Y Cyfarfod Llawn
Plenary
17/09/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn.
Nodyn i mi fy hun: paid â chymysgu'r gloch gyntaf a'r ail.
Felly, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn gyntaf. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63063] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 2, Siân Gwenllian.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen i gyflwyno safonau'r Gymraeg? OQ63070
Prynhawn da. Llywydd, rydyn ni’n parhau i weithio drwy’r rhaglen safonau. Mae’r ymgynghoriad ar reoliadau drafft ar gyfer cymdeithasau tai bellach wedi cau. Y bwriad yw gosod y rheoliadau terfynol yn y Senedd yn gynnar yn 2026.
Dwi'n falch o weld y gwaith ar safonau ar gyfer y cymdeithasau tai yn symud ymlaen, efo'r ymgynghoriad newydd gau ddoe, fel roeddech chi'n dweud. Mae sicrhau bod gan denantiaid tai cymdeithasol yr un hawliau â thenantiaid tai cyngor i ddefnyddio eu Cymraeg yn hanfodol. Efallai y byddwch chi'n cofio'r helynt efo Cartrefi Cymunedol Gwynedd, 10 mlynedd yn ôl bellach.
Dwi'n deall mai'r set nesaf o safonau y byddwch chi'n gweithio arnyn nhw ydy rhai trafnidiaeth gyhoeddus. Mae yna anghysondeb mawr yn y ddarpariaeth Gymraeg yn y sector yma, efo hyd yn oed Trafnidiaeth Cymru yn methu darparu gwybodaeth yn y ddwy iaith ar brydiau—er enghraifft, ar drên y bûm arno i Gaerffili yn ddiweddar, lle nad oedd y Gymraeg i'w gweld na'i chlywed. Ond dwi yn bryderus braidd efo ateb ysgrifenedig y mae'r Llywodraeth wedi ei roi i Heledd Fychan, llefarydd y Blaid ar y Gymraeg, sy'n dweud eich bod chi, a dwi'n dyfynnu,
'yn bwriadu cysoni’r broses o gyflwyno safonau ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus â sefydlu...Great British Railways'.
Bydd y gwaith polisi yn parhau, meddwch chi yn yr un un ateb, gan gynnwys ystyried cynnwys darparwyr bysiau yn y rheoliadau hynny. Felly, dwi'n gweld eich bod chi'n rhoi y pwyslais ar y gwaith polisi a ddim yn sôn am amserlen cyflwyno safonau. Ydy hyn yn golygu eich bod chi'n rhwyfo nôl o'r ymrwymiad i osod safonau'r Gymraeg ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn, a diolch am beth ddywedodd hi am y gwaith sy'n bwrw ymlaen yn y maes cymdeithasau tai cymdeithasol. Roedd y cytundeb cydweithio yn cadarnhau'r rhaglen waith uchelgeisiol, sydd wedi ei chyflawni dros dymor y Senedd hon, ac roedd dod â thrafnidiaeth gyhoeddus dan y safonau yn rhan o'r cytundeb. So, rydyn ni yn bwrw ymlaen i wneud y gwaith; dydy hynny ddim wedi newid. Mae'r Llywodraeth eisiau gweld datblygiadau ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, ond, fel y dywedais i yn yr ateb ysgrifenedig i Heledd Fychan, mae'r cyd-destun yn newid, a dyw rhai pethau ddim yn eu lle heddiw.
So, beth rŷm ni'n ei wneud yw dal i weithio ar y polisi. Rŷm ni wedi bod yn siarad â'r bobl sy'n gweithio ar Great British Railways, i fod yn glir gyda nhw am y disgwyliadau sydd gyda ni, a beth fydd yr oblygiadau pan fydd y safonau yn eu lle. A hefyd, mae'r Bil yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd i ailreoleiddio bysus, ac mae hynny'n mynd i newid y cyd-destun hefyd. So, dŷn ni ddim yn sefyll yn ôl o gwbl o'r bwriad i ddod â thrafnidiaeth gyhoeddus o dan y safonau, ond rŷn ni eisiau ei wneud e mewn ffordd sy'n delio â'r newidiadau yn y maes yma. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod tymor y Senedd hon, i'r Senedd nesaf, i roi'r Senedd nesaf mewn sefyllfa i alinio cyflwyno'r safonau â sefydlu Great British Railways a phopeth arall sy'n newid yn y maes.
3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol drwy'r pwysau chwyddiant presennol? OQ63072
Diolch i Carolyn Thomas, Lywydd. Rwy'n trafod pwysau awdurdodau lleol a'n cymorth i lywodraeth leol yn rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, a chydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill sydd â diddordeb.
Gyda chost gynyddol lleoliadau y tu allan i'r sir mewn gofal iechyd cymdeithasol, ynghyd â digartrefedd, mae'n peri gofid i mi ac yn fy ngwylltio'n fawr pan fydd pobl yn sôn am doriadau i les a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae pethau sy'n bwysig i bobl, fel toiledau cyhoeddus, canolfannau hamdden, cludiant i'r ysgol, yn bwysig iawn, ac maent yn cael eu gwasgu o hyd ac o hyd. Yn y gorffennol, mae'r Llywodraeth hon wedi edrych ar ddatganoli grantiau i helpu llywodraeth leol, gyda mentrau fel y gronfa tyllau yn y ffyrdd, a fu'n llawer o gymorth i lywodraeth leol. Tybed a ydych chi'n edrych ar ddatganoli grantiau eraill, fel y grantiau trafnidiaeth lleol efallai, a allai eu helpu gyda'r hyblygrwydd hwnnw ym mhob ardal o Gymru, gan fod pob ardal o Gymru yn wahanol iawn hefyd. Diolch.
Diolch i Carolyn Thomas am y pwyntiau pellach pwysig hynny, Lywydd. Polisi’r Llywodraeth hon, yn ystod y tymor hwn, ac ar ddiwedd y tymor diwethaf, oedd symud mwy o grantiau a ddarperir i awdurdodau lleol allan o grantiau penodol ac i mewn i’r grant cynnal refeniw er mwyn rhoi’r hyblygrwydd iddynt ymateb i anghenion lleol, ac i osgoi rhywfaint o’r fiwrocratiaeth a’r costau sy’n gysylltiedig â rhai grantiau penodol bach iawn. Mae'n bolisi sy'n gallu bod yn ddadleuol, gan fod llawer o sefydliadau’n cadw llygad barcud ar grantiau penodol i sicrhau eu bod yn cael eu gwario at y dibenion y cawsant eu darparu ar eu cyfer. Ond polisi’r Llywodraeth ers amser fu creu grant trafnidiaeth newydd—grant trafnidiaeth lleol—sy’n dwyn cyfres o grantiau eraill ynghyd ac a fydd yn cael ei ddarparu i’r cyd-bwyllgorau corfforedig. Felly, cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yw’r rhain. Nawr, nid ydynt yn gynlluniau dirwystr. Mae’n rhaid iddynt ddod o dan ambarél 'Llwybr Newydd'—polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth—ond bydd mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddefnyddio’r grantiau a ddarperir iddynt ar gyfer yr anghenion lleol mwy amlwg hynny.
Etifeddodd Llywodraeth Lafur bresennol y DU chwyddiant ar gyfradd darged Banc Lloegr o 2 y cant, a lefelau diffyg o ddim ond 40 y cant o'r rhai a etifeddwyd yn 2010 gan Lywodraeth Geidwadol y DU, er gwaethaf y sioc ariannol a achoswyd gan y pandemig byd-eang a'r argyfwng costau byw byd-eang. Fel y rhybuddiais yma ym mis Mawrth, penderfyniadau cyllidebol gan y Canghellor Rachel Reeves yw'r rhwystr mwyaf i dwf economaidd o hyd, a'r cyfrannwr domestig mwyaf at gynnydd mewn costau byw, gan gynyddu lefelau chwyddiant, ac ers hynny, mae costau benthyca wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 27 mlynedd. Mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i Rachel Reeves gynyddu trethi ymhellach neu wneud toriadau, ac mae economegwyr blaenllaw, gan gynnwys cyn-bennaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chyn-aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, wedi tynnu sylw at y risg o ailadrodd yr argyfwng a gafwyd ym 1976, pan orfodwyd Canghellor Llafur i fynd â'i gap yn ei law at y Gronfa Ariannol Ryngwladol am gymorth ariannol, a alwai am doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Rwy'n cofio hynny'n dda; rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd. Felly, pa gynlluniau wrth gefn a roddir ar waith gennych gydag awdurdodau lleol i reoli'r risg o hyn?
Wel, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi llywodraeth leol i raddau llawer mwy nag y gwnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol erioed yn Lloegr. Os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 4.5 y cant ar sail debyg am debyg. Mae pob awdurdod lleol yn derbyn cynnydd o 3.8 y cant o leiaf, diolch i'r cyllid gwaelodol ychwanegol a negodwyd gennym gydag arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru er mwyn pasio ein cyllideb derfynol. Ac yn ogystal â'r arian sy'n mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn setliad o dros £1.3 biliwn mewn grantiau refeniw, a thros £1 biliwn mewn grantiau cyfalaf yn y flwyddyn gyfredol. Dyna sut rydym yn amddiffyn awdurdodau lleol yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau—trafodaethau parhaus—gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac arweinwyr cyllid er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud hynny yn 2026.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom fod cyllideb hydref y DU bellach wedi'i gohirio tan y pwynt hwyraf posibl, sef 26 Tachwedd. Pa effaith y mae hynny'n ei chael ar eich proses chi a'ch Llywodraeth o gynllunio'r gyllideb?
Wel, diolch am eich cwestiwn, Sam Rowlands. Mae'n gwneud pwynt synhwyrol. Mae amseriad cyllideb y DU yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i lunio ein cyllideb ein hunain. Po hwyraf y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn cael ei chyhoeddi, y mwyaf yw'r cyfyngiad ar yr amser sydd ar gael inni ystyried unrhyw newidiadau sy'n ymddangos yn y gyllideb honno. Felly, bydd yn rhaid i fy swyddogion weithio'n galed iawn yn y pedair wythnos ar ôl cyllideb y DU ddiwedd mis Tachwedd er mwyn sicrhau y gall y gyllideb derfynol, sydd i'w chyflwyno i'r Senedd hon ym mis Ionawr, ystyried unrhyw newidiadau sy'n gwneud gwahaniaeth i'r adnoddau sydd ar gael i Gymru.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, byddaf yn cadw llygad ar y gwaith yr ydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud yn y rhaglen gyflymach honno. Wrth gwrs, y llynedd, yng nghyllideb Llywodraeth Lafur y DU, gwelsom y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd wedi gadael bwlch ariannol sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Er gwaethaf eich gobeithion blaenorol eich hun y bydd y Trysorlys
'yn darparu cyllid llawn i ddelio â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr'
ar gyfer y sector cyhoeddus, y gwir amdani, o ganlyniad i gyllideb hydref ddiwethaf y DU, yw bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi'u gadael gyda diffyg o £72 miliwn, ac fel y byddwch yn deall, nid mater o gyfrifyddu yn unig mo hyn. Mae iddo oblygiadau real iawn i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau ar gontractau cyhoeddus. Gofynnir i'r sefydliadau hynny nawr amsugno cost penderfyniad treth a wnaed gan eich cymheiriaid yn San Steffan, er gwaethaf yr addewidion mynych na fyddai'n rhaid iddynt wneud hynny. Felly, a ydych chi'n dal i ddadlau'r achos, Ysgrifennydd y Cabinet, dros sicrhau bod canlyniad llawn y penderfyniad hwnnw'n cyrraedd cyllideb Llywodraeth Cymru, fel nad oes angen rhoi'r pwysau hwnnw ar y darparwyr gwasanaethau cyhoeddus hynny mwyach?
Lywydd, rwy'n parhau i ddadlau'r achos hwnnw i Weinidogion Llywodraeth y DU, fel y mae Gweinidogion Cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ei wneud, gan eu bod hwythau'n cael eu heffeithio i'r un graddau gan benderfyniad y Trysorlys i ddarparu cymorth i Lywodraethau datganoledig drwy fformiwla Barnett yn hytrach na thalu'r costau gwirioneddol. Nawr, credaf fod y datganiad o bolisi ariannu, y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno iddo, yn gwbl glir ar y pwynt hwn, fod yn rhaid i unrhyw lywodraeth sy'n gwneud penderfyniad sy'n creu costau i lywodraeth arall ariannu'r costau hynny'n llawn, a gresynaf at y ffaith na wnaed hynny yn yr achos hwn. Nawr, bydd Sam Rowlands yn gwybod, Lywydd, fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen ar sail cyflwyno cyllideb ailddatganedig ar gyfer y flwyddyn nesaf gerbron y Senedd yn y gyllideb ddrafft ar 14 Hydref. O ystyried ein bod wedi darparu £36 miliwn—hanner y diffyg o £72 miliwn y mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei wynebu eleni—rwy'n bwriadu ailddatgan hynny y flwyddyn nesaf, fel y bydd y lefel o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei darparu ar gael unwaith eto i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill y flwyddyn nesaf.
Diolch unwaith eto am eich ymateb pellach, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol yn effeithio nid yn unig ar y cyrff gwasanaeth cyhoeddus hynny, ond wrth gwrs, ar fusnesau dirifedi ledled Cymru—rhai bach, canolig a mawr—o ran gorfod delio â'r dreth ychwanegol honno ar swyddi. Ar adeg pan fo'n heconomi yn dal i wella, pan fo costau ynni'n dal i fod yn uchel, pan fo chwyddiant yn parhau'n ystyfnig o uchel, y peth olaf sydd ei angen ar fusnesau Cymru yw treth ychwanegol ar swyddi. A'r hyn nad ydym yn ei weld yw Llywodraeth Lafur yn cynnig sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol a godir drwy'r dreth honno'n cefnogi twf, yn creu swyddi, neu'n wir, yn cefnogi ein gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru. Rydym wedi clywed gan berchnogion busnesau sydd bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch gohirio cyflogi gweithwyr newydd, rhewi codiadau cyflog, neu'n waeth byth, torri swyddi er mwyn cadw eu busnes i fynd. Mae hyn, wrth gwrs, yn erbyn cefndir o economi farwaidd lle mae'r lefelau cyflogaeth yma yng Nghymru, gwaetha'r modd, yn is nag unrhyw ran arall o Brydain. Felly, o ystyried y baich ychwanegol sylweddol y mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn ei roi ar gyflogwyr, sut ydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod busnesau a chontractwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cefnogi rhag colli swyddi a gorfod gwneud toriadau i wasanaethau?
Os caf wneud ychydig bwyntiau am natur economi Cymru, mae twf yr economi yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon wedi bod yn llawer mwy na rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Un chwarter yw hwnnw, Lywydd, ac nid oes unrhyw ffordd o wybod a fydd y twf hwnnw'n cael ei gynnal dros weddill y flwyddyn ariannol, ond serch hynny, mae'r economi wedi tyfu'n gyflymach nag a ragwelwyd, ac mae mwy o bobl mewn gwaith heddiw yng Nghymru nag ar ddechrau'r chwarter. Felly, mae'r ffigur cyflogaeth yng Nghymru yn parhau i gynyddu. [Torri ar draws.] Wel, yn y chwarter diwethaf, fe welwch fod mwy o bobl mewn gwaith. Dyna a ddywedais. Fe wiriaf y ffigurau wrth gwrs, i sicrhau fy mod i wedi eu rhoi'n gywir i'r Aelod.
Rydym yn cefnogi busnesau Cymru mewn sawl ffordd, gan gynnwys yr holl gymorth a ddarperir drwy'r cynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig a'r buddsoddiad a wnawn mewn sgiliau a hyfforddiant. Fe welwn hynny'n dod ynghyd, Lywydd, yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi, y bydd y Prif Weinidog yn ei harwain yma yng Nghymru yn ystod yr hydref, a bydd y cyfan wedi'i gynllunio i ddangos popeth sydd ar gael iddynt yma yng Nghymru i ddarpar fuddsoddwyr ym musnesau Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru nawr—Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Dwi wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar eich atebion chi yn y fan yna. Yn amlwg, mae'r mater yswiriant gwladol wedi dod i fyny droeon. Sut dŷn ni'n mynd i symud ymlaen efo hyn rŵan? Roeddech chi'n nodi yn eich ymateb i Sam Rowlands eich bod chi felly'n mynd i fod yn clustnodi'r £36 miliwn. Mi oedd hynny wedi dod o'r cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn ariannol yma. Ydy hwn yn mynd i ddod o'r cronfeydd wrth gefn, neu ydy hwn yn mynd i fod yn wariant parhaus rŵan o ran y Llywodraeth?
Hefyd, a fedrwch chi roi eglurder o ran y sefyllfa efo cyrff hyd braich? Yn flaenorol, i ni, dŷch chi wedi dweud bod sefydliadau fel Amgueddfa Cymru a'r llyfrgell genedlaethol ac ati ddim yn cael yr arian oherwydd nad ydych chi wedi cael eich digolledi gan Llafur yn Llundain. Dwi yn deall bod rhai o'r sefydliadau hynny wedi derbyn cyllid ychwanegol eleni. A fedrwch chi roi eglurder o ran hynny? Beth dŷch chi'n rhagweld fel y sefyllfa fydd yn mynd rhagddi yn y dyfodol?
Dau bwynt, Lywydd. Bydd y £36 miliwn a ddarparwyd gennym i gynorthwyo cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn cael ei ailddarparu y flwyddyn nesaf, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny'n rhan o'r gyllideb sylfaenol y flwyddyn nesaf. Felly, bydd yr arian hwnnw'n dod o'r cyllid ychwanegol a ddaw i Gymru—£1.6 biliwn yn ychwanegol eleni, ac £1 biliwn arall yn ychwanegol y flwyddyn nesaf. Os wyf yn ailddatgan cyllideb eleni y flwyddyn nesaf, mae'r arian yng nghyllideb eleni, ac felly bydd yn ymddangos y flwyddyn nesaf hefyd.
Wrth gwrs, mae yna ystod eang o sefydliadau lle nad ydym wedi gallu darparu cymorth yn uniongyrchol gyda'r costau yswiriant gwladol hynny, ond maent wedi elwa o godiadau mwy cyffredinol yn y cyllid sydd ar gael iddynt. Mater i'r sefydliadau hynny wedyn yw penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain, a bydd llawer ohonynt wedi defnyddio rhywfaint o'r cymorth a gawsant yn y buddsoddiad cyffredinol hwnnw i'w helpu gyda chostau ychwanegol i gyflogwyr.
Diolch. Dwi'n gobeithio y cawn ni, yn sgil y ddadl y prynhawn yma, weld a oes yna ffordd inni fynd â hyn rhagddo, a thrio dylanwadu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel eu bod yn sicrhau ein bod ni'n cael yr hyn sy'n ddyledus i ni yn llawn i fynd i'r afael â'r bwlch yma. Oherwydd, yn amlwg, dŷn ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf yma Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ysgrifennu atom ni oll i amlinellu difrifoldeb y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu. Maen nhw wedi dweud ei bod yn sefyllfa risg uchel sy'n cynnwys pwysau ariannu o dros £400 miliwn a rhagolwg o godiadau treth cyngor o hyd at 20 y cant.
Mi oeddech chi o'r farn yn Nhachwedd 2023 y byddai cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn arwain at Gymru'n cael, a dwi'n dyfynnu,
'y buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus.'
Ydych chi dal o'r un farn?
Ar y pwynt ynglŷn â llywodraeth leol a'r llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Lywydd, credaf mai'r cyfrifoldeb allweddol sy'n wynebu'r Senedd hon yw osgoi'r trychineb y byddai methu pasio cyllideb ym misoedd olaf tymor y Senedd hon yn ei achosi i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig llywodraeth leol. Dyna pam fy mod wedi cynnig cyflwyno cyllideb ailddatganedig gerbron y Senedd, gan mai dyma'r ffordd fwyaf gwleidyddol niwtral y gellid gwneud cyllideb. Nawr, byddai'n well gennyf allu cyflwyno cyllideb gerbron yr Aelodau sy'n defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni a fyddai'n ateb llawer o'r pwyntiau a wnaed yn y llythyr hwnnw. Ond nid oes unrhyw ffordd y mae'r niferoedd yma'n caniatáu imi wneud hynny gyda chefnogaeth Aelodau Llafur yn unig.
Felly, os oes Aelodau eraill yma sy'n dymuno ymateb i'r llythyr hwnnw ac sy'n dymuno cytuno ar gyllideb lle gellir defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni, yna fel y dywedais pan wneuthum fy natganiad ar 1 Gorffennaf, rwy'n gwbl agored i'r trafodaethau hynny. Os nad oes awydd i wneud hynny, byddaf yn gosod cyllideb ailddatganedig, sydd o leiaf yn osgoi'r trychineb llwyr i lywodraeth leol o orfod gosod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ddim ond 75 y cant o'r arian sydd ar gael iddynt eleni, gan mai dyna fyddai Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei olygu, pe baem yn methu pasio cyllideb.
Ond mae'r cynghorau'n dweud wrthym fod cyllideb wleidyddol niwtral yn unrhyw beth ond niwtral o ran yr effaith ar eu trigolion: cynnydd o hyd at 20 y cant. Does bosib nad yw'r ffaith nad ydym yn derbyn cyllid teg i Gymru yn dangos bod yr ymrwymiadau a wnaed cyn etholiad cyffredinol y DU yn dangos, mewn gwirionedd, fod ein gwasanaethau cyhoeddus yn dal i wynebu toriadau a phenderfyniadau anodd iawn. Felly, a gaf i ofyn sut y gwnawn sicrhau bod y model ariannu hwnnw ar waith gennym? Oherwydd, yn amlwg, os byddwn yn bwrw ymlaen â chyllideb, fel y'i nodir gennych chi, bydd y sefyllfa i awdurdodau lleol ledled Cymru yn enbyd, a bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd iawn cyn unrhyw etholiad Senedd ac unrhyw Lywodraeth arall yn gallu bwrw ymlaen â chynigion radical a'u cefnogi.
Wel, hoffwn atgoffa'r Aelod fod ei phlaid wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb a gyflwynwyd gerbron y Senedd hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Nawr, rwy'n dweud wrthi eto, os oes ganddi ddiddordeb mewn sgwrs a fyddai'n caniatáu inni ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i'r Senedd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mewn cyllideb y gellid caniatáu iddi lwyddo drwy'r Senedd, yna yn sicr, rwy'n agored i'r sgyrsiau hynny. Ond os nad oes ganddi awydd gwneud hynny—ac nid yw wedi dangos unrhyw awydd gwneud hynny hyd yma—os nad oes awydd am sgwrs o'r fath, yna nid y dewis fyddai rhwng cyllideb ailddatganedig, gyda'r anawsterau y byddai hynny heb os yn eu creu, ond dim cyllideb o gwbl. Ac os na fyddwn yn llwyddo i basio cyllideb o unrhyw fath drwy'r Senedd hon, yna nid y mathau o anawsterau a nodwyd yn llythyr CLlLC y bydd llywodraeth leol yn eu hwynebu, byddant yn wynebu rhwymedigaeth gyfreithiol. Oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio, mae'n rhaid i awdurdodau lleol osod eu cyllidebau yn ôl set statudol o rwymedigaethau, ac mae'r rhwymedigaethau statudol yn dweud wrthynt, erbyn 13 Mawrth, fod yn rhaid iddynt osod cyllideb o fewn y symiau o arian y maent yn gwybod y byddant ar gael iddynt y flwyddyn nesaf. Os bydd y Senedd hon yn methu pasio cyllideb, bydd hynny'n golygu y bydd ganddynt 75 y cant o gyllideb eleni ar gael iddynt. Dyna fydd ganddynt i'w osod. Bydd hynny'n drychinebus o ran y diswyddiadau a fydd yn dilyn a'r toriadau i wasanaethau sy'n sicr o ddeillio o hynny. Gallwn osgoi hynny. Gallwn osgoi hynny drwy gyllideb ailddatganedig, o leiaf, a gallem ei osgoi hyd yn oed ymhellach pe gallem gytuno ar gyllideb sy'n defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni. Ond mae hynny'n gyfrifoldeb y mae'n rhaid i bob plaid yn y Senedd hon ei rannu.
Mae cwestiwn 4 [OQ63079] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 5, felly, Sioned Williams.
5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â TAW ar gynhyrchion amddiffyn rhag yr haul? OQ63075
Diolch i Sioned Williams am ei chwestiwn, Lywydd. Mae TAW yn dreth a gedwir yn ôl, dan oruchwyliaeth Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae degau o filiynau o bunnoedd wedi'u buddsoddi mewn cyfleusterau canser newydd yng Nghymru, offer, systemau digidol, hyfforddiant i'r gweithlu, triniaethau, gwasanaethau sgrinio a diagnostig, pob un wedi'i anelu at wella canlyniadau canser yng Nghymru, gan gynnwys canserau'r croen.
Diolch. Rŷn ni wedi cael haf hyfryd, onid ydyn ni, a phawb wedi mwynhau'r heulwen, dwi'n siŵr. Ond rŷn ni hefyd yn gwybod, o'r pedair cenedl yn y Deyrnas Gyfunol, mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o ganser y croen, canser y mae modd ei atal, gan fwyaf, gan obeithio, wedyn, fod pobl ddim yn gorfod mynd i'r ysbytai lle mae'r adnoddau sydd gyda nhw i'w trin nhw, a mynd trwy y trawma yna, a'r gost yna, wrth gwrs, i'r pwrs cyhoeddus.
Gwnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg am fesurau i atal canser y croen, yn cynnwys dileu treth ar werth ar eli haul, sy'n cael ei ddynodi'n gynnyrch cosmetig ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai'n codi'r mater gyda chi, ac yna cadarnhaodd e fod eich swyddogion chi wedi codi hyn gyda Llywodraeth San Steffan. Byddai hyn, wrth gwrs, yn helpu lleihau achosion o ganser y croen yng Nghymru a'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Felly, a wnewch chi ddarparu mwy o wybodaeth am ymateb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'ch swyddogion? A fydd gweithredu ar hyn, ac os felly, pryd?
Wel, diolch yn fawr i Sioned Williams am y cwestiynau ychwanegol yna, Llywydd. Dwi wedi gweld y llythyr oddi wrth yr Aelod a'r ymateb gan Jeremy Miles, ac, wrth gwrs, rydw i wedi trafod y pethau gyda Jeremy Miles hefyd, ac mae fy swyddogion i wedi codi popeth gyda'r swyddogion yn y Trysorlys. Yr ymateb rŷn ni wedi ei gael ar hyn o bryd yw does dim cynllun gyda nhw i newid VAT yn y maes yma. Maen nhw'n rhoi nifer o resymau pam mae hwnna'n dal i fod, yn eu meddwl nhw. Ond mae tîm o Weinidogion newydd yn y Trysorlys nawr; mae cyfarfodydd yn y dyddiadur i fi i gwrdd â nhw, a dwi'n fodlon ailgodi'r pwynt y mae Sioned Williams wedi'i godi y prynhawn yma, pan fydd cyfle gyda fi i wneud hynny yn y cyfarfodydd.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddyfodol fformiwla Barnett? OQ63084
Lywydd, dylid cael gwared ar fformiwla Barnett a chyflwyno system newydd sy'n seiliedig ar anghenion cymharol yn ei lle. Er mwyn i hynny ddigwydd, byddai angen i'r pedair gwlad gytuno i hynny, a chytundeb cyllidol newydd a fyddai'n cael ei oruchwylio a'i weithredu gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Fel y bydd yn gwybod, rwy'n cytuno'n llwyr â'i safbwynt polisi ar hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef hefyd y byddai cael corff annibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn goruchwylio fframwaith ariannol y DU o fudd i bawb.
Bydd hefyd wedi gweld yr adroddiadau diweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Gogledd Iwerddon yn Nhŷ'r Cyffredin ac ymateb y Llywodraeth iddo. Yn yr ymateb hwnnw, mae Hilary Benn wedi nodi'n glir iawn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb â Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion heb yr angen i ddod i gytundeb â Chymru na'r Alban. Nawr, heb ystyried am y tro ai dyna yw'r ffordd gywir ymlaen ai peidio, mae'n dangos y gellir dod i gytundeb ar lefel deg o gyllid lle ceir ewyllys i wneud hynny. Onid yw'n bryd i bobl Cymru gael yr un tegwch o ran cyllid â phobl Gogledd Iwerddon?
Lywydd, diolch i Alun Davies. Mewn rhai ffyrdd, mae hyn yn achub y blaen ar rai pwyntiau a allai gael eu gwneud yn nes ymlaen y prynhawn yma. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ar lawr y Senedd fy mod yn credu bod yn rhaid inni gael dull gweithredu deuol mewn perthynas â fformiwla Barnett. Ein huchelgais yw cael gwared ar fformiwla Barnett a chyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn ei lle, ond mae'n anodd iawn negodi â Llywodraethau eraill sy'n gwneud yn eithaf da o dan fformiwla Barnett. Ac nid yn unig y cafwyd adroddiad gan bwyllgor dethol Gogledd Iwerddon yn ddiweddar, fe gafwyd adroddiad gan bwyllgor dethol yr Alban hefyd, sy'n dweud nad oes angen diwygio fformiwla Barnett. Pe bawn yn Albanwr a bod afon aur Barnett yn llifo mor gyflym tuag ataf i ag y mae tuag atynt hwy—nid y byddent hwy'n dweud hynny—yna efallai y byddwn o'r farn nad oedd angen newid y system chwaith. Ond hyd yn oed os yw'n waith gwleidyddol anodd i ddod i gytundeb ynghylch cyflwyno fformiwla newydd yn lle fformiwla Barnett, nid yw hynny'n rheswm pam na ddylem ni barhau i fynd ar drywydd diwygio fformiwla Barnett, ac mae rhai o'r pwyntiau y mae Alun Davies wedi'u gwneud yn dod o dan y categori hwnnw.
Nawr, mae ffactor addasu, fel y'i gelwir, ar gyfer Gogledd Iwerddon, sef 124—124 y cant, mewn geiriau eraill—o setliad Lloegr. Mae gennym ffactor addasu o 115, felly rydym gryn dipyn islaw Gogledd Iwerddon. Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn darllen adolygiad annibynnol yr Athro Gerry Holtham o fformiwla Gogledd Iwerddon. Mae'n dadlau bod angen adolygu'r ffactor addasu hwnnw, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth y DU i ddatganoli cyllid amaethyddiaeth ac i uwchraddio hynny yn y dyfodol ar sail Barnett. Mae ei adroddiad yn cynnwys cyfrifiad sy'n nodi y dylid codi'r ffactor addasu yng Ngogledd Iwerddon o 124 i 128. Nawr, drwy drafodaeth o'r fath, trafodaeth ynglŷn â'r ffordd y mae'r fformiwla bresennol yn gweithredu a gwneud iddi weithredu'n decach, dyna lle y credaf y gallwn ddod o hyd i dir cyffredin gyda'n swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, a dyna lle y credaf y dylem edrych i weld ble y gellir gwneud cynnydd. Mae adroddiad Gerry Holtham, sy'n cyfeirio, fel y gwna, at y gwaith a wnaeth yma yng Nghymru, yn ddefnyddiol i ni yn hynny o beth.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyflwyno'r rheol ar gyfer gosodiadau gwyliau hunanarlwyo sy'n ei gwneud yn ofynnol i eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor? OQ63081
Lywydd, cyhoeddwyd yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y polisi hwn ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth gysylltiedig ym mis Mai 2022. Rydym bellach yn gwybod bod 60 y cant o ddarpariaethau llety gwyliau wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd. Mae hyn yn uwch na'r lefelau a ragwelwyd gan y sector hunanddarpar a'r amcangyfrifon a gynhwysir yn yr asesiad effaith.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am yr ystadegyn hwnnw. Fe gyfarfûm â chynrychiolydd o Gymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU y bore yma, ac fe wnaethant roi ystadegyn pellach i mi hefyd. Maent yn dweud bod cyfyngiadau cynllunio ar 33 y cant o ddarpariaethau llety gwyliau yng Nghymru na fyddai'n caniatáu i'r eiddo hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer y stoc dai gyffredinol. Nawr, mae gennyf sawl etholwr yn y sefyllfa honno, lle mae ysguboriau wedi'u haddasu, mae yna gyfleustodau a rennir, nid yw'n bosibl iddynt gael eu defnyddio at unrhyw bwrpas arall heblaw fel eiddo gwyliau, ac mae cyfyngiadau cynllunio ar yr eiddo hwnnw hefyd. Mae hefyd yn wir nad yw'r farchnad yn caniatáu iddynt allu gosod eu heiddo am fwy na 182 diwrnod y flwyddyn. Yn fy marn i, byddai newid i system dreth gyngor yn gwneud gweithredu'r busnesau hynny yn anodd iawn, a hefyd maent yn fusnesau, felly, yn fy marn i, dylent fod yn y system ardrethi busnes. Beth yw eich cyngor i'r busnesau hynny?
Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod chi'n cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd. Nid yw hwnnw'n cynnwys y mater hwn. A oes gennych unrhyw gynlluniau eraill i gynnal unrhyw ymgynghoriadau pellach a fyddai'n cynnwys ac yn delio â'r mater penodol hwn?
Wel, fy nghyngor i iddo, Lywydd, yw cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, oherwydd nid yw'r ymgynghoriad yn atal unrhyw un rhag codi unrhyw fater y maent yn meddwl ei fod yn berthnasol i weithredu'r gofyniad 182 diwrnod. Nawr, yn yr ymgynghoriad, rydym yn nodi rhai syniadau y credwn fod iddynt deilyngdod, yn seiliedig ar drafodaethau gyda'r sector, ond rwyf eisoes wedi cael syniadau nad ydynt ar hyn o bryd yn ymddangos yn y papur ymgynghori ei hun wedi'u cynnig i mi yn rhan o'r adolygiad. Dylai'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud gael eu cyfathrebu gan y bobl hynny sy'n credu eu bod yn bwyntiau dilys ac a fyddai'n caniatáu inni weithredu'r polisi mewn ffordd well. Dylent eu cyfrannu at yr ymgynghoriad.
Dywedodd arolwg Cynghrair Twristiaeth Cymru y llynedd mai dim ond 26 y cant o weithredwyr busnes yn y maes hwn a oedd yn teimlo y byddent yn cyrraedd y trothwy 182 diwrnod. Nawr, rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi dweud bod nifer mwy na hynny wedi cyrraedd y trothwy, ond mae llawer wedi dweud wrthyf, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, fod yn rhaid iddynt wneud hynny trwy ostyngiad trwm er mwyn cyrraedd y gofyniad 182 diwrnod hwnnw. Felly, mae'n codi cwestiwn a yw'r gofyniad hwn yn y lle iawn yn y lle cyntaf. Ai 182 yw'r nifer cywir o ddyddiau? Mae llawer o'r gweithredwyr hyn wedi gofyn i mi ofyn i chi a fyddech chi'n comisiynu asesiad effaith economaidd annibynnol, gan fod y polisi hwn bellach wedi bod ar waith ers tua thair blynedd, i ganfod ai 182 diwrnod yw'r lefel gywir, oherwydd ni all fod yn fwriad i'r polisi fod tri chwarter y gweithredwyr yn teimlo na allant gyrraedd y targed hwn yn eu hamgylchiadau economaidd arferol. Felly, a wnewch chi ymrwymo i'r asesiad effaith economaidd annibynnol hwnnw, fel y gallwn weld a yw'r rheol 182 diwrnod ar y lefel gywir?
Wel, Lywydd, y ffigur go iawn, y ffigur a ddilyswyd gan werth dwy flynedd o ffurflenni i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yw bod 60 y cant, nid 26 y cant—mwy na dwywaith y ffigur a nododd yr Aelod—wedi bodloni'r trothwy 182 diwrnod yn ymarferol mewn gwirionedd. Ac os oes rhaid i bobl wneud hynny trwy ostyngiad sylweddol, yna mae hynny oherwydd gorgyflenwad yn y farchnad. Ac edrychwch, mae'n bwysig olrhain yr hyn sydd wedi digwydd mewn perthynas â llety gwyliau tymor byr yng Nghymru. Mae nifer y darpariaethau llety gwyliau tymor byr yng Nghymru wedi dyblu rhwng 2013 a 2019, ac mae cynnydd arall o 60 y cant wedi bod ers 2019. Mae'r farchnad yn cael ei gorgyflenwi. A'r hyn y mae'r trothwy 182 diwrnod yn ei wneud yw sicrhau bod y busnesau hynny sy'n fusnesau priodol, sy'n gweithredu am o leiaf hanner y flwyddyn o ran gosod, yn cael eu cydnabod yn briodol. Ac mae cwmnïau sy'n cynnig cyfnodau llawer byrrach, fel y bydd y bobl sy'n gwneud eu bywoliaeth o hyn yn dweud wrthych, weithiau yn hobïwyr yn hytrach na busnesau, ond nid ydynt—[Torri ar draws.] Wel, efallai eich bod chi'n dweud hynny, ond dyna beth sy'n cael ei ddweud wrthyf gan bobl sy'n gweithio yn y maes, fod y cynnydd hwnnw ymhlith bobl sy'n gosod eu heiddo am gyfnodau byr iawn o amser, ac weithiau'n tanseilio pobl sy'n gwneud eu bywoliaeth ohono.
Yr hyn y mae'r 182 diwrnod yn ei wneud—. Nid yw'n atal unrhyw un rhag gosod eu heiddo am lai na 182 diwrnod; mae'n golygu nad oes ganddynt hawl i wneud cais am ryddhad ardrethi busnesau bach, oherwydd nid ydych chi'n fusnes yn yr ystyr y credaf y dylid cydnabod busnesau. Mae'n rhaid i chi dalu'r dreth gyngor fel y byddai'n rhaid i unrhyw un arall ei wneud.
Felly, Lywydd, mae ymarfer ymgynghori'n cynnig ffyrdd synhwyrol o ymateb i bryderon yn y sector. Rwy'n agored iawn i'r syniad y byddai'n rhaid i chi ddangos eich bod yn cyrraedd y trothwy 182 diwrnod nid mewn un flwyddyn, ond dros gylch o ddwy neu dair blynedd, o ystyried natur gylchol a thymhorol twristiaeth yng Nghymru. Os na allwch ddangos, dros gylch, eich bod yn gallu gosod eiddo ar y lefel honno, yna nid wyf yn credu bod gennych hawl i hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach ar draul y trethdalwr. A dyna beth yw hanfod y polisi hwn.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hyd yn oed heb ymgynghoriad, gallwn i gyd weld nad yw'r trothwy 182 diwrnod hwn yn realistig. Mae wedi bod yn angheuol i lawer o eiddo yn fy ardal i, ac ardaloedd llawer o Aelodau eraill yn y Senedd hon, rwy'n siŵr. Mae twristiaeth Cymru yn dibynnu ar y darpariaethau llety gwyliau hyn. Trwy eu gorfodi allan, mae eich Llywodraeth yn niweidio cymunedau cyfan. Oherwydd, pan fydd y darpariaethau hynny'n cau, a dyna beth y mae'r targedau twp hyn yn eu gyrru i wneud, nid y perchnogion yn unig sy'n dioddef ond y siopau lleol, y tafarndai, y crefftwyr, y glanhawyr—mae'r holl economi leol yn cael ergyd.
Mae yna felin wynt hynod yn sir Fynwy, yn ymyl lle rwy'n byw, yn Llancaeo. Cafodd ei brandio'n 'ail gartref' yn ddiweddar, oherwydd ni allai'r perchnogion gyrraedd y trothwy, ac yn sicr nid ydynt yn hobïwyr; nid trwy ddiffyg ymdrech y digwyddodd hyn. Nawr maent yn cael eu taro gan fil treth gyngor anferth. Ni fyddai unrhyw un yn ei iawn bwyll yn meddwl amdano fel ail gartref, ac rwy'n siŵr na allai fod yn un hyd yn oed, fel y soniodd Russell George nawr, ac mae'r rhain yn bethau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y cwestiynau y mae'r ymgynghoriad hwn yn eu gofyn. Eto, er bod y cyngor yn cael yr arian, maent hefyd yn defnyddio'r felin wynt honno i hyrwyddo twristiaeth leol. Dyma realiti ledled Cymru. Mae busnesau'n cael eu gorfodi i gau heb unrhyw fai arnynt hwy neu oherwydd diffyg ymdrech.
Rwy'n siŵr fod gan bob Aelod achosion tebyg i hyn. Y gwir yw bod y polisi'n afrealistig o'r dechrau. Nid yw dull un maint i bawb yn gweithio ac mae'n effeithio'n andwyol ar un o ddiwydiannau mwyaf hanfodol Cymru. Weinidog, onid yw'n bryd i chi gyfaddef bod y trothwy hwn yn anghyraeddadwy i lawer, a'i ddwyn i lawr i darged teg, cyraeddadwy? Ac a fyddech chi'n dadlau ei bod hefyd yn amlwg fod angen adolygu cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn cyn gynted â phosibl?
Wel, Lywydd, mae 60 y cant o fusnesau yng Nghymru yn cyrraedd y trothwy. Nid yw'r trothwy yn angheuol i unrhyw fusnes. Mae'n golygu'n syml, os nad ydych chi'n cyrraedd y trothwy hwnnw, nad oes gennych hawl i hawlio rhyddhad ardrethi annomestig. Nawr, os oes rhaid i fusnes ddychwelyd i dalu'r dreth gyngor, yna rwy'n credu y dylai awdurdodau lleol fod yn rhesymol ynglŷn â'r ffordd y mae'r dreth gyngor honno wedyn yn cael ei chyflwyno a sut y mae'n rhaid talu'r bil ychwanegol hwnnw. Er enghraifft, mae yna awdurdodau lleol nad ydynt yn codi premiwm yn y flwyddyn gyntaf y daw'r dreth gyngor yn daladwy eto. Rwy'n credu bod yna bethau rhesymol y gall awdurdodau lleol eu gwneud i lyfnhau'r llwybr os nad yw busnes yn gweithredu ar y trothwy 182 diwrnod. Mae hynny yn y papur ymgynghori. Ac mae'n ymddangos mai myth yw'r hyn sy'n mynd o gwmpas yr ystafell y prynhawn yma, sy'n dweud os nad yw rhywbeth yn cael ei grybwyll yn benodol yn y papur ymgynghori, na chaniateir i chi sôn amdano mewn unrhyw ateb. Nid yw hynny'n wir o gwbl yn yr ymgynghoriad hwn. Fel y dywedais eisoes, os oes gan unrhyw un syniadau y maent eisiau eu cyfrannu at yr ymgynghoriad yn ychwanegol at y rhai sy'n cael eu nodi ynddo, dylent fwrw ymlaen i wneud hynny.
8. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn Nwyrain De Cymru? OQ63076
Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni wedi darparu dros £33 miliwn o gyllid grant cyfalaf i awdurdodau lleol yn y rhanbarth, gydag £1.8 miliwn ychwanegol trwy'r grant addysg, i weithredu ar ymrwymiadau o fewn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae hyn wedi arwain at agor chwe ysgol Gymraeg newydd ers 2022.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Dwi eisiau canolbwyntio ar un o'r ysgolion hynny—Ysgol Gymraeg Trefynwy—sydd newydd ddathlu blwyddyn o fod ar agor. Mae'r ysgol yn llwyddo i feithrin cariad at y Gymraeg ymhlith plant a theuluoedd, ond does dim cartref penodol wedi'i glustnodi iddi ar hyn o bryd gan y sir. Gaf i ofyn ichi felly sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i gynnal a datblygu'r Gymraeg yn lleol, yn enwedig yn achos sir Fynwy, lle mae'r angen yn arbennig o fawr? Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod buddsoddiad priodol a chynaliadwy yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol yr ysgol, a rhai eraill yn fy rhanbarth rydych chi wedi eu nodi yn barod, ac i gryfhau'r Gymraeg yn y gymuned ac yn y system addysg?
Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths, Llywydd, am y cwestiynau ychwanegol. Dwi'n ymwybodol am y sefyllfa yn Ysgol Gymraeg Trefynwy. Fel mae'r Aelod wedi dweud, mae'r ysgol, sydd newydd dechrau, wedi llwyddo. Mae mwy o blant wedi dod ymlaen i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg nag oedd y cyngor sir yn disgwyl yn wreiddiol. Y pwynt nawr yw bod yn glir am ddyfodol yr ysgol yn yr hir dymor.
Lywydd, sefydlwyd Ysgol Gymraeg Trefynwy fel yr hyn a elwir yn 'egin ysgolion': ysgol i ddechrau'r gwaith o sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn haws i rieni a phobl ifanc yn yr ardal honno. Lle'r awdurdod lleol nawr yw cynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor yr ysgol honno. Fy nealltwriaeth i yw bod lle wedi bod o'r dechrau ar ei safle presennol iddo dros fwy na dim ond dwy neu dair blynedd. Ond rwy'n deall y pwynt sydd y tu ôl i gwestiwn yr Aelod; bydd rhieni a staff yn chwilio am sicrwydd ynglŷn â lleoliad hirdymor yr ysgol honno. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r swyddog arweiniol ar gyfer addysg yn sir Fynwy, a chyda'r swyddog arweiniol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n deall y bydd papur yn mynd i gabinet y cyngor sir yn yr hydref, yn nodi'r opsiynau sydd yno ar gyfer lleoliad hirdymor yr ysgol honno, gan gydbwyso, fel y mae'n rhaid iddo ei wneud, y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a'r amcanestyniadau cyffredinol ar gyfer gostyngiad yn nifer y plant ifanc sy'n mynd i mewn i addysg yn y sir dros y degawd i ddod. Nid wyf yn credu y dylem ymddwyn fel pe baem yn meddwl bod y rhain yn bethau hawdd i'w datrys, ond rwy'n cytuno ei bod yn bwysig i'r ysgol hon, Ysgol Gymraeg Trefynwy, gael sicrwydd ynglŷn â'i lleoliad hirdymor ac y gall barhau â'r llwyddiant y mae wedi'i gael hyd yma yn denu mwy fyth o bobl ifanc i addysg cyfrwng Cymraeg.
9. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch cymhellion cyllidol i annog newid moddol? OQ63077
Diolch i Jenny Rathbone. Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn annog newid dulliau teithio i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd drwy ystod o bolisïau trafnidiaeth cadarnhaol, ac yn darparu cyllid ar gyfer teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, ac i awdurdodau lleol i wella gwasanaethau a seilwaith. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n tocyn bws £1 newydd sy'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.
Mae'r tocyn bws £1 i'w groesawu'n fawr ac mae'n wych gweld bod cymaint o'r cwmnïau bysiau wedi ymgymryd â'r broses honno.
Rwyf am archwilio sut y gwnawn y mwyaf o'r budd o'r £800 miliwn gwych a wariwyd ar linellau craidd y Cymoedd. Yn bersonol, rwyf wedi bod yn defnyddio llinell Rhymni yn ddiweddar ac wedi ei chael yn ddibynadwy. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael bob amser yno, mae'r trên bob amser yn cyrraedd ar amser. Pan oedd yn rhaid i mi yrru i Gaerffili yn ystod yr oriau brig, cefais fy synnu o weld cymaint o bobl yn dal i gymudo o Gaerdydd i Gaerffili mewn car, gyda chiwiau enfawr y tu ôl i ni. Felly, rwy'n meddwl tybed sut y gallwn annog mwy o bobl i wneud yr hyn sy'n ddefnydd llawer mwy effeithiol o'u hamser, a mynd ar y trên.
Un o'r ffyrdd y gallem wneud hynny sydd wedi cael ei drafod gan Gyngor Caerdydd yn y gorffennol, yw trwy godi tâl am dagfeydd ar adegau pan fo'r ffyrdd wedi'u blocio'n llwyr—wedi'u blocio'n llwyr—ac mae fy etholwyr yn dioddef holl gostau'r llygredd aer. O ystyried bod pobl sy'n gweithio yng nghanol Caerdydd yn hapus iawn i ddefnyddio'r gwasanaethau rheilffyrdd, pam nad yw'n bosibl annog mwy ohonynt i wneud hynny pan fyddant yn sylweddoli pa mor rhesymol yw'r prisiau?
Wel, Lywydd, rwy'n rhannu dymuniad Jenny Rathbone i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn enwedig llinellau craidd y Cymoedd, gyda phopeth y maent yn ei gynnig nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y cymhellion cadarnhaol i wneud hynny, ac rwy'n credu bod o leiaf dri o'r rheini y gallwn eu defnyddio ymhellach er mwyn parhau i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny. Ac wrth gwrs, bu twf cadarn iawn yn y defnydd o'r gwasanaethau hynny ac yn yr arian tocynnau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi gallu ei gasglu o ganlyniad.
Y cyntaf, rwy'n credu, yw'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone wrth agor, oherwydd y cyfnod hwnnw pan oedd trenau'n cael eu darparu'n hwyr iawn i Trafnidiaeth Cymru, roedd yna gyfnod pan nad oedd eu gwasanaethau mor ddibynadwy nac mor aml ag yr oedd Trafnidiaeth Cymru ei hun wedi'i ddisgwyl. Rhaid inni berswadio pobl fod y cyfnod hwnnw y tu ôl i ni a bod y buddsoddiad bellach yn talu ar ei ganfed, fel bod gennym wasanaethau mwy aml, cyflymach a mwy dibynadwy. Ac wrth i'r enw da hwnnw wreiddio, rwy'n credu y bydd mwy o bobl yn gwneud y dewis y mae Jenny Rathbone wedi'i grybwyll. Yna, gallwn weld y newid tuag at docynnau talu wrth fynd, sy'n cael ei gyflwyno ar draws ardal metro de Cymru gyfan. Ac rydym yn gwybod o'r hyn y mae teithwyr yn ei ddweud bod system tocynnau talu a mynd yn ei gwneud hi'n gyflymach, yn haws ac yn fwy cyfleus ac yn rhatach i deithio. Felly, nid wyf yn credu ein bod wedi dihysbyddu'r ffyrdd cadarnhaol y gallwn eu defnyddio i barhau i berswadio pobl i wneud gwell defnydd o'r hyn a fydd yn system drafnidiaeth ranbarthol sy'n arwain y ffordd yn Ewrop yma yn ne Cymru, ac yna fe welwn fwy fyth o bobl yn elwa yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i ddisgrifio o'i phrofiad ei hun.
Yn olaf, cwestiwn 10, Mabon ap Gwynfor.
10. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan fusnesau preifat? OQ63089
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg gan fusnesau preifat yn elfen bwysig o’n strategaeth 'Cymraeg 2050'. Un enghraifft o’r gefnogaeth rydyn ni'n ei rhoi i fusnesau yw’r gwaith mae gwasanaeth Helo Blod yn ei gyflawni. Ers ei sefydlu, rydyn ni wedi prosesu 8,000 o geisiadau am gymorth gan fusnesau.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Mae'n dda clywed bod mwy o fusnesau'n cymryd diddordeb mewn darparu gwasanaethau Cymraeg. Nôl ar ddechrau'r 1990au, roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 bryd hynny yn gwbl drawsnewidiol, gan roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi darpariaeth ddwyieithog neu gyfrwng Cymraeg. Ond ers hynny, wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld lot yn fwy o wasanaethau cyhoeddus Cymru yn allanoli eu gwaith i gwmnïau preifat sydd heb y disgwyliad yna, felly, i roi'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Pa ystyriaeth ydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet a'r Llywodraeth wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod cwmnïau preifat sydd yn ennill contractau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru?
Wel, fel mae'r Aelod wedi ei ddweud, Llywydd, does dim pwerau statudol gennym ni ar hyn o bryd i roi dyletswyddau ar fusnesau preifat, ac ar y cyfan dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i gydweithio â nhw a’u perswadio i ddefnyddio mwy o Gymraeg, ac mae'r gwaith mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei wneud yn y maes yma wedi bod yn bwysig. Ond hefyd rydyn ni yn clywed ac rydyn ni'n gwybod am enghreifftiau ble mae busnesau yn tynnu nôl o ddefnyddio’r Gymraeg. Bob tro mae hynny'n digwydd, mae'n rhoi mwy o bŵer i bobl sy'n dadlau am gael mwy o bwerau statudol yn y maes yma. Nawr, ar hyn o bryd, rydym yn bwrw ymlaen gyda’r pwerau sydd gennym ni i berswadio pobl, gan roi yr enghreifftiau da sydd gennym ni i berswadio pobl eraill. Ond, yn y tymor nesaf o'r Senedd, dwi’n siŵr y bydd pobl eisiau ystyried os ydyn ni wedi dod at y pwynt ble mae angen deddfu i roi mwy o bwerau yn nwylo’r comisiynydd, a mwy o ddyletswyddau ar fusnesau preifat, os ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt yna. Dydyn ni ddim yna eto ac, ar y cyfan, rydyn ni wedi llwyddo i gynyddu defnydd y Gymraeg trwy'r enghreifftiau da a pherswadio pobl i’w wneud e.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ffermwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ63058
Diolch, Peredur. Rydym yn cefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru gyfan drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac rydym yn cefnogi ffermwyr yn Nwyrain De Cymru yn benodol gyda dros £22 miliwn o daliadau cynllun taliad sylfaenol 2024, ac mae cymorth fferm hefyd yn cael ei ddarparu drwy ein cynlluniau buddsoddi gwledig, gyda chyllideb yn 2024-25 o £97.64 miliwn.
Diolch am yr ateb yna.
Roeddwn yn sioe amaethyddol Brynbuga ddydd Sadwrn, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl o bob rhan o'r rhanbarth yno, hyd yn oed gyda'r cawodydd mynych. Un o'r prif bynciau trafod gyda'r gymuned ffermio oedd twbercwlosis a gwaith y grŵp cynghori technegol ar TB mewn gwartheg. Y cwestiwn mawr gan ffermwyr, ac fe'i gofynnaf i chi yn uniongyrchol, oedd: a wnewch chi ymrwymo i dderbyn a gweithredu argymhellion y grŵp cynghori technegol ar TB mewn gwartheg yn llawn, gan gydnabod y brys i ddatblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael â'r clefyd hirsefydlog hwn? O ystyried effeithiau economaidd, emosiynol a lles difrifol TB ar deuluoedd ffermio ledled Cymru, sut y gwnewch chi sicrhau bod cyngor gwyddonol y grŵp nid yn unig yn cael ei gyhoeddi'n dryloyw, ond hefyd yn cael ei drosi'n fesurau polisi ymarferol cadarn sy'n ennyn hyder, yn cyflawni cynnydd mesuradwy, ac yn darparu eglurder, cysondeb a sicrwydd hirdymor i'r gymuned ffermio ar gyfer y dyfodol?
Diolch, Peredur. Diolch yn fawr am hynny. Rwyf innau hefyd wedi bod allan yn llawer o'r sioeau dros gyfnod yr haf, yn sgwrsio â ffermwyr am TB a llawer o faterion eraill hefyd. Roeddwn yn falch iawn o fynychu cyfarfod diweddar, yn eistedd ar fyrnau gwair, ynghyd â'r Llywydd, gyda nifer o ffermwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan TB, a chlywed eu straeon torcalonnus nhw a'u teuluoedd wrth iddynt geisio ymdopi â TB, rai ohonynt dros lawer iawn o flynyddoedd.
Nawr, i fod yn glir, rwyf bob amser wedi bod yn glir iawn am y grŵp cynghori TB— dan arweiniad arbenigwyr fel y mae—pan fydd yn cyflwyno argymhellion, yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yw ein bod wedi gweithredu ar y rheini ac rydym wedi eu gweithredu'n gyflym iawn hefyd, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod allan yn y maes. Maent yn gweithio ar argymhellion pellach i'w cyflwyno. Byddant yn dod ataf maes o law, a byddaf yn eu hystyried wrth iddynt ddod ger bron wrth gwrs, ond mae'r Llywodraeth hon wedi bod â ffydd yn y grŵp cynghori ar TB—wedi'i arwain gan fwrdd y rhaglen yn ogystal—a phan fyddant yn cyflwyno argymhellion, cawn ein cynghori gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru hefyd, ac rydym yn gweithredu'n gyflym iawn ar yr argymhellion hynny.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch inni fod yn hollol onest yma: nid yw'r Llywodraeth Lafur hon a'r Llywodraeth Lafur ar ben arall yr M4 yn cefnogi ffermwyr mewn unrhyw ddull na modd. Rydych chi'n gwneud y gwrthwyneb yn llwyr, gyda ffermwyr yn cael eu cosbi bob gafael, a hynny er bod ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol o ran diogeledd bwyd, ein heconomi, ein cymunedau gwledig, ac wrth gwrs, hebddynt ni fyddai gennym fwyd. Dim ond un enghraifft o ymosodiadau'r Blaid Lafur ar ein ffermwyr gweithgar yw'r dreth ar y fferm deuluol. Yn ôl ymchwil, yng Nghymru disgwylir i'r dreth lesteiriol hon arwain at ostyngiad o £580 miliwn i werth ychwanegol gros, at golli 9,715 o swyddi, ac at leihau trosiant busnes dros 12.2 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y dreth hon yn drychinebus i'r diwydiant ffermio, gan gynnwys yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth Lafur y DU i roi'r gorau i'r dreth hon er mwyn diogelu ein ffermwyr, neu a ydych chi'n mynd i fod yn hapus i sefyll yn ôl a gwylio eich cymheiriaid yn dinistrio'r diwydiant hwn? Diolch.
Rwy'n gwrthwynebu sylwedd y cwestiwn fel y cafodd ei ofyn gan Natasha yn gyfan gwbl. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn gadarn ar ochr rheoli tir yn gynaliadwy ac yn dda, cynhyrchu bwyd a hefyd enillion i'r amgylchedd, amddiffyn rhag llifogydd a bioamrywiaeth. Rydym wedi dangos hynny trwy ein gwaith ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a lansiwyd gennym yn gynharach yr haf hwn. Pan edrychwch ar ymatebion rhai o'r sefydliadau i hynny, boed yn undebau ffermio neu Gymdeithas y Ffermwyr Tenant ac yn y blaen, rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod nid yn unig wedi ymgysylltu â'r gwaith a wnaethom, a chydnabod natur gydweithredol y gwaith a wnaethom, maent hefyd, ochr yn ochr â ni, wedi bod yn annog ffermwyr i gamu ymlaen dros yr haf a defnyddio'r canllaw cyflym a ddarparwyd gennym i edrych ar beth fyddai'r effeithiau ar eu fferm.
I fod yn hollol glir yma, o safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym am sicrhau dyfodol math o ffermio yng Nghymru sy'n nodweddiadol iawn o Gymru, y ffermydd teuluol bach a chanolig hynny sydd nid yn unig yn sylfaen i gynhyrchiant bwyd, stiwardiaeth tir a stiwardiaeth amgylcheddol, ac a all ein helpu fel y gallwn ni eu helpu hwy gyda gwytnwch hinsawdd wrth i ni wynebu sychder ac wrth i ni wynebu llifogydd, ond hefyd y byddwn yn sefyll gyda nhw ac yn eu cefnogi, yn enwedig gyda'r £238 miliwn yr ydym wedi'i ddyrannu eleni ar gyfer y dyfodol o gyllideb cynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn sefyll dros ffermio cynaliadwy yng Nghymru, a hefyd yr holl ffermwyr a'u teuluoedd sy'n cynhyrchu bwyd da.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf innau hefyd yn sgwrsio'n rheolaidd gyda'n ffermwyr yn Nwyrain De Cymru, gan gynnwys yn sioe wych Brynbuga, ac yng Nghaerffili yn ddiweddar. Yn hytrach na theimlo eu bod yn cael eu cefnogi, maent yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi'n barhaus gan y Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4. Y dreth etifeddiant yw'r un polisi sy'n achosi fwyaf o bryder i ffermwyr, ac mae'n bygwth bodolaeth ein ffermydd teuluol ledled Cymru, a'r holl gymunedau gwledig y maent yn eu cefnogi. Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth eich Prif Weinidog yn hollol glir ei bod eisiau torri cysylltiadau â'r llong sy'n suddo, sef Llywodraeth Lafur y DU. Nawr, gyda'r tensiynau amlwg hynny rhwng y Llywodraeth hon a San Steffan, a ydych chi a'r Prif Weinidog wedi llwyddo i gyflwyno unrhyw sylwadau gan ffermwyr Cymru ynghylch y pryderon go iawn sydd ganddynt am y dreth etifeddiant? A ydych chi'n fodlon cyhoeddi'r hyn a ddywedwyd rhwng eich Llywodraethau, gan mai eich gwaith chi fel Llywodraeth Lafur Cymru yw ymladd dros ein ffermwyr yng Nghymru, nid ildio i Lywodraeth y DU, neu dorri cysylltiadau â hi pan fo hyn mor arwyddocaol i Gymru? Diolch.
Diolch. Gadewch i mi ymdrin â sylwedd y cwestiwn. Yn gyntaf oll, rydym wedi cyflwyno sylwadau cyson, wrth inni ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy, i Lywodraeth y DU, mewn ymgysylltiad gweinidogol yn uniongyrchol, ond hefyd yn ysgrifenedig, gan gynnwys gohebiaeth fwy diweddar ag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig—er bod y personél wedi newid yno bellach wrth gwrs—lle gofynasom i Lywodraeth y DU ystyried yr holl gynigion amgen ymarferol hynny, addasiadau i'r polisi a allai liniaru unrhyw effeithiau posibl ar ein ffermydd teuluol bach a chanolig, megis y dadansoddiad a gyflwynwyd gan y Ganolfan Dadansoddi Trethiant. Rydym hefyd wedi gofyn am sicrwydd nad yw'r newidiadau i'r dreth etifeddiant yn effeithio ar ein cynlluniau ar gyfer dyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru.
Felly, byddaf i a'r Prif Weinidog ac eraill yn parhau i gyflwyno'r sylwadau hynny, ond peidiwch â chamgymryd mai'r rheswm pam ein bod yn y sefyllfa annymunol hon yw oherwydd y twll du a adawodd y Ceidwadwyr, yr oedd hi'n aelod ohonynt ar un adeg, yng nghyllid y genedl.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y nifer o ffermydd cyngor yng Nghymru? OQ63090
Diolch, Mabon. Mae ffermydd awdurdodau lleol yn ased pwysig i'r diwydiant amaethyddol. Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn dangos bod 954 o ffermydd awdurdodau lleol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedoch chi, maen nhw yn ased pwysig ac mae'n rhaid i ni drio eu cadw nhw. Fel rhan o'r ystâd yma o ffermydd, mae arnyn nhw, wrth gwrs, dai. Mae gan Lywodraeth Cymru reolau ynghylch ansawdd tai cyhoeddus yng Nghymru a safonau'r tai yna. Mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd safonau penodol er mwyn i bobl fedru byw ynddyn nhw. Ond dydy'r safonau yna a'r rheolau yna ddim yn perthyn i dai ar ffermydd awdurdodau lleol. Mae nifer o'r tai yma sydd ar ein ffermydd cyhoeddus ni yn rhai o ansawdd gwael iawn, efo toeau yn gollwng, efo tamp ynddyn nhw, efo dŵr ffynnon, ac yn y blaen. Mae angen gweld buddsoddiad ynddyn nhw. Os ydyn ni am weld parhad y ffermydd cyhoeddus yma, yna mae'n rhaid i ni weld buddsoddiad ynddyn nhw, yn benodol yn y tai, fel bod y teuluoedd yn medru byw yn y tai yna'n gyfforddus. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yna'n mynd mewn a'n bod ni'n gweld y tai ar ein ffermydd llywodraeth leol yn gwella yn eu hansawdd?
Diolch, Mabon. Rwy'n deall y bwriad y tu ôl i'r cwestiwn hwn. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae pwysigrwydd gwirioneddol i dirddaliadau a mân-ddaliadau awdurdodau lleol, yn enwedig gan y gallant fod yn borth i'r byd amaeth i lawer o bobl. Felly, maent yn wirioneddol bwysig. Fodd bynnag, mae'n werth dweud nad yw'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol ynddo na chwarae rhan ynddo. Mae'n fater i awdurdodau lleol ei ystyried.
Rwy'n sylweddoli, yn ddiweddar, fod un awdurdod lleol yn benodol wedi cyflwyno cynnig nid yn unig i gael gwared ar y tir ond ar y tai hefyd, ond ei fod wedi ailystyried hynny. Ond mater i'r awdurdod lleol yw gwneud hynny. Nid yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, Mabon, yn rhoi rheolaeth i Weinidogion dros bwerau awdurdodau lleol dros eu tir a gwaredu tir. Mae Adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, os yw'n ystyried gwaredu tir, gael y pris gorau y gellir ei gael yn rhesymol, oni bai y ceir caniatâd Gweinidogion Cymru i'w werthu am bris is na'i werth.
O ran Llywodraeth Cymru, Mabon, rydym yn awyddus iawn i sicrhau, fel y gwnaethom wrth gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, fod llawer o lwybrau i bobl fynd i mewn i ffermio ac amaethyddiaeth a chynnal yr economïau gwledig hynny. Yr hyn sydd o fewn ein pwerau yw'r gallu i gefnogi rhywfaint o'r symudedd hwnnw o fewn y diwydiant—datblygu sgiliau, mynediad at hyfforddiant, pethau fel ffermio ar y cyd, a datblygu diwydiant amaethyddol proffesiynol modern. Rydym yn gwneud llawer o hynny drwy gynlluniau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ond awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau o ran eu tirddaliadau.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn.
Gan adeiladu ar yr hyn y mae Mabon wedi'i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod tai cyngor cyffredin yn dod o dan Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016, gyda gofynion ychwanegol megis gwiriadau diogelwch trydan a synwyryddion mwg gwifredig o dan reoliadau 2022. Ar y llaw arall, mae tai sy'n cael eu gosod o dan denantiaethau busnesau fferm ar ffermydd cyngor yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995, gyda safonau tai ond yn cael eu gorfodi drwy'r system mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai yn Neddf 2004. O ystyried bod anghysondebau o ran safonau tai cyngor, boed yn cael eu gosod fel tŷ cyngor unigol neu'n rhan o fferm gyngor, pa ohebiaeth ydych chi'n ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros dai i gyflwyno rhywfaint o gydraddoldeb yn hyn o beth fel bod gan y rhai sy'n rhentu eiddo fferm gyngor yr un safonau byw â'r rheini mewn eiddo cyngor arferol?
Diolch, Sam. A gaf i eich gwahodd chi a Mabon i ysgrifennu ataf? Rwy'n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny ar draws y Cabinet i archwilio'r mater hwn. Rydych chi wedi codi mater dilys, ond cysylltwch â mi, ac rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl atoch ar ôl trafod y mater gyda fy nghyd-Weinidogion.
Mae ffermydd sy'n eiddo i awdurdodau lleol, fel y dywedoch chi a Mabon ap Gwynfor, yn rhan bwysig iawn o'r sector amaethyddol yng Nghymru. Maent yn cynnig cyfle i newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant amaethyddol.
Fe sonioch chi am nifer y ffermydd awdurdod lleol sydd i'w cael bellach. Credaf ichi ddweud bod gennym 934 ohonynt, sy'n dangos gostyngiad sylweddol dros y 15 mlynedd diwethaf, gan fod cynghorau wedi bod yn gwerthu'r asedau amaethyddol hyn, at ddiben arall fel arfer, fel adeiladu tai. Ac wrth gwrs, ar ôl iddynt gael eu gwerthu, maent wedi eu colli am byth.
Fe wnaethoch chi amlinellu rhywfaint o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gydag awdurdodau lleol. Rwy'n sylweddoli mai mater i awdurdod lleol yw sut y maent yn defnyddio eu hasedau, ond beth yn fwy y credwch chi y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y ffermydd hyn yn aros o fewn y sector amaethyddol?
Diolch yn fawr, Lesley. Credaf fod gennym rôl i'w chwarae fel Llywodraeth Cymru i egluro mai ein bwriad yw defnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i sicrhau bod gan bobl ifanc ac eraill lwybr i mewn i ffermio, ac yn aml iawn, mai trwy dirddaliadau sy'n eiddo i awdurdodau lleol y mae gwneud hynny. Er nad oes gennym reolaeth uniongyrchol drostynt, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd diogelu buddiannau'r sector tenantiaethau amaethyddol yng Nghymru. Rydym wedi llwyr ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n bodoli, fel y ffermydd awdurdodau lleol i'r rheini sy'n dymuno gwneud gyrfa ym myd amaeth. Yn ddiweddar iawn, ysgrifennais at brif swyddogion gweithredol pob awdurdod lleol, yn gofyn am eu hymatebion i arolwg o fwriadau ar gyfer eu tirddaliadau yn y tymor byr, canolig a hir. Bydd fy swyddogion a minnau'n dadansoddi'r ymatebion pan gawn y wybodaeth, ac rwy'n siŵr y gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Y prynhawn yma, roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan mewn digwyddiad Climate Cymru, ac yn wir, roeddwn yn un o'r siaradwyr ar y panel yno. Maent yn amlwg yn awyddus i wthio am ddyfodol iachach, tecach a mwy diogel fel rhan o 'Gweithredwch Nawr am y Dyfodol'. Maent wedi galw am degwch a phontio teg. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oes unman sy'n fwy prin o hynny yn ôl pob golwg na'n sector dŵr.
Dros y 18 i 24 mis nesaf, mae Dŵr Cymru yn disgwyl lleihau ei weithlu 12 y cant. Mae hynny'n golygu diswyddo hyd at 500 o bobl, a hynny ar adeg pan fo'n biliau dŵr wedi cynyddu oddeutu 27 y cant. Mae Peter Perry, y prif weithredwr, sydd wedi cael cyflog o ymhell dros £0.5 miliwn y flwyddyn dros y blynyddoedd, wedi arwain y gwaith o amddiffyn y rhaglen benodol hon i dorri’r nifer hwn o staff.
Rwyf wedi dweud yn glir wrth Gadeirydd ein pwyllgor newid hinsawdd y dylai'r prif weithredwr presennol ddod ger ein bron fel y gallwn graffu arno, ac rwy'n deall y byddwn yn trafod hyn yn y pwyllgor bore yfory. Fodd bynnag, mae un broblem fawr. Mae Roch Cheroux yn dechrau fel y prif weithredwr fis nesaf.
A yw'r Dirprwy Brif Weinidog yn cytuno â mi y dylid gohirio'r rhaglen arfaethedig i ddileu 500 o swyddi? Yn y rhan fwyaf o fusnesau, boed yn fusnesau di-elw neu'n fusnesau da, dylai'r prif weithredwr newydd fod eisiau gweld sut y gall wneud y cwmni'n llawer gwell nag y mae wedi bod. Mae pob un ohonom wedi sefyll yma a gwneud sawl cyfeiriad—
Rwyf wedi bod yn hael iawn. Mae angen ichi ddod at eich cwestiwn.
Mae pob un ohonom wedi sefyll yma sawl gwaith ac wedi condemnio gweithredu gwael gan Dŵr Cymru.
Byddwn yn sicr yn annog Dŵr Cymru i ymgysylltu â'r undebau llafur, cynrychiolwyr y gweithle, ac eraill. Maent wedi nodi'n glir, os ydynt yn bwrw ymlaen â'r cynigion hyn, mewn ymgynghoriad â'r gweithlu, mai eu bwriad yw canolbwyntio ar ddiswyddiadau gwirfoddol ac ailddyrannu staff, er mwyn lleihau'r nifer o swyddi a gollir. Maent hefyd yn canolbwyntio ar y rheng flaen. Mae'n werth dweud, o ran yr agwedd rheng flaen honno, ein bod, wrth gwrs, fel y gwyddoch, wedi rhoi cyllid penodol ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru eleni ar gyfer gwaith gorfodi mewn perthynas ag ansawdd afonydd. Felly, pob clod i Climate Cymru a phawb arall sy'n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn gwneud y pethau cywir mewn perthynas â'r hinsawdd, ond hefyd o ran iechyd ein systemau afonydd hefyd. Bydd yn rhaid i bawb chwarae rhan yn hynny o beth: y cwmnïau dŵr, datblygwyr, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cynllunwyr a'n cymuned ffermio hefyd. Rwy'n gobeithio bod hynny o gymorth, Janet.
Diolch. Nid oes amheuaeth fod angen newidiadau mawr yn Dŵr Cymru. Yn fy marn i, dylent gael eu nodi a'u harwain gan brif weithredwr a fydd yno i'w gweld yn cael eu gweithredu. Ym mis Gorffennaf, galwodd Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yn oed ar Dŵr Cymru i wneud newidiadau brys a sylfaenol i'w gweithrediadau. Fodd bynnag, mae angen i chithau hefyd wneud newidiadau sylfaenol nawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn ddeifiol. Er enghraifft, nid oes adroddiad wedi bod ar y cynnydd a wnaed gyda strategaeth ddŵr i Gymru 2015 ers bron i ddegawd, ac mae'r comisiwn wedi nodi rhestr o dros 100 o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â sut y caiff dŵr ei reoleiddio yng Nghymru. Canfu adolygiad 2017 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer carthffosiaeth a draenio fod rhwystrau'n cael eu goresgyn er gwaethaf y ddeddfwriaeth, nid o'i herwydd. Pam nad yw'r ddeddfwriaeth a'r strategaeth sy'n nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid rheoli ein gwasanaethau a'n hadnoddau dŵr wedi cael eu symleiddio yn y naw mlynedd diwethaf? Pam y mae pobl Cymru yn gorfod dioddef o ganlyniad i'r oedi hwn cyn adrodd?
Rydym yn canolbwyntio'n agos ar gamau gweithredu. Yn gyntaf oll, hoffwn nodi, fel y gwyddoch, nad wyf yn uniongyrchol gyfrifol am Dŵr Cymru, ond rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Rydym yn asesu eu perfformiad yn rheolaidd ac yn eu gwthio i fynd ymhellach ac yn gyflymach. O ganlyniad i'r adolygiad pris diweddar, fel y gwyddoch, bydd buddsoddiad sylweddol yn asedau Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, gan gynnwys mynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr. Yr wythnos hon, gyda llaw, fe gyfarfûm ag Ofwat. Mae Ofwat a minnau'n rhannu'r awydd i wthio Dŵr Cymru yn galetach ac yn gyflymach ar eu perfformiad. Mae sawl maes lle maent yn tangyflawni, maent yn ymwybodol iawn o hynny, ac rydym yn mawr obeithio y bydd y prif weithredwr a'r cadeirydd newydd—mae cadeirydd newydd hefyd—yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu i wella perfformiad ar ran cwsmeriaid a'r amgylchedd yma yng Nghymru.
Diolch eto. Nid oes unrhyw un yn awgrymu y dylech redeg y cwmni dŵr, ond yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych, fel Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, yw fy mod yn credu bod gennych gyfrifoldeb i fy etholwyr a phobl ledled Cymru o ran sut rydym yn atal perfformiad gwael Dŵr Cymru. Mae'n rhyfeddol eich bod chi, fel Llywodraeth, wedi disgwyl i gwmnïau dŵr weithredu mewn cors reoleiddiol o'r fath, er gwaethaf bron i ddegawd o dystiolaeth fod angen ei symleiddio a bod angen gweithredu—10 mlynedd o dystiolaeth wedi'i hanwybyddu'n llwyr.
Dylid dechrau gwaith ar Fil dŵr (Cymru) ar frys, er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion comisiwn Cunliffe. Un o'r rhain yw creu rheoleiddiwr dŵr economaidd ar wahân ac annibynnol i Gymru. Rydym ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod angen i hynny ddigwydd yn gyflym. Y peth olaf sydd ei angen ar Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fod ganddynt eu problemau staffio eu hunain, yw mwy o gyfrifoldeb.
Felly, a ydych chi'n cytuno y dylem sefydlu asiantaeth llifogydd a dŵr newydd i Gymru, a fyddai'n etifeddu'r holl gyfrifoldebau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros lifogydd a dŵr, yn gweithredu fel cynlluniwr systemau cenedlaethol, yn cyfeirio cyllid, yn arwain y gwaith o gynhyrchu cynllun strategol, yn asesu'r amodau presennol, ac yn cyflwyno set o amcanion cenedlaethol a fydd yn rhoi diwedd ar fethiant presennol eich Llywodraeth a Dŵr Cymru?
Janet, i ateb eich pwynt olaf, nac ydw. Y peth olaf sydd ei angen arnom ar hyn o bryd yw ad-drefnu strwythurol er ei fwyn ei hun. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw canolbwyntio ar berfformiad. Fel y gwyddoch, ym maes llifogydd, a grybwyllwyd gennych, mae gennym y buddsoddiad mwyaf erioed yn mynd tuag at atal llifogydd. Mae hynny'n cynnwys popeth o'r cynlluniau mawr yr holl ffordd i lawr i glirio cwlfertau a monitro fideo ac yn y blaen. Rydym wedi trafod hynny sawl gwaith yma yn y Senedd.
Rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at adroddiad Jon Cunliffe. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad wedi rhoi sylw i'r strwythurau, dulliau gweithredu a'r fframwaith polisi gwahanol yma yng Nghymru hefyd. Nid yw'n achos o 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Mae'n sicr wedi dweud, mewn rhai agweddau, gan gynnwys cydweithio i fynd i'r afael â'r problemau hyn, ein bod ar y blaen mewn gwirionedd. Mae gennym rai o'r strwythurau ar waith eisoes. Mae'n cyflwyno argymhelliad penodol iawn ar reoleiddiwr i Gymru. Rydym yn gweithio'n ddwys nawr drwy fanylion yr hyn y gallai hynny ei olygu, gan gynnwys y meysydd lle byddai'n gwneud synnwyr ar sail y DU i gael rheoleiddio, yn ogystal â'r hyn y gallem ei wneud yma'n benodol iawn yng Nghymru. Ond rydym yn croesawu'r argymhelliad hwnnw.
Ni allaf ragweld, Janet, y byddwn yn cyflwyno Bil dŵr penodol cyn yr etholiad. Mae gennym ddigon o bethau eraill o'n blaenau, gan gynnwys un peth rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwneud ag ef, sef Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Felly, mae ein plât deddfwriaethol yn llawn, ond pwy a ŵyr beth a ddaw yn nhymor y Senedd nesaf? Fe synnwn yn fawr pe na bydd deddfwriaeth dŵr o fewn hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Brif Weinidog, mae gwaddol gwastraff cemegol yng Nghymru wedi gadael creithiau dwfn—yr halogiad sy'n gwenwyno ein tir a'n dyfrffyrdd. Mae cymunedau'n dal i fyw gyda'r gwaddol gwenwynig hwnnw heddiw. Rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag ymgyrchwyr ledled Cymru sy'n galw am gamau gweithredu ar hyn. Yn Ynys-ddu, er enghraifft, mae trigolion wedi gorfod dioddef gwaddol biffenylau polyclorinedig, neu PCBs, cemegau sydd mor beryglus nes bod eu cynhyrchu bellach wedi'i wahardd mewn 151 o wledydd, gan gynnwys yma yn y DU. Ac eto, er gwaethaf y gwaharddiad, mae safleoedd tirlenwi halogedig yn parhau'n falltod yn ein cymunedau. Mae llawer o'r safleoedd hyn wedi'u cofnodi'n anghywir. Mewn rhai achosion, dim ond rhan o'r hyn sydd wedi'i gladdu yno sy'n hysbys i ni. Mewn eraill, ni wyddom unrhyw beth o gwbl. Ond gallai cynnydd mewn glawiad yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ryddhau'r gwastraff hwn i'n cymunedau dro ar ôl tro. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn amcangyfrif y gallai fod hyd at 45,000 o'r safleoedd hyn ledled Cymru. A wnewch chi wrando ar eu galwad am asesiadau risg o'r safleoedd hyn ar gyfer monitro, a lle bo angen, gwaith adfer?
Diolch yn fawr. Rydych chi'n codi mater pwysig iawn yma, gan fod gwaddol gweithgareddau gwaredu gwastraff diwydiannol hanesyddol, safleoedd wedi'u halogi, yn broblem real iawn yma yng Nghymru, fel y mae ledled y DU. O ran Tŷ Llwyd, a grybwyllwyd gennych, yn ôl ym mis Rhagfyr, cymeradwyais grant cyfalaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wneud gwelliannau ar y safle hwnnw i wella draeniad ar y safle, gan ein bod mor ymwybodol, Delyth, o'r pwysau cynyddol, gan gynnwys drwy lawiad, a wynebwn nawr. Felly, bwriad hynny yw lleihau'r risg o ddigwyddiadau llygredd oddi ar y safle. Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau. Fel y dywedaf, digwyddodd hynny gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Ond mae heriau go iawn yma. Y peth da, byddwn yn dweud, yw ein bod yn ymwybodol iawn o hyn. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi'r safleoedd, ac yna'n gweithio gyda nhw fel y gallant gymryd y camau ataliol neu unioni angenrheidiol. Ond rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol mewn cyfnod heriol hefyd, lle maent yn ceisio penderfynu ar eu dyraniadau cyllidebol. Ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef gyda'n gilydd.
Diolch am hynny. Yn gysylltiedig â hyn, wrth gwrs, mae'r Senedd yn craffu ar y Bil llywodraethiant amgylcheddol hirddisgwyliedig. Nawr, mae hwnnw'n addo rhoi pwerau i Gymru sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol. Dylai'r corff allu dwyn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill i gyfrif am eu perfformiad amgylcheddol oherwydd—ac rydym wedi trafod hyn gymaint o weithiau yn y pwyllgor, wrth gwrs—ers Brexit, mae Cymru wedi bod mewn bwlch llywodraethu o ran ein byd naturiol. O ran tir halogedig, ni allwn fforddio aros yn hirach, allwn ni? Rydym yn sôn am ddegau o filoedd o safleoedd a allai fod yn gollwng tocsinau i'r pridd o dan ein traed, yn treiddio i afonydd sy'n rhedeg drwy ein dyffrynnoedd, ac yn bygwth diogelwch ein cartrefi a'n cymunedau. Mae hyn yn fater o frys mawr. Mae pob erw sydd wedi'i gwenwyno yn addewid wedi'i dorri i genedlaethau'r dyfodol. Felly, sut ydych chi'n rhagweld rôl y corff hwn wrth wynebu realiti tir halogedig, i gau'r bwlch llywodraethu hwnnw, ac i ddiogelu pobl, dŵr a bywyd gwyllt Cymru am genedlaethau i ddod?
Diolch, Delyth. A gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon, ar y cyd â'r pwyllgor ac Aelodau eraill o'r Senedd wrth iddynt graffu arni? Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi hyn ar y llyfr statud cyn gynted â phosibl. Mae angen inni lenwi'r bwlch deddfwriaethol rheoleiddiol rydych chi wedi'i nodi, yn gywir ddigon. Ac wrth gwrs, bydd hyn yn sefydlu awdurdod amgylcheddol annibynnol iawn a all fynd lle mae'n dewis mynd, nad oes ganddo Weinidog yn dweud, 'Cadwch draw o hyn', neu Weinidog yn dweud, 'Rydym yn mynnu eich bod yn canolbwyntio ar hynny ac yn ei flaenoriaethu'. Mater iddynt hwy fydd penderfynu ble maent yn mynd, a byddant yn darparu her i mi ac i gyrff cyhoeddus hefyd. Felly, os ydynt yn dewis canolbwyntio ar fater tir halogedig, mater iddynt hwy yw hynny, ac ni fyddwn am gyfyngu arnynt mewn unrhyw ffordd.
Ond i fod yn glir hefyd, ar hyn o bryd—a dyma'r agwedd ddiddorol—yn y ffordd y bydd y ddeddfwriaeth yn rhyngweithio yn y pen draw â dyletswyddau a chyfrifoldebau presennol, o dan Ran II(A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, y gofynion presennol, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i nodi tir halogedig yn eu hardaloedd. Os ydynt yn nodi tir sy'n bodloni'r diffiniad o dir halogedig, mae'n ofynnol iddynt sicrhau ei fod yn cael ei adfer yn briodol. Felly, bydd yn ddiddorol gweld, wrth symud ymlaen, a fydd y corff amgylcheddol newydd yn dweud, 'Wel, rydym yn mynd i herio a yw hynny'n digwydd ai peidio'. Ond dyna rym y ddeddfwriaeth rydym yn bwrw ymlaen â hi—mae'n rhoi llais annibynnol i ddweud, 'A yw'r dyletswyddau statudol ar bethau fel tir halogedig, ac ystod eang o faterion eraill, yn cael eu cyflawni'n briodol?'
Wel, edrychaf ymlaen yn fawr at weld hynny'n dod i rym.
Yn olaf, Ddirprwy Brif Weinidog, hoffwn droi at rywbeth sy'n dwyn popeth y siaradasom amdano heddiw ynghyd, sef cyfraith Zane, ymgyrch sy'n canolbwyntio ar yr angen brys am reoleiddio llymach mewn perthynas â thir halogedig. Nawr, mae cyfraith Zane wedi'i henwi ar ôl plentyn saith oed a gollodd ei fywyd pan ymdreiddiodd nwy angheuol o safle tirlenwi halogedig cyfagos i mewn i'w gartref yn dilyn llifogydd. Mae ei deulu wedi ymgyrchu'n ddiflino byth ers hynny. Maent yn benderfynol na ddylai unrhyw deulu arall ddioddef yr un galar a cholled, gan nad yw stori Zane yn drasiedi na allai ddigwydd eto. Mae'n ein hatgoffa'n dorcalonnus o'r hyn sydd yn y fantol pan na chaiff tir halogedig ei drin. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ystyried cyfraith Zane ac i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ar hyn hefyd—mae llawer o awdurdodau lleol ledled Lloegr eisoes wedi mabwysiadu'r egwyddorion hyn—fel y gallwn, gyda'n gilydd, sicrhau y ceir monitro priodol, rheoleiddio cryfach ac atebolrwydd go iawn er mwyn diogelu ein pobl, ein tir a chenedlaethau'r dyfodol rhag peryglon y safleoedd hyn? Gwn fod ymgyrchwyr cyfraith Zane wedi cynnal cyfarfod â Phrif Weinidog y DU. A fyddech chi'n cytuno na all Cymru gael ei gadael ar ôl yn hyn o beth?
