Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb, a chroeso i’r cyfarfod yma o’r Senedd. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.

E-feiciau a Beiciau Modur oddi ar y Ffordd

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag e-feiciau a beiciau modur oddi ar y ffordd? OQ62763

Rydym ni'n cydnabod bod defnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o feiciau modur oddi ar y ffordd a beiciau trydan yn achosi perygl yn ein cymunedau ac yn sicr yn faes sy'n peri pryder. Rydym ni'n gweithio gyda heddluoedd Cymru a phartneriaid diogelwch ar y ffyrdd eraill i ddod o hyd i atebion effeithiol i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ymateb, a'r ffaith ei bod hi'n ymddangos eich bod yn ymwybodol ohono, oherwydd rwyf i wedi cael fy hysbysu am nifer o gŵynion gan bobl sy'n byw yng Ngorseinon yn fy rhanbarth i am y defnydd o feiciau modur oddi ar y ffordd ac e-feiciau yn cael eu gyrru'n gwbl ddiofal o gwmpas ystadau preswyl, ac yn rhoi pobl mewn perygl, yn gwneud troadau sydyn rhwng ceir, gan roi plant ifanc mewn perygl hefyd. Ac, yn benodol, mae'n broblem arbennig i'r rhai sydd wedi colli golwg neu'n ddall, gan y gall y pethau hyn fod bron yn fud hefyd yn aml. Rwy'n gwybod mai cyfrifoldeb yr heddlu yw llawer o'r gwaith hwn, ond rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid eraill ac asiantaethau eraill i fynd i'r afael â'r broblem hon lle mae'n bodoli. Felly, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw hon yn broblem sy'n parhau i amharu ar gymunedau ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu y dylem ni ei gwneud hi'n eglur bod Llywodraeth Cymru, yn gyffredinol, yn cefnogi e-feiciau cyfreithiol fel opsiwn trafnidiaeth carbon isel a hygyrch, ond rydym ni'n cydnabod hefyd eu bod nhw'n achosi pryder enfawr ymhlith rhai pobl yn ein cymunedau, a'u bod nhw yn peri risg i feicwyr ac i'r cyhoedd, yn enwedig y defnyddwyr ffyrdd agored i niwed hynny yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw.

Nawr, rydym ni wedi cymryd rhai mesurau gorfodi rhagweithiol, gan weithio gyda'r heddluoedd lleol. Rydym ni'n gwybod, yng Ngwent, bod ganddyn nhw Operation Harley. Yn y gogledd, ceir Operation Blue Takeoff, ac mae hynny'n gweithio'n benodol ar ddefnydd anghyfreithlon o feiciau modur oddi ar y ffordd. Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cyfarfod â phenaethiaid yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu cyn bo hir, ac wedi ymgysylltu â'r bwrdd teithio llesol i ymchwilio a mynd i'r afael â phryderon am e-feiciau anghyfreithlon, gan ganolbwyntio ar y grwpiau agored i niwed hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, ac ar arferion gwefru amhriodol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei hymateb i hynny, oherwydd mae pla beiciau oddi ar y ffordd ac e-feiciau yn rhywbeth sy'n cael ei ddioddef mewn cymunedau ar hyd a lled Blaenau Gwent hefyd, ac rwy'n ymwybodol bod Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio'n galed i geisio ymdrin â'r materion hyn, oherwydd mae'n effeithio ar y bryniau o gwmpas y fwrdeistref hefyd. Ond a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ddod â'r heddluoedd a llywodraeth leol ynghyd, i sicrhau ein bod ni'n ymdrin â'r mater hwn, oherwydd mae hyn yn dychryn pobl mewn trefi a phentrefi a chymunedau ar draws Blaenau Gwent, ac, rwy'n credu, ar draws y wlad gyfan? Mae hyn yn rhywbeth sy'n dinistrio ansawdd bywyd pobl mewn llawer o gymunedau, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr bod Llywodraeth Cymru eisiau cael gafael gadarn arno.

Ydy, ac rydym ni wir yn cymryd hyn o ddifrif. Rydym ni'n gwybod nad yw'n faes o gyfrifoldeb datganoledig, ond rydym ni'n ystyriol o'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau y mae'r beiciau hyn yn eu dychryn. A dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda heddluoedd i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond hefyd i wneud yn siŵr bod y comisiynwyr heddlu a throseddu hynny yn chwarae rhan weithredol ac ymgysylltu â sut y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae'n ddrwg gen i glywed bod hon yn broblem ym Mlaenau Gwent. Mae'n broblem enfawr yng Nghaerdydd. Fel beiciwr, rwy'n cyfarfod â beicwyr sy'n teithio'n gyflym ar lawer mwy nag 20 mya, felly maen nhw'n sicr yn feiciau anghyfreithlon. Rwyf i wedi bod mewn gohebiaeth â'r tri phrif bobl danfon cludfwyd, ac, i wahanol raddau, maen nhw'n cymryd ychydig bach o gyfrifoldeb am hyn—nid bron digon, o ystyried pan fydd rhywun yn lladd cerddwr—sy'n hynod debygol—wrth ddanfon bwyd ar ran y sefydliad hwnnw, maen nhw'n mynd i gael eu haeddiant, a byddan nhw'n difaru na wnaethon nhw sicrhau bod eu beicwyr i gyd yn gyfreithlon, wedi'u hyswirio, ac wedi'u hyfforddi, ac yn deall bod ganddyn nhw ddyletswydd tuag at y gymuned yn gyffredinol i beidio â'u lladd nhw ar y ffyrdd. Felly, rwyf i eisiau gweld perthynas lawer agosach gyda'r cwmnïau danfon hyn, sy'n llenwi'r amgylchedd yng Nghaerdydd, i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu, yn hytrach na'i gadael i'r Llywodraeth ei wneud.

13:35

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cydnabod bod pobl, yn enwedig y gwasanaethau danfon hynny—. Efallai nad yw rhai o'r bobl hynny sy'n danfon bob amser yn cydymffurfio â'r rheolau. Mae'r model cyflogaeth yn cyfyngu atebolrwydd. Anhawster y sefyllfa yw bod llawer o gwmnïau danfon bwyd yn dosbarthu beicwyr fel contractwyr hunangyflogedig, ac mae hynny'n gwanhau'r atebolrwydd am gyfreithlondeb neu ddiogelwch cerbydau a ddefnyddir. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, yng Nghaerdydd, ym mis Ebrill, yw y cynhaliwyd ymgyrch diogelwch e-feiciau arbennig yng nghanol dinas Caerdydd, ac roedd honno'n cynnwys cwnstabliaid arbennig, y tîm plismona yn y gymdogaeth a swyddogion cyngor Caerdydd. Roedd hynny yn benodol i fynd i'r afael â phryderon diogelwch a beiciau trydan nad ydynt yn cydymffurfio mewn ardal drefol brysur yng Nghaerdydd. Felly, dylai'r cwmnïau yr ydych chi'n poeni amdanyn nhw yn sicr fod wedi bod yn ymwybodol o hynny.

Metro Bae Abertawe

2. Beth yw camau nesaf y Llywodraeth ar gyfer datblygu cynllun Metro Bae Abertawe? OQ62800

Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynlluniau ar gyfer hyd at saith gorsaf reilffordd newydd yn ardal drefol bae Abertawe. Gall y rhain integreiddio â phrosiectau eraill yr ydym ni'n eu hariannu eisoes, a bydd mwy yn dod drwy'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn cael ei lunio yr haf hwn.

Diolch. Nawr bod metro de Cymru yn cael ei ddarparu, sy'n gyflawniad enfawr, ac ni ddylem ei bocedu, a bod y cynllun wedi cael ei gyflwyno ar gyfer prosiect metro gogledd Cymru, mae'n bwysig iawn nad yw de-orllewin Cymru yn cael ei adael ar ôl. Mae'n dda, fel y gwnaethoch chi sôn, bod y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn cael eu datblygu, ond, yn y de-ddwyrain a'r gogledd, gweithiodd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r rhanbarth i ddatblygu piblinell o brosiectau, oherwydd mae'r rhain yn cymryd blynyddoedd i'w datblygu. Mae'n bwysig iawn nad yw hyn yn cael ei adael i'r rhanbarth—bod Llywodraeth Cymru a TrC yn gwneud yr un fath ar gyfer y de-orllewin ag y gwnaethon nhw ar gyfer y de-ddwyrain a'r gogledd. O ystyried y rhan bwysig y bydd bysiau yn ei chwarae mewn metro de-orllewin Cymru, oherwydd, yn syml, nid yw'r hen seilwaith rheilffordd a oedd gennym ni o gwmpas Caerdydd yn bodoli, a wnaiff Llywodraeth Cymru fanteisio ar gyfle y Bil bysiau, a'r gwaith sy'n mynd law yn llaw â hynny, i greu'r seilwaith sy'n angenrheidiol ar gyfer mesurau blaenoriaeth bysiau, fel lonydd bysiau, fel bod y rhain yn cael eu hariannu a'u cynllunio yn rhan o gyflwyno'r Bil bysiau, ac sydd yno wedyn i adeiladu arnyn nhw fel prosiect metro rhwydwaith yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth cymryd eiliad, yn gyntaf oll, i weld y cynnydd enfawr yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth o ran cyllid rheilffyrdd. Mae pobl ledled Cymru yn defnyddio trenau newydd sbon bellach, ledled Cymru. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni annog pobl i'w wneud, ond mae'n rhywbeth rwy'n credu y dylem ni ei nodi. Mae'n fuddsoddiad enfawr yr ydym ni wedi ei wneud—£800 miliwn. Ond rydych chi'n gwbl gywir—mae angen i ni wneud yn siŵr nawr bod pawb yn teimlo bod ganddyn nhw ran yn y system.

Mae seilwaith rheilffyrdd, datblygu rheilffyrdd, fel y gwyddoch chi, yn cymryd blynyddoedd ar flynyddoedd i'w gynllunio a'i ddatblygu. Dyna pam rydym ni'n parhau i weithio gyda bae Abertawe a gorllewin Cymru o ran y rhaglen metro, o ran y saith gorsaf reilffordd newydd hynny. Rydym ni'n mynd i fod yn edrych ar sut mae'r biblinell honno yn edrych. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd ein bod ni'n tanlinellu pwysigrwydd y rhwydwaith bysiau yn rhan o'r system metro honno—felly, gadewch i ni beidio â meddwl am metro fel rheilffyrdd yn unig. Rwy'n credu bod y dirywiad i wasanaethau bysiau o dan y system ddadreoledig hon yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar lawer o ardaloedd, yn enwedig ardaloedd gwledig. Rwy'n falch iawn nawr y bydd ein cyfraith newydd yn ein helpu i gael ychydig mwy o reolaeth ar hynny.

Mae de-orllewin Cymru wedi cael ei ddewis fel y rhanbarth cyntaf i gyflwyno masnachfreinio bysiau. Rydym ni'n datblygu cynllun peilot bysiau hydrogen arloesol yn ardal Abertawe. Bu rhai datblygiadau enfawr eraill hefyd o ran gwasanaethau rheilffyrdd—er enghraifft, y gwasanaeth rheilffordd o Aberdaugleddau a Hwlffordd, a rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin, a bydd mwy o wasanaethau rhwng Abertawe a Dinbych-y-pysgod. Felly, mae'r rheini i gyd yn dod. Ond rydych chi'n iawn—mae'r biblinell yn cael ei datblygu. Rydym ni eisiau gwneud hynny gyda'r awdurdodau lleol, trwy ddull strategol. Ond gallaf eich sicrhau chi y bydd Llywodraeth Cymru yn sefyll yno, yn dal y llyw ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ond ceir cynllun strategol ehangach i Gymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Prif Weinidog, yn ôl ym mis Tachwedd, sicrhawyd y Senedd gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid y byddai Llywodraeth y DU yn darparu, ac rwy'n dyfynnu, 'cyllid llawn' i fynd i'r afael ag effaith cynnydd Llafur i yswiriant gwladol ar weithwyr sector cyhoeddus. Rydym ni bellach yn gwybod mai £257 miliwn yw cyfanswm cost y dreth swyddi, dim ond i gyflogwyr sector cyhoeddus, ac eto dim ond £185 miliwn y mae Rachel Reeves wedi ei ddarparu, gan adael ein GIG, cynghorau lleol a chyflogwyr eraill dros £70 miliwn yn brin yn y flwyddyn hon yn unig, oherwydd, cofiwch, bydd hyn yn effeithio arnom ni o un flwyddyn i'r nesaf. Pa gamau wnaethoch chi a'ch Llywodraeth eu cymryd i atal hyn rhag digwydd?

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £185 miliwn i ni i helpu i dalu'r costau yswiriant gwladol [Torri ar draws.]—os gwnewch chi adael i mi orffen—i dalu'r costau yswiriant gwladol, i dalu'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond rydych chi'n iawn—mae diffyg. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur iawn, o'r cychwyn, ein bod ni'n anhapus am y sefyllfa. Nid mater Llafur-Llafur mohono; mater Llywodraeth ddatganoledig yw hwn. Mae'r Alban yr un mor flin â ni. Mae Gogledd Iwerddon yr un mor flin â ni. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur i Lywodraeth y DU ein bod ni'n anhapus gyda'r sefyllfa. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n cael rhywfaint o bersbectif ar hyn. Rydym ni wedi cael y cynnydd mwyaf yn hanes datganoli, ar ôl yr etifeddiaeth drychinebus a adawodd eich Llywodraeth chi i ni, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny, ac mai'r ffaith ein bod ni wedi gallu rhoi a chynnig cynnydd—cynnydd uwch na chwyddiant—i'r gweision cyhoeddus hynny yn y GIG am yr ail flwyddyn oherwydd y cynnydd hwnnw a gawsom ni gan Lywodraeth y DU. A gadewch i ni fod yn eglur, fe wnaethoch chi bleidleisio, ynghyd â Phlaid Cymru, i atal yr arian hwnnw rhag dod i Gymru.

Felly, rydych chi wedi bod yn achwyn am ddiffyg, gan wybod bod un yn dod, ond mae'n eithaf amlwg bod neb yn gwrando arnoch chi. Nid oes gennych chi unrhyw ddylanwad o gwbl ar eich cydweithwyr i lawr ar ben arall yr M4. Mae clustiau byddar wedi cael eu troi at eich geiriau, ac rydym ni i gyd yn gwybod yn y Siambr hon bod gwir gost y dreth swyddi i'n sector cyhoeddus yn llawer mwy na'r £257 miliwn, gan fod llawer o wasanaethau yn cael eu contractio allan gan y sector cyhoeddus i'r sector gwirfoddol a darparwyr annibynnol—casgliadau biniau, darparwyr tai, gofal diwedd oes yn ein hosbisau yng Nghymru, gofal cymdeithasol i'r rhai sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal ac yn eu cartrefi eu hunain, i enwi dim ond rhai. Nawr, mae'r holl sefydliadau hyn yn mynd i fod yn talu'r dreth swyddi hon o hyn ymlaen, pob un ohonyn nhw.  Mae'n mynd i fod yn costio mwy o arian iddyn nhw, a bydd yn rhaid i'r costau hynny gael eu trosglwyddo i'r cynghorau, i'n byrddau iechyd ac, yn y pen draw, mae'r trethdalwr yn mynd i fod yn talu'r bil. Beth yw eich amcangyfrif, fel Llywodraeth, o'r gost i'r bil sector cyhoeddus cyffredinol o'r dreth swyddi hon, nid dim ond y costau uniongyrchol o ran gweithwyr?

Felly, mae 86 y cant o'r costau ychwanegol i bobl sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol wedi cael eu talu bellach rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bydd hynny'n helpu i leddfu'r pwysau ar rai o'n gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld, ychydig cyn y toriad, ein bod ni wedi gallu cyrraedd ein targed o ran lleihau'r rhestrau aros hynny—arian y gwnaethoch chi geisio ei rwystro, y gwnaeth Plaid Cymru geisio ei rwystro, ac mae hynny'n arwyddocaol, a dyna'r pethau y mae pobl eisiau i ni ganolbwyntio arnyn nhw. Maen nhw eisiau i ni ganolbwyntio ar y materion bara menyn. Rydym ni wedi gallu nodi'r arian ychwanegol hwnnw, ond mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n cydnabod a'n bod ni'n parhau i wneud y ddadl i Lywodraeth y DU y dylen nhw fod yn talu'r gost lawn. Nid yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn swil am ei wneud yn eglur iddyn nhw. Mae'n rhywbeth lle'r ydym ni'n siarad gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon am yr anawsterau y mae hyn yn eu hachosi i ni, rydych chi'n gwbl gywir, nid yn unig eleni ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd.

Rydych chi'n popio'r cyrc siampên ar y GIG; y gwir amdani yw eich bod chi wedi addo sicrhau sero o ran pobl yn aros am ddwy flynedd a mwy, ac roedd hynny ddwy flynedd yn ôl, nid 8,000 erbyn hyn. Ac rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, bod anghydraddoldeb enfawr o ran y mynediad hwnnw hefyd, â phethau yn llawer gwaeth yng ngogledd Cymru na rhannau eraill o'r wlad.

Ond gadewch i ni ddychwelyd at y cynnydd hwn i yswiriant gwladol, y dreth swyddi hon a orfodwyd gan eich cymheiriaid Llafur y DU. Bob un blwyddyn bellach bydd degau o filiynau o bunnoedd, cannoedd o filiynau o bunnoedd, mewn costau ychwanegol yn cael eu llwytho ar gyllidebau ein hawdurdodau lleol ac, yn wir, ein GIG. A'r gwir amdani yw nad oes gennych chi unrhyw syniad na chynllun o ran sut i liniaru effaith cost y dreth swyddi ar gontractwyr sector cyhoeddus. Ers y llynedd, rydym ni wedi gweld ymosodiad ar bensiynwyr Cymru, ymosodiad ar ffermwyr Cymru, ymosodiad ar fusnesau Cymru, y cwbl wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ac nawr mae gennym ni ymosodiad ar ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Nid oes unrhyw syndod bod Rachel Reeves yn teimlo'n hyderus y gall bigo pocedi trethdalwyr Cymru unwaith eto trwy wneud gymryd y cam hwn o'n gadael yn brin o arian. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym ni y byddai gennym ni ddwy Lywodraeth ar ddau ben yr M4 yn ymladd dros Gymru, ac eto'r gwir amdani yw bod pobl Cymru wedi cael eu methu, eu hanghofio a'u pluo dro ar ôl tro, o'r eiliad yr etholwyd y Llywodraeth Lafur hon ym mis Gorffennaf y llynedd. Felly, a gaf i ofyn i chi nawr: a ydych chi'n teimlo embaras ynghylch y ffeithiau hyn, ac a wnewch chi ymddiheuro i bob unigolyn yng Nghymru sydd wedi cael ei effeithio gan y newidiadau ofnadwy hyn?

13:45

Byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru, a'r hyn na allaf ei gredu yw rhagrith llwyr Tori—Tori—ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol, ar ôl y ffordd yr ydych chi wedi gorfodi toriadau ar ein gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gofynnwch i chi'ch hun pam ein bod ni mewn sefyllfa mor anodd. Fe wnaethoch chi adael grym â baich treth enfawr ar bobl, chwyddiant enfawr, cyfraddau llog enfawr. Roedd hynny o dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth flaenorol chi. Mae'n rhaid i ni wneud iawn am y llanast y gwnaethoch chi ei adael ar ôl. Byddwn yn parhau i wneud hynny, a byddaf yn parhau i sefyll yn gadarn dros Gymru ar bob cyfle, gan gynnwys o ran yswiriant gwladol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn pe bai gen i fwy na thri chwestiwn heddiw, oherwydd, yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig, rydym ni wedi cael mwy na'r nifer honno o enghreifftiau o sut mae 'partneriaeth mewn grym' honedig Llafur wedi niweidio Cymru. Fe wnaf i geisio crynhoi. Dau fater i ddechrau: ie, yn gyntaf, yswiriant gwladol. Bu'n rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid fynd i goffrau Llywodraeth Cymru ei hun yr wythnos diwethaf gan ei fod wedi methu â gwneud y ddadl i Lywodraeth Lafur y DU roi cyfran Cymru o iawndal taliadau yswiriant gwladol sector cyhoeddus iddi. Rydym ni bellach yn wynebu diffyg o fwy na £70 miliwn. Mae'n dreth Lafur ar Gymru. Ac yn ail, cadarnhad bod gennym ni HS2 arall ar ein dwylo, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn dynodi'r prosiect rheilffordd newydd Rhydychen i Gaergrawnt gwerth sawl biliwn o bunnoedd fel prosiect Lloegr a Chymru hefyd. Allwch chi ddim gwneud hyn i fyny. Er gwaethaf yr holl sôn am Lywodraeth y DU yn cydnabod rywsut bod rheilffyrdd Cymru wedi cael eu tanariannu yn hanesyddol, mae hon yn dipyn o bartneriaeth mewn grym. Felly, o ran rheilffyrdd, ac o ran yswiriant gwladol, pam mae'r Prif Weinidog wedi caniatáu i Gymru ddioddef cam gan ei phlaid ei hun?

Wel, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur dro ar ôl tro, ac rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur i'r Canghellor, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur i Brif Weinidog y DU, y byddwn ni'n parhau i wneud ddadl i holl gost yswiriant gwladol gael ei thalu ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.

O ran seilwaith rheilffyrdd, rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei fod angen ychydig o wers ar sut mae setliad datganoli Cymru yn gweithio. Felly, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru. Efallai eich bod chi eisiau iddo gael ei ddatganoli, ond dyna'r sefyllfa y mae ynddi ar hyn o bryd. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw sefyllfa lle ceir piblinell o brosiectau ar gyfer Cymru a Lloegr. A ydym ni'n cael ein cyfran deg? Nac ydym wir. A ydym ni'n gwneud y ddadl? Yn sicr, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gydnabyddiaeth o hynny trwy'r adolygiad o wariant. Yn wahanol i'r Torïaid, mae yna gydnabyddiaeth y bu tanfuddsoddiad enfawr o dan y Ceidwadwyr. Mae'r rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn rhan o'r sefyllfa seilwaith rheilffyrdd ehangach honno. Roedd y prosiect HS2 yn eithriad i hynny, a dyna pam rydym ni'n gwneud y ddadl mewn ffordd ar wahân. Ond os hoffech i'm swyddogion fynd drwy sut mae'r setliad datganoli yn gweithio gyda chi, rwy'n fwy na hapus i gynnig y cyfle hwnnw.

Felly, dim ond i fod yn eglur, fe wnaethoch chi gytuno yn y pen draw bod cyllid HS2 yn anghywir, ond rydych chi'n sefyll gyda'r penderfyniad ar Rydychen i Gaergrawnt. Byddwn yn dod yn ôl ac yn eich herio chi ar hynny. Mae'r Prif Weinidog yn hoffi rhoi ei gwersi bach, onid yw hi? Wel, y wers sy'n eglur iddi hi, o ran y dylanwad sydd ganddi ar Keir Starmer ac ar Lafur y DU, yw ei fod yn union sero.

Nid wyf i'n gwybod beth y mae'r Prif Weinidog yn ei chael mor anodd am wleidyddiaeth. Os ydych chi'n credu mewn rhywbeth, yna ymladdwch drosto a phleidleisiwch drosto. Mae Cymru yn haeddu gwell na Phrif Weinidog sy'n cael ei harwain, yn blwmp ac yn blaen, gan bolau ac nid gan egwyddor. Fe wawdiodd Plaid Cymru, oni wnaeth, am wneud y ddadl dros ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Pleidleisiodd yn erbyn cynnig Plaid Cymru ar ddiddymu'r cap budd-dal dau blentyn. Nawr mae'n ymddangos ei bod yn cytuno â ni ac yn dweud, ac rwy'n dyfynnu yma, ei bod hi'n 'bryderus iawn am dlodi plant'. Ble oedd y pryder hwnnw pan gefnodd ei phlaid ar ei tharged o ddileu tlodi plant yn ôl yn 2016? Mae'n debyg bod y newid meddwl oherwydd bod ei chydweithwyr Llafur yn Llywodraeth y DU yn awgrymu nawr y gallai diddymu'r cap fod yn bosibilrwydd. Felly, hoffwn wybod, os bydd y cap budd-dal dau blentyn yn cael ei ddiddymu mewn gwirionedd—ac mae'n dal i fod yn fater o 'os'—sut wnaiff agwedd Llywodraeth Cymru at ei strategaeth dlodi ei hun newid? A wnaiff y Prif Weinidog yn ymrwymo i ailgyflwyno targedau tlodi plant, fel y galwyd amdano gan yr holl arbenigwyr yn y maes? Neu a fydd hwn yn achos arall o Lafur yn dweud un peth ac yn gwneud un arall?

13:50

Mae hyn yn anhygoel i mi. 'Os ydych chi'n credu ynddo, pleidleisiwch drosto'—wnaethoch chi ddim pleidleisio dros £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol. Dydych chi ddim yn ei gredu. Dydych chi ddim yn ei gredu. Felly gwrandewch ar hyn. Mae'n werth—[Torri ar draws.] Mae'n werth—[Torri ar draws.] Mae'n werth myfyrio ar hyn, oherwydd mae'n bwysig iawn bod pobl Cymru yn clywed hyn. Ni wnaiff Plaid Cymru bleidleisio dros arian ychwanegol i ddod i mewn i Gymru i gynorthwyo'r broses o leihau'r niferoedd ar ein rhestrau aros—dyna'r gwirionedd—oherwydd nid yw'n ddigon. Nid yw'n ddigon. Meddyliwch chi am oblygiadau'r hyn y mae hynny yn ei olygu pe baen nhw fyth yn arwain yng Nghymru. Byddai'n drychinebus. Ni fyddech byth yn cael cyllideb drwodd, oherwydd ni fyddai fyth yn ddigon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cyhoedd yng Nghymru yn clywed hyn yn groch ac yn eglur iawn.

O ran y cap budd-dal dau blentyn, gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur bod yr Ysgrifennydd dros gyfiawnder cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n eglur dro ar ôl tro yng ngrŵp gweinidogion Llywodraethau'r pedair gwlad nad ydym ni'n cytuno â'r polisi hwn. Nid yw hyn yn fater o ganlyn y llif. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn eglur yn ei gylch ers nifer o flynyddoedd. Mae'n syniad wedi'i ysbrydoli gan y Torïaid, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n eglur iawn yr hoffem ni ei weld yn cael ei newid.

Mae gennym ni Brif Weinidog mewn picil, ac mae gennym ni Brif Weinidog mewn panig. O ran y gyllideb, gadewch i ni fod yn eglur iawn, iawn: yr hyn sydd gennym ni yw sefyllfa lle mae Llafur yn derbyn beth bynnag y mae Keir Starmer yn ei ddweud y dylai Cymru fod yn ddiolchgar amdano. Nid yw Plaid Cymru yn ei dderbyn. Byddwn ni'n sefyll yn gadarn dros yr hyn sy'n iawn i Gymru.

Gadewch i mi grynhoi. Mae partneriaeth Llafur mewn grym yn gadael Cymru yn wynebu—gadewch i ni ei alw yr wythnos hon yn 'ergyd pedwarplyg'. Dweud un peth a phleidleisio ffordd arall ar y cap budd-dal dau blentyn; gadael Cymru yn brin o £70 miliwn o ran yswiriant gwladol; dynodi prosiect rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt yn gynllun Cymru a Lloegr, gan wrthod cannoedd o filiynau o bunnoedd i ni mewn cyllid eto, HS2 arall; ac, yn olaf, rydym ni hefyd bellach wedi gweld yr unig sesiwn ymgynghori cyhoeddus yng Nghymru ar ddyfodol taliadau annibyniaeth personol yn cael ei chanslo. Mae'n ymddangos bod Llafur wedi cefnu ar Gymru yn llwyr, felly nid yw'n syndod bod Cymru yn cefnu ar Lafur. Ai dyma'r etifeddiaeth yr oedd y Prif Weinidog wedi bod yn gobeithio amdano?

Wel, gallaf anfon copi o fy araith 'ffordd Gymreig goch' ato os hoffai i mi wneud hynny. Dim ond i'w gwneud hi'n glir, rwyf i wedi gwneud y ddadl. Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur lle rwy'n siomedig gyda Llywodraeth y DU. Ond fe ddywedaf unwaith eto ein bod ni wedi cael y cynnydd mwyaf yr ydym ni erioed wedi ei gael yn hanes datganoli, ac fe wnaethoch chi—a chi—bleidleisio yn ei erbyn. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn yr arian ychwanegol hwnnw ar gyfer tyllau mewn ffyrdd, arian ychwanegol i'r GIG, arian ychwanegol ar gyfer addysg. Pob un o'r pethau hynny, fe wnaethoch chi geisio rhwystro'r arian hwnnw rhag mynd i mewn i'ch cymunedau. Roedd yn siomedig dros ben, ac mae pobl Cymru wedi nodi hynny.

Nawr, o ran rheilffordd Rhydychen a Chaergrawnt, gadewch i ni fod yn eglur: mae angen i chi ddeall sut mae'r system yn gweithio. Os nad ydych chi'n deall sut mae'r system yn gweithio—. Mae'n wahanol iawn i HS2, ac, os nad ydych chi wedi deall hynny, mae angen i chi fynd yn ôl a gweithio allan sut mae'r system yn gweithio. Nid yw'r system hon wedi'i datganoli. Mae wedi'i datganoli yn yr Alban. [Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, a byddwn yn parhau i wneud y ddadl dros gyllid ychwanegol o ran rheilffyrdd. Rwy'n obeithiol; rwyf i wedi gwneud y ddadl yn eglur iawn, iawn, o ran rheilffyrdd, ein bod ni wedi cael cam, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael rhywfaint o symudiad ar hynny yn yr wythnos nesaf o'r adolygiad o wariant.

13:55
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi amodau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol? OQ62797

Yr awdurdodau cynllunio sy’n gyfrifol am orfodi pob caniatâd cynllunio.

Prif Weinidog, yn ystod toriad y Senedd, ymwelais â fferm wynt Hendy ym Mhowys. Fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi'n gwybod, gan ein bod ni'n rhannu'r un rhanbarth, bu mwy na chwe blynedd ers i'r tyrbin cyntaf gael ei godi yn Hendy, ond nid yw wedi cynhyrchu yr un watt o drydan eto. Rhoddwyd caniatâd ar gyfer y fferm wynt dros ben yr awdurdod lleol, ac mae'r amodau cynllunio yn nodi'n eglur, os nad oedden nhw'n cynhyrchu trydan erbyn 31 Awst 2021, yna dylid cael gwared ar y tyrbinau yn Hendy. Ond nid yw hyn erioed wedi cael ei orfodi, ac mae'r tyrbinau yn parhau i fod yn segur. A ydych chi'n cytuno â mi fod Hendy yn nodweddiadol o gynifer o'r problemau gyda system ynni Cymru: datblygiadau graddfa fawr gan gwmnïau amlwladol nad ydyn nhw'n ymateb i anghenion neu bryderon lleol, ac sydd mor aml ddim yn gweithio i'n cymunedau? A ydych chi hefyd yn cytuno nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell i orfodi amodau cynllunio ar ddatblygiadau o'r raddfa hon i orfodi ei rhagdybiaeth honedig o blaid tanddaearu, neu i hyrwyddo'r mathau o atebion ynni sy'n eiddo i'r gymuned sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd?

Diolch. Wel, mae gennym mi darged i ddiwallu 100 y cant o'n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae hwnnw'n darged uchelgeisiol, ond mae gennym ni gynlluniau eglur iawn i wneud hynny. Nid yw'n golygu ein bod ni'n cefnu ar bolisïau sy'n diogelu'r amgylchedd, amwynder preswyl neu ddiogelwch priffyrdd, felly ceir rheolau eglur ynglŷn â hyn. Ond nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am y ffaith fod gennym ni uchelgeisiau enfawr yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni wedi cyfrannu adnoddau ychwanegol at gynllunio—adnoddau ychwanegol sylweddol at gynllunio—yn dangos ein huchelgais yn y maes hwn. Ac rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod Trydan Gwyrdd Cymru wir yn cael arwain llawer mwy o'r prosiectau hyn, fel y gallwn ni gadw mwy o'r budd hwnnw yng Nghymru.

O ran gorfodi, nid yw Gweinidogion Cymru yn ymyrryd â materion cynllunio sy'n rhan o awdurdodaeth awdurdodau cynllunio, gan gynnwys y penderfyniad ar ba un a ddylid cymryd camau gorfodi ffurfiol. Ond rydym ni'n monitro perfformiad cyffredinol awdurdodau sy'n ymchwilio i achosion honedig o ddiffyg cydymffurfiad â rheolaethau cynllunio. Felly, fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymchwilio i'r achos penodol hwnnw.

Cyfraniad ardderchog gan Cefin Campbell yn y fan yna. Gorfodi—[Chwerthin.]

Iawn. Felly, mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 mewn gwirionedd yn symleiddio—neu i fod i—y broses ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith sylweddol trwy sefydlu un broses cydsynio seilwaith ar gyfer mathau penodedig o brosiectau seilwaith mawr. Ac mae eich un chi, yn fy marn i, wedi'i gwmpasu gan hynny. Nid yw'r broses cydsynion seilwaith fel rheol yn dod i ben ar ôl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad i roi cydsyniad. Fel gydag unrhyw ganiatâd a roddir, bydd cyfrifoldebau i fodloni gofynion a'r potensial ar gyfer diwygiadau i'r prosiect cydsynio.

Rhwng 19 Medi a 13 Rhagfyr y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar weithredu'r Ddeddf hon mewn gwirionedd. Chwe mis yn ddiweddarach, ac mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi, ac rwy'n dyfynnu—felly, eich gwefan Llywodraeth Cymru chi yw hon, Gweinidog—

'Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.'

Nawr, wrth basio'r Bil, roeddwn i'n gyson, ar bob cam o gyflwyno'r Bil hwn, bod gormod o or-ddibyniaeth ar is-ddeddfwriaeth, a diffyg manylion, gan ofni y byddem ni'n wynebu oedi neu broblemau, fel y rhai y mae Cefin wedi cyfeirio atyn nhw. Prif Weinidog, mae'r achosion hynny o oedi yn ymddangos bellach, felly beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau, lle mae angen gorfodi, yn enwedig nawr bod gennym ni'r Bil seilwaith, beth ydych chi'n mynd i'w wneud mewn gwirionedd i sicrhau bod y Bil seilwaith hwnnw yn werth mwy na'r papur y mae wedi ei ysgrifennu arno, a'ch bod chi'n dechrau dilyn y drefn briodol o ran gorfodi? Diolch.

14:00

Diolch yn fawr iawn. Wel, fel y dywedais i, rydym ni wedi cyfrannu adnoddau ychwanegol sylweddol at y maes cynllunio, ac adnoddau ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn arbennig, £5 miliwn ar gyfer hynny; mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi cael £1.9 miliwn; ac mae gan y gyfarwyddiaeth gynllunio £1.8 miliwn. Felly, nid yw hwnnw'n swm dibwys o gyllid ychwanegol eleni. Nawr, yr hyn sydd gennym ni, fel yr wyf i wedi ei nodi, yw proses rheoli datblygiad effeithiol, ac mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio fod yn barod i gymryd camau gorfodi o dan amgylchiadau priodol. Mae achos Hendy yn dangos efallai fod angen i ni edrych ar strategaeth gyffredinol yr hyn sy'n digwydd o ran hynny, ac fel y dywedais i, rwyf i wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ymchwilio i'r achos penodol hwnnw.

Rwy'n cymryd darparu a gorfodi amodau cynllunio o ddifrif ar gyfer pob mater, gan gynnwys y rhai o arwyddocâd cenedlaethol. Maen nhw, wrth gwrs, yn rhan o becyn sy'n cynnwys darparu'r prosiect ei hun na ddylem ni ei anghofio.

Mae Parcffordd Caerdydd, yn fy etholaeth i, yn enghraifft dda o hyn: prosiect sylweddol â budd economaidd sylweddol yng Nghaerdydd ac ymhell y tu hwnt, sydd ag amodau'n gysylltiedig ag ef. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu momentwm ynghylch y ddarpariaeth o brosiectau cyfan o arwyddocâd cenedlaethol. Ym Mharcffordd Caerdydd, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn bartner menter ar y cyd. Rwyf i eisiau gweld Cymru fel man lle mae uchelgeisiau yn cael eu gwireddu, nid yn cael eu trafod yn unig, ond yn cael eu cyflawni'n weithredol, lle a gwlad lle mae pethau'n digwydd, ac mae hyn yn rhan ohono. Ac, wrth gwrs, Prif Weinidog, mae'n rhan o un o'ch pedair blaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth hon.

Yn sicr. Rydym ni'n cytuno, rwy'n credu, bod angen i ni mewn gwirionedd roi mwy o bwyslais ar ddatblygiad economaidd, bod angen i ni ysgogi twf yr economi yng Nghymru. Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol nawr i adeiladu ar y datblygiadau cychwynnol sy'n digwydd ym Mharcffordd Caerdydd, ac mae'r potensial yno wir yn sylweddol. Un o'r rhesymau am hynny ac i ddangos pa mor ddifrifol ydym ni am hyn, byddwn, wrth gwrs, yn cynnal uwchgynhadledd fuddsoddi yn ddiweddarach eleni, a fydd yn rhoi'r cyfle i ni nid i siarad, ond i gyflawni o ran y buddsoddiad ychwanegol hwnnw y mae gennym ni ddiddordeb mewn ei ddenu i'n cenedl.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i ddychwelyd at y mater a godwyd gan Cefin Campbell, rydym ni i gyd eisiau gweld Cymru yn arwain o ran ynni adnewyddadwy, ond yr hyn sy'n allweddol iddo yw gweithio gyda chymunedau, ac nid yw hynny wedi digwydd o ran fferm Hendy. Mae gennym ni gynllun arall—ceir llawer ar draws y canolbarth—yn ymwneud â chodi peilonau o goedwig Maesyfed i sir Gaerfyrddin. Naw deg saith cilomedr o beilonau dur, a cheir pryder gwirioneddol yn ein cymunedau yma. Rydym ni'n gwybod yn sir Faesyfed fod gennym ni drysorau cenedlaethol yno. Mae gennym ni goetiroedd cwm Elan yng nghoedwig genedlaethol Cymru; mae gennym ni eco-brosiectau fel gwarchodfa natur Gilfach. Mae pobl yn sir Faesyfed ac ar draws y canolbarth eisiau atebion sy'n wyrdd ac yn diogelu'r lleoedd arbennig hyn. Mae llawer o ffermwyr wedi dweud wrthyf i y bydden nhw'n agor eu gatiau pe bai Llywodraeth Cymru yn gorfodi tanddaearu'r peilonau arfaethedig hynny. Roeddem ni'n disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi ar grid ynni Cymru yn y dyfodol ddiwedd mis Mawrth gan y grŵp cynghori annibynnol. Nid yw gennym ni o hyd. A allech chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pryd y disgwylir i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd iawn, onid oes, o ran yr angen i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy, yr wyf i'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno ag ef, a fforddiadwyedd. Ceir problem enfawr gyda thlodi ynni a thanwydd yng Nghymru. Os byddwn ni'n tanddaearu popeth, gadewch i ni fod yn eglur, bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr, a fydd yn gwthio'r prisiau i fyny i bobl yn ein cymunedau. Dyna realiti'r sefyllfa. Felly, mae'n un peth neu'r llall. Nawr, rydym ni'n ceisio cael y cydbwysedd hwnnw yn iawn. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnwys cymunedau yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu.

Rwyf i wedi bod yn ymchwilio llawer i danddaearu. Sut mae'n edrych? Faint mae'n ei gostio? Beth yw'r problemau technegol sy'n gysylltiedig ag ef? Ac mae'n llawer mwy cymhleth nag yr oeddwn i'n ei feddwl i gychwyn, ac felly rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn datblygu dealltwriaeth o ran beth yw'r problemau technegol sy'n gysylltiedig â thanddaearu, oherwydd rydych chi'n achosi cryn dipyn o ddifrod o ran tanddaearu hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gychwyn dadl resymegol yma. Gadewch i ni gael y cydbwysedd rhwng costau ynni a'r angen i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Rwyf i wedi bod yn annog y grŵp i gyhoeddi eu hargymhellion cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod bod gwahaniaethau, efallai, o ran barn o fewn y grŵp, felly rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y cydbwysedd hwnnw yn iawn a'u bod nhw'n barod i gyhoeddi cyn gynted ag y gallwn ni. Felly, fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd yr economi eto i weld a allwn ni gyflymu cyhoeddiad yr adroddiad hwnnw.

14:05
Cytundeb rhwng y DU a'r UE

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb rhwng y DU a'r UE ar Gymru? OQ62789

Rwy'n croesawu'r ymdrech o'r newydd i wella cysylltiadau rhwng y DU a'r UE a'r cyfleoedd y bydd y cyhoeddiadau a wnaed yn uwchgynhadledd y DU-UE yn eu rhoi i bobl Cymru. Mae llawer o'n blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn y cytundeb, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ategu'r y rhain, yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n gytundeb sy'n cyflawni dros fusnesau Cymru yn y sectorau bwyd a diod, amddiffyn, ynni a dur, a fydd yn elwa o lai o rwystrau masnach a mwy o fuddsoddiad mewn swyddi, ac i bobl Cymru, a fydd yn elwa o filiau bwyd ac ynni is, ciwiau byrrach ar eu gwyliau, a strydoedd mwy diogel, diolch i fwy o gydweithio ar orfodi'r gyfraith. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi bod y cytundeb hwn yn cynrychioli cynnydd synhwyrol, twf a sefydlogrwydd, mewn cyferbyniad â chytundeb Brexit aflwyddiannus y Torïaid a gwrthwynebiad ideolegol Reform i weithio o fewn Ewrop o gwbl?

Diolch yn fawr iawn, Joyce, ac, rydych chi'n gwbl gywir, mae hwn yn gytundeb arwyddocaol iawn. Mae'n bwysig iawn i bobl Cymru. Gwnaed addewidion i bobl Cymru o ran pleidleisio dros Brexit, ac nid yw'r addewidion hynny wedi cael eu hanrhydeddu. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gostyngiad enfawr i nifer y nwyddau sy'n cael eu hallforio i'r UE—gostyngiad o 25 y cant. Dyna realiti'r sefyllfa, ac mae hynny'n trosglwyddo i swyddi. Mae'n trosi'n ddiffyg arian yn ein cymunedau. Felly, mae'r rhain yn bethau go iawn sy'n effeithio ar bobl, a dyna pam rwy'n falch ein bod ni'n cyrraedd perthynas agosach â'r UE. A yw mor agos ag yr hoffwn i? Nac ydy. Rydych chi'n gwybod fy mod i'n frwdfrydig am Ewrop; nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny. Dyna'r sefyllfa. Ni fyddai neb yn fy nghredu pe bawn i'n dweud unrhyw beth arall.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fodd bynnag, ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn gytundeb da i Gymru, y bydd y cytundeb iechydol a ffytoiechydol yn arbennig yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr, yn enwedig i'n hallforion bwyd a diod o Gymru. Ac rwy'n arbennig o falch o weld eu bod nhw'n mynd i edrych nawr ar ailgyflwyno rhaglen gyfnewid ieuenctid, gan fy mod i'n credu mai cyfnewidiadau pobl i bobl yw'r pethau sy'n wirioneddol bwysig, y pethau sy'n sail i'r cysylltiadau o fewn yr UE. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyflwyno ein rhaglen Taith ein hunain, ond mae'n llawer gwell os gallwn ni wneud hynny fel y Deyrnas Unedig hefyd.

