Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/05/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf, [OQ62636], gan Janet Finch-Saunders, wedi'i dynnu nôl. Felly, y cwestiwn cyntaf i'w ofyn y prynhawn yma yw'r un gan Peredur Owen Griffiths.

Busnesau'r Stryd Fawr yn Nwyrain De Cymru

2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn Nwyrain De Cymru? OQ62661

Mae gan Lywodraeth Cymru ystod o gymorth ar gael i fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yng nghanol trefi, rhyddhad ardrethi annomestig, ein cynllun gweithredu manwerthu, a chyngor, gwybodaeth a chymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Yn yr wythnosau diwethaf, cyhoeddodd Plaid Cymru ein strategaeth economaidd, a oedd yn amlinellu ffyrdd beiddgar a blaengar y gellir tyfu ein heconomi a chodi pobl allan o dlodi. Mae rhan o'r strategaeth yn cynnwys cynnig i wyrdroi tynged ein strydoedd mawr, sydd wedi bod yn dirywio ers degawdau—dirywiad a nodweddir gan golli banc Santander oddi ar stryd fawr Coed-duon. Rydym wedi awgrymu amrywio ardrethi annomestig fel bod mentrau bach a chanolig domestig a manwerthwyr annibynnol y stryd fawr yn cael ffafriaeth o gymharu â chwmnïau rhyngwladol mwy a manwerthwyr ar gyrion y dref, sy'n aml â'r fantais o allu cynnig parcio am ddim. Mae a wnelo hyn â sicrhau chwarae teg er mwyn gwneud yn siŵr fod ein manwerthwyr lleol llai yn gallu cystadlu â'u cymheiriaid rhyngwladol llawer mwy a chyfoethocach. A ydych chi'n cytuno bod angen polisïau radical a blaengar arnom i roi hwb enfawr i'n strydoedd mawr a gwrthdroi'r dirywiad hwn, a beth rydych chi'n ei wneud am y peth?

Wel, efallai fod Plaid Cymru wedi awgrymu ardrethi a lluosyddion amrywiol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r fframwaith ar waith drwy ddeddfwriaeth i ganiatáu i'r mathau hynny o bethau ddigwydd. Felly, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol fod gennym un lluosydd ar hyn o bryd ledled Cymru, ond mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynodd y Senedd hon y llynedd bellach yn galluogi newidiadau yn y dyfodol o ran y lluosydd. Gellir gwneud hynny ar sail ddaearyddol, er enghraifft, neu gellid ei wneud yn ôl sector. Felly mae ystod gyfan o bethau cyffrous a allai ddigwydd nawr mewn perthynas ag ardrethi annomestig diolch i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 a gyflwynwyd gan y Senedd hon ar ôl i Lywodraeth Cymru ei gosod gerbron y Senedd. Felly, pan edrychwch ar y cymorth a ddarperir gennym i fusnesau drwy ryddhad ardrethi annomestig, mae'n bwysig iawn. Er enghraifft, rydym yn darparu pecyn cymorth ychwanegol gwerth £134 miliwn eleni, ac mae hynny'n ychwanegol at ein pecyn cymorth parhaol rheolaidd. Felly, gyda'i gilydd, rydym yn darparu mwy na thraean o £1 biliwn o gymorth i fusnesau, a bydd pob talwr ardrethi'n elwa o'r pecyn cymorth rydym wedi'i gyhoeddi.

Ysgrifennydd y Cabinet, ein strydoedd mawr a chanol trefi yw enaid llawer o'n cymunedau, ond maent yn wynebu amgylchedd mwy a mwy heriol. Mae busnesau'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r cynnydd i yswiriant gwladol a orfodwyd gan eich cymheiriaid Llafur yn Llundain, maent yn cael eu cosbi gan yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, ac maent yn gorfod cystadlu â chanolfannau siopa ar gyrion y dref a manwerthwyr ar-lein. Yn sicr, nid yw'n hawdd iddynt. Yn un o fy nghymorthfeydd cyngor diweddar yng Nghoed-duon, roedd y stryd fawr yn bwnc llosg. Mae'r dref wedi gweld nifer o siopau'n cau am y tro olaf, gyda'r bai'n cael ei roi ar lefelau uchel yr ardrethi busnes. Ac nid yw'n rhywbeth sy'n unigryw i Goed-duon; mae'n digwydd ledled rhanbarth Dwyrain De Cymru. Nid yn unig fod angen camau gweithredu brys arnom i gefnogi busnesau ein strydoedd mawr, drwy leihau'r baich ariannol y maent yn ei wynebu, ond mae arnom angen camau gweithredu ehangach i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn benodol ar draws fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru i adfywio ein trefi a'n dinasoedd, a pha gamau pendant rydych chi'n mynd i'w cymryd i gyflawni hyn? Diolch.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ledled de-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig felly drwy'r gwaith a wnawn drwy Trawsnewid Trefi a'n dull gweithredu 'canol trefi yn gyntaf'. Mae Trawsnewid Trefi ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ond gwn ei bod yn falch iawn o'r £44 miliwn a ddarparwyd i awdurdodau lleol ledled de-ddwyrain Cymru ar gyfer gwella canol trefi. Maent hefyd yn cefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol gan fusnesau canol trefi drwy raglen Trefi Smart a ariennir gan Trawsnewid Trefi. Mae hynny'n cynnwys defnyddio data ar nifer yr ymwelwyr a mewnwelediadau cwsmeriaid a dalgylchoedd i helpu busnesau i ddeall eu sylfaen cwsmeriaid a'u tueddiadau'n well, a fydd yn cefnogi busnesau gyda'u cynlluniau a'u gweithgarwch yn y farchnad yn y dyfodol. Felly, mae ystod o weithgareddau'n cael eu datblygu drwy'r rhaglen benodol honno. Ac wrth gwrs, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod Banc Datblygu Cymru yn ased gwirioneddol allweddol i gefnogi busnesau bach i gael mynediad at fenthyciadau ac ecwiti, ac maent yn ysgogi twf busnes mewn ffordd foesegol a chynaliadwy. Felly, gallant helpu busnesau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i gryfhau ac i dyfu, drwy fenthyciadau o gyn lleied â £1,000 i hyd at £10 miliwn. Felly, yn sicr hoffwn ofyn i fusnesau archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy'r banc datblygu hefyd.

13:35

Hoffwn godi busnes lleol penodol, os caf. Mae Caffi Tyleri yn ased cymunedol hanfodol yng Nghwmtyleri. Maent yn cynnal prosiectau ecoleg, maent wedi plannu mwy na 2,000 o goed ac maent wedi sefydlu ecosystem gwlyptir sydd wedi cael ei hastudio gan fyfyrwyr prifysgol mor bell i ffwrdd â Surrey. Ac maent hefyd yn cynnal gweithdai pobi a chawl am ddim ar ddydd Gwener, a phan ddigwyddodd y tirlithriad o'r domen lo y llynedd, agorodd y caffi ei ddrysau fel lle diogel a chanolfan glyd. Ond gallai'r drysau hynny gau cyn bo hir am nad yw'r cyllid y maent yn dibynnu arno o'r gronfa ffyniant gyffredin wedi'i ryddhau, a disgwylir iddo fod yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd y cyllid yn arfer talu am bum swydd. Maent yn ofni na fydd ond yn talu am ddwy bellach. Mae'r ansicrwydd hwnnw'n peri straen i staff. Mae rhai ohonynt yn aros fel gwirfoddolwyr i geisio cadw'r caffi ar agor. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau brys a gawsoch, ac y gallwch eu cael, os gwelwch yn dda, gyda San Steffan ynghylch yr effaith y mae'r toriadau hyn i gyllid yn ei chael ar fusnesau fel Caffi Tyleri, a pha gymorth y gall y Llywodraeth hon ei roi i gadw eu drysau ar agor?

Gwn nad dyma'r tro cyntaf i Gaffi Tyleri gael ei grybwyll yn y Siambr. Cofiaf iddo gael ei grybwyll ar ôl y tirlithriad, ac ar y pryd, fe nododd Delyth Jewell y gwaith anhygoel yr oeddent yn ei wneud i gefnogi'r gymuned ar ôl hynny.

Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ond hefyd, heddiw mewn gwirionedd, gyda chadeiryddion y cyd-bwyllgorau corfforedig o bob rhan o Gymru ynglŷn â dyfodol cyllid buddsoddi rhanbarthol. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, mae'r cyllid eleni wedi'i leihau o gymharu â blynyddoedd blaenorol, ond rydym yn canolbwyntio'n agos ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl mis Ebrill 2026. Byddwn yn cael rhagor o wybodaeth yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ar 11 Mehefin. Nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i wybod yn iawn i ba gyfeiriad rydym yn mynd mewn perthynas â hynny eto, gan nad yw'r manylion ar gael. Ond gan gydnabod yr angen am waith cyflym, rydym wedi gofyn i bob un o'n cyd-bwyllgorau corfforedig wneud gwaith ar fyrder i ddeall sefyllfa eu cyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin ar hyn o bryd, a beth yw'r goblygiadau ar gyfer swyddi a gwasanaethau hanfodol yn lleol, fel ein bod mewn sefyllfa wedyn i wneud penderfyniadau gwybodus cyn gynted ag y bydd y data ar gael i ganiatáu i ni wneud hynny.

Porth y Gorllewin

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil tynnu cyllid y DU yn ôl o Borth y Gorllewin? OQ62646

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i waith rhanbarthol a rôl cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru yn ogystal â chydweithio trawsffiniol. Mae cysylltiadau cryf ag awdurdodau lleol, busnesau a phrifysgolion yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lewyrchus, sydd â llawer o synergedd ag ardaloedd cyfatebol yng ngorllewin Lloegr.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd prosiect Porth y Gorllewin yn cynrychioli £17 biliwn i economi'r DU a thwf dilyffethair i dde Cymru. Ac eto, mae llawer o fusnesau yn fy rhanbarth i yn teimlo fel pe bai'r tir wedi'i dynnu o dan eu traed. Dywedodd Catherine Fookes, AS Llafur sir Fynwy a chyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyfer y prosiect, y byddai'n gweithio gydag ASau i sicrhau bod San Steffan yn cefnogi'r prosiect. Yn fuan wedyn, cafodd cyllid ei dynnu'n ôl gan Lywodraeth San Steffan. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i roi'r blaid o flaen y wlad a chefnogi Llywodraeth sy'n tynnu buddsoddiad o Gymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gyfaddef y bydd cael gwared ar y cyllid hanfodol hwn yn lladd momentwm y twf economaidd yn ne Cymru? Ac o ystyried y teimlad o frad mewn ardaloedd fel sir Fynwy, pa sgyrsiau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn buddiannau ein cymunedau trawsffiniol? Diolch.

Rwy'n deall, wrth gwrs, y byddai awdurdodau lleol yn siomedig gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i roi'r gorau i ariannu Porth y Gorllewin. Rwyf wedi cyfarfod â Phorth y Gorllewin fy hun, ac mewn gwirionedd, rwyf wedi canmol ei waith i'r cymylau. Fe wneuthum gydnabod pwysigrwydd y gwaith trawsffiniol hwnnw, yn enwedig lle roedd gan awdurdodau lleol ar bob ochr i afon Hafren ddyheadau tebyg, ac yn mynd i'r afael â heriau tebyg. Rwy'n dal i gredu y bydd y cysylltiadau gwaith cryf hynny a ddatblygwyd drwy Borth y Gorllewin yn parhau ac y bydd cyfleoedd yn parhau ar gyfer cydweithio. Ac yn fwyaf arbennig, rwy'n cydnabod y gwaith pwysig a wnaed gan Gomisiwn Aber Afon Hafren, a sefydlwyd gan Borth y Gorllewin. Roeddent yn datblygu cynigion ar gyfer ynni'r llanw ar afon Hafren. Felly unwaith eto, rwy'n credu bod hwnnw'n waith pwysig iawn a ddeilliodd o Borth y Gorllewin, a'i fod yn gyfraniad pwysig iawn tuag at ddatblygiad ynni'r llanw ac at ddiogeledd ynni a sero net yn ehangach.

Ond rwy'n rhannu siom fy nghyd-Aelodau fod y cyllid wedi'i dynnu'n ôl, ond yn yr un modd, rwy'n credu bod opsiynau ar gael i Borth y Gorllewin. Roedd yn swm cymharol fach o arian. Roedd nifer fawr o bartneriaid ynghlwm wrtho, felly mae ffyrdd eraill iddynt gyd-fuddsoddi pe baent yn dymuno gwneud hynny. Ond rwy'n hollol siŵr y bydd y cysylltiadau cryf hynny'n parhau i gyflawni er budd pobl ar bob ochr i'r aber.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghyllideb frys y Canghellor ym mis Mawrth, cyhoeddodd y byddai bwrdd twf amddiffyn yn cael ei greu, gyda'r bwriad o integreiddio ystyriaethau twf mewn prosesau amddiffyn. Fodd bynnag, mae adroddiadau diweddar yn dangos nad yw'r bwrdd hwn wedi cyfarfod o gwbl, nad oes ganddo gylch gorchwyl diffiniedig, ac nad oes ganddo staff penodol. O ystyried cyfraniad sylweddol Cymru i sector amddiffyn y DU nid yn unig o ran personél ond mewn cyfleusterau fel maes tanio Castellmartin yn fy etholaeth a barics Cawdor yn etholaeth fy nghyd-Aelod Paul Davies, mae'r diffyg gweithredu hwn yn codi pryderon. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau nad yw diwydiant amddiffyn Cymru yn colli cyfleoedd twf oherwydd diffyg gweithredu'r bwrdd hwn, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddadlau dros fudd Cymru yn y maes hwn?

Gallaf roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau na fu unrhyw ddiffyg gweithredu o gwbl ar ran Llywodraeth y DU ynghylch y ffocws newydd sydd wedi bod, o reidrwydd, ar amddiffyn yn ddiweddar. Cadeiriais gyfarfod y grŵp rhyngweinidogol ar fusnes a diwydiant ddoe, ac roedd hwnnw'n gyfle inni drafod pwysigrwydd amddiffyn, a fydd yn cael ei gydnabod yn y strategaeth ddiwydiannol. Felly, mae'r ffocws yn sicr yno ar ran Llywodraeth y DU.

Rwy'n rhannu diddordeb fy nghyd-Aelodau yn yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru. Mae gennym wyth o 11 cwmni amddiffyn mwyaf y byd yn gweithredu yma yng Nghymru, ac mae gennym berthynas dda â'r busnesau hynny. Felly, credaf ein bod mewn sefyllfa wych i gyfrannu'n dda at strategaeth dwf Llywodraeth y DU yn y maes penodol hwn. Byddwn yn dweud hefyd fod gennyf gryn ddiddordeb yn null gweithredu Llywodraeth y DU mewn perthynas ag amlddefnydd buddsoddiad mewn amddiffyn, ac arloesedd mewn amddiffyn hefyd. Er enghraifft, gellir defnyddio technoleg dronau at ddibenion amddiffyn, ond mae ganddi sawl defnydd arall hefyd. Felly, rwy'n credu bod y dull hwnnw o weithredu'n bwysig iawn er mwyn sicrhau'r gwerth mwyaf o fuddsoddiad ac o arloesedd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi'n dweud na fu unrhyw ddiffyg gweithredu, ond fel y soniais, nid ydynt wedi galw un cyfarfod eto. Rydych chi'n sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond fel y dysgom ddoe, efallai fod wyth o'r 11 busnes amddiffyn mwyaf yng Nghymru, ond ni all unrhyw fusnes Cymreig sy'n awyddus i fod yn rhan o'r sector amddiffyn gael cymorth gan Fanc Datblygu Cymru. Rhaid bod hwnnw'n lifer y gallwch ei dynnu i helpu i roi hwb i fusnesau amddiffyn yma yng Nghymru.

Ac wrth i ddathliadau Diwrnod VE yfory ein hatgoffa o bwysigrwydd ein diwydiant amddiffyn i'n diogelwch cenedlaethol, yn yr un modd, mae ein diogeledd ynni yn sail i'n gwytnwch fel cenedl. Er ichi ddweud mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais ym mis Ebrill fod diogeledd ynni yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, chi, Lywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer anghenion ynni'r dyfodol. Mae dadansoddiad eich Llywodraeth eich hun yn dangos y gallai'r galw am drydan yng Nghymru dreblu bron â bod erbyn 2050, gan olygu y byddai angen gwaith uwchraddio sylweddol ar rwydweithiau trawsyrru a dosbarthu. Felly, o ystyried brys a maint yr her hon, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau bod ein grid yn addas i'r diben ac nad yw Cymru'n agored i siociau ynni yn y dyfodol?

Wel, nid wyf yn dymuno codi cywilydd ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig na'r llefarydd, ond mae arnaf ofn fod popeth a ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ddoe mewn perthynas â'r banc datblygu ac amddiffyn yn gwbl anghywir. Mae rhestr fer o eithriadau wedi'u nodi mewn dyfarniadau cyllid rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc, ac mae'r rhain yn gwahardd y banc rhag buddsoddi mewn busnesau'n ymwneud â'r sector gamblo, pornograffi, a busnesau sy'n cynnig gwasanaethau rhywiol. Nid yw buddsoddiad mewn busnesau amddiffyn a busnesau sy'n gysylltiedig ag amddiffyn wedi'i wahardd. Ni fydd y banc yn buddsoddi mewn unrhyw weithgarwch anghyfreithlon, a gwneir buddsoddiadau a wneir gan y banc datblygu neu fenthyciadau a gyhoeddir gan y banc yn ôl disgresiwn y banc, a gwneir y penderfyniadau hynny ar hyd braich o'r Llywodraeth. Yn amlwg, roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddoe wedi drysu, ond rwy'n falch o fod wedi cael y cyfle hwn i'w gywiro.

Ar anghenion y rhwydwaith ynni, yn amlwg, bydd fy nghyd-Aelodau'n gyfarwydd â'n hadroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru', sy'n dangos y gallai galw Cymru am drydan dreblu bron â bod erbyn 2050. Felly, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i sicrhau bod gennym y diogeledd hwnnw ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflawni gweledigaeth 'Pŵer Glân 2030', ac mae'r gwaith hwnnw wedi nodi'n glir iawn yr angen i gynyddu capasiti batri'r DU yn y cyfnod hwn hefyd. Felly, rydym yn gwneud gwaith pwysig yn y maes penodol hwnnw.

Ac wrth gwrs, bydd fy nghyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r gwaith a wnawn gyda'r gweithredwr systemau ynni cenedlaethol newydd, sy'n dechrau gweithio ar gynllun ynni gofodol strategol. Bydd Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor a fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwnnw. Ond wrth gwrs, rydym eisoes mewn gwell sefyllfa yng Nghymru, gan fod gennym ein cynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eisoes ar waith, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn i fod yn glir ynghylch ein hanghenion a darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, yn y grid er enghraifft.

13:45

Gallaf ddweud wrthych mai rhywun arall sy'n gallu cael mynediad at gyllid Banc Datblygu Cymru yw troseddwyr amgylcheddol euogfarnedig hefyd. Ond rhaid y byddech chi'n cytuno, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod cysylltiad annatod rhwng diogeledd ynni a diogeledd economaidd, a'u bod yn ddibynnol ar dwf economaidd. Fodd bynnag, yn ddiweddar, diystyrodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru dwf a chystadleurwydd fel 'strategaethau hen ffasiwn yr ugeinfed ganrif', gan awgrymu nad oes iddynt bwrpas. Byddwn yn dadlau mai pwrpas tyfu'r economi yw ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Cyhuddodd eich Llywodraeth hefyd o ddim ond adleisio polisi economaidd y DU. Ond os yw eich Llywodraeth o ddifrif yn dilyn dull gweithredu'r DU, pam mae Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran twf economaidd? Felly, beth yw hi am fod? A yw eich Llywodraeth o ddifrif yn credu nad yw twf economaidd yn berthnasol mwyach, fel y mae'r comisiynydd yn ei gredu, neu ai Llywodraeth Cymru sy'n methu ei gyflawni?

Felly, i fod yn glir, nid yw comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn aelod o Lywodraeth Cymru. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yno i herio ac i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, rhag ofn fod unrhyw ddryswch ynghylch hynny.

Ond wrth edrych ymlaen, rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n falch iawn o weld bod rhagolygon diweddaraf y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn nodi y bydd gan y DU dwf uwch mewn termau real o gynnyrch domestig gros na thair economi Ewropeaidd G7 arall yn 2025 a 2026. A'r rhagolygon tymor hwy yw mai'r DU fydd yr economi sy'n tyfu gyflymaf ymhlith gwledydd Ewropeaidd G7 bob blwyddyn tan 2030. Ac yn yr un modd, mae rhagolygon diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi mai economi'r DU fydd yn tyfu gyflymaf ond un yn y G7 yn 2025, y tu ôl i'r UDA. Felly, yn amlwg, mae hyder yn y gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, yn enwedig drwy'r strategaeth ddiwydiannol yr ydym yn ymwneud yn agos â hi, ac yn gobeithio ei chyflawni yma yng Nghymru.

Llefarydd Plaid Cymru nawr i ofyn ei chwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Heledd Fychan.

Diolch, Llywydd. Roedd adroddiad comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn bryderus o ran y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, gan ddangos gostyngiad mewn cyfranogiad, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Dyma oedd rhai o’r ystadegau: mae nifer y plant sydd wedi mynychu digwyddiad celfyddydol wedi gostwng 7 y cant, a nifer y bobl o 6 y cant; mae nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, y tu hwnt i’r cwricwlwm, deirgwaith neu fwy yr wythnos, wedi gostwng 9 y cant.

Dwi wedi mynegi pryder ers blynyddoedd bellach fod yna risg bod y diffyg buddsoddiad a’r toriadau sylweddol sydd wedi bod yn y sectorau hyn wedi golygu bod llai o bobl yn medru cael mynediad at y celfyddydau a chwaraeon, a bod yna risg bod cyfranogiad yn dod yn fwy a mwy elitaidd. Ydych chi’n rhannu fy mhryderon, ac os felly, beth ydych chi’n ei wneud i wyrdroi hynny?

A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiynau y prynhawn yma, ac i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei adroddiad, ac am y datganiad yn yr adroddiad? Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon, a chyfranogiad mewn chwaraeon, a phwysigrwydd, yn ogystal â gwella mynediad at chwaraeon, cael pobl, plant ac oedolion, i gymryd rhan mewn camp o'u dewis. Rydym wedi llwyr ymrwymo i wneud hynny. Felly, byddwch wedi gweld cynnydd yn y gyllideb ddiweddaraf, Lywydd, i gyllideb Chwaraeon Cymru mewn buddsoddiad cyfalaf i wella mynediad yn y meysydd cyfalaf allweddol hynny. A byddwch hefyd yn gweld un o'r pethau uniongyrchol—. Eleni, rydym yn ei galw'n 'Flwyddyn y Menywod mewn Chwaraeon yng Nghymru', a thrwy'r Ewros, a chyflawniad gwych tîm y menywod yn cyrraedd yr Ewros yn yr haf, am y tro cyntaf erioed, fe welwch fuddsoddiad o £1 filiwn mewn cronfa cymorth i bartneriaid. Fe welwch fuddsoddiad mewn golff i fenywod a chyfleusterau i wella'r mynediad hwnnw, y mynediad rydych chi'n cydnabod, a chredaf fod pawb yn cydnabod, ei fod yn bwysig—buddsoddiad o £1 filiwn mewn golff yng Nghymru, i wella cyfleusterau ledled y wlad, ym mhob rhan o'r wlad.

Cytunaf yn llwyr â chi fod cyfranogiad mewn chwaraeon, a buddsoddi yn y maes hwn, yn bwysig, a dyna pam y gwnaethom gynyddu'r gyllideb i'r meysydd hyn yn y gyllideb derfynol. Roedd yn drueni fod Aelodau'r wrthblaid wedi ceisio gwrthod y gyllideb honno.

13:50

Diolch am yr ymateb hynny, ond fel dŷch chi'n gwybod yn iawn, dydy'r cynnydd sydd wedi bod ddim yn ddigonol, a dydy o ddim yn mynd â ni nôl i'r lefelau o fuddsoddiad a oedd hyd yn oed rai blynyddoedd yn ôl. Os edrychwch chi ar adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, does yna ddim sôn am y diffyg o ran y buddsoddiad dŷch chi wedi sôn amdano fo, ond costau trafnidiaeth, costau medru cymryd rhan, a hefyd bod rhai o'r toriadau yn golygu bod yna lai o fynediad at amgueddfeydd ac ati.

Felly, beth fuaswn i'n hoffi ei weld ydy sut ydym ni'n mynd i allu sicrhau bod y cwestiwn penodol wnes i ofyn i chi ynglŷn â'i fod o ddim yn mynd yn fwy elitaidd, oherwydd culture is ordinary—. Dyna yr oedd Raymond Williams yn ei ddweud. Mae nifer fawr ohonom ni yn coelio yn hynny—bod celfyddydau a chwaraeon yn hawl i bawb allu cyfrannu iddyn nhw. Sut ydyn ni am eu stopio nhw rhag bod yn elitaidd? 

Diolch i'r Aelod. Lywydd, roedd cyfle i bob Aelod gefnogi mwy o arian i'r sector celfyddydau, ac rwy'n clywed ochneidiau a griddfan yn y Siambr—o bob ochr i'r siambr. Roedd cyfle, onid oedd, i gynyddu'r cyllid yn y gyllideb derfynol, ond penderfynodd y gwrthbleidiau bleidleisio yn erbyn—[Torri ar draws.] Penderfynodd y gwrthbleidiau bleidleisio yn erbyn hynny. Nawr, pan fyddant yn gwneud hynny—ac mae ganddynt bob hawl i bleidleisio yn erbyn cyllidebau yn y lle hwn—mae'n rhaid iddynt fod yn gyfforddus â chanlyniadau peidio â derbyn y gyllideb honno. Dyna realiti gwleidyddiaeth. A phe bai hynny'n digwydd, pe byddent wedi llwyddo, Plaid Cymru a'r Torïaid, i gael y gyllideb wedi'i gwrthod eleni, byddai'r celfyddydau a chwaraeon a phob sector ledled Cymru wedi cael llai nag a gawsant y llynedd hyd yn oed.

Rydym yn falch iawn o allu cynyddu'r gyllideb, gan fod yr Aelod yn llygad ei lle—nid wyf am i ddiwylliant na chwaraeon fod yn elitaidd. Rwy'n cytuno â hi, maent ar gyfer pawb. Edrychaf ymlaen at lansio'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant ar 20 Mai, lle byddaf yn nodi ac yn datgan yn glir iawn fod diwylliant ar gyfer pawb. Nid wyf yn derbyn fersiwn a ddiffiniwyd ymlaen llaw gan rai. A byddwch wedi gweld yn y misoedd diwethaf, Lywydd, fod rhai pobl, yn ôl pob golwg, yn meddwl mai dim ond ar gyfer rhai pobl y mae diwylliant. Rwy'n falch iawn o fod yn gyn-brentis, ac rwy'n falch o fod yn gyn-brentis llawr gwaith sy'n Weinidog diwylliant Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n crynhoi pam mae diwylliant ar gyfer pawb, ac edrychwn ymlaen at gyflawni yn erbyn y 'blaenoriaethau ar gyfer diwylliant', dogfen a gynhyrchwyd ar y cyd â'r sector, ac yn wir, gyda Phlaid Cymru, tan i Blaid Cymru adael y cytundeb cydweithio yn gynnar.

Rwy'n siomedig nad yw eich sgript wedi'i diweddaru yn y misoedd diwethaf, oherwydd yn amlwg, roedd y cwestiynau a ofynnais yn ymwneud â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r ystadegau yno. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi tanariannu diwylliant a chwaraeon ers ymhell cyn y gyllideb flaenorol, felly nid ydych chi'n cymryd cyfrifoldeb fel Llywodraeth, ac ni allwch wneud yn well nag ailadrodd brawddegau treuliedig a baratowyd ymlaen llaw, sy'n siomedig.

Os caf ofyn i chi, mae un mater arall yn ymwneud â chyhoeddiad diweddar Donald Trump ynghylch gosod tariff o 100 y cant ar ffilmiau nad ydynt yn cael eu cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau. Mae Equity wedi galw am ymateb pwyllog ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i sefyll o blaid diwydiant ffilm Prydain, ac y gellid mynd i'r afael â'r tariffau mewn ffordd gadarnhaol drwy ariannu ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn briodol a sicrhau amgylchedd treth a buddsoddi atyniadol a theg ar gyfer stiwdios a chynyrchiadau. Fel y gwyddoch, mae maes cynhyrchu teledu a ffilm wedi tyfu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'n rhan hanfodol o'n heconomi. Felly, beth yw eich ymateb i gyhoeddiad Trump, a pha drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater hwn ers y cyhoeddiad?

Diolch i Heledd am ddod â'r mater hwn gerbron y Siambr heddiw. Mewn ymateb i'r sylw blaenorol cyn y cwestiwn hwnnw, yr hyn a fyddai wedi bod yn siomedig, Lywydd, yw pe bai gan y sector celfyddydau a chwaraeon lai fyth o arian, pe bai Plaid Cymru wedi llwyddo. Efallai eich bod yn credu bod hynny'n siomedig, ond dyna realiti'r dewis gwleidyddol a wnaed gan bob un ohonoch, Lywydd.

A throf at bwyntiau'r Aelod ynglŷn â Donald Trump a'i sylwadau diweddar. Rwy'n cytuno, rwy'n credu bod angen ymateb pwyllog i hynny. Edrychwch, mae angen inni ddeall manylion yr hyn y mae Donald Trump wedi'i ddweud a beth yw goblygiadau'r tariffau dan sylw. Efallai nad yw'r hyn y mae'n ei ddweud yr un fath â'r realiti mewn gwirionedd, fel y gŵyr pawb ohonom, ond mae angen inni ymateb i hynny. A bydd angen i hynny fod yn ymateb ar y cyd â'n swyddogion cyfatebol yn y DU o ran buddsoddi yn y sector diwydiannau creadigol. Roeddwn yn falch iawn yn ystod toriad y Pasg o allu trafod y diwydiannau creadigol gyda Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth, Chris Bryant, ar lefel Llywodraeth y DU i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd. Yn wir, bydd angen inni gael trafodaeth bellach ynglŷn â sut rydym yn ymateb i'r heriau, os daw'r hyn y mae Trump wedi'i ddweud yn wir.

Yn y diwydiannau creadigol, ers sefydlu Cymru Greadigol yn 2020, o fuddsoddiad o dros £27 miliwn mewn cyllid cynhyrchu, Lywydd, yr hyn a wyddom yw ein bod wedi cael enillion o dros £340 miliwn ar fuddsoddiad i mewn i economi Cymru. Mae hynny'n llwyddiant ysgubol, rhywbeth y dylem fod yn falch ohono, rhywbeth yr ydym am barhau i'w gefnogi. A thrwy Cymru Greadigol, byddwn yn parhau i gefnogi'r sector diwydiannau creadigol gyda pha bynnag heriau a ddaw yn y dyfodol, am ein bod yn credu yn y sector.

Roeddwn yn falch iawn y bore yma o ymweld â stiwdios ITV, nid yn unig i glywed ynglŷn â sut y maent yn cynhyrchu rhaglenni newyddion a materion cyfoes, ond sut y maent yn cynhyrchu cynyrchiadau ar gyfer cynhyrchwyr eraill hefyd—S4C, y BBC hefyd—ac i gyfarfod â'r prentisiaid yno a fydd yn mynd drwy eu rhaglen ac sy'n cynrychioli dyfodol ITV a stiwdios eraill yma. Yr hyn sy'n galonogol iawn i mi yw'r ymateb gan y sector i Cymru Greadigol yn barod. Rwy'n credu fy mod wedi dweud o'r blaen fod Jane Tranter, prif weithredwr Bad Wolf—. Yn ei geiriau hi, Lywydd, mae arian Llywodraeth Cymru, a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ei harian ar ei gair, yn egin gwyrdd o obaith i'r sector. Mae pob un ohonom am barhau â'r berthynas honno â'r sector, ond yn amlwg, rydym o ddifrif ynghylch y pryderon a godwyd yn ddiweddar iawn, a byddwn yn gweithio gyda'r sector i'w goresgyn.

13:55
Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

4. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i'r effaith ar fusnesau canol trefi yn sgil cynllun datblygu lleol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf? OQ62654

Mae'r cynllun datblygu lleol diwygiedig yn dal i gael ei ddatblygu, ond mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan lawn yn y broses hon ac wedi cyflwyno ymateb ffurfiol i'r cynigion cychwynnol ym mis Ebrill 2024. Nid yw'r manylion wedi'u cadarnhau eto, ond bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y rhain wrth iddynt ddod ar gael ac yn gwneud sylwadau ffurfiol os oes angen.

Diolch. Mae trigolion yn y Rhondda yn rhwystredig ac yn bryderus ynghylch y nifer cynyddol o siopau barbwr a siopau fêps sy'n agor ar ein strydoedd mawr. Rydym yn deall y gall fepio helpu rhai pobl i roi'r gorau i ysmygu, ond mae'r marchnata a'r lliwiau llachar a ddefnyddir gan siopau fêps yn aml yn targedu plant a phobl ifanc, sy'n codi pryderon y gallent annog pobl ifanc na fyddent byth wedi ysmygu i ddechrau fepio. Mae pryderon hefyd y gallai rhai siopau fêps gael eu defnyddio fel ffrynt ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y bydd siop barbwr arall yn agor yn y Porth, gan gynyddu'r nifer o 13 i 14. Gellir defnyddio cynlluniau datblygu lleol i atal siopau newydd rhag agor ger ysgolion neu mewn ardaloedd sydd eisoes yn llawn o siopau, neu os ydynt yn newid cymeriad canol y dref. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i dynnu sylw at bwysigrwydd cynlluniau datblygu lleol ac annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses gynllunio hanfodol hon yn y dyfodol?

Rwy'n ddiolchgar iawn i Buffy Williams am dynnu sylw at y pwyntiau hyn y prynhawn yma. Mae cynlluniau datblygu lleol yn ddulliau gweithredu pwysig iawn wrth arwain y ffordd y mae canol ein trefi yn addasu wrth i'n harferion siopa newid ac wrth geisio cynnal hyfywedd y mannau pwysig hyn yn ein cymunedau. Felly, mae'n gwbl hanfodol annog cyfranogiad y cyhoedd yn natblygiad y cynlluniau hynny, gan fod bywyd canol ein trefi yn bwysig i bob un ohonom, ac rydym yn gweld eu heisiau pan fyddant wedi mynd a phan fyddant yn dechrau dirywio. Felly, mae canol trefi bywiog yn bwysig iawn, felly mae'n alwad dda iawn ar gymunedau i ddangos diddordeb yn y cynlluniau datblygu lleol hynny.

Nid swyddogaeth y system gynllunio yw atal neu ymyrryd â chystadleuaeth rhwng defnyddwyr a buddsoddwyr mewn tir na rheoleiddio datblygiad am resymau heblaw cynllunio defnydd tir, ond mae er budd y cyhoedd i ymyrryd drwy gynlluniau datblygu lleol lle mae gorgrynhoad o ddefnydd penodol, neu lle mae'r gorgrynhoad hwnnw ynddo'i hun yn bygwth hyfywedd canol y dref honno. Felly, mae'r amddiffyniad hwnnw i'w gael o fewn y broses gynllunio, ond rwy'n sicr yn adleisio galwad Buffy ar bobl yn y gymuned i gymryd rhan a dweud eu dweud yn y cynllun datblygu lleol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'n amlwg fod y farchnad yn orlawn pan fo 14 o un math o siop, h.y. siopau barbwr—ac rwy'n teimlo braidd yn nerfus yn sôn am siopau barbwr, gan nad wyf yn rhoi llawer o fusnes iddynt y dyddiau hyn. Ond ni all fod yn iawn fod tref fel Porth, gyda 6,000 o drigolion, yn cael ei gwasanaethu gan 14 o siopau barbwr. Chi yw'r Gweinidog cynllunio. Rydych chi wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymdeimlad o le yn y system gynllunio a synnwyr o bwrpas i'r system gynllunio honno weithio er lles y gymuned. A fyddwch chi'n pwysleisio i Rondda Cynon Taf y gallant ddefnyddio'r pwerau sydd eisoes yn bodoli i sicrhau bod strydoedd mawr yn ardal y cyngor yn amrywiol, yn berthnasol, ac nad ydynt yn gorlenwi agwedd benodol ar y cynnig ar y stryd fawr benodol honno sydd mewn gwirionedd yn atal pobl rhag cyflawni eu busnes a'i wneud yn lle bywiog i'r gymuned ei fwynhau?

14:00

Fel y dywedais mewn ymateb i Buffy Williams, mae ymyrryd trwy gynlluniau datblygu lleol o fudd i'r cyhoedd pan fo gorgrynhoad o ddefnydd penodol a phan fydd y gorgrynhoad hwnnw'n bygwth hyfywedd a bywiogrwydd canol tref. Rwy'n credu bod y system gynllunio ynddi'i hun yn eithaf cyfyngedig mewn rhai ffyrdd, oherwydd ni all fynd i'r afael â safleoedd presennol, felly, lle mae gennych grynhoad sy'n bodoli eisoes o safleoedd, nid oes unrhyw beth y gellir ei wneud trwy'r system gynllunio ei hun i fynd i'r afael â hynny. Ond mae cyfle i ddefnyddio proses y cynllun datblygu lleol i nodi cymunedau lle gellir cymhwyso polisïau lleol i gynigion ar gyfer safleoedd newydd. Felly, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o'r blaen mewn perthynas â gorgrynhoad o siopau gamblo a betio, er enghraifft, ac roedd modd mynd i'r afael â hynny drwy newid dosbarthiadau defnydd fel y gallai awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio eu cynlluniau datblygu lleol i fynd i'r afael â gorgrynhoad o'r safleoedd hynny.

Felly, yn sicr, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r ffaith ein bod yn gweld gorgrynhoad o rai mathau o fusnesau, a fydd yn amlwg yn cael effaith ar gystadleuaeth i'r busnesau eraill yn y mannau hynny hefyd. Ond fel y dywedais, nid swyddogaeth y system gynllunio ei hun yw ymyrryd neu atal cystadleuaeth, felly mae'n gymhleth, ond rwy'n credu mai'r neges bwysicaf yw defnyddio cynllun datblygu lleol i fynd i'r afael â gorgrynhoad pan fyddant yn bygwth bywiogrwydd canol tref.

Ffermydd Solar yn Ne-ddwyrain Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau ffermydd solar arfaethedig ar drigolion lleol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ62651

Mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru gogyfer ag ystyried cynigion ar gyfer ffermydd solar ar raddfa fawr wedi'u cynnwys yn 'Dyfodol Cymru: y Cynllun Cenedlaethol 2040' a 'Polisi Cynllunio Cymru'.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o drigolion yn fy etholaeth yn hynod bryderus am gynlluniau ar gyfer fferm solar fawr iawn ar raddfa ddiwydiannol ger Pont-hir, i rychwantu rhannau o sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd. Nawr, mae'r fferm solar enfawr hon yn creu pryderon amgylcheddol enfawr. Byddai'n cael ei lleoli ar 300 erw o dir fferm defnyddiadwy, pryder go iawn i lawer yn sicr, gan fy nghynnwys i, ac mae hyn yn aml yn wir gyda llawer o'r pethau hyn. Nawr er bod angen inni gamu'n ôl o'n gorddibyniaeth ar danwydd ffosil, rhaid inni fod yn ofalus ble mae cynlluniau ynni adnewyddadwy'n cael eu hadeiladu a pha mor fawr ydynt, a gofalu nad ydynt yn peryglu ein hamgylchedd, yn cyflwyno effaith weledol negyddol, ac wrth gwrs, yn sylfaenol, ein gallu i gynhyrchu bwyd. Er ein bod i gyd yn awyddus i ddiogelu ein hamgylchedd, mae'n bwysig nad ydym yn caniatáu i gynlluniau fel hyn niweidio neu effeithio'n ddramatig ar yr amgylchedd hwnnw mewn ymdrech i sicrhau mwy o ynni adnewyddadwy. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effeithiau amgylcheddol ac amaethyddol adeiladu ffermydd solar ar raddfa ddiwydiannol fel yr un hon a argymhellwyd yn fy etholaeth i?

Wel, mae gennym bolisi cynllunio cynhwysfawr a chyfoes, sy'n caniatáu ystyriaeth o ddatblygiadau solar arfaethedig ledled Cymru. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall prosiectau unigol, gan ei bod yn debygol y bydd gan Weinidogion Cymru rôl yn penderfynu yn eu cylch. Ond mae'n werth i mi gyfeirio at 'Dyfodol Cymru: y Cynllun Cenedlaethol 2040', sy'n nodi polisïau ar raddfa genedlaethol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, ac rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau wedi dangos diddordeb arbennig mewn edrych ar bolisi 17 o 'Dyfodol Cymru. Mae hwnnw'n pwysleisio pwysigrwydd cynigion sy'n nodi beth fyddai manteision net cynllun o ran gwelliannau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau lleol, felly rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, fel y mae polisi 18 'Dyfodol Cymru', sy'n ceisio sicrhau nad oes unrhyw effeithiau gweledol andwyol annerbyniol ar gymunedau cyfagos ac anheddau unigol nac effeithiau andwyol annerbyniol drwy gysgodion symudol, sŵn, golau'n adlewyrchu, ansawdd aer neu darfu electromagnetig. Unwaith eto, mae'r rhain yn bwysig iawn wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy.