Rwy'n cydymdeimlo â'r rhieni sydd wedi bod yn ymgyrchu mor ddiwyd ar gyfraith Zane, a chredaf fod ysbryd yr hyn y maent yn ceisio'i wneud yn rhan annatod o'n dull gweithredu yma yng Nghymru—nodi, monitro a chynnal gwaith adfer ar dir halogedig. Credaf y bydd y gwaith rydym yn ei wneud, a grybwyllwyd gennym yn gynharach gyda'r egwyddorion llywodraethiant amgylcheddol, yn helpu i gryfhau hynny hefyd. Felly, rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgyrch dros gyfraith Zane ac yn awyddus i sicrhau ein bod yn ymgorffori ei hysbryd yn yr hyn a wnawn yma yng Nghymru.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru? OQ63071
Diolch, Tom. Rydym yn darparu cymorth eang i ffermwyr yng Ngorllewin De Cymru a ledled Cymru, o gynlluniau cymorth amaethyddol i gyngor drwy Cyswllt Ffermio, ac rydym yn cefnogi dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru. Rydym yn cefnogi ffermwyr yng Ngorllewin De Cymru gyda mwy na £49 miliwn o dan gynllun taliad sylfaenol 2024.
Diolch am yr ateb.
Fe fyddwch yn gwybod cystal â minnau nad ffermio yw unig ddiwydiant llawer o ffermwyr o reidrwydd, ac mewn gwirionedd, mae llawer ohonynt wedi arallgyfeirio, yn aml o ganlyniad i anogaeth gan Lywodraeth Cymru, i fynd ar drywydd diwydiannau eraill. Ac mae hynny'n arbennig o glir yng Ngŵyr, yn fy rhanbarth etholiadol i, lle mae llawer o ffermwyr wedi ymuno â'r diwydiant twristiaeth, yn enwedig o ran eiddo gwyliau hunanddarpar. Nawr, cawsom drafodaeth am hyn o dan yr eitem flaenorol ar yr agenda, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn y maes hwn, ond mae llawer o ffermwyr yn teimlo eu bod bron wedi cael eu cosbi bellach oherwydd y newidiadau a wnaed i lety gwyliau hunanddarpar, a gorfod bodloni'r trothwy 182 diwrnod—cael eu cosbi, os mynnwch, am wneud y peth iawn, am arallgyfeirio eu busnesau yn y ffordd honno, fel y dywedaf, yn dilyn anogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn aml iawn. Felly, chi yw llais nid yn unig y diwydiant ffermio, ond ffermwyr a chymunedau gwledig ar draws bwrdd y Cabinet. Felly, pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ac eraill er mwyn bod yn llais i ffermwyr sy'n pryderu am y rheol 182 diwrnod?
Rydym yn cael y sgyrsiau hynny, Tom, gallaf roi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny, ac yn rhannol oherwydd ein bod yn cydnabod bod ffermio, oherwydd ei natur yng Nghymru—ei natur nodweddiadol yng Nghymru—yn aml iawn yn hynod amrywiol. Mae llawer iawn o agweddau i incwm fferm, a gallai gynnwys pobl sy'n gweithio oddi ar y fferm mewn gwasanaethau cyhoeddus—y sector cyhoeddus—neu sy'n rhedeg busnesau. Nawr, rhan o hynny, heb os, yw'r cynnig twristiaeth y mae llawer o ffermydd—y rhai sy'n ddigon ffodus i allu gwneud hynny—wedi arallgyfeirio iddo. Byddaf yn parhau â'r trafodaethau hynny, ond gwelais y cwestiynau cynharach i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg. Credaf iddo ateb hyn yn llawn, ac fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, carwn eich annog chi ac unrhyw un o'ch etholwyr, ac unrhyw etholwyr eraill ledled Cymru, i gyfrannu at y drafodaeth ynghylch dyfodol darpariaeth llety yng Nghymru, gan ei bod yn rhan bwysig o fusnesau fferm i lawer iawn o ffermydd y dyddiau hyn.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr eraill y mae digwyddiadau llifogydd anrhagweladwy yn effeithio arnynt? OQ63078
Diolch, Adam. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £77 miliwn yn 2025-26 i leihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer paratoi tir ffermio neu amaethyddol. Dwi'n annog pawb i gofrestru i wasanaeth rhybuddio am lifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybod a pharatoi'n well ar gyfer digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol.
Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r achos torcalonnus a fu yn fy etholaeth i yn ddiweddar, yn agos i Bont-iets fis yma, lle collodd ffermwr lleol 275 o ddefaid mewn llif ar ei dir o Wendraeth Fawr. Heb sôn am y gost, wrth gwrs, mae'r digwyddiad yma wedi cael effaith ofnadwy ar yr etholwyr yn emosiynol ac yn feddyliol—ar deulu sydd wedi goresgyn sawl her enfawr mewn bywyd cyn i'r llifogydd yma eu taro. Wrth i'r tywydd droi'n fwy anodd ei ddarogan yn sgil effaith newid hinsawdd, mae'n anochel y bydd rhagor o achlysuron lle mae llifogydd cyflym yn datblygu. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leihau nifer yr achosion fel yr un yma ac i adolygu'r system ragolygon llifogydd er mwyn cefnogi tirfeddianwyr ac amaethwyr, a pha gefnogaeth arall all gael ei chynnig i'r rheini sy'n cael eu heffeithio yn y fath fodd?
Diolch yn fawr, Adam. Rwy'n ymwybodol iawn o'r digwyddiad hynod drallodus hwnnw, a chredaf y bydd unrhyw un sydd wedi gweld rhywfaint o'r sylw ac wedi darllen am hyn yn torri eu calon dros yr unigolion dan sylw, ond hefyd dros yr anifeiliaid a gollwyd yn y llifogydd hynny. Yn gyntaf, gadewch imi bwysleisio fy mod yn gobeithio bod y ffermwr a'i deulu'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan fod hwn yn ddigwyddiad trawmatig.
Y ffordd y gallwn helpu, yn gyntaf oll, yw drwy ddweud wrth ffermwyr, os ydynt mewn ardaloedd risg llifogydd, y dylent gofrestru ar gyfer gwasanaeth am ddim rhybuddio am lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofrestrwch—mae gennym ormod o bobl sydd heb gofrestru. Mae angen inni sicrhau bod pawb wedi'u cofrestru, yn enwedig os ydynt mewn ardaloedd risg llifogydd.
Yn ail, mae cyngor i'w gael hefyd y dylai unrhyw un sy'n cadw anifeiliaid yn yr awyr agored gael cynllun wrth gefn ar waith, fel ffermwr, i ddiogelu lles yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol. Nid hwn oedd y digwyddiad tywydd cyntaf o'r fath ac nid hwn fydd yr olaf. Rydym bellach wedi eu gweld yn cynyddu dros y degawdau diwethaf yma yng Nghymru ac yn Lloegr hefyd. Mae'r cynlluniau wrth gefn hynny'n hanfodol, ac mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar sut i'w rhoi at ei gilydd. Lle mae risg llifogydd, dylai ffermwyr gael cynllun i ddiogelu'r anifeiliaid, ac mae hyn yn cynnwys ble y dylid eu symud a sut y byddant yn eu symud—sut y byddant yn cyrraedd yno.
Rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod ffermwyr yn aml yn gefnogol iawn i'w gilydd ac y byddant yn cydweithio yn y sefyllfaoedd hyn. Mae llawer o agweddau eraill sy'n berthnasol i hyn. Mae'n bwysig yn ystod y llifogydd, ond ar ôl y llifogydd hefyd, gan y gall tir pori a bwyd anifeiliaid gael eu halogi, felly mae angen monitro anifeiliaid yn agos wedyn. Felly, y cyngor i ffermwyr yw: gweithiwch gyda'r milfeddyg, cyn i hyn ddigwydd, ond ar ôl iddo ddigwydd hefyd, oherwydd os yw anifeiliaid wedi yfed dŵr llifogydd neu wedi bwyta bwyd a allai fod wedi'i halogi, gallai hynny greu risg uchel hefyd. Ond gweithiwch gyda'r milfeddyg, gweithiwch gyda chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru yma, a cheisiwch gymorth gan eraill o fewn y gymuned ffermio. Rwy'n pryderu am les y ffermwr yr effeithiwyd arno, ond am les anifeiliaid hefyd, ac nid dyma'r tro olaf y gwelwn hyn. Felly, paratoi yw popeth.
Roedd y lluniau o'r digwyddiad llifogydd yn etholaeth Adam Price yn dorcalonnus. Yn eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi sôn am rai o'r pethau y gall y ffermwr eu gwneud i osgoi neu helpu i liniaru rhywfaint o hyn. Ond dros y ffin, gwelsom ffermwr yn swydd Lincoln yn adeiladu eu cronfa ddŵr breifat eu hunain, felly yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw atal dŵr glaw rhag arllwys i lawr a chreu llifogydd mewn ardal i lawr yr afon, ac mae hefyd yn eu helpu mewn cyfnod o sychder, trwy fwydo eu cnydau. Felly, gallai fod o fudd i reoli dŵr yn well yn ein dalgylchoedd yma yng Nghymru, gan osgoi llifogydd a helpu mewn cyfnodau o sychder. Rwyf wedi gofyn o'r blaen pryd y cafodd y gronfa ddŵr ddiwethaf ei hadeiladu yma yng Nghymru, oherwydd fel y dywedodd y ffermwr, nid problem prinder dŵr sydd gennym, ond problem rheoli dŵr. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda chyrff eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, i edrych ar hyfywedd cronfeydd dŵr i fyny'r afon neu gronfeydd dŵr preifat gyda ffermwyr, i liniaru llifogydd i lawr yr afon yn y lle cyntaf, ac yn ail, i helpu i liniaru sychder mewn hafau sych?
Diolch, Sam. Fe fyddwch yn gwybod bod yr heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru o safbwynt yr hinsawdd a thywydd, yn enwedig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, yn sylweddol wahanol i'r rhai y maent yn eu hwynebu yn nwyrain Lloegr er enghraifft. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, os oes gan ffermwr gynnig teilwng i adeiladu capasiti cronfa ddŵr ychwanegol, byddai angen iddynt gyflwyno'r cynnig trwy'r broses gynllunio, trwy eu gweithdrefnau, ei redeg trwy CNC ac yn y blaen.
Nid oes unrhyw beth i atal ffermwr rhag cyflwyno cynnig mewn gwirionedd, ond mae ystod eang o ystyriaethau wrth wneud hynny. Gallaf weld atyniad hyn yn fwy o safbwynt rheoli sychder mewn rhannau o Loegr sydd bellach yn rheolaidd o fewn statws sychder, neu statws prinder dŵr. Yma yng Nghymru, os oes yna ffermwyr sydd eisiau cyflwyno'r cynigion hynny, gallant wneud hynny, ond byddai angen iddo fynd trwy'r ystod lawn o ystyriaethau.
Effaith newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i'n sector amaethyddol, ac mae'r tywydd eithafol lle rydym wedi gweld y digwyddiadau llifogydd niferus hyn a thywydd poeth, fel y gwelsom bedair gwaith dros yr haf hwn, yn cael effaith sylweddol ar ein cyflenwad bwyd. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein ffermwyr yn barod ar gyfer yr heriau y maent eisoes yn eu hwynebu oherwydd newid hinsawdd?
Diolch am eich cwestiwn, Lesley. Mae'n hanfodol bwysig. Y ffordd yr awn ati nawr i gynllunio'r cyllid sy'n mynd tuag at ffermio ar gyfer cynhyrchu bwyd, ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer gwytnwch hinsawdd—mae angen iddynt wneud yr holl bethau hynny er budd y ffermwr, ond hefyd i'r dalgylch dŵr hefyd. Ac mae hynny'n golygu, wrth lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, ein bod wedi gwneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu dull fferm gyfan, a dull cenedl gyfan yn ogystal. Y gallu o fewn y cynllun hwnnw, er enghraifft, i fwrw ymlaen â chamau gweithredu cydweithredol fel cynllun Ffermio Bro, un o'i ragflaenwyr, a gyflawnir gennym yn y parciau cenedlaethol ochr yn ochr â ffermwyr, lle gall ffermwyr weithio gyda'i gilydd i liniaru newid hinsawdd, delio â phethau fel dŵr ffo cyflym yn sgil llifogydd oherwydd bod y gorchudd coed wedi'i golli ac yn y blaen. Dyna lle mae angen i ni ganolbwyntio. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae hyn er budd ffermwyr, eu gwytnwch hinsawdd unigol, eu stoc a lles eu hanifeiliaid hefyd. Dyma'r realiti newydd y gweithiwn o'i fewn bellach. Nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Mae'n digwydd nawr. Felly, rhaid i bopeth a wnawn yn y gymuned ffermio a rheoli tir, a'r arian a gyflwynwn i'r gofod hwnnw, fod yno er mwyn mabwysiadu'r ymagwedd gyfannol honno—nid gwneud un peth yn unig, ond gwneud yr holl beth, er budd y ffermwr ac i'r gymdeithas.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun dychwelyd ernes? OQ63068
Diolch, Joyce. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf yn amlinellu'r camau nesaf ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd ernes i Gymru, lansiais ein hymgynghoriad ar 18 Awst, i gynnwys sut y bydd y cynllun yn cefnogi ailddefnyddio. Mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld dechrau'r cyfnod hysbysu ar gyfer Sefydliad Masnach y Byd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu weithiau y gallwn fod yn rhy ostyngedig am y pethau hyn, ond mae cael yr ail gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd yn gyflawniad y dylai'r wlad hon fod yn falch o'i ddathlu. A gallwn arwain y ffordd ar ailddefnyddio hefyd, sydd, fel y dywedwch, yn darparu llawer mwy o fanteision amgylcheddol. Ar yr un pryd, ni fydd cynllun dychwelyd ernes yn datrys ein holl broblemau pecynnu, felly a ydych chi'n cytuno â mi fod yn rhaid i'r diwydiant bwyd a diod gynnal a bwrw ymlaen â thargedau deunydd pacio y gellir ei ailddefnyddio, ac yn enwedig plastig polyethylen tereffthalad y gellir ei ail-lenwi, gyda'r swm cynyddol o blastig PET sy'n bodoli yma yng Nghymru?
Yn hollol, Joyce. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, gan gynnwys cynhyrchwyr unigol, i gamu i'r adwy ar hyn, i leihau deunydd pacio a gwastraff yn y ffynhonnell cyn iddo gyrraedd y silffoedd a mynd i mewn i'r amgylchedd, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio egwyddor y llygrydd sy'n talu, fel bod y costau ar gymunedau lleol, awdurdodau lleol ac eraill, yn cael eu talu gan y rhai sy'n cynhyrchu'r gwastraff yn ogystal. A dyna pam y mae'r cynllun dychwelyd ernes mor bwysig, ochr yn ochr â'r cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a wnawn ar sail y DU gyda Llywodraeth y DU i wthio'r costau hynny yn ôl i'r tarddiad.
Mae'n rhaid imi ddweud, pan edrychwch ar y gwledydd sydd wedi cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, yn cynnwys y rhai a gyflwynodd gynllun dychwelyd ernes gydag ailddefnyddio, fel y bwriadwn ni ei wneud, mae'r newid yn eu hamgylchedd lleol wedi bod yn amlwg ac yn gyflym. Pobl a oedd yn cael gwared ar wastraff o'r blaen, boed yn wydr neu'n blastig PET neu alwminiwm, ar y palmant, ar ymylon ffyrdd, yn y corneli tawel hynny sy'n llenwi â phentyrrau o sbwriel—yn sydyn pan oedd gwerth iddo, roedd yn mynd i'r afael â hynny am fod pobl yn mynd yn ôl i'r archfarchnadoedd a'r siop groser a chael arian yn ôl amdano.
Felly, rwy'n credu bod hyn yn gyffrous iawn wrth symud ymlaen. Ond rydych chi'n iawn, Joyce, mae gan bawb gyfrifoldeb, gan gynnwys cynhyrchwyr unigol, a'r hyn y gallant ei wneud wrth lunio eu cynhyrchion.
Mae cwestiwn 6 [OQ63064] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 7, Llyr Gruffydd.
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag undebau ffermio a rhanddeiliaid ynglŷn â'r cynllun ffermio cynaliadwy? OQ63093
Diolch, Llyr. Dwi wedi cael trafodaethau helaeth gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys yr undebau ffermio, yn bennaf drwy ford gron gweinidogol y cynllun ffermio cynaliadwy.
Diolch i chi.
Rwyf innau hefyd wedi cael nifer o drafodaethau drwy gydol yr haf, fel rwy'n siŵr eich bod chi, yn y Sioe Frenhinol a nifer mawr o sioeau dros yr wythnosau diwethaf. Ond un o'r pryderon mwyaf cyson sy'n dod drwodd yn glir o'r sector yw'r diffyg cyllid hirdymor yn y cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd heb ymrwymiadau ariannol aml-flwyddyn, mae ffermwyr yn methu cynllunio ymlaen ac ni allant fod â hyder wrth ymrwymo eu dyfodol hirdymor i gynllun ffermio cynaliadwy sy'n cael ei ariannu, cyn belled ag y gallant ei weld, am y 12 mis nesaf yn unig. Nawr, mae Plaid Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu setliad cyllido aml-flwyddyn i ffermwyr. A wnewch chi yr un peth?
Rwy'n credu, Llyr, ein bod wedi rhoi ein harian ar ein gair, yn llythrennol, yn y flwyddyn flaenorol, wrth gyflwyno cyllid cynllun y taliad sylfaenol, ac yn y flwyddyn i ddod, wrth roi sicrwydd y Llywodraeth hon ar gyfer y flwyddyn i ddod y byddwn yn mynd â'r cyllid hwnnw i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy, i roi sicrwydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ni all unrhyw Lywodraeth Cymru ymrwymo ar sail aml-flwyddyn nawr i'r hyn a ddaw ar ôl mis Mai nesaf. Rwy'n falch o weld eich bod chi ac eraill wedi ymrwymo i'r cyllid hirdymor hwnnw, ac mae hynny'n helpu mewn ffordd. Mae angen i ni bleidleisio dros gyllidebau hefyd i wneud i hyn ddigwydd, a bydd cyfle arall i wneud hyn y flwyddyn nesaf cyn i ni gyrraedd yr etholiad. Ond mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn glir iawn. Rydym wedi ymrwymo'r arian, gan wynebu risg wrth wneud hynny weithiau. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair i roi'r sicrwydd hwnnw i ffermwyr, a dyna yw fy mwriad fel Ysgrifennydd y Cabinet—parhau i roi'r sicrwydd hwnnw wrth inni lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy.
8. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector garddwriaethol? OQ63054
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth i'r sector garddwriaethol drwy grantiau garddwriaethol pwrpasol. Darperir cyngor wedi'i deilwra hefyd drwy wasanaeth garddwriaeth Cyswllt Ffermio.
Diolch. Yn 2019, cefnogodd y diwydiant amgylcheddol, garddwriaethol a thirlunio yng Nghymru gyfraniadau o £1.125 biliwn i gynnyrch domestig gros y DU, cefnogodd gyflogaeth 31,168 o bobl, a chyflawnodd fanteision cymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd enfawr. Yn ddiweddar, ymwelais â chanolfan arddio Daleside ym Mhenarlâg gyda'r Gymdeithas Masnach Arddwriaethol i ddysgu mwy am waith y ganolfan ac i drafod materion sy'n codi, gan gynnwys strategaeth twf garddwriaeth amgylcheddol y gymdeithas, 'A vision for Wales'. Maent yn galw am strategaeth gwytnwch dŵr hirdymor i'r DU, tyfu heb fawn a sut y mae sgiliau'n her allweddol i'r sector. Sut y byddwch chi felly yn gweithio gyda'r Ysgrifennydd addysg i ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda diwydiant i sicrhau bod y system sgiliau yn cyflawni gofynion sgiliau'r sector garddwriaethol amgylcheddol yn y presennol a'r dyfodol?
Byddaf yn bendant yn gweithio gyda'r sector sgiliau ar hyn. Rydym yn ystyried y sector garddwriaethol nid yn unig yn sector pwysig, ond yn un sydd â photensial ar gyfer twf sylweddol hefyd. Rydym yn gwybod pa mor bell y tu ôl i'r gromlin yw'r sector garddwriaethol yng Nghymru. Mae'n sector amrywiol, ond mae angen inni wneud llawer mwy yno. Rhan o'r ffordd y gallwn wneud hyn, y tu hwnt i'r trafodaethau ar draws y Cabinet wrth gwrs, yw'r hyn a wnawn ar ariannu'r rhai sydd eisiau ymrwymo i'r cynllun.
Fe wnaethom agor cynllun arallgyfeirio amaethyddol a garddwriaeth newydd ar 4 Tachwedd y llynedd, gyda chyllideb o tua £1.5 miliwn. Cawsom 29 datganiad o ddiddordeb. Fe wnaethom ddyfarnu 20 o grantiau, gyda chyllid hyd yma o ychydig o dan £500,000. Mae'r cynllun grantiau bach ar gyfer dechrau busnes garddwriaeth gennym hefyd. Unwaith eto, rydym wedi dyrannu llawer o grantiau trwy hwnnw. Ond rydych chi'n iawn, mae angen inni ddatblygu'r ochr sgiliau i hyn hefyd. Byddaf yn sicr yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog sgiliau ynglŷn â sut yr awn ati i ddatblygu sgiliau o fewn y sector garddwriaethol. Mae hon yn rhan hanfodol o'n heconomi yng Nghymru.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Hannah Blythyn.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru i weithwyr amaethyddol? OQ63091
Diolch, Hannah. Mae gweithwyr amaethyddol yn parhau i fod yn sylfaenol i lwyddiant ein sector ffermio yng Nghymru. Mae ein hisafswm cyflog amaethyddol yn chwarae rhan bwysig yn diogelu buddiannau gweithwyr amaethyddol, o ran cyfraddau isafswm cyflog ac amodau cyflogaeth.
Diolch am yr ateb.
A hoffwn ddweud ar y dechrau fy mod i'n aelod o Unite ac wedi ymgyrchu yn y gorffennol ar y mater rwy'n mynd i'w grybwyll. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr isafswm cyflog amaethyddol. Mae'n bron i ddegawd ers i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio yn y lle hwn i alluogi hynny, a sefydlu'r panel cynghori ar amaethyddiaeth. Yn wir, tua degawd yn ôl, roeddwn yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar y pryd ac o blaid corff cymharol yma yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n pryderu ynghylch rhai galwadau i ddiddymu'r panel cynghori ar amaethyddiaeth. Rwy'n credu mai peth o'r rhesymeg dros hynny yw nad oes unrhyw drefniadau sector eraill tebyg ar waith, ond mae'r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth a basiwyd trwy Dŷ'r Cyffredin yr wythnos hon yn creu gallu i gael cytundebau cyflog teg ar sail sector, gan ddechrau gyda gofal cymdeithasol. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a gaf i ofyn i chi roi sicrwydd heddiw ynghylch dyfodol y panel cynghori ar amaethyddiaeth, ac y bydd Llywodraeth Lafur bob amser yn cefnogi bargen well i weithwyr? Diolch.
Yn hollol, Hannah, ac wrth i chi ddatgan buddiant fel aelod o Unite, mae Unite yn un o fy undebau i hefyd, Lywydd, felly rwyf am gofnodi hynny. Ond mae darlun mwy yma, wrth gwrs, sef pwysigrwydd y corff hwn. Pe baem yn ei ddiddymu, byddai'n gam mawr yn ôl o ran cefnogi gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, ac rydych chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch, Hannah—mae'r camau ymlaen y mae Llywodraeth y DU yn eu nodi o ran hawliau cyflogaeth yn awgrymu eu bod yn dod tuag atom ni ac yn dilyn ein harweiniad ni mewn sawl ffordd, sy'n wych i'w weld.
Edrychwch, ers ei sefydlu, mae'r panel wedi chwarae rôl mor hanfodol yn diogelu buddiannau gweithwyr amaethyddol, fel y soniais, o ran isafswm cyflog ac amodau cyflogaeth. Ond mae'r Gorchymyn cyflogau hefyd yn annog pobl i ddilyn gyrfaoedd yn y sector amaethyddol ymhellach, oherwydd mae'n cynnig llwybr cynnydd strwythuredig hefyd. Ac nid gennym ni yng Nghymru yn unig y mae isafswm cyflog amaethyddol neu ddull o'r fath; mae'n bodoli yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, a hyd yn oed Ynys Manaw. Felly, rydym yn sefyll yn gadarn. Rydym wedi brwydro'n galed i gadw hyn, i'w roi ar waith. Roeddech chi a chyd-Aelodau eraill, a phobl fel Mick Antoniw ar y pryd hefyd, yn ymladd yn galed tra oeddwn i'n Weinidog iau yn Swyddfa Cymru, neu'n Weinidog yr wrthblaid. Felly, byddwn yn ceisio diogelu hyn. Rydym yn gweld ei werth i weithwyr amaethyddol ac i ddiogelu cyflogaeth.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf heddiw i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y penderfyniad i gymeradwyo fferm solar Alaw Môn ar Ynys Môn? TQ1369
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar 26 Awst, ac mae'r rhesymau wedi'u nodi yn fy llythyr penderfyniad.
Diolch. Mae'n rhaid i fi ddweud roeddwn i'n siomedig ac yn flin o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cymeradwyo'r cynllun yma. Mi oedd cannoedd yn flin ac yn siomedig mewn cyfarfod cyhoeddus roeddwn i'n cymryd rhan ynddo fo yn Amlwch yr wythnos diwethaf hefyd. Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o lefel y gwrthwynebiad—1,000 o bobl wedi arwyddo llythyr agored; dros 500 o bobl wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Ac mi oedd hi ei hun wedi rhoi pob arwydd i fi ei bod hi'n cytuno bod y cynllun yma'n mynd yn groes i nifer o bolisïau cynllunio Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar ddatblygu ar dir amaethyddol BMV.
Dyma'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf yn y Siambr hon yn ôl ym mis Mehefin:
'Os daw ceisiadau aráe paneli solar ffotofoltaig ar dir amaethyddol BMV gerbron yr Adran Newid Hinsawdd, bydd yr Adran yn gwrthwynebu colled o dir amaethyddol BMV oni bai fod ystyriaethau perthnasol eraill yn drech na'r angen i ddiogelu tir o'r fath.'
Roedd 60 y cant o fferm solar Alaw Môn i gael ei hadeiladu ar dir BMV. Doedd bosib nad oedd hynny'n golygu na allai'r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Ond yn hytrach, penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet guddio y tu ôl i'r print mân a labelu'r prosiect hwn fel un sydd ei angen yn ddirfawr. Mae'n codi cwestiynau difrifol am hyder Llywodraeth Cymru ei hun yn ei pholisïau cynllunio, ac mae'n tanseilio ffydd y cyhoedd yn y polisïau cynllunio hynny. Rydym angen ymagwedd strategol, un nad yw'n rhoi llaw rydd i'r Llywodraeth daflu egwyddorion a pholisïau allan drwy'r ffenestr, un y mae datblygwyr yn gwybod bod yn rhaid iddynt ei pharchu.
Mae gwaith yn mynd ei flaen rŵan i wrthwynebu'r penderfyniad yma, a'r unig ffordd i wneud hynny ydy drwy adolygiad barnwrol. Mae yna ambell i elfen o fewn y datblygiad sy'n cael ei hystyried ar gyfer apêl. Mae'n gonsýrn dyw'r broses ddim wedi ystyried lleoliadau eraill. Beth am y ffordd dispersed solar dwi ag eraill yn ei chefnogi—pob to, pob sied amaethyddol, ochrau ffyrdd, meysydd parcio ac yn y blaen? Ond hefyd mae yna bryderon am benderfyniad PEDW i anwybyddu—take out of scope—y peryglon sy'n gysylltiedig â'r storfa fatri ar y safle, yn benodol y llygredd posib o'r cyflenwad dŵr cyhoeddus dwy gronfa ddŵr allweddol Llyn Alaw. 'Out of scope'—sut y gallai hynny fod, mewn maes sydd yn datblygu o ran y peryglon? Mae'r ffenest apelio yn fyr iawn; 7 Hydref ydy'r diwrnod terfyn i gyflwyno yr apêl. A gaf i, o ystyried lefel y rhwystredigaeth yn lleol, ofyn a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn barod i gynnig estyniad yn y broses apelio ar gyfer y datblygiad penodol yma, fel bod trigolion yn gallu apelio'r penderfyniad mewn ffordd gyfreithiol deg?
I gloi'n fyr, Lywydd, mae'n rhaid inni gofio nad hwn yw'r unig brosiect solar sy'n mynd drwy'r broses gynllunio ar Ynys Môn. Mae fferm solar Maen Hir bedair gwaith yn fwy na hwn. Mae hwn yn fawr ynddo'i hun, ond mae'n gwbl amhosib dychmygu'r llall, Maen Hir, yn mynd yn ei flaen. Felly, gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyflwyno sylwadau i gymheiriaid yn San Steffan yn eu hannog i wrthod datblygiad Maen Hir pan fydd hwnnw'n cyrraedd eu desgiau? Nid yw fferm solar Alaw Môn yn iawn i Ynys Môn. Rhaid inni gael Llywodraeth sy'n deall pryderon—pryderon dilys—cymunedau sydd eisiau bod o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldeb amgylcheddol, ond nid yn y ffordd hon.
Diolch am y cwestiwn y prynhawn yma. Ac i fod yn glir iawn gyda fy holl gyd-Aelodau, nid wyf erioed wedi rhoi barn ar unrhyw brosiect penodol, naill ai'n gyhoeddus neu'n breifat, i unrhyw gyd-Aelod yn y Senedd. Rwy'n ofalus iawn pan fyddaf yn siarad am faterion cynllunio a pholisi fy mod yn siarad amdanynt mewn ffordd nad yw'n ymwneud ag unrhyw gynnig penodol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn nodi hynny y prynhawn yma.
Fel y clywsom, ac fel y mae pethau heddiw, rydym yn dal i fod o fewn y cyfnod herio; mae hwnnw'n dal i fod yn weithredol. Felly, mae gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr achos hwn hawl i'w herio drwy'r llysoedd. Ac fel y clywsom, mae'n ymddangos bod peth diddordeb mewn gwneud hynny; clywsom hynny y prynhawn yma. Mae'r cyfnod herio'n parhau, fel y gwyddom. Ni allaf wneud sylwadau pellach ar yr achos penodol hwn. Nid wyf yn credu bod gennyf hawl i benderfynu ar hyd y cyfnod ar gyfer yr heriau hynny. Mae'r llythyr penderfyniad yn nodi'r rhesymau'n llawn a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddarllen y llythyr penderfyniad hwnnw'n llawn.
Diolch. Rwyf am eich llongyfarch ar gyflwyno hyn i'r Senedd. Rydym wedi eistedd drwy—y pwyllgor newid hinsawdd—rydym wedi eistedd drwy Fil Seilwaith (Cymru). Ddoe ddiwethaf, buom yn siarad am gynllunio a sut y mae mwy a mwy o angen inni symud tuag at fodel lle mae lleisiau'r gymuned yn cael eu clywed, ac nid cael eu anwybyddu. Trwy ganiatáu i'r penderfyniad hwn fynd yn ei flaen, rydych chi wedi anwybyddu’r gymuned leol, eich Aelodau etholedig yma, a'r awdurdod lleol hefyd, Cyngor Sir Ynys Môn, a ddywedodd yn glir na ddylai'r cynllun hwn fynd yn ei flaen. Er eich bod yn dweud, 'Wel, na, nid ydych wedi gwneud hyn', chi yw'r un a lofnododd y datganiad hwnnw yn dweud pam eich bod yn cymeradwyo datblygiad y cynllun hwn. Ac mae'n ddirmygus, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phob dyledus barch. Ac mae'n mynd ag—. Mae yna ddiffyg democrataidd pan allwch anwybyddu ein holl drigolion yn y fath fodd. Bydd y cynllun hwn nawr yn gweld colli tir amaethyddol o'r radd flaenaf; bydd yn arwain at osod paneli dros 660 erw o dir.
Rydych chi wedi dewis gwydr a metel wedi'u mewnforio o Tsieina yn hytrach na chefnogi ein diwydiant bwyd. Nid oes gennych bolisi na strategaeth ynni solar ar gyfer Cymru. Fe fyddwch yn cofio fy mod wedi cyflwyno cynnig i Senedd Cymru a oedd yn argymell ein bod yn cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol. Rwy'n cytuno â Rhun ynglŷn â'r pwynt lle—. Nid oes unrhyw wrthwynebiad i bobl eu cael ar eu toeau—gallwch gael paneli solar yn unrhyw le—ond ni ddylem ildio tir amaethyddol o'r radd flaenaf. A'r cynllun nesaf ar Ynys Môn—. Gallaf weld ei fod wedi bod yn yr un cyfarfod. Roeddwn i ffwrdd; ni allwn fynd yno. Byddaf yn gweithio'n galed gyda Rhun a Llinos Medi, oherwydd, yn y pen draw, mae angen llais ar bobl, oherwydd rydych chi'n ei anwybyddu.
A wnewch chi ystyried cyflwyno deddfwriaeth ddrafft sy'n cyflwyno moratoriwm ar ffermydd solar yn y dyfodol fel bod tir fferm yn cael ei ddiogelu rhag datblygiadau mawr tra bo strategaeth solar briodol yn cael ei datblygu ar gyfer Cymru? Mae'r ymgyrch gymunedol, a gynrychiolir mor fedrus gan Sarah Pye, wedi cael gweinyddiaeth gyfreithiol nawr—bydd yna adolygiad barnwrol, gobeithio. Ond pa gymorth a fydd ar gael i'n cymunedau lle gall y datblygwyr mawr gael eu cynrychiolwyr cyfreithiol—bargyfreithwyr drud iawn o Lundain fel arfer—ond lle nad oes gan y gymuned gynllun yn ein proses gynllunio i allu ymladd yn ôl gydag unrhyw nerth?
Felly, y cyfan rwy'n gofyn amdano yw hyn: oni allwch chi gyflwyno moratoriwm, a gorau po gyntaf, i ganiatáu i'r rhai sydd eisiau—ffermwyr neu bobl sydd â thir—i roi paneli lle maent eisiau gwneud hynny? Ond mae hyn yn hollol warthus. Ac rwy'n beio Llywodraeth Lafur Cymru am ganiatáu i'r cynllun hwn fynd yn ei flaen. Rwy'n credu eich bod chi'n llwyr gyfrifol, fel Llywodraeth, am ddileu'r hyn a ddylai fod yn broses ddemocrataidd go iawn yng Nghymru.
Cawsom y ddadl ehangach honno ar solar yn ddiweddar, cyn diwedd tymor diwethaf y Senedd, felly nid wyf am ddychwelyd at y dadleuon penodol hynny heddiw, oherwydd rwy'n credu eu bod yn mynd y tu hwnt i'r cwestiwn amserol ei hun.
Dyma'r tro cyntaf i ni gael penderfyniad cynllunio sy'n dal i fod yn y cyfnod herio byw yn cael ei gyflwyno mewn cwestiwn amserol ac rwy'n ymwybodol iawn fy mod i'n gosod cynsail heddiw yn y ffordd rwy'n ymateb iddo, ac nid wyf am osod cynsail amhriodol o fewn y cyfnod herio hwnnw. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod mai fy ngreddf yw ceisio rhoi gymaint o gymorth i gyd-Aelodau ag y gallaf, ond ni allaf roi manylion am y penderfyniad heddiw. Ond hoffwn ofyn i gyd-Aelodau—annog cyd-Aelodau—i ddarllen y llythyr penderfyniad ac adroddiad yr arolygydd, lle rwy'n credu bod llawer o'r manylion hyn wedi'u nodi'n eithaf cynhwysfawr ar gyfer fy nghyd-Aelodau.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol, ac i'w ofyn gan Mick Antoniw.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am 'gyfraith Hillsborough'? TQ1370
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch, Mick. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r alwad am gyfraith Hillsborough, ac mae'n croesawu'r ffaith bod y Bil hwn bellach wedi'i gyflwyno. Mae swyddogion bellach yn gweithio trwy'r manylion i bennu effaith, goblygiadau a chwmpas y darpariaethau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ac ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Wel, diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu y byddem i gyd yn croesawu'r cyhoeddiad a chyflawni ymrwymiad a wnaed gan Syr Keir Starmer y byddai'r Llywodraeth Lafur yn cyflwyno cyfraith Hillsborough. A gaf i ddweud bod yna gydnabyddiaeth hefyd i benderfyniad y grŵp hwnnw o deuluoedd yn Lerpwl, sydd nid yn unig wedi sicrhau bod ymchwiliad i ddatgelu'r digwyddiadau go iawn yn Hillsborough, a nawr i gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer deddf, sy'n hir ddisgwyliedig ac yn angenrheidiol iawn?
A gaf i ddweud hefyd, ar yr un pryd ei fod yn adlewyrchu cyhoeddi ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave? Y rheswm pam y mae'r digwyddiadau hynny yn Orgreave mor bwysig yw oherwydd eu bod yn gysylltiedig â mater yn codi o streic y glowyr yn ymwneud â chamddefnyddio pŵer y wladwriaeth, a phe bai'r digwyddiadau yn Orgreave wedi cael eu hymchwilio'n briodol, efallai na fyddai Hillsborough erioed wedi digwydd. A gaf i ofyn i chi—? O ran eich ystyriaeth a'ch ymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar hyn, mae yna elfennau sy'n ymwneud â gonestrwydd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn amlwg, rydym eisiau diogelu rôl Llywodraeth Cymru yn hyn tra'n derbyn yr egwyddor yn llawn. Felly, rwy'n credu mai'r gweithrediad sy'n bwysig, gyda Llywodraeth Cymru yn amlwg angen gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau bod gennym ddeddfwriaeth effeithiol sy'n cyflawni'r pethau y credaf fod y teuluoedd hynny o Lerpwl sydd wedi brwydro mor galed dros hyn eisiau eu gweld yn cael eu gweithredu.
Ie. Diolch, Mick. Mae'n foment hynod o bwysig mewn gwirionedd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn falch iawn o weld y gyfraith yn cael ei chyflwyno, ac rwyf innau hefyd eisiau talu teyrnged i'r teuluoedd a'r ymgyrchwyr ehangach sydd wedi mynd ar drywydd cyfraith Hillsborough yn ddiflino dros flynyddoedd lawer o ddifenwi a beio dioddefwyr a'r holl bethau gwarthus eraill a welsom yn ein papurau newydd—yr un papurau newydd ag sy'n sgrechian yn groch ar hyn o bryd am achosion ofnadwy eraill o gamweinyddu cyfiawnder.
Rwyf hefyd eisiau eich cydnabod chi, Mick, a Jack Sargeant yn arbennig, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino, ochr yn ochr ag Aelodau eraill o'r Senedd hon, dros roi'r gyfraith hon ar waith. Rwy'n gwybod eich bod wedi gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llen ac yn gyhoeddus a chyda'r teuluoedd i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi am Orgreave. Y pwynt yw bod yna gyfres gyfan o'r mathau hyn o gamddefnyddio pŵer cyhoeddus y wladwriaeth, os mynnwch, yn erbyn pobl sydd heb fawr o bŵer i ymladd yn ôl, ac mae goblygiadau hynny i'r teuluoedd hyn yn parhau dros genedlaethau mewn gwirionedd. Mae'n creithio teuluoedd a chymunedau cyfan dros genedlaethau, ac rydym wedi gweld hynny sawl gwaith.
Rydym yn disgwyl i'r effaith fod yn bellgyrhaeddol, a hynny'n gwbl briodol. Mae'n rhaid inni weithio drwyddo i ddeall darpariaethau'r Bil yn fanwl ac i wneud yn siŵr ein bod yn cael y dadansoddiad hwnnw'n iawn. Ond mae gonestrwydd yn beth sylfaenol y dylai pob Llywodraeth gadw ato. Mae'n hanfodol i lywodraethu da ac i gydymffurfiaeth reoleiddiol. Eisoes yng Nghymru, mae gennym ddyletswyddau gonestrwydd yn y GIG wrth gwrs, ac nid wyf yn credu ei fod yn gofyn i ni wneud unrhyw beth na fyddai'r gorau ohonom eisoes yn ei wneud. Mae'n rhoi cefnogaeth gyfreithiol i bwy y dylem fod, pwy y dylem fod ar ein gorau. Mae cod y gwasanaeth sifil eisoes yn galw am hyn. Mae'n ei ymgorffori yn y gyfraith, fel y gwyddoch.
Un o'r pethau roeddwn i'n falch iawn o'i weld yn hyn oedd ehangu cymorth cyfreithiol heb brawf modd i deuluoedd mewn profedigaeth mewn cwestau. Mae hynny'n bwysig iawn, fel bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir yn yr hyn a all fod yn brofiad eithaf aruthrol, a phrofiad eithaf niweidiol yn emosiynol hefyd. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld hynny. Fel y gwyddoch, rydym yn mynd ar drywydd Bil atebolrwydd Aelodau—teitl gwaith—ar hyn o bryd. Cefais y fraint o drafod gydag Adam Price a Jane Dodds yn gynharach heddiw i weld a allwn dynnu darnau ohono i mewn, fel bod yr iaith yn creu pecyn cydlynol ac yn gwneud synnwyr. Felly, byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny.
Yr hyn y mae hyn yn ei wneud mewn gwirionedd yw dweud wrth bobl, 'Er mwyn popeth, gwnewch y peth iawn. Gwnewch y peth y gwyddech y dylech fod wedi'i wneud yn y lle cyntaf.' Ac mae'n rhoi pŵer y gyfraith y tu ôl iddo. Felly, rydym yn falch iawn o weld y Bil yn cael ei gyflwyno, a byddwn yn cadw llygad manwl ar ei hynt.
Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi yn y Senedd heddiw, a diolch i'r Aelod dros Bontypridd am gyflwyno'r cwestiwn amserol y prynhawn yma. Gan fyfyrio ar deitl y Bil arfaethedig yn San Steffan, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy nghefnogaeth i deuluoedd y 97 o bobl a gollodd eu bywydau mewn amgylchiadau mor drasig yn nhrychineb Hillsborough ar 15 Ebrill 1989. Eu brwydr ddiflino nhw dros y gwirionedd a chyfiawnder sydd wedi ysgogi'r ddeddfwriaeth hon, gyda methiannau'r awdurdodau ar y pryd a'r ffordd y cafodd y gwir ei gelu wedyn yn datgelu cymaint o angen tryloywder ac atebolrwydd sydd arnom yn ein sefydliadau cyhoeddus. Rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd i fynd i'r afael â'r camweddau hynny a'r camau pellach sy'n cael eu cymryd nawr.
