Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/07/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, dwi'n moyn hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 10 Gorffennaf. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

Gwasanaeth Cludo Cleifion

1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys? OQ63017

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal iechyd drwy weithredu ymarferol gwirioneddol. Yn ogystal â'r £22 miliwn yr ydym ni'n ei wario ar gerbydau newydd i foderneiddio fflyd cludo cleifion gwasanaeth ambiwlans Cymru, rydym ni hefyd yn rhoi £2.5 miliwn i'r gwasanaeth achosion nad ydynt yn rhai brys, i helpu i atgyfnerthu capasiti gyda'r nos ac ar benwythnosau, i helpu mwy o bobl i gyrraedd eu hapwyntiadau yn brydlon. 

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae cartrefi gofal, fel yr wyf i'n siŵr y gallwch chi ei werthfawrogi, yn dibynnu'n fawr ar y gwasanaeth o ran cael preswylwyr i apwyntiadau meddygol pwysig ac yn ôl. Rwyf i wedi bod yn siarad ag un cartref gofal yn Nwyrain De Cymru am y gwasanaeth hwn, a oedd yn gwbl hanfodol iddyn nhw. Prif Weinidog, yn ystod y mis diwethaf yn unig, mae mwy na 60 y cant o'r teithiau a drefnwyd ymlaen llaw gan y cartref gofal naill ai wedi cael eu canslo ar yr un diwrnod, heb ymddangos o gwbl neu wedi cyrraedd yn hwyr, gan arwain at breswylwyr yn methu eu hapwyntiadau. Gan nad oes gan y cartref gofal ei gludiant ei hun, nid ydyn nhw'n gallu datrys hyn pan fyddan nhw'n cael eu gadael i lawr. Rwy'n sylweddoli efallai fod y gwasanaeth yn cael trafferth gyda'r galw ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n dod yn ddigwyddiad eithaf cyffredin, ac mae trigolion yn methu sylw meddygol hanfodol. Bu achlysuron lle mae'r gwasanaeth wedi darparu tacsis yn hytrach nag ambiwlans. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r mater hwn i sicrhau nad yw trigolion yn cael eu siomi yn y dyfodol? Ac a wnewch chi nodi os gwelwch yn dda pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel cartrefi gofal os oes prinderau staff neu broblemau gyda cherbydau sy'n golygu na all taith sydd wedi'i threfnu gael ei chyflawni? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Ac rydych chi yn llygad eich lle—rydym ni'n ymwybodol o hyn, a dyna pam wnaethom ni roi £400,000 ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r mathau hynny o broblemau. A'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw, yw gostyngiad o 60 y cant i'r ceisiadau am gludiant sy'n cael eu gwrthod oherwydd problemau capasiti. Felly, rydym ni'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod hefyd bod y cyfrifoldeb yn mynd y ddwy ffordd, fodd bynnag. Felly, cafodd 70,000 o deithiau eu canslo ar y diwrnod teithio gan gleifion. Wrth gwrs, rwy'n deall ei bod hi'n annhebygol mai'r cartrefi gofal yw'r rhain, ond y pwynt yw bod y bobl hynny wedi trefnu eu taith ac, yn sydyn, nid yw'r slotiau hynny ar gael i'w defnyddio gan gartrefi gofal. Felly, mae'n bwysig, pan fydd pobl yn manteisio ar y gwasanaethau yr ydym ni'n eu rhoi, eu bod nhw'n rhoi rhybudd os ydyn nhw'n bwriadu canslo. Nod gwasanaeth ambiwlans Cymru yw rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i gleifion os na allan nhw gyflawni eu taith. Felly, ceir cyfrifoldeb ar bob ochr yma. Yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi canoli gwasanaethau yn ysbyty'r Faenor yng Ngwent ac mae hyn yn darparu lefel lawer uwch o ofal nag oedd yn bosibl gynt, ac rwy'n credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r lefelau gofal sy'n cael eu darparu yn yr ysbyty newydd. Fodd bynnag, mae mynediad at yr ysbyty hwnnw yn anodd i bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi rhoi ymrwymiad y bydd cludiant yn cael ei ddarparu, naill ai drwy fysiau neu drwy ddulliau eraill, i bobl sy'n ymweld â'r ysbyty i gael gofal, neu ar gyfer ymweld â phobl sy'n derbyn gofal yn yr ysbyty. Ond, bum mlynedd yn ddiweddarach, nid oes gennym ni'r mynediad a'r cyfleusterau, a'r cludiant sydd eu hangen i bobl gael mynediad rhwydd at wasanaethau yn y Faenor. A fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi ymrwymiad nawr y byddwch chi'n edrych ar gaffael gwasanaethau, fel gwasanaeth Fflecsi, i sicrhau bod y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn gallu cael mynediad at lefelau uchel o ofal a hefyd i ofalu am berthnasau sy'n derbyn gofal eu hunain?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai'r hyn y dylem ni i gyd fod â diddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y canlyniadau gorau posibl i bobl. Ac os yw hynny'n golygu gorfod teithio i wasanaethau mwy arbenigol weithiau, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn derbyn hynny. Ond rwyf i yn credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod wedyn bod pobl sy'n ei chael hi'n anodd eu cyrraedd nhw, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n camu i mewn. Rwy'n gwybod y bu llawer iawn o waith gyda gwasanaethau bysiau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi gwell mynediad at y Faenor. Bydd hynny'n llawer haws ar ôl i ni basio'r Bil bysiau, fel y bydd gennym ni ychydig mwy o reolaeth ar le mae'r llwybrau bysiau hynny yn mynd. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n mynd i fod yn newid pwysig. Ond, hefyd, rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi, oherwydd yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth Lafur y DU, ein bod ni wedi gallu dweud ein bod ni'n mynd i ddarparu 200,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol ledled Cymru nawr. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei gydnabod yw y gallai rhai pobl gael trafferth yn cyrraedd yno, a dyna pam rydym ni wedi cyfrannu'r arian ychwanegol hwn i gefnogi cludiant ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, yn enwedig ar benwythnosau a fin nos, pan fydd y gwaith ychwanegol hwn yn digwydd mewn gwirionedd.

13:35
Yr Eisteddfod Genedlaethol

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod y digwyddiad yn Wrecsam eleni yn gynaliadwy yn amgylcheddol? OQ63020

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Wrecsam ac rydym ni fel Llywodraeth yn falch iawn o fod yn ei chefnogi, nid yn unig fel dathliad o ddiwylliant Cymru, ond hefyd fel model ar gyfer dyfodol gwyrddach. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, fel y gwyddoch, mewn trenau newydd. Rydym ni wedi gwario £800 miliwn ar uwchraddio rheilffyrdd, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a phartneriaid lleol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cynnig gwasanaethau rheilffordd ychwanegol i hyrwyddo teithio gwyrddach.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae i'w groesawu'n fawr bod Trafnidiaeth Cymru wedi sicrhau bod y rhai sy'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus nid yn unig yn Wrecsam ei hun, ond y rhai sy'n dod o ymhellach i ffwrdd. Mae'n gwbl hanfodol bod y digwyddiadau mawr niferus y byddwn ni'n eu gweld dros yr haf, yn enwedig ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n derbyn cymorth Llywodraeth Cymru, yn amgylcheddol gynaliadwy. Felly, a allwch chi fy sicrhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a threfnwyr yr Eisteddfod i leihau gwastraff, i gael bwyd lleol ac organig, i ddewis deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar ar gyfer eu harwyddion, i ddarparu mannau ail-lenwi dŵr am ddim, ac i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ymhlith mentrau eraill?

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n gwybod mai Eisteddfod Rhondda Cynon Taf oedd yr Eisteddfod wyrddaf erioed, ac rwy'n gwybod bod gan Wrecsam gynlluniau i adeiladu ar hynny. Eu cynllun hirdymor, a dweud y gwir, erbyn 2030, yw bod yr ŵyl sero net gyntaf yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r mathau o fentrau a welsant ym Mhontypridd ar waith. Mae'r gwasanaethau trafnidiaeth ychwanegol hynny—pedwar gwasanaeth trên ychwanegol, ym mhob cyfeiriad, ar gyfer Wrecsam—yn mynd i fod yn bwysig. Bydd bysiau gwennol hefyd i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd yn ôl ac ymlaen. Ond, hefyd, bydd 400 o leoedd parcio beiciau. Felly, mae yna anogaeth wirioneddol yma i wneud yn siŵr bod pobl nid yn unig yn mynd i'r Eisteddfod, ond yn mynd iddi mewn ffordd na fydd yn niweidio'r amgylchedd.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad diwylliannol hanfodol ac rwy'n croesawu ei dychweliad i Wrecsam eleni. Mae'n ddathliad pwysig o'r Gymraeg, a threftadaeth a hunaniaeth Cymru, ac mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r wlad. Mae mentrau diweddar fel y grant gwerth £900,000 i gastell Margam ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni a hygyrchedd, sy'n ganmoladwy. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yr oeddwn i ynddi ddydd Gwener yr wythnos diwethaf—a chefais y pleser o gyfarfod â gweddw Luciano Pavarotti, gan ei bod yno i nodi 30 mlynedd ers i'r cantor enwog ganu yno ddiwethaf, ym 1995—wedi sicrhau cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi gweithrediadau cynaliadwy, gan sicrhau nad yw digwyddiadau diwylliannol yn rhoi baich ar drethdalwyr. Mae'r camau hyn yn dangos ymrwymiad i gyfrifoldeb cyllidol, tra'n cynnal ein traddodiadau. Er fy mod i'n cefnogi trawsnewidiad cynaliadwy yn y sector diwylliant, nid ydym eisiau i ddigwyddiadau diwylliannol gael eu llyffetheirio gan fiwrocratiaeth. Gyda llawer o glybiau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol yn crefu am arian, mae'n bwysig sicrhau ei fod yn cael ei flaenoriaethu yn y ffordd iawn a'u bod nhw'n cael y cyllid ar gyfer y pethau y maen nhw'n gofyn amdanyn nhw mewn gwirionedd. Felly, sut wnaiff y Prif Weinidog sicrhau bod ymdrechion i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod yn amgylcheddol gynaliadwy yn cael eu cydbwyso â'u hanghenion ariannol eraill ac nad ydyn nhw'n dod ar draul pethau eraill, fel ei huchelgais craidd o gynnal a dathlu ein treftadaeth Gymreig?

Diolch yn fawr iawn. Does dim angen i mi berswadio'r Eisteddfod i wneud hyn; maen nhw'n awyddus iawn i'w wneud fel uchelgais drostyn nhw eu hunain. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi cymorth ar waith, ac mae hynny'n cynnwys £1.25 miliwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydym ni wedi gweld cynnydd o £250,000 eleni o'i chymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, a'r newyddion gwych yma yw y bydd £200,000 o hynny yn galluogi'r Eisteddfod i ddarparu mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o falch ohono yn Llywodraeth Lafur Cymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Prif Weinidog, heddiw mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi ei chynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig. Daw fwy na 18 mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun blaenorol, cynllun a luniwyd gan Lafur a Phlaid Cymru fel rhan o'ch cytundeb cydweithio, a chynllun a fyddai wedi dinistrio ein diwydiant amaethyddol. Yn ôl amcangyfrifon eich Llywodraeth eich hun, byddai'r cynllun blaenorol hwnnw wedi arwain at golli 5,500 o swyddi, ergyd o £200 miliwn i'r economi wledig, gostyngiad o gannoedd o filoedd o dda byw, a tharged plannu coed fesul fferm chwerthinllyd ac afrealistig. Does dim rhyfedd bod y cynllun cychwynnol hwnnw gan Lafur a Phlaid Cymru wedi arwain at y brotest fwyaf a welodd y Senedd hon erioed. Ac yn briodol, fe wnaethoch chi ildio i'r pwysau a chyhoeddwyd adolygiad. Ond yr hyn nad yw wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r cynllun newydd heddiw yw asesiad effaith economaidd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o swyddi fydd yn cael eu colli oherwydd y cynllun newydd hwn? Beth fydd yr ergyd ariannol i'r economi wledig? A pham ydych chi'n aros tan fis Medi i gyhoeddi asesiad effaith economaidd llawn o'r cynllun?

Wel, rwy'n falch iawn ein bod ni heddiw yn cyhoeddi'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r Dirprwy Brif Weinidog am y gwaith anhygoel y mae wedi ei wneud dros fisoedd a misoedd a misoedd, yn siarad, ac yn gwrando, yn bwysicach fyth, ar yr holl bobl dan sylw. A'r hyn y bydd gennym ni yw cynllun o'r radd flaenaf sy'n unigryw yn y byd. Mae gennym ni ddull fferm gyfan. Dyma'r unig un yn Ewrop, yn sicr, lle byddwn ni'n gweld y cydbwysedd rhwng yr anghenion i wneud yn siŵr bod gennym ni fwyd o ansawdd, safonau lles anifeiliaid uchel, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Yr holl ddull hwnnw yw'r union beth yr oeddem ni'n chwilio amdano. Rydym ni wedi gwrando ar y gymuned amaethyddol. Rydym ni'n cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud at ein cenedl nid yn unig o ran yr economi, ond o ran y materion ehangach hynny fel yr amgylchedd, fel y cyfraniad at ein heconomi dwristiaeth.

O ran yr asesiadau effaith, bydd dull canllaw cyflym ar gael, fel y bydd pobl yn gallu mewnbynnu eu hamgylchiadau penodol cyn Sioe Frenhinol Cymru a byddan nhw'n gallu asesu sut mae'n effeithio arnyn nhw. Rwy'n credu mai dyna lle bydd y diddordeb, a bydd hynny'n dod i'r amlwg yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, ceir cyfle yno i bobl weld yr effaith arnyn nhw. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn dod yn rhoi eu cefnogaeth i hyn ar ôl cryn dipyn o wrando a dysgu. Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny, Darren. Rwy'n credu bod hynny'n beth da, ond rwy'n credu yn ôl pob tebyg y dylech chi fynd yn ôl at eich etholwyr a'r bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli a cheisio esbonio iddyn nhw pam wnaethoch chi geisio rhwystro'r arian ychwanegol yr oeddem ni wedi ei gyfrannu at hyn, oherwydd rydym ni'n cyfrannu'r un swm ag o'r blaen. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i chi ei esbonio i'ch etholwyr, oherwydd rydym ni'n falch iawn o'r cynnig yr ydym ni'n ei roi ar y bwrdd.

Nid yw'r ffermwyr yn fy etholaeth i a'r etholaethau a gynrychiolir yn y Siambr hon eisiau canllaw cyflym, maen nhw eisiau gwybod a yw eu swyddi yn y fantol ac a oes cyfle o hyd iddyn nhw wneud bywoliaeth dda. Rydych chi'n dweud bod eich cynllun yn unigryw yn y byd, a'r gwir amdani yw ei fod, oherwydd nid yw hyd yn oed yn sôn am y term 'diogeledd bwyd' drwy'r ddogfen gyfan. Nid yw'n cael ei grybwyll hyd yn oed unwaith, oherwydd nid ydych oes unrhyw ots gennych chi o gwbl am ddiogeledd bwyd, Prif Weinidog. Mewn cyferbyniad, mae'r gair 'amgylchedd' yn cael ei grybwyll bron i 80 o weithiau. Mae eich cynllun yn dal i fod eisiau aberthu ardal hanner maint Bro Morgannwg i blannu coed. Ac yn ddiweddar, gwelsom Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn argymell gostyngiad o 19 y cant i niferoedd da byw, rhywbeth y mae fy mhlaid i yn ei wrthod. A allwch chi ddweud wrthym ni pam nad oes unrhyw sôn am y term 'diogeledd bwyd' yn nogfen eich cynllun newydd? Pam ydych chi'n dal yn barod i aberthu ardal o 17,000 erw, hanner maint Bro Morgannwg, i goed? Ac a ydych chi'n derbyn yr argymhelliad ofnadwy hwnnw gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU o ran gostyngiad o bron i 20 y cant i niferoedd da byw? 

Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw ein bod ni yn y sefyllfa hon oherwydd i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd llawer o bobl, gan eich cynnwys chi, a ddadleuodd dros y pwynt hwnnw. Mae hyn yn ganlyniad. Roedd yn rhaid i ni greu—[Torri ar draws.] Roedd yn rhaid i ni greu—

13:45

Rwyf i angen clywed ymateb y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda. A allwn ni ddangos rhywfaint o barch i'r Prif Weinidog a gwrando ar yr hyn sydd ganddi i'w ddweud?

Roedd yn rhaid i ni greu cyfundrefn newydd gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros gyfundrefn newydd, gan gynnwys llawer o ffermwyr, a oedd yn awyddus iawn i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom ni ei gwneud yn eglur iddyn nhw cyn y bleidlais honno y byddai canlyniadau, ac mae hyn yn rhan o'r ail-negodi sydd wedi digwydd o ganlyniad i Brexit.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni wedi gwrando, y bydd manteision amgylcheddol mawr. Rydym ni'n gwybod bod ffermwyr o ddifrif iawn am yr amgylchedd. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n hyperymwybodol o'r cyfnod sych iawn yr ydym ni wedi bod drwyddo yn ddiweddar a sut mae hynny'n effeithio arnyn nhw, sut mae angen iddyn nhw wneud y buddsoddiadau hirdymor hyn. Ac maen nhw'n ymwybodol, yn fwy na neb, o effaith newid hinsawdd. Rydym ni'n gofyn iddyn nhw ein helpu ni i wneud cyfraniad at fynd i'r afael â mater newid hinsawdd, ac rwy'n credu bod plannu coed yn gyfraniad pwysig. Bydd ffermwyr yn dewis y goeden iawn yn y lle iawn, a byddwn ni'n cynnig cymhellion ar gyfer plannu cynnar, y gyllideb a'r cyngor, a byddwn yn rhoi canllawiau i ffermwyr gyda hynny. Ond nid ydym ni'n mynd i ymddiheuro am y ffaith ein bod ni eisiau gweld rhywfaint o blannu coed. Ond bydd yn fwy hyblyg na'r hyn a awgrymwyd i ddechrau.

Prif Weinidog, mae gan ffermwyr Cymru fwy o ddiddordeb mewn diogeledd bwyd a diogelwch eu swyddi, a dweud y gwir, ac mae'n drueni nad yw'r naill na'r llall o'r pethau hynny yn cael ei grybwyll yn y ddogfen. Mae ffermwyr yn haeddu gwybod faint o'u swyddi y mae eich Llywodraeth yn barod i'w haberthu. Pe bai hwn yn unrhyw ddiwydiant arall, byddech chi'n gynddeiriog, a hynny'n gwbl briodol, ond nid yw'n ddim ond datganiad o ffaith nad yw'n ymddangos bod ots gennych chi am ein ffermwyr.

Gadewch i ni siarad am y cyhoeddiad cyllideb yr ydych chi wedi ei wneud heddiw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid y byddai pob cyllideb adrannol yn cael cynnydd yn unol â chwyddiant y flwyddyn nesaf—pob un adran. Ac eto, heddiw, mae eich Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn cadw'r gyllideb taliad ffermio cyffredinol ar £238 miliwn, yn union yr un fath ag y mae eleni—wedi'i rewi, heb unrhyw gynnydd—sydd, i bob pwrpas, yn golygu ei fod yn mynd i fod yn doriad mewn termau real. Mae gennych chi arian—[Torri ar draws.] Mae gennych chi arian i'w wario ar blannu coed yn Uganda, ond nid yw'n ymddangos bod gennych chi arian i'w fuddsoddi yn ein ffermwyr ni yma yn ein gwlad ein hunain. Pam, Prif Weinidog, mai ffermio yw'r unig gyllideb sy'n mynd i gael toriad termau real, a pham mae eich Llywodraeth Lafur yn casáu ffermwyr cymaint?

Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rydym ni'n cyfrannu'r un swm o arian—a dweud y gwir, mwy o arian nag yr oeddem ni o'r blaen. Gadewch i ni atgoffa pawb nad oeddech chi'n cefnogi'r cyfrannu'r arian ychwanegol hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod arian ychwanegol yno—dim diolch i chi. Gadewch i ni fod yn eglur, nid dyna'r cyfan: dim ond yr arian ar gyfer taliad cyffredinol yw hwnnw. Bydd arian ychwanegol ar gyfer y dulliau dewisol a chydweithredol. Felly, mae'n bwysig cydnabod bod hynny'n un rhan o'r rhaglen.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nawr, a yw Cymru yn genedl a allai ffynnu yn rhedeg ei materion ei hun fel cynifer o genhedloedd tebyg eraill? Os ydych chi'n credu ym mhotensial Cymru a'i phobl fel yr wyf i, mae'r ateb yn 'ydy' amlwg. Siawns ei fod yn gwestiwn y dylai pob Prif Weinidog ateb 'ydy' iddo—sut all unrhyw Brif Weinidog ddim credu ym mhotensial eu cenedl? Nawr, cytunodd y Prif Weinidog diwethaf ond un, sydd bellach yn Ysgrifennydd cyllid, ei bod hi'n berffaith ymarferol i Gymru fod yn annibynnol; nid oedd yn meddwl ei fod yn ddymunol, dyna'r cwbl, ac mae'n rhaid i mi anghytuno ag ef am hynny. Ond pa mor ddigalon ac eto siomedig o ragweladwy oedd hi pan ofynnwyd y cwestiwn 'A allai Cymru ymdopi?' i'r Prif Weinidog presennol, ar bodlediad News Agents, ac mai'r ateb oedd 'na allai'. 'Byddai Cymru'n eithriadol o dlawd', meddai. Ond, wrth gwrs, nid yw Cymru rywsut yn dlawd yn anochel. Cofiwch fod ein sefyllfa bresennol yn ganlyniad uniongyrchol i'n lle sefyllfa o fewn y DU. Mae torri'n rhydd o'r cylchoedd hynny o farweidd-dra economaidd, o ormod o deuluoedd yn byw mewn tlodi, yn eithaf anodd pan fydd Llywodraethau San Steffan olynol yn methu â mynd i'r afael â'r mater o gyllid teg, yn tanariannu trafnidiaeth, fel y gwnaethon nhw eto yn ddiweddar gyda rheilffyrdd, yn gwadu'r pwerau dros ein hadnoddau naturiol i ni ac yn y blaen. Mae'n ymddangos, o dan Lafur, yn yr un modd â'r Ceidwadwyr, mai 'na chewch' yw ateb San Steffan i Gymru bob amser. Felly, does dim rhyfedd bod mwy a mwy o bobl yn dweud 'ydym' i fod eisiau mwy o lais dros ein dyfodol ein hunain, gyda datganoli estynedig yn lleiafswm absoliwt, fel datganoli cyfiawnder—

13:50

Rwy'n mynd i fod angen cwestiwn gennych chi, Rhun ap Iorwerth.

—y dywedwyd wrthym ni'n eglur ddoe nad oedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, wrth gwrs.

Mae pob dangosydd yn dangos bod amser yr undeb yn dod i ben. Felly, pam nad yw'r Prif Weinidog yn credu yng Nghymru?

Gallaf ddweud wrthych chi nad oes neb sy'n credu yng Nghymru mwy nag yr wyf i. Mae gen i ddraig goch yn rhedeg drwy pob pibell waed fach yn fy nghorff. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi—yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi—yw ein bod ni o ddifrif iawn am fod yn gadarnhaol am y wlad hon ac am ei hyrwyddo, a dyna'r hyn nad ydym ni'n ei gael gan Blaid Cymru. Mae'n ddiddorol, onid yw? Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i fynd ymlaen i ddweud, 'A dyna pam rydym ni'n credu mewn annibyniaeth, dyna pam y byddwn ni'n bwriadu gwneud hynny yn y tymor nesaf.' Dydych chi ddim yn dweud hynny, ydych chi? Felly, mae gennych chi'r fath ffydd ei fod yn bosibl ac yn ymarferol, yna nid ydych chi'n cynnig hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod swm enfawr o arian ychwanegol yn dod gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Mae hynny wedi cynyddu yn y gyllideb ddiweddaraf—cyllideb, gadewch i mi eich atgoffa unwaith eto, y gwnaethoch chi geisio ei rhwystro. Ond rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych i'r dyfodol gyda gobaith ac uchelgais, a dyna pam roeddwn i'n falch dros ben o fod yn Tata Steel ddoe, lle'r ydym ni'n gweld buddsoddiad sylweddol yn y ffwrnais arc trydan newydd, yn rhoi gobaith i'r cymunedau hynny. A dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei roi i bobl Cymru heddiw, gobaith ar gyfer y dyfodol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych i'r dyfodol, i adeiladu economi gryfach fel y gallwn ni wario unrhyw drethiant ychwanegol ar ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, i'w ddarparu.

Dyma Brif Weinidog sy'n credu bod tlodi yn anochel i Gymru, a dyna pam mae hi'n parhau i wneud cam â Chymru. Mae'r Prif Weinidog yn gwneud dewis gweithredol i ddilyn mympwyon San Steffan, sy'n gweithio yn erbyn buddiannau Cymru, yn hytrach na dangos rhywfaint o ffydd yn ein cenedl a gallu ei phobl i benderfynu ar faterion drostyn nhw eu hunain.

Gadewch i ni ddychwelyd at un o'r anghyfiawnderau parhaol hynny gan San Steffan, y mater o gyllid teg i Gymru. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi ei hyrwyddo ers degawdau. Roedd yn siomedig clywed sylwadau'r Prif Weinidog dros y penwythnos pan gafodd ei holi ar Radio 4, yng nghyfweliad James Naughtie. Pan gafodd ei phwyso, ni allai ddweud pryd y bydd fformiwla Barnett yn cael ei diwygio gan Lywodraeth Lafur y DU, nac yn wir pa un a yw'r Canghellor yn credu bod Cymru yn cael ei hariannu'n annheg. Nawr, y cwbl y gallai'r Prif Weinidog ei ddweud oedd y bydd yn parhau i wneud y ddadl, ond mae hi'n dweud hynny dro ar ôl tro a does dim byd yn digwydd. Mae ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan yn ei hanwybyddu ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos. Nawr, pan ofynnais i'r Prif Weinidog ddiwethaf beth fydd ei cham nesaf o ran cyllid teg, mewn ateb a oedd yn ymddangos iddo achosi embaras i'w mainc flaen i gyd, dywedodd ei bod hi'n mynd i'r pêl-droed. A all hi ddod o hyd i ateb gwell heddiw?

Edrychwch, rwyf i wrth y bwrdd ac rwy'n cyflawni pethau, ac rydym ni wedi cael cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £5 biliwn mewn cyllid ychwanegol y gwnaethoch chi a'r Torïaid geisio ei rwystro rhag dod i mewn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud yn siŵr bod pobl yn clywed hynny dro ar ôl tro. Rydym ni wedi cael bargen wael, o ran rheilffyrdd, ers blynyddoedd lawer, ac rydym ni'n cyrraedd sefyllfa well. A yw'n ddigon pell? Nac ydy, rydym ni eisiau mynd ymhellach. Ond mae'n sicr mewn lle sefyllfa lawer gwell nag yr oedd o'r blaen. Roedd hynny oherwydd i ni roi pwysau sylweddol ar Lywodraeth y DU. Yr un peth pan ddaw i'r tomenni glo. O ran tomenni glo, fe wnaethom ni ofyn am flynyddoedd am gymorth gan Lywodraeth Dorïaidd y DU; wnaethon nhw ddim gwrando. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi deall bod hon yn etifeddiaeth o'r gorffennol a bod cyfrifoldeb ar y DU. Rwyf i wrth y bwrdd, ac rwy'n cyflawni. Ac o ran pethau fel cyfiawnder ieuenctid, er enghraifft, rydyn ni'n symud ymlaen yn y maes hwnnw hefyd, symud pethau ymlaen bob yn dipyn, yn unol ag ymrwymiad y maniffesto. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, i bobl gydnabod mai'r gwahaniaeth rhyngom ni a nhw yw eu bod nhw'n gweiddi o'r ymylon ac fy mod i'n eistedd wrth y bwrdd. Ac mae'n hyfryd clywed ei fod yn dilyn pob symudiad yr wyf i'n ei wneud ar benwythnosau. Hyfryd.

Y cwbl a gawsom ni ddoe eto oedd arwydd ar ddatganoli cyfiawnder bod Llafur yn benderfynol o rwystro unrhyw beth sy'n rhoi mwy o bwerau i Gymru, ac mae'n anghredadwy bod gennym ni Brif Weinidog sy'n parhau i amddiffyn y £445 miliwn a roddwyd ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, pan fo gweddill y DU, neu Gymru a Lloegr, yn cael £35 biliwn. Mae'n ffracsiwn fach iawn o'r hyn sy'n ddyledus i ni, ac mae pobl Cymru yn gwybod hynny.

Roedd llais Llafur arall ar y rhaglen honno dros y penwythnos, yr Aelod o'r Senedd dros Lanelli. Rwy'n cytuno â'i safbwynt ef ar bethau. Mae'n iawn: mae dewis arall yn hytrach na Llafur yng Nghymru heblaw'r Torïaid. Y dewis arall hwnnw yw gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer lleihau rhestrau aros, ar gyfer cefnogi busnesau bach, ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth, ar gyfer helpu aelwydydd gyda chostau byw, gweithredu taliad plant i fynd i'r afael â phla tlodi, tra hefyd yn ymladd am y pwerau hynny sy'n caniatáu i ni wneud penderfyniadau sy'n fwy addas i anghenion Cymru.

Nawr, beth bynnag sydd wedi cael ei honni am fanteision dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, ychwanegodd Lee Waters bod arwyddion sy'n dod gan gydweithwyr Llafur yn San Steffan yn ddirmygus. Dyna'r gwirionedd. Felly, pa un a yw'r gwrthodiad i ddiwygio Barnett, anghyfiawnder HS2, diffyg datganoli Ystad y Goron, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Lee Waters am y driniaeth wael Cymru gan gydweithwyr Llafur yn San Steffan, neu a fydd hi'n mynd i doriad yr haf yn parhau i amddiffyn eu gweithredoedd?

13:55

Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod y weledigaeth yr ydych chi'n ceisio ei chyfleu yn un sydd heb ei chostio ac nad oes modd ei gwireddu. Yr hyn sy'n bwysig i bobl ei gydnabod, rwy'n credu, yw mai prin iawn yw'r profiad sydd ar feinciau Plaid Cymru, ac, os yw hynny'n wir amdanoch chi, mae hynny'n sicr yn wir am Reform, sydd hefyd yn cael eu cymryd o ddifrif yn y wlad hon. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n cyflwyno, ein bod ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni a'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf. Gadewch i ni beidio ag anghofio presgripsiynau am ddim. Gadewch i ni beidio ag anghofio prydau ysgol am ddim. Gadewch i ni beidio ag anghofio trafnidiaeth am ddim i bobl dros 65 oed. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i'r holl bethau hynny. A'r peth pwysig i ni ei wneud yw edrych i'r dyfodol gyda gobaith, i bobl gydnabod yr hyn sydd yn y fantol yn yr etholiad nesaf, ac i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth mai dim ond Llafur sydd wrth y bwrdd ac sy'n gallu siarad â Llywodraeth y DU, oherwydd ni yw'r rhai sy'n gallu codi'r ffôn, i wneud gwahaniaeth. Dydyn ni ddim drosodd eto. Nid yw drosodd eto. Ac mae wir yn bwysig iawn i ni gydnabod bod llawer iawn o gyfleoedd i ni fynd ymhellach. Os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran y rhestrau aros hiraf, er enghraifft, gostyngiad o 86 y cant i nifer y bobl sy'n aros—ar gyfer yr arosiadau hiraf—ers y pandemig. Mae hyn yn gyflawni ar waith, diolch i'r arian ychwanegol hwnnw sydd wedi dod gan Lywodraeth Lafur y DU.

Diet Iach a Chytbwys

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer galluogi pob dinesydd i gael diet iach a chytbwys? OQ63051

Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n galed i annog teuluoedd ledled Cymru i roi bwyd iach, fforddiadwy ar y bwrdd. Rydym ni'n darparu dros 50 miliwn o brydau ysgol a brecwast am ddim bob blwyddyn, ac rydym ni wedi buddsoddi mwy na £27 miliwn i gynorthwyo'r rhai sy'n wynebu tlodi bwyd. Mae ein strategaeth bwyd cymunedol yn rhoi hwb i gynhyrchu bwyd lleol, a bydd ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' newydd yn targedu gweithredu lle mae ei angen fwyaf, gan ddechrau gyda phlant.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno bod gwaith gwych yn cael ei wneud yn yr adran addysg, o dan arweiniad yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n wych gweld bod mwy a mwy o ddisgyblion yn dysgu sut i goginio yn yr ysgol, sy'n amlwg yn mynd i helpu i drwsio'r diffyg o chwech o bob 10 aelwyd nad ydyn nhw byth yn coginio o ddim. Mae'n wych gweld bod llythrennedd bwyd yn datblygu yn y ffordd y mae disgyblion wedi dadansoddi'r milltiroedd bwyd sy'n gysylltiedig â chyri cyw iâr yn sir Fynwy gan greu cyri ffacbys amgen pan wnaethon nhw sylweddoli bod y cyw iâr hwnnw'n dod o Wlad Thai. Mae disgyblion yn y rhanbarth y mae'r Prif Weinidog yn ei gynrychioli wedi cyfansoddi cân i ddathlu cawl llysiau enwog Mrs Robinson, ac mae honno'n mynd i gael ei pherfformio yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd. Felly, gwyliwch y gofod hwn.

Ond, gan edrych ar sut y gallwn ni wella ansawdd ein prydau ysgol, mae'r grŵp trawsbleidiol ar fwyd ysgol wedi nodi nad oes gan ddigon o gogyddion mewn ysgolion unrhyw gymwysterau y tu hwnt i lefel 2 mewn hylendid bwyd, sy'n dda ar gyfer agor bagiau o fwyd a ddarperir gan fwyd mawr, ond nid y sgiliau sydd eu hangen i ehangu'r arfer da hwn yr wyf i newydd sôn amdano ar draws ein holl ystad ysgolion. Felly, sut allwn ni sicrhau bod prydau maethlon ar gael i bob disgybl, lle mae gan ysgolion y sgiliau a'r awydd i ddarparu ciniawau iach, maethlon wedi'u gwneud gyda bwyd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru?

Wel, ceir llawer o heriau o ran recriwtio yn y sector hwn, felly'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yw maen nhw'n ceisio gwneud y swyddi mor hygyrch ag y gallan nhw, fel eu bod nhw'n recriwtio i'r lefel ofynnol ac yna maen nhw'n ymgymryd â'r hyfforddiant pellach. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd cymwysterau hylendid sylfaenol lefel 2, ond yna beth maen nhw'n ei wneud yw maen nhw'n cael eu hyfforddi mewn pethau fel maetheg, alergeddau, diogelu, coginio proffesiynol, cymorth cyntaf—mae'r holl bethau hynny yn dod yn ychwanegol ar ôl iddyn nhw gael eu recriwtio. Mae gan lawer o dimau arlwyo awdurdodau lleol gogyddion datblygu ar eu staff nawr, ac maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol o ran hyfforddiant rheng flaen. Felly, rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bobl sy'n coginio'r bwyd i'r bobl yn ein hysgolion yn gymwys hyd eithaf ein gallu ni a'u gallu nhw, ond y peth allweddol yw ein bod ni angen mwy o bobl i fod yn mynd i mewn i'r sector hwnnw, fel eich bod chi'n eu cael nhw ar y lefelau isaf ac yna rydych chi'n eu hyfforddi nhw pan fyddan nhw i mewn.

14:00

Nid wyf i'n credu, Prif Weinidog, eich bod chi wedi ateb rhan o gwestiwn Jenny Rathbone, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw epidemig gordewdra plant, ac mewn gwirionedd os ydym ni'n mynd i roi sylw i'r epidemig hwnnw mae angen i ni ddechrau trwy edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei fwydo i'n plant mewn ysgolion. Rwy'n credu ein bod ni angen i gynhyrchion iach o ffynonellau lleol gael eu rhoi i'n plant i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y bwyd gorau posibl. Felly, hoffwn wybod pa gynlluniau a pha raglenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael bwyd wedi'i dyfu'n lleol, o ffynonellau cartref i ddeietau ein plant, i wneud yn siŵr y gallwn ni fynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra yr ydym ni'n ei weld ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf i yn gobeithio bod cyfle ein bod ni eisoes wedi cychwyn arno drwy'r rhaglen prydau ysgol am ddim yr ydym ni'n ei gynnig mewn ysgolion cynradd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dod yn fwy maethlon. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd, ac ar ben hynny rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi hyrwyddo'r strategaeth bwyd cymunedol, a cheir cyfle yno i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol. Mae gweithgor yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal, felly byddwn yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae deiet iach cytbwys i blant yng Nghymru yn opsiwn dim ond os nad ydych chi'n blentyn sy'n byw mewn tlodi, ac rydym ni ar y gyfradd o 29 y cant o hyd ar hyn o bryd, yn codi i 30 y cant, yn anffodus, o'n plant yma yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi. Mae llawer ohonom ni'n parhau i godi hyn ar draws y Siambr gan ei fod yn fater mor gywilyddus, os ydych chi'n byw yng Nghymru, i gael y lefel uchel honno o blant sy'n byw mewn tlodi. Dywedodd Sefydliad Bevan nad yw datganoli wedi gwneud dim i helpu'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi. Dyna ein cyfle i wneud rhywbeth gwahanol. Felly, rwy'n gofyn i chi eto: a allech chi ystyried edrych ar dargedau i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi? Mae Seland Newydd a'r Ffindir wedi gwneud hyn, ac mae wedi effeithio ar nifer y plant sy'n byw mewn tlodi. Felly, rwy'n dweud wrthych chi eto, os gwelwch yn dda, bod angen i ni weithredu yma i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i leihau tlodi plant o ddifrif iawn, ond mae hefyd yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gamu i mewn yn ei gylch. Rwy'n falch iawn, o ran cynllun iechyd 10 mlynedd Llywodraeth y DU, mai un o'r pethau y maen nhw wedi eu gwneud yw y maen nhw wedi cynyddu faint o arian sy'n cael ei ddarparu trwy Cychwyn Iach. Felly, mae menywod beichiog a phlant un oed neu hŷn, ond o dan bedair oed, bellach yn mynd i fod yn derbyn £4.65 yr wythnos, a bydd plant dan un oed yn derbyn £9.30 bob wythnos. Felly, ceir swm cynyddol o arian sy'n mynd i mewn trwy Lywodraeth y DU. Ers 2019, rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £27 miliwn, gan gynnwys mwy na £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol hon, i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd, ac mae hynny'n amlwg yn mynd i helpu llawer o deuluoedd â phlant hefyd.

Buddsoddi mewn Trefi yng Ngogledd Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trefi yng ngogledd Cymru? OQ63045

Rydyn ni'n buddsoddi yn nyfodol gogledd Cymru, ac rydym ni'n ei wneud gyda phwrpas ac rydym ni'n ei wneud gydag uchelgais. Ers 2020, darparwyd dros £47 miliwn drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi ledled y rhanbarth, gan ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw, creu swyddi a gwneud diwylliant a'r gymuned yn ganolog i adfywio. Yn y Rhyl, rydym ni wedi cefnogi Marchnad y Frenhines newydd sbon. Yn Wrecsam, rydym ni'n cefnogi canolfan greadigol gwerth £4 miliwn yng nghanol y ddinas. A gadewch i ni beidio ag anghofio Theatr Clwyd, trysor cenedlaethol i ogledd Cymru, a ailadeiladwyd gyda £23.5 miliwn o gymorth Llywodraeth Lafur Cymru.

14:05

Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. 

Mae ein trefi yn bwysig. Maen nhw'n fwy na lleoedd; maen nhw'n rhan o bwy ydym ni. Fel rhywun a fagwyd mewn tref fach ac sydd bellach yn byw mewn tref—mae'n etholaeth sy'n cynnwys llawer o drefi bach—nid yn unig y mae'n bwysig i mi yn wleidyddol, ond yn bersonol hefyd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at drawsnewid Theatr Clwyd, a fydd nid yn unig yn gwella'r cyfleuster hwnnw fel trysor yn ein coron ddiwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond yn rhoi hwb i'r economi leol yn y dref a'r cyffiniau hefyd. Agorodd marchnad y Rhyl, fel y gwnaethoch chi sôn, dim ond yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o sefydlu'r gronfa Trawsnewid Trefi a dechrau'r prosiect hwnnw sydd wedi dwyn ffrwythau ym Marchnad y Frenhines nawr.

Fel y gwnaethoch chi sôn, mae Trawsnewid Trefi wedi darparu swm sylweddol o gyllid ledled Cymru ac ar draws y gogledd, gyda bron i £5.5 miliwn yn sir y Fflint a sir Ddinbych yn unig. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn a allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein trefi yn y modd hwn? Ac a gaf i ofyn am ystyriaeth o ymrwymiad i chwilio am ffyrdd o gynnwys y gymuned mwy, i roi mwy o lais a rhan iddyn nhw yn y penderfyniadau a dylanwadu ar eu cymunedau a'u trefi eu hunain, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu ymhell i'r dyfodol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, ac mae wedi bod yn bleser mawr mynd i ymweld â llawer o'r trefi sydd wedi elwa o'n cronfa Trawsnewid Trefi. Roedd yn wych mynd gyda chi i'r Dolphin, y dafarn wag sydd yn sir y Fflint. Maen nhw wedi derbyn grant o £0.25 miliwn i drawsnewid y lleoliad hwnnw yng nghanol y dref. Rwy'n credu bod llawer iawn o enghreifftiau o hynny ledled Cymru gyfan, gan gynnwys, er enghraifft, un arall yr ymwelais â hi yn ddiweddar yng Ngwynedd, prosiect Nyth, trosi eglwys wag yng nghanol y dref ym Mangor. Roedd yn ardal fywiog, ardderchog. Hefyd, rwyf i hefyd, yn ôl pob tebyg, yn meddwl ei bod hi'n werth cofnodi'r ffaith bod gennym ni adnewyddiad Theatr Clwyd bellach, ac roedd yn wych gweld eich bod chi yno. Roedd Jack Sargeant yno ar gyfer yr agoriad, ac mae'n rhywbeth y dylid wir ei ddathlu ac yn drysor yng nghoron diwylliant yng ngogledd Cymru.

Dyrannodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU £126.46 miliwn o gyllid ffyniant cyffredin y DU i ogledd Cymru, a oedd yn ymgorffori buddsoddiad ar gyfer trefi ledled y rhanbarth, gan gynnwys gwell mannau agored yng Nghonwy, rhaglen creu lleoedd ar gyfer canol trefi a phentrefi mwy Ynys Môn, pwyntiau gwefru ceir trydan a gwelliannau i ganolfannau cymunedol yng Ngwynedd, cyfleusterau cymunedol newydd i bentrefi a gwelliannau i dreflun Rhuthun yn sir Ddinbych, y rhaglen buddsoddi yng nghanol trefi yn sir y Fflint, a chyllid ar gyfer seilwaith a datblygu cymunedol yn Wrecsam. Derbyniodd prosiect Porth Wrecsam £9 miliwn hefyd o fargen dwf gogledd Cymru, a gychwynnwyd ac a ariannwyd 50 y cant gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi ymestyn cyllid ffyniant cyffredin tan 2026, deallir y byddan nhw wedyn yn symud dosbarthiad y cyllid o fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i un sy'n seiliedig ar boblogaeth, a fydd yn creu toriad cyllid enfawr i Gymru, ac bydd y broses gwneud penderfyniadau ddatganoledig honno gan awdurdodau lleol a rhanbarthau wedyn yn cael ei diddymu a'i hail-ganoli yn Llywodraeth Cymru. Pa sicrwydd allwch chi ei roi felly na fydd trefi a chymunedau ledled gogledd Cymru wedyn ar eu colled unwaith eto wedyn?

Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar ein pryderon am y potensial ar gyfer disodli cyllid yr UE, a allai fod wedi cael ei ddosbarthu ar sail fformiwla Barnett. Nid yw hynny wedi digwydd, felly rydyn ni'n cadw tua 22 y cant o'r gyllideb gyfan sydd yn y DU. Felly, nid ydym ni yn y sefyllfa yr oeddem ni'n ei hofni, ac y byddai'r arian ychwanegol hwnnw a ddaeth i Gymru yn flaenorol yr addawyd i ni y byddai'n parhau i ddod gan bobl fel chi, pan ddywedwyd wrth bobl yng Nghymru na fydden nhw ar eu colled o ganlyniad i Brexit—. Roedd bygythiad gwirioneddol y gallai hynny ddigwydd. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni wedi llwyddo i argyhoeddi Llywodraeth y DU y byddai hynny wedi bod yn hollol annheg, a bod yr arian hwnnw yn parhau i fod o fudd i'n cymunedau.

Swyddi yn y Sector Cyhoeddus

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus yn hygyrch ar draws holl ranbarthau Cymru? OQ63040

Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod swyddi sector cyhoeddus yn hygyrch ym mhob rhan o Gymru, nid yn ein dinasoedd yn unig, ond mewn ardaloedd fel sir Drefaldwyn. O gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n gweld yn bersonol pa mor hanfodol yw hi bod pobl mewn cymunedau gwledig yn cael y cyfle i adeiladu gyrfa yn agos at adref, ac i aros a ffynnu yn y lleoedd y maen nhw'n eu hadnabod ac yn eu caru. Mae ein swyddi yn cael eu hysbysebu ledled Cymru gyfan, ac mae gan Lywodraeth Cymru staff sy'n gweithio ar draws 20 o wahanol safleoedd.

14:10

Prif Weinidog, rwyf i wrth fy modd gyda'r ateb yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod pobl ledled Cymru yn cael y cyfle i weithio i Lywodraeth Cymru o bob rhanbarth, a byddai'r gwasanaeth sifil yn gyfoethocach o'i herwydd, pe bai'n cyflogi pobl o bob cymuned, nid y rhai sy'n byw yn ardal Caerdydd yn unig.

