Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/11/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn.
Croeso nôl, Lindsay.
Croeso nôl.
Diolch yn fawr, Lindsay Whittle. Fe awn ni ymlaen gyda'r gwaith. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n ateb y cwestiynau ar ran Eluned Morgan heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y broses ar gyfer cau ysgolion gwledig? OQ63361
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith cyllideb yr hydref sydd ar ddod ar Ddwyrain De Cymru? OQ63332
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau groesawu Aelod Caerffili yn ôl yma i'r Senedd?
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol y DU yn amserol? OQ63350
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n gadael Cymru i fynychu prifysgolion yn Lloegr? OQ63357
Diolch yn fawr iawn, Cefin. Rydyn ni’n cefnogi myfyrwyr o Gymru i wneud y penderfyniadau cywir iddyn nhw o ran ble maen nhw'n dewis astudio. Rŷn ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod dysgwyr yn gallu parhau â'u haddysg yn y Gymraeg. Rŷn ni hefyd yn helpu'r rhai sy'n astudio y tu allan i Gymru i gadw mewn cysylltiad â chyfleoedd gartref. Rydyn ni'n falch o gynnig y pecyn cymorth cynhaliaeth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru, pa un ai a ydyn nhw'n astudio yng Nghymru neu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Diolch yn fawr. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod tua hanner y disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd gyrsiau prifysgolion eleni yn astudio dros y ffin yn Lloegr. Yn anffodus, mae hyn yn adlewyrchiad o sut mae eich polisïau addysg uwch presennol chi, fel y cynllun Seren, yn annog myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i chwilio am gyfleoedd y tu hwnt i Gymru.
Ar adeg pan rŷn ni’n wynebu heriau i gynnal gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog, mae mawr angen inni drio cadw cymaint o’n siaradwyr Cymraeg ifanc ni yma yng Nghymru. Achos rŷn ni’n gwybod bod nifer ohonyn nhw ddim yn dod nôl, a phan maen nhw wedi gadael Cymru, maen nhw’n colli eu hyder i siarad yr iaith Gymraeg.
Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae ein prifysgolion ni yn wynebu colledion ariannol sylweddol. Felly, Dirprwy Brif Weinidog, a fyddech chi’n barod i adolygu’r cynllun Seren er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi’n prifysgolion ni, yma yng Nghymru, yn arbennig yn y sector cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau bod mwy o’n myfyrwyr ni yn aros yma yng Nghymru?
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at gyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel ym Mlaenau Gwent? OQ63360
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y cynllun gweithredu dementia nesaf? OQ63319
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella'r economi yng ngorllewin Cymru? OQ63324
Yn olaf, cwestiwn 8, Llyr Gruffydd.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn ofynnol i ddatblygwyr prosiectau ynni ar raddfa fawr gyfathrebu'n barhaus ac mewn modd ystyrlon â chymunedau lleol drwy gydol pob cam o'u datblygiadau? OQ63356
Diolch, Llyr. Rŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi camau i drafod yn ystyrlon gyda chymunedau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses ddatblygu. Mae'r drefn gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol ar raddfa fawr yn rhoi nifer o gyfleoedd i gymunedau lleol drafod gyda datblygwyr wrth i gynlluniau symud ymlaen drwy'r broses gydsynio. Mae canllawiau ar y gweill a fydd yn rhoi gwybod i ddatblygwyr am yr arferion gorau sy'n ymwneud ag ymgysylltu cyn ymgeisio. Bydd y drefn newydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Rhagfyr.
Achos mae'n rhaid i fi ddweud, mae yna ormod o enghreifftiau dwi wedi dod ar eu traws nhw lle, ar ôl yr ymgynghoriad cychwynnol, mae yna dawelwch llethol wedyn. Mae yna enghraifft Ynni Celyn yng Ngwyddelwern yn fy rhanbarth i, lle roedd yna ddau ddigwyddiad diwedd y llynedd, a dyw'r gymuned ddim wedi clywed dim ers hynny, i bob pwrpas. Felly, dwi'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod angen mandadu'r cyrff yma, neu'r datblygwyr yma, i gynnal y trafodaethau parhaus yna gyda'r cymunedau, oherwydd dyna'r peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu. A wnewch chi felly sicrhau bod y newidiadau rŷch chi'n sôn amdanyn nhw yn cael eu cyflwyno ar frys, a'u bod nhw'n digwydd mewn modd sydd yn mynd i olygu newid ar lawr gwlad, ac nid ar ddarn o bapur yn eich ffolder chi?
Diolch yn fawr i'r Dirprwy Brif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt, felly, i wneud y datganiad busnes.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Bydd datganiad ar 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', adolygiad ymarfer plant bwrdd diogelu gogledd Cymru, yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach y prynhawn yma. Yn ogystal â hynny, nid oes unrhyw bwnc wedi ei gyflwyno ar gyfer y ddadl fer yfory. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad—Julie James.