O'r holl ddiwydiannau a bleidleisiodd â mwyafrif llethol dros adael yr UE, roedd pysgota yn un ohonyn nhw, felly nid yw'n syndod mai'r diwydiant sydd wedi cael ei gythruddo fwyaf gan y cytundeb hwn yw'r sector pysgota, gan fod cychod pysgota Ewrop wedi cael mynediad am 12 mlynedd arall at ddyfroedd Prydain. Nawr, cawsoch eich cadw allan o'r trafodaethau hyn, ac rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau mwy o drafodaeth ar hyn, ond beth ydych chi'n ei ddweud wrth y pysgotwyr hynny yng Nghymru sydd wedi cael eu bradychu gan Keir Starmer a'r cytundeb hwn?

Fe ddywedaf i wrthych chi beth wnaf i ei ddweud wrthyn nhw: fe wnaf i ddweud wrthyn nhw mai'r cwbl yw hwn yw estyniad o'r cytundeb y gwnaeth eich plaid chi gytuno iddo, a'r gwir amdani yw os edrychwch chi ar y manteision sy'n dod allan o'r rhaglen hon, o ran y potensial ar gyfer mwy o fasnach, os edrychwch chi ar y cyfleoedd o ran pethau fel ein gallu i dendro ar gyfer caffael o ran amddiffyn—mae gennym ni tua 20,000 o bobl yn gweithio ym maes amddiffyn ac awyrofod yng Nghymru—ceir cyfleoedd gwirioneddol yno i ni fanteisio ar y system honno. Y gwir yw, yng Nghymru, bod tua 109 o bobl cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ym maes pysgota yng Nghymru, ac felly, ydy, maen nhw'n bwysig, ond mae'n bwysig cydnabod mai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ymestyn yr union gytundeb a gyflwynwyd gan eich plaid chi yn y lle cyntaf.

14:10

Wrth gwrs, ceir nifer o bethau i'w croesawu yn y cytundeb hwnnw, symudedd ieuenctid yn un arbennig yr oeddwn i'n hapus i'w weld yn y cytundeb. Ond ni fyddwn i'n mynd mor bell â dweud mai'r cytundeb yw'r peth gorau ers cyn cof. Hynny yw, mae'n rhaid i chi edrych ar rai o'r asesiadau economaidd sydd wedi dod allan o ganlyniad i'r cytundeb hwn. Mae rhai ohonyn nhw'n awgrymu y byddwn ni'n gweld hwb o ddim ond 0.3 y cant i economi'r DU erbyn 2040, sy'n cymharu â'r ergyd o 4 y cant i gynnyrch domestig gros sydd eisoes wedi taro economi'r DU ers Brexit. Felly, yn syml, nid yw'n mynd i wneud fawr ddim gwahaniaeth. Felly, yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Prif Weinidog yw cadarnhad pa un a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei hasesiad ei hun o'r hyn y bydd y twf rhagamcanol hwn ledled y DU yn ei ychwanegu at economi Cymru yn benodol. A pha mor bell mae'n mynd i wneud iawn am y difrod economaidd gwerth dros £5 biliwn y mae eich Llywodraeth wedi ei amcangyfrif yn flaenorol fel y gost i Gymru o fod y tu allan i'r farchnad sengl a'r undeb tollau?

Wel, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod effaith Brexit ar Gymru yn fwy nag yr oedd, yn siarad yn gymharol, ar weddill y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod gennym ni sector yng Nghymru sydd—. O ran nwyddau, rydym ni'n allforio mwy o nwyddau. Mae gennym ni gydbwysedd sy'n fwy cysylltiedig â nwyddau nag yn gysylltiedig â gwasanaethau, ac mae hynny wedi golygu ein bod ni wedi cael mwy o ergyd. Tua £10 biliwn yw gwerth allforion nwyddau Cymru i'r UE, rydym ni'n credu, sydd tua 5.1 y cant yn is nag yr oedd yn 2018. Felly, byddwn ni'n gweld, gobeithio, hynny'n dod yn ôl i fyny. Nid wyf i'n siŵr a fyddwn ni'n dychwelyd i le'r oeddem ni o'r blaen, ond yn sicr bydd datgymalu rhai o'r rhwystrau hynny, a fydd yn deillio o ganlyniad i'r cytundeb hwn, yn ein helpu i allforio mwy ac i ddarparu mwy o swyddi yn economi Cymru.

Gan un sy'n frwdfrydig am Ewrop i un arall, mae'n dda clywed y Prif Weinidog yn derbyn bod Brexit wedi bod yn drychineb llwyr i Gymru ac wedi methu â chyflawni unrhyw un o'r addewidion a wnaed ar y pryd. Fel y Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cytundeb a wnaed fis diwethaf gan Lywodraeth y DU fel cam cyntaf tuag at ail-ymgysylltu strwythuredig â'r Undeb Ewropeaidd, gan arwain at ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd dyna lle mae ein dyfodol ni. Bydd unrhyw un sydd wedi gwylio gwleidyddiaeth y DU, Ewrop a'r byd dros y blynyddoedd diwethaf yn deall hynny. Ond rwy'n deall na fydd y Torïaid.

O ran ble'r ydym ni'n mynd nawr, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal dadl yn y lle hwn, fel y gallwn ni i gyd drafod y ffordd ymlaen i Gymru yn ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru gydsyniad y Senedd hon i sicrhau, pan fyddwn ni'n mynd â Chymru yn agosach at yr Undeb Ewropeaidd, ein bod ni'n dod â'r bobl gyda ni?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, ym mha beth bynnag yr ydym ni'n ei wneud, ein bod ni'n ceisio dod â phobl Cymru gyda ni. Mae'n un o'r rhesymau pam yr aeth y Cabinet cyfan ddoe i Aberystwyth, dim ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwrando ar bob rhan o Gymru, ein bod ni'n cofleidio pob rhan o Gymru, bod dealltwriaeth bod angen i ni, er enghraifft, ystyried anghenion a phryderon ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd trefol, a byddwn yn gwneud hynny mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Felly, mae dod â'r bobl gyda ni yn hanfodol.

Rwy'n credu bod hynny'n broblem o ran ein haelodaeth o'r UE. Ni wnaethom ni'n dda o ran gwerthu'r manteision a thynnu sylw at y buddion enfawr iawn y mae pobl, yn enwedig yn yr ardaloedd tlotaf, fel y gymuned yr ydych chi'n ei chynrychioli, wedi elwa ohonyn nhw mewn gwirionedd. Dylem ni fod wedi gwneud gwaith gwell. Mae her i ni, rwy'n credu, yn Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod pobl yn deall faint maen nhw'n ei gymryd yn ganiataol, yr ydym ni'n ei roi iddyn nhw bob dydd gan Lywodraeth Cymru, a gallai rhywfaint o hynny fod o dan fygythiad pe bai, er enghraifft, Reform yn cael gafael ar awenau grym yn y lle hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn tanlinellu'r cyfleoedd o ran y cytundeb hwnnw, yn enwedig pethau fel dur, lle ceir cytundeb na fyddan nhw'n gorfodi trethi arnom ni. Roeddwn i'n falch ein bod ni'n rhan o drafodaethau yn y cyfnod cyn y cytundeb, ac roedd yn dda bod cynifer o'n pwyntiau wedi cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.

14:15
Gwarchod Tir Fferm o'r Ansawdd Uchaf rhag Datblygiadau

5. Pe gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod tir fferm o'r ansawdd uchaf rhag datblygiadau? OQ62803

Tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas Cymru yw un o'n hadnoddau naturiol pwysicaf, sydd y gorau am allu cynhyrchu bwyd a chnydau eraill. Dylid ei ddatblygu dim ond os oes angen dirfawr a phan nad yw safleoedd tir llwyd ar gael ac nad oes dewis arall mewn gwirionedd.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Mae trigolion yn fy rhanbarth i wedi dweud wrthyf i eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu dal heb unrhyw amgyffrediad o gynnig ar gyfer fferm solar 304 erw a fyddai'n ymestyn dros dair ffin rhwng awdurdodau lleol yn fy rhanbarth i. Mae'r fferm solar arfaethedig o gwmpas Ponthir, sydd ymhell iawn o fod yn brosiect cymunedol, yn cael ei gwthio drwodd gan gwmni rhyngwladol heb unrhyw ymgynghoriad â'r cyhoedd. Mae'r trigolion yn ddig, yn bryderus ac yn rhwystredig oherwydd diffyg ymgynghoriad priodol ynglŷn â'r effaith weledol ddinistriol y byddai hon yn ei chael ar y dirwedd syfrdanol yn yr ardal honno, heb sôn am y perygl ychwanegol i'n diogeledd bwyd ni yn y dyfodol.

Rydych chi wedi datgan eich uchelgeisiau heddiw ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ond a fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, na all y nodau hyn fod ar draul ein diogeledd bwyd? A fyddech chi'n derbyn fy ngwahoddiad i ddod i ymweld â'r safle i edrych ar harddwch a gwerth y tir amaethyddol hwnnw sydd mewn perygl, a chlywed pryderon trigolion lleol yn sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd? Ac a wnewch chi ymrwymo i atal unrhyw gynnydd ar y cynigion hyn oni bai fod ymgynghoriad agored a lleol priodol wedi cael ei gynnal? Diolch.

Wel, mae polisi cynllunio yn ei gwneud hi'n eglur na ddylid datblygu tir nawr heblaw bod angen gwneud hynny, o ran tir amaethyddol o'r radd flaenaf a phan nad oes dewis arall, fel safle tir llwyd neu dir llai gwerthfawr. Felly, fe fyddwn ni'n defnyddio talfyriad ar gyfer hyn sef 'y gwaethaf yn gyntaf'. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gwirio a yw'r tir yr ydych chi'n sôn amdano yn cydymffurfio ac yn y categori hwnnw o dir amaethyddol o'r radd flaenaf neu beidio. Rydym ni'n darparu gwybodaeth am ddim ar-lein ynglŷn â pha le y mae'r tir amaethyddol hwnnw o'r radd flaenaf i'w gael, ac felly fe fyddwn i'n eich annog chi i edrych ar hynny, ac rydym ninnau'n cefnogi hyn gyda chyngor am ddim gan ein tîm polisi pridd, er mwyn i chi cael cipolwg i weld a yw hwnnw yn yr ardal honno. Os felly, yna rwyf i o'r farn y bydd ganddyn nhw sail dda i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Gwariant Gwastraffus a Biwrocratiaeth

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i nodi a gwaredu gwariant gwastraffus a lleihau biwrocratiaeth ar draws ei hadrannau a'i chyrff a ariennir yn gyhoeddus? OQ62774

Mae pawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu cyfrifoldeb personol am stiwardio arian trethdalwyr. Mae 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' yn nodi'r fframwaith a'r egwyddorion y mae'n rhaid eu cymhwyso yn Llywodraeth Cymru a'i chyrff noddedig.

Prif Weinidog, mae pobl ledled Cymru yn ddig, ac yn briodol felly. Er eu bod nhw'n wynebu anawsterau gwirioneddol o ddydd i ddydd, ynglŷn â thai, amseroedd aros y GIG a pherfformiad addysgol gwael, mae eich Llywodraeth Lafur chi yng Nghymru yn benderfynol o wastraffu eu harian nhw. Gadewch i mi fynd trwy rywfaint o'r gwariant gwastraffus y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud: £1.5 miliwn ar gomisiwn i edrych ar annibyniaeth i Gymru; £120 miliwn ar fwy o wleidyddion; £150 miliwn ar ffordd liniaru'r M4—ffordd sydd heb fynd i'r unlle; £2.8 miliwn ar ardrethi busnes ar gyfer adeiladau hanner gwag Llywodraeth Cymru; a £250,000 wedi cael ei wario ar brosiect i gyfrif gwyfynod. Wel, dywedwch y gwir.

Mae'r cyhoedd yn ddig, Prif Weinidog, ac maen nhw'n awyddus i bob elfen o wariant cyhoeddus fod yn destun craffu priodol. Felly, wnewch chi esbonio i'r bobl hynny, Prif Weinidog, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn cyfyngu ar fiwrocratiaeth, a ddim yn lleihau gwastraff wrth wario'r arian y gweithiodd y trethdalwyr mor galed amdano?

A ydych chi'n awyddus i gymharu ystadegau? Fe roddaf i ystadegau i chi: dileodd y Llywodraeth Dorïaidd £10 biliwn o ran cyfarpar diogelu personol, a oedd yn ddigon i dalu am y GIG cyfan yng Nghymru am flwyddyn gyfan—nid siarad am filiynau ydym ni, ond biliynau; £140 miliwn ar gytundeb gyda Rwanda na ddaeth i'r golwg erioed; £1.7 miliwn ar beintio awyren y Prif Weinidog; £3 biliwn ar logi gweithwyr dros dro i wneud swyddi gweision sifil; a £0.5 biliwn ar safleoedd arolygu ar ôl Brexit na chafodd eu defnyddio erioed. Fe allem ni fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Peidiwch â dod o'r Blaid Dorïaidd i sôn wrthyf i am wastraff. Y chi yw'r arbenigwyr ar wastraff.

14:20
Amseroedd Aros y GIG ym Mhowys

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw cleifion ym Mhowys yn aros yn hwy na tharged Llywodraeth Cymru i gael triniaeth? OQ62767

Rwyf i wedi ymrwymo i fyrhau amseroedd aros a sicrhau bod pawb yng Nghymru, yn cynnwys pobl ym Mhowys, yn gallu cael gafael ar driniaethau mewn ffordd sy'n gyfartal ac amserol. Mae'n rhaid i bob un o sefydliadau GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau nhw sy'n unol â nodau Llywodraeth Cymru ac o fewn terfynau'r adnoddau ariannol a staffio sydd ar gael.

Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Mewn datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru lai na phythefnos yn ôl, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd iechyd fod bwrdd iechyd Powys

'heb unrhyw gleifion yn aros mwy na...2 flynedd am driniaeth.'

Nid yw hynny'n wir, nid yw'r datganiad hwnnw'n gywir. Wrth gwrs, rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod bod llawer o gleifion ym Mhowys yn cael eu triniaethau dros y ffin yn Lloegr ac mewn ysbytai eraill mewn rhannau eraill o Gymru. Wrth gwrs, mae hi'n wir dweud nad oes unrhyw glaf ym Mhowys yn aros am driniaeth mewn ysbyty cyffredinol rhanbarthol yn y sir, oherwydd nid oes ysbyty cyffredinol rhanbarthol yn y sir. Felly, mae hyn yn dangos camddealltwriaeth sylfaenol o sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu comisiynu a chleifion yn cael gwasanaethau gofal iechyd ym Mhowys. Rwy'n gofyn i chi gywiro'r datganiad hwnnw heddiw, Prif Weinidog, ac rwy'n estyn y cyfle hwnnw i chi.

Wrth gwrs, gan ddechrau'r mis nesaf, fe wyddom ni y bydd cleifion Powys yn aros am fwy eto hyd yn oed na chleifion Lloegr pan fyddan nhw'n cael eu triniaethau mewn ysbytai yn Lloegr, am nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i gamu i'r adwy a chael arian i fwrdd iechyd Powys fel y gall ariannu cleifion yn seiliedig ar y nodau o ran amseroedd aros yn Lloegr. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, dderbyn bod llawer o gleifion ym Mhowys yn aros am fwy na dwy flynedd mewn gwirionedd am driniaeth, a gofyn i chi beth yr ydych chi a'ch Llywodraeth am ei wneud ynglŷn â hyn?

Rwy'n falch iawn wir ein bod ni wedi cyflawni ein nod sef fod tua 8,000 o bobl yn aros am ddim hwy na dwy flynedd am driniaeth ar ddiwedd mis Mawrth. Roedd hwnnw'n rhywbeth pwysig i'w ddathlu yn fy marn ni a chydnabod y gwaith caled anhygoel a wnaeth staff y GIG. Mae hi'n bwysig canmol y bobl hyn pan fo nhw wedi cyflawni tu hwnt i bob disgwyliad gyda'r arian ychwanegol a gawsom ni o ganlyniad i fod â Llywodraeth Lafur y DU yn San Steffan.

Nawr, gadewch i mi ddweud wrthych chi ei bod hi'n werth atgoffa pobl mai'r amser aros am driniaeth ar gyfartaledd yng Nghymru yw 22 wythnos. Rydych chi'n iawn, nid oes unrhyw gleifion yn aros am driniaeth o fewn bwrdd iechyd Powys, ond fe'i cefais hi'n ddihysbydd ddiddorol o ddarganfod mai 40 o bobl sy'n aros am driniaeth gan ddarparwyr nad ydyn nhw yng Nghymru. Felly, yn Lloegr y mae hynny. Maen nhw'n aros. Mae tua 81 o bobl ym Mhowys yn aros am driniaeth am ddwy flynedd—40 ohonyn nhw'n aros am driniaeth yn Lloegr. Nid ni sy'n dweud wrthyn nhw am beidio â gwneud hynny, Lloegr sy'n araf, ac rwy'n gweld hynny'n ddihysbydd ddiddorol. Gwrandewch chi ar hyn—[Torri ar draws.]—gwrandewch chi ar hyn: dyna pam y mae'n rhaid i chi fod yn ofalus gydag ystadegau, oherwydd mae Lloegr yn taflu o gwmpas y ffaith bod ganddyn nhw 147 o bobl yn Lloegr i gyd sy'n aros am ddwy flynedd, ond mae 40 ohonyn nhw ym Mhowys. Nid wyf i'n coelio hynny am funud.

Y peth allweddol i'w gofio yw ein bod yn cyfrif mewn dull gwahanol iawn yng Nghymru o gymharu â Lloegr, a gadewch i ni fod yn hollol bendant nad yw bwrdd iechyd Powys wedi rhoi cyfarwyddyd i Loegr i beidio â thrin cleifion yn Lloegr. Yn syml iawn, nid yw hynny'n wir.

Canlyniadau Canser

8. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella canlyniadau canser yng Nghymru? OQ62801

Mae ein dull hirdymor ar gyfer gwella canlyniadau canser yng Nghymru wedi’i gyflwyno yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser ac yn y cynllun gwella canser ar gyfer NHS Cymru. Nod y cynllun yw gwella canlyniadau a phrofiadau pobl sy’n cael diagnosis o ganser, atal canser a’i ganfod yn gynharach a mynd i’r afael ag amseroedd aros.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb. Fe gynhelir angladd Claire O'Shea ddydd Gwener, ac mi fydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o rôl ymgyrchu Claire pan fo'n dod i ganser gynaecolegol ynghyd â nifer o bethau eraill, a dwi’n siŵr y bydd y Prif Weinidog a’r Siambr yma’n ymuno gyda fi i estyn ein cydymdeimladau i’w hanwyliaid. Ond mae canlyniadau cleifion canser gynaecolegol yn parhau yn siomedig o wael, gyda llai na hanner y cleifion yn derbyn triniaeth amserol, gyda loteri cod post am driniaeth yn parhau. Ac, wrth gwrs, rydyn ni’n ymwybodol nad oes yna ffocws ar ganserau gynaecolegol yng nghynllun iechyd merched Cymru. Felly, beth ydych chi am wneud i sicrhau'r ffocws angenrheidiol a chael gwared ar y loteri cod post sydd yn wynebu merched Cymru?

14:25

Diolch yn fawr. Dwi eisiau estyn fy nghydymdeimladau i hefyd i deulu a ffrindiau Claire O’Shea, sydd wedi gwneud cymaint i frwydro dros yr achos yma a nifer o achosion eraill yn ystod ei bywyd.

Mae gwella canlyniadau canser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac i’r NHS yng Nghymru. Rŷn ni wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i mewn i gyfleusterau newydd, ac rŷn ni wedi ffocysu ar ganser sy’n ymwneud â menywod hefyd, felly mae yna strategaeth bendant yn edrych ar sut y gallwn ni wella hynny, ac mae yna enghreifftiau o sut mae pethau wedi gwella yn y maes gynaecolegol, felly dwi’n falch iawn o weld hynny.

Beth sydd yn ddiddorol hefyd yw gweld bod liquid biopsies nawr ar gael ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â suspected advanced stage lung cancer. Felly, mae hwnna’n ddatblygiad, dwi’n meddwl, sydd yn eithaf exciting o ran lle y byddwn ni’n mynd yn y dyfodol yn y maes yma.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:27:06
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electroneg.

Diolch, Trefnydd. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â gofal diwedd oes yma yng Nghymru. Ddoe, fe eglurodd elusen Marie Curie yn y wasg fod rhai pobl yng Nghymru yn ynysig, yn byw mewn poen ac yn cael trafferth i wneud penderfyniadau oherwydd bylchau yn y gofal diwedd oes. Nid yw hyn yn dderbyniol, Trefnydd, ac mae hi'n amlwg bod rhaid i rywbeth newid. Nawr, fe fues i'n gweithio hefyd gyda Together for Short Lives a darparwyr hosbisau plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ac fe wn i fod heriau yn bodoli yn y sector hosbisau plant hefyd. Mae angen cyllid teg a chynaliadwy ar y sector, ac mae yna brinder gweithlu y mae angen mynd i'r afael â hwnnw hefyd.

Felly, Trefnydd, mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol bwysig, ac mae hi'n rhaid i ni sicrhau bod gofal lliniarol da ar gael yn hygyrch i unrhyw un sydd ag angen gwirioneddol amdano. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddem ni'n cael datganiad cyfredol gan Lywodraeth Cymru i fanylu ar ei dulliau hi o fuddsoddi mewn gofal diwedd oes ac ar y ffyrdd y mae hi'n helpu darparwyr fel eu bod nhw'n gallu parhau i gefnogi pobl ledled Cymru sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Diolch.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Yn wir, rwy'n credu y gallai llawer ohonom ni fod wedi clywed yr adroddiad am yr achos penodol a godwyd yn y gorllewin ynglŷn â gofal diwedd oes, lle, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi llawer mewn gofal diwedd oes. Ond hefyd, mae hyn yn ymwneud â'r system yn ei chyfanrwydd, onid ydyw, o ran rhoi lleoedd ar gael, nid yn unig o ran capasiti mewn ysbytai, ond yn ein cartrefi gofal hefyd. Diolch i chi am gyfeirio at Tŷ Gobaith a holl waith ein hosbisau, ond mae hwn yn fater y mae hi'n bwysig i ni glywed gan gleifion yn ei gylch a dysgu oddi wrthyn nhw yn ogystal ag adborth gan ofalwyr, fel y gall byrddau iechyd, yn amlwg, fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd wrth iddyn nhw godi.

Trefnydd, yr wythnos diwethaf mi gafodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wythnos brysur iawn yn Eisteddfod yr Urdd, ond hefyd yn cyhoeddi dau ddatganiad ysgrifenedig yn benodol. Roedd un o ran y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, comisiwn arwyddocaol iawn o ran dyfodol y Gymraeg, ac roedd 57 o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw, a da cael ymateb Llywodraeth Cymru, ond dwi yn credu, oherwydd pwysigrwydd hynny, y byddai'n dda cael datganiad llafar ar lawr y Senedd hon a chyfle i drafod yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn llawn.

A’r ail, wrth gwrs, fel rydyn ni wedi clywed yn gynharach heddiw, yw'r datganiad ddaeth o ran yswiriant gwladol, yn cadarnhau’r diffyg o £72 miliwn, a’r effaith, wrth gwrs, ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mi fyddai’n dda iawn pe byddem ni'n cael cyfle i graffu’n iawn ar y penderfyniad yma, a deall y goblygiadau, oherwydd, wrth gwrs, sôn am y sector cyhoeddus y mae’r £72 miliwn, ac rydyn ni’n gwybod, wrth gwrs, am yr effaith o ran elusennau, y trydydd sector, a busnesau ac ati. Wrth gwrs, mae yna gyfle i holi’r Ysgrifennydd Cabinet yfory, ond dwi yn credu y bydd gan nifer fawr ohonom ni yn y Siambr hon gwestiynau, a byddai’n dda cael cyfle i wneud hynny.

14:30

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch i chi am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, roedd yna ddau ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, ac, yn wir, fe fydd ef yn ateb ei gwestiynau llafar yn y Senedd, ac mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol i godi cwestiynau.

Wrth gwrs, fe gawsom ni wyntyllu'r materion sy'n ymwneud â'r cyfraniadau yswiriant gwladol yn llawn mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae hi'n bwysig bod y craffu hwnnw a'r cwestiynau hynny'n cael eu codi, fel rwy'n siŵr y bydden nhw'n cael eu codi yfory hefyd. Ond mae hi'n bwysig atgoffa'r Siambr unwaith eto ein bod ni wedi trosglwyddo'r holl gyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ychwanegol i'r sector cyhoeddus yn 2025-26, ac rydym ni wedi darparu £36 miliwn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn i gau'r bwlch. Mae hwn yn becyn o gyllid—pecyn £220 miliwn o gyllid i gyflogwyr y sector cyhoeddus—ond rydym ni'n cydnabod yr anawsterau i'r sector cyhoeddus. Fe aethom ni mor bell ag y gallem ni, gan ddefnyddio cyllid a allai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen i dalu bil treth a grëwyd gan Lywodraeth y DU. Ond mae'r rhain yn faterion y byddwn ni, wrth gwrs, yn cael trafodaethau pellach yn eu cylch, ac, wrth gwrs, fel dywedodd y Prif Weinidog, mae'r £1.6 biliwn o'r gyllideb ar gyfer eleni o ganlyniad i'r cynnydd hwnnw mewn cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU, yn gyffredinol, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.

Hefyd, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i gwestiynau am yr adroddiad pwysig 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg' a ddaeth oddi wrth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Rwy'n dymuno gofyn am ddau ddatganiad. Y datganiad cyntaf yw diweddariad ar adfer cladin. Er bod hi'n ymddangos bod problemau rhai blociau o fflatiau fel South Quay wedi cael eu datrys, mewn rhai eraill, fel Altamar yn Abertawe, mae'r trigolion yn cael trafferth o ran dod i gytundeb gyda Bellway. Mae trigolion yn honni bod problemau difrifol gyda diogelwch tân yn Altamar. Hefyd, maen nhw'n credu bod yr arolygon wedi datgelu diffygion difrifol sy'n effeithio ar y dur adeileddol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â hynny?

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano ynglŷn â meysydd chwaraeon 3G a 4G. Gwnaeth cynghorau fel Abertawe gynnydd sylweddol, ond mae angen cynnydd o hyd o ran niferoedd y caeau 3G a 4G. Er bod y gaeaf diwethaf wedi bod yn sych yn bennaf, mae hynny'n beth anarferol, ac fe gawsom ni dymhorau pan gafodd llai nag un gêm y mis ei chwarae ar laswellt rhwng mis Tachwedd a diwedd mis Chwefror. A all y datganiad gynnwys niferoedd y caeau chwaraeon 3G a 4G sydd yng Nghymru, a'r cynigion i gynyddu eu niferoedd i sicrhau y gallwn ni gynnal chwaraeon maes drwy gydol y flwyddyn?

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran eich cwestiynau chi ynglŷn â chladin, rwy'n deall bod cyfarfod yn cael ei gynllunio rhwng cynrychiolwyr Bellway ac Altamar ar ddydd Gwener—y dydd Gwener hwn, 6 Mehefin—pan fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol fel arsylwr. Ac rwy'n credu bod y cyfarfod yn cael ei gynnal ar gyfer rhannu canfyddiadau'r arolygon diweddaraf a gynhaliwyd a chytuno ar ffordd ymlaen y gall pob parti gytuno arni. Rwy'n credu y dylem ni ystyried hyn yng nghyd-destun y rhaglen diogelwch adeiladau, sy'n gwneud cynnydd da. Ond, yn amlwg, mae yna fwy i'w wneud eto, ac fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn cwrdd â datblygwyr, gan gynnwys Bellway, unwaith eto'r wythnos nesaf, 9 Mehefin, ac fe fydd hi'n egluro ei bod hi'n disgwyl i'r gwaith adfer i gyd gael ei gyflymu.

O ran eich cwestiwn chi am gaeau pêl-droed 3G a 4G, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru, awdurdodau lleol a DataMap Cymru i ddarparu'r wybodaeth honno ar gyfer y meysydd chwaraeon glaswellt artiffisial dan do ac awyr agored sy'n hysbys yng Nghymru. Ac mae'r data wedi dangos, yn y cyfrif diwethaf, fod yna 342 o feysydd artiffisial yng Nghymru, ond maen nhw'n amrywio o ran maint, o feysydd 3G maint llawn hyd feysydd llai eu maint. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda grŵp cydweithredu meysydd i nodi prosiectau cymunedol ar gyfer buddsoddi. Mae'r Gweinidog dros ddiwylliant a chwaraeon yn bresennol heddiw, ac wedi clywed hyn. Mae honno'n bartneriaeth bwysig iawn rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Hoci Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru.

14:35

Trefnydd, fe hoffwn i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynglŷn â'r problemau gyda chlefyd y tafod glas sydd ganddyn nhw yn Lloegr. Fel gŵyr y rhan fwyaf o bobl, ar 1 Gorffennaf, bydd Lloegr gyfan yn mynd yn ardal gyfyngedig o ran clefyd y tafod glas, sy'n golygu y gall da byw symud yn ddirwystr o amgylch y wlad. Ni chawsom ni unrhyw gamau pendant oddi wrth Lywodraeth Cymru hyd yn hyn ynglŷn â'r hyn maen nhw'n bwriadu ei wneud cyn 1 Gorffennaf.

Mae dau ddewis ar y bwrdd, yn ôl yr hyn a welaf i. Un dewis, sef y dewis eithafol yn fy marn i, yw i Gymru beidio â chyd-fynd â Lloegr, gan greu ffin galed, sy'n golygu na fyddai pobl yn gallu symud da yn ôl ac ymlaen oni bai eu bod wedi cynnal profion cyn eu symud nhw. Felly, fe allem ni fod â ffermwr yn fy etholaeth i sy'n cludo defaid i Henffordd ar y dydd Mercher, yn penderfynu peidio â'u gwerthu, ond bydd yn rhaid iddo eu gadael nhw yno nes eu bod nhw'n cael eu profi cyn eu symud nhw'n eu holau i Gymru. Mae hynny, i mi, yn ymddangos yn fiwrocrataidd, nid oes unrhyw angen i hynny ddigwydd, ac, mewn gwirionedd, mae baich gweinyddol i ffermwyr yn hyn o beth, gyda'r gost ohono, a lles y defaid hynny hefyd. Ond mae yna ddewis arall, sef y gallai Llywodraeth Cymru ymuno yn yr un cynllun â Lloegr, a fyddai'n llawer mwy buddiol i ffermwyr Cymru a'n marchnadoedd da byw ledled y wlad, ac i'r cyflenwad o ŵyn sy'n mynd i'n lladd-dai hefyd, i sicrhau y gallwn ni ddiogelu swyddi yn y sector hwnnw hefyd. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwn er mwyn i ni fod â'r wybodaeth ddiweddaraf yn y fan hon ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symud ymlaen.

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yn bresennol ac wedi clywed y cwestiwn yna. Rwy'n deall y bydd cyfarfod bwrdd crwn gweinidogol yn cael ei gynnal ar 5 o fis Mehefin er mwyn i'r diwydiant fynegi ei hoff ddewis—ac, yn amlwg, rydych chi'n ymchwilio i hynny heddiw—o ran polisi'r tafod glas yn y dyfodol. Mae hi'n bwysig fod Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant ar 28 Mai, i nodi barn ar gyfer llywio ein dull ni o reoli clefyd y tafod glas yn y dyfodol. Felly, rydym ni'n ystyried y polisi o ran ei oblygiadau milfeddygol i Gymru. Hefyd, yn dilyn y cyfarfod bwrdd crwn, fe geir y cyngor milfeddygol diweddaraf, ac adborth gan y diwydiant, ac fe fydd hynny'n cael ei ystyried yn nhermau llunio unrhyw bolisi a fydd yn cwrdd ag anghenion Cymru. Fe fydd hynny'n cael ei gyhoeddi, rwy'n deall, cyn diwedd y cyfnod trosglwyddiad isel clefyd y tafod glas ar 12 Mehefin.

Fe hoffwn i ategu barn y rhai sy'n galw am ddadl gan y Llywodraeth am effaith toriadau lles ar ein dinasyddion. Bydd toriadau i les gan Lywodraeth San Steffan yn costio £466 miliwn i Gymru o ran incwm a gollir. Ffigurau Policy in Practice yw'r rhain. Yn gythruddol, elusennau a chwmnïau sy'n gorfod darganfod pa mor ofnadwy o ddifrifol y bydd pobl yng Nghymru yn cael eu taro gan y toriadau hyn i les am fod y Blaid Lafur yn San Steffan yn gwrthod gwneud eu hasesiad effaith eu hunain ar gyfer Cymru. Maen nhw'n gwrthod cyfaddef faint o fywydau pobl fydd yn cael eu gwneud yn fwy truenus ac anobeithiol a brawychus oherwydd eu penderfyniad nhw i gyflwyno'r toriadau hyn. Mae Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr ymhlith yr ardaloedd a fydd yn cael eu taro fwyaf. Mae miloedd o bobl anabl yn eu plith nhw, sy'n dibynnu ar y gefnogaeth hon i allu byw gydag urddas ac annibyniaeth. Trefnydd, mae hi'n hen bryd i'r Senedd siarad gydag un llais ar y mater hwn ac anfon neges i San Steffan na fyddwn ni'n goddef y creulondeb di-hid hwn. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi amser i ganiatáu i'r neges honno gael ei hanfon?

Diolch i chi, Delyth Jewell. Roedd gennyf innau ddiddordeb hefyd o weld yr adroddiad hwnnw—Policy in Practice yn cyhoeddi'r ail adroddiad hwnnw mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan—'The impact of disability benefit reforms in Wales'. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n edrych, fel gwnawn ni—. Rydym ni'n ystyried pob darn o dystiolaeth sydd gennym ni ac y gallwn ni eu dwyn ynghyd, ac, yn wir, mae tystiolaeth Policy in Practice o gymorth gwirioneddol ac yn ddefnyddiol. Fe wyddom ni fod yr awdurdodau lleol yn ystyried y dystiolaeth, yn ogystal â sefydliadau pobl anabl, y gwnes i gyfarfod â nhw'n ddiweddar iawn yn ystod y fforwm cydraddoldeb anabledd, i glywed yn uniongyrchol oddi wrthyn nhw am eu tystiolaeth, eu pryderon, ac astudiaethau achos ynglŷn â'r effaith y gallen nhw ei phrofi ac a fyddai'n effeithio yn andwyol arnyn nhw o ran y pryderon sydd gan bobl â'r profiad bywyd hwnnw. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau chi ein bod ni'n dwyn y dystiolaeth hon i gyd at ei gilydd. Rydym ni'n deall bod y diwygiadau hyn i les yn effeithio ar bobl Cymru. Rydym ni'n gwrando ar bryderon pobl. Fe fyddaf i'n cyhoeddi ein hymateb ni, nid yn unig ar ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, ond ar y dystiolaeth a gyflwynwyd am effaith y newidiadau i'r taliadau annibyniaeth personol hefyd.

14:40

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda. A gawn ni ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran creu'r ganolfan breswyl i ferched a gafodd ei chynllunio ar gyfer Abertawe, i fenywod sydd mewn perygl o gael eu carcharu? Rwy'n credu y gwyddom ni i gyd pa mor ddistrywiol yw hi i fenywod a'u teuluoedd pe bydden nhw'n cael eu carcharu, ac fe fyddai hi'n dda cael clywed pa gynnydd sy'n cael ei wneud. Roedd hi'n dda clywed Ruth Jones, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, yn galw am agor y ganolfan yn Abertawe ar ôl cyhoeddi'r adolygiad annibynnol o ddedfrydu, a oedd yn argymell cyllid mwy cynaliadwy a hirdymor ar gyfer canolfannau menywod.

Ac yna, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad yn dilyn y newyddion ardderchog a gyhoeddwyd yn gynharach yn ystod yr wythnos, sef bod triniaeth â meddyginiaeth arloesol wedi cael ei datblygu gan Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd, a fydd yn ymestyn bywydau cleifion â chanser y fron nad oes gwellhad iddo? Wrth gwrs, roedd ei derbynnydd cyntaf o'r Barri, yn etholaeth y Trefnydd. Mae'r driniaeth newydd hon wedi bod ar gael yng Nghymru a Lloegr ers mis Ebrill, ac mae hi'n braf iawn meddwl am y disgwyliadau o ran ymestyniad oes yn sgil datblygu'r feddyginiaeth hon, ac mae hi'n wych mai yng Nghymru y datblygwyd y driniaeth newydd hon, ac yng Ngogledd Caerdydd, yn fy etholaeth i'n neilltuol felly.

Diolch yn fawr, Julie Morgan, am y ddau gwestiwn hanfodol bwysig yna, oherwydd mae'r ganolfan breswyl i fenywod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac fe wyddom ni y bydd hi'n gwella bywydau menywod yng Nghymru. Fe fydd hwnnw'n ased gwirioneddol. Fe fydd yn darparu gwasanaethau therapiwtig ac adsefydlu yn rhan o'n dull ni sy'n ystyriol o drawma. Ac mae honno'n elfen allweddol o'n glasbrint cyfiawnder menywod, ac fe fyddaf i'n rhoi datganiad, a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn y Senedd ynghylch y glasbrintiau hynny, cyn bo hir. Mae hi'n amlwg hefyd, fel rydych chi'n dweud, fod yr adolygiad dedfrydu annibynnol yn rhoi cefnogaeth gref i gynyddu'r defnydd o ddedfrydau nad ydyn nhw'n anfon troseddwyr i garchar. Roeddwn i'n falch o roi tystiolaeth i David Gauke a'i adolygiad ef, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n ei drafod gyda'r Arglwydd Timpson. Fe fyddaf i'n cwrdd ag ef yr wythnos hon, ac fe fyddaf i'n mynd i'r cyfarfod bwrdd crwn gweinidogol ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol—hwnnw yw bwrdd crwn yr Arglwydd Ganghellor. Fe fyddaf i'n ymuno â'r bwrdd crwn hwnnw ar 10 Mehefin, ac yn parhau i eiriol dros agor y ganolfan breswyl i ferched ar gyfer Abertawe.

Ydy, mae datblygiad y feddyginiaeth ar gyfer canser yn fuddugoliaeth gyffrous ac enfawr o ran ymchwil canser, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn fyd-eang. Cenedl fechan yw Cymru, ond rydym ni'n fawrion ym meysydd diagnosteg, triniaethau, therapïau a brechlynnau newydd. Diolch i drwyddedu capivasertib, bydd degau o filoedd o gleifion ar draws y GIG yng Nghymru a ledled y DU yn profi manteision oherwydd hynny. Ond y pwynt pwysicaf i'w wneud yw na fyddai'r cyflawniad enfawr hwn wedi digwydd heb ein partneriaid ni, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Felly, mae hi'n ardderchog gweld Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn gweithredu fel noddwr i'r prawf, a gafodd ei ariannu, fel dywedais i, o ffrydiau amrywiol o ariannu, a hefyd yn cydnabod gwaith nyrsys ymchwil Felindre, a gafodd eu cefnogi gan elusen canser Felindre.

Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, i roi clod lle mae'n ddyledus, fe gefais i fy nghalonogi yn fawr o weld cynlluniau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd plant yn cael eu dysgu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Lloegr am bwysigrwydd y lluoedd arfog, a fydd yn helpu pobl ifanc i ddysgu am yrfaoedd ym maes amddiffyn a rhoi hwb i'w cysylltiad a'u hymwybyddiaeth o'r lluoedd arfog. Yng ngolau hynny, fe hoffwn i alw am ddatganiad ar ba drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru ynglŷn â sicrhau bod yr ymgyrch hon sydd i'w chroesawu yn cael ei rhoi ar waith mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru.

Yn ail, dros y penwythnos, cafwyd rhagor o ddamweiniau ar yr A40 o amgylch Rhaglan, ac mae un ohonyn nhw, yn anffodus iawn, wedi bod yn angheuol, a bu farw gŵr 27 oed yn y fan a'r lle. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymuno â mi i fynegi bod ei deulu a'i anwyliaid ef yn ein meddyliau a'n gweddïau ni. O ystyried bod nifer o ddamweiniau difrifol wedi digwydd fel hyn, a'r ddamwain drist hon, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros drafnidiaeth ar ba fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y tamaid hwn o ffordd, yn enwedig cyffyrdd Rhaglan, yn cael eu gwneud yn fwy diogel i fodurwyr? Mae Cyngor cymunedol Rhaglan, cynghorwyr lleol, Peter Fox a'n Haelod Seneddol a minnau wedi dadlau ers tro byd fod trychineb o'r fath yn siŵr o ddigwydd a bod angen gwelliannau yno ar frys fel na ddylai damwain angheuol orfod digwydd cyn y bydd Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn gweithredu. Ond rwy'n gobeithio nawr y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn o ddifrif ac yn gweithredu ar frys, felly fe hoffwn i gael datganiad ar hyn, os gwelwch chi'n dda. Diolch.

14:45

Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones. Rwy'n siŵr, o fewn Cwricwlwm Cymru, fod cyfleoedd sydd gan blant—ac mae'n debyg eu bod ganddyn nhw eisoes—o ran dysgu nid yn unig am swyddogaeth ein lluoedd arfog, ond hefyd o ran cyfleoedd a swyddi a gyrfaoedd ym maes amddiffyn yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae Cymru â rhan enfawr yn y diwydiant amddiffyn, felly mae hwnnw'n bwynt pwysig o ran arwain at ein gwarant i bobl ifanc, mynediad at brentisiaethau, addysg bellach a hyfforddiant, yn ogystal â thrwy'r cwricwlwm i ysgolion. 

