Y Cyfarfod Llawn
Plenary
01/10/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft oโr Cofnod syโn cynnwys yr iaith a lefarwyd aโr cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lesley Griffiths.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y prosiect piblinell hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy? OQ63158

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Cwestiwn 2, Peredur Owen Griffiths.
2. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dyfu'r sector cydweithredol yng Nghymru? OQ63175

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan, i'w hateb gan y Gweinidog diwylliant. Heledd Fychan.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fewnfuddsoddiad i Gymru? OQ63155
4. Pa rannau o'r economi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel sectorau twf? OQ63143
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ynni yng Ngogledd Cymru? OQ63149
6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rheoliadau nitrad a ffosffad ar y broses gynllunio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63154
7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol a chymunedol estyniad arfaethedig chwarel Dinbych a sut y bydd pryderon lleol yn cael eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau? OQ63157
Yn bersonol, dwi'n teimlo bod yr achos penodol yma'n litmus test o faint o bwys sy'n cael ei roi ar y llais lleol o fewn y system gynllunio. Dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi ddim yn gallu cyfeirio at yr achos penodol oedd yn y cwestiwn gwreiddiol, ond dywedwch fod yna gais yn dod lle mae'r gymuned leol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae'r cyngor lleol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae Aelodau o'r Senedd yma ar draws pob plaid yn gwrthwynebu'r cais, petai cais o'r fath yn cael ei gymeradwyo, beth fyddech chi'n meddwl byddai hynny'n ei ddweud wrthym ni ynglลทn รข buddiannau pwy sy'n cael eu gwarchod a'u hyrwyddo o fewn y gyfundrefn gynllunio Gymreig?
Yn olaf, cwestiwn 8, Julie Morgan.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twf chwaraeon ar lawr gwlad? OQ63168
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gwenidog.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63165] wedi'i dynnu'n รดl. Cwestiwn 2 fydd gyntaf heddiw, felly. Mike Hedges.
2. Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deallusrwydd artiffisial wrth wella cynhyrchiant yn y GIG? OQ63144

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau rhyddhau gohiriedig o'r ysbyty? OQ63156
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yn ein hadrannau brys yn un argyfyngus. Nid fy ngeiriau i, ond geiriau cadeirydd Betsi Cadwaladr, sydd hefyd wedi cael eu hategu gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd wedi galw'r sefyllfa yn un enbyd.
Un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y broblem hon ydy'r methiant i ryddhau cleifionโy delayed discharge, fel y clywsom ni mewn cwestiwn blaenorol. Fis Tachwedd diwethaf, fe lansiodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr her 50 niwrnod, wedi cael ei ategu gan y gronfa integreiddio rhanbarthol, gwerth ยฃ146 miliwn, yn ogystal รข ยฃ19 miliwn mewn cyllid pwrpasol ychwanegol, ac mi rydyn ni wedi clywed am ยฃ30 miliwn ychwanegol eto eleni. Ond bron i flwyddyn ers i'r her yna gael ei lansio, ydy pobl gogledd Cymru mewn lle gwell?
Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd y niferoedd a oedd yn aros am drosglwyddo gofal, delayed discharge, yn Betsi Cadwaladr yn 286. Erbyn heddiw, mae'r ffigwr yna yn 318. Felly, yn seiliedig ar y ffigurau yma, gallwn ni ddod i'r casgliad fod camau gweithredu'r Llywodraeth i fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau wedi methu pobl gogledd Cymru. Pam bod gogledd Cymru felly yn unigryw yn y methiant o'i gymharu รข gweddill Cymru?
Dwi ddim yn credu bod hynny'n esboniad cyflawn o'r sefyllfa. Fel y gwnes i ei ddweud, ar draws y system yng Nghymru, mae gennym ni lawer llai o bobl yn aros i fynd adref, os hoffwch chi, a llawer llai o amser yn cael ei dreulio yn y broses honno. Rลทn ni wedi gweld cydweithio ar draws rhanbarth y gogledd. Mae gyda ni sefyllfa sydd yn unigryw, os hoffwch chi, o ran Betsi Cadwaladr o ran y ffaith fod chwe chyngor lleol yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd. Mae hynny'n anarferol o ran rhanbarthau yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu yw bod mwy o amrywiaeth yn digwydd rhwng prosesau cynghorau unigol na fyddai'n debygol o ddigwydd mewn rhannau eraill o Gymru, am resymau sydd yn rhannol yn ddaearyddol.