Pan fyddwn yn sôn am egwyddor gonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus, mae'n bwysig cofio mai Llywodraeth Geidwadol, o dan Rishi Sunak, a gymerodd y cam ystyrlon cyntaf, drwy gytuno i siarter Hillsborough. Roedd y siarter honno'n cydnabod bod teuluoedd a'r cyhoedd yn haeddu gonestrwydd, tryloywder ac atebolrwydd gan sefydliadau sydd i fod i'w gwasanaethu. Ond mae angen inni fynd gam ymhellach. Mae'r ddyletswydd gonestrwydd sydd bellach yn cael ei datblygu yn y gyfraith yn beth da ac angenrheidiol. Mae'n rhoi sicrwydd, pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le, na fydd cyrff cyhoeddus yn osgoi atebolrwydd, ond yn hytrach, y byddant yn wynebu eu camgymeriadau, yn dysgu oddi wrthynt ac yn bod yn agored gyda'r rhai yr effeithir arnynt, gyda rhwystrau cyfreithiol rhag celwyddau neu osgoi atebolrwydd, fel y nodoch chi, Gwnsler Cyffredinol.
Yr un mor bwysig, bydd y gyfraith hon yn cryfhau sefyllfa chwythwyr chwiban—yr unigolion hynny o fewn sefydliadau sy'n ddigon dewr i godi llais. Ni ddylid eu tawelu na'u cosbi ond eu cefnogi, gan mai eu gonestrwydd nhw yw'r cam cyntaf yn aml wrth atal trasiedïau neu anghyfiawnderau. Ar adeg pan fo ymddiriedaeth yn ein sefydliadau, ac yn wir, mewn cynrychiolwyr etholedig yn isel, mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir. Nid oes ond angen inni edrych ar y niwed a achoswyd gan helynt treth Angela Rayner yn ddiweddar—
Gareth, a wnewch chi ofyn cwestiwn?
—neu'n fwy diweddar, sgandal Peter Mandelson, i weld pa mor gyrydol y gall diffyg didwylledd fod a sut y gall hyn niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'r cyhoedd yn iawn i fynnu safonau uwch, a rhaid i ni fel gwleidyddion ddangos nad yw gonestrwydd yn agored i drafodaeth. Rwy'n cefnogi cyfraith Hillsborough, a fyddai o fudd i Gymru, yn fy marn i.
Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y byddai darpariaethau cyfraith Hillsborough yn berthnasol yma i sefydliadau, yma yng Nghymru yn benodol, a pha oblygiadau ymarferol ac ariannol y byddai gweithredu'r rhwymedigaethau statudol mewn cyfraith o'r fath yn eu golygu i wasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Wel, mae'n ddrwg iawn gennyf eich clywed yn gwleidyddoli'r mater yn y ffordd honno. Nid wyf am ymateb drwy ddarllen y rhestr hir o wleidyddion Torïaidd sydd wedi bod yn llai na gonest dros y 15 mlynedd diwethaf—er, credwch fi, mae'n rhestr hir iawn—ac ni fyddwn wedi gwleidyddoli'r mater yn y ffordd honno chwaith. Credaf y dylai pob un ohonom groesawu'r gyfraith hon. Mae'n gyfraith dda. Mae'n darparu dyletswydd gonestrwydd. Mae'n ymgorffori egwyddorion Nolan mewn bywyd cyhoeddus. Mae'n mynd gam ymhellach drwy ddweud y dylai cyrff cyhoeddus hyrwyddo eu—[Torri ar draws.]
Rwy'n gofyn i'r Aelod wrando ar yr ymateb a pheidio â chymryd rhan mewn sgyrsiau eraill.
O, mae rhai Aelodau'n gwneud honiadau ffug.
Gwnsler Cyffredinol.
Mae'r Bil yn mynd gam ymhellach, ac mae'n gosod dyletswydd newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus hyrwyddo ymddygiad moesegol eu gweithwyr. Mae'r codau moeseg, fel y dywedais, eisoes yn bodoli, ond mae hyn yn rhoi grym statud iddynt, sy'n beth da. Mae'n creu cyfres gyfan o ddyletswyddau. Nid ydym yn gwybod eto, wrth gwrs, beth yw goblygiadau hynny, fel y dywedais ar y dechrau, gan fod angen inni edrych i weld sut olwg sydd ar y Bil terfynol, ac mae angen inni weithio drwy'r hyn y mae hynny'n ei olygu.
Ond carwn ddweud ein bod wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod egwyddorion Nolan eisoes wedi'u hymgorffori. Ni fyddwn yn disgwyl bod llawer i'w wneud, ond bydd yn rhaid cael yw rhaglen hyfforddi, i sicrhau bod pobl yn deall sut olwg sydd ar hyrwyddo llywodraethu moesegol—mae'n fwy na'r hyn a wnewch fel unigolyn yn unig—a gallwn sicrhau bod pobl yn gwybod ei fod yn ymwneud â mwy na dweud yr hyn y canfyddant hwy sy'n wir yn unig, a deall y gall y gwirionedd fod yn oddrychol, a bod angen i chi fod yn wrthrychol ac yn dryloyw ac yn agored wrth gyfathrebu â'r cyhoedd.
Mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn dweud ei fod yn eithrio swyddogaethau datganoledig Cymru ar hyn o bryd am ei fod am barchu'r setliad datganoli. Credaf fod hynny i'w groesawu, ond mae'n creu mecanwaith i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r egwyddorion drwy reoliadau i bob pwrpas. A allwn gymryd, o'r hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud, fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu manteisio ar y mecanwaith hwnnw, fel y gallwn gael cysondeb ac y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â swyddogaethau datganoledig Cymru?
Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cael ei grybwyll yn y Bil drafft mewn gwirionedd, nid yn bersonol, ond ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion fel deiliad swyddi cyhoeddus y gellir eu cyhuddo'n bersonol o'r drosedd o gamarwain y cyhoedd yn fwriadol ac yn ddiofal mewn ffordd sy'n ddifrifol o amhriodol, ac ar gyfer yr enghreifftiau mwyaf eithriadol, byddai hynny'n arwain at garchar o hyd at ddwy flynedd. A yw'r Cwnsler Cyffredinol, a yw Llywodraeth Cymru, yn cefnogi'r drosedd newydd honno a fydd yn berthnasol i Weinidogion Cymru? Ac ar y pwynt a wnaeth yn gynharach, a yw'n ystyried unrhyw fantais mewn alinio'r diffiniad o 'anonestrwydd bwriadol', a chael cysondeb o safbwynt y sancsiynau hefyd? Os yw'n drosedd i Weinidogion Cymru gydag un diffiniad, er dealltwriaeth y cyhoedd, a ddylem sicrhau aliniad, i'r graddau mwyaf sy'n bosibl, rhwng y Bil atebolrwydd y cyfeiriodd hi ato, ac y mae'n arwain arno, a'r Bil atebolrwydd y mae San Steffan wedi'i gyflwyno?
Wel, yr ateb syml yw, 'Wrth gwrs ein bod ni eisiau gwneud hynny, Adam.' Rydym eisiau cael set gydlynol o gyfreithiau yng Nghymru sy'n gwneud synnwyr. Felly, i'r graddau mwyaf sy'n bosibl, rydych eisiau diffiniadau sy'n cyd-fynd â'i gilydd, sy'n hygyrch, y mae pobl yn eu deall, ac nad oes gormod o dwyllresymeg rhwng diffiniad o un peth a diffiniad o beth arall. Fel y gwyddoch o'n sgwrs y bore yma, mae'n hawdd dweud hynny, ac mae ychydig yn fwy cymhleth mewn gwirionedd, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. Rydym yn bendant eisiau i hyn fod yn berthnasol i Gymru; nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Fel y dywedais, credaf fod pob un ohonom yn ymdrechu i wneud hynny, ond mae'n rhoi grym statud i'r peth, ac nid yw hynny'n beth drwg o gwbl.
Rydym wedi gweld cyfres o sgandalau yn ystod fy oes, sgandalau na ddylai'r un ohonynt fod wedi digwydd: sgandal gwaed heintiedig, sgandal Horizon, sgandal Hillsborough, Orgreave. Mae'r rhestr yn hir. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y meinciau gyferbyn yn ceisio gwleidyddoli'r mater, ond mewn gwirionedd, mae thema wedi bod. Rwyf mor falch fod y Llywodraeth wedi cyflwyno hyn. Mae llawer o bobl wedi bod yn ymladd dros hyn ers amser maith.
Ond yn bersonol, rwy'n arbennig o falch o weld cymorth cyfreithiol nad oes angen prawf modd ar ei gyfer yn cael ei ehangu, gan y credaf, fel y dywedais yn y ddadl ar gydgrynhoi cynllunio ddoe, mai mynediad at y gyfraith yw un o'r pethau sydd eu hangen arnom. Nid oes ots beth yw'r gyfraith os na allwch gael mynediad ati. Felly, mae ymestyn cymorth cyfreithiol nad oes angen prawf modd ar ei gyfer yn un o egwyddorion sylfaenol hyn, fel y gall pobl gael cymorth i herio awdurdodau'r wladwriaeth, a all fod yn eithaf aneglur a llethol os mai dim ond teulu unigol ydych chi, yn enwedig teulu unigol mewn galar. Felly, i mi'n bersonol, dyna un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohonynt, y bydd yn rhoi mynediad i bobl at y math hwnnw o gymorth a chefnogaeth, ac nad oes angen iddynt wario eu holl arian er mwyn gallu gwneud hynny. Mae llawer o'r teuluoedd wedi mynd i drafferthion ariannol wrth geisio gwneud hynny, er eu bod wedi cael cymorth pro bono ac ati hefyd wrth gwrs, ac mae llawer o bobl wedi helpu ar hyd y daith.
Felly, rwy'n arbennig o falch o weld hynny, ond bydd angen inni weithio drwyddo. Bydd angen inni sicrhau ei fod yn gydlynol i Gymru a'i fod yn gweithio i ni yn ein hamgylchiadau ni, ond mewn egwyddor, rydym yn hapus iawn ynghylch hynny.
Fe ddechreuaf drwy ddweud fy mod yn gefnogwr Lerpwl, ar ôl bod yn gefnogwr Abertawe. Rwy'n cofio'n union ble roeddwn i pan ddigwyddodd y digwyddiad hwnnw. Mae wedi'i naddu ar fy nghof. Roedd yn un o'r trychinebau mawr. Ni ddylai unrhyw un fynd i wylio gêm bêl-droed, fel y mae llawer ohonom yn ei wneud yn rheolaidd, a pheidio â dod adref yn fyw. Credaf ei fod yn drychineb enfawr i bobl Prydain, yn ogystal â'r rhai a gollodd anwyliaid yn Hillsborough.
Rwy'n awyddus iawn i ofyn tri chwestiwn i chi. Yn gyntaf, rydych chi wedi dweud eich bod yn cefnogi'r gyfraith hon, rwy'n falch iawn o glywed hynny, ac nid wyf am ofyn ichi ailadrodd hynny, ond roedd rhywbeth a ddigwyddodd yno y tu hwnt i hynny nad oedd yn ymwneud â'r sefydliadau, roedd yn ymwneud â'r cyfryngau: ymosodiadau'r cyfryngau ar gefnogwyr Lerpwl, a oedd yn gelwyddau noeth, a ledaenwyd gan Heddlu De Swydd Efrog er mwyn tynnu sylw oddi wrth yr hyn roeddent hwy wedi'i wneud.
Y ddau gwestiwn arall sydd gennyf, ar wahân i ofyn ichi ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach, yw: un, a ddylid cynyddu'r gyfraith fel bod trosedd yn cael ei chyflawni gan gwmnïau cyfryngau sy'n dweud pethau sy'n gwbl anghywir er mwyn tynnu sylw oddi ar y broblem? A'r ail yw: oni ddylem ni, o fewn y gyfraith Hillsborough hon, gael sefyllfa lle na fydd yn rhaid i bobl byth eto orfod treulio cymaint o amser, gorfod ymladd brwydr mor hir, er mwyn cael cyfiawnder? Mae angen terfyn amser ar ddelio â hyn, yn hytrach na'r hyn a gawsom hyd yma. Bydd y rhai ohonoch sy'n dilyn pêl-droed yn cofio Steven Gerrard yn siarad am ei gefnder a fu farw yno, ac un o lawer oedd ef.
Diolch, Mike. Mae hynny'n cyfleu'r neges, onid yw, na ddylech fod yn mynd i gêm bêl-droed a methu dod adref? Mae'n erchyll, yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Mae rhai teuluoedd yn byw gyda chanlyniadau am genedlaethau, onid oes, ac wedi'u trawmateiddio'n llwyr gan y digwyddiad? Felly, rwy'n cytuno'n llwyr.
Nid yw'r Bil yn mynd i'r afael â'r pwynt ynglŷn â'r cyfryngau, gan ei fod wedi'i anelu at awdurdodau cyhoeddus, ond ni allwn gytuno mwy â chi. Nid wyf yn siarad ar ran y Llywodraeth am funud, rwy'n siarad yn bersonol. Credaf y dylai'r Llywodraeth flaenorol fod wedi gweithredu ymchwiliad Leveson 2 fel yr addawodd wneud, ac yn bersonol, byddwn yn hoffi gweld y Llywodraeth hon yn gwneud hynny. Ond yn sicr, dylid dwyn y cyfryngau i gyfrif pan fyddant yn adrodd yn haerllug ar bethau y maent yn gwybod nad ydynt yn wir. Ac mae hynny'n fwy eang na hyn, onid yw? Ond nid yw'r Bil hwn yn cwmpasu hynny.
I fod yn gwbl glir, mae tair elfen fawr yn y Bil hwn. Y ddyletswydd onestrwydd newydd a chymorth mewn ymchwiliadau, cwestau ac archwiliadau eraill. Mae cosbau troseddol ynghlwm wrth y rheini, fel y clywsom—mae nifer o bobl wedi dweud hynny. Yr elfen rwy'n arbennig o hoff ohoni yw'r rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus a swyddogion i helpu ymchwiliadau i ddod o hyd i'r gwir. Prif egwyddor y Bil yw sicrhau na all yr hyn a ddigwyddodd yn dilyn y trychineb hwn ddigwydd eto. Felly, bydd swyddogion cyhoeddus o dan ddyletswyddau gonestrwydd, ond byddant hefyd o dan ddyletswydd i helpu i rymuso teuluoedd mewn galar ac eraill sydd wedi'u heffeithio gan y math hwn o ddigwyddiad i gael cyfiawnder. Mae hynny wedi bod yn un o'r pethau mwyaf, onid yw? Mae'r frwydr dros gyfiawnder wedi bod yn hir ac yn anodd. Felly, mae'r Bil yn ymwneud yn benodol â hynny. Ac yna'r drosedd newydd o gamarwain y cyhoedd neu gelu'r gwir, a drafodwyd gennym eisoes. Ac yna ymgorffori'r ddyletswydd gonestrwydd yn ddiwylliannol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae egwyddorion Nolan yn gwneud hynny mewn ffordd, ond mae hyn yn rhoi rhywfaint o ysgogiad i hynny, os caf ei roi felly. Ni chredaf fod hynny'n beth drwg i'w ailadrodd mewn dyddiau eithaf tywyll, ymddengys i mi. Felly, byddwn ni, fel Llywodraeth, yn ymdrechu i sicrhau bod ein holl ymdrechion yn y maes hwn yn gydlynol, yn agored, yn hygyrch ac yn dryloyw, fel y gall pobl gael mynediad at hyn.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Bydd y cwestiwn amserol olaf heddiw gan Sioned Williams.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw Cymru'n cael eu hystyried yn rhan o feddiannaeth anghyfreithlon a gweithredoedd milwrol Israel, yng ngoleuni comisiwn ymchwilio'r Cenhedloedd Unedig sydd wedi canfod bod gweithredoedd Israel yn Gaza yn hil-laddiad? TQ1371
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad comisiwn y Cenhedloedd Unedig yn fawr. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ar unwaith, gan ei annog i ystyried y canfyddiadau a'r mesurau ychwanegol y gall Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith i roi pwysau ar Israel a dod â dioddefaint pobl Gaza i ben.
Mae hynny i'w groesawu, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae canfyddiadau comisiwn y Cenhedloedd Unedig yn arwyddocaol iawn wrth gwrs. Maent yn cadarnhau maint ac anghyfreithlondeb yr erchyllterau y mae pobl Gaza wedi'u dioddef dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n amlwg, dywedant, fod bwriad i ddinistrio'r Palesteiniaid yn Gaza drwy weithredoedd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn y confensiwn ar hil-laddiad.
Gofynnais sawl gwaith am ddatganiad gan y Prif Weinidog i gadarnhau a oedd gorsafoedd neu safleoedd milwrol Cymru yn cael eu defnyddio i hyfforddi personél Lluoedd Amddiffyn Israel. Cymerodd ychydig fisoedd, ac yna, mewn ymateb ysgrifenedig byr, a gefais yr wythnos diwethaf, dwy frawddeg. Yr unig ateb a gefais oedd, 'Mae'n fater i'r Weinyddiaeth Amddiffyn', a dywedwyd wrthyf, yn y bôn, i fynd i'r afael â'r mater gyda nhw. Mae'r ateb hwnnw, i mi, yn llwyr osgoi cyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cymru ei hun i fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Pam nad yw'r Prif Weinidog yn credu y dylai hi fod yn codi hyn gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar ran pobl Cymru, er mwyn sicrhau nad yw ein cenedl yn cymryd unrhyw ran mewn hwyluso hil-laddiad? Ni allai'r gwrthgyferbyniad fod yn fwy rhwng yr agwedd a ddangosir yn y llythyr hwn a'r datganiad cryf a wnaed a'r camau a gymerwyd gan Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, sydd wedi cyhoeddi y bydd swyddogion a chyrff Llywodraeth yr Alban yn rhoi'r gorau i hwyluso masnach gydag Israel.
Dywedwyd wrth y Senedd nad oes unrhyw gymorth ariannol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gwmnïau yng Nghymru sy'n allforio arfau i Israel. Gwyddom bellach nad yw hynny'n wir. Cadarnhaodd y cais rhyddid gwybodaeth gan Amnesty International, ac yn wir, llythyr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ei hun at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fod cyllid wedi'i ddyfarnu i gwmni a enwyd gan Amnesty fel un sy'n allforio arfau a ddefnyddir yn Israel. Er bod Gweinidogion yn dadlau mai dim ond i'w cangen fodurol yr aeth y cymorth, mae'r achos yn datgelu diffyg diwydrwydd dyladwy hawliau dynol ym mhroses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Nid yw cymryd cwmnïau rhyngwladol ar eu gair yn ddigon da pan fo sefydliadau hawliau dynol rhyngwladol yn mynegi pryderon difrifol.
Felly, a oedd Llywodraeth Cymru o ddifrif yn anymwybodol ei bod yn ariannu cwmnïau sydd â chysylltiadau â gweithredoedd anghyfreithlon Israel, a fyddai'n dangos methiant difrifol o ran diwydrwydd dyladwy, neu a yw'r Senedd wedi cael ei chamarwain? A pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i gyflawni ei chyfrifoldeb i sicrhau na roddir unrhyw gymorth, naill ai'n ymarferol neu'n anuniongyrchol, i unrhyw gwmni sy'n gysylltiedig â'r meddiannu anghyfreithlon a'r camau milwrol a gymerwyd gan Israel neu unrhyw weithgaredd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru?
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y pwynt cyntaf a wnewch yn eich cwestiwn atodol. Os caf ymateb i hynny, fel y gwyddoch, ac fel rwyf wedi sefyll yma a'i ddweud dro ar ôl tro ar ran Llywodraeth Cymru, fe wnaethom alw am gadoediad a chondemnio'r erchyllterau sy'n cael eu cyflawni yn Gaza, yn cynnwys y modd y caiff cymorth dyngarol ei atal, ac mae'n bwysig fy mod yn dweud hynny eto y prynhawn yma, ac rydym hefyd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU i gydnabod statws gwladwriaeth Palesteina.
Mae'n bwysig ein bod yn egluro bod ein prosesau caffael wedi newid yn ddiweddar, gan gynnwys amlinellu'n glir pryd y gellir eithrio cyflenwyr, megis ar gyfer twyll, llwgrwobrwyo, arferion anfoesegol a risgiau diogelwch cenedlaethol. Fel y gwyddoch—rydych wedi cael y datganiad hwn—nid oes unrhyw gyllid cymorth allforio wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gwmnïau Cymru i gefnogi gwerthu arfau'n uniongyrchol i Israel ers dechrau'r rhyfel ar 7 Hydref 2023. Rydym yn disgwyl, fel Llywodraeth Cymru, i sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n derbyn cyllid sector cyhoeddus lofnodi'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yn ogystal, bydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cryfhau caffael sy'n gymdeithasol gyfrifol yng Nghymru. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y rheoliadau drafft yn hynny o beth.
Rwy'n credu, er budd pawb, ei bod hi'n bwysig egluro unwaith eto y sefyllfa mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i gangen fodurol Senior yng Nghymru, sy'n cynhyrchu rhannau tiwbiau ar gyfer bysiau trydan. Defnyddiwyd y grant i gefnogi gwaith adnewyddu adeiladau er mwyn diogelu mwy na 50 o swyddi modurol yng Nghrymlyn. Mae gan y cwmni 32 o leoliadau gwahanol ar draws 14 o wledydd. Mae wedi cadarnhau nad oes dim o'i waith amddiffyn yn mynd rhagddo yng Nghymru. Ond mae'n bwysig, unwaith eto heddiw, eich bod wedi cyflwyno'r cwestiwn hwn. Rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno'r cwestiwn hwn i ni heddiw ar ymchwiliad comisiwn y Cenhedloedd Unedig i hil-laddiad yn Gaza, a bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, fel y dywedais, yn ei annog i ystyried canfyddiadau adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn llawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r dioddefaint yn Gaza yn warth ar ein byd a'r gyfundrefn fyd-eang bresennol. Mae'r Cenhedloedd Unedig a rhai gwledydd yn gwneud yr hyn a allant, ond mae gweithredoedd hil-laddol Israel yn parhau'n ddirwystr. Gwyddom fod oddeutu 65,000 o bobl wedi cael eu lladd, a Duw a ŵyr faint yn rhagor sydd wedi'u claddu o dan y rwbel, cymaint ohonynt yn blant a menywod. Mae'n greulon ac yn wallgof, gyda'r byd i raddau helaeth yn sefyll o'r neilltu neu'n aneffeithiol yn ei bryder a'i wrthwynebiad. Yn y sefyllfa erchyll hon, credaf fod yn rhaid i Gymru a Llywodraeth Cymru wneud popeth yn eu gallu i wrthwynebu a rhoi pwysau ar Lywodraeth Israel, fel annog awdurdodau lleol Cymru i ddilyn gweithredoedd cyngor dinas Caerdydd trwy adolygu eu cronfeydd pensiwn, gyda'r bwriad o ddadfuddsoddi o gronfeydd sy'n cefnogi sefydliadau sy'n cynorthwyo gweithredoedd Israel yn Gaza a'r tiriogaethau meddianedig. Gan ddilyn esiampl Wcráin, a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gyhoeddi nodyn polisi caffael cyhoeddus ar gyfer Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r berthynas â chwmnïau sy'n gysylltiedig â gweithredoedd Israel a gweithio gyda phartneriaeth pensiynau sector cyhoeddus Cymru i ddadfuddsoddi o Israel?
Diolch, John Griffiths, a diolch hefyd am daflu rhagor o oleuni ar yr hyn y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau, ac yn wir, o fewn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â chronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru, a hefyd am wneud y Senedd yn ymwybodol o ystyriaeth awdurdodau lleol o'u cyfrifoldebau, gan gynnwys ein gwneud yn ymwybodol o'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt yng Nghyngor Caerdydd.
Diolch unwaith eto, John Griffiths, am daflu’r goleuni hwnnw eto fel rydym yn ei wneud y prynhawn yma. Mae’r sefyllfa erchyll y mae pobl Gaza yn ei hwynebu yn warth. Rwyf eisoes wedi ymateb i’r ffaith ein bod wedi newid ein prosesau caffael yn ddiweddar ac wedi bod yn eithaf clir ynglŷn ag eithrio cyflenwyr am arferion anfoesegol a hefyd sicrhau bod yn rhaid i unrhyw un sy’n derbyn arian ymrwymo i'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Wrth gwrs, dyma’r hyn y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau a’n cyfrifoldebau. Rydych chi wedi taflu goleuni pwysig iawn ar ein partneriaid mewn llywodraeth leol hefyd, a chronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru.
Rydym yn agosáu at ddwy flynedd ers yr ymosodiadau ar 7 Hydref a ddechreuodd y gwrthdaro hwn yn y dwyrain canol, a'r lluniau a welwn yn rheolaidd ar ein sgriniau teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol o'r digwyddiadau dyddiol yn y dwyrain canol, yn Gaza ond hefyd y rhai sydd wedi digwydd yn Israel hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y cyfarfod a gynhaliwyd gennym ychydig fisoedd yn ôl i drafod rhai o fy etholwyr y cafodd perthnasau iddynt eu llofruddio gan derfysgwyr Hamas yn eu cartref yn Israel ar 7 Hydref, ac aelod arall o'r teulu a gymerwyd yn wystl a'i gludo i Gaza. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Mae hon yn sefyllfa anodd, gymhleth a dyrys iawn, ond cytunaf â'r hyn a ddywedodd John Griffiths, sef fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i ddod o hyd i ddatrysiad heddychlon i'r gwrthdaro, gan mai dyna mae pob un ohonom eisiau ei weld. Credaf ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ddulliau a'r holl gyfleoedd sydd ganddi i wneud hynny.
Yr Unol Daleithiau sy'n fwyaf tebygol o fod yn gyfryngwr mewn unrhyw gytundeb heddwch yn y dwyrain canol, a dyna pam na allaf ddeall yn iawn pam fod y Prif Weinidog wedi gwrthod gwahoddiad heddiw i fynychu'r wledd swyddogol gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau ac aelodau eraill o ddirprwyaeth yr Unol Daleithiau, fel y gellid codi'r mater hwn, yn ogystal â materion eraill sy'n bwysig i bobl Cymru, fel tariffau ar allforion, fel ein diwydiant dur, er enghraifft.
Pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog y cyfle i fynychu'r wledd swyddogol honno gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau tra bo yn y DU heddiw?
Diolch am gyfrannu eich ymateb i'r cwestiwn hwn, Tom Giffard, ac yn wir, am eich safbwyntiau pwysig ar y cwestiwn pwysig hwn y prynhawn yma. Mae'r marwolaethau a'r dinistr yn Gaza yn achosi trychineb dyngarol annioddefol, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod hynny heddiw. Mae'n peryglu'r gwystlon, fel y mae eu teuluoedd wedi'i gydnabod yn gywir ddigon. Yn wir, roedd yn bwysig fy mod yn ymuno â chi, Tom, a Luke Fletcher a Huw Irranca-Davies ar ran eich etholwr a gymerwyd yn wystl. Roedd hynny'n bwysig, ein bod yn estyn allan. Ac yn wir, mae hyn yn rhywbeth rwy'n derbyn cyfrifoldeb amdano mewn perthynas â'n fforwm cymunedau ffydd, a chydlyniant cymunedol. Felly, roedd y rheini'n safbwyntiau pwysig ar y cwestiwn amserol hwn heddiw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr, a diolch i chi, Sioned Williams, am godi hyn. Rwy'n sicr yn teimlo bod yn rhaid inni gefnogi'r holl gymodwyr yn hyn o beth, boed yn Israel, ym Mhalesteina neu yn Qatar. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Israel wedi bomio'r trafodaethau heddwch yn Qatar yn nodi'n gwbl glir fod Netanyahu wedi mynd o'i gof, fel y mae Llywodraeth Qatar wedi'i ddweud. Rwy'n teimlo bod angen inni foicotio Llywodraeth Israel, yn yr un modd ag y boicotiwn Lywodraeth Rwsia oherwydd eu rhyfelgarwch a'u diffyg cydymffurfiaeth â rheolaeth y gyfraith. Felly, yn ogystal â'r holl bethau eraill a godwyd, tybed a allem ofyn i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl Sbaen ac Iwerddon trwy foicotio cystadleuaeth Eurovision os yw Israel yn cael cymryd rhan, ac yn wir, unrhyw weithgarwch chwaraeon neu ddiwylliannol rhyngwladol arall hyd nes y ceir Llywodraeth newydd yn Israel, ac yn Rwsia yn wir.
Diolch, Jenny Rathbone, a diolch hefyd am dynnu ein sylw at ddimensiwn ehangach arall o ran yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, sut y gallwn fynegi ein harswyd. Fe dynnoch chi sylw at yr ymosodiad gan Israel ar genedl sofran Qatar. Mae gweithredoedd Israel yn gam yn erbyn sofraniaeth Qatar ac yn mentro annog ymosodiadau pellach, pan ddylai'r ffocws fod ar ddod â'r cylch dinistriol o drais yn y rhanbarth i ben, yn hytrach na gwaethygu'r gwrthdaro. Rwy'n siŵr y cawn gyfle i drafod beth y gallwn ni ei wneud o ran digwyddiadau, fel rydych wedi'i ddweud, a boicotiau. Rwy'n siŵr y bydd sylwadau'n cael eu gwneud.
Roeddwn eisiau gwneud un pwynt nad yw wedi'i godi'r prynhawn yma, sef bod pob un ohonom yn cydnabod yr effeithiau dinistriol y mae'r rhyfel yn eu cael ar boblogaeth Gaza, gan gynnwys plant sydd angen gofal iechyd arbenigol. Dyna pam ein bod wrthi'n archwilio pa gymorth y gallwn ei roi i blant Gaza sydd angen triniaeth feddygol. Rydym yn cymryd rhan fel Llywodraeth yng nghynllun y DU ar gyfer cludo cleifion mewn argyfwng meddygol o Gaza. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i gefnogi'r plant sydd angen triniaeth feddygol a'u teuluoedd, a gallwn ddiwallu eu hanghenion. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod hefyd yn rhannu hynny'n ehangach ac yn gyhoeddus heddiw. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi cael y gydnabyddiaeth hon ar draws y Siambr, a fy mod wedi cael y cyfle i ddweud, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad comisiwn y Cenhedloedd Unedig a'r ymchwiliad i hil-laddiad yn Gaza, a gofynnwn i Lywodraeth y DU ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwnnw gan y Cenhedloedd Unedig yn llawn. Diolch yn fawr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Siân Gwenllian.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Pwyllgor Pentra Deiniolen wedi bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau cartref parhaol yn nwylo’r gymuned, ac wythnos diwethaf, fe gyrhaeddon nhw eu targed ariannol o £20,000 er mwyn prynu'r hen lyfrgell yn y pentref. Ar draws Cymru, ac yn enwedig yng Ngwynedd, mae cymunedau yn hawlio eu dyfodol, ac yn cymryd tafarndai, prosiectau ynni a chanolfannau cymunedol i'w dwylo eu hunain. Mae'r symudiad tuag at berchnogaeth gymunedol yn chwyldro tawel yma yng Ngwynedd, a dwi mor falch bod pentref Deiniolen yn ymuno efo'r chwyldro hwnnw.
Perchnogaeth gymunedol ydy'r dyfodol. Mae'n rhoi'r grym yn nwylo’r bobl yn hytrach na chorfforaethau a grymoedd sy'n bell o’n cymunedau. Mae'n rhoi'r gallu inni siapio ein dyfodol ein hunain. Dŷn ni'n ffodus iawn i gael gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser, eu gweledigaeth a'u hegni fel y bydd ein pentrefi ni yn ffynnu, ac felly dwi'n achub ar y cyfle heddiw i ddiolch o galon i Bwyllgor Pentra Deiniolen am eu gwaith a'u llongyfarch ar eu llwyddiant.
Ddydd Llun nesaf, 22 Medi, bydd 91 mlynedd wedi mynd heibio ers trychineb pwll glo Gresffordd. Bydd pobl Wrecsam unwaith eto'n dod at ei gilydd i gofio'r digwyddiadau trasig ar y noson dyngedfennol honno pan gollodd 266 o ddynion a bechgyn eu bywydau. Dim ond chwe dyn a ddihangodd; ni chafodd cyrff 253 o ddynion a bechgyn erioed mo'u canfod. Roedd y ffrwydrad dinistriol a rwygodd trwy ran Dennis o'r pwll glo ar 22 Medi 1934 yn un o'r trychinebau mwyngloddio gwaethaf yn hanes Prydain, ac roedd ei effaith ar y gymuned yn seismig.
Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol am 11.00 a.m. wrth gofeb trychineb glofa Gresffordd ar Lôn Bluebell ym Mhandy. Rwy'n talu teyrnged i gyfeillion y gofeb, ddoe a heddiw, sydd wedi sicrhau bod gennym gofeb sy'n ganolbwynt i deuluoedd y glowyr fynd i gofio am eu hanwyliaid. Ddydd Sul bydd Prosiect Glowyr Wrecsam sy'n gwneud gwaith gwych yn helpu i ddiogelu ein treftadaeth fwyngloddio, yn cynnal digwyddiad diwrnod cymunedol am ddim yng Ngorsaf Achub y Glowyr ar Ffordd Maesgwyn, ac yn ychwanegol eleni, bydd cofnodion nas gwelwyd o'r blaen a gadwyd yn yr Archifau Cenedlaethol yn cael eu harddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf. Mae 'Gresffordd: Lleisiau o'r Archifau' yn ddigwyddiad deuddydd sy'n cael ei gynnal yn llyfrgell Wrecsam ddydd Llun a dydd Mawrth. Rwy'n gwybod bod llawer o ymchwil a gwaith wedi mynd i tuag at gynnal yr arddangosfa hon, sy'n cynnwys llyfrau nodiadau, datganiadau tystion, deisebau a llythyrau'n gysylltiedig â'r trychineb, a byddant yn cael eu harddangos gyda'i gilydd yn Wrecsam am y tro cyntaf. Mae'n iawn ein bod yn dod at ein gilydd i gofio'r diwrnod trasig hwn yn ein hanes. Diolch.
Yr wythnos hon mae Sefydliad y Merched yn 110 oed. Yn 1915 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Sefydliad y Merched yma yng Nghymru yn Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn. Bryd hynny, eu nod oedd rhoi llais i fenywod a bod yn rym er lles yn y gymuned, ac fe'i sefydlwyd yn wreiddiol i adfywio cymunedau gwledig ac annog menywod i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynhyrchu bwyd yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Ers hynny, mae nodau'r sefydliad wedi tyfu rywfaint, a heddiw Sefydliad y Merched yw'r mudiad menywod gwirfoddol mwyaf yn y DU. Mae'n fwy na dim ond jam a 'Jerusalem', er ei bod yn werth nodi bod y gân wedi'i mabwysiadu gan Sefydliad y Merched oherwydd ei chysylltiadau â'r mudiad dros hawliau pleidleisio, ac yn y 1970au, yn ystod y 'ddadl fawr am jam', lobïodd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched yn llwyddiannus dros i'w haelodau gael eu heithrio rhag gorfod cofrestru gydag awdurdod lleol cyn cael gwerthu jam i'r cyhoedd.
Mae Sefydliad y Merched wedi arwain y ffordd ac wedi bod yn weithgar mewn nifer o ymgyrchoedd a materion allweddol, o drais yn erbyn menywod i newid hinsawdd a llygredd plastig. Yr wythnos hon mae dathliadau pen-blwydd yn digwydd ledled y wlad, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun. Ddydd Gwener bydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched Clwyd-Fflint yn cynnal digwyddiad yng Ngwesty Beaufort Park ger yr Wyddgrug. Bydd yn dod â grwpiau Sefydliad y Merched ynghyd o bob rhan o'r ardal, bydd yn cynnwys pryd o fwyd a band iwcalili, ac mae wedi'i drefnu gan fwrdd ymddiriedolwyr Clwyd-Fflint. Dylwn ddatgan buddiant, gan fod fy mam, Lorraine, yn un o'r ymddiriedolwyr ac yn aelod gweithgar o Sefydliad y Merched; mewn gwirionedd, mae'n debygol iawn ei bod hi'n brysur yr eiliad hon yn gwneud addurniadau bwrdd gyda lliwiau Sefydliad y Merched ar gyfer y digwyddiad.
I holl aelodau Sefydliad y Merched, mae'r garreg filltir hon yn gyfle i ddathlu'r cyfeillgarwch sydd wedi'u ffurfio rhwng menywod a'r cyfan sydd wedi'i wneud gan eu mudiad. Mae Sefydliad y Merched wedi bod yn cysylltu cymunedau, yn creu newid ac yn ysbrydoli menywod ers 110 mlynedd.
Pen-blwydd hapus i chi.
Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i'w wneud yn ffurfiol—Paul Davies.
Cynnig NNDM8979 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.
Cynnig NDM8971 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle hwn i gyflwyno'r ddadl. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Eleri Lewis, a daeth i ben ar 24 Tachwedd 2022, ar ôl casglu cyfanswm o 267 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud:
'Mae preswylwyr 'the Mill’, ystâd newydd yn Nhreganna, Caerdydd yn gorfod talu ffi flynyddol o £102 am gynnal a chadw parc sy'n ffinio ar yr ystâd. Rhaid gwneud y taliad hwn ochr yn ochr â thaliadau cynnal a chadw eraill sy'n talu am y priffyrdd a’r mannau gwyrdd heb eu mabwysiadu ac ati. Rhaid i breswylwyr hefyd dalu'r dreth gyngor lawn sy'n ofynnol. Nid yw preswylwyr yn cael dadansoddiad manwl o gostau’r parc, dim ond hysbysiad i ddweud bod yn rhaid iddynt dalu’r ffi.'
'Ystyriwyd bod ‘the Mill’ yn enghraifft dda o bolisi Llywodraeth Cymru oherwydd ei statws fel ystâd ddeiliadaeth gymysg sy’n cynnwys tai fforddiadwy ochr yn ochr â phrynu rhydd-ddaliadol—felly, o ystyried yr argyfwng costau byw presennol, rydym o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi preswylwyr ar ystadau fel ‘the Mill’ drwy annog a hwyluso awdurdodau lleol i fabwysiadu’r gwaith cynnal a chadw a dileu’r taliadau cosbol hyn.'
Mae llawer o'r Aelodau'n gyfarwydd â phroblem 'fleecehold', sydd wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nid ar drigolion yr ystad dai benodol hon yn unig y mae'n effeithio.
Cyn mynd ymhellach, rhaid inni roi cydnabyddiaeth arbennig i gyfraniad Hefin David, a roddodd dystiolaeth hanfodol i'n hymchwiliad, a gofynnodd imi sicrhau bod y ddadl heddiw yn cael ei chynnal. Roedd Hefin yn allweddol yn tynnu sylw at y mater hwn yn y Senedd, ar ôl cyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod yn 2018 gyda'r nod o reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a chryfhau gallu rhydd-ddeiliaid i herio rheolwyr ystadau. Parhaodd Hefin i bwyso am weithredu gan y Llywodraeth, a phan gyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Mai, gofynnodd iddo gael ei rannu gyda'i gyd-bleidiwr yn San Steffan, Alistair Strathern AS, sydd wedi hyrwyddo'r mater yn Senedd y DU, gan gynnwys trwy Fil Aelod preifat, a gyflwynwyd yno ym mis Gorffennaf. Gofynnodd Hefin hefyd i Brif Weinidog Cymru ar 17 Mehefin am ddiweddariad ar gynnydd Llywodraeth Cymru yn y gwaith o fynd i'r afael â thaliadau rheoli ystadau, gan dynnu sylw at bryderon ei etholwyr yn Ystrad Mynach a nodi gwaith y pwyllgor ar y mater hwn. Mae'n briodol fod gwaith yn parhau i fynd ar drywydd y newidiadau rheoleiddiol y galwodd Hefin amdanynt gyda chymaint o angerdd ac egni ar ran ei etholwyr yng Nghymru.
Dyma'r ail ddeiseb ar ffioedd ystadau a ystyriwyd yn y chweched Senedd. Caewyd deiseb gynharach yn galw am fwy o bwerau i rydd-ddeiliaid herio cwmnïau rheoli ystadau yn 2021, pan oedd y deisebydd yn fodlon ag ymateb y Gweinidog. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd ei bod hi hefyd yn pryderu am y broblem, a oedd wedi ysgogi galwad am dystiolaeth, ac y byddai'n defnyddio'r dystiolaeth honno
'i helpu i nodi lle mae angen newid a'r opsiynau i sicrhau'r newid hwnnw, yn ddeddfwriaethol neu fel arall.'
Roedd hi'n cydnabod bod y dystiolaeth yn codi cwestiwn sylfaenol ynghylch sut y dylid talu am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau, ond na ddylai unrhyw newidiadau posib a gynigid arwain at ganlyniadau anfwriadol neu effeithiau andwyol annisgwyl.
Roedd yn amlwg o ymchwiliad diweddarach y pwyllgor fod problemau'n parhau gyda'r system bresennol. Nododd ymweliad y pwyllgor â datblygiad tai yng Nghaerffili, a drefnwyd gyda Hefin David, rwystredigaethau dealladwy perchnogion tai.
Daeth y broses o gasglu tystiolaeth i ben yn 2023, ond arweiniodd nifer o ddatblygiadau wedyn at ohirio adroddiadau. Effeithiodd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ar y dirwedd ddeddfwriaethol, ac yna nododd Llywodraeth Lafur newydd y DU fwriad i wneud newidiadau pellach, gyda drafft newydd o'r Bil diwygio cyfraith lesddaliad a chyfunddaliad ar y ffordd eleni. Yng ngoleuni hyn, fe wnaethom argymhellion i Weinidogion Cymru ymgysylltu â'r ddeddfwriaeth ddrafft honno ac ystyried yr hyn sydd angen ei wneud drwy gyfraith Cymru.
