Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/09/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Good afternoon and welcome to this afternoon's Plenary meeting. The first item this afternoon will be questions to the First Minister, and the first question is from Joyce Watson. 

Ynni Glân
Clean Energy

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cymunedau i ddefnyddio ynni glân? OQ63183

1. How is the Welsh Government encouraging communities to use clean energy? OQ63183

We're powering Wales up ourselves—£13 million this year into community energy, 60,000 homes warmer and cheaper since 2011, and, with Trydan Gwyrdd Cymru, every penny from big renewables will stay in Wales. And this isn't just numbers; it's people—Powys council cutting bills with solar and batteries, Urdd Llangrannog reinvesting energy savings into young people. That's a fair transition—bills cut, jobs created and Welsh communities in charge. 

Rydym ni'n pweru Cymru ein hunain—£13 miliwn eleni ar gyfer ynni cymunedol, 60,000 o gartrefi yn gynhesach ac yn rhatach ers 2011, a chyda Trydan Gwyrdd Cymru, bydd pob ceiniog o ynni adnewyddadwy mawr yn aros yng Nghymru. Ac nid mater o rifau yn unig yw hyn; mae'n fater o bobl—cyngor Powys yn gostwng biliau gyda solar a batris, Urdd Llangrannog yn ail-fuddsoddi arbedion ynni mewn pobl ifanc. Mae hynny'n bontio teg—biliau wedi'u gostwng, swyddi wedi'u creu a chymunedau Cymru'n yn arwain.

Diolch, First Minister. As you said, there are 48 excellent Welsh green energy projects, and there is £13 million to generate local renewable energy. And that involves the installation of solar panels, heat pumps, battery storage and electric vehicle charging points. An example is the Llanidloes and district energy local club in Powys that is going to get almost £600,000, which will help households club together to show when they are using local clean power and when it’s generated. The scheme gives generators the true value of the power they produce, keeping more money locally and reducing household electric bills. Does the First Minister agree with me that this work to ensure our transition to clean energy does not only benefit future generations, but has substantial benefits to Welsh communities today?

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae 48 o brosiectau ynni gwyrdd ardderchog yng Nghymru, ac mae £13 miliwn i gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol. Ac mae hynny'n cynnwys gosod paneli solar, pympiau gwres, storfeydd batri a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Un enghraifft yw clwb ynni lleol Llanidloes a'r cylch ym Mhowys sy'n mynd i gael bron i £600,000, a fydd yn helpu aelwydydd i ddod at ei gilydd i ddangos pryd maen nhw'n defnyddio pŵer glân lleol a phryd mae'n cael ei gynhyrchu. Mae'r cynllun yn rhoi i gynhyrchwyr gwir werth y pŵer y maen nhw'n ei gynhyrchu, gan gadw mwy o arian yn lleol a lleihau biliau trydan aelwydydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod y gwaith hwn i sicrhau ein newid i ynni glân nid yn unig o fudd i genedlaethau'r dyfodol, ond yn sicrhau manteision sylweddol i gymunedau yng Nghymru heddiw?

I absolutely do agree with that, and what’s great is that we’ve been supporting community energy for 15 years. And what it does is make sure that we can work with local authorities on energy plans, making sure we understand the future of energy needs, and how changes can bring local jobs. And, crucially, we’ve provided extra funding to Community Energy Wales to help local communities develop their own energy plans.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynna, a'r hyn sy'n wych yw ein bod ni wedi bod yn cefnogi ynni cymunedol ers 15 mlynedd. A'r hyn y mae'n ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gweithio gydag awdurdodau lleol ar gynlluniau ynni, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n deall dyfodol anghenion ynni, a sut y gall newidiadau ddod â swyddi lleol. Ac, yn hollbwysig, rydym ni wedi darparu cyllid ychwanegol i Ynni Cymunedol Cymru i helpu cymunedau lleol i ddatblygu eu cynlluniau ynni eu hunain.

Prif Weinidog, just last week, I attended the launch of the regional centre of excellence initiative in Pembroke Dock. Companies including Ledwood Mechanical Engineering, Jenkins and Davies Engineering, Rhyal Engineering and Mainstay Marine Solutions, alongside 10 others from across south Wales, have come together under the banner of Celtic Co. to strengthen collaboration and to maximise their ability to tender for high-value energy projects and contracts in Wales and across the UK. This collective approach not only positions them to compete for major projects, but also promises to create hundreds of local jobs, raise skill levels and ensure that the economic benefits remain in our communities, rather than leaking elsewhere—a key driver of the Celtic Freeport. So, will the Welsh Government commit to working closely with this collaboration to remove barriers, attract investment and put local businesses at the heart of delivering on Wales’s energy ambitions?

Prif Weinidog, dim ond yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n bresennol yn lansiad y fenter canolfan ragoriaeth ranbarthol yn Noc Penfro. Mae cwmnïau gan gynnwys Ledwood Mechanical Engineering, Jenkins and Davies Engineering, Rhyal Engineering a Mainstay Marine Solutions, ynghyd â 10 arall o bob rhan o dde Cymru, wedi dod at ei gilydd o dan faner Celtic Co. i gryfhau cydweithrediad ac i sicrhau bod eu gallu i dendro ar gyfer prosiectau a chontractau ynni gwerth uchel yng Nghymru a ledled y DU mor fawr â phosibl. Mae'r dull cyfunol hwn nid yn unig yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa i gystadlu am brosiectau mawr, ond hefyd yn addo creu cannoedd o swyddi lleol, codi lefelau sgiliau a sicrhau bod y manteision economaidd yn parhau yn ein cymunedau, yn hytrach na chael eu colli i fannau eraill—un o brif ysgogiadau'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio'n agos gyda'r fenter gydweithredol hon i gael gwared ar rwystrau, i ddenu buddsoddiad ac i sicrhau bod busnesau lleol yn ganolog i gyflawni uchelgeisiau ynni Cymru?

Thank you very much. We are extremely ambitious when it comes to energy, particularly when it comes to community energy. And, in fact, we had a state of the sector report that came out in 2024 that demonstrated a 484 per cent increase in community renewable energy generation between 2017 and 2023. So, that’s great in terms of community energy, which was what the question was about, but you’re asking about the broader energy developments. And let me be clear that we are absolutely committed to developing a supply chain that is locally based, and we’re working very hard to make sure that we work with the UK Government on the opportunities that may come as a result of the developments in the Celtic sea.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n uchelgeisiol dros ben o ran ynni, yn enwedig o ran ynni cymunedol. Ac, mewn gwirionedd, roedd gennym ni adroddiad cyflwr y sector a gyhoeddwyd yn 2024 a ddangosodd gynnydd o 484 y cant i gynhyrchiad ynni adnewyddadwy cymunedol rhwng 2017 a 2023. Felly, mae hynny'n wych o ran ynni cymunedol, sef pwyslais y cwestiwn, ond rydych chi'n gofyn am y datblygiadau ynni ehangach. A gadewch i mi fod yn eglur ein bod ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cadwyn gyflenwi sydd wedi'i lleoli'n lleol, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y cyfleoedd a allai ddod o ganlyniad i'r datblygiadau yn y Môr Celtaidd.

Prif Weinidog, you’ll be aware that residents in the Llynfi valley and wider Bridgend area are being asked to consider proposals for four 20 MW micromodular nuclear reactors at the site of the former Llynfi power station. Residents have raised concerns with me that the detail of potential community benefits remains unclear, the long-term management of waste has not been resolved, and, more broadly, that there may be little direct advantage for them. And that, of course, is putting to one side, by the way, all the reports suggesting that what is being proposed by Last Energy in terms of technology is a long way off. So, would the First Minister agree that efforts would be better placed in community energy, ensuring the development of clean energy projects in the Llynfi valley, where the technology is proven, and where we can bake in that community benefit that we all wish to see? I did make note of what the First Minister said in response to Joyce Watson. The ambition is to put Welsh communities in charge. Right now, in places like the Llynfi valley, and elsewhere in Wales, it doesn't feel like that.

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod trigolion Cwm Llynfi ac ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gofyn i ystyried cynigion ar gyfer pedwar adweithydd niwclear micromodiwlaidd 20 MW ar safle hen orsaf bŵer Llynfi. Mae trigolion wedi codi pryderon gyda mi bod manylion buddion cymunedol posibl yn parhau i fod yn aneglur, nad yw'r rheolaeth hirdymor o wastraff wedi cael ei datrys, ac, yn fwy eang, ei bod yn bosibl mai prin fydd y fantais uniongyrchol iddyn nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhoi o'r neilltu, gyda llaw, yr holl adroddiadau sy'n awgrymu bod yr hyn sy'n cael ei gynnig gan Last Energy o ran technoleg yn bell i ffwrdd. Felly, a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'n well cyfeirio ymdrechion at faes ynni cymunedol, gan sicrhau datblygiad prosiectau ynni glân yng nghwm Llynfi, lle mae'r dechnoleg yn brofedig, a lle gallwn ymgorffori'r budd cymunedol hwnnw yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld? Fe wnes i nodyn o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i Joyce Watson. Yr uchelgais yw gwneud cymunedau Cymru'n gyfrifol. Ar hyn o bryd, mewn mannau fel cwm Llynfi, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, nid yw'n teimlo felly.

13:35

Thanks very much. I think we've got to do both. I think we've got to do commercial development and we've got to do community development as well. There are some very big wins to be had on both of them. But I do think, under either of those scenarios, what's important is that you do see the local community benefit. That can mean direct funding going in, as we've seen in the past with large-scale developments, but also in terms of jobs and skills. I think there are massive opportunities for us to make sure that we equip our future generations for the energy revolution that is about to come.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud y ddau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud datblygiad masnachol ac mae'n rhaid i ni wneud datblygiad cymunedol hefyd. Mae llwyddiannau mawr iawn i'w cael o ran y ddau ohonyn nhw. Ond rwyf i'n credu, o dan y naill neu'r llall o'r senarios hynny, yr hyn sy'n bwysig yw eich bod chi'n gweld y gymuned leol yn elwa. Gall hynny olygu cyllid uniongyrchol yn mynd i mewn, fel yr ydym ni wedi ei weld yn y gorffennol gyda datblygiadau ar raddfa fawr, ond hefyd o ran swyddi a sgiliau. Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n arfogi ein cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer y chwyldro ynni sydd ar fin dod.

Canol Trefi
Town Centres

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau y mae canol trefi yn eu hwynebu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63180

2. What action is the Welsh Government taking to address challenges facing town centres in Mid and West Wales? OQ63180

Diolch. Mae canol ein trefi yn galonnau i'n cymunedau, ac mae Llafur yn eu cefnogi. Ers 2020, rŷm ni wedi buddsoddi dros £70 miliwn mewn adfywio ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda phrosiectau eiconig fel Western Quayside yn Hwlffordd a neuadd y farchnad yn Aberteifi. Ar ben hynny, mae £335 miliwn o gymorth ardrethi busnes wedi ei glustnodi i helpu busnesau eleni, ynghyd ag ymgynghoriad ar reolau tecach, fel nad yw siopau lleol bach yn gorfod ysgwyddo baich mawr.

Thank you. Our town centres are the beating heart of our communities, and Labour is backing them. Since 2020, we’ve invested over £70 million in regeneration across Mid and West Wales, with landmark projects like Western Quayside in Haverfordwest and Cardigan market hall. On top of that, £335 million in business rates relief this year is allocated to help businesses, along with a consultation on fairer rules, so that small local shops aren’t left carrying the can.

Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod dirywiad canol ein trefi yn dwysáu ac yn peri gofid mawr. Er mwyn arbed amser heddiw, rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar sir Gaerfyrddin, sef ardal y mae'r ddau ohonom ni'n ei chynrychioli, ac un sy'n ddiddorol iawn o ran dadlennu maint yr her. Mae'r data diweddaraf yn dangos, er gwaethaf beth rŷch chi newydd ei ddweud am eich buddsoddiad chi, ar gyfartaledd, fod 680 o fusnesau yn sir Gâr yn cau bob blwyddyn, gyda chwarter olaf 2024 yn cofnodi'r nifer isaf o fusnesau newydd sydd wedi cael eu sefydlu yn y sir.

First Minister, I'm sure that you'll agree that the decline of our town centres is intensifying and is, of course, a great concern. To save time today, I want to focus specifically on Carmarthenshire, which is an area that both of us represent, and one that is very interesting in terms of revealing the scale of the problem. The latest data show that, despite what you just said about your investment, there are, on average, 680 businesses in Carmarthenshire closing every year, with the last quarter of 2024 recording the lowest level of new businesses being established in the county.

First Minister, my office recently conducted a business survey across Carmarthenshire. The results paint a stark picture. Nearly 60 per cent predicted a negative future for their businesses, 79 per cent supported a reversal of your Labour Government's increase in employer national insurance, and 86 per cent supported Plaid Cymru's policy of reforming business rates. So, given the evidence—given the evidence—does the First Minister agree with Carmarthenshire business owners that Labour's current policies are failing our town centres?

Prif Weinidog, cynhaliodd fy swyddfa arolwg busnes ar draws sir Gaerfyrddin yn ddiweddar. Mae'r canlyniadau'n cyflwyno darlun llwm. Roedd bron i 60 y cant yn rhagweld dyfodol negyddol i'w busnesau, roedd 79 y cant yn cefnogi gwrthdroi cynnydd eich Llywodraeth Lafur i yswiriant gwladol cyflogwyr, ac roedd 86 y cant yn cefnogi polisi Plaid Cymru o ddiwygio ardrethi busnes. Felly, o ystyried y dystiolaeth—o ystyried y dystiolaeth—a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â pherchnogion busnes sir Gaerfyrddin nad yw polisïau presennol Llafur yn helpu canol ein trefi?

Well, let me tell you about Labour's current policies: a policy where we are investing £335 million in non-domestic rates. So, what's your answer? To go further? To give them more? That's Plaid Cymru's constant demand. You want more money, and yet, when it came to it, you wouldn't even support the money that we put in last time. You voted with the Tories to block the additional money. So, that's just—[Interruption.] That's just one aspect. We've also got permanent small business rates relief, where we have £140 million of support annually, on top of the £335 million, and you want to spend more. Well, tell us where it's coming from, because you've just told us that you don't want to see the national insurance rates increase. Who's going to pay for our hospitals? Who's going to pay for that £1.6 billion extra that we've just got from the UK Government? You can't have it all ways. It is time for Plaid Cymru to grow up, smell the flowers, and understand that, actually, you need to balance the budget if you're serious about governing in this country.

Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi am bolisïau presennol Llafur: polisi lle'r ydym ni'n buddsoddi £335 miliwn mewn ardrethi annomestig. Felly, beth yw eich ateb chi? I fynd ymhellach? I roi mwy iddyn nhw? Dyna yw galwad gyson Plaid Cymru. Rydych chi eisiau mwy o arian, ac eto, ar yr adeg dyngedfennol, ni fyddech chi hyd yn oed yn cefnogi'r arian y gwnaethom ni ei gyfrannu y tro diwethaf. Fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid i rwystro'r arian ychwanegol. Felly, dim ond—[Torri ar draws.] Dim ond un agwedd yw honna. Mae gennym ni hefyd ryddhad ardrethi busnesau bach parhaol, lle mae gennym ni £140 miliwn o gymorth bob blwyddyn, ar ben y £335 miliwn, ac rydych chi eisiau gwario mwy. Wel, dywedwch wrthym ni o le mae'n dod, oherwydd rydych chi newydd ddweud wrthym ni nad ydych chi eisiau gweld y cyfraddau yswiriant gwladol yn cynyddu. Pwy sy'n mynd i dalu am ein hysbytai? Pwy sy'n mynd i dalu am y £1.6 biliwn ychwanegol hwnnw yr ydym ni newydd ei gael gan Lywodraeth y DU? Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. Mae'n bryd i Blaid Cymru dyfu i fyny, wynebu'r gwirionedd, a deall bod angen i chi fantoli'r gyllideb os ydych o ddifrif am lywodraethu yn y wlad hon.

Almost 94 per cent of Welsh firms are family owned. They're the backbone of our high streets across my constituency and, I'm sure, other Members' constituencies. Yet, instead of supporting them, Labour's tax addiction is crippling them. We already suffer with the highest business rates in Great Britain. Now we have businesses facing higher employer national insurance and raids on business property relief. What does this mean? It means less investment, fewer jobs and more boarded-up shops in our town centres. You talk a good game about regeneration, First Minister, while in reality the only thing that Labour delivers is higher taxation. So, will you, First Minister, join us on these benches in calling for these damaging taxes to be reversed, so we can show that Wales is open for business and give our family firms the backing that they deserve?

Mae bron i 94 y cant o gwmnïau Cymru yn eiddo i deuluoedd. Nhw yw asgwrn cefn ein strydoedd mawr ar draws fy etholaeth ac, rwy'n siŵr, etholaethau Aelodau eraill. Eto, yn hytrach na'u cefnogi nhw, mae caethiwed Llafur i dreth yn eu parlysu. Rydym ni eisoes yn dioddef gyda'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. Nawr mae gennym ni fusnesau sy'n wynebu yswiriant gwladol cyflogwyr uwch ac ymosodiadau ar ryddhad eiddo busnes. Beth mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu llai o fuddsoddiad, llai o swyddi a mwy o siopau wedi'u bordio yng nghanol ein trefi. Rydych chi'n cyflwyno darlun deniadol o ran adfywio, Prif Weinidog, ond mewn gwirionedd yr unig beth y mae Llafur yn ei gyflawni yw trethiant uwch. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, ymuno â ni ar y meinciau hyn i alw am wrthdroi'r trethi niweidiol hyn, fel y gallwn ni ddangos bod Cymru'n agored ar gyfer busnes a rhoi'r gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu i'n cwmnïau teuluol?

13:40

I cannot believe the Tories are giving us lessons on taxation—the highest tax burden in 70 years under your watch. We are serious about making sure that we are in a position where we can pay for our local services, that we invest in our communities, and that's what we're doing.

Allaf i dim credu bod y Torïaid yn rhoi gwersi i ni ar drethiant—y baich treth uchaf mewn 70 mlynedd o dan eich goruchwyliaeth chi. Rydym ni o ddifrif ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa lle gallwn ni dalu am ein gwasanaethau lleol, ein bod ni'n buddsoddi yn ein cymunedau, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Good afternoon, First Minister. You've heard lots of comments, and I would agree with some, but disagree with quite a few. We do have an outdated business system here in our town centres, which is forcing our businesses to compete with one hand tied behind their backs. We have a position here where high-street shops, pubs and cafes are paying far more than their fair share, while online giants are paying much, much less. Amazon pays only 0.4 per cent of its sales in business rates, compared to around 5 per cent for other retailers. In England, we've seen that targeted support for hospitality is being extended, but not here in Wales. So, I really want to just press you on the issue of a levy on online sales, and that that levy can go to support our local businesses. Do you support a levy on online sales, and, if you do, how would you see that being used to support our small businesses here in Wales? Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rydych chi wedi clywed llawer o sylwadau, a byddwn i'n cytuno â rhai, ond yn anghytuno â chryn dipyn. Mae gennym ni system fusnes hen ffasiwn yma yng nghanol ein trefi, sy'n gorfodi ein busnesau i gystadlu gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau. Mae gennym ni sefyllfa yma lle mae siopau, tafarndai a chaffis ar y stryd fawr yn talu llawer mwy na'u cyfran deg, tra bod cewri ar-lein yn talu llawer, llawer llai. Mae Amazon yn talu dim ond 0.4 y cant o'i werthiannau mewn ardrethi busnes, o'i gymharu â thua 5 y cant i fanwerthwyr eraill. Yn Lloegr, rydym ni wedi gweld bod cymorth wedi'i dargedu ar gyfer lletygarwch yn cael ei ymestyn, ond nid yma yng Nghymru. Felly, rwyf i wir eisiau eich pwyso chi ar y mater o ardoll ar werthiannau ar-lein, ac y gall yr ardoll honno fynd i gefnogi ein busnesau lleol. A ydych chi'n cefnogi ardoll ar werthiannau ar-lein, ac, os ydych chi, sut fyddech chi'n gweld hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein busnesau bach yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Thanks very much. We recognise that we do need to be sensitive to the different needs of the different businesses on our high streets. That's why we've undertaken a consultation on changing the non-domestic rates multiplier in Wales, and the results of that will come out shortly. What I can tell you is that we are serious as a Government in terms of putting our town centres first. That's why we have a 'town centre first' policy. That's why we've invested over £100 million in Transforming Towns, making a difference in every community, in every constituency across Wales. We're touching each of those constituencies in some way.

When it comes to online sales, obviously, this is something that is under the remit of the UK Government rather than the Welsh Government, but what I can tell you is that we are very proud of the fact that we are trying to drive businesses into the town centre, making sure that we have a balanced approach to the town centre. That's why we've made it clear, when it comes to the future, we do want to see, for example, licensing for tobacco and vape shops in our community, because there is a proliferation of those and there's an imbalance on our high street in relation to those.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cydnabod bod angen i ni fod yn sensitif i wahanol anghenion y gwahanol fusnesau ar ein strydoedd mawr. Dyna pam rydym ni wedi cynnal ymgynghoriad ar newid y lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru, a bydd canlyniadau hwnnw yn dod cael eu cyhoeddi yn fuan. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni o ddifrif fel Llywodraeth o ran rhoi canol ein trefi yn gyntaf. Dyna pam mae gennym ni bolisi 'canol tref yn gyntaf'. Dyna pam rydym ni wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn Trawsnewid Trefi, gan wneud gwahaniaeth ym mhob cymuned, ym mhob etholaeth ledled Cymru. Rydyn ni'n cyffwrdd â phob un o'r etholaethau hynny mewn rhyw ffordd.

O ran gwerthiannau ar-lein, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n rhan o gylch gwaith Llywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni'n ceisio gyrru busnesau i ganol trefi, gan wneud yn siŵr bod gennym ni ddull cytbwys o ymdrin â chanol trefi. Dyna pam rydym ni wedi ei gwneud yn eglur, o ran y dyfodol, ein bod ni eisiau gweld, er enghraifft, trwyddedu ar gyfer siopau tybaco a fêps yn ein cymuned, oherwydd ceir lluosogiad o'r rheini a cheir anghydbwysedd ar ein stryd fawr o ran y rheini.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Darren Millar.

First Minister, before I go on to ask you about another important issue this afternoon, I want to ask you about some news that emerged last week. On Friday, the former leader of Reform UK here in Wales—and former Member, of course, of this Welsh Parliament—Nathan Gill, admitted to taking bribes to make pro-Russian statements in the European Parliament. The current Reform leader in Wales, who doesn't of course live in Wales, Nigel Farage, has disgustingly also cosied up to the Russians in the past. He's spoken openly of his admiration for Vladimir Putin, and even pushed the Russian propaganda lie that the west provoked the illegal Russian invasion of Ukraine. Do you agree with me that Reform is a clear and present danger to our national security here in Wales and across our United Kingdom?

Prif Weinidog, cyn i mi fynd ymlaen i ofyn i chi am fater pwysig arall y prynhawn yma, hoffwn ofyn i chi am rywfaint o newyddion a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf. Ddydd Gwener, fe wnaeth cyn-arweinydd Reform UK yma yng Nghymru—a chyn Aelod, wrth gwrs, o'r Senedd hon yng Nghymru—Nathan Gill, gyfaddef ei fod wedi cymryd llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop. Mae'r arweinydd Reform presennol yng Nghymru, nad yw'n byw yng Nghymru wrth gwrs, Nigel Farage, hefyd wedi cwtsho lan at y Rwsiaid yn y gorffennol. Mae wedi siarad yn agored am ei edmygedd o Vladimir Putin, a hyd yn oed gwthio celwydd propaganda gan Rwsia bod y gorllewin wedi ysgogi ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin. A ydych chi'n cytuno â mi bod Reform yn berygl eglur a phresennol i'n diogelwch cenedlaethol yma yng Nghymru ac ar draws ein Teyrnas Unedig?

I absolutely do, Darren. It's good to agree with you on something. On this issue, I must say that we knew that Reform is a threat in Wales, that there is a real possibility of corruption and chaos, and now we have evidence of that through someone who was the former leader of Reform in Wales. I think we've all been appalled by the acts of the former leader of Reform in Wales, a person who was a Member of this Chamber, one of seven Members elected to the party led by Nigel Farage. By the end of the term, six of them had left. I think it is important that people recognise that the Brexit Party, again, previously led by Nigel Farage, voted against measures designed to counter Russian disinformation. This is really serious stuff, and I do think that there are questions to answer by people, not least Reform's candidate in the Caerphilly by-election, Llŷr Powell, who was employed as an adviser to Gill. I think we need to know what did he know, when did he know it and did he report it.

Ydw, yn sicr, Darren. Mae'n braf cytuno â chi ar rywbeth. Ar y mater hwn, mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwybod bod Reform yn fygythiad yng Nghymru, bod posibilrwydd gwirioneddol o lygredd ac anhrefn, a nawr mae gennym ni dystiolaeth o hynny trwy rywun a oedd yn gyn-arweinydd Reform yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael ein dychryn gan weithredoedd cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, unigolyn a oedd yn Aelod o'r Siambr hon, un o saith Aelod a etholwyd i'r blaid a arweiniwyd gan Nigel Farage. Erbyn diwedd y tymor, roedd chwech ohonyn nhw wedi gadael. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod y Brexit Party, eto, dan arweiniad Nigel Farage yn flaenorol, wedi pleidleisio yn erbyn mesurau a oedd â'r bwriad o wrthsefyll twyllwybodaeth Rwsia. Mae'r rhain yn bethau difrifol iawn, ac rwyf i yn meddwl bod cwestiynau i'w hateb gan bobl, yn enwedig ymgeisydd Reform yn isetholiad Caerffili, Llŷr Powell, a gyflogwyd fel cynghorydd i Gill. Rwy'n credu bod angen i ni wybod beth oedd e'n ei wybod, pryd roedd yn ei wybod ac a wnaeth hysbysu amdano.

13:45

I think they're very important questions that do need a response. But, First Minister, one of the other issues that occurred on Friday was the UK Government's announcement of compulsory digital ID for people across the UK, including here in Wales, by 2029, something that was not in the Labour Party manifesto in advance of the general election last year. The Prime Minister announced that digital ID will be required for all UK residents and citizens who want to work, renters who need to prove their identity to their landlords, anyone applying for welfare benefits, and even for parents applying for free childcare. More than 2.5 million people across the UK have already signed a petition against these plans, including more than 135,000 here in Wales. Can you tell us today, do you support, as a Welsh Government, the UK Government's plans for digital ID?

Rwy'n credu eu bod nhw'n gwestiynau pwysig iawn sydd angen ymateb. Ond, Prif Weinidog, un o'r materion eraill a ddigwyddodd ddydd Gwener oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU o gerdyn adnabod digidol gorfodol i bobl ledled y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, erbyn 2029, rhywbeth nad oedd ym maniffesto'r Blaid Lafur cyn yr etholiad cyffredinol y llynedd. Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd angen cerdyn adnabod digidol ar holl drigolion a dinasyddion y DU sydd eisiau gweithio, rhentwyr sydd angen profi eu hunaniaeth i'w landlordiaid, unrhyw un sy'n gwneud cais am fudd-daliadau lles, a hyd yn oed rhieni sy'n gwneud cais am ofal plant am ddim. Mae mwy na 2.5 miliwn o bobl ledled y DU eisoes wedi llofnodi deiseb yn erbyn y cynlluniau hyn, gan gynnwys mwy na 135,000 yma yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthym ni heddiw, a ydych chi'n cefnogi, fel Llywodraeth Cymru, cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cerdyn adnabod digidol?

I can tell you that personally I don't object to this. I think we are open to working with the UK Government on the development of a digital ID card and the implications there are for Wales. I want to see what that looks like. I want to make sure that they understand that we want that as a bilingual card, that we want to make sure that the Welsh flag is part of it, and I would object to it being called a 'Brit card'. Let us be clear that we need, however, to have a broader discussion on this. We need to talk to our social partners and work out the implications of a digital ID card for workers in Wales. But personally, I can tell you that, at the moment, Tesco knows more about me than the state does.

Gallaf ddweud wrthych nad wyf i'n bersonol yn gwrthwynebu hyn. Rwy'n credu ein bod ni'n agored i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu cerdyn adnabod digidol a'r goblygiadau sydd yna i Gymru. Rwyf i eisiau gweld sut mae hynny'n edrych. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall ein bod ni eisiau hwnnw fel cerdyn dwyieithog, ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod baner Cymru yn rhan ohono, a byddwn yn gwrthwynebu ei alw'n 'gerdyn Brit'. Gadewch i ni fod yn eglur bod angen i ni, fodd bynnag, gael trafodaeth ehangach ar hyn. Mae angen i ni siarad â'n partneriaid cymdeithasol a gweithio allan goblygiadau cerdyn adnabod digidol i weithwyr yng Nghymru. Ond yn bersonol, gallaf ddweud wrthych chi, ar hyn o bryd, bod Tesco yn gwybod mwy amdanaf i na'r wladwriaeth.

First Minister, you want a Welsh flag on a digital ID card, but you don't like Welsh flags on our lampposts. That's the ridiculous situation that we have here in Wales. I find it astonishing, frankly, that a Government that bleats on and on about there not being enough money for Welsh public services is backing a digital ID scheme that the London School of Economics has said will cost £20 billion—that's £20,000 million—across the UK in the first 10 years alone. About £1 billion of that would come to Wales to invest in our NHS so that we can get people off those horrific waiting lists, into our schools so that young people can get the education they need, and investment, of course, into our roads so we can get our economy moving again. How on earth can you justify such wasteful spending on digital ID when there are so many people languishing on those waiting lists, so many young people coming out of our schools illiterate, and so many people in our communities fighting to save their libraries, leisure centres and public loos? It is a disgrace, and don't you know it.

Prif Weinidog, rydych chi eisiau baner Cymru ar gerdyn adnabod digidol, ond dydych chi ddim yn hoffi baneri Cymru ar ein polion lampau. Dyna'r sefyllfa chwerthinllyd sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'n rhyfeddod i mi, a dweud y gwir, bod Llywodraeth sy'n achwyn ac achwyn ynglŷn â'r ffaith nad oes digon o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi cynllun adnabod digidol y mae Ysgol Economeg Llundain wedi dweud fydd yn costio £20 biliwn—sy'n £20,000 miliwn—ar draws y DU yn ystod y 10 mlynedd gyntaf yn unig. Byddai tua £1 biliwn o hynny yn dod i Gymru i'w fuddsoddi yn ein GIG fel y gallwn ni gael pobl oddi ar y rhestrau aros erchyll hynny, i'n hysgolion fel y gall pobl ifanc gael yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw, a buddsoddiad, wrth gwrs, yn ein ffyrdd fel y gallwn ni gael ein heconomi yn symud eto. Sut ar y ddaear allwch chi gyfiawnhau gwariant mor wastraffus ar gerdyn adnabod digidol pan fo cynifer o bobl yn dioddef ar y rhestrau aros hynny, cynifer o bobl ifanc yn dod allan o'n hysgolion yn anllythrennog, a chynifer o bobl yn ein cymunedau yn brwydro i achub eu llyfrgelloedd, eu canolfannau hamdden a'u toiledau cyhoeddus? Mae'n gywilydd, ac rydych chi'n gwybod hynny'n iawn.

Can I just start by making it clear that I have never objected to the Welsh flag being flown on our streets? In fact, I think it's important that we make sure we claim the flag, not as any individual party, but for our nation. It belongs to us all, and let's make sure nobody takes control of that. 

I think it's really important for us to recognise that, when it comes to digital ID, I do think that we have to move into the twenty-first century. We all are using our mobile phones in so many different ways in our daily lives. It just seems very strange to me that the state is not going to be a part of that, and I do think that there are opportunities here. Obviously, there needs to be a lot of work done to make sure that any information is secure and that personal details are secure, but this is something that is very common across many, many nations of the world.

A gaf i ddechrau drwy ei gwneud hi'n eglur nad wyf i erioed wedi gwrthwynebu baner Cymru yn cael ei chwifio ar ein strydoedd? A dweud y gwir, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n hawlio'r faner, nid fel unrhyw blaid unigol, ond i'n cenedl. Mae'n perthyn i ni i gyd, a gadewch i ni wneud yn siŵr nad oes neb yn cymryd rheolaeth o hynny. 

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod, o ran cardiau adnabod digidol, fy mod i'n credu bod yn rhaid i ni symud i'r unfed ganrif ar hugain. Rydym ni i gyd yn defnyddio ein ffonau symudol mewn cynifer o wahanol ffyrdd yn ein bywydau bob dydd. Mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi nad yw'r wladwriaeth yn mynd i fod yn rhan o hynny, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yma. Yn amlwg, mae angen gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr bod unrhyw wybodaeth yn ddiogel a bod manylion personol yn ddiogel, ond mae hyn yn rhywbeth sy'n gyffredin iawn ar draws llawer iawn o wledydd y byd.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch, Llywydd. The 2026 Senedd election is a fight for our nation's future. On that, I certainly don't disagree with the First Minister. But having seen her speech on Sunday, I honestly think this is a leader and a party who have lost their way. Of course, nobody thinks for a second that Plaid Cymru and Reform offer the same proposition, yet in her speech the First Minister used language, quite frankly, unbecoming of her office to describe her political opponents: 'different poison, same bottle'. In politics, words do matter, so I would ask the First Minister to reflect on her choice of tone and terminology. Does she really think that Plaid Cymru and Reform are so similar? Where we promote unity, they sow division. It's progressive versus regressive. Where we advocate for Wales to stand on its own two feet, they flirt with the idea of direct control from Westminster, silencing Wales's voice. Where we promote our culture and language, they proudly say it's not a priority. And then there's the Trump-style language. So did the First Minister write those words herself, or will she blame an aide like Keir Starmer did with his 'island of strangers' speech?

Diolch, Llywydd. Mae etholiad y Senedd yn 2026 yn frwydr dros ddyfodol ein cenedl. Ar hynny, yn sicr nid wyf i'n anghytuno â'r Prif Weinidog. Ond ar ôl gweld ei haraith ddydd Sul, rwyf i wir yn credu bod hon yn arweinydd a phlaid sydd wedi colli eu ffordd. Wrth gwrs, does neb yn meddwl am eiliad bod Plaid Cymru a Reform yn gwneud yr un cynnig, ond yn ei haraith defnyddiodd y Prif Weinidog iaith, yn hollol onest, nad yw'n addas ar gyfer ei swydd i ddisgrifio ei gwrthwynebwyr gwleidyddol: 'gwenwyn gwahanol, yr un botel'. Mewn gwleidyddiaeth, mae geiriau yn bwysig, felly byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog fyfyrio ar ei dewis o dôn a therminoleg. A yw hi wir yn meddwl bod Plaid Cymru a Reform mor debyg? Lle'r ydym ni'n hyrwyddo undod, maen nhw'n hau rhaniadau. Mae'n fater o flaengar yn erbyn atchweliadol. Pan fyddwn ni'n eirioli dros Gymru i sefyll ar ei thraed ei hun, maen nhw'n ymhel â'r syniad o reolaeth uniongyrchol o San Steffan, gan dawelu llais Cymru. Lle'r ydym ni'n hyrwyddo ein diwylliant a'n hiaith, maen nhw'n dweud yn falch nad yw'n flaenoriaeth. Ac yna ceir yr iaith yn arddull Trump. Felly a wnaeth y Prif Weinidog ysgrifennu'r geiriau hynny ei hun, neu a wnaiff hi roi'r bai ar gynorthwyydd fel y gwnaeth Keir Starmer gyda'i araith 'ynys o ddieithriaid'?

13:50

Let me just be clear that I think that Reform wants to divide our communities and Plaid wants to divide our nations. Reform wants to blame foreigners and Plaid wants to blame Westminster. I think that it is important for us to recognise that grown-up politics is about taking responsibility—something that you didn't do when you voted with the Tories against that extra money coming into our communities.

Gadewch i mi fod yn eglur fy mod i'n meddwl bod Reform eisiau rhannu ein cymunedau a bod Plaid Cymru eisiau rhannu ein cenhedloedd. Mae Reform eisiau rhoi'r bai ar dramorwyr ac mae Plaid Cymru eisiau rhoi'r bai ar San Steffan. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod gwleidyddiaeth aeddfed yn golygu cymryd cyfrifoldeb—rhywbeth na wnaethoch chi pan wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid yn erbyn yr arian ychwanegol hwnnw yn dod i mewn i'n cymunedau.

The Labour Party in this Senedd vote with the Tories all the time. I remind the First Minister that her party blamed Westminster for everything for 14 years when the Conservatives were in Government, and I agree with her on the actions of the UK Government. But history will not judge this First Minister's use of words kindly. She has fundamentally misread the mood of the nation and failed to give a thought-out analysis of the current state of Welsh politics and the challenges the next Government faces. In her desperation, frankly, for a headline, she has ceded all credibility. For 100 years, my party has devoted itself to ideas that make Wales a better place, promoting unity and social justice. As she knows, we have shown our willingness to try and find common ground with our political opponents where we can. In one sentence, the First Minister has exposed the fact that she is blind to those values. On the weekend, through her use of language, she became a weakened leader of a diminished party. She used that word 'serious' again earlier today. Can't she see that she is undermining the seriousness of the role of First Minister?

Mae'r Blaid Lafur yn y Senedd hon yn pleidleisio gyda'r Torïaid drwy'r amser. Rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog bod ei phlaid wedi rhoi'r bai ar San Steffan am bopeth am 14 mlynedd pan oedd y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â hi ar weithredoedd Llywodraeth y DU. Ond ni fydd hanes yn barnu defnydd y Brif Weinidog hon o eiriau yn garedig. Mae hi wedi camddarllen yn sylfaenol awyrgylch y genedl ac wedi methu â rhoi dadansoddiad meddylgar o gyflwr presennol gwleidyddiaeth Cymru a'r heriau y mae'r Llywodraeth nesaf yn eu hwynebu. Yn ei hangen ofnadwy, a bod yn onest, i sicrhau pennawd, mae wedi ildio pob hygrededd. Ers 100 mlynedd, mae fy mhlaid wedi ymroi ei hun i syniadau sy'n gwneud Cymru yn lle gwell, gan hyrwyddo undod a chyfiawnder cymdeithasol. Fel y mae'n gwybod, rydym ni wedi dangos ein parodrwydd i geisio dod o hyd i dir cyffredin gyda'n gwrthwynebwyr gwleidyddol lle gallwn. Mewn un frawddeg, mae'r Prif Weinidog wedi datgelu'r ffaith ei bod hi'n ddall i'r gwerthoedd hynny. Dros y penwythnos, trwy ei defnydd o iaith, daeth yn arweinydd gwannach o blaid lai. Defnyddiodd yr ymadrodd 'o ddifrif' hwnnw eto yn gynharach heddiw. Onid yw hi'n gweld ei bod hi'n tanseilio difrifoldeb swyddogaeth y Prif Weinidog?

Gosh, you're sensitive, aren't you? I do think that we probably need to remind ourselves what your party has devoted itself to for the past 100 years, and that is independence. And independence is about division. It's about dividing ourselves from the rest of the United Kingdom. Every year and every discussion that is spent on chasing independence and following constitutional conversations is time not being spent on really pushing the agendas that are of interest to the public in Wales: making sure that we deliver on health, on education, on housing and on making sure that transport is addressed within our communities.

Mawredd, rydych chi'n sensitif, onid ydych chi? Rwy'n credu yn ôl pob tebyg bod angen i ni atgoffa ein hunain o'r hyn y mae eich plaid wedi ymroi iddo dros y 100 mlynedd diwethaf, ac annibyniaeth yw hynny. Ac mae annibyniaeth yn golygu gwahanu. Mae'n golygu gwahanu ein hunain oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig. Mae pob blwyddyn a phob trafodaeth sy'n cael eu treulio ar fynd ar drywydd annibyniaeth a dilyn sgyrsiau cyfansoddiadol yn amser nad yw'n cael ei dreulio ar wthio'r agendâu sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd yng Nghymru: gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni o ran iechyd, o ran addysg, o ran tai ac o ran gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth yn cael sylw yn ein cymunedau.

The debate on independence, Llywydd, is a debate on our potential as a nation and what we can achieve. This Labour Government in Wales is all about what we can't and how much we should settle for what we have. What I see is a Government in panic, and understandably so. But why is it that the First Minister is always now on the back foot and playing catch-up? On Friday, she was for a wealth tax, but the week before she voted against a Plaid Cymru motion calling for one. On Saturday, she said, 'Vote Labour for stability' despite Labour going through three First Ministers only last year. By Saturday evening, she was lauding free school meals, which she repeatedly voted against and which is only happening because Plaid Cymru made it happen. And on Sunday, Labour made the case for a sovereign wealth fund for the profits of the Crown Estate, a long-standing Plaid Cymru policy. If Plaid Cymru is so poisonous, why is the First Minister so happy to steal all our ideas?

Mae'r ddadl ar annibyniaeth, Llywydd, yn ddadl ar ein potensial fel cenedl a'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn sôn yn barhaus am yr hyn na allwn ei gyflawni a faint y dylem ni fodloni ar yr hyn sydd gennym ni. Yr hyn yr wyf i'n ei weld yw Llywodraeth mewn panig, ac yn ddealladwy felly. Ond pam mae'r Prif Weinidog bob amser ar y droed gefn ac yn dal i fyny bellach? Ddydd Gwener, roedd hi o blaid treth gyfoeth, ond yr wythnos cynt fe wnaeth hi bleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru yn galw am un. Ddydd Sadwrn, dywedodd, 'Pleidleisiwch dros Lafur ar gyfer sefydlogrwydd' er i Lafur fynd trwy dri Phrif Weinidog dim ond y llynedd. Erbyn nos Sadwrn, roedd hi'n canmol prydau ysgol am ddim, y gwnaeth hi bleidleisiodd yn eu herbyn dro ar ôl tro ac sy'n digwydd dim ond oherwydd bod Plaid Cymru wedi gwneud iddo ddigwydd. A ddydd Sul, fe wnaeth Llafur y ddadl dros gronfa gyfoeth sofran ar gyfer elw Ystad y Goron, polisi Plaid Cymru hirsefydlog. Os yw Plaid Cymru mor wenwynig, pam mae'r Prif Weinidog mor hapus i ddwyn ein holl syniadau?

It's very interesting; one idea we won't be stealing is your commitment that you've just made again to wanting to see independence. What we're trying to do is to make sure that we always set our own course that is in keeping with the needs and the wants of the people in Wales. We've been charting a red Welsh way, and it's great to see the UK Government following that path now: introducing free school breakfasts, something we've been doing for 21 years; introducing an international youth exchange programme, something again that we have already; introducing a youth guarantee programme—again, tick, we've done that; reintroducing the education maintenance allowance; and increasing wages for care workers. They're all things that we've already delivered in Wales.

The things that matter to the public are the things that we will focus on, for example making sure that people have help with the cost-of-living crisis. One of the things that we'll be ensuring happens is that we introduce late-night Valleys trains, which will run for the first time, helping people who want to enjoy a social night out, and saving them money when they return to their homes. And as I say, we'll be increasing our support to town centres, transforming our towns, and clamping down on the number of vape shops.

Mae'n ddiddorol iawn; un syniad na fyddwn ni'n ei ddwyn yw eich ymrwymiad yr ydych chi newydd ei wneud eto i fod eisiau gweld annibyniaeth. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni bob amser yn pennu ein trywydd ein hunain sy'n cyd-fynd ag anghenion a dymuniadau'r bobl yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn llywio ffordd goch Gymreig, ac mae'n wych gweld Llywodraeth y DU yn dilyn y llwybr hwnnw nawr: cyflwyno brecwast ysgol am ddim, rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers 21 mlynedd; cyflwyno rhaglen gyfnewid ieuenctid ryngwladol, rhywbeth eto sydd gennym ni eisoes; cyflwyno rhaglen gwarant ieuenctid—eto, tic, rydym ni wedi gwneud hynny; ailgyflwyno'r lwfans cynhaliaeth addysg; a chynyddu cyflogau i weithwyr gofal. Maen nhw i gyd yn bethau yr ydym ni eisoes wedi eu darparu yng Nghymru.

Y pethau sy'n bwysig i'r cyhoedd yw'r pethau y byddwn ni'n canolbwyntio arnyn nhw, er enghraifft gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cymorth gyda'r argyfwng costau byw. Un o'r pethau y byddwn ni'n sicrhau fydd yn digwydd yw ein bod ni'n cyflwyno trenau hwyr y nos i'r Cymoedd, a fydd yn rhedeg am y tro cyntaf, gan helpu pobl sydd eisiau mwynhau noson allan gymdeithasol, a chan arbed arian iddyn nhw pan fyddan nhw'n dychwelyd i'w cartrefi. Ac fel y dywedais i, byddwn ni'n cynyddu ein cymorth i ganol trefi, yn trawsnewid ein trefi, ac yn cymryd camau ar nifer y siopau fêps.

13:55
Tomenni Sborion Nas Defnyddir
Disused Spoil Tips

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i liniaru effaith tomenni sborion nas defnyddir ar gymunedau yng Ngorllewin De Cymru? OQ63178

3. How is the Welsh Government working to mitigate the impact of disused spoil tips on communities in South Wales West? OQ63178

Rŷn ni'n cymryd camau pendant i gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag slips o domenni hanesyddol, yn enwedig tomenni glo yng Ngorllewin De Cymru. Ers 2020, mae dros £100 miliwn wedi'i fuddsoddi, £220 miliwn gyda chefnogaeth Llafur y Deyrnas Unedig, ac erbyn hyn mae gyda ni'r Ddeddf tomenni nas defnyddir gyntaf y byd, a fydd yn sicrhau archwiliadau a chynnal a chadw priodol ar gyfer y dyfodol. Buddsoddiad mawr, Deddf arloesol, a chymunedau yn dod yn gyntaf—dyna Llafur yn cyflawni.

We're taking decisive action to keep communities safe from slips from historic disused spoil tips, especially coal tips in South Wales West. Since 2020, over £100 million has been invested, £220 million with UK Labour’s support, and now we have a disused tips Act, a world first, to ensure proper inspection and maintenance for the future. Record investment, landmark law and communities put first—that's Labour delivering.

Buddsoddiad mawr, ond does dim buddsoddiad yng nghymuned Ysgol Godre'r Graig yng Nghwm Tawe.

Great investment, but there is no investment in the Ysgol Godre'r Graig area in the Swansea valley.

Six years ago, a medium-level risk from a quarry spoil tip near Godre'r Graig Primary School was identified, and as a result the school was closed. I've spoken about it here many times, because the legislation isn't covering this type of tip.FootnoteLink The pupils were moved out of their community into temporary portakabins in Pontardawe six years ago, and today those pupils still don't have a permanent school building.

Despite these challenges, Estyn has recognised Godre'r Graig primary as a warm, welcoming school, meeting the needs of its learners. I met with the school leaders recently. Their passion and pride in the school and its community were unmistakable. An application for support with funding for a replacement building has been submitted to the Welsh Government by Neath Port Talbot Council, but the ongoing uncertainty, amplified by Government responses so far, is impacting pupil numbers.

From correspondence made available to the school, it appears this application is being assessed as if it were for a brand new school, not a replacement one for one closed through no fault of the staff or pupils or community, but because of the scars of our industrial legacy. The Welsh Government says it's building world-class education infrastructure, so why are the children of Ysgol Godre'r Graig still learning in portakabins, miles from their community? Will you admit to the exceptional circumstances of the context of the application for support?

Chwe blynedd yn ôl, nodwyd risg lefel ganolig o domen sbwriel chwarel ger Ysgol Gynradd Godre'r Graig, ac o ganlyniad cafodd yr ysgol ei chau. Rwyf i wedi siarad amdano yma sawl gwaith, oherwydd nid yw'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu'r math hwn o domen.FootnoteLink Cafodd y disgyblion eu symud allan o'u cymuned i gabannau dros dro ym Mhontardawe chwe blynedd yn ôl, a heddiw nid oes gan y disgyblion hynny adeilad ysgol parhaol o hyd.

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Godre'r Graig fel ysgol wresog, groesawgar, sy'n diwallu anghenion ei dysgwyr. Cefais gyfarfod ag arweinwyr yr ysgol yn ddiweddar. Roedd eu hangerdd a'u balchder yn yr ysgol a'i chymuned yn ddigamsyniol. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais am gymorth gyda chyllid ar gyfer adeilad newydd i Lywodraeth Cymru, ond mae'r ansicrwydd parhaus, a gynyddwyd gan ymatebion y Llywodraeth hyd yma, yn effeithio ar niferoedd disgyblion.

O ohebiaeth a wnaed ar gael i'r ysgol, mae'n ymddangos bod y cais hwn yn cael ei asesu fel pe bai ar gyfer ysgol newydd sbon, nid un i ddisodli’r un a gaewyd heb fod unrhyw fai ar y staff na'r disgyblion na'r gymuned, ond oherwydd creithiau ein hetifeddiaeth ddiwydiannol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn adeiladu seilwaith addysg o'r radd flaenaf, felly pam mae plant Ysgol Godre'r Graig yn dal i ddysgu mewn cabannau, filltiroedd o'u cymuned? A wnewch chi gyfaddef i amgylchiadau eithriadol cyd-destun y cais am gymorth?

My understanding is that the Plaid council blocked the new school proposal, and that is something that you may want to reflect on.

Fy nealltwriaeth i yw bod y cyngor Plaid Cymru wedi rhwystro'r cynnig ar gyfer ysgol newydd, ac mae hynny'n rhywbeth efallai yr hoffech chi fyfyrio arno.

You'll appreciate, First Minister, the worry and the concern that people who live amongst our coal tips and spoil tips across Wales will have at living next to them or near them in their landscapes. How are you ensuring, through the Bill that was passed not so long ago in this Senedd, that communities not only have a voice but feel part of that process as well, so that they are properly consulted when this remediation work takes place?

Byddwch yn sylweddoli, Prif Weinidog, y gofid a'r pryder y bydd gan bobl sy'n byw ymhlith ein tomenni glo a'n tomenni sbwriel ledled Cymru o fyw nesaf atyn nhw neu'n agos atyn nhw yn eu tirweddau. Sut ydych chi'n sicrhau, trwy'r Bil a basiwyd ddim mor bell a hynny yn ôl yn y Senedd hon, bod gan gymunedau nid yn unig lais ond eu bod nhw'n teimlo'n rhan o'r broses honno hefyd, fel eu bod yn cael eu hymgynghori'n briodol pan fydd y gwaith adfer hwn yn digwydd?

Thank you very much. I do think it's important that communities are involved. We have got a lot of communities that are affected by coal tips. There are over 2,500 of them in Wales, and it is important also for us to recognise that 130 of these have already had work started on them.

Clearly, there will be disruption to the local community. It is important that when the work starts—. And we are talking about a lot of work starting now. There is over £220 million being spent on this, with money from not just Wales but also the UK Government. That is a lot of local people employed, and those local people, I hope, will also be helping to make sure that the communities are aware of what's happening and that they are engaged in the process while that work is being undertaken.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod cymunedau yn cael eu cynnwys. Mae gennym ni lawer o gymunedau sydd wedi'u heffeithio gan domenni glo. Ceir dros 2,500 ohonyn nhw yng Nghymru, ac mae'n bwysig hefyd i ni gydnabod bod gwaith wedi eisoes wedi dechrau ar 130 o'r rhain.

Yn amlwg, bydd tarfu ar y gymuned leol. Mae'n bwysig pan fydd y gwaith yn dechrau—. Ac rydym ni'n siarad am lawer o waith yn dechrau nawr. Mae dros £220 miliwn yn cael ei wario ar hyn, gydag arian nid yn unig gan Gymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n llawer o bobl leol sy'n cael eu cyflogi, a bydd y bobl leol hynny, rwy'n gobeithio, hefyd yn helpu i wneud yn siŵr bod y cymunedau yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd a'u bod nhw'n rhan o'r broses tra bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud.

14:00
Tenantiaethau
Tenancies

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl sydd ag anifeiliaid anwes yn gallu sicrhau tenantiaethau? OQ63182

4. What is the Welsh Government doing to ensure people with pets can secure housing tenancies? OQ63182

No-one should have to choose between a roof and their dog or cat. For so many people, pets are family. They bring comfort, they bring care and they bring companionship. No-one should have to give that up just to get a tenancy, and that’s why this Labour Government’s Renting Homes (Wales) Act 2016 stops landlords from unreasonably refusing pets.

Ni ddylai neb orfod dewis rhwng to a'u ci neu gath. I gynifer o bobl, mae anifeiliaid anwes yn deulu. Maen nhw'n dod â chysur, maen nhw'n dod â gofal ac maen nhw'n dod â chwmnïaeth. Ni ddylai neb orfod ildio hynny dim ond i gael tenantiaeth, a dyna pam mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y Llywodraeth Lafur hon yn atal landlordiaid rhag gwrthod anifeiliaid anwes yn afresymol.

Diolch am yr ateb.

Thank you for the answer.

One of my constituents in search of a rental property found everywhere had the same statement, 'No pets allowed', everywhere she looked. And we all know the importance of pets in people’s lives. As the First Minister has already said, they’re not just pets, they’re a part of the family, and they shouldn’t be excluded from having safe homes to live in with their families. As we know, private landlords should not be unreasonably refusing to accept pets in their houses, but what more can the Government do to move this issue on and to make people and animals’ lives happier and more fulfilled?

Fe wnaeth un o'm hetholwyr a oedd yn chwilio am eiddo rhent ddarganfod bod gan bobman yr un datganiad, 'Ni chaniateir anifeiliaid anwes', ym mhob man y chwiliodd. Ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd anifeiliaid anwes ym mywydau pobl. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud, nid anifeiliaid anwes yn unig ydyn nhw, maen nhw'n rhan o'r teulu, ac ni ddylid eu heithrio rhag cael cartrefi diogel i fyw ynddyn nhw gyda'u teuluoedd. Fel yr ydym ni'n gwybod, ni ddylai landlordiaid preifat fod yn gwrthod yn afresymol derbyn anifeiliaid anwes yn eu tai, ond beth arall all y Llywodraeth ei wneud i symud y mater hwn ymlaen ac i wneud bywydau pobl ac anifeiliaid yn hapusach ac yn fwy cyflawn?

Thanks very much. As I say, I think as a Government we want to encourage landlords to support tenants with pets as well as tenants seeking to get a pet. Now, landlords and contract holders are able to agree additional terms covering the keeping of pets and the landlord is not allowed to unreasonably refuse the request, and I think there are lots of factors that could determine whether a property is suitable or not for a pet. I mean, if they can’t get access to the outdoors and things; I do think that it needs to be sensitive and it needs to be dealt with on a case-by-case basis. So, we’ve already outlined how we’ll encourage best practice in the private rental sector to tenants with pets through an amendment to the Rent Smart Wales code of practice for licensed landlords.

Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais i, rwy'n credu fel Llywodraeth ein bod ni eisiau annog landlordiaid i gynorthwyo tenantiaid ag anifeiliaid anwes yn ogystal â thenantiaid sydd eisiau cael gafael ar anifail anwes. Nawr, mae landlordiaid a deiliaid contract yn gallu cytuno ar delerau ychwanegol sy'n cwmpasu cadw anifeiliaid anwes ac ni chaniateir i'r landlord wrthod y cais yn afresymol, ac rwy'n credu bod llawer o ffactorau a allai benderfynu a yw eiddo yn addas ar gyfer anifail anwes ai peidio. Hynny yw, os na allan nhw gael mynediad at yr awyr agored a phethau; rwy'n credu bod angen iddo fod yn sensitif a bod angen ymdrin ag ef fesul achos. Felly, rydym ni eisoes wedi amlinellu sut y byddwn ni'n annog arferion gorau yn y sector rhentu preifat i denantiaid ag anifeiliaid anwes trwy welliant i god ymarfer Rhentu Doeth Cymru ar gyfer landlordiaid trwyddedig.

First Minister, I think we can all agree here that we support tenants being able to have pets and we recognise that, by and large, we consider most tenants to be responsible owners. However, landlords face significant challenges with regard to tenants keeping animals. They have no control over the type or number of pets, which can lead to costly issues when tenants leave. And then, of course, there are hygiene concerns and concerns that pets can cause considerable damage and that tenant bonds rarely cover the cost of these repairs. Given the higher risks posed by pet-owning tenants, has the Welsh Government considered allowing landlords to request higher deposits in such cases? Thank you.

Prif Weinidog, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno yn y fan yma ein bod ni'n cefnogi gallu tenantiaid i fod ag anifeiliaid anwes ac rydym ni'n cydnabod, ar y cyfan, ein bod ni'n ystyried bod y rhan fwyaf o denantiaid yn berchnogion cyfrifol. Fodd bynnag, mae landlordiaid yn wynebu heriau sylweddol o ran tenantiaid sy'n cadw anifeiliaid. Nid oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros y math o anifeiliaid na'u nifer, a all arwain at broblemau costus pan fydd tenantiaid yn gadael. Ac yna, wrth gwrs, ceir pryderon hylendid a phryderon y gall anifeiliaid anwes achosi difrod sylweddol a mai anaml y mae bondiau tenantiaid yn talu cost yr atgyweiriadau hyn. O ystyried y risgiau uwch a achosir gan denantiaid sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried caniatáu i landlordiaid ofyn am ernesau uwch mewn achosion o'r fath? Diolch.

I’m sorry, I couldn’t hear you very well because there was a lot of mumbling. But just to say that we’ve got a White Paper on fair rents and adequate housing, and we’re proposing to allow private landlords to cover the cost of an insurance policy relating to pet damage as a permitted payment.

Mae'n ddrwg gen i, doeddwn i ddim yn gallu eich clywed chi'n dda iawn gan fod llawer o fwmian. Ond dim ond i ddweud bod gennym ni Bapur Gwyn ar renti teg a thai addas, ac rydym ni'n cynnig caniatáu i landlordiaid preifat dalu cost polisi yswiriant yn ymwneud â difrod anifeiliaid anwes fel taliad a ganiateir.

O ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan, mae bwlch yn cael ei greu rhwng hawliau rhentwyr yng Nghymru a Lloegr, efo rhentwyr yng Nghymru yn mynd i fod yn waeth eu byd cyn bo hir, ac mae hyn yn wir o ran cadw anifeiliaid anwes. Mae o'n wir yn ehangach hefyd, sydd yn sefyllfa hollol annerbyniol, o gofio bod Cymru yn arfer arwain y ffordd. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i unioni'r sefyllfa? Dwi'n galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun gweithredu ar frys i ddangos mewn manylder sut dŷch chi'n bwriadu cau'r bylchau mewn gwarchodaeth i rentwyr Cymru, y bylchau sy'n cael eu creu rŵan yn sgil y ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr. A gyda llaw, dwi'n gweld hynny fel cam—cam yn unig, ond cam pwysig—tuag at ymgorffori'n uniongyrchol yr hawl i gartref digonol yng nghyfraith Cymru.

As a result of Westminster legislation, there’s a gap being created now between the rights of renters in Wales and in England, with renters in Wales going to be worse off before too very long, and this is true in terms of keeping pets. It is true more broadly too, which is a situation that is entirely unacceptable, given that Wales used to lead the way in this area. So, what are you going to do to put right this wrong? I am calling on the Government to announce an urgent action plan to demonstrate in detail how you intend to close the gaps in safeguards for Welsh renters, the gaps that are now being created as a result of this new legislation in England. And by the way, I see that as a step—just a step, but an important step nevertheless—towards incorporating directly the right to an adequate home into Welsh law.

Wel, jest i fod yn glir, dwi ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle mae hawliau mor wahanol yn Lloegr o gymharu â Chymru, ac felly beth fyddwn ni'n ei wneud yw sicrhau y byddwn ni'n edrych ar y bylchau hynny ac yn sicrhau ein bod ni'n llenwi'r bylchau os bydd angen.

Well, just to be clear, I don’t want to be in a situation where the rights are so different in England as compared to Wales, so what we will be doing is ensuring that we will be looking at those gaps and then ensuring that we do fill those gaps if needed.

Chwaraeon Llawr Gwlad
Grass-roots Sport

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf cymryd rhan mewn chwaraeon llawr gwlad yng Ngogledd Cymru? OQ63179

5. How is the Welsh Government supporting the growth of grassroots sport participation in North Wales? OQ63179

Sport changes lives and we're backing it at every level: £33 million to Sport Wales this year, third generation pitches, new pools and support for grass-roots clubs across north Wales, from refurbished basketball courts in Flint to the UEFA under-19s coming to north Wales next year. And we're turning ambition into action for every child, every club, every community.

Mae chwaraeon yn newid bywydau ac rydym ni'n eu cefnogi ar bob lefel: £33 miliwn i Chwaraeon Cymru eleni, caeau trydedd genhedlaeth, pyllau nofio newydd a chymorth i glybiau ar lawr gwlad ledled y gogledd, o gyrtiau pêl-fasged wedi'u hailwampio yn y Fflint i dîm dan 19 UEFA yn dod i'r gogledd y flwyddyn nesaf. Ac rydym ni'n troi uchelgais yn weithredu ar gyfer pob plentyn, pob clwb, pob cymuned.

14:05

Thank you your response. I was recently delighted to open the newly refurbished basketball courts in Flint, thanks to Welsh Government funding and Basketball Wales for driving that forward. On 14 October, I'll be welcoming Basketball Wales to the Senedd, and it'll be an opportunity to shine a spotlight on the growth of the most in-demand, inclusive and diverse sport in Wales, with more than half of the children across the country now playing the game, and waiting lists at many venues. Despite the demand, the development of the game is being held back by a lack of affordable facilities across Wales, but we are trying to secure a much-needed Basketball Wales centre in north Wales, as well as one for south Wales, which could be a sports facility with multi-use indoor courts with space for bleachers, for competitions and supporters to attend. A key opportunity will be part of the sustainable communities for learning programme. So, First Minister, what consideration has the Government given to this idea for future school builds that could incorporate this, and would officials work with local authorities to see if one could be incorporated?

Diolch am eich ymateb. Yn ddiweddar, roeddwn i wrth fy modd o gael agor y cyrtiau pêl-fasged sydd newydd gael eu hailwampio yn y Fflint, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a Pêl-fasged Cymru am ysgogi hynny. Ar 14 Hydref, byddaf yn croesawu Pêl-fasged Cymru i'r Senedd, a bydd yn gyfle i daflu goleuni ar dwf y gamp y mae'r mwyaf o alw amdani, a mwyaf cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru, â mwy na hanner y plant ledled y wlad bellach yn chwarae'r gêm, a rhestrau aros mewn sawl lleoliad. Er gwaethaf y galw, mae datblygiad y gêm yn cael ei atal gan ddiffyg cyfleusterau fforddiadwy ledled Cymru, ond rydym ni'n ceisio sicrhau canolfan Pêl-fasged Cymru y mae wir ei hangen yn y gogledd, yn ogystal ag un ar gyfer y de, a allai fod yn gyfleuster chwaraeon â chyrtiau dan do aml-ddefnydd â lle ar gyfer meinciau, i gystadlaethau a chefnogwyr fynychu. Un cyfle allweddol fydd bod yn rhan o'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu. Felly, Prif Weinidog, pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i'r syniad hwn ar gyfer adeiladau ysgol yn y dyfodol a allai ymgorffori hyn, ac a wnaiff swyddogion weithio gydag awdurdodau lleol i weld a ellid ymgorffori un?

Thanks very much. I've been astonished to see the growth in interest when it comes to basketball and the real enthusiasm that we see across the whole country. So, it's great to see that. We are very aware of this. Sport Wales has invested £40,000 directly to basketball clubs last year through the Be Active Wales fund. On top of that, £150,000 was invested directly to Basketball Wales for outdoor courts and hoops across Wales. So, it's great to see young people using these facilities, but you're asking specifically about schools. One of the things that we're really keen to promote in the Welsh Government is community-focused schools, and I think there's a real opportunity there for us to use some of that sustainable communities for learning money to make sure that we have that co-location of support services, and there's £20 million of capital funding available for that.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf i wedi cael fy syfrdanu o weld y twf mewn diddordeb o ran pêl-fasged a'r brwdfrydedd gwirioneddol yr ydym ni'n ei weld ar draws y wlad gyfan. Felly, mae'n wych gweld hynny. Rydym ni'n ymwybodol iawn o hyn. Mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £40,000 yn uniongyrchol mewn clybiau pêl-fasged y llynedd trwy gronfa Cymru Actif. Ar ben hynny, buddsoddwyd £150,000 yn uniongyrchol yn Pêl-fasged Cymru ar gyfer cyrtiau a chylchoedd awyr agored ledled Cymru. Felly, mae'n wych gweld pobl ifanc yn defnyddio'r cyfleusterau hyn, ond rydych chi'n gofyn yn benodol am ysgolion. Un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w hyrwyddo yn Llywodraeth Cymru yw ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ac rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yno i ni ddefnyddio rhywfaint o'r arian cymunedau dysgu cynaliadwy hwnnw i wneud yn siŵr bod gennym ni'r cyd-leoliad hwnnw o wasanaethau cymorth, ac mae £20 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer hynny.

One of the biggest barriers to grass-roots participation in sport in north Wales is the rescinding of the under-20s offer of the six nations in Colwyn Bay at Eirias Park, and then also as well the stopping of the Glamorgan cricket games at Colwyn Bay in the summer also, which has really depleted people's offering of live international sports at that level for people in north Wales. So, what reassurances can you give to my constituents and people across north Wales that you are taking this matter seriously, and what conversations are you having with Sport Wales, with the Welsh Rugby Union, with Cricket Wales as to how we can remedy these problems and create an offering of live international sport for people across Wales no matter where they live?

Un o'r rhwystrau mwyaf i gyfranogiad llawr gwlad mewn chwaraeon yn y gogledd yw diddymu arlwy dan 20 oed y chwe gwlad ym Mae Colwyn ym Mharc Eirias, ac yna hefyd rhoi'r gorau i gynnal gemau criced Morgannwg ym Mae Colwyn yn yr haf hefyd, sydd wir wedi teneuo arlwy pobl o chwaraeon rhyngwladol byw ar y lefel honno i bobl yn y gogledd. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr a phobl ledled y gogledd eich bod chi'n cymryd y mater hwn o ddifrif, a pha sgyrsiau ydych chi'n eu cael gyda Chwaraeon Cymru, gydag Undeb Rygbi Cymru, gyda Criced Cymru ynghylch sut y gallwn ni ddatrys y problemau hyn a chreu cynnig o chwaraeon rhyngwladol byw i bobl ledled Cymru waeth ble maen nhw'n byw?

Thanks very much. I was very excited when I went to Colwyn Bay and saw Glamorgan playing cricket there. It was quite a shock for me to see it a few years ago, and it is a shame that that is not continuing. I think it is important to recognise that these are independent organisations making their own decisions. Obviously, we as a Government would like to see the kinds of opportunities given to people in south Wales given to people in north Wales, but there are other opportunities for people in north Wales that people in south Wales don't get as well.

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n gynhyrfus iawn pan es i Fae Colwyn i weld Morgannwg yn chwarae criced yno. Roedd yn dipyn o sioc i mi ei weld ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae'n drueni nad yw hynny'n parhau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod y rhain yn sefydliadau annibynnol sy'n gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn amlwg, hoffem ni fel Llywodraeth weld y mathau o gyfleoedd a roddir i bobl yn y de yn cael eu rhoi i bobl yn y gogledd, ond ceir cyfleoedd eraill i bobl yn y gogledd nad yw pobl yn y de yn eu cael hefyd.

Darparu Gwasanaethau Iechyd
Delivery of Health Services

6. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ63147

6. What is the First Minister’s assessment of the delivery of health services in the Hywel Dda University Health Board area? OQ63147

Health boards are responsible for delivering safe, timely, high-quality care, and this Welsh Labour Government is giving them the full backing to do it. In Hywel Dda, that means extra funding, direct intervention and hands-on support from our NHS improvement team—from £481,000 for a new gamma camera at Withybush to £2.7 million for urgent and emergency care. So, let me be clear: services must be safe, sustainable and built around patients, not politics, and that’s why we’re investing, we're planning and we're reforming—to secure NHS care in west Wales for the longer term.

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal diogel, prydlon ac o ansawdd uchel, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn rhoi'r gefnogaeth lawn iddyn nhw wneud hynny. Yn Hywel Dda, mae hynny'n golygu cyllid ychwanegol, ymyrraeth uniongyrchol a chymorth ymarferol gan ein tîm gwella'r GIG—o £481,000 ar gyfer camera gama newydd yn Llwynhelyg i £2.7 miliwn ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Felly, gadewch i mi fod yn eglur: mae'n rhaid i wasanaethau fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac wedi'u seilio ar gleifion, nid gwleidyddiaeth, a dyna pam rydym ni'n buddsoddi, rydym ni'n cynllunio ac rydym ni'n diwygio—i sicrhau gofal GIG yn y gorllewin ar gyfer y tymor hwy.

First Minister, the reality is that accessing even some of the most basic NHS services is a real problem for many of my constituents; whether it's a GP, a dentist or an ambulance, it is a serious struggle for many people to access services quickly in that area. Of course, it's the health board's view that centralising services away from people will improve service delivery, and as you know, I'm firmly against plans that result in people having to travel further for vital and essential services.

Now, the Welsh Government can set an agenda that makes it clear that services should be delivered as close to home as possible, and there should be a proactive strategy to invest in hospitals like Withybush hospital in my constituency. Therefore, First Minister, can you tell us what the Welsh Government is doing to ensure that the health board's latest consultation genuinely takes on board the views of the people of Pembrokeshire? And can you also tell us how the Welsh Government is actually investing in services at Withybush hospital, so that people in Pembrokeshire can access vital services as close to home as possible?

Prif Weinidog, y gwir amdani yw bod cael mynediad at hyd yn oed rhai o wasanaethau mwyaf sylfaenol y GIG yn broblem wirioneddol i lawer o'm hetholwyr; boed yn feddyg teulu, yn ddeintydd neu'n ambiwlans, mae'n frwydr ddifrifol i lawer o bobl gael mynediad at wasanaethau yn gyflym yn yr ardal honno. Wrth gwrs, barn y bwrdd iechyd yw y bydd canoli gwasanaethau oddi wrth bobl yn gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau, ac fel y gwyddoch chi, rwy'n gwrthwynebu'n llwyr cynlluniau sy'n arwain at bobl yn gorfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau hollbwysig a hanfodol.

Nawr, gall Llywodraeth Cymru bennu agenda sy'n ei gwneud hi'n eglur y dylai gwasanaethau gael eu darparu mor agos at adref â phosibl, a dylai fod strategaeth ragweithiol i fuddsoddi mewn ysbytai fel ysbyty Llwynhelyg yn fy etholaeth i. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ymgynghoriad diweddaraf y bwrdd iechyd wir yn cymryd barn pobl sir Benfro i ystyriaeth? A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg mewn gwirionedd, fel y gall pobl yn sir Benfro gael mynediad at wasanaethau hanfodol mor agos at adref â phosibl?

14:10

Thanks very much. I was able to speak to the chair and chief executive of the Hywel Dda health board last week. They are genuinely taking on board, I think, the views of the local community, which is why they’re going to push back a bit, because there’s been a massive response to that.

I do think it’s important for us to recognise the amount of work that is already being done by the Hywel Dda health board. And just to give you an example, in March, GPs saw nearly 177,000 patients. Now, that’s the equivalent to about 46 per cent of the population. I mean, seriously, there’s a lot of work being done here. I do think also that we have to focus on and make sure that we’re interested not just in getting services as close as possible to home, obviously, but also clinical outcomes—what will give the best clinical outcomes to people? That has to be part of the equation.

I’ll just give you another example of the kind of work that is being done in Hywel Dda: 90 per cent of mental health assessments for under 18-year-olds are being done within 28 days of referral; when it comes to over 18-year-olds, 98 per cent of them are being done. Now, that is massive improvement, along with the improvement we’ve seen for two-year planned care, and out-patients waits of over a year falling by 97 per cent in the last year. I do think that Hywel Dda is starting to turn things around.

Diolch yn fawr iawn. Cefais gyfle i siarad â chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda yr wythnos diwethaf. Maen nhw wir yn cymryd i ystyriaeth, rwy'n credu, safbwyntiau'r gymuned leol, a dyna pam maen nhw'n mynd i wthio yn ôl ychydig, oherwydd bu ymateb enfawr i hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod faint o waith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fwrdd iechyd Hywel Dda. Ac i roi enghraifft i chi, ym mis Mawrth, gwelodd meddygon teulu bron i 177,000 o gleifion. Nawr, mae hynny'n cyfateb i tua 46 y cant o'r boblogaeth. Gwrandewch, o ddifrif, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud yma. Rwyf i yn credu hefyd bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar a gwneud yn siŵr bod gennym ni ddiddordeb nid yn unig mewn cael gwasanaethau mor agos â phosibl at adref, yn amlwg, ond hefyd canlyniadau clinigol—beth fydd yn rhoi'r canlyniadau clinigol gorau i bobl? Mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'r ateb.

Fe wnaf i roi enghraifft arall i chi o'r math o waith sy'n cael ei wneud yn Hywel Dda: mae 90 y cant o asesiadau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed yn cael eu cynnal o fewn 28 diwrnod o'u hatgyfeirio; o ran pobl dros 18 oed, mae 98 y cant ohonyn nhw'n yn cael eu cynnal. Nawr, mae hynny'n welliant enfawr, ynghyd â'r gwelliant yr ydym ni wedi ei weld o ran gofal wedi'i gynllunio dwy flynedd, ac arosiadau cleifion allanol o dros flwyddyn yn gostwng 97 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n credu bod Hywel Dda yn dechrau gwella pethau.

Busnesau a Chynhyrchwyr Cymru Dramor
Welsh Businesses and Producers Abroad

7. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i hyrwyddo busnesau a chynhyrchwyr Cymru dramor ar gyfer gweddill y Senedd hon? OQ63145

7. What plans does the First Minister have to promote Welsh businesses and producers abroad for the remainder of this Senedd? OQ63145

This Welsh Labour Government is backing Welsh businesses to go global. Our export action plan is delivering trade missions to Australia, the middle east, North America and beyond, opening doors and winning orders. And while the Tories sneer at Wales having overseas offices, we're out there selling brand Wales with pride, and the result: £400 million in new export sales since 2021. We don't hide behind slogans, we deliver for Welsh businesses and we're bringing that growth back home.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi busnesau Cymru i fynd i lefel fyd-eang. Mae ein cynllun gweithredu ar allforion yn darparu teithiau masnach i Awstralia, i'r dwyrain canol, i ogledd America a thu hwnt, gan agor drysau ac ennill archebion. A tra bod y Torïaid yn gwawdio'r ffaith bod gan Gymru swyddfeydd tramor, rydym ni allan yna yn gwerthu brand Cymru gyda balchder, a'r canlyniad: £400 miliwn mewn gwerthiannau allforio newydd ers 2021. Dydyn ni ddim yn cuddio y tu ôl i sloganau, rydyn ni'n cyflawni dros fusnesau Cymru ac rydyn ni'n dod â'r twf hwnnw yn ôl adref.

You say, First Minister, that you’re out there promoting Wales—one of the biggest places you could’ve been promoting Wales was at the recent state banquet, where Donald Trump brought over the titans of the IT sector, and they were titans of businesses that have trillions of pounds of turnover. You chose not to go there and one of your Labour MPs in Westminster is quoted in the press as saying, ‘We need grown-up politics, not student protests’. Do you regret not going to the state banquet, given that you gave several reasons why you did not attend? And the Scottish First Minister believed that his place was to be around that table promoting Scotland, yet you gave, as I said, several reasons for not attending. So, can you clarify why you didn’t attend and will you reflect on that should an opportunity come again to promote Wales when such a business gathering is pulled together and Wales’s place is around that table?

Rydych chi'n dweud, Prif Weinidog, eich bod chi allan yna yn hyrwyddo Cymru—un o'r lleoedd mwyaf y gallech chi fod wedi bod yn hyrwyddo Cymru oedd yn y wledd wladwriaethol ddiweddar, pan ddaeth Donald Trump â chewri'r sector TG, ac roedden nhw'n gewri o fusnesau sydd â thriliynau o bunnoedd o drosiant. Fe wnaethoch chi ddewis peidio â mynd yno a dyfynnwyd un o'ch ASau Llafur yn San Steffan yn y wasg yn dweud, 'Mae angen gwleidyddiaeth aeddfed arnom ni, nid protestiadau myfyrwyr'. A ydych chi'n difaru peidio â mynd i'r wledd wladwriaethol, o gofio eich bod chi wedi rhoi sawl rheswm pam nad oeddech chi'n bresennol? Ac roedd Prif Weinidog yr Alban yn credu mai ei le ef oedd bod o gwmpas y bwrdd hwnnw yn hyrwyddo'r Alban, ond eto fe wnaethoch chi roi, fel y dywedais i, sawl rheswm am beidio â bod yn bresennol. Felly, a allwch chi egluro pam nad oeddech chi'n bresennol ac a wnewch chi fyfyrio ar hynny pe bai cyfle yn dod eto i hyrwyddo Cymru pan fydd cyfarfod busnes o'r fath yn cael ei ymgynnull ac mae lle Cymru o amgylch y bwrdd hwnnw?

I take my responsibility as the First Minister of Wales very seriously. I have attended a previous state banquet. What I do know from attending that state banquet is that it’s not an appropriate place for you to do business deals—that is simply not the nature of the occasion. The place to do those business deals is in the investment summit that we'll be hosting in December. And in all of the other events that we put on, like the BlasCymru/TasteWales 'meet the buyer' event that will be taking place in October, I can assure you we take this very seriously. And what's really interesting is that, actually, a lot of this work is supported by our international overseas offices, which you want to close.

Rwy'n cymryd fy nghyfrifoldeb fel Prif Weinidog Cymru o ddifrif iawn. Rwyf i wedi bod yn bresennol mewn gwledd wladwriaethol flaenorol. Yr hyn yr wyf i'n ei wybod o fod yn y wledd wladwriaethol honno yw nad yw'n lle priodol i chi wneud cytundebau busnes—nid dyna natur yr achlysur. Y lle i wneud y cytundebau busnes hynny yw yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi y byddwn ni'n ei chynnal ym mis Rhagfyr. Ac yn yr holl ddigwyddiadau eraill yr ydym ni'n eu cynnal, fel digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' BlasCymru/TasteWales a fydd yn cael ei gynnal ym mis Hydref, gallaf eich sicrhau ein bod ni'n cymryd hyn o ddifrif iawn. A'r hyn sy'n wirioneddol ddiddorol yw bod llawer o'r gwaith hwn, mewn gwirionedd, yn cael ei gefnogi gan ein swyddfeydd tramor rhyngwladol, yr ydych chi eisiau eu cau.

14:15
Banc Cymunedol
Community Bank

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? OQ63185

8. Will the First Minister outline the schedule for establishing a community bank in Wales? OQ63185

We've said that we would like to see a mutually owned community bank in Wales, a bank that puts people before profit. That’s why we’ve worked through Banc Cambria, backing operators with over £400,000 to test and develop new models. But the fact is that powers over banking sit with Westminster. So, we are pressing banks to go faster on hubs, super automated teller machines and face-to-face access. The timing of any new delivery rests, though, with commercial parties. But, let me just be clear, our commitment to financial inclusion in Wales is rock solid.

Rydym ni wedi dweud y byddem ni'n hoffi gweld banc cymunedol cydfuddiannol yng Nghymru, banc a fyddai'n rhoi pobl cyn elw. Dyna pam rydym ni wedi gweithio drwy Fanc Cambria, gan gefnogi gweithredwyr gyda dros £400,000 i brofi a datblygu modelau newydd. Ond y gwir amdani yw bod pwerau dros fancio yn aros yn San Steffan. Felly, rydym ni'n pwyso ar y banciau i weithio yn gynt o ran hybiau, peiriannau ATM uwch a mynediad at fancio wyneb yn wyneb. Mae amseriad unrhyw gyflwyniad newydd yn nwylo partïon masnachol, serch hynny. Ond, gadewch i mi fod yn eglur, mae ein hymrwymiad ni i gynhwysiant ariannol yng Nghymru yn un cadarn iawn.

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae banc Lloyds wedi cyhoeddi eu bod nhw'n mynd i gau'r gangen banc olaf yn Rhydaman, ac, yn lle hynny, maen nhw'n cynnig beth maen nhw'n ei alw'n 'banciwr cymunedol'—hynny yw, rhywun fyddai'n ymweld bob pythefnos i eistedd mewn cornel rhyw gaffi yn lleol. Dyna yw realiti yr hybiau bancio mae'r banciau'n sôn amdanyn nhw. Yn lle derbyn y briwsion yma o fyrddau sefydliadau ariannol sydd wedi ecsbloetio ein cymunedau ni erioed, sydd ddim yn becso ynglŷn â buddiannau pobl leol, beth am inni greu banc cymunedol fyddai yma ar gyfer ein pobl yn hirdymor, wedi'i wreiddio yn ein cymunedau ac yn diwallu anghenion ariannol pobl Cymru ar draws y wlad? Dwi'n gwybod roedd un partner wedi tynnu mas, sef Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wireddu'r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu? Ydych chi wedi bod yn chwilio am bartneriaid eraill er mwyn delifro banc cymunedol? A phe bai un yn dod i'r amlwg, a fyddech chi'n fodlon buddsoddi er mwyn sicrhau bod gyda ni fanc cymunedol Cymru er mwyn pobl Cymru i'r dyfodol?

Over the past few days, Lloyds Bank has announced that it is going to be closing the last bank branch in Ammanford, and instead they're offering what they call a 'community banker', namely somebody who will be visiting every fortnight to sit in the corner of a café locally. That's the reality of these banking hubs that the banks are talking about. Instead of accepting these crumbs from the tables of financial institutions that have always exploited our communities, who aren't concerned about the interests of local people, why don't we create a community bank that will be here for our people on a long-term basis, rooted in our communities and meeting the financial needs of the people of Wales across the nation? I know that one partner pulled out, namely the Monmouthshire Building Society. What has the Welsh Government to deliver upon this commitment in the programme for government? Have you been seeking other partners to deliver community banks? If one were to come forward, would you be willing to invest to ensure that we do have a community bank in Wales for the people of Wales in future?

Diolch yn fawr. Rydyn ni'n dal i drafod gyda phobl sydd efallai â diddordeb i sicrhau ein bod ni'n dilyn y trywydd yma rŷn ni wedi'i setio allan, ond y ffaith yw, erbyn 2025, bydd dim ond tua 159 o ganghennau banc neu gymdeithasau adeiladu ar agor yng Nghymru. Dyna pam beth rŷn ni wedi'i wneud yw sicrhau bod 11 o ganolfannau bancio ar gael. Rŷn ni'n rhoi lot o bwysau ar adolygiad mynediad at arian parod trwy Link, ac mae hwn yn gallu hefyd arwain at greu canolfan fancio. Mi fydd yna ddigwyddiad yn Llundain ar 15 Hydref lle bydd yna gyfle i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r Financial Conduct Authority, sydd â phwerau i sicrhau mynediad at arian parod. Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hwn i bobl yn ein cymunedau ni, a dyna pam rŷn ni'n dal i weld a oes modd inni wneud rhywbeth ynglŷn â'r community bank. Ond jest i fod yn glir, mae trafodaethau'n dal i barhau gyda rhai o'r banciau yma.

Thank you very much. We are still having discussions with people who may be interested in ensuring that we do follow this route that we have set out, but the fact is that, by 2025, there will only be 159 banks or building society branches open in Wales. That's why we have ensured that there are 11 banking hubs available. We are putting a lot of pressure on the review of access to cash through Link, and this could also lead to the establishment of banking centres. There will be an event in London on 15 October when there will be an opportunity for the Welsh Government to work with the Financial Conduct Authority, who have powers to ensure access to cash. We know how important this is for people in our communities, and that's why we continue to look to see if there is something that we can do in relation to a community bank. But just to be clear, negotiations and discussions are ongoing.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes—y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

The next item will be the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:19:11
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.

Thank you very much, Llywydd. There are no changes to this week's business. Business for the next three weeks is shown on the business statement, which is available to Members electronically.

Trefnydd, I'd like to request a statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs regarding water quality here in Wales. I recently met with a local environment specialist who had tested two streams at Broadhaven in my constituency, and those tests found, amongst other things, traces of E.coli. Of course, there are very serious public health implications regarding these results, and so it's absolutely vital that Natural Resources Wales undertakes urgent testing so that this issue can be dealt with as quickly as possible. Water quality should be a priority for the Welsh Government and resources should be made available to Natural Resources Wales so that they can facilitate urgent water testing when evidence of harmful bacteria is actually presented to them.

Now, I appreciate that the Deputy First Minister made a statement on water quality in June, but, clearly, things have now moved on, and so therefore I'd be grateful if we could have a statement from the Welsh Government so that we can be confident that Natural Resources Wales has the resources it needs to robustly manage our water sources and ensure that they are as safe as possible.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn ag ansawdd dŵr yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag arbenigwr amgylchedd lleol a oedd wedi gwneud arbrofion ar ddwy nant yn Aberllydan yn fy etholaeth i, ac fe ganfu'r arbrofion hynny fod olion E.coli yn bresennol, ymhlith pethau eraill. Wrth gwrs, mae goblygiadau difrifol iawn o ran iechyd y cyhoedd yn sgil y canlyniadau hyn, ac felly mae hi'n gwbl hanfodol i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal arbrofion ar unwaith ar gyfer ymdrin â'r mater hwn cyn gynted â phosibl. Fe ddylai ansawdd dŵr fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac fe ddylid rhoi adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru i allu hwyluso profion dŵr ar frys pan gyflwynir tystiolaeth wirioneddol o facteria niweidiol iddyn nhw.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi gwneud datganiad ar ansawdd dŵr ym mis Mehefin, ond, yn amlwg, mae pethau wedi symud ymlaen erbyn hyn, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i allu bod â hyder fod yr adnoddau angenrheidiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli ein ffynonellau dŵr yn gadarn a sicrhau eu bod nhw mor ddiogel â phosibl.

14:20

Diolch yn fawr, Paul Davies, and, as you say, the Deputy First Minister is very engaged in water quality and gave a statement back in June. It is a priority for this Welsh Government and I'm sure he will want to update the Senedd on developments in relation to our levers and our responsibilities. But I think it would be timely, and of course you can also ask the questions to him at his oral Senedd questions. But I will raise this with him as an opportunity to update on water quality in Wales.

Diolch yn fawr, Paul Davies, ac, fel rydych chi'n dweud, mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn ymgysylltu llawer iawn ag ansawdd dŵr ac fe roddodd ddatganiad yn ôl ym mis Mehefin. Mae hi'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ac rwy'n siŵr y bydd ef yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ddatblygiadau o ran ein hysgogiadau a'n cyfrifoldebau ni. Ond rwy'n credu y byddai'n amserol, ac wrth gwrs fe allwch chwithau ofyn y cwestiynau iddo ef yn ei gwestiynau llafar yn y Senedd. Ond fe fyddaf i'n codi hyn gydag ef fel cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ansawdd dŵr yng Nghymru.

Trefnydd, I would welcome a statement, please, reaffirming support for former miners who still await pension justice. Former mineworkers have lost out on billions of pounds in pension payments, and Government after Government in Westminster have refused to right this wrong. The last budget finally announced that members of the mineworkers pension scheme would receive extra cash that they're owed, but there was no mention of the British Coal staff superannuation scheme, which also includes ex-miners. These workers earned this money. Many have lived with poisoned lungs and critical conditions as a result of their work. We can't afford for more miners to die before this happens.

Now, I was in a public meeting last week where one former miner, who was 90 years old and who had suffered a stroke, asked in tears what the best possible outcome could be. He needs this money. He deserves this money. Surely this Government has to put pressure on the UK Government to give all those workers enrolled in the scheme the money they're owed. So, can we have a statement please, and can it be before the UK budget?

Trefnydd, fe fyddwn i'n croesawu datganiad, os gwelwch chi'n dda, yn datgan cefnogaeth unwaith eto i gyn-lowyr sy'n parhau i ddisgwyl am gyfiawnder ynglŷn â'u pensiynau. Mae cyn-weithwyr gweithfeydd glo wedi colli biliynau o bunnau mewn taliadau pensiwn, ac mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth yn San Steffan wedi gwrthod unioni'r cam hwn. Cyhoeddodd y gyllideb ddiwethaf o'r diwedd y byddai aelodau o gynllun pensiwn glowyr yn cael yr arian ychwanegol sy'n ddyledus iddyn nhw, ond nid oedd sôn am gynllun blwydd-dal pensiwn staff Glo Prydain, sy'n cynnwys cyn-lowyr hefyd. Fe enillodd y gweithwyr hyn yr arian hwn. Mae llawer wedi byw gydag ysgyfaint gwenwynedig a chyflyrau critigol o ganlyniad i'w gwaith. Ni allwn fforddio i adael i ragor o lowyr farw cyn i hyn ddigwydd.

Nawr, roeddwn i mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf lle roedd un cyn-löwr, a oedd yn 90 oed ac a oedd wedi cael strôc, yn gofyn yn ei ddagrau beth allai'r canlyniad gorau posibl fod. Mae angen yr arian hwn arno ef. Mae ef yn haeddu'r arian hwn. Yn sicr, mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon roi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi'r arian sy'n ddyledus iddyn nhw ac i'r gweithwyr hynny i gyd sy'n gofrestredig yn y cynllun. Felly, a gawn ni ddatganiad os gwelwch chi'n dda, ac a allai hwnnw ddod cyn datganiad cyllideb y DU?

Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Yes, I very clearly recognise that it is absolutely essential that our miners do get that compensation. I'm glad that you welcomed that announcement by the UK Government in the budget in terms of that compensation scheme. Clearly, there were issues raised—you've drawn attention to them—in terms of those who were not eligible in terms of that announcement. I'll certainly get an update in terms of where the UK Government are, what they envisage and how they're responding to those who weren't included in that very welcome miners’ compensation announcement.

Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Ydw, rwy'n cydnabod yn eglur iawn ei bod hi'n gwbl hanfodol i'n glowyr ni gael yr iawndal hwnnw. Rwy'n falch eich bod chi wedi croesawu'r cyhoeddiad hwnnw gan Lywodraeth y DU yn y gyllideb o ran y cynllun iawndal hwnnw. Yn amlwg, fe godwyd rhai materion—fe wnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw—o ran y rhai nad oedden nhw'n gymwys yn unol â'r cyhoeddiad hwnnw. Yn sicr, fe fyddaf i'n cael diweddariad o ran safbwynt Llywodraeth y DU, yr hyn y maen nhw'n ei ragweld a sut y bydden nhw'n ymateb i'r rhai nad oedd yn gynwysedig yn y cyhoeddiad hwnnw a oedd i'w groesawu yn fawr iawn am iawndal i'r glowyr.

I would like to ask for two Government statements. Firstly, can I declare an interest as a member of the Co-operative Party and chair of the Senedd’s Co-operative Party group? I'm asking for a statement on the development of the co-operative sector in Wales, this statement to include support for social businesses, social business growth and the development of co-operative housing in Wales, building prosperity by growing social and co-operative businesses, strengthening community ownership and local assets, empowering community-led health and well-being services, and expanding co-operative social care models. What are the intentions of the Government to provide further support for the co-operative sector and promote it? I'm looking forward to that statement.

Secondly, will the Welsh Government make statement on the Christian Aid event that was held in the Senedd last week? I welcome the Welsh Government statement of support for the Palestinian people. Children in Gaza need aid desperately. What action can the Welsh Government take to support humanitarian aid and to get Egypt to open the Rafah border crossing for humanitarian aid?

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf i gyd, a gaf i ddatgan buddiant am fy mod i'n aelod o'r Blaid Gydweithredol ac yn gadeirydd grŵp Plaid Gydweithredol y Senedd? Rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddatblygiad y sector cydweithredol yng Nghymru, ac am i'r datganiad hwnnw fod yn cynnwys cefnogaeth i fusnesau cymdeithasol, twf busnesau cymdeithasol a datblygiad tai cydweithredol yng Nghymru, a fyddai'n magu ffyniant drwy feithrin busnesau cymdeithasol a chydweithredol, yn cryfhau perchnogaeth gymunedol ac asedau lleol, yn grymuso gwasanaethau iechyd a llesiant a arweinir gan y gymuned, ac yn ehangu modelau cydweithredol o ofal cymdeithasol. Beth yw bwriadau'r Llywodraeth i ddarparu cymorth pellach i'r sector cydweithredol a'i hyrwyddo? Rwy'n edrych ymlaen at y datganiad hwnnw.

Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r digwyddiad a gynhaliodd Cymorth Cristnogol yn y Senedd yr wythnos diwethaf? Rwy'n croesawu datganiad Llywodraeth Cymru o gefnogaeth i bobl Palestina. Mae angen taer iawn am gymorth ar blant yn Gaza. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi cymorth dyngarol a gwneud i'r Aifft agor croesfan y ffin yn Rafah ar gyfer cymorth dyngarol?

Diolch yn fawr, Mike Hedges, and thank you for drawing attention to the co-operative sector, which is so important to us in Wales. Thank you for your leadership in that respect as well. It is important that we look to the fact, and recognise the fact, that the Welsh Government is committed to building a fairer, more prosperous Wales by championing the growth of social and co-operative businesses at the heart of our communities—very essential to our vision for a resilient economy, ensuring that wealth generated in Wales stays in Wales. Growing the social economy is central to our mission of building prosperity with purpose, putting people and communities before profit, which, of course, is at the heart of the co-operative mission and sector. So, thank you for the opportunity for me to restate those points, and I'm sure we will be able to do more in terms of follow-up to your question.80

Also, I'm grateful for the fact that you drew attention to the very important Christian Aid event, which many of us across this Chamber joined. It was an opportunity for us to come together—Christian Aid Wales, in collaboration with the Church in Wales, Quakers and other faith groups. It did coincide as well with the UN World Peace Day, as well as us recognising and publicly witnessing for peace in response to the ongoing conflict in Gaza and the middle east, of course calling for peace, a ceasefire, humanitarian access—a visible show of solidarity. Of course, this is something now that we hope can be taken forward. We hope a negotiation will take place to ensure that we can move forward to save those children, to stop the horrors of the onslaught onto Gaza that has taken place. So, thank you for drawing attention to the Christian Aid event last week, where we reflected together.

Diolch yn fawr, Mike Hedges, a diolch i chi am dynnu sylw at y sector cydweithredol, sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Diolch i chi am eich arweinyddiaeth yn hynny o beth hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried y ffaith, ac yn cydnabod y ffaith, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus drwy hyrwyddo twf busnesau cymdeithasol a chydweithredol sydd wrth wraidd ein cymunedau ni—sy'n hanfodol iawn i'n gweledigaeth ni ar gyfer economi gydnerth, a fydd yn sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir yng Nghymru yn aros yng Nghymru. Mae meithrin yr economi gymdeithasol yn ganolog i'n cenhadaeth o adeiladu ffyniant gyda phwrpas, a fydd yn rhoi pobl a chymunedau o flaen elw, sydd, wrth gwrs, wrth wraidd y genhadaeth gydweithredol a'r sector cydweithredol. Felly, diolch i chi am roi cyfle i mi ddatgan y pwyntiau hynny unwaith eto, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu gwneud mwy o ran dilyniant ar eich cwestiwn.

Hefyd, rwy'n ddiolchgar am y ffaith eich bod chi wedi tynnu sylw at y digwyddiad pwysig iawn gan Gymorth Cristnogol, y gwnaeth llawer ohonom ni ar draws y Siambr hon ymuno ag ef. Roedd hwnnw'n gyfle i ni ddod at ein gilydd—Cymorth Cristnogol Cymru, mewn cydweithrediad â'r Eglwys yng Nghymru, y Crynwyr a grwpiau ffydd eraill. Mae hynny'n cyd-fynd hefyd â Diwrnod Heddwch y Byd y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â chydnabod a thystio dros heddwch ar goedd gwlad mewn ymateb i'r gwrthdaro parhaus yn Gaza a'r dwyrain canol gan alw, wrth gwrs, am heddwch, cadoediad, mynediad dyngarol—arddangos ein hundod yn yr amlwg. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n gobeithio y gellir ei symud ymlaen nawr. Rydym ni'n gobeithio y bydd trafodaethau yn digwydd i sicrhau y byddwn ni'n gallu symud ymlaen o ran achub y plant hynny, ac atal erchyllterau'r ymosodiad a ddigwyddodd ar Gaza. Felly, diolch i chi am dynnu sylw at ddigwyddiad Cymorth Cristnogol yr wythnos diwethaf, pan wnaethom ni fyfyrio ar y materion hyn gyda'n gilydd.

14:25

Business Minister, can I please request a Government statement following the Supreme Court's ruling earlier this year that a woman is defined by biological sex? This landmark ruling is a victory for women and girls all across Wales. The Welsh Government has said on several occasions that it would work through the implications of the Supreme Court's ruling. Frankly, I think that Labour Ministers still can't quite work out how to define a woman, which in my view is a shocking state of affairs.

We are fast approaching the six-months mark since the Supreme Court verdict, and we have yet to hear a peep from the Welsh Government. Scottish Ministers have declared in recent days that the country's schools must provide separate toilets for boys and girls, and that they must be available on the basis of biological sex, yet it appears that the Welsh Government continues to drag its heels. So, Cabinet Secretary, I feel that it is imperative that the Welsh Government stops the dither and delay and issues clear guidance for our schools immediately, because girls need the clarity and the protection that they deserve, and parents rightfully deserve their peace of mind. Therefore, an urgent statement from the Government in the Senedd is absolutely essential at this time. Thank you so much.

Gweinidog busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn gynharach eleni fod menyw i'w diffinio gan ei rhyw biolegol? Mae'r dyfarniad nodedig hwn yn fuddugoliaeth i fenywod a merched ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ar sawl achlysur y byddai'n gweithio trwy oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys. Yn onest, rwy'n credu nad yw Gweinidogion Llafur fyth wedi gallu gweithio allan yn llwyr sut i ddiffinio menyw, sy'n sefyllfa syfrdanol yn fy marn i.

Rydym ni'n prysur agosáu at ddynodi chwe mis ers dyfarniad y Goruchaf Lys, ac ni chlywsom ni'r un gair gan Lywodraeth Cymru eto. Mae Gweinidogion yr Alban wedi datgan yn y dyddiau diwethaf ein bod hi'n rhaid i ysgolion y wlad honno ddarparu toiledau ar wahân i fechgyn a merched, a bod yn rhaid iddyn nhw fod ar gael ar sail rhyw biolegol, ond mae hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed o hyd. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n teimlo ei bod hi'n hanfodol i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i din-droi ac oedi a chyhoeddi canllawiau eglur i'n hysgolion ni ar unwaith, oherwydd mae angen yr eglurder a'r amddiffyniad haeddiannol ar ferched, ac mae rhieni'n haeddu bod â thawelwch meddwl. Felly, mae datganiad ar frys oddi wrth y Llywodraeth yn y Senedd yn gwbl hanfodol ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn i chi.

Thank you for that. This is a question where we are awaiting the outcome of the Equality and Human Rights Commission consultation, as you know. The outcome of that consultation has resulted in a draft code of practice, which is now being considered by the UK Government, and, of course, it will be considered by the UK Parliament as well. I have spent my time listening to those groups who are affected by the Supreme Court judgment. We've clearly stated that all duty bearers should follow the Supreme Court ruling and should take appropriate legal advice. But we do await the discussions that will take place in Westminster as to the updated code of practice to the UK Government's Minister for Women and Equalities, and we await their comments. Just to say also, for the Senedd to know, that, once the UK Government approves the draft, it will lay the draft code before the Parliament for their review, and the Parliament will then have 40 days to review the code.

So, we are reviewing Welsh Government policy and guidance to identify areas that may be impacted by the Supreme Court judgment and the forthcoming EHRC code of practice. But can I say, as I always say when this is raised, that Lord Hodge, giving the judgment, noted that the judgment was not a triumph of one or more groups in our society at the expense of another, and we do believe that decisions on participation in any part of society should come from a starting point of inclusion of all people.

Diolch i chi am hynna. Mae hwn, fel gwyddoch chi, yn gwestiwn yr ydym ni'n aros am ganlyniad ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol cyn ymdrin ag ef. Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw wedi arwain at god ymarfer drafft, sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd ac, wrth gwrs, fe fydd yn cael ei ystyried gan Senedd y DU hefyd. Rwyf i wedi treulio fy amser yn gwrando ar y grwpiau hynny yr effeithir arnyn nhw gan ddyfarniad y Goruchaf Lys. Rydym ni wedi datgan yn eglur y dylai pob deiliad dyletswydd ddilyn dyfarniad y Goruchaf Lys a chymryd cyngor cyfreithiol priodol. Ond rydym ni'n aros am y trafodaethau a fydd yn digwydd yn San Steffan ynglŷn â'r cod ymarfer diweddaredig ar gyfer Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n aros am eu sylwadau nhw. Dim ond gair hefyd, i roi gwybod i'r Senedd, pan fydd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo'r drafft, fe fydd yn dodi'r cod drafft gerbron Senedd San Steffan i'w hadolygu, ac fe fydd gan y Senedd honno 40 diwrnod wedi hynny i adolygu'r cod.

Felly, rydym ni'n adolygu polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru i nodi meysydd y gallai dyfarniad y Goruchaf Lys a'r cod ymarfer gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd ar ddod effeithio arnyn nhw. Ond a gaf i ddim ond dweud, fel rwy'n dweud bob amser y caiff hyn ei godi fod yr Arglwydd Hodge, wrth roi'r dyfarniad, wedi nodi nad buddugoliaeth un neu ragor o grwpiau yn ein cymdeithas ni ar draul un arall oedd hyn, ac rydym ni'n o'r farn y dylai penderfyniadau o ran cyfranogiad yn unrhyw ran o'r gymdeithas fod yn tarddu o gynhwysiant pawb.

I very much welcome your statement, Trefnydd, on Fairtrade Fortnight 2025, which is currently running until 5 October. I am very proud that Wales was the world's first Fairtrade Nation back in 2008, which was driven forward by our former First Minister, Rhodri Morgan. I am also very proud that Wrexham became the first fair-trade county borough in Wales around the same time. I am sure you agree with me that it was fitting that Jenipher Sambazi from Mbale has returned to Wales to tell us her story, which is very inspirational, of how she became a fair-trade producer and what it absolutely means to her, and to remind us all to reiterate our commitment to fair trade.

Rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr, Trefnydd, ar Bythefnos Masnach Deg 2025, sy'n rhedeg nawr tan 5 Hydref. Rwy'n falch iawn mai Cymru oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd yn ôl yn 2008, ac fe gafodd hynny ei ysgogi gan ein cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Rwy'n falch iawn hefyd i Wrecsam fod yn fwrdeistref sirol masnach deg gyntaf yng Nghymru tua'r un adeg. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi ei bod hi'n briodol fod Jenipher Sambazi o Mbale wedi dychwelyd i Gymru i adrodd ei stori wrthym ni, sy'n un ysbrydoledig iawn, ynglŷn â sut y daeth hi'n gynhyrchydd masnach deg a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu iddi hi, ac i'n hatgoffa ni i gyd i fynegi ein hymrwymiad i fasnach deg unwaith eto.

14:30

Thank you very much, Lesley Griffiths, and I do remember myself and recall the day when Rhodri Morgan made that statement, that decision, in 2008, for Wales to make history as the world's first Fairtrade Nation. And I hope that's a legacy that we're proud to uphold across this Chamber today. We are firmly committed to supporting fair trade and ethical consumption, empowering producers across the globe, helping to safeguard the future of our favourite foods, essential products and the planet. So, I know that, last week, Ministers and Members of the Senedd, from all sides of the Siambr, did meet with Fair Trade Wales to learn about the updated Fairtrade Nation criteria, and the real world impact of choosing fair-trade producers around the world.

But can I also welcome Jenipher Sambazi from Jenipher’s Coffi back to Wales? Many of you have met her. She's been in the canteen with us. She had an event in Porthcawl last Sunday, Noson Uganda Night. 'Do it Fair', of course, is the theme for fair trade, and in terms of Jenipher’s Coffi, the coffee sector has long been male dominated, with women historically having less access to land, credit or technical assistance. I'm inspired that we are helping her through our Wales and Africa programme, to ensure that Jenipher, who's a true inspiration, is leading the way for women and communities in this field. And I know she's visiting Ferrari's roastery in Bridgend, where her coffee is roasted and packaged for public sale, for contracts with organisations including the Welsh Government, the Royal Mint, Companies House and the Driver and Vehicle Licensing Agency. 

Diolch yn fawr iawn i chi, Lesley Griffiths, ac rwy'n cofio hynny fy hunan ac yn cofio'r diwrnod pan wnaeth Rhodri Morgan y datganiad hwnnw, y penderfyniad hwnnw, yn 2008, y byddai Cymru yn creu hanes wrth fod yn Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd. Ac rwy'n gobeithio bod honno'n etifeddiaeth yr ydym ni'n falch o'i chynnal ar draws y Siambr hon heddiw. Rydym ni wedi ymrwymo yn gadarn i gefnogi masnach deg a defnydd moesegol, i rymuso cynhyrchwyr ledled y byd, cynorthwyo wrth ddiogelu'r dyfodol i'n hoff fwydydd, y cynhyrchion sy'n hanfodol i ni a'r blaned gyfan. Felly, rwy'n gwybod bod Gweinidogion ac Aelodau'r Senedd, o bob ochr i'r Siambr, wedi cwrdd â Masnach Deg Cymru'r wythnos diwethaf i ddysgu am feini prawf y Genedl Masnach Deg a gafodd eu diweddaru, a'r effaith ddiriaethol yn y byd o ddewis cynhyrchwyr masnach deg yn fyd-eang.

Ond a gaf innau hefyd groesawu Jenipher Sambazi o Jenipher's Coffi yn ôl i Gymru? Mae llawer ohonoch chi wedi cwrdd â hi. Mae hi wedi bod yn y ffreutur gyda ni. Fe gynhaliodd hi ddigwyddiad ym Mhorthcawl ddydd Sul diwethaf, sef Noson Uganda. 'Gwnewch Bethau’n Deg', wrth gwrs, yw'r thema ar gyfer masnach deg, ac o ran Jenipher's Coffi, mae'r sector coffi wedi cael ei rheoli gan wŷr ers amser maith, gyda menywod yn hanesyddol yn llai tebygol o allu cael gafael ar dir, credyd neu gymorth technegol. Rwy'n cael fy ysbrydoli am ein bod ni'n ei chynorthwyo hi drwy ein rhaglen Cymru ac Affrica, sy'n sicrhau bod Jenipher, sy'n rhoi ysbrydoliaeth wirioneddol, yn arwain y ffordd ar gyfer menywod a chymunedau yn y maes hwn. Ac fe wn i y bydd hi'n ymweld â gwaith rhostio Ferrari ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae ei choffi hi'n cael ei rostio a'i becynnu er mwyn ei werthu i'r cyhoedd, ar gyfer contractau gyda sefydliadau sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Bathdy Brenhinol, Tŷ'r Cwmnïau a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

I’d like to raise concerns around the future of building control services in Wales. Building control teams are at the forefront of public safety, responding to dangerous structures like loose slates, collapsing roofs and unsafe derelict buildings. They’re often on site within 24 hours, yet their role is misunderstood, under-resourced and is in crisis.

Since the Hackitt report and the Welsh Government’s rapid introduction of the new licensing requirements, we have seen an exodus of experienced officers, difficulty recruiting replacements, and mental health implications of the additional stress. Local teams across all local authorities are being forced to meet the same regulatory burdens as high-rise cities, despite the very different risk profiles in more rural areas like Denbighshire. So, clearly, there are issues with the one-size-fits-all approach and building control officers are looking for an update to the legislation.

I’d be grateful, therefore, for a statement from the Cabinet Secretary for Housing and Local Government addressing some of the issues within the existing Welsh Government licensing requirements on building control professionals, and on how an update will address those issues.

Fe hoffwn i godi pryderon ynghylch dyfodol gwasanaethau rheolaeth adeiladu yng Nghymru. Mae timau rheolaeth adeiladu ar flaen y gad o ran diogelwch y cyhoedd, ac maen nhw'n ymateb i strwythurau peryglus fel llechi rhydd, toeau sy'n cwympo ac adeiladau adfeiliedig sy'n anniogel. Maen nhw'n aml ar y safle o fewn 24 awr, ond mae eu swyddogaeth yn cael ei chamddeall, maen nhw'n brin o adnoddau ac mewn argyfwng.

Ers adroddiad Hackitt a chyflwyniad y gofynion trwyddedu newydd gan Lywodraeth Cymru, fe welsom ni ymadawiad swyddogion profiadol, anhawster o ran recriwtio rhai yn eu lle nhw, a goblygiadau o ran iechyd meddwl oherwydd pwysau gwaith ychwanegol. Mae timau lleol ar draws pob awdurdod lleol yn cael eu gorfodi i gwrdd â'r un beichiau rheoleiddio â dinasoedd sydd ag adeiladau uchel, er gwaethaf y proffiliau risg gwahanol iawn mewn ardaloedd mwy gwledig fel sir Ddinbych. Felly, yn amlwg, fe geir problemau gyda'r dull o drin pawb yr un fath ac mae swyddogion rheolaeth adeiladu yn ceisio diweddariad i'r ddeddfwriaeth.

Fe fyddwn i'n ddiolchgar, felly, am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i fynd i'r afael â rhai o'r materion o fewn gofynion trwyddedu cyfredol Llywodraeth Cymru ar weithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu, a sut y bydd unrhyw ddiweddariad yn mynd i'r afael â'r materion hynny.

Thank you for that question, Gareth Davies. Of course, this is a very important responsibility of local government, working in partnership with Welsh Government in relation to the regulations, to make sure that building control is fit for purpose. And I know local authorities take their responsibilities very seriously. And, again, if you want to raise these questions with the Cabinet Secretary for Housing and Local Government, I know she’ll be able to give you more feedback and respond to your particular and specific examples, I hope, of the pressures that you have identified today.

Diolch am y cwestiwn yna, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb pwysig iawn i lywodraeth leol, wrth weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru o ran y rheoliadau, i sicrhau bod rheolaeth adeiladu yn addas i'r diben. Ac fe wn i fod yr awdurdodau lleol yn ystyried eu cyfrifoldebau nhw'n ddifrifol iawn. Ac, unwaith eto, pe byddech chi'n dymuno codi'r cwestiynau hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, fe wn i y byddai hi'n gallu rhoi mwy o adborth i chi ac, rwy'n gobeithio, yn ymateb i'ch enghreifftiau arbennig a phenodol o'r pwysau y gwnaethoch chi eu nodi heddiw.