Nawr, yn ddiweddar, gofynnais gwestiwn ysgrifenedig am swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog, ac fe wnaethoch chi ymateb i mi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'i llety busnes yn rhanbarth Powys, gan gynnwys Tŷ Ladywell, yn wir, yn sir Drefaldwyn. Nawr, wrth gwrs, mae Tŷ Ladywell wedi bod yn swyddfa Llywodraeth Cymru ers y Llywodraeth Cymru gyntaf un, a chyn hynny, gyda sefydliadau rhagflaenol hefyd. Mae'n cyflogi 80 o bobl, ac mae'r 80 o bobl hynny yn cael eu denu o wahanol adrannau'r Llywodraeth. Tybed a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig cael swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled Cymru, gan gynnwys yn y Drenewydd, gan fod y swyddfeydd hynny a'r staff sy'n gweithio yno yn cefnogi siopau a gwasanaethau mewn trefi hefyd. Ac a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig cyflogi a chadw pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu mwy anghenion a gofynion yr holl bobl, o bob cymuned ledled Cymru?

Wel, diolch yn fawr iawn. Oes, mae gennym ni swyddfa yn y Drenewydd lle mae lle ar gyfer 82 o bobl. Mae gennym ni ganolfan yn Aberystwyth lle mae lle ar gyfer 275 o staff ynghyd â 137 o denantiaid. Rydym ni'n cynnal adolygiad ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd y newid i'r ffordd y mae pobl yn gweithio. Ni allwn gyfiawnhau parhau i gadw swyddi ar agor os nad yw pobl yn dod yno. Mae'n bwysig ein bod ni'n annog pobl i ddod i mewn i'r gwaith; rydym ni'n eu hannog nhw i ddod i mewn. Ond, yn amlwg, bydd adeg yn dod lle mae'n rhaid i chi ddweud, 'Os nad ydych chi'n dod, ni allwn gyfiawnhau cadw'r swyddfa benodol hon ar agor.' Felly, mae'n ddyletswydd ar y bobl hynny i ddeall, os nad ydyn nhw'n mynd i mewn i'r swyddfeydd, bod perygl y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd hi'n anodd i ni barhau, os nad ydyn nhw'n dod yno.

Wel, arweiniodd 14 mlynedd o gyni cyllidol Torïaidd at dorri swyddi awdurdodau lleol 40 y cant, ac eto cynghorau a sefydliadau iechyd yw'r cyflogwyr mwyaf ledled Cymru o hyd, neu un o'r cyflogwyr mwyaf ledled Cymru. Mewn ffeiriau swyddi, rydym ni'n aml yn gweld eu bod nhw'n hyrwyddo swyddi mewn busnesau, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo swyddi yn y sector cyhoeddus, fel swyddi nyrsio, addysgu, cynllunio, diogelu'r cyhoedd, yr holl swyddi pwysig iawn hyn sy'n helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel ac yn fywiog, a gofalu am bobl, yn y bôn? Sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y swyddi hyn yn cael eu hariannu'n briodol eto, ar ôl 14 mlynedd o doriadau a chyni cyllidol? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda'r cyllid ychwanegol y gwnaeth y Torïaid a Phlaid Cymru geisio ei rwystro, wrth gwrs, yw rydym ni wedi gallu rhoi codiad cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Ni wnaethom ni erioed gael gwared ar bethau fel y fwrsariaeth nyrsys, fel y gwnaethon nhw yn Lloegr. Rydym ni wedi gwneud gwaith sylweddol i geisio hyrwyddo pobl yn dod i weithio yn y sector gofal, gyda gwefan Gofalwn Cymru, ac i geisio annog hynny, ac rydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Felly, ceir meysydd lle'r ydym ni'n dal i gael ein herio'n fawr, ond fel Llywodraeth Lafur, rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n arwain gyda'n gwerthoedd, ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yn deall, mewn gwirionedd, mai'r bobl sy'n cael eu talu isaf sy'n dal ein cymunedau gyda'i gilydd yn aml iawn, ac yn haeddu'r wobr honno.

Y Gweithlu Anestheteg

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diffyg niferoedd yn y gweithlu anestheteg? OQ63038

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £294 miliwn eleni i hyfforddi gweithlu'r GIG ar gyfer y dyfodol. Mae'r niferoedd uchaf erioed o bobl yn cael eu cyflogi yn y GIG, gan gynnwys meddygon, ac ers 2020, rydym ni wedi cynyddu lleoedd hyfforddi anestheteg ar bob lefel.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y nodwyd yn y cwestiynau iechyd yr wythnos diwethaf, bydd prinder anesthetyddion yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i gyflawni llawdriniaethau llawfeddygol a mynd i'r afael ag amseroedd aros. Yn ôl Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, mae gan Gymru 17 y cant yn llai o anesthetyddion nag sydd eu hangen i fodloni'r galw. Prif Weinidog, mae angen i ni gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi os ydym ni'n mynd i fod ag unrhyw obaith o fynd i'r afael â'r diffyg o 90,000 o lawdriniaethau a thriniaethau bob blwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff eich Llywodraeth ariannu lleoedd hyfforddi anesthetyddion ychwanegol ar gyfer 2026?

14:15

Diolch yn fawr. Mae nifer y meddygon ymgynghorol yng Nghymru wedi cynyddu 16 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae gennym ni 467 sy'n arbenigo mewn anestheteg, ac mae hynny wedi cynyddu 5.6 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym ni'n hyderus iawn ein bod ni mewn sefyllfa lle rydym ni'n chwistrellu arian i'r GIG. Rydym ni'n awyddus i dynnu 200,000 o gleifion oddi ar ein rhestrau aros, ac rydym ni'n hyderus fod y cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni gyda chyfluniad y gweithlu sydd gennym ni ar waith ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio bod nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG heddiw ar y cyfraddau mwyaf erioed, ac mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 45 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu y byddai hi'n werth i bobl gydnabod bod hwnnw'n gynnydd sylweddol. Yn amlwg, mae'r galw yn ddiderfyn, ond rydym ni'n gweithio'n galed iawn i gadw i fyny â'r galw hwnnw, ac rwy'n gobeithio bod yr ystadegau hynny'n dweud eu stori eu hunain.

Llygredd Afonydd a Môr yn Abertawe

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau llygredd afonydd a môr yn Abertawe? OQ63015

Mae'n rhaid cadw ein hafonydd a'n harfordiroedd yn lân, yn ddiogel a'u hamddiffyn nhw er mwyn cenedlaethau'r dyfodol yn Abertawe, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cymryd camau gwirioneddol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Drwy ddalgylch cyfle Bae Abertawe, rydym ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor i fynd i'r afael â llygredd o'r ffynhonnell hyd y môr, gan lanhau Afon Clun, buddsoddi mewn draenio gwyrdd, a dyblu gorchudd coed erbyn 2044. Rydym ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod dros £56 miliwn wedi mynd i wella ansawdd dŵr eisoes, ac rydym ni'n falch fod Cymru yn arwain y DU erbyn hyn o ran dyfroedd ymdrochi glân, gyda 103 o 110 wedi ennill gradd dda neu ardderchog.

Diolch i chi am yr ymateb cadarnhaol iawn yna, Prif Weinidog. Fe wyddom ni, serch hynny, fod ansawdd dŵr dan ymosodiad. Mae carthion a llygredd trefol, llygredd amaethyddol a llygredd diwydiannol i gyd yn cyfrannu at y broblem hon. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â datrysiadau pellach, megis gwella arferion amaethyddol a'r seilwaith ar ffermydd i fynd i'r afael â chemegau, dŵr ffo arwyneb ac erydiad pridd, gan adfer nodweddion naturiol, megis gwlyptiroedd a choetiroedd, sy'n gwneud gwaith hidlo naturiol ar gyfer llygryddion, i greu seilwaith gwyrdd ar gyfer arafu llif dŵr ffo wyneb a lleihau'r perygl y bydd systemau carthffosiaeth yn gorlifo, ac atal gorlifo carthion o waith pwmpio Trebanos, sy'n llygru Afon Tawe a'r môr yn Abertawe yn y diwedd, ac ymdrin â microblastigau yn Afon Tawe a'r môr? Fy mhrif bryder i yw'r carthion a'r llygredd amaethyddol yn Afon Tawe yn mynd i'r môr. Sut ydym ni am atal hynny rhag digwydd?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni waith i'w wneud eto, ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n ein cymharu ni â Lloegr, mae 44 y cant o'n hafonydd ni wedi cyrraedd statws ecolegol da neu well na hynny. Dyna dair gwaith yn well na'r sefyllfa yn Lloegr. Yr hyn a wnaethom ni yma oedd cyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i wella rheolaeth maethynnau, ac fe gefnogwyd hynny gan £52 miliwn o grantiau seilwaith.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio hefyd fod gennym ni ddeddfwriaeth arall ar waith, sy'n cynnwys systemau draenio cynaliadwy sy'n arwain y byd, i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn rheoli dŵr wyneb mewn ffordd gynaliadwy. Mae hynny'n lleihau llygredd a pherygl llifogydd ac mae honno'n esiampl nawr i eraill ei dilyn, yn fy marn i.

Marwolaethau Babanod

9. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â thargedau i leihau marwolaethau babanod? OQ63037

14:20

Rŷn ni’n gwybod bod colli unrhyw fabi yn dorcalonnus, ac mae lleihau marwolaethau babanod yn flaenoriaeth absoliwt. Rŷn ni'n barod wedi gweld gostyngiad tymor hir mewn cyfraddau marwolaethau marwanedig a newyddanedig, ond rŷn ni'n mynnu newid pellach. Dyna pam rŷn ni wedi cyhoeddi datganiad ansawdd cenedlaethol newydd ac wedi buddsoddi yn y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. Erbyn hyn mae pob un o'r byrddau iechyd yn cyflawni camau wedi'u targedu i wella canlyniadau ac i ddysgu o niwed. Rŷn ni'n gwrando, rŷn ni'n dysgu, ac wedi ymrwymo i newid parhaus.

Diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o deuluoedd. Yn ogystal â'r gwaith pwysig rŷch chi wedi'i restru yna, buaswn i'n hoffi gofyn i chi am y gefnogaeth sydd yna ar gyfer rhieni.

Bob blwyddyn, bydd miloedd o rieni yn wynebu colled beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Mae elusen Sands wedi canfod mai dim ond un o bob chwech o rieni mewn profedigaeth sy'n cael derbyn cymorth seicolegol gan y GIG. Rwyf i wedi cysylltu ag etholwyr sydd wedi mynd trwy'r archoll ofnadwy hwn, er clod iddyn nhw, sy'n ymgyrchu dros sicrhau na fydd raid i rieni eraill wynebu'r hyn y gwnaethon nhw fynd drwyddo, naill ai ar eu pennau eu hunain neu heb gael y gefnogaeth honno i gyd y gallen nhw fod wedi elwa arni.

Mae rhieni mewn profedigaeth yn fwy tebygol o brofi straen teuluol, anawsterau ariannol oherwydd absenoldeb oherwydd salwch, ac maen nhw'n yn wynebu risg uwch i'w bywydau hefyd. Rwy'n gwybod na all unrhyw eiriau o gysur wneud yn iawn am hynny, ond yn sicr fe fyddai bod â llwybrau arbenigol ar gyfer cymorth seicolegol yn ysgafnu'r baich sydd arnyn nhw. Mae yna lawer o bethau y mae angen eu newid, gan gynnwys tystysgrifau colli baban, ond mae'r gefnogaeth emosiynol hon yn bwysig iawn. Felly, a allech chi ddiweddaru'r Senedd? A fyddech chi'n dod gyda mi i gwrdd â Sands ac ymgyrchwyr i siarad am yr hyn y mae angen ei newid?

Mae colli baban yn amlwg yn brofiad difrifol iawn i'r teuluoedd, ac mae hi'n bwysig fod y wladwriaeth ar gael i roi'r gefnogaeth iddyn nhw ar yr adeg wirioneddol heriol honno yn eu bywydau. Dyna pam mae pob teulu sy'n profi colled beichiogrwydd hwyr mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth. Mae yna ragor y byddem ni'n gallu ei wneud bob amser. Fe wn i fod Sands yn gwneud gwaith gwych o ran siarad ar ran y teuluoedd hynny a thynnu'r pryderon at ei gilydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar adborth gan bobl sydd wedi bod trwy'r trawma hwn. Fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwrando'n ofalus iawn ac yn ymwybodol iawn o'r mater, yn enwedig nawr wrth i ni fod yn gwybod bod cymaint o bobl â'r ymwybyddiaeth ddifrifol honno o'r sefyllfaoedd anodd mewn rhai rhannau o Gymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen weithredu ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024? OQ63027

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn dilyn Cydsyniad Brenhinol mis Chwefror 2024. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Ddeddf mewn grym ar hyn o bryd, ac rydym ni'n parhau i weithio ar wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer a sŵn.

Diolch am yr ateb hwnnw. 

Cwnsler Cyffredinol, roedd pasio Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn foment bwysig yn y frwydr yn erbyn llygredd aer, ond 17 mis yn ddiweddarach nid ydym ni wedi gweld y rheoliadau drafft sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r Ddeddf ac amddiffyn pobl rhag aer gwenwynig. Pryd fydd y Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau o ran segura llonydd a thanwydd solet? Pam na chyflwynwyd y rheoliadau hyn hyd yma? A oes perygl, wrth i ni nesáu at yr etholiad a'r pwysau ar y rhaglen ddeddfwriaethol, y gallai'r rhain gael eu gohirio eto hyd yn oed?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Rwy'n rhedeg rhaglen sy'n ystyried gweithrediad yr holl Ddeddfau y mae'r Senedd wedi ymgymryd â nhw. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol sy'n gyfrifol am hynny. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i drafod y ddau fater hynny. Rydym ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i ddatblygu'r targedau newydd o ran ansawdd aer ar gyfer Cymru yn unol â'r dyletswyddau statudol dan y Ddeddf. Rydym ni'n disgwyl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar dargedau ar gyfer PM2.5 gael ei lansio yn ystod yr hydref 2025.

Fe fyddwn ni'n ymgynghori gyda hyn hefyd ar reoliadau i gyflwyno ystod newydd o gosbau sefydlog ar gyfer segura llonydd, a fydd yn caniatáu dirwyon mwy. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn cofio, fel pob Aelod o'r Senedd, ei bod hi'n drosedd eisoes, ond y farn oedd nad oedd y cosbau am y drosedd honno yn ddigonol i greu newid ymddygiad, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei geisio. Nid pwynt o ran codi refeniw mohono o gwbl; mae hyn yn ymwneud â gwneud pobl yn ymwybodol o oblygiadau segura llonydd. Wrth gwrs, mae llawer o geir newydd yn diffodd yn awtomatig, felly mae hyn yn ymwneud ag atgoffa pobl. Fe fydd hyn yn cryfhau'r fframwaith i fynd i'r afael â segura llonydd, i'w gymhwyso yn benodol mewn ardaloedd risg uchel fel ysgolion, ysbytai, a'r tu allan i gartrefi gofal. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny.

O ran tanwydd solet domestig, yng nghynllun aer glân Cymru, 'Aer Iach, Cymru Iach', a gyflwynwyd yn 2020, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthiant y mathau mwyaf llygrol o danwydd solet ar gyfer defnydd domestig yng Nghymru, yn amodol ar yr ymgynghoriad. Fe wnaethom ni ymgynghori ar leihau allyriadau oherwydd llosgi tanwydd solet domestig yn 2021, ac fe gyhoeddwyd y crynodeb o'r ymatebion ym mis Hydref 2023. Yn dilyn ar hyn, fe fuom ni'n ystyried y cwmpas ar gyfer cyflwyno rheoliadau yn nhymor y Senedd bresennol i gyfyngu ar werthiant glo tŷ bitwminaidd a thraddodiadol, pren gwlyb, a thanwydd solet a weithgynhyrchwyd gydag allyriadau sylweddol o sylffwr a mwg. Rwyf i wedi trafod hyn gyda Huw ar sawl achlysur, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hynny cyn bo hir. Rwy'n rhedeg y rhaglen ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru yn rhan o'm cylch gorchwyl hefyd, ac mae is-bwyllgor y Cabinet gennyf i ar gyfer trafod amserlen amrywiol yr is-ddeddfwriaeth yr ydym ni'n awyddus i sicrhau y bydd hi'n cael ei gweithredu cyn diwedd tymor y Senedd. Mae hynny ar yr agenda yn bendant. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau chi, sef yr Aelod a ddygodd y Ddeddf drwodd, fy mod i'n awyddus iawn i sicrhau y bydd hi'n cael ei rhoi ar waith.

14:25

Diolch i chi. Ym mhwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf, roeddem ni'n cymryd tystiolaeth gan Dr Robert Lee. Ef yw cyfarwyddwr addysg y Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol a Chyfiawnder ym Mhrifysgol Birmingham. Roeddem ni'n cymryd tystiolaeth ar y Bil amgylchedd. Esboniodd Dr Lee mai llygredd yw achos pennaf marwolaeth gynamserol yn fyd-eang. Fe'm syfrdanwyd i'n fawr gan hynny. Mae'r gyfradd ar 15 y cant ar gyfartaledd drwy'r boblogaeth, ac mae'n cyfrif am lawer mwy nag effaith gyfunol malaria, twbercwlosis, AIDS, a'r holl glefydau heintus. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, bod ailagor pyllau glo yn gam yn ôl a fyddai'n gwaethygu llygredd aer sy'n beryglus, ac mai ynni adnewyddadwy, sy'n defnyddio'r gwynt, y tonnau, a'r haul, yw'r ffordd ymlaen?

Diolch yn fawr iawn i chi, Carolyn, am hynna. Mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol, onid ydyw, sef bod llygredd yn un o'r prif leiddiaid. Mae'n rhywbeth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli mewn gwirionedd, yn fy marn i, a phan gaiff hynny ei egluro i ni, fe ddaw hi'n amlwg iawn pam mae'n rhaid i ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n glanhau ein haer a'n tir a'n dŵr, wrth gwrs. Ar gyfer cyrraedd ein nodau sero net uchelgeisiol, mae'n rhaid i ni leihau allyriadau oherwydd cynhyrchiant ynni trwy leihau cynhyrchiant tanwydd ffosil a chynyddu cynhyrchiant o ffynonellau adnewyddadwy. Nid yw echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer ynni yn cydweddu â llwybr at gyrraedd sero net ar gyflymder nad yw hyd yn oed yn dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae ein gweledigaeth ni ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchiant ynni yng Nghymru yn un o ddiwydiannau cynaliadwy yn cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i greu swyddi o ansawdd uchel ac yn dod â manteision eraill i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rydym ni'n awyddus i'r diwydiant hwnnw leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil yn sylweddol a'r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ganddo, sy'n achosi'r llygredd yr ydym ni'n sôn amdano. Mae dod ag echdynnu a defnyddio pob glo i ben dan reolaeth yn bolisi sefydledig gan Lywodraeth Cymru. Nid ydym ni'n bwriadu rhoi awdurdod i unrhyw drwyddedau ar gyfer gwaith mwyngloddio newydd neu ganiatáu amrywiadau i drwyddedau cyfredol. Ym mis Tachwedd 2024, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai hi'n deddfu ar gyfyngiadau o ran trwyddedu pyllau glo newydd yn y dyfodol gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ac eithrio at ddibenion diogelwch ac adferiad. Fe fydd y gwaharddiad hwn yn berthnasol ledled y DU, ac felly fe ddylai hynny weld ceisiadau am weithrediadau mwyngloddio glo newydd neu estynedig yn dod i ben ledled y DU gyfan.

Fe hoffwn i ddychwelyd at y mater ynglŷn â'r oedi o ran gweithredu'r rheoliadau segura. Yn anffodus, nid yw llawer o yrwyr yn fy etholaeth i'n deall eu bod nhw'n torri'r gyfraith ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y byddai llawer o benaethiaid ysgol yn gwerthfawrogi sicrhau bod y dirwyon am yr ymddygiad drwg hwn yn cael eu cynyddu er mwyn amddiffyn eu disgyblion nhw. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond pryd ydym ni'n disgwyl y bydd hyn yn cael ei orfodi dan gyfraith, fel bydd mwy o bobl gennym ni fel cynorthwywyr parcio sy'n gallu gorfodi hyn?

Wrth gwrs, maen nhw'n gallu gorfodi hyn eisoes. Yr unig beth ydy nad yw'r cosbau ar gyfer gorfodi yn arbennig o ddifrifol, ac felly'r farn yw nad yw hynny'n newid ymddygiad mewn unrhyw ffordd neilltuol.

Felly, dim ond i fod yn eglur iawn: mae hon yn drosedd eisoes. Roedd hi'n drosedd cyn i'r Ddeddf fynd trwodd. Yr hyn y mae'r Ddeddf yn ei wneud yw caniatáu i'r awdurdodau lleol fod ag ystod o gosbau ar waith, ac maen nhw'n gosbau cronnol, felly swm llai am y drosedd gyntaf, ac sy'n codi wedyn. A'r syniad ynglŷn â hynny yw dylanwadu ar newid ymddygiad. Ni fwriadwyd hyn, mewn unrhyw ffordd, i fod yn dreth i godi refeniw; fe fyddai hi'n fwyaf effeithiol pe na fyddai fyth yn cael ei defnyddio. Mae'r awdurdodau lleol yn cael eu galluogi i ddeddfu hynny pan fydd y rheoliadau wedi mynd drwy'r Senedd, ac fe fyddan nhw'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd drwy'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Dim ond er eglurder, nid ydyn nhw wedi cael eu gohirio. Roedd y Ddeddf yn rhagweld bob amser y byddai ymgynghoriad cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno, ac mae'r ymgynghoriad, wrth gwrs, gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â rhoi hynny ar waith. Ond dim ond er mwyn bod yn eglur iawn: mae hi'n drosedd yn barod.

14:30
Gweithredu Deddfwriaeth Senedd y DU yng Nghymru

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu deddfwriaeth Senedd y DU yng Nghymru lle nad oedd y Senedd wedi rhoi cydsyniad deddfwriaethol? OQ63023

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithrediad cadarn confensiwn Sewel. Mae pwerau, prosesau ac amserlenni gweithredu yn wahanol ar gyfer pob darn o ddeddfwriaeth, ac felly rydym ni'n eu hystyried nhw fesul achos.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Confeniswn Sewel yw'r hyn yr wyf i'n dymuno ei drafod gyda chi'r pnawn 'ma. Yn fy marn i, mae confensiwn Sewel wedi ei hen gladdu. Rydych chi'n siŵr o fod yn cofio amser pan fyddai confensiwn Sewel yn cael ei barchu gan Lywodraeth y DU, ond fe newidiodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 hynny i gyd. Ar y pryd, fe ddywedodd Michael Gove fod y Ddeddf ar gyfer ymadael yn unigryw, ac felly roedd hi'n caniatáu i Lywodraeth y DU anwybyddu barn y Senedd hon a'r Seneddau datganoledig eraill. Ond fe welsom ni sawl enghraifft ers hynny o Lywodraeth y DU yn anwybyddu ewyllys y Senedd hon. Enghraifft berffaith fyddai'r Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, a drafodwyd yn y Senedd hon—rwy'n cofio'r Trefnydd yn dweud yn eglur ei bod o fewn cymhwysedd. Ac fe welwn ni bobl yn cael eu harestio nawr, yng Nghaerdydd, dros y penwythnos, mewn maes y dywedodd y Trefnydd yn y fan hon sydd mewn cymhwysedd datganoledig—yn cael eu harestio o dan gyfraith brotestio, mewn maes na wnaethom ni gytuno, maes na fyddem ni'n caniatáu cydsyniad iddo.

Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ddatrys materion sy'n dod dan gonfensiwn Sewel pan fo anghydfod o ran deddfwriaeth? Diolch yn fawr.

Felly, fe wn i fod yr Aelod yn gwybod hyn eisoes, ond y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi ei gwrthwynebu, ac fe anwybyddodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol y gwrthwynebiadau hynny i raddau helaeth ddwywaith yn nyddiau olaf y Senedd yn San Steffan. Nid ydym ni wedi bod yn y sefyllfa honno gyda Llywodraeth bresennol y DU; rydym ni wedi cynnal sgyrsiau effeithiol gyda nhw ynglŷn â chynnal Sewel, ac fe fyddwn i'n gobeithio yn fawr y bydd y Llywodraeth honno'n dal ati i'w barchu.

Fe wn i fod yr Aelod yn gwybod, ond dim ond ar gyfer ailadrodd: y pwynt ydy, os bydd cyfraith yn pasio ar lefel y DU, mae honno'n gyfraith, ac felly fe ellir ei gorfodi hi. Fe allwn ninnau, wrth gwrs, wneud sylwadau am sut y caiff ei gorfodi, ac fe fyddwn ni'n cael sgyrsiau gyda'n heddluoedd lleol a'n hawdurdodau lleol ynglŷn â hynny. Ac ar gyfer rhoi enghraifft—un hirsefydlog, yr wyf i'n falch iawn y bydd hi'n cael ei ddiddymu nawr—roedd Deddf Crwydraeth 1824, er enghraifft, yn mynd yn gwbl yn groes i'n holl bolisïau ni o ran digartrefedd, ac fe gefais i, pan oeddwn i yn aelod perthnasol o'r Cabinet ar gyfer hynny, sgyrsiau maith gyda'r heddlu a chyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â sut y byddem ni'n gweithredu hynny mewn ffordd fwy trugarog, yn ystyriol o drawma, a Chymreig nag a fyddai'n wir fel arall. Ac fe wn i fod fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, yn cael sgyrsiau tebyg. Ond yn y pen draw, cyfraith y DU yw cyfraith y DU.

A dyna, wrth gwrs, pam mae angen i hyn newid. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog i raddau helaeth iawn. Yn ei haraith hi yn yr eglwys Norwyaidd, roedd hi'n dweud na ddylai Llywodraeth y DU fyth weithredu mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni'n gwrthwynebu hyn o dan y Torïaid, meddai hi, ac fe aeth hi yn ei blaen i ddweud nad ydym ni'n hapus gyda hyn dan y Blaid Lafur. Ac rwyf i'n cytuno â Phrif Weinidog Cymru.

Ond mae'r sefyllfa fel gwnaethoch chi ei disgrifio hi, ac mae'r sefyllfa fel gwnaeth Rhys ab Owen ei disgrifio hi, sef fod camweithrediad gennym ni wrth hanfod ein cyfansoddiad. Onid yw hi'n hen bryd nawr i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU gytuno ar setliad cyfansoddiadol gwahanol, lle caiff ein democratiaeth ni ei pharchu o fewn y Deyrnas Unedig, a bod y Senedd hon â swyddogaeth lawn o ran llywodraethu'r Deyrnas Unedig ar sail gyfartal â Senedd y Deyrnas Unedig?

Ie, yn gyfan gwbl, dyna safbwynt y Prif Weinidog presennol, Llywodraeth bresennol Cymru, o dan ei Brif Weinidogion i gyd, sef mai dyna'r achos. Dyna fy safbwynt innau'n sicr iawn. Hwnnw oedd safbwynt y cyn-Gwnsler Cyffredinol hefyd. Felly, rydym ni'n parhau i gael y sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth y DU. Fel dywedais i, rwy'n falch nad ydym ni wedi cael toriad o gonfensiwn Sewel. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd hynny'n parhau, ac rydym ni'n dal i gael y trafodaethau hynny. Ond mae'r Aelod yn gwybod, yn hollol, cystal â minnau, hyd nes y caiff y materion hyn eu corffori mewn swyddogaethau statudol priodol, ni ellir eu hamddiffyn nhw, fel cawn ni'n wir yn y—. Wel, yn y pen draw nid oedd cynifer o'r confensiynau cyfansoddiadol yn werth cymaint â'r papur yr ysgrifennwyd nhw arno, i ddyfynnu'r gyfraith glasurol. Yn ystod uwch gynghrair blaenorol y Ceidwadwyr, o un math neu'r llall—ac mae gormod i'w rhestru, onid oes e—fe drodd y pethau hynny allan i fod yn ddiwerth, am mai confensiynau oedden nhw ac felly fe ellir eu torri nhw. Felly, ni allwn gytuno mwy â chi, ac rydym ni'n parhau i weithio tuag at hynny.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener, fe ddywedodd y Prif Weinidog:

'mewn gwirionedd, mae ein hanes ni o gyflawni yn dda iawn wir.'

A ydych chi'n cytuno?

Diolch i chi am yr ateb yna. A wnewch chi gyrraedd eich targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd y Senedd hon?

Gwnawn, rydym ni'n gweithio yn galed iawn i sicrhau y byddwn ni'n gwneud hynny. Gadewch i mi esbonio natur targed i'r Aelod, nad yw wedi gweithio erioed mewn sefydliad sydd â thargedau, yn amlwg. Fe wn i fod yr Aelod yn tybio mai pethau ar gyfer curo rhywun â nhw yw'r targedau, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r targedau yn ei wneud yw ysgogi cyflawni. Mae gennym ni darged sy'n heriol ar gyfer gwthio'r sefydliad tuag at y targed hwnnw. Dyna'i bwrpas. Pe byddai'n darged rhwydd i'w gyrraedd, ni fyddai'n darged effeithiol. Fel rwy'n dweud, fe wn i nad oes dealltwriaeth gan yr Aelod o ran gweithrediad targedau wrth gyflawni pethau gwirioneddol, ond dyna sut maen nhw'n gweithio.

Y chi a wnaeth bennu'r targed hwnnw, Cwnsler Cyffredinol—

—yn eich maniffesto. Fe wnaethoch chi addo i bobl Cymru y byddech chi'n ei gyflawni, ac roeddech chi'n aneglur o ran a fyddech chi'n gwneud felly mewn gwirionedd.

Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n gweithio tuag at gyrraedd y targed hwnnw—ac fe fyddaf i'n hapus i fyfyrio ar y Cofnod wedi hynny. Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n gweithio tuag at gyrraedd y targed hwnnw. Nid oeddech chi'n gwarantu y byddech chi'n cyrraedd y targed y gwnaethoch addo y byddech chi'n ei gyrraedd erbyn diwedd y tymor hwn. Oherwydd i ni weld, oni wnaethom ni, adroddiad ar ôl adroddiad yn mynegi bod hwn yn darged na fyddech chi'n ei gyrraedd. Dywedodd Archwilio Cymru na chaiff y targed ei gyflawni oni bai y bydd cynnydd sylweddol mewn cyllid yn cael ei weithredu, ac wedyn fe fyddai'r ffigur yn dal i fod yn brin. Felly, rwy'n cymryd o'ch ateb chi eich bod chi'n anghytuno â chanfyddiadau Archwilio Cymru, ac os nad ydych chi'n anghytuno, pam nad yw'r cyllid wedi cynyddu?

Mae'r cyllid wedi cynyddu. Roeddwn i'n hynod o eglur. Fe ddywedais i ein bod ni'n gweithio tuag at darged—

Pe byddech chi'n gallu gwarantu cyflawni targed, nid targed fyddai hwnnw wedyn, iawn? Ni fyddai'n heriol mewn unrhyw ffordd—

Holl ddiben targed yw ysgogi sefydliad ymlaen i gyflawni hwnnw, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Nid yw diwedd tymor y Senedd wedi dod eto. 'Does wybod a fyddwn ni'n cyflawni'r targed. Rydym ni'n cyflymu tuag at hwnnw gyda'r holl allu sydd gennym ni. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer hynny'n rhyfeddol. Mae ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol ni ar ei phen ei hun wedi gweld y cyfraddau buddsoddiad uchaf erioed. Fe wn i nad yw'r Aelod yn hoffi'r syniad fod targed yn rhywbeth sy'n ysgogi sefydliad ymlaen, ond, mewn gwirionedd, dyna'r hyn ydyw. A dim ond er mwyn atgoffa'r Aelod, yn wahanol i unrhyw Lywodraeth Geidwadol a welsom ni erioed, mae Llafur Cymru bob amser yn addo pethau y mae'n eu cyflawni.

Ond a ydyn nhw? Rwy'n siŵr eich bod chi wedi dod o hyd i'r atodiad i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]

Adam, un eiliad. Fe hoffwn i gael clywed cyfraniad llefarydd Plaid Cymru heb unrhyw darfu o feinciau'r Ceidwadwyr, os gwelwch chi'n dda. Adam.

Fel Gweinidog Cyflawni, rwy'n siŵr fod atodiad adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru yn nodi cynnydd yn ôl yr ymrwymiadau yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu wedi bod yn agoriad llygad i chi fel i minnau. Yr hyn sy'n sefyll allan yw nifer y polisïau a'r addewidion y gwnaethoch chi eu rhoi heibio eisoes. Ni oes banc cymunedol i fod, ni fydd cronfa gyflenwi genedlaethol i athrawon, ni fydd amgueddfa gogledd Cymru, ni fydd cwmni adeiladu cenedlaethol, ni fydd awdurdod darlledu cysgodol, ni fydd diwygio'r flwyddyn ysgol, ni fydd cronfa gefeillio'r Undeb Ewropeaidd, ac ni fydd gwaharddiad ar barcio ar balmant, ni fydd y Bil tacsis na'r diwygiad i'r dreth gyngor a addawyd ar gyfer y Senedd hon yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Pam, yn eich barn chi, ydych chi wedi methu ar draws ystod mor eang o feysydd? A oeddech chi'n rhy radical ar ddechrau'r tymor hwn neu'n rhy geidwadol ar y diwedd?

Wel, dyna restr ddiddorol iawn yn fy marn i. Rwyf i bob amser—. Rwy'n wirioneddol siomedig, Adam, bod Plaid Cymru, y blaid fwyaf digalon, brudd yn hanes y byd—. Fe allech chi fod wedi dechrau ar ddechrau'r adroddiad blynyddol a darllen dros sawl, sawl, sawl, sawl sesiwn am yr holl bethau yr ydym ni wedi eu cyflawni. Ond, wrth gwrs, rydych chi bob amser, bob amser, bob amser yn dymuno canolbwyntio ar ben tywyll a phesimistaidd y sbectrwm. Roedd gennym ni set uchelgeisiol iawn o addewidion ar ddechrau ein maniffesto. Rydym ni wedi cyflawni'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw, yn ôl unrhyw gyfrif canran. Wrth gwrs, roedd ddiwedd y pandemig gennym ni yn 2021, pan gawsom ni ein hethol gyda'r mwyafrif mwyaf a gawsom ni erioed, gadewch i mi eich atgoffa chi, ac yna, wrth gwrs, fe gawsom ni'r argyfwng costau byw, anhrefn lwyr ofnadwy'r Ceidwadwyr, a arweiniodd at draed moch cyllideb Liz Truss. Er enghraifft, roedd gwerth £1 miliwn o grant tai cymdeithasol, cyn cyllideb Liz Truss, yn prynu saith tŷ i ni, ond nawr mae'n prynu pedwar i ni. Felly, er gwaethaf hynny i gyd, rydym ni wedi cyflawni'r mwyafrif helaeth o'n haddewidion.

14:40

Pan ydych chi wedi cael eich penodi yn Weinidog Cyflawni, 'allwch chi ddim gweld bai arnaf i am fod yn ddigalon wrth wneud dim ond tynnu sylw at yr addewidion na wnaethoch chi eu cyflawni. 

Wel, fe allech chi fod wedi dechrau ar y pen arall.

Peidiwch â chyhoeddi adroddiad blynyddol, felly. A gawn ni roi cynnig arall arni? A ydych chi'n derbyn, Gweinidog, bod eich prif dargedau sef 20,000 o gartrefi newydd, fel clywsom ni nawr, ond nid yn unig hynny, gofal plant cyffredinol am ddim i blant dwyflwydd oed, dileu amserodd aros maith y GIG a chreu 125,000 o brentisiaethau i gyd yn annhebygol o gael eu cyflawni bellach yn ystod tymor y Senedd hon? Adroddodd Llywodraeth Cymru, mewn grym rhwng 2011-16, ei bod wedi cyflawni 90 y cant a 95 y cant o'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth, yn y drefn honno, ond mae ein dadansoddiad ni'n awgrymu bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i fod yn brin o'r ddau ffigur hynny. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi ffigur cyflawniad diffiniol ar ddiwedd y tymor? Ac a ydych chi'n disgwyl iddo fod cystal neu'n rhagori ar gyflawniadau eich rhagflaenwyr chi? 

Gwnawn, yn gwbl sicr, fe fyddwn ni'n llunio adroddiad ar ddiwedd y tymor. Dyma'r un olaf o blith yr adroddiadau blynyddol, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd blwyddyn lawn i'r Senedd yn y flwyddyn olaf—fe fydd hi'n gorffen ym mis Mai—ac fe fyddai unrhyw adroddiad ar hynny yn dod yn nes ymlaen. Mae llawer o'r ystadegau yn yr adroddiad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu gohirio, felly mae'r ffigur ar dai, er enghraifft, yn ddwyflwydd oed am eu bod nhw'n ystadegau a gafodd eu gwirio. Fe wn i ein bod wedi rhoi'r cyfraddau uchaf o fuddsoddiad erioed yn y 20,000 o gartrefi, er enghraifft, ac fe wn ein bod ni'n agos at gyflawni'r targed hwnnw, wedi'r cyfraddau uchaf erioed o adeiladu newydd trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r ffigurau a adlewyrchir yno'n ystadegau a gafodd eu gwirio gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ac felly mae'n rhaid aros am ddwy flynedd. Mae oediadau yn digwydd gyda llawer o'r ystadegau, ac felly mae'n rhaid i chi fod yn gwneud adroddiad ar gyfer dal i fyny ar y diwedd, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny'n siŵr i chi.

O ran gwariant ar iechyd, er enghraifft, ers i Lywodraeth newydd y DU ddod i mewn a'r buddsoddiad a welwyd yn y gwasanaethau cyhoeddus a welodd y symiau canlyniadol yn dod ymlaen i Gymru, rydym ni wedi gallu gweld y gostyngiadau mwyaf erioed yn y rhestrau aros ar gyfer yr aros mwyaf, ac, mewn llawer o fyrddau iechyd ledled Cymru, nid oes unrhyw restrau aros o ddwy flynedd, ac rwyf i'n wir yn dathlu hynny. Rydym ni'n parhau i wthio hynny ymlaen, ac rwy'n gweithio gyda phob un o'r Ysgrifenyddion Cabinet, nid yn unig ynglŷn â'r prif faterion ond ar draws y rhaglen lywodraethu gyfan i ysgogi'r cyflawniad lle bo hynny'n bosibl. Ac fel dywedais i, diben y targed—mae honno'n ffon hwylus i guro Gweinidogion, wrth gwrs—gwir bwrpas y targed yw darparu set heriol o feini prawf ar gyfer gwthio cymdeithion cyflawni Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd felly, ond, mewn gwirionedd, y gwasanaeth sifil mewnol hefyd, i gyrraedd y targedau hynny, ac maen nhw'n offeryn defnyddiol iawn ar gyfer gwneud hynny.

Addewid arall yn y rhaglen lywodraethu oedd hyrwyddo a chefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU, ac rydych chi'n dweud yn yr atodiad fod yr ymrwymiad hwn wedi cael ei gyflawni erbyn hyn. A do, fe wnaethoch chi gefnogi a hyrwyddo gwaith comisiwn Gordon Brown, a oedd yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Y broblem yw na wnaeth Plaid Lafur y DU ymateb yn yr un dull. Rydych chi'n siŵr o fod wedi clywed sylwadau'r Gweinidog carchardai a phrawf ddoe, pan ddywedodd ef wrthym ni fod angen i'r Swyddfa Gartref sefydlogi'r argyfwng a grëwyd gan y Swyddfa Gartref cyn y gellid datganoli pwerau i Gymru. A yw San Steffan yn ymddwyn yn nawddoglyd tuag atom ni yng Nghymru, Cwnsler Cyffredinol? Ac a yw Llywodraeth Lafur y DU yn eich arwain chi ar gyfeiliorn?

Nid wyf i'n cytuno o gwbl â'r portread hwnnw. Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod da iawn gyda'r Arglwydd Ganghellor, lle awdurdododd hi swyddogion i weithio gyda'i gilydd ar ddechrau'r camau ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd yn ei flaen yn gyflym. Rydym ni wedi penodi pennaeth datganoli cyfiawnder ieuenctid yma yn Llywodraeth Cymru er mwyn gwthio'r gwaith hwnnw ymlaen yn gyflym. Mae amryw o gyfarfodydd eraill yn digwydd ynglŷn â phrawf. Fe fydd y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol a minnau'n ymweld â model Manceinion ar gyfer prawf yn ystod mis Awst, er enghraifft, gyda'r bwriad o edrych ar hynny.

Mae'r Arglwydd Timpson wedi gwneud llawer iawn o waith ar y llanastr llwyr y gadawodd y Llywodraeth Geidwadol y system llysoedd a charchardai ynddo. Fy ddylen nhw fod yn gwisgo sachliain a lludw yn hytrach na siarad y nonsens yr ydym ni'n ei gael ganddyn nhw mewn gwirionedd. Dim ond edrych sydd raid i chi ar unrhyw un o'r carchardai—mae gen i un yn fy etholaeth fy hun—i weld gorlenwi ofnadwy a chanlyniadau ofnadwy iawn oherwydd blynyddoedd o fethiant difrifol i fuddsoddi. Mae'r Arglwydd Timpson wedi bod yn canolbwyntio ar hynny. I fod yn deg iddo ef, nid yw'r broses ddatganoli o fewn ei gylch gorchwyl ef. Gweinidog ydyw ef sy'n edrych yn benodol iawn ar rai materion. Nid dyna'r hyn sy'n digwydd yn ein profiad ni. Fe ddywedodd maniffesto Llywodraeth y DU y byddai'n archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac rydym ni'n gwneud felly. Rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld y camau tuag at hynny yr oeddem ni'n eu disgwyl nhw yn ystod blwyddyn gyntaf a mwy y Llywodraeth Lafur yn y DU, ac rwy'n siŵr y bydd y daith honno'n parhau.

14:45
Arferion Caffael

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y camau y gall eu cymryd i sicrhau bod arferion caffael yn cynnwys ystyried triniaeth foesegol o bensiynwyr wrth ddyfarnu contractau cyhoeddus? OQ63026

Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo caffael cyfrifol a moesegol yn barhaus drwy nodiadau polisi caffael Cymru a'r 'Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'. Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi triniaeth foesegol o bob grŵp sy'n agored i niwed, gan gynnwys pensiynwyr.

Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol. Fe hoffwn i dynnu sylw at y mater pryderus o driniaeth anfoesegol o bensiynwyr, sef y rhai sydd â phensiynau â buddion wedi'u diffinio a gronnwyd cyn 1997. Fe glywais i gan etholwr yn y Rhyl sy'n gyn-weithiwr i Hewlett-Packard ac sy'n wynebu'r sefyllfa wirioneddol erbyn hyn o fod â chwyddiant yn erydu ei incwm ar gyfer ei ymddeoliad am yr unig reswm sef fod ei gyn-gyflogwr yn dewis peidio â chynyddu buddion cyn 1997 yn unol â chwyddiant, er y gallai weld yn dda i wneud hynny ac mae'r gallu ariannol ganddo, yn ôl pob tebyg. Mae pobl a roddodd ddegawdau o wasanaeth i'w cyflogwr yn gweld eu hincwm nhw'n gostwng mewn termau gwirioneddol flwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ganddyn nhw. Hefyd, mae nifer y pensiynwyr ledled y DU sy'n cael llai na'r isafswm incwm wedi dyblu bron iawn rhwng 2009 a 2022, sef tua 20 y cant o bensiynwyr. Mae'r mater yn un a gedwir yn ôl i'r graddau mwyaf, ac mae Pwyllgor Gwaith a Phensiynau San Steffan wedi ysgrifennu at y Gweinidog Pensiynau, Torsten Bell, ynglŷn â'r mater hwn. Ond, fe allai corfforaethau mawr fel HP, BP a Shell fod yn elwa ar gontractau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond maen nhw'n dewis trin eu cyn-weithwyr mewn ffordd mor wael, sy'n codi cwestiynau ynglŷn â—

—a yw hi'n iawn iddyn nhw dderbyn arian trethdalwyr. Felly, pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r camau y gall eu cymryd i sicrhau bod prosesau caffael yn adlewyrchu triniaeth foesegol o bensiynwyr fel hyn? Ac a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn archwilio gwahardd cwmnïau sy'n ymhél ag arferion anfoesegol fel hyn rhag cael cytundebau cyhoeddus yn y dyfodol?

Diolch i chi. Mae'r cyfrifoldeb, fel roeddech chi'n dweud, am bensiynau yn aros gyda Llywodraeth y DU ac mae'n gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mewn gwirionedd, fe fydd ein Hysgrifennydd Cabinet ni dros gyllid yn cwrdd â'r Gweinidog Pensiynau, Torsten Bell, yfory i drafod hynny a nifer o faterion eraill sy'n ymwneud â phensiynau sy'n effeithio ar economi Cymru ac ar bensiynwyr Cymru.

Yn y cyfamser, mae sector cyhoeddus Cymru wedi cymryd camau sylweddol ymlaen tuag at arferion busnes moesegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod contractau a ddyfernir yn cydymffurfio â'r safonau uchaf o ran cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae fframwaith deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn galluogi awdurdodau contractio i gynnal diwydrwydd dyladwy cadarn a mynediad at seiliau gwahardd er mwyn sicrhau mai cyflenwyr sy'n bodloni safonau cadarn yn unig sy'n gallu cynnig am gontractau cyhoeddus. Fe all unrhyw gyflenwyr dan gytundeb y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod nhw'n torri eu hymrwymiadau yn unol â Deddf Gaffael 2023 fod yn wynebu cosbau, gan gynnwys terfynu contractau a gwaharddiadau o gyfleoedd o ran caffael yn y dyfodol, ac mae hynny'n cwmpasu'r ystod gyfan o bobl agored i niwed a ddiogelir, sy'n cynnwys pensiynwyr.