Hoffwn i ffocysu yn benodol ar yr elfennau sy'n ymwneud â'r broses o adalw. Achos, fel rydyn ni wedi clywed, yn yr oes yma o ddirywiad mewn ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau democrataidd, mae'n hanfodol bod gan bleidleiswyr Cymru hyder llwyr yn safonau ymddygiad y lle hwn, gan gynnwys eu grymuso nhw wedyn i allu barnu pan fydd y safonau yn cael eu torri. Felly, hoffwn i ddeall ychydig mwy ynglŷn â'r mecanweithiau perthnasol. Mae'r Bil, fel y mae, yn awgrymu y bydd digwyddiad sbardun A yn dod i effaith os yw Aelod o'r Senedd, ar ôl iddyn nhw gael eu hethol, yn eu cael yn euog yn y Deyrnas Gyfunol o drosedd. Wel, sut mae hyn yn cymryd y cyfnod y gallai apêl ei gymryd i gyrraedd llys barn i ystyriaeth? Hefyd, os bydd apêl yn llwyddiannus, a'r Aelod yn barod, o bosib, wedi'i adalw a'i ddisodli gan Aelod newydd, a'i staff wedi colli eu swyddi, sut mae'r Bil yn cyflwyno datrysiad i hynny?
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.
Y Bil yw'r darn olaf mewn rhaglen waith a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, ac roeddwn i eisiau diolch yn arbennig i Siân Gwenllian am ei chyfraniad sylweddol at ddatblygiad y Bil, fel Aelod dynodedig yn ystod oes y cytundeb. Rydw i'n diolch iddi hi hefyd am ei diddordeb parhaus wrth i'r Bil symud tuag at ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw.
Dirprwy Lywydd, i orffen lle y dechreuais i, mae'r Bil hwn yn gynnyrch cydweithio trawsbleidiol yn gynharach yn nhymor y Senedd. Rydw i'n edrych ymlaen at y broses graffu, ac rydw i'n gobeithio'n fawr y bydd y broses honno yn dilyn yn yr un ysbryd, wrth i ni symud at nod y gwn sydd yn cael ei rannu ar draws y Siambr: economi ymwelwyr gref a chynaliadwy yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr i Sam Kurtz am beth ddywedodd e pan roedd yn croesawu agweddau o'r Bil.
Yn olaf, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu cyhoeddi'r Bil yma. Mae Cymru yn croesawu ymwelwyr ac mae unrhyw gam i wella eu profiadau o aros yn ein bröydd ni yn un cadarnhaol a synhwyrol. Mi fydd y Bil yma yn helpu sicrhau bod ymwelwyr mewn llety gwyliau tymor byr yn ddiogel yn ystod eu harhosiad, a thrwy wybod bod gan y llety maen nhw'n aros ynddo fo drwydded bwrpasol, mi fyddan nhw'n gwybod bod gwiriadau trydan a nwy cyson yn cael eu cynnal, bod yr yswiriant priodol ar waith a bod diogelwch tân wedi cael ei ystyried.
Yn aml iawn, wrth gwrs, mae llety gwyliau tymor byr yn bodoli ochr yn ochr â chartrefi pobl leol, a dwi'n gwybod am strydoedd cyfan yn etholaeth Arfon—yn Llanberis a Bethesda, er enghraifft—lle mae bron pob yn ail dŷ yn llety gwyliau tymor byr erbyn hyn. Ac ar y cyfan, mae'r ymwelwyr yn parchu'r ffaith eu bod nhw'n byw yng nghanol teuluoedd, ond ddim bob tro, yn anffodus. Mae yna sawl enghraifft o ddiffyg parch at gymdogion—sŵn yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore, parcio heb ystyried anghenion cymdogion, ac yn yr achosion gwaethaf, ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mewn rali 'Hawl i fyw gartref' y gwnes i siarad ynddi hi ym Methesda ddydd Sadwrn, fe glywyd sôn am y pryderon yma, y problemau sy'n cael eu hachosi gan ymwelwyr sydd yn ddiystyriol o'r cymdogion o'u cwmpas nhw. Felly, buaswn i'n licio gofyn beth sydd yn y Bil yma a fydd yn rhoi llais i gymdogion yn y broses o gytuno trwydded, neu mewn proses o ddiddymu trwydded, efallai, yn sgil cwynion cymdogion. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos fod y Bil yn syrthio'n brin o daro'r cydbwysedd iawn yna rhwng buddiannau ymwelwyr a buddiannau pobl leol, a does yna ddim dyletswydd glir ar wyneb y Bil yn rhoi hawl i bobl leol gwyno i'r awdurdod trwyddedu.