I’d like to ask for two statements from the Government today, please. On Saturday, I had the pleasure of attending the Black History 365 event at St Fagans, hosted by Race Council Cymru. And I know the Trefnydd also went to this event. I thought it was a wonderful event, and a great way to recognise and celebrate the diversity of Wales. So, would the Trefnydd agree to make a statement about how Wales as a whole is celebrating black history, and the contributions that all people make to Wales?

And then, secondly, I’d like to ask for a statement from the appropriate Cabinet Secretary regarding the worrying rhetoric coming out of America regarding scientific research—Trump’s war on science—and how this could impact the vital work that is happening here in Wales and in the UK. In Wales, and across the UK, we have an important scientific research base, with breakthroughs being made all the time. And the most recent one, of course, is the treatment for Huntington's disease. And of course that is linked as we have, in Cardiff University, the Advanced Neurotherapies Centre, one of the few places in the world with the capability of performing gene therapy. So, could we have a statement on how this groundbreaking research is being affected by Trump's war on science?

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth heddiw, os gwelwch chi'n dda. Ddydd Sadwrn, fe gefais i'r pleser o fod yn bresennol yn nigwyddiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn Sain Ffagan, a gynhaliwyd gan Race Council Cymru. Ac rwy'n gwybod bod y Trefnydd hefyd wedi mynd i'r digwyddiad hwn. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddigwyddiad gwych, ac yn ffordd wych o gydnabod a dathlu amrywiaeth Cymru. Felly, a fyddai'r Trefnydd yn cytuno i wneud datganiad ynghylch sut mae Cymru benbaladr yn dathlu hanes pobl dduon, a'r cyfraniadau y mae pawb yn eu gwneud i Gymru?

Ac yna, yn ail, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet priodol ynglŷn â'r rhethreg bryderus sy'n dod o'r America ynglŷn ag ymchwil wyddonol—rhyfel Trump yn erbyn gwyddoniaeth—a sut y gallai hyn effeithio ar y gwaith hanfodol sy'n digwydd yma yng Nghymru ac yn y DU. Yng Nghymru, a ledled y DU, mae gennym ni sylfaen bwysig o ymchwil wyddonol, gyda darganfyddiadau yn cael eu gwneud drwy'r amser. A'r un diweddaraf, wrth gwrs, yw'r driniaeth ar gyfer clefyd Huntington. Ac wrth gwrs mae hynny'n gysylltiedig â ni am fod gennym ni, ym Mhrifysgol Caerdydd, y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, un o'r ychydig leoedd yn y byd sydd â'r gallu i berfformio therapi genynnau. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut yr effeithir ar yr ymchwil arloesol hon gan ryfel Trump yn erbyn gwyddoniaeth?

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Thank you very much for both those questions, very important questions, Julie Morgan. I was also very glad to attend the launch of Black History Cymru 365 on Saturday at the St Fagans National Museum of History, which of course was a very public event because there were thousands of people coming in and seeing the celebrations that took place. Can I again use the opportunity to say that the Welsh Government is fully committed to becoming an anti-racist nation by 2030? This commitment is underpinned by the 'Anti-racist Wales Action Plan', co-produced with black, Asian and minoritised people in Wales and refreshed back in November 2024. I think this is a time when we must commit ourselves and publicly state that commitment once more to our 'Anti-racist Wales Action Plan', moving from words to action. But I do also just want to say what was so great about the event on Saturday was the joyous music that we heard, the speeches, the food we enjoyed. The 2025-26 theme is Black Futures, Welsh Futures. Now, that's something let's hold on to: Black Futures, Welsh Futures. It reflects our shared ambition.

Can I say we're proud to be also supporting work to ensure that every child in Wales should grow up understanding that black history is Welsh history? That was made mandatory. We have a statue of Betty Campbell down in the centre of Cardiff, where she is the expression of—. It was her call for so many years that black history should be taught in our schools. We're proud to be supporting this initiative through grant funding for the Black History Cymru 365 project, including funding for a Black History Cymru head of communications and marketing, a Black History Cymru administrator, and a Black History Cymru social media officer. I'm proud that we are funding those posts to ensure that we can make black history Welsh history in our schools.

I think we must all recognise, and I'm glad I've got the opportunity to recognise, the statement by our chief medical officer in response to the Trump misinformation that came out in terms of the use of effective pain relief during pregnancy. The chief medical officer, Isabel Oliver, posted this message on X and Facebook on the false paracetamol claims. She said:

'Paracetamol is a safe and effective medication for pain relief and fever during pregnancy when taken as directed.

'There's no evidence that taking paracetamol during pregnancy causes autism in children but untreated pain and fever can pose a risk to pregnant women and the foetus.

'Pregnant women should continue to follow existing NHS advice, taking paracetamol only when needed and always in accordance with the advice on the label.

'If you have questions about any medication in pregnancy, please speak with your doctor or pharmacist.'

So, again, you draw attention to the breakthrough for Huntington's disease and the pioneering work of Cardiff University in terms of gene therapy. Advice on the use of medicines is so well regulated anyway, but we must also recognise that we have the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency, continuously monitoring the safety of all medicines, including those used during pregnancy—robust monitoring and surveillance, as we've just been discussing. But also to say that these advances that we're taking forward here in Wales, in Cardiff, that we must respect, acknowledge and proclaim those advances in terms of medical scientific advance.

Diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn yna, cwestiynau pwysig iawn, Julie Morgan. Roeddwn hefyd yn falch iawn o fynychu lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 ddydd Sadwrn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a oedd wrth gwrs yn ddigwyddiad cyhoeddus iawn oherwydd roedd miloedd o bobl yn dod i mewn i weld y dathliadau a gynhaliwyd. A gaf i achub ar y cyfle unwaith eto i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn llwyr i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030? Mae'r ymrwymiad hwn yn cael ei ategu gan 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', a gynhyrchwyd ar y cyd â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac a adnewyddwyd yn ôl ym mis Tachwedd 2024. Rwy'n credu bod hon yn adeg pan fo rhaid i ni ymrwymo a datgan yr ymrwymiad hwnnw unwaith eto i'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar goedd gwlad, gan symud oddi wrth eiriau ac at weithredu. Ond fe hoffwn i ddweud hefyd mai'r pethau rhagorol am y digwyddiad ar ddydd Sadwrn oedd y gerddoriaeth lawen a glywsom, yr areithiau, a'r bwyd y gwnaethom ni ei fwynhau. Y thema ar gyfer 2025-26 yw Dyfodol Du, Dyfodol Cymru. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y gadewch i ni ddal ati: Dyfodol Du, Dyfodol Cymru. Mae'n adlewyrchu ein huchelgais cyffredin.

A gaf i ddweud hefyd ein bod ni'n falch o fod yn cefnogi gwaith i sicrhau y dylai pob plentyn yng Nghymru dyfu i fyny yn deall mai hanes pobl dduon yw hanes Cymru? Cafodd hynny ei wneud yn orfodol. Mae gennym ni gerflun o Betty Campbell i lawr yng nghanol Caerdydd, lle mae hi'n fynegiant o—. Ei galwad hi am gymaint o flynyddoedd oedd y dylid dysgu hanes pobl dduon yn ein hysgolion ni. Rydym ni'n falch o fod yn cefnogi'r fenter hon drwy gyllid grant ar gyfer prosiect Hanes Pobl Dduon Cymru 365, gan gynnwys cyllid ar gyfer pennaeth cyfathrebu a marchnata Hanes Pobl Dduon Cymru, gweinyddwr i Hanes Pobl Dduon Cymru, a swyddog cyfryngau cymdeithasol i Hanes Pobl Dduon Cymru. Rwy'n falch ein bod ni'n ariannu'r swyddi hyn i sicrhau y gallwn ni sicrhau y bydd hanes pobl dduon yn gynwysedig yng ngwersi hanes Cymru yn ein hysgolion.

Rwy'n credu y dylem ni i gyd gydnabod, ac rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i gydnabod, y datganiad gan ein prif swyddog meddygol mewn ymateb i'r gamwybodaeth a fynegwyd gan Trump o ran defnyddio poenladdwyr effeithiol yn ystod beichiogrwydd. Cyhoeddodd y prif swyddog meddygol, Isabel Oliver, y neges hon ar X ac ar Facebook ynglŷn â'r honiadau ffug ynghylch paracetamol. Meddai hi:

'Mae paracetamol yn feddyginiaeth ddiogel ac effeithiol ar gyfer lleddfu poen a thwymyn yn ystod beichiogrwydd pan gymerir hi yn unol â'r cyfarwyddiadau.

'Nid oes unrhyw dystiolaeth fod cymryd paracetamol yn ystod beichiogrwydd yn achosi awtistiaeth mewn plant ond fe all poen a thwymyn heb eu trin achosi risg i fenywod beichiog a'r ffetws.

'Dylai menywod beichiog barhau i ddilyn cyngor cyfredol y GIG, sef cymryd paracetamol pan fo'r angen yn unig ac yn unol â'r cyngor ar y label bob amser.

'Os oes cwestiynau gennych chi am unrhyw feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd, mynnwch air â'ch meddyg neu eich fferyllydd.'

Felly, unwaith eto, rydych chi'n tynnu sylw at y datblygiad ar gyfer clefyd Huntington a gwaith arloesol Prifysgol Caerdydd o ran therapi genynnau. Fe gafodd y cyngor ar y defnydd o feddyginiaethau ei reoleiddio mor drylwyr, beth bynnag, ond mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gennym ni, sy'n monitro diogelwch pob meddyginiaeth, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir yn ystod beichiogrwydd. Ond mae eisiau dweud bod y datblygiadau hyn yr ydym yn eu cyflwyno yma yng Nghymru hefyd, yng Nghaerdydd, bod rhaid i ni barchu, cydnabod a chyhoeddi'r datblygiadau hynny o ran cynnydd gwyddoniaeth feddygol.

I call for an oral statement on employment support for disabled people in Wales to be on a Plenary agenda as soon as possible. Although the UK Government is planning to cut disability benefits that support more disabled people into work, it closed the Work and Health programme to new referrals a year ago today, which supported disabled people and people with health conditions to find and sustain employment in Wales. This programme received 24,000 referrals in Wales until 30 September last year, but nothing since. The UK Government's successor Connect to Work programme has been devolved to local authorities. Although it's supposed to be offered in Wales from January 2026, the experienced external providers have heard nothing and are having to make redundant the staff with the expertise needed. In contrast, local authorities in England are contracting on a regional basis. I also understand that the referral numbers given to local authorities by the Department for Work and Pensions are not as high as those received by the Work and Health programme. Will local authorities in Wales instead deliver the programme themselves, without the expertise to both find and sustain employment, and with the risk that each local authority will then be contacting the same employers separately? How will this be monitored and evaluated? I call for an urgent oral statement on the Plenary agenda accordingly.

Rwy'n galw i ddatganiad llafar ar gymorth cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru fod ar agenda'r Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl. Er bod Llywodraeth y DU yn bwriadu torri budd-daliadau anabledd sy'n cefnogi mwy o bobl anabl i ddod o hyd i waith, fe gaeodd y rhaglen Gwaith ac Iechyd ar gyfer atgyfeiriadau newydd flwyddyn yn ôl i heddiw, a oedd yn cefnogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd yng Nghymru i ddod o hyd i gyflogaeth a'i chadw. Derbyniodd y rhaglen hon 24,000 o atgyfeiriadau yng Nghymru tan 30 Medi'r llynedd, ond dim oll ers hynny. Fe ddatganolwyd Cysylltu â Gwaith, y rhaglen gan Lywodraeth y DU a'i dilynodd, i'r awdurdodau lleol. Er y dylai honno gael ei chynnig yng Nghymru o fis Ionawr 2026, nid yw'r darparwyr allanol profiadol wedi clywed dim ac maen nhw'n gorfod diswyddo'r staff sydd â'r arbenigedd angenrheidiol. Yn wahanol i hynny, mae'r awdurdodau lleol yn Lloegr yn contractio ar sail ranbarthol. Rwy'n deall hefyd nad yw'r niferoedd o atgyfeiriadau a roddir i awdurdodau lleol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mor fawr â'r rhai ag a gâi'r rhaglen Gwaith ac Iechyd. A fydd yr awdurdodau lleol yng Nghymru, yn lle gwneud hynny, yn cyflwyno'r rhaglen eu hunain, heb arbenigedd o ran dod o hyd i gyflogaeth a chadw cyflogaeth, a chyda'r perygl y bydd pob awdurdod lleol yn cysylltu ar wahân wedyn â'r un cyflogwyr? Sut caiff hyn ei fonitro a'i werthuso? Rwy'n galw am ddatganiad llafar brys ar agenda'r Cyfarfod Llawn yn unol â hynny.

14:40

Thank you very much, Mark Isherwood, and thank you for raising these issues in the Chamber this afternoon. Of course, I will take these issues back to raise them with the UK Government. Sir Stephen Timms, I met with him in the summer, because he is the Minister responsible for disabled people and indeed the wider benefits, such as universal credit and disabled people's benefits. What was very important was that Sir Stephen Timms met with disabled people, people who form part of our disability equality forum and our disability rights taskforce. He met with them, without me there, so that they could raise their clients' concerns and issues about the review that he is now undertaking in terms of personal independence payments. Then, I met with him shortly afterwards, with also disabled people themselves and disabled people's organisations.

I think it's important that we put this on record today, that he said that the review would not be based on making cuts to personal independence payments. He said he would be looking openly and wanting to engage, as we asked of him, with Wales, because of our experience of co-production of our disabled people's rights plan. I hope that gives you some assurance in terms of us influencing the UK Government. Also, I am very proud, as you know, that for many years we've employed disabled people's employment champions, who work with employers throughout Wales. But thank you for raising the issues about the Work and Health programme referrals to DWP. I will take that up and be able to report back to the Senedd on the outcome of my discussions and outreach to the UK Government.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, a diolch i chi am godi'r materion hyn yn y Siambr y prynhawn yma. Wrth gwrs, fe fyddaf i'n mynd â'r materion hyn gyda mi i'w codi nhw gyda Llywodraeth y DU. Syr Stephen Timms, fe wnes i gwrdd ag ef yn ystod yr haf, oherwydd ef yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am bobl anabl ac yn wir y budd-daliadau ehangach, megis credyd cynhwysol a budd-daliadau pobl anabl. Yr hyn a oedd yn bwysig iawn oedd bod Syr Stephen Timms wedi cwrdd â phobl anabl, pobl sy'n cyfranogi yn ein fforwm cydraddoldeb anabledd a'n tasglu hawliau anabledd. Fe wnaeth ef gyfarfod â nhw, heb i mi fod yno, er mwyn iddyn nhw allu codi pryderon a materion eu cleientiaid nhw ynglŷn â'r adolygiad y mae ef yn ei lunio nawr o ran taliadau annibyniaeth bersonol. Yna, fe wnes i gyfarfod ag ef yn fuan wedyn, gyda phobl anabl eu hunain a sefydliadau pobl anabl.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi hyn ar gofnod heddiw, sef iddo ef ddweud na fyddai'r adolygiad yn seiliedig ar wneud toriadau i daliadau annibyniaeth bersonol. Fe ddywedodd ef y byddai'n ystyried yn agored ac yn dymuno ymgysylltu, fel gwnaethom ni ofyn iddo wneud, gyda Chymru, oherwydd ein profiad o ran cyd-gynhyrchu ein cynllun hawliau pobl anabl. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi o ran bod â dylanwad ar Lywodraeth y DU. Hefyd, rwy'n falch iawn, fel gwyddoch chi, ein bod ni wedi cyflogi hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl ers llawer o flynyddoedd, sy'n gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru. Ond diolch i chi am godi'r materion ynglŷn ag atgyfeiriadau'r rhaglen Gwaith ac Iechyd at yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fe wnaf i godi hynny ac fe fyddaf i'n gallu adrodd yn ôl i'r Senedd ar ganlyniad fy nhrafodaethau ac ymofyn oddi wrth Lywodraeth y DU.

Trefnydd, even though this is a UK Government matter, the First Minister has today shown a strong commitment in siding with the UK Government on forcing ID cards on the people of Wales, with her and Plaid having very strong concerns about what flag is on the ID card. We in Reform are most concerned about the erosion of civil liberties it presents and how much of an intrusion it could be. It could put people at risk, as well as impinge on the freedoms of law-abiding citizens. The Orwellian overreach of this policy is awful and it needs to be scrapped. The strength of feeling on this can't be denied, with the petition on the digital ID already amassing 2.5 million signatures. Therefore, I deem it necessary for the First Minister to make an oral statement to this Chamber, outlining why she thinks ID cards would be beneficial to the people of Wales and why she is supporting the UK Government in pushing this unpopular, intrusive Orwellian initiative on the people here in Wales. I would appreciate it if we could either have that or, in fact, a full debate on the floor of this Senedd, please, Trefnydd. I'm sure it would be of much interest to everyone in Wales. Diolch.

Trefnydd, er mai mater Llywodraeth y DU yw hwn, mae Prif Weinidog Cymru wedi dangos ymrwymiad cryf heddiw wrth ochri â Llywodraeth y DU ar orfodi cardiau adnabod ar bobl Cymru, tra bod ganddi hi a Phlaid Cymru bryderon cryf iawn ynglŷn â pha faner fydd ar y cerdyn adnabod. Rydym ni yn Reform yn pryderu fwyaf am yr erydiad o ryddid sifil y mae'n ei gyflwyno a faint o ymyriad y bydd yn ei olygu. Fe allai roi pobl mewn perygl, yn ogystal ag amharu ar ryddid dinasyddion sy'n ufudd i'r gyfraith. Mae goresgyniad Orwelaidd y polisi hwn yn ofnadwy ac mae angen ei ddileu. Ni ellir gwadu cryfder yr angerdd yn hyn o beth, gyda'r ddeiseb ar yr adnabod digidol eisoes wedi cael 2.5 miliwn o enwau arni. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n angenrheidiol i'r Prif Weinidog wneud datganiad llafar i'r Siambr hon, yn amlinellu pam mae hi'n credu y byddai cardiau adnabod o fudd i bobl Cymru a pham mae hi'n cefnogi Llywodraeth y DU wrth wthio'r fenter Orwelaidd amhoblogaidd, ymwthiol hon ar y bobl yma yng Nghymru. Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi pe caem ni naill ai hynny neu, mewn gwirionedd, ddadl lawn ar lawr y Senedd hon, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd. Rwy'n siŵr y byddai hynny'n ddiddorol iawn i bawb yng Nghymru. Diolch.

I am a bit astonished by the views from our single Reform Member here, given the misinformation and disinformation coming from your party and from your leader in terms of people's rights and entitlements. I am horrified, in fact, by the misinformation and disinformation from Nigel Farage and from Reform. We've heard this afternoon, haven't we, about the candidate in the Caerphilly by-election who worked for Nathan Gill, who has now been proven guilty in terms of fraud and engagement with Russia. So, I have no time for your question, except to say, clearly, this is something that is a UK Government policy, and I am sure everyone will give their views about it. 

Rwy'n rhyfeddu ychydig at y safbwyntiau gan ein hunig Aelod o Reform UK yn y fan hon, o ystyried y gamwybodaeth a'r dwyllwybodaeth sy'n dod o'ch plaid a'ch arweinydd o ran hawliau pobl. Rwy'n gresynu, mewn gwirionedd, oherwydd y gamwybodaeth a'r dwyllwybodaeth oddi wrth Nigel Farage ac oddi wrth Reform. Fe glywsom ni'r prynhawn yma, oni wnaethom ni, am yr ymgeisydd yn isetholiad Caerffili a fu'n gweithio i Nathan Gill, sydd bellach wedi cael ei ddyfarnu'n euog o dwyll ac ymgysylltiad â Rwsia. Felly, nid oes gennyf i amser o gwbl ar gyfer eich cwestiwn chi, heblaw am ddweud, yn eglur, rhywbeth sy'n bolisi i Lywodraeth y DU yw hyn, ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn rhoi barn am hynny. 

14:45

We did hear earlier about the conviction of the pleading guilty of the former Reform leader in Wales to taking money from Putin and undermining the people of Ukraine. This Senedd, this Parliament, has been four-square behind the people of Ukraine, and it is appalling that a public figure is using a public position, paid for by Putin, to undermine the people of Ukraine. But he was also a Member here. So, I would like to have a statement from the Llywydd to ensure that we can all be sure in this place that no public resource has been used by Reform to support Putin, that no public resource has been taken whilst this person was a Member here to support the Russian fascist agenda in Ukraine, and that we are able to be absolutely certain in our own minds that no use of public resource has been made by Reform to support Putin. 

At the same time, I'd like to ask the business manager to make a full statement on the nation of sanctuary policy because many of us have supported the people of Ukraine—I and Mick Antoniw are going to Ukraine again next month with another mission to provide aid to the people of Ukraine—and to ensure that people understand that the nation of sanctuary is a policy that supports refugees from Ukraine, people who have escaped the war in Ukraine, people who are living in our communities, and people who have come here for real sanctuary.  

Fe glywsom ni'n gynharach am euogfarn cyn-arweinydd Reform yng Nghymru a blediodd yn euog o gymryd arian gan Putin a thanseilio pobl Wcráin. Mae'r Senedd, y Senedd hon, wedi cefnogi pobl Wcráin gant y cant, ac mae hi'n ofnadwy bod ffigwr cyhoeddus yn defnyddio swydd gyhoeddus, a Putin yn ei dalu am hynny, i danseilio pobl Wcráin. Ond roedd ef yn Aelod yma hefyd. Felly, fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywydd i sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu sicrhau nad oes unrhyw adnodd cyhoeddus yn y lle hwn yn cael ei ddefnyddio gan Reform i gefnogi Putin, ac nad oes unrhyw adnodd cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio tra roedd yr unigolyn hwn yn Aelod yn y fan hon i gefnogi agenda ffasgaidd Rwsia yn Wcráin, a'n bod ni'n gallu bod yn hollol sicr ein meddyliau nad oes unrhyw ddefnydd o adnoddau cyhoeddus wedi bod gan Reform i gefnogi Putin. 

Ar yr un pryd, fe hoffwn i ofyn i'r rheolwr busnes wneud datganiad llawn ar bolisi'r genedl noddfa oherwydd mae llawer ohonom ni wedi cefnogi pobl Wcráin—fe fydd Mick Antoniw a minnau'n mynd i Wcráin unwaith eto yn y mis nesaf ar orchwyl arall i ddarparu cymorth i bobl Wcráin—a sicrhau bod pobl yn deall ystyr polisi cenedl noddfa sy'n cefnogi ffoaduriaid o Wcráin, pobl sydd wedi dianc rhag y rhyfel yn Wcráin, pobl sy'n byw yn ein cymunedau ni, a phobl sydd wedi dod yma am noddfa wirioneddol.

You need to conclude now, Alun, please. 

Mae angen i chi orffen nawr, Alun, os gwelwch chi'n dda.

And all of us who have heard the air raid warnings of Kyiv understand what sanctuary means.

Ac mae pawb ohonom ni sydd wedi clywed y rhybuddion am gyrchoedd awyr yn Kyiv yn deall yr hyn y mae noddfa yn ei olygu.

Diolch yn fawr, Alun Davies. Thank you for your very pertinent point and question regarding the former Member of this Senedd, the former leader of Reform in this Senedd, and the question about no public resource being used in terms of the fact, as you say, that he has pleaded guilty in terms of the allegations that were put to him. Now he has pleaded guilty, and we need to ensure that that is followed up.

For my responsibility, I thank you for your second point about the question about our nation of sanctuary. I would be very happy to issue a statement about what our nation of sanctuary means. And I'm very glad that we had a lot of support for our nation of sanctuary on this side of the Chamber, the Senedd, last week. As a Welsh Government, we have a vision of Wales as a nation of sanctuary. We're not a nation of sanctuary yet. We seek, we aspire to be a nation of sanctuary. We seek to ensure sanctuary seekers have access to advice services, information about rights, responsibilities and entitlements, and integration services, so that they can fully contribute to Welsh community life.

Since 2022, around 8,000 Ukrainians have been welcomed to Wales, many of whom are now contributing to their communities. And we've met, very recently, with Ukrainians who are telling us how sad they have been made in the last week by the ways in which—and I have to say I'm very sad that we heard this from the Welsh Conservatives—there was not a recognition that the nation of sanctuary has been an approach that welcomed them, those 8,000 Ukrainians, to Wales. And they are working, they're volunteering and they're enriching local life. But I do seek to put the record straight in terms of the nation of sanctuary, and I will issue a statement. Can I just say that the budget spent on our support for Ukrainians in 2022-24 represents 82 per cent of the Welsh Government's nation of sanctuary budget over six years from 2019-25? And so, I'm very sad indeed that Darren Millar, as the leader of the Welsh Conservatives, called for the scrapping of the nation of sanctuary policy. I don't know if you realise how hurtful that has been to those we have welcomed here, particularly those 8,000 Ukrainians, but also many, many more of the people that Julie Morgan and I met on Saturday at the Race Council Cymru event and also at many events where we meet so many who have integrated into Wales and become Welsh citizens and welcomed through the nation of sanctuary.

Diolch yn fawr, Alun Davies. Diolch i chi am eich pwynt a'ch cwestiwn perthnasol iawn ynglŷn â chyn-Aelod o'r Senedd hon, sef cyn-arweinydd Reform yn y Senedd hon, a'r cwestiwn ynglŷn ag unrhyw adnodd cyhoeddus a ddefnyddiwyd o ran y ffaith, fel rydych chi'n dweud, ei fod ef wedi pledio yn euog i'r honiadau a roddwyd ger ei fron. Nawr ei fod ef wedi pledio yn euog, ac mae angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei ddilyn ymlaen.

Oherwydd fy nghyfrifoldeb i, rwy'n diolch i chi am eich ail bwynt ynglŷn â'r cwestiwn am ein cenedl noddfa. Fe fyddwn i'n hapus iawn i gyhoeddi datganiad am yr hyn y mae ein cenedl noddfa yn ei olygu. Ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael llawer o gefnogaeth i'n cenedl noddfa ar yr ochr hon i'r Siambr, yn y Senedd, yr wythnos diwethaf. Fel Llywodraeth Cymru, mae gweledigaeth gennym ni o Gymru'r genedl noddfa. Nid ydym ni'n genedl noddfa eto. Rydym ni'n ceisio bod, rydym ni'n ceisio bod yn genedl noddfa. Rydym ni'n ceisio sicrhau bod ceiswyr noddfa yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyngor, gwybodaeth am hawliau, cyfrifoldebau a hawliau, a gwasanaethau integreiddio, er mwyn gallu cyfrannu yn llawn at fywyd y gymdeithas yng Nghymru.

Ers 2022, mae tua 8,000 o Wcreiniaid wedi cael eu croesawu yng Nghymru, ac mae llawer ohonyn nhw'n gwneud cyfraniad at eu cymunedau nhw erbyn hyn. Ac fe wnaethom ni gwrdd, yn ddiweddar iawn, ag Wcreiniaid a ddywedodd wrthym ni pa mor drist y maen nhw wedi teimlo yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan y ffyrdd nad oedd—ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod innau'n drist iawn o glywed hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig—nad oedd cydnabyddiaeth i'r genedl noddfa fod yn ddull gweithredu a'u croesawodd nhw, yr 8,000 o Wcreiniaid hynny, i Gymru. Ac maen nhw'n gweithio, maen nhw'n gwirfoddoli ac maen nhw'n cyfoethogi bywyd yn lleol. Ond rwy'n ceisio cywiro'r camddehongli o ran y genedl noddfa, ac fe fyddaf i'n cyhoeddi datganiad. A gaf i ddweud bod y gyllideb a wariwyd ar ein cefnogaeth i Wcreiniaid yn 2022-24 yn cynrychioli 82 y cant o gyllideb cenedl noddfa Llywodraeth Cymru dros chwe blynedd rhwng 2019-25? Ac felly, rwy'n drist iawn wir fod Darren Millar, fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw am ddileu'r polisi o genedl noddfa. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi'n sylweddoli pa mor niweidiol a fu hynny i'r rhai y gwnaethom ni eu croesawu nhw yma, yn enwedig yr 8,000 yna o Wcreiniaid, ond llawer, llawer mwy o'r bobl hefyd y gwnaeth Julie Morgan a minnau eu cyfarfod ddydd Sadwrn yn nigwyddiad Race Council Cymru ac mewn llawer o ddigwyddiadau hefyd lle byddwn ni'n cwrdd â llawer o bobl sydd wedi integreiddio yng Nghymru ac wedi dod yn ddinasyddion Cymru a'u croesawu nhw drwy gyfrwng y genedl noddfa.

14:50

Trefnydd—[Interruption.] I think that there is a need for a statement from the Welsh Government regarding the potential roll-out of the mandatory digital ID system in Wales, not necessarily for the reasons outlined by others in this Chamber, but certainly to understand the impact of the implementation of such a system on devolved competencies and also to understand what discussions, if any, the Welsh Government has had with the UK Government prior to that surprise announcement made by Keir Starmer last week. Over 30,000 of my constituents in Wrexham, Flintshire and north Wales have signed a petition opposing the introduction of the mandatory digital ID, and many of them have genuine concerns. So, I'd ask for a statement from the Welsh Government on its position, understanding the impact on any devolved competencies, and to understand what discussions had been held with the UK Government prior to that announcement. Thank you.

Trefnydd—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod angen datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno system adnabod ddigidol orfodol yng Nghymru, nid o reidrwydd am y rhesymau a amlinellwyd gan eraill yn y Siambr hon, ond yn sicr i ddeall effaith gweithrediad system o'r fath ar gymwyseddau datganoledig ac ar gyfer gwybod hefyd am unrhyw drafodaethau, os o gwbl, a gafodd Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU cyn y cyhoeddiad annisgwyl hwnnw a wnaeth Keir Starmer yr wythnos diwethaf. Mae dros 30,000 o'm hetholwyr i yn Wrecsam, sir y Fflint a'r gogledd wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cyflwyno adnabod digidol gorfodol, ac mae gan lawer ohonyn nhw bryderon gwirioneddol. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt hi, i ddeall yr effaith ar unrhyw gymwyseddau datganoledig, ac ar gyfer deall pa drafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU cyn y cyhoeddiad hwnnw. Diolch i chi.

Thank you, Sam Rowlands. I'm sure that there will be plenty of time for that kind of discussion and feedback for a proposal that, obviously, is a proposal by the UK Government. I'm sure we will have the opportunity to engage with that proposal as it’s taken forward.

Diolch, Sam Rowlands. Rwy'n siŵr y bydd digon o amser ar gyfer trafodaeth fel honno ac adborth ar gynnig sydd, yn amlwg, yn gynnig gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd cyfle gennym ni i ymgysylltu â'r cynnig hwnnw wrth iddo gael ei ddwyn ymlaen.

3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
3. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: The Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Bill

Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Item 3 this afternoon is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on the Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Bill. I call on the Deputy First Minister, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 14:51:52
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Heddiw, rwy'n cyflwyno'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Dyma ddeddfwriaeth bwysig sy'n adlewyrchu'n hymrwymiad i les anifeiliaid a gwerthoedd y Gymru gyfoes.

Today, I am introducing the Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Bill. This is a landmark piece of legislation that reflects our commitment to animal welfare and the evolving values of Welsh society.

If passed, this Bill will ban greyhound racing in Wales, reflecting growing recognition that it is incompatible with modern animal welfare standards and those evolving societal values, too. The introduction of this Bill follows strong public support, including a petition with over 35,000 signatures calling for an end to greyhound racing in Wales. This public mandate was reinforced by the Senedd Petitions Committee report, 'The Final Bend?', which concluded that greyhound racing presents significant and ongoing harm and recommended that a ban be consulted on. In the subsequent public consultation on the licensing of animal welfare establishments, activities and exhibits, we sought views on licensing racing greyhound owners, keepers and trainers, as well as seeking opinions and evidence on a phased ban. The response was clear: over 1,100 people provided their views, with nearly 65 per cent in support of a ban, demonstrating strong public concern. The evidence submitted has helped show that the long-standing risks associated with greyhound racing remain.

Public sentiment on this issue cannot be overstated. Campaigns led by animal welfare groups have mobilised thousands of voices in support of reform. These testimonies have helped shape this legislative response. We have engaged with industry stakeholders and acknowledge the efforts made to improve welfare, including improving track safety and implementing rehoming policies. However, the risks of injury, fatality and poor post-racing outcomes remain. This Government has listened. We have carefully considered the evidence, we've heard the voices of campaigners, we have noted the views of Senedd Members and acknowledge the efforts made by industry, and the conclusion is clear: the harm from greyhound racing can no longer be justified in a modern, compassionate Wales. Globally, attitudes are shifting. For example, New Zealand has announced plans to ban greyhound racing, while Scotland's private Member's Bill prohibiting greyhound racing reflects increasing concern there. This Bill takes a proactive approach, ending current racing and preventing future harm by ensuring no new tracks or racing operations can be established here in Wales.

The Animal Welfare Act 2006 provides general protections for all animals, but Wales currently lacks specific legislation for racing greyhounds. This gap leaves them vulnerable. So, the Bill introduces two new offences. Firstly, it will be an offence to operate a stadium or a similar venue in Wales and knowingly permit its use for greyhound racing. Secondly, it will be an offence to organise a greyhound race anywhere in Wales. The definition of 'greyhound racing' includes any event where greyhounds are set to run after a mechanical lure around a track. That includes racing, training and trialling activities.

The Bill, should it become law, will be enforced by local authority inspectors. I expect breaches in its provisions, either by contravening the ban or by intentionally obstructing an inspector in exercising their duty, to be rare. I expect the operators of racetracks and organisers of racing to comply with the provisions of the legislation. The Bill provides for an implementation period to help support a smooth transition for greyhounds and their owners, for welfare organisations, for the industry and local communities. It ensures that everyone has the opportunity to adjust and prepare for these important changes. The Bill will directly prohibit greyhound racing in Wales, significantly reducing the risk of injury and fatality, tackling preventable harm at its source. It will lead to the winding down of the industry here and sends a clear message that animal welfare is a priority for Wales.

Now, I've outlined what the Bill will do; it's important I am clear about what the Bill will not do. It will not prevent individuals from owning or training racing greyhounds away from a track, nor will it prohibit the breeding or the import and export of racing greyhounds. But these activities must comply with existing animal welfare, breeding and transport regulations. By taking this step, we send a clear message that Wales does not support the use of greyhounds for entertainment. The impact on local communities and economies is a key consideration, and we will utilise our existing support schemes to provide help and advice where it is needed. The Welsh Government has established an implementation group to guide this transition. The group includes stakeholders from the racing industry, animal welfare organisations and local authorities. Their role is to ensure that the ban is implemented fairly, with support for affected individuals and communities.

Now, in February, I set out my intent to move towards a ban on greyhound racing. Today, I am delivering on that commitment. This topic has been a campaigning focus for many Members of this Senedd, across parties, for many years, and I want to thank colleagues for that work. I'm very keen to continue in that spirit of constructive and collaborative working as the Bill proceeds through scrutiny.

Os caiff ei basio, fe fydd y Bil hwn yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru, sy'n adlewyrchiad o'r gydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn weithgaredd anghydnaws â safonau cyfoes lles anifeiliaid a gwerthoedd cymdeithasol sy'n datblygu hefyd. Mae cyflwyno'r Bil hwn yn dilyn cefnogaeth gref gan y cyhoedd, gan gynnwys deiseb gyda thros 35,000 o enwau arni sy'n galw am derfynu rasio milgwn yng Nghymru. Atgyfnerthwyd y mandad cyhoeddus hwn gan adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Senedd, 'Y Tro Olaf?', a ddaeth i'r casgliad bod rasio milgwn yn golygu niwed sylweddol a pharhaus ac argymhellodd y dylid ymgynghori ynglŷn â gwaharddiad. Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddilynodd ynglŷn â thrwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid, roeddem ni'n gofyn am safbwyntiau am drwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr milgwn rasio, yn ogystal â cheisio barn a thystiolaeth ar waharddiad graddol. Roedd yr ymateb yn eglur: mynegodd dros 1,100 o bobl eu barn, gyda bron i 65 y cant o blaid gwaharddiad, sy'n dangos pryder mawr ymhlith y cyhoedd. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd wedi cynorthwyo wrth ddangos bod y risgiau hirsefydlog sy'n gysylltiedig â rasio milgwn yn aros.

Ni ellir rhoi gormod o bwyslais ar deimlad y cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn. Mae ymgyrchoedd dan arweiniad grwpiau lles anifeiliaid wedi cynnull miloedd o leisiau i gefnogi diwygiad. Mae'r tystiolaethau hyn wedi helpu i lunio'r ymateb deddfwriaethol hwn. Rydym ni wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y diwydiant ac yn cydnabod yr ymdrechion a gafodd eu gwneud i wella lles, gan gynnwys gwella diogelwch traciau a rhoi polisïau ar waith i ailgartrefu. Serch hynny, mae'r perygl o anafiadau, marwolaethau a chanlyniadau gwael ar ôl rasys yn parhau. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwrando. Rydym ni wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus, rydym ni wedi gwrando ar leisiau ymgyrchwyr, rydym ni wedi nodi barn Aelodau'r Senedd ac wedi cydnabod yr ymdrechion a wnaeth y diwydiant, ac mae'r casgliad yn eglur: ni ellir cyfiawnhau'r niwed yn sgil rasio milgwn erbyn hyn yn y Gymru gyfoes, a thrugarog. Yn fyd-eang, mae ymagweddau yn newid. Er enghraifft, mae Seland Newydd wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd rasio milgwn, tra bod Bil preifat gan Aelod yn yr Alban sy'n gwahardd rasio milgwn yn adlewyrchu pryder cynyddol yn y fan honno. Mae'r Bil hwn yn cymryd agwedd ragweithiol, a fydd yn terfynu'r rasio presennol ac yn atal niwed yn y dyfodol drwy sicrhau na ellir sefydlu traciau na gweithrediadau rasio yma yng Nghymru.

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn darparu amddiffyniadau cyffredinol i bob anifail, ond ar hyn o bryd nid oes gan Gymru unrhyw ddeddfwriaeth benodol ar gyfer milgwn rasio. Mae'r bwlch hwn yn eu gadael nhw'n agored i niwed. Felly, fe fydd y Bil yn cyflwyno dwy drosedd newydd. Yn gyntaf, fe fydd hi'n drosedd i redeg stadiwm neu leoliad o'r fath yng Nghymru a chaniatáu ei ddefnydd yn fwriadol ar gyfer rasio milgwn. Yn ail, fe fydd trefnu ras milgwn mewn unrhyw leoliad yng Nghymru yn drosedd. Mae'r diffiniad o 'rasio milgwn' yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad lle bydd milgwn yn rhedeg ar ôl deniad mecanyddol o amgylch trac. Mae hynny'n cynnwys gweithgareddau rasio, hyfforddi a threialu.

Bydd y Bil, pe byddai'n dod yn gyfraith, yn cael ei orfodi gan arolygwyr o'r awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl y bydd toriadau yn ei ddarpariaethau yn ddigwyddiadau prin, naill ai drwy anwybyddu'r gwaharddiad neu drwy atal yn fwriadol arolygydd sy'n ymarfer ei ddyletswydd. Rwy'n disgwyl i'r rhai sy'n rhedeg caeau ras a threfnwyr y rasys gydymffurfio â darpariaethau'r ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer cyfnod i'w roi ar waith ar gyfer cynorthwyo i gefnogi pontio llyfn er mwyn y milgwn a'u perchnogion nhw, ar gyfer sefydliadau lles, ar gyfer y diwydiant a'r cymunedau lleol. Mae'n sicrhau y bydd gan bawb ddigon o gyfle i addasu a pharatoi ar gyfer y newidiadau pwysig hyn. Bydd y Bil yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru yn uniongyrchol, gan leihau'r perygl o anafiadau a marwolaethau yn sylweddol, ac yn mynd i'r afael â niwed y gellir ei atal yn llygad y ffynnon. Bydd yn arwain at ddirwyn y diwydiant i ben yma ac yn anfon neges bendant fod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Gymru.

Nawr, rwyf i wedi amlinellu'r hyn y bydd y Bil yn ei wneud; mae hi'n bwysig fy mod i'n eglur ynglŷn â'r hyn na fydd y Bil yn ei wneud. Ni fydd yn atal unigolion rhag bod yn berchen ar filgwn rasio na'u hyfforddi i rasio oddi ar gae ras, ac ni fydd yn gwahardd bridio neu fewnforio ac allforio milgwn rasio. Ond mae'n rhaid i'r gweithgareddau hyn gydymffurfio â rheoliadau lles, bridio a chludiant anifeiliaid presennol. Drwy gymryd y cam hwn, rydym ni'n anfon neges eglur nad yw Cymru yn gefnogol i ddefnyddio milgwn ar gyfer adloniant. Mae'r effaith ar gymunedau ac economïau lleol yn ystyriaeth allweddol, ac fe fyddwn ni'n defnyddio ein cynlluniau cymorth presennol i ddarparu cymorth a chyngor lle bod angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gweithredu i lywio'r trawsnewidiad hwn. Mae'r grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid o'r diwydiant rasio, sefydliadau lles anifeiliaid a'r awdurdodau lleol. Ei swyddogaeth yw sicrhau y bydd y gwaharddiad yn cael ei weithredu mewn ffordd deg, gyda chefnogaeth i unigolion a'r cymunedau yr effeithir arnynt.

Nawr, ym mis Chwefror, fe wnes i nodi fy mwriad i symud tuag at wahardd rasio milgwn. Heddiw, rwy'n cyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r pwnc hwn wedi bod yn ganolbwynt ymgyrchu i lawer o Aelodau o'r Senedd hon, ar draws y pleidiau, ers blynyddoedd lawer, ac fe hoffwn i ddiolch i gyd-Aelodau am y gwaith hwnnw. Rwy'n awyddus iawn i barhau yn yr ysbryd hwnnw o weithio adeiladol a chydweithredol wrth i'r Bil fynd rhagddo trwy'r broses graffu.

Dirprwy Lywydd, rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r Bil hwn ac i'n helpu i greu hanes drwy roi diwedd ar y niwed sy'n cael ei achosi gan rasio milgwn yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Senedd i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio a'i osod ar y llyfr statud. Diolch yn fawr iawn.

Dirprwy Lywydd, I urge Members to support this Bill and help us make history by ending the harm caused by greyhound racing in Wales. I look forward to working with Members and Senedd committees to ensure that the Bill is passed and put on the statute book. Thank you very much.

14:55

Can I thank the Cabinet Secretary for the statement? This is a subject that attracts strong, often deeply held views on both sides of the debate. As you said in your statement, campaigns led by animal welfare groups have mobilised thousands of voices in support of reform, with petitions and consultations showing significant support for a ban. Many people believe passionately that this step is essential to improving animal welfare in Wales. Others, however, see this as an end of a sport that has had a long and historic tradition, one which, for some communities, has been part of their local culture for decades. Both perspectives deserve to be heard respectfully and considered seriously by the Senedd.

For many, this will be a matter of conscience, so knowing all the facts is paramount to each one of us being able to make an informed decision, especially as this legislation comes not from a manifesto commitment of the Government, nor from their programme for government, but rather from a deal to ensure the budget passed. Before any vote takes place further down the line, there clearly are a number of important questions that I believe the Welsh Government must address. First is the question of legality. This proposal would make Wales the first UK nation to introduce a full ban on greyhound racing. As you explained, it will become an offence to operate a stadium or to organise a race here in Wales. But given that the UK Government has not taken the same position, we need absolute clarity that this legislation falls squarely within devolved competence. So, I ask you, Cabinet Secretary, are there any legal implications to the operation of a sport where only one nation has imposed a ban? I know that the LJC committee will explore this in detail, but clarity from you today would be helpful.

Second, the economic dimension. You mentioned that an implementation group has been established to support communities and industry through this transition, but the Welsh Government has not yet published its explanatory memorandum or the regulatory impact assessment for the Bill. Until these are available, it is very hard to have a fully informed debate. So, Cabinet Secretary, how soon will these documents be published?

Turning to the sole location left in Wales, the Valley Greyhound Stadium in Ystrad Mynach, you referred in your statement to risks that remain despite industry improvements, but this venue only became fully licensed by GBGB in 2023 after a £2 million upgrade to meet the standards set by the Greyhound Board of Great Britain. Has enough time passed to collect proper data on the impact of those changes? Before we close the door on any sporting venue, particularly one with such a long history, we must know whether it could be repurposed, redeveloped or supported in some other way. As Hefin David often pointed out, simply legislating for closure without a clear plan risks leaving a physical and economic void in this community. So, Cabinet Secretary, if this ban does go ahead, what happens to this site? What becomes of the staff employed there, or the local businesses that benefit from spectators? Is there a detailed economic plan for its future use?

There is also a wider principle here. While you have made clear what the Bill will and will not do—for example, it will not prohibit individuals from owning or training greyhounds away from a track—I do have reservations about the precedent set when governments decide to ban activities altogether. We have to ask ourselves, if greyhound racing today, what might it be tomorrow? Other sports? Other rural pursuits? Activities that, while controversial to some, have always been lawful and regulated? It is not unreasonable to ask whether this represents the start of a broader trend, and that is not a trend I would wish to see.

To be clear, I am not here to declare my final position on this Bill. Others may, as they have strongly held personal views on this issue. My purpose is to ensure that before any decision is made, the Welsh Government provides complete clarity on the legal basis for the ban, on the economic consequences, and on the precedent it sets for the future. Only when we have the full picture can this Senedd have a balanced and informed debate that is deserved—a debate that acknowledges the strength of feeling on both sides, and one that ensures any decision taken is grounded in evidence and not emotion alone. Diolch, Dirprwy Lywydd.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad? Mae hwn yn bwnc sy'n ennyn safbwyntiau cadarn, a ddelir yn daer iawn yn aml ar y ddwy ochr i'r ddadl. Fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, mae ymgyrchoedd dan arweiniad grwpiau lles anifeiliaid wedi cynnull miloedd o leisiau i gefnogi diwygiad, gyda deisebau ac ymgynghoriadau yn dangos bod cefnogaeth sylweddol i waharddiad. Mae llawer o bobl yn credu yn angerddol bod y cam hwn yn hanfodol i wella lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae eraill, serch hynny, yn ystyried hyn fel diwedd ar gystadleuaeth sydd â thraddodiad hir a hanesyddol, un sydd, i rai cymunedau, wedi bod yn rhan o'u diwylliant lleol nhw ers degawdau. Mae'r ddau safbwynt yn haeddu cael eu clywed gyda pharch a chael eu hystyried gan y Senedd yn ddifrifol.

I lawer, mater o gydwybod yw hwn, felly mae bod â'r ffeithiau i gyd yn hollbwysig er mwyn i bob un ohonom ni allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, yn enwedig gan nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn dod o ymrwymiad maniffesto'r Llywodraeth, nac o'i rhaglen ar gyfer llywodraethu ond mae'n deillio, yn hytrach, o fargen i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei phasio. Cyn i unrhyw bleidlais gael ei chynnal ymhellach ymlaen, mae hi'n amlwg fod yna nifer o gwestiynau pwysig y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw yn fy marn i. Cwestiwn ei gyfreithlondeb yw'r cyntaf. Fe fyddai'r cynnig hwn yn golygu mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad cyflawn ar rasio milgwn. Fel cafodd ei esbonio, fe fydd hi'n drosedd i redeg stadiwm neu drefnu ras yma yng Nghymru. Ond o ystyried nad yw Llywodraeth y DU wedi cymryd yr un ymagwedd, mae angen i ni fod yn gyfan gwbl eglur o ran presenoldeb lawn y ddeddfwriaeth hon o fewn cymhwysedd datganoledig. Felly, rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a oes unrhyw oblygiadau cyfreithiol i weithredu chwaraeon pan fo un genedl yn unig yn rhoi gwaharddiad yn ei le? Rwy'n gwybod y bydd pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd yn archwilio hyn yn fanwl, ond fe fyddai eglurder oddi wrthych chi'n ddefnyddiol heddiw.

Yn ail, yr agwedd economaidd. Fe wnaethoch chi sôn am sefydlu grŵp gweithredu i gefnogi cymunedau a diwydiant drwy'r trawsnewidiad hwn, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei memorandwm esboniadol na'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil eto. Hyd nes y bydd y rhain ar gael, mae hi'n anodd iawn cynnal dadl cwbl gytbwys. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa mor fuan y caiff y dogfennau hyn eu cyhoeddi?

Gan droi at yr unig leoliad sydd ar ôl yng Nghymru, sef Stadiwm Milgwn Valley yn Ystrad Mynach, roeddech chi'n cyfeirio at beryglon yn eich datganiad chi sy'n parhau er gwaethaf gwelliannau yn y diwydiant, ond yn 2023 yn unig y cafodd y lleoliad hwn ei drwyddedu yn llawn gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr ar ôl gwelliannau gwerth £2 filiwn i fodloni'r safonau a bennwyd gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr. A oes digon o amser wedi mynd heibio i gasglu data priodol ar effaith y newidiadau hynny? Cyn i ni gau'r drws ar unrhyw leoliad ar gyfer chwaraeon, yn enwedig un sydd â hanes mor hir iddo, mae'n rhaid i ni wybod a ellid ei ailbwrpasu, ei ailddatblygu neu ei gefnogi mewn rhyw ffordd arall. Fel byddai Hefin David yn ei nodi yn aml, mae deddfu ar gyfer cau heb gynllun pendant yn peryglu gadael gwagle daearyddol ac economaidd yn y gymuned hon. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, os bydd y gwaharddiad hwn yn mynd rhagddo, beth fydd yn digwydd i'r safle hwn? Beth fydd yn digwydd i'r staff sy'n cael eu cyflogi yno, neu i'r busnesau lleol sy'n elwa ar fynychwyr? A oes cynllun economaidd manwl ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol?

Mae egwyddor fwy eang yma hefyd. Er i chi ei gwneud hi'n eglur o ran yr hyn y bydd y Bil yn ei wneud a'r hyn na fydd yn ei wneud—er enghraifft, ni fydd yn gwahardd unigolion rhag bod yn berchen ar filgwn na'u hyfforddi i ffwrdd o drac—mae gen i amheuon ynghylch y cynsail a osodir pan fydd llywodraethau yn penderfynu gwahardd gweithgareddau yn gyfan gwbl. Mae hi'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain, os rasio milgwn yw e' heddiw, beth allai fod yfory? Chwaraeon eraill? Gweithgareddau eraill yng nghefn gwlad? Gweithgareddau sydd, er eu bod nhw'n ddadleuol i rai, sydd wedi bod yn gyfreithlon bob amser ac wedi cael eu rheoleiddio? Nid yw hi'n afresymol gofyn a yw hyn yn cynrychioli dechrau tuedd fwy eang, ac nid tuedd fyddai honno y byddwn i'n dymuno ei gweld hi.

I fod yn eglur, nid wyf i yma i ddatgan fy safbwynt terfynol ynghylch y Bil hwn. Efallai y bydd eraill yn gwneud felly, gan eu bod nhw wedi dal safbwyntiau cryf ar y mater hwn. Fy mwriad i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder llwyr o ran sail gyfreithiol y gwaharddiad, o ran y canlyniadau economaidd, ac o ran y cynsail y mae hyn yn ei osod i'r dyfodol. Dim ond pan fydd y darlun llawn gennym ni y bydd y Senedd hon yn gallu cynnal dadl gytbwys a deallus sy'n haeddiannol—dadl sy'n cydnabod cryfder teimlad ar y ddwy ochr, ac un sy'n sicrhau y bydd unrhyw benderfyniad a wneir yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth ac nid ar emosiwn yn unig. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:00

Sam, thank you very much indeed. Let me answer directly your questions. First of all, the reason we are bringing this ban, in addition to the opening remarks I made in my statement. The data published by GBGB in June 2025 provides data up to and including 2024. It shows that from 355,682 dog runs in 2024 at licensed GBGB tracks in England and Wales, there were 3,809 injuries and 123 track-related fatalities.

We actually welcomed the licensing of Valley stadium since November 2023, but as you will know, campaigners have continued to raise concerns that licensing has led to an increase in racing activity at that track, which we understand it has, which of course then increases the propensity for fatalities and for injuries, particularly running round the bends on those tracks. It means that more dogs are being subjected to racing, so the animal welfare groups and the campaign groups' opinion has not shifted—far from it. They are concerned that the increase in racing could lead to more fatalities and injuries. 

Just to confirm for you, Sam, Wales indeed has the legislative competence for the ban as described. Yes, we do publish the environmental impact assessment and other assessments, and the explanatory memorandum. They were published yesterday. If you haven't spotted them yet, I'm more than happy to ping them to you separately, but they're out there already.

Repurposing of the site is very much on our mind. You are absolutely right, our late colleague Hefin was very focused on that. That's why the implementation group, which has met three times already, actually has local authority presence on it, and also the track itself. The ones who’ve declined to be part of that group are GBGB themselves, but there are Valley track representatives on it. Because it is vital, Sam, that the implementation group looks at, in this transition, the future use of that facility.

And, Sam, just to say, there are no other sports whatsoever caught within this. It's a complete red herring. This is very much focused, for the reasons I laid out in my opening statement, on greyhound racing. That's it. But thank you for your questions.

Sam, diolch yn fawr iawn. Gadewch i mi ateb eich cwestiynau yn uniongyrchol. Yn gyntaf oll, y rheswm pam rydym ni'n cyflwyno'r gwaharddiad hwn, yn ogystal â'r sylwadau agoriadol a wnes i yn fy natganiad. Mae'r data a gyhoeddwyd gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr ym mis Mehefin 2025 yn darparu data hyd at a chan gynnwys 2024. Mae'n dangos, o 355,682 o rediadau cŵn yn 2024 ar draciau Bwrdd Milgwn Prydain Fawr trwyddedig yng Nghymru a Lloegr, roedd 3,809 o anafiadau a 123 o farwolaethau yn gysylltiedig â thrac.

Fe wnaethom groesawu trwyddedu stadiwm Valley ers mis Tachwedd 2023, ond fel y gwyddoch chi, mae ymgyrchwyr wedi parhau i godi pryderon bod trwyddedu wedi arwain at gynnydd mewn gweithgarwch rasio ar y trac hwnnw, ac rydym yn deall bod hynny'n wir, sydd wrth gwrs wedyn yn cynyddu'r siawns o farwolaethau ac anafiadau, yn enwedig wrth redeg rownd y troeon ar y traciau hynny. Mae'n golygu bod mwy o gŵn yn cael eu rasio, felly nid yw barn y grwpiau lles anifeiliaid a'r grwpiau ymgyrchu wedi newid—i'r gwrthwyneb. Maen nhw'n pryderu y gallai'r cynnydd mewn rasio arwain at fwy o farwolaethau ac anafiadau.

Dim ond i gadarnhau i chi, Sam, mae gan Gymru y cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer y gwaharddiad fel y'i disgrifir. Ydym, rydym yn cyhoeddi'r asesiad effaith amgylcheddol ac asesiadau eraill, a'r memorandwm esboniadol. Fe'u cyhoeddwyd ddoe. Os nad ydych wedi eu gweld eto, rwy'n fwy na hapus i'w hanfon atoch chi ar wahân, ond maen nhw allan yna eisoes.