Ie, wrth gwrs fe fyddem ni i gyd yn dymuno mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â theulu'r gŵr ifanc a gollodd ei fywyd. Mae cyffordd yr A40 yn Rhaglan wedi cael ei chodi o'r blaen, ac rwy'n siŵr y bydd yr heddlu, unwaith eto, o ran yr amgylchiadau, yn ystyried y rhain ac yn ymgysylltu, wrth gwrs, â swyddogion eraill o ran effaith y ddamwain honno, ond hefyd o ran yr achosion a'r ffyrdd y gellid eu defnyddio i ymdrin â'r rhain.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Bythefnos yn ôl, fe godais fy mhryderon gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â firws y tafod glas a'r posibilrwydd y bydd y parth dan gyfyngiadau yn Lloegr yn cael ei ymestyn hyd Loegr gyfan. Nawr, ar y pryd, fe ddywedodd ef mai ei obaith fyddai y gallem ni ei gadw o leiaf ddwy sir i ffwrdd o'r ffin â Chymru, ond nawr, fel clywsom ni, o 1 Gorffennaf, fe fydd Lloegr gyfan yn barth dan gyfyngiadau, ac fe fydd hynny â goblygiadau pellgyrhaeddol i ffermydd sydd â thir ar y ddwy ochr i'r ffin, o ran arwerthiannau da byw sy'n frith ar hyd y ffin, a hefyd, o bosibl, i'r Sioe Frenhinol a sioeau rhanbarthol a lleol eraill hefyd. Felly, rwy'n awyddus i ategu'r galwadau am ddatganiad yn gynnar gan y Llywodraeth yn amlinellu'r cynllun nawr ar gyfer ymdrin â'r datblygiad diweddaraf hwn, pa gyngor a chefnogaeth fydd ar gael i'r rhai yr effeithir arnyn nhw o bosibl, er mwyn i ni fod ag eglurder a sicrwydd cyn gynted â phosibl ac osgoi sefyllfa lle gallai hi fod yr eiliad olaf cyn y bydd pobl yn gwybod ym mha le y maen nhw'n sefyll. Diolch.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw penderfyniad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn peri syndod, ar sail y sefyllfa gyda'r clefyd yn Lloegr ac argaeledd brechlynnau. Ac rwyf i wedi adrodd eisoes ar gyfarfodydd y Prif Swyddog Milfeddygol gyda chynrychiolwyr y diwydiant. Rwy'n credu mai'r cyngor, fel rwy'n deall, ar hyn o bryd—. Ac fe fydd y bwrdd crwn yn cael ei gynnal ar ddydd Iau. Yn y cyfamser, rydym yn annog ffermwyr i ystyried brechiadau gyda'u milfeddygon nhw ac yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran y clefyd ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir. 

Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i ganolbwyntio unwaith eto ar y mater a gododd Delyth Jewell o ran toriadau lles, yn enwedig taliadau annibyniaeth personol. Mae ymchwil gan fy mhlaid i yn San Steffan wedi dangos y gallai 90 y cant o unigolion yng Nghymru sy'n derbyn y gyfradd safonol o daliadau annibyniaeth personol ar gyfer gweithgareddau bob dydd golli'r cwbl neu ran ohonyn nhw. Mae hynny'n syfrdanol. Mae hynny'n golygu y bydd 90 y cant o'r bobl yma yng Nghymru yn gweld toriadau o bosibl. I lawer un, mae'r taliadau yn achubiaeth. Maen nhw'n caniatáu i lawer gynnal eu hurddas, mae'n cefnogi tasgau hanfodol bob dydd fel gofal personol, aros yn ddiogel ac, i lawer, i barhau yn eu gwaith. Fe fyddai tanseilio'r gefnogaeth hon yn amddifadu'r bobl hyn o'r union beth sy'n caniatáu iddyn nhw fod yn annibynnol. Mae un o'r cyfraddau uchaf o dlodi gennym ni eisoes yma yng Nghymru, felly fe hoffwn i gefnogi'r alwad a wnaeth Delyth Jewell i ni gynnal dadl bwyllog, addysgiadol ac eglur ar gyfer amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r pryder gwirioneddol syfrdanol hwn y mae llawer yn ein cymunedau yn ei adleisio ac rydym ninnau, sy'n gynrychiolwyr etholedig iddyn nhw, yn ei adleisio hefyd. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch i chi am y cwestiwn yna. Rwy'n credu mai'r Prif Weinidog oedd yr un a adroddodd ein bod ni am gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Wrth gwrs, mae gennym ni lawer iawn o dystiolaeth, ac rydych chi wedi rhoi mwy o dystiolaeth o'ch ymchwil chi, ymchwil eich plaid chi. Rydym ni wedi sôn am dystiolaeth Policy in Practice. Fe wnes i gyfeirio at y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl hefyd, y gwnes i gwrdd ag ef, a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau pobl anabl.

Fe fyddwn ni, pan fyddwn ni'n cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, yn dweud, os yw'r diwygiadau budd-daliadau anabledd yn cael eu cyflwyno ar eu gwedd bresennol, oherwydd ymgynghoriad yw hwn—. Fe fyddwn ni'n pwysleisio pa mor bwysig yw i Lywodraeth y DU gymryd camau i gefnogi pobl a fydd yn colli peth o'u hincwm budd-daliadau presennol, i'w hatal rhag syrthio i dlodi. Rwy'n credu, pan wnes i gyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl—. Roedd pobl â phrofiad bywyd yno—pobl anabl—yn gweithio ac yn cael taliadau annibyniaeth personol ac yn pryderu na fydden nhw'n gallu gweithio pe na fyddai'r taliad annibyniaeth personol yn cael ei roi iddyn nhw. Roeddwn i'n clywed hefyd, ac rwy'n credu bod hyn hefyd wedi cael ei egluro, fod yna broblemau ynghylch rhestrau aros ar gyfer Mynediad at Waith, er enghraifft. Felly, o ran Mynediad at Waith, y gwyddom ni ein bod ni'n gwneud llawer drwyddo i gefnogi pobl sy'n dymuno gweithio ac yn gallu gwneud hynny, y dylai llwybrau fod ar gael ac y dylai'r gefnogaeth fod yno i'w galluogi nhw i gael mynediad at y gwaith hwnnw.

Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau'r prynhawn yma. Maen nhw i gyd yn cynnig adborth pwysig wrth i ni drafod y mater hwn ac, yn wir, wrth i mi baratoi ein hymateb ni i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd a'r effeithiau yr ydym ni wedi dysgu amdanyn nhw eisoes, o ran y newidiadau, y toriadau, i daliadau annibyniaeth personol.  

14:50

Mae gen i ddau gais. Un yw: mae prinder tai fforddiadwy yn achosi anobaith yn fy etholaeth i—llawer gormod o bobl wedi cael eu caethiwo mewn tai preifat, tai ar rent, nad ydyn nhw'n gallu eu fforddio. Mae hynny er gwaethaf ymdrechion gorau Cyngor Caerdydd a rhai landlordiaid tai cymdeithasol, gan gynnwys yr YMCA. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar adroddiad ac argymhellion tasglu tai fforddiadwy, a gadeiriwyd gan Lee Waters. Rwyf i o'r farn fod yna rai pwyntiau pwysig iawn i bob un ohonom ni ynglŷn â sut y byddwn ni'n grymuso'r arweinyddiaeth ac yn cydlynu cynnydd yn well ar greu mwy o gartrefi fforddiadwy, gan fy mod i'n gwybod mai mater aruthrol fawr yw hwn.

Yn ail, ar ôl ein heisteddiad diwethaf, yn siomedig iawn, cafodd adroddiad deifiol ei gyhoeddi ar wasanaethau tân ac achub yn y de  gan arolygydd Ei Fawrhydi, Roy Wilsher. Mae darllen hwnnw'n achosi mwy o annifyrrwch fyth hyd yn oed, o ran rhai agweddau arno, na'r materion diwylliannol a drafodwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd 12 mis yn ôl. Rwy'n arbennig o bryderus o ddarllen nad yw'r sefydliad yn blaenoriaethu risgiau ac yn anfon diffoddwyr tân i sefyllfaoedd lle nad ydyn nhw'n gwybod beth yw'r peryglon. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig ynghylch y mater a dderbyniwyd gan y Llywodraeth—ar gyfer dod o hyd i gynigion mwy radical o ran diwygio er mwyn i ni wella llywodraethu ein gwasanaethau tân ac achub yn yr hirdymor, ac fe allai hynny fod yn gofyn am ddeddfwriaeth.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone. Wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth arloesol gennym ni, a gafodd ei chyflwyno ychydig cyn ein toriad, o ran mynd i'r afael â digartrefedd a diwallu anghenion o ran tai, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar—dyna'r cam mawr ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hynny o ran yr angen am dai—a'r ffaith ein bod ni'n symud mewn gwirionedd tuag at y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn ein cartrefi sero net, cartrefi tai cymdeithasol. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd weld effaith hynny wrth i'n hawdurdodau lleol ni fwrw ymlaen â hyn yn ein hetholaethau ni ar gyfer diwallu'r angen taer hwnnw am dai.

O ran eich pwynt chi ynglŷn â llywodraethu awdurdodau tân ac achub, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn datblygu cynigion ar gyfer diwygio llywodraethu awdurdodau tân ac achub gan drafod gyda rhanddeiliaid, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn ffurfiol ar y rhain, gyda'r bwriad o gyflwyno newidiadau drwy gyfrwng is-ddeddfwriaeth cyn diwedd tymor y Senedd hon.

14:55

Arweinydd y tŷ, yn eich etholaeth chi a rhan o'm rhanbarth i, clywodd Cyngor Bro Morgannwg y newyddion siomedig, ynglŷn â'r cais ffyniant bro o £20 miliwn, bod un o'u partneriaid allweddol nhw, Associated British Ports, yn tynnu ei gefnogaeth i'r prosiect yn ôl. Roedden nhw wedi gwneud astudiaeth ddichonoldeb yn hyn o beth, ac wedi cael trydydd parti i archwilio'r cais a'r prosiectau a gafodd eu nodi ar gyfer cefnogaeth, yn ofalus a thrylwyr, ac roedden nhw'n teimlo nad oedden nhw'n gallu ei gefnogi. Mae hynny'n newyddion gofidus iawn a phryderus, oherwydd dyma'r swm mwyaf o arian i fynd i dref fwyaf Cymru, y Barri, sydd wedi ei weld ers blynyddoedd lawer. Pe byddai sefydliad tebyg i Awdurdod Datblygu Cymru gennym ni, fe fyddwn i'n amlwg yn gofyn am gyngor a chefnogaeth ganddyn nhw ynglŷn â sut y gallen nhw gynorthwyo'r cyngor i sicrhau nad yw'r cais hwn yn fethiant a bod unrhyw hyder sydd ei angen i'w roi yn y cais yn cael ei roi ar y bwrdd ac y gellir nodi partneriaid masnachol eraill ar gyfer yr hyn sy'n rhan hanfodol o ailddatblygu tref y Barri. A gawn ni ddatganiad gan Weinidog Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, sy'n gyfrifol am adfywio a datblygu economaidd yn Llywodraeth Cymru, ynghylch pa gymorth y gall Llywodraeth Lafur Cymru ei roi i'r awdurdod lleol i sicrhau bod y cais hwn yn llwyddo, bod y £20 miliwn yn mynd i'r Barri, a bod yr adfywiad yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w weld yn digwydd ar lan y dŵr yn mynd rhagddo, a sicrhau bod y swyddi sy'n cael eu haddo yn cael eu creu? 

Diolch yn fawr iawn i chi wir, Andrew R.T. Davies. Fel rydych chi'n ei ddeall, honno yw fy etholaeth i. Fe wnes i gyfarfod ag Associated British Ports ynglŷn â hyn pan oedd y newyddion hyn yn amlwg am gael ei gyhoeddi ynglŷn â'r tynnu yn ôl—tynnu'n ôl siomedig iawn—o'r cynnig am farina o ganlyniad i'w hastudiaeth ddichonoldeb, ond fe ofynnais i am sicrwydd gan Associated British Ports bod cyfrifoldeb ganddyn nhw o ran y Barri, i'r Barri sydd eisoes yn borthladd, yn ddoc ac yn safle—. Ac mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o ddatblygiad chwaraeon dŵr Ocean—mae hyn ar y gofrestr—o ran fy ymgysylltiad â hwnnw. Ond yr hyn sy'n bwysig yw bwrw ymlaen â hyn, i sicrhau'r cyllid gan Lywodraeth y DU hefyd, gan weithio gyda Chyngor Bro Morgannwg fel partner agos, ar gyfer adfywiad, yr adfywiad hollbwysig i'r Barri, ac yn amlwg rwy'n gweithio gyda'r Aelod Seneddol yn San Steffan, Kanishka Narayan, ynglŷn â hyn hefyd.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i. Rydym ni i gyd yn croesawu cwblhau prosiect deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi gweld buddsoddiad aruthrol dros nifer o flynyddoedd a buddsoddiad yw hwn nid yn unig mewn camp ryfeddol o ran peirianneg, ond mae'n fuddsoddiad yn y cymunedau sydd ym Mlaenau'r Cymoedd. Mae'n fuddsoddiad yn economi Blaenau'r Cymoedd ac mae'n fuddsoddiad yn nyfodol Blaenau'r Cymoedd. Fe hoffwn weld datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut maen nhw'n bwriadu sicrhau bod Blaenau'r Cymoedd yn elwa ar y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. 

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr adolygiad amddiffyn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe. Fe welsom ni Lywodraeth y DU yn buddsoddi yn amddiffyn y Deyrnas Unedig yn y degawdau i ddod, ac mae hi'n bwysig fod cyfle gan Gymru i gyfrannu at amddiffyn y Deyrnas Unedig, ond gan elwa hefyd ar y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y mater hwn. Felly fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn ni sicrhau y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu elwa ar y buddsoddiad hwn. Fe Ymwelodd Prif Weinidog Cymru â General Dynamics ym Mhentrebach rai wythnosau yn ôl a'u sicrhau nhw y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi eu buddsoddiadau nhw, ac mae hi'n bwysig ein bod yn deall nawr sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amddiffyn yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Diolch yn fawr, Alun Davies, a diolch i chi am y gydnabyddiaeth honno, y gydnabyddiaeth gadarn honno, o effaith cyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, fel rydym ni'n ei galw hi o hyd. Fe gefnogwyd hynny trwy gadwyn gyflenwi leol, Cymoedd y Dyfodol, yn gwario oddeutu £400 miliwn yng Nghymru a thros £230 miliwn yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd.

Roedd hi'n yn bwysig eich bod chi gwneud y pwynt am yr effaith economaidd, yn fy marn i, ond gadewch i ni gydnabod ei fod wedi creu 2,200 o swyddi newydd, gan gynnwys 765 o swyddi i weithwyr difreintiedig a 114 o swyddi i bobl a fu'n ddi-waith am gyfnod maith. Rwy'n cofio ymweld pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, ac mae'n debyg eich bod wedi chi ymuno â mi y tro hwnnw. Roedd y gweithlu yn dod o Gymru, gyda 44 y cant yn dod o Flaenau'r Cymoedd. O ran symud hyn ymlaen a sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais ar gwblhad yr A465, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi gofyn i swyddogion archwilio cyfleoedd ehangach rhwng rhaglen y Cymoedd Technoleg a menter y Cymoedd gogleddol ar gyfer cyfleoedd ar gyfer cydgynhyrchiad a chyd-fuddsoddiad fesul achos. Yn amlwg, fe fydd hynny golygu gweithio agos gyda chyngor Blaenau Gwent, yn ogystal â grŵp cynghori strategol y Cymoedd Technoleg.

O ran eich ail bwynt chi, wrth gwrs, roedd ymweliad y Prif Weinidog â General Dynamics ym Mhentrebach yn fynegiant o'n cydnabyddiaeth ni o ba mor hanfodol yw amddiffyn o ran helpu Cymru i gryfhau ei chydnerthedd, ond hefyd o ran swyddogaeth y diwydiant ac amddiffyn, y swyddi a'r cwmnïau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw sy'n cael eu gwerthfawrogi yn fawr fel partneriaid, ond sy'n gweithio yn agos iawn hefyd nawr gyda Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi yn y sector amddiffyn yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol amddiffyn, a ddylai fod yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir. Fe fydd honno'n yn cynnwys mwy o wybodaeth am gynlluniau i roi'r adolygiad strategol o amddiffyn ar waith.

15:00

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno deddf newydd cyn yr haf i wella a diogelu bioamrywiaeth? Cyn y toriad, fe wnes i gyfarfod ag ymgyrchydd lleol o'r enw Aidan Dempsey, dyn ifanc sy'n eiriolwr brwd dros Ymddiriedolaeth Natur Gwent, corsydd Magwyr, a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gwastadeddau Gwent yn ei gyfanrwydd. Mae'n gwneud gwaith anhygoel yn lobïo gwleidyddion i siarad dros wastadeddau Gwent cyn ei bod yn wir yn rhy hwyr. Rhannodd Aidan gyda mi yr eco-bryder y mae'n ei brofi a'i bryderon am y nifer cynyddol o ffermydd solar sy'n ymledu ar draws ardal hynafol gwastadeddau Gwent. Rwy'n cydnabod ymroddiad ac eiriolaeth John Griffiths. Yn wir, mae wedi dangos llawer trwy gydol ei amser yma yn y Senedd i gefnogi gwastadeddau Gwent. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad oes unrhyw frys i amddiffyn yr ardaloedd hynafol ac unigryw hyn rhag datblygiad. Rwy'n galw ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud datganiad, gan nodi safbwynt ei Lywodraeth ac addo y bydd ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn cael eu gwarchod a'u cadw ar gyfer cenedlaethau i ddod. Diolch.

Diolch yn fawr. Dydw i ddim yn credu bod gennych chi unrhyw anawsterau gyda chefnogaeth y Dirprwy Brif Weinidog i wastadeddau gwych Gwent. Yn wir, mae'n galonogol clywed am y diddordeb sydd gan berson ifanc yn ei amgylchedd lleol. Diolch yn fawr, a diolch, Natasha.

3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Member
Huw Irranca-Davies 15:03:37
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser enfawr gen i gyflwyno heddiw Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Dyma ddarn hanesyddol o ddeddfwriaeth sy'n cynrychioli cam sylweddol ymlaen o ran ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae'r cam hwn yn hanfodol o ystyried y cyd-destun. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn digwyddiadau tywydd garw sydd wedi arwain at lifogydd, tonnau gwres, sychder a thanau gwyllt. Mae wedi bod yn ddinistriol i gymunedau ac ecosystemau ledled Cymru. Gydag un o bob chwe rhywogaeth bellach mewn perygl o ddifodiant yng Nghymru, nid yw erioed wedi bod yn bwysicach adfer natur, lliniaru newid yn yr hinsawdd a gwarchod yr amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhan hanfodol o'n dull o wneud hynny yn y dyfodol, a bydd yn gwneud hynny trwy ddarparu'r fframwaith i fynd i'r afael â thair her graidd. Yn gyntaf, bydd yn cryfhau ein dull o fynd i'r afael ag effaith gyfunol yr argyfyngau hinsawdd a natur. Yn ail, bydd yn cryfhau ac yn cefnogi polisi a deddfwriaeth ehangach sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu'r amgylchedd rhag niwed. Ac yn drydydd, bydd yn ailwampio ein strwythurau llywodraethiant, yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, mewn ffordd sydd fwyaf addas yng nghyd-destun tirwedd ddeddfwriaethol unigryw Cymru.

Mae'r Bil wedi'i rannu'n dair rhan wahanol ond cyflenwol a fydd yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae Rhan gyntaf y Bil yn cyflwyno amcan amgylcheddol a phedair egwyddor amgylcheddol allweddol yng nghyfraith Cymru. Mae'r amcan amgylcheddol yn mynegi uchelgais polisi'r ddeddfwriaeth hon ac yn llywio gwaith y corff llywodraethiant amgylcheddol newydd a'r gwaith o gymhwyso'r egwyddorion amgylcheddol. Mae'r amcan wedi'i fframio o amgylch cyflawni lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol a gwella'r amgylchedd. Mae hefyd yn cydnabod yr angen i integreiddio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2017, a'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae hyn yn darparu ffocws strategol sy'n fframio, mewn gwirionedd, holl elfennau'r Bil.

Mae Rhan 1 hefyd yn sefydlu'r pedair egwyddor amgylcheddol yn neddfwriaeth Cymru. Y rhain yw'r egwyddor rhagofalus, yr egwyddor atal, yr egwyddor unioni yn y tarddiad, a'r egwyddor y llygrwr sy'n talu, yn y gyfraith. Yn hanfodol, bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu cefnogi gan ddyletswyddau penodol ar Weinidogion Cymru, pob un ohonom, a Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth wneud polisi, i roi sylw arbennig iddyn nhw—sylw arbennig—ac i integreiddio diogelu'r amgylchedd. Mae hyn yn darparu dull cyfannol a fydd yn sicrhau bod diogelu'r amgylchedd a'r egwyddorion yn cael eu hymgorffori ar gam ffurfiannol a thrwy gydol y broses o ddatblygu polisïau sy'n effeithio ar yr amgylchedd. Mae'r dull hwn yn cael ei gefnogi ymhellach gan y ffaith ei bod yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus penodol ystyried yr egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd wrth gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad ag asesiadau amgylcheddol strategol. Mae hyn yn ategu'r dyletswyddau llunio polisïau strategol ar Weinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy wella cysondeb a'r modd y caiff yr egwyddorion eu hystyried pan ragwelir y bydd effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Mae ail ran y Bil yn sefydlu swyddfa llywodraethiant amgylcheddol Cymru, OEGW, fel corff sy'n darparu goruchwyliaeth strategol o effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol, yn ogystal â darparu pwerau i'r OEGW sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â'r gyfraith honno. Nawr, mae'r angen i sefydlu'r corff hwn ar ôl i ni ymadael â'r UE hefyd yn rhoi cyfle i ni alluogi goruchwyliaeth fwy cynhwysfawr a mwy ymatebol o gyfraith amgylcheddol yng Nghymru.

Felly, bydd y goruchwyliaeth yn gydweithredol yn ei hanfod yn hytrach nag yn awdurdodol, ac mae wedi'i chynllunio fel bod modd dwysáu camau gorfodi. Mae hyn yn adlewyrchu'r angen i weithio ar y cyd â chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael ag effeithiau niwed amgylcheddol a hefyd i adeiladu capasiti a gallu i weithredu'n fwy effeithiol yn y dyfodol. Ond nid yw'r dull hwn yn golygu nad oes gan y corff llywodraethiant unrhyw ddannedd. Er ein bod yn disgwyl i'r OEGW ystyried dulliau cydweithredol i ddatrys eu pryderon gyda chyfraith amgylcheddol, lle nad yw hyn yn ymarferol neu'n briodol, bydd gan yr OEGW bwerau i roi hysbysiadau cydymffurfio, gan orfodi awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau penodol. Ac, wrth gwrs, gall yr OEGW uwchgyfeirio diffyg cydymffurfiaeth i'r Uchel Lys os bydd angen er mwyn ceisio gorchymyn cydymffurfio.

Mae pwrpas OEGW yn ehangach na chymryd camau gorfodi yn erbyn diffyg cydymffurfio. Mae ganddi rôl hanfodol hefyd wrth asesu a yw'r gyfraith ei hun, a mesurau i gefnogi'r gyfraith, yn effeithiol, ac wrth nodi cynigion ar gyfer gwella. Felly, mae'r Bil yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar yr OEGW i fonitro, adrodd ac argymell gwelliannau i effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol, gan sicrhau bod y system gyfan yn addas i'r diben.

Mae cwmpas goruchwyliaeth OEGW yn ymestyn i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru fel y'u diffinnir gan y Bil, sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru. Gan y bydd yn goruchwylio Gweinidogion Cymru, mae ei hannibyniaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn bwysig iawn ar gyfer ei gweithrediad effeithiol, ac rydym wedi manteisio ar gyfleoedd drwy gydol y Bil i sicrhau bod yr OEGW yn gallu dwyn Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus ehangach i gyfrif yn effeithiol.

Gan fod cyrff llywodraethiant eisoes wedi'u sefydlu i gwmpasu Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, rydym hefyd wedi ymgysylltu'n adeiladol â'n cymheiriaid ledled y DU, ac rydym wedi mabwysiadu sawl gwers o ran ein dull gweithredu.

Bydd yr OEGW yn cymryd amser i'w sefydlu, a hyd nes ei bod yn gwbl weithredol, i'w gwneud yn glir, bydd Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro Cymru, yr IEPAW, yn parhau i ystyried materion cyfraith amgylcheddol a darparu argymhellion.

Mae trydedd ran y Bil, Dirprwy Lywydd, yn sefydlu fframwaith gosod targedau ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod, mewn is-ddeddfwriaeth, dargedau sydd wedi'u cynllunio i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac yn arbennig drwy gynyddu helaethrwydd rhywogaethau brodorol, neu wella gwytnwch ecosystemau, neu gynyddu amrywiaeth genetig. Bydd cynlluniau manwl a fydd yn amlinellu'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r targedau hyn yn cael eu llunio i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Bydd adroddiadau gwerthuso rheolaidd hefyd yn asesu effaith ac effeithiolrwydd y polisïau hyn wrth gyfrannu tuag at gyflawni'r targedau, gan ddarparu'r sail honno ar gyfer gwelliant parhaus.

Ac mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau drafft gerbron y Senedd i'w gosod fel mater o flaenoriaeth sy'n canolbwyntio ar: lleihau'r risg y bydd rhywogaethau brodorol yn diflannu; rheoli ecosystemau yn effeithiol; lleihau llygredd; ac ansawdd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, mynediad at y dystiolaeth honno, a'r ffordd y caiff ei defnyddio a'i chymhwyso. Mae'r Bil hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth ac o'r bygythiadau i fioamrywiaeth. Bydd annog newid cadarnhaol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein hamcanion amgylcheddol.

Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn cynrychioli dull cynhwysfawr a blaengar o lywodraethiant amgylcheddol, gan adeiladu ar ein fframwaith deddfwriaethol presennol i fynd i'r afael â heriau brys newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Drwy ymgorffori egwyddorion amgylcheddol wrth i ni fynd ati i lunio polisïau, drwy sefydlu'r OEGW a gosod targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol, bydd y Bil hwn yn sicrhau bod Cymru'n parhau i arwain y ffordd o ran diogelu'r amgylchedd a datblygu cynaliadwyedd.

Dirprwy Lywydd, mae'r broses sydd wedi arwain at y foment hon wedi cynnwys gwaith polisi helaeth, cyd-ddylunio, ymgynghori, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil hwn.

Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau'n cydnabod y cyfle hwn i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, gan sicrhau ein bod yn parhau i gymryd camau pendant i ddiogelu llesiant ein gwlad a'n planed. Diolch yn fawr iawn.

15:10

Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw a chyflwyno'r Bil hwn hefyd. Mae'n deg dweud bod Cymru wedi bod ar ei hôl hi o ran ein targedau bioamrywiaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n teimlo bod hyn yn rhy ychydig yn rhy hwyr, ond unwaith eto bydd yn rhaid i ni weld pan fyddwn ni'n craffu'n llwyr ar y Bil hwn ac yn ei herio yn y dyfodol.

Canfu adroddiad gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd yn 2024 fod poblogaethau byd-eang gwyllt mamaliaid, adar, amffibiaid, ymlusgiaid a physgod wedi gostwng 73 y cant ers 1970, gyda bron i un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant ym Mhrydain Fawr. Gwelodd Cymru ostyngiad o 20 y cant ar gyfartaledd ym mhoblogaeth rhywogaethau a gafodd eu monitro rhwng 1994 a 2023. Mae hynny mewn gwirionedd dros gyfnod o amser pan ydych chi wedi bod yma fel Llywodraeth Lafur Cymru yn y sefydliad hwn. Rydym yn gwybod nawr ei bod yn y 224 safle allan o 240 o wledydd eraill ar fynegai cyfanrwydd bioamrywiaeth yr Amgueddfa Astudiaethau Natur. Rydym ymhlith y 10 y cant isaf yn y byd. Cymru yw'r olaf o wledydd y DU i sefydlu bwrdd llywodraethiant amgylcheddol. Nawr, un o nodau'r Bil hwn yw mynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth, ond eto nid yw'r angen i weithredu ar frys yn cael ei grybwyll cystal ag y gallai mewn gwirionedd. Fel yr amlygwyd gan un o adroddiadau blaenorol y pwyllgor newid hinsawdd, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon ynghylch hyn ar hyn o bryd, ac mae pryderon gwirioneddol gan gyrff amgylcheddol eraill ynglŷn â chyflawni. Mae pryderon ynglŷn â'r diffyg staff yn rhai o'n cyrff gorfodi, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac a ydyn nhw mewn sefyllfa dda i gyflawni'r targedau bioamrywiaeth hyn. Fel y dywedwyd yn gynharach heddiw, mae gennym ni orfodaeth wael yma yng Nghymru o ran llygredd tir, dŵr ac afonydd, felly rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i drin y dirywiad mewn bioamrywiaeth gydag ymdeimlad o frys wrth weithredu'r Bil hwn.

Fe wnaethoch chi sôn am y pedair egwyddor allweddol, sy'n cynnwys y corff llywodraethiant amgylcheddol newydd, yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd, ac, wrth gwrs, gwella'r amgylchedd a newid hinsawdd. Mae angen cydnabod hefyd fod y pwyllgor newid hinsawdd wedi dod i'r casgliad ei bod yn fethiant anfaddeuol y Llywodraeth Cymru hon nad yw corff newydd swyddfa llywodraethiant amgylcheddol Cymru yn gwbl weithredol eto, a'ch bod yn disgwyl iddi fod yn gwbl weithredol erbyn yr etholiad nesaf. Hoffwn rywfaint o sicrwydd ar eich amserlenni yn hynny o beth. Mae angen i chi hefyd roi mwy o sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, bod pob sefydliad, h.y. yr OEGW a Cyfoeth Naturiol Cymru, nad yw eu swyddogaethau'n gorgyffwrdd, gan achosi dyblygu. Dylid nodi hefyd fod angen mwy o sicrwydd o ran cyllido'r OEGW, yn ogystal â'i bod yn cael ei chefnogi i fynd i'r afael â'r meysydd arfaethedig ac na fyd yn cael ei gorymestyn, fel y defnyddir yn aml gennych chi, Gweinidog, pan gaiff ei herio ar faterion llywodraethiant amgylcheddol.

Nid oes unrhyw fanylion penodol, a byddwn ni'n chwilio mwy am hyn wrth i ni fynd ymlaen trwy'r Bil, o raddfa mandad yr OEGW. Dylid nodi hefyd fod y Bil yn nodi'r gofynion wrth benodi person yn aelod anweithredol, ond mae'n rhaid iddo ddangos gallu mewn cyfraith a pholisi amgylcheddol, gwyddor amgylcheddol, gweithrediadau ymchwilio a gorfodi. Mae hynny'n amwys iawn, yn wir, felly rydym yn gobeithio y bydd hynny'n adeiladu wrth i'r Bil fynd ymlaen.

Ychydig iawn a geir o ran casglu data a thargedau a osodwyd, ac rwy'n gwybod bod rhai cyrff amgylcheddol wedi gofyn i'r targedau hyn gael eu gosod ar flaen y Bil.

Hoffwn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau nad yw'r Bil hwn yn cael ei ruthro drwodd, oherwydd rydych chi wedi ei adael yn eithaf hwyr yn ein cylch etholiadol, os mynnwch chi, o ran y tymor hwn. Mae angen dull pragmatig, synnwyr cyffredin arnom wrth ddefnyddio arian ein trethdalwyr, felly byddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod yr egwyddorion a'r amcanion amgylcheddol yn y Bil hwn yn talu sylw llawn i'r amgylchedd morol a sut mae angen iddo gael ei ddiogelu wrth i ni weithredu'r seilwaith sydd ei angen i leihau ein hallyriadau. Unwaith eto, sut y bydd hyn yn effeithio ar ein bywyd môr, ein mamaliaid a'n hadar? Fel y dangosir yn adroddiad y Comisiynydd Dŵr Annibynnol a ryddhawyd heddiw, dylid gwneud darpariaethau o fewn y Bil hwn i sefydlu a goruchwylio cyfeiriad hirdymor mwy cyson ar gyfer darparu cyflenwad dŵr a chael gwared ar ddŵr gwastraff. Mae'r comisiwn yn tynnu sylw at y ffaith bod y polisi, yn rhy aml, wedi cael ei lunio gan bwysau tymor byr yn hytrach na chynllunio parhaus, cydlynol, felly allwn ddim caniatáu i Fil fynd ymlaen sy'n cyfaddawdu hynny.     

Y Bil a swyddogaeth y—

15:15

Iawn, ocê. Felly, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y ddeddfwriaeth hon yn fwy manwl yn y dyfodol, a sicrhau y bydd y Bil hwn yn arbennig yn bodloni'r amcanion o ddiogelu ein hamgylchedd a mynd i'r afael â'r dirywiad pryderus mewn bioamrywiaeth. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae yna lawer iawn o bwyntiau a godwyd gennych yn y fan yna. A dim ond i ddweud, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chi a'r holl Aelodau eraill wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo. Rwy'n credu ei fod yn dda iawn eisoes, ond bydd yna bethau y bydd angen mynd i'r afael â nhw hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn, yn eich sylwadau agoriadol yn y fan yna, 'Beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud? Pam rydyn ni y tu ôl i Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban?' Ond, edrychwch, efallai ein bod ni y tu ôl i wledydd eraill y DU, ond mewn gwirionedd rydym wedi gallu dysgu'r gwersi ganddyn nhw hefyd—yr hyn sydd wedi bod yn dda a'r hyn y gallwn ni fynd ag ef ymhellach hefyd, a bydd hynny'n ddiddorol i'w drafod gyda chi ar y pwyllgor, oherwydd mae yna feysydd lle mae'r Bil hwn, mewn gwirionedd, yn mynd ymhellach na'r Alban a Gogledd Iwerddon a Lloegr ac yn ei wneud yn fframwaith mwy pwerus, ac, mewn gwirionedd, mae pwerau'r corff—. Er enghraifft, os gallaf sôn wrthych am ddim ond un, mae yna bwerau o fewn hyn i orfodi cydymffurfiaeth frys—nid dim ond cydymffurfiaeth, ond cydymffurfiaeth frys. [Torri ar draws.] Dydyn nhw ddim yn bodoli. Felly, gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r pethau hyn wrth iddo fynd ymlaen.

Ond rwy'n nodi hefyd, o ran—. Fe wnaethoch chi ofyn i mi wneud dau beth penodol. Un i symud ymlaen ar frys ar y Bil hwn, ac, yn ail, i wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o amser i'w gyflawni hefyd, ac i fynd trwy bopeth. Wel, rwy'n awyddus i ni wneud hynny, ac ym mhroses y pwyllgor, rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n archwilio'r holl bethau hyn. Ond rydych chi'n iawn. Fe ddywedon ni y bydden ni'n dod â hyn ymlaen, ac y bydden ni'n ei gyflwyno o fewn tymor y Senedd rydyn ni'n gwneud hynny ynddo. Mae angen i ni fwrw ymlaen ar frys nawr gyda'r Bil hwn sydd wedi'i lunio'n dda iawn sy'n ganlyniad uniongyrchol i ymgysylltu helaeth a pharhaus â rhanddeiliaid, i'w fireinio a'i lunio, fel ei fod yn barod, wedyn, i'w gymryd drwodd yn nhymor y Senedd hon. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chi ac eraill i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am Cyfoeth Naturiol Cymru ac adnoddau ychwanegol, ac, edrychwch, byddai'n anfoesgar i mi fyfyrio ar y degawd diwethaf a mwy, a'r hyn sydd wedi digwydd, nid yn unig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ond gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd, ond mae wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol i dynnu cyllid yn ôl o'r Llywodraeth ganolog, a doedden ni ddim mewn grym ar yr adeg honno. Ond rwy'n falch iawn o ddweud, ar gefn y cynnydd yn y gyllideb, a bleidleisiwyd drwyddo yn ddiweddar, rydym yn gallu, fel rhan o hynny, ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru, nid dim ond ar gyfer gorfodi, ond ar gyfer esgidiau ar lawr gwlad i ymgysylltu, a'r swyddogaeth reoleiddiol sydd ganddyn nhw hefyd—. A dyma'r tro cyntaf ers blynyddoedd lawer rydym wedi gallu gwneud hynny, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny, tra bod adnoddau yn caniatáu hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am yr amserlen. Mae'n ddrwg gennyf—. Dim ond i ddweud, dydyn ni ddim wedi bod yn gwneud dim, Dirprwy Lywydd a Janet. Yma yng Nghymru, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi ymateb yn uniongyrchol i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym wedi blaenoriaethu diwygio trwy gymhorthdal amaethyddol. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth aer glân newydd. Rydym wedi symud ymlaen i weithredu targed sero net newydd. Rydym wedi gosod llwybr i'w gyflawni. Rydym wedi creu grantiau newydd ar gyfer adfer natur. Rydym wedi ailgyfeirio ein gwariant ar drafnidiaeth mewn ffordd radical. Rydym wedi gwneud diwygiadau cynllunio, ac rydym wedi cefnogi buddsoddiadau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr. Ond yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw ei fod yn mynd â ni i'r cam nesaf hwnnw mewn dull strategol o ddiogelu'r amgylchedd, ac adfer ac ailgyflenwi ein bioamrywiaeth a helaethrwydd ein rhywogaethau. Dyna beth yw'r Bil hwn.

Dim ond i ddweud, nid yw'r Bil hwn yn ymwneud â—a gadewch i ni beidio, ar adeg pan fo angen i ni fynd â hwn yn ei flaen ar frys, geisio hongian llawer o drugareddau arno—cyflenwadau dŵr a dŵr gwastraff. Mae yna ffyrdd eraill y gallwn ni wneud hynny, yn enwedig system PR24, sydd wedi effeithio ar dalwyr biliau ledled Cymru, ond mewn gwirionedd, fel y gwyddoch chi, mae swm enfawr wedi'i fuddsoddi ar y dechrau nawr yn yr hen system garthffosiaeth Fictoraidd. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r hyn rydym yn ei wneud yn ddiweddarach, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n cefnogi argymhellion yr Athro Susannah Bolton hefyd o ran rheoli llygredd amaethyddol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ai 'ie' oedd hynny? 'Efallai' oedd e.

15:20

'Ddim—[Anghlywadwy.]—y diwydiant amaethyddol' oedd hynna.

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. Rwy'n croesawu'r ddeddfwriaeth yma. Wrth gwrs, mae hi yn hirddisgwyliedig, oherwydd, fel dŷch chi wedi cydnabod, ers blynyddoedd mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi, ac rŷn ni wedi bod yn eithriad anffodus o ran llywodraethiant amgylcheddol.

Rwy'n cydnabod beth oeddech chi'n ei ddweud; efallai y byddwn ni nawr yn gallu dysgu gwersi o beth sydd wedi cael ei wneud yn rhai o'r gwledydd eraill. Rwy'n gobeithio y bydd hynna yn rhywbeth y byddwn ni'n gallu edrych arno fel pwyllgor hefyd. Ond mae'r gagendor, mae'r bwlch yma, wedi bod ar agor rhyngom ni a'r gwledydd eraill yn yr ynysoedd hyn ers rhai blynyddoedd, ac o'r diwedd rwy'n croesawu'r ffaith fod hynna yn cael ei gau, oherwydd roedd y Senedd yma ymysg deddfwrfeydd cyntaf y byd i ddatgan argyfwng ym myd natur. Roedd hynna bron i bedair blynedd yn ôl. Felly, mae'r angen am dargedau natur yn amlwg, a buaswn i'n hoffi gweld gweithrediad ar frys ar hynna.

Rwy'n poeni, os oes mwy o oedi nawr cyn gosod targedau, siawns na fyddwn ni'n gallu cyrraedd y targed o 30 erbyn y flwyddyn 2030, a does neb eisiau bod mewn lle lle rŷn ni'n gosod targedau gydag ond dwy flynedd i fynd cyn maen nhw'n gorfod cael eu gwireddu, oherwydd mae byd natur mewn stad o grisis.  Datgelodd yr adroddiad stad natur y ffeithiau: mae un ymhob chwe rhywogaeth dan fygythiad o gael ei golli.

Mae rhywogaethau a oedd yn arfer bod yn gyffredin yn ein cefn gwlad, fel y gylfinir, llygoden y dŵr, rhywogaethau o bili-palod a chacwn, gan gynnwys y gardwenynen feinlais yr wyf yn hyrwyddo'r rhywogaeth—maen nhw i gyd mewn perygl. Gyda'r gardwenynen feinlais, dim ond llond llaw o safleoedd ledled y DU sydd ar ôl lle gallan nhw greu cynefin, ac un ohonyn nhw, wrth gwrs, yw gwastadeddau Gwent, sydd mor hanfodol i'n bioamrywiaeth. Felly, mae'n rhaid i fframwaith y Bil hwn nodi'r angen i wrthdroi'r tueddiadau hynny.

Ac rwy'n croesawu cymaint o'r hyn sydd i mewn yma. Wrth gwrs, bydd pob un ohonom ni eisiau lliniaru'r risg o eiriau cain a bwriadau da sy'n paratoi'r ffordd i uffern lle na cheir yr holl bethau hynny sy'n gwneud ein byd yn gyfoethog, yn amrywiol ac yn hardd. Byddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth pam nad oes prif darged yn y Bil i wneud hynny, i ysgogi camau gweithredu brys i wrthdroi colli bioamrywiaeth. Rwy'n gwybod bod sefydliadau gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Gronfa Fyd-eang dros Natur a Chyfeillion y Ddaear Cymru i gyd wedi galw am hyn, ac rwy'n cefnogi galwad rhai o'r sefydliadau hynny i ychwanegu gofyniad at y Bil am darged i wrthdroi'r dirywiad mewn helaethrwydd rhywogaethau erbyn 2035, oherwydd byddai hynny'n ymgorffori'r brys mawr ei angen yr ydych wedi bod yn siarad amdano, Dirprwy Brif Weinidog, yn y Bil hwn. Fel y mae'r RSPB wedi rhybuddio, pasio'r Bil hwn fydd un o'r pethau olaf i'w wneud yn nhymor y Senedd hon. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'n gadael unrhyw le i amau pa mor gyflym y mae angen gweithredu na maint y dasg.

Fel y mae WWF ac aelodau eraill o Gyswllt Amgylchedd Cymru wedi dadlau, dylai'r Bil hefyd fod yn gosod amserlenni ar gyfer targedau ehangach mewn is-ddeddfwriaeth. Mae deddfwriaeth yn Lloegr yn gofyn am dargedau hirdymor, gan eu diffinio fel rhai sydd o leiaf 15 mlynedd o hyd. Does bosib y dylai'r Bil hwn adlewyrchu hynny? Ac mae yna bryder mawr arall sydd wedi'i fynegi gan rai o'r grwpiau hynny, sef bod y ddyletswydd i gymhwyso egwyddorion amgylcheddol ond yn berthnasol i bolisïau sy'n effeithio ar yr amgylchedd, sy'n wannach na'r dull a fabwysiadwyd yng ngwledydd eraill y DU, lle mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bob polisi a gaiff ei lunio. Unwaith eto, gan gyfeirio at yr hyn sydd eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma, tybed a allech chi gadarnhau a yw'r ddyletswydd yn berthnasol i benderfyniadau am y gyllideb.

Yn yr un modd, mae'r ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus ond yn berthnasol o ran asesiadau amgylcheddol strategol, ac nid yw hynny'n esbonio'n glir beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Pe gallech chi roi rhai enghreifftiau pendant i ni o hynny, os gwelwch yn dda, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Ar ben hynny, mae'r Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio, yn dweud y dylai'r datganiad o egwyddorion gael ei adolygu eto. Mae hyn wedi cael ei godi eisoes o bryd i'w gilydd, ac, eto, mae'n ymddangos bod hynny ychydig yn amwys.