I gloi, dwi'n ddiolchgar iawn i chi am eich bodlonrwydd i ystyried y mater penodol o hawliau cymdogion, a dwi hefyd yn diolch am y cydweithio adeiladol sydd wedi bod ar y Bil yma. Diolch.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am y sylwadau y gwnaeth hi agor â nhw. Wrth gwrs, mae Cymru yn croesawu ymwelwyr mewnol i Gymru, ond pobl sy'n dod i Gymru o'r tu fas hefyd. Pwrpas y Bil yw cryfhau'r sector i wneud mwy fel yna yn y dyfodol.
Diolch i Siân Gwenllian am y pwynt mae hi'n ei wneud am gymdogion. Dwi'n cytuno gyda hi. Yn fy etholaeth i, dwi'n gwybod bod rhai strydoedd nawr lle mae pobl yn trio byw ochr yn ochr â thai sydd nawr jest yn croesawu pobl sy'n aros dros nos neu dros y penwythnos. Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, yn parchu pobl eraill, ond mae rhai pobl yn dod i Gaerdydd i gael amser da dros y penwythnos, a dydyn nhw ddim yn meddwl lot am yr effaith mae hwnna'n ei chael ar y bobl sy'n trio byw bob dydd ar yr un strydoedd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y rhaglen sgiliau hyblyg. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 sydd nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', adolygiad ymarfer plant bwrdd diogelu gogledd Cymru. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Lynne Neagle.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch hefyd am eich ymateb cadarn chi i'r adroddiad. Mae'r adroddiad yn tanlinellu sut y methwyd plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel wrth fynychu eu hysgol, wrth ddysgu, wrth fwynhau gyda'u ffrindiau, wrth dyfu'n oedolion. Mae gweld yr ymadrodd, 'Roedd hwn yn gyfle a gollwyd' 50 o weithiau yn torri calon, yn siomi ac yn brawychu. Hoffwn danlinellu bod ein meddyliau ni i gyd gyda'r plant sydd wedi dioddef camdriniaeth mor ofnadwy, a chyda'u teuluoedd. Rŷn ni'n edmygu eu dewrder ac yn anfon nerth atyn nhw a'u cymuned, sydd wedi cael eu creithio mewn modd anfaddeuol. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o sicrhau bod yr adroddiad hwn wedi mynd at wraidd sut y caniatawyd y niwed cwbl annerbyniol hwn i ddigwydd, gan ddadlennu'r gwendidau systemig y mae angen mynd i'r afael â nhw heb oedi ac yn gwbl ddilyffethair, fel na fydd plant, yn unrhyw ran o Gymru, fyth eto yn cael eu niweidio yn y fath fodd.
I fi, un o'r pethau mwyaf annerbyniol yw na wrandawyd ac na roddwyd lle i lais y plentyn fel rhan ganolog o'r prosesau yr oedd i fod i'w cadw rhag niwed. Mae hi'n destun pryder a sioc na fu ymdrech o gwbl i holi'r plant am weithredoedd Foden dros gyfnod o bump i chwe blynedd. Roedd eu lleisiau nhw ar goll yn llwyr. Dyna oedd canfyddiad ymchwiliad Clywch ugain mlynedd yn ôl hefyd, a rhaid holi pam roedd y lleisiau yna'n parhau i fod ar goll. Rhaid holi pam fod dros hanner o argymhellion 'Clywch' hefyd yn yr adroddiad yma ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n feirniadaeth mor enbyd.
Gallwn ni byth gymryd yn ganiataol fod plentyn yn ddiogel. Mae diogelu yn fwy na dim ond amddiffyn rhag niwed, mae'n ymwneud â rhoi llais i blant. Mae'n golygu gwrando arnyn nhw, cymryd eu teimladau o ddifrif, ymddiried yn eu profiadau a gweld sefyllfa trwy lens eu safbwynt nhw.
Ond mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir drwyddi draw, ac yn benodol yn argymhelliad 1, nad yw'r hyn a ddysgwyd gan adroddiad 'Clywch' wedi ei wreiddio'n ddigonol, a'r hawl yna i gael llais wedi ei anwybyddu. Fe ddywedon ni 'byth eto' ar ôl Clywch, ac rŷn ni wedi dweud 'byth eto' heddiw—gormod o weithiau o'r blaen, a dyma ni unwaith eto.
Mae'r adolygiad yn dangos gwendidau sy'n effeithio ar ddiogelu ledled Cymru, nid yng Ngwynedd yn unig. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gwarantu i ni i gyd, ac yn enwedig i'r plant sydd wedi dioddef mor enbyd dan law Foden a'r system oedd i fod i'w diogelu rhag paedoffiliaid fel fe, y bydd yn sicrhau na fydd gwersi unwaith eto'n mynd heb eu dysgu, na fydd yna gyfleon eto yn cael eu colli? Ydych chi'n hyderus—yn gwbl hyderus—heddiw y gallwch chi ddweud bod 'byth eto' yn golygu byth eto?
