Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/06/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i reoleiddio cwmnïau preifat sy'n rheoli anheddau? OQ62884

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella diwylliant y gweithle a safonau rheoli a llywodraethu yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru? OQ62852
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar newidiadau arfaethedig i'r drefn o ran gosod pympiau gwres ar gyfer tai newydd a thai sy’n bodoli eisoes? OQ62873
4. Beth yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus gan awdurdodau lleol? OQ62857
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leddfu’r argyfwng tai mewn cymunedau Cymraeg cyn diwedd y Senedd hon? OQ62874
Diolch. Roedd gwarchod dyfodol ein cymunedau Cymraeg trwy sicrhau tegwch yn y farchnad dai yn rhan ganolog o’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond mae’r gwaith o leddfu’r argyfwng tai yn ein cymunedau yn parhau ar ei hanner, ac mae diffyg tai fforddiadwy yn dal i yrru teuluoedd a phobl ifainc o’u cymunedau, gan gynnwys yn y sir lle dwi’n byw, yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi gweld cwymp yn y ganran o siaradwyr Cymraeg o dros 50 y cant yn 2001 i dan 40 y cant yn 2021.
O ran argymhellion tai y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, er ei bod hi'n galonogol clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd yn cytuno mewn egwyddor gyda'r argymhellion hynny, yn anffodus doedd yna ddim amserlen glir ar gyfer ei gweithredu. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n cymunedau Cymraeg ni yn wynebu argyfwng heddiw. Dyw oedi ddim yn bosibl. Felly, allwch chi ymrwymo y bydd symud ymlaen gydag unrhyw bolisi i leddfu'r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg yn digwydd cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf?
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno cynigion i wella ymgysylltiad democrataidd lleol a chynyddu cyfranogiad cyn yr etholiadau lleol nesaf yn 2027, o ystyried y bu nifer y pleidleiswyr mewn llawer o etholiadau llywodraeth leol yn llai na 40 y cant? OQ62881
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cymorth sydd ar gael i berchnogion tai y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn effeithio ar eu heiddo? OQ62886
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Russell George.
8. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella effeithiolrwydd y cynllun cartrefi clyd? OQ62879
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, fe awn ni ymlaen i'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf yn mynd i fod gan Sioned Williams.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod dysgwyr mewn ysgolion a cholegau yn cael eu haddysgu'n effeithiol am ddemocratiaeth Cymru? OQ62853

Diolch. Yr wythnos diwethaf, pan roedden ni'n trafod canllawiau newydd y Llywodraeth ar amrywiaeth a chynhwysiant i bleidiau gwleidyddol, fe gyfeiriwyd at bwysigrwydd dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl o bob math rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Ac wrth ymateb i bwyntiau a godwyd am effaith diffyg addysg wleidyddol, dywedwyd ei bod hi'n bwysig bod y Llywodraeth, a chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn edrych ar y cwricwlwm fel ffordd o addysgu ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion.
Mae'n amlwg, o siarad â phobl ifanc, eu bod nhw'n teimlo nad yw'r addysg maen nhw'n ei derbyn ar hyn o bryd yn ddigonol o ran hynny, ac rôn i wedi brawychu o glywed pobl ifanc ym Merthyr yn ddiweddar yn dweud, wrth gael eu holi gan y BBC, nad oedden nhw'n ymwybodol eu bod nhw'n medru pleidleisio yn 16 oed.
Mae dysgu am ddinasyddiaeth yn elfen ym maes dysgu a phrofiad mandadol y dyniaethau yn y cwricwlwm, fel y dywedoch chi, ond mae angen mynd ymhellach, ac rwyf wedi awgrymu'n flaenorol nifer o ffyrdd y gellid sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu'n fwy penodol ar gyfer addysg wleidyddol. Mae'n gyfnod o ddiwygio etholiadol. Ydych chi'n cytuno, felly, mai dyma'r amser perffaith i sicrhau'r ddemocratiaeth orau i Gymru drwy gymryd camau pendant i godi ymwybyddiaeth ymhlith ein dysgwyr mewn ysgolion a cholegau?
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid ysgolion ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru? OQ62865
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Natasha Asghar.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Wel, diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau symud ymlaen nawr at yr addewidion a wnaethoch chi ar gyfer yr etholiad cyffredinol y llynedd, sef y byddech yn rhoi mwy o arian ar gyfer addysg ac athrawon yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae gan un o bob pum ysgol yng Nghymru ddiffygion yn eu cyllideb, ac mae hynny, ar y raddfa bresennol, yn debygol o godi i'r hanner y flwyddyn nesaf a thros 80 y cant mewn diffygion y flwyddyn ganlynol.
Ar y naill law, mae undebau athrawon wedi mynegi anniddigrwydd ar ôl methu â chael eglurder wrthych chi a yw'r cyllid ychwanegol sydd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y cynnydd mewn gwariant ar addysg yn Lloegr yng nghyllideb yr hydref, yn cael ei wario ar ysgolion yng Nghymru. Hefyd, mae methiant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i anrhydeddu'n llawn y cynnydd mewn yswiriant gwladol i weithwyr yn y sector cyhoeddus yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru dynnu ar eu cronfeydd wrth gefn er mwyn gwneud y gwahaniaeth rhwng y ddau. Felly, mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu heriau cyllidol ar ddau ffrynt. Felly, y cwestiwn yw hyn: pan addawodd Llafur bartneriaeth mewn grym, a oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl, dim ond blwyddyn yn ddiweddarach, y byddai'r bartneriaeth honno rhwng Llafur yng Nghymru a San Steffan yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar gyllidebau ysgolion, sydd eisoes dan bwysau mawr?
Nid yw Mick Antoniw yma i ofyn cwestiwn 3, felly cwestiwn 4, Natasha Asghar.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad? OQ62858
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr mewn addysg bellach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62859

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu’r gwaith o gynnal a chadw adeiladau ysgolion? OQ62869
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd â syndrom Tourette yn cael cymorth priodol yn yr ysgol? OQ62878
9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan riant y rhyddid i ddewis pa ysgol y caiff ei blentyn fynd iddi? OQ62880
Diolch i'r Gweinidog. Mae pob un o'r cwestiynau ar y rhestr wedi cael eu hateb neu heb eu gofyn heddiw.
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau amserol. Dwi wedi dewis un cwestiwn amserol y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn hwnnw i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol ac i'w ofyn gan Luke Fletcher.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU y bydd cyllid rhanbarthol ar ôl Brexit yn cael ei weinyddu gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn hytrach na Llywodraeth Cymru? TQ1349

Diolch am yr ymateb yna, Cwnsler Cyffredinol, ond wnes i ddim gofyn am faint o arian sy'n dod i Gymru. Roeddwn i'n gofyn specifically am y post-Brexit funding.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Cwnsler Cyffredinol am y sesiwn yna.
Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf gan Joyce Watson.
Diolch am y datganiadau 90 eiliad.