Mae yna bryderon am sut y bydd y corff goruchwylio yn gweithredu. Does dim  guarantee am annibyniaeth y corff, ac mae'r mesur yn reit gul ynglŷn â gosod mas beth gall y corff ei wneud. Gall hynny agor lan y drws yn y dyfodol i Lywodraeth gulhau atebolrwydd. Mae angen sicrwydd yn y Mesur am annibyniaeth y corff a disgwyliad y bydd yr arian digonol yn cael ei roi, a buaswn i'n hoffi gweld y corff yn cael ei ymbweru er mwyn cydweithio gyda'r cyrff yn y gwledydd eraill, i dderbyn cwynion gan y cyhoedd, i gynghori Gweinidogion, ac nid dim ond am weithrediad deddfwriaeth amgylcheddol, ond hefyd pa mor effeithiol yw e.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, mae hyn yn gam pwysig ymlaen, a dwi wir yn croesawu'r gwaith sydd wedi mynd mewn i hyn ac i bawb sydd wedi bod yn gweithio arno fe. Rwy'n gobeithio y bydd sgôp i ni fel pwyllgor ac i ni fel plaid i gydweithio gyda'r Llywodraeth wrth osod gwelliannau, achos dylai fod gan bawb yr hawl i gael mynediad at amgylchedd sy'n iach ac aer sy'n lân. Diolch.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Delyth, a diolch am eich croeso i'r Bil hwn. Ac, unwaith eto, fe wna' i ailadrodd fy mwriad yn y fan yma i weithio gyda chi ac eraill wrth i'r Bil hwn fynd ymlaen i archwilio rhai o'r materion hyn yn fanwl iawn wrth i ni fynd i'r pwyllgor hefyd.

Ond dim ond i droi at rai o'r materion rydych chi wedi'u cyffwrdd â nhw yn y fan yna, mae'r gwaith o osod targedau yn mynd i fod yn rhan hanfodol o hyn ac o'i gael yn hollol iawn, ac mae fy rhagflaenydd yn y rôl hon, Julie James, wedi ei gwneud yn glir bod angen i ni sicrhau eu bod nhw'n adlewyrchu nodau a thargedau'r Cenhedloedd Unedig, ond nad oedden nhw'n ailadrodd yr hyn yr oeddem yn ei wneud eisoes ychwaith. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp i gynghori ar dargedau; rydym yn awyddus i weithio gyda nhw, ac maen nhw'n deall nid yn unig pwysigrwydd cael y targed cywir, ond hefyd yr amserlen ar gyfer cyflawni hyn hefyd. Os gwnawn ni ruthro ymlaen a dewis targedau allan o nunlle, efallai y bydd gennym dargedau sy'n mesur mewnbynnau, fel buddsoddiad mewn rhai meysydd, ond nid y canlyniadau cywir; efallai y byddan nhw'n rhai sy'n dyblygu ac yn y blaen. Felly, rwy'n awyddus i weithio gyda'r grŵp cynghori hwnnw ac i ddibynnu ar rywfaint o'r cyngor arbenigol sy'n dod allan o'r grŵp hwnnw, gan gynnwys ar yr amseru hefyd.

Felly, i fod yn hollol glir yn y fan yma, o ran gosod targedau o fewn rheoleiddio, bydd angen i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan arbenigwyr annibynnol. Mae'r ymgysylltu a'r cyd-ddylunio gyda'r arbenigwyr a'r rhanddeiliaid allweddol hynny yn mynd i fod yn hanfodol i'r broses o osod targedau a'r targedau penodol. Bydd y panel cynghori hwnnw ar dargedau bioamrywiaeth yn sicrhau ac yn gwella tryloywder a chywirdeb wrth greu'r targedau hynny. Mae ganddo arbenigedd annibynnol, mae'n darparu cyngor ac argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a, gyda llaw, adolygiad gan gymheiriaid hefyd. Felly, rydym yn ceisio cael hyn yn iawn, oherwydd os dewiswn ni'r targedau anghywir, gallen ni fod yn dargyfeirio adnoddau ac ymdrech i feysydd sydd naill ai'n dyblygu neu'n mynd i'r cyfeiriad anghywir.

Mae'r panel yn cynnwys, fel y soniwyd o'r blaen, bobl o wahanol ddisgyblaethau—dŵr, yr economi, addysg, ymchwil gymdeithasol, bioamrywiaeth, daearol, dŵr croyw a morol, Janet, hefyd. Ac ar y panel mae gennym nid yn unig academyddion, ond hefyd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Cyfoeth Naturiol Cymru, a phobl sydd ag arbenigedd mewn monitro a modelu a rheoli ymarferol a pholisïau.

Mae gennym ni'r ymrwymiad hwnnw i gyflwyno'r targedau hyn. Peidied neb â chamgymryd, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno'r targedau hyn gyda'r cyflymder a'r brys angenrheidiol. Bydd y targedau yn amserol, byddan nhw'n canolbwyntio ar weithredu, a byddan nhw'n gwbl glir o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud i adfer natur.

Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, a phan ymddangoson ni o flaen y pwyllgor o'r blaen, rhai o'r pryderon a fynegwyd, a chan randdeiliaid hefyd, ynghylch a allwn ni ddatblygu rhai o'r targedau hyn mewn gwirionedd, gan gydnabod yr hyn a ddywedais yn y fan yna, ychydig yn gyflymach. Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion yn gweithio ar gyflymder gyda'r rhanddeiliaid hynny i nodi opsiynau ar gyfer lleihau'r amserlen lle bo hynny'n bosibl, ond nid trwy aberthu'r canlyniad terfynol o gael y targedau cywir i ganolbwyntio arnyn nhw.

Fe wnaethoch chi sôn am ystod eang o bethau eraill yn y fan yna, gan gynnwys annibyniaeth yr OEGW. Rydym yn cydnabod, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, fod yr annibyniaeth yn hollol hanfodol, felly dyna pam mae'r Bil yn cynnwys meysydd penodol sy'n anelu at gryfhau'r annibyniaeth hon. Felly, gadewch imi fod yn glir yn gyntaf oll na fydd unrhyw reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth dros yr OEGW.

Gadewch imi roi enghraifft i chi: fydd Gweinidogion Cymru ddim yn gallu pennu'r hyn y bydd yr OEGW yn ei wneud a'r hyn na fydd yn ei wneud. Gallwn ni ofyn, er enghraifft, a allai'r OEGW roi cyngor i helpu i lywio'r polisïau rydym yn eu datblygu, ond nid yw'n ofynnol i'r OEGW wneud hynny. Mae hyn, gyda llaw, mewn cyferbyniad â'r OEP ar draws y ffin yn Lloegr, lle mae'n rhaid iddyn nhw roi cyngor. Mae'n rhaid iddyn nhw ymateb i'r cais gan Weinidog ar newidiadau i gyfraith amgylcheddol os gofynnir iddyn nhw wneud hynny. Bydd yr OEGW gyda ni yn gwneud ei phenderfyniad ei hun ynghylch a ydyn nhw'n meddwl ei fod yn flaenoriaeth iddyn nhw ei wneud. Ac ni fydd gan Weinidogion Cymru unrhyw rôl wrth gadarnhau strategaeth yr OEGW. Yn hytrach, bydd hyn yn cael ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yn eiddo'n llwyr i'r OEGW.

Rydym wedi rhoi mecanweithiau atebolrwydd i mewn yno i ddarparu tryloywder i'r Senedd, ac yn arbennig i hwyluso craffu gan Aelodau'r Senedd i gefnogi ei hannibyniaeth oddi wrth Weinidogion. Er enghraifft, bydd angen i'r OEGW gyhoeddi adroddiadau a chanfyddiadau y gellir eu gosod gerbron y Senedd. Bydd yn destun craffu gan bwyllgorau'r Senedd yn rheolaidd, yn enwedig y rhai sydd â swyddogaethau goruchwylio amgylcheddol.

Er ein bod ni'n gyfrifol am benodi'r bwrdd, gyda'r arbenigedd a grybwyllwyd yn gynharach, byddwn ni'n gwneud hynny ar sail argymhellion gan banel sy'n cynnwys mwyafrif o gyfwelwyr annibynnol. Bydd yr holl benodiadau eraill yn cael eu gwneud gan yr OEGW ei hun. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd cyn penodi'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd. Felly, rydyn ni wedi mynd ati o ddifrif i gryfhau'r annibyniaeth a'r pellter oddi wrth y Llywodraeth a gadael iddi ddilyn ei thrywydd ei hun.

A dim ond i ddweud hefyd, oherwydd rwy'n gwybod bod rhai Aelodau eraill wedi dweud hyn, gallwn ni wneud llawer o hyn, gallwn ni roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith, gallwn ni osod y llwybr ar gyfer y rheoliadau eilaidd yn y dyfodol, wel, o ran yr OEGW, mae'n cael ei sefydlu gan ddeddfwriaeth. Gadewch imi ei gwneud yn glir: dim ond gyda chymeradwyaeth y Senedd y gellir ei diddymu gan ddeddfwriaeth. Felly, mae hynny'n sicrwydd pendant yn y fan yna. Diolch yn fawr. 

15:30

Rwy'n cytuno â phwysigrwydd dysgu gan reoleiddwyr amgylcheddol eraill sydd eisoes wedi deddfu ar y mater hwn, ac i ddysgu o unrhyw gamgymeriadau posibl y maen nhw wedi'u gwneud—mae hynny'n ymddangos yn hollol briodol. Ond mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn nawr, oherwydd, yng Nghymru, does dim sefydliad wedi bod a all erlyn, er enghraifft, adeiladwyr sy'n methu â gosod blychau gwenoliaid ar adeiladau, sy'n amlwg yn bryder arbennig i mi fel hyrwyddwr gwenoliaid.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch egwyddorion rhagofalus, atal, unioni a llygrwr yn talu. Rwyf eisiau deall nawr sut mae hyn yn mynd i wella sefyllfa druenus ein dŵr, sy'n peri pryder mawr i'r cyhoedd. Yn benodol, wrth edrych ar adroddiad interim Syr Jon Cunliffe, a gyhoeddwyd heddiw, roedd gen i ddiddordeb mawr yn y sylw a roddwyd i'r cynllun glawlif yn Llanelli, sydd wedi gwneud llawer ac sy'n cael buddsoddiad sylweddol gan Dŵr Cymru i atal dŵr glaw rhag mynd i'r systemau carthffosiaeth. Mae'n ymddangos bod hwn yn un o'r targedau y mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob awdurdod lleol a phob corff cyhoeddus yn gweithredu arno, oherwydd mae'n gwbl ddibwys defnyddio un o'n hasedau pwysicaf fel pe bai'n rhywbeth a ddaeth allan o'r toiled.

15:35

Tybed a allech chi ddweud wrthym sut rydych chi'n meddwl y gall targedau rydych chi'n mynd i'w gosod ar gyfer cyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar gadw dŵr yn hytrach na'i roi yn y system garthffosiaeth bob amser, sydd wedyn yn aml yn mynd i mewn i'r afonydd a'r moroedd yn y pen draw.

Diolch, Jenny. Rwy'n credu bod hyn yn fesur o'r gwahaniaeth y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud, oherwydd rydyn ni eisoes yn gwneud pethau yn y gofod dŵr, ond gallu—. Ac rwy'n cytuno â chi. Diolch am groesawu hynny—yr egwyddorion sy'n sail i hyn a sefydlu'r OEGW, gyda'u cyfrifoldeb i edrych arno mewn ffordd strategol yn seiliedig ar systemau. Dydw i ddim yn dweud y byddan nhw, a mater iddyn nhw yw gwneud hynny â'u barn annibynnol, ond fe allen nhw droi eu sylw at sut mae ein cyfraith amgylcheddol yn amddiffyn ansawdd ein dŵr, neu fel arall. Gallan nhw wneud hynny, ac yna gallan nhw wneud argymhellion i ddweud, 'Mae angen i chi ei wneud yn y modd hwn'.

Mae yna ddarnau eraill y tu allan i hynny nad oes rhaid i ni aros amdanyn nhw: y gwaith sydd wedi'i wneud gan yr Athro Susannah Bolton ar reoli llygredd amaethyddol; y dull uwchgynadleddau dŵr rydym yn ei wneud, lle rydyn ni wir yn cynyddu'r ffocws ar ganlyniadau nawr; a gwaith y byrddau rheoli maethynnau. Ond yr hyn y bydd y gwahaniaeth hwn yn ei wneud yw sicrhau bod corff goruchwylio annibynnol yn gallu dweud, 'Mae hyn yn gweithio' neu, 'Dydy hyn ddim', ac mae hynny'n bwerus iawn.

Yr agwedd arall, fel y gwnaethoch chi gyffwrdd â hi'n briodol, yw gallu'r dinesydd i ddweud wrthyn nhw, 'Efallai yr hoffech chi edrych ar hyn, oherwydd dydy e' ddim yn gweithio'n dda'. Rydyn ni'n gwybod am y galwadau cyhoeddus mawr ynglŷn ag ansawdd dŵr, ym mhob rhan wahanol o Gymru, am wahanol resymau, ac mewn dalgylchoedd afonydd gwahanol hefyd. Ond mae'r corff hwn hefyd yn gallu cynnal ymchwiliadau, a dweud, 'Gallwn ni weld rhywbeth yn digwydd yma nad yw'n ymddangos ei fod yn gweithio ar sail systemau'. Rwy'n credu mai dyna bŵer hyn nad oes gennym ni ar hyn o bryd, nad ydym wedi'i gael ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar y sail honno, rwy'n credu mai dyma lle mae'n dod â'r cyfan at ei gilydd, ac fe allan nhw edrych ar a yw'n ansawdd dŵr neu a yw'n faterion systemig eraill, a dweud, 'Dydy'r gyfraith amgylcheddol ddim yn cael ei gweithredu'n ddigonol, nid yw wedi'i chynllunio'n briodol; rydyn ni'n credu y dylech chi fod yn ei gwneud mewn ffordd wahanol'. A hefyd, gyda llaw, eu pwerau cydymffurfio brys, sy'n wahanol yn y ddeddfwriaeth hon i ddeddfwriaeth arall—y gallan nhw ddweud, 'Rydyn ni eisiau gweld ymateb o fewn saith diwrnod'. Mae hynny'n eithaf arwyddocaol. Ond, unwaith eto, rwy'n edrych ymlaen, Dirprwy Lywydd, at archwilio'r rhain yn fanylach nawr, wrth i ni fynd â hyn drwy'r camau, yn amodol ar ewyllys y Senedd.

Maddeuwch i mi, Dirprwy Brif Weinidog, rwyf ychydig yn nerfus o Filiau fframwaith sy'n rhoi pwerau i Weinidogion wneud pethau trwy is-ddeddfwriaeth. Ond gan roi hynny o'r neilltu, yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl tybed, gyda'r OEP yn gweithredu yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, pam oeddech chi eisiau cyflwyno eich OEGW eich hun, gan ddyblygu llawer o'r costau pan ddaw i hyn? Sut ydych chi'n sicrhau bod unrhyw fesurau newydd yn deg ac yn ymarferol i ffermwyr yng Nghymru? Mae gen i bryderon ynghylch sut y gallai'r Bil ryngweithio â'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd ar ddod. Mae yna berygl y gallai wasanaethu fel drws cefn i rwymedigaethau tebyg i'r cynllun ffermio cynaliadwy, hyd yn oed i'r rhai sy'n dewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Er bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn wirfoddol, mae'r Bil hwn yn cyflwyno targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rhwymol. Y cwestiwn allweddol felly yw a fydd y targedau hyn yn berthnasol i bob rheolwr tir, ni waeth a yw'n rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy ai peidio. Ac, yn olaf, rhagflaenydd i'r Bil hwn oedd yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth. Er mwyn tryloywder, allwch chi amlinellu faint o'r sefydliadau a gymerodd ran yn yr archwiliad dwfn sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd? O ystyried bod dros 80 y cant o Gymru yn dir amaethyddol, pam y cafodd yr undebau ffermio eu heithrio o'r archwiliad dwfn hwnnw o fioamrywiaeth?

O'r holl gyfraniadau hyd yn hyn, dyma'r un cyntaf, Sam, er mawr syndod i mi, sydd wedi codi rhywfaint o amheuaeth ynghylch yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud ac ynghylch gosod targedau. Byddan, fe fydd y targedau yn rhwymol. Dyna pam mae gennym ni dargedau bioamrywiaeth, fel eu bod nhw'n rhwymol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i—

15:40

Ceisiwch osgoi cael sgwrs, os gwelwch yn dda. Gadewch i'r Dirprwy Brif Weinidog ateb y cwestiynau. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers amser maith, mae ystod eang o randdeiliaid wedi bod yn galw arnom—yn wir, rydyn ni wedi clywed hynny o'ch meinciau eich hun—i fwrw ymlaen â hyn a rhoi'r targedau hynny ar waith, rhoi'r corff llywodraethiant amgylcheddol ar waith. Ac ydy, wrth gwrs, mae'n rhwymol, a mater i bob Aelod yn y fan hyn fydd cytuno ai dyma'r ffordd gywir ymlaen ai peidio.

Ond rydych chi hefyd yn codi'r mater—ynghyd â'r amheuaeth honno—am y cyllid sydd wedi'i roi i'r rhanddeiliaid hynny sydd wedi bod yn rhan o'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn flaenorol. Byddwn i'n dweud yn syml mai rhan o'r rheswm ein bod ni wedi cyrraedd y lle hwn heddiw, lle gallwn ni gyflwyno targedau bioamrywiaeth gwirioneddol ddeallus sydd wedi'u cynllunio'n dda gyda grŵp sy'n cynghori ar dargedau, yw oherwydd y gwaith a wnaed gyda'r cyfranogwyr hynny yn flaenorol. Roedd hynny'n bwysig iawn. Rwy'n nodi tôn eich cyfraniad, faint o gyllid gawson nhw a beth bynnag. Yn amlwg, ni fyddai gen i hynny wrth law, ond mae croeso i chi ofyn cwestiwn i mi ac yn y blaen. Ond mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu nad oedd yn werth gwneud hyn. Byddwn i'n dadlau ei fod yn bendant yn werth ei wneud, Sam, oherwydd mae wedi ein cael ni i'r lle hwn heddiw.

Rydych chi'n gofyn pam ei fod yn gorff annibynnol i Gymru. Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Fe wnaethon ni edrych ar ddewisiadau amgen: allen ni gymryd corff sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, fel Cyfoeth Naturiol Cymru? Allen ni edrych ar ddefnyddio un o'r cyrff eraill? Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, fodd bynnag, mae cyd-destun polisi unigryw yma yng Nghymru. Ni yw'r unig wlad sydd â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae gennym ni ymagwedd benodol o ran, er enghraifft, ansawdd afonydd trwy'r uwchgynadleddau afonydd ac yn y blaen. Mae yna amrywiaeth o resymau pam mae angen corff annibynnol yma yng Nghymru.

Yn ail, byddai cael Cyfoeth Naturiol Cymru neu sefydliad arall yn marcio ei waith cartref ei hun nid o ran rheoleiddio a gorfodi amgylcheddol, ond marcio ei waith cartref ei hun o ran y ffordd y mae'n helpu i symud tuag at dargedau adfer bioamrywiaeth ac yn y blaen—. Roedd yr holl ymgysylltu â rhanddeiliaid, Sam, yr wyf yn siŵr y byddwch chi wedi ei ddarllen, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dangos bod angen corff yng Nghymru a oedd ag annibyniaeth—y pwynt sydd wedi'i godi eisoes—a allai sefyll ar ei ben ei hun, yr oedd ganddo annibyniaeth glir, a oedd yn goruchwylio cyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru hefyd. Fi yw'r Gweinidog sy'n noddi Cyfoeth Naturiol Cymru. Sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nwyn i gyfrif wedyn? Mae gan y corff hwn y gallu i bwyntio bys at gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'n fersiwn Gymraeg o'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban, Iwerddon ac yn y blaen. Gobeithio y bydd hynny'n cael cefnogaeth yr Aelodau yn y fan yma.

Roedd yna agweddau eraill a grybwyllwyd gennych, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hyn wrth symud ymlaen wrth i ni archwilio rhai o'r materion hyn. Ond rwy'n sicr yn credu mai dyma'r dull cywir i'w gael—corff llywodraethiant amgylcheddol sy'n gallu goruchwylio pob corff cyhoeddus, gosod targedau a sicrhau bod yr egwyddorion hynny yn cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth. 

Mae'r Bil hwn yn garreg filltir fawr, ac rwyf bob amser yn dawel fy meddwl bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, a'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd hefyd, yn poeni am yr amgylchedd. Daw'r targedau o dan y Senedd nesaf. Felly, a allech chi roi sicrwydd i mi ynglŷn ag amserlenni ar gyfer y targedau hynny a'm sicrhau y bydd y Bil hwn yn cwmpasu hynny? O ran awdurdodau cyhoeddus, a fydd yr egwyddorion amgylcheddol yn glir iddyn nhw, bod angen iddyn nhw eu cymhwyso wrth bennu cyllidebau ac ar draws pob adran, gan gynnwys trafnidiaeth, cynllunio ac addysg? Allech chi ddweud wrthyf beth rydych chi wedi'i ddysgu wrth osod y Bil hwn ar ôl yr Alban a Lloegr? Beth ydych chi wedi gallu ei wneud i'w wella wrth symud ymlaen? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a diolch am y croeso rydych chi wedi'i roi i hyn. Yn sicr, o ran y targedau, os awn ni ati i fyrhau'r amserlen ar gyfer targedau, fe allen ni, fel y soniais o'r blaen, wynebu'r anhawster naill ai o osod targedau nad oedd modd eu cyflawni neu dargedau anghywir. Ond fe wnawn ni bennu'r ffordd ymlaen ar gyfer y targedau hynny mewn rheoliadau yma o fewn y Senedd hon, felly bydd hynny'n cael ei gadarnhau. Pe bai unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol eisiau dadwneud hynny, byddai'n rhaid iddyn nhw ddod yn ôl a dadwneud hynny, a'i wneud yn glir i'r Senedd. Byddai'n rhaid iddyn nhw wynebu ewyllys y Senedd. Ond fe wnawn ni gadarnhau hynny yma, yn ddarostyngedig i ewyllys y Senedd hon, wrth i ni symud ymlaen â hyn.

Rwyf wedi sôn eisoes am rai o'r ffyrdd yr ydym wedi dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill. Felly, rhywfaint o'r cryfhau rydyn ni wedi'i wneud o amgylch annibyniaeth yr OEGW, mae yna fesurau o fewn hyn, er enghraifft, gyda'r dannedd hynny sydd gan yr OEGW, i orfodi cydymffurfiaeth, ond, yn wahanol i ddeddfwriaeth arall mewn rhannau eraill o'r DU, mae cydymffurfiaeth frys yn rhan ohono hefyd. Ac mae agweddau eraill o fewn hyn yr ydym wedi'u dysgu o'r enghreifftiau sydd wedi mynd o'r blaen, ac rydym wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â nhw, i gydweithio â nhw, i ddeall yr hyn maen nhw wedi'i wneud a'r hyn y gallen nhw ei wneud yn wahanol pe baen nhw'n ei wneud eto. Felly, rydyn ni wedi adeiladu hynny o fewn y dull hwn, wrth symud ymlaen.

Ond, ie, dim ond i fod yn glir, rwy'n gwybod bod yna—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi siarad â mi hefyd ynghylch—pryder am wneud cymaint ar y targedau ag y gallwn ni yr ochr hon. Rydym yn awyddus iawn, mewn gwirionedd, wrth i hyn fynd ymlaen, i ddatblygu'r gwaith y mae'r grŵp cynghori ar dargedau yn ei wneud, i nodi'r amserlenni y gallan nhw weithio iddyn nhw, sut y gallai'r targedau hynny edrych ac i wneud cymaint o hynny yr ochr hon o'r Bil, er y bydd y gwaith gwirioneddol o bennu targedau yn dod wedyn pan fydd y Gweinidog nesaf yn eistedd yn y sedd hon i benderfynu mewn gwirionedd.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n sicr yn croesawu cyflwyno'r Bil hwn. Ym mis Mehefin 2021, Llywodraeth Cymru, neu Gymru, oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng natur. Felly, rwy'n falch iawn, iawn ein bod ni'n cyrraedd y pwynt hwn. Nawr, pam wnaethon ni hynny? Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant ar hyn o bryd, ac rwy'n croesawu'n fawr gynnwys targedau yn y Bil. Ond mae'n rhaid i ni wneud hyn. Does gennym ni ddim dewis. Mae natur yn dirywio ar gyfradd frawychus, fel y mae'r bioamrywiaeth sy'n ei chefnogi. Felly, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n orfodol i gyrff cyhoeddus gyhoeddi cynlluniau adfer natur a gwneud cam cadarnhaol ymlaen. Mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, bod cyrff cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth wrthdroi'r argyfwng natur a bod eu gweithredoedd yn gwbl dryloyw ac y gellir eu dwyn i gyfrif hefyd. Rwy'n credu bod cael corff annibynnol, y mae llawer o sôn wedi bod amdano eisoes, i weithredu os nad yw'r targedau hynny'n cael eu cyflawni yn hollbwysig. Ac, fel eraill, rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost gan sefydliadau sy'n mynegi pryderon—

Fe wnaf, diolch. Ond all natur ddim aros. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi sicrhau pob un o'r bobl sydd wedi cysylltu â ni y bydd gan y swyddfa newydd hon bwerau i weithredu'n bendant—dyna'r cwestiwn yma—i fynd i'r afael â'r heriau niferus y mae ein byd naturiol yn eu hwynebu? Ac allwch chi roi unrhyw fanylion ynghylch pryd y bydd hyn yn dod i rym?

Gallaf, yn sicr. O ran y mater o bendantrwydd, gallaf, ac rwy'n credu y bydd y pendantrwydd hwnnw'n dod trwy'r annibyniaeth honno sydd ganddyn nhw, y ffaith y gallan nhw wneud eu penderfyniadau eu hunain a bod ganddyn nhw'r oruchwyliaeth honno ar draws cyrff cyhoeddus hefyd. Felly, bydd hwn yn gorff pwerus iawn a bydd hefyd, wrth gwrs, yn goruchwylio Gweinidogion Cymru hefyd. Nawr, mae hynny'n newid sylweddol go iawn, ac mae'n newid sylweddol hefyd—. Weithiau rydyn ni'n siarad yn haniaethol am ddeddfwriaeth, ond mae'n gam sylweddol i bobl Cymru, eu gallu i fynd at y sefydliad hwnnw, neu i'r sefydliad hwnnw archwilio maes yn annibynnol a dweud, 'Dydy hyn ddim yn ddigon da; mae angen i chi fod yn gwneud mwy o fewn y gofod hwnnw.'

A gallaf, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi hefyd, yn ddarostyngedig i ewyllys y Senedd hon, y byddwn ni'n rhoi ar waith yr holl ddarnau a all fynd â'r ddeddfwriaeth hon ymlaen—felly, yr egwyddorion sydd mor bwysig i hyn, sefydlu'r sefydliad hwnnw. Felly, pythefnos ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, bydd y corff hwnnw, i bob pwrpas, wedi'i sefydlu. Bydd yn cymryd amser, gyda llaw, i'w roi ar waith, oherwydd mae'n rhaid i chi wneud y logisteg, yr holl bethau arferol sydd eu hangen ar gorff i ddechrau gweithredu, gan gynnwys penodi cadeirydd a dirprwy gadeirydd a bwrdd, a dod â'r arbenigedd sydd ei angen arnyn nhw i mewn hefyd, a bydd hynny'n cymryd amser, ond byddwn ni wedi rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i wneud hynny, ac fe fyddwn ni hefyd ar y ffordd i ddatblygu'r targedau hynny hefyd. Ac fe allaf roi'r sicrwydd hwn i chi, fel y byddaf yn ei roi i bawb yma yn y Siambr hon a'r tu allan: byddwn ni'n parhau i wneud hyn mewn ffordd gydweithredol. Rydym am ddatblygu'r Bil gorau y gallwn, a'r Bil gorau sy'n addas ar gyfer y cyd-destun yng Nghymru, lle rydym wedi arwain ar ddeddfwriaeth amgylcheddol, rydym wedi arwain ar ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, a dyma fydd y cam mawr nesaf ymlaen.

15:50
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Wythnos Gwirfoddoli

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Wythnos Gwirfoddoli. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 15:50:30
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mhob cornel o Gymru, o'n dinasoedd, trefi, Cymoedd a phentrefi, gwirfoddolwyr yw'r arwyr tawel sy'n ymrwymo eu hamser, egni a phasiwn i wneud gwahaniaeth.

Eu gweithredoedd anhunanol o garedigrwydd ac ymrwymiad diwyro yw'r elfen anhepgorol sy'n cynnal ein cymdeithas, gan feithrin ysbryd o undod a thosturi. Amcangyfrifir bod 27 y cant o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli'n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr, ond gwyddom fod llawer mwy o bobl yn gwirfoddoli'n anffurfiol yng nghanol y cymunedau y maen nhw'n byw ynddynt.

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi parhau i weld y gorau mewn pobl a chymunedau, nid yn unig yn y cyfraniad o ddydd i ddydd gan wirfoddolwyr, ond hefyd eu cymorth a'u hymateb i'r pandemig a sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg fel llifogydd. Mae'r ymateb gwirfoddol i'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro yn Wcráin, Syria ac Afghanistan wedi bod yn arbennig. Wrth gwrs, mae digwyddiadau o bwys o'r fath yn alwad gref iawn i weithredu, ond mae yna hefyd lawer o bobl sy'n ymateb i ddigwyddiadau yn agosach at adref, gan roi eu hamser i wneud gwahaniaeth. O ymddiriedolwyr i lywodraethwyr ysgolion, beicwyr cludo gwaed i dimau achub mynydd, mentrau amgylcheddol, trefnwyr rasys hwyl i gasglwyr sbwriel, pobl sy'n rhoi cysur a chefnogaeth dros y ffôn neu'n helpu cymdogion oedrannus mewn ffyrdd ymarferol, mae cymaint o ffyrdd i bobl roi cymorth ac mae rhywbeth i bawb ei wneud. Dyna'r ffordd Gymreig.

Yn gynharach heddiw, fe wnes i gwrdd â'r genhedlaeth bresennol a'r dyfodol o wirfoddolwyr yn rhan o Ddiwrnod Pŵer Ieuenctid, amser pan allwn gydnabod, dathlu a hyrwyddo'r effaith y mae pobl ifanc yn ei chael ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Ac mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn un o'r achlysuron pan fyddwn yn dathlu pawb sy'n helpu yng Nghymru. Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan hanfodol yn ein gallu i gael gafael ar wasanaethau a'r gefnogaeth yr ydym i gyd yn dibynnu arni ac yn ei defnyddio ar ryw adeg yn ein bywydau. Er bod pobl yn rhoi o'u hamser am ddim, rhaid eu cefnogi a'u diogelu. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad parhaus. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn pobl, buddsoddi yn ein cymunedau, buddsoddi yng Nghymru. Ers mis Ebrill 2022, rydym wedi buddsoddi dros £4.6 miliwn mewn gwirfoddoli, gan alluogi dros 419,000 o oriau wedi'u cofnodi o wirfoddoli a hyfforddiant i 6,710 o bobl.

Mae ein grant hirdymor Gwirfoddoli Cymru i gefnogi gwirfoddolwyr a galluogi gwirfoddoli wedi galluogi pobl fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gael 63 o wirfoddolwyr gweithredol, gan gyfrannu 4,744 awr o gefnogaeth mewn rolau gan gynnwys Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), cyflogadwyedd, cylchoedd chwarae, codi arian, brysbennu, derbynydd, eiriolwyr a mentoriaid cymheiriaid. Mae ein grant strategol Gwirfoddoli Cymru yn darparu'r lle i alluogi sefydliadau i roi cynnig ar ddulliau newydd, fel canolfan wirfoddoli Cymru gyfan Innovate Trust. Mae hyn wedi galluogi Innovate Trust i ddatblygu hyb sy'n cynnwys canllawiau hawdd eu deall, straeon ysbrydoledig a chyfleoedd wedi'u teilwra. Trwy rymuso unigolion ag anableddau dysgu, mae hefyd wedi caniatáu i Innovate Trust feithrin cynhwysiant, meithrin sgiliau ac ymgysylltu ystyrlon, gan sicrhau bod gwirfoddoli yn parhau i fod yn hygyrch ac yn effeithiol yn y gymuned.

Yn olaf, rydym yn buddsoddi mewn pobl ifanc gyda'n grant dan arweiniad ieuenctid. Rydym yn gwybod y gall profi gwirfoddoli o oedran cynnar ddatblygu pobl ifanc, eu cynnwys yn eu cymuned a'u bachu i fod yn wirfoddolwyr am oes, ac mae'r grant hwn yn rhoi llwyfan i bobl ifanc ddod yn wneuthurwyr penderfyniadau, gan ddyrannu cyllid ar gyfer gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru.

Nid yw gwirfoddolwyr a gwirfoddoli yn sefyll yn llonydd, ac mae'r byd o'n cwmpas yn newid yn gyflym. Dyna pam, gydag anogaeth cyngor partneriaeth y trydydd sector a chefnogaeth gydweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rydym wedi datblygu dull newydd o wirfoddoli, sydd i'w lansio yn Gofod3 ym mis Gorffennaf. Mae'r dull gweithredu, sy'n ddatblygiad blaengar, sy'n symud ymlaen o'r polisi traddodiadol ar wirfoddoli, wedi'i gyd-ddatblygu ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae'n darparu gweledigaeth o sut beth rydyn ni i gyd eisiau i wirfoddoli fod: ffordd o fyw wrth wraidd hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae'r weledigaeth yn alwad i weithredu ar draws pob sector ac, i yrru ei chyflawni, mae'r dull newydd yn darparu offeryn ymarferol i grwpiau a sefydliadau ym mhob sector ac ar bob lefel wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi gwirfoddoli.

Rwy'n cydnabod, fel y bydd llawer yn y Siambr, nad yw gwirfoddoli yn digwydd ar wahân; mae angen cefnogaeth ar y seilwaith sy'n galluogi ac yn cefnogi gwirfoddoli ei hun, felly mae Cymorth Trydydd Sector Cymru yno i helpu dros 40,000 o sefydliadau sy'n cynnwys ac yn hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi credydau amser Tempo, sy'n galluogi sefydliadau i roi ychydig o 'ddiolch' i gydnabod y cymorth y mae gwirfoddolwr wedi'i roi. Ers 2022, mae bron i 150,000 o gredydau amser wedi'u darparu i dros 6,100 o wirfoddolwyr gweithredol, gyda 50 o grwpiau newydd mewn meysydd blaenoriaeth yn cael eu sefydlu. Yn bwysig fel y rhannau hyn o'r seilwaith cymorth, mae yna, wrth gwrs, lawer o weithredu gwirfoddol sy'n digwydd heb gymorth credydau amser neu grantiau, gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan benderfyniad pur pobl dda yn eu cymunedau, pobl sydd â'r ewyllys i wneud gwahaniaeth.

Mae mwy o hyd yr ydym yn bwriadu ei wneud yn nhymor y Senedd hon. Bydd y weledigaeth newydd yn dod â'r mathau o werthoedd y mae pobl yng Nghymru yn poeni amdanynt yn fyw: cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hunaniaeth a diwylliant Cymreig, ochr yn ochr â gwaith caled, cyflawniad a pharodrwydd i helpu eraill. Hoffwn orffen trwy fynegi fy niolch i bawb am y cymorth y maen nhw'n ei roi fel gwirfoddolwyr. Rydyn ni'n byw mewn byd a chymdeithas well oherwydd hynny.

15:55

Rwy'n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw, ac yn cefnogi'n llawn y gydnabyddiaeth o'r cyfraniad rhyfeddol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ledled Cymru yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni. Yn fy rhanbarth i, ac ar draws y wlad, ein gwirfoddolwyr yw curiad calon ein cymuned, gan roi amser, egni ac ymrwymiad i helpu eraill. Mae llawer gormod i'w crybwyll yn unigol, ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt i gyd.

Fodd bynnag, rwyf am daflu goleuni heddiw ar waith ac ymroddiad anhygoel un unigolyn. Ei henw yw Jean Williams. Mae hi wedi bod yn Brown Owl yn Grŵp Cyntaf Brownis Brynbuga ers 59 mlynedd bellach, sy'n fy marn i yn ymgorffori ymroddiad, mewn gwirionedd. Mae hi wedi gweld cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o ferched yn mynd trwy fy nhref leol, fi yn un ohonyn nhw—felly, pobl cyn ac ar ôl fi. Mae'n eithaf anodd deall faint o ferched sydd wedi bod trwy'r grŵp Brownis pan oedd hi yn eu harwain. Mae hi wedi rhoi cymaint o'i hamser, gan lunio meddyliau ifanc a dysgu sgiliau da iddynt, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael llawer o hwyl. Mae'n gyflawniad anhygoel ac rwy'n siŵr y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod hynny hefyd.

Mae cymaint o fanteision i bobl, iau a hŷn, sy'n rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer rolau gwirfoddoli mewn cymaint o wahanol ffyrdd, a dyna sy'n gwneud i'n cymunedau weithio a dyna sy'n gwneud i'n byd droi. Mewn byd sy'n canolbwyntio ar bethau negyddol, Ysgrifennydd Cabinet, onid ydych chi'n cytuno â mi bod angen dathlu pobl anhygoel fel Jean Williams fel enghreifftiau gwych i'n pobl ifanc ac i ni i gyd? Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones, a diolch am eich cefnogaeth i wirfoddoli yng Nghymru. Mae hwn yn amser i ddathlu, onid yw, y gwirfoddolwyr hynny fel Jean Williams, y Brown Owl, ac mae'n bwysig eich bod chi'n ei henwi, ac rwy'n ei henwi hefyd, o ran ei gwaith a'i hymroddiad, fel y disgrifioch. Felly, mae'n gyfle y prynhawn yma i ddiolch a chydnabod gwirfoddolwyr rydyn ni'n gwybod sydd wrth galon ein cymunedau. Ac rwy'n credu mai'r pwynt rydych chi'n ei wneud hefyd yw ei fod yn beth dwy ffordd, manteision gwirfoddoli, oherwydd rwy'n siŵr y bydd Jean ei hun wedi cael llawer iawn o adborth a mwynhad gwych am ei hymgysylltiad, yr holl bobl ifanc hynny sydd wedi elwa oherwydd Brown Owl.

Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt da iawn i'w wneud, ledled Cymru, bob dydd a nos, mae pobl dda yn rhoi cymorth am ddim, lle maen nhw'n teimlo fod ei angen, lle maen nhw eisiau gwneud cyfraniad. Ac mae'n wych gwybod bod, mewn gwirionedd, 27 y cant o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli'n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr. Diolch am y cyfraniad cadarnhaol hwnnw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mhob cymuned, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser, eu hegni, a’u caredigrwydd i helpu’r rhai sy’n wynebu anawsterau ac sydd mewn angen. Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol, cwmnïaeth, ac, yn fwy na dim, gobaith. Gyda gwasanaethau cyhoeddus wedi eu hymestyn i’r eithaf, neu weithiau wedi eu torri'n gyfan gwbl, mae gwirfoddolwyr yn fwyfwy camu i’r adwy.

Rŷn ni'n sôn yn gyson am bwysigrwydd meithrin a sicrhau cydlyniant cymunedol wrth i'r asgell dde geisio tanseilio a rhannu cymdeithas. Mae gwirfoddoli hefyd, wrth gwrs, yn dod â phobl ynghyd. Mae'n meithrin cysylltiadau, yn datblygu sgiliau ac yn cryfhau ein cymunedau. Mae'n dangos bod pobl yng Nghymru yn barod i ofalu am ei gilydd, ac i weithredu er lles pawb. Felly, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddiolch i'r miloedd sy'n rhoi'n dawel. Mae Cymru'n lle gwell oherwydd eich caredigrwydd a'ch gofal chi.

Roeddwn i'n falch o fod yn rhan o ddathliad neithiwr o wirfoddolwyr Castell-nedd Port Talbot, a oedd wir yn ysbrydoledig. Hoffwn i longyfarch y bron i 40 o grwpiau ac unigolion ar draws y sir a gafodd eu gwobrwyo. Soniodd cyfarwyddwr NPTCVS, Gaynor Richards, yn ei hanerchiad hi, fod gwirfoddolwyr yn aml yn cael eu galw'n asgwrn cefn ein cymunedau, ond ei bod hi, yn hytrach, yn meddwl amdanyn nhw fel yr enaid sy'n bywiocau ein cymunedau.

Roeddwn i'n falch hefyd o weld cyflwyniad categori newydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant—yr hyn, meddai Gaynor Richards, sy'n gwneud ein cymunedau yn gryfach, yn fwy tosturiol, yn fwy effeithiol, wrth gynnal y rhai sydd angen ein cefnogaeth fwyaf. Rwy'n cytuno'n llwyr. Roeddwn i'n falch o wobrwyo enillwyr y categori, sef y grŵp Chai and Chat, sy'n dod â menywod o gefndiroedd ethnig amrywiol at ei gilydd am sgwrs a phaned.

Ond mae angen mwy na llongyfarchiadau a geiriau cynnes ar wirfoddolwyr. Yr hyn rŷn ni'n ei glywed yn gynyddol gan nifer o'r grwpiau trydydd sector sy'n cefnogi gwirfoddolwyr yw bod y cynnydd yn yr yswiriant gwladol yn bygwth y gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni—gwaith sy'n fwy hanfodol fyth wrth i fwy o bobl yng Nghymru gael eu gwthio i dlodi. Er bod gwirfoddolwyr yn rhoi cymaint, maen nhw hefyd angen cefnogaeth i wneud y cyfraniad hanfodol yma i Gymru.

Mae'r cynnydd yn peri pryder gwirioneddol. Mae llawer o sefydliadau trydydd sector—elusennau, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol—yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol ac ar gyllidebau tynn. Pan fydd costau cyflogi staff—hyd yn oed staff rhan-amser sy’n cefnogi gwirfoddolwyr—yn cynyddu oherwydd yr NICs, mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar system sydd eisoes o dan straen. Mae 78 y cant o sefydliadau yn nodi cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau. Y canlyniad yw llai o adnoddau i hyfforddi, cefnogi a diogelu gwirfoddolwyr; mwy o anhawster i ddenu pobl newydd; a risg gwirioneddol, felly, i gynaliadwyedd y gwaith hanfodol sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Dyma'r grwpiau sy'n rhedeg pethau fel llinellau cymorth argyfwng, gwasanaethau cefnogi a chymorth. Nhw sy'n llenwi'r tyllau sydd wedi'u rhwygo yn y rhwyd ddiogelwch gan Lywodraethau San Steffan o bob lliw.

Rydw i'n siŵr y gwnewch chi ddweud yn eich ymateb nad yw'r penderfyniadau hyn, sy'n effeithio ar waith ein gwirfoddolwyr, yn rhai sydd o fewn grymoedd Llywodraeth Cymru. Roedd gen i fwy o gydymdeimlad â'r amddiffyniad hwnnw pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym. Ond nawr does dim esgus gyda'ch plaid eich hun yn cymryd y penderfyniadau yma. Felly, ydych chi'n cytuno ei fod e'n warthus bod eich partneriaid yn San Steffan wedi bwrw ymlaen â'r penderfyniad i danseilio gwaith y sector gwirfoddol yn y modd yma, heb roi'r arian a'r adnoddau i Lywodraeth Cymru i liniaru hynny?

A ydy Llywodraeth Cymru wedi codi effaith andwyol y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru gyda Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol, a pha ymateb y cawsoch chi? Ac a ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, wedi clustnodi unrhyw arian i liniaru'r cynnydd yn y taliadau yma? Ac os do fe, o ble mae'r cyllid yma wedi cael ei dorri? Diolch.