Mae'n gwbl glir i fi nad yw'r sefyllfa o ran adrannau brys yn y gogledd ddim yn dderbyniol. Fe wnes i hefyd weld sylwadau cadeirydd y bwrdd. Mae angen gwella ar hynny'n sylweddol. Rลทn ni wedi gweld, er gwaethaf hynny, bod llai o oriau yn cael eu colli o ran trosglwyddo mewn ambiwlans. Felly, mae angen gwella yn sicr. Beth sy'n wir wrth wraidd hyn yw bod pob rhan o Gymru, yn cynnwys y gogledd, yn gwella yn gyson ar ddod o hyd i ble mae'r arfer da yn y system a lledaenu hynny mewn ffordd fwy pwrpasol ac yn gyflymach. Wrth wneud hynny'n unig, rwy'n credu, rลทn ni'n mynd i weld y cynnydd rลทn ni eisiau ei weld ym mhob rhan o Gymru.
Diolch am yr ateb yna. Yn olaf, felly, er mwyn parhau รขโr thema yma o brofiad a sefydlogrwydd, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod swydd prif gynghorydd y proffesiynau perthynol iechydโy chief allied health professions adviserโwedi bod yn wag am bron i bedwar mis. Hyd y gwelaf i, does yna ddim golwg o apwyntio rhywun newydd er mwyn cymryd y rรดl hollbwysig yma ymlaen eto.
Yn absenoldeb y prif gynghorydd yma, mae yna ddiffyg arweiniad yn y maes. Er enghraifft, yn ddiweddar, fe benodwyd panel goruchwylio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ond does yna neb ag arbenigedd oโr proffesiynau perthynol ar y panel hwnnw. Rwyโn siลตr y byddwch chiโn cytuno bod hyn yn wall eithaf difrifol wrth ystyried pwysigrwydd y proffesiynau yma iโr maes. Maeโn anodd credu y byddaiโr gwall yma wedi digwydd pe byddai yna brif gynghorydd mewn lle. Pryd, felly, y gallwn ni ddisgwyl gweld y rรดl yma yn cael ei llenwi?
Maeโr pethau yma yn digwydd o bryd iโw gilydd, wrth gwrs. Nid yw'r cylchoedd recriwtio yn rhywbeth sydd yn nwyloโr Gweinidogion; mae hynnyโn fater iโr gwasanaeth sifil, fel bydd yr Aelod yn ymwybodol. Mi wnaf sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu o ran y gobeithion i lenwiโr swydd honno cyn gynted รข phosib.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63150
5. Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod ysbyty'r Faenor yn darparu safon dderbyniol o ofal i gleifion yn Nwyrain De Cymru? OQ63174
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau strรดc yng nghanolbarth Cymru? OQ63163
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael รข Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ddiogelwch cleifion ac amodau gwaith mewn meddygfeydd a reolir gan eHarley Street? OQ63161
8. Beth yw cynlluniauโr Llywodraeth i leihau rhestrau aros am asesiadau niwroddatblygiadol? OQ63164
Mae Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gydaโr byrddau iechyd i leihau oedi mewn asesiadau niwroamrywiaeth, gan gael gwared ar yr holl arosiadau tair blynedd i blant ar draws Cymru. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr wedi cael ยฃ2.7 miliwn o arian ychwanegol yn 2025/26 ac mae gyda nhw gynllun cyflawni clir i gael gwared ar arosiadau tair blynedd erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Mae yna 7,273 o blant a phobl ifanc yn aros am asesiadau yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Gadewch inni oedi efo'r ffigwr ynaโdros 7,000 ar restr aros. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i deuluoedd ar draws y gogledd, heb sรดn am yr effaith negyddol ar blant.
Fel dลทch chi'n ei ddweud, mae'r bwrdd wedi derbyn ยฃ2.7 miliwn gan y Llywodraeth i helpu efo'r broblem yma ac mae yna fwy o arian ar ei ffordd, dwi'n credu, i greu cyfanswm o ยฃ5.6 miliwn. Ac eto, does yna ddim arwydd hyd yma, beth bynnag, fod y sefyllfa yn gwella yn y gogledd. A wnewch chi felly fynnu bod bwrdd iechyd Betsi yn blaenoriaethu cyhoeddi'r cynllun gweithredu ymaโyr un dลทch chi'n ei alw yn 'gynllun clir'? Wel, gadewch inni weld y cynllun gweithredu yma a fydd yn amlinellu sut fydd yr arian ychwanegol yma, sydd yn arian sylweddol, yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i roi chwarae teg i blant yn y gogledd.