Eitem 5 sydd nesaf, y ddadl ar y ddeiseb 'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru' yw honno. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig yma, sef Carolyn Thomas.
Cynnig NDM8931 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1365 'Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru', a gasglodd 12,936 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Dwi eisiau dechrau trwy ddiolch i bawb a lofnododd y ddeiseb yma, ac yn wir i Elfed am ei waith diflino wrth fynd â hyn yn ei flaen. Mae'n tynnu sylw at wirionedd dyfnach fod pobl Cymru eisiau cysylltiadau gwell, nid yn unig â Lloegr, ond gyda'i gilydd. Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am well cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de, a chysylltiadau sy'n uno ein cenedl, nid yn ei rhannu.
Mae'r realiti presennol, lle mae'n haws teithio o'r gogledd i'r de drwy Loegr na thrwy Gymru ei hun, nid yn unig yn anghyfleus ond mae'n symptomatig o system drafnidiaeth sydd wedi ei hesgeuluso, wedi dyddio, ac wedi ei chynllunio i echdynnu ac nid cysylltu. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn adlewyrchu economi a luniwyd dros ddegawdau i echdynnu adnoddau, nid i adeiladu cydlyniad cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Nid oes hyd yn oed un cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng y gogledd a'r de, ac eto mae wyth croesfan i Loegr. Dylai trafnidiaeth wasanaethu pobl Cymru, nid eu hanwybyddu.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i wario biliynau ar HS2, prosiect y maent yn ei honni sydd o fudd i Gymru a Lloegr, er nad yw'n cyrraedd Cymru o gwbl. Eto i gyd, mae Cymru wedi'i hamddifadu o unrhyw gyllid Barnett sy'n deillio o'r prosiect, gan roi trethdalwyr Cymru dan anfantais amlwg. Heddiw rydym wedi clywed am oedi pellach yn adeiladu HS2 oherwydd costau cynyddol—oedi sy'n tanlinellu faint y byddem wedi ei dderbyn pe bai cyfiawnder cyllidol yn bodoli.
Y gwir yw, mae'r sefyllfa annheg hon yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith nad oes gan Gymru reolaeth dros ei seilwaith reilffyrdd. Mae hyn nid yn unig yn annheg, mae'n anghynaladwy. Mae'r Ysgrifennydd trafnidiaeth wedi gwrthod datganoli pwerau rheilffyrdd, gan honni bod angen buddsoddi sylweddol i unioni degawdau o esgeulustod. Os mai dyna'r achos, yna onid yw'n gwneud y galw am gyllid i wella ein rheilffyrdd ac i adeiladau y cysylltiadau de â'r gogledd hyn hyd yn oed yn fwy pwysig? Yr unig ffordd i sicrhau ein bod yn cael cyfran deg o wariant trafnidiaeth yw drwy ddatganoli pwerau rheilffyrdd yn llawn.
Hyd yn oed gyda Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, Llywodraeth sydd wedi cydnabod tanariannu hanesyddol ein rheilffyrdd, mae'r adolygiad gwariant diweddar yn gwneud un peth yn glir: nad oes ganddynt fwriad gwirioneddol i unioni'r cam. Yn wir, Cymru fydd yr unig genedl ddatganoledig i wynebu toriadau i'w chyllideb gyfalaf, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hynny yn dorcalonnus, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Lafur ar ddwy ochr yr M4, ond dim awydd i weithio'n gydgysylltiedig er lles Cymru.
Dyna pam fod Plaid Cymru yn dal i alw yn glir ac yn ddiamwys am ddatganoli llawn pwerau rheilffyrdd i Gymru. Gyda'r pwerau hynny, gallem adeiladu rhwydwaith sy'n blaenoriaethu cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de a rhwng cymunedau ledled Cymru, rhwydwaith wedi'i chynllunio i ddiwallu ein hanghenion ni, nid anghenion rhywle arall. Ni ddylai system reilffyrdd fewnol integredig fod yn freuddwyd i'r genhedlaeth nesaf, dylai fod yn flaenoriaeth i wleidyddion heddiw. Diolch yn fawr.
Mewn cyflwyniad i adroddiad gan Trafnidiaeth Cymru, fe gyhoeddwyd hyn:
'Mae gan Trafnidiaeth Cymru ddyhead i wella cludiant Gogledd-De yn y Gorllewin drwy archwilio'r potensial ar gyfer ailagor y llwybrau rheilffordd sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach rhwng Bangor i Afon Wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin.'
Yn anffodus, dyhead ydy hyn, gyda fawr ddim cynnydd wedi digwydd tuag at wireddu'r dyhead, a dim arwydd bod hyn am newid yn ystod oes y Llywodraeth yma. Efallai, mewn ymateb i ymgyrchu gan Blaid Cymru o gwmpas HS2, fe fydd £0.4 biliwn yn dod i Gymru—llawer llai na'r £4 biliwn sy'n ddyledus i ni—a byddai hanner yr arian yna yn gallu symud tuag at wireddu'r freuddwyd. Mae Lee Waters newydd sôn wrthym ni am £2 biliwn. Wel, mae yna £4 biliwn yn ddyledus i ni oherwydd HS2. Beth ydyn ni'n ei gael? Dim pwynt pedwar biliwn o bunnoedd. Ac o be welaf fi, does yna ddim ceiniog o hwnnw yn dod i'r gorllewin.
Dwi'n ddiolchgar i drefnwyr y ddeiseb, a'r 12,000 o bobl ddaru arwyddo'r ddeiseb, am gadw'r mater ar yr agenda gyhoeddus, a dwi'n cytuno'n llwyr fod angen uno ein cenedl, de-gogledd, drwy ein rheilffyrdd. Fe welwyd y mymryn lleiaf o symudiad tuag at hynny wrth gyhoeddi'r—
Mae yna ddiffyg buddsoddi dybryd wedi bod yn ein rheilffyrdd ni ers degawdau, yn ein cludiant cyhoeddus ni. Yng Nghymru mae yna ddiffyg buddsoddi yn ein seilwaith ni wedi bod ers degawdau. Lle mae eich uchelgais chi, Lee? Beth am unioni peth o'r camau yna rŵan? Beth am ddefnyddio'r arian sy'n ddyledus o ganlyniad i HS2? A beth am gwffio am lawer iawn mwy o arian tuag at wario ar ein seilwaith yma yng Nghymru?
Fel rôn i'n dweud, fe welwyd y mymryn lleiaf o symudiad tuag at y dyhead yn cael ei fynegi wrth gyhoeddi'r astudiaeth a oedd yn canolbwyntio ar Fangor i Afon Wen, sef y darn coll o reilffordd sydd ei angen ar gyfer cau'r bwlch rhwng lein y gogledd a lein y Cambrian yn y gogledd-orllewin. Fel dŷch chi'n gwybod, daeth yr astudiaeth yn bosib drwy'r cytundeb cydweithio, ac er ein bod ni'n croesawu rhoi ffocws i'r llwybr penodol yma, roedd meini prawf yr astudiaeth yn gyfyngedig iawn. Roedd yr astudiaeth yn edrych ar fanteision defnyddio'r rheilffordd ysgafn a thechnoleg tram ar gyfer adfer y llinell a ddaeth i ben yn y 1960au.
