac mae'r ymgyrch Rhuban Gwyn wedi cael ei hymgorffori a'i datblygu gan gymunedau ar draws nid yn unig Cymru ond, trwy waith Sefydliad y Menywod, i Loegr hefyd.

Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni. Un o'r newidiadau mwyaf yn y ddau ddegawd diwethaf rydym ni i gyd yn gwybod yw'r gofod y mae'r byd digidol yn ei feddiannu ym mywydau pobl, yn enwedig bywydau ifanc. Mae wedi dod â chyfleoedd newydd, sydd i'w groesawu, ond risgiau enfawr, ac rwy'n gweld yn aml iawn bod yr unigolion hynny sy'n cael mynediad i'r ffynonellau gwybodaeth yn gwbl anymwybodol o ba niwed y mae hynny'n ei wneud. Nid ydyn nhw'n ymwybodol o'r algorithmau sy'n ei yrru ac yn parhau i ailadrodd y neges fel eu bod yn meddwl ei fod yn normal.

Rwy'n sylweddoli bod amser wedi cario'r dydd arnaf i.

Felly, gofynnaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddwch chi'n ymgysylltu ag NSPCC Cymru a Barnardo's a Chymorth i Ferched Cymru, ac yn ymuno i dynnu sylw at y bygythiadau a'r bylchau yn y ddarpariaeth sy'n ymwneud â thrais ar sail rhywedd sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Diolch yn fawr, Joyce Watson, a diolch am adrodd am y digwyddiad arwyddocaol iawn hwnnw y buom ni ynddo gyda'n gilydd yn eglwys gadeiriol Llandaf. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n gallu ymuno â'r orymdaith a ddaeth i fyny o Llamau yn Heol y Gadeirlan, ac roedd yn bwysig tystio, i godi ymwybyddiaeth, wrth i ni gerdded i fyny Heol y Gadeirlan i'r eglwys gadeiriol. Fe gawsom ni lawer o gefnogaeth gan bobl oedd yn mynd heibio, ac yna areithiau grymus yn yr eglwys gadeiriol. Diolch eto, Joyce Watson, oherwydd dechreuodd Joyce hyn mewn gwirionedd 20 mlynedd yn ôl, y cynulliad cyntaf erioed o'r gwasanaeth rhyng-ffydd hwnnw. Mae bellach yn cael ei arwain gan BAWSO, ac roedd yn rymus iawn bod BAWSO, fu bellach yn bodoli ers 30 mlynedd, yn arwain y gwasanaeth heddiw.

Rydych chi'n hollol iawn, roedden ni'n canolbwyntio ar y trais yn erbyn menywod a merched sydd bellach yn gysylltiedig â niwed ar-lein. Rwyf eisoes wedi ymateb i'r pwynt ynglŷn â sut mae'n bwysig bod Ofcom yn gwneud gwahaniaeth, ac rydw i'n mynd i weithio gydag Ofcom ac yn cwrdd â nhw cyn bo hir i ddeall sut maen nhw'n mynd i ddefnyddio eu pwerau newydd i gadw trigolion Cymru yn ddiogel. Rwyf hefyd yn cyfarfod cyn bo hir â'r Gweinidog Jess Phillips, y Gweinidog dros ddiogelu, a'r Gweinidog Narayan, y Gweinidog dros ddiogelwch ar-lein, i drafod diogelwch ar-lein i fenywod a merched yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael undod ar y mater pwysig hwn. Rwyf hefyd wedi sôn am yr holl gefnogaeth rydym ni'n ei rhoi i wasanaethau arbenigol, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod hefyd wedi sôn am NSPCC a Barnardo's, yn ogystal â'r rhai rydym ni'n eu hariannu, a'n bod yn edrych yn arbennig—. Gellais ymateb i Sioned Williams am ffyrdd y gallwn ni edrych ar gyllid i blant a phobl ifanc. Mae gennym ni ffrwd waith plant a phobl ifanc yn ein bwrdd partneriaeth strategol, ac mae plant a phobl ifanc hefyd yn dangos eu profiad byw o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ganddyn nhw brofiad byw pwysig o ran sut rydym ni'n llunio polisïau.

17:45

Wrth i ni nodi'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, mae'n bryderus iawn bod Cymru'n parhau i wynebu rhai o'r lefelau uchaf o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Deyrnas Unedig. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad ac am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth heddiw, a byddai'n dda gweld mwy o ddynion yn cymryd rhan yn y drafodaeth.

Mae gennym ni anghydraddoldebau rhanbarthol enfawr, yn enwedig yng ngogledd Cymru, lle mae gan ardaloedd cyfain dim ond un ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ar gyfer poblogaeth wledig enfawr, a honno dan bwysau anhygoel. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y ganolfan cefnogi trais a cham-drin rhywiol heddiw, ac a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oes unrhyw gynlluniau i wella mynediad i'r canolfannau hyn yng nghefn gwlad Cymru?

