Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/10/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd gyntaf, wrth gwrs, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands. 

Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU

1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith a gaiff cyllideb yr hydref sydd ar ddod, ar Gymru? OQ63310

Mae pethau'n ddydd a nos o'i gymharu â'r hyn yr oedd gennym ni o'r blaen. Mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd bellach yn gwrando ac yn gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni, ac rydym ni'n pwysleisio dadl Cymru gyda Llywodraeth y DU yn gyson, ac mae ein Gweinidog cyllid mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion y Trysorlys. Gyda'n gilydd, rydym ni'n gwthio i Gymru i gael yr hyn sydd ei angen arni—cyllid teg, hyblygrwydd i fuddsoddi yn ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus, a llais gwirioneddol ar gynlluniau twf ledled y DU gyfan. Ac mae'n talu ar ei ganfed—mae dros £0.5 biliwn drwy'r gronfa twf lleol newydd, er enghraifft, yn rhywbeth sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r berthynas honno.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Rwy'n falch o glywed bod y sgyrsiau hynny'n mynd yn dda, oherwydd mae'n hanfodol, yn fwy nag erioed, bod cryfder Cymru yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gydnabod. Y bartneriaeth hon sy'n galluogi Cymru i elwa o raddfa a sefydlogrwydd economaidd y Deyrnas Unedig ac o'r cyllid ffyniant cyffredin hwnnw, ond hefyd cyllid mewn seilwaith strategol a chymorth i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ceir rhai, fodd bynnag, Prif Weinidog, y byddai'n well ganddyn nhw weld Cymru yn cael ei gwahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod bod Plaid Cymru yn dal i lygadu annibyniaeth—llwybr a fyddai'n peryglu biliynau mewn cyllid ac a fyddai'n costio £11,000 y flwyddyn, y pen i drethdalwyr yng Nghymru. Maen nhw eisiau creu ansefydlogrwydd economaidd a rhoi baich ansicrwydd a chost ar genedlaethau'r dyfodol. Felly, yn hytrach na mynd ar drywydd rhaniad fel Plaid Cymru, mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio'n dda mewn Teyrnas Unedig gref i gyflawni'r hyn sydd orau i bobl Cymru. A fyddech chi'n cytuno?

Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn onest gyda'r cyhoedd o ran y gyllideb. Mae adnoddau'n gyfyngedig ac mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd. Dyna beth mae llywodraethu yn ei olygu. Allaf i ddim siarad dros gyllideb Plaid Cymru. Allaf i ddim siarad dros annibyniaeth. Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw y byddwn ni'n gweld toriad o 5 y cant drwyddi draw o ran gwasanaethau yng Nghymru, os byddwn ni'n methu â phasio cyllideb yn y lle hwn. A bydd yn llawer mwy na hynny o ran llywodraeth leol. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig deall ei bod hi'n afrealistig awgrymu y bydd ymrwymiadau ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol. Byddai'n rhaid i bawb chwilio am doriadau o 5 y cant ar draws y bwrdd. Felly, rwy'n ddiolchgar am y ffaith bod Darren wedi ysgrifennu ataf i, a byddaf yn cyfarfod ag ef ynglŷn â'r gyllideb. Rwyf i hefyd wedi ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru, ac edrychaf ymlaen at dderbyn ei ymateb ynghylch a yw yntau hefyd yn fodlon cyfarfod a thrafod y gyllideb. 

Yn amlwg, elfen benodol o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig y llynedd a greodd fwlch sylweddol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru oedd y newidiadau i yswiriant gwladol. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau—gan eu bod nhw yn gwrando gymaint arnoch chi—sydd wedi bod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran unioni hynny? A pha sicrwydd ydych chi wedi'i gael bod yna astudiaeth lawn yn mynd i fod o ran pob un o'r penderfyniadau y gwelwn ni yng nghyllideb y Deyrnas Unedig, o ran yr effaith benodol ar Gymru, i sicrhau nad oes yna fwlch cyffelyb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y tro yma?

Diolch yn fawr. Mae'r yswiriant—national insurance—yn elfen sy'n bwysig i ni, ac mae'r achos wedi cael ei wneud dro ar ôl tro i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod annhegwch wedi bod, ac mi fyddwn ni yn dal i wthio'r achos yna. Fe fyddaf i wastad yn gofyn am fwy gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; dyna yw fy ngwaith i fel arweinydd y wlad. 

Wel, ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol a chamreolaeth economaidd Llywodraeth Dorïaidd y DU, rwy'n falch iawn o weld bod gennym ni Lywodraeth Lafur y DU bellach, yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, sy'n ystyriol o wasanaethau cyhoeddus, sy'n ystyriol o'n cymunedau, sy'n ystyriol o'r bobl sy'n eu darparu. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud mai gwir brawf y gyllideb yw'r hyn y mae pobl yn ei weld yn eu bywydau bob dydd. Mae rhai pobl wedi dweud wrthyf i'n ddiweddar bod eu hapwyntiadau iechyd wedi cael eu symud ymlaen. A allwch chi nodi rhywfaint o'r cynnydd sy'n cael ei wneud nawr o dan y bartneriaeth newydd hon, a sut y bydd cyllid teg gan Lywodraeth y DU yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl?

13:35

Diolch yn fawr iawn. Nid yw pobl yn barnu cyllidebau yn ôl taenlenni; maen nhw'n eu barnu yn ôl yr hyn y maen nhw'n ei weld ac y maen nhw'n cael profiad ohono yn eu bywydau bob dydd. Ledled Cymru, rwy'n credu bod pobl yn gweld y gwahaniaeth y mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn ei wneud: trenau newydd—mae dros 70 y cant o deithiau yn cael eu gwneud ar y trenau newydd hynny bellach; miloedd o gartrefi newydd; dros 300 o ysgolion wedi'u trawsnewid; yr wythnos hon, rydym ni wedi cwblhau'r gwaith o lenwi 130,000 o dyllau mewn ffyrdd; ac mae rhestrau aros y GIG yn dechrau lleihau. Mae hynny er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi gweld 14 mlynedd o danfuddsoddiad gan y Torïaid. Felly, â Llywodraeth y DU sydd wir yn gwrando ac yn gweithio gyda ni, rydym ni wedi sicrhau £6 biliwn yn fwy i Gymru nag y byddem ni wedi eu wneud o dan y Torïaid. Rydym ni wedi cytuno i weithio i ddiwygio fformiwla Barnett, ac rydym ni'n gwthio buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy, deallusrwydd artiffisial ac amddiffyn fel bod Cymru yn arwain diwydiannau'r dyfodol. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth sôn am y cytundeb hwnnw a sicrhaodd y Gweinidog Cyllid yr wythnos diwethaf—y byddai Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad mewn gwirionedd, ac yn edrych ar fformiwla Barnett.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio mai un o'r meysydd y mae'r Llywodraeth yn Llundain—bu bron i mi â dweud 'Llywodraeth Geidwadol' yn y fan yna; dyna'r peth anghywir i'w ddweud—y Llywodraeth Lafur, yn gwrando arnoch chi yn ei gylch yw diddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymrwymo i hyn yn bersonol, ond mae'r gyllideb ar ei ffordd ac rydym ni'n clywed efallai na fydd ymrwymiad i ddiddymu'r budd-dal dau blentyn hwnnw, yn ogystal â'r pryder yr ydym ni wedi ei glywed y gallai fod toriadau pellach i'r budd-daliadau lles hefyd, na all ddigwydd. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi siarad yn gryf i sicrhau nad yw'r rhain yn digwydd. Rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, bod 29 y cant o blant yma yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac y disgwylir i hynny gynyddu, dim ond yn y pedair blynedd nesaf, i 34 y cant, sy'n hollol syfrdanol. Rydym ni'n gwybod  bod 21,000 o deuluoedd yma yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y cap budd-dal dau blentyn. Felly, a gaf i ofyn i chi pa sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud i'r Canghellor i sicrhau bod y cap budd-dal dau blentyn yn cael ei ddiddymu yn y gyllideb sydd ar fin cael ei chyhoeddi? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi bod yn gyson yn ein cais i Lywodraeth y DU—o dan y Torïaid gynt, a bellach o dan y Llywodraeth Lafur—ein bod ni eisiau gweld diwedd ar y cap budd-dal dau blentyn. Mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gydnabod nad wyf i'n credu bod neb yn y Blaid Lafur ddim eisiau gweld diwedd ar y cap budd-dal plant, gan gynnwys y Canghellor. Mater o wneud penderfyniadau anodd yw hyn. Byddwn yn awgrymu a byddwn yn ei hannog i wneud hwn yn un o'r meysydd blaenoriaeth yr wyf i'n credu fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant yng Nghymru. Byddai hyn yn dilyn y ffordd goch Gymreig o ymdrin â gwleidyddiaeth.

Maes Awyr Caerdydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar gyfer gweddill y Senedd hon? OQ63303

Mae Maes Awyr Caerdydd yn ased cenedlaethol, sy'n cefnogi cannoedd o swyddi, yn cysylltu Cymru â'r byd ac yn ysgogi ein heconomi ymwelwyr. Ers dod i berchnogaeth gyhoeddus, gwelwyd cynnydd gwirioneddol yno—llwybrau newydd, gwell profiadau i deithwyr a buddsoddiad preifat cynyddol. Mae'n borth hanfodol ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau mawr, o gyngherddau a gemau chwaraeon i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017, a ddaeth â dros £40 miliwn i mewn i Gymru. Mae ein pwyslais nawr ar dwf economaidd gwyrdd, cynaliadwy.

Rwy'n falch o weld eich bod chi'n dal i fyw yn eich bydysawd cyfochrog, Prif Weinidog, o gofio bod trethdalwyr Cymru wedi buddsoddi dros £250 miliwn yn y maes awyr. Rwyf i eisiau gweld Maes Awyr Caerdydd llwyddiannus. Un o'r pethau y gallech chi ei wneud i ddatblygu Maes Awyr Caerdydd llwyddiannus yw ailsefydlu'r cysylltiad Qatar Airways i Doha. Ar un adeg, ni allech chi atal Prif Weinidog neu Weinidog yr economi a thrafnidiaeth o'r adeilad hwn rhag neidio ar awyren a mynd i Doha i sicrhau'r llwybr hwnnw, ac rwy'n canmol y Llywodraeth am wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed yr Aelod dros Lanelli yn gweiddi draw yn y fan yna bod COVID wedi digwydd. Mae pob maes awyr arall yn y DU a oedd â'r cysylltiad Doha gyda Qatar Airways wedi llwyddo i ailsefydlu'r cysylltiad hwnnw. Felly, efallai y byddai'n werth chweil, yn hytrach na checru, iddo ddarllen y gwaith papur ar hyn. Pryd mae'r Prif Weinidog a'i Llywodraeth yn mynd i ailsefydlu'r cysylltiad hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd dyna fyddai'r arwydd mwyaf bod Cymru yn agored i fusnes ac yn hwb gwirioneddol i hyder yn y maes awyr gan eich Llywodraeth chi, sy'n berchen arno?

13:40

Diolch yn fawr iawn. Nid yw sgyrsiau erioed wedi dod i ben gyda Llywodraeth Qatar. Rydym ni'n dal i sgwrsio. Rydym ni'n dal i geisio eu hargyhoeddi i ailgychwyn y llwybr hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod y maes awyr wedi cyhoeddi heddiw ein bod ni wedi gweld cynnydd o 5.3 y cant i nifer y teithwyr rhwng Medi 2024 a Medi 2025. Felly, bron i 1 filiwn o deithwyr bellach. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu hynny.

Er bod llawer o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud ar hyd y ffordd, mae Plaid Cymru o blaid yr egwyddor gyffredinol o berchnogaeth gyhoeddus o'r maes awyr. Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno ein bod ni, fel cenedl, yn haeddu maes awyr cenedlaethol y gallwn ni fod yn falch ohono. Y ffaith amdani o hyd yw bod Caerdydd, o ran lleoliad, yn faes awyr llawer mwy cyfleus i hedfan ohono i lawer o bobl yn ein gwlad o'i gymharu â lleoedd fel Bryste. Ar ben hynny, rwyf i wedi canfod ei fod yn brofiad llawer brafiach na hedfan o Fryste, sydd wedi dod yn orlawn iawn yn yr ardal ymadael, gan ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i seddi i fwynhau bwyd neu ddiod cyn esgyn. Hoffwn wybod yn benodol beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddenu cwmnïau hedfan i Faes Awyr Caerdydd, sy'n hanfodol i gynyddu nifer y teithwyr, ac, yn gysylltiedig â hynny, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â'r maes awyr?

Diolch yn fawr iawn. Nid oeddem ni'n fodlon bod yn un o'r unig wledydd yn Ewrop heb faes awyr cenedlaethol. Nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am wneud yn siŵr bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi camu i mewn a gwneud yn siŵr bod pobl yn dal i allu defnyddio'r cyfleuster hwnnw. Nid cyfleuster teithio yn unig ydyw, mae'n offeryn datblygu economaidd gymaint ag unrhyw beth arall. O ran llwybrau, yn 2025, bydd gan Ryanair y rhaglen fwyaf erioed yng Nghaerdydd yn y dyfodol. Aeth y maes awyr a Croeso Cymru i'r digwyddiad Routes World yn Hong Kong ym mis Medi i hyrwyddo Cymru a'r maes awyr ar lwyfan y byd. Felly, rydym ni'n gwneud ymdrechion mawr i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod bod cyfleuster gwych, bod cyfleoedd, ac i'w hannog nhw i ddod i leoli eu hunain ym Maes Awyr Caerdydd.

Prif Weinidog, mae'n galonogol bod nifer y teithwyr wedi cynyddu mwy na 5 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Medi, ac mae'n dangos bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Ond, wrth gwrs, mae ein maes awyr yn fwy na phorth—er bod hynny'n bwysig—o ran cysylltu Cymru â'r byd a'r byd â Chymru; mae hefyd yn ymwneud â'n gweledigaeth economaidd gyffredinol, rwy'n credu. Tybed a allech chi sôn ychydig am sut y bydd y buddsoddiad hwnnw gan gwmnïau hedfan sydd wedi'u lleoli yn y maes awyr yn cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru o ran pethau fel tyfu ein heconomi ymwelwyr hollbwysig ac, yn wir, ein sector ynni adnewyddadwy.

Diolch yn fawr iawn, John. Rydych chi'n gwbl gywir—mae Maes Awyr Caerdydd yn gwbl ganolog i'n strategaeth economaidd ehangach. Mae'n cysylltu Cymru â marchnadoedd byd-eang, yn cefnogi ein heconomi ymwelwyr a hefyd yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad. Drwy ein pecyn buddsoddi 10 mlynedd gwerth £206 miliwn, rydym ni'n cefnogi datblygiad gwasanaethau awyr a chargo awyr a thechnoleg hedfanaeth gynaliadwy, fel bod y maes awyr yn tyfu mewn ffordd sy'n cefnogi diwydiannau gwyrdd a swyddi medrus yng Nghymru. Mae hynny'n ategu gwaith Llywodraeth Cymru ar ynni adnewyddadwy, ar fasnach, ar dwristiaeth, ar wneud yn siŵr bod Cymru'n sicr yn agored i fusnes, yn falch o'n hasedau cenedlaethol, a'n bod ni'n barod i gystadlu yn economi lanach a gwyrddach honno y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Arweinydd y Ceidwadwyr nawr, i ofyn cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau—Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Os gwnewch chi faddau i mi, gan ei bod hi'n hanner cant a naw o flynyddoedd heddiw ers i 116 o blant a 28 o oedolion farw yn eu hysgol a'u cartrefi yn nhrychineb Aberfan, rwy'n siŵr yr hoffem ni i gyd ddweud bod y dioddefwyr hynny yn sicr yn ein meddyliau heddiw, fel y mae cymuned anhygoel a gwydn Aberfan.

Prif Weinidog, byddwch yn cofio, yn ôl ym mis Ionawr, fy mod i wedi amlinellu bod tystiolaeth eglur o gamfanteisio ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru. Fe wnaeth eich Llywodraeth wadu bryd hynny bod hyn yn wir, ac fe wnaethoch chi fy herio bryd hynny i ddarparu tystiolaeth, er bod yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol eisoes wedi nodi camfanteisio gan gangiau yn Abertawe ac er gwaethaf dewrder dioddefwyr, fel Emily Vaughn, a siaradodd yn agored am eu profiadau. Fe wnaethoch chi hefyd fethu â chefnogi fy ngalwadau ar y pryd am ymchwiliad cyhoeddus. Hefyd, fe wnaethoch chi wrtho cyhoeddi gohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru, yr heddlu ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Ac aethoch ymlaen i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, nad oedd 'unrhyw broblemau eang cyfredol' o ran gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru. Yna, pan ildiodd Llywodraeth y DU i bwysau cyhoeddus o'r diwedd a rhoi sêl bendith i ymchwiliad Cymru a Lloegr, fe wnaethoch chi dro pedol a'i gefnogi, yr wyf i'n ei groesawu. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf nawr am y cynnydd o ran sefydlu'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw ac ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU ar y mater pwysig iawn hwn?

13:45

Wel, diolch yn fawr iawn. A hoffwn innau hefyd nodi heddiw fel pen-blwydd y drasiedi honno yn Aberfan. Ceir teuluoedd o hyd heddiw sy'n galaru colled eu plant ac rwy'n siŵr bod ein meddyliau gyda nhw heddiw. Mae'n ben-blwydd digwyddiad arall yn hanes Cymru. Ar y diwrnod hwn ym 1965 agorwyd cronfa ddŵr Llyn Celyn yn swyddogol hefyd. Yn amlwg, roedd hwn yn anghyfiawnder arall a ddigwyddodd ac ni phleidleisiodd yr un AS Llafur Cymru dros hynny. Felly, mae Tryweryn yn rhywbeth sy'n werth ei nodi ar y diwrnod penodol hwn hefyd. 

O ran yr ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf i'w wneud yw i ni gofio goroeswyr y cam-drin ofnadwy a ddigwyddodd bryd hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ofyn am sicrwydd y bydd lleisiau o Gymru yn cael eu clywed yn yr ymchwiliad hwnnw, ac mae'n bwysig bod yr ymchwiliad hwnnw yn cychwyn cyn gynted â phosibl.

Gyda pharch, Prif Weinidog, wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn, a oedd yn ymwneud â'r ymgysylltiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei gael hyd yma am fwrw ymlaen â'r ymchwiliad hwn. Ac rwy'n cytuno â chi bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod goroeswyr yn gwbl ganolog i'r ymchwiliad sy'n cael ei gynnal, gan gynnwys goroeswyr o Gymru.

Ddoe, fe wnaethom ni ddarganfod bod dau o oroeswr gangiau meithrin perthynas amhriodol wedi rhoi'r gorau i'w swyddogaethau yn ymchwiliad Llywodraeth y DU i gangiau meithrin perthynas amhriodol. Ymddiswyddodd Fiona Goddard ac Ellie-Ann Reynolds o banel cyswllt dioddefwyr a goroeswyr yr ymchwiliad mewn protest, gan eu bod nhw'n dweud bod gan y ddau gadeirydd ar restr fer yr ymchwiliad gefndiroedd ym meysydd plismona a gwasanaethau cymdeithasol, a bod hynny'n dystiolaeth, ac rwy'n dyfynnu, o 'wrthdaro buddiannau annymunol', oherwydd bod y gwasanaethau hyn, ac rwy'n dyfynnu'r dioddefwyr eto, wedi

'cyfrannu fwyaf at guddio'r treisio torfol a masnachu plant cenedlaethol'.

Fe wnaethon nhw gwyno bod yr ymchwiliad wedi dod yn

'llai am y gwir a mwy am guddio ffeithiau'. 

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â nhw ynglŷn â'r asesiad hwnnw o'r sefyllfa, ac os nad ydych chi, pam ddim?

Fe wnaethoch chi ofyn i mi am gyfranogiad Llywodraeth Cymru, a gallaf eich sicrhau chi bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth y DU, yn ogystal â chydweithwyr yn yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol sy'n arwain ar argymhelliad 2, ac i sicrhau bod Cymru yn cymryd rhan lawn. Rwy'n gobeithio y bydd y cadeirydd yn cael ei benodi cyn gynted â phosibl, ond yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

Eto, wnaethoch chi ddim ateb y cwestiwn. Fe wnes i ofyn a oeddech chi'n cytuno â'r dioddefwyr dewr a eithriodd eu hunain o'r panel cyswllt dioddefwyr a goroeswyr oherwydd eu pryderon am wrthdaro buddiannau. Efallai y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw mewn ymateb i fy nhrydydd cwestiwn yma hefyd.

Oherwydd y gwir amdani, Prif Weinidog, yw nad yw'n ymddangos bod unrhyw ymdeimlad o frys gennych chi na'ch Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Fe wnaethoch chi ysgrifennu ataf yn ôl ym mis Mehefin i ddweud eich bod chi'n sefydlu eich grŵp cyfeirio dioddefwyr a goroeswyr eich hun yma yng Nghymru, yn rhan o'ch strategaeth ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yma yng Nghymru, ac eto dyma ni, bedwar mis yn ddiweddarach. Eto, yn ôl Emily Vaughn, y dioddefwr dewr yng Nghymru sydd wedi siarad am ei phrofiadau, nid yw'r grŵp hwnnw, y grŵp cyfeirio hwnnw y gwnaethoch chi addo ei sefydlu yn ôl ym mis Mehefin wedi cyfarfod unwaith. Ac mae hyn er gwaethaf y ffaith y bu arestiadau pellach eto yr haf hwn o ran camfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau yn y gogledd, yn y Rhyl y tro hwn.

A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam nad yw'r grŵp hwn wedi cyfarfod? Pam mae'n flaenoriaeth mor isel i'ch Llywodraeth Cymru chi? A pha gamau wnewch chi eu cymryd nawr, fel y gall dioddefwyr dewr y troseddau anfad hyn gael y cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu?

13:50

Edrychwch, rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth o'r goroeswyr hynny sydd wedi dod ymlaen, a thosturi tuag atyn nhw, a bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ym mis Gorffennaf yn amlinellu ein strategaeth genedlaethol 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Daeth hwnnw i ben ar 8 Hydref, ac mae hynny'n cynnwys camfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae'n werth nodi bod swyddogion wrthi'n dadansoddi'r ymatebion yr ydym ni wedi eu cael.

Diolch, Llywydd, ac mae hi yn ddiwrnod o gofio i ni yma yng Nghymru heddiw. Rydyn ni'n cofio am yr holl fywydau a gollwyd yn Aberfan, ac rydyn ni'n cofio am anghyfiawnder boddi Capel Celyn, ac yn y ddau achos, mae'n bwysig ein bod ni i gyd fel un yn dweud, 'Byth eto.'

Mewn cynifer o ffyrdd, Llywydd, mae Cymru yn sefyll wrth groesffordd. Rydym ni'n ei weld yn isetholiad Caerffili, lle mae pleidleiswyr blaengar yn gweld yr angen i gefnogi'r blaid sydd yn y sefyllfa orau i drechu rhaniad Reform, sef Plaid Cymru, ac rydym ni'n ei weld yn y dewis sy'n agosáu yn gyflym yn etholiad mis Mai nesaf, wrth gwrs. Gyda'r sefyllfa bresennol yn cael ei gwrthod yn bendant, fe wnaf i annog Cymru i wneud y dewis cadarnhaol. Eto, Plaid Cymru yw hwnnw.

Ac mae'r cwestiwn, wedyn, o ba mor benderfynol ydym ni gyda'n gilydd o sefyll yn gadarn dros Gymru. Rydym ni wedi cael ein hatgoffa eto o'r angen i sefyll yn gadarn ar y llinell reilffordd cyflymder uchel 2, er enghraifft. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Gweinidog Gwladol y DU dros Rheilffyrdd, Peter Hendy, dystiolaeth i'r Senedd lle'r oedd yn ymddangos iddo gadarnhau nad oes gan Lywodraeth Lafur y DU unrhyw fwriad o roi'r biliynau i Gymru sy'n ddyledus iddi o wariant rheilffyrdd Lloegr yn unig. Pan ofynnwyd iddo am yr hyn a ddywedodd yn 2023, bod rhywbeth o'i le gyda sut mae fformiwla Barnett yn cael ei chymhwyso i wariant HS2, rhoddodd Mr Hendy yr ateb rhyfeddol hwn: 

'Ar yr adeg y gwnes i fy sylwadau blaenorol, doeddwn i ddim yn Weinidog yn y Llywodraeth; nawr mi ydw i.'

Beth ddigwyddodd i egwyddorion? A chafodd y Prif Weinidog ei syfrdanu gymaint â fi pan glywodd sylwadau'r Arglwydd Hendy?

Edrychwch, byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Rwy'n credu bod, ac roedd anghyfiawnder o ran tanariannu rheilffyrdd. Rwy'n falch bod Plaid Lafur y DU wedi dechrau cywiro'r anghyfiawnder hwnnw, ond gadewch i ni fod yn eglur: dim ond y dechrau ydyw. Mae gennym ni ffordd bell i fynd, a byddaf yn chwilio am ymrwymiad tymor hwy gan Lywodraeth y DU. Dydyn ni ddim bob amser yn mynd i gael yr hyn yr ydym ni ei eisiau, ond ddywedaf i wrthych chi beth, rwy'n mynd i fod yn gwthio a gwthio a gwthio i wneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed ar bob lefel o lywodraeth yn y DU.

Wel, dydw i ddim yn siŵr pa mor galed mae'r Llywodraeth hon yn gwthio. Dyma fwy o dystiolaeth am honiad amheus Llafur o fod yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Yr haf hwn, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder, a ddatganodd, ac rwy'n dyfynnu,

'Rydym yn parhau i gefnogi datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.'

Felly, cefais fy synnu braidd, a dweud y lleiaf, o ddarllen am sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol i gynhadledd Cymru'r Gyfraith y mis hwn. Mae'r Law Society Gazette yn adrodd bod:

'Unrhyw obaith o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru wedi cael ei hepgor yn llwyr, wrth i brif gyfreithiwr y wlad gadarnhau nad yw'n opsiwn ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.'

Mae'n ymddangos bod y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud tro pedol ar addewid Llafur i ddatganoli cyfiawnder a phlismona a datblygu system gyfreithiol ar wahân i Gymru, ond wrth gwrs nid hi yw'r unig un; felly hefyd y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, a'r Gweinidog carchardai, yr Arglwydd Timpson. Daw hyn er i gomisiwn Thomas adrodd bod pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system gyfiawnder yn ei chyflwr presennol ac yn argymell y dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli yn gyfan gwbl gan greu awdurdodaeth Cymru. A roddodd y Prif Weinidog ei bendith i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud yr hyn a ddywedodd?

Rydym ni wedi bod yn eglur yn Llywodraeth Cymru yr hoffem ni weld cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli. Rwy'n falch o ddweud bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cael ymgysylltiad adeiladol iawn gyda'r Arglwydd Ganghellor. Mae pethau'n symud ymlaen a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r pwnc hwnnw.

Fe wnaf i atgoffa'r Prif Weinidog bod yr addewid ar gyfiawnder, nid cyfiawnder ieuenctid yn unig. 

Fe wnaf i ddychwelyd, i gloi, at sylwadau Peter Hendy, y tro hwn ar fformiwla Barnett a'r ffordd y mae Cymru yn cael ei hariannu. Dywedodd Mr Hendy wrth Aelodau'r Senedd, a dyfynnaf eto,

'Ni allaf wneud sylwadau am unrhyw newidiadau i Barnett oherwydd, hyd y gwn i, nid oes rhai wedi'u cynnig ar hyn o bryd'.

Eto, siomedig dros ben o gofio, y llynedd, bod y Prif Weinidog wedi ein sicrhau bod Prif Weinidog y DU a'r Canghellor yn barod i wrando o ran sut mae Cymru yn cael ei hariannu. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth o'r gwrando hwnnw. Mae patrwm yn dod i'r amlwg yn y fan yma, onid oes? Dim cyllid canlyniadol HS2, sy'n golygu biliynau wedi'u colli i Gymru; dim datganoli cyfiawnder, sy'n golygu ein bod ni'n cael ein gadael â system sydd wedi torri sy'n siomi pobl Cymru; a dim diwygio'r fformiwla ariannu o hyd, sy'n golygu na all Cymru ariannu ei gwasanaethau cyhoeddus a'i hawdurdodau lleol yn ddigonol.

Beth ddigwyddodd i'r bartneriaeth mewn grym? Onid yw Neal Lawson yn iawn yn ei erthygl ar farwolaeth Llafur yng Nghymru yn y New Statesman yr wythnos hon, bod Llafur bellach yn sefyll dros uniongrededd, pwyll a'r sefydliad, bod pobl eisiau newid yn daer, ac mai Plaid Cymru yn wyneb y newid blaengar hwnnw i Gymru?

13:55

Wel, gadewch i mi fod yn eglur: nid wyf i'n credu bod unrhyw beth anradicalaidd am gael gwared ar elw mewn cartrefi gofal plant. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth anradicalaidd am wneud yn siŵr ein bod ni'n bwydo'r plant yn ein hysgolion cynradd. Rwy'n credu bod fformiwla Barnett—[Torri ar draws.] Mae'n debyg ei bod hi'n werth sôn bod fformiwla Barnett—. Ddydd Gwener, cytunwyd mewn cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd cyllid y byddai gwaith yn cael ei wneud i wella fformiwla Barnett gan Weinidog perthnasol Llywodraeth y DU, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n symud gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth, nid yn unig gyda Llywodraeth y DU, ond yn amlwg, gan mai fformiwla Barnett ydyw, bydd yn rhaid i ni gael cytundeb gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Sgiliau Digidol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau digidol? OQ63315

Sgiliau digidol yw sylfaen ein heconomi yn y dyfodol ac rŷm ni eisoes yn cyflawni. Bellach, mae gan bob dysgwr yng Nghymru fynediad at Hwb, ein platfform dysgu digidol. Rŷm ni hefyd wedi cynnwys codio a meddwl cyfrifiadurol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd. Rŷm ni wedi cefnogi hyn drwy fuddsoddi mewn seilwaith digidol ysgolion, prentisiaethau newydd a'r academi deallusrwydd artiffisial genedlaethol. Bydd yr academi hon yn hyfforddi gweithwyr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o swyddi. Dyma'r ffordd goch Gymreig: nid yn unig datblygu economi ddigidol, ond sicrhau bod pob person ym mhob cwr o Gymru yn gallu bod yn rhan ohoni.

Rwy'n falch eich bod chi wedi cydnabod yn eich ateb pa mor hanfodol yw'r sgiliau digidol hyn ar gyfer dyfodol Cymru, ac ers dros ddau ddegawd mae'r rhaglen Technocamps, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei chyflwyno gan adrannau cyfrifiadureg ar draws prifysgolion Cymru, gan hyfforddi tua 900 o athrawon a chynnal gweithdai dwyieithog ar gyfer 30,000 o ddisgyblion bob blwyddyn. Cefais y pleser o ymweld â gweithdy Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, a gwelais sut maen nhw'n cyflawni nodau strategol y Llywodraeth ar gyfer addysg ddigidol. Maen nhw'n darparu cymorth llwyddiannus, wedi'i deilwra, dwyieithog, wyneb yn wyneb i 900 o athrawon bob blwyddyn, gan sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cael ei chefnogi'n llawn. Ond mae'r athrawon hyn yn poeni bellach bod y Llywodraeth wedi torri cyllid Technocamps ac yn hytrach na'r cymorth hwn bod £1.4 miliwn, dwywaith y cyllid a gafwyd gan Technocamps, yn cael ei roi i Brifysgol Efrog i ddarparu adnoddau ar-lein, â sesiynau wyneb yn wyneb mewn meysydd blaenoriaeth yn unig.

Sut all y Llywodraeth feddwl bod hwn yn opsiwn digonol a chost-effeithiol i ddisodli cymorth personol, lleol, wedi'i wneud yng Nghymru, yn enwedig o gofio bod gwaith ymchwil gan Nesta yn awgrymu y gallai hyn

'gynyddu...anghydraddoldebau a hierarchaethau yn hytrach na grymuso mwy o bobl'?

Beth yw eich ymateb i Beti Williams MBE, noddwr Technocamps, sydd wedi disgrifio'r penderfyniad hwn fel un cywilyddus, ac yn cyhuddo'r Llywodraeth o ddangos diffyg parch at Gymru ac o ddiystyru anghenion penodol ein hysgolion?

Aeth ymgeiswyr am y grant hwn, fel yr wyf i'n ei deall hi, trwy broses gadarn o arfarnu a chymedroli yn erbyn manyleb gyhoeddedig. Cawsom nifer o wahanol geisiadau, felly bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Rydym ni wedi blaenoriaethu dysgu proffesiynol, felly rydym ni'n rhoi'r arfau i ysgolion wneud y gwaith ac i sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn elwa o'n buddsoddiad. Rydym ni wedi cynyddu ein cyllid i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol a digidol i £1.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Gadewch i ni beidio ag anghofio na fyddai hynny wedi digwydd pe baech chi wedi bod yn dal awenau grym, gan na fyddem ni wedi cael ein cyllideb drwodd.

Prif Weinidog, mae cyflymder datblygiad technolegol yn cyflymu bron yn gynt nag y gallwn gadw i fyny ag ef. Pwy fyddai wedi meddwl ychydig flynyddoedd yn ôl y byddai gan raglenni cyfrifiadurol y gallu i ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol? Ond dyna lle'r ydym ni gyda deallusrwydd artiffisial. Nid yn unig y mae'n rhaid i ni baratoi'r genhedlaeth bresennol gyda'r sgiliau digidol i gymryd rhan lawn yn y byd sy'n newid, ond mae'n rhaid hefyd i ni arfogi cenedlaethau'r dyfodol gyda'r sgiliau digidol i addasu i dechnoleg na allwn ni hyd yn oed ei dirnad. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector technoleg i gadw addysg ac athrawon TG yn gyfredol o ran y datblygiadau technoleg diweddaraf, yn enwedig deallusrwydd artiffisial?

14:00

Diolch yn fawr iawn, Altaf. Fel yr ydym ni i gyd yn ei wybod, mae deallusrwydd artiffisial yn mynd i drawsnewid ein bywydau ni i gyd pa un a ydym ni'n ei hoffi ai peidio. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n addasu ac yn rhoi rhai mesurau diogelwch o'i gwmpas. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru yw sefydlu grŵp cynghori ar ddeallusrwydd artiffisial strategol i roi arweinyddiaeth, i nodi cyfleoedd, i hyrwyddo arloesedd cyfrifol i helpu i dyfu ecosystemau deallusrwydd artiffisial cryf a moesegol sy'n cynnig manteision gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled Cymru, ac ar ben hynny, i hyrwyddo, fel yr ydych chi'n ei awgrym, llythrennedd deallusrwydd artiffisial.

Rhoi Organau

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhoi organau? OQ63298

Mae cannoedd o fywydau wedi cael eu hachub a channoedd o rai eraill wedi cael eu trawsnewid ers i Gymru arloesi cyflwyniad deddfwriaeth cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn y DU. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn dathlu 10 mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym. Mae ein cynllun rhoi a thrawsblannu cenedlaethol, sy'n rhan o ddull ehangach yn y DU, yn cyflwyno ein hymrwymiad a'n camau gweithredu hirdymor i wella cyfraddau rhoi organau. Gall Llywodraeth Lafur Cymru fod yn wirioneddol falch o bolisi a wnaed yng Nghymru sydd bellach yn cael ei gopïo ledled y DU, gan achub bywydau bob un dydd.

Diolch am yr ateb.

Ar 1 Rhagfyr, mae gardd goffa newydd i addysgu a chefnogi ac anrhydeddu'r rhai sy'n ymwneud â rhoi organau yn cael ei hagor yn amlosgfa Thornhill yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd. Fe'i hysgogwyd gan Anna-Louise Bates a'i thîm yn Believe, ac rwy'n gobeithio y gallai'r Prif Weinidog fod yn bresennol yn yr agoriad. Collodd Anna-Louise ei gŵr a'i mab yn drasig mewn damwain 10 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi ymgyrchu'n ddiflino dros roi organau, a dro addysg ar roi organau yn arbennig. Mae wedi ymweld ag ysgolion, mae wedi mynd i golegau, mae wedi creu animeiddiad, ac wedi ymgyrchu'n ddiddiwedd i geisio hyrwyddo rhoi organau.

Yr ardd hon fydd yr ardd gyntaf y tu allan i ysbyty o'i math i addysgu a chefnogi'r rhai sy'n ymwneud â rhoi organau ac, fel y dywedais i, i anrhydeddu'r rhai dan sylw. Bydd yn cynnwys calon 82m o led y bydd modd ei gweld ar Google Maps, twmpathau i adlewyrchu'r afu a'r arennau, cyfeiriadau ffisegol at elusennau eraill i esbonio clefydau sy'n ymwneud â rhoi organau, a dyfyniadau gan deuluoedd rhoddwyr a phroffesiynau meddygol i chwalu mythau a chamdybiaethau. Fel yr ydym ni'n gwybod, ledled y DU, mae cyfraddau rhoi organau yn gostwng. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, bod y gwaith addysg pwysig hwn yn cael ei wneud. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau os gwelwch yn dda beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn arbennig i hyrwyddo addysg yn ymwneud â rhoi organau yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Julie, a diolch am eich brwdfrydedd tuag at y gyfraith bwysig iawn hon sydd wedi trawsnewid bywydau cynifer o bobl yng Nghymru. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Anna-Louise Bates yn swnio fel menyw ryfeddol, a hoffwn ddiolch iddi i am y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud gydag elusen Believe. Rwy'n credu bod yr hyn y mae wedi ei wneud yn wyneb trasiedi bersonol wir yn ysbrydoliaeth—helpu teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ysgolion i gael y sgyrsiau hanfodol hynny am roi organau. Mae'n anhygoel meddwl, rwy'n credu, ar ôl 10 mlynedd, bod mwy na 640 o organau wedi cael eu rhoi trwy gydsyniad tybiedig. Mae hynny'n gannoedd o fywydau wedi'u hachub neu eu trawsnewid.

Ond, fel rydych chi'n ei awgrymu, dim ond mor bell y gall deddfwriaeth fynd â chi. Mae angen i deuluoedd chwarae rhan hanfodol o hyd, a dyna pam mae'r addysg a'r ymwybyddiaeth hynny yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw mor hanfodol. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw cynllun rhoi a thrawsblannu ar gyfer Cymru, ac mae hynny mewn partneriaeth â chorff gwaed a thrawsblaniadau'r GIG. Rydym ni'n parhau i ariannu ymgyrchoedd, adnoddau ysgol ac ymgysylltu â'r cyhoedd fel bod pobl yn siarad â'u hanwyliaid ac yn cofrestru eu penderfyniadau. Felly, hoffwn ganmol yr ardd goffa newydd yn Thornhill. Rwy'n credu ei bod yn ffordd wych, greadigol o anrhydeddu rhoddwyr ac o godi ymwybyddiaeth.