Ac mae 'Dyfodol Cymru' hefyd yn nodi bod yn rhaid i ddarparu mynediad i safle ar gyfer adeiladu a chynnal a chadw cynllun ymateb i'r amgylchedd lle mae'r prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel eisoes wedi'u lleoli. Felly, er na allaf wneud sylwadau ar gynllun penodol y prynhawn yma, mae'n werth nodi rhai o'r polisïau a fydd yn bwysig wrth ystyried y cynigion hynny.

14:05
Cystadleuaeth WorldSkills

6. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn ag annog colegau ledled Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills i helpu i ddiwallu anghenion diwydiant? OQ62653

Diolch. Fel y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, rwyf i a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn trafod yn rheolaidd yr hyn y mae colegau yn ei wneud i gefnogi cystadlaethau WorldSkills.

Diolch am eich ateb.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru, gan gynnig cyfle i herio a grymuso drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws sectorau. Dyma hefyd y cam cyntaf i gystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol i lawer o fyfyrwyr, ac mae tystiolaeth dysgwyr yng Ngholeg Cambria, sefydliad addysg bellach yr ydym ein dau'n gyfarwydd ag ef, yn sicr yn tystio i hynny, am y ffordd y mae'n gwella sgiliau ond hefyd yn annog dyheadau i ymdrechu i gyrraedd y cam nesaf. Yn wir, mae'n ymddangos bod hynny'n digwydd ledled Cymru, yn enwedig yn ein cornel ni o'r wlad, Weinidog, gan fod tri dysgwr Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis ar gyfer carfan y DU yn WorldSkills Shanghai 2026, gan gynnwys myfyriwr ar gampws Coleg Llandrillo y Rhyl, sy'n rhan o'r garfan ynni adnewyddadwy. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi yn gyntaf i ddweud,

'Llongyfarchiadau a phob lwc'

i'r holl ddysgwyr sy'n cymryd rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru yn WorldSkills yn Shanghai y flwyddyn nesaf? Ymhellach, sut y bydd blaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd ag anghenion diwydiant, yn enwedig pan ydym am i Gymru fod ar flaen y gad o ran technoleg sero net, a sut y bydd gofynion sgiliau penodol y diwydiant yn cael eu hintegreiddio yn yr hyfforddiant a'r paratoadau ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills? Diolch.

Wel, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn pwysig hwn ac am ddiddordeb yr Aelod yn y pwnc? Mae'n bwnc yr ydym ein dau'n angerddol iawn yn ei gylch, ac yn wir, mae'r ardal a gynrychiolwn yn angerddol yn ei gylch hefyd. Mae Hannah Blythyn yn iawn i ddweud bod cystadlaethau sgiliau yn faes arall lle mae nifer y bobl o Gymru sy'n cynrychioli tîm y DU—mae'n faes arall lle mae Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl. Ond mae hefyd yn ffordd i unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr feincnodi eu darpariaeth hyfforddiant yn rhyngwladol, ac mae'n ffordd i ddysgwyr wella eu setiau sgiliau trwy'r efelychiadau arferion gwaith hynny.

Gofynnodd yr Aelod am y sgiliau penodol sy'n cael eu nodi, a chyfeiriodd at y ddau goleg lleol yng ngogledd Cymru, ac edrychaf ymlaen at ymweld â'r hyb ynni adnewyddadwy yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond fel un a oedd yn arfer bod yn beiriannydd, roeddwn yn falch iawn o weld bod Tomas Ankers o Electroimpact, sy'n cynrychioli Coleg Cambria yn nhîm y DU, yn EuroSkills yn y gystadleuaeth melino dan reolaeth cyfrifiadur. Mae melino dan reolaeth cyfrifiadur yn sgìl hollol hanfodol mewn gweithgynhyrchu uwch, ac mae'n sgìl y byddwn yn ystyried ei defnyddio wrth inni edrych ar adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion gwyrdd. Dyna un enghraifft o sgiliau a nodir i feincnodi'n rhyngwladol a gwneud yn siŵr ein bod yn cystadlu ar y lefel uchaf.

Yr hyn a welwn yw'r sgiliau hyn yn cael eu cyflwyno, a'r ffordd o ddysgu'r sgiliau hyn yn cael eu cyflwyno, ar bob lefel o'r coleg nawr fel bod pob myfyriwr, nid dim ond myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, yn dysgu i'r safon hon. Wrth gwrs, rwy'n ymuno â Hannah Blythyn i ddweud llongyfarchiadau yn gyntaf, ond hefyd pob lwc i dîm y DU yn rownd derfynol WorldSkills yn Shanghai, ond edrychaf ymlaen hefyd at groesawu rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU i Gymru am y tro cyntaf eleni a'r flwyddyn nesaf. Mae'n gyfle i ddysgwyr ledled Cymru gymryd rhan, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn gwneud hynny.

Treftadaeth Unigryw Gogledd Cymru

7. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i sut y gall sefydliadau diwylliannol Cymru arddangos treftadaeth unigryw Gogledd Cymru yn well? OQ62648

Diolch am y cwestiwn, Carolyn Thomas. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo a chefnogi prosiectau diwylliant a threftadaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn rhaglen broffil uchel ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth, fel Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed Cymru.

Diolch am eich ymateb. Weinidog, ysgrifennais atoch yn ddiweddar ynglŷn â phowlen Caergwrle. Mae'n enghraifft wych o grochenwaith o'r oes Efydd yr wyf i ac ymgyrchwyr lleol eisiau dod â hi'n ôl i ogledd-ddwyrain Cymru, ac rydym am i genedlaethau'r dyfodol allu ei gweld yng ngogledd Cymru yn ôl lle mae'n perthyn, os yw hynny'n bosibl. Weinidog, roedd eich ateb cadarnhaol yn galonogol i mi ac i'r ymgyrchwyr, ac fe roddodd hwb go iawn iddynt, felly a allwch chi amlinellu ymhellach beth fyddai angen iddo ddigwydd fel y gall y bowlen honno ddod adref i ogledd-ddwyrain Cymru? Diolch.

14:10

A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol a llongyfarch Carolyn ar ei gwaith i sicrhau bod powlen Caergwrle yn dychwelyd i ogledd-ddwyrain Cymru? Roeddwn yn ddiolchgar am y llythyr gan yr Aelod, ac rwy'n credu hefyd, Lywydd, y dylwn dalu teyrnged i'r cynghorwyr lleol, Dave a Gladys Healey, am eu holl waith yn sicrhau bod y bowlen yn dychwelyd. Rwy'n credu bod yr ymgyrch yn un y gallai'r Senedd gyfan ei chefnogi; rwy'n credu imi glywed Aelodau o'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo i gefnogi ymgyrch Carolyn.

I ateb ei chwestiwn uniongyrchol, mae Amgueddfa Cymru yn rhannu ei gwrthrychau o'i chasgliad ar draws cymunedau ledled Cymru, ond hefyd yn rhyngwladol, ac maent wedi cadarnhau y byddent yn croesawu cais am fenthyciad gan amgueddfa Wrecsam, efallai, neu unrhyw amgueddfeydd achrededig eraill yng ngogledd Cymru. Felly, mae fy swyddogion wedi cysylltu â'r tîm yn Wrecsam i ailadrodd y potensial i fenthyg eitemau i'w harddangos pan fydd yn ailagor yn 2026—fel y nodais yn fy nghwestiwn agoriadol—yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru o dros £6.4 miliwn ers 2020. Lywydd, edrychaf ymlaen yn fawr at weld yr amgueddfa'n agor ei drysau eto ac at fynd â fy mab fy hun yno, gobeithio, i weld powlen Caergwrle a dysgu am ei hanes lleol, ac yn bwysig iawn iddo, rwy'n siŵr, am hanes pêl-droed Cymru, pan fydd amgueddfa bêl-droed Cymru hefyd yn agor yn ddiweddarach yn y tymor Senedd hwn.

Amgueddfa Rygbi Cymru

8. Pa werthusiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r potensial adfywio economaidd yn sgil amgueddfa rygbi Cymru arfaethedig yn Sir Gaerfyrddin? OQ62663

Diolch am y cwestiwn, Adam Price. Nid oes neb wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i drafod y prosiect hwn. O'r herwydd, hyd yma, ni wnaed unrhyw werthusiad o'i botensial adfywio economaidd.

Diolch, Gweinidog. Fel clywom ni yn yr ateb diwethaf, mae’r Llywodraeth eisoes wedi buddsoddi dros £6 miliwn yn yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, ac mae Caerdydd yn gartref i Amgueddfa Criced Cymru, ond does gan Gymru ddim amgueddfa rygbi genedlaethol, ac nid oes yna unrhyw amgueddfa chwaraeon, ar hyn o bryd, yn y gorllewin, er mai yng Nghaio, sir Gâr, y chwaraewyd y gêm rygbi gyntaf yng Nghymru yn 1866. Mae atyniadau o’r math nid yn unig yn dathlu ein hanes, ond maen nhw hefyd yn annog cyfranogiad mewn chwaraeon, sydd yn nod pwysig, fel clywom ni’n gynharach. Maen nhw’n creu swyddi, maen nhw’n denu twristiaid ac yn creu gwariant gyda busnesau lleol. Felly, a fyddwch yn fodlon ystyried cefnogi cais, pe bai e’n dod gan randdeiliaid lleol, y cyngor sir, cynghorau tref, neu glwb y Scarlets, i gomisiynu astudiaeth fusnes drylwyr i asesu dichonoldeb a photensial economaidd amgueddfa rygbi genedlaethol yn y gorllewin?

A gaf i ddiolch i Adam Price am hynny, ac am dynnu sylw at y buddsoddiad arall mewn amgueddfeydd chwaraeon ledled y wlad? Rwy'n cydnabod pwysigrwydd diwylliant a hanes rygbi i gymunedau ledled Cymru. Ddoe pan oeddwn yn gwneud ychydig o ymchwil mewn ymateb i'r cwestiwn hwn, roeddwn yn falch iawn o weld gwaith Clwb Rygbi Athletau Caerfyrddin a'u hamgueddfa ar-lein, a'r prosiect a wnaethant gyda phlant ysgol lleol i arddangos yr holl eitemau cofiadwy sydd ganddynt, nid yn unig o'r byd rygbi ond o gampau eraill hefyd. Rwy'n credu bod esgidiau Pele hyd yn oed yn yr amgueddfa ar-lein, sy'n wirioneddol wych.

Fel y dywedais, ni chysylltwyd â fy swyddogion ynghylch y prosiect penodol hwn, ond os yw'r Aelod eisiau siarad â rhanddeiliaid y mae'n ymwybodol ohonynt am y prosiect hwn, byddwn yn hapus i fy swyddogion gael sgwrs bellach ynglŷn â'r prosiect ac i gynghori arweinwyr prosiectau, yn enwedig ynglŷn â'u hawydd i'w gweld yn dod yn amgueddfa achrededig. Pe baent yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru, Lywydd, byddem yn disgwyl gweld asesiad economaidd yn cael ei gynnal i ddatblygu'r achos busnes. Felly, os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf ar y mater, rwy'n hapus i drefnu sgwrs gyda fy swyddogion, er mwyn iddynt allu rhoi cyngor iddo.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le yn nodi Caerfyrddin fel yr ardal lle dechreuodd rygbi gael ei chwarae. Mae ganddynt hanes balch, onid oes, yn y byd rygbi, fel sydd gan rannau eraill o'r wlad. Rwy'n credu bod tad y chwaraewr rygbi enwog, Ken Owens, wedi chwarae i glwb Athletau Caerfyrddin, y clwb y cyfeiriais ato'n gynharach, Lywydd, ac yn amlwg, fe chwaraeai Ken i'r tîm arall yng Nghaerfyrddin. Felly, mae'n hollol iawn i nodi'r hanes sydd yno, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y drafodaeth honno gydag ef.

14:15

Rwy'n credu y gall Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion herio Caerfyrddin fel y dref lle dechreuwyd chwarae rygbi gyntaf yng Nghymru, er efallai na all herio Caio, wrth gwrs, sef y pentref sy'n honni hynny. Cawn weld sut y bydd hyn yn datblygu.

Cwestiwn 9, John Griffiths, yn olaf.

Twf Economaidd yn Nwyrain Casnewydd

9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf economaidd yn Nwyrain Casnewydd? OQ62656

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys prifddinas-ranbarth Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a busnesau ar y seilwaith a'r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau twf economaidd a ffyniant i bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Dwyrain Casnewydd.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae gan Gasnewydd gryfderau economaidd sylweddol a photensial mawr ar gyfer twf economaidd. Mae clystyrau presennol, fel y diwydiant lled-ddargludyddion a seiberddiogelwch yn dangos hynny'n glir. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod eich bod wedi ymweld â safle Aber-wysg yn ddiweddar, safle a fydd â systemau storio ynni batri a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl cael canolfannau data a llawer arall, gobeithio, i ddatblygu'n lleol.

Un agwedd ar y twf posibl hwnnw yw deallusrwydd artiffisial. Gwn y byddwch wedi cyfarfod â Dimitri Batrouni, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n hynod uchelgeisiol dros dwf economaidd a swyddi o ansawdd i Gasnewydd. Ac rwy'n credu y gallai deallusrwydd artiffisial fod yn rhan bwysig o hynny, o ystyried bod yr holl elfennau yno yn yr ardal. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i ymgysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid allweddol eraill i gyflawni'r cynlluniau hyn a gwireddu'r potensial mawr hwn.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwyf am roi sicrwydd i John Griffiths fy mod yn cael y trafodaethau hynny gyda chymheiriaid llywodraeth leol ynglŷn â sut rydym yn gwneud y mwyaf o'r hyn sydd eisoes yn glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd o'r radd flaenaf. Wrth gwrs, rydym yn gweld buddsoddiad cynyddol nawr mewn canolfannau data, ac mae gennym gynnig cyffrous y safle storio batri mwyaf yn y DU, o bosibl, yn yr ardal. Felly, mae'r holl bethau hynny gyda'i gilydd yn gwneud achos gwirioneddol gryf dros barth deallusrwydd artiffisial, os hoffech chi, yng Nghymru, ac rwy'n credu bod yr holl bethau hynny'n dod at ei gilydd ar yr adeg iawn nawr i Gasnewydd.

Ceir cefnogaeth enfawr trwy'r strategaeth ddiwydiannol y mae Llywodraeth y DU yn ei datblygu ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae wedi nodi'r maes digidol a thechnoleg fel sectorau blaenoriaethol. Mae'r rhain yn sectorau lle mae gan Gasnewydd a'r rhanbarth cyfagos gyfle i ddisgleirio hyd yn oed yn fwy disglair nag y mae eisoes yn ei wneud.

Ac wrth gwrs, mae yna gyfleoedd trwy'r gwaith y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud gyda'r uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol, y gwn y bydd, unwaith eto, yn canolbwyntio'n gryf iawn ar y maes digidol a thechnoleg, ac yn ceisio archwilio'r hyn y gallem fod yn ei wneud i ddod ag arweinwyr byd-eang i Gymru i weld beth sy'n digwydd yma eisoes, sy'n arwain y byd ynddo'i hun. Ond mae potensial enfawr ar gyfer twf pellach yn y maes hwn.

Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni symud ymlaen, mae'n bleser gen i groesawu Pat Weir, Llywydd Senedd Queensland, i'n horiel gyhoeddus ni heddiw.

Mae'n bleser mawr croesawu Pat Weir, Llefarydd Senedd Queensland, sy'n ymuno â ni yma heddiw. [Cymeradwyaeth.] Croeso, Pat, ac rwyf eisoes wedi cael cyfle i egluro i chi nad dyma yw ein cartref arferol parhaol. Rydym yn ein cit chwarae oddi cartref am y chwe mis nesaf.

Croeso i chi yma.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lee Waters.

Technolegau Cymryd Nodiadau Deallusrwydd Artiffisial

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu integreiddio technolegau cymryd nodiadau deallusrwydd artiffisial, tebyg i'r rhai sy'n cael eu treialu gan Lywodraeth y DU, i leihau beichiau gweinyddol a gwella gofal cleifion yn y GIG? OQ62650

14:20

Diolch. Mae dull o gymryd nodiadau wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial eisoes yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn archwilio'r defnydd o dechnolegau llais amgylchynol a'r modd o'u cyflwyno ar raddfa fwy mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae canllawiau ar fabwysiadu deallusrwydd artiffisial cyfrifol, gan ganolbwyntio ar gywirdeb a chydymffurfiaeth gyfreithiol, yn cael eu datblygu. Bydd y gwaith hwn yn llywio'r camau nesaf i Gymru.

Diolch, mae hynny'n dda i'w glywed. Mae canllawiau eisoes wedi'u lansio yn Lloegr, yn ogystal â chanlyniadau treial interim dan arweiniad Ysbyty Great Ormond Street o ddefnydd diogel o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer cymryd nodiadau, gyda chanlyniadau calonogol iawn. Rydym yn gwybod o siarad â chlinigwyr, pob un ohonom, am y pwysau gweinyddol arnynt, ac mae rhai astudiaethau'n dangos bod tua thraean o'u hamser yn mynd ar ysgrifennu nodiadau. Mae'r treialon hyn yn dangos y gellir cymryd nodiadau'n awtomatig a rhoi drafft i glinigwyr wirio ei gywirdeb cyn ei lanlwytho, felly manteision enfawr i'r clinigwyr, mwy o amser i'w dreulio gyda chleifion, yn ogystal â gallu i weld mwy o gleifion. Felly, beth arall y gallwn ei wneud i ddysgu o ymarfer yn Lloegr, lle mae'n ymddangos eu bod ar y blaen i ni yn yr ystyr eu bod eisoes wedi cyhoeddi eu canllawiau? Nid oes unrhyw bwynt gwneud hyn ddwywaith, ac rwy'n annog y defnydd o hyn, fel y gall cleifion a chlinigwyr elwa.

Yn hollol, a diolch am y cwestiwn dilynol, Lee Waters. Rwyf hefyd am nodi, yn y grŵp cynghori gweinidogol allanol ar berfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru, yr adroddodd Ysgrifennydd y Cabinet arno yr wythnos diwethaf, fod hyn wedi codi'n benodol o dan yr adran ddigidol a data—cymryd nodiadau amgylchynol. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n bendant ar ein hagenda, ac fel y gwnaethoch chi nodi, mae yna ryngweithio gwell rhwng cleifion a chlinigwyr, mae'n arbed amser, ac mae'r ddogfennaeth o ansawdd gwell. Mae'r rhain i gyd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i bobl yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ymarfer bwrdd gwaith ar gyflwyno'r technolegau lleisiau amgylchynol a chymryd nodiadau deallusrwydd artiffisial yn y DU ac yn ehangach, ac mae hyn wedi arwain at ddealltwriaeth fanwl o'r ffactorau technegol ac ystyriaethau ynghylch y lleoliad gofal sydd angen eu hystyried ar gyfer gweithredu'n ddiogel a chyfrifol. Fel y dywedais, bydd yr adolygiad yn cael ei ystyried gan y comisiwn deallusrwydd artiffisial sydd gennym yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi nodi clinigwyr a gweithwyr proffesiynol mewn lleoliadau clinigol a phroffesiynol sydd â diddordeb mewn ehangu'r defnydd o gymryd nodiadau deallusrwydd artiffisial i gynyddu effeithlonrwydd ac ansawdd cysylltiadau, fel y sonioch chi. Y cam nesaf yw amlinellu sut y gallwn ddefnyddio'r dechnoleg yn ddiogel a bodloni'r safonau sy'n ofynnol, ei manteision ehangach a rheoli unrhyw risgiau.

Roeddwn eisiau ychwanegu hefyd ei bod yn hanfodol ein bod yn ymgorffori gwaith teg a gwerthoedd partneriaeth gymdeithasol wrth fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn ein gweithlu, ac ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd cyngor partneriaeth y gweithlu ganllawiau ar ddull partneriaeth gymdeithasol o weithredu technoleg yn y gweithle. Roedd yn pwysleisio'r angen am lais gweithwyr yn y penderfyniad i fabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial ac am oruchwyliaeth barhaus a monitro clir a diogelu hawliau unigolion.

I gadarnhau, byddaf bob amser yn edrych ar unrhyw ymchwil sy'n digwydd yn y maes hwn ar draws y DU gyfan. Wrth inni edrych ar weithredu nawr, rydym yn ei wneud yn y ffordd Gymreig, trwy fodel partneriaeth gymdeithasol, ac rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch clinigol, diogelu data, integreiddio, ac yn hollbwysig, ar hyfforddi staff. Diolch.

Weinidog, mae Lee Waters yn hollol iawn: mae cyfle enfawr, ac rydych chi wedi'i gydnabod, yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer rhai tasgau sylfaenol fel y rhai a ddisgrifiwyd yma heddiw. Rhan o'r hyn sy'n fy mhryderu, fodd bynnag, yw'r seilwaith yr adeiladir hynny arno, oherwydd os nad oes system seilwaith digidol dda ar waith yng Nghymru, yn y GIG yn arbennig, nid yw deallusrwydd artiffisial yn mynd i weithredu'n iawn ar ben hynny. Enghraifft o hynny yw fy mod yn ymwybodol o optometryddion yng ngogledd Cymru sy'n gorfod ysgrifennu llythyr ffisegol, llofnodi llythyr ffisegol, bob dydd Gwener, i'w bostio at feddygon teulu ar gyfer atgyfeiriadau optometrig. Felly, mae'r chwyldro deallusrwydd artiffisial yn gyffrous a gall fod yn drawsnewidiol, ond mae gennym optometryddion yn dal i ysgrifennu llythyrau at feddygon teulu. Mae yna seilwaith digidol sylfaenol iawn nad yw yn y lle iawn ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwahanol fathau o seilwaith digidol a ddefnyddir ar draws gwahanol fyrddau iechyd, ar draws Cymru, gan wneud cyfathrebu'n anodd ledled y wlad. Felly, deallusrwydd artiffisial, yn bendant, mae angen inni fwrw ymlaen â hynny, ond tybed pa hyder sydd gennych fod rhai pethau sylfaenol iawn yn cael sylw yn y gofod digidol, a fydd wedyn yn ei gwneud hi'n bosibl adeiladu'r byd deallusrwydd artiffisial arnynt.

Diolch yn fawr, Sam Rowlands. Mae hwnnw'n gwestiwn ardderchog. Rydych chi'n hollol iawn, ac er mwyn gallu cyflwyno hyn ar raddfa fwy, mae angen y bensaernïaeth genedlaethol honno, pensaernïaeth ar gyfer Cymru gyfan, ynghyd â'r cofnod iechyd electronig a'r adnodd data cenedlaethol y mae eu sylfeini gennym, a byddwn yn canolbwyntio arno nawr ac yn rhoi hwb i'r gwaith o'i weithredu ledled Cymru.

Roeddwn i eisiau dweud y byddaf yn arwain uwchgynhadledd ddigidol yfory lle byddwn yn dod â'r holl fyrddau iechyd ledled Cymru at ei gilydd. Byddwn yn cael cyflwyniadau ar ap y GIG gan ddau feddyg teulu; cawn gyflwyniad ar gyflwyno'r ap mamolaeth; bydd y cofnod iechyd meddwl electronig yn cael ei gyflwyno i ni gan Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg, sef y ddau fwrdd iechyd sy'n arwain ar hynny; hefyd, bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rhoi cyflwyniad ar gyflwyno pensaernïaeth genedlaethol ledled Cymru. Felly, rydym yn cael ein traed danom ar hyn nawr i wneud popeth rydych chi wedi'i ofyn.

A hefyd, byddaf yn ail-lansio, yn ailosod, y bwrdd digidol a thechnoleg, a bydd hwnnw wedyn yn sicrhau bod gennym yr holl brif randdeiliaid o gwmpas y bwrdd, yn cynnwys gofal cymdeithasol, yn cynnwys y GIG, i sicrhau nawr ein bod yn cael y cyflwyniad heb loteri cod post. Oherwydd dyma'r adeg i wneud y gorau o'r ffaith ein bod yn wlad gyda phoblogaeth lle dylem allu cydgysylltu popeth, yn union fel y dywedoch chi, rhwng gofal sylfaenol, rhwng gofal eilaidd, ar draws ffiniau byrddau iechyd. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud yw, 'Gwyliwch y gofod hwn.' Rydym yn gwneud cynnydd da iawn yn y maes, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedoch chi; dyna'n union beth rydym yn mynd i'w wneud. Diolch.

14:25
Y Diffiniad o Fenyw

2. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fyrddau iechyd yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw? OQ62644

Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn cydraddoldeb i bawb, gan gynnwys mewn perthynas â mynediad at wasanaethau iechyd. Rydym yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys. Byddwn yn ystyried y dyfarniad a'r canllawiau interim gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ofalus, a byddwn yn asesu a oes angen i ni adolygu ein canllawiau cyn rhoi camau ar waith i gefnogi GIG Cymru i gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n rhaid inni aros tan yr haf am ganllawiau wedi'u diweddaru yn dilyn dyfarniad clir llys y DU, pan ddylai fod brys i gydymffurfio â'r gyfraith, yn enwedig mewn iechyd, yn enwedig mewn lleoliadau gofal iechyd o natur bersonol. O ystyried pa mor agored i niwed yw menywod mewn lleoliadau gofal iechyd a'r pryder cynyddol gan glinigwyr a chleifion fel ei gilydd am golli mannau un rhyw, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gydymffurfio â'r gyfraith i gynnal yr hawl gyfreithiol i fannau un rhyw yn ein GIG Cymru, sydd wedi'i gadarnhau gan y Goruchaf Lys, oherwydd mae unrhyw beth llai yn gam â menywod yng Nghymru? Diolch.

Y sefyllfa bresennol cyn dyfarniad y Goruchaf Lys yw bod y cyfrifoldeb am neilltuo lle mewn ysbyty, er enghraifft, yn cael ei wneud ar lefel ward ac uned, gan ystyried preifatrwydd, urddas a rhyw cleifion. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir—ac rwy'n ailadrodd heddiw—bydd y Llywodraeth yn dymuno rhoi amser i archwilio'n ofalus effaith y dyfarniad ar ein polisïau a'n blaenoriaethau. Rydym hefyd yn ymwybodol o ganllawiau interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a byddwn yn archwilio hyn ochr yn ochr â dyfarniad y Goruchaf Lys.

Yn y cyfamser, fy neges i fenywod yw y bydd y GIG yn gwneud popeth yn ei allu i roi'r gofal sydd ei angen arnoch mewn ffordd sy'n adlewyrchu eich urddas a'ch diogelwch, ac mae fy neges i unigolion traws yr un fath.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am godi mater difrifol cyfraddau goroesi canserau llai goroesadwy yng Nghymru. Fe fynychais, ac fe siaradais mewn digwyddiad yr wythnos diwethaf yn y Senedd, a drefnwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser, a'r gwir amdani yw nad yw Cymru wedi gweld unrhyw welliannau ystyrlon yng nghanlyniadau'r canserau hyn ers degawdau, ac rydym yn parhau i lusgo ar ôl gwledydd tebyg sydd â chanserau llai goroesadwy. Mae dadansoddiad diweddar yn dangos, ar gyfartaledd, mai dim ond 39 y cant yw'r gyfradd oroesi un flwyddyn i rywun sy'n cael diagnosis o ganser llai goroesadwy yng Nghymru o'i gymharu â dros 70 y cant ar gyfer pob canser arall. Mae'r rhain yn ffigurau erchyll, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn foesol ac yn ariannol, ni allwn fforddio parhau i esgeuluso'r canserau hyn, sy'n cynnwys canser yr afu, yr ysgyfaint, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a'r stumog. Maent yn faich ar ein cymunedau, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi nodi beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i flaenoriaethu'r chwe chanser llai goroesadwy hyn a datblygu strategaeth gydgysylltiedig i wella cyfraddau goroesi ledled Cymru ar gyfer pobl sy'n dioddef o ganserau llai goroesadwy? 

Mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod gan bobl sy'n dioddef o'r canserau hyn hawl i'r gofal amserol y dymunwn ei weld. Mewn gwirionedd, mae rhai o'r lleoliadau tiwmor y cyfeiriodd atynt yn ei ddatganiad yn rhai lle mae ein gallu i gyrraedd y targedau a osodwyd gennym mor uchel ag y gallant fod, yn aml yn cyrraedd 100 y cant o'r targed hwnnw, ac rwy'n falch iawn o hynny. Mae'n iawn hefyd i ddweud bod nifer o'r canserau y cyfeiria atynt, a chanser yr ysgyfaint yn benodol efallai, yn dangos cysylltiad agos iawn ag amddifadedd cymdeithasol ac economaidd. Fe fydd yn cofio fy mod wedi dweud yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl fy mod yn disgwyl cyngor yn ystod y misoedd nesaf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut y gallai rhywun lunio rhaglen sgrinio'r ysgyfaint, er enghraifft, a fyddai'n adeiladu ar y datblygiadau y gwelsom eu llwyddiant yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, lle mae canlyniadau'r treialon hynny wedi bod yn effeithiol iawn. Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflymu'r cyngor y maent yn ei roi i mi mewn perthynas â hynny i gydnabod pwysigrwydd y mater a'r brys yn ei gylch, fel y dywed yr Aelod. Rwy'n rhagweld y daw'r cyngor hwnnw i law yn yr wythnosau nesaf fel y gallaf wneud penderfyniad wedyn mewn perthynas â'r rhaglen honno.

14:30

Mae hynny'n wirioneddol gadarnhaol i'w glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd roeddwn am ganolbwyntio fy nghwestiwn nesaf ar ganser yr ysgyfaint. Mae'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau difreintiedig ledled Cymru, ac mae ganddo'r bwlch anghydraddoldeb mwyaf o'r holl ganserau cyffredin, gyda phobl mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o'i gael ac yn fwy tebygol o farw ohono, ac mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n cynyddu. Yr hyn sy'n fwy pryderus, fel rydym wedi'i ddweud o'r blaen, yw bod Lloegr, ers 2022, wedi cael rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol wedi'i thargedu ar gyfer dros 1 filiwn o bobl sydd wedi ysmygu erioed. Mae dros 1 filiwn o bobl wedi cael eu sgrinio yno, gyda chanfod canser yr ysgyfaint cynnar mewn miloedd ohonynt, a'u cael ar y llwybrau triniaeth hynny fel y gall mwy ohonynt oroesi. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud bod cyngor yn dod, Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf am achub y blaen arnoch—ond a ydych chi'n meddwl ar hyn o bryd fod hwn yn llwybr y mae Llywodraeth Cymru am ei ddilyn? Oherwydd rwy'n credu bod y canlyniadau a welsom yn Lloegr yn gadarnhaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y byddwn wrth fy modd yn ein gweld yn ei gyflwyno yma. Felly os gallwch roi rhyw fath o arwyddion cadarnhaol o sut y bwriadwch edrych ar hyn, byddai'n cael ei groesawu, rwy'n siŵr, nid yn unig gennyf i, ond hefyd gan yr elusennau sydd wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers amser hir iawn.

Rai misoedd yn ôl, gyda chymorth Buffy Williams, yr oedd ei hetholaeth yn un o'r mannau lle'r oedd un o'r prosiectau peilot yn cael ei gyflawni, gallais gyfarfod â'r clinigwyr a oedd yn arwain y prosiect peilot, a Tenovus hefyd, er mwyn trafod canfyddiadau'r prosiect a sut y gellid cyflwyno hyn yn gyflymach. Fel y dywed, mae cynnydd da eisoes yn Lloegr; nid yw eto wedi'i gyflwyno'n llawn ledled Lloegr—mae oddeutu 25 y cant, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae hynny'n rhoi cyfleoedd inni ddysgu o'r profiad a'u mewnwelediad o gyflwyniad cynnar y cynllun. Rwy'n credu ei bod yn bwysig aros am y cyngor llawn, oherwydd bydd ganddo oblygiadau cyllidol a goblygiadau eraill y tu hwnt i hynny, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud cynnydd yn gyflym, os gallwn, mewn perthynas â'r math hwn o raglen sgrinio.

Cefais fy nharo'n fawr iawn gan yr ystadegau y gallodd y clinigydd eu rhannu gyda ni, a oedd yn awgrymu bod canlyniadau'r prosiect peilot yn y Rhondda wedi dangos y gallu i gynyddu'r gyfradd oroesi ar gyfer canser yr ysgyfaint yn benodol yn ddramatig iawn o ganlyniad i'r treial cychwynnol. Rwy'n credu bod hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni ganolbwyntio ein hegni mewn perthynas â hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael y cyngor, ac at groesawu'r cyngor pan ddaw.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, maes arall yr hoffwn gyffwrdd arno yw canser y coluddyn. Yr hyn a welwn yn y dystiolaeth yw bod llawer mwy o bobl iau bellach yn cael canser y coluddyn ac yn cael diagnosis ohono. Rwy'n credu bod hynny'n bryderus iawn i bob un ohonom yn y Siambr—fod mwy o bobl ifanc yn cael diagnosis o'r math ofnadwy hwn o ganser. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ymchwil Canser Cymru, ac maent yn gwneud gwaith blaenllaw ar ganfod canser y coluddyn yn gynnar drwy edrych ar enynnau a gwahanol fathau o broteinau trwy brofion gwaed. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam positif iawn. Mae'n llai mewnwthiol na rhai o'r ffyrdd eraill o ganfod canser y coluddyn. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i flaenoriaethu gwaith ac ymchwil yn y maes hwn. Beth yn rhagor y gallwn ei wneud i gynyddu sgrinio pobl iau sy'n dangos symptomau o ganser y coluddyn sydd weithiau'n amwys? Oherwydd os ydym yn gweld y bobl ifanc hynny'n marw ac yn cael diagnosis o'r clefyd hwn, mae angen inni ymdrin â hynny cyn gynted â phosibl, i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cyfle i'r bobl hynny fyw'r bywyd llawnach hwnnw a goresgyn canser a goroesi canser. Diolch, Lywydd.

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod canser y coluddyn yn faes lle mae canfod yn gynnar eto'n gallu newid trywydd y clefyd yn sylweddol iawn a chynyddu, yn aml yn sylweddol, y tebygolrwydd o oroesi. Yn ddiweddar, deuthum yn rhan o'r garfan o bobl sydd â hawl i gael eu sgrinio yn rhinwedd pen-blwydd penodol—nid mor ddiweddar â hynny, mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen sgrinio yn effeithiol iawn ac mae'n syml iawn, ac mae'r nifer sy'n manteisio arni'n dda, ond byddem yn amlwg yn dymuno annog mwy o bobl i fanteisio ar y sgrinio sydd ar gael. Ysgrifennir at bobl pan fyddant yn gymwys ar gyfer hynny. 

Mae'r Aelod yn gwneud y ddadl y dylem ystyried ymestyn yr ystod oedran, rwy'n meddwl. Mae'r penderfyniadau hynny bob amser yn cael eu harwain yn glinigol. Maent yn cael eu llywio gan effeithiolrwydd y rhaglen bresennol ac fel roedd yn awgrymu, argaeledd cyfleoedd eraill a mecanweithiau eraill ar gyfer canfod canser hefyd. Hoffwn ei sicrhau bod y Llywodraeth yn cefnogi nifer o fentrau ymchwil mewn perthynas â chanserau o bob math. Mae hynny'n ymrwymiad pwysig i ni fel Llywodraeth ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo.

14:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Roedd cynnal yr NHS fel sefydliad cyhoeddus yn arfer bod yn erthygl o ffydd i'r Blaid Lafur, ond ers cyflwyno PFI yn ystod Llywodraeth Blair, a rŵan gyda Wes Streeting yn gwneud synau ynglŷn â rôl y sector breifat yn y system iechyd, mae'r ffydd yma wedi cael ei ysgwyd yn ddiweddar.

I fod yn deg â'r Blaid Lafur yng Nghymru, mae'r symudiad tuag at y trywydd yma wedi cael ei wrthsefyll ychydig yn fwy cadarn yma ar y cyfan. Ond mae cyhoeddiad yr adroddiad annibynnol ar berfformiad yr NHS a argymhellodd ehangu rôl y sector breifat wedi lluchio ychydig o amheuaeth ar hyn. Fe wnaeth y Llywodraeth ymateb gan dderbyn yr argymhelliad yn rhannol, ond heb roi llawer o fanylder ynglyn â pha elfennau yn union yr oedden nhw'n cytuno â nhw.

Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau heddiw—ie neu na—os ydy'r Llywodraeth yn bwriadu creu cronfa genedlaethol benodol o fewn y gyllideb iechyd ar gyfer defnydd y sector breifat, ac os—eto, ie neu na—ydych chi'n bwriadu cynnal asesiad o opsiynau hirdymor ar agor y system breifat i fyny ymhellach i ddarparwyr annibynnol? 

Mae ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn gwbl. Mae'r ymateb i'r adroddiad yn glir yn yr hyn mae'n ei ddweud. Hynny yw, mae'n derbyn, mewn rhai achosion—lle nad yw'n bosib o fewn amser sydd yn dderbyniol inni i gyd i gael y system nôl i mewn i gydbwysedd—ein bod ni wastad wedi defnyddio rhyw elfen o'r sector annibynnol a'r sector breifat. Felly, mae e'n cydnabod hynny yn yr adroddiad. Dyw hynny ddim yn newid.

Beth ŷn ni eisioes wedi ei ddweud yw ein bod ni eisiau cymryd rheolaeth genedlaethol ar elfennau o'r hyn sydd eisioes yn digwydd yn y system, fel ein bod ni'n gallu cael sicrwydd bod gwerth am arian yn dod o hynny a'n bod ni hefyd yn gallu cael golwg strategol i sicrhau'r union egwyddor honno: mai gweithredu nid yn arferol yn y ffordd yma ŷn ni, ond mewn ffordd sydd yn cefnogi mewn cyfnod dros dro lle mae angen penodol.

Diolch. Y cwestiwn pellach wedyn yw ydych chi'n mynd i greu'r ariannu ring-fenced yna'n rhywbeth parhaol ar gyfer y sector breifat. Dydw i ddim yn cael ateb clir am hynny.

Y realiti ydy, er gwaethaf ymrwymiad i'r egwyddor o system iechyd cyhoeddus am ddim, mae camreolaeth y Llywodraeth o restrau aros wedi arwain at sefyllfa lle mae mwy a mwy o'r boblogaeth yn gorfod talu am driniaeth, boed mewn meysydd megis offthalmoleg, deintyddiaeth, neu feddygfeydd teuluol, a hynny ar raddfa sydd wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar. Yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn ddiwethaf, roedd oddeutu 7,700 o dderbyniadau cleifion mewnol neu ofal dydd preifat—y trydydd ffigwr uchaf ar record—ac yn groes i weddill y Deyrnas Gyfunol, taliad personol ydy'r math mwyaf cyffredin o dderbyniadau cleifion mewnol preifat.

Wrth gwrs, bwriad yr asgell dde ydy gwreiddio'r sefyllfa de facto presennol yma fel rhywbeth parhaus ac i symud tuag at fodel yswiriant, tebyg i'r Unol Daleithiau, gyda'r goblygiadau arswydus a ddaw o hyn. Felly, mae'n teimlo o bersbectif gwleidyddol ac ymarferol ein bod ni'n nesáu at bwynt tipio pwysig o ran statws sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Sut ydych chi, felly, yn bwriadu sicrhau nad ydyn ni'n gweld y preifateiddio yma'n parhau, ac a ydych chi'n cydnabod bod methiant y Llywodraeth i reoli rhestrau aros a chyflogi mwy o arbenigwyr yn mynd i ysgogi'r adain dde a chryfhau'r adain dde yn eu dadleuon nhw?

Yr ateb i'r cwestiwn cyntaf yw na, nid y bwriad yw creu cronfa hirdymor, fel gwnes i ei ddweud yn gwbl glir yn fy ateb cyntaf. Mae'r Llywodraeth yn gweld hyn fel rhywbeth sydd yn orfod dros dro er mwyn mynd i'r afael gyda nod penodol. Felly gobeithio roedd hynny'n glir o'r ateb cyntaf.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nad ydym ni'n rhoi gofod i'r ddadl bod y gwasanaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol o dan fygythiad. Yr hyn sydd yn bwysig yw ein bod ni'n sicrhau yr egwyddor honno fod pobl yn gallu cael darpariaeth drwy'r sector cyhoeddus, a ddim yn gorfod talu am y ddarpariaeth honno. Mae hynny'n gwbl elfennol, dwi'n credu, i'r egwyddor o wasanaeth cyhoeddus, ac yn benodol felly i'r traddodiad a'r weledigaeth i'r dyfodol sydd gyda ni fel Llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd cenedlaethol.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau—ac mae hyn yn wir o ran pob gwasanaeth iechyd cenedlaethol—ein bod ni'n cynyddu perfformiad a gallu'r gwasanaeth iechyd i ddarparu'r gofal amserol hwnnw sydd mor bwysig i bobl, fel nad yw pobl yn gorfod teimlo o dan bwysau i chwilio am opsiynau eraill.

Mae byrdwn yr adroddiad y gwnaethoch chi sôn amdano yn eich cwestiwn cyntaf yn gyrru tua'r perwyl hwnnw—sut allwn ni fod yn ymarferol i gynyddu perfformiad y gwasanaeth iechyd fel bod yr holl ymrwymiad hwnnw, yr holl waith hwnnw, y bobl sy'n dod mewn yn eu miloedd i'r gwasanaeth iechyd bob dydd i weithio ar ran pobl eraill, yn cael yr impact mwyaf posib.

14:40

Diolch. Yn olaf, os caf i fynd ar drywydd ychydig yn wahanol a gofyn ynghylch yr adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi am Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, os gwelwch yn dda. Roedd sôn yn yr adroddiad hwnnw am weithgareddau anghyfreithlon yn yr ysbyty, fod rhai staff yn cael eu bychanu, fod yna reolaeth haint gwael, a llawer iawn mwy. Mae'n adroddiad damniol a difrifol, sydd yn dangos sut mae iechyd a lles cleifion wedi cael ei fygwth yn yr ysbyty ar achlysuron. Ysgrifennydd Cabinet, pam ydych chi'n credu fod hyn wedi cael ei alluogi? A gawn ni ddatganiad llawn ar lawr y Senedd yn fuan er mwyn craffu ar hyn a sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu?