Rhaid i ni beidio ag anghofio'r plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae trais rhywiol a domestig, gyda nhw eu hunain yn ddioddefwyr hefyd. Mae'r trothwy gwasanaethau iechyd meddwl cyfyngol presennol i blant a phobl ifanc yn rhy gyfyngol. Mae'n gwrthod atgyfeirio oherwydd nad yw'r plant yn hunan-niweidio nac yn meddwl am hunanladdiad, ac felly mae'n bolisi sy'n rhwystro mynediad uniongyrchol i ddioddefwyr trawma difrifol. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar hyn gyda'r bwriad o'i adolygu?

Yn olaf, rydym yn gweld nifer cynyddol o blant sy'n dioddef o gamfanteisio rhywiol a cham-drin. Pa gamau ychwanegol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i helpu plant sydd wedi goroesi hefyd? Diolch. 

Diolch yn fawr, Mabon. Diolch am ganolbwyntio hefyd ar y ffaith bod llawer o'r newid trwy'r 16 diwrnod hyn o weithredu, ac ymgyrch y Rhuban Gwyn ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod a merched, yn dibynnu ar ddynion yn cymryd yr awenau. Rwy'n falch iawn o'n hymgyrch Sain, sy'n cael ei harwain gan ddynion a dynion ifanc, a'r gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud am wrywdod cadarnhaol gan sefydliadau rydym ni'n eu cefnogi a'u hariannu. A gaf i ddim ond dweud ei bod hi'n dda iawn bod dynion o bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon yn yr wylnos, yn siarad yn rymus iawn? Mae angen i chi fod yn y rheng flaen o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, felly rwy'n ddiolchgar eich bod chi wedi gwneud y pwynt hwnnw.

Rydym ni'n gwneud cynnydd o ran y gwasanaethau ymosodiadau rhywiol hynny. Rwy'n credu bod y £2.4 miliwn a gyhoeddais heddiw wedi cael ei groesawu'n eang, ac mae angen i ni edrych ar yr anghenion gwledig. Yn ddiweddar, wrth gwrs, roedd agor canolfan Aberystwyth, yr wyf yn siŵr y byddwch yn ymwybodol ohono, yn gam mawr ymlaen. Dyma lle mae'n rhaid i ni weld bod hyn yn fater i bob rhan o Gymru. Dyna pam y bydd ein partneriaethau rhanbarthol a'n strategaethau lleol, yr wyf bellach yn cyhoeddi'r canllawiau hynny ar eu cyfer i ddatblygu eu strategaethau, yn allweddol.

Rwyf wedi sôn am nifer o ffyrdd rydym ni'n rhoi sylw i  blant a phobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw ar eu hanghenion a'u profiadau, ond roedd arnaf i eisiau croesawu cyhoeddi adolygiad y Llywodraeth i'r rhagdybiaeth o gyfranogiad rhieni, a'r cyhoeddiad y bydd y rhagdybiaeth yn cael ei ddiddymu o Ddeddf Plant 1989. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig o ran diddymu cyfranogiad rhieni, sy'n fater i'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Llys Plant a Theuluoedd. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi'i godi gyda mi. Mae lleisiau plant yn rhy aml wedi cael eu tawelu neu eu diystyru oherwydd diwylliant sydd o blaid cyswllt. Felly, diolch am roi'r cyfle i mi ddweud hyn heddiw. Rwy'n ymwybodol bod CAFCASS Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ymarfer cam-drin domestig ar gyfer eu hymarferwyr, ac maen nhw'n ymgorffori dull mwy gwybodus am drawma i'w gwaith drwy'r fframwaith ymarfer.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyhoeddiadau cyllid rydych chi wedi'u gwneud, ac rwy'n diolch hefyd i'r Llywodraeth am y pwyslais y mae wedi'i roi ar y maes gwaith pwysig iawn hwn, ac i'r Ysgrifennydd Cabinet yn arbennig. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Joyce Watson, y mae ei hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod wedi bod yn rhagorol yn y Senedd hon.

Neithiwr, cefais fy ngwylnos flynyddol yng ngolau cannwyll ar stryd fawr yr Eglwys Newydd i nodi'r Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, ac roeddwn i'n falch iawn bod nifer o ddynion wedi dod. Rhai o'r pwyntiau a wnaed, roedd y dynion yn arbennig yn pryderu am addysg bechgyn, a'r gwaith y dylid ei wneud gyda bechgyn, er mwyn eu helpu i ddeall ymddygiad priodol, deall casineb at fenywod, ac rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi dweud cryn dipyn am y gwaith gyda phlant sy'n cael ei wneud ac sydd wedi'i gynllunio i'w wneud.

Ond yna'r pwynt arall a amlygwyd yn gryf iawn oedd y mater o bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth. Dywedodd un person yn arbennig pa mor anodd yw egluro i bobl y gallech chi ofyn am gymorth ganddyn, eich bod chi, fel rhywun hŷn, yn cael eich cam-drin—

17:50

—ac roedd yn swnio'n anodd iawn. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn y maes hwnnw?

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, a diolch eto am drefnu'r wylnos honno yn yr Eglwys Newydd neithiwr, a galluogi'r digwyddiad hwnnw i ennyn trafodaeth, yn enwedig ymhlith dynion a oedd yn ymuno â ni.