Diffeithdiroedd Cymorth Cyfreithiol

4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â diffeithdiroedd cymorth cyfreithiol yng Nghymru? OQ63024

Diolch, Rhys. Mae diffeithdiroedd cymorth cyfreithiol yn dal i fod yn bryder difrifol yng Nghymru. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, mae gan Bwyllgor Pro Bono Cymru ran allweddol wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Serch hynny, ni all cymorth gwirfoddol ddisodli system o gymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol ac nid yw hwnnw'n ddatrysiad cynaliadwy mewn gwirionedd.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cydnabod, fel rydych chi wedi dweud sawl tro yn y fan hon, eich pryder chi ynglŷn â mynediad at gyfiawnder a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar bobl Cymru. Rwy'n pryderu ynghylch troseddoli protestio heddychlon a'r ffaith fod hynny'n arwain pobl i mewn i system lle na allan nhw gael y cyngor, y gefnogaeth nac, yn y pen draw, y cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n gofyn yn flaenorol am Brifysgol Caerdydd yn gweithredu gwaharddiad yn erbyn protestio heddychlon o fewn eu libart. Mae ymchwil gan Brifysgol Efrog yn dangos mai dim ond mewn 20 y cant o achosion o ran pobl sy'n torri gwaharddiad o ran protestiadau heddychlon—dim ond 20 y cant—sy'n cael cymorth cyfreithiol. Dros y penwythnos, mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed am 13 o bobl yn cael eu harestio yng Nghaerdydd am brotestio yn heddychlon y tu allan i'r BBC. Mae hwythau hefyd yn haeddu ac yn ymofyn cyngor cyfreithiol. Beth allwch chi ei wneud i atal sefyllfa lle mae protestwyr heddychlon yn wynebu'r posibilrwydd o orfod amddiffyn eu hunain heb unrhyw gymorth cyfreithiol? Diolch yn fawr.

14:50

Diolch, Rhys. Rwy'n rhannu eich pryder chi ynglŷn â hynny'n gyfan gwbl, ac yn anffodus nid hwnnw yw'r unig faes lle mae pobl yn gweld cyfiawnder yn cael ei wrthod iddyn nhw oherwydd nad yw'r cymorth cyfreithiol ar gael yno erbyn hyn. Rydym ni wedi siarad o'r blaen, onid ydym ni, am y pryder arbennig ynghylch tai mewn cyflwr gwael a mewnfudo hefyd, y ddau ohonyn nhw'n feysydd lle mae gwir angen ar bobl i gael gafael ar gyngor cyfreithiol da ac yn aml nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ac fe gafodd ei ddiddymu yn y rhan fwyaf o'r meysydd hynny. Fe ddywedais i o'r blaen wrth ateb cwestiwn i chi ein bod ni'n croesawu'r camau cyntaf tuag at adfer rhywfaint o gymorth cyfreithiol, ond mae yna ffordd bell iawn i fynd.

Yn y cyfamser, rwyf i'n croesawu gwaith amhrisiadwy Pwyllgor Pro Bono Cymru a phwyllgor Wythnos Pro Bono wrth ddatblygu'r canllawiau ar gyfer cyngor pro bono a chyngor arall rhad ac am ddim yng Nghymru. Fe ysgrifennais i at y pwyllgor yn cymeradwyo'r canllawiau yn llawn, ac maen nhw'n bwriadu eu rhannu gydag Aelodau'r Senedd fel bydd pob un ohonoch yn gwybod sut i gyfeirio pobl at gyngor cyfreithiol pro bono, ac ni allaf ganmol digon ar y cyfreithwyr sy'n darparu'r cyngor pro bono hwnnw. Rwyf i am ddweud hanesyn bach fy hunan, ond pan ydych chi'n gyfreithiwr ifanc, mae gwaith pro bono yn ffordd dda iawn o gael profiad da, ac fe weithiais i Rape Crisis am flynyddoedd lawer yn Llundain yn gyfreithiwr pro bono, ac rydych chi'n cael profiad amhrisiadwy iawn, ond hefyd, wrth gwrs, mae honno'n ffordd o roi rhywbeth yn ôl. Felly, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor mor weithgar yng Nghymru, ond, fel dywedais i yn fy ateb agoriadol, nid all hyn ddisodli set gynhwysfawr o ddarpariaethau cymorth cyfreithiol i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder. Ac rydym ni'n dal i gynnal sgyrsiau gyda'r Arglwydd Ganghellor, ac rwy'n pledio achos cyffredin gyda Chymdeithas y Gyfraith a chyda Chyngor y Bar ar gyfer ceisio pwyso am roi setliadau cymorth cyfreithiol priodol ar waith cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl.

Ac yna, dim ond fel sylw pellach, wrth gwrs, mae annog cyfreithwyr i fynd i feysydd o waith fel cyfiawnder troseddol yn mynd yn gynyddol anodd, oherwydd er mai'r syniad cyffredin yw bod cyfreithwyr i gyd yn gyfoethog, mewn gwirionedd mae gwneud bywoliaeth drwy gymorth cyfreithiol yn anodd iawn, ac mae'r rhan fwyaf o'r practisau cymorth cyfreithiol wedi cau oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gwneud felly. Fe fyddwn i'n awyddus iawn wir, cyn gynted ag y byddaf i'n gorffen bod yn Weinidog sy'n gwasanaethu yn y lle hwn, ym mis Mai'r flwyddyn nesaf, i fod â rhan fawr mewn ymgais i ddechrau canolfan gyfreithiol gwbl gynhwysfawr yng Nghymru i geisio gwneud hynny. Ac fe fyddaf yn siarad ag ystod o gyfreithwyr blaengar ynglŷn â sut y gallem ni wneud hynny cyn gynted â phosibl. Ond, dim ond er mwyn ailadrodd y pwynt, nid oes unrhyw beth a all ddisodli system cymorth cyfreithiol briodol a chynhwysfawr.

Cyflawni Blaenoriaethau'r Llywodraeth

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth? OQ63028

Gwnaf. Mae'r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gennym ni ddydd Gwener diwethaf yn nodi adroddiad cynhwysfawr o hanes trawiadol y Llywodraeth hon o ran cyflawni. Yn Weinidog Cyflawni, rwy'n gweithio gyda'm cyd-Aelodau ar draws y Cabinet. Fy llwyddiannau i yw eu llwyddiannau hwythau, ac mae'r Cabinet hwn gyda'i gilydd yn cyflawni'r pethau pwysicaf yng ngolwg pobl Cymru.

Cwnsler Cyffredinol, teitl eich swydd chi yw Gweinidog Cyflawni, ond yn aml mae llawr ohonom ni yn y Siambr hon yn teimlo mai Gweinidog oedi y dylai fod, boed hynny o ran cyflawni o ran tai, cyflawni o ran addysg, cyflawni yn ein GIG. Fe ddylech chi fod yn datglymu materion cyfreithiol a deddfwriaethol, yn goruchwylio cyflawni rhaglen y Llywodraeth, rydym wedi clywed gan eraill fod hynny'n methu, sicrhau mynediad at gyfiawnder a'r amserlen ar gyfer deddfwriaeth, ond dro ar ôl tro fe welsom ni Filiau yn dod gerbron yn llawn gwallau cyfreithiol a gramadegol, ac fe gawsom ni alwadau hefyd gan bwyllgorau craffu yma am ragor o dryloywder, sy'n aml yn mynd heb sylw gan y Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ein tywys ni drwy rai enghreifftiau gwirioneddol o faterion lle cafodd eich swyddogaeth chi o ran datglymu wedi bod â chanlyniadau mesuradwy, lle rydych chi wedi datglymu'r rhwystrau cyfreithiol hynny, wedi cyflymu deddfwriaeth, wedi sicrhau gwell mynediad i'r llysoedd neu dynhau cyflawni rhaglen y Llywodraeth, neu a ddylem ni ddechrau eich galw chi'n Weinidog ymddiheuriadau, nid cyflawni?

Wel, hen un sâl oedd honna, hyd yn oed i chi, os caf i ddweud hynny. Mae'r Cabinet cyfan yn cefnogi'r blaenoriaethau, ac, yn Weinidog Cyflawni, rwyf i'n darparu cefnogaeth i Ysgrifenyddion y Cabinet ym mha ffyrdd bynnag y bo angen hynny arnyn nhw. Fe wnaethoch chi ofyn am rai canlyniadau mesuradwy, felly gadewch i mi roi dim ond ychydig i chi: rhestrau aros wedi torri 86 y cant ers pwynt uchaf y pandemig; cyfraddau gorau erioed o dai fforddiadwy; cefnogaeth uniongyrchol i 40,000 o swyddi; ar y trywydd iawn i drwsio neu rwystro 200,000 o dyllau mewn ffyrdd; mwy o drenau newydd nag erioed o'r blaen, a thros 77 y cant o'r fflyd yn cynnwys cerbydau newydd, i ddim ond dechrau. Ac fe gewch chi ysgwyd eich pen cymaint fyth ag a fynnoch chi, ond mae'r rhain yn ffeithiau na ellir eu hamau nhw—rwy'n gwybod nad oes gennych chi hoffter at y rheini. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd iawn â phob Ysgrifennydd Cabinet i adolygu cynnydd yn ôl y rhaglen ar gyfer llywodraethu—[Torri ar draws.]

Fe fyddwn i wedi meddwl y byddech chi'n hoffi gadael llonydd i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i'r cwestiwn a pheidio â thorri ar draws yr ymateb.

14:55

Rwy'n credu bod hynna allan o drefn. Mae hi'n werth gwrando ar bob ymateb, ac fe ddylid gwrando arno.

Mae'r Cabinet cyfan yn cyfarfod ddwywaith y tymor i adolygu ein cynnydd ni'n benodol o'i gymharu â'r holl flaenoriaethau a sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth yn ysgogi'r pethau pwysicaf. Felly, er enghraifft, i roi un enghraifft i chi, yn ddiweddar iawn, fe wnaethom ni ddatgloi nifer o safleoedd tai ledled Cymru drwy gael Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros dai ynghyd â Dŵr Cymru a nifer o gynghorau i ddatgloi mater ffosffad gan ddatgloi safleoedd ar gyfer miloedd o gartrefi ledled Cymru, ac fe ellir dangos hynny'n wirioneddol amlwg. Ac, wrth gwrs, mae ystod o bethau sy'n cael eu nodi gennym ni yn yr adroddiad blynyddol y gwnaethom ni eu cyflawni nhw hefyd.

Mae yna gwestiwn diddorol iawn i'w ofyn yn hyn o beth; mae hi'n biti na allodd James Evans ddod o hyd i hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio creu nifer o wahanol fecanweithiau cyflawni dros nifer o flynyddoedd, ond y chi yw, rwy'n credu—hyd y gwn i—y Gweinidog cyntaf ar gyfer cyflawni a benodwyd i Lywodraeth Cymru, ac fe fyddai hi'n dda o beth i'r Senedd hon allu deall y dulliau a'r mecanweithiau yr ydych chi'n eu defnyddio fel Gweinidog cyflawni gyda'ch cyd-Aelodau Cabinet i sicrhau bod cyflawni yn digwydd yn unol ag amcanion ac uchelgeisiau'r Llywodraeth, ac fe fyddai hynny'n ein helpu ni'r Aelodau gyda'n gwaith craffu pe byddem ni'n gallu deall beth yw'r mecanweithiau, y mecanweithiau a'r prosesau hynny, er mwyn deall y swyddogaeth. Rwyf i'n gefnogol iawn i swydd Gweinidog cyflawni; fe hoffwn i ddeall eich swyddogaeth chi pan fyddwch chi o amgylch bwrdd y Cabinet ac yn gweithio gyda'ch cyd-Aelodau Cabinet.

Ie, diolch i chi, Alun. Rwy'n hapus iawn i nodi hynny. Felly, fel rwy'n dweud, fe fyddaf i'n cynnal cyfres o gyfarfodydd o leiaf unwaith bob hanner tymor gyda phob un o'r Ysgrifenyddion Cabinet a'r Gweinidogion perthnasol i fynd trwy'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth, i ddeall ein sefyllfa o ran cyflawni'r ymrwymiadau hynny a'r hyn sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu croesi'r llinell derfyn, neu i ddeall pam nad ydyn nhw'n gallu croesi'r llinell a'r hyn y gallwn ni ei wneud ynglŷn â'r peth, os mai honno yw'n sefyllfa rydym ynddi. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd iawn â phobl gyda'r pedair blaenoriaeth fwyaf ar gyfer deall sut olwg sydd ar y setiau data ar gyfer hynny a'r hyn y gallwn ni ei wneud ynglŷn â'r setiau data hynny i sicrhau bod yr wybodaeth gywir gennym ni a'n bod ni'n ysgogi gwelliannau sy'n briodol. Yn aml, nid yw hyn yn ymwneud â bod ag adnoddau ychwanegol; mae'n ymwneud â defnyddio'r adnoddau hyn mewn ffordd arall. Rwyf wedi gofyn i nifer o Aelodau'r meinciau cefn ymgymryd â phethau ar gyfer rhoi cymorth i mi yn hyn o beth. Felly, fe wnaeth Lee Waters, er enghraifft, ddarn o waith ar dai fforddiadwy i ni. Roedd y darn hwnnw o waith yn nodi nifer o bethau y gallem ni eu gwneud i gyflymu'r cyflawni mewn rhai meysydd. Rydym ni wedi datglymu cryn dipyn o'r broblem ffosffad o ran tai ar gyfer hynny, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi ein helpu ni i lanhau ein hafonydd hefyd, sy'n cynnig mantais ar y ddwy ochr.

Rwy'n sicrhau hefyd nad oes rhwystrau traws-lywodraethol—fel gwyddoch chi, fe all Llywodraethau fod yn cynnwys unedau ar wahân i ryw raddau—ar gyfer sicrhau nad yw rhywbeth sy'n digwydd yn y fan hon mewn gwirionedd yn gweithio yn weithredol yn erbyn rhywbeth sy'n digwydd fan draw a'u dwyn nhw at ei gilydd i sicrhau eu bod nhw'n gweithio ar y cyd. Ac yna, ddwywaith bob hanner tymor, mae gennym ni Gabinet cyfan sy'n ymroddedig i'n sefyllfa o ran y rhaglen ar gyfer llywodraethu a sut wedd sydd ar yr ystadegau penodol hynny o ran cyflawni. Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, ac rwy'n hapus iawn i rannu peth o'r dadansoddi data rydym ni wedi gallu ei wneud gyda rhai o'r pwyllgorau craffu, rhai o'r pethau nad oeddem ni'n gwybod amdanyn nhw y dylem ni fod wedi gwybod amdanyn nhw efallai a rhai o'r pethau a wnaethom ni o ganlyniad i fod yn gwybod amdanyn nhw.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:58:55
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon fel sydd wedi ei nodi ar agendâu'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes tair wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad brys ynglŷn â chynllunio mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â busnesau lleol sy'n bryderus iawn fod awdurdodau cynllunio yn y gorllewin yn mabwysiadu dull rhagofalus o ran ceisiadau, yn seiliedig ar lythyr a gawson nhw'n ddiweddar oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn er nad oedd unrhyw ganllawiau cynllunio ffurfiol wedi cael eu diweddaru, ac felly mae'r ymagwedd hon yn bodoli er nad oes unrhyw newid gwirioneddol wedi digwydd.

Mae'r awdurdodau cynllunio lleol wedi ei gwneud hi'n glir na fydd ceisiadau cynllunio sy'n cynnwys unrhyw bosibilrwydd o ddŵr ffo yn llifol i ardal cadwraeth arbennig yn cael eu hystyried hyd nes y bydd CNC yn diweddaru ei ganllawiau cynllunio swyddogol, er bod ceisiadau cynllunio wedi bod yn mynd rhagddynt hyd yn ddiweddar dan ganllawiau cyfredol CNC, ac nid yw'r canllawiau hynny wedi newid eto. Trefnydd, ni ellir anwybyddu'r goblygiadau economaidd i'r gorllewin. Os bydd datblygiadau yn cael eu hatal, fe fydd hynny'n effeithio yn ddifrifol ar fusnesau lleol, ac fe allai swyddi fod yn y fantol. Felly, mae angen datganiad ar frys gan naill ai'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, neu'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae hi'n hanfodol fod y sefyllfa bresennol yn cael ei egluro i bawb dan sylw ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw datblygiadau yn cael ei rhwystro yn llwyr yn y gorllewin.

15:00

Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi wedi tynnu sylw at rywbeth sy'n fater i awdurdodau cynllunio lleol, ac, yn amlwg, awdurdodau lleol sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd, mae eu swyddogaethau cynllunio yn cael eu llywio i raddau helaeth gan 'Polisi Cynllunio Cymru', ond hefyd, wrth gwrs, yn ystyried canllawiau gan gyrff eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydych chi wedi codi'r cwestiwn. Mae'n amlwg bod angen llawer mwy o esboniad am effeithiau o ran, yn barod, a yw'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud, ond, beth bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod chi wedi'i godi, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifenyddion Cabinet yn ymateb o ran cwestiynau pellach.

Trefnydd, fel y gwyddoch chi, bydd Interceltique de Lorient, sef gŵyl flynyddol fwyaf diwylliant Celtaidd, fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, yn cael ei chynnal eto fis Medi. Bydd gan Gymru, fel bob amser, ddirprwyaeth yn yr ŵyl, gan gynnwys, o fy rhanbarth fy hun, Côr Meibion Treorci, ond adroddodd Nation.Cymru yr wythnos diwethaf na fydd presenoldeb gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu mai Cymru fydd yr unig genedl Geltaidd heb stondin hyrwyddo. Hoffwn wybod a yw hyn yn wir, a hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog yn amlinellu pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith bod gennym ni femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhanbarthol Llydaw, a bod diwylliant yn rhan o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwnnw.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch am dynnu sylw'r Senedd, unwaith eto, at yr ŵyl flynyddol, yr ŵyl Geltaidd wirioneddol bwysig honno. Yn sicr, rwy'n cofio ymgysylltiad Llywodraeth Cymru, ac yn wir presenoldeb gweinidogion a'r prif weinidog yn honno. Hoffwn fynd â hyn yn ôl a chael eglurhad o'r sefyllfa. Diolch yn fawr.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf oll, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad ychwanegol yr ymchwiliad gwaed heintiedig yr wythnos diwethaf? Roedd yr ymchwiliad yn teimlo bod angen cynnal gwrandawiadau eraill ddechrau mis Mai oherwydd pryderon difrifol am y ffordd yr oedd yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn cael ei sefydlu, yr oedi sylweddol a oedd yn cael ei brofi, a'r diffyg ymgynghori llwyr â'r rhai a ddylai fod wedi bod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Roeddwn i'n falch iawn bod fy etholwr Lynne Kelly, cadeirydd Haemophilia Wales, yn dyst yn y gwrandawiadau ac yn gallu cyflwyno pryderon y rhai sydd wedi'u heintio a'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf gan gadeirydd yr ymchwiliad, Syr Brian Langstaff, gyda rhai sylwadau a chasgliadau damniol iawn, megis na fyddai unrhyw un a wrandawodd ar hyn

'mewn unrhyw amheuaeth nad yw'r ymddiriedaeth wedi'i hadennill eto, ond yn hytrach ei bod wedi cael ei niweidio ymhellach a bod pobl wedi cael eu niweidio ymhellach gan y ffordd maen nhw wedi cael eu trin.'

Mae hon yn sgandal sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers 40 mlynedd. A allai Llywodraeth Cymru wneud datganiad ynglŷn â sut y bydd yn ymateb i'r adroddiad diweddaraf hwn?

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad—

Diolch. Diolch yn fawr, Julie Morgan. A gaf i ddiolch i chi am godi'r cwestiwn hwn? Mae'n gwestiwn sydd, wrth gwrs, wedi dod i'r amlwg eto o ganlyniad i'r adroddiad hwn. A gaf i dalu teyrnged i Lynne Kelly, Haemophilia Wales a'r gwaith cyson, y diwydrwydd, yr ymrwymiad mae hi wedi'i ddangos i'r ymgyrch hon? Rwy'n cydnabod rhwystredigaeth y rhai y mae'r sgandal gwaed heintiedig wedi effeithio arnyn nhw, a'u teuluoedd a'u perthnasau. Rwy'n credu, ar draws y Siambr, mae gan bob un ohonom ni etholwyr—mae gennyf i rai, yn sicr—rydym ni'n eu cynrychioli o ran hyn.

Rwy'n credu hefyd fod yr ymchwiliad wedi cael ei arwain mor fedrus a chyda chymaint o ymrwymiad gan Brian Langstaff, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny heddiw. Mae hwn yn fater i Swyddfa Cabinet y DU, ac wrth gwrs—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gohebu â Nick Thomas-Symonds, y Gweinidog sy'n gyfrifol—maen nhw'n ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod ddydd Iau yma gyda'r Gweinidog, Nick Thomas-Symonds, ynghyd â'i holl gydweithwyr yn y gwledydd datganoledig, i drafod yr argymhellion a'r camau nesaf.

15:05

Trefnydd, rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r gwrthsemitiaeth gynyddol yn ein gwlad, ac mae'n arbennig o ofidus gweld y casineb hwn yn glanio'n anghymesur ar bobl ifanc. Yn wir, rwyf hyd yn oed wedi derbyn cwynion am ddatganiadau gan Urdd Gobaith Cymru, sefydliad rwyf bob amser wedi'i gysylltu â thegwch a chynhwysiant. Mae adroddiad wedi cael ei ryddhau'n ddiweddar, a gomisiynwyd gan Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a'i gefnogi gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos bod gwrthsemitiaeth wedi'i normaleiddio ym Mhrydain erbyn hyn. Rhybuddiodd yr adolygiad fod pobl Iddewig yn y DU yn dioddef rhagfarn gynyddol yn ein proffesiynau, bywyd diwylliannol ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a chanfu fod gwrthsemitiaeth wedi dod yn dreiddiol yn ein GIG, yn ein prifysgolion ac yn ein sector celfyddydau. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad llafar ar frys ar y camau mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r adroddiad hwn ac i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn ein GIG, yn ein prifysgolion ac yn ein celfyddydau? Diolch.

Diolch, Joel James, am eich cwestiwn, ac am dynnu sylw at adroddiad newydd, a gafodd ei gyd-gadeirio gan y Fonesig Penny Mordaunt a'r Arglwydd John Mann. I ddweud, yn amlwg, fel yr wyf wedi'i ddweud ac mae'r Senedd yn gwybod, bod Llywodraeth Cymru yn condemnio gwrthsemitiaeth yn ei holl ffurfiau ac yn sefyll mewn undod â phobl a chymunedau Iddewig ledled Cymru a'r DU. Rydyn ni'n croesawu canfyddiadau'r comisiwn. Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu cymdeithas decach a mwy cynhwysol lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi, a thrwy ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau, gwasanaethau cyhoeddus ac addysgwyr i herio casineb, hyrwyddo dealltwriaeth a sicrhau nad oes lle i hiliaeth a gwahaniaethu yn ein cenedl. Rydyn ni'n parhau i ymgysylltu â chymunedau Iddewig yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u pryderon yn cael sylw. Hefyd, byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych ar yr argymhellion hyn ein hunain.

Dwi’n nodi datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ddoe yn rhoi diweddariad chwe mis ar waith a wnaed mewn ymateb i argymhellion modiwl 1 ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol. Mae’r datganiad ar y cyfan yn siomedig, ac mae’n hynod arwynebol. Wrth edrych ar argymhelliad 1, er enghraifft, mae’n nodi bod y Llywodraeth wedi ymateb a chwblhau'r gofyniad a wnaed. Ac eithrio un ochr A4 o esboniad yn unig, does dim modd gwneud yn siŵr bod y gofyniad wedi cael ei foddhau cyn belled ag y mae’r Senedd yma yn y cwestiwn. Mewn ymateb i argymhelliad 5, mae’n nodi bod ymarferiad desg wedi cael ei gwblhau. Y pwynt ydy nad oes modd craffu dim o’r datganiad yma yn gyhoeddus. Mae’r sefyllfa, felly, yn annerbyniol. Gaf i ofyn i’r datganiadau yma yn y dyfodol gael eu gwneud yn rhai llafar er mwyn i ni gael amser i’w craffu?

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Fel y dywedwch chi, cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi ddydd Llun, ar 14 Gorffennaf, a'i rannu â'r Aelodau o ran cynnydd ar argymhellion modiwl 1 yr ymchwiliad, ac fe wnaeth ymateb Llywodraeth Cymru ailddatgan ein hymrwymiad i ddysgu parhaus, nid yn unig o ymchwiliadau, ond o ddigwyddiadau ac ymarferion. Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i wella ein dealltwriaeth o risg a'n parodrwydd. Mae fframwaith gwydnwch Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, yn darparu ein cynlluniau ar gyfer gwella galluoedd parodrwydd, ymateb ac adfer a sicrhau Cymru fwy gwydn, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod dadl yfory, dadl sy'n cael ei chroesawu'n fawr, a bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus hefyd wedi cytuno i fod yn gyfrifol am symud hwn yn ei flaen, o ran yr adroddiad a luniwyd gan y pwyllgor diben arbennig, ond diolch am godi hyn heddiw cyn hynny, Mabon.

A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n dangos ymrwymiad i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer afancod a fframwaith trwyddedu rhyddhau i'r gwyllt ar gyfer afancod, yn dilyn datganiad ysgrifenedig fis Medi diwethaf gan y Dirprwy Brif Weinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno afancod yng Nghymru mewn ffordd reoledig? Erbyn i ni ddychwelyd, bydd 12 mis wedi mynd heibio ers y datganiad hwnnw. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn brysur iawn, ond rydyn ni'n aros am hyn. Diolch.

15:10

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Wel, mae gennych chi'r Ysgrifennydd Cabinet yma yn y Siambr. Mae wedi cael ei atgoffa o bwysigrwydd ein datganiad o gefnogaeth o ran ailgyflwyno afancod. Rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi gweld hynny'n digwydd ledled y DU, ac rwy'n siŵr, yn nhymor yr hydref, y bydd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.

Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gefnogi menywod gyda'r menopos? Mae'r menopos yn broblem fawr o ran iechyd a'r gweithlu, sy'n effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru. O'r hyn rwyf yn ei ddeall, mae tua 900,000 o fenywod wedi gadael gweithlu'r DU oherwydd symptomau heb eu rheoli, ac amcangyfrifir bod y menopos yn costio mwy na £10 biliwn bob blwyddyn mewn cynhyrchiant coll ac absenoldeb, ond eto mae'r gefnogaeth, yn anffodus, yn parhau i fod yn dameidiog, gydag amseroedd aros hir y GIG, polisïau anghyson yn y gwaith a mynediad cyfyngedig i weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi ar y menopos.

Mae cymuned menopos de Cymru, yr oeddwn i'n falch o gyfarfod â nhw'n ddiweddar, yn gweithio'n galed iawn i newid hynny. Maen nhw wedi cynnig model rhanbarthol, cydgysylltiedig ar gyfer cymorth menopos, fel un o'r pethau sy'n dod â darparwyr gofal iechyd, cyflogwyr a gwasanaethau cyfannol at ei gilydd. Eu gweledigaeth yw canolfan lles menopos bwrpasol sy'n cefnogi anghenion meddygol, iechyd meddwl, ffordd o fyw a'r gweithle o dan un to, gyda changen ddigidol i sicrhau cyrhaeddiad cynhwysol. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn lansio rhaglen beilot, ac rwyf wedi eu rhoi mewn cysylltiad â bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ond byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod â'r menopos yn cael ei groesawu'n fawr. Byddwn i hefyd yn erfyn ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gyfarfod â chymuned menopos de Cymru, rhywbeth y byddwn i'n fwy na hapus i'w hwyluso. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Wrth gwrs, rydych chi'n codi mater sydd mor bwysig i bob menyw, o ran cefnogi menywod trwy'r menopos. Wrth gwrs, mae gennym ni gyfle gwirioneddol nawr i fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gynhwysfawr ledled Cymru gyda'r cynllun iechyd menywod a hefyd y disgwyliad a'r cymorth ariannol i ganolfannau iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'ch ffocws heddiw ar gefnogi menywod drwy'r menopos, a hefyd rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sydd wedi cymryd rôl flaenllaw gyda'r cynllun iechyd menywod, eisiau ymateb hefyd.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus yn well mewn cymunedau gwledig, gan edrych yn arbennig ar drosglwyddo rhwng bysiau a threnau, yn enwedig mewn ardaloedd fel Trefyclo? Mae Trefyclo ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; yng Nghymru, mae'n teimlo'n ei bod wir wedi'i hesgeuluso. Un o'r pethau sydd ganddi yw llinell Calon Cymru yn rhedeg iddi, ond ychydig iawn o gyfle sydd i bobl gysylltu o drên i fws; er enghraifft, mae'r trên 9 p.m. sy'n cyrraedd Craven Arms i ganiatáu i bobl fynd ymlaen i Drefyclo yn colli'r cyswllt bws yn llwyr. Er bod y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn addo gwella integreiddio rhwng bysiau a threnau, mae cwestiynau o hyd ynglŷn â'r hyn y bydd yn ei olygu mewn gwirionedd. Felly, a gaf i eich annog chi a'r Ysgrifennydd Cabinet i nodi sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud yn siŵr nad yw cymunedau fel Trefyclo yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n bwysig eich bod chi'n tynnu sylw heddiw at gymunedau fel Trefyclo—cymunedau prydferth. Rwy'n cofio cerdded trwy, ac yn wir aros yn Nhrefyclo o ganlyniad—dim ond cerdded, wrth gwrs. Mae'n lle da i ymweld ag ef, ac i drigolion, wrth gwrs. Ond rwy'n credu mai dyma lle mae angen i ni wneud yn siŵr bod Trafnidiaeth Cymru yn ystyried y ffyrdd y mae teithio llesol a threnau ar linell Calon Cymru yn cysylltu o ran yr amserlenni, gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol hefyd i wneud yn siŵr bod y cysylltiadau hynny yno a bod cymunedau fel Trefyclo yn rhan o hynny. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu dulliau amlfoddol i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal llinell Calon Cymru, a bydd y Bil bysiau, wrth gwrs, yn ein helpu ni i gyflawni drwy fasnachfreinio bysiau. Felly, rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth lle bydd gwelliannau, o ran Calon Cymru, ac yn enwedig Trefyclo, o ran yr ymateb amlfoddol hwnnw i wasanaethau. 

15:15

Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddarparu cludiant i'r ysgol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Rwyf wedi cael eithaf sioc yn ddiweddar. Rwyf wedi cael un neu ddau o bobl ifanc—merched—yn dymuno cymryd pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac ati. Yn y bôn, maen nhw eisiau astudio ar eu campysau lleol, sef Grŵp Llandrillo Menai i ni, neu ar yr ynys hefyd. Nawr, mae polisi cludiant i'r ysgol yr awdurdod lleol ei hun ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn cyfyngu cymorth i goleg agosaf y dysgwr, heb ystyried y cyrsiau sydd ar gael nac anghenion dysgwyr unigol. Ers y newid hwn, mae'r coleg wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ymholiadau gan fyfyrwyr, yn enwedig o ran peirianneg a STEM. Ac ers 14 mlynedd, rwyf wedi eistedd yna wrth iddyn nhw ddweud, 'Mae angen mwy o fenywod arnon ni, mae angen i bobl ifanc astudio pynciau STEM a pheirianneg', ond eto mae'r awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gwrthod ariannu'r cludiant sydd ei angen arnynt.

Allech chi efallai edrych ar hyn ac efallai siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy? Dau ddisgybl sydd wedi dod ataf hyd yn hyn, ond rwy'n credu y bydd eraill yn dod ataf i ofyn am hyn. Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai'r awdurdod lleol fod yn gwrthod ei ariannu, yn fy marn i. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael y bobl hyn i mewn i bynciau STEM.

Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu ein bod ni'n cytuno'n llwyr ar y pwynt hwnnw. Mae'n wych gwybod bod yna ddisgyblion, myfyrwyr ysgol, sydd eisiau astudio pynciau STEM, ac yn enwedig merched yn astudio pynciau STEM. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer o arian i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a merched ydynt yn aml, i fynd i astudio pynciau STEM. Ac wrth gwrs, mae hynny'n ymwneud ag argaeledd y cyrsiau hynny yn y cymunedau lle maen nhw'n byw ac sy'n hygyrch. Rydych chi wedi codi cwestiwn yn y fan yna am fynediad i'r cyrsiau hyn yn eich etholaeth chi o ran cludiant i'r ysgol ar gyfer dysgwyr ôl-16, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch eisiau edrych arno o ran mynediad ac argaeledd.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, datganiad ar ba gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r 2,000 o swyddi nyrsio gwag yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod cynlluniau i leihau nifer yr israddedigion sy'n cael eu derbyn yn ysgol nyrsio Caerdydd. Does bosib y bydd hyn yn gwaethygu'r problemau recriwtio ac anghenion y sector. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi recriwtio 200 o nyrsys o dramor yn gynharach eleni, ond rwy'n gwybod bod llawer o fy etholwyr yn teimlo nad yw dod â nyrsys o dramor yn ffordd gynaliadwy o staffio ein GIG sydd mewn trafferthion, a bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn tyfu ac yn gofalu am ein talent gartref gymaint â phosibl, a hyfforddi a meithrin y bobl hyn yng Nghymru i'r rolau hanfodol hyn. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymateb i hynny.

Yn ail, mae dros dri mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers dyfarniad y Goruchaf Lys, ac rydyn ni'n dal i aros i Lywodraeth Cymru roi datganiad llafar ar beth fydd y camau nesaf. Nid wyf i'n siŵr ei bod yn bosibl cyfiawnhau oedi o'r math hwn, Trefnydd, ac rwy'n credu—rwy'n gwybod, yn wir—bod yna gamau nawr i fynd â Llywodraeth Cymru i'r llys dros beidio â gweithredu'n gyflym ac yn unol â'r gyfraith ar hyn. Mae'r Senedd ar fin torri am seibiant nawr, ac ni fyddwn ni'n clywed datganiad nawr tan fis Medi. Felly, a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, os gwelwch yn dda, fel mater o frys, a allwn ni ei gael yn yr wythnos gyntaf honno pan ddown ni nôl ym mis Medi? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn hynny, Laura Anne Jones. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar y lefelau calonogol iawn nid yn unig o hyfforddiant, ond hefyd staffio o ran lefelau nyrsio yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r swyddi gwag, ond rwy'n credu bod hwn, unwaith eto, yn gyfle i ddangos, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y lefel uchaf o staffio'r GIG, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys ein staff nyrsio hollbwysig.

O ran dyfarniad y Goruchaf Lys, rydych chi'n gwybod fy mod i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hyn, a hefyd fy mod i wedi ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gwnaeth llawer, a gafodd ei lansio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae diweddglo hwnnw a'r hyn y gallai ei olygu yn ymarferol o ran canllawiau a chanlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, rydyn ni'n aros am hynny. Dim ond ar 30 Mehefin y daeth i ben. Rwyf hefyd wedi achub ar y cyfle i gwrdd â sefydliadau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ac sydd â diddordeb yng nghanlyniadau'r ymgynghoriad. Rwyf wedi cwrdd â nhw ar draws yr holl fuddiannau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond rydyn ni'n aros am ganlyniad ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac fe wnawn ni symud ymlaen o ran deall effeithiau hyn yn y ffordd yr ydyn ni'n ymateb. Mae'n bwysig iawn bod hyn yn ymwneud â bod yn gynhwysol, yn dosturiol a chydnabod anghenion ac effeithiau eisoes.

15:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar gymorth sy'n ymwneud â'r A465? Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch o gyhoeddi bod gwaith gwella'r A465 wedi dod i ben, ac rwy'n cytuno ei fod yn brosiect trawiadol ac rwy'n siŵr y bydd yn destun dadl ar werth am arian am flynyddoedd lawer i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynllun wedi'i orffen a'r cymunedau ger y ffordd ar agor ar gyfer busnes, ond i lawer yn fy etholaeth i nid yw'r cynllun wedi dod i ben, gan eu bod yn dal i ddioddef gyda chanlyniadau'r gwaith, megis y diffyg gwaith gwella a addawyd, cymorth busnes ac iawndal. Mae nifer o'm hetholwyr yn dal i aros am nifer o benderfyniadau, gydag un achos penodol sydd wedi parhau ers dros 12 mlynedd, yn ymwneud â'r mynediad at eiddo yr effeithiwyd arno gan y ffordd newydd. Nid yw'r aros hwn yn ddigon da ac mae angen canlyniadau ar ein trigolion i allu mynd ymlaen â'u bywydau. Mae gormod o bobl mewn sefyllfa ansicr ac amhendant. Felly, byddwn yn croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr holl achosion cymorth sy'n weddill, mynediad neu faterion eraill sy'n ymwneud â'r A465 yn cael eu datrys, fel y gellir ystyried bod y prosiect wedi'i orffen unwaith ac am byth.

Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n siŵr y byddem yn cytuno â hynny. Yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad mawr a fydd yn cefnogi eich rhanbarth, eich etholaeth chi a phawb a fydd yn elwa arno, a phawb sy'n wir—ac rwy'n cofio'r drafodaeth hon yr wythnos diwethaf—sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith adeiladu, a'r manteision i bobl a chymunedau lleol o ran addysg a chyfleoedd prentisiaethau. Yn amlwg, lle mae angen datrys y materion hynny, dyna fydd y flaenoriaeth nawr. Diolch yn fawr.

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 15:23:18
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da i chi i gyd. Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ein cynllun ffermio cynaliadwy heddiw. Dyma garreg filltir arbennig yn amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sydd o safon fyd eang, gan ofalu am yr amgylchedd ar yr un pryd â mynd i'r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo. Bydd hefyd yn datblygu gwytnwch ar gyfer y rhai a fydd yn gweithio ac yn gofalu am y tir gwerthfawr hwn yn y blynyddoedd sydd i ddod. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ein huchelgais yw gweld sector amaethyddol ffyniannus, hyderus wedi'i adeiladu o amgylch arloesi a thwf, gan ymdrin yn llwyddiannus â heriau a manteisio ar gyfleoedd. Mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi ffermio, ac mae hynny'n amlwg i'w weld. Maent yn deall rôl ffermwr wrth feithrin tir a'r Gymraeg, cynhyrchu bwyd byd-enwog, a gwarchod cynefinoedd bregus. Ond mae angen mwy. Mae tywydd eithafol a sychder yn arwyddion bod yr argyfyngau hinsawdd a natur yma. Nid yw'n bosibl ystyried cynhyrchu bwyd yn y dyfodol heb liniaru'r argyfyngau hyn, fel y nodir yn yr amcanion rheoli tir cynaliadwy.

Mae pobl Cymru eisiau gwybod bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi mewn amaethyddiaeth yn dod â'r manteision maen nhw'n eu dymuno. Maen nhw'n cefnogi ffermio yng Nghymru, ac maen nhw eisiau diogelu priddoedd, gwella ansawdd dŵr, cynnal mynediad i gefn gwlad a chefnogi natur. Felly, gyda hyn mewn golwg, mae'r cynllun yn cynrychioli cytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr. 

Nid cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn; mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan—dull fferm gyfan, dull cenedl gyfan. Ac mae'n gynnyrch cydweithredu digynsail. Rydym wedi gwrando ar safbwyntiau eang ac wedi gweithio'n ddwys gyda'r bwrdd crwn gweinidogol a gyda grwpiau cefnogol, a diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni. Mae hyn wedi arwain at gynllun sy'n gweithio i'r diwydiant ac yn diwallu anghenion pawb. Rwy'n bwriadu i'r bwrdd crwn gweinidogol barhau wrth i ni gryfhau ac ymgorffori'r CFfC ar draws y diwydiant. Felly, rydym ni wedi gwrando, a byddwn yn parhau i wrando.

Does dim dwy fferm yr un fath, felly rydym wedi sicrhau bod y cynllun yn hygyrch. Mae'n cynnig hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ffermio, tenantiaid a newydd-ddyfodiaid sydd â mynediad at dir. Mae'r fframwaith o weithredoedd cyffredinol, dewisol a chydweithredol yn ymateb i ofynion y diwydiant. Mae'r fframwaith yn darparu sefydlogrwydd gan helpu ffermydd i fod yn fwy cydnerth a chynhyrchiol trwy wella iechyd pridd, iechyd anifeiliaid, rheoli plâu a datblygu sgiliau.

Rydym wedi lleihau cymhlethdod trwy leihau'r camau gweithredu cyffredinol, symleiddio gofynion a symleiddio gweinyddu. Rydym yn ymrwymo i gefnogi'r gweithredoedd cyffredinol a chynllun y taliad sylfaenol etifeddol gyda'r un gyllideb yn 2026—£238 miliwn—yr ydym yn ei wario ar hyn o bryd ar gynllun y taliad sylfaenol. Mae gwerth cymdeithasol yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r taliad cyffredinol yn 2026, sy'n adlewyrchu'r manteision lluosog y mae ffermwyr yn eu darparu ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Rydym wedi gosod y gyllideb hon i annog ffermwyr i ymuno â'r cynllun yn 2026 i wireddu buddion y cynllun yn gynt.

Fodd bynnag, dim ond gyda defnydd sylweddol o gamau dewisol a chydweithredol y bydd ein hymrwymiadau amgylcheddol yn cael eu bodloni. Po gynharaf y defnydd, y cynharaf y byddwn yn gweld y manteision ar raddfa sylweddol. Dyma pam rydym ni wedi cryfhau'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y camau hyn yn 2026, a pham rydym yn ymrwymo i symud cydbwysedd cyllidebau'r dyfodol ymhellach tuag at gamau gweithredu dewisol a chydweithredol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein hamcanion hinsawdd a natur, ac i gynnig dyfodol gwirioneddol gynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru.

Byddwn yn parhau i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i werth cymdeithasol i ddeall yn well sut mae gweithredoedd unigol yn cyfrannu at wahanol elfennau o werth cymdeithasol, gan gynnwys y manteision sy'n dod o warchod ein hamgylchedd, ac i fireinio'r dull hwn ac yna ei gymhwyso'n ehangach i weithredoedd dewisol a chydweithredol.

Rydym wedi newid ein dull o blannu coed. Mae angen i ni blannu mwy o goed a gwrychoedd i gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd. A dyna pam, ar ôl gwrando ar ffermwyr, rydym wedi symud i ffwrdd o 10 y cant o orchudd coed ar bob fferm tuag at ysgogi ffermwyr trwy gymorth plannu hael a hyblyg yn yr haen ddewisol. Fel man cychwyn rydym yn gofyn i ffermwyr blannu o leiaf 0.1 hectar erbyn diwedd 2028, neu gael trefniadau i blannu erbyn diwedd mis Mawrth 2029. Er mwyn ysgogi plannu cynnar, rydym yn cynnig taliadau gwell i'r rhai sy'n plannu yn y tair blynedd gyntaf.

Mae coed o fudd i dda byw yn ogystal â dal carbon a darparu cynefin, a dyna pam mae ein cynnig plannu coed yn cefnogi amrywiaeth o fathau o blannu, gan gynnwys lleiniau cysgodi ac integreiddio coed ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd fel rhan o system amaeth-goedwigaeth. Nid ydym yn disgwyl, ac nid ydym eisiau i ffermwyr blannu ar eu tir mwyaf cynhyrchiol. Byddant yn penderfynu ble i blannu, gydag arweiniad, i sicrhau bod y goeden iawn yn y lle iawn.

Yn dilyn trafodaethau helaeth â rhanddeiliaid, rwy'n hyderus y bydd hyn yn cyflawni cymaint, os nad mwy o blannu nag y byddai wedi'i gyflawni o dan gynigion blaenorol. Ar lefel cynllun, ei bwriad yw gweld o leiaf 17,000 hectar o blannu erbyn 2030, gydag uchelgais o 21,500 hectar. Ond, erbyn diwedd 2028, os nad ydym wedi symud ymlaen, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu.

Nid yw newid yn hawdd. Mae'r cynllun hwn yn newid mawr, ond mae'n newid rydym ni'n credu sy'n dda i ffermio, cynhyrchu a'r amgylchedd. Rwy'n credu ac yn gobeithio y bydd y mwyafrif o ffermwyr yn ymuno â'r cynllun. Mae'r CTS ar gael i'r rhai y tu allan i'r CFfC, er ei fod wedi'i ostwng 40 y cant y flwyddyn nesaf. Mae hyn yr un fath â phe baem wedi cyflwyno'r CFfC yn 2025. Rydym yn blaenoriaethu'r CFfC i annog ffermwyr i ymuno â'r cynllun ac i ddechrau elwa. Rydym yn parhau i ariannu cynlluniau eraill i helpu ffermwyr i drosglwyddo i'r CFfC ac i gyflawni cynaliadwyedd ffermydd a blaenoriaethau gwledig eraill.

Mae hwn yn gyfnod heriol i gymunedau gwledig, lle mae ffermio nid yn unig yn fywoliaeth, ond yn ffordd o fyw. Bydd y cynllun yn cefnogi diwydiant ffermio ffyniannus, cynhyrchiol, cynaliadwy, sy'n sail i'r cymunedau hyn am genedlaethau i ddod. Mae'r cynllun yn dechrau ym mis Ionawr, ond dyna'r dechrau. Rydym ni'n cefnogi ffermwyr a bwyd am y tymor hir. Mae'r cynllun yn dibynnu ar ffermwyr, eu teuluoedd, a phawb sy'n eu cefnogi, felly rwy'n gobeithio y bydd ffermwyr nawr yn cymryd yr amser i ddeall sut mae'n gweithio iddyn nhw.

Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â holl Aelodau'r Senedd i sichrau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynrychioli'r gorau o amaethyddiaeth Cymru, ac yn ei gefnogi, ac yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd ei angen ar ffermwyr i fod yn wirioneddol wydn a chynaliadwy. Diolch yn fawr iawn. 

15:30

Diolch, Dirprwy Brif Weinidog, am eich datganiad heddiw. Rhaid diolch hefyd i bob ffermwr, ac i'r gadwyn gyflenwi amaethyddol ehangach ledled Cymru, am bopeth y maen nhw'n ei wneud i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, cynaliadwy ac y gellir ei olrhain. Rydym hefyd yn talu teyrnged i'r ffermwyr hynny a ddaethant at risiau'r Senedd, neu a ymgasglodd mewn marchnadoedd da byw ledled Cymru y llynedd, i brotestio yn erbyn cynigion Llywodraeth Cymru ar y pryd. Diolch. Roedd eich lleisiau yn uchel, yn glir ac yn angenrheidiol. Rhaid diolch hefyd i Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, a llawer o rai eraill, am eu heiriolaeth ddiflino ar ran diwydiant sy'n asgwrn cefn Cymru wledig.