O ran y gweithredu rŷch chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad i sicrhau newid, sut byddwch yn sicrhau bod y monitro a'r trosolwg sydd yn amlwg eu hangen yn effeithiol ac yn gwirio bod newid parhaus a pharhaol yn digwydd?
Mae'r adroddiad yn awgrymu yn argymhelliad 8 nad oes yna ddealltwriaeth ddigonol o dechnegau meithrin perthynas amhriodol. Rŷch chi wedi cydnabod heddiw fod angen gweithredu i sicrhau bod pob un yn effro ac yn medru adnabod y technegau yma drwy hyfforddiant proffesiynol a thrwy'r cwricwlwm. Ond sut wnewch chi sicrhau bod ein staff dysgu yn teimlo eu bod nhw wedi eu harfogi'n ddigonol i wneud hyn dwy'r cod addysg rhywioldeb a pherthynas? Pa adnoddau ychwanegol fydd ar gael, er enghraifft, i sicrhau cefnogaeth briodol i waith y cynghorydd RSE? A fydd yna gyllid newydd ar gael i bob awdurdod lleol, nid yn unig Gwynedd, ar gyfer y gwaith hanfodol hwn?
Mae'r adroddiad yn sôn am gamddealltwriaeth sylfaenol a phryderus hefyd o ran y system diogelu a threfniadau cam 5 o ran y trothwy ar gyfer ymyriad, addasrwydd ar gyfer gweithio gyda phlant, a beth sy'n dderbyniol o ran ymddygiad oedolion sydd mewn safle o rym ac ymddiriedaeth. Roedd Foden yn unigolyn grymus, dylanwadol. Mae'n syfrdanol gweld sut methwyd cymaint o arwyddion pryderus o ran ei ymddygiad, arwyddion ddylai fod wedi arwain at weithredu brys a chadarn. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod pryderon a rhybuddion am ffigyrau dylanwadol yn benodol yn cael eu hadnabod yn gynharach? A sut bydd y wers bod dim byd yn bwysicach na lles a diogelwch plant yn cael ei dysgu? Sut wnewch chi fesur bod hynny yn treiddio?
Gallwn hyfforddi llywodraethwyr, gallwn ymgrymuso ein plant a'n pobl ifanc, gallwn gryfhau canllawiau a gweithdrefnau, ond heb fod yna fodd i fesur llwyddiant hynny, heb fedru sicrhau bod newid mewn diwylliant o ran pawb sy'n rhan o'r broses, yn swyddogion, yn aelodau etholedig, yn staff dysgu—pawb ohonom sydd â dyletswydd i gadw plant yn ddiogel—mae'r ymadrodd 'byth eto' yn ddim ond geiriau gwag, a bydd y plant sy'n ddioddefwyr, sy'n oroeswyr, wedi eu bradychu unwaith eto.
Rŷch chi wedi amlinellu eich bod yn gweithredu ar holl argymhellion yr adroddiad ar unwaith, ond pa gamau pendant sy'n mynd i gael eu blaenoriaethu o ran hyn? Diolch.
Diolch am y cyfle i gyfrannu y prynhawn yma fel yr Aelod lleol dros y ddwy ysgol sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad yma: Ysgol Friars ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Dwi'n cyfrannu hefyd fel cyn-ddisgybl o Ysgol Friars. Mae heddiw yn ddiwrnod tywyll iawn efo cyhoeddi'r adroddiad. Dyma i ni gatalog erchyll o fethiannau sy'n peri gofid mawr—dim llai na 52 o gyfleon wedi cael eu colli. Mae'r adroddiad yn ysgytwol, yn peri dychryn a sioc o'i ddarllen o, ac mae ein meddyliau ni i gyd efo'r plant sydd wedi dioddef camdriniaeth erchyll, yn ferched ac yn fechgyn, fel rydyn ni'n dod i ddeall mwy a mwy heddiw o ddarllen yr adroddiad. Maen nhw wedi bod yn hynod o ddewr yn rhannu eu profiadau, ac mae pawb ohonon ni—pawb ohonon ni—yn ymddiheuro o waelod calon i chi, i'r plant yna. Roedd eich lleisiau chi ar goll a chawsoch chi eich gadael i lawr.