Nododd y pwyllgor arferion da i'w cymhwyso i reoleiddio yn y dyfodol, ac awgrymodd y gall Cymru ddysgu o fodel yr Alban. Mae'n galonogol fod yr ymateb yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae lle hefyd i bob haen o lywodraeth ac adeiladwyr cartrefi weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau mwy o gysondeb. Rydym yn galw am fecanweithiau cadarn i sicrhau bod prynwyr cartrefi yn deall eu rhwymedigaethau yn llawn cyn iddynt ymrwymo i brynu cartref newydd oddi ar gynllun yn unig, a gwybod pwy fydd yn rheoli mannau a chyfleusterau cyffredin a sut, a pha gostau i'w disgwyl. Weithiau, maent wedi'u cyffroi cymaint gan y syniad o brynu cartref newydd fel eu bod ond yn taflu cipolwg ar yr holl gostau a thaliadau ac nid ydynt yn deall eu goblygiadau mewn gwirionedd. Bydd hyn yn gwneud y system yn fwy teg a thryloyw i brynwyr yn y dyfodol, hyd yn oed os nad yw datrys problemau i berchnogion tai presennol mor syml â hynny. Roedd Hefin David yn bragmatig yn ei agwedd at y mater hwn. Roedd yn cydnabod yn llawn yr heriau a'r rhwystrau i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ond roedd hefyd yn nodweddiadol o onest am broblemau sector sydd wedi'i reoleiddio'n wael, gan ei ddisgrifio fel 'gorllewin gwyllt', ac roedd yn benderfynol y dylid cael camau gweithredu y gellid ac y dylid eu rhoi ar waith.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pedwar o bum argymhelliad y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor, ei bod yn cytuno bod y fframwaith rheoleiddio presennol yn dameidiog, a'i bod yn datgan ei hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth y DU yn y maes pwysig hwn. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod yr alwad am gymorth ariannol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan faich taliadau rheoli ystadau annheg. Mae'r ymateb yn dweud y byddai cefnogaeth i awdurdodau lleol at y diben hwn yn dargyfeirio cyllid o gostau a blaenoriaethau eraill, ac mae'n nodi y bydd Deddf 2024 yn darparu llwybr i drigolion herio taliadau annheg.
Mae llawer yn dibynnu ar ba fesurau a welwn yn neddfwriaeth y DU sydd i'w chyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn, ond yn y cyfamser, mae'n bwysig fod yna ewyllys gref i wella'r sefyllfa i berchnogion tai yng Nghymru. Rwyf wedi sylwi dros y blynyddoedd diwethaf fod ystadau newydd yn—. Mae ffyrdd yn mynd yn llai, mae'r gerddi'n mynd yn llai. Pe bai ffyrdd ystadau, mannau chwarae a goleuadau stryd yn cael eu datblygu i safon mabwysiadu gan yr awdurdod lleol, gyda swm cymudedig dros 10 mlynedd ar gyfer cynnal a chadw, gallai hynny fod yn ffordd ymlaen, ond fe arhoswn i weld beth a ddaw yn awgrymiadau Llywodraeth y DU. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet heddiw ar beth arall y gellir ei wneud i atal perchnogion tai yn y dyfodol rhag wynebu'r un sefyllfa â'r deisebwyr hyn. Diolch.
A gaf i ddechrau trwy dynnu sylw at fy nghefnogaeth lawn i'r ddeiseb hon? Fel ein Cadeirydd, rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r gwaith diflino a wnaeth ein diweddar gyd-Aelod, Hefin David, ar fynd i'r afael â'r mater hwn ar ran ei etholwyr. Ni fydd yn unrhyw syndod pan ddywedaf ei fod wedi rhoi tystiolaeth amhrisiadwy a llawer o gefnogaeth i'n pwyllgor.
Er fy mod yn cydnabod bod hwn yn faes cymhleth, a drud yn wir, fel corff deddfwriaethol, dylem fod yn ceisio mynd ati'n weithredol i ddatrys problemau fel y rhain er budd pobl Cymru. Fel cyn-gynghorydd bwrdeistref sirol, rwyf wedi gweld drosof fy hun y problemau y mae'r ystadau hyn yn eu creu. Fel rwy'n ei weld, mae'r broblem yn codi o'r ffaith bod rheoli'r ystadau hyn yn cael ei weld gan awdurdodau lleol fel rhywbeth beichus a rhywbeth y byddai'n well ganddynt beidio â'i ysgwyddo os gallant beidio. Yn y pen draw, byddai'n well ganddynt gymryd arian y dreth gyngor gan berchnogion y tai a gwneud cyn lleied o'r gwaith cynnal a chadw â phosib. Cyhyd ag y gallaf gofio, mae awdurdodau lleol wedi honni eu bod yn brin o adnoddau, ac felly bydd ysgwyddo ymrwymiadau i fabwysiadu'r gwaith o gynnal ystadau newydd bob amser yn cael ei ystyried fel dewis olaf. Dyma pam y mae cynghorau'n rhoi ymrwymiadau ariannol enfawr ar ddatblygwyr cyn iddynt fodloni i fabwysiadu'r ystadau hyn.
Gallwn ddarllen yn adroddiad y ddeiseb sut y mae'n ofynnol i adeiladwyr tai sydd wedi adeiladu a thalu am y mannau agored cyhoeddus dalu costau eu cynnal am dros 30 mlynedd a thalu costau ailosod yr holl offer chwarae hanner ffordd trwy'r cyfnod hwnnw o 30 mlynedd. Efallai y bydd rhai'n gweld hyn yn deg, ond nid wyf i. Dyma pam hefyd, fel y nodir eto yn yr adroddiad, y mae awdurdodau lleol yn cyhoeddi mwy o ganllawiau cynllunio atodol mewn perthynas â mannau agored, gan nodi na fydd y cyngor yn ei fabwysiadu am mai lle'r datblygwr sy'n ei ddarparu yw cynnig ffordd o'i reoli. Felly, mae datblygwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib, lle mae'n rhaid iddynt, er mwyn parhau â'u gwaith, naill ai ymrwymo i ymrwymiadau ariannol hirdymor a sylweddol y mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i ffordd o dalu amdanynt, cynyddu prisiau gwerthu tai, lleihau costau trwy ddefnyddio deunyddiau rhatach neu ddod o hyd i lafur rhatach, nad ydynt yn debygol o allu ei wneud, gadewch i ni fod yn onest. Yn y pen draw, eu hunig opsiwn yw dod â chwmni rheoli i mewn i wneud y gwaith.
Fel rhan o'r broses gynllunio, rwy'n credu y dylai awdurdodau lleol, o'r cychwyn cyntaf, fod yn gweithio gyda datblygwyr gyda'r bwriad o fabwysiadu'r ymrwymiad i gynnal a chadw'r ystadau newydd hyn. Dylai cynghorau allu casglu digon o dreth i dalu'r gost a dylid gosod bandiau treth gyngor yr eiddo gyda'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw mewn golwg. Credaf hefyd y dylai cynghorau a datblygwyr gael dadansoddiad cost tryloyw y mae trigolion yn gwbl ymwybodol ohono cyn prynu'r eiddo. Yn yr un modd, os oes ffioedd yn dal i'w talu, dylai hyn gael ei gynnwys yn y premiymau treth gyngor lleol.
Mae'r adroddiad yn nodi rhai argymhellion, ac rwy'n cefnogi pob un ohonynt yn llawn. Mae angen fframweithiau rheoleiddio ar waith ac mae angen dyrannu digon o adnoddau ariannol i gefnogi hyn. Ar ben hynny, mae angen cysondeb ar draws Cymru gyfan. Un o'r prif broblemau o gael cymaint o awdurdodau lleol yw bod datblygwyr, a thrigolion yn wir, yn gorfod delio â gwahanol safonau ac arferion, ac mae hyn yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod a dryswch posib i lawer o ddatblygwyr.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud ychydig eiriau am gwmnïau cynnal a chadw. Heb y cwmnïau hyn ni fyddai gwaith cynnal a chadw'n digwydd ar sawl un o'r datblygiadau hyn. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod gan y cwmnïau hyn hawl i godi unrhyw swm bron am y gwaith a wnânt, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddarparu cyfradd gystadleuol ar gyfer y gwaith ar ôl iddynt gael y contractau, felly gallai perchnogion tai fod yn talu llawer iawn mwy nag y dylent am y gwaith a wneir, ac oherwydd bod y contractau hyn yn cael eu cytuno ar gyfer cyfnodau hir o amser, mae'n anodd iawn iddynt herio'r costau.
Ar ben hynny, mewn llawer o achosion, mae'r cwmnïau cynnal a chadw hyn hefyd yn cynnwys taliadau ychwanegol ar gyfer cronfa wrth gefn o arian rhag ofn y bydd costau mawr yn codi yn nes ymlaen. Nid yn unig y mae'n anodd iawn herio faint sy'n cael ei gasglu, maent hefyd yn cael arian llog o'r potiau hyn o arian, nad ydynt o reidrwydd yn ei ailfuddsoddi yn ôl i mewn i waith cynnal a chadw, ond yn hytrach yn ei gymryd fel elw. Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i ni gael fframweithiau rheoleiddio llymach ar gyfer faint y gall cwmnïau cynnal a chadw ei godi a sut y maent yn adolygu costau'n flynyddol. Diolch.
Carwn i ddiolch i Eleri Lewis, y deisebydd yn y mater yma. Mi wnes i chwarae rhan yn llunio'r ddeiseb yn y lle cyntaf, ac yna fe ddes i'n aelod o'r pwyllgor a ges i'r fraint o fod yn bresennol i wrando ar Hefin David yn rhoi tystiolaeth arbenigol i ni. Codwyd y mater yma yn y lle cyntaf wrth i breswylwyr The Mill, oedd yn cynnwys Eleri Lewis, gael biliau blynyddol heb unrhyw breakdown o gwbl yn y bil a heb unrhyw fanylion pan oedden nhw'n holi am fanylion, a'r bil yn mynd i fyny bob blwyddyn.
Rwy'n cael e-byst yn wythnosol fan lleiaf gan lawer o etholwyr am gwmnïau rheoli sy'n rhoi preswylwyr dan bwysau ariannol, heb fawr o dryloywder os o gwbl, tra'u bod yn rheoli asedau heb eu mabwysiadu. Ni fyddai angen i mi gerdded am fwy na phum munud o amgylch y bloc yma heddiw i weld enghreifftiau o hynny. Mae angen rheoliadau safonol ar gyfer rheoli asedau mewn ystadau tai newydd. Bydd y rheolau hyn yn grymuso preswylwyr ac yn adfer ymddiriedaeth. Gallem ddefnyddio un o dribiwnlysoedd Cymru, er enghraifft, fel y gall trigolion fynd â'u cwynion yno, yn rhad ac am ddim, a gall tribiwnlys annibynnol edrych arnynt.
Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall effaith ariannol mabwysiadu asedau a datblygu fframwaith cymorth lle bo hynny'n briodol. Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl oherwydd cyfyngiadau cyllidebol neu gyfrifoldebau aneglur. Maent yn haeddu tryloywder a thegwch, ac ni ddylid disgwyl iddynt dalu ddwywaith am wasanaethau y mae'r gweddill ohonom yn talu amdanynt unwaith yn unig trwy ein treth gyngor.
Y bore yma, tra oeddwn i'n mynd â fy merch i'r ysgol, cerddais heibio i The Mill. Ond cyn i mi gerdded heibio The Mill, cerddais heibio i Erddi Lansdowne, datblygiad eithaf newydd arall. Mae un, Gerddi Lansdowne, wedi'i fabwysiadu; nid yw'r llall, The Mill, wedi'i fabwysiadu. Nid oes gan drigolion unrhyw syniad pam—pam y mae'n rhaid i rywun i lawr y ffordd dalu am eu ffordd ac am y pafin, ac nad oes rhaid iddynt wneud hynny yn rhywle arall.
Roeddwn i'n bresennol pan roddodd Hefin David ei dystiolaeth argyhoeddiadol a thrawiadol, ac edrychais dros y geiriau eto, ac nid yw'r geiriau'n gwneud cyfiawnder â'r hyn a ddywedodd Hefin mewn gwirionedd. Gallech deimlo'r angerdd yn yr ystafell. Carolyn, arhosodd y geiriau 'gorllewin gwyllt' gyda mi hefyd, ond mae'n wir—heb reoleiddio, dyna sydd gennych. Gorllewin gwyllt. Mae gan ormod o ddatblygiadau tai newydd asedau yn eiddo i gwmnïau preifat, ac mae mwy a mwy o deuluoedd Cymru, trigolion Cymru, yn wynebu costau gormodol a niwlog.
Nawr, mae'r Alban wedi dangos bod rheoleiddio nid yn unig yn bosib, ond bod rheoleiddio'n gweithio mewn gwirionedd. Maent wedi gwneud hynny yn yr Alban. Yn 2011, pasiodd Senedd yr Alban reoliad, gan gynnwys cod ymddygiad, mynediad at dribiwnlys hygyrch, a thryloywder ariannol ynghylch sut y caiff arian ei wario'n lleol.
Dangosodd Hefin—a dywedodd Hefin yn ei dystiolaeth—nad mater pleidiol yw hwn. Nid yw'n fater sy'n effeithio ar un rhan o'r wlad yn unig chwaith; mae'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru, cymunedau ym mhob un o'n hetholaethau. Mae angen diwygio ystyrlon arnom. Mae'r system ar hyn o bryd yn ganoloesol, mae'n Fictoraidd ac ni all barhau. Dro ar ôl tro, mae seilwaith yn y wlad hon yn cael ei aberthu yn enw ecwiti preifat ac elw. Mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Gadewch inni beidio ag aros nawr i fwy o deuluoedd deimlo eu bod wedi'u caethiwo yn y system.
Yr wythnos diwethaf, cefais e-bost gan etholwr sy'n gaeth yn un o'r datblygiadau hyn, ac sy'n teimlo'n hunanladdol oherwydd y sefyllfa. Ni allwn adael i bethau fynd yn rhy bell cyn inni weithredu. Mae'r bobl hyn yn teimlo eu bod wedi'u caethiwo. Mae angen i ni yma yn y Senedd arwain gyda thegwch, tryloywder ac atebolrwydd. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am gyflwyno’r ddeiseb hollbwysig yma i’r Senedd heddiw, a diolch hefyd i'r diweddar Hefin David am ei waith diflino yn y maes yma. Diolch am yr adroddiad sydd yn edrych ar broblemau sy'n wynebu pobl ym mhob cwr o Gymru. Yn y bôn, mae’r problemau yn symptom o system dai sydd wedi’i strwythuro nid i gefnogi trigolion, ond i lenwi pocedi cwmnïau mawr.
Yn fy etholaeth i fy hun yn Arfon, dwi wedi gweld annhegwch y sefyllfa ar sawl ystad, a’r enghraifft fwyaf diweddar ydy ystad Gwêl y Llan yng Nghaernarfon. Mae'r trigolion yn talu ffioedd rheoli ers pan oedd Gwêl y Llan yn cael ei rheoli'n breifat, a bwriad y ffioedd yn wreiddiol oedd talu am ffyrdd, goleuadau a draeniau. Ond mae'r cyfrifoldebau hynny bellach wedi cael eu trosglwyddo i Gyngor Gwynedd a Dŵr Cymru, ac eto, am ryw reswm, mae ffioedd rheoli’r cwmni, Trinity Estates, yn parhau i godi. Mi liciwn i ddiolch i'r Cynghorydd Dewi Jones, sydd wedi dal ati'n ddygn i ddwyn pwysau ar y cwmni ar ran trigolion. Mae ei ymgyrch o wedi datgelu unwaith eto fod y system yn caniatáu i gwmnïau rheoli lenwi eu pocedi, a hynny heb roi gwerth yn ôl i’r trigolion. Mae trigolion yng Nghaernarfon a ledled Cymru yn haeddu tegwch yn hytrach na’r diffyg cyfathrebu a’r ffioedd cynyddol am wasanaethau nad ydyn nhw’n eu derbyn.
Rydym ni yng nghanol argyfwng tai. Mae Shelter Cymru wedi rhybuddio’n glir bod perchnogion tai yn cael eu gwasgu rhwng y cynnydd mewn morgais a rhent, ac mae ffioedd ystadau afresymol yn ychwanegu at y pwysau yma. Mae’r perygl bob amser yr un peth: bod teuluoedd yn syrthio i ddigartrefedd. Mae’r dystiolaeth yn dangos mai dyma ydy canlyniad diffyg deddfwriaeth ers blynyddoedd, a dydy’r broblem ddim am leihau oni bai ein bod ni'n gweithredu ar frys. Mae cwmnïau rheoli yng Nghymru eisoes yn paratoi i gymryd dros 24 o ystadau newydd efo dros 4,000 o gartrefi.
Oes, mae yna rai newidiadau wedi dod drwy Ddeddf San Steffan, Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, ond mae’r mwyafrif o’r darpariaethau eto i ddod i rym, ac mae’r system bresennol yn dal i adael pŵer anferth yn nwylo’r cwmnïau rheoli.
Dros yr haf, fe wnes i gychwyn mynd ar ôl hyn i gyd unwaith eto a chyflwyno cwestiwn ysgrifenedig i’r Llywodraeth yn holi pryd y bydd darpariaethau Ddeddf diwygio 2024 yn dod i rym yng Nghymru, achos maen nhw'n ddarpariaethau a allai gynnig gwarchodaeth i berchnogion tai rhydd-ddaliadol ar ystadau preifat, gan gynnwys y gofynion ynghylch tryloywder dros eu taliadau ystad, a’r gallu i herio’r taliadau maen nhw’n eu talu drwy ddwyn achos gerbron tribiwnlys.
Yr ateb siomedig y ces i oedd bod angen ymgynghori pellach a datblygu is-ddeddfwriaeth fanwl gan Weinidogion Cymru yn cydweithio efo Gweinidogion y Deyrnas Unedig. Pryd, felly, fydd hyn yn digwydd, a phryd gallwn ni weld cwmnïau fel Trinity Estates, a fu’n gweithredu yn Gwêl y Llan yn perthyn i gynllun lle mae’r preswylwyr yn mynd i fedru i’w dwyn nhw i gyfrif?
Gweinidogion Cymru fydd, yn dechnegol ac yn gyfreithiol, yn gwneud yr is-ddeddfwriaeth yma, ac felly mae’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru yn gadael i ddeddfwrfa arall arwain y ffordd ar hyn o bryd. Buaswn i’n dadlau hefyd fod angen mwy na jest yr hyn sydd yn Neddf San Steffan 2024, a bod angen deddfu yma yn y Senedd i sicrhau tegwch, tryloywder a chyfrifoldeb. Mae hwn yn fater datganoledig, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i weithredu, ond unwaith eto mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddisgwyl i weld beth ddaw o San Steffan yn hytrach na bwrw ati i greu trefn ein hunain. Mae yna wahaniaethau cyfreithiol yn bodoli yn barod, ac mae angen trefn addas i Gymru. Mae creu isadeiledd gwydn ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig i’n gwlad ni, ac mae trigolion ar hyd a lled Cymru yn haeddu gwell.
Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd, ac mae'n rhaid imi ddweud y byddaf yn dechrau fy nghyfraniad trwy gytuno'n fawr â geiriau olaf Siân Gwenllian. Rwy'n credu bod pobl yn cael cam. Rwy'n credu bod y sefyllfa y deuthum ar ei thraws yn fy etholaeth yn ddim byd llai na sgandal, yr hyn a welwn yma gyda thaliadau rheoli. Roedd yn rhywbeth a drafodais gyda Hefin ac fe wnaethom ymgyrchu arno gyda'n gilydd, ond y gwir amdani yw nad fi a Hefin yn unig sydd wedi bod yn gwneud y gwaith hwn, ond Siân, Rhys, pobl ac Aelodau ar draws y wlad gyfan, o bob rhan o Gymru, a gallaf weld ac rwy'n siŵr y bydd ein cyfaill Mike Hedges yn Abertawe yn cyfrannu cyn hir, i wneud pwynt tebyg iawn.
Felly, nid dim ond un cwmni diegwyddor yw hwn. Nid dim ond un ystad lle mae pethau'n anodd. Nid camgymeriad a wnaed gan gyfreithiwr efallai, neu beth bynnag. Mae'n broblem systemig yn y ffordd y prynir eiddo a'r ffordd y mae taliadau rheoli ystadau yn cael eu gosod. Rwy'n derbyn—. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog wrth ymateb yn gresynu at y setliad—fe'i clywais gan ei rhagflaenwyr—ond nid yw honno'n ddadl ddigon da i ganiatáu i bobl aros yn y sefyllfa hon, lle maent ar ben eu tennyn, fel y dywedodd Rhys ab Owen. Nid yw'n deg rhoi pobl yn y sefyllfa hon a bod Gweinidogion a Llywodraethau'n sefyll yn ôl wedyn a dweud yn syml, 'Mae'n rhy anodd i ni ei ddatrys, ac felly ni wnawn geisio gwneud hynny.'
Ac mae'r materion sy'n codi o The Mill, a'r materion y mae Siân wedi'u disgrifio, yn union yr un fath â'r materion yng Nghae Ffwrnais yng Nglynebwy, ac rwy'n talu teyrnged i waith Sarah Jones, sy'n byw yno, ac sydd wedi gweithio'n ddiflino flwyddyn ar ôl blwyddyn am ei bod hi'n cydnabod ac yn cael ei gyrru gan annhegwch pur y system.
Rwyf am fod yn hollol glir: fel y dywedais, nid damwain yw hyn. Mae Redrow, fel y cwmni dan sylw yma, wedi gweithredu mewn modd hollol warthus, a dylent fod â chywilydd o'r hyn y maent wedi'i wneud. Maent wedi bod yn fwriadol rwystrol, yn fy marn i. Nid wyf yn siŵr a ydynt bob amser wedi bod yn onest. Os ydynt yn onest, maent yn anghymwys. Ac nid wyf yn gwybod pa un ydyw, ond yn sicr nid ydynt wedi bod yn agored gyda mi. Mae gofyniad clir am ddeddfwriaeth, yn fy marn i, i sicrhau bod Redrow, sydd wedi ceisio ein rhwystro ni yma a'n hatal rhag dod o hyd i ateb, yn cael eu dwyn i gyfrif, ac nad oes unrhyw bobl eraill yn cael eu rhoi mewn sefyllfa debyg i'r hyn a welwn nawr yng Nghae Ffwrnais yng Nglynebwy.
Hoffwn weld datrysiad clir i hyn. Rwyf am i ni sicrhau bod yna gyfraith sy'n diogelu hawliau pobl ac sy'n diogelu pobl, ac rwyf am i ni sicrhau bod y gyfraith yn dwyn y busnesau mawr hyn i gyfrif. Mae'n iawn ac yn briodol na ddylai rhai o'r cwmnïau mwyaf yng Nghymru, sy'n gwneud peth o'r elw mwyaf rhyfeddol, ddal eu rhydd-ddeiliaid yn wystlon, a hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn, a bod gan y rhydd-ddeiliaid yn yr achos hwn a pherchnogion yr eiddo hawliau hefyd. Rhaid i'r gyfraith sicrhau tegwch ym mhob un o'r materion hyn.
Rwyf am fod yn hollol glir fod y rhydd-ddeiliaid yng Nghae Ffwrnais wedi cael eu gadael mewn sefyllfa lle nad yw'r wybodaeth a ddarparwyd iddynt ar adeg y prynu yn cyd-fynd â realiti'r costau y maent yn eu talu a'r cyfrifoldebau y maent yn eu hwynebu nawr. Mae Redrow, trwy eu gweithredoedd, wedi clymu perchnogion eiddo rhydd-ddaliadol wrth gytundeb cynllun rheoli sy'n lleihau eu hawliau'n sylweddol. Mae'n hanfodol sicrhau nad yw'r rhydd-ddeiliaid sydd eisiau bod yn berchen ar eu heiddo eu hunain yn yr ystyr go iawn yn gorfod talu cyfraniadau i gwmni rheoli nad yw'n ymddangos bod ganddynt fawr iawn o reolaeth drosto. Ac mae'n ymddangos bod y ffioedd sy'n cael eu codi gan y cwmni hwn yn afresymol, yn tyfu'n ddireolaeth heb unrhyw reswm o gwbl, ac yn cael eu gwneud mewn ffordd hollol anhryloyw.
Rwyf am orffen trwy ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Carolyn Thomas, am ddod â'r mater hwn ger bron y Siambr y prynhawn yma. Edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon, ond Weinidog, nid ymateb i'r ddadl hon yn unig yr hoffwn ei weld, ond gweithredu ar ran y bobl rwy'n eu cynrychioli.
Nid wyf am fynd trwy restr hir o rannau o fy etholaeth sy'n wynebu'r broblem hon. Yr hyn sy'n syndod amdanynt fodd bynnag yw eu bod yn eiddo modern, drud, wedi'i adeiladu'n dda. Nid dyma'r mathau o dai sy'n rhad i'w prynu. Rydych chi'n talu llawer iawn o arian i beidio â chael eich ffordd wedi'i mabwysiadu.
Rwy'n cefnogi mabwysiadu a chynnal ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol; rwy'n cytuno'n llwyr â'r deisebwyr. Er mwyn mabwysiadu, rhaid i'r ffyrdd, y palmentydd a'r goleuadau stryd gael eu gwneud i safon mabwysiadu, ac mae hynny'n cynnwys y draenio. Mae llawer o'r datblygwyr mawr yn gadael mannau heb fod yn cyrraedd safon mabwysiadu, ac yn yr achosion y deliais i â nhw, daw trigolion i wybod am y tro cyntaf nad yw eu ffordd wedi ei mabwysiadu pan fydd golau stryd yn diffodd ac angen ei drwsio, neu pan fyddant yn darganfod bod y ffi rheoli ystad yn cynnwys cynnal a chadw'r ffordd. Mae trigolion yn cysylltu â'r cyngor ac yna'n darganfod nad yw'r ffordd wedi'i mabwysiadu a'u bod nhw'n gyfrifol amdani.
Ar gyfer seilwaith priffyrdd, gall awdurdodau lleol fabwysiadu ffyrdd ystadau pan ofynnir iddynt wneud hynny. Ni chânt eu gorfodi i fabwysiadu ffyrdd ystadau pan nad ydynt yn cyrraedd safonau mabwysiadu. Pan ddigwydd hynny, mae cwmnïau rheoli ystadau'n dod i mewn ac yn cymryd drosodd ac yn codi ffioedd mawr iawn. Mae'r trigolion yn anhapus iawn. Maent yn dweud, 'Rwy'n talu am gynnal a chadw ffyrdd drwy fy nhreth gyngor, pam nad yw fy ffordd i wedi'i chynnwys ynddi?' Yn fy mhrofiad i, mae'r cyngor fel arfer yn negodi gyda thrigolion i sicrhau bod y ffordd yn cyrraedd safonau mabwysiadu, ond efallai y bydd yn rhaid i drigolion dalu i'w gwella i safonau mabwysiadu, a gall hynny gostio miloedd o bunnoedd.
Mae'r trigolion yn anhapus ac ni ddylai hyn fod yn digwydd. Ni ddylent fod yn adeiladu ffyrdd nad ydynt yn cyrraedd safonau mabwysiadu. Ni ddylid caniatáu iddynt werthu tai ar ystad pan nad yw'r ffordd yn cyrraedd safonau mabwysiadu, pan nad yw'r system ddraenio wedi'i gosod yn gywir, a phobl yn darganfod hynny pan fyddant yn dechrau cael llifogydd, a lle nad yw'r goleuadau stryd wedi'u hadeiladu i safonau mabwysiadu, ac maent yn darganfod hynny'n go gyflym pan fyddant yn torri. Felly, mae angen inni gael rhyw fath o ddeddfwriaeth, a hoffwn pe baent yn cyflwyno deddfwriaeth tai yn y sesiwn hon oherwydd mae nifer sylweddol o eitemau fel hynny sydd angen mynd i'r afael â nhw.
Mae datblygwyr hefyd yn ymrwymo i gytundebau adran 106, sef dogfennau cyfreithiol rhwng datblygwyr ac awdurdodau lleol i leihau effaith datblygiadau, ac weithiau maent yn darparu mannau chwarae, maent yn darparu parciau, maent yn darparu amwynderau eraill yn yr ardal. Gallant helpu gyda materion fel effaith amgylcheddol traffig a'r angen am amwynderau cyhoeddus. Mae'n gontract cyfreithiol rwymol rhwng y datblygwr tai ac awdurdodau cynllunio lleol, ac yn rhan o'r cais cynllunio ar y dechrau. Pan fydd nifer mawr o dai'n cael eu hadeiladu mewn ardal leol, mae yna effaith amlwg ar y gymuned. Adran 106, rydych chi'n darparu parc iddynt, rydych chi'n darparu ardal chwarae iddynt i wneud pobl yn llai anhapus amdano, ac mae'r cyngor yn trafod hyn gyda'r datblygwyr, neu mae'r datblygwyr yn gwneud cynnig.
Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi digwydd yn yr achos rydych chi wedi bod yn edrych arno yma yw eu bod newydd roi'r parc i mewn heb gael cytundeb 106, ac mae hynny wedi digwydd yn Abertawe hefyd. Maent yn darparu parc i chi—'Roeddech chi eisiau parc, dyma eich parc. Pob lwc i chi'—heb sylweddoli bod rhywun yn mynd i fod yn gyfrifol amdano. Bydd y cyngor ond yn cymryd meddiant ar barciau os oes ganddynt swm cymudedig er mwyn talu am y gwaith o'u cynnal a'u cadw dros gyfnod o amser. Mae'n golygu'n syml nad yw'r cyngor yn cael ei adael i dalu bil gan rai o'r datblygwyr mawr hyn sy'n gwneud symiau mawr iawn o arian ac ond yn ceisio trosglwyddo cyfrifoldeb i rywun arall. Hynny yw, rwy'n ystyried ei bod hi'n bwysig os oes unrhyw ddatblygiad yn digwydd ac ardaloedd chwarae, parciau'n cael eu darparu, mannau agored yn cael eu darparu, fod cytundeb 106 yn cael ei ddefnyddio i'w darparu, a'r swm sydd ei angen i'w cadw i fynd dros gyfnod o amser yn cael ei ddarparu.
Rwy'n cytuno'n llwyr ag argymhelliad 2, y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer fframwaith rheoleiddio, gan gynnwys system gofrestru gwbl dryloyw, sy'n dangos pwy sy'n gyfrifol am reoli pob ased ar ystad dai sydd wedi'i chynnwys ym mhob datblygiad, sef y ffyrdd, y palmentydd, y goleuadau stryd ac unrhyw ardaloedd chwarae neu ardaloedd cyhoeddus. Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod hynny cyn iddynt brynu. Oherwydd y tro cyntaf y byddant yn darganfod hynny yw pan fyddant yn dechrau cael eu costau gan y bobl rheoli ystadau, a phan fyddant yn darganfod bod y golau stryd tu allan allan wedi diffodd ac mai eu problem nhw yw hi, nid problem y cyngor, pan fyddant yn meddwl mai problem y cyngor yw hi. Felly, mae'n bwysig fod pawb yn gwybod hynny o'r dechrau'n deg. Ac mae angen deddfwriaeth arnom. Mae dirfawr angen deddfwriaeth dai arnom. Fe fyddwn hyd yn oed yn dweud bod llawer iawn mwy o angen deddfwriaeth dai arnom nag sydd o angen Deddf cynllunio wedi'i chydgrynhoi.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Carolyn Thomas am agor y ddadl bwysig hon, ac i'r pwyllgor a'r deisebwyr am godi'r mater hanfodol hwn, a hefyd i'r holl siaradwyr heddiw am nodi profiadau ofnadwy eu hetholwyr.
Ond yn gyntaf, fel eraill, rwyf am achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'n cyd-Aelod a'n cyfaill Hefin David, y byddai ei dystiolaeth i'r pwyllgor wedi bod o werth gwirioneddol wrth ystyried y ddeiseb hon. Fel llawer ohonoch sy'n siarad heddiw, ymgyrchodd Hefin yn ddiflino ar fater taliadau rheoli ystadau ac fel bob amser, eiriolodd ar ran ei etholwyr gydag argyhoeddiad, ymroddiad a dewrder. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y byddai wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw gyda'i ddawn dadlau argyhoeddiadol a'i dosturi arferol. Rwy'n ddiolchgar am ei holl waith ar y mater hwn, ac rydym i gyd yn gweld colli ei gyfraniad heddiw.
Rwy'n credu y byddai llawer, os nad pob un ohonom, wedi clywed yn uniongyrchol gan etholwyr am eu profiadau, eu dicter a'u rhwystredigaethau o orfod talu am gynnal ystadau newydd nad ydynt wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod lleol. O'n galwad am dystiolaeth ar y pwnc hwn yn 2020, fe wyddom fod yr arfer hwn yn ffenomen gymharol ddiweddar, ond yn un sy'n effeithio ar fwy a mwy o ddatblygiadau newydd. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd hefyd wedi casglu tystiolaeth ar hyn yn eu gwaith ar y farchnad adeiladu tai ym Mhrydain, ac amlygodd eu pryderon ynghylch taliadau rheoli ystadau, gan nodi bod perchnogion tai yn aml yn wynebu ffioedd uchel ac aneglur am reoli cyfleusterau fel ffyrdd, draenio a mannau gwyrdd.
Gwnaeth y Pwyllgor Deisebau bum argymhelliad yn ei adroddiad, ac mae fy ymateb ysgrifenedig yn nodi ein safbwynt ar y pwyntiau hynny. Felly, i grynhoi, byddwn yn ymchwilio i'r achos dros ddull cyfannol a safonol o reoli'r gwahanol fathau o asedau y gall datblygiad tai eu cynnwys, yn cynnwys y potensial ar gyfer datblygu safonau cyffredin. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod preswylwyr presennol a darpar breswylwyr yn deall yn hawdd beth yw'r trefniadau sydd ar waith mewn datblygiad.
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi derbyn yr argymhelliad i fwrw ymlaen â phecyn cymorth ariannol i fabwysiadu asedau a reolir yn breifat yn ôl-weithredol, ond o ystyried y gwaith a'r gwelliannau parhaus y gobeithiwn eu cyflawni, mae'n iawn ein bod yn ystyried yr angen am ymyrraeth o'r fath yn nes ymlaen. Yn ein holl waith i ddod, byddwn yn ceisio deall enghreifftiau o arferion gorau ac arloesedd mewn mannau eraill, gan gynnwys yn yr Alban, a allai helpu i lywio ein dull ni ein hunain o weithredu.
I'r perwyl hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar weithrediad Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, sy'n cyflwyno amddiffyniadau mawr eu hangen i'r rhai sy'n talu ffioedd rheoli ystadau. Am y tro cyntaf, bydd gofynion cyfreithiol i daliadau adlewyrchu gwaith a wnaed a bydd gofynion ar gyfer tryloywder ynghylch y taliadau a'r gwasanaethau y mae perchnogion tai yn talu amdanynt—ac mae hynny'n rhywbeth y mae bron pob cyfrannwr heddiw wedi'i godi. Bydd perchnogion tai hefyd yn gallu herio pa mor rhesymol yw taliadau trwy'r tribiwnlys prisio lesddaliadau.
Rwy'n hyderus y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r arferion gwael sydd ar gynnydd. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am wneud yr is-ddeddfwriaeth i ddod â'r darpariaethau hyn i rym, ac rwy'n deall eu bod i fod i ymgynghori ar fanylion y drefn newydd yn ddiweddarach eleni.
Nododd adroddiad y pwyllgor fod yna ystyriaeth i weld a ellid rheoleiddio gweithgareddau asiantau rheoli trwy ein deddfwriaeth diogelwch adeiladau, ond o ystyried cwmpas y Bil sy'n cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, nid yw hynny'n bosib, yn anffodus. Fodd bynnag, rwy'n ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â gweithgareddau asiantau rheoli, ac ar hyn o bryd rwy'n ymgynghori ar y potensial i gyflwyno cymwysterau gofynnol ar gyfer y cwmnïau hyn, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar ystadau tai heb eu mabwysiadu. Mae'r ymgynghoriad ar y gweill tan 26 Medi a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gyfrannu eu barn ar y cynigion hyn.
Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan Gomisiwn y Gyfraith ar gynnwys prosiect ar reoli ystadau tai yn eu pedwaredd raglen ar ddeg. Rwy'n deall y bydd eu prosiect yn ystyried sut y gellid creu hawl i reoli, yn debyg i'r hawl sydd ar gael i berchnogion tai lesddaliadol, ar gyfer perchnogion tai rhydd-ddaliadol sy'n byw ar ystadau tai heb eu mabwysiadu, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu â'r prosiect hwn wrth iddo fynd rhagddo.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gymryd camau pellach i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn trefniadau rheoli preifat, ac mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â'u swyddogion cyfatebol i weld a allai fod cyfleoedd pellach i ni weithredu ar y cyd i wella profiadau perchnogion tai yma yng Nghymru. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaf i'r Senedd ar weithrediad y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig wrth iddynt ddatblygu.
Hoffwn ailadrodd fy niolch eto i Carolyn Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, y pwyllgor a'r deisebwyr am godi'r wybodaeth bwysig hon, ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Tynnodd Joel James sylw at y ffordd y dylai datblygwyr a chynllunwyr weithio gyda'i gilydd i ddod ag ystadau i safon mabwysiadu. Ond mae gennym rai safbwyntiau gwahanol, rwy'n meddwl, ar bwy ddylai ariannu'r gwaith cynnal a chadw, o'r sgyrsiau a gawsom yn ystod y ddadl. Mae angen rheoliadau ynghylch faint y gall cwmnïau cynnal a chadw ei godi.
Nododd Rhys ab Owen nad oes tryloywder ynglŷn â chostau a bod angen i ni eu safoni a chael rhywle i bobl fynd â'u cwynion. Cafodd hynny ei gynnwys yn yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd. Ac mae anghysondeb yn ogystal ynglŷn â pha ystadau sy'n cael eu mabwysiadu—rhai newydd—a pha rai nad ydynt yn cael eu mabwysiadu, sy'n anodd i drigolion ei ddeall. Soniodd Rhys hefyd am ecwiti preifat ac elw yn cael eu rhoi o flaen tegwch.
Roedd honno'n farn a rannwyd gan Siân Gwenllian, a dynnodd sylw hefyd at ddiffyg deddfwriaeth ers blynyddoedd lawer, a soniodd y gallai hyn effeithio ar 24 ystad newydd a 4,000 o gartrefi. Dyna pam y mae angen inni gael y ddeddfwriaeth hon ar waith nawr, cyn i fwy o ystadau gael eu datblygu, gan effeithio ar bobl.
Dywedodd Alun Davies ei bod yn sgandal, ac mae'n sicr ei bod. Mae'n broblem systemig. Mae angen inni ddwyn datblygwyr i gyfrif gyda deddfwriaeth ar waith a rhoi diwedd ar ddal pobl yn wystlon.
Mae Mike yn nodi bod pobl yn talu llawer o arian am eu tai yn y lle cyntaf. Mae tai'n ddrud heddiw, onid ydynt, Mike, heb orfod talu am gynnal a chadw blynyddol hefyd. Yn ogystal â goleuadau stryd, ffyrdd, mannau chwarae, mae'r draenio'n fater arall, onid yw? Felly, mae angen ystyried hyn i gyd. Gallai datblygwyr ariannu hyn gyda chyllid adran 106 yn rhan o'r datblygiad, i fynd i gynghorau ar gyfer cynnal a chadw parhaus. Mae hwnnw'n awgrym.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cynhwysfawr iawn. Rwy'n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd ar hyn, a'i gadw'n fyw pan fyddwn yn gwybod beth fydd Llywodraeth y DU yn ei wneud gyda'u deddfwriaeth nhw.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am yr amser ar gyfer y ddadl bwysig hon, a hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am godi'r mater pwysig hwn yn y Senedd. Unwaith eto, rwy'n cydnabod gwaith ymroddedig ein diweddar gyd-Aelod Hefin David, a hyrwyddodd yr achos hwn yn ddiflino ar ran ei etholwyr a phawb yr effeithiwyd arnynt ledled Cymru. Byddai wedi siarad heddiw. Byddai wedi bod yn angerddol iawn am hyn a byddai wedi ychwanegu cymaint ato. Bydd y ddadl heddiw yn rhan o'i waddol parhaol, a dyna beth sy'n rhaid i ni ei wneud. Wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i ni barhau â'i waddol i wneud yn siŵr fod newid yn digwydd. Diolch i'r Dirprwy Lywydd.
Gallwch ddiolch i mi cymaint ag y mynnwch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Cynyddu'r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.
Cynnig NDM8972 Jenny Rathbone
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Cynyddu’r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd', a osodwyd ar 7 Ebrill 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Penderfynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd yn ôl yn 2022. Yn amlwg, mae llawer iawn wedi newid gyda hynny, yn enwedig goresgyniad Wcráin, a arweiniodd at godi prisiau'r marchnadoedd ynni yn enfawr, yr anwadalrwydd yn y marchnadoedd ynni ledled y byd, sydd wedi achosi cynnydd digynsail ym mhrisiau olew a nwy.
Oherwydd y newid hwn, roeddem yn teimlo bod cyfiawnhad dros ddiweddariad i weld beth oedd wedi digwydd ers hynny. Rhaid inni adrodd bod biliau gwresogi cartrefi bellach 43 y cant yn uwch ar gyfartaledd na'r hyn oeddent yn ystod gaeaf 2021-22. Yn amlwg, mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Felly, rydym wedi ailedrych ar y mater hwn ac wedi asesu ymateb polisi Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad gwreiddiol, ac rydym yn diolch yn fawr iawn i'r holl randdeiliaid a gyfrannodd at ein diweddariad, a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill.
Argymhelliad cyntaf ein diweddariad o'n hadroddiad oedd y dylid cael data gwell, rhywbeth a gafodd ei nodi gan lawer o fudiadau gwirfoddol a ddywedodd, 'Nid ydym yn gwybod beth sydd wedi bod yn digwydd oherwydd ein bod yn ei seilio ar ddata 2018'. Felly, fe wnaethom groesawu'r diweddariad o'r amcangyfrifon a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd yn ystod y toriad, ddechrau mis Awst. Yn anffodus, datgelodd y ffigurau hyn fod gennym 340,000 o aelwydydd erbyn hyn—sef chwarter yr holl aelwydydd yng Nghymru—yn brwydro yn erbyn tlodi tanwydd, a hynny yn ôl ym mis Hydref 2024.
Yn amlwg, cafwyd cynnydd pellach eleni, ac mae hynny'n golygu, yn anffodus, ei bod yn debygol iawn y bydd y ffigur hwnnw wedi codi eto. Roedd hyn eisoes yn gynnydd sylweddol o'r set flaenorol o ffigurau a gyhoeddwyd yn 2021, a oedd yn amcangyfrif bod 14 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Nawr mae gennym dros 24 y cant. Rydym yn siarad am nifer mawr iawn o bobl. Mae pobl, yn gyffredinol, yn talu £1,850 y flwyddyn ar gyfartaledd, gan ddwysáu'r pwysau ar gostau byw pobl dlawd, oherwydd mae'n £36 yr wythnos, ac os ystyriwch beth yw'r isafswm cyflog, gallwch weld bod hon yn broblem enfawr i aelwydydd incwm isel.
Yn gyffredinol, mae ymateb polisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn amlochrog, yn gyfannol, gan edrych ar incwm ac effeithlonrwydd ynni, ac yn amlwg, rydym yn cefnogi hynny. Ond mae yna anghysondeb cyson rhwng y dyheadau cyffredinol i ddileu tlodi tanwydd a chyfradd y cyflawniad i'w ddatrys.