16:00

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch eto am eich cefnogaeth i'r gwirfoddolwyr. Mae Wythnos Gwirfoddoli yn rhoi cyfle i ni i gyd gydnabod cyfraniadau ein gwirfoddolwyr, fel y rhai y gwnaethoch gyfarfod â nhw neithiwr yn nigwyddiad Castell-nedd Port Talbot—wrth gwrs, 40 o grwpiau. Mae'n dda clywed am y categori newydd hwnnw o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae'n ymwneud â'r ffyrdd y mae gwirfoddolwyr yn cryfhau cymunedau ac yn gweithredu ar ran eraill. Ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi'r sefydliadau hynny, fel cyngor gwirfoddol sirol Castell-nedd Port Talbot, drwy ein seilwaith cymorth craidd a ariennir. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu, am y tro cyntaf, roi partneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, am y tro cyntaf, ymrwymiad grant tair blynedd i'w galluogi i ymgymryd â chynllunio hirdymor gan gadw staff a sgiliau. Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld hynny'n adlewyrchu, gan fy mod yn gwybod beth yw'r cryfder—ar draws ein holl etholaethau, mae gennym y cynghorau gwirfoddol sirol hynny sydd mewn gwirionedd yn unigryw.

Mewn gwirionedd, fe wnes i gyfarfod â Gaynor Richards mewn gwasanaeth teimladwy iawn yn cofio a dathlu bywyd Graham Benfield, a oedd yn brif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a fu farw'n ddiweddar ar ôl salwch. Helpodd ni i ddatblygu, gyda Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth, y cynllun cymorth trydydd sector hwnnw. Ond mae rhoi'r cyllid iddo yn bwysig, yn enwedig gyda'r heriau sy'n ymwneud â'r cyfraniadau yswiriant gwladol—y ffaith bod hynny wedi cael effaith ac wedi pryderu llawer o sefydliadau trydydd sector. Ac rydych chi'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi codi hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig wrth edrych ar yr effaith ar y sefydliadau hynny nad ydynt o fewn y sector cyhoeddus o ran derbyn cyllid.

Hoffwn hefyd gydnabod eto y ffaith fy mod yn falch o weld y gydnabyddiaeth honno o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i gydnabod rôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a gafodd 63 o wirfoddolwyr gweithredol, gyda'n grant hirdymor Gwirfoddoli Cymru, gan gyfrannu 4,744 awr o gymorth mewn rolau, gan gynnwys Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, cyflogadwyedd, grŵp chwarae, codi arian, brysbennu, derbynnydd, eiriolwyr a mentoriaid cymheiriaid.

16:05

Hoffwn hefyd dalu teyrnged a diolch i'r nifer o wirfoddolwyr, unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n gonglfaen i'r gymuned yr wyf yn falch o'i gwasanaethu. Nid ydynt bob amser yn cyrraedd y penawdau, ond maen nhw'n sicr yn achubiaeth ac yn aml y glud sy'n gludio ein cymunedau gyda'i gilydd, boed hynny'n Glwb a Gerddi Cymunedol yr Wyddgrug, sydd mewn gwirionedd yn cynnal digwyddiad dathlu heddiw i gydnabod eu gwirfoddolwyr, neu bethau fel cynghreiriau ffrindiau ysbytai cymunedol, neu Walk & Talk Today yn Ffynnongroyw.

Ysgrifennydd Cabinet, gan ei fod yn Fis Balchder, byddai'n amhosibl i mi beidio â sôn am y mudiadau Balchder cymunedol hynny sy'n bodoli nid yn unig oherwydd cyllid gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau cymunedol eraill, ond mewn gwirionedd oherwydd yr ymdrech y mae pobl yn ei wneud er mwyn iddynt ddigwydd ar lawr gwlad. Roeddwn i'n falch o fod yn nigwyddiad Balchder Fflint cyntaf yr adeg hon y llynedd, ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad Balchder Prestatyn cyntaf erioed ddydd Sadwrn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi'n angerddol iawn amdano, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, ond a gaf i ofyn, i adeiladu ar yr hyn a ddywedoch yn eich datganiad, eich bod yn annog Llywodraeth Cymru i adeiladu ar gefnogaeth i wirfoddolwyr, nid yn unig drwy ffrydiau ariannu, ond drwy feddwl yn greadigol am sut y gallwn alluogi mwy o bobl i chwarae eu rhan, boed hynny trwy weithio gyda chyflogwyr neu gydag ystod o sefydliadau cymunedol? Diolch.

Diolch, Hannah Blythyn, a diolch eto. Fel y dywedwch, mae gwirfoddoli—ac mae wedi cael ei fynegi ar draws y Siambr—yn clymu ein cymunedau gyda'i gilydd, ac mae hefyd yn mynegi—. Wrth ymateb i Sioned Williams am gydlyniant cymunedol, a hefyd yr effaith y mae hyn yn ei chael o ran codi ymwybyddiaeth, rwy'n credu mai dyna lle, yn y cymunedau—ac yn aml mae hyn yn wleidyddol di-blaid—mae'n rhywbeth lle rydyn ni'n dod at ein gilydd. Rwy'n credu bod digwyddiadau Balchder cymunedol a'r gwirfoddolwyr sydd nid yn unig yn ymgysylltu ar y diwrnod, ond yn cynllunio'r digwyddiadau hynny, yn rhoi llawer i mewn iddo. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at Balchder y Barri, fel y byddwch i o ran Balchder Prestatyn. Ond hefyd mae'r ffaith bod Balchder cymunedol wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i wneud i hyn weithio.

Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar y ffyrdd yr ydym yn ceisio gwella ein cefnogaeth i wirfoddoli. Rwyf wedi sôn am y dull newydd hwn. Mae tair rhan i hynny: cyflawni gweledigaeth, offer fframwaith a chynllun gweithredu, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â dod â gwahanol sectorau at ei gilydd fel cenedl, oherwydd bu dirywiad mewn gwirfoddoli ers y pandemig. Daeth cymaint o bobl allan i wirfoddoli yng nghyfnodau cynnar y pandemig, ond daeth yn anodd iawn, yn amlwg, o ran y cyfyngiadau symud ac effaith y pandemig. Ac erbyn hyn mae llawer o sefydliadau wedi newid y ffordd maen nhw'n gweithio, felly maen nhw wedi gorfod addasu eu hunain i fwy, efallai, o wirfoddoli rhithwir, gwirfoddoli ar-lein.

Mae'n rhaid i ni gydnabod bod angen i ni helpu pobl sydd eisiau dod ymlaen i wirfoddoli. Mae gennym borth digidol Gwirfoddoli Cymru, sy'n cael ei reoli gan CGGC, ac rydym yn uwchraddio hynny i fod ychydig yn haws i'w ddefnyddio i'r rhai sydd eisiau gwirfoddoli, a sefydliadau sydd eisiau denu. Rydyn ni'n lansio hynny yn yr haf. Mae hefyd yn helpu gwirfoddolwyr i ymateb i sefyllfaoedd brys a rheoli. Soniais am lifogydd, lle mae cymaint o bobl yn dod allan ar y stryd cyn i'r gwasanaethau statudol wneud hynny.

Rwy'n credu bod grant Gwirfoddoli Cymru—. Rwyf wedi sôn am yr effaith a gafodd ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru, a fanteisiodd ar hynny. Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â rhai pobl ifanc o Foothold Cymru heddiw, sy'n dod o Lanelli. Maent yn rhan o grŵp o'r enw 'Volunteens: Be Heard. Be Helpful.', ochr yn ochr â grŵp o bobl ifanc a gefnogwyd gan gyngor cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Phlant yng Nghymru. Roedden nhw'n siarad am yr hyn maen nhw'n ei gael allan o wirfoddoli, beth maen nhw'n ei roi i mewn a beth maen nhw'n ei gael allan o wirfoddoli hefyd.

Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar wirfoddoli ar gyfer pob cenhedlaeth, gwahanol ffyrdd o allu dod ymlaen, cefnogaeth i'r sefydliadau hynny sy'n gallu eu cefnogi. Ond rwy'n credu bod pŵer ieuenctid, fel y dywedais heddiw, yn rhywbeth y dylem ganolbwyntio'n arbennig arno yn yr Wythnos Gwirfoddoli.

16:10

Yn ystod yr wythnos diwethaf, dwi wedi gweld y cyfraniad aruthrol mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, yn gyntaf, yn Eisteddfod yr Urdd, eisteddfod arbennig ym Margam, a heb y gwirfoddolwyr, byddai'r eisteddfodau yma methu digwydd—Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Yn ail, roedd Jenny Rathbone a fi y bore yma wedi mynd i gyfarfod banciau bwyd Caerdydd, pobl o gefndiroedd hollol wahanol, o brofiadau hollol wahanol, yn dod at ei gilydd i wneud gwir wahaniaeth, i lenwi'r bwlch, fel roedd Sioned Williams yn ei ddweud, sydd wedi cael ei adael gan doriadau San Steffan.

Ac yn drydydd, wythnos diwethaf, fe wnes i ymweld â Phen-rhys, ar dop y mynydd rhwng y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr. Roedd y tlodi yn amlwg wrth gyrraedd, hollol amlwg, ac yn cwrdd â'r gwirfoddolwyr yna sy'n rhedeg banc bwyd, banc dillad, yn helpu gyda chynghori ynglŷn â thai, ynglŷn â budd-daliadau, yn helpu plant gyda'u gwaith cartref, y caffi pay as you go—unwaith eto, rheini i gyd yn llenwi'r bwlch mae Llywodraeth San Steffan wedi'i adael. Fe wnaeth Pen-rhys gael ei ddisgrifio fel methiant cynllunio, ond mae'r bobl yma'n creu cymuned at ei gilydd.

Un peth hoffwn i ei godi yn gyflym iawn, Dirprwy Lywydd, yw yn amlwg dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, beth mae gwahanol wirfoddolwyr yn ei wneud. Yn ddiweddar, y Nadolig diwethaf, roedd pobl yn gwneud cinio i'r digartref, ond wnaeth neb droi lan oherwydd roedd llefydd eraill yn gwneud cinio i'r digartref ar Ddydd Nadolig yng Nghaerdydd. Ar Ŵyl San Steffan, doedd dim byd ar gael. Sut ŷn ni'n gallu gwybod popeth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, y mapio pwysig yma? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys. Mae'n bwysig iawn eich bod wedi rhannu eich ymweliad â Phenrhys gyda ni, ond hefyd ag Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf, na fyddai wedi digwydd heb y gwirfoddolwyr hynny. Mae gweithredoedd gwirfoddol pobl yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau, a hyd yn oed mewn amgylchiadau lle gall pobl eu hunain fod yn cael trafferth o ran incwm isel ac effeithiau costau byw, mae hefyd yn ffaith taw yn aml y gwirfoddolwyr yn y cymunedau sy'n cadw'r banciau bwyd a'r hybiau cymunedol i redeg.

Yn ddiddorol, fe wnes i gwrdd â Chyngor ar Bopeth ddoe, a oedd o Geredigion a sir Gaerfyrddin, ac roedden nhw'n siarad am bwysigrwydd rhai o'r lleoedd. Maen nhw'n mynd at bobl nawr fel gwirfoddolwyr, yn enwedig trwy Gyngor ar Bopeth, a'r hybiau cymunedol sy'n rhedeg, gyda chefnogaeth fawr gan wirfoddolwyr. Rwy'n falch bod ein cyllid hybiau cynnes, mannau cynnes yn eu helpu, a hefyd ein cyllid ar gyfer banciau bwyd.

Ond yn aml mae gwirfoddolwyr yn rhedeg clybiau chwaraeon, maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol mewn ysbytai, gofal cymdeithasol, a hefyd yn gwneud gwaith arbenigol iawn, yn ogystal â chymorth cyffredinol i ddioddefwyr troseddu, ac yn gweithio gyda charcharorion. Rhaid i ni beidio ag anghofio ein grwpiau ffydd a chred sy'n helpu, sy'n cadw cymunedau gyda'i gilydd, ac sydd hefyd yn cyfeillio, yn edrych allan am ac yn rhoi cymorth hanfodol i'r henoed.

Rwy'n credu y byddwch chi'n gweld y bydd y dull newydd rydyn ni'n ei gymryd, sy'n cael ei arwain gan y grŵp arweinyddiaeth traws-sector gwirfoddoli, yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, a byddant yn gwrando ar y datganiad hwn y prynhawn yma. Ac rydym wedi trafod hyn yn y Cabinet, ac mae pob un ohonom wedi ymrwymo i gydnabod bod gwirfoddoli yn hanfodol i les ein cymunedau, i gydlyniant cymunedol. Mae'n golofn o fywyd cymunedol. Mae'n hanfodol i'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ei angen ar bawb ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae gwirfoddoli o fudd i'r rhai sy'n rhoi yn ogystal â'r rhai sy'n elwa. Ond mae angen fframwaith cyflawni gwell arnom. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael yr hyfforddiant a'r gefnogaeth gywir. Un peth a ddaeth i fyny ddoe yn fy ymweliad oedd y ffaith ein bod bellach yn byw mewn byd digidol, felly mae angen i ni sicrhau bod ein cymorth grant yn helpu gyda sgiliau digidol. Felly, dyna pam rydyn ni'n ariannu partneriaeth Newid, gyda'r trydydd sector a'r prif swyddog digidol yn cydweithio â phartneriaeth, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas, ProMo Cymru a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, i sicrhau y gallwn wella capasiti digidol y sector gwirfoddol yng Nghymru.

16:15

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n iawn ein bod nid yn unig yn diolch i'n gwirfoddolwyr, ond ein bod yn eu dathlu hefyd. Mae fy etholaeth yn Wrecsam wedi'i bendithio â llawer o sefydliadau a chyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr gwych, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi ar ymweliad ag un o'r rheini, Hwb Yr Orsedd, bythefnos yn ôl. Mae'r ganolfan yn fan cyfarfod cymunedol a chaffi bywiog, sy'n cael ei rhedeg gan dîm ymroddedig o aelodau gwirfoddol o'r bwrdd ac ymddiriedolwyr, ynghyd â llawer o wirfoddolwyr eraill, gan roi degau o oriau o amser gwirfoddoli bob wythnos. Mae'r cyfleuster o'r radd flaenaf y gwnaethoch ymweld ag ef yn llawer gwell na'r bloc toiledau segur y cafodd ei roi yn ei le. Sicrhaodd y gwirfoddolwyr gyllid gan Lywodraeth Cymru o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol tuag at gost yr adeilad. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, bod y math penodol hwn o gyllid yn hanfodol wrth gefnogi ein gwirfoddolwyr, er mwyn sicrhau bod cymunedau fel yr Orsedd yn darparu digwyddiadau cymunedol, cwmnïaeth, dosbarthiadau, lle i gymdeithasu a bwyta, fel y gwelsoch yn glir iawn o'ch ymweliad. 

Diolch yn fawr, Lesley Griffiths. Roedd hi, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ymweliad pleserus iawn â'r hwb yn yr Orsedd, a'ch bod yn gallu ymuno â mi hefyd. Roedd hwn yn lleoliad gwych, wedi'i ariannu, fel y dywedoch, gan y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Ni fyddai wedi digwydd heb wirfoddolwyr. Ond mae'n bwysig, unwaith eto, i rannu, ar y cofnod, bod y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn darparu grantiau o hyd at £25,000 ar gyfer gwelliannau cyflym, a all wneud gwahaniaeth enfawr wrth osod lifft, cyfleusterau toiledau hygyrch, a hyd at £300,000 ar gyfer prosiectau mwy, megis prynu adeiladau, estyniadau neu waith adnewyddu. Rwy'n credu mai dyma un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn rhoi ein harian cyhoeddus i mewn i lawer o ganolfannau a hybiau cymunedol fel yr un yn yr Orsedd, a welsom gyda'n gilydd. Ond y peth pwysicaf, fel yr oeddech yn dweud, yw'r bobl sy'n gwneud iddo weithio, y gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y ganolfan, fel maen nhw'n ei wneud mewn canolfannau ledled Cymru fel gwirfoddolwyr, gan elwa eu hunain, ond hefyd yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cefnogaeth ac ymgysylltiad, boed hynny'n baned o de, gêm o gardiau, sgwrs, a rhwng cenedlaethau hefyd—. Felly, mae'n wych gweld y ffyrdd y gall ein rhaglen cyfleusterau cymunedol gefnogi gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae ein sefydliadau sector gwirfoddol gwych a'r llengoedd o wirfoddolwyr wrth eu calon yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd o'r gwaelod i fyny, gan ddarparu gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau, tra hefyd yn lleihau'r galw am wasanaethau statudol. Rwy'n gweithio gyda llawer ac yn ymweld â phrosiectau sector gwirfoddol bron yn wythnosol. Ond fel y rhybuddiodd y sector a minnau yn ystod pasio cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru, roedd y gyllideb yn amddifadu darparwyr gwasanaethau elusennol a chymunedol o adnoddau, a thrwy hynny yn creu economïau ffug a phwysau cost llawer uwch i ddarparwyr gwasanaethau statudol. Pa ddarpariaeth, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud neu'n ei hystyried ar gyfer y niferoedd o doriadau allweddol mewn gwasanaethau yn y sector gwirfoddol ers hynny, yn amrywio o ofal hosbis a lliniarol i ddarpariaeth atal digartrefedd, o gymorth canser i ddarparwyr gofal dementia ac, yn bryderus, llawer, llawer mwy? 

16:20

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n gwybod, Mark Isherwood, cymaint rydych chi'n ymgysylltu â'r sector gwirfoddol yn eich rhanbarth a pha mor bwysig yw hi i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi. Yn wir, rydw i wedi ymweld â llawer o'r prosiectau hynny gyda chi. Rwy'n cofio ymweld â'r ganolfan gymorth Pwylaidd ag Wcrainaidd yn Wrecsam, rwy'n cofio, pan oeddent yn canolbwyntio'n arbennig ar gefnogi'r rhai sy'n gwirfoddoli, cefnogi Wcreiniaid ar yr adeg benodol honno pan oeddent yn ffoi rhag gwrthdaro.

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, unwaith eto, ein bod wedi rhoi ymrwymiad grant tair blynedd. Mae'r holl sefydliadau rydw i'n eu hariannu, a dim ond o ganlyniad i'r cynnydd o £1.6 biliwn yn y gyllideb sydd gennym o ganlyniad i Lywodraeth y DU a'r ffaith ein bod bellach yn symud tuag at ymrwymiadau grant tair blynedd i sefydliadau y gallaf wneud hynny—. Dywedaf eto fod hyn yn bwysig iawn o ran y cynghorau hynny ar gyfer gweithredu gwirfoddol, yn ogystal â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y ffaith fy mod wedi cyhoeddi £2.2 miliwn ychwanegol ar gyfer seilwaith y sector gwirfoddol, a dim ond yn ddiweddar £2.1 miliwn arall ar gyfer ein gwasanaethau trais domestig yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Y sefydliadau hynny rydyn ni nawr yn gallu eu hariannu gyda'r cyllid tair blynedd hwnnw a chynnydd uwchlaw chwyddiant.

Rydym hefyd, fel y dywedais i, wedi ariannu partneriaeth Newid i wella sgiliau digidol gydag £1.2 miliwn ychwanegol, ac rwyf wedi sôn am y £49.6 miliwn sy'n mynd i mewn i'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, yr wyf yn gwybod bod llawer o sefydliadau wedi elwa ohoni. Rwy'n falch hefyd fod gennym y pot o £5 miliwn ar gyfer y gronfa benthyciadau asedau cymunedol. Rydym wedi gweld llawer o arloesi ledled Cymru o ran y defnydd o'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol honno. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld ag Ymddiriedolaeth St Giles, canolfan BOOST Casnewydd yng Nghasnewydd yng Nghymru. Fe wnaethom ddyrannu bron i £150,000 i Ymddiriedolaeth St Giles i ddatblygu a lansio pecyn cymorth ymarferol i gefnogi cyflogwyr yng Nghymru, gan ymestyn cyfleoedd gwirfoddoli i'r rhai sydd â phrofiad bywyd, offer hunanasesu a hyfforddiant mentora cymheiriaid sy'n ystyriol o drawma i fenywod sy'n mynd i'r afael â digartrefedd sy'n bwysig iawn. Ar draws Llywodraeth Cymru gyfan, mae ein holl Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion wedi gallu dyrannu cyllid i sefydliadau ar draws pob sector i'w cefnogi gyda'r seilwaith hwnnw, gan ategu'r gwaith sy'n mynd ymlaen i gefnogi ein gwirfoddolwyr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am siarad am ddau o'r grwpiau mwyaf o wirfoddolwyr, ac rydw i wedi bod yn falch o fod yn un ohonyn nhw yn y gorffennol. Eu hymrwymiad anhunanol a diwyro yw'r curiad calon sy'n cynnal ein cymdeithas. Mae llywodraethwyr ysgolion yn rhoi o'u hamser i gefnogi ysgolion lleol. Ni allai rheoli ysgolion ddigwydd heb i bobl roi o'u hamser i gefnogi'r ysgolion yng Nghymru drwy ddod yn llywodraethwyr ysgolion.

Yr ail grŵp roeddwn i eisiau ei godi yw'r rhai sy'n rhedeg clybiau chwaraeon amatur. Ar gyfer timau pêl-droed a rygbi, mae'n cynnwys gwylio plant, sicrhau bod chwaraewyr yn troi i fyny, hyfforddi, gweithredu fel dyfarnwr brys weithiau, gofalu am y cae a marcio'r cae. O brofiad personol, rwy'n gwybod bod gwirfoddoli i dîm chwaraeon lleol yn costio amser ac arian, ond rwy'n gwybod hefyd faint o foddhad y mae'n ei roi. A fydd y dull newydd o wirfoddoli yn cynnwys gwirfoddolwyr sy'n rhedeg timau chwaraeon? 

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Yn hollol, mae'r gwirfoddolwyr—y llywodraethwyr ysgol, yn gyntaf oll, yn hanfodol, ac yn aml gall chwarae rhan fel llywodraethwr ysgol fod yn gam tuag at lawer o ragolygon eraill mewn bywyd, gan gynnwys gwleidyddiaeth i rai, yn lleol neu'n genedlaethol, ond hefyd ymgysylltu â'r ysgol a chefnogi tîm yr ysgol, y pennaeth a'r ysgol gyfan. Ond hefyd o ran clybiau chwaraeon, rydyn ni'n adnabod pawb sydd allan, nid yn cefnogi eu plant a'u pobl ifanc ar y caeau yn arbennig ar y penwythnos, ond yn cadw'r clybiau chwaraeon hynny i fynd. Mae hynny'n mynd yn ôl at y rôl anhunanol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae. A lle y bo'n bosibl, ie, wrth gwrs, cyllid ar gyfer clybiau chwaraeon—. Yn wir, unwaith eto, rwyf wedi sôn bod gan bron pob un o'n Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet gysylltiadau a chyfleoedd i sicrhau bod ffynonellau a ffrydiau cyllido ar gael i grwpiau o'r math hwnnw. Fel y dywedais, roeddwn yn falch iawn heddiw o gwrdd â chyngor ieuenctid cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n ymgysylltu â chymunedau i gefnogi gwirfoddoli sy'n cynnwys pobl ifanc.

16:25
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

Eitem 5 yw ail ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar y cynllun hawliau pobl anabl, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 16:26:01
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rydym yn dathlu carreg filltir ein hymrwymiad i sicrhau cymdeithas gynhwysol a hygyrch ar gyfer pob person anabl yng Nghymru drwy ein cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd. 

Nid mater o siarad yw'r cynllun hwn, sy'n seiliedig ar waith anhygoel y tasglu hawliau anabledd, mae'n fater o wneud. Mae'n golygu gweithredu nawr ar allgáu a gosod sylfeini cadarn ar gyfer cynnydd gan Lywodraethau'r dyfodol. Yn bwysig, mae'r cynllun hwn yn cefnogi'r egwyddorion a nodir yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant i'm cyd-gadeirydd ar y tasglu, yr Athro Debbie Foster, a chadeiryddion y gweithgorau: Andrea Gordon, Natasha Hirst, Rhian Davies, Alice Moore, Angharad Price, Joe Powell, Willow Holloway a Damian Bridgeman, am eu harbenigedd, eu hegni a'u hymrwymiad. A diolch hefyd i'r bobl anabl, sefydliadau a chynghreiriaid niferus a weithiodd ar gyd-gynhyrchu'r argymhellion sydd wedi helpu i lunio'r cynllun hwn. Byddwch yn sicr, mae eich lleisiau wedi cael eu clywed, ac mae eich profiadau yn ein tywys i wneud newid ystyrlon.

Mae'r cynllun hwn yn lasbrint 10 mlynedd ar gyfer cynnydd, wedi'i ddylunio i sicrhau bod ei ganlyniadau yn cael eu gwireddu trwy gamau gweithredu a gymerir ar draws y Llywodraeth. Rydym ni'n gwybod na ddylid ymdrin â pholisi sy'n ceisio cael gwared ar y rhwystrau, y gwahaniaethu a'r allgau sy'n wynebu pobl anabl ar wahân—mae'n rhaid iddo fod yn rhan annatod o fusnes fel arfer pob deiliad polisi. Mae'r Prif Weinidog, yr holl Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion wedi ymrwymo i gyflawni'r cynllun traws-lywodraethol hwn. Mae'r cynllun yn nodi ein hymrwymiad i sefydlu bwrdd cynghori allanol, dan arweiniad pobl anabl, i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am gyflawni a gweithredu'r cynllun.

Fodd bynnag, rwyf i wedi dweud erioed na fyddem ni'n aros i'r cynllun i weithredu. Felly, beth yw rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd eisoes? Mae ein bysiau TrawsCymru newydd yn golygu bod teithwyr anabl yn cael cyhoeddiadau sain, dolenni sain ac arddangosiadau 'safle bws nesaf' dwyieithog. Ceir amrywiaeth o nodweddion hygyrchedd yng nghyfnewidfa Bws Caerdydd, gan gynnwys seddi hygyrch a thoiledau cynhwysol a phalmentydd cyffyrddol. Rydym ni'n cynnal archwiliad mynediad cyflym o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r rhwystrau ffisegol ac anffisegol sy'n wynebu pobl, gan sicrhau bod pobl anabl yn rhan o ddylunio pob ateb i'r problemau hynny. Mae gan ein trenau Trafnidiaeth Cymru newydd fynediad di-ris. Mae ein grŵp rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau yn gynhwysol i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain byddar. Rydym ni wedi ymestyn ein rhaglen gwella niwroamrywiaeth i 2027, gyda £13.7 miliwn yn fwy o gyllid, gan gynorthwyo plant a theuluoedd. Mae ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer prentisiaid anabl, ac yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru. Ac mae'n rhaid i ni gofio bod pobl anabl yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan ddigartrefedd. Mae ein Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn gam hollbwysig tuag at fynd i'r afael â'r mater hwn.

Rydym ni'n gwybod bod y bwlch o ran gwahaniaethau mewn tâl i bobl anabl yn annerbyniol. Mae ein dangosyddion cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi gosod carreg filltir i ddileu hyn erbyn 2050, ac rydym ni hefyd yn gweithio nawr gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) i fynd i'r afael â'r union fater hwn.

Rydym ni wedi ymrwymo i wneud newid cadarnhaol. Bydd ein huned tystiolaeth o wahaniaeth mewn tâl, a sefydlwyd yn dilyn yr adroddiad 'Drws ar Glo' ar effaith ofnadwy y pandemig ar bobl anabl, yn cyhoeddi gwaith ymchwil a gynhyrchwyd ar y cyd ar 11 Mehefin ar feysydd hanfodol cyflogaeth a byw'n annibynnol.

Mae'n rhaid i mi roi sylw i rai o'r diwygiadau lles sydd yn yr arfaeth gan Lywodraeth y DU, a rhybuddio y gall diwygiadau anwybyddu amgylchiadau ac anghenion pobl anabl, ac yn fwy felly yng Nghymru na rhai rhannau eraill o'r DU. Rwy'n ymgynghori â'n fforwm cydraddoldeb anabledd ar effaith y cynigion yn y Papur Gwyrdd, a byddaf yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, gan gynnwys effaith y newidiadau i daliadau annibyniaeth personol, sy'n effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru. Rydym ni'n arwain y gwaith o ddylunio arloeswr yng Nghymru i fynd i'r afael â diweithdra, gyda chefnogaeth cyllid ychwanegol o £10 miliwn gan Lywodraeth y DU, gan archwilio sut y gallwn gynorthwyo pobl anabl ymhellach i gael mynediad at waith.

Dirprwy Lywydd, dywedodd Robert M. Hensel unwaith:

'Does dim anabledd mwy mewn cymdeithas na'r anallu i weld person fel mwy.'

Rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn aml yn cael eu diystyru gan gymdeithas fel derbynwyr goddefol o wasanaethau gofal, ac er y bydd angen cymorth ar rai pobl anabl, mae pobl anabl yn gydweithwyr yr ydym yn eu parchu, yn arweinwyr cymunedol, yn entrepreneuriaid ac yn artistiaid. Fe wnaeth y cystadleuwyr Strictly Come Dancing, yr actores Rose Ayling-Ellis a'r digrifwr Chris McCausland ryfeddu gwylwyr gyda'u perfformiadau dawns. Fe wnaeth Rose, arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain byddar, a Chris, a gollodd ei olwg yn 22 oed, guro'r goreuon i gipio'r bêl gliter. Ond ni ddylem ni ryfeddu at y perfformiadau hyn. Yn hytrach, dylem gydnabod pan fydd pobl anabl yn cael yr amgylchedd cywir, y gallan nhw gystadlu gyda'r goreuon a'u curo. Dyma'r model cymdeithasol o anabledd ar waith.

Rydym ni'n gwybod bod pobl yn cael eu gwneud yn anabl gan rwystrau ac agweddau mewn cymdeithas, nid gan eu namau neu eu gwahaniaethau. Ac rwy'n gwybod nad enwogrwydd fydd uchelgais pob unigolyn anabl. Y cwbl y mae llawer o bobl anabl ei eisiau yw gallu byw mewn cartrefi hygyrch, ,mynd ar fysiau hygyrch i swyddi â thâl teg, a chael y mwynhad llawn o fywyd cymdeithasol a theuluol. Ni ddylai cael y cyfle i wireddu potensial fod ar gyfer nifer fach freintiedig. Mae'n debygol ein bod ni wedi methu arloesiadau, creadigrwydd a sgiliau di-rif oherwydd i bobl anabl gael eu hallgau o'r byd.

Dirprwy Lywydd, rwy'n hyderus, drwy ein cynllun hawliau pobl anabl, y gallwn ni wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran rhoi'r model cymdeithasol o anabledd ar waith. Mae ein cynllun yn drawsnewidiol. Dyma ein ffordd Gymreig unigryw, y ffordd goch Gymreig. Diolch, Anabledd Cymru, Cŵn Tywys Cymru, Cyngor y Deillion Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan am gynorthwyo rhanddeiliaid i ymgysylltu â'r ymgynghoriad 12 wythnos hwn. Gofynnaf heddiw i bob sefydliad, cynghreiriaid ac unigolion anabl eu hunain gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y cynllun pwysig iawn hwn.

I gloi, mae'r cynllun hawliau pobl anabl yn alwad i weithredu i bob un ohonom ni. Trwy fabwysiadu'r cynllun 10 mlynedd hwn, byddwn yn sicrhau dyfodol tecach a chryfach, nid yn unig i bobl anabl ond i bawb yng Nghymru. Fel y dywedodd Helen Keller,

'Ar ein pennau ein hunain gallwn wneud cyn lleied, gyda'n gilydd gallwn wneud cymaint.'

Diolch yn fawr.

16:30

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rwyf i wedi ymgynghori â'r sector ar y cynllun hwn, sydd, fel y clywsom, yn ôl Llywodraeth Cymru, â'r nod o wella hawliau a chyfleoedd yr holl bobl anabl yng Nghymru.

Sut ydych chi'n ymateb i'r siom a fynegwyd ganddyn nhw gyda'r diffyg mesurau gweithredadwy yn y byrdymor ac adborth Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi cymryd cyhyd oherwydd cyd-gynhyrchiad â phobl anabl, pan gymerodd hyn lai o amser na chwblhau'r cynllun, lle collwyd llawer o amser?

Hefyd, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod diffyg ymrwymiadau cadarn yn llawer o'r amcanion hirdymor, a'u cwestiwn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau parhad ac atebolrwydd am yr amcanion tymor hwy hyn y tu hwnt i'r weinyddiaeth bresennol? Cafwyd beirniadaeth gan y sector hefyd nad yw'r cynllun yn cynnwys targedau pendant, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran cynnydd.

Dywedodd Dr Natasha Hirst, a gadeiriodd weithgor mynediad at wasanaethau tasglu hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru, mai un pryder allweddol oedd diffyg dull ar gyfer craffu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, yn ogystal â'r diffyg targedau eglur a chadarn a dim cyllid newydd ar gyfer rhoi'r camau gweithredu ar waith. Yn yr un modd, dywedodd Joe Powell, prif weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a gadeiriodd weithgor mynediad at gyfiawnder y tasglu hawliau pobl anabl:

'er mwyn i'r cynllun hwn lwyddo, rydym ni angen y buddsoddiad priodol yn y seilwaith a'r gwasanaethau i wireddu'r dyhead hwn. Rydym ni angen targedau eglur o ran sut rydym ni'n mynd i gyflawni hyn. Heb y rhain, mae'n anodd iawn gweld sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru.'

O ystyried eu pryderon gwybodus, pa dargedau mesuradwy a buddsoddiad, wnaiff Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith nawr?

Hefyd, dywedodd Damian Bridgeman, a gadeiriodd weithgor tai a chymunedau y tasglu hawliau pobl anabl, fod y ddogfen ddrafft yn llen fwg yn hytrach na chynllun. Tynnodd sylw at absenoldeb arian newydd a dull i olrhain cyflawniad y cynllun gweithredu ymhellach, gan ychwanegu

'Mae pobl anabl wedi cael eu hadolygu i'r eithaf. Gweithredu sydd ei angen arnom ni—a does dim o hynny yma.'

Beirniadodd y diffyg gweithredu ar rai o'r argymhellion mwyaf angenrheidiol ymarferol a ddeilliodd o gyfnod cyd-gynhyrchu'r broses, y dywedodd nad oedd hyd yn oed wedi cael eu cynnwys yn y cynllun terfynol gan nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod sut i'w cyflawni. Felly, sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y strategaeth hon yn arwain at newid gwirioneddol, yn hytrach na throi, fel y dywedodd, yn

'gasgliad o fwriadau amwys wedi'u cyflwyno fel cynnydd...Dim targedau. Dim dannedd. Dim atebolrwydd yn y byd go iawn'?

Er bod y cynllun arfaethedig yn cyfeirio at bobl niwroamrywiol yng nghyd-destun iechyd meddwl a chyfiawnder, nid yw'n cynnwys strategaeth bwrpasol na chanlyniadau wedi'u teilwra i'w profiadau unigryw ym meysydd addysg, cyflogaeth a gofal iechyd. Pa ddulliau sydd ar waith, felly, i sicrhau bod lleisiau niwroamrywiol yn cael eu clywed a bod eu hanghenion, fel amgylcheddau ystyriol o synhwyrau, dewisiadau cyfathrebu ac addasiadau dysgu neu weithle wedi'u teilwra, yn cael eu cynllunio ar eu cyfer a'u monitro yn bendant?

Mae'r cynllun arfaethedig yn sôn am gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl sawl gwaith, ac yn datgan y bydd yn ei ddefnyddio fel fframwaith arweiniol. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb mewn ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru, nid oes unrhyw ymrwymiad i hyn yn y cynllun. Pam mae hyn, a sut ydych chi'n ymateb i alwad y sector am yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhwystrau presennol i ymgorffori a'r camau sy'n cael eu cymryd i fwrw ymlaen â hyn?

Mae'r sector yn pryderu bod cynigion presennol Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyrdd 'Llwybrau at Waith' mewn perygl o analluogi pobl yng Nghymru ymhellach trwy waethygu tlodi ac allgáu, ac y gallai'r toriadau hyn arwain at gynnydd i'r galw am wasanaethau datganoledig yng Nghymru fel iechyd a gofal cymdeithasol, a ariennir drwy fformiwla Barnett. Sut, yn benodol, fydd effaith y cynigion hyn yn cael ei mesur yng Nghymru, a sut fydd unrhyw bwysau sy'n deillio o hynny ar wasanaethau datganoledig yn cael eu hariannu, yn enwedig o ran addasrwydd fformiwla Barnett?

I gloi, er bod y cynllun yn ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, mae adroddiad effaith diweddar Sefydliad Bevan ar lwybrau at waith yn dangos bod pobl anabl mewn perygl o gael eu gwthio ymhellach i amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i liniaru effaith y cynigion hyn gan Lywodraeth y DU ar bobl anabl yng Nghymru? Diolch yn fawr.

16:35

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am eich swyddogaeth a'ch stiwardiaeth parhaus o'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, yr wyf i'n edrych ymlaen at ddod iddo; rwy'n credu bod y dyddiad yn y dyddiadur. Ac wrth gwrs, mae'n bwysig bod hyn yn cael ei weld yng nghyd-destun ymgynghoriad 12 wythnos a'ch bod chi eisoes, yn amlwg, yn ymgysylltu â phobl anabl a'u sefydliadau i fyfyrio ar y cynllun hwn ac i ymateb iddo.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod hwn yn gynllun 10 mlynedd cynhwysfawr, sy'n cyflwyno ein huchelgeisiau hirdymor, y camau y byddwn ni'n eu cymryd nawr, a hefyd adroddiad ar gynnydd. Mae'r adroddiad hwnnw ar gynnydd, a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Mai, yn nodi rhai o'r cyflawniadau a wnaed hyd yma a'n gwaith parhaus i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl, fel ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo a'n gwaith ar ein pwyllgor cynghori ar drafnidiaeth i bobl anabl.

Llywodraethau'r Senedd yn y dyfodol fydd yn cyflwyno'r camau tymor canolig i hirdymor y byddan nhw'n eu cymryd i gyflawni'r uchelgais a'r canlyniadau i bobl anabl a nodir yn y cynllun 10 mlynedd hwn, ond rydym ni wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau gweithredu byrdymor nawr. Nid oes yn rhaid i ni aros tan dymor nesaf y Senedd i gymryd camau i wella canlyniadau i bobl anabl. A byddwch chi'n gwybod, gan eich bod chi wedi darllen y cynllun, bod gennym ni bedwar maes cyffredinol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl. Rwy'n ddiolchgar i gadeiryddion y gweithgorau am eu cymorth i ddatblygu'r canlyniadau manwl ar gyfer y cynllun hwn.

Rydych chi'n ymwybodol o'r pedair thema allweddol: cymdogaethau a lleoedd; cyflogaeth, incwm ac addysg; byw'n annibynnol; a chyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol. Mae'n bwysig bod y cynllun yn cyflwyno ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad teg, ac rydym ni wedi cael ein tywys, fel y dywedais yn fy natganiad, gan egwyddorion a rhwymedigaethau confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

A dweud y gwir, rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwybod ac y bydd cydweithwyr wedi eich hysbysu am y ffaith fod gennym ni grŵp cynghori ar hawliau dynol sydd wedi bod yn ymateb i'r gwaith ymchwil a wnaed gan yr Athro Simon Hoffman a chydweithwyr a gomisiynwyd gennym ni ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae gennym ni weithgor opsiynau deddfwriaethol, dan arweiniad Charles Whitmore. Mae'n bwysig iawn bod cymdeithas ddinesig a'r rhai sy'n ymwneud â sefydliadau hawliau dynol yn ein helpu i arwain y ffordd ymlaen yng Nghymru o ran mynd i'r afael â chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.

Wrth gwrs, ceir cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran ymgorffori. Fe wnaethom ni drafod hyn gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban. Ond rydym ni'n chwilio am yr holl ffyrdd y gallwn ni gyflawni ac ymwreiddio confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn ein gwaith. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar rai o'r erthyglau hynny. Byddwch yn gweld ar draws y cynllun cyfan fy mod i wedi cysylltu pob cam gweithredu ag erthygl o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig: cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu, hygyrchedd, byw'n annibynnol, cael eich cynnwys yn y gymuned, addysg, gwaith a chyflogaeth. Os darllenwch chi'r cynllun, Mark, byddwch yn gweld nid yn unig y camau gweithredu, ond y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud.

Hoffwn ddweud i gloi bod hwn yn dasglu hawliau pobl anabl a sefydlwyd gan y cyn-Brif Weinidog a minnau oedd hwn o ganlyniad i'r adroddiad 'Drws ar Glo' ar roi rhyddid i bobl anabl o ganlyniad i'r pandemig. Fe wnaethom gytuno y byddem ni'n cyd-gynhyrchu'r cynllun hwn, a chawsom ymgysylltiad helaeth â dros 350 o randdeiliaid allanol, gan gynhyrchu argymhellion o ansawdd uchel. Arweiniwyd y tasglu hawliau pobl anabl gan bobl anabl. Fe wnes i gyfarfod â chadeiryddion y gweithgorau—rwyf i wedi cyfarfod â nhw yn rheolaidd, yn amlwg—ac fe wnes i ei gyd-gadeirio gyda'r Athro Debbie Foster.

Nid yw amser wedi sefyll yn llonydd ers sefydlu'r tasglu hwn. Mae ein hadroddiad ar gynnydd yn dangos nifer o gamau yr ydym ni wedi eu cymryd. Yr hyn sy'n bwysig, ac rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu hyn o'n cynlluniau cydraddoldeb eraill, yw bod gan 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' grŵp atebolrwydd allanol, wedi'i benodi'n annibynnol, a byddwn yn gwneud yr un fath gyda'r grŵp cynghori allanol a fydd yn bwrw ymlaen â ffyrdd y gallwn ni—. Bydd pobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd ar y bwrdd hwn yn chwarae rhan hanfodol i gynghori ar gyflawniad ac effaith hawliau pobl anabl.

Os caf i ddweud i gloi, Dirprwy Lywydd—roedd llawer o gwestiynau gan Mark Isherwood—fe wnaethom ni sefydlu uned gwahaniaethau anabledd fel ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo'. Digwyddodd hynny yn fuan iawn wedyn, yn nyddiau cynnar yr uned cydraddoldeb anabledd. Does dim byd tebyg i hyn mewn mannau eraill. Mae gennym ni uned gwahaniaethau anabledd, uned gwahaniaethau hiliol, ac uned tystiolaeth cydraddoldeb gyffredinol, sydd bellach yn datblygu fframwaith mesur i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein camau gweithredu, y gellir eu monitro, ac y bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl anabl yng Nghymru.

Ond rwyf i yn dweud ei fod i fyny i ni yma, onid yw? Mae i fyny i bawb yn y Siambr hon fod â'r ymrwymiad hwnnw heddiw, i gael yr ymateb i'r cynllun hwn, a'i weld fel cynllun 10 mlynedd i'w gyflawni gan y Llywodraeth, gyda chraffu a chefnogaeth gan y Senedd.