Dwi'n mynd i ofyn y cwestiynau hollol amlwg. Rydych chi wedi ateb rhai ohonyn nhw, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ailadrodd rhai ohonyn nhw. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau—sut ydyn ni'n mynd i sicrhau—fod diogelu plant yn mynd i gael ei weld drwy lens y plentyn o hyn ymlaen? Mae'r adroddiad yn dangos hwnna'n glir: mae lens y plentyn wedi bod ar goll yn yr achos yma. A sut ydych chi am sicrhau—sut ydyn ni am sicrhau—y bydd y cwestiwn, 'Beth os ydw i'n iawn?' ynglŷn ag unrhyw amheuon am ddiogelwch plant, sut mae'r cwestiwn yna, yn dod yn normal, yn hytrach na'r cwestiwn sydd efallai'n tueddu i gael ei ofyn, ac yn sicr oedd yn cael ei ofyn yn yr achos yma, 'Beth os ydw i'n anghywir?' Hynny yw bod camau pwrpasol yn digwydd yn sgil unrhyw amheuon, a bod llais y plentyn yn dod yn gwbl ganolog yn y broses yna.
Rydych chi wedi sôn am y bwrdd sicrwydd rydych chi wedi'i sefydlu. Buaswn i'n licio gwybod tipyn bach mwy am hwnnw. Beth yn union ydy rôl hwnnw? Beth ydy'r amserlen mae hwnna'n gweithio iddi hi? A fydd yna argymhellion yn deillio o'r gwaith penodol yna? Ugain mlynedd ers cyhoeddi argymhellion 'Clywch', mae'n rhaid sicrhau bod yr holl argymhellion yn adroddiad Jan Pickles yn cael eu gweithredu ar frys. Yn anffodus, mae yna baedoffeils cyfrwys allan yna, ac mi fydd yna ddynion pwerus eraill fath â Neil Foden yn grŵmio ac yn normaleiddio camdriniaeth, ac ein gwaith ni i gyd—ni i gyd—ydy rhoi stop ar y gamdriniaeth cyn gynted ag mae hi'n cael ei amau, a hynny drwy roi prosesau cwbl gadarn mewn lle. Diolch yn fawr.
Dwi am ddechrau drwy gydnabod y boen a'r dioddefaint mae plant wedi gorfod mynd drwyddo dan law'r paedoffil angenfilaidd yma oedd yn brifathro yng Ngwynedd, ac, wrth gwrs, diolch am ddewrder y rhai hynny gododd eu llais a mynnu cael cyfiawnder. Mae'n amlwg bod llawer gormod o gyfleon wedi cael eu colli i atal yr ysglyfaeth yma rhag parhau i weithredu, ac mi ddylai fod yn destun cywilydd inni oll fod achos yr ysglyfaeth yma'n atseinio gymaint gyda'r achosion arweiniodd at adroddiad Clywch 20 mlynedd yn ôl. Ond mae yna ddwy elfen benodol dwi am eu huwcholeuo, os gwelwch yn dda, sydd wedi cael eu nodi yma'n barod, ond tybed a oes posib ymhelaethu?
Y cyntaf ydy llais y plentyn. Mae'n amlwg nad ydy llais y plentyn wedi cael ei wrando arno ac nad ydy'r plant wedi cael digon o sylw. Mae'n rhan o'n diwylliant gwleidyddol ni fan hyn i sôn am lais y plentyn. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n sôn amdano yn y cylchoedd yma, ond dydy o ddim wedi treiddio i ddiwylliant gweddill Cymru, heb sôn am ddiwylliant addysgiadol Cymru. Felly, pa gamau ydyn ni am eu cymryd, ac rydych chi am arwain arnyn nhw yn hyn o beth, er mwyn sicrhau bod y diwylliant yna o wrando ar lais y plentyn am newid a chael ei gymryd o ddifrif?
A'r ail un ydy hyfforddiant. Unwaith eto, mae'n amlwg bod y drefn hyfforddiant bresennol yn gwbl annigonol, boed hynna'n hyfforddiant i athrawon, i lywodraethwyr, i swyddogion y cyngor ac i bawb arall sydd yn ymhél â hyn, yn hyfforddiant swyddogol neu'n hyfforddiant ar adnabod pryd mae rhywun yn cael ei grŵmio. Beth ydyn ni am ei weld yn newid er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yna yn gwella ac yn effeithiol, a bod pawb yn cymryd rhan yn y broses honno—pawb sydd yn rhan o edrych ar ôl plant? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nid yn aml ŷn ni fel Senedd yn dod at ein gilydd i arswydo ac i dristáu, ac mae hon yn un o'r adegau hynny. Dwi wedi cael cyfle y prynhawn yma i ddarllen yn frysiog iawn yr adroddiad, ac fel mae cymaint o bobl wedi dweud, mae'r darllen yn gwbl anghyfforddus, ac mae'r canfyddiadau yn erchyll. Mae'n anhygoel bod y pedoffeil yma wedi gallu cam-drin cymaint o bobl ifanc heb gael ei adnabod fel pedoffeil o gwbl, a neb wedi ei herio fe hefyd, dros gymaint o amser.