Casgliad yr adroddiad yw y byddai defnyddio tramiau yn golygu cyfyngu ar y cyflymder teithio. Mae'r astudiaeth, felly, yn argymell astudiaethau pellach er mwyn gweld a fyddai rheilffordd drom yn well opsiwn na rheilffordd ysgafn. Dwi yn gobeithio yn fawr y gellir cael cadarnhad y bydd astudiaeth o'r fath yn cael ei chomisiynu a bod modd defnyddio cyfran fechan iawn, iawn o'r £0.4 biliwn yma ar gyfer hynny. Mae tramiau yn fwy addas ar gyfer ardaloedd trefol, ond mewn ardal wledig, fe all fod—a dwi ddim yn dweud mai dyma'r ateb—mai rheilffordd drom sy'n cynnig y manteision mwyaf.
Dwi felly yn edrych ymlaen at gyflwyniad gan Trafnidiaeth Cymru yn y grŵp trawsbleidiol ar ogledd Cymru ddiwedd y mis, pan fydd cyfle i wyntyllu rhai o'r materion yma, ac efallai fod yna lygedyn o obaith fod modd cadw'r dyhead o leiaf yn fyw yn ystod tymor y Senedd yma.a
Diolch yn fawr iawn, a diolch i drefnwyr y ddeiseb am eu gwaith. Mae Plaid Cymru yn gwbl gywir wedi tynnu sylw yn y Siambr yma, dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, i'r anghyfiawnder sy'n gysylltiedig ag ariannu ein rheilffyrdd ni—neges, wrth gwrs, sydd yn anghyfforddus i Lafur ei chlywed, yn arbennig gan eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr dro ar ôl tro gan eu partneriaid yn Llundain.
Nawr, pe bai'n system rheilffyrdd ni'n seiliedig ar ddwysedd poblogaeth ac angen cymunedol, byddem ni eisoes wedi gweld cysylltiad mewn lle rhwng, er enghraifft, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ne-orllewin Cymru, gyda'r holl fanteision economaidd o ran twristiaeth, y cysylltiadau diwylliannol a mynediad at wasanaethau cyhoeddus hefyd, ac, wrth gwrs, y budd i'r amgylchedd. Ond dim dyma yw'r achos. Fel y mae pawb ohonon ni yn gwybod yn ne-orllewin Cymru, os ydych chi eisiau mynd ar reilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, mae'n rhaid i chi fynd trwy Loegr a thrwy'r Amwythig.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw cynnig i atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu cyfraniadau lluosog gan Aelodau unigol yn ystod eitem 7. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM8929 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM8914 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 18 Mehefin 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Diolch. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, dadl agored: diwylliant a'r celfyddydau—braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru? Galwaf ar Heledd Fychan i agor y ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y pwnc dan sylw heddiw ydy diwylliant a’r celfyddydau, a’r cwestiwn mawr ydy: ydyn nhw’n braf i’w cael neu ydyn nhw’n allweddol i ddyfodol Cymru? Mi fyddaf i’n cyflwyno’r ddadl eu bod nhw’n gyfan gwbl allweddol, a’u bod nhw’n ganolog, nid yn unig i’n hunaniaeth ni fel cenedl, ond hefyd i ddatrys rhai o’r heriau mwyaf rydym ni’n eu hwynebu, o iechyd i fynd i’r afael â thlodi, o addysg i’n heconomi. Mae torri’r cyllid yn hytrach na buddsoddi yn y sectorau hyn, heb sôn am beidio â dangos unrhyw uchelgais tuag atyn nhw, wedi bod yn gam gwag gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan adael diwylliant Cymru mewn sefyllfa o argyfwng.
Heddiw, dwi’n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill i’r ddadl, a dwi yn gobeithio mai penllanw hyn bydd cydnabyddiaeth gan bob plaid sydd wedi ei chynrychioli yma o bwysigrwydd buddsoddi yn y sectorau hyn a’r angen i wneud mwy, nid yn unig i’w diogelu, ond i gefnogi eu cyfraniad ehangach. Mae pob darn o waith ymchwil yn y maes hwn yn cadarnhau effaith gadarnhaol diwylliant, a dyna pam dwi'n methu dirnad bod Llywodraeth Cymru wedi colli ei ffordd yn llwyr o ran y meysydd hyn. Oherwydd dydy’r celfyddydau ddim yn bodoli mewn seilo, maen nhw’n rhan annatod o gymaint o feysydd polisi gwahanol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gallu unigolyn i gyfrannu i gymdeithas. Mae o hefyd yn gwneud synnwyr economaidd, gydag amryw astudiaethau yn dangos am bob £1 sy’n cael ei gwario yn y meysydd hyn, mae o leiaf £4 yn cael ei chynhyrchu nôl i’r economi. Yn wir, yn 2023-24, trosiant y diwydiant celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru oedd £1.64 biliwn, ac mae hyn er gwaethaf y tanfuddsoddi a’r diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth. Mi allwn ni wneud gymaint mwy.
Dwi'n flin, dwi’n drist, a dwi wedi syrffedu clywed gymaint o wleidyddion yn ceisio cyfiawnhau'r toriadau neu'n ceisio esgus nad ydy’r toriadau mor wael ag y mae’r ystadegau yn ei ddangos. Digon yw digon. Mae’n rhaid i ni heddiw gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, a chydnabod bod diwylliant mewn argyfwng. Os ydyn ni eisiau i Gymru ffynnu, os ydyn ni eisiau’r gorau i bobl Cymru, yna mae’n rhaid i ni ailfeddwl safle diwylliant a’r celfyddydau o fewn y Llywodraeth, ac o ran sut ydyn ni’n eu hariannu. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weddill y cyfraniadau, a diolch ymlaen llaw i bawb fydd yn cymryd rhan yn y ddadl hon.
A ddylai darpariaeth celfyddydau fod yn statudol? Dwi'n meddwl bod angen trafodaeth ar y cwestiwn hwnnw, a byddai'n dda clywed barn pobl eraill ar hynny y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud, fan lleiaf, bod yn rhaid i ni gydnabod bod canolfannau celfyddydau fel yr un ym Mhontardawe yn gwneud y gwaith tawel, hanfodol sy'n cynnal ein cymunedau, yn codi dyheadau, ac yn meithrin hyder cenedl.
Ym Mhontardawe, rŷn ni wedi gweld sut mae'r celfyddydau a diwylliant yn rym trawsnewidiol, yn arf i rymuso, sy'n agor drysau i urddas a chyfranogiad mewn stori genedlaethol. Mewn llawer o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, mae'r rhwystrau i fynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau yn real: cost tocyn, cost trafnidiaeth, diffyg hyder. Ond mae canolfannau celfyddydau lleol fel ym Mhontardawe, ac eraill, wrth gwrs, ledled Cymru, yn chwalu'r rhwystrau hynny. Maen nhw'n dod â diwylliant dwyieithog i stepen drws pawb, yn llythrennol.