Dirprwy Brif Weinidog, rydych chi'n bersonol wedi bod yn gweithio ar hyn ers blwyddyn, ond mae'r diwydiant wedi bod yn aros dros saith mlynedd am eglurder. Mae ffermwyr Cymru yn haeddu sicrwydd, nid yn unig am flwyddyn, ond am y tymor hir. Bydd y cynllun newydd hwn yn disodli degawdau o gymorth sydd wedi cadw cymunedau ffermio a gwledig Cymru yn hyfyw. Rhaid adeiladu newid o'r raddfa hon ar dystiolaeth, cydweithredu, ac, yn hollbwysig, ymddiriedaeth. Ond, ar hyn o bryd, mae'r ymddiriedaeth honno wedi'i thorri. Yn ôl arolwg Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, dim ond 3 y cant o ffermwyr sy'n ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon.

Yn gyntaf, mae'n siomedig eich bod wedi penderfynu torri'r cynllun taliad sylfaenol i 60 y cant i'r rhai nad ydynt yn llofnodi ar 1 Ionawr, gan fyrhau'r cyfnod pontio. Rwy'n gwybod, fel y gwnaethoch ddadlau yn eich datganiad, bod hyn yn adlewyrchu'r hyn a fyddai wedi digwydd pe bai'r CFfC wedi'i lansio yn 2025, ond ni chafodd ei lansio, oherwydd bod y cynllun wedi'i feirniadu mor drwm fel bod yn rhaid i chi fynd yn ôl i ddechrau eto. Felly, nawr, mae ffermwyr yn cael eu cosbi am y methiant hwnnw, ac, fel y dywed NFU Cymru yn gywir, mae'r ymyl clogwyn hwn yn gysgod mawr dros lawer o weddill y cynllun.

Mae sicrhau cyllideb haen gyffredinol, sy'n cyfateb i'r dyraniad CTS presennol—£238 miliwn—i'w groesawu gyda gofal. Er bod y Llywodraeth hon wedi gwrthod cynyddu'r gyllideb hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cadw'r llinell o leiaf yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd tymor byr. Fel y gwyddoch chi, mae llong yn cael ei chydbwyso yn ei chorff, ac, yma, yr haen gyffredinol yw lle mae'n rhaid angori sefydlogrwydd. Ond mae'r sicrwydd hwnnw'n ymestyn i 2026 yn unig. Nid oes unrhyw warant na fydd y gyllideb haen gyffredinol yn cael ei thorri yn y blynyddoedd i ddod, gydag arian yn cael ei ddargyfeirio i haenau eraill. O'ch datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma, mae'n ymddangos mai dyna'r bwriad, ac, i mi, mae hynny'n annerbyniol. Gadewch i ni gofio: nid £238 miliwn yw'r gyllideb ffermio lawn. £340 miliwn ydyw. Felly, ble bydd y £102 miliwn sy'n weddill yn cael ei wario? Pe bai'r Llywodraeth hon wedi cynyddu'r gyllideb yn unol â chwyddiant, byddai'n werth yn agosach at £500 miliwn. Felly, Dirprwy Brif Weinidog, gan roi o'r neilltu mater bach etholiad y Senedd fis Mai nesaf, pa warantau cyllid allwch chi eu rhoi y bydd llawr yn cael ei osod i sicrhau nad yw'r haen gyffredinol byth yn disgyn o dan £238 miliwn?

Er nad yw'r targed plannu coed o 10 y cant yn cael ei grybwyll mwyach, mae targed plannu coed ar draws y cynllun o 17,000 hectar erbyn 2030 yn dal i fodoli—dim ond pedair blynedd i ffwrdd—gyda disgwyliad i ffermwyr blannu 250 o goed erbyn 2028. Felly, mewn gwirionedd, mae targed plannu coed fesul fferm yn parhau. Rydym ni bob amser wedi dweud, o'r meinciau hyn, y goeden iawn, yn y lle iawn, am y rhesymau iawn. Ond mae coed yn cael eu crybwyll 115 gwaith, bwyd 66 gwaith yn unig. Felly, a yw'r cynllun hwn mewn gwirionedd yn blaenoriaethu plannu coed dros ddiogeledd bwyd?

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, gallech addo y cynllun gorau yn y byd, ond os yw'r asesiad effaith economaidd yn dangos ei fod yn arwain at golli swyddi, toriadau da byw ac incwm sy'n gostwng, yna bydd ffermwyr yn ei wrthod a hynny'n gywir, fel y gwnaethant o'r blaen. Yr hyn sy'n bryderus iawn yw nad oes unrhyw asesiad economaidd wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn heddiw, ond rydych chi eisoes wedi cyfaddef, ar Politics Wales, ddydd Sul, eich bod wedi gweld y modelu. Ond nid ydym ni wedi'i weld. Pam? Hebddo, rydych chi'n gofyn i ffermwyr ymddiried ynddoch chi heb dystiolaeth ddigonol, yn seiliedig ar eich datganiad ar Politics Wales yn dweud mai eich teimlad chi yw y bydd yn well. Nid yw hynny'n ddigon da. Rhaid i chi gyhoeddi'r asesiad effaith cyn Sioe Frenhinol Cymru a chaniatáu i Aelodau'r Senedd a'r diwydiant ehangach farnu'r dystiolaeth drostynt eu hunain.

Oherwydd nid yw'r ffigurau hynny mewn asesiad effaith yn niferoedd haniaethol; maent yn cynrychioli teuluoedd, cymunedau a bywoliaethau. Nid ydynt hyd yn oed yn cynnwys yr effaith ddilynol lawn ar gadwyni cyflenwi gwledig ac economïau lleol. Mae llawer mwy y gallwn ei ofyn a'ch herio ynghylch hyn, Dirprwy Brif Weinidog, ond nid yw ymddiriedaeth wedi'i feithrin ar deimlad yn unig. Mae'n cael ei ennill trwy dryloywder, partneriaeth, a chynllun sy'n cefnogi, nid yn cosbi, ffermio Cymru. Diolch.

15:35

Diolch yn fawr iawn, Sam. Diolch am y sylwadau yna. Rydych chi'n iawn: mae ymddiriedaeth yn seiliedig ar gydweithredu agored, gweld y dystiolaeth gyda'n gilydd, gweithio gyda'n gilydd, wynebu'r ffeithiau gyda'n gilydd hefyd, cytuno ar y canlyniadau gyda'n gilydd hefyd, ac yna symud ymlaen gyda'n gilydd. Dyna beth rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y 12 mis diwethaf. Rydym ni wedi meithrin yr ymddiriedaeth honno, gyda'r gymuned ffermio, gyda'r undebau ffermio, gyda'r rhanddeiliaid eraill, y grwpiau amgylcheddol o amgylch y bwrdd crwn hwnnw, gyda'r swyddogion—dros 300 awr o waith wedi mynd i mewn i hyn, i gael y cynllun hwn yn iawn.

Ar ddechrau hyn, dywedais y byddwn i'n llosgi'r gannwyll yn y ddau ben. Nid fi yn unig sydd wedi bod yn gwneud hyn, mae pob un o'r cyfranogwyr yn rhan o hyn: yr undebau ffermio, y ffermio er lles natur, y sector organig, pawb sydd wedi chwarae rôl, yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt, Coed Cymru—pob un ohonynt; mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed i symud hwn yn ei flaen. Dyna'r ffordd rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth. A'r peth gwych am lansio hwn heddiw yw bod y flwyddyn honno nid yn unig wedi bod ar gyfer cael y manylion technegol yn iawn, a dyluniad y cynllun yn iawn, ond mae ar gyfer meithrin y berthynas honno, ac, fel yr wyf wedi gwneud yn glir yn y datganiad, ein bod yn cadw hyn i fynd—y dull hwn o weithio sydd mewn gwirionedd wedi'i ymgorffori'n ddwfn.

Os ydych chi eisiau gweld enghraifft o'r ffyrdd y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn gweithio, dyma hi, cyd-gynhyrchu canlyniad. Mae hynny'n golygu fy mod yn dal i wneud y penderfyniadau a'r dyfarniadau, ond dyma'r ffordd i feithrin ymddiriedaeth. Bydd yna bobl heddiw a fydd yn dweud, 'Hoffwn pe na bai wedi gwthio mor galed ar hynna', 'Hoffwn pe bai wedi mynd ymhellach ar hynna'. Rwy'n derbyn hynny, fy mhenderfyniadau i oeddynt. Ond rydych chi'n ei adeiladu trwy edrych ar yr un dystiolaeth a lle y cytunir ar y canlyniadau. Ar ddechrau'r broses hon, dywedom y byddem yn gweithio i'r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (RhTG) hynny—pob un ohonynt—ac yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin hefyd â'r argyfwng natur a hinsawdd.

A gyda llaw, yn rhai o'm datganiadau heddiw, yn groes i'r hyn sydd wedi'i ddweud, rydym mewn gwirionedd wedi rhoi—. Nid gêm cyfrif geiriau yw hon gyda llaw, ond mae diogeledd bwyd wedi gynnwys ynddo; felly hefyd cynhyrchu bwyd, felly hefyd safonau uchel lles anifeiliaid, bywoliaethau a ffyrdd o fyw, felly hefyd gwerth cymdeithasol ffermio, felly hefyd y Gymraeg. Ond dyna beth rydych chi'n meithrin ymddiriedaeth o'i gwmpas. Rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar hynny, yn gyfan gwbl.

Rydych chi'n sôn am y tapr 40 y cant. Mae'r tapr 40 y cant, fel yr amlinellais yn fy sylwadau yma, rydym ni 12 mis ymhellach i lawr y lôn. Byddwn wedi bod yn taro'r 40 y cant erbyn hyn. Ond mae yna neges wirioneddol yma hefyd, Sam, sef dweud wrth ffermwyr: mae CTS yn mynd. Mae'n mynd. Dewch i mewn i'r CFfC. Manteisiwch ar y cyfleoedd o fewn hyn. Gweithiwch i wneud eich fferm yn dda, arloesol, gynhyrchiol. Gwnewch hi'n gydnerth yn erbyn yr hinsawdd hefyd. Gweithio gyda'r arian a'r cyllid rydym ni'n ei roi yn y cynllun hwn, a dod i mewn iddo yn gynnar. Felly, dyna pam rydym ni wedi ei anelu'n wirioneddol tuag at, os byddwch chi'n dod i mewn yn gynnar, fe welwch. Yn yr haen ddewisol, er enghraifft, ar y plannu coed a chreu coed, bydd cyfleoedd yno i ffermwyr fynd i mewn i hynny yn gynt a chael cyllid mwy hael ar ei gyfer. Mae wedi'i gynllunio'n fwriadol yn y ffordd honno. Ond mae wedi'i gynllunio o amgylch y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn y bwrdd crwn hefyd.

Diolch am y croeso gyda gofal ar gyfer yr haen gyffredinol. Ond, yn bwysig, nid yr haen gyffredinol yw'r holl hanfod a'r diben. Mae'r haen gyffredinol yn hanfodol bwysig oherwydd bod honno'n sicrhau y gallwn ei wneud, fel rydym ni bob amser wedi dweud, mor hygyrch â phosibl i bob ffermwr yn y wlad, ac rydym wedi dylunio'r cynllun yn y modd hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi bod yn falch o wneud yn siŵr bod y gronfa a warantwyd ar gyfer y CTS ddwy flynedd yn ôl, a'i gwarantu y llynedd gyda risg, bellach yn cael ei chario drosodd i'r haen gyffredinol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n gyferbyniad amlwg â'r hyn a gynigiwyd i ni pan wnaethom adael yr UE, pan oedd yn mynd i fod yn wlad o laeth a mêl, ac, yn sydyn, byddai arian yn llifo i mewn i ffermio, yn rhyfeddol. Ni fyddai unrhyw drafodaethau yn y Cabinet am y cydbwysedd rhwng torri amseroedd aros neu fuddsoddi mewn trafnidiaeth neu ysbytai neu ysgolion a ffermio. Roedd y wlad honno o laeth a mêl yn gamgymeriad llwyr. Dydw i ddim yn dweud mai chi oedd ar fai, Sam, ond roedd yna bobl oedd yn dweud hynny. Roedden nhw'n anghywir bryd hynny, ac maen nhw'n anghywir nawr.

Yr hyn rydym ni wedi gallu ei wneud, fel Llywodraeth Lafur, oherwydd y gyllideb y gwnaethom bleidleisio drosti, yw cyflawni hyn unwaith eto, fel y gallwn roi'r sicrwydd hwnnw. Ond y budd go iawn yn y dyfodol yw, ac mae hyn yn cynnwys y tapr hefyd—. Y drafodaeth rydym ni wedi'i chael ar y bwrdd crwn yw, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ac rydym yn mudo pobl oddi ar y CTS, oherwydd yn y pen draw bydd y CTS yn dod i ben—mae hynny'n fater o etifeddiaeth nawr—bydd pawb yn symud i mewn i'r CFfC. Ac, wrth i ni wneud hynny, mae'r arian yn mynd i'r dewisol a'r cydweithredol. Felly, gallwn gael ffermwyr sy'n gweithio ar lefel tirwedd, gan weithio, er enghraifft, yn rhannau uchaf rhywle fel rhan o afon Conwy, lle mae'r afon bellach â thymheredd yng nghanol yr ugeiniau, lle nad oes unrhyw beth yn byw yn yr afon pan fydd gennych y tymheredd tonnau gwres hyn, lle dylem fod ar sail dalgylch tirwedd—llawer o ffermwyr yn plannu coed ochr yn ochr â'r afon honno—gan gynnwys ymdrin â llygredd sy'n mynd i mewn i'r afon hefyd. Dyna beth all y cynllun hwn ei wneud.

Fe wnaethoch chi sôn am brif ymrwymiad y cynllun. Mae hynny'n gyflawniad balch o'r cynllun hwn. Roeddech chi'n iawn wrth ddweud nad yw rhai pobl yn hoffi'r ffaith ein bod wedi cerdded i ffwrdd o'r ymrwymiad o 10 y cant fesul fferm. Rwy'n deall hynny, ond yr hyn sydd gennym yma yw prif darged sydd wedi bod trwy'r bwrdd crwn, yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddo, i gyflawni 17,000 hectar. Byddai'n uwch na'r hyn a fyddai'n cael ei gyflawni gan 10 y cant fesul fferm. Ond bydd gan ffermwyr y gallu i ddyfeisio eu cynllun eu hunain ar gyfer eu fferm eu hunain, nid plannu coed ar ardaloedd sydd ag anghenion bioamrywiaeth eraill ynddynt, nid plannu ar dir cynhyrchiol blaenllaw, ond mapio ac yna ei gyflawni, a disgyn o'r haen ddewisol o arian a fydd ar gael i blannu hefyd.

Ac yn olaf, o ran y cynlluniau busnes a'r asesiad effaith, rydym eisoes wedi gwneud y modelu a'r asesiadau, amgylcheddol ac economaidd. Rydym wedi edrych yn ofalus ar y rheini er mwyn cyflwyno hwn heddiw. Rydym wedi dadansoddi effeithiau posibl y cynllun, ac mae hynny wedi ein helpu i wneud y penderfyniadau yr ydym wedi eu gwneud. Ond dim ond i fod yn glir—dim ond i fod yn glir iawn—senarios yw'r rhain, nid rhagolygon. Senarios yw'r rhain, nid rhagfynegiadau. Felly, byddwn yn parhau i adolygu'r cynllun wrth i ni gasglu rhagor o dystiolaeth. Rwy'n hyderus iawn y bydd y cynllun hwn yn well i fusnesau fferm ac i'r amgylchedd. Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'r cynllun, gan gynnwys yr hyn rydw i newydd ei grybwyll a'i ddisgrifio gyda gorchudd coed. Mae wedi arwain at wahanol ganlyniadau i'r cynllun fel y'i dyfeisiwyd o'r blaen. Bydd yn anochel, mae'n rhaid i mi ddweud, y bydd cost i'r ffermwr wrth gwblhau rhai o'r camau gweithredu cyffredinol, ac mae hynny'n cael ei gydnabod yn y dystiolaeth rydw i wedi'i weld. Ond mae yna hefyd nifer sylweddol o fanteision i'r busnesau fferm hynny yn sgil y cynllun, megis sefydlogrwydd, cynhyrchiant cynyddol, mwy o effeithlonrwydd.

Fe fyddwn ni, Sam, yn cwblhau'r dadansoddiad a'r asesiad yn barod i'w gyhoeddi ym mis Medi, a bydd yn gyflawn ac ni fydd allan o'r cyd-destun. Bydd darlun cyfan i chi ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n croesawu hynny. A dim ond i ddod yn ôl at y pwynt—. Mae'n ddrwg gen i. Ac ar gyfer ffermydd unigol, Sam, oherwydd—[Torri ar draws.] Ac ar gyfer ffermydd unigol, dim ond i ddweud wrthych chi, bydd canllaw cyflym ar gael. Felly, bydd unrhyw ffermwr yn y wlad yn gallu cerdded i mewn i'r Sioe Frenhinol ac yna, neu wneud hynny ar-lein, a gweld beth fydd hyn yn ei olygu i'w fferm. Wyddoch chi, dyna'r effaith economaidd go iawn y bydd pobl yn chwilio amdano, nid yn gyfanredol, nid y prif ffigurau, ond mewn gwirionedd, 'Beth mae'n ei olygu i'm busnes i?' Dyna beth fyddan nhw'n edrych arno. 

15:40

Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. A gaf i ddiolch hefyd i'ch swyddogion chi am y briffiau technegol a gynigwyd i Aelodau o'r Senedd ychydig oriau yn ôl? Wrth gwrs, dim ond rhyw amlinelliad lefel uchel rŷn ni wedi ei gael. Fel bob amser, bydd y manylion yn bwysig iawn, ac mi ddaw'r rheini gydag amser, dwi'n siwr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud fod y cynllun sydd gennym ni, erbyn hyn, yn well na'r cynllun a osodwyd ar y cychwyn. Yn sicr, mae yna lai o universal actions. Mae yna gyfeiriad wedi bod yn barod at y ffaith nad yw'r disgwyliad 10 y cant yma o blannu coed ar bob fferm yn y cynllun mwyach; mae e yn gynllun fferm gyfan. Mae'r taliadau wedi'u capio, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddosbarthu yn ehangach o fewn y sector. Felly, mae e yn well, ond mae yna gwestiynau sylfaenol, wrth gwrs, yn dal i fod. Fel rwy'n dweud, dim ond ychydig oriau rŷn ni wedi eu cael i edrych ar y manylion, ac mi ddaw rhagor i'r golwg gydag amser, ac mi fydd yna gyfle i gnoi cil, wrth gwrs, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Un peth yr oedd y sector yn chwilio amdano heddiw oedd sicrwydd tymor hir, neu o leiaf eglurder i roi hyder iddynt mai dyma'r ffordd iawn ymlaen, nid y flwyddyn nesaf ac o fewn y 12 mis, ond y tu hwnt i hynny. Dydw i ddim wedi gweld digon o hynny y prynhawn yma. Mae'n siomedig mai dim ond ymrwymiad ariannu blwyddyn sydd gennym ni, er ei fod yn cael ei gadw ar y lefel bresennol. Gallaf ddweud yma nawr y byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i gylch ariannu tymor hwy, wedi'i seilio, o leiaf, ar y lefel yr ydych wedi'i amlinellu heddiw. Mae hynny'n rhywbeth y byddem yn fodlon ymrwymo iddo, ac os byddai pleidiau eraill yn fodlon ymrwymo i hynny, yna gobeithio y byddai hynny'n rhoi hyder i chi efallai i fynd ymhellach heddiw. Byddwn yn gofyn i chi ailystyried hynny ac a ydych chi'n gallu rhoi llinell welediad hirach o ran ariannu'r cynllun.

Rydych hefyd yn dweud y bydd symud cydbwysedd cyllidebau'r dyfodol o'r gweithredu cyffredinol i weithredoedd dewisol a chydweithredol yn digwydd. Nid ydych chi'n dweud wrthym pryd. Nid ydych chi'n dweud wrthym faint. Unwaith eto, bydd hynny'n canu clychau larwm ym meddyliau pobl i roi'r hyder iddynt ynghylch a ydyn nhw'n camu i mewn i'r CFfC ai peidio. Os yw rhywun wedi ymuno â'r cynllun heddiw, mae angen iddynt wybod—nid y flwyddyn nesaf, mae angen iddynt wybod beth sy'n digwydd ym mlwyddyn 2, 3, 4, 5. Felly, ychydig mwy o eglurder ynglŷn â'ch meddwl—. Oherwydd ei fod yn fodiwleiddio i bob pwrpas, onid yw e? Mae'n symud o'r hyn oedd yn golofn 1, taliad cyffredinol, i golofn 2. Felly, efallai y cawn rywfaint mwy o wybodaeth ar hynny.

Aildrefnu'r pontio a chywasgu’r pontio nawr yw'r dull anghywir, rwy'n credu. Rwy'n credu bod gostyngiad o 40 y cant yn y flwyddyn gyntaf yn rhy sylweddol. Rydych chi'n iawn pan fyddwch chi'n dweud ei fod yn mynd â ni i ble byddem wedi bod pe bai'r cynllun wedi mynd rhagddo fel y bwriadwyd y llynedd. Ond wnaeth e ddim, naddo? Ni aeth yn ei flaen fel y bwriadwyd. Ac os oedd yr egwyddor o bontio pum mlynedd yn angenrheidiol y llynedd, yna rwy'n credu ei bod yn deg bod hynny'n parhau eleni. Felly, byddwn yn eich annog i ailystyried hynny hefyd a dychwelyd at y cynllun gwreiddiol. Am un rheswm ymarferol hefyd, wrth gwrs, yn yr ystyr fy mod yn gwybod ein bod eisiau i bobl ymuno â'r CFfC cyn gynted â phosibl, rwy'n deall hynny, beth os bydd mewnlifiad enfawr ym mlwyddyn 1, pan nad yw systemau'r Llywodraeth wedi cael eu profi, pan fydd prosesu ceisiadau efallai yn drwsgl, i ddefnyddio gair rydych chi wedi'i ddefnyddio mewn gwahanol gyd-destunau yn y gorffennol? Mae risg yn hynny hefyd. Felly, efallai y byddai pontio mwy graddol mewn gwirionedd nid yn unig yn cefnogi'r rhai sydd eisiau amser i addasu eu modelau busnes i'r cynllun newydd, ond byddai hefyd yn helpu'r Llywodraeth i weithredu'r cynllun newydd yn ddi-dor.

O ran y taliad gwerth cymdeithasol, mewn datganiad cynnar a ryddhawyd y peth cyntaf y bore yma gennych chi'ch hun, dywedoch chi eich bod yn dal i ddatblygu eich dealltwriaeth o ran y taliadau gwerth cymdeithasol, ond rwy'n gweld nawr, wrth gwrs, yn y ddogfen a ryddhawyd y prynhawn yma, y bydd taliad o £107 yr hectar ar gyfer 2026. Rwy'n croesawu hynny. Mae hynny'n gam cadarnhaol. Ond yr hyn rydw i eisiau ei wybod yw beth sy'n digwydd, felly, ym mlwyddyn 2, 3, 4 a 5, ac ati, oherwydd gwerth cymdeithasol yw gwerth cymdeithasol. Nid yw gwerth cymdeithasol ffermio yn lleihau, felly allwch chi ein sicrhau na fydd y taliad am werth cymdeithasol yn lleihau chwaith?

Rwy'n gwybod bod yna lawer o gwestiynau yna, Dirprwy Brif Weinidog, ond bydd hyd yn oed mwy o atebion y bydd pobl yn dymuno eu cael. Fel y dywedaf, bydd hynny'n digwydd, gobeithio, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae bylchau mawr yn y manylion o hyd, ond byddant yn dod i'r amlwg, gobeithio, mewn pryd. Diolch i chi a'r holl randdeiliaid am y gwaith rydych chi wedi'i wneud i ddod â ni i'r pwynt hwn. Mae'n welliant, ond mae yna lawer o gwestiynau y mae angen eu hateb.

15:45

Diolch, Llyr. Edrychwch, rwy'n cydnabod hynny, ac rwy'n credu bod y trafodaethau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy yn cael eu cyflwyno i bobl, er ein bod wedi cyflwyno prif amlinelliad y cynllun yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, a gafodd groeso mawr ac yn rhoi rhywfaint o syniad o'r colofnau pwysig hynny o'r cyffredinol, dewisol, cydweithredol, a rhywfaint o gadarnhad o sut yr oeddem yn mynd i ymdrin â safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a thir comin—. Fe wnaethon ni geisio rhoi ychydig wrth i ni fynd ymlaen. Ond dyma'r holl fanylion ar unwaith i bawb. Felly, mae'n bwysig, mewn gwirionedd, a'r neges allan yna i ffermwyr yw: 'Ewch i edrych ar y canllaw cyflym hwnnw.' Mae'n swnio'n wirioneddol hudolus—nid ydyw, rwy'n addo i chi. Yn y bôn, mae'n rhyw fath o gais taenlen, ond bydd yn rhoi syniad da iawn iddyn nhw a yw hyn yn gweithio ar gyfer eu ffermydd nhw: 'Felly, pan fydd hwnnw ar gael yr wythnos nesaf, ewch i edrych arno, cymerwch ychydig o amser, peidiwch â chael eich dallu gan y penawdau sy'n mynd o gwmpas, cymerwch ychydig o amser, edrychwch ar beth mae'n ei olygu i'ch busnes fferm chi.'

Ac rwy'n credu ei fod yr un peth i ni fel Aelodau'r Senedd hefyd. Aelodau'r Senedd, bydd hyn wedi bod yn ddatguddiad mawr, gyda llawer o fanylion—pwysau mawr y dystiolaeth a'r deunydd a'r data rydym ni wedi mynd drwyddo. Ond yn rhyfedd, y pwysigrwydd rydych chi'n ei roi nid yn unig i'r cwantwm o gyllid sydd wedi mynd i mewn i'r pontio o'r CTS i'r haen gyffredinol o CFfC eleni, ond dyfodol y dewisol a chydweithredol, oherwydd mae yna gwantwm o gyllid yno—. Nawr, rydym wedi'i gwneud yn glir iawn, ac rydym wedi bod yn onest iawn am hyn, bod yna uchafswm rydym ni'n ei roi yn yr haen gyffredinol. Oherwydd ei fod yn bwysig iawn ar gyfer y pontio, ond rydym mewn gwirionedd yn cydnabod bod yr achos gwerth am arian ar gyfer y buddion ehangach hynny yn dod trwy'r dewisol a chydweithredol. Felly, mae uchafswm ar y lefel gyffredinol—rydym ni'n bod yn onest ac yn onest iawn am y peth—ac mae isafswm lefel ar y dewisol a chydweithredol, a fydd yn tyfu dros amser wrth i fwy o bobl fudo ar draws o'r CTS a'r arian hwnnw'n cael ei ryddhau i'r dewisol a chydweithredol. Mae gennym bethau fel y tynnu i lawr ar gyfer yr ymyriadau hynny ar raddfa tirwedd y gallem eu cael, sydd o fudd i gynhyrchiant ac arloesedd i'r ffermwr, ond hefyd i natur a'r amgylchedd hefyd.

Ond i ddweud wrth bob Aelod, byddwn yn awyddus iawn i barhau i ymgysylltu â manylion hyn wrth i ni fynd trwy'r haf, trwy'r hydref, trwy'r sioeau ac ati, fel y gallwn gael mwy o fanylion. Dyna hefyd, gyda llaw, pam rydym ni eisiau—Sam, dim ond i ddod yn ôl atoch chi—parhau i weithio trwy'r haf, oherwydd os ydych chi wedi gweld rhai o'r ymatebion gan rai o'r sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol hefyd, maen nhw'n cael eu plesio'n fawr gyda'r darn hwnnw, ynghyd â'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ac eraill, gan ddweud bod angen i ni nawr fireinio'r darn cydweithredol dewisol hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn cyflawni'r buddion lluosog hynny. Felly, erbyn i ni gyrraedd y darn ym mis Medi, bydd gennych ddarn crwn o ddadansoddiad economaidd ac amgylcheddol a'r achos busnes llawn a'r gwerth am arian. Oherwydd cofiwch, mae'r achos gwerth am arian hyn hefyd yn hanfodol bwysig—a yw'n cyflawni'r manteision eang hynny?

Mae'r systemau ar waith, gyda llaw, i gyflawni hyn. Byddwn wrth fy modd pe bai ffermwyr yn troi at hwn yn gyflym iawn, ac rydym yn barod i'w wneud, oherwydd mae wedi bod yn seiliedig ar, dim ond i dawelu meddyliau cyd-Aelodau, systemau, addasiadau o'r systemau, sydd eisoes ar waith. Dydyn ni ddim yn adeiladu biwrocratiaeth newydd i wneud hyn, rydym ni'n addasu'r rhai sy'n gweithio'n dda iawn. Felly, bydd yn gyfarwydd iddyn nhw a gallwn ymdrin â beth bynnag yw'r defnydd. Ond dyna'n union yw'r pwynt. Pam na allwn ragweld ymhellach i'r dyfodol? Oherwydd mae hyn yn dibynnu ar y defnydd gan ffermwyr, mynediad ffermwyr iddo, ac yna mae'n dibynnu ar ba opsiynau maen nhw'n mynd amdanynt mewn gwirionedd, a'r opsiynau lefel uwch hefyd. Felly, ni allwn fodelu hynny yn bendant. Byddwn yn gallu cael syniad pan fyddwn ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, beth bynnag, a byddwn yn parhau i addasu'n ddeinamig. A dim ond i'ch sicrhau, mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o'r cynllun yn y dyfodol, ond rydych chi'n cyffwrdd â darn ehangach mewn gwirionedd am—a Sam, mae'n ddrwg gennyf, nid wyf wedi ateb hwn i chi chwaith—mater y cylch cyllideb flynyddol. Wel, dim ond i ddweud, nid yw'n newydd. Rydym ni wedi bod yn gwneud hyn yn y CTS hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser fynd trwy broses y Cabinet o ddadlau ynghylch ble mae hyn yn gorwedd wrth ystyried y darlun llawn.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, gyda llaw, ac i bawb y tu allan—oherwydd byddwch chi'n sylwi bod yna lawer o bobl sy'n dweud bod angen hyd yn oed mwy o arian arnom ni yn hyn, ac yn rhyfedd mae aliniad yma rhwng sefydliadau amgylcheddol, ffermwyr ac eraill—yw fy mod yn cytuno â nhw mewn gwirionedd. Un o'r dadleuon mwyaf sydd gennym nawr oherwydd y cynllun hwn, pan fyddwn yn eistedd o gwmpas gyda'r Cabinet a Thrysorlys Cymru, yw dweud mewn gwirionedd ein bod nid yn unig yn cyflawni safonau uchel o gynhyrchu bwyd, safonau uchel lles anifeiliaid, yr holl ddarnau diogeledd bwyd ac ati, rydym hefyd yn cyflawni afonydd glân, aer glân, Rydym ni'n cyflawni'r argyfwng hinsawdd a natur, yr holl bethau hynny rydym ni'n gofyn amdanynt yma. Felly, mae yna ddadl gryfach oherwydd yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni heddiw o gymharu ag o'r blaen pan oeddech chi'n dweud yn syml, 'Dim ond cynhyrchu bwyd a'r ffermwyr yw hyn.' Rydym ni nawr yn dweud, 'Edrychwch ar yr hyn sydd gan ffermwyr i'w gyflawni i ni.' Mae'n rhoi dadl lawer cryfach.

A'r ail beth yw ein bod wedi dylunio hyn mewn ffordd, os oes cyfleoedd, er enghraifft, i gyllid gwyrdd neu gymysg ddod i mewn i elfennau i'w hategu, rydym wedi ei ddylunio mewn ffordd lle gellir cyflawni hynny hefyd i wneud mwy i'r ffermwr, ond hefyd i natur a'r hinsawdd hefyd. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phawb arno, ond, do, rydym ni wedi rhoi llawer o wybodaeth i chi heddiw, rwy'n gwerthfawrogi, ond diolch am gydnabod ein bod wedi cynnig briffiau technegol hefyd. Rwy'n amau y gallai fod angen mwy o'r rheini arnom yn yr wythnosau i ddod.

15:50

Rwyf eisiau crybwyll yr hyn a ddywedodd Sam Kurtz am y syniad hwn o goed yn erbyn bwyd, oherwydd pam nad yw'n bosibl gweld coed fel ffynhonnell o fwyd hefyd? Ac yn amlwg rydym ni'n siarad yma am goed ffrwythau. Mae'n siomedig iawn bod yr English Woodland Trust yn parhau i ddweud mai coed brodorol yn unig y gellir eu plannu pan mewn gwirionedd mae digon o goed ffrwythau Cymreig sy'n rhan o'n treftadaeth. Felly, rwyf eisiau gwybod pam nad oes sôn am goed ffrwythau yn eich menter clodwiw i hyrwyddo mwy o goed. Nid wyf yn siŵr bod digon o goed yn cael eu plannu oherwydd bod yr hinsawdd yn newid mor sylweddol, ond rydw i eisiau gwybod pam nad yw coed ffrwythau yn rhan hanfodol o'r cynnydd mewn cynhyrchu coed.

Diolch, Jenny. Mae'n gwestiwn da iawn. Mae angen i ni gydnabod manteision lluosog plannu coed. Mae plannu coed o fewn y cynllun hwn, yn y lle iawn, yn ymwneud â myrdd o bethau, gan gynnwys cydnerthedd hinsawdd, gan gynnwys lleiniau cysgodi i anifeiliaid. Pam mae lleiniau cysgodi i anifeiliaid yn bethau da? Oherwydd eu bod yn cynyddu cynhyrchiant yr anifail. Pam mae hynny'n gweithio? Oherwydd os nad ydyn nhw'n dioddef oherwydd gwres neu ddigwyddiadau tywydd sylweddol, maen nhw'n pesgi'n well, rydych chi'n cael mwy o werth iddyn nhw yn y farchnad a hynny i gyd. Mae yna, gyda llaw, dim ond i ddweud yn nhermau coed ffrwythau, gymysgedd o goed ffrwythau a chnau fel rhan o'n camau gweithredu dewisol ar gyfer plannu coed. Felly, rydym ni wedi gwrando ar y sylwadau rydych chi wedi'u gwneud o'r blaen, ac rydym wedi cyflwyno hynny i mewn i'r cynllun hefyd. Felly, gallant blannu, er enghraifft, coed ffrwythau a chnau, a chael eu talu amdano fel rhan o'r cynllun hwn hefyd. Yr hyn rydym ni eisiau yw cael y buddion lluosog hynny, fodd bynnag, o blannu coed. Mae hynny'n hanfodol iawn. A gallai fod ar gyfer anifeiliaid a da byw, gallai fod ar gyfer cynhyrchu ffrwythau ac ati, neu gallai fod mewn gwirionedd oherwydd bod rhai ffermwyr eisiau mynd i mewn i amaeth-goedwigaeth, yn y lle iawn, nid symud i ardaloedd lle mae tir a lefel uchel o gynhyrchu bwyd neu i ardaloedd lle mae lefel uchel o fioamrywiaeth nad ydym eisiau eu dadleoli. Ond mae lle i'r goeden iawn yn y lle iawn yn y cynllun hwn, gan gynnwys coed ffrwythau.

15:55

Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone ar ei chwestiwn blaenorol ynghylch pam na ellid cael coed ffrwythau.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n gwybod—rydw i wedi ei godi gyda chi sawl gwaith—am elfen gyffredinol CFfC o ran porwyr tir comin. Mae gen i nifer o ffermwyr sy'n ddig iawn, yn fy etholaeth, am fod yna borwyr tir comin gweithredol ac mae yna rai nad ydynt yn pori'r tir comin ond sy'n dal i dderbyn y grantiau. Mae'r ffermwyr sy'n pori'r tir comin yn gweld hyn yn eithaf annerbyniol. Ni ddylai porwyr tir comin nad ydynt yn weithredol fod yn derbyn unrhyw gymhelliant ariannol am beidio â defnyddio eu hawliau pori eu hunain. I gymryd enghraifft o fy etholaeth i, mae gennym ardal o dros 250 hectar o dir comin a elwir yn fynydd Conwy ac Alltwen. Mae porwyr cofrestredig wedi ei adael ers blynyddoedd, ond maen nhw'n parhau i dderbyn taliadau CTS. Does gennych chi ddim syniad ar hyn o bryd faint o arian sy'n mynd i ffermwyr na ddylai fod yn derbyn hyn. A fyddwch chi'n edrych ar hyn eto ac efallai yn mynd yn ôl ac adolygu faint o ffermwyr sydd yna nad ydynt yn pori tir comin yn weithredol, neu roi'r arian hwnnw yn ôl i gefnogi'r rhai sy'n weithredol? Mae cymdeithasau pori yn Eryri ac Aberhonddu hefyd wedi cysylltu â mi, oherwydd rydw i wedi ei godi o'r blaen, ac maen nhw'n credu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu chi. Felly, a allwn ni weithio gyda'n gilydd ar hyn, a gadewch i ni ddarganfod pa borwyr hawliau cyffredin sy'n defnyddio eu hawliau, a'r rhai nad ydynt yn gwneud felly, a gadewch i ni efallai adolygu'r taliadau i rai o'r rheini, i ganiatáu mwy o arian yn y pot i ffermwyr gwirioneddol sy'n gweithio'n galed?

Diolch, Janet, a diolch am gefnogi pwynt Jenny hefyd. Jenny a Janet, anghofiais sôn, mae perllannau traddodiadol sy'n berllannau wedi hen ymsefydlu mewn gwirionedd wedi'u cynnwys o fewn y lefel gyffredinol hefyd. Felly, dim ond i ddweud hynny, yn ogystal â phlannu newydd y gallwch chi fynd ymlaen ag ef hefyd.

Ar dir comin—gwrandewch, diolch am wneud y pwynt hwn, Janet, ac mae'n rhywbeth rydych chi wedi bod yn gyson yn ei gylch. Rydym yn deall yn iawn gwerth tir comin, yn economaidd ond hefyd yn ecolegol ac yn ddiwylliannol hefyd. Felly, mae'r cod cyffredinol yn cynnwys gofynion y mae'n rhaid i ffermwyr sy'n dymuno derbyn taliad sylfaenol cyffredinol ar eu hawl tir cyffredin eu bodloni. Ac mae hyn yn cynnwys yr angen i gael da byw perthnasol a'r gallu i bori'r comin. Mae hyn wedi'i gynnwys yn benodol i sicrhau mai dim ond ffermwyr gweithredol, fel y dywedwch, Janet, sy'n pori'r comin, sy'n cael eu talu o dan yr haen gyffredinol.

Gall y cytundebau presennol o dan gynllun Cynefin Cymru ar gyfer tiroedd comin barhau yn 2026, ac mae hyn yn cynnwys cytundebau sefydledig rhwng porwyr ar ddefnyddio'r tiroedd comin ar gyfer pori i gefnogi'r taliadau Cynllun Cynefin Cymru . Byddwn yn cynnwys taliad i borwyr unigol sydd â hawliau pori ac sy'n gallu cyflwyno da byw addas. Bydd y taliad yn cael ei gynnwys ar eu taliadau fferm gyfan a gwerth cymdeithasol a bydd yn cael ei dosrannu mewn ffordd debyg i'r CTS presennol.

Nawr, bydd Cynllun Cynefin Cymru (Tiroedd Comin) ar gael yn 2026 i'r cymdeithasau pori sydd eisoes wedi'u sefydlu er mwyn gallu cefnogi cyfundrefnau pori cydgysylltiedig. Rydym hefyd yn ystyried sut i gefnogi ffurfio cymdeithasau pori newydd, er mwyn galluogi mwy o dir cyffredin i gael ei ddwyn ymlaen i reolaeth gydgysylltiedig o 2027 ymlaen, ac mae mwy o reolaeth wedi'i dargedu, yr wyf wedi'i weld yn uniongyrchol, fel rheoli rhedyn a rhywogaethau goresgynnol eraill, neu adfer mawndiroedd, yn aml yn gofyn am ganiatâd perchennog y tir comin, yn ddelfrydol yn gweithio mewn partneriaeth â'r porwyr. Felly, bydd hyn yn cael ei gefnogi drwy barhad ein cynlluniau cydweithredol presennol ar raddfa tirwedd, fel y cynllun adnoddau naturiol integredig, neu Ffermio Bro, sy'n cefnogi gweithgarwch o fewn tirweddau dynodedig, a'r rhaglen weithredu mawndir genedlaethol hefyd. Felly, gall cefnogi tiroedd comin i ymrwymo i gytundebau lle nad ydynt yn bodoli gymryd ychydig o amser, a bydd angen cefnogaeth gan y Llywodraeth ar rai, ac y byddant yn ei chael. Felly, mae llawer o waith da yn digwydd yn y maes hwnnw, Janet, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi fynd â'r neges honno yn ôl i'r porwyr hynny, y tir cyffredin hynny, rydych chi'n ymgysylltu â nhw'n rheolaidd.

16:00

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel y dywedwch chi, mae'r haen gyffredinol yn bwynt mynediad pwysig iawn i'r cynllun hwn, ond mewn gwirionedd mae angen iddo weithredu fel carreg sarn i'r haenau dewisol a chydweithredol, ac yn y modd hwnnw cefnogi ffermwyr i gwrdd â heriau amgylcheddol brys ac adfer natur a rhoi cymorth i'r hinsawdd. Ar Wastadeddau Gwent, er enghraifft, Gweinidog, byddai hyn yn cynnwys helpu ffermwyr i reoli'r safleoedd hynny o ddiddordeb gwyddonol arbennig a helpu rhywogaethau prin, fel y gardwenynen feinlais. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd yr haenau hyn yn cael eu datblygu wrth i ni symud ymlaen, a phryd y byddant ar gael i ffermwyr, a sut y bydd monitro a chydymffurfiaeth yn cael eu datblygu. A ddylem fod yn hyderus y bydd y cynllun yn cyflawni ei uchelgeisiau trwy gydymffurfio a monitro effeithiol?

Dylem, yn hollol. Ar y pwynt olaf, John, rydym wedi cynnwys cynlluniau i fonitro cydymffurfiaeth â hyn yn rheolaidd drwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd a mesurau eraill fel bod gennym ddata cywir am yr hyn sy'n digwydd ar ffermydd ar draws ein tiroedd, ar draws Cymru gyfan, eisoes, a lle mae angen i ni weld y gwelliannau hefyd. Felly, pan fydd ffermwyr yn ymrwymo i'r cytundebau hyn, naill ai ar lefel gyffredinol, neu'n mynd am yr opsiwn cydweithredol, byddwn yn gallu gweithio gyda nhw, ond hefyd i fonitro hynny.

Pan oeddwn i allan heddiw, mewn gwirionedd, ar fferm wych ger Margam gyda Robert a'i dad—fferm tair cenhedlaeth—roedd yn dweud wrthyf, 'Wel, mae rhai o'r pethau rydym ni wedi rhoi cynnig arnynt dros y blynyddoedd wedi gweithio'n dda iawn. Nid yw rhai ohonynt wedi bod cystal; maen nhw mewn gwirionedd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.' Dywedodd, 'A yw'r cynllun hwn yn mynd i allu darparu'r gallu i ddysgu a gwneud yn well?' Wel, bydd, oherwydd byddwn yn ei fonitro'n fanwl iawn, ond hefyd yn gweithio gyda ffermwyr i wneud y gwelliannau angenrheidiol, caniatáu elfen o risg fel y gallwn weld y gwelliant hwnnw ar y ffermydd hefyd.

Yn sicr, o ran Gwastadeddau Gwent, a phethau fel rhywogaethau sydd mor bwysig, fel y gardwenynen feinlais ac ati, mae'r cynllun hwn yn rhoi'r hyblygrwydd hwnnw i addasu ar y sail fferm gyfan honno i leiniau unigol o dir, i gynefinoedd a rhywogaethau unigol, ac i sicrhau ei fod yn cyflawni ar eu cyfer. Dyna ragoriaeth hwn, nid yw'n ddull o'r brig i lawr, rhagnodol, un ateb sy'n addas i bawb; mae'n gweithio gyda'r dystiolaeth ac yna gweithio i'r themâu sydd o fewn hyn ynglŷn â chyflawni'r holl fanteision eang hynny o gynaliadwyedd fferm o ran safbwynt masnachol, ond hefyd cynaliadwyedd yn nhermau dull amgylcheddol hefyd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glod i'r flwyddyn ddiwethaf o weithio gyda'r holl randdeiliaid, grwpiau amgylcheddol a ffermwyr o bob math gwahanol yw mewn gwirionedd bob un ohonom yn dod ar daith sy'n dweud ein bod yn cytuno â'r canlyniadau rydym ni'n ceisio eu cyflawni, ac rwy'n credu ei fod yn teimlo'n wahanol iawn, ac mae angen i ni gynnal hynny yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad heddiw. Mi fydd pob un ohonom ni sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig o Gymru'n chwilio am sicrwydd heddiw yma ar gyfer y bobl rydyn ni'n eu cynrychioli. Dwi'n chwilio am sicrwydd, yn amlwg, ar gyfer amaethwyr yn Ynys Môn. Mae'r cynllun sydd gennym ni rŵan yn gam sylweddol ymlaen o'r hyn a gawsom ni'n wreiddiol, a oedd yn dangos diffyg dealltwriaeth ar sawl lefel, dwi'n meddwl, o sut mae amaeth yn gweithio go iawn. Ond tra bod llawer o'n cwestiynau wedi cael eu hateb, mae yna lawer sydd ddim, ac mae gallu ffermwr i gynllunio ymlaen yn bwysig iawn. Dyna pam dwi, fel Llyr Gruffydd, yn chwilio am addewidion cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, er enghraifft.