Soniais am yr ymgyrch Iawn, sy'n rhan o'n strategaeth. Rydym ni yn y trydydd cam nawr. Mae'n canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus, gan gynnwys ymddygiad fel heclo, bygythiad corfforol, cyffwrdd amhriodol. Yr hyn sy'n dda am yr ymgyrch honno yw bod 97 y cant o ddynion a bechgyn yn yr ystod oedran targed ledled Cymru wedi gweld yr ymgyrch Iawn ac yn ymgysylltu. Rwyf hefyd yn tynnu sylw at y cyllid a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i ysgogi'r datblygiadau o ran ein stori addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Bydd hynny'n edrych yn fawr ar faterion fel casineb at ferched a menywod a diogelwch ar-lein, ac mae'n amlwg bod angen i ni ymgorffori hyn yn ein haddysg. Mae ein plant a'n pobl ifanc wedi cael y cyfle i dyfu i fyny yn parchu ei gilydd gyda chydberthnasau iach. Mae hynny'n nodwedd mor bwysig o'n cwricwlwm arloesol.

Yn olaf, ie, mae gennym ni ffrwd waith pobl hŷn yn y strategaeth. Mae gennym ni ymgysylltiad cryf iawn â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac mae'r cyn-gomisiynydd, wrth gwrs, wedi gwneud gwaith ac ymchwil ar hyn hefyd. Felly, pobl hŷn, mae'n her gymdeithasol rhwng cenedlaethau sydd gennym ni. Diolchaf eto i'r Aelodau am ymuno heddiw i drafod y datganiad pwysig iawn hwn.

Diolch. Wel, cefais fy eiliad o weiddi ar y radio y bore 'ma, wrth glywed yr Arglwydd Timpson yn dweud ei fod wedi cymryd 16 mis iddo sylweddoli bod y rhan fwyaf o fenywod yn y carchar yn dioddef o drais domestig. Ond yn fwy cadarnhaol, roeddwn yn falch o glywed y Fonesig Melanie Dawes, prif weithredwr Ofcom, yn magu rhywfaint o ddannedd yn ei swyddogaeth trwy fynnu bod y cwmnïau ar-lein yn fwy cyfrifol, o ran sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad hawdd i'r botymau preifatrwydd, fel arall fe allan nhw gael eu holrhain gan bobl sydd eisiau eu niweidio. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu symudiadau pellach yn hyn o beth. Maen nhw'n gyhoeddwyr a dylid eu dwyn i gyfrif am yr hyn maen nhw'n ei roi ar-lein.

Fe hoffwn i ofyn cwestiwn pellach i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i blant, oherwydd dyma'r mater mwyaf a godwyd yn ein hymchwiliad ychydig flynyddoedd yn ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ydy hyn yn rhywbeth y gallwn ni sicrhau y gall plant ddysgu amdano yn yr ysgol—yn amlwg, byddai'n rhaid i'r ysgol wneud apwyntiadau, ac ati—neu a fydd ond yn cael ei ddarparu mewn mannau eraill mewn cyrff arbenigol yn? Oherwydd ni fydd llawer o blant yn dweud wrth yr oedolyn yn eu bywydau pa mor ddrwg maen nhw'n teimlo am yr hyn maen nhw wedi'i weld.

17:55

Diolch am hynny, Jenny. Rwy'n cofio, pan es i i Garchar Ei Fawrhydi Eastwood Park, dywedodd y llywodraethwr fod y mwyafrif o fenywod yn y carchar hwnnw yn ddioddefwyr trais domestig neu dlodi, ac ni ddylen nhw fod yn y carchar. Dyna pam y dywedodd Jean Corston y dylem ni gael canolfannau preswyl i ferched, a dyna pam mae gennym ni un yma, a dylai agor. A allwn ni i gyd ar draws y Siambr alw am hynny gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Mae arnom ni eisiau i'n canolfan breswyl i ferched agor. Dyna ein galwad ni. Rwy'n siŵr y bydd yr Arglwydd Timpson yn clywed hynny.

Ond rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am ein plant a'n pobl ifanc. Oes, mae'n rhaid iddo fod mewn ysgolion. Rwyf wedi siarad am brosiect addysg Cwtch. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod plant a phobl ifanc hefyd yn cael eu diogelu o ran eu hamgylchiadau. Mae hyn yn rhywbeth lle rydym ni hefyd yn edrych ar y gwasanaethau arbenigol: mae NSPCC eisoes wedi'i grybwyll; Barnardo's, a'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Felly, unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymgymryd â'r ymarfer mapio. Rydym ni'n edrych ar anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac rydym ni hefyd yn edrych ar yr holl ffrydiau ariannu, ond mae'n rhaid ei brif ffrydio mewn addysg ac i ddarpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

8. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Eitem 8 sydd nesaf: cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig. Ken Skates.

Cynnig NDM9055 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r Atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) Adrannau 1-46;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 47-48;
d) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, Ysgrifennydd Cabinet. Ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:57.