Rŷn ni'n gwybod bod dod i gysylltiad cynnar â'r celfyddydau yn newid bywydau, yn meithrin hyder, yn gwella llythrennedd, ac yn codi dyheadau, yn enwedig i blant nad ydynt efallai'n gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn naratifau addysg neu gyflogaeth prif ffrwd. Mewn cymunedau sy'n wynebu tlodi, caledi a thensiynau cymdeithasol, gall cyfranogiad yn y celfyddydau leihau unigedd, cyfrannu at les corfforol a meddyliol, a meithrin ymdeimlad o berthyn. Mae gweithgaredd diwylliannol hefyd yn adfywio cymunedau yn economaidd, yn cefnogi busnesau bach ac yn creu cyflogaeth a llewyrch.
Y burum yn y blawd.
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu yn ystod y ddadl mor belled ac i'r Aelodau fydd yn fy nilyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Heledd a dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.
Diolch, Llywydd. Oes yna rywbeth sy’n diffinio pobl yn fwy na’u diwylliant? Mae diwylliant, wrth gwrs, yn rhan annatod o berson; gall berthyn i deulu, i fro, i genedl, i genhedlaeth, i gwmni, hyd yn oed. Mae diwylliant yn rhywbeth hyblyg sydd yn esblygu ac yn addasu ei hun. Ond er gwaethaf yr hyblygrwydd a’r symudedd sydd yn perthyn yn annatod i ddiwylliant, mae e hefyd yn rhywbeth sydd yn perthyn i'r person ac yn ei ddiffinio. Felly, mae’n sefyll i reswm fod diwylliant yn bwysig i’r syniad o’r hunan. Ond mae gan ddiwylliant rôl y tu hwnt i’r mynegiannau personol yma; oherwydd y pwysigrwydd i’r adnabyddiaeth o’r hunan mae o hefyd yn erfyn pwerus iawn wrth edrych ar iechyd a gofal. Ar adegau pan fo costau iechyd a gofal yn cynyddu yn sylweddol, yr adnabyddiaeth o’r angen i wella gofal iechyd meddwl, a phoblogaeth sydd yn heneiddio, mae angen i ni edrych y tu hwnt i gyfyngiadau meddyginiaeth draddodiadol ac edrych ar fodel mwy ataliol, person ganolog, a holistig o ofal iechyd. Ac mae’r diwylliant yn ganolog i hyn—y celfyddydau, ein treftadaeth, creadigrwydd a chymuned.
Felly, dwi am gymryd cyfle heddiw i ddadlau pam fod diwylliant a chelfyddydau yn fwy na rhywbeth sydd yn cyfoethogi ac yn diddanu, ac yn llawer mwy na gyrrwr economaidd, ond eu bod nhw’n ganolog i’n gwasanaeth iechyd a gofal. Fe wnaf i edrych ar elfennau ataliol, eu heffaith ar gyflyrau megis dementia, a’r arbedion ariannol all ddod trwy gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant i’r gwasanaethau iechyd a gofal.
Mae yna ddigon o ymchwil bellach yn dangos buddiannau'r celfyddydau a diwylliant i les pobl. Yn ôl yn 2017, fe gyhoeddodd grŵp trawsbleidiol San Steffan ar y celfyddydau, iechyd a lles ei adroddiad ar 'Iechyd Creadigol: Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles', oedd yn dod i’r casgliad di-amwys,
'Gall y celfyddydau ein cadw’n iach, ein cynorthwyo mewn gwella a chefnogi byw’n hirach ac yn well.'
Nid datganiad o farn oedd hyn, ond un oedd wedi ei seilio ar dystiolaeth yn edrych ar dros 300 o astudiaethau a channoedd o dystiolaeth oddi wrth gleifion, arbenigwyr ac arweinwyr cymunedol. Fe ganfuwyd bod ymwneud â’r celfyddydau, o baentio i farddoniaeth i gerddoriaeth a dawns, yn gwella iechyd meddwl a chorfforol, yn lleihau unigrwydd cymdeithasol, ac yn cryfhau gwytnwch cymunedau. Wrth glymu hyn i mewn i ofal iechyd, mae’r celfyddydau yn arwain at arosiadau llai yn yr ysbyty, llai o ymweliadau at feddyg teulu a llai o ddefnydd o feddyginiaeth.
Ond mae yma rôl ataliol allweddol hefyd, ynghyd â’r buddion i ddioddefwyr o gyflyrau hirdymor fel dementia. Mae yna hen ddywediad poblogaidd yn y Saesneg, onid oes, 'Prevention is better than cure', ond wrth feddwl am yr elfennau ataliol, yn llawer rhy aml, mi ydyn ni’n disgyn i’r fagl o feddwl am ddeiet neu ymarfer corff. Ond mae cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol yr un mor effeithiol ag ymuno â’r gampfa. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, fel canu yn y côr, ymuno â dosbarth dawns gymunedol, neu ymweld ag amgueddfeydd, yn gysylltiedig â lleihau'r risg o iselder, gorbryder ac unigrwydd. Ac nid cyflyrau iechyd meddwl yn unig ydy’r rhain, ond yn aml maen nhw’n arwain at gyflyrau corfforol a meddyliol eraill.
Fe ddangosodd ymchwil yr UCL yn ôl yn 2019 fod pobl oedd yn ymhél â digwyddiadau diwylliannol yn achlysurol 14 y cant yn llai tebygol o farw o fewn misoedd i’r gweithgareddau hynny, â’r rhai oedd yn ymhél â digwyddiadau o’r fath yn aml gyda'r risg o farw bron i draean yn is o fewn cyfnod byr i'r ymweliadau. Ymhellach i hyn, mi ydyn ni’n gwybod bod digwyddiadau celfyddydol i blant yn cryfhau eu llythrennedd emosiynol, eu gwytnwch nhw a chydlyniad cymdeithasol. Mae cynlluniau addysgiadol yn yr ysgolion sydd yn cynnwys integreiddio drama, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol hefyd yn cryfhau iechyd meddwl, canlyniadau addysgiadol a phresenoldeb yn yr ysgol, sydd oll yn helpu gyda iechyd hirdymor y plentyn a'r person ifanc.
Felly, nid moethusrwydd neis i’w gael ydy’r celfyddydau, ond teclyn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl, ac mae’r buddiannau yma i’w gweld yn amlwg ym mywydau pobl sydd yn byw gyda dementia.