14:05

Prif Weinidog, fel yr ydych chi'n ymwybodol, mae cydsyniad cleifion a theuluoedd yn ffactor pwysig sy'n effeithio ar ba un a all rhodd, a thrawsblaniad yn y pen draw, fynd rhagddo. Bob blwyddyn, mae cyfran fawr o deuluoedd naill ai'n diystyru'r cydsyniad hwn, neu gydsyniad y sawl a oedd wedi ei roi yn flaenorol, neu'n gwrthod caniatâd i organau eu hanwyliaid gael eu rhoi. Mae'r cynllun rhoi a thrawsblannu ar gyfer Cymru 2022-26, a ddatblygwyd gan grŵp cynghori ar drawsblannu Cymru, yn tynnu sylw at hon fel problem barhaus, ac mae'n nodi, ymhlith sawl rheswm, dueddiad i fethu cyfleoedd, lle nad oedd nyrsys arbenigol mewn rhoi organau yn bresennol yn ystod trafodaethau teuluol, a bod gan staff hyfforddiant annigonol ac amseru emosiynol gwael wrth fynd at deuluoedd. Gyda hyn mewn golwg, pa fesurau penodol sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r ffactorau hyn sy'n cyfrannu at leihau diystyriadau teuluol, a sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod ymddiriedolaethau'r GIG yn effeithiol o ran gwella hyfforddiant? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joel. Rwy'n credu bod angen i ni barhau i siarad fel cymdeithas a chyda'n teuluoedd am benderfyniadau rhoi organau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi eglurder i'n hanwyliaid yn ein penderfyniad, boed hynny trwy gofrestru penderfyniad neu ddweud wrth ein teulu am ein penderfyniad. Oherwydd, fel rydych chi'n ei awgrymu, mae llawer o bobl yn credu'n anghywir eu bod nhw wedi eu cofrestru yn awtomatig ar y gofrestr rhoi organau, ac oherwydd natur optio allan meddal y gyfraith, mae'n gymharol hawdd i aelodau'r teulu ddiystyru cydsyniad tybiedig. O ganlyniad, mewn bron i hanner yr achosion, mae teuluoedd yn diystyru cydsyniad tybiedig, mewn cyferbyniad â'r rhai sydd wedi optio i mewn, lle mae llai na 10 y cant o achosion yn cael eu diystyru gan aelodau o'r teulu. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn cofrestru, ond eu bod nhw hefyd yn hysbysu eu teuluoedd am eu penderfyniadau.

Syndrom Tourette

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella arweiniad clinigol a darpariaeth gwasanaethau ar gyfer syndrom Tourette? OQ63273

Mae pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yn wynebu gorbryder enfawr ac mae llawer yn hynod sensitif am eu cyflyrau, yn enwedig pan fyddan nhw allan yn gyhoeddus. Rydym ni'n gwybod bod teuluoedd wedi cael trafferth cael y diagnosis a'r cymorth cywir, ac rydym ni'n benderfynol o geisio newid hynny. Rydym ni'n gwella gwasanaethau niwro-ddatblygiadol, yn recriwtio clinigwyr arbenigol, ac yn dod â gwasanaethau yn agosach at adref. Rydym ni hefyd yn diweddaru canllawiau clinigol, gan wneud yn siŵr bod meddygon teulu, ysgolion a byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd fel nad yw pobl yn cael eu hadlamu o gwmpas y system. Mae'n rhan o'n cynllun ehangach i wneud gwasanaethau niwrowahaniaeth yng Nghymru yn decach, yn gyflymach ac yn fwy cydgysylltiedig fel bod pob plentyn ac oedolyn sydd â syndrom Tourette yn cael y ddealltwriaeth a'r gofal y maen nhw'n eu haeddu.

Diolch am yr ateb yna. Mae'r ffilm newydd I Swear wedi'i seilio ar stori wir yr ymgyrchydd syndrom Tourette, John Davidson. Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, mae'n ymwneud â dyn â thiciau anwirfoddol sy'n achosi iddo regi. Ond nid yw hyn yn wir i tua 90 y cant o bobl sy'n cael diagnosis o syndrom Tourette. Mae'n gyflwr sy'n cael ei gamddeall yn aruthrol. Mae'r rhan fwyaf o'r ticiau yn anghyfforddus, weithiau'n boenus, yn aml yn peri gofid a bron bob amser yn blino rhywun. Mae gan tua'r un nifer o bobl syndrom Tourette ag awtistiaeth. Ond fel y cadarnhaodd Llywodraeth Cymru i mi yn ddiweddar mewn ateb ysgrifenedig, nid oes unrhyw fwrdd iechyd yn darparu llwybr diagnostig a thriniaeth cynhwysfawr i blant a phobl ifanc ar gyfer ticiau ar hyn o bryd, ceir amrywiad sylweddol yn y ddarpariaeth o wasanaethau, ac nid oes unrhyw ganllawiau NICE, sy'n ffactor sy'n cyfrannu at anghysondebau o ran dyluniad a darpariaeth gwasanaethau. I gael diagnosis, mae'n rhaid i deuluoedd yng Nghymru frwydro—ac mae'n frwydr—am atgyfeiriad trwy wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, sy'n gorlenwi eu rhestrau aros, ac yna am gyllid i'r unig ganolfan arbenigol yn y DU eu gweld, ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yw honno. Ond hyd yn oed os byddwch chi'n cyrraedd mor bell â hynny, Prif Weinidog, a'ch bod chi'n cael diagnosis ar ôl arhosiad maith, nid oes unrhyw gymorth sy'n dilyn yn lleol yng Nghymru. Prif Weinidog, nid yw hyn yn ddigon da. A wnewch chi wylio'r ffilm ddoniol a thyner hon os gwelwch yn dda, a dod ag arweinwyr y GIG at ei gilydd i gytuno ar ffordd ymlaen?

14:10

Diolch yn fawr iawn, Lee. Rwy'n sicr wedi dysgu llawer gennych chi yn y fan yna. Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod cyfran y bobl â thiciau yn agos o gwbl at fod yr un faint ag awtistiaeth, felly mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei groesawu'n fawr—cael yr wybodaeth honno. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd angen mwy o sylw. Nid yw'n helpu nad oes unrhyw ganllawiau NICE. Nid yw hynny'n helpu, oherwydd mae hynny'n golygu bod diffyg cysondeb. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw'r datganiad ansawdd niwroleg, felly mae hwnnw'n mynd â ni rywfaint o ffordd ar hyd y llwybr. Un o'r pethau sydd gennym ni hefyd yw Llywodraeth Cymru yn eistedd ar grŵp llywio syndrom Tourette, sy'n cael ei arwain gan brifysgol Nottingham.

Ceir enghreifftiau bod ymarfer yn well mewn rhai ardaloedd nag eraill. Yn Hywel Dda, er enghraifft, maen nhw'n treialu grwpiau seicoaddysg i rieni a gofalwyr plant â thiciau a syndrom Tourette o fewn CAMHS ac iechyd plant. Maen nhw hefyd wedi treialu llwybr syndrom Tourette i wella mynediad i blant a phobl ifanc â syndrom Tourette yn rhan o'r llwybr niwrowahaniaeth. Felly, mae enghreifftiau lle mae rhai byrddau iechyd yn mynd ymhellach nag eraill, ond rwy'n credu yn ôl pob tebyg bod hwn yn faes sydd angen ychydig mwy o sylw.

Mae syndrom Tourette, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn anhwylderau niwroddatblygiadol gwahanol a all gyd-ddigwydd, gan ddangos rhai symptomau a nodweddion sy'n gorgyffwrdd. Er gwaethaf cefnogaeth arwynebol Llywodraeth Cymru i hyn, mae teuluoedd sy'n cael eu gwthio i argyfwng gan uwch swyddogion cyhoeddus sy'n gwrthod deall y rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu yn parhau i gysylltu â mi bron bob dydd. Dim ond yr wythnos hon, er enghraifft, cysylltodd rhiant i ddau blentyn sydd wedi cyflwyno â phroblemau niwroddatblygiadol eglur dros y 10 mlynedd diwethaf â mi. Bu'n rhaid i'r ddau gyrraedd pwynt argyfwng cyn i'r bwrdd iechyd gymryd unrhyw gamau sylweddol i'w helpu. Fe'u gorfodwyd i gael asesiad preifat ar gyfer un, yn dangos bod ganddo awtistiaeth ac ADHD diffyg canolbwyntio, ochr yn ochr â syndrom Tourette y cafwyd diagnosis ohono eisoes. Nid oedd byth yn mynd i ddysgu trwy ddulliau safonol, ac roedd angen llawer o gymorth arno yn llawer cynt. Cafodd y llall ei anfon adref o'r ysgol ym mis Mehefin gyda blinder a phryderon am ei fwyta. Cafodd ei weld gyntaf gan CAMHS ynglŷn ag anhwylder bwyta tybiedig ym mis Ionawr 2020. Yn fwyaf diweddar, cafodd apwyntiad brys gan CAMHS, a ddangosodd fod ei bwysau yn agos at lefelau peryglus o isel gyda risg o fethiant organau. Pryd, os o gwbl, wnewch chi ail-ddylunio gwasanaethau gyda'r teuluoedd hyn o'r diwedd er mwyn mynd i'r afael â'r diwylliant o feio, bwlio a labelu, sy'n parhau i'w gwthio i argyfwng?

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cydnabod bod y ddarpariaeth o wasanaethau yn y maes hwn yn amrywio, a chynigir cymorth trwy wasanaethau niwrowahaniaeth neu CAMHS. Ceir cod ar gyfer awtistiaeth, ac mae hwnnw'n cydnabod yr angen am wasanaethau i gynorthwyo unigolion. Bydd y cod newydd hwnnw'n cynnwys syndrom Tourette. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi hefyd bod y rhaglen gwella niwrowahaniaeth yn gweithio gyda Tourettes Action a phartneriaid trydydd sector i godi ymwybyddiaeth ac i wella dealltwriaeth broffesiynol i wella gwasanaethau ac ymwybyddiaeth o syndrom Tourette. Felly, rydym ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud yn y maes hwn, ac rydym ni'n gweithio gyda'r arbenigwyr yn eu maes i'n helpu i ddatblygu cynnig gwell i bobl Cymru.

Fe wnes i godi cwestiwn yr wythnos diwethaf, os gwnewch chi gofio, Brif Weinidog, ar restrau aros niwroamrywiaeth yn y gogledd, ac fe roesoch chi ateb oedd yn eithaf amddiffynnol, os caf i ddweud, yn dweud eich bod wedi rhoi £2.7 miliwn i mewn i drio datrys y rhestrau aros yma, ac eich bod chi'n mynd i gyflwyno 1,700 o asesiadau ychwanegol. Hyd yn oed efo'r 1,700 o asesiadau ychwanegol yna, mi fydd y rhestrau aros yn dal yn 12 mlynedd o hyd. Ond mewn ateb i gais rhyddid gwybodaeth ddaru etholwraig i fi gael dros yr haf, fe ddywedodd y bwrdd iechyd, ynghylch yr arian ar gyfer lleihau rhestrau aros:

'Rydym ni'n dal i aros am benderfyniad gweinidogol ar flaenoriaethau a chynllun cyflawni.'

Dyna oedd ateb y bwrdd iechyd. Allwch chi gadarnhau bod y penderfyniad yna wedi cael ei wneud, bod y blaenoriaethau wedi cael eu gosod, bod delivery plan yn mynd i gael ei gyflwyno, a'u bod nhw'n gwybod beth i'w wneud efo'r arian yna?

Diolch. Rwy'n deall bod y cynllun cyflawni wedi cael ei gadarnhau, ac mae'r Gweinidog yn awgrymu ei bod yn hapus i rannu hynny. Fy nealltwriaeth i yw bod yr holl arosiadau pedair blynedd yn Betsi wedi cael eu clirio. Felly, rydym ni'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran asesiadau.

14:15
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r modd y mae datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn cyflawni gwelliannau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol? OQ63293

Mae 'Cymru'r Dyfodol', ein cynllun cenedlaethol, yn glir iawn: mae'n rhaid i ddatblygiadau mawr ddod â manteision i bobl a'r blaned, nid elw yn unig. Rŷn ni wedi adeiladu fframwaith monitro cryf fel ein bod yn gallu tracio yn union sut mae prosiectau'n perfformio, o arbedion carbon i swyddi lleol. Bydd y data hwn yn bwydo'n uniongyrchol i'n hadolygiad o'r cynllun y flwyddyn nesaf.

Rŷn ni hefyd yn gwthio datblygwyr i fynd ymhellach, i wneud perchnogaeth gymunedol, cronfeydd budd lleol a phartneriaethau go iawn gyda'r cymunedau sy'n gartref i'r cynlluniau. Mae egni adnewyddadwy yn mynd i fod o fudd i Gymru, ond mae'n bwysig ein bod ni ddim jest yn eu gweld nhw'n cael eu hadeiladu yma, ond ein bod ni'n elwa ohonyn nhw yma yng Nghymru.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Dwi'n meddwl y pwynt roeddwn i'n ei ofyn oedd ynglŷn â'r hyn dŷch chi'n ei ddweud ynglŷn â gwthio'n bellach, oherwydd mae gwthio yn un peth, ond dŷn ni'n gweld yn barod, hyd yn oed yn fy rhanbarth i, fod yna gannoedd o filoedd o bunnau a fyddai yn bosib ddim yn cael eu rhoi yn ôl i'r gymuned ar y funud. Ac o ran perchnogaeth leol, dŷn ni ddim yn gweld bod y cwmnïau yma yn mynd rhagddo efo hynny.

Felly, yn benodol o ran y gwelliannau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, ydych chi'n credu bod yn rhaid inni ddechrau bod yn fwy penodol o ran beth yn union dŷn ni'n ei olygu ac yn disgwyl o ran hynny, a bod y monitro yn benodol, fel ein bod ni'n cael yr holl fuddion i'r cymunedau lleol yma, oherwydd dydy hynny ddim yn digwydd wrth fod yn gwthio pobl? Oes angen gweithredu mwy pendant gan y Llywodraeth?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod yna ddisgwyliad, ac mae'n ddiddorol i weld y ffordd mae ffermydd gwynt yn ymateb yn wahanol. Dwi'n meddwl bod angen mwy o gysondeb pan mae'n dod i beth yw'r buddiannau sy'n dod i'r cymunedau hynny. Ac felly dwi'n meddwl bod hwn yn rhan o'r trafodaethau mae'n rhaid inni eu cael gyda'r cwmnïau yma.

Ond beth dwi eisiau dweud yw: dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld datblygiadau egni adnewyddadwy, yn arbennig pan ŷn ni'n sôn am wynt, ac mae'n bwysig ein bod ni'n elwa o'r swyddi sydd yn mynd i ddod fel canlyniad i hyn, a dyna pam, ar ddydd Sul, roedd yna gyhoeddiad y bydd gwaith tuag at ynni glân yn creu 15,000 o swyddi newydd yma yng Nghymru erbyn 2030. Mae hynny yn ddiolch i'r cynllun cenedlaethol cyntaf erioed i recriwtio gweithwyr ar gyfer y genhedlaeth hon ac ar gyfer egni adnewyddadwy.

Economi Gylchol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu economi gylchol? OQ63316

Mae Cymru eisoes ymhlith y goreuon yn y byd o ran ailgylchu—yn ail safle'r blaned gyfan—ac mae hynny oherwydd pobl Cymru a'r cynghorau yn gwneud y gwaith caled o ddydd i ddydd. Ond rydym ni am fynd ymhellach. Rydym ni wedi cyflwyno ailgylchu yn y gweithle, wedi gwahardd plastigau a fêps untro, ac rydym ni'n buddsoddi miliynau mewn canolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio newydd ledled Cymru. Mae'r economi gylchol nid yn unig yn llesol i'r amgylchedd ond mae hi'n creu swyddi da, gwyrdd hefyd. O Shotton Mill yng Nglannau Dyfrdwy i Jayplas yn Abertawe, mae busnesau yn dewis dod i Gymru am fod sgiliau, y weledigaeth a'r hanes gennym ni o wneud i wastraff weithio er mwyn Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Fe ddylem ni fod yn falch o'n henw da a'n huchelgais i arwain yn fyd-eang yma yng Nghymru, a hynny'n haeddiannol. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â chyngor eco gwych Ysgol Bryn Coch: Finley, Thomas, Esme, Jack a Harry. Fe ddigwyddodd hynny ar ôl iddyn nhw ysgrifennu ataf i'n gofyn pam nad ydym ni'n cael ailgylchu plastigau meddal ar fin y palmant wrth y tŷ, fel rydym ni'n ei wneud gyda chymaint o bethau eraill. Roedden nhw'n falch iawn o gael ymateb oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno hyn yn gynnar yn 2027, ac yn sôn hefyd am ddau brosiect treialu sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Abertawe ac ym Mro Morgannwg.

Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod gwaith gwych y cyngor eco a'r swyddogaeth bwysig sydd gan gynghorau fel hwn o ran lleihau gwastraff a chyflawni economi wirioneddol gylchol? A ydych chi'n credu y byddai hi'n bosibl cysylltu Ysgol Bryn Coch ag ysgol yn un o'r ardaloedd yn y cynllun treialu, er mwyn iddyn nhw ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu syniadau? Wedi'r cyfan, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau o economi wirioneddol gylchol heb iddyn nhw fod yn ganolog i hynny. Diolch.

Diolch yn fawr. A gaf ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna a brwdfrydedd anhygoel disgyblion Ysgol Bryn Coch, yn enwedig yr aelodau hynny sydd ar y cyngor eco? Rwy'n credu eu bod nhw'n glod gwirioneddol i'w cymuned a'u hysgol.

Rwy'n credu bod ein llwyddiant ni wrth ddod yn ail yn y byd am ailgylchu yn deillio o frwdfrydedd y cyhoedd. Maen nhw wedi ymateb—fe wnaethom ni bennu nod iddyn nhw ac maen nhw wedi ymateb yn frwdfrydig. A'r unig ffordd y bydd hyn yn gweithio yw os cawn ni hynny. Felly, mae clywed bod y genhedlaeth nesaf yn barod i ddweud, 'Dewch ymlaen, gadewch i ni fynd ymhellach. Beth yn fwy y gallwn ni ei wneud yn hyn o beth?' yn golygu ein bod ni'n hollol yn y sefyllfa y dylem ni fod ynddi hi. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio tuag at y strategaeth ailgylchu honno ynglŷn â phlastigau erbyn 2027. Rwy'n fwy na pharod i gysylltu Ysgol Bryn Coch ag un o'r ysgolion yn ardaloedd y cynllun treialu ym Mro Morgannwg ac Abertawe. Fe welais i brosiectau ysgolion Her Hinsawdd Cymru drosof fy hunan pan oeddwn i'n rhedeg honno rai blynyddoedd yn ôl yn fy rhanbarth fy hun, sut mae plant yn ymgymryd â'r mater hwn, pa mor frwdfrydig ydyn nhw a sut maen nhw'n ysgogi eu rhieni i ymddwyn yn wahanol yn eu cartrefi. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono, ac mae'r arweinyddiaeth a welwn ni gan y plant hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei weld ar draws ein cymunedau i gyd.

14:20
Polisi Ynni Adnewyddadwy

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru? OQ63275

Fe achosodd y rhyfel yn Wcráin i'n prisiau ynni ni neidio i fyny ac maen nhw'n dal i fod yn anhygoel o uchel, gan achosi llawer iawn o ddioddef ledled Cymru. Er mwyn osgoi tynged fel hon i ni yn y dyfodol, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n grymuso ein diogeledd ynni ac yn lleihau ein dibyniaeth ni ar ynni sy'n cael ei fewnforio.

Nawr, gyda digonedd o adnoddau naturiol, rydym ni mewn sefyllfa ddelfrydol yng Nghymru i gynyddu ein cyfraniad o ynni adnewyddadwy a mynd i'r afael â'r heriau newid hinsawdd ar yr un pryd. Felly, ein polisi ni yw ehangu prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan gynnwys ar fôr ac ar dir, gan greu swyddi gwerthfawr a denu buddsoddiad i'n cymunedau ni.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn nawr am ddatblygiadau gwynt ar y tir, ac mae cymunedau ledled y canolbarth yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu yn llwyr wrth i ddatblygwyr ffermydd gwynt, hapfasnachol ac anhryloyw yn aml, anelu at gefn gwlad gogoneddus Cymru ac mae llawer ohonyn nhw'n cael eu hysgogi gan elw ac nid gan unrhyw ymrwymiad gwirioneddol i gynaliadwyedd neu ddatblygiad cymunedau. Mae'r prosiectau enfawr hyn yn bygwth swyddi, twristiaeth a chymeriad y dirwedd ar draws y canolbarth. Nid ydyn nhw'n cefnogi manteision amgylcheddol na chynaliadwyedd, oherwydd os ydych chi'n ystyried cost trafnidiaeth, effaith adeiladu a'r cysylltiadau seilwaith grid ehangach, nid ydyn nhw mor gyfeillgar i'r amgylchedd ag y mae'r ffermydd gwynt yn honni eu bod nhw.

Felly, mae hi'n amlwg, onid yw hi, Prif Weinidog, y bydd y datblygiadau hyn ar y tir yn hagru cefn gwlad Cymru, felly oni fyddai hi'n iawn nawr i Lywodraeth Cymru dynnu llinell o dan hyn i gyd a gwahardd datblygiadau gwynt ar y tir ledled Cymru er mwyn yr holl gymunedau hynny yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn?

Diolch yn fawr. Gadewch i mi ei gwneud hi'n glir fod ein Llywodraeth Lafur ni o'r farn fod newid hinsawdd yn real, ac mae'n fater difrifol y mae angen mynd i'r afael ag ef. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n gwneud ein rhan wrth ymdrin â'r mater hinsawdd hwnnw. Nawr, yr hyn a wyddom ni hefyd yw ein bod yn disgwyl gweld cynnydd triphlyg yn y swm o drydan a ddefnyddir yng Nghymru erbyn 2050. Sut ydych chi'n cynnig y gallwn ni gyweirio hynny heb fod â dibyniaeth barhaus ar bobl o wledydd eraill? Rydych chi wedi gweld y prisiau y mae pobl yn eu talu heddiw yng Nghymru o ganlyniad i'n gorddibyniaeth ar ynni a gafodd ei fewnforio. [Torri ar draws.] A gaf i orffen? Mae creu swyddi yn allweddol yn y sector hwn, a thros y penwythnos fe glywsom ni y bydd 15,000 o swyddi yn cael eu creu o ganlyniad i ynni adnewyddadwy. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i am ymddiheuro amdano. Rwyf i am ganu clodydd hyn, mae'n rhywbeth y byddaf i'n falch ohono, ac fe fyddaf i'n sicrhau y bydd pobl Powys yn cael cyfleoedd i gyfranogi yn y gwaith o ddatblygu'r ffermydd gwynt hynny, i sicrhau bod sgiliau gwyrdd ar gael iddyn nhw a sicrhau ein bod ni'n cyflawni er mwyn pobl Cymru, oherwydd yn y dyfodol fe fydd angen i bobl Powys wneud cyfraniad hefyd, fel gwnaeth pobl y Cymoedd ers dros ganrif, pan oedd y glo yno.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hynny. Y Trefnydd, felly, i wneud y datganiad busnes—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:24:51
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r rhain i'w gweld yn yr agenda sydd wedi ei chyhoeddi. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:25

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â darparu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Nghymru. Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Megan's Starr, sef elusen leol dan arweiniad ieuenctid sy'n darparu cymorth a therapïau yn Aberdaugleddau. Maen nhw'n helpu pobl ifanc trwy gynnal sesiynau cwnsela a gweithdai. Maen nhw wedi sefydlu tŷ coffi cymunedol Megan's Starr, lle gall unigolion ifanc gysylltu â'i gilydd, rhannu eu straeon a dod o hyd i gymuned sy'n eu cefnogi nhw. Mae ganddyn nhw speakeasy mewn fan goffi hyd yn oed, sy'n caniatáu iddyn nhw fynd â'u gwasanaethau cymorth ar y ffordd, gan fynd i ardaloedd gwledig lle efallai na fyddai pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth na chefnogaeth fel arall.

Trefnydd, mae'r gwaith y mae'r sefydliad yn ei wneud yn rhyfeddol, ac roeddwn i'n hynod falch o'u croesawu nhw i'r Senedd heddiw, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi ymweld â'u stondin nhw yn Y Farchnad i ddysgu mwy am eu gwaith sy'n achub bywydau. Nawr, rwy'n credu y dylid cyflwyno'r math hwn o arfer da yn fwy eang, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei dull o gefnogi elusennau arloesol fel Sefydliad Megan's Starr, o ystyried y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud i gefnogi pobl ifanc sydd wedi cael eu hanwybyddu yn aml gan y gwasanaethau prif ffrwd.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn awyddus i roi canmoliaeth, yn ogystal â chroesawu Sefydliad Megan's Starr, a gallu rhannu yn eu gwaith rhagorol, a hefyd am fod hyn yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, sydd, yn amlwg, yn diwallu anghenion pobl ifanc yn eich etholaeth chi ac yn esiampl i Gymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth y gwn i y byddai gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ddiddordeb mawr ynddo ac rwy'n siŵr y bydd yn mynd ar drywydd yr arfer da hwn. Fe hoffwn i ddweud hefyd fod hyn o bersbectif y trydydd sector, fe wn i, oherwydd mae llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu harwain a'u cefnogi gan wirfoddolwyr, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cefnogi gan eu byrddau iechyd a'u hawdurdodau lleol hefyd er mwyn iddyn nhw allu parhau â'u gwaith rhagorol.

Trefnydd, mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog. Mi welsom ni ddatganiad yr wythnos diwethaf yn sôn ynglŷn â'r £1 miliwn fydd ar gael i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi—yn amlwg, fel Senedd, dŷn ni'n gytûn y dylai fod yna ŵyl banc ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Byddwn i'n hoffi gwybod a oes yna unrhyw ddiweddariadau wedi bod o ran hynny efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond yr hyn yr oeddwn i eisiau gofyn oedd ynglŷn â'r gronfa yma: pa fesurau sydd yn eu lle o ran beth fydd llwyddiant yn edrych fel, oherwydd mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol? Mis sydd gan bobl i fod yn ymgeisio a byddwn i'n hoffi gweld bod yna strategaeth er mwyn sicrhau bod yna fudd economaidd yn deillio o hyn hefyd. Felly, dwi'n credu, petawn ni'n cael datganiad, bydd yna gyfle inni ddeall yn well beth mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei gyflawni efo buddsoddiad o'r fath, a sut dŷn ni'n gobeithio gallu gweld Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ddathliad blynyddol wedi'i gyllido yn sylweddol, fel y mae o rŵan, ond hefyd efo'r budd economaidd hwnnw i Gymru.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae hwn yn gyfle gwirioneddol, onid yw e? Rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu sylw at hyn unwaith eto'r prynhawn yma o ran y dathliad blynyddol hwn, ydym, ar draws y Siambr hon, rydym ni wedi dymuno iddo fod yn wyliau cyhoeddus. Fe wyddom ni pa mor bwysig yw'r dathliad hwn ar galendrau ein hysgolion ac yn ein cymunedau o ran ei ddathlu yn unig. Felly, fe ofynnaf i unwaith eto i'r Prif Weinidog iddi roi cymaint o wybodaeth i'r Senedd gyfan i sicrhau bod pobl a chymunedau yn gallu gwneud cais am y cyllid hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn achos dathlu gwirioneddol o gael gweld y cymunedau hyn—. I mi, ei ystyr yw cydlyniad cymunedol hefyd, oherwydd rwy'n credu y gall—. Fe hoffwn i gyfleu'r neges fod hwn yn gyfle i'n holl gymunedau amrywiol ni yng Nghymru ddathlu a manteisio yn wirioneddol ar y cyfle newydd hwn. Diolch yn fawr.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion yng Nghymru gyda chyllid ar gyfer adeiladau a chyfleusterau newydd. Fe es i ddoe i agoriad swyddogol Dosbarth Enfys, y ganolfan adnoddau arbennig newydd yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Mae'r cyfleuster newydd cwbl wych hwn yn yr ysgol yn golygu y bydd 40 o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael mynediad at addysg arbenigol o'r radd flaenaf, a hyrwyddir gan bennaeth ysgol gynradd Llanisien Fach, Mrs Sarah Coombes. Ac fe gafodd yr adeilad hwn ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, gyda £4.4 miliwn o fuddsoddiad—enghraifft berffaith o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio er mwyn plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â strategaeth bwydo ar y fron Cymru? Mae rhai o'm hetholwyr wedi cysylltu â mi, yn mynegi pryder am yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn ddiffyg cynnydd yn y maes hwn, a llawer o bryder am y defnydd o fwydo ar y fron, sy'n anghyfartal iawn, ac, mewn ardaloedd mwy difreintiedig, mae'r gyfradd gymaint yn is nag mewn ardaloedd eraill. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi mwy o bwyslais nawr ar fwydo ar y fron, ac yn meddwl tybed a gawn ni ddatganiad am strategaeth y Llywodraeth.

14:30

Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch i chi am dynnu sylw at y ganolfan adnoddau arbenigol newydd wych hon yn ysgol gynradd Llanisien Fach. Mae hon, unwaith eto, yn enghraifft ardderchog o gyllid ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol, cyngor dinas Caerdydd. Wrth gwrs, oddi wrth Lywodraeth Cymru y daw hynny, o'n rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ac mae honno'n dal i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o ADY. Mewn gwirionedd ei gwerth arfaethedig yw £750 miliwn mewn prosiectau a gynllunnir dros y naw mlynedd nesaf. 75 y cant o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru yw hynny—65 y cant fel arfer, ond fe all godi, fel digwyddodd hynny, i dalu'r gost honno yn ysgol gynradd Llanisien Fach. Ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig hefyd oherwydd mae hyn yn ymwneud ag ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol ledled Cymru i sicrhau bod yr amgylchedd cynhwysol hwn gennym ni yn ein hysgolion. Amgylcheddau cynhwysol, wrth gwrs, yw'r hyn yr ydym ni'n cefnogi ein hysgolion i'w darparu.

O ran eich cwestiwn am ein strategaeth bwydo ar y fron, rwy'n credu ei bod hi'n amserol iawn ein bod ni'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â beth yw'r polisïau bwydo ar y fron, y mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cyflawni i raddau helaeth iawn gan ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ond rydym ni bob amser wedi bod â strategaeth gyffredinol i gyflawni hyn—mae honno'n cwmpasu, rwy'n disgwyl, portffolios ein tîm iechyd a gofal cymdeithasol a llesiant i gyd; sef yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a'r Gweinidog plant—oherwydd dyna'r dechrau gorau i blant yn eu bywydau. Ac mae hi'n ddiddorol cofio, wrth gwrs, bod hwn yn ymrwymiad mor fawr o ran Sefydliad Iechyd y Byd ac Unicef. Cynhelir Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn flynyddol; ei hystyr yw 'Ymlaen Gyda'n Gilydd'. Mae'n ymwneud â mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, fel gwnaethoch chi sôn—y cyfraddau isel o fwydo ar y fron mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mater yw hwn y gwn i fod Dechrau'n Deg wedi bod â rhan allweddol iawn ynddo. Ond fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r bydwragedd a'r ymwelwyr iechyd, sydd mewn gwirionedd yn helpu mamau sy'n bwydo ar y fron yn y dyddiau pwysig iawn hynny, ac, yn wir, wrth baratoi ar gyfer hynny, rwy'n credu y gall rhai ohonom ni gofio ein hunain, y dyddiau cynnar iawn hynny a'r ymrwymiad i fwydo ar y fron. Felly, fe fyddaf i'n gofyn am ddiweddariad, i sicrhau y bydd pob Aelod yn y Senedd hon yn gallu gweld bod hynny'n rhan mor hanfodol o sicrhau, yn ffordd naturiol y gallwn ni sicrhau, bod ein plant ni'n cael y dechrau gorau yn eu bywydau.

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ôl-groniad apwyntiadau dilynol ledled Cymru? Yn y gogledd yn unig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod 170,000 o bobl mewn ôl-groniad ar gyfer apwyntiadau dilynol. Fe ddylai llawer o'r rhain gael eu gweld mewn da bryd, oherwydd, wrth gwrs, fe all fod pobl â chyflyrau sy'n dirywio, yn enwedig os oes cyflwr gofal llygaid ganddyn nhw. Ac mae Diabetes UK, yr RNIB, ac eraill, wedi rhybuddio bod llawer o bobl yn wynebu niwed na ellir ei adfer i'w golwg o ganlyniad iddyn nhw beidio â chael eu hapwyntiadau dilynol mewn pryd. Rwy'n credu, er bod angen canolbwyntio ar yr apwyntiadau cyntaf hynny, o safbwynt dilyniant, oherwydd bod rhestrau aros hir iawn gennym ni drwyddi draw, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r ffaith hefyd fod apwyntiadau dilynol yr un mor bwysig. Felly, fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn.

14:35

Diolch yn fawr iawn i chi, Darren Millar, am y cwestiwn yna. Mae'r dilyniant mor bwysig yn aml. Wrth gwrs, fe wyddom ni hefyd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod hwn yn fater pan fo'n bwysig, ac fe allwn ni roi'r neges honno, fel gwnaethoch chi heddiw, fod pobl yn ymateb i'w apwyntiadau dilynol. Felly, gallwn, rwy'n siŵr y gallwn ni roi rhywfaint o syniad o'r sefyllfa o ran yr apwyntiadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer dilyniant, o ran unrhyw ôl-groniad, oherwydd mae hi'n bwysig bod y dilyniant hwnnw—. Y buddsoddiad mewn iechyd, onid e', ac yn y gofal iechyd arbenigol hwnnw, mae hynny mor bwysig.

A gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar amseriad arolygiadau ysgolion o ran ymweliadau tramor Taith? Fel gwyddoch chi'n iawn, mae cyllid Taith yn darparu cyfleoedd anhygoel i'n plant a'n pobl ifanc ni o ran teithio dramor. Yn ddiweddar, fe ymwelais i ag ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir yr Holl Saint yng Ngresffordd i glywed am daith yr oedd 20 o blant blwyddyn 5 wedi mynd arni i Singapore. Roedd hi'n daith lwyddiannus iawn, fel y byddech chi'n disgwyl, ond roedd y pennaeth yn dweud wrthyf pa mor bryderus yr oedd ef y gallai arolygiad fod wedi digwydd pan oedd ef i ffwrdd. Pe byddai hynny wedi digwydd, dim ond ychydig cyn iddyn nhw fynd y byddai ef wedi bod yn ymwybodol o hynny; fel gwyddoch chi, mae ysgolion yn cael pythefnos o rybudd cyn arolygiad. Felly, rwy'n credu, er mwyn gwneud y defnydd gorau o raglen Taith sy'n cael ei hariannu yn gyhoeddus, mae hi'n ymddangos y dylai ein hysgolion ni fod â rhywfaint o amddiffyniad—rhyw fis, dyweder—cyn i ymweliad o'r fath ddigwydd. Felly, rwy'n galw am ddatganiad llafar ar y mater hwn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i chi. Mae hwnnw'n fater gweithredol penodol iawn y mae angen i ni ei rannu, yn bendant, o ran arolygiadau ysgol a chyfrifoldeb Estyn, ac, yn wir, y cynllunio y mae angen i ysgol ymgysylltu ag ef, er mwyn i'r ysgol ymgymryd â chyfle sy'n swnio mor wych drwy gyfrwng Taith—eich ysgol chi yng Ngresffordd, yr Holl Saint, yn cael mynd i Singapore.

A gaf i gymryd y cyfle, Llywydd, i ddweud, ers ei lansio ym mis Chwefror 2022, bod Taith wedi mynd o nerth i nerth, gyda'r nod o fynd â Chymru i'r byd a dod â'r byd i Gymru? Mae ehangder y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid yn adlewyrchu ein pwyslais ar gyflwyno rhaglen a fydd yn fanteisiol i bob sector addysg ac ieuenctid. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ehangu Taith. Fe fydd dwy rownd ariannu ychwanegol ar gael i sefydliadau addysg ledled Cymru, a fydd yn eu helpu nhw i wireddu eu potensial. Felly, mae hwnnw'n llwyddiant mawr yng Nghymru, onid yw e', Taith? Fe wnaethom ni golli Erasmus, fe wnaethon ni ddechrau Taith, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ymrwymo erbyn hyn i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd ac arfer da a ddatblygwyd gan Taith yn llywio trafodaethau ar y telerau i ailymuno ag Erasmus. Ond rwy'n credu bod angen i ni sicrhau hefyd fod hyn yn cydweddu â'r flwyddyn ysgol, y materion gweithredol, yn enwedig, fel codwyd heddiw, ynglŷn ag arolygiadau mewn ysgolion.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru—yn gyntaf, ar argaeledd triniaethau ffibrosis systig. Nid yw'r feddyginiaeth a gymeradwywyd yn ddiweddar, Alyftrek, ar gael yng Nghymru o hyd, er ei bod ar gael yn Lloegr ers yr haf ac yn gynwysedig yng nghanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE. Er bod meddyginiaeth ar gael yng Nghymru fel arfer o fewn 60 diwrnod ar ôl ei chymeradwyo gan NICE, nid yw hynny wedi digwydd gydag Alyftrek. Mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig a thimau clinigol wedi codi pryderon am drafodaethau masnachol estynedig, ac mae'r ymddiriedolaeth yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cytundeb ehangach i gynnwys cleifion y tu hwnt i feini prawf NICE, sy'n gohirio argaeledd yn ddiangen i'r rhai sy'n bodloni'r canllawiau eisoes. Mae prif swyddog gweithredol yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd yma, yn annog argaeledd ar unwaith i gleifion cymwys. Felly, mae angen datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn cadarnhau pryd y bydd Alyftrek ar gael yn rheolaidd ar y GIG yng Nghymru i'r rhai sy'n bodloni meini prawf NICE, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau ei bod ar gael mewn da bryd i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Rwy'n galw am ail ddatganiad, ar gefnogaeth i gyfleusterau tenis yng Nghymru. Mae'r wythnos hon yn nodi dychwelyd tenis proffesiynol i Gymru am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, wrth i Dwrnamaint Agored Lexus Wrecsam ddechrau yng Nghanolfan Tenis Wrecsam, y digwyddiad tenis merched mwyaf ym Mhrydain Fawr y tu allan i'r tymor cwrt glaswellt. Mae'r prif atyniad yn dechrau heddiw. Er bod y twrnamaint yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau tenis a padel ledled Cymru, dim ond 37 o'r 1,100 o gyrtiau tenis Cymru sydd wedi eu gorchuddio, y ganran isaf ym Mhrydain Fawr, ac ymhell oddi tan gymheiriaid yn Ewrop, er gwaethaf y galw am denis dan do yng Nghymru. Mae'r Gymdeithas Tenis Lawnt a Tennis Cymru yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch hwn o ran cyfleusterau, ac rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

14:40

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am y cwestiynau yna. Yn amlwg, rydych chi wedi ymgysylltu o ran argaeledd hollbwysig y feddyginiaeth newydd honno i bobl â ffibrosis systig. Rwy'n siŵr eich bod chi'n deall mai da o beth yw i Lywodraeth Cymru fod yn edrych hefyd ar gleifion y tu draw i feini prawf NICE, ond mae hi'n amlwg fod angen i ni anfon gwybodaeth yn ôl, yn enwedig felly, i'r teuluoedd hynny a'r rhai sydd â ffibrosis systig o ran yr amserlenni ar gyfer hyn. Yn sicr, fe fyddaf i'n rhannu hyn ac yn codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac fe fydd ef yn cysylltu â chi, ac yn wir yn rhannu hynny gyda'r Senedd.