Wel, rwy'n hapus i roi peth o'r manylion hynny i'r Aelod nawr. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae rhyw ยฃ2.7 miliwn, fel gwnes i ei ddweud, wedi cael ei ddyrannu i'r bwrdd iechyd, a bydd rhyw 107,000 o asesiadau pellach yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb honno rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae rhyw 904 o blant yn y gogledd yn aros dros dair blynedd ar hyn o bryd. Rลทn ni'n gweld bod cynlluniau'r bwrdd iechyd yn mynd i alluogi'r rhain i gael eu gweld, felly mae'r forecast hynny'n rhywbeth rลทn ni'n gyfarwydd รข fe. Rลทn ni'n gweld bod yr arian yn gallu cael ei wario mewn ffordd sy'n cael gwared ar y rheini erbyn y flwyddyn nesaf, ac mae'r trajectory presennol o ran yr asesiadau sy'n mynd drwy'r system ar darged i gyrraedd hynny.
Yn olaf, cwestiwn 9, Darren Millar.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng Ngogledd Cymru? OQ63160

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dim ond un heddiw. Mae'r cwestiwn yna i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac i'w ofyn gan Samuel Kurtz.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefyd y tafod glas, ac i gefnogi ffermwyr a marchnadoedd da byw, yng ngoleuni'r ddau achos a gadarnhawyd yng Nghymru? TQ1374

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r prif swyddog milfeddygol am y briffiad y cawson ni ddoe, a oedd yn hynod o fuddiol? Ond, wrth gwrs, hwn yw'r newyddion roedden ni i gyd yn ei ofni, a thra bod y ffocws o gadw'r clwyf allan o Gymru yn parhau, wrth gwrs, rลทn ni hefyd nawr, wrth gwrs, yn gorfod ffocysu ar gyfyngu a rheoli'r clwyf o fewn i ffiniau Cymru. Dwi jest eisiau gwybod os bydd hynny nawr yn newid approach neu ffocws Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn y frwydr yn erbyn y tafod glas. Er enghraifft, ydych chi yn ystyried parhau i gadw'r un trefniant cenedlaethol, neu oes yna feddwl ynglลทn รข datblygu, efallai, trefniadau lleol mewn ardaloedd lle mae achosion wedi codi? Byddwn i jest yn hoffi i chi ein goleuo ni ychydig ynglลทn รข lle rลทn ni'n mynd o fan hyn, gyda, efallai, mwy a mwy o achosion yn dod ymlaen.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Jenny Rathbone.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) iโr Gadair.
Diolch i chi'ch dau.
Nesaf mae'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jane Hutt.
Cynnig NNDM8994 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol รข Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn, yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.
Yn awr mae'r cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Cynnig NNDM8993 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol รข Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar dipio anghyfreithlon. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8981 Mick Antoniw, Janet Finch-Saunders, Jane Dodds, Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran:
a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unigolion preifat;
b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig;
c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd; a
d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon.
Cynigiwyd y cynnig.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mick am y gwaith eithriadol o bwysig y mae wedi ei wneud gyda hyn, gyda'r grลตp trawsbleidiol hefyd. Mae'n bwnc sydd mor eithriadol o bwysig. Rwy'n sylweddoli nawr nad wyf wedi dod รข'r peth cywir i mewn gyda fi, felly fe wnaf ei ffeindio ar fy sgrin.
Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, i Mick am bopeth mae e wedi bod yn ei wneud ar hyn.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau gwerthfawr.
Galwaf ar Mick Antoniw i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1489, 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnigโCarolyn Thomas.