Fel llefarydd tai fy mhlaid, dwi'n dweud yn aml fod tai yn ymwneud yn sylfaenol â phobl. Gellir cyfleu hyn mewn ffordd bwerus gan ddefnyddio'r celfyddydau creadigol, gan ganiatáu gwahanol sgyrsiau am y dewisiadau sydd ar gael i ni, a pham fod tai mor bwysig. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld tîm cymunedau'n creu cartrefi Cwmpas yn arbrofi â drama i alluogi sgyrsiau am botensial tai cydweithredol. A dwi'n argymell bod pawb yn edrych ar y gwaith maen nhw wedi'i gomisiynu o'r enw Brewing Eggshells for Faulty Tower Changelings. A dyna chi deitl gwerth chweil, yn wir.
Fe all y celfyddydau creadigol gefnogi ymgysylltiad cymunedol, a grymuso cymunedau i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer eu tai yn y dyfodol. Mae'r celfyddydau yn gallu caniatáu pobl i feddwl yn wahanol a chael sgyrsiau gwahanol a all ddod â phobl ynghyd â gweledigaeth gyffredin. Dwi wedi gweld sut mae hynna wedi cael ei ddefnyddio i drafod tai mewn ardal wledig yn ne Kerry, Iwerddon. Fe all y celfyddydau creadigol ein helpu ni efo syniadau arloesol, ond, wrth gwrs, mae angen y gronfa honno o artistiaid cymunedol arnom ni i alluogi hynny.
Dwi am droi at fy rôl fel Aelod Arfon, a dwi yn falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd yn fwrlwm o ddiwylliant sydd wedi ei wreiddio yn ein cymunedau, yn ein canolfannau celfyddydol ac, yn wir, ym mhob agwedd o'n bywydau ni. Fe glywais i'n ddiweddar am y gwaith sy'n digwydd yn Bradford fel Dinas Diwylliant, a dwi wedi cael fy argyhoeddi y gallai dinas y Fenai arddel teitl Dinas Diwylliant yn y dyfodol.
Gwnaf ddewis un enghraifft yn unig o ddinas diwylliant y Fenai, enghraifft sydd yng nghanol y bwrlwm yma yn Arfon, sef Cwmni'r Frân Wen. Dyma enghraifft ardderchog o werth allweddol y celfyddydau yng Nghymru. Wedi’i leoli ym Mangor, mae Frân Wen yn arbenigo mewn prosesau cyd-greu arloesol efo plant, pobl ifanc a chymunedau. Yn 2024, fe agorodd Frân Wen y ganolfan Nyth, trawsnewidiad ysbrydoledig o hen eglwys i ganolfan gelfyddydol gynhwysol, gynaliadwy a chroesawgar, sy’n gosod cydweithio, adfywio cymunedol ac arloesedd artistig wrth galon y gwaith.
Mae gwaith Frân Wen yn adlewyrchu cymdeithas amrywiol Cymru heddiw, gan roi lle canolog i leisiau sydd wedi eu tangynrychioli. Maen nhw'n hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw ac yn grymuso pobl i leisio’u stori. Mae Frân Wen hefyd yn enghraifft gref o sut y gall buddsoddi mewn celfyddydau gyfrannu at iechyd, lles, addysg, sgiliau, economi leol ac uchelgais genedlaethol. Yn wir, nid rhywbeth braf i’w gael, ond rhan hanfodol o ddyfodol ffyniannus Cymru.
Gwnaf i sôn am ddau o’u prosiectau nhw. Mae'r Stiwdio Lles yn brosiect rhwng Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, gwasanaethau cefnogi llesiant myfyrwyr Prifysgol Bangor, a meddygfa Bodnant, wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sy’n profi gorbryder, unigedd neu iselder. Mae’r Stiwdio Lles yn darparu gofod diogel i’r cyfranogwyr archwilio’u hemosiynau a’u profiadau drwy gyfrwng celf, gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol. Yn hytrach na bod yn ymatebol i broblemau iechyd meddwl, mae’r prosiect yn weithred ataliol sy’n cynnig dull arall i ymdopi a datblygu hunanhyder. Mae’r llwyddiant cynnar yn profi potensial y dull yma i greu newid cadarnhaol a chynaliadwy mewn bywydau pobl ifanc, ac yn tynnu sylw at rôl y celfyddydau wrth gefnogi gwasanaethau iechyd a llesiant ehangach.
Cynhyrchiad ydy Dynolwaith gan y dramodydd ifanc Leo Drayton, sy’n archwilio’r daith bersonol a chymdeithasol o drawsnewid hunaniaeth rhywedd. Mae’r ddrama’n gydgynhyrchiad efo Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ac yn teithio ledled Cymru yn ystod yr hydref y flwyddyn yma. Ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, mae Frân Wen yn lansio rhaglen ddatblygu ar gyfer artistiaid sy’n dod o’r gymuned LGBTQ+ Cymraeg, gan fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol yn y diwydiant. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y ddrama ac i weld y gwaith sydd yn digwydd o gwmpas y rhaglen ddatblygu hefyd.
Er gwaethaf y llwyddiant artistig a’r effaith gymdeithasol sy’n amlwg yn achos Frân Wen, mae’r cwmni, fel llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru, yn gweithredu o dan bwysau ariannol sylweddol. Does dim osgoi y ffaith yna. Mi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn inni fod yn bositif. Dwi yn bod yn bositif. Dwi yn adnabod nifer fawr o brosiectau positif. Dwi yn adnabod y llesiant cenedlaethol sydd yn gallu deillio o'r celfyddydau. Ond mae'n rhaid cydnabod y realiti hefyd o weithredu dan bwysau ariannol sylweddol. Mae’r sefyllfa bresennol yn tanseilio gallu’r sector i gynllunio’n gynaliadwy, gallu'r sector i gadw talent greadigol, a gallu’r sector i gwrdd ag anghenion cymunedau sy'n dibynnu ar y celfyddydau fel ffordd o fynegiant, datblygiad a chysylltiad cymdeithasol.
I gloi, nid moethusrwydd ydy buddsoddi yn y celfyddydau. Mae’r sector diwylliannol a’r celfyddydau yn ecosystem arbennig iawn y dylem ni fod yn ymfalchïo yn fawr iawn ynddi. Mae hi'n gonglfaen i economi, iechyd, addysg a hunaniaeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am y ddadl hon. Mae wedi bod yn gwbl ysbrydoledig, a dweud y gwir, clywed am brofiadau pobl wahanol a'u perthynas a'r celfyddydau, a chydnabyddiaeth hefyd bod y celfyddydau'n llenwi'r gofod o ran ein hanwybodaeth o'r byd o'n cwmpas ni. Mae'n caniatáu i ni ymateb yn emosiynol i gelf ac i gerddoriaeth, i chwaraeon, i ddawns, a phob math o gyfryngau celfyddydol gwahanol.