Mae ailbwrpasu'r safle yn ein meddyliau yn sicr. Rydych chi'n hollol iawn, roedd ein diweddar gyd-Aelod Hefin yn canolbwyntio'n gryf ar hynny. Dyna pam mae gan y grŵp gweithredu, sydd wedi cyfarfod tair gwaith eisoes, bresenoldeb awdurdod lleol arno, a hefyd y trac ei hun. Y rhai sydd wedi gwrthod bod yn rhan o'r grŵp hwnnw yw Bwrdd Milgwn Prydain Fawr eu hunain, ond mae yna gynrychiolwyr trac Valley arno. Oherwydd ei bod yn hanfodol, Sam, bod y grŵp gweithredu yn edrych, yn y trawsnewidiad hwn, ar y defnydd o'r cyfleuster hwnnw yn y dyfodol.

A Sam, dim ond i ddweud, nid oes unrhyw chwaraeon eraill o gwbl wedi'u dal o fewn hyn. Codi sgwarnog yw hyn yn llwyr. Mae hwn yn canolbwyntio'n gryf, am y rhesymau a nodais yn fy natganiad agoriadol, ar rasio milgwn. Dyna fe. Ond diolch am eich cwestiynau.

15:05

Can I say, first of all, Deputy First Minister, this isn't the way to do it, is it? Even some people who are in favour of the ban are a bit uncomfortable at the fact that the only reason this is happening now is because of a political fix. That said, I clearly appreciate the weight of support for action from Members of the Senedd, across parties, including my own.

But it really doesn't sit comfortably with me that I've been sitting in the Chamber listening to the Government tell me, time and time again, that there's absolutely no time and absolutely no capacity to do anything over and above the existing programme for government and the legislative programme that was originally proposed for the Senedd, but then, at the drop of a hat, you find the time and capacity for this Bill to come before us.

As I said, I accept where the political consensus is on this, and my priority, therefore, now, is to try and be constructive in my scrutiny of the Bill, and to make it a Bill that does what it says on the tin, that is effective, but is also pragmatic, and is mindful of its impacts not only on the welfare of dogs, but also on the people involved in the sector, which I'm sure is something that you share as well.

The elephant in the room here, of course, is the judicial review. I can see that you're having problems. No, okay. The judicial review is a bit of an elephant in the room. It may be difficult for you to comment, but I really do feel that we need to understand what assessment the Government might have made of any potential impacts of the review on the timetable of the legislation, but also whether it could delay or obstruct the implementation of the ban. I'd ask you whether you'd provide a public statement clarifying the Government's position on the judicial review, because I'm not aware that we've heard anything formally from you on that.

Secondly, you've outlined in the Bill a specific window for transition, between 2027 and 2030, for the implementation of a ban. I'd just like to hear a bit more from you about the rationale for that, because, clearly, there have been references to the experience in New Zealand and some issues that arose there. And also we hear from the Wales greyhound partnership that there is capacity for rehoming. So it would be interesting just to understand why you've gone for that maybe longer period of transition.

Also, what consideration did you give to strengthening the penalties that are being proposed in the Bill? Why not unlimited fines or custodial sentences, to be a real deterrent for illegal racing? You may want to elaborate a bit on the enforcement as well, because any ban is only as effective as the power of enforcement that is there.

Clearly, there are many, many more questions. You say that this is a ban on greyhound racing, but actually it's not, is it? It's a ban on greyhound racing on a track behind a mechanical lure. I'd be really interested in understanding what your definition of 'track' is, because, clearly, unless it's a recognised track, then potentially it's not a ban. But I'm not sure. Maybe we can interrogate that in committee. But we do need to study the explanatory memorandum and the regulatory impact assessment as well. So, if you could address those points initially, I'd be grateful, but clearly there'll be more opportunity for us to scrutinise in greater detail as we move on with the Bill on its journey through the Senedd. Diolch.

A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, Dirprwy Brif Weinidog, nid dyma'r ffordd i wneud hyn, nage? Mae hyd yn oed rhai pobl sydd o blaid y gwaharddiad ychydig yn anghyfforddus gyda'r ffaith mai'r unig reswm y mae hyn yn digwydd nawr yw oherwydd twyll gwleidyddol. Wedi dweud hynny, rwy'n amlwg yn gwerthfawrogi pwysau'r gefnogaeth i weithredu gan Aelodau'r Senedd, ar draws pleidiau, gan gynnwys fy un i.

Ond nid wyf yn teimlo'n gyfforddus iawn a minnau wedi bod yn eistedd yn y Siambr yn gwrando ar y Llywodraeth yn dweud wrthyf, dro ar ôl tro, nad oes dim amser nac unrhyw gapasiti i wneud unrhyw beth ychwanegol i'r rhaglen lywodraethu bresennol a'r rhaglen ddeddfwriaethol a gynigiwyd yn wreiddiol ar gyfer y Senedd, ond yna, ar yr esgus lleiaf, rydych chi'n dod o hyd i'r amser a'r capasiti i gyflwyno'r Bil hwn ger ein bron.

Fel y dywedais i, rwy'n derbyn lle mae'r consensws gwleidyddol ar hyn, a fy mlaenoriaeth, felly, nawr, yw ceisio bod yn adeiladol wrth graffu ar y Bil, ac i'w wneud yn Fil sy'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun, sy'n effeithiol, ond hefyd yn bragmataidd, ac yn ymwybodol o'i effeithiau nid yn unig ar les cŵn, ond hefyd ar y bobl sy'n ymwneud â'r sector, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth rydych chi'n ei rannu hefyd.

Y broblem amlwg sydd wedi'i hanwybyddu, wrth gwrs, yw'r adolygiad barnwrol. Gallaf weld eich bod chi'n cael problemau. Na, iawn. Mae'r adolygiad barnwrol yn broblem amlwg sydd wedi'i hanwybyddu. Efallai y bydd yn anodd i chi wneud sylwadau, ond rwy'n teimlo bod angen i ni ddeall pa asesiad y gallai'r Llywodraeth fod wedi'i wneud o unrhyw effeithiau posibl yr adolygiad ar amserlen y ddeddfwriaeth, ond hefyd pa un a allai oedi neu rwystro gweithredu'r gwaharddiad. Byddwn yn gofyn i chi a fyddech chi'n darparu datganiad cyhoeddus yn egluro safbwynt y Llywodraeth ar yr adolygiad barnwrol, oherwydd nid wyf yn ymwybodol ein bod wedi clywed unrhyw beth yn ffurfiol gennych chi ar hynny.

Yn ail, rydych chi wedi amlinellu yn y Bil, ffenestr benodol ar gyfer pontio, rhwng 2027 a 2030, ar gyfer gweithredu gwaharddiad. Hoffwn glywed ychydig mwy gennych chi am y sail resymegol ar gyfer hynny, oherwydd, yn amlwg, bu cyfeiriadau at y profiad yn Seland Newydd a rhai materion a gododd yno. A hefyd rydym yn clywed gan bartneriaeth milgwn Cymru bod capasiti i ailgartrefu. Felly byddai'n ddiddorol deall pam rydych chi wedi mynd am y cyfnod pontio, hirach efallai.

Hefyd, pa ystyriaeth wnaethoch chi ei rhoi i gryfhau'r cosbau sy'n cael eu cynnig yn y Bil? Pam ddim dirwyon diderfyn neu ddedfrydau carchar, er mwyn iddynt fod yn ataliadau gwirioneddol o ran rasio anghyfreithlon? Efallai yr hoffech ymhelaethu ychydig ar y gorfodi hefyd, oherwydd nid yw unrhyw waharddiad ond mor effeithiol â'r pŵer gorfodi sydd ar gael.

Yn amlwg, mae yna lawer, llawer mwy o gwestiynau. Rydych chi'n dweud bod hwn yn waharddiad ar rasio milgwn, ond mewn gwirionedd nid ydyw, nag yw? Mae'n waharddiad ar rasio milgwn ar drac y tu ôl i atyniad mecanyddol. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn deall beth yw eich diffiniad o 'drac', oherwydd, yn amlwg, oni bai ei fod yn drac cydnabyddedig, yna o bosibl nid yw'n waharddiad. Ond dwi ddim yn siŵr. Efallai y gallwn drafod hynny yn y pwyllgor. Ond mae angen i ni astudio'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd. Felly, pe gallech fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny i ddechrau, byddwn yn ddiolchgar, ond yn amlwg bydd mwy o gyfle i ni graffu'n fanylach wrth i ni symud ymlaen gyda'r Bil ar ei hynt drwy'r Senedd. Diolch.

Thank you, Llyr. Indeed, some of these questions we can explore in more detail as the Bill progresses. But just to turn to your last question first, the policy objective of this Bill is very specific. It's to prohibit greyhound racing in Wales. In order to achieve this, there will be two new offences. The first makes it an offence to operate a stadium or a similar venue in Wales and to use it or knowingly permit it to be used for greyhound racing. The second makes it an offence to be involved in organising greyhound racing in Wales. You'll see, in the explanatory memorandum and the Bill itself, that it describes that quite specifically in terms of a mechanical lure et cetera. So, it's very clear and specific, but Llyr, we can explore this more when we get into the detail on the Bill.

Let me just turn to the issue of judicial review. I'm aware that a judicial review claim has been issued, seeking to challenge the ministerial announcement proposing to introduce a Senedd ban on greyhound racing in Wales, and we've responded to the claim. There's a limit to what I can say about this, Llyr, of course, because it is a judicial review. We're awaiting the court's decision on whether the claim will be granted permission to proceed to a full hearing. We can't predict when a decision will be made—it's a matter for the courts, of course. There's a limit to what we can say on this. We don't know when a hearing date, if it is granted, would take place, but you could anticipate that spring of next year would be logical as the earliest date. But as this is now the subject of live litigation, it's not appropriate for me as a Welsh Government Minister to comment further on it at this stage.

In terms of the timescale, which is as early as 2027 and no later than 2030, that's deliberately in there in order to be informed by the implementation group, because the implementation group is looking at some key things, not only the future use of the track, not only reskilling with Welsh Government support and retraining for those people who currently work at the track as well, but also the rehoming of greyhounds. I'm very pleased that the animal welfare charities and the rehoming charities have said they're really willing to step up to the mark on it, but that's exactly the sort of consideration that the implementation group are looking at. You will remember that when I made my statement back in February, I made clear that I want to see the ban as soon as practically possible. That still remains my intent, but I want this to be led by the considerations of that implementation group.

On enforcement, as I said in my opening remarks, Llyr, because of the clarity of what this legislation does and the fact it'll be enforced by local authority officers, we do not expect to see non-compliance—people suddenly opening up new tracks or allowing or permitting racing to take place with mechanical lures and so on. It would be fairly obvious, I have to say, if that were taking place. So, on enforcement, we will work with local authorities as this Bill progresses, to work through those issues, but we are quite clear that the enforcement should be able to be delivered with this, and it'll be clear when an offence under those two offences that we laid out is taking place.

Diolch, Llyr. Yn wir, gallwn archwilio rhai o'r cwestiynau hyn yn fwy manwl wrth i'r Bil fynd ar ei hynt. Ond i droi at eich cwestiwn olaf yn gyntaf, mae amcan polisi'r Bil hwn yn benodol iawn. Mae'n gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, bydd dwy drosedd newydd. Mae'r cyntaf yn ei gwneud hi'n drosedd i weithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a'i ddefnyddio neu ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer rasio milgwn a bod yn ymwybodol o hynny. Mae'r ail yn ei gwneud hi'n drosedd i fod yn ymwneud â threfnu rasio milgwn yng Nghymru. Fe welwch, yn y memorandwm esboniadol a'r Bil ei hun, ei fod yn disgrifio hynny'n eithaf penodol yn nhermau deniad mecanyddol ac ati. Felly, mae'n glir ac yn benodol iawn, ond Llyr, gallwn archwilio hyn yn fwy pan fyddwn yn mynd i mewn i'r manylion ar y Bil.

Gadewch i mi droi at y mater o adolygiad barnwrol. Rwy'n ymwybodol bod hawliad adolygiad barnwrol wedi'i gyhoeddi, yn ceisio herio'r cyhoeddiad gweinidogol sy'n cynnig cyflwyno gwaharddiad y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru, ac rydym wedi ymateb i'r hawliad. Mae terfyn i'r hyn y gallaf ei ddweud am hyn, Llyr, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn adolygiad barnwrol. Rydym yn aros am benderfyniad y llys ynghylch a fydd yr hawliad yn cael caniatâd i fynd ymlaen i wrandawiad llawn. Ni allwn ragweld pryd y bydd penderfyniad yn cael ei wneud—mae'n fater i'r llysoedd, wrth gwrs. Mae terfyn i'r hyn y gallwn ei ddweud ar hyn. Nid ydym yn gwybod pryd y byddai gwrandawiad, os caiff ei ganiatáu, yn digwydd, ond gallech ragweld y byddai gwanwyn y flwyddyn nesaf yn rhesymegol fel y dyddiad cynharaf. Ond gan fod hyn bellach yn destun ymgyfreitha byw, nid yw'n briodol i mi fel Gweinidog Llywodraeth Cymru wneud sylwadau pellach arno ar hyn o bryd.

O ran yr amserlen, sydd mor gynnar â 2027 a dim hwyrach na 2030, mae hynny yno'n fwriadol er mwyn cael gwybodaeth gan y grŵp gweithredu, oherwydd mae'r grŵp gweithredu yn edrych ar rai pethau allweddol, nid yn unig y defnydd o'r trac yn y dyfodol, nid yn unig ailsgilio gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac ailhyfforddi ar gyfer y bobl hynny sy'n gweithio ar y trac ar hyn o bryd hefyd, ond hefyd ailgartrefu milgwn. Rwy'n falch iawn bod yr elusennau lles anifeiliaid a'r elusennau ailgartrefu wedi dweud eu bod yn wirioneddol barod i gamu i'r adwy gyda hyn, ond dyna'n union y math o ystyriaeth y mae'r grŵp gweithredu yn edrych arno. Byddwch yn cofio pan wnes i fy natganiad yn ôl ym mis Chwefror, fy mod wedi gwneud yn glir fy mod eisiau gweld y gwaharddiad cyn gynted ag y bo modd. Dyna fy mwriad o hyd, ond rwyf eisiau i hyn gael ei arwain gan ystyriaethau y grŵp gweithredu hwnnw.

O ran gorfodi, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, Llyr, oherwydd eglurder yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei wneud a'r ffaith y bydd yn cael ei gorfodi gan swyddogion awdurdodau lleol, nid ydym yn disgwyl gweld diffyg cydymffurfio—pobl yn sydyn yn agor traciau newydd neu ganiatáu neu ganiatáu i rasio ddigwydd gyda deniadau mecanyddol ac ati. Byddai'n eithaf amlwg, mae'n rhaid i mi ddweud, pe bai hynny'n digwydd. Felly, ar orfodi, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol wrth i'r Bil hwn fynd ar ei hynt, i weithio trwy'r materion hynny, ond rydym yn eithaf clir y dylai'r gorfodi fod yn gallu cael ei gyflawni gyda hyn, a bydd yn glir pryd mae trosedd o dan y ddwy drosedd hynny a osodwyd gennym yn digwydd.

15:10

Can I thank the Cabinet Secretary for bringing forward this vital piece of legislation, which builds on our proud record of leading the way on animal welfare? The Bill also demonstrates the power of our Senedd petitions process, with 35,000 people across Wales calling for an end to this cruel sport—an industry where there's a lot of wastage. Also, the cross-party working that we've had. We've also had two debates on this: the Senedd petition debate, and we've had a short debate on it. So, it's been cross-party working together.

The Cut the Chase coalition are keen to see the ban coming into effect as quickly as possible. The longer it's allowed to continue, the more dogs will be harmed or killed. Members of the coalition are working already with others from the welfare sector, actively preparing to rehome dogs that are currently racing. They want to know whether you will consider shortening that transition period, as 2030 is a long time away. More dogs will be getting injured in the process while we're waiting. The penalties need to be relevant to the legislation and act as enough of a deterrent to prevent racing from continuing on an illegal basis, while minimising the risk of any potential repeat offences. Thank you.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth, sy'n ategu ein hanes balch o arwain y ffordd ar les anifeiliaid? Mae'r Bil hefyd yn dangos pŵer ein proses ddeisebau yn y Senedd, gyda 35,000 o bobl ledled Cymru yn galw am roi diwedd ar y gamp greulon hon—diwydiant lle mae llawer o wastraff. Hefyd, y gweithio trawsbleidiol rydym ni wedi'i gael. Rydym hefyd wedi cael dwy ddadl ar hyn: dadl deiseb y Senedd, ac rydym wedi cael dadl fer arno. Felly, mae wedi bod yn waith trawsbleidiol gyda'n gilydd.

Mae'r glymblaid Cut the Chase yn awyddus i weld y gwaharddiad yn dod i rym cyn gynted â phosibl. Po hiraf y caniateir iddo barhau, y mwyaf o gŵn fydd yn cael eu niweidio neu eu lladd. Mae aelodau'r glymblaid eisoes yn gweithio gydag eraill o'r sector lles, gan baratoi'n weithredol i ailgartrefu cŵn sy'n rasio ar hyn o bryd. Maen nhw eisiau gwybod a fyddwch chi'n ystyried byrhau'r cyfnod pontio hwnnw, gan fod 2030 yn bell i ffwrdd. Bydd mwy o gŵn yn cael eu hanafu yn y broses tra byddwn yn aros. Mae angen i'r cosbau fod yn berthnasol i'r ddeddfwriaeth a gweithredu fel digon o ataliad i atal rasio rhag parhau ar sail anghyfreithlon, gan leihau'r risg o unrhyw droseddau ailadroddus posibl. Diolch.

First of all, thank you very much, the Petitions Committee but also across parties here, for the support that's been demonstrated for this, including, as you've said, within two debates, as well as the petitioners from around Wales. There is clearly a mood within this Senedd, but also wider within Wales.

The reason that we've put in that timeline—bearing in mind we have to pass the legislation, go through the Committee Stage and so on—is so that the implementation group could well choose to say, 'We think this can be done quite soon.' That's fine, because it says no later than 2030, but as early as 2027.

I'm really pleased that the animal welfare charities and rehoming charities have stepped up to the mark already and said, 'We can help with this.' We want to make sure that the welfare of the greyhounds isn't jeopardised by moving too pre-emptively, and we certainly don't want to see anything happening, for example, with euthanising greyhounds on the back of this as well. So, I think that's where the implementation group have got a real part to play. It's up and running, it's had three meetings, it will have more to come as well, and I think its consideration will guide us as the legislation goes through.

But thank you for your support, and I think this is a pivotal day, marking again the long commitment of this Senedd and this Welsh Government to animal welfare.

Yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn, i'r Pwyllgor Deisebau ond hefyd ar draws y pleidiau yma, am y gefnogaeth a ddangoswyd i hyn, gan gynnwys, fel y dywedoch chi, o fewn dwy ddadl, yn ogystal â'r deisebwyr o bob cwr o Gymru. Mae'n amlwg bod naws o fewn y Senedd hon, ond hefyd yn ehangach yng Nghymru.

Y rheswm pam rydym ni wedi rhoi'r amserlen honno—gan gofio bod yn rhaid i ni basio'r ddeddfwriaeth, mynd trwy'r Cyfnod Pwyllgor ac ati—yw fel y gallai'r grŵp gweithredu ddewis dweud, 'Rydym yn credu y gellir gwneud hyn yn eithaf buan.' Mae hynny'n iawn, oherwydd mae'n dweud dim hwyrach na 2030, ond mor gynnar â 2027.

Rwy'n falch iawn bod yr elusennau lles anifeiliaid a'r elusennau ailgartrefu eisoes wedi camu i'r adwy a dweud, 'Gallwn ni helpu gyda hyn.' Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw lles y milgwn yn cael ei beryglu trwy symud yn rhy ragataliol, ac yn sicr nid ydym eisiau gweld unrhyw beth yn digwydd, er enghraifft, milgwn yn destun ewthanasia ar gefn hyn hefyd. Felly, rwy'n credu mai dyna lle mae'r grŵp gweithredu wedi cael rhan go iawn i'w chwarae. Mae ar waith, mae wedi cael tri chyfarfod, bydd ganddo fwy i ddod hefyd, ac rwy'n credu y bydd ei ystyriaeth yn ein harwain wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd.

Ond diolch am eich cefnogaeth, ac rwy'n credu bod hwn yn ddiwrnod tyngedfennol, sy'n nodi unwaith eto ymrwymiad hir y Senedd hon a'r Llywodraeth hon i les anifeiliaid.

15:15

I've got two declarations of interest. The first is that I'm the owner of a former greyhound who raced, and, obviously, we lost Arthur, who was particularly damaged and we know was hurt through greyhound racing. My second declaration of interest is that I was the one who did the political fix, and I'm proud of that. And Llyr, Plaid Cymru did lots of political fixes when you had the three years as part of the deal. So, please, it really is unreasonable for you to say that, and I'm sorry you're not in the Siambr in order for me to say that to you directly.

But the point is this: there is significant evidence that dogs die and dogs get injured, and I've got my own personal stories, and it is emotional, because if you're a dog owner, it's emotional. So, I make no excuses or apology that it's emotional for me. But the second issue is that I'm the chair of the gambling-related harms cross-party group, and online gambling—which is what greyhound racing is now all about; hardly anybody goes to the track to see it—actually gets people addicted, and we know, sadly, can mean that people lose lots of money.

So, my question to you is this: going back to the timescales, we are concerned about the length of time. So, I just wonder if you'd clarify the criteria that the group could look at in order to reduce the timeline. Thank you very much.

Mae gen i ddau ddatganiad o fuddiant. Y cyntaf yw fy mod i'n berchen ar filgi a fu'n rasio yn y gorffennol, ac, yn amlwg, fe gollon ni Arthur, a oedd wedi'i niweidio'n benodol ac rydym ni'n gwybod ei fod wedi'i anafu trwy rasio milgwn. Fy ail ddatganiad o fuddiant yw mai fi oedd yr un a wnaeth y fargen wleidyddol, ac rwy'n falch o hynny. A Llyr, gwnaeth Plaid Cymru lawer o fargeinion gwleidyddol pan fu gennych chi'r tair blynedd fel rhan o'r cytundeb. Felly, os gwelwch yn dda, mae'n wirioneddol afresymol i chi ddweud hynny, ac mae'n ddrwg gen i nad ydych chi yn y Siambr er mwyn i mi ddweud hynny wrthych yn uniongyrchol.

Ond y pwynt yw hyn: mae tystiolaeth sylweddol bod cŵn yn marw a chŵn yn cael eu hanafu, ac mae gen i fy straeon personol fy hun, ac mae'n emosiynol, oherwydd os ydych chi'n berchennog cŵn, mae'n emosiynol. Felly, nid wyf i'n gwneud unrhyw esgusodion nac ymddiheuriad ei fod yn emosiynol i mi. Ond yr ail fater yw fy mod i'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol sy'n gysylltiedig â niwed gamblo, a gamblo ar-lein—a dyna beth yw rasio milgwn erbyn hyn; prin fod unrhyw un yn mynd i'r trac i'w gweld—mewn gwirionedd mae'n gwneud pobl yn gaeth iddo, ac rydym yn gwybod, yn anffodus, gall olygu bod pobl yn colli llawer o arian.

Felly, fy nghwestiwn i chi yw hyn: mynd yn ôl i'r amserlenni, rydym yn pryderu am hyd y cyfnod. Felly, tybed a fyddech chi'n egluro'r meini prawf y gallai'r grŵp edrych arnynt er mwyn lleihau'r amserlen. Diolch yn fawr iawn.

Yes, indeed. Thank you very much. And Jane, can I just acknowledge that you've been an exceptionally strong advocate? But also can I say as well, we've also had some really, over the years, many strong advocates from right across the Chamber, from all parties, and that builds upon the Senedd debates, the 35,000 petitioners, the 65 per cent in the public consultation that said we should move to a ban and so on and so forth? But, yes, the roles you and others have played have been significant in this, but I think it does reflect that wider Welsh societal shift as well: what does a modern Wales look like that really cares about animal welfare, and in this situation, greyhound welfare as well.

I'm glad you've picked up again on the issue of the timescale. As we've made clear, it's as early as 2027, subject to the deliberations of the implementation group who are an expert-led group. I think the chair is excellent, the membership is really excellent, and it's a wide-ranging membership as well that can consider things such as the future use of the track, the welfare and well-being of the individuals who currently work there in reskilling and retraining, not leaving that track derelict—there needs to be future uses for it as well—the greyhounds' rehoming, and all those other aspects set out in their terms of reference. Now, if they do come back and say, 'Our feeling is we can move rapidly towards a ban and we can take all those considerations into play', then it will satisfy what I laid out in February this year, which is 'as soon as practically possible'. I think it's right that they work through this and bring forward, then, their proposals of how to do it. So, it doesn't have to be 2030, it could be a lot sooner, but I want to give them the freedom and the independence to actually work through this and say how we can do it.

Do bear in mind as well that in the approach taken another countries, they haven't gone overnight to a ban, because they've gone through the same considerations. They've taken time to actually work through it, so we don't end up, for example, in negative welfare implications for the greyhounds that are currently racing or being trained and so on. So, we just need to get this right, but as soon as practically possible is still my intent, and I know that the implementation group understand that as well.

Wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn. A Jane, a gaf i gydnabod eich bod wedi bod yn eiriolwr eithriadol o gryf? Ond hefyd a gaf i ddweud hefyd, rydym ni hefyd wedi cael rhai eiriolwyr cryf o bob rhan o'r Siambr, o bob plaid, ac mae hynny'n adeiladu ar ddadleuon y Senedd, y 35,000 o ddeisebwyr, y 65 y cant yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddywedodd y dylem symud i waharddiad ac ati? Ond, ie, mae'r rolau rydych chi ac eraill wedi'u chwarae wedi bod yn arwyddocaol yn hyn, ond rwy'n credu ei fod yn adlewyrchu'r newid cymdeithasol ehangach hwnnw yng Nghymru hefyd: sut mae Cymru fodern yn edrych, sy'n poeni am les anifeiliaid, ac yn y sefyllfa hon, lles milgwn hefyd.

Rwy'n falch eich bod wedi codi mater yr amserlen eto. Fel yr ydym wedi'i gwneud yn glir, mae mor gynnar â 2027, yn amodol ar drafodaethau'r grŵp gweithredu sy'n grŵp dan arweiniad arbenigwyr. Rwy'n credu bod y cadeirydd yn ardderchog, mae'r aelodaeth yn wirioneddol ardderchog, ac mae'n aelodaeth eang hefyd sy'n gallu ystyried pethau fel y defnydd o'r trac yn y dyfodol, lles a llesiant yr unigolion sy'n gweithio yno ar hyn o bryd wrth ailsgilio ac ailhyfforddi, heb adael y trac hwnnw yn adfeiliedig—mae angen defnydd iddo yn y dyfodol hefyd—ailgartrefu'r milgwn, a'r holl agweddau eraill hynny a nodir yn eu cylch gorchwyl. Nawr, os ydyn nhw'n dod yn ôl ac yn dweud, 'Ein teimlad ni yw y gallwn symud yn gyflym tuag at waharddiad a gallwn weithredu ar yr holl ystyriaethau hynny', yna bydd yn bodloni'r hyn a osodais ym mis Chwefror eleni, sef 'cyn gynted â phosibl'. Rwy'n credu ei bod yn iawn eu bod yn gweithio trwy hyn ac yn cyflwyno eu cynigion ar sut i wneud hynny. Felly, nid oes rhaid iddo fod yn 2030, gallai fod yn llawer cynt, ond rydw i eisiau rhoi'r rhyddid a'r annibyniaeth iddyn nhw weithio trwy hyn a dweud sut y gallwn ni ei wneud.

Cofiwch hefyd o ran y dull a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill, ni wnaethon nhw gyflwyno gwaharddiad dros nos, oherwydd eu bod wedi mynd trwy'r un ystyriaethau. Maen nhw wedi cymryd amser i weithio drwyddo, fel nad ydym yn gweld goblygiadau lles negyddol i'r milgwn sydd ar hyn o bryd yn rasio neu'n cael eu hyfforddi ac ati. Felly, mae angen i ni gael hyn yn iawn, ond cyn gynted ag y bo modd yw fy mwriad o hyd, ac rwy'n gwybod bod y grŵp gweithredu yn deall hynny hefyd.

A Cut the Chase campaign e-mail supporting an end to greyhound racing in Wales states that the industry's own figures evidence the risks, with 359 dogs involved in racing at stadiums regulated by the Greyhound Board of Great Britain, GBGB, dying in 2023, and more than 4,000 injured over the same period. However, the same figures show that 99.97 per cent did not die and 98.93 per cent were not injured, that the track injury rate fell to 1.07 per cent in 2024, the lowest ever, and the fatality rate halved to 0.03 per cent between 2020 and 2024. So, if you believe in evidence-led policy rather than policy-led evidence, what consideration have you therefore given to these facts or to the statistical reality, for example, that domestic pet dogs are just as likely to be injured on UK roads and in dog-on-dog attacks, and that the domestic pet dog fatality rates, for example, from dog-on-dog attacks, at 0.47 per cent are much higher than the 0.03 per cent fatality rate on the tracks? Presumably, you're not proposing to ban domestic pet dogs.

And finally, you made a brief reference to the judicial review issued by GBGB in Wales. I appreciate you can't share Welsh Government's legal advice or position on this, but can you advise whether that claim has been accepted, and whether the action is going ahead?

Mae e-bost ymgyrch Cut the Chase sy'n cefnogi rhoi diwedd ar rasio milgwn yng Nghymru yn nodi bod ffigurau'r diwydiant ei hun yn dangos beth yw'r risgiau, gyda 359 o gŵn sy'n ymwneud â rasio mewn stadia a reoleiddir gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr, GBGB, yn marw yn 2023, a mwy na 4,000 wedi'u hanafu dros yr un cyfnod. Fodd bynnag, mae'r un ffigurau'n dangos nad oedd 99.97 y cant wedi marw ac nad oedd 98.93 y cant wedi'u hanafu, bod y gyfradd anafiadau trac wedi gostwng i 1.07 y cant yn 2024, yr isaf erioed, a bod y gyfradd marwolaethau wedi haneru i 0.03 y cant rhwng 2020 a 2024. Felly, os ydych chi'n credu mewn polisi sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth yn hytrach na thystiolaeth a arweinir gan bolisi, pa ystyriaeth ydych chi felly wedi'i roi i'r ffeithiau hyn neu'r realiti ystadegol, er enghraifft, bod cŵn anwes domestig yr un mor debygol o gael eu hanafu ar ffyrdd y DU ac mewn ymosodiadau cŵn ar gŵn, a bod y cyfraddau marwolaethau cŵn anwes domestig, er enghraifft, yn sgil ymosodiadau cŵn ar gŵn, ar 0.47 y cant yn llawer uwch na'r gyfradd marwolaethau o 0.03 y cant ar y traciau? Yn ôl pob tebyg, nid ydych chi'n bwriadu gwahardd cŵn anwes domestig.

Ac yn olaf, gwnaethoch chi gyfeirio'n fyr at yr adolygiad barnwrol a gyhoeddwyd gan GBGB yng Nghymru. Rwy'n gwerthfawrogi na allwch rannu cyngor neu safbwynt cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar hyn, ond a allwch chi roi gwybod a yw'r hawliad hwnnw wedi'i dderbyn, ac a yw'r camau gweithredu yn mynd rhagddynt?

15:20

So, the latter question you have is a matter for the courts to determine, and we await their determination on whether it will proceed or not, and there's a limit, Mark, to what I can say further on that. 

Just to say, your input to this debate, which I respect, reflects that there are different views within the Senedd. You say 99 point something per cent do not result in injuries or fatalities. But you began by saying that, indeed, the data published by GBGB itself in June 2025, which provides data up to and including 2024, shows that out of the dog runs in 2024 at their licensed tracks in England and Wales, there were 3,809 reported injuries and 123 track-related fatalities.

So, that, on top of the consensus, the complete consensus, across animal welfare, rehoming charities and others that has grown over the years, the evidence internationally as well, the change in societal mood, suggests that those statistics are unacceptable in a nation that actually wants to do the right thing on animal welfare. I respect different opinions within this Chamber, but the statistics simply do not lie.

Felly, mae'r cwestiwn olaf sydd gennych yn fater i'r llysoedd ei benderfynu, ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch pa un a fydd yn mynd rhagddo ai peidio, ac mae terfyn, Mark, i'r hyn y gallaf ei ddweud ymhellach ar hynny. 

Dim ond i ddweud, mae eich mewnbwn i'r ddadl hon, yr wyf yn ei barchu, yn adlewyrchu bod gwahanol safbwyntiau o fewn y Senedd. Rydych chi'n dweud nad yw 99 pwynt rhywbeth y cant yn arwain at anafiadau neu farwolaethau. Ond dechreuoch chi trwy ddweud, yn wir, bod y data a gyhoeddwyd gan GBGB ei hun ym mis Mehefin 2025, sy'n darparu data hyd at ac yn cynnwys 2024, yn dangos, o'r cŵn a oedd yn rhedeg yn 2024 ar eu traciau trwyddedig yng Nghymru a Lloegr, yr adroddwyd 3,809 o anafiadau a 123 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â thrac.

Felly, ar ben y consensws, y consensws llwyr, ar draws lles anifeiliaid, elusennau ailgartrefu ac eraill sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, mae'r dystiolaeth yn rhyngwladol hefyd, y newid mewn naws gymdeithasol, yn awgrymu bod yr ystadegau hynny yn annerbyniol mewn cenedl sydd mewn gwirionedd eisiau gwneud y peth iawn o ran lles anifeiliaid. Rwy'n parchu gwahanol farn o fewn y Siambr hon, ond nid yw'r ystadegau yn dweud celwydd.

Before we move on, we've had two questions on the judicial review, and the Deputy First Minister has clearly stated he cannot comment upon it because of legal reasons. I just ask Members to think about that before they ask any further questions on the judicial review. Lesley Griffiths.

Cyn i ni symud ymlaen, cawsom ddau gwestiwn ar yr adolygiad barnwrol, ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi datgan yn glir na all wneud sylwadau arno oherwydd rhesymau cyfreithiol. Gofynnaf i'r Aelodau feddwl am hynny cyn iddynt ofyn unrhyw gwestiynau pellach am yr adolygiad barnwrol. Lesley Griffiths.

Thank you, Deputy Presiding Officer, and, Cabinet Secretary, I'm very pleased to see the publication of this long-awaited and much-needed legislation. Greyhound racing is cruel, and it has no place in Wales where we're very proud of our high animal health and welfare standards. As is often the case when it comes to animal welfare, my inbox has been very, very full, with constituents in support of this ban, like many colleagues, I'm sure, across the Chamber. There was an opportunity for Wales to lead the way here, and as we've done so often with progressive legislation, it is vital that this Bill now proceeds at pace so that we're not lagging behind other countries in allowing this inhumane practice to continue in Wales.

The Welsh Government consulted widely, and the public response showed deep concern for how many greyhounds were injured and killed and also how they were treated in post-race life. I started this work when I was your predecessor, and I'm very proud of that. I don't see it as a political fix, and I, too, would like to pay tribute to the work of Jane Dodds, but I wish she wouldn't mention Arthur in the Chamber. You've done an amazing amount of work on this policy.

I did note that the implementation group that you've brought together, and you mentioned it's already met three times, and also around the criteria in answer I think it was to Jane about how they would decide whether a ban could be implemented in 2030 or it could be by as early as 2027—

Diolch, Dirprwy Lywydd, a'r Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n falch iawn o weld cyhoeddi'r ddeddfwriaeth hir-ddisgwyliedig hon ac y mae mawr ei hangen. Mae rasio milgwn yn greulon, ac nid oes lle iddo yng Nghymru lle rydym yn falch iawn o'n safonau uchel ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Fel sy'n digwydd yn aml o ran lles anifeiliaid, mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn iawn, iawn, gydag etholwyr sy'n cefnogi'r gwaharddiad hwn, fel llawer o gyd-Aelodau, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr. Roedd cyfle i Gymru arwain y ffordd yma, ac fel yr ydym wedi gwneud mor aml gyda deddfwriaeth flaengar, mae'n hanfodol bod y Bil hwn bellach yn mynd ymlaen yn gyflym fel nad ydym ar ei hôl hi o ran caniatáu i'r arfer annynol hwn barhau yng Nghymru.

Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n eang, ac roedd ymateb y cyhoedd yn dangos pryder mawr ynghylch faint o filgwn gafodd eu hanafu a'u lladd a hefyd sut y cawsant eu trin mewn bywyd ar ôl rasio. Dechreuais y gwaith hwn pan oeddwn i'n rhagflaenydd i chi, ac rwy'n falch iawn o hynny. Nid wyf yn ei weld fel bargen wleidyddol, ac rwyf i hefyd eisiau talu teyrnged i waith Jane Dodds, ond hoffwn pe bai hi ddim yn sôn am Arthur yn y Siambr. Rydych chi wedi gwneud llawer iawn o waith ar y polisi hwn.

Nodais fod y grŵp gweithredu rydych chi wedi'i ddwyn at ei gilydd, ac fe wnaethoch chi sôn ei fod eisoes wedi cyfarfod tair gwaith, a hefyd ynghylch y meini prawf mewn ateb rwy'n credu i Jane ynglŷn â sut y byddent yn penderfynu a allai gwaharddiad gael ei weithredu yn 2030 neu y gallai fod mor gynnar â 2027—

You need to ask a question now, please.

Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

I would like to know from the Cabinet Secretary if he could expand on what work he anticipates the group will focus on to ensure it's placed on the statute book in this sixth Senedd.

Hoffwn wybod gan yr Ysgrifennydd Cabinet a allai ymhelaethu ar ba waith y mae'n disgwyl y bydd y grŵp yn canolbwyntio arno i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar y llyfr statud yn y chweched Senedd hon.

Yes, indeed. If we take this legislation through, then we are on a course to ban greyhound racing in Wales, as I've described it within the legislation. Can I just say, once again, 'thank you' for your support for this and the work that had been done prior to my appointment in terms of the consultation as well, and the engagement with many organisations outside? It is worth saying that those organisations include people like Blue Cross, Dogs Trust, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue in my own patch, the Royal Society for the Protection of Cruelty to Animals and many, many others, and their focus wasn’t on illicit greyhound racing, it was on licensed greyhound racing. Whilst acknowledging the steps forward that had been taken at many tracks, they pointed at the fatalities and the injuries that were increasing. I mentioned the fatalities earlier on, Dirprwy Lywydd—there were 123 in 2024 and it was 109 the year before, so the fatalities have increased.

So, yes, in terms of the implementation group, what that is looking at, as I said in response earlier, is things like the welfare of the dogs themselves, and support for the owners is a consideration so that those dogs can transition away from racing as well, because this doesn’t ban keeping greyhounds, just to make clear—it doesn’t ban healthy lives for greyhounds in Wales, it bans the racing of those greyhounds in Wales. But they also need to consider, as our late friend and colleague Hefin would say, those local communities, the transition of the workers and the future use of the site as well. All of those things come together, but as I say, there’s a very good reason why, if this legislation is supported, there is then a timescale that says as early as 2027, which I think is realistic, or no later than 2030, and let’s see where the implementation group comes in. I’m picking up strongly from the Chamber today—and I’m sure that the implementation group will be hearing as well—that if all things can be pulled together, there’s a preference from those who are supportive of the ban for it to be earlier rather than later. That might be possible, if they can pull together the strands, but I really want them to do the thinking with this, including with those people who are employed at the track, because we’ve got an obligation to them to make sure that they can transition into alternative careers. We’ve got a good track record in Wales of that with our training, our ReAct training and others—we need to do that as well, and be on their side as we transition away from greyhound racing into whatever the future might hold.

Yn wir. Os ydym yn mynd â'r ddeddfwriaeth hon drwodd, yna rydym ni ar y trywydd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru, fel yr wyf wedi ei ddisgrifio yn y ddeddfwriaeth. A gaf i ddweud, unwaith eto, 'diolch' am eich cefnogaeth i hyn a'r gwaith a wnaed cyn fy mhenodiad o ran yr ymgynghoriad hefyd, a'r ymgysylltu â llawer o sefydliadau y tu allan? Mae'n werth dweud bod y sefydliadau hynny'n cynnwys pobl fel Blue Cross, Dogs Trust, Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue yn fy ardal i, yr RSPCA a llawer, llawer o rai eraill, ac nid oedd eu ffocws ar rasio milgwn anghyfreithlon, roedd ar rasio milgwn trwyddedig. Wrth gydnabod y camau ymlaen a gymerwyd ar sawl trac, fe wnaethant dynnu sylw at y marwolaethau a'r anafiadau a oedd yn cynyddu. Soniais am y marwolaethau yn gynharach, Dirprwy Lywydd—roedd 123 yn 2024 ac roedd 109 y flwyddyn flaenorol, felly mae'r marwolaethau wedi cynyddu.

Felly, ie, o ran y grŵp gweithredu, yr hyn y mae hwnnw'n edrych arno, fel y dywedais i mewn ymateb yn gynharach, yw pethau fel lles y cŵn eu hunain, ac mae cefnogaeth i'r perchnogion yn ystyriaeth fel y gall y cŵn hynny symud i ffwrdd o rasio hefyd, oherwydd nid yw hyn yn gwahardd cadw milgwn, dim ond i fod yn glir—nid yw'n gwahardd bywydau iach i filgwn yng Nghymru, mae'n gwahardd rasio'r milgwn hynny yng Nghymru. Ond mae angen iddynt hefyd ystyried, fel y byddai ein diweddar ffrind a chyd-Aelod Hefin yn ei ddweud, y cymunedau lleol hynny, trawsnewidiad y gweithwyr a'r defnydd o'r safle yn y dyfodol hefyd. Mae'r holl bethau hynny'n dod at ei gilydd, ond fel y dywedais i, mae yna reswm da iawn pam, os yw'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chefnogi, yna bydd amserlen sy'n dweud mor gynnar â 2027, sy'n fy marn i'n realistig, neu ddim hwyrach na 2030, a gadewch i ni weld ble mae'r grŵp gweithredu yn dod i mewn. Rwy'n synhwyro'n gryf yn y Siambr heddiw—ac rwy'n siŵr y bydd y grŵp gweithredu yn clywed hefyd—os gellir tynnu pob peth at ei gilydd, mae'r rhai sy'n cefnogi'r gwaharddiad yn ffafrio cynharach yn hytrach na hwyrach. Efallai y bydd hynny'n bosibl, os gallant dynnu'r llinynnau at ei gilydd, ond rydw i wir eisiau iddyn nhw feddwl yn ddwys o ran hyn, gan gynnwys gyda'r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi ar y trac, oherwydd mae gennym ddyletswydd iddyn nhw i wneud yn siŵr eu bod yn gallu trosglwyddo i yrfaoedd amgen. Mae gennym hanes da yng Nghymru o hynny gyda'n hyfforddiant, ein hyfforddiant ReAct ac eraill—mae angen i ni wneud hynny hefyd, a bod ar eu hochr nhw wrth i ni symud i ffwrdd o rasio milgwn tuag at beth bynnag y bydd y dyfodol yn ei gynnig.

15:25

Can I say 'thank you', Deputy First Minister, Cabinet Secretary, for this area of responsibility and for doing what you are doing? And I thank you, Leslie Griffiths, for the work you did on it. It’s taken a long time to even get to here and I’ve listened to so many charities—. And when people write in to me, I listen avidly to what they have to say and I have to say that it’s been overwhelming, the number of people who have actually responded to calls for their opinions. And thank you, Jane, you’ve been steadfast on this particular issue. And I don’t agree with my colleagues on that. But there should be times in this legislature when we’re able to speak from our hearts, and it’s not about what we need to do—I wouldn’t say that it’s a vital Bill coming through—but it’s about actually honouring what our constituents want across Wales, and it’s also about what we can do. So many animals are suffering here. There were more greyhound deaths at Greyhound Board of Great Britain licensed tracks last year than in any year since 2020. Thousands of dogs suffering as a result of—. And just listen to the figures on this: 123 fatalities—

A gaf i ddweud 'diolch', Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd Cabinet, am y maes hwn o gyfrifoldeb ac am wneud yr hyn rydych chi'n ei wneud? Ac rwy'n diolch i chi, Leslie Griffiths, am y gwaith a wnaethoch arno. Mae wedi cymryd amser hir i hyd yn oed gyrraedd yma ac rydw i wedi gwrando ar gymaint o elusennau—. A phan fydd pobl yn ysgrifennu ataf, rwy'n gwrando'n frwd ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn llethol, nifer y bobl sydd wedi ymateb i alwadau am eu barn. A diolch, Jane, rydych chi wedi bod yn gadarn ar y mater penodol hwn. A dydw i ddim yn cytuno â fy nghyd-Aelodau ar hynny. Ond dylai fod adegau yn y ddeddfwrfa hon pan fyddwn ni'n gallu siarad o'n calonnau, ac nid yw'n ymwneud â'r hyn y mae angen i ni ei wneud—ni fyddwn yn dweud ei fod yn Fil hanfodol sy'n dod drwodd—ond mae'n ymwneud ag anrhydeddu'r hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddymuno ledled Cymru, ac mae hefyd yn ymwneud â'r hyn y gallwn ei wneud. Mae cymaint o anifeiliaid yn dioddef yma. Roedd mwy o farwolaethau milgwn ar draciau trwyddedig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr y llynedd nag mewn unrhyw flwyddyn ers 2020. Miloedd o gŵn yn dioddef o ganlyniad i—. A gwrandewch ar y ffigurau ar hyn: 123 o farwolaethau—

You need to ask a question, Janet, please.

Mae angen i chi ofyn cwestiwn, Janet, os gwelwch yn dda.

—3,809, and 35,000 have experienced injuries. I genuinely believe that this Bill will make Wales the first nation to actually ban the practice. Leading up to this Bill, there have been consultations—

—3,809, ac mae 35,000 wedi profi anafiadau. Credaf yn wirioneddol y bydd y Bil hwn yn gwneud Cymru y genedl gyntaf i wahardd yr arfer mewn gwirionedd. Yn arwain at y Bil hwn, bu ymgynghoriadau—

Do you agree with me, Cabinet Secretary, that the welfare of these beautiful animals should be at the heart of this Bill? Will you, in seeing this through, judicial review or not, once it's through, will you encourage other nations to introduce the ban? And can we please get this sorted before the end of this legislative term? Diolch yn fawr iawn.

Ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, y dylai lles yr anifeiliaid hardd hyn fod wrth wraidd y Bil hwn? A fyddwch chi, wrth weld hyn drwodd, adolygiad barnwrol neu beidio, unwaith y bydd drwodd, a fyddwch chi'n annog cenhedloedd eraill i gyflwyno'r gwaharddiad? Ac a allwn ni ddatrys hyn cyn diwedd y tymor deddfwriaethol hwn? Diolch yn fawr iawn.

Thank you, Janet. With your support and other Members across parties here, we will have this ban proceed into legislation, into the statute book, during this Senedd term and then we can take forward the actions needed to actually bring forward this ban, and do it in a way that works with those people who are currently working there and looks at the future use of the site, that works with the greyhounds and rehoming. We noticed that there are examples, for example, Swindon, where there's been pressure on animal welfare charities. So, we need to think this through and make sure that doesn't happen, that we really plan this through and manage it. But, yes, with your support, and with others across this Chamber, then we can put the ban in place, work with all those affected as well, and then this will be a massive step forward for animal welfare, and particularly for greyhound welfare in Wales.

And, yes, just as we are looking across different nations, including New Zealand, who've brought forward proposals, so other nations are looking at us. And I'm pleased to see the progress that's being made in Scotland as well, and I think they're very interested in our progress here. So, I hope the Senedd, on a cross-party basis, will support this legislation.

I'm looking forward to the scrutiny as well. There are some important things to consider to get this right, but then we move ahead with it together, and this Senedd sends out a strong message that we're on the side of greyhound welfare, and on the side, as we've always been, of progress on animal welfare.

Diolch, Janet. Gyda'ch cefnogaeth chi ac Aelodau eraill ar draws y pleidiau yma, byddwn yn gweld y gwaharddiad hwn yn mynd ymlaen i ddeddfwriaeth, i'r llyfr statud, yn ystod tymor y Senedd hon ac yna gallwn fwrw ymlaen â'r camau sydd eu hangen i gyflwyno'r gwaharddiad hwn mewn gwirionedd, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gweithio gyda'r bobl hynny sy'n gweithio yno ar hyn o bryd ac yn edrych ar y defnydd o'r safle yn y dyfodol, sy'n gweithio gyda'r milgwn ac ailgartrefu. Fe wnaethom ni sylwi bod yna enghreifftiau, er enghraifft, Swindon, lle bu pwysau ar elusennau lles anifeiliaid. Felly, mae angen i ni feddwl am hyn a gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, ein bod ni'n cynllunio hyn drwyddo a'i reoli. Ond, ie, gyda'ch cefnogaeth chi, a gydag eraill ar draws y Siambr hon, gallwn roi'r gwaharddiad ar waith, gweithio gyda phawb yr effeithir arnynt hefyd, ac yna bydd hwn yn gam enfawr ymlaen i les anifeiliaid, ac yn enwedig i les milgwn yng Nghymru.

Ac, ie, yn union fel yr ydym ni yn edrych ar draws gwahanol genhedloedd, gan gynnwys Seland Newydd, sydd wedi cyflwyno cynigion, felly mae cenhedloedd eraill yn edrych arnom ni. Ac rwy'n falch o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn yr Alban hefyd, ac rwy'n credu bod ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn ein cynnydd yma. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd, ar sail drawsbleidiol, yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon.

Rwy'n edrych ymlaen at y craffu hefyd. Mae yna rai pethau pwysig i'w hystyried i wneud hyn yn iawn, ond yna rydym ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd, ac mae'r Senedd hon yn anfon neges gref ein bod ni ar ochr lles milgwn, ac ar ochr cynnydd ar les anifeiliaid.

15:30

Cabinet Secretary, I would like to join others in very much welcoming this Bill, which is so important for animal welfare in Wales, and continues, I think, a very good track record for the Senedd and Welsh Government in terms of animal welfare, which, as others have mentioned, really does matter to people and communities in Wales, and all Members here will be familiar with that from their own post bags.

Whenever you go out walking in a park or a recreational area where there are many dog walkers, you will meet people who have greyhounds that are rescue dogs, and, very often, when you stop and speak to them, they will tell you some appalling facts about the history of those dogs and the suffering that they’ve endured. So, this really is a significant problem, and not something that should be dismissed lightly by any Member here, or anyone else. And I’d like to pay tribute to the Cut the Chase coalition for all the work that they've done, along with Members here who’ve championed the cause.

In terms of that possible 12-month implementation period, Cabinet Secretary, which others have raised—and I know the coalition supporting an end to greyhound racing in Wales are very keen to see as 12 months and not longer—will you make sure that that implementation group is properly organised and resourced? Because I know it’s up to the group in many respects, but, obviously, Welsh Government has to ensure that that group can work quickly and in a timely manner and have everything that’s necessary to support them in doing that.

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ymuno ag eraill i groesawu'n fawr y Bil hwn, sydd mor bwysig i les anifeiliaid yng Nghymru, ac sy'n parhau, rwy'n credu, â hanes da iawn y Senedd a Llywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid, sydd, fel y soniodd eraill, yn wirioneddol bwysig i bobl a chymunedau yng Nghymru, a bydd yr holl Aelodau yma yn gyfarwydd â hynny o'u bagiau post eu hunain.

Pryd bynnag y byddwch chi'n mynd allan i gerdded mewn parc neu ardal hamdden lle mae llawer o gerddwyr cŵn, byddwch chi'n cwrdd â phobl sydd â milgwn sy'n gŵn achub, ac, yn aml iawn, pan fyddwch chi'n stopio a siarad â nhw, byddant yn dweud rhai ffeithiau ofnadwy wrthych am hanes y cŵn hynny a'r dioddefaint y maent wedi'i brofi. Felly, mae hon yn broblem sylweddol mewn gwirionedd, ac nid rhywbeth y dylid ei diystyru'n ysgafn gan unrhyw Aelod yma, neu unrhyw un arall. A hoffwn dalu teyrnged i'r glymblaid Cut the Chase am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud, ynghyd ag Aelodau yma sydd wedi hyrwyddo'r achos.

O ran y cyfnod gweithredu posibl hwnnw o 12 mis, Ysgrifennydd Cabinet, y mae eraill wedi'i godi—ac rwy'n gwybod bod y glymblaid sy'n cefnogi diweddu rasio milgwn yng Nghymru yn awyddus iawn i'w weld yn 12 mis ac nid yn hirach—a wnewch chi sicrhau bod y grŵp gweithredu hwnnw'n cael ei drefnu'n briodol ac yn cael yr adnoddau priodol? Oherwydd rwy'n gwybod ei fod i fyny i'r grŵp mewn sawl ffordd, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y grŵp hwnnw'n gallu gweithio'n gyflym ac mewn modd amserol a bod ganddynt bopeth sy'n angenrheidiol i'w cefnogi i wneud hynny.

Diolch, John. And I join you in paying tribute to those organisations who have campaigned long and hard on this, many of them across Wales, but also those individuals—Jane Dodds included—and, actually, many people who work with charities like Hope Rescue in my constituency, who step forward to actually rehome greyhounds themselves and be that loving family around them.

In terms of the group, yes, we are more than adequately resourcing it. It’s up and running. It’s met three times. We’re anticipating that the initial report that they’ll bring forward will be due later this autumn, but we’re asking them to bring forward regular reports as well, so I will be able to update Members and the Senedd about the progress that we’re making there as well.

So, yes, we’re making sure that they’re adequately resourced, they can do their work, and it’s great to see that, on there, we’ve got animal welfare charities that track themselves, Caerphilly council, and others—everybody who needs to work through the detail of how we take this forward. And, as I say, it remains that commitment I made in February, which is that I would like to see this as soon as practically possible. But keep bearing in mind that phrase, 'practically possible'—let’s get it right for the people who work there, for the future of the site, for the welfare of the greyhounds as well. Get it all right, and learn from where others, perhaps, have made missteps. Let’s get it absolutely right. I think that’s what we would all want to see.

Diolch, John. Ac rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i'r sefydliadau hynny sydd wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed ar hyn, llawer ohonynt ledled Cymru, ond hefyd yr unigolion hynny—gan gynnwys Jane Dodds—ac, mewn gwirionedd, llawer o bobl sy'n gweithio gydag elusennau fel Hope Rescue yn fy etholaeth i, sy'n camu ymlaen i ailgartrefu milgwn eu hunain a bod y teulu cariadus hwnnw o'u cwmpas.

O ran y grŵp, ydym, rydym ni'n rhoi mwy na digon o adnoddau iddo. Mae ar waith yn barod. Mae wedi cwrdd tair gwaith. Rydym yn rhagweld y bydd yr adroddiad cychwynnol y byddant yn ei gyflwyno yn dod yn ddiweddarach yn yr hydref, ond rydym yn gofyn iddyn nhw gyflwyno adroddiadau rheolaidd hefyd, felly byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r Senedd am y cynnydd rydym ni'n ei wneud yno hefyd.