Ond un cwestiwn penodol: mi fydd yna ryddhad bod y 10 y cant coed wedi mynd. Doedd o erioed yn ymarferol. Ond mae yna gwestiynau ynglŷn â beth sydd yn dod yn lle hynny. Bydd angen i bob ffermwr sy'n ymuno â'r cynllun gwblhau cynllun cyfle ar gyfer creu coetir a gwrychoedd yn y flwyddyn gyntaf o gael mynediad i'r cynllun, a bydd angen iddynt ddangos cynnydd tuag at y cynllun erbyn diwedd blwyddyn y cynllun yn 2028. Cwestiwn syml: sut bydd dangos cynnydd? Achos dyna'r math o gwestiwn rwan mae ffermwyr angen atebion iddyn nhw wrth iddyn nhw gynllunio ymlaen ar gyfer y cyfnod i ddod. 

16:05

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn.

Diolch yn fawr iawn, a diolch am gydnabod bod hyn yn seiliedig ar y gwaith sydd wedi'i wneud, a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono, gan gynnwys rhai o Aelodau'r Senedd yma hefyd, sydd wedi cyfrannu yr hyn yr oedd eu hetholwyr yn teimlo hefyd. Rwy'n credu bod gennym gynllun llawer gwell, er y bydd heddiw ac yn yr wythnosau i ddod yn wynebu rhywfaint o feirniadaeth yma ac acw. Rwy'n credu bod hwn bob amser yn mynd i fod yn un o'r cynlluniau hynny lle roedd pobl yn gymedrol anhapus ynghylch y darn hwn, yn gymedrol anhapus ynghylch y darn acw. Ond, os ydym yn cytuno ar yr hyn rydym ni'n ceisio ei gyflawni yma, yna mae hwn yn gam mawr ymlaen ac rydym ni i gyd yn gweithio tuag ato.

Nawr o ran plannu coed, bydd yr ymrwymiad o fewn y cynllun yn—. Fel y dywedais i o'r blaen, mae gan hyn y potensial i fynd ymhellach na 10 y cant ar bob fferm, gan gydnabod bod pob fferm yn wahanol, ond gan gydnabod bod rhai ffermwyr eisiau gwneud llawer mwy o ran plannu coed, am wahanol resymau. Bydd rhai ohonynt eisiau cyflenwi pren sy'n mynd i'r melinau hynny yng nghanol Cymru sy'n mynd i'n cartrefi ar gyfer carbon hirdymor, wedi'i gloi, i'r cartrefi pren yr ydym yn eu hadeiladu nawr yn gynyddol yng Nghymru, ac mae angen iddynt wneud cymaint mwy gyda'n strategaeth ddiwydiannol bren.

Ond sut ydym ni'n ei wneud? Wel, rydym ni'n dechrau o le da iawn, oherwydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—. Rydym ni wedi gwneud dau iteriad nawr yn y cyfnod rydw i wedi bod yma. Er mai dim ond am, beth bynnag ydyw, yr wyf wedi bod yn y swydd—ni allaf gofio nawr—18 mis neu beth bynnag, rydym ni wedi bod trwy ddau iteriad o'r mapio Cynllun Cynefin Cymru ar blannu coed. Mae gennym hefyd fapiau eraill. Cawsom rywfaint o heriau yn ôl gan ffermwyr 15 mis yn ôl, dywedon nhw, 'Wel, nid yw'r map hwnnw'n adlewyrchu'n gywir beth sydd ar fy fferm i.' Dywedon ni, 'Dim problem. Dyma beth sydd gennym ni. Nawr, byddwn ni'n dod allan gyda chi. Gadewch i ni edrych arno. Ie, rydych chi'n iawn—y goeden acw nad oeddem wedi'i gweld yno, y goedlan yna i lawr fan yna.' Felly, rydym ni wedi gwneud gwaith dros dwy flynedd i'w addasu. Felly, mae gennym fapiau cywir iawn nawr o ble mae'r coed a'r gorchudd coetir, gan gynnwys y coed hynny o fewn gwrychoedd. Ar y sail honno, gofynnir i ffermwyr nawr, bydd ffermwyr nawr yn cael eu gorfodi, i ddyfeisio'r cynllun cyfle hwnnw ar gyfer coed a gwrychoedd ar eu ffermydd, ac yna i blannu, i dynnu arian o'r lefel ddewisol. Ac rydym wedi gwthio'n drwm, i mewn i dair blynedd gyntaf y cynllun, arian ychwanegol, i blannu'r coed hynny a mynd ymlaen ag ef, oherwydd rydym ni'n gwybod, ac rwy'n credu y byddwch chi'n rhannu hyn hefyd, bod angen i ni wneud hyn mewn gwirionedd am yr holl resymau rydym ni wedi'u hamlinellu a mynd ymlaen â'r gwaith plannu coed hwn hefyd.

Ond gallwn ei fonitro nawr oherwydd ein bod ni'n gwybod ble mae'r coed. Rydym yn gweithio wedyn ar y cynllun cyfle ar gyfer gwrychoedd a choed y mae ffermwyr yn eu cyflwyno. Rydym yn disgwyl iddyn nhw dynnu'r arian hwnnw i lawr ac i gyflawni hynny. A bydd y llwybr sydd gennym yn llwybr cynyddol, i fod yn eithaf onest. Felly, yr hyn y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi'i ddweud wrthym nawr, ar gyfer ein targedau 2030, yw eu bod wedi cydnabod mai dyma lle gallwn fynd erbyn hynny, ac yna bydd yn cyflymu. Ond, erbyn hynny, efallai y bydd gennym lawer mwy o ffermwyr yn dweud wrth ei gilydd, 'Edrychwch ar yr hyn rydw i wedi'i wneud ar fy nhir i. Mae'n gweithio. Mae'n gweithio.'

Hoffwn groesawu llawer o'r hyn sydd yn y cynllun a'ch canmol am yr ymdrechion rydych chi wedi'u rhoi i geisio dod o hyd i gonsensws, gan adeiladu ar y gwaith a wnaeth Lesley Griffiths dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn i ofyn i chi am y llwybr cynyddol hwnnw, fel y cyfeirioch ato, at Rhun ap Iorwerth, ar blannu coed. Er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050, dywedom fod angen plannu 5,000 hectar y flwyddyn, a'r llynedd fe wnaethon ni blannu rhywbeth fel 960 hectar, felly yn fyr. Mae'n ymddangos eich bod wedi rhoi'r gorau i'r targed 2030 yr oedd y Llywodraeth wedi ymrwymo iddo o 43,000 hectar erbyn 2030, gan gadw targed uchelgeisiol 2050. Felly, rydw i ychydig yn ddryslyd ynghylch sut rydym ni'n bwriadu cyrraedd targed heriol 2050 tra byddwn yn gostwng ein huchelgais yn y dyfodol agos. Efallai y gallech chi esbonio hynny.

Gallaf, a diolch am y cwestiwn yna. A Lee, diolch hefyd am eich ymgysylltiad â hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi, fel llawer o Aelodau, yn gwbl ymroddedig i wneud yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud, sef cynyddu plannu coed ar draws Cymru gyfan, o ran tir fferm, ond hefyd ar bethau fel ein hystad goetir, ar bethau fel Ystad y Goron, a gweithio'n galetach i gyflawni o ran plannu coed. Mae'n rhaid i ni wneud hynny.

Felly, yn ôl ym mis Mai—mae'n rhaid i mi gael fy ymadrodd yn gywir yma—cyflwynwyd cyngor diwygiedig gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Fel y gwyddoch, fel cyn-Weinidog, maen nhw'n ei adolygu o bryd i'w gilydd. Fe wnaethant edrych ar y dull ymarferol a phragmatig o ran plannu coed yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw hefyd edrych ar yr hyn rydych chi'n ei nodi'n gywir sef ein methiant i blannu hyd yn hyn. Felly, yn hytrach na gosod nodau uchelgeisiol yn syth, dywedon nhw, 'Yn realistig, gan gynnwys yr hyn rydych chi'n ceisio ei ddyfeisio gyda ffermwyr, gyda thirfeddianwyr, rydym ni'n meddwl y gallwch chi wneud hyn erbyn 2030', a'u ffigur oedd 22,000 ar y llwybr cytbwys hwnnw. Ond maen nhw hefyd wedi dweud, Lee, dim ond i fod yn glir, 'Nid yw hynny'n caniatáu i chi ddianc rhag y sefyllfa; mewn gwirionedd, bydd yn rhaid i chi wedyn gyflymu i gyflawni ychydig yn fwy uchelgeisiol—'. Oherwydd eu llwybr cyffredinol yma—. Gadewch i mi gael y ffigurau'n gywir. Erbyn 2050, mae eu cyngor ar gyfer plannu coetir yng Nghymru wedi cynyddu o 180,000 hectar i 208,000 hectar. Rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ond rydym ni eisiau gweithio gyda phobl i'w gyflawni. Rydym ni wir eisiau gweithio gyda phobl i'w gyflawni. Mae'n rhaid i ni berchnogi hwn gyda'n gilydd. Mae'n rhaid i dirfeddianwyr a ffermwyr fod yn berchen arno hefyd; felly hefyd CNC, felly hefyd Ystad y Goron, felly hefyd pawb arall. Felly, nid ydym wedi cerdded i ffwrdd o'r uchelgais tymor hwy hwnnw. Yr hyn rydym ni wedi'i ddweud yw: 'Rydym ni'n mynd i wneud yr hyn y gallwn nawr tan 2030, yn seiliedig ar gyngor diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd (PNH), ac yna rydym ni'n gwybod y bydd yn rhaid i ni wneud mwy.' Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych, fodd bynnag, yw os ydym yn cael cefnogaeth y bobl ac rydym yn gofyn yn wirioneddol yma, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r holl undebau ffermio, o'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, pobl goedwigaeth, i bawb, gyflawni'r prif darged hwn mewn gwirionedd; 17,000 yw'r hyn rydym ni'n anelu ato, ond gydag uchelgais i gyrraedd 21,500, sydd o fewn tafliad carreg i gyngor diwygiedig y PNH hwnnw—yna byddwn wedi sicrhau cefnogaeth pobl ar y daith hon. Byddwn wedi dangos y gellir ei wneud, ac yna gallwn fynd ymhellach. Felly, nid ydym wedi cerdded i ffwrdd o'r cyngor tymor hwy hwnnw, ac, fel y dywedais, mae cyngor y PNH ar gyfer 2050 bellach hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol. Ond yr hyn maen nhw wedi'i wneud yw eu bod wedi cydnabod bod llai o lwybr llinell syth i gyrraedd yno, ac mae'n rhaid i ni gymryd y llwybr hwnnw a reolir i gyrraedd yno.

16:10

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Brif Weinidog. Wel, mae'n debyg y gallai fod wedi bod yn waeth. Byddem yn croesawu'r newidiadau yn fras ond gyda gofal, er bod y ddogfen hon yn gwyro'n drwm, fel y dywedwyd eisoes, tuag at goed yn hytrach na'n sector cynhyrchu bwyd, ac felly hefyd eich bwrdd crwn.

Mae yna bethau da ynddo, sydd eisoes wedi'u hamlinellu gan Aelodau eraill, ond mae gen i bryderon y bydd y pethau da yn cael eu cysgodi'n llwyr gan y diffygion, yr enghraifft amlwg yw 80 y cant i 60 y cant yn y flwyddyn gyntaf, sy'n newid enfawr i'w dderbyn. Mae gwelliant i'w weld o gymharu ag iteriad blaenorol y cynllun hwn, a oedd yn wirioneddol yn foment pan ddatgelwyd yn anfwriadol fwriadau Llywodraeth Cymru a'u hagwedd go iawn tuag at ein ffermwyr. Mae ein ffermwyr yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd, a dylid eu gwerthfawrogi yn y lle hwn hefyd, yn enwedig fel cyflawnwyr eich cynlluniau amgylcheddol.

Edrychwch, mae'r ddogfen enfawr, 200 tudalen, bwysig hon yn llawn cymhlethdod a therminoleg na fydd llawer o ffermwyr yn gyfarwydd â nhw. Dirprwy Brif Weinidog, mae pwysau'r manylion yn ddiamheuol yn frawychus. Onid ydych chi'n cytuno bod angen symleiddio hyn? Ac oherwydd bod meysydd problematig amlwg yn y ddogfen hon sy'n debygol o gael eu hamlygu yn y dyfodol, a fydd hwn yn gynllun fel Glastir a fydd yn gallu esblygu ac addasu wrth i broblemau amlygu eu hunain? Mae gen i bryderon gwirioneddol, er enghraifft, y bydd y cynllun hwn yn broffidiol, i rai tirfeddianwyr, ond, i lawer o ffermwyr tenant, byddant bellach yn amlwg yn poeni'n ofnadwy am orfod byw gyda rhenti enfawr, a hoffwn eich barn ar hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. 'Gallai fod wedi bod yn waeth.' Mae'r datganiad yna yn fy atgoffa o'r diwrnod pan gerddais i lawr fel bachgen ifanc mewn siorts ar Ddydd Nadolig a chanfod beic newydd sgleiniog hardd wedi'i lapio yn yr ystafell orau, fel y'i gelwid—yr ystafell orau, yr ystafell flaen—a cherddais i mewn i'r ystafell flaen a meddwl, 'Waw, mae fy nhad wedi prynu'r beic i mi. Edrychwch, gwych'. 'Na, na, dyna anrheg dy frawd.' [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn waeth; fe gefais i anrheg.

Ond, edrychwch, rwy'n credu bod y gwydr yn debycach i un hanner llawn nag un hanner gwag yma, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle unigryw i ni weithio gyda'n gilydd yng Nghymru i gyflawni'r buddion lluosog hynny. Rydym wedi disgrifio hwn, yn gywir, fel yr unig ddull fferm gyfan. Nid cynllun 'darnau o' yw hwn, fel maen nhw wedi'i gyflawni dros y ffin yn Lloegr—ychydig o bethau amgylcheddol, ond ychydig o gefnogaeth safonol a beth bynnag—mae hwn yn gynllun fferm gyfan, ond mae hefyd yn gynllun cenedl gyfan. Mae pobl Cymru wir eisiau i ffermwyr lwyddo a chael busnesau ffyniannus ac i allu dod â'u plant drwodd i'r busnes ffermio, ond maen nhw hefyd eisiau i'r tir pori gwelltog hwnnw fod â phridd arbennig o dda. Dydyn nhw ddim eisiau dŵr ffo yn llifo i'r afonydd. Dydyn nhw ddim eisiau afonydd sy'n pobi yn y gwres oherwydd nad oes gorchudd coetir. Maen nhw eisiau'r peth cyfan. Felly, mae hwn yn gontract rhwng pobl Cymru a ffermwyr Cymru, ac mae'n dangos natur hanfodol ffermio i Gymru hefyd. Bydd ffermwyr yn cyflawni hyn i ni, ond byddant yn ei gyflawni gyda ni—gyda ni, gyda'n gilydd. Dyna'r unig ffordd.

Rydych chi'n sôn am y derminoleg a'r naratif. Mae wedi bod yn thema gyffredin yn y bwrdd crwn. Mae'r holl bobl sy'n eistedd o'i amgylch, o'r grwpiau amgylcheddol, i'r bobl cig a da byw a phroseswyr, i'r undebau ac eraill, i gyd wedi dweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflwyno hyn mewn ffordd sy'n ddealladwy iawn i ffermwyr. Mae'r ddogfennau enfawr sydd gennych yn ddogfennau enfawr am reswm, fel y gallech chi a minnau a phobl sy'n dymuno hynny ddeall y manylion. Nid ydym yn disgwyl i bob ffermwr fod eisiau gwneud hynny. Byddaf yn disgwyl i bob ffermwr ofyn mewn gwirionedd 'Beth mae'n ei olygu i mi?' Dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r canllaw cyflym yr wythnos nesaf yn y Sioe Frenhinol, felly dyna pam rydym ni'n cyflwyno canllawiau ar wahân i ffermwyr, sy'n gwneud synnwyr iddyn nhw.

Felly, er enghraifft, pan fyddwch chi'n dweud wrth ffermwr, a dyma un o'r beirniadaethau gwreiddiol, 'Wel, beth yw DPP?' Wel, rwy'n gwybod beth yw e' oherwydd fy mod wedi gwneud HNC a HND yn y coleg, felly rwy'n gwybod beth yw datblygiad proffesiynol parhaus. Ond os ydych chi'n dweud wrth ffermwyr, 'Iawn, gadewch i mi esbonio hynny mewn termau rydych chi'n eu deall. Felly, y cwrs hyfforddi hwnnw rydych chi'n ei ddilyn, rydych chi wedi'i wneud gyda ffermwyr eraill i lawr y ffordd, sydd wedi helpu i ysgogi cynhyrchiant yn eich da byw oherwydd i chi wneud hyn, llall ac arall, dyna beth yw DPP.' 'Beth, ydych chi'n golygu'r chwe awr hynny a wnes i lawr yno ar y penwythnos hwnnw i ffwrdd?' 'Yn hollol.' Byddwn, felly byddwn yn gwneud hynny'n llwyr.

Ac rydych chi hefyd yn gofyn a fydd hyn yn gallu esblygu ac addasu: bydd. Dim ond i ddweud wrth bawb, rydym wedi adeiladu o fewn y cynllun hwn, er bod gennym y sefydlogrwydd yr oedd Llyr a Rhun yn sôn amdano, mae'r angen am sefydlogrwydd a sicrwydd yn cael ei gyflawni yn y fframwaith sydd gennym a'r taliadau rydym ni wedi'u hamlinellu; mae'r gallu i addasu a bod yn hyblyg ac i ddysgu yn ddeinamig yn rhan ohono hefyd. Byddwn yn monitro llwyddiant hyn, pob elfen, ac yna byddwn yn gweithio gyda ffermwyr a chyda'r cyrff anllywodraethol amgylcheddol i ddweud, 'Os nad yw hyn yn gweithio, fel Rob ar y fferm y bore 'ma, gallwn roi cynnig ar rywbeth arall. Gallwn arloesi. Gallwn roi mwy o arian i'r darn hwn a'r dewisol a chymryd ychydig i ffwrdd a cheisio gwneud rhywbeth arall.' Felly, mae'n gynllun deinamig hefyd. Felly, p'un a ydw i neu rywun arall yn eistedd yma yn y dyfodol, bydd pob un ohonom yn gallu cadw llygad arnyn nhw i ddweud, 'Iawn, nid yw'r darn hwn yn gweithio, addaswch ychydig, ei newid', ond parhau i fod â'r llwyfan sy'n rhoi sefydlogrwydd i ffermwyr.

16:15

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Diolch am ymgysylltu â mi ar y mater hwn a hefyd am y briff technegol. Rwy'n ddiolchgar iawn, ac mae'n teimlo fel bod yna rai camau gwirioneddol ymlaen yma y gallwn eu datblygu. Fel y mae Llyr wedi dweud, mae angen i ni weld y manylion a'r cyfle i edrych ar sut y bydd hynny'n berthnasol. Mae'n rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, y straen sydd wedi bod ar ffermwyr, nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf, ond hyd yn oed yn hirach. Rydym ni wedi gweld ffermwyr sydd wedi gweld y newidiadau hyn, sydd wedi bod yn bryderus iawn yn eu cylch. Maen nhw'n ymdrin â rhwymedigaethau iechyd a diogelwch, rheolau amgylcheddol, profion clefydau. Rydym ni wedi cael y tafod glas yn ystod y misoedd diwethaf, a nawr y newidiadau hyn hefyd. Ar ben hynny, costau ynni cynyddol, yswiriant gwladol uwch, ac wrth gwrs y dreth fferm deuluol gywilyddus. Maen nhw i gyd wedi ychwanegu at y straen.

Mae ffermwyr a'u teuluoedd o dan straen enfawr. Dangosodd arolwg ledled y DU gan y Sefydliad Diogelwch Fferm fod 91 y cant o ffermwyr yn credu mai iechyd meddwl gwael yw her gudd fwyaf y sector. Yn anffodus, yn y flwyddyn 2022, cymerodd 44 o ffermwyr yng Nghymru a Lloegr eu bywydau eu hunain. Mae yna argyfwng iechyd meddwl go iawn. Un o'r materion maen nhw'n ei fynegi'n glir iawn, ac rydych chi wedi cyfeirio at hwn yn eich ymateb i Llyr, yw cael sefydlogrwydd amlflwyddyn o ran yr incwm sy'n dod i mewn. Mae hyn gennym ni, gan ddiwydiant, gan ein sector cyhoeddus. Yn sicr, dylai ein ffermwyr, gael hyn a hoffwn i chi ymrwymo mewn egwyddor bod hynny'n rhywbeth sydd ar frig eich rhestr o ran yr ystyriaethau sydd gennych. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Jane, a diolch am eich ymgysylltiad ar hyn, fel gydag Aelodau eraill hefyd. Rydych chi'n hollol gywir ynghylch y straen sydd o fewn y sector ffermio, a chydnabod nad yw pob fferm yn deulu o lawer o unigolion, i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd gyda'r nos, yn sgwrsio am eu problemau; bydd rhai ffermwyr yn ffermwyr unigol mewn lleoliadau ynysig, a fydd yn—. Yr unig dro—. Hynny yw, dyma fudd marchnadoedd ffermwyr; dyma'r amser pan fydd ffermwyr yn dod at ei gilydd ac yn dweud, 'Ydych chi eisiau clywed am fy ngofidiau?' Ac maen nhw'n sgwrsio amdanynt ac ati yno.

Ond y pwysau lluosog, yn gyffredinol, a'r ansicrwydd, dyna un peth y gallwn ei ddatrys gyda hyn nawr. Felly, mewn gwirionedd ar ôl bod yn glir ynghylch beth yw'r cynllun, beth fydd y cyfraddau, cael pobl i edrych ar y canllaw cyflym hwnnw a dweud, 'Beth mae hyn yn ei olygu i mi? A fydd o werth i mi? A yw'n rhoi sicrwydd ariannol i mi?' Bydd yr holl bethau hynny'n helpu i dynnu un elfen o'r holl ansicrwydd yr ydym wedi bod yn ei wynebu ers i ni adael yr UE, i fod yn blwmp ac yn blaen. Rydw i wedi gorfod trosglwyddo ymlaen, bob blwyddyn, setliadau CTS, ac rydym wedi gwneud hynny trwy gyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymgysylltu â mi ac yn cytuno ein bod ni eisiau rhoi'r sefydlogrwydd hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr rydym ni'n rhoi'r sefydlogrwydd hwnnw wrth symud ymlaen hefyd, a bydd opsiynau ar gyfer yr haenau dewisol a chydweithredol hefyd y gall ffermwyr eu tynnu i lawr. Felly, rwy'n eu hannog yn gryf i edrych ar hynny.

O ran y mater sefydlogrwydd amlflwyddyn, mae'n dda clywed pleidiau heddiw yn dweud, 'Byddwn yn bendant yn rhoi'r buddsoddiad.' Rwyf eisiau i chi roi mwy na hynny. Nid y buddsoddiad yn unig ydyw, mae'n ymwneud â rhoi eich cefnogaeth i ddylunio'r cynllun hwn, oherwydd y peth gwaethaf a allai ddigwydd i sicrwydd ffermwyr yw bod gennym unrhyw syniad y byddwn ni'n dod yn ôl i mewn a byddwn yn dechrau eto, byddwn yn ei ailfodelu. Mae'r cynllun hwn yn gynllun da. Mae'r cynllun hwn yn gynllun fferm gyfan. Mae'n ceisio cyflawni amcanion lluosog, yn ogystal ag edrych ar y buddsoddiad ariannol, ac rydw i wedi dweud wrthych fod y cynllun wedi'i gynllunio fel pe bai mwy o gyllid ar gael yn y blynyddoedd i ddod, gallech ei wthio i mewn. Wrth i'r tapr CTS fynd ymlaen, bydd mwy o gyllid yn dod i mewn i'r dewisol a'r cydweithredol hefyd. Pan fydd cyllid gwyrdd neu gymysg ar gael, gallwn wthio hwnnw i mewn i elfennau o'r cynllun.

Ond o ran y ffordd ymlaen, rwy'n credu fy mod wedi dangos yn glir iawn fy ymrwymiad, ac ymrwymiad y Cabinet hwn a'r Llywodraeth hon i'r cynllun, gan ddarparu cwantwm y cyllid rydym ni wedi gallu ei roi ynddo o'r cychwyn cyntaf. Ac yna bydd y Llywodraeth nesaf yn wynebu'r un heriau, a bydd yn rhaid iddi gael y trafodaethau hynny, pa un ai chi fydd yn eistedd o gwmpas y bwrdd neu rywun arall. Bydd yn rhaid i chi gydbwyso hyn yn erbyn blaenoriaethau cystadleuol eraill. Ond mae ein hymrwymiad yn glir iawn. Nid yw'r cynllun hwn yn gweithio i natur, ar gyfer yr argyfwng hinsawdd, i ffermwyr, i hyfywedd busnesau, oni bai fod gennych ddigon o gwantwm o fewn y cynllun. Mae'n ddadl gref. Mae'n debyg mai dyma'r ddadl fwyaf pwerus rydym ni wedi'i chael erioed, oherwydd mae hwn yn gynllun fferm gyfan, nid cynllun cynhyrchu bwyd yn unig.

16:20

Rydym eisoes dros amser ar gyfer y datganiad hwn, ond rwy'n gwybod bod llawer yn edrych ar y datganiad hwn heddiw. Felly, fe alwaf ar y tri Aelod sy'n weddill sydd wedi nodi eu bod eisiau gofyn cwestiynau. Y cyntaf o'r rheini yw Carolyn Thomas.

Diolch, Llywydd. Rwyf wir yn croesawu bod y cynllun wedi'i gyd-gynllunio gyda'r rhanddeiliaid, gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr gyda'i gilydd. Rwyf hefyd yn croesawu'r gofyniad i gael 10 y cant ar gyfer bioamrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn helpu i wrthdroi'r golled o fioamrywiaeth yng Nghymru. Bydd yn helpu i weithio tuag ato.

Mae sicrhau bod ffermwyr yn derbyn cyngor ac arweiniad priodol yn bwysig iawn yn y dyfodol, y rhai sydd ei angen. Felly, roeddwn i'n meddwl: a fyddech chi'n gallu amlinellu sut y bydd ffermwyr yn derbyn y cyngor hwnnw i helpu i gyflawni'r nod yn y dyfodol? Diolch. 

Diolch, Carolyn. Mae'n hanfodol bwysig oherwydd mae angen ailadrodd y dull rydym ni wedi'i fabwysiadu wrth ddylunio hwn ar lawr gwlad hefyd, trwy weithio gyda ffermwyr gyda'r cyngor cywir mewn maes cydweithredol hefyd. Felly, nid yn unig Cyswllt Ffermio, ond hefyd mae rhai o'r sefydliadau amgylcheddol yn awyddus iawn i weithio gyda ffermwyr, oherwydd maen nhw eisoes yn gwneud hynny hefyd. Mae yna ffermwyr sy'n ysu i gael yr ymgysylltiad hwn hefyd. Felly, mae hynny eisoes ar y gweill, yn barod i fynd ymlaen. Mewn gwirionedd, nid ydym yn aros tan 1 Ionawr, mae'n digwydd nawr yn y pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud, ac rydym ni'n mynd i wthio hynny ymlaen hefyd.

Rydych chi'n iawn o ran y dull cyd-ddylunio. Mae angen adlewyrchu cyd-ddyluniad y cynllun hwn mewn gwirionedd drwy'r hyn a wnawn ar lefel y fferm wrth gyd-ddylunio'r atebion ar gyfer y fferm honno. Mae'n ddull fferm gyfan ar gyfer y fferm unigol honno. Beth sy'n gweithio orau ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer afonydd glân, ac ar gyfer pesgi eich da byw, cyflwyno'r cynnyrch i'r farchnad hefyd, ac ati. Felly, fe fydd y cyngor yno.

Hoffwn gofrestru buddiant perthnasol. Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siarad â ffermwyr bob dydd yn y gwaith rwy'n ei wneud ac oherwydd fy nheulu, ac roedd llawer ohonynt yn ansicr iawn a oeddent am ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac oherwydd hynny, dywedwyd wrthynt y byddai yna symud graddol i ffwrdd o'r cynllun taliadau sylfaenol gyda'r toriadau graddedig o 20 y cant. Nawr mae gennym y gostyngiad o 40 y cant, mae llawer o bobl y siaradais â nhw heddiw ar y ffôn sy'n ansicr ynghylch a ydynt am ymuno â'r CFfC, yn teimlo bod hyn fel ymyl clogwyn iddyn nhw nawr, ac yn teimlo fel eu bod bron â chael eu gwthio i mewn i rywbeth nad oeddent yn hollol sicr a oedden nhw am fynd i mewn iddo beth bynnag.

Mae rhai ffermwyr eisoes wedi cynllunio ar gyfer y flwyddyn sy'n dod nawr, ac ni allant newid eu busnesau dros nos i fod yn barod ar gyfer mis Ionawr. Nid dyna sut mae ffermio yn gweithio. Felly, gofynnaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddwch chi'n edrych eto ar y symudiad graddol i ffwrdd o CTS. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw ffermwyr yn gwneud penderfyniadau difeddwl, naill ai nad ydyn nhw am ymuno â'r cynllun neu eu bod am ymuno. Rhaid gwneud pob penderfyniad ar sail busnes unigol. Rwy'n siŵr y gallech chi ddeall hynny, ac mae'r diwydiant yn deall hynny hefyd. Felly, a wnewch chi edrych eto ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod hon yn elfen allweddol y mae angen mynd i'r afael â hi?

Diolch, James. Fel chi, rwy'n siarad â llawer o ffermwyr bob dydd hefyd. Rydym yn sylweddoli y bydd y 40 y cant yn golygu bod mwy o wthio i ffermwyr ymuno â'r cynllun yn gynnar, ond byddwn hefyd yn dweud bod mwy o gyfleoedd i'r ffermwyr hynny ymuno â'r cynllun yn gynnar hefyd, yn rhai o'r ffrydiau cyllido rydym ni wedi'u rhoi ynddo. Rydym bob amser wedi bod yn glir fod y CTS yn mynd i gael ei ddileu'n raddol; CFfC yw'r dyfodol. Dydyn ni ddim eisiau gweld ffermwyr sy'n meddwl, 'Wel, eisteddaf yn ôl ac aros am ychydig flynyddoedd', oherwydd roedd yn mynd i leihau'n raddol beth bynnag, a dod i ben. Felly, rydym yn rhoi blaenoriaeth i annog ffermwyr i ymuno â'r CFfC ac i ddechrau elwa ar y cynllun.

Dim ond i atgoffa pawb, rydym wedi ymrwymo'r hyn sy'n cyfateb i gyllideb CTS eleni, £238 miliwn, i'r taliadau cyffredinol a'r CTS etifeddol i ddarparu'r sefydlogrwydd ariannol i ffermwyr. Ond mae'n bwysig nodi hefyd, os yw ffermwyr yn ymuno â'r cynllun—. A dyma pam y byddwn i'n dweud, 'Edrychwch arno. Defnyddiwch y canllaw cyflym hwnnw yn y Sioe Frenhinol. Edrychwch arno drwy'r haf i weld a yw'n gweithio i chi', oherwydd rydym ni'n sôn am Ionawr, gyda llaw, fel y gallwn feddwl ymlaen a gwneud hyn. Oherwydd os yw'n gweithio i chi, gallwch hefyd dynnu'r haenau dewisol a chydweithredol, a'r taliadau sy'n dod o'r rheini hefyd. Felly, byddwn yn annog ffermwyr i edrych ar hyn a gweithio allan beth mae'n ei olygu i chi, ac ymuno a'r cynllun yn gynnar.

16:25

Diolch, Llywydd. Mae'n dda gweld y datganiad hwn yn cael ei gyflwyno heddiw. Roedd dyluniad y cynllun newydd i dalu ffermwyr Cymru yn gyfle i gyflwyno dull a fyddai'n gweithio i'r sector amaethyddol, ond hefyd i'r trethdalwr yng Nghymru. Ond mae gen i rai pryderon ynglŷn â chyflawni. Mae angen i'n ffermwyr arwain ar bontio teg i garbon isel. Mae angen iddynt arwain o ran gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Ac mae angen cefnogi'r sector ei hun i fod yn fwy cydnerth yn wyneb y digwyddiadau tywydd eithafol rhy reolaidd yr ydym yn eu profi.

Mae angen i ni blannu mwy o goed, ac fel mae eraill wedi dweud, mae'n hynod siomedig gweld polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed newydd o 43,000 hectar yn cael ei dorri i 17,000 hectar. Ni fydd y targed hwn yn helpu Cymru, rwy'n credu, i gyrraedd sero net erbyn 2050, a chlywais eich ateb i Lee Waters ar hyn. Hefyd, cael gwared ar y gofyniad o 10 y cant. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn ddadleuol, ond byddai wedi gwneud llawer iawn, Ysgrifennydd Cabinet, i'ch helpu chi i gyrraedd y targed hwnnw. Nid wyf eto wedi cwrdd ag unrhyw un y tu allan i'r sector amaethyddol nad yw eisiau gweld mwy o goed yn cael eu plannu.

Felly, a fydd yr CFfC yn helpu Cymru i gyflawni sero net erbyn 2050? Rwy'n nodi eich bod chi'n gobeithio gweld y mwyafrif o ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun, ac rwy'n cytuno bod hynny'n bwysig iawn, iawn. Felly, pa ganran o ffermwyr ydych chi'n disgwyl bydd yn ymuno â'r cynllun o'r cychwyn cyntaf, a pha ganran o ffermwyr yn ymuno â'r cynllun fyddech chi'n ei ystyried yn llwyddiant?

Roeddwn i'n dda iawn nes i chi ofyn y cwestiwn 'Pa ganran o ffermwyr ydw i'n disgwyl bydd yn ymuno a'r cynllun?' Oherwydd, i ddod yn ôl at y cwestiwn cychwynnol gan Sam, mae llawer o hyn yn fodelu, yn senarios nid rhagfynegiadau, felly nid wyf yn mynd i ymhél â rhagfynegi, dim mwy nag y byddwn i mewn gêm bêl-droed neu gêm rygbi, beth fydd y sgôr. Yr hyn y gallaf roi sicrwydd i chi yn ei gylch yw bod y cynllun hwn wedi'i gynllunio'n gyfan gwbl i fod yn hygyrch iawn i bob ffermwr a gwahanol fathau o bethau, ac fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, rydym eisiau i ffermwyr ymuno oherwydd bydd manteision iddyn nhw, ond hefyd oherwydd y gallant wedyn barhau â blwyddyn 1, gwneud eu cynlluniau rheoli ar gyfer coed a gwrychoedd.

O fewn yr haen gyffredinol, mae ganddo opsiynau o fewn—mae'n ddrwg gen i, 'opsiynau o fewn', rwy'n cymysgu fy nherminoleg nawr. Yn yr haen gyffredinol ei hun, mae'n rhaid i chi gynnal, dwysáu, tewhau ac ehangu'r gwrychoedd sydd gennych, felly nid gwneud y torri blynyddol hwnnw, ond ei wneud bob dwy flynedd yn lle hynny, a gwneud yn siŵr ei fod yn mynd ychydig yn dewach ac yn dda i fywyd gwyllt eisoes. Ond mae gennym hefyd, yn yr haen ddewisol, y gallu hwnnw i dynnu cyllid hael i lawr—cyllid hael—i blannu mwy o wrychoedd ac i blannu mwy o goed. Fel yr esboniais mewn ymateb i Lee—ac rwy'n gwybod bod y ddau ohonoch mor ymroddedig i blannu coed, fel yr wyf i—mae hon yn ffordd wahanol o fynd ati, ac rwy'n sylweddoli nad yw'n rhoi'r sicrwydd wrth ddweud, 'Rydym yn mynnu bod ffermwyr yn plannu hyn a hyn, neu ganran o goed ar eu tir', Ond yn y darn pontio teg hwnnw, rhan o'r pontio teg yw ennill cefnogaeth a dod â phobl gyda chi. Ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r undebau ffermwyr, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, y rhai sy'n ffermio er lles natur a phob un ohonynt i gyd i ddweud nawr wrth eu haelodau, annog eu haelodau, dweud wrthynt, 'Rydym wedi ymrwymo i'r 17,000 hwn—yn ddelfrydol mynd i 21,500—rydym ni i gyd wedi ymrwymo i'w gyflawni', yn hytrach na, 'Mae'r Gweinidog yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni fynd ymlaen a phlannu nifer penodol o goed', ac ati.

Rwy'n credu y bydd hyn yn cyflawni mwy na chysyniad gwreiddiol y cynllun, ond byddwn yn monitro hyn, byddwn yn profi hyn, ac os nad yw'n gweithio, byddwn yn ei addasu, Lesley—byddwn yn ei addasu. Ond diolch am fy ngwthio ar hynny, oherwydd rwy'n rhannu'r un uchelgais. Mae'r trywydd, rwy'n gwerthfawrogi, fel yng nghyngor y PNH diwygiedig ym mis Mai, yn drywydd gwahanol. Ond, i wneud yn glir, fel yr ymatebais i Lee, cyn-Weinidog arall: mae'n cyflymu, felly mae'n rhaid i ni gyflawni'r trywydd hwnnw erbyn 2050, sydd bellach yn fwy uchelgeisiol nag yr oedd o'r blaen.

16:30

Diolch, Llywydd. Roedd bai arnaf i am beidio â chofrestru fy niddordeb, gan fod yna faterion lles anifeiliaid yn y cynllun ffermio cynaliadwy, fel aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygol Prydain. 

Rwy'n credu bod gennym ni sawl aelod anrhydeddus o'r BVA yn y Siambr ar y pwynt hwn fwy na thebyg, gan gynnwys fi, a'r Gweinidog, felly fe wnawn ni ddatganiad torfol. Diolch i chi am hynny.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth a Threfniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau mamolaeth a threfniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y gwasanaeth iechyd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles, i wneud y datganiad

Diolch, Lywydd. Ddoe, fe wnaeth teuluoedd gyhoeddi eu hadolygiad eu hunain o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda dros 50 o deuluoedd yn cyfrannu at yr adroddiad. Y bore yma, mewn cyfarfod arbennig, cafodd yr adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ei gyhoeddi a'i gyflwyno i'r bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd wedi cynnig ymddiheuriad twymgalon a diffuant i'r holl unigolion a theuluoedd hynny am fethu â darparu gwasanaethau o'r safon y dylen nhw ei disgwyl, ac am beidio â gwrando arnyn nhw.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ar ran Llywodraeth Cymru, rwyf hefyd eisiau ailadrodd yr ymddiheuriad a wnes yn ddiweddar i bawb nad ydynt wedi cael y gwasanaeth na'r gofal yr oedden nhw'n ei haeddu a'i ddisgwyl. Mae'r profiadau a amlygwyd yn y ddau adroddiad yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad diweddar Llais, a'r rhai a glywais fy hun pan wnes i gwrdd â theuluoedd fis diwethaf, ac ni ddylent byth ddigwydd eto.

Rwyf wedi cael cyfle i adolygu a myfyrio ar ganfyddiadau a chasgliadau'r ddau adroddiad. Mae'r ddau adroddiad, yn ddealladwy, yn ofidus iawn i'w darllen. Rwyf wedi fy sicrhau bod yr adolygiad annibynnol wedi cael ei gynnal yn annibynnol ac, o'i ystyried ochr yn ochr ag adolygiad y teuluoedd, ei fod yn nodi'r holl bryderon yn llawn, mewn ffordd agored a thryloyw.

Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl, yn enwedig teuluoedd sydd wedi cael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe neu sy'n cael derbyn gofal ar hyn o bryd gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe, a fydd yn teimlo'n ofidus iawn ynghylch cynnwys yr adroddiad. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n poeni am ei gynlluniau geni i gysylltu â'r bwrdd iechyd i drafod ei bryderon.

Ar ôl derbyn yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd, cyhoeddi'r adroddiad annibynnol a chyfarfod arbennig o'r bwrdd y bore yma, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo i barhau â'r sgwrs hon i sicrhau bod unrhyw fenywod a theuluoedd a gollodd yr adolygiad, neu a oedd yn teimlo nad oedden nhw'n gallu cymryd rhan, yn gallu cyfrannu eu profiad o hyd. Byddan nhw'n gallu gwneud hyn trwy wefan y bwrdd iechyd, a bydd bydwraig brysbennu'r adolygiad yn aros yn ei rôl gefnogol dros y misoedd nesaf. Bydd y gefnogaeth seicolegol yn dal i fod ar gael hefyd hyd y gellir rhagweld.

Dirprwy Lywydd, mae'r ddau adroddiad yn fanwl ac yn drylwyr iawn, ac maen nhw'n tynnu sylw at nifer sylweddol o faterion y mae angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw ar frys, nid yn unig i wella diogelwch ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ond i wella ansawdd a phrosesau llywodraethiant. Rwyf wedi cwrdd â chadeirydd y panel goruchwylio a chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i drafod diogelwch ac ansawdd gofal mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.  

Y bore yma, fe gyhoeddais i ddau ddatganiad ysgrifenedig, un am fy ymateb manwl i'r argymhellion yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru ac un am y penderfyniadau uwchgyfeirio rwyf yn eu gwneud heddiw mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a byrddau eraill i helpu Aelodau i graffu ar y materion pwysig iawn hyn.

Dirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn nodi, er bod llawer o fenywod wedi adrodd profiad cadarnhaol o feichiogrwydd a genedigaeth i raddau helaeth, roedd rhai menywod wedi cael profiad gwael, ac maen nhw'n parhau i gael profiad gwael; disgrifiodd rhai ohonyn nhw enghreifftiau o drawma difrifol wrth roi genedigaeth. O ganlyniad i'r materion a godwyd heddiw, a'r pryderon parhaus gan fenywod a theuluoedd am brofiad cleifion, agweddau staff a'r gofal a ddarperir, rwyf heddiw yn cynyddu lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe i lefel 4. Rwyf hefyd yn penodi aelod annibynnol i eistedd ar y panel goruchwylio, a fydd yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ac yn cysylltu â theuluoedd ynghylch cynnydd wrth weithredu'r holl argymhellion a wnaed i'r bwrdd iechyd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi nodi heddiw y bydd yn derbyn ac yn mabwysiadu'r 10 argymhelliad blaenoriaeth yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi'u targedu'n benodol tuag ato, ac yn gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe. Bydd hefyd yn ceisio cydweithio â chleifion a staff i amlinellu'r camau gweithredu uniongyrchol a dilynol drwy gynllun gwella cynhwysfawr. Rwy'n croesawu'r dull gweithredu hwn.

Mae 11 o argymhellion eraill, sydd wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac rwy'n derbyn pob un ohonyn nhw hefyd. Mewn rhai meysydd, mae gwaith eisoes ar y gweill; mewn eraill, bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith. Mae'r argymhellion yn ymwneud ag ystod eang o faterion, o newid 'Gweithio i Wella', i gapasiti gofal critigol newyddenedigol, archwiliadau post-mortem pediatrig ac amenedigol, a radioleg bediatrig. Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw yn rhoi mwy o fanylion am ein hymateb i bob un o'r argymhellion a'r gwaith sydd ei angen i ymateb iddyn nhw.

Mae'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd yn nodi cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru. Byddaf yn trafod y rhain gyda'r cyrff priodol cyn ymateb yn llawn i grŵp cymorth mamolaeth Bae Abertawe. Mae'r bwrdd iechyd, yn gywir ddigon, wedi croesawu'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd ac mae'n dweud y bydd yn ystyried y canfyddiadau yng nghynllun gwella'r bwrdd iechyd.

Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar wella gofal mamolaeth a newyddenedigol, a dydw i ddim yn credu y bydd cynnal adolygiad arall ar wahân mewn perthynas â Bae Abertawe yn helpu gyda hynny, o ystyried cynnwys yr adroddiadau diweddar. Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio fy mod i eisoes wedi comisiynu asesiad sicrwydd o'r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn dechrau y mis hwn a bydd yn cael ei gadeirio'n annibynnol. Bydd yn ystyried yr adolygiadau diweddar o unedau a gofal mamolaeth ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe.

Dirprwy Lywydd, fel y soniais i, mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw yn nodi fy mhenderfyniad o ran uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hefyd yn nodi lefelau uwchgyfeirio diwygiedig sefydliadau eraill y GIG. Mae hyn yn cynnwys fy mhenderfyniad i uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i lefel 4. Dros y 18 mis diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd diffyg ariannol cynyddol ac mae wedi torri ei ddyletswydd i gytuno ar gynllun cytbwys tair blynedd. Mae ganddo'r ail nifer fwyaf o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, ac mae cyfres o heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth pryderus wedi bod sy'n arwydd o sefydliad sydd angen cymorth ychwanegol. Fel rhan o'r ymyrraeth lefel 4, byddwn ni'n gweithio gyda'r uwch dîm arweinyddiaeth i asesu gallu a chapasiti yn y sefydliad i gyflawni a gweithredu'r gwelliannau angenrheidiol a'u cefnogi i benodi tîm gyda'r sgiliau a'r arbenigedd priodol.

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd eisiau cydnabod lle mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bodloni a chyflawni'r holl ofynion i gael ei isgyfeirio o lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio i lefel 1, sy'n drefniadau arferol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi'i isgyfeirio o lefel 4 i lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. Ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi'i isgyfeirio o lefel 4 i lefel 3 ar gyfer gwasanaethau canser, ac o lefel 3 i lefel 1, sy'n drefniadau arferol, ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, ar lefel 5, a elwir hefyd yn fesurau arbennig, er bod rhai arwyddion o gynnydd, gan gynnwys mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol, llywodraethiant a gwelliannau o ran ansawdd. A does dim newidiadau i'r lefel uwchgyfeirio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys nac yn ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig. Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn gwneud rhai newidiadau i'r fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio yn unol ag ymrwymiad a wnes i'n gynharach eleni, a chaiff y rhain eu hesbonio yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach y bore yma.

Yn olaf, os gallaf, rwyf am roi ar gofnod fy niolch unwaith eto i holl staff y GIG sy'n gweithio mor galed i wneud gwelliannau i ofal pobl, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud o ddydd i ddydd, i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal yn ein GIG.