Cynnig NDM8987 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodiโr ddeiseb P-06-1489 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymruโ a gasglodd 10,934 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn anffodus, ni fydd pob Aelod sy'n dymuno siarad yn cael ei alw. Fe welwn ni sut mae'r amser yn mynd. Joel James.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith ar y mater hwn ac i'r rhai wnaeth arwyddo'r ddeiseb. Mae eu hymroddiad i'r angen i ddiogelu'r wennol i'w glodfori, oherwydd nid aderyn yn unig ydy'r wennol, mae hi'n symbol o'n hafau. Pan rลทn ni'n clywed cรขn y wennol, rลทn ni'n gwybod bod yr haf wedi'n cyrraedd. Maent yn rhan o'n treftadaeth, a dylem ni fod yn falch ohonynt. Ond maen nhw yn diflannu. Ers 1995, mae'n debyg, mae'r wennol yng Nghymru wedi gostwng bron 76 y cant. Mae'n rhaid gweithredu, felly, ac mae'n rhaid inni greu gofod iddyn nhw allu ffynnu unwaith eto. Dylai'r gostyngiad yma rลทn ni wedi'i weld beri gofyn i ni oll.
Nawr, pan rwyf i'n sรดn am greu gofod, wel, mae yna ffordd eithaf literal o allu gwneud hwnna. Gall friciau gwennol fod o fudd mawr. Maen nhw'n cynnig cartref clyd, saff i'r wennol. Hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn fodlon ystyried beth allai gael ei wneud. Rwyf i'n deall na fydd yna amser, efallai, am ddeddfwriaeth newydd yn y Senedd yma, ond beth allai gael ei wneud er mwyn annog hyn yn y diwydiant? Dylem ni ddim gweld bod hyn yn faich, os oeddem yn edrych ar reoliadau adeiladu, ond yn hytrach fel rhywbeth ymarferol ein bod ni'n gallu ei wneud er mwyn helpu un o'n rhywogaethau eiconig ni. Mae'n gwenoliaid ni wedi bod yn rhan o'n hafau ers cenedlaethau ac mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod.
Gwnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa ni heddiw am gรขn y wennol. Roedd pobl arfer holi, 'Ydych chi wedi clywed y wennol eto?', fel arwydd bod yr haf wedi cyrraedd. Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn cael ei glywed mor aml bellach.
Dwi hefyd yn diolch i'r deisebydd a'r cefnogwyr. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae hwn yn un ffordd hawdd, ymarferol a rhad i helpu byd natur yng Nghymru, ac mae'n gweithio.
Byddwn ni'n gallu, unwaith eto yng Nghymru, glywed yn aml gรขn y wennol yn dweud bod yr haf yn cyrraedd. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd iโr Gadair.
Diolch i gefnogwyr y ddeiseb yma am dynnu sylw at ddull syml ond effeithiol a allai gael ei ddefnyddio mewn adeiladau newydd er mwyn gwarchod gwenoliaid du. Mae hyn yn sicr yn werth ei archwilio ymhellach. Mae yna nifer yn etholaeth Arfon wedi cysylltu รข mi ynglลทn รข'r mater, a dyma oedd gan un etholwr o Fangor i'w ddweud, a dwi'n ei ddyfynnu fo yn yr iaith wreiddiol:
Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio nawr sydd yn cyfrannuโRebecca Evans.

Cadeirydd y pwyllgor nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Carolyn Thomas.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 yw ddadl y Ceidwadwyr, ar yr economi. Mae'r cynnig heddiw i'w gyflwyno gan Samuel Kurtz.
Cynnig NDM8988 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 16 Medi 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu;
b) bod cyfradd cyflogaeth Cymru wedi gostwng a dyma'r isaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi cynyddu a dyma'r uchaf ym Mhrydain Fawr; a
d) mai pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu rhagor o swyddi yng Nghymru a rhoi hwb i dwf drwy:
a) torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1 geiniog;
b) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;
c) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym;
d) sicrhau chwarae teg i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad ar gyfer pob rhan o'r wlad;
e) galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant sy'n effeithio'n andwyol ar gwmnรฏau teuluol a ffermydd teuluol Cymru; ac
f) dileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya i gael Cymru i symud.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ffurfiol.
Gwelliant 1โJane Hutt
Dileu popeth ar รดl pwynt un a rhoi yn ei le:
Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sef Trosolwg oโr farchnad lafur: Medi 2025.
Yn croesawuโr canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) mae cyfradd ddiweithdra Cymru yn is na chyfradd y DU;
b) maeโr bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd gyflogaeth y DU wedi lleihau yn ystod y cyfnod ers datganoli;
c) mae pecynnau cymorth amrywiol wediโu cyflwyno er mwyn helpu pobl economaidd anweithgar i ddychwelyd iโr gwaith โ ac yn enwedig y rhai syโn wynebu rhwystrau cymhleth fel bod yn anabl, cyflyrau iechyd hirdymor neu gyfrifoldebau gofalu; a
d) yn 2024, roedd yr enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion syโn gweithioโn amser llawn yng Nghymru yn uwch naโr enillion yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon a Swydd Efrog a Humber.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Ydy, wedi ei symud. Luke Fletcher nawr sy'n cynnig gwelliant 2.