Felly, ydym, rydym ni'n gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw adnoddau digonol, gallant wneud eu gwaith, ac mae'n wych gweld bod gennym elusennau lles anifeiliaid sy'n tracio eu hunain, cyngor Caerffili, ac eraill—pawb sydd angen gweithio trwy fanylion ynghylch sut rydym ni'n dwyn hwn ymlaen. Ac, fel y dywedaf, mae'n parhau i fod yr ymrwymiad hwnnw a wnes i ym mis Chwefror, sef yr hoffwn weld hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Ond cadwch mewn cof yr ymadrodd hwnnw, 'ymarferol bosibl'—gadewch i ni ei wneud yn iawn i'r bobl sy'n gweithio yno, ar gyfer dyfodol y safle, er lles y milgwn hefyd. Cael y cyfan yn iawn, a dysgu o ble mae eraill, efallai, wedi gwneud camgymeriadau. Gadewch i ni ei gael yn hollol iawn. Rwy'n credu mai dyna fyddwn ni i gyd eisiau ei weld.

Thank you, Cabinet Secretary. When the debate arose back in February, I thought, 'Well, I don’t know much about this sport; I need to go and have a look for myself.' So, I still remain neutral, and I reserve my position, but I want to feed back what I saw when I went and visited the Valley stadium, because it was nothing like I’d been led to believe by charities, by individuals, and I actually saw something totally different to what I’m hearing described. I'm not trying to take it away that there aren't bad things happening, or happened, within the greyhound community over many years. However, what I saw was a stadium with well-cared-for animals, families who love their animals, veterinary surgeons looking and checking over. I saw where the dogs were rested after. I was looking for things to find wrong. Then I went and looked at the track, and the bends and the nature of the surface they ran on, and all of these things. And I sat down afterwards and I thought I couldn't find much wrong with that track and what was happening and the part it was playing within that community.

So, like I say, I'm still neutral. But I thought it was important, because it doesn't seem that many Members of this Senedd have actually seen it and visited. And I would ask—

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Pan gododd y ddadl yn ôl ym mis Chwefror, roeddwn i'n meddwl, 'Wel, dydw i ddim yn gwybod llawer am y gamp hon; mae angen i mi fynd i edrych drosof fy hun.' Felly, rwy'n dal i aros yn niwtral, ac rwy'n cadw at fy marn, ond rydw i eisiau bwydo'n ôl yr hyn a welais pan es i ymweld â stadiwm Valley, oherwydd nid oedd yn debyg o gwbl i'r hyn yr oedd elusennau, unigolion yn ei honni, ac fe welais rywbeth hollol wahanol i'r disgrifiadau a glywais i. Dydw i ddim yn ceisio gwadu bod pethau drwg yn digwydd, neu wedi digwydd, o fewn y gymuned milgwn dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, yr hyn a welais i oedd stadiwm gydag anifeiliaid yn cael gofal da, teuluoedd yn caru eu hanifeiliaid, milfeddygon yn gwylio ac yn archwilio. Gwelais ble roedd y cŵn yn gorffwys ar ôl y ras. Roeddwn i'n chwilio am bethau nad oeddent yn iawn. Yna es i ac edrych ar y trac, a'r troeon a natur yr wyneb maen nhw'n rhedeg arno, a'r holl bethau hyn. Ac eisteddais i lawr wedyn ac roeddwn i'n meddwl nad oeddwn i'n gallu dod o hyd i lawer o'i le gyda'r trac hwnnw a beth oedd yn digwydd a'r rhan yr oedd yn ei chwarae o fewn y gymuned honno.

Felly, fel y dywedaf, rwy'n dal i fod yn niwtral. Ond roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwysig, oherwydd nid yw'n ymddangos bod llawer o Aelodau o'r Senedd hon wedi ei weld ac wedi ymweld â'r lle. A byddwn yn gofyn—

15:35

You need to ask your question now, Peter, please.

Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, Peter, os gwelwch yn dda.

On that point then, I would ask—. Recognising you've said several times, Cabinet Secretary, that you want to work with all those who are affected, can I encourage you yourself or your colleagues to go and actually visit and talk to the people, so that transition period can be carried out in the best interests of all of those communities there? But I thought it important, Dirprwy Lywydd, to share what I saw, and encourage others to see it.

Ar y pwynt hwnnw felly, byddwn yn gofyn—. Gan gydnabod eich bod wedi dweud sawl gwaith, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod eisiau gweithio gyda phawb yr effeithir arnynt, a gaf i annog chi eich hun neu'ch cyd-Aelodau i fynd i ymweld a siarad â'r bobl, fel y gellir cynnal y cyfnod pontio er budd yr holl gymunedau hynny sydd yno? Ond roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig, Dirprwy Lywydd, i rannu'r hyn a welais, ac annog eraill i'w weld.

Indeed. Peter, can I just say, first of all, that it's good that we have different views being expressed? I understand you're saying that you retain a neutral position, so keep an eye on this as this progresses. Look, we do recognise that GBGB operates two welfare schemes: they have an injury recovery scheme, they have a greyhound retirement scheme. And in some of those, they've worked with animal welfare charities. But we can't walk away from the hard statistics, including an increase in fatalities across tracks, and that the Valley stadium itself, now that it's gone down the licensing route, which, in some ways, is welcome, means that there are more racing events taking place there, which, logically, means that the propensity for injuries and fatalities increases, as it has done in other tracks. We've got no reason to doubt that there'd be a different ratio of races to injuries and fatalities than elsewhere in licensed tracks.

But, in terms of visiting, yes. Look, first of all, my officials have visited the track previously. I've recently been invited. I'm actually quite keen to visit the Valley stadium and see what's there in light of what we are now doing, which is moving towards a ban on greyhound racing, but actually working with the people there to make sure that we have good future use of that site, retraining, reskilling, and it isn't left empty and derelict and so on, that there is a good future use. It may be appropriate, for example, for me to go along at some time when members of the implementation group are also available to visit. So, I'm quite keen to visit in order to see how we can make this transition now to a ban.

Yn wir. Peter, a gaf i ddweud, yn gyntaf oll, ei bod yn dda bod gennym wahanol safbwyntiau yn cael eu mynegi? Rwy'n deall eich bod chi'n dweud eich bod chi'n cadw safbwynt niwtral, felly cadwch lygad ar hwn wrth i hwn fynd rhagddo. Edrychwch, rydym yn cydnabod bod GBGB yn gweithredu dau gynllun lles: mae ganddyn nhw gynllun adfer anafiadau, mae ganddyn nhw gynllun ymddeol milgwn. Ac mewn rhai o'r rheini, maen nhw wedi gweithio gydag elusennau lles anifeiliaid. Ond ni allwn gerdded i ffwrdd o'r ystadegau caled, gan gynnwys cynnydd mewn marwolaethau ar draws traciau, a bod stadiwm Valley ei hun, nawr ei fod wedi mynd i lawr y llwybr trwyddedu, sydd, mewn rhai ffyrdd, i'w groesawu, yn golygu bod mwy o ddigwyddiadau rasio yn digwydd yno, sydd, yn rhesymegol, yn golygu bod tuedd i anafiadau a marwolaethau gynyddu, fel sydd wedi digwydd mewn traciau eraill. Does gennym ni ddim rheswm i amau y byddai'r gymhareb rasys i anafiadau a marwolaethau yn wahanol i'r hyn a geir mewn traciau trwyddedig eraill.

Ond, o ran ymweld, ie. Edrychwch, yn gyntaf oll, mae fy swyddogion wedi ymweld â'r trac o'r blaen. Rydw i wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar. Rydw i mewn gwirionedd yn eithaf awyddus i ymweld â stadiwm Valley a gweld beth sydd yno yng ngoleuni'r hyn rydym ni'n ei wneud nawr, sef symud tuag at waharddiad ar rasio milgwn, ond mewn gwirionedd gweithio gyda'r bobl yno i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael defnydd da o'r safle hwnnw yn y dyfodol, ailhyfforddi, ailsgilio, ac nad yw'n cael ei adael yn wag ac yn adfeiliedig ac ati, bod defnydd da yn y dyfodol. Efallai y byddai'n briodol, er enghraifft, i mi fynd yno ar ryw adeg pan fydd aelodau'r grŵp gweithredu hefyd ar gael ar gyfer ymweliad. Felly, rwy'n eithaf awyddus i ymweld er mwyn gweld sut y gallwn wneud y trawsnewidiad hwn nawr i waharddiad.

Thank you, Deputy Presiding Officer. I want to put on record my total opposition to the Bill that has been presented to the Senedd. I have opposition to it mainly on principle, but mainly because of how this legislation has come about. There was no engagement with the industry in the run-up to this ban. There were no visits to the site from yourself as the Cabinet Secretary. You say you're going now, which is a positive—it feels a bit cart before the horse. Considering that Senedd Members and Government Ministers were having selfies outside this Senedd with anti-racing bodies and didn't speak to GBGB directly, that is not the way you legislate. You consult properly beforehand with the industry, with all the people involved, with owners, with trainers, with veterinary surgeons who work there, then you come up with a position.

Unfortunately, this has been done with a backroom deal with Jane Dodds to get the budget through. I've got total opposition to it. I do not think this is the right way to legislate. The track should have been given plenty of time. They have made the changes there, made the investment, and I think there's an improvement to what we've had before. I think, Deputy First Minister, this is a huge mistake that the Welsh Government are making. The communities and the people who live there feel that the politicians here are neglecting them yet again. Is it any wonder why they're deserting the mainstream parties and going elsewhere, when they feel that way? So, I ask you, Deputy First Minister, can you please release all the information that the Welsh Government have got about engagement with GBGB, with the track, and any visits with officials, prior to this announcement being made, before the deal was struck with Jane Dodds?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am gofnodi fy ngwrthwynebiad llwyr i'r Bil sydd wedi'i gyflwyno i'r Senedd. Mae gen i wrthwynebiad iddo yn bennaf ar egwyddor, ond yn bennaf oherwydd sut mae'r ddeddfwriaeth hon wedi dod i fodolaeth. Nid oedd unrhyw ymgysylltiad â'r diwydiant yn y cyfnod cyn y gwaharddiad hwn. Ni chafwyd unrhyw ymweliadau â'r safle gennych chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n mynd nawr, sy'n gadarnhaol—mae'n teimlo ychydig fel rhoi'r drol o flaen y ceffyl. O ystyried bod Aelodau'r Senedd a Gweinidogion y Llywodraeth yn cael hunluniau y tu allan i'r Senedd hon gyda chyrff gwrth-rasio ac nad oeddent yn siarad â GBGB yn uniongyrchol, nid dyna'r ffordd rydych chi'n deddfu. Rydych chi'n ymgynghori'n briodol ymlaen llaw â'r diwydiant, gyda'r holl bobl sy'n gysylltiedig, gyda pherchnogion, gyda hyfforddwyr, gyda milfeddygon sy'n gweithio yno, yna rydych chi'n mabwysiadu safbwynt.

Yn anffodus, mae hyn wedi'i wneud drwy gytundeb ystafell gefn gyda Jane Dodds i gael y gyllideb drwodd. Mae gen i wrthwynebiad llwyr iddo. Nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd iawn i ddeddfu. Dylai'r trac fod wedi cael digon o amser. Maen nhw wedi gwneud y newidiadau yno, wedi gwneud y buddsoddiad, ac rwy'n credu bod gwelliant o'i gymharu â'r hyn oedd yno o'r blaen. Rwy'n credu, Dirprwy Brif Weinidog, bod hwn yn gamgymeriad enfawr y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae'r cymunedau a'r bobl sy'n byw yno yn teimlo bod y gwleidyddion yma yn eu hesgeuluso unwaith eto. A yw'n syndod eu bod yn gadael y pleidiau prif ffrwd ac yn mynd i rywle arall, pan fyddant yn teimlo felly? Felly, gofynnaf i chi, Dirprwy Brif Weinidog, a allwch chi ryddhau'r holl wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am yr ymgysylltiad â GBGB, ynghylch y trac, ac unrhyw ymweliadau â swyddogion, cyn i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, cyn dod i gytundeb gyda Jane Dodds?

Just to clarify, James, and counter to what you were saying, my team of officials have been engaged with GBGB before and after the consultations. And just to say to you, the reason this has come about is because there has been substantial support for a ban on greyhound racing on welfare grounds, and to avoid the exploitation and commodification of greyhounds.

There are also, by the way, wider ethical and moral considerations. Many individuals, organisations, and, indeed, Members of this Senedd, as you've heard, believe that racing greyhounds is simply unacceptable and outdated. Public support from campaign groups, responses to the 2023 petition and the 2024 consultation have influenced this decision. And it's not specific to Wales. Evidence from other countries, such as Scotland and New Zealand, offer valuable insight into the wider issues associated with greyhound racing. This has been considered alongside our own evidence, including the consultation responses and GBGB data, which has been referred to several times on the floor here today, about injuries and fatalities on licensed tracks. All of that has informed our understanding and approach.

So, we've listened to the views expressed and now we are acting. We're not alone; New Zealand has formally agreed to end greyhound racing by 2026, following multiple reviews that the industry could not meet the required animal welfare standards. [Interruption.]

Dim ond i egluro, James, ac yn groes i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, mae fy nhîm o swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â GBGB cyn ac ar ôl yr ymgynghoriadau. A dim ond i ddweud wrthych, y rheswm pam mae hyn wedi digwydd yw oherwydd bod cefnogaeth sylweddol i waharddiad ar rasio milgwn ar sail lles, ac i osgoi ecsbloetio a thrin milgwn fel nwyddau.

Mae yna hefyd, gyda llaw, ystyriaethau moesegol a moesol ehangach. Mae llawer o unigolion, sefydliadau, ac, yn wir, Aelodau o'r Senedd hon, fel y clywsoch chi, yn credu bod rasio milgwn yn syml yn annerbyniol ac yn hen ffasiwn. Mae cefnogaeth y cyhoedd gan grwpiau ymgyrchu, ymatebion i ddeiseb 2023 ac ymgynghoriad 2024 wedi dylanwadu ar y penderfyniad hwn. Ac nid yw'n benodol i Gymru. Mae tystiolaeth o wledydd eraill, fel yr Alban a Seland Newydd, yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r materion ehangach sy'n gysylltiedig â rasio milgwn. Mae hyn wedi'i ystyried ochr yn ochr â'n tystiolaeth ein hunain, gan gynnwys yr ymatebion i'r ymgynghoriad a data GBGB, y cyfeiriwyd ato sawl gwaith ar y llawr yma heddiw, am anafiadau a marwolaethau ar draciau trwyddedig. Mae hynny i gyd wedi llywio ein dealltwriaeth a'n dull gweithredu.

Felly, rydym ni wedi gwrando ar y safbwyntiau a fynegwyd a nawr rydym ni'n gweithredu. Nid ydym ar ein pen ein hunain; mae Seland Newydd wedi cytuno'n ffurfiol i roi terfyn ar rasio milgwn erbyn 2026, yn dilyn sawl adolygiad na allai'r diwydiant fodloni'r safonau lles anifeiliaid gofynnol. [Torri ar draws.]

15:40

You've had an opportunity to ask the questions to the Cabinet Secretary. I would welcome no sedentary commentary, because I want to listen to the response, which I'd have thought you would want to do as well. Cabinet Secretary.

Rydych chi wedi cael cyfle i ofyn y cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Byddwn yn falch o beidio â chael sylwadau ar eich eistedd, oherwydd rwyf eisiau gwrando ar yr ymateb, y byddwn wedi meddwl y byddech chi eisiau hynny hefyd. Ysgrifennydd Cabinet.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I could hear the chuntering, but I was trying to respond to James in a respectful way, recognising there are differences of opinion.

Just to recap, the matter has been discussed and debated here in this Senedd. There is clear cross-party support, which was shown on 12 February 2025 during the debate. This cross-party support has also been taken into account by me. I'm very grateful for that. I've taken this and the views of the public and campaign groups into account in coming to this decision.

In 2022, as we said, the Senedd Petitions Committee had reviewed the 'Ban greyhound racing in Wales' petition, which had over 35,000 signatures to that petition. Nearly 65 per cent of the respondents, James, to the 'Licensing of animal welfare establishments, activities and exhibits' consultation supported that phased ban on greyhound racing, showing the strength of public feeling. And we can't ignore, of course, those campaigns that have been led by people like Blue Cross, Dogs Trust, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue, RSPCA.

So, all of those factors, James, have brought us to the position that we're in today, where we are taking the step to ban greyhound racing in Wales. I respect you have a different opinion, but I would simply say to you: don't try and double guess my reasons for bringing this forward; Wales has a proud reputation in animal welfare, and we intend to build on it.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i'n gallu clywed y mwmian, ond roeddwn i'n ceisio ymateb i James mewn ffordd barchus, gan gydnabod bod gwahaniaethau barn.

Dim ond i grynhoi, mae'r mater wedi cael ei drafod ac wedi bod yn destun dadl yma yn y Senedd hon. Mae cefnogaeth drawsbleidiol amlwg, a ddangoswyd ar 12 Chwefror 2025 yn ystod y ddadl. Mae'r gefnogaeth drawsbleidiol hon hefyd wedi cael ei hystyried gennyf. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rwyf wedi ystyried hon a safbwyntiau'r cyhoedd a grwpiau ymgyrchu wrth ddod i'r penderfyniad hwn.

Yn 2022, fel y dywedom, roedd Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi adolygu'r ddeiseb 'Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a oedd â dros 35,000 o lofnodion. Roedd bron i 65 y cant o'r ymatebwyr, James, i'r ymgynghoriad 'Trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid yn cefnogi'r gwaharddiad graddol hwnnw ar rasio milgwn, gan ddangos cryfder teimlad y cyhoedd. Ac ni allwn anwybyddu, wrth gwrs, yr ymgyrchoedd hynny sydd wedi cael eu harwain gan bobl fel Blue Cross, Dogs Trust, Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue, RSPCA.

Felly, mae'r holl ffactorau hynny, James, wedi dod â ni i'r sefyllfa rydym ni ynddi heddiw, lle rydym ni'n cymryd y cam i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Rwy'n parchu bod gennych farn wahanol, ond byddwn yn syml yn dweud wrthych: peidiwch â cheisio dyfalu fy rhesymau dros ddod â hyn ymlaen; mae gan Gymru enw da ym maes lles anifeiliaid, ac rydym yn bwriadu adeiladu arno.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Enwau Lleoedd Cymru
4. Statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language: Priorities for Welsh Place Names

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, blaenoriaethau ar gyfer enwau lleoedd Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Mark Drakeford.

Item 4 is a statement by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, priorities for Welsh place names. I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae enwau lleoedd yn bwysig. Maen nhw’n ein hangori ni mewn byd sy’n newid, yn ein cysylltu â’n gorffennol, ac yn helpu i adrodd hanes ein taith hyd at heddiw. Yng Nghymru, maen nhw’n arbennig o bwysig, am fod hyn oll yn cael ei gyfleu drwy’r iaith rydyn ni’n ei siarad.

Bydd rhai o’r Aelodau yma'n cofio’r Bil gafodd ei gyflwyno i’r Senedd yn 2017 gan Dr Dai Lloyd. Cafodd ei ysgogi gan bryder bod enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg yn cael eu colli, a bod angen gweithredu er mwyn atal y tueddiad hwnnw.

Yr un pryder oedd tu ôl i’r ymchwil a gomisiynwyd gan y Llywodraeth hon, ymchwil ar dueddiadau cyfredol mewn perthynas â newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru. Roedd yr ymchwil hwnnw’n adlewyrchu’r ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i weithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg, ac a atgyfnerthwyd yn y cytundeb cydweithio. Rwy’n ddiolchgar iawn, unwaith eto, am fewnbwn adeiladol Aelodau dynodedig Plaid Cymru i’r gwaith hwn.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ymchwil ym mis Mehefin, a heddiw rwy’n gosod allan y camau nesaf rydyn ni’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r canfyddiadau, yn arbennig y rheini sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig. Un o brif gasgliadau’r adroddiad yw nad yw’r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn golygu newid iaith o gwbl. Pan fydd yr iaith yn newid, ledled Cymru, mae eiddo o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu hailenwi o’r Saesneg i’r Gymraeg nag i’r gwrthwyneb.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Place names matter. They anchor us in a changing world, they connect us to our past, and they help tell the story of our journey to the present day. In Wales, they matter especially, because of the way all of this is conveyed through the language that we speak.

Some Members here will recall the Bill presented to the Senedd in 2017 by Dr Dai Lloyd. It was motivated by an anxiety that historic place names in the Welsh language were being lost, and that action was needed to reverse that trend. 

The same concern lay behind the research commissioned by this Government, research on current trends in relation to changes to place names in Wales. That research reflected the commitment in our programme for government to act to protect Welsh language place names, and that was reinforced again in the co-operation agreement. I am grateful, once again, for the constructive engagement in this work by the two Plaid Cymru designated Members.

The research report was published in June, and today I aim to set out the next steps that we plan to take in response to its findings, particularly those that focus on the built environment. One of the report’s key conclusions is that most changes to property names don’t involve a change in language at all. When the language does change, properties across Wales are at least three times more likely to be renamed from English to Welsh than vice versa.

Ar sail yr adroddiad, rydyn ni wedi nodi pedwar maes blaenoriaeth. Yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, mae’r sefyllfa gyffredinol yn bositif, a gallwn ei chryfhau ymhellach drwy ganllawiau cliriach a mwy ymarferol i gefnogi sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd. Mae hyn yn cynnwys: llythyrau templed a chyngor i swyddogion awdurdodau lleol sy’n delio â cheisiadau i newid enw eiddo; canllawiau ar sut i gofnodi newidiadau i enwau; ac annog sefydlu fforymau i rannu arfer gorau, gan adeiladu ar ein fforwm enwau lleoedd gyda swyddogion o awdurdodau lleol Arfor. 

Rydyn ni eisoes yn darparu cyngor i fusnesau ac elusennau ar eu defnydd o'r Gymraeg drwy wasanaeth rhad ac am ddim Helo Blod. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Busnes Cymru a Chroeso Cymru i godi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd Cymraeg a'u cynnwys yn ein cynnig Cymreig unigryw a naws o le. Bydd hyn yn cynnwys datblygu canllawiau ar y ffordd y defnyddir arwyddion twristiaeth brown, gan fod asiantaethau mapio yn defnyddio'r amgylchedd gweledol fel tystiolaeth o arferion enwi lleol. Gyda pharciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog yn arwain y ffordd o ran blaenoriaethu enwau Cymraeg, mae sefydliadau eraill wedi bod yn holi sut mae ymgorffori enwau Cymraeg yn eu deunyddiau. Rydyn ni wedi treialu set o ganllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar-lein a'u hyrwyddo'n eang yn yr wythnosau nesaf. 

Yn yr ail le, mae cofnodi a chasglu data yn hanfodol er mwyn diogelu enwau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn ddiweddar, fe siaradais i gyda churadur y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, adnodd statudol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae'n werthfawr dros ben i awdurdodau cyhoeddus, datblygwyr ac aelodau o'r cyhoedd wrth enwi ac ailenwi lleoedd ac eiddo. Gyda dros 700,000 o gofnodion, mae'r rhestr yn parhau i dyfu. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd dros 5,000 o enwau eu hychwanegu o Eryri yn unig.

Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo prosiectau casglu eraill ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid fel Mapio Cymru, OpenStreetMap a Wicipedia Cymraeg i gynyddu nifer yr enwau Cymraeg ar fapiau digidol. Y mwyaf o dystiolaeth sydd i ddangos bod ein henwau Cymraeg yn cael eu defnyddio, y lleiaf tebygol y byddant o gael eu disodli. Er mwyn cryfhau gweithgarwch casglu fel hyn, rydyn ni wedi lansio ffurflen i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg drwy MapDataCymru, fel y gall unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg a hanesyddol nad ydyn nhw’n ymddangos ar fapiau ar-lein. Gallwch gyfrannu enwau ar gyfer lleoedd a nodweddion o bob math, a byddwn yn rhannu'r data’n eang. 

Fel prif asiantaeth fapio'r Deyrnas Unedig, mae'r Arolwg Ordnans yn ganolog wrth gofnodi a rhannu enwau lleoedd. Mae'r adroddiad ymchwil yn awgrymu diffyg eglurder achlysurol y tu ôl i benderfyniadau ynglŷn ag enwau Cymraeg, a byddwn yn archwilio gydag Arolwg Ordnans a Chomisiynydd y Gymraeg bosibiliadau ar gyfer gwella prosesau enwi lleoedd Cymraeg.

Dirprwy Lywydd, yn drydydd, er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar enwau eiddo, enwau busnes ac enwau strydoedd, tynnodd sylw hefyd at yr angen am ymchwil pellach i enwau topograffig, yn enwedig y rhai sy’n cael eu creu gan gymunedau twristiaeth ac awyr agored ac sydd felly wedi’u mabwysiadu’n lleol ac ar-lein. Byddwn yn comisiynu ail gam ymchwil i archwilio'r maes hwn i’n helpu i ddeall yn well sut mae'r fersiynau hyn yn dod i'r amlwg a sut y gellir diogelu enwau Cymraeg.

Yn olaf, mae enwau lleoedd yn dod â phobl ynghyd. Nid Cymru yw’r unig wlad sy’n wynebu heriau, a gallwn ddysgu llawer gan eraill tra'n cydnabod bod ein sefyllfa ni yng Nghymru, wrth gwrs, yn unigryw. Rydyn ni’n cadeirio grŵp ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac yn ddiweddar cynhaliwyd cyfarfod enwau lleoedd i rannu arfer gorau. Rydym hefyd wedi dechrau gweithio gydag UNESCO, gan ddysgu am ymdrechion rhyngwladol i warchod enwau.

Mae enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol o ddiddordeb mawr i ddinasyddion unigol a grwpiau lleol. Mae llawer yn helpu drwy recordio clipiau sain a darparu sillafiadau ffonetig i'w cynnwys ar adnoddau fel Wicipedia. Gallwn hwyluso hyn drwy weithio gyda chymunedau lleol drwy'r mentrau iaith, ysgolion, a chymdeithasau awyr agored dylanwadol. Yn yr un modd, dyna pam ei fod yn rhesymol ein bod yn ymateb yn adeiladol pan fydd perchnogion busnesau neu eiddo yn penderfynu newid enw. Mae nifer o enghreifftiau sy’n dangos sut y gall ymgyrchu cymunedol ddylanwadu ar benderfyniadau er gwell.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi dod ymhell yn ystod y Senedd hon o safbwynt rhoi enwau lleoedd ar yr agenda. Mae wastad, wrth gwrs, rhagor i’w wneud, er enghraifft, archwilio’r berthynas rhwng enwau, pobl a defnydd tir. Gall deall defnydd tir hanesyddol ein helpu i gynllunio at y dyfodol, ac mae enwau’n darparu cliwiau gwerthfawr. Am y rheswm hwn a sawl un arall, bydd enwau lleoedd Cymraeg yn parhau i haeddu ein sylw. Diolch yn fawr.

Based on the report, we’ve identified four priority areas for action. First, Dirprwy Lywydd, the overall position is positive, and we can strengthen it further through clearer and more practical guidance to support organisations responsible for place names. And this includes: template letters and advice for local authority officers dealing with property name change applications; a set of guidelines on how to record name changes; and further encouraging the establishment of forums to share best practice, building on our place names forum with officials from Arfor local authorities.   

We already provide advice to businesses and charities on their use of Welsh through our free Helo Blod service. We’re also working with Business Wales and Visit Wales to raise awareness of the value of Welsh language place names and the contribution that they make to our unique Welsh offer and sense of place. This will include developing guidance on the way that brown tourist signs are used, as mapping agencies use the visual environment as evidence of local naming practice. With Eryri and Bannau Brycheiniog national parks leading the way in prioritising Welsh names, other organisations have been asking how best to incorporate Welsh names in their materials. We’ve trialled a set of guidelines that will be published online and promoted widely in the coming weeks.

Secondly, recording and data collection are essential if names are to be safeguarded for future generations. Recently, I spoke to the curator of the list of historic place names, a statutory resource that is funded by the Welsh Government and maintained by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. It’s a hugely valuable resource for public authorities, developers and members of the public when naming and renaming places and properties. With over 700,000 entries, the list continues to grow. During the last year, over 5,000 names from Eryri alone have been added to the list.

We’re also promoting other place name collection projects around Cymru, working with partners such as Mapio Cymru, OpenStreetMap and Welsh Wikipedia to increase the number of Welsh names on digital maps. The more evidence that exists to demonstrate the continuing use of Welsh names, the less likely they are of being displaced. To bolster collection activity such as this, we’ve launched a place names recording tool through DataMapWales, so that anyone can record Welsh and historic names that don’t appear on online maps. You can contribute names for places and features of all kinds, and we’ll share the data widely. 

As the UK’s main mapping agency, Ordnance Survey is central in identifying and sharing place names. The research report suggests an occasional lack of clarity behind decisions about Welsh names, and we'll explore with Ordnance Survey and the Welsh Language Commissioner possibilities for improving processes in relation to Welsh naming practices.

Dirprwy Lywydd, thirdly, while the report focused on property names, business names and street names, it also highlighted the need for further research into topographical names, particularly those used by tourism and outdoor pursuits communities and which are then later adopted locally and online. We'll commission a second phase of research to explore this area, helping us better understand how these versions emerge and how Welsh language names can be safeguarded.

Finally, place names bring people together. We’re not alone in Wales in terms of some of the issues we face, and we can learn a great deal from others, whilst acknowledging that the situation here in Wales is unique. We chair the British-Irish Council’s indigenous, minority and lesser-used languages group, and we recently hosted a place names meeting to share best practice. We've also started working with UNESCO, to learn from international efforts to protect names.

Place names, both Welsh and historical, are something in which individual citizens and local groups take a close interest. Many of them are helping by recording sound clips and providing phonetic spellings to be included in online resources such as Wikipedia. We can facilitate this by working with communities through the mentrau iaith, schools, and influential outdoor activity societies. Equally, that’s why it’s right and reasonable that we engage constructively when businesses or property owners decide to change a name. There are numerous examples that demonstrate how community engagement can influence decisions for the better.

Dirprwy Lywydd, we’ve come a long way during this Senedd in terms of putting place names on the agenda. There’s always, of course, more to do, for instance exploring the relationship between names, people and land use. Understanding past land use can help us to plan for the future, and names provide us with valuable clues. For this reason and many others, Welsh place names will continue to be deserving of our care and attention. Thank you.

15:50

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydyn ni'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw ein treftadaeth ddiwylliannol drwy hyrwyddo enwau lleoedd Cymraeg. Rwyf am ddechrau drwy fynegi fy nghefnogaeth lawn i'r fenter newydd hon, sy'n cynnig cyfle gwych i gymunedau dros Gymru i gysylltu â'u hanes, eu tirwedd a'r straeon sydd wedi'u gwreiddio yn enwau ein caeau, bryniau, strydoedd a chartrefi. Mae'n hyfryd gweld dull sy'n annog pawb i gymryd rhan, gan gydnabod mai pobl leol yn aml sydd â'r wybodaeth orau i gadw'r traddodiadau hyn yn fyw.

Mae enwau lleoedd yn rhan fawr o'n hunaniaeth. Maen nhw'n dweud wrthym nid yn unig ble ydyn ni, ond pwy ydyn ni, gan adlewyrchu canrifoedd o iaith, diwylliant a phrofiad bywyd. Felly, rwy'n falch bod y Llywodraeth yn gweld bod amddiffyn enwau lleoedd Cymreig yn hanfodol ar gyfer cadw'r iaith a'r dreftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ond ar yr un pryd, mae'n bwysig cofio bod yn rhaid parchu dewisiadau pobl a chymunedau unigol am sut maen nhw'n defnyddio'r iaith wrth ddefnyddio enwau lleoedd. Er bod gan yr iaith Gymraeg le canolog yn ein hunaniaeth genedlaethol, yn briodol, rhaid inni gofio bod llawer o bobl yn byw mewn amgylcheddau dwyieithog neu'n siarad Saesneg yn unig, a dylid parchu'r dewisiadau ynglŷn ag enwi'r lleoedd hyn hefyd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu egluro ychydig am sut bydd y cynllun yna'n gweithio'n ymarferol.

Yn gyntaf, mae'n syniad gwych rhoi cyfle i'r cyhoedd gyfrannu at enwau, sillafiad ffonetig a recordiadau sain, ond sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y pethau sy'n cael eu cyflwyno yn gywir, wedi'u gwirio ac yn parchu traddodiadau lleol? A fydd rhyw fath o broses i wirio'r wybodaeth heb rwystro pobl rhag cymryd rhan? Hefyd, byddwn i'n hoffi gwybod sut mae'r Llywodraeth yn mynd ati i daro'r balans rhwng annog defnyddio enwau Cymraeg yn ogystal â pharchu hawliau perchnogion neu gymunedau y mae'n well ganddyn nhw gadw enwau Saesneg neu ddefnyddio arwyddion dwyieithog. Sut byddwch chi'n sicrhau nad yw'n troi'n ddull neu'n ffurf sydd yn cael ei orfodi ar bawb, yn hytrach na'n cefnogi dewis pobl leol?

Yn ogystal, mae'n hollbwysig cynnwys pobl ifanc os ydyn ni am i'r gwaith yma barhau yn yr hirdymor. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet rannu sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud yr adnodd hwn yn hygyrch ac yn atyniadol i bobl ifanc? Sut byddwch chi'n eu hannog nhw i gymryd rhan a gwneud yn siŵr bod eu safbwyntiau a'u hunaniaeth yn cael eu cynnwys ac yn cael eu gwerthfawrogi?

Rydyn ni'n gwybod y gall enwau lleoedd weithiau greu tensiynau rhwng awdurdodau a chymunedau lleol, yn enwedig lle mae gan enwau atseiniau emosiynol neu hanesyddol dwfn. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu delio ag unrhyw anghytundebau o'r fath mewn ffordd sydd yn parchu gwybodaeth leol? Unwaith eto, rydw i'n canmol y Llywodraeth am adeiladu ar y gwaith sy'n barod wedi'i wneud gyda phrosiectau fel Mapio Cymru, fel rydych chi wedi sôn, a rhestr enwau lleoedd hanesyddol Cymru y comisiwn brenhinol. Mae cydweithio'n hollbwysig, ac fe fyddai'n dda cael rhagor o wybodaeth ar sut mae'r Llywodraeth yn mynd i weithio gyda chyrff cyhoeddus, cynghorau lleol a mentrau cymunedol i wneud yn siŵr bod y cynllun yma'n llwyddo ac yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi ei wneud.

Rwyf am ailadrodd fy nghefnogaeth i'r iaith Gymraeg a phwysigrwydd diwylliannol amddiffyn enwau lleoedd. Ar yr un pryd, rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn hyrwyddo nid yn unig cadwraeth, ond hefyd dewis, gan anrhydeddu'r ffyrdd cyfoethog ac amrywiol y mae pobl yn byw ac yn mynegi eu cysylltiad â lle. Diolch yn fawr.

Thank you, Cabinet Secretary, for your statement this afternoon. As Welsh Conservatives, we are supportive of the Welsh Government's commitment to retain our cultural heritage by promoting Welsh place names. I want to start by expressing my full support for this new initiative, which provides an excellent opportunity for communities across Wales to engage with their history, their landscapes and the stories that are rooted in the names of our fields, hills, streets and homes. It's wonderful to see an approach that encourages everyone to participate, recognising that it's often local people who have the best information to keep these traditions alive.

Place names form a major part of our identity. They tell us not only where we are, but who we are, reflecting centuries of language, culture and life experience. So, I am pleased that the Government sees that protecting Welsh place names is crucial in order to keep the language and our heritage for future generations.

But simultaneously, it's important to note that we must respect the choices made by individual people and communities as to how they use the language in using place names. Although the Welsh language has a central place in our national identity, appropriately, we must remember that many people live in bilingual communities or speak English only, and we should respect decisions on the naming of places in these contexts too. So, I'd be grateful if the Cabinet Secretary could explain a little as to how this programme will work on a practical basis.

First of all, it's an excellent idea to give the public an opportunity to contribute to names, phonetic spellings and to provide sound recordings, but how will the Government ensure that those things that are presented are accurate, are properly checked and respect local traditions? Will there be some process to check the information without preventing people from participating? Also, I would like to know how the Government is going to strike a balance between encouraging the use of Welsh place names as well as respecting the rights of owners or communities who would prefer to keep English names or use bilingual signs. How will you ensure that this doesn't become something that is enforced on everyone, rather than supporting the choices of local people?

Also, it's crucially important to include young people if we want this work to continue in the long term. So, can the Cabinet Secretary share with me how the Government intends to make this resource accessible and attractive to young people? How will you encourage them to participate and ensure that their views and identities are included and appreciated?

We know that place names can occasionally lead to tensions between authorities and local communities, particularly where names have emotional or historical echoes. How does the Government intend to deal with any such conflict in a way that respects local traditions? Once again, we praise the Government for building on the work that's already been done with projects such as Mapio Cymru, which you mentioned, and the list of historic place names by the royal commission. Collaboration is crucially important, and it would be good to have further information as to how the Government will work with public bodies, local authorities and community initiatives in order to ensure that this programme is successful and builds on what's already been done.

I want to reiterate my support for the Welsh language and the cultural importance of protecting place names. Simultaneously, I do hope that this programme will promote not only conservation, but also choice, by honouring the rich and diverse ways that people live their lives and express their connection with place. Thank you.

15:55

Diolch yn fawr i Tom Giffard am beth ddywedodd e ac am ei gefnogaeth yn gyffredinol tuag at beth rydyn ni'n treial ei wneud i warchod enwau lleoedd, a hefyd beth ddywedodd e am beth mae enwau lleol yn dangos inni am bwy ydyn ni, fel roedd Tom Giffard yn ei ddweud. 

Wrth droi at y cwestiynau, a allaf i ddweud yn glir, fel Llywodraeth, rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl? Dydyn ni ddim ar hyn o bryd eisiau mynd lawr y llwybr o ddeddfu yn y maes hwn, achos rydyn ni'n ennill tir heb wneud hynny. Yn naturiol, mae pobl, yn gyffredinol a ledled Cymru, eisiau gwarchod enwau lleoedd.

Yn yr ymchwil, roedd y bobl a oedd yn gwneud y gwaith wedi gofyn i bobl mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad yw Cymraeg yn cael ei defnyddio fel arfer bob dydd am eu safbwynt nhw, ac roedd lot fawr o bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg o gwbl yn dweud roedden nhw’n gwerthfawrogi gweld, er enghraifft, strydoedd newydd gydag enwau Cymraeg, achos roedd hynny’n dangos rhywbeth iddyn nhw am y lle unigryw lle maen nhw’n byw. Pan ydyn ni’n lwcus i gadw ewyllys da tuag at y Gymraeg, gallwn ni weithio yn y ffordd yna i wneud mwy i helpu pobl, neu fwy i gefnogi pobl, ond nid dweud wrth bobl sydd eisiau defnyddio Saesneg neu enwau dwyieithog y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth mae pobl eraill eisiau gweld.

Ar y pethau roedd Tom Giffard yn eu dweud am bobl sy'n gallu rhoi help trwy recordio sain ac yn y blaen, dwi ddim eisiau creu rhyw fath o system rhy fiwrocrataidd. Rŷn ni’n gwybod bod y ffordd mae pobl yn dweud pethau yn newid o un pentref i’r nesaf yng Nghymru, so dwi jest eisiau i bobl gyfrannu, i fod yn hyderus os maen nhw’n dweud rhywbeth fel hyn, maen nhw’n gallu ei ddweud e fel yna yn y cyfraniad maen nhw’n ei wneud. Mae hwn yn rhan o gyfoeth yr iaith sydd gyda ni. Ar ochr pobl ifanc, wrth gwrs rŷn ni eisiau tynnu pobl ifanc i mewn i hyn. Nhw ydy’r bobl sy’n mynd i ddefnyddio termau fel hyn yn y dyfodol. Rŷn ni’n gallu gwneud hwnna trwy’r asiantaethau maen nhw’n eu defnyddio ac rŷn ni’n eu defnyddio hefyd, er enghraifft trwy’r mentrau iaith.

Roedd Tom Giffard yn gofyn sut allwn ni wneud mwy i gydweithio gyda’r awdurdodau lleol. Dywedais i yn y datganiad, Dirprwy Lywydd, ein bod ni eisiau gwneud mwy gyda mwy o’r awdurdodau lleol. Rŷn ni wedi cael profiad arbennig o dda gyda’r awdurdodau lleol sydd wedi dod at ei gilydd yn barod mewn fforwm i drafod pethau fel hyn. Nawr rŷn ni eisiau gwneud mwy gyda’r awdurdodau lleol eraill. Bydd cyfarfod ddydd Iau yr wythnos hon gyda fy swyddogion i a phob awdurdod lleol, i siarad â nhw am beth maen nhw’n ei wneud yn barod, beth arall maen nhw’n gallu ei wneud, a’u tynnu nhw at ei gilydd gyda phobl eraill sydd â phrofiad a diddordeb yn y maes.

Yn y cwestiynau roedd Tom Giffard yn eu codi, Dirprwy Lywydd, dwi’n meddwl ei fod e’n cyfeirio at bwysigrwydd cydweithio i dynnu pobl mewn i’r ddadl a helpu pobl i fod yn rhan o’r daith dwi wedi trio ei hesbonio y prynhawn yma, a dwi’n cytuno’n llwyr gyda beth ddywedodd e yn y maes yna.

Thank you very much to Tom Giffard for what he said and for his general support for what we are seeking to do to safeguard place names, and what he said about what local names demonstrate to us about who we are, as Tom Giffard said.

To turn to the questions that he asked, may I say clearly that, as a Government, we do respect people's individual choices? We don't currently want to follow the path of legislating in this area, because we're gaining ground without doing that. Naturally, people generally and across Wales want to safeguard place names.

In the research, the people undertaking that research had asked people in areas of Wales where Welsh isn't used on a daily basis about their views, and a great many people who don't speak Welsh at all said that they appreciated seeing, for example, new streets with Welsh names, because it demonstrated to them something about the unique individual places where they lived. When we’re lucky to maintain goodwill towards the Welsh language, we can work in that way to do more to help people, to do more to support people, but without saying to people who want to use the English language or who want to use bilingual language that they will have to do something that other people want them to do.

On the issues that Tom Giffard raised about how people can provide assistance through sound clips and so on, I don't want to create some kind of overly bureaucratic system. We know that the way that people say things changes from one village to the next in Wales, so I want people to just contribute, to be confident if they some say something in some way that they can share it in that way in the contribution that they make. That is part of the rich nature of the language that we have. And in terms of young people, of course we want to draw young people into this. They are the people who are going to be using these terms in future. We can do that through the agencies that they use and that we use, for example through the mentrau iaith.

Tom Giffard asked about how we can do more to work with local authorities. I said in the statement, Dirprwy Lywydd, that we want to do more with more local authorities. We've had a particularly good experience with the local authorities that have come together already in a forum to discuss matters like this. Now we want to do more with the other local authorities. There will be a meeting Thursday of this week with my officials and every local authority to speak to them about what they're doing already, what else they can do, and to bring them together with other people who have experience and an interest in this field.

In the questions that Tom Giffard asked, I think that he was referring to the importance of collaboration to bring people into the discussion, to help people to be part of the journey that I've tried to outline this afternoon, and I agree entirely with what he said in that regard.

16:00

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Diolch hefyd am gydnabod rôl Plaid Cymru drwy’r cytundeb cydweithio, a chyfeirio, wrth gwrs, at Dr Dai Lloyd. Er nad oeddwn i yma adeg y bleidlais honno, dwi’n cofio gweld clipiau bywiog iawn o Dr Dai wrthi ar hyn. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig hefyd atgoffa pawb mai Bil diogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru oedd gan Dai dan sylw. Mi oedd hynny yn cynnwys ystod o ieithoedd Cymru ar y pryd. Mi oedd e’n awyddus iawn cynnwys enwau lleoedd hanesyddol pa bynnag iaith oedd hynny, boed yn Norwyeg neu Ladin. Felly, byddwn i’n hoffi gwneud y pwynt yna. Oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ni hanes difyr ac mae colli enwau lleoedd yn golygu colli ein hunaniaeth. Mae hwn yn eithriadol o bwysig, a dwi’n falch hefyd o’r gwaith efo’r cytundeb cydweithio. 

Mae gen i ambell i gwestiwn, dim ond o ran sut ydyn ni am fynd â hyn rhagddo. Wrth gwrs, dwi’n croesawu’r ffurflen i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg, ond fydd yna ddim gofynion cyfreithiol i warchod yr enwau ar y rhestr. Felly, gaf i ofyn pam ydych chi wedi dod i’r farn nad yw deddfu yn opsiwn i fynd â hyn rhagddo? Hefyd, yn yr un modd, rydych chi’n dweud yn eich datganiad ynglŷn ag ymgyrchu cymunedol yn dylanwadu ar benderfyniadau ac yn newid, weithiau, y syniad o newid enw. Pam bod rhaid i ni wastad ymladd dros y Gymraeg? Pam na allwn ni ddiogelu lleoedd hanesyddol fel nad yw'r rhain ddim yn cael eu colli? Mae'n un peth eu bod nhw ar gael ar restr, ond mae eu cael nhw yna wedi eu gwarchod yn rhywbeth y byddwn i yn hoffi ei weld. 

Roeddech chi'n sôn ynglŷn â'r gwaith pellach efo'r enwau topograffig. Rwyf wir yn croesawu hynny. A allwch chi amlinellu'r amserlen ar gyfer y gwaith hwn, os gwelwch yn dda? Ac yn yr un modd, roeddech chi'n sôn ynglŷn â'r gwaith gyda'r Arolwg Ordnans a Chomisiynydd y Gymraeg. Beth ydy'r amserlen o ran hynny? 

Mi ges innau hefyd y fraint yn ddiweddar o gwrdd â churadur y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, sy'n gwneud gwaith gwyrthiol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig nodi mai un person sy'n gwneud y gwaith hwn. Wrth i ni graffu yn ddiweddar ar waith y comisiwn brenhinol, nodwyd y gallen nhw fod yn gwneud gymaint mwy hyd yn oed. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r adnodd, ond faint o sicrwydd sydd yna bod yr adnodd hwnnw yn parhau?

Un o'r pethau a oedd yn dod allan drwy graffu hefyd oedd, wrth gwrs, potensial y gwaith hwn o ran y newidiadau efo'r cwricwlwm newydd, yn enwedig o ran cynefin, ac ati. Mae yna gymaint mwy y gallem ni fod yn ei wneud, nid dim ond i gael y gofrestr yma'n bodoli, neu restrau, ond ein bod ni yn defnyddio'r rhain i ddod â hanes yn fyw. Roeddwn i eisiau gofyn a oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod efo'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i ystyried sut ydym ni'n gallu cael y cysylltiad yna rhwng y gwaith hwn a'r newidiadau yn y cwricwlwm. 

Roeddwn i eisiau rhoi un enghraifft hefyd o pam bod enwau lleoedd yn bwysig. Efallai fod rhai ohonoch chi wedi ymweld â Llys Llywelyn yn Sain Ffagan, sydd wedi ei seilio ar Llys Rhosyr ger Niwbwrch, y llys sydd yn bodoli yn sgil tywysogion Gwynedd, yr unig enghraifft sydd dal yn bodoli. Am flynyddoedd, mi oedd Llys Rhosyr ar goll. Doedd neb yn siŵr lle roedd o, ond ydych chi'n gwybod beth oedd enw'r cae lle roedd Llys Rhosyr? Cae Llys. Felly, roedd cliw yn enw'r cae, a dyna lle canfuwyd Llys Rhosyr, sydd rŵan yn Llys Llywelyn yn Sain Ffagan. Felly, mae yna gliwiau, onid oes, yn bodoli yn yr enwau yma, a dim ond yn y 1990au y cafwyd hyd i Llys Rhosyr. 

Yn amlwg, dwi'n croesawu llawer o'r gwaith sydd wedi digwydd a rhai o'r datblygiadau, ond byddwn i yn hoffi ein bod ni yn gallu edrych yn bellach ac unwaith eto ar ddeddfu. Dwi'n credu bod gwarchodaeth yn bwysig—nid gorfodaeth ond gwarchodaeth. Os gallwn ni fod yn sicrhau nid dim ond bod y rhain ar restr, ond hefyd yn cael eu defnyddio er budd. Pwy a wŷr lle arall cawn ni ddarganfod sydd wedi bod ar goll am ganrifoedd a fydd efallai hefyd yn Sain Ffagan un diwrnod?

Thank you, Cabinet Secretary, for this afternoon's statement. Thank you too for recognising the role of Plaid Cymru through the co-operation agreement and for referring, of course, to Dr Dai Lloyd. Although I wasn't here the time of that vote, I do recall seeing very lively clips of Dr Dai speaking on this topic. I think it's also important to remind everyone that it was a Bill to safeguard historical place names in Wales. That's what Dai Lloyd brought forward, and it covered a range of languages in Wales at the time. He was keen to cover the historical place names, be they Norwegian, Latin or whatever language they were in, because of course we do have an interesting history and the loss of place names does mean a loss of identity. This is crucially important, and I'm also pleased to see the work done under the co-operation agreement.

I do have a few questions just in terms of how we can take this forward. Of course, I welcome the place name recording tool, but there will be no legal requirement to protect the names on the list. So could I ask you why you've come to the view that legislation is not an option to take this forward? Because likewise you say in your statement about community campaigning having an influence on decisions and sometimes changing people's decisions on place names. But why do we always have to fight for the Welsh language? Why can't we safeguard our historic place names so that these aren't lost? It's one thing to make them available on a list, but having them protected is something that I would like to see.

You mentioned the further work with the topographical names, and I truly welcome that. Can you outline the timetable for that work? Likewise, you mentioned the work with the Ordnance Survey and the Welsh Language Commissioner. What is the timetable in relation to that?

I too had the privilege recently of meeting the curator of historic place names, who is doing incredible work. I think it's important to note that it's one individual doing that work. As we scrutinised the work of the royal commission recently, we noted that they could be doing so much more, even. We appreciate the resource, but how much assurance can you provide that that resource will continue?

One of the things that emerged from scrutiny was, of course, the potential of this work in terms of changes as a result of the new curriculum, particularly in terms of cynefin. There is so much more that we could be doing, not only to get these lists up and running, but to ensure that we use these to bring history to life. Can I ask you whether there have been any discussions with the Cabinet Secretary for Education to consider how we can make that connection between this work and the changes to the curriculum?

I wanted to give one example of why place names are so important. Perhaps some of you will have visited Llys Llywelyn at St Fagans, which is based on Llys Rhosyr near Newborough, the court that exists from the times of the princes of Gwynedd, the only existing example. For many years, Llys Rhosyr was lost. Nobody knew where it was, but you do know what the field's name was where it was located? It was called Cae Llys, so the clue was in the name of the field, and that's where Llys Rhosyr was discovered, which is now Llys Llywelyn at St Fagans. So, there are clues out there, aren't there, in these names, and it was only in the 1990s that Llys Rhosyr was discovered.

Obviously, I welcome much of the work that's been done and some of the developments outlined, but I would like us to look further and to consider legislating in this area. I think protection—not enforcement, but protection—is important, and if we can ensure not only that these are included on a list, but that they are also used for benefit. And who knows where else we will discover that's been missing for centuries that perhaps will also be in St Fagans one day? 

16:05

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi, a'r ysbryd adeiladol yn ei chyfraniad hi heddiw. Dwi'n cytuno'n llwyr gyda beth ddywedodd hi ar y diwedd—mae enwau'n fwy nag enwau. Maen nhw yn rhoi cliwiau i ni am beth sydd wedi digwydd mewn lleoedd ar draws Cymru.

Pan ges i gyfle i siarad â Dr James am y gwaith mae e yn ei wneud—ac rwy'n cydnabod y ffaith mai dim ond e sy'n gweithio, ond mae lot o bobl yn gwirfoddoli gyda fe hefyd—roedd e'n cyfeirio at y ffaith pan ŷch chi'n siarad â phobl eithaf hŷn nawr, maen nhw'n cofio sgyrsiau gyda eu mam-gu a'u tad-cu nhw. Maen nhw'n cofio nôl at nid y ganrif ddiwethaf, ond y ganrif cyn hynny. So, mae'n mynd nôl yn ein hanes ni ac mae'r enwau yn dangos pethau i ni am beth sydd wedi mynd ymlaen ar lawr gwlad yn ystod yr amser hwnnw. 

Dwi'n hyderus bod arian gyda ni i gario ymlaen gyda'r gwaith i roi mwy o enwau ar y rhestr—rhestr statudol. Ni yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd â rhestr statudol ble mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol ddefnyddio'r rhestr pan maen nhw'n meddwl am enwi strydoedd newydd, ac yn y blaen. Dwi'n hyderus y bydd y gwaith yna yn cario ymlaen. 

Nôl i'r pwynt cyntaf a gododd Heledd Fychan am ddeddfu. Dwi'n deall beth mae hi'n ei ddweud, mai'r rheswm bod rhai pobl eisiau deddfu yw i warchod pethau. Y rheswm dwi ddim wedi cael fy mherswadio ar hyn o bryd yw fy mod i'n meddwl ein bod ni'n gwneud hynny, ac mae mwy ŷn ni'n gallu ei wneud, heb ddeddfu. Mae deddfu yn y maes yma yn eithaf cymhleth. Mae rhai pethau allwn ni ddim eu gwneud o gwbl. Enwi busnesau, er enghraifft—dydy hwnna ddim yn un o'r cyfrifoldebau sydd wedi cael ei ddatganoli. So, ŷn ni'n gallu deddfu, ond dŷn ni ddim yn gallu gwneud dim byd yn y maes yna. Os yw unrhyw berson eisiau newid enw eu tŷ nhw, os oes rhif i'r tŷ, maen nhw'n gallu galw'r tŷ beth bynnag maen nhw ei eisiau.

Does dim byd ŷn ni'n gallu ei wneud yn y gyfraith i newid hynny. Rŷn ni'n gallu perswadio pobl; dŷn ni ddim yn gallu ei gwneud hi'n orfodol iddyn nhw ei wneud e. So, am lot o resymau, yr unig resymau oedd yn codi—. Dwi'n cofio y ddadl ar lawr y Senedd gyda Dr Lloyd, ac roedd e'n frwdfrydig dros ben. Roedd e'n cydnabod, fel dwi'n cofio, bod rhai pethau o ran hawliau dynol mewn fan hyn hefyd. So, gallaf i weld ein bod ni'n cymryd lot o egni a lot o amser i ddeddfu ble dŷn ni ddim yn siŵr y bydd hwnna'n mynd i gael yr effaith ŷn ni eisiau ei gweld, pan fo lot o bethau ŷn ni'n gallu bwrw mlaen i wneud nawr, a defnyddio'r ysbryd sydd gyda ni i warchod enwau lleol ac i adeiladu ar beth ŷn ni wedi'i wneud yn barod. 