16:40

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y nifer o ddatganiadau rydych chi wedi'u rhyddhau heddiw a'r datganiad rydych chi wedi'i roi yn y Siambr nawr? Byddwn i hefyd yn dweud ei bod yn braf iawn bod y Llywodraeth wedi derbyn yr 11 o argymhellion a wnaed i'r Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn croesawu hynny hefyd.

Ysgrifennydd Cabinet, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cryfder a dewrder y teuluoedd a gyfrannodd at yr adolygiad annibynnol a'r adolygiad dan arweiniad teuluoedd o ofal mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ofidus iawn. Maen nhw'n manylu ar fethiannau clinigol difrifol, cyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth ac, yn fwy trasig, niwed y gellir ei osgoi. Maen nhw'n datgelu diwylliant lle cafodd llawer gormod o fenywod eu diystyru, eu trawmateiddio neu eu gadael yn galaru. Ac mae'n siomedig ei fod wedi cymryd adolygiad dan arweiniad teuluoedd, wedi'i lywio gan y 50 teulu hynny, i orfodi'r lefel o dryloywder rydym yn ei weld nawr. Ni ddylai hynny byth, byth orfod digwydd eto. Rwy'n croesawu eich ymddiheuriad chi ac ymddiheuriad y bwrdd iechyd, ond mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw geiriau cynnes yn ddigon, ac mae'n rhaid cael camau gweithredu brys, gweladwy a chynaliadwy i fynd gyda'r ymddiheuriadau. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi tynnu sylw at rywfaint o hynny yn eich datganiad heddiw, ac mae'n braf clywed am rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd.

Mae eich penderfyniad i uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe i lefel 4 yn gam angenrheidiol, ond mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol am y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn GIG Cymru ac yn ehangach. O dan y fframwaith presennol, mae gennym ni'r pum lefel o oruchwylio, o drefniadau arferol lefel 1 i fesurau arbennig lefel 5, fel y dywedoch. Ond i lawer o deuluoedd, dydy'r math yma o lefelau ymyrraeth yn golygu fawr ddim oni bai eu bod yn darparu gwell gofal a mwy o atebolrwydd yn y system.

Ysgrifennydd Cabinet, mae gen i sawl cwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf ar atebolrwydd a goruchwyliaeth, fe wnaethoch chi gyhoeddi penodiad aelod annibynnol i'r panel goruchwylio, ac mae gen i ddiddordeb: a fydd gan y teuluoedd a gymerodd ran yn yr adolygiad lais yn y penodiad hwnnw? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y panel yn gweithredu'n wirioneddol annibynnol oddi wrth y bwrdd iechyd i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cael ei ddwyn i gyfrif? Beth yw'r amserlen ar gyfer yr archwiliad annibynnol cyntaf o wasanaethau mamolaeth o dan lefel uwchgyfeirio 4? Ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi diweddariadau cynnydd misol, gan y bwrdd iechyd ac ar y lefelau ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru?

Yn ail, o ran y cymorth i deuluoedd, rydym wedi clywed y straeon trawmatig iawn gan fenywod a brofodd niwed corfforol a seicolegol. Mae gen i ddiddordeb: a wnewch chi nawr sefydlu proses unioni glir wedi'i hariannu'n dda ar gyfer y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan gynnwys mynediad at gymorth cyfreithiol a seicolegol? Rwy'n gwybod bod hynny wedi'i grybwyll yn y datganiad, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ariannu'n dda hefyd a'i fod yn parhau yn y dyfodol. Allwch chi hefyd ddarparu sicrwydd cadarn y bydd chwythwyr chwiban yn y bwrdd iechyd, boed nhw'n gleifion neu'n staff y GIG, yn cael eu diogelu'n llawn rhag unrhyw un sy'n ymddangos ei fod eisiau dial yn eu herbyn am godi pryderon?

O ran dysgu, dydy Bae Abertawe ddim ar ei ben ei hun. Rydym wedi gweld methiannau ar draws gwahanol fyrddau iechyd—Cwm Taf, Betsi a nawr Caerdydd a'r Fro. Mae cyflwr presennol byrddau iechyd yn codi pryderon difrifol. Mae Caerdydd bellach ar lefel 4, mae Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar lefel 5, ac mae Bae Abertawe ond wedi dyfnhau. Er, fel y dywedoch, mae rhai byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd, mae amrywiad mewn gofal ac ansawdd arweinyddiaeth yn dal i fodoli yn gyffredinol. Felly pa mor hyderus ydych chi bod y fframwaith uwchgyfeirio yn gweithio fel y dylai fod? Ydyn ni'n nodi problemau yn ddigon cynnar, ac a ydyn ni'n ymyrryd yn effeithiol ar draws GIG Cymru cyn i niwed ddigwydd mewn gwirionedd?

Rwyf am symud ymlaen yn fyr, yn olaf nawr, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a gafodd ei roi mewn ymyrraeth lefel 4, a wnaeth fy synnu i heddiw. Wrth ddarllen adroddiad y bwrdd iechyd ar gyfer y llynedd, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn unig, dywedodd 

'Eleni, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Pobl a Diwylliant'.

Eto rydym yn gwybod bod cyfres o heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth pryderus wedi bod yn y sefydliad hwnnw. Mae wedi cael ei godi yn y pwyllgor ac mae wedi cael ei godi ar lawr y Senedd sawl gwaith. Mae'r adroddiad uwchgyfeirio ac ymyrryd yn rhoi mwy o fanylion, gan ddweud: 

'mae heriau o ran diwylliant ac arweinyddiaeth, sy’n ymwneud yn bennaf â'r theatrau llawdriniaethau, yn achos pryder. Yn ogystal, mae lefel uchel o ddigwyddiadau "byth" wedi'u cofnodi eleni.'

Felly, yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi amlinellu'n union beth yw'r digwyddiadau byth hynny? Oherwydd mae'r digwyddiadau byth hynny mewn gwirionedd yn achosi niwed diangen i bobl, ac weithiau marwolaeth, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ddileu o'r system, a bod Caerdydd a'r Fro, sef un o'n byrddau iechyd mwyaf, sy'n gwasanaethu un o'n poblogaethau mwyaf, yn darparu ar gyfer cleifion yr ardal hon. Felly, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi, unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma.

16:45

Gwnaeth yr Aelod ystod o bwyntiau a chwestiynau. Mae'n iawn i ddweud ei bod yn bwysig gwrando ar leisiau menywod a theuluoedd sydd wedi cael profiadau nad ydyn nhw, mewn llawer o ffyrdd, wedi bod yn agos at yr hyn yr oedd ganddyn nhw'r hawl i'w ddisgwyl. Fe ges i gyfle i gwrdd ag 20 o deuluoedd, rwy'n credu, trwy nawdd grŵp cymorth mamolaeth bae Abertawe ychydig wythnosau yn ôl, ac fe wnaethon nhw rannu eu profiadau gyda mi mewn ffordd onest a phoenus iawn. Roedd y profiad yn un torcalonnus, ond ni ellir ei gymharu â'r profiadau maen nhw wedi'u cael a'r dewrder yr oedden nhw ei angen i allu rhannu'r profiadau hynny eto.

Dydw i ddim yn credu ei bod yn arbennig o ddefnyddiol siarad am y bwrdd iechyd yn cael ei orfodi i weithredu yn y ffordd hon. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n gymeriadaeth deg. O ran fy ymgysylltiad â'r cadeirydd a'r prif weithredwr—ac rwy'n gwybod bod hyn yn adlewyrchu profiad y rhai a fu'n goruchwylio'r adolygiad annibynnol hefyd—maen nhw wedi croesawu'r canfyddiadau yn eu holl fanylion poenus, ac wedi gwneud ymrwymiad clir i weithredu arnyn nhw. Byddaf yn eu cadw at yr ymrwymiadau hynny ac rwy'n hyderus y byddan nhw'n cymryd y rheini o ddifrif. Mae hwn yn amlwg yn faes sensitif lle rydym yn ceisio gwneud cynnydd gwirioneddol, tra'n cydnabod bod angen i ni adeiladu a meithrin perthnasoedd ymddiriedus, gan gynnwys, yn bwysig, gyda'r teuluoedd hynny er mwyn i hynny lwyddo. Ac rwy'n awyddus i geisio taro'r cydbwysedd hwnnw yn y drafodaeth heddiw.

Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau mewn perthynas ag uwchgyfeirio. Mae'n gofyn i mi a ydw i'n meddwl bod y trefniadau uwchgyfeirio yn briodol. Wel, rwy'n gwneud rhai diwygiadau i'r trefniadau uwchgyfeirio hynny yn y cyhoeddiad rwyf wedi'i wneud heddiw i adlewyrchu'r ffaith fy mod i'n credu bod angen iddyn nhw gael eu mireinio. Felly, mae rhai o'r categorïau, er enghraifft, yn cael eu cyfuno oherwydd ei fod ychydig yn artiffisial i wahaniaethu rhyngddyn nhw. Rwy'n cyflwyno categori newydd o ran iechyd y boblogaeth ac atal, sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, y mae Aelodau ar draws y Siambr hefyd yn eu rhannu, er mwyn sicrhau bod hynny'n flaenllaw yn y ffordd rydym yn asesu perfformiad byrddau iechyd yn y dyfodol. Ac rwy'n gwneud rhai darpariaethau mewn perthynas â set gliriach o drefniadau ar gyfer uwchgyfeirio er mwyn sicrhau, lle mae gofynion y gellir eu meintioli—nid rhai sy'n ddyfarniadau ansoddol sydd, yn anochel, yn fwy cymhleth, ond lle, er enghraifft, mae bwrdd iechyd a uwchgyfeiriwyd o ran gwasanaethau canser wedi cyrraedd ei darged am nifer penodol o fisoedd—y byddai isgyfeirio awtomatig mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw. Felly, y nod yw darparu eglurder a thryloywder mewn perthynas â'r rheini.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywed, i wneud yn siŵr—. A dydyn ni ddim yn dibynnu ar y trefniadau uwchgyfeirio i allu gwella'r gwasanaeth. Yr hyn rydym eisiau sicrhau yw bod gwelliant yn dod yn rhan barhaus o ddiwylliant y GIG ar ei holl lefelau. Felly, byddwch chi'n gwybod, o'n hymateb i argymhellion y grŵp cynghori gweinidogol ar sut allwn ni ddatblygu gweithrediaeth y GIG, ei bod, yn ei gwedd newydd fel Perfformiad a Gwella GIG Cymru, yno i wneud yn union hynny—i fynd ati'n rhagweithiol i wella gwasanaethau gyda byrddau iechyd a sefydliadau iechyd yn gyffredinol.

Fe wnaeth bwynt pwysig am rôl staff a gallu staff i deimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am eu profiad yn y gweithle, a lle maen nhw'n teimlo bod methiannau yn y gwasanaeth, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i allu codi'r cwestiynau hynny. Cafwyd rhywfaint o dystiolaeth nad yw hynny wedi bod yn wir am fae Abertawe, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod y bwrdd iechyd yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Pan drafodais i'r union bwynt hwn gyda chadeirydd yr adolygiad annibynnol ddoe, roedd hi'n dweud wrthyf ei fod yn dangos yr ymrwymiad i wella a thystiolaeth o welliant i weld staff yn teimlo'n fwy abl i siarad yn agored am hynny, ac yn amlwg rydym am weld mwy o hynny. Rwyf wedi ymrwymo heddiw i weithredu'r argymhellion ynghylch cymorth seicolegol cynharach a datblygu ffyrdd o weithio sy'n llai amddiffynnol, sy'n ddefnyddiol i deuluoedd, yn fy marn i, pan fyddan nhw'n wynebu'r amgylchiadau anodd hyn.

Gofynnodd i mi yn olaf am y digwyddiadau byth mewn perthynas â Chaerdydd a'r Fro. Does gen i ddim y cofnod o'm blaen yma, ond maen nhw'n faterion yn y parth cyhoeddus oherwydd byddan nhw wedi cael eu hadrodd i'w cyfarfodydd bwrdd.

16:50

Wythnos Ymwybyddiaeth Trawma Genedigaeth yw hi yr wythnos hon, felly hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i'r Channons, y Borlands, y Barretts, a gweddill grŵp cymorth teuluoedd mamolaeth bae Abertawe, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar y mater hwn. Mae'r hyn maen nhw wedi'i brofi o ran methiannau difrifol ac esgeulustod clinigol yn y gofal sydd wedi'i ddarparu yn Ysbyty Singleton yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant newydd orfod ei ddioddef, ac eto mewn llawer o achosion yma yng Nghymru, mae geni plentyn yn parhau i gyflwyno risgiau annerbyniol.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ato yn ddiweddar yn amlinellu fy mhryderon difrifol am gyflwr gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, oherwydd ar draws ystod o metrigau, mae Cymru ymhell ar ei hôl hi, ac o ran hyn, mae'r digwyddiadau trasig yn Singleton ymhell o fod yn eithriad. Er enghraifft, Cymru sydd â'r cyfraddau marw-enedigaethau uchaf yn y DU ers 2014, ac er bod Lloegr a'r Alban wedi profi gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau newyddenedigol rhwng 2010 a 2022, fe wnaethon nhw gynyddu yng Nghymru dros y cyfnod hwn. Mae pwysau ar gapasiti'r gweithlu hefyd yn cael ei ddangos yn glir gan y gostyngiad o 35 y cant mewn ceisiadau am gyrsiau bydwreigiaeth yng Nghymru ers 2021. Rwy'n croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnal asesiad o ddiogelwch ac ansawdd yr holl unedau mamolaeth yng Nghymru nawr a'i fod wedi derbyn holl argymhellion adroddiad mewnol y bwrdd iechyd.

Yn y cyfamser, mae'n amlwg bod angen cyflwyno mesurau uwchgyfeirio pellach ym mae Abertawe. Ond fel yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato, mae'r problemau yn Singleton ymhell o fod yn unigryw, yn enwedig o ran capasiti'r gweithlu. Felly, mae hon yn enghraifft glir o ble mae angen cynllun gweithlu newydd y GIG i ategu'r camau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno i'w cymryd, ac arweinyddiaeth genedlaethol fwy cadarn wrth annog cydweithrediad systematig rhwng byrddau iechyd o ran adnoddau ac arfer gorau. Mae'r ffaith bod y grŵp cymorth i deuluoedd yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw opsiwn ond ymgymryd â'u hymchwiliad eu hunain, yn seiliedig ar amheuon dealladwy ynghylch ymddygiad y bwrdd iechyd, hefyd yn dangos bod materion difrifol o ran atebolrwydd sefydliadol. Rwy'n ddiolchgar am werthfawrogiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'u gwaith yn ei ddatganiad, a hoffwn alw arno, er mwyn adfer yr ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd wedi'i cholli, i ymgysylltu mor adeiladol ac mor ragweithiol â'u hargymhellion, ag y mae wedi'i wneud gyda'r rhai yn adroddiad y bwrdd iechyd. Oherwydd mae'r adroddiad hwn, wedi'i lywio gan dystiolaeth bersonol wirioneddol dirdynnol, yn paentio darlun sobreiddiol o system y mae angen ei diwygio ar frys.

Un o'r canfyddiadau mwyaf damniol yw'r dystiolaeth glir o ba mor araf y gwnaeth y bwrdd iechyd ymateb i bedair risg barhaus sy'n gysylltiedig â mamolaeth, sef asesiadau annigonol o dwf y ffetws, camddehongli cardiotocograffeg, oedi wrth ysgogi'r esgor, a staffio bydwreigiaeth critigol, a oedd wedi bod ar eu cofrestr risg, mewn rhai achosion, am dros ddegawd. Rydym hefyd yn gwybod nad oedd ymateb Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ddigonol wrth ddilyn y camau hyn nad oedden nhw wedi cael eu rhoi ar waith, a oedd yn golygu na chynhaliwyd unrhyw ail-arolygiad o bedwar ymchwiliad cychwynnol i wasanaethau mamolaeth ym mae Abertawe tan ddiwedd Tachwedd 2023. Allwch chi roi sicrwydd felly bod gallu AGIC i fonitro cynnydd ar gamau gweithredu a argymhellir wedi'i gryfhau yng ngoleuni'r methiant cydnabyddedig hwn, a allwch chi gadarnhau a yw prydlondeb byrddau iechyd wrth weithredu ar risgiau, pan y'u nodir, yn cael ei ystyried o fewn cwmpas eich adolygiad cenedlaethol sydd ar ddod?

A oes achos hefyd dros gyflwyno safonau perfformiad gofynnol cenedlaethol ar reoli risg, gan nodi disgwyliadau clir i fyrddau iechyd ddatrys materion o fewn amserlenni a orfodir yn llym? Nawr, mae adroddiadau cadarnhaol yn un peth, ond mae angen sicrwydd arnom fod gwersi yn cael eu dysgu. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau eraill ers cyhoeddi'r gwahanol adroddiadau, ac a yw'n sicr felly bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu yn Singleton a chan fae Abertawe?

Rwyf eisoes wedi sôn am y mater o ddiffyg staffio cronig, ac rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn 2023, i uwchraddio llogi staff mamolaeth yn sylweddol. A gaf i felly ofyn am ddiweddariad ynghylch nifer y byrddau iechyd yng Nghymru sy'n bodloni'r lefelau staffio diogel a argymhellir ar gyfer bydwreigiaeth ar hyn o bryd, fel y'u nodir gan yr offeryn gweithlu Birthrate Plus? Cyfeiriwyd at annigonolrwydd cymorth iechyd meddwl a phrofedigaeth yn rheolaidd trwy gydol yr adroddiad, gydag 85 y cant o famau yn dweud bod y cymorth roedden nhw wedi'i gael yn y maes hwn yn annigonol. Felly, sut ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog dros iechyd meddwl i sicrhau bod cydweithredu effeithiol rhwng y strategaeth iechyd meddwl newydd a'r datganiad ansawdd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol? Ac allwch chi gadarnhau a ydych chi'n bwriadu parhau i ariannu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer beichiogrwydd a cholli babanod yng Nghymru o fis Medi 2025 ymlaen? 

Ysgrifennydd Cabinet, cafodd y llawenydd y dylai pob rhiant ei deimlo adeg geni plentyn ei wadu'n greulon i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw ym mae Abertawe oherwydd camgymeriadau y gellid bod wedi eu hosgoi ac esgeulustod sefydliadol. Y lleiaf maen nhw'n ei haeddu nawr yw'r sicrwydd y bydd eu hymgyrchu yn paratoi'r ffordd ar gyfer newid gwirioneddol, parhaol. Diolch.

16:55

Gallaf, fe allaf roi'r sicrwydd hwnnw ar ran y Llywodraeth ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad hwn nid yn unig yn llywio gwelliannau i wasanaethau ym mae Abertawe, ond y bydd pob uned mamolaeth ledled Cymru yn ei ystyried. Pwynt yr asesiad a gyhoeddais yn ôl ym mis Mai yw gwneud dau beth. Yn gyntaf, asesu cynnydd ym mhob uned mamolaeth yn erbyn gweithredu argymhellion sydd eisoes yn ddisgwyliadau yn y system, a hefyd nodi arfer da, y bydd llawer ohono ledled Cymru, er mwyn i ni allu rhannu hynny, fel bod gennym ni system sy'n dysgu nid yn unig o ble mae'n syrthio ar ei hôl hi, ond hefyd lle mae'n gwella ac yn gwneud yn dda. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sefydlu'r egwyddor honno fel rhan o'r asesiad hwnnw. Fe ofynnodd i mi ddarparu ychydig mwy o wybodaeth am hynny. Bydd yn cael ei gadeirio'n annibynnol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd o fewn y Llywodraeth a thu hwnt; bydd yn ystyried profiad bywyd mamau a theuluoedd; bydd yn cynnwys ymweliadau; bydd yn cynnwys dadansoddi data ynghylch ansawdd a diogelwch; a bydd yn ystyried ymagwedd gwahanol unedau at weithredu argymhellion penodol, yn y ffordd yr oedd ei gwestiwn yn gofyn amdano. 

O ran yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd, a gyhoeddwyd ddoe, fe wnes i ymrwymiad yn fy natganiad yn gynharach i ymateb yn llawn i hwnnw pan fyddaf wedi cael y cyfle i ymgysylltu â'r cyrff eraill, y cyfeirir atyn nhw yn yr argymhellion hynny. Byddaf yn gwneud ymateb llawn i'r teulu yn unol â hynny. 

Fe ofynnodd i mi am AGIC, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y cyd-destun hwn i gydnabod bod yna gyrff sy'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth yn y maes hwn, ac nid yw'n briodol i'r Llywodraeth fod yn ymyrryd yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r annibyniaeth honno, y berthynas hyd braich honno, yno i roi sicrwydd bod asiantaethau'n gweithredu'n annibynnol. Ond rwy'n hyderus bod gan y sefydliadau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw ddigon o adnoddau i wneud y gwaith y gofynnir iddyn nhw ei wneud.

Fe wnaeth bwynt pwysig ar y diwedd o ran cymorth iechyd meddwl. Un o'r argymhellion yn yr adroddiad o'r adolygiad annibynnol yw y dylai Llywodraeth Cymru wneud darpariaeth ar gyfer cymorth seicolegol cynharach i famau a theuluoedd sy'n cael y profiadau trasig hyn, ac rwyf wedi ymrwymo i weithredu'r argymhelliad hwnnw. Bydd yn gwybod am y gwaith sydd ar y gweill yng Nghaerdydd eisoes yn y maes hwn, a byddwn ni'n gwerthuso'r rhaglen honno wrth i ni wedyn ei chyflwyno i rannau eraill o Gymru er mwyn bodloni telerau'r argymhelliad hwnnw. Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â datblygu ymateb llai amddiffynnol i bryderon a godir gan famau a theuluoedd yn yr amgylchiadau hyn, ac rwy'n derbyn yr argymhelliad hwnnw hefyd.

Fe ofynnodd i mi am y trefniadau ar gyfer ariannu cymorth profedigaeth yn y dyfodol, ac rwy'n ymwybodol bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn bwriadu gwneud datganiad yn fuan iawn ar yr union bwynt hwnnw. 

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n siomedig bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, ond rwy'n deall eich pryderon ynglŷn ag eisiau gweld gwelliant gyda gofal wedi'i gynllunio a gofal brys ac argyfwng. Fel y gwyddoch, rwy'n cwrdd yn rheolaidd â chadeirydd a swyddogion y bwrdd iechyd, ac mae'n dda gweld cynnydd ar draws rhai meysydd. Rwy'n nodi eich bod chi'n caniatáu isgyfeirio rhannol o fesurau arbennig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd i'r bwrdd iechyd? 

Diolch i Lesley Griffiths am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o gyd-destun oherwydd yr egwyddor debyg mewn perthynas â Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro, am wahanol resymau. Felly, yn y ddau fwrdd iechyd hynny, mae yna resymau, drwyddi draw, dros lefel gyffredinol o gefnogaeth. Felly, mae un ar lefel 5, ac un ar lefel 4. Ond, unwaith eto, yn y ddau fwrdd iechyd hynny, mae yna naill ai arwyddion o gynnydd neu berfformiad da iawn. Felly, nid yw hyn yn arwydd bod pob agwedd ar y ddau fwrdd iechyd yn cael eu herio. Felly, er enghraifft, yn Betsi, fel y soniais yn y datganiad, rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol ac wrth gyflwyno cynllun cytbwys, ac rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i hynny fod yn bosibl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam gwirioneddol ymlaen. Rwy'n gweld yn glir bod llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn cael eu cryfhau yn y sefydliad, a bod yna welliant o ran ansawdd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n dangos cynnydd cadarnhaol.

Nid yw'r trefniadau presennol sydd gennym ar gyfer mesurau arbennig yn caniatáu digon o amrywiadau cynnil i gydnabod hynny, ac felly un o'r newidiadau rwyf wedi'u cyflwyno o ganlyniad i'r adolygiad yw gallu bod yn fwy hyblyg, fel y gallwn ni gydnabod cynnydd, hyd yn oed ar gyfer sefydliadau mewn mesurau arbennig. Felly, dydy hynny ddim yn briodol ar hyn o bryd, oherwydd dim ond newydd cyflwyno'r newidiadau ydw i, ond byddwn ni'n parhau i adolygu materion yn y dyfodol, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.

Yn yr un modd, o ran Caerdydd, rydym yn gweld cynnydd da iawn mewn perthynas â pherfformiad canser ac o ran gofal brys ac argyfwng, ond bwriad y dull cyffredinol rwyf wedi'i gymryd yw cefnogi'r sefydliad yn gyffredinol. Dydy e ddim yn arwydd bod pob agwedd arno yn cael ei herio neu dan bwysau.

Felly, roeddwn i eisiau dweud, o ran gofal wedi'i gynllunio, y gofynnodd yr Aelod yn benodol amdano yn ei chwestiwn, fel y bydd hi'n amlwg yn gwybod, mae'r nifer uchaf o bobl sy'n aros yn Betsi ar hyn o bryd. Mae'n fwrdd iechyd mawr, ond mae'n dal i gymryd swm anghymesur o'r rhestr honno, fel petai. Mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu'n agos iawn â ni mewn perthynas â'r trefniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud yn ystod y flwyddyn nesaf, fel y gallan nhw chwarae rhan lawn yn y rhaglen gofal a gynlluniwyd rydym yn ei hariannu ledled Cymru, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld cynnydd dros y misoedd i ddod mewn perthynas â'r arosiadau hiraf hynny yn Betsi.

17:00

A gaf ddechrau trwy ganmol dewrder y menywod a'r teuluoedd a gyfrannodd at y ddau adroddiad? Roeddwn i hefyd eisiau dweud gair hefyd am y staff, y cymerais i'r amser y llynedd i ymweld â nhw yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Singleton, y mae llawer ohonynt yn teimlo'n isel iawn, a bod yn onest, am y ffaith bod y bwrdd iechyd yn y sefyllfa hon, ac y maen nhw'n wirioneddol ymrwymedig i droi peth o gwmpas. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, pan fyddwn ni'n gweld adroddiadau damniol fel hyn, nad ydyn nhw bob amser yn adlewyrchiad, neu nad ydyn nhw'n aml yn adlewyrchiad ar bob aelod o staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cymryd yr amser i fyfyrio ar hynny. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn eich ymateb, Gweinidog.

Fe fyddwch chi wedi gweld yr e-bost a anfonwyd neithiwr gan grŵp cymorth mamolaeth bae Abertawe, a oedd yn cynnwys eu hadroddiad, ac yn y llinell olaf un, y gwnaf i ei ddarllen i chi nawr, mae'n dweud, 'Yfory, bydd y Gweinidog Iechyd yn sefyll i fyny yn y Senedd ac yn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Dim ond un opsiwn sydd ganddo: tynnu rheolaeth o'r gwasanaeth mamolaeth o arweinyddiaeth aflwyddiannus Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.' Pam nad ydych chi wedi gwneud hynny?

Rwy'n credu bod Tom Giffard yn gwneud pwynt pwysig o ran staff. Fe lwyddes i ymweld â staff fy hun yn yr uned ychydig wythnosau yn ôl a chael trafodaethau gyda nhw, ac mae eu hymrwymiad, yn amlwg, i ddarparu gwasanaeth diogel, parchus yn glir. Rwy'n credu mai un o'r nodweddion trawiadol yw lefel trosiant staff, a'r nifer fawr o staff newydd yn yr adran honno hefyd, sy'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos arwyddion o gynnydd, yn amlwg, y mae angen i ni adeiladu arno.

Y rheswm nad wyf wedi cymryd y camau hynny y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn yw nad wyf yn credu mai dyna'r ffordd gywir o wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei gryfhau. Yr hyn rydym am ei weld, a'r hyn rydym yn ei weld, yw sefydliad gydag arweinyddiaeth newydd ar lefel bwrdd, a thîm gweithredol ar ei newydd wedd i raddau helaeth, sydd wedi cymryd pryderon teuluoedd ac argymhellion yr adolygiad annibynnol o ddifrif ac wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny. Yr hyn rydym am ei weld yw'r sefydliad hwnnw yn parhau ar y daith wella honno. Mae elfennau ohoni eisoes ar y gweill, fel y mae'r adroddiad ei hun yn cydnabod, ac mae'n llawer gwell ein bod ni'n gallu cryfhau gwasanaethau yn y bwrdd iechyd a ddarperir gan yr arweinyddiaeth honno na'r dewis arall y mae ei gwestiwn yn ei argymell. Ac rwy'n hyderus bod yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn darparu'r map llwybr cynhwysfawr hwnnw i wella'r gwasanaethau hynny.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i eisiau dweud ychydig eiriau am ofal mamolaeth. Dylai gofal mamolaeth fod yn ymwneud â gofal diogel a phersonol. Mae'n amlwg iawn o'r adroddiad ei fod ymhell o fod yn hynny ym mae Abertawe.

Ond roeddwn i wir eisiau siarad ychydig am fydwragedd a'r rôl go iawn, bwysig maen nhw'n ei chwarae, a thalu teyrnged iddyn nhw, yn enwedig ym mae Abertawe, a ledled Cymru hefyd. Mae'n waith caled—mae'n anodd yn emosiynol yn enwedig. Ym Mhowys, mae gennym ni'r nifer uchaf o enedigaethau cartref, sy'n rhoi straen sylweddol ar y gwasanaeth bydwreigiaeth yno. Maen nhw'n dîm anhygoel ar draws Powys gyfan. Fodd bynnag, mae'n bwysau gwirioneddol arnyn nhw i wasanaethu'r angen am enedigaethau cartref, sef yr unig ddewis sydd gennym ni mewn ardal mor wledig. Fodd bynnag, dylai fod yn ddewis y dylai pawb ei gael. Dylai pob teulu gael y dewis o gael genedigaeth gartref.

Roeddwn i wir eisiau canolbwyntio ar recriwtio am yr amser byr sydd gen i ar ôl, i ddweud bod Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn glir iawn bod angen mwy o fydwragedd arnom ni er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Felly, allech chi ddweud ychydig am sut rydych chi'n bwriadu recriwtio a thargedu'r gweithlu hwnnw? Diolch yn fawr iawn.

17:05

Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud, yn amlwg, bod angen i ni gael y lefelau staffio yn iawn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod byrddau iechyd sydd â chyflenwad llawn o staff bydwreigiaeth, ac rydym ni dal eisiau gwneud yn siŵr, fel rhan o'r asesiad ledled Cymru, bod yr holl gamau yn cael eu cymryd i weithredu'r argymhellion rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd eu rhoi ar waith. Felly, o ran bwrdd iechyd bae Abertawe yn arbennig, rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud cynnydd da o ran sicrhau lefelau staffio diogel—mae hynny'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad—ac o ran arweinyddiaeth glinigol gref, sy'n bwysig iawn, ac maen nhw wedi recriwtio i sawl swydd arweinyddiaeth uwch i gryfhau arweinyddiaeth glinigol. Maen nhw wedi buddsoddi tua £0.75 miliwn i recriwtio 23 o fydwragedd ac 14 o gynorthwywyr gofal mamolaeth i'r gwasanaeth mamolaeth, ac mae hynny wedyn wedi creu mwy o wydnwch yn y tîm, amserlennu cryfach, ac wedi lleihau dibyniaeth ar staff asiantaeth, sy'n amlwg yn bwysig iawn yn fy marn i. Fe ddylwn i fod wedi ateb pwynt Mabon ap Gwynfor am hyn yn gynharach. O ganlyniad i'r recriwtio llwyddiannus, mae'r uned obstetreg yn gallu bodloni gofynion staffio bydwreigiaeth Birthrate Plus, ac mae lefelau staffio yn cael eu monitro bob dydd a'u haddasu i adlewyrchu aciwtedd a galw.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Jane Dodds bod angen rhoi sylw i fydwragedd a'r rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae wrth gefnogi menywod ar y daith heriol hon. Rwy'n croesawu'r camau mesuredig rydych chi'n eu cymryd i wrando a dysgu o'r adroddiad, gan y teuluoedd, oherwydd mae'n adroddiad pwysig iawn ac yn ddarn eithaf rhagorol o waith gan leygwyr. Ond mae wir yn datgelu rhai o'r pethau (a) sydd angen eu gwneud, a rhai o'r pethau na ddylen nhw byth ddigwydd.

Mae parhad gofal yn hanfodol i fenywod, yn enwedig y rhai sydd wedi cael digwyddiadau trawmatig yn eu bywydau o'r blaen, a dylen nhw ddim gorfod ailadrodd gwybodaeth drawmatig. Dylai fod ar gael yn y nodiadau yr oedd gan y person blaenorol a oedd yn gofalu am y fenyw honno, yn hytrach na'u bod yn gorfod ail-fyw hynny'n gyson. Yn amlwg, mae'n ddigwyddiad "byth" i staff fod yn newid nodiadau neu gofnodion cyfoes er mwyn cuddio arfer gwael, ond efallai y bydd angen iddyn nhw newid nodiadau cyfoes, oherwydd os bydd bydwraig—

—ar ei phen ei hun, yn ystod y cyfnod esgor—. Mae angen i mi orffen y pwynt hwn.

Yn yr ail a'r trydydd cam o'r cyfnod esgor, gallai ysgrifennu'r ffigur anghywir mewn camgymeriad. Mae'n rhaid iddi allu cywiro hynny cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Ond mae angen i ni ailystyried nifer y bobl sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth dynol sydd ei angen arnom, i gael y canlyniad rydym ei eisiau. Ac rwyf eisiau canolbwyntio ar y—

Mae'r cwestiwn yn ymwneud â rôl gweithwyr cymorth mamolaeth, sy'n gallu cynorthwyo bydwragedd, sy'n gweithio i fydwragedd fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol hwnnw, ac rwyf am wybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer cynyddu'r gweithlu hwnnw i sicrhau bod gennym ni'r gofal iechyd darbodus hwnnw.

17:10

Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ymwneud â'r cyflwyniad hwnnw o wasanaeth tosturiol, diogel, parchus, y mae gan bob menyw a theulu hawl iddo. Rwy'n credu ei bod yn bwysig wrth i ni, yn ddealladwy, heddiw, restru'r heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu i gofio, yn yr adroddiad ei hun, ei fod yn cydnabod y bydd llawer iawn o fenywod wedi adrodd profiad cadarnhaol o feichiogrwydd a genedigaeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cadw hynny mewn cof hefyd, wrth i ni edrych ar rai o'r heriau. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud am barhad gofal yn bwysig, ac felly roeddwn yn falch o weld gostyngiad yn lefel y staff asiantaeth ym mae Abertawe ac mewn mannau eraill. Un o'r ffyrdd y cyflawnwyd hynny yw trwy gynyddu'r recriwtio, nid yn unig bydwragedd ond hefyd cynorthwywyr bydwreigiaeth, ac rwy'n credu bod cael y gymhareb honno o gefnogaeth yn y lle iawn yn bwysig iawn i'r system allu darparu'r gofal y mae gan fenywod hawl iddo.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 6 a 7, rheoliadau cydsyniad seilwaith Cymru 2025, eu grwpio ar gyfer eu trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiadau.

6. & 7. Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025

Felly, dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Cynnig NDM8955 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.

Cynnig NDM8956 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynigion.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 i'w cymeradwyo. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau a fydd yn gweithredu'r broses a nodir yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 i ddarparu cyfundrefn gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid, cymunedau ac unigolion sydd wedi cyfrannu, cefnogi a chymryd rôl weithredol wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Effaith gyfunol y rheoliadau hyn yw cyflwyno cyfundrefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol.

Rwy'n ymrwymedig i fod â chyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero net. Bydd y gyfundrefn cydsynio seilwaith yn gwella cystadleurwydd Cymru fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi. Bydd y gyfundrefn yn cyflymu datblygiad ac yn galluogi cydsynio prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd gadarn ond effeithlon. Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein targed uchelgeisiol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gyflenwi 100 y cant o'n defnydd blynyddol o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae'r rheoliadau'n darparu sicrwydd i'r holl randdeiliaid trwy gydol y broses gyfan. Maen nhw'n sicrhau ymgysylltiad effeithiol o'r cychwyn cyntaf, gan y datblygwr yn gyntaf ac yna gennym ni. Maen nhw'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno gyda chais ac yn pennu amserlenni ar gyfer penderfyniadau ac i leihau oedi a sicrhau bod penderfyniadau cadarn yn cael eu gwneud. Trwy wneud hyn, mae'r gyfundrefn gydsynio yn gwella tryloywder a gallu rhanddeiliaid i graffu ar brosiectau seilwaith sylweddol.

Mae'r gyfres o is-ddeddfwriaeth yn sicrhau bod gan ein cymunedau, ac yn enwedig y rhai sy'n cynnal seilwaith newydd, rôl bwysig yn y broses cydsynio seilwaith. Mae'r rheoliadau'n cyflwyno gofynion i gynnal ymgynghoriad cadarn cyn ymgeisio, gwrandawiadau llawr agored, ac maen nhw'n nodi y bydd gwrandawiadau ac ymchwiliadau a gynhelir fel rhan o archwiliad yn cael eu darlledu ar-lein. Bydd hyn yn hwyluso cyfranogiad ystyrlon gan y gymuned ac yn cynyddu hygyrchedd i'r broses o wneud penderfyniadau. Yn bwysig, mae'r rheoliadau yn darparu hyblygrwydd i sicrhau bod y system yn gallu adlewyrchu unrhyw newidiadau polisi a thechnoleg a allai ddigwydd yn y dyfodol. 

Felly, gan droi at effaith benodol y rheoliadau sy'n destun y ddadl heddiw, mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn darparu'r fframwaith ar gyfer codi ffioedd sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith. Yn hanfodol, mae'r rheoliadau yn sicrhau adennill costau llawn i awdurdodau cyhoeddus, sy'n golygu y bydd datblygwr yn talu am brosesu a phenderfynu ar y cydsyniad.

Mae datblygwyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i dalu am wasanaeth effeithlon ac effeithiol, a bydd yr incwm hwn yn helpu i ddarparu adnoddau ar gyfer y sefydliadau a sicrhau bod y system yn cael ei chyflwyno'n effeithlon. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r rheoliadau yn sicrhau y gall yr awdurdodau cyhoeddus penodedig godi ffi am ddarparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith. Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar gyfer prosesu ac archwilio'r cais, Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniad, yn ogystal ag ymgynghoreion statudol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol, am eu mewnbwn i'r broses.

O ran manylion, mae'r rheoliadau ffioedd yn gwneud darpariaeth i ffioedd gael eu cyhoeddi ar-lein gan y corff sy'n codi'r ffi neu ar ei ran. Er mwyn sicrhau bod y system yn deg, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth hon dim llai na mis cyn i'r ffi ddod i rym. Mae hyn yn sicrhau bod y system yn hyblyg, a bydd yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddiwygio ffioedd i adlewyrchu costau'n gywir.

Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn nodi darpariaethau penodol sy'n ofynnol i weithredu'r gyfundrefn cydsyniad seilwaith newydd nad ydynt yn cyd-fynd yn daclus â rheoliadau eraill. Er enghraifft, mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion gweithdrefnol ar gyfer darparu gwasanaethau cyn ymgeisio, a rhestr o fathau o brosiectau y gellid eu cyfarwyddo i fod yn brosiectau seilwaith sylweddol, a'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais iddo gael ei gyfarwyddo. O ran y mathau o ddatblygiad a all fod yn destun cyfarwyddyd sy'n gofyn am gydsyniad seilwaith o dan y Ddeddf, rydym wedi gwrando ar adborth o'r ymgynghoriad ac wedi ehangu'r rhestr o gynigion datblygu a allai fod yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o'r fath, ac mae'r rheoliadau bellach yn cynnwys cynigion fel hydrogen a gwaith amddiffyn rhag llifogydd dros 0.5 km.

Hoffwn fynegi fy niolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y gyfres hon o ddeddfwriaeth. Rwyf wedi ymateb i'w hadroddiadau ac rwyf wedi nodi'r gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud i'r rheoliadau mewn ymateb i'r pwyntiau adrodd hyn cyn iddynt gael eu gwneud yn ffurfiol. Gallaf roi sicrwydd i'r Senedd fod yr holl ddiwygiadau a fydd yn cael eu gwneud yn rhai bach ac nad ydynt yn newid ystyr nac effaith gyfreithiol y darpariaethau sy'n cael eu diwygio.

Bydd y broses cydsyniad seilwaith newydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2025, a bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi cyn hyn i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn barod ar gyfer y gyfundrefn newydd. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i randdeiliaid i sicrhau pontio didrafferth o'r cyfundrefnau presennol i'r broses gydsynio newydd. Felly, i gloi, mae'r ddeddfwriaeth hon yn cyflwyno cyfundrefn symlach a modern ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr tiriogaethol, a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau sy'n destun y ddadl hon.

17:15

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 7 Gorffennaf, ynghyd â chyfres o reoliadau eraill sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac felly sydd eisoes wedi'u gwneud. Brynhawn ddoe, gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiadau. Gyda'i gilydd, ar draws y pum offeryn cysylltiedig, mae'r pwyllgor wedi adrodd 66 o bwyntiau adrodd technegol. Mae adroddiadau'r pwyllgor ar y rheoliadau sy'n cael eu trafod y prynhawn yma yn cynnwys 18 o'r 66 o bwyntiau technegol hynny.

Mae saith o'r pwyntiau hynny'n ymwneud ag anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, ac mae pedwar yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan y pwyllgor, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud 23 o gywiriadau ar draws y ddau offeryn cyn iddyn nhw gael eu llofnodi'n gyfraith, os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor y bydd 23 o'r materion a nodwyd gan y pwyllgor yn yr offerynnau gweithdrefn negyddol cysylltiedig hefyd yn gofyn am offeryn cywiro erbyn diwedd y flwyddyn.

Yr wythnos diwethaf, siaradais ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad pan wahoddwyd y Senedd i gymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. Roedd y Gorchymyn hwnnw hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o wallau, gan ei gwneud yn ofynnol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol gadarnhau y byddai'r Llywodraeth yn gwneud mwy nag 20 o gywiriadau i'r Gorchymyn hwnnw cyn iddo gael ei lofnodi'n gyfraith. Nid wyf yn dal yr Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am beidio â gwirio bod y Gymraeg a'r Saesneg yn dweud yr un peth. Yr hyn rwyf yn ei feddwl yw bod yna bobl yn yr adran honno ddylai fod yn unioni pethau, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i gymryd camau arno, oherwydd nid yw hyn yn anarferol.

Mae'r pwyllgor yn mynd yn fwyfwy pryderus am ansawdd is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gosod gerbron y Senedd i'w chymeradwyo, a bydd yn parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar y mater hwn. Diolch.

17:20

Diolch yn fawr iawn. Ac eto, hoffwn roi ar gofnod fy niolch i'r pwyllgor, ac yn enwedig i'r Cadeirydd, am y gwaith craffu manwl iawn ar y Rheoliadau Cysyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 drafft a hefyd y rheoliadau darpariaethau amrywiol. Yn ein barn ni, mae'r rheoliadau fel y'u gosodwyd yn gweithio'n effeithiol. Fodd bynnag, diolch i'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwy'n cynnig y dylid gwneud ychydig o fân welliannau technegol cyn eu gwneud. 

Felly, o ran ffioedd, mae'r mân welliannau yn sicrhau bod yna ddefnydd cyson o'r term diffiniedig, 'gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol', a bod cyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2024 yn glir. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau eu bod nhw'n fwy hygyrch a dydyn nhw ddim yn newidiadau sylweddol. Yn ogystal, rwyf wedi cywiro'r croesgyfeiriadau yn rheoliadau 11(2)(a) a (b) a rheoliad 13(5) fel y'u codwyd, eto, gan y pwyllgor.

Yn olaf, rwyf wedi sicrhau bod y rhaglith yn adlewyrchu'r rheoliadau a'u bod yn cael eu gwneud yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd o dan adrannau 141(3) a 141(4)(h) o Ddeddf 2024, ac mae'r rhain i gyd yn ymwneud â'r rheoliadau penodol mewn perthynas â ffioedd.

Ac er ei bod yn ymddangos bod cryn dipyn o newidiadau—18 i gyd, fel y clywsom gan y Cadeirydd—mae llawer o ailadrodd o fewn y mân gywiriadau a fydd yn cael eu gwneud wrth eu gwneud. Mae chwe newid yn ymwneud ag egluro'r term 'gwasanaethau cyn gwneud cais', mae chwech yn ymwneud â sicrhau ei bod yn glir bod yr adrannau'n dyfynnu Deddf 2024 yn gywir, ac mae dau yn ymwneud â sicrhau cysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae tri diweddariad i groesgyfeiriadau, ac mae'r rhaglith hefyd wedi'i diweddaru i ychwanegu manylion, felly fe allwch chi weld bod y cywiriadau hynny yn fach iawn, ond rwy'n ddiolchgar iawn, iawn i'r pwyllgor am dynnu ein sylw atyn nhw.

Ac wedyn, yn fyr, o ran y rheoliadau darpariaethau amrywiol, mae'r mân welliannau yn sicrhau cysondeb ar draws y testunau Cymraeg a Saesneg ac yn sicrhau nad yw'r diffiniad o'r 'ymgeisydd' yn berthnasol i reoliad 7. Felly, bydd y newidiadau hyn, unwaith eto, yn rhoi eglurder a dydyn nhw ddim yn newidiadau sylweddol. Ond, unwaith eto, diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025

Eitem 8 heddiw, Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM8957 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r ddyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i ddarparu cynllun cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl. Rwyf am gymryd eiliad i fyfyrio ar pam mae sefydlu cymorth ariannol i bobl anabl mor bwysig o ran y ffordd rydym yn llunio cymdeithas decach, nid yn unig mewn egwyddor, ond yn ymarferol.