Diolch i chi hefyd am dynnu sylw at y gêm fendigedig tenis heddiw, Mark Isherwood, a'r digwyddiad hwnnw yn Wrecsam. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n edrych—. Fe fydd Tennis Cymru, rwy'n siŵr, wrth eu boddau oherwydd i chi godi hyn heddiw, oherwydd mae hon yn gamp bwysig ac yn rhan o'n hamrywiaeth o gyfleoedd o ran chwaraeon yng Nghymru. Felly, fe wnaf i godi hyn hefyd gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar barodrwydd ysgolion ac ymyrraeth gynnar. Mae yna nifer o brifathrawon a phrifathrawesau yn mynd yn gynyddol bryderus ar hyn o bryd ynglŷn â niferoedd y plant sy'n dechrau'r ysgol nad ydyn nhw'n gallu siarad yn iawn, yn adnabod geiriau sylfaenol, neu'n gallu defnyddio'r tŷ bach hyd yn oed. Mewn un ysgol gynradd leol, fe ddechreuodd saith o blant yn y dosbarth derbyn y tymor hwn mewn cewynnau. Mae hyn yn dangos bod rhywbeth difrifol wedi mynd o'i le, ac mae penaethiaid ledled Cymru wedi dweud wrthyf i fod pethau wedi gwaethygu ers COVID, ac nid gwella. Mae hwn yn bryder gwirioneddol y mae pobl wedi cysylltu â mi ynglŷn ag ef. Mae athrawon yn colli oriau o amser addysgu bob wythnos, ac mae dosbarthiadau cyfan ar eu colled o ran amser addysgu y maen nhw'n ei haeddu. Mae angen ymyrraeth briodol i'r blynyddoedd cynnar i gefnogi teuluoedd yn hyn o beth hyn, ymhell cyn i blentyn gyrraedd mynedfa'r ysgol—efallai rhestr wirio genedlaethol syml mewn lleoliadau meithrin i sicrhau bod plant wedi cyrraedd y cerrig milltir allweddol o ran lleferydd, dysgu defnyddio'r tŷ bach ac addysg gynnar, a'r gefnogaeth i ddarparu ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n cyrraedd y cerrig milltir hynny. Ni ellir ac ni ddylid disgwyl i ysgolion wneud popeth, yn cynnwys newid cewynnau. Fe fyddai datganiad y Llywodraeth ar sut mae hi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn, sy'n rhywbeth y mae ASCL, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, yn ei nodi fel un o'u tair prif flaenoriaeth, yn amserol ac yn hanfodol fel ei gilydd. Diolch.

Rwy'n credu mai un o'r manteision mawr—un arall; heddiw, rydym ni wedi rhoi ystyriaeth i lawer o fentrau gwych gan Lywodraeth Cymru a rhai a wneir yng Nghymru—wrth gwrs, yw Dechrau'n Deg. Y gwir amdani yw, i gymaint o blant—ac rydym ni'n cyflwyno hyn nawr i bob plentyn dwy flwydd oed yng Nghymru—mae Dechrau'n Deg mewn gwirionedd yn darparu'r gefnogaeth hollbwysig honno i bob rhiant, heb ystyriaeth i'w hamgylchiadau, ac, yn ddaearyddol, mae'n cwmpasu Cymru gyfan, yn eu blynyddoedd cynnar nhw a chyn iddyn nhw ddechrau'r ysgol. Rwy'n credu y dylem ni fod yn canolbwyntio mwy efallai ar fanteision Dechrau'n Deg, oherwydd yr hyn sy'n eglur iawn yw ei bod yn rhoi cefnogaeth i'r plant hynny a'r teuluoedd hynny hefyd, sy'n hanfodol, ond yn rhoi cyfle i'r plant hynny gael ymgysylltiad cyn mynd i'r ysgol i'w paratoi nhw ar gyfer yr ysgol. Os ydych chi'n siarad â'r ysgolion, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gwneud hynny yn eich rhanbarth chi, fe ddowch i wybod bod Dechrau'n Deg wedi bod yn un o'r pethau mwyaf—. Ac mae hynny wedi cael ei gynnal trwy gydol y blynyddoedd o gyni, ac roeddech chi'n rhan o'r grŵp Ceidwadol hwnnw ar y pryd, pan welsom ni gyllid yn cael ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, gyda Dechrau'n Deg, fe wnaethon ni gadw hynny i fynd yng Nghymru, ac rydym ni wedi parhau i sicrhau bod ein plant wedi cael y dechrau ardderchog hwnnw mewn bywyd, a fydd yn fuan, rwy'n gobeithio, yn ymestyn ledled Cymru gyfan.

Trefnydd, ddoe, fe ymunais i â Paul Davies i ymweld â changen y Samariaid yn Hwlffordd i siarad â'r gwirfoddolwyr yno. Dyma'r unig gangen sydd ganddyn nhw i'r de o Aberystwyth ac i'r gorllewin o Abertawe. Yr hyn a oedd yn drawiadol, wrth siarad â nhw am newidiadau posibl i'r Samariaid, oedd un o'r ystadegau, sef o'r 436 o hunanladdiadau a fu yng Nghymru yn 2024, gwŷr oedd 77.2 y cant ohonyn nhw. Ac fe wnaethoch chi siarad yr wythnos diwethaf, Trefnydd, yn nigwyddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, a noddwyd yn garedig gan fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, gyda'r enw 'Bechgyn Coll: Cyflwr y Genedl', ac roedd hi'n noson ddadlennol iawn a amlygodd rhai o'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu gwŷr, a gwŷr ifanc yn arbennig felly, yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, a gaf i alw am ddatganiad ar gefnogaeth i wŷr, iechyd gwŷr ac iechyd meddwl gwŷr, os gwelwch chi'n dda?

14:45

Diolch yn fawr iawn i chi, Sam Kurtz. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n falch o ddod i siarad yn y digwyddiad pwysig iawn hwnnw'r wythnos diwethaf, ynglŷn ag adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar fechgyn coll. Roedd y dystiolaeth yn bwysig iawn. Fe ges i ddweud gair bach, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae hwn yn fater trawslywodraethol hefyd o ran gwŷr ifanc, yn enwedig o ran y canolbwyntio hwnnw ac iechyd meddwl dynion. Ond rydych chi'n tynnu sylw hefyd ar ddechrau eich cwestiwn ynghylch pa mor bwysig yw'r Samariaid, ac, wrth gwrs, mae hwn yn bwynt y gwn i y byddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn awyddus i ymateb iddo. Ond os cofiwch chi, fe ymatebodd hi hefyd, mewn gwirionedd, i ddadl fer ynglŷn â hyn. Fe wnaf i dynnu ei sylw hi at hyn unwaith eto. Ond roeddwn i o'r farn fod rhai nodweddion cadarnhaol iawn yn yr adroddiad hwnnw ac roedd y panel trafod yn werthfawr tu hwnt.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol am gost gynyddol gofal plant yng Nghymru? Fe wyddom ni mai cost darpariaeth meithrin amser llawn i blentyn dwy flwydd oed yng Nghymru yw tua £14,500 y flwyddyn. Yn wir, mae etholwr gennyf i yn ardal Cas-gwent sy'n talu £981.50 y mis am ofal plant am dri diwrnod yr wythnos, tra bod ei ffrind, sy'n byw 1 filltir dros y ffin yn Lloegr, yn talu'r hyn sy'n cyfateb i ddim ond £225 am yr un math o ofal, sef gwahaniaeth o £750, sy'n gwbl ddychrynllyd ac yn amlwg yn annheg i rieni Cymru. Fe wn i, mewn cwestiwn blaenorol, eich bod chi wedi sôn am Dechrau'n Deg. Fe wyddom ni fod Dechrau'n Deg o fudd lle mae ar gael, ond loteri cod post yw hynny'n gyfan gwbl ac nid oes llawer o bobl sy'n gallu cael gafael arno. Felly, rwy'n teimlo bod y system yn rhoi rhieni yn nhir neb, maen nhw'n ceisio ymestyn eu cyllidebau, yn methu â dychwelyd yn llawn i'w gwaith, ac nid yw hyn yn gwneud unrhyw les iddyn nhw nac i'n heconomi ni. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog ar ba gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ariannu gofal plant yn briodol i alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, gan fod y system bresennol yn waharddol ac yn rhwystrol i'r economi.

Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Fe soniais i am Dechrau'n Deg, ac fe ddywedaf i unwaith eto ein bod ni'n golygu cyflwyno Dechrau'n Deg gyda gofal plant am ddim ledled Cymru gyfan. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod rhai awdurdodau eisoes wedi cyflawni hynny, ac felly nid oes loteri cod post. Felly, mae Merthyr Tudful, er enghraifft, yn awdurdod lle mae Dechrau'n Deg ar gael i bob plentyn yn y gymuned honno. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu gofal plant am ddim, sydd mor bwysig, yn ogystal ag elfennau eraill Dechrau'n Deg, sy'n allweddol, ac y gwnaethom eu trafod nhw'n gynharach. Mae'r cynnig gofal plant mwyaf ffafriol gennym ni yng Nghymru, ac rwy'n credu mai un o'r nodweddion pwysig yn hynny o beth yw ei fod yn cynnwys gofal gwyliau hefyd. Mor aml, fel rwy'n credu bod y rhai ohonom ni sy'n rhieni sy'n gweithio ar draws y Siambr i gyd yn gwybod, mae gwyliau'r ysgol hefyd yn golygu llawer iawn o gyfrifoldeb, a chost a mynediad at ofal gwyliau ysgol—. Ond rydym ni'n cefnogi, drwy ein cynnig gofal plant, sy'n unigryw i Gymru, gefnogaeth i rieni mewn addysg a hyfforddiant pellach hefyd.

Roeddwn i'n awyddus i achub ar y cyfle i roi canmoliaeth i'n Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf, a gafodd ei hymestyn eleni. Fe ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg £1 miliwn at y rhaglen, o ganlyniad i adolygiad a wnaeth Julie Morgan i ystyried Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf, sy'n cynnwys prydau bwyd, yn ogystal â gweithgareddau hwyliog a chreadigol. Felly, mae gennym ni ffyrdd yr ydym ni'n cefnogi gofal plant ynddyn nhw. Ond hefyd, peidiwch ag anghofio, Peter Fox, rwy'n siŵr fod eich etholwyr yn croesawu'r ffaith ein bod wedi cyflwyno brecwast ysgol i'n plant am ddim ers 2006. Dim ond dechrau dal i fyny y maen nhw yn Lloegr. Mae'r prydau brecwast am ddim hynny mewn ysgolion, fe wn i, ac rwy'n credu y gwyddom ni i gyd, yn cynnig pryd bwyd maethlon pwysig iawn am ddim ac oddeutu awr rydd hefyd ar ddechrau'r diwrnod ysgol.

14:50

Roedd hi'n siomedig iawn, yn newyddion yr wythnos diwethaf, fod y Llys Apêl wedi gwrthod gwrandawiad a oedd yn ceisio herio'r penderfyniad i gau canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng ac yng Nghaernarfon. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol na allai wneud sylwadau tra bod yr her gyfreithiol hon yn parhau. Am fod y broses gyfreithiol wedi dod i ben erbyn hyn, a gaf ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad i ganiatáu i Aelodau'r Senedd holi ynglŷn â'r penderfyniad ofnadwy hwn? Fe hoffwn i wybod a yw Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol yn y pen draw am holl wasanaethau iechyd Cymru, yn ei hystyried hi'n dderbyniol y bydd ardaloedd helaeth o'r canolbarth a'r gogledd gydag amseroedd ymateb brys sy'n arafach. A hefyd, yn rhan o'r newidiadau arfaethedig, fe gyhoeddwyd ystod o fesurau lliniaru fel y'u gelwir, sy'n cynnwys defnyddio cerbydau ffyrdd ychwanegol ar gyfer ardaloedd yn y canolbarth a'r gogledd. Nawr, rwy'n credu yn gadarn fod y camau hynny'n annigonol iawn o ran yr hyn y mae gwir angen amdano i sicrhau bod y rhai sydd ag angen am driniaeth feddygol frys yn cael eu trosglwyddo i ofal brys ar gyflymder. Addawyd na fyddai unrhyw ganolfannau yn cau nes bod yr adnoddau pellach hyn yn weithredol ac ar waith, ac mae angen amser arnom ni i ofyn cwestiynau a chraffu ar y penderfyniad hwn. Trefnydd, mae trigolion y canolbarth yn haeddu'r un safon o ofal o ran ymateb brys prydlon â'r rhai sy'n byw mewn rhannau trefol o Gymru, ac rwy'n gobeithio, Trefnydd, y byddwch chi'n cytuno i drafod hyn ar lawr y Senedd hon yn amser y Llywodraeth.

Diolch i chi, Russell George. Wel, y fantais o ofyn cwestiynau i mi, fel y Trefnydd, yw eich bod chi wedi gallu codi hyn heddiw, Russell George, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i chi ei godi. Yn amlwg, fe ystyriwyd y materion hyn i gyd—yn ddiamau—drwy'r holl brosesau a gafwyd, gan gynnwys, yn olaf, drwy'r Llys Apêl. Ond, wrth gwrs, fe fydd cyfleoedd i godi hyn eto o ran argaeledd y gofal brys hwnnw, sydd, wrth gwrs, yn gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac fe fyddwch chi'n gallu codi hynny, wrth gwrs, ar y llawr yn ei gwestiynau ef.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fater a godwyd eisoes gyda'r Prif Weinidog yma heddiw, felly mae hynny'n dangos ei fod yn berthnasol ac yn effeithio ar lawer gormod o bobl, a hynny yw sut y byddwn ni'n asesu ac yn cefnogi plant ag ADHD ac awtistiaeth, ac a yw'r system bresennol yn gweithio mewn gwirionedd i'r teuluoedd a ddylai fod yn gallu dibynnu arni. Yn rhy aml, fe glywn ni oddi wrth rieni sy'n bryderus iawn am eu plant ac yn rhy aml mae'r pryderon hynny'n cael eu hwynebu gydag amseroedd aros hir o hyd at saith mlynedd yn y gogledd, prosesau sy'n aneglur, neu fod rhywrai yn dweud wrth blant am ymdopi heb unrhyw ddiagnosis neu gefnogaeth briodol ar waith. Nawr, fe wyddom ni i gyd y gall ymyrraeth gynnar wneud byd o wahaniaeth nid yn unig yn academaidd, ond o ran hyder, lles a dyfodol y plentyn, ond ni allwn ni ymyrryd yn briodol os nad yw'r asesiadau cynnar hynny'n digwydd. Yn y cyfamser, mae disgyblion yn cael eu camddeall, mae athrawon dan bwysau a'r rhieni yn teimlo yn ddigymorth. Felly, fe hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth, yn ddiweddariad i'r Senedd, ar yr hyn sy'n cael ei wneud i gyflymu'r asesiadau hynny, sut mae'r system ADY yn gweithio yn ymarferol ar gyfer plant nad ydyn nhw wedi cael diagnosis ffurfiol eto, a sut y byddwn ni'n sicrhau bod yr hyfforddiant a'r adnoddau angenrheidiol yn yr ysgolion i gefnogi'r disgyblion hynny o ddydd i ddydd.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Sam Rowlands. Yn amlwg, roedd yna ymgysylltiad helaeth iawn, mewn cwestiynau ac atebion, gyda'r Prif Weinidog, a oedd yn wirioneddol bwysig, ac roedd hi'n gallu ymateb i rai materion ac anghenion penodol o ran dysgwyr ag ADHD ac awtistiaeth y prynhawn yma yn ei hatebion hi. Ond mae hyn yn rhywbeth y gwnaethom ni gyffwrdd ag ef eisoes heddiw, yn gynharach y prynhawn yma, gan groesawu, fel tynnodd Julie Morgan ein sylw at hynny, y cyllid a aeth i ganolfan adnoddau arbenigol yn ei hetholaeth hi yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach, a'r ymrwymiad a wnaethom o £20 miliwn o gyllid cyfalaf ADY ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, oherwydd mae amgylcheddau cynhwysol yn bwysig iawn hefyd o ran cymorth mewn ysgolion. Ond, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn benodol ar ddarpariaeth ADY, ac fe wn i fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwneud gwaith dilynol ar hwnnw.

14:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar wasanaeth bws newydd T51 TrawsCymru ar gyfer rhwydwaith gogledd Cymru. O ddiwedd mis Medi, mae'r llwybr sy'n cael ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru nawr, sy'n perthyn yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, wedi disodli gwasanaethau 51 a X51, sy'n darparu gwasanaeth bws bob awr rhwng Rhuthun a Wrecsam erbyn hyn, sef uwchraddiad o'r gwasanaeth cyfredol bob dwy awr. Mae gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam a'r Rhyl ar ddydd Sul, ac rwy'n croesawu'r gwasanaeth mwy cyson a'r bysiau newydd, modern a mwy cyfforddus. Er hynny, rwy'n gofidio am y llwybr bws newydd, sy'n hepgor rhannau helaeth o Lanelwy, gan ailgyfeirio'r gwasanaeth trwy barc busnes Llanelwy ar gyrion y ddinas. Mae llawer o drigolion wedi sylwi ar hyn, sydd mewn penbleth am y byddai'r llwybr yn hepgor y rhan fwyaf o Lanelwy, lle byddai'r rhan fwyaf o'r trigolion yn mynd ar fws a lle byddai'r rhan fwyaf o drigolion oedrannus yn dibynnu ar fws. Felly, a gaf i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar wasanaeth bws newydd Trafnidiaeth Cymru a pham y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud i eithrio rhannau helaeth o Lanelwy, er anfantais i'm hetholwyr i?

Diolch i chi am y pwyntiau manwl iawn hynny ynglŷn â'r ddarpariaeth gwasanaethau bysiau yn eich etholaeth chi, sy'n bwysig iawn i'ch etholwyr—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ni allaf roi ateb ynglŷn â'r manylion hynny, ond fe wnaethoch chi eich pwynt ac mae hynny ar y cofnod, ac, wrth gwrs, fe gaiff cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru eu cynnal yfory.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd? Am un datganiad, fe hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog iechyd o ran sefyllfa fy etholwr Claire Wright. Efallai eich bod chi wedi gweld y dystiolaeth bwerus a roddodd hi i raglen Dispatches ar 13 Hydref eleni, pryd y tynnodd hi sylw at y ffaith bod marwolaeth drasig ei mab wedi digwydd yn rhannol oherwydd bod yr ambiwlans a alwyd i ddod i'r fan lle'r oedd ef wedi cwympo wedi cael ei dynnu'n ôl. Bu oediad o 45 munud cyn i'r ambiwlans nesaf gael ei anfon, er mai dim ond cwpl o filltiroedd sydd o ysbyty'r Mynydd Bychan i'w chartref hi. Roedd hyn oherwydd y protocol llwybro deallus, y mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn ei ddefnyddio. Ar y pryd, roedd un o bob pump o alwadau i'w canolfan alwadau yn dod o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae yna broblem wirioneddol o ran y protocolau, ynglŷn â sut mae'r system hon yn gweithio, ac, yn benodol, sut mae'r galw yn cael ei roi ar y canolfannau galwadau i ymdrin â'u galwadau eu hunain yn eu hardaloedd gweinyddol daearyddol eu hunain cyn cymryd galwadau ychwanegol mewn ardaloedd eraill. Fe hoffwn i'n fawr, ac fe hoffai fy etholwr i hefyd, gael datganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru, ac ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans, yn monitro ac yn sicrhau bod y protocol hwn yn cael ei weithredu mewn modd effeithiol.

Yn ail, fe hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am dipio anghyfreithlon yma—y Gweinidog llywodraeth leol. Fe gawsom ni ddadl rymus iawn ychydig wythnosau yn ôl yma—dadl dan arweiniad Aelod—ynglŷn â thipio anghyfreithlon. Mae honno'n ffenomen sy'n mynd yn fwy cyffredin yng Nghanol De Cymru, yn enwedig ym Mro Morgannwg. Ond, pan welwch chi awdurdodau cyfagos fel Pen-y-bont ar Ogwr, nad ydyn nhw wedi erlyn un digwyddiad tipio anghyfreithlon ers dros 10 mlynedd, nid yw hynny'n gwneud fawr ddim i atal pobl rhag teithio o gwmpas y de gan dipio nwyddau yn anghyfreithlon wrth fynedfeydd a mannau hardd eraill sydd, yn y pen draw, yn hagru cefn gwlad Cymru. Felly, mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gymryd perchnogaeth yn hyn o beth a gweithio gyda'u partneriaid mewn llywodraeth leol i sicrhau bod yr arfau sydd ar gael yn cael eu defnyddio, yn hytrach na bod, fel y dywedais i, fel yn achos awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, heb un erlyniad mewn 10 mlynedd.

Diolch yn fawr iawn i chi, Andrew R.T. Davies. Rydych chi'n tynnu sylw at farwolaeth drasig iawn eich etholwr. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y gwn i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wrth iddyn nhw ystyried pob achos—. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried o ran y protocol a rheoli cyflawni. Os gwelwch chi'n dda, wrth gwrs, cyfle yw hwn i ni gydymdeimlo ac anfon ein cofion at deulu Claire Wright, a sicrhau bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn mynd ar drywydd hyn, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i eich bod chi wedi codi hyn gyda nhw eisoes.

O ran eich ail bwynt, ie, dyma rywbeth—. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cefnogi Mick Antoniw pan ddaeth â'i gynnig deddfwriaethol ef gerbron y Senedd, i ystyried sut y gallem ni weithio gyda'n gilydd. Ac mae hwn yn fater traws-lywodraethol o ran llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru a'r pwerau sy'n bodoli i gymryd camau yn erbyn tipio anghyfreithlon. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi gweld hynny'n cael cyhoeddusrwydd yr wythnos hon o ran y sefyllfa mewn rhai awdurdodau lleol. Ond diolch i chi am dynnu sylw at hyn. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn ymwybodol iawn ohono.

15:00
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd pasio Deddf y Gymraeg ac addysg yn drobwynt hanesyddol. Mae’n gosod ein trefniadau a’n huchelgais yn glir ar gyfer yr iaith. Roedd y bleidlais derfynol ac unfrydol o blaid y Bil yn ddatganiad pwerus gan yr holl bleidiau yn y Senedd. Roedd yn dangos ein dymuniad ar y pryd i sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn hyderus ac yn annibynnol, ac i bawb gael y cyfle i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith drwy gydol eu bywydau. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn falch o'r Gymraeg ac o’r cynnydd sydd wedi bod dros y degawdau diwethaf i’n plant gael dysgu’r iaith yn yr ysgol. Ac mae cynnal ewyllys da ar draws y Senedd yn bwrpas cyffredin arall.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, dwi eisiau cadarnhau'r amserlen ar gyfer gweithredu darpariaethau’r Ddeddf a hefyd drafod y gwaith ymarferol sydd eisoes yn digwydd er mwyn i ni gyrraedd y gwahanol gerrig milltir. Dwi’n gwneud hyn, Dirprwy Lywydd, gan fod y Ddeddf wedi'i chynllunio'n fwriadol i gael ei gweithredu'n raddol. Rhaid cydnabod natur uchelgeisiol y Ddeddf a derbyn, felly, fod angen amser i roi camau ymarferol ar waith iddi lwyddo. Bydd gan bob ysgol a phob cymuned yng Nghymru ffactorau lleol sy’n rhaid eu hystyried.

Gallwn grynhoi prif gerrig milltir yr amserlen weithredu fel hyn: erbyn mis Awst 2027, bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth 'Cymraeg 2050' ddiwygiedig a'r fframwaith cenedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg cyntaf, i yrru’r cynllunio strategol drwy'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg lleol ac ôl-16. Bydd cod hefyd i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, a bydd wedi sefydlu’r athrofa i gefnogi dysgu'r Gymraeg ym mhob sector. 

Erbyn mis Medi 2030, dylai pob awdurdod lleol fod yn gweithredu eu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg newydd, pob ysgol wedi ei dynodi i gategori iaith statudol, cynlluniau cyflawni ar lefel ysgol yn eu lle ac, yn dibynnu ar gategori'r ysgol, dylai ysgolion fod yn darparu o leiaf 10 y cant, 50 y cant neu 80 y cant o'u dysgu yn Gymraeg. Ar gyfer yr ysgolion hynny sydd angen mwy o amser i adeiladu capasiti—a dwi’n rhagweld mai nifer bach o ysgolion fydd hynny—bydd ganddyn nhw tan fis Medi 2036, fan hwyraf, i ddarparu o leiaf 10 y cant yn Gymraeg. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae gwaith i weithredu’r Ddeddf, wrth gwrs, eisoes ar waith. Y ffocws nawr a dros y misoedd nesaf yw adeiladu ar y cydweithio agos a'r momentwm a wnaeth ein helpu ni i gyrraedd ble rydyn ni heddiw.

Dirprwy Lywydd, y cam cyntaf ar gyfer y flwyddyn i ddod yw parhau i ddatblygu cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg. Gan ddefnyddio safonau rhyngwladol y fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin ar gyfer ieithoedd, neu CEFR, dwi am i'r cod adlewyrchu dysgu iaith fel taith, nid fel cam biwrocrataidd. Ac mae pawb yn perthyn i'r daith honno.

Rydyn ni yn barod wedi gorffen elfen dechnegol y cod—y cam cyntaf—ac mae’r ddogfen yma ar gael i Aelodau ei gweld. Dirprwy Lywydd, byddaf i yn rhoi copi o’r ddogfen dechnegol yn y Llyfrgell erbyn diwedd yr wythnos hon. Gan weithio gydag arbenigwyr yn y maes, rydyn ni wedi addasu disgrifyddion y CEFR i'w defnyddio yng Nghymru. Maen nhw’n disgrifio'r hyn y mae pobl yn 'gallu ei wneud' yn Gymraeg ar wahanol rannau o'u taith ddysgu. Nawr, yr ail gam yw cynhyrchu dogfen sydd yn fyrrach a mwy addas at ddefnydd ymarferol.

Byddwn yn ymgynghori gyda rhanddeiliaid y gwahanol sectorau i drafod sut i ddefnyddio’r lefelau mewn gwahanol gyd-destunau. Rydyn ni’n barod wedi dechrau trafod gyda gweithleoedd ac awdurdodau lleol, a bydd hyn yn parhau trwy’r flwyddyn academaidd hon. Bydd hyn yn arwain at ymgynghoriad cyhoeddus ar y cod yn ystod tymor yr hydref 2026, gyda'r bwriad o gyhoeddi'r cod terfynol yn gynnar yn 2027.

Er mwyn tynnu’r holl weithgarwch yma at ei gilydd, dwi'n edrych ymlaen at gynnal cynhadledd mewn partneriaeth â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ym mis Rhagfyr. Byddwn yn dod ag arbenigwyr CEFR rhyngwladol blaenllaw ynghyd i rannu eu profiadau o ddefnyddio'r CEFR mewn lleoliadau addysgol ac mewn gweithleoedd. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle cynnar i ymarferwyr addysg, sefydliadau ac unigolion ddysgu mwy am fanteision ymarferol defnyddio'r fframwaith rhyngwladol.

Eleni hefyd, bydd adolygiad o’r taflwybr i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd gwaith paratoi hefyd yn digwydd i alluogi'r Llywodraeth nesaf i ymgynghori ar fabwysiadu'r targed o 50 y cant o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn ymrwymiad a wnes i yn ystod y broses o graffu ar y Bil, ac mae gwaith eisoes wedi dechrau i ddadansoddi'r data, ystyried y goblygiadau, yr heriau a'r manteision ehangach. Mae hwn yn waith pwysig, manwl y mae'n rhaid neilltuo amser i’w wneud yn iawn. Bydd yn rhan o ymgynghoriad ar strategaeth 'Cymraeg 2050' ddiwygiedig. Dwi’n rhagweld y bydd hyn yn digwydd tua diwedd 2026.

Dirprwy Lywydd, mae llawer o waith eisoes wedi digwydd i sicrhau y bydd yr athrofa yn cael ei sefydlu 2027. Bydd yn cymryd drosodd gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'i ehangu. Ei phwrpas fydd cefnogi dysgwyr Cymraeg o bob oedran, gan helpu mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg bob dydd, a rhoi cyfle i bawb symud ymlaen ar eu taith iaith. Bydd yr athrofa yn helpu'r gweithlu addysg i ddysgu Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg.

Cafodd materion y gweithlu eu trafod yn helaeth wrth i’r Bil fynd drwy holl gamau’r broses seneddol. Mae gwaith yn parhau dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddatblygu cynllun strategol y gweithlu addysg, ac y mae wedi gwneud datganiad ar hyn ym mis Medi. Bydd camau i recriwtio, cadw ac uwchsgilio'r gweithlu addysg yn ganolog i lwyddiant y Ddeddf. Bydd gan yr athrofa rôl newydd bwerus yn uwchsgilio ymarferwyr, a bydd yn gwneud hynny drwy adeiladu ar y sylfaen lwyddiannus sydd wedi’i gosod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er enghraifft, rŷm ni’n buddsoddi £4.8 miliwn trwy’r ganolfan i ddatblygu sgiliau ein gweithlu presennol drwy gyfres o gyrsiau wedi'u teilwra, gan gynnwys ein cynllun sabothol llwyddiannus ac uchel ei barch. Mae dros 2,000 o aelodau’r gweithlu addysg wedi elwa o hyfforddiant iaith Gymraeg drwy'r ganolfan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Bydd gan yr athrofa hefyd gyfrifoldeb ym maes ymchwil, a rôl allweddol wrth sicrhau dealltwriaeth o'r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg. Rydym ni wedi hysbysebu am swydd cadeirydd yr athrofa, ac yn anelu at gael yr ymgeisydd llwyddiannus yn y swydd erbyn mis Ebrill 2026.

Dirprwy Lywydd, mae cynllun clir ar gyfer gweithredu'r Ddeddf. Dwi'n gobeithio bod hyn yn rhoi hyder i Aelodau fod y gwaith sy’n digwydd nawr i ddatblygu'r cod, gosod mas y cyfeiriad strategol a sefydlu’r athrofa yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer cyflawni'r Ddeddf dros y blynyddoedd i ddod. Mae effaith y Ddeddf yn mynd yn bell y tu hwnt i addysg. Mae'n ymwneud â diwylliant, hunaniaeth a chymuned. Mae’n gwneud yr iaith yn rhan o fywyd bob dydd trwy roi'r offer i bob plentyn, person ifanc ac oedolyn i lwyddo. Dwi'n ymrwymo i ymgysylltu, ymgynghori a gweithio'n agos â phartneriaid, gan wneud hon yn daith ar y cyd, gam wrth gam, er budd pob dysgwr a phob cymuned yng Nghymru. Diolch.

15:10

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. Dirprwy Lywydd, dwi'n falch o glywed fod y Ddeddf hon wedi cael ei chroesawu mewn ysgolion ar draws Cymru. Hoffwn unwaith eto gofnodi faint yr ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn falch nid dim ond y gwnaethom ni bleidleisio dros y Bil yn y diwedd, ond hefyd bod ein gwelliannau ynglŷn â chefnogaeth i rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg, ond sy'n dymuno anfon eu plant i ysgol cyfrwng Cymraeg, wedi cael eu derbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Dwi'n ddiolchgar i chi unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet, am y gwaith trawsbleidiol a wnaethom ni wrth ddatblygu'r Bil. 

Fel Ceidwadwyr Cymreig, bydd ein blaenoriaethau bob amser yn canolbwyntio ar gyfleoedd a dewisiadau i'n pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y Bil hwn ddim ond yn cryfhau ymarferoldeb a gallu'r ddeddfwriaeth hon yn ymarferol trwy agor y cyfleoedd hyn i bob plentyn i gael mynediad i addysg Gymraeg. Credaf mai hon yw'r nod allweddol yng nghanol y Ddeddf hon.

Er ei bod yn bleser clywed diweddariad a threfn amser manwl ar gyfer gweithredu'r Ddeddf a'i nodau, hoffwn ddechrau drwy nodi fy siom o ran diffyg cynllun gweithlu addysg. Er ei bod yn bwysig nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi cynnydd o ran datblygiad y cynllun gweithlu strategol drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig yn ystod egwyl yr haf, rydym wedi derbyn ychydig iawn o wybodaeth gennych chi neu'r Ysgrifennydd ar sut y bydd hyn yn effeithio ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 3 Medi yn nodi mai nod y cynllun gweithlu addysg strategol yw gweithio gyda'n gilydd ar yr atebion i heriau recriwtio a chadw staff, yn enwedig athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg. Felly, pa wybodaeth ddiweddar allwch chi ei rhoi inni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud rhwng eich dau bortffolio, i sicrhau bod cynllun strategol y gweithlu addysg yn cefnogi nodau Deddf y Gymraeg ac addysg?

Mae cynllun gweithlu addysg yn rhywbeth mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a fi'n bersonol, wedi bod yn galw amdano am flynyddoedd, ac eto, rydym ni ychydig yn siomedig bod hwn wedi cael ei gyhoeddi drwy ddatganiad ysgrifenedig a heb gael ei drafod o fewn y Senedd hon.

Gan symud at amserlen weithredu'r Ddeddf, rydw i wedi sylwi eich bod chi wedi sôn bod adolygiad strategaeth 'Cymraeg 2050' yn mynd i gael ei gyhoeddi. Felly, ar sail hwn, beth ydych chi yn rhagweld y bydd angen ei newid o ran strategaeth 'Cymraeg 2050'—dydw i ddim yn moyn yr holl strategaeth nawr, ond dwi'n siŵr bod cwpwl o bethau gyda chi i'w ddweud—er mwyn i'r Ddeddf hon gyrraedd ei photensial llawn?

Sylwaf hefyd, gan ystyried natur uchelgeisiol y Ddeddf, y dyddiad cynharaf yn y llinell amser yw erbyn Awst 2027, ac felly ar ôl etholiad y Senedd fis Mai nesaf. Felly, rydw i'n gobeithio eich bod chi'n gallu rhoi diweddariad inni, neu arweiniad, ar ba waith paratoi y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei gwblhau cyn yr etholiad er mwyn inni gael syniad o'r gwaith sylfaenol a fydd yn cymryd lle ar ôl yr etholiad.

O fewn y llinell amser, rydych chi hefyd yn nodi sut y bydd y fframwaith cenedlaethol cyntaf ar gyfer addysg iaith Gymraeg yn cynllunio canllaw drwy addysg leol ac addysg ôl-16. Gan ystyried rôl Medr wrth oruchwylio addysg ôl-16, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda nhw i sefydlu monitro'r targedau hyn rydych chi wedi'u gosod yn ein lleoliadau ysgol ôl-16? Ac o ystyried gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth gynghori Medr mewn perthynas â'i waith sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, pa gyfranogiad ydyn nhw wedi'i gael yn y trafodaethau hyn?

Dim ond dau bwynt arall sydd gen i i'w codi ar eich datganiad heddiw. Yn gyntaf, rydych chi wedi sôn y bydd y cod i ddisgrifio gallu iaith Gymraeg yn cael ei sefydlu yn seiliedig ar y fframwaith cyffredinol Ewropeaidd. Er mwyn sicrhau dealltwriaeth clir o beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cysylltiad y cod a'r CEFR, roeddwn i'n gobeithio y gallwch chi amlinellu a fyddai'r cod yn seiliedig ar y fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin neu'n unol ag ef.

Yn olaf, rwy'n falch o glywed am y gynhadledd ym mis Rhagfyr sydd yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol ynghyd i rannu arferion gorau wrth ddefnyddio'r fframwaith mewn mannau addysg a gwaith. Pa drafodaethau ydy'r Llywodraeth wedi eu cael gyda'r sector preifat ynglŷn â'u hymgysylltiad â'r gynhadledd hon? Rwy'n credu bod dealltwriaeth o'r gwaith yn y maes hwn yn hanfodol i lwyddiant Deddf y Gymraeg ac addysg yn gyffredinol. Diolch yn fawr.

15:15

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch yn fawr i Tom Giffard am y gefnogaeth mae e yn bersonol a'i barti e wedi'i rhoi at y Bil ac, wrth gwrs, at yr iaith Gymraeg, a hefyd diolch am y cwestiynau.

Fel mae'r Aelodau yn gallu gweld, roedd lot o bethau i fi drio eu cyfro yn y datganiad, a doedd jest dim digon o amser i fynd ar ôl popeth. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud mwy am y gweithlu, achos roedd y gweithlu yn un o'r pynciau llosg pan oedden ni'n trafod y Bil. Dwi yn cydweithio, wrth gwrs, gyda'r Gweinidog dros Addysg. Mae hi'n paratoi strategaeth newydd a dwi'n gyfrifol am nifer o'r pethau ymarferol rŷn ni'n gwneud yn barod i drio tynnu mwy o bobl mewn i'r gweithlu, cadw'r bobl sydd gyda ni yn y gweithlu yn barod, ac uwchsgilio pobl sydd yn y gweithlu yn barod sydd yn gallu siarad Cymraeg, ond ambell waith does dim digon o hyder gyda nhw neu maen nhw eisiau uwchsgilio'r gallu sydd gyda nhw ar hyn o bryd i wneud mwy.

Rydyn ni'n ariannu nifer fawr o bethau. Mae'n gallu bod yn heriol. Mae lot o ddewisiadau i bobl nawr o ran sut i ddefnyddio'r sgiliau sydd gyda nhw a'r yrfa maen nhw'n gallu ei chreu at y dyfodol. Ond trwy waith yr athrofa yn y dyfodol, gallwn ni wneud mwy. Mae'r ganolfan wedi bod yn llwyddiannus. Fel y dywedais i, maen nhw wedi rhoi nifer o gyrsiau, pethau hyblyg i bobl i'w helpu nhw i uwchsgilio. Pwrpas yr athrofa yw adeiladu ar y llwyddiant yna, ond i wneud mwy, i dynnu mwy o bobl i mewn a chadw pobl sydd gyda ni yn barod. 

Roedd Tom Giffard yn cyfeirio at y ffaith, Dirprwy Lywydd, y bydd lot o bethau yn y Ddeddf yn cwympo i'r Llywodraeth a'r Senedd newydd, ac roedd hwnna'n glir o'r cychwyn. Y gwaith sy'n mynd ymlaen nawr yw paratoi'r tir i'r Senedd newydd, i fwrw ymlaen gyda phopeth sydd ar y llyfr statudol nawr trwy waith y Senedd hon. So, fel y dywedais i, rŷn ni wedi cwblhau'r cam cyntaf, i baratoi'r cod, ond rŷn ni'n symud ymlaen at y cam nesaf.

Roedd Tom Giffard yn gofyn i mi yn y cwestiwn olaf am y gwaith rŷn ni'n ei wneud gyda'r sector preifat. Wrth gwrs, un o bwrpasau'r cod yw rhoi mwy o wybodaeth i'r bobl yn y gweithlu pan maen nhw'n trio tynnu pobl i mewn i'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Rŷn ni'n cynnal gweithdy i gyflogwyr ar 4 Tachwedd i drafod defnydd o'r cod mewn gweithleoedd, ac i wneud hynny rydyn ni'n cydweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Mae hi wedi bod yn ein helpu ni i arwain y gwaith o ddefnyddio'r cod, nid jest yn y dosbarth ond yn y gweithlu hefyd.

Rŷn ni'n cydweithio'n agos gyda'r cyflogwyr sy'n gwneud gwaith gyda babanod. Fel rŷch chi'n gwybod, y sector breifat, ar y cyfan, sy'n rhoi cyfleon i blant bach, ac rŷn ni eisiau gwneud mwy i gydweithio gyda nhw a sefydliadau eraill fel Mudiad Meithrin a phobl sy'n gweithio ym maes addysg gynnar, er mwyn i'r cod fedru esbonio sut i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg plant ifanc wrth iddynt bontio i'r ysgol gynradd. Rŷn ni'n gwneud gwaith ar yr athrofa, rŷn ni'n gwneud gwaith ar y fframwaith, a'r gobaith yw i gwblhau'r gwaith ar y fframwaith cyn y dyddiad a nodir yn y Ddeddf. So, rŷn ni wedi symud ymlaen gyda'r gwaith yna a pharatoi'r tir am y dyfodol.