Dwi'n cytuno gyda Heledd Fychan am rôl bwysig yr awdurdodau lleol, a dyna pam ŷn ni eisiau gwneud mwy gyda nhw. Ond mae mwy ŷn ni'n gallu ei wneud gyda phobl eraill hefyd. Rŷn ni'n eisiau gwneud mwy gyda'r Ordnance Survey, ac mae cyfarfod rhwng fy swyddogion i a phobl yr Ordnance Survey yr wythnos nesaf, jest i gael eglurhad ganddyn nhw am y ffordd maen nhw'n gwneud dewisiadau, pam maen nhw'n gwneud rhai dewisiadau, beth maen nhw'n ei ddefnyddio, ac a allwn ni eu helpu nhw i wneud dewisiadau sy'n fwy o help i ni i warchod enwau Cymraeg.

So, yn tynnu popeth gyda'i gilydd, Dirprwy Lywydd, dwi'n meddwl bod y pethau dwi wedi rhoi mas heddiw yn gallu bod yn effeithiol, ac yn gwneud hynny mewn pryd. Mae deddfu yn mynd i gymryd lot o amser ac mae'n mynd i fod yn llawn o bethau dŷn ni ddim yn siŵr sut ŷn ni'n gallu ymdrin â nhw heddiw.

Thank you very much to Heledd Fychan for what she said, and the constructive manner in which she made her contribution today. I agree entirely with what she said at the end of her contribution—that names are more than just names. They give clues to us about what has happened in places across Wales.

When I had the opportunity to speak to Dr James about the work that he's done—and I acknowledge the fact that he's the only one working on this, but there are many people volunteering alongside him too—he referred to the fact that when you speak to older people now, they remember conversations that they had with their grandparents. They remember back to not the last century, but the century before that. So, it goes back into our history and the names show us things about what has happened in our communities over that time.

I am confident that we have funding to continue with the work to add names to the statutory list. We are the only nation in the United Kingdom with a statutory list where local authorities have to use the list when they're thinking about naming new streets, and so on. I'm confident that that work will continue.

Back to the point that Heledd Fychan raised at the beginning in terms of legislation. I understand what she says, that the reason why some people want legislation is to protect certain things. The reason that I haven't been persuaded so far is that we are doing that, and there's more that we can do, without legislating. Legislating in this area is quite complex. There are some things that we can't do at all. So, business names for example—that isn't one of the responsibilities that has been devolved. So, we can legislate, but we can't do anything in that particular area. If anybody wants to change the name of their home, if the home has a number, then they can call the house whatever they want.

There's nothing that we can do in law to change that. We can try to persuade people, but we can't make it compulsory for them to do it. So, for several reasons, the only reasons that came up—. I remember the debate on the floor of the Senedd with Dr Lloyd, and he was hugely enthusiastic. He acknowledged, as I remember, that there are some things in terms of human rights that are involved here. So, I can see us spending a great deal of energy and spending a great deal of time legislating where we're not quite sure whether that will have the impact that we want to see, whilst there are things that we can continue to do now, with that spirit of goodwill that we have, to safeguard and protect local place names and to build on what we've already done.

I agree with Heledd Fychan about the important role that local authorities have to play, and that's why we want to do more with them. But there's more that we can do with others too. We do want to do more with the Ordnance Survey, and my officials have a meeting with the Ordnance Survey's officials next week, just to ask them how they make certain decisions, what resources do they use, and can we help them make decisions that are of greater assistance to us in safeguarding and protecting Welsh place names.

So, drawing everything together, Deputy Llywydd, I believe that the measures that I've outlined today can be effective and will be effective in good time, whereas legislation would take a great deal of time and may involve things that we might not be able to deal with effectively.

16:10

I warmly welcome the initiatives the Welsh Government and its partners have made to provide practical steps to preserve place names, especially the crowdsourcing initiative through the website, to find people with folk tales and memories of pieces of land. I think that's excellent. We know how important names are to people's sense of identity from the finance Minister's own bardic name, Mark Pengwern. Those who have seen the excellent S4C series Cyfrinachau'r Llyfrgell, which I highly recommend, will know that the scene of Mark Drakeford going to the library and seeing the old maps with this name that meant so much to him and his family lineage is genuinely inspiring and heartwarming. That just goes to show that this goes beyond rational attachment; these are strong, deep emotional and cultural links as well.

I just want to ask a little bit about the research the finance Minister quoted that houses are three times more likely to change their names to Welsh names than English names. Do we know the granularity of that? For example, will we be having lots of Tŷ Bach Twts around Wales, or charming names that are not particularly vernacular to the area, at the expense of names that do have a strong local lineage, or does the research tell us that, actually, the names that people are changing to have a strong local connection? Because I'm struck by the now infamous and egregious example of Llyn Bochlwyd in Eryri, which was changed to Lake Australia. When we are losing names that mean something to trivial names, that is a great damage to the area, and that is not compensated for by people changing their names to charming folksy names that have no local connection.

Rwy'n croesawu'n wresog y mentrau y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi'u gweithredu i ddarparu camau ymarferol er mwyn cadw enwau lleoedd, yn enwedig y fenter cyfrannu torfol drwy'r wefan, i ddod o hyd i bobl sydd â chwedlau gwerin ac atgofion am ddarnau o dir. Rwy'n credu bod hynny'n ardderchog. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw enwau i ymdeimlad o hunaniaeth pobl o enw barddol y Gweinidog cyllid ei hun, Mark Pengwern. Bydd y rhai sydd wedi gweld y gyfres ardderchog ar S4C, Cyfrinachau'r Llyfrgell, yr wyf i'n ei hargymell yn fawr, yn gwybod bod yr olygfa o Mark Drakeford yn mynd i'r llyfrgell a gweld yr hen fapiau gyda'r enw hwn a oedd yn golygu cymaint iddo ef a'i linach deuluol arnyn nhw yn wirioneddol ysbrydoledig a chalonogol. Mae hynny'n dangos bod hyn yn mynd y tu hwnt i ymlyniad rhesymegol; mae'r rhain yn gysylltiadau emosiynol a diwylliannol cryf, dwfn hefyd.

Rydw i ond eisiau gofyn rhywfaint am yr ymchwil y gwnaeth y Gweinidog cyllid ei ddyfynnu, sef bod enwau tai dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu newid i rai Cymraeg na rhai Saesneg. Ydyn ni'n gwybod manylion hynny? Er enghraifft, a fydd gennym ni lawer o dai o'r enw Tŷ Bach o Twt o amgylch Cymru, neu enwau swynol nad ydyn nhw'n arbennig o frodorol i'r ardal, ar draul enwau sydd â llinach leol gref, neu a yw'r ymchwil yn dweud wrthym ni, mewn gwirionedd, fod gan yr enwau y mae pobl yn newid iddyn nhw gysylltiad lleol cryf? Oherwydd mae enghraifft enwog ac anhygoel o Lyn Bochlwyd yn Eryri yn fy nharo i, a newidiwyd i Lake Australia. Pan fyddwn ni'n colli enwau sy'n golygu rhywbeth, i enwau dibwys, mae hynny'n niweidio'r ardal yn fawr, ac nid yw pobl yn newid eu henwau i enwau gwerinol swynol nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiad lleol yn gwneud yn iawn am hynny.

16:15

Well, I thank the Member for what he said about the programme about the national library, which is such a fantastic resource. He is right, there is an emotional component to all of this. The fact that the library had the bill of sale in the Boar's Head in Carmarthen in 1920 of a piece of land that I used to be taken so regularly to visit as a child was a remarkable moment, and it does tell you why some of these debates and some of the work that people do locally does have such a charge behind it. People do it not just out of a sense of history, but out of a sense of identity as well.

The research is very clear in its overall findings that most place names don't change; most house names don't change. But where they do, it is much more likely that an English name will change to a Welsh name than the other way around. I don't believe there is evidence in there that the names that people choose as a result of making that switch are trivial names, but there are things that we can definitely do to help people in making those choices, so that there is a local authority in Wales that every time somebody notifies them of an intent to change contacts them directly and makes sure that they have some resources that they can draw on to make that choice.

There's another example where work is being done to see whether as part of the conveyancing arrangement people can be put in touch with resources that they will be able to draw on to make a choice that would not be of the sort that Lee Waters suggested, but would have some local resonance and meaning. In the forum that will come together on Thursday of this week, I want to explore with local authorities whether there is more help that can be offered to people who are making these switches so that they do at least consider names that would have a genuine connection with that locality, and then, where they want to, to recover that and to make sure that the name that they choose has some resonance and some meaning.

Wel, diolch i'r Aelod am yr hyn y dywedodd am y rhaglen am y llyfrgell genedlaethol, sy'n adnodd mor wych. Mae'n gywir, mae elfen emosiynol i hyn i gyd. Roedd y ffaith bod gan y llyfrgell y bil gwerthiant yn y Boar's Head yng Nghaerfyrddin yn 1920 o ddarn o dir yr oeddwn i'n arfer mynd i ymweld ag ef mor rheolaidd fel plentyn, yn foment ryfeddol, ac mae'n dweud wrthych chi pam mae gan rai o'r dadleuon hyn a rhywfaint o'r gwaith y mae pobl yn ei wneud yn lleol gymaint o angerdd y tu ôl iddyn nhw. Mae pobl yn ei wneud nid dim ond o ymdeimlad o hanes, ond o ymdeimlad o hunaniaeth hefyd.

Mae'r ymchwil yn glir iawn yn ei chanfyddiadau cyffredinol, nad yw'r rhan fwyaf o enwau lleoedd yn newid; nid yw'r rhan fwyaf o enwau tai yn newid. Ond lle maen nhw'n gwneud hynny, mae'n llawer mwy tebygol y bydd enw Saesneg yn newid i enw Cymraeg nag i'r gwrthwyneb. Nid wyf i'n credu bod tystiolaeth yna bod yr enwau y mae pobl yn eu dewis o ganlyniad i wneud y newid hwnnw yn enwau dibwys, ond mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yn bendant i helpu pobl i wneud y dewisiadau hynny, fel bod yna awdurdod lleol yng Nghymru sy'n cysylltu â nhw yn uniongyrchol bob tro y mae rhywun yn rhoi gwybod iddyn nhw am fwriad i newid ac yn sicrhau bod ganddyn nhw rai adnoddau y gallan nhw eu defnyddio i wneud y dewis hwnnw.

Mae yna enghraifft arall lle mae gwaith yn cael ei wneud i weld a fyddai'n bosibl, fel rhan o'r trefniadau trawsgludo i gysylltu pobl ag adnoddau y byddan nhw'n gallu'u defnyddio i wneud dewis na fyddai o'r math y gwnaeth Lee Waters ei awgrymu, ond a fyddai â rhywfaint o naws ac ystyr leol. Yn y fforwm a fydd yn dod at ei gilydd ddydd Iau yr wythnos hon, rwyf i eisiau archwilio gydag awdurdodau lleol a oes mwy o gymorth y byddai'n bosibl ei gynnig i bobl sy'n gwneud y newidiadau hyn, fel eu bod o leiaf yn ystyried enwau a fyddai â chysylltiad gwirioneddol â'r ardal honno, ac yna, lle maen nhw'n dymuno gwneud hynny, i'w adfer gan wneud yn siŵr bod gan yr enw y maen nhw'n ei ddewis rywfaint o gysylltiad a rhywfaint o ystyr.

Thank you very much for your statement this afternoon, finance and Welsh language Cabinet Secretary. I'm pleased that this has been raised today, as I did mention it in culture committee last week. Something I have been keen to raise is road names, which in parallel can be very effective. We've seen good examples in my constituency where, in Rhyl, for example, on the new estates, they've been named in Welsh after some veterans—Llys Walsh, for example, is just one of those examples. But what we do seem to see is local variants across local authorities. Wrexham, for example, have bilingual road signs across the whole county, whereas others are English only. Some of them are Welsh only. So, you have touched on it briefly in answers to other contributions, but I'm just seeking some more answers about what guidance and what advice can be given to local authorities to harmonise that ambition better and get more fluidity across the system through local levels as well.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'r Gymraeg. Rwy'n falch bod hyn wedi cael ei godi heddiw, gan fy mod wedi sôn amdano yn y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf. Rhywbeth yr ydw i wedi bod yn awyddus i'w godi yw enwau ffyrdd, sydd ochr yn ochr, yn gallu bod yn effeithiol iawn. Rydyn ni wedi gweld enghreifftiau da yn fy etholaeth i, lle, yn y Rhyl, er enghraifft, ar yr ystadau newydd, maen nhw wedi cael eu henwi yn Gymraeg ar ôl rhai cyn-filwyr—dim ond un o'r enghreifftiau hynny yw Llys Walsh, er enghraifft. Ond yr hyn mae'n debyg ein bod ni'n ei weld, yw amrywiaethau lleol ar draws awdurdodau lleol. Mae gan Wrecsam, er enghraifft, arwyddion ffordd dwyieithog ar draws y sir gyfan, er bod eraill yn Saesneg yn unig. Mae rhai ohonyn nhw'n Gymraeg yn unig. Felly, rydych chi wedi cyffwrdd ar hyn yn fyr mewn atebion i gyfraniadau eraill, ond rwy'n chwilio am fwy o atebion ynghylch pa ganllawiau a pha gyngor y byddai'n bosibl ei roi i awdurdodau lleol i gysoni'r uchelgais honno'n well a chael mwy o lif ar draws y system trwy lefelau lleol hefyd.

Thank you for that interesting question. Look, the law is clear that, over time, what should happen is the public representation of names should be bilingual, with the Welsh first and the English below it. That doesn't require names that are already there to be taken down and replaced. It's something that is going to evolve over time. But as time goes on, more and more names will appear in that way, and certainly any new names, streets that are newly being named, need to conform to what the law already requires.

I thank the Member for what he said about newly named streets. That was one of the questions that was specifically asked of people in north-east and south-east Wales as part of the research. People who didn't speak Welsh at all: what did they think of streets around them—new streets—being named in Welsh? And overwhelmingly, the answer was that people really liked it. Because, again, it conveys that sense of place and purpose, doesn't it? So, it's very good to know that we are going with the grain of what people would prefer to see in their localities. And as I've said in answer to some earlier Members, I think, while we've got the wind in our sails in that way, the measures that I've outlined this afternoon, the additional work we will do with our local authorities, with other important bodies in this field, the investment we will make in further research on topographical names, the work already being carried out through the royal commission and so on—I think those are measures that will allow us to go with the grain of what people would like to see here in Wales, and make sure that, to those young people that Tom Gifford referred to in his contribution, we hand on to them a really lively, well-informed and meaningful set of work in this area.

Diolch am y cwestiwn diddorol hwnnw. Edrychwch, mae'r gyfraith yn glir, yr hyn a ddylai ddigwydd, dros amser, yw y dylai cynrychiolaeth gyhoeddus enwau fod yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn gyntaf a'r Saesneg oddi tano. Nid yw hynny'n ei gwneud yn ofynnol i enwau sydd eisoes yno gael eu tynnu i lawr a'u newid. Mae'n rhywbeth fydd yn datblygu dros amser. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, bydd mwy a mwy o enwau yn ymddangos yn y modd hwnnw, ac yn sicr mae angen i unrhyw enwau newydd, strydoedd sydd newydd gael eu henwi, gydymffurfio â'r hyn sydd eisoes yn ofynnol gan y gyfraith.

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am strydoedd sydd newydd eu henwi. Dyna oedd un o'r cwestiynau a ofynnwyd i bobl yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain yn benodol, fel rhan o'r ymchwil. Pobl nad oedden nhw'n siarad Cymraeg o gwbl: beth oedden nhw'n ei feddwl am strydoedd o'u cwmpas—strydoedd newydd—yn cael eu henwi yn Gymraeg? Ac o ran y mwyafrif llethol, yr ateb oedd bod pobl yn ei hoffi'n fawr. Oherwydd, unwaith eto, mae'n cyfleu'r ymdeimlad hwnnw o le a phwrpas, on'd ydy? Felly, mae'n dda iawn gwybod ein bod ni'n cyd-fynd â'r hyn y byddai'n well gan bobl ei weld yn eu hardaloedd nhw. Ac fel y dywedais i mewn ymateb i rai Aelodau'n gynharach, rwy'n credu, er bod gennym ni'r gwynt yn ein hwyliau yn y modd hwnnw, y mesurau yr wyf i wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, y gwaith ychwanegol y byddwn ni'n ei wneud gyda'n hawdurdodau lleol, gyda chyrff pwysig eraill yn y maes hwn, y buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud mewn ymchwil arall ar enwau topograffig, y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud drwy'r comisiwn brenhinol ac yn y blaen—rwy'n credu bod y rhain yn fesurau a fydd yn caniatáu i ni gyd-fynd â'r hyn yr hoffai pobl ei weld yma yng Nghymru, gan wneud yn siŵr, ein bod ni'n trosglwyddo i'r bobl ifanc hynny y cyfeiriodd Tom Gifford atyn nhw yn ei gyfraniad, cyfres o waith bywiog, gwybodus ac ystyrlon yn y maes hwn.

16:20

Diolch yn fawr. Mae'n rhaid imi gyfaddef, wnes i erioed ddeall union wrthwynebiad y Llywodraeth i ddeddfu er mwyn gwarchod enwau lleoedd Cymraeg rhag cael eu disodli gan enwau Saesneg—enwau yn y tirlun adeiledig ac enwau yn y tirlun topograffig. Deddfu ydy'r unig ffordd i sicrhau bod gwneuthurwyr mapiau, er enghraifft, yn defnyddio'r enwau Cymraeg gwreiddiol ar fapiau yn y dyfodol.

Dwi yn diolch ichi am yr holl waith ymchwil a chofnodi sydd wedi digwydd, ond dwi yn bryderus y gallai hyn i gyd fynd yn ofer, o gofio bod safbwynt un blaid, a allai fod yn uchel ei chloch yn y Senedd nesaf, sef Reform, yn arddel safbwynt sydd yn dibrisio gwerth yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Felly, mae eisiau mwy na chanllawiau, llythyrau templed, anogaeth i sefydlu fforymau, codi ymwybyddiaeth, casglu data a ffurflenni cofnodi—mae'r rhain i gyd yn bwysig, ond mae angen gwneud mwy er mwyn diogelu'r Gymraeg i'r dyfodol, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol. Hynny yw, mae angen deddfu. Fedrwn ni ddim dibynnu ar ewyllys da yn unig.

Felly, o gofio hynny, wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth bresennol i o leiaf ystyried beth allai gael ei gynnwys mewn Deddf ddrafft—pethau sydd o fewn cymhwysedd y Senedd, a hynny ar gyfer craffu gan y Senedd nesaf?

Thank you very much. I must confess that I never understood exactly why the Government was opposed to legislating to protect Welsh place names from being replaced by English names—names in the built landscape and in the topographic landscape. Legislating is the only way to ensure that map makers, for example, use the original Welsh place names on maps in future.

I do thank you for all of the research and recording work that has been done, but I am concerned that all of this could have been in vain, bearing in mind that the stance of one party, which could play a prominent role in the next Senedd, namely Reform, is one that devalues the Welsh language and culture. So, there is a need for more than just guidance, template letters, encouragement to establish forums, raising awareness, gathering data and recording forms—all of these are important, but there is a need to do more to safeguard the Welsh language for the future, particularly in the current political climate. In other words, we need to legislate. We can't depend on goodwill alone.

So, with all of that in mind, will you commit the current Government to at least consider what could be included in draft legislation—things that are within the competence of the Senedd to be scrutinised by the next Senedd?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, nid jest am y sylwadau mae hi wedi'u rhoi i ni y prynhawn yma, ond hefyd yr holl waith roedd hi a Cefin Campbell yn ei wneud yn y maes hwn pan oeddem ni'n cydweithio gyda'n gilydd. Dwi'n clywed beth mae Siân wedi'i ddweud am bartïon eraill y tu fas i'r Senedd. Un o'r pethau dwi'n falch o'i weld yma yw bod pob plaid yn y Senedd bresennol yn gefnogol i'r iaith Gymraeg. Pan mae partïon eraill yn ymosodol tuag at yr iaith Gymraeg, dwi'n meddwl eu bod nhw'n colli tir, nid yn ennill tir, achos mae'r bobl yn yr ardaloedd ble maen nhw'n ymdrechu—. Maen nhw hefyd, rŷn ni'n gwybod, yn gefnogol tuag at yr iaith Gymraeg.

Nawr, fel y dywedais i yn barod, yn y cynllun dwi wedi'i roi mas y prynhawn yma, dŷn ni ddim yn mynd i'r ochr ddeddfu, ond dwi ddim wedi cau'r drws ar ddeddfu chwaith. Dwi ddim yn meddwl y bydd amser gyda ni yn y chwech mis sydd ar ôl gyda ni i ddod ymlaen â Bil drafft, ond dwi'n hollol hapus i fynd ar ôl y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos i fi ein bod ni'n ennill tir a bod mwy rŷn ni'n gallu ei wneud heb ddeddfu. Os yw'r dystiolaeth yn dangos i ni mai deddfu yw'r unig ffordd i warchod pethau a chadw'r tir sydd gyda ni ar hyn o bryd, wel mae hynny yn mynd i newid y ddadl.

I thank Siân Gwenllian, not only for the comments that she's made this afternoon, but also for all the work that she and Cefin Campbell did in this area when we were co-operating as two parties. I hear Siân's comments on other parties outside of this Senedd. One of the things that I'm pleased to see here is that every party in the current Senedd is supportive of the Welsh language. When other parties are attacking the Welsh language, I think they lose ground rather than gain ground, because people in the areas where they're campaigning—. They too, we know, are supportive of the Welsh language. 

Now, as I've already said, in the programme that I've set out this afternoon, we are not moving to legislation, but I haven't closed the door on legislation either. I don't think that we will have time over the next six months remaining to us to bring forward a draft Bill, but I am more than happy to follow the evidence. The evidence at the moment suggests to me that we are gaining ground and that there is more that we can do without legislation. If the evidence shows us that legislation is the only way to protect things and to safeguard the ground that we've already gained, well the argument would then change.

5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru
5. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: The Future of the Crown Estate in Wales

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol Ystad y Goron yng Nghymru. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.

Item 5 today is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on the future of the Crown Estate in Wales. I call on the Deputy First Minister to make the statement—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 16:24:43
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein dull arfaethedig ar gyfer gweddill y tymor seneddol hwn o ran hyrwyddo achos dros ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Today I wish to provide Members with an update on our proposed approach for the remainder of this parliamentary term for pressing the case for the devolution of the Crown Estate to Wales.

We are clear that the Crown Estate should be the responsibility of the devolved Government in Wales. Indeed, this was one of the recommendations of the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. The Welsh Government accepted this recommendation and the Senedd has also endorsed the commission's findings. And as Members will know, all 22—all 22—local authorities across Wales have now passed motions calling for the devolution of the Crown Estate. In short, there is a growing consensus that the Crown Estate should be devolved to Wales. We will continue to press the case at every opportunity.

Our party has a proud record of campaigning for and delivering devolution. This is one of a number of areas where we will continue pushing for the people of Wales to be able to take more decisions closer to home. Now, this is not, to be clear, a matter of constitutional navel-gazing, as some in this Chamber have claimed in previous debates on this matter. Devolution of the Crown Estate would be consistent with the wider powers that have already been devolved, including those relating to land and sea bed management and planning. It would enable the Welsh Government to build on our ambitious plans for net-zero energy. It is important that the Welsh Government have the powers to pursue net zero in a way that retains wealth in Wales, where Welsh communities have a say and can feel the benefits. Management of Crown Estate assets would be an important contribution to this goal.

To be absolutely clear, a devolved Crown Estate would not threaten in any way the activity that is now under way by the Crown Estate around Wales. We understand that some remain concerned about these points, and we want to be crystal clear that a thriving renewables industry in Wales is key to a greener, fairer future, where we tackle climate change and we create those high-quality, secure jobs along the way.

We as a Welsh Government want to work with the Crown Estate to be as successful as possible and deliver maximum benefit to Wales. We fully support the development of a marine delivery route-map, we want to accelerate the deployment of marine renewables, and we want to use land in Wales for nature restoration and for conservation.

Now, throughout this parliamentary term, a number of Welsh Government Ministers have made this case to respective UK Ministers. We will continue to do so. And it is also worth us all remembering that devolution of the Crown Estate in Scotland did not happen overnight. Multiple, substantive, evidence-based reports were produced assessing the case for devolution of the Crown Estate, from a multitude of different sources, including local authorities, Scottish and UK parliamentary committees and others. That took many years to put together. We are learning from this experience in Scotland and making the case ourselves. We are pushing for greater transparency and information sharing.

So, whilst we welcome the annual report that the Crown Estate publishes for Wales, they do not currently provide data of a similar quality that is easy to compare across the different nations of the UK, and it makes it harder to judge their relative performance. So, we have contacted the Crown Estate and the UK Government, asking them to share the information that they have, justifying their claims of the benefits to Wales, and they have indicated that next year's annual report will now have a greater degree of Wales-specific information. And whilst we welcome this, we will maintain our pressure to ensure that the information provided is at the specificity required to reassure the Welsh public of the benefits that they are getting a fair deal.

In order to build a similar evidence base for Wales, I am pleased to announce today that we are now creating the Welsh group on the Crown Estate, the expert panel as recommended by our Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. This panel will bring together experts to consider how best to devolve the Crown Estate to Wales. It will consider the practical consequences of devolution, including the importance of the financial and governance implications for Wales and how best to proceed. It will consider those opportunities to enhance governance and accountability structures for the Crown Estate. And it will look, crucially, at how we can maximise the economic and the social benefits for the people of Wales in a way that builds stronger public trust in the institution. The panel members of the group will be selected based on their technocratic experience in the private sector or constitutional expertise from across relevant sectors, including law, finance, local government and regional economic development.

Now, it is our hope that this report will provide that solid evidence base for this Senedd, for the UK Parliament and the people of Wales that will help to progress the pathway to devolution in the future. And this assessment will also make an important contribution through realistic consideration of the benefits that will come from devolving the Crown Estate. We would like the group to have cross-party support, sending a very clear message that Wales does not believe that the current structures are working for the people and they need to be reformed.

Rydyn ni'n glir y dylai Ystad y Goron fod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Yn wir, dyma un o argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn ac mae'r Senedd hefyd wedi cymeradwyo canfyddiadau'r comisiwn. Ac fel y gŵyr yr Aelodau, mae pob un o'r 22—pob un o'r 22—o awdurdodau lleol ledled Cymru erbyn hyn wedi pasio cynigion yn galw am ddatganoli Ystad y Goron. Yn fyr, mae consensws cynyddol y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru. Byddwn ni'n parhau i bwyso'r achos ar bob cyfle.

Mae gan ein plaid hanes balch o ymgyrchu dros ddatganoli a'i gyflawni. Dyma un o nifer o feysydd lle y byddwn ni'n parhau i bwyso amdano, fel bod pobl Cymru yn gallu gwneud mwy o benderfyniadau yn agosach at adref. Nawr, i fod yn glir, nid yw hyn yn fater o fogailsyllu cyfansoddiadol, fel y mae rhai yn y Siambr hon wedi honni mewn dadleuon blaenorol ar y mater hwn. Byddai datganoli Ystad y Goron yn gyson â'r pwerau ehangach sydd eisoes wedi'u datganoli, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â rheoli a chynllunio tir a gwely'r môr. Byddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ynni sero net. Mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau i fynd ar drywydd sero net mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth yng Nghymru, lle mae gan gymunedau Cymru lais a'u bod yn gallu elwa ar y manteision. Byddai rheoli asedau Ystad y Goron yn gyfraniad pwysig at y nod hwn.

I fod yn hollol glir, ni fyddai Ystad y Goron datganoledig yn bygwth mewn unrhyw ffordd y gweithgaredd sydd ar y gweill erbyn hyn gan Ystad y Goron ledled Cymru. Rydyn ni'n deall bod rhai yn parhau i bryderu am y pwyntiau hyn, ac rydyn ni eisiau bod yn glir bod diwydiant ynni adnewyddadwy llewyrchus yng Nghymru yn allweddol i ddyfodol gwyrddach a thecach, lle'r ydyn ni'n ymdrin â newid hinsawdd ac yn creu'r swyddi diogel hynny o ansawdd uchel ar hyd y ffordd.

Rydyn ni, fel Llywodraeth Cymru eisiau gweithio gydag Ystad y Goron i fod mor llwyddiannus â phosibl gan ddarparu'r manteision mwyaf posibl i Gymru. Rydyn ni'n cefnogi'n llwyr ddatblygu map llwybr cyflenwi morol, rydyn ni eisiau cyflymu'r broses o ddefnyddio ynni adnewyddadwy morol, ac rydyn ni eisiau defnyddio tir yng Nghymru ar gyfer adfer natur ac ar gyfer cadwraeth.

Nawr, trwy gydol y tymor seneddol hwn, mae nifer o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr achos hwn i Weinidogion y DU. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ac mae hefyd yn werth i ni gyd gofio na wnaeth datganoli Ystad y Goron yn yr Alban ddigwydd dros nos. Cafodd nifer o adroddiadau, sylweddol, yn seiliedig ar dystiolaeth eu cynhyrchu, yn asesu'r achos dros ddatganoli Ystad y Goron, o lu o wahanol ffynonellau, gan gynnwys awdurdodau lleol, pwyllgorau seneddol yr Alban a'r DU ac eraill. Cymerodd hynny flynyddoedd lawer i'w roi at ei gilydd. Rydyn ni'n dysgu o'r profiad hwn yn yr Alban ac yn cyflwyno'r achos ein hunain. Rydyn ni'n gwthio am fwy o dryloywder a rhannu gwybodaeth.

Felly, er ein bod ni'n croesawu'r adroddiad blynyddol y mae Ystad y Goron yn ei gyhoeddi ar gyfer Cymru, nid ydyn nhw ar hyn o bryd yn darparu data o ansawdd tebyg sy'n hawdd ei gymharu ar draws gwahanol genhedloedd y DU, ac mae'n ei gwneud hi'n anoddach barnu eu perfformiad cymharol. Felly, rydyn ni wedi cysylltu ag Ystad y Goron a Llywodraeth y DU, gan ofyn iddyn nhw rannu'r wybodaeth sydd ganddyn nhw, gan gyfiawnhau eu honiadau o ran y manteision i Gymru, ac maen nhw wedi nodi y bydd adroddiad blynyddol y flwyddyn nesaf yn cynnwys mwy o wybodaeth benodol i Gymru. Ac er ein bod ni'n croesawu hyn, byddwn ni'n parhau â'n pwysau i sicrhau bod yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn ddigon penodol i roi sicrwydd i'r cyhoedd yng Nghymru am y manteision a'u bod yn cael bargen deg.

Er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth debyg i Gymru, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod nawr yn creu'r grŵp Cymru ar Ystad y Goron, y panel arbenigol fel y gwnaeth ein Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei argymell. Bydd y panel hwn yn dod ag arbenigwyr ynghyd i ystyried y ffordd orau o ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Bydd yn ystyried canlyniadau ymarferol datganoli, gan gynnwys pwysigrwydd y goblygiadau ariannol a llywodraethu i Gymru a'r ffordd orau o fwrw ymlaen. Bydd yn ystyried y cyfleoedd hynny i wella strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer Ystad y Goron. A bydd yn ystyried sut y gallwn ni wneud y mwyaf o'r buddion economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru mewn ffordd sy'n meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sefydliad. Bydd aelodau panel y grŵp yn cael eu dewis yn seiliedig ar eu profiad technocrataidd yn y sector preifat neu arbenigedd cyfansoddiadol o bob rhan o sectorau perthnasol, gan gynnwys y gyfraith, cyllid, llywodraeth leol a datblygu economaidd rhanbarthol.

Nawr, ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi'r sylfaen dystiolaeth gadarn honno ar gyfer y Senedd hon, ar gyfer Senedd y DU a phobl Cymru a fydd yn helpu i ddatblygu'r llwybr i ddatganoli yn y dyfodol. A bydd yr asesiad hwn hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig trwy ystyried yn realistig y manteision a ddaw o ddatganoli Ystad y Goron. Hoffem ni fod cefnogaeth drawsbleidiol gan y grŵp, gan anfon neges glir iawn nad yw Cymru'n credu bod y strwythurau presennol yn gweithredu dros y bobl ac mae angen eu diwygio.

Mae sefydlu'r grŵp hwn yn nodi cam pwysig yn ein taith tuag at ddatganoli Ystad y Goron. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am hynt gwaith y grŵp wrth i'r gwaith hwn barhau. Diolch, Dirprwy Lywydd.

The establishment of this group marks an important moment in our journey towards the devolution of the Crown Estate. I will keep Members informed of the progress of the group as this work continues. Thank you, Dirprwy Lywydd.

16:30

I think it's fair to say, Cabinet Secretary, you know that I speak on behalf of the Welsh Conservative group, and I don't agree with your moves at all on this. Under the Welsh Labour Government, supported by Plaid, over 26 years we have seen such failings in our education, the lowest Programme for International Student Assessment results in UK. We're now at a space where we've got 38,374 patients dying whilst on a health waiting list for treatment. Wales has the lowest employment rate in the UK. We have some of the worst roads and pavements in the UK. All you seem to be obsessed about—. And I feel you're doing this, actually, to appease Plaid Cymru, more than actually doing it for the need of it to be done.

The additional powers granted to allow the devolution of the Crown Estate to Wales will just fail to utilise existing devolved powers. There's no denying there have been colossal numbers of failures. Why on earth do—? And I think this is why, it's fair to say, people are turning against Plaid Cymru and Labour as we approach the next election, because you're not listening to people. They don't want further devolution. They don't want you to have in your hands further powers, and neither do I. There is no denying the failures that you have been responsible for. Why on earth would you devolve the Crown Estate?

We're already leading the world with offshore wind, through the UK Conservative Government I might add, and that 14 years that you decry. Well, let's just face reality here, and all the good that the UK Conservative Government did. Why would you take a gamble on devolving the Crown Estate? RenewableUK, the Offshore Wind Industry Council, the Crown Estate and Crown Estate Scotland themselves have warned the world has woken up to the success we're pioneering in the UK, and the global pipeline of offshore wind projects has more than doubled since 2022.

He's not here, but my colleague Andrew Davies summed it up in one the other day when he said that, with the Barnett formula consequentials and how they work, it will not bring any extra money into Wales. Globally, 120 nations have committed to trebling renewable capacity by the end of this decade. Do you actually acknowledge that the energy of this Parliament should now be focused on addressing the fact that we are too over-reliant on important key components for renewable energy projects? You've just passed—although it's subject to judicial review—the Alaw Môn scheme, where we're going to see a lot of our agricultural land absolutely blighted by so many solar panels.

Despite increasing competition from nations globally, Plaid Cymru and Labour in this Senedd think it's wise to go right back to the beginning and look at devolving the Crown Estate. One of the principal reasons you have, Plaid Cymru, for wanting the devolution of the Crown Estate is because of the potential of the floating offshore wind. And I believe it's because you don't like anything with the word 'crown' on it. [Laughter.] Strange but true. What you fail to acknowledge is that, thanks to the Crown Estate, the UK is the second most successful windfarm market in the world. Wales is now on the cusp of being global leaders in this sector. It would be foolish to put that at risk by causing uncertainty through devolution to this Labour Government that's been propped up by Plaid over the last 26 years. The Welsh Government, you should want to work with the Crown Estate Wales and put what is best for the interests of the people from Wales. As we know already with—. I must ask you, Cabinet Secretary: how much is this thinktank, this panel, going to be costing our Welsh taxpayers? I'd be interested if you would put that figure out here in the Senedd this afternoon.

But Crown Estate Scotland, they know—. Well, you should know that they will need legislation in the UK Parliament to devolve the responsibility. You'll need legislation in the Welsh Parliament to establish the Crown Estate Wales body, you'll need to appoint a board, an executive, a senior manager and a whole staffing team. We have nearly 40,000 people who died on a health treatment waiting list. Do you honestly think that people out there are bothered about you wanting to devolve the Crown Estate? I think not.

The executive, managers and board members cost Crown Estate Scotland over £0.5 million annually, and that's without pensions. The total staffing bill is about £6 million annually. So, what assessments have you already made, in deciding to even have a panel, of the annual costs of running a devolved Crown Estate? Do you agree with me whether the Crown Estates are already doing—

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, ac nid wyf i'n cytuno â'ch symudiadau o gwbl ar hyn. O dan Lywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid, dros 26 mlynedd, rydyn ni wedi gweld methiannau o'r fath yn ein haddysg, y canlyniadau isaf yn y Rhaglen ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol yn y DU. Rydyn ni nawr mewn man lle mae gennym ni 38,374 o gleifion yn marw tra byddant ar restr aros iechyd am driniaeth. Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU. Mae gennym ni rai o'r ffyrdd a'r palmentydd gwaethaf yn y DU. Y cyfan y mae'n ymddangos eich bod chi'n poeni'n obsesiynol amdano—. Ac rwy'n teimlo eich bod chi'n gwneud hyn, mewn gwirionedd, i lonyddu Plaid Cymru, yn fwy na gwneud hynny oherwydd bod angen ei wneud.

Bydd y pwerau ychwanegol a fydd yn cael eu rhoi i ganiatáu datganoli Ystad y Goron i Gymru yn methu â defnyddio'r pwerau datganoledig presennol. Nid oes gwadu bod niferoedd enfawr o fethiannau wedi bod. Pam ar y ddaear ydych—? Ac rwy'n credu mai dyna pam, mae'n deg dweud, mae pobl yn troi yn erbyn Plaid Cymru a Llafur wrth i ni agosáu at yr etholiad nesaf, oherwydd nad ydych chi'n gwrando ar bobl. Dydyn nhw ddim eisiau mwy o ddatganoli. Dydyn nhw ddim eisiau i chi gael mwy o bwerau yn eich dwylo, na finnau chwaith. Does dim gwadu'r methiannau yr ydych chi wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw. Pam ar y ddaear fyddech chi'n datganoli Ystad y Goron?

Rydyn ni eisoes yn arwain y byd gyda ffermydd gwynt ar y môr, trwy Lywodraeth Geidwadol y DU efallai y dylwn i ei ychwanegu, a'r 14 mlynedd hynny yr ydych chi'n eu dilorni. Wel, gadewch i ni wynebu'r gwirionedd yma, a phopeth da y gwnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU. Pam fyddech chi'n gamblo ar ddatganoli Ystad y Goron? Mae RenewableUK, Cyngor y Diwydiant Ffermydd Gwynt ar y Môr, Ystad y Goron ac Ystad y Goron yr Alban eu hunain wedi rhybuddio bod y byd wedi deffro i'r llwyddiant yr ydyn ni'n arloesi yn y DU, ac mae'r llif byd-eang o brosiectau ffermydd gwynt ar y môr wedi mwy na dyblu ers 2022.

Dydy o ddim yma, ond fe wnaeth fy nghyd-Aelod Andrew Davies ei grynhoi ddiwrnod o'r blaen pan ddywedodd na fydd yn dod ag unrhyw arian ychwanegol i Gymru, gydag arian canlyniadol fformiwla Barnett a sut mae'n gweithio. Yn fyd-eang, mae 120 o genhedloedd wedi ymrwymo i dreblu capasiti ynni adnewyddadwy erbyn diwedd y degawd hwn. Ydych chi mewn gwirionedd yn cydnabod y dylai egni'r Senedd hon bellach ganolbwyntio ar ymdrin â'r ffaith ein bod yn rhy ddibynnol ar elfennau allweddol pwysig ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy? Rydych chi newydd basio—er ei fod yn destun adolygiad barnwrol—gynllun Alaw Môn, lle'r ydyn ni'n mynd i weld llawer o'n tir amaethyddol wedi'i ddifetha'n llwyr gan gymaint o baneli solar.

Er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol gan genhedloedd ledled y byd, mae Plaid Cymru a Llafur yn y Senedd hon yn credu ei bod hi'n ddoeth mynd yn ôl i'r cychwyn cyntaf gan edrych ar ddatganoli Ystad y Goron. Un o'r prif resymau sydd gennych chi, Plaid Cymru, dros ddatganoli Ystad y Goron yw oherwydd potensial y ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Ac rwy'n credu ei fod oherwydd nad ydych chi'n hoffi unrhyw beth gyda'r gair 'coron' arno. [Chwerthin.] Rhyfedd ond yn wir. Yr hyn yr ydych chi'n methu â chydnabod yw, diolch i Ystad y Goron, y DU yw'r farchnad fferm wynt fwyaf llwyddiannus ond un yn y byd. Erbyn hyn, mae Cymru ar fin bod yn arweinydd byd-eang yn y sector hwn. Byddai'n ffôl peryglu hynny trwy achosi ansicrwydd trwy ddatganoli i'r Llywodraeth Lafur hon sydd wedi cael ei chefnogi gan Plaid yn ystod y 26 mlynedd diwethaf. Llywodraeth Cymru, dylech chi fod eisiau gweithio gydag Ystad y Goron Cymru a rhoi'r hyn sydd orau er buddiannau pobl Cymru. Fel yr ydyn ni eisoes yn ei wybod, gyda—. Mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: faint fydd cost y felin drafod hon, y panel hwn, i'n trethdalwyr yng Nghymru? Byddai ddiddordeb gennyf i os wnewch chi gyflwyno'r ffigwr hwnnw yma yn y Senedd y prynhawn yma.

Ond Ystad y Goron yr Alban, maen nhw'n gwybod—. Wel, dylech chi wybod y bydd angen deddfwriaeth arnyn nhw yn Senedd y DU i ddatganoli'r cyfrifoldeb. Bydd angen deddfwriaeth arnoch chi yn Senedd Cymru i sefydlu corff Ystad y Goron Cymru, bydd angen i chi benodi bwrdd, gweithredwr, uwch-reolwr a thîm staffio cyfan. Mae gennym ni bron i 40,000 o bobl a wnaeth farw ar restr aros am driniaeth iechyd. Ydych chi'n wir yn credu bod pobl allan yna yn hidio dim eich bod chi eisiau datganoli Ystad y Goron? Nid yn fy nhyb i.

Mae'r weithrediaeth, y rheolwyr a'r aelodau'r bwrdd yn costio dros £0.5 miliwn i Ystad y Goron yr Alban bob blwyddyn, ac mae hynny heb bensiynau. Mae cyfanswm y bil staffio tua £6 miliwn bob blwyddyn. Felly, pa asesiadau ydych chi eisoes wedi'u gwneud, wrth benderfynu hyd yn oed cael panel, o gostau blynyddol cynnal Ystad y Goron ddatganoledig? Ydych chi'n cytuno â mi a yw Ystadau'r Goron eisoes yn gwneud—

16:35

Can you conclude now, please?

A wnewch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda?

Yes, I always do. [Laughter.] Whether the—. Only when he—. Yes, the Dirprwy Lywydd is there. The thing is, it's not the wisest concept that you could be coming up with now. If you were stood there now, or the First Minister, saying how you're going to improve our health waiting treatment times, then I could agree with what you're saying. Diolch.

Gwnaf, rydw i'n gwneud hynny bob amser. [Chwerthin.] P'un ai yw'r—. Dim ond pan fydd ef—. Ydy, mae'r Dirprwy Lywydd yno. Y peth yw, nid dyma'r cysyniad doethaf y gallech chi fod yn ei gyflwyno ar hyn o bryd. Pe baech chi, neu'r Prif Weinidog, yn sefyll yno nawr, yn dweud sut yr ydych chi'n mynd i wella ein hamseroedd aros iechyd ar gyfer triniaeth, yna gallwn i gytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Diolch.

There we are. Janet, thank you very much. I think we disagree on pretty much everything that you've said, but I'm glad to see the First Minister is here. Of course, this isn't a health debate, but the driving down of the longest waiting times in Wales, consistently now over the last month after month after month after month is a real tribute to the investment that has gone in, and the fact that we are focusing, actually, on those issues.

But let me turn to the substance. I'll deal with the one specific question that you asked there, which is: how much will this cost? The cost of establishing this group and taking forward the work will be the inordinate sum of around—. We've budgeted for around £20,000. So, for that £20,000, if we can actually establish, based on sharing of data and transparency, the gains that Wales can get from the devolution of the Crown Estate—bear in mind that none of the members of this group are being paid, they will only have their expenses to attend the meetings; they'll be giving of their expertise in order to drive this work forward and gather the evidence—that'll be £20,000 very well spent indeed.

I'll come back to why in a moment, but just to squash the scaremongering for a moment in terms of renewables and our work with the Crown Estate, we continue to work very effectively with the Crown Estate. In fact, Wales has led the way in offshore wind. We had the first fixed projects in north Wales, of course, as you know very well, to the first commercial-scale floating wind that will appear in the Celtic sea. We've got a pipeline of over 15 GW of offshore wind projects, a huge opportunity for our economy and exports, and including the work that we're doing with our ports as well and the supply chain. So, we launched the offshore wind task and finish group action plan to maximise the economic and social value for Wales. We're doing that now, Janet. We know that Wales has a key role to play in driving forward clean power and energy security, and that task and finish group action plan sets out our very strong vision for the economy and the regeneration of many of our communities.

Just to say, offshore wind in the Celtic sea has now moved from planning into actual delivery. It's a major milestone for Wales. We have two successful bidders, which will deliver over 3 GW of clean energy, and the Crown Estate, working with us, has committed to the full 4.5 GW. So, none of this will disrupt any of this work whatsoever. This is the beginning of billions of potential investment and thousands of new jobs in Wales under this Welsh Labour Government.

But let me turn to the substance of this, because you went off on the normal line there of saying, 'Well, should we be bothering our little heads here in Wales with this? This isn't important whatsoever.' Let me just say, throughout this Parliament, Welsh Government has consistently called for devolution of the Crown Estate for very good reason. We believe that decisions about Wales should be made in Wales. Scotland already has control over the Crown Estate; Wales deserves exactly the same. We’re not asking for more; we’re asking for the same—control over our resources. There is no good reason, Janet, why Wales should be treated any differently from Scotland. Every argument for why the Crown Estate was devolved in Scotland applies equally to Wales; we should receive the same deal.

Now, this is about fairness. This is about standing up for the people of Wales. If we had control, that money would stay in Wales. We could use it, Janet, to create new jobs in coastal towns in north and south and west Wales, to improve local transport, to invest in schools and hospitals and other services. So, that’s what this is about, not navel gazing, not other things—it’s about very practical delivery for the people of Wales. And that’s why we are setting up this group to take forward that and explore the difficulties, the challenges, the practical realities and to take forward that case for devolution of the Crown Estate in Wales.

Dyna ni. Janet, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni'n anghytuno ar bron popeth yr ydych chi wedi'i ddweud, ond rwy'n falch o weld y Prif Weinidog yma. Wrth gwrs, nid dadl iechyd yw hon, ond mae gostwng yr amseroedd aros hiraf yng Nghymru, yn gyson nawr dros y mis ar ôl mis ar ôl mis ar ôl mis diwethaf yn deyrnged gwirioneddol i'r buddsoddiad sydd wedi'i wneud, a'r ffaith ein bod ni'n canolbwyntio, mewn gwirionedd, ar y materion hynny.

Ond gadewch i mi droi at y sylwedd. Fe wnaf i ymdrin â'r un cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn yn y fan yna, sef: faint fydd hyn yn ei gostio? Y gost o sefydlu'r grŵp hwn a bwrw ymlaen â'r gwaith fydd y swm anghymedrol o tua—. Rydyn ni wedi cyllidebu am tua £20,000. Felly, am yr £20,000 hwnnw, os gallwn ni sefydlu mewn gwirionedd, yn seiliedig ar rannu data a thryloywder, y manteision y gall Cymru eu cael o ddatganoli Ystad y Goron—cofiwch nad oes unrhyw un o aelodau'r grŵp hwn yn cael eu talu, byddan nhw ond yn cael eu treuliau i fynychu'r cyfarfodydd; byddan nhw'n rhoi o'u harbenigedd er mwyn ysgogi'r gwaith hwn a chasglu'r dystiolaeth—bydd hynny'n £20,000 wedi'i wario'n ddoeth iawn mewn gwirionedd.

Dof yn ôl at pam mewn eiliad, ond dim ond i ddileu'r bwganod sydd wedi'u codi am eiliad o ran ynni adnewyddadwy a'n gwaith gydag Ystad y Goron, rydyn ni'n parhau i weithio'n effeithiol iawn gydag Ystad y Goron. Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi arwain y ffordd ym maes ffermydd gwynt ar y môr. Yn y gogledd y cawson ni'r prosiectau sefydlog cyntaf, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi'n dda iawn, i'r ffermydd gwynt arnofiol cyntaf ar raddfa fasnachol a fydd yn ymddangos yn y môr Celtaidd. Mae gennym ni lif o dros 15 GW o brosiectau ffermydd gwynt ar y môr, cyfle enfawr i'n heconomi a'n hallforion ni, gan gynnwys y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud gyda'n porthladdoedd hefyd a'r gadwyn gyflenwi. Felly, fe wnaethon ni lansio'r cynllun gweithredu'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr i wneud y mwyaf o'r gwerth economaidd a chymdeithasol i Gymru. Rydyn ni'n gwneud hynny nawr, Janet. Rydyn ni'n gwybod bod gan Gymru rhan allweddol i'w chwarae wrth ysgogi pŵer glân a diogelwch ynni ac mae cynllun gweithredu'r grŵp gorchwyl a gorffen yn nodi ein gweledigaeth gref iawn ar gyfer yr economi ac adfywio llawer o'n cymunedau.

Dim ond i ddweud, mae ffermydd gwynt ar y môr yn y môr Celtaidd erbyn hyn wedi symud o gynllunio i gyflenwi gwirioneddol. Mae'n garreg filltir bwysig i Gymru. Mae gennym ni ddau gynigydd llwyddiannus, a fydd yn darparu dros 3 GW o ynni glân, ac mae Ystad y Goron, gan weithio gyda ni, wedi ymrwymo i'r 4.5 GW cyfan. Felly, ni fydd hyn yn tarfu ar y gwaith hwn o gwbl. Dyma ddechrau ar biliynau o fuddsoddi posibl a miloedd o swyddi newydd yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

Ond gadewch i mi droi at sylwedd hyn, oherwydd fe wnaethoch chi fynd ar y trywydd arferol yn y fan yna o ddweud, 'Wel, a ddylen ni fod yn poeni ein pennau bach yma yng Nghymru am hyn? Nid yw hyn yn bwysig o gwbl.' Gadewch i mi ddweud, trwy gydol y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi galw yn gyson am ddatganoli Ystad y Goron am reswm da iawn. Rydyn ni'n credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae eisoes gan yr Alban reolaeth dros Ystad y Goron; mae Cymru'n haeddu'r un peth. Nid ydyn ni'n gofyn am fwy; rydyn ni'n gofyn am yr un peth—rheolaeth dros ein hadnoddau. Does dim rheswm da, Janet, pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i'r Alban. Mae pob dadl dros pam y gafodd Ystad y Goron ei datganoli yn yr Alban yn yr un mor berthnasol i Gymru; dylen ni gael yr un fargen.

Nawr, mae hyn yn ymwneud â thegwch. Mae hyn yn ymwneud â sefyll dros bobl Cymru. Pe bai gennym ni reolaeth, byddai'r arian hwnnw'n aros yng Nghymru. Gallen ni ei ddefnyddio, Janet, i greu swyddi newydd mewn trefi arfordirol yn y gogledd a'r de orllewin, i wella trafnidiaeth leol, i fuddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai a gwasanaethau eraill. Felly, dyna beth yw hyn, nid bogailsyllu, nid pethau eraill—mae'n ymwneud â chyflawni'n ymarferol iawn i bobl Cymru. A dyna pam ein bod ni'n sefydlu'r grŵp hwn i fwrw ymlaen â hynny ac archwilio'r anawsterau, yr heriau, y gwirionedd ymarferol ac i fwrw ymlaen â'r achos hwnnw dros ddatganoli Ystad y Goron yng Nghymru.

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mi fydd Cofnod y Senedd yma a chofnod Tŷ’r Cyffredin, wrth gwrs, yn dangos bod Plaid Cymru wedi bod yn arwain y ddadl o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru am ddegawd a mwy. Dydy’n cred ni mai pobl a chymunedau Cymru, nid y Trysorlys a’r frenhiniaeth, ddylai elwa o adnoddau Cymru ddim yn syniad newydd o gwbl. Ond heb os, mae wedi bod yn dda gweld y ddadl yn magu momentwm yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y clywon ni, mae pob un awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn galw am ddatganoli Ystad y Goron, a chyn hynny roedd mwyafrif Aelodau’r Senedd yma wedi pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru nôl yn yr haf 2023. Ac os oedd hi’n anodd dirnad gwrthwynebiad chwyrn San Steffan i’r egwyddor syml iawn yma cyn hynny, mae’n anoddach fyth o ystyried bod yr ewyllys gan y Senedd yma a chyrff, cynghorau ac awdurdodau lleol Cymru wedi bod mor glir. Mae’n anodd dirnad y gwrthwynebiad. Felly, beth dwi eisiau gwybod ydy beth mae’r Llywodraeth yma wedi bod yn ei wneud o ran sgyrsiau diweddar efo Llywodraeth San Steffan i’w atgoffa nhw, yn benodol, o’r ewyllys hwnnw.

Dwi’n cytuno’n sicr efo’r Ysgrifennydd Cabinet bod eisiau adeiladu consensws—dyna beth rydym ni wedi bod yn trio ei wneud dros y blynyddoedd, yn cyflwyno dadleuon, yn cyflwyno cynigion yma yn y Senedd, yn ymgyrchu ar lawr gwlad hefyd. Ond y bloc, wrth gwrs, yn fan hyn, ydy Llafur yn San Steffan erbyn hyn. Rydym ni’n disgwyl dim gwell gan y Ceidwadwyr, a Janet Finch-Saunders yn dod yn agos iawn, iawn at wrthwynebu’r egwyddor o ddatganoli yn ei chyfraniad hi’r prynhawn yma, a dydy hynny ddim yn syndod i ni. Rydym ni’n gweld y negeseuon o San Steffan: ‘No commercial sense’ oedd y dyfarniad gan Weinidog Llafur y Trysorlys, James Murray, nôl ym mis Chwefror mewn ymateb i ymgais gan Blaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin i ddatganoli Ystad y Goron.

Thank you to the Cabinet Secretary for the statement. The Senedd Record here, as well as Hansard in Parliament, will show that Plaid Cymru has led the debate on the devolution of the Crown Estate to Wales for a decade and more. Our belief that the people and communities of Wales, not the Treasury and the monarchy, should benefit from Welsh resources, is not a new idea in any way whatsoever. But, without doubt, it's been good to see the argument gather momentum in recent years. As we heard, every local authority in Wales is now calling for the devolution of the Crown Estate, and prior to that a majority of Senedd Members here had voted in favour of a Plaid Cymru motion back in the summer of 2023. And if it was difficult to understand the fierce opposition of Westminster to this very simple principle before that, it's even more difficult now, given that the will of the Senedd and local authorities in Wales has been so steadfast. It's difficult to understand the opposition. So, what I want to know is what the Government here has been doing in terms of recent conversations with the Westminster Government to remind them specifically of the will expressed in this place.

I certainly agree with the Cabinet Secretary that we need to build a consensus—that's what we've sought to do over recent years, in bringing forward debates and motions here in the Senedd and campaigning on the ground too. But the block, of course, here is Labour in Westminster now. We expect no better from the Conservatives, and Janet Finch-Saunders came very close to opposing the principle of devolution itself in her contribution this afternoon, and that is no surprise to us. But we see the messaging from Westminster: 'No commercial sense' was the judgment made by the Labour Treasury Minister, James Murray, back in February in response to a request from Plaid Cymru in the Commons to devolve the Crown Estate.