Rydym yn gwybod bod llawer o bobl anabl yn wynebu costau ychwanegol, boed ar gyfer trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol neu gymorth personol. Nid ychwanegiadau dewisol mohonyn nhw. Yn aml, nhw yw'r allwedd i annibyniaeth, cyfle a'r teimlad o gael eich cynnwys. Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn ein hatgoffa nad cyflwr rhywun sy'n ei ddal yn ôl ond y rhwystrau yn y byd o'i gwmpas, gan gynnwys yn y trefniadau ar gyfer ymgeiswyr sy'n ceisio swydd etholedig. Mae cymorth ariannol yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn. Mae'n rhoi mwy o ddewis, mwy o reolaeth a mwy o hyder i bobl gymryd rhan lawn mewn democratiaeth. Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â thegwch, maen nhw'n ymwneud â chydnabod bod pawb yn haeddu'r cyfle i gymryd rhan yn llawn, heb gael eu dal yn ôl gan y systemau nad oedden nhw wedi'u cynllunio gyda nhw mewn golwg. Ac mae'n ymwneud â dangos bod ein hymrwymiad i gynhwysiant yn real—nid geiriau yn unig, ond gweithredoedd. Rwy'n gofyn i'r Aelodau ddangos, unwaith eto, eich ymrwymiad i gefnogi pobl anabl i ddod â'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad i helpu i lunio democratiaeth. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau. Rwyf wedi ymateb i'w adroddiad defnyddiol, ac wedi nodi'r gwelliant a fydd yn cael ei wneud mewn ymateb i'r un pwynt adrodd cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud yn ffurfiol. Gallaf roi sicrwydd i'r Senedd mai mân welliant ydyw ac nad yw'n newid ystyr nac effaith gyfreithiol y ddarpariaeth sy'n cael ei diwygio. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma.

17:25

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 7 Gorffennaf, a gwnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad brynhawn ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau drafft yn cynnwys dim ond un pwynt adrodd ar fater y mae angen esboniad pellach yn ei gylch, yn ein barn ni. 

Mae rheoliad 12 yn ymwneud â thalu cymorth ariannol ar gyfer cymorth neu addasiadau a gymeradwyir o dan y cynllun cymorth ariannol. Mae rheoliad 12(4)(a) yn gosod dyletswydd ar weithredwr y cynllun i sicrhau nad oes unrhyw daliadau yn cael eu gwneud oni bai ei fod yn fodlon bod y person sy'n hawlio wedi talu'n briodol neu y bydd yn talu'n briodol am gost y cymorth a gymeradwyir. Fodd bynnag, nid yw'n cyfeirio at addasiadau a gymeradwyir, sydd hefyd yn cael eu caniatáu o dan y cynllun cymorth ariannol.

Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw addasiadau a gymeradwyir wedi'u cynnwys yn rheoliad 12(4)(a). Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor y byddai'n well pe bai cysondeb rhwng hyn a darpariaethau tebyg eraill, ac mae wedi cadarnhau y bydd yn cywiro'r anghysondeb cyn gwneud y rheoliadau, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, ac mae'r Gweinidog wedi cadarnhau hynny ymhellach.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am y pwyntiau a wnaed heddiw ac yn y gorffennol, ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad a rennir yn ystod y daith rydym wedi bod arni i gyrraedd y ddadl bwysig heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor, ac am waith y pwyllgor o ran nodi'r gwelliant hwnnw, ac rydym wedi rhoi hynny'n iawn yma.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddatganiad pwerus bod pobl anabl yn perthyn ac yn cyfrannu, ac yn haeddu cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi ym mhob agwedd ar ein cymdeithas. Mae hyn wrth wraidd democratiaeth. Yn sail i'r rheoliadau hyn mae'r weledigaeth a rennir gennym fod yn rhaid i rwystrau gael eu chwalu, bod yn rhaid i gyfleoedd fod yn gyfartal ac y dylai pob unigolyn, ni waeth beth fo'i amgylchiadau neu anghenion cymorth, gael y cyfle i ffynnu. Mae'n gam pwysig, nid yn unig i bobl anabl, ond i bob un ohonom, wrth i ni adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.  

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Eitem 9 sydd nesaf: cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jayne Bryant.

Cynnig NNDM8965 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 27.7, Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8964 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar Dydd Mawrth 15 Gorffennaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025

Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NNDM8964 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'n ymwybodol o'r gwrthdaro diweddar rhwng Israel ac Iran. Ym mis Mehefin, trefnodd Llywodraeth y DU gymorth i ddinasyddion Prydain sy'n byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu ddwyrain Jerwsalem adael drwy hediadau siartredig. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn cytuno bod angen i ni sicrhau bod y rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn cyrraedd lle diogel.

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chymhwyso'r prawf preswylio arferol i'r rhai sy'n cyrraedd y DU o ardaloedd yr effeithir arnynt am chwe mis, o 17 Gorffennaf. Bydd yr eithriad hwn yn caniatáu mynediad at fudd-daliadau lles a chymorth tai yn syth ar ôl cyrraedd. Nid yw'r eithriad dros dro hwn wedi'i adlewyrchu eto yn Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Felly, rydym wedi gosod rheoliadau drafft gerbron y Senedd i alinio rheolau cymhwystra tai â darpariaethau lles, gan sicrhau cysondeb o ran y cymorth a roddir i'r rhai yr effeithir arnynt. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn darparu cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag y trais a'r gwrthdaro a rhoi cyfle iddynt geisio cymorth tai neu ddigartrefedd yng Nghymru heb oedi gormodol.

Bydd y diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i'r rhai sydd wedi gadael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, ac sy'n dod i Gymru, ynghylch sut maent yn cael mynediad at dai neu'n cael cymorth digartrefedd pan fyddant yma. Heb ddiwygiad, byddai unigolion sy'n cyrraedd Cymru yn parhau i fod yn anghymwys i gael cymorth tai neu ddigartrefedd er eu bod yn gymwys i gael budd-daliadau lles. Byddwch yn nodi, Dirprwy Lywydd, ein bod ni, fel mewn amgylchiadau tebyg blaenorol, wedi gweithredu'n brydlon ac wedi cyflwyno'r rheoliadau yn gyflymach na'r arfer oherwydd y brys eithafol y mae'r sefyllfa yn gofyn amdano.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r pwyllgor ac Aelodau'r Senedd am eu cymorth ar y mater brys hwn. Er nad ydym yn disgwyl i lawer o bobl y mae angen cymorth arnynt gyrraedd Cymru, mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd. Fel y gwyddoch, mae pobl yn ffoi rhag sefyllfa anodd a gofidus, a dylem roi unrhyw gymorth y gallwn ni ei gynnig i'r rhai mewn angen. Rwy'n gobeithio, Dirprwy Lywydd, bod pawb ar draws y Senedd yn teimlo yr un fath ac y byddant yn croesawu'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Diolch.

17:30

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth?

Hoffech chi ddweud unrhyw beth arall, Jayne?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth

Eitem 11 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i wneud y cynnig. Jack Sargeant.

Cynnig NDM8958 Jack Sargeant

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Cyflogaeth i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac, wrth wneud hynny, cyfeiriaf Aelodau at fy natganiadau o fuddiant, yn enwedig fy aelodaeth o undeb llafur.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth ac am yr adroddiadau y maent wedi'u cynhyrchu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â llawer o argymhellion y pwyllgor, ac rwyf hefyd yn cydnabod yr ystyriaeth y mae aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i rhoi hefyd, gan gynnwys yn y sesiwn dystiolaeth a fynychodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ar 5 Mehefin.

Mae gan y Bil Hawliau Cyflogaeth gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Gan adeiladu ar ein ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, y ddeddfwriaeth hon yw'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth. Mae'n gwella hawliau cyflogaeth, mae'n cryfhau gorfodi ac mae'n dileu cyfyngiadau diangen ar undebau llafur. Bydd y Bil yn darparu manteision gwirioneddol i weithwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Bydd yn rhoi hwb i gynhyrchiant, yn helpu i wneud i waith dalu ac yn gwella diogelwch swyddi ac amodau gwaith. Mae'n gwneud llawer i sicrhau mwy o chwarae teg yn ein heconomi. Mae'n hanfodol o ran mynd i'r afael ag arferion gwaith diegwyddor a diogelu safle cyflogwyr da, cyfrifol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i'r ceisiadau i ddiwygio'r Bil i roi pwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â datblygu cytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol a diogelu gweithwyr wrth allanoli gwasanaethau.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei map trywydd ar weithredu'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Bil hwn a'r cynllun ehangach i wneud i waith dalu. Gan gydnabod pwysigrwydd y Bil Hawliau Cyflogaeth a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar weithwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn cydsynio iddo. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a allaf ddatgan fy muddiant fel aelod o sawl undeb llafur?

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod tri adroddiad ar y pedwar memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Mae'r pwyllgor yn cytuno'n fras ag asesiad Llywodraeth Cymru o gymalau'r Bil sy'n gofyn am gydsyniad. Fodd bynnag, fel y nodir yn ein hadroddiad cyntaf, rydym yn anghytuno â'r angen am gydsyniad ar gyfer rhai cymalau mewn perthynas ag undebau llafur. Mae ein hadroddiad cyntaf hefyd yn ymdrin â'r ffaith bod y Bil yn gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Senedd i ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb, a gwnaethom nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn ddiweddar.

Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ein hail adroddiad ar femorandwm Rhif 3, yr ymatebodd Llywodraeth Cymru iddo y bore yma. Mae'r memorandwm hwn yn codi materion cyfansoddiadol gan ei fod yn ymdrin â gwelliant y cytunwyd arno sy'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru drwy reoliadau. Mae'r ddarpariaeth sy'n galluogi sefydlu'r corff hwn yn sylweddol. Ym marn y pwyllgor, pe bai darpariaethau o'r fath, neu ddarpariaethau tebyg yn fras, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, credwn y dylid eu cynnwys, fel mater o egwyddor, mewn Bil a gyflwynir i'r Senedd.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd cynnwys y ddarpariaeth yn y Bil hwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ategu gan gyfraith cyflogaeth, na fyddai'n bosibl mewn Bil a gyflwynir i'r Senedd. Fodd bynnag, soniodd hefyd am fod yn bragmatig am yr hyn y gellir ei gyflawni yn yr amser sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon.

Nid yw'n glir i'r pwyllgor a fyddai gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i gyflwyno Bil sy'n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru, naill ai fel darpariaeth debyg i'r hyn a gynigir gan y Bil hwn, neu fel darpariaeth ar gyfer corff sydd â'r un pwrpas, fwy neu lai. Am y rheswm hwn, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu asesiad ynghylch a fyddai gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i gyflwyno Bil i'r Senedd sy'n cynnwys darpariaeth i greu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru, neu gorff â dibenion tebyg.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddai'n bosibl darparu safbwynt cyfreithiol diffiniol ar y pwnc hwn heb ddatblygu darpariaethau drafft perthnasol yn gyntaf a chynnal dadansoddiad cymhwysedd deddfwriaethol llawn ohonynt. Mae'n dweud y byddai hyn yn gofyn am adnoddau sylweddol iawn, a fyddai'n anghymesur yn yr amgylchiadau ac na fyddai modd ei gwblhau cyn i'r Bil Hawliau Cyflogaeth gwblhau ei daith drwy Senedd y DU. Roedd y pwyllgor hefyd yn teimlo ei bod yn arbennig o anfoddhaol bod rheoliadau yn gallu cael eu defnyddio, o dan y Bil, i greu corff statudol datganoledig. Gwnaethom argymell bod y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol yn esbonio pam ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i'r Bil wneud darpariaeth yn y modd hwn. Mewn ymateb i'r pwynt hwn, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ein bod yn troedio tir newydd ac felly

'mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r hyblygrwydd o ran amseru sefydlu’r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol.'

O dan y Bil, bydd angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad Llywodraeth y DU cyn defnyddio eu pŵer i greu'r corff hwn. Rydym yn deall nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon â'r sefyllfa hon, ac nid yw wedi gallu perswadio Llywodraeth y DU y dylid tynnu'r gofyniad hwn o'r Bil. Mae'r pwyllgor yn cytuno bod angen i'r mater hwn gael ei ddatrys, ac felly gwnaethom argymell yn ein hadroddiad y dylai Llywodraeth Cymru esbonio a oedd yn ystyried rhannu gwelliannau drafft gydag Aelodau Tŷ'r Arglwyddi at y diben hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor nad yw'n mynd ar drywydd gwelliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i gael gwared ar y gofyniad am gydsyniad gan ei bod yn teimlo ei bod wedi

'dihysbyddu pob llwybr rhesymol i’w herio.'

O ystyried y bydd y gofyniad hwn am gydsyniad yn rhan o'r Bil, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau unrhyw eithriadau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ym memorandwm Rhif 3, mae'r Gweinidog yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau ariannol sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru cyn ceisio defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu'r corff. Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gweithredu'r Bil. Dywedodd hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiadau eto o'r costau tebygol a fyddai'n disgyn iddi. Mae hyn yn anfoddhaol, ac felly argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam nad yw wedi gwneud asesiad cychwynnol o oblygiadau ariannol posibl y ddarpariaeth hon yn y Bil. Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at asesiad cychwynnol, ond mae'n dweud, o ystyried pa mor gyflym y mae'r Bil wedi symud ymlaen, nad oedd cyfle i gynnal asesiad effaith llawn cyn gorfod penderfynu a ddylid ceisio estyniad i'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru. Diolch.

17:35

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peter Fox.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae fy nghyfraniad heddiw yn ymwneud â memorandwm Rhif 3 ar gyfer y Bil Hawliau Cyflogaeth. Mae Memorandwm Rhif 3 yn cyfeirio at welliannau y cytunwyd arnynt yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae gwelliant sylweddol yn mewnosod cymal 36 newydd yn y Bil, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol newydd i Gymru. Bwriad y corff negodi newydd yw datblygu a chytuno ar gytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol, a fyddai'n llywio telerau ac amodau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol. Fel rhan o'n hystyriaeth o'r memorandwm, clywsom dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Yn dilyn y sesiwn honno, gwnaethom saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi'n llawn yn ein hadroddiad. 

Hoffwn ganolbwyntio ar ran o'r adroddiad hwnnw, ac yn arbennig ein barn ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r polisi hwn. Fel pwyllgor, gwnaethom gydnabod yr anawsterau recriwtio a chadw hirsefydlog o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol, a'r angen i wella cyflog, telerau ac amodau'r gweithlu hwnnw. Mae'r Bil yn darparu mecanwaith i negodi i wella'r materion hyn, a bydd yn gwneud unrhyw gytundebau newydd yn gyfreithiol orfodadwy. Bydd hefyd yn berthnasol ar draws gofal cymdeithasol oedolion a phlant yng Nghymru.

Fodd bynnag, fel pwyllgor, roeddem yn pryderu am y defnydd o Fil y DU ar gyfer cyflawni'r maes polisi sylweddol hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cyflog teg yn y gweithlu gofal cymdeithasol, ond nid yw wedi cyflwyno ei Bil ei hun. Bydd y dewis hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar y cyfleoedd i randdeiliaid yng Nghymru fod yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol, ac i'r Senedd archwilio'r polisi yn fanwl. Bydd hefyd yn golygu mai drwy gyfrwng rheoliadau y bydd y polisi arwyddocaol hwn yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Rydym wedi gofyn i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol egluro pam ei bod o'r farn ei bod yn briodol i'r corff negodi gofal cymdeithasol gael ei sefydlu gan reoliadau, yn hytrach na Bil Cymru.

Mae gennym bryderon difrifol am y gofynion cydsynio yn y Bil. Cyn iddi ddefnyddio ei phwerau gwneud rheoliadau i sefydlu corff negodi, rhaid i Lywodraeth Cymru gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam y dylid cyfyngu ar arfer cyfreithlon y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru yn y modd hwn. Rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru bod cydsyniad yn ddiangen, ac rydym o'r farn y dylai'r Gweinidog fynd ar drywydd yr holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod y gofyniad hwn yn cael ei ddileu o'r Bil.

Yn olaf, y goblygiadau ariannol. Bydd cyllid yn allweddol i weithredu adran 36 newydd yn llwyddiannus, felly roeddem yn bryderus o glywed bod cyn lleied o waith paratoi wedi'i wneud, a bod cyn lleied o wybodaeth, yn ôl pob golwg, am y cyllid a ddaw gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd gyda thrafodaethau â Llywodraeth y DU.

Fel pwyllgor, rydym o'r farn bod memorandwm Rhif 3 a'r trefniadau yn y Bil i sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i Gymru ymhell o fod yn foddhaol. Rydym yn cefnogi'n llawn yr egwyddor o gryfhau'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gwella cyflog, telerau ac amodau'r gweithlu hwnnw. Roedd mwyafrif y pwyllgor yn cefnogi'r memorandwm hwn fel ffordd o gyflawni hynny. Fodd bynnag, roedd lleiafrif yn teimlo bod y diffyg cynllunio ariannol a'r materion cyfansoddiadol ehangach yn golygu na allent gefnogi'r memorandwm hwn. Diolch. 

17:40

Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Ni allwn ac nid ydym yn cefnogi'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Er bod y bwriadau y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon yn ymddangos yn deilwng, rwy'n pryderu am y baich sylweddol y bydd yn ei osod ar fusnesau ledled y DU. Er enghraifft, bydd yn arwain at dros £5 biliwn mewn costau ychwanegol i fusnesau, bydd yn arwain at golli swyddi a bydd yn lleihau hyblygrwydd gweithwyr. Yn ogystal, bydd trafodaethau gorfodol am undeboli yn rhoi mynediad helaeth i undebau i weithwyr, ac yn eu galluogi i drefnu mwy o streiciau oherwydd cyfnodau rhybudd byrrach a throthwyon pleidleisio is. Mae'r wlad yn wynebu ei hargyfwng ariannol mwyaf ers degawdau a baich treth digynsail. Mae angen twf economaidd arnom, nid rhwystrau. Felly, ni allwn gefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU, na rhoi cydsyniad iddi ddeddfu ar ein rhan. Diolch yn fawr.

Nid yw'n syndod y bydd y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y Bil Hawliau Cyflogaeth: hawliau i weithwyr o'r diwrnod cyntaf, contractau dim oriau yn cael eu hadolygu, dileu cyfyngiadau ar undebau, rhoi terfyn ar ddiswyddo ac ailgyflogi. Mae yna lawer o bethau i fod yn gadarnhaol amdanyn nhw yma, er nad yw rhywfaint o'r geiriad ynghylch rhai o'r pethau hyn mor gryf ag y byddwn i wedi hoffi iddo fod. Ond eto, fel y dywedais, mae llawer i'w groesawu ac mae'n newid enfawr o'r Llywodraeth flaenorol. Wrth gwrs, byddem hefyd wedi hoffi gweld mwy ar absenoldeb rhiant a diwedd ar wahaniaethu ar sail cyflog, ond nodais y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud gwaith pellach ar hyn yn y blynyddoedd i ddod. Felly, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld sut y bydd y gwaith hwnnw'n datblygu.

O ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, byddwn ni'n ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Er gwaethaf y camau cadarnhaol hyn, mae yna, rwy'n credu, bryderon difrifol, yn enwedig ynghylch y pwerau y mae'r Bil hwn yn eu rhoi i Ysgrifenyddion Gwladol y DU ddiystyru penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlwg yng nghymal 151, sy'n rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud darpariaethau canlyniadol mewn perthynas â'r Bil. Mae hyn yn cynnwys pŵer Harri VIII, sy'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth sy'n cynnwys Deddf neu Fesur y Senedd. Nawr, yn debyg i sut yr oedd pethau o dan y Llywodraeth flaenorol, yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, rydym yn gweld darpariaethau sy'n tresmasu ar allu'r Llywodraeth hon a'r lle hwn i ddeddfu ar ran pobl Cymru.

Nawr, yn yr un modd ag y byddai Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu cipio pŵer o'r fath yn nyddiau Llywodraeth Dorïaidd, byddwn yn gobeithio y byddent yn gwneud yr un peth nawr yn nyddiau Llywodraeth Lafur y DU. Felly, ar y sail honno, byddwn yn ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw.

17:45

Rwyf am ddechrau drwy ddatgan fy mod i'n undebwr llafur balch; rwy'n aelod o Unsain ac Unite, fel y nodir yn fy nghofrestr buddiannau.

Dyma'r tro cyntaf i mi siarad ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol o'r meinciau cefn, ac er fy mod i'n gwneud hynny fel amddiffynnydd brwd dros ddatganoli, hoffwn yn bersonol weld archwiliad pellach o sut y gallwn ni ymestyn yr hyn y gallwn ni ei wneud mewn perthynas â bargen well yn y gwaith yng nghyd-destun Cymru. Felly, hoffwn wneud yr achos heddiw i Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

P'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae hawliau cyflogaeth wedi'u cadw'n ôl ac nid oes modd eu gorfodi ar lefel benodol i Gymru. Os nad yw gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru o fewn cwmpas corff negodi gofal cymdeithasol yn y DU, dim ond yr isafswm statudol o ran cyflog, telerau ac amodau y byddai disgwyl i gyflogwyr ei ddarparu, gan roi mwy nag 85,000 o weithwyr yng Nghymru dan anfantais o bosibl. Os nad yw hawliau cyflogaeth gweithwyr gofal yng Nghymru yn gwella yn unol â gweddill y DU, bydd yna gost. Ie, cost i'r gweithwyr unigol hynny, cost i'r sector yn ei gyfanrwydd, ond cost i'n gwlad. Fel rhywun sy'n gwasanaethu etholaeth yn agos at y ffin, mae gen i bryderon go iawn y gallai gweithwyr gofal, yn ddealladwy, geisio gwaith i lawr y ffordd yn Lloegr am fanteision gwell, pe bai hynny'n wir. Felly, byddwn i'n dweud bod y cytundeb cyflog teg yn torri tir newydd. Ar hyn o bryd, nid oes bargeinio ar y cyd sectoraidd ar gyfer gweithwyr gofal yn unman yn y DU. Yn wir, soniodd Luke am yr holl bethau cadarnhaol am y ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, ac fel rhywun sydd wedi eirioli dros waith teg a bargen well yn y gwaith am y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith, rwy'n credu bod y cytundeb cyflog teg yn rhywbeth a sefodd allan i mi. Mae'n rhywbeth penodol a chadarn iawn a allai wneud gwahaniaeth i bobl mewn termau ymarferol.

Ychydig dros ddegawd yn ôl erbyn hyn, efallai ychydig yn fwy na hynny, lluniais i bapur polisi undebau llafur yn eirioli dros ddiwygio sectoraidd fel modd o ddyrchafu'r gweithlu a sicrhau cynaliadwyedd ystod o sectorau amrywiol yma yng Nghymru. O ran llawer o'r achos hwn, mae'r dull hwn yn dal i fod yn ddilys, a byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru ynghyd â phartneriaid cymdeithasol, yn amlwg, i archwilio o ddifrif pa liferi pellach sydd gennym ni yma yn hyn o beth. Oherwydd, fel y dywedoch, rydym wedi arwain y ffordd yn y DU gyda'n dull partneriaeth gymdeithasol, ond mae'r gwaith hwn ymhell iawn o fod wedi'i wneud, ac mae angen adeiladu arno'n ystyrlon gyda gweithredoedd, nid geiriau yn unig. Gyda hynny mewn golwg, dylai Llywodraeth Cymru hefyd gael llais a rhan cyfansoddiadol parhaus yn y cytundebau cyflog teg hynny sy'n cwmpasu sectorau datganoledig, rhywbeth yr wyf wedi eirioli drosto ers dechrau'r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth gloi heddiw, Dirprwy Lywydd, yw y gallai gweithwyr yn y sector gofal yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn weithwyr benywaidd sydd ar gyflog is gan amlaf, gael eu gadael ar ôl os na chaiff y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ei basio. Rwy'n credu bod angen i ni weld hyn fel ffordd o ddatblygu hawliau gweithwyr mewn sector sydd angen cael ei ddiwygio mewn ffordd radical, sector y mae cymdeithas yn dibynnu arno, a gweithlu yr ydym yn rhoi ein hanwyliaid yn ei ofal ar wahanol adegau mewn bywyd. Felly, byddwn i'n dweud wrth bawb yn y Siambr hon heddiw: os ydych chi'n cefnogi gweithwyr yng Nghymru mewn sector sy'n chwarae rhan mor hanfodol i'n pobl, i'n lleoedd, sy'n darparu urddas, sy'n sail i gymdeithas, yna dylech chi gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.

A gaf i, ar y dechrau, ddatgan fy mod i yn cefnogi egwyddorion ac amcanion y Bil yn llwyr? Mae angen inni ei weld o'n gweithredu, ac yn sicr o safbwynt y sector gofal, mi fyddwn i'n croesawu gweld tâl teg yn cael ei roi i ofalwyr. Ond mae gen i broblemau a phryderon mawr am y ffordd mae hyn yn cael ei weithredu, fel yr ydyn ni wedi'i glywed gan Luke Fletcher ynghynt.

Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi mynd ati er mwyn cyflwyno hyn, a'r ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati, yn beryglus. Mae o'n tanseilio Llywodraeth Cymru, mae'n tanseilio'r Senedd yma, ac mae'n tanseilio datganoli. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld defnydd o rymoedd Harri VIII, sy'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru—yn San Steffan, yn yr achos yma—i addasu neu wyrdroi Deddf neu Fesur a fydd wedi cael ei basio gan y Senedd yma. Mae hynny, i fi, yn gwbl annerbyniol. Efallai fod hyn yn dderbyniol i'r Llywodraeth yma ar hyn o bryd tra bod Llywodraeth Llafur yn bodoli yn San Steffan, ond beth fyddai'n digwydd os cawn ni Lywodraeth arall yn San Steffan rywdro? Dywedwch fod Reform yn ennill y tro nesaf, beth fuasai hynny'n golygu i'r Senedd yma ac i ddatganoli wedyn, ein bod ni wedi trosglwyddo'r grym a rhoi'r hawl yna i Ysgrifennydd Gwladol Reform yn San Steffan? Ydy'r Llywodraeth yma, felly, yn credu bod hyn yn sefyllfa dderbyniol?

Hefyd, mi fydd dim hawl gan y Gweinidog yma yng Nghymru i sefydlu corff tâl teg heb gael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Mae hyn, unwaith eto, yn fy nhyb i, yn gwbl annerbyniol. Ydy'r Llywodraeth yn credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol, lle mae'n rhaid plygu i San Steffan er mwyn cyflawni'r Deddfau y mae hawl gennym ni i'w gwneud fan hyn yng Nghymru?

Fedrwn ni ddim parhau i ddeddfu fel hyn, gyda grymoedd yn cael eu cymryd oddi ar ein Senedd ni, a'n llais democrataidd ni'n cael ei danseilio dro ar ôl tro. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yma'n gwrthwynebu'r defnydd o rymoedd Harri VIII, ond eu bod nhw wedi methu darbwyllo Llafur yn San Steffan. Wel, beth mae hyn yn ei ddweud am y bartneriaeth mewn pŵer? Does dim lot o rym gan y Llywodraeth yma dros Lywodraeth San Steffan.

Mi fydd y Bil yma'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru, ac mi fydd ganddo fo hefyd effaith ar faterion eraill sydd wedi eu datganoli, boed yn gyllideb Cymru, yn wasanaethau gofal, ac yn wir yn wasanaethau iechyd, ond does yna ddim amser wedi cael ei neilltuo neu ei roi ar gyfer craffu hyn yn y cyd-destun ehangach yna. Does yna ddim craffu Cymreig wedi bod. Ydy'r Llywodraeth yn credu bod hyn yn dderbyniol? Nid fel hyn mae llywodraethu, a dwi eisiau sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar gofnod, fy anfodlonrwydd i o'r drefn yma.

Yn olaf, mi allai'r Llywodraeth yma wedi mynd ati i gyflwyno ei Mesurau ei hun. Rŵan, dwi'n derbyn na fyddai Mesurau o'r fath wedi bod yn statudol yng nghyd-destun Cymru oherwydd nad ydy hawliau cyflogaeth wedi cael eu datganoli, ac mae yna gwestiwn yn fanna o ran beth mae'r Llywodraeth yma'n ei wneud er mwyn sicrhau datganoli hawliau cyflogaeth a sicrhau ein bod ni'n flaengar yng Nghymru, ond dydyn nhw ddim, ac mi fuasai unrhyw beth a fyddai'n cael ei wneud yng Nghymru wedi bod yn Fesur gwirfoddol, ond mi fuasai hynny wedi dangos llwybr clir a dangos awydd y Llywodraeth yma. Felly, pam na wnaeth y Llywodraeth yma fynd ati i weithredu Mesur annibynnol ei hun cyn ein bod ni'n ddibynnol ar San Steffan? Ydy'r Llywodraeth yma erbyn hyn wedi rhoi fyny ar ddatblygu ei syniadau ei hun, ac yn ddibynnol ar San Steffan i ddarparu'r syniadau a'r Biliau i Gymru? Diolch.

17:50

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, yn enwedig Cadeirydd y ddau bwyllgor a siaradodd yn y ddadl hon? Roedd llawer o'r drafodaeth, Llywydd, yn ymwneud â'r corff negodi gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu bod y Gweinidog eisoes wedi nodi yn eithaf manwl yn ysgrifenedig ac mewn tystiolaeth lafar y pwyntiau yn hynny o beth, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cam gweithredu.

Llywydd, rydym yn rhannu amcanion y Bil Hawliau Cyflogaeth, ac rwy'n nodi rhai o'r pryderon a godwyd gan rai Aelodau yn y cyfraniadau heddiw, ond credwn ei bod er budd pennaf y sector gofal cymdeithasol, a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn arbennig, ein bod ni'n sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol a chytundebau cyflog teg mewn gofal cymdeithasol, am yr holl resymau a nodwyd gan Hannah Blythyn. Mae Unsain Cymru yn hollol gywir pan fyddan nhw'n dweud bod rhesymeg cadarn a moesegol dros gefnogi'r cynnig hwn.

Llywydd, yn yr amser sydd gennyf, rwy'n croesawu Luke Fletcher yn nodi safbwynt ei blaid. Mae llawer i'w groesawu yn y Bil Hawliau Cyflogaeth hwn a'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol dilynol hyn. Dyma'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi sylwadau'r Aelodau. Lle nad wyf yn cytuno o gwbl, ond nid yw'n syndod i mi, Llywydd, yw ar safbwynt y Ceidwadwyr. Rwy'n eithaf siŵr fy mod i wedi eu clywed yn dweud na allant ac nad ydynt yn cefnogi'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Wel, nid yw hynny'n syndod o gwbl. Roedd eu plaid, pan oeddent mewn grym yn San Steffan, yn ceisio tanseilio hawliau gweithwyr yn gyson am 14 mlynedd. Ac maent yr un peth nawr, onid ydyn nhw? Pleidleisiodd y Torïaid a Reform, ar bob cam yn y ddeddfwriaeth hon—bob un cam—yn erbyn y Bil hwn. Nid ydynt yn poeni am bobl sy'n gweithio, Llywydd, ac mae eu record bleidleisio yn glir iawn, iawn ar y mater hwnnw.

Llywydd, dyma'r uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid y cynnig heddiw, lle mae ein taith barhaus yn pleidleisio dros hawliau gweithwyr yn parhau, yn y frwydr hir, hanesyddol honno y mae llawer ohonom yn y Siambr hon yn ei chefnogi, ond, fel y gellid disgwyl, nid rhai. Diolch.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl
13. Y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi a Dug Cernyw

Symudwn ymlaen at eitem 13, y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)—hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi a Dug Cernyw. A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 17:56:23
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin a Dug Cernyw i hysbysu'r Senedd fod Ei Fawrhydi a'r Dug, ar ôl cael gwybod am ddiben y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), wedi cydsynio i'r Bil hwn.

14. Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

A Chyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) sydd nesaf, a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig, Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8963 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Huw Irranca-Davies 17:57:00
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i wneud y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cam 4 o'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd ar 9 Rhagfyr 2024.

Ers i'r Bil gael ei gyflwyno, mae wedi symud yn llwyddiannus trwy broses ddeddfwriaethol y Senedd, ac fe hoffwn i ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau a staff unigol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth fanwl a'u craffu a'u hadroddiadau hynod drylwyr mewn perthynas â'r Bil a'r memorandwm esboniadol ategol a'r asesiad effaith reoleiddiol. Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd i fy nhîm bach ond perffaith ei gyfluniad o swyddogion mewn polisi, drafftio, deddfwriaeth, asesu effaith, swyddfa breifat, cynghorwyr ac eraill. Nhw yw'r bobl anweledig ac yn aml y rhai a anwybyddir sy'n tywys ac yn llywio'r llong yn ddiogel i'r harbwr. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid a'r partneriaid cyflawni am eu cyfraniadau at ddatblygiad ein polisi a'r broses ddeddfwriaethol hon.

Dirprwy Lywydd, o'r cychwyn cyntaf rwyf wedi bod yn falch o weld y gefnogaeth drawsbleidiol gref i nodau ac amcanion y Bil hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pob plaid wedi cydnabod yr angen absoliwt am ddeddfwriaeth gadarn i amddiffyn ein cymunedau yng Nghymru sy'n byw yng nghyffiniau tomenni nas defnyddir. Mae ymgysylltiad cadarnhaol gwirioneddol ag Aelodau trawsbleidiol y Senedd wedi ein galluogi i weithio gyda'n gilydd yn adeiladol i gyflwyno gwelliannau gofalus i'r Bil hwn. Heb os, mae'r gwelliannau hyn wedi cryfhau'r Bil, yn enwedig mewn perthynas â thryloywder, gan fod yn rhaid cyhoeddi dogfennau allweddol nawr ar wefan yr awdurdod.

Os gallaf droi yn awr at y rheswm pam mae'r Bil hwn mor bwysig a pham rwy'n credu y bydd yn cyflawni i gymunedau ledled Cymru. Derbyniwyd ar y cyfan nad yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 yn addas i'r diben heddiw. Yn ogystal, mae newid hinsawdd, gyda lefelau cynyddol ac afreolaidd o law, yn creu heriau cynyddol ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir. Ac i filoedd o bobl yn ein holl gymunedau ledled Cymru—ie, yng Nghymoedd y de, ond mewn rhannau eraill o Gymru hefyd—mae'r tomenni hyn yn atgof bythol o'r hyn a all fynd o'i le. Fel cenedl, ni fyddwn ni byth ac ni ddylem ni byth anghofio trasiedi Aberfan. Yn fwy diweddar, bu tirlithriadau ar domenni nas defnyddir yn Nhylerstown a Chwmtyleri. Felly, fel Llywodraeth, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r pryder a'r gofid y mae cymaint o deuluoedd sy'n byw yng nghysgod tomenni nas defnyddir yn eu teimlo, ledled Cymru.

Felly, i gydnabod y ffactorau hyn, mae ein rhaglen lywodraethu 2021-26 yn cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i gyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio ac i sicrhau diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r Bil hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw. A nod cyffredinol y Bil yw lleihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau ar domenni glo a di-lo nas defnyddir trwy sefydlu corff cyhoeddus newydd, ymroddedig. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Bil yn sefydlu'r awdurdod tomenni nas defnyddir ar gyfer Cymru, y mae'n rhaid iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Bil i sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd. Ac mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir ledled Cymru, ac mae'n cynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r awdurdod i ymdrin ag ansefydlogrwydd tomenni a bygythiadau i ansefydlogrwydd tomenni. Mae hyn yn cynnwys pwerau i'r awdurdod ei gwneud hi'n ofynnol i berchennog tir wneud gwaith, ac i'r awdurdod wneud gwaith ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gwaith o'r fath. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau atodol, gan gynnwys pwerau mynediad i'r awdurdod, darpariaethau rhannu gwybodaeth, a phwerau i ofyn am wybodaeth, ac mae'n creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi'r drefn hon.

Dirprwy Lywydd, y Mesur hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae'n flaengar. Fel cenedl a oedd ar flaen y gad yn y diwydiant glo, mae'n gwbl briodol ein bod yn arwain y ffordd gyda deddfwriaeth i sicrhau diogelwch chwareli nas defnyddir yng Nghymru, er mwyn amddiffyn cymunedau lleol.

Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu cefnogaeth a phleidleisio dros y Bil. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau o ddifrif â'r gwaith gweithredu pwysig i gyrraedd dyddiad sefydlu'r awdurdod, sef 1 Ebrill 2027. Drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, rwy'n hyderus y bydd y Bil yn cael effaith wirioneddol, gadarnaol a pharhaol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

18:00

Cyn i mi alw'r siaradwyr eraill, Ysgrifennydd Cabinet, fe ddylwn i eich atgoffa eich bod wedi defnyddio eich holl amser yn eich cyfraniad agoriadol, felly byddaf yn rhoi munud i chi ymateb i'r ddadl. Ac mae hynny'n hael. Janet Finch-Saunders.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a gaf i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei waith ac am arwain y Bil pwysig iawn hwn? Wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon mae cof am y 116 o blant a'r 28 o oedolion hynny a laddwyd pan ddaeth tomen gwastraff glo i lawr ar ysgol a'r cartrefi cyfagos ar 21 Hydref 1966, ac rydym ni wedi gweld tomenni eraill yn llithro ers hynny. Does arnom ni ddim eisiau gweld trasiedi o'r fath yn ein gwlad byth eto. Nid yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet, bellach yn darparu'r fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yn yr unfed ganrif ar hugain, ac rwy'n croesawu sefydlu'r awdurdod yn fawr.

Fe wnaethom ni gyflwyno rhai gwelliannau, ac roedd yn dda, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod wedi gweithio gyda ni ar hyn. Dw i'n meddwl ei fod yn wych, y newyddion gawsom ni heddiw o'r palas hefyd, o ran y Cydsyniad Brenhinol. Rwy'n credu ei bod hi'n wythnos dda iawn i ni, Aelodau'r Senedd, pan ydym ni i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd yn gynhyrchiol—pob plaid—i sicrhau bod diogelwch yr tomenni hyn yn cael y lle blaenllaw.

Mae gen i bryderon ynglŷn â sut mai'r gost a amcangyfrifir i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru yw £600 miliwn. Mae gennym ni 20,000 o fathau eraill o domenni, ac mae'n rhaid i ni sylweddoli hefyd bod diogelwch tomenni gant y cant yn gyfrifoldeb datganoledig. Gadewch i ni fwrw ymlaen nawr. Fe gawn ni'r awdurdod hwnnw ac, mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y bydd pawb yn pleidleisio o blaid hyn. A diolch, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet.

Hoffwn i ddiolch i'r clercod a'r cyfreithwyr sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil yma ac sydd wedi bod yn amyneddgar iawn wrth ddrafftio gwelliannau. Buaswn i'n hoffi diolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ac aelodau eraill y pwyllgor am yr ymgysylltiad adeiladol rydyn ni wedi ei gael trwy gyfnod y Bil hwn, ac i'r Aelodau eraill a siaradodd o blaid rhai o'r gwelliannau roeddwn i wedi eu cynnig. 

Fe hoffwn i ddiolch eto hefyd i Lewis Owen, Niamh Salkeld, Tomos Rowley, Daniel ac Anthony o'r Rhwydwaith Gweithredu Glo, Haf o Gyfeillion y Ddaear Cymru, a Bethan a David o Climate Cymru.

Yn ôl Tacitus, disgrifiodd y pennaeth Brythonig Calgacus yn ingol y dinistr a wnaed ar ei famwlad gan y llengoedd Rhufeinig goresgynnol trwy ddweud,

'Fe wnaethon nhw greu anghyfannedd a'i alw'n heddwch.'

Tynged drist y cymunedau hynny sy'n byw yng nghysgod tomenni glo Cymru yw bod y geiriau hyn yn atseinio mor gryf â'u hanes—ein hanes ni—oherwydd, am flynyddoedd, roedd ein hamgylchoedd yn cael eu dinistrio gan raib diwydiant a chyfalaf yn bwyta cyfoeth ein daear gan hau dim yn gyfnewid. Ac am ddegawdau wedyn, dywedwyd wrth y cymunedau hyn i dderbyn yr anghyfannedd a adawyd wrth i Lywodraethau olynol osgoi gofalu am glwyfau agored y mwyngloddiau segur, gan ganiatáu iddyn nhw fod yn atgof mor amlwg, poenus o ecsbloetio. Mae hyn nid yn unig wedi bod yn dreth amgylcheddol ofnadwy, mae cythraul y diwydiant mwyngloddio glo sydd eto i'w fwrw allan wedi pwyso'n drwm ar ymwybyddiaeth gyfunol y cymunedau hyn. Sut allwn ni symud ymlaen yn llwyr o'n colled tra bod y clwyfau hynny ar agor o hyd?

Nawr, ni fyddaf yn esgus, Dirprwy Lywydd, bod y Bil yn cyflawni popeth roedd arnom ni ei eisiau. Roedd arnaf i eisiau gweld llawer mwy o uchelgais wrth reoleiddio'r defnydd o lo yn y broses o adfer i atal pyllau glo ddoe rhag troi i'r safleoedd mwyngloddio newydd niweidiol hyn. Nawr, rwy'n credu hefyd bod angen rhoi llawer mwy o bwysau ar y rhai a gyfrannodd at gyflwr y tomenni hyn i'w dal yn atebol yn llawn ac yn barhaol am gost adfer. Serch hynny, mae'r Bil yn cynrychioli carreg filltir bwysig wrth wynebu gwaddol mwyngloddio glo yn ein cenedl, a dylid ei gydnabod fel y cyfryw. Bydd o'r diwedd yn dechrau codi gorchudd tywyll sydd wedi gorchuddio ein Cymoedd am amser llawer rhy hir, ac o anghyfannedd y tirweddau creithiog hynny i anadlu bywyd newydd o'r diwedd.

18:05
Member
Huw Irranca-Davies 18:07:37
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae arnaf i eisiau dim ond diolch eto i'r holl Aelodau, gan gynnwys Delyth a Janet heddiw, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud mewn ysbryd cydweithredol iawn ar y Bil hwn i wella'r Bil hwn. Roedd fel eiliad o University Challenge eiliad yn ôl ar y ddesg flaen yma, lle trodd fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl a dweud yn Lladin wrthyf,

'atque ubi solitudinem faciunt, pacem appellant',

'Fe wnaethon nhw greu anghyfannedd a'i alw'n heddwch',

o'r gwreiddiol. Diolch yn fawr iawn. Diolch. Mae hon yn adeg bwysig, rwy'n credu, a dyma'r ffordd y dylai'r Senedd gydweithio i gyflwyno deddfwriaeth dda, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gwasanaethu'n cymunedau. Diolch yn fawr iawn.  

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 15, dadl y Llywodraeth ar gyflawni blaenoriaethau a rhaglen deddfwriaethol y Llywodraeth. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud yn cynnig—Eluned Morgan. 

Cynnig NDM8959 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) y cynnydd sydd wedi’i wneud ar gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth:

i. gwell iechyd;

ii. mwy o swyddi;

iii. gwell trafnidiaeth; a

iv. mwy o gartrefi;

b) y cynnydd ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon, oherwydd er gwaethaf yr amgylchedd byd-eang ac economaidd ansefydlog rydym ni'n byw ynddo, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni. Nawr, pan ddes i'n Brif Weinidog fis Awst diwethaf, ac ar ôl ymarfer gwrando yn yr haf, roeddwn i'n glir gyda fy Nghabinet, y gwasanaeth sifil a phobl Cymru ein bod yn gwrando ar flaenoriaethau pobl ac rydym ni'n cyflawni'r blaenoriaethau hynny. Roedd arnaf i eisiau cyflawni newid go iawn—newid y gall pobl ei deimlo yn eu bywydau bob dydd. Nawr, gadewch i ni beidio â gwenieithio—mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithaf anodd. Rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau'r pandemig, rydym ni wedi wynebu argyfwng costau byw oherwydd rhyfel yn Ewrop a chwyddiant byd-eang cynyddol, i gyd wrth ymdopi â difrod parhaol dros ddegawd o doriadau Torïaidd a adawodd ein cyllid wedi'i ymestyn i'r eithaf.

Nawr, rydym ni yng Nghymru wedi gwneud ein gorau glas i ddiogelu ein gwasanaethau a'n cymunedau yn wyneb yr heriau hyn, ond bu'n rhaid i ni godi'r darnau gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'n cefn oherwydd y canlyniadau o ddigwyddiadau fel cyllideb Truss. Ac eto, nid dim ond cynnal y gaer rydym ni wedi gwneud, rydym ni wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny ac rydym wedi cyflawni. Rydym ni wedi lleihau amseroedd aros hiraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 86 y cant ers uchafbwynt y pandemig, ac rydym ni'n gweld cynnydd gwirioneddol mewn diagnosteg a lleihau oedi gyda gofal. A nawr, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, mae gennym ni gynllun uchelgeisiol i leihau'r rhestr aros gyffredinol o 200,000 a dileu rhestrau aros dwy flynedd yn gyfan gwbl, ac rydym ni'n cefnogi hyn gyda buddsoddiad, gydag arloesedd ac, yn bwysicaf oll, gydag ewyllys gwleidyddol go iawn.

Rydyn ni hefyd yn delifro pan fo hi'n dod i adeiladu tai. Mae ein targedau ar dai cymdeithasol ymysg y rhai mwyaf uchelgeisiol sydd erioed wedi eu gweld yng Nghymru, gyda bron £2 biliwn o fuddsoddiad. Er gwaethaf Brexit, chwyddiant uchel, rhwystrau yn y gadwyn gyflenwi a thwf uchel mewn cyfraddau llog, rŷn ni'n dal ar y trywydd iawn i gynnal ein cyfraddau adeiladu blynyddol uchaf ers 2008.

Nawr, rydym ni hefyd yn trawsnewid trafnidiaeth— rheilffordd, bws a ffyrdd. Am flynyddoedd, gwrthodwyd cyllid rheilffyrdd teg gan Lywodraeth Dorïaidd nad oedd yn hidio botwm corn. Nawr gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, rydym ni'n gweld rhywfaint o symudiad o'r diwedd ac rydym ni'n gwneud y mwyaf ohono. Rydym ni wedi darparu mwy o drenau newydd nag erioed o'r blaen ac rydym ni'n gwybod bod pobl yn teimlo manteision y gwaith hwnnw eisoes, oherwydd mae teithwyr yn teithio 19 y cant yn fwy. Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio wedi cynyddu 12.5 y cant, ac mae ein trenau yn cwmpasu bron i 22 y cant yn fwy o dir—trafnidiaeth gyhoeddus fwy dibynadwy, mwy modern gyda mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau hyn yn amlach i fynd ymhellach.