Ond fel sydd eisoes wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon, mae'r celfyddydau a'n diwylliant ni'n fwy na rhywbeth neis i'w gael, ac mae hynny'n arbennig o wir pan ddaw hi at y cysylltiad rhwng y celfyddydau a diwylliant ac addysg yn arbennig. Addysg, fel rŷn ni'n gwybod, sy'n gosod y seiliau ar gyfer ein dyfodol ni fel cenedl. Yng Nghymru, rŷn ni'n wlad sydd â hanes cyfoethog o hunaniaeth ddiwylliannol hynod o falch, ac mae addysg wastad wedi bodoli y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth fel mynegiant o hwnna.
Drwy addysg, rŷn ni'n trosglwyddo ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith a'n gwerthoedd o un genhedlaeth i'r nesaf, ac rŷn ni'n gwneud hynny ar gyfer ein pobl ifanc, a rhoi profiadau arbennig iddyn nhw y byddan nhw'n eu gwerthfawrogi am weddill eu bywyd. Mae'r celfyddydau'n rhan bwysig o sut mae addysg yn defnyddio'r mynegiant hwnnw i roi'r profiadau yna i'n plant a'n pobl ifanc. A does dim ond rhaid inni feddwl nôl i ychydig wythnosau nôl i fel oedd Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, ym Margam, eisteddfod Dur a Môr, wedi rhoi cymaint o brofiadau celfyddydol, diwylliannol—celf a dawns a cherddoriaeth o bob math—i blant o bob math o gefndiroedd, o bob math o gartrefi, ac ieithoedd gwahanol hefyd.
Yn 2013 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar y celfyddydau ac addysg, a dywedodd yr adroddiad hwn:
'Yn yr unfed ganrif ar hugain...bydd addysg yn dod yn sail...i gymdeithas greadigol, economi greadigol a diwylliant creadigol.'
Ac aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud y bydd creadigrwydd, neu fod yn
'agored i gaffael gwybodaeth newydd a sgiliau arloesol, yn llunio ein byd'
mewn ffordd gwbl chwyldroadol. Nawr, dyna weledigaeth bwerus, ond ydyn ni wedi colli golwg ar y weledigaeth honno? Oherwydd os ydyn ni yn wirioneddol gredu yn y weledigaeth, pam taw'r celfyddydau—cerddoriaeth, drama a'r celfyddydau gweledol—sydd wastad ar frig y rhestr o bethau i gael eu torri pan fydd cyllidebau ysgolion a chyllidebau’r celfyddydau yn gyffredinol yn dynn? Pam fod profiadau diwylliannol, a all fod yn sbardun ar gyfer taith pobl ifanc, taith yrfaol gwbl sylfaenol i blentyn, yn cael eu trin fel opsiynau dymunol yn hytrach nag fel agweddau hanfodol o addysg gyflawn? Ystyriwch y plentyn sy'n ymweld ag amgueddfa am y tro cyntaf ac yn cael cipolwg ar ei hanes ei hun, ar ei filltir sgwâr ei hun, neu'r person ifanc sy'n dod o hyd i'w lais ef neu hi ei hun drwy ddrama, y person ifanc yna sy'n canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, neu'r person ifanc sy'n darganfod angerdd dros gerddoriaeth sy'n eu helpu nhw drwy eiliadau tywyll yn eu bywyd.
Nid rhyw fuddion ymylol yw'r rhain, maen nhw'n brofiadau sy'n newid bywydau. Ac mae sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, er enghraifft, wrth wraidd nifer o'r profiadau hyn. Y llynedd yn unig, fe gyrhaeddodd eu rhaglenni addysg nhw bron i 288,000 o ddysgwyr ledled Cymru, ac nid niferoedd yn unig yw'r rhain, ond maen nhw’n 288,000 o gyfleoedd unigryw i newid bywydau.
Nawr, os ydyn ni'n archwilio lleisiau'r genhedlaeth Windrush, er enghraifft, i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol, drwy bartneriaethau fel Coleg Pinc—maen nhw'n gwneud addysg yn real, yn berthnasol ac yn gynhwysol, a hynny yn ein dwy iaith genedlaethol ni. Maen nhw hefyd yn darparu prentisiaethau, yn datblygu sgiliau a chyfleoedd i wirfoddoli, gan helpu pobl ifanc i feithrin hyder a rhoi cychwyn iddyn nhw ar yrfaoedd posibl. Dyma addysg yn ei hystyr lawn—nid dysgu am y byd yn unig, ond dysgu sut i'w lunio, sut i'w newid.
Mae'r ffaith nad yw cyllid Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn sicr dros y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith ei bod wedi gweld dwsinau o ddiswyddiadau oherwydd hynny, yn warth, a dweud gwir, achos mae'r amgueddfa wedi chwarae rhan mor ganolog yn newid bywydau cymaint o blant a phobl ifanc, ac oedolion hefyd. Ac mewn byd lle mae'r Llywodraeth yn gweld y celfyddydau a'n diwylliant fel rhywbeth dymunol, nid hanfodol, y rheini o gefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n dioddef, achos, fel rÅ·n ni wedi clywed yn barod, mae rhieni dosbarth canol yn gallu fforddio llenwi'r gwagle hwnnw.
Fel y dywedodd yr Athro Mark O'Neill, cyn-bennaeth Amgueddfeydd Glasgow, a oedd wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Senedd yn ddiweddar, a dwi'n dyfynnu yn Saesneg:
Mewn geiriau eraill, os Å·ch chi wedi cael profiadau gwael yn yr ysgol, rÅ·ch chi'n llai tebygol o deimlo bod amgueddfeydd neu'r celfyddydau ar eich cyfer chi ac yn perthyn i chi. Mae hynny yn drasiedi, oherwydd ei fod yn golygu ein bod ni'n atgyfnerthu anghydraddoldeb, nid yn torri lawr, ond yn cau pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig allan o brofiadau pwysig bywyd.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn cynnig gobaith. Mae ei faes dysgu a phrofiad celfyddydau mynegiannol yn feiddgar ac yn gynhwysol, ac mae'n cydnabod bod y celfyddydau yn helpu dysgwyr i fod yn hyderus, yn wydn ac yn llythrennog yn emosiynol. Ond eto, rwy'n gofyn i ni ein hunain: ydyn ni'n rhoi'r adnoddau digonol i'n hysgolion i gyflawni y weledigaeth hon?
Ac rwy'n gorffen yn fan hyn, Llywydd. Mae dyfodol plant Cymru yn llythrennol yn y fantol, ac mae'r cyfrifoldeb arnom ni i weithredu. Ac os nad ydym ni'n ariannu'r celfyddydau yn ei hysgolion yn ddigonol, rÅ·n ni'n bradychu ein nodau polisi, ac yn bradychu plant Cymru hefyd, ac yn eu hamddifadu o gyfoeth diwylliannol cwbl hanfodol. Ac os Å·n ni am sicrhau dyfodol lle mae pob plentyn yng Nghymru yn ffynnu, mae'n rhaid inni fuddsoddi yn y celfyddydau a'r diwylliant sydd yn gysylltiedig ag ef drwy addysg, nid fel ystyriaeth ymylol, ond fel darpariaeth cwbl sylfaenol. Diolch yn fawr iawn.