That sentence, ‘No commercial sense’, betrays, doesn't it, Westminster's main motivation for clinging onto control of the value of the Crown Estate in Wales. Because it's a tale as old as time that what may make commercial sense to the UK Treasury so often comes at the detriment of Wales and our communities: the outdated and unfair Barnett formula, the refusal to give Wales our share of HS2 funding. But Scotland doesn't have to put up with this, of course. Scotland does receive consequentials from HS2, the Crown Estate is devolved to Scotland, because Scotland, of course, has a Government that is ready, always, to stand up and fight for it.

So, again, I welcome all moves towards ensuring that we will see the devolution of the Crown Estate realised. And to that extent, of course, we'll support the work of this Welsh group. But one can't help feeling at the same time, 'Is this it? And why only now?' The elephant in the room is, as I say, that the obstacle isn't in this Senedd; it lies with the ranks of Labour MPs from Wales and their UK Labour colleagues, and resistance to devolving the Crown Estate is political, and it reflects where Labour's power base really sits.

And a simple question, I think, at the end. The Cabinet Secretary says that the UK Government will play ball and will support the panel to obtain the information, i.e. they will facilitate the work of the panel. But if it will support that work, why doesn't it just support the devolution of the Crown Estate? That's what we are really after. We don't need any more blocks.

Mae'r frawddeg honno, 'Dim synnwyr masnachol', yn bradychu, onid yw, brif gymhelliant San Steffan dros lynu at reoli gwerth Ystad y Goron yng Nghymru. Oherwydd ei bod hi'n hen, hen stori bod yr hyn a allai wneud synnwyr masnachol i Drysorlys y DU mor aml yn dod ar draul Cymru a'n cymunedau ni: fformiwla Barnett annheg sydd wedi dyddio, gwrthod rhoi ein cyfran ni o gyllid HS2 i Gymru. Ond nid oes rhaid i'r Alban oddef hyn, wrth gwrs. Mae'r Alban yn cael cyllid canlyniadol o HS2, mae Ystad y Goron wedi'i datganoli i'r Alban, oherwydd mae gan yr Alban, wrth gwrs, Lywodraeth sy'n barod, bob amser, i sefyll ac ymladd drosti.

Felly, unwaith eto, rwy'n croesawu pob cam tuag at sicrhau y byddwn ni'n gweld datganoli Ystad y Goron yn cael ei wireddu. Ac i'r graddau hwnnw, wrth gwrs, byddwn ni'n cefnogi gwaith y grŵp Cymru hwn. Ond ni all rhywun beidio â theimlo ar yr un pryd, 'Ai dyma yw hi? A pham dim ond nawr?' Yr eliffant yn yr ystafell yw, fel yr wyf i'n ei ddweud, nid yn y Senedd hon mae'r rhwystr; mae'n gorwedd gyda rhengoedd Aelodau Seneddol Llafur o Gymru a'u cyd-Aelodau Llafur yn y DU, ac mae'r gwrthwynebiad i ddatganoli Ystad y Goron yn wleidyddol, ac mae'n adlewyrchu lle mae sylfaen pŵer Llafur mewn gwirionedd.

A chwestiwn syml, rwy'n credu, ar y diwedd. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn cydweithio a bydd yn cefnogi'r panel i gael yr wybodaeth, h.y. byddan nhw'n hwyluso gwaith y panel. Ond os bydd yn cefnogi'r gwaith hwnnw, pam nad yw ond yn cefnogi datganoli Ystad y Goron? Dyna beth yw ein nod mewn gwirionedd. Nid oes angen mwy o rwystrau arnon ni.

16:45

Rhun, diolch yn fawr iawn. Thank you for a range of thoughts and some questions there. First of all, you are right: there is gathering momentum, and that is helpful. When you have 22 local authorities of all different political perspectives, every local authority in Wales, saying, 'We need the devolution of this', it's because they are living with the day-to-day practical reality, and they see the potential of this. They are not simply looking at Scotland. They are looking at other parts of the UK and saying, 'Well, why don't we grab the benefits for our communities?' That's really helpful to us in our arguments, going forward.

I'm keen to build that consensus. We have heard the Conservatives' position laid out, which I am disappointed with. It would be great if this whole Senedd could say, on the principle of what is good enough for Scotland in this thing, and the benefits that they have accrued—. There have been analyses of what the economic benefits are for Scotland, and they have shown what those benefits are. But there is a principle as well, about control within a devolved Government to actually make those decisions better. There is nothing here about knocking off kilter what we are trying to do with renewables. We are leading the way in Wales here. We will continue to lead the way. But we need to build that consensus strongly, and I hope that at some point the Conservatives will see the light and will say that this is what we should be doing together.

The question in San Steffan is an interesting one. We have had constructive engagement, still ongoing, about the work of the group that we are now setting up. We have already had, as I said in my opening remarks there, a commitment to provide more transparency, but we need to see it being as transparent as it is elsewhere, in Scotland and in other parts of the UK. We need to have that data. But we would really welcome the engagement—the positive engagement, proactive engagement, in one way or another—with the work of this group that we're establishing, and I think that we'll get that in terms of data and information and evidence. I think that one of our challenges to the UK Government would be to say, 'If you feel that there is not a compelling case for this, whether that's economically or whatever, put that evidence forward so that we can see it, we can work, we can look at it, we can explore it, among all the other evidence going.' We want them to be a partner in this exploration.

Just to say very clearly as well what this group will be doing: it will look at the performance of the Crown Estate in delivering for the people of Wales. I would argue, by the way, that our engagement with the Crown Estate is very good, and that we are getting it delivering for the people of Wales, even in this—what we would say—sub-optimal way of working. It will look at those practical implications. Because we really, as a serious Government, need to work through what the practical implications of devolution are, including the governance and the financial aspects, but also what options are there right now to improve the accountability and the delivery of the Crown Estate within Wales that are short of devolution as well. Let's look at the whole gamut there. So, we will continue to work with the UK Government so that they can positively contribute to the work of this group.

You asked about engagement with the UK Government, going back. Well, consistently through the whole life of this Parliament, Ministers here—from First Ministers, through the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, through the Cabinet Secretary for economy, as well as myself and the First Minister—have raised it consistently with senior UK Government Ministers. Most recently, Cabinet Secretaries Mark Drakeford and Rebecca Evans met with Lord Livermore, the Financial Secretary to the Treasury, to discuss our plans for this expert group and to invite them to actually contribute positively. There have been previous meetings with Ministers as well, stressing the principle that we are pushing at as well.

So, we will keep on doing this, and we think this group that we are establishing now, with broad consensus, albeit that one political party within the Senedd is saying, 'We think that this is a waste of time'—. We think that that, alongside 22 local authorities, gives a really good basis now for saying, 'Let's grind out the case here, so that we are ready.' Then, we can actually say to the UK Government, 'Work with us now to make this happen.' We stand strong in the position that we should devolve the Crown Estate.

Rhun, diolch yn fawr iawn. Diolch am amrywiaeth o syniadau a rhai cwestiynau yn y fan yna. Yn gyntaf oll, rydych chi'n gywir: mae momentwm yn cynyddu, ac mae hynny'n ddefnyddiol. Pan fydd gennych chi 22 awdurdod lleol o bob gwahanol safbwynt gwleidyddol, pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn dweud, 'Mae angen datganoli hyn', a hynny oherwydd eu bod yn byw gyda'r gwirionedd ymarferol o ddydd i ddydd, ac maen nhw'n gweld potensial hyn. Nid ydyn nhw ond yn edrych ar yr Alban. Maen nhw'n edrych ar rannau eraill o'r DU ac yn dweud, 'Wel, pam na wnawn ni fachu'r manteision ar gyfer ein cymunedau ni?' Mae hynny'n ddefnyddiol iawn i ni yn ein dadleuon, wrth symud ymlaen.

Rwy'n awyddus i ddatblygu'r consensws hwnnw. Rydyn ni wedi clywed safbwynt y Ceidwadwyr yn cael ei nodi, ac rwy'n siomedig ag ef. Byddai'n wych pe gallai'r Senedd gyfan hon ddweud, ar yr egwyddor o'r hyn sy'n ddigon da i'r Alban yn hyn o beth, a'r manteision y maen nhw wedi'u cronni—. Mae dadansoddiadau wedi bod o beth yw'r manteision economaidd i'r Alban, ac maen nhw wedi dangos beth yw'r manteision hynny. Ond mae yna egwyddor hefyd, ynglŷn â rheolaeth o fewn Llywodraeth ddatganoledig i wir wneud y penderfyniadau hynny'n well. Nid oes unrhyw beth yma ynglŷn â chael ein gwyro oddi ar drywydd yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud o ran ynni adnewyddadwy. Rydyn ni'n arwain y ffordd yma yng Nghymru. Byddwn ni'n parhau i arwain y ffordd. Ond mae angen i ni ddatblygu'r consensws hwnnw'n gryf, ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn gweld y goleuni ac yn dweud mai dyma beth ddylen ni fod yn ei wneud gyda'n gilydd.

Mae'r cwestiwn yn San Steffan yn un diddorol. Rydyn ni wedi ymgysylltu'n adeiladol, sy'n dal i fynd rhagddo, ynglŷn â gwaith y grŵp yr ydyn ni'n ei sefydlu nawr. Rydyn ni eisoes wedi cael, fel y dywedais i yn y fan yna yn fy sylwadau agoriadol, ymrwymiad i ddarparu mwy o dryloywder, ond mae angen i ni weld ei fod mor dryloyw ag y mae mewn mannau eraill, yn yr Alban ac mewn rhannau eraill o'r DU. Mae angen i ni gael y data hwnnw. Ond bydden ni wir yn croesawu'r ymgysylltu—yr ymgysylltu cadarnhaol, ymgysylltu rhagweithiol, mewn un ffordd neu'r llall—gyda gwaith y grŵp hwn yr ydyn ni'n ei sefydlu, ac rwy'n credu y byddwn ni'n cael hynny o ran data a gwybodaeth a thystiolaeth. Rwy'n credu mai un o'n heriau i Lywodraeth y DU fyddai dweud, 'Os ydych chi'n teimlo nad oes achos cymhellol dros hyn, p’un ai yw hynny'n economaidd neu beth bynnag, cyflwynwch y dystiolaeth honno fel y gallwn ni ei gweld, y gallwn ni weithio arni, y gallwn ni edrych arni, y gallwn ni ei harchwilio, ymhlith yr holl dystiolaeth arall sydd ar gael.' Rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn bartner yn yr archwiliad hwn.

Dim ond i ddweud yn glir iawn hefyd, yr hyn y bydd y grŵp hwn yn ei wneud: bydd yn ystyried perfformiad Ystad y Goron wrth gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Byddwn ni'n dadlau, gyda llaw, bod ein hymgysylltiad ag Ystad y Goron yn dda iawn, a'n bod yn ei gyflawni i bobl Cymru, hyd yn oed yn y ffordd—beth fydden ni'n ei ddweud—llai na gorau posibl hon o weithio. Bydd yn ystyried y goblygiadau ymarferol hynny. Oherwydd bod angen i ni, fel Llywodraeth sydd o ddifrif, weithio trwy beth yw goblygiadau ymarferol datganoli, gan gynnwys yr agweddau llywodraethu ac ariannol, ond hefyd pa ddewisiadau sydd yno ar hyn o bryd i wella atebolrwydd a chyflawni Ystad y Goron yng Nghymru sy'n brin o ddatganoli hefyd. Gadewch i ni edrych ar y gyfres gyfan yno. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU fel y gallan nhw gyfrannu'n gadarnhaol at waith y grŵp hwn.

Fe wnaethoch chi ofyn am ymgysylltu â Llywodraeth y DU, yn y gorffennol. Wel, yn gyson trwy gydol bywyd y Senedd hon, mae Gweinidogion yma—o Brif Weinidogion, trwy Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, trwy Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn ogystal â minnau a'r Prif Weinidog—wedi'i godi'n gyson gydag uwch Weinidogion Llywodraeth y DU. Yn fwyaf diweddar, fe wnaeth yr Ysgrifenyddion Cabinet Mark Drakeford a Rebecca Evans gyfarfod â'r Arglwydd Livermore, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, i drafod ein cynlluniau ar gyfer y grŵp arbenigol hwn a'u gwahodd i wir gyfrannu'n gadarnhaol. Mae cyfarfodydd blaenorol wedi bod gyda Gweinidogion hefyd, gan bwysleisio'r egwyddor yr ydyn ni'n mynd ar ei thrywydd hefyd.

Felly, byddwn ni'n parhau i wneud hyn, ac rydyn ni'n credu bod y grŵp hwn yr ydyn ni'n ei sefydlu nawr, gyda chonsensws eang, er bod un blaid wleidyddol yn y Senedd yn dweud, 'Rydyn ni'n credu bod hyn yn wastraff amser'—. Rydyn ni'n credu bod hynny, ochr yn ochr â 22 awdurdod lleol, yn rhoi sail dda iawn nawr i ddweud, 'Gadewch i ni lunio'r achos hwn, fel ein bod ni'n barod.' Yna, gallwn ni ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Gweithiwch gyda ni nawr i wireddu hyn.' Rydyn ni'n sefyll yn gryf dros y safbwynt y dylen ni ddatganoli Ystad y Goron.

It is very disappointing that the Welsh Tories do not want the wealth of Wales to be shared among the people of Wales. It is rash of them—of anybody, in fact—to be in denial about the unanimous view of all 22 local authorities, who are there at the grass roots, listening to communities. We need to ensure that we are not repeating history. We all know what happened with Tryweryn, and the resentment that caused. And it isn't just our role in really leading the way on transforming our carbon-dominated energy system. In the future, we may well have such a change of climate that we're going to have to look again at the way in which we husband our most precious resource, which is water. So, I think it's really disappointing that the UK Government is ignoring the report they commissioned by Gordon Brown to advise on the future governance of the UK, where he clearly stated that there was no reason why any responsibilities devolved to Scotland should not be devolved to Wales.

So, how will this expert group go about changing the mindset of the UK Treasury, who are the principal opponents, that things cannot be effectively governed from Westminster and Whitehall, and that all the nations and regions of Britain need to be involved in delivering the services that our communities need within their own communities? 

Mae'n siomedig iawn nad yw'r Torïaid Cymreig eisiau rhannu cyfoeth Cymru ymhlith pobl Cymru. Mae'n fyrbwyll o'u rhan nhw—o ran unrhyw un, mewn gwirionedd—i fod yn gwadu barn unfrydol pob un o'r 22 awdurdod lleol, sydd yno ar lawr gwlad, yn gwrando ar gymunedau. Mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n ailadrodd hanes. Rydyn ni i gyd yn gwybod yr hyn a ddigwyddodd gyda Tryweryn, a'r drwgdeimlad yr achosodd. Ac nid ein rôl ni'n unig yw arwain y ffordd ar drawsnewid ein system ynni sy'n cael ei rheoli gan garbon. Yn y dyfodol, efallai y bydd gennym ni gymaint o newid hinsawdd fel y bydd yn rhaid i ni edrych eto ar y ffordd yr ydyn ni'n cynnal ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, sef dŵr. Felly, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu ganddyn nhw, gan Gordon Brown i gynghori ar lywodraethu y DU yn y dyfodol, lle dywedodd yn glir nad oedd unrhyw reswm pam na ddylai  unrhyw gyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i'r Alban gael eu datganoli i Gymru.

Felly, sut y bydd y grŵp arbenigol hwn yn mynd ati i newid meddylfryd Trysorlys y DU, sef y prif wrthwynebwyr, nad yw'n bosibl llywodraethu pethau'n effeithiol o San Steffan a Whitehall, a bod angen i holl genhedloedd a rhanbarthau Prydain fod yn rhan o'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymunedau yn eu cymunedau eu hunain? 

16:50

Thank you, Jenny. You're so right. I would invite, once again, our Conservative colleagues here to rethink this and to actually support, because the investment and the control that we could have of the resources here in Wales could benefit directly coastal communities, high streets, public services. And, again, I come back to the point: if it's good enough for Scotland, why isn't it good enough for Wales? 

You ask the absolute right question: what does this group now add to it? We've never been shy in coming forward and building the case for devolution over many, many years, both within this Senedd, but also in Government, and also within our party as well, and I think this is part of it. With broad consensus around this, including from local authorities to at least two, possibly three, I think, of the parties here within the Senedd, we now need to grind through the practical considerations for how the Crown Estate should be devolved by pulling together this group. And that builds the case then, including the invitation to UK Government—and we're having good engagement with them on this—on how they can contribute to this group, including engaging them within it, so that we get to the point where the argument for devolution of the Crown Estate is well grounded, well articulated and practical considerations have been taken on. We've worked through the issues of finance. We've worked through the issues of governance. We've worked out how we use this to boost our investment in renewables, boost our investment in nature conservation and so on. We've done all the hard work. And that gives us then the argument to say, 'Right, let's move now, we need to actually devolve.'

The other thing this group will look at, as I mentioned in my answer to Rhun, is, short of devolution, what can be done right here, right now. So, for example, we are very keen—and we're actively engaging with the UK Government on the role of this place and Welsh Government in the appointment of the commissioner. We feel that it should be equal. We should be equal in partnership in that, so at least the commissioner then, we have a role within that. It's not simply from Westminster and so on. But there are other aspects we can look at right here, right now about how we get more data, so we can see the full level of granulation of what the Crown Estate is delivering in Wales, and also how we engage further with the Crown Estate.

Although I have to say, just to reassure Janet once again, as the straw man is put up about derailing investment, we will continue full pelt at working with the Crown Estate, with the Celtic Freeport and with others to actually deliver that investment in renewables. We are doing exceptionally well, and we'll keep on doing that, as well as this.

Diolch, Jenny. Rydych chi yn llygad eich lle. Byddwn yn gwahodd, unwaith eto, ein cydweithwyr yn y blaid Geidwadol yma i ailystyried hyn ac i gefnogi mewn gwirionedd, oherwydd gallai'r buddsoddiad a'r rheolaeth y gallem ei gael o'r adnoddau yma yng Nghymru fod o fudd uniongyrchol i gymunedau arfordirol, strydoedd mawr, gwasanaethau cyhoeddus. Ac, unwaith eto, rwy'n ailadrodd: os yw'n ddigon da i'r Alban, pam nad yw'n ddigon da i Gymru?

Rydych chi'n gofyn y cwestiwn hollol gywir: beth mae'r grŵp hwn bellach yn ei ychwanegu ato? Nid ydym ni erioed wedi bod yn swil wrth ddod ymlaen a chyflwyno'r achos dros ddatganoli dros lawer iawn, iawn o flynyddoedd, yn y Senedd hon, ond hefyd yn y Llywodraeth, a hefyd o fewn ein plaid hefyd, ac rwy'n credu bod hyn yn rhan ohono. Gyda chonsensws eang ynglŷn â hyn, gan gynnwys gan awdurdodau lleol ac o leiaf ddwy, o bosibl tair, rwy'n credu, o'r pleidiau yma yn y Senedd, mae angen i ni nawr edrych ar yr ystyriaethau ymarferol o ran sut y dylid datganoli Ystad y Goron trwy gynnull y grŵp hwn at ei gilydd. Ac mae hynny'n dadlau'r achos felly, gan gynnwys y gwahoddiad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—ac rydym yn cynnal trafodaethau da â nhw ynghylch hyn—o ran sut y gallen nhw gyfrannu at y grŵp hwn, gan gynnwys eu cynnwys nhw ynddo, fel ein bod yn cyrraedd y pwynt lle mae'r ddadl dros ddatganoli Ystad y Goron ar sylfeini da, wedi'i mynegi'n dda ac ystyriaethau ymarferol wedi'u cloriannu. Rydym ni wedi gweithio trwy faterion cyllid. Rydym ni wedi gweithio trwy faterion llywodraethu. Rydym ni wedi dirnad sut rydym ni'n defnyddio hyn i roi hwb i'n buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, rhoi hwb i'n buddsoddiad mewn cadwraeth natur ac yn y blaen. Rydym ni wedi gwneud yr holl waith caled. Ac mae hynny'n ein galluogi ni i ddadlau a dweud, 'Iawn, gadewch i ni symud nawr, mae angen i ni ddatganoli mewn gwirionedd.'

Y peth arall y bydd y grŵp hwn yn edrych arno, fel y soniais yn fy ateb i Rhun, yw, heb ddatganoli, beth y gellir ei wneud yma, ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, rydym ni'n awyddus iawn—ac rydym ni'n trafod yn frwd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig rôl y fan yma a Llywodraeth Cymru wrth benodi'r comisiynydd. Rydym yn credu y dylai fod yn gyfartal. Fe ddylem ni fod yn bartneriaid cyfartal yn hynny, felly o leiaf y comisiynydd yna, mae gennym ni ran yn hynny. Nid yn nwylo San Steffan yn unig mae hynny ac yn y blaen. Ond mae yna agweddau eraill y gallwn ni edrych arnyn nhw yma, ar hyn o bryd ynglŷn â sut rydym ni'n cael mwy o ddata, fel y gallwn ni weld yn fawl iawn yr hyn y mae Ystad y Goron yn ei gyflawni yng Nghymru, a hefyd sut rydym ni'n ymgysylltu ymhellach ag Ystad y Goron.

Er bod yn rhaid i mi ddweud, dim ond i dawelu Janet unwaith eto, wrth gyflwyno'r ddadl ffug dros danseilio buddsoddiad, byddwn yn parhau i weithio gydag Ystad y Goron, gyda'r Porthladd Rhydd Celtaidd a gydag eraill i gyflawni'r buddsoddiad hwnnw mewn ynni adnewyddadwy mewn gwirionedd. Rydym ni'n gwneud yn eithriadol o dda, a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn ogystal â hyn.

In June, the Labour MP for Cardiff East, Jo Stevens, who happens to be the Secretary of State for Wales, told the UK Parliament, and I quote, 'Even if it'—the devolution of the Crown Estate—

'could be done without risking the revenues, that would not automatically lead to more money for the Welsh Government, because any revenues they retained would likely be offset through reductions to the block grant, as is the case in Scotland.' 

Was she right?

Ym mis Mehefin, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Caerdydd, Jo Stevens, sy'n digwydd bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Senedd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n dyfynnu, 'Hyd yn oed'—y gellid datganoli Ystad y Goron—

'heb beryglu'r refeniw, ni fyddai hynny'n arwain at fwy o arian i Lywodraeth Cymru yn awtomatig, oherwydd fe wneid iawn mae'n debyg am unrhyw refeniw a gedwid drwy leihau'r grant blog, fel a wneir yn yr Alban.'

Oedd hi'n iawn?

Mark, this is exactly why we've set up the group, to work through the financial, the governance and all other practical considerations. But I would say to you, Mark, the work that's been done in Scotland to analyse the economic benefits that have come to Scotland has shown compelling evidence of the benefits that have come to Scotland. We now need to do the same piece of work for Wales. That's what this is about. I would hope that you and the Conservative Party would welcome grinding out the evidence and engaging with it, rather than being oppositional to what, both in terms of the work of the group and the principle of people in Wales having control over the resources in Wales, would be something you would support. This is a devolved Senedd. We are a devolved Government. Why would you not support this in principle, as well as the practical work we are now going to carry out? 

Mark, dyma'n union pam rydym ni wedi sefydlu'r grŵp, i wyntyllu'r ystyriaethau ariannol, llywodraethu a phob ystyriaeth ymarferol arall. Ond byddwn i'n dweud wrthych chi, Mark, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yn yr Alban i ddadansoddi'r manteision economaidd sydd wedi dod i'r Alban wedi dangos tystiolaeth gadarn o'r manteision sydd wedi dod i'r Alban. Mae angen i ni nawr wneud yr un darn o waith i Gymru. Dyna beth yw hyn. Byddwn yn gobeithio y byddech chi a'r Blaid Geidwadol yn croesawu dadansoddi'r dystiolaeth ac ymgysylltu â hi, yn hytrach na bod yn wrthwynebus i'r hyn y byddech chi, o ran gwaith y grŵp a'r egwyddor o bobl yng Nghymru yn arddel rheolaeth dros yr adnoddau yng Nghymru, yn ei gefnogi. Mae hon yn Senedd ddatganoledig. Rydym ni'n Llywodraeth ddatganoledig. Pam na fyddech chi'n cefnogi hyn mewn egwyddor, yn ogystal â'r gwaith ymarferol rydym ni'n mynd i'w wneud nawr? 

16:55

I have to say, actually, the contribution by Janet Finch-Saunders sounded very similar to the answers that the First Minister gave to Rhun ap Iorwerth in FMQs around focusing too much on constitutional issues rather than the everyday problems. But I hope the First Minister was listening to the Deputy First Minister as he set out very clearly why constitutional issues are important to those everyday matters, especially when we consider the Crown Estate.

Now, turning to the statement, of course I support the establishment of this group, but I'm also not going to stand here and say that this is progress on the issue of devolving the Crown Estate. I think this is a standstill position at best, of course accepting that the report by the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales recommended this.

Looking through the statement, there’s a lot to agree with right at the start, right? I think there's a lot of common ground between me and the Deputy First Minister, but I think where this falls down is in those final few paragraphs of the statement, for example—Rhun ap Iorwerth picked up on it—

'We have discussed the panel with UK Government Ministers and they have committed to engage with the group'. 

That's not a commitment to devolve the Crown Estate, and right off the bat you're seeing where we can trip up here in terms of making that case to the Crown Estate. If the UK Government don't want it, well, it's simply not going to happen.

The other point:

'it is our hope that this report will provide that solid evidence base for this Senedd, for the UK Parliament and the people of Wales'.

I don't think we can stand here and seriously say that there's no evidence base for devolving the Crown Estate as things currently stand. Are you meaning to tell me that 22 local authorities voting in favour of devolving the Crown Estate did so based on a gut feeling? So, what I would be hoping is that the Deputy First Minister can provide some assurances that, when this work is undertaken, we're not going over the same old ground yet again.

And just one final point from me, Llywydd, and these stood out to me as massive red flags: the words 'technocratic' and 'realistic'. Because, in my view, 'technocratic' and 'realistic' are the enemy of ambition. And from sitting in this Chamber and listening to Government statements time and time again, often these words are associated with simply just tinkering around the edges. We've seen part of that with the commissioner for the Crown Estate being established, and that being waved around as some massive victory. But what assurances can the Deputy First Minister give us now that this isn't simply going to be an exercise in technocratic experience and realistic proposals? And what assurances can he give me—? Or how, actually, can he reconcile the ambition that he set out at the start of his statement with those words, which completely undermine that ambition, in my view?

Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn gwirionedd, bod cyfraniad Janet Finch-Saunders yn swnio'n debyg iawn i'r atebion a roddodd Prif Weinidog Cymru i Rhun ap Iorwerth yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â chanolbwyntio gormod ar faterion cyfansoddiadol yn hytrach na'r problemau bob dydd. Ond rwy'n gobeithio bod y Prif Weinidog yn gwrando ar y Dirprwy Brif Weinidog wrth iddo nodi'n glir iawn pam mae materion cyfansoddiadol yn bwysig i'r materion bob dydd hynny, yn enwedig pan ystyriwn ni Ystad y Goron.

Nawr, gan droi at y datganiad, wrth gwrs rwy'n cefnogi sefydlu'r grŵp hwn, ond nid wyf ychwaith yn mynd i sefyll yma a dweud bod hyn yn gynnydd ar y mater o ddatganoli Ystad y Goron. Rwy'n credu bod hon yn sefyllfa ddisymud ar y gorau, wrth gwrs gan dderbyn bod adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn argymell hyn.

Wrth edrych trwy'r datganiad, mae yna lawer i gytuno ag ef ar y dechrau, onid oes? Rwy'n credu bod cryn gytundeb rhyngof i a'r Dirprwy Brif Weinidog, ond rwy'n credu bod y gwendid i'w weld yn yr ychydig baragraffau olaf hynny o'r datganiad, er enghraifft—tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw ato—

'Rydym ni wedi trafod y panel gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac maen nhw wedi ymrwymo i ymgysylltu â'r grŵp'.

Nid yw hynny'n ymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron, ac yn syth wedyn rydych chi'n gweld lle gallwn ni faglu yma o ran dadlau hynny i Ystad y Goron. Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau hynny, wel, nid yw'n mynd i ddigwydd.

Y pwynt arall:

'ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi'r sylfaen dystiolaeth gadarn honno ar gyfer y Senedd hon, ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig a phobl Cymru'.

Nid wyf yn credu y gallwn ni sefyll yma a dweud o ddifrif nad oes unrhyw sail dystiolaeth dros ddatganoli Ystad y Goron fel y mae pethau ar hyn o bryd. Ydych chi'n bwriadu dweud wrthyf fod 22 awdurdod lleol a bleidleisiodd o blaid datganoli Ystad y Goron wedi gwneud hynny ar sail greddf? Felly, yr hyn y byddwn yn gobeithio yw y gall y Dirprwy Brif Weinidog roi peth sicrwydd yn ei gylch nad ydym ni'n dal yn rhygnu ar yr un hen dant.

Ac un pwynt olaf gennyf i, Llywydd, ac fe amlygodd y rhain eu hunain fel pethau i ochelyd rhagddyn nhw: y geiriau 'technocrataidd' a 'realistig'. Oherwydd, yn fy marn i, 'technocrataidd' a 'realistig' yw gelyn uchelgais. Ac o eistedd yn y Siambr hon a gwrando ar ddatganiadau'r Llywodraeth dro ar ôl tro, yn aml mae'r geiriau hyn yn gysylltiedig â dim ond ffwdanu. Rydym ni wedi gweld elfen o hynny gyda'r comisiynydd ar gyfer Ystad y Goron yn cael ei sefydlu, a hynny'n cael ei frolio fel rhyw fuddugoliaeth enfawr. Ond pa sicrwydd y gall y Dirprwy Brif Weinidog ei roi i ni nawr nad yw hyn yn mynd i fod yn ymarfer profiad technocrataidd a chynigion realistig? A pha sicrwydd y gall ei roi i mi—? Neu sut, mewn gwirionedd, y gall gysoni'r uchelgais a osododd ar ddechrau ei ddatganiad â'r geiriau hynny, sy'n tanseilio'r uchelgais hwnnw yn llwyr, yn fy marn i?

Listen, don't pull one word out of a statement and make that the enemy of the overall good here. You need some people with good technocratic understanding to make this thing work, but I also stress finance, legal, governance and a range of other constitutional experts as well. Also, it's important to note that we're not doing this into the long, long grass of the distance. We are hoping that we will have an interim report from this group in the early spring of next year, okay? So, before we go into elections, we want to see some results coming forward.

And you are right: there is evidence out there already. But what we're setting this group up to do—. It's based on, by the way, exactly as you said, the recommendation back in early 2024 of the independent constitutional group, which was to set this expert group up, and that is exactly what we're doing. And we are committing them to grind through the detail, work with what's there already, but engage with others. And I would put this challenge out. For those who would say there is no benefit in devolving the Crown Estate, let them put forward their arguments and their evidence and let them put forward their data. Because what we know about Scotland is that it works. What we know about other countries where they've set up similar models and set up things like sovereign wealth funds based on it, we've seen the compelling evidence for how that works and the investment that can lead to.

So, I say this not in an adversarial way, but if there are others who feel that it's not worth the candle to do this, let them put forward the arguments and the evidence, because we believe that the case is there, strong already, but we want this group now to bring forward its clear findings on the case for devolution. And also what we can do even short of devolution, right here right now, to make a stronger case for the way that we work with the Crown Estate. And as I say, our steer to the group will be that we would like to see something in the early spring as an interim report, not the final one.

Gwrandewch, peidiwch â thynnu un gair allan o ddatganiad a gwneud hynny'n elyn i'r da cyffredinol yma. Mae angen rhai pobl sydd â dealltwriaeth technocrataidd dda i wneud i'r peth hwn weithio, ond rwy'n pwysleisio cyllid, cyfreithiol, llywodraethu ac amrywiaeth o arbenigwyr cyfansoddiadol eraill hefyd. Hefyd, mae'n bwysig nodi nad ydym ni'n gwthio hyn ymhell bell i'r dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd gennym ni adroddiad dros dro gan y grŵp hwn yn gynnar yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, iawn? Felly, cyn i ni gael yr etholiadau, mae arnom ni eisiau gweld rhai canlyniadau.

Ac rydych chi'n iawn: mae tystiolaeth yn bod eisoes. Ond beth rydym ni'n sefydlu'r grŵp hwn i'w wneud—. Mae'n seiliedig ar, gyda llaw, yn union fel y dywedoch chi, argymhelliad y grŵp cyfansoddiadol annibynnol yn ôl yn gynnar yn 2024, sef sefydlu'r grŵp arbenigol hwn, a dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Ac rydym ni'n eu hymrwymo i wyntyllu'r manylion, gweithio gyda'r hyn sydd yno eisoes, ond ymgysylltu ag eraill. A byddwn i'n rhoi'r her hon. I'r rhai a fyddai'n dweud nad oes unrhyw fudd mewn datganoli Ystad y Goron, boed iddyn nhw gyflwyno eu dadleuon a'u tystiolaeth a boed iddyn nhw gyflwyno eu data. Oherwydd yr hyn rydym ni'n ei wybod am yr Alban yw ei fod yn gweithio. Yr hyn rydym ni'n ei wybod am wledydd eraill lle maen nhw wedi sefydlu modelau tebyg ac wedi sefydlu pethau fel cronfeydd cyfoeth sofran yn seiliedig ar hynny, rydym ni wedi gweld y dystiolaeth gymhellol ar gyfer sut mae hynny'n gweithio a'r buddsoddiad a all arwain ato.

Felly, rwy'n dweud hyn nid mewn ffordd wrthwynebus, ond os oes eraill sy'n teimlo nad yw'n werth gwneud hyn, boed iddyn nhw gyflwyno'r dadleuon a'r dystiolaeth, oherwydd rydym ni'n credu fod yna ddadl, un gref eisoes, ond mae arnom ni eisiau i'r grŵp hwn nawr gyflwyno ei ganfyddiadau clir ar yr achos dros ddatganoli. A hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud hyd yn oed heb ddatganoli, yma ar hyn o bryd, i gyflwyno dadl gryfach dros y ffordd rydym ni'n gweithio gydag Ystad y Goron. Ac fel y dywedais i, ein canllaw i'r grŵp fydd y byddwn yn hoffi gweld rhywbeth yn gynnar yn y gwanwyn fel adroddiad dros dro, nid yr un terfynol.

17:00

Dirprwy Brif Weinidog, I've no doubt that you and others in the Welsh Government are pressing the case for the devolution of the Crown Estate. But as we've heard from quotes earlier this year, the UK Government isn't listening. 'No commercial sense' is as much of a resounding 'no' as you can get. You and any future Welsh Government have a lot of persuading to do. There are very strong arguments to devolve the Crown Estate, but I can't see at the moment what can happen to shift the view of the UK Government.

Certainly, an expert panel is not going to shift the view of the UK Government, because we've been here before. The UK Government engaged with the Commission on Justice in Wales report. That was an expert panel report on the devolution of justice, a strong argument in favour of devolution of justice. What did the UK Government do after it reported? Nothing. No real engagement at all afterwards.

Professor Roger Scully told me once that commissioning reports is a national sport in Wales. What we don't need in Wales is another expert report gathering dust, and that is my concern. You mentioned that you will have some views in the spring of next year. When will that work take place? Because, of course, we might have some very loud voices in the Senedd after next May who oppose any further devolution at all. Quite frankly, they want to reverse devolution. Diolch.

Dirprwy Brif Weinidog, does gen i ddim amheuaeth eich bod chi ac eraill yn Llywodraeth Cymru yn dadlau'r achos dros ddatganoli Ystad y Goron. Ond fel rydym ni wedi clywed o ddyfyniadau yn gynharach eleni, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando. Mae 'dim synnwyr masnachol' yn gymaint o 'na' syfrdanol ag y gallwch ei gael. Mae gennych chi ac unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol lawer o berswadio i'w wneud. Mae yna ddadleuon cryf iawn i ddatganoli Ystad y Goron, ond ni allaf weld ar hyn o bryd beth all ddigwydd i newid barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn sicr, nid yw panel arbenigol yn mynd i newid barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd rydym ni wedi bod yma o'r blaen. Ymgysylltodd Llywodraeth y DU ag adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Adroddiad panel arbenigol ar ddatganoli cyfiawnder oedd hwnnw, dadl gref o blaid datganoli cyfiawnder. Beth wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddi adrodd? Dim. Dim ymgysylltiad go iawn o gwbl wedyn.

Dywedodd yr Athro Roger Scully wrthyf unwaith fod comisiynu adroddiadau yn gamp genedlaethol yng Nghymru. Yr hyn nad oes ei angen arnom ni yng Nghymru yw adroddiad arbenigol arall sy'n casglu llwch, a dyna fy mhryder. Fe wnaethoch chi sôn y bydd gennych chi rai sylwadau yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf. Pryd fydd y gwaith hwnnw'n digwydd? Oherwydd, wrth gwrs, efallai y bydd gennym ni rai lleisiau uchel iawn yn y Senedd ar ôl mis Mai nesaf sy'n gwrthwynebu unrhyw ddatganoli pellach o gwbl. I fod yn gwbl onest, maen nhw eisiau gwrthdroi datganoli. Diolch.

Thank you very much for that. The history of this institution and successive Government of Wales Acts is that every step along the way we've had to make a compelling case, and we have not stood still in doing that. We build the evidence, we bring the people together and we bang at those doors until they are knocked down or knocked open. That is part of this. Just to say, this is not a Welsh Government deciding we will do this out of the blue sky. This was a direct recommendation of that independent constitutional commission. We accepted all of the recommendations. This is the one we are now putting into place and we want to proceed with that work.

You are right, we've got a job of work to persuade the UK Government, but that's exactly what we are doing. We build the case, we build it compellingly, and we have succeeded before where we have had devolution. We are very engaged in a different area at the moment on that very aspect of devolution of justice, not least around probation and youth justice. We have constructive engagement going on. Myself, Jane Hutt, Julie Morgan, Mark Drakeford and others are all pushing the case there, and we have good engagement going on. That is how we do it. We engage, we do the hard graft, in order to actually persuade people, and that's what this is all about. I sense some scepticism, but devolution was never easily won.

Diolch yn fawr iawn am hynny. Hanes y sefydliad hwn a Deddfau Llywodraeth Cymru olynol yw y bu'n rhaid i ni ddadlau'n daer bob cam o'r ffordd, ac nid ydym ni wedi sefyll yn llonydd wrth wneud hynny. Rydym ni'n cywain y dystiolaeth, rydym ni'n dod â'r bobl at ei gilydd ac rydym ni'n curo at y drysau hynny nes eu bod yn cael eu taro i lawr neu eu hagor. Mae hynny'n rhan o hyn. Dim ond i ddweud, nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu y byddwn yn gwneud hyn o ddim. Roedd hwn yn argymhelliad uniongyrchol o'r comisiwn cyfansoddiadol annibynnol hwnnw. Fe wnaethom ni dderbyn yr holl argymhellion. Dyma'r un rydym ni'n ei roi ar waith nawr ac rydym ni eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.

Rydych chi'n iawn, mae gennym ni waith i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n datblygu'r ddadl, rydym ni'n ei datblygu mewn modd perswadiol, ac rydym ni wedi llwyddo o'r blaen lle rydym ni wedi llwyddo i gael datganoli. Rydym ni'n ymwneud yn fawr â maes gwahanol ar hyn o bryd ar yr union agwedd honno ar ddatganoli cyfiawnder, yn enwedig o ran y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Mae trafodaethau adeiladol ar y gweill. Rydw i, Jane Hutt, Julie Morgan, Mark Drakeford ac eraill i gyd yn dadlau'r achos yn y fan yna, ac mae trafodaethau da ar y gweill. Dyna sut rydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n trafod, rydyn ni'n gwneud y gwaith caled, er mwyn perswadio pobl mewn gwirionedd, a dyna beth yw hyn i gyd. Rwy'n teimlo rhywfaint o amheuaeth, ond nid oedd datganoli erioed yn hawdd ei ennill.

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. 

I thank the Deputy First Minister. 

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Ap GIG Cymru
6. Statement by the Minister for Mental Health and Wellbeing: The NHS Wales App

Eitem 6 fydd yr eitem nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ap y gwasanaeth iechyd. Sarah Murphy sy'n gwneud y datganiad yma.  

Item 6 is the next item, and it's a statement by the Minister for Mental Health and Well-being on the NHS Wales app. Sarah Murphy will be making that statement.

Diolch, Llywydd. I am very pleased to bring this statement to Plenary today to talk more about the development of one, perhaps, of the most significant digital innovations in Wales from the public's point of view—the NHS Wales app. This isn't just an app that allows us to check a few basic facts and figures about health services, or our own health data. This is a useful and powerful platform with a huge potential to change the way we all use and interact with our health service. It represents a fundamental shift in how we empower people to engage with their healthcare and health services. It is perfectly placed to evolve into the digital front door of the NHS, capable of directing us to the right service for our needs. That is the vision for the near future and the ongoing development of the NHS Wales app.

Since its beta launch in April 2023, the NHS Wales app has been downloaded by more than 0.5 million people. That's equivalent to one in five adults in Wales having the app on their phone in their pocket. And its use is steadily growing, with more than 9 million log-ins, 2.3 million repeat prescriptions ordered through the app, and 2,000 people have completed their organ donation registration on the app, too. Feedback from users and healthcare professionals about the app has been overwhelmingly positive. This is a clear signal people are ready and willing to embrace digital health services.

The NHS Wales app is available to everyone who is 16 and over and registered with a GP in Wales. Thanks to the development of the Welsh identity verification service, even those who do not have a photo ID can access it, ensuring that no-one is left behind. The current version of the app enables people to order repeat prescriptions, book some primary care appointments, view health records, send secure messages, manage organ donation choices, and access trusted NHS services, from 111 to screening.

This is the result of concerted collaboration across the Welsh Government, NHS Wales, Digital Health and Care Wales, and our delivery partners. Every GP practice is now on board, and we’re working closely with clinicians, digital teams and patient groups to ensure the NHS Wales app reflects the realities of front-line care. But we know that adoption alone isn’t enough. We are learning from NHS England’s experience: adopting what works, avoiding what doesn’t, and ensuring our approach is inclusive and sustainable.

The next challenge lies in delivering functionality that is consistent, equitable and meaningful across Wales. We have delivered the first phase of services in the app, and there is more to do to deliver increased functionality and to realise the full potential of the app. We will do this by working with all of our partners with transparency, urgency, and a relentless focus on delivery.

The next set of updates coming this autumn will build on the successful pilot in the Hywel Dda University Health Board area, which has enabled information about waiting lists for general surgery and appointment messages to be shared via the app. Other features like proxy access for carers, nominating a pharmacy for your prescriptions, waiting list status and hospital appointment tracking across all health boards are either already available or in the advanced stages of roll-out.

On the road map for roll-out in spring 2026 are test results, the ability for people to feed back their own experience of care—what the NHS calls 'patient-reported outcomes'—and an 'about me' feature that addresses the most important information people want to share with professionals in health and social care, in any situation. Allowing people to record the information they want to share that is essential to their direct care needs is at the heart of their care and well-being and gives them more control over their healthcare.

These are all positive developments, but I do want to be clear: the development of the NHS Wales app doesn’t just depend on updating the technology that underpins the app. The app is part of a wider and complex health and social care system. Its updates often depend on streamlining processes and improving data integrity elsewhere in the NHS, to ensure that seamless patient experience. If we are to realise its full potential as the digital front door to the NHS, people do need to have that trust in the app and see the benefits from its use.

Llywydd, as we look forward, our priorities for the NHS app include  expanding secondary care features, including making all waiting lists visible so all appointments can be managed, and integrating commercial platforms such as the Swansea Bay patient portal to improve that interoperability, but only where it adds value. The NHS app in England has made significant strides, and it now supports appointment management across 102 acute trusts and six specialist trusts; prescriptions tracking with expanded pharmacy integration; messaging via third-party platforms; and GP record access. This is impressive, but this isn’t a race between two countries; this is an opportunity for us to learn from one another.

Our ambition is to match the functionality of the English app and then to go further. We are building an app that is bilingual by design, reflecting our national identity; equitable to access, with inclusive verification and proxy features; and integrated across systems, including commercial platforms. We want the NHS Wales app to become the digital front door to health and care services in Wales. This means consistent service across all primary and secondary care, and continued investment in features that matter most to people. This is a national commitment to improve access, equity, and, ultimately, outcomes. Our success hinges on that collaboration, transparency, and an unwavering focus on delivery, so that together we can transform healthcare for all. Diolch.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o ddod â'r datganiad hwn i'r Cyfarfod Llawn heddiw i siarad mwy am ddatblygiad un, efallai, o'r arloesiadau digidol mwyaf arwyddocaol yng Nghymru o safbwynt y cyhoedd—ap GIG Cymru. Nid ap yn unig yw hwn sy'n caniatáu inni wirio ychydig o ffeithiau a ffigurau sylfaenol am wasanaethau iechyd, neu ein data iechyd ein hunain. Mae hwn yn blatfform defnyddiol a phwerus gyda photensial enfawr i newid y ffordd rydym ni i gyd yn defnyddio ac yn rhyngweithio â'n gwasanaeth iechyd. Mae'n newid sylfaenol yn y ffordd rydym ni'n grymuso pobl i ymwneud â'u gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd. Mae mewn sefyllfa berffaith i esblygu i fod yn ddrws ffrynt digidol y GIG, sy'n gallu ein cyfeirio at y gwasanaeth cywir ar gyfer ein hanghenion. Dyna'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol agos a datblygiad parhaus ap GIG Cymru.

Ers lansio'r fersiwn beta ym mis Ebrill 2023, mae ap GIG Cymru wedi cael ei lawrlwytho gan fwy na 0.5 miliwn o bobl. Mae hynny'n cyfateb i un o bob pum oedolyn yng Nghymru sydd â'r ap ar eu ffôn yn eu poced. Ac mae ei ddefnydd yn tyfu'n gyson, gyda mwy na 9 miliwn yn mewngofnodi, 2.3 miliwn o bresgripsiynau rheolaidd wedi'u harchebu trwy'r ap, ac mae 2,000 o bobl wedi cwblhau eu cofrestriad rhoi organau ar yr ap hefyd. Mae adborth gan ddefnyddwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am yr ap wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae hyn yn arwydd clir bod pobl yn fodlon ac yn barod i gofleidio gwasanaethau iechyd digidol.

Mae ap GIG Cymru ar gael i bawb sy'n 16 oed a throsodd ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Diolch i ddatblygiad gwasanaeth gwirio hunaniaeth Cymru, gall hyd yn oed y rhai nad oes ganddyn nhw brawf adnabod â llun gael mynediad ato, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae'r fersiwn gyfredol o'r ap yn galluogi pobl i archebu presgripsiynau rheolaidd, archebu rhai apwyntiadau gofal sylfaenol, gweld cofnodion iechyd, anfon negeseuon diogel, rheoli dewisiadau rhoi organau, a chael mynediad at wasanaethau dibynadwy y GIG, o 111 i sgrinio.

Mae hyn yn ganlyniad cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a'n partneriaid cyflenwi. Mae pob meddygfa bellach yn rhan o'r cynllun, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda chlinigwyr, timau digidol a grwpiau cleifion i sicrhau bod ap GIG Cymru yn adlewyrchu realiti gofal rheng flaen. Ond fe wyddom ni nad yw mabwysiadu hyn ar ei ben ei hun yn ddigon. Rydym ni'n dysgu o brofiad GIG Lloegr: mabwysiadu'r hyn sy'n gweithio, osgoi'r hyn nad yw'n gweithio, a sicrhau bod ein dull yn gynhwysol ac yn gynaliadwy.

Yr her nesaf yw darparu rhywbeth ymarferol sy'n gyson, yn deg ac yn ystyrlon ledled Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno'r cam cyntaf o wasanaethau yn yr ap, ac mae mwy i'w wneud i wneud yr ap yn fwy ymarferol ac i wireddu ei botensial llawn. Byddwn yn gwneud hyn trwy weithio gyda'n holl bartneriaid gyda thryloywder, brys, a phwyslais di-baid ar gyflawni.

Bydd y gyfres nesaf o ddiweddariadau sy'n dod yr hydref hwn yn adeiladu ar y cynllun peilot llwyddiannus yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd wedi galluogi rhannu gwybodaeth am restrau aros ar gyfer llawfeddygaeth gyffredinol a negeseuon apwyntiadau drwy'r ap. Mae nodweddion eraill fel mynediad dirprwy i ofalwyr, enwebu fferyllfa ar gyfer eich presgripsiynau, statws rhestr aros ac olrhain apwyntiadau ysbyty ar draws pob bwrdd iechyd naill ai eisoes ar gael neu yn wrthi'n cael eu cyflwyno.

Ar y gweill i'w cyflwyno yng ngwanwyn 2026 mae canlyniadau profion, y gallu i bobl grybwyll eu profiad eu hunain o ofal—yr hyn y mae'r GIG yn ei alw'n 'ganlyniadau a adroddir gan gleifion'—a nodwedd 'amdanaf i' sy'n mynd i'r afael â'r wybodaeth bwysicaf y mae pobl eisiau ei rhannu gyda gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mewn unrhyw sefyllfa. Mae caniatáu i bobl gofnodi'r wybodaeth maen nhw am ei rhannu sy'n hanfodol i'w hanghenion gofal uniongyrchol wrth wraidd eu gofal a'u lles ac yn rhoi mwy o reolaeth iddyn nhw dros eu gofal iechyd.

Mae'r rhain i gyd yn ddatblygiadau cadarnhaol, ond fe hoffwn i fod yn glir: nid yw datblygiad ap GIG Cymru yn dibynnu ar ddim ond diweddaru'r dechnoleg sy'n sail i'r ap. Mae'r ap yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach a chymhleth. Mae'r diweddaru yn aml yn dibynnu ar symleiddio prosesau a gwella uniondeb data mewn mannau eraill yn y GIG, er mwyn sicrhau'r profiad di-dor hwnnw i gleifion. Os ydym ni am wireddu ei lawn botensial fel drws ffrynt digidol i'r GIG, mae angen i bobl gael yr ymddiriedaeth honno yn yr ap a gweld y manteision o'i ddefnydd.

Llywydd, wrth i ni edrych ymlaen, mae ein blaenoriaethau ar gyfer ap y GIG yn cynnwys  ehangu nodweddion gofal eilaidd, gan gynnwys gwneud yr holl restrau aros yn weladwy fel y gellir rheoli pob apwyntiad, ac integreiddio llwyfannau masnachol fel porth cleifion Bae Abertawe i wella'r agwedd ryngweithiol honno, ond dim ond lle mae'n ychwanegu gwerth. Mae ap y GIG yn Lloegr wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac mae bellach yn cefnogi rheoli apwyntiadau ar draws 102 o ymddiriedolaethau acíwt a chwe ymddiriedolaeth arbenigol; olrhain presgripsiynau gydag integreiddio fferylliaeth estynedig; negeseuon trwy lwyfannau trydydd parti; a mynediad i gofnodion meddygon teulu. Mae hyn yn drawiadol, ond nid ras rhwng dwy wlad yw hon; mae hwn yn gyfle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Ein huchelgais yw cyd-fynd ag ymarferoldeb yr ap yn Lloegr ac yna mynd ymhellach. Rydym ni'n creu ap sy'n ddwyieithog yn ôl ei ddyluniad, sy'n adlewyrchu ein hunaniaeth genedlaethol; yr un mor hawdd i bawb ei ddefnyddio, gyda nodweddion dilysu a dirprwy cynhwysol; ac wedi'i integreiddio ar draws systemau, gan gynnwys llwyfannau masnachol. Mae arnom ni eisiau i ap GIG Cymru ddod yn ddrws ffrynt digidol i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae hyn yn golygu gwasanaeth cyson ar draws pob agwedd ar ofal sylfaenol ac eilaidd, a buddsoddiad parhaus mewn nodweddion sy'n bwysicaf i bobl. Mae hwn yn ymrwymiad cenedlaethol i wella mynediad, tegwch, ac, yn y pen draw, canlyniadau. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y cydweithrediad hwnnw, tryloywder, a phwyslais diwyro ar ddarparu, fel y gallwn ni gyda'n gilydd drawsnewid gofal iechyd i bawb. Diolch.

17:05

Innovations in digital access to healthcare have been a proven transformation around the world. They've improved how patients interact with health services, make care more responsive, and empower people to take more control over their health. So, I'm very pleased to see this app coming forward. Here in the United Kingdom, though, it was the Conservative UK Government that recognised this potential early on. Under the leadership of the then health Secretary, Jeremy Hunt, he laid out eight clear challenges to ensure that the NHS app in England would meet the real needs of its users. It's something that I'm proud of, and I'm sure Janet Finch-Saunders, who's next to me, and others, are proud of, because it's set in motion a genuinely patient-led approach to digital healthcare.

This is why my Welsh Conservative colleagues and I do find the Welsh Labour Government's handling of the NHS Wales app so frustrating, and frankly sometimes disappointing. When the NHS Wales app launched a beta version in April 2023, the NHS app in England had already been available at that level for nearly nine years. And while Ministers now talk optimistically about the digital front door to the NHS, patients across Wales are still unable to do basic things like check their hospital appointment dates, see their place on a waiting list, or receive their test results. English patients already take this for granted, so we need to move faster in that space. I'd like to know from you, Minister, when those things are going to become available.

You did point to the pilot project in Hywel Dda University Health Board, and promised that the national roll-out of this is on the way. But what does that mean for patients today? I think it means that some can see their GP appointments, while others can't. It means that some can nominate a pharmacy, while others are stuck on those paper repeat slips, which is something we need to get away from. And it does mean that if you live in one health board, you might receive test results electronically, but if you're in a neighbouring one, in the next county, you'll receive them via the post. I don't think that's equity; that's a postcode lottery, and we need to remove that element across Wales.

I'd like to hear a bit more from you on that, about the delivery deadlines and when they're going to be met, because we need to make sure that if they're not met, the health boards are held accountable for not providing the data. You did mention that this does rely on good data, that digital transformation does need joined-up system and service reform, but that all requires the health boards to give them to you. So, I would just be interested to hear how you're holding them accountable to make sure this is being delivered.

I do welcome the introduction of the Welsh identity verification service, which allows the user to do it without photo ID. I think that's really positive. They might have to have photo ID in the future if Keir Starmer has his way, but we'll see. But the real question is how are we making sure that the app is truly inclusive for older people as well, and people who live in those rural areas with poor connectivities, for carers and patients who need the support managing their care digitally.

Something I'd like to know, Minister, is how is the app going to interact with the app in England. If you live in my constituency, and I'm sure Russell George's constituency and a few others, people access their healthcare both sides of the border. I don't want to see a situation where I or others have to download the NHS Wales app and the NHS app for England. It would be far better if you could see it all in one app, in one place, because people who are not perhaps as digitally savvy as some of us are in this Chamber might not be able to manage that. So, I think a bit more information around that would be really useful.

Minister, I'm pleased we're seeing this step. Digital transformation in the NHS is definitely needed. We've had statements from the Cabinet Secretary. But we need to do this faster. We need to go a lot quicker, as I said, because if we are going to improve outcomes for people across the country and we are going to actually drive efficiencies in the system, which we need to see, we need to make sure that digital is at the heart of this. So, any updates on the questions that I've posed to you would be very useful. Diolch, Llywydd.