Ond rydym ni hefyd yn newid wyneb ein gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac eleni rydym ni wedi cynyddu'r cyllid refeniw blynyddol i dros £140 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a bydd y buddsoddiad hwnnw wedi cyrraedd cyfanswm o £600 miliwn. Ym mis Mawrth, fe wnaethom ni gyflwyno'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) i'r Senedd, gan gyflawni ein hymrwymiad i greu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni a gwireddu'r weledigaeth honno o wasanaeth un amserlen ac un tocyn i Gymru. Ac, ie, o'r hydref hwn, byddwn yn cyflwyno tocynnau bws am £1 i bobl ifanc oherwydd ein bod ni wedi gwrando a deall na ddylai cost fod yn rhwystr i gyfle. Ac fe wnaethom ni hefyd gyflawni prosiect trawsnewidiol Blaenau'r Cymoedd, un o'r rhwydweithiau ffyrdd mwyaf uchelgeisiol yn unrhyw le yn Ewrop, a fydd yn dod â thwf a swyddi newydd i rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydym ni wedi buddsoddi £25 miliwn i wella ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn uniongyrchol a £6 miliwn arall i alluogi i'n hawdurdodau lleol ryddhau hyd at £120 miliwn i drwsio ein ffyrdd lleol. A'r canlyniad? Tua 700 km o ffyrdd wedi'u gwella a thua 200,000 o dyllau wedi'u trwsio neu eu hatal ledled Cymru. Mae'r rhain yn bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, ac rydym ni'n cyflawni ar eu cyfer.

Rydym ni'n creu swyddi'r dyfodol, nid gyda sloganau, ond gyda buddsoddiad gwirioneddol mewn technoleg lân, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion a thechnoleg. Ac ar ben hynny, mae dros 42,000 o swyddi wedi cael eu cefnogi'n uniongyrchol gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. A chydag uwchgynhadledd buddsoddi Cymru ar y gweill, rydym ni'n rhoi Cymru ar y map byd-eang, yn agored i fusnes, yn llawn cyfleoedd, ac yn barod i ddenu buddsoddiad yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydym ni'n barod i ymladd am bob swydd ym mhob cymuned ar draws ein cenedl.

18:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rŷn ni wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru—dros 50 miliwn o brydau cinio ychwanegol eisoes wedi cael eu gweini. Ar ben hyn, ŷn ni wedi cefnogi dros 57,000 o bobl ifanc i mewn i swyddi, addysg neu hyfforddiant trwy ein gwarant pobl ifanc.

Ac rydym ni hefyd yn rhoi lle blaenllaw i iechyd menywod, gyda phob bwrdd iechyd ar fin darparu canolfannau arbenigol newydd erbyn 2026, gan sicrhau bod menywod yn cael y gofal y maen nhw'n ei haeddu. Nid oes unrhyw agwedd ar hyn wedi bod yn hawdd, ond rydym ni wedi cyflawni hyn. Nid ydym ni wedi goresgyn stormydd y blynyddoedd diwethaf yn unig, rydym wedi dod trwyddynt yn gryfach, yn barod i adeiladu dyfodol gwell i bawb, a nawr, gyda Llafur mewn grym ledled y Deyrnas Unedig, rydym ni'n barod i wthio ymhellach a symud yn gyflymach nag erioed o'r blaen. Rydym ni wedi pasio deddfwriaeth nodedig nad yw dim ond ticio blychau, mae'n newid bywydau mewn gwirionedd.

Rŷn ni wedi dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, gan roi pobl ifanc bregus cyn pocedi preifat. Rŷn ni wedi cymryd camau i fynd i'r afael â thlodi cartref drwy gyflwyno Bil digartrefedd a thai cymdeithasol. Rŷn ni wedi cryfhau'r Senedd, gan ei gwneud yn sefydliad mwy effeithiol, mwy cynrychioladol, un sy'n wirioneddol yn gweithio ar gyfer y bobl mae'n eu gwasanaethu. Ac mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac rŷn ni wedi ymrwymo'n llawn i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu canran y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae cyflwyniad Bil y Gymraeg ac addysg yn gam pwysig yn y daith yma.

Nid yw hyn yn ymwneud â chyhoeddiadau gwag neu ymhonni gwleidyddol. Mae hyn yn feiddgar. Mae hyn yn weithred benderfynol sy'n cyflawni newid clir, gwirioneddol, nawr. Nid yw'r Llywodraeth hon yn sefyll yn llonydd; rydym ni'n camu ymlaen. Felly, tra bod eraill yn gweiddi o'r ochr, rydym ni'n torchi ein llewys, yn gweithredu, ac yn cyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig: gwell iechyd, gwell trafnidiaeth, mwy o gartrefi a mwy o swyddi. A gyda llai na blwyddyn ar ôl yn nhymor y Senedd, mae gen i un neges: nid ydym yn llaesu dwylo; rydym ni'n bwrw iddi. Diolch.

18:15

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rhun ap Iorwerth sy'n cynnig gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ei blaenoriaethau drwy:

a) methu targedau rhestrau aros dwy flynedd olynol y GIG;

b) gadael Cymru ar waelod y tablau cyflogau cyfartalog gros;

c) methu â sicrhau'r £4 biliwn o arian canlyniadol rheilffordd HS2;

d) peidio â gwrando ar rybuddion na fydd yn cyrraedd y targed cartrefi cymdeithasol; ac

e) gwneud tro pedol ar ymrwymiadau a wnaed yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Byth ers iddi ddod i'w swydd, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud cyflawni yn arwyddair o'i phrif weinidogaeth. Roedd ei Llywodraeth i fod yn un a fyddai'n

'canolbwyntio ar gyflawni, nid ar eiriau teg, nid ar strategaethau crand,'

dywedwyd wrthym ni, 'ond ar weithredu', i'w dyfynnu o ddechrau'r flwyddyn hon. Ond, yn amlwg, yn seiliedig ar y cynnig sydd o'n blaenau heddiw, mae gan y Prif Weinidog a minnau ddealltwriaeth wahanol iawn o'r hyn y mae 'cyflawni' yn ei olygu mewn gwirionedd.

Siawns y dylai cyflawni olygu troi addewidion yn ganlyniadau diriaethol. Dyna oedd yn sicr y ffordd y bu i ni weithredu ar brydau ysgol am ddim, yr oedd arnom ni eisiau eu gweld yn cael eu cyflwyno trwy'r cytundeb cydweithio: amlinellu'r cynllun, cyflawni. Ond, i'r Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod cyflawni yn golygu cynhyrchu litani o dargedau a fethwyd, ymddiddori mewn gobeithion ffug, a gadael trywydd o addewidion wedi'u torri. Sut arall y gellir esbonio cyfeirio at iechyd gwell fel tystiolaeth o ble mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynnydd, pan fo'r ffigurau diweddaraf yn dangos ei bod hi'n mynd yn ôl o ran y targed o gyrraedd 8,000 o bobl yn aros dwy flynedd erbyn y gwanwyn, a oedd, wrth gwrs, eisoes yn llawer llai uchelgeisiol na'r targed gwreiddiol a osododd iddi ei hun i ddileu'r holl restri aros o'r fath erbyn mis Mawrth 2023; neu fwy o swyddi, pan fo'r ystadegau diweddaraf yn dangos gostyngiad o 5,300 o weithwyr cyflogedig yng Nghymru yn y mis hyd at fis Mai, cynnydd mewn diweithdra hyd at fis Ebrill, a bod Cymru ymhlith y gwaethaf o holl wledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig o ran cyflog gros; neu drafnidiaeth well, pan fo dylanwad Llywodraeth Cymru o fewn yr hyn a elwir yn bartneriaeth rym wedi methu â sicrhau un geiniog o ganlyniadau HS2 a dim un geiniog o'r adolygiad gwariant diweddaraf ar brosiectau i'r gorllewin o Gaerdydd; neu fwy o gartrefi, pan fo'r Llywodraeth wedi cyflawni llai na hanner ei tharged ar gyfer cartrefi cymdeithasol newydd o fewn tymor presennol y Senedd gyda llai na blwyddyn yn weddill? Dyma ychydig o enghreifftiau o restr hir iawn, sydd yn fy marn i'n gwrthbrofi'r syniad bod cynnydd yn cael ei wneud o dan y Llywodraeth Lafur hon.

Mi fuaswn i wedi gallu sôn am lawer o enghreifftiau eraill, am broblemau'r gwasanaeth ambiwlans, neu lefelau isel cynhyrchiant yn economi Cymru, neu lefelau isel boddhad teithwyr ar drenau Cymru. Ble aeth yr addewid i sicrhau bod yna gydbwysedd rhywedd yn y Senedd yma drwy ddeddfwriaeth?

Ac wrth gwrs, pan fo'n dod at Gymru, mae'r ddau bartner yn y bartneriaeth mewn grym yn methu: Llywodraeth Cymru yn fan hyn, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Keir Starmer, wrth gwrs, wedi profi bod blwyddyn yn hen ddigon o amser i wneud lot fawr o gamgymeriadau, gwneud rhes o benderfyniadau sydd yn taro rhai o'r bobl a rhai o'r cymunedau mwyaf bregus sydd gennym ni yng Nghymru. Ond dydy 12 mis, mae'n debyg, ddim yn ddigon hir i wneud unrhyw beth o’r rheini y gwnaethon nhw addo eu gwneud i Gymru. Lle mae’r datganoli cyfiawnder? Mi gadarnhawyd ddoe dydy o ddim yn flaenoriaeth. Lle mae’r arian HS2? Dim sôn amdano fo, na diwygio fformiwla gyllido Cymru, nac Ystâd y Goron, neu roi grym go iawn i Gymru dros y cronfeydd cymerodd le'r hen raglenni cyllid Ewropeaidd. Felly, tynnwch y sbin o na ac edrychwch go iawn ar y dystiolaeth o’n blaenau ni, a beth welwch chi ydy bod y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yma, ar ôl bron flwyddyn dan ei harweinyddiaeth hi, wedi cyflawni’r gwrthwyneb, mewn llawer ffordd, o’r hyn yr addawodd hi. Does yna ddim ffordd goch Gymreig go iawn, nac oes? Sloganau ydy pethau felly. Dirywiad rydym ni’n ei weld, onid ydym, managed decline rydym ni wedi gweld cymaint dros y blynyddoedd, a dyna ydy gwaddol arweinyddiaeth Llafur ar ôl chwarter canrif a mwy.

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyflawni, wrth draddodi araith a allai fod wedi ei hysgrifennu gan 10 Downing Street, ein cyhuddo ni o lapio ein hunain mewn gorchudd o drallod a siom, fel pe bai dyhead am well canlyniadau o ran iechyd, o ran yr economi ac o ran addysg, fel pe bai eisiau gwell na hyn i Gymru, yn afresymol. Nawr, yn seiliedig ar y bwlch enfawr rhwng rhethreg Llafur a'r realiti, sy'n amlwg i'w weld, byddwn yn awgrymu yn gwrtais efallai bod y Llywodraeth hon yn lapio ei hun mewn blanced o hunan dwyll. Ac nid oes angen i mi ddweud hyn wrthych chi; mae'r polau piniwn yn siarad drostyn nhw eu hunain yn huawdl o ran barn y cyhoedd yng Nghymru ynghylch sut mae pethau'n mynd o dan Lafur.

18:20

Darren Millar, nawr, sy'n cyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Yn is-bwynt a), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.

Gwelliant 3—Paul Davies

Yn is-bwynt b), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Llywydd. Rwy'n codi heddiw yn anghrediniol y byddai Llywodraeth Cymru yn gweld yn dda cyflwyno cynnig o longyfarch, fel y'i gelwir o, gerbron y Senedd hon sy'n awgrymu ei bod yn gwneud cynnydd ar ei hagenda a chynnydd o ran cyflawni i bobl Cymru. A dyna pam rydym ni wedi cyflwyno dau welliant syml iawn gyda rhai geiriau dwys iawn, byr, ond pwysig. Rydym ni eisiau mewnosod y gair 'diffyg' o flaen y gair 'cynnydd' mewn dau bwynt o'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, oherwydd nid ydym ni wedi gweld unrhyw gynnydd o gwbl. Rydym ni wedi cael 26 mlynedd hyd yma o fethiant llywodraethol dan arweiniad Llafur yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan y Blaid ar adegau a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar adegau hefyd. Ac nid yw'r 12 mis diwethaf wedi lliniaru'r methiant hwnnw chwaith—[Torri ar draws.] Ydw, yn hapus i dderbyn ymyriad.

Soniais yn ystod fy sylwadau am y prydau ysgol am ddim yr wyf yn falch iawn o fod wedi gallu eu darparu o feinciau'r wrthblaid. A all y Ceidwadwyr sôn am un peth maen nhw wedi gallu ei gyflawni o'u meinciau mewn 26 mlynedd?

Rhywfaint o wrthwynebiad go iawn i'r Llywodraeth Lafur sy'n methu. Dyna beth rydym ni'n ei gyflawni. Rydych chi'n dweud eich bod chi yn yr wrthblaid, ond rydych chi wedi bod yn cydweithio â'r Blaid Lafur hon sy'n methu. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi siarad am hynny, ond mae eu methiannau o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, eu methiannau o ran yr economi, eu methiannau o ran y system addysg, eu methiannau o ran y system drafnidiaeth yn gymaint o fethiannau Plaid Cymru ag ydyn nhw yn rhai'r Blaid Lafur. Ac rydym ni'n sylwi ar y meinciau hyn, ac felly hefyd y cyhoedd yn gyffredinol, eich bod yn dal i fethu â diystyru cefnogi Llywodraeth Lafur yn y dyfodol, neu fynd i bartneriaeth â gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn yr etholiad nesaf. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am hynny.

Felly, gadewch i ni fynd yn ôl at y diffyg cynnydd hwn yr ydym ni wedi'i weld yma yng Nghymru. Yr unig beth rydych chi wedi bod yn ei gyflawni yw mwy o ddirywiad, mae gen i ofn, a methu â mynd i'r afael â'r heriau yma y mae pobl yn eu hwynebu. Rydym ni wedi siarad am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y gorffennol, ond mae'n werth atgoffa ein hunain yr ymddengys eich bod yn methu pob targed rydych chi'n ei osod i chi'ch hun: pob targed unigol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ran lleihau'r rhestrau aros dwy flynedd hynny rydych chi wedi'u methu, o ran gwella perfformiad y gwasanaeth ambiwlans rydych chi wedi methu, o ran cyflawni ynghylch perfformiad canser rydych chi wedi methu. Mae'r adrannau brys yn dal i fod yn anhrefnus, yn anffodus, er gwaethaf gwaith caled aelodau staff yn yr ysbytai hynny, ac, yn anffodus, mae cleifion yn cael niwed. Rydym ni'n gweld adroddiad crwner ar ôl adroddiad crwner sy'n dweud nad ydych chi'n mynd i'r afael â'r problemau hyn, nad ydych chi'n ymdrin â'r problemau hyn, a dyna pam y cawsom ni'r sefyllfa ddigynsail lle ysgrifennodd y crwner atoch chi, Brif Weinidog Cymru, yn dweud bod angen i chi fynd i'r afael â'r mater hwn. Dyna pam rydym ni wedi dweud, er mwyn gwneud y cynnydd sydd ei angen arnom ni o ran y gwasanaeth iechyd, gadewch i ni ddatgan argyfwng iechyd. Gadewch i ni dargedu adnoddau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r llanast hwn rydych chi'n gyfrifol amdano o'r diwedd, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnyn nhw a bod ambiwlans yn ymddangos pan fyddant mewn sefyllfa argyfwng lle mae hi'n fywyd neu farwolaeth.

A gadewch i ni siarad am yr economi. Nid yw'r Blaid Lafur yn ddim mwy na neidr yn gwasgu'r bywyd o'r economi yma yng Nghymru, heb adael iddi anadlu ac yn gwasgu pob darn o fywyd allan ohoni. Mae gennym ni sefyllfa lle mae gweithwyr o Gymru yn mynd adref gyda'r cyflog lleiaf yn y Deyrnas Unedig—mae hynny'n gwbl annerbyniol—ac mae'r cyfan oherwydd y Blaid Lafur, a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol am eu cefnogi am 26 mlynedd. Dyna sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr hualau rydych chi wedi'u gosod ar fusnesau, ar y crewyr cyfoeth, yn cael eu tynnu i ffwrdd fel y gallwn ni eu rhyddhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, a hynny yw creu'r swyddi, creu'r cyflog da a chreu'r cyflog uwch y gallwn ni wedyn godi'r trethi arno er mwyn rhoi hynny yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Felly, mae arnom ni eisiau gweld economi sy'n ffynnu. Mae arnom ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn adeiladu ffyrdd, nid dim ond yr un ffordd yr ymddengys eich bod yn ei dathlu, a oedd dros y gyllideb ac yn hwyr glas o ran ei chwblhau—ymhell dros y gyllideb a chymerodd 20 mlynedd i chi ei chyflawni. Rydym ni eisiau gweld ffyrdd yn cael eu hadeiladu ym mhob rhan o'n gwlad. Rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad yn y gogledd, yn y gorllewin, yn y canolbarth. Rydym ni eisiau gweld y buddsoddiad yn ein ffyrdd, oherwydd ffyrdd yw bywyd yr economi. Felly, yn hytrach nag arafu ein gwlad, yn llythrennol, gyda therfynau cyflymder diofyn ugain milltir yr awr, rydym ni eisiau eich gweld chi'n buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd hwnnw a'i gael i weithio.

O ran buddsoddi yn y rheilffyrdd, yn rhyfeddol rydych chi'n dal i honni bod mwy o fuddsoddiad o dan eich partneriaid Llafur y Deyrnas Unedig i lawr y ffordd yn Llundain, sydd wedi rhoi rhyw £440 miliwn i ni dros gyfnod o 10 mlynedd, pan oedd hi, mewn gwirionedd, yn llai na hanner y buddsoddiad—. Roedd yn ddwbl hynny, o ran y cyllid a oedd yn dod i Gymru gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.

Felly, mae gennych chi'r hyfdra i gyflwyno'r cynnig hwn i ni heddiw. Byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn, ac rydym ni'n annog pawb i gefnogi'r gair rydym ni'n ei fewnosod yn y ddau bwynt yn y cynnig hwn: 'diffyg', 'diffyg'. Mae'r diffyg cynnydd yn ofnadwy. Nid yw'n ddigon da. Mae angen i chi symud ymlaen, oherwydd rydych chi wedi torri Cymru. Byddwn ni'n ei thrwsio.

18:25

Llywydd, rwy'n bwriadu ceisio cadw gwefus bur yn y ddadl hon trwy siarad am y cynnig a siarad am rai o'r materion pwysig sy'n codi ohono. A gaf i godi un mater yn gyntaf oll? Wrth gwrs, mewn unrhyw raglen ddeddfwriaethol, mae adolygu deddfau yn bwysig, ac, wrth gwrs, soniodd Darren Millar am fater cyflog isel. Wel, wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflwyno Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 oherwydd yr amodau roeddem ni'n poeni amdanyn nhw, o ran gweithwyr amaethyddol. A gaf i ddweud pa mor bryderus ydw i, wrth gwrs, bod y Torïaid yn ei wrthwynebu ar y pryd, ond bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a oedd yn ei wrthwynebu ar y pryd, bellach yn galw am ei ddiddymu? A gaf i ofyn pa ystyriaeth y gellid ei roi i adolygu'r ddeddfwriaeth hon? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn diogelu amodau gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Yn sicr, mae yna bethau nad ydyn nhw'n iawn. Mae Unite the Union wedi gwneud sylwadau, sy'n cynrychioli llawer o weithwyr amaethyddol, ac mae angen adolygiad, ond yn sicr nid oes achos dros ddiddymu, pan fo Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn meddwl mai mater gweithwyr fferm yw eu lleihau i'r mater o'r isafswm cyflog cenedlaethol yn unig.

A gaf i siarad am, yr hyn rwy'n ei gredu, yw un o'r straeon llwyddiant mawr nad oes neb wedi sôn amdani hyd yn hyn, sef ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Rydych chi'n edrych o gwmpas Cymru nawr, edrychwch ar yr holl ysgolion newydd o'r radd flaenaf rydym ni'n eu hadeiladu, ac rydych chi'n cymharu hynny, er enghraifft, â'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. Dros y degawd diwethaf yng Nghymru, rydym ni wedi buddsoddi £2.8 biliwn gan ddefnyddio'r fformiwla ganlyniadol. Pe bai hynny wedi bod yn bolisi yn Lloegr, byddai wedi cyfateb i fuddsoddiad o £56 biliwn yn ein system addysg. A gaf i ddweud hefyd, pan edrychwch chi ar y system yn Lloegr ar hyn o bryd, bod ganddyn nhw ôl-groniad o £14 biliwn mewn diffygion mewn ysgolion yn Lloegr a 700,000 o ddisgyblion—[Torri ar draws.] Ie.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n siarad am wario arian ar adeiladau. Pam fod gan Gymru y safonau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan o hyd? Pam mae Cymru'n gyson ar waelod y tablau hynny ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol ac yn hanner isaf safleoedd PISA ledled y byd?

Wel, a gaf i ddweud bod yr ystadegau hynny—? Mae'n wiriondeb ceisio cymharu data o wlad o 3 miliwn gyda gwlad o 55 miliwn. Ond os nad oes gennych chi ysgolion gweddus yna ni fydd plant byth yn cael eu haddysgu, ac rydych chi'n edrych o gwmpas yr ysgolion sy'n cael eu datblygu ac yn gweld morâl uchel disgyblion yn rhai o'r ysgolion anhygoel gwych hynny—mae 700,000 o ddisgyblion yn Lloegr bellach yn byw mewn ysgolion anniogel—o ganlyniad i fuddsoddiad. Ac rydym ni'n cofio, wrth gwrs, mai ymrwymiad Boris Johnson i adeiladu ysgolion oedd cyflwyno pecyn o £1 biliwn ar gyfer Lloegr gyfan. Felly, mae honno'n stori lwyddiant wych.

Buddsoddiad Blaenau'r Cymoedd—rwy'n ei weld yn cael ei ddifrïo. Mae'n fuddsoddiad gwych, un rwy'n ei gofio pan oeddwn yn ymddiriedolwr Sefydliad Bevan, lle buom yn siarad am sut y gallai arwain at ffyniant ein hardaloedd yn y Cymoedd. Rwy'n cofio'r ymateb gan Rhodri Morgan ar y pryd, a oedd yn adeiladol, ond byddwn yn dymuno cael diweddariad nawr ynghylch sut rydym ni'n datblygu'r cynllun economaidd i wneud y mwyaf o'r budd a'r defnydd o hynny.

A gaf i hefyd ddiolch am y buddsoddiad rydym ni'n ei gael nawr yn Llantrisant, rydym ni'n ei gael ar gyfer y ganolfan ddiagnostig o fri hon, o £200 miliwn? Theatr lawdriniaeth, cyfleoedd diagnostig o'r radd flaenaf a fydd yn gwasanaethu rhannau helaeth o Gymru; trawsnewidiad i'r unfed ganrif ar hugain.

Ac a gawn ni siarad am y metro—y datblygiad metro, yn sicr yn y de, na fyddai'n digwydd oni bai am y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru—a'r effaith drawsnewidiol y mae wedi'i chael mewn gwirionedd? Bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog ar y pryd, yn cofio sut y buom ni mewn gwirionedd yn siarad am gael arian gan Lywodraeth Cymru i brynu'r rhydd-ddaliad i ddatblygu Ardal Taf, ar y cyd ag Andrew Morgan, sydd wedi arwain at ddatblygiad gwerth £40 miliwn ym Mhontypridd, sydd ynghyd â'r metro, pan edrychwch chi ar Ffynnon Taf hefyd, wedi dechrau trawsnewid y dref honno mewn gwirionedd. Mae'n dref a fydd ganddi, o bosibl, drên bob pum munud—trenau modern, o'r radd flaenaf, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ni fyddai unrhyw agwedd ar hynny wedi digwydd fel arall. Rydym ni'n edrych ar y methiannau a'r brad a gawsom ni gan y Torïaid, flwyddyn ar ôl blwyddyn: trydaneiddio, llinellau'r Cymoedd, ac ati.

A gaf i wedyn godi un pwynt arall? Sef hyn—[Torri ar draws.] Na, rydw i wedi rhoi amser i chi, rydw i'n dod i gasgliad nawr. Deddfwriaeth tribiwnlys: Fe hoffwn i  ddiweddariad yn fawr iawn ar hynny o ran y ddeddfwriaeth a'r cynnydd sy'n cael ei wneud, oherwydd mae hynny hefyd yn trawsnewid y rhan honno o'r system gyfiawnder sydd gennym ni, ond hefyd yn arwain at ddatblygiad pellach y system gyfiawnder. Gobeithio, bydd Bil drafft yn y fan yna. Mae'n dangos—o ran edrych ar system gyfiawnder sydd, ledled y Deyrnas Unedig, wedi cael ei chwalu, mewn gwirionedd, dros y 14 mlynedd diwethaf, yn drychinebus ar erchwyn y dibyn—y cyfleoedd sydd gennym ni wrth ddechrau adfer y rhan o'r system gyfiawnder rydym ni'n ei rheoli, ond hefyd yn creu'r strwythur apêl cyntaf erioed i Gymru, erioed yn ei hanes, a hefyd y cyfleoedd ar gyfer datblygu system gyfiawnder fodern sy'n anelu at gyfiawnder. Rwy'n deall yr oedi sydd yna, ond o leiaf rydym ni'n symud i'r cyfeiriad hwnnw, a bydd yn digwydd. Ond bydd ond yn digwydd oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd yma, ac oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan hefyd. Diolch yn fawr.

18:30

Dylai gwleidyddiaeth i bob un ohonom ni fod ynglŷn â gwneud newidiadau a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Fe hoffwn i siarad yn fyr am dri maes lle rwy'n teimlo bod y Llywodraeth hon wedi gwneud newidiadau, efallai heb fynd yn ddigon pell, ac yna edrych ar dri maes lle rwy'n credu bod newidiadau wedi'u gwneud, ond mae cwestiynau o hyd.

Fe hoffwn i grybwyll yn gyntaf gofal cymdeithasol. Croesawais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn llwyr, lle gwnaethom ni gymryd yr elw o ofal plant. Fe wnaethom ni arwain y ffordd yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o hynny a'r ddeddfwriaeth honno. Ond, rydym ni'n dal i fod mewn sefyllfa lle mae bron i un o bob pedwar o bobl hŷn yn aros mwy na 30 diwrnod am asesiad gofal. Mae dros 5,000 o swyddi gwag yn y gweithlu, ac, yn bryderus, mae un o bob pedwar gweithiwr gofal yn dweud eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn blwyddyn. Hyd yn oed yn fwy pryderus yw bod llai nag 1 y cant o ofalwyr di-dâl wedi derbyn asesiad o anghenion gofalwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ystadegyn syfrdanol o ystyried pa mor hanfodol yw gofalwyr di-dâl i lesiant miloedd ledled Cymru. Ac mae'r diffyg ymrwymiad i ofal cymdeithasol yn golygu bod ein gwasanaeth iechyd yn dioddef. Felly, os gawn ni ofal cymdeithasol yn iawn, yna fe allwn ni ddechrau trwsio ein gwasanaeth iechyd.

Yn ail, o ran yr amgylchedd, rwy'n croesawu'r ymdrechion i gael gwared ar weips plastig untro ac, fel y clywsom ni heddiw, y buddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo. Eto, mae cyrff masnach wedi ei gwneud hi'n glir bod Cymru yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill y DU wrth wireddu ei photensial ynni gwyrdd. Mae'r adolygiad sgiliau gwyrdd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi yn gam cyntaf da, ond mae busnesau'n dweud bod angen gweithwyr medrus arnyn nhw ar hyn o bryd. Felly, mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ac adeiladu gwyrdd, mae angen i ni weld mwy er mwyn i'n cyflogwyr gyflawni'r economi y mae angen i ni ei gweld yma yng Nghymru.

Ac yn olaf, o ran gofal plant—mae gofal plant yn faes allweddol arall—rwy'n falch o fod wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg i blant dwy oed, ond mae angen mwy arnom ni. Mae angen gofal plant fforddiadwy, hygyrch. Nid yw'n foethusrwydd, mae'n sylfaenol i dwf economaidd, cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r Prif Weinidog wedi siarad am roi cyfle i bob teulu, ac rwy'n credu bod hynny'n dechrau gyda buddsoddiad ystyrlon mewn gofal plant.

Felly, dim ond i symud ymlaen, fe hoffwn i siarad am dri maes yn y rhaglen ddeddfwriaethol lle byddaf yn sicr yn galw'r Llywodraeth i gyfrif. Yn gyntaf, un o'r llwyddiannau rwy'n fwyaf balch ohono yw helpu sicrhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wahardd rasio milgwn yma yng Nghymru. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer lles anifeiliaid ac rwy'n diolch i'r arbenigwyr hynny sy'n llywio'r broses. Rydym ni'n disgwyl deddfwriaeth yn yr hydref, ond mae'n rhaid i waith sylweddol ddigwydd er mwyn sicrhau—[Torri ar draws.] Mewn munud, James, os caf i. Os mai'r bwriad yw deddfu yn yr hydref, mae'n rhaid i waith sylweddol ddigwydd cyn hynny i sicrhau bod y trawsnewidiad yn gyfrifol ac yn dosturiol. Diolch, James.

18:35

Diolch am ildio. Rydych chi'n crybwyll yma y gwaharddiad ar rasio milgwn. Mae gen i bryderon difrifol am hyn o hyd. Nid oedd yn rhaglen y Llywodraeth ar gyfer llywodraethu. Nid oedd yn ymrwymiad maniffesto gan y Blaid Lafur. Ac mae'n drueni ein bod ni'n mynd i weld pobl yn fan yna yn colli eu swyddi a'r effaith ar yr economi leol. Onid ydych chi'n sylweddoli mai penderfyniadau fel hyn mewn gwirionedd yw dechrau pethau? Yr hyn y byddwn ni nawr yn ei weld yw bod rhai o'r sefydliadau hynny yn symud ymlaen i feysydd eraill nad ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu gwahardd. Ond, unwaith eto, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru a Llafur i wahardd pethau nad oes gan bobl ddiddordeb yn eu gwahardd yn y lle cyntaf.

Rwy'n credu bod pobl yn eich plaid, James, mewn gwirionedd yn cefnogi gwaharddiad rasio milgwn. Fe allwch chi droi o gwmpas ac edrych o'ch cwmpas, ond nid wyf hyd yn oed yn mynd i ymateb o gwbl i'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn haeddu ymateb gwareiddiedig. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf i. Diolch.

Mi wnaf i ond aros am y meicroffon nawr. Mae honno'n ddadl wirion, James, mae'n rhaid i mi ddweud, ond un o'r pethau— [Torri ar draws.] Wel, na, gwrandewch arnaf i. Un o'r pethau rydw i'n poeni amdano gyda'r gwaharddiad rasio milgwn arfaethedig yw'r effaith ar y trac sydd ar orlifdir yn fy etholaeth i. Allwch chi wneud yn siŵr, pan fyddwch chi'n trafod gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, bod y gorlifdir, sy'n cael ei gynnal gan y bobl sydd yno ar hyn o bryd, bod y mater hwnnw'n cael ei datrys ac na fydd pobl Ystrad Mynach yn dioddef o ganlyniad i'r trac hwnnw'n cau? Mae'n rhaid i mi ddweud hynny bob tro y sonnir amdano.

Wrth gwrs. Credaf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael gwahoddiad i'r grŵp gweithredu. Rwy'n credu na fuon nhw yn yr un cyntaf. Felly, mae'n hanfodol eu bod yn mynychu'r grwpiau gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn codi'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau sy'n bwysig iawn.

Mae arnaf i eisiau symud ymlaen, os caf i. Mae arnaf i eisiau dychwelyd at ymrwymiad rydw i wedi ei hyrwyddo ers amser maith: mynd i'r afael â thwyll bwriadol mewn gwleidyddiaeth. Croesawais gynllun Llywodraeth Cymru i gynnwys hyn yn y Bil Atebolrwydd Aelodau sydd ar ddod, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys y drosedd. Ac rwy'n gwybod, ynghyd ag Adam Price, ein bod ni wedi cael rhai trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n croesawu sicrwydd gan y Prif Weinidog, os caf i, i wneud yn siŵr bod gennym ni gyfle i gyflwyno'r cynigion hynny, os gallwn ni.

Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll unwaith eto yr oedi wrth gyhoeddi adroddiad y grŵp cynghori annibynnol ynghylch grid ynni Cymru yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol i lawer o ardaloedd yng Nghymru, ond yn enwedig y canolbarth. Roedd yr adroddiad i fod i'w gyhoeddi ym mis Mawrth. Mae hi nawr yn fis Gorffennaf, ac rydym ni'n dal i aros. Nid dim ond oedi ynglŷn ag anghyfleustra technegol yw hyn. Heb argymhellion y grŵp cynghori, rydym ni'n gofyn i gymunedau dderbyn penderfyniadau heb eglurder, heb dryloywder a heb ymddiriedaeth. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am eglurder ar gostau'r grŵp hwn, o ystyried nad ydyn nhw wedi cyflawni eto, ac amserlenni. Ond heddiw, unwaith eto, gofynnaf i'r Prif Weinidog: pryd y cyhoeddir yr adroddiad hir-ddisgwyliedig hwn, ac a wnewch chi sicrhau bod cymunedau'n cael rhan wirioneddol yn llunio dyfodol ynni Cymru?

Yn olaf, i orffen, Llywydd, dychwelaf at fater y dechreuais y prynhawn ag ef. Tlodi plant yw hwnnw. Mae'r Llywodraeth hon wedi methu ar dlodi plant. Mae wedi methu â gosod targedau. Mae wedi methu â pherswadio eich Aelodau cyfatebol yn San Steffan i ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Rydych chi wedi methu, yn anffodus iawn, dangos ymrwymiad gwirioneddol i un o'r elfennau mwyaf cywilyddus ohonom ni yn byw yma yng Nghymru. Mae angen i ni mewn difrif fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n ymwneud ag amserlenni ac nad yw'n ymwneud â siomi ein plant yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn. 

18:40

Wel, er bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu gan 15 mlynedd o gyni gwanychol, COVID bedair i bum mlynedd yn ôl, toriadau mewn cyllid Ewropeaidd oherwydd Brexit, ac yna cynnydd enfawr mewn chwyddiant diolch i Liz Truss, er gwaethaf hynny, mae cymaint wedi'i gyflawni.

Yn ddiweddar, mynychodd llawer ohonon ni ddigwyddiad ailagor Theatr Clwyd, a oedd yn y rhaglen lywodraethu ac yn ymrwymiad yn y maniffesto, ac mae'n fwy na dim ond theatr. Bydd yn ganolfan gymunedol anhygoel i bobl hen ac ifanc o bob gallu, gydag ardal i famau a phlant bach, ardal i bobl ifanc, gardd synhwyraidd a thoiled gydag offer codi, yr oedd gofalwr yn falch o sôn wrthyf amdano hefyd. Mae'n gwneud gwaith allgymorth ac yn darparu achubiaeth a chartref i wasanaeth cerddoriaeth y sir.

Mae yna ysgol feddygol newydd yn y gogledd, lleoedd poblogaidd ar gyfer hyfforddi proffesiynau perthynol i iechyd a nyrsys yn Wrecsam, canolfan orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu yn Llandudno, buddsoddiad mewn gofal cymunedol yn Ninbych a Bangor, a chartref gofal newydd yn cael ei agor yn y Fflint, a fydd yn lleihau rhestrau aros. Ym mhob cymuned, mae yna ysgolion a thai cymdeithasol newydd sy'n effeithlon o ran ynni, tai cyngor yn cael eu hôl-osod â thoeau, drysau, ffenestri a thechnoleg solar newydd, cartrefi preifat yn cael eu gwneud yn gynhesach gyda chynllun Nyth, y mae pob un ohonyn nhw'n dod â biliau ynni i lawr, gan sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.

Yr hyn rwy'n poeni amdano hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru wir yn poeni amdano, yw lles anifeiliaid: gwahardd maglau a thrapiau, gwahardd rasio milgwn. Hefin, dywedodd rhywun fod angen trac athletau yno ar gyfer pobl ifanc, felly pam ddim hynny? Hefyd, gofalu am natur a bioamrywiaeth. Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu miloedd o leoedd—gerddi synhwyraidd, rhandiroedd—gan ddod â chymunedau ynghyd, lleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a natur.

Mae teithio ar y trên wedi gwella'n sylweddol, gyda mwy o gerbydau ar y llinell a chynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr hefyd, rwy'n credu, tua 25 y cant. Felly, nesaf mae angen i ni gymhwyso'r positifrwydd hwnnw i'r Bil bysiau. Yn y cyfamser, rydyn ni'n treialu'r tocyn bws £1 i bobl ifanc i'w hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gweithredwyr a grwpiau teithwyr yn ogystal â phobl ifanc wedi galw am hyn. A'r wythnos diwethaf, fe wnaethon ni glywed y bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn buddsoddi mewn tair fferm wynt. Byddan nhw'n eiddo cenedlaethol i Gymru, gydag arian a fydd yn aros yng Nghymru yn cael ei ailfuddsoddi. Byddan nhw'n defnyddio polion pren yn hytrach na pheilonau yn yr ardal—mae Adam wedi bod yn codi hynny—ond maen nhw hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Urdd i sicrhau bod pob plentyn yn cael seibiant gweithgareddau awyr agored yn yr haf ac yn dysgu am lwybrau gyrfa mewn ynni adnewyddadwy, felly mae'n waith partneriaeth go iawn. 

Mae pobl yn gofyn i mi yn amheugar, 'Pam yr holl gyhoeddiadau hyn nawr mewn blwyddyn etholiad?' ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid yn bod yn ofalus gyda chyllideb blwyddyn, ac yn dangos bod cyllid i bwy bynnag sy'n dod nesaf, yn hytrach na thaflu'r cyfan i mewn. Ond rwy'n gwybod bod arian ychwanegol oherwydd newid yn Llywodraeth y DU, sy'n gwneud gwahaniaeth, yn ogystal â chynlluniau sy'n cymryd tipyn o amser i'w datblygu yn dwyn ffrwyth, megis gyda Theatr Clwyd, yr amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol hefyd. Mae'r dychwelyd hwnnw i gyllid cyhoeddus yn sgil newid yn Llywodraeth y DU wedi bod mor bwysig.

Rydyn ni'n pasio deddfwriaeth yn gyflym heb lawer o amser ar ôl o'r Senedd. Mae'r Bil bysiau a Bil yr amgylchedd yn dal i fynd trwy'r broses ymchwilio yn y pwyllgor, ond gobeithio y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae'n dda gweld bod y Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd cyflym, gan ganolbwyntio ar ei blaenoriaethau, gyda thargedau yn ysgogi'r broses gyflawni. Mae'n teimlo bod cyhoeddiadau newydd bob wythnos.

Diolch am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi'n derbyn pwynt Jane Dodds o ran tlodi plant? Yn sicr, gyda chyfraddau tlodi plant yn gwaethygu, nid oes unrhyw dargedau sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol hanfodol ein bod ni'n ffocysu. Ydy pobl Cymru yn teimlo bod pethau'n well? Na, dydyn nhw ddim. Mae'r defnydd a wneir o fanciau bwyd yn cynyddu. A yw hynny wir yn fesur o lwyddiant yng Nghymru yn 2025?

Hoffwn i ymateb i hynny. Felly, o ran lles, o dan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU, roedd toriadau lles wir yn cael effaith fawr ar deuluoedd. Y dreth ystafell wely, ie, y terfyn dau blentyn, ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a Jane Hutt, ein Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, wedi bod yn gwneud sylwadau ynglŷn â'r cap dau blentyn. Roedd y newid i gredyd cynhwysol yn ofnadwy gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac mae cyni wedi effeithio ar yr holl wasanaethau cyhoeddus, ond mae pethau'n newid yn araf ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl gyda'r hyn y gallan nhw ei wneud—grantiau gwisg ysgol, cynlluniau Bwyd a Hwyl yr haf, mae'r holl waith hwn yn sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.

Mae'n dda gweld y Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd cyflym. Mae'n teimlo bod cyhoeddiadau newydd bob wythnos. Efallai y bydd rhai cynlluniau'n dwyn ffrwyth yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan mai newydd gael cyllid ydym ni, ond mae angen i ni sicrhau mai Llywodraeth Lafur sy'n dychwelyd i Gymru i sicrhau bod hynny'n digwydd.

18:45

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydyn ni wedi clywed digon o feirniadaeth heddiw, ond ychydig iawn o syniadau neu ddatrysiadau. Mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni newid gwirioneddol, ac mae'n amlwg i mi mai ychydig iawn o Aelodau'r gwrthbleidiau sydd wedi darllen yr adroddiad ar y rhaglen lywodraethu, lle mae'r cynnydd yn glir. Dyna pam rydyn ni'n gwrthwynebu gwelliannau'r Ceidwadwyr, oherwydd, a bod yn onest, mae siarad am ddiffyg cynnydd yn hurt. Mae'n anwybyddu'r ffeithiau ac mae'n anwybyddu profiad bywyd pobl ledled Cymru sy'n gweld amseroedd aros yn gostwng, cartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu, trenau newydd ar eu llinellau lleol a swyddi newydd yn cael eu creu yn eu cymuned. Mae Darren Millar yn siarad am fethiant. Gadewch i ni siarad am fethiant y Torïaid. Dim un Aelod Seneddol yng Nghymru. Dyna beth fyddwn i'n ei alw'n fethiant. Ac rydyn ni'n gwrthwynebu gwelliant Plaid Cymru. Efallai y byddan nhw'n honni ein bod ni wedi methu ar ein blaenoriaethau, ond eto, mae'r ffeithiau'n adrodd stori wahanol.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch. Mae'n dweud rhywbeth nad yw mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth. Ydych chi'n derbyn bod tlodi plant wedi bod yn gwaethygu? Does ganddon ni ddim targedau a'r rhagolwg yw y bydd yn gwaethygu eto. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth Lafur sy'n methu, does bosib. 

Rydyn ni'n bryderus iawn am lefelau tlodi plant. Rydyn ni'n gwneud sylwadau clir i Lywodraeth y DU ar y cap budd-dal dau blentyn. Rydyn ni'n arllwys arian i bethau fel gwneud yn siŵr bod prydau ysgol am ddim i blant i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw foliau llawn. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni o fewn y cyllidebau sydd gennym ni, ond mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau nhw hefyd.

Ond chi'n gwybod beth? Faint yn anoddach y byddai hi wedi bod i gyflawni hyn i gyd ac i gyflawni ar dlodi plant pe bai'r Torïaid a Phlaid wedi cael eu ffordd? Oherwydd fe wnaethoch chi geisio atal £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol a oedd yn arian i fynd i wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant. Ac ni wnaethoch chi bleidleisio drosto. [Torri ar draws.] Wnaf i ddim derbyn ymyriad.

Mae'r amserau aros hiraf wedi gostwng yn sydyn ac rydyn ni wedi penderfynu ein bod ni'n mynd i'w gostwng ymhellach. Mae cyflogau yng Nghymru wedi tyfu'n gyflymach nag yn Lloegr ers 2011. Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 30 y cant yn nifer y swyddi o ganlyniad i fewnfuddsoddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni'n gwneud cynnydd gwirioneddol ar dai, er gwaethaf y ffactorau byd-eang hynny, a phan ddaw i gyllid rheilffyrdd, Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n symud y deial o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o wrthod ymgysylltu, hyd yn oed, gan y Torïaid. Efallai eich bod chi'n meddwl bod £450 miliwn yn rhywbeth y gallwch chi ei wfftio. Mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni'n ei gymryd o ddifrif.

Na, wnaf i ddim derbyn ymyriad arall. Rydyn ni'n cyflawni ar ein rhaglen—[Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim. Rydyn ni'n cyflawni ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ac rydyn ni'n cyflawni mwy. Nid Llywodraeth sy'n camu'n ôl yw honno. Doedd ganddon ni ddim pethau fel y materion yr oedd Jane Dodds yn pryderu amdanyn nhw, fel gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwahardd rasio milgwn. Na, doedd hynny ddim yn ein rhaglen ddeddfwriaethol yn wreiddiol, ond mae e nawr. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i'r gymuned fyddar a'u pryderon hefyd o ran deddfwriaeth. [Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim derbyn ymyriad. 

Gadewch i ni beidio ag anghofio'r ffaith bod y Torïaid wedi treulio 14 mlynedd yn tanseilio ein gwasanaethau, yn amddifadu Cymru o gyllid a nawr maen nhw eisiau rhoi darlith i ni ar gyflawni. Dydw i ddim yn credu. Mae Plaid yn siarad yn dda, ond yn y pen draw, maen nhw'n pleidleisio gyda'r Torïaid i rwystro arian i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gwneud y gwaith caled yw hon. 

Ydyn, rydyn ni'n falch o'r hyn yr ydyn ni wedi'i gyflawni, ac, ydyn, rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud. Ond gyda ffocws o'r newydd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Lafur y DU, a chyda grym llawn y mudiad Llafur y tu ôl i ni, rydyn ni'n mynd i orffen y tymor hwn trwy gyflawni hyd yn oed mwy i bobl Cymru, oherwydd dyna'r hyn y gwnaethon nhw ein hethol ni i'w wneud, a dyna'n union rydyn ni'n ei gyflawni.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni'r pleidleisiau ar yr eitem yma yn y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

That brings us to voting time, unless three Members wish for the bell to be rung.

16. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 11. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth yw'r bleidlais yma. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 14 yw'r bleidlais nesaf. Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yw'r bleidlais yma. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r bleidlais yna ar y Cyfnod 4 wedi ei chymeradwyo.

Eitem 14. Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) : O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 15 yw'r pleidleisiau nesaf. Yr eitem yma yw'r ddadl ar gyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Pleidlais ar welliant 1 fydd gyntaf, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cal eu dad-ddethol. Y bleidlais gyntaf felly, ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.

Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn.

Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 23, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio. Agor y bleidlais. [Torri ar draws.] Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

18:55

Eitem 15. Dadl: Cyflawni Blaenoriaethau a Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Cynnig (heb ei ddiwygio): O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau, a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.