O'n i jest eisiau pigio lan ar dau beth, mewn gwirionedd, yn dilyn cyfraniad Cefin Campbell o ran perthynas y celfyddydau gydag addysg, achos dyw y celfyddydau o fewn y cwricwlwm ac o fewn addysg, ac mewn cyswllt ag ysgolion a'n pobl ifanc, nid yn unig yn datblygu dysgwyr, ond hefyd yn gallu sicrhau eu bod nhw'n cael eu haddysgu'n well. Hynny yw, mae'r hyn Å·n ni'n ceisio dysgu iddyn nhw yn fwy effeithiol nag yw e jyst mewn stafell ddosbarth yn unig.
A meddwl am ddrama, er enghraifft: rôn i wedi sôn yn ddiweddar pan oeddwn i'n ymateb i strategaeth celfyddydau a diwylliant y Llywodraeth am Theatr na nÓg, sy'n gwmni drama yng Nghastell Nedd, sy'n creu cynhyrchiadau theatr mewn addysg o'r safon uchaf, a wnaethon nhw'n ddiweddar ddod â chynhyrchiad i ardal Caerdydd, Y Naid, oedd yn ymwneud â ceisio rhybuddio pobl ifanc, pwno'r neges yna adre iddyn nhw, fel ei fod e gyda nhw ar hyd eu hieunctyd nhw, ynglŷn â bod yn ofalus o gwmpas dŵr, a peryglon dŵr agored. Wel, chafodd disgyblion dros Gymru ddim y cyfle i weld hynny oherwydd diffyg cyllid, felly mae e bron â bod yn rhywbeth mae yna elfen iechyd cyhoeddus, ond hefyd i wneud y ffordd ŷn ni'n addysgu'n disgyblion ni yn fwy effeithiol.
A jest yr ail bwynt yn gyflym hefyd.
Heledd Fychan nawr, sy'n ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a gaf i ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae wedi bod yn hyfryd cael dwy awr o drafodaeth ar ddiwylliant, ac o'r holl e-byst dwi wedi eu cael yn yr wythnos diwethaf yma, buasai 20 awr wedi gallu cael eu llenwi yn llawn, oherwydd un o'r pethau sydd yn eithriadol o bwysig ydy dathlu. Mae yna bethau anhygoel yn digwydd yn y maes hwn yng Nghymru. Mae peth ohono fo, ydy, yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, dwi'n dathlu hynny. Maen nhw'n drawsnewidiol, maen nhw mor bwysig, a dÅ·n ni'n ennill gwobrau yn rhyngwladol am hyn. Mae gwledydd eraill yn edrych i rai o'r prosiectau hyn, a dwi'n falch fy mod i wedi cynnig teitl pryfoclyd a'n bod ni'n cael cyfle i gael y drafodaeth yma.
Mae yna gwestiynau mae rhai o'r Aelodau wedi eu gofyn heddiw, a dwi eisiau dychwelyd at y rheini wrth gloi'r ddadl yma. O ran cwestiwn Sioned Williams, o ran statudol a diwylliant, mae hwn yn gwestiwn dwi wir eisiau i ni gael trafodaeth fel Senedd arno fo, oherwydd dÅ·n ni i gyd yn gwybod am yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol ar y funud. DÅ·n nhw ddim yn gallu fforddio'r pethau statudol ar y funud. Dyna pam dÅ·n wedi gweld sefyllfaoedd gwallgof fel awdurdod lleol yn gorfod gofyn, 'Ydych chi eisiau eich bins wedi eu casglu neu ydych chi eisiau amgueddfa?' Sut fath o ddewis ydy hwnnw? Fel o'n ni'n dweud ar ddechrau'r ddadl, ydych chi eisiau i'r hen berson yn eich teulu chi sy'n fethedig gael gofal neu ydych chi eisiau llyfrgell? Dydyn nhw ddim yn ddewisiadau hawdd o gwbl i unrhyw un, ond dÅ·n nhw ddim yn ddewisiadau teg. Wrth gwrs, wedyn eich bod chi'n mynd i gael 99 y cant o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau gofal, os mai dyna'r dewis.
Ond beth dwi'n gobeithio dŷn ni wedi'i ddangos heddiw ydy eu bod nhw i gyd yn bwysig a hefyd fod yna ffyrdd gwell y gallwn ni ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael gennym ni i greu'r cysylltiadau hyn. Wedi'r cyfan, ddoe, mi gawsom ni drafodaeth, on'd do, ei bod hi'n 10 mlynedd ers cael Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae'n ymddangos i fi bod cyllidebau Llywodraeth yn dal i weithio mewn silos a'n bod ni'n colli cyfleon wedyn o ran edrych, 'Reit, os dŷn ni'n buddsoddi mewn rhaglenni iechyd a lles, faint mae hynna'n arbed i'r NHS?' Pam ar y funud bod y mwyafrif o'r gwariant o ran y rhaglenni iechyd yn ein gwasanaeth iechyd ni yn dod gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hytrach nag o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun? Nid rhaglenni opsiynol ydy'r rhai o'r rhaglenni hyn, maen nhw yr un mor faethiol â meddyginiaeth. Felly, pam nad ydy o'n rhan greiddiol o'r gyllideb fwyaf? Dŷn ni'n gwario'r mwyaf ar y gwasanaeth iechyd, felly, pam ddylai fo ddod o'r gyllideb leiaf, sef yr un ar ddiwylliant?
Dwi'n gobeithio gwnaiff y Gweinidog gymryd yr her, oherwydd, a bod yn deg, nid chi ddylai fod yn gorfod ymateb i hyn, ond y Llywodraeth i gyd, i ofyn, 'Sut ydyn ni am ateb yr her a sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn cael eu hintegreiddio i mewn i bob portffolio, fel ein bod ni'n gallu manteisio i'r eithaf?' Pan fo'r buddsoddiad yna'n cael ei wneud, a hynny gan y Llywodraeth, mae o'n talu ar ei ganfed. Wrth gwrs, mae pobl yn mynd i fod yn ysgrifennu a dweud diolch, ond mae yna gymaint o brosiectau sy'n gorfod cau, amgueddfeydd yn cau, y math o gymunedau sydd heb ddim mynediad i ddiwylliant bellach oedd yna yn y gorffennol. Felly, mae yna waith mawr i ni ei wneud i edrych sut ydyn ni'n mynd i adfer cyllidebau.
adfer cyllidebau.
Os dŷn ni'n edrych ar y ganolfan celfyddydau yn Aberystwyth, adeiladwyd ar yr un amser â Theatr Clwyd—gwaith gwych, ond mae angen fuddsoddiad sylweddol erbyn hyn. Os dŷn ni'n edrych hefyd ar ailddatblygiad Sain Ffagan, mi oedd hwnnw'n fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd wnaeth ddenu cyllid o'r tu allan, daeth yn Art Fund museum of the year. Ond, wedyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyllid yna i sicrhau bod ansawdd Sain Ffagan yn aros yna, yn lle ein bod ni wedyn angen prosiect gwerth degau o filiynau yn y dyfodol. Ac mae honno’n her i'r Llywodraeth.