Gwelliant 2โHeledd Fychan
Dileu popeth ar รดl pwynt 2(d) a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at effaith niweidiol penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau olynol San Steffan ar economi Cymru, gan gynnwys:
a) effaith barhaus Brexit, sydd wedi achosi ergyd ยฃ4 biliwn ar economi Cymru ac sy'n rhwystr mawr i dwf busnesau;
b) effaith barhaus mesurau cyni ar gyllid cyhoeddus;
c) y methiant i ddarparu fformiwla gyllido deg i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn y Senedd;
d) y methiant i gyflawni addewidion i ddarparu mwy o hyblygrwydd i'r Senedd reoli ei chyllideb;
e) y methiant i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa ar ei hadnoddau naturiol ei hun;
f) y methiant i ddarparu ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2 i Gymru;
g) y methiant i ailddosbarthu cyfoeth yn gyfartal ar draws y DU; a
h) goruchwylio polisรฏau cyllidol di-hid, megis mini-gyllideb Liz Truss, sydd wedi achosi caledi sylweddol i aelwydydd Cymru.
Yn credu bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi dangos dro ar รดl tro ac yn bendant eu diffyg ymrwymiad i hyrwyddo buddiannau ariannol ac economaidd Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb i swyddi a thwf drwy:
a) dangos bod ganddi ddylanwad yn y 'bartneriaeth mewn pลตer' drwy orfodi Llywodraeth Lafur y DU i ymgysylltu o ddifrif รข diwygio trefniadau cyllido Cymru;
b) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr;
c) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i ailymuno รข marchnad sengl ac undeb tollau yr UE i hyrwyddo twf economaidd;
d) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi newidiadau treth etifeddiant sy'n effeithio ar ffermydd teuluol Cymru;
e) mynnu iawndal llawn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer costau a ysgwyddwyd o ddylunio ac adeiladu seilwaith ffiniau diangen ym mhorthladdoedd Cymru, a buddsoddi'r elw i gefnogi masnach Cymru; ac
f) defnyddio pwerau newydd a ddarperir drwy'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol i greu lluosyddion ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Daeth y Dirprwy Lywydd iโr Gadair.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Galwaf ar Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru, tlodi plant. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8990 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio lefelau ystyfnig tlodi plant yng Nghymru sydd yn 32 y cant ar hyn o bryd.
2. Yn gresynu fod y rhagolygon yn dangos mai gan Gymru fydd y lefelau uchaf o dlodi plant drwyโr DU erbyn 2029.
3. Yn cymeradwyo Llywodraeth yr Alban am gyflwyno Taliad Plant yr Alban, polisi y mae disgwyl iddo godi 60,000 o blant allan o dlodi yn 2025-26 ac i leoliโr Alban fel yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i gyfraddau tlodi plant ostwng ar y cyfan erbyn 2029.
4. Yn nodi:
a) ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno Cynnal, sef taliad plant i Gymru fel blaenoriaeth llywodraethol; a
b) bod Policy in Practice wedi adnabod maiโr ymyriad mwyaf pwerus ac effeithiol wediโi ddylunio i leihau tlodi yw taliad plant uniongyrchol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno taliad plant; a
b) ail-ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr gyda thargedau statudol mesuradwy.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn ei henw ei hun.
Gwelliant 1โJane Hutt
Dileu popeth ar รดl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod yn rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr ar bob lefel oโr llywodraeth.
Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i'w graddau llawn ac arwain wrth gydlynu camau gweithredu ehangach i roi terfyn ar dlodi plant, fel y nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi galw dro ar รดl tro iโr terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau lles ddod i ben;
b) heb bwerau ar hyn o bryd i ddeddfu ar gyfer taliad plant;
c) yn cefnogi Siarter Budd-daliadau Cymru, a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth wirioneddol i bobl wneud y mwyaf o incwm eu teulu; a
d) yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yn ddiweddarach eleni.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Altaf Hussain i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2โPaul Davies
Dileu'r cyfan ar รดl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu ymhellach mai teuluoedd Cymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf ym Mhrydain Fawr, sy'n cyfrannu at dlodi plant.