'Damniol a difrifol' yw'r geiriau y mae'r Aelod wedi eu defnyddio, ac fe fyddwn i'n defnyddio rheini fy hunan. Mae'n peri sioc i rywun ddarllen y canlyniadau, ac mae'r canfyddiadau yn ymestyn o gwestiynau o arweinyddiaeth, diwylliant, hyd yn oed cwestiwn o logistics o bryd i'w gilydd. Felly, rwy'n bwriadu cwrdd yn fuan iawn gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i weld pa gamau penodol sydd ganddyn nhw. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n cymryd yr adroddiad o ddifri. Rwyf hefyd yn gwybod bod camau eisoes ar waith yn benodol lle mae'r canfyddiadau yn cyffwrdd â'r elfennau o ddiogelwch cleifion ac ati. Byddaf angen gweld fod cynllun pwrpasol ar waith i fynd i'r afael gyda'r ystod o 66 o argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn. Byddaf yn hapus i wneud adroddiad nôl i'r Senedd maes o law.

Gofal Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd gofal iechyd meddwl cleifion mewnol? OQ62640

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym wedi buddsoddi dros £2 filiwn yn y rhaglen iechyd meddwl strategol yng ngweithrediaeth y GIG. Mae hyn yn cynnwys rhaglen diogelwch cleifion iechyd meddwl, gyda ffocws ar wella ansawdd gofal cleifion mewnol.

Diolch am yr ateb.

Nododd adroddiad Mind Cymru, 'Codi'r Safon', nifer o feysydd lle gellid gwella profiadau o ofal cleifion mewnol iechyd meddwl, ac mae'n hollol wych fod gennym y strategaeth iechyd meddwl newydd a'r ymrwymiad i raglen diogelwch cleifion mewnol i hyrwyddo gwelliant. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wych. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno ein bod am gael yr amgylcheddau lleiaf cyfyngol posibl o fewn y lleoliadau hyn.

Rwy'n credu ei bod yn arbennig o bryderus yn adroddiad Mind ei fod yn tynnu sylw at y bylchau wrth gasglu data mewn perthynas â'r defnydd o arferion cyfyngol yn y lleoliadau hyn, yn enwedig o ran nodweddion gwarchodedig a'r diffyg sail statudol ar gyfer y canllawiau yng Nghymru.

Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog edrych ar ymestyn Deddf Unedau Iechyd Meddwl (Defnyddio Grym) 2018 i Gymru, o bosibl drwy'r Bil Iechyd Meddwl sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, er mwyn gwella hawliau pobl mewn unedau cleifion mewnol iechyd meddwl, cynyddu tryloywder, a chaniatáu ar gyfer creu canllawiau statudol?

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol, Julie Morgan. Roeddwn yn gwerthfawrogi'n fawr fod Mind Cymru wedi gwneud adroddiad mor bwysig a thrwyadl gyda 'Codi'r Safon'. Wrth fynd trwy'r data, maent yn gallu nodi'n glir ble y gallwn wella.

Fel y dywedoch chi, yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol a lansiwyd yr wythnos diwethaf, mae gennym ddatganiad o weledigaeth 4, sy'n ymwneud yn fanwl â gofal arbenigol, gan gynnwys gofal cleifion mewnol. Rydym o ddifrif ynghylch yr ymrwymiad i ddiogelwch cleifion. Fel y gwyddom, pan fydd rhaid i bobl fynd i fan ar gyfer cleifion mewnol, mae'n ymwneud yn bennaf â chael gofal diogel a strwythuredig, ac mae'n sicr yn ymwneud â'r gofal lleiaf cyfyngol sydd ei angen. Felly, mae ein canllawiau a'r cod ymarfer ar gyfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 yng Nghymru yn glir—y dylai'r defnydd o arferion cyfyngol fod yn ddewis olaf, ac rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r canllawiau ar gyfer lleihau arferion cyfyngol yng Nghymru, ac mae gweminar ym mis Gorffennaf i lansio mwy o adnoddau eto i gefnogi'r gwaith o weithredu hynny. Ac yng Nghymru, mae gennym eisoes gyfres o reoliadau a fframweithiau sydd â bwriad tebyg o ran polisi i'r Ddeddf defnyddio grym ym maes iechyd meddwl, ac mae hyn yn cynnwys 'Gweithio i Wella' y GIG, adrodd am ddigwyddiadau difrifol neu anffodus, a fframweithiau rheoleiddio Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Rydym hefyd wedi buddsoddi yn y rhaglen diogelwch cleifion iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, diogelwch a chanlyniadau gofal cleifion mewnol, ac mae hyn yn cynnwys cryfhau'r data, fel y nodwyd gennych. Ac mae hyn yn flaenoriaeth allweddol o fewn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a hynny i raddau helaeth am fod Mind Cymru yn cyfarfod â mi yn rheolaidd ac wedi bod yn rhan enfawr o gydgynhyrchu'r strategaeth. Felly, mae llawer o'r pethau y maent wedi'u nodi yn eu hadroddiad 'Codi'r Safon' wedi ymddangos yn y strategaeth erbyn hyn.

Rwyf hefyd am ddweud bod gennym reoliadau a fframweithiau yng Nghymru sydd â bwriad tebyg o ran polisi, fel y dywedais. Ar hyn o bryd, rwy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaethau'n bodloni'r disgwyliadau yn ein fframwaith rheoleiddio a pholisi presennol i wella gofal cleifion. Ac mae hyn yn ffocws allweddol yn y strategaeth, ond byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn a godwyd gennych. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae pobl yn awyddus i'w weld o ran y rhwymedigaeth statudol, ond ar hyn o bryd, ar gyfer y dyfodol agos iawn, rydym yn sicrhau ein bod wedi cyflwyno popeth a allwn, ac y dylem fod wedi'i wneud, o dan yr hyn a wnawn ar hyn o bryd.

14:45

Weinidog, un o'r pethau a addawyd i bobl gogledd Cymru i wella gofal cleifion mewnol mewn unedau iechyd meddwl oedd uned iechyd meddwl newydd sbon i gymryd lle uned Ablett, a gaewyd yn sgil sgandal Tawel Fan. Gwnaed addewid saith mlynedd yn ôl i ailadeiladu cyfleuster newydd. Nid ydym wedi gweld y cyfleuster hwnnw'n agor na gwaith adeiladu'n dechrau ar y safle, yn wir. A allwch chi ddweud wrthym, ai addewid arall wedi'i dorri gan y Blaid Lafur yw hwn, un na fydd byth yn cael ei wireddu, gan siomi pobl gogledd Cymru unwaith eto, a rhwbio rhagor o halen i'r briw a achoswyd eisoes i'r bobl a wynebodd gamdriniaeth sefydliadol ar ward Tawel Fan? Neu a wnewch chi unioni'r sefyllfa o'r diwedd a gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r addewid hwn cyn gynted â phosibl?

Diolch am y cwestiwn ac am godi Ablett yng ngogledd Cymru. Roedd yn un o'r ymweliadau cyntaf a wneuthum pan ddeuthum i'r rôl. Roeddwn am fynd yno a chyfarfod â phobl a siarad â'r staff a oedd yno, a gweld sut beth oedd gweithio yno a bod yno. Felly, rwy'n gwbl ymwybodol fod hyn yn flaenoriaeth go iawn. Byddwn yn dweud mai'r rheswm dros yr oedi mwy diweddar beth bynnag, sef yr hyn rwy'n ymwybodol ohono, yw ein bod wedi gweld chwyddiant yn codi i'r entrychion. Felly, fe wnaeth yr achos busnes a ddaeth i law saethu i fyny'n gyflym iawn o ran y swm yr oedd ei angen i allu gwneud hyn. Ac fel y gwyddoch, cyllid cyfalaf yw hwn. Felly, rwy'n credu bod y bwrdd iechyd, Betsi Cadwaladr, wedi gwneud gwaith aruthrol trwy orfod mynd yn ôl, mewn gwirionedd, a dod o hyd i ffordd o allu cyflawni hyn yn y sefyllfa economaidd yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

Byddwn hefyd yn dweud—ac nid fi yn sgorio pwyntiau gwleidyddol yw hyn—ein bod wedi profi tanariannu gwirioneddol o ran cyfalaf i Gymru ers amser maith bellach, ac yn sydyn, mae gennym lawer mwy o gyfalaf. Ac yn bersonol, fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwy'n falch iawn o hyn, oherwydd hoffwn inni edrych ar yr ystadau iechyd meddwl ledled Cymru gyfan. Rwy'n ymwybodol iawn fod cael y math gorau o ofal, ac i bobl sy'n gweithio yn yr amgylcheddau hynny, mae cael y cyfleusterau gorau yn wirioneddol bwysig, ac mae hynny'n flaenoriaeth imi. Ond mae'n galw am hynny, ac ar hyn o bryd, fel y dywedais, mae chwyddiant wedi cael effaith wirioneddol arno. Felly, nid yw'n addewid sydd wedi'i dorri o gwbl. Rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn canolbwyntio'n fawr ar hyn. Rydym yn sylweddoli pa mor ddifrifol ydyw, a byddwn yn symud ymlaen ag ef. Diolch.

Gofal mewn Coridorau

5. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddileu gofal mewn coridorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ62662

Nid ydym yn cymeradwyo gofal neu driniaeth reolaidd i unigolion mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas. Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol, lle mae mesurau uwchgyfeirio lleol yn cael eu datgan. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gynlluniau cadarn, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, i wella llif cleifion a lliniaru'r risg o ofal mewn amgylcheddau o'r fath.

14:50

Diolch yn fawr am yr ateb yna. 

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â chynrychiolwyr o RCN Cymru a BMA Cymru i glywed am broblem gofal mewn coridorau yn ein hysbytai. Ni ddylai unrhyw glaf fod yn aros am ddyddiau mewn cadeiriau, ond pan glywch fod cleifion oedrannus a bregus yn cael eu gorfodi i wneud hyn, mae'n dorcalonnus ac yn gwbl annerbyniol. Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru,

'Rydym wedi cyrraedd pen ein tennyn'. 

Siaradodd Stephen Kelly, cadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol Cymru y BMA, am ei bryder fod gofal mewn coridorau yn cael ei normaleiddio. Mae'r ddau gorff bellach wedi sefydlu deiseb i gael rhywbeth wedi'i wneud ynglŷn â gofal mewn coridorau ar ôl rhoi cynnig ar wahanol fesurau yn y gorffennol i roi pwysau ar y Llywodraeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cydnabod pryderon miloedd o feddygon a nyrsys yn ein GIG ynghylch gofal mewn coridorau? Ac yn ail, pryd fyddwn ni'n gweld enillion yn sgil y miliynau o bunnoedd yr ydych yn ei fuddsoddi i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ond heb ddiwedd yn y golwg? 

Wel, rwy'n cydnabod y pryderon hynny ac yn eu rhannu. Pan fyddwch yn mynd i ymweld ag adrannau brys ac yn gweld cleifion mewn cadeiriau yn enwedig, neu ar drolïau yn y coridor, mae'n ofidus iawn i gleifion. Mae hefyd yn ofidus iawn i staff, a dyna pam y mae'r ddeiseb wedi'i geirio yn y ffordd y cafodd ei geirio. Felly, nid oes amheuaeth am hynny, ac yn amlwg, dyna pam nad ydym yn cefnogi hynny fel ffordd reolaidd o ddarparu gofal.

Mae'r Aelod yn siarad am y buddsoddiad yn y system. Yr hyn yr ydym wedi bod yn buddsoddi ynddo, yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion adrannau brys eu hunain sydd weithiau'n rhai cyfalaf ac weithiau'n rhai refeniw ychwanegol, yw gwneud yn siŵr y gallwn wella'r llif trwy ysbytai, a dyna mewn gwirionedd, yn sylfaenol, yw'r rheswm pam y mae hyn yn digwydd—nid oedd digon o gapasiti mewn mannau eraill yn yr ysbyty i allu symud claf i'r lle priodol iddynt gael gofal. Felly, yn enwedig yng nghyd-destun Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn recriwtio. Maent wedi llwyddo i recriwtio chwe meddyg ymgynghorol brys newydd yn ddiweddar iawn, sy'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr, oherwydd gallant wneud penderfyniadau clinigol lefel uwch yn gyflymach. Maent hefyd wedi creu gwasanaeth cyswllt toresgyrn pwrpasol ac wedi ehangu'r gwasanaeth gofal argyfwng yr un diwrnod—sydd oll yn ffyrdd o wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael eu gweld a'u trin heb gael eu derbyn i'r ysbyty, sef y flaenoriaeth yr ydym am allu ei rhoi. 

Bu rhai gwelliannau yn y pwysau ar yr adran achosion brys yn rhai o'r ysbytai yn Aneurin Bevan. Nawr, yn amlwg, mae'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio yn dal i fod yn realiti yn rhy aml, ac rydym wedi ymrwymo, trwy'r cyllid sydd gennym a'r gwaith a wnawn gyda byrddau iechyd, gyda chynghorau hefyd, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwella llif mewn ysbytai, rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn gyflym, a chreu capasiti ychwanegol i bobl allu mynd i'r lle yn yr ysbyty lle gallant gael y gofal gorau. Rydym yn gweld tueddiadau cadarnhaol o ran gallu rhyddhau'r capasiti hwnnw, rhyddhau pobl yn ddiogel. Mae'r darlun eleni gryn dipyn yn well na'r darlun y llynedd. Felly, rydym am i fyrddau iechyd a chynghorau gynyddu eu hymdrechion, gan weithio gyda'i gilydd, i ganolbwyntio ar y pethau y gwyddom—y mae gennym dystiolaeth gref—eu bod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac y gallwn eu gweld eisoes yn dechrau cael effaith gadarnhaol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gofal mewn coridorau'n wirioneddol ddiurddas, yn annynol ac yn gwbl annerbyniol yn 2026—yn 2025 yn ogystal â 2026. Fel perthynas agosaf i rywun sydd wedi cael gofal mewn coridor fy hun, rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi cael e-byst gan bobl bryderus sydd wedi gweld eu hanwyliaid yn cael gofal mewn coridorau, ac mae'n rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth Lafur fynd i'r afael ag ef ac yn gyflym. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi lansio deiseb i roi diwedd ar ofal mewn coridorau, y byddwn yn annog nid yn unig fy etholwyr, ond Aelodau yn y Siambr hon, i'w llofnodi hefyd.

Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at ofal mewn coridorau, ond yr un rwyf am ganolbwyntio arno gyda chi heddiw yw lleddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys gydag atal ac ymyrraeth gynnar. Rwyf wedi cael llawer o etholwyr yn cysylltu â mi ers imi fod yn gwneud y swydd hon ynglŷn â sut y maent wedi cael eu gorfodi i ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys neu uned mân anafiadau am nad ydynt wedi gallu cael apwyntiad i weld meddyg teulu. Roedd rhaid i ferch ifanc un etholwr fynd yn ddiangen i'r adran damweiniau ac achosion brys, yn rhannol am nad oedd y practis meddyg teulu yng Nghasnewydd yn gallu gwneud profion gwaed i blant dan 10 oed. Yna, cafodd ei hatgyfeirio i Ystrad Fawr am brofion gwaed llawn, ond nid oedd ganddynt apwyntiad am bedair wythnos arall, felly fe benderfynodd ei rhieni fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Nid dyma'r unig achos allan yno, ac mae hyn i gyd yn ddi-os yn rhoi straen diangen ar ein hysbytai. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys drwy flaenoriaethu atal, ac yn y pen draw, ymyrraeth gynnar? Diolch.

14:55

Wel, rwy'n credu y bydd rhai o'r pwyntiau a wneuthum yn fy ateb i Peredur Owen Griffiths wedi taflu rhywfaint o oleuni ar hynny, gobeithio. Soniais am ehangu darpariaeth gofal brys yr un diwrnod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y gwn y bydd yn arbennig o berthnasol i'r Aelod, ac a welodd 1,400 o gleifion fis diwethaf, ac roedd modd trin a rhyddhau 80 y cant o'r rheini ar yr un diwrnod. Felly, rydym yn eisiau gweld mwy o hynny. Mae'r gwasanaeth cyswllt toresgyrn yn enghraifft arall o sut y gellir trin pobl mewn ffordd bwrpasol iawn fel nad oes rhaid iddynt aros mewn adrannau brys, am amser hir weithiau.

Mae'r pwynt ehangach y mae'n ei wneud ynglŷn â sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn y gymuned yn bwynt pwysig. Fe fydd hi'n gwybod bod gennym uchelgeisiau i gynyddu presenoldeb diagnosteg yn arbennig—fe wnaeth hi grybwyll hynny yn ei chwestiwn—mewn lleoliadau gofal sylfaenol, ac rydym yn gweithio gyda'r BMA ar hyn o bryd ar sut y gallwn ddatblygu model ar lefel clwstwr ar gyfer sicrhau bod mwy o ddiagnosteg ar gael yn y gymuned, sy'n swnio fel rhywbeth a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth i'r etholwr y siaradodd amdanynt.

Yn ogystal â hynny, roeddwn yn falch ein bod wedi gallu cefnogi practisau meddygon teulu gyda thaliad sefydlogi eleni i ddileu rhywfaint o'r pwysau y maent yn ei deimlo, ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff nad yw'n gyfres hirdymor o bwysau. Un o'r heriau yr ydym yn aml yn ei gweld sy'n achosi i bobl ddod i'r adran damweiniau ac achosion brys pan fyddent fel arall wedi bod yn fodlon iawn i weld eu meddyg teulu, yw'r cwestiwn ynghylch gofal parhaus, gweld yr un ymarferydd meddygol. Ac felly, rydym yn gweithio—. Ym mis Ebrill eleni, fe wnaethom lansio dull gwella ansawdd newydd, gan weithio gyda phractisau meddygon teulu fel y gallant dargedu'r garfan eithaf bach o bobl ag amrywiaeth o gyflyrau cronig neu ofynion arbennig o heriol fel y gallant gael gofal parhaus. Dros amser, hoffwn i hynny ddod yn ddisgwyliad i bawb, fel yr oedd yn y gorffennol. Rwy'n ofni y bydd hynny'n cymryd peth amser, ond trwy ganolbwyntio ar y rhai sydd ag angen penodol, gallwn ddiwallu eu hanghenion yn well a lleddfu peth o'r pwysau ar y system.

Perfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad Ebrill 2025 gan grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant GIG Cymru ar drigolion sir Fynwy? OQ62652

Mae ymateb y Llywodraeth i'r grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant GIG Cymru yn nodi sut y bwriadaf fwrw ymlaen â phob un o 29 o argymhellion y grŵp mewn cydweithrediad â byrddau iechyd ledled Cymru.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oes amheuaeth fod yr adroddiad yn anhygoel o anodd i'w ddarllen, ac rwy'n siŵr eich bod yn teimlo'r un fath, ond ychydig iawn o bethau annisgwyl oedd ynddo i'r rhan fwyaf ohonom. Mewn gwirionedd, yr unig beth annisgwyl oedd y ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i'r Llywodraeth Lafur sylweddoli bod ein GIG mewn trafferth, gan arwain at yr adroddiad allanol hwn i ddweud wrthynt yr hyn roedd y rhan fwyaf ohonom eisoes yn ei wybod, a'r hyn y dylent hwy fod wedi ei wybod. Mae un pryder a nodwyd yn yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o'r arian ychwanegol sydd ar gael i'n gwasanaeth iechyd yn mynd ar godiadau cyflog a phwysau chwyddiant anochel. Nawr, mae hyn yn ddealladwy, ond mae'n golygu mai ychydig iawn o'r arian sy'n mynd i'r rheng flaen i fynd i'r afael â chanlyniadau cleifion. Rwy'n siŵr fod eich mewnflwch, fel fy un i, yn llawn o gleifion yn tynnu sylw at faterion y maent wedi'u profi gyda'n GIG. Nawr, mae Llywodraeth Cymru, fel rydych chi newydd ddweud, wedi cytuno i 29 o argymhellion yr adroddiad. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yna amserlen glir ar gyfer gwella gyda thargedau a chanlyniadau mesuradwy? Dyna'r peth pwysig oherwydd, yn aml, nid ydym yn gweld y rheini yma. A phryd y gall cleifion weld manteision gwirioneddol o ganlyniad?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ynglŷn â ble mae cyllid yn mynd yn y GIG. Mae ef a'i gyd-Aelodau'n aml yn fy herio ar recriwtio i'r GIG a beth y mae hynny'n ei olygu i wasanaethau. Felly, mae'r cyllid yr ydym yn ei roi i dalu cyflogau yn y GIG yno i wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu talu'n briodol ac y gallwn barhau i recriwtio pobl. Bydd hynny'n cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau os nad ydym yn gwneud hynny. Ond rwy'n derbyn y pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â chyllid i'r system allu trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu darparu yn y ffyrdd mwyaf effeithlon ac effeithiol, ac mae hynny'n galw am elfen o fuddsoddiad pellach. Rwy'n gwybod y bydd yn croesawu'r cynnydd a wnaethom dros y misoedd diwethaf gyda chyllid ychwanegol o ganlyniad i ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan, a ffocws wythnosol ar berfformiad yn y GIG, sydd wedi gweld yr amseroedd aros hiraf yn gostwng am y trydydd mis yn olynol, ac rwy'n optimistaidd iawn am y pedwerydd mis hefyd. Felly, mae cleifion eisoes yn gweld budd rhoi ffocws ar berfformiad.

Mae rhai o'r pwyntiau sydd yn yr argymhellion yn yr adroddiad yn mynd â ni i'r lefel nesaf, yn ein helpu i gymryd y cam nesaf, ac rwyf wedi gosod y dasg i'r GIG, y targed i'r GIG, o leihau nifer yr arosiadau cleifion allanol oddeutu 200,000 dros y flwyddyn nesaf. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'ch etholwyr, fel y bydd i fy rhai innau, a hefyd yn cyrraedd y targed, sef na ddylai neb orfod aros am ddwy flynedd yn y GIG yng Nghymru, ac rwy'n hyderus fod gennym gynlluniau ar waith sy'n gallu cyflawni hynny.

15:00
Gofal Sylfaenol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal sylfaenol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62634

Mae sicrhau mynediad da at wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Rydym yn cefnogi darpariaeth gofal sylfaenol drwy ddiwygio a buddsoddi yn y contractau y mae'r byrddau iechyd yn eu defnyddio i gomisiynu'r gwasanaethau hyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf un o'r practisau meddygon teulu mwyaf yng Nghymru yn fy etholaeth, Stryd Argyle, ac er gwaethaf gwaith caled ac ymdrechion staff a'r rhai ar y llinellau ffôn, mae'n dal i fod yn ras wyllt am 8.00 a.m. wrth i bobl ffonio i ofyn am apwyntiadau, i erfyn am apwyntiadau, a chael gwybod bod yn rhaid iddynt ffonio'n ôl yfory am eu bod eisoes yn llawn o fewn ychydig funudau wedi i'r llinellau ffôn agor. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol fod hynny wedyn yn rhoi pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg yn yr etholaeth gyfagos, yn etholaeth Paul Davies, sy'n golygu bod y system iechyd gyfan yn gwegian. Felly, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod meddygfeydd fel Stryd Argyle yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i sicrhau nad yw pobl yn sgrialu am 8.00 a.m. i gael apwyntiad pan fydd ei angen arnynt, a bod pobl yn gallu cael apwyntiad mewn modd amserol?

Rydym yn gwneud llawer o bethau. Felly, yn gyntaf, fe wnaethom gyflwyno'r safonau mynediad i'r contract meddygon teulu, ddwy flynedd yn ôl rwy'n credu, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bractisau meddygon teulu gynnig mynediad drwy ystod o wahanol ffyrdd, gan gynnwys dros y ffôn, ond hefyd ar-lein ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Felly, i gefnogi'r safonau hynny, darparwyd cyllid a fydd wedi bod yn ariannu staffio mewn practisau meddygon teulu i'w galluogi i gyrraedd y targed hwnnw, targed y mae'n rhaid ei gyrraedd, i fod yn glir. Mae 97 y cant o bractisau yng Nghymru wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn cyrraedd y safon. Yr hyn a wyddom hefyd yw bod hwnnw'n asesiad hunanddiffiniedig, ac yn nhrafodaethau'r contract eleni, rydym wedi cynnal adolygiad o'r safonau mynediad hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd fesur cydymffurfiaeth yn eu herbyn.

Felly, dyna rydym yn ei wneud o ran y disgwyliad ar y system, ond mae angen inni hefyd sicrhau bod llwybrau amgen i bobl allu cael mynediad at ofal sylfaenol yn ehangach. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud gyda phresgripsiynwyr annibynnol ym maes fferylliaeth a llwybrau eraill at ofal sylfaenol, ond ar gyfer mynediad at feddygon teulu yn benodol, credaf mai dau o'r datblygiadau mwyaf cyffrous a welwn eleni yw lansio ap y GIG, rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy eisoes wedi sôn amdano, a fydd yn cefnogi'r rhai ohonom sy'n barod i ddefnyddio llwybr digidol i allu gwneud apwyntiadau, a bydd hynny'n rhyddhau capasiti i'r rhai nad ydynt yn arbennig o awyddus i ddefnyddio'r llwybr hwnnw. Ac yn ail, y pwynt a wneuthum i'ch cyd-Aelod Natasha Asghar yw y bydd gofal parhaus i'r cleifion sydd angen y mwyaf o gymorth yn newid y lefel honno o bwysau yn y system dros amser. Felly, mae gweithgarwch ar y gweill i wella mynediad i gleifion, ond hefyd i ddarparu llwybrau amgen i'r apwyntiadau hynny gael eu gwneud.

Seren Lodge

8. Pa drefniadau mae'r Llywodraeth wedi eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir yn Seren Lodge yng Nghaer yn addas ar gyfer mamau o ogledd a chanolbarth Cymru? OQ62643

Mae'r cyd-bwyllgor comisiynu a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr ar ddatblygu'r uned newydd. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd rheolaidd â phobl sydd â phrofiad bywyd i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion cleifion.

Yn ôl gwefan Cheshire and Wirral Partnership NHS Foundation Trust, fe fydd Seren Lodge yn uned arbenigol wyth gwely a fydd yn cefnogi mamau, babanod a'u teuluoedd ar draws sir Gâr, Glannau Merswy a gogledd Cymru. Maen nhw wedi bod yn recriwtio staff yn ddiweddar ar gyfer yr uned newydd yma, a'r Cheshire and Wirral Partnership NHS Foundation Trust oedd yn cynnal y broses honno. Efallai y gallwn ni gael diweddariad gennych chi ynglŷn â lle dŷn ni arni efo staffio'r uned. Ond mae'n rhaid imi ddweud, dydw i ddim yn cael fy llenwi efo hyder bod ystyriaeth wedi'i roi i'r angen am sgiliau siarad Cymraeg wrth recriwtio staff ar gyfer yr uned yma. Fedrwch chi roi sicrwydd y bydd anghenion mamau a babanod Cymraeg yn cael eu cyfarch yn briodol yn Seren Lodge?

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Siân Gwenllian. Fel y gwyddoch, yn seiliedig ar y sgyrsiau a gawsom ynglŷn â Seren Lodge a'r cyd-bwyllgor comisiynu yn comisiynu'r gwelyau yno, gofynnais iddynt gynnal adolygiad capasiti a galw i roi sicrwydd pellach ynghylch yr angen a amcangyfrifir am y gwelyau. A hoffwn ddweud heddiw fod y cyd-bwyllgor comisiynu wedi cyhoeddi'r adroddiad hwnnw bellach, ac un o'r pethau sy'n amlwg iawn ynddo yw bod rhywun sydd â phrofiad bywyd wedi rhoi tystiolaeth, gan ddweud bod ganddynt anhwylder deubegynol, a phan fydd angen cymorth arnynt, maent yn ei gael drwy'r Gymraeg, eu hiaith gyntaf, ac felly mae'n golygu llawer iddynt allu cael hynny. Ac felly nid rhywbeth braf i'w gael yn unig yw hyn, neu hyd yn oed mater o gydraddoldeb—mae'n glir iawn yn yr adroddiad fod hwn yn angen clinigol. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod hyn wedi bod yn drylwyr iawn, ac mae wedi cymryd ychydig yn hirach oherwydd hynny. Mae wedi troi'n asesiad Cymru gyfan ynghylch yr angen am uned mam a'i phlentyn. Ond roeddwn am sicrhau fy mod yn cofnodi heddiw fy mod yn ymwybodol iawn fod hynny wedi'i godi yn yr adroddiad.

Felly, bydd gan Seren Lodge gapasiti ar gyfer wyth mam a bydd yn darparu triniaeth arbenigol i fenywod sy'n wynebu heriau iechyd meddwl sylweddol yn ystod beichiogrwydd, neu i'r rhai sydd â babi o dan 12 mis oed, ac mae'r GIG yn bwriadu comisiynu dau o'r wyth gwely, er bod comisiynwyr o GIG Cymru a GIG Lloegr yn cytuno i fod yn hyblyg ac i flaenoriaethu anghenion y fam.

Mae'r uned yn cynnwys wyth ystafell wely unigol ar gyfer mamau a'u babanod, ynghyd â mynediad at ofod gweithgareddau. Ac yn ogystal, bydd llety ar gael i aelodau'r teulu sy'n teithio o bell i ymweld â'u hanwyliaid.

Gan fod yr uned wedi'i lleoli yn Lloegr, ond yn darparu ar gyfer mamau o Gymru, mae trefniadau wedi'u gwneud i sicrhau bod cleifion o Gymru yn teimlo mor gysylltiedig â phosibl, ac mae'r trefniadau hyn yn cynnwys arwyddion dwyieithog mewnol, cynlluniau gofal a thaflenni gwybodaeth wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg, ac mae ymdrechion ar waith hefyd i recriwtio'r staff sy'n siarad Cymraeg y sonioch chi amdanynt. Nid oes gennyf y wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw; roeddwn yn gobeithio y byddai gennyf. Y wybodaeth ddiweddaraf i mi ei chael oedd bod nyrsys sy'n siarad Cymraeg wedi ymgeisio am y rôl, ond nid wyf wedi cael diweddariad eto ar y broses recriwtio, er fy mod yn awyddus iawn i gael un, fel chithau. A hefyd, dylwn ddweud bod comisiynwyr GIG Cymru a GIG Lloegr hefyd wedi sicrhau bod y grŵp arbenigwyr drwy brofiad yn parhau i fod yn weithgar, ac yn cynnwys cynrychiolwyr o ogledd Cymru. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi cymaint o ddiweddariad ag y gallaf heddiw, a byddaf bob amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am gynnydd wrth inni symud ymlaen. Diolch.

15:05
Camymarfer mewn Theatrau Llawdriniaethau

9. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i adroddiadau diweddar sy'n ymwneud â chamymarfer mewn theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ62658

Rwyf wedi trafod yn y gorffennol yr hyn a oedd bryd hynny'n honiadau ynghylch rhai o'r arferion yn theatrau llawdriniaethau'r ysbyty gyda chadeirydd y bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd iechyd o ddifrif ynghylch yr honiadau, ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, mae newydd gwblhau a chyhoeddi adolygiad gwasanaeth. Rwyf wedi cael yr adroddiad a byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd i drafod y camau y bydd angen i'r bwrdd iechyd eu cymryd mewn ymateb i'r canfyddiadau hynny.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Cyffuriau, tanseilio, dwyn a hiliaeth, ymddygiad troseddol diamwys, colomennod mewn theatrau—daw hynny'n uniongyrchol o'r adroddiad a gyhoeddwyd y bore yma gan y bwrdd iechyd. Nid dyna'r adroddiad yr wyf wedi bod yn gofyn i chi yn ei gylch, sy'n ymwneud â phresenoldeb aelodau o'r cyhoedd yn y theatrau llawdriniaeth. Mae hon yn gyfarwyddiaeth o fewn y bwrdd iechyd sy'n amlwg wedi bod yn gwbl anatebol ac wedi rhoi blaenoriaeth i'r penawdau ar draul trigolion Caerdydd a'r Fro. Ble mae'r uwch-weithredwyr wedi bod o ran dwyn pobl i gyfrif a sicrhau bod amgylchedd theatrau llawdriniaethau ysbyty mwyaf Cymru yn ddiogel, yn urddasol, ac yn anad dim, yn cyflawni'r dasg y maent yn gyfrifol am ei chyflawni?

Mae'r adroddiad 22 tudalen hwn yn ddamniol a dweud y lleiaf. Ai dyma'r caneri yn y pwll glo sy'n nodi risg fwy ar ystad ehangach ysbytai ardal Caerdydd a'r Fro? A gofynnaf hynny fel Aelod rhanbarthol ac fel defnyddiwr gwasanaethau iechyd hefyd. Ac awgrymaf i chi, Weinidog, fod yr uwch-dîm yng Nghaerdydd a'r Fro yn amlwg wedi caniatáu i hyn ddigwydd, ac yn amlwg, nid oes rheolaeth ganddynt ar y sefyllfa. Mae angen ymyrraeth weinidogol uniongyrchol i adfer hyder pobl, boed yn gweithio yn yr ysbyty neu'n defnyddio'r ysbyty. Mae'r penawdau hynny'n ddamniol a dweud y lleiaf. Rwy'n galw arnoch i ymyrryd ar frys a mynd i'r afael â'r methiannau hyn o fewn y bwrdd iechyd, oherwydd yn amlwg, nid yw'r tîm rheoli presennol a'r bwrdd cyfarwyddwyr yn gallu gwneud hynny.

Fel y dywedais yn fy ymateb i Mabon ap Gwynfor yn gynharach, roedd yr adroddiad yn syfrdanol, am nifer o'r rhesymau y mae'r Aelod wedi'u nodi yn ei gwestiwn. Roeddwn yn arbennig o bryderus wrth ddarllen am y digwyddiadau yn y theatr yr adroddwyd amdanynt yn genedlaethol, digwyddiadau yr wyf eisoes wedi'u codi gyda chadeirydd y bwrdd iechyd, a hefyd nad oedd pobl yn teimlo y gallent godi llais, ac mae hynny'n gwbl hanfodol er mwyn cael diwylliant sy'n hunanwella, os mynnwch, sy'n gallu gwella'n barhaus.

Yn fy nhrafodaethau gyda'r bwrdd iechyd hyd yma, cyn cyhoeddi'r adroddiad, maent wedi dweud wrthyf fod cynllun yn cael ei ddatblygu i ymateb iddo. Rwy'n deall bod bron i draean y staff theatr wedi cyfrannu at yr adolygiad, ac fel y dywedais, mae'n amlwg yn peri pryder eu bod yn teimlo na allent roi gwybod am y pryderon hyn drwy'r systemau arferol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym hyder, ym mhob rhan o'r GIG, y gall pobl siarad yn agored drwy'r systemau hynny fel y gellir codi a mynd i'r afael â phethau. Rwy'n credu y bydd hyn wedi bod yn heriol ac yn boenus iawn i aelodau staff, ac rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd roi cymorth ar waith i fynd i'r afael â hynny, a'r elfennau niferus o'r adroddiad sy'n ymwneud â phrofiad cleifion hefyd. Fel y soniais yn gynharach, byddaf yn cyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd, a byddaf yn disgwyl clywed pa gynlluniau pendant sydd gan y bwrdd iechyd ar waith i fynd i'r afael â'r 66 argymhelliad yn yr adroddiad.

15:10
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad

Felly, eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd. Un ar ôl y llall ar ôl y llall—geiriau na feddyliais byth y byddwn yn eu dweud mewn unrhyw gyd-destun, ac yn sicr nid mewn perthynas â thri dyrchafiad olynol i fy annwyl Glwb Pêl-droed Wrecsam: pencampwyr y Gynghrair Genedlaethol yn 2022-23, dyrchafiad o'r ail adran yn 2023-24, ac yn anhygoel, dyrchafiad o'r adran gyntaf yn 2024-25. Wrecsam yw'r clwb pêl-droed cyntaf yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr i gyflawni'r gamp anhygoel hon.

Y tro cyntaf imi weld Wrecsam yn chwarae oedd ar y Cae Ras ar 22 Ionawr 1972. Dros 50 mlynedd a nifer fawr iawn o gemau yn ddiweddarach, gallaf ddweud yn onest nad wyf erioed wedi profi awyrgylch fel yr wythnos diwethaf pan gurodd Wrecsam Charlton Athletic 3-0 i ennill dyrchafiad i bencampwriaeth yr EFL.

Mae pawb sy'n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn haeddu canmoliaeth aruthrol—chwaraewyr, staff, hyfforddwyr, perchnogion a'r cefnogwyr—ond hoffwn dynnu sylw'n benodol at ein rheolwr, Phil Parkinson. Mae Phil yn gyfarwydd i lawer drwy raglen ddogfen Welcome to Wrexham am siarad â'i dîm yn groch a chan ddefnyddio iaith liwgar yn aml, ac mae wedi adeiladu tîm sydd wedi cyflawni cymaint ar y cae, tra bo'r clwb yn gwneud gwaith ysbrydoledig yn y gymuned. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad sylweddol ein perchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds. Mae eu hymdrechion a'u heffaith gadarnhaol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r effaith ariannol, ac yn parhau i fod o fudd nid yn unig i'r clwb, ond i'r ddinas ei hun a'r ardal gyfagos. Ar ôl 15 mlynedd yn y Gynghrair Genedlaethol, lle bu Wrecsam, y trydydd clwb proffesiynol hynaf yn y byd, yn aml yn ymladd i oroesi, bydd pob un o gefnogwyr ein clwb gwych wedi mwynhau'r tri thymor diwethaf anhygoel hyn. Rwy'n dal i fethu credu beth sydd wedi'i gyflawni hyd yma, a pha lwyddiant pellach a allai fod yn bosibl. Carwn feddwl, er mor annhebygol y gallai fod, yr adeg hon y flwyddyn nesaf y gallem fod yn dathlu un dyrchafiad ar ôl y llall ar ôl y llall ar ôl y llall. Diolch.

Diolch yn fawr. Eleni, bydd dinas Bangor yn dathlu ei phen-blwydd yn 1,500 oed, carreg filltir arbennig i gymuned ddygn, unigryw a lliwgar. Ond efallai nad ydy'r tîm pêl-droed ddim cweit yn yr un lle â Wrecsam ar hyn o bryd.

Mae gwreiddiau Bangor yn dyddio'n ôl i'r chweched ganrif pan sefydlodd Sant Deiniol fynachlog, a ddaeth yn ddiweddarach yn eglwys gadeiriol Bangor. Roedd y fynachlog yn un o'r safleoedd Cristnogol cynharaf yng Nghymru, ac ers hynny mae'r ddinas wedi bod yn ganolog yn hanes ein gwlad ni.

Tyfodd Bangor yn sylweddol oherwydd y diwydiant llechi, efo chwarel y Penrhyn gerllaw ymhlith y mwyaf yn y byd. A daeth Bangor yn ganolfan allweddol ar gyfer addysg a diwylliant, a sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884. Heddiw, mae Bangor yn parhau i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac academaidd bwysig.

Ond yn ogystal â dathlu hanes cyfoethog y ddinas, mae'r achlysur pen-blwydd yn gyfle pwysig i ddathlu Bangor heddiw. Fel pob dinas arall, mae’n wynebu ei heriau, ond dyma gymuned sy’n gwrthod rhoi’r ffidil yn y to, a chymuned sy’n llawn pobl dda sy’n rhoi o’u hamser i weld Bangor yn ffynnu. O grŵp cymunedol Maestryfan i Bartneriaeth Maesgeirchen, i Ffrindiau Pier y Garth, mae pawb wrthi efo tân yn eu boliau dros y ddinas hynod yma. Ac mae yna ddyfodol llewyrchus a chyffrous yn wynebu Bangor. Pen-blwydd hapus.

15:15

Dydd Sadwrn 3 Mai oedd Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg, atgof pwerus o pam mae amddiffyn gwasg rydd ac annibynnol yn bwysicach nag erioed. Daw coffâd eleni ar adeg o berygl cynyddol i newyddiadurwyr. Yn ôl y Pwyllgor i Ddiogelu Newyddiadurwyr, lladdwyd o leiaf 124 o newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau yn 2024 yn unig, y nifer uchaf mewn 30 mlynedd. O Sudan i Myanmar, Belarws i Gaza, mae newyddiadurwyr yn wynebu aflonyddu, carchariadau a distewi cynyddol. Mae symbolaeth amddiffynnol fest las y wasg bellach yn cael ei gweld gan lawer o ohebwyr fel targed.

Yma yng Nghymru, mae gennym ein straeon ein hunain sy'n ein hatgoffa o ddewrder a chost herio'r rhai sydd mewn grym. Rydym yn anrhydeddu dewrder newyddiadurwyr fel James Miller, y gwneuthurwr ffilmiau o Gymru a laddwyd gan luoedd Israel wrth ddogfennu bywydau plant yn Gaza yn 2004. Rydym yn cofio Gareth Parry, a fu farw y llynedd, gohebydd rhyfel a wynebodd rwystrau bwriadol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystod Rhyfel y Falklands. Ac rydym yn dathlu Jon Mitchell, y mae ei newyddiaduraeth ymchwiliol arobryn wedi taflu goleuni ar achosion o ddympio deunydd gwenwynig gan fyddin yr Unol Daleithiau yn Okinawa.