Felly, yr her inni rŵan fel Senedd ydy: sut ydyn ni am unioni hynny? Mae yna gytundeb wedi bod bod hyn yn werth chweil a'n bod ni'n gweld y cysylltiad rhwng portffolios gwahanol, ond beth ydyn ni am wneud am hyn? Dwi'n gobeithio y gallwn ni gydweithio, oherwydd dyma'r sialens i'r Senedd nesaf. Rydyn ni wedi clywed gan nifer o Weinidogion i'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf bod y Llywodraeth eisiau buddsoddi mwy yn yr ataliol, ond dydy o byth i'w weld yn digwydd. Felly, sut ydyn ni'n gallu rhoi Deddf cenedlaethau'r dyfodol ar waith yma a sicrhau ein bod ni'n gallu buddsoddi a gwneud y cysylltiadau yma?
Felly, wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y meysydd hyn, a diolch eto i bawb sydd wedi cysylltu a chyfrannu yn y ddadl. Dwi'n gobeithio ein bod ni heddiw wedi gallu cyflwyno'r achos yn glir o ran pam bod diwylliant a'r celfyddydau yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Maen nhw'n greiddiol i bob ohonom ni, yn unigolion ac yn gymunedau, a thra eu bod nhw wedi bod yn achubiaeth i nifer, er na fyddan nhw efallai'n achub bywyd pob un ohonom ni, maen nhw'n sicrhau yn gwneud ein holl fywydau'n werth eu byw. Diolch.
Dyna ddiwedd, felly, ar y ddadl agored am y prynhawn yma.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Yr eitem nesaf yw eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar ffordd liniau'r M4. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8930 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu bod y mis hwn yn nodi chwe blynedd ers i brosiect ffordd liniaru'r M4 gael ei ddileu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ffordd liniaru'r M4.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y ddwy welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Peredur Owen Griffiths yn cynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi chwe blynedd ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect Ffordd Liniaru'r M4.
2. Yn gresynu at:
a) y gostyngiad mewn termau real yng nghyllideb cyfalaf Cymru a achoswyd gan adolygiad o wariant diweddaraf Llywodraeth y DU, a fydd yn rhwystro gallu Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar raddfa fawr, gan gynnwys prosiect ffordd liniaru'r M4; a
b) methiant Llywodraeth Cymru i ailffocysu cyllid a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer prosiect ffordd liniaru'r M4 tuag at weledigaeth amgen ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig a chynaliadwy i Gymru, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r problemau tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd, a dwi'n symud y gwelliant.
Bwriad gwelliant Plaid Cymru heddiw ydy ceisio sbarduno trafodaeth ehangach i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar yr M4, ond hefyd tu hwnt i'r ardal leol. Oherwydd nid un rhan o’r traffordd yw'r broblem, ond y dasg fwy o adeiladu rhwydwaith drafnidiaeth multimodal sydd yn addas i bobl Cymru heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Ac ar ôl dros 25 mlynedd mewn grym, mae'n amlwg nad ydy'r Blaid Lafur wedi llwyddo i gyflawni hynny. Mae'n wir bod chwe blynedd bellach wedi pasio ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’r cynllun ffordd osgoi, ac er mai dim ond wythnos yn ôl a galwodd y Torïaid yn y Siambr hon am foratoriwm ar gynlluniau solar ar sail pryderon am fwyd a’r amgylchedd, heddiw nhw sydd ar flaen y gad am ffordd newydd drwy dir SSSI. Maen nhw'n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ac mae hynny'n wir iawn heddiw.
Ond mae trigolion lleol, ac unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan dagfeydd, yn gwbl resymol yn gofyn pa gynnydd ar y datrysiad sydd wedi'u datblygu iddyn nhw. Fel un sydd wedi cael fy nal mewn traffig yn yr ardal yma droeon, rwy'n rhannu'r un rhwystredigaeth. Ond yn hytrach na mynd yn ôl dro ar ôl tro ar yr un penderfyniad, mae'n rhaid i ni ofyn sut y gallwn ni gysylltu ein cymunedau yn well, sut y gallwn ni ei wneud i'n haws i bobl gyrraedd eu gwaith, eu hysgolion, eu gwasanaethau lleol, heb ddibynnu ar ffyrdd prysur â thagfeydd, a sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd sydd yn fforddiadwy, yn deg, ac yn amgylcheddol gynaliadwy?
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i symud ymlaen o ddadl yr M4 i gyflwyno ateb gwirioneddol, ateb sy'n cynnwys rhwydwaith wedi'i integreiddio, bysiau, trêns, teithio llesol a'r ffyrdd, wrth gwrs, ond wedi'u gynllunio fel rhan o ddarlun ehangach. Oherwydd os mae dim ond mwy o ffyrdd yr adeiladwn, bydd mwy o geir, mwy o dagfeydd. Mae'n rhaid i'n darparu datrysiad sydd yn gweithio ar gyfer pobl a'r amgylchedd, datrysiad sydd nid yn unig yn cysylltu Cymru a Lloegr, ond yn cysylltu ein cymunedau yma yng Nghymru. Testun siom ydy’r diffyg gwaith strategol sydd i’w weld wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth dros y chwe blynedd diwethaf i ddatblygu a delifro ar gyfer pobl y de-ddwyrain a phawb arall sydd yn defnyddio'r rhan yma o'r M4.
Llywydd, mae Plaid Cymru'n credu mewn Cymru sydd wedi'i chysylltu'n well, sydd yn fwy gwydn ac yn fwy parod i wynebu’r heriau sydd i ddod. Mae hynny'n dechrau gyda sgyrsiau gonest am flaenoriaethau ac yn parhau gyda chyllido teg, buddsoddiad strategol ac uchelgais sy'n cynnwys pob cwr o Gymru. Diolch yn fawr.
Ydy gwelliant 2 yn cael ei gynnig yn ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet?
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr angen am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi pobl ac economi’r rhanbarth, a hynny’n unol ag argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Comisiwn Burns) fel dewis amgen cynaliadwy a fforddiadwy yn lle creu traffordd M4 newydd.
2. Yn gresynu at addewidion gwag a diffyg cyllid gan lywodraethau Ceidwadol blaenorol ar gyfer argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ynghylch materion heb eu datganoli, a hynny fel dewis ymarferol yn lle ffordd liniaru’r M4.
3. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth ac awdurdodau lleol er mwyn cyflawni argymhellion yr Arglwydd Burns i ddarparu dewisiadau cynaliadwy heb eu hail yn lle’r M4.
4. Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant ar gyfer 2026-27 i 2029-30 o ran cyllid ar gyfer cyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru fel dewis arall yn lle ffordd liniaru’r M4.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Mae wedi cael ei symud, felly, Jenny Rathbone.