16:40

Mae'r cynllun hwn wedi cymryd amser hir i ddod i'r amlwg, ac yn rhy hir byddwn yn dadlau, gan fod cryfhau hawliau pobl anabl yng Nghymru a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maen nhw'n parhau i'w hwynebu yn waith hollbwysig, a dylai'r Llywodraeth hon fod wedi ei drin felly.

Sefydlwyd y tasglu hawliau pobl anabl, wrth gwrs, a arweiniodd at y cynllun hwn, mewn ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo' o 2021, yr adroddiad a ddangosodd mor eglur bod hawliau, llesiant ac urddas pobl anabl, hyd yn oed mewn gwlad fel Cymru, yn llawer rhy agored i niwed ac, mewn cyfnod o argyfwng, yn cael eu hesgeuluso yn rhy aml. Mae'n rhaid i ni fyth anghofio mai pobl anabl oedd 60 y cant o'r marwolaethau o COVID-19 yng Nghymru, ac roedd modd atal llawer o'r marwolaethau hynny ac roedden nhw wedi'u gwreiddio mewn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Felly, er ein bod ni'n croesawu camau i gael gwared ar y rhwystrau, i greu cymdeithas gynhwysol yma, mae'n rhaid i ni hefyd gadw mewn cof pwysigrwydd hawliau cyfreithiol y gellir eu gorfodi drwy'r gyfraith, yr hawliau a all fod yn llythrennol y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisiau gwireddu egwyddorion confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, ac mae'r cynllun yn nodi:

'Drwy ymdrechion y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i archwilio sut i wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru.'

Ond mewn gwirionedd mae'n ffeithiol anghywir dweud bod y gweithgor opsiynau deddfwriaethol yn archwilio

'sut i wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru';

mae'r grŵp yn gyfrifol, fel y mae'r enw yn ei awgrymu, am ddatblygu opsiynau deddfwriaethol. Un o egwyddorion allweddol confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yw ymgorffori mewn cyfraith ddomestig, a dyma oedd yr un argymhelliad i Lywodraeth Cymru a wnaed gan bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn ei adolygiad cyfnodol o 2017. Felly, yng ngoleuni hyn, a allwch chi gadarnhau pa un a yw'r ymrwymiad hwn dal yn weithredol, ac, os felly, pryd fydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth i wneud hyn yn realiti, gan gadw mewn cof, wrth gwrs, mai rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth oedd hon? A allech chi hefyd esbonio pam mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl y gwnaed cyllid ar gyfer gwaith y gweithgor opsiynau deddfwriaethol ar gael, yn hwyr iawn yn y broses? Ac a wnewch chi roi sicrwydd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau digonol i alluogi'r gweithgor opsiynau deddfwriaethol i gyflwyno argymhellion ar ddeddfwriaeth i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl?

Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi sylw i'r toriadau lles arfaethedig sy'n bwrw, yn anffodus, cysgod hir a thywyll dros y cynllun hwn. Nid yw dileu'r cymorth hanfodol hwn yn lleihau incwm yn unig, mae'n rhwygo'r rhwyd ddiogelwch y mae llawer o bobl anabl yn dibynnu arni i fyw gydag urddas. Mae'r Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gen i heddiw, wedi dweud ei bod hi'n cyfarfod â Liz Kendall yfory, ac rydych chi'n dweud y byddwch chi'n cyhoeddi eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd, felly beth fyddwch chi'n ei ddweud, Ysgrifennydd Cabinet? Beth fydd y Prif Weinidog yn ei ddweud? Nid ydym ni erioed wedi cael ateb gan Lywodraeth Cymru ar hynny mewn gwirionedd. A allech chi rannu eich prif bryderon gyda'r Senedd nawr, os gwelwch yn dda? A ydych chi'n cytuno â Chyngor ar Bopeth, sydd wedi dweud

'trwy wrthod ymgynghori'n briodol ar ei chynlluniau i dorri biliynau o fudd-daliadau anabledd, mae llywodraeth Lafur y DU yn dewis peidio â gofyn cwestiynau nad yw eisiau atebion iddynt'?

Mae'r ffaith fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi canslo'r unig ymgynghoriad personol yng Nghymru yn siarad cyfrolau. Roeddwn i'n bresennol mewn protest 'pobl anabl yn erbyn y toriadau' heddiw yng Nghaerdydd, lle dywedodd pobl anabl eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu trin gyda dirmyg. A ydych chi'n cytuno â'u galwadau yn y llythyr hwn, ar Lywodraethau'r DU a Chymru, na ddylid cael pleidlais ar doriadau anabledd tan fod ymgynghoriad cyhoeddus llawn a dilys wedi cael ei gynnal yng Nghymru? A all Cymru sicrhau, fel y mae'r cynllun yn ei ddatgan, dyfodol tecach a chryfach i bobl anabl heb ddatganoli lles, fel y gallwn ni amddiffyn pobl anabl yng Nghymru rhag Llywodraethau San Steffan o bob lliw sy'n poeni mwy am daenlenni na sicrhau urddas a thegwch i bobl anabl?

Yn olaf, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu, hoffwn eglurder ynghylch sut y bydd y cynllun yn mynd i'r afael â phryderon penodol a hirsefydlog. O dan yr adran ar fyw'n annibynnol, mae'r cynllun yn rhoi sylw i'r hawl i gymorth a chefnogaeth ymarferol i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill. A allwch chi gadarnhau felly erbyn pryd fyddech chi'n disgwyl na fydd neb ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn cael eu hanfon i leoliadau ysbyty diogel yng Nghymru nac yn cael eu cadw yno, fel yr amlygwyd gan ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Stolen Lives?

Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod nad yw hygyrchedd yn ymwneud â rhwystrau ffisegol yn unig. Mae'r newid i daliadau heb arian parod, fel y mae Mencap wedi amlygu, yn rhwystr i wasanaethau, hamdden, y celfyddydau, ac, os ydych chi'n teithio ar drên Trafnidiaeth Cymru neu Great Western Railways, lluniaeth. Mae hyn yn rhywbeth y gellid mynd i'r afael ag ef nawr o ran gwasanaethau a phrosiectau sector cyhoeddus a ariennir gan y Llywodraeth, ond nid oedd hyn yn eich rhestr o bethau sy'n mynd i fod yn digwydd yn syth.

Wrth i ni glywed gwleidyddion asgell dde yn ceisio tanseilio a difrïo pwysigrwydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, eirioli dros fentrau sy'n galluogi tegwch—

16:45

Fe wnaf.

—i gael eu dadariannu, yr unig ffordd sicr o sicrhau bod gweledigaeth y cynllun hwn, ac felly'r gred bod pobl anabl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu, yn cael ei amddiffyn gan sylfaen gadarn o hawliau gorfodadwy cyfreithiol. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch hefyd am eich ymgysylltiad. Roeddwn i'n falch bod gennym y tasglu hawliau anabledd. Fe wnaethom ymgysylltu ynghylch hynny, o ran cydnabyddiaeth ei fod yn rhan o'n cytundeb cydweithio blaenorol, oherwydd roeddem yn yr un lle o ran pwysigrwydd y tasglu hawliau anabledd, fel, yn wir, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, roedd cefnogaeth a chydnabyddiaeth, a chydnabyddiaeth o'r effaith, effaith ofnadwy y pandemig ar bobl anabl.

Rwy'n cofio rhoi datganiad ar ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl anabl—rwy'n credu ei fod efallai ym mis Rhagfyr 2021. Doedd gan bobl ddim syniad. Nid oedd bobl wedi deall bod 68 y cant o farwolaethau yn farwolaethau pobl anabl. Mae'n rhaid i ni gofio, yng Nghymru, bod 21 y cant o bobl yn bobl anabl, o ran ffigurau'r cyfrifiad, a chydnabod bod angen i ni wasanaethu'r boblogaeth honno nawr o ran eu hawliau. Dyna beth mae'r cynllun 10 mlynedd hwn yn ceisio ei wneud.

Mae'n bwysig ein bod yn gweld hyn yn nhermau diwygiadau deddfwriaethol. Rwy'n falch bod taliadau uniongyrchol, er enghraifft—. Mae gennym gam sylweddol ymlaen yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, oherwydd mae cynllunio gweithredu ar gyfer y taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus yn mynd rhagddo, wrth i ni basio'r ddeddfwriaeth honno, gydag ymgysylltiad gan fyrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, partneriaid trydydd sector, gan helpu i sicrhau bod y system newydd honno mewn gwirionedd yn ymarferol ac yn ymatebol i brofiadau bywyd y rhai y cafodd ei chynllunio i'w cefnogi. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, o ran cydnabod yr anghenion byw'n annibynnol a ddaeth allan o'r ffrwd waith ar fyw'n annibynnol hefyd, a chydnabod y grantiau a'r cyllid rydym ni'n ei roi trwy wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, y trydydd sector a sefydliadau allweddol y trydydd sector.

Rwy'n credu bod ein strategaeth tlodi a'n hanabledd yn hanfodol, o ran sut rydym yn edrych ar hyn yn nhermau ein hysgogwyr polisi trawsbynciol i fynd i'r afael â thlodi. Rwy'n edrych yn arbennig ar blant a phobl ifanc mewn tlodi ac yn gwneud yn siŵr nad yw gwahaniaethu mewn perthynas ag anabledd, rhyw, ethnigrwydd neu rywioldeb yn ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw a'u teuluoedd. Dyma lle gwnaethom ymgysylltu, wrth gwrs, â gofalwyr a phlant anabl a'u teuluoedd, o ran datblygu ein strategaeth tlodi plant hefyd.

Nawr, mae'n bwysig cydnabod bod y cynllun wedi'i lunio gyda phobl anabl, ac fe wnaethon nhw osod yr amserlen ar gyfer eu gwaith. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd, sylweddolon ni eu bod eisiau edrych ar amser ychwanegol ar gyfer trafodaethau mewn perthynas â gweithgorau byw'n annibynnol, llesiant a mynediad at gyfiawnder. Rwy'n cofio, pan ddatblygodd y grŵp mynediad at gyfiawnder, un o'r pwyntiau allweddol a ddaeth o gyfeiriad Pobl yn Gyntaf Cymru a Mencap oedd yr alwad honno ynghylch cymdeithas heb arian parod. Cawsom ddeiseb a dadl yma, ac rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.

Byddwn i'n dweud, o ran y grŵp cynghori hawliau dynol, bod y gwaith wedi symud ymlaen ar y cyd â'r holl sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o hyn—sefydliadau pobl anabl—ar y cyd o ran beth yw ein pwerau, realiti ein pwerau, ac edrych ar y rheini—. Mae'n weithgor opsiynau deddfwriaethol, ac, fel y dywedais i, rydym yn trafod gyda Llywodraeth yr Alban am yr heriau o ran ymgorffori, ond nid ydym wedi rhoi'r gorau i hynny. Mae hynny'n amlwg yn rhan o'n ffordd ymlaen.

Rwy'n credu, yn y gweithgor a wnaethom ar fyw'n annibynnol, yr uchelgeisiau cyffredinol yw lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ymhlith pobl anabl, gan gynnwys mynediad at fudd-daliadau lles. Rwyf wedi sôn am daliadau uniongyrchol. Mae'n ymwneud â mwynhau hawliau i fyw'n annibynnol, gydag incwm i dalu costau byw. Dyna lle mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a ddeddfwyd gennym yng Nghymru, yn hanfodol bwysig.

Rwyf wedi gwneud sylwadau ar y Papur Gwyrdd. Roeddwn i'n siomedig nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi asesiad Cymraeg annibynnol, ond, fel y dywedais i yn gynharach heddiw, rydym yn casglu'r dystiolaeth honno. Mae data hawlwyr sy'n benodol i Gymru bellach wedi'i gynnwys yn y pecyn tystiolaeth llawn i'r Papur Gwyrdd 'Llwybrau at Waith' a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n dangos nifer y bobl yng Nghymru y gallai diwygiadau i fudd-daliadau analluogrwydd ac anabledd effeithio arnynt, ac, fel y dywedais i, byddwn yn ystyried y goblygiadau hynny yn ofalus—rydym yn ystyried—y goblygiadau hynny. A byddwn yn trafod—. Mae'r adborth o heddiw yn bwysig ar gyfer ein cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Felly, unwaith eto, mae'n dod ôl i'r ffaith ein bod ni, gobeithio, fel—. Rydym yn unedig fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn sicrhau bod gan bobl anabl lais cryf, a'u bod nhw—. Maen nhw wedi treulio eu hamser yn dylanwadu arnom yn y Llywodraeth, yn gweithio gyda ni, a nawr mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cynllun hwn yn cael ei gyflawni o ganlyniad i'r ymgynghoriad sydd bellach ar y gweill. 

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae Natasha Hirst eisoes wedi'i sôn, ac mae hi'n ffotograffydd hollol wych—wn i ddim am un gwell—yng Nghymru. Rwy'n cefnogi eich model cymdeithasol o anabledd yn fawr, oherwydd mae angen newid cymdeithas, nid yr unigolyn sy'n digwydd bod â nam, ac mae gennym ffordd bell iawn i fynd. Dylem ddathlu bod gan Trafnidiaeth Cymru drenau gyda mynediad heb stepiau, ond nid yw llawer o gwmnïau trenau eraill yn cynnig hyn. Dylai hyn fod wedi bod yn orfodol amser maith iawn yn ôl. Felly, mae yna lawer iawn o waith sydd angen ei wneud o hyd.

Yn amlwg, mae rhywun fel fy etholwr Rosie Moriarty-Simmonds yn ymgyrchydd anabledd gwirioneddol ewn sydd wedi gwneud llawer iawn dros achos anabledd, ei normaleiddio a mynd i siarad â phlant ac ati, a chael ei dyrchafu i fod yn Uchel Siryf De Morgannwg yn 2022.

Roeddwn i eisiau gofyn ynghylch sut y gall y cynllun hwn effeithio ar achos addysg gynhwysol, yr wyf bob amser wedi bod yn ei hyrwyddo'n gryf. Mae gen i ysgol addysg arbennig, Hollies, yn fy etholaeth i. I bobl â niwroamrywiaeth, gallaf weld y gallent gael anhawster mawr wrth gael eu haddysgu ochr yn ochr â phobl ifanc eraill, oherwydd mae sŵn yn ffactor mawr i lawer ohonyn nhw, ond, mewn llawer o achosion, gallem fod yn cyd-leoli ysgolion arbennig ochr yn ochr ag ysgolion prif ffrwd, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau y gallech fod wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn.

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone, a diolch hefyd am y gydnabyddiaeth ein bod wedi ymgorffori'r cynllun hwn yn y model cymdeithasol o anabledd. Diolch am sôn am un o gadeiryddion ein ffrydiau gwaith. Rwyf wedi sôn am yr holl gadeiryddion, Natasha Hirst, ond hefyd Rosie Moriarty-Simmonds: am effaith a gafodd pan oedd hi'n Uchel Siryf De Morgannwg, gan ddangos sut roedd cymdeithas yn ei hanalluogi yn ei rôl o ran anhygyrchedd, sef un enghraifft yn unig o ran llawer o'n hadeiladau dinesig yma yn ein prifddinas. Pan ddaethom at ein gilydd fel tasglu, ein maes gwaith â blaenoriaeth oedd ymgorffori a deall model cymdeithasol anabledd ledled Cymru, a hefyd mynediad at wasanaethau, gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg. Roeddem hefyd yn edrych ar blant a phobl ifanc, ac roedd gennym grŵp plant a phobl ifanc hefyd.

Pan fyddwn yn berchen ar bethau, pan fo Trafnidiaeth Cymru yn eiddo i ni, gallant gyflawni, a byddant yn cyflawni, ac maen nhw eisiau cyflawni nawr o ran—. A byddwch wedi gweld hynny. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn rydw i wedi'i ddweud yn gynharach.

O ran niwroamrywiaeth—ac mae'n ddrwg gennyf na wnes i ymateb i Mark Isherwood yn gynharach ar y pwynt hwn—rydym wedi ymestyn ein rhaglen gwella niwroamrywiaeth hyd at 2027, gyda £13.7 miliwn yn fwy o gyllid sy'n cefnogi plant a theuluoedd. Yn amlwg, mae Sarah Murphy yn arwain ar hyn fel y Gweinidog. Mae'n mynd i drawsnewid gwasanaethau niwroamrywiol i oedolion a phlant yng Nghymru a lleihau amseroedd aros, ond mae'n bwysig ein bod yn myfyrio ar hyn o ran addysg, fel y dywedoch chi, o ran sut y gallwn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael mynediad at yr addysg honno ac yn gallu elwa arni. Felly, rwy'n credu, yn bwysig, y byddwch chi'n gweld yn ein hadroddiad ar gynnydd o ran pobl ifanc, Llywodraeth Cymru, rydw i newydd roi un o'r camau gweithredu i chi, ac mae'n cysylltu ag erthygl 27 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun gweithlu addysg, gan ddeall bylchau gweithlu, cynllunio gweithlu, gan gynnwys y gweithlu arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, a hefyd diweddaru canllawiau ar anghenion gofal iechyd, presenoldeb, rheoli ymddygiad a gwaharddiadau, a chanllawiau gwrthfwlio a diogelu wedi'u diweddaru. Mae yno yn y camau gweithredu tymor byr yr ydym eisoes yn eu cymryd o ran estyn allan ar anghenion plant a phobl ifanc.

17:00

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, ond a gaf i ddechrau trwy ddweud pa mor wych yw gweld dehonglydd BSL ar ein sgrin? Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dod yn rhywbeth parhaol.

Er bod eich cynllun yn cael ei groesawu'n fawr mewn egwyddor, ac mae llawer o'r hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw yn dda ac i'w groesawu, a bu'n hir yn dod, fel y dywedodd Sioned Williams yn gynharach, mae'n siomedig ei fod yn methu mewn llawer o feysydd tyngedfennol. Fel y nodwyd gan y Disability News Service, nid oes gan y cynllun dargedau clir, gorfodadwy ac mae'n methu ag ymrwymo'r cyllid angenrheidiol i wneud newid gwirioneddol yn bosibl, fel yr amlinellwyd gan Mark Isherwood yn gynharach. Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau systemig mewn cyflogaeth, trafnidiaeth a mynediad at wasanaethau, a gyda chostau byw cynyddol a thoriadau ysgubol i wasanaethau cymorth ochr yn ochr â lles, mae'r cynllun hwn yn teimlo'n fwy fel datganiad o fwriad na glasbrint ar gyfer gweithredu go iawn.

Effeithir ar dros 10,000 o bobl gan doriadau lles Llafur yn sir Fynwy a Thorfaen yn unig, ac mae hyn heb gael gwared ar y rhwystrau parhaus mewn cyflogaeth a chryfhau'r cynllun Mynediad at Waith. Mae llawer gormod o gyflogwyr yn dal i gredu, ac rwy'n dyfynnu, ei bod yn 'rhy ddrud a chymhleth' i gyflogi pobl anabl, ac mae pobl ag anableddau yn fy rhanbarth wedi cael eu heithrio o gyfweliadau oherwydd nad oes gan gyflogwyr lifftiau a mynediad priodol i'r anabl. Rwy'n gobeithio y gwrandewir ar yr ymgynghoriad wrth iddo ddod i ben, gan y bydd ymgyrchwyr gwych, fel Daniel Biddle, yn ddi-os yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at ffyrdd y gallwn helpu i ddatrys a chwalu'r rhwystrau hyn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael gyda chyflogwyr i ddileu syniadau niweidiol, ableddol yn y gweithle, mynd i'r afael â rhagfarn cyflogi a gwella mynediad at waith? Pa dargedau mesuradwy ydych chi'n anelu atynt i helpu'r rhai yr effeithir arnynt gan ddiwygiadau lles i gael mynediad at gyflogaeth hygyrch, sy'n gyfeillgar i bobl anabl? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones, a gawn ni groesawu ein dehonglydd BSL? Gobeithio y gall hyn fod yn rhywbeth ar gyfer Senedd y dyfodol, y seithfed Senedd, ac rwy'n gwybod yr wythnos nesaf y byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Unwaith eto, diolch. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei ddwyn ymlaen, rwy'n siŵr, ar sail drawsbleidiol.

Rwy'n credu, eto, rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio ar bwyntiau penodol o ran cyflogaeth, incwm ac addysg. Ar gyflogaeth ac incwm, os edrychwch ar y camau gweithredu tymor byr yn y cynllun pobl anabl, rydym wedi cyflogi pobl anabl fel hyrwyddwyr cyflogaeth ers blynyddoedd lawer bellach. Maen nhw'n bobl anabl, maen nhw'n hyrwyddwyr, maen nhw'n cael effaith ar gyflogaeth, maen nhw'n cyfeirio cyflogwyr at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar recriwtio ac arferion gweithio teg, hyblyg a chynhwysol. Mae hynny'n bodloni erthygl 27 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, ac mae ein gweithredoedd yn nodi ein bod yn ymgysylltu â chyflogwyr, undebau, sefydliadau pobl anabl a'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth pobl anabl, i herio stereoteipiau, ac i wella dealltwriaeth o fanteision cyflogi gweithlu amrywiol a'r gefnogaeth sydd ar gael i ni. Felly, rydym yn gwneud hyn trwy ein rhwydwaith o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl, ond hefyd yn creu cyfleoedd i bartneriaid allweddol fel cyrff cynrychiolwyr cyflogwyr, undebau llafur a sefydliadau pobl anabl.

Hefyd, mae'n bwysig iawn o ran rôl Medr i adolygu gwasanaethau cymorth i oedolion anabl sydd eisiau dychwelyd i addysg neu hyfforddiant, hefyd hygyrchedd i'r hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd a phobl anabl sy'n berchnogion busnes. Rydym yn gwerthuso'r cynllun prentisiaethau cynhwysol a byddwn yn diweddaru hynny pan fo angen. Mae'n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i osod ar waith, ein bod yn adolygu llwybrau anacademaidd ac amgen at gyflogaeth, sydd hefyd yn hanfodol o ran hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaethau ac interniaethau. Felly, dyna rai o—. Byddwch yn gweld y rhain yn y cynllun, yn y camau gweithredu tymor byr, yn y cynnydd rydym ni'n ei wneud. Ac eto, rydym yn eich gwahodd i ymgysylltu â'r bobl sydd â phrofiad bywyd, i sicrhau y gallwn gryfhau'r cynllun. Mae heddiw yn ymwneud â lansio cynllun yr ydym am ei gryfhau o ganlyniad i ymgynghori. Mae'n gynllun byw. Rydym ni'n mynd i gael llawer o ddigwyddiadau ymgynghori, a diolch am eich cyfraniadau heddiw.

17:05

Diolch. Yn gyntaf, hoffwn longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r cynllun hawliau pobl anabl. Mae hyn yn dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn lle agored, cynhwysol a hygyrch, lle rydym eisiau i bobl anabl fod heb unrhyw ffiniau ac yn gallu cyflawni eu holl uchelgeisiau. Rwy'n croesawu'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn, y mae hi wedi'i nodi. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud yw gwrando ar bobl anabl a gweithredu ar eu barn, felly rwy'n falch iawn bod y cydweithrediad helaeth hwn wedi bod rhwng y Llywodraeth ac elusennau a sefydliadau anabledd wrth greu'r cynllun hwn. Ac rwy'n gwybod bod cydweithio a gweithio yn y ffordd honno—a chyfeiriwyd at hyn eisoes—yn cymryd amser, ond yn y tymor hwy, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn golygu bod gennym rywbeth a fydd yn cynnig canlyniadau da iawn.

Mae gen i ddau gwestiwn cyflym. Rwyf hefyd eisiau croesawu'r dehonglydd; rwy'n credu bod hynny'n wych ac, fel mae eraill wedi dweud, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cael hyn, yn y pen draw, yn rheolaidd. Ond a allai hi ddweud wrthyf beth sy'n mynd rhagddo mewn gwirionedd o ran hygyrchedd i BSL ledled Cymru? Yn ail, un o themâu'r cynllun yw byw'n annibynnol, felly hoffwn ofyn sut mae hyn yn gweithio gyda'r gwasanaethau iechyd. Oherwydd, o ran gwaith achos etholaethol, mynediad at wasanaethau iechyd i bobl anabl, yn enwedig pobl â phroblemau clyw, yw un o'r prif feysydd a gyflwynir i mi yn fy etholaeth.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am y cwestiynau yna. A hefyd, a gaf i gydnabod y rôl rydych chi wedi'i chwarae, gan weithio gyda phobl anabl a sefydliadau pobl anabl, mewn cymaint o feysydd polisi yr ydym yn eu trafod heddiw? Gallaf ddweud hynny wrth Aelodau ar draws y Siambr hon. Ond fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar ddatblygiadau pwysig iawn o ran BSL, gan sicrhau bod Cymru'n hyrwyddo mynediad teg, ac yn cydnabod, hwyluso a gwerthfawrogi BSL fel rhan annatod o dirwedd ieithyddol Cymru. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid BSL. Mae gennym set o argymhellion allweddol ar fap llwybr polisi BSL, sy'n amlinellu camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau mynediad a chanlyniadau cyfartal, cydnabyddiaeth a hyrwyddo BSL, hawliau iaith cyfartal, grymuso arweinyddiaeth fyddar Cymru, a chynghori ar flaenoriaethau BSL hefyd. Mae cydnabod BSL fel iaith yn hanfodol ar gyfer eu llesiant a'u hawliau dynol, ac rydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu dehonglwyr BSL byddar, a'r angen i oresgyn y rhain i atal rhagfarn ac allgáu. Felly, eto, hefyd yn gweithio, mae'n rhaid i mi ddweud—. A byddwn yn clywed mwy am hyn maes o law gyda Mark Isherwood hefyd, ar y materion hyn, mewn perthynas â'r Bil BSL y mae wedi bod yn ei hyrwyddo, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig cydnabod hynny hefyd.

Felly, rwy'n credu bod y mater ynghylch byw'n annibynnol a mynediad at ofal iechyd a chyfathrebu hygyrch wedi'i amlygu mor gryf o ran y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd. Mae hyn yn ein cysylltu yn ôl â'r hyn rydym ni eisoes wedi bod yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn union fel y ffaith bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma hefyd, ein bod yn cydnabod bod 'Cymru Iachach' yn ymwneud â sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn. Rwy'n falch bod gennym gamau gweithredu wedi'u hadnewyddu sy'n edrych ar hyn o'r persbectif hwn, i sicrhau mynediad a chynhwysiant, yn enwedig mewn perthynas â'n gwasanaethau iechyd. Ac fel y dywedais i yn y datganiad, mae'n ystyried yn llawn o ddechrau taith gofal iechyd pob person anabl, mae'n cynnwys hygyrchedd 111, ap GIG Cymru, cyfleusterau parcio addas, cynhwysiant meddygfeydd ac ysbytai, ac yn wir y cynllun gweithredu strategol ar anabledd dysgu, a godwyd yn gynharach, y rhaglen Gwella Bywydau, canlyniadau drwy gynyddu mynediad at archwiliadau iechyd blynyddol a chyflawni hyfforddiant anabledd dysgu Paul Ridd. Ac yn olaf, Llywydd, a gaf i ddweud bod safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â cholled synhwyraidd yn cael eu hehangu a'u hadolygu i ddarparu gofal iechyd cynhwysol?

17:10
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros a Blaenoriaethau 2025-26

Yr eitem nesaf yw eitem 6. Y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros a blaenoriaethau 2025-26 yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Lleihau amseroedd aros hir yw prif flaenoriaeth y cyhoedd a fy mhrif flaenoriaeth innau. Dros y misoedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld cynnydd da.

Rydym ni wedi gweld yr amseroedd aros hiraf o fwy na dwy flynedd yn gostwng gan ddwy ran o dair. Ar ddiwedd mis Mawrth, gostyngodd amseroedd aros hir i tua 8,000—ychydig o dan 8,400. Dyma'r lefel isaf ers mis Ebrill 2021, ac roedd maint y rhestr aros gyffredinol wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol.

Dangosodd y gyfres ddiweddaraf o ffigurau perfformiad y GIG hefyd fod gostyngiadau mewn amseroedd aros hir ar gyfer profion diagnostig, ar gyfer therapïau ac ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol. Mae hwn yn gynnydd i'w groesawu, a heddiw fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn y GIG. Bu ymdrech enfawr ym mhob bwrdd iechyd, ac ni fyddai'r cynnydd a welsom ni wedi bod yn bosibl heb yr ymdrech enfawr honno gan bawb sy'n gweithio yn y GIG.

Rydym ni wedi cyflawni'r canlyniadau hyn trwy ddarparu miloedd mwy o driniaethau a phrofion ar draws y GIG, trwy fwy o apwyntiadau gyda'r nos a phenwythnosau, trwy weithio rhanbarthol rhwng byrddau iechyd, ac ymdrechion newydd i wella mynediad at ofal a gynlluniwyd. Ond, Llywydd, mae'r gwaith ymhell o fod wedi'i orffen. Mae gormod o bobl, wrth gwrs, yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth a gynlluniwyd, ac mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd i ddileu amseroedd aros hir ac i leihau'r rhestr aros gyffredinol i'w maint cyn y pandemig.

Mae'r darlun yn amrywio rhwng byrddau iechyd. Mae byrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda a Phowys wedi llwyddo i glirio eu holl amseroedd aros dwy flynedd. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n aros dros ddwy flynedd mewn dim ond dwy ardal bwrdd iechyd: ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Betsi Cadwaladr. Mae'r broblem ar ei gwaethaf yng ngogledd Cymru, lle o'r wythnos hon, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â staff y bwrdd iechyd eu hunain i ganolbwyntio ar drawsnewid ei sefyllfa o ran gofal a gynlluniwyd.

Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflawni ei gynlluniau i leihau amseroedd aros hir yn sylweddol erbyn diwedd chwarter cyntaf eleni. Ers mis Tachwedd 2024, mae nifer yr amseroedd aros dwy flynedd yng ngogledd Cymru wedi gostwng 44 y cant, sydd i'w groesawu, ac sy'n gynnydd enfawr, ond mae gwella'r sefyllfa gofal a gynlluniwyd yng ngogledd Cymru yn hanfodol bwysig os ydym ni am gyflawni ein nod cyffredinol o barhau i leihau'r rhain dros y 12 mis nesaf, oherwydd, Llywydd, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir ac yn canolbwyntio ar leihau maint cyffredinol y rhestr aros. Byddwn yn ailosod ac yn lleihau maint cyffredinol y rhestr erbyn mis Mawrth 2026, gan ddod â hi yn ôl at lefelau cyn y pandemig. Mae o fewn ein gafael i leihau maint ein rhestr aros gan gymaint â 200,000 o lwybrau dros y flwyddyn nesaf. Byddwn yn gwneud hyn trwy fynd i'r afael ag apwyntiadau cleifion allanol yn yr arbenigeddau mwyaf heriol.

Erbyn mis Mawrth 2026, byddwn yn cyrraedd ac yn cynnal y targed wyth wythnos ar gyfer profion diagnostig, a thrwy gydol eleni, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros hir. Does arnaf i ddim eisiau i unrhyw un aros mwy na dwy flynedd am driniaeth eto yng Nghymru.

Er y bydd buddsoddiad ychwanegol a'r defnydd o gapasiti ychwanegol yn y sector annibynnol yn rhan bwysig o gefnogi'r GIG i gyflawni'r uchelgais hon, mae lleihau amseroedd aros hir, yn bwysicaf oll, yn dibynnu ar wneud y defnydd mwyaf effeithiol o holl adnoddau'r GIG. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y GIG yng Nghymru, a hefyd i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion.

Roedd hyn yn rhan o'r rheswm pam y comisiynais waith y bwrdd cynghori gweinidogol a derbyn ei holl argymhellion, fel y gallwn ni ddeall beth mwy sydd angen i Lywodraeth Cymru a'r GIG ei wneud i leihau amrywiaeth rhwng byrddau iechyd ac i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Rwyf wedi atgyfnerthu'r disgwyliad hwn trwy gyfres o ofynion penodol yn y canllawiau cynllunio cenedlaethol. Mae'r rhain yn gyfres o alluogwyr allweddol y mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd eu cyflawni eleni.

Mae fy swyddogion yn monitro cynnydd misol, ac mae hyn yn cynnwys olrhain y gweithgaredd ychwanegol disgwyliedig pan fydd y galluogwyr yn cael eu gweithredu, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref ar y cynnydd o ran cyflawni'r camau hyn. Mae'r galluogwyr hyn wedi'u nodi gan glinigwyr yn y rhaglen gofal cynlluniedig, yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol, ac yna wedi'u hatgyfnerthu yn yr argymhellion gan y bwrdd cynghori gweinidogol. Mae enghreifftiau'n cynnwys: cynyddu nifer yr apwyntiadau dilynol, a all gael eu sbarduno gan angen claf yn hytrach nag aros i'r GIG gysylltu â nhw—bydd y mathau hyn o apwyntiadau yn cynyddu trwy gydol 2025-26; er mwyn cefnogi cynnydd mewn gweithdrefnau cataractau, byddwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob bwrdd iechyd drawsnewid eu rhestrau arferol i o leiaf saith gweithdrefn cataractau fesul rhestr, fel mater o drefn, erbyn diwedd mis Medi eleni, a byddwn yn comisiynu'r sector annibynnol i gynnal nifer sylweddol o driniaethau ochr yn ochr â hyn i helpu creu capasiti ar gyfer y trawsnewid hwnnw; a symleiddio llwybrau a chael gwared ar gamau nad ydynt yn ychwanegu gwerth at daith claf, er enghraifft rhestru rhywun ar gyfer gweithdrefn cataractau ar ôl atgyfeirio gan eu hoptometrydd, fel mater o drefn, erbyn diwedd Medi 2025.

Rwy'n benderfynol o weithio gyda byrddau iechyd i ddarparu GIG cryfach a mwy cynaliadwy. Bydd gwelliannau hefyd yn y ffordd y mae pobl yn trefnu apwyntiadau a'r broses o aros am ofal a gynlluniwyd. Bydd diweddariadau i ap GIG Cymru, yn ddiweddarach eleni, yn galluogi pobl i ddeall beth fydd eu hamser haros tebygol ac i aildrefnu eu hapwyntiadau. Mae hyn yn cael ei brofi ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac o fis Gorffennaf, bydd y tîm cenedlaethol yn dechrau cyflwyno ar draws byrddau iechyd eraill ac arbenigeddau eraill. A byddaf yn darparu diweddariad ym mis Medi fel rhan o'r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus.

Yn unol â'n polisi o hyrwyddo, atal a pharatoi ar gyfer gofal a gynlluniwyd—mae gan bob bwrdd iechyd bellach wasanaeth 'aros yn iach' un pwynt cyswllt a all rymuso pobl i fod yn yr iechyd a'r ffitrwydd gorau posibl i gael llawdriniaeth. Ac yn y dyfodol, bydd pobl yn cael eu rhestru ar gyfer llawdriniaeth dim ond pan fyddant yn ddigon ffit i gael eu triniaeth ac i elwa o'u triniaeth. Mae hyn yn llawer gwell i'r claf. Rydym yn gwybod bod pobl yn yr iechyd gorau posibl yn fwy tebyg o wella o lawdriniaeth yn gyflymach, i gael llai o gymhlethdodau ac ni fydd angen aros yn yr ysbyty mor hir. Ac mae'n well i gleifion eraill ar y rhestr gan y bydd yn lleihau nifer y triniaethau ac apwyntiadau sy'n cael eu canslo neu eu colli, gan helpu i gyflymu mynediad yn gyffredinol.

Dyma ein hymrwymiad i'r cyhoedd, ac yn gyfnewid gofynnwn i'r cyhoedd wneud popeth o fewn eu gallu i flaenoriaethu a chadw apwyntiadau, fel ein bod gyda'n gilydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau prin y GIG. Ac mae hyn yn wirioneddol hanfodol oherwydd ar hyn o bryd rydym yn colli nifer enfawr o apwyntiadau yn y GIG—cannoedd o filoedd bob blwyddyn. Mae pedwar ar ddeg y cant o'r holl apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu colli oherwydd nad yw pobl yn dod neu ddim yn gallu mynychu. Nid yw hynny'n iawn ac nid yw'n gynaliadwy, ac nid yw'n ein helpu i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael mynediad cyflymach i'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Felly, yn y dyfodol, byddwn yn darparu dau gynnig dyddiad i gleifion ar gyfer apwyntiad gyda'r GIG. Os na chaiff yr apwyntiadau hynny eu cadw heb reswm da, byddant yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr fel y gall rhywun arall gymryd eu lle. Bydd amgylchiadau pob person yn cael ei ystyried. Bydd cleifion sy'n agored i niwed a phlant yn cael eu diogelu, ond mae arnom ni eisiau i gleifion gadw eu hapwyntiadau neu eu canslo mewn da bryd fel y gall rhywun arall gymryd eu lle.

Llywydd, dyma ystod fach o'r mesurau sy'n adeiladu ar y gwaith da i roi mynediad amserol i bobl yng Nghymru i'r gofal sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu, a gyda'i gilydd bydd Llywodraeth Cymru, y GIG a'r cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth ac yn cyflawni'r gwelliant a'r newid sydd eu hangen arnom ni er mwyn sicrhau bod y GIG yn gynaliadwy ac yn ymateb i'n holl anghenion.

17:20

Fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael ag amseroedd aros hir yn y GIG, ac rwy'n falch bod ein gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru wedi ymateb i'r her ac wedi llwyddo i ostwng yr amseroedd aros hynny. Dyma beth mae fy etholwyr yn ei ddweud ac rwy'n siŵr yr hyn y mae Aelodau eraill yn y Siambr hon yn ei glywed wythnos ar ôl wythnos. Ac rwy'n cytuno â chi, Ysgrifennydd Cabinet, dyma brif flaenoriaeth y cyhoedd. Ond gadewch i mi fod yn glir, er bod unrhyw gynnydd yn cael ei groesawu, y gwir yw bod pobl yng Nghymru yn dal i aros yn llawer rhy hir, ac mewn rhai achosion yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd, o'i gymharu â'r cleifion ar draws y ffin yn Lloegr. Ydych, rydych chi'n sôn am leihau'r amseroedd aros hiraf o ddwy ran o dair ond gadewch i ni gofio mai'r meincnod a ddefnyddir yma yw 104 wythnos. Mae hynny'n ddwy flynedd lawn. Ac i ormod o gleifion o Gymru, mae hynny wedi cael ei normaleiddio ac mae'n rhy hir. Llywydd, fel fi, bydd llawer o bobl yn gofyn, 'Pam mae'r Llywodraeth yn fodlon derbyn nod mor isel?', oherwydd yn Lloegr, mae'r rhestr aros hyd at 52 wythnos ac mewn gwirionedd mae'n mynd i gael ei gostwng i lawr i 18 wythnos. Mae gen i ddiddordeb gwybod: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn symud y targed hwnnw i 52 wythnos nawr, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes rhaid i neb yng Nghymru aros dros flwyddyn am driniaeth?

Fe hoffwn i hefyd grybwyll rhai elfennau sydd yn eich datganiad am yr anghydraddoldeb rhwng gwahanol fyrddau iechyd. Fe glywsom ni yr hyn a ddywedoch chi fod Abertawe, Hywel Dda a Phowys wedi clirio eu hamseroedd aros hiraf, ond byddwn yn anghytuno â rhai o'r ffigurau hynny y soniodd Russell George amdanyn nhw yn gynharach am Bowys. Ond mae'r rhan fwyaf o'r broblem honno bellach yng Nghaerdydd a Betsi Cadwaladr. Ac rydw i eisiau gwybod, pam mae rhai byrddau iechyd yn llwyddo tra bod eraill yn methu ac yn syrthio ar ei hôl hi? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i ddwyn y perfformwyr gwaethaf hynny i gyfrif? Ac a fyddwch chi wedyn yn cyhoeddi tablau cynghrair misol clir gan fyrddau iechyd, fel bod y cyhoedd yn gwybod faint o gynnydd sy'n cael ei wneud yn fisol, yn hytrach na gorfod aros am y ffigurau fel y gwnawn ni?

Fe wnaethoch chi siarad am y sector annibynnol, ac fe ddywedoch chi y byddwch chi'n defnyddio'r capasiti ychwanegol hwnnw yn y sector annibynnol. Dyna ffordd arall o ddweud allanoli. O'm rhan i dydw i ddim yn erbyn defnyddio'r sector annibynnol os yw'n helpu i leihau'r rhestr. Fodd bynnag, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet: faint fydd hyn yn ei gostio i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru? Ac a oes gallu hefyd yn system y sector annibynnol i wneud hyn?

Fe ddywedoch chi fod yn rhaid i bob bwrdd iechyd gyflawni saith llawdriniaeth cataractau fesul rhestr erbyn mis Medi, ac mae hynny'n dda ar bapur, ond beth yw'r nifer presennol o'r hyn y mae byrddau iechyd yn ei gyflawni? Ac rydw i eisiau gwybod, a yw'r targed hwn yn gyraeddadwy os nad oes gennym ni'r theatrau neu'r staff ar gael i bobl wneud llawdriniaethau? Fe wnaethoch chi sôn am y sector annibynnol yn y fan yna eto, ond fe hoffwn i wybod ydy'r gallu hwnnw yn y sector annibynnol i gyflawni hyn.

Fe wnaethoch chi sôn am y cynllun i dynnu cleifion oddi ar restrau aros os ydyn nhw'n colli dau apwyntiad heb reswm da. Rwy'n tueddu i gytuno â hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cymryd ychydig mwy o gyfrifoldeb gyda'u hapwyntiadau o fewn y GIG, ond rwy'n annog mymryn o bwyll. Ac mae angen i mi wneud yn siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw'r polisi hwn yn mynd i gosbi pobl agored i niwed, y bobl hynny sy'n cael trafferth cael trafnidiaeth, yn enwedig ym Mhowys, er enghraifft, lle mae pobl yn gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd apwyntiadau—nid yw bob amser ar gael yn rhwydd—a hefyd y bobl hynny sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Weithiau ni allan nhw fynd i apwyntiadau ysbyty, felly fe hoffwn i ddim ond gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd i gael eu cicio oddi ar y rhestr aros oherwydd eu bod yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl ar y pryd.

Fe wnaethoch chi sôn am ap GIG Cymru, a dw i'n meddwl bod angen i ni fod yn defnyddio hynny llawer mwy. A fydd yr ap yn darparu tryloywder llawn hefyd? Felly, a fydd cleifion nid yn unig yn gweld eu hamseroedd aros, ond yn gallu gweld yr amseroedd aros ar draws byrddau iechyd eraill hefyd? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Roedd rhai pethau roeddwn i'n meddwl oedd ar goll o'ch datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, yn ymwneud ag amseroedd aros canser. Rydym ni wedi gweld Macmillan yn gwneud datganiad i'r wasg, mewn gwirionedd, yn dweud bod amseroedd aros canser yn dal yn brin o gyrraedd y targed—roedd gwelliant bach, ond nid yw'n agos at ble mae angen iddo fod. Fe hoffwn i glywed rhai sylwadau gennych chi heddiw am yr hyn rydych chi'n ei wneud i leihau'r rhestrau aros hynny ar gyfer canser, oherwydd os nad ydym ni'n trin canser mewn modd amserol, bydd pobl yn colli eu bywydau yn ddiangen, felly fe hoffwn i glywed eich barn chi ar hynny. A hefyd mewn pediatreg, mae amseroedd aros i blant yn mynd yn rhy hir, a phob tro rydym ni'n gohirio llawdriniaeth neu blentyn yn cael ei weld, mae hynny'n effeithio ar eu siawns gydol oes. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni wirioneddol ganolbwyntio arno nawr—y gofal pediatrig ledled Cymru.