Yn credu ei bod yn well gwario arian trethdalwyr ar wella gofal plant yng Nghymru ac ar wella economi Cymru er mwyn codi mwy o deuluoedd allan o dlodi.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddefnyddio cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod teuluoedd Cymru yn cael yr un swm o gymorth gofal plant ag y mae teuluoedd yn Lloegr yn ei gael; a
b) i ailymrwymo i ddileu tlodi plant gyda thargedau statudol mesuradwy.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Fel rydym ni wedi clywed yn barod, mae angen brys am ddull newydd a datrysiadau newydd i'r broblem o dlodi plant ar hyd a lled Cymru, gan fod, yn syfrdanol, 25 y cant neu fwy o blant yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni. Mae hwnna'n gwbl syfrdanol: bron ym mhob etholaeth yng Nghymru mae rhyw chwarter y plant yn byw mewn tlodi, felly mae'n broblem ar draws Cymru gyfan.
Fodd bynnag, dyw'r atebion ddim yr un fath ym mhob rhan o'r wlad. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod y ffactorau sy'n achosi tlodi yn ogystal รข chanlyniadau tlodi mewn ardaloedd gwledig yn wahanol iโr rhai mewn ardaloedd trefol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae tlodi gwledig yn parhau i fod yn anodd i'w adnabod ac yn aml yn cael ei anwybyddu neu ei ddiystyru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi.
Rydym ni'n gwybod hefyd, o sawl astudiaeth, fod tlodi gwledig yn ffenomenon aml-ddimensiwn a chymhleth. Yn รดl Sefydliad Bevan, mae teuluoedd gwledig yn wynebu gwasgfa driphlyg, neu triple squeeze: costau byw sy'n cynydduโn gyflym, cyflogau isel, a chefnogaeth annigonol gan y wladwriaeth, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus annibynadwy. Ac o ganlyniad, mae llawer o rieni yn cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad creulon, eithriadol o anodd, rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu plant.
Rydym ni'n gwybod bod methiannau meysydd polisi gwahanol yn pwyso'n drymach ar deuluoedd mewn cymunedau gwledig ac yn cyfrannu at lefelau tlodi gwaeth na'r cyfartaledd. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, diffyg tai fforddiadwy, costau ynni uwch, darpariaeth gofal plant tameidiog, mynediad digidol anghyson, mynediad cyfyngedig at hyfforddiant a rhwystrau i addysg bellach, ac wrth gwrs llai o gyfleoedd o ran swyddi sydd รข chyflogau da.
Yn ogystal รข hyn, mae'r ansicrwydd sy'n wynebu'r sector ffermio yng ngoleuniโr newidiadau cyfredol i daliadau amaethyddol yn dyfnhau'r broblem, ac fel rydym ni'n gwybod, mae'r fferm deuluol yn asgwrn cefn i economi cefn gwlad Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar ar dlodi gwledig gan y Sefydliad Bevan fod cyfraddau cyflog gweithwyr mewn cymunedau gwledig yn gymharol isel. Er enghraifft, mae gweithiwr yn Arfon tua ยฃ1,000 y flwyddyn yn dlotach na gweithiwr tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, a ยฃ3,000 yn dlotach na gweithiwr cyffelyb yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.
Dwi'n sefyll yma y prynhawn yma wedi bod yn gwrando ar drafodaeth a gawson ni am yr economi, ac maeโn anodd datgysylltu yr hyn oedden niโn ei glywed yn gynharach oโr ddadl hon, oherwydd maeโr cysylltiad yna mor amlwg. Beth syโn fy ngwylltio i ydy diffyg ymwybyddiaeth y Torรฏaid oโr tlodi sydd wedi cael ei greu yma yng Nghymru ac mai gwaethygu wnaeth pethau, oherwydd mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, onid oes? Pam mae unrhyw un ohonom ni yma? Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn Aelod oโr Senedd? Wel, buaswn iโn gobeithio, pan dwiโn cael y cwestiwn yna mewn ysgolion, fel rydych chithau, ei fod o oherwydd ein bod ni eisiau gwneud gwahaniaeth, oherwydd ein bod ni eisiau gwella pethau yn ein cymunedau ni. Dwiโn mawr obeithio nad yw'r un ohonoch chi, pan rydych chiโn cael y cwestiwn yna fel dwiโn ei gael, yn ateb eich bod chi eisiau gwneud pethauโn waeth i bobl, oherwydd nid dyna pam ein bod ni yma. Mae yna gyfrifoldeb arnom ni.