Mae teitl ein hadroddiad, 'Cynyddu'r gwres cyn 2160', wedi ei lywio gan yr amcangyfrifon, ar yr adeg y gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad hwn ym mis Ebrill, y byddai'n cymryd 135 mlynedd arall i ddileu aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru ar y gyfradd gyflawni bresennol. Ac rwy'n ofni bod cynnydd pellach biliau ynni, ynghlwm wrth gynnydd prisiau nwy, yn seiliedig ar y ffigurau mis Awst y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi, yn ymestyn y raddfa amser amcangyfrifedig honno i 2237, felly 212 mlynedd o nawr. Byddwn i gyd wedi marw. Gyda'n gilydd, yn amlwg, mae'n rhaid inni berchnogi'r broblem hon.
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n diweddariad—sy'n derbyn pedwar o'n hargymhellion a derbyn y tri arall mewn egwyddor—ond sylw cyffredinol y pwyllgor yw bod maint a chyflymder y newid yn hurt o annigonol i fynd i'r afael â'r her, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom ei berchnogi.
Yn fwy cadarnhaol, mae'r pwyllgor yn canmol trylwyredd y cynllun Nyth newydd. Mae'n mynd i'r afael â'r materion o sylwedd a nododd Archwilio Cymru a'r pwyllgor yn 2022. Mae cynllun y system newydd yn rhannu'r cyngor diduedd am ddim y gall pawb ei gael beth bynnag y bo'u hincwm ar sut i wneud eu cartref yn effeithlon o ran y defnydd o ynni. Y rhif i'w ffonio yw 0300 123 1234. Mae hynny ar gyfer unrhyw un, beth bynnag y bo'ch incwm. Os oes angen i chi gael cyngor am ddim ar sut i ôl-osod neu wella effeithlonrwydd ynni eich cartref, mae'r bobl hyn yma i'ch helpu. Yn ail, mae sefydliad cwbl ar wahân yn ymwneud â chomisiynu gwaith adeiladu i fynd i'r afael â chartrefi oer, yn seiliedig ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael, ar gyfer manylebau'r tŷ unigol y mae'r rhaglen Cartrefi Clyd ar gael ar ei gyfer. Ac yna mae trydydd corff i archwilio canlyniadau'r gwaith a wnaed. Yn y cynllun hwn nid oes lle i bobl farcio eu gwaith cartref eu hunain, a dyna'n union fel y dylai fod.
Felly, mae'r fframwaith yn iawn. Cyflymder y newid yw'r hyn y mae angen i ni i gyd boeni amdano, yn enwedig gan mai pobl gogledd Cymru sy'n talu'r gost ynni uchaf yn y DU, ac nid yw de Cymru ymhell ar eu holau. Nid mater ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf yn unig yw hwn, ond mater i'r holl randdeiliaid eraill a ddylai fod yn gweld hyn fel rhwystr mawr i gynhyrchiant, twf economaidd, yr economi sylfaenol nad yw pobl yn gallu ei chefnogi oherwydd eu bod yn gorfod gwario cymaint o'u hincwm ar eu biliau ynni. Tybed a yw hyn yn flaenllaw yng nghynlluniau bwrdd uchelgais gogledd Cymru i ailddefnyddio £50 miliwn ar gyfer prosiect nad yw'n digwydd mwyach. Nid wyf yn credu hynny, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gymerwyd gennym ym mhwyllgor yr economi. Sut y mae hyn yn cael sylw ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, lle mae cymaint o gartrefi tlawd o ran tanwydd yn ne Cymru?
Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru wedi aros yn wastad ar y cyfan ers 2021-22 wrth roi cyfrif am chwyddiant, ac ynghyd â'r costau uwch ar gyfer technolegau newydd, mae hyn yn debygol o fod wedi erydu pŵer prynu'r cyllid hwn yn gyffredinol. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar bob ffynhonnell cyllid i ddatrys tlodi tanwydd, nid Llywodraeth Cymru'n unig, ond yn sicr mae angen inni edrych ar hyn mewn perthynas â chyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae'n wir fod tlodi tanwydd yn ymwneud â mwy na phrisiau ynni neu systemau gwresogi'n unig; mae'n cynnwys incwm hefyd. Felly, rwy'n credu y dylem gymeradwyo ymdrechion Llywodraeth Cymru, gan weithio'n rhagweithiol gydag awdurdodau lleol, i nodi trigolion sy'n gymwys i gael budd-daliadau. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at gynllun peilot y traciwr teuluoedd incwm isel a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac a ddefnyddir gan 14 awdurdod lleol i dargedu teuluoedd nad ydynt o bosib yn hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt. Ac mae hynny'n amlwg i'w gymeradwyo, ond heb newid y cartref drafftiog y maent yn byw ynddo, mae'n golygu y byddant ond yn—. Bydd yn eu galluogi i gael mwy o arian ar gyfer bwyd, ond ni fydd yn datrys y problemau o orfod gwario cymaint o'u hincwm ar gostau ynni.
Yn fwyaf arbennig, byddai'n dda iawn pe bai Llywodraeth Cymru, yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, yn gallu dweud ychydig mwy wrthym am gynllun peilot y traciwr teuluoedd incwm isel. Pryd y byddai wedi ei gwblhau? Cytunodd deuddeg o'r awdurdodau lleol i gymryd rhan, ac roedd dau awdurdod lleol arall yn ei ddefnyddio beth bynnag. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ei wneud yn orfodol, neu a ydych chi'n aros am ganlyniadau'r cynllun peilot? Os yw canlyniad y cynllun peilot yn galonogol, ble fydd hynny'n gadael yr wyth awdurdod lleol sy'n weddill nad yw'n ymddangos eu bod yn mynd ar drywydd yr holl bobl nad ydynt yn hawlio'r hyn y dylai fod ganddynt hawl iddo? Oherwydd, yn amlwg, dyma un o'r ffyrdd o wneud hynny.
Er bod y rhaglen Cartrefi Clyd, fel y mae, yn drylwyr a heb fod yn gwastraffu arian, nid ydym yn credu ei bod yn gweithredu'n ddigon cyflym, ac rydym yn teimlo'n gryf fod angen rhyw fath o gynllun ar sail ardal i fynd ati o ddifrif i leihau nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd.
Rydym yn deall yn iawn fod diwedd cyllid yr UE—llwyddiant arall yn sgil Brexit—wedi gosod cyfyngiad ar ble y gallwn nodi'r adnoddau—rwy'n falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn bresennol y prynhawn yma hefyd—ar gyfer cynllun newydd ar sail ardal, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn wneud gwahaniaeth dros weddill y Senedd hon, fel bod llai o aelwydydd wedi eu llesteirio'n llwyr gan raddau'r broblem.
Nid oes unrhyw un ohonom eisiau gweld hyn, a gobeithio y gall y Senedd, trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i ystod o strategaethau i gyflymu rhaglen inswleiddio ac ôl-osod cartrefi'r rhai sy'n wynebu'r angen mwyaf. Edrychaf ymlaen at sylwadau pobl.
Mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu Cymru heddiw. Mae'r saith argymhelliad a'r tri chasgliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Cynyddu'r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd', yn tanlinellu'r angen brys i weithredu.
Mae hyn yn cynnwys yr argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yn unig, sydd ynddo'i hun yn ymateb annerbyniol, pan roddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol i roi diwedd ar yr arfer hwn yng ngoleuni pryderon yr Aelodau nad oedd yn ymateb digonol.
Rwy'n croesawu argymhelliad yr adroddiad i Lywodraeth Cymru osod targedau interim erbyn mis Medi 2025, i gynyddu maint y rhaglen Cartrefi Clyd, ac i sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol cysylltiedig yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen.
Mae'r adroddiad hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i gyflymu ei datblygiad a sefydlu cynllun newydd ar sail ardal a hynny ar frys. Mae'r galwadau hyn nid yn unig yn cael eu cefnogi gan National Energy Action ond hefyd gan Gynghrair Tlodi Tanwydd ehangach Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ymgynghorais â nhw cyn siarad heddiw. Ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, mae amcangyfrifon swyddogol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Awst yn datgelu bod chwarter yr holl aelwydydd yng Nghymru—340,000—yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024. Mae hyn yn cynnwys mwy na phedwar o bob pump o aelwydydd incwm is Cymru—83 y cant—yr amcangyfrifir bod bron eu chwarter yn byw mewn tlodi tanwydd dwfn, difrifol.
Yn ddiweddar, mae Ofgem wedi cyhoeddi cynnydd pellach o 2 y cant yn y cap prisiau ynni o 1 Hydref, sy'n golygu y byddai'r bil debyd uniongyrchol tanwydd dwbl ledled Prydain yn codi i £1,755 y flwyddyn ar gyfartaledd, bron i £500 yn uwch nag ym mis Hydref 2021. Mae'n amlwg fod prisiau ynni uchel yma i aros am y dyfodol rhagweladwy, a bydd llawer o aelwydydd incwm isel a bregus yn cael trafferth y gaeaf hwn, gan arwain at bryder, dyled a mecanweithiau ymdopi peryglus i gadw'n gynnes, gyda biliau cartrefi cyfartalog o £1,781 yn ne Cymru a £1,853 yng ngogledd Cymru, sy'n golygu mai gogledd Cymru yw'r rhanbarth drutaf ar draws Prydain, a de Cymru'n bedwerydd.
I ychwanegu at hyn, mae aelwydydd agored i niwed ledled Cymru a Phrydain yn cael eu llethu gan dros £4.15 biliwn o ddyled ynni, a gronnwyd yn bennaf dros y tair blynedd diwethaf. Dim ond chwarter y ffigur hwnnw sydd wedi'i gysylltu â chynllun ad-dalu. Mae'r swm cyfartalog o ddyled cartref sydd ag ôl-ddyledion i'w cyflenwr ynni am nwy a thrydan gyda'i gilydd oddeutu £3,200—llawer mwy na gwerth blwyddyn o gyflenwad, hyd yn oed ar brisiau anfforddiadwy heddiw. Mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi amlinellu'r problemau allweddol sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru heddiw, gan gynnwys y canlyniadau y mae cyflwr tai gwael yn eu cael ar filiau ynni a'r angen brys am gymorth wedi'i dargedu i aelwydydd bregus ac incwm isel i allu talu costau ynni uchel, cynyddol. Maent yn tynnu sylw at sut y gall gormod o oerfel, lleithder a llwydni yn y cartref waethygu cyflyrau anadlol a chynyddu'r risg o gwympiadau, gan roi straen ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn aml, mae cysylltiad rhwng tlodi tanwydd a bregusrwydd sy'n bodoli eisoes, gyda llawer o unigolion yr effeithir arnynt yn wynebu heriau lluosog, megis bregusrwydd, problemau iechyd, cyfrifoldebau gofalu di-dâl a chaledi ariannol. Mae pobl hŷn, yn enwedig, yn cael eu heffeithio, gydag ymchwil Gofal a Thrwsio yn dangos mai dim ond un o bob 10 cleient sy'n byw mewn cartrefi â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o C neu uwch. Maent yn nodi, er bod cynlluniau fel rhaglen Nyth Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth hanfodol, mae eu maint, eu cyflymder a'u meini prawf cymhwysedd yn golygu bod llawer o aelwydydd mewn angen brys yn methu cael gafael ar gymorth, yn enwedig rhai sy'n byw mewn tai y mae eu cyflwr yn beryglus neu'n gymhleth. Maent yn argymell gweithredu grant rhwyd ddiogelwch cenedlaethol ar gyfer tai y mae eu cyflwr yn beryglus a chynyddu buddsoddiad mewn mentrau tlodi tanwydd, gan annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio holl symiau canlyniadol cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn buddsoddi £13.2 biliwn yn ei chynllun Cartrefi Cynnes, gan arwain at gyllid canlyniadol i'r gwledydd datganoledig, a allai olygu dros £0.5 biliwn i Gymru. Mae hyn yn cynnig cyfle hanfodol i fuddsoddi yng nghartrefi Cymru i ddiogelu aelwydydd incwm isel sy'n agored i niwed yn y tymor hir, cyfle i weithredu'r camau gweithredu a argymhellir gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol trwy gynyddu'n sylweddol y buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni i'r rhai sydd fwyaf o'i angen, gan gynnwys y cynlluniau Nyth presennol sy'n cael eu harwain gan y galw, a thrwy gyflwyno cynllun cyflenwol ar sail ardal i dargedu clystyrau o gartrefi aneffeithlon mewn ardaloedd difreintiedig. Mae tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol sy'n galw am atebion cynaliadwy a fforddiadwy. Diolch yn fawr.
Mae graddfa tlodi tanwydd yng Nghymru wedi cyrraedd lefelau digynsail, ac rwy'n credu ein bod bron yn ddideimlad bellach yn wyneb datganiadau o'r fath. Mae tlodi tanwydd wedi dod yn normal. Mae'n gwbl erchyll, yn un o wledydd cyfoethocaf y ddaear, fod ofn y gaeaf ar bobl, wrth iddynt ddogni eu gwres a'u golau. Yn ôl amcangyfrifon swyddogol Llywodraeth Cymru a gawsom ym mis Awst, roedd chwarter holl aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024—felly, flwyddyn yn ôl. Yn hollbwysig, mae hyn yn cynnwys dros bedwar o bob pump o gartrefi incwm isel. Mae bron i chwarter y rhain mewn tlodi tanwydd difrifol. Ac wrth gwrs, ar ben hyn, fel y clywsom, mae Ofgem wedi cyhoeddi cynnydd pellach o 2 y cant yn y cap ar brisiau ynni o fis Hydref, bron i £500 yn uwch nag ym mis Hydref 2021. Yng Nghymru, mae'r effaith hyd yn oed yn fwy, fel y gwyddom, a gogledd Cymru yw'r rhanbarth drytaf y Deyrnas Unedig, a de Cymru yn bedwerydd. Felly, dyna'r ffigurau.
Mae adroddiad newydd Age Cymru ar eu harolwg o bobl hŷn yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd yn cynnwys ffigurau sy'n adrodd hanes effaith tlodi tanwydd—50 y cant ohonynt yn dweud bod yn rhaid iddynt ddefnyddio llai o ynni a gwresogi i sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i fyw. Ac mae hefyd yn cynnwys disgrifiadau gan bobl hŷn o effaith hyn arnynt, fel a ganlyn:
'Ni allwn fforddio cael y gwres ymlaen am fwy nag ychydig oriau'r dydd yn y gaeaf. Rydym wedi bod yn oer eleni… mae arnom ddyledion mawr i gwmnïau cardiau credyd, ac rydym bob amser yn ein gorddrafft. Mae'n anghynaliadwy.'
Fel y clywsom Gofal a Thrwsio yn dweud, mae eu swyddogion ynni cartref sy'n ymweld â chartrefi pobl hŷn yn gweld drostynt eu hunain yr effaith niweidiol y mae tlodi tanwydd yn ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn.
Ers tro, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cydnabod problem tlodi tanwydd, dyledion cynyddol, y gorbryder, yr afiechyd a'r marwolaethau sydd angen llawer mwy o ffocws, ac rydym wedi nodi ers tro nad yw'n cael sylw digonol. Felly, mae'r adroddiad newydd hwn yn annog y Llywodraeth i nodi pa mor hanfodol yw'r mater hwn drwy sicrhau bod y camau a gymerir yn fwy effeithiol, yn cael eu targedu'n well ac yn cael mwy o effaith. Credaf mai un o'r canfyddiadau allweddol yw'r angen am dargedau effeithlonrwydd ynni dros dro yn y cynllun trechu tlodi tanwydd. Mae targedau dros dro yn darparu cynllun clir hyd at 2035, cyfleoedd i fonitro cynnydd, ac yn hollbwysig, yn rhoi hyder i'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi a darparwyr hyfforddiant. Heb y targedau hyn, nid wyf yn gwybod sut y mae'r Llywodraeth yn gobeithio asesu'n llawn a yw mesurau fel rhaglen Cartrefi Clyd yn gweithio fel y bwriadwyd a chadw'r angen hynod bwysig i drechu tlodi tanwydd ar y trywydd iawn a sicrhau bod y sector a'r sgiliau angenrheidiol yn cael eu datblygu yn ôl yr angen. Felly, nid yw'n syndod mewn gwirionedd nad ydym wedi gweld y cynnydd brys sydd ei angen ar effeithlonrwydd ynni heb y targedau hyn. Felly, rwy'n falch y bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol i osod y targedau hynny o'r diwedd. Maent wedi'u haddo erbyn mis Medi; wel, mae'n ganol mis Medi nawr. Nid ydym wedi cael diweddariad eto, felly byddai'n dda cael diweddariad. A allwn gael dyddiad, syniad o ba bryd y cawn glywed am y targedau hyn, beth fyddant, a sut y cânt eu cyflawni?
Rydym hefyd wedi clywed tystiolaeth gymhellol yn ein hymchwiliad ynglŷn â'r angen am gynllun newydd ar sail ardal, ac mae'n rhywbeth y clywsom amdano yn ein hadroddiad blaenorol hefyd. Dywedwyd wrthym y byddai dull ar sail ardal yn rhatach, yn gyflymach ac y byddai'n cefnogi mwy o eiddo ar draws pob math o ddeiliadaeth a gellid ei gefnogi gan ddata fel yr hyn a ddarperir gan offeryn mapio FRESH—data sylfaenol strategaethau ynni cadarn ar gyfer tai—dull o fapio bregusrwydd a ddatblygwyd gan academyddion o Brifysgol Caerdydd a Cymru Gynnes, sy'n nodi'r aelwydydd sydd fwyaf o angen cymorth i gynhesu eu cartrefi ac sydd ond yn costio oddeutu £5,000 i awdurdodau lleol gael mynediad ato. Ar hyn o bryd, dim ond pum awdurdod lleol yng Nghymru sy'n ei ddefnyddio. Mae'n rhwystredig iawn na chafodd ein hargymhelliad ynghylch y math hwn o offeryn mapio ei dderbyn yn llawn. Mewn gwirionedd, mae'n peri pryder nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl pob golwg, yn ymwybodol o'i fodolaeth hyd yn oed, er ei fod wedi bod ar gael ers blynyddoedd.
Mae'n amlwg fod prisiau ynni uchel yma i aros am y dyfodol rhagweladwy, a bydd llawer o gartrefi incwm isel ac agored i niwed yn ei chael hi'n anodd eto y gaeaf hwn, gyda nifer eisoes mewn dyledion ynni mwy nag erioed. Wrth inni agosáu at gyllideb Llywodraeth y DU, a yw Llywodraeth Cymru felly'n galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth biliau ynni mwy sylweddol i bobl yng Nghymru na allant fforddio cartref cynnes ac iach? Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod tlodi tanwydd. Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu diddordeb parhaus, gan ailedrych, yn ddefnyddiol, ar eu hadroddiadau blaenorol. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i'n panel cynghori ar dlodi tanwydd. Mae'r mewnbwn hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy wrth adolygu ein cynllun tlodi tanwydd a gwella ein cynllun Nyth.
Mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor, fel y cydnabuwyd y prynhawn yma, ar 7 Awst, cyhoeddais amcangyfrifon diwygiedig wedi'u modelu ar dlodi tanwydd, a dangosodd y ffigurau hyn fod 340,000 o gartrefi yng Nghymru, neu 25 y cant, yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024, ac amcangyfrifir bod 215,000 arall o gartrefi, 16 y cant, mewn perygl o dlodi tanwydd. Mae hyn yn ostyngiad ar y modelu a wnaethom ar anterth yr argyfwng, a ragwelodd y gallai hyd at 45 y cant o gartrefi fod wedi bod mewn tlodi tanwydd yn ôl ym mis Ebrill 2022. Ond mae'r ffigurau hyn, a gyhoeddwyd gennyf ym mis Awst, yn dal i fod yn sylweddol uwch na'r lefelau cyn yr argyfwng ac yn parhau i effeithio'n anghymesur ar gartrefi sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol, fel y mae eich adroddiad wedi'i amlygu.
Mae'r ffactorau byd-eang sy'n effeithio ar y costau hyn y tu hwnt i'n rheolaeth wrth gwrs, ond mae Llywodraeth Cymru ac ar draws y Llywodraeth, o ran cyfrifoldeb, yn benderfynol o gefnogi aelwydydd mewn angen. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyflenwyr ynni i'w hatgoffa o'u rôl yn cynnig cynlluniau talu teg a sicrhau bod cymorth brys ar gael lle bo angen. Cyfarfûm ag Ofgem yn gynharach heddiw i ofyn iddynt beth y maent yn ei wneud i gefnogi pobl agored i niwed gyda chostau ynni yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, y cyfeiriwyd ato heddiw. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau, gan fod cryn dipyn o fanylion yn y pwyntiau a'r camau gweithredu y maent yn eu cymryd, felly byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ganlyniadau'r cyfarfod ag Ofgem.
Ond un pwynt a gododd, a rhywbeth nad yw wedi cael ei grybwyll eto, yw'r gostyngiad Cartrefi Clyd. Credaf ei bod yn bwysig nodi y bydd pob aelwyd sy'n cael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd yn derbyn gostyngiad Cartrefi Clyd. Rydym yn croesawu hynny. Dylai cael gwared ar y trothwy cost uchel i wresogi o'r gostyngiad Cartrefi Clyd gynnig rhywfaint o sicrwydd a chysur i ddeiliaid tai Cymru cyn y gaeaf nesaf. Mae'r newid hwn yn golygu y bydd 110,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn yr ad-daliad bil trydan o £150 am y tro cyntaf.
Ym mis Mehefin, cyhoeddais ddiweddariad i'n cynllun trechu tlodi tanwydd. Mae'n diweddaru cynnydd cadarnhaol, gan adlewyrchu llwyddiant ar gyflawni ein cynllun, megis lansio'r gwasanaeth cyngor ynni annibynnol yn rhan o gynllun Nyth fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor. Mae hefyd yn cynnwys camau gweithredu yn y cynllun i adlewyrchu'r heriau y mae'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd yn parhau i'w hwynebu. Mae'r cynllun bellach yn cynnwys targedau dros dro ar gyfer tlodi tanwydd, monitro a gwerthuso cynllun Nyth, ac eirioli dros aelwydydd agored i niwed a'r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu. Bydd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig yn llywio'r targedau dros dro ystyrlon hynny. Diolch am godi hyn heddiw, Sioned, gan ein bod yn gweithio ar opsiynau i'w trafod gyda'r panel cynghori ar dlodi tanwydd, yr ystyriwn eu bod yn gynghorwyr arbenigol i ni. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiad y targedau dros dro hyn.
Mae trechu tlodi tanwydd yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae angen inni roi mwy o arian ym mhocedi pobl drwy hybu incwm a chryfhau gwytnwch ariannol. Dyma ddwy enghraifft: mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu cyfraniadau i gartrefi nad ydynt ar y grid nwy neu olew ac sydd mewn argyfwng ariannol. Mae'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi darparu £6.9 miliwn i aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd gyda mesuryddion rhagdalu neu gartrefi nad ydynt ar y grid nwy neu olew.
Argymhellodd y pwyllgor y dylid sicrhau bod gan awdurdodau lleol offer i nodi aelwydydd sy'n debygol o fod mewn tlodi tanwydd er mwyn targedu eu cymorth. Gall y rhan fwyaf o awdurdodau lleol nodi'r aelwydydd hyn eisoes. Maent yn defnyddio eu gwybodaeth leol a'r data sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys mynegai amddifadedd lluosog Cymru, sy'n offeryn rhad ac am ddim. Ond fel rwy'n ei gydnabod mewn ymateb i'r argymhellion, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod offer prynu fel FRESH, sydd wedi cael ei ddefnyddio. Credaf mai'r pwynt am ein hymateb yw na allwn argymell offeryn penodol, ond rydym yn gefnogol iawn i ymdrechion i wella data a deallusrwydd. Mae cyllid a ddarparwyd ar gyfer eu gweithgareddau ECO Flex wedi galluogi awdurdodau lleol i gaffael offer mapio os ydynt yn dymuno. Felly, yn amlwg, mae FRESH yn un llwybr i ddarparu'r wybodaeth honno.
Nawr, gofynnodd Jenny Rathbone, Cadeirydd y pwyllgor, gwestiynau ynglŷn â chynnydd ein cynllun peilot gwirfoddol, gyda Policy in Practice, a ddechreuodd ym mis Ionawr eleni, gyda 12 awdurdod lleol yn cymryd rhan. Mae'n offeryn tracio LIFT, ac mae'r awdurdodau hyn bellach yn cael mynediad at ddata sy'n helpu i nodi a thargedu'n uniongyrchol unrhyw drigolion nad ydynt yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt yn ariannol. Mewn gwirionedd, mae dau awdurdod ychwanegol yn defnyddio'r offeryn tracio LIFT—felly, 14 awdurdod ledled Cymru. Mae'r cynllun peilot yn destun gwerthusiad cadarn, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Felly, gan symud ymlaen yn gyflym at gynllun Nyth, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a lleihau biliau ac allyriadau carbon, gyda phob eiddo Nyth yn derbyn asesiad tŷ cyfan gan asesydd ôl-osod cymwys—y bydd sampl ohono, wrth gwrs, yn cael ei adolygu gan wasanaeth sicrhau ansawdd annibynnol—rydym yn parhau i adolygu Nyth. Mae'n hanfodol fod y cynllun nid yn unig yn sicrhau bod y dechnoleg gywir wedi'i gosod, mae hefyd yn cefnogi perchnogion tai i gydnabod y manteision y bydd yn eu darparu. Mae aseswyr ôl-osod yn rhoi cyngor i bob cwsmer, ac mae perchnogion tai yn derbyn pecyn gwybodaeth i gwsmeriaid yn esbonio sut i ddefnyddio'r mesurau sydd wedi'u gosod a manteision newid i'r technolegau newydd hyn. Rydym am i gynllun Nyth gefnogi cymaint o bobl â phosibl, ac mae'n bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cyflwyno sawl newid i'r cynllun ers mis Tachwedd.
Ers mis Rhagfyr, mae swyddogion wedi gweithio gyda Cymru Gynnes a Gofal a Thrwsio i nodi a datrys materion a godwyd gan y pwyllgor, ac wrth gwrs, mae'r materion hynny'n bwysig, yn ymwneud â chapasiti'r gweithlu a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r cynllun. Ac mae ehangu'r sylfaen gontractau yn bwysig, ond mae’n rhaid inni sicrhau bod ansawdd yn parhau i fod yn uchel.
Felly, i gloi, er bod cynllun Nyth bellach yn gweithio'n effeithiol a bod ein hawdurdodau lleol yn cyflawni cynlluniau ECO Flex lleol, mae mwy i'w wneud bob amser. Felly, a ddylai fod achos cadarn, er enghraifft, fel y nodwyd, dros gynllun newydd ar sail ardal? Byddai angen ei gynnwys mewn adolygiad o wariant yn y dyfodol a'i ystyried ar gyfer cyllid ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill. Ac mae angen i ni aros am gyhoeddiad cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU, a gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yn ystyried cyfleoedd polisi a chyllido yn y dyfodol yn y cyd-destun hwnnw.
Ond i gloi, a gaf i gydnabod yr heriau parhaus y mae llawer o aelwydydd yn eu hwynebu? Mae cymorth ar gael, ac rwy'n annog unrhyw un ar incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi'n gynnes i gysylltu â'n gwasanaeth cynllun Nyth, sy'n rhad ac am ddim, ein rhwydwaith 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', a'u cyflenwyr ynni, i sicrhau eu bod yn cael cymorth cyn y daw'r gaeaf.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r rhai a gyfrannodd at y ddadl. Hoffwn ddweud mewn ymateb i Mark Isherwood fod angen ichi fod yn ofalus iawn wrth ddweud bod pob derbyniad mewn egwyddor yn anghywir, oherwydd, os edrychwch yn benodol ar yr ymatebion ynghylch pam eu bod yn cael eu derbyn mewn egwyddor, mae rhesymau da iawn dros gynnwys y cafeat hwnnw.
Er enghraifft, yr argymhelliad ynghylch yr offeryn FRESH, sy'n deillio o'r gwaith a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd—ymateb Llywodraeth Cymru yw bod offer dadansoddol tebyg arall yn cael ei ddefnyddio, neu eisoes ar gael, fel mynegai amddifadedd lluosog Cymru. Ac yn amlwg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ddarostyngedig i'w chyfreithiau caffael ei hun a basiwyd gennym, ac ni all fynd gydag un sefydliad heb agor y cyfle i eraill. Mae'r rhain yn egwyddorion pwysig iawn, ac felly mae yna adegau pan fydd derbyn mewn egwyddor yn ymateb priodol.
O ran argymhelliad 3, a oedd yn ymwneud â'n cais i gynyddu maint rhaglen Nyth, ymatebodd y Llywodraeth fod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw. Nid oes pwynt rhuthro ymlaen a thaflu mwy o arian at raglen Nyth os nad oes gennym y gweithlu medrus sydd ei angen i wneud y gwaith i'r safon angenrheidiol. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau bod Jack Sargeant a Rebecca Evans yn gwneud digon o waith ar y sgiliau sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas ag ôl-osod ein holl gartrefi i'r safon gywir. Mae'n amlwg o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, os oes tanwariant ar gael, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn dadlau'r achos yn gryf gyda'i chyd-Aelodau.
Felly, er y dylai pob un ohonom fod yn eithaf pryderus am lefel y dioddefaint, rwy'n credu bod angen inni brofi a yw'r strategaethau y mae'r Llywodraeth a'r awdurdodau lleol yn eu defnyddio'n ddigon da i nodi'r holl bobl hyn. Oherwydd rhaid ichi gofio bod rhywun sy'n defnyddio mwy na 10 y cant o'u hincwm ar geisio cynhesu eu cartref yn debygol o fod yn rhywun nad yw'n bwyta'n dda iawn, ac mae hynny'n eich gwneud yn llai abl i allu mynd allan a chael y cymorth sydd ei angen arnoch ac y mae gennych hawl iddo.
Rwy'n credu hefyd fod pobl yn nerfus iawn ynglŷn â chael gwaith nad ydynt yn ei ddeall yn dda iawn wedi'i wneud ar eu tŷ. Dyna pam ei bod mor bwysig fod gennym gyngor annibynnol ar gael i bawb, fel y gall pobl siarad â'u ffrindiau a'u teuluoedd a chael sicrwydd fod rhywbeth yn gweithio.
Mae'n dda iawn clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod mewn cysylltiad ag Ofgem, ac edrychwn ymlaen at y llythyr gyda'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fod y gostyngiad Cartrefi Clyd yn cael ei gynnig yn awtomatig i unrhyw un sy'n cael y budd-daliadau priodol.
Ond mae llawer yn digwydd a allai ddylanwadu ar hyder aelwydydd tlawd i geisio cymorth. Er enghraifft, y prynhawn yma, euthum draw i'r Urdd, gyda llawer o bobl eraill, a chyfarfûm â Sefydliad Dreigiau Bengal, sydd eisoes wedi ôl-osod paneli solar a batri mewn saith mosg yng Nghaerdydd. Ac mae hynny'n mynd i gael effeithiau canlyniadol ar aelwydydd sy'n meddwl, 'Wel, os gallant hwy gael panel solar a batri, pam na all fy nhŷ i?' Dyna'r mathau o brosiectau arddangos sy'n hynod bwysig i roi hyder i bobl gamu ymlaen a gwneud y newidiadau hynny a chael sicrwydd nad ydynt yn mynd i gynyddu costau, a'u bod yn mynd i wella eu lles mewn gwirionedd. Felly, yn sicr, mae gan ynni cymunedol le yn y gwaith o addysgu'r gymuned gyfan, ond—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, Jenny, os gwelwch yn dda.
—mae maint yr argyfwng hwn yn golygu bod yn rhaid inni ddefnyddio pob mecanwaith sy'n bosib, ac mae angen inni gofio hynny pan fyddwn mewn trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio mathau eraill o gyllid neu ffyrdd eraill o gyflawni'r amcanion y mae pob un ohonom am eu gweld, rwy'n siŵr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru, cyllideb hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8973 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU a'r 'bartneriaeth mewn pŵer' rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru i:
a) darparu unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;
b) datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru, er bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cefnogi ei datganoli;
c) disodli'r hen fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy’n seiliedig ar anghenion; a
d) darparu gwelliannau diriaethol i bobl Cymru i ymdopi â phwysau costau byw.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:
a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) gweithredu mesurau trethiant tecach, gan gynnwys:
(i) treth cyfoeth o 2% ar asedau dros £10 miliwn; a
(ii) unioni cyfraddau treth enillion cyfalaf â threth incwm.
c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu £4 biliwn o gyllid canlyniadol i Gymru;
d) amserlen glir ar gyfer datganoli Ystâd y Goron i Gymru;
e) ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion;
f) ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn;
g) grantiau cymorth ynni wedi'u targedu i aelwydydd mewn tlodi tanwydd, yn debyg i Gynllun Cymorth Biliau Ynni 2022–23; a
h) cyflwyno gwarant hanfodion i sicrhau bod y rhai sydd ar yr incwm isaf yn gallu fforddio anghenion sylfaenol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dadl heddiw yn gyfle i ni fel Senedd uno a gyrru neges gadarn a diamheuol ein bod yn gweld cyllideb hydref y Deyrnas Unedig ar 26 Tachwedd fel cyfle—eu cyfle olaf cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf—i ddangos bod Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn malio am Gymru. Mae’r gyllideb hefyd, wrth gwrs, y prawf olaf cyn etholiad y Senedd o’r bartneriaeth mewn pŵer rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, oherwydd mae dirfawr angen i’r bartneriaeth honno ddechrau dangos ei gwerth a dangos bod llais Cymru’n cael ei chlywed a’i pharchu.
Oherwydd sawl gwaith y clywsom ni am flynyddoedd gan aelodau o Lywodraeth Llafur Cymru, a hyd yn oed bryd hwnnw rhai o Aelodau Seneddol Llafur, am ba mor wahanol y byddai pethau gyda dwy Lywodraeth Lafur wrth y llyw, gyda hyd yn oed Jo Stevens, sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn sôn am y sgandal o ran y biliynau o bunnau oedd yn ddyledus i Gymru drwy HS2 yn unig. Mae'n anhygoel y gwahaniaeth sy'n gallu bod pan fo rhywun mewn gwrthblaid, a bod mewn grym a gallu gwneud rhywbeth am y peth.
Oherwydd, yn y 16 mis ers yr etholiad cyffredinol, nid yn unig ein bod wedi gweld buddiannau Cymru yn cael eu hanwybyddu'n llwyr dro ar ôl tro—HS2, y gwrthodiad llwyr i wrando ar yr hyn y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ei ddweud ynglŷn â datganoli Ystad y Goron, a dim yn cael ei wneud i ddiweddaru fformiwla ariannu sydd wedi dyddio ac sy'n golygu ein bod ar ein colled flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yn wir, mae unrhyw hygrededd a fu gan y Blaid Lafur fel plaid datganoli, fel y maent yn galw eu hunain, bellach yn deilchion, gan fod arweinyddiaeth Starmer, i bob golwg, yn trin datganoli fel dim mwy nag anghyfleustra. Nid yw hyd yn oed ASau Llafur Cymru yn cytuno â'u harweinydd eu hunain yma yng Nghymru ar gynifer o faterion allweddol.
Rydym wedi gweld esgeulustod nodweddiadol San Steffan tuag at Gymru yn troi’n Llywodraeth y DU sy'n mynd ati'n weithredol i weithio yn erbyn ein buddiannau. Sut arall y gallwch chi egluro gwrthodiad Llywodraeth y DU i roi'r cwrteisi sylfaenol i Gymru o asesiad risg o effaith eu newidiadau arfaethedig i’r gyllideb les, neu adolygiad o wariant a fydd yn arwain at y twf gwaethaf mewn termau real yng nghyllideb Cymru y tu hwnt i flynyddoedd cyntaf cyni, a chyllideb gyfalaf sy’n crebachu, neu os oes angen enghraifft arall arnoch, y penderfyniad i osod treth benodol ar gyflogwyr Cymru o ganlyniad i newidiadau hurt y Canghellor i yswiriant gwladol, sydd wedi creu twll du gwerth £72 miliwn yn ein cyllid cyhoeddus—heb sôn am yr effaith ar sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau eraill ledled Cymru? Mae’r dadleuon hynny wedi’u hailadrodd droeon, ond mae eu heffaith i'w theimlo yn ein cymunedau bob dydd, ac mae'n mynd i waethygu.
Ac fel rydym wedi'i grybwyll sawl gwaith, rhaid i'r Prif Weinidog dderbyn ei chyfran hi o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa hon. Dro ar ôl tro, wrth wynebu realiti llwm ei diffyg dylanwad ac awdurdod yn y 'bartneriaeth mewn grym' honedig hon, mae hi wedi dewis glynu at bolisi'r blaid a pheidio â chorddi'r dyfroedd. Ni all unrhyw ailfrandio ôl-weithredol a siarad am 'ffordd goch Gymreig' guddio'r ffaith, ar bob un o flaenoriaethau allweddol pobl Cymru, nad oes ganddi unrhyw beth o gwbl i'w ddangos. Mae'r anghysondeb hwn wrth geisio'i chael hi y ddwy ffordd gyda'i chyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn San Steffan yn datgelu'r broblem sylfaenol y mae'r Prif Weinidog yn ei rhannu gyda Phrif Weinidog y DU—ei bod hi'n arwain Llywodraeth y mae pobl wedi colli ffydd yn ei haddewidion.
Yn anffodus, mae gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig hwn yn adrodd cyfrolau yn hyn o beth: dim ymgais o gwbl i ddarparu gwrth-naratif cymhellol; yn hytrach, tawelwch byddarol a gwadu'r realiti sy'n datblygu o'u blaenau—dim ond nodi dyddiad y gyllideb gan ei hystyried, i bob golwg, yn rhywbeth sy'n cael ei wneud i Gymru, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ddylanwadu arno a helpu i'w siapio gyda chefnogaeth y Senedd. Fel y cyhoeddodd arweinydd cyngor Caerffili yn gywir ddigon yr wythnos diwethaf, nid yw'n syndod fod y Blaid Lafur yn blaid doredig sydd wedi colli ei ffordd yn llwyr yng ngolwg cymaint o gyn-bleidleiswyr.
Felly, o safbwynt yr isetholiad sydd ar ar y ffordd, ac etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, mae'n amlwg fod dyfodol Cymru ar hyd un o ddau lwybr gwahanol iawn. Mae un yn cynnig gwleidyddiaeth plaid asgell dde eithafol sy'n rhedeg ar ddicter ac sy'n siarad yn agored am ddileu ein hunaniaeth fel cenedl a'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n annwyl i ni—hyd yn oed y Senedd hon, y pleidleisiodd pobl Cymru drosti. Ar y llaw arall, mae gennych weledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer Cymru, wedi'i gwreiddio mewn tegwch, cydraddoldeb a chyfle, un a fydd yn sefyll dros Gymru, ac yn manteisio ar bob cyfle posib i alw am gyllid teg a dangos pam fod y cyllid hwnnw'n angenrheidiol, yn ogystal â chael cynllun ar waith i'w wario er budd pobl Cymru. Dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi cael popeth y gofynnodd amdano. Pam na ofynnoch chi am fwy?
A fyddech chi eisiau refferendwm ar annibyniaeth nawr?
Pam ydych chi'n dod â hyn i mewn i'r ddadl? Rydym wedi nodi'n glir iawn ein safbwynt o ran refferendwm a ble rydym yn sefyll ar hynny. Pam nad ydych chi'n gofyn am yr hyn sy'n ddyledus i Gymru nawr gan eich plaid eich hun? Pam nad ydych chi'n cyflawni dros bobl Cymru nawr? Fe ddywedoch chi y byddech chi. Nid ydych wedi gwneud hynny.
Ai 'na' yw hynny?
Na, ni wnewch. Iawn, ni wnewch chi sefyll dros Gymru. Dyna beth rydych chi wedi'i gadarnhau. Diolch am gadarnhau hynny. Gallaf fod yn glir yma—gallaf fod yn glir iawn—i Lywodraeth Plaid Cymru, ni fyddai unrhyw 'ddileu popeth' a dim byd mwy na nodi dyddiad cyllideb. Ac rwy'n gobeithio heddiw na fydd y Senedd hon yn gwneud hynny chwaith. Trwy gefnogi ein cynnig, rydych chi'n cefnogi'r galwadau am gyllid teg i Gymru. Rydym yn gosod marciwr clir o'r hyn y disgwyliwn i adnoddau ein Senedd ein hunain fod. Nid yw dweud pethau fel 'diwygio fformiwla Barnett' yn golygu dim os nad ydych chi'n galw amdanynt, ac yn galw amdanynt yn gyson. Felly, yr hyn y gofynnwn i'r Senedd ei wneud heddiw yw anfon neges glir ac unedig at Lywodraeth y DU ei bod hi'n bryd ariannu Cymru'n deg. Mae'n bryd sicrhau bod gan y Senedd yr arian sydd ei angen arni ac sy'n ddyledus iddi i gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Gofynnaf i'n cyd-Aelodau'n drawsbleidiol i gefnogi ein cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd cyllideb hydref Llywodraeth y DU yn cael ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:
a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) gwrthdroi'r dreth fferm deuluol;
c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu cyllid canlyniadol i Gymru;
d) ymrwymiad i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru; ac
e) agenda torri trethi i gefnogi busnesau a chreu swyddi.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant yn enw Paul Davies. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw, ac am y cyfle y mae'n ei roi i ni i archwilio'r rhagolygon economaidd y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu cyflwyno, ond wrth gwrs, plaid yng Nghymru sydd wedi cael ei chynnal gan Blaid Cymru ers 26 mlynedd. Wrth inni edrych ymlaen at gyllideb yr hydref, mae safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn glir. Mae partneriaeth mewn grym honedig Llafur yn gwneud cam â phobl Cymru o Fae Caerdydd i San Steffan. Mae'r trefniant hwnnw'n darparu diffyg twf, trethi uwch a llai o gyfleoedd i bobl sy'n gweithio a busnesau.
Ond gadewch i mi ddechrau gyda lle gallwn gytuno â chynnig Plaid Cymru sydd o'n blaenau heddiw. Mae Cymru'n haeddu ei chyfran deg o fuddsoddiad a chefnogaeth, a byddwn yn parhau i ymuno â chi yn y galwadau am y symiau canlyniadol HS2. Rydym yn cytuno ei bod hi'n hen bryd adolygu fformiwla Barnett i adlewyrchu anghenion economaidd a chymdeithasol unigryw Cymru yn well. Rydym yn cefnogi galwadau i—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Rwy'n falch eich bod chi'n cytuno bod angen diwygio fformiwla Barnett. Fe gawsoch chi 14 mlynedd i wneud hynny ac ni wnaethoch.