Un peth rwy'n meddwl y gallai helpu, Ysgrifennydd Cabinet, un peth rydw i wedi ymrwymo iddo, yw rhoi dewis y claf yn ôl wrth wraidd sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau. Pan fyddaf yn mynd at fy meddyg teulu, rwy'n mynd at y meddyg maen nhw'n dweud wrthyf ei weld neu i'r ysbyty maen nhw'n dweud wrthyf i fynd iddo; does gen i ddim dewis ble rydw i'n mynd. A dw i'n meddwl y byddai'n well mewn gwirionedd pe baem ni'n rhoi'r dewis hwnnw yn ôl yn y system, fel y gallai pobl ddweud mewn gwirionedd, 'Wel, rydw i eisiau mynd i weld y clinigydd hwn a chael y gofal yna yn yr ysbyty yna.' Rwy'n credu y byddai hynny'n gweithio'n llawer gwell ac yn gwella perfformiad ar draws y maes iechyd.

Ond i gloi, Llywydd, does dim prinder strategaethau nac adolygiadau na sloganau, mewn gwirionedd, gan y Llywodraeth hon sydd gan Gymru. Yr hyn rwy'n credu eich bod chi yn ddiffygiol ynddi yw brys, uchelgais a thegwch ar draws y system. Mae cynnydd yn cael ei groesawu—mi wnaf i ei ganmol am hynny—ac fe hoffwn i weld cynnydd yn y maes hwn, ond fe ddywedoch chi y byddai amseroedd aros dwy flynedd yn cael ei ddileu erbyn 2023, ac mae gennym ni amseroedd aros dwy flynedd o hyd. Fe allwch chi gwyno faint fynnoch chi Alun Davies, ond mae'r ffeithiau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Mae gennym ni bobl o hyd yn aros yn rhy hir, ac mae hynny'n drueni. Ac mae hi, rwy'n credu, yn fwy o drueni ei bod hi wedi cymryd tan flwyddyn cyn etholiad i'r Blaid Lafur sylweddoli o'r diwedd bod canlyniadau mewn gwirionedd yn bwysig. Yr unig beth y byddwn i'n ei ddweud, Ysgrifennydd Cabinet, yw fy mod yn meddwl eich bod wedi ei adael ychydig yn rhy hwyr ac nid wyf yn credu bod y cyhoedd yn mynd i ddiolch i chi amdano. Diolch, Llywydd. 

17:25

Roedd yr Aelod yn gwneud mor dda gyda rhestr o gwestiynau synhwyrol i raddau helaeth, yna methodd â gwrthsefyll temtasiwn rhethreg ar y diwedd yna, ond byddaf yn gwneud fy ngorau glas i ateb y cwestiynau a ofynnodd yn benodol. Felly, nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r sefyllfa rydym ni ynddi. Rydw i wedi ceisio heddiw rhoi asesiad teg o'r sefyllfa rydym ni ynddi, sef ein bod wedi cyrraedd y targed a osodwyd gennym ni ar gyfer diwedd mis Mawrth, ond mae gennym ni ffordd bell i fynd, ac nid oes unrhyw un yn gweithio yn y GIG na fyddai, rwy'n credu, yn anghytuno â'r asesiad hwnnw. Mae'n bwysig iawn, fodd bynnag, peidio â thanbwysleisio'r ymdrech a wnaed i wneud y cynnydd a wnaethom ni. Mae dealltwriaeth glir iawn y bydd y flwyddyn nesaf yn heriol, a bydd angen yr un lefel o ymrwymiad gan bob rhan o'r GIG a'r Llywodraeth i allu gwneud y cynnydd yr hoffem ni ei weld gyda'n gilydd. Ond rwy'n hyderus y byddwn yn gallu gwneud hynny oherwydd ein bod yn gallu manteisio ar adnoddau ac ymrwymiad gweithlu gwych yn y GIG.

Roedd yn anochel yn fy nhemtio i weithredu'r trefniadau sy'n bodoli dros y ffin. Alla i ddim meddwl am unrhyw gyfres o gwestiynau y mae wedi'u gofyn i mi nad ydyn nhw wedi cynnwys dweud yn y bôn, 'Pam nad Lloegr ydym ni?' Mewn gwirionedd, y flaenoriaeth i mi yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael y driniaeth orau bosibl cyn gynted ag y mae angen iddyn nhw ei chael. Bydd e, rwy'n credu, yn gwybod bod amseroedd aros yn cael eu mesur yn wahanol iawn yn Lloegr ac felly rydym ni'n credu bod y ffordd rydym ni'n eu mesur nhw yma yn fwy tryloyw ac yn rhoi mwy o gyfle iddo graffu ar berfformiad yn y GIG.

Gofynnodd i mi am gyhoeddi perfformiad byrddau iechyd lleol. Rydym ni'n cyhoeddi'r data hwnnw eisoes yn fisol, wedi'i ddadansoddi fesul bwrdd iechyd. Mae hynny'n cynnwys y perfformiad cataractau yr oedd yn siarad amdano ym maes offthalmoleg. Mae'r capasiti'n bodoli ac mae'r staffio'n bodoli. Mae'n gyfres sefydledig iawn o safonau y mae sefydliadau iechyd ledled y DU yn cael eu hannog i'w bodloni, ac mae amrywioldeb yng Nghymru, fel ym mhob rhan o'r DU, ynglŷn â sut mae'r safonau perfformiad hynny'n cael eu bodloni. Ond roeddwn i'n glir iawn gyda byrddau iechyd y GIG ddiwedd y llynedd. Darperais restr benodol iawn o safonau presennol y dylai'r system fod eisoes yn eu bodloni, sy'n cael eu bodloni mewn gwahanol rannau o Gymru, ond nid ym mhob rhan o Gymru, a'r dasg dros y flwyddyn i ddod yw sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu bodloni'n gyson ar draws byrddau iechyd, a byddwn yn cyhoeddi cynnydd tuag at hynny, rwy'n credu, yn chwarterol. Felly, bydd Aelodau'n gallu edrych ar yr hyn sy'n datblygu'n dda a beth sydd angen gwaith pellach mewn gwahanol rannau o'r system.

Gwnaeth bwynt pwysig ynglŷn ag apwyntiadau, ac rwy'n gobeithio y bûm i'n hollol glir yn fy natganiad, fel yr oeddwn i'n bwriadu bod, y bydd yr unigolion sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag y trefniadau hyn am yr union reswm y nododd yn synhwyrol yn ei gwestiwn. Ond ar ddiwedd y dydd, pan fyddwn yn colli 700,000 o apwyntiadau y flwyddyn, mae'n bwysig iawn bod y capasiti hwnnw ar gael i gleifion sy'n gallu mynd i'r apwyntiadau hynny. Rydym ni i gyd eisiau gweld pobl yn cael gofal ynghynt, ac felly mae hynny'n rhan bwysig o'r ateb hwnnw. Mae'n ddull partneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r GIG ar y naill law a'r cyhoedd ar y llall, ac o beth welaf i mae pobl yn deall bod hynny'n rhan bwysig o'r ffordd ymlaen.

O ran ap y GIG, mae'r data yr oedd yn gofyn amdano eisoes wedi'i gyhoeddi. Ni fydd yn cael ei gyhoeddi ar yr ap; bwriad hynny yw bod yn offeryn personol i glaf unigol allu rheoli eu gofal iechyd, ond mae'r data ar gael mewn mannau eraill yn y system. A bydd yn cofio, rwy'n credu ychydig wythnosau yn ôl, y dywedais y byddwn yn cyhoeddi datganiad tryloywder yn yr hydref, a fydd yn sôn mwy am sut y byddwn yn agored i annog y drafodaeth honno ynghylch gwelliant.

Gwnaeth bwynt pwysig ynghylch canser ac amseroedd aros pediatrig. Bydd yn gwybod ein bod yn cynllunio buddsoddiadau i gyflymu diagnosteg, sy'n un o'r heriau mewn perfformiad canser yn gyffredinol. Bydd yn gwybod bod argymhellion penodol yn adroddiad y grŵp cynghori gweinidogol ynghylch sut y gallwn ni wella sawl agwedd ar berfformiad canser. Mae'r holl argymhellion hynny wedi'u derbyn, ac ychydig wythnosau cyn hynny, roeddem yn siarad am y gwelliannau rydw i wedi'u rhoi ar waith mewn perthynas â llywodraethu gwasanaethau canser yng Nghymru, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ond hefyd o safbwynt tîm perfformiad a gwella GIG Cymru hefyd.

Yn olaf, gwnaeth bwynt am ddewis cleifion. Mae rhywfaint o ddewis cleifion ar y cyrion ym mhob system gofal iechyd oherwydd natur y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu comisiynu, ac yn enwedig mewn perthynas â rhai triniaethau a chyflyrau arbennig o gymhleth, ond nid wyf yn credu bod unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod dewis y claf yn gallu gwneud y newidiadau y mae'r Aelod yn eu disgwyl o'r broses. Rwy'n siŵr y byddai'n cyfeirio at brofiad dros y ffin, fel y mae'n aml yn gwneud. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol glir bod dewis cleifion yn y GIG yn Lloegr yn hollol ymylol, a dw i ddim yn meddwl mai'r ateb yw hynny; dw i'n credu mai'r ateb yw sicrhau o ran y trefniadau sydd gennym ni yng Nghymru, bod pob claf yn cael mynediad at y gofal gorau yn y ffordd fwyaf amserol bosibl.

17:30

Ar hyn o bryd, mae yna ragor na 600,000 o bobl yng Nghymru ar restr aros, bron i un o bob pump o’n poblogaeth yn aros am driniaeth. Dwi'n croesawu’r gwelliant diweddar yn y niferoedd ar y rhestrau aros, a dwi wirioneddol yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet presennol yn llwyddo i adael ei rôl gyda'r rhestrau aros mewn safle gwell na beth oedden nhw pan ddaeth i’w rôl, rhywbeth na lwyddodd yr un o'i ragflaenwyr i'w wneud.

Ond mae'n rhaid croesawu’r niferoedd yma yn bwyllog, oherwydd ein bod ni wedi bod yma o’r blaen, wrth i ni weld gostyngiadau nid annhebygol ar ddiwedd 2023, ac yna cynnydd parhaol am dros flwyddyn ar ôl hynny. Yn llawer rhy aml yn ddiweddar, mae'r Llywodraeth yma wedi pwyntio at wawr newydd, heb sylweddoli efallai mai eu machlud nhw eu hun sydd ar y ffurfafen, oherwydd mae'r Llywodraeth wedi methu â chyrraedd yr un o'u targedau yn y cynllun adfer gofal, er gwaethaf symud y pyst sawl gwaith. A pha fesur llwyddiant ydy gweld dros 8,000 o bobl yn aros am dros ddwy flynedd am driniaeth ar ôl addo na fyddai’r un person yn aros am fwy na dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023?

Dwi'n cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi gwneud jobyn llawer iawn gwell na'i ragflaenyddion wrth fynd i'r afael â'r heriau yma. Ond beth oedd y gost? Beth ydy'r gost anferthol mewn iechyd unigolion a theuluoedd a diffyg buddsoddiad mewn diagnosis a gofal ataliol mae pobl Cymru wedi gorfod ei dalu er mwyn cyrraedd y pwynt hwn? Mae'n rhaid, felly, dysgu'r gwersi, a derbyn na allwn ni barhau i luchio pres at broblemau, ond yn hytrach fod angen arweinyddiaeth cenedlaethol clir gyda ffocws ar ganlyniadau, nid systemau.

Eto, dwi'n cydnabod fod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi dangos parodrwydd i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mi roedd o'n iawn i adolygu'r targed coch ar gyfer gwasanaethau ambiwlans, er enghraifft, er mwyn alinio yn well adnoddau a chapasiti gyda'r targedau. Mae'n rhaid, felly, gweld yr un lefel o onestrwydd a chydlyniad strategol trwy'r holl wasanaeth iechyd.

Efo adnoddau penodol, mae'n rhaid blaenoriaethu’n gywir, yn hytrach na chyflwyno ystod eang o dargedau disylwedd, a bod yn fwy eglur o ran y strategaethau cenedlaethol. Dyma rai o'r casgliadau ddaeth allan o'n hadroddiad ni ym Mhlaid Cymru ar ddiwygiadau llywodraethiant yn y system iechyd, ac unwaith eto, dwi'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ein hargymhellion yn llawn.

Mae ein hadnodd pwysicaf un, ein degau o filoedd o staff ymroddedig, hefyd angen mwy o gefnogaeth. Maen nhw'n cyflawni gwyrthiau mewn amgylchiadau hynod heriol, ac mae eu gwaith yn cael ei danseilio yn sgil targedau sy’n orgymhleth a diffyg cefnogaeth i alluogi cynllunio gweithlu mwy effeithiol. Dyma pam bod angen cynllun gweithlu newydd ar gyfer yr NHS yng Nghymru, yn ogystal â gwella ansawdd data a maint a natur y bylchau staff sydd gennym ni. A thra bod yna ddiffyg arweinyddiaeth strategol genedlaethol, nid yw'n syndod, felly, i weld bod gwahaniaethau eang o ran ansawdd a chysondeb gofal, gyda chod post rhywun yn glwyd yn atal gofal yn llawer rhy aml.

Yn y gorffennol, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud bod y loteri cod post wedi cael ei ddatrys. Dwi'n croesawu ei gydnabyddiaeth heddiw bod y loteri yma yn parhau. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol taw un o'n datrysiadau ni i hyn ydy rhoi byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol er mwyn gorfodi cydweithio mwy systematig. Fodd bynnag, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi mynnu bod cyfeiriad gweinidogol yn ddigonol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, ond dydy o ddim yn gweithio. Ateb yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw ydy creu enablers, ond does yna ddim esboniad o beth ydy'r enablers yma. Tybed, felly, a gawn ni eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet o beth mae'n olygu: beth fydd rôl hyn?

Ac i gloi, tra ein bod ni’n trafod blaenoriaethau, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fod adolygiad gwariant San Steffan ar y gweill, lle bydd gan y Lywodraeth Lafur presennol y cyfle i weithredu addewidion hirddisgwyliedig i ddiwygio setliad ariannol Cymru. Mae sicrhau setliad ariannol teg i Gymru nid yn unig yn fater o degwch sylfaenol, ond hefyd yn flaenoriaeth iechyd i’r genedl. Oherwydd bob blwyddyn rydym ni'n gweld y system Barnett presennol yn methu yn llwyr â darparu adnoddau sydd yn gymesur ag anghenion Cymru: pobl hŷn, mwy o salwch, mwy o dlodi.

Dim ond yr wythnos diwethaf fe welson ni yr anghyfiawnder sylfaenol yma sydd wrth wraidd y fformiwla Barnett, gyda Chymru yn colli allan ar dros £70 miliwn o ganlyniad i ddefnyddio Barnett er mwyn dyrannu ad-daliadau'r Trysorlys ar yswiriant gwladol. A oedd yna unrhyw beth pellach y gallai'r Llywodraeth fan hyn fod wedi ei wneud er mwyn gwthio am setliad tecach? Beth ydy'r gost i’r gyllideb iechyd o’r £72 miliwn yma o dreth ychwanegol mae Llafur wedi ei gosod yn uniongyrchol ar Gymru? A oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn bersonol wedi cael unrhyw gysylltiad gyda'r partneriaid yn San Steffan er mwyn gwneud yr achos bod hyn yn bwysig i wella iechyd Cymru a bod angen y pres yma ar iechyd yng Nghymru? Diolch.

17:35

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy'n credu roedd rhyw ddau neu dri chwestiwn penodol yn hyn o beth a wnaeth e ofyn. Diolch iddo fe am groesawu'r cynnydd sydd wedi digwydd ac am y ffocws ar arweinyddiaeth genedlaethol sydd yn cael ei ddangos. 

Rwy'n credu mai'r peth cyntaf wnaeth e ofyn oedd a oedd awydd cael llai o dargedau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Fe fyddwn i'n ei gyfeirio fe nôl at y fframwaith gynllunio a wnes i ei gyhoeddi ar ddiwedd y llynedd, oedd yn glir am y targedau y byddwn ni'n mesur cyrff yn yr NHS yn eu herbyn nhw. Felly, mae rhyw 16 neu 17 o brif dargedau yna a fydd yn ffocws ac sydd eisoes yn ffocws ar gyfer dal byrddau iechyd i gyfrif. Felly, gobeithio bod hynny o beth wedi bod yn rhywfaint o gysur iddo fe. Gwnaeth e ofyn hefyd beth oedd yr enablers, ac mae'r un ddogfen honno a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr llynedd yn gosod allan y rhestr o enablers a beth yw eu pwrpas nhw. Felly, gobeithio bydd hynny o werth hefyd.

Beth fyddwn i ddim yn cytuno gyda'r Aelod yn ei gylch e yw'r pwyslais mae e'n rhoi ar y strwythurau ar draul canlyniadau. Rwy'n gwbl sicr bod pwyslais fel mae e'n ceisio rhoi ar edrych ar ailstrwythuro elfennau o'r gwasanaeth iechyd yn mynd i gael un canlyniad yn unig—hynny yw, tynnu ffocws y gwasanaeth iechyd oddi wrth wella perfformiad ac ar strwythurau a phoeni am strwythurau yn y dyfodol. Felly dyna, rwy'n credu, yw byrdwn polisi Plaid Cymru yn hyn o beth.

Fe allaf i hefyd roi'r cysur, gobeithio, roedd e'n dymuno o ran y gwaith mae'r Llywodraeth wedi ei wneud i wneud yr achos dros setliad digonol i Gymru i edrych ar effaith yswiriant cenedlaethol. Fe wnaeth y Prif Weinidog a'r Gweinidog cyllid, fel y Gweinidogion sydd yn gyfrifol am sicrhau setliad ariannol teilwng i Gymru, weithio'n galed iawn i wneud yr achos o blaid setliad gwahanol. Fel gwnaeth yr Aelod glywed, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyfrannu rhywfaint tuag at y gap sydd wedi cael ei adael gan benderfyniad y Llywodraeth yn San Steffan.

Diolch am y diweddariad, a diolch am eich gwaith, Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'r GIG yn bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth i bob un ohonom ni. Mae'n effeithio ar ein bywydau ni i gyd, felly mae'n hollol briodol y dylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac i bawb. Nid yw eich datganiad yn osgoi trafod yr heriau sy'n parhau, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn glir hefyd am y cynnydd cadarnhaol sydd wedi'i wneud. Felly, amseroedd aros dwy flynedd i lawr 67 y cant dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 12,000 o gleifion wedi dod oddi ar y rhestr aros dwy flynedd, ac, wrth gwrs, mae canolfan orthopedig newydd Llandudno ar y trywydd iawn i wneud gwahaniaeth pan fydd honno'n agor yn ddiweddarach eleni. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond, wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud, fel sydd wastad yn wir.

Rwy'n croesawu yn eich datganiad ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â staff y bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar wyrdroi ei sefyllfa ymhellach o ran gofal a gynlluniwyd. Rwy'n credu y dylem ni fod yn onest yma y bu'r cynnydd yn bosibl diolch i fuddsoddiad ychwanegol a wnaed yn bosibl gan ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, ond hefyd bod angen trawsnewidiad llwyr, ac, wrth gwrs, ni fyddai'n digwydd heb ein gweithlu yn y GIG. Felly, a gaf i ofyn i, Ysgrifennydd Cabinet, am rywfaint o sicrwydd ynghylch sut y gellir cynnwys y gweithlu ymhellach o ran nodi gwelliannau a chael eu cefnogi i'w cyflawni ar lawr gwlad? Diolch.

17:40

Diolch i Hannah Blythyn am y cwestiynau hynny. Mae hi'n iawn i ddweud ei bod hi'n bwysig rhoi darlun cytbwys o'r sefyllfa rydym ni ynddi. Soniodd am Betsi Cadwaladr yn ei hardal hi yn arbennig a'i rhanbarth hi, ac rwy'n credu y bydd uned orthopedig Llandudno, pan fydd hynny'n agor yn ddiweddarach eleni, yn gaffaeliad gwych i ogledd Cymru. Rwy'n credu y bydd yn helpu'r cleifion hynny sy'n aros i'w pengliniau a'u cluniau i gael eu gweld yn gyflymach, a dyna'r math o fenter mae arnom ni eisiau gweld mwy ohoni mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

O ran perfformiad y bwrdd iechyd, rwy'n falch ei bod hi wedi gallu cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud; rwy'n credu y byddai'r bwrdd iechyd ei hun yn glir iawn bod ffordd bell eto i fynd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â ble y bu cynnydd, a bu cynnydd mewn difrif. Rwy'n credu y bu pwyslais y bwrdd iechyd yn fawr iawn—am resymau rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn eu deall—ar sefydlogi'r llywodraethu, yr arweinyddiaeth, y cyllid, y diwylliant diogelwch yn y bwrdd iechyd, ac mae'r pwyslais nawr ar berfformiad. Mae rhythm rheolaidd iawn o ymgysylltu â ni fel Llywodraeth, ac mae gennym ni dimau o swyddogion sy'n gweithio'n agos, law yn llaw, gyda'r tîm yn Betsi i weithio gyda'i gilydd ar sut y gallan nhw wneud cynnydd pellach ar eu rhaglen gofal gynlluniedig. Felly, rwy'n hyderus bod y gyfres honno o berthnasoedd yn gweithio'n dda ac mae arnom ni i gyd eisiau gweld cynnydd yn hynny o beth.

Gwnaeth bwynt pwysig iawn ynglŷn ag ymgysylltu â gweithlu'r GIG yn y broses o wella ac o ran y newid, gan helpu'r GIG i addasu ar gyfer y dyfodol. Bydd y rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod pan fyddwch chi'n siarad â rhywun sy'n gweithio yn y GIG byddant yn rhoi pump neu chwech o bethau maen nhw'n meddwl y gellid eu newid yn gyflym iawn a byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth ac yn eu cefnogi yn y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud i gael hyd yn oed mwy o effaith ar y gwaith caled maen nhw'n ei wneud. Ac felly, mae cyfleoedd i wneud hynny. Un o'r pethau rydym ni wedi bod yn canolbwyntio'n fawr arno yw sicrhau bod arweinwyr yn y GIG yn creu'r diwylliant hwnnw yn y gweithle sy'n annog y lefel honno o ymgysylltu. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu mai rhan hanfodol o greu'r gofod hwnnw a'r teimlad bod pobl yn gallu gwneud y cyfraniadau hynny at sut y gellir newid y system yw gwneud arweinyddiaeth glinigol yn y GIG yn fwy gweladwy. Bydd hi'n gwybod, yn ein hymateb i'r grŵp cynghori gweinidogol, fod gennym ni gamau penodol mewn golwg er mwyn galluogi i hynny ddigwydd, ar lefel genedlaethol ond hefyd yn rhanbarthol ac ar lefel bwrdd iechyd hefyd. 

Ysgrifennydd y Cabinet, dwi eisiau gofyn rhywbeth penodol i chi, wedi i fi siarad â choleg brenhinol yr anaesthetists. Fel rŷch chi’n gwybod, mae’r anaesthetist yn chwarae rôl arbennig yng ngofal dwy ran o dair o gleifion ysbyty, so maen nhw’n rhan annatod o ofal meddygon yn helpu cleifion i baratoi ar gyfer llawdriniaeth, sicrhau cynlluniau gadael, lleihau cymhlethdodau a rhoi hwb i ganlyniadau a gwelliant cleifion.

Fe wnaeth adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ y Deyrnas Unedig amcangyfrif bod diffyg o tua 150 o anaesthetists yng Nghymru yn 2021. Yn ôl y coleg brenhinol, erbyn 2040, bydd y diffyg hwn wedi cynyddu i 800. Dros y pum mlynedd diwethaf, bu gostyngiad o 12 y cant o anaesthetists o'r Undeb Ewropeaidd—siŵr o fod oherwydd Brexit—yn ymuno â'r gwasanaeth iechyd, a gostyngiad, hefyd, o raddedigion rhyngwladol o fewn y Deyrnas Unedig. Bydd effaith peidio â mynd i'r afael â'r mater hwn yn golygu mwy o burnout i'r anaesthetists sydd gyda ni, problemau cadw gweithlu, ac yn y pen draw, canslo triniaethau a rhestrau aros hirach i gleifion.

Byddwch chi'n gwybod pa mor hir y mae’n cymryd i rywun ddod yn ymgynghorydd anaesthetist—14 o flynyddoedd—felly, does dim shortcuts fan hyn; does dim ateb tymor byr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gyda chi a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn, i osgoi'r argyfwng rhagweladwy yma? Diolch yn fawr.

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Rwyf wedi bod yn gwneud cyfres o gyfarfodydd mewn byrddau iechyd ar draws Cymru dros y misoedd diwethaf, yn cwrdd gyda phobl sy'n gweithio ar y rheng flaen. Rwyf wedi siarad gyda mwy nag un anaesthetist yng nghwrs y trafodaethau hynny a rhoi cyfle iddyn nhw rannu profiad gyda fi o'r math o bethau y mae'r Aelod yn sôn yn eu cylch nhw.

Mae gwaith gyda ni ar waith ar hyn o bryd gyda HEIW o ran edrych ymlaen llaw ar ba anghenion fydd o ran gwahanol elfennau o'r gweithlu yn y dyfodol gyda'r gwasanaeth iechyd. Dyw'r ffigurau penodol ddim gen i ar gyfer anaesthetists, ond mi fyddwn i'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod.

17:45

Ysgrifennydd Cabinet, mae wedi bod yn dda iawn gweld y cynnydd diweddar o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ddewisol. Ym maes trawma ac orthopaedeg, er enghraifft, fel y soniwyd gennych chi, mae'r holl gluniau a'r pengliniau newydd hynny yn caniatáu i bobl fynd ymlaen â'u bywydau eto—bywydau a oedd yn cael eu gohirio mewn sawl ffordd, boed ar gyfer gwaith, neu o ran cael amser gydag wyrion, mynd ar wyliau, neu ymddiddori mewn gweithgareddau arferol, fel cerdded, dosbarthiadau, ac ati. Mae'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd, ac mae'n dda iawn gweld y cynnydd hwnnw. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan nawr, mae'r gostyngiad yn sylweddol iawn. Rwy'n credu ei fod bellach yn 1 y cant o'r rhai ar y rhestr ar gyfer trawma a thriniaeth orthopedig sydd wedi bod yn aros ers dros ddwy flynedd. Felly, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol iawn mewn gwirionedd, sy'n cael ei groesawu'n fawr.

Tybed, Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n cydnabod fod yna densiwn, efallai, rhwng cael yr amseroedd aros dwy flynedd hynny i lawr ymhellach a gyrru'r amseroedd aros i lawr ymhellach, a rhoi blaenoriaeth ddyledus i'r rhai sydd ag anghenion meddygol mwy brys. Mae'r rhain yn faterion a ddygwyd i fy sylw, lle mae pobl sy'n cael eu dynodi fel cleifion brys, er enghraifft, yn hytrach nag arferol, yn dal i fod yn aros tua dwy flynedd, yn hytrach na chael eu gweld yn gynharach.

Diolch i John Griffiths am y cwestiynau hynny. Byddwn i'n dweud—ac fe ddylwn i fod wedi dweud hyn mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor, mewn gwirionedd—pan fyddwn ni'n siarad am yr ystadegau, rydym ni'n siarad am bobl, onid ydym ni? Mae'r rhain yn bobl sy'n aros, yn aml mewn poen, i gael eu gweld. Felly, dyna fel rydw i'n ei gweld hi. Mae'n sefyllfa heriol. Fe welsom ni ar ddechrau'r rhaglen a roddwyd ar waith ym mis Tachwedd y rhestrau aros yn mynd i fyny cyn iddyn nhw ddechrau dod i lawr. Felly, mae lefel o amrywioldeb, os hoffech chi, yn y system. Ni allaf addo i chi, bob mis rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd, y byddwn yn dangos yr un cynnydd ag yr ydym ni wedi gallu ei ddangos heddiw. Ond yr hyn rwy'n hollol glir y byddwn yn ei weld yw tuedd ar i lawr, fel bod mwy o'r bobl hynny yn cael eu gweld yn gyflymach.

Mae'n gofyn cwestiwn pwysig iawn am y sail y mae'r Llywodraeth neu'r gwasanaeth iechyd yn dewis nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi. Yr hyn rydw i wedi bod yn glir iawn, iawn gyda byrddau iechyd amdano yw na all y cyllid rydym ni'n ei ddarparu ar gyfer amseroedd aros dwy flynedd fod ar draul y gweithgaredd craidd ym mhob ardal bwrdd iechyd. Felly, mae gennym ni ddealltwriaeth o beth fyddai'r lefel arferol o weithgarwch ym mhob arbenigedd ym mhob bwrdd iechyd, ac mae hynny yno i ymateb i'r achosion brys y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn ei gwestiwn. Ac rydym ni'n gallu gweld lle mae hynny'n newid, felly rydym ni'n gallu gweithio gyda byrddau iechyd ar hynny. Ond dyna yn gwbl glir yw ein disgwyliad. Rwyf hefyd wedi dweud—nid wyf yn disgwyl gorfod gwneud hyn, ond rwyf wedi bod yn glir, fel mater o egwyddor—pe baem yn gweld cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol i ariannu gweithgarwch craidd, ni fyddai hynny'n dderbyniol ac y byddai angen i gyllid ddod yn ôl. Mae cyfres glir iawn o gymhellion yn y system i barhau â'r gwaith hwnnw.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, fodd bynnag, yw bod anallu system—nid yn unig yng Nghymru, ond yn unrhyw le—i fynd i'r afael ag ôl-groniad yn llyffethair difrifol iawn, iawn ar allu gweld pobl ar frys, nad ydyn nhw'n glefion brys. Mae'n cael effaith enfawr ar allu'r system i gyflawni. Felly, bydd cael y system yn ôl i gydbwysedd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dyna pam, mewn gwirionedd, yn y flwyddyn nesaf, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr aros hir, mae canolbwyntio ar faint y rhestr aros mor bwysig. Os gallwn ni gael hynny yn ôl i gydbwyso, fel rwy'n hyderus y byddwn yn gallu gwneud, yna mae hynny'n rhyddhau capasiti ar gyfer yr holl weithgareddau eraill y mae angen i'r gwasanaeth iechyd fod yn ei wneud hefyd.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, yn eich datganiad heddiw, fe ddywedoch chi fod bwrdd iechyd Powys wedi llwyddo i glirio ei holl amseroedd aros dwy flynedd. Byddech wedi clywed y cyfnewid gyda'r Prif Weinidog heddiw, a chadarnhaodd y Prif Weinidog fod 81 o gleifion Powys yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaethau. Ymddengys bod hynny'n wrthgyferbyniad i bob golwg, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi egluro hynny.

Ond os mai eich ateb yw, pan fyddwch chi'n dweud nad oes rhestrau aros ym Mhowys, eich bod yn cyfeirio at gleifion sy'n cael eu trin ym Mhowys, oni fyddech chi'n cydnabod bod hynny ychydig yn anghywir oherwydd na ellir trin cleifion Powys ym Mhowys oherwydd nad oes ysbyty cyffredinol dosbarth i'w trin? Felly, a fyddech chi'n derbyn y sefyllfa honno?

Ymhellach i hynny, gwnaeth y Prif Weinidog, roeddwn i'n meddwl, ddatganiad eithaf rhyfedd am yr 81 o gleifion hynny, gan ddweud bod 40 ohonyn nhw'n aros yn ysbytai Lloegr ac roedd GIG Lloegr yn araf i'w trin. Mae hynny hefyd yn rhyfedd, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd byddwch chi'n gwybod bod bwrdd iechyd Powys wedi gofyn i ddarparwyr yn Lloegr arafu triniaeth yn fwriadol, er bod capasiti yn yr ysbytai hynny yn Lloegr, am resymau ariannol. Pan ofynnwyd gennyf i ac eraill, rydych chi'n dweud bod bwrdd iechyd Powys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i drin cleifion yn seiliedig ar dargedau amser aros Cymru, ac rwy'n derbyn hynny, ond a fyddech chi'n derbyn nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrdd iechyd Powys i ariannu cleifion sy'n cael eu trin yn ysbytai Lloegr yn seiliedig ar dargedau amser aros Lloegr?

17:50

Rwy'n eithaf dryslyd, i ddweud y gwir, ond rwy'n hapus i roi'r eglurhad i'r Aelod y mae'n chwilio amdano. Fel y bydd yn gwybod, rwy'n credu, fel cyn-Gadeirydd y pwyllgor iechyd, rydym ni'n cyhoeddi amseroedd aros a rhestrau aros yn seiliedig ar statws darparwyr iechyd. Felly, mae Powys, fel bwrdd iechyd addysgu, yn ddarparwr gofal iechyd, ac rydym ni'n mesur ei berfformiad fel darparwr.

Bydd hefyd yn gwybod nad yw'r rhestr aros yn unig yn cynnwys pobl sy'n aros am driniaethau mewn ysbytai cyffredinol dosbarth, felly mae'n hollol gywir dweud bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi clirio ei amseroedd aros dwy flynedd. Dyna'r sail safonol rydym ni'n adrodd arni. Nid oes unrhyw beth yn mynd i newid. Nid oes unrhyw beth yn y datganiad rydw i wedi'i wneud heddiw wedi newid hynny. Roedd y Prif Weinidog yn gwneud pwynt gwahanol iawn ynglŷn â ble mae cleifion o Bowys yn cael eu trin yn Lloegr. Y pwynt y byddwn i'n ei wneud i'r Aelod yw hyn: mae'n gwbl amlwg bod gan Bowys y cyllid sydd ei angen i gyrraedd targedau Cymru. Dyna beth rydym ni'n ei ddisgwyl gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Nid yw'n wahanol i Bowys—dim haws, dim mwy anodd—ac mae hynny fel y dylai fod.

Diolch yn fawr iawn. Llongyfarchiadau i chi ac i bawb arall sydd wedi bod yn rhan o gael y rhestrau aros hyn i lawr, oherwydd rwy'n gwybod faint o bobl sy'n gweithio mor galed i wneud hyn.

Cefais fy nghalonogi'n fawr gan eich datganiad eich bod yn gobeithio, yn y dyfodol, y bydd yr holl atgyfeiriadau yn dod gan optometryddion i'r offthalmolegydd ymgynghorol—yn hollol, mae'r optometryddion stryd fawr yn bendant yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud. 

Roeddwn i'n meddwl, felly, a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut rydym ni'n gwella'r amseroedd aros am gerrig arennau, oherwydd rydym ni'n dal i'w rhoi nhw ar y rhestr aros am wrolegydd. Pan edrychais ddiwethaf, mae'r holl sganiau a'r holl lithotripsedd—ffrwydro carreg yr arennau—yn cael eu gwneud gan radiolegwyr. Felly, pam ar y ddaear mae wrolegwyr yn rhan o hynny, yn enwedig pan fo'r rhain yn bobl sy'n gleifion arbenigol sydd â blynyddoedd o brofiad o gerrig arennau?

Jenny Rathbone, rwy'n ddiolchgar i chi am y gydnabyddiaeth rydych chi wedi'i roi i'r gwaith caled yn y GIG i gyflawni'r cynnydd rydym ni wedi gallu ei adrodd.

Rwy'n credu mai'r enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi, mewn perthynas ag offthalmoleg, a'r cyfle y mae'n ei ddisgrifio hefyd mewn perthynas â cherrig arennau, yw'r gogwydd y mae angen i ni ei gyflwyno i bob arbenigedd, yn enwedig, ond nid yn unig, ar yr agweddau llai cymhleth, oherwydd rydym ni'n gwybod trwy ddarparu gofal sylfaenol mewn gwahanol ffyrdd, rhoi diagnosteg i'r gymuned mewn ffyrdd mwy a mwy uchelgeisiol, a rhai ymyriadau llai cymhleth, y gallwn ni wneud gwahaniaeth eithaf mawr. Felly, mae nifer o'r camau galluogi roeddwn i'n eu trafod yn gynharach yn ymwneud â chymhwyso'r mathau hynny o safonau.

Yr un yr oeddwn i'n cyfeirio ato yn fy natganiad yw dileu camau diangen yn y llwybr. Rydym ni'n gwybod bod tystiolaeth dda iawn, iawn, lle rydym ni'n gallu cymhwyso'r safonau hynny yn gyson ar draws ardaloedd bwrdd iechyd, ein bod yn gallu gwneud gwelliant cyflym. Rwy'n credu mai rhan o'r ateb i sut y gallwn ni fod yn well am wneud hynny, yn onest, yw sicrhau bod y llais clinigol yn cael ei glywed yn uchel mewn perthynas â chyflwyno'r newidiadau hynny. Os yw clinigwyr yn clywed gan eraill sydd wedi llwyddo i gyflwyno ymyriadau mewn ffordd wahanol, ffordd fwy effeithlon, o safbwynt cyllido ond hefyd o safbwynt cleifion, yna mae hynny'n argyhoeddi. Rwy'n credu ein bod ni eisoes yn gweld tystiolaeth o hynny yn y system, arloesedd da iawn, a mwy o hynny mae arnom ni eisiau ei weld.

7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Taith

Eitem 7 sydd nesaf. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar Taith yw'r datganiad yma. Felly, Vikki Howells sy'n gwneud y datganiad.

17:55

Llywydd, rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw am Taith, ein rhaglen gyfnewid ryngwladol flaenllaw ar gyfer dysgu. Yn y cyfnod ansicr hwn yn fyd-eang, ni fu erioed yn bwysicach i ni gryfhau cysylltiadau â'n partneriaid rhyngwladol, ac mae addysg yn gwneud cyfraniad enfawr i'n huchelgeisiau rhyngwladol. Rwy'n cydnabod bod fy rôl i, a rôl Llywodraeth Cymru, yn hanfodol wrth helpu i godi proffil rhyngwladol ein sefydliadau addysg a pharhau i wneud Cymru'n genedl sy'n edrych tuag allan. Fy man cychwyn a fy mlaenoriaeth bob amser fydd lles pennaf dysgwyr. Rwyf eisiau i bobl ifanc gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, i werthfawrogi diwylliannau amrywiol ac i ddeall pwysigrwydd cydweithio ar faterion byd-eang. Trwy gofleidio'r cyfleoedd hyn, gall dysgwyr gael eu grymuso i wneud cyfraniadau ystyrlon ac ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Taith wedi datblygu'n sylweddol ers ei sefydlu, ac rwy'n falch o weld yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar ein cymunedau ac ar ein henw da yn fyd-eang. Mae ein buddsoddiad hyd yma wedi rhoi cyllid hanfodol i gefnogi 220 o brosiectau Taith, gan arwain at dros 15,000 o symudeddau a ragwelir. Bydd tri chant ac wyth o sefydliadau ledled Cymru yn elwa, a rhagwelir y bydd prosiectau cydweithredol yn cynnwys bron i 100 o wledydd a thiriogaethau. Erbyn diwedd 2025, bydd bron i £30 miliwn o gyllid Taith wedi'i ddyfarnu i brosiectau ledled Cymru. Mae'r ffeithiau a'r ffigurau hyn yn werth eu dathlu yn eu rhinwedd eu hunain, ond y straeon a'r profiadau gwirioneddol y tu ôl i'r niferoedd hynny sydd wir yn fy ysbrydoli ac yn fy atgoffa pam mae'r buddsoddiad hwn mor werth chweil.

Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed yn ddiweddar am brosiect sy'n dod â phobl ifanc a staff o Ysgol Greenhill ynghyd â sefydliad hawliau plant, gwasanaeth ieuenctid lleol a phartner gwrth-drais ar lawr gwlad yn Seland Newydd. Roedd yn brosiect pwerus lle y gwnaeth cyfranogwyr archwilio ffyrdd o ymdrin â thrais ar sail rhywedd ac atgyfnerthu'r effaith y gall unigolion a sefydliadau ei chael wrth ymdrin ag ef. Gweithiodd myfyrwyr yn agos gyda'r gwasanaeth ieuenctid i ddatblygu pecyn cymorth digidol ar gyfer ymarferwyr, gan weithio gyda phobl ifanc ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb rhywedd.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe ges i'r pleser o ymweld â Hijinx, cwmni theatr proffesiynol rhyfeddol sydd wedi'i leoli yma yng Nghaerdydd sy'n creu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu ledled Cymru. Siaradais ag unigolion a oedd wedi cymryd rhan mewn symudedd i'r Almaen. Fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid gyda chwmni theatr cynhwysol enwog, gan ymgysylltu ag arweinwyr byd-eang mewn celfyddydau cynhwysol, ac fe wnaethon nhw rannu â mi sut roedd y profiad hwn wedi bod yn wirioneddol ysgogol. Roedd effaith y symudedd hwn yn glir. Roedd y staff a'r artistiaid yn teimlo eu bod wedi cael eu grymuso a'u hysbrydoli, gan feithrin safbwyntiau ac ennill sgiliau newydd y maen nhw'n awyddus i ddod â nhw nôl i Gymru. Gallwn i weld yn uniongyrchol bŵer trawsnewidiol y cyfleoedd hyn. Mae Taith wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, ac mae tua 44 y cant o'r bobl sy'n cymryd rhan mewn symudedd allanol yn dod o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Yn eu plith mae unigolion o gefndiroedd difreintiedig, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Taith nid yn unig wedi rhoi cyfleoedd dysgu rhyngwladol sy'n newid bywyd i gyfranogwyr yn uniongyrchol, mae wedi bod yn allweddol wrth gryfhau a datblygu partneriaethau newydd. Ar fy ymweliad â Choleg Sir Benfro, clywais sut yr oedd ymweliad gan staff â chanolfan hyfforddi tyrbinau gwynt yng Nghanada wedi arwain at bartneriaeth newydd. Llwyddon nhw i sicrhau cytundeb gyda Choleg Gogledd yr Iwerydd i ddylunio a chyflwyno cwrs hyfforddi ar y cyd ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, i roi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru ar gyfer dyfodol ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae Taith yn parhau i ddatblygu a gwella. Cafodd y datblygiad parhaus hwn ei amlygu'n ddiweddar wrth i gynllun cyllido grantiau bach newydd gael ei gyflwyno. Cafodd y newid hwn ei ysgogi gan adborth gan sefydliadau bach ledled y sectorau ysgolion, ieuenctid ac addysg oedolion a oedd yn teimlo y gallai'r broses ymgeisio flaenorol fod yn fwy hygyrch, yn enwedig ar gyfer lefelau is o gyllid. Trwy fabwysiadu proses ymgeisio gyfrannol, mae Taith wedi'i gwneud hi'n haws i'r sefydliadau hyn wneud cais, gan leihau biwrocratiaeth a symleiddio prosesau.