Wrth inni fyfyrio ar yr aberthau a wnaed gan newyddiadurwyr ledled y byd, mae’n rhaid inni ailymrwymo i amddiffyn newyddiaduraeth fel lles cyhoeddus. Rhyddid y wasg yw conglfaen cymdeithasau democrataidd, amddiffynfa hawliau dynol a llais y rheini sydd heb lais. Diolch yn fawr iawn.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Cynnig sydd nesaf i ethol Aelod i bwyllgor. Galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NNDM8897 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Jane Hutt 15:17:31
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr'

Eitem 5 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Cadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cynnig, John Griffiths.

Cynnig NDM8887 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ein hymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rheini o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr a rannodd eu profiadau personol gyda ni.

Lywydd, ym mis Awst 2022, cyhoeddwyd adroddiad gennym ar ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Gwnaethom 21 o argymhellion, a derbyniwyd pob un ohonynt gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ym mis Mehefin 2023, clywsom gan Teithio Ymlaen, gwasanaeth eiriolaeth, a ysgrifennodd atom yn cwestiynu cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion hynny. Roeddent yn dweud:

'Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw un o'r argymhellion yn adroddiad eich pwyllgor wedi'u rhoi ar waith eto.'

Felly, fe wnaethom benderfynu cynnal ymchwiliad dilynol byr i gasglu barn rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned.

Mae ein hadroddiad dilynol yn gwneud 10 argymhelliad. Mae naw o'r rheini wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru ac un wedi'i dderbyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, fel rwyf newydd sôn, derbyniwyd ein holl argymhellion blaenorol, ond er hyn, roedd yn amlwg o'n gwaith mwy diweddar mai cynnydd cyfyngedig iawn a wnaed ar ddiwallu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Roedd hyn yn arbennig o amlwg o'n grŵp ffocws gydag aelodau o'r gymuned. Roedd consensws mai ychydig iawn o gynnydd a welsant, os o gwbl. Fel pwyllgor rydym yn siomedig iawn ynglŷn â hyn, ac yn awyddus i'w weld yn cael ei unioni ar frys. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o'r fath a brofir gan un o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Rwy'n croesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad dilynol, ond mae angen inni weld—mae gwir angen inni weld—camau ymarferol ar lawr gwlad. Dyna sy'n bwysig mewn gwirionedd.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Roedd diffyg darpariaeth dros dro yng Nghymru yn thema gyffredin yn ein gwaith gwreiddiol a'n gwaith dilynol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym mewn sesiwn dystiolaeth ar lafar fod saith llain dramwy ar gael yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond dwy lain a geir yn ôl y data diweddaraf. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud bod yr asesiadau diweddaraf o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr wedi nodi pedair ohonynt, ond mae'r ymateb yn nodi na chafodd dwy o'r rhain eu nodi yn y cyfrif carafanau am nad ydynt ar gael mewn ffordd agored ac sy'n hysbys i aelodau o'r gymuned sydd â phatrwm teithio nomadaidd.

Mae hyn yn peri pryder, o ystyried bod taer angen darpariaeth dramwy. Clywsom fod yna Sipsiwn a Theithwyr sy'n awyddus i barhau â'r traddodiad teithio ond bod hynny'n llawer anos a thrafferthus bellach oherwydd bod pobl yn gofyn iddynt symud o hyd, diffyg cyfleusterau gwaredu gwastraff a thoiledau, ac yn aml, ymateb negyddol gan y gymuned ehangach. Mae angen i'r gwaith i gynyddu'r ddarpariaeth dramwy symud ymlaen yn gyflym a thrwy ymgynghori â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Daeth cyflwr safleoedd awdurdodau lleol i’r amlwg fel y brif thema yng ngwaith ein grŵp ffocws. Rhannodd cyfranwyr enghreifftiau o safleoedd mewn cyflwr gwael a phroblemau gyda llygredd a llygod mawr, ac fe wnaethant amlinellu'r effaith y mae hyn yn ei chael ar lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy’n byw ar y safleoedd hyn, gydag un cyfrannwr yn dweud ei fod yn dinistrio bywydau pobl. Roeddem yn siomedig iawn o glywed am safleoedd a oedd mewn cyflwr mor wael. Mae pobl yn haeddu llawer gwell, ac mae angen i awdurdodau lleol flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw. Rydym yn croesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ei bod wedi rhoi rhaglen fonitro ar waith a bod cyllid ar gael ar gyfer gwelliannau i safleoedd. Rwy’n sicr yn gobeithio y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio.

Nodaf hefyd fod yr ymateb yn dweud bod swyddogion yn archwilio sut y gellid defnyddio'r grant cyfalaf safleoedd i gefnogi datblygiad safleoedd preifat. Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom y byddai aelodau'r gymuned yn hoffi bod yn berchen ar eu safleoedd eu hunain, a'u rhedeg a'u rheoli. 'Mae angen inni gael rheoli ein bywydau ein hunain' oedd y neges. Roedd cyfranwyr eraill yn cytuno y byddai eu hamgylchiadau byw yn llawer gwell pe baent yn gallu bod yn berchen ar eu safleoedd eu hunain a’u rheoli. Roeddem yn siomedig o glywed yn ystod ein hymchwiliad nad oedd y rhaglen beilot i ddarparu cyngor i'r rhai sy'n ceisio datblygu safleoedd preifat wedi symud ymlaen. Felly, rydym yn falch fod y cynllun peilot wedi dechrau fis diwethaf, er bod hynny'n digwydd flynyddoedd lawer ar ei hôl hi wrth gwrs.

Ddirprwy Lywydd, ymddengys yn aml nad yw anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu blaenoriaethu. Nid yw pethau'n cael eu datblygu gydag unrhyw ymdeimlad o frys. Roeddem yn bryderus iawn o glywed gan aelodau o'r gymuned eu bod yn teimlo casineb tuag atynt weithiau gan gymunedau ehangach, ond hefyd gan swyddogion awdurdodau lleol. Clywsom fod teimlad yn aml nad oes diddordeb mewn Sipsiwn ac na fu unrhyw welliant yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu, gyda swyddogion cyngor yn aml yn methu mynychu cyfarfodydd, er enghraifft. Disgrifiodd rhai eu bod yn cael eu trin fel gwrthodedigion a dinasyddion eilradd. Ni ddylai unrhyw un deimlo fel hyn. Mae angen inni weld gwelliant ar frys yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'r cymunedau hyn yn y gobaith y bydd hefyd yn gwella dealltwriaeth y gymuned ehangach o anghenion a ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.

Rydym yn nodi'r diweddariad i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'r camau gweithredu diwygiedig yn ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n mawr obeithio y byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae gwir angen gweld cynnydd, o ran datblygu a chynnal a chadw safleoedd, a hefyd o ran ymgysylltiad awdurdodau lleol—cynnydd y gwelwyd ei angen yn fawr ers gormod o amser. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd, yn enwedig Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, i ddiogelu'r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

I gloi fy araith agoriadol, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr adroddiad hwn sydd ei angen yn daer yn fy marn i? Ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.

15:25

Hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i'n Cadeirydd gwych, y clerc a thîm y pwyllgor a'r holl ASau a fu'n bresennol wrth lunio'r adroddiad hwn a chymryd tystiolaeth ar ei gyfer; yn anffodus, nid oeddwn yn un ohonynt. Ond yn anffodus hefyd, ychydig iawn o gynnydd a wnaed, fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi'i nodi, gan Lywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â'r materion cymhleth, a sensitif yn aml, ynghylch llety i Deithwyr yng Nghymru. Mae llawer o deuluoedd yng nghymuned y Teithwyr sydd angen llety addas, ond mae pryderon hirdymor hefyd gan drigolion lleol ynghylch ble y caiff safleoedd eu lleoli, a sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud. Ac fel y nodir yn yr adroddiad dilynol, mae'r asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i fod i arwain gwaith cynllunio, ond maent yn anfynych ac yn aml wedi dyddio. Mae hyn yn tanseilio dibynadwyedd y llety sydd ar gael ac yn ei gwneud yn anodd cynllunio'n gyfrifol.

Mae argymhellion 2 a 3 yn canolbwyntio ar ddarpariaeth safleoedd, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf, ac yn y cyfamser, mae safleoedd wedi'u lleoli mewn mannau sy'n codi pryderon dilys; mae rhai ohonynt yn rhy agos at ffyrdd prysur, rhai heb seilwaith priodol, neu mewn mannau amhriodol iddynt hwy a/neu'r trigolion. Rhaid bod yn fwy gofalus wrth nodi lleoliadau priodol, nid yn unig i ddiwallu'r angen, ond i osgoi ysgogi tensiynau cymunedol. Rhaid i'r broses fod yn dryloyw ac yn deg a rhaid i gymunedau deimlo bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried. Hefyd, mae diffyg safleoedd tramwy—dim ond dwy ledled Cymru gyfan—sy'n cyfrannu at densiynau rhwng cymunedau, gyda gwersylloedd heb eu hawdurdodi yn rhoi pwysau ar wasanaethau lleol a mannau cyhoeddus. Ond unwaith eto, mae angen atebion cytbwys er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, nid penderfyniadau o'r brig i lawr sy'n anwybyddu cyd-destun a theimladau lleol. Mae'r cyswllt â chymuned y Teithwyr yn anghyson, ond felly hefyd y cyswllt â'r cymunedau sefydlog yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau hyn.

Mae argymhellion 5 a 7 yn dangos bod y system grantiau cyfalaf yn aneglur ac yn cael ei thanddefnyddio, a gwelwn hyn o'r nifer syfrdanol o isel o geisiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

I gloi: mae'n bwysig fod gan gymunedau'r Teithwyr safleoedd diogel a glân wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, a bod unrhyw safleoedd newydd yn cael eu datblygu yn y lle iawn ac wedi'u cefnogi gan y gymuned ehangach. Diolch.

Mae hon yn sefyllfa bryderus iawn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y 21 argymhelliad o adroddiad 2022, ychydig iawn, iawn o wir gynnydd sydd wedi cael ei wneud. A sut gall y Llywodraeth gyfiawnhau'r diffyg gweithredu yma? Mae'r cyllid ar gael, felly nid dyna ydy'r broblem. Mae'r cynnydd yn llawer rhy araf i gymuned sydd wedi bod yn aros ers degawdau am lety digonol. Mae'r asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr wedi methu ag adlewyrchu gwir anghenion y cymunedau, gan adael llawer o deuluoedd mewn amodau byw annerbyniol, ac mi oedd o'n bwerus iawn clywed yn uniongyrchol gan leisiau'r gymuned hon yn ystod yr ymchwiliad gan y pwyllgor, a'r lleisiau rhieni sydd yn fy meddwl i y prynhawn yma wrth inni drafod yr adroddiad yma. A fedrwn ni ddim derbyn sefyllfa lle mae Sipsiwn a Theithwyr yn byw mewn amodau sydd nid yn unig yn is-safonol, ond sydd hefyd yn groes i'w hawliau dynol nhw.

Roedd 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' Llywodraeth Cymru yn addo gwella amodau ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond, erbyn canol 2023, doedd yna ddim un o'r camau gweithredu allweddol wedi cael ei chyflawni—eto, cwbl annerbyniol, a cwbl annealladwy hefyd, oherwydd mi oedd cyllid ar gael. Mae'r gymuned, yn ddealladwy iawn, wedi cael ei siomi ac wedi cael ei gadael i lawr gan ddiffyg gweithredu'r Llywodraeth. Yn glir, felly, yn hollol amlwg, felly, dydy cael cynlluniau ar bapur pan fydd y realiti ar lawr gwlad yn hollol wahanol ddim yn ddigon da. Mae'n rhaid i'r cynlluniau gael eu troi yn weithrediad neu mi fydd y gymuned yma yn dal i fod yn dioddef o esgeulustod. Dwi yn falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion yr adroddiad diweddaraf yma, ond gobeithio, y tro yma, y byddwn ni yn gweld gweithredu. Mae'n rhaid i ni weld hynny, a gweithredu ymarferol, a hynny'n digwydd ar fyrder, er mwyn adfer ffydd y gymuned fregus yma yng ngallu'r Llywodraeth yma i gyflawni ar ei rhan.

15:30

Cymerais ran yn ymchwiliad a dadl flaenorol y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ym mis Tachwedd 2022, ac rwy'n falch fod y cyfyngiadau a'r meini prawf cyllido cyfalaf wedi newid ers hynny. Rwy'n cofio ar un safle fod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio gan yr awdurdod lleol i wella'r ffordd fynediad, ond y byddai'r trigolion wedi hoffi i'r cyllid gael ei ddefnyddio ar ddarpariaeth chwarae ac ar dacluso'r safle.

Mae safleoedd yn aml ar gyrion ardaloedd, i ffwrdd o amwynderau, heb balmentydd i'w cysylltu'n ddiogel. Roedd llawer o goncrit a ffensys bariau metel, nid oeddent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, gyda phrinder mannau gwyrdd a darpariaeth chwarae i blant. Mae eu lleoliad wrth ymyl ffyrdd prysur a safleoedd diwydiannol, fel yr un yma yng Nghaerdydd, yn golygu bod sŵn a llygredd aer yn broblem go iawn. Roedd gan un lle y gwnaethom ymweld ag ef un mesurydd trydan wrth y fynedfa i'r safle a cheblau estyniad yn cysylltu carafanau â'r ddarpariaeth drydan ar wahanol bwyntiau. Roedd y cysylltedd band eang hefyd yn wael mewn mannau.

Dylid ymgynghori â chynrychiolwyr y gymuned wrth gynllunio lle dylai safleoedd fod fel rhan o broses y cynllun datblygu lleol, a hefyd pan fydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael ar gyfer darparu safleoedd.

Mae rhai cynghorau'n cymryd amser hir i wneud atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw. Rwy'n cofio bod gan gartref yr ymwelsom ag ef ffenestr wedi torri, ac roedd gan un arall gwteri aneffeithiol ar gyfer dŵr wyneb—roedd wedi bod felly ers amser maith. Mae preswylwyr yn talu rhent am eu safleoedd, yn union fel unrhyw denant arall, ac maent yn ddarostyngedig i dreth gyngor, rhent, nwy, trydan, a thaliadau cysylltiedig eraill, yn yr un modd â chymunedau a thrigolion sefydlog. Roeddwn i'n meddwl wedyn y dylai'r safleoedd drosglwyddo i'r cyfrif refeniw tai, ochr yn ochr â thai cymdeithasol eraill, fel bod rhent yn cael ei neilltuo a'i ailfuddsoddi, ac yna gellid gwella eu safon. Ni allwn weld ymateb gan Lywodraeth Cymru yn egluro lle mae'r incwm rhent o fewn cyllidebau awdurdodau lleol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael ymateb ar hynny.

Nid yw Teithwyr bob amser eisiau safleoedd awdurdodau lleol; hoffent gael eu safleoedd preifat eu hunain, ar dir sy'n eiddo iddynt. Rwy'n cofio ymweld ag un safle preifat, yr oeddent am ychwanegu ato ar gyfer eu teulu a oedd yn tyfu, dim ond un neu ddwy garafan arall, fel y gallai'r teulu aros gerllaw. Roedd un o'r plant, neu'r wyrion, yn byw gydag anableddau difrifol, ac roedd angen cymorth teuluol arnynt. Ond mae cynllunio'n cymryd amser hir ac mae'n ddadleuol—rydym i gyd yn gwybod hynny. Felly, rwy'n credu bod angen inni gael mwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gyda'r gymuned estynedig o gwmpas, lle mae safleoedd rhyngddynt, er mwyn helpu i chwalu rhwystrau ac adeiladu cydlyniant cymunedol.

Yn ddiweddar, cyfarfu Aelodau eraill o ogledd Cymru, Sam Rowlands a Jack Sargeant a minnau ag arweinwyr gwleidyddol a swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Maent wedi darparu safleoedd wedi'u dyrannu yn ôl yr anghenion a aseswyd, ond maent bellach yn wynebu heriau sylweddol gyda 15 o safleoedd anghyfreithlon yn yr ardal. Mae'r rhain yn safleoedd sydd wedi'u prynu ond heb gael caniatâd cynllunio, ac mae 10 ohonynt wedi'u sefydlu mewn blwyddyn. Gall y rhain gymryd blynyddoedd i'w datrys a chreu pwysau ar adnoddau'r cyngor, ac unwaith eto, maent yn ofid i'r gymuned leol. Dywedodd cynghorydd wrthyf fod y safle'n ddi-fai, ond nid oeddent wedi cael caniatâd cynllunio, ac roedd yn ofid i'r gymuned sefydlog am eu bod yn dweud nad oedd y sefyllfa'n deg. Dyma pam y mae angen inni gael swyddogion amrywiaeth mewn cynghorau.

Roeddwn yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol am gyfarfod â ni ac am drefnu trafodaeth rhwng Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Fodd bynnag, maent yn cael trafferth gyda chapasiti, ac felly hefyd y llysoedd. Hoffwn weld mwy o gefnogaeth i gynghorau fel Cyngor Sir y Fflint, sydd wedi gwneud y peth iawn trwy gael cynllun datblygu lleol wedi'i fabwysiadu sydd â safleoedd wedi'u dyrannu, ond maent yn ymdopi â phwysau anghymesur o'i gymharu â siroedd eraill, ac mae angen iddynt helpu gyda chydlyniant cymunedol, a deall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn byw, fel y gall pawb gyd-fyw'n llawer gwell. Diolch.

15:35

Rwy'n falch o fod yn rhan o'r pwyllgor a edrychodd yn wreiddiol ar y ddarpariaeth ar gyfer yr adroddiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y tymor Senedd hwn. Rwy'n cydnabod bod yna fersiwn fwy gwreiddiol o'r adroddiad hwnnw hefyd. Rwy'n siŵr ei bod yn rhwystredig i Gadeirydd y pwyllgor deimlo bod angen ail-adolygu’r mater yn rheolaidd, a'r ffaith ei fod yn fater nad yw wedi diflannu yn yr amser ers yr adroddiad gwreiddiol, gydag adroddiad yn y tymor Senedd hwn, a nawr mae gennym drydydd adroddiad—o leiaf trydydd, efallai nad wyf yn gwybod am rai eraill a gafwyd yn y gorffennol.

Roeddwn eisiau adeiladu ar bwynt y mae Carolyn Thomas newydd ei godi, sef tybed a fu bwlch yn rhywfaint o'r dystiolaeth a gafodd y pwyllgor gan awdurdodau lleol sy'n mynd y tu hwnt i'r galw, fel sir y Fflint. Fel yr amlinellodd Carolyn Thomas, mae'n awdurdod lleol sydd â chynllun datblygu lleol ar waith i ddarparu'r lefel gywir o angen canfyddedig o lety Sipsiwn a Theithwyr, ond caiff ei lyffetheirio gan nifer sylweddol o safleoedd anghyfreithlon, sydd wedi mynd â llawer iawn o adnoddau swyddogion—swyddogion gweithgar a llawn bwriadau da—sy'n gwneud eu gorau glas i ymdopi mewn sefyllfa anodd.

Fel yr amlinellodd Carolyn Thomas, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod ymdrin â 10 safle anghyfreithlon, cyfanswm o 15 ar hyn o bryd, ac yn anffodus, mae'n achosi tensiynau cymunedol go sylweddol, oherwydd fe geir canfyddiad nad yw'r cyngor yn symud ar y cyflymder y dylai ei wneud. Ond mae'n edrych fel pe bai llawer o'r problemau'n deillio o'r broses y mae'n rhaid iddynt ei dilyn, sy'n golygu ei bod yn cymryd hyd at bum mlynedd i ymdrin ag un o'r safleoedd hyn. Nid yw'n dda i'n cymuned Sipsiwn a Theithwyr, oherwydd fe gaiff canfyddiadau penodol eu ffurfio yn eu cylch. Nid yw'n dda i'n cymuned leol, oherwydd maent yn mynd yn rhwystredig. Nid yw'n dda i'n hawdurdodau lleol, oherwydd cânt eu llyffetheirio gan lawer iawn o waith ychwanegol, ac mae ein cynghorwyr lleol hefyd yn mynd yn rhwystredig, oherwydd cânt eu beirniadu am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ddiffyg cynnydd.

Felly, tybed a allai'r Cadeirydd ymateb tuag at ddiwedd y ddadl, trwy ystyried a fu bwlch yn rhywfaint o'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan y cynghorau sy'n gwneud y peth iawn—sy'n rhoi mesurau ar waith a ddylai weithio, yn ddamcaniaethol—ond mae yna broblemau o fewn y broses a'r system sy'n cymryd llawer iawn o'u hamser a'u hadnoddau oddi wrth yr hyn y maent eisiau ei wneud, sef cefnogi ein cymunedau'n briodol beth bynnag yw natur y cymunedau hynny yng Nghymru.

Ac rwyf eisiau talu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet a diolch iddi am roi amser i gyfarfod â mi, Carolyn Thomas a Jack Sargeant, fel Aelodau gogledd Cymru, gyda chynghorwyr sir y Fflint a'u swyddogion, i gael trafodaeth onest ac agored am y mater pwysig hwn. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu ei drafod ar sail drawsbleidiol a chael sgwrs aeddfed am rai o'r heriau a wynebir ar hyn o bryd.

Rwy'n deall, Ddirprwy Lywydd, fod hyn yn ymwneud yn benodol â'r adroddiad sydd o'n blaenau heddiw, felly fe wnaf sylwadau ar adran 6 o'r adroddiad. Teitl rhan 6 yw 'Capasiti ac adnoddau', ac rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelodau yng ngogledd Cymru fod her i awdurdodau lleol mewn perthynas â chapasiti ac adnoddau yn y maes hwn. Ond a yw rhan o'r her honno gyda chapasiti ac adnoddau'n deillio o'r sefyllfa rwyf newydd ei ddisgrifio, lle mae swyddogion ymroddedig yn cael eu dal mewn system a phroses sy'n hirwyntog iawn, ac sydd â mesurau ychwanegol o safbwynt cynllunio, amddiffyniadau ychwanegol. Rwy'n deall y rhesymau dros yr amddiffyniadau hynny, ond mae'n achosi straen sylweddol ar adnoddau, y gellid eu dyrannu'n fwy effeithiol yn fy marn i.

Nodaf hefyd argymhelliad 10 y mae'r pwyllgor wedi'i gyflwyno yma heddiw, sydd ond wedi ei dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, sef sicrhau bod gan bob awdurdod lleol swyddog cyswllt Sipsiwn a Theithwyr. Rwy'n credu y gallai dyrannu adnodd o'r fath fynd rywfaint o'r ffordd tuag at greu capasiti yn ein hawdurdodau lleol, fel nad ydym yn parhau i weld y tensiwn y mae pawb ohonom yn ceisio'i leddfu. Mae'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr eisiau gwneud pethau yn y ffordd iawn; mae ein cymunedau sefydlog eisiau sicrhau bod eu cymdogion yn gwneud pethau yn y ffordd iawn hefyd; ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein hawdurdodau lleol wedi'u cefnogi i allu gwneud hyn yn iawn.

Felly, rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgor, ac rwy'n gobeithio er mwyn y Cadeirydd na fydd raid iddo barhau i ddod yn ôl i'r Siambr hon i barhau i godi'r un materion dro ar ôl tro. Diolch yn fawr iawn.

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad dilynol pwysig hwn, sy'n adlewyrchu'r diffyg cynnydd cywilyddus ers eu hadroddiad pwysig yn 2022 ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei wneud yw ei bod hi'n bwysig inni beidio â gweld y cymunedau hyn fel un grŵp homogenaidd. Rydym yn dweud 'Sipsiwn, Roma, Teithwyr', ond mae ganddynt nodweddion, treftadaeth, traddodiadau, diwylliannau ac yn hollbwysig, anghenion gwahanol ac amrywiol. Er enghraifft, nid yw pobl Roma sy'n byw ym Mhrydain yn nomadaidd, ond maent yn dioddef gwahaniaethu a rhagfarn ac yn agored i niwed yn y maes tai. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn gyntaf sut y mae anghenion penodol pob grŵp, a'r gymuned Roma yn benodol, yn cael eu nodi a'u hystyried ar gyfer llety.

Roedd 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, yn cynnwys camau gweithredu'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â diffyg llety addas ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys treialu gwasanaeth cyngor ar ddatblygu safleoedd preifat. Roedd yn syndod darllen nad oedd unrhyw un o'r camau perthnasol wedi cael eu datblygu. Mae argymhelliad 8 o adroddiad y pwyllgor, sy'n edrych ar gyllid ar gyfer safleoedd preifat, yn un pwysig iawn er mwyn helpu i sicrhau cynnydd ar y mater hwn a ffordd o liniaru'r ffaith bod cynnydd mor fach wedi'i wneud gan awdurdodau lleol. A wnaiff y Llywodraeth egluro a yw'r cam gweithredu hwn yn parhau o fewn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol' diwygiedig? 

Cwmni budd cymunedol yw There and Back Again sy'n codi ymwybyddiaeth o Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, gan ganiatáu i unigolion sydd â phrofiad bywyd gael llais uniongyrchol. Clywsom am bwysigrwydd hynny yn yr ymchwiliad hwn gan Siân Gwenllian. Hwy hefyd yw'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr yr wyf i'n aelod ohono. Maent wedi dadlau dros ganiatáu i gymdeithasau tai gael mynediad at y grant cyfalaf safleoedd, o ystyried y diffyg cynnydd truenus gan awdurdodau lleol i ddatblygu safleoedd newydd, ac o ystyried y wleidyddiaeth sy'n gallu dylanwadu ar benderfyniadau, fel y nododd Carolyn Thomas. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y grant cyfalaf safleoedd i gymdeithasau tai yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol', ac wedi cynnwys prynu tir yn y diweddariad o'r cynllun.

Felly, a wnaiff y Llywodraeth ystyried cefnogi grwpiau fel There and Back Again i dreialu'r defnydd o'r grantiau hyn i ddatblygu mathau bach ac amrywiol o safleoedd, a allai ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o grwpiau teuluol, anghenion diwylliannol, ac addasiadau ar gyfer aelodau anabl o'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr? Er enghraifft, cefnogi'r hyfforddiant y mae There and Back Again ar fin dechrau ei dreialu gyda chymdeithasau tai. Mae'n hanfodol fod yr hyfforddiant hwn a'r dulliau hyn o weithredu mewn perthynas â chymdeithasau tai yn cynnwys ystod eang o ddealltwriaeth gan bobl sydd â phrofiad bywyd, gan ddechrau gyda sgyrsiau a chwalu rhwystrau, cael trafodaethau gonest, a allai sicrhau bod cymdeithasau tai wedyn yn teimlo'n hyderus, ac yn hollbwysig, yn gefnogol i'r syniad o ddatblygu safleoedd preifat bach o'r fath.

Er nad yw'n ateb cyflawn i'r holl anghenion sy'n galw am sylw, gallai hyn unwaith eto fynd rywfaint o'r ffordd tuag at helpu rhai teuluoedd o leiaf. Wrth gwrs, bydd yn cymryd amser, ond yn y diwedd, y teuluoedd hynny sy'n dioddef, onid e? Pobl, teuluoedd a phlant a ddylai gael eu hanghenion wedi'u diwallu ar ôl cymaint o flynyddoedd o gael eu hesgeuluso. Mae angen inni ddechrau edrych ar ffyrdd ychwanegol o gefnogi anghenion y teuluoedd hynny ag atebion y maent yn eu cefnogi.

Mae'n amlwg iawn o'r adroddiad a thystiolaeth sefydliadau a grwpiau fel There and Back Again, aelodau o'n grŵp trawsbleidiol, fod y teuluoedd hynny mewn sefyllfa waeth nawr nag erioed o'r blaen, ac nad ydynt yn gweld unrhyw newid. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r teuluoedd hyn y bydd eu bywydau'n cael eu gwella? Mae angen syniadau newydd, mwy o ymgysylltiad go iawn, a gweithredu cyflym i unioni'r methiant a ddisgrifiwyd mor glir yn yr adroddiad. Diolch.

Member
Jane Hutt 15:44:56
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y cyfle i ymateb i'r argymhellion a nodwyd yn ei adroddiad dilynol ar ddarparu safleoedd ar gyfer pobl a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Rwy'n gwerthfawrogi ymroddiad y pwyllgor i'r mater pwysig hwn ac yn rhannu eu huchelgais i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.

Rwyf am ymateb i'r ddadl hon, ac argymhellion y pwyllgor, yng nghyd-destun ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' diwygiedig, a grybwyllwyd y prynhawn yma. Fel rhan o'r gwaith o ddiweddaru'r cynllun gweithredu, fe wnaethom adolygu ein nodau, a roddodd gyfle i ailffocysu ein huchelgeisiau presennol ar gyfer cryfhau a chefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Roedd hynny'n cyd-fynd yn agos ag adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys y pwyllgor wrth gwrs. Cytunwyd ar y diweddariad o'n nodau a chawsant eu cyhoeddi ym mis Tachwedd y llynedd. Ers yr ymchwiliad pwyllgor cychwynnol yn 2021, rydym wedi gwneud cynnydd ar weithredu'r 22 argymhelliad a dderbyniodd Llywodraeth Cymru, fel sydd wedi'i gydnabod, ac yn wir, y 10 argymhelliad pwyllgor ychwanegol. Rwy'n falch o roi diweddariad pellach ar gynnydd y prynhawn yma.

Mewn ymateb i'r argymhelliad allweddol ar ddarparu safleoedd a chyllid cyfalaf safleoedd, ers i ni ail-lansio cyllid cyfalaf safleoedd y llynedd, o'r 15 awdurdod lleol sydd â safle Sipsiwn a Theithwyr, mae 14 awdurdod lleol wedi derbyn cyllid cyfalaf i wella cyflwr eu safleoedd. Mae hyn wedi codi eto y prynhawn yma fel mater allweddol. Mae peth o'r cyllid cyfalaf hwnnw ar gyfer ceisiadau sy'n rhedeg dros fwy na blwyddyn, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn briodol ac yn effeithiol. Mae'r cyllid wedi arwain at fwy na £2 filiwn ar gyfer gwelliannau i safleoedd yn 2024-25, wrth inni gwblhau'r flwyddyn ariannol honno, a chyllid cyfalaf sy'n symud ymlaen wedyn i 2025-26. Bydd hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar dros 200 o leiniau. Datblygiad pwysig, sydd wedi dod o ymgynghori, a hefyd trwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol a phobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yw ein bod wedi ychwanegu'r opsiwn i ddefnyddio'r grant cyfalaf ar gyfer caffael safleoedd, i gynorthwyo awdurdodau lleol ymhellach i gyflawni eu dyletswyddau statudol.

Cynhelir cyfarfodydd monitro ledled Cymru, ar draws awdurdodau lleol. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o awdurdodau lleol, ond rwyf hefyd yn dibynnu'n fawr ar ein swyddogion sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r awdurdodau hynny, gan fy hysbysu am gynlluniau i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'u hasesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr nas diwallwyd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mewn ymateb i bryderon yr Aelodau y prynhawn yma, a'r pwyllgor, lle mae fy swyddogion yn credu nad yw awdurdodau lleol naill ai'n cyflawni eu dyletswyddau i ddiwallu anghenion tai, neu lle nad yw cynnydd yn erbyn eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn ddigonol, byddaf yn defnyddio fy mhwerau i orfodi camau yn eu herbyn os na ellir dod o hyd i ddatrysiad. Mae'n bwysig dweud hynny heddiw yn y ddadl hon. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sicrhau bod cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu diogelu, drwy nodi a mynd i'r afael ag anghenion llety yn yr asesiadau llety hynny. Hefyd er gwybodaeth i'r Aelodau, rwy'n credu y dylech chi wybod bod canllawiau'r asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd awdurdodau lleol yn cyflwyno eu hasesiadau llety erbyn Chwefror 2027.

Fel y cydnabuwyd y prynhawn yma, meithrin perthynas yw'r prif sbardun i wneud unrhyw newid i fywydau'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r berthynas rhwng awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ac aelodau o'r gymuned, yn hanfodol ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a thryloywder. Felly, ym mis Chwefror, gallasom adfer y grŵp rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac roedd hwnnw hefyd yn argymhelliad gan y pwyllgor yn flaenorol. Daw'r grŵp â sefydliadau'r trydydd sector, aelodau o'r gymuned, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ôl at ei gilydd i siarad a gwrando a bod yn rhan o un grŵp.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod There and Back Again, sydd eisoes wedi'i grybwyll y prynhawn yma, wedi cael y contract recriwtio cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr i'n helpu i ymgysylltu'n uniongyrchol a chael cynrychiolaeth effeithiol o'r cymunedau hyn. Yr wythnos nesaf, byddant yn cyfarfod yng ngorllewin Cymru, ar 19 Mai, gan ddod ag aelodau at ei gilydd eto i rannu eu syniadau, i wrando ar aelodau eraill o'r gymuned—gan gydnabod yr holl anghenion gwahanol nad ydynt yn homogenaidd, wrth gwrs—a rhannu profiadau a safbwyntiau. Mae'r cysylltiadau'n hanfodol ar gyfer newid, ac mae'r cyfarfodydd rhanbarthol yn cael eu cynnal ledled Cymru, wedi'u trefnu gan There and Back Again. Mae'n fforwm hanfodol i'n helpu i ymgysylltu'n effeithiol ag aelodau. Rwy'n falch iawn fy mod wedi mynychu cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol Sipsiwn a Theithwyr a adferwyd, dan arweiniad Julie Morgan AS, gyda There and Back Again yn gwasanaethu fel ysgrifenyddiaeth. 

Rydym yn dechrau blwyddyn ariannol arall, Ddirprwy Lywydd, gan barhau â'r gefnogaeth i ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol drwy gyllid grant cyfalaf safleoedd. Rydym wedi adolygu'r canllawiau ar gyfer y grant cyfalaf safleoedd. Mae'r blaenoriaethau'n canolbwyntio ar leiniau newydd, gan gynnwys safleoedd tramwy, gwella cynaliadwyedd safleoedd i breswylwyr, a gwariant cyfalaf arall yn gysylltiedig â safleoedd gwell. Ac wrth gwrs, mae hynny'n cyd-fynd â'ch argymhelliad y dylid gwella'r safleoedd hynny a sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddyrannu a'i wario. Mae'r canllawiau diwygiedig 'Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru' yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae'r canllawiau hynny'n pwysleisio cyfrifoldeb awdurdodau lleol i gael cynllun cynnal a chadw clir, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal a chadw rheolaidd, cadw safleoedd mewn cyflwr da, a sicrhau bod cyfleusterau'n cael eu cynnal yn dda—pwynt allweddol arall a wnaed heddiw. 

Mae cyfrifoldeb awdurdodau lleol i ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd yn allweddol ac yn glir yn y canllawiau hynny, ar gamau ymgynghori cynnar iawn, pan wneir unrhyw newidiadau i'w safleoedd awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau bod cyfle i breswylwyr rannu eu barn ar unrhyw gynigion a nodwyd ac yn rhoi ymdeimlad i breswylwyr eu bod yn rhan o'r gwaith o reoli a datblygu safleoedd. Ar gyfer llawer o asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr, rwyf wedi pwysleisio'r angen i awdurdodau lleol ymgysylltu'n fwy effeithiol â'r gymuned, ac rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol nodi ffyrdd y gallant wella ymgysylltiad.

Mae mater safleoedd preifat wedi codi ac wrth gwrs, mae'n argymhelliad yn eich ymchwiliad diwygiedig. Mae hefyd yn allweddol i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo contract cyngor ac eiriolaeth i'w ddarparu gan Teithio Ymlaen yn TGP Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi rhoi tystiolaeth helaeth ac wedi darparu gwasanaethau. Ar hyn o bryd maent yn darparu cymorth cynllunio, ond bydd y rhaglen beilot yn darparu cyngor cynllunio proffesiynol arbenigol am ddim. Dyna sydd ei angen ar deuluoedd—cyngor arbenigol—ac mae hynny ar y gweill nawr.

Fe fyddaf yn gyflym, Ddirprwy Lywydd—. Mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben. A gaf i ddweud fy mod yn falch o fod wedi cyfarfod â Sam Rowlands a Carolyn Thomas? A gaf i roi diweddariad ers y cyfarfod hwnnw, ac wrth gwrs, ar ran Jack Sargeant hefyd, fod swyddogion cynllunio sir y Fflint yn cyfarfod â fy swyddogion? Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi dweud mai dim ond pum achos apêl agored sydd ganddynt ar hyn o bryd, sy'n dyddio'n ôl i 2024, ond mae sir y Fflint wedi nodi bod angen safle tramwy chwe llain, oherwydd dyfodiad aelodau o'r gymuned o Gaergybi. Bydd sir y Fflint yn ceisio cymeradwyaeth cabinet i'r bwriad o wneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu'r safle tramwy newydd hwn.

Rydym yn gwneud gwaith ar safleoedd tramwy; rydym hefyd yn gwneud gwaith i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â throseddau casineb a'n bod yn ymgysylltu â'n cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n Fis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr fis nesaf, sy'n gyfle i ddysgu am gyfoeth eu diwylliannau a'u cyfraniad sylweddol i'n cymdeithas yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. 

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae yna rai themâu cyffredin. Os edrychwn ar rai o'r tensiynau y cyfeiriodd Sam Rowlands atynt, ac sy'n amlwg yn sir y Fflint hefyd, y gwersylloedd anghyfreithlon yn aml sy'n creu llawer o anhawster i'r Teithwyr a'r gymuned sefydlog. Mae'n dangos diffyg darpariaeth dramwy briodol, a dyna pam y mae'r gwersylloedd anghyfreithlon hynny'n digwydd. Felly, mae'n dda iawn clywed bod gan sir y Fflint gynnig ar gyfer safle tramwy, a fydd, gobeithio, yn datrys llawer o'r problemau hynny. Mae angen mwy o hynny arnom ledled Cymru.

Fy mhrofiad lleol fy hun yw bod yr heddlu'n aml yn cysylltu â Theithwyr ac fe geir sianeli cyfathrebu anffurfiol, am nad oes safle tramwy wedi'i nodi'n lleol, ond mae'r heddlu'n gallu cyfeirio Teithwyr at safleoedd anffurfiol priodol. Mae'r trefniadau hynny'n gweithio'n weddol dda, sy'n dangos bod yna gydweithredu, mae yna ymgysylltu, a lle mae hynny'n digwydd, mae o fudd i'r Teithwyr a thrigolion lleol. Felly, mae angen inni weld hynny'n cael ei ehangu i ddarparu safleoedd tramwy ffurfiol, ac yna byddai'r heddlu, er enghraifft, yn gallu cyfeirio unrhyw Deithwyr at y safleoedd hynny ac rwy'n siŵr y byddem yn gweld llawer llai o wersylloedd anghyfreithlon.

Fel y clywsom, Ddirprwy Lywydd, mae'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn aml yn ffafrio safleoedd preifat, ac rwyf wedi ymweld ag un neu ddau fel rhan o waith y pwyllgor. Gwelsom deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn setlo'n dda yn eu hardaloedd lleol, yn cael eu derbyn yn dda gan y gymuned leol, yn rhan o'r economi leol. Roedd y cyfan yn gadarnhaol iawn, ond nid oeddent wedi cael caniatâd cynllunio, roeddent yn safleoedd anghyfreithlon, ac i fod yn onest, roedd yn anodd iawn deall pam na fyddent wedi cael caniatâd cynllunio. Dyna lle rydym yn meddwl am wahaniaethu a rhagfarn mewn systemau sydd weithiau wedi'u sefydliadu. Dyna pam rwy'n credu bod y gwasanaeth cynllunio y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato'n werthfawr iawn, oherwydd, gyda gobaith, bydd yn sicrhau bod llawer mwy o safleoedd preifat cyfreithlon gyda chaniatâd cynllunio ar gael. Yn aml iawn, mae'n well gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr ddatblygiadau llai o'r fath, a chânt eu derbyn yn well gan y gymuned leol hefyd.

Rwy'n credu yn y bôn fod hwn yn fater hawliau dynol. Mae'n amlwg fod y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn bwysig iawn i sicrhau hawliau dynol i'r cymunedau hyn ac i ymateb i'r rhagfarn a'r gwahaniaethu sy'n bodoli. Mae gan y cymunedau hyn hawl i ffordd amgen o fyw, onid oes? Yn y bôn, rwy'n credu bod llawer o'r dadleuon hyn yn troi o amgylch hynny. Mae'n rhaid inni hwyluso a darparu ar gyfer y ffordd amgen hon o fyw.

O ran yr elfen nomadaidd, er enghraifft, nid oes cymaint â hynny o genedlaethau er pan oedd Sipsiwn a Theithwyr yn teithio'n eang iawn, ond wrth i flerdwf trefol ddatblygu, wrth i ddinasoedd a threfi ddatblygu allan i gefn gwlad, wrth i ddatblygiad masnachol a diwydiannol ddigwydd, diflannodd llawer o'r safleoedd traddodiadol ac mae'r ffordd nomadaidd o fyw wedi dod yn anos. Mae angen inni ddeall hynny, cydnabod hynny, a chofleidio diwylliannau amgen, ffyrdd amgen o fyw. Roeddwn yn falch iawn o glywed beth oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud ynglŷn â'r ffordd yr awn ati i barhau i ddathlu hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hynny.

Mae gennym lawer o enghreifftiau yn ein hadroddiad gwreiddiol ac yn yr adroddiad hwn o'r cynnydd ymarferol sydd ei angen, cynnydd y mae Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol wedi ymrwymo iddo, ond nad yw wedi digwydd. Rwy'n credu ein bod bellach ar y cam lle mae gennym ymrwymiad cryf iawn gan Lywodraeth Cymru, ymrwymiad yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano, ac ymgysylltiad go iawn â'n hawdurdodau lleol a'n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae angen inni wneud llawer mwy ohono. Rydym yn gwybod nawr o'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud yn ei hymateb i'r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd gennym fod prosesau ar waith. Mae'r seilwaith, y grwpiau, yr hyfforddiant, y swyddogion cyswllt, y fforwm, y cyfan hyn yn ei le nawr.