A byddwn yn parhau i ddadlau dros ei hadolygu, fel y gwnaethom fel Ceidwadwyr Cymreig yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym yn cefnogi galwadau i wrthdroi'r cynnydd diweddar i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, ond byddem am fynd ymhellach. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld y dreth gosbol ar ffermydd teuluol yn cael ei gwrthdroi ac agenda ehangach o blaid twf yn cael ei chyflwyno, un sy'n cefnogi menter, yn ysgogi creu swyddi ac yn cyflawni ar gyfer cymunedau ledled Cymru. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig sy'n cael ei drafod heddiw ac yn cyflwyno cynnig wedi'i ddiwygio fel y'i nodwyd ger ein bron.
Rydym yn gwrthwynebu datganoli Ystad y Goron, symudiad a fyddai'n ychwanegu biwrocratiaeth heb fanteision. Rydym yn gwrthod cynigion i osod mwy o drethi ar deuluoedd a busnesau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Ac rydym yn gwrthwynebu'n gryf yr awgrym difeddwl a heb ei ariannu i ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, polisi y mae Plaid Cymru bellach yn ei rannu gyda Reform UK, cynghrair ofnadwy sy'n hyrwyddo anghyfrifoldeb economaidd, poblyddiaeth ac addewidion heb eu hariannu. Gadewch inni beidio ag anghofio bod Plaid—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Yn sicr.
A ydych chi'n cydnabod pris tlodi? A ydych chi'n cydnabod bod pris cadw plant mewn tlodi yn rhoi baich pellach yn nes ymlaen? Nid cost ddynol yn unig ydyw, trwy gydol eu bywydau nid ydynt yn mynd i gyrraedd eu potensial economaidd a bydd ganddynt wahanol broblemau cymdeithasol y bydd yn rhaid i'r wladwriaeth fynd i'r afael â nhw i gyd. Felly, mae galw hynny'n bolisi economaidd anghyfrifol yn hollol anghywir.
Rwy'n llwyr gydnabod malltod tlodi, a'r ffordd orau allan o dlodi yw economi sy'n creu swyddi gwych ac sy'n galluogi busnesau da i ffynnu, a dyna sydd angen i ni ei weld yma yng Nghymru. Byddem yn parhau i gefnogi'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau y mae Plaid Cymru yn ei wrthwynebu gyda Reform UK.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod Plaid Cymru wedi cynnal y Llywodraeth Lafur hon ers dros chwarter canrif. Yn ystod yr amser hwnnw, maent wedi cefnogi galwadau yn gyson i wastraffu arian cyhoeddus ar eu prosiectau porthi balchder. Ond wrth gwrs, pwnc y ddadl hon yw cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Tachwedd, a fydd yn gorfod delio â chanlyniadau blwyddyn o Lafur mewn grym yn Llundain. Gwyddom fod costau benthyca hirdymor wedi cyrraedd eu lefelau uchaf ers bron i 30 mlynedd. Yr wythnos diwethaf, cynyddodd cost dyled Llywodraeth y DU dros 30 mlynedd i 5.68 y cant, ffigur nas gwelwyd ers 1998. Os na fydd cyllideb yr hydref yn gallu cywiro'r llwybr, byddwn yn gweld costau benthyca'n codi hyd yn oed ymhellach, hyder mewn sterling yn gostwng, a buddsoddiad yn diflannu.
Gadewch inni siarad am ymosodiad Llafur ar ffermydd teuluol a busnesau bach. Mae adroddiad diweddar gan CBI Economics, a gomisiynwyd gan Family Business UK, yn rhagweld y bydd newidiadau arfaethedig Llafur i dreth etifeddiant amaethyddol yn creu colled o £14.8 biliwn i werth ychwanegol gros dros bum mlynedd. Yng Nghymru yn unig, bydd hynny'n golygu ergyd o £518 miliwn i'n heconomi, colli 10,000 o swyddi, a gostyngiad o 12.2 y cant mewn trosiant i'r busnesau yr effeithir arnynt. Dro ar ôl tro, gwelwn ein busnesau a'n heconomi yn cael eu taro gan y Llywodraeth Lafur hon. Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae angen Llywodraeth sy'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, yn cefnogi ein hentrepreneuriaid ac yn creu swyddi. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyflawni'r weledigaeth honno.
O ran y cynnig heddiw, ni fyddai unrhyw un o'r cynigion a gyflwynwyd gan Blaid Cymru'n tyfu'r economi nac yn gwella cynhyrchiant. Nid yw eu model treth uchel, gwariant uchel yn gweithio. Gadewch inni fod yn onest am eu nod terfynol eu hunain: maent eisiau annibyniaeth, ffantasi sy'n anymarferol yn economaidd. Heb rym ariannol y DU, byddai agenda Plaid yn cwympo o dan ei gwrthddywediadau ei hun. Byddai Cymru annibynnol yn wynebu toriadau dwfn nid ffyniant. Ni all Plaid Cymru feirniadu cyflawniad Llafur yn gredadwy tra bo'n gwthio polisïau hyd yn oed yn fwy eithafol ac anfforddiadwy. Realaeth sydd ei hangen ar Gymru nid rhethreg.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Ni yw'r unig blaid sy'n cynnig cynllun economaidd credadwy o blaid twf i drwsio Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 2.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Ffurfiol.
Dros yr haf, fe wnaethom ddysgu y byddai Keir Starmer yn aildrefnu ei Lywodraeth simsan unwaith eto, a phan fyddwn yn ystyried hanes truenus Llafur ers yr etholiad cyffredinol, penderfyniadau sydd wedi gwneud cam â Chymru, yn enwedig ei dinasyddion mwyaf agored i niwed, roedd hi'n hen bryd i hynny ddigwydd. Wedi'r cyfan, rydym wedi gweld rhai o'r penderfyniadau mwyaf syfrdanol a siomedig yn cael eu gwneud, penderfyniadau sydd wedi taro'r rhai sydd angen y gefnogaeth yn galetach na neb.
Mae 14 miliwn o bobl yn wynebu newyn a chaledi yn y DU yn 2025, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd. Dangosodd ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Trussell fod un o bob 14 o aelwydydd yng Nghymru wedi defnyddio o leiaf un math o ddarpariaeth bwyd elusennol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd ers 2022. Rydym hefyd yn gweld angen cynyddol am fanciau bwyd ymhlith aelwydydd sy'n gweithio, gyda bron i draean y bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd yng Nghymru yn dod o aelwydydd sy'n gweithio, cynnydd ers 2022. Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth amlwg fod angen i Lywodraethau'r DU a Chymru wneud mwy i fynd i'r afael â chaledi difrifol sy'n dyfnhau yng Nghymru.
Felly, beth a gawsom? Wel, dim llawer o weithredu, dim ond rhethreg ddifeddwl sydd ond wedi annog yn hytrach na herio'r dde eithafol, rhethreg sydd wedi cael blaenoriaeth dros ddileu malltod tlodi. Ar ben hynny, o safbwynt Cymru, fel y nododd Heledd Fychan, mae'r tueddiad i anwybyddu pob galwad i sicrhau cyllid teg wedi bod yn syfrdanol. Felly, mae'r trydydd cam hwn fel y'i gelwir o Lywodraeth Lafur y DU yn gyfle hirddisgwyliedig i gywiro'r cwrs ar gyfer llwybr mwy blaengar. Yn anad dim, mae'n gyfle i wneud yn iawn i bobl Cymru.
O ran tlodi plant yn arbennig, sy'n effeithio ar draean y plant yng Nghymru ar hyn o bryd ac y disgwylir iddo godi i lefelau hyd yn oed yn fwy annioddefol erbyn diwedd y degawd hwn, bu diffyg gweithredu amlwg. Fel y gwelsom yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, mae Llywodraeth Lafur y DU yn parhau â'i gwrthodiad ystyfnig i weithredu'r dull mwyaf effeithiol sydd ar gael iddi i wella'r malltod mwyaf cywilyddus ar ein cymdeithas, tlodi plant, trwy gael gwared ar y cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau.
Mae hon hefyd yn Llywodraeth Lafur a oedd yn barod i wthio miloedd yn fwy o blant yn fwriadol i dlodi trwy ei newidiadau arfaethedig i'r system les. A gadewch i ni gofio y bydd miloedd yn dal i gael eu taro gan y cynigion diwygiedig, sydd wedi ysgogi'r Cenhedloedd Unedig i fynegi siom at weithredoedd Gweinidogion Llafur y DU, yn yr hyn sy'n ymddangos, yn eu geiriau nhw, fel diwygiadau gwahaniaethol ac anghyfiawn i fudd-daliadau. Mae'r rapporteurs arbennig ar hawliau pobl anabl ac ar dlodi eithafol a hawliau dynol bellach wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, gan ychwanegu beirniadaeth ffyrnicach fyth o'r mesurau i dorri budd-daliadau anabledd, gan nodi:
'Ar ei hwyneb, mae'r system ddwy haen newydd ar gyfer elfen iechyd y credyd cynhwysol lle bydd hawlwyr newydd yn cael swm sylweddol is o'r un budd-dal oherwydd dyddiad eu cais yn unig yn ymddangos yn wahaniaethol ac yn anghyfiawn.'
Ac maent yn beirniadu'r modd y cyflwynwyd categori cyflyrau difrifol 'problemus' y Llywodraeth, nad yw'n
'cyd-fynd â'r cysyniad o anabledd'
o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, ac sy'n
'cosbi pobl sy'n wynebu risg arbennig o dlodi tra'n profi rhwystrau sylweddol i gyflogaeth'.
Maent hefyd yn dweud eu bod yn 'bryderus iawn' ac yn 'siomedig'—ac mae Plaid Cymru'n rhannu'r pryder hwn—fod y Llywodraeth wedi defnyddio iaith sy'n 'stigmateiddio hawlwyr budd-daliadau'.
Yn y cyfamser, nid yw'r Canghellor yn dangos unrhyw fwriad i drwsio ein system dreth doredig a dilyn llwybr beiddgar o ailddosbarthu trwy fesurau fel trethi cyfoeth. Yn lle hynny, mae'n parhau i grafangu am fylchau yng nghyfyngiadau mympwyol ei rheolau cyllidol ei hun—nad oes yr un ohonynt wedi gwneud fawr iawn i symud y nodwydd ar dwf—gan droi'r cloc yn ôl yn bendant ar anghydraddoldeb economaidd. Nid yw'n syndod, felly, fod niferoedd mawr yn gadael Llafur, fel y gwelsom yn yr arolwg barn ddoe, ar ôl gweld eu ffydd yn y blaid fel cyfrwng i sicrhau newid blaengar yn cael ei chwalu.
Mae'r Llywodraeth wedi dileu'r pwynt yn ein cynnig sy'n gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU a'r bartneriaeth mewn grym rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau diriaethol i bobl Cymru i ddelio â phwysau costau byw. O safbwynt y bobl sy'n crefu am gefnogaeth yn ein cymunedau, sy'n crefu am newid go iawn, sy'n crefu am arweinwyr i ymladd eu hachos, rwy'n ofni bod hynny'n dweud y cyfan.
Weithiau rwy'n meddwl y gallai fod gennym chwe mis hir o'n blaenau.
O ran y cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, credaf y dylem fod yn chwilio am undod ar draws y Siambr hon. Oherwydd lle bynnag y mae rhywun yn eistedd yn y Siambr, dylem i gyd fod yn gofyn yr un cwestiwn syml i ni'n hunain yn y bôn: 'Beth sydd orau i Gymru?' Nawr, byddwn i gyd yn rhoi atebion gwahanol a byddwn yn rhoi'r pwyslais mewn gwahanol leoedd, ac mae hynny'n iawn; mewn amgylchedd gwleidyddol, dyna beth y byddem yn ei ddisgwyl. Ond mae'n rhaid bod rhywfaint o dir cyffredin hefyd, a dyma'r tir cyffredin yr hoffwn edrych amdano y prynhawn yma.
Wrth ymateb i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi beth amser yn ôl, disgrifiodd Llywodraeth Cymru undeb y Deyrnas Unedig fel undeb cymdeithasol, undeb gwleidyddol ac undeb economaidd. Hoffwn ddweud hefyd y byddai'n undeb ariannol. A phwrpas undeb, wrth gwrs, yw sicrhau bod pawb yn mwynhau'r un hawliau, neu'r un hawliau'n fras. Ar y sail honno y cefnogais ddeddfwriaeth yn San Steffan i bobl yng Ngogledd Iwerddon allu cael yr hawl i briodas rhwng pobl o'r un rhyw, oherwydd dyna yw eu hawl a'r peth priodol i'w wneud, ac mae'n iawn sicrhau bod undeb yn gweithredu'n gyfartal i bawb.
Mewn termau ariannol, mae'n amlwg i mi nad yw'r undeb yn gweithredu'n gyfartal i bawb, ac nad ydym ni yng Nghymru yn cael yr un gefnogaeth â phobl dros y ffin yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ac nid yw hwnnw'n undeb sy'n gweithio i ni. Felly, pwrpas y ddadl hon a dadleuon eraill a gawn yma yw, 'Sut y gallwn ni wneud i'r undeb hwn weithio'n dda i Gymru? Beth sydd orau i Gymru?'
Roedd ymateb y Gweinidog cyllid i gwestiwn yn gynharach y prynhawn yma pan oeddem yn trafod Barnett yn ddiddorol. Ac mewn ateb—ac fe ildiaf os wyf yn camddyfynnu'r Gweinidog cyllid—fe ddywedodd fod angen trosolwg o Barnett a fyddai'n annibynnol ar—. Ac rwy'n dehongli hynny fel annibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac mae'n iawn. Mae strwythur o'r fath yn gweithredu yn Awstralia wrth gwrs; rwy'n credu mai'r enw arno yw Comisiwn Grantiau'r Gymanwlad. A beth y mae hynny'n ei wneud yw sicrhau triniaeth gyfartal ar draws Awstralia gyfan. A'r hyn sydd ei angen arnom yw triniaeth gyfartal ar draws yr undeb cyfan, fframwaith sy'n deg ac sy'n gweithio i bawb, ble bynnag y bônt yn byw, boed hynny yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr, yr Alban neu Gymru. Mae'n amlwg i mi heddiw nad yw'r undeb ariannol hwn yn gweithio'n deg i Gymru.
Rwy'n cytuno, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd yn y cynnig am HS2. Mae'n anghywir nad yw Cymru'n mwynhau symiau canlyniadol buddsoddiad ar reilffyrdd trwm yn Lloegr. Mae'n anghywir. Mae'n annheg. Mae'n rhaid iddo newid. Mae'n anghywir nad ydym yn cael rheoli Ystad y Goron ar ein tiriogaeth ein hunain. Nid wyf yn credu rhai o'r amcangyfrifon ynfyd o'r cyfoeth y gallai hyn ei roi i ni. Nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol y dylem gael yr un cyfleoedd i reoli'r ystad â'r hyn sy'n bodoli dros y ffin yn Lloegr ac yn yr Alban. Mid oes unrhyw reswm pam na ddylai hynny ddigwydd.
Ac yn fwyaf sylfaenol—ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog cyllid yn gwneud y pwynt hwn yn gynharach y prynhawn yma—mae'n amlwg nad yw fformiwla Barnett yn gweithio i Gymru. Nid yw'r swm o arian, mewn termau real, yn ôl angen, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru yn gyfartal â'r hyn sy'n bodoli dros y ffin yn Lloegr, sy'n bodoli yn yr Alban, neu sy'n bodoli bellach yng Ngogledd Iwerddon. Felly, Cymru'n unig sy'n dioddef gwahaniaethu o fewn yr undeb hwn. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Yn gyflym iawn, rwy'n cytuno â chymaint o'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud heddiw, ond pam y mae'n credu bod Llywodraethau DU olynol, gan gynnwys Llywodraethau Llafur, wedi bod yn amharod i fynd i'r afael â hyn, a pham y mae'n credu bod Llywodraeth Cymru heddiw—y Llywodraeth Lafur—wedi dileu'r holl anghyfiawnderau y mae wedi'u crybwyll? Pam na fyddent yn cytuno â safbwynt Plaid Cymru?
Nid wyf am gynnal sgwrs semantig am natur y cynigion ar brynhawn Mercher, ond rwy'n credu ei bod bob amser yn well ceisio cytundeb, ac yn gyffredinol, nid wyf yn cefnogi gwelliannau 'dileu popeth'.
Ond gadewch i mi ddweud hyn. Os ydym yn rhan o undeb, mae'n rhaid inni fod yn rhan o undeb cyfartal, ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, ble bynnag yr eisteddwn yn y Siambr hon, i geisio'r cydraddoldeb hwnnw i'r bobl a gynrychiolwn. Rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn gwneud hyn, ac mae'r areithiau a glywais gan y Gweinidog cyllid, yn ei rôl bresennol a rôl flaenorol, yn fy argyhoeddi ei fod yn gwneud yr achos hwn dros Gymru ar sail tegwch a chydraddoldeb fel y nodais. Ac rwy'n credu mai dyna lle ceir y cyfleoedd gorau i Gymru. Mae'n iawn ac yn briodol fod pobl eraill yn arddel safbwyntiau wahanol, ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yw sicrhau cymaint â phosib o gytundeb y prynhawn yma, nid pwysleisio'r anghytundeb. Ac rwy'n credu bod honno'n ffordd deg a phriodol o fynd i'r afael â'r ddadl hon.
Alun, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Ac i gloi, Ddirprwy Lywydd, yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud mewn sgyrsiau o'r math hwn yn y dyfodol, wrth i ni agosáu at y gyllideb ym mis Tachwedd ac ar achlysuron eraill, yw ceisio cytundeb ar draws y Siambr hon yn gyfan ar yr hyn sydd orau i Gymru. Ar y sail honno, rwy'n gobeithio y gallwn wneud cynnydd.
Sut yr aeth Llafur i'r llanast hwn, y straen o aberthu egwyddorion y maent i fod yn eu harddel yn angerddol, gan fynd ar drywydd safbwyntiau'r rhai na fyddant byth yn eu hennill? Pwrpas cyllideb i fod yw gosod blaenoriaethau, ymestyn yr hyn sy'n bosibl. Yn hytrach, rwy'n ofni y byddwn yn gweld yr un llyffethair yn ymgripio i bob llinell gyllidebol, a'i thoriadau wedi'u gwisgo i fyny, heb os, ym maneri Jac yr Undeb. Nid oes angen iddi fod fel hyn. Mae Starmer a Reeves yn dewis dilyn rheolau cyllidol, rheolau hunanosodedig, wedi'u gosod fel trap gan gangellorion Torïaidd y dyddiau a fu. Mae hyn i gyd yn ddewis, dewis i dorri gwariant lles, i gadw polisïau creulon yn eu lle, i ddilyn athrawiaeth cyni gan honni ar yr un pryd, yn anhygoel, eu bod yn gwrthod y gair ei hun.
Ar domenni glo, rwyf wedi croesawu cyllid hirddisgwyliedig San Steffan i ddechrau clirio gwaddol mwyngloddio o'n tirweddau, er ei fod yn annigonol ac yn gyfyngedig. Nid yw'r symiau a addawyd gan Lywodraeth y DU hyd yma, fodd bynnag, yn agos at yr hyn sydd ei angen nawr, heb sôn am yr hyn y bydd ei angen yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rydym yn wynebu misoedd y gaeaf, pan allwn ddisgwyl mwy o dywydd stormus, glawog, a allai ansefydlogi ein tir. Gwelsom hynny'n digwydd yng Nghwmtyleri.
Pan fyddaf i ac eraill wedi cwestiynu pam mai cymharol ychydig a addawyd i ni gan San Steffan, dywedwyd wrthym mai dyna'r cyfan y gofynnwyd amdano, am mai dyna'r cyfan sydd ei angen arnom ar hyn o bryd, fel pe bai hwn yn fater y gellir ei rewi mewn amser, ei becynnu a'i drin i weddu i'n hamserlenni, yn hytrach na difrod stormydd a'r llifogydd di-ddal, sylfaenol anrhagweladwy—difrod a fydd yn ansefydlogi gormod o domenni glo ar gyflymder erchyll os yw ein hinsawdd yn mynd yn fwy anwadal byth. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd yn rhoi cyfle i wneud hyn yn iawn, a bydd trigolion cymunedau'r Cymoedd yn gwylio gyda diddordeb i weld pa mor bell y mae cydwybod San Steffan wedi llusgo yn ei flaen.
Mae cyfle hefyd i wneud yr hyn sy'n iawn o ran Ystad y Goron, i ddatganoli, o'r diwedd, yr elw sy'n ddyledus i Gymru. Mae'n ymddangos bod hyn yn fagl i'r Blaid Lafur, rwy'n ofni. Fe wnaeth fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd wthio'r Prif Weinidog ar hyn ddoe ddiwethaf. Ni roddwyd ateb clir pam nad yw'r pwerau hyn wedi'u datganoli, pam y mae Llafur yn Llundain yn dewis anwybyddu Llafur yng Nghymru. Nid partneriaeth mewn grym ond syrthni, er y dylanwad—dylanwad sy'n ymestyn cyn belled â'r drws a gaiff ei gau yn ein hwyneb.
Siaradais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, ynglŷn â sut y dylai cyllidebau greu lle a gwthio at derfynau potensial. Ond yn gyfansoddiadol, yn ariannol, o fewn cyfyngiadau Whitehall hyd yn oed, nid oes lle i Gymru yn eu cynlluniau. Yn Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru, nid llais dros Gymru sydd gennym yn y coridorau hynny, ond tawelwr, aelod Cabinet sy'n crebachu ffiniau'r hyn a ystyrir yn bosib. Dyna derfyn eu huchelgais i Gymru, mae'n ymddangos—i ni wybod ein lle a chadw'n dawel.
Ond Ddirprwy Lywydd, nid oes gan rai ohonom unrhyw fwriad i aros yn dawel. Fe wnaeth y Prif Weinidog ystyried ddoe beth y gallai Plaid Cymru ei wneud i wthio am bwerau yn lle hynny. Wel, yn amlwg, mae mwy a mwy o bleidleiswyr bellach yn gofyn yr un peth. Mae'r bar wedi'i osod mor isel fel ei fod yn baglu cenedl gyfan. Felly, Prif Weinidog, fe dderbyniwn yr her.
Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn. Wrth gwrs, efallai y gellid gwneud y geiriad ychydig yn fwy cydsyniol i ennyn cefnogaeth Aelodau Llafur. Ond rydym yn agosáu at etholiad. Rwy'n siŵr fod mwyafrif yr Aelodau yma yn cytuno â chynnwys y cynnig hwn. Nid â pheth o'r geiriad efallai, ond cynnwys y cynnig. Mae mandad democrataidd yma i ddatganoli Ystad y Goron. Roedd yn rhan o faniffesto Llafur a Phlaid Cymru yn 2021, ac mae iddo gefnogaeth pob awdurdod lleol. Nododd Llywodraeth Cymru ei hun y bydd yr ystad yn elwa'n sylweddol iawn o lesio gwely'r môr yng Nghymru, mewn ffyrdd nas rhagwelwyd pan bennwyd y setliad datganoli presennol.
Rwy'n cytuno ag Alun Davies mai'r cwestiwn y dylem i gyd ei ofyn yw, 'Beth sydd orau i Gymru?' Ond yn amlwg, nid oes awydd yn San Steffan am ddatganoli pellach. Mae'n ymddangos bod blaenoriaeth i Blaid Lafur seneddol Cymru dros les y cyhoedd yng Nghymru. Roeddwn i'n falch o glywed sylw yr Ysgrifennydd cyllid am fformiwla Barnett yn gynharach heddiw. Gallwn i gyd gytuno bod y cynnig hwn yn iawn wrth gwrs, fod angen inni gael fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn lle'r fformiwla bresennol, rhywbeth sy'n deg mewn gwirionedd.
Mae cyllid yn seiliedig ar angen yn gyffredin. Mae'n gyffredin ledled y byd, ac mae'n synnwyr cyffredin mewn gwirionedd. Dyma beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud mewn mannau eraill. Maent yn ei wneud i ariannu byrddau iechyd. Dyma beth y maent wedi'i awgrymu wrth ailysgrifennu'r dreth gyngor. Ac wrth gwrs, dyma beth oedd gennym pan oeddem yn cael cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar sail angen, byddai gennym eisoes yr adnoddau sydd eu hangen arnom i dynnu Cymru allan o dlodi.
Rwyf am nodi nad dyna'n unig ydyw. Mae angen inni edrych ar y setliad datganoli. Nid bogailsyllu cyfansoddiadol mohono. Mae statws cyfansoddiadol y Senedd hon yn golygu y gall Llywodraeth y DU ddiystyru'r Senedd ar fater datganoledig pryd bynnag y mae'n dewis gwneud hynny. Gallai hyn fod yn broblem ddifrifol yn y dyfodol. Mae wedi digwydd fwy a mwy ers Brexit. Cyn Brexit, y nifer uchaf o droeon y digwyddodd mewn tymor seneddol oedd pedwar. Yn y tymor diwethaf, roedd yn 14. Ar un adeg, roedd Llywodraeth y DU yn arfer gweithio gyda'r lle hwn, ond nawr maent wedi normaleiddio'r arfer o'n hanwybyddu, ac mae hwnnw'n gynsail peryglus i'r dyfodol.
Mae'n ymddangos bod ein hanwybyddu'n parhau gyda'r Llywodraeth DU bresennol. Mae'r Deddfau hyn yn adfachu grym yn ôl o'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd yma yng Nghymru. Yn achos y Bil cymorthdaliadau, maent yn trosglwyddo pwerau i gwmnïau preifat. Dyma sut yr ydym bellach yn y sefyllfa chwerthinllyd lle mae cwmni preifat yn mynd â'r Llywodraeth hon i dribiwnlys i'w hatal rhag ariannu seilwaith sy'n eiddo i'r cyhoedd—wrth hynny rwy'n golygu Maes Awyr Caerdydd.
Rwy'n gobeithio gweld cyllideb sydd â diddordeb mewn rhannu ac sydd â diddordeb mewn parchu: rhannu pŵer a rhannu adnoddau a pharchu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru. Nid dyna'r trywydd y mae Llywodraeth y DU arno ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu bod y mwyafrif ohonom, gan gynnwys Aelodau Llafur yma, eisiau i hynny newid, ac yn gobeithio y bydd hynny'n newid yn fuan, oherwydd mae angen y newid hwnnw arnom. Mae angen i Rif 10 a'r Blaid Lafur yn San Steffan sylweddoli hynny'n gyflym, oherwydd rydym eisoes yn gweld effeithiau pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a phobl yn teimlo'n ddiobaith. Fe'i gwelais ar strydoedd Llundain ddydd Sadwrn diwethaf.
Nid yw dyfodol y Senedd hon yn ddiogel. Mae llawer o bobl yn ein cymunedau yn teimlo nad yw datganoli wedi gwella eu bywydau o gwbl. Dyna beth y mae pobl yn ei feddwl. Pa un a yw'n iawn ai peidio, dyna beth y mae llawer o bobl yn ei feddwl. Mae angen i unrhyw Lywodraeth Cymru, o ba bynnag liw neu liwiau, gael yr offer i wella bywydau pobl Cymru. Mae fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar anghenion yn debygol iawn o wneud gwahaniaeth enfawr i bobl Cymru. Fel y dywedodd Alun Davies, rydym yn dioddef gwahaniaethu ar hyn o bryd gyda'r fformiwla ariannu bresennol. Ni all y status quo, gyda'i ddiffyg gobaith, gyda'i ddiffyg uchelgais, barhau. Bydd y status quo yn dod i ben, ond os nad ydym yn ofalus, ni fydd yn dod i ben yn y ffordd y gobeithiwn. Diolch yn fawr.
Mae'r tanfuddsoddi sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru dros ddegawdau yn adlewyrchu'r diffyg tegwch sydd wrth wraidd ein setliad ariannol presennol. Ac eto, er bod Gweinidog trafnidiaeth San Steffan wedi cydnabod y camwahaniaethu hanesyddol erbyn diwedd y llynedd, mae'n amlwg nad oes unrhyw ymdrech ystyrlon gan Llafur i droi'r dudalen a dechrau pennod newydd o degwch. Os rhywbeth, mae’r Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn benderfynol o barhau ag annhegwch fformiwla Barnett.
Roedd y rhybuddion yno ers tro. Wedi blynyddoedd o alw am ein siâr deg o arian HS2—dros £4 biliwn yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru—gwnaeth Llafur fynd yn fwy a mwy tawedog wrth i'r etholiad cyffredinol agosáu. Tawel iawn fu Llywodraeth Lafur Cymru hefyd. Ac er i'r Prif Weinidog honni'n ddiweddar ei bod yn gwneud yr achos dros ariannu teg yn sgil HS2, y gwir yw nad yw un geiniog wedi dod i Gymru yn ei sgil. Ai dyma ydy pen draw'r ffordd goch Gymreig—twnnel o anobaith?
Ond symptom ydy HS2 o broblem ddyfnach. Mae tanfuddsoddi hanesyddol—rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn yn ôl Llywodraeth Cymru ei hun—wedi bod yn nodwedd barhaol o'n perthynas anghytbwys â San Steffan. Ac er bod San Steffan yn honni eu bod yn cydnabod yr anghyfiawnder hwn, mae'r sefyllfa’n gwaethygu. Roedd yr adolygiad gwariant diweddar hyd yn oed yn llai hael na'r un blaenorol, yn enwedig o ran cyllid cyfalaf. Amcangyfrifodd yr Athro Mark Barry y byddai angen o leiaf £250 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf ar gyfer gwelliannau i rwydwaith y core Valleys lines a Network Rail. Mae hynny’n rhoi’r £445 miliwn dros y degawd nesaf mewn persbectif cwbl wahanol.
Felly, does dim syndod i ganfyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru fod cynlluniau’r Canghellor yn methu â mynd i’r afael â’r problemau systemig yn y ffordd y caiff seilwaith rheilffyrdd Cymru ei ariannu ac nad oes sail o gwbl i honiad bod arian yr adolygiad gwariant yn gwneud iawn am golli arian HS2. Does dim syndod chwaith fod yr Ysgrifennydd trafnidiaeth wedi gwrthod cynnal asesiad diwygiedig o fuddsoddiad hanesyddol yng Nghymru, oherwydd mae’n gwybod yn iawn beth fyddai’r casgliad: dan Lafur, mae pob llwybr wedi arwain at danfuddsoddi, esgeulustod a Chymru’n cael ei gadael ar ôl.
Gan fynd yn ôl at bwynt agoriadol Heledd Fychan, dyma gyfle olaf Llafur i brofi bod y newid a addawyd yn ystod yr etholiad diwethaf yn golygu mwy na jest geiriau gwag. Rhaid gweld ymrwymiad pendant, diamod, i dalu pob ceiniog sy’n ddyledus i Gymru o HS2 ar unwaith fel rhan o raglen lawn i unioni degawdau o danfuddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus. Diolch yn fawr.
Fe ddechreuaf drwy ofyn cwestiwn: os bydd Ystad y Goron yn cael ei datganoli, sut y mae'n darparu arian ychwanegol? Pam na fydd y budd ariannol net o ddatganoli Ystad y Goron yn cael ei dynnu o'r grant bloc? Gyda phopeth sydd wedi'i ddatganoli o'r blaen, boed yn dreth incwm neu dreth stamp, cafwyd addasiad i'r grant bloc. Dyna sut y mae system datganoli cyllidol yn gweithio. Gwneir cyfrifiad ac addasir y grant bloc yn unol â hynny. Sut na fyddai datganoli Ystad y Goron yn arwain at ostyngiad yn y grant bloc yn yr un modd? Ond os gallwn gael datganoli treth a dim effaith ar y grant bloc, a allwn ni gael gweddill y dreth incwm wedi'i datganoli hefyd, oherwydd byddai hynny'n bwysicach o lawer?
Rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i dreth gyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd, mae'r 1 y cant cyfoethocaf o asedau aelwydydd dros £3.6 miliwn. Bydd treth gyfoeth ar asedau dros £10 miliwn yn codi symiau mawr o arian gan nifer bach o bobl, eiddo mawr yn Llundain a'r de-ddwyrain yn bennaf, yn ogystal â rhai o'r ffermydd mwy o faint. Dylai'r holl lwfansau treth, cyfraddau a bandiau fod yr un fath, ac nid enillion cyfalaf a threth incwm yn unig, ond incwm difidend hefyd. Dylai fod un set o fandiau ac un set o drethi. Mae gormod o bethau cymhleth yno sy'n caniatáu i'r cyfoethog osgoi talu eu cyfran o dreth.
Mae achos economaidd cryf iawn dros weld y Deyrnas Unedig, gyda nid yn unig Cymru yn fuddiolwr net sylweddol o ailddosbarthu ond hefyd fod gwledydd mwy yn gallu gwrthsefyll stormydd economaidd yn haws a chefnogi'r rhannau llai cyfoethog. Sut y gwn eu bod yn gallu gwrthsefyll stormydd economaidd? Edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd i Wlad yr Iâ yn ystod yr argyfwng bancio. Mae Cymru'n fuddiolwr economaidd net o'r undeb, ac mae ganddi lawer mwy o wariant, gan gynnwys gwariant ar bobl yng Nghymru, o San Steffan a'i gyllid i'r Senedd a Llywodraeth Cymru nag a gaiff ei godi yng Nghymru.
Mae pedwar dull posib o ariannu Cymru. Cynlluniwyd fformiwla Barnett yn benodol i gadw mantais gwariant cyhoeddus yr Alban dros Loegr. Ni chafodd y fformiwla mo'i llunio gyda Chymru mewn golwg. Mae'r fformiwla'n cadw mantais gwariant i Gymru dros Loegr. Cafwyd addasiadau o bryd i'w gilydd sydd wedi cynyddu gwariant cymharol yng Nghymru. Prif fantais y fformiwla yw symlrwydd a gwrthrychedd fel sail ar gyfer gwneud dyraniadau gwariant. Cafwyd llwyddiannau nodedig wrth sicrhau ffordd o osgoi'r fformiwla ers datganoli, er enghraifft mewn perthynas â chyllid cyfatebol Amcan 1 a'r cyllid ar gyfer bargeinion dinesig. Mae gennym gyllid gwaelodol Barnett hefyd, gan fod adolygiad o wariant 2015 wedi darparu gwarantau na fyddai cyllid y pen grant bloc Llywodraeth Cymru yn disgyn o dan 115 y cant o'r cyllid cyfatebol y pen yn Lloegr.
Ail opsiwn yw i Gymru dalu cyfran o gostau San Steffan a chadw gweddill y trethi a godir yng Nghymru. Dyma sut y mae annibyniaeth yn edrych. Byddai hyn yn cael effaith drychinebus ar wariant cyhoeddus yng Nghymru. O ddata a gyhoeddwyd gan y swyddfa ystadegau gwladol, gwyddom fod canran incwm Cymru tua 72.1, lle caiff Prydain ei dangos fel 100 y cant, ac rydym yn gwybod ein bod ni'n cael 115 y cant. Yr unig ffordd y gallai Plaid Cymru gael unrhyw le yn agos at ei gael i weithio yw peidio ag ariannu pensiwn y wladwriaeth fel budd-dal canolog a pheidio ag ariannu cyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol.
Y trydydd opsiwn yw bod Cymru'n cael ei chyfran o'r boblogaeth o'r gwariant datganoledig. Dyma'r symlaf a'r ail fwyaf trychinebus. Byddai'r cyllid gwaelodol Barnett o 115 y cant yn gostwng i 100 y cant o wariant Lloegr. Byddai hyn yn arwain at gael gwared ar gyllid gwaelodol Barnett sy'n diogelu gwariant yng Nghymru ac yn gweld Cymru'n gwneud yn sylweddol well na Lloegr.
Y pedwerydd opsiwn yw bod fformiwla newydd yn cael ei chreu sy'n ystyried teneurwydd poblogaeth, proffil oedran ac amddifadedd, ac ni fydd unrhyw fformiwla newydd yn llwyddo i osgoi beirniadaeth. Ystyriwch y fformiwla llywodraeth leol yng Nghymru a'r camddealltwriaeth, y dadleuon a'r datganiadau camarweiniol sydd gennym yn ei chylch. Ni fyddai unrhyw un sydd wedi dilyn y trafodaethau arni yn sylweddoli mai'r ddau awdurdod sy'n cael y cymorth lleiaf y pen gan y Llywodraeth yw sir Fynwy a Bro Morgannwg. Lluniwyd y system o ddyrannu grantiau i fod yn wrthrychol ac i gydraddoli angen ac adnoddau. At ddibenion cyfrifo'r asesiad safonol o wariant, mae gwariant refeniw llywodraeth leol wedi'i rannu'n 55 o feysydd gwasanaeth tybiannol. Mae dull dosbarthu ar wahân yn bodoli ar gyfer pob un o'r elfennau hyn er mwyn dosbarthu'r cyfanswm ar draws yr awdurdodau. Gellir cymharu'r fformiwla hon â Lloegr a'i defnyddio i gyfrifo'r angen llywodraeth leol cymharol rhwng Cymru a Lloegr. Mae iechyd yn rhan fawr o wariant Llywodraeth Cymru ac ar hyn o bryd dyna yw ychydig dros 50 y cant o wariant Llywodraeth Cymru.
Ar iechyd, ceir fformiwla syml yn seiliedig ar oedran i gyfrifo angen cymharol. Mae yna fformiwla fwy cymhleth a chywir, sy'n cynnwys nifer achosion cymharol pob cyflwr a chlefyd, gyda phwysiad cost ynghlwm wrthi. Byddai hyn yn creu fformiwla hir a manwl, ond mae'n gymharol hawdd i'w chyflawni—mae'r data'n bodoli a gellir gwneud y cyfrifiadau. Mae'r data ar gyfraddau tlodi cymharol, salwch hirdymor a theneurwydd poblogaeth yn hysbys. Gellid cyfrifo gweddill y gwariant sydd ei angen yng Nghymru yn yr un modd.
Dylai cyllid teg i Gymru fod yn seiliedig ar anghenion cymharol, a chan y bydd diwygio fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn cymryd amser, mae angen inni ddechrau arno nawr. Rwy'n cefnogi cyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion ar gyfer pennu grant bloc Cymru, ond mae'n rhaid inni sylweddoli hefyd y gallai arwain at ostyngiad. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn ar fin gorffen, Mark, ond ewch amdani.
Fe fyddaf yn gyflym iawn. Sut rydych chi'n ymateb, o ystyried y sylwadau rydych chi ac eraill wedi'u gwneud i'r datganiadau a glywais i a chyd-Aelodau eraill yn Senedd yr Alban yr wythnos diwethaf, yn drawsbleidiol, am ymrwymiadau i ddiogelu fformiwla Barnett?
Wel, rwy'n credu bod yr Alban yn ei wneud yn dda iawn. Deilliodd fformiwla Barnett o Goschen. Crëwyd Goschen i roi mantais ariannol i'r Alban. Pan gawsom ddatganoli i Gymru, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gyfrifol am wariant, yr unig fformiwla yr oedd yn rhaid iddynt ei defnyddio oedd fformiwla Barnett. Nid wyf yn ceisio siarad drosti nac yn ei herbyn. Mae'n llawer gwaeth na fformiwla Barnett.
Roeddwn ar fy mrawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cefnogi cyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion ar gyfer pennu grant bloc Cymru, ond mae'n rhaid inni sylweddoli y gallai leihau'r grant bloc a gawn. Nid i fyny'n unig y mae'n symud.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn ystod fy mhlentyndod, amser maith iawn yn ôl bellach, roeddwn i'n arfer dod adref o'r ysgol yn edrych ymlaen at wrando ar y Criss Cross Quiz, ac yn y Criss Cross Quiz, roedd yna rownd a oedd bob amser yn fy nrysu fel plentyn am mai'r enw arni oedd 'potpourri'. Nid oedd potpourri mor gyffredin â hynny yng Nghaerfyrddin yn y 1960au. [Chwerthin.] Ond wrth imi wylio'r rhaglen, sylweddolais mai rhyw fath o rownd 'unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano' oedd hon, a chefais fy atgoffa'n glir ohoni pan ddarllenais gynnig Plaid Cymru heddiw—rhyw fath o gynnig sinc y gegin, lle mae'r awdur wedi crynhoi popeth y gallent feddwl amdano a'i daflu i mewn i gynnig ar gyfer y gweddill ohonom. Y canlyniad, wrth gwrs, yw cynnig lle mae yna bethau sy'n bolisi Llywodraeth Cymru, pethau nad ydynt yn bolisi Llywodraeth Cymru, a sawl un sydd rywle yn y canol.
Y peth cyntaf a ddywedodd y sawl a gyflwynodd y cynnig oedd mai 'cyfle i uno' oedd y cynnig, cyn symud ymlaen i wneud araith hynod o bleidiol, y gyntaf o bob araith bleidiol a glywsom gan Blaid Cymru y prynhawn yma. Nawr, mae yna dir cyffredin, tir cyffredin y gallem fod wedi dod o hyd iddo, ond cafodd yr esgus mai am hynny y mae'r cynnig hwn mewn gwirionedd ei ddrysu gan bopeth a oedd gan Blaid Cymru i'w ddweud. Mewn gwirionedd, yr un peth sydd gan bob rhan o'r cynnig hwn yn gyffredin yw nad oes un ohonynt yn nwylo'r Senedd hon. Ac mewn sawl ffordd, dyna'r gwrthwyneb i wleidyddiaeth gyfrifol. Nid yw'n dweud unrhyw beth o gwbl am y pethau y gallwn eu gwneud fel Senedd, ac yn hytrach, mae'n treulio ei holl amser yn delio â phethau nad oes gennym unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol drostynt.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ddirprwy Lywydd, mae hi mor hawdd taro slogan i lawr ac esgus eich bod chi'n gwneud rhywbeth difrifol. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Ond y ffaith ein bod yn galw am y pwerau hyn, dyna bwynt y cynnig, dweud y dylai'r pwerau hyn fod gennym. Rydym yn ceisio grymuso'r lle hwn. Felly, rydych chi'n ein beirniadu am yr union beth y ceisiwn ei atal rhag digwydd, sef na ddylem gael ein cadw yn y lle hwn yn y Senedd lle nad oes gennym bwerau dros y pethau hyn a allai helpu i roi diwedd ar ein tlodi, nad yw'n normal.
Wel, pe bai'r cynnig wedi dweud hynny, byddem wedi cael math gwahanol o ddadl, ond nid yw'r cynnig yn dweud o gwbl—. Nid yw'n dweud unwaith, 'Dyma'r pethau y dylid eu datganoli i Gymru.' Mae'n dweud bob tro, 'Dyma'r pethau y mae angen i Lywodraeth ysgeler y DU fwrw ati i'w gwneud.'