Dwi eisiau dechrau drwy gydnabod gwytnwch a chryfder anhygoel y dioddefwyr sydd wedi goroesi profiadau cwbl erchyll gan berson roedden nhw i fod i ymddiried ynddo fe. Fel llefarydd addysg Plaid Cymru, dwi eisiau cydnabod dewrder y merched ifanc—merched oedden nhw yn bennaf, wrth gwrs, er bod bechgyn hefyd—ond dwi eisiau cydnabod dewrder y rhain ac ymddiheuro iddyn nhw am fethiannau systemau diogelu a ddylai wedi eu hamddiffyn nhw rhag cael eu cam-drin yn y fath ffordd. Felly, byddwn i'n licio gofyn i chi pa gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r dioddefwyr yma a'u teuluoedd ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw yn sicr dioddef creithiau emosiynol yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, ac mi fyddan nhw am flynyddoedd eto.
Mae hon yn bennod hynod o boenus a chywilyddus yn hanes addysg yng Nghymru unwaith eto, 20 mlynedd ar ôl adroddiad Clywch. Yr hyn sy'n siomedig yw bod yr adroddiad—a dwi'n ddiolchgar iawn i Jan Pickles am y gwaith manwl y mae hi wedi gorfod ei wneud o dan amgylchiadau anodd iawn—yn cydnabod nad yw nifer o argymhellion Clywch ddim wedi cael eu gweithredu yn llawn. Rŷch chi wedi delio â hyn yn barod, ond byddwn i'n licio gwybod mwy am beth sydd ddim wedi cael ei wneud yn iawn dros y 20 mlynedd diwethaf, a pha gamau ŷch chi'n bwriadu eu cymryd i wneud yn siŵr eu bod nhw yn cael eu gwireddu.
Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto, ac mae hynny'n golygu gwell atebolrwydd. Oes, mae cwestiynau i'w gofyn am rôl cyrff llywodraethol, eu cyfrifoldebau nhw, ac anghenion hyfforddiant, yn ogystal. Mae yna gwestiynau i'w gofyn am gyfrifoldebau yr awdurdod lleol dan sylw, yn aelodau etholedig a swyddogion, a chyrff eraill sy'n ymwneud â diogelu plant.
Ond heddiw, y gymwynas bennaf y gallwn ni ei thalu i'r dioddefwyr yw ein bod ni yn cymryd ystyriaeth o'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i rhoi i ni a'n bod ni'n edmygu eu dewrder nhw am wneud hynny, a'n bod ni'n sicrhau dyw hyn byth yn digwydd eto. O ran sicrhau nad yw llais pobl ifanc ddim yn mynd ar goll yn y system—ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei nodi sawl gwaith, mor, mor bwysig, bod y dioddefwyr yn cael eu clywed—pa gamau y byddwch chi'n rhoi yn eu lle i sicrhau bod llais pobl ifanc yn ganolog i'r system ddiogelu, a beth sydd angen digwydd i hynny gael ei weithredu yn effeithiol?
Dwi jest eisiau gorffen drwy ddweud hyn: dwi'n falch iawn eich bod chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu derbyn pob un o'r argymhellion, ac yn sicr mi fyddaf i a Phlaid Cymru yn cefnogi eich ymdrechion chi i sicrhau bod camau'n cael eu gosod yn eu lle i adfer ffydd pobl ifanc yn ein system addysg ac, fel y dywedodd Sioned Williams yn gynharach, i sicrhau bod 'byth eto' yn golygu byth eto.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y eitem nesaf fydd yr eitem ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig yma—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9030 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Symudaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025.
Rwy'n ddiolchgar, Llywydd, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Fel y byddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Plaid Cymru wedi bod yn eirioli am yr angen i ddiwygio'r rheoliadau ardrethi annomestig ers sbel. Yn ein cynllun cynhwysfawr ar gyfer yr economi, 'Gwneud i Gymru Weithio', fe wnaethon ni sôn am yr angen i deilwra'r lluosydd er mwyn lleihau'r baich trethiannol ar ein busnesau domestig fel rhan o weledigaeth ehangach i adfywio strydoedd mawr ein cymunedau.
Felly, mi rydyn ni'n cefnogi a chroesawu'r rheoliadau yma, sydd, i raddau, yn rhoi hyn ar waith. Mi rydyn ni'n credu bod yna sgôp i fynd llawer ymhellach. Mi fyddem ni yn hoffi gweld, er enghraifft, fod bwytai a thafarndai yn medru derbyn y cyfraddau ffafriol o dan reoliadau o'r fath. Roeddech chi'n sôn bod yna waith pellach yn mynd rhagddi. Oes yna ystyriaeth o ran ehangu sgôp y rheoliadau, a pham, yn benodol fan hyn, bod yna rai pethau sydd ddim yn cael eu crybwyll? A gaf i ofyn hefyd beth ydy'r bwlch ariannol rydych chi wedi amcangyfrif sydd angen ei lenwi gan ddarparu lluosydd gymharol uwch i sefydliadau manwerthu mawr?