Ond wrth gwrs, yr hyn sy'n cyfrif mewn gwirionedd, ac fe glywsom hyn gan nifer o'r Aelodau yn y ddadl heddiw, yw gweithredu ymarferol ar lawr gwlad. Dyna beth sy'n cyfrif i'r teuluoedd hyn. Felly, mae'n ymwneud â safleoedd newydd, safleoedd preifat, ond yn amlwg, mae'n llawer haws ac mae llawer llai o esgus mewn cymaint o ffyrdd dros beidio â gwneud y gwaith atgyweirio a'r gwaith adnewyddu ar y safleoedd presennol. Mae ymgysylltu'n hanfodol i hyn i gyd, ac roedd yn addysgiadol clywed yr hyn a ddywedodd Carolyn Thomas, onid oedd, am ffordd fynediad yn cael ei darparu er mai cyfleusterau chwarae priodol i'r teuluoedd ar y safle oedd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr honno eu heisiau mewn gwirionedd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, nid oes raid inni edrych yn bell iawn oddi yma i weld realiti rhai safleoedd awdurdodau lleol o leiaf, mewn mannau cwbl amhriodol, wrth ymyl ffyrdd prysur, datblygiadau diwydiannol, safleoedd gwaredu gwastraff. Mae gweld teuluoedd yn byw yn y ffordd honno yn y mileniwm newydd yn hynod siomedig. Felly, mae llawer o waith i'w wneud o hyd yma yng Nghymru, ac mae angen inni weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru, ymrwymiad awdurdodau lleol a chefnogaeth gymunedol i'r camau yn y ddau adroddiad sydd eu hangen yn fawr. Ac rwy'n gobeithio y gwelwn hynny cyn bo hir, oherwydd blwyddyn sydd gan y Senedd hon i fynd cyn yr etholiadau nesaf, ac nid oes unrhyw un ohonom yn gwybod beth a ddaw yn sgil yr etholiadau nesaf hynny.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030'

Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8889 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030', a osodwyd ar 20 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau dechrau, os caf i, drwy nodi’n glir ein bod ni, fel pwyllgor, yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru ystod eang o bolisïau, rhaglenni a mentrau sydd â’r nod o fynd i’r afael â cholli natur yma yng Nghymru. Ac rŷn ni’n cydnabod y bu rhai llwyddiannau, a dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog, efallai, am siarad am rai ohonyn nhw yn ystod ei chyfraniad. 

Dyw ein hadroddiad ni ddim yn diystyru’r gwaith da sy’n mynd rhagddo. Yn wir, dwi eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n chwarae eu rhan wrth gefnogi gweithredu dros natur, o’n rhanddeiliaid yn y sector amgylcheddol, i grwpiau lleol a chymunedau, a gwirfoddolwyr ac unigolion—y rheini i gyd sy’n cymryd camau, camau bach yn aml iawn, ond camau pwysig a all, gyda’i gilydd, wrth gwrs, wneud gwahaniaeth mawr.

Ond allwn ni ddim anwybyddu’r dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno yn adroddiad 'Sefyllfa Natur 2023 Cymru'. Er gwaetha'r ymdrechion hyd yma, mae bioamrywiaeth ac amgylchedd ehangach Cymru yn parhau i ddirywio ac yn parhau i ddiraddio. Mae'r adroddiad hwnnw'n manylu ar raddfa ddinistriol colledion natur ledled y wlad. Mae bywyd gwyllt Cymru wedi gostwng 20 y cant ar gyfartaledd ers 1994, ac mae un o bob chwech rhywogaeth yma yng Nghymru o dan fygythiad o ddiflannu. Yn y cyd-destun hwn, ac 18 mis ar ôl mabwysiadu’r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang yn COP15, fe gynhaliodd ein pwyllgor ni ymchwiliad i ystyried sut mae Llywodraeth Cymru, felly, yn ymateb i’r her o atal a gwrthdroi colli natur yma yng Nghymru erbyn 2030.

Dro ar ôl tro, rŷn ni'n clywed bod mynd i’r afael â cholli natur yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Ac roedd y Llywodraeth yn gyflym i arwyddo i nodau a thargedau bioamrywiaeth byd-eang. Ond i ddefnyddio'r hen ddywediad, gwell gwneud na dweud. Mae ein hadroddiad ni yn tynnu sylw at oedi dro ar ôl tro wrth gyflawni ymrwymiadau, diffyg cynllun clir i gyflawni’r nodau a’r targedau hynny, diffyg capasiti ac adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru ac ymhlith ei phartneriaid allweddol hefyd, a bwlch enfawr o ran ariannu natur.

Mi wnaethon ni 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Cafodd chwech ohonyn nhw eu gwrthod, a chafodd y gweddill naill ai eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Fel gallwch chi ddychmygu, does dim amser gyda fi i siarad am bob un o'r argymhellion heddiw, felly mi fyddaf i’n rhoi blas o bob maes rŷn ni'n mynd i'r afael â nhw yn ein hadroddiad, ac fe fyddaf i hefyd yn tynnu sylw at ymateb Llywodraeth Cymru i rai o'n hargymhellion allweddol ni.

Yn gyntaf, mi fuon ni'n edrych ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sydd â’r nod o wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Nawr, ar y pryd, roedd barn gyffredinol fod y Ddeddf hon yn un flaengar ac yn un arloesol. Ond mae'r dystiolaeth a gawson ni'n awgrymu nad yw hi wedi gwreiddio yn ôl y bwriad. Yn ôl cyrff anllywodraethol amgylcheddol, dydy’r polisi adnoddau naturiol, sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, heb gael—a dwi'n dyfynnu—'fawr ddim effaith materol’. A dydy Llywodraeth Cymru heb fodloni ei gofyniad statudol eto i adolygu’r polisi yn dilyn etholiad diwethaf y Senedd.

Mae dyletswydd bioamrywiaeth adran 6 yn ymwneud â sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cymryd camau i helpu i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Er gwaetha'r ddyletswydd, mae bioamrywiaeth yn parhau i gael ei bwrw i'r cysgod gan flaenoriaethau eraill. Dydy'r canllawiau i gefnogi gweithredu’r ddyletswydd ddim yn ddigon cryf, ac mae diffyg trefniadau goruchwylio a monitro. Nid ein canfyddiadau ni yn unig yw’r rhain, gyda llaw. Ym mis Mawrth, fe gyhoeddodd Archwilio Cymru ei adroddiad ei hun ar y ddyletswydd, a gododd yr un materion.

16:05

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad i gryfhau'r canllawiau ar y ddyletswydd, sy’n gadarnhaol, a dŷn ni'n croesawu hynny. Ond roedden ni'n glir bod angen gwneud hyn cyn cyrraedd y targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol, oherwydd, o dan y cynigion presennol, gallai’r rhain fod pedair blynedd arall i ffwrdd. Felly, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflymu gwaith ar y canllawiau, fel eu bod nhw ar waith cyn diwedd tymor y Senedd hon?

Fe gafodd ein hargymhelliad i ddefnyddio Bil yr amgylchedd—sydd ar ddod, wrth gwrs, yn y misoedd nesaf—i fynd i’r afael â'r diffyg goruchwylio ac atebolrwydd ei wrthod, ac mae hynny'n siomedig. Dwi yn meddwl ei bod yn ddigon rhesymol gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar hynny, yn enwedig yn sgil canfyddiadau Archwilio Cymru, fel yr oeddwn i'n cyfeirio atyn nhw yn gynt.

Gan symud ymlaen at y cynllun gweithredu adfer natur, sef y strategaeth bioamrywiaeth genedlaethol, i bob pwrpas, dylai'r cynllun hwn nodi'r camau a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau y gall Cymru gyflawni nodau a thargedau bioamrywiaeth byd-eang, ond mae ar ei hôl hi'n llwyr erbyn hyn. Ym mis Mai 2024, roedd addewid i gyflwyno cynllun diwygiedig, a hwnnw wedi'i alinio â'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang a thargedau 2030. Ond rŷn ni'n dal i aros.

Wrth ymateb i’n hadroddiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru mai ei nod yw lansio’r cynllun diwygiedig ym mis Hydref 2025—eleni—sef bron i dair blynedd ar ôl cytuno ar y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang. Wrth egluro’r oedi, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod amser swyddogion wedi'i flaenoriaethu i gwrdd â'r terfyn amser hollbwysig ar gyfer cyflwyno Bil yr amgylchedd sydd ar ddod—Bil sydd wedi bod ar y gweill ei hun, wrth gwrs, ers y bumed Senedd. Mae hyn yn mynd at wraidd ein pryder ni bod diffyg capasiti ac adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru yn ei hatal hi rhag cyflawni ei hymrwymiadau.

Fel pwyllgor, dŷn ni ddim wedi cuddio ein rhwystredigaeth am yr amser y mae wedi'i gymryd i gyflwyno Bil yr amgylchedd, a fydd—i atgoffa’r Aelodau, wrth gwrs—yn darparu fframwaith ar gyfer gosod targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol, ymhlith nifer o bethau eraill. Fe gawson ni'n synnu o glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw'r targedau hyn yn debygol o fod ar waith lawer cyn 2029. Mi fydd hynny, felly, wyth mlynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrwymo gyntaf i'w gosod, a blwyddyn yn unig, gyda llaw, cyn bod angen cyrraedd targedau byd-eang 2030. Mae'n anodd gweld, felly, sut mae'r amserlen hon yn gyson â honiad Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael â cholli natur yn flaenoriaeth. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe ddechreuodd y gwaith o gwmpasu'r targedau dros ddwy flynedd yn ôl. Mae'n anodd deall sut y bydd yn cymryd pedair blynedd arall cyn iddyn nhw fod ar waith. Fe wnaethon ni alw am amserlen fwy uchelgeisiol, a fyddai'n gweld targedau blaenoriaeth yn cael eu gosod o fewn blwyddyn i'r Bil ddod yn Ddeddf neu gael ei ddeddfu. Wrth wrthod ein hargymhelliad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n amhosib gwneud hynny. 

Wel, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig, felly, i nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymryd ychydig dros 12 mis i osod targedau yn dilyn Deddf yr Amgylchedd 2021. A byddai'r cynigion yn yr Alban yn gweld targedau'n cael eu gosod o fewn blwyddyn ar ôl i'r ddarpariaeth berthnasol ddod i rym yn eu Bil amgylchedd naturiol newydd nhw. Mi fydd y pwyllgor, yn ddiamau, am fynd ar ôl y mater yma ymhellach, pan fyddwn ni yn craffu ar Fil yr amgylchedd yn ddiweddarach y tymor hwn.

Dwi am droi nawr at y targed 30x30 byd-eang, sy'n cael ei ystyried yn ganolog i ymdrechion i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030. Ar hyn o bryd, mae ychydig yn llai na 70 y cant o'r ardal forol yn warchodedig. Er gwaetha'r ganran uchel, mae llai na hanner y safleoedd gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol. Yn ôl un tyst, o ran yr ardal forol, mae cyrraedd y targed yn 'realiti pell'. Ar gyfer yr ardal ddaearol a mewndirol, mae 10.5 y cant yn cael ei ystyried yn warchodedig, ond dim ond 20 y cant o'r safleoedd gwarchodedig a gafodd eu hasesu sydd mewn cyflwr ffafriol. Fel y mae pethau'n sefyll, bydd cyrraedd y targed 30x30 yn her ryfeddol.

Yn ôl yn haf 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp o arbenigwyr i gynnal gwaith ymchwil manwl i fioamrywiaeth. Yr amcan oedd datblygu cyfres o gamau ar y cyd y gellid eu cymryd ar unwaith i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed. Fe glywon ni fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ond mae’n rhy araf o ystyried maint yr her a’r amser sydd ar ôl tan 2030. Er bod y gwaith ymchwil manwl yma, wrth gwrs, yn gam pwysig cyntaf, mae'n ymddangos bod momentwm yn pylu ac, unwaith eto, mae diffyg capasiti ac adnoddau yn gyffredinol yn atal cynnydd.

Fe wnaethom ni argymell, felly, fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun manwl ar gyfer cyrraedd y targed 30x30—cynllun sy’n nodi pwy sy’n gyfrifol am gyflawni’r camau gweithredu, ynghyd ag amserlenni a cherrig milltir allweddol i fesur cynnydd; cynllun a fydd yn gwella tryloywder ac yn cefnogi wedyn, wrth gwrs, gwaith craffu dros y blynyddoedd i ddod. A dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gan ddychwelyd at yr ardal forol, mae’r gwaith o ehangu'r rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig wedi bod yn siomedig o araf. Ar sawl achlysur, rŷn ni wedi tynnu sylw at y diffyg cynnydd ar barthau cadwraeth morol, a does fawr ddim wedi newid. Mae perygl y bydd yr oedi cyson o ran ymgynghori ar barthau cadwraeth morol yn tanseilio hyder ac yn rhoi argraff bryderus i randdeiliaid o’r flaenoriaeth a roddir i gadwraeth forol. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd ymgynghoriad ar safleoedd arfaethedig yn cael ei gynnal tan y seithfed Senedd. Mae dros ddegawd, felly, wedi mynd heibio ers ailddosbarthu Sgomer fel y parth cadwraeth morol cyntaf, a’r unig un yng Nghymru. Mae’r oedi diweddaraf hwn yn y broses ddynodi yn ergyd arall i gwblhau’r rhwydwaith o barthau.

Yn olaf, o ran buddsoddi mewn natur, mae’r Green Finance Institute wedi amcangyfrif y bydd angen rhwng £5 biliwn a £7 biliwn erbyn dechrau’r 2030au i gyflawni ymrwymiadau Cymru mewn perthynas â natur. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y bwlch ariannu natur hwnnw, dydy hi ddim wedi darparu ffigur clir ar gyfer ei buddsoddiad presennol mewn natur, a does ganddi ddim cynllun i gyrraedd yn agos at y lefel buddsoddi sydd ei hangen. Tra bod buddsoddiad y sector preifat yn allweddol i fynd i’r afael â’r bwlch cyllid, mae rhanddeiliaid wedi galw am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru ac am gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r rhwystrau presennol.

Fe wnaethon ni alw am strategaeth cyllid natur gynhwysfawr i osod y sylfaen ar gyfer mwy o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat wrth weithredu dros natur, ac eto dwi’n falch o ddweud bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad. Ond, Weinidog, byddai’n ddefnyddiol pe gallech chi egluro efallai’r amserlen ar gyfer datblygu’r strategaeth honno. Byddem ni'n awyddus i weld y strategaeth, yn amlwg, os yn bosib, cyn diwedd tymor y Senedd hon.

I gloi, felly, Dirprwy Lywydd dros dro, does dim llawer o amser yn weddill i ddod â natur yn ôl o'r dibyn, ac mae'r amser hwnnw’n prinhau. Rŷn ni’n gobeithio y bydd ein hadroddiad ni fel pwyllgor yn ysgogiad i Lywodraeth Cymru gyflymu’r gwaith o gyflawni ei hymrwymiadau er mwyn inni weld newid trawsnewidiol i natur. Gyda dim ond pum mlynedd ar ôl i atal a gwrthdroi colli natur, dyw e ddim jest yn opsiwn, mae e’n rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor yn teimlo sy’n angenrheidiol. Dwi’n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau i’r ddadl. Diolch.

16:10

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor. 

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro ar ran Janet Finch-Saunders, sy'n amlwg yn aelod o'r pwyllgor hwn, ac sy'n sâl heddiw, yn anffodus, ac ni all gyfrannu at hyn. Ond hoffwn ddiolch iddi am ei chyfraniadau i'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn, sy'n ymchwiliad pwysig iawn yn fy marn i.

Wrth edrych ar y 30 o argymhellion, cefais fy nenu, fel mab fferm, ac fel llefarydd ar faterion gwledig, at argymhellion 28 a 29, lle mae sôn am y cynllun ffermio cynaliadwy, gan ein bod yn ymwybodol o bwysigrwydd y cynllun hwnnw wrth symud ymlaen, o ran ariannu amaethyddiaeth yn briodol er mwyn gallu helpu gydag adfer natur ar y tir, gan roi'r amgylchedd morol i'r naill ochr am eiliad. Ac mae pwynt 126 yn yr adroddiad ei hun yn dangos 'rôl hollbwysig' y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol hanfodol—ein bod yn deall pa mor bwysig fydd y cynllun hwn yn y dyfodol nid yn unig o ran amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd, ond o ran adfer natur hefyd.

Un o elfennau allweddol hynny yw sicrhau bod ffermwyr yn cefnogi'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf yma, sy'n cael ei dderbyn yn eang gan bawb sy'n trafod hyn neu sy'n aelodau o'r paneli cynghori sy'n cynghori'r Dirprwy Brif Weinidog ar hyn o bryd, boed ar yr ochr amgylcheddol, neu ar yr ochr amaethyddol—ni chredaf fod gormod o wahaniaeth rhwng y ddwy ochr. Ond mae pob un o'r sefydliadau hynny'n deall pwysigrwydd amaethyddiaeth, ffermwyr yn ymrwymo i'r cynlluniau hyn, oherwydd fel arall, ni fydd holl fuddion posibl y cynllun yn cael eu cydnabod, ni fyddant yn cael eu derbyn ac ni fyddant yn cael eu gweithredu. Felly, rwy'n credu bod pwynt allweddol yno.

Yr hyn a weithiodd yn dda iawn hefyd yn fy marn i, fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, yw gwaith pwyllgor Llyr Gruffydd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn gweithio law yn llaw â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lawer o'r elfennau hyn hefyd, ac enghraifft dda o hynny yw'r ymchwiliad i iechyd pridd y mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ei gynnal ar hyn o bryd, gan fod iechyd pridd da yn sail i bopeth yn ymwneud â natur ar ein tir. Bwyd, cynhyrchiant a chynhyrchu bwyd, wrth gwrs, ond mae sicrhau priddoedd iach a microbau iach yn y priddoedd, a phopeth a ddysgwn drwy'r pwyllgor hefyd ar hyn o bryd yn tanlinellu pwysigrwydd iechyd pridd da i'r ffordd yr awn ati i adfer natur.

Felly, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr iawn. Rwy'n credu bod pwyntiau da yma ynghylch yr hyn y gellir ei wneud yn y dyfodol, a chydnabyddiaeth o'r hyn sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu y gallai hynny o bosibl—. Nid wyf yn siarad ar ran Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, Andrew R.T. Davies, nad yw yma, ond pan fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei gyhoeddi, yn Sioe Frenhinol Cymru yn ôl pob tebyg—gan weithio yn ôl calendr Llywodraeth Cymru, rwy'n tybio y bydd yn cael ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru—rwy'n credu y byddai'r ddau bwyllgor yn edrych ar y cynllun ffermio cynaliadwy i sicrhau ei fod (a) yn cyflawni ar gyfer amaethyddiaeth, a dyna gylch gwaith y pwyllgor rwy'n aelod ohono, ond yng nghylch gwaith pwyllgor Llyr, byddent yn edrych ar sut y mae'n cyflawni ar gyfer natur hefyd. Gall y ddau bwyllgor weithio ar y cyd i gyflawni a sicrhau craffu cryf, gan helpu'r Llywodraeth, gobeithio, i ddatblygu cynllun sydd nid yn unig yn cyflawni ei egwyddorion craidd, ond a fyddai'n denu'r byd amaeth a ffermwyr i ymrwymo iddo. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:15

Wel, hoffwn i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei arweiniad, a thîm y pwyllgor, a'r rhanddeiliaid wnaeth roi tystiolaeth i gyfoethogi ein hadroddiad. Mae ‘cyfoethogi’ yn air priodol yma, canys mae’r byd naturiol yn cyfoethogi ein byd a’n bywydau. Mae’n cynnal ein hiechyd ynghyd â bywyd gwyllt di-rif. Felly, pam nad ydy e’n fwy o flaenoriaeth?

Yn gynnar yn y Senedd hon, anrhydedd oedd i mi arwain dadl wnaeth arwain at y Senedd yn datgan argyfwng natur—anrhydedd oherwydd roeddwn i'n meddwl y byddai'r datganiad hwnnw'n arwain at fwy o weithredu, gweithredu a fyddai'n sicrhau bod y tueddiadau torcalonnus yn troi cornel, a byddwn ni'n gweld newid yn y disgwyliadau. Ond parhau maent wedi gwneud. Rydym ni wedi gwybod ers amser hir bod un ym mhob chwech o'n rhywogaethau yn wynebu difodiant. Ofnaf fod ein cymdeithas a'n byd wedi dod i arfer gyda'r dinistr. Dyna'r realiti arswydus. Ac fel mae'n hadroddiad ni'n ei wneud yn glir, mae’n rhaid inni weld newid sylweddol os ydyn ni am ddiogelu ein byd natur.

Mae gobaith yn dal gennym, os gweithredwn. Mae ein pwyllgor ni wedi tynnu sylw at y cyfleon fydd yn dod gyda'r Bil egwyddorion amgylcheddol, ond parheir rhwystrau sylweddol ynghylch targedau, fel dŷn ni wedi clywed. Rydym ni'n glir bod angen i'r Llywodraeth eglurhau pam mae wedi cymryd chwe blynedd i ddatblygu targedau yma yng Nghymru, a dweud os ydyn nhw'n meddwl bod yr oedi wedi bod yn dderbyniol o ystyried bod mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.

Nawr, ar dargedau hefyd, fel rydym ni wedi clywed, rydym ni wedi galw am fanylion am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ers mis Mawrth 2023 i gwmpasu targedau, ac, yn fewnol i'r Llywodraeth hefyd, iddynt gynnal adolygiad brys o'r adroddiadau, o'r adnoddau a ddyrennir i adrannau sy'n ymwneud â'r maes polisi hwn. Os taw blaenoriaeth ydy'r gwaith hwn, ac rwy'n credu'n gryf bod yn rhaid iddo fe fod, mae’n rhaid bod hynny yn golygu mwy na geiriau. Rydym yn galw hefyd ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wella cydweithio ar draws adrannau i integreiddio adfer byd natur i feysydd polisi ehangach, er mwyn sicrhau ymateb Llywodraeth gyfan i'r argyfwng natur. 

Nawr, mae sawl argymhelliad arall, wrth gwrs—mae'r Cadeirydd wedi gosod rhai mas yn glir—ond hoffwn i gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, drwy sôn unwaith eto am pam mae'r gwaith hwn mor dyngedfennol bwysig i'n byd. Cyn hir, bydd distawrwydd yn disgyn ar ein gwlad wrth inni golli mwy a mwy o adar, o rywogaethau prin. Bydd sŵn llachar bywyd ar draws ein tirweddau yn pylu. Dŷn ni angen gwneud popeth yn ein gallu i atal yr argyfwng. Allwn ni ddim fforddio aros yn hirach. Er lles ein byd ni heddiw, ac er lles osgoi creu amharadwys i’n plant, mae angen mwy o frys o’r Llywodraeth. Rhaid achub ein byd rhag mynd i ddistryw.

16:20

Fe wnaethom gynnal yr ymchwiliad ar gyfer yr adroddiad hwn fis Hydref diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n falch ein bod yn ei drafod yn y gwanwyn, pan fo natur yn deffro, mae'r coed wedi deilio, mae'r adar yn canu ac yn adeiladu nythod, ac fe wnaethom gynnal Diwrnod Bioamrywiaeth y Senedd ddoe. Rwyf wrth fy modd yn gweld glöyn byw, ond mae'n fy atgoffa o ba mor brin ydynt erbyn hyn. Mae 60 y cant o bryfed hedegog wedi dirywio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mewn gwirionedd, mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Mae pob pryfyn yn rhan o ecosystem; maent yn wirioneddol bwysig. Felly, mae colli 60 y cant yn enfawr.

Mae'r DU yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf. Mae niferoedd adar gardd a arferai fod yn gyffredin wedi gostwng yn sylweddol yn sgil ffermio dwys a cholli cynefinoedd, hyd at 71 y cant yn achos rhai adar. Felly, mae pob pryfyn, aderyn, peillydd, planhigyn ac anifail, gan ein cynnwys ni ein hunain, yn rhan o'r ecosystem bwysig hon. Ni allwn oroesi heb natur. Mae ei hangen ar gyfer ein bwyd, ein hamgylchedd, ein heconomi. Gwae inni ei hesgeuluso neu ei chymryd yn ganiataol. Ond dyna sy'n digwydd. Rydym wedi colli 97 y cant o'n gweirgloddiau blodeuog ers y 1970au. Mae ein dŵr wedi'i lygru. Mae plaladdwyr, gwrtaith artiffisial, cynnyrch ungnwd, cael gwared ar wrychoedd a phyllau oll wedi ychwanegu at y dirywiad. Mae dros 90 y cant o dir Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer amaethyddiaeth, ond nid yw wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn, Sam. Dywedwyd wrthyf fod un ar wahân eisoes wedi'i gynnal ar y cynllun ffermio cynaliadwy, dyna pam. Ond mae’n rhaid inni gydnabod hynny.

Mae ein hafonydd a'n moroedd wedi'u llygru'n ddifrifol: Dŵr Cymru a gorlifoedd storm sy'n gyfrifol am oddeutu 30 y cant ohono; yn seiliedig ar wyddoniaeth, mae'r rhan fwyaf yn amaethyddol. Mae llygredd plastig hefyd wedi cael effaith, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol, a fydd yn helpu i greu cynefinoedd, amsugno carbon a helpu i atal llifogydd. Roedd hefyd yn boblogaidd iawn gyda phobl ac yn eu hysbrydoli, sy'n wych. Dyna sydd angen i ni ei wneud, dod â phobl gyda ni. O ystyried cyflwr presennol natur Cymru, bydd cyflawni ymrwymiad 30x30, i reoli 30 y cant o'n tir a'n môr yn effeithiol ar gyfer natur erbyn 2030, yn her eithriadol, yn enwedig gyda'r nifer cynyddol o bobl sy'n gwadu newid hinsawdd, ac rwy'n clywed mwy amdanynt ac yn poeni'n fawr yn eu cylch. Mae angen inni weithredu'n gyflym i adfer natur. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i atal a gwrthdroi colli natur, ond mae'n cymryd blynyddoedd i newid, a llawer o ddyfalbarhad. Ond fe allwn wneud hyn, trwy newid a thrwy addysg.

Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn hanfodol i wneud hynny. Heb y cyllid, ni fyddai swyddogion bioamrywiaeth mewn cynghorau wedi cyrraedd targedau. Mewn gwirionedd, ni fyddai llawer ohonynt yn cael eu cyflogi mwyach. O dan y cyllid, mae mwy na 4,000 o fannau gwyrdd wedi'u creu neu eu gwella ar gyfer natur a thyfu bwyd. Mae 20,000 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn hyn, ac trawsnewid eu bywydau, diolch i lesiant meddyliol a chorfforol dod i gysylltiad â natur. Mae mwy na 2,400 o safleoedd peillwyr, 800 o safleoedd tyfu bwyd a 700 o berllannau cymunedol, yn ogystal ag 86 o erddi therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl a lles. Mae Cyngor Sir y Fflint newydd gyflawni statws caru gwenyn ac mae'n rheoli 117 o safleoedd ar gyfer natur. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych warchodfa natur newydd, sy'n gartref i goed a dyfir o hadau o ffynhonnell leol. Mae ganddynt feithrinfa lle mae ganddynt eu banc eu hunain o flodau gwyllt, sy'n bwysig iawn.

Mae'r gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd wedi bod yn bwysig yn y broses o gyflawni ecosystemau ehangach a gwydn lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu, yn y môr ac ar y tir. Mae angen hyn arnom i gysylltu pobl â natur. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn y daith tuag at Gymru natur-bositif: mabwysiadu 'Mai Di-dor', adeiladu pyllau bach, cael pyllau dŵr tymhorol a phyllau adar—mae angen dŵr ar bawb; mae angen dŵr ar bob bywyd—cael gerddi blêr—nid yw natur yn daclus—osgoi pryfladdwyr, helpu ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio sy'n gyfeillgar i natur. Mae'n cymryd amser, ond gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth. Diolch.

Mae bron i un rhan o bump o safleoedd pwysicaf Cymru ar gyfer bywyd gwyllt ar wastadeddau Gwent, ac mae darn mawr o wastadeddau Gwent yn fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd. Ar draws tirweddau a chyrsiau dŵr y gwastadeddau, mae casgliad cyfoethog o fioamrywiaeth sy'n allweddol i'r ardal a'i dyfodol, ardal a ddisgrifiwyd yn y gorffennol fel 'Amazon Cymru'. Mae'r ffosydd a'r prif afonydd yn darparu cynefin diogel a ffyniannus i ystod eang o wahanol rywogaethau, gan gynnwys llygod y dŵr, yr wyf yn falch o fod yn hyrwyddwr ar eu rhan yma yn y Senedd. A thrwy waith sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Natur Gwent, maent wedi cael eu hailgyflwyno'n llwyddiannus yn ôl i safleoedd fel gwarchodfa natur Cors Magwyr, ac yna wedi lledaenu o'r lleoliad hwnnw.

Ond wrth gwrs, nid llygod y dŵr yn unig sydd i'w gweld ar wastadeddau Gwent; gellir gweld rhywogaethau fel y chwilen ddŵr arian fawr, y gardwenynen feinlais, boda'r wern a llawer mwy yn rheolaidd ar y gwlyptiroedd poblogaidd  hyn yng Nghasnewydd, sydd, wrth gwrs, yn safle RSPB ac yn gwneud gwaith gwych yn cysylltu pobl leol â natur, ac sydd hefyd yn dangos sut y gall natur fodoli, a ffynnu yn wir, ochr yn ochr â diwydiant.

Ym myd natur, wrth gwrs, mae pob math o wahanol feintiau a rhywogaethau ac enghreifftiau o'n bioamrywiaeth wych, ac mae pob un ohonynt yn gwneud eu cyfraniadau pwysig eu hunain i ardal. Ar wastadeddau Gwent, mae hyn yn cynnwys chwe safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae angen inni ddeall eu pwysigrwydd er mwyn i'n hamgylchedd ffynnu. A daw hynny â mi at rai o'r bygythiadau i'r gwastadeddau, oherwydd, yn anffodus, maent yn real iawn, yn enwedig, ar hyn o bryd, gan ddatblygwyr sy'n gobeithio agor ffermydd solar mawr, gan fanteisio ar dopograffi'r ardal a'i hagosrwydd at y grid. Mae hyn wedi peri cryn dipyn o bryder i'r ymddiriedolaeth natur, cymunedau lleol a grwpiau amgylcheddol yn gyffredinol.

Canfu ymchwil gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent fod mapiau'n dangos, pe bai'r holl gynigion datblygu solar sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd yn cael eu hadeiladu, y gallai hyd at 19 y cant o gyfanswm arwynebedd SoDdGAau'r gwastadeddau fod o fewn ffiniau datblygu—sef oddeutu 1,038 hectar. Ar gyfer un o'r SoDdGAau yr effeithir arnynt, gallai cymaint â 43 y cant o gyfanswm yr arwynebedd fod o fewn ffiniau datblygu pe bai pob un yn cael ei adeiladu.

Gŵyr pob un ohonom, wrth gwrs, ac mae pob un ohonom yn ei ddweud, ac mae'n hollol wir, fod angen mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy arnom—mae angen llawer mwy arnom, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gwbl ddibynnol ar ynni adnewyddadwy yn y DU ac yng Nghymru cyn bo hir, a bydd gan ynni solar ran bwysig iawn i'w chwarae, ond dywedir yn aml, ac mae'n hollol wir dweud, ac mae angen ei ddweud, fod yn rhaid i'r datblygiadau fod yn y lle iawn bob amser, a chredaf yn gryf iawn nad gwastadeddau Gwent yw'r lle iawn.

Mae un fferm solar eisoes yn weithredol yn Llan-wern, ar y gwastadeddau, a chanfu adroddiad monitro ôl-adeiladu Llywodraeth Cymru ei hun fod niferoedd cornchwiglod wedi gostwng ac nad yw'r ardal liniaru newydd a grëwyd ar gyfer cornchwiglod wedi denu un pâr o gornchwiglod dair blynedd ar ôl ei chreu. Mae niferoedd rhywogaethau gwenyn allweddol wedi gostwng, gan gynnwys gostyngiadau sylweddol ym mhoblogaethau'r gardwenynen feinlais a'r gardwenynen lwydfrown. Mae gweithgarwch ystlumod ar drai ac mae pâr o aranod cyffredin wedi gadael yr ardal.

Rwy'n credu ei bod yn eithaf clir, os caniateir rhagor o ddatblygiadau solar, ein bod mewn perygl o niweidio natur yr ardal hon sy'n hynod bwysig o ran bioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol a thirwedd unigryw, gan ei newid am byth a dinistrio'r fioamrywiaeth hanfodol yr ydym mor ffodus i'w chael ar wastadeddau gwerthfawr Gwent.

16:25

Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar effeithiau morol. Mae gan Gymru 139 o ardaloedd morol gwarchodedig sy'n cynnwys 69 y cant o ddyfroedd ein glannau, hyd at 12 milltir forol. Mae moroedd Cymru fwy na thraean yn fwy na'n tirfas, ac mae o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon eisoes wedi'i storio yn ein cynefinoedd morol, gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Ac fel rydym eisoes wedi clywed heddiw, nid yw'r rhan fwyaf o'r rheini mewn cyflwr ffafriol mewn gwirionedd.

Mae'n amserol, onid yw, ein bod yn trafod hyn heddiw, oherwydd yfory mae ffilm ddiweddaraf David Attenborough, Ocean, yn dangos yr anhrefn sydd wedi'i guddio o dan y tonnau, wedi'i achosi gan arferion pysgota niweidiol, yn enwedig arferion fel treillrwydo môr-waelodol. Mae'r ffilm yn dangos rhwyd enfawr yn cael ei llusgo dros waelod y môr gan drawst metel trwm, gan ddinistrio cynefin, codi silt, rhyddhau carbon a dal bywyd morol yn ddiwahân. Rwyf wedi siarad sawl gwaith yma yn erbyn treillrwydo môr-waelodol, ac eto mae'n cael ei ganiatáu mewn ardaloedd morol gwarchodedig yma yng Nghymru. I mi, mae'n gwbl annerbyniol. Mae'r niwed a wneir yn gwbl anghymesur i unrhyw fudd posibl a allai ddeillio ohono.

Mae Ocean hefyd yn tynnu sylw at rôl hanfodol morwellt a'r gwaith sy'n cael ei wneud i'w adfer. Mae dolydd morwellt yn gweithredu fel cynefin hanfodol ar gyfer bywyd morol, dalfa garbon, rhwystr naturiol yn erbyn erydu arfordirol ac ymchwyddiadau stormydd, ac maent yn gwella ansawdd dŵr. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod eisoes, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.12 miliwn o gyllid i brosiectau adfer morwellt a morfeydd heli ers 2021 drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Natur a'r cynllun adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn galw am weithredu ar frys i atal a gwrthdroi colli natur, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 19 ar eu camau nesaf yn y broses ymgynghori a dynodi parthau cadwraeth morol. Penodwyd contractwr ym mis Ionawr i gynnal yr asesiad effaith rheoleiddiol, a dylai hwnnw fod wedi ei gwblhau bellach. Rwy'n awyddus iawn i wybod hyn: yn gyntaf oll, pam y cymerodd gymaint o amser, ond pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r Gweinidog adrodd yn ôl i'r Siambr ar ganlyniad hynny, ac yn bwysicach fyth, pryd y bydd gweithredu ar hynny?

Derbyniwyd Argymhelliad 20 mewn egwyddor—wel, mae gan bob un ohonom egwyddorion—a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu cefnogi gan fframweithiau rheoli cadarn, ac yn mynd i'r afael â phwysau fel gweithgaredd pysgota a'r datblygiadau ar y môr, yn ogystal ag effeithiau dynol eraill.

Felly, ers 2020, rwy'n ddiolchgar fel y mae eraill fod £500,000 o grantiau wedi'u dyfarnu i brosiectau gyda'r nod o wella dealltwriaeth a mynd i'r afael â phwysau, ac mae'r fframwaith hwnnw'n cael ei adolygu yn 2025. Ond mae amser yn brin. Rydym eisiau gwybod beth y mae hynny'n ei olygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar wahanol fathau o offer pysgota. Rwyf wedi edrych ar un yr hoffwn ei weld yn cael ei adolygu ar frys, ond rwyf hefyd wedi siarad o'r blaen am offer pysgota coll ac am dagio offer pysgota, ei gofnodi'n dod i mewn a'i gofnodi'n mynd allan, fel ein bod yn gwybod nad oes pysgota anfwriadol yn digwydd. Mae'n ofnadwy. Mae'n greulon. Caiff anifeiliaid eu bachu gan yr offer ac maent yn llwgu i farwolaeth. Mae yna raglenni y gallem ymrwymo iddynt.

Fe wyddom fod Llywodraeth y DU yn nodi eu bod yn mynd i gyflymu'r gwaith o ddatblygu gwynt ar y môr, gan gynnwys safleoedd arfaethedig oddi ar arfordir Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â hwy i sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal strategol a gyflwynir drwy'r gronfa adfer morol yn addas ar gyfer amgylchedd morol Cymru. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: a wnewch chi esbonio beth y mae hynny'n ei olygu? Oherwydd nid wyf yn gwybod. Ac rwy'n siŵr y byddai gan bob un ohonom ddiddordeb mawr. Diolch.

16:35

Dwi'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu ffocws ar atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, ac Aelodau'r Senedd am eu holl sylwadau gwerthfawr a chraff yn ystod y ddadl hon.

Mae'n ddefnyddiol iawn atgoffa ein hunain o'r her a nodir yn fframwaith bioamrywiaeth byd-eang Kunming-Montreal: gweithredu ar frys i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth; rhoi natur ar lwybr adferiad er budd pobl a'r blaned; gweithio tuag at y nod o fyd sy'n byw mewn cytgord â natur, ac erbyn 2050, y bydd bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei warchod, ei adfer a'i ddefnyddio'n ddoeth; cynnal gwasanaethau ecosystemau; cynnal planed iach; a darparu buddion sy'n hanfodol i bawb.

Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni'r nod uchelgeisiol hwn ac yn gynharach eleni, cyhoeddwyd strategaeth a chynllun gweithredu bioamrywiaeth cenedlaethol y DU, gan nodi moment dyngedfennol i Gymru ac i'r DU. Mae'n darparu fframwaith cryf i alinio ein hymdrechion cenedlaethol â'r targedau rhyngwladol hyn, gan dynnu sylw at ein huchelgais cyffredin a'n hymrwymiad diwyro i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

Fel y mae llawer ohonoch wedi dweud, mae ecosystemau gwydn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae diogelu a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru yn allweddol, gan ei fod yn sail i iechyd ein hamgylchedd ac yn cryfhau ein gallu i addasu i'r heriau hyn. Nid oes anrheg well y gallem ei chynnig i genedlaethau'r dyfodol nag amgylchedd naturiol ffyniannus a diogel, felly rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor a'r ddadl bwysig a gawn heddiw. Mae ein hymateb i'r pwyllgor yn adlewyrchu'r derbyniad cadarnhaol i'w adroddiad. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fireinio ein polisïau natur, cynyddu cyflymder a maint ein cyflawniad, a chryfhau ein dull o weithredu lle bo angen.

Mae'r argyfwng natur, fel y mae llawer ohonoch wedi dweud, ac fe wnaeth Delyth yn enwedig bwysleisio'r her ddifrifol sy'n galw am weithredu gan bob un ohonom ledled Cymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod gwrthdroi colli bioamrywiaeth yn galw am fwy nag ymdrechion Llywodraeth. Mae'n galw am uchelgais beiddgar, cyfrifoldeb cyffredin a chydweithrediad pob cymuned a sector. Rwyf am bwysleisio hynny: pob cymuned a sector. Rhan fawr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yw gweithio gyda sectorau ledled Cymru i roi'r gorau i bwyntio bysedd a dweud, 'Eich bai chi ydyw', ac yn lle hynny, i edrych arnynt eu hunain a dweud, 'Beth y gallwn ni ei wneud i atal colli bioamrywiaeth a chyflymu'r broses o adfer bioamrywiaeth?'

Soniodd Joyce Watson am y rhaglen Ocean. Gwyliais y rhagflas gyda diddordeb. Un o'r pethau y mae'n ei ddweud yn y rhagflas—rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl beth—ac rydym yn gwybod hyn ledled Cymru, yw mai'r cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi cyfle i natur ac mae'n gwella. Un o'r unig bwyntiau gobeithiol yn y rhaglen honno mewn gwirionedd yw y gwnaiff natur wella ond i ni adael llonydd iddi.

Gallwn weld hynny ledled Cymru yn llawer o'r prosiectau a roddwyd ar waith gennym a mentrau fel ymgyrch 'Mai Di-dor' gan Plantlife, a anogodd bawb i roi camau syml ac effeithiol ar waith. Rhowch eich peiriannau torri lawnt i gadw dros fis Mai. Awn ymhellach a dweud, 'Rhowch eich peiriannau torri lawnt i gadw tan fis Awst.' Gadewch i'r planhigion a'r blodau yn eich lawnt flodeuo. Gadewch iddynt hadu. Gadewch iddynt ddarparu'r cynhaeaf hael sydd ei angen ar y pryfed, ac mae angen y pryfed ar yr adar, ac mae gennych ecosystem gyfan yno ar eich lawnt. Pe baem yn gallu perswadio pobl fod lawnt werdd daclus yn ddiffeithwch, byddai'n gam mawr ymlaen.