Yn olaf, roedd Tom Giffard yn gofyn am y gwaith gyda Medr, ac nid jest Medr, wrth gwrs, ond mae'r coleg cenedlaethol yn bwysig i ni yng nghyd-destun y Ddeddf. Dwi wedi cwrdd gyda'r coleg cenedlaethol, rŷn ni wedi cael cyfle i siarad gyda phobl yn Medr, a hefyd rydw i'n cydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'w helpu nhw i'n helpu ni i roi popeth sydd yn y Ddeddf—pethau uchelgeisiol—yn eu lle at y dyfodol.

15:20

Diolch yn fawr iawn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad. Dwi'n hynod o falch o allu cyfrannu at y drafodaeth hon. Dwi'n cytuno’n llwyr gyda'r hyn ddywedoch chi ynglŷn â phwysigrwydd y Ddeddf arbennig hon, Deddf y Gymraeg ac addysg, sydd yn ddeddfwriaeth hanesyddol. Os caiff hi ei gweithredu'n effeithiol, mae ganddi’r potensial i drawsnewid dyfodol ieithyddol Cymru.

Mae'n uchelgais gan Blaid Cymru, wrth gwrs, i greu Cymru decach, well, ac yn fwy llwyddiannus a ffyniannus, lle mae'r Gymraeg yn ganolog i'r weledigaeth honno, ac, o'i dysgu, ei defnyddio, a'i diogelu, i sicrhau ein bod ni'n gweithredu ar lefelau na welwyd erioed o'r blaen. Mae Plaid Cymru'n credu bod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i dderbyn y rhodd gorau a mwyaf gwerthfawr posibl y gallwn ni ei rhoi, sef y gallu i siarad un o ddwy brif ieithoedd Cymru.

Fel rhywun a fu'n rhan o ddatblygu’r Ddeddf hon gyda chi a gyda'r cyn-Weinidog addysg, Jeremy Miles, dwi'n falch fy mod i wedi gallu dylanwadu ar gwrs y Ddeddf honno, ond yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud o hyd. Mae'r Ddeddf yn gosod sylfaeni pwysig, gan gynnwys categorïau iaith i ysgolion, sefydlu'r athrofa, a datblygu cynlluniau strategol lleol. Ond mae ei llwyddiant hi'n dibynnu ar weithredu pendant, uchelgeisiol, amserol a chydlynol. Dwi am ganolbwyntio ar dri maes allweddol wrth ymateb i'r datganiad sydd wedi codi'n gyson gan randdeiliaid dwi wedi bod yn siarad â nhw, sef targedau, gweithlu, a mynediad cyfartal.

Y pwynt cyntaf yn eich datganiad dwi eisiau ymateb iddo fe yw'r targed amser. Rydych chi yn gosod—a dwi'n derbyn hyn fel uchelgais—y bydd pob ysgol yn darparu o leiaf 10 y cant, sef yr ysgolion cyfrwng Saesneg, erbyn 2030. Dwi'n mawr obeithio, gan eu bod nhw eisoes yn gwybod beth yw'r targed hwnnw, ers nifer o fisoedd, y bydd pob un ohonyn nhw yn cyrraedd y targed yna erbyn 2030. Dwi'n derbyn efallai na fydd un neu ddwy ddim cweit wedi cyrraedd y man y byddem ni yn dymuno, ond dwi ddim yn credu bod rhoi chwe blynedd ychwanegol iddyn nhw gyrraedd y targed yna yn dderbyniol. Ym marn Plaid Cymru, dylai hynny fod llawer, llawer is, achos mae'n mynd i roi esgus i ormod o ysgolion beidio ag ymrwymo i gyrraedd y targed.

Rŷn ni wedi galw'n gyson hefyd am darged o 50 y cant o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, ac rŷch chi wedi ymrwymo, fel rŷn ni wedi clywed, i ymgynghori ar hyn cyn diwedd y Senedd hon. Felly, beth fyddem ni wedi croesawu yn y datganiad yma yw ymrwymiad i gyhoeddi drafft o strategaeth fyddai wedi gallu nodi sut mae cyrraedd y targed o 50 y cant erbyn 2050 a faint o arian fyddai angen ar awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw ar hyd y daith honno.

Rŷn ni wedi clywed yn barod am bwysigrwydd y gweithlu i gyflawni nod y Ddeddf, ac rŷn ni'n croesawu'r ffaith bod yna ymrwymiad ariannol eisoes wedi'i roi i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a'u bod eisoes wedi dysgu 2,000 o ymarferwyr, ond mae angen cynllun gweithlu cenedlaethol, un sy'n nodi'r niferoedd sydd eu hangen, y meysydd blaenoriaeth, a'r camau i'w cymryd i recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon. Felly hoffwn ofyn eto cwestiwn gwnes i ofyn ichi wythnos diwethaf: sut bydd cynllun strategol y gweithlu addysg yn mynd i'r afael â phrinder athrawon Cymraeg, yn arbennig mewn pynciau allweddol? Ac a fyddwch chi hefyd yn ymrwymo i gynyddu nifer y cyrsiau tystysgrif addysg i raddedigion drwy gyfrwng y Gymraeg?

Y pwynt olaf yw bod yr amserlen weithredu ar gyfer categorïau iaith ysgolion erbyn 2030 yn gam ymlaen. Fodd bynnag, mae mynediad cyfartal at addysg Gymraeg yn dal yn her, ac mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, diffyg ysgolion Cymraeg mewn rhai ardaloedd, cludiant anaddas a pholisïau anghyson rhwng awdurdodau lleol â'i gilydd. 

Felly, dyma'r cwestiynau olaf. A fydd y Llywodraeth yn diwygio'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i sicrhau mynediad cyfartal at addysg Gymraeg? A fydd canllawiau cenedlaethol newydd yn cael eu cyhoeddi i sicrhau nad yw polisïau lleol yn rhwystro mynediad at ysgolion cyfrwng Cymraeg? A faint o gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i awdurdodau lleol i wireddu'r Ddeddf hollbwysig hon? Dyma'n cyfle olaf ni i sicrhau y bydd cymaint o blant â phosibl yn gadael ein hysgolion ni yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol. Diolch yn fawr iawn.

15:30

Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell, nid jest am y cwestiynau heddiw, ond am bopeth mae e wedi'i wneud i gael dylanwad ar y Bil. Wrth gwrs, daeth y Bil mas o’r cytundeb cydweithio. A thrwy gydweithio gyda’n gilydd, a chyda phobl eraill ar draws y Senedd, rŷn ni wedi llwyddo i gael Deddf hanesyddol, fel dywedodd Cefin Campbell, ar y llyfr statud, ac yno nawr am y dyfodol.

A gaf i ymateb, i ddechrau, i beth ddywedodd e am ysgolion Saesneg, ble rŷn ni eisiau gweld o leiaf 10 y cant o’r gwersi yn cael eu cynnal yn y Gymraeg? Fel roedd Cefin Campbell yn cofio, Dirprwy Lywydd, roedd lot o bryderon, yn enwedig yn y de-ddwyrain, gyda rhai ysgolion, fod dim digon o adnoddau ganddyn nhw, dim digon o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn y blaen, ac roedden nhw’n becso na fyddai digon o amser gyda nhw i baratoi os taw dim ond un cyfnod o amser fyddai gyda nhw. Nawr, pan maen nhw’n dod at hyn, a gweld beth maen nhw yn ei wneud yn barod, gyda'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw—. Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd Cefin Campbell—dim ond nifer fach, fach o’r ysgolion y bydd rhaid inni roi mwy o amser iddyn nhw. Ond wrth roi’r cyfle yn y Ddeddf, mae hwnna wedi rhoi hyder i bobl, dwi’n meddwl, ddechrau ar y daith, i wneud y gwaith. A dwi’n hyderus y byddan nhw’n gallu dangos i ni fod y mwyafrif mawr iawn o’r ysgolion yn gallu dod i ble rŷn ni eisiau iddyn nhw ddod heb gail yr ail gyfle a mwy o amser.

Fel y dywedais i, cytunais i gyda’r Aelod, pan oedd y Bil o flaen y Senedd, i ailwampio’r targed i gael 50 y cant o’r bobl ifanc yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050. Ac mae’r gwaith wedi dechrau yn barod, i gynllunio, i siarad gyda phobl yn y maes, i feddwl am y pethau ymarferol y bydd rhaid inni eu cael mewn lle. Ond dyna, nawr, yw’r targed. Dyna beth sydd yn y Ddeddf. A dwi wedi cael fy ysbrydoli gan yr ymateb rŷn ni wedi ei weld gyda nifer o ysgolion, a nifer o’r awdurdodau lleol sydd eisiau symud ymlaen gyda’r pethau yn y Bil. Maen nhw wedi dod aton ni fel Llywodraeth i ddweud, 'Oes mwy rŷn ni’n gallu’i wneud? Ydyn ni’n gallu peilota rai o’r pethau i helpu chi fel Llywodraeth i gynllunio at y dyfodol?'

Wrth gwrs, dwi yn parhau i sgwrsio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth am y pethau maen nhw’n eu gwneud sy’n berthnasol i’r Bil. Ar ddiwedd y dydd, mae'r cyfrifoldeb yn eu dwylo nhw, a nhw sydd i ymateb i'w cyfrifoldebau nhw. Ond fe allaf i ddweud wrth Cefin Campbell, yn bendant, rŷn ni’n mynd ati, nid jest fi fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda’r cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, ond rŷn ni’n mynd ati fel Llywodraeth gyfan i roi'r cyfrifoldebau a’r posibiliadau sydd gyda ni nawr, dan y Ddeddf, ar waith.

15:35

Ysgrifennydd Cabinet, o ran Casnewydd, er nad yw'n ardal gref o ran y Gymraeg yn draddodiadol, rwy'n credu bod cyngor y ddinas yn gwneud camau mawr i hyrwyddo'r Gymraeg a'i gwneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc a'u teuluoedd. Fe wnaeth agor y bedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn 2021 gynyddu'r lleoedd sydd ar gael yn y ddinas 50 y cant. Mae tua 94 y cant o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi lle na siaredir y Gymraeg. Er mwyn cynorthwyo'r trawsnewidiad i gyfrwng Cymraeg, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu darpariaeth drochi, drwy'r ysgol gynradd ac uwchradd, i gefnogi'r trawsnewidiad hwnnw. Ar hyn o bryd mae Cymraeg i Bawb yn cynnal uned drochi gynradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, i gefnogi pob disgybl oedran cynradd sy'n paratoi ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg o flwyddyn 1 i flwyddyn 6. Mae darpariaeth hefyd ar gyfer blynyddoedd 1 i 6 mewn uned drochi cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Yn yr ysgol uwchradd, mae disgyblion yn derbyn cymorth trochi yn uniongyrchol drwy Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, gydag integreiddio'n raddol i ddosbarthiadau prif ffrwd wrth i'w sgiliau Cymraeg ddatblygu. Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n ymrwymo i barhau i gefnogi'r ymdrechion hyn, ymdrechion canmoladwy, yng Nghasnewydd y mae cyngor y ddinas yn eu cyflawni drwy weithredu'r Ddeddf, i sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal ac, yn wir, ei gryfhau?

A gaf ddiolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Dirprwy Lywydd, a chytuno ag ef bod yr ymdrechion a wnaed gan gyngor y ddinas yng Nghasnewydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhagorol yn y gefnogaeth y maen nhw wedi'i dangos i'r iaith? Mae llwyddiant trochi hwyr yn y de-ddwyrain wedi rhagori ar y disgwyliadau a oedd yno pan ddechreuon ni fuddsoddi ymhellach yn y math hwnnw o ddarpariaeth. Rwy'n credu, yn rhyfeddol, Dirprwy Lywydd, bod 8,000 o fyfyrwyr wedi elwa ar ganolfannau trochi hwyr ers i ni ddechrau rhoi grant at y diben hwnnw ar ddechrau'r tymor hwn. Felly, yn ystod yr un tymor hwn rydym wedi gweld y twf rhyfeddol hwn yn llwyddiant trochi hwyr. Mae Casnewydd rwy'n credu wedi bod yn enghraifft syfrdanol o hynny, ar lefel gynradd ac uwchradd.

Dirprwy Lywydd, dywedais yn fy ateb i Cefin Campbell fy mod wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y brwdfrydedd yr ydym wedi'i weld allan yna ymhlith ysgolion, ac yn enwedig ymhlith canolfannau trochi hwyr, o ran y posibiliadau newydd y mae'r Ddeddf yn eu darparu—dod ymlaen, gofyn am fod yn rhan o ddulliau treialu ac ati. Clywsom yn gynharach yn ystod y sesiwn am lwyddiant y rhaglen Taith. Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi defnyddio'r rhaglen Taith i ymweld ag ysgolion mewn rhannau eraill o'r byd, i ganfod sut mae'r cod a'r fframwaith Ewropeaidd cyffredin yn cael eu rhoi ar waith mewn cyd-destunau dwyieithog. Felly, mae ysgolion o Wrecsam wedi ymweld â Chanada, ac mae ymweliad ar fin digwydd gan Ysgol Panteg a chanolfan drochi hwyr Carreg Lam yn Nhorfaen—ger ardal yr Aelod ei hun—sy'n mynd i Japan fel rhan o'r rhaglen Taith. Rhan o'r rheswm eu bod mynd yno fydd edrych ar y ffordd y mae'r CEFR yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun ieithyddol hwnnw. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad ganddyn nhw pan fyddant yn dychwelyd i Gymru fis nesaf.

Oherwydd mae'n debyg mai'r brwdfrydedd hwnnw sydd allan yna yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gennym mewn perthynas â'r Gymraeg. Dywedais yn fy natganiad agoriadol, Dirprwy Lywydd, fod yr ewyllys da hwnnw tuag at yr iaith wedi'i adlewyrchu, rwy'n credu, yn y gefnogaeth unfrydol honno i'r Bil pan bleidleisiwyd arno yma, ac yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi ymrwymo'n llwyr i'w barhau.

Dwi'n ddiolchgar am y datganiad heddiw. Dwi yn rhannu pryderon Cefin Campbell o ran targed 2036, a'r ffaith ei fod yn golygu bod yna blentyn yn cael ei enw rŵan, yn ddibynnol ar god post, fydd efallai ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth o gwbl, o basio'r Ddeddf yma, tan y byddan nhw'n gadael ysgol gynradd. Felly, mi fyddwn i yn gofyn ein bod ni'n glir iawn o ran beth fyddai'r eithriadau hynny, a pam, mewn 11 mlynedd, fyddai unrhyw ysgol ddim yn gallu cael y ddarpariaeth 10 y cant yna. 

Ac o ran un elfen arall, o ran statws y Gymraeg fel pwnc—rhywbeth mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn codi'n gyson—dŷn ni'n gwybod bod yna lai o bobl yn cymryd lefel A yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel ail iaith. A gaf i ofyn pa waith sy'n mynd rhagddo fel rhan o'r gwaith efo'r Bil hwn i sicrhau bod unrhyw un, ble bynnag eu bod nhw'n byw yng Nghymru rŵan, yn gallu astudio lefel A yn y Gymraeg, boed hynny'n iaith gyntaf neu ail iaith? Oherwydd dŷn ni'n gwybod ar y funud fod nifer o ysgolion, oherwydd niferoedd efallai, ddim yn cynnig hynny. Yn amlwg, o ran ein targed ni o ran cynyddu defnydd a nifer y siaradwyr erbyn 2050, mae hwn yn eithriadol a bwysig. Byddwn ni'n casáu meddwl—. Os oes yna 12 o ddisgyblion efallai mewn ysgol eisiau dewis cwrs, pam nad ydyn ni'n sicrhau bod y ddarpariaeth yna ar gael, ble bynnag dŷch chi'n byw yng Nghymru, a pha bynnag ysgol dŷch chi'n mynychu?

15:40

Diolch i Heledd Fychan. Fel y dywedais wrth Cefin Campbell, pan oeddem ni'n treial creu cefnogaeth i'r Bil, un o'r pethau roedd ysgolion—yn enwedig yn y de-ddwyrain ac yn y gorllewin hefyd—yn codi oedd yr amserlen. Dyna pam rŷn ni wedi rhoi yn y Ddeddf y posibilrwydd iddyn nhw gael mwy o amser, os bydd angen i hynny ddigwydd. Dwi'n cytuno gyda'r Aelod, byddai'n rhaid inni gael y prawf yna, a phrawf eithaf cryf. Dwi ddim eisiau gweld mwy o ysgolion nag sydd rhaid yn cael mwy o amser, ond mae'r hyder yn bwysig. Ar ôl cael y cyfle, dwi'n dal i fod yn hyderus mai nifer fach o ysgolion fydd angen defnyddio'r cyfle yna. Ond mae cael y cyfle wedi rhoi hyder i bobl ddod ar y daith gyda ni.

Dwi wedi clywed beth mae pobl yn y maes—y comisiynydd ac yn y blaen—wedi dweud am statws y Gymraeg fel pwnc. I fi, y gwaith pwysicaf yw ailfeddwl lefel A Cymraeg i dynnu mwy o bobl i mewn i astudio'r iaith. Os bydd mwy o bobl ifanc eisiau mynd ar ôl y Gymraeg fel pwnc, bydd mwy o ysgolion yn gallu rhoi y gwasanaeth iddyn nhw. Ar hyn o bryd, dwi ddim yn siŵr fod y pethau mae pobl yn astudio pan maen nhw'n mynd ymlaen i lefel A yn eu taro nhw fel pethau maen nhw'n gallu defnyddio yn eu bywydau ac yn y gweithlu ac yn y blaen. Felly, y gwaith o ailfeddwl ac ailwampio lefel A Cymraeg, dwi'n meddwl, yw'r ffordd fwyaf effeithiol i gael mwy o bobl i astudio lefel A, a thrwy wneud hynny i gael mwy o ddarpariaeth.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gwerthfawrogi ein hiaith Gymraeg hyfryd. Mae'n rhan o bwy ydym ni, ein diwylliant, ac rydym ni hefyd eisiau ei gweld yn ffynnu. Ond rwy'n pryderu nad yw rhai o'ch nodau yn seiliedig ar realiti'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, gyda'r argyfwng recriwtio a chadw enfawr hwn sydd gennym yng Nghymru. Mae tua 40 y cant o athrawon newydd yn gadael o fewn pedair blynedd, ac nid ydym yn denu'r niferoedd hynny i hyfforddiant athrawon o hyd, yn enwedig, fel y dywedwyd eisoes, yn y pynciau craidd hynny sy'n cael eu haddysgu yn yr iaith Gymraeg, sy'n broblem wirioneddol. Mae'r Ddeddf newydd hon yn rhoi mwy o ddyletswyddau a rheolau i ysgolion sydd eisoes yn cael trafferth yn hyn o beth. Mae athrawon wedi blino, mae adnoddau'n cael eu hymestyn, fel rydych chi'n cydnabod, ac nid oes digon o staff hyfforddedig yn y Gymraeg i gyflawni'r cynlluniau hyn yn iawn.

Rwy'n gofyn i chi felly pa mor realistig ydych chi'n credu yw hi y byddwch chi'n gallu datrys hynny cyn y dyddiadau cau rydych chi wedi'u hamlinellu, cyn ychwanegu haen arall o bwysau ar yr ysgolion hynny yn y Ddeddf hon. Mae angen rhoi blaenoriaeth, byddwn i'n awgrymu, i'r gwaith o ddatrys y cynllun gweithlu hwn a chael rhywbeth yn ei le cyn y targed hwnnw. Rwy'n credu mewn gwirionedd, yn hyn o beth, y dylid rhoi mwy o bwyslais arno a mwy o uchelgais wrth fynd i'r afael â hyn, oherwydd rwy'n credu bod honno'n amserlen eithaf hir. Mae'n eithaf pell i ffwrdd, 2036. Yn sicr, ni fyddwch yn gallu cynnig mwy o addysg Gymraeg i bobl yn fy etholaeth i, er enghraifft, yn sir Fynwy os nad ydym yn mynd i gael yr athrawon hynny sy'n gallu addysgu yn y lleoliadau hynny. Diolch.

15:45

Wel, diolch yn fawr iawn i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna. Does gen i ddim rheswm o gwbl i amau ei hymrwymiad personol i ddyfodol llwyddiannus i'r Gymraeg. Yn gyffredinol, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol crybwyll y gair 'argyfwng'. Mae her, yn hollol bendant, i wneud yn siŵr bod gennym y gweithlu ar gyfer y dyfodol, ond mae llawer eisoes yn digwydd, ac mae mwy rydym ni'n gwybod y gallwn ei wneud. Felly, mae'r Aelod yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl yn gadael maes addysgu, yn aml ar ôl tair blynedd. Dyna pam rydym yn darparu bwrsariaeth arbennig i bobl sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n aros am y bedwaredd flwyddyn, a thu hwnt i hynny hefyd, i geisio rhoi cymhelliant ychwanegol i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd yn yr ystafell ddosbarth fel athrawon Cymraeg neu bobl sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae angen i ni wneud mwy i ddatblygu sgiliau'r bobl hynny sydd yn y gweithlu eisoes. Rwy'n credu bod cynorthwywyr addysgu yn adnodd sydd wedi'i danbrisio yn y maes hwn. Ac rydym yn darparu cymorth sylweddol i bobl sy'n barod i hyfforddi i fod yn athrawon yn yr ystyr gymhwyster llawn sy'n dod trwy'r llwybr cynorthwyydd addysgu defnyddiol iawn hwnnw, ac rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw, ac efallai yn enwedig yn y de-ddwyrain. Oherwydd, fel y dywedais i yn fy atebion i Cefin Campbell a Heledd Fychan, rwy'n credu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn cael cefnogaeth pobl ac i gynnal brwdfrydedd pobl dros y Bil, i roi'r rhwyd ddiogelwch ychwanegol honno o fwy o amser i gyrraedd y 10 y cant y bydd ei angen arnom mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf. Ond rwy'n credu, unwaith y bydd pobl yn gweld y ffyrdd ymarferol y gellir gwneud hynny a'r llwyddiant y mae hynny'n ei gynnig, byddwn yn gweld bod bron pob ysgol yn llwyddo i wneud hynny yn gyflymach.

Ac yna, Dirprwy Lywydd, a'r pwynt olaf, mewn gwirionedd, rwy'n credu unwaith y byddwn yn dechrau cael mwy o enillion ar y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud, yn enwedig yn addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn bennaf, mewn gwirionedd beth fydd hyn yn ei wneud fydd ysgafnhau'r llwyth gwaith. Oherwydd bydd pobl yn gweld bod yr addysgu y maen nhw'n ei wneud—a bydd hyn yn cael ei rannu gan eu myfyrwyr—byddant yn gweld bod hon yn iaith fyw, y gallant fynd allan a'i defnyddio, a all fod yn ddefnyddiol iddynt i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol. Ac unwaith y byddwn wedi creu'r cylch hynaws hwnnw o fuddsoddiad sy'n arwain at gyfle, rwy'n credu y bydd goblygiadau llwyth gwaith y Ddeddf mewn gwirionedd o fudd i athrawon, yn hytrach nag anfantais.

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Comisiwn Dŵr Annibynnol—Y Camau Nesaf

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: y Comisiwn Dŵr Annibynnol, y camau nesaf. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies. 

Member
Huw Irranca-Davies 15:48:21
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein hymateb i adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol heddiw. Mae'r comisiwn hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-osod y sector dŵr, a gwneud pethau'n wahanol. 

Mae hwn yn gyfle euraidd i lanhau ein hafonydd a'n moroedd, i roi gwerth gwell o lawer i dalwyr biliau Cymru, ac i adeiladu system ddŵr sy'n atebol, yn dryloyw ac wedi'i chynllunio yng Nghymru ar gyfer Cymru. Mae'n ymwneud â chreu dull cydweithredol sy'n rhoi pobl, natur a chenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae angen i bethau newid, a'r gwir yw bod yn rhaid i ni eu gwneud yn well.

Ar hyn o bryd, nid yw ein system ddŵr yn gweithio cystal ag y dylai, neu gystal ag y gallai, i bobl neu i'r amgylchedd yng Nghymru. Ar draws y wlad, mae pobl yn poeni am ein dyfrffyrdd, am filiau dŵr, ac am ansawdd y gwasanaethau rydym ni'n talu amdanynt. Mae ein hamgylchedd rheoleiddio wedi dyddio. Mae ein model presennol o reoleiddio yn etifeddiaeth o amser cyn datganoli, wedi'i wreiddio mewn cystadleuaeth. Nawr, mae pethau wedi newid ers hynny, ac mae'n iawn fod ein dull yn newid hefyd. Dyna pam y gwnaethom benderfynu comisiynu'r adolygiad hwn ar y cyd â Llywodraeth y DU, ac rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu eu barn a'u harbenigedd. Mae canfyddiadau'r adroddiad yn glir iawn: mae'n rhaid i'n system bresennol newid.

Mae adroddiad y comisiwn yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn a gwerthfawr i lywio ein gwaith o ddiwygio'r sector dŵr. Mae ei 88 o argymhellion yn rhychwantu ehangder llawn y system rheoli dŵr, o gynllunio strategol i newid deddfwriaethol. Er bod llawer o argymhellion yn berthnasol ledled Cymru a Lloegr, mae'r adroddiad yn cydnabod ein cyd-destun unigryw yma yng Nghymru. Felly, mae hwn yn gyfle i lunio system sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd, ein blaenoriaethau a'n hanghenion hirdymor.

Un o brif argymhellion y comisiwn yw creu rheoleiddiwr economaidd newydd ar gyfer dŵr yng Nghymru. Gallaf gadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i alluogi hyn. Hefyd, rwy'n credu mai rheoleiddiwr ymroddedig, annibynnol, sy'n ymgorffori swyddogaethau cynllunio systemau dŵr, yw'r ffordd orau o wasanaethu buddiannau hirdymor Cymru. Byddai'r dull hwn yn galluogi system fwy cyfannol ac integredig ar gyfer rheoli dŵr, un sy'n cydbwyso ein blaenoriaethau cenedlaethol ag anghenion lleol, yn annog pobl i weithio gyda'i gilydd ac yn cefnogi hyder buddsoddwyr. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y cynnig hwn yn ddiweddarach eleni i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio rydym yn ei ddatblygu yn addas i'r diben ac yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau ar gyfer diwygio dŵr.

Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, yng Nghymru mae gennym sylfaen ddeddfwriaethol sy'n ein grymuso i feddwl yn y tymor hir, gweithredu ar y cyd a chyflawni'n gyfannol. Rhaid i system reoleiddio newydd ar gyfer dŵr fanteisio i'r eithaf ar hynny. Byddwn yn symud tuag at ddull mwy moesegol, cydweithredol. Mae hyn yn golygu cofleidio amcanion a rennir, lle mae costau amgylcheddol ac effeithiau rheoli dŵr cynaliadwy yn cael eu hystyried ochr yn ochr â fforddiadwyedd biliau dŵr. Byddwn yn ymgorffori cynaliadwyedd, tegwch, iechyd, cydraddoldeb a chydnerthedd yng nghyfansoddiad ein system ddŵr.

Er mwyn cyflawni ar raddfa ein huchelgais, rhaid i'r Llywodraeth osod y cyfeiriad strategol cenedlaethol, hirdymor ar gyfer pob agwedd ar reoli dŵr, yn amrywio o gyflenwad dŵr i gydnerthedd yn erbyn newid hinsawdd. Byddwn yn darparu eglurder ar flaenoriaethau gweinidogol, gan sicrhau atebolrwydd ac aliniad traws-sector. Nawr, bydd y diwygiadau hyn yn ein galluogi i symud o gynllunio tameidiog i gynllunio ar lefel system, cydbwyso ein blaenoriaethau cenedlaethol ag anghenion lleol a meithrin cydweithredu ar draws sectorau, o amaethyddiaeth a thai i ddiwydiant a thrafnidiaeth.

Mae'r sector dŵr yng Nghymru eisoes yn wahanol i'r sector ar draws y ffin. Rydym yn ffodus i gael unig gwmni dŵr nid-er-elw y DU, ochr yn ochr â darparwr bach yng Nghymru yn unig. Mae'r ddau mewn sefyllfa dda i weithio'n agos gyda'r Llywodraeth wrth i ni lunio dull unigryw sy'n wynebu'r dyfodol ar gyfer Cymru. Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw system ddŵr i Gymru, wedi'i chynllunio yng Nghymru, sy'n cyflawni ar gyfer Cymru, ac mae gwireddu'r weledigaeth honno hefyd yn golygu pwerau newydd i Gymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r pwerau angenrheidiol ar gyfer y Senedd, a fyddai, os cytunir arnynt, am y tro cyntaf, yn galluogi'r Senedd i ddeddfu mewn perthynas â rheoleiddio dŵr yn economaidd ac alinio swyddogaethau rheoleiddio â'n ffiniau yn y diwydiant dŵr.

Nawr, ni ddylem dwyllo ein hunain o gwbl. Mae graddfa, ehangder a chymhlethdod diwygio'r sector dŵr yn sylweddol. Bydd yn cymryd tipyn o waith a bydd yn cymryd amser. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau cydlyniant ar draws ffiniau, sefydlogrwydd i farchnadoedd ac eglurder i randdeiliaid. Dyna pam y byddwn yn cyd-ddylunio cynllun pontio a rennir gyda Llywodraeth y DU—map ffordd a fydd yn nodi'r llwybr at system ddŵr newydd yng Nghymru. Bydd y cynllun hwn yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd ac ymddiriedaeth buddsoddwyr yn ystod y cyfnod pontio.

Byddwn hefyd yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gynnal swyddogaethau hanfodol yng Nghymru, megis swyddogaethau'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, ac i sicrhau nad yw diwygiadau yn Lloegr yn tanseilio uniondeb ein system yma yng Nghymru yn anfwriadol. Rwy'n deall na ddylem gymryd hyder y cyhoedd ac ymddiriedaeth buddsoddwyr yn ganiataol; rhaid eu hennill. A dyna pam y byddwn yn rhoi trefniadau trosiannol ar waith, gan gynnwys datganiad polisi strategol interim i Ofwat, ac arweiniad i reoleiddwyr eraill, gan roi eglurder. Bydd y datganiad hwn yn mynegi ein blaenoriaethau polisi yn ystod y cyfnod pontio, ac yn helpu i sicrhau parhad a chydlyniad. Mae'n rhaid i ni hefyd gydweithio â phobl Cymru i lunio manylion y cynigion hyn, felly rwy'n bwriadu amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer diwygio dŵr yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, i geisio barn ystod eang o randdeiliaid, yn amrywio o gwsmeriaid domestig a busnes i reoleiddwyr, buddsoddwyr a chwmnïau dŵr. Ac ochr yn ochr â rheoleiddio economaidd, mae'r weledigaeth honno'n cynnwys alinio'r holl swyddogaethau dŵr â'r ffin â Chymru; mwy o bwyslais ar iechyd asedau a chydnerthedd o ran newid hinsawdd; rheoleiddio amgylcheddol cryfach ac atebion ar lefel dalgylch; cefnogaeth barhaus i eiriolaeth cwsmeriaid annibynnol; ac archwilio rôl ombwdsmon newydd ar gyfer dŵr yng Nghymru.

Unwaith eto, mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r amserlen ar gyfer diwygio. Mae angen deddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU, ac yna deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru a chyfnod gweithredu manwl. Bydd gweithredu'n llawn yn cymryd amser, o ystyried yr angen i ddylunio a chyflwyno ein system unwaith y byddwn wedi sicrhau pwerau pellach i'r Senedd. Fel y dywedais, mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth, ac mae'n rhaid i ni gymryd yr amser i wneud hyn yn iawn. Gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod hyn fel cyfle i ailystyried rheoleiddio dŵr fel ei fod yn fwy integredig, gyda mwy o bwyslais strategol ar anghenion Cymru, a chyda chyfnewidiadau a goblygiadau ar gyfer polisiau â blaenoriaeth eraill, fel tai a fforddiadwyedd biliau, wedi'u hymgorffori yn y ffordd y mae pethau'n cael eu cynllunio a'u blaenoriaethu a'u hariannu, o'r cychwyn cyntaf. Mae gennym gyfle i newid y model cystadleuaeth o reoleiddio presennol i un sy'n gweithio ar gyfer Gymru.

Bydd y diwygiadau rydym yn eu cychwyn heddiw yn llunio dyfodol dŵr yng Nghymru am ddegawdau i ddod. Gan weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda rhanddeiliaid a phobl Cymru, byddwn yn adeiladu system sy'n cyflawni ar gyfer ein hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Diolch, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae'r datganiad sydd wedi'i wneud yma heddiw mor bwysig. Mae gormod ohonom, fel Aelodau yn ein hetholaethau ein hunain, wedi gweld cymaint o achlysuron lle nad yw ansawdd y dŵr yn addas i'r diben. Rydym ni wedi gweld cymaint o broblemau—yn fy etholaeth fy hun y llynedd—o ran seilwaith dŵr. Mae pawb, nawr, ac yn sicr ein hetholwyr, yn dod yn ymwybodol iawn o ba mor broblematig yw hyn i ni.

Rydych chi'n gwybod beth yw fy marn i o ymatebion diweddar rydw i wedi'u rhoi. Rwy'n credu yn wirioneddol y dylai canfyddiadau'r comisiwn dŵr fod yn sail i Fil dŵr (Cymru). Mae angen newid deddfwriaethol arnom. Mae'n fwy nag amlwg wrth ystyried canfyddiadau fel hyn nad oes adroddiad gwirioneddol ar y cynnydd a wnaed gyda strategaeth ddŵr Cymru 2015 wedi ei gyflwyno ers bron i ddegawd. Mae hynny'n annerbyniol. Rydym yn gwybod bod angen cryfhau'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu—y bobl hynny sy'n amharu ar ein dŵr. Ac nid ffermwyr ydynt bob amser. Mae'r cwmnïau dŵr eu hunain, a chwmnïau eraill hefyd, yn tanseilio unrhyw ymdrechion i geisio datrys problemau a darparu dŵr yfed ffres i'n trigolion. Mae dros 100 o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i sut mae dŵr yn cael ei reoleiddio yng Nghymru. Mae rhwystrau yn cael eu goresgyn er gwaethaf deddfwriaeth nid oherwydd deddfwriaeth. Fe wnaethoch chi sôn am yr 88 o argymhellion o'r adroddiad hwn. Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi'n gwrando, oherwydd rydym wedi cael cymaint o ddadleuon yn y Siambr hon am y mater hwn, a byddwn yn dweud eich bod wedi gwrando ar yr adroddiad a'i argymhellion. Rydych chi eisoes wedi amlygu'r ffaith y bydd diwygio yn cymryd amser, ond mae'n rhaid i mi ofyn: pa mor hir? Pa amserlenni ydych chi'n eu rhagweld? Allwch chi roi unrhyw arwyddion pryd y gallai'r sector dŵr fod ar sail ddeddfwriaethol newydd?

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y rheoleiddiwr economaidd i fod yn annibynnol—rwy'n credu y byddem i gyd yn croesawu hynny—ac nid yn rhan o CNC, oherwydd yn rhy aml, pan fyddwn wedi cael digwyddiad yn fy etholaeth, bydd y cwmni dŵr eu hunan yn dweud, 'Mae'n iawn, Janet, rydym ni wedi riportio'n hunain i CNC.' Yna rwy'n ysgrifennu at CNC ac, i fod yn onest, nid yw'r amser y maen nhw'n ei gymryd i ymateb yn dda iawn, a dweud y lleiaf; nid pan fydd gennych etholwyr yn ysgrifennu i mewn bob dydd. Ydych chi'n gwybod ar hyn o bryd a fydd y rheoleiddiwr yn gweithredu fel cynllunydd system genedlaethol, yn arwain cyllido, yn arwain ar gynhyrchu cynllun strategol, yn asesu amodau presennol, ac a fydd yn cyflwyno ei gyfres eu hun o amcanion cenedlaethol?

Mae adroddiad Cunliffe hefyd yn tynnu sylw at y syniad o integreiddio cynllunio ar gyfer llifogydd i'r cynllunydd systemau. Rydym ni wedi bod yn galw am hynny o'r meinciau hyn ers cryn amser bellach. Hoffem weld llifogydd yn cael eu tynnu oddi wrth CNC. A wnewch chi gydweithredu â mi i archwilio ymhellach y posibilrwydd o sefydlu asiantaeth lifogydd a dŵr i Gymru, a fyddai'n etifeddu'r holl gyfrifoldebau sydd gan CNC am lifogydd a dŵr, ac yn gweithredu fel rhan o'r cynllunydd system genedlaethol hwnnw?

Rwy'n cydymdeimlo â'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol lle mae system ddŵr i Gymru yn cael ei chynllunio yng Nghymru ac yn cyflawni ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, y peth olaf rydym ni ei eisiau yw cam ymlaen sy'n arwain at gymhlethdod trawsffiniol mawr. Felly, roeddwn i'n falch pan ddywedoch chi y byddwch chi'n gweithio'n agos iawn, iawn gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Er enghraifft, byddai sefydlu un ardal basn afon i Gymru yn golygu rhannu'r cyfrifoldeb am ardal basn afon Hafren ar hyd y ffin, drwy greu ardal Hafren yn Lloegr ac ochr Cymru yn dod o dan gylch gwaith cynllunydd systemau Cymru. Felly, er mwyn i hyn weithio, wrth symud ymlaen, ac er mwyn cael newid sylfaenol go iawn, mae'n sicr bod angen i'r gwaith trawsffiniol hwnnw fod yn dynn iawn.

Mae'r adroddiad yn amlygu'r ffaith y byddai angen cyfres gadarn o brotocolau ar waith ar gyfer rheoli systemau dŵr trawsffiniol. Gallai hyn gynnwys datblygu cyfres o egwyddorion a rennir ar gyfer sut y dylid eu rheoli, er enghraifft, dyletswydd i gydweithredu, cytundeb i rannu data monitro, neu ddyletswydd i ymgynghori ar fesurau arfaethedig a allai gael effeithiau trawsffiniol. Yn olaf, pa gynlluniau, Ysgrifennydd Cabinet, sydd gennych chi a'ch cydweithwyr yn Llundain i sicrhau bod gan Gymru a Lloegr y dull gorau posibl a mwyaf cadarn o ran gweithio trawsffiniol? Diolch.

16:00

Diolch yn fawr iawn, Janet. A gaf i groesawu eich ymateb i'r datganiad heddiw? Rwy'n credu bod hwn yn gyfle euraidd i ailosod ein rheoliadau yng Nghymru, rhywbeth sy'n gweithio i Gymru, ond sy'n gweithio i Gymru ar yr ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hynny ar draws y maes, o'r cychwyn cyntaf. Ond bydd yn cymryd ychydig o amser. Fe wnaethoch chi ofyn pa mor hir. Wel, soniais i yn fy sylwadau agoriadol y bydd angen deddfwriaeth y DU, y bydd angen iddynt ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd hefyd yn cymryd cryn dipyn o weithio allan, oherwydd wrth sefydlu cyrff newydd, yn Lloegr ac yng Nghymru, mae angen tipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd.