Mae'n bwysig bod hyn yn cael ei weld fel dim ond un ymhlith amryw o fesurau i wella cefnogaeth ar gyfer ein busnesau bach lleol a'r stryd fawr. Yn benodol, rydyn ni wedi hen ddadlau dros alluogi'r Senedd i fedru datblygu trethiant tir gwag er mwyn hybu gwell defnydd o adeiladau'r stryd fawr. Dwi'n gwybod eich bod chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hyderus y byddai'r pwerau yna yn dod i Gymru o dan y Llywodraeth bresennol yn San Steffan. Oes yna ddiweddariad gennych chi o'r trafodaethau perthnasol, ac a fydd y pwerau yma mewn grym cyn yr etholiad nesaf?
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb, os oes ymateb.
Jest i ddweud diolch i Blaid Cymru am y gefnogaeth maen nhw wedi'i rhoi i'r polisi dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma'r tro cyntaf i'r pwerau ddod atom ni i'w defnyddio nhw. A dwi'n cytuno gyda Heledd Fychan—bydd sgôp i wneud mwy gyda'r pwerau yn y dyfodol.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM9028 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Cynllunio a Seilwaith i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.
Un agwedd o'r LCM yma ydy'r ymwneud efo'r defnydd o bwerau gorfodol, wrth i'r sector gyhoeddus fynd ati i brynu tir ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, er enghraifft. Rydym ni'n gwybod bod diffyg tir a'r problemau wrth gaffael tir yn cael eu henwi fel un o'r rhwystrau pennaf wrth geisio cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol newydd. Fedrwch chi gadarnhau y bydd yr LCM yn galluogi awdurdodau lleol i ystyried gwerth y farchnad, nid gwerth gobeithiol, wrth wneud gorchymyn pryniant gorfodol, ac y bydd y cyfraddau iawndal sy'n cael eu talu i berchnogion tir yn lleihau yn Lloegr ond yn aros yr un peth yng Nghymru—cadarnhad fy mod i wedi deall y sefyllfa'n iawn, os gwelwch yn dda? Ac oes gennych chi fwriad i leihau'r iawndal yng Nghymru drwy is-ddeddfwriaeth Gymreig? Os oes gennych chi, beth ydy'r amserlen ar gyfer y gwaith yna? Ond os dydych chi ddim am wneud hynny, wnewch chi egluro pam? O ystyried bod gennym ni'r pwerau gorfodaeth yn barod, mae gennym ni uchelgais yng Nghymru i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol, ac mi allai defnyddio is-ddeddfwriaeth yrru hynny ymlaen. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb—Rebecca Evans.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio i'w trafod, gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes gwrthwynebiad i hynny, fe wnaf alw, felly, ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gyflwyno'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Felly, Jayne Bryant i gyflwyno'r cynnig yna.
Cynnig NDM9026 Jayne Bryant
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).
Cynnig NDM9027 Jayne Bryant
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i siarad yn gyntaf, John Griffiths.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle yma i gymryd rhan yn y ddadl ar ran y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn tri o'n hargymhellion, ond mae'r tri argymhelliad sy'n weddill wedi eu derbyn mewn egwyddor yn unig. Hoffwn gymryd munud neu ddau i amlinellu safbwynt y pwyllgor.
Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor am ail-bwysleisio pwysigrwydd adolygiad ôl-weithredu cadarn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i fonitro costau a buddion gwirioneddol. Mae ein chweched argymhelliad—a’n hargymhelliad olaf—yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet egluro ei dull o fonitro ac adolygu gweithrediad y Bil, gan gynnwys yr amserlen arfaethedig. Eto, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr argymhelliad hwn ac yn bwriadu egluro ei dull drwy welliannau yng Nghyfnod 2. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf—Mike Hedges.
Mae Plaid Cymru yn croesawu egwyddorion cyffredinol y Bil yma, sy'n anelu at atal digartrefedd, gwella'r cymorth sydd ar gael ac i sicrhau system decach i bawb. Nid mater o dai yn unig ydy digartrefedd, wrth gwrs; mae'n fater sy'n ymwneud ag iechyd, addysg, lles a chydraddoldeb. Dwi'n gefnogol o'r Bil yma, sy'n ceisio newid y dull o ymateb, gan symud oddi wrth ymateb i argyfyngau tuag at ymagwedd ragweithiol, sy'n ceisio atal yr argyfwng yn y lle cyntaf. Ond mae hi'n amlwg o'r cyfraniadau sydd wedi bod cyn belled fod angen cryfhau rhai o'r manylion wrth i ni symud ymlaen at y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol.