Carolyn, rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud llwyth o waith ar geisio cael ein holl awdurdodau priffyrdd i edrych ar ymylon ffyrdd yn y ffordd honno. Pe gallem ailsefydlu coridorau bywyd gwyllt yng Nghymru, byddem wedi mynd yn bell tuag at hynny. Mae'r ymgyrch 'Iddyn Nhw' yn pwysleisio y dylid mabwysiadu arferion torri gwair sy'n gyfeillgar i natur er mwyn creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Ddirprwy Lywydd dros dro, rhaid imi roi'r cipolwg bach hwn ar fywyd Gweinidog. Euthum i ymweld â phrosiect 'Mai Di-dor' pan oeddwn i'n Weinidog newid hinsawdd mewn sir—ni ddywedaf pa sir—ac oherwydd bod y cynghorwyr lleol yn gwybod bod Gweinidog yn dod, fe wnaethant sicrhau bod y glaswellt wedi'i dorri, fel ei fod yn daclus pan fyddem yn cyrraedd yno. Rwy'n credu bod hynny'n dweud wrthych chi faint o waith sy'n rhaid inni ei wneud er mwyn i bobl ddeall bod 'taclus' yn perthyn i'r gorffennol. Cefais ddadl gyda phreswylydd, a ddaeth drosodd i ddweud wrthyf pa mor falch ydoedd fod yr ardal wedi'i thorri oherwydd nawr, roedd yn daclus, a phwyntiodd at ei ardd ei hun, lle nad oedd cymaint ag un pryfyn, oherwydd roedd y cyfan yn daclus iawn. Mae taclus yn gyfystyr â marw. Ychydig bach o anhrefn, ychydig o bren marw, ychydig o ddanadl a dail ac yn y blaen, dyna lle mae'r pryfed yn cuddio. Dyna lle maent yn magu. Dyma lle bydd y genhedlaeth nesaf o adar cân yn cael eu bwyd, ac yn y blaen. Ni allaf gofio faint o filoedd o bryfed sydd eu hangen ar bâr o wenoliaid, ond mae rywle o gwmpas 20 mil o bryfed. Rydym eu hangen. Mae angen y mannau blêr yn ein gerddi.

Felly, y math hwn o gydweithredu a newid ymddygiad yw'r hyn rydym yn edrych arno, ac mae angen i bob rhan o'n cymdeithas gydweithio â ni. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n weithredol ag ystod amrywiol o randdeiliaid ar feysydd gwaith allweddol, gan gynnwys y camau gweithredu i gyflawni'r targed 30x30. Mae'r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer morwellt, y mae nifer o bobl wedi sôn amdano, a datblygu'r Bil egwyddorion amgylcheddol, trefniadau llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth (Cymru), a'r cynllun ffermio cynaliadwy, i gyd yn rhan o'r un patrwm.

Er mwyn sicrhau bod y targedau bioamrywiaeth yn effeithiol ac yn gadarn, rydym wedi elwa o arbenigedd dros 70 o sefydliadau. Mae gennym raglen ymgysylltu gynhwysfawr, sy'n dod â safbwyntiau amrywiol at ei gilydd i lunio targedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd hyn yn rhoi hyder i ni ein bod yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer natur yng Nghymru. Aelodau, ni allaf bwysleisio hynny ddigon: pan gaiff y targedau hyn eu cyhoeddi, rhaid iddynt lanio'n dda. Rhaid iddynt lanio gydag egni a rhaid iddynt lanio gyda derbyniad, fel bod pobl yn eu croesawu. Nid ydym eisiau pum mlynedd arall o ddadlau ynglŷn ag a yw'r targedau'n iawn ar gyfer pob sector. Dyna beth sy'n cymryd amser, oherwydd mae'n bwysig, pan gânt eu cyflwyno, eu bod yn glanio'n dda a bod pob sector yn eu croesawu mewn ffordd sy'n golygu y gallwn eu datblygu.

Er mwyn helpu hynny i ddigwydd, rydym wedi bod yn dod â natur yn agosach at bobl trwy brosiectau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Natur am Byth. Yn y tymor Senedd hwn yn unig, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £150 miliwn i adfer natur a gwella mynediad ati i bobl ar garreg y drws. Gan ganolbwyntio ar gyflawni ar lawr gwlad hyd yma, rydym wedi cefnogi dros 90 o brosiectau trwy ein rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella ein safleoedd gwarchodedig a chysylltu pobl â natur. Ac yn ddiweddar, roeddem yn falch iawn o gyhoeddi 13 o brosiectau rhagorol ychwanegol ledled Cymru a fydd yn elwa o gefnogaeth y gronfa Rhwydweithiau Natur. Mae'r prosiectau hyn i gyd yn chwarae rhan allweddol yn adfer a chryfhau treftadaeth naturiol Cymru, o adeiladu tyrau ystlumod i ddarparu hyfforddiant rheoli cefn gwlad.

Trwy arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen i gynorthwyo adferiad natur, bydd y mentrau hyn yn cysylltu cymunedau a chynefinoedd, gan wella cyflwr a gwytnwch ardaloedd gwarchodedig ar y tir ac yn y môr yng Nghymru. Rhai enghreifftiau yw prosiect Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a fydd yn adfer 500 hectar o gynefinoedd, yn ailgysylltu ecosystemau tameidiog ac yn cynnig hyfforddiant adfer natur i bobl o bob cefndir. Ac i'r rhai ohonoch nad ydych wedi bod yno, bydd Fferm Drychfilod Dr Beynon yng ngogledd-orllewin sir Benfro yn defnyddio'r cyllid i wella ardal cadwraeth arbennig y comin ac yn sefydlu canolfan addysgu ar adfer natur. Mae'n lle ardderchog, ac rwy'n ei argymell yn fawr, a gallwch weld pob math o drychfilod diddorol yno a'u gwylio yn eu cynefin naturiol. Mae'r prosiectau hyn i gyd yn tynnu sylw at bŵer cydweithredu ac effaith barhaol buddsoddi mewn adfer natur. Trwy gysylltu pobl â natur a darparu'r offer ar gyfer cadwraeth hirdymor, rydym yn adeiladu amgylchedd mwy gwydn a ffyniannus ledled Cymru.

Yn ddiweddarach eleni, rydym yn bwriadu adeiladu ar hyn a lansio rownd arall o gyllid ar gyfer y gronfa Rhwydweithiau Natur i gefnogi parhad prosiectau ar raddfa ganolig a mawr, ond gan atgyfnerthu ymdrechion allweddol i adeiladu capasiti, a sicrhau y gallwn ddarparu manteision effeithiol a pharhaol i natur a chymunedau fel ei gilydd. Rydym yn gwneud camau sylweddol ymlaen gydag adfer natur. Mae ehangu coedwigoedd cenedlaethol a grantiau fel y grant buddsoddi mewn coetir wedi gwella coetiroedd, tra bod gwerth £40 miliwn o fuddsoddiad yn cefnogi adfer afonydd a bioamrywiaeth afonydd trwy brosiectau fel Nant Dowlais a chynllun Cynefin Cymru. Ac yn ogystal, mae cynllun Cynefin Cymru wedi dyrannu £16 miliwn i helpu ffermwyr i wella dros 341,000 hectar o gynefin ac adfer tua 300 km o wrychoedd.

16:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ie, wel, fel rwyf bob amser yn dweud, mae'n anodd iawn ateb yr holl gwestiynau yn yr amser sydd ar gael. Rwyf eisiau dweud dau beth arall, ar bwynt Joyce am dreillrwydo môr-waelodol.

Mae gennym brosiect ar waith lle rydym yn edrych ar bob math o bysgota sy'n cael ei ganiatáu ym moroedd Cymru, nid mewn ardaloedd gwarchodedig yn unig, i weld pa fath yw'r mwyaf cynaliadwy. Ac rwyf am gymeradwyo'r rhaglen ailgylchu offer pysgota y buom yn ei chynnal, y gallwch ei gweld ar waith yn nociau Abertawe yn ogystal â nifer o lefydd eraill. Ers 2023, rydym wedi casglu dros 15 tunnell o offer a waredwyd, gan fynd i'r afael â llygredd plastig morol, diogelu bywyd gwyllt a rhoi diwedd ar bysgota anfwriadol, Joyce, y cyfeirioch chi ato.

Rwyf am orffen trwy ddweud mai'r unig beth arall nad wyf wedi'i grybwyll hyd yma yw bod yn rhaid inni ddatgloi cyllid preifat a'i gyfeirio at feysydd blaenoriaeth. Mae gennym waith ar y gweill, a fydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd tymor y Senedd, i roi canllawiau i bobl sy'n awyddus i fuddsoddi i ddod â buddsoddiad preifat i mewn i Gymru, fel nad yw'n wyrddgalchu, ond yn hytrach y math cywir o fuddsoddiad preifat, sy'n mynd i'r lleoedd iawn. Ond nid oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth ar ei phen ei hun ddatgloi'r cyllid angenrheidiol i wneud hyn. Felly, mae'n rhaid inni roi'r arweiniad cywir i'n holl dirfeddianwyr a'n holl bobl i gael y math cywir o fuddsoddiad preifat i mewn, ac nid y gwyrddgalchu y gwn fod pawb eisiau ei osgoi.

Rydym yn y camau olaf o ddatblygu'r meini prawf ar gyfer nodi'r meysydd a fydd yn cyfrannu at y nod 30x30. Byddwch i gyd wedi fy nghlywed yn dweud yn y gorffennol ein bod yn benderfynol o wneud hyn yn iawn. Gallwn ddweud mai ardaloedd tir dynodedig yng Nghymru ydyw a dyna ni—wedi'i wneud. Ond nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid bod ardaloedd y gellir dod â hwy'n ôl i statws cadwraeth amgylcheddol da, ac felly rydym yn gwneud yn siŵr fod gennym feini prawf ar gyfer gwneud hynny i sicrhau ein bod yn gwrthdroi colli bioamrywiaeth ledled Cymru. Diolch. 

16:45

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Dwi'n meddwl bod yna sawl thema gyffredin wedi dod mas yn y cyfraniadau. Yn sicr, mae gan bawb rôl i'w chwarae. Mae angen i bawb ddod ar y daith yma, neges glywsom ni yn y cyfraniad cyntaf ac yn y cyfraniad diwethaf yna.

Dwi'n meddwl i Delyth gyfeirio at y Bil egwyddorion amgylcheddol. Mae'r drafodaeth ynglyn â thargedau yn mynd i fod yn drafodaeth fyw iawn, dwi'n meddwl, wrth i ni graffu ar y Bil yna—lle mae targedau yn ymddangos a beth fydd rheini, ac yn y blaen. Mae Carolyn yn iawn—mae'n adeg iawn o'r flwyddyn i fod yn trafod y pwnc yma, ond mae hefyd yn iawn i'n hatgoffa ni gymaint sydd wedi cael ei golli dros y blynyddoedd. Mae'r cyfeiriad at y cronfeydd ariannol yn rhywbeth sydd yn bwysig i ni gofio, oherwydd maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol. Dwi'n falch i nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion ni yng nghyd-destun y cronfeydd yna.

Cafodd lefelau Gwent eu disgrifio fel Amazon Cymru, a dwi'n meddwl bod yna wirionedd yn hynny. Rydw i, fel nifer o Aelodau, yn sicr yn ymwybodol iawn o'r gofid sydd yna ynglyn â rhai o'r cynlluniau solar a'r effaith bosibl y byddan nhw'n ei chael ar lefelau Gwent. Mae hynny yn ein hatgoffa ni o argymhelliad 30, yr argymhelliad olaf un yn yr adroddiad, sef pa mor bwysig yw sicrhau bod y gwaith yma o adfer natur yn cael ei integreiddio ar draws adrannau a pholisïau'r Llywodraeth. Mae'r polisi ynni a'r polisi cynllunio yr un mor bwysig ag unrhyw bolisi amgylcheddol penodol pan fo'n dod i'r maes hwnnw.

Mae'r amgylchedd morol yn un sy'n cael ei anghofio a'i anwybyddu'n rhy aml o lawer, er bod Joyce yn gwneud yn gyson pob ymdrech i'n hatgoffa ni o hynny. Mae'r llusgo traed ynglyn â dynodi ardaloedd morol gwarchodedig yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun rhwystredigaeth. Dwi'n cofio'r drafodaeth pan gyrhaeddais i fan hyn i'r Senedd gyntaf yn 2011—y drafodaeth ynglŷn ag estyn rhai o'r parthau, neu greu parthau newydd. Ac, wrth gwrs, dydym ni dal ddim, efallai, lle fyddai sawl un ohonom ni yn dymuno bod.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn iawn—does yna ddim gwell anrheg y gallwn ni ei rhoi i'r genhedlaeth nesaf. Mae gan bob cymuned a phob sector gyfle a dyletswydd i weithio gyda'i gilydd—pawb i ddod ar y siwrnai yma, fel y dywedom ni. Ac o ran No Mow May, mi wnes i e gyntaf rai blynyddoedd yn ôl, a ffeindio bod yna gymaint o flodau oedd yn guddiedig yn y lawnt, dwi wedi'i wneud e bob blwyddyn ers hynny. Os oes pobl yn gwrando ar hyn, beth fyddwn i'n dweud yw rhowch gynnig arni unwaith ac mi wnaf i eich sicrhau chi y byddwch chi byth yn peidio ei wneud e eto. Mae'n rhyfeddol yr hyn sydd yn cuddio yn eich lawnt chi, dim ond iddo fe gael cyfle.

Ond gweithio gyda'n gilydd a newid arfer—behavioural change—hefyd, dwi'n meddwl, yw'r neges. Mae yna rwystredigaeth yn dal i fod ynglyn ag arafwch rhai o'r prosesau yma. Rŷch chi'n sôn am fwy o ariannu sector breifat. Wel, mae hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei siarad amdano ers llawer iawn. A'r nod 30x30, wrth gwrs; fel roeddwn i'n cyfeirio yn yr araith, gydag elfennau o bolisïau ddim yn dod i'w lle tan 2029, mae hynny yn creu cwestiwn ynglyn â realiti cyflawni rhai o'r materion yma. Ond dwi yn gwybod y bydd yna gyfle i ni ailymweld â'r rhai o'r themâu yma wrth i ni graffu ar y Bil egwyddorion amgylcheddol yn y misoedd nesaf. Dwi'n gwybod ein bod ni fel pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael y cyfle i wneud hynny. Diolch. 

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8890 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf:

a) mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu tua 200,000;

b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru’n cael ei adlewyrchu gan gyfradd cyflogaeth Cymru sydd yr isaf o blith cenhedloedd y DU;

c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn; a

d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Asesiad Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006.

2. Yn credu:

a) bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’u rhoddwyd mewn grym;

b) bydd canlyniadau addysgol, economaidd ac iechyd yn well dan arweinyddiaeth newydd;

c) na ellir gwasanaethu buddiannau pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru sy’n atebol i Brif Weinidog y DU; a

d) bydd pobl Cymru yn elwa o ddatganoli pellach ac yn y pen draw, annibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y gorau o ddatganoli, mynnu bod Cymru yn cael pwerau sy’n gyfartal â’r Alban ac yn sefyll fyny i driniaeth ddirmygus Llywodraeth y DU o Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Heddiw, mae'n flwyddyn union tan etholiad nesaf y Senedd, etholiad sydd, am gymaint o resymau, yn addo bod yn bennod newydd bwysig yn hanes democratiaeth Cymru. Ewch yn ôl i fis Mai 2021 a'r hyn a ddigwyddodd ar ôl yr etholiad diwethaf. A ninnau'n dal yng nghanol y pandemig, sicrhaodd y Prif Weinidog ar y pryd, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros Gymru, na fyddai neb yn cael ei adael ar ôl ac na fyddai neb yn cael ei ddal yn ôl. Mae'r pedair blynedd a ddilynodd wedi gweld newidiadau enfawr, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd hon: codi'r cyfyngiadau COVID terfynol; aflonyddwch a thrawma, gartref ac yn rhyngwladol; diwedd 14 mlynedd o reolaeth y Ceidwadwyr ac ethol Llywodraeth newydd y DU; dau newid Prif Weinidog yma; y sgandal rhoddion a sawl achos o ad-drefnu'r Cabinet. Ond mae un peth wedi aros yn gyson drwy'r amser, sef methiant amlwg y Llywodraeth Lafur hon i gyflawni'r addewidion a wnaed ar ddechrau'r tymor Senedd hwn.

Yn wir, ble bynnag yr edrychwch chi, boed ar y GIG, ein heconomi, ysgolion neu gymdeithas yn ehangach, mae'r sefyllfa'n waeth nawr na lle'r oeddem arni yn 2021: ein GIG gwerthfawr ar ei liniau, yn gwegian o dan bwysau ôl-groniad rhestrau aros sydd wedi tyfu oddeutu 200,000 ers yr etholiad diwethaf; economi farwaidd sy'n un o'r rhai sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran cyflogaeth, cynhyrchiant a thwf cyflogau, a nifer trychinebus o swyddi wedi'u colli; diwydiant dur a fradychwyd yng Nghymru wrth iddo gael ei hyrwyddo yn Lloegr; traean o'n plant yn byw mewn tlodi, a rhagwelir y bydd y cyfraddau'n codi dros weddill y degawd hwn; a safonau addysgol sydd wedi dirywio i'r fath raddau fel bod Cymru wedi cael ei sgoriau PISA gwaethaf erioed yn ddiweddar, ac mae un rhan o bump o blant Cymru wedi eu categoreiddio fel rhai sy'n weithredol anllythrennog erbyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd. Dyma'r sefyllfa druenus a gaiff ei gadael gan Lafur i Lywodraeth nesaf Cymru.

Fi fyddai'r cyntaf i gydnabod bod yna ffactorau allanol i'w hystyried hefyd, ac mae'r Blaid Geidwadol yn euog am adael gwaddol all ond cael ei ddisgrifio fel un cywilyddus. Ac unwaith eto, rydyn ni’n gweld rhagrith digywilydd y Torïaid yn cael ei arddangos efo'u gwelliant nhw. Dim awgrym o edifeirwch o gwbl am gefnogi cyllideb Liz Truss a achosodd gymaint o niwed i economi’r Deyrnas Unedig a Chymru, heb anghofio eu cyfrifoldeb dros y Brexit caled sy'n parhau i greu cymaint o rwystrau i fusnesau Cymru.

A gadewch i ni fod yn onest, mi fydd 14 blynedd o lymder yn staen parhaol ar gyfnod y Ceidwadwyr mewn grym. Does rhyfedd iddyn nhw brofi cyflafan etholiadol yng Nghymru haf diwethaf, ac mae polau piniwn ar gyfer etholiad y Senedd yn awgrymu eu bod nhw'n gynyddol amherthnasol ym meddyliau etholwyr Cymru.

Ond mae'r esgusodion yn llawer anoddach i'w goddef rŵan bod y Blaid Lafur mewn Llywodraeth yn San Steffan, rhywbeth a addawyd dro ar ôl tro gan Aelodau Llafur am flynyddoedd cyn yr etholiad fyddai'n arwain at newid er gwell. Yn lle hynny, beth rydym wedi ei weld ydy un addewid ar ôl y llall yn cael ei dorri a Phlaid Lafur sy'n gweithio yn fwriadol, mae'n teimlo, yn erbyn buddiannau Cymru.

Mae Llafur i'w gweld yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru mewn cymaint o ffyrdd. Sut arall y gellir esbonio'r penderfyniad digalon i wthio mwy fyth o'n dinasyddion i dlodi trwy doriadau i'r gyllideb les y byddai hyd yn oed George Osborne yn gwingo wrth eu gwneud, a gwrthodiad gan Brif Weinidog Llafur Cymru i gondemnio hynny? Neu dynnu lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl, cam y rhybuddiodd y comisiynydd pobl hŷn y bydd yn achosi 4,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, neu'r gwrthodiad parhaus i roi gwerth un geiniog o arian canlyniadol HS2 i ni, na'r gallu i gadw cyfoeth ein hadnoddau naturiol ein hunain na hyd yn oed ystyried y syniad fod Cymru'n haeddu statws cyfansoddiadol sy'n gydradd â'r Alban.

Anaml y bydd ar blaid wleidyddol gymaint o ddyled i grŵp o bleidleiswyr, ac eto wedi rhoi cyn lleied yn gyfnewid am hynny. Felly, nawr yn fwy nag erioed, mae angen Llywodraeth Cymru sy'n wirioneddol barod i sefyll yn erbyn y gwaethaf sydd gan San Steffan i'w gynnig a dangos arweinyddiaeth gref a phendant sy'n rhoi'r wlad yn gadarn o flaen eu plaid. Ac eto, fel y mae eu gwelliant i'n cynnig yn dangos, gwelliant sy'n dileu'r cyfeiriad at sefyll dros Gymru, ar yr adeg waethaf bosibl, mae gennym Lywodraeth sy'n ofni cynhyrfu'r dyfroedd i'r fath raddau fel na wnaiff gynnig amddiffyniad symbolaidd hyd yn oed rhag agenda gyni eithafol Starmer, oherwydd dyna ydyw.

16:55

Dywedodd y Prif Weinidog ddoe ei bod hi'n siarad dros Gymru, ei bod hi'n rhoi'r genedl yn gyntaf o flaen ei phlaid, ac mae hi wedi bod yn codi llais am y toriadau i anabledd, oherwydd ei fod mor bwysig i Gymru—mae gennym boblogaeth sy'n salach—gan siarad dros gyllid rheilffyrdd, a gwn fod ein Hysgrifennydd Cabinet hefyd wedi bod yn siarad am y cap dau blentyn.

Diolch am yr ymyriad. Ddoe, fe glywsom rai geiriau, do, ond am naw mis, rydym wedi gweld mai greddf y Prif Weinidog Llafur yw diogelu buddiannau Llafur trwy wrthod herio, gwrthod condemnio'r toriadau i'r budd-daliadau, gwrthod codi llais pan ddylai fod wedi codi llais. Dyma Lywodraeth sydd wedi rhoi ei holl egni dros y flwyddyn ddiwethaf i reoli anhrefn mewnol y blaid, gan gynnwys tri Phrif Weinidog gwahanol a gwneud esgusodion dros eu partneriaid mewn grym. Ac er gwaethaf ymdrechion taer y Prif Weinidog yr wythnos hon i ailosod, gyda'i hymgais hwyr i droi'r dŵr coch clir ymlaen ar ôl misoedd o ganiatáu i'r tap redeg yn sych, ni fydd y cyhoedd yng Nghymru yn cael eu twyllo. Naill ai fe allwch chi edrych ar ôl buddiannau eich gilydd, peidio â chynhyrfu'r dyfroedd, cael partneriaeth mewn grym o'r math hwnnw, neu gallwch gael y dŵr coch clir rhyngoch chi San Steffan. Ni allwch gael y ddau.

Mae hyn yn tanlinellu'r dilema amhosibl sy'n wynebu aelodau o bleidiau San Steffan, beth bynnag fo'u hymrwymiad i bobl Cymru—ac rwy'n dweud hyn: nid wyf am eiliad yn amau didwylledd personol unrhyw Aelod Llafur yma o ran hynny—rhaid ei fframio bob amser, rhaid ei drafod a'i gymeradwyo bob amser o fewn ffiniau buddiannau penaethiaid eu pleidiau yn Llundain. Mae'n rhywbeth a ddaeth yn amlwg ac yn glir yn araith ail-frandio'r Prif Weinidog yr wythnos hon, yn llawn o'ch sloganau gwag a'ch rhethreg ddisylwedd. Roedd unrhyw herio'n gosmetig, ac ni chafwyd unrhyw alwadau diamwys, dros wrthdroi toriadau lles creulon Llafur er enghraifft. Nid oes unrhyw gyfyngu o'r fath ar Blaid Cymru. Rwyf eisiau perthynas adeiladol ag unrhyw Brif Weinidog y DU, ond rydym yn atebol i bobl Cymru yn unig; heb unrhyw os nac oni bai.

Nid yw difidend datganoli yn talu o dan Lafur. Dyma Lywodraeth Cymru sydd wedi rhedeg ei chwrs, wedi rhedeg allan o syniadau a'r ewyllys i herio San Steffan ar ran Cymru. Mae wedi rhoi'r ffidl yn y to ar Gymru, a dyna pam y mae mwy a mwy o bleidleiswyr Llafur yn gweld rhaglen lywodraethu Plaid Cymru yn bwerus ac yn gredadwy. Cynigiodd Llafur newid yn yr etholiad y llynedd, ac ni lwyddodd i gyflawni. Nawr, rydym ni eisiau chwistrellu hygrededd yn ôl i mewn i'r neges o newid ar ôl i Lafur ei ddibrisio cymaint. Felly, mae'r etholiad nesaf yn rhoi cyfle hanesyddol i etholwyr Cymru gael gwared ar y dyn yn y canol ac ymddiried awenau grym i blaid y gallant fod yn gwbl sicr na fydd byth yn gorfod ildio i San Steffan cyn cynllunio dyfodol gwell i'n cenedl. Os yw'r Aelodau o ddifrif eisiau sefyll dros Gymru, fe fyddant yn pleidleisio dros ein cynnig ni heddiw.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw e. 

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf, o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru:

a) mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu tua 200,000;

b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru yn adlewyrchu'r ffaith mai ei chyfradd gyflogaeth yw'r isaf o blith cenhedloedd y DU;

c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn;

d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006;

e) mae terfynau cyflymder diofyn 20mya wedi cael eu cyflwyno; ac

f) mae cynlluniau i gynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd wedi cael eu cyflwyno, a fydd yn ychwanegu 36 ohonynt.

2. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi methu â herio Llywodraeth y DU ar ran pobl Cymru ar faterion fel ei pholisi treth etifeddiant, dileu lwfans tanwydd y gaeaf a chynyddu costau yswiriant gwladol ar gyfer cyflogwyr.

3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’i roddodd mewn grym.

4. Yn cydnabod bod Plaid Cymru wedi cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru ac y dylai’r blaid honno hefyd fod yn atebol am effaith eu polisïau.

5. Yn credu bod angen llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig ar Gymru i sicrhau’r canlyniadau gwell o ran yr economi, addysg ac iechyd y mae pobl Cymru’n eu haeddu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Senedd hon. Mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain: ym mhob maes polisi posibl, mae'r Llywodraeth hon wedi dod o hyd i ffordd o wneud cam â phobl Cymru a gwneud eu bywydau'n anos. Boed yn berfformiad y GIG, safonau addysgol neu weithgarwch economaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod Cymru wedi aros ar waelod y tablau cynghrair. Er bod Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion yma yn methu ysgwyddo unrhyw atebolrwydd ystyrlon, y tu ôl i bob set o ystadegau mae rhywun wedi cael ei siomi—cleifion o bob oed yn aros yn rhy hir am driniaeth, plant nad ydynt yn cyrraedd eu potensial yn yr ysgol, neu berchnogion busnesau sy'n wynebu biwrocratiaeth. Y bore yma roedd etholwyr yn cysylltu â mi am fod rhaid iddynt aros oriau lawer am ambiwlans. Nid yw'n ddigon da, ac mae ein pobl yn haeddu gwell.

Mae pethau wedi bod mor ddrwg fel bod y Prif Weinidog diweddaraf wedi gorfod creu Gweinidog Cyflawni i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflawni'r rhaglen lywodraethu. Ac rydym yn cofio Prif Weinidog blaenorol yn sefydlu uned gyflawni, ond diflannodd honno'n gyflym heb unrhyw welliannau o gwbl.

Wrth gwrs, nid yw'n deg dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth mewn grym dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi bod yn brysur iawn gyda'u blaenoriaethau eu hunain, a bydd gennym 36 yn rhagor o wleidyddion yn dod i'r Senedd y flwyddyn nesaf yn brawf o hynny. Mae'r Llywodraeth hon yn gyfrifol am fwy na sicrhau rhagor o wleidyddion. Cawsom waharddiadau ar adeiladu ffyrdd mawr a gwaharddiadau ar hyrwyddo bargeinion pryd bwyd o dan y Llywodraeth hon, a lle na allant wahardd, maent yn trethu—treth dwristiaeth, treth ail gartrefi a nawr mae'n ymddangos eu bod yn ystyried tincran gyda'r system dreth incwm, oherwydd nid yw Llywodraeth Cymru eisiau mynd i'r afael â'r problemau go iawn sy'n wynebu aelwydydd yng Nghymru. Yn hytrach, trwy ganolbwyntio ar eu blaenoriaethau fel y'u gelwir, y cyfan a wnaethant yw dal busnesau yn ôl a gwneud pobl yn fwy diflas.

Nawr, fel y dywed pwynt 2 yn ein gwelliant, credwn nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni dros bobl Cymru, mae hefyd wedi methu

'herio Llywodraeth y DU ar ran pobl Cymru',

ni waeth beth a ddywedodd y Prif Weinidog wrthym ddoe. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw beth pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei newidiadau i'r dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol. Ni wnaeth unrhyw beth pan aeth Canghellor y DU ati, yn gywilyddus, i dorri taliad tanwydd y gaeaf, ac ni lwyddodd i sefyll dros fusnesau ledled Cymru wrth i Lywodraeth y DU gynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr. A rhaid gofyn y cwestiwn, pa les yw Llywodraeth Cymru os na all herio ar ran y bobl y mae i fod i'w cynrychioli? Mae'n amlwg fod angen arweinyddiaeth newydd am nad oes gan y Llywodraeth unrhyw syniadau ar ôl, a'r gwir amdani yw mai dim ond o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig y bydd pethau'n gwella.

Nawr, fel y gwyddom i gyd, Plaid Cymru sydd wedi bod yn tynnu llinynnau Llywodraeth Cymru yn y Senedd hon. Gêm o niferoedd yw gwleidyddiaeth ac nid yw polisïau a deddfwriaeth ond yn pasio pan fydd mwyafrif yn y lle hwn yn pleidleisio drostynt. Yn y Senedd hon, mae Plaid Cymru wedi bod yn allweddol yn cynnal Llywodraeth Cymru a phleidleisio dros eu polisïau. Mae wedi dod yn arferol i Blaid Cymru gynnal Llywodraeth Lafur—maent wedi gwneud hynny ar achlysuron ers blynyddoedd—ac rwy'n credu y dylent hwythau hefyd fod yn atebol am yr effaith y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn ei chael ar bobl Cymru.

Mae'n syndod fod Plaid Cymru yn gallu cyflwyno'r cynnig hwn heb unrhyw gyfeiriad at eu cytundeb cydweithio, sydd wedi galluogi'r Llywodraeth hon i fethu. Mae Plaid Cymru bob amser wedi bod y blaid gydag un droed yn y Llywodraeth ac un yn yr wrthblaid, ac rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn gweld trwy hynny ac yn sylweddoli mai pleidlais arall i Lafur Cymru yw pleidlais i Blaid Cymru. Mae eu cynnig yn iawn i ddweud bod angen arweinyddiaeth newydd, ond mae'n peri pryder nad ydynt yn sylweddoli mai hwy sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i gymaint o bolisïau'r Llywodraeth ddod i fodolaeth.

Gadewch inni fod yn glir, nid yw Llywodraeth Plaid Cymru—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Gadewch inni fod yn glir, nid yw Llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i wrthdroi polisïau fel y dreth dwristiaeth neu'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer eiddo hunanddarpar. Ac yn fwy pryderus, mae Llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i wthio am fwy o bwerau, annibyniaeth a dinistr y Deyrnas Unedig, er bod pobl Cymru yn ei wrthwynebu. Fe wnaf dderbyn yr ymyriad.

17:00

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Caf fy nharo gan y ffaith eich bod chi'n parhau i siarad ynglŷn â sut y mae angen arweinyddiaeth newydd, fel pe baech chi'n meddwl y byddai troi at y Torïaid mewn unrhyw ffordd yn darparu'r arweinyddiaeth newydd sydd ei hangen ar Gymru, ar ôl y 14 mlynedd a'r holl niwed a wnaed i'n cenedl. Onid ydych chi'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl neu'n dangos unrhyw gywilydd am hynny?

Wel, mae Plaid Cymru wedi treulio'r rhan fwyaf o'u taith ddatganoli yn cynnal Llafur, ac edrychwch ble mae hynny wedi mynd â ni: y canlyniadau addysgol gwaethaf yn y DU, gwasanaeth iechyd toredig ac economi ddilewyrch. Y cyfan o dan oruchwyliaeth Plaid Cymru. Dylai fod yn embaras i Blaid Cymru eu bod yn galw am fwy o bwerau. Nid ydynt wedi gallu helpu Llafur i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddynt yn barod.

Felly, fel y dywedais o'r blaen, Ddirprwy Lywydd, ar garreg y drws yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, nid yw pobl yn codi mater pwerau pellach gyda mi. Mae pobl Cymru eisiau inni fwrw ymlaen â'r gwaith o drwsio ein GIG, trwsio ein heconomi a thrwsio ein system addysg, a'r unig ffordd o wneud hynny yw gyda Llywodraeth Geidwadol Gymreig mewn grym y flwyddyn nesaf.

17:05

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn canmol Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn benderfynol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a darparu ar gyfer cymunedau ledled Cymru, er gwaethaf y pwysau a grëwyd gan setliad ariannol cynyddol dynn.

2. Yn cydnabod nad yw'r trefniadau cyllido Barnett presennol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Cymru ac yn cefnogi trafodaeth adeiladol rhwng y ddwy lywodraeth Lafur i sicrhau model cyllido hirdymor tecach.

3. Yn nodi'r angen dybryd am setliad cyllido teg sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau penodol Cymru.

4. Yn cydnabod ymhellach hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o gyflwyno polisïau blaengar—megis presgripsiynau am ddim, parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, a chyflwyno prydau am ddim i holl blant ysgolion cynradd—sy'n dangos gwerthoedd Llafur ar waith, hyd yn oed yn wyneb cyfyngiadau cyllidebol.

5. Yn nodi'r cynnydd gwirioneddol sy'n cael ei wneud o ran lleihau rhestrau aros y GIG yng Nghymru drwy weithgarwch buddsoddi a diwygio wedi'i dargedu, gan gydnabod yr angen am gymorth parhaus i ateb y galw cynyddol.

6. Yn cefnogi cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau cyllid tecach, ysgogi adnewyddiad economaidd, a gwella bywydau pobl ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ac wedi cadw, nad yw'n hawdd dros 14 mlynedd o gyni. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi dod i rym fis Gorffennaf diwethaf ac wedi rhoi arian yn ôl i wasanaethau cyhoeddus; fe wnaeth wahaniaeth enfawr.

Yma yng Nghymru, mae gennym bresgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai a buddsoddiad mewn ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru, ac rydym wedi tyfu lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd, a bwrsariaethau ar gyfer nyrsys, bydwragedd a therapyddion deintyddol, yn wahanol i Loegr. Mae tocynnau bws am ddim i bobl dros 60 oed wedi'u cadw—chwech neu saith mlynedd yn Lloegr—ac mae tua £600 miliwn wedi'i wario yn ystod y tymor Senedd hwn ar gefnogi a chadw gwasanaethau bysiau. Mae gennym Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) blaengar yn cael ei gyflwyno i ddiogelu a chynnal bysiau yn y dyfodol, a buddsoddiad sylweddol mewn trenau newydd, gyda nifer y teithwyr yn cynyddu 25 y cant, ac ni wnaeth ein gyrwyr na'n gweithwyr trenau ni fynd ar streic. Mae gennym gap wythnosol o £100 ar ofal cartref a chyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Mae gennym hybiau lles a hyb orthopedig newydd yn cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru nawr i fynd i'r afael â'r rhestrau aros, ac mae rhestrau aros wedi bod yn gostwng dros y tri mis diwethaf. Brecwast a chinio ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd—newydd gael eu cyflwyno nawr yn Lloegr, o dan Lywodraeth Lafur y DU. Mae gennym y gyfradd ailgylchu orau ond un yn y byd ac mae hynny'n dod â busnesau i Gymru.

Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi codi i £40, ynghyd â phecyn cymorth hael—[Torri ar draws.] Gweithiais arno gyda Luke; fe'i gwnaethom gyda'n gilydd. Mae gennym dros £2 biliwn mewn adeiladau ysgol newydd gwych a buddsoddiad mewn cyfleusterau gofal plant, fel bod gennym ddarpariaeth i allu cynnig gofal plant, nid addewid gwag yn unig. Ac £20 miliwn yn ddiweddar i wella cyfleusterau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol; maent yn dal i ymdopi â sefyllfa chwilfriw yn Lloegr, wrth iddynt geisio dal i fyny. Mae gennym dai cymdeithasol newydd sy'n gwneud defnydd effeithlon o ynni a grantiau Cartrefi Clyd i'r rhai mewn perchnogaeth breifat; grantiau er mwyn i adeiladau cyhoeddus a chlybiau chwaraeon wneud defnydd effeithlon o ynni; grantiau Llywodraeth Cymru sydd bob amser wedi achub ein busnesau cymunedol. Mae gennym gyllid sylweddol i ymdopi â llifogydd—llifogydd arfordirol, yn ogystal ag yn ein trefi a'n cymunedau—angen sydd ei angen mor ddirfawr i wrthsefyll newid hinsawdd. Mae hefyd yn cynnwys clwb golff newydd yn y Rhyl, sydd i'w groesawu'n fawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn pan fo amseroedd yn anodd, er enghraifft gyda'r cynnydd mewn costau ynni, gyda chronfa cymorth dewisol, sy'n cynnwys talebau tanwydd a chyda chronfa gynghori sengl yn cael ei chyflwyno. Mae gennym raglenni plannu coed ac adfer natur, lle mae mwy na 4,000 o fannau gwyrdd yn cael eu creu neu eu gwella ar gyfer natur a thyfu bwyd. Mae swyddi bioamrywiaeth wedi cael eu diogelu mewn awdurdodau lleol. Theatr Clwyd sydd wedi gweld y buddsoddiad celfyddydol mwyaf yng Nghymru a bydd yn gymaint mwy na theatr pan fydd yn agor ym mis Mehefin. Byddai wedi gorfod cau heb y buddsoddiad—

Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â Theatr Clwyd: buddsoddiad cyfalaf enfawr, sydd i'w groesawu'n fawr iawn. Ond yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym, wrth gwrs, yw y gallem gael y theatr fwyaf mawreddog yng ngogledd Cymru, ond heb y cyllid refeniw i fynd gyda hynny, beth a wnânt â hi?

Gadewch imi barhau am Theatr Clwyd—bydd yn parhau, oherwydd mae wedi creu 180 o swyddi adeiladu a bydd 240 o weithwyr craidd yno nawr, yn y dyfodol, gydag atgyfeiriadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe wnaethant ffrydio panto i 60 o gartrefi gofal ac ysbytai. Mae'n creu mwy o brentisiaid mewn twristiaeth ac arlwyo. A bydd hyb ieuenctid, gofod mam a phlentyn, toiled Changing Places, a lleoedd gwylio tawel arbennig i bobl ag awtistiaeth. Dyna un enghraifft o fuddsoddiad yn ein cymunedau, a buddsoddiad i newid ein cymunedau. Bydd yn gyflogwr enfawr i'r ardal.

Yng Nghymru, nid gofal plant yn unig sydd gennym, ond gofal cofleidiol estynedig. Mae yna ddosbarthiadau babanod sy'n cynnig tylino babanod, diddyfnu bwydo ar y fron. Mae 30 awr yr wythnos am 48 wythnos sy'n fwy hael nag yn Lloegr i rieni sy'n gweithio a'r rhai mewn addysg a hyfforddiant.

Cafwyd codiad cyflog o rhwng 5 y cant a 6 y cant i weithwyr y sector cyhoeddus. Mae'r warant i bobl ifanc yn helpu 50,000 o bobl ifanc ac yn darparu dros 100,000 o brentisiaethau ar gyfer y tymor Senedd hwn; erbyn hyn mae gennym bron i hanner nifer y bobl ifanc yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Gwneir hyn drwy gefnogaeth, buddsoddiad, anogaeth ac ymddiriedaeth.

Mae lles anifeiliaid yn hynod bwysig yng Nghymru, gan wahardd y defnydd o faglau, gwahardd rasio milgwn a chyflwyno Bil newydd ar gyfer trwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, a gwrthsefyll difa ein bywyd gwyllt brodorol. 

Mae Cymru'n wahanol. Mae gennym boblogaeth hŷn, salach a mwy gwledig. Felly mae angen Llywodraeth Lafur Cymru sy'n rhoi blaenoriaeth i wasanaethau cyhoeddus ac nad yw'n gadael pobl ar ôl, beth bynnag a gaiff ei daflu atynt gan wahanol Lywodraethau, ac sy'n cefnogi natur, lles anifeiliaid a'r amgylchedd naturiol. Mae gennyf 15 eiliad ar ôl ar gyfer ymyriad.

17:10

Gennyf i? O'r gorau. Roeddwn eisiau dod yn ôl ar y pwynt ynglŷn â gofal plant. Dangosodd adroddiad diweddar fod gennym y gofal plant mwyaf anfforddiadwy yn y DU gyfan. Felly, a fyddech chi'n galw hynny'n llwyddiant?

Mae fy merch yn byw yn Lloegr, a dywedodd fod beth sy'n digwydd yng Nghymru—oherwydd mae ganddi ffrindiau yng Nghymru hefyd; mae hi ar y ffin—yn llawer gwell na'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. O ddifrif. Mae angen inni fuddsoddi mwy mewn gofal plant. Rwy'n cytuno â hynny. Ond mae'r hyn a wnawn yng Nghymru, o dan yr amgylchiadau, ymhell ar y blaen. Rydym yn buddsoddi mewn adeiladau; rydym yn ei wneud yn raddol. Nid gofal plant yn unig mohono. Mae mwy na hynny'n cael ei gynnig yma i rieni, ac mae'n fwy hael na'r hyn a geir yn Lloegr. Ni allant gyflawni'r hyn y maent wedi'i addo yn Lloegr. Nid oes ganddynt gyfleusterau i wneud hynny.