Bydd hyn yn golygu, mewn gwirionedd, cyflwyno deddfwriaeth yma yng Nghymru, yn dilyn y ddeddfwriaeth yn Lloegr, y byddwn yn ymgysylltu â nhw hefyd, i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio iddyn nhw, a'i bod yn gweithio i ni hefyd gan beidio â thanseilio unrhyw beth yr ydym yn ceisio ei sefydlu yma. Rwy'n credu bod adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol, IWC, yn ddefnyddiol iawn wrth gydnabod lle roedd problemau trawsffiniol, trawslywodraethol, ond hefyd lle roedd gwahaniaeth amlwg yn y dull yma. Felly, bydd angen deddfwriaeth arnom. Byddwch yn falch o weld hynny'n dod ymlaen, ond bydd yn cymryd amser, a gallem fod yn edrych ar sawl blwyddyn i ddod â hyn drwodd a chynllunio'r system yn iawn, ond mae angen i ni gael hyn yn iawn.

Diolch am ddweud fy mod i wedi gwrando. Fe wnes hynny'n sicr, ond rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i'r rhai a aeth â'r adroddiad ymlaen ac a gyflwynodd yr 88 o argymhellion, oherwydd yn sicr fe wnaethant wrando hefyd, yn Lloegr ac yng Nghymru, o ran llawer o'u tystiolaeth.

Ein barn ni yw y dylai fod rheoleiddiwr economaidd annibynnol. Roedd un o argymhellion y comisiwn ynghylch cael rheoleiddiwr economaidd annibynnol ar wahân i Gymru. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU nawr i wneud i hyn ddigwydd. Felly, ein pwyslais ni yw sefydlu'r swyddogaeth reoleiddio economaidd honno yng Nghymru a datblygu'r dull hwnnw sy'n gweithio yn ein cyd-destun ni yng Nghymru. Argymhellodd yr IWC y gellid—gellid—gosod y swyddogaeth hon o fewn CNC, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth ystyried corff annibynnol a fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd a ffocws wrth gyflawni rheoleiddio economaidd y diwydiant dŵr, wedi'i deilwra i anghenion penodol Cymru. A dim ond i ddweud, mae'n rhoi cyfleoedd gwahanol i ni na'r rhai sydd ar gael yn Lloegr. Felly, gall yr ateb cywir i Loegr a'r ateb cywir i Gymru fod yn wahanol, fel y mae adroddiad y comisiwn yn ei adlewyrchu, a gyda llaw, yn yr un modd ag y mae'r Alban wedi mabwysiadu dull unigryw ar gyfer yr Alban hefyd.

Rwyf eisiau crybwyll yr agwedd ar y swyddogaethau trawsffiniol. Mae fy ngweledigaeth yn glir iawn, mae'n system ddŵr ar gyfer Gymru, wedi'i chynllunio yng Nghymru, sy'n cyflawni ar gyfer Cymru, ond mae'n rhaid i ni ddylunio a datblygu unrhyw swyddogaethau trawsffiniol yn ofalus fel eu bod yn cael eu llywodraethu gan gytundeb trawslywodraethol a'u sefydlu naill ai gan ddefnyddio'r fframweithiau cyffredin sydd gennym ar waith, neu gan goncordatau rhynglywodraethol neu ffyrdd eraill o ddealltwriaeth. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd hefyd.

Felly, diolch, Janet, am eich ymateb cadarnhaol i hyn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ac eraill i fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.

16:05

Diolch i'r Dirprwy Prif Weinidog. Mae hyn yn rhywbeth dwi'n croesawu, oherwydd mae Cymru’n genedl sydd wedi’i bendithio gyda chymaint o ddyfrffyrdd, cymaint o afonydd ac adnoddau dŵr, ond yn rhy aml dydy’r elw o'r rheini ddim yn dychwelyd i’n cymunedau. Mae pobl Cymru yn gorfod talu rhai o’r biliau mwyaf uchel yn yr ynysoedd hyn, ac mae tlodi dŵr yn parhau yn broblem. Dŷn ni wedi clywed yn barod am fel mae carthion yn staenio’n hafonydd a’n moroedd ni.

Nawr, mae hyn yn foment. Mae'n rhaid i adroddiad Cunliffe arwain at fwy o sbardun gwleidyddol i newid y sector yn gyfan gwbl, ac i ailadeiladu ymddiriedaeth gyhoeddus mewn diwydiant y mae nifer o bobl yn meddwl ei fod wedi torri erbyn hyn. Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y prif argymhelliad i gael gwared ar Ofwat ac i roi yn ei le cyrff rheoleiddio ar wahân i Gymru a Lloegr— mae hwnna'n rhywbeth dŷn ni wedi galw amdano ers peth amser. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn cytuno â hyn. Fel y mae’r adroddiad yn cydnabod, dydy Ofwat ddim yn gweithio ar gyfer cyfundrefn Cymru—stori adnabyddus erbyn hyn o fodelau o rywle arall yn cael eu gorfodi arnom ni yng Nghymru, heb ystyried ein cyd-destun gwahanol. Felly, dwi'n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig yr oeddwn i wedi’i osod ynglŷn â'r mater hwn, roedd y Llywodraeth wedi datgan bod trafodaethau wedi parhau gyda’r Llywodraeth yn San Steffan am y camau deddfwriaethol a gweinyddol y byddai angen eu cymryd. Rŷn ni newydd glywed yr ymateb wnaethoch chi ei roi i Janet fanna am y ffaith, efallai, y byddai deddfwriaeth yn cymryd rhai blynyddoedd i gael ei chyflwyno. Allaf i ofyn pa mor sicr ydych chi o ba mor frwdfrydig, pa mor barod ydy Llywodraeth San Steffan i wneud yn siŵr eu bod nhw'n mynd i comitio, felly, i wneud hyn? Ydych chi wedi bod yn trafod hefyd gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon i ddysgu o’u gwersi nhw o gael cyrff rheoleiddio ar wahân?

Wedyn, i droi at atebolrwydd, yn rhy aml dŷn ni wedi gweld pobl gyffredin yn cario’r baich ar gyfer methiannau cwmnïau dŵr, ac er bod sefyllfa Dŵr Cymru, wrth gwrs, yn rhywbeth gwahanol i'r cwmnïau yn Lloegr, dydy’r cwmni heb osgoi’r problemau gyda hyn. Hoffwn i wybod, ymhellach i'r hyn dŷch chi wedi'i ddweud wrth Janet yn barod, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau y bydd pwerau'r corff hwn yn ddigonol ac yn adlewyrchu perfformiad cwmnïau, gan gynnwys y pŵer i rewi tâl executive pan fo angen, a’r pŵer i godi dirwy fwy amserol am halogiad dŵr. Hefyd, os yw hyn yn mynd i gymryd blynyddoedd, a oes yna bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud yn y cyfamser er mwyn gwella'r sefyllfa gyda hynny?

Byddai'n dda gweld y corff newydd, dwi'n meddwl, yn cymryd rôl fwy gweithredol, yn hytrach nag adweithiol yn unig, fel y mae Ofwat yn tueddu ei wneud, i osgoi problemau rhag datblygu, ac i gymryd rôl mewn trafodaethau â ffermwyr ac ati i hybu sgiliau am ffyrdd cynaliadwy o drin dŵr ac o reoli dŵr—pethau fel yna. Hoffwn i glywed mwy o ran a ydych chi'n cytuno â hynny.

Ond, yn olaf, gall rheoleiddio ddim ond gweithio’n effeithiol os ydy e’n mynd law yn llaw gydag eglurder cyfansoddiadol. Nawr, yng Nghymru, yn wahanol i’r Alban ac Iwerddon, dydy ein datganoli ni ddim wedi'i gwblhau yn y maes hwn. Nid ydy pwerau’r Senedd ar ddŵr yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol ein gwlad. Mae Deddf Cymru 2017 yn cynnwys y ddarpariaeth i ddatganoli’r pwerau hyn. A allwch chi gadarnhau, plis, a ydy’r Llywodraeth yma'n ystyried gweithredu’r pwerau hyn o’r diwedd? Diolch yn fawr iawn.

16:10

Diolch yn fawr iawn. Mae llawer o gwestiynau fanna.

Ceisiaf fynd i'r afael â'r rhan fwyaf ohonynt yma. Yn gyntaf oll, ydym, rydym yn ymgysylltu â'r Alban. Mae ganddyn nhw fodelau gwahanol ynglŷn â sut maen nhw'n ymdrin â rheoleiddio, felly does dim rhaid i ni feddwl yn awtomatig bod yr hyn y byddwn yn ei gael yn rhywbeth a fyddai'n edrych fel fersiwn Ofwat yng Nghymru. Gallai fod yn ddull gwahanol y gallem edrych arno, yn enwedig os ydym yn mynd i gydbwyso gwahanol flaenoriaethau o'r cychwyn cyntaf hefyd, yn unol â fframwaith polisi a deddfwriaeth Cymru. Ond rydym ni'n ymgysylltu â'r Alban.

Mae Llywodraeth y DU hefyd, fel ni, wedi nodi eu bod eisiau ymrwymo i fynd â hyn ymlaen yn gyflym. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU, Delyth, ynghylch eu cynigion. Fel rydw i wedi dweud eisoes, rydym ni eisiau ymgysylltu â nhw i wneud yn siŵr bod eu deddfwriaeth yn Lloegr yn iawn iddyn nhw, ond hefyd nad yw'n tanseilio unrhyw beth rydym ni'n ceisio ei wneud yma. Rydym yn rhagweld y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yma yn y Senedd hon, er fy mod yn gwerthfawrogi y bydd hon yn Llywodraeth yn y dyfodol, yn gwneud hyn yn 2028. Dyna beth y byddem yn anelu ato, a bydd yn cymryd yr ychydig flynyddoedd hynny er mwyn gwneud y gwaith sylfaenol ar y ddeddfwriaeth, ond hefyd yr ymgynghoriad a'r ymgysylltu ar hyn o bryd.

Felly, ein camau nesaf uniongyrchol fydd parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi Papur Gwyn Llywodraeth y DU, y maent yn ei gyflwyno, a chynlluniau pontio, ac yna cyflwyno Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn i ni allu cael ychydig—rhywbeth mwy—. Rydym ni'n mynd i osod cyfeiriad y daith, yn amlwg, o fewn hynny. Rydw i wedi ei nodi heddiw, ond rydym ni eisiau sicrhau bod yna allu, ychydig yn wyrddach yn hytrach na gwynnach, fel y gallwn gael rhywfaint o fewnbwn gan randdeiliaid a rhai addasiadau. A hefyd wedyn byddwn yn cyflwyno ein cynllun pontio ein hunain a'n datganiad polisi strategol interim ein hunain. Rydym ni'n bwriadu gwneud hynny, Delyth—y camau hynny—o fewn y misoedd nesaf, felly rydym ni'n mynd i ddechrau ar hyn yn gyflym, ac felly hefyd Llywodraeth y DU.

Gadewch i mi droi at y mater o beth y gall y cwmnïau dŵr wneud nawr, oherwydd nid oes rhaid iddyn nhw aros. Felly, gwnaeth adroddiad yr IWC gyfres o argymhellion mewn perthynas â chwmnïau dŵr, eu llywodraethiant a'u rheolaeth. Wel, gadewch i mi ddweud yn glir bod hwn yn gyfle i gwmnïau dŵr yng Nghymru gofleidio'r argymhellion hynny a gwneud cynnydd nawr, cyn deddfwriaeth yn y dyfodol—nid oes rhaid iddynt aros. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod pontio hwn a thu hwnt, mae hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod buddsoddiad yng Nghymru yn hyfyw a'n bod yn gosod y cyfeiriad clir, strategol hwnnw i fagu hyder ar gyfer buddsoddiad, oherwydd mae'r sefydlogrwydd hwnnw wedyn yn rhoi'r amddiffyniad hefyd i gwsmeriaid a'u biliau. Felly, mae angen i ni reoli disgwyliadau cwmnïau yn ofalus a gosod amserlenni rhesymol iddynt gyflawni newidiadau angenrheidiol, gan hefyd gyflawni gwelliannau gofynnol fel rhan o'r cyfnod rheoli asedau 8 cyfredol a chyflawni eu swyddogaethau craidd.

Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r materion wnaethoch chi ofyn amdanynt, Delyth, ond roedd cryn dipyn o gwestiynau yna. Rwy'n hapus i drafod ymhellach hefyd.

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Ar hyn o bryd, mae gennym filiau dŵr drud iawn a phroblemau difrifol gyda llygredd. Mae pryderon llygredd bellach yn drydydd y tu ôl i iechyd a thai yn y negeseuon e-bost rwy'n eu cael oddi wrth etholwyr. Mae biliau dŵr cynyddol yn bryder i lawer o bobl ledled Cymru, gan gynnwys pobl sy'n poeni nid yn unig am y gost, ond hefyd am ansawdd y gwasanaeth maen nhw'n talu amdano. Pa sicrwydd y bydd y Gweinidog yn ei roi i bobl Cymru sy'n poeni am y diwygiadau hyn? Pa wahaniaeth fydd y diwygiadau hyn yn ei wneud i'r pethau y mae fy etholwyr yn eu hwynebu bob dydd, poeni am filiau dŵr a chyflwr ein hafonydd, gan gynnwys carthion amrwd yn mynd i mewn i Afon Tawe? Yn Abertawe cyn 1974, roedd cyngor Abertawe yn rheoli dŵr yn llwyddiannus. Ers hynny, rydym wedi cael llawer o newidiadau, gan gynnwys dirwyn adeiladu cronfeydd dŵr i ben bron yn gyfan gwbl. Nid wyf yn credu ein bod wedi elwa ar unrhyw un o'r newidiadau hyn. Rwy'n cefnogi perchnogaeth gyhoeddus o ddŵr.

16:15

Diolch, Mike. Nid oedd perchnogaeth gyhoeddus o gwmnïau dŵr yn rhan o gylch gwaith yr IWC, dan arweiniad Syr Jon Cunliffe, ond rwy'n nodi eich pwynt ar eich safbwynt o ran perchnogaeth gyhoeddus o gwmnïau dŵr.

Pa sicrwydd allwn ni ei roi i bobl yng Nghymru? Wel, mae'n ymwneud â'r diwygiad rheoleiddiol rydym ni wedi'i osod allan, a fyddai, o'i ddechrau, nid yn unig yn ymdrin â'r dull presennol o reoleiddio economaidd a arweinir gan gystadleuaeth, ond byddai'n ymgorffori anghenion ein hafonydd, dyfrffyrdd iach, biliau fforddiadwy i gwsmeriaid ac ati, ac rydym yn gwneud hynny o'r cychwyn cyntaf. Felly, nid yw'r model sy'n cael ei ysgogi gan gystadleuaeth yn arddull y 1980au sydd gennym ar hyn o bryd, byddai'n wahanol iawn mewn gwirionedd.

Ond rwyf bob amser wedi amlinellu, Mike, fy mod yn bwriadu egluro, o fewn yr wythnosau nesaf, weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio dŵr yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hynny yn fuan iawn. Ac rydym eisiau gwneud hynny i geisio barn gan ystod eang o randdeiliaid, ond, wrth wneud hynny, bydd y weledigaeth honno'n cynnwys rheoleiddio amgylcheddol cryfach ac atebion ar lefel dalgylch, cefnogaeth barhaus i'r eiriolaeth cwsmeriaid annibynnol honno, a hefyd y pwyslais hwnnw ar iechyd asedau a chydnerthedd hinsawdd. Felly, rydym ni'n ymdrin â'r problemau hynny o ollyngiadau, ond rydym ni hefyd yn ymdrin â'r mater o ansawdd dŵr.

Rwy'n credu y gallwn fod yn hyderus wrth gyflwyno hyn, er bod llawer o waith i'w wneud. Mae hwn yn gyfle i ailosod yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â rheoleiddio dŵr, ond hefyd y weledigaeth honno ar gyfer dŵr yng Nghymru. A bydd er boddhad eich trigolion yn Abertawe Mike, ond hefyd ledled Cymru, oherwydd bydd yn ymdrin â dŵr mewn dull cyfannol, sy'n seiliedig ar systemau o'r cychwyn cyntaf.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Ac i ddilyn Mike, mae'r broblem ynghylch llygredd dŵr yn cael ei chodi gyda ni mor aml. Yn enwedig, fel y gwyddoch, yn y rhanbarth rwy'n ymdrin ag ef, Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae gennym ddigwyddiadau sylweddol yn ymwneud â llygredd dŵr.

Un o'r materion allweddol yma yw perfformiad Dŵr Cymru, oherwydd maen nhw'n gyfrifol, yn sicr, o ran llygredd dŵr, a'u cyfrifoldebau i sicrhau bod ein dŵr yn lân. Rydych chi'n sôn bod Dŵr Cymru yn asiantaeth nid-er-elw, ac eto rwyf wedi sôn yma yn y Siambr am y cyflog sy'n cael ei dalu i brif weithredwr Dŵr Cymru. Mae yna brif weithredwr newydd, Roch Cheroux. Bydd yn derbyn £460,000 y flwyddyn, ynghyd â'r potensial i ennill £621,000 ychwanegol. Cywilyddus, mewn gwirionedd. Ac yr wythnos diwethaf, gwelsom fod dirwy Dŵr Cymru o £1.35 miliwn am fwy na 800 o achosion o dorri trwyddedau wedi'i thorri i ddim ond £120,000.

Mae'r mater yma yn ymwneud â hyder y cyhoedd. Pan welwn ni y materion hyn o ran cyllid yn digwydd yn Dŵr Cymru, mae'r cyhoedd yma yng Nghymru yn colli pob hyder yn eu perfformiad a'u gallu i wobrwyo, pan na ddylent fod yn llygru ein hafonydd. Felly, hoffwn glywed gennych, os gwelwch yn dda, os gallaf—. Rwy'n ymwybodol bod yr amserydd wedi mynd, felly gallaf barhau am gwpl o oriau. Hoffwn glywed gennych, os caf, Ysgrifennydd Cabinet: beth ydych chi'n ei wneud er mwyn mynd i'r afael â Dŵr Cymru, eu perfformiad gwael, ac yn enwedig y mater hwn, sy'n cyrraedd y cyhoedd mewn gwirionedd, ynglŷn â faint o gyflog y mae ei brif weithredwr yn ei dderbyn a'r diffyg canlyniadau gwirioneddol o ran dirwyon? Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn, Jane. Fel y soniais i o'r blaen—nid wyf yn siŵr a oedd hon yn alwad i ailwladoli cwmnïau dŵr, fel y clywsom ni gan Mike yna hefyd—nid oedd hynny yng nghylch gorchwyl adolygiad Jon Cunliffe. Fodd bynnag, rydych chi'n hollol gywir yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud; mae angen i Dŵr Cymru berfformio. Mae sawl maes lle ers blynyddoedd lawer mae wedi bod yn tanberfformio—gollyngiadau o'i rwydwaith pibellau hynafol, ond hefyd o ran pethau fel nifer y gollyngiadau a charthffosiaeth.

Er mwyn gwneud yn glir hefyd, fodd bynnag, nid Dŵr Cymru yw'r unig ffynhonnell o lygredd yn ein hafonydd, ac ni fyddwn eisiau i hynny gael ei adlewyrchu yn y ddadl hon heddiw. Yn wir, mae angen rhoi'r cynnydd yn ein biliau y mae pawb wedi'u gweld yn dod drwy'r drws eleni, mewn ffordd flaenoriaethol iawn a chyflym, tuag at gyflawni'r gwelliannau i lygredd sy'n dod allan o'r rhwydwaith hynafol, boed hynny'n deillio o orlifoedd carthffosiaeth cyfun neu mewn mannau eraill o fewn Dŵr Cymru, a Hafren Dyfrdwy hefyd. Ond mae yna hefyd bwysau yn dod o waith mwyngloddio traddodiadol a chwareli sy'n llygru rhannau o'n hafonydd. Mae yna amaethyddiaeth a ffermio a defnyddio tir gyda maethynnau a ffosffad mewn dŵr ffo. Weithiau rydym ni'n canolbwyntio ar un, ac rydym ni'n gweithredu ar un ffynhonnell, pan fo angen mewn gwirionedd i ni ganolbwyntio ar yr holl ffynonellau o lygredd.

Ond rydych chi'n iawn, mae angen i Dŵr Cymru chwarae eu rhan o fewn hyn. Fel y gwnes i'n glir mewn ymateb i ateb blaenorol, ni waeth beth fo'r diwygiadau rheoleiddiol mawr sydd gennym nawr, mae angen i Dŵr Cymru berfformio o fewn y Cyfnod Rheoli Asedau (AMP) 8 presennol, y cyfnod hwn wrth fynd ymlaen lle mae pawb yn gweld eu biliau yn codi. Yn y cyfarfodydd rydw i'n eu cael yn rheolaidd gyda nhw, er nad yw'n gwmni sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, mae'n glir iawn i'r cadeirydd a'r prif weithredwr, a'r prif weithredwr newydd, beth yw ein gofynion fel Llywodraeth Cymru ynghylch gwella eu perfformiad.

Ac mae angen iddyn nhw wneud hynny hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, ar gyfer y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Mae'r model nid-er-elw neu ddifidend y maen nhw'n ei fabwysiadu ar gyfer gweithredu yn darparu rhai manteision. Un o'r rheiny yw'r tariff cymdeithasol y mae Dŵr Cymru yn gweithredu oddi tano, sy'n fwy hael, mae'n rhaid i mi ddweud—nid yw'n cael sylw'n aml—na chwmnïau dŵr eraill sydd wedi'u preifateiddio ledled y DU. Ond mae angen iddyn nhw berfformio nid yn unig ar hynny, ond ar bob agwedd ar eu perfformiad, ac maen nhw'n gwybod hynny. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai'r her fwyaf i unrhyw gwmni dŵr yw newid hinsawdd. Does dim amheuaeth am hynny. Rydym ni wedi cael sychder ac rydym ni'n cael llifogydd, ac rydym ni'n eu cael ar wahanol adegau o'r flwyddyn, nid o reidrwydd pan fyddwn ni'n eu disgwyl. Felly, rwy'n meddwl, pan fyddwn yn siarad am symud ymlaen ynghyd â Llywodraeth y DU, mae'n rhaid i ni edrych ar bob un polisi, oherwydd mae dŵr yn effeithio ar bob polisi, boed yn gynllunio, rheoli tir, p'un a yw'n rheoli dŵr, p'un a yw'n garthffosiaeth; mae'r cyfan yn effeithio ar ein cyrsiau dŵr. 

Ond wrth gwrs, mae gennym hefyd y mater trawsffiniol, oherwydd nid yw afonydd Gwy a Hafren yn stopio, maen nhw'n parhau i lifo. Felly, yr hyn y byddai gen i ddiddordeb ynddo yw a ydych chi'n mynd i fabwysiadu dull gyda Llywodraeth y DU, pan fyddant yn cyflwyno deddfwriaeth, i feddwl am ddŵr, oherwydd mae llawer o'r ddeddfwriaeth yn mynd i ddod i mewn cyn, efallai, y ddeddfwriaeth derfynol sy'n gwneud i bawb feddwl am ddŵr. Felly byddai'n wirion, yn fy marn i, i ddechrau cyflwyno deddfwriaeth nawr, rheoliadau newydd ar ôl y cyhoeddiad hwn, heb hynny mewn golwg.

Ydw, yn wir. Y rheswm pam mae'r adroddiad hwn wedi ei gyflwyno yw oherwydd ei fod wedi'i gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae wedi cael ei gyflawni ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a dyna'r ffordd yr ydym yn bwriadu bwrw hyn ymlaen, gan gydnabod y gwahaniaeth yng Nghymru, ond gan gydnabod bod angen i ni weithio ar draws ffiniau hefyd.

Hyd yn oed cyn y cynnig hwn ar gyfer diwygio rheoleiddio a newid system a'r holl argymhellion eraill yn adroddiad yr IWC, roeddem eisoes wedi dechrau ar y gwaith trawsffiniol hwnnw. Felly, yn rhyfedd, ar faterion fel afon Gwy, mae yna fuddsoddiad ychwanegol yno gan y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg, ac ati. Mae angen i ni wneud mwy o hynny.

Ond ydych, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu mai thema gyffredin y drafodaeth heddiw yw, er bod hwn yn gyfle euraidd go iawn i ailosod unwaith mewn cenhedlaeth y rheoliad o ran y diwydiant dŵr a gosod y weledigaeth gydlynol honno ar gyfer sut mae'n edrych, nid oes rhaid i ni aros. Mae yna lawer y gallwn ni fynd ymlaen ag ef yma, ar hyn o bryd, boed hynny'n gwmnïau dŵr neu'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar yr uwchgynhadledd dŵr i ymdrin â llygredd dŵr, llygredd amaethyddol, pwysau datblygu, ac ati. Mae cymaint y gallwn ni fynd ymlaen ag ef yma, ar hyn o bryd.

Ond yn y cyfamser, mae angen i ni fanteisio ar y cyfle hwn, ac rwy'n diolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'r hyn sy'n ymddangos i mi fel cefnogaeth gref i fwrw ymlaen â'r mesurau hyn.

16:25
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cefnogi Cymunedau Cymru
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Tuag at GIG Mwy Tryloyw

Byddwn yn symud ymlaen i eitem 6, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, tuag at GIG mwy tryloyw. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles, i wneud y datganiad. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gynharach eleni, fe wnes i amlinellu fy uchelgais i edrych o'r newydd ar y ffordd rŷm ni'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys atebolrwydd a datblygu diwylliant mwy agored a thryloyw. Rwyf wedi cymryd cyfres o gamau i wella'r math o ddata a swm a lefel y data rŷm ni'n ei gyhoeddi am yr NHS er mwyn gwella atebolrwydd a thryloywder yn ein gwasanaeth iechyd. 

Mae bod yn dryloyw yn hanfodol i greu diwylliant agored o hunanwella. Mae hyn yn arbennig o bwysig o safbwynt hyder y cyhoedd mewn sefydliadau iechyd o ran eu safonau gofal iechyd a'u perfformiad. Dyw sefydliadau sy'n ymdrechu i wella'n barhaus ddim yn rhai sy'n cuddio tu ôl i waliau uchel cyfrinachedd. Maen nhw'n defnyddio data i'w helpu ar y daith ac yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd. Maen nhw'n cynnal eu busnes yn gyhoeddus, maen nhw'n gwrando ar eu poblogaeth leol ac yn cynnal sgwrs barhaus gyda nhw am wasanaethau a gofal iechyd. Maen nhw'n croesawu cwynion ac yn dysgu o'u camgymeriadau. 

Bydd Aelodau yn gwybod fy mod i'n cyhoeddi adroddiadau chwarterol a blynyddol am y cynnydd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei wneud o dan fesurau arbennig. Bydd hyn yn parhau. Byddaf yn cyhoeddi diweddariad arall ar wefan Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen yr wythnos hon. 

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddais i adroddiad cynnydd cyntaf y rhaglen diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, sy'n amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn dangosyddion diogelwch cenedlaethol. Bydd ail adroddiad yn dilyn yn gynnar y flwyddyn nesaf. 

Mewn ymateb i argymhellion y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant yr NHS, rwyf eisoes wedi darparu mwy o eglurder am y broses isgyfeirio mewn perthynas â mesurau arbennig. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd awtomatig newydd i symud i lefel is ar gyfer meysydd sydd â chanlyniadau a thargedau y mae modd eu mesur. Bydd yr holl fframweithiau uwchgyfeirio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn. Mae nifer ohonyn nhw wedi eu cyhoeddi'n barod.  

Dirprwy Lywydd, ddydd Iau byddaf yn cynnal y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus cyntaf gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn cwrdd â phob un o sefydliadau'r GIG fel rhan o gylch blynyddol o ddwyn y GIG i gyfrif am gyflawni ein blaenoriaethau. Bydd y cyfarfodydd hyn ar gael i unrhyw un eu gwylio ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu ni i fagu hyder yn y system atebolrwydd trwy agor drysau i'r GIG. Mae'r rhain yn gamau hanfodol i wella tryloywder yn y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig i'r cyhoedd, ac mae'n hanfodol i sefydliadau iechyd hefyd.

Dirprwy Lywydd, trof yn awr at ddata. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi sicrhau bod mwy o ddata ar gael am berfformiad y GIG nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n cyhoeddi adroddiad chwarterol am sut mae byrddau iechyd yn perfformio yn erbyn mesurau allweddol gofal argyfwng a gofal wedi'i gynllunio. Mae data ar oedi o fewn llwybrau gofal ar gael i'r cyhoedd am y tro cyntaf erbyn hyn, yn ogystal â data ar oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys wedi'i fesur ar bob safle ysbyty unigol.

Rydyn ni wedi gwneud newidiadau diweddar i fodel clinigol gwasanaeth ambiwlans Cymru, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mewn ymateb i argymhellion gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd. Ers mis Awst, rydyn ni nawr yn adrodd ar fesurau mwy ystyrlon sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys cylchrediad y gwaed yn dychwelyd yn ddigymell a gwybodaeth am yr amser y mae'n ei gymryd i ddechrau adfywio cardiopwlmonaidd a diffibrilio yn dilyn ataliad ar y galon ar gyfer pob galwad porffor. Byddwn ni'n adrodd ar fanylion manwl tebyg yn erbyn dangosyddion clinigol newydd ar gyfer galwadau categori coch a'r categori oren newydd o alwadau 999 ar gyfer pobl â chyflyrau sy'n sensitif i amser, fel strôc.

Dirprwy Lywydd, er gwaethaf ymdrechion gorau'r wrthblaid i'w ddisgrifio fel 'manipiwleiddio'r data', ers mis Awst, rydyn ni hefyd wedi darparu gwybodaeth fwy cyfredol i'r cyhoedd am amseroedd aros. Erbyn hyn, mae'r adroddiad misol yn cynnwys ffigurau dros dro ar gyfer yr amseroedd aros hiraf am y mis calendr llawn diweddaraf, yn ogystal â'r sefyllfa swyddogol, sydd ddeufis ar ei hôl hi. Mae'r dull hwn wedi cael cymeradwyaeth gan reoleiddiwr ystadegau'r DU ac mae'n rhoi darlun cliriach ac, yn hollbwysig, mwy amserol i'r cyhoedd am y sefyllfa o ran amseroedd aros yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus ein bod ni'n parhau i ddefnyddio data i ysgogi gwelliant parhaus yn y GIG. Roedd fframwaith cynllunio tair blynedd GIG Cymru yn gofyn i sefydliadau iechyd ganolbwyntio ar nifer llai o flaenoriaethau ac yn nodi ein gofynion allweddol ni o'r system. Rwy'n ymrwymedig i gyhoeddi perfformiad pob sefydliad yn erbyn y metrigau a'r camau gweithredu hynny. Rwy'n gweithio gyda'r GIG, Llywodraeth Cymru a'n cydweithwyr ystadegau nawr i roi'r data hwn yn y parth cyhoeddus.

Dirprwy Lywydd, rhan olaf y matrics tryloywder ac atebolrwydd yw sut mae'r GIG yn defnyddio adborth y cyhoedd i lunio a mireinio ei wasanaethau. Yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd y Senedd reoliadau a fydd yn diwygio system cwynion ac iawndal y GIG. Bydd y system newydd, Gwrando ar Bobl, yn dod i rym o fis Ebrill y flwyddyn nesaf a bydd yn cefnogi bod yn fwy agored a thryloyw os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw hynny. Mae Llais wedi cymryd lle'r rhwydwaith o gynghorau iechyd cymunedol i roi llais cryfach i bobl yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n bodoli i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl wrth wraidd cynllunio, darparu a gwella iechyd a gofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni lansio'r fframwaith profiad pobl ym mis Ebrill i sicrhau bod adborth pobl yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio yn systematig ar draws gwasanaethau'r GIG. Un o'r prif elfennau yw'r platfform digidol ar-lein dwyieithog, sy'n cael ei ddefnyddio gan holl sefydliadau'r GIG i nodi adborth amser real gan gleifion. Er bod y GIG yn gwella o ran casglu adborth am wasanaethau, y cam nesaf yw defnyddio'r wybodaeth werthfawr hon yn systematig i ddylanwadu ar gynllunio a dylunio gwasanaethau. Fy nisgwyliad clir yw bod holl sefydliadau'r GIG yn ymgorffori adborth cleifion, profiad bywyd ac ymgysylltu wrth ddylunio, darparu a gwella gwasanaethau.

Mae cyfle clir i fesurau profiad a adroddir gan gleifion, PREMs, a mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, PROMs, sy'n rhoi dealltwriaeth amser real o ansawdd ac effaith gofal o safbwynt y claf, gael eu defnyddio wrth gynllunio gwasanaethau ac wrth ddatblygu'r cynllun tymor canolig integredig. 

Dirprwy Lywydd, os ydyn ni eisiau gwell gwasanaethau iechyd, fel rydyn ni, mae'n rhaid i ni gael sefydliadau GIG tryloyw. Yn y pen draw, bydd tryloywder yn ysgogi cylch o ddysgu a gwella, ac rydyn ni i gyd yn gwybod y bydd hyn o fudd i'r GIG ac i Gymru yn y tymor hir.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Nid wyf i'n credu y gall unrhyw un yn y Siambr hon ddadlau yn erbyn GIG mwy tryloyw, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob aelod o'r cyhoedd yn hyderus wrth iddyn nhw ei ddefnyddio ac wrth iddyn nhw wneud cwynion.

Rwyf eisiau codi rhai pethau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Fe wnaethoch chi sôn am fyrddau iechyd yn cynnal eu busnes yn gyhoeddus, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn gwneud hynny, ond yr hyn sy'n cael ei weld gan lawer o bobl allan yno, weithiau, yw bod byrddau iechyd yn cynnal eu busnes yn gyhoeddus, ond nid yw canfyddiad y cyhoedd yn cael ei ystyried yn y prosesau penderfynu hynny. Os edrychwn ni ar Bronglais, ysbytai tref a chymunedol, materion Cyngor Sir Powys yn fy etholaeth fy hun—mae pobl yn teimlo bod pethau'n cael eu gwneud iddyn nhw, a phan fyddan nhw'n gofyn am y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny, nid yw'n bosibl dod o hyd i gofnodion, mae'n ymddangos bod y penderfyniad wedi'i wneud yn y tywyllwch. Felly, hoffwn gael rhagor o wybodaeth gennych chi ynghylch sut y gallwn ni wneud y rhan honno o'r system yn fwy tryloyw.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am wasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol, a chefais i'r pleser y bore yma, ynghyd â'r Gweinidog Sarah Murphy, o gwrdd â Sands a rhieni mewn profedigaeth o'r sefydliad. Roedd y profiad yn dipyn o agoriad llygad i mi. Roedd llawer ohonyn nhw'n sôn am y ffaith nad yw byrddau iechyd yn dysgu. Fe gawson ni'r adolygiad yng Nghwm Taf Morgannwg, ond mae pethau'n dal i fynd o'u lle mewn byrddau iechyd eraill. Felly, fe wnaethon ni sôn am dryloywder yn hynny o beth. Byddai gen i ddiddordeb i wybod, ar yr ochr honno o bethau, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr arfer gorau sy'n deillio o'r adolygiadau hyn yn mynd ar draws y system, oherwydd mae hynny'n gwneud byrddau iechyd yn fwy tryloyw ac yn rhoi llawer mwy o hyder i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth yn y system honno.

Rwy'n falch, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi'n mynd allan ac yn siarad â byrddau iechyd—mae hynny'n gam i'w groesawu, ac rydych chi'n ei wneud yn gyhoeddus. Ond yr hyn y mae gen i ddiddordeb mewn gwybod yw, os ydych chi'n anhapus â rhai o'r ymatebion rydych chi'n eu cael gan y byrddau iechyd o ran blaenoriaethau'r Llywodraeth neu rai o gwestiynau'r cyhoedd, yr wyf i'n gwybod eich bod chi'n debygol o'u gofyn hefyd, a phethau rydyn ni'n eu gofyn yn y Siambr hon, beth fydd yr atebolrwydd i chi yn hynny o beth? Sut allwch chi wedyn ddylanwadu'n uniongyrchol ar newid o fewn y byrddau iechyd hynny i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu ar bethau rydych chi eisiau eu gweld nhw'n cael eu gwneud fel Llywodraeth? Oherwydd rydyn ni wedi gweld o'r blaen, gall y Llywodraeth osod blaenoriaethau, ond mae gan fyrddau iechyd eu gweledigaethau a'u barn eu hunain ar sut yr hoffen nhw iddyn nhw gael eu cyflawni. Felly, hoffwn i wybod sut rydych chi'n mynd i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am ddata. Mae hi bob amser yn braf cael mwy o ddata. Rwy'n credu ei fod yn llywio penderfyniadau da drwyddi draw. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr holl ddata hwnnw'n cael ei godio'n gywir, a'n bod ni'n gwirio ac yn dilysu'r holl ddata hwnnw. Felly, hoffwn i wybod sut rydych chi'n gwneud hynny mewn byrddau iechyd unigol i wneud yn siŵr ei fod i gyd wedi'i godio, ei wirio ac wedi mynd yn ei flaen i wneud yn siŵr bod gennym ni 100 y cant o ddata wedi'i godio yno o fewn y system.

O ran hynny hefyd, rydyn ni wedi siarad â chi am hyn o'r blaen, am drosglwyddo o ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydyn ni'n gwybod bod gofal mewn coridorau yn broblem, ac mae clinigwyr ledled Cymru yn dweud wrthyf ei fod yn gwaethygu yn hytrach na'n gwella. Felly, a fyddech chi'n fodlon rhannu'r data hwnnw ar ofal mewn coridorau i ddangos faint o bobl sy'n aros mewn coridorau ar draws Cymru, a hefyd a fyddech chi'n ymrwymo i bennu digwyddiad byth hefyd? Oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud i bobl deimlo bod y GIG yn fwy tryloyw, a hefyd yn fwy atebol. 

A gaf i sôn hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, am wrando ar bobl? Fe ddywedais i hyn ar y dechrau: mae cynllunio gwasanaethau'n mynd i fod yn bwysig i bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Ac rwyf eisiau gwybod gennych chi: sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gallu cyfrannu at ailgynllunio'r gwasanaethau hynny, fel eu bod yn teimlo bod pobl wir yn gwrando arnyn nhw a bod byrddau iechyd yn bwrw ymlaen â hynny?

Fe wnaethoch chi sôn am Llais, ac rwy'n credu bod Llais yn gwneud gwaith da. Maen nhw'n gwneud gwaith da yn y maes hwn. Ond rwy'n credu bod angen mwy o ddannedd arnyn nhw. Rwy'n credu y bydden nhw'n gallu dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn fwy. Felly, hoffwn wybod gennych chi sut rydych chi'n credu y byddai modd rhoi mwy o bwerau i Llais fel eu bod nhw nhw wir yn gallu dwyn y byrddau iechyd hynny i gyfrif. Oherwydd y cyfan maen nhw'n dueddol o'i wneud yw'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, mewn gwirionedd: rydyn ni'n ysgrifennu at y byrddau iechyd ac yn cael ymateb yn ôl, a dyna ddiwedd y mater fel arfer. Hoffwn i weld sut y gallai Llais eu dwyn i gyfrif yn fwy. Rwy'n credu y byddai hynny'n helpu hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am PREMs a PROMs—acronymau bach hyfryd rydych chi wedi'u rhoi iddyn nhw—ond hoffwn i wybod, o ran y rheini, sut y cawson nhw eu derbyn gan y clinigwyr yn ein hysbytai? Sut y cawson nhw eu derbyn gan y rheolwyr, cyfarwyddwyr mewn ysbytai a sut y gallan nhw wella profiad cleifion?

Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ddatganiad i'w groesawu, ac rwy'n canmol y Llywodraeth am ei gwaith wrth geisio gwneud y GIG yn fwy tryloyw. Mae angen i bobl fod â hyder yn y GIG, hyder ei fod yn cyflawni gwaith, a phan fydd pobl yn gwneud cwynion neu'n mynd at y bwrdd iechyd am gyngor, fel y dywedais i, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol i'r cyhoedd.