Does yna ddim amser mwy prydlon na'r presennol i weithredu. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r data'n dangos bod dros 13,000 o bobl wedi ceisio cymorth oherwydd digartrefedd. Mae dros 10,000, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, yn byw mewn llety dros dro, yn aml heb gyfleusterau sylfaenol fel cegin i goginio. Ac er bod Llywodraeth Cymru wedi honni eu bod nhw'n blaenoriaethu digartrefedd, mae'r ffigurau'n dangos realiti gwahanol, ac mae hi'n cael ei rhagweld y gallai digartrefedd godi 24 y cant erbyn 2041.
Mae'n argyfwng, felly, onid ydy? Does yna ddim amheuaeth bod y Bil yn cynnwys camau cadarnhaol, a dwi'n croesawu'r dull 'gofyn a gweithredu', ond dwi yn teimlo bod yna gyfle i fynd ymhellach a bod angen ehangu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sydd yn delio efo pobl ar lawr gwlad, megis ysgolion, yr heddlu a meddygon teulu. A dwi'n meddwl bod eisiau eglurhad pellach ar sut bydd y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn cael ei monitro. Ac mae eisiau gofyn cwestiynau ynghylch ydy'r capasiti yno i weithredu'r ffordd yma mewn ffordd ymarferol.
Dwi'n meddwl bod yna gyfle i gryfhau gofynion a disgwyliadau ynghylch casglu a chyhoeddi data. Mae yna fylchau yn y Bil ynghylch sut y gall data gyfrannu at drawsnewid y system. Mae yna gyfle i fod yn fwy uchelgeisiol drwy sicrhau digideiddio, cysondeb rhwng awdurdodau lleol, a galluogi pobl i fonitro eu safle ar y gofrestr, er enghraifft.
Gan droi at Ran 2 o'r Bil yn benodol, dwi yn meddwl bod angen craffu hwn yn ofalus iawn, a dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael y cyfle i wneud y craffu yna yn iawn eto. Ychydig iawn o bobl sydd wedi cyfeirio at hwn y prynhawn yma. Mi fuasai Rhan 2 yn rhoi pŵer disgresiynol i awdurdodau lleol i benderfynu pwy sy'n gymwys i gael tai cymdeithasol. Ac, i fi, mae hynny'n mynd yn groes i'r egwyddor sylfaenol y dylai unrhyw berson gael gwneud cais am dŷ cymdeithasol. A dwi yn poeni bod dod â hwn i mewn yn cyflwyno ffordd wahanol o wneud y cyfrif o faint o bobl sydd ar y rhestrau aros, yn hytrach nag yn cynnig datrysiadau tymor hir. Yn fy marn i, mi ddylai tai cymdeithasol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gyffredinoldeb, sef universality, ac mae'n rhaid i ni wrthsefyll y stigma sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol. Ond dwi yn poeni bod y ddeddfwriaeth yn ei drafft presennol mewn perygl o wneud y gwrthwyneb i hynny, ac mae'r pwyllgor yn nodi nad ydy'r achos wedi'i wneud dros yr agwedd benodol yma o'r Bil, ac felly dwi yn edrych ymlaen at glywed beth fydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud a beth fydd yr eglurhad dros gynnwys y darn yma.
A fy mhwynt olaf ydy, er fy mod i'n cefnogi egwyddorion y Bil yma, wrth gwrs, mae mynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru yn mynd i olygu llawer iawn mwy na phasio'r Bil yma. Dwi'n credu, ac mae Plaid Cymru yn credu, fod angen deddfu i roi'r hawl i dai digonol yn rhan annatod o'r gyfraith yma yng Nghymru ac, yn hollol greiddiol, mae'n rhaid cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn sylweddol er mwyn datrys yr argyfwng tai drwyddi draw. Felly, mae yna gyfle yma i newid bywydau drwy'r Bil yma, ond mae yna elfennau ohono fo angen eu craffu, a dwi yn meddwl hefyd bod yn rhaid rhoi hwn mewn cyd-destun llawer iawn ehangach o beth sydd angen ei wneud ynghylch yr argyfwng tai yng Nghymru. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai nawr i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 9 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r ddau gynnig yna o dan y Bil yma wedi cael eu derbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth at y bleidlais. Un bleidlais yn unig sydd heno, ac mae'r bleidlais honno ar eitem 8. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith yw hwn. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal ac un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Eitem 8—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynllunio a Seilwaith: O blaid: 36, Yn erbyn: 1, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.