Mae'r dull gweithredu newydd hwn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at y niferoedd uchaf erioed yn yr alwad ariannu ddiweddaraf ar gyfer llwybr 1, a gaeodd ddiwedd mis Mawrth. Derbyniwyd 145 o geisiadau, y mwyaf erioed, gan ragori ar y nifer uchaf blaenorol o 87. Yn nodedig, roedd mwy na dwywaith y nifer o geisiadau yn y categori ieuenctid a bron i ddwywaith cymaint yn y categori ysgolion o gymharu â galwadau blaenorol. Yn ogystal, nid oedd bron i hanner y sefydliadau a wnaeth gais wedi gwneud cais i Taith o'r blaen, gan dynnu sylw at gyrhaeddiad a hygyrchedd cynyddol y rhaglen, sydd o fudd arbennig i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Mae llwyddiant Taith yn amlwg, ac mae'r effaith weladwy y mae'n ei chael ledled Cymru a thu hwnt wedi cyfrannu'n aruthrol at ein henw da rhyngwladol ledled y byd. Hoffwn gofnodi fy niolch o galon i staff sefydliad cyflenwi Taith, ILEP Ltd, sydd dan ofal Prifysgol Caerdydd, am eu cyfraniad aruthrol at lwyddiant y rhaglen. Rwyf wedi cael clodydd di-ri gan gymheiriaid a llysgenhadon rhyngwladol, pob un ohonynt yn canmol y gwerthoedd cilyddol a chyfrifoldeb byd-eang sydd wedi'u hymgorffori yn Taith. Mae Taith yn cael ei chydnabod fel arweinydd ym maes cynhwysiant a hygyrchedd, gyda'r UE yn awyddus i ddysgu o'i llwyddiant wrth lunio dyfodol Erasmus+. Mae hyn yn gymeradwyaeth gref i Gymru ac i enw da cynyddol y rhaglen.

Rwyf eisiau parhau i roi cyfleoedd ac adeiladu ar ein buddsoddiad yn Taith, felly rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn tan fis Mawrth 2028. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu i ni barhau i roi cyfleoedd hygyrch, effaith uchel i'r rhai sy'n gallu elwa fwyaf arnyn nhw. Yn y byd ansicr hwn, mae'n bwysicach nag erioed i ni ddangos ein bod yn genedl sy'n edrych tuag allan ac sydd wedi'i seilio ar werthoedd cryf, ac nid nawr yw'r amser i gefni ar ein huchelgeisiau rhyngwladol. Mae fy nghadarnhad heddiw o'r estyniad i Taith, a'r cyhoeddiad diweddar y bydd y cyllid a roddir i Cymru Fyd-eang yn parhau, yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i feithrin cydweithredu rhyngwladol a chefnogi dyheadau ein dysgwyr. Gyda'n gilydd, byddwn ni'n parhau i greu cyfleoedd sydd nid yn unig yn trawsnewid bywydau unigolion, ond sydd hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau byd-eang ac yn atgyfnerthu ein hymroddiad i addysg a chyfnewid diwylliannol.

18:00

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd gysylltu fy hun â sylwadau'r Gweinidog bod lles pennaf dysgwyr yn flaenoriaeth? Gall teithio, astudio a gweithio dramor ddatgloi buddion a chyfleoedd mawr i unigolion. Does dim gwadu hynny. Gallaf dystio i hynny'n bersonol, ar ôl treulio cyfnod yn gweithio ym Mrwsel pan oeddwn i'n gwneud fy nghymwysterau UG amser maith yn ôl. Rhoddodd y profiad hwnnw, heb os, lawer o sgiliau bywyd i mi ac fe wnes i dyfu llawer iawn fel person. Rwy'n gwybod bod llawer o'r rhai yn fy rhanbarth yn elwa ar Taith, gan gynnwys grŵp o gadetiaid Heddlu Gwent a aeth, yn wir, ar daith gyfnewid ryngwladol i Florida.

Gweinidog, er na allaf i ddadlau nad oes gan Taith nodau canmoladwy, i mi mae'n ymwneud â sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi amlinellu rhai o brofiadau'r sawl sydd wedi cymryd rhan yn Taith y prynhawn yma, ond faint mae'r rhaglen hon wedi cyfrannu at hyrwyddo Cymru fel, ac rwy'n dyfynnu, 'gwlad o gydweithio ac arloesedd'? Wrth gwrs, ni allaf byth feirniadu partneriaeth Coleg Sir Benfro, ond os oes manteision gweladwy eraill y gallwch chi eu rhannu â ni heddiw efallai sydd wedi dod o gynllun Taith, byddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny. Gweinidog, allwch chi hefyd amlinellu sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant y rhaglen hon yn erbyn y gost i drethdalwyr Cymru? A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad economaidd o fanteision y rhaglen hon? Hoffwn wybod hefyd a oes gan y Llywodraeth unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol ar waith wrth symud ymlaen hefyd.

Fel y sonioch chi yn eich datganiad, mae Taith wedi hwyluso mwy na 15,000 o symudeddau a ragwelir. Mae talu i fyfyrwyr gymryd rhan yn y teithiau rhyngwladol hyn yn un peth, ond rwy'n nodi bod Taith hefyd yn rhoi cyllid i staff ysgol fynychu hefyd. Felly, Gweinidog, a yw hynny'n cynrychioli gwerth da am arian i bwrs y wlad, ac a oes unrhyw ffrydiau neu fodelau cyllido eraill wedi'u hystyried i dalu costau staff ac athrawon yn y dyfodol? Gweinidog, yn y datganiad y prynhawn yma, fe sonioch fod 145 o geisiadau, y mwyaf erioed, wedi dod i law ar gyfer galwad ariannu ddiweddaraf Taith. A fyddech chi cystal ag ymhelaethu ar sut mae Taith yn cael ei hysbysebu ac, yn wir, sut mae sefydliadau addysgol yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw? Ydych chi'n fodlon â'r dull presennol, neu a ydych chi'n credu bod camau ychwanegol y gellid eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o'r rhaglen yn y dyfodol?

Nawr, craidd y datganiad heddiw oedd cyhoeddi bod Taith yn cael ei hymestyn tan fis Mawrth 2028. Felly, Gweinidog, beth yw'r gost sy'n gysylltiedig â'r estyniad hwn? Rydych chi hefyd yn sôn am sut mae'r rhaglen yn parhau i ddatblygu a gwella. Rydych chi wedi tynnu sylw at y cynllun cyllido grantiau newydd, llai, ond a oes gwersi eraill wedi'u dysgu a fydd yn helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol hefyd?

Fel y dywedais i'n gynharach, mae'r rhaglen bresennol wedi galluogi 15,000 o symudeddau, ac mae Taith yn honni ei bod wedi talu i 10,000 o bobl ifanc o bob cwr o'r byd ddod i Gymru. Felly, a fydd y set nesaf o dargedau ar gyfer y rhaglen estynedig yn fwy uchelgeisiol yn y dyfodol? Os felly, a wnewch chi daflu rhywfaint o oleuni ar sut olwg y gallai fod arni ar gyfer y gweddill ohonon ni yma? Mae Taith yn cynnig cyfle i lawer o bobl ifanc adael Cymru am y tro cyntaf, sy'n galonogol, ac rwy'n nodi bod y cynllun hefyd yn berthnasol i unedau cyfeirio disgyblion. Felly, sut wnaethoch chi benderfynu a oedd hyn yn llwyddiant, a sut y bydd cam nesaf y cynllun hwn yn cefnogi pobl ifanc sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim ac sydd y tu allan i'r system addysg ffurfiol?

Mae Taith, fel y gwyddom ni i gyd, ac fel y sonioch chi hefyd yn eich datganiad, Gweinidog, yn cael ei darparu gan ILEP Ltd, sy'n un o is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd. O ystyried yr estyniad sydd wedi'i gyhoeddi, a oes unrhyw le i gael mwy o brifysgolion Cymru i gymryd rhan yn Taith yn y dyfodol?

Gweinidog, clywodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ddiweddar gan dystion eu bod yn pryderu am danariannu Taith a chyfyngiadau'r cyllid presennol, o ystyried y cynnydd mewn costau, er enghraifft, gyda theithio, yn ogystal â chyfyngiadau ar ba wledydd y mae'n bosibl ymweld â nhw. Felly, o ystyried yr heriau y mae sefydliadau wedi bod yn adrodd yn ôl i Taith amdanyn nhw ynghylch hyn, ydych chi wedi ystyried y pryderon hyn, a pha gamau, os o gwbl, y byddwch chi'n eu cymryd yng ngoleuni hyn?

Gweinidog, mae nod cyffredinol Taith yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n gobeithio bod yn ffrind adeiladol yn hytrach na'n ffrind beirniadol pan ddaw i'r rhaglen hon, oherwydd, fel y dywedoch, mae lles pennaf dysgwyr yn wir yn brif flaenoriaeth. Diolch yn fawr iawn.

18:05

A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am y cwestiynau a'r sylwadau hynny? Ac mae'n dda iawn gweld eich bod chi'n cefnogi gwerthoedd y cynllun a'ch bod wedi elwa ar gynllun o'r fath yn y gorffennol hefyd. Rwy'n gwybod nad chi yw'r unig Aelod yn y Siambr hon a fydd wedi gwneud hynny. Mae'n ddiamheuol bod cynlluniau cyfnewid fel hyn yn darparu cymaint o fanteision i ddysgwyr o ran hyder, dysgu am y byd a dod â'r rheini yn ôl i Gymru. Felly, mae'n gynllun yr wyf yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo.

Mae'n dda clywed am y rhaglen y cymerodd cadetiaid Heddlu Gwent ran ynddi hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor gynhwysol yw rhaglen Taith—nad yw'n gynllun ar gyfer sefydliadau addysgol ffurfiol yn unig, y gall grwpiau ieuenctid eraill wneud cais iddi ac elwa yn llwyddiannus ohoni hefyd.

Felly, rydych chi'n gofyn faint mae Taith wedi cyfrannu at hyrwyddo Cymru, ac, yn sicr, o'r sgyrsiau rwyf wedi'u cael gyda phartneriaid addysgol o bob cwr o'r byd, mae Taith yn adnabyddus iawn. Roeddwn i yn Fforwm Addysg y Byd yn Llundain ychydig wythnosau yn ôl; cefais fy nharo gan y nifer o bobl oedd eisiau dod ataf i gael y sgyrsiau hynny am Taith. Rwy'n credu bod y ffaith bod yr UE yn edrych at Taith fel enghraifft o arfer da, wrth fynd ati i fodelu'r cynllun Erasmus+ newydd, yn siarad cyfrolau.

Fe ges i gyfarfod adeiladol iawn yn gynharach heddiw hefyd gyda Nick Thomas-Symonds, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a Chysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd yn dweud yn union yr un peth—bod Llywodraeth y DU eisiau dysgu gan Taith, a bod ei natur gynhwysol wedi creu argraff arbennig arnyn nhw. Ac mae mor dda gweld bod pobl nid yn unig o'r DU, ond o bob cwr o'r byd ac yn Ewrop, yn awyddus i ddysgu gan Taith a'i gweld fel model o arfer gorau.

Ac rydych chi'n gofyn: sut ydyn ni'n mesur llwyddiant Taith? Gallwch chi edrych ar hynny mewn niferoedd crai, ond rwy'n credu mai'r ffordd orau o fesur y gwerth mewn gwirionedd, ar wahân i'r ffigurau rwyf newydd eu dyfynnu am symudeddau, yw cael y sgyrsiau hynny gyda phobl sydd wedi cymryd rhan yn llwybrau Taith, a fydd yn siarad yn huawdl iawn ac weithiau'n deimladwy iawn am y cyfleoedd y mae wedi'u rhoi iddyn nhw. Rwy'n credu bod fy ymweliad â Theatr Hijinx yr wythnos o'r blaen yn enghraifft drawiadol iawn o hynny, i siarad ag actorion a pherfformwyr ifanc oedd ag anableddau dysgu gwahanol a oedd wedi gallu mynd dramor ac eirioli dros Gymru a'r sector yr oedden nhw yn ei garu yno gyda drama ac adloniant, ac i ddod ag enghreifftiau yn ôl y gallan nhw eu defnyddio wedyn yn eu lleoliad grŵp eu hunain.

Rydych chi'n gofyn hefyd am gyllid ar gyfer staff ac a fyddwn i'n ystyried bod hwnnw'n werth da, ac rwyf wir yn credu ei fod e'. Daw hynny o'r sgyrsiau rwyf wedi'u cael gyda staff sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau fel yna. Rwy'n credu, yn enwedig enghraifft Coleg Sir Benfro, mae'n rhywbeth sy'n wirioneddol drawsnewidiol, i fod wedi ymweld â Chanada a dod yn ôl gyda chytundeb yno ynghylch sut y gallwch chi hyfforddi pobl yn y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tyrbinau gwynt. Mae'n ddatblygiad economaidd rhanbarthol mewn gwirionedd, ac yn enghraifft o sut, o fewn y sector AB, y gall ymgysylltiadau fel hyn arwain at brosiectau y byddwn, fwy na thebyg, ond yn eu cysylltu â'n prifysgolion fel arfer.

Rydych chi'n cyfeirio hefyd at y materion o ran cyllid, ac rwy'n cymryd hynny i ystyriaeth. Byddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar draws pob sector i reoli ein cyllideb yn effeithiol. Rydym yn cydnabod bod y pwysau ariannu wedi cyrraedd Taith, ac rydym yn deall bod rhai sefydliadau yn ei chael hi'n anodd darparu cyfleoedd o fewn y cyfyngiadau ariannol presennol. Dyna oedd fy mhrif reswm, mewn gwirionedd, dros ymestyn Taith y flwyddyn ychwanegol honno. Rydym yn gwybod bod £30 miliwn wedi'i ddyrannu a'i wario ar hynny eisoes, a chyda'r galwadau cyllid cynyddol i ddod, rydym yn rhagweld y byddwn ni'n cyrraedd £56 miliwn erbyn 2028.

18:10

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, bob tro yn cefnogi hawliau pobl ifanc i fyw, gweithio, teithio ac astudio dramor. Un o effeithiau negyddol niferus Brexit, wrth gwrs, oedd nad oedd y Deyrnas Unedig, ac felly Cymru, yn gallu cymryd rhan ymhellach yn rhaglen drawsnewidiol Erasmus. Roedd hon yn ergyd chwerw iawn, yn enwedig o ystyried mai un o benseiri'r rhaglen oedd y Dr Hywel Ceri Jones, Cymro Ewropeaidd balch iawn, iawn. Roedd rhaglen Taith, felly, yn ddatblygiad i'w groesawu, ac, er nad yw'n disodli dyfnder ac ehangder y cyfleoedd oedd i'w cael drwy Erasmus yn llawn, mae'n darparu cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf, ac yn enwedig i rai grwpiau a sectorau, fel colegau addysg bellach, gwasanaethau ieuenctid, a rhai mudiadau yn y trydydd sector, nad ydyn nhw efallai wedi elwa cymaint o Erasmus o'r blaen. Rydyn ni wedi clywed cryn dipyn o enghreifftiau o lwyddiant y rhaglen gan y Gweinidog heddiw, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.

Dyna pam, yn ystod dadl Plaid Cymru ar Brexit ac Ewrop yn gynharach eleni, fe alwais i am sicrwydd ynghylch dyfodol Taith, oherwydd, ar y pryd, roedd cyllid yn dod i ben ym mis Awst 2026. Felly, er bod ymestyn rhaglen Taith tan fis Mawrth 2028 i'w groesawu, allwn ni ddim anghofio, wrth gwrs, fod hyn yn dod ar ôl i'r dyraniad cyllideb ar gyfer Taith gael ei ostwng bron i 20 y cant yn 2024-25, o'i gymharu â 2023-24, ac, mewn termau real, toriad o 50 y cant i bob pwrpas. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn amlinellu'r effaith y mae'n credu mae'r toriad hwn wedi'i chael ar gyflawni'r rhaglen, a beth yw'r swm penodol o gyllid sydd bellach ar gael i raglen Taith i gwmpasu eu gwaith yn ystod cyfnod yr estyniad hwn?

Yn eu hadroddiad, 'Cymru ar draws ffiniau', galwodd Prifysgolion Cymru ar i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu, i

'weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i werthuso'r achos dros gyfranogiad y DU yn rhaglen nesaf Erasmus+.'

Nawr, ar ôl i gysylltiadau rhwng y DU a'r UE gael eu hailosod, yn ôl pob sôn, fis diwethaf, rydym yn gwybod nawr bod trafodaethau yn mynd rhagddynt, nid yn unig i'r DU gael aelodaeth gyswllt o Erasmus+, ond hefyd bydd cydweithio tuag at gynllun symudedd ieuenctid newydd. Felly, dau gwestiwn: a gafodd Llywodraeth Cymru unrhyw fewnbwn i'r trafodaethau hyn, ac, yn ail, pa effaith fydd y datblygiadau hyn yn ei chael ar ddarpariaeth rhaglen Taith yng Nghymru? Byddai Plaid Cymru yn croesawu parhad Taith yn ogystal ag aelodaeth gyswllt o Erasmus+ ar lefel y DU-UE. Byddai hynny'n rhoi'r gorau o'r ddau fyd i ni, ac rwy'n siŵr y byddai'n cael ei werthfawrogi gan ein sector AU yn arbennig, wrth sicrhau bod ein prifysgolion hyd yn oed yn fwy apelgar i ddarpar fyfyrwyr ar yr adeg anodd hon i'r sector.

Felly, yn olaf, os bydd y DU a'r UE yn cytuno ar gytundeb newydd ar gyfer aelodaeth gyswllt o Erasmus, a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau â rhaglen Taith? Ac yn olaf, o ystyried y canlyniadau siomedig rydym wedi'u gweld o'r bartneriaeth honedig mewn grym, pa warantau y gall y Gweinidog eu rhoi y bydd buddiannau Cymru yn cael eu hystyried ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhan o drafodaethau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol?

18:15

Diolch, Cefin Campbell, am y cwestiynau hynny, ac mae'n dda gweld eich cefnogaeth i raglen Taith a'r cyfan y mae'n ei ddarparu, i annog pobl ifanc, a dysgwyr sy'n oedolion hefyd, i allu teithio dramor i wella eu hastudiaethau ac i ddychwelyd gyda sgiliau newydd. Ac rwy'n cytuno â chi mai un o'r effeithiau niweidiol niferus o adael yr UE oedd y ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd y DU ar y pryd wedi penderfynu tynnu'n ôl o Erasmus. Ond mae wedi darparu cyfleoedd yma yng Nghymru i ni greu cynllun sydd wedi'i deilwra i Gymru ac sydd wedi—fel y dywedais yn fy ateb i Natasha Asghar—cael ei ganmol yn fawr gan arbenigwyr o bob cwr o'r byd am ei natur gynhwysol ac am y ffaith ei fod wedi blaenoriaethu'r cyfleoedd hynny ar gyfer grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Rwy'n credu y gallwn ni gyferbynnu hynny hefyd â chynllun Turing Llywodraeth y DU, y byddwn i'n dadlau nad yw wedi bod mor llwyddiannus â Taith, ac sydd wedi cael effaith lawer culach. Rydyn ni, yma yng Nghymru, wedi gweld gostyngiad gwirioneddol yng nghanran y cyllid a ddyrannwyd gan Turing i ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a adlewyrchwyd hefyd yn y sgyrsiau a gefais y bore yma gyda'r Gweinidog Nick Thomas-Symonds, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a Chysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd y trafodaethau ehangach a gefais yn Fforwm Addysg y Byd yn ddiweddar, lle mae mor amlwg bod ein partneriaid yn yr UE yn awyddus i ddysgu gan Taith wrth iddyn nhw ail-lunio'r fersiwn nesaf o Erasmus, Erasmus+, yn hytrach na dysgu gan Turing.

Rwy'n falch eich bod chi hefyd wedi nodi yn y fan yna gyfranogiad gwahanol grwpiau o fewn Taith. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn y fan yna at golegau AB; rwyf hefyd wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ddysgwyr sy'n oedolion sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a grwpiau a dangynrychiolir yn ymgysylltu trwy Taith, ac yn cael cyfleoedd sy'n newid bywydau.

Fe sonioch chi am y gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer Taith ac, fel y dywedais wrth Natasha Asghar, roedd hynny, wrth gwrs, yn rhan o'r penderfyniadau anodd rydym wedi gorfod eu cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch ein cyllideb ac yn un o'r prif resymau hefyd pam roeddwn i eisiau ymestyn rhaglen Taith, fel y gallwn ni gyrraedd cynifer o bobl â phosibl sydd eisiau ymgysylltu â hynny. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn rhagweld nawr y gallwn ni gyrraedd £56 miliwn wedi'i wario ar y prosiect hwn erbyn 2028. Fe gyfeirioch chi hefyd at adroddiad Prifysgolion Cymru, 'Cymru ar draws ffiniau', yn y fan yna; roeddwn i'n credu ei fod yn adroddiad ardderchog. Roeddwn i'n falch iawn o siarad yn lansiad yr adroddiad hwnnw yn ôl ym mis Mawrth.

Roedd gweddill eich cwestiynau yn ymwneud â'n cyfranogiad yn y trafodaethau ar Erasmus+ a'r cynllun symudedd ieuenctid, ac rydym wedi bod yn bartneriaid hanfodol iawn yn y trafodaethau hynny, ar lefel swyddogion ac ar lefel gweinidogol. Rwy'n hyderus iawn y bydd y trafodaethau hynny'n parhau, ac rwy'n credu y byddan nhw'n parhau ar gyflymder, oherwydd byddwn ni'n gweld symudiad cyflym ar hyn. Rydym yn edrych, wrth gwrs, i'r holl fesurau gorau o Taith gael eu cynnwys yn y cynnig ar gyfer Erasmus+.

Rydych chi'n gofyn am ddyfodol rhaglen Taith hefyd, ac rwy'n deall eich rhesymau dros ofyn hynny. Nid yw'n gwestiwn y gallaf ei ateb heddiw oherwydd mae angen i ni weithio trwy'r holl oblygiadau ehangach. Fydden ni ddim eisiau dyblygu gwaith rhaglen Erasmus+ pe baen ni'n cael popeth rydyn ni'n chwilio amdano o fewn hynny. Ond rwy'n cadw meddwl agored, felly hefyd fy swyddogion. Yn y cyfamser, rwy'n canolbwyntio ar gyflwyno'r rhaglen bresennol a sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael yr holl gyfleoedd rhyngwladol y maen nhw'n eu haeddu.

18:20

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod ni'n talu teyrnged i Hywel Ceri Jones a'r gwaith a wnaeth ym Mrwsel i sefydlu Erasmus ac efallai fod sefydlu egwyddor o greu pont fyw rhwng ein gwahanol wledydd, lle gall pobl ifanc fwynhau'r rhyddid i symud, y rhyddid i deithio, y rhyddid i ddysgu, a'r rhyddid i ddeall gwahanol wledydd yn rhan o'n DNA.

A'r hyn rwy'n awyddus i ni allu gwneud, Gweinidog, yw dysgu oddi wrth ein gilydd a dysgu o'n profiad. Un o'r pethau gwych am aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n gwbl hyderus y byddwn ni'n ailymuno yn y blynyddoedd i ddod—yw ein bod ni wedi gallu rhannu profiadau a rhannu dysgu. Roeddem ni'n gallu rhannu'r profiad o redeg rhaglenni tebyg iawn mewn gwahanol wledydd mewn gwahanol ffyrdd. Ac mae gen i ddiddordeb mewn deall, Gweinidog, sut rydych chi'n bwriadu rhannu ein dysgu gyda'n ffrindiau a'n cydweithwyr Ewropeaidd, fel na fyddwn ni wedi colli'r hyn a ddysgwyd yn ystod y cyfnod hwn pan fyddwn ni'n ailymuno â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ac y byddwn ni'n gallu cyfrannu o hyd at ddatblygu meddwl a phrofiad ar draws ein mamwlad Ewropeaidd gyfan.

A gaf i ddiolch i Alun Davies am y cwestiynau hynny ac am ei angerdd parhaus dros genedl sy'n edrych tuag allan? Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'ch etholwyr ym Mlaenau Gwent wedi elwa ar raglen Taith. Rwy'n cytuno â chi bod hyn, yn wir, yn rhan o'n DNA. Rydym yn genedl sy'n edrych tuag allan, rydym yn genedl sy'n cofleidio gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd a thraddodiadau ac sydd bob amser yn awyddus i ddysgu oddi wrth eraill, a dyna'n union yr hyn roedd ein system Taith yn ei ymgorffori.

Felly, fe ofynnoch chi sut rwy'n bwriadu rhannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu o raglen Taith wrth i Erasmus+ gael ei datblygu. Felly, fel yr wyf wedi cyfeirio ato mewn atebion i Aelodau eraill, fe ges i gyfarfod cynhyrchiol iawn, iawn, iawn gyda Nick Thomas-Symonds, Gweinidog y Cyfansoddiad a Chysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, heddiw, a bydd yr ymgysylltiad gweinidogol hwnnw yn parhau wrth i ni adeiladu ar y trafodaethau hynny ynghylch ailymuno ag Erasmus+. Mae fy swyddogion hefyd yn ymgysylltu'n dda iawn â swyddogion o'r Adran Addysg, yn ogystal â swyddogion o Swyddfa'r Cabinet, ac maen nhw'n awyddus iawn i ddysgu o'n profiadau gyda Taith.

Ac nid yn unig o ran cynhwysiant ac ymgysylltu â grwpiau anoddach eu cyrraedd, yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw yn fy atebion blaenorol, ond hefyd o ran ein cynllun grantiau gwahaniaethol hefyd, sydd wedi bod yn newid go iawn yn fy marn i, gan gyflwyno'r cynllun grantiau bach hwnnw ar gyfer ymweliadau o lai na £60,000. Mae hynny wedi cefnogi sefydliadau llai o faint a rhai sydd â llai o adnoddau sy'n dymuno gwneud cais i Taith, a chafodd y broses ei hadolygu gyda chyflwyniad proses ymgeisio ac asesu sy'n fwy cymesur â swm y cyllid y gofynnir amdano. Ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny ar draws y Llywodraeth, onid ydym ni, pan fydd pobl yn gwneud cais am grantiau llai, gall y lefelau uchel hynny o fiwrocratiaeth eu rhwystro. Felly, byddwn i'n gobeithio bod hynny'n un elfen—yn elfen lai hudolus efallai, ond yn elfen bwysig iawn serch hynny—y gallwn ni ddysgu ohoni wrth i ni fwydo'r straeon llwyddiant o Taith i'r cynlluniau ar gyfer Erasmus+.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg

Eitem 8 yw'r eitem nesaf. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg yw hwn. Rebecca Evans sy'n cyflwyno.

Cynnig NDM8901 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg, fel y'u nodir yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar y Bil hwn.

Mae'r Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg yn cynnwys darpariaethau ynghylch marchnata neu ddefnyddio cynhyrchion yn y Deyrnas Unedig, a'r unedau mesur a'r meintiau ar gyfer marchnata nwyddau yn y Deyrnas Unedig. Mae fframwaith diogelwch cynnyrch a mesureg y DU yn deillio o gyfraith yr UE ac mae wedi datblygu dros y pedwar degawd diwethaf tra roedd y DU yn aelod o'r UE. Fodd bynnag, ar ôl ymadael â'r UE, sefydlodd y DU gyfundrefn annibynnol. Bydd y Bil yn helpu i sicrhau bod diogelwch cynnyrch yn cael ei ddeddfu'n effeithiol a bydd ganddo ystod o fanteision posibl o ran diogelwch y cyhoedd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ystod eang o gynhyrchion sydd ar gael yn y DU, llawer ohonyn nhw yr ydym yn dueddol o'u prynu o farchnadoedd ar-lein, yn ddiogel—o feiciau trydan i deganau plant.

Mae'r Bil hefyd yn angenrheidiol i fynd i'r afael â heriau presennol a heriau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys symud i sero net a datblygiad parhaus technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial, yn ogystal ag adlewyrchu'r newid yn yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu a sut maen nhw'n ei brynu. Felly, rwy'n cefnogi'r Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg a datblygu cyfundrefn diogelwch cynnyrch ledled y DU. Gellir ystyried hyn fel rhan allweddol o uchelgais a rennir i gefnogi marchnad fewnol effeithiol yn y DU ac i sicrhau ein bod yn gallu diogelu diogelwch cynhyrchion presennol a newydd.

Ym mis Medi, fe wnaethom osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol ym mis Mawrth ac, yn fwyaf diweddar, ar 12 Mai. Hoffwn ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hargymhellion ar y Bil hwn. Rwyf wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen i sicrhau mesurau diogelu deddfwriaethol priodol ar gyfer buddiannau datganoledig. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Arglwydd Leong a'r Gweinidog Justin Madders mewn perthynas â'r Bil hwn. Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd yr Aelodau wedi nodi cynnwys mecanwaith cydsynio a fydd yn atal Llywodraeth y DU rhag deddfu mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd Gweinidogion Cymru.

Rwy'n cydnabod nad yw'r canlyniad hwn yn bodloni'n llawn y safbwyntiau a gyrhaeddwyd gan bwyllgorau'r Senedd sydd wedi ystyried y Bil. Rwyf hefyd yn cydnabod nad yw hyn yn cyd-fynd yn llawn â'r safbwynt y byddai Llywodraeth Cymru yn ei mabwysiadu fel arfer. Fodd bynnag, rwyf o'r farn bod y gwelliant hwn yn cynrychioli mesur diogelu sylweddol mewn maes lle mae cymysgedd cymhleth o fuddiannau datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl. Yn hanfodol, ni fydd y Bil yn caniatáu i Lywodraeth y DU arfer pwerau mewn meysydd datganoledig heb ein cytundeb. Mae'r gwelliant gan Lywodraeth y DU hefyd yn cynrychioli gwyriad nodedig o'r dulliau a welsom o dan hen Lywodraeth y DU mewn sefyllfaoedd tebyg, ac mae hynny i'w groesawu. Felly, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei chydsyniad.

18:25

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod dau adroddiad ar y tri memoranda cydsyniad deddfwriaethol a wnaed ar gyfer y Bil hwn. Ym mis Tachwedd, gosododd y pwyllgor ei adroddiad cyntaf, a chafodd ei ail adroddiad ei osod cyn toriad y Sulgwyn. Prif ffocws yr adroddiadau yw'r pŵer yng nghymal 1 y Bil sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU i wneud rheoliadau ar gynhyrchion ym meysydd datganoledig iechyd, datblygu economaidd, diogelu'r amgylchedd, ac iechyd anifeiliaid a phlanhigion. Yn y fersiwn o'r Bil fel y'i cyflwynwyd, nid oedd gan Weinidogion Cymru unrhyw rôl wrth arfer y pwerau hyn, heb sôn am ddiffyg rôl graffu i'r Senedd. Trwy ddefnyddio'r pwerau yn y Bil, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gallu penderfynu a ddylid alinio neu wyro oddi wrth gyfraith yr UE.

Yn ei adroddiad cyntaf, galwodd y pwyllgor ar i'r Bil gael ei wella i gynnwys rôl i'r Senedd a Gweinidogion Cymru pan fydd ei bwerau'n cael eu harfer mewn meysydd datganoledig. Dim ond trwy'r dulliau hyn y bydd cyfle i'r Senedd a'i phwyllgorau fonitro unrhyw benderfyniadau i alinio'r gyfraith mewn meysydd datganoledig â chyfraith yr UE neu, fel arall, wyro oddi wrth gyfraith yr UE. Yng ngoleuni'r cytundeb cyd-ddealltwriaeth gyffredin ddiweddar rhwng y DU a'r UE, sy'n gosod y sail ar gyfer yr aliniad cyntaf rhwng y ddau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig, mae'n bwysig nad yw'r Bil yn cael ei ddefnyddio fel cynsail ar gyfer sut y caiff rheolau a rheoliadau perthnasol yr UE eu trosi yn y dyfodol i gyfraith y DU a Chymru. Roedd adroddiad cyntaf y pwyllgor hefyd yn rhannu pryderon a godwyd gan bwyllgorau seneddol y DU am ehangder pwerau'r Bil a sut maen nhw'n rhoi natur fframwaith iawn i'r Bil, yn ogystal â'i wneud yn un sy'n cymryd pwerau oddi wrth y ddeddfwrfa a'u rhoi i'r Weithrediaeth.

Er bod y Bil wedi'i ddiwygio, er ei fod yn hwyr iawn yn ei daith, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y byddai wedi hoffi i Lywodraeth y DU fynd ymhellach. Er y bydd angen i Weinidogion Llywodraeth y DU gael cydsyniad Gweinidogion Cymru nawr cyn defnyddio'r pwerau yn y Bil mewn meysydd datganoledig, ni fydd gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau cyfatebol eu hunain o hyd. O ganlyniad, ni fydd gan y Senedd unrhyw oruchwyliaeth o reoliadau arwyddocaol posibl mewn meysydd datganoledig, ac mae hyn yn anfoddhaol. Nid yw'r cwestiwn o bwy fydd yn penderfynu a yw rheoliadau a wneir o dan y pwerau hyn yn cael eu harfer mewn meysydd datganoledig yn aneglur i'r pwyllgor, yn enwedig os oes anghydfod rhynglywodraethol ar y pwynt hwn. Mae'n bosibl y gellid gofyn i'r llysoedd benderfynu ar y mater. Gyda hyn mewn golwg, nid yw'r pwyllgor yn credu bod y mecanwaith cydsynio yn y Bil yn cyflwyno darpariaeth gyfansoddiadol foddhaol, ac mae wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i roi eglurder ynghylch sut y byddai anghydfod o'r fath yn cael ei ddatrys.

Mae'r pwyllgor o'r farn, pe bai'r Bil yn cael ei ddeddfu, y byddai gan y Senedd y pwerau angenrheidiol i ddiwygio'r Bil i'r graddau y mae'n berthnasol i feysydd datganoledig. Rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a yw hi'n rhannu'r farn hon, ac, ym mis Ionawr, fe ddywedodd wrthym y byddai'r dull hwn yn gofyn am asesiad llawn o gymhwysedd deddfwriaethol. Fe ddywedodd wrthym hefyd ar y pryd ei bod yn hyderus y byddai canlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyrraedd mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU am y pwerau yn y Bil. Gan nad yw'r trafodaethau hynny wedi arwain at y canlyniad a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi galw nawr ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnal yr asesiad hwnnw o gymhwysedd deddfwriaethol o fewn chwe mis.

Fe wna' i sôn yn fyr am fater arall a godwyd yn ein hadroddiadau: sut y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn rhyngweithio â fframweithiau cyffredin. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol bod gan fframweithiau polisi cyffredin y DU y potensial i fod yn fecanweithiau llywodraethiant parhaol, hyblyg a chynyddol arwyddocaol. Yn ein hadroddiad cyntaf, fe wnaethom dynnu sylw at bryderon am effaith bosibl darpariaethau'r Bil ar y fframweithiau cyffredin hyn, ac fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu asesiad o hyn. Unwaith eto, mewn ymateb i'r argymhelliad hwn, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor y bydd y ffordd y bydd y Bil yn rhyngweithio â fframweithiau cyffredin yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch pwerau dirprwyedig y Bil. Gan fod y trafodaethau hyn wedi dod i ben nawr, yn ein hail adroddiad rydym wedi gofyn unwaith eto am asesiad o'r ffordd y bydd y Bil diwygiedig yn rhyngweithio â fframweithiau cyffredin. Diolch.

18:30

Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn cefnogi mwy o aliniad â'r UE, ac mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, dylai'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud gan y Senedd, yn hytrach na'u gorfodi gan Lywodraeth y DU. Nawr, mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig heb fod angen cydsyniad Llywodraeth Cymru, sy'n tanseilio'r setliad datganoli yma yng Nghymru yn y pen draw, ac mae'n faes sy'n peri pryder a godwyd, fel y clywsom, gan adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Nawr, wrth gwrs, rwy'n nodi'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r mecanwaith cydsynio hwnnw, ond, fel yr ydym newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, maen nhw dal o'r farn nad yw'r mecanwaith cydsynio hwnnw'n mynd yn ddigon pell, a bod yna broblemau o hyd gyda'r LCM.

Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ragor o fanylion am y mecanwaith cydsynio hwnnw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, sut y bydd yn gweithio yn ymarferol, oherwydd, fel y mae ar hyn o bryd, allwn ni ddim pleidleisio o blaid yr LCM hwn.

Dydw i ddim yn aelod o'r pwyllgor, felly efallai nad wyf wedi cael manylion y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ond lle mae gen i bryder yw ar y pwyntiau sydd wedi cael eu codi gan yr LJC, gan Mike yn y fan yna, ond hefyd y sylwadau eraill sydd wedi cael eu gwneud. Ac mae gen i bryder gwirioneddol, sef: rydym wedi pennu a nodi'r hyn rydym yn credu sydd ei angen, fwy na thebyg, o ran gwarantu amddiffyniadau'r swyddogaethau a'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gennym, ond, unwaith eto, rydym yn mynd trwy'r broses hon o ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn y pen draw, lle mae rhai consesiynau yn cael eu gwneud ac ati, ond yn y diwedd, fel y gwnaethom gyda'r Llywodraeth ddiwethaf, rydym yn gorfod derbyn wltimatwm bron yn y bôn, a hynny'n gyson—'Dyma'r gorau y gall pethau fod' ac yn y blaen. Nid yw hynny, i mi, yn weithrediad priodol o Sewell.

A'r hyn yr hoffwn ei weld, mewn gwirionedd, yw rhywfaint o eglurhad ar y meysydd hynny yr oeddem eu heisiau na fyddai Llywodraeth y DU yn cytuno arnyn nhw, a pham na fydden nhw'n cytuno iddynt. Ond, yn ail, yn y tymor hwy, o ran y mater hwn, pa safiad ydyn ni'n mynd i'w gymryd? Oherwydd, yn sicr, rydyn ni'n mynd i gyrraedd sefyllfa lle allwn ni ddim derbyn y mathau hyn o fesurau hanner ffordd ac ati, sydd, mewn gwirionedd, yn groes i Sewell, ac y dylem mewn gwirionedd fod yn cyrraedd cam lle, yn eithaf onest, fel Llywodraeth, ac fel Senedd, rydym yn dweud yn y bôn nad ydym yn barod i roi cydsyniad deddfwriaethol. Ac rwy'n credu bod hwn yn fater nad yw'n ymwneud ag unrhyw blaid benodol, ond mae'n ymddangos i mi, oherwydd bod y ddeddfwriaeth hon wedi dechrau gyda'r Llywodraeth flaenorol, mae'n ymddangos bod y diwylliant hwnnw wedi parhau, ac mae angen i ni gael safbwynt llawer mwy cadarn.

Mae'n rhaid i mi ddweud: os ydym yn parhau i gael y memoranda cydsyniad deddfwriaethol hyn, lle mae gennym ni'r consesiynau hanner pob hyn yn cael eu gwneud ar hyd y ffordd, yna efallai y bydd yn rhaid i'r Senedd ystyried o ddifrif ei bod yn y bôn yn penderfynu gwrthod cydsyniad deddfwriaethol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd ac i gyd-Aelodau eraill am eu sylwadau y prynhawn yma. Cafodd nifer o bwyntiau pwysig iawn eu codi, felly rydw i eisiau ymateb iddyn nhw. Roedd un yn ymwneud â gallu gofynion cynnyrch y DU i alinio neu beidio ag alinio â deddfwriaeth yr UE. Rwy'n gwybod bod hynny o ddiddordeb arbennig i'r pwyllgor. Nod y Bil yw darparu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i reoleiddio diogelwch cynnyrch, a nod datganedig y Bil yw sicrhau bod y rheoliadau hynny'n cadw i fyny â chyfraith yr UE a datblygiadau byd-eang allweddol eraill. Felly, ein barn ni yw y byddai hyn yn fuddiol i fasnachu, gan gynnwys gyda'r UE. Fodd bynnag, mae'r Bil yn Bil fframwaith a bydd yr effaith benodol ar gydymffurfiaeth ag unrhyw gytundeb masnach a chydweithredu neu'r effeithiau ehangach ar fasnachu yn dibynnu ar union natur yr is-ddeddfwriaeth a wneir gan ddefnyddio'r pwerau o dan y Bil. A chan nad yw'r is-ddeddfwriaeth hon yn bodoli eto, allwn ni ddim dweud ar hyn o bryd beth fyddai'r effaith ar y TCA. Ond mae swyddogion sy'n gweithio ar y ddeddfwriaeth mewn cysylltiad agos â'r tîm polisi masnach ar hynny.

Roedd cwestiwn pellach ynglŷn â'r rhyngweithio â'r fframweithiau cyffredin. Felly, nid yw hynny'n gwbl glir ar hyn o bryd, oherwydd bydd y rhyngweithiadau yn dibynnu ar y ffordd y caiff y pwerau dirprwyedig eu harfer yn y dyfodol, yn ogystal â bodolaeth pwerau dirprwyedig eraill sy'n berthnasol i'r meysydd fframwaith priodol. Ond rwy'n credu, o ran y pwyntiau pwysig iawn y mae cyd-Aelodau wedi'u codi mewn perthynas â'r penderfyniad i argymell cydsyniad, byddaf yn gwbl onest gyda chyd-Aelodau nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd i mi ei wneud o ran argymell cydsyniad, oherwydd rwyf yn rhannu rhai o'r pryderon y mae cyd-Aelodau wedi'u codi. Ond fe feddyliais i amdano ac, ar ôl pwyso a mesur, o ystyried bodolaeth swyddogaethau gweithredol eraill i Weinidogion Cymru mewn meysydd tebyg a'r gofyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig, rwy'n fodlon, yn yr achos hwn, bod y cymalau newydd yn darparu mesurau diogelu i amddiffyn buddiannau datganoledig. Fe fyddwn i, wrth gwrs, yn croesawu rhoi pwerau perthnasol i Weinidogion Cymru. Mae'r mecanwaith cydsynio yn fesur diogelu dilys, cyfreithiol orfodadwy ar gyfer buddiannau datganoledig, a dydw i ddim yn credu y dylai hynny gael ei danwerthu mewn unrhyw ffordd, oherwydd does dim byd yn y Bil sy'n cyfyngu ar allu'r Senedd hon i ddeddfu ym meysydd datganoledig iechyd, datblygu economaidd, diogelu'r amgylchedd ac iechyd anifeiliaid a phlanhigion, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. 

Ac yna ar y pwynt pwysig hwnnw am anghydfodau, pe baen nhw'n codi, gyda Llywodraeth y DU, fe fyddem wrth gwrs, fel yr ydym yn ei wneud bob amser, yn ymdrechu i osgoi anghydfodau yn y lle cyntaf, ond os bydd angen cymryd camau pellach, mae gennym ni, wrth gwrs, y broses datrys anghydfodau honno, ac mae honno ar gael o hyd, fel y mae'r mecanweithiau cyfreithiol sy'n sail i'r mesurau diogelu sylfaenol a roddir trwy'r darpariaethau statudol.

Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau. Rwy'n credu bod y pwyntiau ehangach wedi'u gwneud yn dda mewn perthynas â'r ffyrdd y mae ymgysylltu yn digwydd â Llywodraeth y DU i geisio sicrhau parch llawn at ddatganoli. Rwy'n credu, mewn perthynas â'r Bil penodol hwn, fy mod i'n hyderus y bydd y manteision yno i fusnesau yng Nghymru ac, felly, byddwn i'n argymell cydsyniad ar yr achlysur hwn. 

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n cynnal y bleidlais nawr. Felly, y cynnig yw i bleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gytuno.

Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg: O blaid: 39, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.