16:35

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae yna amrywiaeth o gwestiynau. Fe wnaf eu hateb yn fyr er mwyn i mi allu ymdrin â phob un, oherwydd maen nhw i gyd, rwy'n credu, yn gwestiynau pwysig iawn. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â sylwedd heriau'r Aelod.

Felly, rwy'n credu bod yna her deg o ran y pwynt y gwnaeth yr Aelod ddechrau ag ef, ac fe wnaeth gyffwrdd ag ef yn ddiweddarach, ynghylch sut y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod eu barn ynghylch sut mae gwasanaethau yn datblygu yn cael ei hystyried yn llawn, a bod yna gyfle priodol, go iawn i hynny ddigwydd. Rwy'n credu mai un o'r heriau, sy'n wir ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd, yw bod y pwynt lle mae'r gwasanaeth iechyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwyaf uniongyrchol, yn gyffredinol, yn cael ei ysgogi gan newid i wasanaeth. Felly, mae yna ofyniad yn y gyfraith i wneud hynny, yn amlwg, ac mae'r ddeialog, wedyn, bob amser yng nghyd-destun dewis anodd y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ei wneud, a allai, i gyfran fawr o'r cyhoedd, fod yn amhoblogaidd. Dyna'r cyd-destun ar gyfer y sgwrs honno. Mae honno'n sgwrs heriol iawn i'w chael  o dan unrhyw amgylchiadau, mewn gwirionedd. Mae'n un sy'n hanfodol, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y byddai rhywun yn gobeithio y byddech chi'n ei gael yw deialog barhaus gyda'r cyhoedd am natur gwasanaethau iechyd, profiadau cleifion eu hunain, cyfrifoldebau cleifion eu hunain, yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned, yn ogystal â thrwy'r GIG cyhoeddus, felly sgwrs lawer mwy manwl, barhaus, gynyddol soffistigedig gyda'r cyhoedd, sydd hefyd yn agored am y gwendidau a'r heriau a'r bregusrwydd yn y system, felly mae strôc yn enghraifft arbennig o dda o hynny. Oni bai ein bod ni'n cael sgwrs fwy agored gyda'r cyhoedd am y pwysau sydd ar wasanaethau strôc ar hyn o bryd, mae'r ddeialog wastad yn mynd i fod yn ymwneud â 'Rydw i eisiau 100 y cant o'r gwasanaethau ar garreg fy nrws', ac nid oes yr un gwasanaeth iechyd yn mynd i allu darparu hynny. Mae'r holl dystiolaeth sydd gennym ni, o bobman, yn fyd-eang, yn dweud wrthyn ni nad dyna'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc, ond mae'n heriol iawn cael y sgwrs honno, oherwydd mae'n anodd siarad â phobl am y bregusrwydd yn y gwasanaeth presennol. Felly, mae rhywbeth am ddeialog lawer mwy aeddfed, agored, ac mae'n rhaid i honno fod yn ddeialog fwy parhaus, rwy'n credu.

Fe wnaeth yr Aelod gyfres bwysig iawn o bwyntiau ynglŷn â gwella gwasanaethau. Fe fydd yn cofio o adroddiad y grŵp cynghori gweinidogol—mae yna rai argymhellion penodol iawn yn y fan yna. Yn wir, mae llawer ohonyn nhw'n adleisio'r pwyntiau roedden ni'n eu gwneud ynglŷn â'r camau galluogi, fel rydyn ni'n eu galw nhw, yn y fframwaith cynllunio y llynedd. Felly, mae tua 35 o gamau gweithredu, yr wyf wedi dweud bod angen i bob bwrdd iechyd eu rhoi ar waith. Maen nhw'n orfodol, dydyn nhw ddim yn ddewisol, nid oes yr un ohonyn nhw'n newydd. Felly, mae rhai o'r rheini'n ymwneud â gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud digon o gataractau ar eich rhestr, yn gwneud digon o bengliniau a chluniau ar eich rhestr, yn cyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl ym mhob rhan o'r GIG. Felly, dyna pam fy mod i'n ymrwymo i gyhoeddi'r wybodaeth honno, fel bod Aelodau a'r cyhoedd yn gallu gweld yr hyn sy'n digwydd. Mae'r un pwynt yn berthnasol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'r asesiad cenedlaethol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wedi'i gynllunio i wneud yn union hynny—i nodi lle mae'r arfer da yn y system, lle mae'r system yn dysgu'n dda, ond hefyd i nodi lle mae'r disgwyliadau, sydd eisoes mewn adolygiadau, sydd eisoes mewn adroddiadau, y dylai'r gwasanaeth fod yn eu gweithredu, lle mae hynny'n digwydd, lle nad yw'n digwydd, os nad yw'n digwydd, a beth allwn ni ei wneud amdano. A bydd honno'n broses agored iawn.

O ran y cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus, mae amrywiaeth o bethau a all ddilyn lle nad yw byrddau iechyd yn cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol. Felly, o safbwynt gweinidogol, trwy'r cadeirydd y mae'r llinell atebolrwydd. Felly, mae'n agored i mi wneud dewisiadau i beidio ag ailbenodi cadeirydd, i ddiswyddo cadeirydd, mae yna ganlyniadau trwy atebolrwydd y prif weithredwr, gallwn ni uwchgyfeirio byrddau, gallwn ni gyhoeddi cyfarwyddyd gweinidogol. Ac mae'r holl bethau hynny wedi digwydd, ac mae'r holl bethau hynny ar gael i weinidogion a swyddogion, i wneud yn siŵr bod perfformiad yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau y mae'r Llywodraeth yn eu gosod.

Roedd gan yr Aelod gyfres bwysig iawn o gwestiynau am godio data. Weithiau, mae hyn yn her, ac mae yna dipyn o ffordd i ni fynd i sicrhau bod hynny mewn lle gwell. Mae llawer o waith yn digwydd ym maes canser, yr ydyn ni'n ei drafod yn y Siambr, yn aml iawn ynglŷn â darparu data mwy manwl, am fannau tiwmorau penodol, is-setiau o wybodaeth, ac mae cynnydd da yn digwydd yn y maes hwnnw erbyn hyn, a fydd yn ein galluogi ni i fod yn llawer mwy agored. Gofal mewn coridorau yw un o'r meysydd lle rwy'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i allu cyhoeddi mwy o'r wybodaeth honno, felly mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Fe wnaeth bwynt pwysig ar y diwedd am Llais. Dydw i ddim yn credu, mewn gwirionedd, mai mater o bwerau ydyw. Y cyfle gwirioneddol, rwy'n credu, wrth i ni ddarparu mwy a mwy o wybodaeth, yw sut y gall Llais helpu dros amser—mae'n dal i fod yn sefydliad ifanc—i ddehongli'r data hwnnw i'r cyhoedd, i Aelodau yma ac i eraill, fel na fydd yr hyn a fydd yn dod yn gorff cynyddol o ddata yn dod yn ffordd o guddio perfformiad, sydd weithiau'n risg gyda llawer o ddata, ond yn dod yn adnodd yn nwylo cyfryngwyr dibynadwy a all wedyn helpu i esbonio i'r cyhoedd ac i bob un ohonon ni beth sy'n digwydd yn y system.

16:40

Wel, rydyn ni i gyd yn rhannu'r un weledigaeth: gwasanaeth iechyd o'r radd flaenaf, ac un sy'n ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i anghenion y boblogaeth. Ond er mwyn cyflawni hynny, mae'n rhaid sicrhau'r safonau uchaf o atebolrwydd a thryloywder corfforaethol. Yn anffodus, mae'r realiti yn parhau yn llawer llai boddhaol i nifer o bobl. Ystyriwch y methiannau difrifol ym maes mamolaeth ym mwrdd iechyd bae Abertawe neu'r dystiolaeth o ymddygiad annerbyniol gan rai staff yn ysbyty prifysgol Cymru. Dyma ddwy enghraifft amlwg o'r hyn sy'n tanlinellu’r bwlch rhwng disgwyliadau'r cyhoedd a'r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad. Yn rhy aml, mae'r straeon yma yn codi am staff sy'n cael eu tawelu pan fo problemau'n codi ac am rwystrau diwylliannol sy'n llethu'r gallu i leisio pryderon yn brydlon. Mae hynny, yn anorfod, yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y system. Dwi felly yn croesawu'r trywydd a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw, ond mae'n bwysig pwysleisio nad yw amcanion da ar bapur yn ddigonol; mae'n rhaid eu cyfieithu yn weithredu cadarn a strwythurol.

Fel rhan o'n gweledigaeth ehangach i ddiwygio pensaernïaeth llywodraethiant y gwasanaeth iechyd, mae gan Blaid Cymru gynlluniau pendant yn hyn o beth. Ymhlith y rheini mae cryfhau hawliau cleifion drwy roi mwy o bŵer i gyrff fel Llais, er mwyn meithrin diwylliant sy'n croesawu cwynion fel cyfle i wella. Hefyd, mi ydyn ni am gyflwyno safonau newydd ar ryddid gwybodaeth ac argaeledd data perfformiad gwasanaethau iechyd. Yn ogystal, mi ydyn ni'n cefnogi sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer rheolwyr y gwasanaeth iechyd—corff a fydd, mewn partneriaeth â'r asiantaeth safonau cyrff cyhoeddus, yn gyfrifol am bennu cymwysterau safonol newydd ac am gynnal cofrestr gyhoeddus fanwl o reolwyr iechyd. Gaf i felly ofyn: ydych chi'n cytuno mai'r camau ymarferol yma ydy'r math o gamau sydd angen eu gwireddu er mwyn gwireddu'r uchelgais a nodwyd gennych heddiw?

Dwi wedi sôn sawl gwaith hefyd am y fframwaith mesurau arbennig—maes lle mae diffyg tryloywder wedi cael effaith andwyol amlwg. Roedd hyn yn arbennig o amlwg cyn yr etholiad seneddol diwethaf, pan gafodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ei dynnu allan o fesurau arbennig, er gwaethaf argymhellion clir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru—penderfyniad a wnaeth yn y pen draw danseilio'r broses o wella gwasanaethau yn y gogledd.

Yn ehangach, fe welon ni yn adroddiad Plaid Cymru ar lywodraethiant iechyd fod nifer o arweinyddion blaenllaw yn mynegi diffyg hyder yn nhryloywder y trefniadau presennol. Felly, ydych chi'n cytuno bod achos clir dros adolygu'r fframwaith mesurau arbennig, yn enwedig er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth, nid ar ystyriaethau gwleidyddol? Ac, yn enw tryloywder, a wnewch chi hefyd ymrwymo i gyhoeddi adroddiad EY—Ernst and Young—ar yr anghysondeb ariannol a gafwyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddwy flynedd yn ôl?

I gloi, dwi'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl. Fel y dywed y dywediad Saesneg:

'Mae'r pysgodyn yn pydru o'r pen.'

Pan fo arferion gwael yn y sefydliad, mae'r arweinyddiaeth yn allweddol i'r ymateb sydd ei angen. Dyna pam mae'n enwedig o siomedig, yn wyneb yr her iechyd fwyaf ers datganoli, sef y pandemig, gweld diffyg parodrwydd gan Lafur i ddangos y tryloywder y mae'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun yn galw amdano heddiw.

Erbyn hyn, mae'n amlwg nad oes newid barn gan y Llywodraeth yma ynglŷn â'r angen am ymchwiliad COVID penodol i Gymru, ond mi allaf eich sicrhau, os byddwn ni'n cael y fraint o arwain y Llywodraeth nesaf, y byddwn ni'n sicrhau bod y fath ymchwiliad yn digwydd. Yn y cyfamser, a ydych chi o leiaf yn derbyn mewn egwyddor fod gan unrhyw Lywodraeth, waeth beth bynnag fo'i lliw gwleidyddol, ddyletswydd i osod y safonau uchaf o ran gweithredu ac ymddygiad, yn ogystal â geiriau, o ran tryloywder sefydliadol? Diolch.

16:45

Wrth gwrs, rŷn ni'n gwneud hynny fel Llywodraeth. Mae'r Aelod yn gofyn i fi a ydw i'n cytuno gyda'i ddadansoddiad ef. Mae'r pethau gwnaeth e'u hamlinellu yng nghynllun Plaid Cymru—. Rwy wedi darllen pob un o'r pum paragraff sydd yn y cynllun, ac yn argymell i bobl Cymru gymryd y bum munud mae'n cymryd i'w ddarllen.

Mae'r math o bethau mae e'n sôn amdanyn nhw yn bethau mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud, ond am un peth sylweddol. Felly, y ddadl yw mai problem strwythurol sydd yn y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n credu bod yr her yn un sydd efallai yn fwy cymhleth na hynny. Yr her, a'r hyn rwy'n ceisio ei drafod yn y datganiad heddiw, yw ein bod ni'n ceisio newid diwylliant fel bod y diwylliant yn fwy agored i her, yn fwy agored i dryloywder yn fwy cyffredinol. Rwy'n cytuno'n llawn gydag un o'r pwyntiau gwnaeth yr Aelod o ran pa mor bwysig yw e, fel rhan o'r diwylliant hwnnw, i'r gweithlu deimlo eu bod nhw'n gallu codi llais, ac mae enghreifftiau yn yr adroddiadau o Gaerdydd y gwnaeth e sôn amdanyn nhw, a hefyd o Abertawe, lle nad yw hynny, yn amlwg, wedi bod yn bosib, a dyw'r gweithlu ddim wedi teimlo hynny. Ac mae hi wir yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod hynny yn rhan annatod o hawliau yn y gweithle, wrth gwrs, ond hefyd dealltwriaeth o'r cyfraniad mae hwnna'n gallu ei wneud i wella gwasanaethau ac i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn addas ac yn gwella gydag amser, felly rwy'n credu bod honno'n elfen bwysig iawn.

Mi wnaeth e hefyd wneud pwynt pwysig am reoliadau ar gyfer rheolwyr. Mae hynny'n rhan o bolisi'r Llywodraeth; rŷn ni'n cydweithio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn hynny o beth hefyd. Rwy'n cytuno gyda'r angen i fod yn fwy tryloyw o ran escalation a de-escalation. Rŷn ni wedi gwneud yr adolygiad hwnnw'n barod; mae newidiadau wedi'u cyhoeddi yn sgil hynny, ac, fel y gwnes i ddweud yn fy natganiad, byddwn ni'n cyhoeddi'r fframweithiau hynny cyn diwedd y flwyddyn.

Un o'r pethau pwysig, un o'r cyfleoedd sydd gyda ni fan hyn, rwy'n credu, yw, wrth edrych ar gwestiynau o atebolrwydd, o arloesi, o wella gwasanaethau'n gyffredinol, i ni weld tryloywder a bod yn agored fel ased ar y llwybr hwnnw, nid yn fygythiad. Mae hynny'n newid diwylliant mawr i unrhyw sefydliad, ac efallai yn benodol i sefydliad mawr cymhleth fel y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n gwbl, gwbl grediniol bod hynny, ar yr un llaw, a gwrando ar leisiau cleifion ar y llaw arall, yn rhywbeth sydd angen i'r gwasanaeth, ac i ni i gyd ei groesawu fel rhan gwbl greiddiol o'r gwella yna rŷn ni eisiau ei weld.

16:50

Diolch am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu y bydd cynnal cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda byrddau iechyd, ac yna eu rhoi ar-lein i'n hetholwyr eu gweld, yn codi'r llen, os mynnwch chi. Rwy'n credu eich bod chi newydd sôn bod GIG Cymru yn sefydliad cymhleth; mae'n sefydliad mawr iawn, ac rwy'n credu, yn aml, pan fydd etholwyr yn cysylltu â ni fel eu cynrychiolydd etholedig, maen nhw wedi ceisio dod o hyd i ffordd ymlaen eu hunain. Maen nhw wedi dilyn pob trywydd heb lwyddiant, ac yn aml ni yw'r dewis olaf, ac rwy'n credu y bydd yr hyn rydych chi'n ei gynnig heddiw yn mynd yn bell i feithrin ymddiriedaeth gyda'r byrddau iechyd, gyda'n hetholwyr, ac rwy'n credu y bydd cynnydd yn cael ei wylio'n ofalus iawn, iawn a chyda diddordeb.

Yn benodol, roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y newidiadau i fodel clinigol gwasanaeth ambiwlans Cymru yr yydych chi wedi'u cyflwyno, ac mae'n amlwg eich bod chi wedi ystyried argymhellion gan ein Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan wnaethoch chi hynny. Felly, a wnewch chi amlinellu eich disgwyliadau ynghylch amseroedd ymateb ambiwlansys, yn enwedig yn y gogledd, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, ac yn arbennig yn Wrecsam, am wn i? Mae gen i ddiddordeb mawr, oherwydd, o amgylch ysbyty Maelor, fe fyddwch chi'n ymwybodol o faterion o ran ambiwlansys yn aros y tu allan i'r adran achosion brys am lawer rhy hir, ac rwyf wedi codi hyn gyda chi trwy ohebiaeth sawl gwaith.

Diolch am y cwestiynau hynny. Mae gennym ni ddull gweithredu dau gam at dryloywder o ran gwasanaethau ambiwlans. Rydyn ni eisoes wedi gweithredu'r mesurau tryloywder newydd o ran y categori porffor a'r categori coch, ac, wrth i'r adolygiad newydd o'r categorïau eraill gael ei gyflawni, byddwn ni'n mabwysiadu dull tryloyw tebyg o ran adrodd ar y rheini—felly, yn amlwg, nifer y galwadau, ond hefyd amseroedd canolrifol o ran nodi ataliad ar y galon, o ran dechrau adfywio cardiopwlmonaidd, o ran diffibriliwr yn cyrraedd; felly, cyfres lawer mwy manwl o fesurau, a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth mwy y gellir ei wneud ar draws y system i wella perfformiad.

O ran trosglwyddo yn benodol, dyma un o'r meysydd lle rydyn ni wedi gweld gwelliant, mewn gwirionedd, ar draws y system. Nid oes unrhyw ran o Gymru sydd heb wella mewn gwirionedd o ganlyniad i'r ffocws cenedlaethol newydd hwn ar yr amser trosglwyddo. Y disgwyliad yw, wrth gwrs, ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i drosglwyddo o fewn 15 munud. Nid yw hynny'n safon sy'n cael ei bodloni ym mhobman. Yn wir, y sefyllfa wrth gefn yw bod y safon 45 munud yn cael ei bodloni. Yr hyn rydyn ni wedi'i weld—ac rwy'n credu bod dwy enghraifft dda iawn o hyn yn Ysbyty Treforys, yn yr adran achosion brys yno, ac yn wir yn y Faenor, lle gwyddom fod heriau wedi bod yn y gorffennol, ac mae heriau o hyd o bryd i'w gilydd—yw gwelliant sylweddol iawn yn yr amseroedd trosglwyddo hynny, a gallwn ni weld y data. Mae'r data ar gael i bob rhan o'r GIG, a'r hyn rydyn ni wedi'i weld yn ddiweddar mewn gwirionedd, yn eich etholaeth chi ac ar draws y gogledd, yw gwell cysylltiadau yn cael eu datblygu gyda rheolwyr a chlinigwyr ym mae Abertawe, ond hefyd yn Hywel Dda, lle mae gwelliant wedi bod hefyd, i ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yno fel y gallwn ni wella'r amseroedd trosglwyddo hynny.

Ond rwy'n hollol glir: mae'n rhaid i ni weld perfformiad gwell o ran yr amser trosglwyddo 45 munud. Nid dim ond mater o'r hyn sy'n digwydd yn yr adran achosion brys ydyw—fel y gwyddoch chi, mae'n gwestiwn llawer mwy integredig na hynny; mae'n ymwneud â system gyfan yr ysbyty ac, yn wir, y ddarpariaeth gymunedol. Ond rwy'n glir bod cyhoeddi'r wybodaeth honno yn ffordd hanfodol o wella perfformiad, ac nid yw'n ymwneud â chreu tabl cynghrair ac nid yw'n ymwneud â dweud, 'Mae'r ysbyty hwn yn well, yn gyffredinol', mae'n ymwneud ag edrych ar wasanaethau unigol a dweud, 'Lle gall y system ddysgu o berfformiad da?'

16:55

Diolch am eich diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rydych chi'n amlwg yn llygad eich lle: mae tryloywder yn allweddol i atebolrwydd a dysgu hefyd, ac yn bwysig, cymhwyso gwersi ar lwybr tuag at wella a chynnydd. Rwy'n croesawu'n arbennig eich cyfeiriadau yn y datganiad at y ffordd y mae'r GIG yn defnyddio adborth y cyhoedd i lunio a mireinio gwasanaethau, a hefyd i ymgorffori profiadau bywyd wrth gynllunio, darparu a gwella gwasanaethau. Mae hynny'n rhywbeth a ddaeth yn amlwg i mi fel rhywbeth y byddai croeso iddo o arolwg y GIG y gwnes i ei gynnal yn lleol y llynedd. Ond a gaf i ofyn heddiw, efallai, wrth edrych ar y profiad bywyd hwnnw a sut mae'n llunio gwasanaethau, beth fyddai'n ei olygu i'r gweithlu? A oes ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod byrddau iechyd nid yn unig yn cynnwys eu gweithlu wrth lunio gwasanaethau, ond mewn gwirionedd, wrth lunio amgylchedd gwaith cadarnhaol hefyd, i wneud yn siŵr bod staff yn cael eu cefnogi ac yn cael eu trin ag urddas a'i fod yn bosibl ymdrin ag unrhyw beth sydd angen ei gywiro mewn partneriaeth ac mewn ffordd sy'n cefnogi'r gweithlu y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno, ddydd ar ôl dydd? Diolch.

Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. Rwy'n credu bod yr adborth—. Fel y soniodd yr Aelod, o safbwynt cleifion, rwy'n credu bod llawer mwy y gellid ei wneud, naill ai trwy'r mesurau profiadau a adroddir gan gleifion, sef PREMS, neu'r mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, PROMS, a fydd yn dweud wrth y gwasanaeth iechyd beth mae'r gwasanaeth y mae'r claf wedi'i gael wedi'i olygu i'r claf. Ac mae llawer mwy y gellid ei wneud yn y maes hwnnw nag sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Fe allech chi ddychmygu ail-ddychmygu'r gwasanaeth iechyd cyfan o amgylch y mesurau hynny, mewn gwirionedd. Felly, beth mae'n ei olygu ym mywyd y claf unigol hwn? Beth mae ei eisiau o'r gwasanaeth hwn mewn gwirionedd? Ydyn ni wedi rhoi'r gwasanaeth yr oedd ei eisiau iddo? Byddwn ni'n aml yn gweld mai'r hyn rydyn ni'n ei gyfeirio ato yw llwybr ac nad dyna'r hyn mae ei eisiau, mewn gwirionedd, bob amser. Rydyn ni'n gweld, yn eithaf aml, gyda phobl hŷn sy'n cael eu hannog i gael llawdriniaeth, lefelau eithaf uchel o edifeirwch wedyn oherwydd natur drawmatig y peth. Felly, rwy'n credu bod yna rywbeth ynghylch sut y gallwch chi ddefnyddio sgwrs fwy ansoddol, soffistigedig i wneud dyfarniadau gwell ynghylch y triniaethau sydd ar gael.

Ond rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig iawn o ran sut y gall rhywun nodi profiad y gweithlu yn rhywfaint o hyn. Rwy'n credu ein bod ni'n sôn tipyn am arweinyddiaeth dosturiol yn y GIG, sef y gwerth cywir yn fy marn i, ond, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod ni'n arwain o safbwynt y gweithlu yn y ffordd honno. Roedd yna ddarn diddorol iawn o waith yr arweiniodd Llais arno yn ddiweddar ynglŷn â siarad â'r gweithlu—a chleifion hefyd, mewn gwirionedd—am newidiadau y gallai'r GIG eu cyflwyno a fyddai'n gwella gwasanaethau, ond hefyd yn ei gwneud hi'n haws bod yn y gwaith. Felly, rwy'n credu bod gwersi eithaf diddorol i'w dysgu o'r math hwnnw o fenter hefyd.

Diolch yn fawr iawn a diolch yn fawr iawn am eich datganiad, a hefyd am gyhoeddi'r adroddiadau chwarterol hyn o ran sut mae gwahanol fyrddau iechyd yn perfformio yn erbyn mesurau gofal sydd wedi'u cynllunio.

Fe edrychais i ar y rhai wroleg, dim ond oherwydd ei fod yn rhywbeth rydw i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth yn ei gylch yn fy mwrdd iechyd fy hun, ac mae'n ddiddorol iawn gweld bod yr amser aros cyfartalog am apwyntiad cychwynnol yn Abertawe yn wyth wythnos, a bod 10 y cant o bobl yn aros 28 wythnos. Os gwnewch chi gymharu hynny â'r heriau sydd gennym ni yng Nghaerdydd, lle mae'n 36 wythnos ar gyfartaledd ar gyfer yr apwyntiad cyntaf, ac mae 10 y cant o bobl yn aros 84 wythnos neu fwy—rwyf mewn cysylltiad â rhai o'r rheini—. Roeddwn i'n meddwl tybed faint o wybodaeth fanwl sydd ar gael am y ffordd rydyn ni'n cyflwyno'r apwyntiad cyntaf hwnnw. A yw yn y gymuned, neu a yw yn yr ysbyty? P'un yw'r mwyaf effeithlon? Mae'r holl bethau hyn yn bwysig iawn, yn ogystal â phethau eraill nad ydyn nhw'n cael eu nodi fwy na thebyg, ynghylch a yw clinigydd yn sâl neu wedi cael profedigaeth—mae'r holl bethau hyn yn bwysig ac yn golygu nad yw'n bosibl trin cleifion. Felly, sut mae'r data da iawn hwn yn ysgogi'r sgyrsiau deallus hyn rhwng byrddau iechyd?

Wel, rwy'n credu mai un o'r—. Yn bendant, dydyn ni ddim lle mae angen i ni fod o ran lefel y manylder a'r agwedd ansoddol y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, ac, yn aml, mae'r data'n cael ei gasglu, mewn gwirionedd, yn seiliedig ar safle'r driniaeth, ac mae bylchau amlwg a all godi o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu mai un o'r heriau, y mae hi'n cyfeirio ato hefyd, yw bod gennych chi rai ymyriadau yn digwydd ar safle sylfaenol a rhai ymyriadau ar safle eilaidd ac, yn sicr, nid yw'r data sydd ar gael rhwng safleoedd sylfaenol ac eilaidd lle rydyn ni eisiau iddo fod. Mae darn o waith eisoes ar y gweill ynglŷn â'r newidiadau rheoleiddiol y gallai fod angen i ni eu gwneud er mwyn cefnogi rhannu'r wybodaeth honno mewn ffordd fwy agored a mwy clyfar sy'n ein galluogi ni i fynd at wraidd rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud.

Rwy'n credu wrth wraidd y peth, fodd bynnag, yw parodrwydd i ddefnyddio'r data sydd yno i ddeall yr hyn sy'n digwydd ac i ysgogi'r sgyrsiau hynny. Felly, fe wnaeth yr Aelod rai cymariaethau uniongyrchol iawn am wroleg, ac mae yna gymariaethau llym eraill mewn rhannau eraill o'r system. Yr hyn rydw i eisiau ei weld yw bod hynny’n cael ei weld nid fel her i sefydliadau—er, yn amlwg, mae'n her—ond sut y gall rhywun wedyn ddysgu o'r perfformiad gwell mewn un rhan o'r system. Trwy gyhoeddi'r adroddiadau chwarterol hynny ar lefel bwrdd iechyd, mae hynny'n caniatáu i ni weld, 'Mae yna lwyddiant yma mewn gwirionedd; mae yna her wirioneddol yma.' Ond mewn ffordd, yn bwysicach byth, dylai alluogi'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth sy'n wynebu her i wybod ble yn y system y mae angen iddyn nhw fynd i ddysgu o brofiad cadarnhaol. Mae hynny'n dechrau digwydd; rwy'n credu ei fod yn dechrau digwydd mwy a mwy. Ond mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd, rwy'n credu, cyn i hynny fod yr hyn y mae angen iddo fod, sef disgwyliad ym mhob rhan o'r system.

17:00
7. Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025

Eitem 7 sydd nesaf, Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM9015 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 ger eich bron chi heddiw. Diben Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yw rhestru swyddi a fyddai, pe bai unigolyn mewn un o'r swyddi hynny, yn anghymhwyso'r unigolyn hwnnw rhag dod yn Aelod o'r Senedd, ond nid rhag sefyll fel ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd.

Er bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylid cyfyngu anghymhwyso aelodaeth o'r Senedd i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl, rydym yn cydnabod bod gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol i ddeiliaid rhai swyddi. Yn benodol, mae angen amddiffyn rhai swyddi cyhoeddus rhag tuedd wleidyddol a sicrhau bod annibyniaeth y broses etholiadol yn cael ei chynnal. Bydd Gorchymyn 2025 yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, a bydd yn nodi rhestr wedi'i diweddaru o swyddi wedi'u anghymhwyso cyn etholiadau'r Senedd nesaf. Bydd Gorchymyn 2025 yn dod i rym yn etholiad cyntaf y Senedd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.

Mae'r Gorchymyn anghymhwyso hwn yn parhau i adeiladu ar yr argymhellion a amlinellwyd yng ngwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd ar yr ymchwiliad i anghymhwyso yn 2014. Mae'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer pennu swyddi ac aelodaeth cyrff i'w cynnwys yng Ngorchymyn 2025 yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn yr argymhellion hynny. Mae'r meini prawf hyn yn cynnal egwyddorion cyfranogiad democrataidd a'r hawl i sefyll fel Aelod o'r Senedd. Rydym yn parhau i restru dim ond swyddi yr ydym yn credu oherwydd eu natur fod angen i'r swyddi hynny fod yn wleidyddol ddiduedd neu y byddai'n arwain at wrthdaro buddiannau sylweddol.

Digwyddodd datblygiad Gorchymyn 2025 mewn dau gam. Yn gyntaf, buom yn gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru i nodi unrhyw newidiadau hysbys ers i'r Gorchymyn blaenorol gael ei wneud yn 2020. Yn ail, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni, gyda 19 o ymatebion wedi'u derbyn. Mae nifer o newidiadau hysbys a nodwyd drwy ymgynghori â swyddogion polisi mewnol wedi arwain at ddiwygiadau i'r Gorchymyn, gan gynnwys dileu bwrdd cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, wrth i gynghorau iechyd cymuned gael eu diddymu gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Mae nifer o swyddi wedi'u hychwanegu at Orchymyn 2025, naill ai oherwydd diweddariadau mewn polisi neu oherwydd iddynt gael eu cyflwyno gan ddeddfwriaeth ddiweddar. Nodwyd y swyddi hyn fel newidiadau hysbys neu drwy ymatebion i'r ymgynghoriad, gan gynnwys aelodau o'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, Comisiynydd y Lluoedd Arfog, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, clercod cynghorau cymuned a thref, cyd-bwyllgorau corfforedig, y Rheoleiddiwr Pêl-droed Annibynnol a Chomisiynydd Cyn-filwyr Cymru. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, ychwanegwyd aelodau o'r Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd.

Mae diwygiadau hefyd wedi bod i enwau swyddi ers 2020. Mae'r rhain yn cynnwys cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Tribiwnlys Addysg Cymru a'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Mae'r disgrifiadau o rai o'r swyddi hefyd wedi'u diweddaru i sicrhau mwy o eglurder o'r ddeddfwriaeth.

Hoffwn ddiolch i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, a hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau o'r ddeddfwriaeth hon. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf yn cael eu cynnal mor effeithlon â phosibl, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau. Diolch.

17:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Gorchymyn drafft ar 6 Hydref. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt rhinweddau a chraffu. Mae'r pwynt adrodd cyntaf yn tynnu sylw at y ffaith y bu pwyllgor rhagflaenol, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad, a gynigiodd, mewn adroddiad yn 2014, ailwampio'r fframweithiau deddfwriaethol a oedd yn ymwneud ag anghymhwyso rhag aelodaeth o'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi bod y meini prawf ar gyfer pennu pa swyddi oedd i'w cynnwys yn y Gorchymyn yn seiliedig ar yr egwyddorion a argymhellwyd yn yr adroddiad hwnnw yn 2014.

Mae ail bwynt adrodd y pwyllgor yn tynnu sylw at y swyddi sydd newydd gael eu hychwanegu at y Gorchymyn drafft fel swyddi wedi'u hanghymhwyso. Mae'r rhain yn cynnwys holl aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd a phob aelod o'r cyd-bwyllgorau corfforedig. A'r cwestiwn yn sgil hyn yw: a fydd hyn yn cynnwys arweinwyr cynghorau a chynghorwyr eraill sydd ar gyd-bwyllgorau corfforedig, a phob aelod o'r Rheoleiddiwr Pêl-droed Annibynnol? Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Fel y dywedais i, bu gwelliannau—. Hoffwn ddiolch, yn gyntaf oll, mae'n ddrwg gennyf, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eto, a'r Cadeirydd am ei sylwadau. Fel y soniais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddem wedi gwneud rhai o'r newidiadau hynny oherwydd bod y swyddi wedi newid. Ond os yw'r Senedd yn cytuno ar y cynnig heddiw, gellir cyflwyno'r Gorchymyn i'w wneud yn ddwyieithog hefyd yng nghyfarfod diwedd mis Tachwedd o'r Cyfrin Gyngor, gyda dyddiad arfaethedig ar gyfer dod i rym, sef 13 Tachwedd. Heb y Gorchymyn hwn, byddai risg sylweddol i etholiadau'r Senedd yn 2026.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025

Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025. Y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gwneud y cynnig yma. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9017 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 17:08:32
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heddiw rwy'n cyflwyno gwelliant i'r rheoliadau marchnata cig dofednod buarth yng Nghymru i'r Senedd ei gymeradwyo.

Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth yn nodi y gellir marchnata cig dofednod a gynhyrchir o ieir sy'n destun mesurau tai gorfodol fel rhai maes am 12 wythnos gyntaf mesurau o'r fath, heb fod angen ail-labelu, ailbecynnu na gwybodaeth ychwanegol yn y man gwerthu. Ar ôl y cyfnod 12 wythnos hwn, rhaid ail-labelu cig dofednod a'i ailbecynnu fel cig dofednod safonol. Fodd bynnag, fel y gwelsom yn ystod tymhorau achosion ffliw adar yn y blynyddoedd 2021-22 a 2022-23, bod angen, yn aml, i'r mesurau tai hyn aros ar waith am fwy na 12 wythnos. Mae hyn wedi creu ansicrwydd ac amhariad i gynhyrchwyr a defnyddwyr fel ei gilydd.

Felly, mae'r gwelliant rwy'n ei gyflwyno heddiw yn dileu'r cyfyngiad amser o 12 wythnos. O dan y rheoliadau newydd, gall cig dofednod barhau i gael ei farchnata fel cig maes dros gyfnod llawn unrhyw fesurau tai gorfodol a osodir am resymau iechyd anifeiliaid. Mae'r newid hwn yn sicrhau bod ein deddfwriaeth yn adlewyrchu'r realiti sy'n wynebu'r sector yn ystod cyfnod estynedig o achosion o glefydau.

Er mwyn egluro hefyd, mae'r gwelliant wedi'i gyflwyno yn Lloegr, ar draws yr Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, mae'r broses i gyflwyno'r un gwelliant ar y gweill. Byddai dull cyson yn dileu unrhyw gymhlethdod yn ein cadwyni cyflenwi rhyng-gysylltiedig. Mae Cymru yn gynhyrchydd sylweddol o gig dofednod maes yn y DU, gan gyflenwi nid yn unig ein cymunedau ein hunain, ond hefyd defnyddwyr ledled y DU a'r UE. Mae'r gwelliant yn darparu sicrwydd i'n diwydiant cig dofednod, sefydlogrwydd yn ein cadwyn gyflenwi, ac yn dileu unrhyw anfantais bosibl i'n diwydiant.

Felly, y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw, Llywydd, yw cytuno ar Reoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi.

Rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.

17:10

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 13 Hydref ac wedi hynny ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor ddoe.

Nododd adroddiad y pwyllgor ddau bwynt adrodd technegol. Yn gyntaf, nododd y pwyllgor anghysondeb wrth ddyfynnu'r pwerau galluogi, gyda'r nodiadau pennawd yn cyfeirio at ddwy ddarpariaeth yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a'r rhagarweiniad yn cyfeirio at un yn unig. Barn y pwyllgor yw y dylai'r cyfeiriadau hyn fod yn gyson a bod y nodiadau pennawd yn darparu'r dyfyniad mwy cywir.

Yn ail, nododd y pwyllgor fod y term 'y Ddeddf' yn cael ei ddefnyddio yn y rhagair heb iddo gael ei ddiffinio yn y rheoliadau'n flaenorol. Argymhellodd y pwyllgor y dylid ailadrodd teitl llawn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 neu fod y term 'y Ddeddf' yn cael ei ddiffinio mewn cromfachau pan gyfeirir ati am y tro cyntaf.

Yn ei hymateb, cydnabu Llywodraeth Cymru y materion a godwyd gan y pwyllgor a dywedodd y byddai'n gwneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gwneud y rheoliad. Diolch.

Rwyf eisiau cofnodi'r ffaith bod Plaid Cymru yn cefnogi'r newid pragmatig hwn sy'n amddiffyn cynhyrchwyr dofednod Cymru rhag niwed economaidd diangen yn ystod achosion o glefydau. Mae'n drueni ei fod wedi cymryd tan nawr i hyn ddigwydd, ond o leiaf nawr, fel y dywedoch chi, byddan nhw'n sicrhau nad ydym dan anfantais o gymharu ag eraill yn y DU a'r UE ehangach. Mae mesurau tai gorfodol, wrth gwrs, yn fesur iechyd cyhoeddus neu anifeiliaid, nid newid mewn safonau ffermio, ac felly mae'r rheoliadau hyn yn osgoi amhariad a chostau diangen i gynhyrchwyr, ac maen nhw hefyd yn cynnal eglurder defnyddwyr, ac felly, byddwn yn eu cefnogi. Diolch.

Member
Huw Irranca-Davies 17:12:27
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch, yn gyntaf oll, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddeddfwriaeth ac, yn wir, y cyfeiriad at yr addasiadau sydd wedi'u gwneud wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Diolch, Mike, i chi a'ch Aelodau.

Llyr, rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth gan Blaid Cymru. Roeddem eisiau gwneud yn siŵr bod hyn yn gweithio'n iawn i'r sector, ond hefyd i ddefnyddwyr hefyd, felly fe wnaethom gymryd ychydig o amser i ymgysylltu ac ymgynghori i'w wneud yn iawn. Ond rydych chi'n iawn: mae dwyn hyn ymlaen yn golygu nad oes anfantais i sector Cymru ychwaith. Felly, fel y dywedais i, Llywydd, bydd y gwelliant yn cefnogi ein cynhyrchwyr cig dofednod maes yng Nghymru, bydd yn diogelu'r gadwyn gyflenwi ryng-gysylltiedig honno ac yn darparu eglurder a chysondeb i'r sector, a bydd yn diogelu dyfodol y sector yng Nghymru ac yn atgyfnerthu ein safle ym marchnad y DU. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r eitem yna wedi'i derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025

Eitem 9 sydd nesaf. Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 yw'r rhain. Unwaith eto, yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd sy'n cyflwyno'r cynnig. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9016 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 17:13:41
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025. Bydd y rheoliadau hyn yn gorfodi dosbarthu carcasau defaid ac adrodd am brisiau ar gyfer lladd-dai sy'n prosesu o leiaf 2,000 o ddefaid yr wythnos, gan alinio'r sector â'r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer y diwydiannau cig eidion a phorc. Gall cyfleusterau sy'n lladd o leiaf 1,000 ond llai na 2,000 o ddefaid yr wythnos optio i mewn yn wirfoddol.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn darparu proses ar gyfer cyflwyno system ar gyfer awdurdodi dulliau graddio defaid awtomataidd ar gyfer lladd-dai. Bydd y mesurau hyn yn gweithredu methodoleg gyson ar gyfer dosbarthu carcasau defaid mewn lladd-dai, a thrwy hynny hyrwyddo tryloywder, tegwch a chynhyrchiant uwch o fewn y farchnad ddefaid.