Os nad ydyn niโn gallu datrys hynโtlodiโa rhoiโr dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru, yna pam ydyn ni yma? Ydyn, medrwn ni feioโr pethau syโn digwydd, ond maeโn rhaid cymryd cyfrifoldeb hefyd am y ffaith mai penderfyniadau gwleidyddol syโn creu tlodi, syโn golygu bod penderfyniadau gwleidyddol yn gallu datrys tlodi. Felly, medrwn ni feio ein gilydd, ond mae yna gyfrifoldeb hefyd i edrych ar syniadau amgen, edrych yn rhyngwladol ar bethau sydd yn gweithio a lle maeโr dystiolaeth yna, i fod รขโr hyder i fod yn eu cyflwyno nhw.
A dyna sydd gennym ni yma heddiw: cynnig difrifol ar gyfer sefyllfa argyfyngus o ran tlodi yng Nghymru. Wediโr cyfan, mae gennym ni Ddeddf cenedlaethauโr dyfodol yma yng Nghymru, rhywbeth dwiโn falch iawn ohono fo, ond i blentyn yng Nghymru sydd yn mynd iโr gwely yn llwglyd, sydd efo iwnifform sydd ddim yn eu ffitio nhwโn iawn, sydd ddim yn gallu mynd ar y trip ysgol yna, ac weithiau yn methu mynd iโr ysgol gan fod eu rhieni nhwโn methu รข fforddioโr bwsโac mae hwnnaโn digwydd yma yng Nghymru rลตan, yn y cymunedau dwiโn eu cynrychioliโydyn ni wir, wir yn gallu dweud wrthyn nhw ein bod ni yna iddyn nhw, i genedlaethau'r dyfodol, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? Na allwn. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnom ni, nid i jest siarad am y pethau rydyn ni'n eu gwneud, ond i drawsnewid bywydau pobl.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r TrefnyddโJane Hutt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon.
Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Roedd e'n siomedig i glywed ymateb y Ceidwadwyr, lle dwi ddim yn meddwl, fel gwnaeth Delyth sรดn, bod unrhyw syniad sy'n effeithiol yn werth edrych arno o ran Cymru. Dwiโn jest siomedig iawn gyda chyfraniad Altaf Hussain, mae'n rhaid i mi ddweud. Doedd e ddim yn cynnig unrhyw syniadau eu hunain, jest yn difrรฏo syniadau rydyn niโn gwybod sy'n gweithio, ond doedd e jest ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, a dweud y gwir.
Delyth, y pwyslais yna ar gymunedau'r Cymoedd, yn hollol iawn, a thynnu ein sylwn ni at y rhybydd clir yna o ran 2029, y risg yna y bydd Cymru รข'r cyfradd tlodi plant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, os nad ลทn ni'n gwneud rhywbeth yn wahanol.
Roedd Cefin yn sรดn wedyn am ardaloedd gwledig. Mae e mor bwysig i ni wybod bod angen i ni beidio cael one size fits all, onid oes? Mae cymunedau รข natur gwahanol, heriau gwahanol, dimensiwn penodol i dlodi yng nghefn gwlad, a'r ystadegau hynod brawychus yna, a sobreiddiolโchwarter o blant, 25 y cant o blant, yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni. Yr etholaethau, fel roedd Heledd yn dweud, rลทn ni i gyd yn eu cynrychioli, ac mae gyda ni ddyletswydd i wasanaethu plant y cymunedau hynny.
Wedyn, roedd Heledd yn sรดn hefyd ynglลทn รข chymryd y cyfrifoldeb, a bod penderfyniadau gwleidyddol yn creu tlodi, a bydd penderfyniadau gwleidyddol yn datrys tlodi. Dwiโn rhannu'r gofid o ran tlodi, a banciau bwyd ac yn y blaen yn cael eu normaleiddio.
Mabon, wedynโ
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34,
O blaid 34, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.
Bydd y bleidlais derfynol heno ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar dlodi plant. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 1 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n orfodol, yn unol รข Rheol Sefydlog 6.20, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 12 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod. A gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
A dyna'r diwedd ar ein pleidleisio ni heddiw.

Symudwn ymlaen nawr at y ddadl fer, a galwaf ar Joyce Watson i siarad.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.