Nid llunio polisïau datrysol, Lywydd, gyda'r meddwl hudolus sy'n sail i hynny, yw'r cyfraniad difrifol y mae'r Senedd hon yn ei haeddu, oherwydd, i gymryd un enghraifft yn unig—ac mae hon yn enghraifft rwy'n cytuno â hi yn y cynnig—mae'r cynnig yn dweud y dylem geisio cael fframwaith cyllido'n seiliedig ar anghenion yn lle'r fformiwla Barnett sydd wedi dyddio. Wel, rwy'n cytuno â hynny, Lywydd, ond mae'r syniad fod dim ond galw am hynny'n golygu eich bod yn gwneud iddo ddigwydd yn dangos anwybodaeth o'r ffordd y mae'r byd yn gweithio. Wedi'r cyfan, cymerodd y Senedd hon ei hun y rhan orau o chwarter canrif i newid ein system bleidleisio ein hunain pan oedd gennym bob pŵer yma yn ein dwylo i'w wneud. Ond mae'r cynnig yn beirniadu Llywodraeth Lafur y DU am beidio â bod wedi llwyddo, mewn 12 mis, i wneud yr holl bethau y mae'r cynnig hwn yn eu nodi.
Nawr, rwy'n credu y dylem gael rhywbeth yn lle fformiwla Barnett, ond sut rydych chi'n gwneud hynny? Beth yw'r llwybr i wneud i hynny ddigwydd, yn hytrach na gwneud araith amdano a theimlo'n well am fod wedi codi llais yn ei gylch? Mae angen i chi gael buddsoddiad gwleidyddol gofalus, amyneddgar. Rhaid i chi lunio cynghreiriau. Rhaid i chi gytuno ar gyfaddawdau. Rhaid i chi fod yn barod i fodfeddu ymlaen i sicrhau newid. Camddealltwriaeth lwyr yw credu y gallai Llywodraeth y DU ar ei phen ei hun newid a chael rhywbeth yn lle fformiwla Barnett. Byddai angen cytundeb pedair cenedl ar wahân, ac fel y clywsoch y prynhawn yma, mae digon o dystiolaeth nad oes consensws yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban dros newid fformiwla Barnett, fformiwla sy'n gweithio'n dda iawn iddynt hwy. Ddirprwy Lywydd, nid yn unig eich bod angen yr ymagwedd ofalus, amyneddgar, gynghreiriol honno tuag at wleidyddiaeth, rhaid i chi fod yn barod i wneud y gwaith technegol caled iawn sy'n sail i bron bob un o'r edefynnau yn y cynnig hwn, cynnig sy'n tybio y gallwch ei wneud drwy ddim ond galw amdano a chlician eich bysedd.
Diolch am dderbyn ymyriad. Ond a ydych chi'n deall pam y mae pobl, ar ôl 26 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur, wedi colli unrhyw amynedd y gall Llafur gyflawni hyn?
Wel, rwy'n edmygu'r parodrwydd sydd gennych i siarad ar ran pawb arall. Rwy'n credu y gwnawn adael iddynt hwy ddweud beth y maent yn ei feddwl, ac fe wnawn ddibynnu ar hynny yn hytrach na'ch bod chi'n dweud wrthyf y gallwch chi siarad ar ran pawb ohonynt. Pe baech chi'n siarad â phobl a chael sgwrs ddifrifol ynglŷn â sut y cyflawnwn rywbeth yn lle fformiwla Barnett, rwy'n credu y byddent yn deall y cymhlethdod a fyddai'n sail i hynny mewn ffordd y mae'r ddadl hon wedi bod yn gwbl amddifad ohoni.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn darllen ymchwiliad Holtham i'r trefniadau cyllido yng Ngogledd Iwerddon. Roeddwn i am ddarllen un tabl yn unig o'r adroddiad lle mae'n archwilio un edefyn yn unig, un edefyn, yn y trefniadau cyllido. Er mwyn dod i'w gasgliad na ddylai'r ffigur ar gyfer Gogledd Iwerddon fod yn 124 ond 128—dyma un tabl o'i waith—mae'n dweud ei fod wedi ystyried yr R-sgwâr wedi'i addasu, swm atchweliad wedi'i sgwario, y tebygolrwydd log, yr ystadegyn F, y newidyn dibynnol cymedrig, newidyn dibynnol y gwyriad safonol, maen prawf gwybodaeth Akaike, maen prawf Schwarz, maen prawf Hannan-Quinn ac ystadegyn Durbin-Watson. Nawr, a ydych chi'n meddwl bod modd crynhoi eich cynnig mewn un llinell, yn y ffordd rydych chi'n ei wneud, ac esgus i'r gweddill ohonom fod hyn yn rhywbeth sydd mor hawdd â gofyn iddo ddigwydd, ac y byddwch chi, trwy basio cynnig, wedi gwneud iddo ddigwydd? Dyna pam na all y Llywodraeth gefnogi'r cynnig y prynhawn yma.
Cafwyd rhai cyfraniadau difrifol i'r ddadl. Gwrandawais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Rhys ab Owen. Gwrandawais yn ofalus ar Alun Davies ac ar yr hyn a ddywedodd Mike Hedges, yn ei esboniad o gymhlethdod diwygio. Ond nid ydych chi'n sicrhau newid polisi a manteision sylweddol i Gymru trwy beidio â bod yn barod i wneud y gwaith caled sy'n sail iddo. Mae'r cynnig hwn yn wrthwyneb i hynny. Ni ddylai Aelodau ei gefnogi y prynhawn yma. Mae'n esgus y gallwch newid y byd drwy basio cynnig yn unig. Yn sicr ni allwch wneud hynny. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw'r hyn y mae'r Llywodraeth hon bob amser yn ei wneud—y gwaith gofalus, caled, amyneddgar o siarad, o ddadlau a gwneud yr achos ac yna cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
Diolch am y cyfraniadau i'r ddadl hon. Rwy'n falch o gael y cyfle i'w chloi. Dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet ei gyfraniad trwy ein cyhuddo o gael cynnig 'unrhyw beth y gallwch feddwl amdano'. Nid wyf yn ddigon hen i gofio'r Criss Cross Quiz ac yn ffodus felly—nid yw'n swnio'n ddiddorol iawn i mi. Ond os caf ddweud, os ydych chi'n galw hwn yn gynnig 'unrhyw beth y gallwch feddwl amdano', mae'r ffaith nad oes gennych unrhyw welliannau yn siarad cyfrolau—eich bod wedi rhedeg allan o bethau i'w dweud ac i alw amdanynt, eich bod yn hapus i adael y Senedd hon yn ddi-lais mewn proses a fydd yn penderfynu sut y caiff Cymru ei hariannu yn y dyfodol. Dylem fod yn unedig. Gallwch chi bob amser ddiwygio. Mae'n hawdd beirniadu. Diwygio—nid dileu popeth.
Os caf fyfyrio ar rai o'r pethau y dylem fod yn meddwl amdanynt. Ugain mlynedd yn ôl i yfory, pleidleisiodd llawer ohonom o blaid sefydlu'r Senedd hon. Cynhaliwyd y refferendwm hwnnw—
Wyth mlynedd ar hugain.
Wyth mlynedd ar hugain yn ôl. Ie. Mae'n ddrwg gennyf os dywedais yn wahanol. Wyth mlynedd ar hugain yn ôl, fe wnaethom bleidleisio dros y Senedd hon. Efallai fod rhai ohonom wedi pleidleisio yn erbyn. Efallai nad oedd rhai ohonom yn ddigon hen i bleidleisio. Ond 28 mlynedd yn ôl i yfory oedd hynny. Digwyddodd hynny fisoedd yn unig ar ôl yr etholiad ar 1 Mai 1997. Felly, pan geir ewyllys wleidyddol, gall pethau symud yn gyflym. Ond yr hyn a welsom yma yw diffyg parodrwydd i symud ymlaen yn llawer o'r meysydd hyn. Mewn gwirionedd, fe wrthodwyd symud ymlaen. Ar bethau fel datganoli Ystad y Goron, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet i ni fod yn amyneddgar gyda'r Llywodraeth Lafur, mai dim ond ychydig dros flwyddyn y maent wedi'i gael. Ond os oeddent yn gallu symud yn gyflym bryd hynny, pam na allant symud yn gyflym nawr ar lawer o'r meysydd hyn? Nid ydynt yn fodlon gwneud hynny—dim cynllun. Hefyd, fe gawsant 14 mlynedd fel gwrthblaid i roi'r cynlluniau hyn ar waith, i wneud y gwaith hwnnw. Pam na ddigwyddodd hynny?
Sam Rowlands, yn eich cyfraniad—rwy'n siomedig fod y Ceidwadwyr wedi cadarnhau eu cefnogaeth i'r cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau. Rwy'n credu bod Sioned Williams wedi dangos yn berffaith pam y mae tlodi'n gysylltiedig â dyfodol economi Cymru, a pham y mae tlodi'n costio mwy i'r pwrs cyhoeddus mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl bod eich plaid eisiau arbed arian i'r pwrs cyhoeddus. Ond na, mae'n edrych yn debyg eich bod chi'n hapus i blant yng Nghymru aros mewn tlodi, oherwydd mae'n bolisi creulon. Mae'n warthus ei fod wedi cael ei barhau gan Lywodraeth Lafur y DU. O ran cael cynllun economaidd credadwy hefyd—mae'n ddrwg gennyf, mae hynny'n chwerthinllyd. Mae'r ffaith eich bod wedi cael 14 mlynedd i ddiwygio fformiwla Barnett ac na wnaethoch hynny—mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi fyfyrio arno. Rwy'n falch iawn, Sioned, yn eich cyfraniad chi, eich bod wedi pwysleisio'r pwysigrwydd o safbwynt yr economi yma, oherwydd mae hynny'n mynd ar goll yn aml pan fyddwn yn siarad am gyfiawnder cymdeithasol a'r polisïau hyn. Dyna pam yr hoffem weld strategaeth tlodi plant yma yng Nghymru ag iddi dargedau mesuradwy, fel y gallwn weld cynnydd. Nid yw'r ffaith bod pethau'n gwaethygu yn helpu'r gyllideb Senedd hon, ac nid yw'n mynd i helpu cenedlaethau'r dyfodol.
Alun Davies, o ran undod, beth sydd orau i Gymru—rwy'n credu mai dyna graidd hyn. Bydd, fe fydd yna wleidyddiaeth dros y misoedd nesaf. Mae isetholiad ar y ffordd. Fe fydd yna ymgyrchu. Ond nid ydym yn gweld unrhyw ymgais o ran undod yma gan Lywodraeth Cymru. A'r hyn yr hoffwn ei ofyn, oherwydd mae'n amlwg nad ydym yn mynd i gael cefnogaeth unfrydol i'n cynnig heddiw, yw hyn: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i rannu gyda holl Aelodau'r Senedd beth yw eu ceisiadau yng nghyllideb yr hydref, beth ydych chi'n mynd i alw amdano, fel y gallwn ddeall beth yw'r galwadau hynny, ac er mwyn inni allu mesur, felly, pa mor llwyddiannus y mae'r galwadau hynny wedi bod? Beth ydych chi'n disgwyl ei weld yn cael ei gyflawni? Oherwydd dyna'r lleiaf y mae'r Senedd hon yn ei haeddu, a dyna'r lleiaf y mae pobl Cymru yn haeddu ei wybod. Oherwydd trwy ddileu popeth yn y cynnig a nodi'n unig fod cyllideb y DU yn digwydd, fel y dywedais o'r blaen, mae'n awgrymu bod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei wneud i Gymru, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ddylanwadu arnom. Mae angen inni gael y cyfle hwnnw. A byddwn hyd yn oed yn croesawu pe bai Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno dadl, fel y gallwn gael yr undod hwnnw. Os yw hynny'n rhywbeth y mae pobl o ddifrif eisiau ei weld, wel, sut y gallwn ni symud hyn yn ei flaen? Ac efallai fod hynny'n rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ei ystyried.
Ar y sylwadau eraill, Peredur Owen Griffiths, o ran sicrhau na chawn geiniog yn llai na'r hyn sy'n ddyledus i Gymru—nid wyf yn credu bod hwnnw'n gais afresymol, ac yn amlwg, mae llawer o bobl yng Nghymru yn cytuno â ni.
Mike Hedges, a rhai o'r pwyntiau a godwyd yno, rwy'n credu ei fod wedi dangos yn glir iawn pam y mae Ystad y Goron yn gweithio, a hoffwn eich annog i edrych ar beth sy'n digwydd yn yr Alban a'r refeniw y mae'n ei gynhyrchu. Nid yw'n wir o ran yr hyn y byddai'n ei olygu i Gymru, ac mae'n golygu y gallwn ei fuddsoddi'n wahanol. Hoffwn eich annog yn gryf i edrych ar hynny.
Gobeithio y gallwn gytuno y gallai pethau fod yn well i Gymru. Nid oes gennym yr adnoddau sy'n ddyledus i ni, yr adnoddau yr ydym yn eu haeddu, er mwyn gallu cyflawni dros bobl Cymru. Mae'n drueni nad yw Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru, trwy ddileu'r cynnig a dim ond nodi'r gyllideb, wedi cymryd rhan ddifrifol yn y ddadl hon. Rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud hynny yn y dyfodol. Mae angen inni wybod beth fydd galwadau Llywodraeth y DU, fel y gallwn weld a fydd Cymru yn cael cyllid teg. A oes partneriaeth mewn grym, neu a oedd hynny'n ddim mwy na geiriau i geisio ennill etholiad cyffredinol y DU? Oherwydd ar y foment, nid yw pobl Cymru'n gweld manteision cael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio hwnnw nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Yr unig eitem y byddwn yn pleidleisio arni heddiw yw eitem 7, dadl Plaid Cymru ar gyllideb hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - cyllideb hydref Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - cyllideb hydref Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies : O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - cyllideb hydref Llywodraeth y DU. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8973 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - cyllideb hydref Llywodraeth y DU. Cynnig wedi’i ddiwygio : O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen nawr at eitem 9, y ddadl fer. Symudaf nawr at y ddadl fer, a galwaf ar Cefin Campbell i siarad.
A wnaiff y rhai sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n ddistaw os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r ddadl fer heno, a dwi'n bwriadu rhoi munud o fy amser i Sioned Williams a Mabon ap Gwynfor.
Y teitl a roddais i'r ddadl fer hon yw 'Cau'r bwlch gwledig: iechyd menywod yng Nghymru'. Am lawer rhy hir, mae iechyd menywod wedi cael ei gamddeall, ei ddiystyru a'i danariannu. Ledled Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, mae cenedlaethau o fenywod wedi cael gwybod bod eu poen yn normal, eu symptomau wedi'u dychmygu, neu wedi cael eu hanwybyddu'n gyfan gwbl. O gyflyrau gynaecolegol i ludded cronig, mae iechyd menywod wedi cael ei ddadflaenoriaethu'n systematig, nid oherwydd diffyg tystiolaeth, ond weithiau oherwydd diffyg dealltwriaeth glinigol, ewyllys wleidyddol, cynrychiolaeth ac ymchwil.
Nawr, arweiniodd hyn at yr hyn y mae nifer bellach yn ei alw'n 'fisogynedd meddygol'. Mae pryderon iechyd menywod yn cael eu lleihau neu eu camddiagnosio fel rhai seicolegol, tra bod ymchwil glinigol yn parhau i ddibynnu'n helaeth ar fioleg dynion. Mae'r canlyniad yn rhy gyfarwydd: menywod yn aros am flynyddoedd am ddiagnosis, yn teithio pellteroedd hir i gael triniaeth, neu'n cael eu tawelu'n gyfan gwbl.
Mae cynllun iechyd menywod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y problemau hyn, ond yn fy marn i, nid yw'n cynnig unrhyw fesurau pendant i fynd i'r afael â'r mesurau systemig sy'n achosi hyn i fenywod. Nid oes unrhyw ymrwymiadau rhwymol i hyfforddiant hirdymor i glinigwyr, i archwilio nac i atebolrwydd.
Yn anffodus, dyw’r cynllun ddim yn mynd i'r afael â’r heriau penodol mae menywod yn eu hwynebu mewn ardaloedd gwledig. Mae'n sôn am wasanaeth ataliol, ond eto'n anwybyddu’r ffaith fod meddygfeydd ac adrannau damweiniau ac achosion brys gwledig yn cau, fod trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru yn sobor o wael, fod cysylltedd digidol yn annibynadwy, a seilwaith angenrheidiol yn annigonol. Mae'r rhain i gyd yn tanseilio argaeledd gwasanaethau ataliol trwy ddatgymalu mynediad at ofal.
Nid mater meddygol yn unig yw iechyd menywod. Mae'n sail i ffyniant economaidd, lles teuluol a chydlyniant cymunedol. Ac eto, yng nghefn gwlad Cymru, mae menywod yn wynebu clytwaith unigryw o rwystrau sy'n cyfyngu ar eu mynediad at ofal iechyd sylfaenol a gwasanaethau atgenhedlu. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gydnabod nad yr un atebion sydd eu hangen mewn ardaloedd trefol ag sydd eu hangen mewn ardaloedd gwledig—'one size doesn’t fit all' mor bell ag y mae iechyd menywod yn y cwestiwn ar draws Cymru.
Cymerwch drafnidiaeth gyhoeddus: mae diffyg cysylltiadau dibynadwy yn ei gwneud hi bron yn amhosibl cyrraedd clinig neu feddygfa. Mae'r cynllun yn sôn am arloesedd digidol, ond, mewn llawer o ardaloedd gwledig, mae cysylltedd yn rhy wael i'w ddefnyddio. Mewn rhanbarthau twristaidd fel Ceredigion, rhannau o sir Gâr, sir Benfro, mae menywod yn aml yn dibynnu ar waith tymhorol â chyflog isel, ac yn wynebu, hefyd, cyfraddau tlodi mor uchel â 34 y cant. Mae'r pwysau hyn yn achosi straen cronig ychwanegol at y straen y mae'r tlodi sylfaenol yn ei gynnig, canlyniadau iechyd gwaeth o ganlyniad i hynny, ac yn dyfnhau'r cylch dieflig sy'n gysylltiedig â thlodi gwledig.
Nawr, mae'r rhyngblethiad daearyddol dwfn rhwng tlodi ac anghydraddoldeb rhywedd yn gwneud iechyd menywod yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli nid yn unig yn fater clinigol ond yn un cymdeithasol ac economaidd. Mae prinder arbenigwyr a diffyg parhad gofal yn golygu bod menywod yn cael eu gadael i aros, i ddioddef a chael eu hanwybyddu.
Os caf gyfeirio at ddwy enghraifft benodol, sef endometriosis ac adenomyosis, maent yn effeithio ar un o bob 10 menyw, ond mae'r diagnosis yn cymryd naw mlynedd a 26 o ymweliadau â meddygon teulu ar gyfartaledd yn ardal Hywel Dda. Yn yr ardal honno, roedd disgwyl i un nyrs endometriosis ofalu am y rhanbarth cyfan. Pan aeth ar absenoldeb mamolaeth yn ddiweddar, ni ddarparwyd nyrs yn ei lle, gan ddatgelu bregusrwydd buddsoddiadau untro.
Yn anffodus, y tu ôl i'r ystadegau hyn mae bywydau go iawn. Fe wnaeth un fenyw ifanc, Emily—rwyf wedi dod i adnabod Emily yn dda dros y blynyddoedd diwethaf—ofyn am help dro ar ôl tro ar gyfer poen difrifol, ond cafodd ei diystyru gan feddygon a fynnai fod ei symptomau'n seicolegol. Cafodd ei hatgyfeirio am gymorth iechyd meddwl yn amlach nag y rhoddwyd archwiliadau meddygol iddi, a chafodd dabledi gwrth-iselder ar bresgripsiwn, er ei bod yn gwybod mai cyflwr corfforol oedd arni. Pan gafodd ei derbyn i'r ysbyty yn y pen draw, canfuwyd cyst 25 cm, a chafodd ddiagnosis o endometriosis cam 4, y math mwyaf datblygedig o'r clefyd. Ochr yn ochr â hyn, canfuwyd bod ganddi adenomyosis, a all achosi i'r groth chwyddo i dair gwaith ei maint arferol. Mae achos Emily yn dangos effaith ddinistriol oedi cyn cael diagnosis.
Os caf ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i siarad am fy merch fy hun, a ddioddefodd boen cronig am 13 mlynedd, ar ôl i'w symptomau gael eu hanwybyddu cyhyd fel poenau mislif arferol, ar un achlysur yn ystod apwyntiad gyda'i meddyg teulu yn sir Gaerfyrddin, dioddefodd drallod emosiynol. Yn hytrach nag archwilio ymhellach beth allai fod yn rheswm sylfaenol dros y boen erchyll roedd hi'n ei ddioddef, cynigiwyd cymorth iechyd meddwl iddi a thabledi parasetamol. Nid oes angen dweud mai meddyg gwrywaidd oedd y meddyg teulu. Nawr, byddai llawer o fenywod wedi rhoi'r gorau iddi, ond arweiniodd penderfyniad a dycnwch fy merch at gael diagnosis o adenomyosis mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru. Ond nid yw ei stori'n dod i ben yn y fan honno. Ar ôl trosglwyddo i bractis meddyg teulu yng Nghaerdydd, lle mae hi bellach yn byw, cafodd ei derbyn i'r ysbyty o'r diwedd ar gyfer laparosgopi. Fodd bynnag, mae'n ymddangos iddi gael diagnosis anghywir. Nid adenomyosis oedd arni ond endometriosis cam 4—cam 4. Felly, fel rhiant, roeddwn i'n flin ac yn siomedig iawn ei bod hi wedi cael cam ac wedi dioddef cymaint o boen diangen am gymaint o amser. Nawr, mae'n rhaid i bethau newid fel nad oes rhaid i bobl fel fy merch ac Emily, y cyfeiriais ati, a llawer o rai eraill y cyfarfûm â nhw dros y blynyddoedd diwethaf, ddioddef yn ddiangen.
Dyna pam, wrth i fi ddod â fy nghyfraniad i i ben, mae'n rhaid cael cydweithio cadarn ar draws Gweinidogion i sicrhau bod polisi cadarn gyda ni wrth symud ymlaen. Mae hefyd yn hanfodol cydnabod iechyd menywod y tu hwnt i atal cenhedlu hefyd—pethau fel clefydau awto-imiwn.
Yn y cyfamser, dyw cau a thorri gwasanaethau gwledig, o feddygfeydd teulu i unedau mân anafiadau, ddim yn helpu iechyd menywod o gwbl. Yn anffodus, yng Nghymru heddiw, mae cod post i fenyw yn aml yn penderfynu a yw hi'n derbyn gofal amserol neu'n gorfod dioddef yn dawel.
Felly, yn olaf, Weinidog, os caf ofyn: a fydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori dadansoddiad ar sail rhywedd ar draws pob maes polisi, gan gydnabod bod trafnidiaeth, cynllunio ac economeg wledig yn siapio iechyd menywod yn uniongyrchol? A wnewch chi ymrwymo hefyd i ddeddfwriaeth ar siarter iechyd menywod annibynnol i warantu atebolrwydd a newid systemig? Ac yn bwysicaf oll, a ydym yn mynd i symud y ffocws o'r diwedd o ddim ond cynnig apwyntiadau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd menywod tlawd—misogynedd meddygol, diffyg ymchwil a rhwystrau strwythurol mewn cymunedau gwledig? Oherwydd dim ond trwy fynd i'r afael â'r materion rhyng-gysylltiedig hyn y gallwn greu system gofal iechyd sy'n diwallu anghenion menywod, yn gwella canlyniadau iechyd ac yn rhoi diwedd ar yr anghydraddoldeb y mae menywod yn ei wynebu yng nghefn gwlad Cymru bob dydd. Diolch.
Diolch yn fawr, Cefin, am ddod â'r ffocws yma ar y mater yma. Dŷn ni wedi trafod llawer tro, onid ydyn ni, yn y Senedd, y gwahanol elfennau lle mae menywod yn profi anghydraddoldebau iechyd.
Un o'r elfennau sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun iechyd menywod newydd hir ddisgwyliedig yw hybiau iechyd menywod. Ac fe wnaethoch chi sôn fanna ar y diwedd am bwysigrwydd cydgysylltu gwasanaethau, a phwysigrwydd hefyd mynediad at wasanaethau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r hybiau yma yn rhywbeth sydd wedi cael eu cyflwyno yn y cynllun yn Lloegr, a dyna'r pennawd bras dwi'n ei gofio pan lansiwyd y cynllun: hybiau iechyd i bob rhan o Gymru. Roedd e'n swnio'n grêt. Felly, mae'r model yma yn Lloegr wedi derbyn £25 miliwn o fuddsoddiad i ddelifro gwasanaethau yn y gymuned. Maen nhw'n cael eu galw'n siopau un-stop ar gyfer iechyd menywod. Ond, o beth rŷn ni wedi'i glywed gan Cefin Campbell y prynhawn yma, mae'r mynediad yna i wasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn benodol, oherwydd cau gwasanaethau eraill a'r problemau trafnidiaeth ac yn y blaen, yn hyd yn oed yn fwy pwysig, onid yw e?
Felly, hoffwn i wybod mwy o fanylion am yn union beth fydd natur yr hybiau yma yng Nghymru. A fydd yna rhai o'r brics a morter yn ogystal â dod â gwasanaethau ynghyd efallai yn rhithiol ac yn ddigidol? Achos gallaf i ddweud wrthoch chi dyna beth mae'r menywod dwi'n siarad â nhw dirfawr angen eu gweld ac yn eu disgwyl gan y cynllun iechyd menywod yma o ran cael gwell fynediad at wasanaethau a chael arbenigwyr mewn un lle fydd wedi'u hyfforddi yn gywir ac yn eu credu nhw pan fyddan nhw'n ddweud bod gyda nhw rhywbeth sydd angen ei drin.
Mabon ap Gwynfor.
Mabon.
Diolch. A diolch i ti, Cefin, am y cyfraniad pwerus iawn yna. Mae llawer gormod o ferched yng Nghymru wledig yn cael eu siomi efo ein system iechyd—dyna'r gwir. Ac mae fy mhrofiad i yn fy nghymorthfeydd i yn dangos hynny, a'r straeon mae Cefin wedi sôn amdanyn nhw yn llawer iawn rhy gyffredin. Mae cyflyrau fel endometriosis a chanserau gynaecolegol eisoes yn cael eu dan-gydnabod, ond mae byw mewn cymuned wledig yn ychwanegu rhwystrau pellach i ferched sydd yn byw yna. Er enghraifft, mewn rhannau o ganol a gorllewin Cymru, mae nifer y bobl sydd yn manteisio ar sgrinio'r fron a sgrinio'r groth, yn enghraifft, yn llawer iawn is, nid oherwydd dydy merched yn yr ardaloedd yma ddim yn poeni am eu cyflyrau, ond oherwydd eu bod nhw'n methu cyrraedd y gwasanaeth yna. Mi all clinigau fod filltiroedd lawer i ffwrdd o'u cartrefi nhw, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl gyfyngedig a rhestrau aros yn hir iawn. Felly, dwi'n awyddus i glywed y Gweinidog, yn ei hymateb, yn sôn am sut mae'r Llywodraeth yn gweithio ar draws adrannau fan hyn, yn gweithio efo'r Gweinidog trafnidiaeth ac yn gweithio efo adrannau eraill, er mwyn sicrhau fod merched yn cael mynediad at wasanaethau yng Nghymru, a hynny ar fyrder. Diolch.
A galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Sarah Murphy.
Rwyf am ddechrau trwy ddiolch o galon i Cefin Campbell am gyflwyno hyn ar gyfer y ddadl fer heddiw. Rydych chi bob amser wedi hyrwyddo iechyd menywod, ac roeddwn i'n edrych yn ôl ar y cofnod, a bron i flwyddyn yn ôl i heddiw y codoch chi hyn ddiwethaf. Fe wnaethoch chi rannu profiad bywyd eich merch a menywod eraill, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ac rwy'n gobeithio heddiw, gyda'r ymateb rwy'n ei roi, y gallaf brofi i chi, yn ystod y naw mis diwethaf, ers cyflwyno'r cynllun iechyd menywod, fod gwahaniaethau enfawr wedi'u gwneud, a bod cymaint mwy i ddod, ac y byddwn yn cyflawni popeth y gwnaethom ymrwymo i'w wneud erbyn diwedd y tymor hwn.
Rwyf eisiau dweud wrth Cefin Campbell hefyd fy mod yn gwerthfawrogi'r cyfle i ailadrodd yr ymrwymiad sydd gennym—ac wrth Mabon hefyd, a Sioned. Mae iechyd menywod yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog; mae'r Prif Weinidog yma nawr. Roeddwn i'n falch iawn o ysgwyddo'r ymrwymiad a'r gwaith hwn a ddechreuwyd gan y Prif Weinidog, a gallaf eich sicrhau bod hyn bob amser ar ein hagenda pan fyddwn yn y Cabinet. Mae'n flaenoriaeth bendant i'n Llywodraeth. Oherwydd rydym ninnau hefyd yn glir fod yn rhaid inni newid a gwella'r ffordd y darparwn ofal iechyd i fenywod a merched yng Nghymru, fel y gallant gael mynediad ato mewn modd amserol, fel bod y GIG yn ymatebol i'w dewisiadau a'u hanghenion a bod ymchwil a datblygu yn adlewyrchu profiad bywyd menywod a merched. Ond ni ellir cyflawni hyn dros nos, ac mae'n galw am newid ffordd o feddwl, a newid enfawr, mewn gwirionedd, yn y diwylliant o fewn ein gwasanaethau iechyd.
Roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi cynllun iechyd menywod GIG Cymru ym mis Rhagfyr, a hefyd i gyhoeddi'r £3 miliwn o gyllid i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn unig. Rydym hefyd yn ariannu'r £3.7 miliwn o ymchwil ym maes iechyd menywod, gyda galwad bendant am ymchwil ar gyfathrebu mewn perthynas ag iechyd menywod, a lansiwyd ym mis Ebrill 2025. Felly, yn amlwg eto, y Prif Weinidog ar y pryd—gyda'r cyllidebau mor dynn, fe lwyddoch chi i ddod o hyd i'r £750,000 i fynd tuag at ymchwil menywod, sydd mor hanfodol. Ac yna, yn ogystal, bu modd iddynt ddenu £3 miliwn arall, sy'n wych.
Felly, roeddwn eisiau dweud bod y cynllun iechyd menywod yn uchelgeisiol, ond mae'n gynllun 10 mlynedd, ac rwy'n benderfynol o'i weld yn ysgogi gwelliannau gwirioneddol i iechyd a chanlyniadau menywod. Mae hynny'n golygu, unwaith eto, yn y cynlluniau tymor canolig integredig, yn yr ystafelloedd pwysig lle mae'r penderfyniadau ynghylch adnoddau'n cael eu gwneud yn y byrddau iechyd, fod iechyd menywod yn cael ei drafod yn yr ystafelloedd hynny ac yn cael ei fesur yn ôl y targedau a osodwyd gennym.
Fe fyddwch yn gwybod bod yr adroddiad darganfod a gyhoeddwyd yn 2022 wedi gosod y sylfeini ar gyfer datblygu'r cynllun, ac roedd bron i 4,000 o fenywod yng Nghymru yn dweud wrthym fod angen i ni newid. Lluniwyd y cynllun trwy waith partneriaeth gan y rhwydwaith iechyd menywod, ac roedd yn cynnwys 100 o gyfranwyr a enwyd o bob un o'r byrddau iechyd. Mae yna gefnogaeth go iawn—Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithrediaeth y GIG, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru hefyd. Roedd datblygiad a chyflawniad y cynllun yn wahanol i'r ffordd y gwnaethom y pethau hyn yn flaenorol, oherwydd ei fod yn cael ei arwain gan glinigwyr, pobl sy'n trin ac yn gweld menywod bob dydd. Mae'n eiddo i'r GIG ac yn cael ei ddarparu gan y GIG ar gyfer y GIG, a bydd hynny'n parhau.
Fe sonioch chi ar y dechrau am ewyllys y clinigwyr. Gallaf eich sicrhau'n bendant, Cefin Campbell, fod cymaint o ewyllys da allan yno. Mae cymaint o bobl yn ein GIG yn teimlo mor angerddol am hyn ac eisiau gweld newid. Rydym ni yno y tu ôl iddynt, yn rhoi'r ysgogiad a'r cyllid iddynt i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni hynny.
Mae'r cynllun iechyd menywod yn cynnwys wyth maes blaenoriaeth, a dros 60 o gamau gweithredu ar draws y tymor byr, canolig a hir. Cam gweithredu tymor byr allweddol yw datblygiad rhaglen fraenaru hyb iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Rwyf wedi cael cyfarfod y prynhawn yma i fynd drwyddo—mae pob bwrdd iechyd bellach wedi cyflwyno eu cynlluniau, eu ceisiadau a sut y mae pob un ohonynt yn mynd i ddefnyddio'r cyllid.
Sioned Williams, rwy'n gwybod eich bod wedi dweud bod menywod yn dweud y byddent yn hoffi lleoliad, siop un stop. Nid dyna beth rydym ni'n ei glywed. Ydy, mae hynny'n wir yn rhai o'r byrddau iechyd, ac mae'n debyg y bydd rhai o'r byrddau iechyd yn gwneud hynny, ond nid yw pob un ohonynt yn mynd i wneud hynny. Mae gan rai ohonynt wasanaethau gwych ar waith eisoes. Maent yn mynd i adeiladu ar hynny. Maent yn mynd i ychwanegu ato. Ond yn bennaf, yr hyn a glywn gan fenywod, a'r hyn a ddaeth drwodd yn yr ymchwil a wnaethom yn flaenorol, oedd bod menywod eisiau gweld y person gorau y gallant ei weld, arbenigwr yn eu maes, cyn gynted ag y gallant, mor agos at adref ag y gallant. Felly, ni fydd saith o hybiau iechyd menywod yn cael eu hadeiladu o anghenraid. Fe fydd yn adeiladu ar wasanaethau sydd yno'n barod, a lleoliadau sydd yno'n barod mewn rhai achosion hefyd.
Nid oes dull un maint i bawb o weithredu'r hybiau yng Nghymru, felly bydd angen i bob un o'r hybiau iechyd menywod ymateb i anghenion penodol y menywod yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac yn enwedig grwpiau ymylol o fenywod. Mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael mynediad at yr un safon o ofal, hyd yn oed os yw'n cael ei ddarparu'n wahanol yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chonwy, er enghraifft.
Mae tri maes blaenoriaeth wedi'u pennu ar gyfer yr hybiau, eto trwy'r menywod a ymatebodd. Roeddent eisiau iddynt gwmpasu iechyd mislif, atal cenhedlu a menopos. Nid yw hyn yn golygu na wneir cynnydd mewn meysydd blaenoriaeth eraill. Felly, bydd endometriosis ac adenomyosis, er enghraifft, yn cael eu cynnwys yn rhan o iechyd mislif yr hybiau. Ac yn onest, daeth llawer o hynny trwy'r ymgyrchu a'r hyrwyddo y mae llawer ohonoch chi, a llawer o bobl wedi'i wneud ar ran y meysydd hynny.
Ond hefyd, roedd camau gweithredu ar endometriosis yn cynnwys datblygu a chodi ymwybyddiaeth o wefan Endometriosis Cymru, a darparu'r hyfforddiant a'r addysg i bob ymarferydd gofal iechyd. Felly, un o'r pethau mwyaf llwyddiannus a wnaethom, yn ystod y naw mis diwethaf yn unig, yw bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn cyflwyno hyfforddiant endometriosis i feddygon teulu, ond yr hyn a welwn hefyd yw os yw pobl yn gweld rhywun mewn gofal eilaidd ac yna'n cael eu cyfeirio yn ôl at eu meddyg teulu, fod y meddygon ymgynghorol gofal eilaidd yn siarad â'r meddygon teulu wedyn am y llwybr ar gyfer y dyfodol, fel nad yw pobl yn teimlo mai dim ond cael eu trosglwyddo'n ôl i ofal sylfaenol y maent. Felly, ceir y math hwnnw o ddysgu ac rydym eisiau gweld hynny'n cael ei gyflwyno ledled Cymru.
Ac fel y gwyddom, rydym wedi ariannu'r nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd. Ac os caf ddweud, Cefin Campbell, nid cyllid tymor byr oedd hwnnw; roedd yn ymrwymiad a wnaethom, ac a wnaed cyn fy amser i, oherwydd roeddem yn sylweddoli bod gwir angen hyn. Rwyf hefyd wedi gwirio gyda Hywel Dda, a'r bwlch hwnnw. Rydych chi'n iawn, roedd yn anodd gallu darparu arbenigwr endometriosis i lenwi'r bwlch yn ystod y cyfnod mamolaeth dan sylw. Fodd bynnag, caf fy sicrhau, ac rwyf wedi gweld dadansoddiad o beth yn union sy'n mynd i gael ei roi ar waith yn lle hynny, a bydd arbenigwyr gynaecolegol yn gallu llenwi'r bwlch hwnnw yn y cyfamser. Felly, rwyf eisiau eich sicrhau chi o hynny.
Yn gynnar fis nesaf, rwy'n cyfarfod â'r rhwydwaith gweithredu clinigol gynaecoleg. Ar sawl achlysur, mae Delyth Jewell wedi dwyn mater poen menywod a normaleiddio poen ym maes iechyd menywod i fy sylw. Ac felly, un o'r pethau allweddol yw fy mod i eisiau mynd i gyfarfod â'r rhwydwaith fy hun a siarad â nhw am hyn, a thrafod y gwaith y maent yn ei wneud ar hyfforddi mwy o glinigwyr i gyflawni triniaethau hysterosgopi, a thrafod gwasanaethau endometriosis a'r cymorth a gynigir i fenywod. Mae hynny hefyd yn mynd i ddigwydd yn Hywel Dda; clinigydd yn Hywel Dda yw Dr Helen Munro.
Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r rhwydwaith iechyd menywod, y rhwydwaith gweithredu clinigol gynaecoleg, a'r cyd-bwyllgor comisiynu, i ddatblygu gwasanaethau arbenigol ar gyfer gofal endometriosis trydyddol, a ddylai arwain at leihad mawr yn yr amser aros sydd gennym.
Ac rydym wedi ymrwymo i wrando ar fenywod, ac mae cyfres o ddigwyddiadau cydgynhyrchu wedi digwydd i gefnogi sefydlu hybiau'r rhaglen fraenaru. Disgwylir i fyrddau iechyd wrando ar lais menywod wrth ddatblygu eu gwasanaethau a gweithrediad y cynllun yn lleol. Ac wrth gwrs, nid yr hybiau yw'r unig ffordd y bydd y cynllun iechyd menywod yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella gwasanaethau. Mae camau eraill yn y cynllun yn cynnwys gwaith ar safoni a lleihau amrywiadau rhwng llwybrau clinigol, modelau gwasanaeth a phrosesau.
Rwy'n credu hefyd fod systemau digidol yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd, trwy sicrhau bod pob menyw, ble bynnag y bônt yn byw neu beth bynnag y bo'u statws economaidd-gymdeithasol, yn cael gofal cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth. A bydd y systemau hyn yn ymgysylltu â menywod fel partneriaid gweithredol yn eu gofal iechyd eu hunain. Ac mae hyn yn dechrau gyda darparu gwybodaeth gywir a dibynadwy. Felly, mae gennym wefannau Mislif Fi ac Endometriosis Cymru eisoes, ac erbyn hyn mae gwaith ar y gweill i ddatblygu gwefan iechyd menywod i ddarparu mynediad at wybodaeth o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Aeth tudalen lanio'n fyw ddiwedd mis Mawrth, gyda thudalennau wedi'u halinio ag wyth blaenoriaeth y cynllun iechyd menywod.
Mae byrddau iechyd hefyd yn defnyddio systemau digidol i wella gwasanaethau. Felly, er enghraifft, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn datblygu llwybr iechyd y pelfig cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer yr achosion o gyflyrau iechyd y pelfis ym mhob rhywedd a chyfnod mewn bywyd. Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am y cysylltedd, a byddaf yn codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, er mwyn gallu siarad trwy hyn. Ond ar hyn o bryd, mae Hywel Dda yn cyflwyno cefnogaeth ddigidol, ac mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn dda. Ac unwaith eto, weithiau mae menywod eisiau dod i leoliad, ond weithiau maent eisiau gallu siarad â rhywun ar-lein, ac mae hynny'n gweithio'n dda iawn. Hefyd, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, maent wedi bod yn defnyddio systemau digidol i wneud gwelliannau i'w gwasanaethau menopos arbenigol, er enghraifft. Felly, maent yn cynnig cyfuniad o glinigau rhithwir ac wyneb yn wyneb yn eu tri phrif safle ysbyty. Bellach, maent hefyd yn archwilio cyflwyno sesiynau rhithwir gyda meddygon teulu i gefnogi adolygiad clinigol o achosion a chynnig cyngor arbenigol lle bo hynny'n briodol, fel y gellir gwneud mwy yn agosach at adref.
Felly, rwy'n hyderus ein bod ar y llwybr cywir i sicrhau bod mwy o fenywod yn cael gwell gofal iechyd ac rydym yn targedu rhai o'r anghydraddoldebau gofal iechyd parhaus sy'n effeithio ar fenywod. Mae'n bwysig cydnabod maint y newid sydd ei angen, felly nid wyf yn mynd i danamcangyfrif hynny, ac mae'r anghydraddoldebau gofal iechyd yn ystyfnig, yn hirdymor, ac wedi'u gwreiddio yn ein cymdeithas gyfan. Ac rydym o ddifrif yn mynd i fynd i'r afael â nhw ym maes iechyd yng Nghymru. Felly, dim ond i ddweud eto fod yna ewyllys clinigol yn bendant, mae yna benderfyniad gwleidyddol yma, ac rwyf am sicrhau pawb ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau'r newid ystyrlon hwnnw.
Ond ar eich tri phrif gwestiwn, ar ddadansoddiad ar sail rhywedd a'r siarter, mae arnaf ofn na allaf wneud penderfyniadau ar ran Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd i wneud yr ymrwymiad hwnnw yma i chi heddiw, ond mewn rhannau o fy mhortffolio fel iechyd meddwl a lles a niwroamrywiaeth, gallaf eich sicrhau bod dadansoddiad ar sail rhywedd yno bob amser. Ac mae ar draws ein Llywodraeth yn ei chyfanrwydd oherwydd ein bod yn credu'n llwyr mewn cydraddoldeb a gwerthoedd, a dyna beth a wnawn. Ar y rhwystrau strwythurol, fel y dywedais, byddaf yn trafod y meddygon teulu gyda'r Ysgrifennydd iechyd, y cysylltedd gydag Ysgrifennydd yr economi, a gobeithio fy mod wedi gallu eich sicrhau heddiw ein bod ni mewn cwta naw mis wedi gwneud llawer iawn ac fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn sicr yn darparu'r hybiau a byddant yn dechrau dod yn weithredol yn gynt o lawer—a sawl un cyn y Nadolig, gobeithio. Ond byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom i gael un ym mhob bwrdd iechyd erbyn diwedd y tymor hwn. Diolch.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.