Felly, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, daw'r rheoliadau i rym ar 28 Ionawr 2026, ac eithrio'r rheoliadau hynny sy'n ymwneud â dulliau dosbarthu awtomataidd, a fydd yn dod i rym ar 12 Chwefror 2027. Mae'r oedi hwn yn angenrheidiol oherwydd nad oes data dosbarthu carcasau gweledol addas ar hyn o bryd ledled y DU i ddarparu'r sampl data angenrheidiol er mwyn gallu asesu ac awdurdodi dulliau dosbarthu awtomataidd.

Hysbyswyd gweithredwyr lladd-dai, Llywydd, o'n cynlluniau i weithredu'r rheoliadau hyn ar ôl i'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r ymgynghoriad wedi'i dargedu ddod i ben. Roedd yr adborth a gafwyd ynglŷn â'r cynnig hwn yn gadarnhaol i raddau helaeth, gyda llawer o randdeiliaid yn cydnabod y bydd yn gwella tryloywder ar draws y gadwyn gyflenwi i ffermwyr ac yn sefydlu meincnod diwydiant. Yn ogystal, mae cefnogwyr y cynnig yn cydnabod y manteision disgwyliedig wrth feithrin a chynnal marchnad fwy cadarn i'r diwydiant yn ei gyfanrwydd.

Ar hyn o bryd mae pedwar lladd-dy yng Nghymru a fyddai'n ddarostyngedig i'r rheoliadau, ac mae'r Asiantaeth Taliadau Gwledig wedi ysgrifennu at weithredwyr lladd-dai yn ddiweddar i'w hysbysu bod y rheoliadau wedi'u gosod. Bydd rhywfaint o gostau ymgyfarwyddo, ailhyfforddi ac arolygu i weithredwyr lladd-dai wrth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar bob busnes ac mae disgwyl iddynt fod yn isel beth bynnag. Bydd y canllawiau cyfredol yn cael eu diwygio cyn y dyddiad cychwyn cychwynnol, mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Taliadau Gwledig, i helpu gweithredwyr i fodloni gofynion y rheoliadau.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ar y rheoliadau, yr wyf wedi ei nodi ac yr wyf wedi ymateb iddo. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn. Diolch.

17:15

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr i gyfrannu. Mike Hedges. 

Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau drafft ar 6 Hydref, ac wedi hynny ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor brynhawn ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a dau bwynt craffu ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at ystyr anghyson rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Lle mae'r testun Saesneg yn cyfeirio'n gywir at 'annex 2', mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at atodlen 2, y dywedir wrthyf ei fod yn gyfieithiad o 'schedule 2'. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y camgymeriad hwn ac mae'n bwriadu gwneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gwneud y rheoliadau.

Gofynnodd pwynt adrodd craffu ar rinweddau cyntaf y pwyllgor i Lywodraeth Cymru egluro pam mai'r dyddiad dod i rym ar gyfer y rheoliadau hyn yw 28 Ionawr 2026, pan ddaw'r rheoliadau ar gyfer Lloegr i rym ar 12 Ionawr. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor fod y dyddiad 12 Ionawr yn y rheoliadau ar gyfer Lloegr yn gamgymeriad anfwriadol. Nid yw'r dyddiad dod i rym cynharach yn y rheoliadau hynny yn cael unrhyw effaith ymarferol oherwydd bod y rheoliadau yn dibynnu ar hysbysiad o dan reoliad 4, y gellir ei wneud o 28 Ionawr ymlaen yn unig. Daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad na fyddai'n ailadrodd y gwall anfwriadol, a dylai'r rheoliadau ar gyfer Cymru ddod i rym ar 28 Ionawr i gyd-fynd â rheoliad 4.

Gofynnodd ail bwynt craffu ar rinweddau y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i Lywodraeth Cymru a fyddai Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn effeithio ar effeithiolrwydd y rheoliadau, a pha asesiad y mae wedi'i wneud o'r sefyllfa ddeddfwriaethol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn perthynas â dosbarthu ac adrodd am brisiau carcasau defaid yng nghyd-destun y Ddeddf honno. Ymatebodd Llywodraeth Cymru fod Cymru a Lloegr yn dilyn yr un drefn a nodir yn y ddeddfwriaeth, a'i bod yn credu bod yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sy'n adlewyrchu'r un drefn.

Unwaith eto, rwyf eisiau croesawu'r rheoliadau hyn. Mae alinio'r sector defaid â rheoliadau presennol y sector cig eidion a phorc yn gadarnhaol. Rwy'n credu y bydd, fel y dywedwch chi, yn gwella tryloywder, cysondeb a thegwch yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer cig coch. Bydd yn galluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau busnes ar sail gwybodaeth, a gobeithio bydd yn gwella cynhyrchiant hefyd. Felly, ar y cyfan, mae'n gam cadarnhaol a gobeithio y bydd o fudd i ffermwyr, proseswyr a defnyddwyr fel ei gilydd.

Rwy'n clywed bod Llyr Gruffydd yn dweud y bydd yn cynyddu tryloywder, ac mae hynny'n ardderchog. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn darganfod beth sy'n digwydd i'r pumed chwarter er mwyn i ni allu tracio pa un a yw'n mynd i mewn i stiwiau blasus mewn prydau ysgol, prydau mewn ysbytai a chartrefi gofal yng Nghymru. A fydd y dosbarthiad hwn ar gyfer defaid, yn dilyn dosbarthiad cig eidion a phorc, yn ein galluogi i dracio pumed chwarter defaid Cymru o'r fferm i'r fforc?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Jenny. Er mwyn egluro i Aelodau nad ydynt efallai'n ymwybodol, sut allwch chi gael pumed chwarter? Dim ond ym maes ffermio a phrosesu cig y gellir cael pumed chwarter. Cig offal yw'r pumed chwarter a chynhyrchion cysylltiedig eraill. Nid oes marchnad fawr ar gyfer cynhyrchion y pumed chwarter yn y wlad hon, dyna pam yr ydym yn allforio llawer, felly hollti'r carcasau a'r allforio, sy'n llwyddiannus iawn, er bod yna farchnad fechan yn tyfu o fewn y wlad hon hefyd. Ond yn gyffredinol, nid yw'r pumed chwarter, Jenny, yn ymddangos ar ein byrddau nac yn ein hysbytai, ein hysgolion nac yn ystadau carchar.

O ran y rheoliadau hyn, mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â dosbarthu'r carcas cyfan, h.y. cyn iddo gael ei brosesu a'i dorri'n ddarnau. Felly, mae'r rheoliad penodol hwn yn ymwneud â chael y dull cyson, tryloyw hwnnw o ddosbarthu carcasau defaid ar draws lladd-dai, felly mae gennym y farchnad fwy cynhyrchiol a thecach honno ar gyfer cig defaid gyda thryloywder gwirioneddol.

Ond mae yna bwynt diddorol rydych chi'n ei godi sy'n ymwneud â'r pumed chwarter. Mae gan hwn farchnad fawr. Mae'n ffaith ddiddorol, o'n cynhyrchiant cig oen domestig, er enghraifft, mae'r mwyafrif yn cael ei allforio mewn gwirionedd, a bod marchnad go iawn ar gyfer y pumed chwarter hwnnw. Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed beth yw meddyliau pobl ynghylch sut y gallwn ei dyfu o fewn y wlad hon hefyd. Ond mae hefyd yn hawlio pris uchel ar yr allforion hefyd, felly mae hynny'n eithaf diddorol. Ond diolch yn fawr iawn, Jenny.

Ac yn olaf, Mike, diolch i chi a'ch Aelodau am eich sylwadau yr ydym wedi ymateb iddynt, fel y gwnaethoch chi ei nodi. A Llyr, diolch am eich cefnogaeth. Dyma ddau yn olynol, rwy'n credu, a allai gael cefnogaeth y Senedd. Felly, mae'n ddiwrnod da i'r Gweinidog hwn.

17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo sydd nesaf. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n cyflwyno'r cynnig yma—Jane Hutt.

Cynnig NDM9014 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo i'r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 17:21:40
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, fel y nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 11 Hydref 2025. Trwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y DU yn ceisio creu fframwaith o bwerau a throseddau newydd, uwch i wella diogelwch ffin y DU ac i gryfhau'r system loches a mewnfudo. Mae'n creu pwerau a throseddau newydd, yn diddymu elfennau o Ddeddf Mudo Anghyfreithlon 2023, ac yn cryfhau hawliau dinasyddion yr UE i fynediad a phreswyliad.

Daeth dadansoddiad cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth y DU ei hun o'r Bil i'r casgliad, ac eithrio darpariaeth a gafodd awdurdod statudol ôl-weithredol ar gyfer ffioedd a godir mewn cysylltiad â chydnabod cymwysterau proffesiynol, fod pob darpariaeth arall yn faterion a gedwir yn ôl. Rydym yn cytuno bod y mwyafrif helaeth o'r Bil hwn yn faterion a gedwir yn ôl. Rydym hefyd yn cytuno bod angen cydsyniad y Senedd ar y ddarpariaeth sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol, yn benodol ym maes addysg. Fodd bynnag, rydym wedi dod i'r casgliad bod un ddarpariaeth ychwanegol, sy'n diddymu darpariaethau yn y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, hefyd yn gofyn am gydsyniad y Senedd.

Mae'r darpariaethau sydd i'w diddymu yn ymwneud â thrin plant digwmni yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r diddymiad hwn, a fydd yn dileu elfennau o'r ddeddfwrfa nad oedd Llywodraeth Cymru erioed eisiau eu gweld yn cael eu pasio, ac nad oeddent yn cydsynio iddynt, pan oedd y Bil Mudo Anghyfreithlon ar y pryd yn mynd drwy'r Senedd. Amlinellwyd manylion y ddwy ddarpariaeth hyn yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 17 Chwefror a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol canlynol a osodwyd ar 11 Hydref 2025.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ymgysylltiad sylweddol â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r Bil hwn. Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol bod dadansoddiad Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad bod dwy ddarpariaeth yn y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru sy'n ystyried materion datganoledig a gofynnir i Aelodau'r Senedd ystyried y ddwy ddarpariaeth hyn.

I gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried cynnwys y Bil a darparu craffu adeiladol. I gydnabod effeithiau cadarnhaol elfennau o'r Bil hwn, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo ym mis Mai. Bydd yr Aelodau yn nodi o adroddiad y pwyllgor fod y pwyllgor wedi holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar asesiad Llywodraeth Cymru o ba gymalau o'r Bil sy'n sbarduno gofynion Rheol Sefydlog 29 gan eu bod yn gwneud darpariaethau sy'n ystyried materion datganoledig. Ar y pwynt hwn, nid yw'r pwyllgor wedi ei argyhoeddi gan ddadl Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymal 53 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd, sydd bellach yn gymal 59 yn fersiwn ddiweddaraf y Bil, fel y'i diwygiwyd ym mhwyllgor yr Arglwyddi.

Mae'r cymal yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud darpariaeth ganlyniadol. Caiff rheoliadau a wneir o dan y ddarpariaeth hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad. Mae 'deddfiad' yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Mesur neu Ddeddf Senedd Cymru, neu offeryn a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Senedd Cymru. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y pŵer hwn fel pŵer cul wrth esbonio pam nad yw cydsyniad y Senedd wedi'i geisio ar gyfer y cymal hwn. At ddibenion Rheol Sefydlog 29, darpariaeth berthnasol yw darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n rhoi sylw i faterion datganoledig. Nid yw'r ffaith bod y pŵer hwnnw'n gul neu'n eang yn ffactor sy'n penderfynu yn yr asesiad a yw'r Rheol Sefydlog yn cael ei gweithredu. Felly, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad o'r farn y dylid ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymal hwn ynghyd â'r darpariaethau eraill a restrir ym memorandwm y Llywodraeth.

17:25

Mae fy mhlaid yn gwrthwynebu rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo. Mae'r Bil hwn yn ddrwg i'r DU ac yn ddrwg i Gymru. Mae'r methiant i ddiogelu ein ffiniau a chaniatáu i fewnfudo fynd allan o reolaeth wedi rhoi gwasanaethau cyhoeddus dan straen enfawr. Ni all y DU barhau i weld ei phoblogaeth yn tyfu 0.75 miliwn bob blwyddyn, yn enwedig pan welwn filoedd o bobl ddigartref yn marw ar ein strydoedd bob blwyddyn. Ceisiodd Llywodraeth ddiwethaf y DU fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol drwy ei gwneud hi'n glir y byddai croeso i weithwyr tramor â sgiliau uwch, ond na fyddem yn caniatáu mewnfudo heb reolaeth gan fewnfudwyr economaidd heb sgiliau—ein bod yn falch o ddarparu lloches i geiswyr lloches go iawn, ond yn gwrthod mewnfudo anghyfreithlon yn llwyr.

Yn anffodus, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cael gwared ar y ddeddfwriaeth fewnfudo flaenorol ac wedi cyflwyno'r Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, sy'n gwneud dim i ddiogelu ein ffin neu i reoli mewnfudo net. Bydd y Bil y gofynnir i ni roi cydsyniad deddfwriaethol iddo, rwy'n credu, yn cael effaith i'r gwrthwyneb. Bydd yn gweithredu fel atyniad yn hytrach nag ataliad. Mae'r ddeddfwriaeth yn llawn bylchau o ran dinasyddiaeth y DU, felly waeth i ni hysbysebu bod y DU yn rhoi gwahoddiad agored i unrhyw un sydd eisiau pasbort Prydeinig safon aur. Dylem bob amser groesawu'r rhai sydd eisiau gwneud y glannau hyn yn gartref iddynt, ar yr amod eu bod yn gwneud cyfraniad net i gyllid cyhoeddus, yn cydymffurfio â gwerthoedd Prydeinig o ddemocratiaeth a chwarae teg, ac yn integreiddio i gymdeithas Prydain. Dyma beth mae pob dinesydd iawnfrydus yn ei gredu, ond trwy anwybyddu eu pryderon ynghylch mewnfudo rydym wedi caniatáu i'r dde eithafol fynd yn flin a diamynedd. Hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno polisïau mewnfudo synhwyrol, bydd y problemau hyn yn parhau i greu rhaniadau yn ein cymunedau.

Trwy wrthod cydsynio i'r Bil hwn, mae'r Senedd yn anfon neges glir i Lywodraeth y DU bod angen system fewnfudo sy'n gallu denu'r gorau a'r mwyaf disglair o bob cwr o'r byd, sy'n darparu rhwyd ddiogelwch i ffoaduriaid, ond hefyd yn gosod cyfyngiadau llym ar y nifer sy'n dod i mewn ac yn cyfrannu at ein cenedl. Os byddwch chi'n dod yma yn anghyfreithlon, byddwch yn cael eich anfon yn ôl—dyna'r math o Fil sydd ei angen arnom ac y byddwn yn cydsynio iddo. Diolch yn fawr.

Er ein bod yn croesawu'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yng nghymal 38 i ddiddymu rhai o elfennau mwyaf llym sy'n dad-ddyneiddio person yn y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, sydd, yn onest, yn sarhad i gyfrifoldebau'r Senedd hon i blant digwmni sy'n ceisio lloches ac i hawliau dynol yn gyffredinol, byddwn yn ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ar y sail nad yw'r Bil yn ei gyfanrwydd yn mynd yn ddigon pell i ddadwneud gwaddol gwenwynig Llywodraeth flaenorol y DU.

Fel y nodwyd gan gwmnïau fel Sefydliad Bevan a'r Consortiwm Plant Ffoaduriaid a Mudwyr, mae'r Bil yn cadw elfennau o Ddeddf Mudo Anghyfreithlon 2023 a Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 sy'n tanseilio hawliau ceiswyr lloches, gan gynnwys, o safbwynt Cymru, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r egwyddor gyffredinol o 'plentyn yn gyntaf, ymfudwr yn ail'. Yn wir, yn ei hymgais anobeithiol a gwrthgynhyrchiol i gyfethol trafodaethau'r dde eithafol, mae Llywodraeth bresennol y DU hefyd wedi cyflwyno trwy'r Bil hwn bwerau pellach a fydd yn gwaethygu, yn hytrach na dileu niwed yn y maes hwn, yn enwedig ehangu meini prawf ar gyfer troseddoli pobl nad oes ganddynt unrhyw gymorth i ddod o hyd i lwybrau lloches diogel.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei hymateb i ohebiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder ar y memorandwm cydsyniad ceddfwriaethol, wedi ailadrodd pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau nad yw darpariaethau hollol ddiraddiol y Ddeddf ar gyfer dulliau gwyddonol o asesu oedran wedi'u defnyddio yn ymarferol yng Nghymru eto, cyn belled â'u bod yn parhau ar y llyfr statud, maent yn fygythiad clir i urddas ceiswyr lloches a hawliau plant yng Nghymru.

Mae gennym amheuon hefyd ynglŷn â chymal 51. Ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd Cabinet, bod deddfu yn ôl-weithredol yn y modd hwn yn gosod cynsail cyfreithiol problematig iawn? Rydym hefyd yn credu'n gryf, o safbwynt ymarferol, bod rhoi ffioedd trydydd parti ar gyfer cael mynediad at wasanaethau, fel rhaglenni fisa a chenedligrwydd, mewn perygl o barhau'r broblem o ddyled ymhlith grŵp o bobl y mae eu hasedau personol, yn ddealladwy, eisoes yn ansicr. Diolch.

17:30
Member
Jane Hutt 17:31:11
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Diolch am eich cyfraniadau. A gaf i ymateb i Mike Hedges ynghylch cyfnewid gohebiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel y nodwyd ac a amlygwyd gennych, Mike Hedges, fel y Cadeirydd? Fel y dywedoch chi, roeddech chi'n gofyn pam na wnaethom geisio cydsyniad ar gyfer cymal 53 o'r Bil, ac ymatebais i ddweud, fel y gwnaethoch chi gydnabod, nad oedd wedi'i gynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gan ei fod yn bŵer cul, sydd wedi'i gyfyngu rhag gwneud diwygiadau angenrheidiol i'r ddeddfwriaeth bresennol o ganlyniad uniongyrchol i ddarpariaeth y Bil yn dod i rym. Bydd y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn perthynas â materion a gedwir yn ôl, gan fod mwyafrif y Bil y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol.

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith craffu? Fe wnaethon nhw osod eu hadroddiadau yn ôl ym mis Mai, ac argymhellodd y ddau bwyllgor y dylai'r Senedd roi cydsyniad ar gyfer cymalau 38 a 57, a dyna beth rwy'n canolbwyntio arno heddiw. Ac a gaf i ddweud, mewn ymateb i Altaf Hussain, ac yna ymateb i bwyntiau Sioned Williams hefyd—? Rwyf eisiau dweud, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fy mod yn croesawu diddymu'r darpariaethau yn y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, a oedd yn anghydnaws ag ymrwymiad Cymru i gynnal hawliau a lles pob plentyn, ac rwy'n canolbwyntio ar y ddwy adran hynny, fel y dywedais i.

Rwy'n credu bod y camau y byddwn yn eu cymryd heddiw, wrth gefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, yn gam cadarnhaol ac angenrheidiol tuag at adfer dull mwy tosturiol, sy'n canolbwyntio ar blentyn, o gefnogi plant digwmni, sy'n ceisio lloches. Rwy'n cytuno'n llwyr â Sioned Williams, a'r pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud, bod rhaid i blant gael eu trin bob amser fel plant yn gyntaf. Mae perygl i'r darpariaethau hyn wneud pobl ifanc agored i niwed yn achosion mewnfudo yn hytrach na'u hystyried yn unigolion sydd angen gofal a diogelwch a chefnogaeth. Ac rwy'n dweud eto, yng Nghymru, ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel, yn cael ei gefnogi, yn gallu ffynnu, yn unol â'n rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae hynny wedi ein hysgogi ni, o ran gwneud yr achos dros y memoranda cydsyniad ceddfwriaethol hyn hefyd. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod y darpariaethau sydd i'w diddymu yn tanseilio'n uniongyrchol bwerau datganoledig, yn eu tanseilio'n uniongyrchol, yn enwedig mewn perthynas â diogelu a gofalu am blant sy'n derbyn gofal. Dyna pryd wnaethon ni droi at ein deddfwriaeth. Mae gan awdurdodau lleol Cymru ddyletswyddau statudol clir ac, yn wir, fe wnaethom herio'r Bil Mudo Anghyfreithlon yn gryf, fel y cofiwch.

Felly, rwyf eisiau dweud yn olaf y byddwn yn parhau i fonitro deddfwriaeth mewnfudo'r DU, fel y dywedais mewn ymateb i'r pwyllgor, i sicrhau bod hawliau plant, mewn perthynas â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r Bil hwn, yn cael eu diogelu, a bod cyfrifoldebau datganoledig yn cael eu parchu.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?[Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill)

Eitem 11 sydd nesaf. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol unwaith eto—Jane Hutt—yn cyflwyno.

17:35

Cynnig NDM9013 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 17:35:05
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn gynnig y cynnig a diolch, i ddechrau, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am yr ystyriaeth y maent wedi'i rhoi i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill), ac am yr adroddiadau y maent wedi'u cyhoeddi.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi cytuno ag argymhellion Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad ar gyfer cymalau 1, 2, 5, 6 a 7—ac Atodlen 1—9, 10, 65, 66, 68 a 70, ac Atodlen 2, sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac y dylid eu hystyried gan Senedd y DU.

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth y DU o'r farn bod cymalau 1, 2, 7—ac Atodlen 1—9, 65, 66 a 70 ac Atodlen 2 yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r holl ddarpariaethau hynny yn y Bil, sy'n bodloni'r prawf yn Rheol Sefydlog 29. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn galluogi awdurdodau datganoledig Cymru i ofyn am arfer gallu ymchwilio arbenigol drwy Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus i adennill arian a gollwyd gan dwyll neu wall. Bydd y Bil yn rhoi manteision gwirioneddol i allu awdurdodau datganoledig Cymru i adennill arian cyhoeddus a gollwyd drwy dwyll neu wall. Bydd yn galluogi arian cyhoeddus a gollwyd yn flaenorol ac sydd ei angen yn fawr gael ei adennill a'i gyfeirio yn ôl at wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Bydd Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, gan weithredu ar ran Swyddfa Cabinet y DU, yn asesu ac yn blaenoriaethu ceisiadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr i ymchwilio i dwyll neu adennill arian cyhoeddus a gollwyd trwy wall, neu bydd yn gweithredu ar gyfarwyddyd y gweinidog i wneud hynny, pan fydd y Gweinidog o'r farn ei fod yn angenrheidiol er budd y cyhoedd. Bydd yr awdurdod yn gweithredu o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, ac mae ganddo'r un pwerau â'r heddlu i chwilio ac adennill, ond heb bŵer arestio.

Mae'r Bil yn creu pwerau ychwanegol i osod cosbau sifil am dwyll a phwerau adennill dyledion trwy fanciau a chyflogwyr. Yn y pen draw, disgwylir i'r ddeddfwriaeth wasanaethu fel ataliad i'r rhai sy'n cyflawni twyll, i gael arian cyhoeddus sy'n hanfodol i fynd i'r afael ag arferion diegwyddor a diogelu arian cyhoeddus. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y Bil yn darparu hawl i apelio yn erbyn cosbau sifil neu symiau adennill dyledion, yn ogystal â mesurau diogelu pwysig eraill. Gellir cynnal y gwaith o adfer arian dros gyfnod.

Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno, unwaith y bydd y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, y bydd yr awdurdod a Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu ag awdurdodau datganoledig Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu am geisiadau a wneir i'r awdurdod weithredu. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro effaith y ddeddfwriaeth yng Nghymru, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Bil hwn. Yn olaf, Llywydd, gan gydnabod pwysigrwydd y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar ddiogelu ac adennill arian cyhoeddus rhag twyll a gwallau yng Nghymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi cydsyniad iddo.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd ar dri o'r pedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill). Gyda'r pedwerydd memorandwm yn cael ei osod dim ond 11 diwrnod yn ôl, nid yw'r pwyllgor wedi cael digon o amser i fynd drwyddo'n drylwyr, i ystyried y materion ac adrodd i'r Senedd.

Yn ystod y ddadl flaenorol ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, dywedais fod y pwyllgor wedi cwestiynu asesiad Llywodraeth Cymru o ba gymal yn y Bil hwnnw a sbardunodd ofyniad Rheol Sefydlog 29, gan ei fod yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â materion datganoledig. Mae'r pwyllgor wedi gwneud yr un peth gyda'r Bil hwn.

Ysgrifennodd y pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am eglurder ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad mai dim ond rhai cymalau yn Rhan 1 o'r Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac nad yw eraill yn gwneud hynny. Ymddengys i'r pwyllgor y gallai'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet ddefnyddio unrhyw un o'r pwerau datganoledig yn Rhan 1 o'r Bil ar ran awdurdod datganoledig yng Nghymru. Fel enghraifft ar gyfer Aelodau, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 7 o'r Bil, sy'n caniatáu i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet ddefnyddio pwerau yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 i ymchwilio i dwyll a amheuir yn erbyn awdurdodau cyhoeddus. Felly, pam nad oes angen cydsyniad hefyd ar gyfer cymal 3, sy'n caniatáu i'r Gweinidog hwnnw ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth at yr un diben?

Yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, gofynnon ni i'r Ysgrifennydd Cabinet roi rhesymeg fanwl ynghylch pam nad yw Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Rhan 1 o'r Bil yn ei chyfanrwydd, a gofynnom i'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio'n benodol pam y mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer cymal 7, ond nid cymal 3. Nid oedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i argymhelliad y pwyllgor yn darparu'r wybodaeth a fyddai'n arwain y pwyllgor i newid ei farn sef bod pob cymal yn Rhan 1 o'r Bil yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â materion datganoledig ac, o'r herwydd, dylid ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Rhan 1 yn ei chyfanrwydd. Ar ben hynny, yn ail adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nodwyd ein siom nad oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ateb ein cais i esbonio pam y ceisir cydsyniad ar gyfer cymal 7 ond nid ar gyfer cymal 3, o ystyried bod y ddau yn caniatáu i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu'r wybodaeth at yr un diben i ymchwilio i dwyll a amheuir yn erbyn awdurdod cyhoeddus.

Yn olaf, mewn perthynas â phwerau dirprwyedig yn y Bil, yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, fe wnaethom nodi, er nad yw'r Bil hwn yn rhoi unrhyw bwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru, mae Rhan 1 o'r Bil yn rhoi nifer o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet  weithredu mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys tri o bwerau Harri'r Wythfed. Gofynnodd y pwyllgor i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro a oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am bwerau yn y Bil ar gyfer Gweinidogion Cymru sy'n cyfateb i'r rhai a ddirprwywyd i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet er mwyn iddynt allu gweithredu mewn meysydd datganoledig. Fel y nodwyd yn ail adroddiad y pwyllgor, nid oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am bwerau o'r fath yn y Bil, ac mae'r cyfiawnhad llawn dros y penderfyniad hwn wedi'i nodi yn ein hadroddiad.

17:40

Tra ein bod ni'n amlwg yn gefnogol iawn o ymdrechion i fynd i'r afael â thwyll yn nefnydd adnodau cyhoeddus, ymatal byddwn ni ar y cynnig yma heddiw, a'r rheswm am hyn yw nad ydyn ni'n fodlon gydag esboniad Ysgrifennydd y Cabinet am beidio â gofyn am bwerau perthnasol cyfatebol i Gymru. Tra fy mod yn cydnabod y manteision o gael mynediad at wasanaethau'r PFSA o ran capasiti ac arbenigedd, ac yn sicr dwi'n meddwl y dylai ein sefydliadau cyhoeddus fod yn gweithio'n ofalus gyda nhw pa fo angen, o ran egwyddor, rŷn ni'n credu'n gryf y dylai Cymru fod yn gallu cynnal ymchwiliadau ein hunain er mwyn sicrhau'r safonau uchaf o ran atebolrwydd, uniondeb a chywirdeb yn ein sefydliadau datganoledig. Byddai trefniant o'r fath hefyd yn caniatáu bod mwy o'r arian sy'n cael ei adennill o ganlyniad i ymchwiliadau yn medru aros yng Nghymru, yn hytrach na'r sefyllfa a awgrymir fan hyn ble fydd cyfran, o reidrwydd, angen mynd tuag at y PFSA.       

Rŷn ni hefyd yn cytuno gyda barn y pwyllgor deddfwriaethol fod pob cymal yn Rhan 1 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi sylw i faterion datganoledig, ac felly mae’n resyn nad yw’r cynnig yn adlewyrchu hyn. Yn hyn o beth, mae'n rhaid cadw mewn cof, bob tro rŷn ni'n ystyried caniatáu pwerau i San Steffan fedru ymyrryd mewn meysydd datganoledig, y posibilrwydd cryf iawn y gallai plaid sy'n gwbl wrthwynebus i ddatganoli a democratiaeth Cymru arwain Llywodraeth nesaf y Deyrnas Gyfunol. Fel mae fy nghydweithiwr Adam Price wedi sôn o’r blaen, dyma'r prawf sylfaenol y dylwn ni fod yn ystyried wrth drafod cydsyniadau deddfwriaethol o’r fath, a dyw Plaid Cymru ddim yn hollol argyhoeddedig bod y cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw yn darparu digon o amddiffyniad yn erbyn y bygythiad real iawn yma. Diolch.

Member
Jane Hutt 17:43:24
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr i chi i gyd.

Diolch am y cyfraniadau hynny. Diolch, unwaith eto, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am fynegi ac ailadrodd y pwyntiau hynny a godoch chi gyda ni o ran ein bod yn ystyried y ddeddfwriaeth hon a'n rhan ni ynddi mewn perthynas â chynnig cydsyniad deddfwriaethol. Dim ond, eto, i ailfynegi ac ailadrodd, efallai, yr ymateb pwysig i'r cwestiynau a godwyd gan Sioned Williams hefyd, rydym ni'n cefnogi'r Bil hwn oherwydd bod y darpariaethau yn y Bil yn gyson â'n pwyslais ar ddiogelu arian cyhoeddus. Rwy'n cydnabod eich bod hefyd yn rhannu'r gydnabyddiaeth honno bod angen i ni ddiogelu arian cyhoeddus. Mae'n cyd-fynd yn fawr â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n cefnogi Cymru lewyrchus, yn helpu i ddiogelu arian cyhoeddus, i warchod arian cyhoeddus, cefnogi pob un o'n cyrff cyhoeddus a gwmpesir gan y Ddeddf, o lywodraeth ganolog i awdurdodau lleol, ac i atal twyll ac adennill arian rhag twyll a/neu gamgymeriad.

O ran yr hyn y byddem yn ei wneud yn wahanol pe bai'n Fil y Senedd, sy'n gwestiwn cwbl berthnasol ac mae'n iawn craffu ar yr agwedd honno o hyn, wel, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhannu'r un nodau o ran atal twyll a chamgymeriadau o fewn awdurdodau cyhoeddus, ymchwilio ac adennill arian cyhoeddus drwy dwyll a chamgymeriad, ond nid yw atal, canfod ac ymchwilio i droseddu yn faes datganoledig yng Nghymru, nid oes gennym ni Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, ac mae rhai o'r cymalau yn y Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd, ond mae hyn oherwydd eu heffaith ar awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'n hanfodol ein bod ni yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran y materion hynny a gedwir yn ôl i sicrhau bod y Bil yn cyflawni yn unol â'n blaenoriaethau, ac am y rheswm hwnnw, Llywydd, diolchaf hefyd i'r pwyllgorau unwaith eto am ystyried y memorandwm a gofynnaf i'r Aelodau ymuno â mi i gefnogi'r Bil hwn a chydsynio.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2024-25

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 12 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2024-25 yw hwn. Yr Ysgrifennydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma—Jane Hutt.

Cynnig NDM9012 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd Plant Cymru.

Anfonwyd copi o'r adroddiad drwy e-bost at Aelodau'r Senedd ar 14 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 17:46:19
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gyflwyno ein dadl flynyddol ar adroddiad y comisiynydd plant. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgorffori hawliau plant yn y gyfraith yn 2011, ac mae'n bwysig myfyrio ar y datblygiad hynod bwysig hwnnw. Ni oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu swyddfa'r comisiynydd plant; mewn gwirionedd, roeddwn yn falch iawn o fod wedi arwain y gwaith o recriwtio Comisiynydd Plant cyntaf Cymru yn ôl yn 2001, pan oeddwn yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y recriwtio hwnnw'n cynnwys rhoi lle i blant a phobl ifanc yn y penodiad, datblygiad arloesol ar y pryd, ac nid oedd erioed wedi'i wneud o'r blaen. Nawr, mae mor dda, mae'n arfer gyffredin.

Mae'n rhaid i ni gydnabod, ac yn sicr yn y ddadl hon, bod y comisiynydd yn darparu eiriolwr cryf, annibynnol i'n plant sy'n gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Rydym ni wedi gweld hyn dros y blynyddoedd ers penodi comisiynydd annibynnol. Rydym ni eisiau Cymru i'n holl blant, lle gwych i gael eu magu, byw, gweithio, nawr ac yn y dyfodol. Dyma ein huchelgais dros blant Cymru, ac mae'r mesurau rydym ni wedi'u cymryd yn dangos ein hymrwymiad.

Gadewch i ni ddim ond edrych ar rai o'r ymrwymiadau rydym ni wedi'u gwneud dros y blynyddoedd. Rydym ni wedi rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Rydym ni wedi ymestyn hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, ac rydym ni wedi cyflwyno'r Cwricwlwm arloesol i Gymru. Mae'r cynnig gofal plant i Gymru yn parhau i gefnogi teuluoedd plant tair a phedair oed, nid yn unig yn ystod y tymor ond drwy gydol gwyliau'r ysgol. Ers 2022, ac, yn unol â'n hymrwymiad rhaglen lywodraethol, rydym ni wedi ehangu'r cynnig i rieni sy'n ceisio gwella eu rhagolygon trwy addysg bellach ac uwch.

Rydym ni wedi ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy a thair oed. Mae mwy na 10,000 o blant eisoes wedi elwa, ac mae ein hymrwymiad i gyflwyno gofal plant Dechrau'n Deg i bob plentyn dwy oed yn mynd rhagddo'n dda ledled Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion oedran cynradd ledled Cymru, gan gyrraedd y garreg filltir yn ddiweddar o weini 52 miliwn o brydau am ddim. Cymru yw'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig i ddarparu pryd iach am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.

Bydd ein cynllun peilot tocynnau bws am £1 i bobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc 16 i 21 oed. Mae dros 28,000 eisoes wedi cofrestru. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer addysg, gwaith a hamdden, a byddwn yn ymestyn y cynnig i blant pump i 15 oed ym mis Tachwedd.

Rydym ni wedi gweithredu ar bryderon y comisiynydd am blant sy'n defnyddio fêps trwy roi ein cefnogaeth i'r Bil Tybaco a Fêps, a chyn bo hir byddwn yn cyflwyno offeryn ymyrraeth, Vape Aware, i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n defnyddio fêps yn rheolaidd. Ac yn olaf, ond yn sicr nid yn lleiaf, fe wnaethom ni basio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, gan ddod y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddeddfu i roi terfyn ar elw mewn gofal preswyl a maethu plant.

Un o'r agweddau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd sydd gryfaf yn fy nhyb i yw bod ei hargymhellion yn adlewyrchu'r hyn y mae plant yng Nghymru wedi'i ddweud. Plant yw'r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain; mae eu safbwyntiau yn cyfoethogi ac yn sail i sut rydym ni'n mynd ati, gan iddyn nhw ddylanwadu ar sut yr aeth y comisiynydd ei hun ati. Ym mis Chwefror, mynychais fforwm ar-lein i bobl ifanc gyda phlant o bob cwr o Gymru, a thrafodwyd effaith digwyddiadau ofnadwy trychineb Southport 2024 ac anhrefn dilynol yr haf, a sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto. Ym mis Mawrth, fe wnes i gyfarfod ag aelodau Cymru Ifanc i drafod eu pryderon am dlodi plant, cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid, a chefnogaeth i bobl ifanc LHDTC mewn ardaloedd gwledig—maen nhw'n yn codi'r materion hyn gyda mi; rydym ni'n eu trafod. Ym mis Mai, ynghyd â nifer o gyd-Aelodau yn y Cabinet, mynychais yr uwchgynhadledd profiad gofal dan arweiniad plant. Mae'r plant yn dewis beth mae nhw eisiau siarad â Gweinidogion amdano ac rydym yn elwa o'u profiad a'u barn. Maen nhw'n ein helpu ni, Gweinidogion Cymru, i ddeall sut beth yw bod mewn gofal a beth sy'n bwysig iddyn nhw, sy'n golygu y gallwn ni wneud penderfyniadau gwell am wasanaethau iddyn nhw.

Fel rhan o'r adroddiad cynnydd ar gyfer ein strategaeth tlodi plant, comisiynais ymarfer i gasglu tystiolaeth yn benodol gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, i wrando ar eu profiadau a darganfod beth mae ein hymyriadau wedi'i olygu iddyn nhw. Fel erioed, mae argymhellion y comisiynydd eleni yn adlewyrchu ehangder y polisïau rydym ni'n eu datblygu er budd plant. Mae nifer o'r rhain yn dod o fewn fy mhortffolio fy hun. Mae'r comisiynydd wedi galw am daliadau ariannol uniongyrchol i blant mewn aelwydydd incwm isel sy'n wynebu'r tlodi mwyaf, yn debyg i daliad plant yr Alban. Er nad oes gennym ni'r cymhwysedd i ddeddfu ar gyfer y math hwn o gynllun, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban i ddeall sut maen nhw'n gweithredu. Fodd bynnag, yn bwysig, mae'n rhaid i ni edrych ar beth yw ein pwerau a'r hyn y gallwn ni ei wneud, ac rydym ni eisoes yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i blant trwy brydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol a'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn ogystal â budd-daliadau i deuluoedd mewn tlodi.

Mae'r comisiynydd yn ein herio i weithredu ynghynt ar gofrestru teuluoedd yn awtomatig i'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw. Mae creu system fudd-daliadau gydlynol i Gymru yn uchelgais i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o ddweud bod siarter budd-daliadau Cymru wedi'i mabwysiadu gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gadarnhau'r ymrwymiad ar y cyd i'w gwneud hi'n haws i bobl ledled Cymru gael cymorth ariannol, ac rydym ni'n rhoi'r uchelgais hon ar waith.

Mae'r comisiynydd yn argymell mecanwaith newydd i bobl ifanc all gyfrannu'n ffurfiol i strwythur llywodraethu 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwnnw yn fawr. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda thîm y comisiynydd i ddatblygu'r strwythur newydd hwn. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn ystyried yr argymhellion y comisiynydd sy'n ymwneud â'u hardaloedd nhw. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a sicrhau ein bod i gyd yn canolbwyntio ar hawliau plant yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar adroddiad blynyddol y comisiynydd. Diolch yn fawr.

17:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a Sioned Williams sy'n cynnig gwelliant 1. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi galwad y Comisiynydd am gymorth ariannol uniongyrchol i blant mewn tlodi dwys, gan gynnwys taliad plant i Gymru, ar sail model yr Alban.

Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno taliad o’r fath.

Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynigion Plaid Cymru i’w gyflwyno.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd plant am ei hadroddiad ac am ei ffocws clir a diwyro ar gyfrifoldeb y Llywodraeth i wella bywydau plant Cymru, a'i galwadau clir hi am weithredu ar hyn.

Mae ein gwelliant ni heddiw yn ymwneud yn benodol â galwad y comisiynydd ar y Llywodraeth i gyflwyno taliad plentyn uniongyrchol, yn unol â'r hyn rŷn ni wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn ei weithredu, er mwyn ceisio gwneud popeth posib i atal y bron i draean o blant Cymru sy'n byw mewn tlodi rhag profi ei effaith niweidiol.

Yn ei hadroddiad, mae'r comisiynydd yn tanlinellu unwaith eto y dystiolaeth y mae ei swyddfa wedi ei chyflwyno i'r Llywodraeth gan blant a phobl ifanc ar effaith tlodi, y dystiolaeth yn dangos bod 45 y cant o blant rhwng saith ac 11 oed yn poeni ynglŷn â chael digon o fwyd—45 y cant. Mae'n gwbl dorcalonnus ac yn gwbl annerbyniol. Os na welwn ni weithredu brys, effeithiol, bydd Cymru yn gweld y lefel uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Gyfunol. 

Mae'r comisiynydd wedi dweud y byddai taliad plant Cymreig yn null Llywodraeth yr Alban yn ffordd syml ac effeithiol o sicrhau bod arian ym mhocedi'r teuluoedd hynny sydd ei angen fwyaf—mesur y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sy'n cynnwys yr arbenigwyr ym maes tlodi plant fel Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant, NYAS Cymru, NSPCC Cymru, Oxfam Cymru, Achub y Plant Cymru, Cymdeithas y Plant, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a Trussel, yn ei gefnogi. Mae Sefydliad Bevan wedi dweud mai'r taliad plant fyddai'r polisi mwyaf effeithiol i daclo tlodi plant yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r arbenigwyr yma, ac yn adlewyrchu galwad y comisiynydd plant a barn yr holl arbenigwyr. Fel y gwnaethon ni dro ar ôl tro gyda chinio ysgol am ddim, rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi'r alwad yma. Rŷn ni'n gofyn eto heddiw iddynt ailfeddwl, ac i'r Senedd gyfan ddangos ffocws yr un mor glir â'r comisiynydd plant a phobl ifanc, sy'n dangos arweiniad mor gadarn a chroyw ar fater tlodi plant gyda'r alwad yma.

Rwy'n gwybod y bydd y Llywodraeth—. Maen nhw wedi dweud nad oes ganddyn nhw yr un grymoedd â'r Alban o ran cyflwyno'r math yma o daliad. Ond mae Plaid Cymru wedi dangos drwy ein cynllun ni, Cynnal, ar gyfer peilota taliad plentyn uniongyrchol, fod mwy y gellid ei wneud. Mae'r comisiynydd yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru archwilio pob mecanwaith posibl er mwyn gwneud taliadau ariannol uniongyrchol i blant mewn aelwydydd incwm isel sy’n wynebu’r tlodi dyfnaf. Felly, mi wnaethoch chi gyfeirio unwaith eto—a dwi wedi'ch clywed chi'n gwneud hynny sawl tro yn y Siambr—at y gwaith yma sy'n cael ei wneud ar y cyd, yn ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban, i'r perwyl yma. Pryd ydyn ni'n mynd i gael diweddariad—ac rwy'n gofyn, efallai, a gawn ni un heddiw—ar y gwaith yma? Yn bwysicach fyth, pryd welwn ni weithredu? 

Ydych chi, fel Llywodraeth, yn galw ar eich partneriaid Llafur yn San Steffan i gefnogi'r gwaith? Ydych chi'n gofyn am bwerau ychwanegol er mwyn medru gwneud y fath beth? Os ddim, pam ddim? Mae iechyd, hyd oes, cyrhaeddiad addysgol a lles gormod o blant dan fygythiad, a hynny ers 20 mlynedd nawr yng Nghymru. Mae'r pris yma yn un sy'n rhy ddrud. Ein plant yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, ac rwy'n gofyn i bawb sy'n cytuno i gefnogi ein gwelliant. Diolch.

17:55

Fe hoffwn i ddechrau trwy fynegi fy niolchgarwch am yr ymdrechion sylweddol a wnaed i gryfhau hawliau plant ym maes y gyfraith, polisi, addysg a gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n talu teyrnged i'r comisiynydd plant am eu hymroddiad i'r achos hwn. Mae llawer yn yr adroddiad y dylai Cymru ymfalchïo ynddo. Rydym ni'n gweld tystiolaeth o gydnabyddiaeth gynyddol o blant fel rhai â hawliau ganddyn nhw. Rydym ni'n gweld gwelliannau mewn cymorth iechyd meddwl ac mewn mynediad at addysg i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Am yr ymdrechion hyn, mae'r rhai sy'n rhan o hyn yn haeddu ein diolch.

Fodd bynnag, ni ddylid camgymryd cynnydd am gwblhau. Nid yw hawliau a ddatganwyd ar bapur bob amser yn golygu diogelwch mewn gwirionedd. Er bod yr adroddiad yn mynd i'r afael â nifer o faterion pwysig, mae'n methu â rhoi sylw i'r bygythiad real iawn i ddiogelu plant. Nid yw diogelu yn ymwneud â systemau a fframweithiau yn unig; mae'n ymwneud â dewrder. Ni allwn ni amddiffyn ein plant yn iawn heb gydnabod y gwirioneddau anghyfforddus sy'n bygwth eu diogelwch bob dydd. Mae'n hanfodol ein bod yn wynebu, yn agored ac ar frys, fodolaeth y gangiau cyfundrefnol yn ein cymunedau sy'n meithrin perthnasau amhriodol â phlant, realiti brawychus nad yw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf pryderon parhaus a godwyd gan gyd-Aelodau yma, wedi rhoi sylw digonol iddo. Ni allwn ni adeiladu cymdeithas wirioneddol ddiogel trwy siarad am bolisi yn unig ond gan fethu â siarad am y rhai sy'n camfanteisio.

Er bod pwerau cyfreithiol y comisiynydd plant wedi arwain at newidiadau polisi ac adolygiad o fewn awdurdodau lleol, mae'n rhaid i ni gydnabod, yn drasig, bod cam-drin yn aml wedi cael ei gyflawni gan y rhai mewn swyddi lle mae ymddiried mawr ynddyn nhw: clerigwyr, athrawon, arweinwyr ieuenctid a ffigurau eraill mewn awdurdod. Er mwyn dechrau mynd i'r afael â hyn yn llawn, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion diogelu'r comisiynydd a chynnal asesiad brys o'r sefyllfa sydd ohoni o ran diogelu.

Rwy'n ymwybodol bod y materion hyn yn anodd eu crybwyll, ond, yn unol â gwerthoedd y comisiynydd plant, rhaid i ni fod yn onest, oherwydd os ydym ni'n gwrthod siarad am y bygythiadau hyn, yna rydym ni'n gwarafun i blant yr amddiffyniad y maen nhw'n ei haeddu. Felly, er fy mod i'n canmol yr adroddiad a'r cynnydd, mae'n rhaid i mi annog y Siambr hon, Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff cyfrifol i fynd ymhellach. Rhaid i ni gryfhau goruchwyliaeth ymchwiliol. Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru fawr o oruchwyliaeth wirioneddol o'r sefydliadau ffydd a gwirfoddol. Mae clybiau chwaraeon, clybiau preifat a grwpiau anffurfiol yn gweithredu heb eu gwirio i raddau helaeth, ac nid oes gan fyrddau diogelu rhanbarthol unrhyw rym i orfodi safonau yn y lleoliadau hyn.

Rhaid i ni hefyd wella tryloywder data. Er gwaethaf y mesurau diogelu sydd ar waith, mae data ar blant sy'n cael eu cam-drin yng Nghymru wedi bod yn dameidiog ac yn anhryloyw. Mae adrodd amlasiantaeth yn anghyson. Mae sefydliadau anstatudol yn anweledig i raddau helaeth mewn cofnodion swyddogol, ac anaml y caiff y canlyniadau i blant eu holrhain. Mae'r diffyg tryloywder hwn yn rhwystro atebolrwydd, yn cuddio bygythiadau sy'n dod i'r amlwg ac yn gadael plant mewn perygl.

Fel y mae'r comisiynydd plant yn nodi, mae pobl ifanc yn rhoi gwerth mawr ar fannau cymunedol hygyrch a diogel, yn enwedig ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Pan fydd pobl ifanc yn dweud wrthym ni eu bod yn teimlo'n anniogel ar-lein, ar y strydoedd neu hyd yn oed mewn llefydd a ddylai fod yn noddfeydd, mae gennym ni ddyletswydd nid yn unig i'w clywed, ond i weithredu. Mae Llywodraeth Cymru, rwy'n ofni, yn ymwneud mwy â rhethreg na chanlyniadau. Felly, ie, gadewch i ni nodi'r cynnydd a wnaed, ond gadewch i ni hefyd wneud hyn yn glir: nid yw hawliau plant yn cael eu gwireddu yn unig trwy gael eu hysgrifennu mewn adroddiadau, maen nhw'n yn cael eu gwireddu pan all pob plentyn yng Nghymru fyw heb ofn, heb wynebu camfanteisio a heb ofni niwed. Dyna'r safon y mae'n rhaid i ni ei osod. Dyna'r addewid y mae'n rhaid i ni ei gadw. Diolch yn fawr.

18:00

Buffy Williams, yn siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru a'i thîm am adroddiad craff arall. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud a'r heriau sy'n dal i wynebu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at archwilio'r rhain yn fanylach pan ddaw'r comisiynydd i'r pwyllgor ym mis Tachwedd.

Drwy gydol y Senedd hon, mae ein pwyllgor wedi rhannu uchelgais y comisiynydd i wneud lleisiau plant yn ganolog i'r ffordd y mae Cymru'n llunio polisïau ac yn darparu gwasanaethau. Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos pa mor bwerus y gall y dull hwnnw fod, gan droi profiadau plant yn newid go iawn. Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi'r berthynas gref ac adeiladol sydd gennym ni gyda'r comisiynydd a'i thîm. Mae'r dystiolaeth rydym ni'n ei chlywed ganddyn nhw yn y pwyllgor bob amser wedi'i seilio ar brofiadau byw plant a theuluoedd, ac mae'n ein helpu i gloriannu a yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn bodloni eu hanghenion mewn gwirionedd. Y blaenoriaethau y mae'r comisiynydd yn eu gosod—cydraddoldeb, mynd i'r afael â thlodi a gwella iechyd meddwl—yw'r union themâu rydym ni wedi'u gweld yn adleisio yn ein gwaith ein hunain.

Yn ein hadroddiad, 'Os nad nawr, pryd?', fe wnaethom ni alw am ddiwygio radical i gefnogi plant sydd â phrofiad o ofal, ac yn un o'n hadroddiadau mwy diweddar, 'Oes gan blant a phobl ifanc anabl fynediad cyfartal at addysg a gofal plant'?, fe glywsom ni'n uniongyrchol gan deuluoedd am y rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu bob dydd. Mae'r ddau adroddiad yn tynnu sylw at yr hyn y mae gwaith y comisiynydd yn ei wneud yn glir: sef, yn rhy aml, mae mynediad at hawliau yn dal i ddibynnu ar ble mae plentyn yn byw neu pa mor dda y gall eu teulu ymladd drostyn nhw. Mae pwyslais y comisiynydd ar atebion ymarferol sy'n seiliedig ar hawliau yn un yr ydym ni'n ei gefnogi'n llawn. P'un a yw'n well data, atebolrwydd cryfach neu ymyrraeth gynharach, dyma'r camau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad. Fel pwyllgor, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r comisiynydd ac eraill i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei werthfawrogi a'i gefnogi i gyrraedd eu potensial llawn. Diolch.

Yn gyntaf, fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r comisiynydd plant am yr adroddiad blynyddol hwn. Roedd yn ddifyr iawn ei ddarllen. Fel y gwyddom ni, mae pynciau hanfodol wedi cael eu trafod yn yr adroddiad, gan gynnwys, fel y clywsom ni, iechyd meddwl, addysg ac anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â chydraddoldeb. Nodaf hefyd rai o'r ystadegau pryderus hynny a welwn ni yn ymwneud â thlodi plant, gyda 31 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Un o'r meysydd, fodd bynnag, a welais nad oedd yn yr adroddiad yw yn ymwneud â gordewdra plant. Roeddwn o leiaf yn gobeithio y byddwn i'n gweld hyn, efallai, yn adran 11, 'Beth nesaf i ni yn 2025-2026?' Canfu darn diweddar o waith gan fy mhwyllgor fy hun, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod 13.7 y cant o blant yn rhy dew ac 11.8 y cant yn ordew yn 2023-24. Mae hynny'n ystadegyn pryderus iawn, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yma yn cytuno. Mae'r un canfyddiadau yn awgrymu bod plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn dew a gordew. Fe wyddom ni nad oes gan fyrddau iechyd eisoes y ddarpariaeth i fynd i'r afael â gordewdra mewn plant, ond mae'r ystadegau hyn yn dangos bod yn rhaid i hyn newid. Mae gordewdra yn uniongyrchol gysylltiedig â thlodi plant, iechyd meddwl a lles, chwarae a gweithgareddau corfforol, ac, wrth gwrs, ansicrwydd bwyd. Mae'r rhain i gyd yn feysydd a nodwyd gan y comisiynydd, ond mae gordewdra ar goll a'r materion uniongyrchol sy'n gysylltiedig ag ef, fel diabetes mewn plant.

Rwy'n eiriolwr dros ddiogelwch bwyd yma yng Nghymru, ond hefyd dros sicrhau bod ein plant yn bwyta'r prydau cywir. Rhaid iddyn nhw fod yn faethlon ac yn werth eu bwyta. Rwy'n nodi bod y comisiynydd yn eirioli dros godi'r trothwy prydau ysgol am ddim, ond os yw'r prydau bwyd y mae ein plant yn eu derbyn wedi eu prosesu'n ddwys, wrth dicio blwch, maen nhw'n cyfrannu at y mater ehangach a welwn ni yma yng Nghymru. Mae gordewdra mewn plant yng Nghymru yn bryder iechyd cyhoeddus difrifol a chynyddol, gyda chyfraddau uwch na Lloegr a'r Alban os caiff ei fesur yn yr un modd. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi, ac efallai petai'r comisiynydd yn cynnwys y maes mewn adroddiadau yn y dyfodol byddai'n gymorth i wneud hyn. Diolch.

18:05

Mae Plaid Cymru yn croesawu adroddiad y comisiynydd plant ac yn diolch i'w thîm hefyd am ymgysylltu â dros 20,000 o blant ledled Cymru. Rhaid i'w lleisiau lunio ein blaenoriaethau addysg cenedlaethol. Mae'r adroddiad yn mynegi'r hyn sy'n wir am ein system addysg i ormod o ddysgwyr. Ystyriwch gwynion ysgolion: codwyd 83 achos mewn blwyddyn yn unig, a datgelodd chwarter ddiffygion difrifol. Mae dysgwyr yn wynebu rhwystrau ychwanegol o'i gymharu ag oedolion wrth geisio codi pryderon. Nawr, mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Mae pob disgybl yn haeddu proses deg, hygyrch pan fydd pethau'n mynd o'i le. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, weithio gyda'r comisiynydd i gael gwared ar rwystrau i blant.

Mae anghenion dysgu ychwanegol yn parhau i fod y maes pryder mwyaf mewn gwaith achos ym myd addysg. Mae teuluoedd yn dal i frwydro yn erbyn biwrocratiaeth i gael y gefnogaeth sydd ei angen ar eu plant. Nid yw'r addewid o ddiwygio yn dwyn ffrwyth ymarferol iddyn nhw. Nawr, mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am system addysg wirioneddol gynhwysol, ac rydym ni'n cefnogi galwad y comisiynydd am ganllawiau cliriach a gweithredu canfyddiadau gan Estyn, Archwilio Cymru a phwyllgorau'r Senedd ei hun yn llawn. Credwn y dylai pob athro a chynorthwyydd addysgu dderbyn hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol, a bod yn rhaid cymhwyso safonau cenedlaethol yn gyson i ddod â'r loteri cod post i ben o ran cefnogaeth.

Mae trefniadau teithio i ddysgwyr yn fater arall sy'n codi droeon. Mae plant yn colli'r ysgol oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r bws neu oherwydd bod gwasanaethau yn orlawn. Nawr, mae hynny'n rhwystr uniongyrchol i'w hawl i addysg. Mae Plaid Cymru hefyd yn cytuno bod yn rhaid i'r Bil bysiau fynd i'r afael yn benodol ag anghenion pobl ifanc a theithio i ddysgwyr. Rhaid i bolisi trafnidiaeth gefnogi presenoldeb, nid ei danseilio.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion yn ddarniog ac o dan straen. Mae pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd yn galw am ymyrraeth gynnar ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma. Mae Plaid Cymru yn cefnogi ymagwedd ysgol gyfan at les, gydag oedolion dibynadwy a mynediad clir at gymorth. Iechyd emosiynol yw, yn amlwg, y garreg sylfaen i brofiadau dysgu. Ac fel y mae fy nghyd-Aelod Sioned Williams eisoes wedi dweud y prynhawn yma, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar alwadau y comisiynydd plant a llawer o asiantaethau eraill hefyd ac i weithredu taliad plant yng Nghymru, oherwydd mae tlodi yn fater yn ymwneud â hawliau plant hefyd.

Ar ôl 25 mlynedd mewn grym, mae record Llafur yn glir. Mae'n ymwneud â rheoli tlodi, nid rhoi diwedd arno, a mygu potensial plant, nid eu cefnogi. Mae'r comisiynydd plant wedi galw am weithredu, ac mae Plaid Cymru yn barod i'w gyflawni. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn syml—codi safonau, rhyddhau potensial a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru trwy lythrennedd, cynhwysiant, lles a thegwch. Mae ein plant yn haeddu dim llai. Diolch.

18:10

Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw ac fe hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd plant am ei hadroddiad diweddaraf. Rwy'n credu bod swyddfa'r comisiynydd plant wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth i'r Senedd. Mae wedi sicrhau bod lle i lais plant yn cael ei glywed ym mholisi'r Llywodraeth, ac mae'n wych bod y comisiynydd yno yn gyfaill annibynnol, beirniadol i helpu i eiriol ar ran a gwella bywydau plant yng Nghymru.

Gwnaed argraff arnaf gan faint yr ymgynghoriad y mae Rocio wedi'i gynnal gyda phlant ledled Cymru—9,000 ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy ymgysylltu yn bersonol, a dros 20,000, fel y dywedodd Cefin Campbell, drwy arolwg misol am faterion penodol fel diodydd egni, toiledau ysgolion, tai, digartrefedd—a siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc am eu barn a sut maen nhw'n meddwl y dylai yr hyn a wnawn ni yma effeithio ar eu bywydau ac mae'r penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud yma yn hollol hanfodol.

Yn benodol, rwy'n falch iawn bod y comisiynydd wedi ymwneud â mater rhianta corfforaethol. Y plant sydd yn ein gofal—plant sydd â phrofiad o ofal—yw ein cyfrifoldeb ni a ni yw eu rhieni. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol hanfodol ein bod ni'n cymryd y ddyletswydd honno yn gwbl o ddifrif. Ni allwn ni fod â mwy o gyfrifoldeb fel corff na bod yn rhieni corfforaethol plant sydd â phrofiad o ofal. Rwy'n credu y bu gwaith y comisiynydd ar hyn yn gwbl amhrisiadwy, ac rwy'n falch iawn bod y comisiynydd wedi ymrwymo i weithredu cynllun gweithredu llawn i ymgorffori'r siarter yn ei gwaith. Nodaf fod y comisiynydd wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiadau o addewidion asiantaethau iechyd a chymdeithasau tai sy'n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys wrth osod a monitro camau gweithredu. Rwy'n gwybod ei bod hi'n bwysig iawn i'r siarter hon gael ymrwymiad cymaint o bobl a chymaint o gyrff â phosibl, ond rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol bod yn rhaid i ni edrych ar ansawdd yr addewidion hynny ac a yw'r plant a'r bobl ifanc wedi bod yn rhan ohono. Nid wyf yn gwybod a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth am hynny pan fydd hi'n ymateb, ond, yn amlwg, rwy'n credu bod hynny'n rhan allweddol o'r hyn rydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud i blant.

Fe hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i godi rhai o'r pethau unigryw rydym ni wedi'u gwneud yng Nghymru dros blant, gyda chymorth a chefnogaeth y comisiynydd plant presennol a blaenorol. Un o'r rhain, wrth gwrs, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhagymadrodd, oedd cyflwyno dileu amddiffyniad cosb resymol. Roedd yn anrhydedd mawr i mi fod yn rhan o hynny pan gefais y cyfrifoldeb yn y Cabinet, ac rwy'n falch iawn bod Dawn yma heddiw, sy'n parhau i wisgo'r fantell honno.

Fis diwethaf, roeddwn yn falch iawn o fynd i Ogledd Iwerddon gyda'r NSPCC oherwydd, yng Ngogledd Iwerddon, mae gwelliant wedi'i gyflwyno i Fil cyfiawnder troseddol i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol yno. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr dysgu am yr hyn yr oeddem ni wedi'i wneud yng Nghymru a sut lwyddon ni i basio'r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd. Roedd yn hollol wych rhannu ein profiadau yma ac adlewyrchu pa mor hanfodol oedd hi ein bod yn gweithio fel Llywodraeth ar y cyd â'r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid y trydydd sector i gyflawni'r hyn a oedd yn newid mawr wrth amddiffyn hawliau plant yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd rydym ni wedi bod yn radical iawn yn y Senedd hon, ac mae eraill yn edrych atom ni i weld beth allan nhw ei wneud a sut y gallan nhw ein dilyn ni. Roedd yn ymweliad gwych iawn, ac fe roddodd hyder mawr i chi am yr hyn y gallwn ni ei gyflawni yma.

Rwy'n gwybod ein bod yn aros am adroddiad annibynnol ar y tair blynedd y mae hyn wedi'i weithredu. Wrth gwrs, fe allwn ni ddweud ein bod ni'n meddwl ei fod yn mynd yn dda, oherwydd mae nifer yr achosion sydd wedi mynd i Wasanaeth Erlyn y Goron mewn gwirionedd yn llai na phump, am dair blynedd, felly ni ellir eu mesur hyd yn oed. Felly, yn sicr nid oes cynnydd mawr mewn troseddau o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Ond mae angen asesiad annibynnol arnom ni, oherwydd nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl rhoi unrhyw farn nes i ni gael hynny. Felly, nid wyf yn gwybod a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi unrhyw arwydd i ni o ran pryd y gallem ni gael yr asesiad annibynnol hwnnw.

Ac yna yn olaf, mae tynnu elw o wasanaethau plant yn rhywbeth a weithredwyd o ganlyniad i'r hyn yr oedd ar blant a phobl ifanc ei eisiau, nad oedden nhw am i'w hamgylchiadau penodol gael eu hecsbloetio mewn rhai achosion, byddech chi'n teimlo, gan elw. Rwy'n credu mai hyn, eto, oedd y peth iawn i'w wneud, lle mae Cymru'n arwain y ffordd, ac mae'r ddeddfwriaeth wedi ei gweithredu, a byddai'n wych cael adroddiad ynghylch sut mae'r sector yn symud tuag at beidio â chael unrhyw elw o ran darpariaeth plant—preswyl a maethu. Diolch.

18:15

Diolch i'r comisiynydd plant am yr adroddiad hwn. Mae'r adroddiad hwn yn waith darllen anodd, ac fe ddylai fod, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn mae plentyn yn cael ei siomi gan system sydd i fod i'w diogelu. Cymru bellach sydd â'r gyfradd tlodi plant fwyaf yn y Deyrnas Unedig: 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi cymharol, fel sydd eisoes wedi'i amlinellu heddiw. Nid yw hyn yn ddim llai na chywilydd cenedlaethol. Bob blwyddyn rydym ni'n clywed geiriau cysurus, ond does dim byd yn newid. Nid yw'n dosturiol parhau i ailadrodd methiant, ac mae Cymru'n sicr yn haeddu gwell.

Wrth ddarllen adroddiad y comisiynydd plant, mae'n amlwg iawn bod anghenion dysgu ychwanegol yn faes pwyslais allweddol ac yn faes allweddol y mae rhieni a phlant yn cysylltu â hi amdano, gyda 35 y cant ohono yn ymwneud ag addysg, ond 15 y cant yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol, a mynediad at gymorth priodol. Ni allaf gredu ein bod ni'n parhau i gael yr un sgyrsiau a bod pobl yn dal i sôn am yr un problemau.

'Bu teuluoedd yn gofyn am gyngor yn gyson ynghylch cwynion cysylltiedig â’r ysgol, gwaharddiadau, a’r ddarpariaeth ADY',

mae'n dweud.

Mae yna ran o'r adroddiad sy'n dweud:

'Roedd y sgyrsiau’n cynnwys themâu rydyn ni’n gwybod eu bod yn bresennol ar draws y wlad yn achos rhieni sy’n ceisio sicrhau addysg briodol i’w plant, gan gynnwys system y mae’n anodd cael hyd i ffordd drwyddi, cynnydd araf, a’r teimlad bod popeth yn frwydr.'

Nawr, nid wyf yn gwybod am bawb arall yn y Siambr hon, ond dyna fy mhrofiad i o ran gwaith achos, bod rhieni yn gweld popeth yn frwydr, dim ond i geisio cael yr addysg y mae eu plant yn ei haeddu.

Mae yna ychydig o broblemau o ran anghenion dysgu ychwanegol. Roedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn rhywbeth yr oeddem ni i gyd yn ei groesawu, ac mae croeso iddi, ond yr hyn rydym ni'n ei weld, yn anffodus, yw na sylwir ar yr anghenion dysgu ychwanegol llai dwys yn ein hysgolion. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn diarddel a gwahardd lle nad yw hi'n angenrheidiol gwneud hynny, ac nid dyna'r ymateb gofalgar, addysgedig i rywbeth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth. Pe bai'r athrawon wedi cael eu hyfforddi yn y ffordd iawn i ymdrin â'r anghenion dysgu ychwanegol llai dwys, yna ni fyddai'r achosion hynny o ddiarddel a gwahardd ac addysg y plentyn hwnnw yn cael ei effeithio yn y ffordd y gwelsom ni. Rydw i wedi cael plant a rhieni yn crio wrtha i am eisiau bod yn yr ysgol, ddim eisiau cael eu gweld fel eu bod yn camymddwyn, ond dim ond oherwydd nad oedden nhw'n gallu rheoli eu hunain yn yr ystafell ddosbarth, gweiddi a dim ond bod yn aflonyddgar, ac nid oeddent yn cael eu trin yn y ffordd iawn, a oedd yn ei gwneud hi'n waeth ac yn waeth ac yn waeth, ac yna byddent yn ofni mynd i'r ysgol, a byddai'r ymddygiad yn mynd allan o reolaeth. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Mae hyfforddiant athrawon ar anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth fawr iawn a dylai fod yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arno.

Problem arall sydd gennym ni, wrth gwrs, yw bod ysgolion arbennig yn llawn, ac mae gennym ni fwy o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ein haddysg brif ffrwd nawr, sydd, unwaith eto, yn dod â'r un problemau. Nid yw athrawon yn barod i ymdopi â'r gofynion hynny yn yr ysgol gynradd neu uwchradd, ac nid oes digon o gynorthwywyr addysgu a staff hyfforddedig i allu eu helpu i ymdrin â'r myfyrwyr a'r disgyblion unigol hynny, ond hefyd i allu helpu, fel nad yw addysg y dosbarth cyfan yn cael ei effeithio—rhywbeth y mae athrawon a disgyblion a rhieni i gyd yn dymuno gweld newid yn ei gylch.

Mae'n gwbl glir, fel y mae'r adroddiad yn amlinellu, bod angen mwy o adnoddau, fel bod gan bob dysgwr yr hawl honno i addysg weddus a'r addysg orau y gallant ei chael yng Nghymru. Mae'n amlwg nad yw deddfwriaeth wedi llwyddo i leihau'r fiwrocratiaeth na'r rhwystrau y mae'n rhaid i deuluoedd ymrafael â nhw er mwyn cael yr help sydd ei angen ar y plentyn hwnnw i gyflawni eu potensial llawn. Yn ymarferol, mae'n ymddangos—ac ysgwn i a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi—bod angen dull mwy effeithiol a phenodol o ddyrannu adnoddau yn seiliedig ar anghenion unigol plant, yn ogystal â mwy o gynorthwywyr addysgu, yn ogystal â mwy o aelodau staff, a mwy o hyfforddi athrawon, er mwyn sicrhau bod ein holl blant yng Nghymru yn cael yr addysg y maen nhw'n ei haeddu ac nid ydym yn gweld y gwaharddiadau hynny dim ond oherwydd nad yw athrawon yn gwybod sut arall i ymdopi â'r plant hynny. Diolch.

18:20

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 18:21:15
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, pawb.

Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Eleni, aeth Prif Weinidog Cymru gyda'r comisiynydd plant wrth iddi lansio'r adroddiad blynyddol yn ei swyddfeydd ym Mhort Talbot a manteisiodd ein Prif Weinidog ar y cyfle i siarad â phlant o ysgolion lleol am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Ac fe ddywedon nhw wrthi mai eu blaenoriaethau oedd iechyd meddwl, lles a thrafnidiaeth. Wel, rydym ni wedi crybwyll yr holl bryderon hynny heddiw, sydd, wrth gwrs, hefyd yn ffurfio llawer o argymhellion y comisiynydd plant, ac maen nhw'n feysydd lle rydym ni wedi gweithio'n galed i wrando arnyn nhw ac i ymateb i'r hyn y mae plant yn dweud wrthym ni sydd eu hangen arnyn nhw. Ac a gaf i hefyd rannu gydag Aelodau eraill heddiw ein cydnabyddiaeth o'r ffordd y mae'r comisiynydd plant yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, gan lywio ei hargymhellion yn yr adroddiad blynyddol pwysig iawn hwn?

Felly, mae'r Aelodau wedi nodi a chanolbwyntio ar lawer o faterion, ac rwy'n diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac, yn wir, i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, am eu cyfraniadau heddiw. Ond fe hoffwn i ddechrau drwy ganolbwyntio ar y ffaith ein bod ni wir yn gorfod—fel rydyn ni'n parhau i orfod gwneud—mynd i'r afael â'r ffaith bod gormod o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae graddfa'r her yn sylweddol, ond rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â hyn.

Mae ein strategaeth tlodi plant, yr ydym ni'n mynd i adrodd ar gynnydd arni yn ddiweddarach yn y tymor hwn, yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy, yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid. Y peth allweddol yw defnyddio'r grymoedd sydd gennym ni—gan ddefnyddio'r grymoedd sydd gennym ni ar hyn o bryd—i gefnogi plant a'u teuluoedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol edrych ar adroddiad Sefydliad Bevan a Policy in Practice o ran beth yw'r grymoedd y gallwn eu defnyddio i fynd i'r afael â thlodi plant. Ac, yn yr adroddiad hwnnw, fe ddywedon nhw fod tair neges bwysig. Nid oes un mesur unigol sy'n rhoi terfyn ar dlodi; mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael iddi os yw am wneud cynnydd. Ac, yn ail, dim ond os cymerir camau i gael gwared ar rwystrau i waith ac i roi hwb i nawdd cymdeithasol y mae'n bosibl. Mae canolbwyntio ar un neu'r llall ar draul y llall yn annhebygol o fod yn effeithiol.

Felly, roeddwn i eisiau dweud, ar goedd eto, o ran y newidiadau sydd eu hangen arnom ni i bolisïau nawdd cymdeithasol o ran mynd i'r afael â thlodi plant—dweud ar goedd eto—yr wyf wedi'u codi'n gyson gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, drwy ein hymgysylltiad â strategaeth tlodi plant y Deyrnas Unedig, ac yn ehangach gyda'r grŵp cyfeirio Dileu Tlodi Plant yng Nghymru, rwyf wedi galw'n gyson, fel y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud hefyd, am ddiwedd y cap budd-daliadau a'r terfyn dau blentyn, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n dweud hynny ar y cofnod heddiw.

Rwyf eisoes wedi ymateb i'r pwynt am y ffaith nad oes gennym ni bwerau datganoledig i ddeddfu ar gyfer cynllun tebyg i un taliad plant yr Alban. Ond fe hoffwn i ddweud, eto, mewn ymateb i'r argymhelliad ac i'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau'r Senedd, a Phlaid Cymru yn arbennig, ein bod yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud gyda'u taliad plant. Rydym ni'n trafod â nhw i ddeall yn well yr adnoddau cyllidol, deddfwriaethol ac adnoddau eraill y byddai eu hangen i wneud taliad o'r math hwn, ond rydym ni hefyd wedi comisiynu ymchwil i archwilio'r seilwaith sydd ei angen i ddatganoli gweinyddu lles a nodi'r elfennau o'r system nawdd cymdeithasol a gedwir yn ôl y gallai Llywodraeth Cymru ei gweinyddu.

Mae llawer o bwyntiau pwysig wedi'u gwneud hyd yn hyn—

18:25

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A allwch chi roi mwy o fanylion i ni, oherwydd rwyf wedi eich clywed chi, sawl gwaith, yn cyfeirio at yr ymchwil honno ac yn cyfeirio at yr ymgysylltiad hwnnw â Llywodraeth yr Alban? Felly, pryd ydych chi'n disgwyl i'r ymchwil honno gael ei chyhoeddi ac y byddwch chi wedyn yn ymateb iddi? A hefyd, beth yw canlyniad yr ymgysylltiad hwnnw? Pryd fyddwn ni'n gweld unrhyw ganlyniad i'r ymgysylltiad hwnnw?

Wel, byddaf yn hapus iawn i adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r ymchwil rydym ni wedi'i gomisiynu, yn enwedig ar y pwyntiau hynny am y seilwaith. Rwy'n credu, wrth gwrs, ei bod wedi cael ei gydnabod, ac y cafodd ei gydnabod gan Sefydliad Bevan a Policy in Practice, nad yw Cymru wedi cael yr un pwerau nawdd cymdeithasol â'r Alban, ac nid yw'n glir a allai Llywodraeth Cymru gyflwyno taliad plant tebyg o dan ei phwerau datganoledig. Nid fi sy'n dweud hynny, ond Policy in Practice a Sefydliad Bevan, felly mae'n rhaid i ni edrych ar hynny'n ofalus. 

Fe hoffwn i edrych ar rai o'r pwyntiau allweddol eraill sydd wedi'u gwneud. Mae argymhellion pwysig iawn, yn enwedig yn canolbwyntio ar y siarter rhianta corfforaethol, a gododd Julie Morgan, i ddweud ein bod yn cryfhau'r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol trwy bennod benodol ar rianta corfforaethol yn rhan 6 o'r cod ymarfer. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn cau ar 27 Hydref. Hefyd, a gaf i dalu teyrnged i Julie Morgan am y ffaith ei bod wedi ein galluogi ni, rwy'n credu, gyda'i holl ymgyrchu, i gyrraedd y sefyllfa honno lle rydym ni wedi gwahardd cosb gorfforol plant yng Nghymru, ac i'ch sicrhau y caiff yr adroddiad tair blynedd ei gyhoeddi, ac y'i disgwylir erbyn diwedd y flwyddyn? Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yma i gadarnhau hynny.

Hefyd, eto, chwaraeodd Julie Morgan ran mor arloesol, a phan oedd yn ei swydd weinidogol, ac yna cafodd y Gweinidog, Dawn Bowden, y ddeddfwriaeth ar y llyfr statud. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod mor falch ohono yng Nghymru, ein bod yn dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, a'r ffaith bod hyn yn rhywbeth y mae'r comisiynydd plant wedi ei gefnogi mor gryf, oherwydd ei bod hi'n gwybod mai dyna ddywedodd plant a phobl ifanc mewn gofal wrthym ni fod arnyn nhw ei eisiau. Felly, byddwn yn dweud eto, ar ôl cydsynio yn ôl ym mis Mawrth ar weithredu a dileu elfennau elw iechyd a gofal cymdeithasol, gan wneud cynnydd buan, ein bwriad, wrth gwrs, yw deddfu fel na all unrhyw un newydd sy'n darparu llety diogel mewn cartrefi plant neu wasanaethau maethu gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, o fis Ebrill nesaf, 2026. Felly, rydym ni'n bwrw ymlaen gyda'r gweithredu, gydag adroddiadau chwe mis ar gynnydd, i drosglwyddo i'r model gofal nid-er-elw hwnnw, ac oni ddylem ni fod yn falch o hynny yma yng Nghymru?

Llywydd, ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau, ond byddaf yn dweud wrth Altaf, fel yr oedd yn ei ddweud o ran diogelu, rydym ni'n cynnal adolygiad o'r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu presennol ar gyfer diogelu yng Nghymru. Mae hyn yn ymateb i'r argymhelliad gan y comisiynydd plant ar ddiogelu. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn. Bydd yn cofnodi'r hyn sy'n gweithio'n dda ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer sut y gallwn ni gryfhau'r systemau hyn ymhellach.

Ac rwy'n meddwl, Cefin Campbell, ei bod hi'n bwysig—. Mae argymhelliad, Rhif 1, ar addysg a chwynion ysgol. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn ddiolchgar am yr adborth a ddarparwyd gan swyddfa'r comisiynydd plant. Rydym ni'n gweithredu arno, gan adnewyddu'r canllawiau ar gwynion ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion, ac yn diweddaru canllawiau a gânt eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl a'u hyrwyddo i bob ysgol.

Felly, diolch i'r comisiynydd am ei hadroddiad blynyddol. Mae ei chyngor yn bwysig i'n helpu i roi hawliau plant wrth wraidd ein penderfyniadau, ac rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud hynny dros y 26 mlynedd diwethaf. Fel y dywedais i, yn ôl yn 2001 y gwnaethom ni benodi ein comisiynydd plant annibynnol cyntaf, y cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Ac fe ddylem ni fod yn falch o'r rôl, o rôl annibynnol y comisiynydd plant. Byddwn yn cyhoeddi'r ymateb i'r adroddiad ddiwedd mis Tachwedd. Bydd yn cael ei gyhoeddi, yr ymateb gan y Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, bydd holl sylwadau'r Aelodau yn cael eu hystyried, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiynydd plant yn ddiolchgar iawn, wrth wrando ar y ddadl hon heddiw. Ac a allwn ni ddiolch iddi am ei gwyliadwriaeth, annibyniaeth, cefnogaeth a chefnogaeth barhaus fel rhywun sy'n eirioli dros blant a phobl ifanc yng Nghymru? Diolch yn fawr.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni'n dod at y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch.

13. Cyfnod Pleidleisio

Awn ni'n syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 10. Eitem 10 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, naw yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 10 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo: O blaid: 24, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Pleidlais o dan eitem 11 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, naw yn ymatal, dau yn erbyn. Felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 11 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill): O blaid: 37, Yn erbyn: 2, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf o dan eitem 12, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Pleidlais ar y gwelliant yn gyntaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Eitem 12. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2024-25. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 12 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2024-25. Cynnig (wedi'i ddiwygio): O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:33.