Mae arloesi mewn mynediad digidol i ofal iechyd wedi bod yn drawsnewidiad a brofwyd ledled y byd. Mae wedi gwella sut mae cleifion yn rhyngweithio â gwasanaethau iechyd, gwneud gofal yn fwy ymatebol, ac yn grymuso pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd. Felly, rwy'n falch iawn o weld cyflwyno'r ap yma. Yma yn y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wnaeth gydnabod y potensial hwn yn gynnar. O dan arweinyddiaeth yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, Jeremy Hunt, amlinellodd wyth her glir i sicrhau y byddai'r ap GIG yn Lloegr yn diwallu gwir anghenion ei ddefnyddwyr. Mae'n rhywbeth rydw i'n falch ohono, ac rwy'n siŵr bod Janet Finch-Saunders, sydd wrth fy ymyl i, ac eraill, yn falch ohono, oherwydd ei fod wedi sefydlu dull o ofal iechyd digidol sy'n wirioneddol dan arweiniad cleifion.

Dyma pam mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau yn gweld y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymdrin ag ap GIG Cymru mor rhwystredig, ac weithiau'n siomedig i fod yn onest. Pan lansiodd ap GIG Cymru fersiwn beta ym mis Ebrill 2023, roedd ap y GIG yn Lloegr eisoes ar gael ar y lefel honno ers bron i naw mlynedd. Ac er bod Gweinidogion bellach yn siarad yn gadarnhaol am ddrws ffrynt digidol y GIG, mae cleifion ledled Cymru yn dal yn methu â gwneud pethau sylfaenol fel gwirio dyddiadau eu hapwyntiadau ysbyty, gweld eu lle ar restr aros, neu dderbyn canlyniadau eu profion. Mae cleifion Lloegr eisoes yn cymryd hyn yn ganiataol, felly mae angen i ni symud yn gyflymach yn hynny o beth. Fe hoffwn i wybod gennych chi, Gweinidog, pryd fydd y pethau hynny ar gael.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y prosiect peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac addo bod cyflwyniad cenedlaethol o hyn ar y ffordd. Ond beth mae hynny'n ei olygu i gleifion heddiw? Rwy'n credu ei fod yn golygu bod rhai yn gallu gweld eu hapwyntiadau meddyg teulu, tra nad yw eraill yn gallu. Mae'n golygu y gall rhai enwebu fferyllfa, tra bod eraill yn sownd yn defnyddio'r slipiau papur, sy'n rhywbeth y mae angen i ni gefnu arno. Ac mae'n golygu, os ydych chi'n byw mewn un bwrdd iechyd, efallai y byddwch chi'n derbyn canlyniadau profion yn electronig, ond os ydych chi mewn un cyfagos, yn y sir nesaf, byddwch chi'n eu derbyn drwy'r post. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n deg; mae hynny'n loteri cod post, ac mae angen i ni ddileu'r elfen honno ledled Cymru.

Fe hoffwn i glywed ychydig mwy gennych chi am hynny, am yr amserlen cyflwyno a phryd y byddant yn cael eu bodloni, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr, os nad ydynt yn cael eu bodloni, mae'r byrddau iechyd yn cael eu dal yn atebol am beidio â darparu'r data. Fe wnaethoch chi sôn bod hyn yn dibynnu ar ddata da, bod angen diwygio systemau a gwasanaethau ar y cyd, ond er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid i'r byrddau iechyd eu rhoi i chi. Felly, byddai gen i ddiddordeb clywed sut rydych chi'n eu dal yn atebol i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gyflawni.

Rwy'n croesawu cyflwyno'r gwasanaeth gwirio hunaniaeth yng Nghymru, sy'n caniatáu i'r defnyddiwr wneud hynny heb ddogfen adnabod â llun. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gael dogfen gyda llun yn y dyfodol os gaiff Keir Starmer ei ffordd, ond fe gawn ni weld. Ond y cwestiwn gwirioneddol yw sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod yr ap yn wirioneddol gynhwysol i bobl hŷn hefyd, a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd gwledig hynny sydd â chysylltiadau gwael, i ofalwyr a chleifion sydd angen y cymorth i reoli eu gofal yn ddigidol.

Rhywbeth yr hoffwn i ei wybod, Gweinidog, yw sut mae'r ap yn mynd i ryngweithio â'r ap yn Lloegr. Os ydych chi'n byw yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr yn etholaeth Russell George ac ychydig o rai eraill, mae pobl yn cael mynediad i'w gofal iechyd ar ddwy ochr y ffin. Dydw i ddim eisiau gweld sefyllfa lle mae'n rhaid i mi neu eraill lawrlwytho ap GIG Cymru ac ap y GIG ar gyfer Lloegr. Byddai'n llawer gwell pe gallech chi weld y cyfan mewn un ap, mewn un lle, oherwydd efallai na fydd pobl sydd efallai mor hyddysg yn ddigidol â rhai ohonom ni yn y Siambr hon yn gallu rheoli hynny. Felly, rwy'n credu y byddai ychydig mwy o wybodaeth am hynny yn ddefnyddiol iawn.

Gweinidog, rwy'n falch ein bod ni'n gweld y cam hwn. Mae angen trawsnewid digidol yn y GIG yn bendant. Rydym ni wedi cael datganiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond mae angen i ni wneud hyn yn gyflymach. Mae angen i ni fynd yn llawer cyflymach, fel y dywedais i, oherwydd os ydym ni'n mynd i wella canlyniadau i bobl ledled y wlad ac rydym ni'n mynd i wneud y system yn fwy effeithlon mewn difri, y mae angen i ni ei weld, mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr elfen ddigidol wrth wraidd hyn. Felly, byddai unrhyw ddiweddariadau ar y cwestiynau rydw i wedi'u gofyn i chi yn ddefnyddiol iawn. Diolch, Llywydd.

17:10

Thank you so much, James Evans. I share your enthusiasm about the incredible difference that this can make and the future potential. As I mentioned, already you've got the NHS England app announcing more that they're going to do going forward. And of course, the code for the NHS England app was given to Wales for us to be able to base the app on that. But as I said, we are committed to then providing a bilingual app. Also, it is more inclusive in terms of people can go in and show their paper ID and they can make sure that they can access it, regardless of if they have digital ID or not.

When I came into this role about a year ago, that was actually something that we were a little bit stuck over. In order to break through that and try and find the most equitable way, we did have the programme through the patient and public assurance group, and they actively collaborated with a wide range of groups. This comes to your question about how we're ensuring that we're getting the patient voice and feedback from everyone. That included RNIB, RNID, Age Cymru, Macmillan, Mind, Diverse Cymru, Carers Trust, and many, many others—disability groups, for example, voluntary groups—to make sure that we were doing what they needed and that they asked us to do. This was actually a big part of it. These groups have been central to shaping the app's accessibility and usability. Again, I feel like that's showing a Welsh way that we do things through the NHS Wales app.

One of the other key things that the Cabinet Secretary for Health and Social Care, the Minister for social care and I have done, because it's definitely a huge collaboration here, is that we've absolutely worked together to ensure that we have the right governance in place. So, you were asking then about how do we make sure that this is going to be delivered. So, in May I made an announcement at the digital conference that set out the next 12 months road map, which was to deliver everything that you have said. On that day we also reinstated the DDaT board, so the data, digital and technology board. And on that, then, we have the highest level representatives from each of the health boards, representing the Welsh Local Government Association, representing artificial intelligence, representing many different groups, everybody who we need around the table, a huge table, the chief medical officer, the chief nursing office, to make sure, now, that they meet on a really regular basis, a monthly basis, since we launched it, so that they're all coming together, to make sure that everything, simply, is switched on at the right times in the right areas. And that's what it comes down to, that's as simple as it is. But it's not easy co-ordinating all of those different GPs and all of the health boards. So, just to say that we have those structures in place now, the 'once for Wales' strategy that we have, as you said, ensuring that we're providing that consistent offer, that consistent digital front door.

So, I do want to assure people that we will, absolutely—. Even though we started later—we did—than England, I feel that, in the next 12 months, we're going to really, really catch up. We're going to have that consistency across Wales, preventing that postcode lottery, as you said. And also we continue to work very closely now with the UK Government. So, as they're making these announcements of what they're going to be doing next, we're working actually much more closely, so that we're with them every step of the way.

And then you mentioned as well about being able to move across health boards and move across the borders as well of England and Wales. So, that will then come down to the electronic health record, and that's another big project that we're working on as well. And of course, then, as I said, we work so collaboratively already. And if people are transferring and going across in real life, then they should be able to do that through their digital life as well. So, that's something that's a real focus as we start to roll that out too. Thank you.

Diolch yn fawr, James Evans. Rwy'n rhannu eich brwdfrydedd am y gwahaniaeth anhygoel y gall hyn ei wneud a'r potensial yn y dyfodol. Fel y soniais i, eisoes mae gennych chi ap GIG Lloegr yn cyhoeddi mwy y maen nhw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rhoddwyd y cod ar gyfer ap GIG Lloegr i Gymru er mwyn i ni allu seilio'r ap ar hynny. Ond fel y dywedais i, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu ap dwyieithog. Hefyd, mae'n fwy cynhwysol o ran y gall pobl fynd i mewn a dangos eu prawf adnabod papur ac fe allan nhw wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad ato, waeth a oes ganddyn nhw brawf adnabod digidol ai peidio.

Pan ddes i i'r swydd hon tua blwyddyn yn ôl, roedd hynny'n rhywbeth roeddem ni mewn cyfyng gyngor braidd drosto. Er mwyn datrys hynny a cheisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf teg, fe gawsom ni'r rhaglen drwy'r grŵp cleifion a sicrwydd cyhoeddus, ac fe wnaethon nhw gydweithio'n frwd gydag ystod eang o grwpiau. Mae hyn yn dod i'ch cwestiwn ynglŷn â sut rydym ni'n sicrhau ein bod yn cael llais ac adborth y claf gan bawb. Roedd hynny'n cynnwys RNIB, RNID, Age Cymru, Macmillan, Mind, Diverse Cymru, yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a llawer iawn o rai eraill—grwpiau anabledd, er enghraifft, grwpiau gwirfoddol—i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw a'u bod yn gofyn i ni ei wneud. Roedd hyn mewn gwirionedd yn rhan fawr ohono. Mae'r grwpiau hyn wedi bod yn ganolog i lunio hygyrchedd a defnyddioldeb yr ap. Unwaith eto, rwy'n teimlo fel bod hynny'n dangos ffordd Gymreig ein bod ni'n gwneud pethau trwy ap GIG Cymru.

Un o'r pethau allweddol eraill y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi'i wneud, oherwydd mae'n bendant yn gydweithrediad enfawr yma, yw ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gennym ni'r trefniadau llywodraethu cywir ar waith. Felly, roeddech chi'n gofyn wedyn ynghylch sut ydym ni'n gwneud yn siŵr y caiff hyn ei gyflawni. Felly, ym mis Mai fe wnes i gyhoeddiad yn y gynhadledd ddigidol a oedd yn nodi'r cynllun 12 mis nesaf, sef cyflawni popeth rydych chi wedi'i ddweud. Ar y diwrnod hwnnw fe wnaethom ni hefyd adfer y bwrdd data, digidol a thechnoleg. Ac o ran hynny, felly, mae gennym ni'r cynrychiolwyr o haenau uchaf pob un o'r byrddau iechyd, sy'n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cynrychioli deallusrwydd artiffisial, yn cynrychioli llawer o wahanol grwpiau, pawb sydd eu hangen arnom ni o amgylch y bwrdd, bwrdd enfawr, y prif swyddog meddygol, y prif swyddog nyrsio, i wneud yn siŵr, nawr, eu bod yn cwrdd yn rheolaidd iawn, yn fisol, ers i ni ei lansio, fel eu bod i gyd yn dod at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod popeth, yn syml, yn cael ei gyflawni ar yr adegau cywir yn yr ardaloedd cywir. A dyna beth yw hanfod hyn, mae hynny mor syml â hynny. Ond nid yw'n hawdd cydlynu pob un o'r gwahanol feddygon teulu hynny a'r holl fyrddau iechyd. Felly, dim ond i ddweud bod gennym ni'r strwythurau hynny ar waith nawr, y strategaeth 'unwaith i Gymru' sydd gennym ni, fel y dywedoch chi, sicrhau ein bod yn darparu'r cynnig cyson hwnnw, y drws ffrynt digidol cyson hwnnw.

Felly, mae arna i eisiau sicrhau pobl y byddwn ni, yn sicr—. Er i ni ddechrau'n hwyrach—fe wnaethom ni—na Lloegr, rwy'n teimlo ein bod ni'n mynd i ddal i fyny yn y 12 mis nesaf. Rydym ni'n mynd i gael y cysondeb hwnnw ledled Cymru, gan atal y loteri cod post hwnnw, fel y dywedoch chi. A hefyd rydym ni'n parhau i weithio'n agos iawn nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, wrth iddyn nhw wneud y cyhoeddiadau hyn o'r hyn maen nhw'n mynd i fod yn ei wneud nesaf, rydym ni'n gweithio mewn gwirionedd yn llawer agosach, fel ein bod ni gyda nhw bob cam o'r ffordd.

Ac yna fe wnaethoch chi sôn hefyd am allu symud ar draws byrddau iechyd a symud ar draws ffiniau Cymru a Lloegr hefyd. Felly, bydd hynny wedyn ynghylch y cofnod iechyd electronig, ac mae hynny'n brosiect mawr arall rydym ni'n gweithio arno hefyd. Ac wrth gwrs, yna, fel y dywedais i, rydym ni eisoes yn cydweithio i raddau helaeth iawn. Ac os yw pobl yn trosglwyddo ac yn croesi ffiniau mewn bywyd go iawn, yna fe ddylen nhw allu gwneud hynny trwy eu bywyd digidol hefyd. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n bwyslais gwirioneddol wrth i ni ddechrau cyflwyno hynny hefyd. Diolch.

17:15

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma. Afraid dweud bod unrhyw ddatganiad ar gynnydd yn y maes yma i'w groesawu, wrth gwrs. Mi ddylai digido yn yr NHS fod yn nod canolog i'r Llywodraeth yma, ac mae'n resyn nad ydy'r Llywodraeth wedi rhoi y sylw angenrheidiol i'r perwyl yma hyd hyn. O'i wneud yn gywir, yna nid yn unig y bydd yn arbed arian yn y pen draw, ond mi fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn gwella canlyniadau i gleifion, sef beth ddylai fod y nod, wrth gwrs. Y gwir ydy fod llawer gormod o'n gwasanaeth iechyd yn parhau yn ddibynnol ar systemau'r ugeinfed ganrif, boed yn bapur neu'n dechnoleg fel ffacs. A'r gwir anffodus ydy fod datganiadau wedi cael eu gwneud sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, ond mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi cael ei weld hyd yma.

Mae yna bwyntiau cadarnhaol i'w gweld yma heddiw, fel y ffaith y gallaf wneud apwyntiad i weld fy meddyg teulu drwy'r ap, sydd yn gam mawr ymlaen. Rŵan, mae'r ffaith fod meddygfeydd teulu yn medru gwneud ychydig o'r pethau elfennol yma yn gadarnhaol. Ond, wrth gwrs, mae'r gwasanaeth iechyd i fod yn integredig, o'r gofal cynradd drwyddo i'r eilradd, ac yna i'n gwasanaeth gofal ei hun. Ond pan mae o'n dod at wasanaethau digidol, mae'r drefn yn llanast llwyr, gyda DHCW yn gyfrifol am wasanaethau meddygfeydd teulu, ond y byrddau iechyd yn datblygu eu systemau yn annibynnol, a'r gwasanaeth gofal yn dod o dan awdurdodau lleol. Fe glywson ni'r Gweinidog yn sôn am y syniad 'once for Wales', ond y gwir ydy dydy o ddim, hyd yma beth bynnag, yn gweithio. Felly, dwi'n eithaf sicr na fydd yr ap yma yn medru clymu i mewn i wybodaeth glinigol o'r ysbytai, heb sôn am systemau ein cynghorau sir. Ond os ydy'r ap am lwyddo i gyflawni ei botensial, yna mi fydd yn rhaid i hyn ddigwydd. Bydd rhaid datrys y broblem hirsefydlog yma o fyrddau iechyd annibynnol yn methu â chydweithio â systemau annibynnol eraill, a phawb yn datblygu eu systemau digidol sydd yn annibynnol o'i gilydd ac sydd ddim yn gydnaws gyda'i gilydd.

Yn yr un modd, fel ddaru James Evans gyfeirio ato, mi rydyn ni'n ymwybodol bod nifer o'r gwasanaethau sydd gennym yng Nghymru yn cael eu comisiynu dros y ffin yn Lloegr. Ac eto mi fydd yna record gan rai yn Lloegr fydd ddim efo systemau sydd yn gydnaws â systemau fan hyn. Felly, pryd ydyn am fynd i'r afael go iawn gyda'r cwestiwn yma o ddatrys y broblem nad ydy'r systemau yng Nghymru yn cydweithio efo'i gilydd, unwaith ac am byth?

Nid yn unig hynny, ond mi fydd angen sicrhau bod yr ap yn cydweithio gyda fferyllfeydd. Rwy'n gweld yn syth heddiw, er enghraifft, nad ydy meddyginiaeth sy'n cael ei bresgreibio trwy'r fferyllydd yn cael ei ddangos ar yr ap. Os nad ydy'r holl fferyllfeydd yn rhan o hyn, ac os nad ydy'r holl feddyginiaethau sydd yn cael eu presgreibio yn y fferyllfeydd yn rhan ohono fo, yna mae peryg i hyn fod yn beryglus i'r claf. Ydych chi felly am wneud yn sicr fod pob fferyllfa yn rhan o'r system, heb y glitches, o bosib, sydd ynddo ar hyn o bryd?

Mae gallu artiffisial, AI, yn cynnig potensial anferthol ar gyfer datblygiadau fel hyn, yn enwedig wrth edrych ar rai cyflyrau penodol, megis asesu cyflwr iechyd meddwl. Ond, hyd yma, dydyn ni ddim wedi clywed dim am unrhyw fwriad i ymgorffori gallu AI yn y dechnoleg. Wrth gwrs, gall hyn ddim digwydd dros nos, ond byddai'n dda gweld symudiad i'r cyfeiriad yma. Felly, pa fwriadau sydd gan y Llywodraeth i ymgorffori AI i mewn i'r ap newydd a gwaith digidol ehangach yr NHS? Beth ydy'r weledigaeth yn y pen draw?

Dwi'n croesawu'r road map yr ydych chi wedi sôn amdano, Weinidog, gyda'r bwriad i rolio allan rhagor o nodweddion yn 2026. Ond o ystyried record y Llywodraeth o ddatblygu gwasanaethau digidol hyd yma, fedrwch chi ddim amau rhywun am fod yn sgeptig wrth edrych ar yr amserlen. Felly, pa mor hyderus ydy'r Gweinidog fod yr addewidion am gael eu gwireddu yn ystod yr amserlen sydd wedi cael ei nodi?

Yn olaf, gaf i grwydro fymryn oddi wrth yr ap i fater cysylltiedig, sef seiberddiogelwch? Mi ddylai pryder am seiberddiogelwch ddim ein hatal ni rhag datblygu teclynnau fel hyn. Does dim un system yn gwbl ddiogel, wedi'r cyfan. Y gwir ydy fod systemau digidol yn debygol o gael eu hacio ryw dro neu'i gilydd. Felly, pa gamau ydych chi'n eu rhoi mewn lle rŵan ar gyfer y pen draw hwnnw, sydd bron yn anochel? Gan gymryd na fedrwch chi atal ymosodiadau yn llwyr, mae rhaid felly paratoi cynllun ar gyfer y tebygolrwydd hynny. Felly, hoffwn glywed beth sydd yn cael ei wneud i'r perwyl yma. Diolch.

Thank you to the Minister for the statement. It should go without saying that any statement on progress in this area is to be welcomed, of course. Digitising in the NHS should be a central aim of the Government, and it's a matter of regret that the Government has not given the due attention to this matter to date. Done right, it will not only ultimately save money, but it will improve efficiency and improve outcomes for patients, which is what the objective should be, of course. The truth is that far too many of our health services continue to rely on twentieth-century systems, be it paperwork or technology like the fax. And the unfortunate truth is that, while statements have been made several times over the past few years, there's been precious little progress to date.

There are very positive developments to be seen here today, like the fact that I'll be able to make an appointment to see my GP through the app, which is an important and a major step forward. Now, the fact that GPs are now able to do some of these fundamental things is positive. But, of course, the health service is supposed to be integrated, from primary care through to secondary, and then on to the care service. But when it comes to digital services, the system is a mess, with DHCW responsible for GP services, while the health boards are developing their own systems, independently, and then the care service coming under the auspices of local authorities. We heard the Minister speaking about this 'once for Wales' concept, but the truth is that it is, to date, not working. So, I'm fairly sure that this app won't be able to tie into clinical information from hospitals, not to mention our county council systems. But if the app is to successfully fulfil its potential, then this is what will need to happen. The long-standing problem of independent health boards failing to collaborate with other independent systems, and digital systems being developed independently that aren't compatible, must be solved.

By the same token, as James Evans mentioned, we're aware that a number of the services that we have in Wales are commissioned over the border in England. Yet there'll be a record held by some systems in England that won't be compatible with systems here in Wales. So, when are we going to genuinely tackle this question of solving the problem that the systems in Wales don't speak together, once and for all?

Not only that, but we must ensure that the app is compatible with pharmacy systems. I see immediately today, for example, that medicine prescribed by the pharmacist is not shown on the app. If all of the pharmacies aren't part of this, and if all of the medicines that are prescribed in the pharmacies aren't included, then that could pose a risk to the patient. Are you therefore going to ensure that every pharmacy is part of the system, without these current glitches, perhaps, that are within it?

Artificial intelligence, AI, unlocks vast potential with developments like this, particularly in looking at some specific conditions, such as mental health assessments. However, to date, we haven't heard anything about an intention to incorporate AI capability into the technology. Of course, this cannot happen overnight, but it would be good to see movement in this direction. So, what intention does the Government have to incorporate AI into the new app and the NHS's wider digital practice? What is the Government's vision to this end?

I welcome the road map that you've mentioned, Minister, with the intention to roll out further features in 2026. But bearing in mind the Government's record when it comes to developing digital services to date, one cannot be blamed for being sceptical when looking at the timescale. So, how confident is the Minister that these promises will be fulfilled according to the timescale that has been set out?

Finally, may I stray slightly from the app to a related matter, namely cyber security? Concerns about cyber security should not prevent us from developing resources like this. No one system is completely secure, after all. The truth is that all digital systems are likely to be hacked at one time or another. Therefore, what steps are you taking now to respond to that eventuality, which is almost an inevitability? Assuming that you cannot completely prevent such an attack, a plan must therefore be developed in response to that likelihood. So, I'd like to hear more about what is being done in this regard. Thank you.

17:20

Thank you so much for all of those questions. Just to start by saying that I thank you for welcoming the progress, because there has been a tremendous amount just in the last six months, and, as I said, when I came into this role around about a year ago, I'll be honest with you, things had maybe got a little bit stuck. I said when I spoke at the digital conference in May that it was absolutely imperative to restate and re-enthuse, honestly, all of the people who were in the system about what 'once for Wales' is and why it is so important that we are providing that consistent and fair and equitable offer as a digital front door across Wales. So, I'll be honest with you, the last year has not been easy. But I will also say that Welsh Government officials behind the scenes, from across many, many portfolios, all came together to really try and throw out as many solutions to some of the problems that we had hit. And we have pushed through every single one of them, and I am very confident that we have this road map. And along with the board—the governance board, now—with everybody around the table having to come together on a regular basis to present where they are and where they've got stuck has made a huge difference in unblocking some of those challenges that we had.

I absolutely agree with you as well, though, and as I said in my speech about the digitisation of the whole of our health and social care, it's absolutely fundamental. So, just to say that we have our digital priority investment fund, and even though the NHS app is a key priority for me, and was a key priority that came through for the First Minister when she went out and met with our communities the summer before last, and she came to me and said, 'The NHS app has to be a priority and we have to get this done', we do also have, then, other things, such as AI diagnostics and remote monitoring platforms. We've got e-prescribing being rolled out. We have laboratory information management systems. We have our radiology informatics system being rolled out. I'm also overseeing the roll-out of the digital maternity app, which will be done by the end of this Senedd term. We have the Welsh nursing care record. And then you pointed to a couple of those much larger, long-term commitments that we have.

So, Connecting Care is a huge project that we have, and that is the one where you're connecting all of the local authorities, all 22 of them, all together, and they're working fantastically well together with the help of the WLGA, and then linking that to secondary care, so working with all of the health boards and being able to link up all of that data. Primarily at the moment it will be used in social care, I will say, but, again, just having that link between the data is going to be absolutely invaluable. So, it's a huge project that's going on at the moment that people are really working hard to do.

You also mentioned the interoperability. So, we do then have the national architecture—again, another huge, huge project, and any nation will tell you this. We've made huge strides now in having some very good advice and a two-year strategy for how we're going to push through the next two years and get us to a place where we have everything mapped across Wales and we can really get started on where we go from here. I know, Mabon ap Gwynfor, we've talked before about looking at other systems in other parts of the country, for example. The thing is that, in Wales, we're starting with seven health boards, and some of them have hundreds of systems—hundreds of systems—that have built up over the years that we're having to map. But we will get to a place, then, where we will have that national architecture and then that interoperability will make a huge, huge difference. You also mentioned about—once we've got that, you said, 'Is it possible, then, to cross borders?' Absolutely. Absolutely. That's what we need.

In terms of the pharmacy and the electronic prescribing and rolling it out to the pharmacists, it is making its way across Wales. I'm smiling only because I keep thinking of my own pharmacist who, whenever I go in to see him, gives me his update. At first, he wasn't particularly happy about it, it was all a bit clunky and things were still being sent over with paper, but as the weeks have gone on, I'm reassured as he keeps saying to me, 'Oh, it's sorted now. It's good. Now it's working, it's all good.' So, I do think that it is a case of it bedding in, and it's going to bed in across all of Wales.

You also asked about AI. Probably one of the best examples that I can give you is that there was money put in specifically to look at using AI for cancer diagnostics. So, we've got the Qure.ai, and that is the AI tool supporting radiologists by cutting reporting turnaround times for chest x-rays and CT scans. And so we've seen improvements in reporting—65 per cent in Aneurin Bevan, 17 per cent in Cwm Taf Morgannwg. We're doing an assessment of it at the moment, and that's then something that will feed into our tackling cancer initiative. So, again, so much work is going on alongside all of this. 

You asked me about the confidence. The confidence, really, is about everybody being on the same page and pulling in the same direction, and I feel confident now that we are making that progress, that we are all pulling in the same direction. We can see where we're going, we've got these big projects that need to be done, we've got these other initiatives that mean so much to the people of Wales that we're committed to delivering. 

And then, finally, you said about cyber security. So, I've recently done some cyber security training myself with the innovation hub at Cardiff University, and they actually said—and I'm wondering if our IT team are watching this, because they said that most of the cyber security threats are due to human error. Some of the ones that we've seen in the health service are often due to human error. It's a mistake that you just didn't think about and they're able to get in through the back door of a system that you didn't even associate with being able to do that kind of damage. So, actually, a lot of it comes down to human training and training people within the health service. And I know that, in every health service, there are people there who are absolutely committed and have to deliver that. Thank you.

Diolch yn fawr am yr holl gwestiynau hynny. Dim ond i ddechrau trwy ddweud fy mod i'n diolch i chi am groesawu'r cynnydd, oherwydd mae llawer iawn wedi bod yn y chwe mis diwethaf, ac, fel y dywedais i, pan ddes i i'r swydd hon tua blwyddyn yn ôl, byddaf yn onest gyda chi, efallai fod pethau wedi mynd ychydig yn sownd. Fe ddywedais i, pan siaradais yn y gynhadledd ddigidol ym mis Mai ei bod hi'n hollol hanfodol ailddatgan ac ail-danio, i fod yn onest, yr holl bobl a oedd yn y system am beth yw 'unwaith i Gymru' a pham ei bod hi mor bwysig ein bod yn darparu'r cynnig cyson a theg a chydradd hwnnw fel drws ffrynt digidol ledled Cymru. Felly, byddaf yn onest gyda chi, nid yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hawdd. Ond byddaf hefyd yn dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r llenni, o sawl portffolio gwahanol, i gyd wedi dod at ei gilydd i geisio canfod cymaint o atebion i rai o'r problemau y cawsom ni. Ac rydym ni wedi gwthio trwy bob un ohonyn nhw, ac rwy'n hyderus iawn bod gennym ni'r cynllun hwn. Ac ynghyd â'r bwrdd—y bwrdd llywodraethu, nawr—gyda phawb o gwmpas y bwrdd yn gorfod dod at ei gilydd yn rheolaidd i gyflwyno ble maen nhw a ble maen nhw wedi mynd yn sownd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr wrth ddatrys rhai o'r heriau hynny a gawsom ni.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi hefyd, fodd bynnag, ac fel y dywedais i yn fy araith am ddigideiddio ein holl iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n hollol sylfaenol. Felly, dim ond i ddweud bod gennym ein cronfa fuddsoddi blaenoriaeth ddigidol, ac er bod ap y GIG yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac roedd yn flaenoriaeth allweddol a gyflëwyd i'r Prif Weinidog pan aeth allan i gwrdd â'n cymunedau yr haf cyn y llynedd, a daeth ataf a dywedodd, 'Mae'n rhaid i'r ap GIG fod yn flaenoriaeth ac mae'n rhaid i ni wneud hyn', mae gennym ni hefyd bethau eraill, fel diagnosteg deallusrwydd artiffisial a llwyfannau monitro o bell. Mae gennym ni e-bresgripsiynu yn cael eu cyflwyno. Mae gennym ni systemau rheoli gwybodaeth labordy. Mae gennym ni ein system gwybodeg radioleg yn cael ei chyflwyno. Rwyf hefyd yn goruchwylio'r broses o gyflwyno'r ap mamolaeth digidol, a fydd yn cael ei wneud erbyn diwedd tymor y Senedd hwn. Mae gennym ni gofnod gofal nyrsio Cymru. Ac yna fe wnaethoch chi dynnu sylw at rai o'r ymrwymiadau llawer mwy, hirdymor hynny sydd gennym ni.

Felly, mae Cysylltu Gofal yn brosiect enfawr sydd gennym ni, a dyna'r un lle rydych chi'n cysylltu'r holl awdurdodau lleol, pob un ohonyn nhw, i gyd gyda'i gilydd, ac maen nhw'n gweithio'n wych o dda gyda'i gilydd gyda chymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yna'n cysylltu hynny â gofal eilaidd, felly gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd a gallu cysylltu'r holl ddata hwnnw. Yn bennaf ar hyn o bryd bydd yn cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol, byddaf yn dweud, ond, eto, bydd dim ond cael y cysylltiad hwnnw rhwng y data yn gwbl amhrisiadwy. Felly, mae'n brosiect enfawr sy'n digwydd ar hyn o bryd y mae pobl yn gweithio'n galed i'w wneud.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am y rhyngweithrededd. Felly, mae gennym ni wedyn y bensaernïaeth genedlaethol—eto, prosiect enfawr, enfawr arall, a bydd unrhyw genedl yn dweud hyn wrthych chi. Rydym ni wedi gwneud cynnydd enfawr nawr o ran cael cyngor da iawn a strategaeth ddwy flynedd ar gyfer sut rydym ni'n mynd i weithio trwy'r ddwy flynedd nesaf a mynd â ni i le lle mae gennym ni bopeth wedi'i amlinellu ledled Cymru ac fe allwn ni ddechrau mewn difrif ar ble rydym ni'n mynd o fan hyn. Rwy'n gwybod, Mabon ap Gwynfor, rydym ni wedi siarad o'r blaen am edrych ar systemau eraill mewn rhannau eraill o'r wlad, er enghraifft. Y peth yw, yng Nghymru, rydym ni'n dechrau gyda saith bwrdd iechyd, ac mae gan rai ohonyn nhw gannoedd o systemau—cannoedd o systemau—sydd wedi eu hadeiladu dros y blynyddoedd y mae'n rhaid i ni eu mapio. Ond byddwn yn cyrraedd lle, felly, lle bydd gennym ni'r bensaernïaeth genedlaethol honno ac yna bydd y rhyngweithrededd hwnnw'n gwneud gwahaniaeth enfawr, enfawr. Fe wnaethoch chi hefyd sôn am—unwaith y byddwn ni wedi cyflawni hynny, fe ddywedoch chi, 'A yw'n bosibl, wedyn, i groesi ffiniau?' Wrth gwrs. Wrth gwrs. Dyna beth sydd ei angen arnom ni.

O ran y fferyllfa a'r presgripsiynu electronig a'i gyflwyno i'r fferyllwyr, mae'n gwneud ei ffordd ledled Cymru. Rwy'n gwenu dim ond oherwydd fy mod yn meddwl am fy fferyllydd fy hun sydd, pryd bynnag y byddaf yn mynd i mewn i'w weld, yn rhoi ei ddiweddariad i mi. Ar y dechrau, doedd e ddim yn arbennig o hapus am y peth, roedd y cyfan braidd yn drwsgwl ac roedd pethau'n dal i gael eu hanfon gyda phapur, ond wrth i'r wythnosau fynd rhagddyn nhw, rwy'n cael fy sicrhau wrth iddo ddweud wrthyf, 'O, mae wedi'i sortio nawr. Mae'n dda. Nawr mae'n gweithio, mae'r cyfan yn dda.' Felly, rwyf yn credu ei fod yn achos o gynefino, ac mae'n mynd i gynefino ar draws Cymru gyfan.

Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am ddeallusrwydd artiffisial. Mae'n debyg mai un o'r enghreifftiau gorau y gallaf ei roi i chi yw bod arian wedi'i roi yn benodol i edrych ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer diagnosteg canser. Felly, mae gennym y Qure.ai, a dyna'r offeryn deallusrwydd artiffisial sy'n cefnogi radiolegwyr trwy dorri amseroedd adrodd ar gyfer pelydr-x y frest a sganiau CT. Ac felly rydym ni wedi gweld gwelliannau mewn adrodd—65 y cant yn Aneurin Bevan, 17 y cant yng Nghwm Taf Morgannwg. Rydym ni'n gwneud asesiad ohono ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd wedyn yn cyfrannu at ein menter mynd i'r afael â chanser. Felly, unwaith eto, mae cymaint o waith yn digwydd ochr yn ochr â hyn i gyd.

Fe wnaethoch chi ofyn i mi am yr hyder. Mae'r hyder, mewn gwirionedd, yn ymwneud â phawb yn cydweithio ar yr un peth, ac rwy'n teimlo'n hyderus nawr ein bod ni'n gwneud y cynnydd hwnnw, ein bod ni i gyd yn tynnu i'r un cyfeiriad. Fe allwn ni weld ble rydym ni'n mynd, mae gennym ni'r prosiectau mawr hyn sydd angen eu gwneud, mae gennym ni'r mentrau eraill hyn sy'n golygu cymaint i bobl Cymru ein bod wedi ymrwymo i'w cyflawni.

Ac yna, yn olaf, fe ddywedoch chi am seiberddiogelwch. Felly, rydw i wedi gwneud rhywfaint o hyfforddiant seiberddiogelwch fy hun yn ddiweddar gyda'r ganolfan arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd, ac maen nhw'n dweud mewn gwirionedd—ac rwy'n meddwl tybed a yw ein tîm Technoleg Gwybodaeth yn gwylio hyn, oherwydd eu bod wedi dweud bod y rhan fwyaf o'r bygythiadau seiberddiogelwch oherwydd camgymeriadau dynol. Mae rhai o'r rhai rydym ni wedi'u gweld yn y gwasanaeth iechyd yn aml oherwydd camgymeriad dynol. Mae'n gamgymeriad nad oeddech chi'n meddwl amdano ac maen nhw'n gallu mynd i mewn trwy ddrws cefn system nad oeddech chi hyd yn oed yn cysylltu â gallu gwneud y math hwnnw o ddifrod. Felly, mewn gwirionedd, mae llawer ohono oherwydd hyfforddiant dynol a hyfforddi pobl o fewn y gwasanaeth iechyd. Ac rwy'n gwybod, ym mhob gwasanaeth iechyd, bod yna bobl yno sy'n gwbl ymroddedig ac yn gorfod cyflawni hynny. Diolch.

17:25

Thank you, Minister. I'm a fan of the app. I regularly use it to order prescriptions. It is easy to use, it does the job well. I just wonder, though, listening to your broader comments, in terms of the strategy we're taking as a nation, whether or not we're trying to do too much. There's a trade-off between the very big table that you mentioned, where everybody gets a seat and gets a veto, and the speed and pace of delivery. We heard this afternoon the Prime Minister announce that NHS online England is going to become a completely digital NHS trust, with millions of appointments and, through your own account, we are struggling to keep up the delivery of the multiple commitments that we have made. Most of those large projects you mentioned are off track. Digital Health and Care Wales has been in special measures; and I'd be grateful for an update on where we're at with that. They have 1,000 staff, they have a budget of £186 million. This is an institution with capacity, but really struggling with delivery. And I worry about the pace of change, both in the private marketplace, which is moving at a dizzying pace, and across the border in England, whether or not our aim for perfection is leaving us behind, and there's a danger that that then leaves a citizen losing faith and not getting the benefits that digital has to offer.

Diolch, Gweinidog. Rwy'n hoff o'r ap. Rwy'n ei ddefnyddio yn rheolaidd i archebu presgripsiynau. Mae'n hawdd i'w ddefnyddio, mae'n gwneud y gwaith yn dda. Tybed, fodd bynnag, wrth wrando ar eich sylwadau ehangach, o ran ein strategaeth fel cenedl, p'un a ydym ni'n ceisio gwneud gormod ai peidio. Mae yna gyfaddawd rhwng y bwrdd mawr iawn y sonioch chi amdano, lle mae pawb yn cael sedd ac yn cael feto, a chyflymder a brys y cyflwyno. Fe glywsom ni y prynhawn yma y Prif Weinidog yn cyhoeddi bod NHS online England yn mynd i ddod yn ymddiriedolaeth GIG cwbl ddigidol, gyda miliynau o apwyntiadau ac, fel y dywedoch chi eich hun, rydym yn cael trafferth cadw i fyny i gyflawni'r ymrwymiadau lluosog yr ydym ni wedi'u gwneud. Mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau mawr hynny y soniwyd amdanyn nhw ar eu hôl hi. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod mewn mesurau arbennig; a byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad ar ble rydym ni gyda hynny. Mae ganddyn nhw 1,000 o staff, mae ganddyn nhw gyllideb o £186 miliwn. Mae hwn yn sefydliad gyda chapasiti, ond yn cael trafferth gyda chyflawni. Ac rwy'n poeni am gyflymder y newid, yn y farchnad breifat, sy'n symud ar gyflymder sy'n rhoi pendro i rywun, ac ar draws y ffin yn Lloegr, p'un a yw ein nod am berffeithrwydd yn ein gadael ar ôl ai peidio, ac mae perygl bod hynny'n gadael dinesydd wedyn yn colli ffydd a pheidio â chael y buddion sydd gan yr elfen ddigidol i'w cynnig.

17:30

I know that you're very passionate about digital inclusion and being able to make people's lives easier, and it's really good to hear that you are using the app. I feel the same, but I want it to do more. I really want it to do more, and I think the theme from everybody's questions today is: are people actually going to see a difference? And like I said, we've committed to this road map in the next 12 months, and all of these extra things then with the app will be rolled out. And I think that people being able to see where they are on waiting lists will make a huge difference. It's one of the main things that—. GP surgeries tell me people pop in. They pop in to say, 'Am I still on the waiting list? Can you ring them? Can you check?' So, having that connection with secondary care is going to make a huge difference. Those things, I think, will really transform people's connection with the NHS in Wales, honestly.

But just to say, we have the data, digital and technology board, and we have everybody around the table. But, to be very clear, and I was very clear when I chaired the first board, there is no veto. They report to us, you know, and we've set out that this is the strategy in Wales. And everybody comes around to report back on the objectives that we have set for the NHS in Wales, based on what we have been told by the public they want and they need from their health and social care now and going far into the future. It is then chaired by the director general of the NHS in Wales.

And like I said, I think, in many cases, it was some parts were struggling, honestly, in the system, and kind of just didn't want to say that they were maybe struggling. And I think that having everyone around the table now and that transparency and being able to talk through some of the challenges has been incredibly useful. But we set a remit for DHCW, myself and the Cabinet Secretary for health, earlier in the year, setting out all of these projects that need to be completed.

You are right, some of them are very big projects, and internationally—. You know, I'm always looking around trying to see what other countries are doing and how they're doing it. We do have quite a different landscape in Wales, like I said, with the different health boards, the many different local authorities and also a lot of legacy systems and also needing it to be bilingual and inclusive. So, it's slightly different, but we're not going to be able to get away from needing that electronic health record, we're not going to be able to get away from needing the interoperability of a national architecture, and we're going to need somewhere, which is the national data resource, which is where we're going to be able to have all of that data eventually so that we can see things in real time.

You'll know yourself, from being in Government, that often you're looking at data that's a week, a month, old, and we need to get to a place where we're seeing everything in real time. It'll have a transformational effect. But these are large projects with a lot of people that need to come with us, and I think that there's a real understanding in Welsh Government of the challenge and what this is going to take. But it is absolutely essential for the future.

In terms of escalation, still escalated. That's very much overseen by the Cabinet Secretary for health. We are recruiting a new chair of DHCW. I'm actually visiting the DHCW offices tomorrow; I meet with them very, very regularly and we work very closely. And again, it's about sometimes having that trust amongst all of the stakeholders that we're all pulling in the right direction, but also, honestly, being very clear with the system that at the top of that tree is Welsh Government, and we're setting out what we expect and what we're doing for the people of Wales. And so that's our main consideration.

So, I hope I've answered all of your questions there. And thank you very much.

Rwy'n gwybod eich bod yn angerddol iawn am gynhwysiant digidol a gallu gwneud bywydau pobl yn haws, ac mae'n dda iawn clywed eich bod yn defnyddio'r ap. Rwy'n teimlo'r un peth, ond rydw i eisiau iddo wneud mwy. Rydw i wir eisiau iddo wneud mwy, ac rwy'n credu mai'r thema o gwestiynau pawb heddiw yw: a yw pobl mewn gwirionedd yn mynd i weld gwahaniaeth? Ac fel y dywedais i, rydym ni wedi ymrwymo i'r cynllun hwn yn y 12 mis nesaf, a bydd yr holl bethau ychwanegol hyn wedyn gyda'r ap yn cael eu cyflwyno. Ac rwy'n credu y bydd pobl yn gallu gweld ble maen nhw ar restrau aros yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae'n un o'r prif bethau sy'n—. Mae meddygfeydd yn dweud wrthyf fod pobl yn galw heibio. Maen nhw'n galw heibio i ddweud, 'Ydw i'n dal ar y rhestr aros? Allwch chi eu ffonio nhw? Allwch chi wirio?' Felly, mae cael y cysylltiad hwnnw â gofal eilaidd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr. Bydd y pethau hynny, rwy'n credu, wir yn trawsnewid cysylltiad pobl â'r GIG yng Nghymru, i fod yn onest.

Ond dim ond i ddweud, mae gennym ni'r bwrdd data, digidol a thechnoleg, ac mae gennym ni bawb o amgylch y bwrdd. Ond, i fod yn glir iawn, ac roeddwn i'n glir iawn pan gadeiriais y bwrdd cyntaf, nid oes feto. Maen nhw'n adrodd i ni, wyddoch chi, ac rydym ni wedi nodi mai dyma'r strategaeth yng Nghymru. Ac mae pawb yn dod o gwmpas i adrodd yn ôl ar yr amcanion rydym ni wedi'u gosod ar gyfer y GIG yng Nghymru, yn seiliedig ar yr hyn y mae'r cyhoedd wedi dweud wrthym ni fod arnyn nhw ei eisiau a'i angen o'u gofal iechyd a chymdeithasol nawr ac ymhell i'r dyfodol. Yna mae'n cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr cyffredinol y GIG yng Nghymru.

Ac fel y dywedais i, rwy'n credu, mewn llawer o achosion, roedd rhai rhannau yn cael trafferth, i fod yn onest, yn y system, ac nid oedd arnyn nhw eisiau dweud eu bod efallai yn cael trafferth. Ac rwy'n credu bod cael pawb o gwmpas y bwrdd nawr a'r tryloywder hwnnw a gallu siarad am rai o'r heriau wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Ond fe wnaethon ni osod cylch gwaith ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fi a'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, yn gynharach yn y flwyddyn, gan nodi'r holl brojectau hyn sydd angen eu cwblhau.

Rydych chi'n iawn, mae rhai ohonyn nhw'n brosiectau mawr iawn, ac yn rhyngwladol—. Wyddoch chi, rydw i bob amser yn edrych o gwmpas yn ceisio gweld beth mae gwledydd eraill yn ei wneud a sut maen nhw'n gwneud hynny. Mae gennym ni dirwedd eithaf gwahanol yng Nghymru, fel y dywedais i, gyda'r gwahanol fyrddau iechyd, y nifer o wahanol awdurdodau lleol a hefyd llawer o systemau a etifeddwyd a hefyd mae angen iddo fod yn ddwyieithog a chynhwysol. Felly, mae'n ychydig yn wahanol, ond nid ydym yn mynd i allu dianc o angen y cofnod iechyd electronig hwnnw, nid ydym yn mynd i allu dianc o angen pensaernïaeth genedlaethol ryngweithiol, ac rydym ni'n mynd i fod angen rhywle, sef yr adnodd data cenedlaethol, a dyna lle rydyn ni'n mynd i allu cael yr holl ddata hwnnw yn y pen draw fel y gallwn ni weld pethau mewn amser real.

Byddwch chi'n gwybod eich hun, o fod yn y Llywodraeth, eich bod yn aml yn edrych ar ddata sy'n wythnos, mis, oed, ac mae angen i ni gyrraedd lle rydym ni'n gweld popeth mewn amser real. Bydd yn cael effaith drawsnewidiol. Ond mae'r rhain yn brosiectau mawr gyda llawer o bobl sydd angen dod gyda ni, a dw i'n meddwl bod yna ddealltwriaeth wirioneddol yn Llywodraeth Cymru o'r her a'r ymdrech fydd ei angen i gyflawni hyn. Ond mae'n gwbl hanfodol ar gyfer y dyfodol.

O ran uwchgyfeiro, mae'n dal i fod wedi ei uwchgyfeirio. Mae hynny'n cael ei oruchwylio i raddau helaeth iawn gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd. Rydym yn recriwtio cadeirydd newydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydw i'n ymweld â swyddfeydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yfory; rwy'n cwrdd â nhw yn rheolaidd iawn, iawn ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn. Ac eto, mae'n ymwneud weithiau â chael yr ymddiriedaeth honno ymhlith yr holl randdeiliaid ein bod ni i gyd yn gweithio at yr un nod, ond hefyd, yn onest, bod yn glir iawn gyda'r system mai Llywodraeth Cymru sydd ar frig y goeden honno, ac rydym ni'n nodi'r hyn rydym ni'n ei ddisgwyl a'r hyn rydym ni'n ei wneud i bobl Cymru. Ac felly dyna ein prif ystyriaeth.

Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi ateb eich holl gwestiynau yn y fan yna. A diolch yn fawr iawn.

Wales has been well behind the curve on rolling out and developing the app, but I'm grateful today for the update; it's good to hear the progress being made.

James Evans and others asked questions about the cross-border nature of the app, and I wanted to give you the opportunity to go into a little bit more detail about that, because thousands of people across Wales will access their treatment from NHS England and hospitals in England. So, from your perspective, will the app work as just as effectively for Welsh patients who are receiving their treatment in England, in terms of booking out-patient appointments and accessing data, as for a patient from Wales receiving treatment from within Wales? And if not, what are the obstacles that exist that need to be overcome to make that NHS app function just as well whether you're accessing treatment in England or Wales?

Mae Cymru wedi bod ymhell ar ei hôl hi o ran cyflwyno a datblygu'r ap, ond rwy'n ddiolchgar heddiw am y diweddariad; mae'n dda clywed y cynnydd sy'n cael ei wneud.

Gofynnodd James Evans ac eraill gwestiynau am natur drawsffiniol yr ap, ac roedd arna i eisiau rhoi cyfle i chi fynd i ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd bydd miloedd o bobl ledled Cymru yn cael eu triniaeth o GIG Lloegr ac ysbytai yn Lloegr. Felly, o'ch safbwynt chi, a fydd yr ap yn gweithio yr un mor effeithiol i gleifion o Gymru sy'n derbyn eu triniaeth yn Lloegr, o ran trefnu apwyntiadau cleifion allanol a chael mynediad at ddata, ag ar gyfer claf o Gymru sy'n derbyn triniaeth yng Nghymru? Ac os na, beth yw'r rhwystrau sy'n bodoli sydd angen eu goresgyn i wneud i'r ap GIG hwnnw weithredu yr un mor dda p'un a ydych chi'n cael triniaeth yng Nghymru neu Loegr?

17:35

Thank you very much. Like I said, it will very much come down to that electronic health record. That's what then enables me to go into a hospital in Betsi and for them to be able to put up my records, and also then if I was to cross over into England. Probably the biggest—. And that's absolutely the goal, so let me be very clear on that. Probably the biggest I wouldn't say 'obstacle', but the challenge that we will have to overcome is around the GDPR and will be around that kind of data sharing. But, at the end of the day, I'm a big believer—as you know from my time on the Health and Social Care Committee with you, and we used to talk an awful lot about health data—that I'm the patient, it's my data, and if I give permission and consent then I'm happy for that to be seen wherever it needs to be seen. So, that's absolutely the ethos and where we're coming from.

Obviously, then, NHS England are on their own journey when it comes to the electronic health record, so it'll be a case of where they get to, where we get to, and being able to link up the two. Now, in terms of the electronic health record, we have in Wales prioritised the electronic mental health record, and we've prioritised that then even further within the Betsi and Cwm Taf Morgannwg health boards. So, they're working very, very closely now, so that we can roll out the electronic health record specifically for mental health records. Once we've done that, it's much easier then to roll it out to other health boards, and that's the digitisation that we're looking for that people have mentioned. And then that's really the stepping stone to be doing the electronic health record alongside it. That will have an absolutely—. That will make a huge, huge difference.

In terms of other nations, we're quite ahead on that, honestly. We want to make sure that patients have a say in it and that it's, again, very collaborative and inclusive, and it takes into account safeguarding as well, which is very important. So, yes, to be honest, it's just in terms of when both nations will be in a position to move forward with the electronic health record, the interoperability, and probably some legalities around consent.

Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais i, bydd hynny'n ddibynnol ar y cofnod iechyd electronig hwnnw. Dyna beth wedyn sy'n fy ngalluogi i fynd i ysbyty ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac iddyn nhw allu cael gafael ar fy nghofnodion, a hefyd wedyn os byddwn i'n croesi i Loegr. Mae'n debyg mai'r dyna'r mwyaf—. A dyna'r nod yn llwyr, felly gadewch i mi fod yn glir iawn ar hynny. Mae'n debyg mai, nid y 'rhwystr' mwyaf, ond yr her fwyaf yw honno y bydd yn rhaid i ni ei goresgyn o ran y rheoliad diogelu data a bydd ynghylch y math hwnnw o rannu data. Ond, ar ddiwedd y dydd, rwy'n credu'n fawr—fel y gwyddoch chi o'm hamser ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda chi, ac roedden ni'n arfer siarad llawer iawn am ddata iechyd—mai fi yw'r claf, fy nata i yw e, ac os ydw i'n rhoi caniatâd a chydsyniad yna rwy'n hapus i hynny gael ei weld lle bynnag y mae angen ei weld. Felly, dyna'r ethos a'n safbwynt ni.

Yn amlwg, felly, mae GIG Lloegr ar eu taith eu hunain o ran y cofnod iechyd electronig, felly bydd yn achos o ble maen nhw'n cyrraedd, ble rydym ni'n cyrraedd, a gallu cysylltu'r ddau. Nawr, o ran y cofnod iechyd electronig, rydym yng Nghymru wedi blaenoriaethu'r cofnod iechyd meddwl electronig, ac rydym ni wedi blaenoriaethu hynny wedyn hyd yn oed ymhellach o fewn byrddau iechyd Betsi a Chwm Taf Morgannwg. Felly, maen nhw'n gweithio'n agos iawn, iawn nawr, fel y gallwn ni gyflwyno'r cofnod iechyd electronig yn benodol ar gyfer cofnodion iechyd meddwl. Ar ôl i ni wneud hynny, mae'n llawer haws yna ei gyflwyno i fyrddau iechyd eraill, a dyna'r digideiddio rydym ni'n chwilio amdano y mae pobl wedi sôn amdano. Ac yna dyna'r garreg naid i fod yn gwneud y cofnod iechyd electronig ochr yn ochr ag ef. Bydd hynny'n hollol—. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn.

O ran cenhedloedd eraill, rydym ni'n ar y blaen o ran hynny, i fod yn onest. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael dweud eu dweud yn hynny o beth a'i fod yn ffrwyth cydweithio ac yn gynhwysol, a'i fod yn ystyried diogelu hefyd, sy'n bwysig iawn. Felly, ie, i fod yn onest, dim ond o ran pryd y bydd y ddwy genedl mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda'r cofnod iechyd electronig, pa mor rhyngweithiol ydyw, ac yn ôl pob tebyg rhai agweddau cyfreithiol ynghylch cydsyniad.

Diolch i'r Gweindog.

Thank you, Minister.

I've been struggling to get into the NHS Wales app, and, as if by magic, during that statement, the security code did come through on my mobile phone, and I've managed to order my repeat prescription during your statement.

Rydw i wedi bod yn cael trafferth defnyddio ap GIG Cymru, ac, fel pe bai drwy weithred hud, yn ystod y datganiad hwnnw, daeth y cod diogelwch ar fy ffôn symudol, ac rwyf wedi llwyddo i archebu fy mhresgripsiwn rheolaidd yn ystod eich datganiad.

You did mention it to me—. You did mention it to me 20 minutes ago, Llywydd. So, you know, I work very quickly, I do. [Laughter.]

Fe wnaethoch chi sôn amdano i mi—. Fe wnaethoch chi sôn wrthyf 20 munud yn ôl, Llywydd. Felly, wyddoch chi, rwy'n gweithio'n gyflym iawn, yn wir. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr i bawb. Diolch yn fawr—[Torri ar draws.] Yes. Diolch yn fawr i bawb am y datganiad yna, a dyna ni, dyna ddiwedd ein gwaith ni am heddiw.

Thank you all very much. Thank you very much—[Interruption.] Yes. Thank you all very much for that statement, and that brings today's proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.

The meeting ended at 17:37.

Dymuna'r Aelod, Sioned Williams, nodi bod y sylw hwn yn anghywir oherwydd mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i'r math hwn o dip. Bydd yr Aelod yn ysgrifennu at y Llywydd yn fuan gyda mwy o wybodaeth.

The Member, Sioned Williams, wishes to note that this is inaccurate as the legislation does cover this type of tip. The Member will be writing to the Llywydd shortly with further information.