Cawsom restr hir iawn yno, Carolyn. Ar rai o bwyntiau Paul Davies, a beirniadu gwleidyddiaeth gydsyniol, wel, dyna sut fydd hi gyda Senedd estynedig. Dyna sut y mae pobl Cymru eisiau i ni allu cydweithredu. Lle gallasom wneud hynny, rydym yn falch o hynny. Ond hefyd, pan fydd pethau wedi methu, byddwn yn tynnu sylw at y rheini. Dyna beth oedd yn siomedig yn eich rhestr, Carolyn. Nid oedd unrhyw ystyriaeth o'r ffaith bod cyfraddau tlodi plant yn waeth. Cafodd y newid hwn ei addo i bobl—pan fyddai'r ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, y byddai mor drawsnewidiol. Gwelwn ASau Llafur San Steffan sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru yn pleidleisio yn erbyn pethau yr ydym yn cytuno arnynt yma. Felly, sut ydych chi'n cysoni'r pethau hynny?

Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym ers llai na blwyddyn. Mae cyfraddau tlodi plant yn uwch yng Nghymru. Mae gennym lefel uchel o amddifadedd, felly mae angen i fwy o ymyriadau ddigwydd, fel sydd newydd ddigwydd gyda'n Llywodraeth Lafur Cymru, fel grantiau gwisg ysgol. Rydym yn camu i mewn, dro ar ôl tro, i helpu—

Yn camu i mewn oherwydd bod Llywodraethau olynol y DU wedi gwneud cam â Chymru. Pleidleisiodd ASau Llafur o Gymru yn San Steffan yn erbyn pethau a fyddai o fudd i Gymru—pethau fel taliad tanwydd y gaeaf. O ran datganoli Ystad y Goron, mae ASau Llafur yn San Steffan sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru—. Dyna beth y mae Llafur Cymru yn ei olygu i bobl Cymru: addewidion na chânt eu gwireddu.

Dyna lle rydym yn edrych ar y gwelliannau yma heddiw gan y Llywodraeth Lafur. Os caf ganolbwyntio ar un agwedd benodol ar welliannau'r Llywodraeth, sef y cyfeiriad sy'n gofyn i'r Senedd gefnogi trafodaeth adeiladol rhwng y ddwy Lywodraeth Lafur i sicrhau model cyllido hirdymor tecach i Gymru, y cwestiwn y byddwn i'n ei ofyn yw: pa drafodaeth adeiladol? A yw hynny'n cyfateb i sefyll dros Gymru? Oherwydd nid yw wedi bod yn adeiladol hyd yma.

Nid oes unrhyw arwydd fod hyn yn mynd i newid, er gwaethaf y rhethreg ddoe, er gwaethaf yr hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym ac er gwaethaf yr holl addewidion a wnaed i bobl Cymru. Er ein bod yn cytuno, wrth gwrs, fod angen dybryd am setliad cyllido teg i Gymru, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru heddiw, a yw eich ASau Llafur o Gymru yn San Steffan yn cytuno â hyn? A beth am Lywodraeth Lafur y DU? Oherwydd mae pob arwydd hyd yma yn awgrymu nid yn unig fod y bartneriaeth mewn grym wedi methu newid unrhyw beth yn yr achos dros ddiwygio fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, ond ei bod hefyd wedi parhau sefyllfa lle mae Cymru'n cael cam gan San Steffan.

Gosodwyd y cywair yn ystod dyddiau cynnar prif weinidogaeth Prif Weinidog Cymru, pan honnodd y byddai'n gofyn am weld fformiwla Barnett yn cael ei chymhwyso'n deg. Ac nid yw'n syndod fod ceisio gwasgu tegwch o system sy'n sylfaenol annheg wedi profi'n hollol wrthgynhyrchiol. Mae wedi rhoi trwydded i Lywodraeth Starmer roi'r gorau i unrhyw esgus eu bod yn trin Cymru gyda pharch. Yn wir, os rhywbeth, mae'n ymddangos eu bod yn benderfynol o dynnu sylw at gymaint y mae Cymru'n ei golli o'n trefniadau cyllido presennol.

Er enghraifft, cymerwch Farnetteiddio ad-daliadau'r Trysorlys i ymateb i'r cynnydd i yswiriant gwladol gweithwyr yn y sector cyhoeddus craidd. Disgrifiwyd hyn yn gywir fel annhegwch sylfaenol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac mae wedi golygu bod Cymru'n wynebu diffyg o £65 miliwn o'i gymharu â Lloegr, gan rwbio halen ymhellach i friw cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU sydd wedi taro sefydliadau'r trydydd sector yn galed ac y rhagwelir y byddant yn golygu mai Cymru sy'n wynebu'r cynnydd isaf o adnoddau mewn termau real o bob un o'r gwledydd datganoledig hyd at 2026.

Ar ben hynny, fel yn achos y toriadau creulon a wnaed i'r gyllideb les, Mae'n ymddangos i'r penderfyniad hwn gael ei wneud heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru, gyda gwrthwynebiadau Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn syrthio ar glustiau byddar. Naw wfft i'r newid cadarnhaol mewn cysylltiadau rhynglywodraethol y clywsom gymaint amdano yn dilyn yr etholiad cyffredinol. Mae'n nodweddiadol o'r safonau dwbl amlwg yn agweddau'r Pencadlys Llafur tuag at Gymru, boed yn y brys i wladoli gwaith dur Scunthorpe, fel y nododd Rhun ap Iorwerth, o'i gymharu â'r diffyg gweithredu ar Tata Steel, eu gwrthodiad i alluogi Cymru i elwa o gyfoeth ein hadnoddau cenedlaethol ein hunain, y methiant i ddarparu un geiniog o arian canlyniadol HS2 i ni neu'r modd dirmygus y cafodd yr achos pwerus dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona ei ddiystyru. 

Felly, rwy'n dychwelyd at fy nghwestiwn cychwynnol: pa drafodaeth adeiladol? Ble mae'r dystiolaeth fod y bartneriaeth mewn grym yn darparu manteision diriaethol i Gymru a'r newid a addawyd i bobl Cymru? Ac os mai dyma sut beth yw trafodaeth adeiladol ym meddyliau Llywodraeth Cymru, bydd pobl Cymru sydd wedi pleidleisio dros Lafur yn flaenorol yn dod i'r casgliad digon teg nad yw pleidleisio yn yr un ffordd ag y maent wedi'i wneud yn cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen mor daer. Mae Cymru'n cael cam. Mae Cymru'n cael ei hamddifadu o'r liferi a'r pwerau a fyddai'n trawsnewid ein dyfodol. Gwrthodwch y gwelliannau a phleidleisiwch dros y cynnig fel y'i cyflwynwyd gan Blaid Cymru.

17:15

Wrth inni agosáu at y flwyddyn olaf yn y tymor Senedd hwn ac edrych ymlaen at etholiad 2026, mae gennym gyfle a chyfrifoldeb i fyfyrio'n onest ac yn adeiladol ar sut rydym yn gwasanaethu pobl Cymru. Yn fy marn i, dylai'r ddadl heddiw ar berfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd fod yn foment i ystyried yr hyn a gyflawnwyd, lle mae cynnydd wedi bod yn llai na'r disgwyl a sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd yn y ffordd orau. Ond o'r hyn a welaf yn y cynnig hwn a'r holl rai eraill, y byddaf yn pleidleisio yn eu herbyn i gyd, nid wyf yn gweld hynny.

Mae'r cynnig gan Blaid Cymru yn tynnu sylw'n gywir at lawer o'r heriau dwfn a pharhaus sy'n wynebu Cymru: rhestrau aros GIG sy'n cynyddu i'r entrychion, twf economaidd araf a dadrithiad eang ynghylch y status quo gwleidyddol. Mae'r rhain yn bryderon go iawn, ac yn rhai yr ydym i gyd yn clywed amdanynt bob dydd yn ein bywydau. Ond gyda'r parch mwyaf i Blaid Cymru, yr hyn y mae'n methu ei grybwyll yw eich bod chi wedi cael sedd wrth y bwrdd. Am bron i dair blynedd, fe fuoch chi'n rhan o gytundeb cydweithio ffurfiol gyda Llafur Cymru. Rydych chi wedi helpu i lywio'r llong, ac nid eich lle chi yw mynegi syndod ynglŷn â lle mae wedi cyrraedd a chithau wedi bod yn dal y map. [Torri ar draws.] A ydych chi eisiau ymyrryd?

Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n llythrennol newydd ddod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.

Diolch. Roeddwn i'n disgwyl hynny. Tair blynedd gan Blaid Cymru. Fe wneuthum i un cytundeb ar y gyllideb a wnaeth yn siŵr ein bod yn cyflawni dros bobl Cymru; un cytundeb ar y gyllideb a wnaeth yn siŵr na fyddem yn colli £5 biliwn—£5 biliwn—o gyllid. [Torri ar draws.] A gaf i barhau, oherwydd mae gennyf rywbeth cadarnhaol i'w ddweud am Blaid Cymru? Pam na—[Torri ar draws.]

Pam na wnewch chi berchnogi'r hyn a gyflawnwyd gennych? Pam na siaradwch chi yn y cynnig hwn am brydau ysgol am ddim, cyflawniad gwych, sydd wedi—[Torri ar draws.] A hoffech chi wneud ymyriad?

Diolch. Sydd wedi cyflawni newid gwirioneddol i blant Cymru. Felly, beth am siarad am rai o'r cyflawniadau hynny yn eich cynnig?

I droi at y Ceidwadwyr Cymreig, mae eich gwelliannau chi, yn enwedig yr un sy'n sôn am dlodi plant, yn gywilyddus. Rhaid ichi gydnabod y rhan y mae eich plaid yn San Steffan wedi'i chwarae yn achosi tlodi plant. Gadewch inni fod yn onest: roedd y cap dau blentyn ar fudd-daliadau a gyflwynwyd yn 2017 gan eich Llywodraeth Geidwadol chi yn ddinistriol, ac mae sefydliadau wedi dweud mai dyma'r sbardun unigol mwyaf i dlodi plant yn y DU. Ym Mhowys yn unig, mae gennym dros 1,000 o blant yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan hyn. Felly, rhowch y gorau i wylo dagrau crocodeil, os gwelwch yn dda. Mae honni y byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn gwneud yn well i'n cymunedau yn sarhaus. Mae eich plaid chi wedi ein gweld yn tynnu allan o'r UE, lle rydym wedi colli mynediad at y farchnad sengl, gan amddifadu Cymru o £1 biliwn o gyllid strwythurol a chymdeithasol yr UE, ac wedi gadael busnesau Cymru yn boddi mewn biwrocratiaeth. Mae eich plaid chi hefyd wedi tanseilio datganoli dro ar ôl tro, wedi gwrthsefyll diwygio etholiadol ac wedi rhwystro ymdrechion i roi mwy o reolaeth i'r cyhoedd yng Nghymru dros eu dyfodol.

Rhaid imi droi at Lafur, wrth gwrs. Ers blynyddoedd, mae Llafur Cymru wedi beio pob rhwystr ar San Steffan, ond nawr, gyda'ch plaid eich hun mewn grym, gwelwn gyn lleied o ddylanwad sydd gennych mewn gwirionedd a pha mor araf y mae Llafur wedi bod i sefyll dros Gymru pan fo'n bwysig gwneud hynny. 

Rwy'n credu bod cynnydd wedi bod. Rwy'n falch o bethau fel yr incwm sylfaenol cyffredinol i rai sy'n gadael gofal a dileu elw o ofal plant, a'r gwaharddiad ar rasio milgwn, wrth gwrs—rhaid imi sôn am hynny. Rwy'n croesawu'r camau hirddisgwyliedig i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiad Senedd 2026. Nid yw wedi mynd yn ddigon pell. Roedd yna system yr oeddem ei heisiau, ac roedd Plaid Cymru ei heisiau hefyd mewn gwirionedd, ac yn anffodus, fe welsom droi cefn ar y Bil cwota rhywedd, cam go gywilyddus. Ond mae'r newidiadau hyn yn dangos y gall y Senedd gyflawni diwygiadau ystyrlon drwy weithio gyda'n gilydd.

Ond gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain—nid ydym wedi mynd yn ddigon pell eto. Rwy'n credu'n angerddol y dylai gwleidyddiaeth ymwneud ag atebion. Mae'r bobl a gynrychiolwn yn disgwyl gwell na rowndiau diddiwedd o feirniadu a dadlau amddiffynnol. Maent yn disgwyl arweinyddiaeth, diwygio radical, gostyngeiddrwydd a chydweithredu. Fe welsom yr wythnos diwethaf, oni wnaethom, pa mor bwysig yw hi mai ni yw'r oedolion yn yr ystafell, ein bod ni'n cyflawni pethau gyda'n gilydd, yn rhoi'r gorau i feio ein gilydd, ac yn sicrhau nawr fod yr hawliau yr ymladdwyd yn galed amdanynt i'n Senedd ddatganoledig yn cael eu diogelu. Rydym yn wynebu bygythiad gwirioneddol y flwyddyn nesaf, felly gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd. Mae'r cyhoedd yn haeddu gwleidyddiaeth y gallant gredu ynddi, un sy'n perchnogi ei chamgymeriadau, yn dathlu cynnydd go iawn ac yn gweithio ar drwsio'r hyn sydd wedi torri. Mae arnom hynny, a dim llai, i'r cyhoedd yng Nghymru. Diolch yn fawr.

17:20

Os oes yna faes lle mae’r Llywodraeth Lafur yma wedi methu pobl Cymru yn y modd mwyaf siomedig, hwyrach, yw’r gair, y maes iechyd a gofal ydy hwnnw. Mae un o bob pump o'r boblogaeth ar restr aros. Mae gennym ni rai o'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y byd datblygedig. Mae yna fylchau sylweddol yn y gweithlu, o feddygon teulu i nyrsys, therapyddion, gofalwyr ac eraill. Mae'r annerbyniol, megis gofal yn y coridor neu ddiffyg mynediad at ddeintydd, wedi cael ei normaleiddio. Mae gofalwyr di-dâl yn methu cael gorffwys, a gofalwyr llawn amser ar eu gliniau. Dyma ydy gwaddol chwarter canrif o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.

Am gyfran o'r amser yna, mae'r Llywodraeth Lafur yma wedi rhoi'r bai ar Dorïaid San Steffan, ond rŵan, gyda Llafur mewn grym yn Llundain, maen nhw wedi torri taliadau tanwydd y gaeaf, cynyddu taliadau yswiriant gwladol ar ddarparwyr y gwasanaethau hanfodol yma, ac am dorri cymhorthdaliadau'r mwyaf bregus, sydd am roi pwysau sylweddol ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Hynny ydy, mae pethau wedi gwaethygu. Mae'r drwg wedi ymdreiddio ymhellach ac yn gynt.

Nôl yn 2021, fe addawodd y Llywodraeth Lafur yma adferiad yn ein system iechyd ar ôl profiad ofnadwy'r pandemig. Ond ar bob un targed oedd yn sail i'w cynllun adfer gofal, targedau a gafodd eu sefydlu gan y Prif Weinidog presennol, mae'n amlwg, bedair blynedd yn ddiweddarach, fod eu cynlluniau wedi methu, a bod y gwasanaethau iechyd a gofal yn parhau i ddioddef o dan bwysau aruthrol y methiant yma i gyflawni.

Fe addawyd y byddan nhw'n dileu’r rhestr aros ddwy flynedd yn gyfan gwbl, y byddan nhw'n cyflymu profion diagnostig, yn gwella argaeledd apwyntiadau. Mae'r targedau yma wedi dod a mynd a does dal dim arwydd y byddan nhw'n cael eu cyrraedd. Ac mi ddylai hyn gael ei ystyried yng nghyd-destun y ffaith bod dros 55 y cant o gyllideb y Llywodraeth yn cael ei wario bellach ar iechyd a gofal, a'u bod nhw wedi gwario dros £1.5 biliwn ar y rhestr aros yn unig. A chanlyniad y gwariant yma? Mae'r rhestrau aros wedi cynyddu dros 30 y cant, a chanlyniad hynny ydy bod pob maes arall yn cael ei wasgu er mwyn lluchio pres at fethiannau’r Llywodraeth hon.

Fel mae Rhun wedi sôn eisoes, rhan fawr o'r broblem ydy'r newid cyson yn y Cabinet yr ydyn ni wedi gweld yn ddiweddar. Mae yna dri Aelod Llafur gwahanol wedi bod yn gyfrifol am y briff creiddiol yma mewn llai na 12 mis, a bellach mae yna chwe Aelod ar feinciau Llafur sydd wedi bod yn y rôl yma ar ryw bwynt neu'i gilydd yn ystod eu gyrfa wleidyddol nhw. A chanlyniad anochel hyn ydy diffyg ffocws strategol ac arweinyddiaeth yn ystod cyfnod o argyfwng yn ein system iechyd, sydd yn dod yn arbennig o amlwg pan ydym ni'n ystyried bod pob un bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn rhyw fath o fesurau arbennig a'r methiant llwyr i wneud cynnydd ar y rhaglenni hollbwysig i ddiwygio'r system gofal ac i wneud camau pwrpasol ymlaen ar yr agenda ataliol. Yn hytrach na chymryd golwg hirdymor, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld ydy disgyn yn ôl i arferion gwael o ganfod datrysiadau tymor byr, ac anallu llwyr i osod allan gweledigaeth ar gyfer rhoi'r NHS ar sylfaen gynaliadwy a chadarn ar gyfer y blynyddoedd i ddod, rhywbeth a amlygwyd yn arbennig o glir mewn adroddiadau pwyllgor yn ystod cyfnod y gyllideb.

Rŵan, i fod yn deg i'r Ysgrifennydd Cabinet presennol, mae'n wir i ddweud fod rhestrau aros wedi dod i lawr ryw ychydig dros y misoedd diwethaf, a dwi wirioneddol yn gobeithio y bydd yn llwyddo, mewn cyferbyniad i bob un o'i ragflaenwyr, i adael y swydd yma gyda rhestrau aros mewn lle gwell na ble roedden nhw ar ddechrau eu swydd. [Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim y tro yma, mae'n flin gen i.

Ond mae'n werth pwysleisio hefyd ein bod ni wedi bod yma o'r blaen. Nôl ar ddiwedd 2023, fe welsom ni ostyngiad cymedrol a brolio ar ran y Llywodraeth eu bod nhw wedi troi'r gornel, dim ond inni wedyn, flwyddyn yn ddiweddarach, gweld mwy o gynnydd yn y rhestrau aros, a record ar ôl record yn cael ei thorri am y rhesymau anghywir. Iawn, Joyce.

17:25

Yr hyn yr hoffwn rywfaint o esboniad arno—a diolch am dderbyn yr ymyriad, pan fo eraill wedi methu—yw sut y gallwch gredu fod rhai o'r pethau a grybwyllwyd gennych, yn hollol briodol, fel diffygion, a chydnabod methiant y cronfeydd i'w cyflawni, er ein bod bellach wedi cael £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol—? A allwch chi esbonio pam y gwnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y gyllideb a fyddai wedi helpu i gyflawni peth o hyn?

Diolch, Joyce. Doedd y budget ddim yn ddigon uchelgeisiol i Gymru, a dyna'r gwir anffodus. Mi fuasem ni wedi cynnig cyllideb wahanol; dyna pam ddaru inni bleidleisio yn erbyn y gyllideb honno. A'r £1.6 biliwn ychwanegol a ddaeth, ddaeth e ddim yn sgil gwaith y Llywodraeth yma; mae wedi dod yn sgil Barnett consequentials oherwydd gwariant Llywodraeth San Steffan ar iechyd yn San Steffan. Dyna gwir y sefyllfa. Felly, ddaru inni bleidleisio yn ei herbyn oherwydd ei bod hi'n methu yn yr hyn roedd angen ei weld ar gyfer pobl Cymru.

Y gwir ydy bod gan Gymru rymoedd a galluoedd y gallem ni weithredu rŵan hyn er mwyn gwella'r sefyllfa. Mae gennym ni'r gallu i weithio'n well o fewn y gyllideb sydd gennym ni, ond mae'r Llywodraeth bresennol yn methu gwneud hynny. Ac os edrychwn ni ar yr Alban, ble mae ganddyn nhw fwy o allu i sicrhau ariannu tecach i'w gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau gofal, yna mae'n amlwg nad ydy Cymru'n cael ei thrin gyda'r un parch â'n brodyr a'n chwiorydd yno. Mae yna reidrwydd, felly, er mwyn sicrhau, ar y fan lleiaf, cyfartaledd â'r Alban, a chael Llywodraeth mewn grym sydd yn fodlon sefyll i fyny dros Gymru am unwaith. A dyna pam rydym ni wedi rhoi'r cynnig yma ymlaen, a dwi'n galw ar fy nghyd-Aelodau yma i'w gefnogi. Diolch yn fawr iawn.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn nodi blwyddyn tan etholiad 2026. Ers yr etholiad diwethaf, mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu i'r entrychion, mae Cymru'n parhau i dangyflawni'n economaidd o gymharu â gweddill y DU, mae lefelau tlodi plant ar gynnydd, ac mae sgoriau ein Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr mewn addysg ar eu hisaf erioed ers inni gymryd rhan yn yr asesiad am y tro cyntaf. Ac er ei bod yn wir fod cymaint yng Nghymru wedi dirywio ar ôl 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, rwy'n credu bod Plaid Cymru wedi anghofio eu bod wedi treulio'r rhan fwyaf o'r amser hwnnw yn eu cynnal. Nid oes blwyddyn wedi mynd heibio ers iddynt ddod â'u cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ben, ac mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio popeth amdano. Felly, ni fyddai ond yn deg inni fanteisio ar y cyfle i atgoffa'r Aelodau sut y gwnaethom gyrraedd yma.

Yn ystod etholiad y Senedd 2021, clywsom arweinydd Plaid Cymru ar y pryd yn dweud na fyddai Plaid Cymru'n yn bartner iau mewn cytundeb gyda Llafur ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Symudwch ymlaen i fis Rhagfyr 2021, fe wnaethant arwyddo cytundeb cydweithio tair blynedd gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Felly, pan glywn Blaid Cymru'n anghytuno'n llwyr â'r ffordd y mae Cymru wedi cael ei rhedeg dros y pedair blynedd diwethaf, gadewch imi eu hatgoffa eu bod yn rhan o'r Llywodraeth honno am dair o'r blynyddoedd hynny.

Ond fe'u clywn yn dweud nawr, 'O na bai pethau'n wahanol. Pe bai gan Blaid Cymru ychydig mwy o seddi, byddai pethau'n newid am byth.'  Ond fe wyddom beth fyddai'n digwydd. Ni waeth faint o seddi a fydd gan Blaid Cymru ar ôl yr etholiad nesaf, byddant yn gwneud rhyw fath o gytundeb gyda Llafur yn y pen draw. A ydym ni o ddifrif yn meddwl y bydd Llafur gyda Phlaid Cymru, yn hytrach na Phlaid Cymru gyda Llafur, yn cyflawni unrhyw newid i Gymru? Mae'r ddwy'n anwahanadwy, fel dau gyn-gariad na allant adael fynd yn llwyr. Ni waeth sawl gwaith y dywedant wrthych eu bod wedi symud ymlaen a'u bod wedi dod dros ei gilydd, maent bob amser yn dod nôl at ei gilydd. I ddefnyddio cymhariaeth o Gavin and Stacey, dyma Pete a Dawn gwleidyddiaeth Cymru. [Chwerthin.]

Bydd tair o bedair blynedd y tymor Senedd hwn hyd yma wedi gweld Plaid Cymru wedi'i hintegreiddio'n drwm yng ngwaith y Llywodraeth hon, ond mae'n ymddangos bod y ddadl hon heddiw yn brin o unrhyw lefel o atebolrwydd, fel pe bai Blaid Cymru'n anghofio bod y cyhoedd yn gwybod beth a wnaethant. Rydym wedi cael y canlyniadau addysgol gwaethaf yn unrhyw le yn y DU, y rhestrau aros hiraf yn y DU, yr economi wanaf, a miliynau wedi'u gwastraffu ar derfynau cyflymder 20 mya diofyn, treth dwristiaeth wenwynig, cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'u gwastraffu ar fwy o wleidyddion.

Felly, Lywydd, er fy mod yn cytuno â'r cynnig mewn egwyddor, a'r modd y mae'n tynnu sylw at fethiannau Llywodraeth Lafur Cymru yn y chweched Senedd, nid wyf yn cytuno â haerllugrwydd Plaid Cymru—[Torri ar draws.] Fe ildiaf iddo mewn eiliad. Haerllugrwydd Plaid Cymru yn cyflwyno perfformiad o'r fath a hwythau lawn mor euog â'r Blaid Lafur am y perfformiad hwnnw.

17:30

Diolch. Mae arnaf ofn y bydd hon yn flwyddyn hir, ond os na allwch eu curo, ymunwch â hwy. Os yw perfformiad y Llywodraeth Lafur mor wael, pam y mae'r wrthblaid swyddogol ar 13 y cant yn unig yn yr arolygon barn?

Wel, os yw perfformiad Llywodraeth Lafur Cymru mor wych, pam ei bod ar y lefel y mae arni yn yr arolygon barn?

Nawr, fel y dywedodd Darren Millar ar Radio Wales y bore yma, y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig ddewis arall credadwy i redeg Llywodraeth nesaf Cymru ac i drwsio Cymru. A byddwn yn rhedeg Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl, yn wahanol i'r ddwy blaid arall. [Torri ar draws.]

Dim diolch.

Hoffwn glywed y cyfraniadau gan bob Aelod, felly gadewch i'r Aelod siarad mewn rhywfaint o ddistawrwydd.

Nid ydynt yn hoffi'r gwir, Ddirprwy Lywydd.

A byddwn yn rhedeg Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl, gan mai ni yw'r unig blaid sydd â chynllun i dorri trethi pobl, i dorri trethi i fusnesau, i gael trefn ar ein GIG, i flaenoriaethu tystiolaeth dros yr ideoleg sosialaidd yn ein system addysg, i dorri'n ôl ar brosiectau porthi balchder, i ddileu cynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ond gadewch imi gloi drwy ddweud mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i drwsio Cymru—ac yn wahanol i Blaid Cymru, ni fydd angen inni gynnal y Blaid Lafur i wneud hynny.

Un o brif ddyletswyddau Llywodraeth yw sicrhau dyfodol y genedl mae'n gyfrifol amdani; yn wir, fe wnaethon ni yng Nghymru osod y ddyletswydd yma mewn statud.

Yng Nghymru heddiw, mae mwy nag un o bob tri phlentyn yn tyfu lan heb y pethau sylfaenol. Ein plant ni, yn oer, yn llwglyd, yn dioddef afiechyd, yn colli mas ar gyfleon bywyd. Cwestiwn teg yw gofyn, felly: a yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo cyflawni ei dyletswydd o ran gwarchod eu dyfodol—ein dyfodol? Ydy'r dyfodol hwnnw a'r plant hyn wedi eu bradychu gan ddiffyg dewrder, diffyg gweithredu, diffyg gafael Llywodraethau Llafur olynol i ddileu tlodi plant? Ac ydyn, wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr a'u polisïau llymder mor, mor gyfrifol am greu tlodi ac amddifadedd.

Ond o gofio bod rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol hefyd wedi teimlo effeithiau'r polisïau gwrthun hynny, ond eto yn cyflwyno polisïau mwy effeithiol a phellgyrhaeddol i liniaru er eu heffaith, yna mae'n rhaid edrych ar record Llafur yma dros chwarter canrif a mwy—cenhedlaeth. Mae'n destun cywilydd cenedlaethol bod 32.3 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a ffigwr sy'n mynd i godi os na fydd yna newid cyfeiriad. Newid cyfeiriad; fe glywon ni lot o sŵn ddoe, onid do, am hynny?

Llawer o sŵn a chynddaredd nad yw'n golygu dim.

Achos mae Llywodraeth Lafur San Steffan wedi ei gwneud hi'n gwbl glir na fydd pethau'n newid, er gwaethaf eu haddewidion gwag i'r etholwyr llynedd, er gwaethaf y sbin yma ym Mae Caerdydd. 'Maen nhw'n ymddwyn fel y Toris', oedd y farn ar strydoedd Cymru mewn vox pops ar raglen Sharp End neithiwr. Yw'r newid cyfeiriad yma glywon ni amdano fe ddoe gan y Prif Weinidog yn gredadwy? Scarcely believe

Dywedwyd yn syth bin gan Rif 10, wedi clywed araith y Prif Weinidog sy'n ceisio marchogaeth dau geffyl, na fydd yna ailystyried o ran toriadau, er enghraifft, i'r taliadau tanwydd i bensiynwyr. A beth ar y ddaear oedd y cyfeiriadau di-chwaeth ac amhriodol yna i Gavin and Stacey? Cymharu anghytuno am benderfyniadau fel toriadau i les, sy'n llythrennol yn golygu bod pobl yn mynd i'r gwely yn oer, heb ddigon i fwyta, yn poeni am y biliau sy'n dod trwy'r drws, gyda rhaglen gomedi? Mae angen newid y sgript, achos mae pobl Cymru yn blino clywed yr esgusodion a'r sbin.

Rŷn ni wedi gweld gollwng targedau tlodi plant a chreu strategaeth heb dargedau, sef yr union beth a fyddai'n gyrru'r polisïau sydd eu hangen i sicrhau bod pob plentyn yn medru cyrraedd ei botensial. Geiriau cynnes yn lle camau cadarn.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sefyll nôl tra bod Llywodraeth Lafur pen arall yr M4 wedi cadw polisïau creulon y Ceidwadwyr fel y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau, er gwaethaf gwybod yn iawn am y difrod dynol ac economaidd y mae'n ei achosi. Rhaid inni gofio bob amser mai dewisiadau gwleidyddol sy'n arwain at dlodi plant, sy'n dyfnhau tlodi plant, ac felly mae angen ewyllys gwleidyddol i'w ddileu.

Mae'r Llywodraeth, yn ei gwelliannau llipa heddiw, yn brolio am ddelifro prydiau bwyd am ddim. Petasai fe ddim am yr angen i gydweithio â ni, byddai hynny heb ddigwydd. Mae'r cof yn fyr, onid yw e? Faint o weithiau cafodd ein dadleuon dros hynny, fel ffordd effeithiol a hanfodol o sicrhau bod bwyd ym moliau disgyblion ysgol, eu bwrw i lawr yma yn y Siambr? Pe baech chi wedi bod o ddifrif am daclo tlodi plant, byddech chi wedi gweithredu ar fesurau effeithiol felly flynyddoedd ynghynt.

Pam nad ydy Llafur yn mynnu cael y grymoedd sydd eu hangen, fel y rhai dros les, er enghraifft, i sicrhau bod y Gymru decach yr ŷch wastad yn honni eich bod chi am ei gweld yn gallu cael ei gwireddu? Mae Plaid Cymru'n barod i greu polisïau gwrthdlodi fel ein cynllun Cynnal, taliad plant trawsnewidiol, gan ddysgu o'r Alban, lle mae polisi tebyg eisoes yn codi degau o filoedd o blant mas o dlodi, achos mae angen inni ddewis llwybr gwahanol yng Nghymru os ydym am gyflawni'r ddyletswydd yna i warchod a meithrin dyfodol ein cenedl. Mae effaith polisïau fel hyn yn ymestyn drwy'r economi, ein gwasanaethau cymdeithasol a'n lles cenedlaethol.

Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein plant yn haeddu gwell. Ac ymhen blwyddyn, bydd gan bobl Cymru ddewis i gymryd llwybr gwahanol at ddyfodol gwell, ac fe fydd Plaid Cymru yn barod i'w gwasanaethu.

17:35

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n fwy na pharod i siarad am Gymru fel y genedl ailgylchu orau ond un yn y byd. Cymerodd Tom Giffard a Julie James a minnau ran mewn trafodaeth gyda diwydiant ar yr union bwnc hwn, ac oherwydd mai ni yw arweinydd y byd, mae'r diwydiant yn dod atom ni, gan eu bod yn ein cydnabod yn arweinydd y byd, ac mae hynny'n ddiddorol iawn. Rydym yn genedl fach; mae'n anodd iawn gwneud i Lywodraeth y DU roi ystyriaeth briodol i'r setliad cyfansoddiadol sydd ei angen ar bob un ohonom, boed yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru neu ranbarthau Lloegr, ond yn sicr, dylem ddathlu'r ffordd y mae Cymru fel cenedl wedi cofleidio ailgylchu, gan ein bod yn sylweddoli mai dim ond un blaned sydd gennym.

Hoffwn ddathlu'r cytundeb gyda Phlaid Cymru, a'n galluogodd i ddarparu'r prydau ysgol am ddim, rhywbeth y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch iawn ohono, ond fel finnau a llawer o bobl eraill, mae'n cydnabod bod llawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau o'r buddsoddiad hynod bwysig hwnnw.

A hoffwn ddathlu'r ffaith ein bod wedi rhoi'r warant i bobl ifanc i 30,000 o bobl ifanc, er bod Llywodraeth y DU ar y pryd wedi mynnu ein trethu drwy adfachu unrhyw fuddion yr oeddent yn eu cael o ganlyniad, sy'n adlewyrchiad eithaf syfrdanol ar eu blaenoriaethau. Ond bydd hynny'n ein galluogi i weld, pan fydd pobl ifanc yn cael y cymorth cywir, rwy'n gobeithio o'r gwerthusiad y gallant ffynnu cymaint ag unrhyw un arall, er gwaethaf yr holl brofiadau niweidiol a gânt yn ystod eu plentyndod.

Rydym wedi cyflwyno rheoliadau i wahardd bwyd sothach, sy'n cyfrannu cymaint at achosion sylfaenol afiechyd yn ein cenedl. Rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a'u gwneud yn flaenoriaeth, sy'n waith sydd ar y gweill, yn amlwg, ond mae'n benderfyniad pwysig iawn serch hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, Jeremy Miles, wedi mabwysiadu dull systematig o leihau rhestrau aros, a gallwn weld y dystiolaeth, fis ar ôl mis, i ddangos sut y mae hynny'n symud ymlaen. Mae gennym gynllun iechyd menywod, sydd o leiaf yn rhoi iechyd menywod ar y map. Yn amlwg, mae llawer o waith i'w wneud, ac nid yw'n symud yn ddigon cyflym o bell ffordd—ni fyddai dynion yn goddef y driniaeth a roddwyd i fenywod—ond nawr, mae gennym o leiaf ffon i guro'r system â hi, ac i ddweud, 'Ein hanghenion ni sy'n dod yn gyntaf.' Felly, mae'r rheini'n gyfraniadau gwych iawn.

Rydym wedi diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori. Mae hynny'n hynod bwysig. Pan effeithir ar bobl gan newidiadau i fudd-daliadau, neu'n wir gan gostau byw, rhaid iddynt gael y cyngor gorau posibl, am ddim ac yn lleol.

Rydym wedi cydweithio â'n ffermwyr i'n helpu i ddod o hyd i lwybr allan o—. Dull partneriaeth ar gyfer ymbellhau oddi wrth gynllun y taliad sylfaenol, a oedd yn anochel yn mynd i orfod cael ei ddatgymalu pan bleidleisiodd Prydain dros adael yr Undeb Ewropeaidd. A chymharwch hynny â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae ffermwyr yn ddig nad ydynt wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r hyn sy'n dod nesaf gyda'r cynllun a sefydlwyd ganddynt yn Lloegr.

Mae gennym fframwaith cynllunio clir ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol sy'n rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr ynghylch y blychau y mae'n rhaid iddynt eu ticio cyn bod eu cais yn barod i gael ei ystyried yn ffurfiol. Mae hynny'n cynnwys yr holl drafodaethau pwysig sydd angen eu cael ynglŷn â'r effaith amgylcheddol. Ac os cymharwch hynny â'r dull dryslyd braidd sydd gan Lywodraeth y DU o geisio cael y chwe phrif gwmni adeiladu tai i adeiladu mwy o gartrefi yn Lloegr, mae arnaf ofn fod ganddynt y rysáit anghywir ar gyfer datrys y broblem, ond rwy'n dymuno'n dda iddynt.

Rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol fod cymaint o areithiau Rhun ap Iorwerth a Paul Davies wedi canolbwyntio ar eu rhwystredigaeth ynghylch gweithredoedd Llywodraeth y DU, ond rhaid inni beidio â lladd ar Gymru ychwaith. Mae'n wirioneddol beryglus os ydym yn dweud bod ein gwasanaethau iechyd ar eu gliniau pan fo angen inni siarad am ymroddiad pobl sy'n achub bywydau. Mae'r gwasanaethau brys—

17:40

—yn cael eu cystwyo gan bobl sy'n gorfod aros i gael eu gweld, er eu bod yn ymateb yn dda iawn pan fydd pobl yn diolch iddynt. Beth bynnag, mae llawer i'w wneud, a'r unigolyn sy'n cael y wobr am 'y gwleidydd mwyaf effeithiol yn yr ystafell' yw Jane Dodds: £300 miliwn ar gyfer pethau yr oedd hi'n angerddol yn eu cylch. Roeddwn innau'n angerddol am lawer ohonynt hefyd, ac rwy'n cymeradwyo hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn o'r cyfle i siarad am ein cynnig diwygiedig heddiw, cynnig sy'n adlewyrchu nid yn unig gwerthoedd Llywodraeth Lafur Cymru, ond ein dycnwch a'n penderfyniad wrth inni lywodraethu ar adeg hynod heriol.

Mae'n berffaith amlwg, pan wnaethom nodi ein blaenoriaethau ar ddechrau'r tymor Senedd hwn, na allai'r un ohonom fod wedi rhagweld maint yr heriau y byddem yn eu hwynebu. Roeddem yn gwybod bod effaith y pandemig byd-eang yn parhau, ond y chwyddiant diderfyn, mini-gyllideb ddi-hid y Torïaid ar ôl 14 mlynedd o gyni ariannol Torïaidd a ddinistriodd ein heconomi, gan godi morgeisi, gwthio biliau bwyd drwy'r to, a gadael teuluoedd ledled Cymru i ddioddef yr effeithiau, pwy fyddai wedi rhagweld hynny?

Ers blynyddoedd, rydym wedi cael ein gorfodi i lywodraethu yng nghyd-destun cyni dwfn, camreolaeth a meddylfryd tymor byr gan Lywodraeth Geidwadol y DU a fethodd ym mhob ffordd. Ond Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf hyn oll, mae Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn ddiwyro. Rydym wedi diogelu ein gwasanaethau rheng flaen, rydym wedi blaenoriaethu ein cymunedau, ac rydym wedi cyflawni ar sail y gwerthoedd Llafur sy'n ein diffinio, oherwydd hyd yn oed pan fydd ein cyllideb dan bwysau, rydym wedi cyflawni.

Fe wnaethom gadw presgripsiynau yn rhad ac am ddim yng Nghymru, un o'r nifer o amddiffyniadau y gwnaethom ymladd drostynt nad yw pobl yn Lloegr yn eu mwynhau mwyach. Rydym wedi diogelu'r lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig, gan gydnabod na ddylai mynediad at gyfle byth fod yn fraint. Rydym wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb yn ein hysgolion cynradd, rhywbeth yr ymddengys bod Plaid Cymru, yn rhyfedd iawn, wedi anghofio amdano, heb unrhyw brofion modd, dim stigma, dim ond urddas a gwedduster i bob plentyn, fel y dylai fod. Nid polisïau blaengar Llywodraeth Lafur Cymru yn unig yw'r rhain; maent yn rhaffau achub—i'n teuluoedd, i'n disgyblion, i'n cymunedau—a dyma werthoedd Llafur ar waith.

Er gwaethaf y pwysau enfawr wedi'r holl flynyddoedd o gyni, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol ar wella mynediad at ofal iechyd a chefnogi'r GIG i adfer ar ôl y pandemig. Mae maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng am dri mis yn olynol. Mae arosiadau o fwy na blwyddyn ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol wedi gostwng bron 28 y cant o'u lefel uchaf yn 2022 ac mae'r arosiadau hiraf bellach ar eu lefel isaf ers mis Mehefin 2021, gan ostwng 26 y cant rhwng mis Ionawr a mis Chwefror yn unig.

Mae'n werth ailadrodd y ffigurau hynny, gan fod y ffordd y mae'r Torïaid, a Phlaid Cymru bellach yn wir, yn lladd ar y GIG yn gyson yn rhywbeth nad oes ei angen arnom o gwbl. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cymeradwyo cryfder y gweithlu, cymeradwyo ein gallu i ddarparu'r cyllid, o ganlyniad i'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i'w GIG yn Lloegr, a sicrhau ein bod yn cydsefyll yn gadarn â staff y GIG wrth inni barhau i weithio arno.

Rydym wedi lleihau lefelau oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty i'r lefel isaf ers dros flwyddyn gan fod ein ffocws ar lif a'r system iechyd a gofal ehangach yn dwyn ffrwyth, ac rydym yn parhau i hybu'r gwelliant hwn i leihau amseroedd aros ymhellach fyth eleni. Oherwydd y Llywodraeth newydd a'r buddsoddiad hwn yn y GIG, ac oherwydd craffter gwleidyddol Jane Dodds, rydym wedi gallu gwneud y buddsoddiadau hynny. Roedd Plaid Cymru yn bwriadu cefnogi'r gyllideb drwy gydol y toriadau cyni, a'r funud y cawsom rywfaint o arian, fe wnaethant benderfynu peidio—yn anesboniadwy. Mae gwneud hynny fel ffordd ymlaen wedi fy nrysu'n llwyr. Rydym yn rhannu nifer o werthoedd; gallem fod wedi sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith. Rwy'n ddiolchgar i Jane am sicrhau hynny.

Dyma sut olwg sydd ar gyflawni, hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf, ar ôl 14 mlynedd o'r hinsawdd ariannol waethaf yn hanes datganoli. Ar draws ein pedair blaenoriaeth graidd—gwell iechyd, mwy o swyddi, gwell trafnidiaeth, mwy o gartrefi—mae Llafur Cymru yn cyflawni, gyda degau o filoedd o swyddi a phrentisiaethau newydd wedi'u creu, gydag economi werdd a theg wrth wraidd ein strategaeth ddiwydiannol, a buddsoddiad mawr mewn trafnidiaeth gyhoeddus, o fetro de Cymru i gysylltiadau rheilffordd newydd a diwygio bysiau, wedi'u cynllunio o amgylch teithwyr a'n cymunedau. Rydym yn adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru: cartrefi cymdeithasol, cartrefi effeithlon eu defnydd o ynni, cartrefi y gall pobl fforddio byw a magu eu teulu ynddynt. Ond Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir iawn. Mae'r model ariannu presennol yn ein dal yn ôl. Nid yw fformiwla Barnett yn rhoi ystyriaeth briodol i'n daearyddiaeth, ein demograffeg na'r lefelau uwch o dlodi a wynebwn, ac mae'r ffordd y mae'n gweithredu yn gwneud cam â Chymru.

Mae Cymru yn haeddu cyllid teg, a bydd y Llywodraeth Lafur hon, o dan arweiniad Eluned Morgan, yn parhau i'w fynnu hyd nes y cawn setliad sy'n adlewyrchu ein hanghenion ac yn parchu ein cenedl. Ond nid ydym yn cefnogi'r wleidyddiaeth arwyddion y mae Plaid Cymru yn ei hyrwyddo heddiw yn ôl pob golwg. Rydym yn cefnogi ymwneud adeiladol, gwleidyddiaeth aeddfed ac ymrwymiad ar y cyd i gydweithredu, nid ymraniad; nid gemau gwleidyddol na geiriau gwag, ond gwaith caled y tu ôl i'r llenni, ymdrechion mawr y tu ôl i'r llenni, llawer o sgyrsiau, llawer o ofynion, llawer o sefyll o blaid pobl Cymru, i gyflawni ar draws ein gwledydd. Rydym yn galw am yr hyn sy'n iawn i Gymru. Rydym wedi gwneud hynny erioed a byddwn bob amser yn gwneud hynny. Fe wnaeth Eluned Morgan, ein Prif Weinidog, nodi hynny'n hynod o glir ddoe. Gwn nad yw hynny'n cyd-daro â'ch dadl heddiw, ond fe'i nododd yn glir iawn, a nododd y gallwn fynd ymhellach gyda'n gilydd. Gyda phartneriaeth ac nid geiriau gwag, gallwn ddatgloi potensial llawn Cymru ac adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus i bawb sy'n galw'r wlad hon yn gartref.

Felly, heddiw, rwy'n adleisio'r Prif Weinidog trwy nodi yr hoffem gydnabyddiaeth lawn i ba mor bell y daethom, cofnod gonest o'r heriau a wynebwn, a galwad glir am y cyllid hirdymor tecach y mae mor amlwg fod Cymru yn ei haeddu, oherwydd gyda chydweithredu parhaus ac ewyllys wleidyddol benderfynol, fe allwn ac fe fyddwn yn sicrhau Cymru gryfach, decach a mwy hyderus.

17:45

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma. Flwyddyn i rŵan, mae Cymru yn mynd i fod ar groesffordd, a fydd yn cynnig y cyfle gorau posib ar gyfer newid cadarnhaol i Gymru. Mi fyddwn ni mewn Senedd ddiwygiedig. Mi rydym ni yn rhoi bywyd newydd i'n democratiaeth ni drwy hynny. Rydyn ni'n gofyn i bobl Cymru ymddiried yn y ddemocratiaeth honno. Ond mae yna gyfle o'r newydd hefyd i ailddiffinio arweinyddiaeth i Gymru, ac mae Plaid Cymru yn barod i gynnig yr arweinyddiaeth hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar i'r siaradwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol a'r Llywodraeth. I Jenny Rathbone: dywedodd yr Aelod ei bod yn cydnabod y rhwystredigaeth a ddangoswyd gan Blaid Cymru tuag at Lywodraeth y DU yn ein sylwadau heddiw, ond teimlwch ein rhwystredigaeth ynghylch y diffyg rhwystredigaeth, y diffyg condemniad, y diffyg dicter a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch gweithredoedd eu partneriaid Llafur yn San Steffan pan oedd rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael eu targedu.

I'r Ceidwadwyr: rwy'n ddiolchgar i Paul Davies a Tom Giffard am dynnu sylw at y ffaith bod Plaid Cymru wedi gallu dylanwadu ar y Llywodraeth fel gwrthblaid, a thrwy wneud hynny, wedi dangos nad yw'r Ceidwadwyr wedi cyflawni unrhyw beth o gwbl mewn 26 mlynedd. Nid oes ganddynt unrhyw beth i'w ddangos am chwarter canrif o gynrychiolaeth yn y Senedd. [Torri ar draws.]

17:50

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Tybed pam nad yw'r cynnig heddiw yn sôn am unrhyw un o gyflawniadau, neu gyflawniadau honedig, eich cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Ai oherwydd eich bod yn teimlo cywilydd ynghylch y cyflawniadau hynny, o bosibl?

Rwy'n gredwr cryf yng ngwerth cydweithio. Mae cydweithio lle gellir dod o hyd i dir cyffredin yn beth cadarnhaol mewn gwleidyddiaeth. O ystyried bod gennym ddwy blaid Geidwadol bellach—yr un a gynrychiolir yma a'r Torïaid ar steroidau sy'n cefnogi Thatcher, Truss a Trump, sef Reform—efallai fod gan y Ceidwadwyr yma eu cywelyaid eu hunain bellach. Ond rwy'n falch o fod wedi gallu sicrhau prydau ysgol am ddim. Rwy'n falch o fod wedi gallu ymestyn gofal plant, i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn sawl ffordd drwy gydweithio. Ond rwy'n dweud hyn: os ydym wedi gallu gwneud hynny fel gwrthblaid, dychmygwch beth y gallem ei gyflawni pe byddem yn arwain Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn dechrau cyfnod newydd ar ddatganoli y flwyddyn nesaf, gyda Senedd ar ei newydd wedd. Bydd yn rhaid i bob un ohonom sy'n ddigon ffodus i gael ein hailethol neu ein hethol i'r Senedd honno y flwyddyn nesaf barhau i ofyn i bobl roi ffydd yn y ddemocratiaeth honno—rhywbeth yr ydym ni ar feinciau Plaid Cymru o ddifrif yn ei gylch. Gwn fod hynny'n rhywbeth a deimlir ar draws y meinciau hyn. Ond mae gennym gyfle ar yr un pryd i sicrhau dechrau newydd i Lywodraeth Cymru. Fel rydym wedi'i wneud heddiw, byddwn yn nodi dros y flwyddyn nesaf sut y gall Plaid Cymru ddarparu'r hwb newydd sydd ei angen ar Gymru o ran iechyd, o ran addysg, o ran creu economi lewyrchus, o ran trechu tlodi a chan adeiladu cenedl fwy hyderus sy'n symud tuag at berchnogi ei thynged ei hun—ie, gallu dadlau'r achos â San Steffan dros y cyfiawnder yr ydym yn ei haeddu fel cenedl. [Torri ar draws.]

Rwyf wedi sylwi nad ydych yn sôn am annibyniaeth yn eich areithiau yn ddiweddar. A allwch chi ddweud wrthyf, ai dros hynny'n union rydych chi'n sefyll o hyd, a sut ydych chi'n mynd i dalu amdano?

Efallai imi fod braidd yn rhy gryptig. Fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais: wrth adeiladu cenedl fwy hyderus a symud tuag at berchnogi ein tynged ein hunain fel cenedl—Prydain wedi'i hailgynllunio, lle gallwn sefyll a gwneud penderfyniadau sy'n ein rhoi mewn sefyllfa dda fel cenedl. Ar yr un pryd, fel y dywedaf, rydym yn dadlau'r achos—[Torri ar draws.] Dweud y gair 'annibyniaeth'? Rwyf wedi credu erioed, ar hyd fy oes, mewn annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu mewn adeiladu dyfodol mwy llewyrchus i Gymru, ac rwy'n gofyn i bobl gymryd rhan yn y ddadl honno ar ddyfodol Cymru. A yw hynny'n ddigon clir i chi?

Lee Waters a gododd—

Ond rwy'n gofyn—[Torri ar draws.] Rwyf wedi bod yn siarad amdano drwy'r dydd, a ddoe, ac echdoe, a byddaf yn gwneud hynny yfory hefyd. Rwy'n dirwyn i ben. Lee.

Diolch. Sylwais eich bod yn aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar ynni niwclear. A yw eich cynllun ar gyfer Cymru lewyrchus yn cynnwys adweithydd niwclear modiwlaidd bach yng Nghaerdydd?

Yng Nghaerdydd? Na. Mae gan Blaid Cymru bolisi clir iawn mai dim ond lle maent eisoes yn bodoli y byddem yn cefnogi datblygiadau ynni niwclear, ac rwy'n credu eich bod yn gwybod hynny.

Wrth gloi fy sylwadau, rydym yn gofyn am Lywodraeth Cymru—ac mae Plaid Cymru yn cynnig Llywodraeth Cymru—a fydd yn herio San Steffan i sicrhau'r cyfiawnder a haeddwn. Yn ystod cyfnod Eluned Morgan fel Prif Weinidog, mae Llafur wedi dewis blaenoriaethu eu buddiannau eu hunain dros fuddiannau Cymru, beth bynnag y byddai'r ailfrandio munud olaf ddoe yn ei awgrymu. Gallwn gael dechrau newydd. Mae Plaid Cymru yn cynnig y dechrau newydd hwnnw ymhen blwyddyn. Cefnogwch y cynnig hwn heddiw.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

8. Cyfnod Pleidleisio

Rwy'n gwneud yn siŵr fod pawb ar-lein, gan mai dim ond os gallaf eu gweld y byddaf yn derbyn pleidleisiau gan y rhai sydd ar-lein.

Pleidleisiwn ar eitem 7, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd gan Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arddel fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 2. Felly, o blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.

Nid yw hynny'n golygu bod ein busnes ar ben, cofiwch, felly os ydych yn gadael, gwnewch hynny'n dawel, os gwelwch yn dda.

9. Dadl Fer: Y Bechgyn Coll: Yr argyfwng sy'n wynebu dynion ifanc yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer, a galwaf ar Sam Rowlands i siarad am y pwnc. Sam.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r ddadl fer hon yma heno, 'Y Bechgyn Coll: Yr argyfwng sy'n wynebu dynion ifanc yng Nghymru'. Rwy'n falch o allu rhoi munud o fy amser i Sam Kurtz, James Evans a Russell George.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Yn ôl pob metrig, mae argyfwng yn wynebu bechgyn a dynion ifanc ledled Cymru. Mae bechgyn a dynion ifanc yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, maent yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansefydlog, o'i chael hi'n anodd mewn addysg, ac yn fwy tebygol o fynd i'r carchar. Ledled y DU, ers y pandemig, mae nifer y gwrywod 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi cynyddu 40 y cant, o gymharu â 7 y cant o fenywod. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o dros 150,000 o fechgyn a dynion ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant mwyach, o gymharu â'r lefelau cyn y pandemig. Mae'r rheini'n niferoedd enfawr, ac mae pob un yn fywyd sy'n brin o ystyr a chyfeiriad.

Mae'n werth nodi bod cynnydd mawr wedi'i wneud ar ran menywod a merched dros y degawd diwethaf. Nid nod y ddadl hon yw difrïo'r cynnydd hwnnw o gwbl, ond rwy'n credu'n gryf nad yw hon yn sefyllfa lle mae un garfan yn elwa ar draul y llall. Gallwn gyrraedd pwynt lle gall dynion ifanc a menywod ifanc fel ei gilydd gael llwyddiant a byw bywydau bodlon.

Cafodd y ddadl hon ei hysbrydoli gan adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Lost Boys', a gafodd sylw yn ddiweddar trwy wahanol sianeli newyddion, ond rhoddodd Gareth Southgate araith bwysig ar yr adroddiad hefyd. Mae'n amlinellu'r argyfwng sy'n wynebu dynion a bechgyn ifanc o bob cefndir, ond yn enwedig rhai o gefndir dosbarth gweithiol. Mae'r argyfwng hwn yn arwain at golli cenhedlaeth gyfan, bechgyn sy'n troi'n ddynion yn byw bywydau digalon a diegni. Mae hyn nid yn unig yn warth moesol, mae'n un sy'n cael effaith negyddol uniongyrchol ar ein heconomi a'n cynhyrchiant sy'n helpu'r gymdeithas gyfan. Mae hyn i gyd yn dechrau ar adeg eu genedigaeth ac yn ystod plentyndod. Nid oes gan 2.5 miliwn o blant yn y DU ffigwr tad, ac nid cyd-ddigwyddiad yw bod 76 y cant o'r plant sydd yn y ddalfa'n dweud bod ganddynt dadau absennol. Fel y mae'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn nodi, mae bechgyn bellach yn fwy tebygol o fod yn berchen ar ffôn clyfar nag o fod yn byw gyda'u tad. Fel gwleidyddion, rwy'n credu inni fod yn llawer rhy ofnus ynglŷn â siarad am chwalfa deuluol ac yn fwyaf arbennig, am fod yn ddi-dad fel rheswm dros ein bechgyn coll. Unwaith eto, nid yw'n fater o ladd ar famau sengl, er enghraifft, sy'n gweithio'n anhygoel o galed, ac yn aml yn cael eu gadael mewn amgylchiadau anodd iawn. Mae'n nodi ffaith syml fod perthynas sefydlog rhwng rhieni gyda model rôl gwrywaidd fel tad yn un o'r dechreuadau gorau y gall unrhyw blentyn ei gael mewn bywyd.

Heb y model rôl ffurfiannol cynnar hwn, gall dylanwadau eraill dreiddio i mewn yn rhy hawdd. Cyhoeddwyd astudiaeth gan Fitzsimons a Villadsen a ddefnyddiodd sampl o dros 6,000 o blant yn Social Science & Medicine a chanfu bod cysylltiad rhwng ymadawiad tad yn ystod plentyndod a mewnoli cynyddol problemau fel iselder mewn plant ynghyd ag, yn bwysig, allanoli cynyddol symptomau fel ymddygiad ymosodol mewn bechgyn. Ar ben hynny, canfu ymchwilwyr ym mhrifysgol Warwick mewn astudiaeth o fwy na 24,000 o oedolion fod unigolion a gafodd eu magu gan riant sengl yn ennill 30 y cant yn llai o gyflog a 9 y cant yn llai tebygol o fod mewn perthynas ramantus. Mae cymaint mwy y dylem ei wneud i gynorthwyo teuluoedd i aros gyda'i gilydd ac i dadau, yn enwedig, chwarae rôl bwysig.

Mae yna broblemau difrifol yn y system addysg hefyd. Yng Nghymru, mae bechgyn yn gyson yn tangyflawni o gymharu â merched o ran canlyniadau disgwyliedig yn y prif bynciau. Mae'r bwlch hwn bron i 8 y cant yn Saesneg a mwy nag 8 y cant yn y Gymraeg. Nid yn unig y mae'r canlyniadau'n sylweddol wahanol, ond mae arolwg gan Civitas yn dweud bod 41 y cant o fechgyn a merched chweched dosbarth wedi clywed ac wedi'u haddysgu mewn gwersi ysgol fod bechgyn yn broblem i gymdeithas fel rhan o batriarchaeth ormesol. Dywedir wrth fechgyn mai hwy yw'r broblem, er eu bod yn tangyflawni o gymharu â'u cyfoedion benywaidd. Mae bechgyn yn llawer llai tebygol o fynd i'r brifysgol. Yn ôl y Sefydliad Polisi Addysg, yn 2022-23, aeth tua 36 y cant o ferched 18 oed yng Nghymru ymlaen i addysg uwch, gyda'r ffigur hwnnw'n ddim ond 24 y cant ar gyfer bechgyn 18 oed. Pe bai'r ystadegau hyn yn disgrifio unrhyw is-set arall o bobl, rwy'n credu y byddai llywodraethau'n protestio'n groch. Gan eu bod yn disgrifio bechgyn, gyda llawer ohonynt yn ddosbarth gweithiol, yn dod o rannau ôl-ddiwydiannol o Gymru, mae'n ymddangos yn rhy hawdd iddynt gael eu diystyru. 

Pan fydd y bechgyn hyn yn tyfu'n ddynion, nid yw'r problemau sydd wedi cronni dros blentyndod yn dod i ben yn anffodus. Weithiau maent yn gwaethygu. Mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na menywod, gyda chyfraddau hunanladdiad cyffredinol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddwywaith yr hyn ydynt yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Rydym i gyd yn gwybod bod dynion yn fwy tebygol o gyflawni trosedd, ond mae ein dynion ifanc yn llawer mwy tebygol o fod yn ddioddefwyr troseddau treisgar hefyd. Yn 2022-23, gwrywod oedd 71 y cant o ddioddefwyr llofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr, a'r grŵp yr effeithiwyd arnynt fwyaf oedd y rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae lefelau troseddu'n uchel ledled y wlad gydag aelodaeth o gangiau yn dod yn realiti cynyddol i lawer gormod ohonynt bob dydd. Gwyddom fod gangiau'n targedu plant yn fwriadol ac yn eu gorfodi i gyflawni troseddau. Nododd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar ecsbloetio troseddol fod 89 y cant o'r bobl y mae hyn yn digwydd iddynt yn fechgyn ifanc. Ac fe wyddom fod y rhyngrwyd hefyd wedi gwaethygu'r sefyllfa hon. Mae mynediad hawdd at y rhyngrwyd trwy ffonau symudol wedi chwyldroi'r byd yr ydym yn byw ynddo. Mae gan ddynion a bechgyn ifanc fynediad hawdd at bob math o bobl a phethau ar-lein. Mae hyn yn cynyddu ynysu cymdeithasol pan fyddant yn diflannu i dwneli tywyll y rhyngrwyd.

Hyd yma, rwyf wedi disgrifio rhai o'r llwybrau sy'n arwain at ganlyniadau ofnadwy i lawer gormod o fechgyn a dynion ifanc. Ond mae'n ddiddorol beth sydd gan Ymddiriedolaeth Ben Kinsella, elusen atal troseddau cyllyll, i'w ddweud ar y pwnc. Fe wnaethant ofyn y cwestiwn, 'A wyddoch chi beth sy'n apelio fwyaf am gangiau?'  Ac maent yn ei ateb gydag un gair: 'perthyn'. Yr hyn sy'n apelio fwyaf am gangiau yw'r teimlad o berthyn. Mae bechgyn heb fodelau rôl gwrywaidd yn edrych mewn llawer o lefydd am rywbeth i lenwi'r gwagle ac yn rhy aml, mae'r gwagle hwnnw wedi'i lenwi gan wenwyn. Yn hytrach na'u helpu i ddod yn ddynion, mae'n eu rhoi mewn sefyllfa enbyd, gan ddinistrio'r gobaith sydd ganddynt o gael perthynas iach a bywyd iach. Nid yn unig y gall eu rhoi mewn perygl eu hunain, fel y mae data Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd yn dangos, gall eu llygru mewn llawer gormod o ffyrdd eraill. Mae argaeledd cynyddol cynnwys brawychus, treisgar ar-lein a phornograffi camdriniol yn gwyrdroi meddyliau dynion ifanc a'u hagwedd at berthynas iach am byth. Canfu'r comisiynydd plant yn Lloegr mai'r oedran cyfartalog y bydd plant yn gweld pornograffi ar-lein am y tro cyntaf yw 13, gydag un o bob 10 yn ei weld yn naw oed. Mae hyn yn ofnadwy a dylai fod yn destun pryder mawr i rieni, ac rwy'n credu ein bod bellach yn dechrau gweld rhai o effeithiau gweld y pethau hyn ar-lein ar ddynion ifanc a phlant.

Ond gadewch inni ystyried mater perthyn. Mae bechgyn a dynion ifanc sydd heb fodel rôl gwrywaidd ers eu geni ac y dywedir wrthynt yn yr ysgol eu bod yn ffynhonnell i lawer o broblemau, ac sy'n cael trafferth cael gwaith addas pan fyddant yn oedolion, yn mynd i fod yn agored i ddod o hyd i ymdeimlad o berthyn mewn mannau y byddem ni'n eu gweld yn ddrwg. Mae bechgyn a dynion ifanc yn awchu am ystyr—maent yn gweld gwead teuluol, cymdeithasol a gwleidyddol sydd wedi bod yn breuo ers degawdau, gan adael bechgyn a dynion ifanc mewn rhannau o Gymru a Phrydain ôl-ddiwydiannol ar ôl. Ac yn hytrach na bod eisiau iddynt rodio'r llwybr cul, yn lle bod eisiau iddynt ffynnu, mae'n ymddangos bod llawer gormod ohonynt yn dod o hyd i'r ymdeimlad o berthyn yn y lleoedd anghywir. Mae gan fechgyn a dynion ifanc yng Nghymru gymaint i'w gynnig, cymaint i'w gynnig i'w teuluoedd, i'w cymunedau a'u cymdeithas yn gyffredinol, a dylem wneud popeth yn ein gallu i'w cynorthwyo i wneud hynny. Rwy'n credu, fel gwleidyddion, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fod gennym rôl i'w chwarae i droi'r llanw. Rwy'n credu'n gryf y gallwn wneud hyn a dylid ei wneud ar sail drawsbleidiol. Rhaid i ni yn gyntaf gydnabod yr heriau a nodais, yr heriau sy'n aml yn anodd siarad amdanynt ynghylch chwalfa deuluol, ynghylch bod yn ddi-dad, ynghylch dylanwadau, yn enwedig rhai ar-lein. Mae gweld dynion a bechgyn yn llwyddo o fudd i bawb ohonom, ac rwy'n gobeithio bod y ddadl fer hon yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at ysgogi trafodaeth a gweithredu mawr ei angen. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Gwych. Diolch, Lywydd dros dro. 

Rwy'n credu bod angen inni roi'r gorau i esgus, onid oes? Nid yw bechgyn ifanc, gwyn, dosbarth gweithiol yng Nghymru yn freintiedig; hwy yw'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl, ac mae pobl yn y Siambr hon yn gwybod hynny. Bechgyn o'n cymunedau tlotaf, yn enwedig bechgyn gwyn, sydd â rhai o'r cyfraddau cyrhaeddiad isaf yng Nghymru. Dim ond 15 y cant o'r bechgyn sy'n cael prydau ysgol am ddim sy'n mynd ymlaen at addysg uwch. Dim ond un grŵp ethnig yng Nghymru, sef Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyflawni canlyniadau is na hwy yn yr ysgol. Ac mewn rhai ardaloedd ledled Cymru, mae'n waeth hyd yn oed. Nid methu y mae'r bechgyn hyn; y system sy'n gwneud cam â hwy. Eto i gyd, dywedir wrth y plant hyn yn gyson mai hwy yw'r broblem, cânt eu beio am holl broblemau cymdeithas, cânt eu labelu fel rhai breintiedig. Wel, fel y dywedodd Sam Rowlands, maent yn brwydro tlodi, bod yn ddi-dad, problemau iechyd meddwl a diffyg unrhyw gyfle. Nid yw'r plant hyn yn freintiedig ond maent yn anweledig i sefydliadau sydd yno i'w helpu.

Gofynnaf i Lywodraeth Cymru yn glir iawn inni roi'r gorau i feio ein bechgyn yng Nghymru. Mae angen inni fuddsoddi mewn prentisiaethau, mewn cymorth iechyd meddwl ac mewn swyddi go iawn. Nid oes angen mwy o gynlluniau peilot na strategaethau gwag. Bechgyn dosbarth gweithiol yng Nghymru sydd wedi adeiladu'r gymdeithas sydd gennym, hwy a adeiladodd y wlad sydd gennym ac maent angen i'r Llywodraeth wneud yn well na'u gadael ar ôl a'u beio. Rwy'n dweud yn glir wrth Lywodraeth Cymru: mae angen ichi wneud mwy i gefnogi ein bechgyn ledled Cymru, oherwydd maent yn cael cam ac mae angen i'r Llywodraeth hon wneud mwy.

Diolch am gyflwyno hyn heno, Sam Rowlands. Ac roedd ystadegau dirdynnol yn yr adroddiad hwnnw. Ond un peth a wnaeth fy nharo—. Dau beth a wnaeth fy nharo, ac roedd y pwynt cyntaf yn ymwneud â mamau sengl, rhieni sengl. Cefais fy magu gan ddau riant, y ddau ohonynt wedi'u magu gan famau sengl, ac ni allwn fod wedi gofyn am sylfaen well i fy mhlentyndod trwy gael dau riant cryf, ond rwy'n gwybod nad yw pob plentyn yng Nghymru yn cael hynny, ac mae angen inni drafod hynny, mae angen inni siarad am hynny.

Ond roedd yr ail bwynt a godwyd gennych yn ymwneud â pherthyn, ac a yw'n syndod fod y dynion ifanc hyn, y plant hyn y mae mor hawdd dylanwadu arnynt, yn dod o hyd i'r ymdeimlad o berthyn—? Os ydym yn dweud wrthynt yn barhaus eu bod yn anghywir, mai hwy sy'n achosi problemau, eu bod ar fai, a yw'n syndod o gwbl eu bod yn dod o hyd i'r ymdeimlad o berthyn mewn pethau sy'n droseddol, ac mewn sefydliadau anaddas, mudiadau sy'n peri pryder? A gellir troi'r ymdeimlad hwnnw o berthyn ar ei ben. Meddyliwch am y gwaith da y mae llawer o elusennau a mudiadau a sefydliadau ieuenctid yn ei wneud yn darparu rhywfaint o berthyn—yr ymdeimlad o berthyn—i unigolion ifanc. Rhaid imi ddadlau nid yn unig dros y ffermwyr ifanc, ond grwpiau sgowtiaid a chlybiau chwaraeon hefyd. Mae yna offer symudedd cymdeithasol y maent yn eu darparu i ddynion ifanc, gan roi ymdeimlad o berthyn iddynt, boed yn glybiau bocsio, clybiau criced, grwpiau ffermwyr ifanc neu grwpiau sgowtiaid neu unrhyw beth arall, lle mae pobl ifanc yn teimlo'r ymdeimlad o berthyn ac ymdeimlad o falchder mewn mynd ati i gyflawni. Mae rhai o'r ffermwyr ifanc gorau rwy'n eu hadnabod wedi dod o deuluoedd nad ydynt yn deuluoedd sy'n ffermio ac oherwydd hynny, maent wedi cael ymdeimlad o berthyn i fudiad fel y ffermwyr ifanc, ac iddynt hwy mae wedi bod yn llwybr datblygiad.

Gallwn edrych ar yr elfennau negyddol sy'n gysylltiedig â lefelau cyrhaeddiad addysgol a phethau felly, ond weithiau, gellir mesur llwyddiant mewn ffyrdd gwahanol. Rwy'n credu mai llwyddiant i rai o'r dynion ifanc gwyn hyn yw'r ymdeimlad o berthyn i rywbeth heblaw gangiau troseddol. Os ydych chi'n eu cynnwys mewn rhywbeth fel clwb bocsio da neu grŵp ffermwyr ifanc neu sgowtiaid—unrhyw beth felly—a rhoi ymdeimlad o berthyn iddynt, ymdeimlad o falchder, rwy'n meddwl y byddai hynny'n symud pethau yn eu blaenau. Felly, dyna fy mhle i Lywodraeth Cymru: gadewch inni beidio â thanamcangyfrif gwerth y sefydliadau hyn, fel y ffermwyr ifanc, fel y sgowtiaid, a phopeth arall a grybwyllais. Mae ganddynt rôl wirioneddol i'w chwarae yn y datblygiad a'r cynaliadwyedd a'r gefnogaeth a roddir i'r dynion ifanc hyn sydd, yn anffodus, dros yr 20 mlynedd diwethaf, wedi cael eu gadael ar ôl.

18:10

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r pwnc hwn heddiw a thrafod adroddiad 'Lost Boys'? Mae'n bwnc pwysig iawn, a diolch iddo am ei ddewis ar gyfer dadl. Yn anffodus, rai blynyddoedd yn ôl yn fy etholaeth, yn ardal y Drenewydd, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y dynion ifanc a gyflawnai hunanladdiad—pobl ifanc yn eu harddegau hŷn, dynion ifanc. O ganlyniad i hynny, sefydlwyd menter, yr hoffwn roi sylw iddi heddiw, o'r enw Dynion Cerdded Canolbarth Cymru. A dôi'r fenter honno â dynion ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau at ei gilydd—nid fel elusen ffurfiol, dim ond dynion yn cyfarfod â'i gilydd—ar nos Wener am 7 o'r gloch, bob yn ail ddydd Gwener, a byddent yn cerdded gyda'i gilydd. Pan ymunais â'r rheini, yr hyn a wnaeth fy nharo oedd y byddech chi'n aml yn gweld pobl ifanc hŷn—19 oed, 18 oed—yn cerdded ochr yn ochr â dynion wedi ymddeol, yn eu 70au efallai. Nid oeddent yn adnabod ei gilydd, ond byddai hyn yn dod â hwy at ei gilydd i drafod. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn bellach, ac rwy'n gwybod ei fod hefyd wedi ymestyn ar ryw adeg i gynnwys y Trallwng. Ond rwy'n annog unrhyw ardal i ystyried y fenter hon. Nid yw wedi'i sefydlu fel elusen ffurfiol; mae iddi strwythur llac iawn ac mae wedi'i threfnu'n llac. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i wneud yn siŵr fod y dynion ifanc hyn wedi cael cyfle i siarad â dynion hŷn, ac fel arall hefyd.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Sarah Murphy.

Diolch, ac rwyf am ddiolch yn fawr i'r Aelod, Sam Rowlands, am gyflwyno'r pwnc hwn i'r Siambr. Mae adroddiad 'Lost Boys' y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn tynnu sylw at faterion a heriau allweddol sy'n wynebu bechgyn a dynion ifanc ledled y DU gyfan. Mae'n gynhwysfawr ac yn amserol iawn yn fy marn i. Mae'n dadansoddi ac yn mynegi llawer o'r pethau y credaf ein bod i gyd yn eu gweld, ac yn ei roi mewn ffordd ddealladwy iawn. Mae hefyd yn tynnu sylw at ble y gellir dod o hyd i ymchwil lle gallwn ffurfio casgliadau. Ac mae hefyd yn galw am ofal lle mae tystiolaeth yn dal i fod yn absennol, ac mae hynny'n wir mewn rhai o'r meysydd hyn. Fel y nododd Sam Rowlands, mae hefyd yn mynd i'r afael â phynciau anghyfforddus a materion tabŵ, sy'n angenrheidiol os ydym o ddifrif eisiau deall y realiti i fechgyn a dynion heddiw. Er enghraifft, roedd yn ddiddorol gweld ei fod yn mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth gan blant a'r glasoed tuag at rieni (CAPVA), sydd wedi'i gamddeall yn fawr ac yn dal i fod yn broblem gudd. Ond mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn ein cymunedau a dylem drafod mwy arno.

Rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar lawer o'r materion hyn. Ac mae'r adroddiad yn nodi effaith materion cymdeithasol a lles. Mae'r rhain i gyd yn benderfynyddion ehangach iechyd, y gwyddom eu bod yn gallu effeithio ar iechyd meddwl ac yn ffactorau risg hysbys ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'r sbardunau polisi a'r camau gweithredu a all wneud gwahaniaeth i'r penderfynyddion ehangach hyn y tu allan i iechyd meddwl a lles, a'r tu hwnt i bwerau'r Llywodraeth hon hefyd ambell waith.

Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi'n siarad am y tadau, y meibion a'r teuluoedd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar iechyd meddwl dynion ifanc. Roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mae gennym ethos teulu yn gyntaf yn Llywodraeth Cymru ym mhopeth a wnawn, a'r 1,000 diwrnod cyntaf. Fe wneuthum eich cyflwyno yr wythnos diwethaf, Sam, i Mark Williams, sydd bellach, trwy ddeiseb, wedi dechrau ar y daith sydd gennym tuag at lwybr penodol ar gyfer tadau, a'u hiechyd meddwl amenedigol hefyd. Rwy'n credu bod yr holl bethau hyn, gan ddechrau yn y 1,000 diwrnod cyntaf, yn cyfrannu at lawer o'r problemau a welwn.

I godi ymwybyddiaeth o'u heffaith ar iechyd meddwl a llesiant a'r rôl y maent yn ei chwarae mewn hunanladdiad ac ymddygiadau hunan-niweidiol, byddaf yn canolbwyntio ar ysgogi'r dull hwn o weithredu ar draws holl bortffolios y Llywodraeth, felly byddaf yn canolbwyntio'r rhan fwyaf o fy ymateb ar y ddwy strategaeth a ryddhawyd yn ystod y mis diwethaf. Mae'n dweud yn yr adroddiad ei hun fod yn rhaid inni bob amser wrando ar beth yn union y mae dynion yn ei ddweud wrthym, a bechgyn ifanc, ac adfer y gobaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a dyna'r hyn y ceisiwn ei wneud.

Fel y dywedoch chi, mae cyfraddau hunanladdiad ar eu huchaf ymhlith dynion. Mae'r cyfraddau uchaf ymhlith dynion canol oed—mae'r oedran ychydig yn is yng Nghymru mewn gwirionedd nag yn Lloegr. Ond mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cynnydd wedi bod ymhlith plant a phobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal. Nid ydym yn anwybyddu hynny. Rwy'n gwbl ymwybodol o hyn. Mae nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n profi iechyd meddwl gwael yn cynyddu ledled y DU gyfan. Mae bechgyn a dynion ifanc yn llai tebygol o wneud defnydd o therapïau seicolegol yn yr ysgol neu mewn mannau eraill, ac yn llai tebygol na merched o gael eu gweld mewn ysbytai yn sgil hunan-niweidio. A'r hyn nad ydym yn ei wybod ac na allwn ei gymryd yn ganiataol yw nad yw bechgyn a dynion ifanc yn cael eu heffeithio lawn cymaint, yn enwedig pan wyddom fod mwy o ddynion yn cyflawni hunanladdiad. Yn hytrach, mae angen inni ganolbwyntio ar sut y gallwn ddeall mwy am y materion unigryw y mae dynion a bechgyn yn eu hwynebu a sut y gallwn eu hannog i ofyn am gymorth a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael iddynt wedyn. Rwyf wedi siarad â llawer o ddynion, fy ffrindiau, ac yn fy etholaeth a ddywedodd wrthyf, wedi iddynt ddod o hyd i'r dewrder i siarad a gofyn am gymorth, nad oedd unrhyw beth yno iddynt. Yn bendant iawn, nid yw hyn yn mynd i barhau. 

Rwy'n benderfynol o sicrhau y byddwn yn darparu cymorth hawdd ei gael, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i bawb sydd ei angen, ac yn gynyddol, byddwn yn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael ar yr un diwrnod pan fydd pobl ei eisiau. Rydym eisoes wedi dechrau. Mae gennym wasanaeth '111 pwyso 2' ar gyfer gofal iechyd meddwl brys, ac mae'n enghraifft dda iawn o gymorth hawdd ei gael ar yr un diwrnod. Mae pedwar o bob 10 sy'n ffonio yn ddynion. 

Ac fe wneuthum nodi hefyd yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol newydd—. Mae'n gwneud ymrwymiad uchelgeisiol i gymorth yr un diwrnod, a'r gwasanaeth hwnnw ledled Cymru, yn ogystal â chanolbwyntio ar y camau ataliol trawslywodraethol sy'n gysylltiedig â'r ffactorau risg a phenderfynyddion ehangach, a chanolbwyntio hefyd ar chwalu stigma, sy'n gallu bod yn gymaint o rwystr. Yn rhy aml, mae pobl sy'n hunan-niweidio yn cael syniadau hunanladdol, yn cam-drin sylweddau neu ag iechyd meddwl gwael, ac yn osgoi neu'n gohirio trafod eu problemau am fod arnynt ofn cael eu barnu neu eu labelu, am eu bod yn poeni ynglŷn â dychryn neu beri gofid i eraill. Mae'r hunan-stigma hwn wedyn yn atal pobl rhag cael cymorth amserol, felly rydym wedi ymrwymo i ddeall mwy am y stigma hwn, pam a sut y mae'n digwydd, trwy dystiolaeth ac ymchwil. Ni wnawn fodloni ar ddealltwriaeth yn unig. Fe roddwn gamau ataliol hirdymor ar waith i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael yn rhwydd.

Yn ogystal, rydym yn gweithio ar y camau nesaf i ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn creu mannau diogel lle gallant siarad am broblemau perthynas, dulliau ymdopi, rheoli emosiynau ac ymddygiad problematig. Mae sawl un ohonoch wedi sôn am y trydydd sector; rwy'n cytuno'n llwyr. Y grwpiau ar lawr gwlad sy'n deall ac yn darparu —[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? Iawn, os caf. Wrth gwrs.

18:15

Wrth siarad am y grwpiau hynny, gan wisgo eich het fel yr Aelod etholaeth dros Ben-y-bont ar Ogwr, tybed a wnewch chi roi eiliad i fyfyrio ar waith Lads and Dads, y cyfarfûm â hwy pan oeddwn yn gynghorydd yn Bracla, ac rwy'n gwybod eich bod chi fel Aelod Senedd dros yr ardal wedi gwneud hynny. Rwy'n gwybod eu bod yn gwneud gwaith gwych, ac rwy'n siŵr y byddwch chi hefyd eisiau cofnodi'r gwaith gwych y maent yn ei wneud.

Diolch, Tom. Fe wnaf yn bendant. Mewn gwirionedd, pan ddywedais yno mai dynion sydd wedi dweud wrthyf, 'Fe ddywedoch chi wrthym am siarad allan, a phan ddaethom a gofyn am help, nid oedd unrhyw un yno', dyna ddyfyniad uniongyrchol gan Rob Lester o Lads and Dads. Dyna pwy sy'n siarad â mi ac yn dweud wrthyf yn union beth sy'n digwydd, yn union beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae Lads and Dads yn hollol wych, ac maent yn llywio llawer o'r hyn a wnaf yn y rôl hon. Felly, diolch, Tom.

Mae'r trydydd sector mor allweddol i hyn i gyd. Cânt eu gweu i mewn i'r strategaeth iechyd meddwl sydd gennym, ac maent yn mynd i chwarae rhan allweddol yn hynny. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ynglŷn â'r rôl y gall chwaraeon ei chwarae i ddod â phobl at ei gilydd a chefnogi ei gilydd, yn ogystal â natur gadarnhaol gweithgarwch corfforol ar iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Rwy'n credu, hefyd, fod yr ymdeimlad real o berthyn y siaradwn amdano yn dod trwy fod mewn clybiau a thimau.

Rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar weithredu'r dull ysgol gyfan o ymwneud â lles emosiynol a meddyliol, sy'n ceisio cefnogi lles emosiynol a meddyliol da trwy hyrwyddo amgylchedd trawsddiwylliannol mewn ysgolion. Roeddwn eisiau dweud na allaf gyffwrdd â mwy nag ychydig o bethau heno, ond rwy'n awyddus iawn i gael mwy o drafodaeth, oherwydd mae'n adroddiad da iawn. Mae yna adran gyfan ynddo ar dechnoleg a phornograffi, er enghraifft, am gyfryngau cymdeithasol, blacmel rhywiol, cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio ar blant, deallusrwydd artiffisial, gemau cyfrifiadur—mae cymaint o bethau eraill yma sy'n digwydd ar raddfa fyd-eang ac y mae angen inni allu eu deall.

Roeddwn eisiau gorffen hefyd trwy nodi dyfyniad sy'n dod o ragair yr adroddiad ei hun, ac mae'n dweud:

'Mae'r adroddiad hwn ar y bechgyn coll nid yn unig yn archwiliad o'r heriau sy'n wynebu dynion ifanc ond yn gychwyn taith i gynnig gweledigaeth obeithiol a chadarnhaol o wrywdod ym Mhrydain. Mae angen tadau, mentoriaid a modelau rôl cryf. Mae angen diwylliant arnom sy'n gweld gwerth cyfraniadau unigryw dynion ac sy'n cynorthwyo bechgyn i dyfu'n oedolion da, cyfrifol.'

Felly, rwy'n credu y gallwn i gyd gefnogi hynny. Rydym yn gwneud rhannau o hyn ar draws y Llywodraeth gyfan, ond rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn gychwyn go iawn, efallai, ar gloddio ychydig yn ddyfnach nawr i'r materion mwy tabŵ a chymhleth, anos eu deall, y byddwch yn fwy ymwybodol eu bod yn digwydd pan fo gennych ddyn ifanc yn eich bywyd, ond pethau y mae'n anodd iawn siarad amdanynt. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn weld hyn nawr fel cam tuag at y lefel nesaf yn y trafodaethau a gawn. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedoch chi, Sam Rowlands: nid gêm lle mae un garfan yn elwa ar draul y llall yw hon. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pawb yn ein cymdeithas yn ffynnu, nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl ac nad ydynt yn dioddef mewn distawrwydd neu'n anweledig. Diolch.

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.